Neidio i'r cynnwys

Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Pregethwyr a gododd yn yr ardal (3)

Oddi ar Wicidestun
Pregethwyr a gododd yn yr ardal (2) Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad

gan Henry Hughes, Bryncir

Owen Owens yn cael ei godi yn flaenor, ac yn priodi

PENOD XI.
PREGETHWYR A GODODD YN YR ARDAL.
ROBERT WILLIAMS, TAN-Y-CHWAREL.

Ei dduwioldeb nodedig.—Sylwadau John Foster—Ei gofiant gan Eben Fardd.—Yn berthynas i'r bardd—O deulu crefyddol a Methodistaidd.—Prif symudiadau ei fywyd.—Ei farwolaeth.—Darluniad o'i berson, a'i dymer.—Ei argraffiadau crefyddol—Cyfnewidiad trwyadl yn ei fywyd.—Ei Arferion crefyddol.—Yn dechreu pregethu.—Yn yr Athrofa.—Ei ysgrifeniadau.—Yn sylwi ar droion Rhagluniaeth.—Ei frwdfrydedd Cristionogol.—Ei awydd am fyned yn genhadwr.—Rhan o'i farwnad.

MAE cyfeiriad wedi ei wneyd yn barod yn y llyfr hwn, at Robert Williams, fel un a chryn hynodrwydd yn perthyn iddo; ac yr oedd yr hynodrwydd hwnw hefyd o'r iawn ryw, oblegid un hynod mewn duwioldeb ydoedd. Dywed John Foster, wrth ysgrifenu at un o'i gyfeillion, pan anwyd mab iddo:—"Os bydd i'r bachgen droi allan yn un da, ni bydd nemawr o bwys genyf am iddo fod yn rhyw dalentog iawn. Daioni ydyw yr hyn ag y mae ein byd ni mewn angen am dano; a phe byddai pawb yn dda, ni byddai angen am i neb fod yn alluog iawn." Beth bynag am dalentau Robert Williams, yr oedd uwchlaw amheuaeth mewn duwioldeb. Ac os ydyw yr hyn a ddywedir yma gan y gwr enwog uchod yn iawn, y mae hyn yn llawer pwysicach na bod yn dalentog. Ac onid ydyw y dyfyniad uchod yn llawn o ysbryd y Beibl, ac ysbryd yr Arglwydd Iesu? Wrth i ni roddi hanes Robert Williams o hyn i ddiwedd y benod hon, gobeithiwn y gwel y darllenydd y dyn duwiol ymhob llinell.

Cafodd coffadwriaeth Robert Williams bob chwareu teg, trwy gael ei ysgrifenu gan un o brif lenorion Cymru, neb llai na'r enwog Eben Fardd. Ac y mae y ffaith iddo ef ymgymeryd â'r gwaith, ac iddo wneyd y gwaith mor fanwl ac mor drwyadl, yn brawf fod y gwrthddrych yn deilwng. Cyhoeddwyd y Cofiant yn llyfryn bychan, tebyg iawn o ran maint i'r Rhodd Mam, ond ei fod yn cynwys llawer mwy o fater, gan ei fod mewn llythyren fanach. Yr oedd mam Robert Williams yn gyfnither i'r bardd, gan fod mam y diweddaf, enw yr hon oedd Catherine Pierce, yn chwaer i fam y cyntaf, enw yr hon oedd Margaret Pierce. Cynwysa y Cofiant hefyd farwnad helaeth o waith y bardd. Er mai bychan ydyw y llyfr, eto, y mae yn dwyn holl nodweddion meddwl yr awdwr, yn alluog, meistrolgar, byw, cryno, a chyflawn. Ni a geisiwn roddi crynhodeb byr o hanes a nodweddion Robert Williams, fel y ceir hwy yn y llyfr hwn, gan ddyfynu rhanau o hono wrth fyned ymlaen. Ni a ymdrechwn wneyd hyny yn ysbryd y llyfr, yr hwn sydd wedi ei ysgrifenu mewn ysbryd nodedig o grefyddol a duwiolfrydig.

