Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Hwda i ti, a moes i minau
← Pregeth X | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Tlodi → |
TRAETHODAU
HWDA I TI, A MOES I MINAU.
FELLY y dywedai yr hen Gymry am dalu am bob peth wrth ei gael. Hwda i ti yr eiddo (gan nad beth a fyddai), a dyro i minau yr arian. A thyna y cwbl drosodd, heb eisieu son am amod yn mhellach, dydd tâl, na choflyfr. Wrth brynu unwaith, a thalu ar y pryd, ni thelir ond unwaith, ac ni phalla tâl; pan y mae y gŵr gonest wrth brynu ar goel, yn talu lawer gwaith mewn bwriad, ac efallai yn methu gwneyd mewn gweithred yn yr amser apwyntiedig a'r twyllodrus, er addaw yn deg, heb gymaint a bwriadu yn ddichlyn dalu byth. Dywedir fod dau dalu drwg, sef talu yn mlaen, a thalu rywbryd wedi yr amser yr oedd tål yn ddyledus. Ychydig sydd ddigon gonest, os telir yn mlaen, i werthu i'w gofynwyr heb grog—bris; ac nid oes nemawr ychwaneg wedi prynu ar goel yn ddigon penderfynol i dalu yn yr amser. Ond y mae talu am eiddo wrth ei gael yn gyfrwng dedwydd rhwng y ddau eithafion uchod.
Nid hwyrach nad oes genedl ar y ddaear yn prynu ac yn gwerthu mwy ar goel, yn ol eu rhif, na chenedl y Cymry; na'r un genedlaeth o'r Cymry wedi bod felly gymaint a'r genedlaeth hon. Yn awr, gan hyny, feibion a merched Cymru, gwrandewch arnom yn ddyoddefgar, pan y dywedom fod llawer o'ch gofidiau a'ch gofalon, eich petrusder a'ch ofnau, eich tlodi a'ch cywilydd, a lluaws o'ch siomedigaethau yn tarddu yn uniongyrchol oddiwrth gyfundrefn y coelio. Y mae temtasiynau y drefn hon yn rhy gryfion i'r rhan amlaf o blant Adda. Awydd y masnachwr a'r crefft wr i werthu eu nwyddau, a chadw eu cwsmeriaid, a bair iddynt anturio mwy nag sydd ddyogel i'w hamgylchiadau. Ond, ysgatfydd, yn gyffredinol y mae y temtasiynau yn llawer mwy i'r prynwr; ac felly sylwer yn astud ar y pethau canlynol:
1. Y mae yn temtio i drefn ry gostus o fyw—i wario mwy nag sydd yn dyfod i mewn. Ac os treulir tair-ceiniog-arddeg am bob swllt sydd yn cael ei enill, neu ryw ffordd yn dyfod i mewn, suddir i ddyled yn gynt nag y mae llawer yn ystyried. Bydded fod y llyn wrth y felin cyhyd, can lleted, a chan ddyfned ag y byddo, os bydd rhywfaint yn ychwaneg yn myned o hono nag sydd yn dyfod iddo, fe â yn wag yn gynt na'r dysgwyliad. Y mae awydd mewn dyn i feddianu, ac y mae cael eiddo heb roddi ei gydwerth yn ei le ar y pryd yn brofedigaeth nid bechan iddo. Y dydd tal, dydd drwg ydyw; ac y mae y natur ddynol yn dra chwanog i'w bellau. "Prophwydo y mae efe am amser pell."
