Cofiant Watcyn Wyn (testun cyfansawdd)
| ← | Cofiant Watcyn Wyn (testun cyfansawdd) gan Penar Griffiths |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant Watcyn Wyn |

COFIANT WATCYN WYN

COFIANT
WATCYN WYN
(GYDA DARLUNIAU)
GAN Y
PARCH. PENAR GRIFFITHS
PENTRE, ABERTAWE
CAERDYDD:
ARGRAFFWYD GAN YR EDUCATIONAL PUBLISHING COMPANY, LIMITED
1915
DARLUNIAU
WATCYN WYN
WATCYN WYN TUA DEUNAW OED
Y BARDD YN EI GADAIR
CYNNWYS
EI FYD A'I FRO
EI ENI A'I FEBYD
Y BACHGEN A'R DYN IEUANC
NEWID BYD
HOGI'R CRYMAN
CYSTADLU A BREUDDWYDIO
YR YSGOL-FEISTR
HEULWEN AC AWEL
LLWYFAN A PHULPUD
Y GOLYGYDD A'R LLENOR
Y BARDD
Y BARDD (parhad)
YR EMYNYDD
YR "ORSEDD" A'R "DELYN "
CHWARE AWEN
CHWARE AWEN (parhad)
TRWY DDELLT
Y BARDD A'I ARDAL
Y BARDD A'I GARTREF
ANERCHIAD
Y PARATOAD GOREU AR GYFER Y WEINIDOGAETH
DARLITH
MYNYDDOG
PREGETHAU
"CEISIO TEYRNAS DDUW"
"SABOTH GYDA'R IESU"
"CYFAMOD DUW A DYN"
"SUL Y BLODAU "
RHAGAIR
GALLASWN feddwl am lawer gorchwyl llenyddol haws ei gyflawni nag ysgrifennu Cofiant Watcyn Wyn; ond ni allaswn feddwl am un hyfrytach i fy nheimladau. Ofnais y gwaith yn hir, er i'm bryd redeg yn llwyr arno. Rhy dda y gwyddwn am haeddiant y gwrthrych, a'i safle yng Nghymru, i mi allu arfer unrhyw hyfder a diofalwch ynglyn â'r peth. Teulu'r Bardd a'm ceisiodd at y gwaith, ac ni allaswn ond ufuddhau, a gwneuthur yn ol fy ngallu a'm cyfle.
Adnabum Watcyn Wyn am hir flynyddoedd, ac yn hir cyn ei adnabod, yr oedd ei enw a'i waith wedi'm hennill. Od yw edmygedd o'r gwrthrych yn nod angen cofiannydd, nid wyf fi brin o hynny. Tybiais weithiau fy mod yn ei anwylo yn rhy fawr i'm barn weithredu'n ddiduedd. Hyderaf na chroesais y llinell derfyn; oblegid gormod oedd fy mharch i unionder meddwl Watcyn Wyn i'm gollwng i'r rhysedd hwnnw yn hawdd. Fy awydd cryfaf oedd ei ddwyn ef ei hun yn ol i ddywedyd ei stori, ac ni fynnwn i ddim ei guddio. Oherwydd hyn ni fum yn ol o ddefnyddio'i leferydd ef ei hun yn helaeth, lle bynnag yr ymweddai.
I sicrhau cywirdeb ffeithiau, darllenais y gwaith hwn amryw weithiau i'w gyfeillion cyfoed, i'w deulu, ac i Gwili-ei gydlafurwr yn Ysgol y Gwynfryn. Yn hyn bu Gwydderig a Mr. T. M. Evans yn gymorth mawr; ac nid llai Mrs. Watcyn Wyn; ei fab (Mr. George Williams, B.A.); a'i ferch (Miss Mary Williams). Heblaw rhoi ei gymorth gwerthfawr gyda ffeithiau, rhoddodd Gwili ei law barod i'm cynorthwyo yng nghywiriad y proflenni. Cymered ef a'r cyfeillion eraill a enwais fy niolch cynhesaf. Fy niolch hefyd i Mrs. Phillips, Parc yr Ynn, am fenthyg rhai caniadau, ac am yr un hynawsedd i Mr. Evan Evans, Fferyllydd, Amanford.
Defnyddiais lythyrau cyfeillion ato, yn ol y galw, a chan nad oedd yn y rhai a geisiwn ddim cyfrinach, ni ymofynnais am ganiatad i'w defnyddio. Diolchaf i'r rhai sy'n fyw ohonynt am y cyfleustra.
Fy mwriad cyntaf oedd rhoi casgliad o weithiau barddonol Watcyn Wyn yn y Cofiant, ond trwy ymgynghoriad â'r teulu a rhai cyfeillion, penderfynwyd rhoi ail gyfrol at hynny. Yn fy ymdriniaeth à Watcyn Wyn, fel Bardd, felly, dilynais ei awen yn ei Lawysgrifau cynnar anghyoeddedig, gan obeithio drwy hynny allu dangos ei thwf ymlaen drwy'r ail gyfrol. Hawdd y gwelir arwyddion o fynych wendid yn ei ymdrechion bore, ond o'i weled yn dysgu cerdded, haws fydd mawrhau ei ymdaith gref pan y delom ati.
Ceisiais gyfarfod â dymuniad llu o'i gyfeillion a'i edmygwyr drwy roi lle i chware difyr ei awen gydag amgylchiadau lleol a chartrefol, yn "Chware Awen." I'w ardalwyr yn neilltuol, heb hwn, ni fuasai'r Cofiant yn Gofiant Watcyn Wyn. Yn y "chware" hwn, disgwyliant ef yn ol atynt eilwaith, gyda'i ergyd parod a'i ddigrifwch glân, i dreulio aml noson o aeaf ar eu haelwydydd.
Awyddus oeddwn i'r Pregethwr gael ei gyfle i godi ei bulpud yn y Cofiant, ac ni bydd heb ei gynulleidfa. Meddai Wordsworth, "I sing—fit audience let me find, though few." Y "few" a siaradai am bregethau Watcyn Wyn, ond perthynent i'r "fit audience" er hynny. Daw praidd tebyg eto i'r borfa lâs sydd ar feysydd ei feddwl.
Wrth gofio lle Watcyn Wyn ym mywyd goreu Cymru, ni raid ymddiheuro am ddwyn allan Gofiant iddo. Bu iddo le mawr ac annwyl iawn ym mywyd ei wlad. Cyfnod pwysig yn ei hanes hi a fu deng mlynedd ar hugain olaf ei fywyd ef, yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn addysgol, a cherddodd ef gyda'r lluman ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd pyrth ei feddwl yn agored yn wastad i groesawu pob gwelliant. Ni chaeid hwynt na dydd na nos.
Heblaw meddwl yn dlws a dwys ei hun, cychwynnodd eraill i feddwl, ac i feddwl yn eang a naturiol. Anaml y cychwynnodd neb yng Nghymru fwy i feddwl, ac i feddwl mwy. Diddorol yw meddwl am y ddelw Gymreig a roddai ar ei fyfyrwyr, a hynny yn ddiymdrech. Gwnelai ei ysbryd ddisgyblion boddlon. A geir ysgol yng Nghymru â chynifer o gymeriadau llenyddol amlwg wedi cychwyn o honi? Dyna Gwili, Crwys, Mafonwy, a J. T. Job, gyda'r Goron a'r Gadair Genedlaethol yn eu meddiant—y Goron yn eiddo'r tri blaenaf, a'r naill a'r llall yn eiddo " Job." Y mae Gwili yn ymdaith yn amlder ei rym, ac yn parhau i oleuo hyd ymhell yn nerth ysbrydiaeth ei hen athro.
Enillodd amryw o'i fyfyrwyr gadeiriau lleol a thaleithol, ac y mae amryw eraill o'i fyfyrwyr yn wŷr o safle yn y pulpud, yn Lloegr ac yng Nghymru; rhai o honynt yn wŷr graddedig ac amlwg, ac eraill yn bregethwyr y rhaid dweyd rhywbeth gwell nid drwg, wir," chwedl Herber, ar ol eu gwrando.
Arweiniodd gydag addysg yn ei sir, a cheisid ei farn a'i gyfarwyddyd lle ni cheid ei bresenoldeb.
Anaml y carodd Cymru neb yn anwylach nag y carodd hi ef, ac anaml y gwasanaethodd neb Gymru yn ffyddlonach nag y gwasanaethodd efe hi.
Penllwyn,
- Hydref 21, 1915.
COFIANT WATCYN WYN
EI FYD A'I FRO.
Y MYNYDD DU" a "Watcyn Wyn"! Mae rhyw chware bach, cyfreithlon, yn dod i mewn i bopeth perthynol i fywyd ein hen gyfaill. Ond nis gellir ysgrifennu hanes bywyd llenyddol a chymdeithasol Cymru, yn ystod yr hanner canrif diweddaf, heb gofio'r ddau hyn--“ Y Mynydd Du" a Watcyn Wyn"! Paham du, pwy a ŵyr? Ond daeth y llenor a'r bardd yn wyn o dan ei ddylanwad. Mynydd Du Shir Ga'r," wrth reswm, sydd yn ein meddwl. Ar fwy nag un golwg, nid oes dim yn anghyffredin ynddo. Nid yw nac uchel nac ysgythrog; hen fynydd gweddus, diddig, boddlon, ydyw. Y mae'r stormydd a dreiglant drosto yn anniddig iawn yn fynych, a chaiff y gwynt le i wneud helynt pan ddaw i'w gefn agored yn ei rwysg. Mor gyffredin yw'r hen fynydd, fel os troir i eiriadur Cymraeg parthyddol, a tharo ar" Mynydd Du," ni'n cawn ein hunain ar rês o fynyddoedd Sir arall yn y de, ar unwaith, a dim gair am "Fynydd Du Shir Ga'r." Ond rhaid siarad yn "ddistaw bach" ar ei hen gymeriad cyhoeddus, rhag i'w blant ffyddlon, lu glewion, fel ydynt, glywed; a brysio i ddywedyd i'r hen fynydd weled llawer yn ei hanes. Gwelodd wead "Mabinogi " clasurol ein gwlad gallai ddywedyd cystal â neb am helfa'r Twrch Trwyth": pwy wyddai'n well hanes cyfrin "Meddygon Myddfai," a'r ystori am Riwallon Feddyg, oblegid ar un o'i ystlysau boddlon, cudd ef, y mae "Llynnoedd y Fan," fawr a bach. Daeth George Borrow dros y "Mynydd Du" ar ei daith o Langadog, a digon du fu hi arno, canys yr oedd y nos wedi cau am dano .cyn cyrraedd i'r "Gwter Fawr," yr hen enw ar Frynaman. "Cododd Brynaman o'r Gwter Fawr," meddai Watcyn Wyn. Nid oes berygl i ymholydd hanes y mynydd hwn gael ei adael heb wybod fod "Pryse Cwmllynfell" wedi bvw'n hir yn ei gysgod, wedi bugeilio "praidd yr Iôn" ar hyd ei lethrau am lawer blwyddyn, lle y gwelodd yn ddiau ambell "ddafad ungorn gâs," fel y gwelodd Gwilym Hiraethog yntau; wedi gweddïo nes creu arswyd ar werin, a phregethu nes peri syndod i filoedd y Gymanfa. Meddai'r Bardd am dano fel pregethwr:—
Pregethai natur yn ei holl agweddion;
Pregethai dywydd teg a hyfryd hinon;
Y gwynt, y dail, yr adar roddai i ganu,
A bore o Wanwyn yn ei wedd yn gwenu;
A chrych y nant, a bwrlwm gloyw'r ffynnon
Osodai i farddoni yng nghlustiau dynion;
Amrywiol dannau telyn creadigaeth
Oedd wrth ei law, a bysedd ei farddoniaeth:
Canodd farddoniaeth bur yn llawn o bopeth,
Canodd y byd i gyd ar fesur pregeth.
Cofio fod "Pryse Cwmllynfell" yn efrydydd mawr o seryddiaeth a llysieuaeth sydd yn dod a'r goleu i'r llinellau hyn. Ac am ei weddi, meddai'r Bardd drachefn:—
Ond llais ei weddi byth fydd yn ein clustiau,
A lles ei weddi byth fydd ar galonnau;
*****
Yn nerth ei weddi'r oedd ei nerth yn byw,
Yn llais ei weddi clywid llais ei Dduw;
Ni chlywsom ddim yn gallu tynnu'r nef
I'r byd erioed mor hawdd a'i weddi ef,—
Neu godi'r byd i'r nef, ni wyddom pun,—
'Roedd ganddo ef-ryw ffordd i'w gwneud yn un
Yn nerth ei Dduw, ynglyn â'i nerth ei hun.
Rhaid i hanesydd diweddarach gael son am hyawdledd" Davies Cwmaman," gweinidog yr "hen Fethel," hen gysegr yr Anni— bynwyr, yntau ar lethr yr hen fynydd; a'i "Fyfyrdodau Byrion" wedi eu cyhoeddi yn 1854, pan oedd Watcyn Wyn yn ddeg oed: ac ni all nad oedd aml un wedi ei gyrraedd ef mewn pregeth hyd yr hen gwm. A hawdd y ceid ystori am lawer hen gymeriad, nwyddau na fu yr hen "Gwter Fawr a'i chyffiniau erioed yn brin o honynt; a deuai'r cwbl hyn—bethau mawrion—i mewn i fywyd ieuanc, byw, derbyngar, y bachgen yr oedd Cymru i'w alw'n "Watcyn Wyn." Prin y cafodd neb fwy o gyfrinach y "Mynydd Du" nag ef. A phe nas gallasai gael llawer ynddo, gallasai gael llawer oddi arno, dim ond dringo i goryn "Pen Rhiw Wen "—dinas wen yr odynau calch," chwedl yntau. Oddiar dŵr y ddinas" honno
ceid golygfa nad oes ei rhagorach yng Nghymru. Edrych i'r de fyddai ddigon i gael golwg ar hen ardal "Llawdden, fwyell aur, a Dafydd William, Llandeilo Fach, a ganodd yr hen emyn:—
I gyfeiriad y Gogledd yr oedd cartrefi Williams Pantycelyn, Dafydd Jones o Gaio, John Thomas o'r Col, Myddfai—emynwyr enwog ill tri—Ficer Llanymddyfri, a'r Esgob Owen o Lasallt; ac ychydig yn fwy i'r Gorllewin, gwelai hen ardaloedd Lewis Glyn Cothi, a Morgan Rhys, emynydd gwych arall— heb son am Gastell Dinefwr, Llandeilo, y Gelli Aur, gyda'i stori am Jeremy Taylor yn ymguddio, ac eilwaith gartref mawr, goleu, Syr Rhys ap Thomas yn uwch i fyny ar lannau Tywi. Wedi son yn ei ddull difyr ei hun am yr hen lecyn amlwg hwn fel "dinas yr odynau calch," meddai ef mewn man, "Paham na byddai rhyw un wedi codi hotel ar Ben y Rhiw Wen? Byddai yn sicr o'i gwneud hi'n galch yno."
Soniodd yn ei Atgofion am fyd llai na hwn,—" Yr olwg gyntaf ar fyd," meddai, "byd digon bach ran hynny, ond hynod o newydd a phrydferth, byd â'i nefoedd yn cyrraedd o Ben y Garreg Lwyd i Fynydd y Betws, ac o'r Garreg Fraith i Benlle'rfedwen." Meddai mor syml:—
Yma'n blentyn rhwng mynyddoedd,
Lled y cwm oedd lled y nefoedd,
Y Garreg Fraith a Phenlle'rfedwen,
O bob tu gynhaliai'r wybren!
"Dyma'r trumau pellaf a welwn, ac nid oeddwn yn meddwl fod trumau pellach yn bod, am fy mod yn gweled y pedwar mynydd hyn mor bell a'r terfyn eithaf, a chuwch a'r nefoedd! Byd bach oedd y byd, ond wedi ei greu yn brydferth a diddorol dros ben, yn llawn afonydd, neu nentydd, a chaeau, a pherthi, ac adar, ac ambell heol, ac ambell dý. Nefoedd fach oedd y nefoedd, dim ond just digon o faint i doi'r byd bach, ond os mai nefoedd fach oedd hi, yr oedd yn deg, ac yn lâs, ac yn dyner, ac yn siriol dros ben. Fyth yn dyner, fyth yn glir,' fel y mae Islwyn yn dweyd."
Dyna fel y cyfarchodd pethau ef yn ei ddyddiau cynnar. Dyna'r byd a ddaeth i mewn iddo, byd y bardd i berffeithrwydd ymron, yn arbennig y bardd agos, cartrefol, "Watcyn Wyn." Dehonglodd bennod yr hen fynydd:—
Y Mynydd Du, cyn agor rhych
Yr heol dros ei wyneb;
Cyfarthiad ci a bref yr ŷch
A glywai'r garreg ateb;
A dawns a chân y "tylwyth teg,"
Ar ben" Brynmân," a phen " Foel deg,"
Cyn son am waith mewn awel wynt
Yr amser gynt.
Pan oedd pob un yn heliwr byw,
A'i lais mor glir a chynydd;
A sŵn cŵn hela yn ei glyw,
'N beroriaeth ddihefelydd;
Y llwynog coch o flaen y cŵn,
A phawb yn myned yn y sŵn.
Ar ol yr helfa fel y gwynt,
Yr amser gynt.
Pan oedd y carw 's llawer dydd
Yn yfed dwfr yn "Aman,"
A'i gyrn yn wyllt, a'i draed yn rhydd,
Yn frenin y rhai buan;
Cyn tynnu clawdd dros fron y llwyn,
Cyn torri lawr y "Derw lwyn,"
Na ffordd, ond ffordd y dwfr a'r gwynt,
Yr amser gynt.
Nid ar unwaith, megis ar un curiad, y daeth y byd mwy i mewn iddo, mwy na'r" byd bach" a garai mor fawr. Wedi gwella o'r dwymyn," a mynd ar daith mor bell a Llanddeusant, pan oedd orfod arno "groesi'r Mynydd Du, a dringo i Ben y Rhiw Wen," y daeth i weled "golygfa nad oedd ei thlysach yn y wlad hon."
Er bod "Sir Forgannwg," "pan ddeuir i bwynt uchaf y Rhiw Wen, yn diflannu o'r tu ol, a Sir Gaerfyrddin yn ymagor o'r tu blaen," fel y canodd rhywun:—
Wrth ddod i Sir Forgannwg,
O wele, dyma olwg,
'Rwy'n gweld ymhell tu draw i'r byd,
Mae Gwynfa i gyd yn amlwg.
meddai, fel un yn fawr ar ei ennill :-"Mae Gwynfe oddi tanom, Llanddeusant ar y dde, Pont-ar-lleche a Llangadog o'n blaen, Dyffryn Tywi draw draw, a Mynydd Llansadwrn, a bryniau eraill, yr ochr hwnt iddo, a'r cyfan yn y golwg oddiar Ben Rhiw Wen."
Dacw un o'r afonydd arian i'r golwg-" Sawdde," a rhaid i'r Bardd gael ei galw yn Ferch y Llyn." "Merch Llyn y Fan Fach yw'r Sawdde," meddai, "ac mae hi wedi suddo'n ddyfnach yn y graig nag un afon a welais i erioed. Tybed mai 'Y Sawdd Wy' yw ei henw iawn? Y mae hi wedi hollti a rhigoli'r graig, ac wedi torri pyllau dyfnion, anferth, pan yw'r graig ystyfnig yn ceisio ei rhwystro, ac y mae rhaeadr yn rhuo ymhob pwll, hyd y dydd hwn, a'r pysgod glanaf yn y wlad yn neidio o bwll i bwll, dros raeadr a rhacadr, ar eu ffordd tua 'Llyn y Fan.'
Sut bynnag yr aeth "coesau newyddion " y llencyn a well- asai" o'r dwymyn " âg ef i Landdeusant, dyma ddigon i brofi i'r Bardd ddod adref i'w fyd. Nid oedd dlysni, hedd, na rhamant heb ei gyfarch. Ni chai natur mewn unrhyw wedd arni, siarad yn ofer âg ef.
Yr oedd hen enwau cyfrin, tlysion y cylch, yno i ddywedyd llawer Mynydd Amanw," "Y Llwyn Moch," Twyn Moch,' Cwmtwrch," "Ffrydiau Twrch,' "Cwm Gwŷs," Cwmecel," "Bocelecel," Y Llwchwr," Llwch Ewin," Twyn y Rhosfa," "Twyn Glâs Bach,' Nantyfyta,' Bryn- iau'r Hyddion," "Gwely Arthur," Gwely Arthur," "Y Garreg Lwyd," Garreg Fraith," "Bryniau Gleision," "Pen yr Helyg," Banwen," etc. Mae bydoedd hen a diweddar yn yr enwau hyn, ac aeth Watcyn Wyn i mewn iddynt, a hwythau i mewn iddo yntau. Y Dyma'i waddol ef, ei fyd; a'i allu i guro'n wylaidd wrth ei ddôr, a cherdded i mewn gyda cham gweddus, a'i gwnaeth yn addurn cenedl. Mor fyw oedd apêl ei fyd ato! Fel hyn y canodd i ran o hono:—
Y mae Cymru a'i mynyddoedd
Yn cysgodi mil o gymoedd,
Ond nid oes drwy'r wlad yn unman
Un cwm imi fel Cwmaman.
Aml yw'r twyni a'r llechweddau
Sy'n addurno" Gwlad y Bryniau."
Ond nid oes drwy Walia wiwlan
Un bryn imi fel Brynaman!
Enwog lannau teg a glynnoedd,
Ymaneddant rhwng mynyddoedd,
Ond ni welais drwy'n gwlad wiwlan
Un glyn imi fel Glanaman.
Ni chlywsom iddo erioed golli awr i geisio profi ei fod yn olyn- iaeth rhyw hen fardd gwych, a hawdd y gellir credu iddo ef, pan ofynnwyd iddo a oedd "o'r un gwaed o'r un gwaed" ag Owen Watcyn, "Owain Dafydd, Cwmaman," fel y galwyd ef yn ddiweddarach," gau ei lygaid, a'i ddwrn yn gaeëdig am ei gudyn gên," ddywedyd yn chwareus, "Eitha gwir, clywais lawer gwaith gan fy nhylwyth fod Owen yn ein teulu ni; a ninnau, wrth gwrs, yn nheulu Owen," ac yn "codi ei ysgwydd a chwerthin yn iach." Nid cwestiwn o fod o "waed coch cyfa" na glâs oedd ei gwestiwn ef, ond bod yn Watcyn Wyn. Hynny a ddaeth, a chawn fynd at yr hanes.
EI ENI A'I FEBYD.
MOR annhebyg iddo ef fyddai manylu gyda dyddiad a manion ei enedigaeth—chwilio hen gofrestr llychlyd Ficer y Plwyf, neu Weinidog y lle, ac yna gwybod. "Tad Bedydd a Mam Fedydd!" Pethau digrif i fardd llai ei fri a'i werth na Watcyn Wyn. Ond "gellir dweyd," chwedl yntau, i hynny ddigwydd ar y 7fed o Fawrth, 1844. Eithr gydag ef rhaid i'r chware bach ddod i mewn hyd yn oed i fater o ffaith fel hwn.
Ar lan afon Llynfell, fel y dewisai'r trigolion alw "llinell lwydfain o ddwfr y corsydd," a weithia "ei ffordd tua Twrch, ac yna i Tawe," y ganwyd ef; ac mewn bwthyn bach tô gwellt. Cwmwd bychan o'r enw "Cwmgarw Ganol," ar lan yr afon Garw, welodd ei fagu, a'r "Mynydd Du" yno'n gweld y cwbl. Y "Ddolgam" oedd bwthyn ei enedigaeth, er bod ei rieni'n byw yng Nghwmgarw Ganol." Yn y "Ddolgam" ar lan y Llynfell, y ganesid ei fam; a phan oedd hithau ar fin bod yn fam, ac yn fam iddo ef, aeth am dro i weled ei mam ei hun yn yr hen gartref—"Dolgam "; ac yno y ganwyd y Bardd. A dyma'r chware,—" Sut mai yn y Ddolgam' y ganwyd di, a'th dad a'th fam yn byw yng Nghwmgarw?" meddai cyfaill wrtho. "O," meddai yntau, "'doedd mam ddim gartre pan anwyd fi."
Hezeciah oedd enw ei dad, ac Ann oedd enw ei fam; eithr "Nansen" y gelwid hi yn ol arfer syml y dydd, merch David Williams, Dolgam. "Watkyn" y galwyd ef yn ei fedydd. Mabwysiadodd enw canol wedi hyn, a daeth yn "Watkyn Hezeciah." Amlwg yw nad o dan ysbrydiaeth farddol y dewisodd yr enw anfarddonol hwn; a phwy yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf allai feddwl am " Watcyn Wyn' yn byw o dano? Eithr tro call oedd dewis yr enw canol, i gadw'i lythyrau rhag crwydro at "Watkyn Williams" arall a drigai ym Mrynaman—ewythr iddo, cefnder ei dad. Ac o ddewis enw canol o gwbl, i amcan felly, nid oedd dim gweddusach na dewis enw ei dad.
Cafodd noddfa yn yr enw dieithr hwn un tro, o leiaf. Teithio yn y trên yr oedd efe a'i hen gyfaill difyr Dr. Joseph Parry, a rhyw wladwr ymholgar, yn yr un cerbyd, wrth eu clywed yn siarad ar faterion cenedlaethol, yn dyheu am wybod pwy oeddynt, yn dywedyd, " Pwy gaf fi ddweyd ydych chwi?" "O," ebe'r Doctor, "Josi Parry wyf fi, a Watcyn Hezeciah yw yntau." "Yr annwyl fach," meddai'r gŵr, "a finne'n meddwl 'mod i'n sharad â dynion enwog!" Ac ni holodd y gwladwr ddim ychwaneg: teimlai ei fod wedi mynd yn ddigon pell i dir cyffredin.
Gallodd dybio am amgylchiad y rhoddasai ei enw barddol adnabyddus ef dan anfantais. Prin, yn ol ei dŷb ef, y gallai unrhyw Brifysgol feddwl am ei anrhydeddu ef â gradd o Ddoctor mewn Diwinyddiaeth, oblegid," meddai, "swnio'n od iawn wnelai Watcyn Wyn, D.D.'
Yr oedd Cwmgarw, ei hen gartref genedigol, yn hen annedd enwog yn y fro. Yma y cychwynnwyd yr achos Annibynnol yn y lle. "Efe," meddai Watcyn Wyn, "oedd tad holl dai'r gymdogaeth. Yr oedd fy hynafiaid wedi byw am oesoedd ynddo, mor bell ag y gwn i.'
A phan ddaeth yr hen furiau trwchus i lawr, agos ar ben y teulu, ac i ddigon o gerrig ddisgyn o un talcen i godi tŷ newydd, meddai bachgen oedd yn byw y tu arall i'r heol:—
Wel, wel, dyma hen dŷ newyrth wedi mynd, dyna rybudd i'n hen dŷ ninnau i fod yn barod." Ar waetha'r cwymp, glynodd Hezeciah, y tad, wrth yr hen dŷ nes y daeth y tŷ newydd yn barod, ac meddai hen feddyg o'r lle wrtho:— "Weles i un dyn ario'd yn iwsio'i dŷ mor lwyr a ti, Hezeciah." A phobl yn mynnu gwasanaeth eithaf pob peth oedd pobl yr hen ardal Gymreig hon.
Nid oedd gan y Bardd gystal gair i'r tŷ newydd ag i'r hen—" dim mor gartrefol "; ac meddai, "Yr oeddem yn gallu gweled y nefoedd drwy simnai'r hen dŷ, ac yn wir, yr oedd cryn dipyn o nefoedd o'i fewn hefyd, oblegid yr wyf yn cofio yn dda fod nhad a mam a newyrth Owen yn canu yn amlach na dim arall yno," Gwelodd ei hun eilwaith "wrth dân yr hen dŷ":—
Y pentan yn gynnes, |
Y fflam oedd yn esgyn |
Rhyfedd oedd, os nad oedd yno rywrai heblaw hwy ill tri yn canu, oblegid yr oedd y bachgen a ganmolai'r hen dŷ yn un o ddeg o blant, yr hynaf ond un, ac y mae yn anodd meddwl nad oedd rhai o honynt yn cynnal y gân yn eu ffordd eu hunain.
Pobl gartrefol iawn oedd pobl ei ardal, heb ddim o ffuantrwydd y dyddiau diweddaf hyn yn eu halogi, " yn byw i gyd " meddai ef, "fel pe buasent dan yr un tô, . . a neb yn meddwl wrth fyned o un tŷ i'r llall am waeddi rhagor na 'holo' wrth y drws." Meddai Mr. T. M. Evans, hen gyfaill i Watcyn Wyn, ac un a ŵyr arferion ei fro yn dda, "Y cwbl a ddywed dyn pan yn mynd i dŷ cymydog oedd, Holous, ôs rhywun miwn yma,' a chodi'r glicied, ac i mewn ag ef."
Ar ddydd Saboth cynnar yn ei fywyd y daeth o hyd i'w hunan gyntaf. Ond yr oedd peth mawr wedi ei ddysgu iddo cyn iddo hyd yn oed ei ddarganfod ei hun, "nad oedd yn iawn chware ar y Sul "; ac ystyriai hynny'n anffawd. Ond y Saboth oedd hi, ac wedi i'w dad a'i fam fynd i'r Cwrdd Chwech!" Yn ei arabedd cynefin, meddai, Nid wyf yn cofio dim am y bore nac am y prynhawn, tebyg fy mod yn rhy ifanc."
chofio
Cafodd chware ac ymddifyrru cryn lawer, fel y dylai fod ym myd plentyn, er i ddyddiau gwaith ddod yn llawer rhy gynnar, yn ol creulon arfer y dyddiau hynny yng Nghymru. Er i angladd ddod i mewn i'w gôf yn gynnar—angladd yn codi o fewn dau led cae i'w dŷ ef, а fod rhyw erfyn a distawrwydd llethol wedi meddiannu'r hen gwm i gyd, y canu lleddf yn dod yn groes i'r afon, ac yn groes i'r cwm . . ac yn gwneud i'r hen gilfachau ddynwared canu ac wylo."—melys meddwl iddo gael chware llawer, "chwilio am nythau," " torri bando," a "niclo," etc., ac, meddai am yr "hen gwm":— Teithio yn y trên yr oedd efe a'i hen gyfaill difyr Dr. Joseph Parry, a rhyw wladwr ymholgar, yn yr un cerbyd, wrth eu clywed yn siarad ar faterion cenedlaethol, yn dyheu am wybod pwy oeddynt, yn dywedyd, " Pwy gaf fi ddweyd ydych chwi?" "O," ebe'r Doctor, "Josi Parry wyf fi, a Watcyn Hezeciah yw yntau." "Yr annwyl fach," meddai'r gŵr, "a finne'n meddwl 'mod i'n sharad â dynion enwog!" Ac ni holodd y gwladwr ddim ychwaneg: teimlai ei fod wedi mynd yn ddigon pell i dir cyffredin.
Gallodd dybio am amgylchiad y rhoddasai ei enw barddol adnabyddus ef dan anfantais. Prin, yn ol ei dŷb ef, y gallai unrhyw Brifysgol feddwl am ei anrhydeddu ef â gradd o Ddoctor mewn Diwinyddiaeth, oblegid," meddai, "swnio'n od iawn wnelai Watcyn Wyn, D.D.'
Yr oedd Cwmgarw, ei hen gartref genedigol, yn hen annedd enwog yn y fro. Yma y cychwynnwyd yr achos Annibynnol yn y lle. "Efe," meddai Watcyn Wyn, "oedd tad holl dai'r gymdogaeth. Yr oedd fy hynafiaid wedi byw am oesoedd ynddo, mor bell ag y gwn i.'
A phan ddaeth yr hen furiau trwchus i lawr, agos ar ben y teulu, ac i ddigon o gerrig ddisgyn o un talcen i godi tŷ newydd, meddai bachgen oedd yn byw y tu arall i'r heol:—
Wel, wel, dyma hen dŷ newyrth wedi mynd, dyna rybudd i'n hen dŷ ninnau i fod yn barod." Ar waetha'r cwymp, glynodd Hezeciah, y tad, wrth yr hen dŷ nes y daeth y tŷ newydd yn barod, ac meddai hen feddyg o'r lle wrtho:— "Weles i un dyn ario'd yn iwsio'i dŷ mor lwyr a ti, Hezeciah." A phobl yn mynnu gwasanaeth eithaf pob peth oedd pobl yr hen ardal Gymreig hon.
Nid oedd gan y Bardd gystal gair i'r tŷ newydd ag i'r hen—" dim mor gartrefol "; ac meddai, "Yr oeddem yn gallu gweled y nefoedd drwy simnai'r hen dŷ, ac yn wir, yr oedd cryn dipyn o nefoedd o'i fewn hefyd, oblegid yr wyf yn cofio yn dda fod nhad a mam a newyrth Owen yn canu yn amlach na dim arall yno," Gwelodd ei hun eilwaith "wrth dân yr hen dŷ":—
Ar waelod yr hen gwm |
Er na fu cwm erioed |
Ymffrostiai yng Nghwmgarw fel lle am nythau sâff," —"am fod y tir wedi ei dorri yn gaeau mân, fel yr oedd yno lawer o berthi; ac yr oedd eithin a chreigiau, a phrysglwyni, a glan afon yno, a digon o leoedd dewisol i adar y nefoedd nythu ar hyd y cwm, heblaw o dan fondo yr hen dai to cawn' oedd yno." Gwyddai am nythau adar yr holl fro—nyth y pinc, y dryw, y gochgam, llwydyberth, penfelyn yr eithin, a'r wenolen, heb anghofio'r fronfraith a'r fwyalchen, a llawer dydd difyr gafodd ef o lwyn i lwyn, ac o fondo gwellt i fondo yn chwilio am "nythau sâff." Yr oedd adnodau ymgeledd adar yn ei gof i gyd:—
Y sawl a dynno nyth gochgam,
Wêl 'e byth o wyneb ei fam.
Y sawl a dynno nyth y dryw,
Wêl 'e byth o wyneb Duw.
Yr oedd chwilio'r perthi am "fando da," neu" sciw luniaidd" yn chware melys ganddo. "Llawer o oriau, ond oriau byrion iawn, a dreulid o berth i berth, ac o lwyn i lwyn, nid i chwilio am bren cwmws fel yr hen athronydd gynt, ond i chwilio am bren cam."
Ymhlith ei gofion cynnar y mae'r capel a'r bregeth—y bregeth gyntaf iddo dalu sylw iddi"—pregeth Jonah Jonathan "; a adnabyddwyd wedi hynny fel y Parch. Jonah Morgan, Cwmbach, Aberdâr. Nid rhyfedd ei dalu sylw iddi chwaith, oblegid soniai'r pregethwr fwy na digon i foddio bachgennyn caredig am "wlawio tân a brwmstan ar y dynion drwg"; ac yr oedd y gwrandawr bach " yn gweld y tân yn llanw'r tŷ." Tybiai mai ar fechgyn y topîs y deuai hi waethaf pe deuai'r tân—y bechgyn a ymhyfrydai mewn gwneud Q.P's o'u gwallt cyfoethog, gan "bwyso eu pennau ar gefn y sêt" ar eu cyfer, nes oedd y Q.P.' yn hongian i lawr fel rhyw aden brydferth, farddonol iawn," ac yna yn rhoi jerk sydyn i'r pen, i daflu yr aden wallt brydferth yn ol i'w lle." Yr oedd y bechgyn a'r aden wallt yn arwyr yn ei olwg. "Dyma fy idea am ddyn y pryd hwnnw," meddai, dyn a thopee, ac yn gallu taflu ei wallt yn ol o'i lygad ar un cynnyg."
Cyn hir, daeth dyddiau ysgol i'w ran, er mai byr a brau oeddynt. Y "Llofft fach," neu fel y gelwid ef," Tŷ Conglen," yn ymyl y Bridgend, gerllaw Gibea—capel Annibynnol ym Mrynaman—oedd yr ysgoldy; yr oedd "o'r chwech i'r saith oed" yn myned yno, a thua " phymtheg neu ugain o blant " yn ddisgyblion. Un "Wil Edward" oedd ei ysgol-feistr cyntaf, "yr hwn," meddai, oedd yn ysgol-feistr o ran cred, ond cigydd o ran crefft." Ceisiai ofalu am ei "gred" a'i "grefft" fel y gallai, oblegid, meddai'r ysgolor bach, "pan fyddai'r gwaith lladd yn brin, yr oedd yn cadw tipyn o ysgol."
Nid oedd yn cofio fawr am yr ysgol na'i gwaith; cofiai fwy am ffraeo ac ymladd y "bechgyn llai," wedi eu hannos i'r frwydr gan y bechgyn mwy." Ond er gorfod gadael yr ysgol a'i goleu prin ymhen "ychydig o wythnosau," y fath gyfoeth i lanc oedd gallu dywedyd, Yr oedd fy nhad a fy ewythr yn gallu darllen Cymraeg yn dda, a Saesneg yn weddol, ac yr oedd digon o lyfrau yn ein tŷ ni."
Pan oeddwn yn fachgen, fy mhennaf fwynhâd
Oedd chware, a darllen hen lyfrau fy nhad
Nid oedd yr adfyd yn fawr felly, yn arbennig gan y byddai ei dad "ambell waith yn cadw ysgol i ddysgu rhai o blant y gymdogaeth i ddarllen, ysgrifennu, a gwneud sums," os aeth cyfnod heibio cyn ei fynd i'w "ail ysgol "—ysgol hen filwr o'r enw Richard Williams, mewn tŷ annedd, yr ochr hwnt i Weunydd yr Esgyrn "—"Gwaun yr Esgair medd Mr. T. M. Evans, golygydd" Hirnos Gaeaf." Ni fu'n ddigon beiddgar i'w gyfrif ei hunan yn yr ysgol" cyn y tro hwn, ond tybiai y gallai fforddio gwneuthur hynny yn awr, "am fod hon yn fwy tebyg i ysgol na'r lle bach ar y llofft fach."
Ond yr oedd rhywbeth heblaw'r adeilad yn rhoi lliw "ysgol" ar y sefydliad hwn, y ffaith nad oedd yno "ddim Cymraeg," ac meddai'r hwn a ganodd yn yr hen Gymraeg nes llonni aelwydydd Cymru:—"Yr oedd yn rhaid cael ysgol y pryd hwnnw a dim ond Saesneg ynddi, neu ynte ystyrid hi islaw sylw, ac yn ddiddysg a diddisgyblaeth." Mor greulon wir am ysbryd ffol y dydd, a llawer dydd gwedi!
Yn yr ysgol hon y cafodd ei brofiad cyntaf, a'i unig brofiad, o'r "Welsh Note." Nôd barn am siarad Cymraeg mewn ysgol, ac ar ei thir, oedd y "Welsh Note," ar y ffurf o bren ysgwâr, yn crogi wrth gortyn, a'r ddwy lythyren, W.N." arno a'r diweddaf i arfer gair Cymraeg, i'w ddwyn am ei wddf, fel pechadur. Pren dioddef" y galwai Watcyn Wyn ef, ac meddai:—" Pe buasai creadur gwan mewn caledi yn galw ar y gŵr drwg yn Saesneg, ni fuasai llawer o wahaniaeth gan yr hen filwr, ond pe buasai yn galw ar ei fam yn y Gymraeg, yr oedd y wialen yn cael ei rhoi ar gefn yr ynfyd.' mae'r pren y felltith" hwn wedi pydru, a'r ysgolor bach yn canu yn ei Gymraeg miniog o hyd, a gwerin Cymru yn dal i ddarllen heb ofni nemor:—
Mae'r iaith Gymraeg yn mynd i fynd,
Yn mynd i fynd a'n gadael ni;
'Roedd llawer i'r hen ffrynd yn ffrynd,
Ond er eu gwaetha mynd mae hi
Mae'n mynd, ffarwelia o un i un
A thad a mam, â brawd a chwaer;
Mae'n mynd i fynd, yn wir i ddyn,
A'n gadael yma heb un gair.
Ond nid peth wedi ei wthio ar blant Cymru gan estroniaid oedd y "Welsh Note," ond peth yn ol ewyllys rhieni gwahanol ardaloedd, er mwyn i'w plant fod yn sicrach o ddysgu Saesneg.
Dywed Mr. T. M. Evans, fel hen athro ym Mrynaman, mai
gwae yr athro a esgeulusai hyn, gan rieni.
Rhyw ddau neu dri mis a fu ei arhosiad ef yn y ddwy ysgol. hyn, a hynny, gallai feddwl, "heb fod yn agos iawn i'w gilydd." Fel cannoedd o fechgynnos Cymru'r dyddiau hynny, daeth "mynd i'r gwaith" yn brofiad bore iddo, ac i'r gwaith glô dan y ddaear. Wyth mlwydd oed oedd ef yn dechreu ei fyd fel glöwr, gan ennill grot y dydd, a'i oleu. Ennill bychan mewn arian, ond yr oedd hynny" yn rhywbeth i son am dano," meddai ef. Ond os bychan oedd yr ennill ariannol, cafodd rywbeth gwell nag arian yn Lefel Fach y Tri Gloyn, a gwell na'r goleu a gai gyda'i "rot," oblegid gyda'i ewythr Owen y gweithiai, a chadwai hwnnw ddosbarth, bob amser ciniaw, dan y ddaear.
Yn yr "Ysgol Nos" honno, fel y galwai Watcyn Wyn hi, dysgai ddarllen ac ysgrifennu, adrodd ac areithio, canu a barddoni, "a chware draughts, a stôl ganddo." A chydag edmygedd na fyn heneiddio, meddai ef, gan gyfeirio at y cerrig geirwon a ddefnyddid i ysgrifennu arnynt, "Dyna feini coffa- dwriaeth sydd i'r dyn rhagorol hwnnw, wedi eu claddu yn y gob dan y ddaear!"
Cyfarfu â chymeriadau gwreiddiol iawn yno : "James Gorsto" a "Shon Pechod." Am y diweddaf, meddai ef, Nid oes gennyf un amcan paham y gelwid yr olaf yn Shon Pechod. Ai pechadur oedd, nis gwn i; un peth a wn i, mai un o seintiau'r dyddiau diweddaf oedd." Ond wrth gynnyg ar esboniad, eb efe, mor debyg iddo ef ei hun, "Efallai ei fod yn cael ei alw yn Shon Pechod' am ei fod yn sant, ac yn lladd ar bechod. . . . Yr unig beth nad oeddwn yn hoffi ynddo oedd, ei fod yn ceisio troi fy ewythr ya sant."
Yn y misoedd hyn, bu'n chware rhwng gwaith ac ysgol a "bugeila"—bugeilio defaid prin ei dad hyd dir yr hen Gwmgarw—" lle bychan i gadw pedair neu bump o wartheg, ychydig ddefaid ar fynydd y "Rhosfa," a dau geffyl bychan at waith y fferm." Nid oedd yn rhagori fel "bugail," am nad oedd ei sylw yn ddigon craff," a gwyddom am hwrdd o eiddo'i dad a brofodd y meddai well llygad i weled cyfle nag a feddai'r bugail bach. Pan ddaeth yn adeg iddo i fynd i'r gwaith eilwaith yn Lefel Gorsto, wedi bod dan addysg "Dafis y Scŵl," fel y gelwid ef, cymeriad diddorol, a mab i bregethwr' enwog yn ei ddydd —un, meddai'r diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, y dylesid ei enwi gyda "Williams o'r Wern," ac eraill—y Parch. Thomas Davies, Abertawe, a Phentre Estyll, ar ol hynny— yr oedd yn dod i un o golegau y werin. Yno yr oedd "siarad politics," a darllen yr "Amserau," dilyn llythyrau " Yr Hen Ffarmwr," ac yn credu William Rees bob gair." Yma y gwnaeth ei bennill cyntaf, hyd y cofiai, pennill ar Y Ci Kiper," hen gi ffyddlon o eiddo "bechgyn Penygraig," "ffafryn yn ein mysg," ac yn ymladd ymron bob dydd â chŵn mewn ffermdy o'r enw Cwmaman :—
Y ci Kiper ydyw'r ffloger,
Pan y byddo'n mynd tua'r Gwter;
Mae yn curo cŵn Cwmaman,
Pan na byddo ond ei hunan.
Yr oedd yn bennill buddugol, a'r wobr oedd blychaid o matches. Cafodd ambell wythnos o ysgol ar ol hyn, dan ofal Mr. George Gill, gŵr a ddaeth wedi hynny yn gyhoeddwr y llyfrau ysgol dan yr enw George Gill a'i Fab; a than ofal Mr. Thomas Jones, arolygwr ysgolion wedi hynny. Bu Mr. George Gill yn ysgol—feistr i lenor a nofelydd enwog arall—Mr. Hall Caine, yn Lerpwl, fel y gwelir yn "Hall Caine, the Man and the Novelist," gan G. Fred Kenyon. Yr oedd ei fryd ar ei ddiwyllio ei hun cyn foreued a hyn, oblegid pan ddigwyddai'r lefel fod yn segur ambell ddydd, byddai Watcyn yn dywedyd wrth ei gyfeillion ieuainc, "Gadewch i ni fynd i'r ysgol am ddiwrnod, boys," ac i'r ysgol yr elent, ar ei awgrym, canys yr oedd yn arweinydd yn eu mysg. Nid oedd bendith o chware ofer am ddiwrnod ar y Rhosfa, pan yr oedd cyfle am oriau o addysg ar law Mr. Jones, neu Mr. Gill.
Y fath oedd awydd bechgynnos y" Rhosfa" am eu diwyllio eu hunain, fel y sefydlasant drysorfa fechan, i'r hon y bwrient. eu ceiniogau, gan brynu llyfr yn ol eu gallu, a'i anfon o gylch i'w ddarllen. Llawer llyfr Cymraeg da a ddarllenwyd, a llawer cân a ddysgwyd, gan fechgyn y "Rhosfa" yn y dull teilwng hwn.
Dyna fyd mebyd Watcyn Wyn, a mawr ei fendith o'i feddu.

Y BACHGEN A'R DYN IEUANC.
DILYNODD y "Ci Kiper" y bardd ieuanc i fyd y Cwrdd Llenyddol a'r Eisteddfod, oblegid gafaelodd twymyn cystadlu ynddo "pan oedd tua phedair ar ddeg oed, neu dan hynny." "A bum wrthi yn lled gyson a dyfal," meddai, "hyd Eisteddfod Fawr Chicago yn y flwyddyn 1893." Yr oedd buddugoliaethau y bachgen—fardd yn lluosog mewn adrodd, areithio, dadleu a barddoni, "ac yn wir," medd efe, fel pe am baratoi'r darllenydd at ryfeddod, "unwaith am ganu!" Tybiai iddo ganu digon am byth yr unwaith honno. Ond clywsom ef yn canu gyda'r delyn wedi hynny, pan nad oedd "cwdyn a gwobr" yn y meddwl—dim ond afiaith noson gyda'r delyn, ac Eos Dâr, a Bryant y telynor. Ond gwrando wnai Eos Dâr yn awr, os gwrando hefyd, a Watcyn Wyn yn dangos, ac yn dangos yn effeithiol, sut y dylid canu "Y deryn pur a'i aden lâs," &c., yn deilwng o dafodiaith Bro Morgannwg; a dyna efe ati, ac yn canu yn "iaith y Fro," gan seinio'r a yn "lâs " a was" fel e yn "fel," ond â sain hir. Ac wedi canu, a pheswch yn fân, a mynd "mâs o diwn" fel y dywedai, meddai ef, gyda chware mawr yn ei lygad. Cofiwch mai canu fel bachgen ar y bŵs oedd ef. Canwch yr hen benillion gwledig a gwerinol hyn, fechgyn, fel y canai eu hen awduron syml hwynt, ac nid yn iaith yr oes ole hon." "Unwaith am ganu!" Ond byddai wrthi yn penillio ac englynu beunydd. " Y mae hi yn union fel twymyn," meddai, "y mae yn rhaid iddi gael cerdded ei chwrs, ac y mae ambell un yn gwella, a phawb yn swlddanu yn ei dro—yn credu ei fod yn cael cam pan nad ydyw."
Dan yr enw "Glaslanc" yr ysgrifennai y pryd hwnnw— dyddiau'r bachgen-fardd; ond yr oedd pob Eisteddfod y cariai wobr o honi, yn ei wneud yn llai o lanc; ac ni phrofodd ei hen gyfaill Gwydderig ei hun yn fwy ymarferol erioed na phan yr awgrymodd y priodoldeb o newid yr enw, oblegid mail digrif fyddai'r enw 'Glaslancar hen ŵr." Ac eto, pwy fedrai feddwl am Watcyn Wyn fel "hen wr," ar unrhyw oed?
Ei gydymgeiswyr cynnar oedd Tom, Bantyrywen; Evan Gethin, Gwalch Ebrill, Meurig Aman, a Gwydderig. "Yr oeddynt ymhob Eisteddfod, ac yn cynnyg ar bob peth, ac yn wir yn agos clirio'r cyfan o lawer un." Cystadleuwyr aflonydd a pheryglus oeddynt," meddai ef. Ond er mor beryglus, ni ryfygodd y ddau gyntai erioed gario ffugenw. Ac am Evan Gethin, meddai ei gyd—fardd, fel efe ei hun, "Y mae ef, er ys llawer dydd, yn cystadlu mewn masnach, ac nid mewn barddoniaeth. Y mae wedi cael allan fod masnach yn talu y well."
Eisteddfod fach tai annedd fyddai'r Eisteddfod yr ymgeisid ynddi, yr hon a gynhelid ar hwyrnos ar y Rhosfa," cymydogion syml a difyr y lle yn ymgasglu iddi, a "Watcyn Morgan, y Pia," a'i fath, yn feirniaid. Daethai'r "Pia" i mewn i enw'r beirniad, am mai "Piahiroth" oedd enw'i gartref ar lan y nant"Garw." Yr oedd "Baalsephon" ar y tu arall i'r afon. "Tad llenyddol y gymdogaeth," meddai Watcyn Wyn, "oedd D. L. Moses," a gadwai ysgol am ysbaid yn y "Capel Bach ym Mrynaman. Fel hyn y canodd ar ol un Beatrice. fach, a fuasai farw :—
Y gweryd ni chadd ragorach—erioed,
Na'r un fu anwylach;
Dwfn y clwy,' mae'n rhaid mwyach.
Bod dros f'oes heb BEATRICE fach.
Heb fod nepell o'i ardal yr oedd "Ifor Cwm Gwŷs " a "Rhydderch Farfgoch," heb son am ei hen athro, a adwaenwyd ar ol hynny fel y Parch. Ben Thomas, Gurnos. Ond Meurig Aman, Gwalch Ebrill, Gwydderig ac yntau oedd yn cyd— chware barddoni. Ergydient ei gilydd â chynganeddion, fel y gwelwyd plant yn lluchio pelau eira at ei gilydd, ond fod mwy o gynghanedd rhwng yr ergyd â'r sawl a'i cawsai, yn yr amgylchiad cyntaf nag oedd yn yr olaf. Ni thorrid cyng— hanedd, ac ni ddolurid llygad, chwaith. Bechgyn iach eu hysbryd oeddynt, yn cael moddion digrifwch diniwed ymhob peth ymron.
Gwydderig oedd y pen campwr ar y gynghanedd, a dygodd ei lawryf yn lew hyd heddyw. Efe a ddysgodd gynghanedd i'r ddau eraill, "nid o lyfr," meddai Watcyn Wyn, "nac mewn dosbarth, ond ar hyd yr heolydd, wrth ei harfer hi." Am addysg Gwydderig ei hun yn y gynghanedd, meddai'r un gŵr ffraeth eto, "Nid wyf yn gwybod gan bwy y dysgodd ef, ac nid wyf yn credu ei fod ef ei hun yn gwybod: credwn y gall ddywedyd fel 'Topsy,' mai tyfu ddarfu'r pethau hyn gydag ef." Ond ei harfer hi a wnai'r tri.
Dyna gôt fawr newydd am Gwalch Ebrill un diwrnod, a Watcyn Wyn yn rhoi barn anffafriol arni. Ond meddai'r Gwalch ar unwaith—
Y gôt oreu fu'n y Gwter Fawr.
Beth bynnag am y gôt, mae y gynghanedd yn newydd, ac yn gweddu mor dda ag y gallai unrhyw deiliwr yn ol Braint a Defod Ynys Prydain beri iddi. Meddai brawd Gwydderig un diwrnod, wrth nesu at y tân, wedi dyfod allan o'r gwaith glô, mor ddiniwed ag y gallai gwerinwr â chylla gwag ganddo ddywedyd, a'r " cawl yn berwi ar y tân:—
A oes cawl yn y skillet?
Ac meddai Gwydderig ar darawiad :—
Bachan, oes, cawl bach nêt.
Ergyd llenyddiaeth "carreg y parth" yn y Dê yw" cawl bach nêt."
Mae cannoedd o wragedd yn ei ddywedyd bob wythnos cyn rwydded a Gwydderig, ond nad ŷnt hwy yn gallu cael y "bachan " i mewn.
Gwnaeth Watcyn Wyn ei hun gannoedd o linellau difyfyr a diymdrech fel hyn, a cholled gwlad ac aelwyd yw na ddiogelwyd hwynt. "Y Wawr" gafodd un o'i gyffyrddiadau cynharaf:—
Ei hieuanc wyneb llawen,
Ar un waith wna'r sêr yn hên,
Mae ergyd cyfrin, pell, y llinell olaf, yn ennill ar feddwl dyn, ac yn ei gaethiwo i'w swyn.
Dyna'i fyd, yng nghymdeithas yr awenyddion hyn, ac o dan feirniadaeth y lleill a enwasom, megis "D. L. Moses," Ifor Cwm Gwŷs, a Ben Thomas. Ac mor ddifyr y rhaid fod y byd llunio englyn a'i gadw'n y cof, ei wella' a'i ystwytho, a'i adrodd wrth gamfa, neu yng nghysgod perth—cerdded i fân Eisteddfodau'r fro ar brynhawnau Sadwrn, wedi wythnos o waith a dyfnder du, croesi bryn a gwaun, dôl a dyffryn, a dod yn ol heb golli byth, er nad wedi ennill bob amser. Yr oedd y profiad a'r difyrrwch a gawsid wedi talu'n dda.
Mae ganddo air da i'r glöwr, ac yr oedd ganddo gryn serch at y grefft o dorri glô. Meddai am y glöwyr, "Peidiwch chwi a chredu mai creaduriaid tywyll yw'r colliers—er eu bod yn byw yn y tywyllwch, y mae dynion ymdrechgar yn gallu troi 'meini tywyllwch a chysgod angeu' fel goleu dydd . . . Y mae y glöwr fel rheol yn un ystwyth ei gymalau, a chyflym ei feddwl. Mae ei waith yn beryglus, ac yn rhwym o ddysgu cyflymdra iddo. Yr oedd gan y colliers, yn fy amser i, eu cyf— arfod gweddi a'u Heisteddfod, a'u seneddau, a'u cymdeithasau dadleuol... Y dyn mwyaf rhydd dan haul yw'r gweithiwr, ac y mae ganddo lawer o oriau hamddenol. . Oriau gwynion dedwydd yw oriau collier ar ol ymolch!... Atgof melys sydd gennyf fi am dan y ddaear; yno y cefais agor fy llygaid ar lawer o bethau... Gallaf dystio na wn i am un gorchwyl mwy pleserus ar wyneb y ddaear na thorri glô." A dyna ef, yn llawn atgof siriol, ati i ganu "Cân y Cart," fel y canasai Ieuan Gwynedd "Gân y Glô" a Thomas Hood Gân y Crys," a gyfieithiwyd gan Iorwerth Glan Aled. Am y cart bach y llusgai bechgynnos y glô ynddo, y meddyliai:—
A breichiau eiddil gwan,
A choesau llawn o gur,
'Roedd bachgen bach mewn tywyll fan
Yn llusgo cart ar hur;
Pan fyddai eisieu glô,
Fe geisiai fod yn smart;
Ac yn ei blyg o dro i dro,
Fe ganai gân y cart.
Cart, cart, cart,
Yw bloedd y collier câs;
Cart, cart, cart,
'Nawr, dere oddna, was!
Cart, cart, cart,
Mae'r halier ar y tip,
'Nawr, dere oddna, a dere'n smart,
Neu ti gai flas y whip.
Cart, cart, cart,
Yn hir cyn torro'r wawr!
Cart, cart, cart,
Ar ol i'r haul fynd lawr!
Cart, cart, cart,
Drwy gydol maith y dydd,
Ac wrth freuddwydio yn y nos,
O flaen y cart y bydd!
Cart, cart, cart,
Yng ngwlad y fagddu fawr,
A'r gannwyll dan y cart.
Sydd wedi cwympo 'nawr;
Waeth beth am golli tân,
Rhaid meindio bod yn smart;
Mae llais yn gwaeddi: "Dere mla'n,
'Nawr, bachan, bant â'r cart."
Yr oedd yn löwr da ei hun, yn ol tystiolaeth rhai fu'n cydweithio âg ef—" yn gallu arbed llawer ar ei ddwylaw drwy osod ei feddwl i weithio "; a thystia hen gyfaill bore bywyd iddo—Mr. T. M. Evans—ei fod yn ennill cymaint o arian a neb pwy bynnag yn y gwaith glô, oherwydd ei ddeheurwydd. Ychydig mewn cymhariaeth a ŵyr ei fod yn rhifyddwr gwych. Gŵyr ei hen ddisgyblion a'i gyd—fyfyrwyr hyn, yn dda; ac yr oedd bod yn rhifyddwr da yn llawer tuag at fod yn gelfydd a deheuig mewn trin y glô yn ei wely cudd.
Dilynodd y grefft hon i ardal Aberdâr, a gweithiodd am beth amser ym Mhwll Rhys, Cwmdâr, gan letya ar Gae Jaci, Trecynnon. Yn ystod ei ymdaith yma, daeth i gyffyrddiad â Llew Llwyfo, a ysgrifennai ar y pryd i'r "Gwron"; Walter Lloyd, perchennog y "Gwladgarwr"; William Morgan y Bardd, Dafydd Bowen, Gwilym ap Ioan, Jenkin Howell, a Dafydd Morgannwg. Yr oedd ganddo atgofion hyfryd am Gwm Aberdâr a'i feirdd, ei lenorion a'i gôr mawr, a chlywsom ef yn eu crybwyll fwy nag unwaith, mewn blynyddoedd. diweddarach.
NEWID BYD.
DAETH Watcyn Wyn i fyny o'r pwll glô du, ac i fyny i beidio mynd i lawr byth mwy. Ffarweliodd" â'r "gwaith glô," yn ei eiriau cartrefol ei hun, "pan tua saith ar hugain oed," am fod amgylchiadau wedi newid cwrs ei fywyd. Gwneuthum gartref i mi fy hun," meddai; —priododd. Yr oedd hyn pan tua chwech ar hugain oed. Yr oedd wedi bod yn lled gyfarch y byd swynol rhamantus hwn er pan oedd rhwng tair a phedair ar hugain oed." "Cyn hynny," meddai, "ni wyddwn i fawr am dano, a dichon i hynny fod yn fendith i mi." Llonydd "go lew i fwynhau gwanwyn gwyrdd ieuenctid diofal a dibryder,—llonydd i gael blâs ar ddarllen, a dechreu rhigymu, a dechreu cynganeddu " olygai hynny; er fod gan y ferch honno—Mary Jones, o'r Trap, ger Llandeilo, ddigon o gydymdeimlad â llenydda, a barddoni, a darllen, i beidio â thywys y dall allan o'r ffordd," meddai'r hwn a'i hadwaenai hi oreu.
Bu hi yn ysbrydiaeth ac yn amddiffyn iddo, ac meddai ef, "daeth rhodianna yn ysgol y nos i mi, i fy mharatoi i feddwl am ddydd bywyd." Priododd y ddau ar y 9fed o Ebrill, 1870. Ond ym mhen un-mis-ar-ddeg yr oedd yr elor mud wrth y "tŷ bychan yn ymyl yr heol, ym Mrynaman," a'i gweddillion hithau yn cael eu dwyn arni i'r bedd. "A gadawyd fi," meddai'r Bardd wylofus, "â merch fechan dair wythnos oed, ar ol!" Tarawyd tant newydd yn ei fywyd, a thant dieithr, na allasai ei swn deimlo'n gartrefol yn ei fywyd difyr ef. Ond mor gyfrin yr hiraeth! "Aeth hi i'r nef ym mis Mawrth, ac aeth y gwanwyn a'r haf ar y ddaear heibio, heb i mi eu gweled a'u teimlo fel arfer." Ni allasai calon ysig fynegi ei hiraeth mewn geiriau a gyffyrddai galon yn ddyfnach; "gwanwyn a haf yn mynd heibio heb eu gweled a'u teimlo fel arfer!"
Ond gwanwyn a haf ar y ddaear" oedd yn mynd heibio, hefyd. wyddai yn ei ddagrau am Wanwyn a Haf nad aent heibio, ac yr oedd "Mary" yn nofio yng ngwynfyd y rhai hynny. Hawdd y gellid disgwyl galar—gân fyddai byw wedi'r profiad hwn, a chaed hi:—
MARY annwyl, annwyl, annwyl,
Dyma ddechreu caled waith,
Dechreu cân, a dim i ddisgwyl
Drwyddi, ond wylo dagrau llaith;
Galar ganu, galar wylo,
Ceisio rhoddi hiraeth lawr;
Ysgrifennu sill i foddio
Dyfnder teimlad—hiraeth mawr.
Wyt ti'n cofio'r tyner siarad
Am yr un a fai ar ol ?
Pan yng ngafael breichiau cariad,
Y cyd—rodiem dros y ddôl?
Y mae un yn awr yn cofio—
Cofio'r geiriau bob yr un,
Ie'n cofio, ac yn teimlo,
Ac yn wylo wrtho'i hun.
****
Wyt ti'n cofio'r breuddwyd hynny,
Ar ryw fore ddarfu'm ddweyd,
Fod y gwanwyn wedi methu
Glasu fel yn arfer gwneud?
O, fe gostiodd ei ddehongli
I mi ffrwd o ddagrau drud—
Pan y gwelais yn y glesni,
Bridd dy fedd yn llwyd i gyd.
Newid mawr a phendant oedd oreu bellach, ac ym mis Ionawr, 1872, aeth i Ferthyr, i ysgol a gynhelid yno gan Mr. Evan Williams, M.A., ac a elwid yn "Tydfil School." Diwrnod "oer, gwlyb, diflas," oedd y diwrnod y gadawodd ei hen gartref, a'i gartref newydd wedi'i chwalu mor sydyn, ac yntau " ymron marw o hiraeth wrth adael" y cyfan. Nid oedd yr olwg a gafodd ar Ferthyr y prynhawn hwnnw yn enillgar iawn, ac yr oedd pawb yn ddieithr iddo ond yr athro, yr hwn oedd gyfyrder iddo. Syrthiodd ei goelbren i blith y boarders, a daeth i fwyta yn well, wrth weld y bechgyn yn bwyta." Yr oedd ganddo air caredig i'r ciniaw, ond prin yr oedd y tê i fyny â safon tê'r Mynydd Du, gyda'r bwrdd crwn ger y tân, a'r ymenyn cartref yn blasu mor hyfryd! Na, meddai ef, "Tê main, a bara 'menyn tew; y bara yn dew wyf yn feddwl."
Gan mai efe oedd "yr hynaf yn yr ysgol," mae ei sylwadaeth ynglyn â hi o werth. Nid hir y bu cyn dod i'r casgliad mai "eithaf peth yw i Fethodist fynd at Annibynnwr i'r ysgol, neu Annibynnwr at Fethodist, neu Wesley at Fedyddiwr, i gael cymysgu tipyn ar waed yr enwadau gwahanedig sydd yn ein gwlad." Nid oedd y geiriau hyn ond adsain o'i fywyd eang ei gydymdeimlad, a syml ei ddull. Cashai gulni enwadol â châs cyfiawn.
Yr achlysur i'r sylw hwn oedd dyfodiad nifer o fyfyrwyr Coleg Trefeca i'r ysgol ym Merthyr, ar yr anghydwelediad a gymerasai le rhyngddynt hwy â'r Prifathro. Ac wedi profiad manwl a maith, synnai na byddai gennym fwy o golegau unedig, lle y gallai'r gwahanol enwadau adnabod ei gilydd cyn mynd yn ddall i ragoriaethau'r naill y llall." A chydag anhawster y Methodistiaid i ymuno ar Goleg unedig, yn ei gof, meddai, Y mae Corff y Methodistiaid y dyddiau hyn yn gwneud cam â'i enaid ei hun, gallwn feddwl!" Dyna awydd mawr ei fywyd gweld y genedl yn mynd yn fwy na'i gwahaniaethau bychain, ac yn manteisio ar gyd-gymdeithas i feithrin teimlad lletach, ac ysbryd haelfrydicach. Erioed ni chollodd gyfle i fyw a siarad yr ysbryd hwn; ac ni ymadawodd unrhyw ddisgybl â'i ysgol ragbaratoawl ef heb i'r ysbryd hwn ei feddiannu.
Ni feddai weledigaeth eglur gyda golwg ar ei ddyfodol, pan aeth i Ferthyr. Ei duedd gryfaf oedd sicrhau tystysgrif goruchwyliwr gwaith glô, ond aeth yr haint hwnnw heibio gyda chyngor addfed yr athro. Yn ei anerchiad yng Ngorsedd Eisteddfod Merthyr, ar ei chyhoeddiad, Gorffennaf 19, 1900, meddai:—"Fi fuo i allan am chwech o'r gloch y bore ugeiniau o weithiau ar hyd yr hen dips yma, yn ceisio dysgu' Hic, Haec, Hoc' a'u cymdeithion dieithr; ond yr wyf yn credu yn fy nghalon y buasai yn well ar fy lles fod wedi defnyddio yr oriau cynnar gwerthfawr hynny i ddysgu neidio Hec, a cham, a naid;' buaswn yn gryfach a hoywach dyn heddyw, pe wedi fy nghyfarwyddo i wneud hynny."
Buan y collodd gysgod mwyn yr athro hefyd, oblegid yn haf 1873, tra'n mynychu dosbarthiadau yn y Celfau, yn Llundain, cydiodd y typhoid ynddo, ac ychydig ddyddiau y bu fyw wedi cyrraedd adref ar frys. Brysiasai'r efrydydd oddiar ei wyliau ym Mrynaman, i Ferthyr, i ymyl gwely ei athro claf; ond er ei wylio "braidd bob awr, ddydd a nos, yr wythnos olaf y bu fyw," collodd ef. Ergyd blin oedd hyn i'r myfyriwr briw ei deimiad—yr athro wedi marw yn ei freichiau. Gyda hynawsedd cyson ei athro, ac "ennill ambell wobr mewn Eisteddfod, i gael arian poced," llwyddai i ymgadw rhag angen. Cofiodd ei gyfeillion ym Mrynaman am dano, drwy anfon iddo £34 o elw cyngerdd a wnaethent iddo, "modd i ganu yn y nos," meddai ef, mwy o arian nag a welais erioed ar un olwg!"
Wedi'r gwyliau a'r angladd daeth yn ol i Ferthyr, i fod yn athro cynorthwyol i Mr. J. J. Copeland, M.A., yn ei hen ysgol, am "ychydig gyflog." Gwell cyflog iddo ef oedd dod i adnabyddiaeth o gyfeillion cydnaws—Rhys Lewis, Nathan Dyfed, Dafydd Morgannwg, Tydfylyn, Osian Dyfed, ac eraill beirdd a llenorion adnabyddus. Yno y clywodd "Osian Dyfed "— y Parch. J. Osian Davies, Llundain yn traddodi ei bregeth gyntaf, canys ym Merthyr y trigai "Csian" ar y pryd, a bu Watcyn Wyn ac yntau'n gyfeillion difyr. Mynnai Tydfylyn iddo yntau ddechreu pregethu, yr un pryd ag "Osian," oblegid ar bregethu y rhedasai ei fryd yn awr, ond gwell oedd ganddo ef "fynd adref i Gibea, Brynaman," i ddechreu ar hynny o waith; ac felly y bu.
Dechreuodd bregethu yn 1874, ar gais gweinidog y lle ar y pryd, y Parch J. Morlais Jones. Yn cydgychwyn âg ef, eithr ymhlith y Methodistiaid, yr oedd Mr. Henry Jones—y Proffeswr Sir Henry Jones, Glasgow, yn awr. Yr oedd Mr. Jones yn ysgol—feistr yn y lle ar y pryd. Pregethai Henry Jones "eithafol o orthodox y pryd hwnnw," meddai ef, a thybiai mai'r rheswm am yr uniongrededd addfed hwn oedd lliw diwinyddol y llyfrau yr oedd raid eu darllen ar gyfer arholiadau cynnar pregethwr gyda'r Corff. Ac ar ol dywedyd iddo ddechreu odfa i "Mr. Henry Jones," pan draddododd ei bregeth gyntaf, yng nghapel y Methodistiaid, Cwmaman, a son am dano yn "siarad yn glir ac yn dda" (dau nôd angen pregethwr gan Watcyn ar hyd ei oes), gan "draethu y pethau y gredid yn ddiameu yn y Corff," meddai, yn llawn chware, "Daeth Henry Jones wedi hyn i ddweyd ei feddwl ei hun yn bur groyw, ac nid oedd ei enaid ei hun yn ffitio'r Corff cystal." Difyr yw cofio i'r athronydd a'r bardd gael odfa gyda'i gilydd cyn hwylio o'r cyntaf i'r Alban, i efrydu ym Mhrifysgol Glasgow, a'r olaf i lannau Tywi, i efrydu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Mwyn oedd cymdeithas y Bardd o lannau'r Aman i'r Athronydd o'r Alban bryd bynnag y ceid cyfle am ymgom, a deuai ei lythyr rhydd a difyr i'r Gwynfryn fel chwâ dros rug yr uchel-diroedd.
HOGI'R CRYMAN.
CYN myned i mewn i'r Coleg, efrydodd yn Ysgol Ragbaratoawl un Mr. Thomas Jeremy, yng Nghaerfyrddin, i'w gymhwyso'i hun mewn "Lladin a Groeg," y rhai na wnaethai fawr â hwy ym Merthyr. "Felly," meddai, yn llawn chware, arholiad neu beidio, yr oedd yn rhaid ymroi ati, i forio neu foddi yn y culfor rhwng Groeg a'r Eidal." A chyda helynt Paul yn ei feddwl, wrth atgofio'r arholiad, meddai ei ffraethineb gogleisiol, "Ac wedi i ni yn brin fyned heibio, daethom i ryw le a elwir y Porthladdoedd Prydferth." Pa mor "brin" oedd y "myned heibio," ni wyddom; gwyddom mai nid nyni biau italeiddio'r llythrennau; ond ni synnem ddarganfod iddo sefyll yn bur anrhydeddus yn rhestr yr ymgeiswyr. Nid rhyfedd galw'r hen goleg yn "Borthladdoedd Prydferth," oblegid ar ol mordaith fer a garw" y cyraeddasai yno yn 1875, ac yr oedd lliw tymhestloedd y ddwy flynedd cynt ar ei brofiad.
Blynyddau disglair ar hen Goleg Caerfyrddin oedd blynyddau myfyrdod yr efrydydd a'i gyd-efrydwyr. Yn Brifathro, dros ei dymor ef yr oedd Dr. Vance Smith; ac yn Broffeswyr, yr oedd y Parch. Rhys Jenkin Jones, M.A., Aberdâr; y Parch. William Morgan, a'r Parch. D. E. Jones, M.A. Yr oedd ei edmygedd o'r Prifathro yn fawr iawn. Hoffai ryddfrydigrwydd ei ysbryd, a'i barch i wirionedd. Yr oedd hoffter y Prifathro o'r disgybl yntau yr un mor fawr. Nid pell o fod oedd y yn yr un seiat yr oedd y ddau ysbryd. Gadawodd y Prifathro argraff annileadwy ar feddwl y disgybl, a rhoddodd liw ac osgo i'w feddwl.
Gwr mawr, ac annwyl ganddo oedd y Proffeswr William Morgan. Mynych y soniai am dano gyda pharch diledryw. Ymhlith ei gyd-efrydwyr yr oedd y gwŷr adnabyddus—J. Gwenogfryn Evans, M.A., D.Litt.; Parchn. J. M. Gibbon, Llundain; Tyssul Evans, M.A., B.Sc., E. Griffith Jones, B.A., D.D. (Prifathro Coleg Bradford); Elfed Lewis, M.A., Llundain; Towyn Jones (Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin); Rhondda Williams, Brighton; Esau Jones, Teignmouth; D. Bowen, Hermon, Manordeilo, ac eraill. Hawdd y gall efrydydd ieuanc ddiolch am gyfle fel hwn, ar gyfer dysg a phrofiad yr athrawon, a thalent naturiol, anturiaethus y bechgyn hyn a'u cyffelyb. Wrth gofio hyn, pa ryfedd fod yno "guro cryn dipyn ar gorneli ei gilydd mewn ambell gyfarfod ?"
Beth fu'r goleu a ddaeth arno o gyfeiriad yr athrawon, nid hawdd dywedyd, ond cafodd ef a'i gyd-efrydwyr gyfle i gyfarch rhai o bynciau uwchfeirniadaeth y blynyddau diweddaf hyn, a gwnaed hwy yn lled gyfarwydd â rhai o'i theithi; ac meddai ef," ychydig o ddim newydd sydd wedi ei ddysgu oddiar hynny hyd yn awr, nad oeddent hwy (y myfyrwyr) wedi eu paratoi ar ei gyfer." Dichon nad oeddynt mor "newydd " iddo ef hyd oed y pryd hwnnw ag oeddynt i rai o'r myfyrwyr, nid am ei fod ef wedi darllen mwy ac ymhellach na hwy, oblegid nid oedd yn ddarllenwr mawr. Yn hytrach na chymryd poen i ddarllen llyfr, meddwl yn ol yr ychydig neu lawer a ddarllenasai, a wnai ef, a meddwl yn galed, heb fod meddwl yn galedwaith iddo; ac felly yr oedd syniadau arweiniol, amlwg, llyfrau ac awduron yn dod yn eiddo pur naturiol iddo ef. Buasai wedi ymweithio iddynt fel wrth reddf. Gwelsom ef yn cynnil gerdded rhai o diroedd uwchfeirniadaeth, rai blynyddau cyn i'w harweddau diweddar ddod yn hysbys i ddarllenwyr Cymru, o'r hyn lleiaf. Nid oedd yn rhwym i unrhyw gyfundrefn, ond i'w reddfau naturiol ei hun. Rhaid ei fod yn ddisgybl cyfleus, hydrin, i athro eangfrydig, oblegid aethai i'r Coleg gyda'r syniad mai gwaith pennaf a blaenaf athro da, gonest, yw agor llygaid ei ddisgyblion, a'u cryfhau i edrych ymlaen, a dal Bydded goleuni y dyfodol sydd yn rhwym o ddigwydd o hyd ymhob creadigaeth." Ac meddai," Cawsom ni weled y goleu, a gellir dywedyd am y disgyblion, fel y dywedwyd am y disgyblion gynt: "A phan welsant, hwy a'i haddolasant; ond rhai a ameuasant." Nid addolwr cibddall oedd efe un amser. Safai yn ei gylch o oleuni, gyda'r goleuni hwnnw wedi magu ynddo barchedigaeth ddofn, groesawgar; ond parchedigaeth oedd mor naturiol a'i gariad at Hezeciah ei dad. Ei brif gŵyn yn erbyn y Coleg oedd prinder cyfle'r Gymraeg. Ni allai ddygymod â hyn un amser. Pan yn darlithio yn Rhydychen ar" Ganu gyda'r Tannau," gwnaeth bennill i Eos Dâr i'w ganu, a phwy na wel yr ergyd?
Rhyw grugyn mawr o'r Groegwyr
Yn enwog fel Lladinwyr;
Heb wybod dim am iaith eu mam—
Na soniwch am eu synnwyr.
Gyda dysgu'r Gymraeg i'w ddisgyblion yr oedd ef wrth ei fodd yn Ysgol y Gwynfryn. Ac wrth gofio'r tlodi hwn, rhaid iddo ef gael chware, a dywedyd, "Dim ond ieithoedd meirwon oedd yn byw yno." Cofiai mai Cymry oeddynt i gyd, mai'r Eglwysi Cymraeg yn bennaf a gasglai at eu cynhaliaeth; mai i'r weinidogaeth Gymraeg y paratoid y rhan amlaf o honynt, ac eto ni cheid yno wers mewn Cymraeg. Ni pheidiodd a rhyfeddu at hyn ynglyn â'n holl golegau enwadol, hyd ddiwedd ei ddydd. Wrth gofio ffyddlondeb y Proffeswr Michael Jones i'r Gymraeg, yn y Bala, a helynt y Coleg, meddai, "Pan gollodd Michael y Coleg, collodd y Coleg ei Gymraeg."
Faint bynnag gyfrannodd athrawon a chydfyfyrwyr i Watcyn Wyn, ni all na chyfrannodd efe lawer iddynt hwy gyda'i ddigrifwch naturiol, a'i sylwadau llawn athroniaeth, agos a gogleisiol, oblegid nid o'r cymylau y siaradai ef unrhyw amser, ond o ganol dynion. Meddai ef wrth "Gwili," ei gyd- athro, "Darllenwch fwy ar ddynion, a llai ar lyfrau."
Llawer awr ddifyr gafodd ei gydfyfyrwyr ac yntau yn y Coleg. Iddynt hwy yr oedd anghofio caledwaith yn beth hawdd yn sŵn ei ffraethebion glân, diwenwyn ef; ac yn ei bresenoldeb enillgar. Teimlai yntau yn bur rydd a diofid. Nid oedd hyn, yn ol ei gyfaddefiad ef ei hun, yn ddiberygl. "Yr unig berygl," meddai, am fyfyriwr yn tybio mai mynd i mewn i goleg ydyw'r cyfan, "yw iddo deimlo'n rhy rydd a rhy iach . . . .a thyfu'n rhy fawr a phwysig! Dichon, er hynny, y daw i'w le wrth ddod mâs, yn enwedig os bydd yn dod mâs fel fi, heb un alwad!"
Bu'r Eglwys Wâg" a'r " Alwad" ar y bwrdd ganddynt lawer tro, ond nid oedd un o honynt a fedrai beri i'r "Eglwys Wâg " ganu, ond Watcyn Wyn, a llawer cainc ddifyr a darawyd:—
Mae'r testyn yn hen destyn,
Eglwys wâg!
