Cofiant Watcyn Wyn/Y bardd a'i gartref
| ← Y bardd a'i ardal | Cofiant Watcyn Wyn gan Penar Griffiths |
Y paratoad goreu ar gyfer y weinidogaeth → |
Y BARDD A'I GARTREF.
GWYNFRYN" oedd y fan a enwogwyd fel ei gartref ef—tŷ gwych a godwyd ganddo ef ei hun, ar ochr y ffordd fawr a ä o Rydaman (Amanford) i Landeilo Fawr, gyda chae eang o'i flaen—lle i fyfyrwyr ei ysgoldy enwog, oedd ar ei gwr uchaf, i chware, gyda lawnt hardd, flodeuog, rhwng ei ffin uchaf a'r trothwy, gardd ffrwythlawn, gadwrus, gyda choed afalau a ffrwythau eraill wrth ei dalcen dwyreiniol, ffordd gudd rhwng dwy berth wyros yn arwain o ymyl y drws i'r Ysgoldy, a bryncyn gwyrddlas, yn union y tu cefn iddo, gydag ychydig dderw preiffion arno, fel gwylwyr tawel y fan! Dyna'r Gwynfryn!
Buasai'r Bardd a'i deulu'n trigo mewn mannau eraill, ond yma y cawsai efe le i'w syniad am gartref. Yr oedd ganddo syniad aruchel am amodau naturiol cartref,—syniad o'i urddas gweddus, enillgar; ac yr oedd yn foddlon aberthu llawer i gyrraedd ei ddelfryd. Nid heb aberth y daeth y Gwynfryn yn eiddo iddo. Credai mewn cartref, carai gartref, oblegid cawsai olwg uchel ar ei natur a'i gyfle. Canodd i'r "Cartref" cyn foreued a'r flwyddyn 1874. Gan gyfarch ei awen, meddai:—
Dyro i ni fynd i'r hen fan:
Tua'r hen fan ein ganwyd,
Yr hen dŷ, y llety llwyd:
O'r mwynhad geir yma i ni,
A rhwydd iawn fydd barddoni:
Yn yr hen awyr annwyl
Cei di wynt gwerth codi hwyl.
(Llawysgrif.)
Ond pe na chanasai iddo, gwnaeth beth gwell, gwnaeth gartref yn gân, a rhoddodd ei gân ynddo. Yr oedd ei syniad am dŷ i wneud cartref, yn gall, ac i ddyn o amgylchiadau gweddol gysurus, yn ymarferol. Tu ol i bopeth, credai mewn gwella a phrydferthu'r tir y trigai arno. Un dechreunos haf, ac efe a minnau yn rhodio llwybrau glân yr ardd, ac yn cyd
fwynhau'r tyfiant pêr, meddai wrthyf, "Wedi i mi fynd, ti elli ddweyd hyn am dana' i heb ddweyd gormod,—i mi wella'r tir lle bynnag y buo' i'n byw." A'r gwir a ddywedai. Yr oedd am i'r tir gael ei gyfle ynddo ef, a chredai mai felly y dylai fod. Iddo ef, yn y dyn gwell yr oedd y ddaear well i ddod adref. Dyna anadl ei gân ar "Abel":—
Gwel ABEL obaith. Cenfydd ef nad yw
Y felltith wedi dyfod o du Dduw.
*****
Sefyll i atal rhwysg y farn mae gras,
Mae rhannau o'r ddaear eto'n ddaear lâs.
Nid yw yr anifeiliaid ar y ddôl
Bob un yn fwystfil rheibus, erys ôl
Y diniweidrwydd gynt ymysg y praidd
Os yw y rhaib wedi ffyrnigo'r blaidd.
*****
Y bai yw'r felltith! Lle na welir bai
Ni ddisgyn melltith. Mae y pridd a'r clai,—
Mae'r ddaear oll,—yn felltigedig am
Fod llaw y triniwr yn ei thrin ar gam.
'O'th achos melltigedig yw y ddaear,' hyn
Yw'r unig felltith sydd ar bant a bryn.
O achos esgeuluso trin y llain
Y tyf mieri ac y cyfyd drain.
Yr oedd cariad at drefn, glendid, a chynildeb, yn ddwfn ynddo, ac ymhob peth o'i eiddo—ei wisg, ei gân, a'i gartref. Yr oedd pob pren a deilen ar dir y Gwynfryn yn annwyl ganddo, ac yn dweyd rhywbeth wrtho. Yr oeddynt yn fwy o blant nag o blanhigion iddo, a gwae'r neb, yn ddafad neu ddyn, roddai ewin neu ddant ar un o honynt. Dyma'i freuddwyd am ei gartref newydd, mewn englyn:
Eden a wnaf dan y ne',—Y Gwynfryn
Wnaf yn geinfro blode;
Olio addurn blynydde,
Eidal o wlad, model o le.
Buasai'n byw yn "Pontyclerc Cottage" cyn hyn, a rhaid oedd canu i hwnnw hefyd, yn 1885:—
Tŷ unig rhwng brig dau bren,—a dwy berth,
A dwy bur ysgawen;
Dwy heol am dŷ awen,
A dihafal ddwy wal wen.
