Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pobl y Mawr Gam
← Tlodi | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Yr Hen Bobl → |
POBL Y MAWR GAM.
Y MAE rhyw gynifer o blant dynion, yn mhob gwlad ac oes, yn tybied o leiaf eu bod yn cael y dirfawr gam, a hyny yn fwy na'u cymydogion yn gyffredinol. Gwir yw fod yn rhaid i bawb ddyoddef rhyw gymaint o gamwri tra y byddont yn y byd hwn, pa un bynag ai saint ai pechaduriaid fyddont. Cyfraith Duw a wahardd bob cam ac a orchymyn bob uniondeb, eto amlwg yw fod rhagluniaeth Duw yn goddef i'r naill o feibion dynion orthrymu ar y llall. "Gwelais ddagrau y rhai gorthrymedig," medd y gŵr doeth, a hwythau heb neb i'w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i'w cysuro.'—Edrych ar orchwyl Duw, canys pwy a all uniawni y peth a gamodd efe?" Nid oes dim yn wirioneddol gam yn ngoruchwyliaethau Duw, eto y mae llawer yn ymddangos i ni felly. Yr annhrefn a ymddengys i ni yn rhagluniaeth y Duw mawr—nid yw ond trefn allan o'n cyrhaedd ni. Ond i ni ddyfod at y pwnc, sef achos pobl y mawr gam. Y rhai hyn a dybiant eu bod yn cael cam beunydd: pan y mae y byd yn ymddwyn yn weddol tuag at eraill, ni chânt hwy ond ei waethaf. Tybiant fod y pen trymaf i'r ferfa arnynt hwy yn wastad, a bod eu gwaith yn galetach a'u gwobr yn llai na'r eiddo eraill. Os byddant yn mhlith llawer o weithwyr, byddant yn sicr o gael mwy na'u rhan o'r gwaith. Yr oedd gynt gan Mr. Fychan, o Gorsygedol, hen weithiwr a elwid Huw Cefn-y-dre, ac yr oedd yn un o'r dosbarth sydd yn cael y mawr gam. Cwynai o herwydd aml fath o gamwri, megys yn ei swydd; ond yn y cynhauaf medi, byddai Huw yn cael y grwn lletaf bob amser, nes ei fyned yn ddïareb, os cwynai rhywun wrth fedi fod ei rwn yn llydan, dywedid ei fod fel Huw Cefn-y-dre. Y mae cryn lawer o'r tuchanwyr hyn yn barod i gyhuddo y crydd, y gwëydd, a'r panwr, ac ni ddïanc neb ganddynt—siopwr na chrefftwr o ba gelfyddyd bynag y bo; neu os masnachwr neu grefftwr fydd y tuchanwr, bydd ei gwsmeriaid yn saith waeth na'r eiddo neb arall. Yr oedd hen glochydd unwaith yn dygwydd bod o'r dosbarth cwynfanus. Ar gladdedigaeth y marw, cwynai ei fod yn cael llawer llai o offrwm ar yr achlysuron hyn na pherson y plwyf, a bod ei lafur ef yn llawer mwy yn tori y bedd na llafur ei feistr yn darllen uwch ei ben, a bod cau y bedd yn fwy o ffwdan o gryn lawer na chau y llyfr. Un tro aeth yr hen frawd hwn a'r gaib a'r trosol i'r efail i'w blaenllymu, a dywedai wrth y gof, A wnewch chwi drwsio y rhai hyn (arfau y plwyf ydynt), fel y byddont yn barod i dori bedd os daw arnaf byth eu heisieu, oblegyd ni fu dim achosion o'r fath yn y plwyf er's llawer dydd bellach." Y mae yn anhawdd rhoddi ar bapur y dymher gwynfanus yn yr hon y dywedai y clochydd ei neges wrth y gof, ond amlwg yw ei fod yn cwyno na buasai angeu yn llithricach ei law yn danfon hen bobl a phlant i dragwyddoldeb (parod neu anmharod) fel y caffai efe rywbeth i'w wneyd, er lleied oedd ei dâl—
"A'i gaib a'i raw fe geibiai rych."
Darparai y tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw, heb feddwl fawr fod y dyn yn fyw a ddefnyddiai yr un arfau i dori bedd iddo yntau.
