Neidio i'r cynnwys

Cofiant Watcyn Wyn/Y bardd

Oddi ar Wicidestun
Y golygydd a'r llenor Cofiant Watcyn Wyn

gan Penar Griffiths

Y bardd (parhad)

Y BARDD.

PA mor gynnar y dechreuodd farddoni o ddifrif! Gwelsom ei bennill cyntaf i'r Ci Kiper,' a golwg ddigon diniwed oedd ar y pennill, beth bynnag am y ci. Meddai'r Bardd yn chwareus, wrth son am roi nodiadau eglurhaol ar y pennill,' ymhen blynyddau wedi rhoi o'r ci hwnnw, druan, ei gyfarthiad olaf, "Credaf fod braidd ar y mwyaf o nodiadau eglurhaol yn cael eu rhoi wrth farddoniaeth y dyddiau hyn—er mwyn ceisio dangos y farddoniaeth, gallwn feddwl."

Tybiwn ei bod wedi dod yn " Hydref, 1868," cyn i'w awen fynd yn ddigon difrifol i roi ei chynhyrchion i'w cadw mewn llyfr ysgrifennu. Beth barodd iddo roi ei gynhyrchion cyntaf mewn llyfryn wedi ei golofni ar gyfer cyfrifon ariannol, ni wyddom. Dysgodd ef, fel eraill, yn ddiau, mai ychydig o eisiau'r colofnau syth hyn fu ar yr awen—yn arbennig yng Nghymru. Mynd ar draws i'r money columns" mae hi. Llinell wael i wneuthur arian fu'r awen erioed yng Ngwalia.

Dwy geiniog i'm digoni,
O les hon ni welais i.


meddai un bardd swrth. A chynghorai bardd arall ei fab i ysgoi'r wobr sy'n dilyn barddoni yn y Gymraeg, yn rhy aml,

Sâl oesol fydd dy sleisen,
A dau droed a fydd dy drên.


Y truan trist wedi methu ennill gwobr yn yr Eisteddfod i dalu ei drên adref, yn gorfod cerdded tuag yno!

Beth bynnag, ysgrifennu ar draws y colofnau sythion hyn wnaeth Watcyn Wyn, i ddechreu, gyda dau englyn cyfarchiadol i'r llyfr, gan "Gwydderig," ar ei gychwyn:—

Hen Awen, dyma Lyfr newydd,—i ddal
Meddyliau ymennydd;
Hyd ei ddail rho dy ddelw rydd,
Dy lun yn odlau awenydd.


Llyfr y Bardd, llafur ei ben,—athrylith
Ar ei hwyliog aden;
Parabl ei waith, pur heb len,
Odlau hyawdl ei awen.


Ac am bob llyfr barddoniaeth a gyhoeddwyd gan Watcyn Wyn, gellir dywedyd, "hyd ei ddail dy ddelw rydd!"

Ni chanodd neb o feirdd Cymru ei hun yn ffyddlonach nag efe. Nid anodd iawn i fath arbennig o fardd fod yn well dyn yn ei farddoniaeth nag yn ei fywyd. Nid yw'r farddoniaeth bob amser yn adsain wir o ysbryd a thymheredd y bardd. Gall anian rwgnachlyd, groes, ganu'r llinellau llonnaf a digrifaf, ac anian gybyddlyd fod yn hael mewn pennill. Ond yr oedd Watcyn Wyn yn ei farddoniaeth. Yr un oedd ef yn ei gartref ag yn ei gân—fe'i canodd ei hunan!

Bu dau gyfnod pendant ar ei awen—y cyfnod y cymerai boen gyda'i feddyliau a'u diwyg, heb ymestyn at unrhyw goethder manwl, a llawer llai, dwyn i mewn unrhyw chwŷdd—perygl mawr awen ieuanc; a'r cyfnod y diofalai fwy nad oedd raid, ac weithiau, fwy nad oedd weddus, gyda diwyg ei gân.