Rhoddodd papur newydd y clod am yr englyn hwn i Gwydderig unwaith, ond ar dystiolaeth Gwydderig ei hun, Watcyn Wyn a'i cânt
Llawer dengawr dreuliodd hyd lwybrau'r ardd, a hyd y lawnt, yn dehongli iaith bywyd yn y planhigyn a'r gangen. Golwg fawr fyddai'r olwg arno, hwyrddydd haf, yn difyr gerdded y llwybrau, a'i gysgod mwyn yn ei ddilyn o lwyn i lwyn, gydag englyn neu gân yn y wê. Llawer cyfaill a rodiodd gydag ef hyd y llwybrau ym min yr ardd a'r cae; llawer ergyd ffraeth a roed, a llawer "pwl o beswch" a gafodd y Bardd, wedi'r chwerthin iachus. A llawer cysgod mawr a bwysodd ar laswellt blodau min y ffordd. Heddyw dyma Brifardd yn rhodio'r tir gam yng ngham â'r gwestywr, ac ymhell i mewn ym myd y Gadair a'r Goron. "Hwfa Môn " ydyw! Ac wedi pwyso a chloriannu, dyna ergyd ffraeth sydyn oddiwrth Watcyn Wyn nes bod y ddwyfraich yn datgysylltu, a'r Archdderwydd yn ymysgwyd â'i chwerthin; ac yna pesychiad mawr dros y tir—digon i lanw'r cae!
Yfory, cerddor gwych fydd yr ymwelydd, Dr. Joseph Parry, Mr. Emlyn Evans, Mr. David Jenkins, Mr. William Davies, Eos Morlais, Eos Dâr, Mr. Ben Davies, neu Mr. David Hughes; a bydd deuawd y "Bardd a'r Cerddor" yn cerdded y tir mewn chwerthin heintus.
Yn araf heddyw; Barnwr sydd yn rhodianna gyda'r Bardd. Gall mai'r Barnwr Gwilym Williams ydyw—un o gyfeillion agosaf Watcyn Wyn; hwyrach mai'r Barnwr Edwards, o'r America, ydyw, wedi croesi i Eisteddfod yng Nghymru, ac wedi cyrraedd y Gwynfryn ar ei dro! Yn araf! Nid i hynny y daethai'r naill Farnwr na'r llall yno, ond i rodio hyd lan ffrydlif arabedd y Bardd, a chwerthin fel bechgynnos y fro!
Daeth tro yr ysgolhaig! Syr John Rhys, neu Syr Edward Anwyl, heddyw! Rhodianna'n sych syber, fel pe daethai pwysau anrhydedd y Brifysgol yr holl ffordd ar eu hysgwyddau! Na, codai'r glaswellt eu pennau mewn syndod at hynny! Chwerthin fel llin y mynydd yn yr awel! A gallech deimlo'n sicr na fai pethau ddim gwell pan alwai Mr. Llewelyn Williams, heb son am y Parch. Towyn Jones, â'i chwerthin arian! Ac am Gwili, bu efe byw am dymor hir yn y Gwynfryn, pan yn athro yn yr ysgol yno, a cheisier dychmygu'r helynt a wnai'r ddau Fardd! Ond dewch i mewn. Mae glendid Cymreig ar bob "celficyn," a chryfder diwastraff, defnyddiol, ymhob un. Mae'r cadeiriau Eisteddfodol derw, a'r goron arian yno, ond heb ddim yn awgrymu eu bod am wthio'u hunain i'r golwg. Yn y gegin glyd, gyda'i thân glô carreg, a'r "pele," mae'r "hen stol" y canasai am dani, fod
Rhywbeth yn tremio wrth deithio y byd
Yn ol i'r hen stôl a'r hen aelwyd o hyd.
Ond y mae rhywbeth y mae mwy rhaid wrtho na derw a dodrefn i wneuthur cartref; ac yr oedd hwnnw yng nghartref y Bardd-calon fawr, seml, gynnes, yn cario'i gwres a'i goleu i bob cwr, ac i bob mynwes. Nid gwneuthur ei hun yn ddedwydd oedd ei amcan ef, ond dedwyddu eraill, a thrwyddynt hwy, dod at ei ddedwyddwch ei hun. Elai i mewn i bob teimlad yn ei deulu fel Archoffeiriad, a dygai groes pob un a ddelai. Dedwyddaf ei deulu, dedwyddaf yntau! Ni ymdrechai wneuthur ei hun yn ddedwydd, ond ymdrechai eu gwneuthur hwy felly; a gwyddom am dano, gyda'i galon ei hun yn drist, yn peri dedwyddwch iddynt hwy. Yr oedd ei wên, ei arabedd, a'i dalent, yn gwbl ar yr allor i hynny. Hyd yn oed pan ddaeth ei gystudd olaf, gwnelai mor ysgafn ag oedd modd o hwnnw, i gadw'r cysgod rhag disgyn arnynt hwy. Yn ei gystudd blin, aeth yn Sais ffraeth unwaith, er mwyn cael cyfle i dorri awyr yr ystafell â chwerthin. Yr oedd wedi gwella i raddau, ac yn gallu eistedd i fyny yn ei wely; ei briod dyner, hithau, yn meddwl yr hoffai y syniad o allu ei borthi ei hun yng ngrym yr ychydig nerth ddaethai yn ol iddo, a baratoisai ychydig gwstard mewn dysgl iddo, gan roi llwy gyfleus iddo i geisio ei fwyda ei hun, ond gyda'r hen wendid yn trechu, meddai, "Ann, this is too bad; I don't want to be dished, spoon me!"