Chwi wyddoch hynny, fechgyn,
Eglwys wâg!
Mae'n destyn enwog hefyd,
Mae'n destyn pwysig enbyd,
Ac anghyffredin ddybryd
Y dyddiau hyn drwy'r hollfyd:
Eglwys wâg, Eglwys wâg!
Mae'n destyn llawn o feddwl,
Er yn wâg!
Mae iddo feddwl dwbwl:
Eglwys wâg!
Mae'n destyn digon dwfwn
I'r scholar mwyaf feddwn
I geisio solvo'r cwestiwn:
Uwchben y dyfnder safwn,
A phlymiwn faint a fynnwn,
Ei waelod fyth ni welwn!
Eglwys wâg, eglwys wâg!
****
Mae rhai y flwyddyn gynta
Am Eglwys wâg!
Pan ar brobation yma,
Eglwys wâg!
Yn wir ni choelia'i flewyn,
Nad yw hi'n hawddach dipyn
Ym meddwl llawer hogyn
Gael Eglwys cyn pen blwyddyn
Nag ymhen tipyn wedyn !
Ond tebyg dysga pobun,
Er hynny, bob yn ronyn,
Nad yw'r eglwysi cyndyn
Ddim mor wâg, ddim mor wâg!
Mae'r postman yng nghymdogaeth
Eglwys wâg!
Yn crynu dan ohebiaeth
Eglwys wâg!
Pan aiff Gweinidog diddig
I'w dŷ rhagderfynedig,
Deisebau 'sgrifenedig
Sy'n llifo'n gyfeiriedig
Am le y gŵr parchedig
Cyn rhoi'r ymadawedig
O fewn y beddrod unig,
Ugeiniau gawn i gynnyg,
Eglwys wâg, eglwys wâg!
****
Meddyliwn beth yw ystyr
Eglwys wâg!
Mae'n bwysig, annwyl frodyr,
Eglwys wâg!
A fydd hi'n llawnach hefyd,
O gael rhyw fachgen glanbryd,
I sefyll yn ei phulpud,
Yn dwedyd, ac yn dwedyd
Dim, Dim !—ar hyd ei fywyd!
Yn wir fe fyddai'n iechyd,
I lawer Eglwys lwydbryd
Gael 'chydig bach o newid,
Eglwys wâg, Eglwys wâg!
Gofalwn wrth gymeryd
Eglwys wâg,
Rhag ofn y bydd ei phulpud
Bulpud gwâg:
Ymdrechwn 'nawr, gyfeillion,
I ddod yn ddynion llawnion,
I lanw yr anghenion,
Sydd drwy'r Eglwysi "gweigion!"
Mae'n rhaid cael "doniau" cryfion
Cyn ateb holl ofynion
Eglwys wâg, Eglwys wâg!
Peth pwysig yw wynebu
Eglwys wâg!
Difrifol yw pregethu
I Eglwys wâg!
Gyfeillion annwyl yma,
Par'towch i gwrdd â'r gwaetha!
Gwaith caled, cofiwch hynna,
Yw ennill caws a bara
Wrth ddweyd y gwir, fi ddala!
A rhoi rhyw beth i gylla
Eglwys wâg, Eglwys wâg!
Cân boblogaidd yn y Coleg oedd ei gân gân "Rhannu'r Supplies," a chawsom orchymyn gan aml un o'i gydfyfyrwyr i'w gosod yn y Cofiant, ac er mwyn y chware iach sydd ynddi, wele hi—
RHANNU'R SUPPLIES.
I.
Wel, bellach fy nghyfeillion,
Y supplies;
A oes supplies newyddion
I'r supplies?
A yw Llanstephan yma?
A Nebo, a Philadelphia?
A Llanybri a Smyrna?
Yw Horeb, dydd Sul nesa
I'r supplies, i'r supplies?
II.
Oes rhagor heb eu henwi,
O supplies?
Dim ond rhyw bump sydd genny!
O supplies;
Nawr, silence, ynte fechgyn,
Os nad oes yma rywun
A rhagor, silence, JENKYN!
Taw son gael clywed tipyn,
Ai dim ond pump sy i erfyn
O supplies, o supplies?
III.
Ble mae'r supplies i ddechreu?"
"Gyda fi,"
Ar unwaith ddaw o gegau
Dau neu dri;
A rhuthro gyda hynny,
O gylch y gŵr sy'n rhannu,
A hwnnw'n sefyll fyny
Ar ben y bench dan grynu
Rhag ofon cael ei dynnu
'N ddau neu dri, 'n ddau neu dri!
IV.
Rhyw hanner munud felly,
O hue and cry
Sydd eisieu gael cyn colli
Pob supply!
Am un ar ddeg, rwy'n credu,
Yw'r amser i'w dosbarthu,
Ond damwain i'w rhyfeddu,
Ers mwy nag awr cyn hynny,
Na fyddir wedi llyncu
Pob supply, pob supply!
V.
"Dewch yma," ebe'r senior,
"At two o'clock!
Efallai bydd yma ragor
Yn y stock;
Yn fuan wedi cinio
(Neu efallai cyn cael honno),
Mae'r juniors yno'n heidio
A'u ffyn o fewn eu dwylo
(Mae'n dda cael ffon i bwyso),
Ond dyna'r clock yn taro,
A dyna'r cyfan sy yno
Yw two o'clock, two o'clock!
VI.
Mae'r bechgyn ffodus hynny
Sy a supplies,
Yn awr yn curo i fyny
Am ryw flies;
Mae rhai'n gwneud hewl o honi,
Yn mynd fel y drygioni,
A'r cyfan yn gwreichionni,
A rhai ar gefen pony,
Off tua Chapel Nonni,
Am supply, am supply!
VII.
Roedd THOMAS WILLIAM MORGAN.
Medde nhw,
Yn tyngu wrtho'i hunan,
Ar ei lŵ!
Mai starvo fydd y diwedd,
A marw'n ddiymgeledd!
Fydd hynny ddim anrhydedd
I grefydd y bedwaredd.
Ganrif ar bymtheg ryfedd
Daw, daw, fe ddaw dialedd
Arnyn nhw, arnyn nhw.
VIII.
Mae yma rai bron marw
Am supply,
Yn mynd trwy dywydd garw
Heb un fly;
Mae brawd o dre Machynlleth,
Yn foddlon rhoddi unpeth
Am bulpud i roi pregeth,
Mae POWELL fyth mewn penbleth,
A dweyd y gwir glân, difeth,
Fe roddwn innau rywbeth
Am supply, am supply!
IX.
Mae JONES 'Berdâr yn gofyn,
"Gest ti hwyl?"
I lawer un o'r bechgyn,
Wedi'r ŵyl;
"Hwyl, do!" medd WILLIAM THOMOS,
"Gwae fi na bai ond wythnos
O amser genny i aros
Cyn cynnyg eto, achos
Ni ches i 'rioed ddim agos
Cystal hwyl, cystal hwyl!"
X.
Mae rhai yn gwybod hanes
Y supplies,
Y maent yn nhref yn llechres,
Y supplies;
Os bydd un dda ar ddyfod,
Maent hwy yn siwr o wybod,
A byddant hwythau'n barod,
I fyned i'w chyfarfod,
Er efallai'n fynych orfod
Rhoi gwobrau yn ddiddarfod
Er clirio'r ffordd i'r gwaelod,
I'r supplies, i'r supplies!
XI.
Y mae gwahanol fathau
O supplies,
A llawer iawn o ddadlau
Am supplies;
Mae rhai supplies personol,
Ac ereill cyffredinol,
Mae yma gylch tufenol,
A darnau o gylch allanol,
Ar Eglwys wâg wrth reol;
A dywed rhai'n swyddogol,
Os bydd rhyw bwynt penodol,
Fod yma gylch neilltuol
O supplies, o supplies!
XII.
Rhaid cael supply personol
'Nawr i fynd,
A phregeth achlysurol
I ryw ffrynd!
Anelu un pechadur,
Yw'r orchest, bellach, frodyr,
Rhyw chwaer efallai achubir,
Boed bendith ar ein llafur,
I wella'r byd o'i ddolur
Bob yn ffrynd, bob yn ffrynd!
XIII.
Mae llawer meeting hwyliog
Wedi ei gael,
A llawer dadl enwog
Ar eu traul;
Pe byddet ti mor witty
Ag wyt ti mewn committee,
Pan roddir pulpud iti,
Fe fyddai'n llai dy bity,
Druan gwael!
XIV.
Mae llawer iawn o stormio,
A hue and cries,
Wrth wella a reformio
Y supplies;
Bu yma execution
O wit ac elocution,
A row a revolution,
A gŵr yr institution,
Ddiwrnod distribution
Y supplies, y supplies!
XV.
Wel, bellach, rhag amharu
Y supplies,
Dewch ini gael gwasgaru
Y supplies;
Eu gwasgar hwynt i bobman,
Helaethu'r cylchoedd allan,
Meddiannu Cymru'n gyfan
Applio'r doniau purdan
A glywir yma'n clecian,
I helpu achos egwan,
Y supplies, y supplies!
"Dod mâs heb un alwad," chwedl yntau, wnaeth ef, ond chwareuai yn ei atgof hyd yn oed ar hynny," Credais un waith fy mod yn mynd i gael galwad! Yr oeddwn yn pregethu mewn eglwys wag yn Sir Benfro, ac yn aros gyda'r prif ddiacon! Gyrrem i'r capel mewn cerbyd. Yr oedd yno gynulleidfa urddasol ac astud, a chawsom gyfarfod hyfryd, fore Sul. Yn y cerbyd wrth fynd yn ol, gofynnai y diacon i mi, 'Beth ydych yn feddwl am ein capel a'n cynulleidfa?' Capel hardd a chynulleidfa brydferth,' meddwn innau. Cawsom gyfarfod da iawn,' meddai'r diacon, 'da iawn wir,' a minnau'n gwrando. 'Chwi wnaethoch un peth heddyw,' meddai, na wnaeth ein diweddar weinidog ni yn ei fyw'; a minnau'n gwrando, ac yn credu fy mod wedi gwneud gwyrthiau! 'Do'n wir,' meddai ef, chwi wnaethoch un peth na wnaeth ef erioed, sef dweyd rhif yr emyn yn iawn y cynnyg cyntaf bob tro!' A dyna'r man agosaf y bues i i gael galwad erioed, oedd yn y cerbyd gyda'r archddiacon hwnnw, ac yn wir, yr oedd yn gynnyg lled agos mewn man lled uchel, onid oedd?"
Nid clod i ddeall tawel, treiddgar eglwysi Cymru oedd ei ddyfod ef allan "heb alwad." Ond y mae'r ffaith iddo ef ymgadw mor siriol yn wyneb hynny, bod mor hawddgar a chynorthwyol i fyfyrwyr a gweinidogion, ac mor barod i weini i eglwysi bychain gwledig, am gydnabyddiaeth ddiddorol o fechan, ac yn fynych am ddim, yn dywedyd llawer am ei ddynoliaeth hyfryd. Ni wyddom am neb cyhoeddus, ac i'w enwi yn yr un ganrif â Watcyn Wyn am athrylith a chymhwyster, a wasanaethodd ei genedl ar dâl cyn lleied ag y gwnaeth efe. Yn ystod yr ugain neu'r deng mlynedd ar hugain a aeth heibio, ni bu neb cyhoeddus byw yn llwyrach i'w genedl nag y bu "wit y dydd a pet y Dê," chwedl Eifion Wyn. Ni allai honni ac ymwthio, ac ni fynnai er dim ddefnyddio na chyfaill na phwyllgor nac enwad i geisio cyrraedd safle na feddai hawl a chymhwyster iddo. Mor foddlon y troai adref wedi noson o wasanaeth difyr a da mewn darlith, eisteddfod, neu bregeth, gydag ond ychydig dâl yn ei logell, ond â chân yn ei ysbryd, ac atgofion peraidd o'i waith a'i "wit" yn aros ar ol yn y neuadd, y capel, a'r cartref. Cododd ei allorau yn ddis— taw, ac mewn conglau cudd, a gosododd ei aberth boddlon arnynt, heb na "sain utgorn na llef geiriau." Ond daw goleu gwell â hwy i'r golwg yn wylaidd gyda hyn, a phlyg Cymru wrthynt gyda chân o ddiolch ar ei min, a dagrau o newydd hiraeth ar ei grudd.
CYSTADLU A BREUDDWYDIO.
ER iddo ddechreu cystadlu mor fore a'i bedair ar ddeg neu'i bymtheg oed, eto ni wnai ond hwylio'i gŵch bychan o gylch y glannau, heb anturio i'r dyfnder mawr. Gwir y deuai yn ol â mynych ddalfa, ond hyd eto nid oedd bore'r helfa fawr wedi gwawrio arno. Gwyddai hyd yn oed y pryd hwnnw pa du oedd "tu dehau "ei gŵch difyr, a gwelwyd yn dod yn ol i'r lan âg aml fuddugoliaeth: nid heb boeni ar hyd y nos "lawer gwaith, yn ddiau; ac yr oedd hen ganhwyllau cŵyr meddal ei gartref yn gwybod hynny yn well na neb. Cynnyrch yr ymdrechion cynnar hyn yw llawer o'i "Ganiadau" a gyhoeddwyd yn ghyntaf drwy wasg Mri. D. W. a G. Jones, Llandeilo, yn llyfryn swllt, ac a ail-argraffwyd gan Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, yn y flwyddyn 1873, er mai yn ofer y chwilir am y flwyddyn ar y wyneb—ddalen. Pwy na chofia am" Pob un i ofalu am ei fusnes ei hun"; "Ac ni bydd nos yno", "Cŵyn y cystadleuwr aflwyddiannus," "Helynt y meddwyn," "Y Llên ladron," a'u tebyg?—adseiniau ei frwydrau cynnar!
Ond yr oedd y "cŵch mwy," "y rhwydau" helaethach, yr anturio herfeiddiach, a'r ddalfa fawr, i ddod. Eithr gan nad pwy oedd y "cystadleuwr aflwyddiannus " a gwynai wedi colli, gŵyr pawb a ŵyr rywbeth am feirdd a chystadlu Cymru, nad efe ydoedd. Efe oedd y collwr mwyaf difyr a diddig o holl feirdd Cymru. Chwarddai neu englynai ei dipyn siom i ffwrdd, ac ni chai neb ond ei deulu a bardd neu ddau yn y cylch cyfrin wybod yr helynt. Cofiwn ef yn dweyd yn chwareus am un a gystadleuai lawer, ac a gollai'n fynych, ond a gwynai'n enbyd ar ol pob colli, gan ruthro i'r wasg a herio'n drystfawr, "Mae ef yn gystadleuwr da, ond yn gollwr gwael." Un tyner ei farn ar feirniaid y collasai efe ar eu dwylaw oedd Watcyn Wyn. Mae ei ddiddigrwydd fel yn mynnu dod i'r golwg yn ei bennill ar y cystadleuwr cwynfawr:
Rwy'n colli fy nghysgu, rwy'n colli fy chwŷs,
Rwy'n colli peth amser, er gwneuthur pob brys:
Rwy'n colli fy mhapur, fy inc, a fy ngho;.
O achos rwy'n colli y wobr bob tro.
Ynglyn â chystadlu cofiai ef y gallai bardd golli peth gwerthfawrocach na gwobr, a chadwodd ef hwnnw hyd derfyn ei yrfa gystadleuol.
Cyn hir, daeth dyddiau'r cystadlu mwy a difrifolach. Diau mai ei waith yn cydrannu'r ysbail âg "Islwyn" yn Eisteddfod Pwllheli yn 1875, am bryddest ar "Yr Angel," roes y bri cyntaf ar ei gystadlu. Safle gwerth ei ennill oedd hwnnw, a llawenychai'r wlad yn ei lwyddiant, er fod y wobr a gawsai cyn hyn am ei linellau ar "Parc Dinefwr"—y "wobr fawr gyntaf a gawsai,—wedi dod a'i enw i gryn amlygrwydd, yn arbennig yn y Dê.
Blwyddyn arall, a dyna ar ei fynwes Dlŵs Eisteddfod Gwrecsam am y bryddest Gymraeg oreu ar "Farwolaeth Saul." Pryddest Seisnig o waith y Parch. C. H. Manning, Abertawe, oedd yr oreu yn y gystadleuaeth, eithr un Watcyn Wyn oedd y bryddest Gymraeg oreu.
Gyda'r cystadlu yr oedd pryder yn dod i'r fynwes. "Y peth gwaethaf i mi ynglyn â chystadlu," meddai, "oedd y pryder, ryw wythnos cyn gwybod y dynged. . . Gyda'r cystadlu y daeth breuddwydio yn bennod bwysig yn hanes fy mywyd." A chafodd freuddwydion difyr, gyda llygaid yn eu pennau. Mynych y gwybu drwyddynt pa bryd y byddai perygl i'r pwyllgor gadw tocyn blaensedd oddiar y buddugwr absennol," a chyrchai yntau i'r Eisteddfod yng ngoleu'i freuddwyd yn bur hyderus. Dyfodiad "llythyrau" oedd yr arwydd cynnar iddo. Gwelai bob cheque a phob post office order yn ei gwsg, "ac yr oedd telegram yn sicr o fflachio mewn goleuni coch o flaen ei lygaid mewn breuddwyd, cyn ei fod ar y wifren." Yn fuan daeth breuddwydion "ffodus ac anffodus" yn bethau dosbarthus iddo. Byddai hedeg, nofio, neu farchogaeth, yn arwydd o fuddugoliaeth iddo. Buddugoliaeth fawr oedd ennill y Goron ym Merthyr, yn y flwyddyn 1881, am y bryddest oreu ar "Bywyd." Ond yr oedd y Bardd wedi bod wrthi rai nosweithiau cyn hynny "yn marchogaeth ar gefn llew, ac yn gyrru drwy ganol haid o greaduriaid llai buan a beiddgar." Byddai saethu a lladd yn golygu gorchfygu mewn cystadleuaeth: ond byddai i'r "dryll" fethu tanio, ac i'r pryf allu dianc, yn arwydd drwg iawn. Byddai darllen "papur newydd " yn ei gwsg yn arwyddo'n dda, ac os gallai sillafu ei enw yn go eglur yno," nid oedd dim ond buddugoliaeth yn ei aros, ond os na, tywyll oedd hi.'
Chwareuodd y "Breuddwyd " ran bwysig ynglyn â'i ymgais gyntaf am y Gadair Genedlaethol. Yn Eisteddfod Caerdydd y bu yr ymdrech honno, a'r "Llong" yn destyn; a rhaid iddo ef ei hun gael adrodd yr ystori:
"Yr oeddwn yn edrych allan bob nos, fel yr oedd yr amser yn nesu, am arwyddion ffafriol. Ryw noson oddeutu pythefnos cyn yr Eisteddfod, . . .
. . daeth i mi weledigaeth. Gwelais ... mewn breuddwyd, long ardderchog yn barod, a minnau fel capten ar ei bwrdd. Ond nid oedd dwfr yn agos yn un man, mewn gwirionedd yr oedd hi gryn bellter o'r môr. Gwelwn y llong—a llong ardderchog oedd hi hefyd—un o'r llongau mwyaf a welais i erioed yng nghwsg neu yn effro, oddigerth y Great Eastern. Yr oedd ei hwylbrenni yn cyrraedd y wybren, a'i hwyliau fel cymylau yn yr awyr-llong heb ei bath oedd hi, ond dim môr yn agos. Gwelwn yn fy mreuddwyd fy mod wedi ei hadeiladu
Heb fod ar y tywod,
Lle mae'r môr yn arfer dyfod;
Ond yn y wlad wrth droed y mynydd,
Gerllaw gwaith glô a hen domennydd!
"Yr oedd y llong. . . ar lan ar ochr y Mynydd Du yn rhywle, a dim ond rhyw domenni gwaith glô o gylch, 'a'r môr nid oedd mwyach.' Gwelais yn union. y 'buasai yn well fy mod wedi adeiladu truck yn y fan honno, na llong.
Pan ddihunais gwelais yn union fod y llong yn fy meddiant, ond beth am y tide?... Aethum i Gaerdydd, rhwng bodd ac anfodd, am fod fy ngwraig yn dweyd, Dere di, croes yw'r breuddwyd.' Gwyddwn innau o'r goreu mai croes oedd i fod yng Nghaerdydd —gwyddwn nad oedd tide i mi yno, er bod llong gennyf. Pan ddaeth adeg y feirniadaeth, cododd y beirniaid groes-wynt ystormus, a suddwyd y llong. Fy llong i oedd y goreu, ond nid oedd y tide yn ddigon uchel, neu ynte yr oedd y gwynt yn rhy gryf yn ei herbyn, er ei bod yn oreu, ac yn oreu o ddigon, er hyn i gyd nid oedd llong i mi yn y porthladd hwnnw." Argoel wael iddo ef oedd colli ei bibell a'i gŵd myglys yn y trên ar y ffordd i'r Eisteddfod. Yr oedd codi ager yn anodd ar ol hyn. Gŵyr pawb a ŵyr hanes yr Eisteddfod na ddaeth y gadair o Gaerdydd, y flwyddyn honno. Ond ni chafodd neb fwy o ddifyrrwch o'r helynt na'r bardd goreu, ond diwobr. Wedi i'r Awdl ymddangos, meddai rhyw ddarllenydd cellweirus a adwaenai dymer dda Watcyn Wyn, wrtho, "Mae canol yr awdl yn lled gryf, ond go fain yw hi yn ei dechreu, ac yn agos i'w diwedd." "Wel, fachgen," meddai yntau, "fel yna mae gwneud llong "; ac yna peswch a chwerthin mân, a gafael yn ei gudyn gên.
Ynglyn â chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Chicago, pan y rhoed iddo'r Goron, ond yr ataliwyd hanner y wobr, "breuddwydion amhenodol" gawsai efe tua'r adeg honno, a gwybodaeth amhenodol wedyn, a beirniadaeth mor amhenodol a hynny." Ar ei wyliau ym mro Gwŷr yr oedd pan ddaeth pellebyr ato oddiwrth awdurdodau'r Western Mail, yn gofyn a oedd yn disgwyl clywed rhywbeth o Chicago. Ni chlywsai air cyn hynny ar y mater, ac meddai, "Hanerog o hyd."
Er diddiced ei awen, ac er mwyned ei dymer, nid pell fu o ddigio'n ddwfn yr adeg hon. Meddai "Y Diwygiwr" fuan ar ol hyn, Cafodd Watcyn Wyn gant o ddoleri a'r Goron Arian, a'r pwyllgor y cant arall. Torrwyd pen y buddugwr, ac yna coronwyd ef yn ei waed. Pe buasai'r awdur yno, yr ydym yn teimlo'n bur sicr na chawsai y ddwy oruchwyliaeth eu cyflawni; dichon y gallasent dorri ei ben, ond yr ydym yn sicr na allasent ei goroni ar ol torri ei ben, heb dorri'r heddwch!" "Yn honno," meddai, "y gorffennais fy ngyrfa gystadleuol," a dyna'r cwbl, a'r llen yn disgyn. Foddlon fardd! Ddiddig ddyn!!
Barnai ef fod a fynnai'r nifer bychan o gystadleuwyr â'r atal llwyr a rhannol yng Nghaerdydd, ac yn Chicago. "Dim ond dau oedd ar y Goron, a dim ond dau o un sylwedd oedd ar y Gadair," meddai. Tybiai fod nifer bychan o gystadleuwyr yn aflonyddu ar deimladau'r beirniaid, yn gymaint ag y gallai hynny awgrymu diffyg ymddiriedaeth cystadleuwyr ynddynt. Er na chredai ef fod y naill yn golygu'r llall bob amser, eto, esboniad dynol iawn yw ei esboniad ef ar atal gwobrau pan fo nifer cystadleuwyr yn fychan.
Mynnodd ddifyrrwch mawr o helynt y Goron, er mai codi'r clawr i roi dihangfa i'r ager oedd mewn perygl o gronni gormod oedd y cwbl. Ond mynnai chwerthin a chanu. Gyda chân Saesneg hen frawd i "Danchwa Abercarn" ("In Abercarn was explosion") yn ei feddwl, meddai ei awen a ymgellweiriai, yn Saesneg:—
Yn Ffair y Byd was execution, Quite a modern revolution; Take the poet by the collar, And rob him of one hundred dollar: Behead him first, and crown him after, Amid great shouting and great laughter.
Ond i weld brig y fflam, rhaid darllen ei gân, "Y Goron " (Llawysgrif), a chofio mai Coron Aur a addawsid, a Choron, nid cylch, o aur nac o arian.
Y GORON.
Mi gefais goron arian wen,
O Colorado bell:
Mae'n ffitio'n weddol am fy mhen,
Hi allsai ffitio'n well:
Rhyw wasgu tipyn bach mae hi
Pan ar fy mhen—o hyd:
Ond mae pennau coronog yn dweyd i mi
Mai gwasgu mae nhw i gyd!
Ai arian Amerig oedd ry fach,
Ai pen y bardd rhy fawr?
Fe fuasai'r coryn yn fwy ach
Tase ragor o faint yn y c'awr!
Am nad cedd digon o arian i doi
Y bardd rhag bod yn grop,
Fe orfu i fechgyn y Gwynfryn roi
Velvet ar y top!
Mae velvet yn sofftach nag arian,
A rhatach beth o'r ddau:
Ac am ei fod yn sofftach
Mae'n debycach i'r pen yn ddiau:
Aeth coron aur yn y dechreu
Yn goron arian wen!
Yn wir, peth od na fuasai
Dim ond velvet ar fy mhen!
Tipyn o waith yw ennill
Coron aur o uchel fri:
Rhaid canu llawer pennill
Am dani, credwch chwi fi;
Canu am ddau can doller,
Nes oedd dolur yn fy mhen:
Ac wedi colli'r hanner,
A'r goron felen yn wen!
Peidiwch a hidio mymryn,
Os aeth hi'n goron wen:
Dichon fod coron felly'n
Gweddu'n well i fy mhen:
Rwy'n teimlo fod cudynnau
Fy ngwallt yn dechreu troi:
A bod coron arian blynyddau
I mi yn cael ei rhoi.
Diolch i wlad Colorado
Am anfon y goron draw;
Am ddoleri Chicago,
Dwy'n hidio dim o'r baw;
Dichon fod mwy o ddyled
Ar y Pwyllgor nag ar y Bardd,
Efallai fod cant o ddoleri
Iddyn' nhw yn swm bach hardd!
Bydd merched Colorado
Yn annwyl gennyf o hyd;
Ran hynny, rhai annwyl yw merched
Ymhob rhyw barth o'r byd;
Os aeth y doleri bell—bell,
Fe ddaeth y goron wen:
Os nad oes arian yn y llogell,
Mae arian ar fy mhen!
Peidiwch a hidio mymryn,
Mi ganwn eto gân:
Mi ganwn gyda'r delyn,
Mae Cymru'n Gymru lân:
Deliwch ymlaen, a chanwch
Ganeuon Cymru wen,
Mae cân yn y fron yn fwy diddan
Na choron ar y pen!
Tach., 1893.
Wrth son am yr ymdrechion mynych i geisio gwybod cyn dydd yr Eisteddfod enwau beirdd y Gadair a'r Goron, a chofio am ei ffordd dawel gyfrin ef ei hun ynglyn â'i gystadleuaethau, meddai:—"Mae ambell un yn mynd o gylch hyn â'i lygaid yn agored, ond gwell gennym ni fynd â'n llygaid ynghau rhag cywilydd. Nid oes enw un beirniad mewn perygl, na thynged un cystadleuydd yn debyg o gael cam, os bydd i ddyn geisio breuddwydio pa fodd y bydd hi."
Tlws oedd ei freuddwyd cystadlu cyntaf. Anfonasai dri chyfansoddiad bychan i Eisteddfod leol, a dyma freuddwyd iddo:—
Gwelwn fy hun yn cario dryll ar hyd y caeau yn ymyl tŷ fy nhad, i chwilio am adar i'w saethu. Dyddiau hyfryd oedd y dyddiau hynny, nid dyddiau hyfryd ar yr adar, ond dyddiau hyfryd ar y bechgyn oedd yn ymhyfrydu cario dryll i saethu adar—dim angen trwydded i gario dryll. Bron na raid i ddyn gael trwydded i gario dryll yn ei gwsg y dyddiau hyn—ond yr oedd hi yn wahanol y pryd hwnnw. Yn fy mreuddwyd, gwelwn dri aderyn ar bren, heb fod ymhell. Taniais atynt, a dihunodd yr ergyd fi, ond nid cyn i mi gwympo dau o'r tri, a gweled y llall yn dianc i ffwrdd! Daeth adeg yr Eisteddfod, daeth ergyd y feirniadaeth, enillais ddwy wobr, a chollais y drydedd!. . . . Dichon y buasai ambell un yn bwrw'r bai ar y beirniad, ond gwell gennyf fi fwrw'r bai ar y dryll."
Cellweiriai fod ynddo awydd ar ol hyn ysgrifennu llyfr ar freuddwydio, a'i alw yn "Llyfr y Tri Aderyn." Buasai gennym ddau " Lyfr y Tri Aderyn " felly—y naill gan" Morgan Llwyd," a'r llall gan Watcyn Wyn. Tarawai efe dant dyfnach na hyn ym myd breuddwydio, a bu'r mater yn ddigon pwysig yn ei olwg i ysgrifennu cwrs o ysgrifau arno i Gyfaill yr Aelwyd," yn 1892. Ar ol ymdroi'n hamddenol a difyrrus ddigon yn ei ysgrif gyntaf, a dweyd "fod y breuddwydion mwyaf byw, y gweledigaethau mwyaf amlwg, a'r ymweliadau mwyaf diddorol wedi dod heb fod ynglyn â dim y byddom wedi bod yn meddwl am dano yn ystod y dydd na'r wythnos mewn modd yn y byd," meddai mor ysgafn galon, "Yr ydym wedi rhagymadroddi yn ddigon anniben, ond rhaid cofio mai rhag— ymadrodd breuddwyd yw."
Nid oes ganddo air mwyn i'r rhai a ddywed am freuddwydion, "Pw! pw! ffolineb; nid oes dim dal arnynt." Dynion yw'r rhai hyn," medd efe, "a phrysurdeb y dydd yn peri iddynt lwyr anghofio eu nos feddyliau, er efallai y bydd llawer nos-feddwl fel ymweliad angel, er yn ddiarwybod i'r dyn bydol brysur." Ac wedi rhoi cipolwg i'r dynion prysur hyn ar eu colled, meddai, "Credwn ei bod yn llawn bryd rhyfela yn erbyn y sych ymarferol sydd fel cwmwl locustiaid y Proffwyd Joel yn bwyta pob peth gwyrdd yn ein bywyd, ac yn difa pob dalen lâs yn ein hanes, ac yn dringo i'n tai i ladd pob breuddwyd a phob cân."
"Mor felys i ni yw cwrdd â'n hen gyfaill sydd yn gofyn y peth cyntaf bob amser, Beth yw'r englyn diweddaf?' 'Beth yw'r gân ddiweddaf?' . . . Y mae hi felys cwrdd âg ambell un sy'n rhy farddonol i fod yn ymarferol." A dyma'r tant dwfn, bereiddied ei dôn!" Mor hyfryd yw rhoi ambell dro megis allan o'r byd hwn. Mor ddiddan yw rhodio ambell lwybr nad ydym yn droedio bob dydd. Mor hyfryd yw canu ambell gân heb fod yn y cywair lleiaf. Mor felys yw dilyn ambell athro sydd yn beiddio gadael y prif ffyrdd a myned a ni drwy ganol y caeau gwenith. Gymaint o fwynhad yw cael ambell hun a breuddwyd, yng nghanol cymaint o dwrw difeddwl. Y mae ein hystrydoedd yn llawn hyd ganol nos, ac y mae mwy o dwrw yn y nos nag yn y dydd, ac y mae cicio pêl ddu wrth oleu lleuad wedi dyfod yn beth cyffredin, ac y mae tawelwch breuddwydiol ein tadau wedi ei yrru o'r wlad." A dyma'r Bardd i'w fyd:
O am dawelwch y dyddiau gynt,
Heb ddim yn ei dorri ond glaw a gwynt!
Pan ydoedd y dydd yn gorffwyso y nos,
A chroesffordd y pentref mor dawel a'r rhòs;
Trigolion y llawr mor freuddwydiol a'r sêr
Yn huno mewn nos—dawelwch pêr.
Y gwaith yn llonyddu yn oriau'r hwyr,
Y dydd yn ddydd gwyn, a'r nos yn nos lwyr,
Ac engyl y nef yn ymweled à dyn
Ar edyn breuddwydiol mewn esmwyth hun;
Rhyw ambell gipdrem ar ryw fyd heblaw
Y ddaear o tanom, a'r byd islaw:
Y dydd yn ddydd goleu, a'r nos yn nos ddu
O am dawelwch y dyddiau fu.
A chymryd breuddwydion yn eu hystyr naturiol, credai ef" fod dosbarth o freuddwydion a dal arnynt." Ond i "freuddwydio'n iawn, rhaid i ddyn fod yn iach. Rhaid iddo fod yn dawel ei feddwl, a rhaid iddo swperu fel arferol; a rhaid iddo ofalu peidio â bwyta swper rhy freuddwydiol—rhag iddo weled mwy na digon cyn y bore." Breuddwydiai am ei lythyrau a'i bellebyron hefyd. Gwelai bob "llythyr anghyffredin" cyn ei dderbyn llythyrau "o bob lliw" a "maint," a pha "un ai mewn llawysgrif ai ynte wedi ei argraffu" y byddai. Gwyddai "liw'r inc a llun y llawysgrif ar ddigon o achlysuron," a dywedasai am danynt ymlaen llaw lawer tro. Rhagwelodd "bob llythyr âg arian," a ddaeth i'w law erioed. Ac am "delegramau"—"y llythyr bach lliw'r fellten"—gwyddai am dano cyn i'r fellten gael ei rhoi ar y wifren!" "Nid oes i mi braidd un wedi dod heb i mi ei weled cyn ei dderbyn," meddai. A dyma un o aml stori:—
Cysgai noson yn Abertawe ar ei ffordd i Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead: gwelai yn ei freuddwyd lythyr coch bychan mor amlwg ag erioed, a dywedodd wrth ei gyfaill y byddai "yn sicr o gael telegram ynghylch rhywbeth," a "chwarddodd" hwnnw am ei ben. Ac meddai, "oddeutu'r ail ddydd dyma'r arweinydd yn dod i'r llwyfan â thelegram yn ei law, ac yn gwaeddi allan fy enw." A dyna ef, i ddangos ei feddylgarwch cyfrin yn gofyn, "A oes yna ddylanwad gan y naill feddwl ar y llall? A yw'r dyn sydd yn ysgrifennu'r llythyr yn gadael argraff ar fy meddwl i wrth wneud hynny? A yw'r ffaith ei fod yn meddwl ysgrifennu ataf yn ddigon i beri i mi weled y llythyr?"
Mae yr helynt am Gadair a Choron Eisteddfod Rhyl yn ddigon hysbys. Ond gwrandawer ystori'r breuddwydiwr:—
Ryw fis cyn yr Eisteddfod, a mi mewn cwsg tawel, gwelwn ddau ddyn, bob â bwyell ganddo, un yn torri derwen cadair Eisteddfod Rhyl, a'r llall yn sefyll yn ymyl pren oedd heb fod yn fit i'w dorri," meddai ef. "Safai y ddau fwyellwr, un bob ochr i Ynys Fôn. Yn y Rhyl, ar y llwyfan, pan neidiodd Hwfa Môn i'r adwy rhwng y ddau feirniad (a fethai gytuno gyda golwg ar yr awdl oreu), fflachiodd y breuddwyd i fy meddwl—a'i ddehongliad."
Ond breuddwydiodd ynglyn â Choron yr un Eisteddfod: Gwelais hefyd yr wythnos cyn yr Eisteddfod yn fy nghwsg, wrth gwrs—ddau fardd yn dadleu ynghylch newid pisyn coron, un yn dweyd fod ei hanner yn ddyledus iddo ef, a'r llall yn dweyd na, mai ei eiddo ef oedd y darn i gyd yn gyfan: a rhoddodd ef yn ei logell, a dyna ddiwedd am dani." Ond rhannu a wnaed yn Rhyl!
A dyna'r athronydd yn y Bardd yn holi eto, "A oedd raid i'r pethau hyn fod felly—fel y cyflawnid yr hyn a welid mewn breuddwyd? Beth ddywed y beirdd a'r beirniaid am hyn? Gellid meddwl, wrth ddarllen y papurau, mai yn fwriadol y gwnaed yr holl gamwri hyn, pan mewn gair fod y cyfan wedi ei arfaethu i fod felly, yn ol tystiolaeth mwy nag un breuddwyd." A dyma efe at y "beirdd breuddwydiol":—"Faint o honynt sydd heddyw yn ein gwlad? Faint o ganwyr y cerddi breuddwydiol pêr, pell, a melys, sydd heddyw'n fyw? A oes llai nag a fu? Os oes llai, beth yw'r rheswm? Ai yn y dyn, ai yn yr awen, ai yn yr oes y mae'r bai? Credwn fod yr oes yn dylanwadu'n fawr ar y bardd a'i awen—rhyw ambell un sydd yn gallu breuddwydio—ganu y dyddiau effro, prysur, trystfawr hyn gwyn fyd y sawl sydd yn gallu peidio â dihuno o'u cwsg, onide? Ond fel arall y mae hi, yr ydym yn ofni, y dyddiau taiog hyn." A dyna'r ergyd difyr yn dod:
Mae'r bardd yn canu ei ganeuon serch,
Er mwyn y wobr, nid er mwyn y ferch.
Mae aur ac arian heddyw'n fwy eu swyn
Na hudol serch, a gwenau cariad mwyn.
Mae llais y galon wedi ei golli'n lân,
Cyweirnod arian yw cyweirnod cân.
Mae'r bardd yn canu ei alarnad dlawd
Er mwyn ei brês, ac nid er mwyn ei frawd.
Mae mwy o swyn i feirddion Gwalia wen
Yn nail y program nag yn nail y pren.
Mae natur wedi ei cholli dan y ne',
Yr ymarferol sydd yn llanw'i le.
Mae'r awen yn cardota'r dyddiau hyn,
Nid byw'n frenhines yn ei phalas gwyn;
Nid canu ar destynau bythol grand,
Ond rhyw geinioca—fel rhyw German Band:
Nid canu telyn natur a'i mwynhau,
Ond chware giwga am ei bwyd y mae.
Nid canu mwy er mwyn y gerdd na'r gair,
Mae'r delyn wedi mynd yn delyn aur,
Mae'r delyn gynt fu a'i thannau yn dair rhes—
Heb ond tri thant—tant arian, aur a phres.
Breuddwydiodd "lawer llinell a llawer englyn perffaith reolaidd " yn ei gwsg. Ar ddiwedd ei ysgrif olaf ar Freuddwydion, addawodd y caem glywed ychwaneg, ond ni welsom iddo freuddwydio felly byth mwy.
YR YSGOL-FEISTR.
ER iddo ganu'n ddifyr i'r " Eglwys Wâg," daeth diwedd ar ei yrfa ef yng Ngholeg Caerfyrddin, yn hâf 1879, heb i unrhyw eglwys wâg ganu iddo ef. Ychydig fyfyrwyr sydd a allai wynebu amgylchiad felly mor siriol a diwenwyn ag efe, ac ni fuasem yn sôn mor chwareus am yr amgylchiad, oni bai ein bod yn gwybod nad oedd yn dwyn dolur iddo ef. Ond yr oedd ganddo gyfle arall cyfle i fod yn athro cynorthwyol yn Ysgol Ragbaratoawl Llangadog, a chyn pen mis, wedi gadael Caerfyrddin," yr oedd yno. "Yno, wedi rhoi galwad i Mrs. Wyn, i gael dechreu achos bach ein hunain." Ac meddai, "a dyna'r tro callaf a wnaethum erioed, am wn i. "Profiad pawb a'i hadnabu hi, ac a fu yn ei chartref hyfryd hi a'i Bardd, yw, na ellid gwneuthur tro callach: ac yn ei atgofion, "Hanner Cant o Flynyddau," yn y "Diwygiwr," am Medi, 1894, mor dyner yw ei dant:—
"Yr ydym wedi cydweithio yn ddiwyd a llawen oddiar hynny hyd yn awr, ac yn gobeithio gwneud eto am flynyddau." Bu yn Llangadog am dri chwarter blwyddyn," a symudodd i agor ysgol yn Amanford, ac agorwyd hi yn yr Ivorites Hall ar ddydd Llun, Mawrth y chweched, 1880."
Hwylio allan mewn tymestl flin fu raid. Rhoed cyfraith arno ef a'i gyd-athro, y Parch D. E. Williams, B.A., Lacharn, wedi hynny, am adael Ysgol Llangadog, yn ddirybudd. Profasant fod ganddynt achos. Cychwynnwyd y gyfraith yn y Llys Uchaf yn Llundain, a chostiodd iddynt gan punt, er iddynt ei hennill, a'i "hennill yn eithaf rhwydd," meddai'r Bardd, yn ei ddull cynefin. Profiad blin oedd hwn, a dyma funud o gofio'r ystorm:—"Wedi gweled dechreu, a chanol, a diwedd, a chanlyniadau'r gyfraith, fy ngweddi drosof fy hunan ac eraill, oedd, "Gwared ni, O! Arglwydd, rhag yr High Court of Justice!" a thry i ganu:
Dyna le rhyfedd yw hwnnw
I gychwyn cyfraith deg,
Cyfraith â'i dechreu'n gamwedd
A'i diwedd yn gost a rhêg;
Dyn heb ddim i ddechreu,
Ond ymchwydd, a gwynt, a bost,
A dyn, pan ddel y diwedd,
Heb ddim i dalu'r gost.
Ond dyma ef wedi dechreu ar brif waith ei fywyd, Prifathro i Ysgol Ramadegol. Math o ysgolion gwerthfawr a wnaeth waith mawr yng Nghymru, oedd yr ysgolion gramadegol, ac a elwid yn fynych yn Ysgolion Rhagbaratoawl.
Ysgrifennodd Ieuan Gwynedd ddwy erthygl yn "Yr Adolygydd" am 1851, y naill ar "Yr ysgol-feistr fel y bu yng Nghymru," a'r llall ar "Yr ysgol-feistr fel y mae yng Nghymru." Pe dychmygasai am fywyd a phersonoliaeth fel Watcyn Wyn (a phwy feddai ddychymyg cyflymach nag Ieuan Gwynedd ar linell felly?) gallai ychwanegu pennod, "Yr ysgol-feistr fel y bydd yng Nghymru."
Dyry air caredig i hen athrawon ysgolion gramadegol a gadwasai ysgolion felly yng Nghymru o 1760 hyd 1820. "Dynion oeddent," meddai, na raid i ni gywilyddio eu cymharu â'r goreu o'r un dosbarth yn Lloegr; a dylai pob Cymro fod yn falch ar enwau David Jones, Ddolwolff; David Davies, Castell Hywel; Edward Richards, a John Williams, Ystradmeurig; Eleazer Williams, Llanbedr; a D. Lloyd, Brynllefrith. Yr oeddynt yn feddiannol ar gynheddfau cryfion, dysg helaeth, a chwaeth goethedig." Gam ymhellach i'r dyfodol, a buasai'n rhaid iddo enwi amryw eraill o ysgolfeistri teilwng ar yr un llinell, y Parch. John Jones, Hen Dŷ Cwrdd, Aberdâr; Parch. Owen Evans, Cefn-coed-cymmer; Parch. John Evans, Crwys; Parch. John Evans, St. Clears; Parch. R. Jenkin Jones, M.A., Hen Dŷ Cwrdd, Aberdâr; Parch. W. James, Llandysul; Mr. Palmer, Aberteifi; Mr. R. G. Levi, Caerdydd; Dr. Davies, Ffrwdyfal; Eben Fardd; Parch. William Thomas (Gwilym Marles); a'r Parch. Thomas Thomas, Pantydefaid. Ac yn fuan deuai Watcyn Wyn, a Gwynfryn, ei ysgol enwog, i'r golwg. Ac ni phetrusai Ieuan Gwynedd funud ei alw yntau yn ddyn "meddiannol ar gynheddfau cryfion, dysg helaeth, a chwaeth goethedig." Eithr ymhlith rhagoriaethau eraill y buasai raid iddo eu henwi, fel yn perthyn iddo ef, byddai ei gyfoeth o natur ddynol, ei welediad llym, cyflym, ei ddeheurwydd i dynnu allan oreu disgybl, a'i syniad iach am addysg.
Er na raddiodd mewn dysg, eto yr oedd ei ddysg yn "helaeth, ac wedi ei chasglu gyda'r hamdden a'r naturioldeb hynny a beryglir gan y gorawydd diweddar am radd. Diwylliant a gwrtaith, ac nid ysgolheigdod, a'i nodweddai ef, a bu yn ffyddlon i hyn yn ei ymwneud â'i ddisgyblion ar hyd ei oes. Nid eu gorlenwi â ffeithiau anghysylltiol na chysylltiol oedd ei amcan, ond gweithio'n ddwfn a llwyr ar eu hadnoddau cynhenid, a'u cynorthwyo i'w darganfod eu hunain. Gwneuthur dynion o honynt oedd ei waith. Nid yr hyn a roddai yn y disgyblion oedd ei brif waith, er ei fod yn ysgolhaig croyw a chyfan, yn ieithwr syml, ac yn rhifyddwr gwych, fel y gŵyr ei fyfyrwyr, ond yr hyn a dynnai allan o honynt—gweithio ar eu dynoliaeth, agor eu llygaid, a deffro'u dychymyg. Dysgai hwynt i ymgodymu âg anhawsterau gydag ysbryd iawn—buddugoliaethu heb fynd yn falch—a chymryd eu gorchfygu heb fynd yn swrth.
Yn ei gyflymder naturiol aethai i mewn i'r tu cefn i feddwl ei ddisgybl yn ddiarwybod i geidwad y drws. Yr oedd ei natur ddynol fawr yn rhoi rhwyddineb iddo yn hyn. Anaml y gwelwyd ysgol-feistr yn gallu caniatau i'w fyfyrwyr ddod mor agos ato, ac eto cadw'r pellter priodol—hoffter heb hyfdra. Yn eu plith, cyfaill ydoedd efe, wedi meddu profiad, a gwybod mwy na hwy, ac yn byw iddynt yn y pethau y rhagorai ynddynt arnynt hwy. Gollyngodd ei natur yn llawn i'w plith, fel afon gyfoethog ar ei thaith trwy ddyffryn. Gwelsant ynddo'r helygen wylaidd, ond gwelsant hefyd y dderwen gref, na phlygai. Gwelsant y deigryn tyner, ond gwelsant y fellten fyw. Gwelsant dês ei ffraethineb yn chware, ond gwelsant fflam difrifwch glân yn llosgi sothach.
Yr oedd yr ysgoldy fel yr ysgol-feistr ei hun, yn syml. Hen ysgubor a fuasai'n perthyn i fferm Mr. Brodie gynt, ydoedd, a elwid Brynmawr, ac wedi ei chymhwyso i fod yn ysgoldy. Buasai yn British School unwaith, ac oherwydd rhyw reswm, rhoed ffenestri yn y tô. Ac meddai ymwelydd wrtho ar dro," Beth yw'r gwydr yna sydd yn nhô'r ysgoldy?"
"Fachgen," ebe yntau, "dyna ysgol pregethwyr iti i'r dim— goleu oddi fry." Tarawodd englyn "Job" y nôd ar yr "Ad-gwrdd," Medi 20, 1894. Meddai
I ddysg Gwalia, dyma dŵr—heb lesghau,
Palas gwydr efrydwr;
Dy Wynfryn, wyn awenwr—
Athen y South yw yn siwr.
Ar gongl cae hardd a helaeth, a ymleda o flaen y "Gwynfryn," cartref tlws y Bardd, y saif "Ysgoldy'r Gwynfryn," a chydiodd yr enw yn y gymdogaeth a'r wlad ar unwaith," Diau fod enw Cymraeg ar ysgol ramadegol yn gafael mewn pobl. Beth bynnag, dyna'r gweithiwr, a dyna'r gweithdy; ac fe wnaed yno, fel yr awgrymwyd, waith mawr ar feddwl a dynoliaeth rhai ieuainc. Pe digwyddai i ambell fachgen nad oedd yn brin yn y nwydd yr anogai Wil Bryan Rhys Lewis i'w sicrhau "cheek"—nid hir y byddai'r athro cyn tynnu'r gwynt o'i waed, ac yn gwbl ddigyffro. Ond cymerai drafferth i beri i'r bachgennyn gwylaidd deimlo'n gartrefol. Deuai mor agos ato yn ei ymddiddan nes teimlo o'r ysgolor ieuanc nad oedd o'r braidd wedi gadael aelwyd ei dad.
Cerddodd clod yr ysgol ymhell yn fuan, a deuai enwogrwydd cenedlaethol cynhyddol Watcyn Wyn a chyfle iddi, a galwai ei ddisgyblion o bell ac agos. Yn ei "Atgofion,' sonia am fechgyn wedi bod yn yr ysgol o bryd i bryd, o bob sir o Gymru, o drefydd Lloegr, o Awstralia, o'r America, o Affrica, ac o Batagonia." Yn yr Ad-uniad (re-union) a gynhaliwyd Medi 20, 1894, canodd Eos Dâr gyda'r delyn, gan daro'r nôd:
Mae bechgyn yma'n dod yn wir,
O bob rhyw dir yng Ngwalia;
Rhai o'r Amerig ar eu tro,
A rhai'n dod o Awstralia;
Ac ambell un i Ysgol WAT
Yn dod o Batagonia.
Mae gennym drist gôf am y disgybl a ddaeth yno o BatagoniaTom Griffiths, mab y Marchoglwyn, yn y wlad honno—bachgen ieuanc prin pedair ar bymtheg oed, heb ar ei elw air o Saesneg, yn chwe troedfedd o daldra, yn esgeiriog, yn llydan ei ysgwyddau, yn heulog ei bryd, ac yn ymwylltu am fanteision ac addysg
hen wlad ei dad a'i fam, a'i lygaid yn gloywi wrth feddwl am ei ddyfodol. Ond wedi treulio tua phedair blynedd yn Aberystwyth, a'i gymhwyso'i hun i fod yn athro mewn ysgol breifat yng Nghroesoswallt, a bod yno dymor byr, daeth yn ol i orwedd yn wael yn Infirmary hen dref ei goleg, ac yn fuan gwelwyd ei weddillion llathraidd ar y ffordd i hen fynwent Talyllychau ym min llyn, lle y gorweddant
"O sŵn y storm a'i chlyw,"
ymhlith llu o'i linach gwladaidd a di-uchelgais.
Gan mai pregethwr oedd yr athro ei hun, a mwyafrif ei fyfyrwyr yn bregethwyr, yn eu plith hwy y byddai yn ei afiaith, ac yn bennaf ar nos Wener, pan gynhelid "cwrdd i drefnu'r cyhoeddiadau, i astudio'r Gymraeg, ac i ddarllen pregethau y naill i'r llall." Llawer awr ddisglair fu ar ei athrylith yn y cyrddau hyn. Byrlymai ei ffraethebion allan fel ffynnon fynyddig wedi tymor o gawodydd trymion, a phob ergyd yn lân, gydag athroniaeth a synnwyr cyffredin ei lond. Cawn help côf hen ddisgybl iddo gyda rhai o honynt, ac mor gynefin ac_agos y swniant:—
"Pregethwch bregethau'ch hunain, boys: byddwch yn Jacob neu yn Esau: 'dyw pob Isaac ddim yn ddall, cofiwch chi."
"Peidiwch â gwaeddi mewn gwaed oer, neu fe aiff yr awr weddi yn awr waeddi."
"Siaradwch yn barchus am y Brenin, neu ewch i fyw i Twrci."
"Mae Eglwys P eisiau cael Cymanfa Bregethu ewch yno yn galonnog, a gofalwch beidio â chynnal cymanfa ganu."
"Peidiwch â chware i'r gallery,' wrth bregethu ar y llawr mae'r 'galwadau' yn cael eu pasio a'u hysgrifennu."
"Y gwaith caleta y gwn i am dano yw cuddio anwybodaeth: mae'n galetach gwaith o lawer na cheisio gwybodaeth."
"Os gwelwch chwi ffermwr yn cysgu yn y cwrdd, dihunwch e' â wit ac nid â whip, rhag ofn ei fod e' wedi bod ar lawr gyda chreadur tost am nosweithiau, ac wedi gwneud ymdrech i ddod i'r cwrdd, er mai'Sul student' ydoedd."
"Peidiwch â gwastraffu amser, boys, a'ch mam, falle, yn cymryd golch i'r tŷ' i dalu am eich ysgol chi."
"Peidiwch â thynnu'ch watches ma's wrth bregethu, neu fe gred y bobol mai timekeepers ych chi."
Yr oedd ei heulwen ef yn disgyn ar yr ysgol agored, lawn, yr un mor rhadlon, ac fel yr awgrymwyd eisoes, nid chware hawdd oedd diogelu awdurdod ynghanol rhyddid rhydd fel hwn. Ar dro, daeth cacynen i mewn i'r ysgol, a digwyddai fod yno ddisgybl a'i enw Peter, ac fel y chwareuai'r creadur bach o gwmpas y disgybl, meddai'r athro, "Cyfod, Petr, lladd a bwyta." Weithiau byddai awgrym llawn chware'n rhoi chwerthin a nwyf i'r myfyrwyr. Ni byddai dim yn fwy o dreth ar gorff gwan a natur ddynol gref yr athro na phrynhawn trymaidd, yn arbennig yn ei flynyddoedd diweddaf; ac os deuai'r esgus lleiaf dros gychwyn gwên ar gwmni, nid yn ofer y cai ddod. Ar brynhawn llethol felly, crwydrodd asyn o'r pentref i gyffiniau'r ysgol, ac wrth fynd yn eofnach na'i groesaw, daeth dan y ffenestr, ac yno fe rois yr oernad deilyngaf o'i hiliogaeth a allasai hyd yn oed asyn difoes ei roi. Ac meddai'r athro, gyda chware bach yn ei lygad blin, "Listen, brethren," a dyna chwerthin iachus dros yr holl ysgol am rai munudau. Ie, "brethren," dyna'r ergyd!
Credai mewn defnyddio cyfle fel hwn i ddeffro natur disgybl, am y tybiai fod hynny'n helpu ei ddiddigrwydd a'i gynheddfau. Un prynhawn, pan ar ganol gwers mewn gramadeg Cymraeg, a hi yn drymaidd a dihwyl, dyna Pegi—gâst hydrin a chadwrus teulu'r Bardd oedd hi—i mewn i'r dosbarth, a chan godi ar ei draed i'w throi hi allan, meddai ef yn sydyn, leave it there now, boys, let us have a lesson in dogmatics," ac yn rhoi cymorth i Pegi i fynd i newid awyr.
Weithiau, deuai'r awel yn ol i'w wyneb blin yntau, yn ogystal ag i wynebau a meddyliau'r myfyrwyr. Wedi profiad maith, meddai, "Y mae y gwaith wedi bod yn galed ddigon—blino wedi fy nal cyn nos lawer gwaith—ond y mae'r diddordeb a'r amrywiaeth, a'r profiad newydd, a'r chwerthin sydyn yn y dosbarth, a'r chware bywiog yn y cae, wedi gwneud llawer iawn at gadw ysbryd dyn yn ieuanc, a'i syniadau yn agored, a'i holl feddyliau yn weddol gatholig. 'Ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod yw hi yn yr ysgol. Y mae y troion difyr a digrif, a sydyn, yn y dosbarth, yn talu am lawer o waith caled. Y mae clywed bachgen mawr heb Saesneg, neu heb Gymraeg, ambell waith, wedi peri llawer o chwerthin. Peth eithaf naturiol i Gymro'n ceisio dysgu Saesneg, yw ei glywed yn galw he' ar ei fam, ond y mae ei glywed yn galw she' ar ei dad yn ormod i ras ataliol unrhyw ddosbarth allu dal heb fynd yn deilchion mân!" Yr oedd ganddo gôf o hynny yn digwydd fwy nag unwaith ar fachgen a ddaeth yn weinidog gyda'r Saeson wedi hyn.'
Croesawai wit o gyfeiriad y disgybl, hyd yn oed pan ddeuai hynny a'r bêl yn ol i'w gyfeiriad ef. Gofynnai ar dro, i fachgen oedd yn lled esgeulus o'i ysgol, y rheswm am ei esgeulustod, ac meddai hwnnw "Mae pawb yn dost weithiau, syr. Yr ydych chwi eich hunan yn dost ambell waith, ac yn colli'r ysgol, ac nid wyf yn gofyn i chwi byth beth yw y rheswm." Mor agos a dynol oedd efe i fyfyrwyr, ond mor gryf ei awdurdod fel athro! Anaml yr anwylwyd athro gan ddisgyblion yn fwy nag yr anwylid ef. Mae eu gwrando yn coffa am dano yn cyffwrdd â thannau dyfnaf ein natur, ac yn codi deigryn i'n llygaid. Mae tinc anwyldeb gwir a diffuant yn eu geiriau. Mae yr athro a'i ysgol yn tyfu arnynt yn barhaus. Yn nesaf at fwthyn eu geni, eu tad a'u mam, a'u hen eglwys, Ysgol y Gwynfryn a'r athro yw'r hyn a ddaw. Ac nid trwy beidio â therfysgu eu meddyliau, nac yn wir beidio âg aflonyddu ar eu delfrydau, a pheidio â gofyn gwaith caled ganddynt yr äi i'w serch. Rhwng y myfyriwr ag ef ei hun y codai'r ffrae amlaf yn y Gwynfryn. Nid hir y byddai yno cyn mynd i hoffi symledd a naturioldeb, dod i gymryd golwg ehangach ar fywyd, ac ymbaratoi i ffarwelio â rhai o'i hen ddelwau. Y mae'r rhan amlaf o'i hen fyfyrwyr yn amlwg am eu naturioldeb, eu hysbryd rhydd ac eang, eu gallu i groesawu'r gwirionedd ymhob gwedd arno, a'u hysbryd Cymreig. Rhoddai ym meddwl disgybl gariad at ryddid a buddugoliaeth gwirionedd. Dysgai ef i osod ei ffenestr yng nghyfeiriad y wawr, a deuai allan o'i driniaeth yn fwy o grefyddwr, ac yn llai o enwadwr. Ni allai neb garu ffurfioldeb, a bod yn ei gymdeithas ef yr un pryd. Dysgai fyfyriwr i gymryd golwg synnwyr cyffredin cryf ar bopeth, ac i ddarllen natur ddynol dda i mewn i bethau. Y mae rhai o'r symudiadau diwinyddol, a chymdeithasol diweddar, yn symudiadau yr oedd ei fyfyrwyr ef wedi eu paratoi ar eu cyfer, ac wedi eu hennill yn ddiymdrech o'u plaid. Yr oedd " Cymru Rydd" yn dod yn arwyddair disgybl iddo ef yn fuan—"Cymru Rydd" oddiwrth ormes tirfeddianwyr, enwadaeth, traddodiadau diwinyddol ac addysgiadol, ac arferion cyhoeddus. Dod â'i ddisgybl allan i'r awyr agored oedd ei amcan mawr ef, a'i ddysgu i anadlu goreu pob peth. Mor ddilyffethair oedd! Yr olwg olaf a gawsom ni arno yn ei gymeriad fel ysgol—feistr oedd honno a welsom yn ystod wythnosau olaf ei ofal. Yr oedd yn ceisio ymryddhau o'i gyfrifoldeb, gan ddiosg ei arfau, o wythnos i wythnos. Yr oedd haf cynnar, poeth, wedi dod, ac allan dan lwyn araul tlws ar gyfer ei gartref, gyda dau ddisgybl a'u llafur mewn Lladin, yr oedd yr athro, ac arwydd fod pob gwers yn costio i'w nerth prin. "Mi ddes a nhw mâ's fan hyn er mwyn dod a nhw i'r gole ar y Lladin 'ma," meddai, ac ni chlywsom air ganddo byth wedyn yn sawru o waith ysgol. Blentyn natur, yn dod â'i ddisgybl i'r un ysgol ag ef ei hun! Nid rhyfedd fod ymhlith y llu llythyrau a gafodd yr ysgol—feistr, un oddiwrth ysgolor o glod Ewropeaidd, nid amgen y Prifathro Viriamu Jones, Prifysgol Caerdydd, yn son am the admirable work your school has been doing during recent years in the way of preparing students for the University College here." Yna sonia yn ei lythyr am amryw a fuasai'n llwyddiannus yn y prif arholiadau, ac am farw un myfyriwr ieuanc gwych, a ddaethai o'r Gwynfryn, "in whom the country has lost an excellent student, and one who would have done it service in his generation, had his life been spared."
Am ei ddelfryd fel ysgolfeistr, mor gall ac agos y cân; a digon yw gosod y gân i siarad drosto:—
Mi garwn i wneuthur yr Ysgol o hyd,
Yn gartref i'r bechgyn ddaw yma i gyd;
Waeth gartref, cyn myned i'r byd mae partoi,
Waeth gartref i gwrdd â gwaith oes mae ymroi,
Mi garwn i wneuthur yr ysgol o hyd
Yn gartret dyn ieuanc cyn myned i'r byd.
Mae eisiau i'r bachgen cyn myned o dre,
Gael gwybod rhyw beth sydd tu allan, on te?
Mae eisiau agoryd ei lygaid ryw faint,
Cyn mynd i Rydychen, neu fynd i Gaergaint,
Mae eisiau ei ddysgu fe gartref mewn pryd,
Nad rhai da, na rhai drwg, ydyw pawb sy'n y byd!
Mae eisiau rhoi gwybod ambell waith, i ambell un,
Fod ambell un yn glyfer heblaw ef ei hun:
Ac eisiau rhoi gwybod i ambell un dall
O'i gymharu â ffyliaid, ei fod e'n fachgen call,
Mae eisiau ein dysgu mewn ysgol mewn pryd
I nabod ein gilydd cyn nabod y byd
Fe garwn i allu'n yr ysgol fan hon,
Eu dysgu i adnabod eu hunain o'r bron:
Mewn teulu mor fawr, mae ambell gyfle da iawn,
I adnabod ein gilydd yn weddol o lawn;
A gwybod a deall a theimlo mewn pryd,
Mai tipyn o beth yw wynebu y byd.
Mi garwn i ddysgu mai pwysig iawn yw
Rhoi anrhydedd ar ddyn, ac addoliad i Dduw;
Mi garwn wneud argraff ar feddwl pob un
Mai dyma yw diben bodolaeth pob dyn;
Os dysgwn ni wersi fel yma mewn pryd,
Bydd y dyn ieuanc gartref yn barod i'r byd.
Pan ddaeth yr 21ain o Ebrill, 1901, pen unfed-mlwydd-ar-hugain yr ysgol, cynhaliodd y myfyrwyr "Ad-uniad," a chafwyd oriau disglair yn yr hen Wynfryn. Daethai llu o hen fyfyrwyr yno, at y nifer mawr oedd yn yr ysgol ar y pryd, nes llanw'r pentref tlŵs, fel ar ddydd cymanfa. Yn y prynhawn, caed tê ac ymgom, ac yn yr hwyr, gyfarfod cyhoeddus, pan gyflwynwyd i Watcyn Wyn wydrau, ffon, ac anerchiad. Yr oedd y gwydrau o aur, ac mewn gwain arian, y ffon o ebon, a'r anerchiad yn oreuredig. Gan fod yr amgylchiad yn ddiddorol ac eithriadol, ac nad yw yr anerchiad ond byr, rhoddwn le iddo yma:—
YSGOL Y GWYNFRYN, AMMANFORD.
RE-UNION, Ebrill 2, 1901.
Anerchiad cyflwynedig i Watcyn Wyn gan y Myfyrwyr.
Annwyl Brif-athro,
Dymunwn eich llongyfarch yn galonnog ar ddyfodiad yr Ysgol i'w hoedran. Nis gallwn anghofio eich llafur diflino a llwyddiannus ynglŷn â'r Ysgol er pan y sefydlwyd hi yn y lle ers 21ain mlynedd yn ol.
Gwyliwn gyda llawenydd lwyddiant ein cyfeillion fu yma dan eich gofal, ac sydd erbyn hyn mewn cylchoedd anrhydeddus mewn cymdeithas. Teimlwn hefyd fod yr Ysgol wedi bod yn gymorth difesur i bregethwyr sydd yn awr yn addurno pulpudau'r gwledydd. Canfyddwn yn eglur ei llwyddiant yn y blynyddau diweddaf. Er y gystadleuaeth, deil i'w chymharu, a hynny yn ffafriol, ag unrhyw Ysgol o'r un natur yn y wlad. Hefyd, dymunwn eich llongyfarch ar y wedd lewyrchus sydd arni yn bresennol, a hyderwn yr estynnir iddi yr un llwyddiant am flynyddau meithion eto.
Ac i chwithau, Syr, dymunwn hir oes, i'w gwylio a'i chyfarwyddo. Eto, cofiwn yn serchus am ofal a charedigrwydd cartrefol teulu'r Gwynfryn dros y myfyrwyr.
Ydym, dros yr Ysgol,
J. JENKINS (GWILI),
Cadeirydd y Pwyllgor.
| W. D. RODERICK, | Ysgn. |
| G. HIGGS, |
W. J. LEWIS, Trysorydd.
[Yn dilyn y mae enwau nifer lluosog o'r myfyrwyr.]
Mewn llythyr o "Garno, Maldwyn," lle yr oedd ef ar y pryd, meddai'r Parch. Towyn Jones, A.S., Gwynfryn, yn ysgol a theulu, yw'r darn mwyaf goleu a byw i mi yn Nyffryn Aman."
Erbyn ei hun ar hugain oed yr oedd yr ysgol yn gallu cyfrif 400 o fyfyrwyr a aethai drwy ei phyrth i golegau a galwedigaethau. Y flwyddyn cyn yr Ad-uniad, ordeiniasid i'r weinidogaeth, ddeunaw o'r cyn-fyfyrwyr, gydag wyth o honynt wedi graddio yn B.A. Llwyddasai deuddeg o'r myfyrwyr am y flwyddyn honno yn eu harholiadau am fynediad i goleg. Yr oedd tuag ugain o fyfyrwyr, ar gyfartaledd, yn pasio drwy'r ysgol bob blwyddyn i wahanol alwedigaethau, a chyfartaledd o ddeuddeg o fyfyrwyr yn sicrhau mynediad i'r colegau bob blwyddyn.
Yr oeddwn i, ar gais perchenogion newyddiadur yn nhref Abertawe, wedi ymweled âg ef i gael ymgom ar fater yr ysgol pan yn dod i'w hoed." Tynnwch eich cadair ymlaen," meddai, gan brocio'r tân, mae'n well gen i weld hwn na'ch gweld chi heddy',"—ac yna, " Ha, ha, ha.' "O ble daethoch chi, ac i ble i chi'n mynd, os oes argoel mynd arnoch chi hefyd?" Ond dyna ef at ei waith o ateb, ac meddai, "Wel, rwy'n dad i ferch un ar hugain, a does arna' i ddim chwant gweld neb yn 'i phriodi hi chwaith. Ond beth sydd arnoch ei ishe oddiwrth ddyn tlawd?" "Wel," meddwn innau, "os gellwch ymddifrifoli ychydig, a dod i lawr at nifer o ofyniadau ar y pwnc, mi a'u rhoddaf i lawr, a chewch ddiolch darllenwyr Colofn Gymraeg' Y Cambrian."
"Rhaid fod eich atgofion am addysg Dyffryn Aman yn ddiddorol?"
"Y mae yn ddiddorol iawn i mi fy hun, a gweled y cynnydd a'r datblygiad sydd yma. Tua'r flwyddyn 1856 y caed y tâl cyntaf oddiwrth y Llywodraeth at addysg yn Brynaman, ac yn y cymydogaethau hyn. Cyn hynny, personau lled anghyfarwydd, os nad anghymwys, oedd yn ceisio dysgu plant y lle. Hen gigydd oedd y cyntaf y bum yn yr ysgol gydag ef. Hen filwr oedd yr ail, a hen bregethwr oedd y trydydd, ac yr oeddynt yn cynrychioli y tair galwedigaeth, a phob un yn gadael ei argraff ei hun ar y plant."
"Gwelsoch lawer math o ddisgybl, a llawer math o feddwl, mae'n debyg, yn ystod yr un-flynedd-ar-hugain diweddaf?"
Do. Gwelais fechgyn o'r deuddeg oed hyd y deg ar hugain, bechgyn, braidd o bob galwedigaeth, bechgyn wedi cael manteision boreuol gwahanol, a bechgyn o alluoedd gwahanol, ond y trueni oedd, fod yr holl rai hyn braidd, yn gorfod ceisio dysgu yr un pethau, hynny yw, y bechgyn yn eu maint oedd yn mynd i bregethu, ac yn ymdrechu am goleg, yn gorfod cerdded yr un ffordd, a gwneud yr un gwaith, ond heb fod wedi eu torri allan ar gyfer yr un gwaith."
"Yng ngoleuni eich profiad chwi, pa un yw'r cartref, a'r awyrgylch, a'r amgylchoedd goreu i godi pregethwyr?"
"Y mae yn anodd dweyd. Yr wyf wedi gweled pregethwyr rhagorol yn codi o bob math o gartrefi, a phob math o gymydogaethau. Os bydd y bachgen wedi ei eni i bregethu, daw i'r golwg o bob man, ac o dan bob amgylchiadau. Y mae gan gartref a chymydogaeth lawer i wneud â rhoi start i ddyn, er hynny—cartref crefyddol, rhieni deallus, teulu darllengar, cymydogaeth fyw, &c. Y mae yn fantais fawr i bregethwr fod wedi cael y fraint o droi ym mysg gweithwyr, er mwyn adnabod dynion, a chael ei adnabod gan ddynion, cyn dechreu ar ei waith fel myfyriwr, ac fel pregethwr."
"Rhaid eich bod wedi paratoi torf i wahanol gylchoedd bywyd, yn gystal ag i bulpudau, heb fyned i goleg?"
Nid wyf yn gwybod a wyf wedi paratoi neb yn iawn, ond y mae amryw wedi myned i wahanol gylchoedd bywyd, ac i'r weinidogaeth o'r ysgol, ac y maent wedi cael ychydig o help efallai, ac y mae rhai yn gwneud yn rhagorol. Gall ysgol neu goleg wneud cryn dipyn i baratoi dyn i basio arholiad, neu i bregethu yr efengyl, gallant roi tipyn o gyfarwyddyd, a rhoi tipyn o'u stamp arno, ond yr wyf fi yn credu mwy mewn dyn nag mewn sefydliad y defnydd sydd yn y dyn sydd yn rhoi gwerth arno, bydded y stamp y peth y bo."
Pa fath addysg sydd eisiau ar bregethwr heddyw?" 'Addysg i'w gynorthwyo i ddeall dynion, a deall y Beibl, a deall ei oes. Nid pob pregethwr all fforddio cael addysg i ddeall y Beibl yn yr ieithoedd yr ysgrifennwyd ef, ac nid gwaith y pregethwr yw hynny efallai, y mae eraill all wneud hyn yn well; ond dylai holl addysg y pregethwr ei helpu i ddeall dynion, a deall llyfrau, darllen dyn a darllen llyfr. Credaf y dylai, pe modd, fod dau ddrws i'r coleg, a dau ddosbarth yn y coleg, a dynion priodol i ofalu am y ddau ddrws a'r ddau ddosbarth."
Beth yw eich syniad am ragolygon y weinidogaeth yng Nghymru?"
Rhagolygon ardderchog. Y mae y tô sydd yn codi yn y Gwynfryn heddyw y pregethwyr goreu o ddynion ieuainc a glywais erioed. Faint sydd gan y Gwynfryn i wneud â hyn—barnwch chwi."
Beth, meddwch chwi, fydd dylanwad addysg heddyw ar Gymru'r dyfodol?"
"Nid wyf yn sicr. Y mae ein syniad heddyw am addysg, a'r ffordd o gyflwyno addysg, yn gwahaniaethu. Y mae llawer heddyw yn credu yn yr hen addysg, a'r hen ddull, yn hollol geidwadol felly, fel pe wedi tyngu llŵ o ffyddlondeb i bob hen drefn, a phob hen iaith, ac heb geisio paratoi ar gyfer un cyfnewidiad. Credwn, er hynny, fod pethau yn cyfnewid yn y wlad, ac fod mwy o geisio gwneud dynion deallus heddyw, nag sydd o geisio gwneud dynion dysgedig. Y mae mwy o weithio ar y deall heddyw nag a fu. Y mae rhai yn beiddio apelio at y plentyn heddyw, yn yr iaith mae yn ddeall, a rhai yn siarad Cymraeg yn y dosbarth â'r bachgen o Gymro uniaith fydd yn digwydd bod yno, a bydd Cymro a Chymru'r dyfodol yn gryfach, ac yn well o hyn."
Dyna olwg fer ar un o'r ysgolion disgleiriaf o'i math a welodd Cymru erioed. "Pwnc mawr" yr athro, meddai Gwili," oedd gwneud dysgu yn beth diddorol, ac nid yn fater o orfod." Pa wahaniaeth, felly, "nad oedd yn debyg i'r athro arferol, ac nad oedd ganddo barch yn y byd i gynllun?" Gwnelai'r gwaith, ac meddai yr un gŵr, wedi gwybod am dano mor dda, "Yr oedd yn rhifyddwr da, a byth ni cheid problem yn Euclid a fyddai tu hwnt iddo. Dichon y tynnid y cudyn barf fwy nag unwaith, ond yr oedd "I see it " yn rhwym o ddod cyn hir."
Diddorol yw cofio fod mab yr ysgol-feistr—Mr. George Williams, B.A.—yn Brifathro yr Ysgol Sir yn ymyl y Gwynfryn, erbyn hyn, a hen sir ei dad yn dymuno ei lwyddiant.
Y mae Ysgol yr Hen Athro hefyd Y Gwynfryn—gyda Gwili' amryddawn yn Brifathro, yn parhau ei gwaith da o gymhwyso'r proffwyd ieuanc i'w waith.
HEULWEN AC AWEL.
A PHA enw gwell i'w roi ar ei arabedd, y gwyddai Cymru mor dda am dano, ac y teimlodd gymaint oddiwrtho? Yr oedd y dawn hwn ynddo yn Gymreig, yn gyfoethog, yn lân, yn ddiwenwyn, ac yn gwbl ddihunan.
Prin y gwyddai neb fwy am ei arabedd na'i gyfaill Gwydderig, ac meddai ef am dano:—
Diddanydd gwlad o ddynion—fuodd ef
A'i ddifyr acenion;
Swynodd Gymru a'i llu llon
A'i fywyd mewn gwasgfeuon.
Arabedd diarwybod—iddo'i hun
Ddiddanai'r cyfarfod;
Trwy wir nerth tarawai'r nôd,
A'i awen bur yn barod.
****
O ffrwyth ei bin ffraeth, beunydd—rhoddai wledd.
Ar fwrdd ei wlad ddedwydd;
A'i bin a'i ddawn bu'n ei ddydd
Nyddwr llon i ddarllenydd.
****
Ei hyawdledd a'i hedlam—hir gofir.
Gyfaill ffraeth a dinam;
Ei allu'n fflwch wnai'r lle'n fflam
Gyda'i ergyd diwyrgam.
Rhedodd ffrydiau o'i ffraethineb i'w benillion bychain, achlysurol, megis penillion yr Orsedd, cyfarfodydd Cadeirio Bardd, cyfarfodydd Ysgol y Gwynfryn, cyfarfodydd adloniadol, a'u tebyg. O blith llu o ergydion yr Orsedd, mor fyw yr ergyd yng Ngorsedd Eisteddfod Rhyl:—
A thra bo Fflint yn taro tân,
Fe aiff y gân ar gynnydd.
Mae'r ergyd yn goleuo arno ei hun, fel nad oes eisiau un esboniad.
Mewn Eisteddfod yng Ngellionen, "a Gwyn Alaw" yn digwydd bod yno, Gwilym Wyn yn cael ei wobrwyo, yntau Watcyn Wyn, yn arwain a beirniadu,—meddai ar darawiad:—
Popeth mor wyn a'r papur, Dyma beth yw popeth pur.
Yng nghof ei hen gyfaill Mr. T. M. Evans yr oedd y llygeidyn hwn, a diolch mwyn am dano.
Noson oleu ar Gymry Abertawe oedd ei nos—gyfarfod â Deon Howell ("Llawdden "). Areithio i'r "Cymrodorion" yr oedd yr hen arwr hwn, y noson honno, a ninnau wedi hysbysu Watcyn Wyn. Yr oedd Bardd y Gwynfryn yn ffafryn gan Llawdden, a daeth yno. Cofiwn y noson yn dda, ac wrth gynnyg diolchgarwch iddo, meddai:—
Mae y Proffwyd, mae y Salmydd
Yma heno yn ein plith,
A'i ddysgeidiaeth a'i atgofion
Yn defnynnu fel y gwlith:
Diolch am ei ddal yn gadarn,
Diolch am ei gadw'n fyw;
Yma gyda'r Cymrodorion
Brenin ac Offeiriad yw.
Fel hyn y cyfarchodd Syr Watcyn Wyn, a lywyddai'r Eisteddfod Genedlaethol ar dro:—
Mae Syr WATCYN WYN ini,—yn iawn gainc
O'n hen gyff uchelfri;
A hwn sydd wedi ei eni
Yn fardd yr un enw a fi!
Anrhydedd ar Wynedd gryno,—yw fod
Ei fath yn byw yno;
Anrhydedd rhyfedd rhifo
Un yn fardd 'run enw a fo!
A daeth tro "O.M." (O. M. Edwards), un o lywyddion cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn 1894:—
OWEN M., mae hwn imi—yn M hardd
Ym mysg y teg feini;
Mae OWEN M. yn M i ni,
Yn M o ddyn am ddaioni.
Dyna em o englyn, ac yn disgleirio o brofiad ein cenedl. Yn yr un Eisteddfod daeth y Gadair i Elfed—cadair am yr awdl oreu ar "Hunan-aberth"—"a dau fwch gafr yn ddwy fraich iddi "; ac meddai'r Bardd ffraeth:—
Lle i ELFED allu eilfyw,—wedi'r farn,
Cadair fawr ddigyfryw;
Rhyw Gadair Gymreig ydyw,
Cadair yn werth aberth yw.
O aberth hedd mor nodweddol,— gwelwch
Ddau fwch Gwalia farddol;
A cheir y Bardd yn ei chôl,
O'i ing yn fwch dihangol.
