Neidio i'r cynnwys

Cofiant Watcyn Wyn/Y golygydd a'r llenor

Oddi ar Wicidestun
Llwyfan a phulpud Cofiant Watcyn Wyn

gan Penar Griffiths

Y bardd

Y GOLYGYDD A'R LLENOR.

YN ystod ei gyd-olygiaeth o'r "Diwygiwr " yr ysgrifennodd fwyaf o ryddiaith Gymraeg. Nid yn ei gysylltiadau golygyddol yn unig yr ysgrifennai; eithr ysgrifennai lawer i'r Geninen a "Chyfaill yr Aelwyd," a chyfnodolion ac wythnosolion eraill. Cyhoeddodd hefyd lyfryn bychan chwe'cheiniog, ar "Lenyddiaeth Gymraeg," drwy Wasg Gwrecsam, a chyd-ysgrifennodd ddwy ffugchwedl Gymraeg â'r Parch. Elwyn Thomas, "Irfon Meredydd," yn 1903, a "Nansi," yn 1906.

Cychwynnodd ei gyd-olygiaeth o'r "Diwygiwr" yn 1890; a'i gyd-olygydd oedd y Parch. Robert Thomas, Glandwr, Abertawe. Gwisgodd yr hen fisolyn llednais a chadwrus, wedd ychydig yn wahanol i'w arfer gyda'r gyd-olygiaeth newydd. Daeth yn fwy llenyddol, ac yn fwy achlysurol ei gyffyrddiadau. Ceid ynddo adolygiadau byrion ar lyfrau Cymraeg, a chyfeiriadau mynych at feirdd a llenorion y dydd.

Yn "Helyntion y Dydd," y rhai a ysgrifennid yn bennaf, os nad yn gwbl, gan Watcyn Wyn," ceid mynych damaid gwleidyddol, a mynych sylw ar gymeriad gwleidyddol amlwg, a'i waith; a'r cyfan yn ddiddorol. Ar un cyfnod rhoddid cryn le i emynau a gyfansoddid gan awduron y dydd, ac aml oedd y darnau barddonol eraill a geid, a llu o honynt yn dwyn delw'r Bardd o'r Gwynfryn, heb angen hyd yn oed llythrennau'i enw wrthynt.

Er i'r hen gyhoeddiad profedig barhau rhai o'i deithi gwerthfawr, gyda cholli ychydig yn yr amlygrwydd a arferasai roddi i Hanesiaeth Eglwysig a Chrefyddol, tybiwn iddo newid gormod i foddio amryw o'i hen gefnogwyr. Ond dyfodiad siriol oedd dyfodiad y "Diwygiwr" o fis i fis, gyda sylwadau byw, byrion y Bardd, a'i fynych ysgrif ar ryw hen gymeriad syml o weinidog gwledig, o ddiacon cudd, neu o hen grefyddwr naturiol, na wybuasai neb ond ei gwm am dano; neu ynte, o gymeriad amlwg, Cymreig, ac wedi gwasanaethu'r Gymraeg a Chymru. Dyma'i ysgrifennu naturiol am "Eos Morlais."—

Cafodd pob cwmwd a phob pentref, a phob tref yn ein gwlad, glywed llais Eos . . . . . Canodd at bob math o achosion. Canodd lawer o ddyledion addoldai i ffwrdd. Canodd lawer o arian i logellau gweigion llawer pwyllgor Eisteddfod. Canodd i godi calon, ac i gynorthwyo amgylchiadau cyfyng llawer tlawd a methedig." Ac wrth son am yr Eos yn canu ei gân ddiweddaf, "Y Deryn Pur," i godi calon ei frawd-yng-nghyfraith, John, oedd ar ei glaf wely yn yr ystafell nesaf ato, ac yntau ei hun yn ei glaf wely, ac yn nesu i ddiwedd y rhaglen, meddai, "Dyna yr Eos wedi tewi, ynte, a chân 'Y Deryn Pur' oedd yr olaf ar ei wefus."

