Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Tlodi

Oddi ar Wicidestun
Hwda i ti, a moes i minau Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pobl y Mawr Gam

TLODI.

TLODI sydd amgylchiad yn mha un y ceir y rhan liosocaf o'r teulu dynol. Nid yw rhai breision y ddaear a chyfoethogion y bobl onid ychydig rifedi mewn cymhariaeth. Er hyny, nid yw tlodi yn dynged anocheladwy, efallai, i neb o'i febyd i'w fedd, na chyfoeth chwaith yn etifeddiaeth ddiddiflanedig i'r hwn a'i medd. Dywed y doethaf o ddynion, "Fod un wedi ei eni yn y freniniaeth yn myned yn dlawd," ac y mae arall wedi ei eni yn nghanol tlodi yn eistedd ar yr orseddfaingc cyn cyrhaedd canol-ddydd ei oes.

"Mae llawer fel finau, âg ychydig yn dechreu,
Yn dyfod o'r goreu cyn diwedd eu hoes;
Ac eraili o'u llawnder yn myned ar brinder,
Cyn darfod mo haner eu heinioes."

Ymddengys nad oes un ddeddf o eiddo Duw na dynion yn rhwymo baich o dlodi ar gefn un,—ac yn gosod coron o gyfoeth ar ben y llall, yn y fath fodd, fel nad all y cyntaf weled rhyw gyfleusdra i daflu ei faich gorthrwm i lawr yn gyfreithlawn, a'r olaf golli ei goron trwy esgeuluso yr adeg i gadarnhau yr orseddfaingc trwy gyfiawnder. Rhai o ddeddfau y Duw mawr ydynt sicr a diymod, y rhai nad oes gan greadur ddim llaw ynddynt oll; nid amgen deddfau y nefoedd a'r ddaear, trwy y rhai y mae efe yn dwyn eu llu hwynt allan mewn rhifedi, ac yn eu galw hwynt oll wrth eu henwau; a chan fawr rym y deddfau hyn nid oes neb na dim yn anufuddhau. Rhoddodd ef hefyd ddeddf i'r môr, ac nis troseddir hi; nid yw ei lanw na'i drai yn ymddibynu dim ar ewyllys neb ond ewyllys ei Greawdwr. Nid rhaid dangos i'r wawrddydd ei lle, na hysbysu yr haul pa bryd y dylai gyfodi neu fachludo. Eithr nid yw holl ddeddfau Duw felly, er eu bod mor wirioneddol ddeddfau iddo ef a'r lleill. Y ddeddf trwy ba un y mae efe yn dwyn bara allan o'r ddaear, sydd yn galw am gydymffurfiad dyn, a llafur yr ŷch; a'r ddeddf sydd yn yr ardd, yr hon sydd yn peri i'w hadau egino, ac i'w choed ffrwytho, sydd yn galw hefyd am athrylith a diwydrwydd y garddwr er dwyn yr amcan i ben. A'r ddeddf foesol, er fod o'i chadw wobr lawer, nid yw sicr o wobrwyo pawb o greaduriaid Duw, oblegyd rhaid iddi gael ufudd-dod gan y creadur a wobrwya. Am efengyl gras Duw hefyd, er bod ynddi awdurdod deddf, ïe, deddf ysbryd y bywyd yn Nghrist Iesu, ni dderbyn neb ei bendithion tra y byddont anufudd i'r alwedigaeth nefol. Yr un modd y mae deddfau yn Rhagluniaeth Duw ar y byd hwn, y rhai, os anufuddheir iddynt, nis gellir cyrhaedd digonoldeb na diogelu meddianau wedi eu cael. Hanesion cywir a ddangosant y gall un, wrth wasgar ei dda a byw yn afradlawn, wario etifeddiaeth deg a helaeth; ac arall, o iselder tlodi, trwy lafur diflin, cynildeb, a rhad y nef, ddyfod i feddianu cyfoeth mwy nag a ddifethodd y llall. Y mae cyfoeth yn newid llaw weithiau. Nid oes un gagendor wedi ei sicrhau rhwng y tlodion a'r cyfoethogion, fel nad all y naill dramwy at y llall.