Yr oedd " Ann," fel y galwai hi, yn haul i'w fywyd. Gan gyfeirio at ddydd ei briodas yn ei "Atgofion," meddai, "Y mae hi wedi bod yn wraig dda' i mi, o hynny hyd yn awr; wedi gweithio'n galed, a byw'n siriol a llawen, a chadw cartref glân, cysurus, ac wedi lletya mwy o fyfyrwyr a phregethwyr, a darlithwyr a beirdd, a llenorion, ac ymwelwyr o bob math, ac o bob gwlad, na neb o'i hoed yn Sir Gaerfyrddin, yr wyf yn sicr. Yr wyf yn gobeithio cael ei chadw cyhyd ag y byddaf byw, oblegid pa fodd y gallaf feddwl byw hebddi! Hyderaf na fyddaf fi byw i ysgrifennu ei chofiant!"
Ond y difyrrwch a gafwyd yn y Gwynfryn! Oriau ysgol heibio, y pen yn weddol ddiboen, canys dioddefai'n enbyd felly—cyfaill neu ddau i alw ddechreunos, plocyn da ar y tân, ac yna ati! Trin y byd a'i bethau, a'u gosod yn eu lle, tra byddai'r gwreichion yn chware mic yn y simnai, a'r teulu'n gyfan, wraig, merch, a mab, yno yn y gyfrinach; a llawer tro y ceid ergyd ffraeth gan Ann y wraig, a Mary'r ferch, sydd a chyfran helaeth o ffraethineb ei thad ynddi, "gan bwyll bach," chwedl ninnau yn y De. Llawer dengwaith y teimlasom hiraeth llethol wrth ymadael i ddal y tren i ddod yn ol eilwaith i dwrf y byd na allai chwerthin yn yr un cywair ag y chwarddem ni wrth ochr tân y Gwynfryn.
Ond daeth y cysgodion! Yr oedd caethder anadl, cur pen, a gwendid calon yn ennill arno o ddydd i ddydd, ac yntau yn chwilio am newid adfywiol yma a thraw. Yn Chwefror, 1904, cawn ef yng nghartref clyd ei hen gyfeillion mynwesol, Mr. a Mrs. Benjamin Parry, yn Norton, Mumbles, ac yn ysgrifennu yno:—
Yr wyf yn ysgrifennu heddyw yn nhŷ Mr. Ben Parry, yn Norton, ger y Mumbles, lle yr wyf wedi dod i newid awyr, er mwyn fy iechyd. Y mae yma le tawel, glân, prydferth, ac iach, gallwn feddwl—pe celwn dywydd teg. Y mae fy annwyl wraig yma gyda mi, ac hebddi hi, ni allwn feddwl byw. yma, yn y cyflwr presennol ar fy iechyd, ac ystád fy meddwl.
Nid wyf wedi bod yn iach er yr haf diweddaf, ac yr wyf fel yn gwybod na fyddaf yn holliach byth mwy. Nid oes arnaí ddim ofn marw, ond y mae ofn byw arnaf! Byw sydd yn ofnadwy, yn y byd hwn, neu unrhyw fyd, o ran hynny, yn enwedig yn y byd hwn, y dyddiau hyn!
Y mae Chwefror yn oer ac yn wlyb, a hanes y byd yn dywyll a du, a'r newyddion bob bore yn ddrwg, a minnau'n dost! Nid wyf yn ddigalon, nac yn ddiobaith, ond yn ddianadl, a braidd yn ddiamynedd, a dweyd y gwir, wrth weled y byd mor ddwl, a dynion call mor ddall!
Dyma ryfel wedi torri allan eto! Rwsia a Japan yn rhyfela ynghylch yr hyn nad yw yn perthyn i un o honynt. Pe buasent yn cytuno i wneud defnydd o bobo ddarn, er lles y byd, gallasai hynny fendithio'r ddwy wlad, a bendithio'r byd hefyd, ond, fel y mae, bydd y rhyfel yn felltith ac yn ddinistr i'r ddwy wlad ynfyd. Y mae yr hen ymadrodd yn eitha gwir: "A'r doethion a ddaethant o'r dwyrain!" Y maent wedi mynd oddi yno bob un, ond i ble, pwy wyr?
Y mae y glaw yn dod o'r gorllewin yma, heddyw, yn cael ei yrru gan wynt nerthol yn rhuthro! Y mae "afon Duw yn llawn dwfr," y dyddiau hyn——yn llawnach nag arfer, o lawer, ac yn peri i afonydd bach y ddaear fyned. dros eu ceulannau.