2. Pob peth a brynir ar goel sydd o angenrheidrwydd yn ddrutach. Nid oes fodd i'r rhai sydd yn rhoddi coel werthu heb ychwaneg o enill na phe cawsent arian parod. Y mae yr arian yn cymeryd cymaint yn ychwaneg o amser i droi fel hyn, fel y gellid troi yr un arian bedair gwaith am un ond cael arian parod. Gŵyr pawb fod yn rhaid i'r masnachwr fyw. Heblaw hyny, y mae rhyw nifer yn prynu ac heb dalu byth. Pwy sydd yn y golled? Atebwn, mai y bobl onest sydd yn prynu ac yn talu ar y pryd, neu cyn pen blwyddyn. Dyma y gonest yn talu dros yr anonest, y sobr dros y meddw, y llafurus dros y diog, a'r gofalus dros y diofal. Nid ydym yn dywedyd fod y masnachydd neu y crefftwr yn ddigolled oddiwrth y rhai sydd heb dalu. Ond dylid ystyried fod yn rhaid i'r rhai hyn eu cael cyn y gallont eu colli. O ba le, gan hyny, y maent yn eu cael? Yr ydym yn ateb mai o ddwylaw y rhai sydd yn prynu ganddynt, ac yn talu, ac yn benaf o law y rhai sydd yn talu yn brydlawn. Tybier fod y crydd yn gweithio mewn tref neu bentref, ac yn gwerthu esgidiau ar goel; tybier hefyd fod un pâr o bob ugain yn myned heb dâl am danynt byth, na gobaith ychwaith; yn awr, allan o reswm yw tybied y gall y crydd fforddio colli cymaint ag un pâr o bob ugain drwy ei oes. O ba le ynte y daw tâl am yr ugeinfed? O ddwylaw y rhai a brynasant y pedwar-pâr-ar-bymtheg eraill, ac a dalasant am danynt.
Wrth fod y crydd yn rhoi chwe' cheiniog yn ychwaneg nag a wnaethai y tro, fel enill i gynal ei deulu, ar bob un o'r pedwar-ar-bymtheg, talasant am yr ugeinfed dros y cnâf a ddiangodd heb dalu. Tybygem nad oes dim yn amlycach.
3. Y mae yn gwneuthur llafur yn flin, ïe, yn flinach nag y byddai raid ei fod; am ei fod yn llafur am a fwynhäwyd, yn lle am a fwynheir." Nid cof y bara a fwytäwyd;" ac oblegyd hyny eilwaith, "Nid yw y fudd yn lladd y lludded." Mae yn lled hysbys i bawb fod talu neu weithio am yr hyn a fwytäwyd ac a yfwyd, neu a wisgwyd, er's blwyddyn, yn beth a wneir fynychaf mewn teimlad anhyfryd. "Dal llygoden a'i bwyta," a ddarlunia sefyllfa o gryn dlodi. "Byw o'r llaw i'r genau" ydyw hyny, sef byw heb weddill. Ond y mae y cyfryw yn byw fel tywysog o'i gymharu â'r neb sydd yn bwyta ysgyfarnog cyn ei dal," sef yn bwyta ei fara cyn ei enill; ac os bydd yn ddyn gonest, mae yn ddiamheu yn dwyn ofn ac yn petruso. Nid oes tlodion yn mysg dynion anwar, ond tlodi dydd yn ei ddydd; ond y mae y neb sydd yn suddo i ddyled yn ei drethu ei hun â thlodi mewn amser i ddyfod.
4. Mae hyn yn peri fod gofynwyr yn fynych yn gofyn eu dyledwyr pan nad oes ganddo fodd i dalu, yr hyn yn lled gyffredin a bair deimlad chwerw o'r ddeutu. Cryn ruthr ar amynedd dyn ydyw gofyn arian iddo yn gynt nag y mae yn dysgwyl, ac efallai y swm gofynedig yn fwy nag y mae yn ei feddwl; oblegyd cofier o hyd fod gofynwyr yn llawer gwell eu cof na dyledwyr. Dywed y dyledwr, "A oes arnoch eisieu arian can gynted a hyn? Nid oeddwn yn meddwl chwaith fod arnaf yn agos gymaint a hyn yma.' Y mae yn hawdd gweled teimlad y gofynwr oddiwrth y fath iaith. Pethau o'r cyffelyb a ddygwyddant yn dra mynych; ac y maent yn terfynu yn aml mewn yspryd ac iaith annedwydd.