Nid yw tlodi ychwaith yn dyfod y rhan hanfodol o neb o ddynolryw mwy na'u gilydd, "Gwnaeth Duw o'r un gwaed bob cenedl o ddynion i breswylio ar wyneb yr holl ddaear," Crewyd hwynt gan yr un Duw; yr un llaw a'u lluniodd, ac o'r un defnydd—holl ddeddfau eu natur sydd unrhyw,—eu perthynas hefyd a Duw fel eu Tad a'u Brenin, a'u cyfrifoldeb iddo fel creaduriaid rhesymol, sydd yr un yn ddïeithriad. Rhaid fod y gwahaniaeth rhwng y ddau ddosbarth hwn, gan hyny, yn amgylchiadol, arwynebol, a chyfnewidiol. Os edrychir ar y baban noeth ar ei ymddangosiad yn y byd, nis gallai neb wybod, pe byddai cyn ddoethed a Chatwg, pa un ai mewn palas ai mewn bwthyn ei ganed, na pha un ai tywysog ai cardotyn yw ei dad. Nid oes un arwydd o'i goryn i'w sawdl pa un ai tlodi ai cyfoeth yw ei dynged. Y mae pawb fel eu gilydd hefyd yn agored i holl ddamweiniau bywyd. Y tan, a'r dwfr, a'r haint, yn nghyda'r cleddyf ac arfau eraill marwolaeth, a gymerant ymaith rai o bob gradd ac oedran. A phan y byddo y Duw mawr yn agor pyrth marwolaeth, ac yn gwneuthur i ddyn "rodio cilfachau y dyfnder," gwna hyny heb dderbyn wyneb y cyfoethog o flaen Ꭹ tlawd. Yn Ꭹ farn fanol, canys bydd "barn wrth linyn a chyfiawnder wrth bwys," ni sonir am gyfoeth na thlodi, amgen na pha fodd y defnyddiodd y cyfoethogion gyfoeth, a pha fodd yr ymddygodd y tlawd yn ei dlodi; a dyry Duw i bob un fel y byddo ei waith ef.

Hefyd, y mae galluoedd eneidiol yr iselradd yn gyffelyb i'r uwchradd. Gwir fod gan yr uwchradd fanteision addysg na fedd y tlawd, eto gwelwyd ambell un o sefyllfa isel yn tori trwy bob anhawsder nes dyfod i enwogrwydd a dyrchafiad a barodd i'w cydgreaduriaid edrych arnynt gyda syndod er's miloedd o flyneddau bellach. Bachgen tlawd oedd Æsop; ïe, mor dlawd na feddai mo'i gorff a'i aelodau ei hun, yn ol cyfrif ei gydwladwyr, oblegyd caethwas oedd efe; ond yr oedd ei feddwl mor ddysglaer, a'i ddeall mor dreiddgar, fel na ddïangai dim na neb rhag ei sylw. Anifeiliaid y maes, bwystfilod yr anialwch, ehediaid y nef hefyd, a physg y môr, a gaent ganddo ef iaith ac ymadrodd i ddysgu gwersi buddiol i ddyn; mor fanwly traethai efe i ddynion eu breuddwyd a'i ddeongliad, fel yr aeth ei leferydd trwy yr holl ddaear a'i eiriau hyd derfynau y byd. Martin Luther hefyd oedd fachgen tlawd; cardotai ei fara i'w gynal tra yn yr ysgol pan yn ieuanc; ond wedi tyfu i fyny, gwnai daranau â llais ei hyawdledd, nes y crynai tyrfa afrifed o offeiriaid, esgobion, cardinaliaid, a'r Pab o Rufain hefyd, gan eu harswyd. Melancthon ddysgedig, a gwir foneddigaidd ei yspryd, hoff gyfaill Luther, oedd fel yntau o sefyllfa isel yn y byd. Eurych oedd Ioan Bunyan wrth ei gelfyddyd; eto yr oedd yn ddyn tra meddylgar; ysgrifenodd lawer o lyfrau, ac yn enwedigol "Taith y Fererin," yr hwn, meddynt, a gyfieithwyd bron i holl ieithoedd Ewrop. Gwir fod yn mhlith yr arglwyddi, yr ieirll, y duciaid, a'r tywysogion, ddynion tra enwog wedi bod ac yn bod; cawsant fanteision, a gwnaethant ddefnydd o honynt; ond y mae yn amlwg mai nid o'r dosbarth hwn yn unig y mae Duw yn codi rhai i fod yn oleuadau yn y byd. Ceir yn mhlith y tlodion feirdd heb rif, a dynion dysgedig yn mhob iaith ac yn mhob gwybodaeth; a gweithiant yn mhob rhyw gelfyddyd fuddiol a chywrain ar dir a môr. Y mae arferion isel, megys meddwdod, godineb, a'r cyffelyb, yn enwedig o'u hir arfer, yn gwanychu ac yn pylu y galluoedd eithr ni wna iseldra sefyllfa niwed yn y byd iddynt, ond ysgatfydd, o'r tu arall, ei bod yn well er peri grymusder corph a meddwl.

