Neidio i'r cynnwys

Cofiant Watcyn Wyn/Cystadlu a breuddwydio

Oddi ar Wicidestun
Hogi'r cryman Cofiant Watcyn Wyn

gan Penar Griffiths

Yr ysgol-feistr

CYSTADLU A BREUDDWYDIO.

ER iddo ddechreu cystadlu mor fore a'i bedair ar ddeg neu'i bymtheg oed, eto ni wnai ond hwylio'i gŵch bychan o gylch y glannau, heb anturio i'r dyfnder mawr. Gwir y deuai yn ol â mynych ddalfa, ond hyd eto nid oedd bore'r helfa fawr wedi gwawrio arno. Gwyddai hyd yn oed y pryd hwnnw pa du oedd "tu dehau "ei gŵch difyr, a gwelwyd yn dod yn ol i'r lan âg aml fuddugoliaeth: nid heb boeni ar hyd y nos "lawer gwaith, yn ddiau; ac yr oedd hen ganhwyllau cŵyr meddal ei gartref yn gwybod hynny yn well na neb. Cynnyrch yr ymdrechion cynnar hyn yw llawer o'i "Ganiadau" a gyhoeddwyd yn ghyntaf drwy wasg Mri. D. W. a G. Jones, Llandeilo, yn llyfryn swllt, ac a ail-argraffwyd gan Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, yn y flwyddyn 1873, er mai yn ofer y chwilir am y flwyddyn ar y wyneb—ddalen. Pwy na chofia am" Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun"; "Ac ni bydd nos yno", "Cŵyn y cystadleuwr aflwyddiannus," "Helynt y meddwyn," "Y Llên ladron," a'u tebyg?—adseiniau ei frwydrau cynnar!

Ond yr oedd y "cŵch mwy," "y rhwydau" helaethach, yr anturio herfeiddiach, a'r ddalfa fawr, i ddod. Eithr gan nad pwy oedd y "cystadleuwr aflwyddiannus " a gwynai wedi colli, gŵyr pawb a ŵyr rywbeth am feirdd a chystadlu Cymru, nad efe ydoedd. Efe oedd y collwr mwyaf difyr a diddig o holl feirdd Cymru. Chwarddai neu englynai ei dipyn siom i ffwrdd, ac ni chai neb ond ei deulu a bardd neu ddau yn y cylch cyfrin wybod yr helynt. Cofiwn ef yn dweyd yn chwareus am un a gystadleuai lawer, ac a gollai'n fynych, ond a gwynai'n enbyd ar ol pob colli, gan ruthro i'r wasg a herio'n drystfawr, "Mae ef yn gystadleuwr da, ond yn gollwr gwael." Un tyner ei farn ar feirniaid y collasai efe ar eu dwylaw oedd Watcyn Wyn. Mae ei ddiddigrwydd fel yn mynnu dod i'r golwg yn ei bennill ar y cystadleuwr cwynfawr:

Rwy'n colli fy nghysgu, rwy'n colli fy chwŷs,
Rwy'n colli peth amser, er gwneuthur pob brys:
Rwy'n colli fy mhapur, fy inc, a fy ngho;.
O achos rwy'n colli y wobr bob tro.


Ynglyn â chystadlu cofiai ef y gallai bardd golli peth gwerthfawrocach na gwobr, a chadwodd ef hwnnw hyd derfyn ei yrfa gystadleuol.

Cyn hir, daeth dyddiau'r cystadlu mwy a difrifolach. Diau mai ei waith yn cydrannu'r ysbail âg "Islwyn" yn Eisteddfod Pwllheli yn 1875, am bryddest ar "Yr Angel," roes y bri cyntaf ar ei gystadlu. Safle gwerth ei ennill oedd hwnnw, a llawenychai'r wlad yn ei lwyddiant, er fod y wobr a gawsai cyn hyn am ei linellau ar "Parc Dinefwr"—y "wobr fawr gyntaf a gawsai,—wedi dod a'i enw i gryn amlygrwydd, yn arbennig yn y Dê.