Am ei hen gyfaill hynod, Athan Fardd, nid oedd bosibl llai na bod yn ddifyr gydag ef, o ysgrifennu am dano o gwbl, gyda'i bersonoliaeth bendant, ei siop lyfrau ddigyffelyb, ei jwg dê a'i bocer coch!" A dyma'r golygydd ati:—

'Cof gan lawer am dano yn yr hen siop lyfrau yn Heol Fawr, Abertawe. Athan â'i ychydig lyfrau, a'i ychydig Gadeiriau Eisteddfodol, a'i dân gwresog, a'r pocer ynddo bob amser, yn barod i danio pibell, a'r jwg lawn o dê wrth ei gefn, o'r hon y drachtiai'r bardd yn rhy aml, efallai,—nid aiff y lle cynnes, caredig, croesawgar hwnnw yn angof yn hir. Nid ydym yn cofio troi i mewn braidd erioed nad oedd yno ryw gyfaill yn eistedd gydag Athan,—yr oedd ganddo ddigon o amser i siarad, am mai ychydig iawn o waith oedd yn y siopsiop anfarwol er hynny. Dyna'r lle i adnabod Athan oedd yno, dyna'r lle i'w weled a'i glywed yn ei ogoniant—pan fyddai'r ddadl yn frwd, a'r pocer yn goch, a'r bibell yn mygu, ac Athan yn trin y byd! Mwy nag unwaith yr aeth i'r siop â'r pocer coch yn ei law i ateb cwsmer, a dychrynodd fwy nag un ymaith—yn wir, efallai mai dychryn y pocer oedd yn cyfrif am anamledd y cwsmeriaid yn y siop boblogaidd, os nad boblog honno. Nid siopwr oedd Athan, a chamsyniad oedd iddo agor siop, oblegid nid hir y bu cyn ei chau,—gwnaeth y siop ei gwaith er hynny, daeth ag Athan yn adnabyddus, fel y dywedasom, a daeth a llu o fechgyn ieuainc i gyffyrddiad âg ef, a dysgodd iddynt lawer o wersi mewn meddwl a siarad yn Gymreig ac yn Gymraeg."

Pan ddaeth ei awr i ysgrifennu gair ar ol ei gyfaill bore oes—"Gwalch Ebrill "—a fuasai farw yn America, yr oedd y dull agos hwn yn hyfryd, ac meddai:—

"Wrth ddarllen y llythyrau y daeth y dagfa i'r gwddf, a'r deigryn i'r llygad, ac y teimlais mewn gwirionedd fod fy hen gyfaill wedi mynd i fyd pellach na'r Amerig. Nid oes gennyf fi ond atgofion bore oes, ac y mae hynny erbyn hyn ymhell, ond os ymhell, gallaf ddweyd eu bod yn dyner ac yn annwyl; ac er na allaf eu cofio'n drefnus, eto ni allaf byth eu gollwng yn angof. . . . . Yr oeddwn yn y byd ryw ddwy flynedd o'i flaen, ac yr wyf yn cofio am dano yn bur ieuanc. Er ein bod wedi ein geni a'n magu heb fod ymhell oddiwrth ein gilydd, eto i gyd, dan y ddaear y daethum i'w adnabod yn agos, yn y gwaith glô yn y Bwli bach. Ychydig o ddarllenwyr y "Diwygiwr" sydd yn gwybod am y Bwli bach, ond cafodd Dan bach brofiad chwerw o'r Bwli bach, ac achos i'w gofio am byth. Llosgodd yno yn dost iawn, pan yn ieuanc iawn, ac yr oedd creithiau tân gwyllt y Bwli bach arno hyd ei fedd. . . Yr ydwyf yn cofio yn dda am dano yn gorwedd yn yr oil, yn ddigon annhebyg i allu codi oddi yno. . . . Nid oedd na bŷs na bawd, na llygad na thrwyn yn y golwg, dim i brofi fod Dan bach yn fyw, ond ei lais. Clywem ei lais, ac yr oedd ei dafod yn mynd yn iawn yn yr oil, yr oedd mor ddoniol ag erioed yn ei gadachau fan honno." Ac wrth son am yr ymroi oedd ymhlith gweithwyr y Bwli bach i ddiwylliant, meddai, "Gallwn ddweyd mai o dan y ddaear y cafodd Dan ei addysg foreuol, braidd i gyd."

Dyna fyr olwg ar ei deithi fel llenor cofiannol, ac awgrym o'i fyd fel golygydd yn yr olwg. Yr oedd yn rhaid i bob byd fod yn agos a naturiol iddo ef.

