Cofiant Watcyn Wyn/Y paratoad goreu ar gyfer y weinidogaeth
| ← Y bardd a'i gartref | Cofiant Watcyn Wyn gan Penar Griffiths |
Mynyddog → |
ANERCHIAD—Y PARATOAD GOREU AR GYFER Y WEINIDOGAETH.
(PAPUR A DDARLLENWYD YNG NGHYFARFOD UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG, YM MHWLLHELI, 1895.)
Y paratoad goreu yw paratoad cyn geni. Dylai y pregethwr a'r gweinidog, fel y bardd, gael ei eni i'r gwaith. Nid yw geni drachefn yn ddigon i gymhwyso pob un i'r gwaith hwn; y mae yn dibynnu i raddau mawr ar yr enedigaeth gyntaf.
Os na fydd dyn wedi ei eni yn berchen synnwyr cyffredin ac anghyffredin, os na fydd dyn wrth natur yn berchen dawn i baratoi pregeth a dawn i'w dweyd hi, os na fydd dyn wedi dod i'r byd yn feddiannol ar gynheddfau i flaenori ac arwain, a galluoedd i'w wneud ei hunan yn dderbyniol ymysg dynion, bydd yna ormod o waith wrtho i wneud un llun arno.
Gall gael gras, ond digwydd fawr iddo gael gras byth, os na fydd wedi cael synnwyr a natur dda cyn hynny; ac os bydd wedi cael synnwyr da a natur dda, bydd rhad ras yn sicr o ddilyn, oblegid "i'r sawl sydd ganddo y rhoddir iddo."
Ond, a chaniatau fod dyn wedi ei eni â'r cymwysterau gofynnol ynddo, beth ellir wneud i'w baratoi? Pa fodd mae darganfod y dyn? Ai efe ei hunan sydd i gychwyn allan, ai ynte rhywun arall sydd i ofyn iddo fyned? Beth yw'r drefn Annibynnol? A yw yr ebol yn rhwym? Os yw, pwy sydd i'w ollwng yn rhydd? Dichon na wnai pregethwr Annibynnol o'r iawn ryw ofyn i neb.
A dichon na wnai eglwys Annibynnol o'r iawn ryw ymyrraeth â neb, oblegid ble mae ei hawdurdod ar y pwnc cynnil hwn?
Nid ydym yn gwybod am nemor neb wedi eu hatal i ddechreu pregethu gan un eglwys. Yr unig beth all eglwys dda wneud yw peidio â gofyn am wasanaeth neb nad yw am ei glywed.
Hefyd, nid ydym yn gwybod am lawer o eglwysi wedi cymell neb i bregethu; fel rheol, ac fel ffaith, eu cymell eu hunain y mae y rhan fwyaf; eu cymell eu hunain drwy eu cyfeillion, a'r cyfeillion yn cymell yr eglwys i roi cymhelliad i'r brawd a'r brawd arfer ei ddawn yn gyhoeddus, neu gael eu codi gan eu teuluoedd, fel codi 'ffeiriadon.
Dyna y drefn Annibynnol o baratoi ar gyfer y weinidogaeth, ac am wn i, nad yw hi yn eithaf iawn hefyd, cael y peth i ddechreu o du y dyn ei hun; ac os na fydd awydd pregethu arno, pa ddiben ei gymell; ac os bydd awydd, pwy ddichon ei atal?
Dichon fod yna ambell flaenor ac ambell weinidog, mewn ambell eglwys, yn fwy byw, ac yn fwy llygad-agored, ac yn fwy parod i gynorthwyo gyda hyn nag eraill; ond, fel rheol, dyna'r drefn Annibynnol.
Ar ol i ddyn gychwyn, beth sydd i'w wneud â'i baratoi? Beth sydd gan yr eglwys i'w wneud i'w gynorthwyo? Diameu, os bydd eglwys wedi cymell neb i ddechreu ar y gwaith da, y dylai ei gynorthwyo i'w orffen, drwy fyned ymlaen at berffeithrwydd. Ond os na fydd eglwys wedi ei gymell i gychwyn, nid oes ganddo hawl ar ei help i fyned ymlaen.Dylai pob eglwys sy'n cymell neb, a'r neb sy'n ei gymell ei hun, gofio hyn, felly byddai iddo wneud i ffwrdd â llawer iawn o anhawsterau y paratoi.
Paratoad rhagorol ar gyfer y weinidogaeth yw cael cydymdeimlad a help; y mae yn datblygu a diwyllio natur oreu dyn; ac, yn wir, y mae yr eglwysi yn garedig, dim ond myned atynt yn ysbryd cariad yr efengyl.