Blwyddyn arall, a dyna ar ei fynwes Dlŵs Eisteddfod Gwrecsam am y bryddest Gymraeg oreu ar "Farwolaeth Saul." Pryddest Seisnig o waith y Parch. C. H. Manning, Abertawe, oedd yr oreu yn y gystadleuaeth, eithr un Watcyn Wyn oedd y bryddest Gymraeg oreu.

Gyda'r cystadlu yr oedd pryder yn dod i'r fynwes. "Y peth gwaethaf i mi ynglyn â chystadlu," meddai, "oedd y pryder, ryw wythnos cyn gwybod y dynged. . . Gyda'r cystadlu y daeth breuddwydio yn bennod bwysig yn hanes fy mywyd." A chafodd freuddwydion difyr, gyda llygaid yn eu pennau. Mynych y gwybu drwyddynt pa bryd y byddai perygl i'r pwyllgor gadw tocyn blaensedd oddiar y buddugwr absennol," a chyrchai yntau i'r Eisteddfod yng ngoleu'i freuddwyd yn bur hyderus. Dyfodiad "llythyrau" oedd yr arwydd cynnar iddo. Gwelai bob cheque a phob post office order yn ei gwsg, "ac yr oedd telegram yn sicr o fflachio mewn goleuni coch o flaen ei lygaid mewn breuddwyd, cyn ei fod ar y wifren." Yn fuan daeth breuddwydion "ffodus ac anffodus" yn bethau dosbarthus iddo. Byddai hedeg, nofio, neu farchogaeth, yn arwydd o fuddugoliaeth iddo. Buddugoliaeth fawr oedd ennill y Goron ym Merthyr, yn y flwyddyn 1881, am y bryddest oreu ar "Bywyd." Ond yr oedd y Bardd wedi bod wrthi rai nosweithiau cyn hynny "yn marchogaeth ar gefn llew, ac yn gyrru drwy ganol haid o greaduriaid llai buan a beiddgar." Byddai saethu a lladd yn golygu gorchfygu mewn cystadleuaeth: ond byddai i'r "dryll" fethu tanio, ac i'r pryf allu dianc, yn arwydd drwg iawn. Byddai darllen "papur newydd " yn ei gwsg yn arwyddo'n dda, ac os gallai sillafu ei enw yn go eglur yno," nid oedd dim ond buddugoliaeth yn ei aros, ond os na, tywyll oedd hi.'

Chwareuodd y "Breuddwyd " ran bwysig ynglyn â'i ymgais gyntaf am y Gadair Genedlaethol. Yn Eisteddfod Caerdydd y bu yr ymdrech honno, a'r "Llong" yn destyn; a rhaid iddo ef ei hun gael adrodd yr ystori:

"Yr oeddwn yn edrych allan bob nos, fel yr oedd yr amser yn nesu, am arwyddion ffafriol. Ryw noson oddeutu pythefnos cyn yr Eisteddfod, . . .

. . daeth i mi weledigaeth. Gwelais ... mewn breuddwyd, long ardderchog yn barod, a minnau fel capten ar ei bwrdd. Ond nid oedd dwfr yn agos yn un man, mewn gwirionedd yr oedd hi gryn bellter o'r môr. Gwelwn y llong—a llong ardderchog oedd hi hefyd—un o'r llongau mwyaf a welais i erioed yng nghwsg neu yn effro, oddigerth y Great Eastern. Yr oedd ei hwylbrenni yn cyrraedd y wybren, a'i hwyliau fel cymylau yn yr awyr-llong heb ei bath oedd hi, ond dim môr yn agos. Gwelwn yn fy mreuddwyd fy mod wedi ei hadeiladu

Heb fod ar y tywod,
Lle mae'r môr yn arfer dyfod;
Ond yn y wlad wrth droed y mynydd,
Gerllaw gwaith glô a hen domennydd!


"Yr oedd y llong. . . ar lan ar ochr y Mynydd Du yn rhywle, a dim ond rhyw domenni gwaith glô o gylch, 'a'r môr nid oedd mwyach.' Gwelais yn union. y 'buasai yn well fy mod wedi adeiladu truck yn y fan honno, na llong.