Pan ddaw i ysgrifennu gair ar ol ei hen Broffeswr—y diweddar Proffeswr W. Morgan, Caerfyrddin—tywysog ymysg dynion—mae ei arabedd fel llewyrch lloer ar nant y mynydd. "Chwalodd lawer pregeth dda i ni," meddai, a gwnaeth i lawer un o honom, lawer pryd, deimlo'n anesmwyth, os nad yn anfoddog, ond wedi aros ac oeri, yr oeddem yn dod i deimlo y gallem ddweyd fel y dywedodd un o'n blaen, 'Pellhaodd efe ein camweddau oddiwrthym,' oblegid ni fuasem yn meiddio dweyd honno, ar ol hyn, wrth y gynulleidfa fwyaf pechadurus yn y wlad, er i ni gredu gynt ei bod yn bregeth dda.

Dr. Parker yn dweyd am Henry Ward Beecher, 'Nid oedd yn llafurio nac yn nyddu.' Ni ellir dweyd am y Proffeswr Morgan nad oedd yn llafurio, ond gellir dweyd nad oedd byth yn nyddu . . . byth yn ceisio estyn ei bregeth â geiriau llanw.'"

Dyma gymeriad hollol wahanol yn ei law, a dyma ysgrifennu gwahanol arno—" Gurnos "—hen gyfaill i Watcyn Wyn—

"Y mae yna bregethwyr i'w cael a elwir yn bregethwyr safe, a hynny gyda llawer o briodoldeb y maent yn safe o beidio â bod yn wael iawn, ac mor safe a hynny o beidio â bod yn anghyffredin o dda—ond yn safe o fod yn uniongred yn ol y sect fanylaf; ond nid un felly oedd Gurnos. Wyddai neb yn y byd, fore dydd Sul na nos Sul, beth gai ganddo ef. Y mae ambell un yn pregethu yn wastad reolaidd, fel y golofn yn yr anialwch, yn niwl y dydd, ac yn dân y nos,'—pregeth heb ddim ond niwl ynddi yn y bore, a phregeth heb ddim ond tân ynddi yn y nos. Dichon mai yn y bore y disgynnai'r tân, gan Gurnos; ac y byddai wedi ymgolli yn y niwl erbyn nos, neu fel arall,—'doedd neb yn gwybod, am nad oedd y pregethwr ei hunan yn gwybod."

A dyma rodio difyr! Yr oedd yn llawn chware fel eiddo plentyn yn llawn jests a jokes, fel eiddo digrifwasyn llawn sylwadau craffus, fel eiddo athronydd, ac yn llawn ffolineb diniwed fel eiddo bardd.

Gwyddai llawer am ei fynych wendid, ond ychydig wyddai am ei fawr gryfder a'i athrylith nerthol. Yr oedd yn gallu siarad â'r ci a'r gath nes gwneud iddynt wrando ar ei araith, a'i deall bob sill. Nid oedd byth yn pasio ci ar yr heol heb roi ei law ar ei ben, a dweyd wrtho am fod yn gi da; ac elai'r ci yn ei flaen dan gynffonlonni ar ol derbyn ei fendith. Treuliodd gannoedd o oriau i chwilio am nythod, ond ni thynnodd yr un erioed. Yr oedd yn adnabod adar wrth eu henwau, ac yn eu dysgu i ateb ei chwiban, a dod a disgyn ar ei ysgwydd."

Mae y ddau ddyfyniad sydd yn canlyn yn enghraifft o'r golygydd ar ei awr rymusaf:—

TREM AR YR HEN FLWYDDYN.

Wrth edrych yn ol ar y flwyddyn ddiweddaf, faint o bethau pwysig yn ein hanes fel gwlad ac fel cenedl sydd wedi digwydd? Faint o bethau parhaol eu dylanwad a dwfn eu hargraff? Faint o welliantau cymdeithasol a symudiadau cynorthwyol? Faint o gamsyniadau poblogaidd, ac o golliadau masnachol? A ydym wedi cael golwg eglur ar rai pethau y dylem eu hosgoi, ac arswydo rhagddynt; ac ar bethau eraill y dylem eu meithrin, a diolch am danynt? Tebyg nad ydym wedi byw yn yr un byd yn hollol, bob un o honom. Tebyg nag ydym wedi sylwi ar yr un pethau, nac wedi meddwl i'r un cyfeiriad. Nid yr un camsyniadau ydym yn barod i gondemnio, ac nid yr un gwelliantau ydym yn barod i ganmol,—yn wir, tebyg nad ydym yn cyfrif yr un pethau yn ddiffygion a rhagoriaethau. A oes yna rai pethau wedi digwydd yn y flwyddyn ddiweddaf, y gellir yn ddibetrus eu rhoi i lawr fel diffygion, a phethau eraill fel rhagoriaethau, neu welliantau cymdeithasol? Buasai yn dda gennym ar ddiwedd y flwyddyn un fil wyth gant naw deg a chwech o'r cyfnod Cristionogol, gyfeirio at ragoriaethau, at welliantau, ac at symudiadau daionus digamsyniol yn unig, ond tebyg fod yna bethau eraill yn hawlio ein sylw.