Am ei gyfnod cyntaf, byddai'r boen a gymerai, yn fwy ac yn llai, yn ol y mater a'r achlysur; ond hyd yn oed pan yn canu'n ddigrif, yr oedd, yn y cyfnod hwn, yn canu o ddifrif. Yr oedd graen ymroi ar ei linellau. Yr oedd ei ddigrifwch yn ddigrifwch effro, cyfan. Pan ganai ar destynau fel "Daeargryn," "Ac ni bydd nos yno," "Yr angel, Mae rhywbeth yno i mi," a'u tebyg, yr oedd y difrifwch hwn yn blodeuo mewn llinellau cryfion—wedi eu saernïo yn dda—heb fod yn dangos unrhyw orofal,—mewn dilyniad meddyliau, ac mewn tlysni a naturioldeb awen. Ceid aml i englyn cryf, glân a buddugoliaethus, megis y rhai hyn:

Y GORON DDRAIN.

Gwnaed i eneiniog nen,—y Goron Ddrain
Gerwin ddrych cenfigen;
A gwawd byd yn gwaedu'i ben,
O drywaniad pob draenen!


Y GWLITHYN.

O lwythog fron nef daw'r gwlithyn,—ar rudd
Bore o haf, dlws ddeigryn;
Eneiniog urdd, ar ben gwyn
Y gwannaidd wyw eginyn!


EFENGYL.

Annwyl lais Efengyl hedd,—i fyd erch,
Tafod aur trugaredd;
Rhydd râs Iôr oddiar ei sedd,
Yn galw i'w ymgeledd.


YR ADAR.

Telynorion llon y llwyni—a'u diail
Bêr hudolus gerddi;
Pan yn gôr yn telor,
Daw rhyw nef i'n daear ni.


YR ADERYN DU.

Ar lwyn yn oriel anian—o'r drain daw'r
Aderyn du allan;
Chwery ei bib aur i chwiban
Ei frig hwyr a'i fore gân.


Mwy buddugoliaethus fyth oedd "Caneuon" a darnau rhyddion y cyfnod hwn. Dyma rai cyffyrddiadau:—

"MOR LLON YDYM NI."

Mor felys yw canu,
Er gwaethaf y byd,
Cawn ollwng i fyny
Ein gofid i gyd;
Nid erys gofidiau yn unman,
I wrando plant bychain yn taro y cytgan—
"Mor llon ydym ni."

Mae'r goedwig y gwanwyn
Yn gyngerdd o hyd;
A brigau y glaslwyn
Yn gytgan i gyd;
A'r awel yn cerdded â chân pob aderyn,
Yn gymysg a'i gilydd, o frigyn i frigyn—
"Mor llon ydym ni."

Mae plant bach yn canu
Emynau'n y byd,
A'u lleisiau'n dyrchafu
I'r nefoedd ynghyd;
A'r adsain yn disgyn fel wedi 'phereiddio,
A lleisiau nefolaidd y plant bach sydd yno—
"Mor llon ydym ni."


SEREN BETHLEHEM.

SERYDDWYR, Doethion, gwlad y dwyrain draw,
Darawyd i ryw berlewygol fraw,
Gan ymddangosiad seren ddieithr, dlos,
Ar fron y nef ynghanol sêr y nos;
Er fod y llèn yn sêr o rif y gwlith,
Hon oedd yn seren hynod yn eu plith;
Llygad pob serydd dremiai arni'n gyfan,
Fel pe'r ffurfafen fawr heb ond ei hunan!
Rhyw seren newydd wedi ei chreu'r nos hono,
Fel pe i gànt y nefoedd newydd neidio!
Seren na wyddai serydd ddim am dani,
Seren ar ddeddf seryddiaeth wedi tori;
Rhyw seren o'r ddiddymdra wedi cyneu
I ddangos y Gwaredwr gyda'i goleu;
Rhyw seren yn serenu gwawr i'r byd,
Seren a mwy o Dduw na'r sêr i gyd!

