Neidio i'r cynnwys

Cofiant Watcyn Wyn/Llwyfan a phulpud

Oddi ar Wicidestun
Heulwen ac awel Cofiant Watcyn Wyn

gan Penar Griffiths

Y golygydd a'r llenor

LLWYFAN A PHULPUD.

DAN y geiriau hyn daw tri byd i'r golwg—byd yr Arweinydd Eisteddfodol, byd y Darlithiwr, a byd y Pregethwr. Prin y bu yn llwyddiannus fel arweinydd Eisteddfodol, oddigerth mewn cyfarfodydd llenyddol ac Eisteddfodau bychain, a phallai yn unig oherwydd diffyg nerth corfforol, a diffyg egni. At yr Eisteddfod fawr, yr oedd ei lais yn rhy wan, ac hamddenai'n ormodol. Mewn Eisteddfodau bychain yr oedd, fel y dywedais, yn ddigon o grwth a thelyn." Yr oedd yn bur hawdd rhoi'r delyn allan o hwyl yn fynych, er hynny. Ychydig o ysbryd swyddogol mewn ysgrifennydd, neu aelod o bwyllgor, ac o fân ddadleu am betheuach—profedigaeth lem i bob arweinydd—dyna ddigon! Er na thorrai mellten fawr allan byth, deuai awel groes i chwythu, i arwyddo fod yn bryd i'r swyddog ymyrgar, a'r ymgecrwr, i chwilio am gysgod. Yn yr Eisteddfodau llai, byddai ei ddull mor ddifyr a chartrefol; a deuai mor agos at y bobl, nes y meddylient eu bod ar aelwyd, Nos Galan. "Nawr, fechgyn," fyddai ei gyfarchiad agos, bron bob amser; a byddai'r bechgyn yn profi ar unwaith eu bod yn ddigon o ddynion i actio'n briodol, ac i ddilyn yr arweinydd. Byddai'r "bechgyn" chwedl yntau, yn edrych allan am yr ergyd difyr pryd bynnag y siaradai, a mynych yr iachaodd yr ergyd byw a'r chwerthin calonnog yr awyr, pan fyddai ysbryd taran ynddo.

Fel darlithiwr, cerddodd feysydd amrywiol. Darlithiodd ar "Llew Llwyfo," "Canu Penillion," "Ceiriog," "Breuddwydion," "Hen Grefyddwyr," "Y Tri Chwestiwn Mawr," "Tri Mis yn America," a "Hiraethog." Cerdded yn hamddenol y byddai yn ei ddarlith, heb unrhyw ymdrech, na dim yn awgrymu rhwysg—ond symud fel afon lefn, foddlon, gydag ambell doriad sydyn fel ysbonc brithyll hardd i'r wyneb. Hawdd fyddai i'r cyfarwydd wybod arno pan fyddai'r fflach ar ddod; byddai rhyw eiliad o ddiofalu, symudai'r traed, a deuai'r llaw at y cudyn gên—arwyddion fod y llewyrch yn dod. Cymerer ei ddarlith ar "Ganu Penillion," neu "Noson gyda'r Delyn," fel y galwai hi weithiau, i ddangos hyn. "Beth yw'r Hwyl Gymreig ond siarad ar gân, a chynghorwn bob un i ofalu nad aiff i hwyl' os nad all e' ganu,— ond yr wyf yn ofni fod rhai yn gwneud." "Y tro diweddaf y bu cystadleuaeth pen pastwn' wirioneddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yn Llangollen, yn y flwyddyn 1858. Bu yno le difrifol yn ol yr hanes, pump neu chwech ar y llwyfan yn pastyno am y goreu. Ab Ithel, mae'n debyg, oedd y pechadur cenedlaethol a ddygodd hyn i mewn, a bu rhai o'r gwŷr selog am drefn a dosbarth' yn bygwth ei bastyno yntau am wneud hyn. Ond dihangodd; tebyg fod ofn y pastynau eraill arnynt."

Yr oedd ganddynt ( yr hen Gymry') bedair-camp-ar-hugain mewn chware, pedair-cainc-ar-hugain mewn miwsig, a phedwar-mesur-ar-hugain mewn barddoniaeth. Pwy all esbonio dirgelwch y rhif pedwar ar hugain' yn Llyfr Datguddiad ein cenedl ni?"