5. Canlyniad cyffredin y dull hwn o drin y byd yw, tori addunedau a siomedigaethau heb rif. Tori adduned mewn amgylchiad lled ddibwys a arwain i dori rhai pwysicach, yr hyn, bob yn ronyn, a wna ddyn yn annheilwng o'i goelio mewn dim. Siomedigaethau, drachefn, pan y cyfarfyddir â hwynt yn fynych, a chwerwant neu a suddant yr yspryd, ac a barant surni ar y tymherau. Y pethau hyn dros yr amser presenol ydynt anhyfryd, ac ni roddant heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi cynefino â hwynt.
6. Y mae y drefn hon yn peri y cywilydd o geisio eiddo ar goel a chael gomeddiad, yr hyn sydd dra anhyfryd i deimlad pawb. Ond er anhyfryted, y mae y sawl a dreulio gymaint ag a gaffo ar goel, yn sicr o'u profi. Gellid meddwl mai tlodion Ꭹ bobl yw gwrthddrychau hyn o linellau; ond y mae can rheitied i'r cyfoethogion glywed a'r tlodion: y mae llawn cymaint o'r rhai hyn, yn ol eu rhif, yn byw yn uwch na'u henill. Gwelsom unwaith fab i ŵr urddasol yn cael ei omedd i dorth chwe'cheiniog ar goel, er fod ei heisieu, dybygid, erbyn tea brydnawn i'w dad a'i fam. Yn marn pawb, onid oedd hyn yn beth diflas, heblaw ei fod yn gadael y cylläon yn weigion? Mae yn debyg, medd rhywun, mai tipyn o gynghorwr tlawd o ryw enwad neu gilydd oedd y gŵr hwnw. Nage, nage; yr oedd ei fywioliaeth ar y dechreu yn werth, meddynt, o bump i saith gant o bunau yn y flwyddyn y drwg i gyd oedd gwario tair-ceiniog-ar-ddeg ar swllt. Nid oes diwedd byth ar y benbleth a'r cywilydd sydd yn canlyn ar goel tra ceffir. Clywsom am hen bulpudwr oedd yn byw lawer o ugeiniau o flynyddoedd yn ol, ac yn arfer bwyta ac yfed yn uwch na'i foddion. Un boreu Sabbath, gorchymynodd i'w was fyned at Dafydd y cigydd i geisio leg o futton, fel y gallai y forwyn ei thrwsio erbyn ei ddyfod o'r addoliad. "Ac," ebe wrth y bachgen, "yna tyred dithau i'r gwasanaeth." Y bachgen, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a aeth ymaith nerth ei draed at Dafydd y cigydd; a'r hen weinidog dawnus (canys nid y dylaf o'r plant oedd efe), â'i yntau i'r addoliad. Pa fodd bynag, daeth y gwas o dŷ y cigydd, ac aeth i'r gwasanaeth. Erbyn hyn yr oedd yr hen barchedig frawd wedi cymeryd ei destyn yn hanes y cawr Goliah a Dafydd; ac wrth fyned dros yr ymddyddan rhwng Dafydd a'r cawr, gofynodd y pregethwr mewn llais uchel a phendant, "A pha beth a ddywedodd Dafydd?" Y bachgen, gan feddwl mai iddo ef yr oedd yn gofyn, gan ei fod o bosibl yn edrych arno ar y pryd, a atebodd, "Efe a ddywedodd na chaech chwi ddim cig at eich ciniaw, hyd oni thalech am y llall!" Mae pob synwyr yn dywedyd fod yn ddigon anhawdd gorphen y bregeth wedi cael pelen feddygol mor chwerw a hono ar adeg mor anfanteisiol i'w llyngcu. Effeithiai yr un drefn yn gyffelyb ar bob pregethwr, pa un bynag ai cydffurfiwr ai annghydffurfiwr a fyddo, sydd yn euog o ymollwng gyda'r brofedigaeth o brynu ar goel.
7. Y mae y dull hwn yn groes i rediad cyffredin yr Ysgrythyrau. Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd:" dyma yr iaith a arfer y Beibl yn wastadol. Ac onid yw bod yn ddrwg am dalu yn gŵyn dra chyffredin yn erbyn crefyddwyr yn ein dyddiau? Mae yn rhy wir ei bod. Nid yw egwyddorion a phenderfyniadau proffeswyr yr oes bresenol yn ddigon nerthol i wrthsefyll temtasiynau sydd mewn cael eiddo ar goel. Nid ydym yn gwadu nad oes ambell eithriad anrhydeddus i'r rheol hon; eto dyma y rheol.