Nid ydym yn cofio cael un math o anhawster gydag un eglwys pan yn casglu at y Coleg; cawsom ychydig oddiwrth rai personau unigol; ond, fel rheol, personau unigol iawn oedd y personau hynny. Gwareded cymdeithas ni rhag myned yn bersonau unigol!
Ond wedi cychwyn, wedi cael cymhelliad personol ac eglwysig, wedi cael y synnwyr a'r dawn naturiol, a'r gras gofynnol ar gyfer y gwaith, ac wedi cael y cydymdeimlad, a'r help, a'r haelioni angenrheidiol, y pwnc nesaf yw—Pa gwrs o addysg sydd eisiau? Ymha ysgol y ceir hynny? Pa goleg yw'r goreu? Dyna'r cwestiynnau tanllyd, yn yr argyfwng presennol!
Y mae yn amlwg oddiwrth y testyn, a geiriad y testyn, fod Pwyllgor yr Undeb Cymraeg yn tybied fod yr adeg wedi dod i siarad yn groyw ar y pwnc yma, cyn y buasent yn gofyn i mi baratoi papur arno.
Y mae geiriad y testyn yn bradychu amheuaeth ym meddwl y Pwyllgor a yw'r paratoad presennol, y dull presennol, a'r cwrs presennol o addysg, yr hyn a ddylai fod.
Dichon fod sefydliad y Brifysgol yn ein gwlad, a dyfodiad yr Ysgol Ganolradd i fodolaeth, wedi symbylu'r Pwyllgor i feddwl a gofyn "Beth i'w wneud?"
Y mae amgylchiadau yn newid pethau o hyd, a dyfodiad sefydliadau newyddion, a chynnydd manteision, yn deffro hyd yn oed arweinwyr crefyddol i symud ymlaen, ac amlwg yw, fod yna ambell un yn clywed rhyw lais yn galw" Deffro, deffro, Seion, gwisg dy nerth."
Beth yw'r cwrs o addysg sydd eisiau ar bregethwr a gweinidog yn wahanol i ysgol-feistr, neu gyfreithiwr, neu fferyllydd, neu oruchwyliwr gwaith glo? &c. Pa mor bell y dylent fyned ar yr un llinellau, a pha bryd y dylent ymwahanu? Credwn y dylai'r pregethwr fod yn "un o blant y byd hwn" i raddau, am y bydd ganddo dipyn o waith ymdrafod â phlant y byd hwn, a rhaid iddo, cyn dysgu byw gyda hwynt, wybod peth o'u ffyrdd; ond dylai hefyd wybod rhywbeth am "ryw bethau na ŵyr y byd am danynt."
Fel rheol, bechgyn wedi bod yn gweithio am flynyddau yw y dosbarth o fechgyn sydd wedi codi i bregethu yng Nghymru, yn yr ugain mlynedd. diweddaf, ac y mae'r hyn y maent wedi ddysgu wrth ymdroi ymysg eu cydweithwyr yn well addysg ar gyfer y weinidogaeth o lawer na'r addysg a gânt o'r llyfrau y gorfodir hwynt i'w darllen ar gyfer derbyniad i'r Coleg, a mynediad drwy y Coleg. Bechgyn iawn yw'r bechgyn yma sydd wedi bod yn gweithio, ac wedi bod yn chwysu, ac yn gwybod am y bobl, ac ysbryd y bobl, am ffyrdd y bobl, ac angen y bobl; dyma wybodaeth werthfawr i fachgen ifanc yn myned i fyw ar yr egwyddor wiroddol; dyma wybodaeth nad yw i'w chael mewn llyfr. Gall llyfr ddweyd am hon:—" Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi, uchel yw, ni fedraf oddiwrthi." Dywedwn i, ar gyfer y weinidogaeth, "Rhoddwch i mi'r wybodaeth hon." Rhoddwch i mi fachgen wedi ei godi yn yr ysgol yma i ddechreu pregethu, cyn dechreu pregethu; bachgen â'i argyhoeddiadau ei hunan wedi rhoi cyfeiriad i'w fywyd: bachgen wedi codi o'n ranks, ac nid wedi codi heb wybod fod ranks yn bod.
Dyma'r dosbarth sydd yn codi i bregethu, ac yn ol pob tebyg, dyma'r dosbarth a gwyd i bregethu eto; ac, yn wir, dyma'r dosbarth a ddylai fynd i bregethu. Nid crefft yw pregethu, ond argyhoeddiad brwd yn torri allan yn hyawdledd tanllyd.
