Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad/Yr adeg y ganwyd ef
| ← Cynwysiad | Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes, Bryncir |
Yr ardal y ganwyd ef, y treuliodd ei oes, ac y bu farw ynddi → |
PENOD I.
YR ADEG Y GANWYD EF.
Hynodrwydd yr adeg.—Napoleon Bonaparte.—Y Chwyldroad Ffrengig.—Yr ysbryd gwerinol.—Y Cylchgrawn Cymraeg.—Morgan ap Ioan Rhys.—Y Geirgrawn Cymraeg.—Cymreigyddion Llundain.—John Jones, Glanygors. Seren dan gwmwl.—Tlodi.—Ysbryd ymfudol.—John Williams, y Garn.—Abraham Williams, Llanberis.—Hugh Thomas, Llanystumdwy.—Yr Ysgol Sabbothol.—Mr. Charles o'r Bala.—Adfywiad crefyddol.—Cyfyngder masnachol. Diwygiadau yn tarddu o hyny.—Diwygiad Beddgelert. Diwygiad 1857—60.—Cyfarfod gweddi hynod yn Mrynengan.—Cyfnod o ddiwygiad parhaus.—Pregethwyr hynod yn codi. Pregethwyr, beirdd, a meddylwyr hynod yn codi yn Eifionydd.—Genedigaeth Owen Owens yn nghanol yr adeg hynod yma.
GANWYD Owen Owens yn mlwyddyn olaf y ganrif ddiweddaf, sef yn y flwyddyn 1800. Yr oedd y flwyddyn hono, ynghyd a'r blynyddoedd cyn ac ar ol hyny yn un o'r adegau mwyaf hynod yn hanes y byd, ac yn hanes y deyrnas hon. Dyma yr adeg yr oedd Napoleon Bonaparte yn cynhyrfu y byd, ac yn cynhyrfu cyfandir Ewrop mewn modd arbenig. Rhyw ddeng mlynedd cyn y dyddiad uchod y dechreuodd y chwyldroad mawr a elwir y Chwyldroad Ffrengig. Ac am dros ugain mlynedd bu y byd yn cael ei ysgwyd gan ryfeloedd a chwyldroadau. Yr oedd yr ysbryd gwerinol wedi meddianu y bobl mewn llawer gwlad, a chodent yn erbyn y llywodraethwyr, gan hawlio mwy o ryddid. A disgynodd yr un ysbryd i ryw raddau hyd yn nod ar Gymru fechan dlawd. Yr ysbryd yma oedd wrth wraidd cychwyniad yr ail gyhoeddiad misol a gychwynwyd yn Nghymru, sef y "Cylchgrawn Cymraeg." Ei olygydd oedd Morgan ap Ioan Rhys, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Mhontypool, gwr ag oedd wedi ei lenwi a'r ysbryd hwn i raddau pell iawn. Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y blynyddoedd 1793 a 1794. Yn y flwyddyn 1796 daeth cyhoeddiad misol arall allan yn llawn o'r un ysbryd, dan olygiad y Parch. David Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhreffynon, sef y "Geirgrawn Cymraeg." Cyfranogodd Cymreigyddion Llundain hefyd yn helaeth o'r un ysbryd, ac yn eu mysg y bardd athrylithgar hwnw, John Jones, Glanygors, yr hwn a gyhoeddodd bamphledyn ar y mater, a elwid "Seren tan gwmwl." Oblegid cyhoeddi y pamphledyn hwn ceisiodd swyddogion y llywodraeth ei ddal a'i gosbi, a bu yntau ar ffo am wythnosau oddeutu ei hen gartref yn Ngherigydruidion. Oblegid y rhyfeloedd a'r son am ryfeloedd yr oedd traul enfawr yn dyfod ar y llywodraeth, a chanlyniad hyn drachefn oedd fod y trethi yn uchel iawn. Yr oedd hyn yn peri fod beichiau trymion yn disgyn ar y bobl, a thrwy hyny aeth miloedd o honynt i dlodi a chyfyngder mawr. Yr oedd cyflwr y werin a'r dosbarth gweithiol y pryd hwn yn ddifrifol iawn. Cawn ryw gipdrem ar eu cyflwr yn hanes teulu y diweddar Barch. Robert Thomas (Ap Fychan), pan yr oedd efe yn fachgen bychan. Byddai raid iddo ef a brawd iddo