Yn awr, dyma amryw o'r anfanteision sydd yn dilyn prynu ar goel. Bellach rhoddwn rai anogaethau i dalu am bob peth wrth ei gael. Ni a'u cymerwn oddiwrth y manteision sydd yn dilyn hyn.
1. Nid hwyrach y byddai yn well ceisio dangos yn gyntaf oll fod hyn yn ddichonadwy. Er prawf, y mae amryw yn gwneyd hyn. Fe geir rhai tlodion yn talu i lawr am y cwbl a brynant, a hyny pan y cawsent eu coelio; a cheir eraill wedi colli eu coel, fel na chânt ddim at eu hangen ond am arian parod. Rhai cyfoethogion hefyd ydynt yn arfer o dalu ar y pryd am y cwbl o'r draul, fel nad oes bill yn d'od i'r tŷ yn oed y flwyddyn. Y peth sydd yn gyrhaeddadwy i ddyn fel y cyfryw, sydd trwy ryw foddion neu gilydd yn gyrhaeddadwy i bob dyn. Os oes eisieu, ac os gwell talu am bob peth wrth ei gael, diamheu fod rhyw ffordd i wneyd hyny.
2. Arferer pob cynildeb a diwydrwydd tuag at gyrhaedd modd i dalu. Nid yw angenrheidiau natur ddim yn llawer. Mae yn hen ddywediad y gwna natur y tro ar ychydig, a gras ar lai, ond nad oes dim digoni ar chwant. Dynolryw yn fynych a gyfrifant eu hangenion wrth yr hyn sydd gan eu cymydogion, ac nid wrth eu gwir eisieu eu hunain. Nid oes arnom ni ddim gwir angen am balas i'w breswylio, am fod rhyw nifer fechan o blant Adda yn byw mewn lleoedd o'r fath. Etyb tŷ cyffredin yr un dyben, ïe, i raddau helaeth, "y bwth bach a'r mwg main." Nid yw bod
"Rhai mewn cerbydau, yn gwisgo porphor a sidanau,"
byth yn peri fod y pethau hyn yn wir angenrheidiol i neb. Yr un modd, nid yw tŷ mawr, dodrefn costus, a dillad gwychion, yn angenrheidiol chwaith. Addefwn fod tŷ glan, ac ymborth iach, a dillad trefnus a glanwaith, nid yn unig yn ddymunol, ond hefyd yn angenrheidiol. Ond gall fod bwth y wraig dlawd lanwaith yn dra chysurus yr olwg arno, er nad yw ei gynwys werth ond ychydig, ïe, pe'i gwerthid i'r uchaf ei geiniog. Felly hefyd gellir gweled llawer gwraig a geneth yn dra chryno, o'u coryn i'w sawdl, er fod pâr o glocsiau am eu traed, a'u dillad o'u gwneuthuriad eu hunain. Yr oll o gysur a pharch sydd yn digwydd i ddynion (pa un bynag ai meibion ai merched), a dardd oddiwrth eu glanweithdod a'u crynoder, ac nid oddiwrth eu bod yn dreulfawr. Na cheisiwch, gan hyny, bethau sydd ar ryw gyfrifon yn gysurus ac yn gyfleus eu bod mewn tŷ, hyd onid alloch yn gysurus eu fforddio. Darllenasom am un wraig newydd brïodi, a chanddi ryw swm o arian tuag at ddodrefnu ei thŷ. Yr oedd Miss yn llawn awydd i wychder; prynodd amryw ddodrefn hardd, ac yn mhlith pethau eraill, prynodd garpet costus dros ben. Erbyn talu am y cwbl, yr oedd yr arian wedi myned i gered, fel y dywed pobl y Dê; a chafodd y fûn dirion, cyn i un lleuad basio, fod ei thŷ yn ddiffygiol tua'r gegin, a lleoedd o'r fath, a lluaws o bethau llwyr angenrheidiol. Nid oedd yno fath yn y byd o gafn tylino; na chymaint a