Gellir edrych ar Robert Williams fel un o'r "caredigion oblegid y tadau," gan ei fod yn disgyn o deulu nodedig mewn crefydd. Yr oedd ei fam yn wraig amlwg mewn duwioldeb. Sonia am "addysg ei anwyl fam," ac y byddai yn "clywed ei fam yn gweddio" yn fynych. Tybiwn hefyd mai hi fyddai yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn y teulu. Yr oedd hithau yn wyres o du ei thad, enw yr hwn oedd Robert Prichard, i un o hen grefyddwyr cyntaf ardal Brynengan, yr hon a elwid ar lafar gwlad "Sudi Brynbrych," yr hon, fel y gwelir mewn cwr arall o'r llyfr hwn, oedd yn un hynod mewn crefydd. Tybiwn hefyd fod ei fam o ochr ei mam, enw yr hon, fel y cyfeiriwyd, oedd Margaret Pierce, yn perthyn i rai o hen Fethodistiaid cyntaf Eifionydd. Mae llawer o ganghenau o'r cyff hwn yn wasgaredig trwy Leyn ac Eifionydd, y rhai sydd yn bobl barchus, ac yn grefyddwyr selog a chywir. Yr oedd brawd iddi hi o'r enw Evan Pierce yn flaenor yn niwedd ei oes yn Llanengan, ac yn byw mewn lle o'r enw Tyddyncallod, ac yn flaenor er's llawer o flynyddoedd cyn hyny yn y Terfyn neu Seion, Clynog, ac yn byw yn Llwyn—yr—aethnen, plwyf Llanaelhaiarn. Bu pregethu lled gyson yn nhŷ Llwynyr—aethnen am lawer o flynyddoedd yn amser Evan Pierce (o 1790 hyd 1820, feallai). Bu pregethu achlysurol yn y lle hyd y flwyddyn 1850. Yr oedd efe yn hen gymeriad nodedig a chryf. Yr oedd yn arw yn ei ffordd, ac yn meddu ar lawer o arabedd. Dywedai ymadroddion yn ymylu ar fod yn anweddus, ond yr oeddynt yn gweddu iddo ef, er na fuasent felly i neb arall. " Yr oedd ganddo allu anghyffredin i effeithio ar deimladau dynion: un funyd gwnai i gynulleidfa chwerthin gan lawenydd, y funyd nesaf gyrai hwy i wylo dagrau." Yr oedd y diweddar John Evans, y Nant, blaenor call a dylanwadol yn y Nant, yn fab iddo, ac y mae Mrs. Roberts, priod y Parch. D. Roberts, Abererch, ysgrifenydd medrus Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd, yn ferch iddo yntau. Adwaenem chwaer hefyd i John Evans, sef Ellin Evans, Murmawr, Clynog, yr hon oedd hen chwaer hynod am ei ffraethineb, ac mor hynod a hyny am ei duwioldeb; ac y mae Mr. Owen Evans, blaenor ffyddlawn yn Seion, yn fab iddi hithau. Mae Mr. Evan Evans, blaenor medrus yn Gosen, hefyd yn ŵyr 1 Evan Pierce. Mab i Catherine Pierce oedd Eben Fardd, bardd enwocaf ei oes. Ac y mae nifer mawr o ddisgynyddion i Margaret Pierce yn y wlad, y rhai sydd yn grefyddwyr ac yn Fethodistiaid o'r iawn ryw. Yr oedd Richard Roberts, blaenor yn Nebo, Llanllyfni, yn fab iddi; ac y mae Mr. Richard Jones, yr hwn sydd yn flaenor selog a haelionus yn Golan, yn wyr iddi. Mae ein cyfaill Ioan Eifion, Talysarn, yn gallu enwi cynifer ag un-ar-ddeg o bregethwyr yn ddisgynyddion i Robert Prichard a Margaret Pierce, o ba rai y mae efe ei hun yn un. Enwa hefyd nifer mawr o wyr dylanwadol eraill sydd yn disgyn o honynt. Ond amser a gofod a ballai i ni enwi ychwaneg. Yr oedd chwaer arall i Margaret Pierce yn byw yn y Garn, o'r enw Ellin Pierce, yn briod â hen flaenor o'r enw Robert Sion. Bu Ellin Pierce yn Llangeitho lawer gwaith yn gwrando ar yr enwog Daniel Rowlands. Nid dinod ychwaith oedd teulu Robert Williams o du ei dad. Saer coed oedd ei dad, John Williams, wrth ei alwedigaeth. Bu yn gweithio am lawer o flynyddoedd yn y Gwynfryn, gyda'r hen foneddwr Cymreig hynod, y diweddar Major Nanney, tad Syr Hugh E. Nanney; ac efe oedd pensaer yr ystad. Nid oedd John Williams yn proffesu crefydd, ond yr oedd yn gymeriad difrycheulyd. Yr oedd hefyd yn weithiwr da, ac o flaen ei oes mewn rhoddi addysg i'w blant. Yr oedd ei dad, sef William Williams, Ynys-yr-arch, Bwlchderwin, yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod yn Llanllyfni. Yr oedd yntau, meddir, o fywyd pur, ac yn dduwinydd da. Na thybied y darllenydd mai o gywreinrwydd yr ydym yn olrhain yr achau hyn, ond yr ydym yn gwneyd, i weled ffordd y Duw mawr o amlhau duwiolion o'r iawn ryw yn y wlad.