Drachefn, ni ddichon sefyllfa isel mwy nag uchel roi nodweddiad moesol i neb. Megys nad yw cyfoeth ynddo ei hunan yn rhinwedd, felly nid yw tlodi ynddo ei hun yn fai. Dichon fod mewn dinas aml ŵr tlawd doeth; ac nid oes nemawr yn ystyried gymaint y mae y rhai hyn yn ei wneuthur tuag at waredu y ddinas yn mhob oes. Gwelir hefyd Nabal, cyfoethog ac ynfyd, yn dwyn dinystr arno ei hun yn gynt na phryd. Job berffaith ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni, yr hwn oedd unwaith yn gyfoethocaf o holl feibion y dwyrain, a welwyd wedi hyny yn dlawd ac yn afiach, yn eistedd yn y lludw wedi colli ei blant, a dyeithriaid wedi ei yspeilio o'i feddianau, a'i gyfeillion am ei yspeilio o'i gywirdeb; ond Job oedd efe drwy y cwbl, yn ofni Duw ac yn ymddiried ynddo. Dafydd hefyd, yr hwn a eisteddodd ar ei deyrngadair, ac a deyrnasodd ar holl Israel, o Dan hyd Beersheba, a fu am flynyddau yn bugeilio defaid ei dad; cafodd grefydd yn fachgen, a pharhaodd ei gymeriad yr un trwy bob cyfnewid, o'r fugeiliaeth hyd y freniniaeth. Weithiau gwelir duwioldeb heb dlodi ar ei chyfyl, a thlodi heb naws o dduwioldeb yn agos ato; ond ar yr un pryd, canfyddir tlodi gonest a duwioldeb yn preswylio dan yr un gronglwyd yn Nghymru, ac yn aml i fwth yn mhendryfan byd. Gallai nad yw eithafion tlodi nac eithafion cyfoeth yn fanteisiol i wir grefydd, eto fe'i gwelir yn dra dysglaer weithiau yn y ddau amgylchiad hwn. Gweled y cyfoethog yn ostyngedig, yn drugarog, ac yn ddiorthrwm, yn cydnabod ei ymddibyniad ar ei Greawdwr a'i gyfrifoldeb iddo, a'i fod yn wrthryfelwr yn erbyn ei lywodraeth, gan ddysgwyl ei drugaredd a'i ras fel ei unig ymwared, sydd yn olygfa dra dymunol. A gweled y tlawd yn y cwr arall, a'i yspryd can ised a'i sefyllfa, heb duchan na grwgnach yn erbyn Duw na dyn—heb genfigen na rhagfarn yn erbyn y rhai sydd mewn llawnder,—yn bwyta pryd o ddail yn llawen gyda chariad Duw yn ei galon, gan gyfrif ei dlodi a'i gystudd onid byr ac ysgafn, yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant iddo—byw i'r hwn yw Crist, a marw sydd elw, a bâr i ni lefain, O! ddedwydd ddyn! Gwelwn gan hyny nad yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo; ac ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint, ond cyfiawnder a wared rhag angeu. Gellir byw yn dduwiol yn nghanol cyfoeth, er yr holl demtasiynau a'r maglau sydd ynddo. Ac y mae gras Duw yn dysgu i fod mewn prinder, ac yn peri i'r Cristion allu pob peth trwy Iesu Grist yr hwn sydd yn ei nerthu ef. Ymdrech yw byw yn dduwiol mewn unrhyw gylch: uchelgamp ydyw; nid yw hawdd i neb yn y fuchedd hon mewn un sefyllfa; nac ychwaith yn anmhosibl i neb yn nghymhorth gras, gan nad pa fath fyddo ei amgylchiadau; pe amgen, byddai ei amgylchiad yn ei esgusodi.