ELFED a'i felfed awen,—a gwympodd
Gampwyr maes Ceridwen;
Un drwg, a dau ar hugain
O'r beirdd â'u gwaed ar ei ben.
I weled yr ergyd yn ei bennill ar gyhoeddiad Eisteddfod Merthyr (yn 1900), rhaid cofio ei bod wedi dod yn ganrif newydd erbyn iddi gael ei chynnal, a dyna'r gwreichioni:—
Un dydd a blwyddyn ydoedd hi gynt,
I gyhoeddi Eisteddfod ar ei hynt;
Heddyw mae Merthyr yn achub y blaen
I gyhoeddi Eisteddfod ganrif ymlaen.
Pan alwyd Syr John Williams, y meddyg enwog, a ddychwelasai o Lundain i fyw yn Sir Gaerfyrddin, i lywyddu yn Eisteddfod Llanelli, yr oedd ergyd awen Watcyn Wyn yn barod:—
Daw'r Sir Fawr yn awr yn iach,
A Llanelli yn holliach.
Bu beddargraff Ceiriog iddo'i hun yn achlysur ergyd difyr i Watcyn Wyn. Cashai â chas cyfiawn bob rhwysg ynglyn âg angladdau a chladdu yng Nghymru. Gofidiai weld symledd yr hen angladd Cymreig yn diflannu, a chlywais ef yn dywedyd lawer tro fod cymaint o eisiau diwygiad mewn claddu yng Nghymru ag mewn dim. Yn ei gariad at symledd di-lol, paratoasai Ceiriog ei feddargraff fel hyn:—
Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol;
Dyma ei lwch, a dim lol.
Eithaf iawn," meddai'r Bardd Gwyn, pan welodd ef; "Cofia di, Ann," (wrth ei briod), "na fydd dim hen ddwli wrth y nghladdu i, dim bedd bricks i fi chwaith."" Rhaid i ti wneud englyn yn barod, fel Ceiriog, 'te," meddai hithau; a dyna'r fflach:—
Tra gallodd, carodd roi kicks—ar ei hynt,
I rai o'r hen relicks.
Ffarweliodd heb ddim frolicks,
Dyma y brawd, a dim bricks.
"Eithaf da," meddai Ann, "ond mi newidia i dipyn ar y llinell olaf, ac fel hyn y bydd:
Dyma y brawd yn ei domb bricks."
A dyna law y Bardd at ei gudyn gên, a'i chwerthin mân, heintus, yn llenwi'r ystafell. Yr oedd ei arabedd yn heintus, o'r hyn lleiaf, 'r oedd hi—ei briod—yn meddu'r ddawn yn helaeth, pa un ai oherwydd ei bod yn enedigaeth-fraint, ni wyddom. Ond mynych y cariai hi'r chware.
Daethai'r ddau ar dro i'n cartref ni, un haf, wedi bod ar wyliau yng Ngwyr. "Fachgen," meddai ef, "dyna le brâs; dyna fywoliaeth sydd yno. Yr oedd hwyad gennym ni i ginio ddoe; wel, 'r oedd hi 'nofio yn ei gravy ei hunan ar y ford o'n blaen on'd oedd hi, Ann?" "Oedd," meddai hithau'n ddireidus, ac yn dweyd' Wat, Wat' wrth fynd."
Yr oedd dan wawdd un tro mewn "parti o wŷr priod," yn treulio eu dydd ar fryn y "Grongar," yn Nyffryn Tywi. "Gwŷr priod" yn unig a wahoddid, a gwahoddwyd y Bardd. Wedi'r wledd ar yr hen fryn, meddai un o'r gwŷr priod: "Mr. Williams, chi ddylech neud pennill i ni 'nawr." "Ie'n te fe," meddai yntau, gyda'i wên chwareus. "Yn fuan," meddai'r un gŵr, tra'r eisteddai twr ohonynt ar y bryn; "ble ma'r pennill, Mr. Williams? " "Wel," meddai yntau, "mae arna i chwant canu pennill, os canwch chi'r cytgan." Distawrwydd mawr, a disgwyl! A chyda chôf am gân John Dyer i "Fryn y Grongar," dyna ddechreu canu—
Canodd DYER, brydydd hawddgar,
Fa la la la la, la, la, la, la,
(meddai'r gwŷr priod),
Fel y gwcw ar y Grongar,
Fa la la la la, la, la, la, la,
Ond ym mharti y "gwŷr priod,"
Fa la la, la la la, la, la, la,
Dyma grucyn o gwcŵod,
(Ac nid oedd neb i ganu'r gweddill o'r cytgan.)
Byddai tro digrif, chwareus, yn galw allan englyn yn aml, a gallai gario digrifwch i ambell amgylchiad digon poenus. Dyma ddarn o bapur—un hanner dalen o rybudd ynglyn â Llyfrgell Gymreig Coleg Aberystwyth, ydyw—ond rhaid iddo yntau ar ei ddoeth hynt ddod i mewn i fywyd mawr y Bardd ar ei ochr led-ddamweiniol, ddifyrrus:—
"TYNNU'R DANT HIR!"
Nos SUL, MAWRTH 20, 1898.
Tynnu mawr, am awr, a mwy—y dant tost!
Dant hir anghredadwy!
Y dant llygad ofnadwy!
Dant hir, yn filltir neu fwy!
Wedi'r tynnu y bu'r canu, wrth reswm! Ond dyna swn helynt mewn amgylchiad bychan! Dyna ddwyn allan chwerthin o amgylchiad anfarddonol! Pwy faidd feddwl am fychander yr amgylchiad, ac am fwyafiaeth, wedi i'r Bardd droi'r cyfan i chwerthin? Gwnaeth y peth i fynd nes ennill ei ryddid. Yr un dawn welir ynglyn â'i ddannodd ar y môr. Tynnwyd y dant, a dyma'r ystori:—
Fy nant yn yr Atlantic—a orwedd
Wedi marw'n sea-sick;
Os na chwyd, taflwyd y "tic"
I'r môr wrth fynd i'r 'Meric.
Y chware sydd yn ei englyn, " Y dyn gwyn i gyd yn goch!" Heblaw'r gynghanedd a ddaeth i'r pennawd, ymwthiodd ei ddireidi arferol gyda hi, nes goleuo hyd yn oed y pennawd—peth digon di-fin, a di-lewyrch, gan amlaf. I egluro'r tro, meddai, "Cefais fath o dwymyn goch yno (America), oherwydd y gwres neu rywbeth; trodd liw fy nghroen yn fawr mewn noson.'
Y dyn can yn Indian coch,—wedi'i wneud
Yn hyd nos yn rhuddgoch;
I'r gwely'n hogyn di-goch,
Ond doi'r gwyn o'r gwely'n goch.
Dyna'r awel yn canu wrth wthio drwy y coed a luniasid yn bur gywrain i arwain ac amddiffyn y ffâ oedd yn ei ardd, a dyna ergyd cyfrin yn ei ddiwedd!
TELYN Y FFA.
Telyn y gwynt a hwylia—lysiau gardd
Felys gerddi cylla;
A'r awel oer pan rua,
'N drumio ffwrdd—Dyro 'mi ffâ.
Pwy ymhlith ein darllenwyr a fydd yn ddigon o "Hen Nodiant" i fethu gweld yr ergyd?
Yr ochr ffraeth i'w awen ddaeth i olwg ei wlad gyntaf. Yr oedd y galw oedd am ddarnau lled ddigrif i'w hadrodd ar achlysuron adloniadol yn rhoi iddo'i gyfle, ac ni chamddefnyddiodd ef. Yr oedd yn feistr ar chware ar air, a dyma'i bennill cyntaf ar y "Chwalwr Cerrig" yn enghraifft:—
Ar ymyl y ffordd,
A'i forthwyl a'i ordd,
Yn chwalu 'mlaen;
Ar ei ddeulin heb
Wneud sylw o neb,
Ond chwalu 'mlaen;
Wrth ddilyn ei orchwyl,
Mae'n dilyn yn ffyrnig;
I ddilyn y morthwyl,
Sy'n dilyn y cerrig,
I'w chwalu 'mlaen.
Dywed Mr. T M. Evans, mai" Thomas o'r Tyle," hen dorrwr cerrig ym Mrynaman, oedd yn ei feddwl wrth wneuthur y gân. Daeth â rhyw symud byw, math o nervousness, i mewn i'r pennill, nes cael o ddyn wrth ei ddarllen, hwyl, fel hwyl dilyn pêl. Perthyn i'r dosbarth hwn o ffraethineb y mae ei bennill ym "Marwolaeth yr Iaith Gymraeg," a ddyfynnwyd eisoes, ac amryw eraill.
Mor ogleisiol yw ei ffraethineb yn y ban hwnnw o'i gân, "Ac felly'n y bla'n!" Wedi darlunio "celwydd yn tyfu," drwy i'r naill ar ol y llall ychwanegu at y stori wrth ei dywedyd, meddai, mor bert a sydyn,
A'r hen 'stori'n ymestyn nes bo'i oddiwrth ei gilydd,
A'r gwir bob yn getyn yn ei gadael rhag cywilydd.
A dyna'i ergyd i'r "Llenladron "
Lladratant ar bawb ond eu hunain, rai gwael,
Lladratent oddiyno tae rhywbeth i'w gael.
Direidi mwy plaen, llai cyfrin, yw ei ddireidi ar ddiwedd pennill yn "Helynt y Meddwyn." Wedi gwrando'r meddwyn, druan —er wedi cael digon eisoes i'w lorio—yn eiriol am roi chwart arall i lawr—ei roi yn y cyfrif yn ei erbyn—try'r Bardd i ofyn iddo:—
Wyt ti ddim yn meddwl y byddai'n well ar dy ran,
Na rhoi'r cwart yna lawr, drio dy roi di ar lan?
Cyfoeth mawr yn ei ffraethineb yw ei allu i gadw ergyd, ac yna ei ollwng yn un ergyd cyfan, sydyn, nes bod y darllenydd dan yr effaith, bron ffrwydro mewn chwerthiniad iachus. Dyna'i bennill yn" Mae nhw'n dweyd."—
Mae nhw'n dweyd ar ol dweyd yr hyn sy 'i ddweyd i gyd,—
'Nol darfod â'r gwir, mae nhw'n dweyd, dweyd o hyd;
Mae nhw'n dweyd—wn i ddim faint mae nhw'n ddweyd ar fai,
Mae nhw'n dweyd dylai rhai, ta beth, ddweyd llawer llai.
Dyna'r ergyd o'r diwedd, ond wedi chware âg ef, megis yn ei ddwrn, am dair llinell. A dyna efe eto yn ei linell olaf o englyn y meddwyn:—
Heb un tâl ond ei ben tost.
O ddilyn y ffrwd arian hon hyd y meysydd rhyddion, agored, y gamp yw gwybod pa le i gychwyn, a pha bryd i droi yn ein holau, a throi yn ein holau, nid o flinder, ond am fod neges arall i'w chyflawni. Ond cymerwn y ffrwd yn rhywle ar ei hynt chwareus. Dyna gyfaill i'r Bardd yn dod ymlaen ato pan oedd efe yn ffarwelio âg un arall y buasai yn ymddiddan âg ef—trafaeliwr mewn lledr ac esgidiau. "Pwy oedd y brawd yna," meddai'r cyfaill wrth Watcyn; "Hwn a hwn," meddai yntau, "trafaeliwr mewn 'sgidie,—ond dyna," meddai, "mewn 'sgidie 'rym ni'n trafaelu i gyd."
Ychydig mewn cymhariaeth ŵyr am y tro digrif hwnnw yn Eisteddfod Pembre, pan arweiniai Watcyn Wyn, ac y cyd-feirniadai dau gerddor amlwg—un, coffa da am dano, yn groen-deneu iawn, ac wedi pechu yn erbyn gallu lled beryglus yn y dorf. Gwelai'r arweinydd ac eraill y macsu mawr yn digwydd, ac o'r diwedd, ergyd mawr, i dalu'r hen bwyth! Dyna'r cerddor yn rhuthro at Watcyn, gan ddweyd, "Watcyn, a glywsoch chwi hwnna? Mae'n flin gen i mod i wedi 'ngeni yn Gymro." Meddai yntau ar darawiad, cyn iached a'r awel, wrth y dorf aflonydd, ond a ddisgwyliai rywbeth wrth ei weld yn dod i'w chyfarch, "Mae E yn dweyd fod yn flin ganddo ei fod wedi ei eni yn Gymro. A dweyd y gwir, mae'n flin gen i ei fod wedi ei eni o gwbl." Chwarddodd y cerddor gwyllt, chwarddodd ei gyd-feirniad, chwarddodd gwŷr y llwyfan; a chafodd y dorf fawr yr haint, a daeth awyr glir, a nef lâs.
Rhoddai ei ysbryd iach, diwenwyn, drwydded iddo i ddwedyd pethau, na chaniateid i eraill. Dyna bregethwr yn dod i lawr o'i bulpud, ar ol odfa galed iawn, ddau o'r gloch, a'r bobl yn gysglyd; ac meddai, fel yr estynnai ei law i Watcyn, gan sychu'r chwys, "O! 'roedd hi'n galed i bregethu." "Taw," meddai yntau, gyda chwerthin yn ei lais gwan, "beth pe baet ti yn gorfod gwrando?" Chwarddodd y ddau, chwarddodd pobl y sêt fawr, ac anghofiwyd yr odfa galed. O ran hynny, dyna'i genhadaeth ef trwy'i fywyd—helpu dyn i anghofio'i odfa galed! Dyma amcan ei ffraethineb, ei ddarlithiau, a llu o'i ganiadau—dwyn mwynhad cyfreithlon i'r fron, ac i'r aelwyd. Clywais ef yn dweyd fwy nag unwaith, " Mae eisiau'r difyrrwr call mewn bywyd; mae eisiau dysgu i'r bobl y ffordd i chwerthin." Ni roddai ei ymddiried yn y neb na allai chwerthin. A thrist oedd tôn un o fechgyn goreu Cymru ar ddydd mawr ei angladd, yn gofyn," Pwy gawn i roi difyrrwch iach i'n cenedl yn awr?" Pa sawl "odfa galed" gafodd ef, ni wyddom, ond cofir am un bregeth hwylus iawn o'i eiddo. Arferai gadw'i bregeth o'i flaen, wedi ei hysgrifennu ar ddalennau rhyddion. Un tro, â'r pulpud rhwng dau ddrws cyfagos, daeth gwynt cryf, gan agor y ddeuddrws yn sydyn, a gwasgar y dail i'r sêt fawr. Gwenodd y pregethwr yn yswil, ac meddai, "Mae mwy o fynd yn yr hen bregeth fach nag own i'n feddwl." Cafodd brofiad tebyg i hyn yn Nolgellau, pan ddigwyddodd i ddalen neu ddwy o'i bregeth lithro dros ymyl y pulpud, a disgyn ar gefn y gadair odditanodd. Estynnodd yntau ei law yn hamddenol i'w cyrchu, gan ddweyd rhwng cromfachau, "Dyma beth yw pregethwr yn dilyn ei destyn, beth bynnag." Cofiwn bregethwr bach byw, gwyllt, wedi ei gadael ychydig yn hwyr cyn mynd i fyny o'r sêt fawr i'r pulpud, ac yn y Beibl dwy-ieithog ar yr astell, yn methu dod o hyd i'w destyn, a chân y saint wedi peidio. "Canwch eto," meddai, "rwy'n methu gweld 'y nhestyn yn y Beibl od yma "; ac meddai Watcyn Wyn dan y pulpud ar darawiad, "Wel, gadewch i ni ganu 'te, 'O agor fy llygaid i weled.'" Pa sawl sant agorodd ei lygad i weled yr ergyd, ac a fethodd gael ysbryd digon difrifol i ganu, ni wyddom!
Cafodd hwyl lawer tro gydag ysbryd iach pregethwr, nad oedd berygl iddo gael ei gamddeall ganddo. Ebe pregethwr a fuasai yn America, ac a gawsai lawffon yno yn anrheg, wrtho, "Chwi fuoch chwithau yn America, on'd do, Mr. Williams?" "Do," meddai yntau. Chawsoch chwi ddim ffon yno, ai do?" meddai'r pregethwr yn chwareus. "Naddo," meddai'r Bardd. "Wel," meddai'r pregethwr drachefn, yn ddireidus, "Dyna fi yn fwy fy mharch yn America na'r Bardd." "O, na," meddai'r Bardd yntau, "doedd cael y ffon yna ddim ond awgrym ei bod yn bryd i chi 'i chered hi;" a dyna daran o chwerthin yn yr ystafell, a'r Bardd yn troi i beswch fel pe'n canu cytgan.
Dyferai ei ffraethineb yn sydyn, ac fel peth dibris, weithiau, nes mai ymhen ennyd y gwelid y wên, ac yr ymledai ton o ddifyrrwch syn dros y bobl. Pan yn gadeirydd darlith ar ben tri chanmlwydd John Penri, cymhellai'r bobl wledig, wedi cynnyg ac eilio diolch i'r darlithydd, i ddywedyd gair o gefnogaeth. 'Dewch," meddai yn sydyn, " chewch chi ddim cyfle fel hyn eto am dri chan mlynedd." A dyna ddigon i wneud pob un fis yn ieuengach wrth wenu a chwerthin.
Digrif o dro oedd hwnnw ym Moil, Sir Gaerfyrddin. Arferai Watcyn Wyn, pan ganiatâi amgylchiadau iddo, fynd gyda'i fyfyrwyr pan fyddent yn cynnal cymanfa bregethu mewn capeli gwahanol. Ym Moil yr oedd yr hwyl i'w chodi yn awr. Yno, yr oedd hen gyhoeddwr digrif, Simon y Gôf. Her i neb allu proffwydo beth ddywedai Simon, na sut y dywedid ef, unwaith y codai ar ei draed. Y Saboth cyn y gymanfa, ystori Simon a fuasai, "Y Saboth nesaf, fe fydd Watcyn Wyn a'i ŵyn yma, ac yn casglu." Clywsai Watcyn am y cyhoeddiad, ac meddai yntau, pan ddaeth ei gyfle i ddywedyd gair ar y casgliad, "Simon, portha fy ŵyn."
Am un waith, o leiaf, dihangodd wit Saesneg dda arno. Yr oedd wedi cymryd rhan mewn ceisio gan Arglwydd Dynefwr, ddarn o dir agored at adloniant gwerin ei fro—Rhydaman—i gofio Jiwbili'r Frenhines Victoria, a deallai pawb ddarfod ei gael yn rhad. Ymhen talm o amser, dyna i Mr. Hewlett, perchennog gwaith glô cyfagos, ac un a gymerasai ran yn y mudiad, gais am dâl, oddiwrth oruchwyliwr Arglwydd Dynefwr—Mr. Bishop. Dangosodd Mr. Hewlett y cais i Watcyn, ac ni wnaed nemor sylw o hono. Ymhen ennyd, daeth ail gais. Blinodd hyn Mr. Hewlett, a mynegodd ei ofid i Watcyn Wyn. Tybiai Watcyn ei fod yn deall anadl yr ymdrafodaeth, ac meddai, "Mr. Hewlett, it is this, The LORD gave, and the Bishop hath taken away. Hawddach dychmygu na disgrifio'r olwg ar Mr. Hewlett, gyda chwerthin yn ei orchfygu drosodd a throsodd. Yr oedd y ffraethebion hyn fel byrlymau parhaus y ffynnon, a chyn iached a diniweitied hefyd, a da oedd hynny; pe amgen, cawsai ofid mynych gan ei chware.
Dyna ddyn cloff yn ei wthio ei hun i eistedd rhyngddo ef ag arall, pan yn cymryd bwyd ynglyn â chyfarfod cyhoeddus, a chan symud yr ychydig a allai i wneuthur mwy o le, meddai y Bardd direidus, "Wel, chi sy' 'ma, dyma beth yw cloffi rhwng dau feddwl!"
Agos yr un lliw ydoedd y fflach o gwmpas gŵr a gwraig diddig a ddigwyddai fod yn dew iawn ill dau, a Watcyn yn eu hadnabod yn dda, a hwythau yn hen gyfarwydd âg yntau, ac â'i 'droion' doniol. "Shwd ych chi'ch dou?" meddai. "Gweddol, Mr. Williams; yr hen dewdra 'ma sy'n y'n blino ni'n dou, ag ma'r doctor yn gwêd wrtho ni am gered tipyn, a pheido cered ymhell iawn." "O," meddai yntau, "ewch yn rownd i'ch gilydd gwpwl o weithe, fe fydd hynny yn ddigon o daith." Am eiliad edrychodd y ddau yn hurt, ac yna chwerthin, nes bod pyst y porth y pwysent arnynt yn siglo. Yr un mor sydyn, ond nad oedd y fellten yn cerdded mor glos, oedd y fflach ar y ffordd i Lanaman, pan oedd perchennog siop esgidiau, cadwrus yr olwg arno, yn sefyll ar ddrws ei siop. "Shwd ych chi?" meddai'r siopwr. Gweddol; shwd ych chi?" meddai Watcyn, "Dwy' ddim yn dda," meddai yntau, "diffyg traul." 'Diffyg traul 'sgidie, mae'n debyg," meddai Watcyn. Eiliad o edrych hanner hurt dan sydynrwydd y fflach, ac yna, "Ha, ha," ac yn adrodd yr hanes wrth lawer cwsmer yn ystod yr wythnos. Ond dyna Watcyn Wyn fel efe ei hun,
A'i eiriau parod fel dafnau'r purwin,
heb yr arliw gwannaf o ymdrech, nac yn sicr, unrhyw ymdrech i ddod i'r golwg yn ei ffraethineb. Byrlymai, byrlymai, fel ffynnon gyfoethog, a digon o dâl iddo ef oedd bod yn gymorth i eraill anghofio'u gofidiau, a chwerthin!
LLWYFAN A PHULPUD.
DAN y geiriau hyn daw tri byd i'r golwg—byd yr Arweinydd Eisteddfodol, byd y Darlithiwr, a byd y Pregethwr. Prin y bu yn llwyddiannus fel arweinydd Eisteddfodol, oddigerth mewn cyfarfodydd llenyddol ac Eisteddfodau bychain, a phallai yn unig oherwydd diffyg nerth corfforol, a diffyg egni. At yr Eisteddfod fawr, yr oedd ei lais yn rhy wan, ac hamddenai'n ormodol. Mewn Eisteddfodau bychain yr oedd, fel y dywedais, yn ddigon o grwth a thelyn." Yr oedd yn bur hawdd rhoi'r delyn allan o hwyl yn fynych, er hynny. Ychydig o ysbryd swyddogol mewn ysgrifennydd, neu aelod o bwyllgor, ac o fân ddadleu am betheuach—profedigaeth lem i bob arweinydd—dyna ddigon! Er na thorrai mellten fawr allan byth, deuai awel groes i chwythu, i arwyddo fod yn bryd i'r swyddog ymyrgar, a'r ymgecrwr, i chwilio am gysgod. Yn yr Eisteddfodau llai, byddai ei ddull mor ddifyr a chartrefol; a deuai mor agos at y bobl, nes y meddylient eu bod ar aelwyd, Nos Galan. "Nawr, fechgyn," fyddai ei gyfarchiad agos, bron bob amser; a byddai'r bechgyn yn profi ar unwaith eu bod yn ddigon o ddynion i actio'n briodol, ac i ddilyn yr arweinydd. Byddai'r "bechgyn" chwedl yntau, yn edrych allan am yr ergyd difyr pryd bynnag y siaradai, a mynych yr iachaodd yr ergyd byw a'r chwerthin calonnog yr awyr, pan fyddai ysbryd taran ynddo.
Fel darlithiwr, cerddodd feysydd amrywiol. Darlithiodd ar "Llew Llwyfo," "Canu Penillion," "Ceiriog," "Breuddwydion," "Hen Grefyddwyr," "Y Tri Chwestiwn Mawr," "Tri Mis yn America," a "Hiraethog." Cerdded yn hamddenol y byddai yn ei ddarlith, heb unrhyw ymdrech, na dim yn awgrymu rhwysg—ond symud fel afon lefn, foddlon, gydag ambell doriad sydyn fel ysbonc brithyll hardd i'r wyneb. Hawdd fyddai i'r cyfarwydd wybod arno pan fyddai'r fflach ar ddod; byddai rhyw eiliad o ddiofalu, symudai'r traed, a deuai'r llaw at y cudyn gên—arwyddion fod y llewyrch yn dod. Cymerer ei ddarlith ar "Ganu Penillion," neu "Noson gyda'r Delyn," fel y galwai hi weithiau, i ddangos hyn. "Beth yw'r Hwyl Gymreig ond siarad ar gân, a chynghorwn bob un i ofalu nad aiff i hwyl' os nad all e' ganu,— ond yr wyf yn ofni fod rhai yn gwneud." "Y tro diweddaf y bu cystadleuaeth pen pastwn' wirioneddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yn Llangollen, yn y flwyddyn 1858. Bu yno le difrifol yn ol yr hanes, pump neu chwech ar y llwyfan yn pastyno am y goreu. Ab Ithel, mae'n debyg, oedd y pechadur cenedlaethol a ddygodd hyn i mewn, a bu rhai o'r gwŷr selog am drefn a dosbarth' yn bygwth ei bastyno yntau am wneud hyn. Ond dihangodd; tebyg fod ofn y pastynau eraill arnynt."
Yr oedd ganddynt ( yr hen Gymry') bedair-camp-ar-hugain mewn chware, pedair-cainc-ar-hugain mewn miwsig, a phedwar-mesur-ar-hugain mewn barddoniaeth. Pwy all esbonio dirgelwch y rhif pedwar ar hugain' yn Llyfr Datguddiad ein cenedl ni?"
Wedi colli nawdd y tywysogion, a chefnogaeth bonedd y wlad, y dysgwyd canu penillion gan y werin. Credwn mai yn canu penillion, ac yn dilyn telyn, y cafodd ysbryd y deffroad afael yn ei gyweirnod. Wedi i daran dorri uwchben y llŷs, wedi i'r ystorm ddychrynu'r pendefigion yn eu plasau, ac i hen noddfeydd y gân gael eu chwalu y cafodd gwerin Cymru afael ar y gân a gollwyd." Chwalwyd y gân, ond nid aeth un nodyn i golli. Crewyd discord, ond ni ddinistriwyd y gynghanedd. Collwyd y pencerdd, ond cadwyd y gerdd yn fyw. Tarawyd y bardd i lawr, ond dyrchafwyd yr awen. Wedi peidio a thalu neb, aeth pawb i ganu am ddim, ac 'ni bydd diwedd' byth ar sŵn y delyn mwy. Credwn mai dyma ddechreu canu, a dylem ninnau fel cenedl efallai ddechreu canmol' y rhagluniaeth ryfedd a ddygodd hyn i fodolaeth."
"Yr oedd tai cân a thelyn yn gyffredin yng Nghymru gynt, ac yr oedd y muriau wedi eu gorchuddio â phenillion, a thrioedd, a diarhebion; â'r pethau hyn yr oedd yr hen Gymry yn papuro'r gwelydd'—nid rhyfedd eu bod yn hyddysg ynddynt."
Mae'n debyg mai caneuon serch, a rhyw ganeuon bugeiliol, oedd yn cael eu canu fynychaf gan y bobl gyffredin, gan feibion a merched gwlad y delyn. Arthur yn cydio yn Elen â 'braich o gywydd,' ac Elen yn goglais Arthur â rhyw gynghanedd braidd gyffwrdd.' . . . Cariad a Thelyn!"
Eithaf peth fyddai i'n datgeiniaid gofio tafodiaith hen gân, a'i chanu yn ol y dafodiaith yn yr hon y cyfansoddwyd hi. Os bydd y gân yn ol tafodiaith Gogledd Cymru, caner hi felly, ond os yn ol tafodiaith Dyfed, allan a hi yn iaith y wlad honno; os yn ol iaith Morgannwg, peidier ar un cyfrif a cheisio ei gwŷrdroi. Gallem nodi'r Gwenith Gwyn' fel enghraifft:—
Pa un ai fi ai arall Gwen,
Sydd oreu gen dy galon?
dyna ddywed y bardd yr ydym yn dra sicr.
Felly am Y deryn pur '; y mae y 'deryn yn colli llawer o'i bluf harddaf wrth fod y dafodiaith yn cael ei newid."
Dyna'i ddifyr ddull, ac nid oedd blino arno. Anaml y deuai ystori i'w ddarlith, a chan gymaint hoender ei ddull, ni theimlid ei hangen. Ond pan ddeuai, byddai'n fer ac i'r pwynt, ac fel rheol, yn codi o fywyd y werin agos, nes bod adsain iddi mewn llawer mynwes yn y dorf. Yn ei ddarlith ar "Hen Grefyddwyr," soniai am hen frawd a'i gadawsai'n ddiweddar iawn cyn dod at grefydd, ac a fuasai yn anghynefin iawn â phob arfer grefyddol, ond a ddaethai o'r diwedd, gan fynychu'r seiat yn bur ffyddlon. Canhwyllau a oleuai'r hen adeilad lle yr addolid, a sylwasai yr hen frawd y cynheuid canhwyllau newyddion, bob odfa. Un noson, gwasgodd y gweinidog arno i ddywedyd gair yn y seiat—"unrhyw beth sydd ar eich meddwl," meddai'r gweinidog. Cododd yr hen frawd, meddai'r darlithydd, ac meddai, "Yr wy'n sylwi fod canhwyllau newydd yn cael eu cynnu bob cwrdd, mi licwn i wybod ble ma'r hen stwmps yn mynd."
Dro arall, soniai'r darlithydd am frawd yr oedd ei gorff yn hir, ond ei goesau'n fyrion. Pan eisteddai, byddai yn dalach na'r cyffredin. Un tro, methai'r brawd byrgoes weled rhywun yn y pellter, y gwelsai ei gyfeillion ef. 'Wela' i mo'no," meddai'r gŵr. "Eistedd i lawr, Dai," meddai rhywun, "ti 'i gweli e'n iawn wedyn." Fel hyn yr oedd cylchoedd ei ddarlithiau'n agos, a'i ddull yn syml a chartrefol.
Yr un, wrth reswm, oedd prif nodweddion y Pregethwr. Byddai'n syml ei ddull, llednais ei ymddangosiad, a diymgais ei fater. Ni ddewisai destyn swnfawr—testyn y pregethasid llawer arno, ac y dadleuesid llawer yn ei gylch, ond yn hytrach y testyn y byddai cyfle i synnwyr cyffredin, a meddwl ymarferol a sylwgar i ddywedyd gair arno; ac yn ddieithriad cai ei ffordd ei hun ato, a'r rhan amlaf, ei hwyl ei hun gydag ef. Ni ymboenai gydag esboniadau a geiriaduron, ac ni ddangosai feistrolaeth ym myd awduron ac arlunwyr. O ddyfynnu bardd a llenor, yn ei bregeth, bardd a llenor Cymraeg a fyddai. Gwedd Gymreig fyddai i'w holl waith. Dichon fod ganddo fwy o hoffter o James Martineau, fel meddyliwr ac awdur, nag o neb. Byddai ei ffraethineb dan lwyr feistrolaeth yn y pulpud, er y cerddai fel llinyn arian yn ochelgar drwy'r cwbl. Yr oedd ei chwaeth bob amser yn bur, ac yn ddieithriad, yn gofalu am dano'i hun. Yr oedd yn fwy diffygiol mewn gwres ac egni nag mewn dim oedd eisiau i wneuthur pregethwr gwerthfawr a grymus. Ni chlywodd neb ddim tebyg i'r "hwyl" ganddo erioed, a phell fyddai o ymgeisio at effeithio yn arwynebol ar deimlad. Ymhob cynulleidfa y gwelsom ef ger ei bron, ni welsom y dynion mwyaf meddylgar, darllengar, erioed heb fwynhau yn fawr. Yr oedd ei ddyfodiad o gylch cynulleidfaoedd fel dyfodiad awel haf, yn adfywiol. Yr oedd ei iaith a'i ddull mor agos a gwerinol, fel y teimlai cynulleidfaoedd nad oedd y pregethwr ond gwerinwr coeth wedi troi i mewn am dro i gael ymgom â hwy—efe'n digwydd bod ar ei draed yn y pulpud, a hwythau'n digwydd bod yn eistedd yn eu seddau. Yr oedd yn hŷn na'r cyffredin yn dechreu pregethu, ond barnai i hynny droi'n fantais iddo. Dichon," meddai, "i mi ddwedyd mwy o fy meddwl fy hun yn y pulpud na llawer, am fy mod yn hynach yn cychwyn." Ac un o'i nodweddion amlycaf fel pregethwr oedd "dweyd ei feddwl ei hun."
Yr oedd ei fater bob amser yn ffres, a'i driniaeth o hono yn dangos mwy o feddwl a gwrtaith personol nag o ddysg ac ysgolheigdod. Darllenai lawer iawn i mewn i'r Ysgrythyr, yn enwedig yr Hen Destament a'i hanesion, gydag ymdrafod personau a chenhedloedd. Esboniad y synnwyr cyffredin a'i cynhygiai ei hun iddo ef, ac a'i cymeradwyai ei hun i eraill wedi y clywent ef. Yr oedd rhai o bynciau uwchfeirniadaeth wedi eu cynnyg eu hunain iddo ef amser maith cyn bod nemor ysgrifennu amlwg arnynt. Yr oedd ei Ddiwinyddiaeth yn rhydd ac agored, a chadwai le i'r goleu newydd ar bob awr. A dywedai "ei feddwl ei hun" fel efe ei hun bob amser. Yr oedd ganddo ef ei ddawn, er mai ychydig ddewisai alw dawn arno, am na wyddent y gwahaniaeth rhwng dawn a sŵn. Dywedai un a'i hadwaenai yn llwyr, " Yr oedd ganddo fasged dda, ond corn gwael." Ac am nad oedd y corn yn galw'n uchel, nid oedd y dorf yn dod i weld beth oedd yn ei fasged.
Gorchwyl anodd fyddai darlunio'i ddawn. Yr oedd ei lais yn enillgar, ac ni synnwn iddo ennill ei wobr gyntaf am ganu, ond ni fyddai'n gwneuthur llawer o hono, ac nid ydym yn cofio iddo erioed ryfygu i ymgynhyrfu i unrhyw gload hyawdl ar araith na phregeth. Ni chodai'n uchel, ond gofalai ddisgyn yn yr un man. Yr oedd ei frawddegau yn fyrion ac yn glir, a gellid yn hawdd benderfynu sŵn eu diwedd wrth sŵn eu dechreu. Ond yr oedd math o hyawdledd yn anesmwythdra mwyn ei law yn gafael yn ei farf, yn ysgwyd yn gynnil, gan bwyso'r penelin ar y pulpud, a'r traed yn cynnil symud, ac yn aflonydd. Arwydd arall oedd symud y llyfrau fyddai ar astell y pulpud. Ni ellid meddwl am dano'n ymdrechu bod yn ddoniol, nac yn gwneuthur chware i gyrraedd effaith. Nid oedd dim a ffieiddiai'n fwy yn eraill na hyn. Cymerai ei symud yn ddwfn gan hyawdledd naturiol, ac angerddoldeb didwyll, a chlywsom ef yn cyfaddef i bregethwr, yn syml un tro, ar ol pregeth effeithiol, "Fachgen, ti'n halest golli deigryn, ta beth"; ac yr oedd diolch lawer yn y frawddeg. Naturioldeb, gwreiddiolder a ffraethineb oedd ei nodweddion amlwg fel pregethwr, fel ymhob peth. Yn y bregeth, yr oedd ei ffraethineb bob amser dan reolaeth hyfryd, a digon o hono'n cael ei ollwng i mewn i loywi ac ariannu'r mater fel goleu lloer ar grŷch afon.
Er na chymerodd ofal eglwys erioed, yr oedd syniad ei sir, yr hon a'i hadwaenai oreu, mor uchel am ei wasanaeth, fel pregethwr, fel yr ordeiniwyd ef yn y Christian Temple, Amanford, ar y 25ain o Fehefin, 1894, fel y gellid ei wahodd i eglwysi i weinyddu'r ordinhadau; ac nid yn aml y gwelwyd ordeiniad mor boblogaidd. Yr oedd y capel yn orlawn, a'r wlad a'r cylch yn llawn o'r stori. Elai ef i'w hynt a'i orchwyl yr un mor syml a chynt, fel pe na chymerasai dim le; ond bu dda gan lawer eglwys ei gael i'w "chymundeb "; ac mor naturiol y gwnai'r cyfan!
Yn y Christian Temple y buasai'n aelod hyd oni chodwyd Capel y Gwynfryn, ac y sefydlwyd Eglwys yno; ac am godi'r capel hardd hwnnw, ni fu neb fwy ei bryder nag efe. Tlws oedd gweled ei ofal yn ei gylch, ac ni ddaeth agor capel newydd â mwy llawenydd i neb nag a ddaeth agor y "Gwynfryn iddo ef. Ar ryw olwg, dyma'i gofgolofn ef, ac anrhydedd mwy ni cheisiai. Gwnaethai englyn coffa iddo'i hun, a phan ddaeth hen fyfyrwyr y "Gwynfryn" i osod cofaen am dano yn y capel, aeth yr englyn hwn ar y maen:—
Yn naear y capel newydd—gwelir
Cofgolofn y prydydd;
A'i gorff sâl yn gorffwys sydd
Ym mynwent Gellimanwydd.
Y GOLYGYDD A'R LLENOR.
YN ystod ei gyd-olygiaeth o'r "Diwygiwr " yr ysgrifennodd fwyaf o ryddiaith Gymraeg. Nid yn ei gysylltiadau golygyddol yn unig yr ysgrifennai; eithr ysgrifennai lawer i'r Geninen a "Chyfaill yr Aelwyd," a chyfnodolion ac wythnosolion eraill. Cyhoeddodd hefyd lyfryn bychan chwe'cheiniog, ar "Lenyddiaeth Gymraeg," drwy Wasg Gwrecsam, a chyd-ysgrifennodd ddwy ffugchwedl Gymraeg â'r Parch. Elwyn Thomas, "Irfon Meredydd," yn 1903, a "Nansi," yn 1906.
Cychwynnodd ei gyd-olygiaeth o'r "Diwygiwr" yn 1890; a'i gyd-olygydd oedd y Parch. Robert Thomas, Glandwr, Abertawe. Gwisgodd yr hen fisolyn llednais a chadwrus, wedd ychydig yn wahanol i'w arfer gyda'r gyd-olygiaeth newydd. Daeth yn fwy llenyddol, ac yn fwy achlysurol ei gyffyrddiadau. Ceid ynddo adolygiadau byrion ar lyfrau Cymraeg, a chyfeiriadau mynych at feirdd a llenorion y dydd.
Yn "Helyntion y Dydd," y rhai a ysgrifennid yn bennaf, os nad yn gwbl, gan Watcyn Wyn," ceid mynych damaid gwleidyddol, a mynych sylw ar gymeriad gwleidyddol amlwg, a'i waith; a'r cyfan yn ddiddorol. Ar un cyfnod rhoddid cryn le i emynau a gyfansoddid gan awduron y dydd, ac aml oedd y darnau barddonol eraill a geid, a llu o honynt yn dwyn delw'r Bardd o'r Gwynfryn, heb angen hyd yn oed llythrennau'i enw wrthynt.
Er i'r hen gyhoeddiad profedig barhau rhai o'i deithi gwerthfawr, gyda cholli ychydig yn yr amlygrwydd a arferasai roddi i Hanesiaeth Eglwysig a Chrefyddol, tybiwn iddo newid gormod i foddio amryw o'i hen gefnogwyr. Ond dyfodiad siriol oedd dyfodiad y "Diwygiwr" o fis i fis, gyda sylwadau byw, byrion y Bardd, a'i fynych ysgrif ar ryw hen gymeriad syml o weinidog gwledig, o ddiacon cudd, neu o hen grefyddwr naturiol, na wybuasai neb ond ei gwm am dano; neu ynte, o gymeriad amlwg, Cymreig, ac wedi gwasanaethu'r Gymraeg a Chymru. Dyma'i ysgrifennu naturiol am "Eos Morlais."—
Cafodd pob cwmwd a phob pentref, a phob tref yn ein gwlad, glywed llais Eos . . . . . Canodd at bob math o achosion. Canodd lawer o ddyledion addoldai i ffwrdd. Canodd lawer o arian i logellau gweigion llawer pwyllgor Eisteddfod. Canodd i godi calon, ac i gynorthwyo amgylchiadau cyfyng llawer tlawd a methedig." Ac wrth son am yr Eos yn canu ei gân ddiweddaf, "Y Deryn Pur," i godi calon ei frawd-yng-nghyfraith, John, oedd ar ei glaf wely yn yr ystafell nesaf ato, ac yntau ei hun yn ei glaf wely, ac yn nesu i ddiwedd y rhaglen, meddai, "Dyna yr Eos wedi tewi, ynte, a chân 'Y Deryn Pur' oedd yr olaf ar ei wefus."
Am ei hen gyfaill hynod, Athan Fardd, nid oedd bosibl llai na bod yn ddifyr gydag ef, o ysgrifennu am dano o gwbl, gyda'i bersonoliaeth bendant, ei siop lyfrau ddigyffelyb, ei jwg dê a'i bocer coch!" A dyma'r golygydd ati:—
'Cof gan lawer am dano yn yr hen siop lyfrau yn Heol Fawr, Abertawe. Athan â'i ychydig lyfrau, a'i ychydig Gadeiriau Eisteddfodol, a'i dân gwresog, a'r pocer ynddo bob amser, yn barod i danio pibell, a'r jwg lawn o dê wrth ei gefn, o'r hon y drachtiai'r bardd yn rhy aml, efallai,—nid aiff y lle cynnes, caredig, croesawgar hwnnw yn angof yn hir. Nid ydym yn cofio troi i mewn braidd erioed nad oedd yno ryw gyfaill yn eistedd gydag Athan,—yr oedd ganddo ddigon o amser i siarad, am mai ychydig iawn o waith oedd yn y siopsiop anfarwol er hynny. Dyna'r lle i adnabod Athan oedd yno, dyna'r lle i'w weled a'i glywed yn ei ogoniant—pan fyddai'r ddadl yn frwd, a'r pocer yn goch, a'r bibell yn mygu, ac Athan yn trin y byd! Mwy nag unwaith yr aeth i'r siop â'r pocer coch yn ei law i ateb cwsmer, a dychrynodd fwy nag un ymaith—yn wir, efallai mai dychryn y pocer oedd yn cyfrif am anamledd y cwsmeriaid yn y siop boblogaidd, os nad boblog honno. Nid siopwr oedd Athan, a chamsyniad oedd iddo agor siop, oblegid nid hir y bu cyn ei chau,—gwnaeth y siop ei gwaith er hynny, daeth ag Athan yn adnabyddus, fel y dywedasom, a daeth a llu o fechgyn ieuainc i gyffyrddiad âg ef, a dysgodd iddynt lawer o wersi mewn meddwl a siarad yn Gymreig ac yn Gymraeg."
Pan ddaeth ei awr i ysgrifennu gair ar ol ei gyfaill bore oes—"Gwalch Ebrill "—a fuasai farw yn America, yr oedd y dull agos hwn yn hyfryd, ac meddai:—
"Wrth ddarllen y llythyrau y daeth y dagfa i'r gwddf, a'r deigryn i'r llygad, ac y teimlais mewn gwirionedd fod fy hen gyfaill wedi mynd i fyd pellach na'r Amerig. Nid oes gennyf fi ond atgofion bore oes, ac y mae hynny erbyn hyn ymhell, ond os ymhell, gallaf ddweyd eu bod yn dyner ac yn annwyl; ac er na allaf eu cofio'n drefnus, eto ni allaf byth eu gollwng yn angof. . . . . Yr oeddwn yn y byd ryw ddwy flynedd o'i flaen, ac yr wyf yn cofio am dano yn bur ieuanc. Er ein bod wedi ein geni a'n magu heb fod ymhell oddiwrth ein gilydd, eto i gyd, dan y ddaear y daethum i'w adnabod yn agos, yn y gwaith glô yn y Bwli bach. Ychydig o ddarllenwyr y "Diwygiwr" sydd yn gwybod am y Bwli bach, ond cafodd Dan bach brofiad chwerw o'r Bwli bach, ac achos i'w gofio am byth. Llosgodd yno yn dost iawn, pan yn ieuanc iawn, ac yr oedd creithiau tân gwyllt y Bwli bach arno hyd ei fedd. . . Yr ydwyf yn cofio yn dda am dano yn gorwedd yn yr oil, yn ddigon annhebyg i allu codi oddi yno. . . . Nid oedd na bŷs na bawd, na llygad na thrwyn yn y golwg, dim i brofi fod Dan bach yn fyw, ond ei lais. Clywem ei lais, ac yr oedd ei dafod yn mynd yn iawn yn yr oil, yr oedd mor ddoniol ag erioed yn ei gadachau fan honno." Ac wrth son am yr ymroi oedd ymhlith gweithwyr y Bwli bach i ddiwylliant, meddai, "Gallwn ddweyd mai o dan y ddaear y cafodd Dan ei addysg foreuol, braidd i gyd."
Dyna fyr olwg ar ei deithi fel llenor cofiannol, ac awgrym o'i fyd fel golygydd yn yr olwg. Yr oedd yn rhaid i bob byd fod yn agos a naturiol iddo ef.
Pan ddaw i ysgrifennu gair ar ol ei hen Broffeswr—y diweddar Proffeswr W. Morgan, Caerfyrddin—tywysog ymysg dynion—mae ei arabedd fel llewyrch lloer ar nant y mynydd. "Chwalodd lawer pregeth dda i ni," meddai, a gwnaeth i lawer un o honom, lawer pryd, deimlo'n anesmwyth, os nad yn anfoddog, ond wedi aros ac oeri, yr oeddem yn dod i deimlo y gallem ddweyd fel y dywedodd un o'n blaen, 'Pellhaodd efe ein camweddau oddiwrthym,' oblegid ni fuasem yn meiddio dweyd honno, ar ol hyn, wrth y gynulleidfa fwyaf pechadurus yn y wlad, er i ni gredu gynt ei bod yn bregeth dda.
Dr. Parker yn dweyd am Henry Ward Beecher, 'Nid oedd yn llafurio nac yn nyddu.' Ni ellir dweyd am y Proffeswr Morgan nad oedd yn llafurio, ond gellir dweyd nad oedd byth yn nyddu . . . byth yn ceisio estyn ei bregeth â geiriau llanw.'"
Dyma gymeriad hollol wahanol yn ei law, a dyma ysgrifennu gwahanol arno—" Gurnos "—hen gyfaill i Watcyn Wyn—
"Y mae yna bregethwyr i'w cael a elwir yn bregethwyr safe, a hynny gyda llawer o briodoldeb y maent yn safe o beidio â bod yn wael iawn, ac mor safe a hynny o beidio â bod yn anghyffredin o dda—ond yn safe o fod yn uniongred yn ol y sect fanylaf; ond nid un felly oedd Gurnos. Wyddai neb yn y byd, fore dydd Sul na nos Sul, beth gai ganddo ef. Y mae ambell un yn pregethu yn wastad reolaidd, fel y golofn yn yr anialwch, yn niwl y dydd, ac yn dân y nos,'—pregeth heb ddim ond niwl ynddi yn y bore, a phregeth heb ddim ond tân ynddi yn y nos. Dichon mai yn y bore y disgynnai'r tân, gan Gurnos; ac y byddai wedi ymgolli yn y niwl erbyn nos, neu fel arall,—'doedd neb yn gwybod, am nad oedd y pregethwr ei hunan yn gwybod."
A dyma rodio difyr! Yr oedd yn llawn chware fel eiddo plentyn yn llawn jests a jokes, fel eiddo digrifwasyn llawn sylwadau craffus, fel eiddo athronydd, ac yn llawn ffolineb diniwed fel eiddo bardd.
Gwyddai llawer am ei fynych wendid, ond ychydig wyddai am ei fawr gryfder a'i athrylith nerthol. Yr oedd yn gallu siarad â'r ci a'r gath nes gwneud iddynt wrando ar ei araith, a'i deall bob sill. Nid oedd byth yn pasio ci ar yr heol heb roi ei law ar ei ben, a dweyd wrtho am fod yn gi da; ac elai'r ci yn ei flaen dan gynffonlonni ar ol derbyn ei fendith. Treuliodd gannoedd o oriau i chwilio am nythod, ond ni thynnodd yr un erioed. Yr oedd yn adnabod adar wrth eu henwau, ac yn eu dysgu i ateb ei chwiban, a dod a disgyn ar ei ysgwydd."
Mae y ddau ddyfyniad sydd yn canlyn yn enghraifft o'r golygydd ar ei awr rymusaf:—
TREM AR YR HEN FLWYDDYN.
Wrth edrych yn ol ar y flwyddyn ddiweddaf, faint o bethau pwysig yn ein hanes fel gwlad ac fel cenedl sydd wedi digwydd? Faint o bethau parhaol eu dylanwad a dwfn eu hargraff? Faint o welliantau cymdeithasol a symudiadau cynorthwyol? Faint o gamsyniadau poblogaidd, ac o golliadau masnachol? A ydym wedi cael golwg eglur ar rai pethau y dylem eu hosgoi, ac arswydo rhagddynt; ac ar bethau eraill y dylem eu meithrin, a diolch am danynt? Tebyg nad ydym wedi byw yn yr un byd yn hollol, bob un o honom. Tebyg nag ydym wedi sylwi ar yr un pethau, nac wedi meddwl i'r un cyfeiriad. Nid yr un camsyniadau ydym yn barod i gondemnio, ac nid yr un gwelliantau ydym yn barod i ganmol,—yn wir, tebyg nad ydym yn cyfrif yr un pethau yn ddiffygion a rhagoriaethau. A oes yna rai pethau wedi digwydd yn y flwyddyn ddiweddaf, y gellir yn ddibetrus eu rhoi i lawr fel diffygion, a phethau eraill fel rhagoriaethau, neu welliantau cymdeithasol? Buasai yn dda gennym ar ddiwedd y flwyddyn un fil wyth gant naw deg a chwech o'r cyfnod Cristionogol, gyfeirio at ragoriaethau, at welliantau, ac at symudiadau daionus digamsyniol yn unig, ond tebyg fod yna bethau eraill yn hawlio ein sylw.
Y mae masnach wedi bod yn bur ansefydlog, ac yn parhau felly hyd ddiwedd y flwyddyn, mewn llawer cylch ac mewn llawer lle. Mae annealltwriaeth ar ol annealltwriaeth wedi codi rhwng meistr a gweithiwr, ac y mae yna gymydogaethau cyfain wedi dioddef yn galed o achos hyn, ac nid ydym yn gweled fod yna fawr o ddim parhaol a chadarn wedi ei wneud i sicrhau gwell trefn a gwell dealltwriaeth rhwng y pleidiau pwysig hyn yn y dyfodol. Y mae peth tebyg iawn i gyndynrwydd a dallineb a gormes wrth wraidd llawer anghydfod ydym wedi sylwi arno yn ystod y flwyddyn ddiweddaf—dallineb o bob tu, a chyndynrwydd o bob ochr, ac nid oes yna un cynllun eto i osgoi hyn. Credwn y dylai Llywodraeth ein gwlad ymyrryd yn uniongyrchol mewn materion mor bwysig a hyn i gysur a llwyddiant a bywyd y deiliaid. Credwn hefyd fod ein masnach wedi rhedeg gormod i'r un cyfeiriad; os felly, nid oes dim ond methiant i ddisgwyl o'r cyfeiriad hwnnw. Mae gormod o redeg ar ol y ffordd it wneud arian nes yw y ffordd wedi cau. Nid gwneud arian, nid hapchwarae yw masnach i fod, ond trefn gyson ar gyfer angen gwlad, gwneud y gwaith sydd eisiau ei wneud, a'r gwaith sydd raid ei wneud, os am gadw gwlad yn llwyddiannus, a chenedl yn fyw. Y mae'r gwaith a'r gweithiwr, a'r meistr a masnach, yn rhwym o gael sylw blaenaf ein gwlad a'n teyrnas yn y blynyddau nesaf; sylw blaenaf ein blaenoriaid, ein senedd, ein haddysg, a'n crefydd hefyd. Rhaid cael holl nerthoedd yr holl alluoedd hyn i ddysgu ac i helpu dyn i fyw, ac i symud yr holl anhawsterau, a'r holl rwystrau o du meistr a gweithiwr yr un fath.
Y mae ein Haddysg yn dechreu dod i hyn. Y mae'r flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn nodedig ynglyn ag addysg yn ein gwlad ni. Coronwyd y Brifysgol yn ystod y flwyddyn. Mae ein tri choleg erbyn hyn yn troi eu sylw yn arbennig at y gradd Cymreig, ac y mae cryn redeg am dano hefyd. Ond credwn wrth edrych ar addysg, a hanes addysg, a holl gyfryngau addysg, a threuliau addysg, nad graddau a theitlau fydd yn cael sylw yr oes nesaf ond gwrteithio ar gyfer bywyd ymarferol; paratoi dyn i wneud gwaith,—rhoi dyn, rhoi dynion yn gyffredinol, yn fechgyn ac yn ferched, ar y ffordd i'w deall eu hunain, deall y byd, a gallu byw yn y byd.
Y mae'r flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn nodedig am agor llu o Ysgolion Canolradd—gormod o lawer o honynt, os yw'r addysg i barhau ar yr hen linellau; ond gydag addysg ymarferol, a synnwyr cyffredin, dichon y llenwir hwy bob un. Yn sicr, nid cenedl o Glasuron, na chenedl o Wyddonwyr yw corff unrhyw genedl i fod, ond cenedl o weithwyr, a chorff o ddynion ymarferol. Os bydd i'n Hysgolion Canolradd ofalu natur yr addysg a gyfrennir ynddynt, byddant yn llwyddiant, ond os cerdded yr hen lwybrau cochion gynt, byddant yn sicr o golli tir.
Y mae yn dda gennym ddeall ar ddiwedd y flwyddyn, fod ein Colegau Enwadol yn dechreu agor eu llygaid i gamsyniad y syrthiwyd iddo yn ddiweddar, sef anfon pawb o'r bechgyn i Golegau'r Brifysgol. Mae Coleg Bangor wedi pasio penderfyniad nad oes neb i fyned yno, ond y rhai fydd wedi matriculatio ar gyfer gradd, ac y mae Aberhonddu wedi symud rhai o Gaerdydd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Camsyniad yn ddiau ar ran pwyllgorau ein Colegau oedd meddwl anfon yr holl fechgyn i'r Brifysgol. I ba beth? Nid gwiw anfon neb yno ond y rhai fydd yn barod i fyned ymlaen am eu graddau, ac yn awyddus gwneud hynny hefyd. Y mae digon o le a digon o athrawon i'r gweddill yn ein Colegau ni ein hunain. Da gennym weled y gwelliantau hyn. Yn ddiameu. yr oedd eisiau gwneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwn, oblegid y mae eisaiu gwneud hyd yn oed addysg y pulpud yn synhwyrol, ac yn ymarferol.
ADDYSG.
Addysg yw cri mawr ein gwlad ni. Prin y mae neb sydd yn fyw heddyw yn cofio y fath siarad a'r fath gynnwrf, a'r fath deimlad uchel ynglyn âg un cwestiwn cyhoeddus, ag a welir heddyw ynglyn â'r Mesur Addysg sydd o flaen y tŷ—Tŷ y Cyffredin. Nid yw y Mesur wedi bod o flaen y wlad, ond fel y mae yn ymddangos yn ddarn ar ol darn, mewn dadl ar ol dadl, yn y papurau newyddion, ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Aed ag ef i Dŷ y Cyffredin heb ddweyd wrth neb ei fod i fyned yno, ac heb ofyn i neb a oedd ei angen, na gofyn barn neb am ei gynhwysiad.
Credwn erbyn hyn, er hynny, y buasai yn well hyd yn oed gan y llywodraeth bresennol pe buasai y Bill hwn wedi myned i mewn drwy y drws i'r gorlan honno, nag wedi dringo ffordd arall fel y gwnaeth. Y mae wedi creu ystormydd cynddeiriog yn y tŷ, ac yn y wlad, ac y mae'r gwynt a'r tonnau heb ddistewi a llonyddu eto.
Nid ydym yn credu ei fod oll yn ddrwg, fel y dywed rhai, ac nid ydym yn gweled ei fod oll yn dda, fel y myn eraill i ni gredu; y mae fel mesurau y llywodraeth yn fynych, yn ddigon brith. Da fyddai cael rheolaeth lydanach ac ehangach nag sydd gan lawer Bwrdd Ysgol y dyddiau hyn, ond gwell fyddai cael rheolaeth gyffredinol dros bob ysgol sydd yn derbyn arian y bobl at ei chynnal.
Nid mesur addysg yw y mesur, fel y mae gwaetha'r modd, ond Mesur Sectol—boliticaidd, nid i ofalu am addysg plant y wlad, ond i ofalu am ei sect. Os nad yw yn fesur addysg, credwn y ceir llawer iawn o addysg wrth ei drin yn y senedd, a son am dano y tuallan. Yr ydym yn cael ambell lygedyn o oleuni disglair disymwth, pan fyddo dynion fel Hugh Cecil yn codi ar eu traed, ac yn cyfaddef o flaen y tŷ, fod ofn teimlad Rhydd Gynghorau lleol Cymru arnynt, i roi gormod o râff! Dyma gompliment ddiarwybod i Gymru. Gymru deffro ati, yr wyt ti yn sicr o fod yn etholedig gan Dduw i fyned a goleuni yr efengyl, a gwybodaeth Gristionogol bur i Loegr, ac efallai mai dyma fydd un o fendithion mwyaf y mesur a elwir mesur addysg yn y diwedd.
Dyma lenor mwy cyd-ffurf a chadwrus, pan yn ysgrifennu Cysylltiad yr Iaith Gymraeg â Hanes Crefydd yng Nghymru:—
Mae'n debyg i gysgod Pabyddiaeth dywyllu'n gwlad, ac i'n haddoliad cyhoeddus fod ar dafod estron, a thelyn grefyddol ein gwlad fod ar helygen ddieithr am gryn amser, fel y mae gennym brofion yn hen gyfreithiau Hywel Dda, ac eraill; ond rhywfodd, yr ydym yn credu fod yna ryw fywyd cuddiedig, nad oedd deddf a defod yn gwybod am dano, drwy y blynyddoedd tywyll hyn. Y mae yr ysgrifenwyr Seisnig yn dweyd fod y Cymry wedi colli eu crefydd a'u gwareiddiad, a phob olion gwrtaith, ac wedi syrthio i iselder barbaraidd, yn y cyfnod hwn; ac eto, ar yr awr dywyllaf mae y wawr agosaf i dorri! Os oedd Cymru wedi syrthio mor isel, ac wedi ei hesgeuluso mor llwyr, nes syrthio mor ddwfn i afael barbareidd-dra anwaraidd ag y myn rhai i ni gredu, pa fodd y mae cyfrif am ddeffroad llenyddol disglair, a sain cân soniarus y ddeuddegfed ganrif—cyfnod y Mabinogion, cyfnod barddonol y cynhyrchion rhyfedd hynny—y cyfnod pan oedd telyn ymhob teulu, a phob un yn gallu difyrru ymwelydd, o fore hyd hwyr trwy ganu gyda'r tannau? A oedd hi yn bosibl i gân mor bêr dorri o ganol distawrwydd mor ddifeddwl, ac i ddydd mor loyw dywynnu ar unwaith o ganol tywyllwch mor farbaraidd? Nid ydym yn gallu gweled pa fodd y gallai hyn fod. Yr oedd yna ryw ysbrydiaeth na wyddai y byd allanol am dano, yr oedd yna dân ar ryw allor yng Nghymru o hyd, fel nas gallwn gredu fod y fagddu wedi toi'r wlad mor llwyr ag y myn rhai i ni gredu. Os oedd yr Eglwys weledig yn siarad Lladin, yr oedd yna ryw Eglwys anweledig yn sicr o fod yn cadw cyfeillachau Cymraeg gwresog! Pa fodd mae cyfrif am ganeuon godidog y cyfnod hwn yn torri allan mor groyw ac mor sydyn, os oedd y wlad wedi rhoi ei hun i gysgu mor ddwfn a difeddwl ag yr ysgrifennir am dani? Y tebygolrwydd yw, nad oedd bywyd mewnol Cymru yn hysbys i'r Saeson, ac nad oedd neb yn gofalu dim am dano—mor bell ag y byddai Cymru yn dawel,—peidio â rhyfela oedd peidio â bod yng ngolwg y Sais; ac y mae bywyd Cymru ar goll, ond pan dorrai rhyfel allan; ond credwn fod toriad Barddoniaeth a Chân allan yn siarad yn groyw am y bywyd cuddiedig ar ddiwedd y cyfnod.
Er bod ei ysgrifennu yn ddigon difyr, ac nad oes flino ar ei ddarllen, hawdd gweled na feddyliodd am ragori ym myd Llenor. Swn siarad gwell ei ardal a'i wlad glywir yn ei ryddiaith, heb unrhyw arddull, nac unrhyw ymgais at geinder. Ysgrifennu synnwyr cyffredin mewn dull y medrai'r cyffredin ei synnwyr ei ddeall, wnai ef, a dyna'i ddigon. Yr oedd ei ysgrifennu yn rhy fân ac aml i gynhyrchu rhyddiaith a wnai argraff. Ar rai blynyddoedd, pe ysgrifenasai lai, y detholasai yn fwy gofalus gyda'i faterion, ac yr ymgeisiasai ychydig yn fwy, yn hytrach na gadael i feddwl a geiriau redeg fel edafedd o bellen wlân, byddai ei safle fel llenor yn uwch.
Yn ddiarwybod iddo'i hun, yn ddiau, yr oedd ei ddull o ymadroddi yn rhy unffurf. Cychwynnai ei frawddegau'n rhy aml gyda geiriau gweiniaid fel "gallwn ddweyd," a "credwn"; a dygai'r sŵn hwn gydag ef argraff o ddiffyg cryfder, ac o amhendantrwydd. Dengys ei faterion yr edrychai allan ar fywyd ei genedl yn bur amlochrog; canfyddai yn llym, a barnai yn deg; ond collai mewn lliw a phraffter weithiau. Digon yw dweyd yr ymfoddlonai ar ddweyd ei feddwl yn syml a chywir, heb gymryd unrhyw drafferth, ond ymswyno rhag rhoi trafferth i neb o'i ddarllenwyr.
Y BARDD.
PA mor gynnar y dechreuodd farddoni o ddifrif! Gwelsom ei bennill cyntaf i'r Ci Kiper,' a golwg ddigon diniwed oedd ar y pennill, beth bynnag am y ci. Meddai'r Bardd yn chwareus, wrth son am roi nodiadau eglurhaol ar y pennill,' ymhen blynyddau wedi rhoi o'r ci hwnnw, druan, ei gyfarthiad olaf, "Credaf fod braidd ar y mwyaf o nodiadau eglurhaol yn cael eu rhoi wrth farddoniaeth y dyddiau hyn—er mwyn ceisio dangos y farddoniaeth, gallwn feddwl."
Tybiwn ei bod wedi dod yn " Hydref, 1868," cyn i'w awen fynd yn ddigon difrifol i roi ei chynhyrchion i'w cadw mewn llyfr ysgrifennu. Beth barodd iddo roi ei gynhyrchion cyntaf mewn llyfryn wedi ei golofni ar gyfer cyfrifon ariannol, ni wyddom. Dysgodd ef, fel eraill, yn ddiau, mai ychydig o eisiau'r colofnau syth hyn fu ar yr awen—yn arbennig yng Nghymru. Mynd ar draws i'r money columns" mae hi. Llinell wael i wneuthur arian fu'r awen erioed yng Ngwalia.
Dwy geiniog i'm digoni,
O les hon ni welais i.
meddai un bardd swrth. A chynghorai bardd arall ei fab i ysgoi'r wobr sy'n dilyn barddoni yn y Gymraeg, yn rhy aml,
Sâl oesol fydd dy sleisen,
A dau droed a fydd dy drên.
Y truan trist wedi methu ennill gwobr yn yr Eisteddfod i dalu ei drên adref, yn gorfod cerdded tuag yno!
Beth bynnag, ysgrifennu ar draws y colofnau sythion hyn wnaeth Watcyn Wyn, i ddechreu, gyda dau englyn cyfarchiadol i'r llyfr, gan "Gwydderig," ar ei gychwyn:—
Hen Awen, dyma Lyfr newydd,—i ddal
Meddyliau ymennydd;
Hyd ei ddail rho dy ddelw rydd,
Dy lun yn odlau awenydd.

Llyfr y Bardd, llafur ei ben,—athrylith
Ar ei hwyliog aden;
Parabl ei waith, pur heb len,
Odlau hyawdl ei awen.
Ac am bob llyfr barddoniaeth a gyhoeddwyd gan Watcyn Wyn, gellir dywedyd, "hyd ei ddail dy ddelw rydd!"
Ni chanodd neb o feirdd Cymru ei hun yn ffyddlonach nag efe. Nid anodd iawn i fath arbennig o fardd fod yn well dyn yn ei farddoniaeth nag yn ei fywyd. Nid yw'r farddoniaeth bob amser yn adsain wir o ysbryd a thymheredd y bardd. Gall anian rwgnachlyd, groes, ganu'r llinellau llonnaf a digrifaf, ac anian gybyddlyd fod yn hael mewn pennill. Ond yr oedd Watcyn Wyn yn ei farddoniaeth. Yr un oedd ef yn ei gartref ag yn ei gân—fe'i canodd ei hunan!
Bu dau gyfnod pendant ar ei awen—y cyfnod y cymerai boen gyda'i feddyliau a'u diwyg, heb ymestyn at unrhyw goethder manwl, a llawer llai, dwyn i mewn unrhyw chwŷdd—perygl mawr awen ieuanc; a'r cyfnod y diofalai fwy nad oedd raid, ac weithiau, fwy nad oedd weddus, gyda diwyg ei gân.
Am ei gyfnod cyntaf, byddai'r boen a gymerai, yn fwy ac yn llai, yn ol y mater a'r achlysur; ond hyd yn oed pan yn canu'n ddigrif, yr oedd, yn y cyfnod hwn, yn canu o ddifrif. Yr oedd graen ymroi ar ei linellau. Yr oedd ei ddigrifwch yn ddigrifwch effro, cyfan. Pan ganai ar destynau fel "Daeargryn," "Ac ni bydd nos yno," "Yr angel, Mae rhywbeth yno i mi," a'u tebyg, yr oedd y difrifwch hwn yn blodeuo mewn llinellau cryfion—wedi eu saernïo yn dda—heb fod yn dangos unrhyw orofal,—mewn dilyniad meddyliau, ac mewn tlysni a naturioldeb awen. Ceid aml i englyn cryf, glân a buddugoliaethus, megis y rhai hyn:
Y GORON DDRAIN.
Gwnaed i eneiniog nen,—y Goron Ddrain
Gerwin ddrych cenfigen;
A gwawd byd yn gwaedu'i ben,
O drywaniad pob draenen!
Y GWLITHYN.
O lwythog fron nef daw'r gwlithyn,—ar rudd
Bore o haf, dlws ddeigryn;
Eneiniog urdd, ar ben gwyn
Y gwannaidd wyw eginyn!
EFENGYL.
Annwyl lais Efengyl hedd,—i fyd erch,
Tafod aur trugaredd;
Rhydd râs Iôr oddiar ei sedd,
Yn galw i'w ymgeledd.
YR ADAR.
Telynorion llon y llwyni—a'u diail
Bêr hudolus gerddi;
Pan yn gôr yn telor,
Daw rhyw nef i'n daear ni.
YR ADERYN DU.
Ar lwyn yn oriel anian—o'r drain daw'r
Aderyn du allan;
Chwery ei bib aur i chwiban
Ei frig hwyr a'i fore gân.
Mwy buddugoliaethus fyth oedd "Caneuon" a darnau rhyddion y cyfnod hwn. Dyma rai cyffyrddiadau:—
"MOR LLON YDYM NI."
Mor felys yw canu,
Er gwaethaf y byd,
Cawn ollwng i fyny
Ein gofid i gyd;
Nid erys gofidiau yn unman,
I wrando plant bychain yn taro y cytgan—
"Mor llon ydym ni."
Mae'r goedwig y gwanwyn
Yn gyngerdd o hyd;
A brigau y glaslwyn
Yn gytgan i gyd;
A'r awel yn cerdded â chân pob aderyn,
Yn gymysg a'i gilydd, o frigyn i frigyn—
"Mor llon ydym ni."
Mae plant bach yn canu
Emynau'n y byd,
A'u lleisiau'n dyrchafu
I'r nefoedd ynghyd;
A'r adsain yn disgyn fel wedi 'phereiddio,
A lleisiau nefolaidd y plant bach sydd yno—
"Mor llon ydym ni."
SEREN BETHLEHEM.
SERYDDWYR, Doethion, gwlad y dwyrain draw,
Darawyd i ryw berlewygol fraw,
Gan ymddangosiad seren ddieithr, dlos,
Ar fron y nef ynghanol sêr y nos;
Er fod y llèn yn sêr o rif y gwlith,
Hon oedd yn seren hynod yn eu plith;
Llygad pob serydd dremiai arni'n gyfan,
Fel pe'r ffurfafen fawr heb ond ei hunan!
Rhyw seren newydd wedi ei chreu'r nos hono,
Fel pe i gànt y nefoedd newydd neidio!
Seren na wyddai serydd ddim am dani,
Seren ar ddeddf seryddiaeth wedi tori;
Rhyw seren o'r ddiddymdra wedi cyneu
I ddangos y Gwaredwr gyda'i goleu;
Rhyw seren yn serenu gwawr i'r byd,
Seren a mwy o Dduw na'r sêr i gyd!
Eu llygaid fel seryddwyr oedd yn pylu,
Wrth weled ei gogoniant yn pelydru;
Eu llygaid gweiniaid dery ei gwawl yn gibddall,
Rhaid edrych arni a rhyw olwg arall,
A golwg ffydd yr hen broffwydi'n unig
Yr olwg sydd yn gwel'd yr Anweledig.
Y seren a adnabu llygad ffydd,
Adnabu ei llewyrch fel ei "Seren ddydd."
Symuda'r seren fyw fel llygad angel
Yn araf tua phwynt y bwthyn isel,
Lle safodd gyda thremiad hawddgar llonydd
Uwch ben y cryd a ddaliai ei Chreawdydd!
Yr oedd digrifwch y cyfnod hwn hefyd yn fwy o dan ddeddf nag oedd digrifwch amryw o'i ddarnau diweddaf, yn yr ystyr o ofalu am ddiwyg. Er y canai yn rhydd iawn bob amser, a'i fod yn feistr ar y grefft o wneuthur i'w linellau an—ogyhyd ieuo'n esmwyth, eto cadwai law feistrolgar ar yr awenau, a chai darllenydd y mwynhad o chwerthin heb deimlo fod dim pwysig yn cael ei aberthu, oddigerth y gofal ynglyn âg ambell air lled sathredig, ac o dafodiaith leol, megis.pan yn disgrifio" Newyrth Dafydd" yn gwneud y stori'n fwy wrth ei dywedyd:—
Ond rhoddodd lawer cetyn, do—
O'r hen wrth gwt y newydd.—
Yn "Tipyn o Go" drachefn, pan yn ysgrifennu, "baso fonclust," a "shwd leuad," a " ta beth," yn " Mae nhw'n dweyd," a "mynd a'i fywyd bant" yn "Gwely marw hen Dad-cu," ac amryw o rai tebyg.
Gwyddom mai'r galw mawr a fuasai am ddarnau adrodd agos a digrif, a gyfrifai am lawer o hyn, ac nid ennill i awen Cymru fuasai hudo awen Watcyn Wyn fawr pellach yn y cyfeiriad hwn nag y gwnaed; er y gallwn ddywedyd gyda hoffter, fod ei holl ddigrifwch yn lân. Eithr yr oedd mawr eisiau i'w awen gael ei hamdden i ganu'r caniadau gwell a gynhwysai werth parhaol.
Yn yr ail gyfnod, cadwodd ei ddigrifwch yn gyfoethog, ond aeth i ddiofalu ynghylch mydr a chorfan i raddau gormodol, gan ymfoddloni bod yn llai meddylgar ac awengar,
nid oedd hyd yn oed ei ddigrifwch mor llwyddiannus pan esgeulusai'r elfennau pwysig hyn. Daethai i feddwl cymaint am y pwys o gael y pennill a'r englyn adref i feddwl a chof gwerin, ac yntau yn naturiol yn un na chredai mewn cymryd trafferth gormodol gyda dim, fel y cafodd ambell gân ac englyn adenydd pan ddylent aros adref i fagu plu. Ar awr lac fel hon, rhy barod oedd i ymfoddloni ar ganu fel hyn:—
Gwynt y dwyrain, y mae'n sych,
Gwynt yn llawn o lwch a nych,
Heda dros gyfandir oer,
Nid wyneb haul ond cefn y lloer;
Daw a'. sychter ar ei fin
I gynhyrfu peswch blin,
Daw a gwenwyn gydag ef
Gwenwyn drwy holl awyr nef!
Y mae glesni coed y glyn
Heb ymddangos hyd yn hyn.
Dim ond llwydni dros y llawr,
Ië, dim ond llwydni mawr,
Gruddiau llwydion ymhob lle,
O na throai'r gwynt i'r dê.
BLWYDDYN NEWYDD DDA.
Da gennym unwaith eto fyw i gyfarch ein gilydd,
Gyda Blwyddyn Newydd Dda, ar ddechreu y flwyddyn newydd.
Nid am fod yr hen wedi myned, 'does neb yn llawen am hynny,
Anodd ffarwelio â blwyddyn—wedi byw cyhyd yn ei chwmni;
Ond am gael byw i weled dechreu un flwyddyn eto,
Blwyddyn yn lle yr un sydd wedi myned heibio.
Dyfod yn lle ei gilydd mae ein blynyddoedd i'n gweled,
Mae'r flwyddyn newydd yn dod ar ol i'r hen flwyddyn fyned;
Nid ynt yn gwthio ei gilydd, ac ni ddaw dwy yr un adeg,
Er fod pob un yn prysuro, ac er fod y ddwy yn rhedeg.
'Run yw'r helynt nos a dydd,
Dim ond son am ryfel sydd!
Rhyfel yn y dwyrain bell,
Gartref nid yw nemor gwell.
Beth yw'r drwg sy'n cael ei wneud,
Mae'n dibynnu pwy sy'n dweyd:
Brwydro bythoedd yn Transvaal,
Nes gwneud calon iach yn sâl.
Brwydro yn ein senedd sy,
Am y brwydro yno fu.
Dyna'r tiroedd isaf y cyffyrddodd aden ei awen ef â hwy. Ond ei duedd i ymbleseru, ac i ddod yn agos yn ei gân, a gyfrifai am y cwbl—dwyn y wers adref ar ei thraul ei hun.
Digon o brawf nad yr awen a'i gadawsai ef, eithr efe yr awen, yw'r ffaith iddo ef ar adeg y dull didaro hwn, ganu rhai o'i ganiadau goreu. Dyma efe yn Hydref, 1890, heibio i berllan y Parch. W. Davies, Llandilo, ac meddai mor swynol, glân a chyfan:—
Sŵn afalau'n syrthio'n dawel,
Heb eu hysgwyd gan un awel,
Miloedd ar y prennau wedi
Dod yn addfed, ddiwedd Medi.
Addfed afal ar ol afal,
Yno'n cwympo'n ddyfal dyfal;
Gwyn ei fyd yr hwn a drigai Y
Yn yr ardd o dan y brigau.
'Roedd y melys ddisgyniadau
Fel yn rhifo yr eiliadau;
Yr oedd cangau ar bob coeden
Fel yn chware miwsig Eden!
Tynnodd llwydrew ysgafn Medi
Lawr, fendithion dirifedi;
Yn eu sŵn 'roedd dyn yn gwledda,
Beth allasai fod eu bwyta!
'Roedd pob brigyn yn garedig,
'Roedd pob cangen yn haelfrydig,
Yn eu sŵn 'roedd caniad newydd
Am fendithio coed y meysydd.
Yn y coedydd rhwng y brigau,
Miwsig peraidd iawn a drigai,
Afal coch ac afal melyn,
Ar yn ail yn chware'r delyn.
Boed i fiwsig yr afalau
Ddal i ganu am flynyddau,
I gadw teulu y gweinidog
Fel afalau'n iach a gwridog.
Ond gwan a'i cryf, digrif a'i difrif, fyddai'r hwyl, yr oedd pob llinell yn cerdded heol wen moes, ac mor ddiwenwyn a'r gwlithyn. Ni all Cymru gofio pennill nac englyn annhirion ganddo, na chwaith gân fostfawr, ergydgar. Y Golomen Wen oedd ei awen ef—" diddanydd gwlad o ddynion!" Hyd yn oed pan fyddai'i saeth yn llym, byddai'n lân. Gwnaeth ambell englyn i ambell un na allai neb ond un cyfoethog o natur dda a ffraethineb anturio'i wneuthur, heb gael drygair i'w awen. Ond cai ef son am bregethwr ar dro dilewyrch yn
Rhoi dŵr ar odfa'r Deri
(lle ym Morgannwg).
heb roi'i hun mewn "dŵr poeth!" Yr oedd ei ysbryd yn ddiogelwch iddo!
Pan ymgadwai heb ddiofalu'n ormodol, byddai cân well yr ail gyfnod yn well hyd yn oed na chân well y cyfnod cyntaf, oherwydd yr addfedrwydd cyfoethog a'r naturioldeb perffeithiedig a ddaethai i mewn fwy-fwy i'w awen. Ar adegau fel hyn, codai ei deml heb sŵn y morthwyl a'r cŷn, ac mae gwerin Cymru yn cerdded i mewn iddi gyda hyfrydwch a pharch na theimlwyd ac na ryglyddwyd eu rhagorach wrth borth nemor awen Gymraeg.
Yn ystod y cyfnod hwn y canodd ei faled "Pegi Lewis," ei "Ganeuon y Safonau," ac yn neilltuol ei Benillion Telyn." Gydag ambell eithriad, ni tharawodd y nôd mor fuddugoliaethus yng Nghaneuon y Safonau ag a wnaeth yn y lleill a enwasom. Yn ei byd ei hun y mae'r "Faled " yn llwyddiant, wedi ei llunio'n dda, yn Gymreig ei harddull, ac yn llawn chware awgrymiadol iach:—
Cadd y fuwch ei chloi i fyny
Yn y beudy i newynu;
Yno brefai yn glymedig
Foliant crefydd sefydledig.
