Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Owen Owens yn cael ei godi yn flaenor, ac yn priodi
| ← Pregethwyr a gododd yn yr ardal (3) | Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir |
Owen Owens o ran ei ddyn oddiallan → |
PENOD XII.
OWEN OWENS YN CAEL EI GODI YN FLAENOR, AC YN PRIODI.
Ei godi yn flaenor yn ieuanc.—Ei gyd-flaenor, Robert Prichard.—Y ddau yn ateb i'w gilydd.—Ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol.—Yn priodi—Rhagoriaethau a duwioldeb nodedig ei briod, Mari Owen.—Hanesyn am dani.—Yn cael ei ddisgyblu.—Gweddi hynod Owen Owens wrth fyned i Sasiwn y Bala, pan o dan ddisgyblaeth.—Adgofion y Parch. John Jones, Bryn'rodyn, ac eraill, am dani—Ei adferu i'w swydd drachefn, a'i ffyddlondeb ynddi, am dros ddeugain mlynedd.
DIGWYDDODD y ddau amgylchiad yma yn bur agos i'w gilydd yn hanes Owen Owens; ac yn ol y drefn uchod o ran amser. Pur anfynych y byddai yr hen bobl yn cymeryd y drefn hon hefyd. Fel rheol, ni chodent neb yn flaenor nes y byddai wedi priodi, yn enwedig os byddai y cyfryw yn ieuanc iawn. Ond fe godwyd Owen Owens cyn priodi, ac er ei fod yn bur ieuanc. Bu farw Rhisiart Humphrey, yr unig flaenor oedd yn Mwlchderwin, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn haf y flwyddyn 1826. Ac yn ol pob tebyg, fe ddewiswyd dau yn ei le ar unwaith, sef Robert Prichard, Gyfelog-ucha, ac Owen Owens. Mae yn sicr fod y cyntaf wedi ei ddewis y pryd hwn, os nad ychydig yn gynt; oblegid y mae hyn yn cael ei ddweyd ar gareg ei fedd. A chodwyd Owen Owens yr un adeg, neu ynte ymhen tua blwyddyn o leiaf ar ol hyn: a phan yr oedd efe yn ryw chwech neu saith ar hugain oed. Mae cyfeiriad wedi ei wneyd yn barod, fod yr hen flaenor wedi cyfeirio ar ei wely angau, at Owen Owens, fel un cymwys i fod yn y swydd, gan anog yr eglwys i'w ddewis, ar ol iddo ef farw. Ac nid yw yn debyg y buasai yr eglwys fechan yn y lle, yn diystyru barn a chyngor yr hen flaenor duwiol a sanctaidd, yn ei ddyddiau olaf. Yr oedd Robert Prichard yn Gristion o'r iawn ryw,—"yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll," ac yn enwedig, yn " un o heddychol ffyddloniaid Israel." Yr oedd yr arwydd hwnw o dduwioldeb arno,—yn galaru oherwydd anwiredd y ddinas, ac os byddai pethau anghysurus yn tori allan yn yr eglwys. Fel hyn y dywedir am dano yn y Drysorfa, "Ni bu ei gystudd olaf ond byr; ac yr oedd yn lled dywyll arno ar y dechreu; ond goleuodd arno cyn myned i'r glyn. Pan yn cael ychydig seibiant rhwng pangfäau marwolaeth, gorfoleddai yn ngwyneb brenin dychryniadau. Gwaeddai, 'Gogoniant am y gwaed,'—pan oedd cnawd a chalon yn pallu. Ië, aeth mor oleu arno, nes yr oedd yn gallu dweyd fel Simeon, Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air: canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,' Bu farw chwech o'r gloch, boreu Sul, Mawrth 23, 1845, yn 62 mlwydd oed. Pregethwyd yn ei wylnos gan y Parch. John Owen, Gwindy. Bu yn aelod eglwysig am 39 mlynedd, ac yn flaenor am 19." Dyma'r gwr a ddewiswyd yn flaenor tua'r un adeg ag Owen Owens. Ac yr oedd y ddau yn gymwys iawn i fod yn gyd-swyddogion; nid am eu bod yn debyg i'w gilydd, ond am eu bod yn annhebyg. Lle yr oedd Owen Owens yn gryf, yr oedd Robert Prichard yn wan; a lle yr oedd Owen Owens yn wan, yr oedd