chrochan i ferwi cawl. Yr oedd y carpet o'r goreu i'r sawl a allasai ei gostio; ond y mae yn hawdd i blentyn wybod fod yn haws gwneyd hebddo mewn tŷ na heb gafn tylino. Y mae yn wir ei wala hefyd nad yw diodydd costus yn angenrheidiau natur. Ni bu Cymru erioed yn llawnach o dystion eu bod yn afraid nag ydyw yn y blyneddau hyn. Miloedd o bob rhyw, ac oedran, ac amgylchiadau, sydd yn byw hebddynt yn ddigon diddig a chysurus. Addefir hefyd, hyd yn nod gan y rhai sydd yn ei ddefnyddio, nad ydyw y tybacco, er difyred yw y dial arno wrth ei gnoi a'i losgi, ddim yn dyfod i restr angenrheidiau natur, er yr haerir ei fod yn un o'i chysuron a'i difyrau diniwed. Fe ŵyr pawb na cheir mor tair ceiniog a elo am dano at ddim arall, pa faint bynag fyddo y galw am danynt: ni ddeuant yn ol mwy na'r meirw yn eu beddau. O ganlyniad, diogelach peidio a'i arfer, hyd nes y byddo yn amlwg fod rhagluniaeth yn rhoi modd i'w gael. "Gwell gwasgu y feg" ar chwant nag ar natur; a gwell peidio cynyrchu y chwant na hyn. Ar y pen hwn hefyd rhaid dywedyd, er fod y gorchwyl yn anhyfryd, nad yw tea a siwgr chwaith yn angenrheidiau bywyd. Maent yn ddiau yn gysurol ac adfywiol, ïe, yn fwy felly nag yn wir gynaliaethol ar yr un pryd daethant i ymarferiad tra chyffredin yn ein gwlad gyda phob dosbarth; ac er eu bod yn îs nag y buont, y maent eto yn ddrudion. Can' mlynedd i heddyw, nid oedd nemawr o ddefnyddio arnynt ond gan foneddigion yn unig. Mae miloedd heddyw yn Nghymru yn fyw nad oedd na theakettle na theapot yn y tŷ ddydd priodas eu teidiau a'u neiniau. Nid diogel, er hyny, yw dywedyd yn eu herbyn, gan eu bod yn ganghenau helaeth o fasnach, ac archwaeth llawer wedi dyfod mor llwyr atynt, nes y maent yn y drws nesaf i fod yn angenrheidiau. Eto, gan nad ydynt wir angenrheidiau, cynghorem bawb i dreio gwneyd hebddynt, hyd oni allont dalu arian parod am danynt. Ond dywed rhywun, nas gall ef byth gael arian parod i dalu, a bod yn rhaid iddo ef gael tea, a siwgr i'w felysu. O'r goreu, nid ydych yn meddwl peidio talu am dano rywbryd, efallai cyn pen blwyddyn; ac os telir y bill yn llwyr yn mhen y flwyddyn wedi iddo ddechreu rhedeg, y mae hyny ar y cyfan yr un peth a chael coel am chwe' mis. Wel, yn awr, cosber y blys am dea am haner blwyddyn, a bydd genych, o ran y tea, arian parod i dalu am dano am eich oes, pe byddech byw cyhyd a Thomas Parr.[1]
3. Y mae yn dra chysurus meddwl fod yr hyn sydd yn y tŷ ac allan wedi talu am dano; ni raid ofni pwy a ddelo i mewn, nac a phwy y cyfarfyddom. Mae dyn gonest yn gweled ei ofynwr yn mhob cynulliad, er efallai nad yw y gofynwr yn meddwl am dano ef. Ond am y neb sydd yn talu am eiddo wrth ei gael, gall hwnw fod yn ddiofal, er fod ei ddiwyg yn gyffredin, a'i fwyd heb fod yn ddanteithiol, y mae yn iachus, a'i hûn yn felus. "Diofal y cwsg potes maip."