Y mae aml un hefyd yn teimlo nad ydynt yn cael eu caru na'u parchu fel yr haeddant. Cwynant fod eu brodyr heb eu gweled, a bod hyn yn brofedigaeth iddynt gydol eu hoes. Os dygwydd fod pregethwr o'r dymher hon, cwyna fod ei wrandawyr yn oerllyd, yn gysglyd, ac yn anaml; fod bydolrwydd wedi ymdaenu dros wlad ac eglwys, ac nad oes bris gan y naill na'r llall ar weinidogaeth yr efengyl. Tebyg yw fod aml un yn yr Ysgol Sabbathol yn teimlo ei fod yn cael cam na buasai yn arolygwr arni er's llawer dydd, a bod aelodau cyffredin yn yr eglwys weithiau i'w cael yn teimlo pe cawsent gyfiawnder y buasent yn flaenoriaid er's rhai blynyddau. Gall fod eraill hefyd yn teimlo mai rhagfarn, gorthrymder, a cham, yw yr achos na buasent hwythau yn y pulpud yn mhell cyn hyn. Ymddengys fod ambell un yn teimlo yn dost, ac yn achwyn yn dost, ar eu cydgreaduriaid yn galed, am nad ydynt yn foddlawn i gymeryd eu golygiadau hwy fel rheol anffaeledig i'w ffydd a'u hymarferiad yn mhob dim. Teimlant eu hunain yn goddef cam, am na osodai dynolryw hwynt yn nghader anffaeledigrwydd yn Rhufain, y naill ar ol y llall. Yn awr, gan fod yn eglur mai yn ansawdd y meddwl y mae prif achos y duchanfa hon, a'i bod yn anffawd y dynion hyn yn gystal a'u bai, ni a gynygiwn at y feddyginiaeth; ac
Yn gyntaf, Gocheled y cyfryw yspryd hunanol y rhai sydd a'u serch arnynt eu hunain, gan hòni hawl i fwy nag sydd ddyledus oddiwrth Dduw na dynion, ac yn barod i gondemnio pawb am na chydnabyddent eu hawl; oblegyd ped ai yr yspryd hunanol a thuchanllyd hwn i'r nef ei hun, i blith y cyfiawnion eu hunain, gellid dysgwyl ei glywed yn cyhuddo Noah, Daniel, a Job, o wneyd rhyw gam âg ef; ac ni ddïangai Moses a'r prophwydi ddim. rhagddo,—barnai yr hwn sydd gyfiawn odiaeth yn annuwiol.
Yn ail, Ystyrier nad yw y cam yn wirioneddol oddieithr yn anfynych iawn. Nis gallai fod grwn Huw y lletaf bob tro, ac nid oedd rheswm i'r hen glochydd ddysgwyl cymaint tal a'i feistr, am nad oedd ei ddygiad i fyny wedi costio ond tipyn mewn cymhariaeth i weinidog y plwyf. Anwybodaeth ac anystyriaeth a barant i ddynion dybied eu bod yn cael cam pryd na byddont. Clywsom am deiliwr, yr hwn oedd yn byw yn swydd Ceredigion, er's yn agos i gan' mlynedd yn ol—yr oedd y tê y pryd hyny yn bur annghyffredin—clywsai Jack (oblegyd felly y gelwid y teiliwr) son am y tê er's cryn dro, ond nid oedd erioed wedi gweled nac archwaethu dim o hono; ond am fod Jack yn arfer cael bara càn, a chroesaw yn mhob tŷ, aeth yn hoff ddanteithion, a charai amrywiaeth ac amheuthyn; ond yr oedd y tê o hyd yn ddyeithr iddo. Ac wedi hir ddysgwyl, cafodd ei wahodd i dŷ gwraig barchus, o fewn cylch ei gydnabyddiaeth, i weithio iddi ar ei grefft fuddiol a pharchus fel teiliwr. "Wel, hon a hon," ebe fe wrth ei wraig, "fe gaf finau dê: yr wyf yn myned i weithio at Mrs. hon a hon, o'r fan a'r fan, ac y mae hi yn yfed tê." "Cawn glywed," ebe y wraig. Pa fodd bynag, daeth yr amser i Jack fyned at ei job; ac wedi darfod, dychwelai at ei wraig. "Wel, Jack, a gefaist ti dê?" ebe hi. "Do," meddai Jack, yn edrych yn lled siomedig, "mi gefais dipyn o ddwr oddiarno; ond mi gymerodd y wraig dda ddigon o ofal am gadw y dail iddi ei hunan." Ac, meddwch chwi, wŷr a gwragedd Cymru, onid oedd y teiliwr yn achwyn heb achos? Oni ŵyr holl wragedd y Dywysogaeth erbyn hyn mai yn y drwyth y mae y boddhad, ac nid yn y dail; ond chwareu teg i'r hen deiliwr, yr oedd tywyllwch yr oes yr oedd yn byw ynddi yn ei esgusodi i raddau mawr, pan y mae goleuni yr oes hon yn condemnio y rhai sydd yn cwyno heb achos, oblegyd eto
"Rhyw bwnio mae rhai beunydd,
A llunio bai lle na bydd."