Robert Prichard yn gryf. Yr oeddynt yn debyg fel y gwelir weithiau wr a gwraig, rhagoriaethau y naill yn gwneyd i fyny am ddiffygion y llall. Os oedd perygl i ryw rai ddiystyru ieuenctid Owen Owens, nis gallent wneyd hyny â Robert Prichard, gan ei fod ef yn wr, ac wedi hen roi heibio bethau bachgenaidd. Os oedd y cyntaf a'i breswylfod ymhell oddiwrth y capel, yr oedd preswylfod y llall wrth ei ddrws. Os oedd yr olaf yn lled ddiffygiol mewn dawn a gwybodaeth, yr oedd gan y cyntaf gyflawnder o bob un o'r ddau. Mor ddoeth a thirion y gwelwn y Brenin Mawr, yn darparu offerynau priodol i ddwyn ei achos bychan a gwan yn y lle hwn ymlaen. A bu y ddau yn cyd-dynu ac yn cydweithio gyda'u gilydd yn rhagorol am tua deunaw mlynedd; ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mawrion.
Yn fuan wedi iddynt gael eu dewis yn flaenoriaid, daeth yr amser iddynt gael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yr un oedd yn eu holi am eu gwybodaeth ysgrythyrol a chrefyddol oedd y Parch. William Roberts, Clynog. Ystyrid ef yn dduwinydd lled drwm, ac yn ysgrythyrwr rhagorol. Holodd hwy yn lled galed, mor galed fel yr aeth yn bur dywyll arnynt, ac yr aethant i fethu ateb. Synai yr hen dduwinydd eu bod yn methu ateb ei gwestiynau, gan nad ystyriai hwy yn rhai anhawdd o gwbl. "Yn enw dyn," meddai, "yr ydw' i yn synu atoch ch'i, eich bod yn methu ateb cwestiynau mor hawdd a hyn." "Na, 'dydy o yn syndod yn y byd, William Roberts," meddai Owen Owens, "ni wyddoch chwithau yn y byd pa sawl gorifyny sydd o Glynog i Bwllheli," gan awgrymu, mae yn debyg, fod ei gwestiynau mor anfuddiol a phe buasai yn gofyn hyny.
Ymhen ryw flwyddyn neu ddwy ar ol hyn, digwyddodd amgylchiad arall o bwys yn hanes Owen Owens, sef ei briodas. Cymerodd hyn le yn hen eglwys hynafol Clynog. Trwy garedigrwydd y Parch. J. Pryse, y Ficer, cawsom y cyfeiriad sydd at hyny yn register y plwyf. Fel hyn y mae:—Owen Owens of this Parish, Bachelor, and Mary Owen of this Parish, Spinster, were married in this Church by License, the 28 day of March, in the year 1828. Merch Cors- y-wlad[1] oedd ei briod, Mari Owen, ac yr oedd yn byw yn y fferm ei hun, gellid meddwl, ar y pryd. Yr oedd Mari Owen gryn lawer yn hynach nag Owen Owens, ond yr oedd yn wraig ddistaw, gall, a hynod grefyddol. Gellid meddwl ei bod hefyd o deulu crefyddol, oblegid yr oedd ganddi ddau frawd yn flaenoriaid nid anenwog, sef Griffith Roberts, Terfyn, Clynog, ac Owen Roberts, Gwernddwyrig, Bethel, ger Penmorfa. Ac yn Nghors-y-wlad y cartrefodd Owen Owens o hyn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ymhen tua haner can' mlynedd ar ol hyn. Diau i hyn fod yn fantais i'w grefydd ac i'w ddefnyddioldeb, gan y cai lawer o ryddid i fyned i'r cyfarfodydd crefyddol yn y capel ac yn y wlad, yr hyn oedd ei brif hyfrydwch. Bu fyw gyda Mari Owen am tua deuddeng mlynedd ar hugain, sef hyd y flwyddyn 1860. Ymhen dwy flynedd ar ol hyny, priododd drachefn gyda Mrs. Catherine Owen, yr hon, fel y cyfeiriwyd, sydd yn y lle yn awr gyda'i mab, Mr. O. Roger Owen. Gellir dweyd am Mari Owen, fod iddi "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Treuliodd oes nodedig o grefyddol, a pharhaodd felly i'w diwedd. Yr oedd yn dirf ac yn iraidd yn ei henaint. Mae hanesyn ar gael sydd