Eu llygaid fel seryddwyr oedd yn pylu,
Wrth weled ei gogoniant yn pelydru;
Eu llygaid gweiniaid dery ei gwawl yn gibddall,
Rhaid edrych arni a rhyw olwg arall,
A golwg ffydd yr hen broffwydi'n unig
Yr olwg sydd yn gwel'd yr Anweledig.

Y seren a adnabu llygad ffydd,
Adnabu ei llewyrch fel ei "Seren ddydd."

Symuda'r seren fyw fel llygad angel
Yn araf tua phwynt y bwthyn isel,
Lle safodd gyda thremiad hawddgar llonydd
Uwch ben y cryd a ddaliai ei Chreawdydd!


Yr oedd digrifwch y cyfnod hwn hefyd yn fwy o dan ddeddf nag oedd digrifwch amryw o'i ddarnau diweddaf, yn yr ystyr o ofalu am ddiwyg. Er y canai yn rhydd iawn bob amser, a'i fod yn feistr ar y grefft o wneuthur i'w linellau an—ogyhyd ieuo'n esmwyth, eto cadwai law feistrolgar ar yr awenau, a chai darllenydd y mwynhad o chwerthin heb deimlo fod dim pwysig yn cael ei aberthu, oddigerth y gofal ynglyn âg ambell air lled sathredig, ac o dafodiaith leol, megis.pan yn disgrifio" Newyrth Dafydd" yn gwneud y stori'n fwy wrth ei dywedyd:—

Ond rhoddodd lawer cetyn, do—
O'r hen wrth gwt y newydd.—


Yn "Tipyn o Go" drachefn, pan yn ysgrifennu, "baso fonclust," a "shwd leuad," a " ta beth," yn " Mae nhw'n dweyd," a "mynd a'i fywyd bant" yn "Gwely marw hen Dad-cu," ac amryw o rai tebyg.

Gwyddom mai'r galw mawr a fuasai am ddarnau adrodd agos a digrif, a gyfrifai am lawer o hyn, ac nid ennill i awen Cymru fuasai hudo awen Watcyn Wyn fawr pellach yn y cyfeiriad hwn nag y gwnaed; er y gallwn ddywedyd gyda hoffter, fod ei holl ddigrifwch yn lân. Eithr yr oedd mawr eisiau i'w awen gael ei hamdden i ganu'r caniadau gwell a gynhwysai werth parhaol.

Yn yr ail gyfnod, cadwodd ei ddigrifwch yn gyfoethog, ond aeth i ddiofalu ynghylch mydr a chorfan i raddau gormodol, gan ymfoddloni bod yn llai meddylgar ac awengar,

nid oedd hyd yn oed ei ddigrifwch mor llwyddiannus pan esgeulusai'r elfennau pwysig hyn. Daethai i feddwl cymaint am y pwys o gael y pennill a'r englyn adref i feddwl a chof gwerin, ac yntau yn naturiol yn un na chredai mewn cymryd trafferth gormodol gyda dim, fel y cafodd ambell gân ac englyn adenydd pan ddylent aros adref i fagu plu. Ar awr lac fel hon, rhy barod oedd i ymfoddloni ar ganu fel hyn:—

Gwynt y dwyrain, y mae'n sych,
Gwynt yn llawn o lwch a nych,
Heda dros gyfandir oer,
Nid wyneb haul ond cefn y lloer;
Daw a'. sychter ar ei fin
I gynhyrfu peswch blin,
Daw a gwenwyn gydag ef
Gwenwyn drwy holl awyr nef!

Y mae glesni coed y glyn
Heb ymddangos hyd yn hyn.
Dim ond llwydni dros y llawr,
Ië, dim ond llwydni mawr,
Gruddiau llwydion ymhob lle,
O na throai'r gwynt i'r dê.


BLWYDDYN NEWYDD DDA.

Da gennym unwaith eto fyw i gyfarch ein gilydd,
Gyda Blwyddyn Newydd Dda, ar ddechreu y flwyddyn newydd.

