Neidio i'r cynnwys

Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad (testun cyfansawdd)

gan Henry Hughes, Bryncir

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad


Owen Owens y Gors

OWEN OWENS

CORS-Y-WLAD,


YR HEN FLAENOR HYNOD:

EI HANES, EI HYNODION, AI FFRAETHEBION;
YNGHYDA HANESs CREFYDD YN ARDAL
BWLCHDERWIN;


GYDA PHEDWAR O DDARLUNIAU.




GAN
HENRY HUGHES,
BRYNKIR.




DOLGELLAU:
ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, SWYDDFA'R 'GOLEUAD.'
1898

RHAGYMADRODD.

DEFNYDDIR hyny fel rheswm dros wneyd Cofiant i bersonau neillduol yn fynych, fod rhyw hynodrwydd mawr yn perthyn i'r cyfryw. Os addefir grym y rheswm yma, diau fod priodoldeb mawr mewn cyhoeddi y llyfr hwn; oblegid yr oedd Owen Owens yn un o'r dynion hynotaf yn ei oes. Ond y mae hyn drachefn cyfansoddi anhawsder mawr i roddi darluniad cywir o'r gwrthddrych; oblegid yr oedd ei hynodrwydd yn gynwysedig i raddau mawr yn "mhresenoldeb y corff," ac yn ei ddull o osod allan ei feddwl; ac y mae yn anhawdd trosglwyddo y pethau hyn ar bapyr.

Rheswm arall dros gyhoeddi y llyfr hwn ydyw, fod y gwrthddrych yn cynrychioli dosbarth pwysig yn hanes ein gwlad, yn enwedig yn hanes y Methodistiaid, sef yr hen flaenoriaid. Mae Methodistiaeth wedi ei bendithio â chanoedd o'r gwyr hyn, y rhai a fu yn foddion i wneyd daioni dirfawr. Mae cynydd a llwyddiant presenol y Cyfundeb yn ddyledus i raddau helaeth iddynt Pan fyddai y pregethwyr ar deithiau am lawer o wythnosau, y gwyr hyn a fyddai yn gofalu am yr achos yn eu habsenoldeb yn eu cartrefi, a byddent yn gwir-ofalu am dano hefyd. Yr oeddynt wedi eu donio mor amlwg i'w gwaith hwy gan y nefoedd, ag yr oedd y pregethwyr a'r gweinidogion i'w gwaith hwythau. Bendithiwyd Eifionydd â nifer dda o'r gwyr hyn. Gallaswn enwi nifer o honynt, ond gwell peidio rhag ofn gadael enwau teilwng allan. Mae gofod hefyd yn brin. Digon prin, yr ydym yn ofni, y mae coffadwriaeth a llafur y gwyr hyn wedi cael chwareu teg. Tra y mae Cofiantau y pregethwyr yn bygwth myned yn y dyddiau hyn fel tywod y môr o amldra, gellir cyfrif y Cofiantau a wnaed i hen flaenoriaid ymron ar fysedd un llaw. Un amcan i'r llyfr yma ydyw gwneyd i fyny y diffyg hwn.

Cefais ddefnyddiau y llyfr hwn gan nifer mawr o bersonau, fel mai prin y mae yn deg dechreu enwi. Ond goddefer i mi enwi ryw ychydig nifer fel rhai a fu o gynorthwy neillduol i mi, megis y Parch. Robert Owen, y Wyddgrug; Mri. Robert ac Ellis Owen, a Hugh Jones, Bwlchderwin (Clynog yn awr); ac yn arbenig Robert Owen, Bwlchderwin. Ysgrifenais ddegau os nad ugeiniau o lythyrau ato ef. A byddai yr atebiad yn ol gyda throad y post, braidd i'm holl gwestiynau, os gallesid yn rhesymol ddisgwyl atebiad o gwbl. Dymunaf ddatgan fy niolchgarwch i'r gwyr hyn, ac i eraill a'm cynorthwyodd. Fy nymuniad a'm gweddi ydyw, na byddo i'r llyfr hwn lygru neb, ond yn hytrach ar iddo weini er difyrwch pur a lleshad i laweroedd.

Yr eiddoch,

HENRY HUGHES

CHWEFROR 17eg, 1898.

CYNWYSIAD.

Hynodrwydd yr adeg—Napoleon Bonaparte—Y Chwyldroad Ffrengig—Yr ysbryd gwerinol—Tlodi—Ysbryd ymfudol—John Williams, y Garn, &c—Yr Ysgol Sabbothol—Adfywiad crefyddol—Cyfyngder masnachol—Diwygiadau yn tarddu o hyny—Diwygiad Beddgelert—Cyfnod o ddiwygiad parhaus—Pregethwyr hynod yn codi—Pregethwyr, beirdd, a meddylwyr hynod yn codi yn Eifionydd—Genedigaeth Owen Owens yn nghanol yr adeg hynod yma

Pant—glas—ucha, lle y ganwyd ef—Mewn lle neillduedig—O hynafiaeth mawr—Yr r olygfa wedi rhoddi argraff ar ei feddwl—Dim lle o addoliad yn ei ardal enedigol—Ofergoeledd mawr—Martha'r r Mynydd—Ei thwyll yn cael ei ddinoethi—Cors-y-wlad—Yn lle neillduedig—Robert Jones, Llanllyfni—Cywydd R. ap Gwilym Ddu ar yr afon Ddwyfach

O deulu lled hynod—Ei dad a'i fam ymysg hen Fethodistiaid cyntaf Talygarnedd, ger Llanllyfni—Yn berthynas agos o du ei fam i'r Parch. John Jones, Talysarn, &c—Ei frodyr, a'i berthynasau eraill

Yn llawn bywyd, ffraethineb, a direidi o'i febyd—Ei gyfrwysdra yn gochel cerydd ei dad—Ysgol Bwlchderwin—Arferion ieuenctid yr ardal—Ysgol Taiduon dechreu—Yn foddion i wneyd daioni mawr

Diwygiad Beddgelert—Yn dechreu gyda phregeth Rhisiart William, Brynengan—Y Seiat gyntaf ar ol y bregeth—Effeithiau rhyfedd yn yr Ysgol Sabbothol—Y diwygiad yn dechreu yn Eifionydd yn y flwyddyn 1818—Pregethwyr grymus yn codi—Y diwygiad yn ardaloedd Pencaenewydd. Fourcrosses, a Brynengan—John Williams, Llecheiddor, o dan ddylanwadau cryfion, ac yn gorfoleddu—Owen Owens yn cael troedigaeth—Yn gweddio mewn corlan drwy y nos—Ychydig o hanes John Humphreys, Caernarfon

Cyfnod newydd yn dechreu yn ei hanes—Brynengan yn lle manteisiol i gychwyn gyda chrefydd y pryd hwn—Harri Thomas a phregeth John Elias—Eglwys Bwlchderwin yn dechreu—Duwiolion hynod yn perthyn i'r lle—Rhisiart Humphrey—Ymddiddan Rhisiart Humphrey â Thomas y Teiliwr—Gwragedd hynod

Ystyr y gair—O darddiad boreuol—Eglwys yn y lle yn foreuol iawn—William Richard Llwyd yn pregethu yma—Ffrwythau y pregethau (1) Ysbryd cenhadol—Lowri Williams a Jane Griffith—(2) Awydd am addysg—Ysgolion Griffith Jones, Llanddowror—Yr athraw, Thomas Gough—Y Parch. Richard Nanney—Y Parch. Richard Tibbot—Merch ieuanc yn ymuno â theulu Trefecca

Ysgol Sabbothol yn ddechreuad i'r achos—"Sasiynau y Plant"—Y capel cyntaf yn cael ei adeiladu—Agoriad y capel—Moses Jones—Diwygiad 1832—Cyfarfod Ysgol hynod—Pregeth fythgofiadwy John Elias yn Sasiwn Pwllheli, yn 1831—Y Cyfarfod Misol cyntaf yn y lle—Capel newydd yn cael ei godi

Robert Owen, Derwin-ucha, ychydig o'i hanes i'w gael—"Yn wr ieuanc prydferth"—Richard Tibbot, Llanbrynmair—Ei deulu—John Edward, Ereiniog—Hynodrwydd ei deulu— Yn brydyddion—Yn yr ysgol gydag Evan Richardson—Yn hoff o ddarllen a myfyrio—Yn myned yn ysgolfeistr—Ei farwolaeth—Yr hen ysgol-feistriaid—Robert Owen fel pregethwr

Robert Owen, Derwin—ucha (Parhad)—Dwy bregeth o'i eiddo, ynghyd a lloffion o bregethau eraill:—

PREGETΗ Ι. Crist yn bob peth, ac ymhob peth.
"Ond Crist sydd bob peth, ac ymhob peth."—Col. i. 11.

PREGETH II. Y Gydwybod.
"Eithr halogedig yw hyd yn nod eu meddwl a'u cyd wybod hwy." Titus i. 15.

Lloffion o'r pregethau

Robert Williams, Tan-y-chwarel—Ei dduwioldeb nodedig—Ei gofiant gan Eben Fardd—Yn berthynas i'r bardd—Prif symudiadau ei fywyd—Ei farwolaeth—Ei argraffiadau crefyddol—Cyfnewidiad yn ei fywyd yn dechreu pregethu—Yn yr Athrofa—Ei ysgrifeniadau—Yn sylwi ar droion Rhagluniaeth—Ei frwdfrydedd Cristionogol—Ei awydd am fyned yn genhadwr—Rhan o'i farwnad

Ei godi yn flaenor yn ieuanc—Ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol—Yn priodi—Yn cael ei ddisgyblu—Gweddi hynod Owen Owens wrth fyned i Sasiwn y Bala, pan o dan ddisgyblaeth—Ei adferu i'w swydd drachefn, a'i ffyddlondeb ynddi am dros ddeugain mlynedd

Hynodrwydd ei wynebpryd—Yn debyg i John Evans o'r Bala—O gyfansoddiad cryf a chadarn—Yn hardd a heinyf o gorff—Ei lygaid, &c—Ei wisg—Yn siarad mewn Cyfarfod Misol.

Yn hynod o ran cynheddfau ei feddwl—Ei arabedd—Ei neillduolion fel dyn yn aros ar ol dyfod at grefydd—Ei synwyr cryf—Cyflymdra ei feddwl—Yn cydfyned â'r oes—Ei ddawn yn taro ymhob man—Yn weithgar gyda'r byd—Yn dyner fel disgyblwr—Yn onest a phlaen—Yn hynod am ei ffyddlondeb i foddion gras—Ei dduwioldeb

Yn hynod ac effeithiol fel gweddiwr—Medrusrwydd i drin adnodau y Beibl yn ei weddiau—Sylwadau disglaer ar weddi—Yn gartrefol wrth orsedd gras—Dull neillduol a gwreiddiol yr hen bobl wrth weddio—Yn gwybod y dirgelwch sydd mewn gweddio—Yn deall wrth weddio fod Duw yn ateb ei weddi—Engraifft o un o'i weddiau

Yn y Cyfarfod Misol—Ystori y parrot—Yn y Sasiwn—Yn y Cyfarfod Llenyddol—Yn y Cyfarfod Dirwest—Yn y Cyfarfod Ysgolion a'r Ysgol Sabbothol

Ei hen ddyddiau yn ddibrofedigaeth—Ei anrhegu â spectol aur—Yntau yn rhoddi ei ddarlun ei hun yn y tŷ capel—Ei wythnosau olaf a'i farwolaeth—Ei gladdedigaeth—Sylwadau arno gan y diweddar Barchn. Robert Jones, Llanllyfni, a Roger Edwards—Yr argraff ar ei fedd

PENOD I.
YR ADEG Y GANWYD EF.

Hynodrwydd yr adeg.—Napoleon Bonaparte.—Y Chwyldroad Ffrengig.—Yr ysbryd gwerinol.—Y Cylchgrawn Cymraeg.—Morgan ap Ioan Rhys.—Y Geirgrawn Cymraeg.—Cymreigyddion Llundain.—John Jones, Glanygors. Seren dan gwmwl.—Tlodi.—Ysbryd ymfudol.—John Williams, y Garn.—Abraham Williams, Llanberis.—Hugh Thomas, Llanystumdwy.—Yr Ysgol Sabbothol.—Mr. Charles o'r Bala.—Adfywiad crefyddol.—Cyfyngder masnachol. Diwygiadau yn tarddu o hyny.—Diwygiad Beddgelert. Diwygiad 1857—60.—Cyfarfod gweddi hynod yn Mrynengan.—Cyfnod o ddiwygiad parhaus.—Pregethwyr hynod yn codi. Pregethwyr, beirdd, a meddylwyr hynod yn codi yn Eifionydd.—Genedigaeth Owen Owens yn nghanol yr adeg hynod yma.

GANWYD Owen Owens yn mlwyddyn olaf y ganrif ddiweddaf, sef yn y flwyddyn 1800. Yr oedd y flwyddyn hono, ynghyd a'r blynyddoedd cyn ac ar ol hyny yn un o'r adegau mwyaf hynod yn hanes y byd, ac yn hanes y deyrnas hon. Dyma yr adeg yr oedd Napoleon Bonaparte yn cynhyrfu y byd, ac yn cynhyrfu cyfandir Ewrop mewn modd arbenig. Rhyw ddeng mlynedd cyn y dyddiad uchod y dechreuodd y chwyldroad mawr a elwir y Chwyldroad Ffrengig. Ac am dros ugain mlynedd bu y byd yn cael ei ysgwyd gan ryfeloedd a chwyldroadau. Yr oedd yr ysbryd gwerinol wedi meddianu y bobl mewn llawer gwlad, a chodent yn erbyn y llywodraethwyr, gan hawlio mwy o ryddid. A disgynodd yr un ysbryd i ryw raddau hyd yn nod ar Gymru fechan dlawd. Yr ysbryd yma oedd wrth wraidd cychwyniad yr ail gyhoeddiad misol a gychwynwyd yn Nghymru, sef y "Cylchgrawn Cymraeg." Ei olygydd oedd Morgan ap Ioan Rhys, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Mhontypool, gwr ag oedd wedi ei lenwi a'r ysbryd hwn i raddau pell iawn. Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y blynyddoedd 1793 a 1794. Yn y flwyddyn 1796 daeth cyhoeddiad misol arall allan yn llawn o'r un ysbryd, dan olygiad y Parch. David Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhreffynon, sef y "Geirgrawn Cymraeg." Cyfranogodd Cymreigyddion Llundain hefyd yn helaeth o'r un ysbryd, ac yn eu mysg y bardd athrylithgar hwnw, John Jones, Glanygors, yr hwn a gyhoeddodd bamphledyn ar y mater, a elwid "Seren tan gwmwl." Oblegid cyhoeddi y pamphledyn hwn ceisiodd swyddogion y llywodraeth ei ddal a'i gosbi, a bu yntau ar ffo am wythnosau oddeutu ei hen gartref yn Ngherigydruidion. Oblegid y rhyfeloedd a'r son am ryfeloedd yr oedd traul enfawr yn dyfod ar y llywodraeth, a chanlyniad hyn drachefn oedd fod y trethi yn uchel iawn. Yr oedd hyn yn peri fod beichiau trymion yn disgyn ar y bobl, a thrwy hyny aeth miloedd o honynt i dlodi a chyfyngder mawr. Yr oedd cyflwr y werin a'r dosbarth gweithiol y pryd hwn yn ddifrifol iawn. Cawn ryw gipdrem ar eu cyflwr yn hanes teulu y diweddar Barch. Robert Thomas (Ap Fychan), pan yr oedd efe yn fachgen bychan. Byddai raid iddo ef a brawd iddo pan yn blant bychain fyned o gwmpas y wlad i gardota. Aent mor bell weithiau a Sir Aberteifi, o Lanuwchllyn, ger y Bala, a byddent am ddyddiau ar eu taith. Ac y mae eu hanes yn dorcalonus i'r eithaf, a'r treialon yr aethant trwyddynt yn ddigon i wneyd i'r mwyaf dideimlad dori i wylo. Clywsom hen flaenor rhagorol o fynydd Llanllyfni, Richard Griffith, yn dweyd y bu yntau yn myned mor bell a Sir Fon i gardota, ac yn cysgu yn fynych mewn tai allan. I gael ymwared oddiwrth y pethau hyn, disgynodd ysbryd ymfudo mawr ar y wlad. Cyrhaeddodd y dylanwadau hyn hyd yn nod i Leyn ac Eifionydd. Meddianwyd llawer gan ysbryd ymfudo i'r America; ac ymysg eraill, y Parch. John Williams, gweinidog ieuanc gobeithiol gyda'r Bedyddwyr yn Garndolbenmaen, yr hwn a ddaeth ar ol hyn yn weinidog enwog, poblogaidd, a defnyddiol yn New York. Gallem enwi eraill a ymfudodd tua'r un adeg, megis bardd ieuanc talentog o Lanberis, o'r enw Abraham Williams, Hugh Thomas, Llanystumdwy, brawd Dafydd Ddu Eryri, yr hwn oedd yn briod â merch i'r hen bregethwr hynod hwnw, John Evans, o'r Bala; ynghyd a thad a mam Ieuan Lleyn, &c. Yr oedd hyn yn niwedd y ganrif ddiweddaf.

Yn cyd-gychwyn ac yn cyd-dyfu gyda'r dylanwadau hyn yn Nghymru, drwy drugaredd, yr oedd dylanwad arall llawer mwy bendithiol, ac a adawodd lawer mwy o'i ol ar ein gwlad, sef yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd tuedd yn y pethau eraill i ddeffro a chynhyrfu meddyliau dynion, ac yr oedd tuedd yn yr Ysgol Sabbothol mewn modd neillduol i wneyd hyny. Beth sydd a mwy o duedd i wneyd hyny na'r dysgu darllen, y dysgu ar y cof, yr ysbryd darllen, yr holi, yr holwyddori, a'r ysbryd ymchwiliad sydd mewn cysylltiad a'r sefydliad hwn? Yr oedd y sefydliad y pryd hwn hefyd yn ieuanc ac yn newydd, ac fel pobpeth felly, a mwy o frwdfrydedd a sel yn perthyn iddo. Yr oedd hefyd yn cael ei symbylu ymlaen gan un o'r dynion rhyfeddaf a welodd ein gwlad, os nad yn wir un o'r rhai rhyfeddaf a welodd y byd, am daflu bywyd ac ysbrydiaeth i bawb a phob peth oi ddeutu, sef gan Mr. Charles o'r Bala.

Daeth dylanwad arall hefyd i gydweithio a'r pethau hyn, oedd yn fwy uniongyrchol ddwyfol nag un o honynt, sef ysbryd adfywiad crefyddol; hyny ydyw, yr Ysbryd Glan yn gweithredu yn rymus ar feddyliau dynion. Credwn na bu adeg erioed yn hanes ein gwlad mwy gwresog ar grefydd na diwedd y ganrif o'r blaen a dechreu y ganrif bresenol. Yr oedd y pethau uchod yn peri ei bod felly. Nid oes dim mwy manteisiol i ddiwygiad crefyddol na chyfyngder a chaledi mewn gwlad. Mae y Brenin Mawr yn fynych iawn yn gwneyd defnydd o gyfyngder masnachol, neu dlodi ac amgylchiadau gwasgedig, i ddwyn oddiamgylch adfywiad crefyddol. Felly yr oedd yn amser diwygiad Beddgelert. Yr oedd yn amser caled iawn ar amaethwyr Cymru y pryd hwnw, sef yn y blynyddoedd 1815-1817, ac yr oedd y dosbarth gweithiol mewn tlodi dirfawr. Daeth prisiau yr anifeiliaid i lawr ar ol y rhyfel â Ffrainc, a gwnaeth ddau neu dri cynhauaf gwlyb, y naill ar ol y llall, y ddwy flynedd ddilynol i'r rhyfel hwnw. Y canlyniad fu i'r rhan fwyaf o amaethwyr ein gwlad ni fyned yn fethdalwyr. Cychwynodd diwygiad mawr y blynyddoedd 1857-60 yn yr un modd. Cyfyngder masnachol o'r fath fwyaf llym, ac anhawdd rhoddi cyfrif am dano, heb ddwyn Duw i'r cyfrif, a fu yn foddion ei gychwyniad. Rhai o fasnachwyr penaf un o ddinasoedd mawrion America, sef New York, wedi cael eu gwasgu i'r fath galedi fel nad oedd ganddynt un man i droi ond at Dduw, ac felly yn cynal cyfarfod gweddi am haner dydd gyda'u gilydd: dyna fu yn gychwyniad y diwygiad mawr uchod. Yr oedd y cyfyngder hwn yn ei nerth mwyaf yn mis Hydref, 1857; a dechreuwyd cynal y cyfarfod gweddi yn niwedd y mis blaenorol, sef Medi 23. Yr un fath, yr oedd yn amser o gyfyngder mawr ar hyd yr holl amser o tua 1790 hyd y flwyddyn 1815, o achos y rhyfel parhaus a Ffrainc. Cynhelid cyfarfod gweddi bob boreu dydd Mercher y pryd hwn, am lawer o flynyddoedd yn holl gapelau y Methodistiaid, i ofyn i'r Arglwydd fod yn amddiffyn i'n teyrnas, ac i ofyn am lwyddiant ar yr efengyl yn ein gwlad. Mae hanes am un o'r cyfarfodydd gweddi hyn yn Mrynengan, pan y disgynodd rhyw ddylanwadau rhyfedd ar bawb yn y lle. Yr oedd un hen frawd wedi colli cymaint arno ei hun fel yr oedd yn neidio yn nghowrt y capel, ac ar y ffordd wrth fyned tuag adref. Collodd ei glocsiau ar y ffordd ac aeth bellder mawr hebddynt, heb feddwl nad oeddynt am ei draed. "Ni ddaw o ddim yma yn wir bobol," meddai, gan gyfeirio at Napoleon Bonaparte. Yr oedd meddyliau ac ysbrydoedd dynion yn cael eu gwneyd yn dyner drwy yr hirgyfyngder hwn, a chymerodd Ysbryd Duw fantais ar hyn i ddylanwadu ar eu meddyliau. Yr oedd yma dir da i fwrw yr had ynddo. Yr oedd caledi a chyfyngder yr amseroedd yn peri fod yma galonau hawddgar a da, i wrandaw y gair, i'w gadw, ac i ddwyn ffrwyth drwy amynedd.

Yr oedd cychwyniad a dygiad ymlaen yr Ysgol Sabbothol hefyd yn ystod yr adeg yma yn fanteisiol iawn i ddiwygiad crefyddol. Drwy hyn yr oedd y tywyllwch mawr oedd yn meddyliau dynion am bethau yr efengyl yn cael ei wasgaru, a goleuni tanbaid yn dyfod ar y pethau hyn. Gellir cymhwyso yr adnod hono gyda phriodoldeb mawr at yr adeg yma:—"Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac i'r rhai oedd yn eistedd yn mro a chysgod angeu, y cyfododd goleuni iddynt." Ac yn yr adeg yma yn union dyma y nefoedd yn anfon lliaws o bregethwyr digyffelyb i Gymru, pregethwyr na bu mewn un wlad er dyddiau yr apostolion mo'u rhagorach:—Robert Roberts, Clynog; Ebenezer Morris, John Elias, John Jones, Edeyrn; Evan Richardson, Ebenezer a Thomas Richards, John Evans, New Inn; Michael Roberts, William Roberts, Amlwch; William Morris, Cilgerran, &c. Yr oedd y goleuni sydyn oedd newydd wawrio ar feddyliau dynion drwy yr Ysgol Sabbothol, yn peri fod dylanwad rhyfedd yn canlyn gweinidogaeth y gwyr hyn y pryd hwn. Yr oedd rhyw nerthoedd rhyfedd yn cydfyned a'u gweinidogaeth yn yr adeg hon. Yr oedd y wlad ar hyd yr holl amser yma yn llawn o'r tân diwygiadol. Yr oedd holl oes weinidogaethol Robert Roberts yn un cyfnod o ddiwygiad, a dywedir na bu John Elias erioed mor nerthol ag yn y tymor hwn.

Dyma y nerthoedd oedd yn gweithio yn Eifionydd a'r amgylchoedd yn yr adeg y ganwyd Owen Owens, ac am flynyddoedd cyn ac wedi hyny. Pa ryfedd i ddoniau ac athrylith flaguro yn nghanol y fath ddylanwadau manteisiol? Mae yn hysbys y pregethwyr nerthol, y beirdd awenyddol, a'r meddylwyr galluog, a gododd yn y wlad hon y pryd hwn. Ni raid ond eu henwi nad ydyw y darllenydd yn cydsynio a ni ar unwaith:— Robert Roberts, Clynog; John Elias, John Williams, Llecheiddior; Moses Jones, Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Eben Fardd, Nicander, Richard Jones, o'r Wern; John Owen, Ty'nllwyn, &c., ac yn eu mysg y mae i Owen Owens le anrhydeddus a hollol neillduol iddo ei hun Lle hynod oedd yn Eifionydd a'r amgylchoedd yn niwedd y ganrif o'r blaen ac yn nechreu y ganrif bresenol. "Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hyny." A ganwyd Owen Owens yn nghanol yr adeg yma, sef ar derfyn y ddwy ganrif. Mae yn debyg na bu erioed yn un man o Gymru y fath gydgasgliad o dalent, athrylits, a doniau, ag oedd yn y rhan yma o'r wlad y pryd hwnw. Pa le y gwelwyd beirdd, pregethwyr, meddylwyr, a duwiolion hynotach? Yr oedd Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, John Elias, a Richard Jones y Wern (Coedcaedu y pryd hwnw), oddeutu deg ar hugain oed pan anwyd Owen Owens; Dewi Wyn oddeutu deunaw oed, a Sion Wyn ac Ellis Owen, Cefnymeusydd, o ddeuddeg i bymtheg oed. Yr oedd y seraph tanllyd hwnw, Robert Roberts, Clynog, wedi dechreu pregethu ryw dair blynedd ar ddeg cyn ei eni, a bu fyw ddwy flynedd ar ol hyny, a threuliodd ei holl oes weinidogaethol braidd yn ngolwg cartref Owen Owens. Treuliodd haner cyntaf y tymor hwnw yn Ynysgaled, ffermdy yn ardal Brynengan, a'r haner olaf yn nhy capel, Capel Ucha', Clynog. Nid oedd ond rhyw dair neu bedair milldir o ffordd o gartref Owen Owens i'r naill le a'r llall; a braidd na allesid clywed llais treiddgar Robert Roberts, o'r Pantglas Ucha, pan fyddai yn pregethu ar Sabboth tawel yn ffenestr capel Brynengan, neu yn ffenestr Capel Ucha. Clywsom Owen Owens yn dweyd fod llais Robert Roberts yn hynod o dreiddgar, ac y gallesid ei glywed o bellder mawr. Yr oedd yn pregethu un tro yn ardal Bwlchderwyn, a chlywent ef yn amlwg iawn o filldir a haner i ddwy filldir o ffordd. Ryw chwe' blynedd cyn ei eni y dechreuodd John Elias bregethu, a hyny o fewn ryw chwe' milldir i'w gartref, sef yn Ynysypandy, yn ardal Cwmystradllyn; ac yr oedd John Elias yn myned heibio i Bantglas Ucha wrth fyned i'r Cyfarfod Misol cyntaf y bu ynddo yn Brynrodyn, yn fachgen ieuanc, ac yn llawn ofn a phryder. Yr oedd Moses Jones, a John Williams, Llecheiddior, ychydig flynyddoedd yn hynach nag Owen Owens; a John Owen, Ty'nllwyn, a Nicander, ychydig flynyddoedd yn ieuengach nag ef. Dyma y ser oedd yn llewyrchu yn ffurfafen Eifionydd yn y blynyddoedd hyny, a daeth Owen Owens yn seren amlwg yn eu plith yn fuan iawn. Yr oedd rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant ymysg y ser disglaer hyn; ond yr oedd gogoniant neillduol yn perthyn i seren Cors-y-wlad; a bu yn llewyrchu yn ffurfafen Eifionydd yn hwy na braidd yr un o honynt.
PANTGLAS UCHA (Lle y ganwyd ef.)


PENOD II
YR ARDAL Y GANWYD EF, Y TREULIODD EI OES, AC Y BU FARW YNDDI

Pantglas Ucha, lle y ganwyd ef.—Mewn lle neillduedig.—O hynafiaeth mawr.—Darluniad o'r ty a'r cwmpasoedd. Ei berchenogion. Yr olygfa wedi rhoddi argraff arei feddwl.—Hugh Hughes, y Caerau, a'i hynodrwydd.—Dim lle o addoliad yn ei ardal enedigol—Ofergoeledd mawr.—"Martha'r Mynydd." Mr. a Miss Ingram.—Ei thwyll yn cael ei ddinoethi. Cors-y-wlad. Yn lle neillduedig.—Robert Jones, Llanllyfni.—Cywydd Robert ap Gwilym Ddu ar yr afon Ddwyfach.

Roedd y lle hefyd lle y ganwyd Owen Owens ynddo, yn gystal a'r amser y ganwyd ef, yn hynod. Ganwyd ef yn Pantglas Ucha, yn mhen uchaf plwyf Clynog. Saif yr amaethdy hynafol a pharchedig yr olwg, ar fin yr hen ffordd sydd yn arwain o Dremadog i Lanllyfni, ar y dde, ryw haner milldir yn nes i'r lle diweddaf na mynwent Taiduon, wrth fyned yn y cyfeiriad hwnw. Na ddisgwylied y darllenydd ychwaith weled yr hen balasdy (oblegid dyna ydoedd gynt) o'r ffordd, er ei fod yn ei ymyl. Llecha mewn pantle dwfn, rhwng y ffordd a'r mynydd uchel sydd gerllaw, yr hwn a elwir y Graig Goch, ac wrth droed y mynydd hwnw. Nid oes na thy na thwlc i'w weled o hono yn unman. Yr unig beth a welir ymron ydyw y mynydd uchel, yr hwn sydd yn codi yn sydyn i entrych awyr o'n blaen, a golwg bruddaidd ac ofnadwy arno, a'i liw yn ddu—goch gan y grug sydd yn ei orchuddio. Braidd nad ydym yn meddwl am Sinai wrth edrych arno. Mae yn bur debyg fod y ty wedi ei osod yn y lle hynod a dirgel hwn, er yr hen amser gynt, i ochel ac i ymguddio rhag y gelynion. Barnai yr hynafiaethydd hynod, Owen Williams, Waenfawr, ei fod wedi ei adeiladu beth bynag er amser y frenhines Elizabeth, hyny ydyw, er's dros dri chan' mlynedd yn ol. Mae y dull hynod y mae y ffenestri wedi eu gosod, meddai ef, yn sicrhau hyny. Yn lle bod frame y ffenestr wedi ei gosod ar y mur fel yn ein dyddiau ni, y mae wedi ei gosod oddimewn i'r mur, ac y mae golwg hynafol iawn ar y ffenestri i gyd. Mae grisiau y llofft wedi eu gwneyd o gerig, ac yn arwain o ymyl y tan i fyny gyda'r mur yn nhalcen y ty. Mae coed y llofft yn rhyddion, fel y gellir eu tynu a'u rhoi fel y gwelir yn dda, ac i gyd o dderw. Mae olion rhyw fath o fawredd o'i ddeutu hefyd. Rhwng y ty a'r Graig Goch y mae pantle lled ddwfn, ac afon yn rhedeg trwyddo; a chan fod y tir yn sych iawn fe ddarfu i rai o'r cyn-drigolion wneyd cynllun i ddyfod a dwfr o'r afon i ddyfrhau y tir. Fe wnaethant glawdd uchel, llydan, gan ei gychwyn dipyn i fyny yn nghyfeiriad y mynydd, a'r dwfr yn rhedeg mewn ffos ar hyd ei ben uchaf. Nis gellid gwneyd y clawdd rhwng y ty a'r afon, ac felly yr oedd yn rhaid gwneyd pont i arwain y dwfr drosti. Diau i'r cynllun hwn fod o wasanaeth i ddyfrhau y tir am amser maith; ond nid oes defnydd yn cael ei wneyd o hono er's llawer blwyddyn. Yr oedd y lle yn etifeddiaeth er's oesoedd, ac er cyn cof, i deulu y diweddar Mr. Richard Jones, Relieving Officer, Llangybi, yr hwn oedd yn llenor o gryn allu, ac y mae yn perthyn i'r teulu ar ei ol. Clywsom fod hen foneddwr yn byw yn y lle er's amser pell yn ol, a chanddo dair merch. Yr oedd yn berchen hefyd ar ddwy ffarm arall am y terfyn a'r lle, sef Bryn Marsli, a Thanyffordd. Dywedir iddo roddi un o'r ffermydd i bob un o'i ferched. Digon tebyg fod yr hen foneddwr hwn yn un o hynafiaid Richard Jones. Yr oedd Richard Jones yn fab i'r hen flaenor adnabyddus a dylanwadol hwnw, John Jones, y Glyn, blaenor yn hen gapel Bontfechan. Yr oedd ei dad yntau, Richard Jones, yn fab i John Prichard, Pantglas Ucha. Priododd Richard Jones â Mary, merch Robert Thomas, Graianog, Clynog, yr hon a gafodd Bantglas Ucha yn gynysgaeth ar ei phriodas, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1773. Mae yn bosibl mai hon oedd un o'r tair merch y cyfeiriwyd atynt. Feallai iddynt ddyfod i fyw i'r Glyn ar eu priodas. Pa fodd bynag, yno yr oedd efe er's llawer o flynyddoedd cyn ei farwolaeth, yn y flwyddyn 1816. Claddwyd ef yn mynwent Llanystumdwy, yn 82 oed; ac yno y mae beddrod y teulu, ac ar ei fedd ceir y geiriau hyn, "Richard Jones, Pantglas, Gent." Yr oedd yn arferiad yn yr hen amser i gysylltu enw dyn wrth enw y lle oedd yn etifeddiaeth iddo, ac nid wrth enw y lle yr oedd yn byw ynddo. Ar fedd ei dad ceir y geiriau hyn,—"John Prichard, Pantglas, Clynog; bu farw yn 1746, yn 52 oed " Oddiwrth dy Pantglas Ucha y cafodd pentref Pantglas ei enw, am mai ar ran o'r ffarm yr adeiladwyd y ty cyntaf yn y lle, sef Pantglas Inn, ac yr oedd y tir gynt yn cyraeddd i ymyl station Pantglas. Dyma y ty, sef Pantglas Ucha, yr agorodd Owen Owens ei lygaid gyntaf ynddo, a dyma yr olygfa y disgynodd ei lygaid gyntaf arni. Myn rhai fod y golygfeydd mae dyn yn eu gweled yn ei febyd a'i ieuenctyd yn gadael eu hol arno tra y bydd byw, ac i raddau helaeth yn ffurfio natur a nodwedd ei feddwl, a braidd na thybiwn fod hyn yn wirionedd am Owen Owens; yr oedd ol yr olygfa oedd o gwmpas Pantglas Ucha arno tra y bu fyw. Er fod llawer o'r digrifol yn ei natur, eto yr oedd llawer o'r pruddglwyfus hefyd ynddo. Yr oedd rhywbeth hefyd yn ei wynebpryd ac yn agwedd ei ysbryd ag oedd yn peri i ddyn feddwl ei fod wedi byw llawer yn mhresenoldeb yr ofnadwy a'r dychrynllyd. Mae yn dda genym allu cyflwyno i'r darllenydd ddarlun o'r amaethdy hynod a hynafol. Tynwyd ef gan orwyr i Evan Owen, brawd Owen Owens, sef Mr. J. R. Owen, Pantglas, Cenin, yr hwn sydd yn flaenor yn nghapel Bwlchderwyn, ac efe hefyd a dynodd y darluniau o Gors-y-wlad a chapel Bwlchderwyn.

Er fod yr ardal oddeutu adeg genedigaeth Owen Owens yn dra amddifad o foddion gras, gan nad oedd na Llan na chapel o fewn llai na thair i bedair milldir i'w gartref, eto yr oedd yma rai penau teuluoedd tra chrefyddol, megis ei dad a'i fam, a Hugh Hughes y Caerau, y rhai oedd yn aelodau gyda'r Methodistiaid yn nghapel Talygarnedd, Llanllyfni. Yr oedd Hugh Hughes yn flaenor, nid anenwog, yn y capel hwnw. Yr oedd efe o deulu goleuedig a Methodistaidd, gan fod ei briod yn chwaer i'r Parch. Richard Jones, y Wern; a bu y gwr enwog hwnw William Prichard, Glasfrynfawr, wedi hyny o Glwchdernog, Mon, yn briod a modryb iddo, chwaer ei dad, neu ei daid. Yr oedd yntau hefyd yn wr call, a hynod mewn duwioldeb. Dywedir mai hen wr bychan, yn tueddu at fod yn dew ydoedd. Yr oedd hefyd yn weithgar gyda chrefydd, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol, oblegid sefydlodd ysgol yn mynydd Llanllyfni, mewn lle o'r enw Ty'nyfron. Dywedir mai ei brofiad bob amser fyddai ei fod yn methu dysgu ei wers, sef ymwadu âg ef ei hun. Yr oedd hefyd yn un mawr iawn mewn gweddi. Yr oedd un o'i hen frodyr crefyddol mwyaf anwyl, sef un John Prichard, Penpelyn, yn glaf iawn unwaith, ac yn agos iawn i angau. A'i yntau yno bob dydd mewn pryder mawr i edrych am dano. Parodd hyn iddo nesau at Dduw mewn gweddi daer ar ran ei hen gyfaill, a theimlodd yn ei ysbryd fod Duw yn gwrando ei weddi. Dranoeth aeth i dy ei hen gyfaill a golwg pur siriol arno, gan ofyn i'r wraig pa fodd yr oedd ei phriod. "Gwael iawn, Hugh Hughes," meddai hithau, yr oedda ni yn ofni bob munyd neithiwr mai ein gadael a wnai." "Paid a thori dy galon Gwen bach," meddai yntau, "fe fendia i ti eto yn siwr ddigon." "beth sydd yn peri i ch'i feddwl hyny, Hugh Hughes?" "Wel," meddai yntau, "cefais sicrwydd gan fy Nhad nefol boreu heddyw, wrth weddio yn y beudy isaf, mai mendio a wna, a chred hyny Gwen bach." A'r diwrnod hwnw trodd John Prichard ar wella. Penill Hugh Hughes bob amser ymron a fyddai:—

"Ond atat boed fy nghri,
'Does arall ond tydi
All fy nghlanhau;
Mwy haeddiant dwyfol waed
Na'r pechod mwyaf gaed,
A chryfach cariad rhad
Na grym fy mai."


Yn ei weddi bob amser byddai yn daer am i'r Arglwydd dynu caerau annuwioldeb i lawr. A gofynai un bachgen i'w fam, un tro, wrth ddyfod o'r capel, "Mam," meddai, " paham y mae Hugh Hughes, y Caerau, yn gweddio am i'r caerau dd'od i lawr, ac yntau yn byw yno ei hunan?" Mae llawer o ddisgynyddion a pherthynasau i Hugh Hughes yn wasgaredig ar byd Arfon ac Eifionydd, y rhai sydd yn gyffredin i'w hadnabod wrth eu prydwedd tywyll a'u synwyr da, ac y mae llawer o honynt mewn amgylchiadau rhagorol. Bu efe farw Mai 19, 1838, yn 81 mlwydd oed.

Yr oedd yr efengyl yn cael ei phregethu gyda nerth a dylanwad mawr yn amgylchoedd cartref Owen Owens er's llawer o flynyddoedd cyn ei eni, megis yn Mrynengan, y Garn, Llanliyfni, a Chapel Ucha, Clynog. Yr oedd yma hefyd amryw o bobl o dduwioldeb a sancteiddrwydd mawr, fel y cyfeiriwyd. Ond eto tua'r adeg y ganwyd ef, a rhai blyn. yddoedd cyn ac wedi hyny, yr oedd yma dywyllwch, annuwioldeb, ac ofergoeledd mawr. Ychydig flynyddoedd cyn geni Owen Owens y bu "Martha'r Mynydd" yn chwareu ei phranciau twyllodrus yma, a hyny ryw ddwy filldir o'i gartref. Gallem feddwl i hyny gymeryd lle tua 1790—4. Gan fod Robert Jones, Rhoslan, yn "Nrych yr Amseroedd " yn rhoddi yr hanes yn ei ddull manwl, cywir, a dyddorol ei hun, credwn nas gallwn wneyd dim yn well na rhoddi yr hanes i mewn yma yn ei eiriau ef ei hun, gyda rhai ychwanegiadau. "Yr ynfydrwydd digywilydd hwn," meddai, "a luniwyd yn benaf gan wraig ymadroddus, rith grefyddol, a'i gwr hefyd o'r gyfrinach. Yr oeddynt yn byw mewn ty ar fynydd Llanllyfni (sef ty bychan yn agos i Benpelyn]. Dechreuasant hysbysu i amryw eu bod wedi cael cydnabyddiaeth a rhyw dylwyth a elwid Anweledigion. Yr hanes oeddynt yn fynegi am danynt sydd debyg i hyn—Eu bod yn genedl liosog, mawr eu cyfoeth, ac yn blith drafflith mewn ffeiriau a marchnadoedd gyda ni, ac nad oedd neb yn eu canfod ond y rhai oedd wedi ymroddi i fyned i'w cymdeithas. Yr oedd y gelyn diafol wedi llwyddo i beri i rai goelio y teithient hwy, eu meirch, a'u cerbydau, ar hyd yr eira hebi neb weled eu hol. Yr oedd y fenyw ddichellgar hon wedi cael gan ryw nifer gredu fod gwr bonheddig mawr yn byw yn agos i'w thy ar y mynydd, mewn palas godidog, gyda'i ferch, a'u henwau oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai cryn lawer o ynfydion, gan mwyaf o bell y byddent yn dyfod, i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, heb oleuni canwyll na fflam y tân, ond a gaid oddiwrth y marwor, canys ni allai y tylwyth anweledig oddef y goleuni. Weithiau deuai yr hen wr boneddig i bregethu iddynt ei hun, bryd arall y ferch a ddeuai mewn dillad gwynion. Ar ol treulio talm o amser cyn cael allan y twyll, digwyddodd i ryw ddyn cyfrwysach nag eraill o'r frawdoliaeth, graffu yn fanwl ac adnabod yn eglur mai gwraig y ty oedd yn dyfod atynt i'w twyllo, weithiau mewn dillad mab, bryd arall mewn dillad merch." Gelwid y dyn hwn wrth yr enw Guto Wirgast, yr hwn oedd wedi ameu er's tro mai twyll oedd y cyfan, a gwyliodd am ei gyfle i weled a oedd y pethau hyn felly. Digwyddodd i Martha losgi ei throed, a gwyddai yntau hyny. Ac un noson pan yr oedd Miss Ingram yn pregethu tu draw i'r wahanlen, yr hon a roddid bob amser rhwng y pregethwr a'r gwrandawyr, neidiodd marworyn o'r tân, a thafiodd oleuni ar droed llosgedig Martha, yr hyn a welid gan y dyn. "A gwaeddodd allan, 'Gwrandewch, bobl, ein twyllo yr ydym yn gael yn ddiamheuol! myfi a wnaf fy llw mai Martha yw hon.' Gyda hyn, aeth yn derfysg trwy y ty, a gorfu i'r creadur tlawd ddianc am ei einioes. Aeth y ddichell uffernol hon i warth, a chynifer oll a ufuddasant iddi a wasgarwyd; ac nid aethant rhagddynt yn mhellach, eu hynfydrwydd a ddaeth yn amlwgi bawb." Dywedir fod amaethwr ieuanc a chefnog o Fon, wedi ei lygaddynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, fel y cariodd ei holl eiddo i fynydd Llanllyfni i Martha, gan ddisgwyl iddi wneyd yn dda rhyngddo a Miss Ingram. Ac nid rhai o bell yn unig a dwyllid ganddi, ac nid rhai anwybodus a digrefydd ychwaith. Clywsom ei bod wedi siglo meddwl yr hen flaenor Hugh Hughes, y Caerau, am ysbaid. Bu tad y diweddar Barch. Richard Jones, y Wern, hefyd (Coedcaedu y y pryd hwnw), a dan ei ddylanwad am dymor; a bu raid i Richard Jones fygwth ei saethu os deuai yn agos i'r ty yno drachefn, cyn y bu i'w dad beidio rhoi ei ymddired ynddi; ac yr oedd John Prichard, oblegid dyna oedd enw tad Richard Jones, yn ddyn pur ddarllengar, ac yn dipyn o flaen o'i oes. Yr oedd hyn wrth gwrs, cyn i Richard Jones ddechreu pregethu, yr hwn a ddechreuodd yn y flwyddyn 1794, ac efallai cyn iddo ddyfod at grefydd. Nid ydym yn ystyried fod hyn yn unrhyw iselhad ar ei goffadwriaeth, yn hytrach, dengys ei fod er yn fachgen yn dangos yr un synwyr da, yr un gwroldeb, a'r un penderfyniad ag oedd yn ei nodweddu ar hyd ei oes. Iawn yw hysbysu i Martha ar ol hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a daeth yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Llanllyfni, a bu yn aelod gyda hwy hyd ddiwedd ei hoes. Cafodd fyw i fyned i oedran mawr, a diau fod amryw yn ardal Llanllyfni yn ei chofio, oblegid clywsom y diweddar Mr. William Griffith, Terfynau, yr hwn na fuasai eto ond 75 oed, yn dweyd ei fod yn ei chofio yn dda. Bu farw Martha Parry, oblegid dyna oedd ei henw yn gyflawn, Medi 20fed, 1836, yn 86 oed, a chladdwyd hi yn mynwent y plwyf, Llanllyfni. Mae hyn yn dangos fod tywyllwch ac ofergoeledd mawr yn ardal enedigol Owen Owens, hyd yn agos i'r amser y ganwyd ef.

bawd Cors y Wlad
bawd
Cors y Wlad

Nid oes ond rhyw filldir o ffordd o'r lle y ganwyd ac y magwyd Owen Owens, i'r fan lle y treuliodd weddill ei oes ynddo, sef Cors-y-wlad; ond y mae y ddau le yn hollol wahanol i'w gilydd o ran safle. Saif Cors-y-wlad ar lechwedd uchel, amlwg, noethlwm, a chorsiog, sydd yn rhedeg o fynydd y Bwlchmawr i lawr i'r wlad sydd islaw iddo. Cafodd y mynydd hwn el enw oddiwrth y bwlch mawr sydd yn y mynyddoedd rhwng y mynydd hwn a'r Graig Goch. Ffurfia y bwlch hwn hefyd fwlch mawr yn y mynyddoedd sydd rhwng Arfon ac Eifionydd, a thrwyddo y mae y rheilffordd yn rhedeg o Gaernarfon i Afonwen. Mae Cors-y-wlad i'w weled. ar y dde yn y pellder, ychydig cyn cyraedd gorsaf Pantglas, wrth fyned yn y cyfeiriad hwnw. Mae Pantglas Ucha ar y chwith o'r orsaf hono, ond nis gellir ei weled nes myned o fewn ychydig latheni iddo. Dyma lle y treuliodd Owen Owens ei oes faith o ddwy ar bymtheg a thriugain o flynyddoedd, ymhell oddiwrth na thref na phentref. Hwyrach fod hyn yn fantais i neillduolrwydd ei gymeriad ymddadblygu, heb gael ei atal gan ddim oddiallan iddo Pe buasai wedi treulio ei oes mewn ardal boblogaidd, diau na buasai llawer o'i neillduolion wedi cael chwareu teg i dyfu. Yma yr oedd fel pren yn tyfu mewn maes agored, a'i holl neillduolion fel cynifer o ganghenau yn ymddadblygu yn hollol naturiol, heb ddim i'w rhwystro. Yr oedd hen gymeriad arall Lodedig iawn yn cydoesi ag ef, y diweddar Barch. Robert Jones, Llanllyfni, yr hwn a dreuliodd oes faith fel yntau yn yr un ardal, ac o fewn ychydig filldiroedd i gartref Owen Owens. Syrthiodd llinynau Robert Jones mewn ardal boblogaidd, ond ni effeithiodd hyny nemawr arno ef. Yr oedd efe yn gymeriad mwy garw nag Owen Owens, ac felly mynai dyfu yn ei ffordd ei hun, er gwaethaf pob dylanwadau oddiallan iddo. Ond yr oedd Owen Owens yn fwy tyner, ac y mae lle i feddwl na buasai yn dal i gadw ei neillduolion pe buasai wedi treulio ei oes yn ardal boblogaidd Llanllyfni. Yr oedd y ddau er hyny yn gyfeillion mawr, ac yn gallu gwerthfawrogi doniau a neillduolion y naill y llall. Er fod Robert Jones o enwad arall, eto bu yn pregethu yn nghapel Bwlchderwyn lawer gwaith. Daeth Robert Jones hefyd i angladd ei hen gyfaill, a siaradodd fel efe ei hun yno.

Gan fod y bardd enwog, Robert ap Gwilym Ddu, wedi gwneyd cywydd prydferth, sydd yn rhoddi darluniad o'r ardal ynghyd a rhanau eraill o Eifionydd, tybiwn nas gallwn wneyd dim yn well na'i roddi i mewn yma yn gyflawn, ynghyd a'i nodiadau ar waelod y ddalen, er mai Saesneg ydynt. Er nad yw yr oll o'r cywydd yn cyfeirio at yr ardal hon, eto credwn fod yn resyn darnio cyfansoddiad mor odidog. Wele y cywydd yn dilyn:—

ANERCH YR AWEN,
Neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach.

Mor fwyn, fy llaw forwyn fach,
Yw dyfod at fin Dwyfach;
I'th gwrdd unwaith, gerdd enwawg,
Myfyrio, a rhodio rhawg;
Mynwn eistedd-mwyn osteg,
Ar fin dwr tir Eifion[1] deg;
Uwch Hengwm a'i gychwyngell;
Treiddio mae, trwodd ymhell;
Lli ei don sy'u lledanu.
Islaw i'r ddofn Seler ddu;[2]
Dyli' braisg, ar dal y bryn,
Yw'r mur dwr am war Derwyn.
Cyraedd y mae cainc arall
Oddi draw ei llaw i'r llall;
O dirt Nantcyll,[3] dewrwyllt don,
Hoff, enwog, ddysglair ffynon,
I'r họn fyth mae ryw hen fawl,
Ymddyg in' ddwr meddygawl.
Y drydydd gainc droadwy,
Eto i dd'od at y ddwy,
A'm ddirwyn mewn modd araf,
Yma rhed o Gwm[4] yr Haf.
Diferant wi! hyd forhallt,
Yn oer do, ar ro, o'r allt;
Ewyngroch gwrf o'r wengraig,
Yfwn fir o Afons faig;[5]
Dwyfach hygyrch ei defod,
Mwyn i fardd ar ei min fod;
Gwrando si ei phrif lifiant,
Diwael nerth, rhwng dwy ael nant;
Yn dirwyn i'r meithlyn mawr,
Yn araf o'i mwyn orawr;
Diymod myn ei damwain,
Berwawg hynt i i Abercain:[6]
Chwern droi, ymlithro i lawr,
Difeth law Cain a Dwyfawr

Mirain yw'r ddwy gymhares,
Er wna grym oerni a gwres
Difyr yw oslef Dwyfach,
A difyr yw ei dwfr iach;
Ar ei glan wiwlwys ganwaich,
Owain[7] a fu, awen faith,
Erys yn fyw, yr awen fad,
Hyd lenydd ei dylanwad;
Ymarllwys cerdd o'i merllwyn,
Bu lwys fab Elias[8] fwyn.
Minau, ydd wyf an anerch,
Cerdd dda yn ngwersyllfa serch;
Mewn cell, ar ei min y cair,
Cain awen yn cyniw air.
Cefais awr o ddistawrwydd
Uwch ei phen, i'r awen rwydd;
Awr fach, ymhlith oriau f'oes.
Fwynaf o oriau f'einioes;
Eilio, man byncio, mwyn bill,
Dan lawen wybren Ebrill;
Egor llais, wrth gwr y llyn,
Digymell ar deg emyn;
Tan gysgawdwydd. irwydd iach,
Mwyn dyfiant yn min Dwyfach;
Ac ednaint gwar, lafar lu,
Uwch ben oedd yn chwibianu;
Dolef ar gangen deiliog,
Oruwch dwr glân lle cân cog.
Difyr cael, dan dewfrig gwydd,
Rhoi auadl i'r awenydd;
A gwel'd islaw distaw don,
Araf deg rifedigion;
Amryw o bysg-mawr a bach,
Heigiant, nofiaut yn Nwyfach;
Cu amledd yn mhob cemilyn,
Ebyrth y deifr,-ymborth dyn:
Rhof fynych henffych i hon,
O'i chroywddwr chwareuyddion;
Dirioned ei raienyn,
Yw'r dwr glas ar dir y Glyn;[9]
Rhag bloedd trin, neu groes hinon,
A'i thaer hynt, fyth ni thry hon;
Arfau na dim ni orfydd
Ei gwar don tra gwawiio dydd;

Mwyn yw dod, i'r man y dêl,
Y dŵr iach, o dir uchel.
Yn ddadrwym a thi'n ddidroed,
I ble'r ai?-heb ŵyl erioed;
Byw redwr boreu ydwyt,
Rho osteg awr, ystig wyt;
Trwy'r môr hyd draw'r ymwri,
Os y dòn ni'th erys di.
O! yr afon ddofn, ryfedd,
I mi sy'n dangos fy medd;
O hyd y modd y rhedi,
Y rhed f'amser ofer i;
I foroedd byd anfarwol,
A'u dyli'n wyrth dialw'n ol.
Bid hawddamor, oror iach,
It' Eifion tra rhed Dwyfach;
Achlesa di, yma'n deg,
Y ferth anwyl, Frythoneg;
A nodda'n fwyn y ddawn fau,
Dufewnol yn dy fannu;
Da fo urddas dy feirddion,
Dros hir wedi yr oes hon;
Deled y beirdd fo'n dilyn,
Y dau gwell na'r Du a Gwyn;[10]
Medir İlwydd-mae dy wyr llen,
A thuedd at waith awen;
Wel bellach difyrach fydd
Mae'n llinyn mewn llawenydd.
Y nos sydd wedi neshau.
Er difyred fy oriau;
Tyred awen naturiol,
Arwain fi'n awr yw fy ol;
Da beunydd i'm diboeni;
O enaid fwyn na âd fi:
Beirdd diwael o'th gaffael gynt,
Prydyddion parod oeddynt;
Iawn yw'r swydd yn yr oes hon,
Ddal dydd a'th ddeiliadyddion;
Diau rhag y nos dywell
Dewis waith nad oes ei well:
Da morwyn, tyr'd i'm harwedd,
Enyd fach-o hyu hyd fedd;
Er y dim, na thor dymawr,
Pan nad yw ond penod awr;
Bydd wych bellach, Dwyfach deg,
Filur odiaeth yn ffloyw redeg;
Hyd farn dy ruad a fydd,
Trwy faenor tir Eifionydd;

Y dydd hwn sydd yn nesau,
Dwthwn dy osteg dithau,
Dwr unwaith, du oer enyd,
Dwfr barn a fu'n difa'r byd,
Daw dydd brawd, medd Duw awdwr,
Welw dân i ddileu y dwr."


PENOD III.
EI DEULU.

O deulu lled hynod.—Ei dad a'i fam ymysg hen Fethodistiaid cyntaf Talygarnedd, ger Llanllyfni. Hynodrwydd ei daid, Roger Thomas.—Yn berthynas agos o du ei fam i'r Parchn. John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; Cadwaladr Owen, &c. Ei frodyr, a'i berthynasau eraill.