Cofied pawb, gan hyny, wrth achwyn ei gam, rhag ei fod yn gyffelyb i'r teiliwr o swydd Ceredigion.
Yn drydydd, Cofier yn wastad mai y cam mwyaf a ga dyn ydyw y cam a wna ag ef ei hun. Enaid pob cam yw gwneuthur cam âg enaid. Meddai doethineb, "Y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'i enaid ei hun." Y mae yn llawer gwell dyoddef cam na'i wneuthur. O! mor ofnadwy yw y cam a wna rhai dysgawdwyr âg eneidiau eu gwrandawyr, y rhai a ddysgant orchymynion a dychymygion dynion iddynt yn lle dysgeidiaeth Duw; ac nid llai arswydus ydyw y cam a wna gwrandawyr yr efengyl â'u heneidiau wrth wrthod ac esgeuluso unig iachawdwriaeth yr unig enaid sydd ganddynt. Dyma gam a wneir gan ddynion â hwy eu hunain—cam na ddichon neb arall wneyd ei fath. O ddyn na wna i ti dy hun ddim niweid.
Yn bedwerydd, Gydag ychydig wyliadwriaeth gelir gochel cam oddiar law ein cydgreaduriaid mewn pethau tymhorol yn lled weddol. Ac er fod ein gair da a'n talentau yn agored i gam oddiar law ein cymydogion, yn mhlith y rhai y cenfigena ambell un wrth ein llwyddiant, ac y byddwn yn wrthddrychau rhagfarn rhai eraill; eto ar y cyfan, ni a gawn ein hawl gan y corff cyffredin o'r ddynoliaeth. Os bydd rhai yn atgas tuag atom, bydd y lleill yn dirionach tuag atom na'n haeddiant; os bydd rhai am ein gorthrymu, bydd eraill yn barod i'n hamddiffyn; os bydd rhai yn ein beio pryd na bydd bai, bydd eraill yn ein canmol yn uwch na'n teilyngdod; os cyhuddir ni weithiau o ffolineb, priodolir i ni bryd arall fwy o ddoethineb nag a feddianwn. Felly, wrth fwrw ol a blaen, nid oes nemawr berygl y cawn lawer o gam. Yn gyffredinol, os bydd ffordd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda, fe bair i'w elynion, bob yn dipyn, fod yn heddychol âg ef. Yn ddrwg, fel y mae y byd, eto fe gydnabyddir "rhai llariaidd y ddaear, a rhai llednais y tir," a pharchedigaeth, y rhai geirwir a gonest âg ymddiried, a'r doeth a'r gwybodus ag ymostyngiad. Y mae rhyw gyfiawnder ofnadwy a thragwyddol yn bod, yr hwn y mae dynolryw mewn rhyw fodd a rhyw raddau yn ei deimlo yn eu gorfodogi i dystiolaethu y gwir. Cafodd Cromwell gam dirfawr gan lawer o'i gydoeswyr, a'r oesoedd canlynol;cyfrifid ef yn ormeswr mewn llywodraeth, ac yn rhagrithiwr mewn crefydd; ond yn ein dyddiau ni y mae haneswyr o'r talentau dysgleiriaf yn rhoddi iddo ei wir gymeriad—talant iddo yr eiddo ei hun gyda llôg. Yr Arglwydd Iesu hefyd, pentywysog a pherffeithydd ein ffydd, cafodd yntau ei gamgyhuddo, ond ni lynai ei gamgyhuddiadau wrtho; y mae ei garacter nid yn unig yn uchel, ond yn berffaith, a bydded ei elynion yn farnwyr. Yn fuan, fuan, fe ddaw y Barnwr cyfiawn i sefyll uwch ben ein hachos, a gallwn fod yn berffaith ddiofal na chawn gam oddiar ei law—bydd barn wrth linyn a chyfiawnder wrth bwys. "Yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth, ac nid oes derbyn wyneb. Canys cyfiawn yw ger bron Duw dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda'i angelion nerthol."<ref>Gwel "Traethodydd," Ionawr, 1852,