Y mae masnach wedi bod yn bur ansefydlog, ac yn parhau felly hyd ddiwedd y flwyddyn, mewn llawer cylch ac mewn llawer lle. Mae annealltwriaeth ar ol annealltwriaeth wedi codi rhwng meistr a gweithiwr, ac y mae yna gymydogaethau cyfain wedi dioddef yn galed o achos hyn, ac nid ydym yn gweled fod yna fawr o ddim parhaol a chadarn wedi ei wneud i sicrhau gwell trefn a gwell dealltwriaeth rhwng y pleidiau pwysig hyn yn y dyfodol. Y mae peth tebyg iawn i gyndynrwydd a dallineb a gormes wrth wraidd llawer anghydfod ydym wedi sylwi arno yn ystod y flwyddyn ddiweddaf—dallineb o bob tu, a chyndynrwydd o bob ochr, ac nid oes yna un cynllun eto i osgoi hyn. Credwn y dylai Llywodraeth ein gwlad ymyrryd yn uniongyrchol mewn materion mor bwysig a hyn i gysur a llwyddiant a bywyd y deiliaid. Credwn hefyd fod ein masnach wedi rhedeg gormod i'r un cyfeiriad; os felly, nid oes dim ond methiant i ddisgwyl o'r cyfeiriad hwnnw. Mae gormod o redeg ar ol y ffordd it wneud arian nes yw y ffordd wedi cau. Nid gwneud arian, nid hapchwarae yw masnach i fod, ond trefn gyson ar gyfer angen gwlad, gwneud y gwaith sydd eisiau ei wneud, a'r gwaith sydd raid ei wneud, os am gadw gwlad yn llwyddiannus, a chenedl yn fyw. Y mae'r gwaith a'r gweithiwr, a'r meistr a masnach, yn rhwym o gael sylw blaenaf ein gwlad a'n teyrnas yn y blynyddau nesaf; sylw blaenaf ein blaenoriaid, ein senedd, ein haddysg, a'n crefydd hefyd. Rhaid cael holl nerthoedd yr holl alluoedd hyn i ddysgu ac i helpu dyn i fyw, ac i symud yr holl anhawsterau, a'r holl rwystrau o du meistr a gweithiwr yr un fath.

Y mae ein Haddysg yn dechreu dod i hyn. Y mae'r flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn nodedig ynglyn ag addysg yn ein gwlad ni. Coronwyd y Brifysgol yn ystod y flwyddyn. Mae ein tri choleg erbyn hyn yn troi eu sylw yn arbennig at y gradd Cymreig, ac y mae cryn redeg am dano hefyd. Ond credwn wrth edrych ar addysg, a hanes addysg, a holl gyfryngau addysg, a threuliau addysg, nad graddau a theitlau fydd yn cael sylw yr oes nesaf ond gwrteithio ar gyfer bywyd ymarferol; paratoi dyn i wneud gwaith,—rhoi dyn, rhoi dynion yn gyffredinol, yn fechgyn ac yn ferched, ar y ffordd i'w deall eu hunain, deall y byd, a gallu byw yn y byd.

Y mae'r flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn nodedig am agor llu o Ysgolion Canolradd—gormod o lawer o honynt, os yw'r addysg i barhau ar yr hen linellau; ond gydag addysg ymarferol, a synnwyr cyffredin, dichon y llenwir hwy bob un. Yn sicr, nid cenedl o Glasuron, na chenedl o Wyddonwyr yw corff unrhyw genedl i fod, ond cenedl o weithwyr, a chorff o ddynion ymarferol. Os bydd i'n Hysgolion Canolradd ofalu natur yr addysg a gyfrennir ynddynt, byddant yn llwyddiant, ond os cerdded yr hen lwybrau cochion gynt, byddant yn sicr o golli tir.