NID dinod oedd Owen Owens o ran ei deulu ychwaith. Yr oedd ei dad a'i fam, Owen Roger, a Chatherine Robert, ei wraig, Pantglas ucha, ymysg yr hen Fethodistiaid cyntaf yn Llanllyfni, neu Talygarnedd, yn agos i Lanllyfni Ac yr oeddynt yn meddu ar nodweddion yr hen Fethodistiaid cyntaf, sêl i ddilyn moddion gras, a chysondeb i gadw y ddyledswydd deuluaidd. Gallem feddwl i Owen Roger, tad Owen Owens, gael ei eni a'i fagu yn Mhenbryn, ffermdy yn agos i gapel Pencoed, Eifionydd; a hen gartref y Parch. W. O. Jones, B.A., Lerpwl. Enw ei dad oedd Roger Thomas. Yr oedd Roger Thomas yn wr o wroldeb meddwl a nerth corphorol mawr, a hynododd ei hun fel un o ymladd wyr penaf ei oes. Mae beddrod Roger Thomas yn aros eto yn mynwent Llanarmon, Eifionydd; a'r argraff yn eglur arno. Bu farw yn y flwyddyn 1761, yn 43 oed. O du ei fam yr edd Owen Owens yn berthynas agos i'r tri brawd enwog, y Parchn. John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; a William Jones, gynt o Ryd-ddu, ac ar ol hyny o'r America; ac hefyd i'r Parch. Cadwaladr Owen, Dolyddelen. A chredwn ei fod yn lled debyg i'r diweddaf yn ei ben a'i wynebpryd,—gwyneb hir a lled gul, a gwallt trwchus, a hwnw wedi troi yn wyn pan yr oedd yn lled ieuanc; ac y mae llawer o berthynasau y naill a'r llall felly eto. Yr oedd Owen Owens yn gyfyrder i'r pedwar gwr enwog uchod. Robert Owen oedd enw taid Owen Owens, o du ei fam, a chredwn oddiwrth register eglwys plwyf Clynog, mai Lowri Michael[11] oedd enw ei nain, sef gwraig Robert Owen; ac yr oedd efe yn frawd i daid John a David Jones, a Chadwaladr Owen, o du eu mam, enw yr hwn oedd Richard Owen, yr hwn oedd yn byw yn Bertheos, Dolyddelen. A dywedir yn Nghofiant Cadwaladr Owen mai rhai o Feddgelert oeddynt, ac mai Owen Evan oedd enw eu tad. Yr oedd Richard Owen hefyd yn hen-daid i'r Parchn. Dr. David Roberts, Wrexham; Samuel Roberts, Bangor; John Williams, ieuengaf, Dolyddelen (yr hwn oedd yntau yn bregethwr melus a phoblogaidd, ond a fu farw yn ieuanc); D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam; a Griffith Owen, Rhosddu, Wrexham. A bu yr hen bregethwr hynod, John Williams, hynaf, Dolyddelen, yn briod â merch i Richard Owen, yr hon oedd yn chwaer i fam John Jones, Talysarn. Clywsom Mr. Owen Owens, Tyddyn y graig, blaenor yn Garn Dolbenmaen, a mabi Roger Owen, brawd Owen Owens, yn dweyd ei fod ef yn cofio clywed Cadwaladr Owen yn gofyn i'w dad ef, Roger Owen, yn nhy Capel-isaf, y Garn, a oedd efe yn cadw Jane yn y teulu, am mai Jane oedd enw mam Cadwaladr Owen. Bu i dad a mam Owen Owens nifer mawr o blant; ac efe oedd un o'r rhai ieuengaf, os nad yr ieuengaf oll. Y mae y Parch. Robert Owen, Tydraw, y Wyddgrug (gynt o Gadairelwa, a Dolwgan), yn fab i chwaer Owen Owens, ac felly ei fab, y Parch. William Owen, Webster Road, Lerpwl, yn wyr i chwaer iddo. Ac y mae yn hysbys fod Mr. Ellis Jones—Griffith, yr Aelod Seneddol ieuanc a gobeithiol dros Fôn, yn briod a merch i'r Parch. Robert Owen. Ac y mae gweddw Owen Owens, Mrs. Catherine Owen, a'i unig fab, Mr. Owen Roger Owen, yr hwn sydd i raddau helaeth yn ddelw o'i dad, yn aros eto yn Nghors-y-wlad; ac y mae efe yn flaenor yn yr un eglwys ag yr oedd ei dad yn flaenor ynddi, sef Bwlchderwin. Yr oedd i Owen Owens ddau frawd, Roger Owen, Tyddynygraig, ac Evan Owen, Tirdewin, y rhai oeddynt yn wyr tra chrefyddol; ac y mae llawer o'u disgynyddion yn yr ardaloedd hyn, y rhai sydd oll yn bobl tra chyfrifol. Ac y mae ŵyr i Evan Owen, y Parch. O. Roger Owen, yn weinidog adnabyddus gyda'r Annibynwyr yn sir Aberteifi Ganwyd Owen Owens, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn y flwyddyn 1800, a bedyddiwyd ef yn eglwys plwyf Clynog, Ebrill y 6ed, yn y flwyddyn hono. Fel yna ni raid i neb gywilyddio o'r cyff o ba un y tarddodd Owen Owens, nac o'r canghenau a darddodd o'r cyff hwnw. Ac nid oes eisieu dweyd wrth neb sydd yn gydnabyddus â'r teulu, fod callineb, talent, a dawn, yn gystal a chrefydd, yn rhedeg trwy ei holl ganghenau.

PENOD IV.
EI FEBYD A'I IEUENCTID.

Yn llawn bywyd, ffraethineb, a direidi o'i febyd.—Ei gyfrwysdra yn gochel cerydd ei dad.—Yn rhoi y lŷr ar y maen llifo.—Yn ateb ei dad yn ei coin ei hun.—Ei ardal enedigol yn amddifad o foddion gras.—Ysgol Bwlchderwin.—Arferion ieuenctid yr ardal—Yn ddi-barch i'r Sabboth.—Yn ddynion mawrion a chryfion.—Eu direidi.—Y bachgen a'r ceiliog.—Ysgol Taiduon yn dechreu.—Yn symud o'r naill dŷ i'r llall.—Y dull o'i chynal.—Cael ei chynal mewn cwt mochyn.—Yn foddion i wneyd daioni mawr er hyny.

DECHREUODD neillduolion cymeriad Owen Owens ddyfod i'r golwg ynddo yn ei fabandod,—pan yn blentyn, ac yn fachgen ieuanc iawn. Yr oedd yn llawn bywyd, direidi, a ffraethiweb er yn blentyn. Byddai yn berwi o ddigrifwch hyd yn nod y pryd hwnw. Yr oedd cyflymdra ei feddwl, hefyd, wedi dadblygu yn foreu iawn, ynghyd a'i graffder a'i gyfrwysdra. Yr oedd wedi gwneyd rhyw ddrwg unwaith, a'i dad yn myned i'w geryddu, a chymhwyso y wïalen ato. Dywedir fod ei dad yn dyfod ato a golwg pur fygythiol a mileinig arno, ac fel pe buasai yn benderfynol o roddi curfa iddo, y cofiai am dani yn hir. Ond syrthiodd Owen ar ei liniau o'i flaen, a gwaeddodd allan,—"Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn yma." Torodd ei dad allan i chwerthin ar unwaith, a methodd a gweinyddu y ddisgyblaeth angenrheidiol arno. Mae cyfrwysdra Owen Owens i'w weled yn hyn yn gystal a'i ffraethineb, a chyflymdra ei feddwl. Gwyddai y buasai hyn yn foddion effeithiol i ochelyd y wïalen. Fel pob mam, byddai mam Owen Owens yn cael cryn drafferth i gael gan ei phlant i fwyta yr ymborth a osodid ger eu bron. Traethai gryn lawer ar y pwys iddynt ddysgu bwyta pob peth a osodid o'u blaen, erbyn yr äent i fwyta ar fwrdd pobl eraill. Un diwrnod, ar giniaw, digwyddodd i ddarn o lŷr[12] ddyfod i ran Owen, a dangosai anfoddlonrwydd mawr i'w fwyta; ond dywedai ei fam fod yn rhaid iddo wneyd, cyn y cai ddim yn ychwaneg o ymborth. Yn bur fuan, gwelid Owen yn rhoddi y lŷr ar y maen llifo, ac yn troi cymaint ag y gallai, a gofynai ei fam iddo beth oedd yn ei wneyd. "Rhoi y lŷr yma ar y maen llifo," meddai yntau, 'mae rhyw obaith cael ymwared ag o fel hyn;" gan awgrymu fod yn rhaid cael danedd ac ystumog fel maen llifo i'w gnoi a'i dreulio. Dywedodd ei dad wrtho un diwrnod, pan yr oedd yn blentyn lled ieuanc,—"Owen, dos i nol y gyllall wair i mi." "Lle mae hi?" meddai Owen "Yn y pot llaeth," meddai y tad, yn lled goeglyd. Aeth yntau yn syth ac i'r tŷ llaeth, a chododd y llechan oedd ar y pot llaeth, a daeth yn ol ar unwaith. "Mi fum i yn edrych y pot llaeth, a 'doedd hi ddim yno," meddai. Er nad oedd ond plentyn, yr oedd, yn ol y gorchymyn Dwyfol, yn ateb yr ynfyd yn ol ei ynfydrwydd; a diau iddo ddysgu gwers i'w dad, y cofiodd am dani am hir amser. Atebodd ef yn ei coin ei hun, fel y dywedir. Mae yn amlwg oddiwrth yr hanesyn hwn, fod ei dad hefyd yn llawn ffraethineb, fel yntau.

Yr oedd yr ardal lle y ganwyd ac y magwyd Owen Owens ynddi, ochr Nantcall a Nant-y-Cwmbran, yn hynod o amddifad o fanteision crefydd ac addysg y pryd hwn. Nid oedd capel nac eglwys o fewn llai na thair i bedair milldir i'w gartref: y Garn ar un llaw, a Brynengan ar y llaw arall; Llanllyfni mewn un cyfeiriad, a Chapel uchaf, Clynog, mewn cyfeiriad arall. Yr oedd Ysgol Sul fechan yn ardal Bwlchderwin, ond yr oedd yn hynod o wanaidd ac eiddil. Yr oedd mor wan fel y byddai yn darfod yn hollol am dymor, ac yna yn dyfod i'r golwg drachefn. Ac er fod ambell un o benauteuluoedd yr ardal yn aelodau yn Llanllyfni, yr oedd yr ieuenctid yn tyfu i fyny yn hynod o ddigrefydd ac annuwiol. Yr oedd lliaws ohonynt yn ddynion mawrion, cryfion, ac esgyrnog, oddeutu dwy lath o daldra, megis, Owen Owens a Roger Owen, ei frawd; meibion Nantcall-uchaf, Nantcall-ganol, Nantcall-isaf, Tanyffordd, a lliaws eraill. Yr oeddynt yn ymroddi i oferedd, a champau gwag ac ofer. Nid oedd ganddynt unrhyw barch i'r Sabboth. Ymgasglent at eu gilydd ar y Sabboth i ddilyn rhyw oferedd, a chwareuon, ac i wneyd pob math o gampau gweigion. Un Sabboth aethant i weled gwaith hwn a'r llall yn aredig. Wedi gweled fod un cymydog yn ddiffygiol iawn mewn darpariaeth i aredig,—у ceffyl yn wan, a'r aradr yn wael,—beth a wnaethant ond myned ati i aredig. Daliai un yr aradr, ac yr oedd y lleill yn ei dynu. A dywedir iddynt aredig darn helaeth o gae y Sul hwnw, heb yr un anifail. Yr oeddynt yn ddynion cryfion anghyffredin. Ac yr oeddynt yn hoff iawn o wneyd ryw ddireidi a chastiau cellweirus. Yr oedd yno un pur ddiniwed yn eu mysg, o'r enw J—— T——, yr hwn oedd hefyd yn un pur orchestol, fel y dywedir Nid oedd ei olygon yn dda, yn enwedig ymhell oddiwrtho. A hoff hyfrydwch y bechgyn eraill oedd gwneyd ryw fân gastiau âg ef. Yn y dyddiau hyny holl fryd pobl ieuainc oedd ymryson mewn gwneyd rhyw fath o gampau. A rhagori yn y pethau hyny oedd holl uchelgais pob dyn ieuanc. Yr un modd ieuenctid yr ardal hon, yr oeddent yn llawn o'r un ysbryd. Ac nid oedd neb yn fwy felly na J—— T——. Gan fod y lleill yn llawn direidi rhoddai hyn fantais iddynt arno. Byddai ganddynt ryw gampau yn feunyddiol, yn y rhai y mynai y naill a'r llall ragori. Un camp neillduol oedd yr hyn a elwid ganddynt yn 'enill ei bedolau.' Ac yr oedd gwneyd hyn oddiar le uchel yn orchestwaith anarferol. Yr oedd gwneyd hyn oddiar drawst cwpwl yr ysgubor yn un o'r gorchestion penaf. Yr oedd J—— T——yn llawn awydd am ragori yn y peth hwn. Ai i fyny ar y trawst, tra y byddent hwythau yn ei ganmol, ac yn ei anog i fyned ymlaen. Ond chwareu teg iddynt, byddent yn gofalu am roddi gwellt ar y llawr o dan y lle y byddai y camp yn cael ei wneyd, rhag iddo gael niwed. Ond diwedd yr ymdrechfa bob amser fyddai i J—— gael codwm i'r gwellt; a byddai y lleill y pryd hwnw wedi cyrhaedd eu hamcan, a mawr fyddai y crechwen yn eu plith. Mynych y byddai Owen Owens, ar hyd ei oes, yn tynu gwersi oddiwrth ryw bethau fyddai wedi eu gweled ymysg ei gyfoedion pan yn fachgen ieuanc. I ddangos fel y mae arferion boreu oes yn glynu mewn dyn ar ol tyfu i fyny, dywedai am un o'i gyfoedion oedd yn dra hoff o ffeirio a bargeinio pan yn fachgen, yr hyn oedd wedi glynu ynddo ar hyd ei oes, nes yr oedd wedi myned yn hynafgwr. Yr oedd y llanc hwnw yn dra hoff o ffeirio a newid ceiliogod, ymysg pethau eraill. Ac un boreu daeth i Bantglas-ucha a cheiliog o dan ei gesail. Gwelai Owen Owens yn eistedd ar gyfer y drws. Yr oedd Owen Roger, tad Owen Owens, yn cadw dyledswydd deuluaidd pan y daeth at y drws. Ac heb feddwl beth oedd yn myned ymlaen, aeth y bachgen i mewn i'r tŷ, a thaflodd y ceiliog ar y llawr, gan ddweyd, 'd-d-ddyna i ti Owen beth ydi ceiliog iawn.' Yr oedd tipyn o ataldywedyd ar y bachgen. A chanodd y ceiliog yn y fan, ar ganol y llawr, a hyny pan oedd Owen Roger wrthi yn darllen. Gallem chwanegu rhai pethau eraill o'r un natur a'r uchod, ond efallai fod hyn yn ddigon. Prin hwyrach y mae y pethau uchod yn werth eu hadrodd, ond fel y maent yn dangos agwedd pethau yn y dyddiau hyny, a'r hyn oedd yn myned a bryd pobl ieuainc yn yr oes hono.

Cyn hir ar ol dechreu cynal Ysgol Sabbothol yn Mwlchderwin, dechreuwyd cynal un yn nes i gartref Owen Owens, yn ardal Nant-y-Cwmbran a Nantcall. Mewn tai y dechreuwyd ei chynal; a byddai yn dyfod yn ei thro i Bantglas-ucha, cartref Owen Owens. Yn Nghwmbran y mae cof am dani gyntaf; bu hefyd yn Brynmarsli, Tanyffordd, a Thaiduon. Byddai rai misoedd yn un o honynt, ac yna symudid hi i un arall. Nid oedd rhai o'r tai hyn ond bychain a thywyll; ac nid oedd ynddynt na meinciau nac eisteddleoedd. Weithiau, eisteddent ar ben hen brenau mawnog, a phryd arall, gosodent blanciau i fyny, fel eisteddleoedd. Ac ar adegau, byddai y rhai hyn yn tori, neu ynte yn colli eu gafael, nes y byddai y rhai fyddai yn eistedd arnynt yn syrthio yn bendramwnwgl i'r llawr. A byddai hyn yn codi ysgafnder a chwerthin mawr drwy y lle ar y pryd. Caed meinciau pwrpasol ar ol i'r ysgol fyned i Taiduon. A daeth yn fwy llewyrchus, drwy fod y ty yn helaeth, goleu, a chyfleus; ac yma y bu am tuag ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd ysgoldy Taiduon. Byddai y plant yn hynod o afreolus yn y tai hyn. Clywsom Owen Owens yn dweyd y byddent yn ymladd law-law ar adegau, a gollyngid hwy allan i orphen yr ymladdfa; yna, deuent yn ol, ar ol gorphen, i'r ysgol drachefn. Byddai brodyr o Fwlchderwin, y Garn, a Llanllyfni yn dyfod i'w chynal yn eu tro. Yr oedd un 'Thomas Robert, y Teiliwr, Bwlchderwin, yn selog a ffyddlon iawn yn dyfod yma. Yr oedd un bachgen yn hynod afreolus un Sabboth, a gofynai Thomas Robert mewn tymer pur wyllt,—"Beth ydyw ryw hyfr gwyllt o'r goedwig fel hyn?" Yr oedd rhyw greadur annuwiol, a barbaraidd yr olwg arno, yn y Garn, a fyddai yn myned o gwmpas y wlad i ffeirio watches &c. Byddai yn dilyn y gorchwyl hwn 'Sul, gwyl, a gwaith,' heb wneyd un gwahaniaeth mewn dyddiau. Un Sabboth, heb wybod dim am yr Ysgol Sul oedd yno, daeth i mewn i ganol tŷ Taiduon, ac er ei syndod a'i fraw, gwelai lonaid tŷ o bobl a phlant. Ciliodd yntau allan heb ddweyd nemawr air wrth neb. Dywedai Owen Owens, yn ei ddull ffraethbert a chartrefol ei hun, ei fod ef yn cofio ysgol Taiduon mor isel, fel yr oedd yn cael ei chynal mewn cwt mochyn. Ac felly y bu. Yr oedd dau neu dri wedi dyfod iddi un Sabboth pur anghyfleus oblegid oerni, neu wlybaniaeth, neu rywbeth. Ac wrth gerdded oddiamgylch, gwelent gwt mochyn yn llawn o wellt. Ac meddai y naill wrth y llall,—"Dyma le brâf i ddarllen." Gorweddodd y ddau yn y gwellt, a dechreuasant ddarllen. Ac yn y fan hono y caed hyny o ysgol a gaed y Sabboth hwnw.

Dyma yr unig foddion crefyddol o fath yn y byd oedd o fewn cyrhaedd i Owen Owens, pan yr oedd yn fachgen o wyth i ddeuddeg oed; oblegid yr oedd o dair i bedair milldir i'r capel agosaf iddo, fel y cyfeiriwyd o'r blaen. Ond—er mor syml, gwledig, annhrefnus, ac aflywodraethus oedd yr ysgol hon, bu yn foddion i roddi cychwyniad yn yr iawn gyfeiriad i rai dynion rhagorol, y rhai a fu o wasanaeth mawr i grefydd yn yr ardaloedd hyn am amser maith; megis Owen Owens a Roger ei frawd, yr hwn a fu yn arwain y canu yn y Garn am lawer o flynyddoedd, ac yn un blaenllaw iawn gyda'r achos yn y lle hwnw; Mr. Owen Humphreys, gynt o'r Gesail, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlawn am flynyddau lawer yn Bethel a Chriccieth, yr hwn hefyd a gafodd hir-ddyddiau ar y ddaear, i weled a gwneuthur daioni; ynghydag eraill nas gallwn eu henwi. Ond er nas gallwn ni eu henwi, diau fod eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen. "Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain?" Pa faint o ddaioni a wnaed mewn canoedd o leoedd fel hyn, yn y ffordd syml yma, yn Nghymru, yn yr amser a basiodd, y dydd mawr diweddaf yn unig a'i dengys.

PENOD V.
EI DROEDIGAETH.

Diwygiad Beddgelert.—Yn dechreu gyda phregeth Rhisiart William, Brynengan—Y Parch. R. Ellis, Ysgoldy, yn rhoddi yr hanes.—Nad oedd J. Elias yn pregethu yn Nhremadog yr un adeg—Mr. Ellis yn rhoddi hanes y seiat gyntaf ar ol y bregeth.—Effeithiau rhyfedd yn yr Ysgol Sabbothol—Y diwygiad yn dechreu yn Eifionydd yn y flwyddyn 1818.—Pregethwyr grymus yn codi—Henry Rees, John Jones, Talysarn, &c.—Y diwygiad yn ardaloedd Pencaenewydd, Fourcrosses, a Brynengan.—John Williams, Llecheiddior, o dan ddylanwadau cryfion, ac yn gorfoleddu—Evan Richardson yn pregethu yn Mrynengan.—Owen Owens yn cael troedigaeth o dan bregeth John Humphreys, Caernarfon, yn Mrynengan.—Yn gweddio mewn corlan drwy y nos.—Ychydig o hanes John Humphreys.—Adgofion y Parch. David Williams, Conwy, am dano.

OND pan yr oedd Owen Owens a'i gyfeillion ieuainc annuwiol yn myned ymlaen yn eu hoferedd, a phan yr oedd efe yn ddeunaw mlwydd oed, daeth diwygiad grymus i'r wlad, y diwygiad mwyaf grymus a fu erioed yn Nghymru, sef yr un a elwir yn "Ddiwygiad Beddgelert," am mai yn y lle hwnw y dechreuodd. Yr oedd wedi dechreu yno yn y flwyddyn 1817, gyda rhyw nerth dwyfol ac anorchfygol. Ar nos Sabboth yn mis Awst yn y flwyddyn hono y dechreuodd, gyda phregeth yr hen bregethwr syml hwnw, Rhisiart William, Brynengan, ar Ioan vi. 37, "A'r hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." Rhoddodd y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, ddarluniad byw ac effeithiol iawn o'r bregeth fythgofiadwy hono; a chredwn na ddigia y darllenydd wrthym am ei roddi i mewn yma. Fel hyn y mae:

"Y nos Sabboth dan sylw, dyna drigolion y nentydd a'r cymoedd cyfagos, a rhai o'r pentref, yn cyfeirio tua hen ffermdŷ Hafod y Llan. Gan fod yr hin yn hyfryd, mae pawb yn hen ac ieuanc yn codi allan; nid yn gymaint er clywed yr hen frawd o Brynengan yn pregethu, oherwydd meddwl cyffredin iawn oedd ganddynt o'r pregethwr ac o'i bregethu, eithr peth dymunol gan drigolion cymoedd anghysbell a fyddai cyfleusdra fel hyn i weled eu gilydd. Mae yr hen ffermdŷ yn llawn; ciliai y rhai ieuainc a difeddwl i'r siamber a'r tŷ llaeth, ac i rywle o'r golwg. Safai Richard Williams ar fainc wrth y bwrdd mawr yn y gegin, a bwrdd bychan crwn ar hwnw, er ffurfio math o bulpud at ddal y Beibl. [Mae yr hen dŷ a'r gegin yn aros eto, megis cynt, a'r ysmotyn lle y safai yr hen bregethwr. Safai, mae yn ddiau, yn y pen nesaf i'r tân i'r bwrdd, er mwyn bod mewn lle cyfleus i'r gynulleidfa i'w weled a'i glywed]. Mae yn dyfod drwy y dechreu yn fyr a hwylus; mae y canu a'r gweddio yn gafael. Mae pobpeth yn addaw y caiff yr hen frawd bregeth rwydd. Ond cyn pen y chwarter awr, y mae yma rywbeth rhagor na rhwydd. Mae nerthoedd y byd a ddaw—"y peth yma" y galwai Pedr ef yn ymdywallt ar y pregethwr a'i wrandawyr—mae yn ddifrifol! mae yn ofnadwy! Ei ddesgrifio nis gellir. Er mai Richard Williams sydd yn llefaru, eto, rywfodd, nid ei leferydd ef ydyw; nid ei lais ef yw y llais, na'i ddawn ef yw y dawn, ac nid ei bregeth ef chwaith yw y bregeth! Yr oedd gan yr hen bregethwr ei bregeth ar y testyn; yr oedd wedi ei phregethu, mae'n debyg, lawer gwaith o'r blaen. Yr oedd ei sylwadau yn hyddysg i'w feddwl; a'r hen bregeth hono a fwriadai bregethu y tro hwn. Ond nid yr hen bregeth hono sydd yn dyfod allan, eithr rhyw bregeth newydd hollol nad oedd ganddo ddim o honi o'r blaen, ac nas gallodd gael gafael ar ddim o honi drachefn. Cenadwri Duw am y tro ydoedd. Mae rhyw UN ARALL yn llefaru wrth gydwybod y gynulleidfa, ac mae yr hen bregethwr wedi colli ei hun yn hwnw! Dywedai Richard Williams ar ol hyn, ei fod yn petruso ar y pryd, pa un ai efe oedd yn pregethu, ynte gwrando yr ydoedd ar rywun arall. Wel, mae pawb wedi eu meddianu gan ddifrifwch a dychryn. Mae y bobl ieuainc a gwamal oedd wedi cilio i'r siamber a'r tŷ llaeth wedi eu dal gan ddychryn y farn; tybiant mai angel ac nid dyn sydd yn llefaru. A'r hyn oedd yn hynod, yn ol fel ein hysbyswyd: yr oedd y lliaws wedi eu meddianu gan ormod o ddychryn i wylo. Ac ni waeddodd neb chwaith. ond un gwr ieuanc, William Roberts, y Clogwyn, fel yr adwaenid ef wed'yn. Ac o'i enau ef yn benaf y cawsom yr hanes, a hyny ragor nag unwaith. Addefodd iddo yn ei ddychryn waeddi yn groch, ond ni ddywedodd wrthym pa beth. Mae yr hen bregethwr, er wedi colli ei hun, yn diweddu trwy ryw lun o weddi. Mae yn rhoddi penill allan i'w ganu; ac os yw ein hadgof yn gywir, dywedodd William Roberts fod y lliaws wedi eu meddianu gan ormod o ddifrifwch i ganu, ond pawb yn prysuro ymaith mewn distawrwydd a dychryn. Ni ddywedai neb air y naill wrth y llall ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau wrth fyned adref, nac ar ol myned, ond a fyddai raid. Nos Sabboth ddigwsg a fu y noswaith hon i amryw. A'r un distawrwydd prudd oedd i'w gael hyd y cymoedd hyn dranoeth. Dydd Llun tywyll ydoedd i lawer; mater enaid wedi llyncu pobpeth iddo ei hun, a'r wawr eto heb dori."

Dywed Mr. Ellis fod John Elias yn pregethu yn Nhremadog y nos Sabboth hwnw; ac y mae hyn wedi ei adrodd lawer gwaith cyn ac wedi hyny; ond nis gall fod yn wir. Nid oes hanes i Mr. Elias bregethu ond unwaith yn Nhremadog y flwyddyn hono, a hyny ar y Sabboth olaf yn mis Tachwedd. Cofnodai Mrs. Jones, priod y diweddar Barch. John Jones, Tremadog, bob pregeth a draddodwyd yno am lawer o flynyddoedd, a hyny gyda'r manylwch a'r cywirdeb mwyaf; ac y mae yn sicr na buasai yn anghofio pregeth i John Elias. Gwelsom hefyd lawer o ddyddlyfrau Mr. Elias, ac nid oes cyfeiriad ynddynt ei fod wedi bod yn Nhremadog tua'r adeg uchod. Clywsom y diweddar Barch. Ddr. Owen Thomas yn dweyd ar bregeth er's llawer o flynyddoedd yn ol yn Sasiwn Pwllhel', sef yn y flwyddyn 1861, mai Robert Sion Hugh oedd yn pregethu yn Meddgelert y Sul yr oedd John Elias yn pregethu yn Nhremadog. Dyna hefyd y traddodiad yn ardal Beddgelert, yn ol barn y bobl y gellir rhoddi mwyaf o bwys ar eu barn a'u côf.

Mae y fath swyn yn yr hanes fel y rhoddir ef gan Mr. Ellis fel yr ydym yn cael ein tueddu i roddi dau ddyfyniad chwanegol. Y cyntaf sydd ddarluniad o'r Seiat gyntaf ar ol y bregeth uchod:

"Rywbryd yn yr wythnos ganlynol, cynhelid cyfarfod eglwysig yn y capel yn y pentref. Er fod yno dri lle i bregethu, nid oedd yno ond un cynulliad eglwysig, a chynhelid hwnw y pryd hyny yn y dydd. Yr oedd y byd hwn eto heb lwyddo i hel yr hen 'seiat brofiad' i'r nos. Eisteddai y ddau hen flaenor, Rhys Williams, Hafod y Llan, a William Williams, Hafod y Rhisgl, yn y tŷ capel i aros y dechreu; yr oedd eu ffordd hwy ymhell, ac felly deuent yn brydlawn. Ac yn wir, felly y ceir hyd heddyw: y rhai pellaf a fydd y rhai prydlonaf. Yr oedd William Williams yn ddyn prysur. Mae yn myned, ac yn brathu ei ben i'r capel i weled a ddaethai y cyfeillion ynghyd, er mwyn cael dechreu y cyfarfod. Mae yn dyfod yn ol yn sydyn, ac yn dywedyd wrth ei frawd, 'Yn siwr dda, mae y bobl wedi camgymeryd: maent yn disgwyl am bregeth; mae'r capel yn llawn, mae pobl y plwyf i gyd yma,' gan olygu, mae'n debyg, pob math ar bobl, a phobl nad oedd neb wedi meddwl eu gweled mewn seiat byth. Bid a fo, aeth y ddau flaenor i mewn, a mawr eu syndod: yn lle rhyw ddyrnaid wedi ymgasglu, fel y byddai arferol drwy y blynyddoedd, yr oedd y capel yn rhwydd lawn. Nid oedd dim i'w wneyd ond hwylio rhyw frawd i ddechreu'r cyfarfod. Caed hamdden i ddarllen rhyw gyfran o'r Beibl, yna rhoed penill allan i'w ganu. Gyda llaw, mae rhywbeth mwy toddiadol a swynol wedi bod o oes i oes yn nghanu Beddgelert nag yn un man y gwyddom am dano. Pa un oedd y penill a genid ar ddechreu y cyfarfod hynod hwn, ni chlywsom. Ond tybiwn mai rhyw benill llawn o efengyl ydoedd, fel y mae genym gyflawnder yn ein hiaith. Wrth ganu y penill, mae yr argae yn tori yn un floedd fawr! Erbyn deall, llon'd capel o ddynion ar ddarfod am danynt oedd yno. Nid oedd ar y teimladau cynhyrfus a derfysgai oddifewn ond eisiau rhyw agorfa i dori; a rhoes y syniad o obaith, a geid yn y penill a genid, y rhyddid hwnw iddynt. Rhyfeddol fu y canlyniad! rhai yn llefain am drugaredd—rhai yn gorfoleddu wedi derbyn ymwared—rhai yn gweddio—rhai yn canu—pobpeth yn blith draphlith—neb yn gofalu—neb yn meddwl am drefn! Trefn yn wir! dan ddylanwadau mor nerthol a hyn! rhaid i Meistar Trefn gadw draw am dro. Aeth y newydd am y cyffro yn y capel yr ebrwydd drwy y pentref, ac o dŷ i dŷ o gwm i gwm trwy y fro, a phawb yn prysuro i'r lle, a phawb yn syrthio i afael yr un dylanwad cyffrous. Yn hwyr y dydd, neu yn hytrach yn hwyr y nos, mae y rhai mwyaf pwyllog yn llwyddo i hwylio eu cyfeillion mwy cynhyrfus tuag adref. Bellach, mae y gorfoleddu oedd yn y capel yn ymdaenu i wahanol gyfeiriadau, hyd y ffyrdd a thrwy y cymoedd. Mae adsain y gorfoleddu yn cael ei gymeryd i fyny hefyd gan hen greigiau oesol y Wyddfa, y naill graig yn ymryson i ateb i'r llall. Gwaith newydd a dieithr iawn i'r hen greigiau tragwyddol hyn oedd cael y cyfle hwn i gymeryd rhan yn nghlodforoedd eu Creawdydd! O! na chaent ei gyffelyb drachefn."

Y dyfyniad arall y cyfeiriem ato sydd yn cynwys hanes ryw effeithiau rhyfedd a ddisgynodd ar yr Ysgol Sabbothol yn fuan ar ol y digwyddiadau blaenorol. Digwyddodd yr hyn y cyfeiriwn ato yn y mis dilynol, sef yn mis Medi. Dywed Mr. Ellis i hyn ddigwydd o flaen y bregeth; ond nis gall hyny fod yn wir; a rhaid dweyd hefyd fod Mr. Ellis yn lled ddiofal gyda'i ddyddiadau, yr hyn sydd yn bwysig iawn mewn hanes. Ysgrifenodd John Jones, yr hen flaenor hynod o Feddgelert, hanes y diwygiad i Oleuad Cymru, yn fuan ar ol iddo fyned heibio, a dywed efe mai yn mis Awst yr oedd y bregeth. Ac y mae lliaws yn fyw yn ardal Beddgelert yn gwybod yn dda mai y Sul o flaen ffair a gynelid yn Meddgelert yn mis Medi y digwyddodd yr hyn a gymerodd le yn yr Ysgol Sabbothol. Fel hyn y mae Mr. Ellis yn adrodd yr hanes yn ei ddull tarawiadol ei hun:

"Yr oedd yno ferch ieuanc grefyddol yn athrawes ar ddosbarth o ferched ieuainc. Wrth ddarllen y penodau diweddaf yn efengyl Ioan, daeth rhyw wylo rhyfedd arnynt oll; nis gallent fyned ymlaen gyda'u darllen gan wylo. Peth go hynod, onide, mewn dosbarth o ferched ieuainc yn yr Ysgol Sul! Yn y diwedd yr oedd brawd, Richard Roberts, Caeygors, wrth ei enw, yn holi yr ysgol [ar y seithfed benod o'r Hyfforddwr]. Yr oedd gan y brawd hwn deimlad gwresog a dawn ystwyth. Ar ddiwedd yr holi, yr oedd yn rhybuddio y bobl ieuainc i ymddwyn yn weddaidd mewn ffair oedd i fod yn Beddgelert yr wythnos ganlynol. Ac wrth ddweyd a dweyd, disgynodd rhywbeth arno ef a'r holl ysgol. Daeth ar draws y llinell hono o ryw hen benill, 'Mae'r afael sicraf fry.' Ac a'i ddawn ystwyth a'i deimlad gwresog, chwareuai ar y gair 'fry.' 'Oddi fry y daw pobpeth o werth i ni—oddi fry y daw y goleuni, y gwres, a'r gwlaw—oddi fry y daw bendithion iachawdwriaeth i'r ddaear—o'r uchelder y mae Duw yn tywallt ei Ysbryd; dyma obaith am ddynion caled Beddgelert. Os ydyw yn dywyll yma, mae yn oleu fry; os yn wan yma, mae yn gadarn fry.' Gyda'i eiriau yr oedd rhywbeth mor ddwys, mor rymus, yn disgyn ar yr holl ysgol, yn hen ac ieuainc, fel y gwelid pawb yn tori allan i wylo. Mor rymus oedd y dylanwad, nes yr oedd y plant mewn dychryn; rhedai un bachgen bychan at ei dad a llefai, 'Nhad anwyl, dyma ddydd y farn wedi dyfod.' Wyło dwys a distaw oedd yn llenwi'r lle. Dywedir na thorodd neb allan mewn llef gorfoledd ar y pryd ond y llances a nodwyd."

Yr ydym yn tueddu i feddwl mai yn y flwyddyn ganlynol, sef yn y flwyddyn 1818, y daeth y diwygiad yn ei nerth i ardal Owen Owens, ac i'r capel y cyrchai efe iddo, sef Brynengan. Ond pan ddaeth, yr oedd yr un nerth ynddo yn Mrynengan ag oedd yn Meddgelert. A buan y daeth yntau o dan y dylanwadau rhyfedd,—dylanwadau a wnaethant eu hol arno tra y bu byw. A llawer o wyr ieuainc eraill oddeutu yr un oedran ag ef, a fedyddiwyd yn helaeth a'r un dylanwadau, y rhai a ddaethant ar ol hyny yn brif bregethwyr Cymru am lawer o flynyddoedd, megis y Parchn. Henry Rees, John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; Cadwaladr Owen, John Williams, Llecheiddior; Moses Jones, Robert Owen, Rhyl, &c. Yr oedd tân y diwygiad hwn yn aros yn ysbryd y gwyr hyn hyd ddiwedd eu hoes. Nis gallwn yma lai nag adgoffa sylw hen amaethwr hynod o Fôn, y diweddar Mr. Griffith Jones, Cefn Mosoglan. Yr oedd efe wedi ei eni a'i fagu yn ardal Clynog, a dywedai ei fod yn cofio llawer o hen dduwiolion yr ardal hono oeddynt yn cydoesi a'r pregethwr hynod, Robert Roberts. "Yr oedd rhyw grac effeithiol ynddy' nhw i gyd," meddai. Felly y gellir dweyd am y pregethwyr, y blaenoriaid, a'r crefyddwyr, a gychwynasant gyda chrefydd yn niwygiad Beddgelert, "Yr oedd ryw grac effeithiol ynddy' nhw i gyd." Ac felly Owen Owens. Ond dweyd yr oeddym, mai yn y flwyddyn 1818 y daeth y diwygiad yn ei rym a'i nerth i ardaloedd Eifionydd, ac oddeutu cartref Owen Owens. Ond yr oedd yr un dylanwadau yn ei ganlyn yn yr ardaloedd hyn ag yn Meddgelert. Gellir cyfeirio at ardaloedd Pencaenewydd, Fourcrosses, a Brynengan, mewn modd arbenig. Yr oedd John Williams, Llecheiddior, y pryd hwn yn ardal Pencaenewydd; a dyma yr adeg y cafodd ei argyhoeddi Ac y mae hanes ei argyhoeddiad yn dangos fod rhyw nerth rhyfedd yn y weinidogaeth ac yn y moddion ar y pryd. Dywedir ei fod mewn odfa yn ysgoldy y lle hwn yr adeg yma, a ffroc lian laes am dano. Fel yr oedd y pregethwr yn myned rhagddo defnyddiai odreu ei ffroc i guddio ei wyneb a sychu ei ddagrau. Yna dechreuodd waeddi, "O! O!," fel pe buasai y poenau mwyaf dirdynol wedi ymaflyd ynddo. Ai yn wysg ei gefn gan waeddi, nes y syrthiodd yn nghongl yr ysgoldy, pan y daeth un o'r brodyr ac a ymaflodd yn ei law i'w gyfodi. Neidiodd yntau i fyny, gan waeddi,"Bywyd newydd yn angeu Mab y dyn! bywyd newydd, bobol anwyl." Byddai cyfarfod gweddi yn rhywle bob nos ar y pryd, a mynych y byddai yntau yn gwaeddi, nid yn unig yn y cyfarfod, ond hefyd parhai i waeddi ar hyd y ffordd adref. Dechreuodd weddio yn y cyfarfodydd hyn ar unwaith. Un tro aeth yn dywyll iawn arno, fel y methodd a dweyd ond ychydig iawn o eiriau. Yna cododd oddiar ei liniau, ac eisteddodd a'i ben i lawr, a golwg hynod ddigalon arno hyd ddiwedd y cyfarfod Ar y diwedd pa fodd bynag, goleuodd ar ei feddwl; neidiodd yntau ar ei draed gan waeddi,—"Bendigedig byth am un wawr eto! mi feddyliais ei bod wedi darfod arnaf am byth bythoedd." Aeth adref o'r cyfarfod gan neidio a molianu ar hyd yr holl ffordd. Cafodd y fath oleuni ar ei gyflwr ei hun fel y credai y deuai pawb yn y wlad i geisio crefydd ar unwaith. Y dydd Sadwrn cyntaf ar ol ei droedigaeth dywedai wrth ei frawd, "Yr wyf yn credu y daw pawb yn y wlad i gredu y Sabboth nesaf yma." Gwaeddai mor uchel wrth ddyfod adref o'r odfa y nos Sabboth hwnw, fel yr oeddynt yn ei glywed ddwy filldir o ffordd. Clywsom hen frawd yn dweyd yn ddiweddar, yr hwn sydd yn fyw eto, ei fod yn gwasanaethu am y terfyn i John Williams ar y pryd, y cyntaf mewn lle o'r enw Bryn Llangedwydd, a'r llall yn Glasfryn-fawr Gwelodd ef lawer gwaith, meddai ef, yn dyfod i dori baich o eithin i ymyl tŷ y Bryn. Ar ol gwneyd y baich i fyny ai ar ei liniau i weddio. Cyn hir codai i fyny gan waeddi a'i holl nerth, a mynych y byddai yn dal i orfoleddu yn hir. Dywedai yr hen frawd hefyd ei fod yn cofio y byddai John Williams, a dynion ieuainc eraill o'r un ysbryd ag ef, yn gorfoleddu yn nghapel Fourcrosses ar nos Suliau, ac yn cynal cyfarfodydd gweddi ar y croesffyrdd wrth fyned tuag adref. Safai John Williams ar ei draed ar ben y fainc yn nghanol llawr yr hen gapel, a'i holl natur o dan y dirdymadau mwyaf. Yna rhoddai floedd, a neidiai i ganol ei gyfeillion oedd ar y llawr oedd o'i gwmpas. Enwai yr hen frawd un man neillduol lle y byddent yn cynal cyfarfod gweddi, a dau o honynt yn myned i weddi, sef ar y ffordd fawr wrth gamfa, a elwir camfa Angharad, sydd yn troi at ffermdy o'r enw Pwllponthren. Enwai hefyd dri neu bedwar o'i gyfeillion oeddynt o'r un ysbryd ag yntau, sef Thomas Owen, Bryn Llangedwydd, yr hwn a fu ar ol hyny yn flaenor yn Fourcrosses: Robert Griffith, Bryn Marchog, ger capel Llwyndyrus, yr hwn a fu yn grefyddwr selog a ffyddlawn ar hyd ei oes; ac un a elwid Hugh, Dulwyn. Dywedai yr hen frawd, hefyd, nad oedd dim hynotach yn John Williams y pryd hwnw na rhai o'i gyfeillion, ond iddo ddyfod yn fwy felly ar ol hyny. Hwyrach y dylem ddweyd enw yr hen frawd a adroddodd y pethau dyddorol hyn i ni, gan fod y pethau hyn wedi cymeryd lle er's yn agos i bedwar ugain mlynedd. Ei enw yw John Davies, Ty'nypant, ger capel Llwyndyrus, ac y mae yn awr dros ddeg a phedwar ugain mlwydd oed. Mae yn ewythr frawd ei dad i'r Parch. D. E. Davies, yn awr o Gaernarfon.

Yr un modd, yr oedd y diwygiad yn hynod o wresog yn ardal Brynengan. Byddai Evan Richardson, Caernarfon, yn arfer dyfod i daith Brynengan ar Sul y Pasg bob blwyddyn am lawer o flynyddoedd i bregethu; ac yr oedd yma ar yr adeg hono yn y flwyddyn 1818. Clywsom hen wraig nodedig o grefyddol, sef Mrs. Williams, Tyddynyberth, ger Brynbachau, yn dweyd ei bod yn bresenol yn yr odfa. A'r fath oedd y gwres oedd yn y gynulleidfa, ac yn ysbryd y pregethwr, fel mai prin y cafodd ddweyd ei destyn nad aeth yn un floedd fawr trwy y gynulleidfa i gyd, ac ni chafodd y pregethwr ddweyd yr un gair yn ychwaneg. Oddeutu yr adeg hon yr oedd pregethwr o'r enw John Humphreys, Caernarfon, yn pregethu yn Mrynengan am ddau o'r gloch un Sabboth. Aeth Owen Owens yno i wrando. Ymaflodd rhywbeth yn ei feddwl gyda nerth ac effeithiolrwydd mawr. Yr oedd hyny yn beth hollol ddieithr iddo. Nid oedd wedi teimlo dim erioed cyn hyny. Yr oedd yn dyfod o'r odfa ei hun, ac wedi ei ddal â braw a dychryn mawr, ac ofn myned i uffern. Ar ei ffordd adref yr oedd yn pasio heibio i gorlanau defaid ar dir ffarm o'r enw Tuhwnt-i'r-mynydd. Trodd i mewn i un o honynt i dreio gweddio am y tro cyntaf erioed. Aeth ar ei liniau, a. dywedai ei fod yn dychryn wrth weled ei hunan ar ei liniau. Ond bu yno am oriau mewn ymdrech â Duw. Dywedir ei fod wedi bod yno unwaith hyd doriad gwawr y boreu dranoeth. Nis gwyddom ai y tro cyntaf hwn oedd y tro hwnw ai peidio. Nis gallai byth basio yr hen gorlan, tra y bu byw, heb gofio am yr hyn a gymerodd le rhyngddo â Duw ynddi. Drwg genym nas gwyddom ond ychydig am y gwra fu yn offeryn troedigaeth Owen Owens, sef John Humphreys. Ond mor bell ag y gwyddom ni, yr oedd yn wr parchus, ac yn bregethwr lled dda. Nailor ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac y mae yn ymddangos y gwnai lawer o fusiness. Gwyddom am hen flaenor arall ag y bu yn foddion ei droedigaeth, sef Henry Jones, Gof, Bethel, yr hwn a fu yn flaenor ffyddlon a gweithgar am oes faith yn y lle hwnw, ac yn Golan. Pe na wnaethai John Humphreys ddim ond bod yn foddion troedigaeth y ddau wr defnyddiol hyn, buasai ei weinidogaeth wedi ateb diben da. Ond y mae y ffaith ei fod wedi bod yn foddion troedigaeth y gwyr hyn yn brawf fod ei weinidogaeth yn un fuddiol, ac felly iddo fod yn foddion troedigaeth i lawer eraill. Ac er i ni fethu gweled yr un gair o'i hanes mewn argraff yn un man, diau ei fod er hyny yn cael ei gyfrif ymysg y rhai hyny,—"A'r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel ser byth yn dragywydd."

Wedi ysgrifenu yr uchod daethom i wybod mwy am y gwr hwnw, a hyny trwy y Parch. David Williams, Conwy, gwr ag sydd yn meddu ar lawer o adgofion dyddorol am yr hen Fethodistiaid. Fel hyn y mae Mr. Williams yn adrodd ei adgofion am dano:—"Yr wyf yn ei gofio yn dda yn pregethu, ond yn rhy ieuanc i ffurfio barn am dano fel pregethwr. Byddwn yn ei hoffi, a rhaid ei fod yn barchus yn yr eglwys. Yn ol Day Book bychan ddaeth i'm rhan ar ol un o'r cyn-drigolion, byddai yn pregethu ddwy a thair gwaith yn y flwyddyn yn yr hen gapel cyntaf. Gwr tew, graenus ydoedd pan y gwelais ef gyntaf, nailor wrth ei alwedigaeth; a'r ddiod a'i taflodd o'r pulpud. Ar ol gwneyd Moriah yn 1826 y bu hyn; canys clywais ef yno droion. Signiodd ddirwest yn fuan ar ol sefydliad y gymdeithas yn y dref; ar ol hyny aeth i Liverpool i fyw, a daeth yn ol wedi tair blynedd o fyw yno. Daliodd yn dda at ei ymrwymiad, a bu farw yn Gristion gloew, er yn dlawd. Yr wyf yn cofio y tro olaf y bum yn edrych am dano. 'Dafydd bach,' meddai, 'y mae y Graig yma, ond bod llawer o bridd arni.' Yr oedd iddo wyr yn flaenor o'r radd oreu yn Beaumaris. Bu farw tua blwyddyn yn ol, sef Mr. Richard Lloyd Humphreys."

Yr ydym yn deall i John Humphreys fod yn pregethu am oddeutu ugain mlynedd, sef o tua'r flwyddyn 1809 hyd tua'r flwyddyn 1829, a bu farw Hydref 17eg, 1845, yn 70 oed, a chladdwyd ef yn Llanbeblig. Gan nad ydym yn deall i ddim gael ei argraffu am y gwr hwn o'r blaen, yr ydym yn cymeryd y cyfleusdra i roddi hyn o hanes am dano, gan ystyried ei fod yn haeddu hyn o goffhad. Mae Mr. John Humphreys, Bangor, gohebydd medrus a galluog yn perthyn i'r Liverpool Daily Post, yn wyr i John Humphreys, a chanddo ef y derbyniasom y manylion am farwolaeth yr hen bregethwr.

PENOD VI.
EI FLYNYDDOEDD CYNTAF GYDA CHREFYDD.

Cyfnod newydd yn dechreu yn ei hanes.—Brynengan yn lle manteisiol i gychwyn gyda chrefydd y pryd hwn.—Ei frodyr, Evan a Roger.—Hen rigwm.—Harri Thomas a phregeth John Elias.—Eglwys Bwlchderwin yn dechreu.—Duwiolion hynod yn perthyn i'r lle.—Rhisiart Humphrey.—Disgyblu Catrin Rolant.—Ymddiddan Rhisiart Humphrey a Thomas y Teiliwr.—Hanes Rhisiart Humphrey.—Thomas Robert y Teiliwr.—Ei hynodrwyd.—Gwragedd hynod.

BELLACH, ar ol ei droedigaeth, y mae cyfnod newydd yn dechreu yn hanes Owen Owens. Mae llawer o bethau newydd yn dechreu: dyn newydd a phethau newydd; llafur am wybodaeth Ysgrythyrol, a thrysori y Beibl a'r Hyfforddwr yn y côf; a dilyn moddion gras, y pregethau, a Sasiwn y Bala, &c. Dysgodd yr Hyfforddwr ar ei gof i gyd yn fuan iawn; ac yr oedd yn aros yn ei gof tra y bu fyw. Mynych wrth gynghori ieuenctid i ddysgu y Beibl ar eu cof, y byddai yn eu hanog i ddysgu yr Hyfforddwr, "Mi ddysg'is i'r 'Fforddwr i gyd ar 'y ngho' pan o'n i yn hogyn, ac y mae o ar fy ngho' fi heiddiw: ac mi cynghorwn i ch'itha i wneyd yr un peth," meddai.

Fel y cyfeiriwyd, yn Mrynengan y daeth Owen Owens at grefydd, ac yma y bu yn aelod eglwysig am tua blwyddyn ar ol ei droedigaeth. A diau iddo gael pob mantais i gychwyn gyda chrefydd yma. Gallasai ddweyd oddiar brofiad, fel y Salmydd:—"Y llinynau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd; ie, y mae i mi etifeddiaeth deg." Yr oedd yma o leiaf dri o bregethwyr ar y pryd,—Robert Dafydd, Rhisiart William, a Moses Jones. Mae yn hysbys fod Robert Dafydd yn hynod fel un medrus am gadw seiat. Yr oedd Moses Jones yn dechreu pregethu ar y pryd, ei ddoniau fel y mor, ac yn ngwres ei gariad cyntaf. Credwn hefyd fod Rhisiart William yn dra buddiol a phlaen yn y seiat. Yr oedd yma flaenoriaid dawnus a phrofiadol, a chrefyddwyr gwresog, yn frodyr a chwiorydd. A gellir dweyd iddo "dyfu megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd." Gan fod Owen Owens mor llawn o fywyd a direidi, yr oedd rhyw rai wedi darogan na ddaliai gyda chrefydd. "Pe buasai Roger ei frawd wedi myn'd i'r seiat, fe fuasai ryw obaith iddo ddal; ond am Owen ni ddalith o byth, mae o mor anwadal," meddai y gau-brophwydi. Ond dal a wnaeth Owen am yn agos i driugain mlynedd; ond ni ddaeth Roger at grefydd am lawer o flynyddoedd, sef yn amser y diwygiad a elwir yn ddiwygiad Brynengan, ac yn y flwyddyn 1832. Daeth brawd arall iddo i'r seiat y pryd hwn (1818), sef Evan, yr hwn oedd yn byw yn Tirdewin. Yr oedd efe yn nodedig am ei wresowgrwydd gyda chrefydd, a gorfoleddodd lawer yr adeg yma. Mae hen rigwm yn aros yn yr ardal sydd yn dangos hyny:—

"Wrth yfed gwaddod yn nhy gweddi,
Troes y bobol yn fwy rhigil,
I dyngu ac i regi.
Cynygiwyd cefndras hegar
Gan Evan Owen Roger;
Nid aeth y gwr erioed mor ffol,
A'i rhoddi'n ol i'w gymar."


Gwaith cablwyr yn gwneyd gwawd o grefydd, ac o'r gorfoledd gyda chrefydd, fel y gwelir, ydyw yr hen rigwm. mor ddidalent ag ydyw o gableddus. A phrin y mae yn werth sylw, ond fel y mae yn dangos fod Evan Owen yn un gwresog gyda chrefydd, ac yn arfer molianu a gorfoleddu yn amser y diwygiad. Wrth 'gefndras hegar' y meddylir, mae yn debyg, iddo ddigwydd taro ryw un, wrth godi ei ddwylaw, ar ol myned i hwyl gorfoledd. Ond nid oedd Owen Owens mor danbaid a'i frawd, nac mor ddilywodraeth arno ei hun a llawer eraill, er ei fod yn wresog iawn. Adwaenem hen frawd hynod o Leyn oedd yn yr ardal y pryd hwn, yr hwn oedd o'r un dosbarth ag Evan Owen, sef Harri Thomas, Talceneiddew, Brynmawr. Yr oedd ei gartref ef ar y pryd yn Mynachdy-gwyn, yn ardal Brynengan. Yr oedd yr hen frawd hwn yn llawn tân a gwres i'w ddiwedd, ymhen dros driugain mlynedd ar ol hyn. "'Doedd o ddim yn perthyn i'n plaid ni," meddai, "fyddai yn bloeddio haleliwia a gogoniant; yr oedd o yn o gumedrol a distaw, ac yn medru meddianu ei hun yn well." Pan nad oedd Harri Thomas ond bachgen bychan o ddeg i ddeuddeg oed, gwaeddodd allan dros y lle un tro yn Mrynengan, pan yr oedd John Elias yn pregethu. Sylwai ar y gair hwnw yn ei ddull difrifol ac arswydawn ei hun,—"A'r rhai hyn a änt i gosbedigaeth dragwyddol." Ail-adroddai a phwysai ar y gair—'a änt i gosbedigaeth dragywyddol." Yna gofynai pwy a änt yno?

"Y rhai hyn," meddai. "Pwy ydyw y rhai hyn?" meddai drachefn. "Meddwon, godinebwyr, torwyr Sabboth, tyngwyr." Ar hyny gwaeddodd y bachgen dros y lle, gan ei fod, mae lle i ofni, yn arfer tyngu a rhegi, a thori y. Sabboth, fel y cyfeiriwyd. Dywedai Harri Thomas fod Cyfarfod Misol yn Mrynengan yn y gwanwyn ar ol iddo ef ddyfod i'r Seiat, a bod John Jones, Edeyrn, yn pregethu ynddo ar y gair hwnw yn Zechariah viii 5—"A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwareu yn ei heolydd hi." Aethant i orfoleddu drwy y capel ar ganol y bregeth. Yr oedd John Jones yn rhoddi ei bwysau ar ochr y pulpud, ac yn edrych arnynt. Ac aeth rhyw rai i geisio eu hatal i orfoleddu. Ond meddai John Jones,—" Gadewch iddynt,

'Fe chwery bol a bwyd;
Ni chwery siaced lwyd, "


Gan awgrymu mai yr achos eu bod yn gorfoleddu oedd eu bod yn nghanol lawnder, a digon o ymborth, ac nad oedd yn dlawd arnynt.

Bu Owen Owens yn myned i eglwys Brynengan am tua blwyddyn; ond byddai Seiat yn cael ei chynal yn fynych y pryd hwn mewn ty yn ardal Bwlchderwin o'r enw Braich-y-Foel, sef cartref hen flaenor rhagorol o'r enw Rhisiart Humphrey. Diau fod Owen Owens wedi bod yn y Seiat yn y ty hwnw rai gweithiau. Ond yn yr adeg yma yr oedd capel cyntaf Bwlchderwin yn cael ei adeiladu, ac agorwyd ef ymhen tua blwyddyn ar ol iddo ef ddyfod at grefydd. Wedi hyny ymunodd a'r eglwys fechan a thlawd oedd yn y lle. Yr oedd yn colli llawer o freintiau wrth ymuno a'r eglwys fechan hon, ac ymadael âg eglwys liosog a llewyrchus Brynengan. Ond yr oedd yn perthyn i Fwlchderwin rai duwiolion nodedig iawn, yn enwedig yr hen flaenor, Rhisiart Humphrey, yr hwn oedd wr nodedig mewn sancteiddrwydd. Ymwasgodd yntau atynt, a diau i'r awyrgylch grefyddol hon adael ei hol arno tra y bu byw. Cafodd hefyd gyfleusdra i arfer mwy ar ei ddoniau yma nag a gawsai yn Mrynengan. Mynych y clywsom ef yn son am yr hen dduwiolion hyn, yn enwedig Rhisiart Humphrey, a hyny gyda'r sobrwydd a'r parch dyfnaf. Yr oedd yr hen flaenor yn un pur lym, a manwl iawn, gyda'r ddisgyblaeth eglwysig. Byddai yn llym iawn yn erbyn balchder yn enwedig. Nid arbedai neb, ac felly nid arbedai Owen Owens, er ei fod yn uchel iawn yn ei olwg. Yr oedd y diweddaf yn gwisgo ruban ar ei het, yr hyn oedd yn waharddedig iawn yn ei olwg ef. Dywedai wrtho yn bur llym,—" Mae yn rhaid i ti beidio gwisgo y ruban yna ar dy het, Owen, os wyt ti am fod yma gyda ni." "Mi beidia i a'i wisgo fo pan beidiwch ch'itha a gwisgo y bwcwl yna ar eich esgid," meddai Owen ar unwaith. Byclau a wisgid y pryd hwnw ar esgidiau yn lle careiau fel yn ein dyddiau ni. Ac yr oedd yn gryn addurn ar yr esgid, yn ddisglaer a gloyw bob amser, ac felly fe dynwyd y min oddiar gerydd yr hen frawd ar unwaith. Wrth ddisgyblu byddai yn arferiad y pryd hwnw i yru yr hwn a fyddai o dan ddisgyblaeth allan drwy y drws. Yr oedd yno un hen chwaer yn aelod yn Mwlchderwin, yr hon a fyddai yn fynych o dan ddisgyblaeth. Nid oes ond rhyw ugain mlynedd er pan fu farw, wedi cyraedd ei chan' mlwydd oed. Catrin Rolant oedd ei henw, ac yr oedd yn byw mewn ty o'r enw Tynycoed. Wedi i'r hen flaenor ei gyru allan drwy un drws, byddai hi yn ol yn y capel drwy y drws arall, gyda'r cyflymdra mwyaf. Yr oedd efe dipyn yn arafaidd yn ei ffordd, a hithau yn gyflym fel wiwer.