Wel, ddarllenydd, tlawd neu gyfoethog, neu ynte yn rhywle yn y canol, na fydded gwaeth genyt dy fod; gwel mai cyfoethogion a thlodion a fu, y sydd, ac a fydd yn y byd hwn ac ni waeth i ddyn daflu ei gap yn erbyn y gwynt na cheisio rhanu cyfoeth yn wastad rhwng pawb a'u gilydd. Pe mynai y doeth galluog wneuthur hyn, eto nid allai ei ddwylaw ddwyn hyny i ben. Buddugoliaethodd Alexander y ffordd y cerddodd, a rhoddodd y Rhufeiniaid gyfreithiau i lawer o deyrnasoedd y ddaear; eto ni wnaethant mo'r byd ronyn gwastadach. Pe byddai pawb trwy y byd yn gydwastad â'u gilydd mewn cyfoeth foreu dydd Llun nesaf, byddai rhai yn dlodion ac eraill yn gyfoethogion cyn y nos Sadwrn cyntaf ar ei ol. Nid arosant yn gydwastad, mwy nag y safai y dwfr ar gefn ceiliog wydd; ie, hyd yn nod ar y dybiaeth o fod iddynt beidio ag yspeilio eu gilydd, dim ond prynu a gwerthu wrth eu hewyllys. Y mae lliaws o ryw rith—ddiwygwyr, mewn amryw oesoedd a gwledydd y byd, wedi ymddangos, gan amcanu gwneuthur y byd can wastated a'r geiniog; a rhai dan liw o grefydd hefyd, gan dynu rheol gyffredin oddiwrth amgylchiadau anghyffredin yr eglwys yn Jerusalem. Y mae y dynion hyn gan mwyaf wedi bod ac yn bod yn haner—cof a haner—call, a'u canlynwyr y rhan amlaf yn segurwyr, diogwyr, ac oferwyr, fel y mae'n hawdd gweled nad allant gael mwy o effaith ar ddynolryw yn gyffredinol nag ôl troed dyn ar dywod y môr: gadawant y byd yn gwbl mor anwastad ag y cawsant ef. Pwy a all unioni y peth a gamodd Duw? Gan hyny na ddyweded y tlodion wrth y cyfoethogion, Nid rhaid i ni wrthych; ac na ddyweded y cyfoethogion wrth y tlodion, Nid oes arnom mo'ch eisiau; yr ydym yn gwbl annibynol. Camgymeriad hollol: y mae gwas da mor angenrheidiol i'r meistr tir ag ydyw y tyddyn i'r tenant. Tröer gan hyny galonau y naill ddosbarth at y llall, a bydd pob peth o'r goreu yn y byd hwn, ag i bawb gadw ei sefyllfa; a thröer pawb at Dduw, a gwell—well am amser a thragwyddoldeb fydd eu helynt.

Bellach rhoddwn ar lawr rai o'r achosion o dlodi fel y maent yn ymddangos ini.