yn dangos crefyddolder ei hysbryd, a'i chariad at Iesu Grist a'i achos, hyd y diwedd. ychydig cyn ei marwolaeth yr oedd Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yn Mwlchderwin. Yr oedd ei llygaid erbyn hyn wedi tywyllu gan henaint, fel nad oedd yn gweled dim. Yr oedd y diweddar Barch. John Jones, Caernarfon (Rhos ar ol hyny), wedi cael ei wahodd i'r Cyfarfod Misol, ac yn lletya yn Nghors-y-wlad. Yr oedd John Jones yn gyfaill mawr i Owen Owens ac i Mari Owen, ac yn hynod gartrefol yn y tŷ. Rywbryd yn ystod y diwrnod neu noswaith gyntaf y Cyfarfod Misol, yr oedd Owen Owens a John Jones yn eistedd wrth y tân, a gwelent Mari Owen yn llawn trafferth a phrysurdeb yn darparu ar gyfer y Cyfarfod Misol "Beth mae hi'n wneyd?" meddai John Jones. "Gwneyd basgedaid o ryw bethau at y Cyfarfod Misol, ddyliwn i," meddai Owen Owens. "O," meddai John Jones, "mi â i i'w hymyl hi, heb iddi wybod, gael i mi ei gwel'd hi yn gwneyd." Aeth i'w hymyl, a sylwai arni yn fanwl yn rhoddi y bara gwyn, y bara ceirch, y llefrith, y'menyn, a'r caws, &c., yn y fasged. Wedi llenwi y fasged hyd yr ymylon, teimlai ei gwyneb drosti yn fanwl â blaenau ei bysedd, i edrych a oedd yno le i ychwaneg. Ac wedi gweled nad oedd, dywedodd, "Wel, dyna hi, Iesu mawr, cyn llawned ag y medra' i ei gwneyd hi; pe buasai yma le i chwaneg, fe fuaswn yn rhoddi chwaneg." Nid oedd hi yn gwybod fod neb yn sylwi arni ond "yr hwn a wêl yn y dirgel."
Ymhen rhyw bedair neu bum' mlynedd ar ol cael ei ddewis yn flaenor, digwyddodd rhywbeth lled anhapus a phrofedigaethus i Owen Owens. Mae yn hysbys i'r rhai a wyddant ond ychydig am dano, ei fod yn naturiol wyllt a phoethlyd iawn ei dymer, ac y mae ei deulu i raddau helaeth felly. Ac fe fu hyn yn gryn brofedigaeth iddo ar hyd ei oes. Yr oedd cyfarfod athrawon neu gyfarfod brodyr yn Mwlchderwin, rywbryd tua'r adeg hon. Yr oedd yno hen frawd lled ddreng o'r enw William Morris, Cae'rbwlch, ac aeth yn lled ddrwg rhyngddo ag Owen Owens yn ystod y cyfarfod Ac wrth fyned allan, yn nghourt y capel, fe droes at Owen Owens, ac fe ofynodd iddo i beth yr oedd yn ei groesi ef yn y cyfarfod. Fe wylltiodd Owen Owens gymaint fel y collodd bob llywodraeth arno ei hun, ac fe gydiodd yn ei frocan, fel y dywedir. Ni ddarfu iddo ei daro na'i dagu, gan fod Roger Owen, ei frawd, yn ddigon agos ato i'w atal. Y diwedd fu, beth bynag, i'r peth fyned i'r Cyfarfod Misol; ac anfonwyd dau o'r gwyr pwysicaf a feddai y Cyfarfod Misol i Fwlchderwin i drin y mater, neb amgen na'r Parch. John Jones, Tremadog, a Mr. William Williams, Llanerch, tad y diweddar Mr. William Williams. A'r penderfyniad y doed iddo oedd, ei atal i weinyddu ei swydd am ryw gymaint o amser, ynghyd a'i dori o'r ordinhad. Ar ddiwedd y Seiat hono dywedai William Williams yn bur effeithiol,—" Wel, dyma eich Aaron ch'i yn Mwlchderwin yma wedi tewi." Ac fe brofodd geiriau yr hen flaenor yn eithaf gwir. Bu eglwys Bwlchderwin am tua blwyddyn heb nemawr o drefn arni. Nis gallent gario y moddion ymlaen heb help rhywrai o'r eglwysi cylchynol, megis Brynengan, neu Bencoed, neu Gapel Ucha', Clynog, &c. A mynych y byddai swyddogion yr eglwysi hyny yn methu dyfod, ac felly ni ellid cynal y Seiat, gan na feddai Robert Prichard, y blaenor arall, allu i ddwyn y Seiat ymlaen.