Mae hanesyn ar gael sydd yn dangos fod Rhisiart Humphrey yn un o deimlad gwresog, ac o ffydd gref. Yr oedd yn dyfod adref o'r capel un nos Sabboth gyda hen Gristion nodedig arall, yr hwn a elwid Thomas y Teiliwr. Byddai llawer o gyfeiriadau yn y weinidogaeth yn y blynyddoedd hyny at y mil-blynyddoedd ac ail-ddyfodiad Crist. Trodd yr ymddiddan rhyngddynt at ail-ddyfodiad Crist, oddiwrth rywbeth a ddywedasai y pregethwr, mae yn ddiau. A gofynodd Rhisiart Humphrey i Thomas Robert,—"Beth a wnaet ti, Tomos, pe b'ai Crist yn dyfod ar y cymylau, rhyng'o ni a'r Graig-goch" (mynydd uchel yn yr ardal y cyfeiriwyd ato o'r blaen yn y llyfr hwn)? "Fe äi fy nglinia'i i grynu yn y fan," meddai Thomas. A dywedir y cynhyrfai Thomas yn y fan gyda phethau llawer llai na hyny. "Beth a wnaet ti, Rhisiart?" meddai Thomas. "Mi neidwn nes y byddai yr hen glocsia' yma yn ddarnau o 'nghwmpas i," meddai Rhisiart Humphrey. Llawer gwaith y dywedodd yr hen dad, y diweddar Barch. Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynon, yr ystori hon gydag arddeliad, ac yn ei ffordd wreiddiol ei hun. Yr oedd y dyn allasai ddweyd fel hyn yn un o ysbryd gwresog iawn. Diau fod hyn wedi digwydd hefyd mewn adeg wresog iawn ar grefydd, mewn adeg o ddiwygiad mawr, megis amser diwygiad Beddgelert.

Ni bu Rhisiart Humphrey byw yn hir ar ol adeiladu capel Bwlchderwin, dim ond oddeutu saith mlynedd, oblegid bu farw yn mis Mehefin, 1826. Ceir hanes ei farwolaeth mewn cyhoeddiad misol bychan a gyhoeddid yn Nghaernarfon y pryd hwnw, o'r enw "Trysor i'r Ieuanc." Ei olygydd, meddir, oedd John Wynne, a'i argraffydd oedd Peter Evans, o'r dref hono. Rhoddid yr hanes gan y pregethwr ieuanc gobeithiol hwnw, Robert Williams, Brynengan, mab yr hen bregethwr, Rhisiart William. Nid annyddorol, feallai, gan y darllenydd fydd cael yr hanes fel y rhoddir ef yno. Fel hyn y mae:—"Efe oedd hynafgwr parchus a duwiol. Ei fuchedd oedd sobr a hardd. Pan yr oedd yn hynod o wael ac yn agos i angau, aethum i ymweled ag ef; ac yr oedd ei holl blant yno y pryd hyny, gwedi anfon am danynt. Yr oedd y cyfeillion crefyddol hefyd yno; a'r pryd hwnw cafodd ychydig seibiant, ac yn y seibiant hwnw ysgydwodd law â ni; a'r plant yn nesau at erchwyn y gwely i gael golwg ar eu hanwyl dad yn nyfnder yr hen Iorddonen. Yr oedd hon yn olygfa effeithiol, sef pan oedd yn ysgwyd llaw â ni. Yr oedd ein teimladau yn ddrylliog wrth weled ein hen dad duwiol ar fin ein gadael am byth. Y pryd hwnw galwodd ar ei blant, gan ddechreu gyda'r hynaf, a dywedodd wrthynt,—'Ffarwel, fy mhlant anwyl i, yr wyf yn myned i ffordd yr holl ddaear. Gwnewch y goreu o'ch amser. Ymdrechais gymaint ag a allaswn i'ch cadw. Gofalwch am eich mam.' Mae yn anmhosibl darlunio yr agwedd oedd ar y plant, a'r wylo oedd yn yr ystafell. Yn ei glefyd diweddaf yr oedd yn hynod o dawel, ac yn hollol foddlon i drefn Duw. Dywedai hefyd ei fod yn gweled ei grefydd yn troi yn dda, a'i fod yn gweled gwaed Crist yn ddigon i bwyso arno, a'i fod yn ddigon i'w lanhau." Yn ei waeledd diweddaf dywedai wrth rai o'r frawdoliaeth yn y lle nad oedd dim gwella iddo ef, ac у byddai raid iddynt ddewis blaenor yn ei le ef. "Ac yr ydw' i yn credu," meddai, "y gwnaiff Owen, Pantglas-ucha', flaenor." Ac y mae y farn hon yn brawf fod Rhisiart Humphrey yn sylwedydd craff; oblegid bu Owen Owens yn flaenor defnyddiol am tua haner can' mlynedd yn Mwlchderwin ar ol hyn. Ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth aeth Martha, hen wraig Nantcall-ucha', mam y diweddar Owen Humphreys, y Gesail, i edrych am dano, a gwelai arwyddion tlodi yn y tŷ. Gwelai nad oedd y gynfas oedd ar ei wely yn deilwng i fod ar wely hen flaenor mor ragorol, ac anfonodd un newydd a glan yno mor fuan ag y gallai. Mewn ffyrdd fel hyn y byddai haelioni hen grefyddwyr y dyddiau gynt yn dyfod i'r golwg yn fynych. Ac onid yw gweithred fel hyn yn werth i'w chadw mewn coffadwriaeth?

Mae cyfeiriad wedi ei wneyd eisoes at un arall pur hynod oedd yn perthyn i eglwys Bwlchderwin y pryd hwn, sef Thomas Robert, y Teiliwr. Mae yn amlwg ei fod yn Gristion didwyll, ond yr oedd rhyw bethan hynod yn perthyn iddo. Yr oedd o duedd naturiol tra chynhyrfus a dychrynedig, neu ar lafar gwlad yn yr ardaloedd hyn, yr oedd yn un "rhislyd" iawn. Dim ond iddo weled neu glywed rhywbeth ychydig allan o'r ffordd gyffredin, fe gynhyrfai drwyddo, ac fe redai ymaith fel ewig. Ar un gauaf caled, pan oedd eira trwchus ar y ddaear, yr hyn a ddigwyddai yn fynych yn amser ein tadau, yr oedd carw wedi dianc o un o barciau gwyr mawr Mon, yr hwn oedd wedi dyfod drosodd i Sir Gaernarfon, ac wedi cyraedd hyd i ardal Bwlchderwin. Wrth fyned at ei waith un boreu i un o ffermdai y gymydogaeth, gwelai Thomas ol traed rhyw greadur rhyfedd iawn yn yr eira. Tarawyd ef a dychryn ar unwaith. Meddyliodd ynddo ei hun, tybed ai llew ydoedd. Diau i'r ymadrodd hwnw ddyfod i'w feddwl, yr hwn a ddywedir am Benaiah, mab Jehoiada,—"Ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira," er nad oedd dim tebyg y gallasai efe byth wneyd hyny. Tra yr oedd y myfyrdodau arswydlawn hyn yn llenwi ei feddwl. dyma y creadur yn ei gyfarfod ar y ffordd: ac nid oedd wedi gweled creadur tebyg iddo yn ei oes. Cynhyrfodd gymaint fel y dechreuodd redeg a'i holl egni ar unwaith, ac ni safodd nes cael ei hunan yn grogedig wrth gwpl ryw feudy yn y gymydogaeth. dywedir iddo fod yn llechu yn ei ymguddfa am oriau lawer. Er yr hynodrwydd hwn oedd ynddo, credwn iddo fod yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd yn ardal Bwlchderwin am lawer o flynyddoedd. Efe, os ydym yn cofio yn iawn, a fyddai yn dechreu y canu am amser maith. Bu hefyd o gymorth mawr i ddechreu a dwyn ymlaen Ysgol Sabbothol yn ardal Taiduon. Treuliodd ei flynyddau olaf yn ardal Llanaelhaiarn, mewn lle o'r enw Llwyd-y-pric (Llwyn-y-brig, efallai).

Yr oedd yn perthyn i Fwlchderwin hefyd y pryd hwn rai gwragedd hynod iawn mewn duwioldeb, rhai y gellir cyfeirio atynt yn debyg i fel y mae Petr yn cyfeirio at rai felly yn ei amser ef,—"Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw." Efallai mai yr hynotaf ohonynt oll oedd Ellin Owen, Derwin-ucha. Sonir am dani hyd heddyw yn yr ardal fel un a ryw hynodrwydd mawr ynddi mewn duwioldeb. Treuliodd ei hoes yn ddibriod, a bu farw yn lled ieuanc, sef yn 41 oed, Tachwedd 13eg, 1822. Llawer gwaith y clywsom Owen Owens yn son am dani gyda'r parch dyfnaf, fel un o ysbryd duwiolfrydig iawn, ac o fywyd duwiol a sanctaidd y tu hwnt i'r cyffredin. Yr oedd yn aelod yn Mrynengan, lawer o flynyddoedd cyn adeiladu capel Bwlchderwin; ac yr oedd argraff hen dduwiolion hynod yr ardal hono yn amlwg arni. Yr oedd wedi ei thrwytho yn y diwygiadau yn nechreu y ganrif hon. Yr oedd yn un o dymer hynod o dawel a phur wastad, ac felly ni byddai yn ymollwng i orfoleddu a molianu fel llawer o hen grefyddwyr yr oes hono. Ei bywyd gwastad, ei hysbryd difrifol, a'i dylanwad distaw, oedd ei hynodrwydd hi. Dywed un am dani, 'y byddai pawb yn swatio yn ei golwg a'i chlyw, hyd yn nod rhai oedranus, yn gystal a'i chyfoed.' Byddai yn cadw dyledswydd yn y teulu hwyr a boreu, a byddai hynodrwydd ac eneiniad mawr ar hyny yn fynych. Byddai hefyd yn cynal y moddion, yn ei thro, fel un o'r brodyr. Yr oedd ganddi frawd hefyd yn bregethwr tra chymeradwy, yr hwn a elwid, Robert Owen, Derwin ucha, yr hwn yntau a fu farw yn lled ieuanc, sef yn 41 oed, fel hithau. Cawn roddi hanes mwy manwl am dano ef yn un o'r penodau nesaf.

Yr oedd yno wraig arall, yr hon oedd yn un hynod o wresog gyda chrefydd, ar hyd ei hoes, ac yn neillduol felly yr adeg hon, sef yn amser y diwygiad y cyfeiriwyd to. Anni oedd ei henw, ac yr oedd yn briod ag un Robert Parry, Penisa'r-mynydd, am yr hwn y dywedir iddo gael ei ddiarddel o seiat Brynengan am gadw Ysgol Sul yn ardal Bwlchderwin. Byddai hi ac un arall o'r enw Mari William, Penbryn-Derwin, yn gorfoleddu yn fynych gan gydio yn nwylaw eu gilydd. Dywedir fod y diweddaf yn 'hynod grefyddol, a honai gryn lawer o wybodaeth bynciol ac athrawiaethol. Gwraig arall o gryn hynodrwydd oedd Mari Robert, Tan-y-chwarel. Ei 'hynodrwydd hi oedd arafwch didramgwydd. Dywedai wrth Owen Owens am ddyfod ati hi i gael tê ar y Sabboth, gan fod ei ffordd yn mhell i fyned adref, os na chai wahoddiad i unlle arall; a llawer gwaith y gwnaeth hyny.' Bu hi fyw i oedran mawr, a bu farw oddeutu ugain mlynedd yn ol ar ol treulio oes hynod o grefyddol, ac y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig. Meibion iddi hi a'i phriod, John Williams, oedd y pregethwr ieuanc duwiol hwnw, Mr. Robert Williams, Tan-y-chwarel, yr hwn a fu farw yn mlodeu ei ddyddiau, am yr hwn y cawn sylwi ymhellach ymlaen; a Mr. Richard Williams, yr hwn oedd yn flaenor yn Rock Ferry, ac a fu farw yn ddiweddar. Yr oedd Mari Robert yn disgyn o deulu hynod grefyddol a Methodistaidd. Yr oedd yn wyres i'r hen santes hono a elwir ar lafar gwlad, 'Sudi Brynbrych.' Mynych y bu yr hen wraig hono yn myned o Frynbrych, yn ardal Brynengan, i gapel Tymawr, yn Lleyn, ar foreu Sabboth i wrando pregeth, pellder o tua deunaw milldir, gan adael tri neu bedwar o'i phlant o dan ofal perthynasau iddi oedd yn byw mewn ffarm arall gerllaw o'r enw Brychyni. Ac yr oedd Mari Robert, neu yn ol enw ei phriod, Mari William, wedi etifeddu llawer o'i hysbryd.


PENOD VII.
ARDAL BWLCHDERWIN.

Ystyr y gair.—Darddiad boreuol.—Eglwys yn y lle yn foreuol iawn—William Richard Llwyd yn pregethu yma.—Marwnad Williams Pantycelyn iddo.—Ffrwythau y pregethau.—(1). Ysbryd cenhadol—Catrin ach Rhisiart yn rhybuddio John Morris.—Lowri Williams a Jane Griffith.—(2). Awydd am addysg.—Ysgolion Griffith Jones, Llanddowror.—Yn fendithiol i'r teuluoedd lle y cynhelid hwy—Humphrey Parry.Yn dadleu o blaid awdl Dewi Wyn.—Rhisiart William, Brynengan—Yr athraw, Thomas Gough.—Y Parch. Richard Nanney.—Y Parch. Richard Tibbot—Merch ieuanc yn ymuno â theulu Trefecca.—Yn berthynas i Sion Wyn o Eifion.—Hynodrwydd Robert Sion Dafydd.

MAE ffurf y gair, Bwlchderwin, yn wahanol ar lafar gwlad i'r hyn ydyw mewn argraph yn gyffredin. Y ffurf ar lafar gwlad yn ddieithriad ydyw Bwlchderwin, neu Bwlchderwyn; ond mewn argraff ceir Bwlchderwydd yn fwy mynych o lawer. Mae y ffurf ddiweddaf yn awgrymu fod cysylltiad wedi bod rhwng y lle ar ryw adeg â'r Derwyddon. Ond yr hyn sydd yn myned yn erbyn hyn ydyw nad oes yn yr ardal unrhyw olion derwyddol o gwbl. Barna eraill fod y gair yn tarddu o der a wyn (gwydn), ac yn golygu lle gwydn, gwyllt, a diffaeth. Ond barna y Parch. D. Silfan Evans, yn ei Eiriadur, fod y gair yn tarddu o derw, a bod derwin yn golygu yn ansoddair o derw; a dyfyna engreifftiau o hen ysgrifau a llyfrau Cymreig i ddangos hyn, megis: barilau derwin—oaken barrels; estyll derwin—planks, a Brynderwin bryn wedi ei orchuddio a choed derw—oak hill. Dyma yr ystyr a geir i'r gair hefyd yn Ngeirlyfr Dr. W. Richards, o Lynn Credwn mai yr ystyr olaf sydd yn gywir. A pha le y ceir awdurdod uwch na Silfan Evans? Feallai i'r bryn bychan sydd yn yr ardal a elwir yn awr yn Foelderwin, ac a elwid gynt yn Frynderwin, fod yn orchuddiedig er's amseroedd pell yn ol gan goed derw, ac iddo oblegid hyny gael ei alw yn Frynderwin. Feallai hefyd i'r rhan hono o'r bwlchmawr a elwir yn Fwlchderwin gael ei alw felly am yr un rheswm, sef am ei fod yn orchuddiedig gan goed derw, neu ynte i'r bwlch gael ei enw oddiwrth y bryn sydd yn cyffwrdd âg ef. Mae yn amlwg fod yr enw Brynderwin o darddiad boreuol iawn, ac feallai Bwlchderwin yr un modd. Mor foreu ag amser y Tywysog Llewelyn (nis gwyddom pa un o'r ddau Lewelyn ydoedd, pa un ai Llewelyn ap Iorwerth, neu Llewelyn Fawr; ynte Llewelyn ap Griffith, neu Llewelyn ein Llyw Olaf), sef yn y ddeuddegfed ganrif neu y drydedd ganrif ar ddeg, crybwyllir am yr enw Brynderwin. Mae awdl ar gael gan un a eilw ei hun yn "Llygad Gwr," ar y tywysog hwnw. A gwneir y cyfeiriad canlynol at Frynderwin ynddi:

"Breisclen Môn, mwynfawr Wyndodydd,
Brynderwin clô byddin clodrydd,
Ni bu edifar i dydd y cyrchawdd,
Cyrch eofn essillydd."


Mae yn debyg felly fod un o fyddinoedd y tywysog enwog hwnw wedi bod yn gwersyllu ar Foelderwin, a bod y lle yn cael edrych arno fel gwersyllfa gadarn a chref i wrthsefyll y gelynion.

Ymhen oddeutu pum' can' mlynedd ar ol yr hanes uchod, yr ydym yn cael rhywbeth pur wahanol i'r hyn y cyfeiriwyd ato wedi ymsefydlu a gwersyllu ar ochr Foelderwin, mewn tŷ o'r un enw. Yn lle bod tywysog milwrol wedi gosod ei fyddin yma, gyda'r amcan o ddinystrio cyrff dynion, yr ydym yn cael Tywysog Tangnefedd yn gosod eglwys fechan yn y lle i ymosod ar dywyllwch, anwybodaeth, ac annuwioldeb yr ardal. Tybir fod yma eglwys fechan mor foreu a'r flwyddyn 1747, os nad cyn hyny. Yn mis Mehefin yn y flwyddyn hono, yr oedd un o'r rhai enwocaf o'r cynghorwyr cyntaf, sef William Richard Llwyd, o Langeitho, yn pregethu yn Foelderwin, ac fel hyn y rhydd yr hanes wrth ysgrifenu ar yr 20fed o'r mis hwnw at Howel Harris:—"Dydd Gwener, ar fy nychweliad o Leyn, yr oedd genyf gyhoeddiad rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mi a bregethais yno i nifer o eneidiau tlodion ac anwybodus, a chefais odfa felus iawn. Hyderaf fod yr Arglwydd wedi agoryd drws yn y lle hwnw [Helygirion]. Gofynodd un o'r brodyr am dy arall i bregethu ynddo rhwng y lle yma a Phenmorfa, ond gomeddwyd ef. [Credwn mai Derwinucha oedd y lle hwn]. Ond cawsom le mewn bwthyn bychan yn agos i'r tŷ hwnw. Pregethais yno [sef Foelderwin], i tua dwsin o bobl, a chawsom odfa hapus iawn. Felly dychwelais drachefn i'r Bala, ac arosais yno hyd ddydd Llun; ac yr oedd yn ogoneddus iawn yno." Mae yn amlwg fod arddeliad neillduol ar odfeuon William Richard Llwyd y pryd hwn. Dywed eu bod yn "felus, yn hapus, a gogoneddus." A diau fod y geiriau hyn yn ddarluniad cywir o'r odfeuon; oblegid yr oedd efe yn un o'r goreuon o'r cynghorwyr. Cyfansoddodd Williams, Pantycelyn, farwnad ragorol iddo, yr hon sydd yn dangos ei fod o ysbryd cynes a gwresog anarferol. Dyma ddau benill o'r farwnad:—

"Gwelais ef ar oriau hyfryd
Yn moreuddydd haf ei fywyd,
Yn molianu, yn proffwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeitho;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo,
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corff yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu."

"Mi fu'm unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd, fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched hwythau'n wylo cariad;
Minau f'hun, waelaf ddyn, gwanaidd yn gwenu
Ac yn hyfryd eiddigeddu,
Weled plentyn arna' i'n blaenu."


Mor ddyddorol ydyw edrych trwy niwl cant a haner o flynyddoedd ar yr hen bregethwr gwresog hwn yn pregethu yn y bwthyn bychan' ar ochr Foelderwin i tua dwsin o bobl; ac yn enwedig wrth feddwl iddo gael 'odfa hapus iawn.' Fel ffrwyth yr odfa hon ac ambell i odfa arall, oblegid yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr a phrin iawn yn y dyddiau hyny, yr ydym yn cael arwyddion bywyd yn fuan yn yr eglwys fechan oedd yn y lle hwn, ac un o'r arwyddion hyny oedd fod ysbryd cenhadol yn fyw yn y lle. Cariodd un o'r aelodau y tân nefol yn fuan iawn i'r ardal agosaf, sef ardal Brynengan. Fel hyn y mae y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin, yn adrodd yr hanes:—"Daeth yr hedyn yma o Foelderwin yn nghalon hen ferch o'r enw Catrin ach Rhisiart. Yr oedd teulu wedi dyfod i'r ardal hon (i Hendre Cenin) o Maesllêch, yn ardal Cwmystradllyn. Aeth un o'r bechgyn yn sâl o glefyd trwm. Teimlodd Catrin awydd i'w rybuddio o'r perygl o farw yn annuwiol. Gwellhaodd John Morris oddiwrth y clefyd, ond gadawodd y cyngor effaith arno ar hyd ei oes. A'r John Morris yma (yr hwn oedd ewythr frawd ei daid i Robert Roberts), oedd y crefyddwr cyntaf yn yr ardal. "Mor syml, ac eto mor ddwyfol, y llanwyd rhanau helaeth o siroedd Caernarfon a Meirionydd ag efengyl Crist. Yr hen ferch syml Catrin ach Rhisiart yn myned a'r tân nefol i Frynengan; a'r ddwy wraig, Lowri Williams, Pandy, Chwilog, a Jane Griffith, Erwbach, Dolbenmaen, drachefn yn ei gario oddiyno, ac yn ei wasgar yn ardaloedd Maentwrog a Dolgellau, hyd nes o Jerusalem Ffestiniog, ac o amgylch hyd Ilyricum Aberdyfi, y llanwyd holl Orllewin Meirionydd âg efengyl Crist. Credwn i droedigaeth John Morris, drwy offerynoliaeth Catrin ach Rhisiart gymeryd lle ymhen tua blwyddyn neu ddwy ar ol pregeth William Richard Llwyd.

Ffrwyth arall i'r bregeth hon, ac ambell i bregeth arall oedd yr awydd oedd yn yr ardal am addysg, a hono yn addysg grefyddol. Yn fuan ar ol hyn dechreuwyd cynal ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, yn yr ardal, a hyny gyda chysondeb mawr. Dechreuwyd eu cynal yn y plwyf yn fuan iawn. Yn y blynyddoedd 1750, 1751, a 1752 cynhelid hwy yn ngwaelod y plwyf, yn yr eglwys, ac felly gryn bellder, sef oddeutu pedair milldir oddiwrth, y fan lle y saif capel Bwlchderwin. Ond yn y blynyddoedd 1754 a 1755, cawn fod ysgol yn cael ei chynal yn ardal Bwlchderwin, a hyny yn Derwinucha, ac yr oedd nifer lled dda yn dyfod iddi, sef triugain. Cynhelid ysgol yn yr un lle hefyd yn y blynyddoedd 1755, 1756, a 1757. Nifer yr ysgolheigion yn y blynyddoedd hyn oedd deugain, a'r nifer yn 1757 a 1758 un ar ddeg ar hugain. Yn 1761 a 1762, cynhelid ysgol yn Foelderwin, a'r nifer oedd saith ar hugain; ac yn y blynyddoedd 1756, 1757, 1758 a 1759, yr oedd un yn cael ei chynal mewn tŷ bychan o'r enw Ysgubor Bach, ar dir Hendre Nantcall, yn ardal Pantglas. Diau i'r ysgolion hyn wneyd daioni dirfawr yn y gymydogaeth. Digon prin, yr ydym yn ofni, y mae y Methodistiaid wedi sylweddoli maint eu dyled i'r ysgolion hyn. Yr ydym oll yn barod i gydnabod ein dyled i ysgolion cylchynol Mr. Charles, ac i'r Ysgol Sabbothol; am eu bod yn foddion i gadw gwres y diwygiadau yn fyw yn y wlad, ac i. ddysgu ieuenctid mewn pethau crefydd. Diau fod ysgolion Griffith Jones yn gwneyd yr un gwasanaeth, gan belled ag yr oedd yn myned, i Fethodistiaeth yn ei gychwyniad cyntaf, sef yn ystod y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Ond wrth gwrs, yr ydym yn cymeryd i mewn hefyd barhad yr ysgolion hyn ar ol marwolaeth Griffith Jones, gan Madam Bevan. Er mai amcan Griffith Jones, a'i gefnogwyr, oedd gwneyd daioni i'r Eglwys, eto credwn eu bod wedi gwneyd llawer mwy o ddaioni i Fethodistiaeth ac Ymneillduaeth. Ac yr oeddynt yn parhau hyd tua'r flwyddyn 1776, pan y bu farw Madam Bevan, ac felly o fewn rhyw ddeng mlynedd i gyfodiad ysgolion cylchynol Mr. Charles. Oni bai ysgolion Griffith Jones a Mr. Charles, buasai golwg pur wahanol ar Gymru heddyw. Yr un modd gwnaeth yr ysgolion hyn ddaioni dirfawr i Fethodistiaeth yn yr ardaloedd hyn. Buont yn foddion i gadw y tân rhag diffodd, ac yn gynorthwy mawr i bregethu yr efengyl, a chredwn na chafodd neb fwy o fendith oddiwrthynt na theuluoedd y tai lle y cynhelid yr ysgolion. Tybiwn fod hyn i'w weled yn nheuluoedd Derwinucha a Foelderwin. Y teulu oedd yn byw yn Nerwinucha y pryd hwn oedd tad a mam Edward Parry, y Cwm, a'i hynafiaid. Enw ei dad oedd Harri William, ac yr oedd ei blant ymhell o flaen y cyffredin mewn gwybodaeth; yn enwedig Humphrey Parry, yr hwn, meddir, oedd athraw ysgol wrth ei alwedigaeth, ac yn ddyn dysgedig a gwir wladgarol a Chymroaidd ei ysbryd. Dywed Dewi Wyn ei fod yn ddigon o athraw i'r goreu o'r Gwyneddigion, yn Llundain. Efe a gododd i fyny yn Nghymdeithas y Gwyneddigion i wrthwynebu pleidgarwch y gymdeithas hono yn cynyg rhoddi y wobr i un arall ar draul gwneyd cam â Dewi Wyn. Testyn yr awdl oedd "Molawd Ynys Prydain," yr hon a welir yn ngwaith Dewi Wyn. Gwrthwynebodd Owain Myfyr, Dr. W. Owen Pughe, ac eraill o'r prif ddynion, yn eu hwynebau a gorchfygodd hwy. Bu Humphrey Parry, farw yn ddisymwth, wrth ddarllen, yn Llundain, lle yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth fel ysgolfeistr, Ebrill 1809, yn 37 mlwydd oed. Yr un modd daeth bendith gyda hi i deulu Foelderwin. Un o deulu Foelderwin oedd yr hen bregethwr[13] Rhisiart William, Brynengan, ac felly ei fab Robert Williams. Ac y mae disgynyddion y teulu hwn yn lliosog iawn yn y rhan yma o'r wlad, ac argoelion arnynt oll eu bod yn garedigion oblegid y tadau. Yr un a fyddai yn athraw yn yr ysgolion hyn braidd bob amser oedd Thomas Gough, yr hwn oedd yn athraw rhagorol, ac a ddysgodd ganoedd o blant yr ardaloedd hyn i ddarllen. Dyma y cymeriad a roddir iddo gan yr Hybarch Richard Nanney, hen offeiriad duwiolfrydig Clynog:—"Gyda golwg ar yr ysgolfeistr, Thomas Gough, nid yw wedi bod yn ddiffygiol mewn un rhan o'i ddyledswyddau i wneyd yr ysgol mor fendithiol i'r plwyf ag y gallasai, gan ei fod yn ddyn sobr, gofalus, a chydwybodol; ac ymhob modd mor gymwys a neby gwn i am dano i fod yn ysgolfeistr mewn ysgol o'r fath yma." Ac y mae yn auhawdd gwybod pa le yr oedd daioni yr ysgolion yn darfod, gan y byddai y plant hyn drachefn yn dysgu eu rhieni gartref, y rhai oblegid gwyleidd-dra, na fynent ddyfod i fysg y plant i gael eu dysgu. Byddai l'awer hefyd o Feiblau a llyfrau da eraill yn cael eu rhoddi yn rhad, neu ynte eu gwerthu yn rhad yn yr ysgolion hyn. Yr oedd hyn hefyd yn ffynhonell o ddaioni mawr i'r gwahanol ardaloedd lle y byddai yr ysgolion yn myned.

Mae traddodiad yn yr ardal y byddai yr enwog a'r Parchedig Richard Tibbot, Llanbrynmair, yn talu ymweliad â Derwinucha yn fynych dros ryw dymor. Yr oedd hyn, mae yn debyg, cyn yr ymraniad rhwng Daniel Rowlands a Howel Harris, yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn 1750. Bu efe yn arolygwr cyffredinol ar holl eglwysi Gogledd Cymru am dymor, sef oddeutu 1746—50. Ymwelai â phob eglwys yn y dosbarth hwn bob tri mis, a dygid pob mater o bwys ato ef i'w benderfynu. Neu gallai hyn fod ar ol iddo ymuno â'r Annibynwyr, a chael ei wneyd yn weinidog sefydlog ar eglwys Llanbrynmair, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1762; oblegid byddai efe yn teithio llawer hyd yn nod ar ol iddo gael ei wneyd yn weinidog sefydlog ar yr eglwys hono

Peth arall sydd yn dangos fod cysylltiad agos rhwng yr ardal hon a Methodistiaeth er yn foreu iawn ydyw, fod un ferch ieuanc o'r ardal wedi ymuno â theulu Trefecca. Merch ydoedd i Robert Sion Dafydd, Llwyngwanad isa (gwahaniad dyfroedd, un ffrwd yn rhedeg i'r mor yn ochr Criccieth, a'r llall yn ochr Clynog), ac yr oedd yn haner chwaer i Sian Roberts, Llwyngwanad, yr hon a fu yn garedig iawn i'r achos bychan a gwanaidd yn Mwlchderwin yn ei fabandod. Drwg genym nas gwyddom ei henw. Bu i Robert Sion Dafydd dair neu bedair o wragedd, ac ymffrostiai y byddai yn enill ryw gymaint gyda phob priodas; ac y byddai pob gwraig a a gafodd yn dyfod a rhyw gymaint o gyfoeth i'w chanlyn iddo. Bu farw Robert Sion yn y flwyddyn 1785. Bu iddo lawer o ferched, ac yr oedd un o honynt (Ellin), yn fam i'r bardd enwog a'r gwr hynod hwnw, Sion Wyn o Eifion. Un arall o'i ferched a gafodd oes hir, ac a fu farw tua'r flwyddyn 1860, pan o fewn blwyddyn i fod yn ferch canmlwydd, ac a ddibenodd ei gyrfa hir yn Nhuhwnt-i'r-mynydd, yn ardal Brynengan. Diau fod yr un a aeth i Drefecca yn un o'r rhai hynaf o'i ferched. Mae yn debyg iddi fyned yno oddeutu y flwyddyn 1755, gan y bu rhai o bregethwyr Howel Harris (Evan Moses ac Evan Thomas) yn Nghlynog yn y flwyddyn hono, ac aeth cryn nifer o wahanol ranau yn y Gogledd gyda hwy yn ol i aros yn Nhrefecca. Nid ydym yn tybied i ond ychydig iawn fyned i Drefecca i aros o'r Gogledd ar ol yr adeg hono. Daeth yn ol oddiyno un tro am ychydig. Cwynai mai byw yn lled galed yr oeddynt yno, a bod yr ymborth yn syml iawn, ac nad oedd ond un math o ymborth i'w gael ar y pryd, ond myned yn ol a fynai er pob peth, ac yno y bu farw. Cawsom lawer o'r hanes dyddorol sydd yn y paragraph hwn, gan y ddiweddar Mrs. Williams, Pencaenewydd, mam y Parch. John Williams, Dwyran, yr hon oedd yn wyres neu orwyres i Robert Sion Dafydd, ac fu yn aros yn Llwyngwanad am lawer o flynyddoedd, gyda'i modryb Sian Robert.


CAPEL BWLCHDERWIN.


PENOD VIII.
EGLWYS BWLCHDERWIN.

Ysgol Sabbothol yn ddechreuad i'r achos.—Yn cychwyn yn Nerwinucha,—Gwrthwynebiad iddi.—"Sasiynau y Plant."—Y Capel cyntaf yn cael ei adeiladu.—Robert Jones, Rhoslan, yn pregethu yn yr ardal.—Agoriad y capel. —Moses Jones.—Cofnodau Humphrey Prichard.—Diwygiad 1832.—Cyfarfod Ysgol hynod.—Pregeth fythgofiadwy John Elias yn Sasiwn Pwllheli, yn 1831.—Y Cyfarfod Misol cyntaf yn y lle.—Y newydd am farwolaeth John Elias yn dyfod i'r ail Gyfarfod Misol.—Dyryswch Humphrey Prichard.—Dirwest.—Cyfarfod Misol hynod arall.—Capel newydd yn cael ei godi.—Y Blaenoriaid a fu yma.

FEL mewn llawer o fanau eraill, dechreuwyd yr achos yn Mwlchderwin trwy gynal Ysgol Sabbothol yn y lle; ac aeth llawer o flynyddau heibio ar ol ei chychwyn, cyn y sefydlwyd eglwys yn yr ardal, sef oddeutu chwe' blynedd ar hugain. Tybir fod ysgol wedi ei chychwyn yma mor foreu a'r flwyddyn 1793, a hyny yn Nerwinucha, mewn ty a elwid Tyucha, lle y preswyliai y pryd hwnw wraig weddw o'r enw Ellen Roberts, yr hon oedd yn nain o du ei fam i'r diweddar William Parry, Nantcall-isa. Dywedir ei bod yn hynod o symudol am gryn amser ar y dechreu, ac fel colomen Noah ni chai orphwysfa i wadn ei throed. Y Sabboth yma byddai yn y ty hwn, a'r Sabboth nesaf byddai mewn ty arall. Ymddengys y byddai yn cael ei chynal weithiau ar nos Sabboth, ac nid anfynych y byddai angen am oleuni ar yr achos; a'r ffordd i wneyd i fyny yr angen oedd, i bob un ddyfod a chanwyll gydag ef, a chanwyll frwyn fyddai hono. Ei phrif gefnogwyr ar y dechreu oeddynt, Robert Owen, Derwinucha, yr hwn a aeth ar ol hyny yn bregethwr; William Williams, Mur-y-forwyn; a Robert Parry, Penisa'rmynydd. Dywedir y bu Robert Parry dan fath o gerydd yn eglwys Brynengan am roddi lle i'r Ysgol Sul yn ei dy. Bu raid iddo droi yr ysgol o'i dy, neu ynte golli ei aelodaeth. Y canlyniad a fu i'r ysgol gael ei throi o Benisa'r mynydd, ac nid oedd neb arall a'i derbyniai i dy. Ymddyrysodd yntau am ryw dymor, ac nid äi i'r cyfarfod eglwysig i Frynengan. Gresyn gweled yr hen grefyddwyr selog, cywir, a chynes, wedi camgymeryd y ffordd gymaint hefyd. Ac nid yn unig yr oedd gwr y ty dan gerydd ganddynt, ond byddai unrhyw aelod eglwysig a äi iddi dan gerydd hefyd. Dyma yr Ysgol Sul felly yn ardal Bwlchderwin wedi ei chlwyfo yn nhy ei charedigion; ac y mae yn gorwedd yn ei chlwyfau heb lygad yn tosturio wrthi. Ond nid hir y bu yn y cyflwr diymgeledd hwn. Daeth i feddwl rhai o'r hen grefyddwyr y dylasent wneyd rhyw ddarpariaeth ar gyfer yr ieuenctid. Wele, dau o honynt oedd yn myned ryw ddydd i Gapel Ucha, Clynog; ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan a'u gilydd am yr holl bethau, a bu, fel yr oeddynt hwy yn ymddiddan ac yn ymofyn a'u gilydd, iddynt droi yr ymddiddan at gyflwr ieuenctid yr ardal; canlyniad yr hyn fu, penderfynu ailgychwyn yr Ysgol Sabbothol yn y lle. A'r tro hwn ymunodd rhai o'r hen grefyddwyr gyda'r rhai oedd yn ei dwyn ymlaen o'r blaen, i'w hail-gychwyn eto. Ymysg eraill yr oedd yr hen frawd hynod y cyfeiriwyd ato o'r blaen, Thomas Robert, Tan-y-chwarel; Henry Williams, Ynyshwfa; a John Jones, Gyfelogucha. Yr oedd hyn, mae yn debyg rai blynyddoedd ar ol i'r ganrif bresenol ddechreu, ac yn fuan ar ol hyn daeth bywyd newydd i'r ysgol hon fel i Ysgolion Sabbothol eraill y wlad, drwy sefydliad "Sasiynau y Plant." Dechreuwyd cynal y cyfarfodydd bendigedig hyn yn y flwyddyn 1808. Byddai o wyth i ugain o ysgolion yn cyfarfod eu gilydd mewn rhyw ganolfan, i gael eu holi. A mynych y byddai rhyw arddeliad ac eneiniad hynod ar y cyfarfodydd. Mae yr hanes a roddir am danynt gan Mr. Charles, John Roberts, Llangwm, a Thomas Richards, Abergwaun, yn dangos fod y nefoedd yn foddlawn iawn iddynt. "Pythefnos i'r Sul diweddaf," meddai Mr. Charles, "bu genym Gymanfa plant yma yn y Bala. Yr oedd ein capel helaeth wedi ei orlenwi, ac yr oedd effeithiau gwaith y dydd hwnw yn dra amlwg a llesol yn y dref a'r gymydogaeth. Ni wybum erioed am ddim moddion mor llwyddianus i enill y bobl ieuainc i fod yn ymroddgar i'r gwaith o ddysgu yr Ysgrythyrau. Yn bresenol y mae eu holl fryd ar waith, yn parotoi at gyfarfod arall, ac nid oes siarad am ddim ond y Beibl, a chydystyried yr Ysgrythyrau sydd yn gyfaddas at y pynciau mewn llaw. Mi a welais doddiadau a dagrau dwysion yn eu plith." A dywed J. Roberts, Llangwm, am Gymanfa fel hyn a gynhaliwyd yn nhref Caernarfon—"Ni welais y fath dywalltiadau ar hen bobl a phlant er's blynyddau maith. Yr oedd llawer o bobl heb fyned o'r capel pan yr oedd yr odfa chwech yn dechreu, a bu llawer o honynt yno hyd unarddeg ar ol yr odfa. Wel, dyma gyfarfod go ryfedd i ddechreu, pa beth bynag a ganlyn." Ac y mae Thomas Richards yn adrodd am wyth o gyfarfodydd cyffelyb a gynhaliwyd yn y Deheudir, a bod "miloedd o bobl ynghyd ymhob un o honynt. Mae genym arwyddion diweddar fod ein Duw da yn myned i ymweled a'n hanwylaf blant a'i ras: mae amryw o honynt yn troi eu hwynebau tua Seion, ac yn ymofyn y ffordd tuag yno." Yr un modd caed cyfarfod hynod yn Mrynengan, pan yr oedd yr ysgolion cylchynol wedi cyd-gyfarfod, ac ymysg eraill ysgol Bwlchderwin. Rhoddodd hyn fywyd newydd yn yr ysgol, a pharhaodd hwn ynddi hyd sefydliad y Cyfarfod Ysgolion, yn y flwyddyn 1817. Yn fuan yr oedd yr ysgol hon yn ddigon cref i roddi derbyniad i'r Cyfarfod Ysgol i'w plith. Ac yr oedd eisieu cryn wroldeb a nerth i gynal y cyfarfodydd hyn y pryd hwnw, oblegid yr oedd cynifer a thair ar hugain o ysgolion yn perthyn i'r dosbarth yr adeg hono, ac anfynych iawn y byddai yr un cynrychiolydd heb fod yn bresenol ymhob cyfarfod. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yma, Tachwedd 5ed, 1820, ac un arall Mawrth 14eg, 1824. "Enwau yr athrawon," meddai Humphrey Prichard, Braichyfoel, " yn y flwyddyn 1829, oeddynt Josiah Parry, Owen Owens, William Morris, J. Roberts, Robert Prichard, Humphrey Prichard, Rowland Jones, R. Roberts, Joseph Edwards, Ammi Roberts, Ellen Evans, a Mary Williams. Holl nifer yr ysgol y pryd hwn oedd 74. Yn y flwyddyn 1832, yr oedd yn 98." Y rheswm am y cynydd oedd fod yma ddiwygiad wedi cymeryd lle yn 1831-2. Yr oedd ganddynt arfer dda y pryd hwnw o adrodd adnodau ar wahanol faterion, megis Duwdod a Dyndod Crist, Tywalltiad yr Ysbryd, Fod dyn i barhau byth, &c. Ceid weithiau 25, bryd arall 23, wedi dysgu adnodau ar y pynciau hyn. Mae yn amlwg fod yma lafur da mewn dysgu allan y pryd hwnw, oblegid dysgasant mewn deufis 329 o benodau, a 373 o adnodau.

Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, bu yma eglwys fechan am ychydig amser yn nechreuad Methodistiaeth, ond ni pharhaodd ond ychydig, gan ıddi gael ei llyncu i fyny gan eglwys Brynengan yn fuan, yr hon oedd mewn lle mwy manteisiol i gynyddu. Ac ni sefydlwyd eglwys drachefn yn y lle hyd tua'r adeg yr adeiladwyd capel yma, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1819. Byddai yma ambell bregeth cyn hyn, mewn ty. Y ty lle y cynhelid y pregethau yn gyffredin oedd Foelderwin, sef y ty a roddodd dderbyniad i ysgolion Griffith Jones, driugain mlynedd cyn hyny. Mae yn amlwg fod y teulu oedd yn cyfaneddu yn y lle hwn yn teimlo yn garedig at grefydd ar hyd yr holl amser. Yr oedd y lle yn rhyddfeddiant i'r teulu, yr hyn hefyd oedd yn peri y gallent wneyd hyny heb ofni y canlyniadau. Cynhelid cyfarfod eglwysig yn y ty hwn ac yn Braichyfoel ar adegau, cyn gwneyd capel, a deuai Robert Dafydd yma yn fynych i gynorthwyo i'w ddwyn ymlaen. Mae genym yn ein meddiant lyfr bychan, yn yr hwn y cofnodai yr Hybarch Robert Jones, Rhoslan, y manau, &c., y byddai yn pregethu o'r flwyddyn 1809 hyd y flwyddyn 1818. Nos Sadwrn, Medi 13eg, 1810, am 7, yr oedd yn pregethu yn Foelderwin, ar Jeremiah ii. 13; dydd Llun, Mawrth 9fed, 1812, am 2, ar Salm lxxxv. 8, yn yr un lle, a'r Sabboth, Awst 11eg, 1816, am 2, ar Hebreaid xii. 1, yn yr un modd. Mae yma hefyd gofnodiad ei fod yn pregethu yn yr ardal Sabboth, Chwefror 15fed, 1818, am 2, ar Iago i. 18. Nid oes wrth y cofnodiad hwn ond yn unig enw yr ardal, sef Bwlchderwin. Paham na enwir y ty lle yr oedd yn pregethu yn y cofnodiad diweddaf, nis gwyddom, gan mai yn y flwyddyn ganlynol, sef 1819, yr adeiladwyd y capel. Agorwyd ef hefyd yn y flwyddyn hono, ac y mae un gwr o leiaf yn fyw sydd yn cofio yr amgylchiad, er nad oedd ond plentyn bychan iawn ar y pryd, sef yr Hybarch John Jones, Brynrodyn. Ac y mae dau beth yn fyw iawn ar ei gof llawer o'r coed a ddefnyddid at adeiladu yn aros oddeutu y capel heb eu symud, a Moses Jones yn pregethu. Nid oedd Moses Jones ar y pryd ond bachgen ieuanc, newydd ddechreu pregethu er's ryw flwyddyn cyn hyny. Ond yr oedd hynodrwydd mawr ynddo ef yn pregethu, yn enwedig yn ei flynyddoedd cyntaf, yr hyn a barai ei fod yn taro plentyn yn anghyffredin. Mae yn hysbys i'w weinidogaeth ymhen tair blynedd ar ol hyn, pan nad oedd ond pedair blwydd oed o bregethwr, a naw ar hugain oed mewn dyddiau, fod yn gychwyniad diwygiad grymus yn Mon, yr hwn oedd un o'r diwygiadau penaf fu erioed yn Nghymru. Mor boblogaidd ydoedd ar y pryd, ac mor dyn fyddai y cynulleidfaoedd, fel nas gallai fyned i mewn i aml i gapel drwy y drws, ac y gorfyddid ei wthio i mewn rywfodd trwy ffenestr.

Gan ini mewn penod arall, sef y chweched, wrth draethu ar flynyddoedd cyntaf Owen Owens gyda chrefydd, roddi hanes eglwys Bwlchderwin yn ei chychwyniad, ni a roddwn gam dros yr adeg hono, hyd y flwyddyn 1829. Mewn cofnodau a ysgrifenwyd gan Humphrey Prichard, Braichyfoel, cawn y nodiad canlynol—"Awst 17eg, 1829, bu Thomas Owen, Llangefni, a Griffith Davies, Llanerchymedd, yma, i'r diben o adnewyddu yr Ysgol Sabbothol yn y lle. Cateceisiodd Thomas Owen yr ysgol ynghylch y ddwy ffordd, a'r ddau fath o bobl sydd yn y byd hwn, a'r lle y byddant mewn byd arall, yn llewyrchus ac effeithiol. A chan ddangos gogoniant a defnyddioldeb yr Ysgol Sabbothol, efe a anogodd y plant i barhau yn ffyddlon i ddyfod iddi, ac ymddwyn yn addas ynddi. Anogodd hefyd i'w hesgeuluswyr frysio iddi cyn i nos angau eu dal, i weithio awr ynddi; a chynghorodd yr athrawon i ystyried pwys y gwaith sydd ar eu dwylaw, ac i adnewyddu eu diwydrwydd a'u ffyddlondeb ynddo. A chan fod y gwaith mor fawr, a'r tymor mor fyr, y mae gwir angen deffroad buan. Ac os ydyw yn bresenol yn hau galarus, fod medi gorfoleddus gerllaw. Byddwn ffyddlon hyd angau fel y derbyniom goron y bywyd. Yna pregethodd Griffith Davies ar 2 Timotheus iv. 15." Ddau ddiwrnod cyn hyn yr oedd y gwyr hyn yn y Garn gyda'r un amcan; a diau iddynt ymweled â holl gynulleidfaoedd y sir i'r un diben. Yr oedd hyn yn cael ei wneyd oddiar benderfyniad y Gymdeithasfa, a gwnaed yr un peth y flwyddyn flaenorol. Y gwr a fu gyda Thomas Owen y flwyddyn flaenorol oedd John Prydderch o Fon. Mae hyn yn dangos fod ein tadau oedd yn arweinwyr y Gymdeithasfa y pryd hwn yn gwir-ofalu am yr Ysgol Sab bothol, a diau i ddaioni mawr ddyfod o'r ymweliadau hyn.

Yn y flwyddyn 1832, yr oedd diwygiad gwresog yn Mwlchderwin, fel mewn rhanau eraill yn y wlad. Clywsom y diweddar Mr. William Griffith, Terfynau, yn dweyd ei fod wedi dyfod o Lanllyfni i gapel Bwlchderwin, pan yn fachgen bychan oddeutu deg oed, gyda'i dad, i weled y diwygiad un prydnawn Sabboth, a bod John Jones, Tremadog, yn pregethu. Yr oedd hyn yn ngwanwyn y flwyddyn 1832, ac yn nghanol poethder y diwygiad. Dywedai fod yr olygfa a welodd yn nrws y capel, wrth ddyfod allan, yn fyw yn ei feddwl ar hyd ei oes,—pedwar bachgen pen-goch, pen-noeth, yn gorfoleddu ac yn neidio yn nghourt y capel. Cafodd yr eglwys fechan a gwanaidd yn y lle adnewyddiad mawr trwy y diwygiad hwn. Mewn cofnodau a ysgrifenwyd gan y gwr y cyfeiriwyd ato uchod, cawn y nodiadau canlynol:—"Nid oedd yn eglwys Bwlchderwin yn nechreu Chwefror. 1832, ond deg-ar-hugain o aelodau, ond erbyn dechreu Mai yr oedd yma ychwaneg na phedwar ugain. Pregethai y Parch. Daniel Jones, Ebrill 29ain, 1832, ar Daniel v. 32. Gweinyddai yr ordinhad o fedydd ar ddau o blant, a gweinyddai Swper yr Arglwydd. Dywedir na welwyd erioed y fath deimlad yn Mwlchderwin a'r adeg hon. Yr oedd y rhai oedd yn cyfranogi o'r newydd gymaint eu nifer a'r hen aelodau." Yn yr adeg hon dewiswyd Humphrey Prichard yn flaenor, pan nad oedd ond un-ar-hugain oed, yr hyn sydd yn dangos ei fod yn ddyn ieuanc nodedig iawn, gan na byddai yr hen bobl byth yn dewis neb yn flaenor mewn oedran mor gynar heb fod rhywbeth nodedig iawn ynddo. Ac y mae yn hawdd gweled oddiwrth y llyfrau cofnodau pregethau, &c., a adawodd efe ar ei ol ei fod yn wr ieuanc pell o flaen y cyffredin. Fel hyn y mae yn rhoddi hanes Cyfarfod Ysgol a gynhaliwyd yma Gorphenaf 8fed, 1832:—" Am ddeg, cateceisodd Moses Jones ysgol Taiduon o'r Hyfforddwr viii., gyda blas a llewyrch neillduol; adroddwyd y mater gyda phwyll, sobrwydd, a difrifwch mawr; a phregethodd John Jones, Tremadog, ar Deuteronomium xxxii. 10. Am ddau, cateceisiodd Moses Jones ysgol Bwlchderwin, o'r Hyfforddwr ix. Yr oedd agwedd sobr, siriol, doredig ar yr adroddwyr a'r gwrandawyr drwy yr holl gyfarfod. A diau mai yr Ysbryd Glan a argraffodd y cyfryw agwedd addas i Dduw a'i Air ar y dorf gynulledig. Diolch i Dduw am arwydd o'i foddlonrwydd ar ein llafur gyda ieuenctid ein hardaloedd, a'i fod yn arddel y moddion hyn i'w hachub." Ymhen rhai blynyddoedd ar ol hyn, sef tua'r ff. 1846, cynhaliwyd yma Gyfarfod Ysgol arall effeithiol iawn, pan yr oedd John Jones yn holi y benod o'r Hyfforddwr ar ddydd y Farn. Mae cof byw iawn gan rai am y cyfarfod hwnw, er fod dros haner can' mlynedd er hyny.

Gan fod yr un gwr wedi cofnodi pregeth fythgofiadwy John Elias, yn Sasiwn Pwllheli, yr hon yr edrychir arni fel cychwyniad y diwygiad hwn, ni a hyderwn na ddigia y darllenydd wrthym am ei rhoddi i mewn yma, er nad yw yn hollol ar fater y benod hon. Credwn na bu dim o honi erioed o'r blaen mewn argraff. Traddodwyd hi am ddau o'r gloch y dydd olaf, sef dydd Gwener, Medi 16eg, 1831. Ei destyn oedd Salm lxviii. 1: "Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion. a ffoed ei gaseion o'i flaen ef." William Havard oedd yn pregethu o'i flaen. Yr oedd y bregeth hono fel daeargryn sydyn yn nghanol tawelwch mawr. Gellir dweyd yn briodol iawn am yr adeg hon,—"Y ddaear oedd yn eistedd ac yn llonydd," ond "wele, bu daeargryn mawr." Clywsom hen frawd hynod o Borthmadog—Hugh Owen 'Rhendy wrth ei wrth ei enw, yn dweyd am y bregeth hon,—"Mi bregethodd John Elias y pryd hwnw yn Sasiwn Pwllheli, nes yr oedd Sir Gaernarfon yn crynu drwyddi; a 'dydy hi byth wedi dyfod ati ei hun." Fel hyn yr ysgrifenwyd y bregeth wrth ei gwrando gan Humphrey Prichard:—"Mae rhai yn cyfrif yr adnod hon fel profwydoliaeth, ond tebygol mai gweddi ydyw wrth symud yr arch. Yr oedd yr arch yn gysgod o'r efengyl a'i rhagorfreintiau. Yn yr adnod hon sylwn ar dri pheth. I. Fod i Dduw a'i achos, elynion. II. Fod Duw weithiau megis yn eistedd, yn cysgu, ac fel gwr wedi synu, fel y meddylid fod y gelynion wedi gorchfygu, a llwyddo i ddifetha ei achos ef. III. Fod gan Dduw ei amser ei hun i gyfodi ac i drugarhau wrth Sion, ac i ddinystrio ei holl elynion. I. Fod i Dduw a'i achos, elynion. Mae gelynion Duw yn elynion ei achos, a holl elynion achos Crist yn elynion Crist ei hun, Cain, Ismael. Mae holl au-grefyddwyr y byd, a holl anghrefyddwyr y byd yn elynion Duw. II. Mae Duw weithiau megis yn cysgu, yn ymguddio, ac fel pererin yn y tir. Diben Duw yn hyn yw yn 1. I weled beth a wna ei

elynion wedi eu gollwng. 2, I weled beth a wna ei bobl hebddo ef, ac fel y gwelont ei eisiau ef; ac hefyd fel y caffo enw iddo ei hunan am gyfodi. Wedi ymguddio yr oedd Duw pan erlidiwyd a phan y llosgwyd ei blant, gan eu holl erlidwyr a'u gelynion gynt. Pan lefodd y disgyblion yn yr ystorm, cyfododd Crist, a thawelodd y môr yn y fan. III. Mae gan Dduw ei amser i gyfodi ac i achub ei bobl. 1. Pan y mae ei elynion wedi myned yn hyf iawn, ac i ymffrostio, gan ei ddirmygu ef. 2. Fe gyfyd Duw pan lefo ei bobl arno mewn gwasgfa enaid a chyfyngder meddwl. 'Cyfodaf yn awr oherwydd uchenaid y tlodion.'

'Athrawiaeth I. Nis gall yr arch ddim heb Dduw gyda hi. Mae hyn i'w ganfod yn amlwg yn y Gair. Nid yr arch heb Dduw a drodd yr Iorddonen yn ol, a dynodd y caerau i lawr, &c., ond Duw gyda hi. Pan giliodd Duw, dacw yr arch i ddwylaw y gelynion; ond pan ddaeth Duw ati, wele, Dagon yn syrthio, y gelynion yn cael eu distrywio, ac Israel yn cael eu gwaredu. Gwell gan Dduw fyned ar ol ei arch i dir y Philistiaid, nag aros gyda hi ac offeiriaid godinebus yn ei dwyn.

'Athrawiaeth II. Mae Duw wedi cilio i raddau mawr o blith ei bobl yn y dyddiau hyn. Mae hyn yn amlwg ond ystyried pechodau rhyfygus,—cysgadrwydd a gwrthgiliad Cristionogion o bob enw, caledwch gwrandawyr yr efengyl,—prinder profiadau bywiog, a dynion agos at Dduw, ac yn wir, daearoldeb pregethwyr a bugeiliaid eglwys Dduw. Mae y pethau hyn yn profi fod Duw wedi cilio. 'Cyfoded Duw.'