1. Yr achos cyntaf a enwn yw rhagluniaeth Duw, yr hon, er bod y ddaear yn llawn o'i chyfoeth, a'i bod yn diwallu pob peth byw o'i ewyllys da ef, eto nid yw yn rhanu yn berffaith wastad: rhydd fodd i bawb fwyta, ond caiff rhai ddigon, a llawer yn ngweddill. Pe buasai pawb yn gydradd, ni buasai le i haelioni, tosturi, a thrugaredd weithredu; nis gallai neb nac ymostwng i'w gilydd na chydnabod yn ddiolchgar am gymwynas a wnai y naill i'r llall, yr hyn ni buasai gymhwys mewn sefyllfa brofedig, y fath ag yw anialwch y byd hwn; yr hon sefyllfa a luniaethodd Duw i'n profi ac i wybod pa beth sydd yn ein calonau. Yn y rhagluniaeth hon y mae yr un peth yn digwydd i bawb fel eu gilydd; yr un peth a ddigwydd i'r da, i'r glân, ac i'r aflan—yn yr hon y mae cosp bai, a gwobr rhinwedd, i raddau mawr, yn anweledig; gan y gwelir weithiau rinwedd yn gystal a thlodi, a'r beiau mwyaf anferth yn ymrwysgo mewn cyfoeth—eto dyma y drefn; a threfn ydyw, ac nid annhrefn; oblegyd nid yw yr hyn sydd yn ymddangos i ni yn gam, ddim felly yn wirioneddol; na'r hyn sydd yn ymddangos i ni yn annhrefn ddim ond trefn uwchlaw ein cyrhaedd.

2. Gorthrymder sydd achos arall o dlodi; ac nis gwelir tlodi truenus yn fynych ond lle y byddo yr îs—radd yn cael eu gorthrymu. Dyna yn gymhwys sefyllfa y werin yn yr Iwerddon. Gorthrymder ysprydol y grefydd Babaidd, a thymhorol y mawrion ar yr iselradd, yw yr achos o'u tlodi yn lled gyffredin. Felly i raddau mwy neu lai mewn manau eraill. Pan y byddo annghyfartalwch rhwng pris llafur y gweithiwr, a phris angenrheidiau natur er ei gynal ef a'i deulu, y mae yn llwfrhau ac yn colli ei annibyniaeth. Y mae hyn yn digwydd yn fynych pan y mae mwy o weithwyr nag o waith.

3. Y mae y modd y cynelir y tlodion sydd yn methu byw arnynt eu hunain, trwy lunio cyfraith i'w cynal, yn lle trugaredd wirfoddol y llawn at gynorthwyo yr anghenus, yn peri i lawer o'r dosbarth isaf deimlo fod treth y tlodion, fel arian y deyrnged, mewn cyfiawnder yn ddyledus iddynt hwy, ac mai gweithredoedd da tros ben a orchymynwyd ydyw bod iddynt geisio byw arnynt eu hunain. Ni ddymunem eto weled diddymiad y cyfreithiau hyn, am fod cymaint o dlodi wedi ei gynyrchu fel y mae amheuaeth a fyddai eluseni gwirfoddol yn ddigon i gyfarfod âg angen y tyrfaoedd sydd yn mhob rhan o'r deyrnas yn dysgwyl wrth y dreth. Lled gyffelyb yw y cyfreithiau sydd yn rhoddi y tai a'r tiroedd i'r cyntafanedig; a thrwy briodasau, ac amryw amgylchiadau eraill, y mae maes yn myned at faes, ac etifeddiaeth at etifeddiaeth, hyd onid ydyw tiroedd y deyrnas wedi myned yn berchenogaeth ychydig ddwylaw rhagor y bu, ac y byddai cymhwys ei fod eto. Er na bydd ond ychydig ar gyfer y cangenau isaf o deuluoedd y pendefigion hyn, y mae ganddynt ddylanwad digonol gyda'r tywysog, y swyddog, neu yr esgob, i gael swydd a lle yn yr eglwys, y fyddin, neu y llynges, neu rhyw nyth led gynhes tan y llywodraeth yn rhyw gwr neu gilydd. Bydded eu hafradlonrwydd y faint y byddo, y mae yn nesaf i anmhosibl iddynt fod yn dlawd. O'r tu arall, y mae y rhai sydd wedi eu dysgu o'u mebyd i ddysgwyl wrth gyfraith y tlodion am gynorthwy, bron yn sicr o fod yn dlodion, genedlaeth ar ol cenedlaeth.