Dyma broffwydi Cymru, a dyma'r rhai y dymunem waeddi ar eu rhan wrth ddrysau'n Colegau:—"O byrth, dyrchefwch eich pennau! hinoedd gogoniant Cymru a ddont i mewn!"
Ond dyma'r dosbarth i'r rhai y mae y pyrth yn rhy gloedig o lawer. Dyma'r rhai nad yw'r arholiad yn deg iddynt. Dyma'r dosbarth nad yw'r arholwr yn gofyn iddynt beth allant wneud, ond, yn hytrach, y peth nad allant wneud hyd byth! a'r peth, yn wir, nad ystyriant yn werth i'w wneud!
Yr wyf fi yn gwybod am y dosbarth yma—yn gwybod am y dosbarth nad yw ein Colegau wedi cael y fraint o'u derbyn, nac athrawon ein Colegau y fraint o siarad â hwynt erioed.
Y mae llawer o'r bechgyn goreu yn myned i'r weinidogaeth heb fyned i'r Coleg, ac y mae rhai yn barod i ddweyd mai "lladron ac ysbeilwyr ydynt, am eu bod yn meiddio dringo ffordd arall," yn enwedig os digwydd i un ohonynt fyned i gorlan go dda!
I gwrdd â'r rhai hyn, nid oes yna ddarpariaeth yn yr Ysgolion Canolradd, nac yn y Colegau Enwadol, nac yn y Prifysgolion. Beth maent yn wneud, ynte? Dyfod i Ysgol y Gwynfryn, wrth gwrs, a myned i'r weinidogaeth oddiyno, a chorn clew a bendith ar eu pennau!
Y mae gormod o classics ac o mathematics o lawer ar gyfer y rhai hyn. Yn wir, y mae yna ormod o'r pethau hyn o lawer ar gyfer pump o bob chwech o'n pregethwyr,—hyd yn oed y rhai sydd yn cael derbyniad i'r Colegau Enwadol, ac oddiyno i'r Colegau Cenedlaethol,—nid yw eu manteision cyn myned i mewn yn caniatau iddynt wneud y defnydd goreu o'u breintiau ar ol myned i. mewn.
Bechgyn iawn, bechgyn talentog, bechgyn yn fyw i'w gwaith, bechgyn wedi eu llenwi âg ysbryd y gwaith, ond nad ydynt erioed wedi cael gwneud yr hyn a allent, a'r hyn a ddylent wneud. Darllenais ysgrif synhwyrol y Proff. Morgan Lewis, Aberystwyth, yn y Geninen am y mis hwn, ar " Addysg Uwchraddol y Gweithwyr," yn yr hon y mae yn cwrdd â'r anhawster o ddysgu bechgyn mewn oed; bechgyn yn gallu meddwl, a deall, ac amgyffred, yn well na chofio. Yr oeddem yn barod i ofyn i ni'n hunain, Pa le y cafodd y Proffeswr Lewis wybodaeth am y dosbarth hwn? Ond gŵyr pawb am yrfa Mr. Lewis, a gwyddom hefyd am yrfa rhai bechgyn sydd wedi eu derbyn i'r Brifysgol, a rhwng y ddau y mae yna esboniad.
Yr oedd un bachgen oddiwrthym ni wedi ei dderbyn i Goleg (wna i ddim dweyd i ba Goleg) yn ddiweddar; ac yn galw i weled ei hen gyfeillion yn yr Ysgol, ymhen rhyw chwe mis ar ol hynny, ac yn rhoi speech i'r bechgyn, wrth gwrs,—ac, yn wir, yn dweyd geiriau gwirionedd a sobrwydd wrth y bechgyn yno; yn dweyd wrth y bechgyn am y gwahaniaeth mawr yn yr addysg yn yr Ysgol, a'r addysg yn y Coleg. Canmol system synnwyr cyffredin oedd ef, a dweyd nad oedd ef wedi clywed un gair o synnwyr cyffredin gan un athro wedi gadael ysgol y Gwynfryn! Bachgen ar dop ei glass oedd hwn, fel y gallwch ddeall wrth ei ymadroddion, ac nid rhywun wedi dianc i mewn â chroen ei ddannedd. Ac os felly " yn y pren ir, beth am y crin?" Os felly ar y top, beth am y gwaelod?
Cofier ein dadl,—Fod yna ormod o glassics ac o fathematics i'r rhan fwyaf o fechgyn sydd yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth. Y mae yna fechgyn, wrth gwrs, y mae'r pethau hyn yn fwyd blasus iddynt (cawn ddod at y rhai hyn eto); ond i'r mwyafrif, pethau diflas a dilês ydynt.