'Athrawiaeth III. Dyledswydd pob duwiol,—holl eglwysi Duw, yw llefain yn daer,—ymbil yn anorchfygol wrth orsedd gras am i Dduw gyfodi, yn ngwyneb na allwn ddim hebddo ef. Ni bydd dim achub, nac adeiladu Sion, na darostwng ar elynion Duw a'i achos, nes y cyfodo efe. Duw a giliodd; ein pechodau a barodd; Duw sydd fel yn cysgu; Li a'i gyrodd draw ac a bechodd ei wyneb ymaith oddiwrthym. Ond pan gyfodo Duw, fe gyfyd ei weinidogion; pan gyfodo Duw, fe gyfyd ei eglwys; pan gyfodo Duw, fe gyfyd meirwon o'u beddau, fe achubir annuwiolion. O! gyfnewidiad mawr a fydd o flaen ei bresenoldeb ef. Gan fod addewid, dadleuwn hi wrth orsedd gras. Cyfoded Duw, Ti a gyfodi. Amen."

Hydref 6ed a'r 7ed, 1834, cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y lle, y cyntaf a fu yno erioed. Ac y mae Humphrey Prichard yn rhoddi ei hanes yn ei ddull dyddorol ei hun. "Daeth ynghyd," meddai, "un-ar-hugain o bregethwyr, a thri ugain o flaenoriaid—yr oll yn bedwar ugain ac un. Pregethwyd ynddo fel hyn, sef y dydd olaf,—Am ddeg, Griffith Solomon, ar Hebreaid vi. 19, 20; a James Hughes, ar Rhufeiniaid viii. 14. Am ddau, Griffith Hughes, ar Esaiah xlvi. 12, 13; a William Jones, ar Ioan v. 12. Am chwech, Thomas Hughes, ar Caniad Solomon viii. 5; a William Prichard, ar Caniad Solomon iv. 16. Dyma y Cyfarfod Misol cyntaf a fu yn Mwlchderwin erioed. Er fod yno eglwys fechan, a chapel er's pymtheng mlynedd, eto, ni buasai neb yn disgwyl y fath gyfarfod yno byth, o fewn tair blynedd yn ol. Ond yn y diwygiad yn y flwyddyn 1832, daeth yr anmhlantadwy i gadw tŷ, yn llawen fam plant ieuainc lawer; ac yn awr, daeth ei holl frodyr, a'i pherthynasau, yn y tir, i ymweled â hi, ac i foli Duw am ei holl ddaioni tuag ati. Yn y cyfarfod lliosog hwn, gallwn dystiolaethu fod graddau helaeth o lewyrch wyneb yr Arglwydd, a bod ei foddlonrwydd ar y rhanau neillduol a chyhoeddus o hono, o'i ddechreu i'w ddiwedd. Na fydded i ni byth anghofio daioni a gras Duw yn gwenu ar ei ordinhadau, er annheilyngdod y rhai sydd gyda'i waith, ac yn dangos ei fod heb ein gadael eto er ein haflaned. 'Yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll gostega di ger ei fron ef.' Ni ddylid dweyd mai rhagrithio yr oedd pawb a adawodd grefydd; canys yr oedd nerthoedd Duw yn y moddion, yn eu dychrynu a'u cyffroi. Ond y mae llafurus gariad gan yr holl saint tuag at ei enw ef. Mae pawb ynglyn a'r hyn a'u dwg i'r nef neu uffern."

Yn y Cyfarfod Misol nesaf a gynhaliwyd yn Mwlchderwin, yr hwn a gynhaliwyd dydd Mawrth a dydd Mercher, Mehefin yr 8fed a'r 9fed, 1841, y daeth y newydd gyntaf i'r rhan yma o'r wlad, fod y tywysog a'r gwr mawr hwnw yn Israel, wedi gorphen ei yrfa ddaearol, sef yr enwog a'r Parchedig John Elias. Clywsom yr hen dad, y diweddar Mr. R. Evans, Plas-yn-Ngheidio, yn dweyd hyn lawer gwaith; a dywedai fod y newydd fel wedi parlysu pawb yn y lle, fel nad oedd mwyach ysbryd yn neb i gario y gwaith ymlaen. Clywsom Mr. Thomas Ellis, Carnguwch, yn dweyd mai felly yn hollol yr ydoedd yn Nghyfarfod Misol Arfon hefyd, yr hwn a gynhelid yn Nghefnywaen yr un diwrnod. Ni bu Humphrey Prichard yn flaenor ond rhyw ddwy neu dair blynedd. Daeth rhyw ddyryswch ar ei feddwl, ac yn y cyflwr hwnw y bu tra y bu byw. Felly y terfynodd gyrfa y gwr ieuanc galluog a duwiol hwn. Yr oedd yn gyfaill mawr i Owen Owens. Gan eu cyfeillgarwch, byddent yn methu ymadael â'u gilydd, ac yn danfon eu gilydd ol ac ymlaen hyd ganol y nos. Ac ar ryw noswaith felly y canfuwyd y dyryswch cyntaf arno. Aeth Owen Owens ag ef adref; ond cododd o'i wely yn nghanol y nos y noson hono, ac aeth mor bell a Derwinfawr, dros filldir o ffordd, yn ei ddillad nos. Ni ddaeth o'r dyryswch hwn mwy, hyd nes y rhyddhawyd ef gan angau. Bu farw yn y flwyddyn 1862, yn 51 mlwydd oed.

Yn fuan ar ol i hyn ddigwydd, sef tua'r flwyddyn 1836, y daeth y Gymdeithas Ddirwestol i'r wlad. Bu sel mawr gyda hyn yn ardal Bwlchderwin. Yn mis Mai, yn y flwyddyn 1838, yr oedd nifer y dirwestwyr yma yn 138: yr hyn sydd yn dangos nad oedd yma ond ychydig heb fod yn ddirwestwyr. Yr oedd ganddynt faner ddirwestol; a byddent yn myned i wahanol gyfarfodydd mewn ardaloedd eraill, yn cael eu blaenori gan eu baner; yn arbenig i Gymanfa Ddirwestol a gynhelid yn Nhremadog yn mis Hydref bob blwyddyn am lawer o flynyddoedd Cynhaliwyd yma hefyd amryw gyfarfodydd dirwestol. Ac y mae coffa am un nodedig, yr hwn a gynhelid ar ben Foel Derwin. Gan ei bod yn ddiwrnod poeth iawn, yn nghanol yr hâf, aed a buddai yn llawn o lasdwr i ben y mynydd, fel y caffai pawb eu disychedu gan y ddiod lesol hono, ac nid gan y ddiod feddwol. Yr oedd y ddau frawd, Mri. William a John Jones, Llanberis, y rhai nad oeddynt ond pregethwyr ieuainc y pryd hwnw, yn areithio yn y cyfarfod. Ac ni bu John Jones byw ond ychydig ddyddiau ar ol hyn, pan y bu farw yn sydyn yn nhŷ yr enwog Eben Fardd, yn Nghlynog. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1844.

Mehefin 4ydd a'r 5ed, cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol, pan y cafodd y diweddar Barch. David Davies, Abermaw (Penmachno y pryd hwnw), un o'i odfeuon mwyaf nerthol. Torodd y diweddar William Griffith, Terfynau, allan i waeddi dros y lle; a chan ei fod yn ddyn mawr a chryf, a llais grymus ganddo, dywedir ei fod yn dra effeithiol.

Yn y flwyddyn 1868, gwnaed yma gapel newydd, sef yr ail gapel a adeiladwyd yn y lle; ac y mae y ddyled wedi ei thalu er's blynyddoedd. Ni weithiodd neb yn well gyda hyn na William Griffith, Terfynau.

Bu yma amryw flaenoriaid rhagorol eraill, heblaw y rhai y cyfeiriwyd atynt, yn dal cysylltiad â'r achos, y rhai a godwyd i gyd ond un yn y lle; o'r rhai y mae rhai yn aros hyd yr awr hon, megis Mri. Edward Jones, Penmorfa; Hugh Davies, 'Rorsedd; Ellis Jones, Porkshop, Caernarfon; a Hugh Jones, Clynog. Eithr rhai a hunasant, megis Mri. Robert Prichard; John Owen, Ynysleci; Thomas Hughes, Derwinfawr; John Jones, Llwyngwanad; William Griffith, Terfynau; a John Evans, Nyffryn. Os ydym wedi anghofio rhywun neu rywrai mae yn wir ddrwg genym. Mae yr holl flaenoriaid sydd yma yn awr wedi eu codi ar unwaith, er's ychydig o flynyddoedd yn ol.

PENOD IX.
PREGETHWYR A GODODD YN YR ARDAL.
ROBERT OWEN, DERWIN-UCHA.

Ychydig o'i hanes i'w gael.—Yr hyn a ddywedir gan Robert Jones, Rhoslan, a Griffith Solomon.—"Yn wr ieuanc prydferth."—Lle ac adeg ei enedigaeth—Ei rieni.—Richard Tibbot, Llanbrynmair.—Ei deulu.—John Edward, Ereiniog.—Hynodrwydd ei deulu.—Yn brydyddion.—Esiamplau.Crefyddwyr cyntaf Hendre Hywel—Owen ac Ellis Jones, Plasgwyn.—Yn yr ysgol gydag Evan Richardson.—Yn hoff o ddarllen a myfyrio.—Yn ymgolli yn hyny, nes anghofio pob peth arall.—Yn myned yn ysgolfeistr.—Dylanwad ysgolion cylchynol Mr. Charles. Ei farwolaeth.—Yr hen ysgolfeistriaid.—Robert Owen fel pregethwr.

NID ydym yn gwybod i ond dau bregethwr godi erioed yn ardal Bwlchderwin, sef Robert Owen, Derwin-ucha, a Robert Williams, Tan-y-chwarel; ond yr oedd cryn hynodrwydd yn y naill a'r llall, er nad oedd yr hynodrwydd hwnw yn hollol yn yr un cyfeiriad. Ychydig iawn sydd o hanes Robert Owen mewn argraff. Mae y cwbl i'w gael, ni a gredwn, yn Nrych yr Amseroedd, gan Robert Jones, ac mewn hen Drysorfa, gan Griffith Solomon. Ond y mae yr ychydig sydd ar gael yn hynod gynwysfawr a chyflawn, ac yn ddarluniad byw a chywir o'r gwrthddrych. Fel hyn y dywedir yn Nrych yr Amseroedd:—"Robert Owen, o Dderwen-uchaf, oedd yn ŵr ieuanc prydferth, wedi ei egwyddori yn fanwl yn y wir athrawiaeth; treuliodd enyd o'i amser yn athraw ysgol; yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur ac ysgrythyrol. Bu farw yn mlodau ei ddyddiau o'r darfodedigaeth." Ac fel hyn y dywedir yn y Drysorfa:—"Robert Owen, Derwyn-uchaf; boneddigaidd, croew, a chryno." Credwn fod y gair "prydferth," gan Robert Jones yn air cynwysfawr iawn. Yr oedd yn brydferth yn ei gorph, yn ei wisg, yn ei lawysgrif, yn nghyfansoddiad ei bregethau, yn ei ddull o'u traddodi, ac yn ei holl fywyd. Ac er nad oes gan Griffith Solomon ond tri gair i'w osod allan, mor gywir ac mor fyw ydyw y tri gair hyny,—" boneddigaidd, croew, a chryno." Mae yn amlwg fod Robert Owen yn wr ieuanc, "prydferth, boneddigaidd, a chryno," yn ei berson, yn ei fywyd, ac yn ei holl gysylltiadau; fel ysgolfeistr, ac fel pregethwr. A pha nodweddiad mwy dymunol allesid gael mewn dyn ieuanc? Mae y fath swyn i'r ysgrifenydd yn ei hanes, fel y mae wedi troi pob careg oedd yn ei gyraedd, er mwyn dyfod o hyd iddo. Acer na lwyddodd fel y dymunai, credwn y bydd yn dda gan y darllenydd gael hyny a gaed.

Ganwyd Robert Owen yn y flwyddyn 1769, yn Nerwinbach, amaethdy o fewn tua haner milldir i Brynkir Station. Enwau ei dad a'i fam oeddynt, Owen Probert, ac Ellin Ellis; ac aelodau o'r Eglwys Wladol a fuont ar hyd eu hoes. Eto byddai Owen Probert yn myned i wrando ar yr Ymneillduwyr, ar adegau. Dywedir fod brawd i Robert Owen, sef Ellis Owen, tad Mri. Robert ac Ellis Owen, Bwlchderwin, wedi bod yn llaw ei dad, pan oddeutu pedair oed, yn Nerwinucha, yn gwrando ar yr enwog Richard Tibbot, Llanbrynmair, yn pregethu. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1775. Yr oedd ei fam, sef Ellin Ellis, yn tarddu o deulu a chryn hynodrwydd yn perthyn iddynt. Yr oedd yn gyfnither i John Edward, Ereiniog, wedi hyny o Blas-yn-Nghaerwys, pregethwr tra pharchus ymysg y Methodistiaid. Yr oedd tad Ellin Ellis, sef Ellis Powell, yn frawd i Edward Powell, tad John Edward. Mae yn amlwg fod y teulu hwn yn un lled hynod, ac ar rai cyfrifon o flaen i liaws teuluoedd y wlad. Yr oedd Edward Powell, y tad, a John Edward, y mab, yn feirdd o gryn fedrusrwydd a pharodrwydd; a thybir fod eraill o'r teulu yn meddu yr un ddawn. Dywedir mai prif ddifyrwch John Edward, hyd nes yr oedd oddeutu ugain oed, oedd darllen a chyfansoddi prydyddiaeth. Cyfansoddodd hefyd lawer o ganeuon; a dywedir ei fod ar ganol cyfansoddi "Interlude" pan y cafodd droedigaeth. Mae amryw rigymau o waith ei dad, Edward Powell, wedi dyfod i lawr i'n dyddiau ni. Mae un yn lled hysbys, sef math o wawd—gân a wnaeth i grefyddwyr Hendre Hywel, ond yr hon sydd wedi bod yn foddion i gadw yn fyw enwau crefyddwyr cyntaf yr ardal hono. Dyma ddau o'r penillion:

"Dic y Braich a Siontyn,
A Sion Gwmfedw sydyn;
Robert Evan, gadben gwych,
A Chadi grych ei chudyn."

"Dyma wyr y grefydd
Sy'n cersio ar draws y corsydd;
I Hendre Hywel gapel gwych,
I wrando sych-leferydd."


Richard Griffith, mab y Braich, oedd "Dic y Braich," yr hwn a fu ar ol hyny yn byw yn y Gell, ger Criccieth, ac yn flaenor yn Bontfechan. Treuliodd y rhan olaf o'i oes, yn y Traian, Cwmystradllyn, ac yn flaenor yn y Pennant. John Edward, mab y bardd, oedd "Siontyn." Robert Evan oedd wr duwiol oedd yn byw yn Ynys-y-pandy, tad-yn-nghyfraith blaenor yn Horeb, o'r enw Dafydd Davies, Ty'n-y-mynydd. Ac yr oedd y diweddar Mr. Owen Williams, blaenor rhagorol yn y Garegddu, Ffestiniog, yn ddisgynydd ohono. Mae yn amlwg fod y tad a'r mab yn brydyddion pur barod. Yr oedd y tad un noson wedi myned i bwll, ac wedi gwlychu ei droed. Ac anerchai ei fab fel hyn:

"A elli ffeindio i mi'n glós,
Y pwll'r eis dros fy esgid?"

"Yn y pwll sydd ar y rhôs;
Mae yn y nos yn enbyd,"


meddai John Edward, y mab, ar un gwynt. Yr oedd y diweddaf wedi bod mewn siwrnai rywbryd, ar adeg oer ar y flwyddyn. Erbyn iddo ddyfod i'r tŷ yr oedd yr aelwyd wedi ei hamgylchu gan bobl y tê ac eraill, fel nad oedd modd myned at y tan. Ac, meddai ar unwaith:

"Nid oes lle im' wrth y tân,
Gan 'lodau ar draws aelwydydd."

"Fe all y gŵr a'r bwtchas[14] mawr,
Fod yn y llawr yn llonydd."


meddai ei dad, neu ei frawd, yn y fan. Yr oedd Edward Powell yn un hynod hefyd am dori ar gerig. Mewn cae yn agos i'r ty y mae hen bulwark (sef clawdd i'r anifeiliaid gael cysgod wrtho, rhag y gwynt a'r gwlaw), a'r argraff ganlynol ar gareg galed, wedi ei dori yn dda:

E. P.
[sef Edward Powell]
1780.

Ar gareg arall yn mur yr hen ystabl, y mae yr argraff ganlynol:

E. P.
1755.

Mae dawn a thalent yn dyfod i'r golwg hefyd yn nheulu ei frawd, Ellis Powell Yr oedd ei fab ef, Edward Ellis, yn daid i'r Parch. Thomas Ellis, Llanystumdwy, ac i Mr. Robert Williams, Henllan. Ac fel y cyfeiriwyd, yr oedd Ellin Ellis, mam Robert Owen, yn chwaer i Edward Ellis. A chwaer i Robert Owen, Mary, oedd mam y diweddar Barchn. Owen, ac Ellis Jones, Plasgwyn; ac felly, yn nain i'r athrylith rhyfedd hwnw, y diweddar Mr. Owen Jones, Plasgwyn. Digoned hynyna i ddangos fod cryn hynodrwydd yn perthyn i deulu Robert Owen.

Pan yr oedd Robert Owen oddeutu chwech neu saith oed, symudodd ei deulu o Dderwin-bach i Dderwin-ucha. A phan yr oedd oddeutu deg oed, sef tua'r flwyddyn 1779, daeth y diweddar Barch. Evan Richardson, Caernarfon, i gadw ysgol i Frynengan. Cafodd yntau y fantais annhraethol o fod o dan ddysgeidiaeth y gwr duwiol a rhagorol hwnw, gan nad oedd ond prin ddwy filldir o ffordd o'i gartref i Frynengan. Yr oedd y diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern, yn yr ysgol yr un pryd ag ef; ynghyd a'r diweddar Barchn. John Jones, Brynllefrith, gweinidog duwiol, ffyddlon, llafurus, a defnyddiol, gyda'r Annibynwyr, ac Evan Evans, gweinidog parchus a dylanwadol gyda'r Bedyddwyr yn y Garn. Fe ymroddodd i ddysgu, fel mai dyma oedd ei hyfrydwch a'i feddylfryd penaf. Y fath oedd ei ymroddiad i ddarllen ac astudio, fel yr oedd wedi ei lyncu i fyny ganddynt. Nid oedd gorchwylion y ffarm yn cael eu lle dyladwy ganddo. "Pan yr oedd yn llanc yn 'gyru'r wedd,' yr oedd wrth ei waith yn cario'r tail i'r cae, ac eraill yn llwytho. Cerddai gyda'r wedd gan ddarllen ei lyfr. Ac wedi bod yn y cae gydag un llwyth, daeth yn ol am lwyth arall, a'r drol yn llawn, wedi llwyr anghofio dymchwel y tail ohoni, gan faint ei sylw i'w lyfr." Fel yna y dywed Mr. John Owen, Cilcoed, Clynog, am dano, yr hwn sydd yn nai fab brawd iddo, enw yr hwn oedd David Owen. Nid hir y bu yn gweithio ar y ffarm na chododd awydd ynddo i fyned yn ysgolfeistr. Ac y mae rhigwm byr ar gael, yr hwn a wnaeth wrth ffarwelio & gorchwylion amaethyddol, a wynebu ar y gwaith mwy cydnaws a'i ysbryd o gadw ysgol. Fel hyn y mae:—

"Ffarwel yn dawel i dir
Oer ddaear-wndwn, dderwindir;
I ladd gwair, a thyna'r gwir."


Dywedir ei fod yn hynod o hoff o rigymu, fel ei deulu yn gyffredin. Y lle cyntaf yr aeth i gadw ysgol iddo oedd Brynengan. Bu hefyd gyda'r un gorchwyl yn Rhydyclafdy, Bontfechan, Boduan, y Dyffryn (Ardudwy), a Chapel Ucha, Clynog; a diau ei fod wedi bod mewn llawer o fanau eraill. Yr oedd Hugh Jones, un o'r ddau hen bâr a fuont yn briod gyda'u gilydd am dros bymtheng mlynedd a thriugain, yn yr ysgol gydag ef yn y lle diweddaf, yn y flwyddyn 1797. Yr oedd efe yn un o ysgolfeistriaid Mr. Charles o'r Bala. Fel y mae yn hysbys, yr oedd yr ysgolion hyny yn ysgolion cylchynol, ac felly, yn cael eu symud bob rhyw dri, chwech, neu naw mis; ond byddent weithiau am flwyddyn yn yr un man. A buont yn foddion i wneyd daioni dirfawr. Rhoisant wedd hollol wahanol ar ein gwlad mewn ychydig flynyddoedd. Mae y darluniad a roddir o'r wlad cyn eu dechreuad, gan Mr. Charles, yn ddifrifol. "Mi a welais," meddai, "fod ardaloedd helaeth yn Ngwynedd wedi soddi mewn anwybodaeth dyfnaf o bethau Duw; nifer y bobl a fedrent ddarllen yn fychan iawn; ac yn gyffelyb o ran Beiblau yn eu tai. Nid oedd ond prin un o ugain, mewn amryw fanau, yn medru darllen yr Ysgrythyrau; ac, mewn ambell barth, anhawdd oedd cael cymaint ag un wedi ei ddysgu i ddarllen." Ond cyn hir wedi i'r ysgolfeistriaid hyn fod ar waith y mae yn ysgrifenu yn dra gwahanol. "Yr oedd cyfnewidiad amlwg yn egwyddorion a moesau y bobl y buasai yr ysgolion yn eu plith. Yr wyf fy hun yn ymweled â'r ysgolion, ac yn eu cateceisio ar gyhoedd; yr wyf yn cael y boddlonrwydd annhraethol o weled agwedd gyffredinol y wlad wedi newid yn dra rhyfedd, gweled yr anialwch yn blodeuo fel rhosyn, a'r sychdir yn ffrydiau dyfroedd. Trwy yr ysgolion a phregethiad yr efengyl, y mae taeniad gwybodaeth grefyddol yn ymhelaethu ymhob man. O, fy enaid, bendithia yr Arglwydd!" Ac yr oedd Robert Owen yn un o'r fintai fendigedig a fu yn foddion i wneyd y gwaith mawr a bendithiol yma yn ein gwlad. A chredwn ei fod wedi bod yn y gwaith mor hir ac mor effeithiol a nemawr neb o'r gwŷr da hyny. Credwn ei fod yn un o'r rhai cyntaf a godwyd at y gwaith hwn; oblegid yr oedd o ddeunaw i ugain oed pan y dechreuodd Mr. Charles gyda'r gorchwyl bendithiol yma. A pharhaodd gyda hyn tra y parhaodd Mr. Charles i gadw ysgolion. Ac yn y diwedd syrthiodd yn aberth i'w ymroddiad a'i weithgarwch gyda'r gwaith. Achos ei farwolaeth oedd iddo ddioddef gormod o anwyd o'i draed yn yr ysgol; yr hyn a drodd yn ddarfodedigaeth arno, ac a derfynodd ei yrfa, Mehefin y 10fed, 1810, pan nad oedd ond 41 oed.

Mae ein dyled fel gwlad i goffadwriaeth y gwyr da hyny, a fuont yn ysgolfeistriaid yn yr adeg dywyll yma, ac a fuont yn foddion i beri i oleuni wawrio arni, yn ddifesur. Mae sir Gaernarfon yn arbenig felly. Gallem enwi amryw a wnaethant waith rhagorol gyda hyn, megis,—Robert Jones, Rhoslan; John Roberts, Llangwm; Evan Richardson, Caernarfon; Robert Roberts, Clynog: a Michael Roberts, Pwllheli. A rhaid edrych ar Robert Owen, Derwin-ucha, ymysg y fintai anrhydeddus hon. Pa faint yw dyled trefi Caernarfon a Phwllheli, i goffadwriaeth Evan Richardson, a Michael Roberts? Pa faint yw dyled ardaloedd Brynengan, Pentreucha, Llangybi, Beddgelert, Llanaelhaiarn, a Chlynog, i goffadwriaeth, Robert Jones, John Roberts, a Robert Roberts? A'r un modd, gellir gofyn, pa faint yw dyled ardaloedd Bontfechan, Rhydyclafdy, a Boduan i goffadwrieth Robert Owen?

Credwn na bu yn pregethu yn hir; oddeutu deng mlynedd, feallai. Mae genym restr o'r pregethwyr a fu yn pregethu yn Llanllyfni o'r flwyddyn 1791, hyd y flwyddyn 1813, yn nghyd a'u testynau. A'r tro cyntaf y bu Robert Owen yn pregethu yno oedd, Chwefror 14eg, 1802. Gan fod Llanllyfni yn agos i'w gartref, nid ydyw yn debyg y buasai yn pregethu yn hir heb fyned yno, yn enwedig mewn adeg felly, pan yr oedd cymaint o deithio. Ond y mae yn amlwg ei fod wedi llafurio yn galed yn ystod ei dymor byr. Mae yn meddiant ei deulu driugain o bregethau o'i eiddo, y rhai sydd yn foddion i daflu llawer o oleuni ar ei hanes a'i nodweddiad. Maent ymron oll wedi eu hysgrifenu yn dra chyflawn, ac yn arddangos llawer o allu, yn gystal a llafur. Un o'r pethau sydd yn ein taro gyntaf o bob peth wrth eu darllen ydyw yr hyn a ddywedir am dano gan Robert Jones, Rhoslan, sef ei fod "wedi ei egwyddori yn fanwl yn y wir athrawiaeth." Mae ynddynt bregethau ar rai o brif athrawiaethau crefydd, megis y Drindod, Natur a Phriodoliaethau Duw, Cwymp Dyn, Swyddau Crist, &c. Yn wir, nid oes braidd yr un o brif athrawiaethau crefydd, nad oes ganddo bregeth arni, ac y mae yn dangos medrusrwydd mawr i ymdrin a phob athrawiaeth. Mae yn wir fod llawer o gynwys y pregethau i'w gael yn Nghorff Duwinyddiaeth Dr. Lewis; ond yr oedd y pregethwr er hyny wedi ei wneyd, i raddau helaeth, yn eiddo iddo ei hun. Mae y pregethau hyn hefyd yn taflu goleuni i ryw raddau ar chwaeth gwrandawyr yr oes hono. Maent yn gredyd i'r gwrandawyr yn gystal a'r pregethwr. Maent yn dangos y gallent ymborthi ar fwyd cryf ac iach. Peth arall a ddywedir gan Robert Jones am dano, sydd i'w weled yn y pregethau hyn ydyw, fod ei "ddoniau i bregethu yn ysgrythyrol." Mae cyflawnder o ysgrythyrau yn ei bregethau. Mae ynddynt lawer o gyfeiriadau heblaw y rhai a ddefnyddir yn y pregethau. Maent yn dangos llawer o hyddysgrwydd yn yr ysgrythyrau hefyd, mewn esiamplau a chymhariaethau ysgrythyrol. Maent hefyd yn dangos ei fod yn un o wybodaeth gyffredinol helaeth. Gwelir hefyd lawer o engreifftiau ei fod yn hyddysg yn yr iaith Saesneg. Dengys rhai o'r pregethau hefyd ei fod yn meddu ar ddychymyg cryf a ffrwythlawn, ac ysbryd cynes a gwresog. Er mwyn i'r darllenydd gael barnu drosto ei hun, ni a roddwn rai engreifftiau o honynt yn y benod nesaf. Mae yr holl bregethau wedi eu hysgrifenu mewn llawysgrif eglur a phrydferth.

Mae yr argraff canlynol ar ei fedd ef a'i chwaer, yn mynwent eglwys hynafol Clynog:

Coffadwriaeth am Robert Owen,
Derwyn-uchaf, pregethwr yr
efengyl ym mhlith y
Methodistiaid, yr hwn a fu farw
Mehefin 10, yn y flwyddyn 1810.
Ei oedran 41.
Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.
Hefyd am
Eleanor Owen, chwaer yr enwedig
Robert Owen, yr hon a fu farw Tachwedd 13,
1822, yn 41 oed.

PENOD X.
PREGETHWYR A GODODD YN YR ARDAL
ROBERT OWEN, DERWIN-UCHA,—(PARHAD).
Dwy bregeth o'i eiddo, ynghyd a lloffion o bregethau eraill.
Pregeth I.

CRIST YN BOB PETH, AC YMНОВ РЕТН.
"Ond Crist sydd bob peth, ac yn mhob peth."—COL. I. 11.

NID yw'r geiriau rhai'n yn addas i neb ond i'r un y cyfeirir ato yma gan Paul. Maent yn rhy fawr i neb arall i ateb iddynt ond Crist yn unig: maent yn rhy fawr i ddyn nac angel eu llanw. Un mawr am ddyrchafu Crist oedd Paul. Mae ei holl epistolau wedi eu britho ag enw Crist, fel pe baech yn edrych ar yr awyr ar noson ddisglaer yn frith o ser disglaer. Felly y mae efe yn y benod hon yn dyrchafu ei enw ef yn fawr. Yn y rhan flaenaf o'r adnod y mae yn curo i lawr bob enwau eraill, pa ardderchowgrwydd bynag oedd yn perthyn iddynt, ac yn niwedd yr adnod yn gosod Crist i fyny oll yn oll. Er y gall fod amryw bethau o werth mawr yn ngolwg dynion, megis breintiau Iuddew yn llawer mwy na chenedlddyn, urddas Groegwr uwchlaw barbariad; llawer o freintiau sydd yn perthyn i free-man chwaithach caethwas, eto gyda Duw nid yw yr un o honynt ond dim. Yr un sydd a mwya' o'r dyn newydd wedi ei wisgo am dano y mae Duw yn edrych mwya' arno. Nid ydyw pawb eraill, er maint fyddo eu henwau hwy yn y byd, ond cyphers gyda Duw. "Ond Crist sydd bob peth." Nid hyperbole (gorwireb) yw'r ymadrodd yma, sef gosod peth mawr allan drwy gyffelybiaeth o beth mwy; nage, y mae yn ateb i'r gair ymhob ystyriaeth. Ac nid yw'r ymadrodd i'w gymeryd yn ol iaith y byd am bethau. Mi feddyliwn mai'n ol iaith y byd y mae Solomon yn dywedyd yn Llyfr y Pregethwr: "Gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth," Preg. x. 19; yn ateb i bob peth o bethau y byd yma y mae efe yn ei feddwl. Ond pan eir a hwy i'w cymharu â phethau ysbrydol, pethau llygredig y maent yn cael eu galw: "Nithycia cyfoeth yn nydd digofaint." Ond y mae efe mewn pethau ysbrydol yn bob peth,—y mae pob cyflawnder ynddo ef,—cyflawnder Duwdod a chyflawnder dyndod. Y mae yn bob peth a all Duw ei ofyn mewn ffordd o lawn dros bechadur. Y mae'n bob peth a all pechadur ei ofyn tuag at ei berffeithiad. Nid rhaid iddo fyned i ymofyn am ddim i'r un man arall. Y mae efe yn ateb ac yn rhagori ar bawb ag oedd o ran eu personau a'u swyddau yn ei gysgodi ef o dan y gyfraith. Yr oedd Abraham yn cael ei alw, cyfaill Duw; Jacob yn cael ei alw, tywysog galluog gyda Duw; Moses, ei was ffyddlon ef. "Ond Crist sydd bob peth, ac ymhob peth." Mae amrywiol bethau eraill yn dda yn eu lle mewn amrywiol achosion. Mae'r haul yn dda i oleuo, ond nid yw'n bob peth. Nid yw'n ffynon i olchi, nac yn ymborth i'r newynog chwaith; "ond Crist sydd bob peth." Mae'r môr yn dda i olchi, ac y mae digon o ddwfr ynddo, ond nid yw'n bob peth; "ond y mae Crist yn bob peth." Crist sydd Alpha ac Omega i'r Cristion.

Mae rhyw deitlau cyffelyb i hyn yn cael eu rhoddi i'r Pab er mawr ddiystyrwch i'r Crist yma. sydd oll yn oll. Gosodir ef allan yma fel pe b'ai efe heb fod yn ddigon o Fugail, rhaid iddo gael help y Pab; fel pe b'ai efe heb fod yn ddigon o Eiriolwr, rhaid iddo gael help Paul, Pedr, Mair, &c. Ond nid rhaid iddo wrth help neb, neb. "Y mae efe yn bob peth."

"Ac ymhob peth." Gan ei fod ef yn bob peth, mae'n rhaid ei gael ef ymhob peth gan y Cristion hefyd, cyn y bydd. dim yn iawn ganddo ef, nac yn gymeradwy gan Dduw ychwaith. Y mae efe yn holl waith iachawdwriaeth o'r dechreu i'r diwedd. Pe baem ond edrych ar y gadwyn fawr sydd yn cyraedd o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb, y mae efe i'w gael ymhob link. Efe yw sylfaen etholedigaeth, Eph. i. 4. Efe yw gwerth ein prynedigaeth, 1 Pedr i. 18, 19. Ynddo ef yr adgenhedlwyd ni, Eph. ii. 10. Efe yw dechreuwr a pherffeithiwr ein hiachawdwriaeth, Heb. xii. 2; Ioan xv. 4, 5. Efe yw ffynon holl gysuron y Cristion, Ioan xvi. 33; Rhuf. v. 1. Efe yw'r pren sydd yn pereiddio eu holl gystuddiau, ac yn eu sancteiddio, Rhuf. viii. 37. Efe yw sicrwydd a gwysol ein hadgyfodiad, 1 Cor. xv. 20. Efe a'n pwrcasodd, ac a'n dwg ni i ogoniant, Ioan xvii. 22; Dat. xxi. 23. Gan ei fod ef fel hyn yn bob peth yn y gadwyn fawr o iachawdwriaeth, bydded yn bob peth genym ninau. Bydded yn sylwedd ein pregethau ni bob amser. Bydded yn unig Gyfryngwr a phle genym yn ein gweddiau. Gogoniant ei enw fyddo ein hunig gyrchfa ni ato yn ein gweddiau; dyrchafu ei enw ef fyddo ein hunig ddiben ni yn ein hymdrechiadau. Bydded yn unig ddiben ein cân yma ar ein taith, hyd nes delom at y dorf hono sydd yn cyd-daro ar y tant, "Iddo Ef."

"Crist sydd ymhob peth." 1. Bydded yn dy holl ddymuniadau. Bydd yn debyg i'r marchnatäwr doeth hwnw oedd yn ceisio perlau teg; ac wedi iddo gael un perl gwerthfawr, fe aeth ac a werthodd yr hyn oll ag a feddai, ac a bwrcasodd yr un perl gwerthfawr. Pe b'ai'r holl fyd wedi ei lapio i fyny yn un pac, nid yw yn ddim i'w gyffelybu i'r tlws yma. Help i ni ddyfod fel yr apostol i gyfrif pob peth yn dom fel yr enillom Grist, Phil. iii. 8, 9, 10. Mae llawer yn dymuno, Ο na b'ai yr ystad acw yn fy meddiant. ychydig a glywir yn dywedyd, O na b'ai Crist, sydd bob peth, yn fy meddiant, fel y gallwyf ddywedyd, "Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minau yn eiddo fy anwylyd." Llawer o'r swn nefolaidd yma a glywer yn ein heglwysi, hyd nes delom ni i allu dywedyd,—Awn ar hyd heolydd ac ystrydoedd y ddinas i ymofyn am dano ef, gan ddywedyd, "Pa le yr ydwyt, yr hwn a hoffa ein henaid?"

2. Bydded oll genyt hefyd o ran gwrthddrych dy gariad, hyny ydyw, goruwch pawb. Fe elli gymeryd eraill yn anwyl, ond hwn yn Anwylyd. Yr ydwyf yn cofio i mi ddarllen am un Mr. Welsh, wedi iddo ymddiddan am Grist, a aeth i synfyfyrio am dano. Yn y fan fe welwyd y dagrau yn rhedeg dros ei ruddiau. Gofynwyd iddo am yr achos, a chyfaddefodd mai am na allai dynu ei galon i'w garu fel y dymunai.

3. Bydded yn oll genym yn nyledswyddau ein crefydd: efe fel esiampl i'w ddilyn, efe fel nôd i gyrchu ato; dechreu drwy ei gariad, cyflawni drwy ei gymorth, diweddu i'w glod ef. Ni all y Cristion wneyd dim yn iawn, meddai Paul. "Yr wyf yn gallu pob peth," meddai, "trwy Grist yr hwn sydd yn fy nerthu." Nis gall yr aderyn ddim hedeg heb ei adenydd, na'r llong ddim hwylio heb wynt a hwyliau; felly nis gall y Cristion ddim ond trwy Grist.

4. Bydded yn dy holl feddyliau. O mor hapus a fyddem pe baem a Christ heb fyned o'n golwg un amser, ond fel y sun-flower, a'n golwg arno yn barhaus, hyd nes delom i allu dywedyd fel Awstin, fod Crist fel mêl i'w enau, fel peroriaeth i'w glustiau, fel cordial i'w galon. Gadewch i'r bydolion siarad am y byd, y morwyr am eu freights, y marchnatäwr am ei enillion, yr hwsmon am ei ychain, &c. Gristion, son dithau am dy Grist. O fel yr oedd Paul yn ymhyfrydu i chwareu ar y tant yma. Unwaith ar-ddeg y mae efe yn 1 Cor. i. 110 yn swnio enw Crist.

Pregeth II.
Y GYDWYBOD.
"Eithr halogedig yw hyd yn nod eu meddwl a'u cydwybod hwy."—TITUS I. 15.

SYLWN ar y geiriau fel hyn:—I. Am natur y gydwybod. II. Pa fodd y mae wedi llygru? III. Fod modd i'w phuro.

I. AM NATUR Y GYDWYBOD.—Fe allwn ddeall ychydig am natur a gwaith y gydwybod wrth bwyllo, ac ystyried arwyddocâd yr enw. Rhan o'r enw yw gwybod, bôd yn gwybod; ac nid yn unig yn gwybod ei hun, ond cyd-wybod â rhyw un arall. Am hyny, cydwybod yw cyneddf yn yr enaid sydd yn cyd-gofio a gwybod gyda Duw holl waith dyn. Y mae yn natur cydwybod gymysg o gofio a barnu. Fe all cydwybod yn yr enaid edrych i'r enaid, ac iddi ei hun. Nid yw cydwybod ddim fel llygad y corff; fe wêl y llygad bob peth o'i gwmpas, ond ni wêl ei hun; acer y gall edrych i mewn i lawer o bethau, eto, nis gall edrych i mewn i'r dyn ei hun. Trwy fod y gydwybod yn cofio ac yn barnu, y mae'n cael ei galw gan rai yn is-farnydd yn yr enaid, neu raglaw dan Dduw, sydd i farnu beth sydd gyfreithlon neu ddrwg i'r enaid ei wneyd.

Ni chawn y gair "cydwybod" yn yr Hen Destament. Mi debygaf mai y gair a arferir yno am gydwybod yw calon, "А chalon Dafydd a'i tarawodd ef" (1 Sam. xxiv. 5), sef ei gydwybod ef. "Mwy yw Duw na'n calon," meddai Ioan, sef mwy na'n cydwybod, 1 Ioan iii. 20.

II. PA FODD Y MAE Y GYDWYBOD WEDI EI LLYGRU? Diameu ei bod fel y cyneddfau eraill; ac fel y dywedir yn y text, ei bod yn halogedig.

1. Y mae llygredigaeth y gydwybod i'w weled yn ei gwaith yn bod yn fud, pan y dylai gyhuddo, ac yn gadael llonydd i ddyn fyw yn ei bechod. Y mae y gydwybod fel rhaglaw a fyddai wedi myned yn anffyddlon i'w frenin, ac wedi ochri gyda'r rebels, gan adael iddynt dori cyfreithiau y brenin, heb fygwth cosb. Ond er fod cydwybod yn fynych yn fud fel tad Ioan Fedyddiwr; eto, y mae fel hwnw, tra yr oedd yn fud, yr oedd yn ysgrifenu. Ond fe ddaw amser ag y darllenir yr holl ysgrifau yn wyneb y pechadur, ac y deffroir y gydwybod i gyd-dystio,—"Hyn a wnaethost, a mi a dewais; ond mi a'th argyhoeddaf " (Salm 1. 21).

2. Y mae'n gysglyd ac annheimladwy, megis wedi ei serio â haiarn poeth (1 Tim. iv. 2). Y mae hi yn myned fel hyn wrth hir arfer pechu; y mae'n caledu trwy dwyll pechod (Heb. iii. 13). Peth hynod yw pechod, bob tro y gwnelo dyn ef, y mae'n gadael rhywbeth ar ei ol yn y gydwybod, sef euogrwydd. Dyma lle y mae eisteddle euogrwydd.

3. Y mae cydwybod wedi llygru, oblegid, pan y mae yn barnu, yn fynych y mae'n cam—farnu, gan alw y drwg yn dda, a'r da yn ddrwg (Esaiah v. 20). Maent yn meddwl eu bod yn gwneyd gwasanaeth i Dduw wrth erlid a lladd y disgyblion (Ioan vi. 20). Y mae hi weithiau yn condemnio am beth diniwed (1 Cor. viii. 7).

4. Mae cydwybod wedi ei llygru, oblegid y mae ei gwaith yn hanerog iawn; yn argyhoeddi am un pechod, ac yn gadael llonydd i'r dyn mewn pechodau eraill.

5. Y mae cydwybod yn llygredig, oblegid y mae hi yn aflonydd iawn mewn llaweroedd, ac yn peri anesmwythder mawr; weithiau yn gyru rhai i anobaith. "Pwy bynag a'm caffo a'm lladd," meddai Cain. Judas hefyd. Mae cydwybod yn gwneyd llawer un yn druenus, ac yn ddychryn iddo ei hun. Rhan o uffern ar y ddaear yw byw gyda chydwybod wedi deffro. "Ysbryd cystuddiedig, pwy a'i cyfyd?" Cydwybod euog wedi ei deffro a newidiodd wedd Belsassar. Cydwybod euog wedi ei deffro a wylltiodd Judas; gwnaed ei gydwybod fel careg galch i boethi a chwyddo, nes y torodd ar ei draws. Mae cydwybod euog yn debyg i secret letter a 'sgrifenir a llaeth; nis gellir ei ddarllen nes ei ddal wrth dân: yna fe gocha y llaeth, a gellir ei ddarllen, fel pe buasai wedi ei 'sgrifenu ag inc coch. "Pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod," meddai Paul (Rhuf. vii). Pan aed ag ef at wres tân mynydd Sinai, fe adfywiodd pechod, fel y daeth yr holl 'sgrifen ag yr oedd cydwybod yn 'sgrifenu tra yr oedd yn fud fel Zecharias, yn eglur i'w darllen. Felly y daw gyda phawb. Y mae yna rai wedi bod dan ddychrynfeydd cydwybod euog. Dychrynllyd iawn ydyw euogrwydd. Y mae wedi gwneyd i rai waeddi, "Nid oes iechyd yn fy nghnawd, na heddwch i'm hesgyrn, oherwydd fy mhechod." Dychrynllyd iawn ydyw darllen yr hanes am erlidwyr yn marw, a'r gydwybod yn euog,—Herod, Antiochus, ac eraill. Meddai rhywun, os yw cydwybod euog fel yna wedi ei deffro, gwell genyf fi beidio a'i deffro, gael i mi lonydd. Dal sylw, y peth gwaethaf yn y byd yw diffodd argyhoeddiadau cydwybod. er i ti ei muzzlo hi yn awr, fe wna Duw ei genau hi yn rhydd ryw bryd; ac os wedi myned o'r byd yma y gwneir hyny, gwae di byth; hi fydd yn bryf na bydd marw, yn dy gnoi yn uffern, heb obaith tawelwch byth. Pa beth a wnaf? Yr wyf yn suddo i anobaith fel yna. Nid rhaid i ti ddim, oblegid y mae modd ei phuro a'i thawelu yma. Am hyny, deuaf at y pen nesaf, sef yn

III. FOD MODD I'W PHURO.—Y mae yn gofyn bod yn ofalus iawn yn y pwnc yma, rhag cymeryd gau feddyginiaeth. Gochel gymeryd dim y tu yma i'r gwir falm o Gilead. Y peth a apwyntiodd Duw, y mae hwnw yn sicr o wneyd y tro.

1. Gochel gymeryd dy ddagrau, na'th ddiwygio, na rhyw dro a fu arnat, er's talm, i dawelu dy gydwybod. Feallai dy fod di, pan ruo dy gydwybod ac yr elo yn aflonydd, yn cofio rhyw dro fu arnat er's talm, ac yn perswadio dy hun, gan ddweyd, O, ni chollir mo honof, y mae Duw wedi fy ngharu yn siwr, neu ni phrofaswn mo'r pethau a brofais er's llawer dydd. O enaid anwyl, nid yw hynyna ddim yn ddigon, nid Crist a'i waed ydyw peth fel yna. Y mae lle i ofni mai gau Grist sydd genyt ti. Nid rhyw un tro go ryfedd y mae Duw yn ei roddi ar ei bobl, ond aml ymwared. Cafodd Saul, brenin Israel, un tro rhyfedd; y morwynion ffol; y rhai oedd yn gwaeddi, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; a'r rhai a oleuwyd unwaith, &c.

2. Gochel farnu fod dy gydwybod yn dda oherwydd i feithder amser ei gwneyd yn ddistaw. Y mae llawer un ag a fu yn lled aflonydd, ond ymhen amser, y gydwybod yn myn'd yn ddistaw; nid am ei bod wedi taro wrth y wir feddyginiaeth, ond am iddi galedu trwy dwyll pechod, a myned yn annheimladwy. Cofia frodyr Joseph, ymhen hir amser, pan aeth yn wasgfa yn yr Aifft, deffrodd euogrwydd am werthu Joseph yno. Felly, fe ddeffry cydwybod euog ymhen hir amser, fel arthes wedi colli ei chenawon.

3. Nid gweithredoedd da dyn ei hun a wna'r tro, na chyflawniad o seremoniau Iuddewig; nid gwaed yr aberthau, na dyfroedd y moroedd a ddiffydd dân euogrwydd yn y gydwybod.

4. Yr unig foddion y mae'r Beibl yn ei nodi ydyw gwaed Crist (Heb. ix. 13, 14). Os oedd gwaed teirw a geifr yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd, pa faint mwy? Dowch dduwinyddion, a fedrwch chwi ddweyd? Gormod gorchwyl i chwi ddweyd, pa faint mwy; ond ei fod yn ddigon. Gormod gorchwyl i angylion i ddywedyd ei werth. Y mae eiriolaeth y gwaed yma yn fwy yn y nefoedd, na'r pechodau mwyaf a gaed.

"Gwrandewir llais ei ddwyfol glwy',
O flaen eu damniol floeddiad hwy."

Y mae'r gwaed yma yn drech na'r euogrwydd mwyaf a gaed. Diolch am foddion effeithiol ddigon.

1. Os cadwodd y gwaed cysgodol fywyd Israel yn yr Aifft, pa faint mwy y bydd i waed Iesu gadw a phuro?

2. Os cadwodd y gwaed a dywalltwyd wrth fynydd Sinai fywyd, pa faint mwy y bydd i waed Iesu gadw?

CASGLIADAU.

1. Dyledswydd y rhai a gafodd gymwysiad o'r gwaed yw ymdrechu i gadw cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion.

2. Oni phurir y gydwybod yma, fe fydd euogrwydd yn bryf na bydd marw yn uffern.

LLOFFION O'R PREGETHAU.
PA BETH A WNEIR I'R DYN PECHADURUS?

Yn fuan wedi y cwymp, y cwestiwn mawr yma a osodwyd i lawr,—Pa beth a wneir i'r dyn pechadurus? Y mae efe, medd Duw, wedi tori fy nghyfraith, a gwrthryfela yn fy erbyn; a chan belled ag y mae ynddo, wedi cynyg dadwneyd holl waith mawr y greadigaeth; wedi tynu marwolaeth, melldith, a phechod am ben y byd, ac wedi ei ddifetha ei hun am byth. Angylion yn tewi, seraphiaid yn ddistaw; neb o'r llu nefol yn medru gwybod am ffordd i achub dyn. O'r diwedd, dacw drugaredd a heddwch yn codi i fyny i geisio heddychu Duw. Yn union, dacw gyfiawnder a gwirionedd yn codi i fyny, yn wrthwyneb iddynt, gan anog Duw i fyned ymlaen i gosbi dyn, a dangos ei hun yn dân ysol, ac i losgi y pechadur. Yna dyna ddadl yn codi rhyngddynt.

1. Trugaredd, gan ei bod hi yn un barod i dosturio ac i ymgeleddu, nid yw hi ddim yn edrych beth y mae efe yn ei haeddu, na pha beth yw ei achau ef; ond y mae hi yn edrych ymha gyflwr y mae efe. Gogoniant am drugaredd. Pa beth, Arglwydd, a aiff dy waith yn creu dyn yn ofer? A wnei di ddinystrio yr hwn y darfu i ti wneyd y byd erddo? A dafli di ef at gythreuliaid, i fflamau uffern? Oni wna y cythreuliaid, dy brif elynion di, lawenychu? Pa beth a wnei di i dy enw mawr,—Jehofa, Jehofa?

2. Gwirionedd. Mae'n rhaid gwrando ar hono hefyd. Wele hithau yn dyfod a'i phle ymlaen. Medd gwirionedd, Onid dy enw yw Duw y gwirionedd? Onid dyma dy air wrth Adda, "Yn y dydd y bwytäi di o hono, gan farw y byddi farw?" Aconid dyma dy air wrth holl blant Adda, "Yr enaid a becho, hwnw a fydd marw?" A wnei di ddiddymu dy wirionedd? "Bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog."

3. Cyfiawnder, eilwaith, yn taro o du gwirionedd, gan ddywedyd, "Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" Onid dy enw yw y Duw cyfiawn? (Ezra ix. 15; Salm cxix. 13; Dat. xvi. 5, 7. Fel hyn, ni allai heddwch ddim ymddangos. Meddai Cyfiawnder, "Os achubir pechadur heb iawn, Pa beth a ddaw o honof fi?" "Ond," medd Trugaredd, "Os demni di hwy, beth o ddaw o honof finau?”

Wel, wel, pwy ddaw a'r priodoliaethau i gael eu boddloni, a dyn ei achub? Wele, y Mab yn d'od ymlaen, ac megis yn rhoi ei law yn llaw y Tad, ac yn dywedyd y meichnïa efe dros ddyn i dalu ei holl ofynwyr; y mawrha efe y gyfraith, ac y gogonedda efe y priodoliaethau. Wele, addewid i Adda bellach yn union. "Wel," meddai gwirionedd, "mi fynaf finau edrych am gyflawni 'hyna bellach." "Wel," medd cyfiawnder, "mi fynaf finau iawn, onite ni chaiff un pechadur ddyfod yma." Medd trugaredd, "Os myni di iawn, gyfiawnder, mi fynaf finau arbed."

Yn awr, dyma wirionedd wedi ei gyflawni; dyma le i gyfiawnder gael iawn; dyma le i drugaredd ymorfoleddu.

1. Dyma drugaredd, yr holl drugaredd, wedi dyfod (Luc i. 78). Fe elwir Duw, Tad y trugareddau. 2. Dyma wirionedd (Ioan i. 14; Ioan xiv. 6). 3. Dyma gyfiawnder (Jer. xxiii. 6; Mal. iv. 2; 1 Cor. i. 30. 4. Dyma heddwch (Eph. ii. 14; 2 Thes. iii. 16. Trwy Grist daeth trugaredd; trwy Grist daeth heddwch; a thangnefedd trwy Grist. Daeth cyfiawnder trwy Grist; daeth gwirionedd. Yn awr, dyma'r priodoliaethau yn cyd-gyfarfod. Dyma drugaredd yn rhedeg at wirionedd i'w gofleidio; dacw gyfiawnder a heddwch yn ymgusanu. Gogoniant am Iesu.

CRIST YN GWAREDU ODDIWRTH LYWODRAETH PECHOD.

Y MAE pedwar peth mewn pechod. 1. Llywodraeth. 2. Euogrwydd. 3. Halogrwydd. 4. Cosb. Yn awr y mae Iesu y fath Waredwr cyflawn, fel y mae'n gwaredu oddiwrth yr holl bethau hyn.

1. Oddiwrth lywodraeth pechod (Rhuf. vi. 6, 12, 14). Gwae ni ei wasanaethu ef erioed. Llywodraethwr creulon iawn ydyw. Y mae efe am gael y dyn yn gyfangwbl, gorff ac enaid, i'w wasanaethu yma ar y ddaear, ac y mae am fynu y dyn yn gyfan i'w losgi am byth wedi myned oddiyma.

Dilynwch y lleidr yn myned i ladrata. Dywedwch wrtho, "Paid ddyn a lladrata, onide fe'th grogir di yn siwr. Oni wyddost fod rhai wedi eu crogi am ladrad?" "Gwn," meddai. Mae'n rhaid iddo gael gwneyd er hyny. Pa'm? Am ei fod yn was i'w chwant. Yr un modd yr afradlon a'r cybydd. Weithiau y mae dyn rhwng dau chwant, a'r rhai hyny yn groes i'w gilydd; megis cybydd-dod ac afradlonedd, yn cael ei ddirdynu. Weithiau, y mae iâs o gybydd-dod arno, ac fe feddyliech fod hwnw yn cario'r dydd. Feallai wed'yn yr aiff i'r dafarn, ac y gwaria lawer o arian. Yn fuan, y mae y truan yn gofidio wrtho ei hun o achos hyny. Y mae fel slave i'w chwantau. Mae bod dan lywodraeth pechod yn fwy enbydus na bod dan lywodraeth Twrc neu bagan; oblegid y mae yn lladd ei holl ddeiliaid (Rhuf. v. 21). Och! Och! Beth pe gwelech lawer a fu yma yn ei wasanaethu yn ddiwyd iawn? Yr afradlon a'r meddw. Och! yn lle y grechwen ysmala, dim ond wylofain; yn lle gwely o fanblu, gwely o dân; yn lle curtains, fflamau; yn lle attendants, diafliaid duon. Dim gwin na chwrw; dim dafn o ddw'r i oeri tafod. Yn lle telyn, oergri y damnedigion, ac ysgrech y cythreuliaid, &c Ac a geri di beth a'th ddyga di i'r fath le a hwn? Yn awr, onid ydyw yn felus clywed am un a fedr ein gwaredu ni oddiwrth y fath elyn ofnadwy? Diolch i ti, Iesu mawr, am dy gariad, dy dosturi, a'th garedigrwydd, yn dyfod i'n gwaredu ni oddiwrth y fath ddinystriwr ofnadwy a hwn; dinystriwr corff ac enaid, a hyny dros dragwyddoldeb.

"Nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig."

Ond cael adnabod yr enw yma, mae'n rhaid bod yn gadwedig er gwaetha' pawb. Y mae gafael pechod yn gryf iawn, eto ond adnabod enw Iesu, y mae'n rhaid bod yn gadwedig. Y mae buddugoliaeth gyflawn i gael ar bechod trwy Grist, Rhuf. vii. Y mae'r byd yn gryf iawn, eto mae'n rhaid bod yn gadwedig. "Cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.” Y mae angau a'r bedd ar y ffordd, eto y mae'n rhaid bod yn gadwedig er grym angau a'r bedd. Y mae uffern fawr ar y ffordd, eto er cymaint llid uffern y mae'n rhaid bod yn gadwedig.

POB CYFLAWNDER YN NGHRIST.

MAE cyflawnder o ddwfr yn y môr, ond nid oes yno ddim cyflawnder o ymborth. Y mae cyflawnder o oleuni yn yr haul, ond nid oes yno gyflawnder o wisgoedd nac o ddiod. Ond yma, yn Iesu, y mae pob cyflawnder wedi cydgyfarfod; a thyma briod rhai sydd yma. Y mae yn rhagori ar bawb, mae'n fwy ffyddlon nag Abraham, mae'n fwy doeth na Solomon, mae'n fwy ei amynedd na Job, y mae'n fwy ei gariad na Ioan. Mae yn well eiriolwr nag Abraham, mae yn well offeiriad nag Aaron, mae yn well brenin na Dafydd, ac y mae'n well proffwyd nag Esaiah.

Mi glywais son lawer gwaith am store-houses llawnion iawn, ac y byddant yn dywedyd, y mae yno werth hyn a hyn o'r peth a'r peth, mae yno werth hyn a hyn o'r peth arall; ond ni byddai pob peth ddim yno; ond dyma un a phob peth ynddo. Fe fu son mawr am store-houses Joseph yn yr Aifft, a chyrchu mawr iddynt; ond nid oedd yno ond ymborth yn unig, ac fe ddarfu y trysorau hyny er's talm; ond dyma un sydd yn para, ac fe barha byth. Pan ddarfyddo aur Peru, ac y llosgir y mynyddoedd lle mae mwyaf o drysorau ynddynt; pan dywyllo'r haul, ac y sychir y môr, fe fydd pob cyflawnder yn Iesu wed'yn, heb na thrai na gorphen arno. Diolch byth am hyny.

Y MAB AFRADLON.