Wedi colli nawdd y tywysogion, a chefnogaeth bonedd y wlad, y dysgwyd canu penillion gan y werin. Credwn mai yn canu penillion, ac yn dilyn telyn, y cafodd ysbryd y deffroad afael yn ei gyweirnod. Wedi i daran dorri uwchben y llŷs, wedi i'r ystorm ddychrynu'r pendefigion yn eu plasau, ac i hen noddfeydd y gân gael eu chwalu y cafodd gwerin Cymru afael ar y gân a gollwyd." Chwalwyd y gân, ond nid aeth un nodyn i golli. Crewyd discord, ond ni ddinistriwyd y gynghanedd. Collwyd y pencerdd, ond cadwyd y gerdd yn fyw. Tarawyd y bardd i lawr, ond dyrchafwyd yr awen. Wedi peidio a thalu neb, aeth pawb i ganu am ddim, ac 'ni bydd diwedd' byth ar sŵn y delyn mwy. Credwn mai dyma ddechreu canu, a dylem ninnau fel cenedl efallai ddechreu canmol' y rhagluniaeth ryfedd a ddygodd hyn i fodolaeth."

"Yr oedd tai cân a thelyn yn gyffredin yng Nghymru gynt, ac yr oedd y muriau wedi eu gorchuddio â phenillion, a thrioedd, a diarhebion; â'r pethau hyn yr oedd yr hen Gymry yn papuro'r gwelydd'—nid rhyfedd eu bod yn hyddysg ynddynt."

Mae'n debyg mai caneuon serch, a rhyw ganeuon bugeiliol, oedd yn cael eu canu fynychaf gan y bobl gyffredin, gan feibion a merched gwlad y delyn. Arthur yn cydio yn Elen â 'braich o gywydd,' ac Elen yn goglais Arthur â rhyw gynghanedd braidd gyffwrdd.' . . . Cariad a Thelyn!"

Eithaf peth fyddai i'n datgeiniaid gofio tafodiaith hen gân, a'i chanu yn ol y dafodiaith yn yr hon y cyfansoddwyd hi. Os bydd y gân yn ol tafodiaith Gogledd Cymru, caner hi felly, ond os yn ol tafodiaith Dyfed, allan a hi yn iaith y wlad honno; os yn ol iaith Morgannwg, peidier ar un cyfrif a cheisio ei gwŷrdroi. Gallem nodi'r Gwenith Gwyn' fel enghraifft:—

Pa un ai fi ai arall Gwen,
Sydd oreu gen dy galon?


dyna ddywed y bardd yr ydym yn dra sicr.

Felly am Y deryn pur '; y mae y 'deryn yn colli llawer o'i bluf harddaf wrth fod y dafodiaith yn cael ei newid."

Dyna'i ddifyr ddull, ac nid oedd blino arno. Anaml y deuai ystori i'w ddarlith, a chan gymaint hoender ei ddull, ni theimlid ei hangen. Ond pan ddeuai, byddai'n fer ac i'r pwynt, ac fel rheol, yn codi o fywyd y werin agos, nes bod adsain iddi mewn llawer mynwes yn y dorf. Yn ei ddarlith ar "Hen Grefyddwyr," soniai am hen frawd a'i gadawsai'n ddiweddar iawn cyn dod at grefydd, ac a fuasai yn anghynefin iawn â phob arfer grefyddol, ond a ddaethai o'r diwedd, gan fynychu'r seiat yn bur ffyddlon. Canhwyllau a oleuai'r hen adeilad lle yr addolid, a sylwasai yr hen frawd y cynheuid canhwyllau newyddion, bob odfa. Un noson, gwasgodd y gweinidog arno i ddywedyd gair yn y seiat—"unrhyw beth sydd ar eich meddwl," meddai'r gweinidog. Cododd yr hen frawd, meddai'r darlithydd, ac meddai, "Yr wy'n sylwi fod canhwyllau newydd yn cael eu cynnu bob cwrdd, mi licwn i wybod ble ma'r hen stwmps yn mynd."