Pan ddihunais gwelais yn union fod y llong yn fy meddiant, ond beth am y tide?... Aethum i Gaerdydd, rhwng bodd ac anfodd, am fod fy ngwraig yn dweyd, Dere di, croes yw'r breuddwyd.' Gwyddwn innau o'r goreu mai croes oedd i fod yng Nghaerdydd —gwyddwn nad oedd tide i mi yno, er bod llong gennyf. Pan ddaeth adeg y feirniadaeth, cododd y beirniaid groes-wynt ystormus, a suddwyd y llong. Fy llong i oedd y goreu, ond nid oedd y tide yn ddigon uchel, neu ynte yr oedd y gwynt yn rhy gryf yn ei herbyn, er ei bod yn oreu, ac yn oreu o ddigon, er hyn i gyd nid oedd llong i mi yn y porthladd hwnnw." Argoel wael iddo ef oedd colli ei bibell a'i gŵd myglys yn y trên ar y ffordd i'r Eisteddfod. Yr oedd codi ager yn anodd ar ol hyn. Gŵyr pawb a ŵyr hanes yr Eisteddfod na ddaeth y gadair o Gaerdydd, y flwyddyn honno. Ond ni chafodd neb fwy o ddifyrrwch o'r helynt na'r bardd goreu, ond diwobr. Wedi i'r Awdl ymddangos, meddai rhyw ddarllenydd cellweirus a adwaenai dymer dda Watcyn Wyn, wrtho, "Mae canol yr awdl yn lled gryf, ond go fain yw hi yn ei dechreu, ac yn agos i'w diwedd." "Wel, fachgen," meddai yntau, "fel yna mae gwneud llong "; ac yna peswch a chwerthin mân, a gafael yn ei gudyn gên.

Ynglyn â chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Chicago, pan y rhoed iddo'r Goron, ond yr ataliwyd hanner y wobr, "breuddwydion amhenodol" gawsai efe tua'r adeg honno, a gwybodaeth amhenodol wedyn, a beirniadaeth mor amhenodol a hynny." Ar ei wyliau ym mro Gwŷr yr oedd pan ddaeth pellebyr ato oddiwrth awdurdodau'r Western Mail, yn gofyn a oedd yn disgwyl clywed rhywbeth o Chicago. Ni chlywsai air cyn hynny ar y mater, ac meddai, "Hanerog o hyd."

Er diddiced ei awen, ac er mwyned ei dymer, nid pell fu o ddigio'n ddwfn yr adeg hon. Meddai "Y Diwygiwr" fuan ar ol hyn, Cafodd Watcyn Wyn gant o ddoleri a'r Goron Arian, a'r pwyllgor y cant arall. Torrwyd pen y buddugwr, ac yna coronwyd ef yn ei waed. Pe buasai'r awdur yno, yr ydym yn teimlo'n bur sicr na chawsai y ddwy oruchwyliaeth eu cyflawni; dichon y gallasent dorri ei ben, ond yr ydym yn sicr na allasent ei goroni ar ol torri ei ben, heb dorri'r heddwch!" "Yn honno," meddai, "y gorffennais fy ngyrfa gystadleuol," a dyna'r cwbl, a'r llen yn disgyn. Foddlon fardd! Ddiddig ddyn!!

Barnai ef fod a fynnai'r nifer bychan o gystadleuwyr â'r atal llwyr a rhannol yng Nghaerdydd, ac yn Chicago. "Dim ond dau oedd ar y Goron, a dim ond dau o un sylwedd oedd ar y Gadair," meddai. Tybiai fod nifer bychan o gystadleuwyr yn aflonyddu ar deimladau'r beirniaid, yn gymaint ag y gallai hynny awgrymu diffyg ymddiriedaeth cystadleuwyr ynddynt. Er na chredai ef fod y naill yn golygu'r llall bob amser, eto, esboniad dynol iawn yw ei esboniad ef ar atal gwobrau pan fo nifer cystadleuwyr yn fychan.