Yn y benod hon y mae tair dameg,—y darn arian, y ddafad golledig, a'r mab afradlon. Sylwn ychydig ar y mab afradlon yn dyfod adref, Luc xv. 20 Gwelodd y tad ef cyn iddo ef weled y tad, mae'n debyg iawn. Po gynta' y fo pechadur yn meddwl am y nefoedd, y mae'r Arglwydd yn ei weled yn union. Gwelodd y tad ef pan oedd efe eto ymhell." Pe buasai y tad yn gadael iddo nes y daethai adre', a rhoi croeso iddo wed'yn, fe fuasai hyn yn drugaredd neillduol; ond wele yma fwy na hyny. Gall pechaduriaid fod ymhell iawn oddiwrth Dduw o ran eu meddwl, eto yr Arglwydd yn nesâu atynt hwy. "Efe a dosturiodd" hefyd. Fe ddarfu yr olwg arno gyraedd ei galon dyner; fe gyffroes ei ymysgaroedd ef tuag ato fel at Ephraim gynt, Jer. xxxi. 18—20. Ei dad a "redodd" hefyd. O! syndod! Oni fuasai yn ddigon iddo sefyll nes y deuai ato? Na, fe redodd i roi cyfarfod iddo. Os bydd pechadur edifeiriol yn dechreu dyfod dan ymlusgo at Grist, nid dyfod ato o gam i gam a wna trugaredd; na, fe rêd ato. Bowels full of mercy out-pace bowels pinched with hunger. "Efe a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef," ac a'i cofleidiodd ef. O ryfedd na buasai yr olwg arno yn ddigon i beri iddo ei ffieiddio ef yn ei garpiau llymion. Onid oedd sawyr y moch y bu yn eu porthi hwy arno? Oni buasai llawer cylla gweiniaid yn barod i ymadael â'r cwbl wrth yr olwg arno? Nid yw trugaredd ddim yn rhy nice i'w gofleidio. (Gwel hefyd Ezec. xvii. 6). "Ac a'i cusanodd ef." Beth, beth? Cusanu y gwefusau rhei'ny a fu yn ddiweddar o gwmpas cafnau y moch? ïe, cusanu y gwefusau rhei'ny a fu'n ddiweddar yn cusanu y budrogod gan y puteiniaid? Fe fuasai un yn meddwl y buasai ef yn hytrach yn ei gicio ef oddiwrtho. Ond scope y ddameg yw hyn, fod Crist yn llawen ac yn ewyllysgar i dderbyn pechaduriaid; am hyny, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drygionus: "Canys paham, tŷ Israel, y byddwch feirw?"

ADGYFODIAD CRIST.

Yn y benod hon yr ydym yn cael un o'r newyddion a mwya' o gysur ag a swniwyd yn ein byd ni erioed, sef y newydd o adgyfodiad Crist. Yn y benod o'r blaen yr ydym yn cael hanes am Haul y Cyfiawnder yn myned i lawr, dan gwmwl dugoch; ond yma yr ydym yn darilain am godiad yr Haul, a dechreu dydd goleu eilwaith. Mynych y cawn ei bod yn tywyllu ar eglwys Dduw yma yn y byd, ond nid hir y bydd yn parhau: bydd gwawr eilwaith yn codi, ac yn dyfod a hi yn ddydd mwy goleu nag oedd hi o'r blaen. Dyna fel yr â hi ar yr eglwys, yn oleuach, oleuach, nes yr elo hi yn un dydd mawr, goleu, tragwyddol (Dat. xxi. 25).

Ni chyfododd Crist yn gynt, rhag i neb ameu ei farwolaeth. Mewn rhai clefydon fe fydd dynion yn feirw yn hir iawn, ac eto yn adfywio drachefn. Ni bu ddim yn hwy rhag iddo lygru (Salm xvi. 10).

Efe a adgyfododd gydag ardderchog fawrhydi, ac arwyddion arswydus yn crynu'r ddaear (Mat. xxviii. 2). Fe grynodd y ddaear ar ei farwolaeth, a dyma hi yn crynu wrth ei adgyfodiad, fel pe buasai hi yn gweled rhywbeth arni na fu arni erioed ond yn y ddau amgylchiad yma. Hwy a ddywedant y bydd y llew yn rhuo wrth godi i ymofyn am 'sglyfaeth nes y bydd y gwely a fo tano yn crynu; felly yr oedd y Llew yma o lwyth Judah yn abl a'i lais i grynu yr hen ddaear—ei wely (Salm cxiv 7). Pa beth oedd yr achos i'r ddaear grynu? Naill ai yr oedd y ddaear yn crynu gan ofn, neu yn dawnsio o lawenydd. Mae Flavel yn dweyd mai sign of triumph oedd hyn, fel y cawn gân o oruchafiaeth yn y Barn. v. 4, 5.

Fe adgyfododd Crist, nid fel gwr drosto ei hun, ond fel gwr cyhoeddus neu gyffredin, yn enw ei eiddo. Ni chymerth Crist ddim person un gwr wrth wisgo'r natur ddynol am dano, ond y natur. Am ei fod ef fel gwr cyffredin yn sefyll dros ei eiddo y dywedir fod y saint yn marw, yn dioddef, ac yn adgyfodi gydag ef; ac oddiyma y dywedir fod Crist yn flaenffrwyth y rhai a hunasant (1 Cor. xv. 20). Dyma ein cynrychiolwr, a dyma wreiddyn yr achos paham y bydd yr eglwys yn fyw er maint y tonau. Pe b'ai rhywun yn gweled un yn myned trwy ddwfr mawr iawn, a'i weled yn myned yn ddwfn iawn, nes y bo hi wedi myned yn ddadl ac yn amheuaeth pa un a fyddai efe byw ai peidio: un yn dywedyd,—fe foddith yn siwr; na wna, meddai un arall. Paham? Am fod ei ben uwchlawy dwfr. Felly mae eglwys Dduw yn myned trwy ddyfroedd dyfnion, ond ni fodda hi ddim: mae'r pen uwchlaw y dwfr. Mae ei bywyd hi yn Nghrist, ac y mae hwnw yn dywedyd, "Byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd."

Yr un cyrff fydd genym yn yr adgyfodiad, onide ad-greadigaeth a fyddai ac nid adgyfodiad (Phil. iii. 21).

Fe adgyfododd Crist o'r bedd i'w goroni â gogoniant; a dydd o lawenydd mawr i Grist oedd dydd ei adgyfodiad; felly y bydd y saint,—dydd hyfrydwch a llawenydd calon a fydd. Fe ddywedir wrthynt y boreu hwnw, "Deffrowch a chenwch, preswylwyr y llwch" (Esaiah xxvi. 19). Mwy o lawenydd fydd iddynt nag a fu rhwng Jacob a Joseph wedi bod ugain mlynedd yn absenol.



PENOD XI.
PREGETHWYR A GODODD YN YR ARDAL.
ROBERT WILLIAMS, TAN-Y-CHWAREL.

Ei dduwioldeb nodedig.—Sylwadau John Foster—Ei gofiant gan Eben Fardd.—Yn berthynas i'r bardd—O deulu crefyddol a Methodistaidd.—Prif symudiadau ei fywyd.—Ei farwolaeth.—Darluniad o'i berson, a'i dymer.—Ei argraffiadau crefyddol—Cyfnewidiad trwyadl yn ei fywyd.—Ei Arferion crefyddol.—Yn dechreu pregethu.—Yn yr Athrofa.—Ei ysgrifeniadau.—Yn sylwi ar droion Rhagluniaeth.—Ei frwdfrydedd Cristionogol.—Ei awydd am fyned yn genhadwr.—Rhan o'i farwnad.

MAE cyfeiriad wedi ei wneyd yn barod yn y llyfr hwn, at Robert Williams, fel un a chryn hynodrwydd yn perthyn iddo; ac yr oedd yr hynodrwydd hwnw hefyd o'r iawn ryw, oblegid un hynod mewn duwioldeb ydoedd. Dywed John Foster, wrth ysgrifenu at un o'i gyfeillion, pan anwyd mab iddo:—"Os bydd i'r bachgen droi allan yn un da, ni bydd nemawr o bwys genyf am iddo fod yn rhyw dalentog iawn. Daioni ydyw yr hyn ag y mae ein byd ni mewn angen am dano; a phe byddai pawb yn dda, ni byddai angen am i neb fod yn alluog iawn." Beth bynag am dalentau Robert Williams, yr oedd uwchlaw amheuaeth mewn duwioldeb. Ac os ydyw yr hyn a ddywedir yma gan y gwr enwog uchod yn iawn, y mae hyn yn llawer pwysicach na bod yn dalentog. Ac onid ydyw y dyfyniad uchod yn llawn o ysbryd y Beibl, ac ysbryd yr Arglwydd Iesu? Wrth i ni roddi hanes Robert Williams o hyn i ddiwedd y benod hon, gobeithiwn y gwel y darllenydd y dyn duwiol ymhob llinell.

Cafodd coffadwriaeth Robert Williams bob chwareu teg, trwy gael ei ysgrifenu gan un o brif lenorion Cymru, neb llai na'r enwog Eben Fardd. Ac y mae y ffaith iddo ef ymgymeryd â'r gwaith, ac iddo wneyd y gwaith mor fanwl ac mor drwyadl, yn brawf fod y gwrthddrych yn deilwng. Cyhoeddwyd y Cofiant yn llyfryn bychan, tebyg iawn o ran maint i'r Rhodd Mam, ond ei fod yn cynwys llawer mwy o fater, gan ei fod mewn llythyren fanach. Yr oedd mam Robert Williams yn gyfnither i'r bardd, gan fod mam y diweddaf, enw yr hon oedd Catherine Pierce, yn chwaer i fam y cyntaf, enw yr hon oedd Margaret Pierce. Cynwysa y Cofiant hefyd farwnad helaeth o waith y bardd. Er mai bychan ydyw y llyfr, eto, y mae yn dwyn holl nodweddion meddwl yr awdwr, yn alluog, meistrolgar, byw, cryno, a chyflawn. Ni a geisiwn roddi crynhodeb byr o hanes a nodweddion Robert Williams, fel y ceir hwy yn y llyfr hwn, gan ddyfynu rhanau o hono wrth fyned ymlaen. Ni a ymdrechwn wneyd hyny yn ysbryd y llyfr, yr hwn sydd wedi ei ysgrifenu mewn ysbryd nodedig o grefyddol a duwiolfrydig.

Gellir edrych ar Robert Williams fel un o'r "caredigion oblegid y tadau," gan ei fod yn disgyn o deulu nodedig mewn crefydd. Yr oedd ei fam yn wraig amlwg mewn duwioldeb. Sonia am "addysg ei anwyl fam," ac y byddai yn "clywed ei fam yn gweddio" yn fynych. Tybiwn hefyd mai hi fyddai yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn y teulu. Yr oedd hithau yn wyres o du ei thad, enw yr hwn oedd Robert Prichard, i un o hen grefyddwyr cyntaf ardal Brynengan, yr hon a elwid ar lafar gwlad "Sudi Brynbrych," yr hon, fel y gwelir mewn cwr arall o'r llyfr hwn, oedd yn un hynod mewn crefydd. Tybiwn hefyd fod ei fam o ochr ei mam, enw yr hon, fel y cyfeiriwyd, oedd Margaret Pierce, yn perthyn i rai o hen Fethodistiaid cyntaf Eifionydd. Mae llawer o ganghenau o'r cyff hwn yn wasgaredig trwy Leyn ac Eifionydd, y rhai sydd yn bobl barchus, ac yn grefyddwyr selog a chywir. Yr oedd brawd iddi hi o'r enw Evan Pierce yn flaenor yn niwedd ei oes yn Llanengan, ac yn byw mewn lle o'r enw Tyddyncallod, ac yn flaenor er's llawer o flynyddoedd cyn hyny yn y Terfyn neu Seion, Clynog, ac yn byw yn Llwyn—yr—aethnen, plwyf Llanaelhaiarn. Bu pregethu lled gyson yn nhŷ Llwynyr—aethnen am lawer o flynyddoedd yn amser Evan Pierce (o 1790 hyd 1820, feallai). Bu pregethu achlysurol yn y lle hyd y flwyddyn 1850. Yr oedd efe yn hen gymeriad nodedig a chryf. Yr oedd yn arw yn ei ffordd, ac yn meddu ar lawer o arabedd. Dywedai ymadroddion yn ymylu ar fod yn anweddus, ond yr oeddynt yn gweddu iddo ef, er na fuasent felly i neb arall. " Yr oedd ganddo allu anghyffredin i effeithio ar deimladau dynion: un funyd gwnai i gynulleidfa chwerthin gan lawenydd, y funyd nesaf gyrai hwy i wylo dagrau." Yr oedd y diweddar John Evans, y Nant, blaenor call a dylanwadol yn y Nant, yn fab iddo, ac y mae Mrs. Roberts, priod y Parch. D. Roberts, Abererch, ysgrifenydd medrus Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd, yn ferch iddo yntau. Adwaenem chwaer hefyd i John Evans, sef Ellin Evans, Murmawr, Clynog, yr hon oedd hen chwaer hynod am ei ffraethineb, ac mor hynod a hyny am ei duwioldeb; ac y mae Mr. Owen Evans, blaenor ffyddlawn yn Seion, yn fab iddi hithau. Mae Mr. Evan Evans, blaenor medrus yn Gosen, hefyd yn ŵyr 1 Evan Pierce. Mab i Catherine Pierce oedd Eben Fardd, bardd enwocaf ei oes. Ac y mae nifer mawr o ddisgynyddion i Margaret Pierce yn y wlad, y rhai sydd yn grefyddwyr ac yn Fethodistiaid o'r iawn ryw. Yr oedd Richard Roberts, blaenor yn Nebo, Llanllyfni, yn fab iddi; ac y mae Mr. Richard Jones, yr hwn sydd yn flaenor selog a haelionus yn Golan, yn wyr iddi. Mae ein cyfaill Ioan Eifion, Talysarn, yn gallu enwi cynifer ag un-ar-ddeg o bregethwyr yn ddisgynyddion i Robert Prichard a Margaret Pierce, o ba rai y mae efe ei hun yn un. Enwa hefyd nifer mawr o wyr dylanwadol eraill sydd yn disgyn o honynt. Ond amser a gofod a ballai i ni enwi ychwaneg. Yr oedd chwaer arall i Margaret Pierce yn byw yn y Garn, o'r enw Ellin Pierce, yn briod â hen flaenor o'r enw Robert Sion. Bu Ellin Pierce yn Llangeitho lawer gwaith yn gwrando ar yr enwog Daniel Rowlands. Nid dinod ychwaith oedd teulu Robert Williams o du ei dad. Saer coed oedd ei dad, John Williams, wrth ei alwedigaeth. Bu yn gweithio am lawer o flynyddoedd yn y Gwynfryn, gyda'r hen foneddwr Cymreig hynod, y diweddar Major Nanney, tad Syr Hugh E. Nanney; ac efe oedd pensaer yr ystad. Nid oedd John Williams yn proffesu crefydd, ond yr oedd yn gymeriad difrycheulyd. Yr oedd hefyd yn weithiwr da, ac o flaen ei oes mewn rhoddi addysg i'w blant. Yr oedd ei dad, sef William Williams, Ynys-yr-arch, Bwlchderwin, yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod yn Llanllyfni. Yr oedd yntau, meddir, o fywyd pur, ac yn dduwinydd da. Na thybied y darllenydd mai o gywreinrwydd yr ydym yn olrhain yr achau hyn, ond yr ydym yn gwneyd, i weled ffordd y Duw mawr o amlhau duwiolion o'r iawn ryw yn y wlad.

Ganwyd Robert Williams yn mis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1814. Enwau ei dad a'i fam oeddynt John a Mary Williams, ac yr oeddynt yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Tan-y-chwarel, yn agos i gapel Bwlchderwin, ac mewn amgylchiadau cysurus o ran eu bywoliaeth. Dygwyd Robert i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, sef saer coed, a dywedir ei fod yn dra diwyd, gofalus, a medrus yn ei orchwyl. Cafodd addysg dda, yn ol manteision y dyddiau hyny, a dywedir ei fod yn dysgu yn dda ac yn fuan. Bu yn dysgu ei alwedigaeth gyda'i dad am tua chwe' blynedd, gan ddechreu mor ieuanc a deuddeg oed. Ar ol hyny, bu yn Mhwllheli yn gweithio ei waith am tua blwyddyn a haner. Wedi dyfod yn ol i'w hen ardal, dechreuodd gadw gwaith ei hun, yn agos i gapel Bwlchderwin, sef yn llofft ystabl, Gyfelog-ucha, ac efe y pryd hwnw, a wnaeth waith coed y ty capel presenol. Ond yn fuan symudodd i ardal Pantglas, lle y bu am amryw flynyddoedd, yn cadw gweithdy saer, ynghyd â siop fechan; a dywedir ei fod wedi bod yn dra llwyddianus gyda hyn. Adeiladodd dri o dai yno, ac y maent yn aros eto, sef y tai sydd rhwng y ddau gapel. Tua dechreu mis Awst, yn y flwyddyn 1842, gadawodd ei fasnach a'i waith, ac aeth i'r Athrofa i'r Bala, lle yr arhosodd am tua dwy flynedd a haner. Yn mis Mawrth, 1845, dychwelodd adref, dan orthrwm afiechyd a gwendid; ac er gwneyd a allai i ymryddhau o afaelion sicr a haiarnaidd angeu, gorchfygwyd ef o'r diwedd; ac wedi hir nychdod poenus, yr hwn a ddioddefodd gydag addfwynder ac amynedd mawr, ac ymroddiad tawel i ewyllys yr Arglwydd, hunodd yn yr Iesu, debygem, ar yr 11eg o Fawrth, yn y flwyddyn 1846, pan yr oedd yn agos i 32 mlwydd oed; a chladdwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Calfinaidd, wrth y Capel Uchaf, Clynog, o'r lle 'ni chyfyd mwy hyd oni byddo heb nefoedd." Dyna hanes rhai o brif symudiadau ac amgylchiadau ei fywyd, ynghyd ag ychydig o hanes ei fisoedd a'i ddyddiau olaf.

O ran ei berson, "yr oedd yr fachgen teg, gwisgi, hoew, a phrydferth, o'r maintioli canolig, a'i ysgogiadau yn naturiol a dirodres. O ran ei dymer, yr oedd yn siriol, yn fywiog, a boneddigaidd; yn dra charuaidd a hynaws, ac ar yr un pryd yn meddu gradd o urddas a'i hamddiffynai rhag agosrwydd digroeso yr haerllug a'r hyderus. Yr oedd yn ufudd i'w rieni gyda phob gostyngeiddrwydd a serch; a dangosai dra—hoffder neillduol at ei frodyr a'i chwiorydd, ynghyd â thueddrwydd serchus at bawb o'i gyfathrach. Cydweddai ei dymer yn well â sirioldeb tangnenefeddus ac â digrifwch ysgafn, nag a llawenydd wttresgar a therfysglyd, neu ddigrifwch trystfawr ac angerddol; yn fyr, yr oedd yn un o'r dosbarth hwnw a hoffant ddifyrwch a llawenydd tawel, a chymedrol; yn hytrach na phrudd-der tawedog ar un llaw, neu chwerthiniad ynfyd a gormod rhysedd ar y llaw arall."

Ni bu nemawr o argraffiadau crefyddol ar ei feddwl hyd nes yr oedd o 14 i 15 mlwydd oed. Cyn hyn, ymunai â chymdeithion ieuainc di-grefydd yn eu harferion gwamal, ysgafn, ac anystyriol, heb ddangos unrhyw wrthwynebiad. Ond pan yr oedd yn yr oedran uchod, teimlodd bethau pur rymus ar ei feddwl, o dan bregeth y diweddar Barch. W. Jones, Rhyd-ddu (ar ol hyny o'r America) ar Deut. xxxii. 29, "O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!" Efeithiodd y bregeth hono gymaint arno, fel y methodd ag aros yn y capel i or phen yr addoliad. Ni bu dim neillduol ar ei feddwl ar ol hyn hyd nes yr oedd yn agos i 23 oed. Eto, tystiai ei fod yn cael ei gadw yn dyner o ran ei gydwybod, ac mai yn swn yr efengyl fwyn yr oedd yn cael mwyaf o bleser. Ymunodd yn yr oedran hwn a'r eglwys yn Mwlchderwin. "Wedi ei ddychweliad at yr Arglwydd ac at ei bobl, dilynodd cyfnewidiad trwyadi yn ei holl olygiadau a'i arferion; nid ymddangosai fel dychweledigion ieuainc yn gyffredin; yn raddol a hanerog yn ei ymneillduaeth oddiwrth y byd, ac oddiwrth arferion yr oedd wedi hir gynefino â hwynt, ond troes braidd ar unwaith, yn grefyddwr o'r fath fanylaf; ymroes i hunanymwadiad llymdost, a neillduolrwydd meudwyaidd braidd; ac er iddo ddyfod mewn amser, feallai, yn fwy cymdeithasgar, eto, ni leihaodd ddim yn ei fanyldra crefyddol yn ol goleuni ac argyhoeddiad ei gydwybod." Tua'r adeg hon, ysgrifenai at ei frawd y geiriau difrifol a ganlyn:—" Mae yn drueni meddwl dy fod heb dderbyn Iesu yn Frawd; yr wyf fi yn tystio gerbron Duw, yr hwn a wyr galonau pawb, na bu ddim yn edifar genyf, un munyd, roddi fy hunan iddo, ond yn gwbl fel arall, yr wyf yn foddlonach nag y bum erioed o'r blaen; yr wyf wedi cyraedd cartref i'm meddwl ansefydlog am byth, gobeithiaf." "Parhaodd," meddai ei Gofiantydd, "i fwynhau y teimladau bywiog a duwiolfrydig hyn ar hyd gweddill ei oes, gydag ond ychydig iawn o eithriadau; ymddangosai ymhob modd, ac ar bob adeg, braidd, mewn tuedd, agwedd, ac ymarweddiad, yn gyfrinachol, yn gystal ag yn gyhoeddus, fel un wedi 'rhoddi ei hun i fyny i Iesu Grist,' mewn gwirionedd."

O ran ei arferion crefyddol, "daliai olwg eiddigeddus arno ei hun, rhag i'w wendid fod yn fagl iddo, a rhag i'r cnawd un amser ei orchfygu. Tuag at hyn arferai amryw foddion yn ddarostyngedig i effaith a dylanwad gras a bendith, megis,

Ymprydio mynych;
Adolygu ei ymddygiadau;
Penderfynu a llunio rheolan;
Cofrestru addunedau, &c., &c.


Adolygai yn fanwl ei ymneillduaeth unigol, ei gyfeillachiad cyfrinachol, fel ei ymddygiadau mwyaf cyhoeddus—mewn canlyniad i ymddangosiad annisgwyliadwy unrhyw wendid neu anweddeidd-dra, lluniai benderfyniad, ac addunedai adduned, a chofrestrai hwynt mewn llyfr, gyda gweddi ac ympryd am ras a bendith; ac fel hyn ymadnewyddai mewn syniad difrifol i gymeryd gair Duw yn llusern i'w draed, ac ymgadw yn ol y gair ymhob amgylchiad yr elai iddo."

Ymhen tua dwy flynedd ar ol dyfod at grefydd, sef yn y flwyddyn 1839, dangosodd awydd i fyned i bregethu yr efengyl. Yr oedd Owen Owens yn un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll, ag y datguddiodd Robert Williams ei feddwl iddo mewn perthynas i hyn; ond ni chafodd nemawr o groeso ganddo. Yr oedd y ddau mor wahanol i'w gilydd: un yn dra difrifol ei feddwl, y llall dipyn yn ysgafn; y naill yn afrwydd ei ymadrodd, y llall yn wr ymadroddus, fel Aaron. Yr oedd y ddau un tro yn myned i Dremadog i areithio ar ddirwest, pan y gofynodd Owen Owens iddo sut yr oedd ei araeth. "O, 'fe roddir i ti yn yr awr hono' ydyw hi gyda mi," meddai Robert Williams. Ond pan gododd i fyny yn y cyfarfod i siarad, aeth yn dywyll iawn arno, fel yr oedd yn methu braidd gael dim i'w ddweyd. "P'le mae 'rhoddir i ti yn yr awr hono' rwan, Robert?" meddai Owen Owens yn lled uchel. "Nid oedd ei ddawn i siarad yn gyhoeddus ddim mor rwydd ag y buasai ddymunol ei bod. Yr oedd, er y cwbl, ryw serchiadau nefolaidd, a syniadau pêrlewygol, yn melysu yr ychydig a ddywedai, nes ei wneyd yn hyfryd ac adeiladol."

"Yr oedd yn dra awyddus am ddysgeidiaeth. Nid oedd heb radd o athrylith naturiol: cyrhaeddodd law dlos mewn ysgrifenu, medrusrwydd mewn gohebu, a chywirdeb iaith o ran orgraff, cystrawen, ac arddull, o'i waith ei hun yn benaf, oddieiter yr ychydig a gawsai pan ydoedd yn bur ieuanc. Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, bu yn yr athrofa am ddwy flynedd a haner. Cynhaliodd yno ei nodweddiad am dduwiolfrydedd yn rhagorol, a gwnaeth ymdrech deg i ddysgu."

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa yn Mhwllheli, Medi yr 8fed, 1843, yn un o saith, oll o Sir Gaernarfon. Yr oedd dau heblaw efe o Leyn ac Eifionydd, sef y diweddar Barchn. W. Hughes, Llanengan, a Morris Roberts, Pwllheli. Mae un o'r saith yn aros eto, sef y Parch. J. Jones, Bryn'rodyn, yr hwn yn ddiau sydd wedi ei blanu yn nhŷ yr Arglwydd, gan fod yr arwyddion arno,—yn ffrwytho yn ei henaint, yn dirf ac yn iraidd, ac yn mynegi mai uniawn yw yr Arglwydd. Cawsom ryw gymaint o ddefnyddiau y llyfr hwn ganddo.

"Ysgrifenodd yn ystod ei fywyd crefyddol lawer, a gellid dethol rhanau helaeth o'i ysgrifeniadau mwyaf cyffredinol yn eu cymhwysiad, y rhai pe cyhoeddid a fyddent yn dra difyrus ac addysgiadol i Gristionogion ieuainc. Mae ei ddyhewyd crefyddol yn amlwg a nodedig iawn yn y cwbl; gwelir ynddynt y mawr ymdrech a wnelai, a'r gwyliadwriaeth a gadwai, tuag at fyw pob diwrnod i Dduw. Cynwysir ei ysgrifeniadau mewn pedwar dosbarth, a'r cwbl yn dwyn arnynt yr un argraff o dduwiolfrydedd syml ac ymroddol:"—(1) Dyddlyfr, yn cynwys ei brofiad a'i addunedau; (2) Cofnodau o bregethau a wrandawai, ynghyd a sylwadau o'i eiddo ei hun; (3) Ei bregethau a'i ddarlithiau ei hunan; (4) Ei lythyrau. Dywed ei Fywgraffydd fod ei lythyrau wedi eu "hysgrifenu yn drefnus a thlysion, ac yn wastad yn llawn o frwdfrydedd sanctaidd."

"Tynir ein sylw yn neillduol wrth olrhain ei ysgrifeniadau, at y crefyddoldeb a feithrinai yn ei feddwl wrth ystyried troion Rhagluniaeth Duw yn llywodraethiad ei amgylchiadau tymhorol. Nodai yn ddyfal bob amlygiadau o weithred dirgel Rhagluniaeth yr ei sefyllfa bersonol ei hun, yn gystal ag yn chŵyl achosion y byd a'r eglwys yn gyffredinol. Nid oedd dim a wnelai damwain a'i gredo ef; tynai yn aml destynau i folianu a rhyfeddu ac addoli yr Arglwydd, oddiwrth ddigwyddiadau ag oeddynt yn cael eu gollwng heibio yn ddisylw gan y byd yn gyffredinol, a byddent yn foddion i gryfhau ei ymddiriedaeth yn yr Arglwydd, ac i greu ynddo ymostyngiad boddlon i'w holl oruchwyliaethau tuag ato ei hun, a thuag at eraill o fewn cylch ei gydymdeimlad."

"Rhoddodd ddau amlygiad neillduol o'i frwdfrydedd dros lwyddiant teyrnas Crist yn y byd, y rhai a wasanaethant i amlygu ei ddibenion mawr, a'i awyddfryd sanctaidd i ragori yn ngwasanaeth ei Feistr nefol. Torodd y brwdfrydedd hwn allan yn ei wresogrwydd cyntaf i dyb hyderus y gallai fod yn ddiwygiwr effeithiol ymhlith ei frodyr, a bod yn offeryn i ddwyn ymlaen wellhad graddol mewn llawer o bethau yr edrychai arnynt yn ddiffygion o gryn bwys. Y dyb hon am ei swydd a'i ddefnydd yn yr eglwys a'i cymhellodd yn rymus i weithrediadau bywiog ac effro, at ddwyn o amgylch y gwellhad oedd mewn rhagolwg mor ddymunol a gwerthfawr. Yr ail ffurf y torodd ei frwdfrydedd allan ynddo oedd ysbryd cenhadol o'r fath gryfaf. Teimlai awydd angerddol i fyned yn genhadwr i China, a gweithiodd yr amcan hwn yn neillduol ddwys ar ei feddwl."

Dydd Llun, Tachwedd 3ydd, 1845, cynhelid Cyfarfod Misol yn Mwlchderwin. Fel arfer, yr oedd swyddogion y lle yn adrodd eu profiadau, ac yn eu mysg, Robert Williams. Yr oedd ar y pryd yn ddwfn yn ngafael y darfodedigaeth; a'r olwg arno yn welw, ac yn wael anarferol. Pan ddaeth ei dro, i adrodd ei brofiad, teimlid fod rhyw fin hynod ar ei eiriau, a bod difrifwch tragwyddoldeb yn ei eiriau, yn ei wedd, ac yn ei ysbryd. "Fe fum i," meddai, " yn disgwyl llawer o bethau yn y byd yma, yn ystod fy oes. Fe fum yn disgwyl bod yn bregethwr mawr, yn bregethwr poblogaidd, ac yn genhadwr enwog. Ond heddyw, y mae darn bach o adnod yn dweyd fy holl ddisgwyliad i 'rwan. A dyma hi,—' Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi," Fel y gallesid disgwyl, aeth ei eiriau fel trydan trwy bawb oedd yn y Cyfarfod Misol. Dywed y Parch. D. E. Davies ei fod wedi clywed ei dad, yr hwn oedd yn bresenol ar y pryd, yn adrodd yr hanesyn uchod ddegau o weithiau, a phob amser gyda rhyw arddeliad neillduol.

Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, y mae marwnad helaeth yn y Cofiant, o waith yr un awdwr. Rhoddwn yma ryw dri phenill fel esiampl o'r gweddill, y rhai sydd yn dangos dawn yr ysgrifenydd, yn gystal ag yn ddarluniad byw o'r gwrthddrych. Mae yn y farwnad ddau ar hugain o leiaf o benillion o'r un hyd a'r rhai dilynol, ac yr ydym yn tueddu i feddwl nad ydyw y farwnad yn gyflawn yn y copi sydd genym. Wele y penillion:

"Gwelem ynddo'n aml, dybygem,
Gryn ddefnyddiau gwas i Grist;
Meddai ar ymroad gweddaidd,
'Ngwyneb aflwydd tramgwydd trist;
Meddai ryw lywodraeth brydferth,
Ar ei nwydau bob yr un;
Meddai deimlad at addurno
Enw Duw a'i enw ei hun."

"Meddai awydd at ddysgeidiaeth,
Meddai archwaeth moesol da;

Meddai ŵg at lygredigaeth,
Oedd yn taenu pob rhyw bla;
Meddai olygiadau serchog,
Ar drysorau cariad Duw;
Mawr chwenychai ddwyn yr euog,
At Gyfryngwr i gael byw."

"Yn ei iechyd fe wanychai,
Yn ei olygiadau i gyd;
Ymddangosai'n rhy uwch-nefol
I fod mewn daearol fyd;
Fel planhigyn byd ysbrydol,
Rhy gynesol oedd ein brawd,
A'i flodeu'n agor yn rhy lydain,
I fyw yn hir yn awyr cnawd."


Dyma ddarluniad o Robert Williams, wedi ei dynu ymron i gyd gan bin un o brif ysgrifenwyr Cymru, neb amgen na'r enwog Eben Fardd. Nis gwyddom beth a feddylia crefyddwyr ieuainc yr oes hon am dano; ond credwn ei fod mor debyg i Gristion y Beibl a nemawr neb a welir yn y dyddiau hyn Rhai o'r un ysbryd ag ef hefyd oedd y dynion a wnaethant eu hôl ar y byd er daioni ymhob oes. Rhai felly oedd y Diwygwyr Protestanaidd, y Piwritaniaid, a'r Diwygwyr Methodistaidd. O, na welem fwy o gymeriadau tebyg iddo yn y dyddiau hyn!



PENOD XII.
OWEN OWENS YN CAEL EI GODI YN FLAENOR, AC YN PRIODI.

Ei godi yn flaenor yn ieuanc.—Ei gyd-flaenor, Robert Prichard.—Y ddau yn ateb i'w gilydd.—Ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol.—Yn priodi—Rhagoriaethau a duwioldeb nodedig ei briod, Mari Owen.—Hanesyn am dani.—Yn cael ei ddisgyblu.—Gweddi hynod Owen Owens wrth fyned i Sasiwn y Bala, pan o dan ddisgyblaeth.—Adgofion y Parch. John Jones, Bryn'rodyn, ac eraill, am dani—Ei adferu i'w swydd drachefn, a'i ffyddlondeb ynddi, am dros ddeugain mlynedd.

DIGWYDDODD y ddau amgylchiad yma yn bur agos i'w gilydd yn hanes Owen Owens; ac yn ol y drefn uchod o ran amser. Pur anfynych y byddai yr hen bobl yn cymeryd y drefn hon hefyd. Fel rheol, ni chodent neb yn flaenor nes y byddai wedi priodi, yn enwedig os byddai y cyfryw yn ieuanc iawn. Ond fe godwyd Owen Owens cyn priodi, ac er ei fod yn bur ieuanc. Bu farw Rhisiart Humphrey, yr unig flaenor oedd yn Mwlchderwin, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn haf y flwyddyn 1826. Ac yn ol pob tebyg, fe ddewiswyd dau yn ei le ar unwaith, sef Robert Prichard, Gyfelog-ucha, ac Owen Owens. Mae yn sicr fod y cyntaf wedi ei ddewis y pryd hwn, os nad ychydig yn gynt; oblegid y mae hyn yn cael ei ddweyd ar gareg ei fedd. A chodwyd Owen Owens yr un adeg, neu ynte ymhen tua blwyddyn o leiaf ar ol hyn: a phan yr oedd efe yn ryw chwech neu saith ar hugain oed. Mae cyfeiriad wedi ei wneyd yn barod, fod yr hen flaenor wedi cyfeirio ar ei wely angau, at Owen Owens, fel un cymwys i fod yn y swydd, gan anog yr eglwys i'w ddewis, ar ol iddo ef farw. Ac nid yw yn debyg y buasai yr eglwys fechan yn y lle, yn diystyru barn a chyngor yr hen flaenor duwiol a sanctaidd, yn ei ddyddiau olaf. Yr oedd Robert Prichard yn Gristion o'r iawn ryw,—"yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll," ac yn enwedig, yn " un o heddychol ffyddloniaid Israel." Yr oedd yr arwydd hwnw o dduwioldeb arno,—yn galaru oherwydd anwiredd y ddinas, ac os byddai pethau anghysurus yn tori allan yn yr eglwys. Fel hyn y dywedir am dano yn y Drysorfa, "Ni bu ei gystudd olaf ond byr; ac yr oedd yn lled dywyll arno ar y dechreu; ond goleuodd arno cyn myned i'r glyn. Pan yn cael ychydig seibiant rhwng pangfäau marwolaeth, gorfoleddai yn ngwyneb brenin dychryniadau. Gwaeddai, 'Gogoniant am y gwaed,'—pan oedd cnawd a chalon yn pallu. Ië, aeth mor oleu arno, nes yr oedd yn gallu dweyd fel Simeon, Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air: canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,' Bu farw chwech o'r gloch, boreu Sul, Mawrth 23, 1845, yn 62 mlwydd oed. Pregethwyd yn ei wylnos gan y Parch. John Owen, Gwindy. Bu yn aelod eglwysig am 39 mlynedd, ac yn flaenor am 19." Dyma'r gwr a ddewiswyd yn flaenor tua'r un adeg ag Owen Owens. Ac yr oedd y ddau yn gymwys iawn i fod yn gyd-swyddogion; nid am eu bod yn debyg i'w gilydd, ond am eu bod yn annhebyg. Lle yr oedd Owen Owens yn gryf, yr oedd Robert Prichard yn wan; a lle yr oedd Owen Owens yn wan, yr oedd Robert Prichard yn gryf. Yr oeddynt yn debyg fel y gwelir weithiau wr a gwraig, rhagoriaethau y naill yn gwneyd i fyny am ddiffygion y llall. Os oedd perygl i ryw rai ddiystyru ieuenctid Owen Owens, nis gallent wneyd hyny â Robert Prichard, gan ei fod ef yn wr, ac wedi hen roi heibio bethau bachgenaidd. Os oedd y cyntaf a'i breswylfod ymhell oddiwrth y capel, yr oedd preswylfod y llall wrth ei ddrws. Os oedd yr olaf yn lled ddiffygiol mewn dawn a gwybodaeth, yr oedd gan y cyntaf gyflawnder o bob un o'r ddau. Mor ddoeth a thirion y gwelwn y Brenin Mawr, yn darparu offerynau priodol i ddwyn ei achos bychan a gwan yn y lle hwn ymlaen. A bu y ddau yn cyd-dynu ac yn cydweithio gyda'u gilydd yn rhagorol am tua deunaw mlynedd; ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mawrion.

Yn fuan wedi iddynt gael eu dewis yn flaenoriaid, daeth yr amser iddynt gael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yr un oedd yn eu holi am eu gwybodaeth ysgrythyrol a chrefyddol oedd y Parch. William Roberts, Clynog. Ystyrid ef yn dduwinydd lled drwm, ac yn ysgrythyrwr rhagorol. Holodd hwy yn lled galed, mor galed fel yr aeth yn bur dywyll arnynt, ac yr aethant i fethu ateb. Synai yr hen dduwinydd eu bod yn methu ateb ei gwestiynau, gan nad ystyriai hwy yn rhai anhawdd o gwbl. "Yn enw dyn," meddai, "yr ydw' i yn synu atoch ch'i, eich bod yn methu ateb cwestiynau mor hawdd a hyn." "Na, 'dydy o yn syndod yn y byd, William Roberts," meddai Owen Owens, "ni wyddoch chwithau yn y byd pa sawl gorifyny sydd o Glynog i Bwllheli," gan awgrymu, mae yn debyg, fod ei gwestiynau mor anfuddiol a phe buasai yn gofyn hyny.

Ymhen ryw flwyddyn neu ddwy ar ol hyn, digwyddodd amgylchiad arall o bwys yn hanes Owen Owens, sef ei briodas. Cymerodd hyn le yn hen eglwys hynafol Clynog. Trwy garedigrwydd y Parch. J. Pryse, y Ficer, cawsom y cyfeiriad sydd at hyny yn register y plwyf. Fel hyn y mae:—Owen Owens of this Parish, Bachelor, and Mary Owen of this Parish, Spinster, were married in this Church by License, the 28 day of March, in the year 1828. Merch Cors- y-wlad[15] oedd ei briod, Mari Owen, ac yr oedd yn byw yn y fferm ei hun, gellid meddwl, ar y pryd. Yr oedd Mari Owen gryn lawer yn hynach nag Owen Owens, ond yr oedd yn wraig ddistaw, gall, a hynod grefyddol. Gellid meddwl ei bod hefyd o deulu crefyddol, oblegid yr oedd ganddi ddau frawd yn flaenoriaid nid anenwog, sef Griffith Roberts, Terfyn, Clynog, ac Owen Roberts, Gwernddwyrig, Bethel, ger Penmorfa. Ac yn Nghors-y-wlad y cartrefodd Owen Owens o hyn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ymhen tua haner can' mlynedd ar ol hyn. Diau i hyn fod yn fantais i'w grefydd ac i'w ddefnyddioldeb, gan y cai lawer o ryddid i fyned i'r cyfarfodydd crefyddol yn y capel ac yn y wlad, yr hyn oedd ei brif hyfrydwch. Bu fyw gyda Mari Owen am tua deuddeng mlynedd ar hugain, sef hyd y flwyddyn 1860. Ymhen dwy flynedd ar ol hyny, priododd drachefn gyda Mrs. Catherine Owen, yr hon, fel y cyfeiriwyd, sydd yn y lle yn awr gyda'i mab, Mr. O. Roger Owen. Gellir dweyd am Mari Owen, fod iddi "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Treuliodd oes nodedig o grefyddol, a pharhaodd felly i'w diwedd. Yr oedd yn dirf ac yn iraidd yn ei henaint. Mae hanesyn ar gael sydd yn dangos crefyddolder ei hysbryd, a'i chariad at Iesu Grist a'i achos, hyd y diwedd. ychydig cyn ei marwolaeth yr oedd Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yn Mwlchderwin. Yr oedd ei llygaid erbyn hyn wedi tywyllu gan henaint, fel nad oedd yn gweled dim. Yr oedd y diweddar Barch. John Jones, Caernarfon (Rhos ar ol hyny), wedi cael ei wahodd i'r Cyfarfod Misol, ac yn lletya yn Nghors-y-wlad. Yr oedd John Jones yn gyfaill mawr i Owen Owens ac i Mari Owen, ac yn hynod gartrefol yn y tŷ. Rywbryd yn ystod y diwrnod neu noswaith gyntaf y Cyfarfod Misol, yr oedd Owen Owens a John Jones yn eistedd wrth y tân, a gwelent Mari Owen yn llawn trafferth a phrysurdeb yn darparu ar gyfer y Cyfarfod Misol "Beth mae hi'n wneyd?" meddai John Jones. "Gwneyd basgedaid o ryw bethau at y Cyfarfod Misol, ddyliwn i," meddai Owen Owens. "O," meddai John Jones, "mi â i i'w hymyl hi, heb iddi wybod, gael i mi ei gwel'd hi yn gwneyd." Aeth i'w hymyl, a sylwai arni yn fanwl yn rhoddi y bara gwyn, y bara ceirch, y llefrith, y'menyn, a'r caws, &c., yn y fasged. Wedi llenwi y fasged hyd yr ymylon, teimlai ei gwyneb drosti yn fanwl â blaenau ei bysedd, i edrych a oedd yno le i ychwaneg. Ac wedi gweled nad oedd, dywedodd, "Wel, dyna hi, Iesu mawr, cyn llawned ag y medra' i ei gwneyd hi; pe buasai yma le i chwaneg, fe fuaswn yn rhoddi chwaneg." Nid oedd hi yn gwybod fod neb yn sylwi arni ond "yr hwn a wêl yn y dirgel."

Ymhen rhyw bedair neu bum' mlynedd ar ol cael ei ddewis yn flaenor, digwyddodd rhywbeth lled anhapus a phrofedigaethus i Owen Owens. Mae yn hysbys i'r rhai a wyddant ond ychydig am dano, ei fod yn naturiol wyllt a phoethlyd iawn ei dymer, ac y mae ei deulu i raddau helaeth felly. Ac fe fu hyn yn gryn brofedigaeth iddo ar hyd ei oes. Yr oedd cyfarfod athrawon neu gyfarfod brodyr yn Mwlchderwin, rywbryd tua'r adeg hon. Yr oedd yno hen frawd lled ddreng o'r enw William Morris, Cae'rbwlch, ac aeth yn lled ddrwg rhyngddo ag Owen Owens yn ystod y cyfarfod Ac wrth fyned allan, yn nghourt y capel, fe droes at Owen Owens, ac fe ofynodd iddo i beth yr oedd yn ei groesi ef yn y cyfarfod. Fe wylltiodd Owen Owens gymaint fel y collodd bob llywodraeth arno ei hun, ac fe gydiodd yn ei frocan, fel y dywedir. Ni ddarfu iddo ei daro na'i dagu, gan fod Roger Owen, ei frawd, yn ddigon agos ato i'w atal. Y diwedd fu, beth bynag, i'r peth fyned i'r Cyfarfod Misol; ac anfonwyd dau o'r gwyr pwysicaf a feddai y Cyfarfod Misol i Fwlchderwin i drin y mater, neb amgen na'r Parch. John Jones, Tremadog, a Mr. William Williams, Llanerch, tad y diweddar Mr. William Williams. A'r penderfyniad y doed iddo oedd, ei atal i weinyddu ei swydd am ryw gymaint o amser, ynghyd a'i dori o'r ordinhad. Ar ddiwedd y Seiat hono dywedai William Williams yn bur effeithiol,—" Wel, dyma eich Aaron ch'i yn Mwlchderwin yma wedi tewi." Ac fe brofodd geiriau yr hen flaenor yn eithaf gwir. Bu eglwys Bwlchderwin am tua blwyddyn heb nemawr o drefn arni. Nis gallent gario y moddion ymlaen heb help rhywrai o'r eglwysi cylchynol, megis Brynengan, neu Bencoed, neu Gapel Ucha', Clynog, &c. A mynych y byddai swyddogion yr eglwysi hyny yn methu dyfod, ac felly ni ellid cynal y Seiat, gan na feddai Robert Prichard, y blaenor arall, allu i ddwyn y Seiat ymlaen.

Ond er mor llym oedd yr oruchwyliaeth hon tuag at Owen Owens, eto, ni ddarfu i hyn ei bellhau oddiwrth grefydd. Yn hytrach, darfu i hyn, er mor annhebyg, ddigwydd iddo er ei iachawdwriaeth, gallem feddwl. Yn fuan ar ol i hyn ddigwydd, yr oedd Sasiwn y Bala yn cael ei chynal; ac aeth yntau yno gyda'r fintai oedd yn myned o ardal Clynog a Bwlchderwin. Mae un, o leiaf, yn fyw, oedd yn y fintai hono, sef yr Hybarch John Jones, Bryn'rodyn; a difyr iawn ydyw clywed Mr. Jones yn adrodd yr hanes. Yr oedd eu nifer o ugain i ddeg ar hugain, ar ol gwneyd pob peth yn barod, yn cychwyn ar eu hunion ar ol yr ysgol, un prydnawn Sabboth, o Gapel Ucha, Clynog. Yr oedd darpariaeth iddynt gael ymborth, sef pryd o faidd, ar eu ffordd, yn Llwyngwanad-isa, amaethdy rhwng Capel Ucha a Bwlchderwin, gyda hen chwaer o'r enw Sian Robert, yr hon a ddangosodd lawer o garedigrwydd at grefydd a Methodistiaeth, yn ystod ei hoes. Yr oedd yr hen chwaer wedi gwneyd pob peth yn barod ar eu cyfer, ac yn eu disgwyl. Yna cychwynent rhyngddynt a Thremadog, at y nos, lle y caent odfa. Nid yw Mr. Jones yn sicr pa un ai y tro hwn, ynte yn fuan ar ol hyn, y bu yn gwrando ar y Parch. John Phillips, yn pregethu yn yr odfa hon. Y noswaith hon, lletyent gyda'u gilydd yn Farm Yard, fferm helaeth ar y pryd, ger Tremadog. Y rheswm paham y lletyent yno oedd, fod y wraig yn chwaer i wraig Brynifan, Clynog. Boreu Llun, aent trwy y fan lle y saif tref Porthmadog arno yn awr. Prin y gellir dweyd fod y lle yn bod y pryd hwnw. Ar y rhan fwyaf o'r lle y saif y dref arno yn awr, yr oedd eithin anferth o faint yn tyfu, bron gymaint a choed o faint gweddol. Mynych y bu pererinion Sasiwn y Bala yn cynal cyfarfodydd gweddi yn nghanol yr hen eithin hyn, ac y bu sain cân a moliant yn esgyn rhyngddynt tua'r nefoedd. Byddwn bron a meddwl weithiau mai dyma paham y mae Porthmadog wedi ei bendithio â Methodistiaid mor ragorol, am fod eu tai wedi eu hadeiladu ar y llanerch lle bu hen seintiau Lleyn ac Eifionydd yn gweddio ac yn molianu, ar eu ffordd i'r Bala. Y boreu a'r prydnawn, yr oeddynt yn "Seiat Fisol" y Penrhyn; a'r nos yn gwrando pregeth yn Llan, Ffestiniog, ac yn lletya yno. Erbyn cyraedd cwr mynydd Migneint yn Mhont-yr-afongam, boreu ddydd Mawrth, yr oedd y fintai wedi chwyddo, nes bod oddeutu cant a haner mewn rhifedi. Ac fel arfer, yr oedd yn rhaid cael cyfarfod gweddi yn y lle. Galwai y diweddar Mr. Robert William, Factory, ger Penmorfa, tad y Parch. R. O. Williams, Porth Amlwch, ar Owen Owens, ymysg eraill, i weddio. Ac er y byddai Owen Owens yn hynod o effeithiol bob amser yn gweddio, yr oedd yn fwy felly y tro hwn na braidd un amser. Yr oedd dau beth, o leiaf, yn peri iddo fod felly, sef ei deimladau drylliog ef ei hun, newydd fod dan ddisgyblaeth, ynghyd ag ysbryd cynes y pererinion i Sasiwn y Bala. Feallai hefyd y gallai fod yn amser diwygiad y flwyddyn 1832. Credwn fod hyn wedi cymeryd lle, un ai yn y flwyddyn 1831, neu y flwyddyn 1832. Rhwng y naill beth a'r llall, yr oedd gweddi Owen Owens y boreu hwnw yn un i'w chofio gan bawb oedd yn bresenol. Dywedid nad oedd yno yr un llygad sych yn y lle. Clywsom dri neu bedwar oedd yn bresenol yn son am y weddi; ond nis gwyddom am neb yn awr yn fyw ond Mr. Jones. Swn pechadur drylliog ac edifeiriol oedd yn y weddi o'i dechreu i'w diwedd. Mae Mr. Jones yn cofio fod Owen Owens a'i ddwylaw i fyny, ac yn gwaeddi yr ymadrodd hwnw lawer gwaith drosodd, "Dal di ni, Arglwydd,"—gyda theimlad anarferol. "Mae deuddeng mlynedd o grefydda wedi methu'n dal ni. Dal di ni, Arglwydd. Mae pum' mlynedd o fod mewn swydd, wedi methu'n dal ni. Dal di ni, Arglwydd. Dal di ni, Arglwydd." Cyfeiriai at ei elynion ysbrydol fel Philistiaid, a dywedai,—"Arglwydd mawr, dyma fi wedi d'od adra' eto o wlad y Philistiaid. Mi fuon yn galed iawn wrtha i, yn treio tynu fy llygaid i; ond gwae nhw os tyfith fy ngwallt i eto." "Seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn," meddai; "ac fe syrthiodd Owen y Gors trwy fygwth tagu ei frawd; ond, bendigedig, mae o wedi codi eto." Gofynai ryw hen frawd iddo tua'r adeg hon, "Oes rhywbeth yn hwn a hwn, deudwch?" "Niwn i ddim," meddai Owen Owens, "ar gareg fy medd i y gwel'is o fwyaf erioed," gan gyfeirio at y brawd hwnw fel un oedd wedi bod yn llawdrwm arno ef pan o dan ddisgyblaeth, ac yn cymeryd mantais ar hyny i ddyfod i sylw.

Ymhen tua blwyddyn ar ol disgyblu Owen Owens, anfonodd y Cyfarfod Misol y ddau wr a fu yno o'r blaen i eglwys Bwlchderwin, ac ail ddewiswyd Owen Owens i'w swydd drachefn, a dewiswyd un arall o'r newydd, sef Humphrey Prichard, at yr hwn y cyfeirir yn y tudalenau blaenorol A chredwn na bu nemawr i flaenor yn holl Sir Gaernarfon yn fwy ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol nag y bu Owen Owens am y pum mlynedd a deugain dilynol, a hyny yn fynych trwy gryn anhawsderau.



PENOD XIII.
OWEN OWENS O RAN EI DDYN ODDIALLAN.

Hynodrwydd ei wynebpryd.—Yn debyg i John Evans o'r Bala.—O gyfansoddiad cryf a chadarn.—Yn hardd a heinyf o gorff.—Ei lygaid, &c—Ei wisg.—Yn siarad mewn Cyfarfod Misol.

BYDDAI llyfr ar Owen Owens, heb gynyg rhoddi darluniad o'i ddyn oddiallan yn anfaddeuol; oblegid yr oedd y fath hynodrwydd ynddo ag oedd yn tynu sylw pawb ato ar unwaith. Nis gallai y mwyaf dwl a difeddwl beidio craffu arno ar yr olwg gyntaf. Ac yr oedd braidd yn anmhosibl ei anghofio ar ol ei weled ond unwaith. Os ydyw y darlun sydd ar gael o'r hen brege:hwr hynod hwnw, John Evans, o'r Bala, yn weddol gywir, credwn fod llawer o debygrwydd yn ngwynebpryd Owen Owens i'r hen batriarch nodedig hwnw. Yr oedd gwyneb a phen y naill a'r llall yn hir anarferol, Nid ydym yn gwybod i ni erioed weled gwyneb a phen mor hir ag oedd gan Owen Owens; a diau y gallesid dweyd rhywbeth yn debyg am John Evans. Yr oedd gan Owen Owens hefyd gnwd trwchus o wallt ar ei ben, a hwnw yn gyffredin yn tyfu yn syth; yr hyn oedd yn peri fod ei ben yn ymddangos yn hwy nag ydoedd mewn gwirionedd. Ond gallem feddwl mai ychydig o wallt oedd gan John Evans. Ac y mae yn hysbys fod John Evans yn un a golwg nodedig o dywysogaidd a pharchedig arno. Sylwir arno yn y "Cyffes Ffydd," fel " y gwr hynaf a pharchedicaf yn y Corff;" a diameu fod ystyr arbenig i'r gair " parchedicaf" yn y cysylltiad hwn; yr oedd yn dra pharchedig yr olwg arno. Arferai y diweddar Barch. Henry Rees ddweyd am dano, fod ei ymddangosiad yn peri iddo feddwl am Abraham, tad y ffyddloniaid. Nid ydym yn dywedyd fod Owen Owens mor benderfynol, mawreddog, a thywysogaidd yr olwg a'r hen dywysog hwnw; eto, mae yn bur amlwg fod yna debygrwydd mawr yn y naill i'r llall.

O ran maintioli, yr oedd Owen Owens yn tueddu yn hytrach at fod yn dal, gan ei fod oddeutu pum' troedfedd a naw modfedd o daldra, gallem feddwl. Yr oedd yn bur esgyrnog, a chanddo gyfansoddiad nodedig o gryf a chadarn. Tueddai at fod yn deneu yn hytrach nag yn dew. Ac os byddai rhyw orchwyl yn yr ardal yn galw am nerth corfforol mwy na'r cyffredin, byddai Owen Owens yn bur sicr o gael rhan o hono. Pan oedd efe yn ieuanc, nid oedd ond ychydig o bontydd yn y wlad, a dim ond sarnau i fyned dros yr afonydd. Mewn angladdau y pryd hwnw, y dull cyffredin o gario yr elor a'r arch oedd, ar ysgwyddau. Ac nis gallai ond dau, un ymhob pen, gario yr elor dros y sarnau. Yr oedd y gwaith hwn yn gofyn am y dynion cryfaf yn yr ardal. Ac Owen Owens a'i frawd, Roger Owen, fyddai yn gwneyd y gwaith bob amser, meddir. Gweithiodd yn galed ar hyd ei oes. Gwelid ef gyda'i wallt gwyn yn gwneyd y caledwaith ar hyd ei dyddyn, ymron i'w ddiwedd. Un diwrnod, yr oedd yn y cae yn aredig, a hen wr ffraeth yn cerdded y llwybr heibio iddo. "Gwaith go drwm ydy' hwn hefo'r gwallt gwyn yna, Owen Owens," meddai "'Dydw i yn clywed mo'no fo ddim tipyn trymach na phan yr oedd o yn ddu," meddai Owen Owens, yn y fan.