4. Priodi yn rhy ieuanc. Y mae yn amlwg bod eisieu ystyried, nid yn unig pwy, ond hefyd pa bryd i brïodi. Dylai pawb fod am rai blyneddau yn gwneyd prawf o'r byd ac o hono ei hun, wedi tyfu i fyny, cyn prïodi, fel y gallo weled a all efe lywodraethu ei hun cyn myned i lywodraethu teulu, a gweled pa faint sydd ganddo yn ngweddill o'i gadw ei hun cyn addaw cadw neb arall. Nid yw priodi, er ei fod yn osodiad Duw, ond direidi, heb fod rhyw olwg resymol am fywioliaeth, heblaw dywedyd fod y plwyf yn ddigon cryf, a bod hwnw i bawb. Cynildeb yn moreu oes am ddeng mlynedd yn y pâr prïodasol a fyddai bron yn ddigon i'w diogelu rhag llawer o eisieu wedi myned i'r ystâd hon. Ond yn lle hyny nid oes ond ychydig o'n pobl ieuainc yn gwybod gwerth arian hyd oni phriodant, ac erbyn hyny deallant fod eisieu gwybod yn gynt. Cânt eu hunain mewn llyn dwfn cyn dysgu nofio, pan y gallasent ymarfer mewn dwfr basach lle nad oedd perygl boddi.

5. Afradlonrwydd. Y mae meddwdod a phob afrad arall yn dwyn tlodi yn uniongyrchol ar bobl o sefyllfa gyffredin. Dull rhy uchel o fyw, a cheisio dilyn y rhai sydd uwchlaw i ni mewn bwyta, yfed, ac ymwisgo, a gynyrcha y naill haner o dlodi ac eisieu ein gwlad. Ar a wyddom nid oes cymaint a botwm corn, nodwydd ddur, na phin bach yn cael eu gwneyd yn Nghymru. Daw y cwbl o Loegr. Yn yr amser gynt pan oedd Elizabeth yn teyrnasu, yr oedd pawb yn nyddu ac yn gardio iddynt eu hunain, a phawb yn byw ar gynyrch ei dyddyn—talent i'r teiliwr, i'r gwehydd, ac i'r panwr, a'r rhai hyny yn y gymydogaeth; a thyna fyddai yr holl draul. Nid oedd y pryd hyny na thybaco, na thê, na siwgr, yn cael eu defnyddio, yn gyffredin o leiaf. Yr ydym yn cofio hen bobl yn ein cymydogaeth, y rhai a fedrent ddywedyd pwy oedd y rhai cyntaf a gafodd gynaliaeth o'r plwyf. Bu farw hen ŵr yn Meirion, tuag ugain mlynedd yn ol, yn agos i gant oed: pan oedd yn ddyn lled ieuanc, cymerodd dyddyn; a'r tro cyntaf y talodd dreth y tlodion, chwe' cheiniog y bunt oedd yn y flwyddyn; ond cyn ei farw bu yn talu yn yr un tyddyn, a'r trethiad yr un faint, bedwar-swllt-ar-bymtheg; hyny yw, yr oedd y dreth yn niwedd ei oes gymaint a'i ardreth, o fewn swllt, yn nechreu ei oes. Ac yn gymaint a bod pawb, o'r mwyaf hyd y lleiaf, yn cyrchu bron bob peth o'r shop, a'r siopwyr yn cael y cyfan o bell, aeth yr arian mor anhawdd eu cael a rhinwedd da ar grachfoneddig. Nid ydym am daraw ar fasnach, ond dylai pawb gymhwyso y gwadn at y troed. Pe byddai afrad y werin yn Nghymru wedi ei gasglu yn nghyd, byddai yn swm dychrynllyd.

6. Rhyfyg ac anturiaeth afresymol sydd lawer gwaith wedi achosi tlodi;—awydd myned yn gyfoethog mewn un-dydd-un-nos; fel y ci yn y ddameg, yn myned dros y bontbren, âg asgwrn yn ei geg, ac wrth weled cysgod yr asgwrn yn y dwfr, o wir awydd i'r hyn nid oedd ganddo, fe gollodd yr hyn oedd ganddo, wrth ollwng y sylwedd er dal y cysgod. Anaml y mae cŵn can ffoled a hyn, ond mynych yr abertha dyn i'w ddychymyg.