Ganwyd Robert Williams yn mis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1814. Enwau ei dad a'i fam oeddynt John a Mary Williams, ac yr oeddynt yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Tan-y-chwarel, yn agos i gapel Bwlchderwin, ac mewn amgylchiadau cysurus o ran eu bywoliaeth. Dygwyd Robert i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, sef saer coed, a dywedir ei fod yn dra diwyd, gofalus, a medrus yn ei orchwyl. Cafodd addysg dda, yn ol manteision y dyddiau hyny, a dywedir ei fod yn dysgu yn dda ac yn fuan. Bu yn dysgu ei alwedigaeth gyda'i dad am tua chwe' blynedd, gan ddechreu mor ieuanc a deuddeg oed. Ar ol hyny, bu yn Mhwllheli yn gweithio ei waith am tua blwyddyn a haner. Wedi dyfod yn ol i'w hen ardal, dechreuodd gadw gwaith ei hun, yn agos i gapel Bwlchderwin, sef yn llofft ystabl, Gyfelog-ucha, ac efe y pryd hwnw, a wnaeth waith coed y ty capel presenol. Ond yn fuan symudodd i ardal Pantglas, lle y bu am amryw flynyddoedd, yn cadw gweithdy saer, ynghyd â siop fechan; a dywedir ei fod wedi bod yn dra llwyddianus gyda hyn. Adeiladodd dri o dai yno, ac y maent yn aros eto, sef y tai sydd rhwng y ddau gapel. Tua dechreu mis Awst, yn y flwyddyn 1842, gadawodd ei fasnach a'i waith, ac aeth i'r Athrofa i'r Bala, lle yr arhosodd am tua dwy flynedd a haner. Yn mis Mawrth, 1845, dychwelodd adref, dan orthrwm afiechyd a gwendid; ac er gwneyd a allai i ymryddhau o afaelion sicr a haiarnaidd angeu, gorchfygwyd ef o'r diwedd; ac wedi hir nychdod poenus, yr hwn a ddioddefodd gydag addfwynder ac amynedd mawr, ac ymroddiad tawel i ewyllys yr Arglwydd, hunodd yn yr Iesu, debygem, ar yr 11eg o Fawrth, yn y flwyddyn 1846, pan yr oedd yn agos i 32 mlwydd oed; a chladdwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Calfinaidd, wrth y Capel Uchaf, Clynog, o'r lle 'ni chyfyd mwy hyd oni byddo heb nefoedd." Dyna hanes rhai o brif symudiadau ac amgylchiadau ei fywyd, ynghyd ag ychydig o hanes ei fisoedd a'i ddyddiau olaf.