Ond os oedd "y cyflogedig,"
Am gadw'r eidion yn glymedig;
'Roedd Pegi Lewis wedi gwylltu,
Yn tyngu gwnai eu datgysylltu.
****
Y mae Pegi'n rhydd ei gwala,
Mae'r fyswynog heb ei dala,
Yn dychlamu ar fynyddoedd!
Yn pori gwellt y mil blynyddoedd!
Prin y mae angen dywedyd mae "Baled " â'i hwyneb ar frwydr yn "rhyfel y Degwm" yw "Pegi Lewis."
Caneuon i blant ysgol yw "Caneuon y Safonau," ac fel y gellid disgwyl, mae tinc siriol iddynt oll.
Dyma bennill neu ddau o "Gân y bugail ar droad y dydd":—
Hoi! hoi!
Mae'r dydd wedi troi!
Mae'r haf yn dynesu
A'r gacaf yn ffoi.
****
Bydd, bydd,
Rhyw wên ar bob grudd,
Wrth weld haul yn estyn
Dau derfyn y dydd.
****
Dos, dos,
Dywyllwch y nos,
Ni saif ar y mynydd
Ond gwawrddydd wen dlos.
Am y "penillion telyn," mae llu o honynt " yn mynd â'r maen i'r wal." ac y mae'r caniadau a geir yn eu mysg ymhlith y rhai goreu a gyfansoddodd erioed.
Yn yr hamdden addfed a nodweddai ei awen ddiweddar, pan ddeuai i ganu ar ol ambell hen gyfaill yn y "Diwygiwr," neu ar ddalennau eraill, byddai'r ffrwyth yn felys odiaeth. Cymerer ei gân fwyn i
"HEN WILLIAM Y GWEYDD," CWMLLYNFELL.
("Coffa da am dano.")
A welsoch chwi WILLIAM Y GWEYDD erioed?
Yn cerdded yr heol mor ysgafn ei droed,
Yr oedd wedi byw yn fab canmlwydd ymron,
Ond yn dal hyd y diwedd mor gwmws a'r ffon;
Arno fe nid oedd blinder na blwyddi y llawr,
Na chyfoeth na thlodi'n effeithio fawr,
Nid ydoedd y ddaear a'i gofal a'i gwaith,
Yn poeni fawr iawn ar ei ysbryd ychwaith,
Cael ambell lygedyn o oleu y nef,
Yn nh'w'llwch y byd oedd pob peth geisiai ef.
Pan welsom ef gyntaf 'roedd yn mynd ar ei oed,
Er yn cerdded fel bachgen mor ysgafn ei droed,
Yr ydoedd ei lais wedi lleddfu yn llwyr,
A'i dôn oedd yn llawn o bruddnodau yr hwyr;
Nid oedd ei holl siarad ond son am a fu,
Cymdeithion ei febyd wedi blaenu yn llu,
'Roedd enwau SHON GWILYM, a DAFYDD DDOLGAM,
A ROWLANDS, a PRYSE ar ei dafod pob cam,
A llu o gyfeillion fu ganddo erioed,
I gyd wedi blaenu, yntau'n ysgafn ei droed
Yn dilyn o'u hol, ac yn dweyd "fel a'r fel
Yr oedd yr hen bobol, ïe, ïe, wel, wel!"
Da cofiwn am dano ef yn y tŷ cwrdd,
O dan yr hen bulpud yn ymyl y bwrdd;
Ni chlywid ei sŵn ef yn cerdded y coed,
Na'r cerrig oedd yno, gan mor ysgafn ei droed!
O! fel 'roedd yn gwylio wrth fynd i Dŷ Dduw,
Rhag gwneuthur un twrf nac un sŵn o un rhyw,
Ac yno bob amser yn gynnar mewn pryd
I gael yr addoliad yn gyfan i gyd!
Ac er nad oedd neb yn ei glywed yn dod
'Roedd pawb yn y capel yn gwybod ei fod
Ef yno yn wastad i helpu'r gweddïe,
Clywid sŵn ei "Amen," a "wel, wel, ïe, ïe!"
Yng nghryfder ei brofiad yr oedd ei fawr nerth,
Ac yng ngwres ei galon yr oedd ei fawr werth,
Yn ymdaith y moli pan oedd yn hen oed,
'Roedd ei deimlad a'i galon mor ieuanc a'i droed!
Dilynai'r pregethwr â'i law ac â'i lef,
A mynych pregethai'n fwy doniol nag ef;
Ni chaffai un sylw ddim dianc ei glust,
Ac i bob erfyniad, ei lais oedd yn dyst,
A thorrai ei deimlad yn ffrwd o weddïe,
"Amen, a wel, wel! ho, ho, ïe, ïe!"
Nid oedd yn rhyw gawr i esbonio Gair Duw,
Esboniad y profiad, ar hwn 'roedd yn byw,
Os nad oedd yn gallu esbonio bob pryd,
'Roedd e'n gallu teimlo y cyfan i gyd;
Cof gennym am ddosbarth yn darllen rhyw dro,
Yng nghylch Paul a Silas yng ngharchar dan glô,
A rhyw ran o'r wers yn dywyllwch o'r braidd,
Yn gofyn ei farn i HEN WILLIAM Y GWEYDD ';
"Fi ddwedach chwi 'mhrofiad yn awr," ebe fe, "
Buasai yn dda gen i fod gyda nhw yn y lle,
I uno'n y canu, y mawl, a'r gweddïe,
Buasai'n dda gen i fod yn y jail, ie, ie."
Fe ddaliodd i'r diwedd er cymaint ei oed,
Yn wresog ei galon ac ysgafn ei droed,
Dihangodd o'r ddaear i'r nefoedd i fyw
Ar ol y cyfeillion a'i blaenodd at Dduw;
Mae heddyw'n y nef, gyda Silas a Paul,
A rhwymau pob carchar am bythoedd ar ol!
Mae gyda'r hen frodyr, hen ffryndiau'r hen fro,
Yn dweyd yr Hen Hanes, a "wel, wel," a "ho, ho!"
A chredwn fod clywed ei lafar a'i lef,
Yn ddigon i greu hwyl Gymreig yn y nef!
Agos yr un yw naws ei awen pan ddaw i ganu ar ol "Mary Tŷ Cwrdd." Hen wraig hynod am ei diniweidrwydd, ei ffyddlondeb crefyddol, a'i gofal dros Fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin, oedd hi, ac yn gwarchod Capel Heol Awst, y dref honno. Rhy aml i'w hadrodd yw'r troion direidus a wnaed â Mary gan y myfyrwyr! Pan wnaed tysteb iddi, nid digon i Watcyn oedd anfon y "geiniog" heb anfon y gân." "Diwedd y geiniog oedd y gân" y tro hwn! Meddai:—
Yr hen fyw chwaer, rhof ran fach i—estyn
Tysteb deilwng iddi;
Diau cesglwch, heliwch chwi,
Arian mawr iawn i MARI.
Gyda'i marw hi daeth y gân, a dyma rannau o honi:—
Mae llawer yn cofio am MARY TY CWRDD,
Daeth diwedd ei dyddiau, aeth hithau i ffwrdd,
Cyrhaeddodd ei blwyddi i wyth deg ond dwy,
Fuasai neb yn anfoddlawn iddi fyw'n llawer hwy;
Nid oedd yr un gelyn gan MARY drwy'r byd;
Gwneud ffrindiau bu MARY drwy'i bywyd i gyd.
Mae'r tafod yn fud wedi siarad yn hir,
Mae'n chwith gennym rywfodd ei dewi yn wir;
Ni a'i clywsom yn fynych yn dwedyd y drefn,
Ond ni chlywsom hi 'rioed yn trin neb yn ei gefn;
Os trin yn y wyneb wnai MARY TY CWRDD,
Canmolai'n y cefn wedi i'r cyfaill fynd ffwrdd.
******
Er nad oedd ei dysg yn aruchel a chlir,
Yr oedd ei gwybodaeth yn helaeth yn wir;
Hi wyddai gyhoeddiadau yr holl wlad o'r bron,
Dydd-lyfr pregethwr ardderchog oedd hon;
Adwaenai gerbydau Y Mis bob yr un,
Er nad oedd yn berchen ar gerbyd ei hun.
******
Adwaenai bob dyn i Hewl Awst ddoi i'r cwrdd,
A gwyddai ei enw cyn iddo fynd ffwrdd,
Hi deimlai'n anrhydedd gael agor y ddôr,
Ac arwain dieithryn i'w le mewn rhyw gôr;
'Doedd dim a'i boddlonai yn fwy dan y ne'
Na llenwi y capel hyd na byddai lle!
Gwell ganddi gael cadw y drws yn Nhŷ Dduw,
Na phe cawsai balas brenhinol i fyw;
Wrth byrth tŷ yr Arglwydd bu fyw i hen oed,
Os byr oedd ei cham, ac os araf ei throed
'Roedd MARY y cynta'n y capel bob cwrdd,
A'r olaf bob amser yn myned i ffwrdd.
******
Mae MARY yn huno hun dawel o hedd,
Yn ymyl y capel darparwyd ei bedd,
A chredwn y bydd—nid yn hen ac yn wan—
Ar fore y codi y cyntaf i'r lan,
Yn dweyd wrth yr angel caredig mewn pryd
Pa le mae'r ffyddloniaid yn huno i gyd.
******
Mae'n adwaen y fynwent a'i holl deulu'n awr,
Hi ŵyr am bob un sydd yn huno'n y llawr,
Mae'r tir iddi'n dir cysegredig bob darn,
A bydd yn Dir Sanctaidd hyd fore y farn,
Y dydd prysur hwnnw—bydd "MARY TY CWRDD "
Y cyntaf i fyny—a'r olaf i ffwrdd. "
Yr oedd y difrifwch ymdrechgar a welir yng Nghaniadau ei gyfnod cyntaf at ei alwad pan ddaeth i ganu ei Bryddest Goronog "Bywyd"—buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr, 1881; ei Awdl Gadeiriol, "Y gwir yn erbyn y byd"—yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1885; ei Bryddest Goronog ar "George Washington"—yn Eisteddfod Chicago, 1893; ei Bryddest Gadeiriol ar " Abel"—yn Eisteddfod Dalaethol Ffestiniog, 1891; ei Bryddestau ar "Y Gorffennol," "Y Ddaeargryn," a'r "Groes"—ill tair yn fuddugol yn Eisteddfodau Talaethol y flwyddyn 1884—y gyntaf yn Ynyshir, yr ail yn Aberaeron, a'r drydedd yng Nglyn Ebwy—ac eraill. At hyn, yr oedd addfedrwydd awen i wella'r gwaith.
Y BARDD (PARHAD).
O DDILYN ei waith cynnar, gwelir mai ychydig iawn oedd gan ei awen i'w fwrw ymaith yn ei thyfiant at y "loywach nen." Dengys ei lawysgrifau cynnar awen yn cerdded yn ofalus—yn rhy ochelgar ymron—heb ddychymyg direol, heb ddiffyg barn amlwg, ond â chwaeth llednais, ac â mynych arwydd o ddarfelydd hoyw, a chrebwyll cryf. Lle bynnag y ceir cynhildeb yn hyn, hawdd y gwelir mai oherwydd gwyleidd—dra ei awen y bydd hynny. Fel heb ymdeimlo â'i nerth, ymfoddlona ar wneud mân ehediadau, fel y gwna dryw gwylaidd ym môn perth, yn hytrach na cheisio uchelder yr ehedydd. Hyfryd yw ymdroi gydag ef rhwng ofn ac addewid
AR Y TRAETH AR LAN Y MOR.
(Llawysgrif.)
Hen for, pa faint o weithiau er y cynta
Y bu dy donnau'n cario'i gilydd yma?
A all y wendon yna sy'n ymddryllio
Ddweyd hanes yr un gyntaf a wnaeth gyffro
O fewn dy fynwes, y peth cyntaf yno—
Y symud cyntaf wedi ysbryd Duw
Y cynnwrf cyntaf dyrfodd o'r tawelwch—
Yr awel gyntaf dorrodd ar dy heddwch?
Nid llygad cyffredin a welai'r "tonnau'n cario'i gilydd" i'r traeth; ac mor weddus a dwys y gallodd ef holi ym min niwl tew, heb ymgolli ynddo?
Mewn cân ar " Ardderchowgrwydd Anian" (llawysgrif), sonia am y blodau:—
A harddwch pur eu gruddiau
Yn gwrido'i gilydd sy'.
Yn yr un gân ceir crebwyll cryf wrthi yn dangos y mynydd yn mynd i'w uchelder:—
Neu'r mynydd uchel sydd o lawr y dyffryn
I fyny am y nef yn beiddgar estyn;
Ei gamrau eofn sydd yn dringo'r bryniau
O un i un i fyny trwy'r cymylau
Ar ol i'r bryniau ddarfod dringo'r creigydd
Y creigydd serth a grogant wrth ei gilydd.
Syniad cain ac enillgar yw cael blodau yn effeithio ar ei gilydd, fel yr effeithia wyneb ar wyneb mewn tyrfa! Ac mor newydd ydyw! Mae hynt y graig, y bryn, a'r mynydd drachefn yn llawn darfelydd a chrebwyll sy'n boddloni meddwl agored! Mor addfed a gweddus yw ei linellau ar " Ymweliad y Doethion" (llawysgrif):—
Ei dilyn wnaent i'w taith mewn angof llwyr—
Yr angof nad oes ond addolwr ŵyr
Am dano,—hwnnw, pan yw enaid dyn
Yn y mwynhâd o Dduw'n anghofio'i hun;
Teimlad addoli ar y siwrnai faith
Oedd yn byrhau milltiroedd hir y daith;
Addoliad lyncodd eu seryddiaeth hwy,
Ymgolli wnaethant oll mewn rhywbeth mwy.
Mae urddas tawel ar yr holl linellau, oddigerth yr olaf ond un, lle y ceir cyffyrddiad lled amrwd; a'r olaf, sydd fel yn methu mynd drwodd o ddiffyg nerth. Diffygio yng ngolwg y talar oedd, a bu hyn ynglyn â'i farddoniaeth i raddau hyd y diwedd. Yr oedd ei farn effro yn sicrhau rhyw briodolder cywir hyd yn oed ar achlysuron ag y mae teimlad mewn perygl o rodio'n rhydd. Marwnadu yw un o'r achlysuron mwyaf peryglus gyda hyn; ond, meddai ef yn ei linellau ar ol " Heman Gwent " (llawysgrif), wedi cyfeirio at y galarnadu ffugiol:—
Ceisio gwneud creadur egwan
Yn rhyw angel uchel ryw
Llwyr anghofio'r marw druan,
Yn rhagrithiol dwyll y byw.
Ac mor gywir ei welediad mewn llinellau yn ymyl, ac yn yr un gân:
Ar lawer un, mor ddistaw caea'r bedd,
Heb gyffro calon, ac heb dorri hedd
Y teulu nesaf!
Mae angeu'n torri mil i'r bedd bob dydd,
A'n calon ninnau heb roi curiad prudd
Ar ol yr un!
Hawdd oedd diorseddu barn wrth ganu ar ol boneddwr o safle a chyfoeth "Johnes Dolau Cothi," ond nid oes gyffyrddiad eithafol ganddo ef. Fel hyn y canodd, a boddlon pawb:—
Mae calon ein cenedl â'i dewrion ynglyn,
A'i bywyd yn teimlo marwolaeth pob un;
Cnul angeu mewn munud a dynnodd ynghyd
O gylch Dolau Cothi hen Gymru i gyd.
Hyd yn oed ar ddaear fawr "Mynwent y Groeswen," ac wrth son am ei " Marwolion Anfarwol," mor gynnil ei liwio!——
Saif yna feini
Sy'n dal eu hanes yn hyawdl ini
Yn y Groes, enwog resi,—sydd drwy'r fan;
Duw Iôr ei Hunan fedr eu henwi.
Gyda'r un gochelgarwch mwyn y canodd ar ol yr "Archddiacon Williams," er i gynghanedd agos a'i hudo dros y ffin:—
Blaena dydd y blaned hon
Ddiwedd oes yr Archddeon.
Ond i ddychwelyd at gychwyn y gân, ac mor briodol:—
Ni cheisiwn ddweyd yr hyn nad oedd,
A rhoi gormodiaith yn y gân;
Ond rhoi mewn geiriau syml ar goedd,
Ei dalent gref, a'i fuchedd lân:
Pe gallem gydgrynhoi yn llawn,
A cherfio fel ar ddarn o ddur
Nodweddion hwn âg awen bur,
Gwnai'r darlun ddarlun prydferth iawn.
A dyna'r cwbl! Sefyll lle y dylai sefyll!
Mae ei awen yn llawn crebwyll, ond gogleisio y bydd yn fwy na tharo. Yn ei Bryddest (llawysgrif), ar "Yr Angladd," mor gywir ei grebwyll, ac mor ogleisiol!——
Yr awr i gychwyn yn ddiweddar ddaw,
'Roedd o dosturi wedi cadw draw
Yn hwy nag arfer! nesu'n araf wna,
Fel awr ddihwyl, yn teimlo'n bruddaidd gla'.
Mor dlws ei grebwyll yn ei Bryddest i'r "Gwlith" (llawysgrif). Wedi son am" oerfel hwyr y dydd" yn "tynnu'r dafnau byw sydd drwy'r "nefoedd," meddai:—
* * Cyfraith min yr hwyr
Sydd yn eu galw adre' 'nawr yn llwyr,
Maent fel o ganol chware yn y nef
Yn gorfod dod dan wylo tua thref!
Mynych y ceir ef yn fwy o wyddonydd nag o awenydd yn y gerdd hon, ond try adref at ei awen yn sydyn, a dyna'r crebwyll chwareus, a'r darfelydd cynnil ati:—
****y ne'
Yn tywallt ei bendithion ar y lle:
******
Mae'n gweled y glaswelltyn bach yn gorwedd
Dan bwysau bendith, fel ar fron tangnefedd;
Fel baban wedi huno yn ei ddagrau,
A'i fam yn eu cusanu i ffwrdd y boreu.
Y fath ystyr cyfrin welodd i "Unigedd" (llawysgrif):—
Rhyw ysbryd mawr, didaro, annibynnol
Sydd yma'n llywodraethu'n unbenaethol,—
Heb ymgynghori dim â mân benaethiaid
Sy' 'nghanol helbul amgylchiadau; diraid
I deyrnas fyth a saif ar ben ei hun.
Yw ceisio cymorth cyfnewidiol un.
Ac mor ffraeth a chwareus yw ei grebwyll yn y cyffyrddiad hwn!—
Unigedd tawel,—byd lle mae y byd
I gyd yn trengu!
Yna, aiff ei awen i'w hynt arwrol:—
Ond er hyn i gyd
Fan yma y mae bydoedd fil a mwy
Yn cychwyn i fodolaeth, gwelir hwy
Yn dechreu cerdded yma,—baban fydoedd
Cyn penderfynu trwy ba ran o'r nefoedd
Y bydd eu gyrfa! Yma mae meddyliau
Mewn gwewyr esgor ar y symudiadau
Sy'n siglo'r ddaear,—ar y nerthoedd hynny
Sy'n peri i nerthoedd nef a daear grynu.
A dyna gyffyrddiad arwrol, llawn crebwyll, yn ei Bryddest ar "Efengyl " (llawysgrif):—
Parlysodd deyrnas angeu wrth fynd drwyddi,
Mae cedyrn fyllt y beddau wedi colli
Eu grym a'u gafael; hâd y beddau 'nawr
Flagurant yn yr adgyfodiad mawr
Fel ŷd, ddydd gwanwyn.
Er mai anaml iawn y torrai ef ar ei ffigyr, gyda'i farn effro, ochelgar, prin y diogelodd ef yma; ac eto, meddwl am fywyd yn cael ei gyfle i ddianc yr oedd y Bardd.
Dyna dinc yr arwrgerdd eto—cerdd y gallai ef ragori mor fawr ynddi!
Bu'n cerdded yn y byd 'nol dod i fyny,
Fel Capten ar ryfelfaes, wedi trechu
Ei holl elynion.
A dyma grebwyll mor fyw a'r un:—
A'r lle mae'r byd dyfodol mawr yn aros—
Rhy bell i'w weled, eto yn rhy agos
I beidio'i deimlo.
Wrth son am y disgyblion yn dilyn eu Hathro ddydd yr Esgyniad, dyma'r chware gogleisiol, llawn crebwyll eto:—
Dilynodd y disgyblion gwan i fyny
Mor bell a gwnaeth y mynydd ddilyn Iesu.
Ceir yr un crebwyll cyfoethog, ond gochelgar, yn ei " Unigedd " eto, pan yn son am y "bryniau ban" yn ymgodi o'i gylch:—
Fel am yr uchaf i dy wylio di,
Rhag i ryw estron ŵr sarhau dy fri.
******
Rhag ymosodiad sydyn ar dy hedd—
Rhag dy gythryblu gan ryw ddieithr wedd—
Ymwelydd trwsgl, difoesau,—nad yw glin
Gwyleidd-dra'n crynu, pan yn croesi'r ffin
I'th ymerodraeth.
Na, nid yw hyd yn oed
Nos a dydd
I'r llannerch yma (yn cael) rhuthro'n rhydd,
Er mor nefolaidd.
Yna, mae'r "bore gwyn" yn disgyn tuag yno yn araf, o "ben bryn" i "ben bryn—
Y bryn yr ochr draw
Ddwed wrth y bryn yr ochr hon pan ddaw.
Ac am y "nos!"
Ac ni ddaeth nos erioed i lawr y fan
Heb gysgod ffyddlon yr hen fynydd ban
Yn ei rhagflaenu, ac yn galw'r dydd
Yn araf fyny i roi'r lle yn rhydd
I'r nos orffwyso, ac i'r dawel nant
Gael cwmni o sêr y nefoedd yn y pant.
Anaml y cawn ef yn ymollwng i ddychmygu, ond pan wna, mor esmwyth yw! Fel hyn y sonia am yr "Angel" yn cyfarch dynion gyda'i "newyddion da ":—
Cyn imi heddyw gychwyn ffwrdd o dref,
Roedd rhengoedd y proffwydi yn y nef
Yn paratoi eu hunain yno'n llawn—
Yn rhyw orymdaith fawr ardderchog iawn;
A Malachi'n blaenori i'r lan, i'r lan
I gopa un o'r bryniau mwyaf ban
Yn nhir y bywyd, i gael golwg iawn
Ar "Haul Cyfiawnder" pan yn codi'n llawn.
Er ei fod yn llwyddiannus iawn yn hyn, ac weithiau yn peri i ni led-feddwl am "Islwyn," a'i gyfrin ddychymyg; brydiau eraill am Hiraethog a'i ehedfa fawr, gwell ganddo ef gyffwrdd yn agos, gyda rhyw gallineb enillgar na ollwng yn hawdd afael o'r darllenydd. Dyna ddengys ei ystlysgan fwyn yn y Bryddest y dyfynnwyd o honi eisoes, "Yr Efengyl" (llawysgrif):—
Dyna agos at y dyn
Daeth yr uchel Dduw Ei Hun:
Dod i'w ymyl ef i fyw,
Dod i siarad yn ei glyw,
Dod â'i genadwri fawr
O'i frenhinol lŷs i lawr
Yn ei unswydd, dod i ddweyd
Wrth bechadur beth i wneud
Am ei fywyd, dod o'r ne'
Yma i farw yn ei le;
Dod i'r ddaear a wnaeth
Ef I fynd 'nol o'r byd i'r nef;
Dyna sylwedd yr efengyl
Yn yr Iesu yn ein hymyl!
Dysgu gwersi pur newyddion,
Dysgu i garu ein gelynion:
Dysgu i edrych i'r wybrennydd
Megis dros wendidau'n gilydd.
Ar ryw olwg, ychydig farddoniaeth sydd yn y llinellau hyn, ond y mae cyflead y meddwl mor weddus, mor ddilynol a chlir, fel y darllenwn hwynt yn foddlon, ac ymron yn ddiarwybod i ni ein hunain. Mesur digon peryglus yw'r mesur hwn! Gall ddenu'r bardd i ddywedyd a dywedyd, heb ddywedyd nemor ddim, ac eto deimlo'n foddlon. Am ei ystlysganau ef, y maent ymhlith gemau ei awen, a hawdd y gwelir ac y teimlir eu disgleirdeb mewn pryddest.
Synnir ni gan yr olwg gyfan, gydffurf, newydd, allai gymryd mor fore a'r flwyddyn 1872, pan ganai ei bryddestau, "Yr Anialwch," a'r "Mynydd"—y naill a'r llall mewn llawysgrif, gyda gair ar ddiwedd yr olaf, "heb ei threfnu yn hollol," a'i grebwyll gweddus, ei ddarfelydd siriol, a'i fynych fflach chwareus, sydyn, yn goleuo hyd ymhell. Am yr " Anialwch," meddai:—
Mae Hanes fel yn sefyll ar y lan—
Yn ceisio tremio i dduwch prudd y fan
Lle cwsg ei hanes." ***
* *Ambell lwybr cul sy'n croesi ei gyrrau
Sydd ar ei dduwch megis llinell oleu
Ar fynwes cwmwl, pan y rhuthra mellten
Ar noson ddu i fradychu lliw yr wybren.
A dyma helynt blin afon ynddo:—
Yr afon wrth ymlusgo 'nol ei harfer
I geisio'r llwybr hawddaf tua'r dyfnder;
Ymlaen, yn ol, i'r aswy ac i'r dde,
Bu'n chwilio am ryw ffordd i fynd i dre;
Ar fron y crasdir maith, mor flin y dynged,
Fe'i cafwyd ar ei thaith yn farw o syched.
Cyffyrddiad ffraeth, ac yn deffro'r meddwl, yw " yr afon yn farw o syched!"
Yna rhuthr y corwynt ar dywod yr anial:—
Symuda'r bryniau tywod heibio'i gilydd
A nerth ei anadl, megis tonnau'r Werydd
O flaen y rhuthrwynt!
Ond dyma'r chware:—
Rhaid gadael iddo, rhyw fyd arall yw,
Yn gorwedd yn y byd lle'r ym yn byw.
Mae "Y Mynydd" yn llawnach fyth o drysorau. Dyma grebwyll ffraeth:—
Yn ymlydanu ar ei wadnau'n barod
I ddal ei bwysau.**
Ac eilwaith:—
Esgynna i fyny megis gan ysgwyddo
I ysgwyd ymaith yr unffurfiaeth honno
Sy' o'i gylch yn llechu.
O ganu am y "Mynydd," daethai i feddwl am ddau fynydd hardd yn y Beibl, "Calfaria" a'r "Olewydd." Meddai am y cyntaf:—
Ei ben ddyrchafwyd heibio'r holl fynyddoedd,
I gynrychioli'r ddaear yn y nefoedd.
Ac am yr "Olewydd "
Lle sangodd troed yr Iesu wrth fynd heibio
O'r byd i'r nef: lle y gorsafai'r cerbyd
A redai rhwng ein daear ni a'r gwynfyd.
Gwir nad oes naws farddonol ar air fel " cynrychioli "; pair i ni feddwl am bwyllgor yn hytrach nag am Gadair yr Eisteddfod, a diau na ddewisasai yntau ef, nac ambell air tebyg iddo, ar ddydd addfetach. Cystal o ran crebwyll tawel yw'r llinellau olaf yn "Y Mynydd":—
Ni chroesodd gwawr o'r nef erioed
Heb roddi ar y mynydd ban ei throed—
Y llamiad cyntaf,—yna o fryn i fryn
Disgynna i'r dyffryn isei yn ei gwyn:
Ac ar ei goryn, llercian wna yn hwyr,
Fel pe yn methu cael ei hun yn llwyr
O'r hyfryd lannerch: yno llercian wna
Drwy gydol nos, nos siriol hirddydd ha':
Gwawr hwyr y dydd o'r blaen yn aros sydd,
I groesaw bore wawr y nesaf ddydd:
Yr oll sy'n mynd a dod rhwng nef a byd
A welir yma'n gynta ac ola i gyd.
Amhosibl i awen Watcyn Wyn fai canu ar y " Mynydd " heb aml i gyffyrddiad agos a chynefin, yr hyn oedd mor amlwg ynddi! A dyma hwy:—
Pe celai'r Wyddfa o fy ngwlad ei thynnu,
Ni fyddai Cymru mwyach ddim yn Gymru:
Hi dorrai'i chalon, ceid y bryniau'n wylo
Fel plant 'nol colli'u mam, pe collid honno.
Fel hen amaethwr digon llwyd ei frethyn,
A'i bwrs yn cario digon o aur melyn
I brynu gwlad: un felly yw y mynydd,—
Yn cadw'r ochr lwydaf allan beunydd;
Ei gyfoeth yn rhy ddrud i'w wisgo'n ffasiwn,
Rhaid gweithio ar ei galon cyn y gallwn
Gael ganddo i ildio'i aur, ac yna estyn,
'Nol cwrdd â'i galon, yna nid oes terfyn
Ar roi a rhoi, estynna'i aur yn rhad—
Ddyrneidiau hael i dorri angen gwlad.
O'i farnu wrth ei gynhyrchion cyhoeddedig, mae yn fwy ei lwyddiant yn ei ganeuon byrion nag yn ei ddarnau mwy, pa un ai digrif ai difrif fyddont. Dichon nad yw hyn wir mor amlwg yn ei berthynas â'r Bryddest ar " Abel "—y darn goreu o'i waith yn ddiau, ac ar lawer ystyr, un o'r darnau goreu yn y Gymraeg, caeth neu rydd! Yr oedd yn oreu mewn "cystadleuaeth na buasai" ei chyffelyb mewn unrhyw Eisteddfod ers blynyddau," medd "cofnodion cofnodion" Eisteddfod Ffestiniog, 1891, a gyhoeddwyd yn gyfrol fechan.
Mae yn fwy buddugoliaethus drachefn yn ei Bryddest a'i ddarn mwy, nag yn ei Awdl. Gwell yw ef yn ei englyn a'i fyr gywydd nag yn ei awdl orchestgar! Ni roddai ef bwys mawr ar weu tyn mewn cynghanedd, fel y rhoddai rhai o'i gyfoedion. Tebycach i "Gwilym Hiraethog" oedd ef fel cynganeddwr—yn foddlon ar gyffyrddiad cywir, heb anturio peryglu eglurder gwirionedd a gwers, nac ymrwystro llawer gyda deheurwydd cynghanedd. Y "gynghanedd braidd gyffwrdd" a garai ef; ac i'w fedrusrwydd i ymgadw rhag mynd yn rhy gaeth y rhaid priodoli ei lwyddiant mawr yn ei "benillion telyn."
Mae'r Wyddfa fyth yn canu
Alawon gwylltion Cymru;
Ni chana hi ddim Saesneg gwael
Er iddi gael ei gwerthu.
Difyr yw ei eiriau yn ei ysgrif ar "Y Mesurau Cymraeg," ac yno, ceir ei gyffes ar y pen hwn. Wedi rhoi gair caredig i'r Hen Glogyrnach," yr "Hen Hupynt," a'r "Hen Ddyri," dyry sen i Dafydd ap Edmwnd am ei "gyhydeddau byrion," gan ddywedyd:—
Dygodd Dafydd ap Edmwnd gyhydeddau byrion, o ddwy sill a thair sill, i mewn yng Ngorchest y Beirdd': er enghraifft, dyma i chwi bennill o ddeuddeg llinell ddwy sill, a dwy linell dair sill, gorchest y bardd ei hun:—
Y rhwydd air hir,
O'i chwydd och wir,
I'w swydd a'i sir
Y sydd saeth;
Ei dwyn o'i dydd,
Em fwyn, im' fydd
Yn gŵyn a gwŷdd
Ugain gwaeth!!
Dyna orchest i neb ddweyd beth yw ei feddwl!" A chan droi at ei hen offeryn—y pennill rhydd—meddai:—
Am beth mae yn canu?
I beth ca'dd ei wneud?
A beth mae'n swlddanu?
Dyna dasg i chwi ddweyd!
Ceir "dant bach" (chwedl yntau), at y defodwr mewn cynghanedd yn ei anerchiad ar "Hen Ysgolion Bro Morgannwg."
Meddai, "Meddyliwn am y 'Trioedd a'r Diathebion y perlau o uchel bris a fu'n cael eu lluchio ar hyd y fro yma. Ein perygl ni yw mynd yn rhy beiriannol, yn rhy gystadleuol, yn rhy gynganeddol, yn rhy bryddestol, ac yn rhy hirwyntog, i gynhyrchu pethau mor fyw a hyn." Yna aiff yn ei flaen yn ddireidus i awgrymu cael" rhifyn arbennig o'r "Geninen," a'i alw "Ceninen Catwg," a dyna'r "dant bach" i'r golwg. "Os gall rhywun wneud englyn heb ei ladd â geiriau llanw, caiff fynd i mewn; os ceir gorchest heb fod ol gorchest arni, caiff ei derbyn." " Y dragwyddol heol" iddo ef, fel i Islwyn. "Yn rhydd," meddai, gan gadw porth y dragwyddol heol," "y cân Glasynys ei bryddestau a'i fugeilgerddi; yn rhydd y cân Ceiriog ei delynegion a'i rieingerddi; y mae Mynyddog yn cyfansoddi penillion ac yn eu canu.
Y mae Islwyn yn gwaeddi'n gynnar:—
Ymaith, reol,—
Rhowch i hon dragwyddol heol.
. . . . "Os yw'r Eisteddfod i barhau, a barddoniaeth yr Eisteddfod i fod yn gangen flodeuog, rhaid i'r bardd gael dewis ei fesur, dewis ei destyn, a chymryd ei amser i baratoi."
Ei fesur a'i eiriau ei hun iddo ef bob amser! Yr oedd ei eiriau oll yng ngeiriadur gwerin Cymru, a deallai'r gwladwr symlaf hwynt. Pwy allai feddwl am Watcyn Wyn yn ymboeni uwchben Geiriadur y Bardd," gan chwilio am air i odli? Prin y gallem gredu ein llygaid pan welsom "caethyn" a "dynolion" yn ei ganeuon. Eithriadau amlwg ydynt, ac i awr gynnar ei awen y perthynant. Ei berygl ef oedd bod yn rhy gyffredin ei air! Gallai fod yn anfarddonol ar brydiau; a gallai ddiofalu gyda meddwl a mydr, ond diogelach yw darllen ddwywaith cyn gwaeddi corfan cloff," gan mor rydd yw ef yn ei ymdaith. Yr oedd yn gryn feistr ar wneud i linellau an—ogyhyd ganu'n esmwyth—crefft nas meistrolodd ond ambell fardd.
Poen i ni yw ei weled weithiau yn ymfoddloni ar fod yn llac, a phrin ei urddas, o ran mynegiant. Yn ei gyfnod cyntaf, pan ddigwydd hyn, teimlir mai o ddiffyg medr yn fwy nag o ddiffyg gofal y digwydd, ac y mae ol yr ymdrech yn gwneuthur y bai yn llai. Ond, yn ei gyfnod olaf, fe ddigwydd yn rhy aml, naill ai oherwydd colli'r syniad priodol am werth diwyg, neu ynte oherwydd diofalwch symi. At ei grebwyll cryf, ei ddarfelydd clir, a'i ddychymyg call—a ofalai fesur ei ehediadau â llinyn barn luniaidd, yr oedd ei naturioldeb yn gyfoeth amlwg. Dichon fod hyn mor gyfoethog ynddo, fel y gall ei ddarllenydd, ar awr ddiofal, feddwl fod y nodweddion mawrion eraill yn eisiau. Ond nid colli y bydd Bardd gyda'i naturioldeb, eithr ennill yn ddirfawr. Mae naturioldeb yn dwyn gydag ef ei gymdeithion, fel brenin ei esgordd. Dyma grebwyll a naturioldeb yn mynd lawlaw yn y ban hwn yn " Y Goludog a Lazarus," lle y sonir am wleddoedd y blaenaf:—
Y gwinoedd yno o wahanol wledydd.
Yn gwrido ar y bwrdd wrth weld ei gilydd.
A dyna ddarfelydd lawlaw â naturioldeb yn "Teyrn y Ffrydiau —Niagara ":—
A haul belydrau'r nefoedd lon
Uwchben y grychiog ferw don
Yn hongian enfys ar ei fron.
Heb fenthyca dim oddiar y nodweddion hyn, sydd â'u tiriogaethau am y ffin â dychymyg, hawdd y gwelir hwnnw a'i wisg naturiol:—
Pan oedd amser eto'n faban,
Canai angel uwch ei grud:
Gan ei siglo â'i law ei hunan,
Fel i fagu ieuanc fyd.
Ac y mae ei nwyd farddonol yn goleuo'r nodweddion mawrion hyn, fel y goleuir ffenestri plâs mawr â goleu'r trydan; nid nwyd swnfawr, ond nwyd fel eiddo'r gwanwyn, yn blodeuo ac yn deilio'n dawel. Bydd yn fwy cyffrous weithiau na'i gilydd—
Cân yr Eos ar y brigyn,
Llais y fam wrth alw'r plentyn,
Cytgan myrddiwn o fân ednod,
Nos—gân carwr dan y bargod,
Adsain cân pan yw y creigydd
Fel yn galw ar ei gilydd,
Pob melyslais yn y cread
Nid yw'r oll ond miwsig cariad.
Mae ei ganeuon lu yn llawn o hyn—nid o ryw fynd trystfawr, ond o nwyd.
Fel pob bardd o fri, canai hawliau ac iawnderau dyn gydag eangfrydedd yn lledu ac yn llonni'r awen:—
O mor anghyfartal yw
Ein rhan o bridd, a ninnau'n gorfod byw
I gyd ar bridd,—rhyw un i dreulio'i fywyd
A roed yn naear frâs y dyffryn hyfryd,
A'r llall mewn diffrwyth fan fel coeden hawddgar
Yn marw'n lân o eisiau pridd y ddaear!
Yna daw i son am ddyn yn colli ei etifeddiaeth—y ddaear:—
*** wedi colli'r dydd
Yn alltud ar ei etifeddiaeth sydd,
A dim un cysur ar y ddaear gron
Ond hynny o heddwch garia yn ei fron;
Ystôr o natur dda yn unig yw
Popeth a fedd, ei unig fodd i fyw.
Mae ei gallineb agos, enillgar, bob amser yn gofalu am dano:—
Rhowch imi ferch yn taclu
Yn brydferth a diffael,
Ond yn gofalu talu,
Am bopeth wrth ei gael.
Gyda'r gallu mawr hwn y cyfarchai ei Fyfyrwyr:—
Os am fod yn barchus yn y byd,
Parchwch bawb eraill—dyna gyd,
Os am fod yn annwyl dan y nen,
Datblygwch eich calon fel eich pen.
*****
Peidiwch a lladd eich hunain â gwaith,
Iechyd yw chware ambell awr, ambell waith,
Os na wnewch chwi chware er eich mwyn eich hun,
Ewch ati i chware er mwyn eich cyd—ddyn;
Cyfrannwch eich hatling i helpu y byd,
A chofiwch gall hwnnw fyw heboch chwi i gyd;
'Dyw'r ddaear yn pwyso fawr iawn arnoch chwi,
Ond y chwi sydd yn pwyso o hyd arni hi.
Am ei ffraethineb a'i allu i chware gyda gair, ni bu ei fath yng
Nghymru. Ac nid yn ei benillion digrif yn unig y mae'n
chwareus a ffraeth. Meddai mor sydyn yn ei Bryddest ar y
Goludog a Lazarus:—
Dyn duwiol yn cardota'i ffordd i'r nef.
Sonia yn sydyn am "Rywun " yn
Mynd yng nghwmni ei ddau droed.
A dyna "gadw'r bêl i fynd," yn ei gân ar "Briodas Gruffydd Rhys ac Annie Gruffydd "—y fath orohïan a chwhwfan:—
Priodas dda i GRUFFYDD RHYS,
Priodas dda i ANNIE GRUFFYDD:
'Ran hynny, wedi rhwymo'r bŷs,
Mae'r ddau yn un, sef ANN a GRUFFYDD;
Mae GRUFF yn ŵr i ANNIE gun
AC ANNIE hoff yn wraig i GRUFFYDD:
Priodas dda i'r ddau yn un-
I GRUFFYDD RHYS ac ANNIE GRUFFydd!
Pan glywais i fod GRUFFYDD RHYS
Yn gwneuthur gwraig o ANNIE GRUFFYDD,
Fy awen neidiodd gyda brys
I wneuthur cân i ANN a GRUFFYDD;
Drychfeddwl hapus mab a mun
Oedd uno ANNIE gyda GRUFFYDD:
Mae eisiau gwneuthur mwy yn un,
Fel GRUFFYDD RHYS ac ANNIE GRUFFYDD!
Wel, bachgen iawn yw GRUFFYDD RHYS,
A merch ddiail yw ANNIE GRUFFYDD:
A dweyd y gwir, mae arnaf flys
Gwneud cân o glód i ANN a GRUFFYDD;
Gwneud troion call, fel mab a mun,
Yw hanes bywyd ANN a GRUFFYDD;
Ond dyma'r callaf o bob un
Wnaeth GRUFFYDD RHYS ac ANNIE GRUFFYDD!
Wrth geisio enwi GRUFFYDD RHYS,
Fel ar wahan i ANNIE GRUFFYDD,
Mae'r awen rywfodd yn ei brys,
Yn drysu enwau ANN a GRUFFYDD;
Mae enwau'r ddau'n ymglymu'n un,
Mae enw ANN yn enw GRUFFYDD:
Wel, bendith ar y ddau ynglyn
Fel GRUFFYDD RHYS ac ANNIE GRUFFYDD!
Yr orohïan hon a wnaeth ei gân i'r "Côr Mawr" mor llwydd-
iannus-y gân fwyaf buddugoliaethus, o'i math, yn y Gymraeg!
Dyna yw anadl einioes llawer englyn o'i eiddo-orohïan!
helynt!
Y'nghloion hen "Englyn unodl—union,"
Anodd yw rhoi prifodl;
Anodd, ddaw'n rhwydd yn yr odl,
Gre a chastiawg orchestodl.
Dyma'i brofiad yn y bunk ar ei ffordd i'r Amerig:—
Yn y bunk dros y bencydd,—yn y bunk
Dros ben banciau'r Werydd;
Ar y banc'd wy fawr bunkydd,
Yankee sâl yn y bunk sydd.
Pwy erioed wisgodd box hat mor anaml ag ef, ond pa hat a ddangoswyd mor amlwg —"y gyntaf a fuasai ar ei goryn":—
Gwech weddus, benguwch addien—ar y glaw,
Nid rhyw glwt anniben;
Y mae fy mox am fy mhen,
A'i thegwch yn werth 'wheigen!
Na thybier, yn anad dim, mai yn ei ganiadau digrif y mae ei lwydd mwyaf. Pell yw hyn o fod yn wir. Mae yn fwy awengar yn ei ganiadau eraill, ac y mae hyd yn oed ei ffraethineb yn gyfoethocach yn y rheiny. Ynddynt hwy, o leiaf, nid oes dim yn forced, a gwell yw gwaith y Bardd o hynny.
Gyda'i Awdl nid yw mor fuddugoliaethus. Ynddi hi, fel rheol, cyll ei awen ei chynhesrwydd a'i hafiaith; try yn lasbryd a lled welw, fel un yn ofni ei gorchwyl; ac yn lle goleu haul cynnes, ceir goleu lloer lled ofnus, fel yn methu llanw'r nef yn llwyr â'i goleuni. Cân heb ei lawn afiaith, am nad yw yn argyhoeddedig o wasanaeth canu fel hwn, ac fel un yn gwybod gwerth rhyddid y ddôl a'r bryn. Hawdd y gellid meddwl am dano yn peidio â chanu fel hyn, ond haws fai meddwl am fwyalch yn peidio â chanu, nag am dano ef yn peidio yn ei gân rydd! Ond am gyfanrwydd ac olyniaeth meddyliau, gydag ymdaith gydffurf, ac awen bêr, gall ei awdl ar "Y gwir yn erbyn y byd" fod fel ei phennawd, yn hyderus a digryn ymhlith awdlau cadeiriol ein gwlad. Nid yw'r Llong," hithau heb ei thrysorau gwerthfawr, er na ddaeth i mewn i'r porthladd dymunol!
Nid hyn o awdlau a ganodd. Canodd awdl goffa i "Gwilym Hiraethog," a dyma, mewn llawysgrif gynnar, awdl
"Gartref," gyda rhai cyffyrddiadau da:—
Ac O! mor deg y mae'r dydd—o'r dwyrain
Dros aur dyrau'r mynydd;
Yn rhodio fel gwaredydd
I roi un rhwym o dre'n rhydd.
"Cartre "'r Arth:—
Yr Arth wen, ei helfen hi—yw tir oer
Cartre rhew ac eiri;
"Cartre" Aderyn:—
O'i ragod oddiar y brigyn,—a'i droi
O dref gan ei elyn;
Hiraeth ladd yr aderyn,
'E dyn i'w fedd, bywyd ni fyn.
Y "Cartre" fry:—
Un cartref yn y nefoedd,—hyn yw teg
Gynllun Tad y bydoedd;
A nesu meibion oesoedd, o bob byd
Adre i fywyd yno'n dyrfaoedd.
Yno y gwelwn wynebau'n gilydd,
Yn aelodau o wahanol wledydd,
Yn rhwym yno mae plant môr a mynydd,
Ac o bob seren yn yr wybrennydd;
Rhyw dorf fawr adref fydd,—pob cenhedlaeth
I aelwyd odiaeth y teulu dedwydd.
Dyma eto awdl mewn llawysgrif ddiweddarach o flynyddoedd ar "Beroriaeth."
Gan y bydd casgliad helaeth o'i "Farddoniaeth" allan wrth ysgil y Cofiant, ni ddyfynnwn o'i weithiau amlwg. Awyddus oeddym i roi golwg ar y Bardd cynnar, fel y gellid gweled tŵf ei awen wrth ddarllen ei holl waith.
Diau i'w fryd redeg unwaith ar wneuthur "Cân" fawr ar amgylchiadau pennod gyntaf Genesis, a'i galw "Cân y Creu." Mewn ysgrifau ar y pennawd "Cân y Creu," yn y "Diwygiwr" am 1892, hawdd gweled y cyrch. Edrychai ar fywyd yn datblygu o gyfnod i gyfnod nes dod i'r cyfnod disgleiriaf—cyfnod y "Gwnawn Ddyn "— "cyfnod y seithfed dydd," meddai, "sef y cyfnod gogoneddus yn yr hwn yr ydym ni yn byw, a thrwy'r hwn y mae'r byd yn myned." I "gyfnod y sancteiddio," yn yr hwn y mae'r gwir ddyn yn cael ei wneuthur, y bwriadai rhoi baich y "gân," ond ni ddaeth llinell o'r breuddwyd pêr i bapur.
YR EMYNYDD.
PLENTYN ieuangaf ei awen oedd yr emynydd, ond ni chollodd y teulu ei anrhydedd ynddo ef. Nid bob amser y meddwl dyn yr un pryd am fardd ag am emynydd. Maent o fath gwahanol. Methodd rhai o'n beirdd goreu fel emynwyr, am y ceid ganddynt ehediadau rhy awengar, ac yr arferent eiriau a mwy o naws y pennill moesol arnynt nag o naws y geiriau hynny sydd yn dod gyda'r emyn gwell. Byddai egluro'r gwahaniaeth cyn anhawsed ymron ag egluro arogl, a'r gwahaniaeth rhwng aroglau; eithr gŵyr y neb a fedd y synnwyr naturiol i arogli, am y gwahaniaeth. Ond gydag eithriad neu ddau, eithr o ychydig yn y naill a'r llall, llwyddodd Watcyn Wyn fel emynydd.
Yn y "Salmydd," emynlyfr a gyhoeddwyd yn 1892, dan olygiaeth amryw frodyr perthynol i'r Annibynwyr, y ceir ei emyn cyntaf, ac yn hwn llwyddodd mewn gorchwyl anodd—dal ysbryd emynydd arall a ganasai bennill oedd yn llawer rhy dda i'w adael ar ei ben ei hun:—
Dal fi, Arglwydd, dal fi ronyn.
Y Parch Samuel Evans, Soar, Merthyr, oedd awdur hwn, gŵr yntau, na enwid yn fardd, ond un na allai Cymru wneud heb ei bennill; ac mor hyfryd y daeth awen Watcyn Wyn i mewn ar ysgil y don:—
Dal fi, Arglwydd, mae cysgodion
Rhosydd Moab bron gerllaw;
Dim ond murmur tonnau'r afon
Rhyngwyf sydd â'r ochor draw;
Bryniau Canaan
Ddont i'r golwg yn y man.
Mae rhyw gyfoeth gweddus, iraidd, yn y cyfan. Barddoniaeth y gellir ymagweddu i addoliad ynddi sydd mewn dywedyd:—
Dim ond murmur tonnau'r afon
Rhyngwyf sydd â'r ochr draw!
Ca'r meddwl ganu heb ei derfysgu, ond ei ennill fwy-fwy gan y dwyster cyfrin sydd yn y llinellau.
Erbyn i gais ddod am" Y Caniedydd Cynulleidfaol," yr oedd ei awen gysegredig yn canu'n lled hael; a dyna lythyr ato oddiwrth" Dewi Môn "—un o'r golygwyr:—Ebrill 2, 1894. * * * "We are busy at the New Congregational Hymn Book now. I am allotting Hymns on Mesur 16 Yn Eden cofiaf hynny byth,' these days. * * * I should be exceedingly thankful if you would write a Hymn on this metre and send it to me." A dyna un o'r emynau mwyaf llwyddiannus yn y Gymraeg yn mynd i Aberhonddu, ac i galon gwerin Cymru:—
'R wy'n gweld o bell y dydd yn dod,
Bydd pob cyfandir is y rhod,
Yn eiddo Iesu mawr;
A holl ynysoedd maith y môr
Yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr,
Dros wyneb daear lawr!
Mae teg oleuni blaen y wawr
O wlad i wlad yn dweyd yn awr,
Fod bore ddydd gerllaw;
Mae pen y bryniau'n llawenhau,
Wrth weld yr haul yn agoshau,
A'r nos yn cilio draw.
Mae rhyw fynd allan mawr, teilwng—rhyw gyfarch mawr, yn y llinell flaenaf, sy'n arwyddo fod gobaith fel ar flaenau'i draed, gyda'i lygaid byw fel llygad y gwyliwr yn " gweld," a'r " dydd yn dod o bell!" Golygfa ddigon mawreddog, nid i oglais ein natur, ond i'w chyffwrdd yn ddwfn, a hyd foddlonrwydd cyfan. Dyma ddywedyd yr hyn a all ysbryd dyn, ar ei awr oreu, ei obeithio; a dyna paham y parhawn i ganu yr emyn buddugoliaethus hwn!
Dau ddarlun mawr, gweddus yw, "Yr ynysoedd yn cyd—ddyrchafu mawl," a "phen y bryniau'n llawenhau." Llanwant ein meddwl i'r fath foddlonrwydd nad oes dim ond mwynhau distaw yn ddigon o ddiolch am danynt. A meddylier am wedduster gwych y llinell,
Mae teg oleuni blaen y wawr!
A meddylier am y lliwio gweddus yn
Teg oleuni blaen y wawr!
Geiriau hyfryd yw "teg oleuni," ac mae "blaen y wawr yn ennill meddwl gyda boddineb.
Yr oedd efe, pan wnaeth yr emyn hwn, newydd fod ar wyliau yng nghartref ei hen gyfaill Mr. Patrick, Ceinewydd, ac ar un awr, fore o haf, yn ystod y gwyliau, wedi codi i edrych allan trwy'r ffenestr yng nghyfeiriad y Wern ac Aberaeron. Ac wrth weld yr haul yn codi'n fawreddog dros y bryniau, meddai wrth ei briod, "Ann, cwyd i weld yr olygfa 'ma: mae hi'n fendigedig." Barna'i briod mai yn y fan honno y dechreuodd yr emyn mawr ganu. Fel y myn y nefoedd drefnu pethau! Yr oedd y "dydd yn dod " y bore hwnnw, fel ar bob bore arall, dros hen "fynydd Nantgwyn," lle y dygasid Thomas Bevan y Cenhadwr, at achos Crist; dros Benrhiw, lle y ganesid Dafydd Jones, Cenhadwr arall, yn ymyl y Neuaddlwyd; a thros amaethdy o'r enw "Llain," ym mhlwyf Llanina, lle y ganesid cenhadwr arall drachefn—David Johns—ill tri'n genhadon ym Madagascar; a dyma un o emynau cenhadol pennaf yr iaith, yn cychwyn ei ymdaith yng ngolwg "pen y bryniau" oedd yn llawenhau!"
Mae rhyw oleu siriol yn ei emynau, a phan ddewisir tant prudd, mae dwyster hwnnw mor wir fel y try'n felyster cynhaliol.
Yfwn o ffynhonnau
Gloywon dyfroedd byw,
Wrth fynd dros y bryniau.
Tua mynydd Duw
****
Canaf am yr addewidion;
Ar fy nhaith
Lawer gwaith,
Troisant yn fendithion.
****
Ofni rhwystrau yn fy nghalon,
Mewn amheuon 'rwyf yn byw
Gweld y bedd a'r meini mawrion,
Ond heb weld angylion Duw.
****
Fy olaf weddi wan
Fo atat Ti,
Am gael fy nwyn i'r lan
I'th gartref Di:
Pan fyddwy'n gado'r byd,
O dal fi'n gryf o hyd,
I'th garu Di o hyd,
I'th garu Di.
A pha le ceir emyn gweddusach i blant ysgol Sul na hwnnw y mae ei bennill cyntaf fel hyn?
Canwn ar y daith
Wrth fyned drwy y byd;
Canwn wrth ein gwaith
Ryw newydd gân o hyd;
Dilyn gwaith y nef
Mae mil o gerddi mân
Diolch iddo Ef
Am waith yn llawn o gan.
Nid oes honni profiad crefyddol eithriadol yn ei emynau, a phell ydynt o geisio gweithio yn annhêg ar deimlad, a thrwy hynny greu effeithiau arwynebol. Teimlad, ac nid ffug deimlad, yw'r hyn a geir ganddo, a cha adsain wir ymhob meddwl a chalon effro. Mae ef ei hun yn dod gyda'i emyn, ac nid oes nodyn gau yn y cyfan. Mae rhyw ddilyn ffyddlon mewn meddwl ganddo, eto heb ddim yn awgrymu trefnu caeth. Mae meddyliau yn atgofio'r darllenydd o'i gilydd, ar hyd yr emyn, nes bod un argraff cyfan yn aros, a'r un gwirionedd cyfan wedi dod adref.
Dy garu Di, O! Dduw,
Dy garu Di;
Yw'm gweddi tra bwy' byw—
Dy garu Di;
Daearol yw fy mryd,
O! dyro nerth o hyd,
A mwy o ras o hyd
I'th garu Di.
Os daw trallodion oes
Oddiwrthyt Ti;
Y goron ddrain a'r groes,
Oddiwrthyt Ti;
Bendithia'r oll, O! Dduw,
I'm dwyn yn nês i fyw,
Yn nês i Ti i fyw,
A'th garu Di.
Mae yr un meddwl yn cerdded drwodd, ond mor rhydd oddiwrth drefnu caeth, i bob ymddangosiad! Yr un gwêad trefnus, ond rhydd, sydd yn ei emyn, "Yr Hyfryd Wlad":—
Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad.
Y wlad tu draw i'r bedd;
Lle mae digymysg bur fwynhad,
Lle mae tragwyddol hedd;
Y nefol wlad! y nefol wlad,
Lle mae tragwyddol bur fwynhad.
Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad,
Lle mae plant bychain lu,
Oll wedi dianc er pob brâd,
I fryniau'r nefoedd fry;
O! hyfryd wlad! O! nefol wlad!
Lle na ddaw poen na thwyll na brâd!
Yn y trydydd bennill cân am yr " anwyliaid" sydd yno:—
Yn deulu mawr yn byw.
Yna daw canu am "Iesu" yn y "wlad," ac i gyrraedd y talar, y mae'r "wlad" yn "gartref" iddo. Ond fel mae mynychu yr un geiriau yn cadw'r syniad arweiniol ar y meddwl, a'r "wlad" yn dod yn bopeth iddo am y funud addolgar! "Y wlad, y wlad," biau'r meddwl!
Yr un ymlyniad geir yn ei emyn, "Y Dydd Saboth":—
Dydd i nerthu'r pererinion
Ar eu taith i'r nefoedd yw;
Dydd â'i oriau yn fendithion,
Dydd i'w dreulio gyda Duw;
Nefol ddydd, sanctaidd ddydd
Canaf am y nefol ddydd.
Chwery'r un goleu cyson hyd nes y byddo'r cwr pellaf wedi ei gyffwrdd a'i oleuo ganddo! Y "dydd" yw'r cyfan. Mae ei feddwl yn dod adref yn fuddugoliaethus ymhob emyn.
r pethau a bair fod emynau Watcyn Wyn, a'u tebyg, yn cyflawni gwaith eu dydd yn odidog. Ni cheir dim yn ei emynau a bair ryfeddu mawr, nes bod y llygad yn ymchwyddo gan ei oleuni newydd—rhyw feddwl hyd at lesmeirio—fel ag y ceir yn rhai o gyffyrddiadau mawrion "Williams, Pantycelyn," ac yn amryw o emynau "Ann Griffiths." Mae ef, er hynny, ar yr un gwastad â'i gyd-oeswyr goreu a ganodd emynau, ymhob ystyr hanfodol i'r emyn Cymraeg.
O'n hemynwyr diweddar, diau mai yn "Hiraethog" yn unig y caed yr ergyd mawr, a'r praffter meddwl a brawddegu a wna le mawr i awdur ym myd emyn. Ond mae rhywbeth yn natur pethau a bair fod emynau Watcyn Wyn, a'u tebyg, yn cyflawni gwaith eu dydd yn odidog.
YR "ORSEDD" A'R "DELYN."
YN ystod ugain mlynedd olaf ei fywyd, ni bu neb yn goleuo'n ddisgleiriach "Yng Ngorsedd" na Watcyn Wyn. Yr oedd ei araith, ei gân, a'i ergyd ffraeth, yn doriad esmwyth ar eu cymheiriaid a fuasai'n gwasanaethu gynt. Siaradai a chanai yn syml fel gwerinwr, heb ddim o'r hen chwydd gorseddol a nodweddasai ebychiadau'r "Maen Llog" ers talm o amser. Ac yn ei arabedd yr oedd yn chwaethus ac yn lân, nodau na chaed hwy bob amser rhwng y "meini!"
Deallai'r dorf ei gân, ei araith, a'i arabedd yn ddiymdrech, ac yr oedd llygad ym mhen y naill a'r llall. Nid oedd neb a safai ar y Maen Llog a gawsai dderbyniad gwresocach. Wrth gofio nad oedd gryf ei lais, äi berw'r dorf yn llai, rhag colli na gair nac ergyd; a gwrandewid yn deneu, dan wenu!
Nid oedd neb yn y "Cylch" a wrandawai arall yn well, ac a fai gyflymach i weld ergyd pennili neu araith nag efe; a mynych y clywid ei chwerthin mân, heintus, ac y gwelwyd y llaw yn mynd at y "cudyn gên," ac yna, da 'fnadw!"
Byddai dau neu dri o oleuadau mwyaf yr Orsedd o'i gwmpas bob amser, yn gwrando'i sylwadau sydyn, ac yn eu temtio! Os digwyddai "Morien" fod yn ei ymyl, cadwai ffraethineb y Bardd natur aflonydd hwnnw i sydyn ffrwydro fel crochan berwedig; a mynych y deuai pwysau llygad mawr yr Archdderwydd, Hwfa Môn, ar ben y pechadur! Yna, Gosteg!!" nes dychrynai gwartheg y mynyddoedd yn y sŵn!
Nid oedd neb a wyddai hanes ac anianawd yr Orsedd yn well nag ef, ac ni arferodd neb fwy o synnwyr cyffredin tuag at ei diwygio'n gymedrol nag a wnaeth ef. Yn ei "Bapur a ddarllenodd gerbron " Cymdeithas yr Orsedd " yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl, 1892, dywedodd rai pethau byw, cyrhaeddgar.
"Y mae'r Eisteddfod yn hen—pa mor hen nid ydym yn gwybod y mae hi, fel llawer boneddiges arall, yn rhy hen i ni allu yn llednais ofyn ei hoedran. Am y gwryw y dywedwyd gynt, Y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef': ni ddywedwyd am y fenyw erioed, Y mae hi mewn oedran, gofynnwch iddi hi.' Boneddiges yw'r Eisteddfod; ac efallai mai dyna'r rheswm nad oes neb yn gwybod ei hoedran!"
Wrth son am feirniadaeth y Sais ar yr Eisteddfod, yn y wasg, meddai,
"Byddai yn eithaf peth i'r wasg Seisnig gofio fod dau lygad gan y Cymro—un yn darllen Cymraeg, a'r llall yn darllen Saesneg." Drachefn, wrth ddangos amcan yr Eisteddfod, meddai, "Nid sefydliad i ddysgu llaw-fer yw hi, ond sefydliad i ddwylaw â gormod o gyrn arnynt i ysgrifennu llaw-fer, i guro cymeradwyaeth cân.'
Dichon mai'r anerchiad mwyaf nodweddiadol o hono ef yw ei anerchiad ar gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Merthyr. Gan gyfeirio at yr ysgol y daethai iddi "naw mlynedd ar hugain" cynt, meddai, " Yr oedd yr ysgol yn ymyl y meini; ond nid y meini hyn, ond meini tywyllwch a chysgod angeu yn y tips' yma! Yr hen dips' yma yw y bryniau mwyaf barddonol yn y wlad! Y mae beirdd a cherddorion a chantorion goreu ein cenedl ni wedi bod yn cysegru'r rhai hyn yn nyfnderoedd y ddaear. Y mae beirdd y pyllau glô wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth ddyfnaf eu calonnau ar y meini hyn yn y gwaelodion obry. Ai nid ar lechi fel hyn, yn y cymydogaethau hyn, y bu Telynog yn cerfio llinellau barddonol, a Gwilym Gwent yn argraffu cerddoriaeth, cyn iddynt weled goleuni dydd? Ai nid yn gymysg â'r llwch a'r llechi hyn y bu Eos Morlais yn pêr anadlu alawon y wlad cyn iddynt ddod allan i'r awyr agored?
Pan dry i ofyn, "Beth fydd gwaith Eisteddfod yr ugeinfed ganrif," dyma'i afiaith:—
Y mae Caerdydd ei henw da wedi Chastell Nedd'
"Y mae yn falch gennyf feddwl fod Merthyr Tydfil wedi cadw ei hen enw Cymraeg glân, gloyw, pan y mae y rhan fwyaf o drefydd mawrion y Deheubarth wedi colli'u henwau da. Y mae Caerlleon-ar-Wysg wedi mynd yn 'Caer-leon!' mae Casnewydd wedi mynd yn New Port!' Caerdydd wedi mynd yn Car-diff,' ac y mae dydd diffodd! Yna daw Penybont, Aberafon, a wedi syrthio, a Chastell Nedd wedi syrthio a dim ond Neath yn aros. . . Ai nid dyma ran o waith Eisteddfod yr ugeinfed ganrif, gofalu am enwau da ardaloedd yr hen wlad, a cheisio'u cadw rhag eu llurgunio a'u diystyrru gan Saesonach anwybodus! Yr ydym fel cenedl wedi bod mor ddifraw, ac mor ddifeddwl, a rhoi enwau Saesneg ar ein hysgoldai a'n capelydd, ac ar ein mynwentydd, ac ar gerrig ein beddau; ac eto y mae yr hen iaith wedi byw i gyhoeddi Eisteddfod gyntaf yr ugeinfed ganrif. . . . Canrif bwysig yn hanes ein gwlad a'n cenedl fydd y ganrif nesaf—a'r canrifoedd dilynol. Y mae'r wlad wedi deffro, a'r genedl yn dechreu rhwbio ei llygaid. Y mae ein llenyddiaeth ar gynnydd, a'n beirdd o hyd yn amlhau; dichon mai ein cerddoriaeth sydd fwyaf ar ol. Ai ni fyddai' cân a thelyn' yn fwy diddorol a chywrain na llawer o'r duets, a'r quartets, a'r quintets tramor a dieithr sydd yn ein llethu a'n trethu ym mhabell yr Eisteddfod, a elwir yn genedlaethol? Edryched Merthyr ei bod yn cychwyn ar y llinellau iawn, ddechreu y ganrif newydd. Rhaid i'n hen alawon ein hunain, a'n hen gerddorion ni, gael mwy o le a rhagor o sylw. Y mae'n dda gennym weled Emlyn Evans, ac eraill, yn trefnu'r hen alawon Cymraeg: ac y maent yn cydio yn ddwfn ac yn gyflym,—
Mae enaid yn y mwmianu,
A sain cerdd yn y sŵn cu.
sydd yn 'Llwyn Onn,' ac mae'r 'Deryn Pur' yn canu'n hyfryd, er yn dra gwahanol i'r hen dderyn hefyd!"
Ceir llawer cyffyrddiad cynefin a chyfoethog eto yn ei anerchiad Yng Ngorsedd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1899, ar "Hen Ysgolion Bro Morgannwg":—
"Dyma ddwyrain y wlad," meddai, ar y rhan yma y tywynnodd y goleuni gwyn glân cyntaf ar feysydd crefydd a llenyddiaeth. Yr oedd goleuni dysg yn disgleirio ar y bryniau hyn yn y bumed ganrif; a'r tri sant (Dyfrig Beneurog, Llandaf; Illtud, Llanilltud Fawr; a Chatwg Ddoeth, Llancarfan), fel tair cannwyll yn llosgi, a gwŷr y Fro'n llawenychu yn eu goleuni cyn bod rhannau eraill Cymru wedi deffro, a chyn bod y Saeson wedi dysgu'r A B C!"
Yna daw at Gatwg Ddoeth, a'i waith gyda'r trioedd:"Nid geiriau Catwg Ddoeth (yn unig) ydynt, ond crynhodeb o ddywediadau goreu'r disgyblion; ac mae'r disgyblion yn fynych yn curo'r athro. Yr oedd y myfyrwyr hyn yn cydgwrdd wrth y bwrdd, ac yn cydweithio yn y maes; yn cwrdd yn y tŷ i drin llên ac awen, ac ar y cae i drin gwair a llafur; yn y neuadd i gyfansoddi ac adrodd llinellau trioedd a diarhebion, sydd yn addurn i'n llenyddiaeth bennaf a goreu; ac ar y maes i dynnu llinellau'r cloddiau a'r perthi sy'n degwch Bro Gwent a Morgannwg. Dichon i Catwg Ddoeth wneud llawer; ond teimlwn yn sicr i fwy o lawer, o honynt ddod o bennau eraill, ac i Catwg fod yn ddigon doeth i'w crynhoi, ac yn ddigon call i'w cadw." Yna galw'r Gân i ddysgu:—
Rhaid cadw'r Eisteddfod o hyd ac o hyd,
'Run fath a'r Ysgolion oedd yn yr hen fyd:
Rhaid agor yr Orsedd o hyd i bob tô,
'Run fath a'r Bangorau oedd yn yr hen fro.
Y genedl gadwodd yr awen a'r gân
Mor bur ac mor felys, mor loyw, mor lân.
Rhaid derbyn pob talent, a chroesaw pob dysg,
A chael pob athrylith a allom i'n mysg.
Os ydyw hen orsedd ein tadau'n y tir,
I ddal i deyrnasu yn fyw ac yn hir,
Rhaid cael teyrnwialen o aur yn ein llaw,
Ac nid gwialen haearn i gadw neb draw.
Mae'r llednais a'r tyner, a'r ieuanc, a'r gwan,
A'r cadarn cyfarwydd, i gwrdd yr un man.
Doethineb a Dysg sydd yn ben ar yr oll,
Os na fydd yr Orsedd yn Orsedd Ben Coll!
Fel rheol byddai ei englyn gorsedd, cadeirio, neu goroni, yn taro'r nôd:—
Eto:—
I'R ORSEDD.
Enwog lun Teml Goleuni,—a rhin haul
O'r nef ar ei meini;
Gwyliwch hedd ei chrwn-gylch hi,
Rhag y daw rhwyg i'w dorri.
O wawl haul y deml ole,—stranciau hyll
Ystrywion cel gormes
Trechwn—llwyr gaewn o'n gwest
Rhag colli nerth mur callestr.
O'n henwog gylch, gan hynny,—strywiau brâd
Toster bro ac ynys;
Trown o'n porth—torrwn o'n pyst
Rai doniol i greu dinystr.
Na chamed i'r crwn-gylch yma—stranc un;
Ystryw'n Cerdd a'n Barddas
Trown o'n cylch—triniwn y cast,
Rhag llunio rhwyg a llanastr.
Anodd meddwl am dano ef yn ymboeni gyda'r odl gudd, ond caed englynion cywrain a chryfion; eithr byddai ei awen yn haws ei dilyn na hyn, fel rheol.
Yn Eisteddfod Aberhonddu yr oedd y Bardd Cadeiriol yn absennol, a threfnodd ef neu rywun arall i gerddor adnabyddus i'w gynrychioli, a chymryd ei gadeirio yn ei enw. Erbyn i dro Watcyn Wyn i adrodd ei englyn ddod, yr oedd wedi clywed fod y bardd yn Llanwrtyd yn mwynhau ei wyliau, a dyma'r ergyd:—
Wele ef yn ei gadair glyd—urddas
Cerddor—bachgen glanbryd;
A'r bardd ym mhen draw'r byd—yn chware croquet
Yn llon a hearty—yn Llanwrtyd.
"A'r baw ym mhen draw'r byd," oedd y gynghanedd yn ambell bapur newydd, yr ail fore. Ond meddai Watcyn Wyn, "Nid wyf fi yn arfer taflu baw at neb, er y byddai digon o ddwr da i'w olchi i ffwrdd yn Llanwrtyd."
Ergyd yn cerdded yn llawer pellach a roddodd ef ar fuddugoliaeth y Parch. Ben Davies yn Llandudno, ar "Tuhwnt i'r Llen." Buasai Mr. Davies yn fuddugol ar bryddest yn flaenorol i hyn dan feirniadaeth Watcyn Wyn. O ddamwain ddall yr oedd y buddugwr yn berthynas i Watcyn, a rhwng y ddwy fuddugoliaeth, fuddugoliaeth, canasai a chyhoeddasai rhywun gân enllibus, ddienw, gan ei galw yn "Gân y Cenders," a phriodoli buddugoliaeth y Bardd i'r berthynas â'r beirniad. Cân ffiaidd ydoedd; ei nodwedd achubol oedd diffyg talent. Ond gyda'r ail fuddugoliaeth dyma gyfle'r awen barod, ac ymhlith yr englynion i'r bardd buddugol, dyma'r fflach:—
Un a ddychwel fel yn fyw un o'r llu,
"Hwnt i'r Llen "; pwy ydyw?
Cyhoeddir o'r fainc heddyw,
Wedi'r oll, y cender yw!
Ond o'i holl wasanaeth i'r Orsedd, gwneuthur penillion telyn oedd ei wasanaeth mwyaf.
Pa mor fore y daeth y delyn, a chanu gyda'r delyn, i'r Eisteddfod, nid hawdd gwybod. Cawn "ganu gyda'r tannau " yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1819, a phrin y gellir olrhain yr arfer hon ymhellach yn ol. Buasai "datgeiniaid" cyn hyn, ond "datgeiniaid pen pastwn" fyddent, a "chanu gyda'r pastwn" fyddai'r gamp. Y gystadleuaeth olaf yn hyn o arfer, ac arfer da'i cholli, oedd yr hon a gaed yn Eisteddfod Llangollen, 1858. Ond daeth y delyn," a "chanu gyda'r tannau" i'r Eisteddfod Genedlaethol i aros; eithr i Watcyn Wyn y mae diolch o gyfeiriad y penilliwr, ac i Eos Dâr yn bennaf, fel datganwr. Buont mewn cyfathrach agos â'i gilydd am flynyddau, ac fel hyn y daeth yr undeb. Meddai'r datganwr cenedlaethol mewn llythyr atom:—
Naw diwrnod cyn cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberhonddu, yn 1888, danfonodd Mr. Rhys Davies (Ysgrifennydd yr Eisteddfod), bellebyr ataf, yn hysbysu fod arno eisiau datganwr penillion gyda'r delyn, ac yn gofyn am fy ngwasanaeth. Atebais yn gadarnhaol, ac aethum at y gorchwyl o geisio penillion. Anfonais at amryw o brif feirdd Cymru yr adeg honno, yn gofyn yn garedig am ychydig benillion telyn, gan amgae amlen, ac arni lythyrnod. Dim ond Watcyn Wyn a atebodd yn sylweddol trwy ddanfon y penillion a welir yn nechreu Cân a Thelyn.'
Cafodd y penillion a'r datganiad dderbyniad brwdfrydig, fel pan ddaeth dydd yr Eisteddfod ym mhen blwyddyn, yr oeddwn yn cael fy ngofyn i feirniadu ar ganu penillion gyda'r delyn,' ac i ddatganu penillion yn yr Orsedd. Ar ol hyn priododd Watcyn a minnau â modrwy awen a chân. Danfon di air bach i'r Gwynfryn,' meddai, pan fydd eisiau penillion arnat.' 'Diolch,' meddwn innau, ni fydd i mi anghofio. Byddaf yn danfon yn fynych—ac felly bu. Buom yn gyfeillion mynwesol; Watcyn yn cyfansoddi penillion, a minnau'n eu canu—ym mhrif drefydd Cymru, Lloegr a'r Iwerddon. Erbyn hyn mae datganu penillion gyda'r delyn wedi dyfod yn boblogaidd iawn, a phlant ein hysgolion dyddiol yn dyfod yn gampwyr ar y gelfyddyd."
Meddai Watcyn Wyn yn ei anerchiad, "Canu Penillion," o flaen Cymdeithas Cymrodorion Llundain, gyda'n diweddar gydwladwr enwog, William Jones, Ysw., A.S., yn y gadair:—"Y mae Eos Dâr wedi gwneuthur mwy na neb y gwyddom am dano yn yr ystyr hyn ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol oddiar Eisteddfod Aberhonddu yn 1889 hyd yn awr. Y mae wedi canu penillion ar gyfer y lle a'r amgylchiadau ymhob Gorsedd bu yn canu ynddi, o hynny hyd yn awr.
Yn y flwyddyn 1895 cyhoeddodd y penillion a wnaethai o dro i dro fel hyn, dan yr enw Cân a Thelyn," a chyflwynodd y gwaith 'I'w Anrhydedd y Barnwr Gwilym Williams, Miskin, a'i Briod."
Prin y cyhoeddwyd dim mewn cân yn y Gymraeg a fu'n fwy derbyniol, ac yn fwy o lwyddiant, na "Cân a Thelyn." Mae rhan o ddirgelwch llwyddiant y gwaith yng nghyffes y Bardd yn ei anerchiad, "Canu Penillion." Wrth son am yr hen ganu gyda'r delyn, meddai, "Yr oedd amgylchiadau lleol, a digwyddiadau perthynol i'r ardal, a chyfeiriadau at rai o'r cwmni, yn cael sylw neilltuol ac arbennig. Nid canu hen benillion o hyd, ond penillion wedi eu cyfansoddi yn 'newydd spon ar gyfer yr amgylchiad."
Dyna'i gamp ef ar wneuthur cân i fynd gyda'r delyn yn yr Orsedd a'r Eisteddfod—cyffyrddiadau lleol ac achlysurol! Byddai'r hen ganu'n rhy gywrain, pell, a diergyd; ond yr ergyd a ddisgwylid oddiwrth ei awen ef o hyd, a'r ergyd a ddeuai. Mae lliw'r cylch ar ei gân bob amser.
EISTEDDFOD ABERHONDDU
Croesaw hen Eisteddfod fwyn,
Mae swyn i mi'n dy enw;
Mae Cymru'n deffro'n genedl gref,
Pan yw dy lef yn galw;
Ac fel y plentyn at ei fam
A'i breichiau am dy wddw.
Deil ei bannau yn y nef,
A deil ei llef i ganu;
Deil ei hysbryd fel yr oedd
Gynt ar fynyddoedd Cymru;
Dilys deil, tra dalio stŵr,
Arianddwr yn yr Honddu.
Dewch yn nês i gylch y gân,
Brycheiniog lân sy'n galw;
Yn nhant y delyn yn ei hwyl
Mae sŵn yr ŵyl yn cadw;
Tra bo mynyddau a bannau'n bod,
Ni cha'r Eisteddfod farw.
Mae calon Cymru'n iach a llon
Yn Aberhonddu'n curo;
Mae cân a thelyn Cymru hen
A'r awen heb ddirywio;
Os nad yw'r T'wysog yn yr ŵyl,
Mae'r genedl annwyl yno.
ABERTAWE.
Hyfryd fan ar lan y môr,
I'r beirddion agor gorsedd;
Tir a thon yn cau o gylch
Henafol gylch tangnefedd;
Lle mae'r aig a'r creigiau cry
Yn canu yn ddiddiwedd.
Tra fo dŵr y môr yn hallt,
A gwallt y don yn gwynnu,
Bydd rhwng mynyddau Cymru lân
Wŷr diddan yn prydyddu,
A bydd y delyn yn ei hwyl,
Ac annwyl wŷr yn canu.
Maent wedi gwerthu'r Wyddfa.
I'r gŵr a'r geiniog ucha;
Pe cilia'r wlad o fryn i fryn,
Mae'r delyn fyth yn dala.
Cwm y gân yw'r Cwm i gyd,
I'r lan ar hyd yr afon,
A chlywir sŵn yr awen dlos
O Graig y Nos i'r eigion;
Yma megis adar hâ',
Y tyrra y cantorion.
PONTYPRIDD.
Mae llawer newid yn y fro,
Oddiar y tô cyntefig;
Er hyn, mae cylch y meini glân
Yn gyfan gysegredig;
A'r Garreg Siglo uwch y fan
Yn para'n ansigledig.
RHYL.
Er maint y troion sy'n y byd,
Mae Cymru o hyd yn canu;
Ac er fod Morfa Rhuddlan draw,
'Does friw na braw 'er hynny;
Fydd Cymru ddim yn Gymru lwyd
Tra Dyffryn Clwyd yn glasu.
CAERNARFON.
Tŵr yr Eryr" yn y nen,
A'r faner wen i fyny:
Pyrth y Castell led y pen,
A'r awen frwd yn canu;
A'r wlad a'i thelyn yn ei llaw
Yn croesaw T'wysog Cymru.
LLANELLI.