Nid am fod yr hen wedi myned, 'does neb yn llawen am hynny,
Anodd ffarwelio â blwyddyn—wedi byw cyhyd yn ei chwmni;
Ond am gael byw i weled dechreu un flwyddyn eto,
Blwyddyn yn lle yr un sydd wedi myned heibio.

Dyfod yn lle ei gilydd mae ein blynyddoedd i'n gweled,
Mae'r flwyddyn newydd yn dod ar ol i'r hen flwyddyn fyned;
Nid ynt yn gwthio ei gilydd, ac ni ddaw dwy yr un adeg,
Er fod pob un yn prysuro, ac er fod y ddwy yn rhedeg.


'Run yw'r helynt nos a dydd,
Dim ond son am ryfel sydd!
Rhyfel yn y dwyrain bell,
Gartref nid yw nemor gwell.

Beth yw'r drwg sy'n cael ei wneud,
Mae'n dibynnu pwy sy'n dweyd:
Brwydro bythoedd yn Transvaal,
Nes gwneud calon iach yn sâl.

Brwydro yn ein senedd sy,
Am y brwydro yno fu.


Dyna'r tiroedd isaf y cyffyrddodd aden ei awen ef â hwy. Ond ei duedd i ymbleseru, ac i ddod yn agos yn ei gân, a gyfrifai am y cwbl—dwyn y wers adref ar ei thraul ei hun.

Digon o brawf nad yr awen a'i gadawsai ef, eithr efe yr awen, yw'r ffaith iddo ef ar adeg y dull didaro hwn, ganu rhai o'i ganiadau goreu. Dyma efe yn Hydref, 1890, heibio i berllan y Parch. W. Davies, Llandilo, ac meddai mor swynol, glân a chyfan:—

Sŵn afalau'n syrthio'n dawel,
Heb eu hysgwyd gan un awel,
Miloedd ar y prennau wedi
Dod yn addfed, ddiwedd Medi.

Addfed afal ar ol afal,
Yno'n cwympo'n ddyfal dyfal;
Gwyn ei fyd yr hwn a drigai Y
Yn yr ardd o dan y brigau.


'Roedd y melys ddisgyniadau
Fel yn rhifo yr eiliadau;
Yr oedd cangau ar bob coeden
Fel yn chware miwsig Eden!

Tynnodd llwydrew ysgafn Medi
Lawr, fendithion dirifedi;
Yn eu sŵn 'roedd dyn yn gwledda,
Beth allasai fod eu bwyta!

'Roedd pob brigyn yn garedig,
'Roedd pob cangen yn haelfrydig,
Yn eu sŵn 'roedd caniad newydd
Am fendithio coed y meysydd.

Yn y coedydd rhwng y brigau,
Miwsig peraidd iawn a drigai,
Afal coch ac afal melyn,
Ar yn ail yn chware'r delyn.

Boed i fiwsig yr afalau
Ddal i ganu am flynyddau,
I gadw teulu y gweinidog
Fel afalau'n iach a gwridog.


Ond gwan a'i cryf, digrif a'i difrif, fyddai'r hwyl, yr oedd pob llinell yn cerdded heol wen moes, ac mor ddiwenwyn a'r gwlithyn. Ni all Cymru gofio pennill nac englyn annhirion ganddo, na chwaith gân fostfawr, ergydgar. Y Golomen Wen oedd ei awen ef—" diddanydd gwlad o ddynion!" Hyd yn oed pan fyddai'i saeth yn llym, byddai'n lân. Gwnaeth ambell englyn i ambell un na allai neb ond un cyfoethog o natur dda a ffraethineb anturio'i wneuthur, heb gael drygair i'w awen. Ond cai ef son am bregethwr ar dro dilewyrch yn

Rhoi dŵr ar odfa'r Deri
(lle ym Morgannwg).


heb roi'i hun mewn "dŵr poeth!" Yr oedd ei ysbryd yn ddiogelwch iddo!