Ni chadd hyd i'w hen nerth yn y Norton, gan nad fwyned ymgeledd Mr. a Mrs. Parry, ac er iached awelon y môr. Yn ol yn llesg ei gam i'r Gwynfryn, ac yn ol i ymladd â'i fynych wendid ! Yn ei nodion yn y "Diwygiwr" am Awst, a ysgrifenasai yng Ngorffennaf, meddai, "Y mae ein hegni wedi gwanhau, a'n nerth wedi difa gormod braidd am y pethau rhyfedd sydd wedi digwydd er pan ysgrifenasom o'r blaen." Ond aeth i Landrindod ddechreu Awst, ac meddai yn "Helyntion y Dydd" yn y "Diwygiwr" am Fedi, "Y mae'r gwyliau eleni eto yn tynnu i ben. Y mae hi yn ganol Awst, a'r dydd yn tynnu ei ddeupen ynghyd, a'r nos yn ymestyn, a'r hwyr a'r bore yn oeri. Y mae'r haf wedi bod yn eithriadol o boeth yng Ngorffennaf, ond erbyn hyn y mae'r hin wedi oeri llawer o raddau, ac nid yw hi mor bleserus ar fin y ffynnon, nac ar lan y môr; ac mae'r bobl yn rhedeg adref, ac yn falch o weled tân y gegin unwaith eto. Gobeithio fod. yr haf hyfryd wedi bod yn adnewyddiad nerth i gorff ac ysbryd llawer un, a bod talu ymweliad â hen leoedd cyfarwydd, a gweled hen wynebau, a chael ymgom å hen gyfeillion, wedi bod yn fwynhad ac yn gryfhad i gannoedd sydd yn brysur ar hyd y flwyddyn. . . . Y mae Llandrindod ddechreu Awst eleni wedi bod yn orlawn. o ymwelwyr. . . Yr oedd yn dda gennym glywed cymaint o Gymraeg yno. . . Yr oedd yno ddigon o bregethwyr Cymraeg a Saesneg i gynnal gwasanaeth beunyddiol, fore, a chanolddydd, a hwyr, Saboth ac wythnos, ar hyd yr holl amser; ond yr oedd llawer genau cyhoeddus, drwy drugaredd, yn ddistaw yno." Cyn diwedd ei nodyn, sonia am adeiladu Kilsby Hall, er cof am Kilsby. Mor debyg iddo ef!
Y gwendid a'r nychtod eto, a mawr ofn ei farw, yn Nhachwedd a Rhagfyr, 1904; ond aeth drwodd heb i'r fflam ddiffodd! Ceisio gorffwys yn ei wely y byddai, a cheisio darllen "darllen gwaith Ben Bowen," meddai Gwili, a safodd mor aml yn ymyl gwely'r Bardd, ac yr oedd ei arabedd yn llif, er gwaethaf ei beswch a'i boen."
Ond yr oedd cyfle byr eto i hen wynebau a oleuasid lawer tro gan heulwen ei arabedd ef i ddod i edrych cydymdeimlad â'u hen gymwynaswr. Ar nos Sadwrn, yn ystod y cwthwn blin hwn, daethai'r datganwyr enwog, Mri. David Hughes a Threfor Evans, i gyngerdd yng nghapel y Gwynfryn. Bore drannoeth yr oeddynt ill dau yn yr odfa, a George, mab y Bardd, yno hefyd. Cyn gynted ag y daeth George i'r tŷ, a chyrraedd ystafell wely ei dad, meddai'r tad llesg yn ei wely, "Ble mae'r boys, odin nhw ddim yn dod i ganu i fi?" Own i ddim yn lico gofyn iddyn nhw," meddai'r mab. "Cerdd ar 'u hol nhw," meddai yntau, a gofyn iddyn' nhw am ddod i ganu i fi." Cyrhaeddodd y ddau ganwr gwych ymyl y gwely, ac wedi cyfarch yn dawel, meddai'r Bardd claf, Canwch fechgyn: canwch emyn."
Pan yn cerdded trwy'r cysgodion,
Pwyso ar dy air a wnaf,
Ac ar waethaf pob amheuon,
Buddugoliaeth gyflawn gaf.
Dechreuodd y ddau ganu, a chyda'i law deneu, wen, y tu allan i'r cwrlid, ceisiai ganu, a rhyw guro amser; yna peswch, a cheisio canu nodyn drachefn. Wrth weld yr ymdrech, torrodd Mr. Trefor Evans i wylo, ac wylai Mr. David Hughes. "Ie," meddai yntau,
Pwyso ar dy air a wnaf,
.. pwyso ar . . . dy air . . . a wnaf,
A chododd y gân ei hadenydd yn wlyb o ymyl gwely'r awenydd, y bore hwnnw! Buan yr aeth "Trefor" adref ar ol y Bardd i'r
Goleu geir ar bethau cudd,
eithr y mae'r canwr gwych arall yn "tawel aros," fel y ceisiodd y tri gyd-ganu y bore Saboth hwnnw yn ymyl gwely'r claf. Ond daeth i allu dywedyd yr ystori ei hunan yn "Y Diwygiwr," Chwefror, 1905, a gwell yw ei chael ar ei bin blin ef ei hun:—
YN Y CYSGODION, A'R DIWYGIAD.