Yn y Dê, ar lan y dŵr,
Wrth enau'r Lwchwr lachar:
Lle mae'n uno'r môr a ylch,
Ei donnau gylch y ddaear;
Dyma fan i gwrdd yn hen
Deml awen Cymru hawddgar.
CHWARE AWEN.
AR un cyfnod, diau fod mwy o ryw chware goleu, llawn athrylith, yn y Gwynfryn, ac o'i gwmpas, nag odid un cartref yng Nghymru. Heblaw bwrlwm cudd, cyson y Bardd ei hun, gyda'i iechyd y pryd hwnnw yn dda, a'i feddwl yn bur rydd, yn fyw i bob symudiad a chyffyrddiad, ac yn ganolbwynt i gymaint o fywyd meddyliol a chymdeithasol ei sir a'i wlad, yr oedd cyfeillion lu o bob cylch o fywyd ymron yn dod i "spio 'i hynt," ac anaml y byddai neb mewn brys i ymadael; a byddai pawb a ddeuai yn "rhoi ei arian at y cyfnewidwyr," yn ol yr herwydd. Ni feddyliai neb am fardd mewn brys i ymadael â chylch mor gydnaws, oedd yn eithriad mewn gwlad ac oes, ac yn sefyll allan fel penrhyn goleu yn y tir; ac nid oedd dŷ yng Nghymru a mwy o hiliogaeth ddifyr hwnnw yn galw ynddo na'r Gwynfryn; a byddai rhai cyfeillion agos i'r Bardd yn aros dros ddyddiau yno. Yr oedd swyn ei bersonoliaeth a'i gartref yn cerdded hyd ymhell. Anaml y glaniai Cymro o unrhyw nod o'r America, yn Llynlleifiad, na byddai wedi cyrraedd y Gwynfryn cyn pen pythefnos, a chael croesaw Cymraeg, lond aelwyd, ond â chymaint o chware direidus, athrylithgar o'i gylch, nes y byddai'r ymwelydd yn cael llawer munud syn, ac yn gwylio'r gwreichion a chwareuai o'i gylch gyda rhyw fath o bryder.
Bu'r meddwl am dreulio noson yn y Gwynfryn fel hud melys i lawer un, lawer tro,—mynd tua'r hen gartref hyd ymyl y cae, yng nghysgod coed prydferth, lle y byddai awel yn chwiban, a lle y cai blodau gysgod; a'r drws yn agor i lond tŷ o garedigrwydd naturiol, ac o londer tlws.
Ond chware'r Bardd ei hun, pan ddeuai awr dawel, lonydd, yn rhodianna rhwng y ddwy berth wyros, ymhlith y coed afalau, neu yn eistedd ar foncyff gerllaw, neu yn ei gadair glyd yn ei ystafell, ac yn amlach na dim yn ei fyfyrgell lân, drefnus, gyda'r ddôl lâs yn ymgodi'n araf ar gyfer y ffenestr, a derw cedyrn fel gwylwyr ffyddlon hyd y fan. Ie ei chware bach, cartrefol, ef ei hun!
Yr oedd newydd ei gadeirio am y bryddest oreu ar Y Gorffennol," yn Ynyshir, ac meddai mor ddifyr, megis rhyngddo ef ei hun a'r gadair, ar awr oleu:—
Onest iawn, ces innau stôl,—rhyw gadair
Goediog yn bresennol;
Ac ar bren y 'Gorffennol'
Seinia i bob cân sy 'nol.
Cadair bren y 'Gorffennol '—wele mae'n
Stôl i mi'n bresennol;
Drwy adfydau'r dyfodol,
Caf nyddu a chanu'n ei chôl.
Fel hyn y canodd ei ddiolch i Mr. Ebenezer Thomas, Penlangoch, Llandeilo, am ddau pheasant a gawsai yn anrheg Nadolig:—
Dau pheasant da a phwysig—a gefais
Gan gyfaill caredig;
Adar glanaf y goedwig,
Di-gân, ond yn dew o gig.
Ewch atynt, saethwch eto,—a lleddwch,
Llwyddiant a'ch dilyno;
A dryll bob ergyd a ro
Aderyn wedi'i daro.
Y mwynhad hyfryd gafodd wrth ddiolch fel hyn o'i gartref clyd gyda Nadolig yn y gwynt! Hawdd i'r neb a'i hadwaenai ddychmygu.
Aethai Mrs. Williams ar ei gwyliau, un waith, a'r Bardd yn gwarchod gartref gyda'r plant, a dyna gân i'w galw yn ol:—
YN UNIG.
I.
O, ANNIE fach, fy ngeneth wen,
Yw'r amser bron a dod i ben,
I eistedd eto dan y pren,
Yng nghornel gardd y Gwynfryn?
Mae'r coed a'r dail yn cuddio'r lle,
Mae'r ford yn barod i gael tê,
O, tyrd yn fuan tua thre,
Mae'th eisiau'n anghyffredin!
II.
Mae GEORGIE 'n chware fel y bu,
Mae MARY 'n brysur gylch y tŷ,
A minnau wrthyf f'hunan sy'
Yn disgwyl am f'anwylyd;
Mae'r plant yn chware ar y cae,
Mae'r adar bach yn ddau a dau,
A minnau wrth fy hun fel tae
Yn ddim ond hanner bywyd.
III.
Mae llawer blwyddyn er y pryd
Dechreuaist ti a finnau'n byd,
A hyn sy'n gwneud tair wythnos cyd,
Heb ini weld ein gilydd;
Po hwyaf byddom byw ein dau,
Mae'r hen awyrgylch yn cryfhau,
A rhwymau cariad yn tynhau
Cydrhyngom byth a beunydd!
IV.
Mae arfer caru'r un o hyd,
Yn dwyn y serch, yn dwyn y bryd,
Does cwmni arall yn y byd
Fel cwmni'r eneth honno;
Does neb ar wyneb daear gron,
Lle gallaf lwyr ddadlwytho 'mron,
A dweyd cyfrinach, ond wrth hon,
Mae hi yn arfer gwrando.
V.
Wrth un y gallaf ddweyd fy nghwyn,
Un wna fy ngwrando er fy mwyn,
Un dan bob croes wna gydymddwyn
A dal i gydymdeimlo;
Does dim un arall yn y byd,
Er chwilio drwy ei led a'i hyd,
Y gallaf ddweyd fy nghwyn i gyd,
Pan wedi colli honno!
VI.
Rwy'n cofio fod dri mis un waith,
Oddiwrth fy nghariad ar fy nhaith,
Ond mae 'tair wythnos yn fwy maith
O'r hanner, nawr, na hynny;
Po fwyaf hen cawn fyw'n y byd,
Yn ffolach, ffolach, awn o hyd,
Rwyt ti yn dwyn fy serch a'm bryd
Yn fwy bob blwyddyn, ANNIE.
VII.
Gobeithio cawn ni'n hir gydfyw,
Mae cwmni'n annwyl, onid yw?
Rwyf yn gweddïo ar ein Duw
Am gadw'n bywyd dedwydd;
Gobeithio na ddaw pen y daith,
Ddim eto am flynyddau maith,
Ac y cawn fynd i'r gwynfyd maith,
Ryw ddiwrnod gyda'n gilydd!
Gwynfryn, Mehefin 2, 1896.
Yr oedd yn ddydd pen blwydd Mrs. Williams, a'r Bardd wedi troi yn ol i'r Gwynfryn o'i grwydro pell; nid oedd diofalu i'r awen y dydd hwnnw! A phwy na chlyw y tinc agos yn
y gân hon—
ANN YN MYND AR HANNER CANT.
Rwy'n falch i gyrraedd gartre
Ar ol bod ffwrdd o dref,
Does unfan fel y Gwynfryn
I WATCYN dan y nef;
Mwy balch nag arfer heddyw,
Ar ol bod ddiwrnod bant—
I weled yr hen fenyw,
Sy'n mynd ar hanner cant!
Mae'r amser yn ehedeg.
Mae'r blwyddi'n llithro i ffwrdd,
Oddiar yr adeg ddedwydd
Pan wnaethum gyntaf gwrdd;
Ar ol y maith flynyddau,
Mae arnaf fwy o chwant—
Gweld wyneb yr hen fenyw
Sy'n mynd yn hanner cant.
Rwyf yn gobeithio eto
Am lawer blwyddyn faith,
Gael dod yn ol i'r Gwynfryn,
'Rol llawer melys daith,—
A derbyn croesaw cynnes
Fy annwyl wraig a'm plant,
Am lawer o flynyddau
Tuhwnt i'r hanner cant.
Rhag. 19, 1902, pan oedd Ann yn 49 mlwydd oed.
Dyma'i ddiolch am frithyll o Gwm Elan—
DOCTOR JONES a THREFOR IFAN
Aent i weled hynt Cwm Elan,
Yn yr Wy ar bwys y Rhaead,
Lle mae'r plu yn arfer dwad;
Yno buont am eu bywyd
Yn hel afon, a dal hefyd
At eu pasged, bant a'r pysgod
Gyda'u gwiail yn un gawod;
Ar ei blåt fe gafodd WATCYN
O'u pasgedaid, saith pysgodyn.
Y Doctor Jones, o Lansamlet, a'r datganwr Trefor Evans, Treforris, oedd y ddau hyn. Yr oedd Watcyn Wyn a'i briod yn Llanwrtyd ar y pryd, efe yn ddigon llesg, a hwythau'n mynd i Gwm Elan i bysgota, ac yn ei wahodd i'r ymdrech. Na," meddai, "dim gwynt i'r hwyl heddy' eto." Mwyn oedd eu gweled hwy yn cofio, a thlws ei ddiolch yntau.
Diddorol yw ei Gywydd yr Hammock," yn ddiolch i Miss Annie Rees, M.D. (Ceridwen), New Jersey, New York, am anrheg o un a anfonasai i'r Gwynfryn. Merch dalentog o Gwm Gwenlais, Llandebie, oedd hon, wedi myfyrio yn Ysgol y Gwynfryn, ac yn ddwfn ym mynwes y Bardd a'i deulu. Caiff yr Hammock fynd yn ei nerth ei hun!
Diolch am hammock doctor
Yrrwyd i mi 'r hyd y môr;
Dyma le i Fardd Rhydaman,
O'i lwyn coed i lunio cân;
Pridfawr sigl-wely prydferth
I'r Bardd o dan gangau'r berth,
Yn y tês bydd WATCYN toc,
Yn rhoi emyn o'r hammock.
Yn yr haf wrth bren afal,
Hongia'n deg wrth gangen dal,
A daw arogl coed eirin
Gyda'r falmaidd hafaidd hin,
Rhosyn byw Drysïen bêr,
Yn taenu arogl tyner,
Gyda'r awel i'r gwely,
O dan bren talcen y tŷ.
Yn yr haf i fardd afiach,
Gwely hedd ac awel iach,
Haul i'w friw, anadl i'w fron,
Ac eli idd ei galon!
Nawn o haf ym min y nos,
Ca orwedd dan bren ceirios;
Rhoi llam a wna i'r hammock,
Esmwyth anrheg deg y Doc';
Mud orwedd geiff am deirawr
Yn y llwyn rhwng nen a llawr;
Yn ei hammock caiff smoco'
Yn y berllan o dan do—
To o ddail—tŷ addoli,
Adar haf yn gôr diri!
Y gwely mwyn sigla mhell,
Ysgwyd a wna fel asgell,
Chwa dyner a'i braich danaf,
Awel gu i'm siglo gaf;
A daw cwsg yr adeg hon
A rhyw ddedwydd freuddwydion,
I'm harwain i'r Amerig,
Dros fryniau o donnau dig,
Heuldeg awr,—er gweled gwên
Y garedig Geridwen!
Gorffennaf 10, 1902.
Mae"Cân y Tecell Arian" yn son am fyfyrwyr mwyn yn cofio llafur yr athro; hynny oedd eu rhodd iddo ef a'i briod, a dyma'r canu difyr, a hi yn Wyl Dewi Sant:—
Ar ran fy annwyl briod,
Diolch yn fawr i chwi;
Rhyw orchwyl melys hynod
Yw diolch drosti hi;
"Myfi sy' i gael y dysteb,
Ond gwrando dithau 'nawr,"—
Medd ANN" Y ti sy' i ddiolch,
A chofia ddiolch yn fawr."
Mae diolch dros un arall
Yn orchwyl hardd i ddyn;
Yn hawddach gwaith o'r hanner
Na diolch drosto'i hun;
Mae'r wraig yn llawn o ddiolch
Am beth sydd wedi'i wneud,
Ei chalon hi sy'n teimlo,
Ond fy nghalon i sy'n dweyd.
Rown i yn dywedyd wrthi,
"Gofala di bartoi,
Y ti sy'n cael y tegell,
I ti maent yn ei roi."
"Nid felly," meddai hithau,
"Ond diolch di'n fy lle,
Cymeraf fi y tegell,
Cei dithau shâr o'r tê."
Fe doddodd hyn fy nghalon,
Pan glywais son am dê,
Ac es i wneuthur pennill,
I ddiolch yn ei lle;
Mi gofiais y gorffennol,
Meddyliais am a ddaw,
Waeth llawer dysglaid felys
Dderbyniais i o'i llaw.
Chwi fuoch yn garedig,
Fy mechgyn annwyl, do,
Ni chaiff y tegell arian
Ddim mynd yn angof dro;
'Ry'ch chwithau, fechgyn siriol,
Yn gall iawn, onide,
Yn gwybod wrth roi tegell
Fod gobaith am gael tê.
Mae rhywbeth yn ddiddorol
Yn hanes Dewi Sant,
Yn agor, ffordd y cerddai
Ryw win ffynhonnau gant;
Mae enw llawer Santes
Ynglyn â llawer lle,
Yn agor i'n hadfywio
Ffynhonnau llawn o dê.
Mae hanes plant y Gwynfryn
Yn llawn ffynhonnau tê,
Yn rhedeg drwy'r blynyddau
Yn ffrydiau, onide,
Ar ol y tegell arian,'
Yn dysteb heno roed,
Fe fydd y tê yn ffrydio'n
Felysach nag erioed.
Boed bendith ar eich pennau,
Am gofio f'annwyl wraig,
A boed y tê o'r tegell
'Run fath a'r dŵr o'r graig,—
Yn dilyn drwy'r anialwch
I ddisychedu dyn;
AC ANN yn llanw lawer gwaith
Ein dysglau ni bob un.
Adnabod Watcyn Wyn, a gwybod am ei hoffter o'r hen gymeriad, Athan Fardd, a'i "eiriau hirion," dyna ddigon i roi lle i englyn fel hwn, a wnaed gan y Bardd ar ei gladdedigaeth:—
Gwir arwr y geiriau hirion—aeth yn fud;
ATHAN FARDD dwym galon
Sydd yn y llawr yr awr hon
Heb air o eiriau byrion.
Ni chai dim ddianc arno, a mynnai'r ergyd cyfrin allan o bob amgylchiad. Ergyd digrif oedd hwnnw yng Ngwyl Glowyr Dosbarth y Glô Carreg, pan y siaradai Mr. W. Abraham (Mabon), A.S., eu cynrychiolydd:
Nid oes ragorfraint megis hon
Gan weithwyr unrhyw wlad,
Bendithiwch Dduw, boys, gennych chwi
Maе ABRAHAM уn dad.
Fel hyn y canodd i Gadair Major Morris, Brynffin, gŵr a fuasai i ffwrdd yn yr India am flynyddoedd—cadair Indiaidd!
I.
Cadair y Major MORRIS,—o Brynffin,
O bren ffaw uchelbris:
Mae lluniau duwiau yn dewis,
Rhoi bri mawr ar Gadair Burmis!
II.
I fynwes y Nirfâna,—i orffwys
Ar arffed y Buddha:
Yn wir i ddyn,—Cadair dda,
O dan rondyn o'r India!
III.
Yno cawn gelf i'n cynnal,—a naddwyd
Lle heddwch,—pob cymal:
Cawn orwedd,—eistedd, gystal,—
A duw dan bob troed i'n dal!'
Hyd. 17, 1895.
Wrth feddwl am y mynych helbul a fuasai ar ddyn ac anifail, am na fuasai pont i groesi'r Aman yn ol a blaen i'r Betws ac Amanford, a'i gweled hi o'r diwedd, " ar waith," aeth i fyd yr "Halier Cart" un tro, i ganu am dani. Gwyddai'r ffordd i "halio'i gart" yn rhy dda i ganu yn iaith neb arall, a dyna chware ar y "Betws" a'r "byd":—
Pont y Betws maes o'r byd,
Bach ei lled a mawr ei hyd,
A dwy ganllaw i'r ddwy law,
I'n helpu i fynd i'r ochor draw.
Y bont newydd maes o'r byd,
Fydd fwy ei lled a llai ei hyd:
Cerrig Aman maes o law,
Geir i'n dwyn i'r ochor draw.
Pont y Betws, mae'n llawn bryd
I ni 'i chael hi maes o'r byd,
Rhag i ni wrth fynd yn gro's,
Gael mynd o'r byd yn nyfnder nos.
Y bont newydd—mae'n llawn bryd
I ni gael ei gweld i gyd:
Cerrig cochion Aman dlos,
Megis bwa mawr yn gro's.
Pont y Betws, bant â hi,
Ar yr afon gyda'r lli:
Mae'n llawn bryd i'r hen bont bren,
Gael ei thaflu dros ei phen.
Pont y Betws, bant â hi,
Dewch â'r newydd bont i ni;
Pont o gerrig, nid o bren,
Pont i gart fynd dros ei phen.
Medi 21, 1889.
Ni chai dim gymryd lle ym Mhentre Cross Inn—Amanford yn awr—heb i'r gwefr gael ei deimlo yn y Gwynfryn. Yr oedd pob symudiad a digwyddiad yn chware yn ei awen, ac yn pasio drwyddi.
Ar "Sgwar y Pentre" byddai hen ystablau gwyngalchog, a wasanaethasai eu cenhedlaeth, yn ddiau, ond a ddaethai at ddydd eu dymchweliad o'r diwedd, i roi lle i shop chemist, ac amryw siopau gwychion eraill. Nid oedd peth felly i ddigwydd heb i'r Bardd droi i chware. Ac meddai:—
I.
Mae'r stablau ar y groesffordd
Yn cael eu tynnu lawr,
Mae sŵn y muriau'n syrthio
Yn gwneuthur twrw mawr;
Y mae cymylau lluwchog
Yn codi gyda'r gwynt,
Cymylau llwch yr hen goach mawr
Oddiar y dyddiau gynt!
II.
Mae'r chemist wedi dechreu.
A brysio ar ei waith,
Mae'r llwch a'r coed a'r cerrig
Yn hedfan idd eu taith;
Does neb o'r bechgyn heddyw
Yn pwyso ar y wal—
Does neb o gewri'r corner gang,
A feiddia geisio'i dal.
III.
Bu llawer ceffyl enwog
O fewn y stablau hyn,
Pan oedd y coach brenhinol
Yn pasio trwy Cross Inn;
Bu llawer bachgen hoyw
Yn pwyso ar y mur,
Ond nawr mae'r cyfan wedi mynd—
Does dim ond atgof pur.
IV.
Wel, chware teg i'r stablau,
Hwy gawsant fyw eu shâr,
Maent wedi gweled llawer oes
Yn sefyll ar y sgwar;
Er maint y son am danynt,
Er cymaint oedd eu bri;
Rhaid oedd eu symud, meddai'r Maer,
Ar flwyddyn y Jiwbili.
V.
Wel, chware teg i'r chemist,
Cyn tynnu lawr ddim un,
Fe fynnodd eitha crefftwr
I dynnu eitha llun;
Os bydd rhyw un a hiraeth
Ar ol y stablau hyn,
Yn siop y chemist caiff eu gweld,
Mae'r llun ar bapur gwyn.
VI.
Mae'r stablau wedi eu symud
I'r cysgod yn y coed,—
Ac yn eu lle fe godir
Y siopau glana erioed;
Daw'r Groesffordd bob yn dipyn
Yn addurn stâd y Lord,
Beth fydd y sgwar yn hen Gross Inn
At centre Amanford?
Mae Cân y Stablau "yn paratoi'r ffordd at "Gân y Siopau," ac heb ymdroi i esbonio, wele hi—
Mae'r palas mawr yn barod,
A'r Chemist yn y Siop,
A'r prynwyr fewn ac allan
Yn cerdded yn ddi—stop;
Daw llu o bellter daear
I Amanford "Shir Gâr,"
I weled y Siop newydd
A godwyd ar y Sgwar.
Y Stablau enwog hynny,
Lle safai'r Coach mawr gynt,
Sydd wedi cael eu chwalu
Yn llwch i'r pedwar gwynt;
A Phalas wedi'i godi
Ar adfail Cymru Fu,
I ddangos y poteli
Sy'n gwella Cymru Sy'!
Mae yno dair o Siopau,
Rhagoraf yn y wlad;
Siop Chemist a Siop Baker,
A Siop am Watches rhad;
O un cewch foddion doctor,
O'r llall cewch fara gwyn,
O'r trydydd cewch yr amser
I lyncu'r pethau hyn.
Mae pedair heol yn arwain
Tuag at eu drysau hwynt,
A miloedd o gwsmeriaid
Yn dod o'r pedwar pwynt;
Aiff enw EvAN EVANS
Ar led drwy fro a bryn,
Am godi'r fath adeilad gwych
I wella Sgwar Cross Inn!
Yr oedd mawr ofal calon ganddo am bopeth o gylch y Gwynfryn—pob pren a phob gwyrddni. Ond daethai ystorm ar eu gwarthaf un tro, gan "daflu un o brennau harddaf Eden y Bardd i lawr,"—a dyma'i gŵyn:—
Y gwynt oer wrth dalcen tŷ—a roddodd
Wreiddiau'r pren i fyny,
A'i frig lawr, gawr scythrog hy',
Dan fall—roi coeden felly!
Ond dyma flangell drymach ar y "Defaid,"—defaid amaethwr cyfagos a dorasai i mewn i dir y Gwynfryn, gan wneuthur dinistr ar y gwyrddni:—
Mae defaid JONES, Tirdail,
Bron bwyta'r cae i ffwrdd,
Wrth bori bob yn ail,
Yn ddafad ac yn hwrdd;
Ac ni fu 'rioed mewn tref na llan,
Fath haid o ladron mewn un man.
Mae ganddo ddafad gloff,
A'i choes yn stiff fel post,
Pan fyddo 'i'n rhedeg off
Gwel pawb ei bod yn dost;
Ond er ei bod yn wan o nerth,
Fu erioed o'i bath am neidio perth.
Mae ambell un heb wlân,
Ac ambell un heb gorn,
Ac ambell un fel brân,
Yn cymryd perth yn scorn;
Mae'n syndod gweled dafad wen
Yn hedeg fry rhwng dae'r a nen.
Mae'n anodd codi clawdd
O flaen y milgwn hyn;
Nid yw yn orchwyl hawdd.
Amddiffyn WATCYN WYN;
Mae defaid JONES mor gul a main,
Waeth pa mor dew y byddo'r drain.
Mae'r Bardd bob nos a dydd,
Yn rhedeg hyd y cae,
A sŵn ei beswch sydd
Yn cyfarth fel pe tae;
Ond y mae defaid JONES bob un
Mor fyddar ag yw ef ei hun.
Mae'n rhaid i WATCYN WYN
I brynu mwsged mawr,
I saethu'r lladron hyn
Yn lleibe ar hyd y llawr;
Os prynu mwsged wnaiff y Bardd,
Bydd tân a lluched yn yr ardd.
Pan ddelo'r mwsged syth
I ddwylaw WATCYN WYN,
Bydd yn "Goll Gwynfa" byth
Ar y cythreuliaid hyn;
Pan fyddo'r Bardd yn bwrw tân
Ar grwmp y ddafad heb ddim gwlan.
Ar ol y rhyfel poeth,
Ar ol y bwrw tân,
Ni welir 'crambi 'noeth
Na gwedder' gyda gwlan;
Pan gliria mŵg y mwsged mawr,
Pa le bydd defaid JONES yn awr?
Bydd JONES a'i fugail da
Yn chwilio am y rhain,
A'u cael i gyd a wna
Yn topio'r tyllau drain;
Ar ol i rym y mwsged certh
Eu saethu'n glots i ben y berth.
O henffych ddedwydd ddydd,
'Rol symud ffwrdd y baich;
Ca'r bugail rodio'n rhydd,
A'i filwg ar ei fraich;
Pob twll oedd yn y berth cyn hyn.
A dafad wedi'i dopio'n dyn.
Ar noson coroni'r brenin, yr oedd Dr. Price wedi goleuo ei lawnt a'i dŷ yn brydferth iawn, ac meddai'r Bardd o'r Gwynfryn, oedd heb fod ymhell o'r llewyrch:—
Your grounds were very grand,
Your lawn was a fairy land
The night of the Coronation.
Ar noson y coroni,—Y Laurels
Leuerodd eleni;
Gwawr tŷ'r Doctor yn torri
Liw nos i'n goleuo ni!
Impio mil o lampau mân,—a wnai PRICE
Ymhob pren o'r goedlan;
Ymaith ffodd nos Rhydaman,
Yn ofni'r lanterni tân!
CHWARE AWEN (PARHAD).
AETH yn dro trwstan ar hen gyfaill iddo o'r enw Jacob, unwaith. Crogasai Jacob ei wasgod lle y diferai naphtha, ac â honno am dano, aeth yn rhy agos i dân i'r diferion beidio â dywedyd eu hanes. Ac fel hyn y dwys holai'r Bardd:—
JACOB, beth oet ti'n jocan
A gwasgod oil—gwisg o dân?
Paham yr est i'r fflamau
Fel hyn, yr hen bryfyn brau?
Paham, JACOB, gwnest bobi
O dy fodd, dywed i fi?
Nid rhaid oedd dy roi i dân
O dir byw mor dra buan.
****
JACOB, da i ti fod dŵr
Yn ymyl yr hen fflamiwr
I gasg dŵr mewn gwisg o dân
Llemaist fel dyn a lluman—
Baner uchel rhyfelwr
Yn dân ar wyneb y dŵr!
A JACOB ddaeth heb jocan
O'r dŵr wedi concro'i dân!
Cofia di fod naphtha 'n wyllt—
Mae y peth mwya poethwyllt:
Ac na ddod dy wasgod waith
O tan oleu tân eilwaith;
Bydd di'n gall o hyn allan,
Osgoa di wisg o dân;
A chofia mai da fod dŵr
Yn ymyl rhyw hen fflamiwr
JACOB, ni fuasai jocan
Heb fodd cael diffodd dy dân.
Rhoed cloc yn nhŵr Eglwys Blwyf Llandeilo, gan Mr. Pugh, Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin, ar y pryd. Yr oedd y cloc i fod yn eiddo'r dref, a threthdalwyr y dref i'w gadw i fynd. Dadleuai rhai nad allai dim a elai i mewn i dir yr Eglwys Blwyf fod mwy yn eiddo i'r trethdalwyr, ac mai talu am gadw cloc yr Eglwys a fyddent. Nid oedd amgylchiad a barai'r fath ddiddordeb i'r dref a'r cylch ag a barai hwnnw, i fynd heibio heb fynd drwyddo ef—archoffeiriad y fro; a dyma ganu iddo—canu difyr o fyd y werin.
Glywsoch chwi am gloc Llandeilo,
Addurn pennaf twr Sant Teilo:
Wyneb du a bysedd melyn,
Dyma gloc yn grwth a thelyn.
CYTGAN—
Cloc y dre, dyma fe,
Cloc y dre, dyma fe,
Ni fedd clochdy drwy holl Gymru
Gloc o'i fath am gadw'i le.
Cadd y cloc ei dra dyrchafu
Rhag i fysedd plaid ei grafu,
Yno mae yn penderfynu
Dysgu pawb i edrych fyny.
Cloc y dre, &c.
Ble wynebwn ni, ŵyr dewin,
De, neu dwyrain, neu orllewin,
Mae'r tri wyneb ar eu goreu
Yn ceisio boddio'r holl ororau.
Cloc y dre, &c.
I'r Green Hill mae'r wyneb ucha,
Tua'r Walk y llall edrycha,
A'r trydydd dremia mewn diogelwch
Tua'r dehau am dawelwch.
Cloc y dre, &c.
Cerdd y cloc yn bur ddidaro,
Er ei fod o hyd yn taro;
Mae Llandeilo yn ymryson
Pwy sy' i gwnnu'r pwysau'n gyson.
Cloc y dre, &c.
Mae y pwysau o'r uchelder
Lawr yn syrthio i'r iselder,
Ond mae'r dref er maint ei thlodi
Yn ymryson am ei godi.
Cloc y dre, &c.
Er mor drymed ei olwynion,
Troant heb na sŵn na chwynion;
Olew cariad pur sy'n trwytho
Ei gymalau i'w ystwytho.
Cloc y dre, &c.
Dwed rhai ei fod yn rhagluniaethol
Yng nghlochdy'r eglwys wladwriaethol,
I warno dydd ei thrancedigaeth,
A tharo awr ei chladdedigaeth.
Cloc y dre, &c.
Dyma beth yw cloc rhyddfrydig,
Cloc i bawb nid rhyw ychydig,
Cloc â'i oriau fel cenhadon
I bregethwyr a ffeiradon.
Cloc y dre, &c.
Dywed rhai fod ei wynebau
Yn arwyddo rhyw undebau,
Ac mai hwn yng ngwlad fy nhadau
Sy'i daro un yr holl enwadau.
Cloc y dre, &c.
Ei ergydion nerthol tawel
Sydd yn cerdded gyda'r awel,
I ddweyd bydd heddwch fel yr afon
Yn tarddu o fryniau Manorafon.
Cloc y dre! dyma fe,
Cloc y dre! dyma fe,
Ni fedd clochdy trwy holl Gymru
Gloc o'i fath am gadw'i le.[1]
Golwg gartrefol gaed arno lawer tro wedi awr ysgol neu daith cyhoeddiad, yn eistedd yn yr "hen gader" wrth ochr y tân, â'r gâth ar ei lin. Ar dro felly meddai:—
A'i hirfaith gân ddiddarfod,—y tannau
Tynion fyth yn barod;
Ar fy nglin i hi fyn hi fod
Yn chware'i thôn a'i chrwth hynod.
Yr oedd y newydd wedi'i gyrraedd fod ei hen gyfaill Gwydderig wedi cael annwyd, ac nid hir y bu'r awen cyn holi—
Clywais giic fod Dic yn dost,
Yn hen adyn anwydost;
Ai gwir hyn fod hen gawr iach.
Annifyr lipryn afiach?
A dorrodd gwynt y dwyrain
Drwy y corff a'r tewder cain?
Wnai min oer gwynt llym annheg
Dy flino drwy dy floneg?
Y ti yn dost—dyna destyn,
Os yn dost—sy'n synnu dyn.
Y Gwyn, GwYDDERIG annwyl,
Y mis oer aeth maes o hwyl;
Ie, dyn, y fi sy'n dost
Ofnadwy fy anwydost:
Crynaf mewn cur a henaint,
Wyf fel un yng ngafael haint—
Haint annwyd, wedi'm tynnu
Lawr i ister dyfnder du:
'E ballodd y pibelli
Awyr y nef i 'mron i:
Mae pob pib gaeth yn chwiban,
A'r east wind yn y frest wan,—
Chwiban rhyw alargan leddf,
Ac annwyd ymhob cynneddf.
O na welwn haf eilwaith,
Gael estyn tipyn o'm taith;
O na ddelai Mai dwym hin,
A haf a haul Mehefin,
I gael gwared tynged dost
Annedwydd dyn anwydost:
O na chawn nawn mewn rhyw ne',
A barrug heb dorri'r bore;
A'r hwyr heb rew i'w oeri,
A naws haf yn ei nos hi.
Clywyd y bwrlwm unig prudd hefyd pan oedd gwendid yn cau fwy—fwy arno, ac yn ei rwystro i ddilyn y gerdd i'r Eisteddfod. O fethu mynd i Eisteddfod y Rhyl, dyma'i anadl cudd tuag yno:—
Yn Rhyl ar lan yr heli
Orffennaf ni fyddaf fi;
Yn fy atal mae salwch,—eleni,
I ddod i waeddi—" Rhyddid a Heddwch."
Er hynny bydd yr anadl
Yn eich cwmni yn ddi—ddadl,—
Fy anadl i fy hunan
Fyr ei gwynt heb fawr o gân—
Yn eich Gorsedd mewn gweddi
Am oes faith i'n Heniaith ni!
Yn y Rhyl caffer halen,—ar y traeth
Er trwytho eich Rhaglen,
A rhoi hewyd i'r awen
A Gwyl iach i'n Gwalia Wen.
Ac anodd meddwl am gyffyrddiad dwysach, mwy naturiol, na hwnnw a wnaeth ar dderbyniad y newydd am farwolaeth Hwfa Môn, ac efe ei hun yn cyflym waelu:—
HWFA a aeth i'r nefoedd,
A da gennyf glywed oedd.
Ond byddai chware cymysg yn digwydd yn aml—dau neu dri o feirdd yn bwrw darn o ddydd neu noson yn y Gwynfryn, ac yna difyrrwch mawr gyda'r awen! Byddai chware fel hyn weithiau yn gwneud i'r Bardd ei hun anghofio'i ddolur. Aeth Gwydderig i mewn i'r tŷ un tro pan oedd Watcyn yn fyr iawn ei anadl, "gyda chlustog dan ei ben ar y couch, ac wrthi yn tynnu am ei fywyd." "Shwd wyt ti," meddai Gwydderig; ac meddai yntau yn y caethder, gyda'i lygaid yn drymaidd yn y boen:—
Dyma una dim anadl—(ac meddai Gwydderig)—dyma wag
Gyda megin ddistadl;
Rhaid i ni yn ddiddadl, cyn ei wellhâu
Eto o'i boenau, wneuthur tê banadl.
I ddilyn y deuawd difyrrus hwn, dyma chware triawd, ac ar draul creadur diniwed o gi—a chi pregethwr. Y Parch. J. Morlais Jones a fuasai'n weinidog yn Gibea, Brynaman, oedd y pregethwr, gyda llygad cyflym, a natur lawn chware, ac yn dotio ar gymdeithas athrylithgar y "tri llanc," fel y'i gelwid —Gwalch Ebrill, Gwydderig, a Watcyn Wyn. Erddig" oedd enw'r ci, ac wedi dyfod o'r gogledd. Rhaid i chwi wneud pob o englyn iddo, 'nawr," meddai Mr. Jones, ac meddai Gwalch Ebrill:—
Ci synhwyrgall deallol—yw' Erddig,'
O harddwch neilltuol;
Yn byw uwch ffyrdd hen gŵn bach ffôl,
Yn i'w ryfeddu o grefyddol.
Dyna dinc Gwydderig yn dilyn:
Ci cyfan o ran ei ryw,—hen gi coeth
Enwog, call digyfryw;
Gweinidog ar gŵn ydyw,
Y 'parchedig Erddig' yw.
A dyna nodyn Watcyn:—
Hen frawd o'r North,—eithaf ryw,—heibio ddaeth
Mewn côb ddu' ddigyfryw;
Hen weinidog cŵn ydyw,
Y 'parchedig Erddig' yw!
Nid digon oedd i Watcyn wneud englyn, rhaid oedd iddo ef gael ysgrifennu ar ddiwedd yr englyn, "Gyda dymuno hir oes' iddo.—Ei gyfaill, W. Wyn."
Diddorol yw gweled yr un cynganeddion yn eu cynnyg eu hunain i ddau fardd gwahanol; ac ar dystiolaeth Gwydderig ei hun wrthyf yn ddiweddar, yr oeddynt yn gwbl wreiddiol i'r naill a'r llall. Nid "lleidr ac ysbeiliwr" yw bardd a wnelo'r un gynghanedd a bardd arall bob amser.
A dyma bedwarawd awen yn dilyn. Anfonasai Mr. D. R. Lewis (Ap Lewys), arolygydd y Whitfield Sanatorium, L.L.,U.S.A., Tredegar gynt, bâr o lopannau (slippers), o groen gafr i Watcyn Wyn yn rhodd, ac fel y mynnai'r awen, daeth ei phedwar mab at ei gilydd i'r Gwynfryn, a dyna englyn i'r llopannau oddiwrth bob un o honynt:—
I hen draed, slippers iawn drwch—dwy esgid
Ysgafn lawn prydferthwch;
Iach i'w wâl mwy, chwi welwch,
Hwylia y bardd fel y bwch!
WATCYN WYN.
Urdd Indiaid anwar ddwndwr—i fardd,
Rhodd fwyn y physygwr;
Wele i'r Gwyn, o law'r gŵr,
Wisg i'w helpu'n ysgalpiwr.
GWYDDERIG.
Gwynfardd gadd dros eigionfyd—o law AP,
Ddwy slopan esmwythglyd;
Daw iddo'n awr ddedwyddyd
O groen bwch goreu'n y byd.
JOB.
Rhoes hael AP bâr o slippers—croen y buck
I ran bardd y jokers;
A cheir jig gyda'r niggers
Pan ddysg WATCYN WYN ei wers.
GWILI.
Gyda dyfodiad Gwydderig i'r Gwynfryn, un tro, daeth yn ystorm enbyd. Meddai Watcyn mewn nodyn at olygydd "Y Cymro," Tachwedd 15, 1890:—" Y noson ofnadwy—sef nos Iau, y chweched, o fis Tachwedd, 1890, yr oedd Gwydderig gyda mi ar ymweliad; ac yn sŵn yr ystorm a'i chri, buom yn ceisio canu—canu nid emynau, ysywaeth, na salmau chwaith, ond canu englynion—ar yn ail englyn, rhwng sŵn gwynt a thrwst glaw. Gwelaf fod Gwydderig wedi gadael y copi mewn pensil yma, a dyma fe i chwi i gongl o'r Cymro."
Gofynasom i Gwydderig nodi englyn y naill fardd a'r llall, ac meddai, "Cyfansoddwyd englynion noson y dymestl bob yn ail englyn fel yr wyf wedi nodi ar y copi""; a dyna "G." wrth ei englyn ef, a "W.W." wrth eiddo Watcyn:—
Glaw Tachwedd dorra'n heddwch,—ei sŵn crâs
Sy'n creu annedwyddwch;
Heno y traws ddafnau trwch
Ridyllir o dywyllwch.—G.
Onid yw'n erwin dywydd,—ust! dyma
Lais tymestl aflonydd ;
Lluchion oerion y Werydd,
A'u sŵn ar y ffenestr sydd.—w.w.
Tywyll gymylau tewion—sy'n arllwys
Yn oerllyd a chyson;
O'r annwyl, a geir hinon?
Dyma wlad am law yw hon!—G.
Ymdorri wna storm drwy y nen,—Ow! daliodd
Diluw y ddaearen;
Agorodd lwybr trwy'r wybren
I luchio'r môr ar 'y mhen.—w.w.
Pwy gawn yn uniawn ei nod,—rhyw Noa,
O'r newydd, yn barod.
I wneuthur arch i'n gwarchod,
O Dduw, os oes diluw'n dod?—G.
Ion da, yw bwa bywyd,—o liw nos
Ael nef wedi'i gymryd?
Eilwaith, O! gwna ddychwelyd,
Awyr glir cyn boddi'r byd.—w.w.
Caraswn allu croesi—dialedd
Y diluw heb foddi;
A chael bryn i 'nerbyn i—
Ararat neu Eryri!—G.
I waedd oer y Tachwedd hyn,—o dy ras,
Awdur hedd, rho derfyn;
Rho i WYDDERIG ryw bigyn;
Rhyw Ararat i WAT. WYN !—w.w.
Gadawsai Dyfed ei bouch a'i dybaco yn angof yn y Gwynfryn un tro, ac anfonodd ddau englyn i'w ceisio:—
Ti, WAT., a wyddost eto—nad addas
I brydyddion smyglo;
Mae DYFED dros ei gredo—yn gofyn
Be 'r est â'i becyn a'i bwrs dybaco?
Y Nadolig hwn dalo—i dy ben,
A dy bwrs a lanwo;
Ei law wen a gyflwyno—i'r Gwynfryn
Agored becyn o gry' dybaco.
A dyma ateb Watcyn:—
Y cyfaill, wyt ti'n cofio—aeth y bib
Efo'th bouch yn ango
Yn y Gwynfryn,—y dyn—do—wel, DYFED,
Dyma dy boced, a dim dybaco!
Y cetyn ai'r Gwyn ag o—er dy fwyn
Y brawd fardd i'th gofio,
A'th hoff fyglys wnaeth ffaglo,—wel, DYFED,
Dyma dy boced, a dim dybaco.
Os deui at WAT. eto—ti gei dŷ,
Ti gei dân i dwymo;
Tyred; ond paid anturio—dod, DYFED,
Heb dy boced,—dy bib,—a dybaco!
Hyderaf it' ymdaro—heb na phib
Na phouch y nos honno,
A'th fod yn rhodio—fel Arab, DYFED,
A dwy boced yn llawn o dybaco.
Digwyddai fod yn y Gwynfryn ddau ddarlun gwych mewn olew—darlun o "Gastell Carreg Cennen," a darlun o "Pass Aberglaslyn," a dyma'r awen yn dechreu chware o gwmpas y darlun olaf yn neilltuol, a'r diwedd fu englyn gan bedwar o feirdd oedd yn yr ystafell—Gwydderig, Gwili, Watcyn Wyn, ac Aman—bob un ei linell yn nhrefn eu henwau:—
Darlun da ar len dywell,—ac addurn
Gweddus mewn ystafell;
Gwelir urddas y pass pell,
Cystal a llun y castell.
Yr oedd tri o feirdd yn y chware gyda'r flowing tide rhyddfrydol yn etholiad 1892. "Cyfodiad y Laston" yw'r pennawd; a Watcyn, gyda rhyw fardd arall, yn gwneud yr englynion, a "Job" yn dod i mewn yn yr englyn olaf—
I
Clywch ar gynnwr' llanw'r lli,—y dŵr rhydd
I'r hen draeth yn codi ;
Y tonnau heillt yn hollti—
Fel y môr o'n hochor ni.
II.
Dylif ysguba'r dalaeth,—yn orwyllt
Hen arwyr Toriaeth
Welir draw'n wylo ar draeth
Môr heli Ymreolaeth.
III.
Llanw cryf yn llyncu'r afon,—a'i lif
Yn troi'r wlad yn eigion;
Berw gwenyg brigwynion
Yn boddi Tori'n 'mhob ton!
IV.
A dwed hwylustod Y Laston,—deimlad
Amlwg dyfnder eigion,
Sydd yn gallu taflu ton
A'i chwalu i'r uchelion !
V.
GLADSTONE ein gwron a gerid,—fwria
'N hen forwr cynhenid,
I ferw'r llanw a'r llid,
Angor Hedd o long Rhyddid.
VI.
Y lli dyr i'r pellterau,—draw i glust
Pedair gwlad a'u glannau;
Daw GLADSTONE ar y tonnau
Eto'n ben Capten y bau!
VII.
Llif GLADSTONE sydd yn torri—yn eigion
Ffyrni gwyllt ar SALLI!
Efo'r dŵr a llanw'r lli—ar y traeth
Ceir iachawdwriaeth,—ac arch i Dori!
Pan aed i osod cof—golofn ar fedd y diweddar Barch. Fred Evans, D.D. (Ednyfed), Milwaukee, a fuasai farw yn ei hen fro, Llandebie, wedi misoedd o gystudd, gwelwyd fod y bedd yn rhy agos at feddau eraill i roi lle priodol i'r gof-golofn, a chaed caniatad yr Ysgrifennydd Cartrefol i symud y gweddillion. Fel hyn y canodd Watcyn Wyn a Gwydderig i'r amgylchiad—y ddau ar awr hamdden yn y Gwynfryn:—
Er ei roi yng ngoror hedd,—EDNYFED
Nwyfus ballodd orwedd;
I hwn deuai'n y diwedd;
Ha, wele fan ei ail fedd.
Meddai'r Parch. J. T. Job wrthym mewn llythyr, Cofiaf i ni unwaith—efe, Gwydderig, a minnau—fynd allan am dro ar draws y caeau i gasglu mushrooms, ac meddai Gwydderig:—
Os yw'r amser i sirwmsa
Wedi dyfod, rhaid eu difa.
Meddai Watcyn yntau:—
Oni chwnnwch un (dowch ona!)
Awn a bytwn fwyd y bota.
Mae llawer o'r chware yng nghudd, ond difyr i'w hen gyfeillion fydd cael hynna.
TRWY DDELLT.
HAWDD y dywedir ar gyfeillion a galwadau dyn, ei fywyd a'i fyw. Dros bwy, ac ar ran pa beth y daw y llythyr gludydd i fore guro wrth ei ddrws. Pa sawl cymdeithas a sefydliad sy'n cyfrif ar ei gymorth: pa sawl symudiad newydd sy'n cofio'i fod, ac yn cychwyn yn gynnar at ei ddrws? Pa sawl meddwl ieuanc sydd yn chwilio am gyngor, ac yn y diwedd yn dod at y drws lle y mae goleu?
Meddyliais am y llu mawr a ysgrifennai at Watcyn Wyn; a dyna ddellt i weld trwyddynt, ei fyd a'i fywyd. Dyna Feirdd fel Hwfa Môn, Tafolog, Berw, Cadvan, Ceulanydd, Gwydderig, Dyfed, Dewi Môn, Dafydd Morgannwg, Iolo Caernarfon, Eifionydd, Cochfarf, Athan Fardd, "J. T. Job," Gwili, Cranogwen, Ellis Wyn o Wyrfai, ac eraill. Dyna gerddorion fel Dr. Joseph Parry, E. W. B. Nicholson, Rhydychen, Eos Dâr, David Jenkins, William Davies, D. W. Lewis, M. O. Jones, Bryceson Treharne, a'u tebyg. Llenorion, eto, fel Syr John Rhys, O. M. Edwards, M.A., John Morris Jones, M.A., Dr. Gwenogfryn Evans, Elwyn Thomas, Gwyneth Vaughan, Allen Raine, R. Alex. Johnson; Llyfrbryf, a gweddill helaeth. Daw gwýr Eglwysig fel y Deon Howell, o Dy Ddewi; a'r Archddiacon Griffiths, o Gastellnedd; Seneddwyr fel Arglwydd Pontypridd, Tom Ellis, Llewelyn Williams, a Thowyn Jones; gwŷr enwog addysg fel Viriamu Jones (diweddar Brifathro Coleg y Brifysgol, Caerdydd); Syr Henry Jones, Syr John Williams, Proff. D. E. Jones, Caerfyrddin; E. Keri Evans, M.A., a "Beriah"; ac nid oes diwedd heb gael Barnwyr fel Gwilym Williams, o Fiskin, ac H. M. Edwards, o America; a pherchenogion papurau dyddiol, yn gofyn ei farn ar wahanol bynciau.
Erfyn arno weinyddu yn ei le fel Bardd yr Orsedd yn Eisteddfod Pontypridd," a cheisio ganddo "yn ddi siom fod yn Eisteddfod Bangor er mwyn rhoddi help' iddo ef yn ei "lesgedd" y mae Hwfa Môn, a chanu englynion ar ei gystudd.
Daw "Dewi Môn" ar ei ofyn am "Emyn," ac am gân ar yr alaw, "Distyll y Don," a dyry air caredig am "Cân y Bugail," gan y Bardd.
BRECON,
October 28, 1892.
Dear Watkyn Wyn,
Having been appointed literary editor of a new collection of Welsh National Airs to be published shortly by an Edinburgh firm, I am anxious to secure the co-operation of some of our leading Welsh Bards. Will you kindly contribute a song or two? If so, I will send you by and by the metres I require. But I wish to know at once that I may include your name in the prospectus.
With kind regards,
Yours truly,
D. ROWLANDS.
Watkyn Wyn.
BRECON,
April 2, 1894
Dear Watkyn Wyn,
Will you kindly write me a song on the air "Distyll y Don," for Vol. V., which I am now getting up? On the other side I have transcribed the words by CEIRIOG—which are in OWAIN ALAW's collection. The air is minor. I am sure you will be able to do it justice.
Your words, "Cân y Bugail" are very much admired. I trïed my hand on the same air myself—but I must say I like yours very much better. We are busy at the new Congregational Hymn Book now. I am collecting Hymns on Mesur 16—" Yn Eden cofiaf hynny byth," these days. But there are very few worth reproducing on this metre in the other Hymn Books. I should be exceedingly thankful if you would write a hymn on this metre, and send it to me.
I am sending you a large order—but I hope you will forgive me.
With kind regards,
Yours very truly,
D. ROWLANDS.
Son am sefydlu "Cymdeithas o Feirdd a Llenorion " y mae'r Proff. J. Morris Jones; a chanmol ei awen y mae Tafolog.
DINAS MAWDDWY,
Mehefin 12, 1884.
Fy Annwyl Gyfaill,
Heddyw y daeth eich Post Card i'm llaw, onide cawsech atebiad i'ch cais yn gynt.
Gwyddoch nad wyf fi ddim yn oracl ar fanylion deddfau mympwyol ynglyn âg unrhyw bwnc, ond byddaf yn lled-dybied fod gennyf ryw syniad agos i'r marc am egwyddorion cyffredinol. Am y llinell y gofynnwch fy opinion ynghylch ei chyfreithlondeb, nid wyf yn barod i sicrhau pa blaid sydd yn gywir. Buasai TUDNO yn ei chymeradwyo oherwydd ei chywreinrwydd, ond buasai GWILYM COWLYD yn ei chondemnio oherwydd anghydbwysedd seiniol. Gwn fod GWILYм yn fympwyol iawn, ac ar lawer o bethau byddaf yn anghytuno âg ef, ond am gynghanedd ddigynghanedd fel y llinell a nodwch yr wyf yn tueddu i gyd-olygu âg ef, am fod y glust—oracl uchaf y gynghanedd, wedi'r cwbl yn rhwym o'i chondemnio. Mewn cynghanedd groes o gyswllt, fel yn ddiau yr honnir gan rai fod y llinell hon, yr ydych yn cael eich siomi yn y cyferbyniadau rhwng y dechreu a'r diwedd yn lle bod y llinell yn haneru yn naturiol, yr ydych yn cael rhyw bum sill yn gwneuthur eu hunain yn rhyw slaviaid i ddeusill nad yw y dinc a roddant yn werth rhedeg ar eu hol. Ond digon ar hynna.
Yr wyf yn deall mai chwi oedd y goreu yn yr ymgais am Gadair Caerdydd. Ysgrifennais i hynny o feirniadaeth a wnaethum heb feddwl dim am danoch; ond ar ol ei gyrru ymaith, daeth i'm meddwl y gallai mai chwi oedd yr awdur. Drwg iawn gennyf oedd nad oedd yn rhoddi digon o foddlonrwydd i mi allu cymeradwyo rhoddi y Gadair i chwi yn galonnog, er nad oedd amheuaeth gennyf na chadeiriwyd ei gwaelach, lawer gwaith. Ysgrifennais felly at Dyfed, ond os byddai ef a Cynfaen yn tybied mai gwell oedd ei dyfarnu yn deilwng, na ddywedwn air yn erbyn, ond deallais fod Cynfaen yn teimlo yr un fath, tra yr oedd Dyfed braidd yn drymach yn ei gondemniad ar y cwbl, ac felly trodd y dyfarniad yn anffafriol, er eich bod yn amlwg ar y blaen. Er fod eich Awdl ar y cyfan yn lled dda, y mae ymhell o fod yn deilwng o honoch pan ar eich uchelfannau. Nid oes un bardd byw bedyddiol o'ch blaen yn fy marn fechan i "yr amser yr ymgodo hi (yr awen) yn uchel—hi ddiystyra y march a'i farchog." Da iawn gennyf gael ar ddeall eich bod yn fyw. Cawsom hwyl anghyffredin gyda'ch englyn doniol i R Penywern.
Cofion fyrdd at Mrs. "Wyn" a chwithau,
Eich cyfaill byth,
TAFOLOG.
Am y lleill o'r beirdd, a Thafolog yntau hefyd, ysgrifennant ato fel eu cydfeirniad ar destyn y gadair neu'r goron, a thestynau eraill gwaith o hyd!
Pan ddeuwn at y cerddor, mynych ofyn ynglyn â geiriau "Libretto" ar y "Ferch o'r Scer" y mae Dr. Joseph Parry; ac ysgrifennodd y Bardd gryn lawer. Y mae'r pentwr llythyrau meithion oddiwrth Dr. Joseph Parry yn dangos y gofynnid byd o waith; creu, cynnal, a chymhennu'n ddiderfyn. Gyda'r ddwy chwareugerdd, "Y Ferch o Gefn Ydfa," a'r "Ferch o'r Scer" yn llanw'i feddwl a'i ddychymyg, nid oedd ball ar ysgrifennu a gofyn y Doctor, ac anodd dywedyd pa fodd y gallodd y Bardd ymgadw mewn amynedd a dyfalbarhâd. Eithr, er fod y gorchwyl o gyfarfod â gofyn y cerddor gwych yn anhygoel ymron, cyflawnodd ef yn feistrolgar. Heb i ni ymdroi gyda hyn, dyna lythyr y Doctor yn son am dôn i'r Orsedd:—
2, NEWPORT ROAD,
CARDIFF,
April 24, 1891.
Dear Mr. Wyn,
Thanks for your "Gorsedd Ode." I like the lines very much; my only fears are, the practicability of having any choral or Part Music sung at "Yr Orsedd," owing to the difficulty of getting the singers together (i) in an out of the way place; (ii) so early in the day; (iii) open air, rain, wind, sun, etc., etc. These will be some of the obstacles in the way. What think you? What I meant was for Cadeirio'r Bardd in the Eisteddfod. There the singers would be present, and an Alaw a Chytgan Gadeiriol would tell well, and it is much needed to add still more dignity to the ceremony. To sing "The Lost Chord," and what not, has ever been the heights of absurdity in my sight. If you kindly write me for this I think you would do a good thing, and I shall set it to music, but before you start let me hear, and I shall tender a form for the same for your consideration.
Cofion serchocaf,
Yr eiddoch,
JOSEPH.
Ysgrifenna Mr. E. W. B. Nicholson, Llyfrgellydd y Bodleian, Rhydychen, ato i ddiolch am gyfieithiad, ac i ddywedyd, "I think myself fortunate in getting such a translator to introduce me to the Welsh people."
OXFORD,
10th November, 1897.
My Dear Sir,
I am very much obliged to you, and think myself fortunate in getting such a translator to introduce me to the Welsh people. Some day I shall try a new Welsh national air: the idea of the words which I have in my mind would, I know, delight all Welsh patriots—but the air must be worthy of them. I heard Land of my fathers' the other day for the first time, and found that it was apparently compounded of "Bonnie Dundee, "Rosin the Beau," and "Jesus of Nazareth passeth by!" As to "God bless the Prince of Wales," it is not only not Welsh in character, but its cadence is borrowed (apparently) from "My pretty Jane!"
Yours sincerely,
E. W. B. NICHOLSON.
MAERDY,
PONTYPRIDD,
Mai 1, 1898.
Annwyl Watcyn Wyn,
Unwaith eto danfonaf am Benillion Telyn. Danfonodd Mr. Jenkins, Aberystwyth, ataf, yn hysbysu fod Mr. Tom Ellis, A.S., yn priodi, dydd Iau, Mai 26, a'i fod wedi deisyf am gael canu penillion gyda'r delyn yn y Luncheon ag sydd i ganlyn y ddefod. Dywedai Mr. Jenkins ei fod ef yn ysgrifennu at W. Wyn, er cael penillion pwrpasol i'r amgylchiad. Rhyngddo ef a minnau, gobeithio y caf lond côl o honynt. Penillion Pen Rhaw, a Phen Pâl; y ddau fesur. Mi a obeithiaf fod iechyd ar ei oreu yn y Gwynfryn.
Diolch am benillion i'r Iwerddon. Byddaf yn cychwyn bore fory, a chyrhaeddaf yno am 8.30 bore Mawrth (yn Belfast). Mawr mor dda gennyf fyddai cael cwmni y Cender, a'i serchog ymddiddanion.
Cofion annwyl,
EOS DAR.
Son am eiriau at donau y bydd Mr. M. O. Jones, a threfnu ynghylch yr Hanes—gerdd ar "Y Saboth yng Nghymru "pryddest gan Watcyn Wyn.
Pan ddaw ei hen gyfaill Mr. D. W. Lewis, yntau ymlaen at y porth, yr un gofyn a geir ganddo yntau—gofyn am bennill ac emyn.
Y mae Mr. William Davies am eiriau cân "Sêr y Goron," ac y mae Mr. Bryceson Treharne yn ceisio "lyrics" i'w rhoi ar gân.
Daw'r Llenor a'r Hynafiaethydd yntau, â'i gwestiwn! Holi a yw "Mynydd Aman' yn enw arferedig yna, a pha le y saif y mynydd yn gymwys.' Ac wedyn, "A oes yna rywbeth a ellid ystyried yn Llwch (neu Lyn) Tawe yn agos darddiad y nant a elwir "Egel?" Daw'r "Twrch Trwyth" yntau, dros y llwybr! Yna, holi am dafodieithoedd.
RHYDYCHEN,
Mawrth 18, 1895.
Annwyl Syr,
Dim ond gair i ddiolch yn fawr i chwi am eich llythyr, ac i ofyn cwestiwn neu ddau eto. Yr ydych yn son am odreu Mynydd Aman,' a ydyw Mynydd Aman yn enw arferedig yna, a pha le y saif y mynydd yn gymwys? nesaf, a oes yna rywbeth a ellid ystyried yn Llwch (neu Lyn) Tawe yn agos. i darddiad y nant a elwir Egel?
Carwn yn fawr ymweled â'ch ardal chwi, ond nis gwn yn iawn am un tebyg i mi ddyfod y ffordd yna yn fuan.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
J. Rhys.
Oxon,
December 18, 1895.
Dear Mr. Williams,
I venture to trouble you with some more questions, but this time not about swine, but about dialects. In your dialect, and in mine, both long a and short are pronounced broad; but in Montgomeryshire they are both narrow, as in tān, cār and llăn, căm. In most of Gwent and Morgannwg the long one is narrow, and the short one broad, as you have doubtless noticed. What I want to know is, what is the Brecknock pronunciation, whether it is like yours, or Glamorgan or Montgomeryshire? Also where would you draw the line between you and Morgannwg in this respect? When do they begin to say tād, tān, kiān for tad, tan and cân? Is it the Nedd or the Tawe or what is the boundary?—the western portion has not always belonged to Glamorganshire I believe.
Wishing you and Mrs. Williams a Merry Christmas and a Happy New Year,
I remain,
Yours very truly,
J. RHYS.
Croesawu ei "Ystorïau Cymru" i'r "Cymru" mae O. M. Edwards, a diolch am "Yr Yswain Mawr." Mae "Allen Raine" yn cydfeirniadu âg ef mewn rhyw Eisteddfod, ac yn son am y Cyfansoddiadau. Eisiau gwybod am am "Gwilym Hiraethog "—" the distinguished Dr." sydd ar Mr. Johnson, i baratoi ysgrif arno i'r "Dictionary of National Biography."
Rev. W. H. Williams.
GREEN LANES,
LONDON,
November 6, 1894.
Dear Sir,
I have been requested by the Editor of the Dictionary of National Biography' to prepare an article by the end of this present month on the late Rev. Dr. William Rees, of Liverpool, which I have consented to do. Unfortunately, however, I am confronted by a very great difficulty, inasmuch as I find upon research at the British Museum Library that nearly all his works are printed in Welsh—which is to me an unknown tongue. I am compelled, in consequence, to look to others for the supply of the needful information; and in this respect I have been greatly favoured. I am desirous, however, of ascertaining Dr. Rees' Characteristics as a Poet, and to obtain trustworthy comments upon his leading poems.
I shall esteem it a very great kindness on your part if you will do so—as it will serve to enrich the article, and I am anxious to draw up as fair, full, and faithful an account of the distinguished Dr. as I can.
Apologising for troubling you,
I remain, dear Sir,
Yours faithfully,
R. ALEX. JOHNSON.
Pwnc y Brifysgol i Gymru sydd gan Syr Henry Jones—sŵn gwaith, a byd mawr o hyd! A chyda dywedyd hynny, dyma siarad cynnes â hen gyfaill.
GLASGOW,
Awst 31, 1895.
Fy Annwyl Gyfaill,
Yr oedd yn dda gennyf weled eich llaw, neu ei hôl, o dan blasdy bach mor ddel. Byddaf yn gweled eich enw weithiau, ac yn clywed ambell adsain o englynion Gwydderig; y mae Gwalch druan, mi glywais, wedi tewi yma. Ond os oes canu'r ochr draw, ar dant neu delyn, neu mewn odlau, y mae ef, mi waranta, yn lleisio'n well nag erioed. Yr oedd enaid angel mawr yn y Gwalch; ac y mae yr atgof am dano ef yn felys i gyd. Dyn iawn oedd o. Cofiwch fi o waelod calon at Gwydderig, os gwelwch chwi o yn rhywle. Pe deuech chwi ac yntau i'r wlad bell hon rywbryd, caech groeso dau frenin.
Yr eiddoch yn serchog,
HENRY JONES.
Clywed y mae'r Archddiacon Howell fod y Bardd ar ei daith i Dŷ Ddewi (i ddarlithio yn ddiau), ac yn gofidio na all fod adref i gynnyg iddo "roesaw calon" yn ei dŷ!
ST. DAVID'S, R.S.O., SOUTH WALES,
19th November, 1900.
Annwyl Gyfaill,
Y mae yn annhraethol ddrwg gennyf na byddaf gartref i'ch croesawu i Dŷ Ddewi nos Iau. Yr wyf dan ymrwymiad i bregethu yn Rhaeadr y noson honno, onide buaswn yn eich gwahodd i gymryd gwely, a thŷ, a thân, "bara a chaws, bîr a chig," gyda chroesaw calon yn y Deondy. Gyda chofion serchus,
Yr eiddoch yn ffyddlonaf,
D. HOWELL
Os nad yw'r Twysog yn yr Wyl,
Mae'r genedl annwyl yno.
Yr un yw neges llythyr Dr. Gwenogfryn Evans, ac meddai:
Mae gweld hen wyneb yn nechreu'r llyfr, a chlywed acen a thôn llais adnabyddus fyny a gwared drwyddo, a'r ffaith nad y'ch wedi anghofio un sy'n ymgrymu dan ddyfal donc afiechyd yn peri cynhesrwydd yn y galon ag adloniad yn yr ysbrydôdd. Er gwaetha pen frithin a blinder y blynyddoedd mae'r ysbryd yn dda ar y cyfan ag yn gwawdio'r gymhalwst i hunan!
Da gen i gael ar ddeall eich bod yn iach a chysurus, a gweld fod yr Awen yn "llamu'n iach o fryn i fryn." Oes dim chwant cwarter o ysgol arnoch chi yn y gaeaf mewn lle fel Rhydychen? Mae ma ddigon o ddewis i chi. Dewch lan i roi peep ar y lle, a galwch yn No. 7, Clarendon Villas i gael gweld sut dderbyniad gewch chi!
Gyda chofion cynnes, a diolch lawer am y Delyn, a rhwydd-deb iwch,
Ydwyf, yr eiddoch
GWENOGFRYN.
Canmol gwaith "Ysgol y Gwynfryn" y mae Viriamu Jones; a gofyn am linell i'w cherfio ar rodd werthfawr i deulu urddasol a wna'r Barnwr Gwilym Williams.
Dangos fod Watcyn yn ymholi am fanylion ynglyn â Thegynys a Gwalch Ebrill y mae llythyr Gwydderig ato. Dyna ran o'r hyn a ddaw i'r golwg trwy'r "dellt," ac onid oes yma wneuthur a meddwl, a llanw cylch mawr! Difyr yw llythyr Gwydderig:—
BRYNAMAN,
Nawn Sadwrn.
Annwyl Gyfaill,
Daeth dy epistol i law bore ddoe. Diolch am y gwahoddiad i ddyfod am dro i'r Gwynfryn. Na, nid wyf wedi hanner gwella eto. Yr wyf yn cael annwyd yn barhaus. Yr wyf hefyd yn methu yn lân a chael gwared y crygni sydd yn fy ngwddf ers tua chwech wythnos.
Siarad bass ar hyd y byd—yr ydwyf
Yn greadur cryglyd;
Yn fy nghegen bob ennyd,
Mae rhyw lais marwol o hyd.
Bu'm gyda Dafydd Benygraig a Jacob neithiwr, a chefais yr hyn a ganlyn: Ganwyd Tegynys ar yr 8fed o Ionawr, 1847. Bu farw ar y 15fed o Hydref, 1894. Claddwyd ef yn 'Forty-Forte,' yn ymyl Kingston, P.A. Ganwyd y Gwalch ar y 4ydd o Fawrth, 1846. Bu farw ar yr 8fed o Fawrth, 1894. Claddwyd ef yn Summit Hill,' Carbon County, P.A."
Na, nid oes gennyf englyn jubilee. Nid wyf yn gweled dim neilltuol yn y testyn, ond hen wraig wedi cael oes hir i fwynhau byd da a helaethwych beunydd. Dim un newydd o bwys o'r lle hwn. 'Yr Hên Waith Tin,' y buost yn canu mor ymfflamychol iddo, flynyddau yn ol, heddyw yn gorwedd yn dawel o dan ei grwys. Dere i'r lan i draddodi pregeth angladdol iddo. Neu dere a chwmni i'r lan i ddywedyd cyfod a rhodia' wrtho. Os na thyrr y wawr yn fuan o ryw gyfeiriad, bydd y lle hwn wedi marw yn hollol mewn ystyr weithfaol. Nid oes ond un dyn yn unig yn y lle hwn mewn employ gan yr 'Aman Iron Company,' sef William Howells y Down.' Efe sydd yn cadw gwyliadwriaeth rhag ofn i wŷr Llanddeusant ddwyn y gwaith Tin, a mynd ag e drwa.
Cofion cynnes at y Gwynfryniaid, o'r boss i lawr hyd at Pegi Lewis.
GWYDDERIG.
Hawdd y gwelir wrth y llu llythyrau a dderbyniodd ar adegau o gystudd yn 1891, 1898, 1902, 1903, 1904, mor annwyl ydoedd gan ei genedl. Meddai Athan Fardd wrtho:—
Ebrill 21, 1891.
Fy Annwyl Watcyn Wyn,
Blin iawn iawn gennyf glywed am dy afiechyd; gwelais a chlywais arwyddion o'r cyfryw pan gwrddasom ddiweddaf, er na ddywedwyd dim. Hyderaf fod i fy annwyl gyfaill adferiad buan a llwyr, Amen; gyda phob difrifoldeb.
WATCYN WYN, mae'th beraidd delyn
Heddyw'n hongian ar y mur;
Anodd canu sanctaidd emyn
Pan mae'th gorff ar lawr dan gur;
Mae fy enaid yn gweddïo,—
Er nad yw ond gweddi fach,
Gan obeithio clywed eto
Ddyfod WATCYN WYN yn iach.
—Gyda pharch a chofion puraf fy enaid,
ATHAN FARDD.
A thrachefn, yn Ebrill 24, 1891:—
Os yw'th gorff mewn cyflwr poenus,
Fel y nodi yn dy gân,
Mae dy awen fawr yn hoenus,
Ac yn llawn prydyddol dân;
Ni wrandawa'th uchel awen
Ar awelon oer y glyn;
Dedwydd, nwyfus, sionc a llawen
Ydyw Awen WATCYN WYN.
Diddorol yw llythyr Hwfa Môn ato, yn y cysgodion:—
LLANGOLLEN,
Medi 15, 1898.
Fy Annwyl Watcyn Wyn,
Hwyrach y synnwch pan ddarllenwch y llythyryn hwn, a phan fynegaf i chwi fy hanes.
Pan glywais am eich gwaeledd, a phan oeddwn ynghanol twrw a berw y beirdd, yn Eisteddfod ddiweddaf Ffestiniog, ysgrifennais yr englynion sydd ar y ddalen arall, ar ryw scrap o bapur, a rhoddais hwy o'm llaw ynghanol rhyw ffwdan, a phan aethum i chwilio am danynt drachefn, methais yn lan a chael gafael ar yr ysbrydion.
Ond fodd bynnag, bore heddyw, ail ymrithiasant i'm golwg, ac ni bu yn well gennyf weled ysbrydion erioed.
Nid oes ynddynt unrhyw gywreinrwydd, ond y mae ynddynt arllwysiad o'm teimlad ar y pryd. Wele yr Englynion fel y daethant o'm calon ar foment:—
A yw WATCYN WYN awenawl—yn glaf
Dan glefyd arswydawl?
A d'w'llodd, a giliodd gwawl
Llygaid y Bardd allegawl?
Ydyw'r hanes ddywedir ini—yn wir
Am ein WAT. uchelfri?
D'wedwch, os medrwch, i mi,
Ydyw'r angel ar drengi?
O'i wendid, eto i hoender—y daw
Ar ol ei dost bryder,—
Yna y Bardd awen bêr,
Ymlonna mal y Wener.
Brysied i lonni ei breswyl,—nwydus,
Neidied at ei orchwyl,—
Doed ail fywyd, hyfryd hwyl,
I awenydd WAT. annwyl.
O'i waeledd, doed Bardd y delyn—eilwaith
I eiliaw aml Englyn,—
Boed llwydd am lawer blwyddyn,
Yn cynneu haul WATCYN WYN.
Os gwag o farddoniaeth yw'r englynion, y maent yn llawn o'm cydymdeimlad â chwi yn eich gwaeledd. Da gennyf eich bod yn gwella. Fy nghofion annwyl atoch oll fel teulu.
Byth yn bur,
HWFA MON.
A thrachefn yn 1903:—
Medi 2, 1903.
Fy Annwyl, Annwyl Watcyn Wyn,
Dywed fy nghydwybod wrthyf y dylaswn ysgrifennu atoch cyn hyn, a dywed hefyd mai gwell hwyr na hwyrach.
Wel, yr oedd yn ddrwg gan fy nghalon glywed i chwi orfod myned adref o Lanelli cyn diwedd yr ŵyl, a hynny oherwydd eich gwaeledd. Gobeithir eich bod wedi gwellhau yn llwyr erbyn hyn. Teimlo yn dra anhwylus yr oeddwn innau yn Llanelli. Ond wedi i'r holl drybestod fyned heibio, sibrydodd yr awen yn fy nghlust rywbeth tebyg i hyn —
DUWIOL o dwrf pob dolef,—ga heddwch
Yn dragwyddol gartref;
Câ raslawn gainc ar oslef
Telynau aur teulu NEF.
Ar ei thaith i fynyddoedd Morgannwg clywsai Cranogwen am ei gystudd, a dyna lythyr mwyn ato:—
CWM GARW,
Dydd Llun y 14.
At Watcyn Wyn,
Annwyl Frawd,
Drwg iawn iawn oedd gennyf glywed ryw dridiau yn ol eich bod yn teimlo gwaelder yn ddiweddar yma; a hynny yn fwy yr wythnos ddiweddaf i gyd-pa mor bwysleisiol y dylid darllen nis gwn, yn y niwl, am y wir sefyllfa yr ydych ynddi, gan hynny nid allaf ond gobeithio fel uchod, ' fod gwawr ar ol y plygain hwn eto i fod, a chwithau i gael eich dwyn i oleuni a dydd. Tra dan anfantais ac mewn gwendid, pa fodd bynnag, y Tad o'r nef a'ch cynhalio ac a'ch diddano, ac a wnelo bob trugaredd anhepgorol â chwi, ac â'r rhai o'ch cylch. Cyflawner i chwi, hyd yn oed yn y presennol, y dystiolaeth lawn hyder a hyfrydwch, Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn, &c.' Amlhei fy mawredd, ac a'm cysuri oddiamgylch, &c.' 'Minnau a'th foliannaf, &c.' Ie, boed fel yna i chwi. Paham lai nad all fod, os nad yn y llythyren, paham nad all fod yn yr ysbryd? ac fe fyddai hynny yn filwaith mwy a gwell,
Melysach tŷ ein Tad
Ar ol y storom gref.
Gobeithio eich bod i gael ailsefydlu eich iechyd, annwyl frawd, neu ynte fwy na hynny o lawer.
Yr eiddoch, yn cydymdeimlo yn bur gryf,
CRANOGWEN.
Mor naturiol a chyfoethog yw'r cyffyrddiad yn llythyr ei hen gyfaill, Mr. Thomas Thomas, Ty'nywern, ger Pontypridd.. O Fryn Gafel, Trecynnon, Aberdâr, yr ysgrifenna, Hydref 24, 1904" Y mae cymaint o amser er pan welais chwi ddiweddaf, fel yr wyf yn teimlo hiraeth ar fy nghalon am eich gweled, neu gael gair oddiwrthych. Clywais eich bod yng nghyfarfodydd , yr oeddwn felly, yn meddwl eich bod yn well.
Yn fuan, dyna air yn dilyn hyn i'r Gwynfryn
TRECYNNON, ABERDARE,
19th November, 1904.
My Dear Mrs. Williams,
I am very much grieved to hear of dear Mr. Williams's illness, but was greatly relieved to find he is slightly better. I hope and pray that the Lord of His mercy will allow us to keep him for several years yet. Wales would not be Wales without' Watcyn Wyn.' He is filling a sphere which no one else can but himself.
I wish I could run down to see him.
We are in a state of excitement in Aberdare, God having visited His people, and it is wonderful in our sight. Mr. Evan Roberts from Gorseinion commenced it; he and his brother are the central figures of the movement. I hope and pray that the salvation of thousands will be the result! The influence on young people from 18 to 25 is wonderful.
I do hope my dear friend will soon be restored to better health. I am glad to say that my health is still keeping up, the only thing that annoys me is rheumatism in my limbs, which disables me to walk sometimes.
I saw Tawelfryn last Thursday; he wished to be kindly remembered to both Mr. Williams and yourself, and expressed his delight in the news that dear Mr. Williams is better.
Give our united regards to him and your beloved children. me, dear Mrs. Williams, with deep concern and sympathy.
I am, dear Mrs. Williams,
Yours very sincerely,
THOMAS THOMAS (Ty'nywern).
Cyn diwedd y flwyddyn yr oedd yn ysgrifennu drachefn:—
TRECYNON, ABERDAR,
Rhagfyr 8, 1904.
Fy Annwyl Watcyn Wyn,
Nis gallaf ddywedyd pa mor dda gennyf oedd cael clywed, trwy 'Grawys', eich bod yn teimlo yn well, er nad cystal ag y dymunir i chwi fod—ond yr ydych dan fendith y nef ar y ffordd i wella. Mae miloedd o weddïau wedi eu hanfon i fyny ar eich rhan. Hwy gânt eu gwrando hefyd!
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.
Gwnewch faddeu i mi am beidio dod i lawr i'ch gweled nes i'r hin ddod yn gynhesach ychydig. . . . .Hyderaf y byddwch wedi cael llwyr adferiad erbyn y Gwanwyn. Yr wyf yn gobeithio fod Mrs. a Miss Williams mewn iechyd da. Cofiwch fi atynt yn gynnes. Derbyniwch fy nghofion mwyaf annwyl eich hun, a chredwch fy mod, annwyl Mr. Williams,
Byth yr eiddoch yn ffyddlon,
THOMAS THOMAS.
Y Parch. W. Wyn.
Erbyn Mawrth 14, 1905, yr oedd Mr. Thomas "wedi clywed" fod iechyd y Bardd yn llawer gwell, "yr hyn," meddai, a barodd lawenydd mawr i ni i gyd." Ac meddai eilwaith, "Pe buaswn yn byw yn Nhy'nywern, fel cynt, buaswn wedi gofyn i chwi i ddod i aros atom i newid awyr, ac i dreulio pythefnos gyda ni yno. Diolch i chwi am y penillion, byddant i'm plant ar ol i mi fynd i ffordd yr holl ddaear."
Ac meddai Dr. D. R. Lewis, Whitestone, L.I., New York City, wrth anfon iddo "slips" o flodeuyn a elwid "Lawsom Carnation"—"very famous in this country, and decidedly unique in this respect, that six thousand pounds are said to have been paid for the first lot.". . .
Please ask Mrs. Wyn to transplant them into the garden or flower pot as soon as possible, and begin to pinch them back in about six weeks. They are to be brought into the house about October 1 to 15. I hope she will have good success with them. I shall be glad to hear how they progress. If they get on, perhaps our friend at Maesycwarre would like a couple. If I see Cynonfardd at Scranton I will 'holi' him about you.
Now lastly, but not least, that miserable affliction of yours. America is such an immense place, the soil, climate, and every other condition varies to such an extent that some parts of it should be good for almost every 'clefyd.' If you will come over I will be only too happy to do all in my power to help solve the problem. Amanford being so near the sea coast, with all that it implies, is, I should think, a very poor place for an asthmatic. A high, dry, even climate would suit you better. Central Pennsylvania ought to furnish about all the favourable conditions for treating such diseases. I assure you I will be very glad to be of any service to you at any time.
Pan ddaliwyd ef gan gystudd yn 1902, anfonodd ei hen gyfaill, Gwydderig, lythyr ato:—
Mawrth 18, 1902.
Annwyl Gyfaill Watcyn,
Ai gwir fod dy hen elyn wedi talu ymweliad arall â thi? Yr wyf wedi clywed hynny. Os yw yn wirionedd, yr wyf yn y cywair priodol i gydymdeimlo â thi. Yr wyf ers diwrnodau ar y sick list, ac yn cael gwaith caled i anadlu tipyn. Cefais annwyd ddydd angladd Watcyn o'r Pia. Bu'm mor ffoled a cheisio dilyn bechgyn hirgoes, hiranadlog, i fyny dros dwyn y Rhosfa, nes oeddwn yn chwys dyferol. Wedi hynny, aros am dros hanner awr y tu allan i'r tŷ. Yr oeddwn yn teimlo yr annwyd yn plannu ei ewinedd yn fy nghorpws. A ydynt wedi sylweddoli fod angladdau Cymru, er mor dra chysegredig ydynt, wedi bod yn angeu i filoedd. Y mae yn ffaith ddiymwad.
Yr wyf yn teimlo ryw ychydig bach yn well heddyw, ond hyd yn oed heddyw
Hyd y parth cyfarth fel ci—yr ydwyf,
A rhedeg i boeri;
Gwelw fardd tra gwael wyf fi,
Heb anadl yn ymboeni.
Neu fe ddichon mai mwy priodol fyddai dyfynnu Ioan Maethlu, a dywedyd fy mod
Yn cyfarch tragwyddoldeb pell
A phob pesychiad.