Mynnodd ddifyrrwch mawr o helynt y Goron, er mai codi'r clawr i roi dihangfa i'r ager oedd mewn perygl o gronni gormod oedd y cwbl. Ond mynnai chwerthin a chanu. Gyda chân Saesneg hen frawd i "Danchwa Abercarn" ("In Abercarn was explosion") yn ei feddwl, meddai ei awen a ymgellweiriai, yn Saesneg:—

Yn Ffair y Byd was execution, Quite a modern revolution; Take the poet by the collar, And rob him of one hundred dollar: Behead him first, and crown him after, Amid great shouting and great laughter.

Ond i weld brig y fflam, rhaid darllen ei gân, "Y Goron " (Llawysgrif), a chofio mai Coron Aur a addawsid, a Choron, nid cylch, o aur nac o arian.

Y GORON.

Mi gefais goron arian wen,
O Colorado bell:
Mae'n ffitio'n weddol am fy mhen,
Hi allsai ffitio'n well:
Rhyw wasgu tipyn bach mae hi
Pan ar fy mhen—o hyd:
Ond mae pennau coronog yn dweyd i mi
Mai gwasgu mae nhw i gyd!

Ai arian Amerig oedd ry fach,
Ai pen y bardd rhy fawr?
Fe fuasai'r coryn yn fwy ach
Tase ragor o faint yn y c'awr!
Am nad cedd digon o arian i doi
Y bardd rhag bod yn grop,
Fe orfu i fechgyn y Gwynfryn roi
Velvet ar y top!

Mae velvet yn sofftach nag arian,
A rhatach beth o'r ddau:
Ac am ei fod yn sofftach
Mae'n debycach i'r pen yn ddiau:
Aeth coron aur yn y dechreu
Yn goron arian wen!
Yn wir, peth od na fuasai
Dim ond velvet ar fy mhen!

Tipyn o waith yw ennill
Coron aur o uchel fri:
Rhaid canu llawer pennill
Am dani, credwch chwi fi;

Canu am ddau can doller,
Nes oedd dolur yn fy mhen:
Ac wedi colli'r hanner,
A'r goron felen yn wen!
 
Peidiwch a hidio mymryn,
Os aeth hi'n goron wen:
Dichon fod coron felly'n
Gweddu'n well i fy mhen:
Rwy'n teimlo fod cudynnau
Fy ngwallt yn dechreu troi:
A bod coron arian blynyddau
I mi yn cael ei rhoi.

Diolch i wlad Colorado
Am anfon y goron draw;
Am ddoleri Chicago,
Dwy'n hidio dim o'r baw;
Dichon fod mwy o ddyled
Ar y Pwyllgor nag ar y Bardd,
Efallai fod cant o ddoleri
Iddyn' nhw yn swm bach hardd!

Bydd merched Colorado
Yn annwyl gennyf o hyd;
Ran hynny, rhai annwyl yw merched
Ymhob rhyw barth o'r byd;
Os aeth y doleri bell—bell,
Fe ddaeth y goron wen:
Os nad oes arian yn y llogell,
Mae arian ar fy mhen!

Peidiwch a hidio mymryn,
Mi ganwn eto gân:
Mi ganwn gyda'r delyn,
Mae Cymru'n Gymru lân:
Deliwch ymlaen, a chanwch
Ganeuon Cymru wen,
Mae cân yn y fron yn fwy diddan
Na choron ar y pen!

Tach., 1893.


Wrth son am yr ymdrechion mynych i geisio gwybod cyn dydd yr Eisteddfod enwau beirdd y Gadair a'r Goron, a chofio am ei ffordd dawel gyfrin ef ei hun ynglyn â'i gystadleuaethau, meddai:—"Mae ambell un yn mynd o gylch hyn â'i lygaid yn agored, ond gwell gennym ni fynd â'n llygaid ynghau rhag cywilydd. Nid oes enw un beirniad mewn perygl, na thynged un cystadleuydd yn debyg o gael cam, os bydd i ddyn geisio breuddwydio pa fodd y bydd hi."