Ond er mor llym oedd yr oruchwyliaeth hon tuag at Owen Owens, eto, ni ddarfu i hyn ei bellhau oddiwrth grefydd. Yn hytrach, darfu i hyn, er mor annhebyg, ddigwydd iddo er ei iachawdwriaeth, gallem feddwl. Yn fuan ar ol i hyn ddigwydd, yr oedd Sasiwn y Bala yn cael ei chynal; ac aeth yntau yno gyda'r fintai oedd yn myned o ardal Clynog a Bwlchderwin. Mae un, o leiaf, yn fyw, oedd yn y fintai hono, sef yr Hybarch John Jones, Bryn'rodyn; a difyr iawn ydyw clywed Mr. Jones yn adrodd yr hanes. Yr oedd eu nifer o ugain i ddeg ar hugain, ar ol gwneyd pob peth yn barod, yn cychwyn ar eu hunion ar ol yr ysgol, un prydnawn Sabboth, o Gapel Ucha, Clynog. Yr oedd darpariaeth iddynt gael ymborth, sef pryd o faidd, ar eu ffordd, yn Llwyngwanad-isa, amaethdy rhwng Capel Ucha a Bwlchderwin, gyda hen chwaer o'r enw Sian Robert, yr hon a ddangosodd lawer o garedigrwydd at grefydd a Methodistiaeth, yn ystod ei hoes. Yr oedd yr hen chwaer wedi gwneyd pob peth yn barod ar eu cyfer, ac yn eu disgwyl. Yna cychwynent rhyngddynt a Thremadog, at y nos, lle y caent odfa. Nid yw Mr. Jones yn sicr pa un ai y tro hwn, ynte yn fuan ar ol hyn, y bu yn gwrando ar y Parch. John Phillips, yn pregethu yn yr odfa hon. Y noswaith hon, lletyent gyda'u gilydd yn Farm Yard, fferm helaeth ar y pryd, ger Tremadog. Y rheswm paham y lletyent yno oedd, fod y wraig yn chwaer i wraig Brynifan, Clynog. Boreu Llun, aent trwy y fan lle y saif tref Porthmadog arno yn awr. Prin y gellir dweyd fod y lle yn bod y pryd hwnw. Ar y rhan fwyaf o'r lle y saif y dref arno yn awr, yr oedd eithin anferth o faint yn tyfu, bron gymaint a choed o faint gweddol. Mynych y bu pererinion Sasiwn y Bala yn cynal cyfarfodydd gweddi yn nghanol yr hen eithin hyn, ac y bu sain cân a moliant yn esgyn rhyngddynt tua'r nefoedd. Byddwn bron a meddwl weithiau mai dyma paham y mae Porthmadog wedi ei bendithio â Methodistiaid mor ragorol, am fod eu tai wedi eu hadeiladu ar y llanerch lle bu hen seintiau Lleyn ac Eifionydd yn gweddio ac yn molianu, ar eu ffordd i'r Bala. Y boreu a'r prydnawn, yr oeddynt yn "Seiat Fisol" y Penrhyn; a'r nos yn gwrando pregeth yn Llan, Ffestiniog, ac yn lletya yno. Erbyn cyraedd cwr mynydd Migneint yn Mhont-yr-afongam, boreu ddydd Mawrth, yr oedd y fintai wedi chwyddo, nes bod oddeutu cant a haner mewn rhifedi. Ac fel arfer, yr oedd yn rhaid cael cyfarfod gweddi yn y lle. Galwai y diweddar Mr. Robert William, Factory, ger Penmorfa, tad y Parch. R. O. Williams, Porth Amlwch, ar Owen Owens, ymysg eraill, i weddio. Ac er y byddai Owen Owens yn hynod o effeithiol