pan yn blant bychain fyned o gwmpas y wlad i gardota. Aent mor bell weithiau a Sir Aberteifi, o Lanuwchllyn, ger y Bala, a byddent am ddyddiau ar eu taith. Ac y mae eu hanes yn dorcalonus i'r eithaf, a'r treialon yr aethant trwyddynt yn ddigon i wneyd i'r mwyaf dideimlad dori i wylo. Clywsom hen flaenor rhagorol o fynydd Llanllyfni, Richard Griffith, yn dweyd y bu yntau yn myned mor bell a Sir Fon i gardota, ac yn cysgu yn fynych mewn tai allan. I gael ymwared oddiwrth y pethau hyn, disgynodd ysbryd ymfudo mawr ar y wlad. Cyrhaeddodd y dylanwadau hyn hyd yn nod i Leyn ac Eifionydd. Meddianwyd llawer gan ysbryd ymfudo i'r America; ac ymysg eraill, y Parch. John Williams, gweinidog ieuanc gobeithiol gyda'r Bedyddwyr yn Garndolbenmaen, yr hwn a ddaeth ar ol hyn yn weinidog enwog, poblogaidd, a defnyddiol yn New York. Gallem enwi eraill a ymfudodd tua'r un adeg, megis bardd ieuanc talentog o Lanberis, o'r enw Abraham Williams, Hugh Thomas, Llanystumdwy, brawd Dafydd Ddu Eryri, yr hwn oedd yn briod â merch i'r hen bregethwr hynod hwnw, John Evans, o'r Bala; ynghyd a thad a mam Ieuan Lleyn, &c. Yr oedd hyn yn niwedd y ganrif ddiweddaf.
Yn cyd-gychwyn ac yn cyd-dyfu gyda'r dylanwadau hyn yn Nghymru, drwy drugaredd, yr oedd dylanwad arall llawer mwy bendithiol, ac a adawodd lawer mwy o'i ol ar ein gwlad, sef yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd tuedd yn y pethau eraill i ddeffro a chynhyrfu meddyliau dynion, ac yr oedd tuedd yn yr Ysgol Sabbothol mewn modd neillduol i wneyd hyny. Beth sydd a mwy o duedd i wneyd hyny na'r dysgu darllen, y dysgu ar y cof, yr ysbryd darllen, yr holi, yr holwyddori, a'r ysbryd ymchwiliad sydd mewn cysylltiad a'r sefydliad hwn? Yr oedd y sefydliad y pryd hwn hefyd yn ieuanc ac yn newydd, ac fel pobpeth felly, a mwy o frwdfrydedd a sel yn perthyn iddo. Yr oedd hefyd yn cael ei symbylu ymlaen gan un o'r dynion rhyfeddaf a welodd ein gwlad, os nad yn wir un o'r rhai rhyfeddaf a welodd y byd, am daflu bywyd ac ysbrydiaeth i bawb a phob peth oi ddeutu, sef gan Mr. Charles o'r Bala.
Daeth dylanwad arall hefyd i gydweithio a'r pethau hyn, oedd yn fwy uniongyrchol ddwyfol nag un o honynt, sef ysbryd adfywiad crefyddol; hyny ydyw, yr Ysbryd Glan yn gweithredu yn rymus ar feddyliau dynion. Credwn na bu adeg erioed yn hanes ein gwlad mwy gwresog ar grefydd na diwedd y ganrif o'r blaen a dechreu y ganrif bresenol. Yr oedd y pethau uchod yn peri ei bod felly. Nid oes dim mwy manteisiol i ddiwygiad crefyddol na chyfyngder a chaledi mewn gwlad. Mae y Brenin Mawr yn fynych iawn yn gwneyd defnydd o gyfyngder masnachol, neu dlodi ac amgylchiadau gwasgedig, i ddwyn oddiamgylch adfywiad crefyddol. Felly yr oedd yn amser diwygiad Beddgelert. Yr oedd yn amser caled iawn ar amaethwyr Cymru y pryd hwnw, sef yn y blynyddoedd 1815-1817, ac yr oedd y dosbarth gweithiol mewn tlodi dirfawr. Daeth prisiau yr anifeiliaid i lawr ar ol y rhyfel â Ffrainc, a gwnaeth ddau neu dri cynhauaf gwlyb, y naill ar ol y llall, y ddwy flynedd ddilynol i'r rhyfel hwnw. Y canlyniad fu i'r rhan fwyaf o