Y mae yn dda gennym ddeall ar ddiwedd y flwyddyn, fod ein Colegau Enwadol yn dechreu agor eu llygaid i gamsyniad y syrthiwyd iddo yn ddiweddar, sef anfon pawb o'r bechgyn i Golegau'r Brifysgol. Mae Coleg Bangor wedi pasio penderfyniad nad oes neb i fyned yno, ond y rhai fydd wedi matriculatio ar gyfer gradd, ac y mae Aberhonddu wedi symud rhai o Gaerdydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Camsyniad yn ddiau ar ran pwyllgorau ein Colegau oedd meddwl anfon yr holl fechgyn i'r Brifysgol. I ba beth? Nid gwiw anfon neb yno ond y rhai fydd yn barod i fyned ymlaen am eu graddau, ac yn awyddus gwneud hynny hefyd. Y mae digon o le a digon o athrawon i'r gweddill yn ein Colegau ni ein hunain. Da gennym weled y gwelliantau hyn. Yn ddiameu. yr oedd eisiau gwneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwn, oblegid y mae eisaiu gwneud hyd yn oed addysg y pulpud yn synhwyrol, ac yn ymarferol.

ADDYSG.

Addysg yw cri mawr ein gwlad ni. Prin y mae neb sydd yn fyw heddyw yn cofio y fath siarad a'r fath gynnwrf, a'r fath deimlad uchel ynglyn âg un cwestiwn cyhoeddus, ag a welir heddyw ynglyn â'r Mesur Addysg sydd o flaen y tŷ—Tŷ y Cyffredin. Nid yw y Mesur wedi bod o flaen y wlad, ond fel y mae yn ymddangos yn ddarn ar ol darn, mewn dadl ar ol dadl, yn y papurau newyddion, ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Aed ag ef i Dŷ y Cyffredin heb ddweyd wrth neb ei fod i fyned yno, ac heb ofyn i neb a oedd ei angen, na gofyn barn neb am ei gynhwysiad.

Credwn erbyn hyn, er hynny, y buasai yn well hyd yn oed gan y llywodraeth bresennol pe buasai y Bill hwn wedi myned i mewn drwy y drws i'r gorlan honno, nag wedi dringo ffordd arall fel y gwnaeth. Y mae wedi creu ystormydd cynddeiriog yn y tŷ, ac yn y wlad, ac y mae'r gwynt a'r tonnau heb ddistewi a llonyddu eto.

Nid ydym yn credu ei fod oll yn ddrwg, fel y dywed rhai, ac nid ydym yn gweled ei fod oll yn dda, fel y myn eraill i ni gredu; y mae fel mesurau y llywodraeth yn fynych, yn ddigon brith. Da fyddai cael rheolaeth lydanach ac ehangach nag sydd gan lawer Bwrdd Ysgol y dyddiau hyn, ond gwell fyddai cael rheolaeth gyffredinol dros bob ysgol sydd yn derbyn arian y bobl at ei chynnal.

Nid mesur addysg yw y mesur, fel y mae gwaetha'r modd, ond Mesur Sectol—boliticaidd, nid i ofalu am addysg plant y wlad, ond i ofalu am ei sect. Os nad yw yn fesur addysg, credwn y ceir llawer iawn o addysg wrth ei drin yn y senedd, a son am dano y tuallan. Yr ydym yn cael ambell lygedyn o oleuni disglair disymwth, pan fyddo dynion fel Hugh Cecil yn codi ar eu traed, ac yn cyfaddef o flaen y tŷ, fod ofn teimlad Rhydd Gynghorau lleol Cymru arnynt, i roi gormod o râff! Dyma gompliment ddiarwybod i Gymru. Gymru deffro ati, yr wyt ti yn sicr o fod yn etholedig gan Dduw i fyned a goleuni yr efengyl, a gwybodaeth Gristionogol bur i Loegr, ac efallai mai dyma fydd un o fendithion mwyaf y mesur a elwir mesur addysg yn y diwedd.