Dro arall, soniai'r darlithydd am frawd yr oedd ei gorff yn hir, ond ei goesau'n fyrion. Pan eisteddai, byddai yn dalach na'r cyffredin. Un tro, methai'r brawd byrgoes weled rhywun yn y pellter, y gwelsai ei gyfeillion ef. 'Wela' i mo'no," meddai'r gŵr. "Eistedd i lawr, Dai," meddai rhywun, "ti 'i gweli e'n iawn wedyn." Fel hyn yr oedd cylchoedd ei ddarlithiau'n agos, a'i ddull yn syml a chartrefol.

Yr un, wrth reswm, oedd prif nodweddion y Pregethwr. Byddai'n syml ei ddull, llednais ei ymddangosiad, a diymgais ei fater. Ni ddewisai destyn swnfawr—testyn y pregethasid llawer arno, ac y dadleuesid llawer yn ei gylch, ond yn hytrach y testyn y byddai cyfle i synnwyr cyffredin, a meddwl ymarferol a sylwgar i ddywedyd gair arno; ac yn ddieithriad cai ei ffordd ei hun ato, a'r rhan amlaf, ei hwyl ei hun gydag ef. Ni ymboenai gydag esboniadau a geiriaduron, ac ni ddangosai feistrolaeth ym myd awduron ac arlunwyr. O ddyfynnu bardd a llenor, yn ei bregeth, bardd a llenor Cymraeg a fyddai. Gwedd Gymreig fyddai i'w holl waith. Dichon fod ganddo fwy o hoffter o James Martineau, fel meddyliwr ac awdur, nag o neb. Byddai ei ffraethineb dan lwyr feistrolaeth yn y pulpud, er y cerddai fel llinyn arian yn ochelgar drwy'r cwbl. Yr oedd ei chwaeth bob amser yn bur, ac yn ddieithriad, yn gofalu am dano'i hun. Yr oedd yn fwy diffygiol mewn gwres ac egni nag mewn dim oedd eisiau i wneuthur pregethwr gwerthfawr a grymus. Ni chlywodd neb ddim tebyg i'r "hwyl" ganddo erioed, a phell fyddai o ymgeisio at effeithio yn arwynebol ar deimlad. Ymhob cynulleidfa y gwelsom ef ger ei bron, ni welsom y dynion mwyaf meddylgar, darllengar, erioed heb fwynhau yn fawr. Yr oedd ei ddyfodiad o gylch cynulleidfaoedd fel dyfodiad awel haf, yn adfywiol. Yr oedd ei iaith a'i ddull mor agos a gwerinol, fel y teimlai cynulleidfaoedd nad oedd y pregethwr ond gwerinwr coeth wedi troi i mewn am dro i gael ymgom â hwy—efe'n digwydd bod ar ei draed yn y pulpud, a hwythau'n digwydd bod yn eistedd yn eu seddau. Yr oedd yn hŷn na'r cyffredin yn dechreu pregethu, ond barnai i hynny droi'n fantais iddo. Dichon," meddai, "i mi ddwedyd mwy o fy meddwl fy hun yn y pulpud na llawer, am fy mod yn hynach yn cychwyn." Ac un o'i nodweddion amlycaf fel pregethwr oedd "dweyd ei feddwl ei hun."

Yr oedd ei fater bob amser yn ffres, a'i driniaeth o hono yn dangos mwy o feddwl a gwrtaith personol nag o ddysg ac ysgolheigdod. Darllenai lawer iawn i mewn i'r Ysgrythyr, yn enwedig yr Hen Destament a'i hanesion, gydag ymdrafod personau a chenhedloedd. Esboniad y synnwyr cyffredin a'i cynhygiai ei hun iddo ef, ac a'i cymeradwyai ei hun i eraill wedi y clywent ef. Yr oedd rhai o bynciau uwchfeirniadaeth wedi eu cynnyg eu hunain iddo ef amser maith cyn bod nemor ysgrifennu amlwg arnynt. Yr oedd ei Ddiwinyddiaeth yn rhydd ac agored, a chadwai le i'r goleu newydd ar bob awr. A dywedai "ei feddwl ei hun" fel efe ei hun bob amser. Yr oedd ganddo ef ei ddawn, er mai ychydig ddewisai alw dawn arno, am na wyddent y gwahaniaeth rhwng dawn a sŵn. Dywedai un a'i hadwaenai yn llwyr, " Yr oedd ganddo fasged dda, ond corn gwael." Ac am nad oedd y corn yn galw'n uchel, nid oedd y dorf yn dod i weld beth oedd yn ei fasged.