7. Diogi a difaterwch a achosant dlodi pa le bynag y byddont. Dywed Solomon, "Y diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim, am fod ei ddwylaw yn gwrthod gweithio: felly y mae tlodi yn dyfod arno fel ymdeithydd, a'i angen fel gŵr arfog," sef yn annisgwyliadwy ac anwrthwynebol. Gwelir rhai fel pe baent wedi cael y parlys a gwywdra tros eu holl gorff. Siaradant am bawb ac am bob peth, a gadawant lafurio i'r sawl a glywo ar eu calon. Y mae eraill mor ddifater, fel nas gwaeth ganddynt ffordd y cerddo y byd, llwm a llawen ydynt hwy; ni waeth ganddynt, ac ni waeth iddynt, beth yw pris y farchnad na chyflog y gweithiwr. Yr oedd gŵr a gwraig, lawer o flyneddau yn ol, yn arfer crwydro parthau o Ogledd Cymru, a elwid "Ned Leban" a "Chadi Libni." Yr oedd y ddau wedi ymgael i'r dim, y naill mor ddiymadferth a'r llall: nid oedd ganddynt ddim i'w edliw i'w gilydd; y ddau mor ddiwaith a dilun ag y gallent fod. Dyn lled dal oedd Ned, ond ni safai byth yn syth; esgidiau baglog fyddai am ei draed, a'i goesau yn haner noeth rhoddai gymaint ag a feddai am dano (fel Twmdwncyn), a llawer amlach twll na botwm ar ei wisg. Anfynych yr ymolchai, a phrin y tynai grib trwy ei wallt unwaith bob lleuad. Nid oedd Catrin, druan, ddim gwell: y cyfan ar a oedd yn ei chylch oeddynt ar ehedeg, heb rwym, trefn, nac ymgeledd. Cyfarfu holl ddefnyddiau tlodi yn y ddau hyn yn y fath fodd, fel pe buasai tlodi wedi ymgnawdoli ynddynt. Ond gwaethaf y modd, yr oeddynt yn epilio; ac y mae llïaws o'r rhywogaeth eto yn cerdded bryn a bro yn Nghymru.

"Bod plant gan blant methiantlyd, Dyna'r bai sy'n diwyno'r byd.'

Y mae tuedd fegerllyd a chardotlyd yn dra chynyrchiol o dlodi, ac odid gwelid neb a ddysgo yr arferion hyn byth yn eu rhoi heibio. Mynych y gwelir genethod o ddeuddeg i bymtheg oed yn cardota; wedi hyny ânt i wasanaethu am rai blynyddoedd. Ceir eu gweled yn eu boots a'u 'sanau gwynion, siwr;—yn fuan clywir eu bod yn feichiog. Yn lled fynych y mae y dynion a'u tynodd o'r ffordd yn eu priodi, rhag ofn melldith Duw neu waradwydd dyn. Tua phen blwyddyn dechreuant ar yr hen grefft eilwaith, ac odid y peidiant tra gallont roi y naill droed heibio y llall. Y mae yn wirionedd anhyfryd i'w adrodd fod Ꭹ fath yma blaid liosog. Trugaredd fod, efallai, y rhan fwyaf, yn llawer gwell yn mhlith y rhai sydd yn gwasanaethu.

8. Cynildeb dibwrpas ac annghrediniol. "Un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo; ac arall a arbed fwy nag a weddai, a syrth i dlodi." Y mae y fath rai yn bod ag a elwid gynt, Gwrach y Cribsin; cynildeb wedi ei gario dros ei derfynau ydyw. Dywedir am wraig a aeth i geisio cawellaid o fawn, ac am fod y ffordd yn bell a'r baich yn drwm o'i hir gario, teimlodd y dylasai ddefnyddio ei baich mawn yn dra chynil; dododd hwynt ar y tân bob yn ddwy neu dair mawnen, a chymerth y fegin i chwythu y tân, a llosgodd y baich i gyd cyn berwi y pytatws; pryd y buasai chwarter y baich yn ateb y dyben pe rhoisid ef ar unwaith.