Tlws oedd ei freuddwyd cystadlu cyntaf. Anfonasai dri chyfansoddiad bychan i Eisteddfod leol, a dyma freuddwyd iddo:—

Gwelwn fy hun yn cario dryll ar hyd y caeau yn ymyl tŷ fy nhad, i chwilio am adar i'w saethu. Dyddiau hyfryd oedd y dyddiau hynny, nid dyddiau hyfryd ar yr adar, ond dyddiau hyfryd ar y bechgyn oedd yn ymhyfrydu cario dryll i saethu adar—dim angen trwydded i gario dryll. Bron na raid i ddyn gael trwydded i gario dryll yn ei gwsg y dyddiau hyn—ond yr oedd hi yn wahanol y pryd hwnnw. Yn fy mreuddwyd, gwelwn dri aderyn ar bren, heb fod ymhell. Taniais atynt, a dihunodd yr ergyd fi, ond nid cyn i mi gwympo dau o'r tri, a gweled y llall yn dianc i ffwrdd! Daeth adeg yr Eisteddfod, daeth ergyd y feirniadaeth, enillais ddwy wobr, a chollais y drydedd!. . . . Dichon y buasai ambell un yn bwrw'r bai ar y beirniad, ond gwell gennyf fi fwrw'r bai ar y dryll."

Cellweiriai fod ynddo awydd ar ol hyn ysgrifennu llyfr ar freuddwydio, a'i alw yn "Llyfr y Tri Aderyn." Buasai gennym ddau " Lyfr y Tri Aderyn " felly—y naill gan" Morgan Llwyd," a'r llall gan Watcyn Wyn. Tarawai efe dant dyfnach na hyn ym myd breuddwydio, a bu'r mater yn ddigon pwysig yn ei olwg i ysgrifennu cwrs o ysgrifau arno i Gyfaill yr Aelwyd," yn 1892. Ar ol ymdroi'n hamddenol a difyrrus ddigon yn ei ysgrif gyntaf, a dweyd "fod y breuddwydion mwyaf byw, y gweledigaethau mwyaf amlwg, a'r ymweliadau mwyaf diddorol wedi dod heb fod ynglyn â dim y byddom wedi bod yn meddwl am dano yn ystod y dydd na'r wythnos mewn modd yn y byd," meddai mor ysgafn galon, "Yr ydym wedi rhagymadroddi yn ddigon anniben, ond rhaid cofio mai rhag— ymadrodd breuddwyd yw."

Nid oes ganddo air mwyn i'r rhai a ddywed am freuddwydion, "Pw! pw! ffolineb; nid oes dim dal arnynt." Dynion yw'r rhai hyn," medd efe, "a phrysurdeb y dydd yn peri iddynt lwyr anghofio eu nos feddyliau, er efallai y bydd llawer nos-feddwl fel ymweliad angel, er yn ddiarwybod i'r dyn bydol brysur." Ac wedi rhoi cipolwg i'r dynion prysur hyn ar eu colled, meddai, "Credwn ei bod yn llawn bryd rhyfela yn erbyn y sych ymarferol sydd fel cwmwl locustiaid y Proffwyd Joel yn bwyta pob peth gwyrdd yn ein bywyd, ac yn difa pob dalen lâs yn ein hanes, ac yn dringo i'n tai i ladd pob breuddwyd a phob cân."