Dyma lenor mwy cyd-ffurf a chadwrus, pan yn ysgrifennu Cysylltiad yr Iaith Gymraeg â Hanes Crefydd yng Nghymru:—

Mae'n debyg i gysgod Pabyddiaeth dywyllu'n gwlad, ac i'n haddoliad cyhoeddus fod ar dafod estron, a thelyn grefyddol ein gwlad fod ar helygen ddieithr am gryn amser, fel y mae gennym brofion yn hen gyfreithiau Hywel Dda, ac eraill; ond rhywfodd, yr ydym yn credu fod yna ryw fywyd cuddiedig, nad oedd deddf a defod yn gwybod am dano, drwy y blynyddoedd tywyll hyn. Y mae yr ysgrifenwyr Seisnig yn dweyd fod y Cymry wedi colli eu crefydd a'u gwareiddiad, a phob olion gwrtaith, ac wedi syrthio i iselder barbaraidd, yn y cyfnod hwn; ac eto, ar yr awr dywyllaf mae y wawr agosaf i dorri! Os oedd Cymru wedi syrthio mor isel, ac wedi ei hesgeuluso mor llwyr, nes syrthio mor ddwfn i afael barbareidd-dra anwaraidd ag y myn rhai i ni gredu, pa fodd y mae cyfrif am ddeffroad llenyddol disglair, a sain cân soniarus y ddeuddegfed ganrif—cyfnod y Mabinogion, cyfnod barddonol y cynhyrchion rhyfedd hynny—y cyfnod pan oedd telyn ymhob teulu, a phob un yn gallu difyrru ymwelydd, o fore hyd hwyr trwy ganu gyda'r tannau? A oedd hi yn bosibl i gân mor bêr dorri o ganol distawrwydd mor ddifeddwl, ac i ddydd mor loyw dywynnu ar unwaith o ganol tywyllwch mor farbaraidd? Nid ydym yn gallu gweled pa fodd y gallai hyn fod. Yr oedd yna ryw ysbrydiaeth na wyddai y byd allanol am dano, yr oedd yna dân ar ryw allor yng Nghymru o hyd, fel nas gallwn gredu fod y fagddu wedi toi'r wlad mor llwyr ag y myn rhai i ni gredu. Os oedd yr Eglwys weledig yn siarad Lladin, yr oedd yna ryw Eglwys anweledig yn sicr o fod yn cadw cyfeillachau Cymraeg gwresog! Pa fodd mae cyfrif am ganeuon godidog y cyfnod hwn yn torri allan mor groyw ac mor sydyn, os oedd y wlad wedi rhoi ei hun i gysgu mor ddwfn a difeddwl ag yr ysgrifennir am dani? Y tebygolrwydd yw, nad oedd bywyd mewnol Cymru yn hysbys i'r Saeson, ac nad oedd neb yn gofalu dim am dano—mor bell ag y byddai Cymru yn dawel,—peidio â rhyfela oedd peidio â bod yng ngolwg y Sais; ac y mae bywyd Cymru ar goll, ond pan dorrai rhyfel allan; ond credwn fod toriad Barddoniaeth a Chân allan yn siarad yn groyw am y bywyd cuddiedig ar ddiwedd y cyfnod.

Er bod ei ysgrifennu yn ddigon difyr, ac nad oes flino ar ei ddarllen, hawdd gweled na feddyliodd am ragori ym myd Llenor. Swn siarad gwell ei ardal a'i wlad glywir yn ei ryddiaith, heb unrhyw arddull, nac unrhyw ymgais at geinder. Ysgrifennu synnwyr cyffredin mewn dull y medrai'r cyffredin ei synnwyr ei ddeall, wnai ef, a dyna'i ddigon. Yr oedd ei ysgrifennu yn rhy fân ac aml i gynhyrchu rhyddiaith a wnai argraff. Ar rai blynyddoedd, pe ysgrifenasai lai, y detholasai yn fwy gofalus gyda'i faterion, ac yr ymgeisiasai ychydig yn fwy, yn hytrach na gadael i feddwl a geiriau redeg fel edafedd o bellen wlân, byddai ei safle fel llenor yn uwch.

Yn ddiarwybod iddo'i hun, yn ddiau, yr oedd ei ddull o ymadroddi yn rhy unffurf. Cychwynnai ei frawddegau'n rhy aml gyda geiriau gweiniaid fel "gallwn ddweyd," a "credwn"; a dygai'r sŵn hwn gydag ef argraff o ddiffyg cryfder, ac o amhendantrwydd. Dengys ei faterion yr edrychai allan ar fywyd ei genedl yn bur amlochrog; canfyddai yn llym, a barnai yn deg; ond collai mewn lliw a phraffter weithiau. Digon yw dweyd yr ymfoddlonai ar ddweyd ei feddwl yn syml a chywir, heb gymryd unrhyw drafferth, ond ymswyno rhag rhoi trafferth i neb o'i ddarllenwyr.

Nodiadau

[golygu]