O ran ei berson, "yr oedd yr fachgen teg, gwisgi, hoew, a phrydferth, o'r maintioli canolig, a'i ysgogiadau yn naturiol a dirodres. O ran ei dymer, yr oedd yn siriol, yn fywiog, a boneddigaidd; yn dra charuaidd a hynaws, ac ar yr un pryd yn meddu gradd o urddas a'i hamddiffynai rhag agosrwydd digroeso yr haerllug a'r hyderus. Yr oedd yn ufudd i'w rieni gyda phob gostyngeiddrwydd a serch; a dangosai dra—hoffder neillduol at ei frodyr a'i chwiorydd, ynghyd â thueddrwydd serchus at bawb o'i gyfathrach. Cydweddai ei dymer yn well â sirioldeb tangnenefeddus ac â digrifwch ysgafn, nag a llawenydd wttresgar a therfysglyd, neu ddigrifwch trystfawr ac angerddol; yn fyr, yr oedd yn un o'r dosbarth hwnw a hoffant ddifyrwch a llawenydd tawel, a chymedrol; yn hytrach na phrudd-der tawedog ar un llaw, neu chwerthiniad ynfyd a gormod rhysedd ar y llaw arall."

Ni bu nemawr o argraffiadau crefyddol ar ei feddwl hyd nes yr oedd o 14 i 15 mlwydd oed. Cyn hyn, ymunai â chymdeithion ieuainc di-grefydd yn eu harferion gwamal, ysgafn, ac anystyriol, heb ddangos unrhyw wrthwynebiad. Ond pan yr oedd yn yr oedran uchod, teimlodd bethau pur rymus ar ei feddwl, o dan bregeth y diweddar Barch. W. Jones, Rhyd-ddu (ar ol hyny o'r America) ar Deut. xxxii. 29, "O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!" Efeithiodd y bregeth hono gymaint arno, fel y methodd ag aros yn y capel i or phen yr addoliad. Ni bu dim neillduol ar ei feddwl ar ol hyn hyd nes yr oedd yn agos i 23 oed. Eto, tystiai ei fod yn cael ei gadw yn dyner o ran ei gydwybod, ac mai yn swn yr efengyl fwyn yr oedd yn cael mwyaf o bleser. Ymunodd yn yr oedran hwn a'r eglwys yn Mwlchderwin. "Wedi ei ddychweliad at yr Arglwydd ac at ei bobl, dilynodd cyfnewidiad trwyadi yn ei holl olygiadau a'i arferion; nid ymddangosai fel dychweledigion ieuainc yn gyffredin; yn raddol a hanerog yn ei ymneillduaeth oddiwrth y byd, ac oddiwrth arferion yr oedd wedi hir gynefino â hwynt, ond troes braidd ar unwaith, yn grefyddwr o'r fath fanylaf; ymroes i hunanymwadiad llymdost, a neillduolrwydd meudwyaidd braidd; ac er iddo ddyfod mewn amser, feallai, yn fwy cymdeithasgar, eto, ni leihaodd ddim yn ei fanyldra crefyddol yn ol goleuni ac argyhoeddiad ei gydwybod." Tua'r adeg hon, ysgrifenai at ei frawd y geiriau difrifol a ganlyn:—" Mae yn drueni meddwl dy fod heb dderbyn Iesu yn Frawd; yr wyf fi yn tystio gerbron Duw, yr hwn a wyr galonau pawb, na bu ddim yn edifar genyf, un munyd, roddi fy hunan iddo, ond yn gwbl fel arall, yr wyf yn foddlonach nag y bum erioed o'r blaen; yr wyf wedi cyraedd cartref i'm meddwl ansefydlog am byth, gobeithiaf." "Parhaodd," meddai ei Gofiantydd, "i fwynhau y teimladau bywiog a duwiolfrydig hyn ar hyd gweddill ei oes, gydag ond ychydig iawn o eithriadau; ymddangosai ymhob modd, ac ar bob adeg, braidd, mewn tuedd, agwedd, ac ymarweddiad, yn gyfrinachol, yn gystal ag yn gyhoeddus, fel un wedi 'rhoddi ei hun i fyny i Iesu Grist,' mewn gwirionedd."