Oddiar pan gefais y pleser o ysgrifennu i'r "Diwygiwr" o'r blaen, mae Deheudir Cymru wedi bod yn chware a dawnsio yn heulwen Y Diwygiad,' a minnau wedi bod yn griddfan a gorwedd yn Y Cysgodion.' Diolch i Dduw, ac i ddynion hefyd, yr wyf wedi cael nerth i godi ar fy nhraed unwaith eto, er y cymer hi gryn dipyn o amser i ddod yn ddigon cryf i rodio oddi amgylch a cheisio gwneuthur rhyw ddaioni.
Dyddiau blin yw dyddiau cysgodion cystudd. Yr oedd cysgod cystudd caled a pheryglus wedi fy nal, a hynny pan oedd cysgodion hirnos ac oerni gaeaf yn gorwedd o gylch ymhob man, ac yn ei gwneud yn flin i ddyn claf ddisgwyl am y wawr wen ar lawer noson ddu.
Er tosted y cystudd, ac er tewed y cysgod, ni chefais fy ngadael o gwbl yn hollol ddigysur.
Yr oeddwn wedi clywed son am y Diwygiad, a elwid Diwygiad Ceinewydd, rai wythnosau cyn fy nharo i'r gwely. Yr oedd hen fardd, a hen gyfaill i mi, wedi bod yn mwynhau dŵr y môr Ceinewydd am rai wythnosau, yr haf diweddaf, ac wedi cael prawf o'r Diwygiad yn y lle hwnnw, ac yn son am y cyrddau, yn enwedig canu'r merched yno.
Galwodd i fy ngweled un prynhawn, ac yr oedd mewn hwyl dda i adrodd hanes y Diwygiad fel y gwelodd, ac fel y teimlodd y peth ei hunan.
Hen Fardd a ddaeth ataf fi,—a hanes
Hynod Sir 'Berteifi;
A'i ddilyn gan addoli,
Wnai dawn cân,—merched New Quay!
Son am ddawn cân, a dawn gweddi merched y Cei a wnai yn ddibaid.
Yr oeddwn innau mewn cyfeillach grefyddol yng Nghapel y Gwynfryn rai wythnosau cyn fy nghystuddio, wedi bod yn ceisio dweyd yr hanes, fel y clywais ef gan fy nghyfaill, ac yn dweyd mor dda fuasai gennyf weled cyfarfodydd o'r fath yn ein plith ni,—dynion yn cymryd rhan heb eu cymell!
Aeth pethau ymlaen gyda ni am wythnosau heb un son neilltuol am ddiwygiad, ond ambell air am Ddiwygiad New Quay.
Dydd Sul, Tachwedd 6, yr oeddwn wedi bod yn fy ngwely am wythnos, yn bur ddihwyl, a'r dydd Gwener cyn hynny, yr oedd operation a brofodd yn bur beryglus wedi ei chyflawni arnaf, ac yr oeddwn yn wan iawn, mae'n debyg, er nad oeddwn i fy hunan yn teimlo hynny ar y pryd,—yr oedd yr operation wedi pasio, a digon oedd i mi. Y mae dianc ar operation bron fel dianc ar angeu ei hun, a byddai cystal gennyf wynebu angeu a wynebu hon! Beth bynnag, yr oedd cyngerdd wedi ei chynnal yn ein capel, y nos Sadwrn cyn hynny, Tachwedd 6, ac yr oedd dau gyfaill annwyl i mi yn canu yno, sef Mri. David Hughes, Glandwr, a W. Trefor Evans, Treforis, ac yr oedd y fath awydd angherddol am eu clywed yn canu arnaf, bore dydd Sul, fel yr anfonais fy mab ar ol cyfarfod y bore i ddweyd fod yn rhaid iddynt ddod i 'ganu i mi y pryd hwnnw; aeth, a chadd afael ynddynt, ac er fy malchter a'm boddhad, wele David Hughes, a Threfor Evans, a Ben Davies, yn yr ystafell, ond nid Ben Davies y cantwr cofier, ond ein Ben Davies ni yn Amanford, un o'r bechgyn mwyaf rhadlon ac annwyl yn y byd,—yr oeddwn wedi llwyr golli arnaf fy hun wrth eu gweled, ac yr oedd tôn ac emyn yn barod gennyf. "Canwch Narberth i mi fechgyn," meddwn, "ar yr emyn
Pan yn cerdded trwy'r cysgodion,"
a dyna'r ddau Bencerdd YN CANU!
Ac O, dyna ganu rhyfeddol, yr oedd pob un oedd yn yr ystafell yn canu neu yn wylo, neu yn hytrach,—yn canu ac yn wylo! Nid wyf yn cofio i mi deimlo dim cyffelyb erioed. Yr oedd yr Ysbryd yno heb ddim amheuaeth, ac yr oeddem i gyd yn yr Ysbryd ar ddydd yr Arglwydd.