Gobeithio y cawn dipyn o adnewyddiad nerth gyda'r gwanwyn yma. Yr wyf wedi clywed fod ein hen gyfaill 'Siob' ar ymweliad âg Amanford. Caraswn yn fawr iawn gael golwg arno. Nid wyf yn mwynhau chat yn well gyda neb na chyda Siob. Os nad yw wedi dychwelyd, cofia fi yn garedig ato, a dywed wrtho y buaswn wedi dyfod i edrych am dano pe buaswn yn weddol o iach. Gobeithio y cawn gwrdd eto tua'r haf, naill ai yn Amanford, Ceinewydd, neu rywle arall.
Dim rhagor o bwys. Cofion cynnes at bawb o honoch.
GWYDDERIG.
Yr oedd y cysgodion ar y Bardd drachefn yn 1904, a dyna air oddiwrth "O.M." ato:—
LLANUWCHLLYN,
BALA,
NORTH WALES,
Rhagfyr 31, 1904.
Annwyl Watcyn Wyn,
Yr wyf yn gobeithio'n ddwys eich bod wedi cefnu ar fan gwaethaf eich afiechyd, ac y daw nerth a hoen i chwi eto gyda'r flwyddyn newydd.
Gyda'r dymuniadau goreu i chwi a'ch priod.
Yn gywir,
OWEN EDWARDS.
Melys yw gweled y llythyr diolch yn y pentwr; a dyna lythyr byr Tom Ellis:—
LONDON, S.W.,
Mai 14, 1898.
Annwyl Watcyn Wyn,
Diolch calon am eich Odlig ac am eich dymuniadau da ar ein rhan.
Yr eiddoch yn llawn o gofion caredig,
THOMAS E. ELLIS.
Yn dilyn, dyma lythyr y Barnwr Gwilym Williams:—
Gwyl Dewi, 1901.
Dear Watcyn Wyn,
I don't know how sufficiently to thank you for so readily responding to my request for Couplets for my nephew's Cawgiau. I found it very difficult to choose where all were so good, but I think I ultimately made a good selection, and when I see them next inscribed on the bowls, I will take the liberty of drinking your very good health out of the contents.
Mil ddiolch.
Yr eiddoch yn gywir,
GWILYM WILLIAMS.
Dyna lythyr y Prifathro Syr John Rhys yn dod, gyda'i ddiolch clau yntau:—
RHYDYCHEN,
Chwefror 12, 1896.
Annwyl Syr Watcyn,
Diolch yn fawr i chwi am y llyfr diddan o Gân a Thelyn' ydych wedi bod mor fwyn a'i gyflwyno i mi. Heddyw y cefais eich cyfrol, gan ddarfod i'r llanc ebargofi'r cyfan hyd yn hyn. Felly nid wyf wedi cael hamdden eto i'w ddarllen yn llwyr. I ddangos fy niolchgarwch i chwi, dyma finnau yn gyrru i chwi rai copïau o'r truth ar y Twrch Trwyth. Y mae llawer o bynciau digon dyrrus o hyd yn hanes y mochyn hwnnw. Ond hwyrach y cawn oleuni newydd ar rai o honynt. Ac os daw rhyw ddarganfyddiad i chwi yn y mater, bydd yn dda gennyf glywed pan gaffoch hamdden. Diolch i chwi hefyd am air ar y tafodieithoedd. Pan gaf dipyn o hamdden, casglaf a gefais o hysbysrwydd at ei gilydd, i'w gyhoeddi, hwyrach yn rhywle. Ond eisiau map sydd arnaf yn awr i ddangos y ffiniau.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
J. RHYS.
PORTMAN SQUARE,
June 5, 1904.
Dear Sir,
I have just received the original verses you were so kind as to compose in my honour on the occasion of the opening ceremony of the Amanford Institute, and I write to express to you my great appreciation of them, and also to thank you for the kind expressions of welcome contained in them, and I shall always keep them with the greatest pleasure.
Yours faithfully,
WALTER F. RICE.
The Rev. Watcyn Wyn.
Daw Gwydderig yntau â'i ddiolch, a rhaid iddo ef wrth ei englyn i ddiolch, fel pe'n teimlo'i hun yn fwy rhydd yn y mesur caeth nag mewn dim arall. Ar gefn y llythyr dyna gân y "Parish Council." Gwyddai ymha fyd yr oedd Watcyn yn byw.
Tachwedd 21, 1894.
Annwyl Mrs. Wyn,
Yr oeddwn wedi bwriadu ysgrifennu atoch yn gynnar yr wythnos ddiweddaf, ond daeth amgylchiadau i fy rhwystro. Dichon eich bod yn ameu fy mod yn ddarostyngedig i amgylchiadau, ond y mae yn wir, er hynny. Oddiwrth y nodyn a dderbyniais gyda'r "anrheg," yr wythnos ddiweddaf, yr wyf yn deall mai chwi sydd wedi fy anrhegu o honi, gan hynny, i chwi y mae yn briodol i mi ddiolch am dani. Felly, byddwch gystal a derbyn fy niolchgarwch mwyaf didwyll am y fath rodd ardderchog. Yr oeddwn wedi hoffi y darlun hwn pan welais ef gyntaf, ond nid oedd gennyf ddigon o cheek i ofyn am dano. Y mae yn ddarlun ardderchog iawn. Rhywbeth fel hyn ddaeth i'm meddwl wrth edrych arno: —
Cu ardeb ar y cerdyn—a welaf
O deulu y Gwynfryn;
Nid distadl iawn o destyn
Ydyw rhodd" o'r pedwar hyn.
Wedi hir ddannod rhôdd uniawn—yw hon,
Anrheg hardd a chyflawn,
Rhodd a berchir yn diriawn,
Yn wir, yr wy'n falch iawn, iawn.
Wrth riniog porth yr annedd—wele WAT,
A'i wraig lon yn eistedd
Ger y ddôr, yno'r unwedd
Mae'r ddau gyw mor dda eu gwedd.
Diolchaf, canaf â'm cêg,—hudolus
A gwir deilwng anrheg
Yw darlun da ar len deg,
Ni chwynaf ddim yn chwaneg.
Nid oes dim i'w glywed yn y lle hwn y dyddiau hyn ond 'Parish Council.' Y mae wyneb y ddaear i fod yn debyg i wyneb y nef ar ol i'r 'Parish Council' ddyfod i awdurdod.
Torrodd gwawr y Mil Blynyddoedd,
Haul Cyfiawnder gwyd i'r lan,
Ei oleuni a'i fendithion
Sy'n gwasgaru i bob man;
Parish Council, &c.,
Hon yw'r fendith gawsom ni.
Bendith fawr yr holl fendithion,
Rhaid cyfaddef ydyw hon;
Ni fydd angen bendith arall
Ar drigolion Gwalia lon:
Digon ydyw, &c.,
Iachawdwriaeth Cymru yw.
Ni fydd mwyach neb yn beio
Troion amgylchiadau'r byd;
Caiff y troion a'r plygiadau,
Eu cymhwyso oll i gyd:
Ffordd uniondeb, &c.,
Dyma'r ffordd a gerddwn mwy.
Derfydd sôn am drais a gormes,
Byddant feirw maes o law,
Parish Council ddaw i'w claddu
Gyda'i bâl, a'i gaib a'i raw,
Canwn ninnau, &c.,
Ta—ra—ra a Boom—de—ay.
Ffarwel byth i Bass ac Allsops,
Ac i "gasgen fach" Llwynhên,
Ni gawn yfed Gin a Whisky,
Rum a Brandy a Champagne;
Pawb â'i botel, &c.,
Gyda'r cork-screw yn ei law.
Ffarwel byth i gawl a bwdran,
Henffych dwrci, gŵydd a chyw,
Ar ddanteithion goreu'r ddaear
O hyn allan byddwn byw:
O am gylla, &c.,
Mwy ei faint na megin gôf.
Ffarwel byth i'r dillad molscin,
'Trowsus rib' a 'hat jim crow';
Ni gawn wisg o'r defnydd goreu,
Dim ond sidan wna y tro:
Fel pregethwr, &c.,
Gwisga pobun ei fox-hat.'
Ni fydd neb ar draed yn cerdded
Yn y wlad, o fôr i fôr,
Pan fydd arnom angen teithio,
Teithiwn yn ein coach of four ';
Bendigedig, &c.,
Dyma beth yw amser da!
Ni fydd neb mewn poen a galar,
Neb yn cwyno a thristâu;
Bydd pob dydd yn wyl i Mabon,'
A phob nos yn Nos y Pai'
Twrw Tariff, &c.,
Dderfydd gyda'r sliding scale.'
Parish Council, Parish Council,
Mae pob hawliau yn ei law,
Hawl ar wynt, a rhew a stormydd,
Hawl i dopio tyllau'r glaw;
Diolch iddo, &c.,
Ni gawn dywydd gwell na hyn.
(I'w barhau.)
Os nad yw Watcyn yn rhy fusi gyda busnes yr Archdderwydd a Pegi Lewis, dywedwch wrtho am orffen y gân uchod a'i chyhoeddi yn y Diwygiwr. Y newydd goreu sydd gennyf i'w ddywedyd wrthych yw fy mod yn iach —ac felly chwithau, gobeithio.
Yn gywir, &c.,
GWYDDERIG.
Cystal man ar y "Dellt" a dim i weld calon ei genedl tuag ato yw yr Anerchiad a baratoisid i'w gyflwyno iddo, gyda phedwar cant o bunnoedd; ond loes i ni yw meddwl iddo ddianc adref cyn y cyflwyniad. Mae'r Anerchiad yn siarad ar fur yr ystafell yn y Gwynfryn o hyd, ac am mai byr yw ef, a byr yn ol ei gais ef ei hun, caiff siarad yma:—
ANERCHIAD
I
MR. WATCYN WYN
AR GYFLWYNIAD TYSTEB GENEDLAETHOL IDDO, YN
RHYDAMAN, SIR GAERFYRDDIN.
ANNWYL WATCYN WYN,
Bu eich bywyd gwerthfawr mor amrywiol ac amlwg, fel mae'n anodd ei gwmpasu mewn Anerchiad byr. Fel Bardd, Llenor, ac Eisteddfodwr, adwaenid ac anwylid chwi dros Gymru gyfan. Cawsoch y safle uchaf allai Eisteddfod Cymru gynnyg i chwi drwy ennill ei Chadair Genedlaethol yn Aberdâr, ei Choron Genedlaethol ym Merthyr; a thrachefn, y Goron yn Eisteddfod y Cydfyd yn Chicago. Fel Llenor, buoch ddiwyd a gwasanaethgar, a darllenwyd eich cynhyrchion gan genedl ddarllengar. Fel Golygydd, gwnaethoch Lenyddiaeth ein cyfnodolion yn fwy enillgar a gwerinol. Am y chwarter canrif diweddaf buoch yn rhan hanfodol o'r Eisteddfod Genedlaethol. Buoch Feirniad ar y prif destynau; yn Arweinydd diddan ar ei llwyfan, ac yn fywyd i'w Gorsedd.
Fel Ysgolfeistr, Pregethwr, a Darlithiwr, buoch o wasanaeth arbennig. Rhoddasoch ysbrydiaeth naturiol i lu o efrydwyr ar gyfer y weinidogaeth. Pregethasoch y Gair gyda symledd a ffresni nodweddiadol, a bu eich Darlithiau yn oleuni a diddanwch miloedd. Drwy eich natur dda, eich arabedd iach, a'ch aberth diorffwys dros feddiannau uchaf y bobl, daethoch yn ffafryn gan eich cenedl. Nid yw'r Dysteb Genedlaethol hon ond mynegiant amherffaith o'u hanwyldeb tuag atoch, a'u hedmygedd o honoch.
Yr ydym fel pwyllgor, felly, ar ran y llu tanysgrifwyr a gynrychiolant wreng a bonedd Cymru, yn dymuno cyflwyno i chwi gyda'r Dysteb yr Anerchiad hwn, fel arwydd gwan o'n syniad uchel am danoch, gan erfyn rhad nef arnoch chwi a'r teulu hawddgar a lletygar yn y Gwynfryn.
Ydym, dros y pwyllgor,
| GWILYM WILLIAMS. | T. MARCHANT WILLIAMS. |
| COCHFARF. | J. TOWYN JONES. |
| G. PENAR GRIFFITHS. | JOHN T. JOB. |
| D. MORRIS. | JOHN LEWIS. |
| MARTHA PHILLIPS. | J. JENKINS (GWILI). |
| T. M. EVANS. | EOS DAR. |
| W. N. JONES. |
Y BARDD A'I ARDAL.
O DDYDD ei ddyfodiad i Amanford aeth yn eiddo llwyr i'r lle; nid i'w eglwys yn unig, ac nid i'w enwad yn unig, eithr i'r holl ardal. Yr oedd ganddo syniad aruchel a gwerthfawr am berthynas dyn â'i ardal. Yr oedd ar y blaen o ran ei syniadau am anhepgorion dinesydd, ac yr oedd yn fyw iawn i'w gyfrifoldeb, ac i hawl ei ardal arno.
Yn ei bregeth ar "Cyfamod Duw â dyn," daw ei syniad am y dinesydd gwell i'r golwg. O dan y pen "Cyfamod Lleol," meddai, "Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb."
Rhaid i ddyn ymhob lle gadw cyfamod Duw, os am gael bendith a llwyddiant yn y lle. 'Eiddof fi yr holl ddaear,' meddai Duw, a rhaid i ddyn gofio hynny pa le bynnag y bydd yn byw. Y mae Duw o'n blaen ymhob lle, a phan ddeuwn ninnau yno, cyfamod yn y lle hwnnw yw hi—cyfamod yn Horeb. Cyfamod yn Amanford yw'n cyfamod ni â Duw; mae Efe yma o'n blaen ni. Y mae Duw yn dywedyd yn y byd hwn, fel y dywedodd y Gwaredwr, Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi,' a diolch fod ganddo gynifer o drigfannau i gwrdd â chymaint o dyrfa. Rhaid i ni gadw mewn côf beth oedd diben cyntaf y dyfodiad i Horeb, dod yno i gael bendith, dod yno i gael dŵr, ond te fe?
Felly y mae Duw yn gwneud o hyd, pan yn ein harwain o le i le; mae'r fendith yno o'n blaen. Mae lle am fwyd a diod a chysur a llwyddiant yn ein haros ni yma. Y mae'r ffrydiau yma o'n blaen, yn cerdded rhwng y bryniau. Y mae'r creigiau yma yn llawn cyfoeth, dim ond eu hollti. Y mae'r mynydd du a'r mynydd mawr, a mynydd y Betws yn llawn trysorau, dim ond eu taro. Y mae'r bryniau yn orlawn o gyfoeth, dim ond eu hagor. Y mae'r ddaear yn lâs cyn i ni sangu arni. Y mae'r tir yn bwrw gwenith, dim ond ei aredig a'i hau. Y mae'r lle yn llawn o fendithion, ond cofiwn fod y cyfamod i fod yn llawn grym hefyd yn Horeb! Yr ydym yn ofni weithiau fod dyn wrth fyned o le i le yn barod i anghofio cyfamod Duw, a'i rwymedigaeth i'r lle newydd o hyd. Y mae ambell un, son am y lle y ganwyd ac y magwyd ef y mae e' o hyd; yn yr ardal, yn y gwaith, ac yn y capel: garw na buase fe wedi aros yn y lle y ganwyd ac y magwyd ef!
Gwaharddwyd y Chineaid i fyned i'r America am eu bod yn byw i China, ac nid yn byw i'r America. Ennill arian i China yn eu hol oedd eu holl fryd, gan anghofio eu dyledswydd mewn cyfamod â'r wlad newydd. Mae ambell feistr tir mor ynfyd a mynd a'r arian o'r tir i'w gwario mewn gwledydd eraill,—torri'r cyfamod lleol yw hynny.
Mae ambell un yn prynu ei nwyddau o leoedd dieithr, heb geisio helpu'r lle y mae'n byw ynddo: mae'r cyfryw heb ddysgu pwysigrwydd y cyfamod lleol. Y mae cyfamod Duw yn gofyn i ni dynnu'r dwfr o'r graig, a'r tân o'r mynydd, a'r bara o'r ddaear, yn y lle y byddwn ni yn byw, neu ynte fod heb y cysuron a'r bendithion. Rhaid i ni deimlo balchter yn y lle, a diddordeb yn ei lwyddiant, a gwneud ein rhan i'w gyfoethogi a'i wella, a'i brydferthu, a'i harddu, os am fod yn rhwymyn y cyfamod sy'n bendithio'r byd, ac yn bendithio dyn, pa le bynnag y bydd byw. Os lle sych fydd yno, rhaid agor y ffynhonnau melys. Os lle llwm fydd yno, rhaid i ni chwilio am ei drysorau cuddiedig. Os yw'r ardal i lwyddo, rhaid i bob un wneud ei ran. Os yw'n gwlad i fyw, rhaid i ni ofalu am dani. Os yw'r deyrnas i bara, rhaid i'r bobl i gyd fod yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd."
Teimlai ef "falchter" yn ei ardal, a "diddordeb" yn ei llwyddiant. Gwyddai am bob ffordd, ac am bob llwybr. Gwyddai enw pob fferm a phob plâs yn y cylchoedd. Yr oedd pob nant a chornant yn siarad âg ef, ac yntau'n siarad â hwythau. Cyfarchai bob pren prydferth a phob llwyn deiliog. Caent ei fendith ddistaw ef pan ddelai heibio iddynt. Ni "Cross agorid ffordd, ac ni chodid tŷ newydd ym mhentref y Inn " (Amanford yn awr), na theimlai ef ddiddordeb call a gweddus ynddynt. Os adeiledid pont, i wneud ffordd y trigolion dros afon yn ddiogelach a hyfrytach, llawenhai efe; ac odid na chanai iddi, fel y canodd i Bont y Betws, yn iaith y bobl fyddai yn ei cherdded amlaf. Pan aed i sôn am wneuthur "gwaith dŵr " i Amanford, yr oedd ei awen yn effro ac Codi capel newydd neu neuadd gyfleus! Yr oedd y cwbl yn mynd trwy ei fywyd ef. Yr oedd gwifrau bywyd ei ardal i gyd yn dod i'w galon. Byddai helynt y bwthyn yn cerdded trwy'r Gwynfryn, ond yn weddus a chymdogol. Nid spïo i mewn i helynt nac aelwyd na dyn y byddai, ond teimlo diddordeb brawd call a chyfrifol ynddynt! Ni ymhyfrydai mewn clep ardal; yn hytrach cashai hyn â châs cyfiawn. Collai ei dymer gyda'r arwydd lleiaf o ymyriad yn achosion. personau a theuluoedd. Dygwyd ef i gysylltiad â llu o deuluoedd drwy ei berthynas â myfyrwyr ei ysgol, y rhai a letyai yma a thraw, ond ni chroesai'r terfyn yn ei ymdrafodaeth â neb. Ni fyddai yn gadael argraff o ymdrech i beidio â gwneud hynny; ond peidio â gwneud hynny oedd y peth mwyaf naturiol ganddo. Ni allai neb feddwl am dano fel un yn ceisio "cadw'i ben," ac eto, ei gadw y byddai, ac yn ddianaf. Ni themtid neb i'w gyfrif yn giwt, ac eto, nid elai i fagl. Yr oedd yn naturiol rydd: yr oedd yn naturiol gywir.
Dywedai ardalwyr eu cyfrinach wrtho, ond dywedent hi am y gwyddent na cheisiai hi; ac ni fradychodd yr un erioed. Yr oedd fel Archoffeiriad i'w ardal—a hynny wrth natura phobl yn hoffi ymddiried ynddo, ac yn hoffi ei weled ef yn ymddiried ynddynt hwy. Nid rhyw dŷ gwych yn y pellter oedd y Gwynfryn, i'r ardalwyr syml; ond tŷ â'i ffenestri yn wynebu ar eu bywyd dyddiol hwy, gyda chydymdeimlad naturiol. Cymydog mawr, naturiol, ymddiriedus, oedd ef ymysg ei bobl; ond heb y ffwdan a'r rhwysg lleiaf, a heb gysgod o chwim.
Diddorol fyddai ei ddilyn o'r Gwynfryn i'r pentref ddechreunos, wedi i lafur y dydd beidio. Dacw ef yn troi allan yn syml a hamddenol, rhwng y llwyni gwyrddion, a hyd y llwybr cudd, rhwng dwy berth wyros, heibio i goed afalau, gydag ochr yr hen ysgoldy, i lawr trwy'r cae—heb unrhyw arwydd o frys, ac i'r heol. Mae ffon seml yn ei law—ffon gollen gan amlaf,—y mae wedi ymwisgo'n lân, gyda'i goler a'i dei yn syber; ac eto heb ddim o'i gwmpas yn tynnu sylw ato'i hun. Y mae'i gerddediad yn naturiol, heb unrhyw ymdrech i osgeddu fel hyn ac fel arall. Prin y mae wedi dod drwy'r iet fach i'r heol heb i rywun ddywedyd, "Mr. Williams, shwd ŷch chi?" ac yna ymgom bach naturiol, iach. Ond odid na fydd yno grac o chwerthin cyn delo'r "prynhawn da "—rhyw ergyd ffraeth gan y Bardd wedi digwydd. A phan â i'w hynt drachefn, rhywbeth tebyg a ddigwydd yn aml hyd y ffordd, nes cyrraedd "siop y Chemist ar y 'sgwar," oblegid rhaid galw yno bob dydd. Ond mor agos yw'r cyfarchiadau, mor rhydd yw'r ymddiddan, ac eto yn llawn parch gweddus—gormod of barch i roi lle i eofndra ar unrhyw adeg. "Prynhawn da, Mr. Williams"; "Shwd ŷch chi heno, Mr. Williams?" "Mr. Williams bach, shwd ŷch chi?"—(ambell i hen ardalwr cyfarwydd). Dyna'r cyfarchiad o hyd. Mor agos! "Shwd y chi heno, syr," medd yr eneth sy'n mynd trwy'r pentref i gyfeiriad un o'r ardaloedd cyfagos. "Shwd ŷch chi heno, merch i," medd yntau. Ac o bydd yn ferch i deulu adnabyddus iddo ef, dyna holi diffwdan a naturiol ynghylch y tad a'r fam. "Ferch," meddai'r eneth wrth ei chyfeilles, mewn llai na munud wedi cefnu arno, "oet ti ddim yn nabod hwnna, Watcyn Wyn,— dyna ddyn ishel yw 'e!" Dyna'r cymydog agos, cartrefol, a'i ardal a'i bobl yn ei galon. Cymydog i ŵr y plâs, a chymydog i'r bwthynnwr! Nid gormod yw dywedyd yr ystyriai teulu'r plâs hi yn anrhydedd i gael "Watcyn Wyn" i dreulio noson yno, ac i swpera gyda hwynt. Noson oleu fyddai noson ei ddyfodiad. Efe fyddai canolbwynt diddordeb y rhai a fyddai yno,—efe, gyda'i bersonoliaeth, enillgar, ei ergyd ffraeth, a'i stori gyfoethog! Yr oedd mor hawdd gan bob oed a phob sefyllfa ei barchu.
Ni ddigwyddai cynhulliad o unrhyw bwys yn Amanford na byddai Watcyn Wyn yno, a phawb yn teimlo nad oedd yn iawn i beidio â disgwyl i ddrws y cyntedd i agor drachefn tra fyddai efe heb ddod. Ac wedi ei ddod, mor foddlon pawb; fel pe teimlent fod popeth yn iawn bellach. Os darlith fyddai, byddai yno, ac yn gwrando'n naturiol a diymdrech bob amser, ond yn chwareus a siriol ar adegau. Os cyngerdd ddigwyddai, nid oedd y gân i fynd heibio heb i Watcyn Wyn fod yno i'w chlywed, yn arbennig y gân Gymraeg gan un o fechgyn Cymru. Pan ddeuai'r gwleidyddwr â'i hwyl a'i oleu, byddai'r Bardd yno, ond odid, ac yn llawenhau gyda phob cyffyrddiad eangfrydig a chenedlaethol. A phwy feddyliai am gyfarfod pregethu heb athro'r proffwydi ieuainc ynddo?
A gwrandawai'r bregeth yn ddistaw, ond yn gynorthwyol iawn, yn neilltuol os byddai arni raen meddwl. Hawdd iawn fyddai ei flino â hyd pregeth, ond ni flinid ef byth gan ormod lled.
Yr oedd yn y golwg i'w ardal, heb ymwthio. ei groesaw wedi cyrraedd o'i flaen bob amser. Yr oedd ei gartref yn disgleirio yn ddiymdrech yn y cylch, a'i bresenoldeb yntau ar bob achlysur yn dod a boddlonrwydd. Yr oedd yn unplyg heb fod yn erwin'; yn garedig heb fod yn rhodresgar. Cyfarchai gŵr y modur yn gystal a gŵr y car marchnad ef yn y ffordd.
Ychydig fu ei wasanaeth ar fyrddau cyhoeddus, ac ni chwenychai hwynt. Collodd mewn etholiad Bwrdd Ysgol unwaith, a mawr y rhyfeddu a fu. Erbyn edrych, hyn oedd y chware. Wrth ei enw priodol, wrth reswm, yr oedd ar y llechres—"Williams, Watkyn Hezeciah," a phwy wyddai pwy oedd y "gŵr dierth hwn?" Bod allan a fu raid iddo, ond mor foddlon, ac iach ei ysbryd a bachgennyn yn mitsio. Tra y brysiai'r ardalwyr a'i gyd-blwyfolion ato i fynegi eu siom, troi'r amgylchiad i chware'n ffraeth y byddai ef.
Fel y llawenychai ef yn nyrchafiad a llwyddiant ei ardal, llawenychai ei ardal hithau yn ei lwyddiant a'i ddyrchafiad yntau. Byddai ei fuddugoliaethau Eisteddfodol yn cynhyrfu ei ardal, ei blwyf; a darn mawr o'i sir, drwyddynt.
O fewn ychydig filltiroedd i Amanford y mae Brynaman, lle genedigol Watcyn Wyn; ac ar ei ddychweliad o Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, lle yr enillodd y gadair yn 1885, mynnodd ei hen bentref genedigol lawenychu a gorfoleddu. Yr oedd ef i arwain mewn cyngerdd fawr yn y lle hwnnw, y noson honno, a phan ddaeth y tren pedwar i mewn gyda'r Bardd a'i gadair, yr oedd yno dderbyniad tywysog iddo: goreugwyr y lle yn ei gyfarfod, a seindorf y Brynmawr yno i chware, See the conquering hero comes. Rhoed y Bardd yng ngherbyd Dr. Rees, Tirbach; a chyda'r seindorf yn blaenori, ac yn chware, yr oedd dwy fil o galonnau yn cerdded y ffyrdd, ac yn cydlawenhau. Yr oedd yr holl bentref wedi ei addurno gyda baneri hyd y ffordd, a bwa goruchafiaeth hardd yn ei chroesi, a'r gair tirion, "Croesaw i Watcyn Wyn" i'w weled o bell ar y baneri a'r bwa.
Pan enillodd y "Goron" drachefn yn Eisteddfod Chicago, yn 1893, bu raid i Amanford fynd i hwyl.
Caed cyfarfod llongyfarch yn yr Ivorites' Hall, Rhagfyr 19, 1893, yr hon oedd wedi ei gorlenwi, medd yr adroddiad yn y papur dyddiol. Daeth yr Anrhydeddus Anthony Howells, y trafnoddwr Americanaidd yng Nghaerdydd, i gymryd y gadair. Canai Eos Dâr a Madam Martha Harries Phillips benillion. Meddai'r Eos:—
Wele dorch o arian wen,
I gadw'r pen yn gyfan;
Torch o flodau prydferth iawn,
O wlad sy'n llawn o arian;
Bellach mae un prydydd llwm
Cyfoethog yng Nghwmaman.
Ac meddai Madam Martha Harries Phillips:—
Dyffryn Aman nid yw 'nol,
Nid bechgyn ffol sydd yno;
I ddyffryn Aman dros y don,
Daeth Coron Colorado;
Dyffryn Aman ar fy ngair,
Gadd shâr o Ffair Chicago.
Yr oedd nifer fawr o feirdd a phregethwyr yno, a Gurnos yn arweinydd y cyfarfod. Ymhlith y beirdd yr oedd Gwydderig a J. T. Job. Yn ol ei arfer, yn ei englyn cryf a chywrain y canodd Gwydderig:
Ar ben WATCYN WYN hen —cu arwr,
Rhoed Coron Chicago';
Arian gwlad Colorado
Geir yn urdd i'w goryn o.
Cywrain barhaus coron bri,—goraf yw,
I'r gwir fardd uchelfri;
Coron awen hen yw hi,—
Coron anrhydedd cewri.
Dan ei glod yn y gwledydd,—ei enw
A'n wynnach o'r herwydd;
Er yn fawr, ei enw fydd
Coronog Gawr Awenydd.
Mae rhyw gwyno a mawr gynnen—ar ol
Yr helynt anniben;
Tro heb ail oedd torri'i ben,—mewn gwlad bell,
Rhoddi y fwyell ar wddf ei awen.
Dienyddwyr duon oeddynt,—o'i dâl,—
Can dolar a ddygynt;
A dyna ben am danynt,
Arian ac aur Ianci ynt.
Daear twyll dan draed yw hon,—ysywaeth,
Gwerin-lywodraeth i garn o ladron.
Ond er poen wedi'r penyd,—o'i hacio
Ar blocyn y cydfyd,'
Er hynny, ar fyr ennyd,
Hawlia'i ben sylw y byd.
Y gŵr heno goronwyd,—ei awen
Hoyw ni ferthyrwyd;
Cu deyrn cân, cadarn y cwyd,—fel gwron,
Poeni awduron wna'r pen a dorrwyd.
Yn ei barch gwynnu y bydd,—ac i'w ran
Daw coronau beunydd;
I fyny'n gryf awenydd—i uwch nen,
Esgynna'i awen yn ei gwisg newydd.
—GWYDDERIG.
Canodd "J. T. Job" fel hyn:—
I.
Hwrê i WATCYN WYN,
Medd Joв o Aberdâr,
Y JOB fu'n byw cyn hyn
Yn Amanford, Shir Gâr;
Hwrê i goronfardd Washington,'
Medd Joв yr oruchwyliaeth hon!'
II.
Mae'n flin gan Joв ei fod
Yn methu dod i'r cwrdd,
I eilio'i gân o glod
Yn llon o gylch y bwrdd;
Ond mae ei galon gyda chwi
Yn cyd-ymuno yn y spree!
III.
Wel, dyma Ffair y Byd'
Yn marw yn sŵn' ffrae!'
A chwyno, cwyno o hyd
Wna'r ysgorpionawg' rai;
Ond WATCYN sydd dan goron wen
Er iddynt geisio torri'i ben 1
IV.
Na! na! mae pen WAT. WYN
Gryn dipyn yn rhy sound;
Mae WAT. â'i gleddyf gwyn
Yn herio'r boys all-round;
Pwy fel y Gwyn am drin y cledd?
Pwy fel y Gwyn am dorri bedd?
V.
Wel, dyma'r 'goron fawr'
Yn nhŷ y Bardd yn siwr;
Mae'r Gwynfryn i mi'n awr,
Yn edrych fel rhyw dŵr ';—
Rhyw ail Dŵr Llundain' yw y Bryn:
A'r Brenin ydyw WATCYN WYN!
VI.
Bydd rhaid cael" sowdwyrs' nawr
I wylio'r Castell Gwyn;
Eirf llym, a drylliau mawr,—
A channons gyda hyn.
Un ceidwad' mawr, a dêg life-guard
Ar full look-out o gylch y yard!
VII.
Os daw ysbeilwyr broch
I 'sbio'r goron' hardd,
Fe rua'r cannons croch
Yn wallgof yn yr ardd!
A thân a mellt o'r drylliau mawr
Yn fflamio angeu dros y llawr!
VIII.
Bu mwsked' mawr cyn hyn
O gylch yr ardd ddi-ail;
Yn bygwth tyrfa syn
O ddefaid JONES Tirdail!
Ond beth oedd hwnnw at y I?
Gwybedyn ymhlith haid o frain!
IX.
Ond os bydd dychryn du
O gylch y Castell glân;
Bydd yno groesaw' cu
I garwyr l'ên a chân:
A rhyddid gwir i fynd bob awr
I'r 'Tŵr'—i weld y goron fawr!
X
Wel, heddwch fo i'r bardd,
O dan ei goron gain;
Boed ef a'i deulu hardd
Dan goron heb ddim drain;
Eiddunaf iddynt fendith Iôr,—
I'r BARDD a'i ANN,—i' MAIR' a SIOR '!
Aberdar, Rhagfyr 18, 1893.JOHN T. JOB.
Eiliwyd y canu hwn gan genedl y Bardd drwy Gymru gyfan—Cymru, a'i carodd hyd fedd.
Yr oedd popeth oedd werthfawr yn symudiadau ei ardal yn ennill ei gân a'i fendith. Pan ddaeth Jiwbili Moriah, Llanedi, meddai ef:—
'Rwyf yn cofio un o'r troion cyntaf oddi cartre erioed,
Am y bregeth ar Moriah yn y Tabernacl coed,
Meini'r deml yn wasgaredig y pryd hynny hyd y fan,
A'r adeilad cysegredig ddim ond dechreu dod i'r lan.
Olion gwaith oedd ar y llecyn, olion ymdrech ar y tir,
A'r frawdoliaeth fechan yno'n ddigon gwan, a dweyd y gwir,
Ond y meini o'r chwareli, a'r rhigolau yn y llawr,
Os mai 'chydig, 'roedd y dwylo'n dangos penderfyniad mawr!
'Roedd rhyw sŵn addoliad cynnes yn y Tabernacl coed,
Ac arwyddion o'r boddlonrwydd cyn fod Teml yno erioed,
'Roedd arwyddion yn yr odfa fechan honno gyda ni,
Cyn i'r muriau gael eu codi fod rhai'n gweld y Jiwbili!
Beth all ysbrydoli ychydig i anturio ar waith mor fawr?
Beth all gadw cynulleidfa fechan, wan, heb dorri lawr?
Beth all roddi nerth i ymladd, gyda rhwystrau yn ddi ri?—
Dim ond edrych draw a gweled "Bore hyfryd Jiwbili!"
Bu yn brwydro'n ddigon caled, bu'r blynyddau'n ddigon maith,
Cwympodd rhai o'r hen ffyddloniaid, ond ni safodd dim o'r gwaith,
Bu cymylau ar Moriah'n ddigon tywyll ddigon hir,
Erbyn heddyw, pen y mynydd sydd ynghanol awyr glir!
Mae y muriau'n rhydd o ddyled, mae'r gwaith coed yn gwaeddi "Rhydd,"
Bellach drwy ffenestri'r capel fe ddaw mwy o oleu dydd,
Gall y trawst o'r gwaith coed waeddi, a'r garreg ateb yn y mur
Canwch chwi,—adseiniwn ninnau,—mae Moriah heddyw'n glir!
Bellach gall y blychau casglu a fu wrthi amser maith,
Wedi talu'r ffyrling olaf gael gorffwyso oddiwrth eu gwaith,
Dyna lle bydd dydd i'w gofio ar Moriah'n crefydd ni,
Pan bydd blychau casglu Cymru yn cydganu "Jiwbili!"
Cliriwch ddyled ein capeli, saif ein dyled ni o hyd,
Talu'n dyled am ein cysur fydd ein gwaith tra yn y byd,
Rhaid i'r blychau ym Moriah eto godi ati hi,
Cyn bo'r eglwys ar y ddaear wedi gweld ei Jiwbili!
Rhoddi rhywbeth i'r gymdogaeth, gweithio yn y lle dros Dduw,
Talu ei dyled mawr i'r Arglwydd, dyna waith yr eglwys fyw,—
Mynd a bara i'r newynog, basgedeidiau llawn di nag,—
Ac nid erfyn i rai tlodion byth i lanw boxes gwâg!
Y mae Aberth wedi nodi pen Moriah'n amlwg iawn,
Aberth ar y coed a'r allor yn y golwg yno gawn,
Wrth aberthu yn wirfoddol,—nid oes perygl byth i'r dyn,
Pan ddaw adeg y poeth-offrwm—Duw a edrych iddo'i Hun.
Dyma ddifyr chware'i awen ar gyfodiad Capel newydd yn yr Hendy, ger Pontarddulais:—
Y Tŷ Newydd yn yr Hendy,
Un o wyrthiau'r ganrif yw:
Hen dŷ ydoedd y Tŷ Newydd,
Cyn i'r ganrif ddechreu byw;
Ewch yn ol drwy y canrifoedd
I'r Alltfawr a'r hen Wern Whith,
Cyn i Apostol Sir Gaerfyrddin
Agor llyfr, na darllen llith.
Yr hen ogof gysegredig
Ger Llangenech, yn y bryn,
Fu yn gyrchfan i addoli
Yn y cym'dogaethau hyn:
Dyma ddechreu y Tŷ Newydd,
Yn y dyddiau gynt a fu,
Yn yr ogof yn y mynydd
Gwnaed Tŷ Newydd o Hen Dŷ.
Sŵn fforddolion yn addoli
Ynghysgodion yr Alltfawr,
Mae yr adsain drwy'r canrifoedd
Rhwng y bryniau'n dod i lawr;
Gyda threigliad y blynyddau,
Pan ddaeth STEPHEN HUGHES i'w plith,
Gan Apostol Sir Gaerfyrddin
Gwnaed Tŷ Newydd o'r Wern Whith.
Bu Wern Whith yn fan bendithiol
I droi llawer un o dde,
DAVID PENRY, Plas Llanedi,
Yma cyfarwyddwyd e';
Hwn fu'n torri coed y Fforest,
Derw cedyrn yn eu tro,
Er cael trawstiau i adeiladu
Y Tŷ Newydd yn y fro.
Hen yw hanes y Tŷ Newydd,
Hen, hen hanes ieuanc yw,
Hanes oesau o fforddolion
Yn y Tŷ'n addoli Duw;
Y Tŷ Newydd yn yr Hendy,
Yn gyfarfyddiad hapus sydd,
Y mae hanes y Tŷ Newydd
Yn Hen Dŷ er's llawer dydd.
Llanwer muriau y Tŷ Newydd
Ag ysbrydiaeth yr Hen Dŷ,
Oesau newydd o addolwyr,
O hen stamp y dyddiau fu:
Goleu cryf y ganrif newydd,
Tân a sêl canrifoedd gynt,
Megis colofn dân fo'n arwain
Yr hen eglwys ar ei hynt.
Ac yr oedd ei gân yn barod at Jiwbili Carmel, Gwauncaegurwen—cân
Enwogion y Ffydd":—
Mae pob tad sydd wedi blaenu,
A phob mam sydd yn y nef,
Wedi gwneud y ffordd yn hawddach
Idd eu plant ddod tua thref;
Mae y rhai fu gynt yn gweithio,
Heddyw'n gweithio llawer mwy,
Maent yn gweithio i berffeithio
Eu rhai annwyl gyda hwy!
Beth yw'r hiraeth sy'n ein calon?
Beth yw'r atgof sy'n ein bron?
Pan yn colli rhagorolion,
Gwerthfawroca'r ddaear hon;
Beth yw'r gadwyn fawr o fywyd
Sydd yn dal heb dorri'n ddwy,
Ond atyniad y rhai perffaith,
I'n cael ninnau atynt hwy!
Na, nid yw y gwaith i aros
Chwaith, na'r gweithwyr i leihau:
Mae y gweithwyr i gynhyddu,
A gwaith Duw i'w gwblhau!
Pan yn son am nef a daear,
Nid yw'n iawn eu cyfri'n ddwy,
Ni fydd nef i'r hen ffyddloniaid,
Heb i'r plant fynd atynt hwy.
Y BARDD A'I GARTREF.
GWYNFRYN" oedd y fan a enwogwyd fel ei gartref ef—tŷ gwych a godwyd ganddo ef ei hun, ar ochr y ffordd fawr a ä o Rydaman (Amanford) i Landeilo Fawr, gyda chae eang o'i flaen—lle i fyfyrwyr ei ysgoldy enwog, oedd ar ei gwr uchaf, i chware, gyda lawnt hardd, flodeuog, rhwng ei ffin uchaf a'r trothwy, gardd ffrwythlawn, gadwrus, gyda choed afalau a ffrwythau eraill wrth ei dalcen dwyreiniol, ffordd gudd rhwng dwy berth wyros yn arwain o ymyl y drws i'r Ysgoldy, a bryncyn gwyrddlas, yn union y tu cefn iddo, gydag ychydig dderw preiffion arno, fel gwylwyr tawel y fan! Dyna'r Gwynfryn!
Buasai'r Bardd a'i deulu'n trigo mewn mannau eraill, ond yma y cawsai efe le i'w syniad am gartref. Yr oedd ganddo syniad aruchel am amodau naturiol cartref,—syniad o'i urddas gweddus, enillgar; ac yr oedd yn foddlon aberthu llawer i gyrraedd ei ddelfryd. Nid heb aberth y daeth y Gwynfryn yn eiddo iddo. Credai mewn cartref, carai gartref, oblegid cawsai olwg uchel ar ei natur a'i gyfle. Canodd i'r "Cartref" cyn foreued a'r flwyddyn 1874. Gan gyfarch ei awen, meddai:—
Dyro i ni fynd i'r hen fan:
Tua'r hen fan ein ganwyd,
Yr hen dŷ, y llety llwyd:
O'r mwynhad geir yma i ni,
A rhwydd iawn fydd barddoni:
Yn yr hen awyr annwyl
Cei di wynt gwerth codi hwyl.
(Llawysgrif.)
Ond pe na chanasai iddo, gwnaeth beth gwell, gwnaeth gartref yn gân, a rhoddodd ei gân ynddo. Yr oedd ei syniad am dŷ i wneud cartref, yn gall, ac i ddyn o amgylchiadau gweddol gysurus, yn ymarferol. Tu ol i bopeth, credai mewn gwella a phrydferthu'r tir y trigai arno. Un dechreunos haf, ac efe a minnau yn rhodio llwybrau glân yr ardd, ac yn cyd
fwynhau'r tyfiant pêr, meddai wrthyf, "Wedi i mi fynd, ti elli ddweyd hyn am dana' i heb ddweyd gormod,—i mi wella'r tir lle bynnag y buo' i'n byw." A'r gwir a ddywedai. Yr oedd am i'r tir gael ei gyfle ynddo ef, a chredai mai felly y dylai fod. Iddo ef, yn y dyn gwell yr oedd y ddaear well i ddod adref. Dyna anadl ei gân ar "Abel":—
Gwel ABEL obaith. Cenfydd ef nad yw
Y felltith wedi dyfod o du Dduw.
*****
Sefyll i atal rhwysg y farn mae gras,
Mae rhannau o'r ddaear eto'n ddaear lâs.
Nid yw yr anifeiliaid ar y ddôl
Bob un yn fwystfil rheibus, erys ôl
Y diniweidrwydd gynt ymysg y praidd
Os yw y rhaib wedi ffyrnigo'r blaidd.
*****
Y bai yw'r felltith! Lle na welir bai
Ni ddisgyn melltith. Mae y pridd a'r clai,—
Mae'r ddaear oll,—yn felltigedig am
Fod llaw y triniwr yn ei thrin ar gam.
'O'th achos melltigedig yw y ddaear,' hyn
Yw'r unig felltith sydd ar bant a bryn.
O achos esgeuluso trin y llain
Y tyf mieri ac y cyfyd drain.
Yr oedd cariad at drefn, glendid, a chynildeb, yn ddwfn ynddo, ac ymhob peth o'i eiddo—ei wisg, ei gân, a'i gartref. Yr oedd pob pren a deilen ar dir y Gwynfryn yn annwyl ganddo, ac yn dweyd rhywbeth wrtho. Yr oeddynt yn fwy o blant nag o blanhigion iddo, a gwae'r neb, yn ddafad neu ddyn, roddai ewin neu ddant ar un o honynt. Dyma'i freuddwyd am ei gartref newydd, mewn englyn:
Eden a wnaf dan y ne',—Y Gwynfryn
Wnaf yn geinfro blode;
Olio addurn blynydde,
Eidal o wlad, model o le.
Buasai'n byw yn "Pontyclerc Cottage" cyn hyn, a rhaid oedd canu i hwnnw hefyd, yn 1885:—
Tŷ unig rhwng brig dau bren,—a dwy berth,
A dwy bur ysgawen;
Dwy heol am dŷ awen,
A dihafal ddwy wal wen.
Rhoddodd papur newydd y clod am yr englyn hwn i Gwydderig unwaith, ond ar dystiolaeth Gwydderig ei hun, Watcyn Wyn a'i cânt
Llawer dengawr dreuliodd hyd lwybrau'r ardd, a hyd y lawnt, yn dehongli iaith bywyd yn y planhigyn a'r gangen. Golwg fawr fyddai'r olwg arno, hwyrddydd haf, yn difyr gerdded y llwybrau, a'i gysgod mwyn yn ei ddilyn o lwyn i lwyn, gydag englyn neu gân yn y wê. Llawer cyfaill a rodiodd gydag ef hyd y llwybrau ym min yr ardd a'r cae; llawer ergyd ffraeth a roed, a llawer "pwl o beswch" a gafodd y Bardd, wedi'r chwerthin iachus. A llawer cysgod mawr a bwysodd ar laswellt blodau min y ffordd. Heddyw dyma Brifardd yn rhodio'r tir gam yng ngham â'r gwestywr, ac ymhell i mewn ym myd y Gadair a'r Goron. "Hwfa Môn " ydyw! Ac wedi pwyso a chloriannu, dyna ergyd ffraeth sydyn oddiwrth Watcyn Wyn nes bod y ddwyfraich yn datgysylltu, a'r Archdderwydd yn ymysgwyd â'i chwerthin; ac yna pesychiad mawr dros y tir—digon i lanw'r cae!
Yfory, cerddor gwych fydd yr ymwelydd, Dr. Joseph Parry, Mr. Emlyn Evans, Mr. David Jenkins, Mr. William Davies, Eos Morlais, Eos Dâr, Mr. Ben Davies, neu Mr. David Hughes; a bydd deuawd y "Bardd a'r Cerddor" yn cerdded y tir mewn chwerthin heintus.
Yn araf heddyw; Barnwr sydd yn rhodianna gyda'r Bardd. Gall mai'r Barnwr Gwilym Williams ydyw—un o gyfeillion agosaf Watcyn Wyn; hwyrach mai'r Barnwr Edwards, o'r America, ydyw, wedi croesi i Eisteddfod yng Nghymru, ac wedi cyrraedd y Gwynfryn ar ei dro! Yn araf! Nid i hynny y daethai'r naill Farnwr na'r llall yno, ond i rodio hyd lan ffrydlif arabedd y Bardd, a chwerthin fel bechgynnos y fro!
Daeth tro yr ysgolhaig! Syr John Rhys, neu Syr Edward Anwyl, heddyw! Rhodianna'n sych syber, fel pe daethai pwysau anrhydedd y Brifysgol yr holl ffordd ar eu hysgwyddau! Na, codai'r glaswellt eu pennau mewn syndod at hynny! Chwerthin fel llin y mynydd yn yr awel! A gallech deimlo'n sicr na fai pethau ddim gwell pan alwai Mr. Llewelyn Williams, heb son am y Parch. Towyn Jones, â'i chwerthin arian! Ac am Gwili, bu efe byw am dymor hir yn y Gwynfryn, pan yn athro yn yr ysgol yno, a cheisier dychmygu'r helynt a wnai'r ddau Fardd! Ond dewch i mewn. Mae glendid Cymreig ar bob "celficyn," a chryfder diwastraff, defnyddiol, ymhob un. Mae'r cadeiriau Eisteddfodol derw, a'r goron arian yno, ond heb ddim yn awgrymu eu bod am wthio'u hunain i'r golwg. Yn y gegin glyd, gyda'i thân glô carreg, a'r "pele," mae'r "hen stol" y canasai am dani, fod
Rhywbeth yn tremio wrth deithio y byd
Yn ol i'r hen stôl a'r hen aelwyd o hyd.
Ond y mae rhywbeth y mae mwy rhaid wrtho na derw a dodrefn i wneuthur cartref; ac yr oedd hwnnw yng nghartref y Bardd-calon fawr, seml, gynnes, yn cario'i gwres a'i goleu i bob cwr, ac i bob mynwes. Nid gwneuthur ei hun yn ddedwydd oedd ei amcan ef, ond dedwyddu eraill, a thrwyddynt hwy, dod at ei ddedwyddwch ei hun. Elai i mewn i bob teimlad yn ei deulu fel Archoffeiriad, a dygai groes pob un a ddelai. Dedwyddaf ei deulu, dedwyddaf yntau! Ni ymdrechai wneuthur ei hun yn ddedwydd, ond ymdrechai eu gwneuthur hwy felly; a gwyddom am dano, gyda'i galon ei hun yn drist, yn peri dedwyddwch iddynt hwy. Yr oedd ei wên, ei arabedd, a'i dalent, yn gwbl ar yr allor i hynny. Hyd yn oed pan ddaeth ei gystudd olaf, gwnelai mor ysgafn ag oedd modd o hwnnw, i gadw'r cysgod rhag disgyn arnynt hwy. Yn ei gystudd blin, aeth yn Sais ffraeth unwaith, er mwyn cael cyfle i dorri awyr yr ystafell â chwerthin. Yr oedd wedi gwella i raddau, ac yn gallu eistedd i fyny yn ei wely; ei briod dyner, hithau, yn meddwl yr hoffai y syniad o allu ei borthi ei hun yng ngrym yr ychydig nerth ddaethai yn ol iddo, a baratoisai ychydig gwstard mewn dysgl iddo, gan roi llwy gyfleus iddo i geisio ei fwyda ei hun, ond gyda'r hen wendid yn trechu, meddai, "Ann, this is too bad; I don't want to be dished, spoon me!"
Yr oedd " Ann," fel y galwai hi, yn haul i'w fywyd. Gan gyfeirio at ddydd ei briodas yn ei "Atgofion," meddai, "Y mae hi wedi bod yn wraig dda' i mi, o hynny hyd yn awr; wedi gweithio'n galed, a byw'n siriol a llawen, a chadw cartref glân, cysurus, ac wedi lletya mwy o fyfyrwyr a phregethwyr, a darlithwyr a beirdd, a llenorion, ac ymwelwyr o bob math, ac o bob gwlad, na neb o'i hoed yn Sir Gaerfyrddin, yr wyf yn sicr. Yr wyf yn gobeithio cael ei chadw cyhyd ag y byddaf byw, oblegid pa fodd y gallaf feddwl byw hebddi! Hyderaf na fyddaf fi byw i ysgrifennu ei chofiant!"
Ond y difyrrwch a gafwyd yn y Gwynfryn! Oriau ysgol heibio, y pen yn weddol ddiboen, canys dioddefai'n enbyd felly—cyfaill neu ddau i alw ddechreunos, plocyn da ar y tân, ac yna ati! Trin y byd a'i bethau, a'u gosod yn eu lle, tra byddai'r gwreichion yn chware mic yn y simnai, a'r teulu'n gyfan, wraig, merch, a mab, yno yn y gyfrinach; a llawer tro y ceid ergyd ffraeth gan Ann y wraig, a Mary'r ferch, sydd a chyfran helaeth o ffraethineb ei thad ynddi, "gan bwyll bach," chwedl ninnau yn y De. Llawer dengwaith y teimlasom hiraeth llethol wrth ymadael i ddal y tren i ddod yn ol eilwaith i dwrf y byd na allai chwerthin yn yr un cywair ag y chwarddem ni wrth ochr tân y Gwynfryn.
Ond daeth y cysgodion! Yr oedd caethder anadl, cur pen, a gwendid calon yn ennill arno o ddydd i ddydd, ac yntau yn chwilio am newid adfywiol yma a thraw. Yn Chwefror, 1904, cawn ef yng nghartref clyd ei hen gyfeillion mynwesol, Mr. a Mrs. Benjamin Parry, yn Norton, Mumbles, ac yn ysgrifennu yno:—
Yr wyf yn ysgrifennu heddyw yn nhŷ Mr. Ben Parry, yn Norton, ger y Mumbles, lle yr wyf wedi dod i newid awyr, er mwyn fy iechyd. Y mae yma le tawel, glân, prydferth, ac iach, gallwn feddwl—pe celwn dywydd teg. Y mae fy annwyl wraig yma gyda mi, ac hebddi hi, ni allwn feddwl byw. yma, yn y cyflwr presennol ar fy iechyd, ac ystád fy meddwl.
Nid wyf wedi bod yn iach er yr haf diweddaf, ac yr wyf fel yn gwybod na fyddaf yn holliach byth mwy. Nid oes arnaí ddim ofn marw, ond y mae ofn byw arnaf! Byw sydd yn ofnadwy, yn y byd hwn, neu unrhyw fyd, o ran hynny, yn enwedig yn y byd hwn, y dyddiau hyn!
Y mae Chwefror yn oer ac yn wlyb, a hanes y byd yn dywyll a du, a'r newyddion bob bore yn ddrwg, a minnau'n dost! Nid wyf yn ddigalon, nac yn ddiobaith, ond yn ddianadl, a braidd yn ddiamynedd, a dweyd y gwir, wrth weled y byd mor ddwl, a dynion call mor ddall!
Dyma ryfel wedi torri allan eto! Rwsia a Japan yn rhyfela ynghylch yr hyn nad yw yn perthyn i un o honynt. Pe buasent yn cytuno i wneud defnydd o bobo ddarn, er lles y byd, gallasai hynny fendithio'r ddwy wlad, a bendithio'r byd hefyd, ond, fel y mae, bydd y rhyfel yn felltith ac yn ddinistr i'r ddwy wlad ynfyd. Y mae yr hen ymadrodd yn eitha gwir: "A'r doethion a ddaethant o'r dwyrain!" Y maent wedi mynd oddi yno bob un, ond i ble, pwy wyr?
Y mae y glaw yn dod o'r gorllewin yma, heddyw, yn cael ei yrru gan wynt nerthol yn rhuthro! Y mae "afon Duw yn llawn dwfr," y dyddiau hyn——yn llawnach nag arfer, o lawer, ac yn peri i afonydd bach y ddaear fyned. dros eu ceulannau.
Ni chadd hyd i'w hen nerth yn y Norton, gan nad fwyned ymgeledd Mr. a Mrs. Parry, ac er iached awelon y môr. Yn ol yn llesg ei gam i'r Gwynfryn, ac yn ol i ymladd â'i fynych wendid ! Yn ei nodion yn y "Diwygiwr" am Awst, a ysgrifenasai yng Ngorffennaf, meddai, "Y mae ein hegni wedi gwanhau, a'n nerth wedi difa gormod braidd am y pethau rhyfedd sydd wedi digwydd er pan ysgrifenasom o'r blaen." Ond aeth i Landrindod ddechreu Awst, ac meddai yn "Helyntion y Dydd" yn y "Diwygiwr" am Fedi, "Y mae'r gwyliau eleni eto yn tynnu i ben. Y mae hi yn ganol Awst, a'r dydd yn tynnu ei ddeupen ynghyd, a'r nos yn ymestyn, a'r hwyr a'r bore yn oeri. Y mae'r haf wedi bod yn eithriadol o boeth yng Ngorffennaf, ond erbyn hyn y mae'r hin wedi oeri llawer o raddau, ac nid yw hi mor bleserus ar fin y ffynnon, nac ar lan y môr; ac mae'r bobl yn rhedeg adref, ac yn falch o weled tân y gegin unwaith eto. Gobeithio fod. yr haf hyfryd wedi bod yn adnewyddiad nerth i gorff ac ysbryd llawer un, a bod talu ymweliad â hen leoedd cyfarwydd, a gweled hen wynebau, a chael ymgom å hen gyfeillion, wedi bod yn fwynhad ac yn gryfhad i gannoedd sydd yn brysur ar hyd y flwyddyn. . . . Y mae Llandrindod ddechreu Awst eleni wedi bod yn orlawn. o ymwelwyr. . . Yr oedd yn dda gennym glywed cymaint o Gymraeg yno. . . Yr oedd yno ddigon o bregethwyr Cymraeg a Saesneg i gynnal gwasanaeth beunyddiol, fore, a chanolddydd, a hwyr, Saboth ac wythnos, ar hyd yr holl amser; ond yr oedd llawer genau cyhoeddus, drwy drugaredd, yn ddistaw yno." Cyn diwedd ei nodyn, sonia am adeiladu Kilsby Hall, er cof am Kilsby. Mor debyg iddo ef!
Y gwendid a'r nychtod eto, a mawr ofn ei farw, yn Nhachwedd a Rhagfyr, 1904; ond aeth drwodd heb i'r fflam ddiffodd! Ceisio gorffwys yn ei wely y byddai, a cheisio darllen "darllen gwaith Ben Bowen," meddai Gwili, a safodd mor aml yn ymyl gwely'r Bardd, ac yr oedd ei arabedd yn llif, er gwaethaf ei beswch a'i boen."
Ond yr oedd cyfle byr eto i hen wynebau a oleuasid lawer tro gan heulwen ei arabedd ef i ddod i edrych cydymdeimlad â'u hen gymwynaswr. Ar nos Sadwrn, yn ystod y cwthwn blin hwn, daethai'r datganwyr enwog, Mri. David Hughes a Threfor Evans, i gyngerdd yng nghapel y Gwynfryn. Bore drannoeth yr oeddynt ill dau yn yr odfa, a George, mab y Bardd, yno hefyd. Cyn gynted ag y daeth George i'r tŷ, a chyrraedd ystafell wely ei dad, meddai'r tad llesg yn ei wely, "Ble mae'r boys, odin nhw ddim yn dod i ganu i fi?" Own i ddim yn lico gofyn iddyn nhw," meddai'r mab. "Cerdd ar 'u hol nhw," meddai yntau, a gofyn iddyn' nhw am ddod i ganu i fi." Cyrhaeddodd y ddau ganwr gwych ymyl y gwely, ac wedi cyfarch yn dawel, meddai'r Bardd claf, Canwch fechgyn: canwch emyn."
Pan yn cerdded trwy'r cysgodion,
Pwyso ar dy air a wnaf,
Ac ar waethaf pob amheuon,
Buddugoliaeth gyflawn gaf.
Dechreuodd y ddau ganu, a chyda'i law deneu, wen, y tu allan i'r cwrlid, ceisiai ganu, a rhyw guro amser; yna peswch, a cheisio canu nodyn drachefn. Wrth weld yr ymdrech, torrodd Mr. Trefor Evans i wylo, ac wylai Mr. David Hughes. "Ie," meddai yntau,
Pwyso ar dy air a wnaf,
.. pwyso ar . . . dy air . . . a wnaf,
A chododd y gân ei hadenydd yn wlyb o ymyl gwely'r awenydd, y bore hwnnw! Buan yr aeth "Trefor" adref ar ol y Bardd i'r
Goleu geir ar bethau cudd,
eithr y mae'r canwr gwych arall yn "tawel aros," fel y ceisiodd y tri gyd-ganu y bore Saboth hwnnw yn ymyl gwely'r claf. Ond daeth i allu dywedyd yr ystori ei hunan yn "Y Diwygiwr," Chwefror, 1905, a gwell yw ei chael ar ei bin blin ef ei hun:—
YN Y CYSGODION, A'R DIWYGIAD.
Oddiar pan gefais y pleser o ysgrifennu i'r "Diwygiwr" o'r blaen, mae Deheudir Cymru wedi bod yn chware a dawnsio yn heulwen Y Diwygiad,' a minnau wedi bod yn griddfan a gorwedd yn Y Cysgodion.' Diolch i Dduw, ac i ddynion hefyd, yr wyf wedi cael nerth i godi ar fy nhraed unwaith eto, er y cymer hi gryn dipyn o amser i ddod yn ddigon cryf i rodio oddi amgylch a cheisio gwneuthur rhyw ddaioni.
Dyddiau blin yw dyddiau cysgodion cystudd. Yr oedd cysgod cystudd caled a pheryglus wedi fy nal, a hynny pan oedd cysgodion hirnos ac oerni gaeaf yn gorwedd o gylch ymhob man, ac yn ei gwneud yn flin i ddyn claf ddisgwyl am y wawr wen ar lawer noson ddu.
Er tosted y cystudd, ac er tewed y cysgod, ni chefais fy ngadael o gwbl yn hollol ddigysur.
Yr oeddwn wedi clywed son am y Diwygiad, a elwid Diwygiad Ceinewydd, rai wythnosau cyn fy nharo i'r gwely. Yr oedd hen fardd, a hen gyfaill i mi, wedi bod yn mwynhau dŵr y môr Ceinewydd am rai wythnosau, yr haf diweddaf, ac wedi cael prawf o'r Diwygiad yn y lle hwnnw, ac yn son am y cyrddau, yn enwedig canu'r merched yno.
Galwodd i fy ngweled un prynhawn, ac yr oedd mewn hwyl dda i adrodd hanes y Diwygiad fel y gwelodd, ac fel y teimlodd y peth ei hunan.
Hen Fardd a ddaeth ataf fi,—a hanes
Hynod Sir 'Berteifi;
A'i ddilyn gan addoli,
Wnai dawn cân,—merched New Quay!
Son am ddawn cân, a dawn gweddi merched y Cei a wnai yn ddibaid.
Yr oeddwn innau mewn cyfeillach grefyddol yng Nghapel y Gwynfryn rai wythnosau cyn fy nghystuddio, wedi bod yn ceisio dweyd yr hanes, fel y clywais ef gan fy nghyfaill, ac yn dweyd mor dda fuasai gennyf weled cyfarfodydd o'r fath yn ein plith ni,—dynion yn cymryd rhan heb eu cymell!
Aeth pethau ymlaen gyda ni am wythnosau heb un son neilltuol am ddiwygiad, ond ambell air am Ddiwygiad New Quay.
Dydd Sul, Tachwedd 6, yr oeddwn wedi bod yn fy ngwely am wythnos, yn bur ddihwyl, a'r dydd Gwener cyn hynny, yr oedd operation a brofodd yn bur beryglus wedi ei chyflawni arnaf, ac yr oeddwn yn wan iawn, mae'n debyg, er nad oeddwn i fy hunan yn teimlo hynny ar y pryd,—yr oedd yr operation wedi pasio, a digon oedd i mi. Y mae dianc ar operation bron fel dianc ar angeu ei hun, a byddai cystal gennyf wynebu angeu a wynebu hon! Beth bynnag, yr oedd cyngerdd wedi ei chynnal yn ein capel, y nos Sadwrn cyn hynny, Tachwedd 6, ac yr oedd dau gyfaill annwyl i mi yn canu yno, sef Mri. David Hughes, Glandwr, a W. Trefor Evans, Treforis, ac yr oedd y fath awydd angherddol am eu clywed yn canu arnaf, bore dydd Sul, fel yr anfonais fy mab ar ol cyfarfod y bore i ddweyd fod yn rhaid iddynt ddod i 'ganu i mi y pryd hwnnw; aeth, a chadd afael ynddynt, ac er fy malchter a'm boddhad, wele David Hughes, a Threfor Evans, a Ben Davies, yn yr ystafell, ond nid Ben Davies y cantwr cofier, ond ein Ben Davies ni yn Amanford, un o'r bechgyn mwyaf rhadlon ac annwyl yn y byd,—yr oeddwn wedi llwyr golli arnaf fy hun wrth eu gweled, ac yr oedd tôn ac emyn yn barod gennyf. "Canwch Narberth i mi fechgyn," meddwn, "ar yr emyn
Pan yn cerdded trwy'r cysgodion,"
a dyna'r ddau Bencerdd YN CANU!
Ac O, dyna ganu rhyfeddol, yr oedd pob un oedd yn yr ystafell yn canu neu yn wylo, neu yn hytrach,—yn canu ac yn wylo! Nid wyf yn cofio i mi deimlo dim cyffelyb erioed. Yr oedd yr Ysbryd yno heb ddim amheuaeth, ac yr oeddem i gyd yn yr Ysbryd ar ddydd yr Arglwydd.
Wedi tawelu'r wylo, a sychu'r dagrau,—y dagrau cariad pur, y rhai oedd i ni ar y pryd yn felys iawn, cawsom yr emyn i gyd, a rhagor! Yr oeddwn mewn serch mawr â'r emyn a'r dôn, ers llawer dydd, a bellach nid aiff yr un o honynt byth yn angof.
Dichon nad yw pawb wedi sylwi ar ledneisrwydd y dôn a'r emyn, ac mor llawn o ddefnydd cysur ydynt:—
Pan yn cerdded drwy'r cysgodion,
Pwyso ar dy air a wnaf;
Ac ar waethaf pob amheuon
Buddugoliaeth gyflawn gaf.
Dyna gysur cryf i ddyn ar ei glaf wely.
Dim ond imi dawel aros
Goleu geir ar bethau cudd;
Melys fydd trallodion hirnos
Pan geir arnynt oleu'r dydd.
Ciliodd tralledion mwy na thrallodion hirnos gaeaf wrth aros am y dydd wrth ganu honna ganwaith.
Os mai egwan yw fy llygad
Digon imi gofio hyn,
Hollalluog yw dy gariad—
Fe wna bopeth fel y myn!
Dyna glimax i ganu' fod cariad Duw yn Hollalluog!' Yr oeddwn wedi teimlo cariad cyfeillion, a chariad cymdogaeth, y tu hwnt i bopeth,—ond cariad Duw yn Hollalluog, dyma oedd yn rhyfedd. Nid oedd ein cariad ni yn gallu popeth, ond y cariad hwn yn gallu popeth fel y myn!
Meddwl purach, llawnach goleu,
Bywyd wedi mynd yn rhydd,
Pan ddel hynny mi gaf finnau
Wybod gwerth y pethau cudd.
Ie, ie! llawnach goleu,' a bywyd wedi mynd yn rhydd,' wedi mynd yn rhydd o'i wendid, a'i boen, a'i flinder, pethau yr oeddwn yn gweddïo yn daer am danynt bob nos a bore, pan dan bwysau trymaf y cystudd, ac yn cael math o atebiad mewn cân yn unig!
Canwyd yr emyn drosodd a throsodd, ac emynau eraill hefyd, ac nid ä'r canu hwnnw byth yn angof. Diolchaf byth i'r ddau ganwr peraidd am y wledd, ond credaf o ran hynny, iddynt gael cyflawn dâl. Canwyd emynau eraill, ond dyna yr emyn fu yn canu am wythnosau yn fy nghlustiau, ac y mae yn canu o hyd! Dyma sŵn y Diwygiad i mi.
Emyn bychan arall oedd yn ymhel â fi oedd, 'Agor i'r Goleuni Glân,' allan o 'Odlau Eto,' Rhan III., gan B. Parry, Abertawe.
Cyfieithiad yw o emyn a glywais yn cael ei ganu gan Sankey, ac y mae y dôn yn ei weddu i'r dim, ac yn sicr o gydio o hyd, a'r cytgan yn llawn swyn:—
Os yn ofni'r gelyn, ofni colli'r dydd,
Weithiau'n wan dy obaith, weithiau'n wan dy ffydd;
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân!
Os yn colli'th olwg weithiau ar dy Dduw,
Os yn ofni marw yn lle bythol fyw,
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân.
Os am weld y llwybr sydd yn arwain fry,
Os am beidio drysu yn y t'w'llwch du,
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân.
Cytgan—Agor i'r goleuni glân, &c.,
Gloywa dy ffenestri i gael gweld yr haul,
Agor i'r goleuni glân.
Bu Eos Dâr yn canu hwnna i mi, fel y medr yr Eos ganu emyn, nes gloywi'r ffenestri, a gollwng i mewn y goleuni glân pan fyddo hi yn ddigon tywyll, yr hyn ddylem wneud i gyd.
Pan ddaeth blwyddyn newydd, chwilio am ei hen nerth y caed ef—mynd i Norton eto yn gynnar yn 1905, yna i'w hen gartref ym Mrynaman, "a llawer lle arall ymrig yr haf." Fel hyn yr ysgrifennodd at ei ferch, "Mary," o Frynaman, gyda chryniadau lled ddieithr yn yr ysgrifen:—
Dydd Mercher.
Annwyl Mary,
Cyraeddasom yma neithiwr ddeutu chwech, Joe Hargreaves yn ein gyrru yn ei gerbyd. Cefais noswaith dda iawn neithiwr yn y gegin ffrynt, a thân yno, mam ar y soffa a minnau yn y gadair. Breakfast heddyw am hanner awr wedi chwech, cockles, a thê a bara menyn. Y mae y dydd yn oer, a glaw mân diflas. Yr ydym wedi bod yn y tŷ trwy y bore yn erfyn papur, ond heb gael un eto am unarddeg. Ychydig allwn fynd allan heddyw. Anfon
lythyrau i mi yfory os bydd yna rai. Byddwn yn dod gartre nos Wener.
Pen drwg, dim modd ysgrifennu
Ein cofion a'n serch,
DY DAD.
Aeth i Lanwrtyd pan ddaeth haf cynnes, eithr nid oedd ond yn cerdded i gwrdd â'r cysgodion. Yn ol eto, a'i nychtod gydag ef, a'i anadl yn gaethach fyth. Meddai ar ei ddychweliad, Ma'r hen ana'l 'ma 'n gaeth; ma' arna' i ofn ma' 'i golli 'e 'na i cyn diwedd.' Wrth ei weled ym mro'r Ffynnon, gofynasai rhyw hen gyfaill iddo, Holo, Mr. Williams, beth ych chi'n mofyn yma, mofyn dwr fel ni gyd, mae'n debyg." Nage, wir," meddai yntau, yn fyr ei anadl, ac yn peswch, "mofyn gwynt w' 'i."
Ond adref i'r Gwynfryn eto, ac erbyn hyn mae Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn yr ymyl, Awst, 1905; a dyna lythyr oddiwrthy Bardd claf at Eos Dâr, a bwysasai gymaint ar ei awen ef at yr Orsedd a'r Eisteddfod:—
Dydd Sadwrn, Awst, 1905.
Annwyl Eos Dâr,
Dyma fi'n y Gwynfryn unwaith eto, wedi gorfod rhedeg i'r tawelwch o Lanwrtyd. Yr oedd y crowd a'r gleber yn ormod i mi, y mae popeth yn fy lladd, felly ni allaf fentro yn agos atoch yn Aberpennar, ac y mae yn wir flin gennyf am hynny.
Y mae'r pwyllgor wedi anfon ataf, ac yn dra charedig, ond y mae'r perygl yn ormod i mi ddod yna. Y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf y cewch le da, a llwyddiant mawr yna, felly y bo hi, a Duw'n gwlad a'n cenedl a'ch bendichio, meddaf fi.
Gwelaf fod yr Eos i ganu ddydd a nos yna. Dyma fi yn amgae dalen i geisio llanw'r bwlch. Cofion atat, ac at bob perchen anadl yna.
Yr eiddot byth,
WATCYN WYN.
Gyda'i lythyr daethai cân, "Dyffryn Cynnon," a cheir hi yn ei Waith.
Nesu wnai'r diwedd, ond rhaid oedd gwneuthur un ymdrech eto, ac i "annedd dawel, ar fin Llyn Llech Owen," yn ardal Penygroes, Llandebie, yr aeth. Bu yno am bythefnos yn cael ymgeledd Capten Thomas, y Garn.
Ond ryw hwyrnos yn niwedd Medi, dacw ef adref i'r Gwynfryn eto, ac adref ar ffrwst mewn cerbyd caeëdig, ac yn meddwl fod y daith yn gorffen! Ond yr oedd gwenau cyfeillion, a sŵn "yr hen ganu" i ddod ato eto, i dalu 'nol. Methu mynd i'w wely i orwedd,—ceisio esmwythdra yn y gadair freichiau, ac ar y glwth helaeth, ond yn ofer! Yr anadl byr a'r peswch blin yn cadw gorffwys draw: ond efe'n llawn chware yn ei ysbryd. "Beth pe baech chi'n ceisio mynd i'r bedroom, fe fydde gwell cyfle i chi am gysgu," meddai "Towyn " wrtho. "Towyn bach," meddai yntau yn doredig, "pe byswn i ddim ond treio mynd i fyny'r stair, mi fyswn yn y nefoedd cyn bod ar 'i thop hi."
Y gantores enwog o "Barc yr Ynn "—Mrs. Phillips (Martha Harries) yn galw, gyda'i miwsig tirion yn ei llais, a dyfnder o gydymdeimlad yn ei gwedd, yn adnabod ei galon yn dda, wedi bod gyda hi cyhyd yn ei benillion telyn, ac yn ei ymddiddanion, disglair fel arian ar hyd y blynyddau; ond yr hwyl yn gostwng! A'r Saboth oedd hi, ac Eos Dâr a'r Telynor Tom Bryant wedi bod yn cynnal cyngerdd yn Rhydaman (Amanford), y nos Sadwrn, "ychydig nosweithiau cyn ei farwolaeth," medd yr Eos, a dacw'r Delyn i'r hen aelwyd, ac Eos Dâr a'r Telynor. Fel hyn yr edrydd Eos Dâr y stori:—
"Rhaid oedd treulio ychydig amser yn y Gwynfryn' cyn y gyngerdd—y Bardd wedi bod am wythnosau yn y gwely, ond wedi codi i'r gadair ger y tân, a'r diweddar Barchedig Robert Thomas, o Landwr, yno yn y cwmni. Cyn myned i'r gyngerdd, gofynnais iddo, 'Watcyn, a garet ti i mi ddyfod a'r delyn yma prynhawn yfory ar ein ffordd i orsaf y rheilffordd?' Carwn yn fawr, os byddi cystal a dod a hi,' meddai yntau. 'Byddai'n dda gennyf glywed y Delyn unwaith eto.'
Felly y bu. Erbyn hanner awr wedi dau, yr oedd Watcyn wedi dyfod i lawr i'r ystafell arferol, ac yn aros am ddyfodiad y Delyn. "Beth wyt ti am i mi ganu, Watcyn," meddwn i, 'Cana ychydig o donau y Diwygiad.' Gofynnais i'r Telynor i daro Cwynfan Prydain' (Alaw Gymreig), a chenais
Dyma gariad fel y moroedd, &c.
Pan ddaethpwyd at y llinell,
Pwy all beidio cofio am dano,
cododd y Bardd ei law fechan i fyny, gan guro amser, a gwên nefolaidd ar ei wyneb. Pan ddaethpwyd at derfyn y pennill,
Dyma gariad nad a'n angof,
Tra bo'r nefoedd wen yn bod,
gwaeddodd allan yn uchel; 'Amen, Amen.' Ar ei gais canwyd,
Mae'th eisiau Di bob awr,
ac
Agor i'r goleuni glân (Let the blessed sunshine in),
ac meddai, Yr ych chi wedi 'ngwella i'n lân, a diolch yn fawr i chi, byddwch yn fechgyn da.' Cafwyd cwpanaid o dê, a ffarweliais am y waith olaf â'm cyfaill siriolaf yng ngwlad y gân yr ochr hyn."
Aeth y delyn i ffwrdd gyda'i thannau wedi ymleddfu wrth weled y Bardd blin yn ei gadair, a'r nerth yn cilio!
Nesu yr oedd y diwedd, a Gwydderig, ei hen gyfaill, yn ymyl ei wely'n gwylio: ei briod a'i ferch wedi gorfod mynd i geisio gorffwys ennyd—Mary y ferch ar y glwth yn ymyl, yntau â'i lais gwan yn galw arni. "Mae'n rhy gynnar i gwnnu, Watcyn," meddai Gwydderig. Meddai yntau, gyda'i glust blinedig wedi dal adsain y gynghanedd, "Rhy gynnar i gwnnu"—" Rhy gynnar i gwnnu.'
Ennyd eto, a dyna'i linell olaf ar y ddaear! Yr oedd yn bur anesmwyth, ac yn gofyn yn ol ei nerth, pa bryd y deuai'r dydd! Pan feddyliodd Gwydderig fod y wawr ar y ffenestr, cododd y llen yn gynnil, a dyna'r bore arian distaw i mewn i'r ystafell, a'r pelydrau yn chware ar y cwrlid. "Dyma'r dydd wedi dod, Watcyn," meddai Gwydderig. "Da iawn," meddai yntau yn wannaidd; a chan syllu ar y llewyrch ar y cwrlid, meddai:—
Goleu ddydd i'r gwely ddaw;
ac fe ddaeth mewn ystyr uwch na thoriad gwawr naturiol; ac aeth y Bardd adref yn y llewyrch mwyn, Tachwedd 19, 1905, yn 61 oed.
Unwaith eto i'r hen gartref, ac i ddwyn gweddillion blin y Bardd i'r bedd, ar y 23ain o Dachwedd, 1905. Darlunio'r angladd! Pwy wna? Pobl y dyffrynnoedd a'r wlad o gylch wedi dylifo yno! Pobl yn llanw'r cae, llwybrau'r ardd, a llwybr cudd yr ysgoldy! Ac am allu dilyn ei "gorff sal" i mewn i'w annwyl Gapel y Gwynfryn, ofer! Buasai'r dorf yno yn disgwyl ers awr a mwy.
Yr oedd cysgodion y nos yn dod ar ffenestri'r cysegr cyn troi o honom at fynwent Gellimanwydd; ac am orymdaith drefnus, nid oedd obaith. Y miloedd yn ymwasgu ymlaen trwy yr hen bentref i gyfeiriad y bedd; ac am hir amser gwedi gweddi proffwyd, ac olaf drem y teulu, ymwasgu gweddus y cannoedd i gael yr olwg olaf ar yr arch. Erbyn i ni gael cyfle i ddod at y fan, codasai seren lachar uwchben, a chyda hi daethai pennill o emyn yr hwn oedd fud yn ei fedd i'n meddwl:——
I ddyfnderoedd pob caledi
Nefol wawr
Dreiddia i lawr—
Duw sy'n hau goleuni.
Y mae'r tystiolaethau da am dano yn galw ar ei gilydd o gyrrau'r ardal y maen coffa oddiar y mur yng nghapel y Gwynfryn, a'r groes wen o fynor ar ei fedd yn naear dirion Gellimanwydd. Meddai'r maen coffa o'r mur:—
"ER COFFA DA AM
Y PARCH. W. H. WILLIAMS (WATCYN WYN) O'R GWYNFRYN,
AMANFORD,
ATHRO, BARDD, PREGETHWR,
Y CYFODWYD Y GOF-ADAIL HON GAN EI DDISGYBLION.
GANWYD EF MAWRTH 7, 1844.
BU FARW TACHWEDD 19, 1905.
Rhagorai mewn naturioldeb hawddgar, synhwyrau cryfion, a ffraethineb digyfryw.
Yn naear y capel newydd—gwelir
Cofgolofn y prydydd;
A'i gorff sâl yn gorffwys sydd
Ym mynwent Gellimanwydd."