amaethwyr ein gwlad ni fyned yn fethdalwyr. Cychwynodd diwygiad mawr y blynyddoedd 1857-60 yn yr un modd. Cyfyngder masnachol o'r fath fwyaf llym, ac anhawdd rhoddi cyfrif am dano, heb ddwyn Duw i'r cyfrif, a fu yn foddion ei gychwyniad. Rhai o fasnachwyr penaf un o ddinasoedd mawrion America, sef New York, wedi cael eu gwasgu i'r fath galedi fel nad oedd ganddynt un man i droi ond at Dduw, ac felly yn cynal cyfarfod gweddi am haner dydd gyda'u gilydd: dyna fu yn gychwyniad y diwygiad mawr uchod. Yr oedd y cyfyngder hwn yn ei nerth mwyaf yn mis Hydref, 1857; a dechreuwyd cynal y cyfarfod gweddi yn niwedd y mis blaenorol, sef Medi 23. Yr un fath, yr oedd yn amser o gyfyngder mawr ar hyd yr holl amser o tua 1790 hyd y flwyddyn 1815, o achos y rhyfel parhaus a Ffrainc. Cynhelid cyfarfod gweddi bob boreu dydd Mercher y pryd hwn, am lawer o flynyddoedd yn holl gapelau y Methodistiaid, i ofyn i'r Arglwydd fod yn amddiffyn i'n teyrnas, ac i ofyn am lwyddiant ar yr efengyl yn ein gwlad. Mae hanes am un o'r cyfarfodydd gweddi hyn yn Mrynengan, pan y disgynodd rhyw ddylanwadau rhyfedd ar bawb yn y lle. Yr oedd un hen frawd wedi colli cymaint arno ei hun fel yr oedd yn neidio yn nghowrt y capel, ac ar y ffordd wrth fyned tuag adref. Collodd ei glocsiau ar y ffordd ac aeth bellder mawr hebddynt, heb feddwl nad oeddynt am ei draed. "Ni ddaw o ddim yma yn wir bobol," meddai, gan gyfeirio at Napoleon Bonaparte. Yr oedd meddyliau ac ysbrydoedd dynion yn cael eu gwneyd yn dyner drwy yr hirgyfyngder hwn, a chymerodd Ysbryd Duw fantais ar hyn i ddylanwadu ar eu meddyliau. Yr oedd yma dir da i fwrw yr had ynddo. Yr oedd caledi a chyfyngder yr amseroedd yn peri fod yma galonau hawddgar a da, i wrandaw y gair, i'w gadw, ac i ddwyn ffrwyth drwy amynedd.
Yr oedd cychwyniad a dygiad ymlaen yr Ysgol Sabbothol hefyd yn ystod yr adeg yma yn fanteisiol iawn i ddiwygiad crefyddol. Drwy hyn yr oedd y tywyllwch mawr oedd yn meddyliau dynion am bethau yr efengyl yn cael ei wasgaru, a goleuni tanbaid yn dyfod ar y pethau hyn. Gellir cymhwyso yr adnod hono gyda phriodoldeb mawr at yr adeg yma:—"Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac i'r rhai oedd yn eistedd yn mro a chysgod angeu, y cyfododd goleuni iddynt." Ac yn yr adeg yma yn union dyma y nefoedd yn anfon lliaws o bregethwyr digyffelyb i Gymru, pregethwyr na bu mewn un wlad er dyddiau yr apostolion mo'u rhagorach:—Robert Roberts, Clynog; Ebenezer Morris, John Elias, John Jones, Edeyrn; Evan Richardson, Ebenezer a Thomas Richards, John Evans, New Inn; Michael Roberts, William Roberts, Amlwch; William Morris, Cilgerran, &c. Yr oedd y goleuni sydyn oedd newydd wawrio ar feddyliau dynion drwy yr Ysgol Sabbothol, yn peri fod dylanwad rhyfedd yn canlyn gweinidogaeth y gwyr hyn y pryd hwn. Yr oedd rhyw nerthoedd rhyfedd yn cydfyned a'u gweinidogaeth yn yr adeg hon. Yr oedd y wlad ar hyd yr holl amser yma yn llawn o'r tân diwygiadol. Yr oedd holl oes weinidogaethol Robert Roberts yn un cyfnod o ddiwygiad, a dywedir na bu John Elias erioed mor nerthol ag yn y tymor hwn.