"Mor felys i ni yw cwrdd â'n hen gyfaill sydd yn gofyn y peth cyntaf bob amser, Beth yw'r englyn diweddaf?' 'Beth yw'r gân ddiweddaf?' . . . Y mae hi felys cwrdd âg ambell un sy'n rhy farddonol i fod yn ymarferol." A dyma'r tant dwfn, bereiddied ei dôn!" Mor hyfryd yw rhoi ambell dro megis allan o'r byd hwn. Mor ddiddan yw rhodio ambell lwybr nad ydym yn droedio bob dydd. Mor hyfryd yw canu ambell gân heb fod yn y cywair lleiaf. Mor felys yw dilyn ambell athro sydd yn beiddio gadael y prif ffyrdd a myned a ni drwy ganol y caeau gwenith. Gymaint o fwynhad yw cael ambell hun a breuddwyd, yng nghanol cymaint o dwrw difeddwl. Y mae ein hystrydoedd yn llawn hyd ganol nos, ac y mae mwy o dwrw yn y nos nag yn y dydd, ac y mae cicio pêl ddu wrth oleu lleuad wedi dyfod yn beth cyffredin, ac y mae tawelwch breuddwydiol ein tadau wedi ei yrru o'r wlad." A dyma'r Bardd i'w fyd:

O am dawelwch y dyddiau gynt,
Heb ddim yn ei dorri ond glaw a gwynt!
Pan ydoedd y dydd yn gorffwyso y nos,
A chroesffordd y pentref mor dawel a'r rhòs;
Trigolion y llawr mor freuddwydiol a'r sêr
Yn huno mewn nos—dawelwch pêr.
Y gwaith yn llonyddu yn oriau'r hwyr,
Y dydd yn ddydd gwyn, a'r nos yn nos lwyr,
Ac engyl y nef yn ymweled à dyn
Ar edyn breuddwydiol mewn esmwyth hun;
Rhyw ambell gipdrem ar ryw fyd heblaw
Y ddaear o tanom, a'r byd islaw:
Y dydd yn ddydd goleu, a'r nos yn nos ddu
O am dawelwch y dyddiau fu.


A chymryd breuddwydion yn eu hystyr naturiol, credai ef" fod dosbarth o freuddwydion a dal arnynt." Ond i "freuddwydio'n iawn, rhaid i ddyn fod yn iach. Rhaid iddo fod yn dawel ei feddwl, a rhaid iddo swperu fel arferol; a rhaid iddo ofalu peidio â bwyta swper rhy freuddwydiol—rhag iddo weled mwy na digon cyn y bore." Breuddwydiai am ei lythyrau a'i bellebyron hefyd. Gwelai bob "llythyr anghyffredin" cyn ei dderbyn llythyrau "o bob lliw" a "maint," a pha "un ai mewn llawysgrif ai ynte wedi ei argraffu" y byddai. Gwyddai "liw'r inc a llun y llawysgrif ar ddigon o achlysuron," a dywedasai am danynt ymlaen llaw lawer tro. Rhagwelodd "bob llythyr âg arian," a ddaeth i'w law erioed. Ac am "delegramau"—"y llythyr bach lliw'r fellten"—gwyddai am dano cyn i'r fellten gael ei rhoi ar y wifren!" "Nid oes i mi braidd un wedi dod heb i mi ei weled cyn ei dderbyn," meddai. A dyma un o aml stori:—

Cysgai noson yn Abertawe ar ei ffordd i Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead: gwelai yn ei freuddwyd lythyr coch bychan mor amlwg ag erioed, a dywedodd wrth ei gyfaill y byddai "yn sicr o gael telegram ynghylch rhywbeth," a "chwarddodd" hwnnw am ei ben. Ac meddai, "oddeutu'r ail ddydd dyma'r arweinydd yn dod i'r llwyfan â thelegram yn ei law, ac yn gwaeddi allan fy enw." A dyna ef, i ddangos ei feddylgarwch cyfrin yn gofyn, "A oes yna ddylanwad gan y naill feddwl ar y llall? A yw'r dyn sydd yn ysgrifennu'r llythyr yn gadael argraff ar fy meddwl i wrth wneud hynny? A yw'r ffaith ei fod yn meddwl ysgrifennu ataf yn ddigon i beri i mi weled y llythyr?"