Pan ymgadwai heb ddiofalu'n ormodol, byddai cân well yr ail gyfnod yn well hyd yn oed na chân well y cyfnod cyntaf, oherwydd yr addfedrwydd cyfoethog a'r naturioldeb perffeithiedig a ddaethai i mewn fwy-fwy i'w awen. Ar adegau fel hyn, codai ei deml heb sŵn y morthwyl a'r cŷn, ac mae gwerin Cymru yn cerdded i mewn iddi gyda hyfrydwch a pharch na theimlwyd ac na ryglyddwyd eu rhagorach wrth borth nemor awen Gymraeg.

Yn ystod y cyfnod hwn y canodd ei faled "Pegi Lewis," ei "Ganeuon y Safonau," ac yn neilltuol ei Benillion Telyn." Gydag ambell eithriad, ni tharawodd y nôd mor fuddugoliaethus yng Nghaneuon y Safonau ag a wnaeth yn y lleill a enwasom. Yn ei byd ei hun y mae'r "Faled " yn llwyddiant, wedi ei llunio'n dda, yn Gymreig ei harddull, ac yn llawn chware awgrymiadol iach:—

Cadd y fuwch ei chloi i fyny
Yn y beudy i newynu;
Yno brefai yn glymedig
Foliant crefydd sefydledig.
Ond os oedd "y cyflogedig,"

Am gadw'r eidion yn glymedig;
'Roedd Pegi Lewis wedi gwylltu,
Yn tyngu gwnai eu datgysylltu.

****
Y mae Pegi'n rhydd ei gwala,
Mae'r fyswynog heb ei dala,
Yn dychlamu ar fynyddoedd!
Yn pori gwellt y mil blynyddoedd!


Prin y mae angen dywedyd mae "Baled " â'i hwyneb ar frwydr yn "rhyfel y Degwm" yw "Pegi Lewis."

Caneuon i blant ysgol yw "Caneuon y Safonau," ac fel y gellid disgwyl, mae tinc siriol iddynt oll.

Dyma bennill neu ddau o "Gân y bugail ar droad y dydd":—

Hoi! hoi!
Mae'r dydd wedi troi!
Mae'r haf yn dynesu
A'r gacaf yn ffoi.
****
Bydd, bydd,
Rhyw wên ar bob grudd,
Wrth weld haul yn estyn
Dau derfyn y dydd.
****


Dos, dos,
Dywyllwch y nos,
Ni saif ar y mynydd
Ond gwawrddydd wen dlos.


Am y "penillion telyn," mae llu o honynt " yn mynd â'r maen i'r wal." ac y mae'r caniadau a geir yn eu mysg ymhlith y rhai goreu a gyfansoddodd erioed.

Yn yr hamdden addfed a nodweddai ei awen ddiweddar, pan ddeuai i ganu ar ol ambell hen gyfaill yn y "Diwygiwr," neu ar ddalennau eraill, byddai'r ffrwyth yn felys odiaeth. Cymerer ei gân fwyn i

"HEN WILLIAM Y GWEYDD," CWMLLYNFELL.
("Coffa da am dano.")

A welsoch chwi WILLIAM Y GWEYDD erioed?
Yn cerdded yr heol mor ysgafn ei droed,
Yr oedd wedi byw yn fab canmlwydd ymron,
Ond yn dal hyd y diwedd mor gwmws a'r ffon;
Arno fe nid oedd blinder na blwyddi y llawr,
Na chyfoeth na thlodi'n effeithio fawr,
Nid ydoedd y ddaear a'i gofal a'i gwaith,
Yn poeni fawr iawn ar ei ysbryd ychwaith,
Cael ambell lygedyn o oleu y nef,
Yn nh'w'llwch y byd oedd pob peth geisiai ef.

Pan welsom ef gyntaf 'roedd yn mynd ar ei oed,
Er yn cerdded fel bachgen mor ysgafn ei droed,
Yr ydoedd ei lais wedi lleddfu yn llwyr,
A'i dôn oedd yn llawn o bruddnodau yr hwyr;
Nid oedd ei holl siarad ond son am a fu,
Cymdeithion ei febyd wedi blaenu yn llu,
'Roedd enwau SHON GWILYM, a DAFYDD DDOLGAM,
A ROWLANDS, a PRYSE ar ei dafod pob cam,
A llu o gyfeillion fu ganddo erioed,
I gyd wedi blaenu, yntau'n ysgafn ei droed
Yn dilyn o'u hol, ac yn dweyd "fel a'r fel
Yr oedd yr hen bobol, ïe, ïe, wel, wel!"