Dyma y nerthoedd oedd yn gweithio yn Eifionydd a'r amgylchoedd yn yr adeg y ganwyd Owen Owens, ac am flynyddoedd cyn ac wedi hyny. Pa ryfedd i ddoniau ac athrylith flaguro yn nghanol y fath ddylanwadau manteisiol? Mae yn hysbys y pregethwyr nerthol, y beirdd awenyddol, a'r meddylwyr galluog, a gododd yn y wlad hon y pryd hwn. Ni raid ond eu henwi nad ydyw y darllenydd yn cydsynio a ni ar unwaith:— Robert Roberts, Clynog; John Elias, John Williams, Llecheiddior; Moses Jones, Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Eben Fardd, Nicander, Richard Jones, o'r Wern; John Owen, Ty'nllwyn, &c., ac yn eu mysg y mae i Owen Owens le anrhydeddus a hollol neillduol iddo ei hun Lle hynod oedd yn Eifionydd a'r amgylchoedd yn niwedd y ganrif o'r blaen ac yn nechreu y ganrif bresenol. "Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hyny." A ganwyd Owen Owens yn nghanol yr adeg yma, sef ar derfyn y ddwy ganrif. Mae yn debyg na bu erioed yn un man o Gymru y fath gydgasgliad o dalent, athrylits, a doniau, ag oedd yn y rhan yma o'r wlad y pryd hwnw. Pa le y gwelwyd beirdd, pregethwyr, meddylwyr, a duwiolion hynotach? Yr oedd Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, John Elias, a Richard Jones y Wern (Coedcaedu y pryd hwnw), oddeutu deg ar hugain oed pan anwyd Owen Owens; Dewi Wyn oddeutu deunaw oed, a Sion Wyn ac Ellis Owen, Cefnymeusydd, o ddeuddeg i bymtheg oed. Yr oedd y seraph tanllyd hwnw, Robert Roberts, Clynog, wedi dechreu pregethu ryw dair blynedd ar ddeg cyn ei eni, a bu fyw ddwy flynedd ar ol hyny, a threuliodd ei holl oes weinidogaethol braidd yn ngolwg cartref Owen Owens. Treuliodd haner cyntaf y tymor hwnw yn Ynysgaled, ffermdy yn ardal Brynengan, a'r haner olaf yn nhy capel, Capel Ucha', Clynog. Nid oedd ond rhyw dair neu bedair milldir o ffordd o gartref Owen Owens i'r naill le a'r llall; a braidd na allesid clywed llais treiddgar Robert Roberts, o'r Pantglas Ucha, pan fyddai yn pregethu ar Sabboth tawel yn ffenestr capel Brynengan, neu yn ffenestr Capel Ucha. Clywsom Owen Owens yn dweyd fod llais Robert Roberts yn hynod o dreiddgar, ac y gallesid ei glywed o bellder mawr. Yr oedd yn pregethu un tro yn ardal Bwlchderwyn, a chlywent ef yn amlwg iawn o filldir a haner i ddwy filldir o ffordd. Ryw chwe' blynedd cyn ei eni y dechreuodd John Elias bregethu, a hyny o fewn ryw chwe' milldir i'w gartref, sef yn Ynysypandy, yn ardal Cwmystradllyn; ac yr oedd John Elias yn myned heibio i Bantglas Ucha wrth fyned i'r Cyfarfod Misol cyntaf y bu ynddo yn Brynrodyn, yn fachgen ieuanc, ac yn llawn ofn a phryder. Yr oedd Moses Jones, a John Williams, Llecheiddior, ychydig flynyddoedd yn hynach nag Owen Owens; a John Owen, Ty'nllwyn, a Nicander, ychydig flynyddoedd yn ieuengach nag ef. Dyma y ser oedd yn llewyrchu yn ffurfafen Eifionydd yn y blynyddoedd hyny, a daeth Owen Owens yn seren amlwg yn eu plith yn fuan iawn. Yr oedd rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant ymysg y ser disglaer hyn; ond yr oedd gogoniant neillduol yn perthyn i seren Cors-y-wlad; a bu yn llewyrchu yn ffurfafen Eifionydd yn hwy na braidd yr un o honynt.