Meddai'r groes o fynor, hithau, mewn toddaid o waith Gwydderig:—
Enw WATCYN WYN ni wêl—ddiwrnod
Bydd raid ei osod mewn beddrod isel.
ANERCHIAD—Y PARATOAD GOREU AR GYFER Y WEINIDOGAETH.
(PAPUR A DDARLLENWYD YNG NGHYFARFOD UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG, YM MHWLLHELI, 1895.)
Y paratoad goreu yw paratoad cyn geni. Dylai y pregethwr a'r gweinidog, fel y bardd, gael ei eni i'r gwaith. Nid yw geni drachefn yn ddigon i gymhwyso pob un i'r gwaith hwn; y mae yn dibynnu i raddau mawr ar yr enedigaeth gyntaf.
Os na fydd dyn wedi ei eni yn berchen synnwyr cyffredin ac anghyffredin, os na fydd dyn wrth natur yn berchen dawn i baratoi pregeth a dawn i'w dweyd hi, os na fydd dyn wedi dod i'r byd yn feddiannol ar gynheddfau i flaenori ac arwain, a galluoedd i'w wneud ei hunan yn dderbyniol ymysg dynion, bydd yna ormod o waith wrtho i wneud un llun arno.
Gall gael gras, ond digwydd fawr iddo gael gras byth, os na fydd wedi cael synnwyr a natur dda cyn hynny; ac os bydd wedi cael synnwyr da a natur dda, bydd rhad ras yn sicr o ddilyn, oblegid "i'r sawl sydd ganddo y rhoddir iddo."
Ond, a chaniatau fod dyn wedi ei eni â'r cymwysterau gofynnol ynddo, beth ellir wneud i'w baratoi? Pa fodd mae darganfod y dyn? Ai efe ei hunan sydd i gychwyn allan, ai ynte rhywun arall sydd i ofyn iddo fyned? Beth yw'r drefn Annibynnol? A yw yr ebol yn rhwym? Os yw, pwy sydd i'w ollwng yn rhydd? Dichon na wnai pregethwr Annibynnol o'r iawn ryw ofyn i neb.
A dichon na wnai eglwys Annibynnol o'r iawn ryw ymyrraeth â neb, oblegid ble mae ei hawdurdod ar y pwnc cynnil hwn?
Nid ydym yn gwybod am nemor neb wedi eu hatal i ddechreu pregethu gan un eglwys. Yr unig beth all eglwys dda wneud yw peidio â gofyn am wasanaeth neb nad yw am ei glywed.
Hefyd, nid ydym yn gwybod am lawer o eglwysi wedi cymell neb i bregethu; fel rheol, ac fel ffaith, eu cymell eu hunain y mae y rhan fwyaf; eu cymell eu hunain drwy eu cyfeillion, a'r cyfeillion yn cymell yr eglwys i roi cymhelliad i'r brawd a'r brawd arfer ei ddawn yn gyhoeddus, neu gael eu codi gan eu teuluoedd, fel codi 'ffeiriadon.
Dyna y drefn Annibynnol o baratoi ar gyfer y weinidogaeth, ac am wn i, nad yw hi yn eithaf iawn hefyd, cael y peth i ddechreu o du y dyn ei hun; ac os na fydd awydd pregethu arno, pa ddiben ei gymell; ac os bydd awydd, pwy ddichon ei atal?
Dichon fod yna ambell flaenor ac ambell weinidog, mewn ambell eglwys, yn fwy byw, ac yn fwy llygad-agored, ac yn fwy parod i gynorthwyo gyda hyn nag eraill; ond, fel rheol, dyna'r drefn Annibynnol.
Ar ol i ddyn gychwyn, beth sydd i'w wneud â'i baratoi? Beth sydd gan yr eglwys i'w wneud i'w gynorthwyo? Diameu, os bydd eglwys wedi cymell neb i ddechreu ar y gwaith da, y dylai ei gynorthwyo i'w orffen, drwy fyned ymlaen at berffeithrwydd. Ond os na fydd eglwys wedi ei gymell i gychwyn, nid oes ganddo hawl ar ei help i fyned ymlaen.Dylai pob eglwys sy'n cymell neb, a'r neb sy'n ei gymell ei hun, gofio hyn, felly byddai iddo wneud i ffwrdd â llawer iawn o anhawsterau y paratoi.
Paratoad rhagorol ar gyfer y weinidogaeth yw cael cydymdeimlad a help; y mae yn datblygu a diwyllio natur oreu dyn; ac, yn wir, y mae yr eglwysi yn garedig, dim ond myned atynt yn ysbryd cariad yr efengyl.
Nid ydym yn cofio cael un math o anhawster gydag un eglwys pan yn casglu at y Coleg; cawsom ychydig oddiwrth rai personau unigol; ond, fel rheol, personau unigol iawn oedd y personau hynny. Gwareded cymdeithas ni rhag myned yn bersonau unigol!
Ond wedi cychwyn, wedi cael cymhelliad personol ac eglwysig, wedi cael y synnwyr a'r dawn naturiol, a'r gras gofynnol ar gyfer y gwaith, ac wedi cael y cydymdeimlad, a'r help, a'r haelioni angenrheidiol, y pwnc nesaf yw—Pa gwrs o addysg sydd eisiau? Ymha ysgol y ceir hynny? Pa goleg yw'r goreu? Dyna'r cwestiynnau tanllyd, yn yr argyfwng presennol!
Y mae yn amlwg oddiwrth y testyn, a geiriad y testyn, fod Pwyllgor yr Undeb Cymraeg yn tybied fod yr adeg wedi dod i siarad yn groyw ar y pwnc yma, cyn y buasent yn gofyn i mi baratoi papur arno.
Y mae geiriad y testyn yn bradychu amheuaeth ym meddwl y Pwyllgor a yw'r paratoad presennol, y dull presennol, a'r cwrs presennol o addysg, yr hyn a ddylai fod.
Dichon fod sefydliad y Brifysgol yn ein gwlad, a dyfodiad yr Ysgol Ganolradd i fodolaeth, wedi symbylu'r Pwyllgor i feddwl a gofyn "Beth i'w wneud?"
Y mae amgylchiadau yn newid pethau o hyd, a dyfodiad sefydliadau newyddion, a chynnydd manteision, yn deffro hyd yn oed arweinwyr crefyddol i symud ymlaen, ac amlwg yw, fod yna ambell un yn clywed rhyw lais yn galw" Deffro, deffro, Seion, gwisg dy nerth."
Beth yw'r cwrs o addysg sydd eisiau ar bregethwr a gweinidog yn wahanol i ysgol-feistr, neu gyfreithiwr, neu fferyllydd, neu oruchwyliwr gwaith glo? &c. Pa mor bell y dylent fyned ar yr un llinellau, a pha bryd y dylent ymwahanu? Credwn y dylai'r pregethwr fod yn "un o blant y byd hwn" i raddau, am y bydd ganddo dipyn o waith ymdrafod â phlant y byd hwn, a rhaid iddo, cyn dysgu byw gyda hwynt, wybod peth o'u ffyrdd; ond dylai hefyd wybod rhywbeth am "ryw bethau na ŵyr y byd am danynt."
Fel rheol, bechgyn wedi bod yn gweithio am flynyddau yw y dosbarth o fechgyn sydd wedi codi i bregethu yng Nghymru, yn yr ugain mlynedd. diweddaf, ac y mae'r hyn y maent wedi ddysgu wrth ymdroi ymysg eu cydweithwyr yn well addysg ar gyfer y weinidogaeth o lawer na'r addysg a gânt o'r llyfrau y gorfodir hwynt i'w darllen ar gyfer derbyniad i'r Coleg, a mynediad drwy y Coleg. Bechgyn iawn yw'r bechgyn yma sydd wedi bod yn gweithio, ac wedi bod yn chwysu, ac yn gwybod am y bobl, ac ysbryd y bobl, am ffyrdd y bobl, ac angen y bobl; dyma wybodaeth werthfawr i fachgen ifanc yn myned i fyw ar yr egwyddor wiroddol; dyma wybodaeth nad yw i'w chael mewn llyfr. Gall llyfr ddweyd am hon:—" Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi, uchel yw, ni fedraf oddiwrthi." Dywedwn i, ar gyfer y weinidogaeth, "Rhoddwch i mi'r wybodaeth hon." Rhoddwch i mi fachgen wedi ei godi yn yr ysgol yma i ddechreu pregethu, cyn dechreu pregethu; bachgen â'i argyhoeddiadau ei hunan wedi rhoi cyfeiriad i'w fywyd: bachgen wedi codi o'n ranks, ac nid wedi codi heb wybod fod ranks yn bod.
Dyma'r dosbarth sydd yn codi i bregethu, ac yn ol pob tebyg, dyma'r dosbarth a gwyd i bregethu eto; ac, yn wir, dyma'r dosbarth a ddylai fynd i bregethu. Nid crefft yw pregethu, ond argyhoeddiad brwd yn torri allan yn hyawdledd tanllyd.
Dyma broffwydi Cymru, a dyma'r rhai y dymunem waeddi ar eu rhan wrth ddrysau'n Colegau:—"O byrth, dyrchefwch eich pennau! hinoedd gogoniant Cymru a ddont i mewn!"
Ond dyma'r dosbarth i'r rhai y mae y pyrth yn rhy gloedig o lawer. Dyma'r rhai nad yw'r arholiad yn deg iddynt. Dyma'r dosbarth nad yw'r arholwr yn gofyn iddynt beth allant wneud, ond, yn hytrach, y peth nad allant wneud hyd byth! a'r peth, yn wir, nad ystyriant yn werth i'w wneud!
Yr wyf fi yn gwybod am y dosbarth yma—yn gwybod am y dosbarth nad yw ein Colegau wedi cael y fraint o'u derbyn, nac athrawon ein Colegau y fraint o siarad â hwynt erioed.
Y mae llawer o'r bechgyn goreu yn myned i'r weinidogaeth heb fyned i'r Coleg, ac y mae rhai yn barod i ddweyd mai "lladron ac ysbeilwyr ydynt, am eu bod yn meiddio dringo ffordd arall," yn enwedig os digwydd i un ohonynt fyned i gorlan go dda!
I gwrdd â'r rhai hyn, nid oes yna ddarpariaeth yn yr Ysgolion Canolradd, nac yn y Colegau Enwadol, nac yn y Prifysgolion. Beth maent yn wneud, ynte? Dyfod i Ysgol y Gwynfryn, wrth gwrs, a myned i'r weinidogaeth oddiyno, a chorn clew a bendith ar eu pennau!
Y mae gormod o classics ac o mathematics o lawer ar gyfer y rhai hyn. Yn wir, y mae yna ormod o'r pethau hyn o lawer ar gyfer pump o bob chwech o'n pregethwyr,—hyd yn oed y rhai sydd yn cael derbyniad i'r Colegau Enwadol, ac oddiyno i'r Colegau Cenedlaethol,—nid yw eu manteision cyn myned i mewn yn caniatau iddynt wneud y defnydd goreu o'u breintiau ar ol myned i. mewn.
Bechgyn iawn, bechgyn talentog, bechgyn yn fyw i'w gwaith, bechgyn wedi eu llenwi âg ysbryd y gwaith, ond nad ydynt erioed wedi cael gwneud yr hyn a allent, a'r hyn a ddylent wneud. Darllenais ysgrif synhwyrol y Proff. Morgan Lewis, Aberystwyth, yn y Geninen am y mis hwn, ar " Addysg Uwchraddol y Gweithwyr," yn yr hon y mae yn cwrdd â'r anhawster o ddysgu bechgyn mewn oed; bechgyn yn gallu meddwl, a deall, ac amgyffred, yn well na chofio. Yr oeddem yn barod i ofyn i ni'n hunain, Pa le y cafodd y Proffeswr Lewis wybodaeth am y dosbarth hwn? Ond gŵyr pawb am yrfa Mr. Lewis, a gwyddom hefyd am yrfa rhai bechgyn sydd wedi eu derbyn i'r Brifysgol, a rhwng y ddau y mae yna esboniad.
Yr oedd un bachgen oddiwrthym ni wedi ei dderbyn i Goleg (wna i ddim dweyd i ba Goleg) yn ddiweddar; ac yn galw i weled ei hen gyfeillion yn yr Ysgol, ymhen rhyw chwe mis ar ol hynny, ac yn rhoi speech i'r bechgyn, wrth gwrs,—ac, yn wir, yn dweyd geiriau gwirionedd a sobrwydd wrth y bechgyn yno; yn dweyd wrth y bechgyn am y gwahaniaeth mawr yn yr addysg yn yr Ysgol, a'r addysg yn y Coleg. Canmol system synnwyr cyffredin oedd ef, a dweyd nad oedd ef wedi clywed un gair o synnwyr cyffredin gan un athro wedi gadael ysgol y Gwynfryn! Bachgen ar dop ei glass oedd hwn, fel y gallwch ddeall wrth ei ymadroddion, ac nid rhywun wedi dianc i mewn â chroen ei ddannedd. Ac os felly " yn y pren ir, beth am y crin?" Os felly ar y top, beth am y gwaelod?
Cofier ein dadl,—Fod yna ormod o glassics ac o fathematics i'r rhan fwyaf o fechgyn sydd yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth. Y mae yna fechgyn, wrth gwrs, y mae'r pethau hyn yn fwyd blasus iddynt (cawn ddod at y rhai hyn eto); ond i'r mwyafrif, pethau diflas a dilês ydynt.
Yr wyf yn cofio yn dda y funud hon lyfr o glassics—y llyfr cyntaf a roddwyd i ni i'w ddarllen yng Ngholeg Caerfyrddin—rhywbeth ynghylch marwolaeth a chladdedigaeth rhyw barrot oedd ef, a bu bron a'n gwneud yn barrots i gyd; parrots cyhyd ag y buom yn y Coleg, oblegid nid oedd neb yn gallu agor un llyfr heb allwedd, na dweyd un gair heb fod rhywun wedi dweyd o'i flaen! A beth yw hynny ond parrots?
Y mae yna ddosbarth yn myned i'n Colegau yn gallu yfed yr addysg a gyfrennir ynddynt. Y mae yna glasuron graddedig yn codi, a diolch am danynt; y mae angen y rhai hyn arnom, a hyderwn y bydd i'n Henwad symud i wneud pob peth yn ei allu i hyrwyddo'r ffordd i godi dynion wedi graddio yn y celfau, a'r gwyddonau, ac mewn diwinyddiaeth.
Bydd yn dda gennym weled cysylltiad ein Colegau â'r Brifysgol wedi ei berffeithio, a'r grisiau yn gyflawn ac yn gyfan i ben pinacl uchaf y graddau! Ond rhaid peidio caead allan y pysgotwyr dynion, neu ynte bydd y rhwydi heb eu llanw. Ond wrth edrych o gylch, beth yw culture? beth yw diwylliant a gwrtaith meddyliol? A oes raid i ni aros gyda'r hen syniad o culture? Ai dim ond classics, a mathematics, a science, sy'n gwneud dyn yn wrteithiedig a diwylliedig ei feddwl? Na ato'n synnwyr cyffredin i ni lynu byth wrth hyn. Y mae yn rhy debyg i wrtaith dybiedig Eglwys Rhufain ac Eglwys Loegr, ac heb fod yn cwrdd â manteision bechgyn Cymru, nac âg angen gwerin Cymru.
Bydd yn well gennyf fi, ac y mae yn well gan y wlad a'm "macodd" o'r hanner, wrando ar ddyn o athrylith gynhenid, a synnwyr cyffredin, nac ar glasur—ysgolheigdod dyn wedi colli ei fywyd wrth fyw gormod ymysg yr ieithoedd meirwon! Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw, a'u hatgyfodi drachefn, os gallant!
Cwestiwn arall! Faint o ddefnydd yw'r pethau hyn i fwyafrif ein myfyrwyr? Ac a yw yn deg â mwyafrif yr eglwysi, ac â mwyafrif y myfyrwyr, i'w cadw'n ormodol gyda'r pethau hyn? Y mae gormod o'r hanner o amser yn cael ei dreulio gyda'r hyn na wneir defnydd o hono yn y dyfodol, ac y mae hynny yn sicr o fod yn gamsyniad mewn diwylliant meddyliol â gweinidog y dyfodol. Darllener rhywbeth wna i'r dosbarth agor ei feddwl, ac nid agor y crib. Y mae yn dda gennym feddwl fod pethau yn dechreu dod i hyn hefyd. Y mae gennym ddynion wedi eu gosod yn athrawon Colegau yn ddiweddar, nad ydynt wedi colli eu bywyd ymysg ieithoedd meirwon,—a phwy feiddia ddweyd nad ydynt yn ddiwylliedig? Pwy feiddia ddweyd nad ydynt yn deall eu gwlad, a'u hiaith, a'u cenedl, ac yn alluoedd sydd yn troi'r byd wyneb i waered?
I gwrdd â'r dyfodol agos, dylai fod yna ddau arholiad, arholiad i'r bachgen ysgol, ac arholiad i'r dyn meddylgar; a dylai fod dosbarth a gwaith ar gyfer pob un ohonynt yn y sefydliadau a gynhelir gennym âg arian y genedl a'r wlad, yn wirfoddol ac yn drethol.
Byddai yn dda gennyf fi weled un Coleg pregethwyr, un sefydliad i baratoi i'r weinidogaeth, a dwy safon i fyned i mewn iddo—un i dderbyn y bechgyn wedi cael cyflawnder bendith addysg glasurol a bydol, a'r llall i gwrdd â'r dynion o athrylith a synnwyr y rhaid i ni wrthynt o hyd.
Y mae gennym ni dri Choleg. Y mae gan y Bedyddwyr dri Choleg. Y mae gan y Methodistiaid ddau, ac y maent o hynny yn gallach na ni yn eu cenhedlaeth. Nid wyf wrth hyn am awgrymu mai plant y byd hwn yw'r Methodistiaid, ond rhaid i mi ddweyd mai rhai call yn eu cenhedlaeth ydynt. Y mae Eglwys Loegr yn gallach fyth yn ei chenhedlaeth mewn gwlad estronol,—un Coleg sydd ganddi hi yng Nghymru.
Yn awr, gyda'r Ysgolion Canolraddol a'r Brifysgol, rhaid i ni feddwl am y cwestiwn yma. Beth sydd gennym ni fel enwad i'w wneud? Beth sydd gennym ni i'w wneud i'n cyfaddasu ein hunain ar gyfer y dyfodol, gyda golwg ar y paratoad goreu ar gyfer y weinidogaeth?
Credwn fod tipyn bach gormod o ladd ysbryd pregethu yn ein Colegau, gormod o bethau'n tagu'r Gair, beth bynnag. Dylai fod gwersi a gwaith pob myfyriwr yn cydfyned yn hollol. Ai nid i hyn y mae addysg y dyfodol yn dod, dysgu dyn i wneud ei waith, a'i wers yn cydfyned â'i waith? Y mae'r pregethwr yn eithriad poenus. Poenus iawn i ambell un, ac efallai i'r un goreu. Diffodd y tân pan oedd yn dechreu cynneu sydd wedi gwneud cynifer o bregethwyr piff.
Gall y wers, a'r gwrtaith, a'r holl ddiwylliant fod yn gydnaws â'r gwaith, ac eto gofalu fod drws y Coleg yn ddigon caeëdig, a'r porth yn ddigon cyfyng i atal neb annheilwng i mewn.
"Dim Cymraeg," mewn ystyr, yw iaith y Colegau a gynhelir gan eglwysi Cymru! "Dim pregethu," y blynyddau cyntaf, yw iaith y sefydliadau sydd yn paratoi ar gyfer y weinidogaeth! Beth fydd canlyniad naturiol y deddfau nacaol hyn?—dim Cymry, a dim pregethwyr! Yr ydym ar y ffordd i'r dim!
Ymwelodd ysbryd Elias (Elias H. Davies, Pentre), âg Ysgol y Proffwydi, ar lan Iorddonen Caerfyrddin, y llynedd, a siaradodd yn iaith ei wlad, a hyderwn nad yw wedi esgyn i'r uchafion tawel heb adael olynydd i wneud yr un peth eto.
Credwn fod gormod o waith "Llyfr a Dosbarth," a rhy fach o ddarlithio a symbylu, a thanio, a chynhyrfu ein dynion ieuainc, drwy ddod a phrif ddynion y genedl o'u blaen i'w hysbrydoli a'u tynnu allan, ambell dro. Dylai'r holl waith fod yn gydnaws â bywyd, ac amcan, ac ysbryd y weinidogaeth, a pheidi, er dim â diffodd yr ysbryd mewn un cyfnod yn hanes y myfyriwr, ar ol iddo gychwyn.
Yr wyf yn teimlo yn berffaith sicr fod gennym ddynion galluog yn ein Colegau a fyddai'n falch i weled mwy o waith cydnaws âg ysbryd a bywyd y weinidogaeth yn cael ei dorri allan iddynt, ac yr wyf yn berffaith sicr fod yna luoedd o fyfyrwyr yn barod i hyn.
Y mae meddyliau cryfion, bywiog, athronyddol, ac ymchwilgar, yn barod i grogi telynau eu bywyd ieuanc ar helyg glan afonydd Groeg a'r Eidal, ac yn murmur yn eu calonnau, "Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?"
Melltith Pilat y byddwn i yn galw'r ieithoedd yma. Nid ydym yn credu fod eisiau cadw'r tair iaith, Hebraeg, Groeg, a Lladin, am byth ynglyn â Chroes yr Hwn nad oes wahaniaeth rhwng Groegwr, a Barbariad, a Scythiad. Cofiwn mai Pilat a'i hysgrifennodd, a rhyw ysbryd tebyg o hyd sydd yn dweyd, "Yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd."
Yr ydym yn ofni fod y pethau hyn yn cael gormod o le. Y mae yna bynciau eraill mwy diddorol i fechgyn heb fanteision. Y mae yna lyfrau eraill mwy buddiol i fechgyn meddylgar, a gwybodaeth arall lawer mwy defnyddiol i fywyd dyfodol y rhan luosocaf o lawer o weinidogion.
DARLITH —MYNYDDOG.
Credwn mai'r dyn mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn ei amser oedd Mynyddog. Credwn mai efe oedd y dyn mwyaf adnabyddus a feddem yn Bu ymhob tref, ymhob pentref, ymhob cilfach a chwmwd drwy ein gwlad fach yn ei ddydd byr.
Pregethwyr Cymru fel rheol sydd yn cael eu hadnabod oreu. Gwlad ryfedd am wrando pregethwyr yw hi. Gwlad ryfedd am adnabod pregethwyr, a siarad am bregethwyr, a chofio pregethau—beth bynnag am eu gwneud—yw hi.
Beth yw'r rheswm am hyn nid ydym yn sicr. Ai am fod y Cymro'n grefyddol ei ysbryd, ai ynte am fod pregethu'n rhad i'w logell?
Beth bynnag,—y mae yna redeg yn ein gwlad ar ol pregethwyr, ac y mae yna lawer o bregethwyr yn rhedeg ar ol y wlad hefyd, fel rhwng y ddau y mae'r pregethwr yn bur adnabyddus.
Y mae un peth pwysig ar ffordd y pregethwr i fod yn Genedlaethol adnabyddus, hynny yw, ein henwadaeth. Y mae rhai o'n dynion mwyaf poblogaidd ac adnabyddus mewn un enwad, heb fod yn cael eu hadnabod braidd mewn enwad arall. Ein coll, a'n colled ni yw hyn. Hefyd, offeiriadaeth y pregethwr, nid yw mor gatholig ei ysbryd, ac mor llydan ei gred, a'r bardd.
Y mae ein datganwyr yn boblogaidd iawn, rai o honynt. Gallem enwi'r diweddar Eos Morlais fel enghraifft o boblogrwydd digyffelyb canwr da —yn wir pan yn cymharu ei boblogrwydd ef, â phoblogrwydd Mynyddog,—efallai ei bod hi yn anodd dweyd pa un oedd uchaf. Ond fel rheol, rhai hoff iawn o ganu sydd yn myned i glywed canwr. Yr oedd yna rywbeth rhyfeddach na chanu, a mwy cyffredinol ei ddylanwad na cherddoriaeth yn llais a chaneuon Eos Morlais—yr oedd yna ysbryd arall yn siarad â ni,—y ni nad ydym gerddorion! Nid pob un sydd yn croesi'r ffin i glywed canwr, am y rheswm nad ydym i gyd yn gerddorion, neu nad yw pob un sydd yn ei alw ei hunan yn ganwr yn canu efallai.
Nid yw'r holl wlad yn rhuthro ar ol y bardd, a hynny, efallai, am fod gormod o gynganeddion o'i gylch,—neu ormod o lyfrau i'w gwerthu yn ei logellau, a dim barddoniaeth ynddynt, nid yn ei logellau wyf yn feddwl, ond yn ei lyfrau. Y mae golwg ddigon barddonol i dynnu crowd ar eu hol ar logellau llawer un!
Yr oedd gennyf fi gyfaill pan yn y coleg, "nad oedd yn edrych yn llai ar ddyn am ei fod yn fardd," medde fe. Yr wyf yn ofni yn wir fod dynion o gyffelyb ysbryd yn darfod o'r tir. Nid rhyfedd chwaith, pan y mae cynifer o rai â'u llogellau mor llawn o rigymau, a'u pennau mor wâg o awen wir, yn galw eu hunain, ac yn cael eu galw gan ffyliaid yn feirdd! Gwareder ein gwlad ni rhag y ddau ddosbarth yna o ffyliaid! Y mae y dreth yna yn cael ei thalu mor drwm yn ein gwlad heddyw, a threth y clera gynt, gyda hyn o wahaniaeth, boneddigion oedd yn porthi'r clerwyr gynt, a'r werin anwybodus sy'n porthi crach-feirdd clerog y dyddiau hyn, ac yn wir, y mae hi bron yn anhawddach lladd y cler hyn na'r cler gynt.
Nid yw'r holl genedl yn credu yn yr areithiwr; y mae'n rhy debyg i bregethwr i ateb un dosbarth, a dim yn ddigon tebyg i bregethwr i ateb dosbarth arall, fel y mae ei gynulleidfa yn cael ei gwasgu'n deneu rhwng dwy ragfarn.
Nid pregethu, na chanu, na barddoni, nac areithio, a wnai Mynyddog. Wel beth wnai ef? Wel, mi ddweda' i chwi mewn un gair, os gwnewch chwi oddef gair newydd—Mynyddogeiddio! Rhoi Mynyddogyddiaeth i'r bobl,—rhyw stwff newydd o waith tŷ, rhyw gymysgedd cartrefol o bregethu, canu, barddoni, ac areithio, ac yr oedd y wlad yn ei lyncu fel llyncu llymru a llaeth!
Yr oedd yna un peth arall yn cyfrif am boblogrwydd y dyn amlochrog hwn, yr oedd yn gallu ysgrifennu llythyr darllenadwy i bapur newydd, llythyr oedd yn cael troi iddo, ac nid troi heibio iddo. Y mae llawer yn cofio am ei lythyrau o'r lleuad. Y nhw mewn gwirionedd oedd goleuni y dydd. Yr oeddynt mor glir ac mor gynnes a phe buasent yn dod o'r haul, ac eto yn ddigon lloerig i bob dyn wybod mai o'r lleuad y deuent.
Arwain Eisteddfod, canu, barnu, ysgrifennu Rhyddiaith, a barddoni, amlochrog amlonglog rhyfedd yna yw yr hwn sydd ger ein bron. Nid sgwar ydoedd. Y mae ambell ddyn yn rhy sgwar, yn rhy stiff i chwi wneud dim âg ef. Dyn bach sgwar efallai yw un o'r rhai tebycaf o gael y lle iddo'i hun o bawb, ac yn wir bydd iddo gynnyg yn dyn am ei lanw hefyd, a hynny efallai heb fod yn solid sgwar, ond rhyw hollow sgwar, ond 'doedd dim yn sgwar ac yn stiff ac yn anhyblyg ym Mynyddog.
Nid un trionglog chwaith oedd ein hen gyfaill. Y mae'r cyfryw rai yn rhy gornelog o lawer,—yr ydych yn taro yn erbyn rhyw gornel yn barhaus, a rhaid taro'r corneli i ffwrdd cyn gwneud dim o honynt.
Pentagon neu hexagon o athrylith oedd Mynyddog, â'i onglau'n lled gyfartal, a'i linellau agos a bod yn ogyhyd. Felly y gwnaeth natur ef, felly y trowyd ef allan o athrofa'r mynyddoedd, lle y graddiodd yn Mynyddog heb rygniad llif, na thrwst cŷn, neu sŵn morthwyl Prif Athrofa Llundain, neu Gaergrawnt, neu Rydychen, yn ceisio gwneud dyn round, neu ddyn sgwar, neu greadur trionglog o hono. Ganwyd ef rywfodd yn gaboledig, fel nad oedd eisiau curo ei gornelau i ffwrdd.
Nid ydym yn cofio blwyddyn ei enedigaeth y munud yma, ond y mae gennym ei dystiolaeth ef ei hun ddarfod iddo gael ei eni. Dywed mewn pwt o hanes ei fywyd a gyhoeddodd yn Y Dydd, os wyf yn cofio'n iawn. 'Yn y lle cyntaf cefais fy ngeni,' ond pa ddydd ac awr nid ydym yn cofio.
Y mae Tafolog, yn ei ysgrif ragorol ar Mynyddog, yn y Geninen, yn dweyd iddo gwrdd âg ef yn un o gyfarfodydd Cymdeithas Lenyddol Machynlleth, yn y flwyddyn 1854, yn llencyn llathraidd dros chwe troedfedd o daldra.
Nid fy mesuriad i yw hwnna cofiwch, ond mesuriad Tafolog, er nad wyf yn gwybod yn iawn pa fodd y gallodd Tafolog, mwy na minnau, fesur llencyn llathraidd dros chwe troedfedd,—buasai yn fwy natu:iol i ni gredu fod Tafolog wedi ei bwyso na'i fesur,—ond ei fesur wnaeth ef, a chafodd fod y llanc dros ddwy lath o hyd y pryd hwnnw. Nid yw yn dweyd ei bwysau.
Y chwi sy'n gyfarwydd â ffigyrau,—wnewch chi weled yn dda gyfrif— faint o amser gymer hi i ddyn dyfu dros ddwy lath—yna cewch allan oedran Mynyddog yn lled agos.
Fe gymerai gryn lawer o amser i ambell un dyfu chwe troedfedd—hynny yw, i ddynion cyffredin, ond nid dyn cyffredin oedd Mynyddog fel y prawf ei hyd.
Gwallt tegfelyn yn cyrlio gylch ei wegil oedd ganddo. Nid ydym yn sicr sut wallt oedd ar ei dalcen—yr oedd wedi colli hwnnw pan welsom ef gyntaf, tebyg fod hwnnw yr un lliw, er nad ydym yn sicr o hynny.
Yr oedd ganddo ddau lygad, ond nid oedd y ddau yr un fath. Yr oedd un o honynt yn ddoniolach llygad na'r llall, ac yn wir yn fwy doniol na nemor lygad a agorodd yn ein gwlad ni,—y llygad mawr hwnnw oedd fel tad i'r llygad arall y llygad crwn hwnnw oedd yn gwylio dros y llygad arall yr ochr draw i'r trwyn,—y llygad cenedlaethol hwnnw oedd yn gweled yn ol ac ymlaen, ac o bob tu. Y llygad oedd yn gallu wincio heb gaead ei amrant, ac awgrymu fod ergyd yn dod cyn ei danio. Dyna lygad! Gresyn iddo gau mor gynnar, onide?
Yr oedd ganddo wyneb rhyfedd. Nid oedd ei wyneb i gyd yr un fath. Y mae ambell wyneb i gyd yr un fath rywfodd—amrywiaeth bywyd heb fod yn argraffedig arno; a phan fyddoch yn edrych arno, gallech feddwl mai edrych i le gwâg yr ydych. Ond yr oedd wyneb poblogaidd gan Mynyddog —wyneb gwerth ei roi ar ben dwy lath, i gael golwg arno.
Y mae ef ei hun wedi darlunio ei wyneb mewn llinell gywir iawn, nid o ran cynghanedd yn unig, ond o ran cynnwys—
A gwyneb brych a gwên braidd,
A rhyw wyneb brych ar wên braidd oedd ganddo bob amser. Yr oedd yn gallu gwenu dros ei wyneb i gyd, a rhagor. Yr oedd yn gallu gwenu i fyny mor bell ag yr oedd wedi colli ei wallt; ac os buasai het ar ei ben, yr oedd honno ar ei wegil yn gorffwys ar ei gurls, er mwyn dangos ei wyneb siniol i gyd—ar ei wên!
Y mae ambell un yn gwenu, dim ond y genau hir-wasgedig sydd yn cymryd rhan yn y difyrrwch, a hwnnw mor ddiflas a phe yn cael ei orfodi i wneud hynny, ond yr oedd ef yn gallu gwenu yn genedlaethol, nes gwneud i bawb wenu wrth ei weld yr oedd ei wên yn 'getching!'
Yr oedd ei ymddangosiad yn boblogaidd. Corff tal, lluniaidd, yn crymu braidd tua'r ysgwyddau, yn ysgogi yn hamddenol, eto heb fod yn araf, ac heb ddim yn fursenaidd nac yn goeg o'i gylch. Y mae cerddediad ambell un yn dweyd gymaint o hop sydd ynddo, a thrwy hynny mor ysgafn yw; a cherddediad ambell un arall yn dangos mor lleied o hop sydd ynddo,—a thrwy hynny mor bwysig yw; ond yr oedd Mynyddog yn gallu symud heb hopio na hepian,—yr oedd yn gallu symud o flaen deng mil heb deimlo fod un llygad yn ei weled.
Ond dyna ddigon am y dyn oddiallan.
Yr oedd ganddo lais rhyfedd. Perthyn i'r dyn oddimewn y mae'r llais, Rhyw lais rhyfedd iawn oedd ganddo, rhyw lais llapre, ond yn cyrraedd i bob man, ac i'w glywed dros yr holl le. Rhyw gymysgedd o lais gwddf a genau, neu gymysgedd o'r pedwar llais am wn i.
Llais a allasai siarad â deng mil heb graco, am y gallech fyned ar eich llw wrth ei glywed ei fod wedi craco'n barod, ac eto i gyd, yr oedd miwsig digrif ymhob crac, a pha lais graciodd gymaint o jokes ag ef? 'Dym ni ddim yn gwybod pa le i'w roi yn scale y lleisiau, 'does gennym ni yr un enw arno ond llais Mynyddog,—gresyn iddo dewi mor gynnar!
Yr oedd ganddo ddawn rhyfedd,—mor rhyfedd a'i lais. Yr oedd y dawn mwyaf derbyniol a gwerthadwy yn ei oes ganddo, dawn a mynd arno, a galw am dano, a dawn yr oedd gwaeddi am ragor o hono o hyd.
Pan bregethodd William Rees (Hiraethog), ei bregeth gyntaf, yn Llansannan, ers llawer dydd, yr oedd yr holl wlad wedi dod ynghyd i wrando arno, ac ni siomwyd neb, oblegid pregeth ysgubol mae'n debyg oedd ei bregeth gyntaf.
Cyhoeddodd Ismael Jones, y gweinidog, gyfeillach ar ol, ac er ei syndod ni chododd un o'r gwrandawyr i fyned allan. Wel,' meddai Ismael wrtho, ac ynddo'i hun, 'dyma ddiwygiad yn torri allan yn Llansannan.' Ac er mwyn torri i siarad â'r rhai oedd wedi aros ar ol, gofynnodd i un hen chwaer beth oedd wedi ei themtio hi i aros ar ol yn y gyfeillach eglwysig. 'Beth sydd wedi fy nhemtio i aros ar ol,' meddai'r hen chwaer, os ydw i am glywed be chwaneg sy gan Wil i ddeyd, be 'dyw hynny i ti na neb arall.' Eisiau clywed be chwaneg oedd gan Wil i ddeyd oedd ar yr hen chwaer—ac ar bob un arall y noson honno. Felly yr oedd hi gyda Mynyddog, yr oedd yn un o'r rhai hynny yr oedd eisiau clywed be chwaneg oedd ganddo i ddeyd ar y bobl, ar ol clywed rhywbeth ganddo, yr oedd eisiau chwaneg o hyd. 'Doedd e' ddim yn debyg i'r pregethwr hwnnw oedd yn rhoi satisfaction y tro cyntaf ymhob man. Wel, fel y dywedais, yr wyf wedi anghofio y pryd y'i ganwyd, bu agos i mi anghofio y lle y'i ganwyd hefyd.
Cafodd ei eni i ddechreu' chwedl yntau, yn y Fron, Llanbrynmair. Lle tawel, er ei fod yn lle gwyllt. Lle llawn o fynyddoedd a bryniau, ac mor llawn a hynny o gymoedd a chilfachau, pob mynydd â chwm yn ei gesail, a phob bryn â chilfach yn ei gysgod. Digon o fynyddoedd a bryniau ynghanol awyr iach, ac yn darllaw ac yn arllwys dwfr glân i'r dyffrynnoedd oedd yn edrych i fyny atynt,—dyma le braf i lencyn dyfu dros chwe troedfedd. Mae'r bryniau yno'n amlach na'r tai, digon o le i nesu hwnt. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cael ei eni mewn lle felly—ac yn cael llonydd i dyfu'n ddwy lath cyn ei symud oddi yno.
Yno y treuliodd fore ei oes, cafodd ei addysg yno, ei addysg fydol, ei addysg farddonol, a'i addysg grefyddol, a stamp Llanbrynmair ar bob un o honynt.
Gallwn ddweyd mai seren oedd ef ar y dechreu yn awyr Llanbrynmair, cyn iddo fyned yn gomed yn awyr ei wlad.
Tua'r flwyddyn 1868 y bu'r tro cyntaf erioed yn y Deheudir,—mewn cyngerdd ym Mrynaman,—os cyngerdd hefyd, oblegid nid oedd na chanu nag adrodd, ond rhyw gymysgu'r ddau—Mynyddogeiddio.
Myfi gafodd y fraint o anfon llythyr ato i'w wahodd y tro cyntaf erioed i'r De, i'r gyngerdd honno ym Mrynaman, yng ngaeaf 1868. Yr oedd yn gofyn ei gyfarwyddo pa fodd i ddod i lawr, oblegid mae'r South mor ddieithr i mi a New South Wales,' meddai.
Daeth i lawr drwy Aberystwyth, a galwodd ym Mhencader i weled Sarah Jacob, nid Sarah, mamgu y Jacob hwnnw gynt, ond Sarah, merch Jacob arall—ond eitha Jacob cofier.
Galwodd yno tua'r un adeg ag y galwodd Y Gohebydd. Nid ydym yn cofio yn iawn a welodd llygad chwith Mynyddog drwy'r drafodaeth Jacobaidd honno, yr ydym braidd yn credu ei fod yn ameu mai ymprydio er mwyn cael ei gweled gan ddynion oedd yno, a'i bod yn derbyn ei gwobr yn ddistaw hefyd.
Dyna'r tro cyntaf yn y De, a gwnaeth hewl o honi y tro hwnnw, a gwnaeth hewl o honi yn y De ar ol hynny, bu ymhob man, ac fel y dywedai efe ei hun, yn y Ceinewydd, 'pymtheng milltir o bob man.'
Credwn ei fod yn fwy poblogaidd yn y De nag yn y Gogledd. Fel y dywedasom, cafodd ei eni a'i fagu yn Llanbrynmair, lle yn y canol yn hollol rhwng De a Gogledd, ac yr oedd fel y dyn ar y fence, yn barod i neidio i lawr i un ochr neu'r llall, a chredwn mai i'r De yr oedd yn neidio fynychaf, am mai y De oedd yn ei werthfawrogi fwyaf. Ai nid yw'r De yn fwy byw i bopeth byw a ffraeth nag yw'r Gogledd? Ai nid yw natur y Deheuwr yn fwy gogleisiol ac effro i gyffyrddiadau difyr nag eiddo'r Gogleddwr? Ai nid yw'r Deheuwr yn fwy sensitive i wit and humour na'i frawd o'r Gogledd? Nid wyf yn sicr beth yw'r rheswm, ond yr wyf braidd yn sicr mai felly y mae hi. un ai'r Deheuwr sydd yn ysgafn, ai'r Gogleddwr sy'n bwysig,—gadawaf hynny i'r Cymdeithasau dadleuol yma i'w benderfynu,—y maent hwy yn gallu penderfynu popeth. Gellid dod a llawer o bethau i brofi hyn, megis gwaith y trigolion, tewder y boblogaeth, golygfeydd y wlad, &c., &c.
Wedi iddo ddechreu mynd o gylch, yr oedd yn boblogaidd dirfawr yn y De a'r Gogledd.
Fel arweinydd Eisteddfod efallai, yr oedd fwyaf yn ei elfen, a mwyaf poblogaidd. Credwn mai efe a wnaeth arweinydd Eisteddfod yn anhepgor. Yn y dyddiau gynt, gyda'r hen Eisteddfodau, y llywydd oedd yn gwneud hyn, y cadeirydd oedd yn gwneud trefn ar y cwrdd, ac yn arwain a siarad cymaint ag a fyddai eisiau. Yr oedd yr hen Gadeirwyr yn Gymry glân,—yn medru siarad â'r bobl yn iaith yr Eisteddfod, ond y mae cadeirwyr y dyddiau hyn fynychaf fel barnwyr ein llysoedd gwladol, rhaid cael cyfieithwyr rhyngddynt a'r bobl.
Y mae cadeirwyr, y dyddiau hyn, yn rhy ddysgedig i ddweyd Cymraeg; deuant yno gydag araith glasurol yn y boced, ac wedi gollwng honno at y cynulliad y maent yn dweyd wrth yr arweinydd, You go on now, a dim bŵ na be'n rhagor, nes returno thanks ar y diwedd!
Dyna sydd wedi gwneud arweinydd yn anhepgor, ac i lanw'r bwlch, nid ydym wedi gweled na chlywed neb yn debyg i Mynyddog.
Gyda ei fod ar ei draed yr oedd pawb yn ddistaw. Nid ydym yn cofio ei glywed yn gorfod gwaeddi 'gosteg' erioed, er mwyn cael trefn, na 'gosteg os byddwch gystal' er mwyn cael cynghanedd. Nid ydym yn sicr beth allasai wneud y dyddiau hyn pan yw'r cynulliad cenedlaethol wedi dyblu! Yr oedd yn llawn adnoddau. Y mae ambell arweinydd fel rhyw hen bop-gun, wedi loado bwledi papur yn barod, ac yn gollwng yr hen fwledi-gwneud yma at y gynulleidfa drwy gydol y dydd, hen jokes, hen straeon, a hen gynganeddion llwydion; a phob un o'r cyfryw yn cyrraedd ei farc, sef cyrraedd y rhai mwyaf penfeddal.
Ond yr oedd Mynyddog yn gallu ergydio ar y pryd, ac yn dibynnu am bylor a bwled ar y defnyddiau o'i flaen. Yr oedd yn cyrraedd pawb, ac yn ysgwyd pawb. Yr oedd yn gwneud i flaenoriaid y Methodistiaid chwerthin nes yn siglo,—am ei ben; a methu stopio o nos Sadwrn nes bo hi'n amser y cwrdd bore dydd Sul!
Yr ydym yn cofio yn dda mor barod oedd i gwrdd â'r amgylchiad o hyd. Mewn Eisteddfod yn Nhregaron, yr oedd railing coed cryf wedi ei godi rhwng yr ail a'r trydydd dosbarth. Gwaith garw fel gwaith gwlad, —ond gwaith cadarn er hynny. Gyda bod gwaith y dydd yn dechreu, dyma ryw lanc o'r trydydd dosbarth yn credu mai'r ail oedd ei le, ond ddim yn leicio talu am yr ail hefyd, gwell oedd ganddo na myned i mewn drwy y drws i'r gorlan honno, ddringo ffordd arall, a dyna fe'n cynnyg canolfur y gwahaniaeth, —ac yn wir yn lled ddeheuig, fel y medr bechgyn y third class wneud,—yr oedd yn bur gyflym, ond yr oedd llygad Mynyddog a'i dafod mor gyflym ag yntau, a phan oedd y bachgen ar ben y railing mae Mynyddog yn pwyntio ato ac yn gwaeddi, Holo, frawd, yr ym ni yn gwybod o'r goreu mae mwnci i chwi heb i chwi ddringad coed.' Aeth y dringhadwr yn ol i'w glass.
Yr oedd yna Eisteddfod yng Nghaernarfon un flwyddyn, a Mynyddog yn arweinydd, ac nid oedd hi yn digwydd bod yn dda rhwng canwyr Caernarfon a Bangor, y ddau le, y flwyddyn honno,—rhedeg ei gilydd i lawr oedd eu prif waith; ac yr oedd Mynyddog yn gwybod am y teimlad, ac yn gwybod lle oedd yn sefyll. Ymhlith pethau eraill, wrth arwain, daeth i'w ran i introducio rhyw Bencerdd,—nid ydym yn cofio pa un, y mae cynifer o honynt. Ac er mwyn ceisio gwneud i'r Saeson anwybodus ddeall, yr oedd Mynyddog yn gwneud hynny gydag illustrations, ac yn pwyntio allan un ac un ar ol y llall. Dyma Bencerdd Gwynedd, meddai, a dyma Bencerdd Gwalia, a dyma Bencerdd America, a phan ar ganol yr eglurhad—dyna asyn yn agor ei enau y tu allan i'r babell—fel y medr hwnnw wneud—a Mynyddog yn aros ar hanner ei waith iddo orffen, ac wedi iddo dewi, ebe Mynyddog gyda'i fys a'i lygad i gyfeiriad y llais, Dyna Bencerdd Bangor.' Dyna un i Mynyddog, a mwy nag un i wŷr Caernarfon.
Yr oedd ei ac Eos Morlais yn gyfeillion calon, a llawer joke graciodd ef ar gost yr Eos. Pan yn ei introducio y tro cyntaf yn y Gogledd, cerddai gydag ef i'r stage, a dywedai, Dyma fo i chwi! Tyfu ar hyd mae dynion yn arfer wneud yn y North, ond tyfu ar draws fynna nhw yn y South, a dyma fodel iawn i chwi o wŷr y South.' Bryd arall dywedai pan fyddent yn ymddangos gyda'i gilydd, 'dyma'r long and short of it i chwi. '
Gallem dreulio y nos tan y bore i roi atgofion o'r fath am dano, ond rhaid brysio ymlaen.
Fel Datganwr, am wn i, y deuai yn fwyaf poblogaidd gyda'r lliaws, yn nesaf at Arweinydd Eisteddfod,—fel Arweinydd Eisteddfod y gwelid ef ar hyd ac ar draws, chwedl yntau.
Y mae'r Western Mail yn ddiweddar wedi rhoi trwydded i mi feirniadu cerddorion a datganwyr, felly anturiaf ddweyd gair am dano fel datganwr.
Canwr yn ei eistedd oedd e', ond yn wir yr oedd yn fwy o ganwr yn ei eistedd na llawer un yn ei sefyll. Datganai gyda'r tannau—tannau'r piano, a chwareuai ei gyfeiliant ei hun, a chanai ei ganeuon ei hun, Yn wir, fe gynghorwn i rai o ddatganwyr Cymru i wneud yr un peth, oblegid ambell waith iawn y maent yn dweyd geiriau dyn arall yn iawn.
Yr wyf braidd yn sicr y gallech gynnyg swllt o wobr i ddatganwyr Cymru am ganu geiriau Hen Wlad fy Nhadau' yn gywir, a mynd gartref â'ch swllt yn eich poced wedi'r gystadleuaeth.
Yr wyf wedi clywed—wedi gweled beth bynnag—rai o'n canwyr yn trin y beirdd yn ddiweddar. Yn wir, os ydynt yn deall cyn lleied am y beirdd ag am y geiriau, nid rhyfedd eu bod yn eu camdrin. Cyn gallu deall bardd yn dda, fe ddylai dyn fod yn deall geiriau yn weddol—nid swn i gyd yw geiriau, cofiwn—mae synnwyr ynddynt.
Dyna lais rhyfedd i ganu oedd y llais llapre hwnnw! Nid ydym yn sicr o'i scale, pa mor uchel, na pha moi isel y gallai fyned, ond yr oedd yn gallu myned ymhell anarferol. Clywid pob brawddeg, pob gair, a phob sill a ganai Mynyddog, gan bob clust o fewn cynhulliad anferthol, a hynny mae'n debyg, nid yn gymaint am ei fod yn canu'r nodau, a'i fod yn dweyd y geiriau.
Yr oedd ei ganeuon, fel y dywedai dyn am yr A B C, i gyd yr un peth, a dim un yr un enw. Rhyw hen alawon yr oedd yn ganu fynychaf, a geiriau newydd spon o'i eiddo ei hun. Nid ydym yn sicr ei fod yn talu sylw mawr i'r nodau, ond yr oedd pob gair yn cael perffaith chware teg ganddo. Rhyw adrodd wrth notes oedd ef, a hynny y peth mwyaf naturiol a fu erioed, yn ddigon a gwneud i bob dyn oedd yn gwrando fwrw'r bai arno'i hun am na byddai yn gantwr.
Fel Beirniad, gwnaeth gryn dipyn o waith fel beirniad barddoniaeth ac adrodd—nid fel beirniad canu.
Yr oedd Mynyddog yn rhy gall o dipyn i farnu canu. Yr oedd yn ddigon drwg ganddo ef ddigio'r beirdd bob yn un, chwaethach digio'r canwyr bob yn gant neu gant a hanner. Hefyd, yr oedd yn gwybod fod y beirdd yn hawddach eu trin o'r hanner na'r cerddorion, ac yn gallach o'r hanner i wybod eu bod wedi colli.
Yr oedd yn un o'r beirniad goreu—fe enillais i bob tro y bum i'n cystadlu dano, a hynny yn eithaf teg hefyd!
Doedd e' ddim yn crach-feirniadu—yn rhyw grafu ar y wyneb.
Rhyw bilo ar y wyneb mae ambell feirniad, ac nid edrych i mewn i galon y gan. Ond yr oedd Mynyddog yn ei deall hi drwyddi ar darawiad, yn gweled y peth os byddai yno rywbeth i'w weled. Ei synnwyr cyffredin a'i ddawn naturiol oedd yn barnu, yr oedd yn gadael ei grach-ysgolheigdod gartref.
Fel bardd yr ysgrifennodd fwyaf, ac fel bardd y parha fwyaf gyda ni, efallai, a hynny am fod ei gynhyrchion barddonol gyda ni mewn llyfr—a goreu côf, côf llyfr. Diolch i Hughes, Gwrecsam, am gyhoeddi llyfrau barddonol—dyna ddechreuad y Deffroad Cenedlaethol, a Chymdeithas y Cymrodorion.
Y mae llawer o son, a siarad, ac ysgrifennu am, a barnu Beirdd Cymru. Gallem feddwl wrth wrando ambell un yn siarad, a gweled ysgrifau un arall, na fu shwd feirdd erioed a beirdd Cymru! Y mae pob un o honynt y bardd goreu yn y wlad! Nid ydym yn credu fod beirdd unrhyw wlad ar y cyfan wedi cael cymaint o'u camfarnu â beirdd Cymru, ac yr ydym yn ofni fod crach-feirniadaeth ar gynnydd yn ein dyddiau ni.
Wrth gwrs, dosbarth anwybodus a disynnwyr sydd yn cam-farnu mor ddiseremoni—ac y mae dau ddosbarth o'r crach-feirniaid hyn i'w cael—sef y Cymro nad yw yn gwybod dim ond Cymraeg, a'r Cymro nad yw yn gwybod fawr ond Saesneg, neu Saesneg a thipyn o glassics. Y mae'r Cymro uniaith heb fod yn gwybod am neb ond beirdd ei wlad,—a'r un arall yn gwybod mwy am feirdd gwledydd eraill nag am feirdd ei wlad ei hun,—ac y mae un yn ei dra-dyrchafu fel rheol, a'r llall fel rheol yn ei dra-darostwng. Y mae un heb fod yn gwybod digon am farddoniaeth yn gyffredinol, a'r llall heb fod yn gwybod digon am farddoniaeth Cymru,—fel rhwng y ddau, mai chware teg go gul gaiff y Bardd Cymreig.
Bardd rhyfedd iawn oedd Mynyddog. Yn wir, efallai y dywed ambell un nad oedd yn fardd o gwbl. Os mai cynnyg at yr aruchel a'r dychmygol, a rhoi i ni greadigaethau crebwyll, a lluniau darfelydd—nid llawer o fardd oedd Mynyddog.
Ond os yw dweyd gwirioneddau plaen mewn ffordd naturiol, os yw taro ergydion agos mewn modd effeithiol, os yw gwneud i ryddiaith ein bywyd bob dydd ganu yn ein clyw nes cyrraedd ein calon, yn farddoniaeth—yr oedd Mynyddog yn fardd.
Yr oedd Mynyddog yn rhy ymarferol, neu ynte yn rhy gall, i fod yn fardd yng ngwir ystyr y gair—yn yr ystyr aruchel felly.
Yr oedd yna ddyn unwaith—dyn call hefyd—wedi ceisio gwneud pennill, ac wedi ei roi i gyfaill o fardd i'w feirniadu. 'Wel,' meddai hwnnw, 'does dim llawer o farddoniaeth yn hwn.' 'Wel,' meddai'r awdur mewn atebiad, 'mae e'n wir, os nad yw yn farddoniaeth.'
Gellir dweyd yr un peth am benillion Mynyddog, mae nhw'n wir os nad ydynt yn farddoniaeth.' Efallai fod hynny yn gryn dipyn o gymeradwyaeth iddynt hefyd, oblegid y mae ambell ddyn ymarferol i'w gael, yn meddwl cymaint am wirionedd ag am farddoniaeth.
Y mae Mynyddog a Cheiriog yn cael eu dal y naill ar gyfer y llall, ac yn cael eu rhoi gyda'i gilydd yn aml. Yr oedd yn y ddau rywbeth ddigon tebyg, yr oedd y ddau yn deall beth oedd yn mynd. Credwn fod Ceiriog yn fwy o fardd, ag edrych arno o safon gyffredin beirniadaeth barddoriaeth, ond yr oedd Mynyddog yn fwy o ddyn. Y mae Ceiriog ambell dro wedi codi yn uwch, ond lawer tro wedi disgyn yn îs. Baban oedd Ceiriog lawer tro, ond wag oedd Mynyddog o hyd.
Cychwynnodd Mynyddog, fel Beirdd Cymru y rhan fwyaf—fel cystadleuwr. Cawn ei ganeuon cyntaf i gyd, braidd â nôd y program arnynt—canu i rywbeth wêl y program yn dda gynnyg gwobr am dano, a rhaid i mi ddweyd mai testynau programaidd dros ben ydynt. Rhaid darllen program fel darllen Hebraeg—o chwith!
Credwn mai colled beirdd Cymru yw edrych ar y program, ac nid edrych o'u cylch; ond chware teg iddynt, os mai dyna'u colled, dyna'u hennill hefyd.
O dan y drefn bresennol, fe all bardd Cymraeg gweddol lwyddiannus wneud ei ffortiwn yn gynt o'r hanner wrth gystadlu nag wrth werthu ei ganeuon i gyhoeddwr. Yn wir, nid oes gennym ni yn ein gwlad neb yn prynu ac yn talu tipyn amdano, ond Mr. Hughes, Gwrecsam. Y mae ein holl gylchgronnau yn cael eu cadw i fynd yn ol yr hen drefn,—rhad râs.
Dyna'r rheswm fod beirdd Cymru heb un genhadaeth neilltuol ganddynt, am mai dilyn y program y maent. Dylai holl bwyllgorau ein gwlad gyduno i gadw cenhadaeth y bardd yn y golwg o hyd. Os oes llais gan farddoniaeth, dylai'r llais hwnnw gael ei glywed yn dweyd yr hyn sydd eisiau ei ddweyd. Dylai cenhadaeth y bardd fod mor amlwg ac mor groyw a chenhadaeth y pregethwr, a dylai ein Heisteddfodau gadw hyn mewn golwg.
Yr oedd Mynyddog yn ddigon call i wybod fod ganddo genhadaeth at ei wlad—os oedd i fod yn llwyddiannus fel bardd. Trodd ei lygad oddiar y program, i edrych o gylch ar ragoriaethau a diffygion ei wlad a'i genedl, a throdd ei awen gartrefol i godi'r naill i fyny, ac i daro'r llall i lawr. Edrycher drwy ei ganeuon, dyma'r ddwy elfen fawr sydd yn cerdded drwyddynt—canmol yr hyn sydd dda, a difyr gnoi ffolineb. Dyma'r hyn a'i gwna yn boblogaidd fel datganwr—y bardd a'r cerddor wedi ymbriodi, ac ymgyflwyno i gario allan yr un genhadaeth. Y mae ei ganeuon i gyd braidd, wedi eu hysgrifennu i hen gerddoriaeth, neu er mwyn cerddoriaeth newydd.
Gallem ddyfynnu yn helaeth, pe byddai gofod, ond rhaid boddloni ar ychydig yma, ac ychydig acw, i ddangos mor agored oedd ei lygad, ac mor fyw oedd ei galon.
Yr oedd ganddo ganeuon i'r teulu, caneuon a wnai i ddyn deimlo'n falch o'i deulu, ac o'i gartref—megis Gweno fwyn Gweno.' I. 30.
Y mae ganddo ganeuon a wna i ddyn deimlo'n falch o'i wlad, rywfodd, heb fyned yn Gymro penboeth, megis 'Cymru i mi.' IV. 25.
Ceir ambell ddarlun byw iawn o ambell olygfa, ac ambell arferiad ganddo, megis, 'Pistyll y Llan.' II. 116.
Ond cuddiad ei gryfder oedd ergydio ar ffolinebau efallai—torri hen bethau fel hyn i lawr dan ganu, oedd ei waith, megis:—
'Llunio y gwadn,' &c. III. 82
'Gwr Hafod y Gâd' I. 83
'Dim ond modrwy' III. 126
'Gyda'r wawr' III. 96
Yr oedd colyn i bob cân, ac ergyd i dref yn dilyn pob pennill.
Y mae tarawiadau tyner, a chyffyrddiadau crefyddol, lawer yn ei ganeuon digon i ddangos teimlad calon guddiedig. Byddai yn dda gennym roddi ei gân "Llanbrynmair" i ddangos hyn (I. 123).
Bu farw'n rhy gynnar, wrth weithio'n rhy galed. Oes fer oedd ei oes, ond yr oedd o flaen y cyhoedd ddydd a nos. Peth peryglus yw dechreu gwasanaethu y cyhoedd,—os bydd y gwasanaeth wrth eu bodd, rhaid bod wrthi hyd farw.
Iechyd i galon gwlad oedd gweled ei wyneb doniol, a chlywed ei eiriau difyr, ac iechyd i galon cenedl oedd cael un i'w difyrru a'i dysgu mor ddidramgwydd, a diwenwyn, a diragfarn.
Coffa da a hir am enw Mynyddog, am ddysgu Cymru i fod yn synhwyrol—peidio â chredu gormod, na rhy fach.
PREGETHAU
I.
"CEISIO TEYRNAS DDUW"
(MATT. VI. 24—34).
Pregeth ryfedd iawn yw'r Bregeth ar y Mynydd. Y mae hi yn cyfranogi o ryddid y mynydd, ac amrywiaeth yr awyr agored lle y traddodwyd hi.
Pregeth i gwrdd ei bobl—Iddewon a disgyblion. Pregeth i gwrdd â'r rhai oedd yno, nid i gwrdd â'r rhai absennol. Y mae llawer o bregethu y dyddiau hyn i rywrai absennol,—pobl absennol, pechodau absennol, drygau dynion eraill, a ffaeleddau dynion pell—heb gyffwrdd â'r bobl fydd yn gwrando.
Dywedir am bregethwr unwaith yn myned am Sul i le dieithr, ac yn aros gyda hen aelod lled onest, hwnnw yn holi iddo," Beth i chwi'n myned i bregethu yfory." "Wn i ddim," meddai'r pregethwr, "y mae gennyf bregeth ar yr adnod honno, Mor anhawdd yr ä y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw.'"
"Gwell i chwi beidio pregethu honna yma," meddai ei letywr. "Y mae dynion cyfoethog iawn yma." " Feallai y pregethaf ar Ddirwest," meddai'r pregethwr. "Na, gwell i chwi beidio pregethu Dirwest yma," meddai'r dyn. "Wel, efallai y rhoddaf bregeth i'r rhai sydd yn esgeuluso'r moddion." "Na, gwell i chwi beidio," meddai'r dyn, " y mae llawer yma, dim ond nos Sul y byddant yn dod i'r cwrdd." "Wel, wn i yn y byd ar beth i ddweyd gair," meddai'r pregethwr. "O," meddai ei letywr, "gallwch fentro pregethu ar yr Iddewon, 'does yma ddim un Iddew i'w gael."
Y mae lle i ofni fod llawer iawn gormod o bregethu pell, pregethu hen hanes, pregethu am hen bobl wedi eu claddu, pregethu am yr Iddewon,—a gadael ein cynulleidfaoedd ein hunain yn ddisylw.
Ac y mae yr achos o hyn weithiau yn y pulpud, ac weithiau yn y sêt. Ond nid oedd Iesu wedi ei gau mewn pulpud, ac yn dibynnu ar setau gweigion neu gorau llawnion; ond yr oedd Ef yn pregethu ar y mynydd, ac y mae ei bregeth mor rhydd a'r awyr oedd o'i gylch. Y mae yn anhawdd gweled y cysylltiad rhwng un pwnc a'r llall, efallai nad oedd un—mai cyfres o fân bregethau, neu wirioneddau amrywiol ydyw'r bregeth hon. Ond mae yn ddiameu mai egluro egwyddorion y deyrnas newydd, esbonio Teyrnas Dduw, a dweyd nodau deiliaid Teyrnas Dduw, a dweyd rheolau bywyd Teyrnas Dduw, yw y gwirionedd mawr sy'n rhedeg drwy y cyfan.
Y mae wedi bod yn son am nodau plant y deyrnas yn y dechreu, megis trugaredd ac addfwynder, &c. Y mae wedi bod yn son am eu gwaith, halltu —puro'r byd. Y mae wedi bod yn son am ysbryd yr efengyl o'i chymharu âg ysbryd y ddeddf,—ei bod yn fwy—nid yn groes, ei fod yn myned y tu hwnt i'r ddeddf, ac nid yn torri'r ddeddf. Y mae wedi bod yn son am elusen, a gweddi ac ympryd, a dangos mai yn yr ysbryd, ac nid yn y llythyren mae eu gwaith. Mae wedi bod yn rhybuddio yn erbyn trysori trysorau ar y ddaear; yn y ddaear fyddai y darlleniad goreu, am mai yn y ddaear y byddai'r Iddewon yn cuddio eu trysorau, dyna y rheswm am y rhodd, ac am y cloddio trwodd, a bydd hyn yn esbonio y trysor yn y maes i ni.
A thebyg mai at drysori golud yn y ddaear y cyfeiriai, a'r pryder yn ei gylch—rhag ofn rhwd a lladron. Dywedai am drysori trysorau yn y nef, lle nad oes pridd yn rhydu, na lladron yn dwyn,—eisiau cael meddyliau y bobl o'r pridd a'r ddaear, ac oddiwrth bethau darfodedig a chyfnewidiol——a'u codi at rywbeth uwch a gwell—trysor yn y nef.
Ac yma, ar gefn hynna, mae Duw a Mamon yn dod i mewn, gair Syriaeg—duw golud,—yw Mamon.
Yr oedd meddwl yr oes y pryd hwnnw yn rhedeg ar ol golud, ac yn pryderu am beth mor ddistadl ar ryw olwg, ond mor bwysig ar olwg arall. Mor ddistadl i fynd i bwyso arno, ond mor bwysig i fyw yn gysurus. Mor ddiwerth i farw, ond mor angenrheidiol i fyw. Mor wan i achub dyn, ond mor gryf i helpu dyn. Mor bryderus os bydd yn Arglwydd, ond mor gysurus os bydd yn was. Ellwch chwi ddim bod yn weision i Dduw a Mamon yr un pryd. Ellwch chwi ddim, 'does dim eisiau rhesymu'r pwnc, ellir dim ei wneud mwy na myned i'r gogledd a'r de yr un pryd, neu gerdded i'r dwyrain a'r gorllewin ar un waith!
Credwn fod yr adnod hon yn perthyn i'r paragraph blaenorol, fel clo ar hwnnw, ac fel rhybudd i berchenogion y trysorau y sonir am danynt. Y trysorau oedd yn peri'r pryder a'r gofal yn eu cylch, y pethau oedd yn tynnu'r meddwl oddiwrth Dduw, ac yn myned a'r holl fryd ar eu hol, ac yn ei gwneud yn amhosibl gwasanaethu Duw a Mamon!
Y mae ef fel yn troi at ddosbarth arall yn y testyn, dosbarth arall o ddynion, yn cael eu poeni gan fath arall o bryder,—tlodion yn cael eu poeni gan bryder angen, rhai heb ddim yn cael eu poeni gan bryder bod mewn eisiau. Cyfoethogion yn cael eu poeni gan bryder gofal sydd yn yr adnod, tlodion yn cael eu poeni gan bryder angen sydd yn y llall. Rhai a digon, ag ofn colli, sydd yn un adnod; rhai mewn prinder, ag ofn methu cael sydd yn y llall.
"Am hynny, meddaf i chwi," meddai Ef wrth ei ddisgyblion tlodion, "na ofelwch am eich bywyd pa beth a fwytaoch, neu am eich corff pa beth a wisgoch—onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd—a'r corff yn fwy na'r dillad."
Dyna osod allan y cwestiwn yn deg ac yn gryf. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd. Oni fydd i'r hwn greodd y bywyd, ofalu am fwyd i'w gynnal? Oni fydd i'r hwn greodd y corff lluniaidd ofalu am ddillad i'w wisgo? Oni fydd i'r Hwn luniodd Arglwydd y greadigaeth ofalu ei gadw fel brenin? Oni fydd i'r Hwn roddodd y fendith fwyaf, bywyd a chorff, ofalu am y fendith leiaf—bwyd a dillad? Gan hynny, meddai wrth ei ddisgyblion llwm, peidiwch a phryderu—peidiwch ag anobeithio—y mae Duw wedi gwneud mwy o lawer na gofalu am danoch.
I brofi hynny, y mae yn galw eu sylw at adar y nefoedd,—mae'n debyg eu bod yn hedfan o'i gylch ar y pryd. Yr oedd yn pregethu ar fron bryn bychan, ac mae'n debyg fod digon o goedydd o'i gylch yno—a bod y lle yn fyw o adar. "Edrychwch ar adar y nefoedd," meddai. Welwch chwi'r adar yna? Nid ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau, ac y mae eich Tad nefol yn gofalu am danynt!
Edrychwch ar yr adar. Nid ŷnt hwy yn hau—y gwynt sydd yn hau iddynt, mae'r awel yn cario hadau pob llysieuyn ar hyd wyneb y ddaear i gadw bwyd i'r adar bach!
Nid ydynt yn medi; yr awel finiog sy'n medi iddynt—os na fyddant fel y disgyblion yn dewis torri'r tywysennau a'u rhwbio eu hunain! Nid ydynt yn cywain i ysguboriau, am wn i nad ystormydd yr Hydref sydd yn cywain i'w hysguboriau iddynt, ac yn gwneud ystorfa wrth fôn pob llwyn, ac ysgubor yng nghysgod pob perth. Y mae holl ystorfeydd anian yn ysguboriau iddynt hwy—er nad ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain!
Edrychwch arnynt, y maent yn byw dan ganu,—wyddoch chwi am ryw deulu arall yn byw mor ddedwydd? Edrychwch ar adar y nefoedd; mae nhw fel pe heb fod yn perthyn i'r ddaear, mae nhw'n byw dan hedfan; wyddoch chwi am ryw deulu arall mor ysgafn eu calon? Edrychwch ar adar y nefoedd —mor raenus ydynt—maent yn dwyn ôl digon o fwyd bob un. Edrychwch ar adar y nefoedd—maent yn hedfan yn erbyn y gwynt,—mor gryfion ydynt. Edrychwch arnynt mor llawen, mor ysgafn, ac mor ddibryder y maent yn byw; ac eto eich Tad nefol sydd yn eu porthi hwynt, eich Tad, sylwn; nid eu Tad, eich Tad chwi—ond Duw yr adar!
"Onid ydych chwi blant eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd yn rhagori llawer arnynt hwy." Mae eich cyrff yn fwy ardderchog, eich bodolaeth yn fwy pwysig, a'ch gwasanaeth yn y byd yn fwy urddasol—gan hynny, fe ofala Duw am danoch.
"A phwy o honoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cyfudd at ei faintioli?" Ewch ati i baratoi a gofalu. A ellwch chwi greu defnydd torth? A ellwch chwi lunio modd boreufwyd? A ddygwch chwi fara allan o'r ddaear, neu lysiau at wasanaeth dyn? A ellwch chwi, drwy orofalu, ychwanegu at eich maint, neu eich nerth, neu eich oes? Y meddwl yma efallai, yw, a ellwch chwi, drwy ofalu, estyn awr at eich einioes? Ellwch chwi ddim ychwanegu dim ond pryder drwy ofalu. Gellwch ychwanegu prudd—der, a phryder, a gofid, ac afiechyd, a gwywder. Y mae cannoedd wedi gwneud hynny, ond heb wneud fawr o ddim arall,—am hynny, na ofalwch am y pethau ail—law yma—cofiwch fod y bywyd yn fwy na'r bwyd.
A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad?—ystyriwch lili y maes! Welsoch chwi foneddiges wedi gwisgo mor hardded a lili y maes? Welsoch chwi rywun wedi gallu dangos y fath chwaeth yn newisiad y lliwiau,—wedi matchio'r lliwiau mor brydferth? Welsoch chwi rywun wedi rhoi y wisg i eistedd mor esmwyth, ac i ffitio mor dda? Y mae y wisg fel rhan o honi; y mae gwisg y lili wedi tyfu am dani, fel na allwch chwi ddim dweyd pa un yw'r wisg—na pha un yw'r foneddiges! Wyddoch chwi am law rhyw dorrwr wedi gallu rhoi y plygion i eistedd mor naturiol a daily lili? Y mae hi fel gwisg y Gwaredwr, yn wisg ddiwniad; 'does yna ddim seam na dim pwythyn yn y golwg, ac eto yn ffitio fel natur. Ystyriwch y lili, y chwi sydd am wisgo yn brydferth—eto yn syml,—mewn symledd mae harddwch. Ystyriwch y lili, y chwi sydd am wisgo'n ogoneddus, eto'n rhad. Ystyriwch y lili, y chwi garai wisgo yn wylaidd, nes hudo chwaeth y mwyaf pur, a llygad y mwyaf manwl, i edmygu prydferthwch a symledd eich gwisg.
Ac eto nid ydynt yn lafurio nac yn nyddu. Nid ydynt nac yn codi llin nac yn nyddu gwlan; nid ydynt yn tyfu defnyddiau, nac yn gwau, nac yn nyddu y rhai hynny yn wisgoedd iddynt eu hunain, ac eto maent yn gallu fforddio gwisgo eu dillad dydd Sul bob dydd. Ystyriwch y lili; nid ydynt yn gofalu dim, eto i gyd y maent yn ymdroi mewn pethau prydferthach na sidan. Y maent yn rhoi gwaith satin a sidan, a llin a gwlan, yn y cysgod, ac yn curo gwaith eḍau a nodwydd, ac eto nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu, ond y maent yn tyfu mewn gogoniant!
"Ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogo iant fel un o'r rhai hyn." Mae'n debyg fod Solomon yn gwisgo'n dda, yn gwisgo'n chwaethus, yn gwisgo'n brydferth, yn gofalu am bob lliw i ateb lliw arall, am bob toriad i ateb pob cymal; yr oedd yn rhwym o wisgo'n dda—yr oedd yna fil o wragedd â'u llygaid ar ei ol! Yr oedd un â'i llygad ar y peth hyn, a'r llall ar y peth arall; yr oedd un yn gofalu am y shade, a'r llall am y ffurf, a'r llall am y defnydd, a'r llall am y toriad oedd yn gweddu oreu; a gwyddoch am lygaid boneddiges, eu bod fel oraclau ar bwnc y gwisgo. Yr oedd Solomon yn gwisgo'n ogoneddus; yr oedd yn gorfod gwneud hynny, ond mae'n debyg fod y lili ar ei fynwes yn taflu'r wisg i gyd i'r cysgod,—" Ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn!"
Os dillada Duw felly—fel Solomon drwsiadus,—lysieuyn y maes, yr hwn sydd ddim ond am un dydd, dim ond megis am un dydd y caiff wisgo ei ddillad gwychion, trannoeth caiff ei dorri i lawr. Oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, y chwi, er mwyn y rhai y crewyd y blodau; y chwi, er mwyn y rhai mae y llysiau'n tyfu; y chwi, er mwyn boddio y rhai y blodeua y rhos yn a'r lili; y chwi, er mwyn dysgu y rhai y trwsiodd Duw y meysydd â phrydferthwch;—oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer?
"O chwi o ychydig ffydd!" Dim ffydd yn eich Crewr y gwna Efe eich cynnal. Dim ffydd yn yr Hwn a'ch gwnaeth y gwna Efe eich cadw. Dim ffydd yn yr Hwn sy'n bwyda'r adar, ac yn trwsio'r lili, y gwna Efe fwyda a dilladu y rhai sydd yn rhagori llawer arnynt hwy!
"Am hynny, na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn, beth a yfwn, ac â pha beth yr ymddilladwn.'" Dyma'r hen fyrdwn eto, yr hen fyrdwn sydd wedi ei ddyblu gannoedd o weithiau ymhob oes. Beth a fwytawn, &c. Y mae cyfoethogion yn eu llawnder yn methu penderfynu beth yn nesaf, wedi gofyn lawer gwaith, Beth a fwytawn,' &c. Y mae y tlodion yn eu prinder wedi bod yn ocheneidio yr un peth. Y mae y glwth sydd yn methu boddloni ei flys wedi bod yn dyfalu pa beth a fwytâ. A'r creadur newynog wedi bwyta'r crystyn olaf wedi bod yn gofyn yr un cwestiwn, ond mewn tôn ac ysbryd tra gwahanol.
Y mae tri pheth yn cael eu henwi yn ol eu pwysigrwydd: Beth a fwytawn, beth a yfwn, a pha beth yr ymddilladwn. Bwyta yw'r peth pwysicaf—cadw einioes, torri newyn. Yfed yn ail—torri syched. Dilladu yn drydydd —cuddio noethni, a chadw oerfel a gwres allan.
Mae'n debyg mai dyna drefn natur. Pe byddai llawer yn y dyddiau hyn yn cael gosod y tri gofyniad, ceid hwy mewn order wahanol —Beth a yfwn, &c.
Y mae rhai yn byw heb ddim i'w fwyta—er mwyn cael peth i'w yfed.
Yn foddlon gwerthu'r dillad er mwyn cael peth i dorri eu syched! Yn aberthu eu bwyd a'u dillad, ïe, a'u bywyd a'u cysur ar allor yr yfed! Gresyn ofnadwy yw hyn, a bod yna filoedd yn ein gwlad yn gwneud hyn!
Ond credwn mai dynion rhesymol sydd yn y testyn, nid cyfoethogion, ac nid glythiaid, ac nid meddwon, ac nid gwastraffwyr, ac nid rhai heb ddim yn hollol efallai, ond dynion tlodion cyffredin pob gwlad braidd, rhai yn gorfod ymladd am eu bara beunyddiol, rhai yn gwybod am galedi'r byd, rhai llwm, yn dilyn un llwm—yr oedd hi yn gofyn ffydd gref i godi uwchlaw y tri gofyniad! Beth a fwytawn &c.
"Canys yr holl bethau hyn mae y Cenhedloedd yn eu ceisio." Neu fel hyn: Dyma beth mae y cenhedloedd yn eu ceisio, dyma eu holl bryder, dyma holl grefydd y rhai hynny, nid ŷnt yn gwybod fod gan Dduw ddim arall gwerth i'w gael. Dylai'r Cristion fod yn uwch. "Oblegid gŵyr eich Tad neiol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn!" Dyna frawddeg a'i llond o wers, a'i llond o gysur hefyd "gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn." Mae'r hwn gynlluniodd yr agerbeiriant yna yn gwybod fod eisiau tân a dwfr i'w gadw i weithio. Mae'r Hwn luniodd ddyn o bridd y ddaear yn gwybod y byddai newyn a syched arno, ac wedi paratoi i gwrdd â hynny: "Gŵyr eich Tad nefol." 'Does yna neb ŵyr yn well, 'does yna neb ŵyr cystal: Efe 'ch gwnaeth, ac y mae yn gwybod fod eisiau gofalu am danoch.
"Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef—a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Dyna'r cyngor, a dyna'r feddyginiaeth; ond beth yw'r cysylltiad sydd rhyngddo â'r angen, â'r tlodi, â'r pryder, â'r eisiau bwyd a diod a dillad sydd yn y byd? A gawn ni y pethau hyn dim ond pwyso yn ffyddiog ar Dduw? Wn i ddim yn wir, ond rhaid i ffydd dyn fod yn anfeidrol gref, cyn y gall hi ei fwyda a'i ddilladu. A gawn ni y pethau hyn drwy geisio crefydd—ceisio teyrnas Dduw â'n holl galon, a gadael y byd a'r bywyd hwn yn angof? Wn i ddim yn wir, ond os caiff y byd a'r bywyd hwn eu hesgeuluso, cosbi wnant, onide? A gawn ni y pethau hyn, dim ond i ni dreulio ein talent a'n hamser i grefydda, fel y dywedir, a cheisio byw yn dduwiol? Wn i ddim yn wir, ond byd caled iawn yw'r byd hwn, ac yn galetach galetach yr aiff os caiff lonydd hefyd. A oes yna rai fel wedi anghofio'r byd, ac ymroi i ryw fyw yn wyrthiol grefyddol, peidio gwneud dim ond crefydda, a gadael rhwng Duw a'r byd, gadael rhwng Duw a bwyd a diod a dillad? Wn i ddim yn wir—gall fod yna ambell un efallai, ond golwg digon llwyd sydd ar ei ddillad, a'i grefydd ond odid mor llwyded a hynny.