Wedi tawelu'r wylo, a sychu'r dagrau,—y dagrau cariad pur, y rhai oedd i ni ar y pryd yn felys iawn, cawsom yr emyn i gyd, a rhagor! Yr oeddwn mewn serch mawr â'r emyn a'r dôn, ers llawer dydd, a bellach nid aiff yr un o honynt byth yn angof.
Dichon nad yw pawb wedi sylwi ar ledneisrwydd y dôn a'r emyn, ac mor llawn o ddefnydd cysur ydynt:—
Pan yn cerdded drwy'r cysgodion,
Pwyso ar dy air a wnaf;
Ac ar waethaf pob amheuon
Buddugoliaeth gyflawn gaf.
Dyna gysur cryf i ddyn ar ei glaf wely.
Dim ond imi dawel aros
Goleu geir ar bethau cudd;
Melys fydd trallodion hirnos
Pan geir arnynt oleu'r dydd.
Ciliodd tralledion mwy na thrallodion hirnos gaeaf wrth aros am y dydd wrth ganu honna ganwaith.
Os mai egwan yw fy llygad
Digon imi gofio hyn,
Hollalluog yw dy gariad—
Fe wna bopeth fel y myn!
Dyna glimax i ganu' fod cariad Duw yn Hollalluog!' Yr oeddwn wedi teimlo cariad cyfeillion, a chariad cymdogaeth, y tu hwnt i bopeth,—ond cariad Duw yn Hollalluog, dyma oedd yn rhyfedd. Nid oedd ein cariad ni yn gallu popeth, ond y cariad hwn yn gallu popeth fel y myn!
Meddwl purach, llawnach goleu,
Bywyd wedi mynd yn rhydd,
Pan ddel hynny mi gaf finnau
Wybod gwerth y pethau cudd.
Ie, ie! llawnach goleu,' a bywyd wedi mynd yn rhydd,' wedi mynd yn rhydd o'i wendid, a'i boen, a'i flinder, pethau yr oeddwn yn gweddïo yn daer am danynt bob nos a bore, pan dan bwysau trymaf y cystudd, ac yn cael math o atebiad mewn cân yn unig!
Canwyd yr emyn drosodd a throsodd, ac emynau eraill hefyd, ac nid ä'r canu hwnnw byth yn angof. Diolchaf byth i'r ddau ganwr peraidd am y wledd, ond credaf o ran hynny, iddynt gael cyflawn dâl. Canwyd emynau eraill, ond dyna yr emyn fu yn canu am wythnosau yn fy nghlustiau, ac y mae yn canu o hyd! Dyma sŵn y Diwygiad i mi.
Emyn bychan arall oedd yn ymhel â fi oedd, 'Agor i'r Goleuni Glân,' allan o 'Odlau Eto,' Rhan III., gan B. Parry, Abertawe.
Cyfieithiad yw o emyn a glywais yn cael ei ganu gan Sankey, ac y mae y dôn yn ei weddu i'r dim, ac yn sicr o gydio o hyd, a'r cytgan yn llawn swyn:—
Os yn ofni'r gelyn, ofni colli'r dydd,
Weithiau'n wan dy obaith, weithiau'n wan dy ffydd;
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân!
Os yn colli'th olwg weithiau ar dy Dduw,
Os yn ofni marw yn lle bythol fyw,
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân.
Os am weld y llwybr sydd yn arwain fry,
Os am beidio drysu yn y t'w'llwch du,
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân.
Cytgan—Agor i'r goleuni glân, &c.,
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân.
Bu Eos Dâr yn canu hwnna i mi, fel y medr yr Eos ganu emyn, nes gloywi'r ffenestri, a gollwng i mewn y goleuni glân pan fyddo hi yn ddigon tywyll, yr hyn ddylem wneud i gyd.
Pan ddaeth blwyddyn newydd, chwilio am ei hen nerth y caed ef—mynd i Norton eto yn gynnar yn 1905, yna i'w hen gartref ym Mrynaman, "a llawer lle arall ymrig yr haf." Fel hyn yr ysgrifennodd at ei ferch, "Mary," o Frynaman, gyda chryniadau lled ddieithr yn yr ysgrifen:—
Dydd Mercher.
Annwyl Mary,
Cyraeddasom yma neithiwr ddeutu chwech, Joe Hargreaves yn ein gyrru yn ei gerbyd. Cefais noswaith dda iawn neithiwr yn y gegin ffrynt, a thân yno, mam ar y soffa a minnau yn y gadair. Breakfast heddyw am hanner awr wedi chwech, cockles, a thê a bara menyn. Y mae y dydd yn oer, a glaw mân diflas. Yr ydym wedi bod yn y tŷ trwy y bore yn erfyn papur, ond heb gael un eto am unarddeg. Ychydig allwn fynd allan heddyw. Anfon
lythyrau i mi yfory os bydd yna rai. Byddwn yn dod gartre nos Wener.
Pen drwg, dim modd ysgrifennu
Ein cofion a'n serch,
DY DAD.