bob amser yn gweddio, yr oedd yn fwy felly y tro hwn na braidd un amser. Yr oedd dau beth, o leiaf, yn peri iddo fod felly, sef ei deimladau drylliog ef ei hun, newydd fod dan ddisgyblaeth, ynghyd ag ysbryd cynes y pererinion i Sasiwn y Bala. Feallai hefyd y gallai fod yn amser diwygiad y flwyddyn 1832. Credwn fod hyn wedi cymeryd lle, un ai yn y flwyddyn 1831, neu y flwyddyn 1832. Rhwng y naill beth a'r llall, yr oedd gweddi Owen Owens y boreu hwnw yn un i'w chofio gan bawb oedd yn bresenol. Dywedid nad oedd yno yr un llygad sych yn y lle. Clywsom dri neu bedwar oedd yn bresenol yn son am y weddi; ond nis gwyddom am neb yn awr yn fyw ond Mr. Jones. Swn pechadur drylliog ac edifeiriol oedd yn y weddi o'i dechreu i'w diwedd. Mae Mr. Jones yn cofio fod Owen Owens a'i ddwylaw i fyny, ac yn gwaeddi yr ymadrodd hwnw lawer gwaith drosodd, "Dal di ni, Arglwydd,"—gyda theimlad anarferol. "Mae deuddeng mlynedd o grefydda wedi methu'n dal ni. Dal di ni, Arglwydd. Mae pum' mlynedd o fod mewn swydd, wedi methu'n dal ni. Dal di ni, Arglwydd. Dal di ni, Arglwydd." Cyfeiriai at ei elynion ysbrydol fel Philistiaid, a dywedai,—"Arglwydd mawr, dyma fi wedi d'od adra' eto o wlad y Philistiaid. Mi fuon yn galed iawn wrtha i, yn treio tynu fy llygaid i; ond gwae nhw os tyfith fy ngwallt i eto." "Seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn," meddai; "ac fe syrthiodd Owen y Gors trwy fygwth tagu ei frawd; ond, bendigedig, mae o wedi codi eto." Gofynai ryw hen frawd iddo tua'r adeg hon, "Oes rhywbeth yn hwn a hwn, deudwch?" "Niwn i ddim," meddai Owen Owens, "ar gareg fy medd i y gwel'is o fwyaf erioed," gan gyfeirio at y brawd hwnw fel un oedd wedi bod yn llawdrwm arno ef pan o dan ddisgyblaeth, ac yn cymeryd mantais ar hyny i ddyfod i sylw.
Ymhen tua blwyddyn ar ol disgyblu Owen Owens, anfonodd y Cyfarfod Misol y ddau wr a fu yno o'r blaen i eglwys Bwlchderwin, ac ail ddewiswyd Owen Owens i'w swydd drachefn, a dewiswyd un arall o'r newydd, sef Humphrey Prichard, at yr hwn y cyfeirir yn y tudalenau blaenorol A chredwn na bu nemawr i flaenor yn holl Sir Gaernarfon yn fwy ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol nag y bu Owen Owens am y pum mlynedd a deugain dilynol, a hyny yn fynych trwy gryn anhawsderau.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Tybir fod yr enw Cors-y-wlad wedi tarddu o'r ffaith fod y tair fferm a adwaenir yn awr wrth yr enw hwn, wedi bod gynt yn gors fawr, yn perthyn i holl blwyf Clynog, a rhyddid i'r holl blwyfolion i anfon eu hanifeiliaid iddi, yn rhad ac yn ddi-dal.