Nid dyna beth mai Crist yn feddwl wrth geisio teyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef. Ond meddwl y rhaid i ni weithio â'n holl egni i brysuro egwyddorion cyfiawnder—os am ladd tlodi; rhaid i ni weithio â'n holl egni i gael teyrnas Dduw yn uchaf—os am gael chware teg i'r tlawd. Rhaid ceisio—nid rhyw geisio fel mewn breuddwyd mewn geiriau, neu geisio drwy ffydd, fel y mae ambell un yn esbonio ffydd, rhyw ffydd heb un asgwrn cefn iddi, rhyw ffydd heb ddim gewynnau i ladd yr anhawsterau sydd yn y byd, ond ceisio fel rhai yn ceisio arian, ceisio fel rhai yn ceisio trysorau cuddiedig, ceisio fel rhai yn ceisio hollti'r graig, ceisio tel rhai yn ceisio reform mewn gwlad ymroi ati i gael tegwch yn uchaf, i gael cyfiawnder i wastatâu yr hen wahaniaeth annheg, i gael teyrnas Dduw i lywodraethu yng nghalon dyn, yng nghalon cymdeithas, ac yng nghalon pob teyrnas a gwlad!
Yr oedd yn dweyd wrthynt—yr ydych yn hollol o'ch lle, yr ydych fel wedi torri eich calonnau, yn cael eich gwasgu gan dlodi, a'r tlodi yn codi eddi ar gam, oddi ar wastraff, oddi ar bechod, ac yr ydych yn pryderu am fara, ac yn ochain am ddwfr, yn lle ymysgwyd i daflu yr achos o hyn i ffwrdd. Beth yw y rheswm o'ch tlodi chwi, mwy na thlodi adar y nefoedd?
Mae'n debyg mai eich pechod eich hunain—ceisiwch ei symud ynte ceisiwch deyrnas Dduw. Beth yw y rheswm o'ch pryder mwy na phryder adar y nefoedd? Mae'n debyg mai anghyfiawnder y byd drwg; ceisiwch ei symud: ceisiwch gael ei gyfiawnder Ef i deyrnasu. Beth yw y rheswm o'ch angen? Gwastraff mae'n debyg; ceisiwch chwi gael gafael ar egwyddorion teyrnas Dduw ac mae honno i ladd y gwastraff sydd yn y byd!
Y mae wyneb Cristionogaeth i fod ar drueni'r byd, ac i geisio ei symud. Y mae yna lawer o drueni, y mae yna doreth o dlodi, ac y mae yna wmbredd o drallod yn y byd, ac i gyd o achos ein hunain, neu o achos ein gilydd. 'Doedd neb yn gwybod hyn yn well na Iesu Grist. Yr oedd yn gwybod beth oedd mewn dyn, ac yn gwybod beth oedd yn y byd, ac yn gwybod yr achos o'r ddau, ac yn gwybod y feddyginiaeth hefyd,Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw,' &c. Nid oes yna un drefn arall gan Dduw i achub y byd—i achub y byd yn dymhorol. Credwn ein bod yn camddefnyddio'r gair "achub," ac yn ei gyfeirio at y byd nesaf, pan y mae yn meddwl y byd hwn, yn cynnwys y byd hwn o leiaf. Os cawn ni grefydd a wna'n hachub yn y byd hwn, crefydd wna les yn y byd hwn, crefydd y gallwn ni bwyso arni yn y byd hwn, bydd honno yn abl i'n hachub yn y byd nesaf hefyd. Crefydd yn rhy wan i wneud dim drosom yn y byd hwn, mae lle i ofni honno yn y byd nesaf. Dylai fod ein crefydd fel mantell Elias, yn ein helpu i wneud gwyrthiau ar Y mae crefydd yn dangos cerbyd ein Tad i'n cludo adref, ond y mae yr Iorddonen rhyngom a cherbyd Israel, a rhaid i ni gael rhywbeth i dorri grym y dwr wrth fyned at y cerbyd. Y mae ein crefydd i fod i'n cynorthwyo ni ar y ffordd, ac y mae rhyw Eliseus ieuanc ag eisiau nerth ar ol i ni fyned adref, a dylai ein crefydd fod fel mantell Elias i'w nerthu yntau i ddyfod ar ein holau.
Y mae teyrnas Dduw i fod yn ei gogoniant yng Nghanaan, ond y mae eisiau nerth Duw ar y ffordd, y mae eisiau cymorth yn yr anialwch wrth deithio i Ganaan. 'Does dim tlodi yn y nefoedd, ond y mae tlodi yn y byd hwn, ac y mae crefydd i wneud wyneb y ddaear yn debyg i wyneb y nefoedd. 'Does dim trallod yno, ond y mae y trallod yma, ac eisiau cyfiawnder Duw i'w symud oddi yma. Ac y mae crefydd â'i golwg ar y byd hwn. Nid oes plant yr un tad cyfoethog yn cael yr ystâd nes dod i'w hoed, ond maent yn cael arian i'w cynnal hyd nes dod yn etifeddion. Felly crefydd, nid yw y nef a'i chysur, a'i chân, a'i gorffwystra, a'i gogoniant i'w chael yn awr, ond y mae hi wedi addaw nerth yn ol y dydd ar y ffordd tuag yno.
Peidiwn ag edrych yn rhy bell ynte, peidiwn ag edrych mewn cysylltiad â'n crefydd i'r byd arall, pan mae ganddi gymaint i'w wneud yn y byd hwn. Y mae hi i fwynhau y byd arall, ond i ymladd yn y byd hwn. Y mae hi i orffwys yn y byd nesaf, ond i weithio yn y byd sydd yr awrhon. nefoedd yn berffaith, ond rhaid iddi hi wella yn y byd hwn.
"Pa fodd mae gwella'r byd hwn?" yw cwestiwn pwysig crefydd y dyddiau hyn. Pa foddion sydd i'w gael all effeithio ar fyd mor galed, mor anghyfartal, mor anghyfiawn, mor ddrwg a'r byd hwn? Pa allu sydd i'w gael all droi calon y gorthrymydd, a chodi ysbryd y gorthrymedig? Pa allu sydd i'w gael all wneud cysylltiad meistr a gwâs yn fwy gonest, a gwella'r naill a'r llall wrth hynny? Nid ydym yn gwybod am ddim un gallu ond yr un a nodir yn y testyn,—" Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw," &c. ddiameu mai dyna oedd meddwl Iesu Grist, hynny yw, ceisiwch weithio egwyddorion tegwch ymlaen, ceisiwch gael egwyddor cyfartaledd i lywodraethu, ceisiwch gael y cyfiawnder sydd yn Nuw i reoli calonnau dynion,—ei gyfiawnder Ef. Nid yw dyn yn deall beth sydd yn gyfiawn, y mae yn rhy ddall, yn rhy fyr ei olwg, yn rhy unochrog ei deimlad, all ef ddim gweled dim yn gyfiawn os na fydd hynny yn ei ffafr ef, os na fydd yn gweithio o'i ochr ef, nid yw ef yn gallu ysbio drwy holl gyrrau y ddaear, a gweled miloedd sydd yn cael cam i wneud cyfiawnder ymddangosiadol âg un;—ceisiwch gyfiawnder Duw. Y mae Ef yn gweled y cyfan, yn deall y cyfan, yn teimlo dros y cyfan, ac yn benderfynol o wneud cyfiawnder â'r cyfan yn y diwedd, ceisiwch ei gyfiawnder Ef.
A'i deyrnas Ef. 'Does yma ddim un deyrnas y gellwch chwi deimlo yn ddiogel ynddi, 'does yma ddim un deyrnas a bywyd ei deiliaid yn safe, 'does yma ddim un deyrnas a hawliau ei deiliaid yn cael chware teg,—ceisiwch gael egwyddorion teyrnas Dduw i weithio drwy deyrnasoedd y byd, ceisiwch gael tegwch ei orsedd Ef, i effeithio ar orseddau y byd, ceisiwch gael egwyddorion teyrnas Dduw i holl gyfreithiau teyrnasoedd y byd.
Y peth mawr yn gyntaf. Y môr yn gyntaf oedd hi gyda Duw, yna yr oedd y pysgod yn heigio yn naturiol yn ei ddyfnder mawr. gyntaf, yna yr oedd adar y nefoedd yn hedfan yn fyw yn yr elfen oedd mor gydweddol â'u natur hedegog. Y ddaear yn gyntaf, yna yr oedd y llysiau a'r anifeiliaid yn tyfu yn naturiol i wisgo'r maes, a harddu bron y mynydd. Y peth mawr yn gyntaf, yma eto. Teyrnas Dduw yn gyntaf, chware teg i'r tlawd yn dilyn, ddaw hi ddim heb hynny—mwy nag adar cyn awyr. Cyfiawnder yn gyntaf, yna cysur yn dilyn—ddaw hi ddim heb hynny, mwy na physgod cyn bod môr; lle byddo anghyfiawnder, bydd yno anghysur. Symud yr achos yn gyntaf, yna symud y tlodi; ellir dim symud y tlodi heb hynny, mwy na thyfu'r llysiau cyn creu'r ddaear. Y mae Crist yn dweyd am y moddion i symud yr achos. Y mae egwyddorion teyrnas Dduw yn dysgu'r byd i roi tâl am lafur, ydyw, a rhoi llafur am dâl hefyd. Y mae hi yn dysgu'r meistr i dalu'n dda, a'r gwas i weithio'n dda hefyd. Y mae hi'n dysgu'r masnachwr i roi nwyddau didwyll am arian, ac yn dysgu dynion i dalu am eu nwyddau hefyd. Y mae hi yn apelio at y naill a'r llall, yn siarad â phob un, rhoi y ddau ar yr un tir, yn dwyn gonestrwydd o bob ochr i mewn, yna yn sicrhau digonedd a llwyddiant, ond dim cyn hynny.
Faint o golledion oherwydd anonestrwydd, faint o d'odi oherwydd annhegwch, faint o angen oherwydd gwastraff? Rhaid difa'r pethau hyn, rhaid symud y pethau hyn, rhaid cael dynion i beidio credu mewn pethau fel hyn, rhaid cael dynion i fyw hyn, ac nid i son am hyn; i fyw'n onest, ac nid siarad am fyw'n onest; i fyw'n grefyddol, ac nid i son am hynny yn y capel, i arwain bywyd pur mewn gweithio, ac nid pregethu hynny mewn gair, i gofio na ddaw teyrnas Dduw ddim wrth ddisgwyl, ond wrth ei cheisio, ei thaer geisio hefyd, fel mae dynion yn ceisio arian!
Crefydd yn elfen lywodraethol, ac nid yn ail beth.
Y mae hi i effeithio ar bob gwlad a phob teyrnas, a phob cymdeithas, a hynny wrth fod yn brif elfen, ac nid yn ail. Y mae dynion yn dweyd, rhaid i ni beidio cymysgu crefydd â pholitics; rhaid yn wir, wna nhw ddim goddef hynny rhaid i grefydd gael bod yn gyntaf, a pholitics yn ail; crefydd i arwain a gwleidiadaeth i ddilyn; crefydd i lunio gwleidiadaeth, ac nid gwleidiadaeth i lunio crefydd. Y mae gwahaniaeth annrhaethol; crefydd yn llunio politics, a pholitics yn llunio crefydd. Teyrnas Dduw yn gyntaf, teyrnasoedd y byd yn ail. Chymer crefydd ddim o'i chymysgu â phethau fel hyn, os na chaiff hi fod yn gyntaf, yn bennaf, ym mlaenaf, wna hi ddim o gwbl. Y mae gwahaniaeth annrhaethol rhwng crefydd wedi llunio gwlad, a gwlad wedi llunio crefydd. Y mae ambell ddyn yr un fath—rhyw geisio llunio crefydd iddo ei hunan y mae, ffurfio crefydd yn taro ei fywyd anghyson a'i natur falch yn lle bod crefydd yn ei lunio ef. Dyna y dyn mwyaf di-lun o bob dyn, y mae yn dinistrio crefydd, ac yn dinistrio ei hunan. Rhaid i ni weithio'n iawn, gweithio wrth drefn Duw, os am fendith Duw. Y mae Duw wedi rhoi y drefn iawn i ni am mai dyma yr un sydd raid ei chael i wella'r byd. 'Dyw hi ddim yn iawn am ei fod Ef wedi ei rhoi i ni, ond y mae Ef wedi ei rhoi i ni am ei bod yn iawn.
Felly gyda holl ffyrdd Duw i ladd y drwg—y maent wedi eu rhoi i ni am mai dyna y moddion; yr ydym ni yn ameu yn aml, yn peidio'i chredu yn fynych, yn gweithio'n groes lawer tro, ond byddai gystal i ni beidio ymladd, byddai gystal i ni droi y gern arall ar y dechreu, oblegid dyna'r ffordd i wella'r byd yw ffordd Duw, ac y mae ffordd Duw yn y testyn.
II.
"SABOTH GYDA'R IESU"
(MATT. XII.)
Dyna syniad hyfryd yw dydd Saboth, dydd o orffwysfa oddiwrth waith cyffredin bywyd. Saboth yr Iddew er cof am orffen gwaith y greadigaeth. Saboth y Cristion er cof am orffen gwaith y prynedigaeth. Dydd Sul, dydd haul y cenedl-ddyn; dydd goleuni, a gwres, a mwynhad. Dydd Saboth, dydd Duw yr Iddew; dydd addoliad a gorffwys, a gwynfyd. Dydd cofio'i Grewr i'r Iddew; dydd cofio'i Waredwr i'r Cristion. Seithfed dydd yr Iddew i edrych yn ol. Dydd cyntaf y Cristion i edrych ymlaen. Dydd hyfryd yw dydd Sul; dylai holl feibion llafur fendithio Duw am dano, a'i gadw, a'i barchu, fel rhodd bennaf y nefoedd i'r ddaear! Pan gyll gwlad ei dydd Saboth, bydd haul ei dedwyddwch wedi machlud!
Dyna fwynhad yw treulio dydd Sul, a'i dreulio yn iawn; a chyn ei dreulio yn iawn rhaid ei dreulio gyda'r Iesu, ac yn y bennod hon yr ydym yn cael hanes Saboth gyda'r Iesu.
Ni awn ni drwy y bennod yma yn bwyllog, ac ni gawn nodi pedwar neu bump o bethau sydd yn nodweddu Saboth gyda'r Iesu.
1. Y peth cyntaf welwn ni yma yw, SABOTH O FWYNHAD.
"Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy yr ŷd." Yr oedd Iesu Grist yn mwynhau y Saboth, ac yn dysgu ei ddisgyblion i wneud yr un peth. Yr oedd yn codi'n fore i fynd am daith trwy yr ŷd, trwy y cae gwenith, i fwynhau awel y bore, a huan y dydd, a llonyddwch y maes. Tebyg fod Iesu Grist yn teimlo fod awyr bore Sul yn fwy adfywiol nag awyr un bore arall; fod goleu y dydd yn fwy glân, a gwres y dydd yn fwy tyner; fod mwy. o dawelwch ar y llwybr, a mwy o fiwsig yn awel y cae fore dydd Sul nag un bore arall. Fod y llwyni yn fwy addolgar, a'r meysydd yn fwy cysegredig y dydd hwn nag un dydd arall, ac am wneud i'w ddisgyblion godi'n fore i gael dysgu hynny. Yr oedd Iesu Grist am i'w ddisgyblion fwynhau y dydd sanctaidd, ac yn eu cymryd allan yn fore i'r caeau er mwyn gwneud hynny. Gogoniant y Saboth yw y bore, a'r sawl sydd yn colli'r bore sydd yn colli'r gogoniant. Yr oedd yr hen bobl yn mynd i orffwys yn gynnar nos Sadwrn. er mwyn codi'n fore i fwynhau dydd Sul. Yr oedd Iesu Grist yr un fath, yr oedd yn gorffen yr wythnos mewn pryd, er mwyn cael dechre'r Saboth mewn pryd. Gresyn mawr yw gadael i dyrfa'r dyddiau cyffredin wasgu ar derfynau y dydd sanctaidd. Colled fawr yw gadael i'r wythnos galed lethu'r Saboth tyner. Pan yn colli bore'r Saboth, mae perygl i ni golli'r Gwaredwr; mae Ef yn codi'n fore. Pan yn colli Gwaredwr, yr ydym yn colli mwynhad dydd Mab y Dyn. Daeth Iesu Grist i'r byd i'n dysgu i fwynhau bywyd, a'i fwynhau yn helaethach. Trwy ddilyn yr Iesu mae i ni fwynhau dydd Sul, a thrwy fwynhau dydd Sul yn iawn, mae i ni fwynhau pob dydd o'n bywyd!
2. Yr ail beth welwn ni yma yw, DYDD O RYDDID.
"Ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys a bwyta."
Cyn cael mwynhad, rhaid cael rhyddid, a dyma y Gwaredwr yn caniatau. rhyddid i'w ddisgyblion dynnu tywys a'u rhwbio â'u dwylaw, a bwyta with fyned trwy y cae gwenith ar ddydd Sul. Dyma Athro a chalon agored yn caniatau mwynhad, a meddwl agored yn caniatau rhyddid i'w ddisgyblion." Yr ydym yn ofni fod gormod o gaethiwo, a meistroli, a deddfu, ac atal, a rhwystro rhyddid, yn addysg grefyddol y byd. Nid oes dim felly yn addysg nac yn hanes Iesu Grist. Yr hen oruchwyliaeth sydd yn dweyd na wna'r peth hyn, a phaid a gwneud y peth arall; perthyn i'r hen mae y deddfau nacaol. Gwna dda, arfer dy ryddid, gwna ddefnydd o bob mwynhad, yw llais cyfraith Crist,—tynnwch a bwytewch bob tywysen lân addfed a wna les i chwi.
Y mae cadw'r Saboth yn sanctaidd, a chaniatau rhyddid i ddyn, yn bwnc sydd yn hawlio ein sylw ni yn neilltuol, y dyddiau hyn. Os na fydd y Saboth yn sanctaidd, a'r dyn yn rhydd yr un pryd, y mae yna rywbeth o'i le. Nid wrth gaethiwo dyn mae cadw'r Saboth yn sanctaidd, ac nid wrth sathru'r Saboth mae cadw'r dyn yn rhydd.
Pa fodd mae gwneud hyn ynte? Drwy arfer y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni—rhyddid i wneud da. Rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Saboth, meddai'r Iesu, a pha ryddid bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae. Os oes unrhyw ddyn, neu wlad, neu genedl, yn gofyn mwy na hyn, neu yn caniatau llai na hyn, nid yw y cyfryw wedi eu dysgu yn ysgol Crist. Yr oedd yr Iddewon wedi myned yn gul, ac yn ddeddfol, ac yn llythrennol, ac yn galed, a phan yw ysbryd Crist yn torri eu llythyren hwy, y maent yn dadleu ac yn erlid, ond mae'r Iesu yn gorfod dweyd fod rhyddid dyn yn fwy na therfynau y deml, ac fod y dydd a'r deml wedi eu gwneud er mwyn dyn.
Yn wir, y mae rhyddid Crist yn cael ei ddangos yn brydferth ac yn llawn dros ben yn rhyddid y cae gwenith, a'r bore teg, a'r awel iach, a'r chwant bwyd tost, a'r bwyta blasus yma. Y mae rhyddid pob dyn byw yn hón. Meddyliwch am Iesu a'i ddisgyblion, y dynion syml, gwledig hyn, yn byw fel natur—yn myned i'r cae gwenith i frecwest, yn lle caethiwo ar ryddid Saboth neb arall i baratoi ar eu cyfer. Yn medi, yn dyrnu, yn nithio, a malu, eu hunain, yn lle bod neb yn colli'r cwrdd wrth baratoi iddynt hwy! Rhyddid i bawbl Faint o'r rhai sydd yn gwaeddi am ddydd Sul rhydd yn ein gwlad ni sydd yn foddlon gwneud hyn? Nid ydynt erioed wedi bod am dro gyda'r Iesu yn dysgu rhyddid!—
3. Y peth nesaf welwn ni yma yw, SABOTH O ADDOLI.
"Ac wedi iddo ymadael oddiyno, Efe a aeth i'w synagog hwynt." Dyma'r hwn oedd wedi codi'n fore, wedi bod allan yn yr awyr agored, yn tynnu tywys, ac yn bwyta gwenith gwyn glân i frecwest, ac yn dadleu am ryddid â hen grefyddwyr cibddall torïaidd hunanol, dyma hwnna yn dweyd wrth ei ddisgyblion, "Y mae hi yn bryd mynd i'r cwrdd fechgyn annwyl," "Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt."
Dyna ysbryd hyfryd sydd yn cael ei ddangos yma! Yr oedd Iesu Grist ar ol dadleu a gwahaniaethu, a methu cydweld, yn mynd i'r cwrdd wedyn! 'Doedd Ef ddim yn digio, ac yn pwdu, ac yn aros gartref, ac yn pallu mynd i'r cwrdd, ond yn yr hanes y mae E'n dweyd, "Ete a aeth i'w synagog hwynt." Buasai llawer o honom ni yn pallu mynd i'r cwrdd am flwyddyn ar ol y gwahaniaethu a'r dadleu yn y bennod, ond aeth Iesu Grist o'r ddadl i'r synagog,dyna ysbryd ac esiampl gwerth ei ddilyn.
Yr oedd Iesu Grist yn gallu mwynhau bore dydd Sul allan yn yr haul, a'r awyr,
a'r gwenith, a'r caeau, ond nid ydym yn credu y gallasai fyw un dydd Sul heb fynd i'r cwrdd, os yn ddigon iach i fynd o'r tŷ. Y peth ddylai pob dyn wneud am fwynhad calon, a rhyddid bywyd, yw addoli,mynd i dŷ Dduw i ddiolch!
Pwy sydd wedi rhoi mwynhad a'r gallu i fwynhau i ni? Duw! Beth sydd wedi prynu rhyddid i ni? Egwyddorion crefydd Crist! A dylem ninnau ddilyn y Gwaredwr i addoli Duw yn y mwynhad o'r pethau hyn.
Yr oedd Iesu Grist yn gallu mwynhau popeth,—y briodas, a'r wledd, a'r croesaw, a'r eneinio, a'r mynydd, a'r maes, a'r môr, ond yr ydym yn teimlo'n sicr mai mwynhad mwyaf ei fywyd ar y ddaear oedd addoli. Uno gyda'i gymdogion i addoli Duw. Cymryd rhan gyda'r bobl yn y gwasanaeth. Gwneud rhywbeth yn y cwrdd dydd Sul,—dyma fwynhad pennaf ac uchaf y Dyn Crist Iesu;—" Efe a aeth i'w synagog hwynt."
4. Y peth nesaf welwn yma yw, SABOTH O WASANAETH.
Wedi'r mwynhad, a'r rhyddid, a'r addoli, mae'r gwasanaeth a'r help yn dilyn: "Ac wele yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo, a'r Iesu a ddywedodd wrtho, Estyn allan dy law, ac efe a'i hestynnodd, a hi a wnaed yn iach fel y llall."
"A thorfeydd lawer a'i canlynasant, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll."
Yna y dygpwyd ato un cythreulig, dall a mud, ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a'r mud."
Yr oedd y dydd yn ddydd o wasanaeth, a chymorth, a help. Dyna oedd diben y myned trwy yr ŷd ar y dydd Saboth—bod o help. Yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, yr oeddynt heb forefwyd, ac yr oedd eisiau bod yn gryf ar gyfer gwasanaeth.
Nid ydym yn credu am funud y buasai'r Iesu yn myned drwy y cae gwenith oni buasai chwant bwyd ar ei ddisgyblion, ac oni buasai'r chwant bwyd, ni buasai yn caniatau tynnu'r tywys a bwyta! Na, na, nid yw crefydd Crist yn caniatau sarnu ac afradu!
Yr oedd Iesu Grist wedi bod yn dadleu â hen grefyddwyr deddfol, segur, yn paratoi y ffordd i wneud da. Yr oedd Iesu'n gweld y llaw wedi gwywo, cyn caniatau i'r un llaw gael ei hestyn at un dywysen. Yr oedd Ef yn gweld y torfeydd ag eisiau iechyd yr un pryd ag yr oedd yn gweld y disgyblion ag eisiau bwyd. Yr oedd E'n gweld y cythreulig, dall, a mud, pan yn dadleu â'r Phariseaid deillion ynghylch cadw'r Saboth. Yr oedd E'n gweld y genhedlaeth anghrediniol a fuasai'n ceisio arwydd cyn diwedd y dydd yn y Phariseaid oedd yn rhy angharedig i gynnyg tamaid o fwyd iddo Ef a'i ddisgyblion yn y bore, ond yn ddigon haelfrydig i'w barnu a'u condemnio am dynnu tywys a bwyta.
Nid mwynhad llygredig oedd mwynhad y bore Sul. Nid rhyddid i wneud drwg oedd rhyddid y disgyblion. Nid mynd i'r synagog i fod yn segur, ond mynd yno i addoli Duw, ac i gynorthwyo dyn wnai Arglwydd y Saboth, a'r Un oedd fwy na'r deml.
Y mae cwestiwn y Saboth, a chadw'r Saboth, a'r ffordd i dreulio dydd. Sul, yn bwnc pwysig yn ein gwlad ni y dyddiau hyn. Y mae un dosbarth yn gofyn am fwynhad, ac yn hawlio rhyddid. Y mae yna ddosbarth arall yn ceisio addoli a helpu; y mae lle i'r ddau yn y Saboth Cristionogol—dydd Mab y Dyn.
Y mae'r mwynhad uchaf i fod ynglyn â'r Saboth Cristionogol. Mwynhad y tynnu'r tywys addfetaf o'r difyrrwch mwyaf pur, a'r dedwyddwch mwyaf sylweddol i dorri angen holl ofynion bywyd cysurus.
Os yw'r eglwys yn myned i geisio lladd ein mwynhad, y mae hi wedi syrthio i'r un camsyniad a'r Phariseaid yn amser Crist, ac os yw dyn yn gofyn am fwy na mwynhad pur, y mae yn gwneud cam â'i enaid ei hun. Os yw crefydd yn ceisio atal rhyddid neb, nid crefydd Crist mohoni. os yw dyn yn gofyn am ryddid i wneud rhywbeth nad yw dda, y mae rhyddid y dyn hwnnw wedi mynd yn gaethiwed pechod iddo!
Dywedwn wrth y rhai sydd am fwynhad, am ddilyn y Gwaredwr ar hyd Ilwybrau prydferth caeau gwenith paratoadau Duw ar ein cyfer, a gochelyd drain a mieri anialwch ein camsyniadau. Dywedwn wrth y rhai sydd am ryddid, am godi'n fore i ddilyn yr Iesu yn yr awel, a'r awyr, a'r haul, a chofio hyd terfyn rhyddid Crist—"Rhyddid i wneuthur da."
Nid yw terfynau rhyddid yn cyrraedd ymhellach na hyn,—"rhyddid i wneuthur da." 'Does dim rhyddid i wneuthur drwg yn llywodraeth Duw yn un man, yn yr wythnos nac ar y Saboth, dydd gwaith na dydd gŵyl, ond rhyddid i wneuthur da ymhob lle bob amser, a gwaith crefydd yw cyhoeddi hyn.
Yr ydym yn ofni weithiau fod ein syniad am fwynhad yn ffolineb, a'n syniad am ryddid yn ynfydrwydd. Yr ydym yn ofni weithiau wrth weled cymaint o olwynion ar ein heolydd, a chymaint o yrru ar y rheilffyrdd ar ddydd Sul, fod y Saboth ar y wheel, yn mynd i adael y wlad! Y mae yna wledydd. nad oes dim cadw dydd Sul yno, 'does yno ddim mwynhad bywyd chwaith. Mae yna wledydd wedi colli eu dydd sanctaidd, maent wedi colli eu rhyddid hefyd. Maent wedi colli eu Saboth, ac wedi colli eu haddoliad i Dduw. Maent wedi colli eu haddoliad i Dduw, ac wedi colli eu gwasanaeth a'u cymorth a'u help i ddyn. Beth pe na ddelai'r dydd Sul siriol, croesawus, i'n gweld ni bob wythnos? Beth pe nas delai'r dydd sanctaidd i'n gweld ni bob saith? Dyna lle byddai blwyddyn o gaethiwed hir! Beth pe na ddelai'r seithfed dydd i'n gweld ni'r seithfed tro? Byddai Jericho caethiwed yn chwerthin am ein pennau!
Y cwestiwn i ni yn y wlad hon ynte, ar hyn o bryd, yw, beth yw terfynau mwynhad? Ble mae ffiniau rhyddid? Beth yw mesur tiriogaethau sancteiddrwydd? A pha bryd y mae y pethau hyn yn sathru ar derfynau ei gilydd. Y cwestiwn i bob dyn teg i'w ofyn yw, a yw cortynnau pebyll crefydd yn rhy dyn, a'i ynte cortynnau pebyll mwynhad sy'n rhy lac? A yw'n syniadau crefyddol ni yn rhy gul, a'i ynte'n syniadau am ryddid sydd yn rhy benrydd? Yr ydym ar adegau yn gorfod teimlo oddiwrth y ddau, fod y dyn ar y stryd yn gofyn gormod, a'r dyn yn y capel yn caniatau hy fach. Un yn cadw ei hunan allan yn rhy bell, a'r llall yn caead ei hunan i fewn yn rhy lwyr; ac yr ydym yn teimlo'n sicr fod eisiau i'r ddau fyned yn ol at Grist, yr Hwn sydd yn fwy na'r deml, ac yn Arglwydd ar y Saboth hefyd; yr Hwn sydd yn caniatau pob rhyddid sydd raid i ddyn wrtho i fod yn ddedwydd, pob rhyddid diogel, pob rhyddid iach, pob rhyddid pur, pob rhyddid er lles dyn, a bywyd cenedl, a llwyddiant gwlad," Rhyddid i wneuthur da."
Yr oedd Iesu Grist yn defnyddio y rhyddid hwn ymhob man, er nad oedd y Phariseaid yn credu dim ynddo. Yr oedd Ef yn ei ddefnyddio yn y maes, ac ar y ffordd, ac yn y synagog, ac wedi mynd o'r synagog—gwneud da ymhob man o hyd; daeth a rhyddid i wneud da gydag ef o wlad y goleuni. Yr oedd Iesu Grist yn dadleu ar y ffordd â'r rhai oedd am ladd pob mwynhad, ac am gaethiwo pob rhyddid, ac yn dweyd wrthynt, "oni ddarllenasoch?" Darllenwch, i chwi gael gwybod rhywbeth. Dyna sefyllfa druenus yw dynion crefyddol heb fod yn darllen. Yr oedd Iesu Grist yn arwain ei ddisgyblion drwy y maes gwenith, ac yn dweyd, tynnwch a bwytewch os oes chwant bwyd arnoch, ond gofalwch ar eich bywyd beidio torri un dywysen o felltith, nac afradu gwenithen heb eisiau. Yr oedd Iesu Grist yn myned i'r synagog, a'r peth cyntaf welodd yno oedd dyn a chanddo law wedi gwywo—dyn wedi colli nerth ei law; dyn yn ffaelu gwneud dim; dyn yn y synagog a chanddo law wedi gwywo! Mae llawer o'r rhain yn y synagog o hyd—dynion â'u dwylaw wedi gwywo! Dynion â'u dwylaw wedi gwywo gormod i gydio mewn llyfr emynau i helpu yn y mawl! Rhesi o fechgyn ieuainc â'u dwylaw yn eu llogelli yn y cwrdd! Dynion â'u dwylaw wedi gwywo gormod i dynnu chwech o'r boced i'w roi yn y casgliad i helpu tipyn ar y gwaith! Cyflwr truenus yw dyn â'i law wedi gwywo! "Estyn allan dy law," meddai'r
Mae dy law di wedi gwywo am na byddet yn ei hestyn allan! Mae dy law di wedi mynd yn ddiffrwyth am na byddet ti'n ceisio gwneud rhywbeth,—estyn allan dy law! "Ac efe a'i hestynnodd." Dyna rywbeth 'nawr, meddai'r meddyg mawr, mae gobaith am danat ti bellach—" A hi a wnaed yn iach fel y llall."
Mae dynion yn mynd i'r cwrdd â'u dwylaw wedi gwywo i wneuthur daioni, ac mae'n rhaid cael y Crist i'r cwrdd cyn eu gwella. "Wedi mynd allan hwy a ddygasant ato un cythreulig dall a mud, ac efe a'i hiachaodd ef." Mae dynion â'u dwylaw wedi gwywo yn y cwrdd, a rhai cythreulig dall a mud heb fod yno, rhai dall i bob daioni, a rhai mud i bob gwasanaeth o help; ac yr oedd Iesu Grist yn gwneud defnydd o'r dydd sanctaidd i wella'r ddau. Ein hunig gysur ninnau pan yn teimlo fod dynion â'u dwylaw wedi gwywo yn llanw'n haddoldai, yw, fod yr Hwn sydd fwy na'r deml yn fyw o hyd. Ein cysur pan yn gweled rhai cythreulig dall a mud yn halogi'r Saboth yw gwybod fod Arglwydd y Saboth yn fyw o hyd, ac na chaiff y naill deyrnasu yn y cwrdd, na'r llall reoli y tu allan tra bo ysbryd Crist yn fyw, ac yn gwneud y dydd yn ddydd o fwynhad, a rhyddid, ac addoli, a gwasanaeth.
Teyrnased yr ysbryd hwn yn ein plith hyd byth.
Awst, 1900.
III.
"CYFAMOD DUW A DYN"
(DEUT. V. 2—3).
Y mae'r gair a gyfieithir "Cyfamod" yma, yn digwydd tua thri chant o weithiau yn yr Hen Destament. Ei ystyr, yn gyffredin, yw cyd-amod, neu gytundeb, neu gyfraniad, am fod dwy blaid yn cymryd rhan ymhob cyfamod. Nid yw dysgedigion yn hollol sicr o darddiad y gair. Dywed rhai mai o air yn arwyddo "torri" y tardd. Dywed eraill mai o air yn arwyddo "rhwymo." Dau feddwl hollol wahanol i'r un gair, fel y ceir i lawer gair arall ran hynny, y rhai, efallai, nad oes sicrwydd am eu gwreiddiau. Gall fod yn meddwl y ddau—torri a rhwymo; gwahanu a chyfrannu. Cred rhai ei fod yn arwyddo torri, oddiwrth yr arferiad o dorri'r aberth yn ddau ddarn, rhwng y rhai y cerddai'r pleidiau oedd i'w rhwymo mewn cyfamod,—megis yr hanes am Abraham (Gen. xv.), "Ac Abraham a gymerth yr aberthau, ac a'u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd, a bu pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny." Arwydd y presenoldeb dwyfol.
"Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod âg Abraham, gan ddywedyd, i'th hâd di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd afon Ewphrates." Y mae hynna yn ddigon i ddangos yr hen ddull o dorri'r aberth, a cherdded rhwng y darnau, cyn rhwymo'r pleidiau mewn cyfamod.
Dilynwch chwi hanes pob cyfamod, y mae torri a rhwymo ynglyn âg ef. Pan ddaeth y bobl i Horeb, lle cyfamod y testyn, y peth cyntaf wnaeth Moses oedd taro'r graig; hollli'r graig yn ddwy, a daeth dwfr glân afon y cyfamod allan oddi rhwng y darnau, ac y mae ol y ffordd y cerddodd yno hyd y dydd hwn. Torri cyn cyfamodi.
Pan ddaeth y bobl i Sinai, torrwyd rheolau y cyfamod ar ddwy lech, neu ynte, torrwyd llech y cyfamod yn ddwy, un o ochr Duw, a'r llall o ochr dyn, a thorrodd Moses y rheiny eilwaith, os mynnwch,—torri cyn cyfanu eto.
A phan ddeuwn i ddarllen yn Gymraeg, mae'r meddwl yn dod yn nês atom, ac yn fwy eglur fyth, y mae'r pleidiau yn torri eu henwau wrth arwyddo'r cyfamod.
Y mae rhywbeth yn brydferth iawn yn y torri a'r cymodi yma. Torri'r gorchmynion ar lechau i ddechreu, torri'r deddfau ar dor dy law yn nês ymlaen; torri'r cytundeb i ddyfnder dy galon yn y diwedd. Dyna—ddatblygiad y torri a'r rhywmo yn y cyfamod; torri ar lech, torri ar law, torri ar y galon. Ac os na fydd y cyfamod â Duw wedi ei dorri i galon dyn, mae ef wedi torri lawr ar y ffordd. Ond dyna ddigon ar y torri a'r rhwymo. Y mae yna ddau fath o gyfamod, sef cyfamod rhwng dyn â dyn, a rhwng Duw a dyn.
Y mae'r Beibl yn llawn o hanes cyfamod rhwng dyn â dyn, a rhwng dyn â chymdeithas. Gŵr a gwraig, meistr a gwas, brenin a deiliaid. Mae'n debyg fod gwahaniaeth yn yr hen amseroedd rhwng cyfamod a chytundebau'n gyffredin. Yr oedd llw ynglyn a'r cyfamod, ac yr oedd hyn yn ei wneud yn gwlwm cysegredig, ac yr oedd torri'r llw yn beth ofnadwy, ac yn dwyn barn ar ben y torrwr. Byddai'r dyn fyddai wedi torri ei lw, wedi torri ei air da a'i gymeriad am byth. Y mae rhyw ymdrech gysegredig mewn cyfamod i gadw trefn yn y byd, yn beth hen iawn, ac yn beth newydd o hyd. Y mae'r Beibl a'r byd yn llawn o hanes cyfamod rhwng Duw a dyn hefyd, ac y mae'r llw cysegredig ynglyn âg ef bob cam!
Y mae son yn Deuteronomium yma am dri chyfamod rhwng Duw â dynion y cyfamod â'r tadau, cyfamod Horeb, a chyfamod Moab; ac ar yr un llinyn euraidd y maent i gyd yn hongian, sef yr addewid am Wlad Canaan. Y tadau oedd Abram, Isaac a Jacob, yn gweld y wiad o bell drwy ffydd mewn cyfamod, a llw Duw arno.
Cyfamod Horeb, neu gyfamod Sinai, ar ddechreu taith yr anialwch. Cyfamod Moab ar ddiwedd taith yr anialwch, cyn croesi'r afon i'r wlad addawedig. Darllenwch hanes y cyfamod, i gael gweld mor ffyddlon yw Duw i'w air ac i'w lw.
Nid oes amser mewn pregeth fel hyn i fynd ar ol yr holl hanes. Yr hyn geisiwn ni wneud a fydd codi sylwadau ymarferol oddiwrth y testyn:——
1. CYFAMOD LLEOL. "Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb."
2. CYFAMOD NEWYDD. "Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn."
3. CYFAMOD CYMDEITHASOL. "A nyni."
4. CYFAMOD PERSONOL. "Nyni y rhai ydym yn fyw bob un yma heddyw."
1. CYFAMOD LLEOL. "Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb."
Y mae hanes cyfamod Horeb yn Exodus xix. "Yn awr, gan hynny, medd yr Arglwydd, os gan wrandaw y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod i, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi, o flaen yr holl bobloedd, oblegid eiddof fi yr holl ddaear, a chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd." "A'r holl bobloedd a gyd-atebasant: Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd." Dyna eiriau y cyfamod, ac yr oedd Duw a'r bobl ar eu llw.
Mae'n debygol fod yr adnodau wedi eu camgyfleu, mai ar ol rhoddiad y ddeddf y dylent gael eu darllen, ac nid o flaen rhoddiad y ddeddf. ydych yn cofio, mae'r Deg gorchymyn yn yr ugeinfed bennod. Waeth am hynny, dyna'r cyfamod o du Dduw, ac o du'r bobl, mewn llw cysegredig.
Rhaid i ddyn ymhob lle gadw cyfamod Duw, os am gael bendith a lwyddiant yn y lle. "Eiddof fi yr holl ddaear," meddai Duw; a rhaid i ddyn gofio hynny, pa le bynnag y bydd yn byw. Y mae Duw o'n blaen ymhob lle, a phan ddeuwn ninnau yno, cyfamod yn y lle hwnnw yw hi, cyfamod yn Horeb. Cyfamod yn Amanford yw'n cyfamod ni â Duw; mae Efe yma o'n blaen ni. Y mae Duw yn dweyd yn y byd hwn fel y dywedodd y Gwaredwr, "Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi," a diolch fod ganddo gynifer o drigfannau i gwrdd â chymaint o dyrfa.
Rhaid i ni gadw mewn cof beth oedd diben cyntaf y dyfodiad i Horeb, dod yno i gael bendith, dod yno i gael dŵr, on te fe? Dod yno i weled hollti'r graig, ac yfed o ffrydiau gloywon afon Duw, yr hon oedd yn dod allan o galon galed y graig Lle annhebyg iawn i gael dŵr oedd Horeb,—ystyr Horeb yw sych, diffaeth, ond dyma Dad ein holl fendithion wedi gwneud y graig galed yn ffynnon, a'r diffaethwch sych yn ffrydiau byw o ddŵr glân i ddiodi'r genedl sych a sychedig.
Felly mae Duw yn gwneud o hyd, pan yn ein harwain o le i le, mae'r fendith yno o'n blaen. Mae lle am fwyd a diod a chysur a llwyddiant yn ein haros ni yma. Mae'r ffrydiau yma o'n blaen, yn cerdded rhwng y bryniau. Mae'r creigiau yma yn llawn cyfoeth, dim ond eu hollti. Mae'r mynydd du a'r mynydd mawr, a mynydd y Betws yn llawn trysorau, dim ond eu taro! Mae'r bryniau yn orlawn o gyfoeth, dim ond eu hagor. Mae'r ddaear yn lâs cyn i ni sangu arni. Mae'r tir yn bwrw gwenith, dim ond ei aredig a'i hau. Mae'r lle yn llawn o fendithion, ond cofiwn fod y cyfamod i fod yn llawn grym hefyd. Yn Horeb! Yr ydym yn ofni weithiau fod dyn wrth fynd o le i le, yn barod i anghofio cyfamod Duw, a'i rwymedigaeth i'r lle newydd o hyd. Y mae yma lw o ffyddlondeb i Dduw, ac i'r lle y byddwn yn byw ynddo, i gael ei gadw o hyd. Y mae ambell un—son am y lle y ganwyd ac y magwyd ef mae ef o hyd, yn yr ardal, yn y gwaith, ac yn y capel; garw na buasai wedi aros yn y lle ganwyd ac y magwyd ef! Gwaharddwyd y Chineaid i fyned i'r America am eu bod yn byw i China, ac nid yn byw i'r America. Ennill arian i fynd i China yn ol oedd eu holl fryd, gan anghofio eu dyledswydd mewn cyfamod â'r wlad newydd. Mae ambell feistr tir mor ynfyd a mynd a'r arian o'r tir i'w gwario mewn gwledydd eraill,—torri'r cyfamod lleol yw hynny. Mae ambell un yn prynu ei nwyddau i gyd o leoedd dieithr, heb geisio helpu'r lle mae'n byw,—mae'r cyfryw heb ddysgu pwysigrwydd y cyfamod lleol.
Y mae cyfamod Duw yn gofyn i ni dynnu'r dwr o'r graig, a'r tân o'r mynydd, a'r bara o'r ddaear, yn y lle y byddwn ni yn byw; yno, neu ynte fod heb y cysuron a'r bendithion. Rhaid i ni deimlo balchter yn y lle, a diddordeb yn ei lwyddiant, a gwneud ein rhan i'w gyfoethogi a'i wella, a'i brydferthu, a'i harddu, os am fod yn rhwymyn y cyfamod sy'n bendithio'r byd, ac yn bendithio dyn, pa le bynnag y bydd byw. Os lle sych fydd yno, rhaid i ni agor y ffynhonnau melys. Os lle llwm fydd yno, rhaid i ni chwilio am ei drysorau cuddiedig. Os yw'r ardal i lwyddo, rhaid i bob un wneud ei ran. Os yw'n gwlad i fyw, rhaid i ni ofalu am dani. Os yw'r deyrnas i bara, rhaid i'r bobl i gyd fod yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd.
2. CYFAMOD NEWYDD. "Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn."
Efallai mai cyfamod adnewyddol fyddai y term goreu, ac nid cyfamod newydd, oblegid yr un yw cy'amod Duw o hyd o ran ei natur, a lles dyn sydd yn y golwg o hyd wrth ei adnewyddu, ond fel y mae dynion, a lleoedd, ac amgylchiadau yn newid. Mae 1hwymedigaethau moesol y tadau a'r plant yr un fath, ond gall fod geiriau'r gyfraith foesol yn newid. Y mae egwyddorion crefydd yr un, ond gofynion crefydd yn newid. Yr un yw ysbryd crefydd, ond nid yr un gwaith. Yr un yw tân y golofn, ond y mae hi i oleuo ffordd newydd i deithwyr newydd o hyd.
Y mae'r cyfarfod hwn yn peri i ni feddwl am gyfnod yn hanes yr ardal hon, yn hanes yr eglwys hon, yn hanes gwaith crefydd yn Nyffryn Aman. yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf, ac yn peri i ni gofio am y tadau sydd wedi blaenu. Gallem enwi llawer o honynt oedd yn fyw pan ddaethom ni yma, dynion y teimlem yn sicr eu bod mewn cyfamod â Duw ar ran masnach y lle, iechyd y lle, sobrwydd y lle, moesoldeb y lle, crefydd y lle, a llwyddiant tymhorol ac ysbrydol y lle,—y tadau anfarwol ! Ond y maent wedi myned, a dichon fod Duw yn gwylio'r amser i'w cymryd ato ei Hun, a phan oedd eu hoes a'u gwaith ar ben, yn dweyd wrthynt, o un i un, "Da, was da a ffyddlon, dos i mewn oddiar y ffordd, dos o'r gwaith i'r orffwysfa." Dos o'r gofid i'r llawenydd; dos o'r pryder a'r drafferth i'r digrifwch dibryder a diddiwedd. Gwnaeth y tadau yn y lle hwn waith ardderchog, a chadwasant gyfamod Duw, a gwnaethant sicrhau tystiolaeth Jacob yn y lle, a chyfraith Duw yn yr ardal, a gorchymyn dysgu'r pethau hyn i'w plant. ac i'r oes a ddel; ac yn awr, y mae'r oes newydd wedi dod, a'r cyfamod wedi ei adnewyddu,—nid â'r tadau.
Ambell un sy'n gallu byw cyhyd a'i oes, chwaethach byw o flaen, neu y tuhwnt i'w oes. Y mae blino a llesgedd, a byddardod, a dellni yn dyfod i mewn gyda dyddiau ein blynyddoedd. Pan fydd eisiau mynd, bydd y tadau wedi blino, ac yn wir nid heb achos, wedi gweithio oes cyn geni y rhai sydd am fynd. Pan fydd eisiau codi capel, byddant yn teimlo'n rhy lesg i fynd. i'r chwarel am y meini, nac i'r mynydd am y coed. Pan fydd eisiau gwell canu, bydd eu clustiau wedi trymhau gormod i glywed swn tyner miwsig y dyfodol. Pan fydd goleu newydd yn torri o'r nefoedd ar ben mynydd to yr Arglwydd, bydd eu llygaid yn rhy bwl i'w ganfod gyda'r blaenaf, ond gan fod yn rhaid i'r pethau hyn fod, ac i'r gwaith hyn ddod, a bod yn rhaid yn ol y cytundeb i'r gwaith fynd yn ei flaen, mae Duw yn gorfod dweyd, nid â'r tadau y gwnaethum y cyfamod hwn, ond â chwi, y plant. Rhaid i ni wneud. cyfamod newydd i gwrdd â'r gwaith newydd, a hollti ffordd trwy ganol y rhwystrau a cherdded rhyngddynt. Hollti'r aberthau wnai ein tadau wrth wneud y cyfamod, a cherdded rhwng y darnau. To i drwy ganol y rhwystrau raid i ni, a cherdded ymlaen rhwng y darnau, ond bydd y presenoldeb dwyfol yn cerdded gyda ni, a phan fydd hi'n dywyll, bydd fel lamp danllyd yn goleuo'r ffordd ymlaen!
Fel y dywedasom, yr oedd y cyfamod i ddatblygu o dan yr hen oruchwyliaeth. o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Yr oedd i ddatblygu o fod yn beth argraffedig ar garreg, i fod wedi ei argraffu at y galon. O fod yn beth allanol, i fod yn beth mewnol, yr un yn ei natur, ond yn datblygu o hyd, nes bod yr hen gyfamod i'r hen genedl yn gyfamod newydd i Israel newydd. Rhaid i ni deimlo'r cyfrifoldeb, a chlywed llais Duw yn siarad â ni. Rhaid i ni deimlo cyfrifoldeb ein hoes ein hunain, a'n dyledswyddau ein hunain, a'n hetifeddiaeth ein hunain. Y mae tai a thiroedd, ac aur ac arian, ac enw da ein tadau yn etifeddiaeth i'r plant, ond mae elw'r cyfamod yn rhwym wrth bob rhod.1. "Dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da," meddai'r bachgen gynt. O'r goreu, meddai ei dad, ti gei y cyfan, y ti biau dy ran o'r etifeddiaeth, cymer hi, ond os wyt ti am ei chadw, rhaid i ti beidio bod yn fab afradlon, dyna amod y cadw, cofia di.
3. CYFAMOD CYMDEITHASOL.
"A nyni." Y dyrfa i gyd, yr holl bobl, yr holl genedl. "A'r holl bobl a gydate basant ac a ddywedasant, nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd." Dyna addewid bendant gan genedl gyfan i gadw cyfamod Duw yn gyfan,—yr holl bobl yn cydateb. Dyna undeb perffaith; a dyna nerth sydd mewn undeb perffaith—cydateb. Deddfau Duw oedd yn gwneud Israel yn genedl. "Pa genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon, yr hon yr ydwyf fi yn ei—rhoddi heddyw ger eich bron chwi." Cyfamod Duw oedd yn cadw gwladwriaeth Israel yn gryf. "Wedi eich dieithrio oddiwrth wladwriaeth Israel, yn estroniaid oddiwrth amodau yr addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd." Torri'r amodau, colli'r wladwriaeth. Y cyfamod oedd gwladwriaeth y genedl. Teyrnas Israel, annibyniaeth Israel, crefydd Israel, mewn gair, bodolaeth Israel—y cyfan yn dod o gyfamod Duw.
Chwi glywsoch yr hanes am y tad a'r saith o feibion oedd heb fod yn cytuno â'i gilydd, a thrwy hynny yn methu llwyddo mewn dim, ond yn cael eu curo ym mhob peth a gymerent mewn llaw, am na byddent yn cydweithio. Y mae'r tad yn dysgu trwy gymorth y gwiail. Y mae llawer tad wedi bod yn defnyddio gwiail at ei blant, ond heb fawr diben, am nad yw yn defnyddio'r wialen yn iawn. Yr oedd y tad hwn yn gallu defnyddio gwiail yn effeithiol. Gwnaeth i'r bechgyn ddod a dwy wialen bob un iddo, a rhoddodd un yn llaw pob un o honynt, a gofynnodd a allai pob un o honynt dorri'r wialen, yr hyn a wnaethant yn ddigon hawdd. Yna efe a rwymodd y saith yn un, ac nis gallai y saith bachgen bellach dorri'r saith gwialen oedd fel gwden anorchfygol. Felly y gallwn ddweyd am genedl, a theyrnas, a gwladwriaeth, a gwladweiniaeth, a chrefydd, ac annibyniaeth, a bodolaeth Israel, eu bod yn ddigon hawdd eu torri a'u dinistrio pan ar wahan i gyfamod Duw, ond wedi eu rhwymc yn un yn rhwymyn y cyfamod, yr oeddynt yn geinciau bywyd anorchfygol. Collodd Israel ei theyrnas, a'i gwladwriaeth, a'i sefydliadau, a'i hannibyniaeth, a'i bodolaeth fel cenedl, pan anghofiodd gadw cyfamod Duw, pan dorrodd y cyfamod, caethgludwyd y genedl, a darfu am dani. Buasai wedi darfod am dani byth oni buasai i Dduw wneud cyfamod newydd â hi ar ol y gaethglud, hynny yw, o'i ras, adnewyddu'r hen gyfamod i roi cynnyg newydd i'r hen genedl. Yn wir, rhywbeth fel gwiail ar wasgar yw'r llwythau hyd heddyw, am nad ynt mewn cyfamod â Duw yng Nghrist. Y mae'r cyfamod cymdeithasol yn ein rhwymo i gyduno, a chydweithio, a chydateb. "Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd."
Dylai pob aelod o gymdeithas fod wedi ei ddysgu a'i ddisgyblu i ddweyd "nyni," nid myfi, neu chwi, neu nhw. Y mae hanes y geiriau bach hyn yn ddoniol, a dweyd y lleiaf. Os yn methu cydsymud, yr ydym yn dweyd y chwi. Os bydd rhywbeth wedi mynd yn lledchwith, yr ydym yn dweyd y nhw. Os bydd rhywbeth wedi llwyddo, y ni. Y chwi, neu nhw sydd yn wrong, a ni sydd yn iawn fynychaf bob amser. Torri'r cyfamod cymdeithasol yw dweyd chwi, neu nhw. Nyni yw gair y llw. Yr ydym i ymdoddi i'n gilydd er mwyn y lle yr ydym yn byw ynddo. Yr ydym i fod yn unol â'n gilydd er mwyn unigoliaeth. Yr ydym i fod mewn undeb â'n gilydd er mwyn yr ardal a'r eglwys a'r teulu. Yr ydym i fod mewn undeb â Duw mewn cyfamod cyn gallu bod mewn undeb â'n gilydd. Torri rhwymyn cyfamod Duw yw torri'r rhwymyn euraidd sy'n clymu y ddynoliaeth yn un. "A'r holl bobl a gydatebasant, nyni a wnawn yr holl bethau a lefarodd yr Arglwydd." Cofiwn ein rhwymau i gyındeithas, i'n cenedl, i'n gwlad, ac i'n crefydd ynte.
Mae pob cymdeithas yn gofyn am undeb i'w chadw'n fyw, ac yn wir, unwaith y deuwn yn aelodau o gymdeithas, y mae'r llw yn hawlio undeb. Undeb yw nerth pob eglwys, a phob enwad. Cydymdrech yw bywyd pob cenedl. Cydweithrediad yw nerth pob gwlad. Cyfiawnder yw sail bywyd pob teyrnas. Cadw cyfamod Duw yw gwerth pob crefydd. Gwrando ar lais Duw sydd yn gwneud brenhiniaeth o offeiriaid, a chenhedlaeth sanctaidd. Torrodd Israel y cyfamod, a chollodd yr holl bethau hyn, a chollodd ei gwlad, a chaethgludwyd hi. Nid oes raid ein symud o'n gwlad i'n gwneud yn gaeth. Gallwn fyned yn gaeth gartref, colli'n grym, colli'n masnach, colli'n llwyddiant—os collwn ein crefydd.
4. CYFAMOD PERSONOL. "Bob un sydd yma heddyw."
Y mae hwn yn apelio atom bob un ar wahan, bob un ar ei ben ei hun. Os na fydd dyn yn teimlo ei gyfrifoldeb personol, y mae rhyw ddiffyg yn ei addysg grefyddol. Os na fydd dyn yn teimlo ei rwymau personol i'w ardai, 'dyw e' ddim yn deilwng i gael lle i fyw yno. Os na fydd dyn yn teimlo ei rwymau personol i'w eglwys, 'does ganddo ddim hawl i fod yn aelod yno. Os na fydd dyn yn teimlo ei rwymau personol i Dduw, y mae heb ddeall ei gyfrifoldeb ei hunan. Y mae pob dyn wedi dod yn aelod o gymdeithas yn gwneud ei rwymau personol yn fwy pwysig o anghenraid. Y mae'r bobl yn ateb gyda'i gilydd, "Nyni a wnawn yr holl bethau a lefarodd yr Arglwydd." Ond y mae'r holl bethau hyn yn y Deg Gorchymyn yn cael eu rhoi fel pe byddent i bersonau unigol, bob un bob yn un, ac yr ydym yn teimlo felly wrth eu darllen, eu bod yn siarad â ni yn bersonol, rywfodd: "Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron." "Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer." "Cofia y dydd Saboth i'w sancteiddio ef." "Na ladd." "Na ladrata." "Na ddwg gam dystiolaeth." Rhyw apel personol sydd i'w deimlo ymhob un, ac os nad ydym yn eu gwrando bob un drosto ei hun, nid ydym yn eu deall, nac yn eu cadw.
Gallwn feddwl mai ar ol clywed llais pob gorchymyn yn bersonol bob un y mae'r holl bobl yn cydateb, "Nyni a wnawn yr holl bethau a lefarodd Wedi clywed y llais o'r nef bob un yn bersonol, mae'r llais o'r ddaear yn ateb yn un chorus mawr, "Ni a wnawn yr holl bethau." Wedi clywed y tafod tân o'r mynydd, mae tafod y dyrfa yn torri mewn cân, "Ni a wnawn y cyfan i gyd." Mae Duw yn disgyblu'r unigol er mwyn y cymdeithasol. Mae Duw'n dysgu'r athro er mwyn y class. Mae Duw yn donio'r pregethwr er mwyn y gynulleidfa. Mae Duw yn codi'r eglwys er mwyn yr enwad. Mae Duw yn llwyddo'r enwad er mwyn y gyfundrefn fawr sydd i achub y byd i gyd. gyfan.
Y mae'r dyn unigol yn ei lawn faint pan wedi ei gysylltu â dynoliaeth Mae'r person unigol i fod yn rhan o'r dyn perffaith mewn dynoliaeth wedi ei hachub. Mae'r cyfamod i'w gadw'n gyfan er mwyn cael dynoliaeth gyfan. Fel y canodd Edward Jones, Maesyplwm:—
Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw,
Ni syfl o'i le, nid ie a nage yw;
Cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith;
Er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith.
IV.
"SUL Y BLODAU."
"Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd, llawenychwn a gorfoleddwn ynddo." (PSALM CXviii. 24).
"A hwy a gymerasant (dorasant) gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant, Hosanna, bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd." (IOAN xii. 13.)
Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd." Pa ddydd yw hwn ynte? Ai nid yr Arglwydd a wnaeth bob dydd? Oes rhyw un arall erioed wedi gallu gwneud dydd? Y mae'r pethau ym ni yn wneud yn debycach i'r nos nag i'r dydd. Yr ydym ni yn fwy tueddol i greu tywyllwch na gwawrio goleuni, y cyfnodau, a'r tymhorau, a'r blynyddau blinion, a'r nosweithiau duon yw'n creadigaethau ni; Duw biau'r wawr, a'r goleuni, a'r dydd! Duw sy'n gwneud y dyddiau i gyd, bob bore y deuant o'r newydd o'i law Ef, ac nid oes dau ddydd yr un fath wedi bod erioed, newydd o hyd yw'r dyddiau mwyaf cyffredin. Ond gallwn ofyn, ai nid yw Duw yn creu dyddiau neilltuol? Ai nid oes swn rhyw ddydd neilltuol ynglyn â'r dydd hwn?" Hwn yw y dydd a wnaeth yr Arglwydd." Credwn fod yma ryw son am ryw ddydd neilltuol, i gofnodi rhyw amgylchiad mawr, i alw sylw at rywbeth arbennig, cyn fod y Salmydd yn dweyd: "Hwn yw y dydd a wnaeth yr Arglwydd."
Ydyw, mae'r Salm yn Salm Genedlaethol i gyd, yn cael ei chanu ar achlysur neilltuol, pan fuasai llwyddiant mawr, neu ynte waredigaeth fawr, neu symudiad pwysig yn digwydd; coroni brenin, neu ennill brwydr, neu adeiladu teml, neu gwrdd diolchgarwch. Dyma'r Salm a genid gan genedl Israel; dyma "Hen wlad fy nhadau" yr hen genedl honno. Darllenwch chwi yn llyfr Ezra ynghylch ailadeiladu'r deml, a'r paratoi, a'r llawenydd, a'r canu moliannus oedd yno; canu'r Salm genedlaethol yr oeddynt, a'r pennill blaenaf a'r pennill olaf o honi yr un fath, "Clodforaf yr Arglwydd, canys da yw, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd."
Un o benillion y Salm Genedlaethol oedd yn cael ei chanu ar y gwyliau mawr, ac ar adegau neilltuol, yw adnod ein testyn; a chan ein bod ni heddyw wedi cwrdd ar ddydd neilltuol, sef dydd Sul, ac ar Sul neilltuol, sef Sul y Blodau, ni geisiwn wneud defnydd o'r geiriau: "Hwn yw y dydd a wnaeth yr Arglwydd, llawenychwn a gorfoleddwn ynddo." "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg Ef, ac a lefasant Hosanna."
Dyfyniadau o hen Salm y genedl yw'r geiriau oeddynt yn ganu, digedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd," a gwneud defnydd o hen arferiad y g nedl, oedd cario'r palmwydd yn eu dwylaw o flaen Iesu Grist yn ei ymdaith olaf i'r brifddinas, a chadw'n fyw y traddodiad o barchu'r Gwaredwr mae "Sul y Blodau " yng Nghymru, a'r "Palm Sunday" yn Lloegr. Dewch i ni gael son a meddwl heddyw ynte am rai pethau oddi wrth y geiriau a'r amgylchiadau.
1. RHODDION Duw. "Hwn yw y dydd, &c."
Dyddiau. Goleuni a dydd oedd y peth cyntaf greodd Duw, "Yr hwyr a fu a'r bore a fu y dydd cyntaf," oedd rhodd gyntaf Duw i'r ddaear. y dydd, daear afluniaidd a gwâg fuasai'r ddaear, a thywyllwch ar wyneb y dyfnder; tywyllwch rhy dew i ddyn allu byw ynddo, a dyfnder rhy beryglus i ddyn allu sangu arno fuasai lle'n byd ni oni buasai i Dduw greu dydd y peth cyntaf i gyd. A gwelodd Duw mai da oedd, ac mae Ef wedi cadw'r hen arferiad da yn fyw hyd y dydd heddyw; mae Ef wedi estyn dydd yn ei ddydd i ni ar hyd ffordd amser bob cam, i'n goleuo ymlaen hyd y dydd hwn; ac y mae yna filoedd ar filoedd o galonnau wedi bod yn diolch i Dduw am weled bore newydd heddyw eto. Dyna rodd fendithiol yw dydd! Rhodd Duw cofiwn! Tad y goleuni!
Tymhorau. Duw sy'n estyn y tymhorau i ni bob un yn ei bryd,—gwanwyn, haf, hydref, a gaeaf,—i roi amrywiaeth i'n dyddiau ni, i newid eu hyd, a newid eu llun a'u lliw, a'u goleuni a'u gwres. Cylchdro'r tymhorau sydd yn taflu blodau, a llysiau, a ffrwythau bob blwyddyn i ni wrth fynd. heibio. Y maent yn deffro'r ddaear yn y gwanwyn at ei gwaith, ac yn ei suo i gysgu yn y gasaf, ac yn rhoi cwrlid o eira arni i'w chadw'n gynnes,a'r cyfan at wasanaeth dyn. Duw sy'n estyn y tymhorau i ni heb anghofio codi'r haul yn ei bryd, a rhoi'r cynnar a'r diweddar wlaw yn ei amser.
Suliau. Nid yn unig y dyddiau cyffredin, ond y dydd sanctaidd. Nid y dyddiau gwaith, ond y dydd gorffwys. Nid dyddiau y planedau, Llun, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener, a Sadwrn, ond dydd Sul, dydd yr Haul, brenin yr holl blanedau! Nid dydd dyn, a daear, a llafur, a lludded, a helbul, a thrafferth, a chwyno ac achwyn, ond dydd Duw a nefoedd, a gorffwys a gwynfyd, a hedd a mwynhad, a chân ac addoliad. Dydd dan fendith neilltuol Duw, i fod yn fendith neilltuol i ddyn.
Y Gwyliau. Rhoddion Duw yw rhain eto, wedi eu creu gan amgylchiadau a digwyddiadau neilltuol yn hanes Rhagluniaeth a gras Duw yn llywodraethiad y byd, ac y mae ystyr arbennig i bob un o honynt, er ein bod ni yn ein hanwybodaeth heb wybod hynny, neu yn ein hanystyriaeth heb gofio hynny.
Y mae hanes gwledydd y byd wedi ei ysgrifennu mewn cestyll a themlau, dinasoedd a threfydd, tai marchnad, a thai byw. Y mae hanes cenhedleodd y byd wedi ei ysgrifennu mewn brwydrau a buddugoliaethau, mewn methiant a llwyddiant, mewn digwyddiadau a chwildroadau. Y mae hanes crefyddau'r byd wedi ei ysgrifennu mewn adfywiadau a diwygiadau, ac ymweliadau dwyfol, a thywalltiadau nerthol, a dyddiau, a Suliau, a gwyliau, er cof am y pethau hyn. Yr oedd gan y genedl Iddewig wyliau lawer er cof am lawer tro yn ei hanes, i gadw'r pethau hyn yn fyw yng nghalonnau cenedlaethau o blant. Y mae hanes Iesu Grist gennym ni wedi ei ysgrifennu yn frâs mewn pump o wyliau neilltuol,—y Nadolig, Sul y Blodau, y Groglith, y Pasg, a'r Sulgwyn. Y Nadolig i gofio ei ddyfodiad i'r byd; Sul y Blodau i gofio am ei ymdaith i Jerusalem; y Groglith am ei fynediad i'r groes; y Pasg am ei adgyfodiad o'r bedd; y Sulgwyn am ei esgyniad i'r nefoedd. Y Nadolig i gofio'r engyl yn canu, &c.; Sul y Blodau i gofio'r bobl yn llefaru Hosanna ";
Amen. y Groglith i gofio'r bobl yn gwaeddi "Croeshoelier Ef!"; y Pasg i gofio'r gwragedd yn mynd at y bedd, yr angel yn dweyd "Nid yw Efe yma," a'r disgyblion yn cyfarch ei gilydd mewn gorfoledd, "Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon!"; y Sulgwyn i gofio ei fynediad yn ol i'r nef, wedi bendithio ei ddisgyblion, a bendithio'n daear ni am byth, à disgyniad yr Ysbryd!
Wel, dyna rai o roddion Duw,
Ar hyd y daith i ddynol ryw,
Fel gorffwys fannau mawr eu gwerth,
I'n helpu 'mlaen o nerth i nerth.
Y dydd o'r nef a'i wyneb llon,
Tymhorau amryw'r flwyddyn gron,
Y Saboth, brenin dyddiau'r llawr,
A gŵyliau'r digwyddiadau mawr:
Anrhegion dwyfol Duw i gyd,
Arwyddion ffordd wrth fynd drwy'r byd,—
O oes i oes, o hyd o hyd.
2. BETH A DDYLEM NI WNEUD YN Y MWYNHAD O'R PETHAU HYN?
"Gorfoleddu a llawenychu ynddynt." "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg Ef, ac a lefasant Hosanna, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd."
Dyna ddywedir yn yr Hen Destament, "Gorfoleddwn a llawenychwn." A dyna gofnodir yn y Testament Newydd, "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd ac a aethant allan i'w gyfarfod Ef." "Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd " sydd yn Salm yr Hen Destament, ac adsain yr un geiriau sydd i'w glywed ym mhennod y Testament Newydd.
Canodd y Salmydd, "Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd." Y mae Ezra, wrth sylfaenu Tŷ yr Arglwydd, yn gwneud defnydd o honi: "A hwy a gydganasant wrth foliannu yr Arglwydd, mai da oedd, ac fod ei drugaredd yn dragywydd." "A'r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr" wrth weled sylfaenu'r deml yn yr Hen Destament. A'r torfeydd a lefasant "Hosanna," wrth weled yr Hwn oedd yn fwy na'r deml, yn y Testament Newydd; yr hyn sydd yn dangos fod yr hen Salm wedi cydio yng nghalon y genedl, ac yn glynu yn y cof o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth, ac yn gyfrwng ysbrydiaeth newydd o hyd. Y mae ein cysylltiad crefyddol â'r gorffennol yn un pwysig, a'n perthynas yn un agos iawn o hyd. Dyna'r cyfandir mawr yn yr hwn y mae ffynhonnau iachawdwriaeth wedi tarddu, a thros yr hwn y mae'r afonydd o ddyfroedd bywiol wedi llifo i'r ardal lle'r ydym ni'n byw; a byddai yn sych iawn hebddynt. Dyma'r hen ardd brydferth, yn yr hon y mae brieill, a rhos, a lili ein harddwch crefyddol wedi tyfu, a buasem ni heb un "Sul y Blodau " oni buasai hon. Dyma'r môr mawi cerddorol diwaelod a di-lan, a buasem ni heb un don o "Hosanna i Fab Dafydd" oni buasai hwn. Mae'r gorffennol yn gyfoethog annrhaethol; gofalwn ni beidio torri'r cysylltiad âg ef, rhag i ni fyned yn Ilwm yn y dyfodol. Cofiwch hyn, 'dwyf fi ddim am i neb fyw yn y gorffennol, ond rhaid i ni bob un fyw arno, neu fel plant drwg, golli'r etifeddiaeth "sydd ini'n dod wrth Destament ein Tad." Rhaid i ganwyr yr oes hon beidio diystyru'r hen gerddoriaeth, os am berffeithio moliant Seion. Rhaid i'r pregethwr heddyw astudio'r pethau a fu yn gystal a'r pethau sydd, os am gael gafael ar storfa gwirioneddau newydd a hen, i ddysgu ei gynulleidfa i gwrdd â'r hyn a fydd. Yr wyf fi yn gredwr mawr mewn goleuni newydd, ond dewch i ni gael cofio o hyd, mai yr un yw ffynhonnell goleuni, a chadw'n llygaid yn agored i'w weled yn myned fwy—fwy hyd hanner dydd. Y mae yna rai pethau yn y testyn yn sicr o fod yn werth ein sylw.
(1). Gorfoledd. Hynny yw, cynulleidfa, neu dorf o ddynion yn rhoi teimlad eu calon allan mewn moliant cynnes, am ryw ddaioni y maent wedi deimlo. Braidd nas gallwn ni ddweyd fod hon wedi myned yn hen arferiad, a bod rhai crefyddwyr ffurfiol ac oeraidd yn barnu yn eu calonnau ei bod yn bryd rhoi heibio brwdfrydedd. Yr ydym yn teimlo 1hyw ffurfioldeb balch o'n cylch ambell waith mewn ambell gwmni, fel ia; a bod eisiau rhyw dân saith poethach nag arfer i'w doddi. Yr ydym wedi cwrdd â rhai dynion ieuainc yn barnu popeth cyn dysgu edmygu dim; gweld y bai cyn gweld y da, yn gorfanylu, ond byth yn gorfoleddu. Arwydd ddigalon ac annaturiol iawn yw honna i mi, ac yr wyf yn edrych waeth waeth arni po hynaf wyf yn mynd; y mae hi yn groes i natur, y mae afon natur dda fel yn rhedeg o chwith pan y mae pethau fel hyn. Gadewch i natur oreu dyn neu dorf, neu gynulleidfa, neu genedl, gael ei ffordd; mae'n rhwym o dorri allan mewn gorfoledd ambell dro, ac ond odid nad y cyfrwng fydd hen emyn neu hen dôn, neu hen salm genedlaethol sydd wedi gwasanaethu cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Mae gorfoledd pur yn iechyd pur! Peidiwn a'i ladd er dim!"
(2.) ini'n dod wrth Destament ein Tad." Rhaid i ganwyr yr oes hon beidio diystyru'r hen gerddoriaeth, os am berffeithio moliant Seion. Rhaid i'r pregethwr heddyw astudio'r pethau a fu yn gystal a'r pethau sydd, os am gael gafael ar storfa gwirioneddau newydd a hen, i ddysgu ei gynulleidfa i gwrdd â'r hyn a fydd. Yr wyf fi yn gredwr mawr mewn goleuni newydd, ond dewch i ni gael cofio o hyd, mai yr un yw ffynhonnell goleuni, a chadw'n llygaid yn agored i'w weled yn myned fwy—fwy hyd hanner dydd. Y mae yna rai pethau yn y testyn yn sicr o fod yn werth ein sylw.
(1). Gorfoledd. Hynny yw, cynulleidfa, neu dorf o ddynion yn rhoi teimlad eu calon allan mewn moliant cynnes, am ryw ddaioni y maent wedi deimlo. Braidd nas gallwn ni ddweyd fod hon wedi myned yn hen arferiad, a bod rhai crefyddwyr ffurfiol ac oeraidd yn barnu yn eu calonnau ei bod yn bryd rhoi heibio brwdfrydedd. Yr ydym yn teimlo 1hyw ffurfioldeb balch o'n cylch ambell waith mewn ambell gwmni, fel ia; a bod eisiau rhyw dân saith poethach nag arfer i'w doddi. Yr ydym wedi cwrdd â rhai dynion ieuainc yn barnu popeth cyn dysgu edmygu dim; gweld y bai cyn gweld y da, yn gorfanylu, ond byth yn gorfoleddu. Arwydd ddigalon ac annaturiol iawn yw honna i mi, ac yr wyf yn edrych waeth waeth arni po hynaf wyf yn mynd; y mae hi yn groes i natur, y mae afon natur dda fel yn rhedeg o chwith pan y mae pethau fel hyn. Gadewch i natur oreu dyn neu dorf, neu gynulleidfa, neu genedl, gael ei ffordd; mae'n rhwym o dorri allan mewn gorfoledd ambell dro, ac ond odid nad y cyfrwng fydd hen emyn neu hen dôn, neu hen salm genedlaethol sydd wedi gwasanaethu cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Mae gorfoledd pur yn iechyd pur! Peidiwn a'i ladd er dim!"
(2.) Llawenydd. Efallai fod yna duedd mewn rhai dynion i alltudio llawenydd o'u bywyd crefyddol. Pa bryd y daeth y teimlad llethol, prudd, ofnus, aflawen yma i mewn i'n cyfarfodydd, a'n cyfeillachau, a'n pregethu, a'n canu ni? Pwy bynnag ddaeth a'r pethau hyn yma, y mae hi yn llawn bryd cael eu gwared, er mwyn rhoi mwy o le i orfoledd a llawenydd. Cofiwn gadw'r gwahaniaeth rhwng llawenydd a dwli, a rhwng gorfoledd a rhialtwch. Y mae'r dyn crefyddol cryf, synhwyrol, iach, yn canu:—
Darfu ofn,
Daeth llawenydd yn ei le.
(3). Arddangosiad. Y peth nesaf welwn ni yma yw arddangosiad— demonstration gwirfoddol a chalonnog. "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg Ef, gan lefain Hosanna, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.' Nid seremoni unffurfiol ac anyswyth, yn dilyn o gyfarfod i gyfarfod, ac o Sul i Sul, ac o ŵyl i ŵyl, yw arddangosiad o deimlad. Nid defod wâg yw torri ar ffurf oer ambell waith. Byddai'n fendith i'n gwasanaeth dorri ar ei ffurf enwadol weithiau. Byddai yn tendith i'n pregethu i doiri pennau'r bregeth mewn ambell gwrdd, a thorii ei chynffon hefyd o ran hynny. Byddai'n fendith i'n canu i chwilio am fwy o emynau a salmau, ac odlau ysbrydol, ar gyfer ein Suliau neilltuol, a'n gwyliau arbennig. Mae'r Eglwys Sefydledig yn ein curo yn hyn, yn rhoi mwy o waith i'r gynulleidfa yn y gwasanaeth, a galw mwy o sylw at y gwyliau arbennig yn ei chyfarfod crefyddol. Y mae Duw wedi bwriadu'r cyfan i fod yn help i ni. Rhoddion Duw i'w Eglwys yw pob gwyl; anrhegion Duw i'w blant yw pob cân; bendithion Duw i galon dyn yw pob gorfoledd a llawenydd. Yr oedd y bobl yma yn taflu eu dillad ar y ffordd, ac yn bwrw cangau o'r gwŷdd ar y llwybr, ac yn cario cangau o'r palmwydd yn eu dwylaw, ac yn gwaeddi Hosanna, Bendigedig" o barch i'r Diwygiwr mawr oedd yn pasio heibio i'r ŵyl fawr yn Jerusalem; ac yr ydym yn sicr i hyn wneud lles i'w calonnau.
Er cof am hyn y mae ein Sul Blodau ni, heddyw. Er cof am y torri cangau o'r gwŷdd, a'r cario brigau o'r palmwydd o flaen y Crist byw, mae toreth diderfyn o flodau prydferthaf ein gwlad ni wedi eu taenu heddyw gan ddwylaw caredig, ar feddau miloedd o rai annwyl. Mae Ioan Emlyn wedi canu:——
A phan ddelo Sul y Blodau,
Nid oes yno gâr na brawd
Yn rhoi gwyrddail a phwysïau
Ar lwm fedd y dyn tylawd.
Mae y bardd wedi mynd yn rhy bell yn sicr—yn rhy brudd,—buasai yn well fel hyn:—
A phan ddelo Sul y Blodau,
Gwelir annwyl gâr neu frawd
Yn rhoi gwyrddail a phwysïau
Ar lwm fedd y dyn tylawd.
Mae'r teimlad yn fyw, ac mae serch yn gryf, ac ysbryd ffyddiog caredig crefydd yr Hwn a fu farw, ac a adgyfododd hefyd, yn cerdded ymlaen ar "Sul y Blodau "i daflu pwysïau hyd yn oed ar y bedd!
Cadwn y gwyliau'n fyw, etifeddiaeth crefyddwyr y wlad, a gweithwyr y wlad. Colled y gweithwyr yw diystyru dydd gwyl. Mae digon o ddyddiau gwaith gennym; mae cysur bywyd yn fwy o werth na miloedd o arian ac aur. Colled crefyddwyr
Colled crefyddwyr y wlad yw alltudio llawer o gynorthwyon nefol o'r gwasanaeth.
Dewch i ni gael cysylltu'r hen a'r newydd, y salm a'r emyn, y palmwydd gwyrdd, a'r blodau o bob lliw a llun, i addurno'n gwasanaeth crefyddol, ac i dalu parch i'n Gwaredwr ni—Iesu Grist ein Harglwydd. Amen
Mawrth 31, 1903.
Nodiadau
[golygu]- ↑ [Os goddef ysbryd y Bardd, rhaid rhoi ychydig "nodiadau eglurhaol" (chwedl yntau), nid i "ddangos y farddoniaeth" ychwaith:—"Green Hill"—cartref yr Offeiriad a ddadleuai mai braint oedd i'r trethdalwyr gael talu am "godi pwysau'r " cloc, &c."Y Walk"—Cartre'r Parch. W. Davies, Gweinidog Annibynnol yn Llandeilo, yr hwn a ddadleuai nad allai'r cloc fod yn eiddo neb ond eglwyswyr tra ar dir yr Eglwys."Manorafon"—Cartref y rhoddwr, Mr. Pugh.]
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.