Da cofiwn am dano ef yn y tŷ cwrdd,
O dan yr hen bulpud yn ymyl y bwrdd;
Ni chlywid ei sŵn ef yn cerdded y coed,
Na'r cerrig oedd yno, gan mor ysgafn ei droed!
O! fel 'roedd yn gwylio wrth fynd i Dŷ Dduw,
Rhag gwneuthur un twrf nac un sŵn o un rhyw,

Ac yno bob amser yn gynnar mewn pryd
I gael yr addoliad yn gyfan i gyd!
Ac er nad oedd neb yn ei glywed yn dod
'Roedd pawb yn y capel yn gwybod ei fod
Ef yno yn wastad i helpu'r gweddïe,
Clywid sŵn ei "Amen," a "wel, wel, ïe, ïe!"
Yng nghryfder ei brofiad yr oedd ei fawr nerth,
Ac yng ngwres ei galon yr oedd ei fawr werth,
Yn ymdaith y moli pan oedd yn hen oed,
'Roedd ei deimlad a'i galon mor ieuanc a'i droed!
Dilynai'r pregethwr â'i law ac â'i lef,
A mynych pregethai'n fwy doniol nag ef;
Ni chaffai un sylw ddim dianc ei glust,
Ac i bob erfyniad, ei lais oedd yn dyst,
A thorrai ei deimlad yn ffrwd o weddïe,
"Amen, a wel, wel! ho, ho, ïe, ïe!"

Nid oedd yn rhyw gawr i esbonio Gair Duw,
Esboniad y profiad, ar hwn 'roedd yn byw,
Os nad oedd yn gallu esbonio bob pryd,
'Roedd e'n gallu teimlo y cyfan i gyd;
Cof gennym am ddosbarth yn darllen rhyw dro,
Yng nghylch Paul a Silas yng ngharchar dan glô,
A rhyw ran o'r wers yn dywyllwch o'r braidd,
Yn gofyn ei farn i HEN WILLIAM Y GWEYDD ';
"Fi ddwedach chwi 'mhrofiad yn awr," ebe fe, "
Buasai yn dda gen i fod gyda nhw yn y lle,

I uno'n y canu, y mawl, a'r gweddïe,
Buasai'n dda gen i fod yn y jail, ie, ie."
Fe ddaliodd i'r diwedd er cymaint ei oed,
Yn wresog ei galon ac ysgafn ei droed,
Dihangodd o'r ddaear i'r nefoedd i fyw
Ar ol y cyfeillion a'i blaenodd at Dduw;
Mae heddyw'n y nef, gyda Silas a Paul,
A rhwymau pob carchar am bythoedd ar ol!
Mae gyda'r hen frodyr, hen ffryndiau'r hen fro,
Yn dweyd yr Hen Hanes, a "wel, wel," a "ho, ho!"
A chredwn fod clywed ei lafar a'i lef,
Yn ddigon i greu hwyl Gymreig yn y nef!


Agos yr un yw naws ei awen pan ddaw i ganu ar ol "Mary Tŷ Cwrdd." Hen wraig hynod am ei diniweidrwydd, ei ffyddlondeb crefyddol, a'i gofal dros Fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin, oedd hi, ac yn gwarchod Capel Heol Awst, y dref honno. Rhy aml i'w hadrodd yw'r troion direidus a wnaed â Mary gan y myfyrwyr! Pan wnaed tysteb iddi, nid digon i Watcyn oedd anfon y "geiniog" heb anfon y gân." "Diwedd y geiniog oedd y gân" y tro hwn! Meddai:—

Yr hen fyw chwaer, rhof ran fach i—estyn
Tysteb deilwng iddi;
Diau cesglwch, heliwch chwi,
Arian mawr iawn i MARI.