O ran ei arferion crefyddol, "daliai olwg eiddigeddus arno ei hun, rhag i'w wendid fod yn fagl iddo, a rhag i'r cnawd un amser ei orchfygu. Tuag at hyn arferai amryw foddion yn ddarostyngedig i effaith a dylanwad gras a bendith, megis,

Ymprydio mynych;
Adolygu ei ymddygiadau;
Penderfynu a llunio rheolan;
Cofrestru addunedau, &c., &c.


Adolygai yn fanwl ei ymneillduaeth unigol, ei gyfeillachiad cyfrinachol, fel ei ymddygiadau mwyaf cyhoeddus—mewn canlyniad i ymddangosiad annisgwyliadwy unrhyw wendid neu anweddeidd-dra, lluniai benderfyniad, ac addunedai adduned, a chofrestrai hwynt mewn llyfr, gyda gweddi ac ympryd am ras a bendith; ac fel hyn ymadnewyddai mewn syniad difrifol i gymeryd gair Duw yn llusern i'w draed, ac ymgadw yn ol y gair ymhob amgylchiad yr elai iddo."

Ymhen tua dwy flynedd ar ol dyfod at grefydd, sef yn y flwyddyn 1839, dangosodd awydd i fyned i bregethu yr efengyl. Yr oedd Owen Owens yn un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll, ag y datguddiodd Robert Williams ei feddwl iddo mewn perthynas i hyn; ond ni chafodd nemawr o groeso ganddo. Yr oedd y ddau mor wahanol i'w gilydd: un yn dra difrifol ei feddwl, y llall dipyn yn ysgafn; y naill yn afrwydd ei ymadrodd, y llall yn wr ymadroddus, fel Aaron. Yr oedd y ddau un tro yn myned i Dremadog i areithio ar ddirwest, pan y gofynodd Owen Owens iddo sut yr oedd ei araeth. "O, 'fe roddir i ti yn yr awr hono' ydyw hi gyda mi," meddai Robert Williams. Ond pan gododd i fyny yn y cyfarfod i siarad, aeth yn dywyll iawn arno, fel yr oedd yn methu braidd gael dim i'w ddweyd. "P'le mae 'rhoddir i ti yn yr awr hono' rwan, Robert?" meddai Owen Owens yn lled uchel. "Nid oedd ei ddawn i siarad yn gyhoeddus ddim mor rwydd ag y buasai ddymunol ei bod. Yr oedd, er y cwbl, ryw serchiadau nefolaidd, a syniadau pêrlewygol, yn melysu yr ychydig a ddywedai, nes ei wneyd yn hyfryd ac adeiladol."

"Yr oedd yn dra awyddus am ddysgeidiaeth. Nid oedd heb radd o athrylith naturiol: cyrhaeddodd law dlos mewn ysgrifenu, medrusrwydd mewn gohebu, a chywirdeb iaith o ran orgraff, cystrawen, ac arddull, o'i waith ei hun yn benaf, oddieiter yr ychydig a gawsai pan ydoedd yn bur ieuanc. Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, bu yn yr athrofa am ddwy flynedd a haner. Cynhaliodd yno ei nodweddiad am dduwiolfrydedd yn rhagorol, a gwnaeth ymdrech deg i ddysgu."

