Cofiant Watcyn Wyn/Rhagair
| ← Cynnwys | Cofiant Watcyn Wyn gan Penar Griffiths |
Ei fyd a'i fro → |
RHAGAIR
GALLASWN feddwl am lawer gorchwyl llenyddol haws ei gyflawni nag ysgrifennu Cofiant Watcyn Wyn; ond ni allaswn feddwl am un hyfrytach i fy nheimladau. Ofnais y gwaith yn hir, er i'm bryd redeg yn llwyr arno. Rhy dda y gwyddwn am haeddiant y gwrthrych, a'i safle yng Nghymru, i mi allu arfer unrhyw hyfder a diofalwch ynglyn â'r peth. Teulu'r Bardd a'm ceisiodd at y gwaith, ac ni allaswn ond ufuddhau, a gwneuthur yn ol fy ngallu a'm cyfle.
Adnabum Watcyn Wyn am hir flynyddoedd, ac yn hir cyn ei adnabod, yr oedd ei enw a'i waith wedi'm hennill. Od yw edmygedd o'r gwrthrych yn nod angen cofiannydd, nid wyf fi brin o hynny. Tybiais weithiau fy mod yn ei anwylo yn rhy fawr i'm barn weithredu'n ddiduedd. Hyderaf na chroesais y llinell derfyn; oblegid gormod oedd fy mharch i unionder meddwl Watcyn Wyn i'm gollwng i'r rhysedd hwnnw yn hawdd. Fy awydd cryfaf oedd ei ddwyn ef ei hun yn ol i ddywedyd ei stori, ac ni fynnwn i ddim ei guddio. Oherwydd hyn ni fum yn ol o ddefnyddio'i leferydd ef ei hun yn helaeth, lle bynnag yr ymweddai.
I sicrhau cywirdeb ffeithiau, darllenais y gwaith hwn amryw weithiau i'w gyfeillion cyfoed, i'w deulu, ac i Gwili-ei gydlafurwr yn Ysgol y Gwynfryn. Yn hyn bu Gwydderig a Mr. T. M. Evans yn gymorth mawr; ac nid llai Mrs. Watcyn Wyn; ei fab (Mr. George Williams, B.A.); a'i ferch (Miss Mary Williams). Heblaw rhoi ei gymorth gwerthfawr gyda ffeithiau, rhoddodd Gwili ei law barod i'm cynorthwyo yng nghywiriad y proflenni. Cymered ef a'r cyfeillion eraill a enwais fy niolch cynhesaf. Fy niolch hefyd i Mrs. Phillips, Parc yr Ynn, am fenthyg rhai caniadau, ac am yr un hynawsedd i Mr. Evan Evans, Fferyllydd, Amanford.
Defnyddiais lythyrau cyfeillion ato, yn ol y galw, a chan nad oedd yn y rhai a geisiwn ddim cyfrinach, ni ymofynnais am ganiatad i'w defnyddio. Diolchaf i'r rhai sy'n fyw ohonynt am y cyfleustra.
Fy mwriad cyntaf oedd rhoi casgliad o weithiau barddonol Watcyn Wyn yn y Cofiant, ond trwy ymgynghoriad â'r teulu a rhai cyfeillion, penderfynwyd rhoi ail gyfrol at hynny. Yn fy ymdriniaeth à Watcyn Wyn, fel Bardd, felly, dilynais ei awen yn ei Lawysgrifau cynnar anghyoeddedig, gan obeithio drwy hynny allu dangos ei thwf ymlaen drwy'r ail gyfrol. Hawdd y gwelir arwyddion o fynych wendid yn ei ymdrechion bore, ond o'i weled yn dysgu cerdded, haws fydd mawrhau ei ymdaith gref pan y delom ati.
Ceisiais gyfarfod â dymuniad llu o'i gyfeillion a'i edmygwyr drwy roi lle i chware difyr ei awen gydag amgylchiadau lleol a chartrefol, yn "Chware Awen." I'w ardalwyr yn neilltuol, heb hwn, ni fuasai'r Cofiant yn Gofiant Watcyn Wyn. Yn y "chware" hwn, disgwyliant ef yn ol atynt eilwaith, gyda'i ergyd parod a'i ddigrifwch glân, i dreulio aml noson o aeaf ar eu haelwydydd.
Awyddus oeddwn i'r Pregethwr gael ei gyfle i godi ei bulpud yn y Cofiant, ac ni bydd heb ei gynulleidfa. Meddai Wordsworth, "I sing—fit audience let me find, though few." Y "few" a siaradai am bregethau Watcyn Wyn, ond perthynent i'r "fit audience" er hynny. Daw praidd tebyg eto i'r borfa lâs sydd ar feysydd ei feddwl.
Wrth gofio lle Watcyn Wyn ym mywyd goreu Cymru, ni raid ymddiheuro am ddwyn allan Gofiant iddo. Bu iddo le mawr ac annwyl iawn ym mywyd ei wlad. Cyfnod pwysig yn ei hanes hi a fu deng mlynedd ar hugain olaf ei fywyd ef, yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn addysgol, a cherddodd ef gyda'r lluman ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd pyrth ei feddwl yn agored yn wastad i groesawu pob gwelliant. Ni chaeid hwynt na dydd na nos.
Heblaw meddwl yn dlws a dwys ei hun, cychwynnodd eraill i feddwl, ac i feddwl yn eang a naturiol. Anaml y cychwynnodd neb yng Nghymru fwy i feddwl, ac i feddwl mwy. Diddorol yw meddwl am y ddelw Gymreig a roddai ar ei fyfyrwyr, a hynny yn ddiymdrech. Gwnelai ei ysbryd ddisgyblion boddlon. A geir ysgol yng Nghymru â chynifer o gymeriadau llenyddol amlwg wedi cychwyn o honi? Dyna Gwili, Crwys, Mafonwy, a J. T. Job, gyda'r Goron a'r Gadair Genedlaethol yn eu meddiant—y Goron yn eiddo'r tri blaenaf, a'r naill a'r llall yn eiddo " Job." Y mae Gwili yn ymdaith yn amlder ei rym, ac yn parhau i oleuo hyd ymhell yn nerth ysbrydiaeth ei hen athro.
Enillodd amryw o'i fyfyrwyr gadeiriau lleol a thaleithol, ac y mae amryw eraill o'i fyfyrwyr yn wŷr o safle yn y pulpud, yn Lloegr ac yng Nghymru; rhai o honynt yn wŷr graddedig ac amlwg, ac eraill yn bregethwyr y rhaid dweyd rhywbeth gwell nid drwg, wir," chwedl Herber, ar ol eu gwrando.
Arweiniodd gydag addysg yn ei sir, a cheisid ei farn a'i gyfarwyddyd lle ni cheid ei bresenoldeb.
Anaml y carodd Cymru neb yn anwylach nag y carodd hi ef, ac anaml y gwasanaethodd neb Gymru yn ffyddlonach nag y gwasanaethodd efe hi.
Penllwyn,
- Hydref 21, 1915.