Heblaw bod yn gryf a chadarn, yr oedd Owen Owens hefyd yn hardd nodedig, a heinyf iawn o gorff. Braidd na allesid meddwl hyny wrth edrych ar ei ddarlun sydd yn y llyfr hwn. Nid ydym yn awr yn cyfeirio at ei ben, gan fod hyny wedi ei wneyd eisoes. Ni byddai yntau yn meddwl rhyw lawer o'i ben. Yn wir, y mae genym ryw adgof ei fod yn cywilyddio o'i ben, os nad yn tueddu i'w anmharchu, gan ei gymharu i ben y creadur cyndyn hwnw ymysg yr anifeiliaid. Ond gwell peidio myned ryw lawer yn y cyfeiriad yna, feallai. Ond yr oedd yn ymfalchio cryn lawer yn ei gorff, yn enwedig ei goes a'i droed. Pan yr oedd efe yn weddol ieuanc yr oedd y clôs pen—glin mewn cryn fri; ac felly byddai y goes yn y golwg i gyd, pa lun bynag fyddai arni. A'r neb a fyddai wedi ei fendithio â chroth fawr a meilwng bychan, a throed hardd, ystyrid y dyn hwnw yn lled wynfydedig. Ac yr oedd Owen Owens yn perthyn i'r dosbarth gwynfydedig hwn. Ni welid corff a choes harddach yn yr holl wlad; ac am ei groth, ei feilwng, a'i droed, yr oeddynt yn berffeithrwydd tegwch. Yr oedd hefyd yn gyflym, chwimwth, a heinyf ar ei droed. Rhedai fel ewig. Os byddai rhyw greadur ar y tir yn dianc, os gallai traed dynol ei ddal, byddai Owen Owens yn bur debyg o wneyd hyny. Digwyddodd i ddau borchell cryf ddianc o'r sach ar Forfa Saint, Caernarfon, unwaith. Ond mewn ychydig eiliadau yr oedd Owen Owens a Roger ei frawd wedi eu sicrhau, er fod yn rhaid cael cyflymdra yr ewig at y gorchwyl.

Pan yn ieuanc yr oedd gwallt Owen Owens yn "ddu lo'wddu, fel y frân." Pan yn weddol ieuanc, trodd ei wallt yn lâs, a darluniai rhywun ef "a'i ben glâs a'i glôs pen glin." Ond er's llawer o flynyddoedd cyn marw yr oedd wedi myned yn wyn "fel eira yn Salmon." Fel y gwelir yn y darlun, llygaid gweddol o ran maintioli oedd ganddo, ond hynod o fywiog, ac o liw melynddu. Yr oedd ganddo drwyn lled fawr, Rhufeinig neu fwäog, sef a chrwbi yn ei ganol, a golwg awdurdodol arno. Ac yr oedd ganddo wefusau lled deneuon, a hollol at ei alwad, i'w trin fel y mynai. Yr oedd rhyw fywiogrwydd hynod yn nghyhyrau ei wyneb hyd yn nod wedi myned yn hen wr. Dywedir y gallai drin ei wefusau, ei eiliau, a hyd yn nod ei glustiau fel y mynai, ymron. Deuai direidi i'r golwg yn fynych yn nghil ei lygaid, yn nghwr ei wefusau, ac yn ysgogiadau ei wynebpryd. Yr ydym y funyd hon yn cofio am dano yn gwrando mewn Cyfarfod Misol un tro, a "hancas" wedi ei thaflu dros ei ben, a hen weinidog sydd eto yn fyw yn pregethu ar y gair hwnw, "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" Dangosai y pregethwr fawredd yr iachawdwriaeth oddiwrth y ffaith fod yr angylion yn gwasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. "Beth," meddai, "ydyw y gomed sydd yn y golwg y nosweithiau hyn? [Yr oedd comed yn y ffurfafen y pryd hwnw]. Onid mintai o angylion ydyw yn dyfod i gyfeiriad y ddaear i wasanaethu y saint?" "Nage wir, nage wir," meddai Owen Owens yn lled uchel, gan ysgwyd ei ben, a'i holl wynebpryd a'i lygaid yn llawn bywyd a direidi. Dywed ein hen gyfaill, Mr. Robert Owen, Bwlchderwin, y gallai wneyd golwg pur lym ac awdurdodol arno ei hun os byddai raid, gyda'i lygaid melynddu, ac yn enwedig wrth ostwng ei eiliau, ac hyd yn nod ei glustiau, ar adegau. Ac i'r cyfaill hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o'r manylion hyn.

O ran ei wisg, gwisgai Owen Owens yn debyg i hen amaethwr gwledig a phlaen ar hyd ei oes, ond yn hynod o drwsiadus a glân bob amser. Het ffelt uchel fyddai am ei ben, a gwisg o frethyn cartre' da am dano. Clôs pen glin a wisgai ymron i'w ddiwedd, a hosanau llwyd-las yn gyffredin, ac esgidiau isel, os ydym yn cofio yn iawn, bob amser. Penodwyd ef yn gynrychiolydd i'r Sasiwn am y flwyddyn 1876, sef y flwyddyn cyn ei farwolaeth; a dyma yr unig adeg yn ei oes y bu heb wisgo ei glôs pen glin. Gresyn hefyd na buasai yno fel ymhob man arall fel efe ei hun, yn Owen Owens, Cors-y-wlad, hollol, yn ei wisg a phob peth, gyda'i glôs pen glin a'r cwbl. Ni welodd pobl y Sasiwn felly mo Owen Owens yn hollol fel yr oedd. Yr oedd y clôs penglin yn hanfodol i wneyd i fyny Owen Owens, Cors—ywlad, fel yr edrychem ni arno yn Eifionydd. Yr ydym yn ofni mai rhyw ddylanwad oddiallan iddo ef ei hun, a fu yn foddion i wneyd i ffwrdd â'r clôs yr adeg hon.

Dychymyged y darllenydd am dano, yn ol y darluniad blaenorol, yn codi i fyny i siarad mewn Sasiwn, neu Gyfarfod Misol, neu Gyfarfod Ysgol, neu Gyfarfod Llenyddol, neu Gyfarfod Dirwest, neu unrhyw gyfarfod arall. Gellid dweyd am dano y foment y codai ar ei draed.—"A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno." Ac mor sicr a'u bod yn craffu arno ar y foment gyntaf, byddent yn sicr o graffu arno hyd y foment olaf, oblegid ni flinai neb â meithder Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at y tebygolrwydd oedd yn Owen Owens i John Evans o'r Bala, o ran ei wynebpryd, sef yn hir anarferol. A phan welwn ddyn a gwyneb hir ganddo, byddwn yn naturiol yn disgwyl i'r cyfryw fod yn araf ei ymadrodd a'i ysgogiadau; ac felly yr oedd John Evans. Yr oedd yn hynod o araf a phwyllog ei ymadroddion. Yr oedd yn boenus felly, fe allesid meddwl. Ond yr oedd Owen Owens yn yr eithaf arall. Yr oedd yn gyflym anarferol ei edrychiad a'i holl ysgogiadau, a'i barabl yn hynod o hwylus, cyflym, ac ystwyth. Ac hwyrach fod hyn yn peri iddo dynu mwy o sylw, ei fod o ran ei ddull yn hollol wahanol i'r hyn y disgwylid iddo fod. Codai i fyny gyda sydynrwydd y fellten. Odid fawr nad y peth cyntaf a wnai fyddai crafu ei ben, fel pe buasai wedi dyrysu gan y cynhyrfiad. Ac äi ymlaen mor gynhyrfus, fel pe buasai yn siarad yn nghanol taranau a mellt. Cymharai rhywun ef i "afr ar daranau," os ydyw y creadur hwnw yn fwy cynhyrfus na rhyw greadur arall ar adeg felly. Os yn y sêt fawr y byddai yn siarad, byddai yn sicr o sefyll wrth y "pulpud bach," a churai hwnw yn gyflym gyda'i ddwrn chwith, oblegid llaw—chwith ydoedd. A byddai ei fraich ddehau ar yr un pryd yn gwneyd math o haner cylch gwastad, hyny ydyw, cydwastad a gwyneb y llawr; neu ynte byddai ei law ddehau yn pwyso ar ei ochr; neu feallai mai yn mhoced ei wasgod y byddai. Yr oedd ganddo hefyd ryw ddull hynod o wasgu ei ddau ben glin at eu gilydd. A byddai pawb erbyn hyn, nid yn unig yn craffu arno a'u llygaid, ond hefyd, byddai gwên foddhaol ar wyneb pawb yn y lle. Byddai yntau mor gynhyrfus ac mor gyflym ei ysgogiadau a'i ymadroddion, fel nad oedd amser gan neb i edrych i un man ond arno ef. Ond wedi iddo ddarfod, byddai pawb yn edrych ar eu gilydd gyda gradd o syndod a boddhad, ac fel yn methu deall pa le y buont tra y bu yn siarad. Mynych y gwelsom rai o ddynion penaf y Cyfundeb yn cael y mwynhad mwyaf wrth wrando arno, megis Dr. Owen Thomas, Dr. Hughes, &c. A chlywsom Dr. Thomas yn coffa ei sylwadau ar ol hyny mewn lle cyhoeddus iawn, sef yn Seiat y Sasiwn, gan ddangos mor briodol a phwrpasol oedd y sylwadau. Ac nis gallwn anghofio yr olwg foddhaol oedd ar Dr. Hughes wrth wrando arno mewn Cyfarfod Misol yn Fourcrosses unwaith. Cynhelid y Cyfarfod Misol hwnw ddydd Llun, Mawrth 9fed, 1874. Yr oedd yr Etholiad Cyffredinol newydd fyned heibio, a'r ymgeisydd Rhyddfrydol, Mr. L. Jones Parry, Madryn, wedi colli. Yr oedd siomedigaeth fawr oblegid hyn yn y wlad, yn enwedig yn Lleyn, a rhai yn teimlo yn archolledig iawn. A chyn i'r wlad oeri, dyma Gyfarfod Misol Fourcrosses yn dyfod. Mynai rhywrai ddyfod a'r peth o flaen y Cyfarfod Misol. Pasiwyd dau neu dri o benderfyniadau, ac un i fyned i'r Sasiwn. Yr oedd y diweddar Barchn. Griffith Hughes a Robert Hughes, un yn cynyg a'r llall yn cefnogi y penderfyniadau, ac yn eu hafiaeth yn ymosod yn erwin ar y rhai a dybid oedd wedi cefnogi yr ymgeisydd Toriaidd. Yn ystod y drafodaeth, cododd Owen Owens ar ei draed i siarad, a dywedodd, "Yr oedda nina tua Chlynog a Bwlchderwin acw yn teimlo yn anarferol pan gollodd Jones Parry. Ac yr oedd rhai yn myn'd i ysbryd ofnadwy iawn. Yr oedda nhw yn dweyd fod gweision ffermwyr ffordd acw yn rhegi yn anghyffredin. Ni ddar'u mi ddim rhegi w'ch ch'i," meddai, gan wneyd ystum a golwg arno ei hun, a rhoddi pwyslais, fel pe buasai hyny yn rhyw rinwedd mawr ynddo. Aeth pawb i chwerthin drwy y lle, ac nid oedd neb yn mwynhau y peth yn fwy na Dr. Hughes, a chwarddwyd y teimlad drwg i ffwrdd i raddau helaeth. Ond yr oedd Owen Owens yn edrych mor sobr a difrifol a sant yn nghanol y cwbl. Yr oedd Dr. Hughes yn eistedd mewn sedd yn ymyl y drws. Ac yr oedd Owen Owens yn myned heibio iddo wrth fyned allan. Ysgydwai Dr. Hughes law ag ef yn hynod o gynes a siriol, gan ddweyd, "Sut yr yda ch'i? Yr oedda ch'i yn ddoniol anghyffredin." Yr oeddym yn cyd-letya ac yn cyd-gysgu gydag Owen Owens y noson hono yn nhŷ y diweddar Mr. John Parry, Fronerch, blaenor parchus yn y lle. Y drefn y pryd hwnw mewn Cyfarfodydd Misol oedd rhoddi un mewn oedran, ac un ieuanc i gyd-letya gyda'u gilydd. Ymhen y tair blynedd ar ol hyn, sef Ebrill 9fed, 1877, y flwyddyn y bu farw Owen Owens, yr oedd Cyfarfod Misol drachefn yn Fourcrosses. Dechreuai Owen Owens yr odfa y noson gyntaf, o flaen y Parchn. Thomas Owen, Porthmadog, ac Evan Jones, Caernarfon. Lletyai gyda'i hen gyfaill, y diweddar Griffith Owen, Plas-bel; a mawr y mwynhad a gafodd y teulu gydag ef. Dywedai un llanc oedd yn gwasanaethu yno, yr hwn oedd fachgen lled anystyriol, y buasai efe yn barod iawn i dalu am lety ac ymborth Owen Owens, er mwyn cael ei glywed yn cadw y ddyledswydd deuluaidd.

PENOD XIV.
OWEN OWENS O RAN NODWEDDION EI FEDDWL A'I GYMERIAD FEL DYN A CHRISTION.

Yn hynod o ran cynheddfau ei feddwl.—Ei arabedd.—Mewn priodas.—Ei nelllduolion fel dyn yn aros ar ol dyfod at grefydd.—Ei iselder ysbryd—Actor hynod.—Diffyg hyder ynddo ei hun.—O synwyr cryf.—Hen wraig a'r afal.—Yr ymborth wedi darfod, a'r ganwyll a'r lantar—Y teithiau Sabbothol a'r helyntion gyda hwy.—Owen Owens a Mr. Jones, Ynysgain.—Yn y gorlan.—Cyflymdra ei feddwl.—Meddwl ei fod yn y nefoedd.—Yn cydfyned â'r oes.—Cyfarfod i holwyddori.—Yn y Cyfarfodydd Ysgolion, a'r Cyfarfodydd Dirwestol a Llenyddol.—Cymanfa Ysgolion yn Nghastell Criccieth.—Ei ddawn yn taro ymhob man.—Yn weithgar gyda'r byd.—Yn dyner fel disgyblwr.Thomas Parry a M—.—Yn onest a phlaen.—Yn hynod am ei ffyddlondeb i foddion gras.—Ei dduwioldeb.

PE na buasai dim i'w ddweyd am Owen Owens ond ei fod yn anghyffredin o ran ei ddyn oddiallan, er mor hynod oedd yn hyny, ni buasai wedi tynu nemawr o sylw, nac yn wir yn werth ei goffâu. Ond yr oedd hynodrwydd dyfnach a mwy cuddiedig yn Owen Owens na hyny. Yr oedd yn hynod hefyd o ran ei feddwl. Yr oedd hynodrwydd yn ngalluoedd a chynheddfau ei enaid yn gystal ag yn ffurf ac aelodau ei gorff. Yn wir, y mae yn anhawdd gwybod pa un ai ei gorff ynte ei feddwl oedd y mwyaf gwreiddiol. Ond rhwng y naill a'r llall yr oedd yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun. Ac yr ydym yn credu mai gresyn fuasai i un o'i fath ef gael ei ebargofi. Yn wir, yr ydym bron a meddwl y buasai hyny yn ymylu ar fod yn bechod. Gan hyny, y mae yr ysgrifenydd am anturio ei adgyfodi, a pheri iddo siarad a rhodio eto, megis cynt, yn nhir y rhai byw. Nis gallai fod yn llonydd heb ymdrechu gwneyd hyn, pa un bynag a ydyw wedi llwyddo ai peidio. Darfu i'r hen batriarch ddifyru llawer yn ystod ei ymdaith hir ar y ddaear; ac ni a obeithiwn y gall y darlun a geir o hono yn y llyfr hwn wneyd rhyw gymaint yn y cyfeiriad hwnw i'r genhedlaeth bresenol, sydd wedi codi ar ol ei farwolaeth. Os na wna hyny ni bydd yn gynrychiolydd teilwng i Owen Owens. Bwriadwn i'r llyfr hwn fod yn fath o ddarlun o hono; ac yn y benod hon yr ydym am dynu darlun bychan o hono yn nghanol y darlun mawr,—rhyw ddarlun ar gerdyn bychan, megis.

Un o'r pethau mwyaf amlwg yn Owen Owens, os nad yn wir yr amlycaf oll, oedd ei arabedd, a'r arabedd hwnw yn llawn o'r digrifol. Yr oedd hyn mor naturiol iddo ag anadlu. Yr oedd hyn ynddo er yn blentyn ac yn ddyn ieuanc, a glynodd ynddo ar hyd ei oes ac i'w ddiwedd. Gallai gadw pawb yn ddifyr o'i ddeutu hyd a fynai. Yr oedd hyn ynddo fel y gwelsom pan yn blentyn bychan. Ac wedi tyfu i fyny yn llanc, ni byddai unrhyw gwmni yn ardal ei enedigaeth yn gyflawn heb Owen, Pantglas-ucha, ynddo i beri difyrwch. Yr oedd wedi ei wahodd un tro i briodas, oblegid nid ystyrid hi yn gyflawn heb ei bresenoldeb ef. Trodd yr ymddiddan am bris yr anifeiliaid, a dywedodd rhywun fod y moch yn isel iawn. "Nag ydy' nhw wir," meddai Owen Owens; "mi wel'is i fochyn yn uchel iawn rwan wrth ddwad. Yr oedd o mor uchel a phen tô rhyw dŷ." Yr oedd bargod tô y tŷ hwnw yn gyd-wastad â'r ddaear o'r tucefn iddo. A phan yr oedd Owen Owens yn myned heibio yr oedd mochyn wedi dringo arno, ac yn cerdded ar hyd-ddo. Ac yr oedd y dywediad hwn yn ddigon i wneyd y briodas hono yn llawen am gryn ysbaid. Ac wedi dyfod at grefydd yr oedd y ffraethineb a'r digrifwch hwn yn aros yn Owen Owens; oblegid nid yw crefydd yn dinystrio dim sydd yn naturiol mewn dyn. Nid yw gras yn lladd dim ond y drwg a'r llygredigaeth sydd yn y natur ddynol. A deallodd Owen Owens natur crefydd ar unwaith. Deallodd nad oedd yn galw am iddo dynu gwyneb hir, fod natur wedi gwneyd ei wyneb ef yn llawn ddigon hir yn barod. Ac am blygu pen fel brwynen, ni wybu ddim am dano ar hyd ei oes faith. Yr oedd y bachgen a'r llanc direidus a ffraeth Owen, Pantglas-ucha, yn aros yn yr hen flaenor doniol Owen Owens, Cors-y-wlad, ar hyd ei oes. A da iawn hyny, neu buasem wedi ein hamddifadu yn y wlad hon o un o'r cymeriadau crefyddol mwyaf hynod yn y ganrif bresenol, ac un a dreuliodd oes faith yn dra defnyddiol gyda chrefydd.

A'r hyn sydd yn dra hynod yn amgylchiad Owen Owens, fel ymhob un tebyg iddo ydyw, y byddai ar adegau yn hynod o isel ei feddwl. O gymaint ag y byddai ei ysbryd yn uwch na'r lliaws, o gymaint a hyny y byddai yn myned yn is na neb ar adegau. Bu felly am dymor pan yn lled ieuanc. Yn fuan wedi priodi y tro cyntaf, deallodd nad oedd amgylchiadau ei briod mor dda ag yr oedd wedi meddwl. Ac effeithiodd hyny gymaint arno, fel y syrthiodd i iselder meddwl mawr; mor fawr, fel yr effeithiodd ar ei iechyd am gryn amser, ac y tybiodd llawer mai colli y dydd a wnai. A'r hyn a'i gwaredodd yn y diwedd, ar ol treulio llawer ar feddygon, meddir, oedd yfed llaeth gafr. Prynwyd un i'r amcan hwnw, a chadwyd hi, nes iddo lwyr wellhau. Ac ymhen llawer blwyddyn ar ol hyny, syrthiodd i'r un iselder drachefn. Bu farw geneth fach iddo o bedair i saith mlwydd oed. Yr oedd yntau wedi rhoddi ei galon yn gymaint arni, fel y bu y brofedigaeth bron a bod yn ormod iddo. Cyfaddefodd y bu bron iddo daflu ei hun i ryw lyn, sef llyn corddi Maesog, wrth fyned i chwilio am le beddrod iddi. Ac nis gallwn anghofio hanesyn a ddywedodd wrthym ryw ddwy neu dair blynedd cyn ei farwolaeth. Yr oedd Owen Owens i fod yn llywydd i gyngherdd Mynyddog yn Nghapelisaf y Garn, ryw nos Sadwrn; ond ni ddaeth Mynyddog at ei gyhoeddiad. Ac felly trethwyd doniau a ffraethineb yr hen frawd i raddau pell iawn, ac yntau, erbyn hyn, mewn cryn oedran. Yr ydym yn cofio ei fod yn dweyd yn ystod y cyfarfod: "Yr yda ch'i wedi gofyn i mi ddyfod yma yn llywydd, ond 'does yma ddim llong i'w llywio." Ond er iddo gael ei adael yn unig ymron yn y cyfarfod, ac er y siomedigaeth, llwyddodd er hyny i beri ei fod yn gyfarfod lled fywiog a dyddorol. Yr oeddym yn cyd-letya ac yn cyd-gysgu gydag ef y noson hono; a dywedai ei fod yn teimlo ei feddwl yn isel iawn, ac mai felly y byddai bob amser wedi bod mewn cyfarfod o'r fath. Dywedai. hefyd, y byddai yn meddwl llawer ar adegau felly am hanesyn a glywsai am actor yn Paris rywbryd. Edrychid arno fel y mwyaf enwog yn y dref hono yn y gwaith hwnw. Ond syrthiodd i iselder meddwl mawr, ac i wendid corfforol anghyffredin. Ac er myned at y meddygon mwyaf medrus ac enwog, nid oeddynt yn gallu gwella dim arno. O'r diwedd, dywedodd un meddyg wrtho heb wybod pwy ydoedd, na pha beth oedd ei enw, mai yr unig beth y gwyddai efe am dano fuasai yn debyg o'i wella fuasai myned i edrych a gwrando ar—yn actio, gan ei enwi ef. "Y fi ydy' hwnw," meddai yntau, yn anobeithiol iawn, nes yr oedd y meddyg wedi rhyfeddu yn fawr. Yr ydym yn deall fod yr hanesyn hwn yn cael ei gysylltu hefyd â Garrick, y chwareuydd adnabyddus ac enwog.

Feallai hefyd mai dyma y lle priodol i ddweyd nad oedd ganddo ryw lawer o hyder ynddo ei hun. Yr oedd ganddo ddawn anarferol i gadw Seiat, fel y mae yn hysbys. Ond, eto, os na byddai y blaenoriaid eraill yno ar y dechreu, syrthiai ei feddwl, ac ymollyngai ei ysbryd yn y fan. Llawer gwaith y caed trafferth fawr gydag ef ar adegau felly, rhag dianc adref yn ei ol, a pheidio myned i'r capel o gwbl. Ond gwyddai y cyfeillion ond ei gael yno y byddai pob peth yn iawn. A llawer gwaith y caed Seiat ragorol mewn amgylchiad felly.

Yr oedd hefyd yn un o synwyr cryf a chyfrwysdra anarferol. Nid yn fynych y mae ffraethineb mawr a synwyr cryf yn cydgyfarfod yn yr un person; ond yr oedd y naill mor gryf a'r llall yn Owen Owens. Yr oedd hyn yn peri ei fod yn un medrus, iawn i drin dynion. Yr oedd ganddo fedr mawr i drin pobl Bwlchderwin. Ond cwynai fod yno un hen wraig ag yr oedd yn methu yn lân a gwneyd dim o honi, er treio pob ffordd ati. Clywai ei bod yn ei gablu er pob peth. O'r diwedd, meddyliodd, tybed na buasai caredigrwydd yn ei gorchfygu. Chwiliodd am yr afal mwyaf a phrydferthaf y gallai gael gafael arno—un coch braf. A gwyliodd am gyfleusdra i'w roddi iddi yn y modd mwyaf siriol. "Fuasech ch'i yn leicio cael afal, hon a hon," meddai, gan ei estyn iddi. Trwy hyny, prynodd yr hen wraig, fel na chlybu mwy am ei gwrthwynebiad iddo. Yn amser y "Clwb Du," gyda dirwest, tua 1845—8, byddai corau yn dyfod i ganu i wahanol ardaloedd. Yr oedd Owen Owens wedi bod yn areithio ar ddirwest mewn cyfarfod felly yn ardal Nant Nantlle, a gwahoddodd bobl y lle i ddyfod i Fwlchderwin i gynal cyfarfod, y byddai yno ddigon o ymborth i'w gael. Daeth y cyfarfod, a daeth tyrfa fawr o'r ardal hono iddo. Ond ar y diwedd, aeth Owen Owens i dipyn o brofedigaeth. Wedi i nifer o'r dieithriaid fwyta, gwelai fod yno nifer mawr yn y capel yn disgwyl am ymborth. Aeth at y merched i'r tŷ, gan ofyn sut yr oedd hi yno am ymborth. "Beth oedd eich meddwl ch'i, Owen, mewn difri', yn hel yr holl bobl yma, mae'r bwyd ymron wedi darfod; 'does yma ddim chwarter digon o ymborth iddy' nhw," meddai Margaret Thomas, hen wraig y tŷ capel, yr hon oedd yn dipyn o feistres arno. "Mi wn i beth i'w wneyd," medddai yntau, "Newch ch'i estyn canwyll a lantar i mi, Margiad?" meddai. Estynwyd hi iddo. Aeth yntau at ddrws y capel, a gwaeddodd, "Pawb sydd yn myned dros sarnau yr Ynys, mae yma ganwyll a lantar yn myn'd 'rwan." Gan mai dyna yr unig le i fyned o Fwlchderwin i gyfeiriad Nant Nantlle, a bod yn anmhosibl myned heb oleuni, rhuthrodd pawb allan ac ar ei ol. Ac felly y daeth Owen Owens o'r brofedigaeth hono.

Bu cryn helynt yn Eifionydd yn y blynyddoedd 1868 a 1869, gyda'r teithiau Sabbothol. Yr oedd amryw gapelau newyddion yn cael eu hadeiladu, ac achosion newyddion yn cael eu cychwyn, megis Brynkir, Llanystumdwy, Penmorfa, Prenteg, Pantglas, &c. Cynhaliwyd amryw bwyllgorau ar y mater mewn gwahanol fanau, megis yn Nghriccieth, y Garn, Brynkir, &c. Byddai trafodaeth mynych yn y Cyfarfodydd Misol ar hyn, ac yr oedd Owen Owens yn ffugro cryn dipyn yn y trafodaethau hyn. Yr ydym yn cofio mewn un Cyfarfod Misol fod rhywun yn gofyn, er mwyn dyfod i ryw oleuni ar y mater, pan yr oedd Owen Owens ar ei draed, pa faint o ffordd oedd o Fwlchderwin i un o'r capelau eraill. "Wn i yn y byd w'lwch chi," meddai yntau, gan edrych mor ddiniwed a cholomen; "'does dim cerig milldiroedd yn y corsydd acw, dim ond myn'd, myn'd, o hyd w'ch ch'i." Ni fynai Owen Owens yn y mater yma "symud mor hen derfyn, yr hwn a osododd y tadau." Brynengan, Bwlchderwin, a Thaiduon oedd efe wedi ei weled. A braidd nad oedd yn barod i ddweyd, "Melldigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog;" os nad hefyd i chwanegu, a dyweded yr holl bobl, Amen." Ond yr oedd Brynkir yn achos newydd, ac yr oedd yn rhaid ei gysylltu gyda rhywle. Ac ni welai y Cyfarfod Misol yr un llwybr esmwythach na rhoddi Brynkir a Brynengan gyda'u gilydd, a Bwlchderwin a Phantglas (sef Taiduon) gyda'u gilydd. A chan fod y ddau le diweddaf yn lled wan, yr oedd y Cyfarfod Misol yn addaw eu cynorthwyo i gynal y weinidogaeth. Ond erbyn Cyfarfod Misol Tydweiliog, dyma lythyr o Fwlchderwin "yn gwrthod y rhodd o ddeuddeg punt a basiwyd iddynt yn Nghyfarfod Misol Brynbachau." A'r adgof diweddaf sydd genym am hyn ydyw yr hyn a ddigwyddodd yn Nghyfarfod Misol Bwlchderwin, Mai 31, 1869. Mae yr olygfa yn fyw o flaen ein meddwl y funyd hon:—Owen Owens a'i ben gwyn mawr yn sefyll ar y llawr gan gydio yn ymyl y sêt fawr, a'i wyneb i'r un cyfeiriad, a'r hen foneddwr cywir a chrefyddol, y diweddar Mr. Jones, Ynysgain, yn sefyll yn ei wyneb, o fewn ryw lathen iddo, gan ei gyfarch gydag awdurdod Ustus Heddwch:—"Mae hi'n dyrysu'n lân hefo'r teithiau, yn enwedig yn Mwlchderwin yma. Ac mae nhw yn dweyd allan yna mai arnoch ch'i, Owen, y mae'r bai i gyd. Ac os felly, mi ddylach altro, ac mi ddylach edifarhau." Ond yr oedd tafod Owen Owens mor ddi-lywodraeth a'r asyn gwyllt y sonia Job am dano, yr hwn "a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad." Mae yn ateb ar un gwynt:—"Mi fedrwn ni setlo y mater yma heb yr un Ustus Heddwch; ac am edifarhau, mi edifarha pan ga i amser." Ar ddiwedd y cyfarfod, dywedai un arall wrth Owen Owens, yr hwn oedd yn bur hyf arno:—"Yr o'n i yn dy weled di heddyw, Owen, yn debyg iawn i fel y byddem ni pan yn blant, yn troi o amgylch 'cocyn hitio,' ac yn y diwedd yn syrthio ar ei draws." "Fel yna y mae hunan, yn medru cael tamaid lle na fedr ceiliogwydd," meddai Owen Owens yn ol. Ond yr hyn "a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd;" yr oedd yn rhaid i'r hen frawd ymostwng i benderfyniad y Cyfarfod Misol. Ond mynych y clywsom ef yn cwyno ar ol hyn mewn Cyfarfodydd Misol, mai bod ar y plwyf oedd derbyn yr arian hyn gan y Cyfarfod Misol. Ac os byddai rhyw un yn grwgnach fod Bwlchderwin yn cael yr arian hyn, dywedai yn y fan, "Peidiwch a'u lliwiad (edliw) nhw i ni, da ch'i. Mae yn ddigon bod ar y plwyf heb liwiad hyny i ni wed'yn."

Fel y cyfeiriwyd, yr oedd yn hynod o wyllt ei dymer, a byddai yn colli pob llywodraeth arno ar adegau. Ond yr oedd yn ddigon call i gymeryd gwers oddiwrth hyny. Yr oedd efe ac eraill wedi cau y defaid mewn corlan un tro, er mwyn eu marcio. Safai efe yn nrws y gorlan, a'r pot tar yn ei law; ond neidiodd rhai o'r defaid heibio iddo ac ar ei draws; syrthiodd yntau, a chollwyd holl gynwys y pot. Collodd ei dymer hefyd, a dywedir ei fod wedi rhegi. Ond ar ol hyny nis gellid ei gael ef byth mwyach i sefyll yn nrws y gorlan; byddai yn rhaid i rywun arall sefyll yno. Daeth cymydog ato unwaith mewn ffair, pan yn ceisio gwerthu buwch i Sais, ac heb fedru dim Saesneg. "Owen Owens," meddai, "dowch yma, mae gyno ch'i Saesneg." "Na, dim ond tipyn at fy Ie, dim i spario i neb," meddai yntau, ac ymlaen ag ef. Ni fynai gael edrych arno fel un yn honi rhywbeth nas gallai, ar un cyfrif. Byddai rhai weithiau yn y train yn ceisio ei dynu allan drwy ymosod ar y Methodistiaid, neu ar rai o'r pregethwyr mwyaf a feddent. Ond byddai Owen Owens yn hollol ddistaw. Ni chaent ganddo ddweyd yr un gair felly. Ni chodai byth i siarad yn y Cyfarfod Misol heb ei gymell. Nid ydym yn cofio ei weled yn codi erioed heb i rywun alw arno. Ond pan godai, gallesid meddwl ei fod wedi bod yn darparu llawer ar gyfer hyny, gan mor briodol fyddai yr hyn a ddywedai.

Nodwedd arall amlwg iawn ynddo oedd parodrwydd a chyflymdra ei feddwl a'i ymadrodd. Byddai yn arfer dweyd y gwnai efe araeth tra y byddai y crochan uwd yn berwi cystal ag y gwnai hi byth, hyny yw, mewn rhyw ugain munyd o amser. Byddai yn rhaid iddo gael edrych Gurnal cyn myned i bob Seiat. A thrwy ryw reddf deuai o hyd i'r gemau oedd ynddo gyda'r cyflymdra mwyaf. Mewn rhyw ddau funyd neu dri byddai wedi eu gweled, ac wedi eu rhoi yn ddiogel yn ei gof. Ac wedi myned i'r Seiat, byddai yn troi ac yn trosi y rhei'ny o flaen y seiat nes dotio pawb yn y lle. Dyma oedd yn ei wneyd yn gymaint o favourite yn y Cyfarfodydd Llenyddol. Gwelai rywbeth priodol a digrifol i'w ddweyd ar darawiad llygad, a gosodai ef allan yn yr ymadrodd mwyaf pert new ysmala ar unwaith. Clywsom y Parch Edward James (A.), Nefyn, yn dweyd er's ychydig ddyddiau yn ol ei fod yn llywydd mewn Cyfarfod Llenyddol unwaith yn Nghapel Helyg. Yr oeddis wedi cynyg gwobr am araeth ddifyfyr ar ryw fater na'i gilydd, ond ni ddaeth neb ymlaen. A gwnaeth Owen Owens araeth ei hunan. Dywedodd un o'r beirniaid ei fod yn haeddu y wobr, a chynygiwyd llyfr iddo yn dwyn y teitl, "Y ffordd i uffern." "Na," meddai yntau yn y fan, "'fyna i mono fo, scapio (escape) y lle hwnw ydy' mhwnci." "Ni ddywedodd o ddim tebyg i hynyna y noson hono," meddai Mr. James, "ond gwelwn ar unwaith fod yr hen ddawn yno." A chlywsom Mr. Rees Roberts, Harlech, yn dweyd er's ychydig wythnosau yn ol, ei fod mewn Cyfarfod Llenyddol yn y Garn tua'r flwyddyn 1853 neu 1854, ac Owen Owens yn llywydd. Yr oedd côr yn canu. Ymddangosai Owen Owens tra yr oedd y canu yn myned ymlaen fel un yn cysgu, yn hollol lonydd, a'i lygaid yn nghauad. Ond y foment yr oeddynt yn darfod, neidiodd i fyny yn sydyn, a golwg gynhyrfus arno, ac meddai, "Bobol anwyl, mi 'ddyl'is i mai yn y nefoedd yr oeddwni: y clock wedi stopio, a chanu ardderchog." Nid oedd y clock yn myned ar y pryd. Nid allai aros bod yn ara' deg gyda dim, yn enwedig yn moddion gras. Yr oedd hen flaenor o'r enw Sion Jones, Llwyngwanad, yr hwn oedd yn ysgrythyrwr a duwinydd rhagorol, ond oedd yn hynod bwyllog ac araf gyda phob peth. Galwai Owen Owens arno i fyned i weddi. Ond hwyrfrydig iawn oedd Sion Jones i godi, er nad oedd yn meddwl peidio ufuddhau. "Ddowch ch'i ynte, Dafydd Phylip," meddai Owen Owens, "tra y bydd Sion Jones yn hel ei bac?”

Yr oedd yn ieuangaidd ei ysbryd, ac yn cydfyned â'r oes yn dda. Yr oedd yn eang ei ysbryd, ac yn gyfaill calon i'r bobl ieuainc. Yr oedd felly ar hyd ei oes, ac yr oedd felly i'w ddiwedd. Yr oedd yn llawn o ysbryd cyhoeddus. Pa symudiad bynag er daioni fyddai yn y wlad, ni byddai trafferth yn y byd i gael Owen Owens i ysgogi gydag ef. Na, byddai efe yn un o'r rhai cyntaf i ymgymeryd ag ef, ac i daflu hyny o ddylanwad a feddai o'i blaid. Yr oedd yn ddwy-ar-bymtheg oed pan ddechreuodd y Cyfarfodydd Ysgolion yn y wlad, a gweithiodd yn rhagorol gyda hwy am yn agos i driugain mlynedd. Bu yn llywydd arnynt, yn ymwelwr a'r ysgolion, ac areithiodd fwy na mwy ynddynt. Cynhaliodd hefyd lawer o gyfarfodydd ar nos Sabbothau, oeddynt yn fath o Gyfarfodydd Ysgolion, ar raddeg fechan. Diau iddo wneyd llawer o ddaioni gyda'r cyfarfodydd hyn yn ardaloedd Eifionydd. Cynhelid hwy yn lle cyfarfod gweddi mewn manau na byddai pregeth ynddynt. Byddai parotoi mawr ar eu cyfer, a disgwyliad mawr am danynt. Yr oedd cyfarfod felly un tro yn Nghwmcoryn, ac yr oedd Owen Owens wedi cymeryd yn gwmni gydag ef ddyn ieuanc, y diweddar Mr. Owen Roberts, Hendy, meddyg anifeiliaid adnabyddus yn y rhan yma o'r wlad. Ar y diwedd yr oedd Owen Owens yn bwyta yn y tŷ capel, ac Owen Roberts yn ei aros wrth y drws oddiallan. "Ydy' o'n proffesu?" gofynai rhywun o bobl y lle i Owen Owens. "Wel, mae o'n proffesu y medr o fwyta," oedd yr ateb ar unwaith. Mewn ambell ysgol fechan ni cheid Cyfarfod Ysgol rheolaidd. A'r hyn a geid yn lle hyny fyddai un o'r cyfarfodydd hyn gan Owen Owens. Cynhaliodd amryw o honynt yn ysgol y Gwindy. Dywedir y byddai yn cael hwyl anghyffredin i holwyddori ar yr achlysuron hyn.. Dywedir y bu yma gyfarfod hynod iawn tua'r flwyddyn 1846. Y mater yr holid arno oedd y benod gyntaf yn y llyfr bychan hwnw, "Oriau olaf Iesu Grist," gan Lewis Jones o'r Bala. Yr oedd y teimlad dipyn yn ddwys ar hyd y cyfarfod wrth adrodd am ing Gethsemane, yn null tyner a hapus y llyfr bychan hwnw; ond ar waith gwraig y tŷ, Mrs. Owen, priod y diweddar Barch. John Owen, yn adrodd y geiriau hyny gydag aceniad clir, pwyslais priodol, a theimlad tyner, tua diwedd y cyfarfod, "Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gyda mi. Edrychais hefyd ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr," torodd pawb yn y lle i wylo. Dro arall yr oedd Owen Owens yn yr hwyl fawr yn holi, a throes at wr y tŷ, y diweddar Mr. John Roberts, a gofynodd iddo, "Tybed a fydd hi yn well yn y nefoedd, deudwch, nag ydy' hi yma heddyw?" Ac meddai yntau yn ol, "Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef." Parhaodd Owen Owens i ddilyn y Cyfarfodydd Ysgolion hyd o fewn ychydig wythnosau i'w ddiwedd. Er nad oedd ganddo unrhyw swydd ynddynt er's blynyddoedd, eto yr oedd y fath ymlyniad ynddo wrthynt, a'r fath groesaw iddo ynddynt, fel y daeth i un o'r rhai diweddaf, os nad y diweddaf oll, a ddigwyddodd yn ystod ei fywyd. Yr oedd yn agos i ddeugain oed pan ddaeth dirwest i'r wlad. Ond ymunodd Owen Owens a'r symudiad ar unwaith, er na bu y ddiod feddwol yn un demtasiwn iddo erioed. Dywedodd mewn lle mor gyhoeddus a'r Sasiwn na ddarfu iddo feddwi yn ystod ei fywyd. Areithiodd lawer mewn cyfarfodydd dirwestol ar hyd ei oes. Byddai yn areithio mewn cyfarfodydd poblogaidd iawn. Cynhelid Cymanfa Ddirwestol bwysig iawn yn Nhremadog bob blwyddyn am saith neu wyth mlynedd, sef tua 1837-1845. Byddai oddeutu dwy fil o bobl yn bresenol yn y cyfarfodydd hyn, a chynhelid hwy yn mis Medi neu Hydref bob blwyddyn. Bu Owen Owens yn areithio mewn mwy nag un o'r cyfarfodydd hyny. Dywedai un tro fod Dirwest yn cael gwrthwynebiadau mawrion, ond nad oedd pob gwrthwynebiad a gai yn ddim ond peri iddi lwyddo mwy, a pheri i'w phleidwyr fod yn fwy selog a gweithgar drosti. "Yr oedd hen wr unwaith," meddai, "yn cau rhan o'r mynydd allan. Wedi iddo godi y clawdd o gwmpas y lle, byddai rhywrai yn barhaus yn ei chwalu erbyn dranoeth. Ond daliai yr hen wr ati o hyd i ail adeiladu. Ac yn lle ei adeiladu yn yr un man, byddai yn ei adeiladu yn mhellach ac yn uwch i'r mynydd bob tro. Ac felly yr oedd eu gwaith hwy yn chwalu y clawdd, nid yn unig heb ddigaloni yr hen wr, a pheri iddo roddi y cwbl i fyny, ond yr oedd hyny yn peri iddo awyddu am eangu ei derfynau yn barhaus; ac felly gwelent mai gwell oedd iddynt beidio ei rwystro, ac mai gwell oedd iddynt adael iddo. Felly y mae Dirwest. Po fwyaf o rwystrau y mae yn ei gael, mwyaf yn y byd y mae yn myned rhagddi. Ac os ydyw y gelynion am iddi beidio llwyddo, gwell iddynt adael llonydd iddi, a pheidio ceisio chwalu ei chloddiau, neu y mae yn siwr o eangu ei therfynau, a gwneyd ei chloddiau yn uwch i'r mynydd o hyd."

Yr oedd Owen Owens yn agos i bymtheg a deugain oed pan ddechreuodd y Cyfarfodydd Llenyddol yn y wlad; ond yr oedd efe yn un o'r rhai cyntaf a ymunodd a hwy. Ac er fod ei ben erbyn hyn yn lâs, yr oedd mor fywiog ynddynt ag un bachgen deunaw oed, a thaflodd fwy o fywyd ac ysbryd iddynt na neb yn y wlad. Pan yr oedd wedi cyraedd ei ddeg a thriugain oed, cynhelid Cymanfa Ysgolion (yr hyn oedd yn beth newydd yn yr ardaloedd hyn) yn Nghastell Criccieth i Ddosbarth Eifionydd am ddwy neu dair blynedd; ac yr oedd Owen Owens ynddynt yn selog, er nad oedd braidd neb arall yno o Fwlchderwin. Ymliwiai â hwy y Sul cyntaf ar ol hyny, gan ddweyd, "Pe buasai Castell Criccieth wedi dyfod i Bantglas, yr ydw' i yn ofni nad aethai rhai o honoch ch'i ddim yno." Ni ddechreuodd Undeb yr Ysgol Sabbothol, y Safonau, a'r Arholiadau, am rai blynyddoedd ar ol ei farwolaeth; ond credwn y buasai Owen Owens mor selog drostynt a neb, pe buasai yn fyw. Yr un fath am bob symudiad yn ei gapel ei huu. Yr oedd yn ystwyth iawn i gyd—fyned â phob symudiad da. Un peth y clywsom y caed tipyn o drafferth gydag ef oedd, cael casgliad at y weinidogaeth yn y gynulleidfa. Dangosai gryn wrthwynebiad i hyny. Ymliwiai un o'r gwrandawyr gydag ef, gan ddweyd, "Beth sydd gynoch ch'i yn erbyn cymeryd ein harian ni at y weinidogaeth, os yda ni yn leicio eu rhoi nhw? Mae nhw cystal arian a'ch rhai chwithau." "Na," meddai yntau, "mi fedrwn ni fyn'd ymlaen hebddoch ch'i, os nad yda ch'i am roi eich hunain." Chwareu teg iddo, onide? Onid oedd ganddo reswm lled dda? Yr oedd hefyd yn erbyn rhoddi Seiat ar ol y bregeth. Ond, onid oedd rhai o ddynion goreu a doethaf y Cyfundeb o'r un syniad?

Yr oedd doniau Owen Owens hefyd yn amrywiol iawn. Nid mewn un cylch yr oedd ei ddawn yn taro. Gwelir llawer yn dra chymwys mewn un cylch, ond yn ddigon anfuddiol mewn cylchoedd eraill; ond yr oedd dawn Owen Owens yn gymwys i gyfarfod â chyfarfodydd tra gwahanol i'w gilydd. Yr oedd ei ddawn yn gymwys i'r cyfarfod eglwysig, ac i'r Cyfarfod Llenyddol; i'r cyfarfod gweddi, fel y cyfarfod dirwestol; i'r angladd, yn gystal ag i'r cyngerdd. Ac yr oedd yn anhawdd gwybod ymha le yr oedd fwyaf; yn ei weddiau, ynte yn ei areithiau. Yr oedd lawn mor hynod yn y naill gylch a'r llall. Ac os byddai yn ddigrifol yn ei areithiau weithiau, ac yn cynyrchu chwerthin, ceid odid fawr ryw sylw bachog a gwir ymarferol yn ymyl hyny.

Yr oedd yn ddiwyd, ymroddgar, a gweithgar gyda'r byd. Er mor weithgar ydoedd gyda chrefydd, nid oedd felly ar draul esgeuluso ei amgylchiadau. Yr oedd yn un o'r bobl fedrus hyny sydd yn gallu gwneyd y goreu o'r ddau fyd. Er fod ei amgylchiadau yn dra isel a chyfyng, fel y cyfeiriwyd, pan yr oedd yn ieuanc, eto, cyn marw, yr oedd yn dra chlyd arno, ac yn werth llawer o ganoedd o bunau. Credai ac actiai gyngor hen Ficer Lianymddyfri, i'w fab:

"Cod y bore ar y wawr—ddydd,
Am cyntaf a'r uchedydd;
Hyn a'th helpia i gael hir iechyd,
Dysg, a dawn, a chyfoeth hefyd."


Elai i'w wely rhwng wyth a naw o'r gloch y nos, a chodai rhwng pedwar a phump yn y boreu. A byddai yn rhaid i bawb fyddai yn ei wasanaeth wneyd yr un modd. Gwnai hyn hefyd ar y Sabboth fel pob diwrnod arall.

Yr oedd yn dyner fel disgyblwr. Dywedir am y diweddar Barch. Joseph Thomas, nad oedd yn ddisgyblwr llym, ac nad oedd ganddo feddwl mawr o'r bobl oedd yn gryfion yn y cyfeiriad hwnw. "Dywedai, hefyd, i ni golli canoedd o'n haelodau oherwydd ffolineb, ac ysbryd angharedig rhai pobl gyda disgyblu." Gallesid meddwl fod Owen Owens yn debyg iddo yn hyn; o leiaf, y mae genym engreifftiau o'i dynerwch a'i gallineb gyda hyn; a hyny yn effeithio er daioni ar y rhai yr arferid tynerwch tuag atynt. Gallwn gyfeirio at ddwy engraifft o hyn, y rhai sydd yn gredyd i'w ben a'i galon, ac yn berarogl i'w goffadwriaeth. Yr oedd bachgen ieuanc o Sir Fon, o'r enw Thomas Parry, wedi dyfod i wasanaethu i'r ffarm agosaf i Owen Owens, sef ffarm arall o'r enw Cors-y-wlad, lle yr oedd Edward Parry yn byw. Daeth a phapyr aelodaeth i Fwlchderwin ar ddechreu y tymor; ond trwy esgeulusdra a dylanwad cwmni drwg, ac yntau yn fachgen llawn bywyd a direidi, aeth y tymor heibio heb iddo ef fod yn y Seiat ymron o gwbl. Yr oedd ei dad yn hen wr duwiol iawn, a'r peth diweddaf a ddywedodd wrtho wrth ei ddanfon dros y Fenai oedd, am iddo ofalu am gael papyr aelodaeth i ddyfod yn ol. Ond erbyn diwedd y tymor, meddyliodd mor sobr fyddai gwynebu ei dad heb yr un papyr. Aeth at Owen Owens yn ei brofedigaeth i ddweyd ei gwyn. Anogodd yntau ef i ddyfod i'r Seiat ei hunan, ac y rhoddai efe y peth o flaen y Seiat mor dyner a thirion ag y gallai. Wedi i'r cyfarfod ddechreu, rhoddai Owen Owens y peth gerbron yn ei ddull plaen a deheuig ei hun:—"Mae Twm Parri wedi dwad ato ni heno fel y gwelwch ch'i, ni bu yma er's cryn amser o'r blaen. Mae wedi bod mewn tir lled bell. Ond y mae hyny wedi dyfod i boeni cryn lawer arno. Mae myned oddiyma heb bapyr aelodaeth wedi dwad i bwyso yn lled drwm ar ei feddwl. Mae meddwl am ddywediad olaf ei dad wrtho wrth adael Sir Fon yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, am iddo ofalu am gael papyr aelodaeth i ddyfod yn ol. Dyna'r peth o'ch blaen ch'i, frodyr. Beth yda ch'i yn feddwl?" Fe ddywedodd amryw frodyr air, gan ddangos awydd am iddo gael papyr. Ac, meddai Owen Owens ar ol pawb:—"Wel, fe ro'wn ni bapyr i ti, Twm bach, ar goel," gan awgrymu eu bod yn rhoddi papyr iddo, gan obeithio y deuai yn well. A "choel" rhagorol fu hwnw i Thomas Parry. Adwaenem ef yn dda. Bu yn aelod am dymhorau ar ol hyny yn Mrynengan, un o'r eglwysi yr ydym mewn cysylltiad a hwy. Yr oedd yn fachgen tyner, caredig, a gwir grefyddol. Ac yr oedd yn un a llawer o dalent ynddo, yn ddatganwr ac adroddwr rhagorol. Yr oedd hefyd yn meddu y dalent hynod hono i raddau, sef taflu y llais. Ni bu fyw yn hir iawn ar ol hyny. Bu farw ag arwyddion arno ei fod yn myned i le gwell. Mae yn anhawdd gwybod beth a ddaethai o hono onibai tynerwch a doethineb Owen Owens tuag ato yn yr adeg hono. Yr engraifft arall oedd merch ieuanc ddymunol o'r enw M——. Yr oedd si allan ei bod yn siarad â dyn ieuanc digrefydd. Yr oedd amryw wedi bod yn ceisio dylanwadu arni i beidio, ond mewn ffordd rhy lym, a cheryddol, ac awdurdodol. Nid oedd y dull hwnw yn tycio dim gyda hi, a deallodd Owen Owens hyny. Ymddiddanodd â hi mewn dull tyner, a dywedodd wrthi yn ei ddull didaro ond doeth ei hun,—"Wel, waeth i ti beidio am wn i." Ni chlywyd y gwyn hon byth mwy am M——. Priododd yn anrhydeddus âg un arall cyn hir. Mae yn wraig barchus er's llawer blwyddyn, ac erbyn hyn yn weddw alarus.

Yr oedd hefyd yn onest a phlaen. Nid oedd dim yn Phariseaidd o gwmpas Owen Owens yn ei grefydd. Ni fedrai wisgo ryw ffug-sancteiddrwydd am dano, o leiaf ni wnaeth hyny. Ni wyddai ddim am dynu gwyneb gor-sanctaidd, na gwneyd rhyw don or-grefyddol. Yr oedd yr hen Fethodistiaid yn cael y gair—o fod felly, o wneyd y pen yn gam, a gwneyd rhyw dôn grefyddol. Pe buasai yntau yn fwy felly, diau y buasai yn fwy cymeradwy yn ngolwg rhyw bobl. Ond er gwybod hyny, ni fynai Owen Owens fod yn neb ond efe ei hun. Mynai fod yn—efe ei hun yn ei holl noethder, fel y daeth o law ei Greawdwr, heb ystumio dim arno ei hun. Dywedai yn onest pa fodd y byddai yn teimlo yn ngwyneb troion Rhagluniaeth, er bod yn y perygl o gael ei gamddeall, a chael priodoli iddo feddyliau annuwiol a grwgnachlyd. Yr oedd mewn Cyfarfod Misol rywbryd yn Llanllyfni, un o'r cyfarfodydd hyny a elwid yn Gyfarfod Chwarterol. Byddai Cyfarfod Misol Arfon a Chyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd yn cyfarfod eu gilydd bob chwarter am dymor. Yr oedd ar y pryd yn adeg cynhauaf gwair, ac yn dywydd gwlyb anarferol, un o'r tymhorau mwyaf felly oedd wedi ei wneyd er's llawer o flynyddoedd. Bu yno lawer o siarad ar hyn, gan anog eu gilydd i beidio grwgnach yn erbyn llywodraeth y Brenin Mawr; a phenderfynwyd cynal cyfarfod gweddi ar yr achos Galwodd y diweddar Barch. John Owen, Gwindy, y pryd hwnw, yr hwn, mae'n debyg, oedd llywydd y cyfarfod, ar Owen Owens i ddweyd gair. Cododd ar ei draed, a dywedodd eiriau tebyg i hyn,—" Wel, gyfeillion, mae hi'n bur sobr, ac yn arwyddo myned yn gyfyng iawn ar yr anifeiliaid, ac yr yda ch'i yn ein hanog ni yn gryf i beidio ag ymwylltio a gwarafun. Wel, rhaid i mi ddweyd mai ar ryw adeg fel hyn y bydda' i yn myn'd o'm tymer yn lân. Meddyliwch am adeg pan fydd hi wedi sychu am ddiwrnod neu ddau. A phan yn dechreu myned i gario y gwair, dyma gawod drom o wlaw yn dyfod, yn dyrysu pawb, ac yn gwneyd y gwair yn waeth nag yr oedd cyn hyny. Ni 'ddyliech ch'i byth mor an'odd ydy' i ddyn ddal ei ysbryd yn agos i'w le ar adeg felly." Teimlai pawb yn y lle ei fod yn darlunio agwedd ei feddwl yn onest, a chafodd ei eiriau effaith ddymunol ar bawb. Yr oedd y tymor y bu farw yn dymor pur debyg i'r uchod. Yr oedd y flwyddyn hono (1877) yn flwyddyn ddigalon iawn i amaethwyr. Nid oedd wedi gwneyd tywydd i dyfu ffrwythau y ddaear, nac ychwaith i'w casglu. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yr oedd "Dydd Diolchgarwch." Yr oedd yntau yn bur isel ei feddwl ar y pryd, ac wedi ei feddianu i raddau gan ysbryd anghrediniol. Tybir hefyd ei fod wedi cael cyffyrddiad ysgafn o'r parlys. Ar Ddydd Diolchgarwch byddai yn arfer dweyd gair ar y mater. A'r flwyddyn hono fe ddywedai fel arfer. "Mi obeithia i," meddai, "y byddwch ch'i yn onest wrth ddiolch. Peidiwch a rhagrithio. 'Dyda ni ddim wedi cael ffrwyth eleni, a 'dyda ni ddim wedi cael tywydd chwaith i'w gasglu. Peidiwch a rhagrithio beth bynag wrth ddiolch. 'Dyda ni ddim wedi cael tatws nac ŷd." Yr ydym yn dweyd hyn i ddangos mor onest, ac unplyg, a naturiol ydoedd, a hyny hyd yn nod mewn lleoedd cyhoeddus.

Yr oedd Owen Owens hefyd yn hynod am ei ffyddlondeb i foddion gras yn ei gartref. Pa mor hynod bynag oedd am ei ffraethineb, a'i synwyr cyffredin cryf, yr oedd yn llawn mor hynod am ei ffyddlondeb. Mae llawer yn ymddangos yn rhai pur hynod pan oddicartref, ond heb fod o nemawr o werth yn eu cartrefi. Ond nid un o'r dosbarth yna oedd Owen Owens. Na, er y byddai mewn cyfarfodydd yn fynych oddicartref, nid oedd yn gwneyd hyny ar draul esgeuluso y moddion yn ei gartref. Ni chollai nemawr i foddion. Yr oedd yn meddu ar y cymeriad prydferth hwnw a roddir i Hananiah, "Efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer." Ac y mae y pwysigrwydd i flaenor fod yn ffyddlon yn amlwg. Nis gallwn anghofio darluniad y diweddar Mr. David Roberts, Hope Street, Lerpwl, o bwysigrwydd ffyddlondeb mewn swyddog eglwysig. Dywedai,—"Beth yw y cymhwysder cyntaf mewn blaenor? Fyddlondeb. Beth yw yr ail gymhwysder? Ffyddlondeb. Beth yw y trydydd cymhwysder? Ffyddlondeb." Hyny ydyw, dyna y cymhwysder penaf ynddo, a'r hyn sydd yn gosod gwerth ar bob cymhwysder arall. Ac os bydd yn amddifad o ffyddlondeb, mae pob cymhwysder arall yn myned ymron yn hollol ddiwerth. Ac y mae y Methodistiaid wedi eubendithio â llu o'r dosbarth yna; a gellir eu galw yn "ardderchog lu" mewn gwirionedd. Mae llwyddiant Methodistiaeth i'w briodoli i raddau helaeth i'r fintai ragorol yma. Pa mor ddyledus bynag ydyw Methodistiaeth i'w phregethwyr, y mae hefyd yn ddyledus i raddau mawr i'w blaenoriaid. Ac y mae i Owen Owens le anrhydeddus ymysg y dosbarth hwn.