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa yn Mhwllheli, Medi yr 8fed, 1843, yn un o saith, oll o Sir Gaernarfon. Yr oedd dau heblaw efe o Leyn ac Eifionydd, sef y diweddar Barchn. W. Hughes, Llanengan, a Morris Roberts, Pwllheli. Mae un o'r saith yn aros eto, sef y Parch. J. Jones, Bryn'rodyn, yr hwn yn ddiau sydd wedi ei blanu yn nhŷ yr Arglwydd, gan fod yr arwyddion arno,—yn ffrwytho yn ei henaint, yn dirf ac yn iraidd, ac yn mynegi mai uniawn yw yr Arglwydd. Cawsom ryw gymaint o ddefnyddiau y llyfr hwn ganddo.

"Ysgrifenodd yn ystod ei fywyd crefyddol lawer, a gellid dethol rhanau helaeth o'i ysgrifeniadau mwyaf cyffredinol yn eu cymhwysiad, y rhai pe cyhoeddid a fyddent yn dra difyrus ac addysgiadol i Gristionogion ieuainc. Mae ei ddyhewyd crefyddol yn amlwg a nodedig iawn yn y cwbl; gwelir ynddynt y mawr ymdrech a wnelai, a'r gwyliadwriaeth a gadwai, tuag at fyw pob diwrnod i Dduw. Cynwysir ei ysgrifeniadau mewn pedwar dosbarth, a'r cwbl yn dwyn arnynt yr un argraff o dduwiolfrydedd syml ac ymroddol:"—(1) Dyddlyfr, yn cynwys ei brofiad a'i addunedau; (2) Cofnodau o bregethau a wrandawai, ynghyd a sylwadau o'i eiddo ei hun; (3) Ei bregethau a'i ddarlithiau ei hunan; (4) Ei lythyrau. Dywed ei Fywgraffydd fod ei lythyrau wedi eu "hysgrifenu yn drefnus a thlysion, ac yn wastad yn llawn o frwdfrydedd sanctaidd."

"Tynir ein sylw yn neillduol wrth olrhain ei ysgrifeniadau, at y crefyddoldeb a feithrinai yn ei feddwl wrth ystyried troion Rhagluniaeth Duw yn llywodraethiad ei amgylchiadau tymhorol. Nodai yn ddyfal bob amlygiadau o weithred dirgel Rhagluniaeth yr ei sefyllfa bersonol ei hun, yn gystal ag yn chŵyl achosion y byd a'r eglwys yn gyffredinol. Nid oedd dim a wnelai damwain a'i gredo ef; tynai yn aml destynau i folianu a rhyfeddu ac addoli yr Arglwydd, oddiwrth ddigwyddiadau ag oeddynt yn cael eu gollwng heibio yn ddisylw gan y byd yn gyffredinol, a byddent yn foddion i gryfhau ei ymddiriedaeth yn yr Arglwydd, ac i greu ynddo ymostyngiad boddlon i'w holl oruchwyliaethau tuag ato ei hun, a thuag at eraill o fewn cylch ei gydymdeimlad."

"Rhoddodd ddau amlygiad neillduol o'i frwdfrydedd dros lwyddiant teyrnas Crist yn y byd, y rhai a wasanaethant i amlygu ei ddibenion mawr, a'i awyddfryd sanctaidd i ragori yn ngwasanaeth ei Feistr nefol. Torodd y brwdfrydedd hwn allan yn ei wresogrwydd cyntaf i dyb hyderus y gallai fod yn ddiwygiwr effeithiol ymhlith ei frodyr, a bod yn offeryn i ddwyn ymlaen wellhad graddol mewn llawer o bethau yr edrychai arnynt yn ddiffygion o gryn bwys. Y dyb hon am ei swydd a'i ddefnydd yn yr eglwys a'i cymhellodd yn rymus i weithrediadau bywiog ac effro, at ddwyn o amgylch y gwellhad oedd mewn rhagolwg mor ddymunol a gwerthfawr. Yr ail ffurf y torodd ei frwdfrydedd allan ynddo oedd ysbryd cenhadol o'r fath gryfaf. Teimlai awydd angerddol i fyned yn genhadwr i China, a gweithiodd yr amcan hwn yn neillduol ddwys ar ei feddwl."