Gorchwyl anodd fyddai darlunio'i ddawn. Yr oedd ei lais yn enillgar, ac ni synnwn iddo ennill ei wobr gyntaf am ganu, ond ni fyddai'n gwneuthur llawer o hono, ac nid ydym yn cofio iddo erioed ryfygu i ymgynhyrfu i unrhyw gload hyawdl ar araith na phregeth. Ni chodai'n uchel, ond gofalai ddisgyn yn yr un man. Yr oedd ei frawddegau yn fyrion ac yn glir, a gellid yn hawdd benderfynu sŵn eu diwedd wrth sŵn eu dechreu. Ond yr oedd math o hyawdledd yn anesmwythdra mwyn ei law yn gafael yn ei farf, yn ysgwyd yn gynnil, gan bwyso'r penelin ar y pulpud, a'r traed yn cynnil symud, ac yn aflonydd. Arwydd arall oedd symud y llyfrau fyddai ar astell y pulpud. Ni ellid meddwl am dano'n ymdrechu bod yn ddoniol, nac yn gwneuthur chware i gyrraedd effaith. Nid oedd dim a ffieiddiai'n fwy yn eraill na hyn. Cymerai ei symud yn ddwfn gan hyawdledd naturiol, ac angerddoldeb didwyll, a chlywsom ef yn cyfaddef i bregethwr, yn syml un tro, ar ol pregeth effeithiol, "Fachgen, ti'n halest golli deigryn, ta beth"; ac yr oedd diolch lawer yn y frawddeg. Naturioldeb, gwreiddiolder a ffraethineb oedd ei nodweddion amlwg fel pregethwr, fel ymhob peth. Yn y bregeth, yr oedd ei ffraethineb bob amser dan reolaeth hyfryd, a digon o hono'n cael ei ollwng i mewn i loywi ac ariannu'r mater fel goleu lloer ar grŷch afon.

Er na chymerodd ofal eglwys erioed, yr oedd syniad ei sir, yr hon a'i hadwaenai oreu, mor uchel am ei wasanaeth, fel pregethwr, fel yr ordeiniwyd ef yn y Christian Temple, Amanford, ar y 25ain o Fehefin, 1894, fel y gellid ei wahodd i eglwysi i weinyddu'r ordinhadau; ac nid yn aml y gwelwyd ordeiniad mor boblogaidd. Yr oedd y capel yn orlawn, a'r wlad a'r cylch yn llawn o'r stori. Elai ef i'w hynt a'i orchwyl yr un mor syml a chynt, fel pe na chymerasai dim le; ond bu dda gan lawer eglwys ei gael i'w "chymundeb "; ac mor naturiol y gwnai'r cyfan!

Yn y Christian Temple y buasai'n aelod hyd oni chodwyd Capel y Gwynfryn, ac y sefydlwyd Eglwys yno; ac am godi'r capel hardd hwnnw, ni fu neb fwy ei bryder nag efe. Tlws oedd gweled ei ofal yn ei gylch, ac ni ddaeth agor capel newydd â mwy llawenydd i neb nag a ddaeth agor y "Gwynfryn iddo ef. Ar ryw olwg, dyma'i gofgolofn ef, ac anrhydedd mwy ni cheisiai. Gwnaethai englyn coffa iddo'i hun, a phan ddaeth hen fyfyrwyr y "Gwynfryn" i osod cofaen am dano yn y capel, aeth yr englyn hwn ar y maen:—

Yn naear y capel newydd—gwelir
Cofgolofn y prydydd;
A'i gorff sâl yn gorffwys sydd
Ym mynwent Gellimanwydd.


Nodiadau

[golygu]