Yr wyf yn cofio yn dda y funud hon lyfr o glassics—y llyfr cyntaf a roddwyd i ni i'w ddarllen yng Ngholeg Caerfyrddin—rhywbeth ynghylch marwolaeth a chladdedigaeth rhyw barrot oedd ef, a bu bron a'n gwneud yn barrots i gyd; parrots cyhyd ag y buom yn y Coleg, oblegid nid oedd neb yn gallu agor un llyfr heb allwedd, na dweyd un gair heb fod rhywun wedi dweyd o'i flaen! A beth yw hynny ond parrots?
Y mae yna ddosbarth yn myned i'n Colegau yn gallu yfed yr addysg a gyfrennir ynddynt. Y mae yna glasuron graddedig yn codi, a diolch am danynt; y mae angen y rhai hyn arnom, a hyderwn y bydd i'n Henwad symud i wneud pob peth yn ei allu i hyrwyddo'r ffordd i godi dynion wedi graddio yn y celfau, a'r gwyddonau, ac mewn diwinyddiaeth.
Bydd yn dda gennym weled cysylltiad ein Colegau â'r Brifysgol wedi ei berffeithio, a'r grisiau yn gyflawn ac yn gyfan i ben pinacl uchaf y graddau! Ond rhaid peidio caead allan y pysgotwyr dynion, neu ynte bydd y rhwydi heb eu llanw. Ond wrth edrych o gylch, beth yw culture? beth yw diwylliant a gwrtaith meddyliol? A oes raid i ni aros gyda'r hen syniad o culture? Ai dim ond classics, a mathematics, a science, sy'n gwneud dyn yn wrteithiedig a diwylliedig ei feddwl? Na ato'n synnwyr cyffredin i ni lynu byth wrth hyn. Y mae yn rhy debyg i wrtaith dybiedig Eglwys Rhufain ac Eglwys Loegr, ac heb fod yn cwrdd â manteision bechgyn Cymru, nac âg angen gwerin Cymru.
Bydd yn well gennyf fi, ac y mae yn well gan y wlad a'm "macodd" o'r hanner, wrando ar ddyn o athrylith gynhenid, a synnwyr cyffredin, nac ar glasur—ysgolheigdod dyn wedi colli ei fywyd wrth fyw gormod ymysg yr ieithoedd meirwon! Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw, a'u hatgyfodi drachefn, os gallant!
Cwestiwn arall! Faint o ddefnydd yw'r pethau hyn i fwyafrif ein myfyrwyr? Ac a yw yn deg â mwyafrif yr eglwysi, ac â mwyafrif y myfyrwyr, i'w cadw'n ormodol gyda'r pethau hyn? Y mae gormod o'r hanner o amser yn cael ei dreulio gyda'r hyn na wneir defnydd o hono yn y dyfodol, ac y mae hynny yn sicr o fod yn gamsyniad mewn diwylliant meddyliol â gweinidog y dyfodol. Darllener rhywbeth wna i'r dosbarth agor ei feddwl, ac nid agor y crib. Y mae yn dda gennym feddwl fod pethau yn dechreu dod i hyn hefyd. Y mae gennym ddynion wedi eu gosod yn athrawon Colegau yn ddiweddar, nad ydynt wedi colli eu bywyd ymysg ieithoedd meirwon,—a phwy feiddia ddweyd nad ydynt yn ddiwylliedig? Pwy feiddia ddweyd nad ydynt yn deall eu gwlad, a'u hiaith, a'u cenedl, ac yn alluoedd sydd yn troi'r byd wyneb i waered?
I gwrdd â'r dyfodol agos, dylai fod yna ddau arholiad, arholiad i'r bachgen ysgol, ac arholiad i'r dyn meddylgar; a dylai fod dosbarth a gwaith ar gyfer pob un ohonynt yn y sefydliadau a gynhelir gennym âg arian y genedl a'r wlad, yn wirfoddol ac yn drethol.
Byddai yn dda gennyf fi weled un Coleg pregethwyr, un sefydliad i baratoi i'r weinidogaeth, a dwy safon i fyned i mewn iddo—un i dderbyn y bechgyn wedi cael cyflawnder bendith addysg glasurol a bydol, a'r llall i gwrdd â'r dynion o athrylith a synnwyr y rhaid i ni wrthynt o hyd.