Dydd Llun, Tachwedd 3ydd, 1845, cynhelid Cyfarfod Misol yn Mwlchderwin. Fel arfer, yr oedd swyddogion y lle yn adrodd eu profiadau, ac yn eu mysg, Robert Williams. Yr oedd ar y pryd yn ddwfn yn ngafael y darfodedigaeth; a'r olwg arno yn welw, ac yn wael anarferol. Pan ddaeth ei dro, i adrodd ei brofiad, teimlid fod rhyw fin hynod ar ei eiriau, a bod difrifwch tragwyddoldeb yn ei eiriau, yn ei wedd, ac yn ei ysbryd. "Fe fum i," meddai, " yn disgwyl llawer o bethau yn y byd yma, yn ystod fy oes. Fe fum yn disgwyl bod yn bregethwr mawr, yn bregethwr poblogaidd, ac yn genhadwr enwog. Ond heddyw, y mae darn bach o adnod yn dweyd fy holl ddisgwyliad i 'rwan. A dyma hi,—' Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi," Fel y gallesid disgwyl, aeth ei eiriau fel trydan trwy bawb oedd yn y Cyfarfod Misol. Dywed y Parch. D. E. Davies ei fod wedi clywed ei dad, yr hwn oedd yn bresenol ar y pryd, yn adrodd yr hanesyn uchod ddegau o weithiau, a phob amser gyda rhyw arddeliad neillduol.

Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, y mae marwnad helaeth yn y Cofiant, o waith yr un awdwr. Rhoddwn yma ryw dri phenill fel esiampl o'r gweddill, y rhai sydd yn dangos dawn yr ysgrifenydd, yn gystal ag yn ddarluniad byw o'r gwrthddrych. Mae yn y farwnad ddau ar hugain o leiaf o benillion o'r un hyd a'r rhai dilynol, ac yr ydym yn tueddu i feddwl nad ydyw y farwnad yn gyflawn yn y copi sydd genym. Wele y penillion:

"Gwelem ynddo'n aml, dybygem,
Gryn ddefnyddiau gwas i Grist;
Meddai ar ymroad gweddaidd,
'Ngwyneb aflwydd tramgwydd trist;
Meddai ryw lywodraeth brydferth,
Ar ei nwydau bob yr un;
Meddai deimlad at addurno
Enw Duw a'i enw ei hun."

"Meddai awydd at ddysgeidiaeth,
Meddai archwaeth moesol da;

Meddai ŵg at lygredigaeth,
Oedd yn taenu pob rhyw bla;
Meddai olygiadau serchog,
Ar drysorau cariad Duw;
Mawr chwenychai ddwyn yr euog,
At Gyfryngwr i gael byw."

"Yn ei iechyd fe wanychai,
Yn ei olygiadau i gyd;
Ymddangosai'n rhy uwch-nefol
I fod mewn daearol fyd;
Fel planhigyn byd ysbrydol,
Rhy gynesol oedd ein brawd,
A'i flodeu'n agor yn rhy lydain,
I fyw yn hir yn awyr cnawd."


Dyma ddarluniad o Robert Williams, wedi ei dynu ymron i gyd gan bin un o brif ysgrifenwyr Cymru, neb amgen na'r enwog Eben Fardd. Nis gwyddom beth a feddylia crefyddwyr ieuainc yr oes hon am dano; ond credwn ei fod mor debyg i Gristion y Beibl a nemawr neb a welir yn y dyddiau hyn Rhai o'r un ysbryd ag ef hefyd oedd y dynion a wnaethant eu hôl ar y byd er daioni ymhob oes. Rhai felly oedd y Diwygwyr Protestanaidd, y Piwritaniaid, a'r Diwygwyr Methodistaidd. O, na welem fwy o gymeriadau tebyg iddo yn y dyddiau hyn!


Nodiadau

[golygu]