Ond uwchlaw y cwbl, credwn fod Owen Owens yn ddyn duwiol. Oni b'ai ein bod yn hollol argyhoeddedig o hyn, ni buasem yn ysgrifenu y llyfr hwn. Po agosaf yr aem ato, tebycaf yn y byd a fyddem o gredu yn ei dduwioldeb. Y rhai pellaf oddiwrtho fyddai debycaf o ameu hyn, a'i ganddeall. Ni welai y rhai hyn ddim ymron ond y dywediadau digrifol, a'r effaith a ganlynai hyny, sef y chwerthin a'r mwynhad. Tystiolaeth unfrydol, ymron, pobl ei ardal ef ei hun, sef Bwlchderwin, ydyw, mai dyn wedi cael gras oedd Owen Owens. Ac wedi myned yn nes eto ato, sef i'w deulu, y mae yr argyhoeddiad yn myned yn gryfach fyth mai dyn duwiol ydoedd. Yr oedd yr allor deuluaidd i fyny yn ddifwlch yn Nghors-y-wlad. Dyna dystiolaeth unfrydol y rhai a fu yn gwasanaethu yno. A dyma goron yr holl ragoriaethau eraill—duwioldeb, a'r hyn sydd yn gosod gwerth arnynt oll.

PENOD XV.
OWEN OWENS FEL GWEDDIWR.

Yn hynod ac effeithiol fel gweddiwr. Dechreu odfa yn Cefnweit.—Cyfarfodydd gweddi hynod yn Llwyngwanad, a'r dylanwadau.—Medrusrwydd i drin adnodau y Beibl yn ei weddiau.—Sylwadau disglaer ar weddi.—Yn gartrefol wrth orsedd gras.—Meddwl mawr am drugaredd Duw.—Yr arch a'r drugareddfa yn gwneyd y ddeddf yn swat.—Sylw John Evans, New Inn.—Iachawdwriaeth fawr mewn lled llaw.—Yn gartrefol yn ei weddiau.—Dull neillduol a gwreiddiol yr hen bobl wrth weddio.—Owen Owens a Griffith Jones, Tregarth.—Yn gwybod y dirgelwch sydd mewn gweddio.—Yn deall wrth weddio fod Duw yn ateb ei weddi—Engraifft o un o'i weddiau.

YR oedd Owen Owens yn hynod ar lawer cyfrif, ac mewn llawer cymeriad, ond credwn mai fel gweddiwr yr oedd fwyaf hynod o bob peth. Yr oedd yn hynod yn y Cyfarfod Llenyddol, yn y Sasiwn, yn y Cyfarfod Misol, yn y Seiat, yn yr Ysgol Sabbothol, &c.; ond credwn mai wrth orsedd gras yr oedd ei hynodrwydd mwyaf. Gellir dweyd ei fod yn enwog fel gweddiwr, os priodol yr ymadrodd. Clywsom amryw yn dweyd, y rhai a'i clywsant ef pan yr oedd yn ei amser goreu, na chlywsant neb erioed yn cael mwy o hwyl nag ef wrth weddio. "Gweddiai weithiau," meddai un, "nes y byddwn yn clywed fy ngwallt yn codi ar fy mhen." Byddai rhyw ddylanwadau ac effeithiau hynod yn canlyn ei weddiau ar adegau. Llawer gwaith y gwelwyd ac y teimlwyd pethau rhyfedd gyda'i weddiau. Ai i'r nefoedd ar ei union ar yr adegau hyny, a thynai y nefoedd i lawr i ganol y gynulleidfa. Ar adegau, byddai pawb yn foddfa o ddagrau gan y dylanwad. Brydiau eraill, gwelid pawb wedi eu sobri a'u difrifoli, gan ryw ddywediadau miniog ac arswydlawn a ddywedai. Ac nid anfynych y gwelwyd y gynulleidfa mewn hwyl gorfoledd, a llawer yn tori allan i orfoleddu. Mae hanes am dano yn gweddio yn hynod iawn un tro mewn ty, neu yn hytrach wrth dy, o'r enw Cefnweit, yn ardal Bryngenan. Yr oedd pregeth i fod yn y lle ar nos Sabboth, ar hir-ddydd haf, gan un o'r enw John Hughes, Bwlchderwin, yr hwn a fu ar ol hyny yn Llanllyfni. Gan fod mwy o bobl wedi ymgasglu nag a gynwysai y ty, penderfynwyd i'r odfa gael ei chynal allan o flaen y ty. Safai Owen Owens ar ben cadair o flaen y ty i ddechreu yr odfa. Cafodd y fath hwyl wrth weddio, fel yr aeth yn orfoledd mawr drwy y lle, a gorfoleddu y buont am hir amser, fel y taflwyd yr odfa i'r annhrefn mwyaf, ac ni feddyliwyd am dani. Llyncwyd y bregeth yn hollol gan y weddi, fel na chofiwyd fod yr un i fod o gwbl. Mae cyfeiriad wedi ei wneyd yn barod at hen wraig nodedig o grefyddol oedd yn byw yn Llwyngwanad, o'r enw Sian Robert. Wedi iddi fyned i wth o oedran, cynhelid cyfarfod gweddi iddi yn fynych gan bobl Bwlchderwin. Yr oedd rhyw awyrgylch nefol o gwmpas yr hen wraig hono, fel mai nid gwaith anhawdd fyddai cael y nefoedd i lawr yn y cyfarfodydd hyny. Mynych y byddai yno orfoledd mawr. Byddai yn rhaid i'r gweddiwyr fyned ar eu gliniau wrth gadair yr hen wraig. Ar adegau, rhoddai ei llaw ar ben y gweddiwr, gan waeddi, "Amen, O diolch, bendigedig," nes y byddai y trydan nefol yn rhedeg oddiwrthi iddynt. Byddai Owen Owens yn gyffredin yn diweddu y cyfarfodydd hyn. A braidd yn ddieithriad, byddai yn orfoledd mawr drwy y lle cyn y byddai wedi darfod gweddio. Parhäi y gorfoledd yn hir ar ol y cyfarfod, am tuag awr yn aml iawn. A byddent yn fynych yn neidio yn gystal a gorfoleddu. Byddai Owen Owens erbyn hyn yn eistedd wrth y tân yn ymddiddan yn dawel a hapus & Sian Robert; a thaflai y ddau ambell i drem siriol a boddhaol ar y rhai fyddai yn gorfoleddu. Un tro, yr oedd yno hen wr caled ac annuwiol wedi myned i waeddi, ac yn dal ati yn hir, nes bod mewn perygl o barhau ar hyd y nos yn llefain. Yr oedd ar ei liniau ar y llawr. Meddyliai rhywrai fod yn berygl iddo wneyd cam â'i hen babell wrth waeddi. Gofynent i Owen Owens ai ni byddai yn well ei atal, rhag ofn iddo wneyd cam ag ef ei hun. "Na," meddai yntau yn awgrymiadol iawn, ac fel yn gwybod mwy am dano nag a wyddent hwy, "gad'wch iddo fo waedu tipyn. Fe wnaiff hyn les iddo." Mae cof am dano yn y cyfarfodydd hyn, a chyfarfodydd eraill, yn trin adnodau gyda medrusrwydd mawr, a chydag effeithiau a dylanwadau anarferol. Un tro daeth ar draws yr adnod hono, "A minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth." Gwaeddai yr ymadrodd hwn dair neu bedair o weithiau, a phob tro gyda mwy o wres a nerth: "A minau ydwyf yn rhoddi iddynt; a minau ydwyf yn rhoddi iddynt; A MINAU YDWYF YN RHODDI IDDYNT; clustfeinia 'rwan uffern," meddai. Yna gwaeddai y gair—"bywyd tragwyddol," lawer gwaith trosodd, nes yr oedd rhyw effeithiau a dylanwadau anarferol yn cydfyned â'r gair. Torodd amryw allan i orfoleddu dros y lle. Yr oedd mewn Cyfarfod Misol yn Llwyndyrus yn bur agos i ddiwedd ei oes. Yr oedd y fath hynodrwydd ynddo fel na byddai dim yn well gan y cynulleidfaoedd na'i glywed yn dechreu odfa mewn Cyfarfod Misol. Ac er fod i flaenor ddechreu odfa mewn Cyfarfod Misol yn beth pur anghyffredin, eto nid oedd yn beth anghyffredin i Owen Owens o gwbl. Rhoed ef i ddechreu yr odfa ddeg o'r gloch. A'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, "Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, ac ymhob man arall o ran hyny."

Dywedai ymadroddion a sylwadau ar weddi weithiau a rhyw ddisgleirdeb hynod ynddynt, nes gwefreiddio pawb yn y lle. Byddai pobl Bwlchderwin yn cynal cyfarfodydd gweddi mewn tai yn fynych. Yr oeddynt un tro yn cynal cyfarfod gweddi mewn lle o'r enw Gyfelog-bach. Yr oedd yr hen wr, Sion Jones wrth ei enw, yn cael ei ystyried yn hen wr duwiol iawn; ond yr hen wraig yn hollol wahanol, ac wedi treulio oes faith yn annuwiol iawn. Gofynodd yr hen wr am gael cyfarfod gweddi yn y ty. Yr oedd amryw wedi gweddio, ond oll yn gweddio dros yr hen wr, ac fel yn methu gwybod sut i weddio dros yr hen wraig. Sylwodd Owen Owens ar hyny, ac efe oedd yn gweddio yn olaf, fel arfer. Parodd hyny iddo weddio yn arbenig dros yr hen wraig. Dywedir ei fod wedi gweddio yn hynod iawn drosti. Gweddiai yn hynod o daer, a dangosai fod ganddo ryw feddyliau mawr ac eang iawn am drugaredd Duw, a'i barodrwydd anfeidrol i dderbyn y pechadur mwyaf. Wedi gweddio ychydig dros yr hen wr, trodd i gofio am yr hen wraig. "Cofia am ei briod hefyd," meddai, "O Arglwydd. Mae hi wedi treulio ei hoes yn annuwiol iawn: yn ddifeddwl iawn am Dduw, am ei henaid, ac am fyd arall. Ond er ei bod wedi treulio oes faith iawn yn ngwasanaeth yr un drwg, yr yda ni am ei mentro hi ar dy drugaredd di eto. Mae gyno ni feddwl mor fawr am dy drugaredd di, fel y buasa ni yn ei chynyg hi i dy drugaredd di pe buasa hi ar frig fflamau uffern." A phwy a ŵyr na wrandawyd ei weddi ryfedd? Yr oedd gan John Evans, New Inn, feddwl mor fawr am drugaredd Duw fel yr oedd yn credu y gallai achub meddwyn wedi syrthio dros bont i'r afon yn ei feddwdod. Dywedai rhywun wrtho ar yr amgylchiad, "Wel, dyna un yn siwr o fod wedi myn'd i uffern." "Na," meddai yntau, "wyddo ni ddim beth fedr trugaredd Duw wneyd o'r bont i'r afon." Yr oedd yr un ysbryd yn ngweddi Owen Owens. Pan yr oedd Brynengan, Bwlchderwin, a Thaiduon, yn un daith, dywedir y byddai yn dyfod gyda'r pregethwr yn lled fynych i Frynengan. A phob amser ar yr adegau hyny, byddai yn dechreu yr odfa; a dywedir y byddai yn gweddio yn anghyffredin ar yr adegau hyny. Byddai rhyw effeithiau mawrion yn canlyn ei weddiau yn fynych. Clywsom amryw, sydd erbyn hyn yn y nefoedd, yn son am y gweddiau hyny. Ychydig cyn diwedd ei oes gweddiai yn effeithiol iawn mewn cyfarfod gweddi. "Diolch i ti am y gwaed," meddai, "i dawelu y ddeddf. Yr oedd y ddeddf yn danllyd iawn ar fynydd Sinai, ac yn taranu yn ofnadwy. Ond mi drefnodd yr Arglwydd arch i'w rhoi hi ynddi. Ac yr oedd hi yn bur swat yn yr arch, o dan y drugareddfa. Ac y mae gyno ninau eto arch a thrugareddfa, i dawelu y ddeddf pan y bydd hi yn taranu ac yn rhuo yn ein cydwybodau ni." Yr oedd yn gweddio i ddechreu Seiat y dydd olaf mewn Cyfarfod Misol yn Nhremadog, tua'r flwyddyn 1869. Y noson gyntaf yr oedd y diweddar Barch. David Hughes, Aberdaron, wedi pregethu gydag eneiniad mawr ar "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" Mawredd yr iachawdwriaeth oedd ei bwnc; a'r diweddar Dr. Hughes ar ei ol ar fyrdra oes dyn, oddiar "Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi." Dangosai fyrdra oes dyn yn effeithiol iawn trwy y gymhariaeth ysgrythyrol o "led llaw." Pan yr oedd Owen Owens ar ddibenu gweddio, dywedai yn sydyn, yn ei ddull hynod a chartrefol ei hun, "O ïa wir, bu dest iawn i mi anghofio diolch i ti am y pregethau neithiwr. Diolch i ti am iachawdwriaeth fawr mewn lled llaw." Tarawodd y sylw bawb yn anghyffredin. Yn yr un Cyfarfod Misol ag y cyfeiriwyd ato yn barod yn Llwyndyrus, ac ar yr un weddi, dywedai, "Mae arno ni ofn gofyn i ti am ail ras, rhag ofn na chawso ni mo'r gras cyntaf. Gwna waith mawr yma heddyw gael i'r creaduriaid yma gael rhyw neges i fyn'd adra i ogoniant i ddweyd yr hanes." Nid oes eisiau dweyd mai at yr angylion y cyfeiriai.

Byddai Owen Owens hefyd yn dra chartrefol yn ei weddiau, yn naturiol, ac fel efe ei hunan. Ymddiddanai â Duw fel gyda'i gyfaill: äi i ryw agosrwydd mawr at Dduw yn ei weddiau. Arferai iaith yn ymylu ar hyfdra, efallai. Ond rhaid i ni addef ein bod yn hoffi Owen Owens yn hyn. Yr oedd yn Owen Owens, Cors-y-wlad, hollol, wrth orsedd gras, fel ymhob man arall, heb roddi dim hûg o fath yn y byd am dano. Ac yn wir, rhaid i ni addef hefyd fod arnom hiraeth calon am hen frodyr o'r un stamp ag ef yn hyn. Rhaid i ni addef ein gwendid, mae ein llygaid yn llenwi y funyd hon wrth feddwl am danynt. Gallem enwi amryw yn perthyn i Frynengan, y Garn, a Brynkir. Dyma hwy yr hen frodyr anwyl, William Griffith, Llystyn-gwyn; William Parry, Nantcall-isa; John Roberts, Ynysdyfnallt; Griffith Roberts, Glan-y-gors; Edward Griffith, Pencae'rsawnog; Ebenezer Jones, (brawd Moses Jones); a Robert Owen, y Pant.

Yr ydym yn ofni fod yr hen gwyn a ddywedir am bregethwyr yn wir hefyd am y gweddiwyr yn y dyddiau hyn, sef eu bod yn rhy debyg i'w gilydd. Ond yr oedd Owen Owens yn hollol ar ei ben ei hun fel gweddiwr, yn gystal ag fel siaradwr. Yr oedd yn gweddio un tro mewn Seiat Cyfarfod Misol, lle nad oedd ond y swyddogion yn unig. "Cofia ni," meddai, "fel swyddogion. Mae o bwys mawr i ni beth bynag fod yn dduwiol. Gwna ni i gyd yn dduwiol, rhag cywilydd i ni." Yr oedd efe a'r diweddar Barch. Griffith Jones, Tregarth, wedi eu gwahodd ryw ychydig o flynyddoedd cyn marwolaeth Owen Owens, i Carmel, Mynydd y Cilgwyn, i gyfarfod oedd yno ar ryw nos Sadwrn, ar ol tea party yn y prydnawn. Areithiai Griffith Jones ar ddirwest, ac Owen Owens ar yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd Griffith Jones yn pregethu yno y Sul dilynol, yn y prydnawn a'r nos, a rhoddwyd Owen Owens i ddechreu yr odfa yn y prydnawn. "Yr oedd yn gweddio yn afaelgar, doniol, ac effeithiol, gweddi y buasai yn werth myned ddegau o filldiroedd i'w chlywed. Ac y mae yn amheus genyf a oedd yn y capel lygad sych wrth ei gwrando. Yr oedd ei erfyniadau yn disgyn fel tân ar y gynulleidfa. Ond ar ol y weddi afaelgar a gwresog, pregeth pur ganolig a gawsom gan Griffith Jones ar 'Cofiwch wraig Lot." Gofynai Griffith Jones iddo ddechreu yr odfa drachefn y nos, ond gwrthodai er arfer pob taerineb arno. Ar ol myned i'r capel, eisteddai Griffith Jones yn y pulpud yn hir, gan ddisgwyl i Owen Owens ddechreu. Ond wrth weled na wnai heb ei gymell drachefn, cododd, ac estynodd ei ben dros y pulpud, ac anerchodd ei gyfaill yn debyg i hyn,—"Tyr'd, Owen, dechreu yr odfa, neu ni phregetha i yr un gair heno. Paid a bod yn stupid. Gafael ynddi hi ar unwaith." Ac felly dechreu fu raid. "Ac os oedd wedi cael hwyl dda ddau o'r gloch, yr oedd yn tra rhagori y nos." Cyfarchodd orsedd gras yn debyg i hyn: "Cofia dy was heno, O Arglwydd. Yr wyt wedi ei arddel o lawer gwaith, ond cofia ef y tro yma, Arglwydd mawr. Dyro iddo bethau newydd a hen i'w traethu i ni. Y mae yr efengyl yn llawn o'r naill a'r llall. Yr oedda ni yn y prydnawn yn clywed y bregeth yn rhy hen. Dyro iddo bethau newydd heno. Yr oedda ni wedi hen flino arno yn son am yr hen ddynes gâs hono o hyd. Cyfarwydda ei feddwl, Arglwydd, i ddweyd rhywbeth wrtho ni am Iesu Grist fel Gwaredwr i bechadur colledig, ac am drefn cadw enaid. Arwain ei feddwl o i Galfaria. Dyro i ni gael awel o Galfaria fryn yma heno."

Credwn hefyd fod Owen Owens yn gwybod am y dirgelwch sydd rhwng ysbryd y dyn duwiol a'r Duw mawr. Mae y fath beth yn bod, feallai, ag i ddyn gael hwyl anghyffredin wrth weddio yn y cyhoedd, a'r dyn hwnw, er hyny, heb wybod am gymundeb rhwng ei enaid ei hun a Duw. Mae y gwir weddiwr yn myned i mewn i gyfrinach y nefoedd. Dywedai Duw am Abraham, "A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?" "Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf" ydyw y gwir weddiwr. Credwn y gwyddai Owen Owens am rywbeth tebyg. Dywedai am eneth fach iddo pan yr oedd hi yn wael, ei fod yn methu gweddio drosti; a chymerai hyny yn awgrym fod yr Arglwydd am ei chymeryd ato ei hun. Bu nai iddo ag oedd yn gyfaill mawr iddo yn wael iawn, ac yn agos i angeu. Byddai yn myned i edrych am dano bob dydd, er fod ganddo dros dair milldir o ffordd, ac er ei fod ymhell dros ddeg a thriugain oed, a byddai yno mor foreu a rhwng chwech a saith. Un boreu daeth yno, a dywedodd yn galonog iawn, "Wel, yr wyt ti'n well heddyw on'd wyt ti?" "Ydw' wir, 'dwy'n meddwl," meddai yntau. "Wyt, right siwr," meddai Owen Owens, "yr oeddwn i yn medru gweddio drosta ti neithiwr; yr o'n i yn cael ryw nerth a goleuni i weddio drosta ti."

Os byddai Owen Owens yn ledio penill neillduol, byddai pobl Bwlchderwin yn cymeryd hyny yn awgrym fod ei ysbryd mewn hwyl dda i weddio. Os byddai yn ledio y penill canlynol cyn myned i weddi, byddent yn disgwyl am wledd:

"Yn rawnwin ar y groes,
Fe droes y drain;
Caed balm o archoll ddofn
Y bicell fain:
Dechreuwn fawl cyn hir
Na flinir ar ei flas,
Am Iesu'r aberth hedd—
O! ryfedd ras."


Wedi myned hwyl, byddai ei law dde ar ei ochr, neu yn mhoced ei wasgod; ac yn curo y pulpud bach a'i law chwith.

Mae yn dda genym allu rhoddi yma gynwys un o'i weddiau, wedi ei hysgrifenu ar yr adeg gan y Parch. William Jones, Port Dinorwig. Ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth yr oedd yn dechreu yr odfa, am ddau o'r gloch, mewn Cyfarfod Misol yn Nghapel Ucha, Clynog. Yr oedd yn nechreu haf, ac yn ddiwrnod pur boeth. Dywed Mr. Jones mai y Parchn. Thomas Roberts, Jerusalem, ac Edward Price, Bangor (Birmingham gynt), oedd yn pregethu; ond dywed y Parch. Francis Jones mai efe oedd un o'r ddau oedd yn pregethu. Nid oedd Mr. Jones wedi ei weled na'i glywed erioed o'r blaen; a dyma yr unig dro iddo ei gyfarfod yn ystod ei fywyd, ac yr oedd wedi ei daro yn fawr gan ei ddoniau dieithr. Er mwyn deall y weddi yn well, y mae Mr. Jones yn rhoddi yr eglurhad canlynol ar yr amgylchiadau:—" Yr oedd cyfarfod eglwysig wedi bod am 8:30, pryd yr oedd nifer mawr o'r aelodau heb fod ynddo. Yr oedd hefyd yn adeg boeth iawn,—y gwres yn annioddefol ymron, a golwg grinllyd ar y ddaear; ei thyfiant wedi sefyll, a'r diwrnod yma yn hynod o boeth, ac heb yr un awel o wynt o un man. Bydd sylwi ar y pethau hyn yn fantais i gael syniad am y weddi fer. Yr oedd ei heffeithiau a'i dylanwad yn fawr ar y gynulleidfa. Nid oedd yno nemawr wyneb sych; a chredu yr wyf fod ei dylanwad yn fawr yn y nefoedd. Aeth yno, fel y dywedir, ar ei union. Ar ol iddo derfynu, ysgrifenais y weddi fel yr oeddwn yn cofio ar y pryd." Cymerodd hyn le, meddai Mr. Jones, Mai yr 8fed 1877, sef y flwyddyn, felly, y bu Owen Owens farw. Ond dyma y weddi, fel yr ysgrifenwyd hi gan Mr. Jones:

"O Arglwydd mawr, yr ydym yn dyfod atat rhag ein blaen, yn ddiymdroi, trwy Galfaria. Yr ydym yn cael ein gwynt yno; lle y collodd yr Iesu ei wynt, yno yr ydym ni yn ei gael. Mae awel hyfryd yn nghymydogaeth y groes, ar y diwrnod poeth yma—'Awel o Galfaria fryn.' Diolch i ti am fod mor dda wrthym yn odfa'r bore, ac am y Seiat dda. Nid oeddym wedi disgwyl llawer; maddeu i ni am hyny. A chofia am yr aelodau cloff yma, y rhai oedd yn absenol pan ddaeth yr Iesu, fel Thomas hwnw. Dyma nhw, mae yn gywilydd iddynt. Bydded iddynt gael rhywbeth yn y Cyfarfod Misol na chollant yr un Seiat eto. Dyro dywalltiad o'r Ysbryd yn odfa'r prydnawn yma, wnaiff rwyg yn nheyrnas Satan, na ddaw hi at ei gilydd byth. Cofia'r gwrandawyr yma, y rhai agos; ond y lle gwaetha, meddai Daniel Jones, ydyw o dan y bargod. Cofia ni yn yr hin; mae y môr mawr yma ar gledr dy law di; gelli ei daflu i'r man y mynot ti. Tafl dipyn o hono ar ein daear sych y dyddiau hyn. Y maent wedi gofyn i mi fod yn fyr. A gwyddost dithau am bob peth sydd arnom eisiau. Gadawn y ddau bregethwr yn dy law; trwy Iesu Grist. Amen."

PENOD XVI.
SYLWADAU, DYWEDIADAU, A FFRAETHEBION.

Yn y Cyfarfod Misol.—Ystori y parrot.—Yn y Sasiwn.—Yn y Cyfarfod Llenyddol.—Yn y Cyfarfod Dirwest.—Yn y Seiat.—Yn y Cyfarfod Ysgolion a'r Ysgol Sabbothol.—Mewn angladdau.Gyda'i gymydogion.—Mewn manau ac ar achlysuron amrywiol.

EFALLAI nas gellir cael dim yn well i osod allan Owen Owens, na'i eiriau ef ei hunan; oblegid fel siaradwr yr oedd ei ragoriaeth penaf. Anaml hefyd y gwelwyd neb a mwy o'r dyn yn dyfod i'r golwg yn ei eiriau. Felly, os mynir cael golwg arno mor agos ag y gellir i fel yr oedd, edrycher i'r benod hon. Yr oedd ei sylwadau hefyd yn ffrwyth ei sylwadaeth ef ei hunan; ni bu neb erioed yn fwy felly. Rhaid addef mai ychydig a ddarllenai. Nid oedd fawr o dduwinydd nac esboniwr. Yr oedd ei lyfrgell yn gynwysedig ymron yn gwbl mewn rhyw bump o lyfrau, heblaw ychydig o lyfrau bychain—yr Hyfforddwr, y Geiriadur, Gurnal, Beibl Peter Williams, a Boston ar bedwar cyflwr dyn. A darllenai y rhai hyn, nid er mwyn mwynhad yn gymaint, ond fel y byddai galwad am danynt, yn y Seiat, yn y dosbarth, neu i holwyddori. Ond yr oedd yn feistr hollol yn y llyfrau hyn, yn enwedig yr Hyfforddwr a Gurnal. Dywedir ei fod yn medru y ddau ymron i gyd ar dafodleferydd. Edrychai ar ddweyd rhywbeth yn isel am Gurnal, ymron yr un peth a dweyd peth yn isel am y Beibl. Dywedai un wrtho unwaith, nad oedd ganddo fawr o feddwl o Gurnal; ei fod yn ei weled yn gwneyd y diafol yn rhy debyg i'r Hollalluog. Edrychai Owen Owens arno yn sobr, ac heb ddweyd dim; fel pe buasai yn rhyfeddu at ei ryfyg. Edrychai ar y dywediad ymron yr un peth a phe dywedasid "geiriau cablaidd " am y Beibl ei hunan. Nid oedd yn rhagori nemawr fel athraw; a deallai yntau hyny yn dda. Ni bu yn athraw ymron ar hyd ei oes, ond ar ddosbarthiadau o ferched, a bechgyn lled ieuainc. Hefyd, os deuai rhyw gwestiwn duwinyddol dan sylw, os na theflid ef heibio yn bur fuan, byddai y peiriant mewn dyryswch yn union, a byddai y peirianydd mewn perygl o dderbyn niwed. Gallesid meddwl mai John Jones, Tremadog, oedd ei gynllun fel holwyddorwr. Ni byddai eisiau llafurio nemawr ar gyfer John Jones. Cael y bobl i hwyl, ac i deimlo yr hyn a fyddai dan sylw oedd ei amcan ef. Fe allesid ei ateb gydag "Ië" a "Nage" yn feunyddiol. Ac felly yr oedd Owen Owens. Yr un pryd, yr oedd y naill a'r llall yn deall eu hoes yn dda, ac yn gymwys hollol i'w hoes. Nid oedd gan Owen Owens, ychwaith, nemawr o gydymdeimlad â'r bobl fydd yn darllen llawer. Yr oedd saer yn ei ardal, yr hwn oedd yn gryn ddarllenwr. Ar ryw adeg, yr oedd yn gwneyd aradr i Owen Owens. Aethai yno amryw weithiau i chwilio am yr aradr, a dim tebyg iddo fod yn barod; ac yn lle bod yn gwneyd yr aradr, byddai y saer yn darllen rhyw lyfr. Yr oedd Owen Owens wedi ei daflu gryn dipyn oddiar ei echel, fel y dywedir. A chyfarchodd ef un diwrnod mewn tymer lled uchel:—"Ni waeth i ti beidio na darllen, a bod a dy drwyn mewn llyfr o hyd; ni chei di byth D.D. Ond hwyrach y cei di, ran hyny,—D—— diog." Ond dweyd yr oeddym nad oedd Owen Owens nemawr o ddarllenwr, ac mai ffrwyth ei sylwadaeth oedd ei areithiau, ei ddywediadau, &c. Arogl maes fyddai arnynt, ac nid arogl llyfrau. Ac er mwyn rhyw fath o drefn, fe roddwn engreifftiau o hono yn siarad mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol achlysuron. Ac fe ddechreuwn gyda'r

CYFARFOD MISOL.

Bu Owen Owens yn ffyddlon iawn i ddilyn y Cyfarfodydd Misol am tua haner can' mlynedd. Pan fyddai amser y Cyfarfod Misol yn nesau, gofynai i'w gyd-flaenoriaid a oeddynt am fyned iddo. Yn dra mynych, nis gallent hwy fyned, a gwyddent hefyd y gwnai efe fwy o ddaioni yno, ac anogent ef i fyned. "Wel," meddai yntau, "mi ro' i gyfrwy ar gefn Demby, ac mi af ynta." Bu ganddo gaseg dda am lawer o flynyddoedd o'r enw hwn. Ond ei brofiad yn fynych fyddai fod anhawsderau lawer ar y ffordd Clywsom ef yn cwyno wrth hen frawd arall y byddai yn dymuno yn fawr cael myned i'r Cyfarfod Misol. "Ond," meddai, "pan yr ä i i hwylio i gychwyn, fe ddaw rhywun dieithr i'r tŷ. Ac wedi iddo fyned allan, ac i mi fyned i chwilio am y gaseg i'r cae, bydd hono wedi myn'd i'r gors. Ac erbyn myn'd yno wed'yn, bydd wedi myn'd i gysgod rhyw glawdd neu wrych, yn ddigon pell. Ac erbyn ei dal, bydd y cythraul wedi tynu ei phedol." Ond er yr holl anhawsderau, äi Owen Owens yno yn fynych am amser maith. A chan fod Bwlchderwin ar y terfyn rhwng Eifionydd ac Arfon, mynych yr äi i Gyfarfod Misol Arfon, os byddai yn agos, yn gystal ag i Gyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd. A byddai yn dda gan bawb ei weled yn dyfod iddynt, yn y naill ran a'r llall o'r Sir, ac ymdaenai rhyw wên hapus dros wyneb pawb pan ddelai iddynt. Ac fel y dywedai un hen frawd parchus,—"Pan godai i ddweyd rhywbeth, y byddai fel trydan yn rhedeg trwy y cynulliad " Dywed yr un gwr, hefyd, ei fod mewn Cyfarfod Misol yn Cwmcoryn,—"Yr oedd Dirwest dan sylw. A gofynodd y llywydd iddo, 'A oes arnoch ch'i flys dweyd gair, Owen Owens?' 'Dim harm Mr. Hughes,' meddai yntau, a neidiodd i fyny yn sydyn, a chaed ganddo anerchiad yn llawn o wres a thra doniol, ond nid wyf yn cofio dim a fedra i adrodd; ond cododd y cyfarfod i hwyl anghyffredin mewn ychydig funydau."

Yr oedd mewn Cyfarfod Misol ryw flwyddyn neu ddwy cyn ei farwolaeth yn mynydd neu bentref Llanllyfni, pan y gofynwyd iddo roddi gair o gyngor i wyth o bregethwyr ieuainc oedd yn cael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. A chyfarchodd hwy yn debyg i hyn:—"Peidiwch a dynwared neb. Cymerwch eich dull eich hun, a dywedwch eich pethau eich hunain. Meddyliwch am gael eich pregethau eich hunain. Byddant yn fwy effeithiol o lawer na phregethau neb arall, er i'r rhai hyny fod yn well pregethau. Yr o'n i mewn Cyfarfod Misol er's tipyn yn ol, yn cysgu mewn rhyw dy. Rywbryd yn bur foreu fe glywn lais yn gwaeddi, 'Mari, cywad,' 'Mari, cywad.' Ond nid oedd dim arwydd fod neb yn codi. Gwaeddai lawer gwaith, ond nid oedd dim tebyg fod Mari yn codi. Cyn hir fe glywn ryw lais arall, cras, yn gwaeddi, 'Mari, cywad. Mae hi'n amser codi, mae hi'n dechre g'leuo.' Ac yn y fan fe glywn dwrw yn y llofft; ac yn fuan clywn dwrw myn'd i lawr y grisiau, a thwrw yr arfau tân, a swn y llestri tê. Erbyn deall, parrot oedd yn gwaeddi y tro cyntaf, a'r meistr yr ail dro. Ac nid oedd Mari yn hidio dim yn nhwrw y parrot; ond pan waeddodd y meistr, mewn teimlad o angen, dyma hi yn codi ar unwaith. Peidiwch ch'itha' a bod yn rhyw parrots o bethau; 'does fawr o debyg y codith Mari felly. Ni chewch ch'i fawr o effaith wrth fod felly."

Mewn Cyfarfod Misol yn Bwlan, tua 1860-1862, yr oedd "rhwymedigaethau gweision a morwynion i'w meistriaid" dan sylw. A galwyd ar Owen Owens i siarad, pan y dywedodd eiriau tebyg i hyn:—"Yr yda ch'i'n siarad yn dda ar yr ochr yna, ond y mae ochr arall arni hi. Yda ni yn gwneyd ein dyledswydd aty nhw? Yda ni yn ceisio ganddynt weithio trwy deg? Os byddwn ni yn gâs wrthy nhw, ni wna nhw ddim ini. Ond os byddwn ni yn ffeind wrthy nhw, fe wnant bob peth yn union. Dywedwn eiriau siriol wrth y gwas,—'John, dos i'r ffridd i edrych y defaid.' 'Geweh ch'i wel'd y daw o yn ei ol yn union Ac wedi iddo dd'od yn ol dywedwn, 'A ddoist ti yn dy ol rwan?' A dywedwn wrth y forwyn, 'Mari, dos i chwilio am gawellaid o fawn.' Fe red Mari yn y fan ond i ni fod yn siriol hefo hi. Mi glywis i am ryw wr bonheddig unwaith yn myn'd i'r cae at ei weision, ac yn eu cyfarch nhw, 'Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi.' Ac y maent hwythau yn ei ateb yntau yn ol, 'Yr Arglwydd a'th fendithio.' Pe bae nina' yn debycach i'r gwr bonheddig hwnw, yn parchu ein gweision, ac yn fwy caredig wrth ein morwynion, fe fyddai yn haws eu trin o'r haner." Boaz oedd y gwr bonheddig hwnw, mae yn amlwg.

Yr oedd Cyfarfod Misol yn Llanllyfni yn bur ddiweddar ar fywyd Owen Owens. "Y pwysigrwydd o gael teimladau crefyddol, yn gystal a deall clir, a gwybodaeth helaeth," oedd y mater dan sylw. Sylwai y siaradwr blaenorol, y Parch. Griffith Hughes, fod "gwybodaeth yn ymchwyddo," ac yn gwneyd dynion yn hunanol, a chwyddedig, a gwyntog. Galwyd ar Owen Owens i siarad ar ei ol. Ac yn debyg i hyn y cyfarchodd y cyfarfod:—"Yr ydw i yn cofio er's talwm y byddai afiechyd a elwid rickets ar blant. Byddai eu penau yn fawrion, a rhyw chwydd mawr yn eu boliau, ond eu coesau yn feinion. Yr wyf yn cofio fod un o fy mrodyr felly, pan yr oeddym yn blant. Ac yr oedd pob Doctor yn methu gwneyd dim iddo fo. Ond fe gafodd fy mam gyngor i fyn'd a fo i ffynon Criccieth, ac fe aeth a fo yno. Ac wedi bod yno am dipyn yn yfed y dw'r, fe ddarfyddodd y chwydd oedd yn ei fol o. Fe well'odd yn fuan, a daeth yn hogyn brafia fu 'rioed. Fe aeth ei fol o i'w gefn o i gyd, ac fe aeth yn hogyn cryf, iachus, mor gryf a'r un o hono ni. Os oes yma rai o hono nina' a rhyw chwydd annaturiol yno' ni, awn at ffynon goch Calfaria, dyma'r lle i gael ymwared ag o."

Yr oedd "cynydd crefyddol" o dan sylw mewn Cyfarfod Misol yn Nghriccieth Galwyd ar Owen Owens i siarad. Ac meddai,"Pan yr o'n i yn yr ysgol yn blentyn, yr ydw i yn cofio yn dda 'mod i wedi bod yn yr ysgol am flynyddoedd, ac yn meddwl nad oedawn i wedi dysgu dim. Yr oeddwn yn gweled fy llawysgrif yn gam ac yn flêr. Ond rywbryd fe darewais ar y copi cyntaf oedd genyf yn ysgrifenu arno yn yr ysgol. Ac erbyn cymharu fy llawysgrif â'r copi, gwelwn fy mod wedi dysgu llawer. Er fod fy llawysgrif yn lled gam, yr oedd yn unionach o lawer nag yr oedd yn y dechreu. Felly fe fydda i yn meddwl yn amal mai yn yr un man yr ydw' i hefo chrefydd o hyd, a bod fy llwybr i yn gam iawn, ac nad ydw' i yn cynyddu dim; ond wrth gymharu fy hun a'r peth oeddwn i ar y dechreu, yr ydw' i yn meddwl 'mod i wedi cynyddu cryn lawer." Yr oedd hyn yn rhagoriaeth yn Owen Owens, na byddai byth yn cymeryd golwg rhy dywyll a phruddaidd ar bethau. Cymerai olwg obeithiol a chalonog ar bethau crefydd. Yr oedd rhywbeth yn iachus yn ei ysbryd, heb fyned i eithafion y naill ochr na'r llall.

Mewn Cyfarfod Misol yn Arfon yr oedd "defosiwn crefyddol" o dan sylw. Cwynid fod yn anhawdd cael crefyddwyr, a hyd yn nod blaenoriaid, i fyned ar eu gliniau wrth weddio. Codai Owen Owens, a datganai ei syndod nad äi blaenoriaid ar eu gliniau yn y sêt fawr. "Dwn i beth i feddwl," meddai, "o bobl nad ä nhw ddim ar eu gliniau yn y sêt fawr. Mae'n helynt o beth na phlygai blaenoriaid, oni b'ai fod crydcymala dest (just) a'u lladd nhw."

Yr oedd Cyfarfod Misol yn Bethel, ger Penmorfa, rywbryd yn y flwyddyn 1870, ac yr oeddis yn derbyn hen frawd yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn flaenor, oedd wedi bod gynt yn bregethwr. Ar ol i un neu ddau o hen frodyr siarad yn bur effeithiol, gofynwyd am air gan Owen Owens, a dywedodd eiriau tebyg i hyn:"Yr ydw' i yn cofio yr hen frawd yn dda yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel pregethwr, ac y mae yn dda iawn gen i ei weled o yn dyfod yma fel blaenor. Yr oeddwn i yn meddwl wrth ei weled o, a'ch clywed ch'i yn ymddiddan a fo, am gynhaeaf gwair. Ar ddechreu y cynhauaf y mae hi yn edrych yn dywydd braf. Ac y maent yn gwneyd mydylau mawr, a elwir mydylau tywydd teg. Ond y mae hi yn troi yn dywydd gwan; a rhaid chwalu y mydylau ar hyd y cae, a hyny am ysbaid go hir. Ond cyn hir y mae hi yn gwneyd rhyw egwyl bach o haul, ac y maent yn gwneyd mydylau bach, a elwir yn 'cocyn troed bach.' Felly yr ydw' i yn gweled yr hen frawd, wedi bod a'r haul yn tywynu arno, ac yntau yn un go fawr ac amlwg. Ond trwy gyfarfod â thywydd mawr yn cael ei ddarostwng a'i chwalu. Ac y mae yn dda gen i ei wel'd o tua'i ddiwedd yn cael rhyw egwyl bach o haul eto, ac yntau yn cael ei godi yn rhyw 'gocyn troed bach,' megis."

Sylwai Owen Owens mewn Cyfarfod Misol yn Nghapel Ucha, Clynog, tua'r flwyddyn 1850, ar ddameg y gwr goludog. Canmolai y gwr goludog am ddarparu ar gyfer y dyfodol, ac am ei ddoethineb yn trin y byd. "Ar ol i'w dir gnydio yn dda ryw flwyddyn," meddai, "mae o'n siarad ag o 'i hun, ac yn ymresymu ynddo ei hun, ac yn dweyd, 'Beth a wnaf, am nad oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 'Da iawn; onid oedd o yn siarad yn od o gall?' 'Hyn a wnaf: mi a dynaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy?' 'Glywsoch ch'i ddim dyn callach erioed?' 'Ac yno y casglaf fy holl ffrwythau a'm da.' Doedd dim posib' gwneyd yn well. Ond yn y diwedd y dar'u o ei methu hi: dweyd wrth ei enaid, 'Fy enaid, y mae genyt dda lawer, wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd." Erbyn iddo fyn'd i farw, 'doedd gyno fo ddim ar gyfer hyny. Yr oedd ei holl dda yn hollol ddiwerth erbyn hyny. Wnai o ddim byd a nhw erbyn myn'd i farw. 'O, ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddiwrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barotoaist?' Doedda nhw dda i ddim iddo erbyn hyny. Erbyn y boreu, 'r oedd o wedi spriana'r cwbl." Yr oedd effaith neillduol yn canlyn y dywediad diweddaf, yn ei ddull pert ef o'i ddweyd. Yr oedd rhai yn wylo, rhai yn chwerthin, ac eraill yn wylo ac yn chwerthin ar unwaith. Wrth spriana y meddylir gwaith yr anifail yn gadael ei ymborth yn weddill (spare) ar ei ol. Ac ar ol gwneyd hyny, nis gall gyffwrdd âg ef, wedi hyny. Bydd yn hollol ffiaidd a gwrthodedig ganddo. Ymborth wedi ei spriana sydd ymborth hollol wrthodedig, er ei fod yr un yn gwbl a'r ymborth oedd yr anifail wedi ei fwyta yn flaenorol.

Mewn Cyfarfod Misol yn Horeb, ger Tremadog, tua'r flwyddyn 1846, yr oedd esgeuluso moddion gras dan sylw. "Fe fydd rhai pobl," meddai Owen Owens, "eisiau pobi neu olchi bob amser pan fydd moddion gras yn y capel. Ac am wn i," meddai, "pe byddai heb Seiat neu gyfarfod gweddi yn y capel, na bydda nhw heb olchi na phobi byth."

Dywedid mewn rhyw Gyfarfod Misol fod eisiau bod yn fwy hallt yn erbyn pechod. "Mae eisiau gofal mawr wrth roi halen," meddai Owen Owens. "Yr oedd y lodes forwyn acw, ryw noswaith, yn rhoddi halen yn yr uwd, ac wrth godi y cauad, fe aeth lwmp o huddug i fewn, ac mi ddifethodd y cwbl. Gwyliwn nina wrth roddi halen yn y pregethau ac yn y cynghorion i huddug fyn'd i mewn, a difetha'r cwbl. Mae arna' i ofn fod yma dipyn o huddug wedi dyfod i mewn i'r ymddiddan heddyw."

Mewn Cyfarfod Misol yn Llanllyfni, yr oedd y diweddar Barch. Robert Ellis yn llywydd, a galwai ar Owen Owens, gan ddweyd, "'Ryda ni yn disgwyl i ch'i ddwad yma i ddechreu Owen Owens." "Pwy sy'n dweyd?" meddai Owen Owens. "Y fi sy'n dweyd," meddai Robert Ellis, yn bur chwyrn. wel," meddai yntau; ac yna fe aeth ymlaen i ddechreu.

Fel y mae yn hysbys, yr oedd cryn lawer o'r wag, fel y dywedir, yn Owen Owens, a deuai hyn i'r golwg weithiau hyd yn nod mewn Cyfarfod Misol, ac mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Misol. Eisteddai un tro wrth ochr hen flaenor diniwed ac anwybodus, pan y dygid i sylw ac y canmolid "Holwyddoreg Ysgrythyrol" y diweddar Barch. John Hughes, Lerpwl. "Beth ydy y 'Rereg' yma y mae nhw yn son am dano fo?" meddai yr hen flaenor." "Berfa olwyn Fethodistaidd," meddai Owen Owens. "Beth mae hi da?" "Gwneyd pont Fethodistaidd mae nhw," meddai Owen Owens. Yr oedd y diweddar Barch. John Owen, Tynllwyn, wedi dyfod a rhyw gynllun lled chwyldroadol o flaen y Cyfarfod Misol rywbryd, pan yr oedd John Jones, Tremadog, yn llywydd. Ystyriai John Jones fod y cynygiad yn an-Fethodistaidd, ac yn ymylu ar fod yn bechadurus. Gofynai iddo a oedd yn edifarhau am yr hyn oedd wedi ei wneyd? Safai Mr. Owen ar ei draed yn fud, a golwg wylaidd a Methodistaidd arno, gyda'i ben braidd yn gam, gan dosturio, mae yn debyg, at gulni a bychandra John Jones. Cododd Owen Owens yn sydyn ar y funyd, a dywedodd, "Mae o 'n edrych yn edifeiriol iawn, beth bynag." Nid oes eisiau dweyd fod Owen Owens yn cydymdeimlo â John Owen, gan fod y ddau yn gyfeillion mawrion, ac yn meddwl yn uchel o'u gilydd, er mor annhebyg oedd y naill i'r llall; a chwarddwyd y peth i ffordd ar unwaith. Yr oedd mewn Cyfarfod Misol yn Arfon, pan yr oedd y diweddar Mr. Thomas Lewis, A.S., Bangor, ynghyd a dau eraill o'r un man, yn cael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yr oedd un o'r tri yn un o Eifionydd; a gwyddai Owen Owens nad oedd ganddo nemawr o wybodaeth dduwinyddol. Gofynai rhywun i Owen Owens ar ol iddo ddyfod adref, sut y daeth hwnw trwyddi hi. "O, wel," meddai yntau, "fe griodd o dipyn, ac fe wnaeth hyny y tro yn llawn cystal iddo fo."

Yr oedd y diweddar Barch. John Griffith, Bethesda, yn pregethu yn hynod mewn Cyfarfod Misol un tro, gan ddweyd pethau newydd a beiddgar iawn. A dywedodd Owen Owens ar y diwedd, "Wel, chlyw'is i ffasiwn fentro 'rioed."

Ar ol bod yn gynrychiolydd yn y Sasiwn, ac wrth osod yr adroddiad o flaen y Cyfarfod Misol, dywedai,—" Yr o'n i wedi meddwl am ddwad a'r petha adra'n gynes, ond mae nhw wedi oeri llawer ar y ffordd."

Nid oedd neb yn mwynhau Owen Owens yn fwy na'r diweddar Barch. David Jones, Treborth; a byddai raid iddo siarad bob amser pan fyddai efe yn llywydd y Cyfarfod

YN Y SASIWN.

Nid anfynych y bu Owen Owens yn siarad yn Sasiwn ei Sir ei hun, sef Sir Gaernarfon. Mae cof am dano yn siarad yn Nghaernarfon, yn nghapel Engedi, un tro, gyda dylanwad mawr. "Y nefoedd," oedd y mater, a Dr. Owen Thomas oedd y llywydd. A galwodd Dr. Thomas arno i siarad. "Dyna oedd yn taro i fy meddwl i." meddai. "Fe fyddaf yn dilyn y Cyfarfodydd Misol yn Lleyn ac Eifionydd yn bur gyson. Nos Lun, fe fydd y bobl yn garedig iawn wrtha i. Fe fydd wyth neu ddeg yn gafael ynof, ac yn dweyd, Acw yr yda ch'i i ddwad.' Ond boreu dranoeth, pan yn bwyta, fe fyddan' yn gofyn yn ddieithriad i mi, pa bryd y byddaf yn myn'd yn ol, fel wedi blino ar fy nghadw. Ond os caf fyn'd i'r nefoedd, ni ofynith neb i dragwyddoldeb pa bryd yr af yn ol. Ond fe gaf weled Iesu Grist fel y mae, a bod yn dragwyddol gyffelyb iddo." Dywedir fod rhyw effeithiau annesgrifiadwy yn canlyn y sylwadau hyn. Dro arall, yn yr un lle, foreu y dydd olaf, galwai yr un gwr arno i siarad ar Ragluniaeth. Yn ei ddull cartrefol ei hun, fe ddy. wedai,—"Fe fydda i yn meddwl mai Rhagluniaeth fydd yn cadw y gwartheg acw rhag tori yn rhydd yn y nos, a difetha eu gilydd." Yr oedd sylw cartrefol yr hen frawd yn codi gwên i wyneb pawb. Ac nid oedd neb yn gwenu mwy na Dr. Thomas.

Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, fe'i dewiswyd yn gynrychiolydd i'r Sasiwn yn y flwyddyn 1876, a hyny ar hyd y flwyddyn, yn ol yr arferiad y pryd hwnw. Yr oedd efe erbyn hyn yn 76 mlwydd oed. Gresyn na buasid wedi ei ddewis ryw ddeg, neu bymtheg, neu ugain mlynedd yn gynt. Yr oedd Owen Owens yn haeddu hyn pe na buasai dim ond am ei ffyddlondeb, heb son am ei allu anarferol i siarad. Ond fel hyn y rhyngodd bodd y Cyfarfod Misol! Onid ydyw Cyfarfod Misol yn rhyw greadur anniolchgar iawn? Nid Owen Owens oedd y cyntaf na'r diweddaf a welodd ac a deimlodd hyn. Ni chlywsom er hyny fod Owen Owens yn cwyno dim. Ond fe aeth i'r Sasiwn pan ofynwyd iddo, ac fe wnaeth ei waith yn onest a ffyddlon, er fod pwysau yn agos i bedwar ugain mlynedd ar ei ysgwyddau ar y pryd. Yr oedd hefyd yn lled wanllyd ei iechyd y pryd hwn. Digwyddai y Sasiynau hefyd fod ymhell o'i gartref ef. A chan nad oedd erioed wedi arfer teithio llawer gyda'r train, yr oedd hyny yn effeithio llawer arno yn yr oedran yr oedd ynddo. Fe fu yn wael iawn yn Sasiwn Drefnewydd yn yr haf, ac yn y Wyddgrug yn y gauaf. Fe gollodd rai o'r cyfarfodydd oblegid hyn, ac yr oedd yn ei wely yn ystod un cyfarfod. A phan ddaeth ei gyd-gynrychiolydd, y Parch. Thomas Ellis, yn ol o un cyfarfod, a gofyn iddo sut yr oedd, dywedodd, "Sâl iawn ydw' i Thomas bach; 'ddyliwn i mai ychydig iawn yn salach fyddai raid i mi fod, i farw." Ond er gwaethaf yr holl anfanteision, tynodd sylw mawr. Yr oedd llawer yn datgan eu syndod eu bod heb weled neu glywed am hen gymeriad mor nodedig, mor wreiddiol, ac mor alluog. Ymysg eraill, clywsom fod yr enwog a'r diweddar Barch. Richard Lumley yn synu at hyn. Dywedodd lawer o bethau tarawiadol a disglaer, a hyny yn ei ffordd hynod ei hun. Yr oedd ganddo allu mawr i ddweyd pethau a lynent yn meddyliau dynion am amser maith,—pethau i'w cofio am oes. A dywedodd lawer o bethau felly yn y Sasiynau hyn. Yr oedd amryw o'r siaradwyr a'i dilynai yn cyfeirio at ei sylwadau fel pethau hynod a gwerthfawr.

Y Sasiwn gyntaf yr aeth iddi a gynhelid yn Rhuthyn, Ebrill y 5ed, y 6ed, a'r 7fed. Yr oedd hon yn Sasiwn fythgofiadwy ar amryw gyfrifon; ac Owen Owens a ddechreuodd y cyfarfod cyntaf ynddi, yr hwn a gynhelid 2 o'r gloch dydd Mercher, y 5ed. Mae hyn yn brawf fod arweinwyr y Sasiwn yn gwybod am dano. "Ar brydiau, yr oedd y cyfarfodydd yn llawn brwdfrydedd; ac nid annyddorol ac anfuddiol oedd presenoldeb rhai fel cynrychiolwyr ag sydd yn meddu rhyw neillduolion (oddities)—dynion ag sydd yn meddwl yn eu dull eu hunain: ac yn traethu eu meddyliau yn eu dull eu hunain. Y mae presenoldeb y cyfryw yn ein cyfarfodydd yn rhoddi rhyw amrywiaeth dymunol iddynt fel y rhydd mynyddau cribog ymhlith dyffrynoedd tlysion ein gwlad." Mae yn amlwg fod yma gyfeiriad at Owen Owens fel un, ac ni a gredwn fel yr hynotaf o'r oll. Yr oedd yn tynu sylw mawr yn yr holl gyfarfodydd. I'r Sasiwn hon yr anfonwyd y diweddar Barch. Dr. Saunders, a'r diweddar Mr. David Evans, Caerdydd, fel cenhadau dros y Deheudir, i osod i lawr achos capel Saesneg Aberdar, yr hwn yr oedd y Presbyteriaid yn bygwth myned ag ef oddiar y Methodistiaid Yr oedd Dr. Saunders y pryd hwnw yn nghyflawnder ei nerth a'i ddylanwad, ac yr oedd Mr. Evans yn un o'r dynion mwyaf doniol a galluog, a rhyw ddull nodedig ganddo o osod ei feddyliau allan. Yr oedd areithiau y gwyr hyn yn tanio pawb, ac yr oedd rhai o'r cyfarfodydd yn berwi gan frwdfrydedd. Yr oeddynt yn dadleu yr achos gyda nerth a hyawdledd anghyffredin, fel ag yr oedd y dylanwad a gaent ar y cynulliad yn fyddarol." Ond er fod doniau penaf De a Gogledd yn siarad ar yr achlysur, sef y gwyr uchod, ynghyd a'r Parchn. Dr. Owen Thomas, Dr. Hughes, Roger Edwards, a David Davies, Abermaw (yr hwn oedd llywydd y Sasiwn ar y pryd); Mri. Ioan Jones, Rhuthyn; David Roberts, Hope Street, Lerpwl, &c., a'r doniau hyny yn cael eu cynhyrfu gan achos anghyffredin iawn; eto nid oedd doniau yr hen amaethwr plaen a gwledig o Gors-y-wlad, Eifionydd, yn cael ei gymylu ganddynt o gwbl; yn hytrach yr oedd yn tynu cymaint o sylw, os nad mwy, na neb o honynt. Gosodwyd yr achos o faen y Gymdeithasfa ddwywaith gan y gwyr hyn, sef yn y Cyfeisteddfod ac yn y Seiat gyffredinol, a siaradodd Owen Owens yn y ddau gyfarfod. Siaradodd yn ddoniol anarferol yn y Cyfeisteddfod. "Mr. Owen Owens, Cors-y-wlad, hen wr hollol wreiddiol o ran ei berson, ac yn ei ddull o feddwl, a siaradodd nesaf." "Mae yn an'odd i mi wybod," meddai, pa beth i'w ddweyd, ond wedi codi rhaid i mi ddweyd rhywbeth. Rhyw greadur gwyllt ydw' i, ac fel pob dyn gwyllt, yr wyf yn meddu ar duedd garedig (cym.) Yr ydw' i wedi gweddio digon, ond er pob peth yr oedd y gelyn wedi cael y llaw ucha' arna' i. Fe fum i yn ofni 'mod i'n gybydd, ond cybydd tlawd cofiwch (chwer.) Yr wyf wedi bod yn Fethodist er's yn agos i driugain mlynedd; ond pe buasai fy mrodyr yn leicio, fe allasen' gael digon o achosion i 'niarddel i lawer gwaith. Ond nid oedd gweddio yn llwyddo gyda mi i gael ymwared â chybydd-dod,—ar 'y ngholled yr o'n i o hyd er gweddio. Dyna ddigon o ragymadrodd (chwer). Yr yda' ch'i yn gwrando yn gampus, ond hwyrach mai gwell ydy' i mi eistedd i lawr (lleisiau, ewch ymlaen). Wel, wrth wel'd na wnai gweddio mo'r tro i gael ymwared â chybydd-dod, nid oedd dim imi wneyd ond naill ai marw yn gybydd, neu fynu cael ymwared âg o. Wel, mi bryn'is gae, ac mi rho'is o at geffylau pregethwyr, a thrwy hyny mi dor'is ben y Goliath o gybydd-dod â'i gleddyf ei hun (cym. a chwer.). 'Fuo mi ddim ar fy ngholled o ro'i y cae; mae yr Hollalluog wedi ei roddi yn ol i mi un waith ar ddeg (chwer.). Yr ydyw' i yn teimlo yn bur gynes 'rwan, os peidia i a chael anwyd wrth fyn'd adra'" (chwer. mawr). Tua'r flwyddyn 1860, fe brynodd Owen Owens gae bychan wrth gapel Bwlchderwin, oddeutu acer o faint, ac fe'i rhoddodd yn eiddo i'r Cyfundeb; ac y mae yn eiddo i'r achos yn y lle eto. Costiodd iddo o ddeuddeg i bymtheg punt, ac nid rhodd fechan oedd hyn iddo, pan ystyriom ei amgylchiadau. Yn nechreu ei oes, yr oedd ei ffarm dan ddyled o amryw ugeiniau o bunau. Ffarm fechan, uchel, gorsiog, a sal ydyw Cors-y-wlad. Pe buasai amaethwyr Mon, Dyffryn Clwyd, a Lleyn yn ei gweled, buasent yn meddwl fod yn anmhosibl iddo fyw ynddi, pe buasai yn ei chael am ddim. Ond erbyn y flwyddyn 1860, yr oedd yr hen frawd wedi talu y ddyled, ac wedi dyfod yn lled gefnog. Yr oedd hefyd wedi ffarmio yr achos yn Mwlchderwin yr un mor gydwybodol a ffyddlon yn y fargen. Maddeued y darllenydd hefyd y gair "ffarmio" am ofalu am achos Mab Duw. Ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth ar ol cael ei gefn ato, oedd rhoddi y rhodd uchod i'r Arglwydd. Yr oedd Owen Owens yn gredwr cryf mewn Rhagluniaeth, fel y gwelir yn flaenorol yn yr hanes hwn, ac fel y tystia ei gymydogion. Tystiant hefyd ei fod yn credu yr adnod hono yn gryf iawn, "Anrhydedda yr Arglwydd a'th gyfoeth, ac a'r peth penaf o'th holl ffrwyth. Felly y llenwi dy ysguboriau â digonoldeb, a'th win—wryfoedd a dorant gan win newydd." A thrwy gredu hyn, fel y dywedodd yn yr anerchiad uchod, fe dalodd yr Arglwydd am y cae "un-ar-ddeg o weithiau." Er syndod i bawb, ond i'r neb sydd yn credu yr adnod hon, yr oedd yn werth mil o bunau, meddir, pan y bu farw. Rhaid cofio er hyny iddo gael ei fendithio â dwy wraig o'r fath oreu.