Y mae gennym ni dri Choleg. Y mae gan y Bedyddwyr dri Choleg. Y mae gan y Methodistiaid ddau, ac y maent o hynny yn gallach na ni yn eu cenhedlaeth. Nid wyf wrth hyn am awgrymu mai plant y byd hwn yw'r Methodistiaid, ond rhaid i mi ddweyd mai rhai call yn eu cenhedlaeth ydynt. Y mae Eglwys Loegr yn gallach fyth yn ei chenhedlaeth mewn gwlad estronol,—un Coleg sydd ganddi hi yng Nghymru.
Yn awr, gyda'r Ysgolion Canolraddol a'r Brifysgol, rhaid i ni feddwl am y cwestiwn yma. Beth sydd gennym ni fel enwad i'w wneud? Beth sydd gennym ni i'w wneud i'n cyfaddasu ein hunain ar gyfer y dyfodol, gyda golwg ar y paratoad goreu ar gyfer y weinidogaeth?
Credwn fod tipyn bach gormod o ladd ysbryd pregethu yn ein Colegau, gormod o bethau'n tagu'r Gair, beth bynnag. Dylai fod gwersi a gwaith pob myfyriwr yn cydfyned yn hollol. Ai nid i hyn y mae addysg y dyfodol yn dod, dysgu dyn i wneud ei waith, a'i wers yn cydfyned â'i waith? Y mae'r pregethwr yn eithriad poenus. Poenus iawn i ambell un, ac efallai i'r un goreu. Diffodd y tân pan oedd yn dechreu cynneu sydd wedi gwneud cynifer o bregethwyr piff.
Gall y wers, a'r gwrtaith, a'r holl ddiwylliant fod yn gydnaws â'r gwaith, ac eto gofalu fod drws y Coleg yn ddigon caeëdig, a'r porth yn ddigon cyfyng i atal neb annheilwng i mewn.
"Dim Cymraeg," mewn ystyr, yw iaith y Colegau a gynhelir gan eglwysi Cymru! "Dim pregethu," y blynyddau cyntaf, yw iaith y sefydliadau sydd yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth! Beth fydd canlyniad naturiol y deddfau nacaol hyn?—dim Cymry, a dim pregethwyr! Yr ydym ar y ffordd i'r dim!
Ymwelodd ysbryd Elias (Elias H. Davies, Pentre), âg Ysgol y Proffwydi, ar lan Iorddonen Caerfyrddin, y llynedd, a siaradodd yn iaith ei wlad, a hyderwn nad yw wedi esgyn i'r uchafion tawel heb adael olynydd i wneud yr un peth eto.
Credwn fod gormod o waith "Llyfr a Dosbarth," a rhy fach o ddarlithio a symbylu, a thanio, a chynhyrfu ein dynion ieuainc, drwy ddod a phrif ddynion y genedl o'u blaen i'w hysbrydoli a'u tynnu allan, ambell dro. Dylai'r holl waith fod yn gydnaws â bywyd, ac amcan, ac ysbryd y weinidogaeth, a pheidi, er dim â diffodd yr ysbryd mewn un cyfnod yn hanes y myfyriwr, ar ol iddo gychwyn.
Yr wyf yn teimlo yn berffaith sicr fod gennym ddynion galluog yn ein Colegau a fyddai'n falch i weled mwy o waith cydnaws âg ysbryd a bywyd y weinidogaeth yn cael ei dorri allan iddynt, ac yr wyf yn berffaith sicr fod yna luoedd o fyfyrwyr yn barod i hyn.
Y mae meddyliau cryfion, bywiog, athronyddol, ac ymchwilgar, yn barod i grogi telynau eu bywyd ieuanc ar helyg glan afonydd Groeg a'r Eidal, ac yn murmur yn eu calonnau, "Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?"
Melltith Pilat y byddwn i yn galw'r ieithoedd yma. Nid ydym yn credu fod eisiau cadw'r tair iaith, Hebraeg, Groeg, a Lladin, am byth ynglyn â Chroes yr Hwn nad oes wahaniaeth rhwng Groegwr, a Barbariad, a Scythiad. Cofiwn mai Pilat a'i hysgrifennodd, a rhyw ysbryd tebyg o hyd sydd yn dweyd, "Yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd."
Yr ydym yn ofni fod y pethau hyn yn cael gormod o le. Y mae yna bynciau eraill mwy diddorol i fechgyn heb fanteision. Y mae yna lyfrau eraill mwy buddiol i fechgyn meddylgar, a gwybodaeth arall lawer mwy defnyddiol i fywyd dyfodol y rhan luosocaf o lawer o weinidogion.