Aeth i Lanwrtyd pan ddaeth haf cynnes, eithr nid oedd ond yn cerdded i gwrdd â'r cysgodion. Yn ol eto, a'i nychtod gydag ef, a'i anadl yn gaethach fyth. Meddai ar ei ddychweliad, Ma'r hen ana'l 'ma 'n gaeth; ma' arna' i ofn ma' 'i golli 'e 'na i cyn diwedd.' Wrth ei weled ym mro'r Ffynnon, gofynasai rhyw hen gyfaill iddo, Holo, Mr. Williams, beth ych chi'n mofyn yma, mofyn dwr fel ni gyd, mae'n debyg." Nage, wir," meddai yntau, yn fyr ei anadl, ac yn peswch, "mofyn gwynt w' 'i."
Ond adref i'r Gwynfryn eto, ac erbyn hyn mae Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn yr ymyl, Awst, 1905; a dyna lythyr oddiwrthy Bardd claf at Eos Dâr, a bwysasai gymaint ar ei awen ef at yr Orsedd a'r Eisteddfod:—
Dydd Sadwrn, Awst, 1905.
Annwyl Eos Dâr,
Dyma fi'n y Gwynfryn unwaith eto, wedi gorfod rhedeg i'r tawelwch o Lanwrtyd. Yr oedd y crowd a'r gleber yn ormod i mi, y mae popeth yn fy lladd, felly ni allaf fentro yn agos atoch yn Aberpennar, ac y mae yn wir flin gennyf am hynny.
Y mae'r pwyllgor wedi anfon ataf, ac yn dra charedig, ond y mae'r perygl yn ormod i mi ddod yna. Y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf y cewch le da, a llwyddiant mawr yna, felly y bo hi, a Duw'n gwlad a'n cenedl a'ch bendichio, meddaf fi.
Gwelaf fod yr Eos i ganu ddydd a nos yna. Dyma fi yn amgae dalen i geisio llanw'r bwlch. Cofion atat, ac at bob perchen anadl yna.
Yr eiddot byth,
WATCYN WYN.
Gyda'i lythyr daethai cân, "Dyffryn Cynnon," a cheir hi yn ei Waith.
Nesu wnai'r diwedd, ond rhaid oedd gwneuthur un ymdrech eto, ac i "annedd dawel, ar fin Llyn Llech Owen," yn ardal Penygroes, Llandebie, yr aeth. Bu yno am bythefnos yn cael ymgeledd Capten Thomas, y Garn.
Ond ryw hwyrnos yn niwedd Medi, dacw ef adref i'r Gwynfryn eto, ac adref ar ffrwst mewn cerbyd caeëdig, ac yn meddwl fod y daith yn gorffen! Ond yr oedd gwenau cyfeillion, a sŵn "yr hen ganu" i ddod ato eto, i dalu 'nol. Methu mynd i'w wely i orwedd,—ceisio esmwythdra yn y gadair freichiau, ac ar y glwth helaeth, ond yn ofer! Yr anadl byr a'r peswch blin yn cadw gorffwys draw: ond efe'n llawn chware yn ei ysbryd. "Beth pe baech chi'n ceisio mynd i'r bedroom, fe fydde gwell cyfle i chi am gysgu," meddai "Towyn " wrtho. "Towyn bach," meddai yntau yn doredig, "pe byswn i ddim ond treio mynd i fyny'r stair, mi fyswn yn y nefoedd cyn bod ar 'i thop hi."
Y gantores enwog o "Barc yr Ynn "—Mrs. Phillips (Martha Harries) yn galw, gyda'i miwsig tirion yn ei llais, a dyfnder o gydymdeimlad yn ei gwedd, yn adnabod ei galon yn dda, wedi bod gyda hi cyhyd yn ei benillion telyn, ac yn ei ymddiddanion, disglair fel arian ar hyd y blynyddau; ond yr hwyl yn gostwng! A'r Saboth oedd hi, ac Eos Dâr a'r Telynor Tom Bryant wedi bod yn cynnal cyngerdd yn Rhydaman (Amanford), y nos Sadwrn, "ychydig nosweithiau cyn ei farwolaeth," medd yr Eos, a dacw'r Delyn i'r hen aelwyd, ac Eos Dâr a'r Telynor. Fel hyn yr edrydd Eos Dâr y stori:—
"Rhaid oedd treulio ychydig amser yn y Gwynfryn' cyn y gyngerdd—y Bardd wedi bod am wythnosau yn y gwely, ond wedi codi i'r gadair ger y tân, a'r diweddar Barchedig Robert Thomas, o Landwr, yno yn y cwmni. Cyn myned i'r gyngerdd, gofynnais iddo, 'Watcyn, a garet ti i mi ddyfod a'r delyn yma prynhawn yfory ar ein ffordd i orsaf y rheilffordd?' Carwn yn fawr, os byddi cystal a dod a hi,' meddai yntau. 'Byddai'n dda gennyf glywed y Delyn unwaith eto.'
Felly y bu. Erbyn hanner awr wedi dau, yr oedd Watcyn wedi dyfod i lawr i'r ystafell arferol, ac yn aros am ddyfodiad y Delyn. "Beth wyt ti am i mi ganu, Watcyn," meddwn i, 'Cana ychydig o donau y Diwygiad.' Gofynnais i'r Telynor i daro Cwynfan Prydain' (Alaw Gymreig), a chenais
Dyma gariad fel y moroedd, &c.