Yn y Seiat gyffredinol dywedodd ychydig eiriau drachefn ar yr un mater, yn ei ddull mwyaf digrifol. "Yr ydw' i yn coelio pe buasai y cyfeillion yma yn dwad trwy y wlad gyda'u tymer boeth y buasa nhw yn ysgubo hyny o arian sydd yn Sir Gaernarfon i gyd. Mae nhw wedi fy nhempero i yn iawn. Son am gini yn wir! [Yr oedd amryw wedi addaw gini at yr amcan]. Mi dal'is i ddau gini i dwrna yn Nghaernarfon am siarad yn salach o'r haner (chwer. mawr). Mi dreia i gario adra o'r Sasiwn yr hyn mae nhw wedi ei ddweyd yn chwilboeth" (chwer. mawr).

Yn nghyfarfod y blaenoriaid, "Addysg grefyddol yr ieuenctyd" oedd o dan sylw. A gwnaeth Owen Owens y sylwadau pert a byw a ganlyn:—"Dyda ni ddim am wneyd rhai pethau, am nad ydy' nhw yn bethau mawr; ond bydd llawer o bethau bach yn gwneyd bwndel go fawr pan y down ni i wely angeu. Dyna oedd eisiau, gwneyd y pethau bach oedd yn ein cyraedd; dweyd un gair bach wrth basio, dim ond darn adnod. 'Wyddo ni yn y byd pa faint o ddaioni a wnai peth mor fach a hyny. Er's tipyn yn ol yr oedd dyn yn cateceisio yr Ysgol Sul, ac medda fo wrth un o'r bechgyn, 'Mi fydda'n well i ti fod yn neidr yn myn'd allan o'r clawdd na marw yn ddyn annuwiol.' Mi lynodd y gair yn meddwl y bachgan, fel na chafodd o ddim gorphwysdra nes myn'd at waed y groes. Siaradwch a'r bechgyn am fyd arall. Gwnewch lawer o bethau bychain, os na allwch wneyd pethau mawrion. Mi ddeall'is i nad allwn i ddim gwneyd pregethwr, er i rywrai fy anog i hyny; mi ddeudwch ch'itha nad oedd dim anhawsder i gael hyny allan. Yr ydw' i wedi bod yn ceisio gwneyd y pethau bach oedd o fewn fy nghyraedd. Yr ydw' i am wneyd llawer o bethau bach nes yr ant yn un bwndel mawr. Ond 'does arna i ddim eisio eu gwel'd nhw 'rwan. A wyddoch ch'i beth ydy 'Cadw—mi—gei?' Rhyw focs bychan ydy o, a thwll i roddi arian i mewn ynddo fo: 'dydy nhw ddim i ddwad allan am amser hir iawn. Ond pan ddaeth y bachgan i'w oed fe agorwyd y bocs, ac yr oedd mwy ynddo fo nag oedd neb yn ei feddwl. Yr yda ch'itha yn Rhuthyn yma wedi rhoi mwy yn y 'Cadw-mi-gei' nag yr yda ch'i yn ei feddwl; cewch weled hyny pan yr agorir o yn yr adgyfodiad. Mi wni am lawer hen flaenor oedd wedi gollwng mwy i'r 'Cadw-mi-gei nag yr oedd efe ei hun na neb arall wedi ei feddwl; ond bydd y cyfan yn dyfod i'r golwg pan fydd y Brenin Mawr yn agor y Cadw-mi-gei.' 'Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoisom i ti ddiod? &c. Yn gymaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Y pryd hwnw bydd y dimeiau bychain wedi troi yn sofrens i gyd. Mae y cyfan yn y 'Cadw-mi-gei,' a do'nt i'r golwg pan fydd y Barnwr yn agor y blwch." "Derbyniwyd sylwadau gwreiddiol yr hen ddiacon parchus gydag arwyddion helaeth o gymeradwyaeth."

Yr oedd yn wael yn Sasiwn Drefnewydd yn Mehefin 13-16, fel y cyfeiriwyd, ac ni ddywedodd ond ychydig yno. Dechreuodd y Seiat gyffredinol 2 o'r gloch. Gofynwyd iddo ddweyd gair o goffhad am y diweddar Barch. John Owen, Ty'nllwyn, yr hwn oedd newydd farw ar y pryd. Yr oedd yn hynod o gyndyn i ddweyd dim, er ei fod yn hollol adnabyddus o Mr. Owen, a chanddo feddwl uchel o hono. O'r diwedd cododd i fyny yn sydyn ar ganol y llawr, a dywedodd, "Gofyn i mi ddweyd gair ar John Owen yr yda ch'i, ni fyddai waeth i ch'i ofyn i mi fesur y pellder oddiyma i'r haul hefo'r ffon yma nag i mi dreio mesur a phwyso John Owen," meddai, gan godi ei ffon i fyny, a chydio yn ei chanol.

Yr oedd y Sasiwn a gynhaliwyd yn Mhwllheli, Awst 23-25, yn un bwysig ar amryw gyfrifon. Dyma y tro cyntaf y dygwyd achos y "Gronfa Gynaliaethol" gerbron y Gymdeithasfa yn swyddogol neu gyfundebol, felly. Anfonid Mri. Peter Roberts, Llanelwy, a John Jones, Llanfyllin, o'r Gymanfa Gyffredinol i'r pwrpas hwnw. Rhoddodd Mr. Roberts un o'i areithiau goreu, ac y mae dweyd hyny am dano ef yn dweyd llawer; a chaed araeth gref a llawn o ffeithiau gan Mr. Jones. Siaradodd amryw frodyr eraill ar y mater; a'r hyn sydd yn ein synu yn yr adroddiad o'r drafodaeth ydyw, nad ydyw cymaint ag enw y "Drysorfa Gynorthwyol" yn cael ei grybwyll gan yr un o'r siaradwyr. Yr oedd Mr. Hugh Owen (Syr Hugh Owen), Llundain, yno hefyd, yn rhoddi hanes y casgliad cyntaf at Brifysgol Aberystwyth, ac yn dweyd amryw ffeithiau dyddorol am y symudiad pwysig hwnw. Yr oedd "Cynydd anghymedroldeb" yn cael sylw dwysaf y Gymdeithasfa. Rhoddodd Owen Owens anerchiad byr, llawn min a dyddordeb ar y mater. "Yr ydw' i," meddai, "wedi bod yn ddirwestwr er's dros haner cant o flynyddoedd, ac ni bum i erioed yn feddw na chyn na chwedi hyny. Esgeulus o ryw dipyn ddar'u ni yn amser dirwest gynt. Yr amser hono, yr oedd wedi myn'd yn gywilydd gan bobol gymeryd y diodydd meddwol. Pe'r edrychem yn ol at y daioni oedd dirwest wedi ei wneyd, fe fyddem yn fwy selog drosti. Ni welir byth 'rwan y diodydd meddwol yn y Cyfarfodydd Misol nac yn y tai capeli; ond peth dieithr gynt oedd bod hebddynt yn y lleoedd hyny. Yr ydw' i am ddwyn y mater o flaen yr Ysgol Sul y Sabboth nesaf. Ni fethodd hi erioed a chyraedd ei hamcan; ac ni fetha hi ddim 'rwan, ond iddi gael chwareu teg. Awn trwy yr Ysgolion Sabbothol i dreio cael yr holl aelodau yn ddirwestwyr, ac fe lwgwn y tafarnwyr yn fuan; ond 'does arna' i ddim eisio eu llwgu nhw, chwaith, mwy na rhyw bobl eraill; gallant fyn'd at rhyw alwedigaeth onest (chwer.)—ond gwelid yn fuan wedd arall hollol ar Sir Gaernarfon " Yn nghyfarfod y pregethwyr, adroddai Dr. Owen Thomas hanesyn Owen Owens am y parrot yn ei ddull pert ac effeithiol ei hun. Gwelir yr hanesyn mewn cwr arall o'r llyfr hwn. Siaradodd Owen Owens, hefyd, yn dda yn nghyfarfod y blaenoriaid ar "Feithrin ysbryd darllen—beth oedd gan y blaenoriaid i'w wneyd tuag at hyny."

Oddeutu amser Sasiwn y Wyddgrug, yr hon a gynhelid Tachwedd 28-30, yr oedd y wlad yn cael ei chynhyrfu ar fater y "Llywodraeth a'r cwestiwn dwyreiniol;" a daeth y peth hyd yn 'nod i'r Sasiwn, a phasiwyd penderfyniad arno. Siaradodd Owen Owens ar y mater yn ei ddull ei hun, ac heb honi gwybod fawr am yr helynt, gan ddangos ei gallineb arferol. "'Dydw i yn gwybod fawr am y Parliament yna. Ond mi wn un peth, wel'is i 'rioed gyfarfod gweddi yn methu ei farc. Beth fyddai i ch'i dreio cyfarfod gweddi i drin yr hen Dwrci yna? 'Fyddai dim mwy gan yr Arglwydd ei drin o mwy na chyw brân. Felly y byddai yr hen bobl yn gwneyd yn amser rhyfel Bonaparte. Yr oedd pawb wedi myn'd i feddwl y d'oi o drosodd i'r wlad yma. Ond fe aeth y wlad i weddio, ac fe'i cadwyd o draw. Byddent yn cynal cyfarfod gweddi bob boreu dydd Mercher, am naw o'r gloch; a byddai y pladurwyr yn amser y cynhauaf yn gadael eu pladuriau yn y meusydd, ac yn myn'd i'r capel i'r cyfarfod gweddi, ac yn gweddio nes y byddai eu chwys yn diferu; a chadwyd Boni o'r wlad. Mi greda' i pe cai ni gyfarfod gweddi y triniai yr Arglwydd yr hen Dyrciaid yna hefyd. Treiwn gyfarfod gweddi, gyfeillion, i'w trin nhw. 'Wyddo' ni yn y byd beth wnai cyfarfod gweddi. Os metha gweddi yn hyn, hi a fetha am y tro cyntaf erioed. Beth na all gweddi ei wneyd?" (cym.). Yr oedd 'myn'd' anarferol ar yr araeth hon, a phawb yn mwynhau, yn enwedig Dr. Owen Thomas, cadair yr hwn, meddir, oedd bron a syrthio. Siaradodd amryw weithiau yn y cyfarfodydd eraill hefyd.

Dywed ein hen gyfaill, Robert Owen, Bwlchderwin, fod Owen Owens wedi bod ar "daith" er's tua haner can' mlynedd yn ol gyda'r diweddar Barch. Griffith Hughes, am dair wythnos. Mae yn ddigon tebyg ei fod y pryd hwnw yn myned yn gynrychiolydd i ryw Sasiwn neu Sasiynau. Meddai Robert Owen am yr adeg hono, "Yr oedd fel pe buasai darn helaeth o'r byd yn myn'd i ffwrdd wrth i Owen Owens ein gadael am gyhyd o amser."

YN Y CYFARFOD LLENYDDOL.

Pan ysgrifenir hanes Cymru am y ganrif bresenol, gwelir fod gan y Cyfarfodydd Llenyddol law fawr mewn gwneyd ein gwlad yr hyn ydyw yn awr. Credwn fod y rhan fwyaf o brif ddynion y genedl ar hyn o bryd, wedi cychwyn eu gyrfa gyda'r cyfarfodydd hyn, hyny ydyw, y rhai sydd dros bump a deugain oed. Mae y Cyfarfodydd Llenyddol yn awr yn bethau hollol wahanol i'r hyn oeddynt er's deugain mlynedd yn ol. Y pryd hwnw, nid oedd gan fachgen neu ddyn ieuanc braidd un man arall i ddangos neu brofi ei dalent, ond ynddynt hwy. Ac nid oedd y cyfarfodydd hyn mewn mwy o fri yn un man nag yn Eifionydd. Dechreuwyd eu cynal yn y rhan hon o'r wlad tua'r flwyddyn 1853. Ac yr oedd rhai o brif ddynion y genedl yn dal cysylltiad a hwy, ac wrth law i'w cario ymlaen, megis y Parchn. William Ambrose (Emrys); John Owen, Tynllwyn (Gwindy y pryd hwnw); Eben Fardd; I. D. Ffraid, ynghyd ag eraill oedd heb fod yn llawn mor enwog, megis Ellis Owen, Cefn-y-meusydd; Tegidon; Bardd Treflys; Dewi Arfon, &c. Ac nid oedd neb a weithiodd yn well gyda hwy nag Owen Owens; ac yr oedd ganddo allu mawr mewn un cyfeiriad yn arbenig. Yn wir, braidd na ellir dweyd ei fod ar ddechreu y cyfarfodydd hyn yn ddigymar fel llywydd. Byddai dim ond golwg arno yn taflu bywyd i'r cyfarfodydd; a phan godai ar ei draed, byddai y bobl yn barod i chwerthin; a phan agorai ei enau ac y dechreuai siarad, byddai pawb yn fyw gan sirioldeb a brwdfrydedd. Pan welodd y gwr call a chraff hwnw, y diweddar Mr. Richard Williams (Beuno), Porthmadog, Owen Owens, yn llywydd Cyfarfod Llenyddol yn Mhorthmadog, y tro cyntaf y bu yno, dyna ddywedodd, "Wel, dyma, The right man in the right place [yr iawn ddyn yn yr iawn le]; mae digon o fywyd ynddo, fel sydd eisiau mewn cyfarfodydd fel hyn." Bu Owen Owens yn cynal dau neu dri o gyfarfodydd yn Mhorthmadog gyda I. D. Ffraid, y cyntaf yn llywydd, a'r olaf yn feirniad. Yr oedd I. D. Ffraid wedi synu na buasai wedi gweled neu glywed am ddyn mor fawr ag Owen Owens cyn hyny. Ac yr oedd wedi dotio at ei ddawn a'i ffraethineb, ac yn ei haner addoli ymron. "Efallai," meddai, "mai y rheswm paham yr o'n i heb glywed am dano ydyw, fod yma gynifer o ddynion mawr yn Eifionydd yma. Mewn gwlad lle y mae cynifer o fynyddoedd uchel ag sydd yn Arfon, nid yw mynydd pur uchel yn ymddangos yn rhyw uchel iawn, yn enwedig pan y mae y Wyddfa yn ymyl. Fe fuasai mynydd go gyffredin yn Arfon, pe buasid yn ei symud i Ddyffryn Clwyd yn ymddangos yn fynydd uchel iawn. Hwyrach mai felly y mae Owen Owens yma. Mae o wedi ei ddwyn i fyny yn nghanol y cewri, ac felly, nid yw yn ymddangos mor fawr, er ei fod yn fawr. Gwlad y cewri ydyw Eifionydd,—Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Nicander, Emrys, &c Ac felly, nid yw Owen Owens yn ymddangos mor fawr yn nghanol y cewri. Ond pe buasai yn cael ei symud i Sir Ddinbych, neu i ryw Sir arall, fe fuasai yn cael edrych arno yn ddyn mawr iawn. Ni fedra' i roddi cyfrif yn y byd ond hyn pa'm na byddai mwy o son am Owen Owens." Yr oedd Owen Owens yn tynu I. D. Ffraid allan, ac I. D. Ffraid yn tynu Owen Owens allan; fel yr oedd y cyfarfodydd hyny ymysg y rhai goreu a gaed erioed yn y wlad. Yn un o'r cyfarfodydd hyn yr oedd cyfreithiwr yn siarad, yr hwn a gollodd ei araeth, ac fe fethodd a myned ymlaen. Dywedai Owen Owens ar ol iddo eistedd i law, "Wel, mi fydd gen i beth go ryfedd i'w ddweyd ar ol myn'd adra' i Fwlchderwin—dweyd fy mod i wedi gwel'd twrna wedi myn'd heb ddim i'w ddweyd." Ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd hyn, gwnaeth Bardd Treflys yr englyn canlynol iddo:

"Difyrus yw diferiad—ei eiriau
Synwyrol yn wastad;
Am hyny fy nymuniad—
Hir oes i lyw Cors-y-wlad."


Yr oedd Owen Owens ac I. D. Ffraid yn lletya, noson un o'r cyfarfodydd hyn (y rhai a gynhelid bob amser ar ddydd Nadolig), yn nhŷ y diweddar Barch. Edward Davies. Gofynai I. D. Ffraid iddo pa faint oedd ei oedran. "Dydw i ddim mor hen ag yr yda ch'i yn meddwl," meddai Owen Owens. "Mae eich pen ch'i yn wyn iawn," meddai I. D. Ffraid." "Dyna'r lle gwana arna i," meddai Owen Owens yn y fan. Byddai y bobl mor hoff o'i glywed yn siarad yn y cyfarfodydd hyn, fel y byddai hyny ar drefnlen pob cyfarfod y byddai ynddo, ddwy neu dair gwaith yn ystod yr un cyfarfod—" Araeth gan y llywydd." Byddai llawer yn ei feio am fod mor ddigrifol yn y cyfarfodydd hyn, ac am gynyrchu cymaint o chwerthin ac ysgafnder. Ond ychydig a wyddai y gwyr difrifol hyn ei fod yn gorfod ffrwyno llawer arno ei hun, neu gallasai ddweyd llawer mwy o'r pethau digrifol hyn. Fel y dywed y diweddar Barch. Roger Edwards am dano yn y Drysorfa, y mis ar ol iddo farw: "Yr oedd efe yn ffrwyno y dawn bywiog hwn oedd ynddo." Ond ar adegau neillduol, megis ar brydnawn dydd Nadolig, byddai yn gollwng y ffrwyn ar ei war, megis, ac yn gadael iddo redeg yn wyllt, am fod yr adeg hono mor farwaidd. Ar yr adeg hono, un tro yn Mhorthmadog, un o'r pethau cyntaf a ddywedodd oedd," Pan o'n i yn cychwyn oddicartre', dywedodd yr hogyn bach acw am ryw ddyn,—' Tada, bach, anwyl, clws;' onid oedd o yn dweyd celwydd yn ofnadwy?" Aeth y bobl i chwerthin yn anghyffredin. "Peidiwch a chwerthin cimin," meddai yntau, "rhag ofn i ch'i dori ar eich traws ar ol cinio Nadolig yma." Aeth y bobl i chwerthin mwy ar ol hyny. ""Fuasech ch'i ddim yn chwerthin," meddai yntau, "pe buasai y clwy' sydd ar y gwartheg ar y gwyddau." Aeth y bobl i chwerthin mwy wed'yn nag o'r blaen. Yr oedd y Parch John Owen, Tynllwyn, yn feirniad yn y cyfarfod, ac nid oedd yn hoffi rhyw lawer o ddigrifwch un amser, ond yn enwedig ar draul chwerthin am ben clwy' y gwartheg. A dywedai mai nid peth i chwerthin am ei ben ydoedd. Aeth Owen Owens ymlaen gan ddweyd, "Rhaid i ni beidio cellwair hefo clwy' y gwartheg: mae John Owen yn dwrdio."

Mewn Cyfarfod Llenyddol yn Mhorthmadog yr oedd yn llywydd, tua'r flwyddyn 1860, ac araeth am bum' munyd ar yr Ysgol Sabbothol i gystadlu arni; ond nid oedd neb yn dyfod ymlaen, er cymell llawer. Anogwyd y llywydd ei hun i wneyd gan nad oedd neb arall am gynyg. Yr oedd Owen Owens newydd fod yn areithio ar y mater mewn cyfarfod mawr yn perthyn i'r Ysgol Sabbothol yn nhref Caernarfon, ac wedi cael cryn hwyl ar yr achlysur hwnw. Yr oedd yn falch o gael y cyfleusdra i roddi yr araeth drachefn. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd gofyn, "Beth a wnaeth yr Ysgol Sabbothol?" Ond nid oedd yr un ateb yn dyfod. Yr oedd yr ateb wedi dianc o'i gof i gyd. Ond yr oedd yr hen frawd i fyny a'r achlysur, fel y dywedir. Ac yma gwelwn engraifft nodedig o'i gyfrwysdra, cyflymdra ei feddwl, a'i hunan-feddiant. Mae yn gofyn y cwestiwn drachefn a thrachefn,—"Beth a wnaeth yr Ysgol Sabbothol? Beth a wnaeth yr Ysgol Sabbothol?" gan godi ei law chwith i fyny, a'i hestyn allan, ac yna ei thynu drwy ei wallt, gan grafu ei ben, fel y byddai pan yn methu, ac yn myned i ddyryswch. "Fe gewch gewch ch'i guro yn union," meddai, gan ddisgwyl y deuai rhywbeth i beri iddynt roddi cheers cyn hir. Yn ei gyfyngder fe waeddai drachefn, "Beth wnaeth yr Ysgol Sul? Fe gewch ch'i guro gyda hyn." O'r diwedd dyma atebiad yn dyfod, ond ei fod yn un rhyfedd iawn. "Beth wnaeth hi? Mae hi wedi hel bwgan 'Stumllyn i ffwrdd [bwgan adnabyddus iawn yn y wlad]. Beth wnaeth yr Ysgol Sabbothol? Mae hi wedi boddi holl Jack Lantars y wlad. 'Does dim Jack Lantar yn yr holl wlad 'rwan, os nad oes ryw un tua'r Pennant yna." Erbyn hyn yr oedd y pum' munyd i fyny, ac Owen Owens wedi enill y wobr yn anrhydeddus, a neb yn gwybod ond efe ei hun ei fod wedi bod mewn un brofedigaeth. Ni chafodd neb yn Mhorthmadog wybod, ond wedi dyfod i Fwlchderwin dywedodd ei hanes i gyd. Agorai ei fynwes i gyd iddynt hwy. Os byddai wedi cael hwyl anghyffredin yn rhywle, caent wybod hyny; ac os fel arall y byddai arno, byddai yr un mor barod i ddweyd.

Mewn Cyfarfod Llenyddol yn rhywle yn Eifionydd yr oedd Owen Owens yn llywydd, a galwai ar blant i ddyfod ymlaen i ddarllen, a hwythau yn lled, anniben yn dyfod. "Dowch, dowch, gyda brys," meddai yntau, "neu mi fyddwch wedi myn'd dros yr oed yn union deg."

Bu Owen Owens yn llywydd mewn amryw Gyfarfodydd Llenyddol yn yr hen adeilad mawr sydd yn Ynys-y-pandy, Cwmystradllyn. Un tro, rhoed gwobr am yr englyn goreu i'r llywydd; a dyma yr englyn a enillodd y wobr, yr hwn a gyfansoddwyd gan Gwilym Eryri:

"Gwres y wledd sy' o Gors-y-wlad,—yn hwylus
A hylaw at alwad;
Ffyddlonaf, dirionaf, dad,
Gomewydd o iawn gymeriad."


YN Y CYFARFOD DIRWEST.

Pan ddaeth dirwest i'r wlad, 1836-7, daeth Owen Owens yn ddirwestwr selog ar unwaith, a daliodd ati gyda'r gymdeithas hono i'w ddiwedd. Areithiodd lawer o'i phlaid am ddeugain mlynedd. Yr oedd ei ddawn yn taro yn dda yn y cyfarfodydd hyny, gan ei fod mor fywiog a digrifol, er, hwyrach, y buasai yn well iddo beidio bod mor ddigrifol; ond dylld cofio mai dyma duedd braidd holl areithwyr dirwestol yr oes hono. Y peth cyntaf a ddywedodd wrth areithio yn Nhremadog rywbryd oedd hyn,—"Dau ben fydd ar fy araeth i heddyw, a'r rhai hyny yn ymyl eu gilydd," gan awgrymu ei fod am fod yn fyr. Yr oedd Cymanfa Ddirwestol yn cael ei chynal yn Mhenygroes, Llanllyfni, ar brydnawn Sadwrn unwaith. Nid oedd neb o'r siaradwyr i siarad am fwy na deng munyd. Galwyd ar Owen Owens ymlaen. Cododd i fyny yn sydyn a chynhyrfus fel arfer, ac aeth ymlaen fel hyn,—"Wel, mi ddeuda i am ddeng munyd, ac mi ddeuda y gwir; ac y mae yn beth rhyfedd clywed dyn yn siarad am ddeng munyd heb ddweyd dim celwydd. Yr ydw i yn cofio clywed fy nhad yn dweyd pan oeddwn i yn hogyn, fod rhywun yn yr ardal yr oedd o yn byw yn rhoi ei hun yn dipyn o farrier. A phan y doi rhywun ato i ofyn cyngor pan fyddai rhywbeth ar y fuwch neu ar y ceffyl, dyna fyddai ei gyngor i bawb o'r bron,—'Doro gorniad o ddw'r a halan iddi i ddechreu, 'wneith hyny ddim drwg iddi beth bynag.' A dyna sydd gen ina yma heddyw i'w ddweyd,—Seiniwch ddirwest, 'wneith dirwest ddim drwg i ch'i beth bynag. Benau-teuluoedd, dowch ymlaen, 'wneith dirwest ddim drwg i ch'i. Fechgyn ifanc, mentrwch ddirwest, 'wneith hi ddim drwg i ch'i. 'Wneith hi ddim drwg i'ch cyrff ch'i, 'wneith hi ddim drwg i'ch amgylchiada' ch'i, 'wneith hi ddim drwg i'ch cymeriada' ch'i, 'wneith hi ddim drwg i'ch eneidia' ch'i. 'Wneith hi ddim drwg i ch'i mewn bywyd ac iechyd, a 'wneith hi ddim drwg i ch'i mewn afiechyd ac yn angeu."

Dro arall dywedai fel hyn mewn Cyfarfod Dirwest:—

"Os oes gyno ch'i rywbeth gwell i sobri dynion, fe fyddai yn dda gyno ni glywed am dano. Yr yda ni yn cymeryd y peth agosa i law fedrwn ni gael. Pe meddyliech ch'i am gi cynddeiriog yn dwad i gae, a lliaws o ddynion yn gweithio ynddo; 'wna nhw ddim meddwl am fyn'd i'r ty i chwilio am wn i'w saethu o. Na, fe gymeren' y peth agosa' i law,—un a'i raw, a'r llall a'i gryman, &c. Felly yr yda nina' yn cymeryd y peth agosa' i law i sobri dynion—dirwest."

Yr oedd Owen Owens ac Eben Fardd yn cynal Cyfarfod Dirwest unwaith yn nghapel Seion, Clynog. Siaradai y cyntaf ar yr achlysuron i feddwdod, a'r perygl o gellwair â'r demtasiwn. "Daeth dyn i'r Seiat un tro," meddai, "fyddai yn arfer dilyn y cŵn hela, ac yr oedd yn un hynod am godi'r 'sgyfarnog; a byddai yn arfer rhegi ar yr achlysuron hyn. Wedi dyfod at grefydd fe benderfynodd nad äi o byth ar ol y cŵn mwy. Yr oedd rhywrai yn dadleu ag ef, ac yn dweyd nad oedd dim niwed yn y byd yn hyny, y byddai yr hen Gurnal yn arfer dilyn y cŵn hela, ac yr oedd efe yn ddyn sanctaidd iawn. 'Na, well gen i beidio,' meddai yntau, 'rhag ofn i mi ddweyd yr hen air fyddwn i yn arfer ddweyd pan godai y pry'.' A dweyd yn ddistaw i ch'i," meddai Owen Owens, gan ostwng ei lais, "dyna beth oedd y gair—'d——l a'i chipio hi." "Er sobred oedd Eben Fardd yn gyffredin," meddai ein hysbysydd, "yr oedd o yn ysgwyd gan chwerthin yr adeg hon."

Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, tudal. 66 a 114, cynhelid Cymanfa Ddirwestol yn Nhre' a Phorthmadog, am tua saith neu wyth mlynedd, oddeutu 1837-45. Byddai gan bob ardal neu gapel ei faner, a dywedir y gwelwyd tua 22 o faneri mewn rhai o'r cyfarfodydd, a ruban glâs wedi ei gylymu am fraich pob dirwestwr. Perthynai y cyfarfodydd i'r gwahanol, enwadau. Gwelwyd yr enwogion canlynol mewn rhai o honynt, sef y Parchn. Dr. Arthur Jones, John Phillips, Richard Humphreys, y Dyffryn, W. Ambrose (Emrys), Moses Jones, John Williams, Llecheiddior, &c. Cynhelid cyfarfod yn y boreu ar y square, yn Nhremadog, a'r areithwyr yn sefyll ar stage ar risiau yr hall. Mae cof am Mr. Ambrose yn gweddio yn hynod yn y lle hwn, ar ddechreu un o'r cyfarfodydd. Yr oedd yn wlaw mawr ar y pryd, a gofynai yntau am i'r Arglwydd atal y gwlaw. Cyn hir daeth yn ddiwrnod braf, a'r haul yn tywynu yn hyfryd, meddai ein hysbysydd. Un tro yr oedd Moses Jones yn areithio yn un o'r cyfarfodydd yn y Port, a dechreuodd y gwaed redeg o'i ffroenau ar ganol ei araeth, ac yntau yn areithio yn ei danbeidrwydd mwyaf. Ac, meddai, gyda'i ffraethineb arferol, "Gwelwch fy mod yn ymdrech hyd at waed." Dywedai John Williams, Llecheiddior, mewn un cyfarfod,—"Fuaswn i ddim yn yfed dim o'u cwrw nhw, pe buaswn i at fy haner ynddo fo." Codai Richard Humphreys ar ei ol, a dywedai,—" Fuaswn i ddim yn leicio ei wel'd o yn y demtasiwn." Dywedir y bu Owen Owens yn areithio yn y cyfarfodydd hyn fwy nag unwaith. Sylwai un tro ar y gair hwnw,—" A thi a elwir yn gauwr yr adwy." "Pan y byddwn. ni yn cau adwy," meddai "tua'r ardal acw, 'fyddwn ni byth yn naddu y ceryg, nac yn gofalu pa mor ruff [rough] y bydd yn edrych. Ond byddwn yn gofalu am ei chau yn ddigon uchel, fel nad aiff yr anifeiliaid ddim drosti. Peidiwch ch'i a myn'd i lyfnhau gormod ar eich areithiau, neu ni fydd ar y bobl feddwon yma ddim llawer o ofn neidio drostyn' nhw." Yn amser un o'r cyfarfodydd hyn, yr oedd Brecon Place, Porthmadog, ar ganol cael ei adeiladu; a safai yr areithwyr a'r cantorion ar stage yn perthyn i'r adeilad. Cyfeiriwyd hefyd yn y tudalen uchod at gyfarfod hynod a gynhaliwyd ar ben Foel Derwin. Nid oeddym wrth ysgrifenu y rhan hono yn sicr am bresenoldeb rhai gwyr enwog oedd yn areithio ynddo. Erbyn hyn, y mae pob sicrwydd fod yr enwogion canlynol yn areithio ar y pryd, sef y Parchn. John Jones, Talysarn, Moses Jones, a John Owen, Gwindy. Gallwn hefyd sicrhau yn awr mai yn mis Mai neu Mehefin, yn y flwyddyn 1844, y cynhaliwyd y cyfarfod hwn. Yr oedd Owen Owens yn llawn sel gyda'r cyfarfod, ac efe oedd yn gofalu am y fuddai a'r glasdwr, a'i ddrychfeddwl ef ydoedd.

YN YR YSGOL SABBOTHOL A'R CYFARFOD YSGOLION.

Y fath barch oedd gan yr hen bobl i'r Ysgol Sabbothol, a'r fath feddwl uchel o honi! Ac nid oedd hyny yn rhyfedd: hi oedd wedi eu gwneyd y peth oeddynt. Plant yr Ysgol Sabbothol oeddynt yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd ei delw arnynt; a byddent yn berwi o sel drosti ar bob adeg. Braidd na ellir dweyd am Owen Owens ei fod yn rhagori hyd yn nod ar ei gyfoedion yn hyn. Edrychai megis drwy wydrau yr Ysgol Sabbothol ar braidd bob peth. Digwyddai fod Cyfarfod Ysgol yn Mrynengan ryw ddiwrnod neu ddau ar ol i lofruddiaeth Jesse Roberts, gan 'Jack Swan' gymeryd lle. Ac wrth siarad yn y cyfarfod, dywedai Owen Owens,—" Yr ydw' i'n siwr nad oedd hwna ddim yn aelod o'r Ysgol Sul," gan gyfeirio at y llofrudd. Yr oedd 'Dic Dywyll' yn myned trwy ei branciau yn ffair Wylifan, Criccieth, rywbryd. Dywedai bethau digrifol a doniol anarferol, cyn dechreu canu ei ganeuon; ac yr oedd canoedd wedi ymgasglu o'i ddeutu. Cyfeiriai at ryw adeg, "Pan yr oeddwn i yn darw 'Stumllyn 'stalwm," meddai, gan daro bagl ei ffon ar ochr ei ben, i ddynwared y creadur hwnw. Digwyddai Owen Owens fyned heibio ar y pryd, a gwelai efe yr Ysgol Sabbothol hyd yn nod drwy yr ynfydrwydd hwn. "Hwn," meddai, "fuasai yn gwneyd un iawn i hel plant i'r Ysgol Sul."

Dywedai yn Sasiwn y Wyddgrug ei fod yn aelod o'r Ysgol Sabbothol er's un mlynedd ar ddeg a thri ugain. Yr oedd felly yn aelod o honi, er pan yr oedd yn bum' mlwydd oed. A dilynodd hi hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth. Dywedai hefyd mewn Cyfarfod Ysgol yn bur agos i'w ddiwedd, ei fod wedi ei dilyn heb gael yr un fit ar hyd ei oes.

Byddai ffraethineb Owen Owens yn dyfod i'r golwg yn fynych wrth holi ar ddiwedd yr ysgol, ac wrth gynghori ar yr adeg hono. Yr oedd geneth ieuanc yn adrodd yr unfed benod ar ddeg o'r Epistol at yr Hebreaid un tro yn Mwlchderwin. Adroddai yn rhagorol. Daeth at y gair hwnw yn agos i'w diwedd, "A pheth mwy a ddywedaf?" "Wel, wir," meddai Owen Owens, "yr wyt ti wedi dweyd pethau go fawr hefyd." Dro arall dywedai,—" Os bydd rhyw hogyn yn 'cau dwad i'r Ysgol Sul, fe fuaswn i yn eich cynghori ch'i i gloi pob peth rhag hwnw." Yr oedd yn holi ysgol y Gwindy rywbryd. Gofynai i'r plant a oedd y Beibl yn gorchymyn curo plant. Atebai un hogyn bychan, gan berlio yn myw ei lygaid, nad-oedd. "'Rwyt ti am gadw dy groen yn iach, on'd wyt ti?" meddai Owen Owens. Yr oedd wedi bod yn holi yr ysgol yn Nghwmcoryn ar un adeg. Ar y diwedd gofynai y diweddar Barch. Robert Hughes, Uwchlaw'rffynon, iddo, a oedd ryw sylw oedd wedi ei wneyd yn ramadegol. "Nid dwad yma i ddysgu gramadeg i ch'i 'roeddwn i Robert," meddai yntau yn y fan. Dro arall dywedai yn Mwlchderwin, "Fe fydda' i yn codi yn foreu ar y Sul fel ryw ddiwrnod arall. A bydd yn hawdd iawn gen i edrych i gyfeiriad Bwlchderwin yma. Byddaf yn gweled y naill gorn ar ol y llall yn mygu. Ac yr ydw' i wedi sylwi mai y rhai ola' yn codi fydd y rhai ola' yn dwad i'r capel bob amser." Yr oedd yn holi yr ysgol un tro mewn Ysgol Sul a gynhelid yn Tyglas, Bwlchderwin. Gofynai beth oedd "rhaglaw." Nid oedd neb yn ateb. O'r diwedd atebodd yr hen gymeriad ffraeth a hynod hwnw, Griffith Evan, Cors-y-wlad,—"Ambarelo; rhag gwlaw y mae hwnw, beth bynag."

Yr oedd ganddo ddawn anarferol i holi plant, ac i roddi bywyd ynddynt. Byddai y plant yn fyw drwyddynt wrth iddo holi. Canmolai hwy. Troai at y bobl mewn oed ar ol i'r plant ateb yn lled dda, a dywedai,—" 'Welsoch ch'i 'rioed 'siwn beth a'r plant yma mewn difri' bobol? 'Tasa nhw wedi troi eu gwallt, a chain ar eu brestia, 'fuasa neb yn meddwl nad o Rydychain y buasa nhw wedi dwad 'Glywsoch ch'i blant yn rhywle tebyg iddy' nhw 'rioed? On'd ydy' nhw yn ateb yn dda?" Yna troai at y plant, a dywedai,—" Yr yda ch'i yn ateb yn dda. 'Does yma ddim plant yn yr holl wlad tebyg i ch'i." Byddai yn gwybod yn dda iawn sut i gael gan y plant i ateb. Os byddent yn methu ateb, dywedai gan grafu ei ben,—" Wel, hwyrach mai fi sydd ddim yn gofyn yn iawn." Yna troai i ofyn mewn rhyw ffordd arall; a ch'ai y plant i ateb yn dda wed'yn, ac yn llawn bywyd. Llawer gwaith y gwelwyd cynulleidfaoedd yn cael eu toddi wrth iddo holi plant, a'r dagrau yn rhedeg dros lawer grudd. Gwelwyd hyny ddegau o weithiau yn ei gartref, yn Mwlchderwin. Gallaseni roddi engraifft o'i ddull o holi, ond ni chaniata gofod.

Byddai y Cyfarfoi Ysgol yn boblogaidd pan fyddai efe yn llywydd, neu os deallid ei fod ef i fod ynddo. Cyrchid iddo am lawer o filldiroedd o gwmpas.

Gwelwn nas gallwn sylwi ar Owen Owens yn y Seiat, mewn angladdau, gyda'i gymydogion, &c., er fod genym gyflawnder o ddefnyddiau ar gyfer hyn. Fe chwyddai y llyfr i ormod o faintioli at ei bris pe gwnaem hyny.


PENOD XVII
EI FLYNYDDOEDD OLAF.

Ei hen ddyddiau yn ddibrofedigaeth.—Yn gynrychiolydd i'r Sasiwn.—Ei anrhegu â spectol aur.—Cyfarfod i'w chyflwyno.—Hyn yn sirioli ei feddwl.—Englynion ar yr achlysur.—Yntau yn rhoddi ei ddarlun yn y ty capel.—Ei wythnosau olaf a'i farwolaeth.Ei gladdedigaeth.—Sylwadau arno gan y diweddar Barchn. Robert Jones, Llanllyfni, a Roger Edwards.—Yr argraff ar ei fedd.

Y Roedd hwyrddydd einioes Owen Owens yn dawel a di-brofedigaeth. Yr oedd yn fwy felly na boreuddydd a phrydnawnddydd ei fywyd. Nid oedd ei foreu a'i brydnawn heb gymylau yn ei awyrgylch; ond yr oedd hwyr ei ddydd yn nodedig o ddigymylau. Yr oedd haul ei fywyd yn machlud mewn awyrgylch hynod o glir a digwmwl. Un o'r pethau mwyaf pruddaidd ydyw gweled dyn duwiol yn cael hir-ddyddiau ar y ddaear, a'r rhai hyny yn ddibrofedigaeth hyd yn agos i'w ddiwedd, ond yn y diwedd yn cyfarfod a llawer o filinderau. Mae baich blinderau henaint yn drwm iawn i'w ddwyn heb ychwanegu ato faich blinderau y byd. A mynych y gwelir dyn gwir dduwiol felly; ond nid felly yr oedd Owen Owens. Yr oedd ei amgylchiadau bydol ef yn gwella yn ei flynyddoedd olaf, fel yr oedd yn ei ddiwedd yn perchen cryn lawer o dda y byd hwn, ag ystyried ei sefyllfa. Yr oedd ei fywyd teuluaidd yn hynod o hapus a dedwydd. Yr unig beth a dywyllodd ryw gymaint arno oedd marwolaeth geneth fach iddo, fel y cyfeiriwyd. Ond wedi i hyny fyned heibio nid oedd dim chwerwder na cholyn yn aros. Anrhydeddwyd ef, fel y soniwyd o'r blaen, trwy gael ei ddewis yn gynrychiolydd i'r Sasiwn ryw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth.

Derbyniodd lawer o barch a sylw hefyd yn ystod y flwyddyn y bu yn gynrychiolydd, sef y flwyddyn cyn y flwyddyn y bu farw. Ond ni bu dim yn fwy o galondid iddo, nac yn foddion i sirioli mwy ar ei feddwl a'i ysbryd yn ei henaint, na gwaith pobl Bwlchderwin yn ei anrhegu a spectol, a hono yn un aur. Mae ei fynych gyfeiriadau at hyn yn dangos ei fod wedi teimlo yn fawr oddiwrth y parch a'r caredigrwydd hwn. Yr oedd ganddo ddosbarth o ferched mewn oedran tua'r adeg hon. Rhoddai y spectol i bob un o honynt, y naill ar ol y llall, i edrych drwyddi ac i ddarllen gyda hi; a dywedir y byddai yn cael boddhad mawr wrth edrych arnynt yn ei gwisgo ac yn ei defnyddio. Wrth anog rhai i ddyfod i'r Ysgol Sabbothol, dywedai,—"Ni fydda i byth yn leicio siarad llawer am danaf fy hun. Ond y mae pobl Bwlchderwin yn dweyd fy mod i wedi bod yn ffyddlon iawn hefo'r Ysgol Sul, ac y maent wedi fy anrhegu i â spectol aur am fy ffyddlondeb iddi. Welwch ch'i, y mae bod yn ffyddlon i'r Ysgol Sul yn dwad ag aur i bobol." Byddai yn erbyn physig a doctor yn anghyffredin. "Pan y bydd rhywbeth arna' i," meddai, "dim ond i Catrin [y wraig] wneyd tipyn o ddw'r camomile, a dangos y spectol aur i mi, mi fendia i yn union." Cynhaliwyd y cyfarfod i'w chyflwyno iddo nos Lun, Ebrill yr 17eg, 1876, sef ymhen y tridiau ac wythnos ar ol Sasiwn Rhuthyn. Llywydd y cyfarfod oedd Hugh Jones, un o flaenoriaid Bwlchderwin ar y pryd, ond sydd yn awr yn flaenor yn nghapel pentref Clynog. Siaredid yn y cyfarfod gan y diweddar Evan Roberts, y Pwll, Penmorfa, blaenor ffyddlawn yn y lle hwnw, yr hwn a ddigwyddai fod yn gweithio yn yr ardal ar y pryd, a'r diweddar Owen Hughes, y Caerau, yr hwn oedd yn gyfaill mawr i Owen Owens, ac yn edmygwr mawr o hono. Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Hugh Williams (Hugh Peris), Bryncoch, Llanberis. Un o'r caneuon a ganodd oedd "Hen ffon fy nain," ac i effeithioli y gân cymerai fenthyg ffon Ellin Evans, yr hon y cyfeirir ati yn un o'r brawddegau nesaf. Canodd John Griffith, Terfynau, "Cwymp Niagara," hefyd. Cyflwynwyd y spectol mewn case prydferth gan Ellin Evans, Gyfelog-ucha, yr hon oedd ar y pryd yn ddeg a phedwar ugain oed, a'r hon hefyd oedd yn weddw i'r hen flaenor Robert Prichard, yr hwn a fu yn cydweithio ag Owen Owens am lawer o flynyddoedd. Yr oedd hefyd yn fam i Mrs. Mary Owen, priod Robert Owen, at yr hwn y cyfeirir yn y llyfr hwn. Mae y geiriau canlynol yn argraffedig ar y case:"Anrheg cyflwynedig gan gynulleidfa Bwlchderwin i Owen Owens am ei ffyddlondeb gyda'r achos crefyddol am dros 50 mlynedd. 1876." Gwnaeth Mr. H. Tudwal Davies saith o englynion ar yr achlysur, yr hwn, ynghyd a'i frawd, Mr. John Davies, a fu yn ddisgyblion i Owen Owens am lawer o flynyddoedd, a'r rhai yn ddiau a dderbyniasant argraffiadau oddiwrtho sydd yn aros hyd heddyw. Ni chaniata ein gofod i ni roddi yr oll o'r englynion i mewn yma, ond ni a roddwn le i dri o honynt:

Mi wnaf fydr,—mwynhaf edrych—ar henwr
Yn ei spectol orwych,—
Hen flaenor roes gyngor gwych
I fy enaid mor fynych.

I henadur, rhyw nodwedd—oruchel
Rydd drychau aur glanwedd;
Mae spectol dda yn gwella gwedd
Y llygaid, a'r holl agwedd.

Hwyrddydd oes, mor hardd i ddyn—yw edrych
Drwy wydrau aur melyn;
Y rhai'n a ddaw a'r hen ddyn
Efo'i lygaid fel hogyn.


Yn fath o gydnabyddiaeth am yr anrheg hon, rhoddodd Owen Owens, yntau, ei ddarlun ei hun, i fod yn y tŷ capel, ac y mae yn aros yno hyd yn awr. Mae y geiriau canlynol wedi eu hysgrifenu o dan y darlun gan Owen Owens ei hun,—Owen Owens, y Gors. Gwelir hwy fel y maent yno, o dan y darlun ar ddechreu y llyfr hwn. Mae y geiriau canlynol hefyd o dan y darlun, wedi eu hysgrifenu gan law arall:—"Anrheg i aros yn nhŷ capel Bwlchderwin. Medi 18fed, 1876."

Ond dyddiau Owen Owens, fel eraill, a nesasant i farw. Tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, ychydig wythnosau cyn iddo farw. Suddodd yn arafaidd, a bu farw, dydd Gwener, Tachwedd 9, 1877, yn ddwy ar bymtheg a thriugain oed, Isel iawn ei feddwl ydoedd yn ystod ei gystudd. Yr oeddym yn pregethu yn Mwlchderwin y Sabboth diweddaf y bu byw; a buom yn ymweled âg ef. Ychydig o eiriau a geid ganddo; a chredwn fod y parlys creulon wedi ysigo ei feddwl a'i ysbryd. Y dydd Mercher canlynol, gwyr bucheddol a ddygasant Owen Owens i'w gladdu. Darllenwyd a gweddiwyd wrth y tŷ gan y Parch. John Jones, Bryn'rodyn. Claddwyd ef yn mynwent Capel Ucha, Clynog. Siaradwyd yn y capel ac wrth y bedd, gan y Parchn. Thomas Ellis, Llanystumdwy; John Owen, M.A., Criccieth; a Robert Jones (B.), Llanllyfni. Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yr oedd Owen Owens a Robert Jones yn gyfeillion mawrion; a dangosodd Robert Jones ei gyfeillgarwch drwy ddyfod i angladd ei hen gyfaill. Dywedai air ynddo hefyd yn ddoniol, ac yn ei ffordd ei hun. "Yr oedd Owen Owens," meddai, yn ddyn mawr. Yr oedd yn rhy fawr i fod yn ddyn plaid. Fe gafodd yntau, fel pob dyn go fawr, lawer o rwystrau ac anhawsderau; ond fe'u gorchfygodd i gyd. Rhaid i bob dyn a rhywbeth ynddo ladd llewod wrth fyn'd trwy y byd yma. Rhaid i ch'itha," meddai, gan godi ei ffon, a'i tharo ar ymyl y sêt, ac edrych yn ffyrnig, "rhaid i ch'itha', ladd llewod os yda ch'i am wneyd rhyw ddaioni yn y byd. Dyn oedd Owen Owens laddodd lewod wrth fyn'd trwy y byd yma." Er's rhai blynyddoedd yn ol, anfonasom at Robert Jones i ofyn a oedd ganddo ychydig o adgofion a fuasai yn ei ysgrifenu am Owen Owens. Cawsom lythyr helaeth yn ol yn fuan. Ymysg pethau eraill, dywed fel hyn:—" Yr oedd Owen Owens yn un o'r dynion hynotaf. Nid oedd efe yr un fath a neb; ac nid oedd neb ond anfynych yr un fath ag yntau. Yr oedd ei bethau goreu, mae yn ddiau, yn bethau ardderchog; y mae pethau gwaelaf y dynion goreu a a fuont yn y byd erioed yn bethau tra annheilwng. Ceir rhai pethau dymunol, weithiau, mewn dyn tra annuwiol, tra y mae y dyn goreu yn ei funydau gwaethaf, yn colli cryn lawer mewn gair a gweithred."

Fel hyn, y mae y diweddar Barch. Roger Edwards yn ysgrifenu am dano yn y Drysorfa, ymhen tua deufis ar ol ei farwolaeth, sef yn mis Ionawr, 1878:

"Collwyd un o hen flaenoriaid hynotaf y Cyfundeb yn marwolaeth y diweddar Mr. Owen Owens, Cors-y-wlad, Eifionydd. Yr oedd yn nodedig am ei ffraethineb; ond yr oedd efe yn ffrwyno y dawn bywiog hwnw, ac yn ei dywys at wasanaeth crefydd. Yn ei gartref, yr oedd yn ofalus iawn am y cyfarfodydd eglwysig a'r Ysgol Sabbothol. Yn y Cyfarfodydd Misol, edrychid tuag ato ef fel hen wr profedig am farn dda a chrefydd dda. Ac yr oedd wedi dyfod yn gydnabyddus i'n Cymdeithasfaoedd yn Ngwynedd; a hir gofir am rai o'i sylwadau a'i weddiau yn Nghymdeithasfaoedd y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd ei goffadwriaeth yn wir beraroglaidd yn Nghyfarfod Misol Tremadog, a gynhaliwyd ddechreu y mis diweddaf."

Mae yr argraff ganlynol ar ei fedd:

Er cof am
OWEN OWENS,
CORS-Y-WLAD.
Yr hwn a fu farw Tachwedd, 9, 1877,
YN 77 MLWYDD OED.
Bu yn ddiacon ffyddlawn a defnyddiol gyda y Methodistiaid
Calfinaidd am dros 50 mlynedd.

Gwas gwiw Iesu gwsg isod,—ef oedd wr
Feddai eiriau parod;
Gwres ei ddawn wnai'r Gors ddinod
Yn amlwg mewn gloyw glod.

—TUDWAL.





ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, SWYDDFA'R 'GOLEUAD, DOLGELLAU.



Nodiadau

[golygu]
  1. Eifion, or Eifionydd; a hundred in Carnarvonshire so-called.
  2. Seler ddu, the name of the place whence the river of Bwlch Derwyn floweth, on the N. E. side of Bwlch Mawr mountain, in the parish of Clynog.
  3. Nantcyll, or Nantcall, otherwise Nantcel: there is a fountain named Ffynon wen Nantcall.
  4. Cwm yr Haf, part of Llwyd-mawr, or Llwyt-mor, a mountain in the parish of Penmorfa.
  5. Afon faig, the name of that part of the river which descendeth from Cwm yr Haf.
  6. Abercain, or Abercin, a harbour, on the S. W. side of Cricierth, where the rivers Dwyfawr and Dwyfach flow to the sea. There is also a farm so called.
  7. Owen Gryffyth, a poet, buried at Llanystumdwy, 1730.
  8. William Elias, a poet, a native of Llanystumdwy in Eifionydd and A disciple of the said O. G. Mr. Goronwy Owen occasionally corresponded with W. Elias. [Yr oedd y diweddar Mr. Elias Jones, Gwredog, Amlwch, yn ddisgynydd o William Elias. Ganwyd a magwyd W. Elias yn Mrynbeddau, Rhoslan, amaethdy ar fin yr afon Dwyfach.—Yr Awdwr.]
  9. Glyn Dwyfach, a farm so-called, in the parish of Llanystumdwy.
  10. The two Eifionydd Bards, named R. ab Gwilym Ddu, and Dewi Wyn o Eifion.
  11. Os felly, credwn ei fod yn berthynas heb fod ymhell i'r Parch. Michael Roberts; ac hefyd i fardd ieuanc gobeithiol iawn o'r enw Michael Prichard, Llanllyfni. Credwn fod Lowri Michael yn chwaer i'r bardd. Os felly, yr oedd Owen Owens yn gyfyrder i Michael Roberts, hefyd, yn gystal ag i John Jones, Talysarn; oblegid yr oedd Michael Prichard yn frawd i nain Michael Roberts, o du ei fam. Gwelir yn hyn. fel y mae talent yn rhedeg mewn teulu am genedlaethau lawer.
    Michael Prisiart oedd fardd ieuanc athrylithgar, a anwyd yn Llanllyfni, yn y flwyddyn 1710. Enw ei dad oedd Risiart Prisiart, o Lanllyfni. Gwehydd oedd Michael wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn ddisgybl barddonol i Owen Gruffydd, o Lanystumdwy, ar ol yr hwn hefyd y cyfansoddodd gywydd marwnad rhagorol, ac a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth yn y Gwladgarwr. Yn yr un cyhoeddiad, hefyd, ymddangosodd ei gywydd i'r "Wyddfa," ynghyda lliaws o gyfansoddiadau eraill o'i eiddo.'
    Digwyddodd i'r bardd ar ryw achlysur neu gilydd fod mewn swyddfa cyfreithiwr yn Beaumaris, ac yno y cyfarfyddodd â'i hen gymydog, Ffowc Jones, yr Udganwr, yr hwn a anerchodd Michael fel hyn :"Michael, pa le mae'r meichie?" "Y mae wrth law draw'n y dre," ebai Michael yn ddi ymaros. Pwy ddamweiniodd fod yn clywed yr atebiad parod, ond W. Bulkeley, Ysw., o'r Bryn du, Mon, yr hwn ei hun oedd yn fardd, ac yn achleswr beirdd a barddoniaeth; a chan ei fod yn foneddwr cyfoethog a haelfrydıg, efe a gymerodd Michael ato i'r Bryn du yn arddwr iddo. Yn fuan ar ol iddo symud yno, daeth angau, yr hwn ni eiriach na bardd, na garddwr, heibio i'r ardd, ac a dorodd y planhigyn tyner hwn i lawr, a Michael, druan, a fu farw, a chladdwyd ef yn mynwent sech Llanfechell, lle nad oes ond y dywarchen lâs yn unig yn gorchuddio ei fedd. Cymerodd hyn le yn 1731, cyn iddo gyraedd ei 22ain mlwydd oed. Rhyfedd na fuasai y boneddwr hael a charedig yn cyfodi gwyddfa iddo, ac y mae yn annawdd genym gredu pe claddesid ef yn ei lan enedigol, y gadawsai chwarelwyr llenorol Nantlle feddrod un o'u bechgyn athrylithgar heb gof-golofn deilwng o'i enwogrwydd.'—Nant, Nantlle, gan y diweddar Barch. W. R. Ambrose (B.), Talysarn.
  12. pwrs (tethau) buwch
  13. Credwn fod tad Rhisiart William, sef William Prichard, yn frawd i'r hynod Catrin ach Rhisiart.
  14. (boots)
  15. Tybir fod yr enw Cors-y-wlad wedi tarddu o'r ffaith fod y tair fferm a adwaenir yn awr wrth yr enw hwn, wedi bod gynt yn gors fawr, yn perthyn i holl blwyf Clynog, a rhyddid i'r holl blwyfolion i anfon eu hanifeiliaid iddi, yn rhad ac yn ddi-dal.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.