Mae yr helynt am Gadair a Choron Eisteddfod Rhyl yn ddigon hysbys. Ond gwrandawer ystori'r breuddwydiwr:—

Ryw fis cyn yr Eisteddfod, a mi mewn cwsg tawel, gwelwn ddau ddyn, bob â bwyell ganddo, un yn torri derwen cadair Eisteddfod Rhyl, a'r llall yn sefyll yn ymyl pren oedd heb fod yn fit i'w dorri," meddai ef. "Safai y ddau fwyellwr, un bob ochr i Ynys Fôn. Yn y Rhyl, ar y llwyfan, pan neidiodd Hwfa Môn i'r adwy rhwng y ddau feirniad (a fethai gytuno gyda golwg ar yr awdl oreu), fflachiodd y breuddwyd i fy meddwl—a'i ddehongliad."

Ond breuddwydiodd ynglyn â Choron yr un Eisteddfod: Gwelais hefyd yr wythnos cyn yr Eisteddfod yn fy nghwsg, wrth gwrs—ddau fardd yn dadleu ynghylch newid pisyn coron, un yn dweyd fod ei hanner yn ddyledus iddo ef, a'r llall yn dweyd na, mai ei eiddo ef oedd y darn i gyd yn gyfan: a rhoddodd ef yn ei logell, a dyna ddiwedd am dani." Ond rhannu a wnaed yn Rhyl!

A dyna'r athronydd yn y Bardd yn holi eto, "A oedd raid i'r pethau hyn fod felly—fel y cyflawnid yr hyn a welid mewn breuddwyd? Beth ddywed y beirdd a'r beirniaid am hyn? Gellid meddwl, wrth ddarllen y papurau, mai yn fwriadol y gwnaed yr holl gamwri hyn, pan mewn gair fod y cyfan wedi ei arfaethu i fod felly, yn ol tystiolaeth mwy nag un breuddwyd." A dyma efe at y "beirdd breuddwydiol":—"Faint o honynt sydd heddyw yn ein gwlad? Faint o ganwyr y cerddi breuddwydiol pêr, pell, a melys, sydd heddyw'n fyw? A oes llai nag a fu? Os oes llai, beth yw'r rheswm? Ai yn y dyn, ai yn yr awen, ai yn yr oes y mae'r bai? Credwn fod yr oes yn dylanwadu'n fawr ar y bardd a'i awen—rhyw ambell un sydd yn gallu breuddwydio—ganu y dyddiau effro, prysur, trystfawr hyn gwyn fyd y sawl sydd yn gallu peidio â dihuno o'u cwsg, onide? Ond fel arall y mae hi, yr ydym yn ofni, y dyddiau taiog hyn." A dyna'r ergyd difyr yn dod:

Mae'r bardd yn canu ei ganeuon serch,
Er mwyn y wobr, nid er mwyn y ferch.
Mae aur ac arian heddyw'n fwy eu swyn
Na hudol serch, a gwenau cariad mwyn.
Mae llais y galon wedi ei golli'n lân,
Cyweirnod arian yw cyweirnod cân.
Mae'r bardd yn canu ei alarnad dlawd
Er mwyn ei brês, ac nid er mwyn ei frawd.
Mae mwy o swyn i feirddion Gwalia wen
Yn nail y program nag yn nail y pren.
Mae natur wedi ei cholli dan y ne',
Yr ymarferol sydd yn llanw'i le.
Mae'r awen yn cardota'r dyddiau hyn,
Nid byw'n frenhines yn ei phalas gwyn;
Nid canu ar destynau bythol grand,
Ond rhyw geinioca—fel rhyw German Band:
Nid canu telyn natur a'i mwynhau,
Ond chware giwga am ei bwyd y mae.
Nid canu mwy er mwyn y gerdd na'r gair,
Mae'r delyn wedi mynd yn delyn aur,
Mae'r delyn gynt fu a'i thannau yn dair rhes—
Heb ond tri thant—tant arian, aur a phres.


Breuddwydiodd "lawer llinell a llawer englyn perffaith reolaidd " yn ei gwsg. Ar ddiwedd ei ysgrif olaf ar Freuddwydion, addawodd y caem glywed ychwaneg, ond ni welsom iddo freuddwydio felly byth mwy.

Nodiadau

[golygu]