Pan ddaethpwyd at y llinell,
Pwy all beidio cofio am dano,
cododd y Bardd ei law fechan i fyny, gan guro amser, a gwên nefolaidd ar ei wyneb. Pan ddaethpwyd at derfyn y pennill,
Dyma gariad nad a'n angof,
Tra bo'r nefoedd wen yn bod,
gwaeddodd allan yn uchel; 'Amen, Amen.' Ar ei gais canwyd,
Mae'th eisiau Di bob awr,
ac
Agor i'r goleuni glân (Let the blessed sunshine in),
ac meddai, Yr ych chi wedi 'ngwella i'n lân, a diolch yn fawr i chi, byddwch yn fechgyn da.' Cafwyd cwpanaid o dê, a ffarweliais am y waith olaf â'm cyfaill siriolaf yng ngwlad y gân yr ochr hyn."
Aeth y delyn i ffwrdd gyda'i thannau wedi ymleddfu wrth weled y Bardd blin yn ei gadair, a'r nerth yn cilio!
Nesu yr oedd y diwedd, a Gwydderig, ei hen gyfaill, yn ymyl ei wely'n gwylio: ei briod a'i ferch wedi gorfod mynd i geisio gorffwys ennyd—Mary y ferch ar y glwth yn ymyl, yntau â'i lais gwan yn galw arni. "Mae'n rhy gynnar i gwnnu, Watcyn," meddai Gwydderig. Meddai yntau, gyda'i glust blinedig wedi dal adsain y gynghanedd, "Rhy gynnar i gwnnu"—" Rhy gynnar i gwnnu.'
Ennyd eto, a dyna'i linell olaf ar y ddaear! Yr oedd yn bur anesmwyth, ac yn gofyn yn ol ei nerth, pa bryd y deuai'r dydd! Pan feddyliodd Gwydderig fod y wawr ar y ffenestr, cododd y llen yn gynnil, a dyna'r bore arian distaw i mewn i'r ystafell, a'r pelydrau yn chware ar y cwrlid. "Dyma'r dydd wedi dod, Watcyn," meddai Gwydderig. "Da iawn," meddai yntau yn wannaidd; a chan syllu ar y llewyrch ar y cwrlid, meddai:—
Goleu ddydd i'r gwely ddaw;
ac fe ddaeth mewn ystyr uwch na thoriad gwawr naturiol; ac aeth y Bardd adref yn y llewyrch mwyn, Tachwedd 19, 1905, yn 61 oed.
Unwaith eto i'r hen gartref, ac i ddwyn gweddillion blin y Bardd i'r bedd, ar y 23ain o Dachwedd, 1905. Darlunio'r angladd! Pwy wna? Pobl y dyffrynnoedd a'r wlad o gylch wedi dylifo yno! Pobl yn llanw'r cae, llwybrau'r ardd, a llwybr cudd yr ysgoldy! Ac am allu dilyn ei "gorff sal" i mewn i'w annwyl Gapel y Gwynfryn, ofer! Buasai'r dorf yno yn disgwyl ers awr a mwy.
Yr oedd cysgodion y nos yn dod ar ffenestri'r cysegr cyn troi o honom at fynwent Gellimanwydd; ac am orymdaith drefnus, nid oedd obaith. Y miloedd yn ymwasgu ymlaen trwy yr hen bentref i gyfeiriad y bedd; ac am hir amser gwedi gweddi proffwyd, ac olaf drem y teulu, ymwasgu gweddus y cannoedd i gael yr olwg olaf ar yr arch. Erbyn i ni gael cyfle i ddod at y fan, codasai seren lachar uwchben, a chyda hi daethai pennill o emyn yr hwn oedd fud yn ei fedd i'n meddwl:——
I ddyfnderoedd pob caledi
Nefol wawr
Dreiddia i lawr—
Duw sy'n hau goleuni.
Y mae'r tystiolaethau da am dano yn galw ar ei gilydd o gyrrau'r ardal y maen coffa oddiar y mur yng nghapel y Gwynfryn, a'r groes wen o fynor ar ei fedd yn naear dirion Gellimanwydd. Meddai'r maen coffa o'r mur:—
"ER COFFA DA AM
Y PARCH. W. H. WILLIAMS (WATCYN WYN) O'R GWYNFRYN,
AMANFORD,
ATHRO, BARDD, PREGETHWR,
Y CYFODWYD Y GOF-ADAIL HON GAN EI DDISGYBLION.
GANWYD EF MAWRTH 7, 1844.
BU FARW TACHWEDD 19, 1905.
Rhagorai mewn naturioldeb hawddgar, synhwyrau cryfion, a ffraethineb digyfryw.
Yn naear y capel newydd—gwelir
Cofgolofn y prydydd;
A'i gorff sâl yn gorffwys sydd
Ym mynwent Gellimanwydd."
Meddai'r groes o fynor, hithau, mewn toddaid o waith Gwydderig:—
Enw WATCYN WYN ni wêl—ddiwrnod
Bydd raid ei osod mewn beddrod isel.