"Cael pryd o gawl erfin, heb neb yn fy ngofyn, Mi a gysgwn yn sydyn, mor esmwyth ag undyn.
O'r tu arall, pe byddai dyn yn cymeryd byd da helaethwych beunydd, ac yn ddyledog, y mae ei enaid yn chwerw a'i gydwybod yn ofnus; ac y mae yn ddiareb mai "anhawdd cysgu ar obenydd y dyledog." Yr un ffunud am y bachgen a'r lodes sydd yn talu am eu dillad wrth eu cael; er nad yw eu cyflog ond ychydig, y mae yn ddigon; ac am ei fod wedi ei enill trwy hir wasanaeth, y mae yn cyrhaedd yn mhell. Nid oes arnynt ben tymhor ofn y siopwr, na'r crydd ychwaith. Dygant eu hunain i arfer dda, yr hon ond odid nad ymadawant â hi am eu hoes. Ni wna rhieni tlodion yn fynych waeth gwaith na dysgu eu plant i brynu ar goel pan yn dechreu gwasanaethu, ac felly eu cynefino â dyled am eu holl ddyddiau. Addefwn y gall y mwyaf cynil a diwyd dan ryw amgylchiadau fyned yn dlawd; ond eithriad yw hyn ac nid y rheol; ac anfynych iawn yr arosant yn hir cyn y cânt ryw ymwared. O fabwysiadu yr egwyddor hon, ni a fyddwn sicr o beidio colledu neb arall; ac y mae hyny yn gysur mawr i gydwybod onest.fr
4. Edrych ar roddi yr eiddo Caesar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw. Fe allai fod gormod o edrych ar grefydd ar wahan oddiwrth wneyd yr hyn sydd gyfiawn. Gwir fod adnabod pla ein calon ein hun, a dyfod i ymofyn, "pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw, a pha fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân," i'w gwahaniaethu oddiwrth rodiad ac ymarweddiad da. Eto, nid ydynt mewn un modd i'w gwahanu y naill oddiwrth y llall. Y dyn sydd yn ddrwg am dalu ei ffordd, heb roddi yr eiddo dyn i ddyn, y mae yn fwy na thebyg fod hwnw heb roddi yr eiddo Duw i Dduw. Ac y mae bron bawb sydd yn hoff o gael eu coelio yn troi allan bob yn dipyn yn ddrwg am dalu.
Gan hyny, anwyl ddyn, os gwerthfawr genyt dy barch a'th gysur, dy enw da fel dyn gonest, a'th gymeriad fel dyn crefyddol, na fydd yn nyled neb o ddim. Na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y boreu. Ac i'r dyben o gyrhaedd hyn, na phryn ddim ar na fo eu heisieu arnat, pe ceit hwynt am haner a dalont. Na âd ddim yn îs na'th sylw. Na ad tan yfory yr hyn a ddylit ac a ellit ei wneyd heddyw. Na chais neb i wneuthur yr hyn a ellit ac a ddylit ei wneyd dy hun. Na fachnia dros neb am bris yn y byd. Na ddos ychwaith i gyfraith â neb dros dy flingo yn fyw yma mae yr enillwr yn goliedwr. Bydd gymydogol. Dod elusen. Bydd dosturiol. Bydd gymwynasgar. Gwasanaetha dy genedlaeth. Ac uwchlaw y cwbl, gwasanaetha dy Dduw. Ymdrech am ci adnabod; derbyn ei Fab; cred ac ymddiried ynddo; ymostwng iddo; cymer ei Yspryd yn arweinydd, a'i air yn rheol dy ymarweddiad yn mhob peth. Gwna hyn oll mewn cariad, a dedwydd fyddi yn dy fywyd; byddi farw hefyd o farwolaeth yr uniawn, a bydd dy ddiwedd fel yr eiddo yntau.[2]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Old Tom Parr bu fyw hyd 152 oed, yn ôl y sôn
- ↑ Gwel "Trethodydd," Ionawr, 1848.