Gyda'i marw hi daeth y gân, a dyma rannau o honi:—

Mae llawer yn cofio am MARY TY CWRDD,
Daeth diwedd ei dyddiau, aeth hithau i ffwrdd,
Cyrhaeddodd ei blwyddi i wyth deg ond dwy,
Fuasai neb yn anfoddlawn iddi fyw'n llawer hwy;
Nid oedd yr un gelyn gan MARY drwy'r byd;
Gwneud ffrindiau bu MARY drwy'i bywyd i gyd.

Mae'r tafod yn fud wedi siarad yn hir,
Mae'n chwith gennym rywfodd ei dewi yn wir;
Ni a'i clywsom yn fynych yn dwedyd y drefn,
Ond ni chlywsom hi 'rioed yn trin neb yn ei gefn;
Os trin yn y wyneb wnai MARY TY CWRDD,
Canmolai'n y cefn wedi i'r cyfaill fynd ffwrdd.

******
Er nad oedd ei dysg yn aruchel a chlir,
Yr oedd ei gwybodaeth yn helaeth yn wir;
Hi wyddai gyhoeddiadau yr holl wlad o'r bron,
Dydd-lyfr pregethwr ardderchog oedd hon;
Adwaenai gerbydau Y Mis bob yr un,
Er nad oedd yn berchen ar gerbyd ei hun.

******
Adwaenai bob dyn i Hewl Awst ddoi i'r cwrdd,
A gwyddai ei enw cyn iddo fynd ffwrdd,
Hi deimlai'n anrhydedd gael agor y ddôr,
Ac arwain dieithryn i'w le mewn rhyw gôr;
'Doedd dim a'i boddlonai yn fwy dan y ne'
Na llenwi y capel hyd na byddai lle!

Gwell ganddi gael cadw y drws yn Nhŷ Dduw,
Na phe cawsai balas brenhinol i fyw;
Wrth byrth tŷ yr Arglwydd bu fyw i hen oed,
Os byr oedd ei cham, ac os araf ei throed
'Roedd MARY y cynta'n y capel bob cwrdd,
A'r olaf bob amser yn myned i ffwrdd.

******


Mae MARY yn huno hun dawel o hedd,
Yn ymyl y capel darparwyd ei bedd,
A chredwn y bydd—nid yn hen ac yn wan—
 Ar fore y codi y cyntaf i'r lan,
Yn dweyd wrth yr angel caredig mewn pryd
Pa le mae'r ffyddloniaid yn huno i gyd.

******
Mae'n adwaen y fynwent a'i holl deulu'n awr,
Hi ŵyr am bob un sydd yn huno'n y llawr,
Mae'r tir iddi'n dir cysegredig bob darn,
A bydd yn Dir Sanctaidd hyd fore y farn,
Y dydd prysur hwnnw—bydd "MARY TY CWRDD "
Y cyntaf i fyny—a'r olaf i ffwrdd. "


Yr oedd y difrifwch ymdrechgar a welir yng Nghaniadau ei gyfnod cyntaf at ei alwad pan ddaeth i ganu ei Bryddest Goronog "Bywyd"—buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr, 1881; ei Awdl Gadeiriol, "Y gwir yn erbyn y byd"—yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1885; ei Bryddest Goronog ar "George Washington"—yn Eisteddfod Chicago, 1893; ei Bryddest Gadeiriol ar " Abel"—yn Eisteddfod Dalaethol Ffestiniog, 1891; ei Bryddestau ar "Y Gorffennol," "Y Ddaeargryn," a'r "Groes"—ill tair yn fuddugol yn Eisteddfodau Talaethol y flwyddyn 1884—y gyntaf yn Ynyshir, yr ail yn Aberaeron, a'r drydedd yng Nglyn Ebwy—ac eraill. At hyn, yr oedd addfedrwydd awen i wella'r gwaith.

Nodiadau

[golygu]