9. Prinder gwaith hefyd a gynyrcha dlodi yn dra mynych. Y mae yn olygfa annedwydd ddigon weled pobl weithgar yn methu cael gwaith. Gallai pawb iach ac o oedran cyfaddas enill rhywfaint ond cael gorchwyl at y pwrpas. Pe byddai iawn ddeall rhwng perchenogion tiroedd a'r tenantiaid, gallai fod gwaith i bob math; oblegyd nid yw tir Cymru eto wedi ei haner amaethu. Y mae llawer o ucheldiroedd da, nad ydynt yn dwyn ond ychydig heblaw grug, crawcwellt, a brwyn, y rhai nid oes ynddynt nemawr at gynhaliaeth un anifail; llawer o dir lled isel hefyd sydd ry wlyb; peth yn rhy garegog i'w aredig; drain a mieri ac eithin y gath a orchuddiant erwau afrifed o dir Cymru. Pe byddai y boneddigion oll yn gwneyd fel y gwna ambell un, sef gwario eu rhenti i wellâu eu hetfeddiaethau, byddai digon o waith am oesoedd; a phe ceid gwaith i bawb, a phawb yn gweithio, a thâl cymhesur am lafur, tybygid na byddai raid cwyno llawer oblegyd tlodi yn ein gwlad. Er nad yw rhagluniaeth yn rhoi cyfoeth ond i rai, y mae yn gwasgar ei bendithion i bawb, a mwyniant y naill a'r llall a ymddibyna lawer ychwaneg ar eu hymddygiadau nag ar eu hamgylchiadau.

10. Diffyg addysg a gwybodaeth a bair i ddynion ymostwng i dlodi, heb wneyd nemawr ymdrech yn ei erbyn. Anwybodaeth a ddarostwng ddyn, i raddau, i agwedd yr anifail, ac y mae yn fynych yn ymlithro i dlodi heb wybod iddo ei hun. Teimla gwybodaeth oddiwrth orthrymder, ac a'i gwared ei hun o'i law ef. Gorthrymwyr ysprydol a thymhorol a garant gadw y gorthrymedig mor anwybodus ag asynod, rhag iddynt anesmwytho a thaflu yr iau oddiar eu gwarau. Y mae gwarth ar dlodi a dynom arnom ein hunain, yr hyn y mae gwybodaeth yn mhob modd am ei ochelyd. Pan y mae rhagluniaeth yn uniongyrchol yn dwyn tlodi ar y weddw a'i thwr plant, y gŵr neu y wraig yn colli eu hiechyd, un yn cael ei eni yn ddall neu anafus—y mae yn esgusodol, ac y mae awdwr ein natur wedi planu ynddi dosturi at y cyfryw wrthddrychau, fel y teimla mai dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.

Bellach, ddarllenydd, beth bynag yw dy sefyllfa, gochel duchan yn erbyn rhagluniaeth y nef, oblegyd medd diareb, "Rhaid i duchan gael y drydedd;" hyny yw, fe'th ymddifada o lawer o'r cysuron a ellit eu mwynhau yn yr un amgylchiad, ond cael tymher well. Os myni ochel tlodi, gochel yr achosion o hyny, gan gofio fod achos ac effaith yn gysylltiedig anwahanol a'u gilydd; oblegyd er nad ydwyt wedi dy rwymo i dlodi, y mae pawb yn ddiwahaniaeth yn rhwym i ddwyn canlyniadau yr hyn a wnelont. Llwm ydyw pawb sydd yn treulio mwy nag sydd yn dyfod i mewn iddynt, pa faint bynag fyddo eu cyfoeth; a llawn yw pawb sydd yn gwario llai na'u henill, pa can lleied bynag y bo. Arfer lafur cywir, cynildeb a threfniant doeth, a gwyliadwriaeth gydwybodol yn erbyn pob afrad; gochel falchder, ac ymryson, a phorthi blys; dechreu yn ieuanc ar hyn; ac un i gant y gwna tlodi i ti ddim niwed.[1]

Nodiadau

[golygu]
  1. * Gwel" Traethodydd," Ebrill, 1849.