Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Y Bobl Ieuaingc

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Bobl Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Yr Hen a ŵyr, a'r Ieuangc a dybia

Y BOBL IEUAINGC.

CLYWSOM ddywedyd gan y rhai gynt, "Unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn." Enillodd y wir ddiareb hon, fel eraill o'i chyffelyb, gydsyniad dynolryw, yn unig am ei bod yn cynwys gwirionedd digon eglur i dynu sylw pawb sydd yn edrych i bethau, heblaw arnynt. Ond nid yw yn canlyn fod dyn unwaith yn ŵr, a dwywaith yn ddyn ieuangc. Nac ydyw : ni fwynheir ac ni threulir y tymhor hwn, mwy na chanol oes, onid unwaith. Pa beth bynag sydd o werth, ac nad oes onid un cynyg arno, y mae o bwys gwneyd y goreu o'r cyfryw amgylchiadau, pa bryd bynag eu cyfarfyddom. Dyddiau ieuengctyd sydd yn un, ac yn un pwysig, o'r amgylchiadau hyn; oblegyd y mae ieuengctyd yn cymysgu a berwi cawl yn moreu eu bywyd yr hwn a bâr rhagluniaeth fawr y nef trwy ddeddf dragwyddol iddynt yfed o hono yn nghanolddydd a phrydnawn eu hoes, pa un bynag a fydd at eu harchwaeth ai peidio. Cyweirio eu gwelyau y mae y rhai ieuaingc hyn, a hwy raid orwedd ynddynt. Dyma dynged pob math ar ddyn, ac nid oes ymwared. Mae chwantau a nwydau y natur ddynol ar ol y cwymp yn dyfod i'w grym flynyddoedd o flaen rheswm a barn; a'r lle y mae y nwydau a'r tueddiadau yn llywodraethu, yr hyn nad amcanwyd hwynt iddo, odid dan y cyfryw amgylchiadau y gweithreda na rheswm na barn yn ddiduedd, nac i ateb un dyben daionus; oblegyd dan lywodraeth chwant pa bynag, mae gwirionedd yn cwympo yn yr heol, ac ni chaiff barn na chyfiawnder ddyfod i mewn. Dichon hefyd fod tuedd. gref mewn dyn ieuangc yn enwedig, yn ddiarwybod iddo ei hun; megys pan y mae dyn mewn neu ar ben cerbyd ag sydd yn symud yn ol ugain milldir yn yr awr, y mae ysgogiad yn ei gorph a barai fod neidio o'r cerbyd ar y pryd yn dra enbyd, rhagor pe buasai y cerbyd yn llonydd: ond nid yw dynion yn gyffredin yn teimlo hyn. Felly yn gymhwys, gall fod ffrydiau natur yn rhedeg yn gryfion iawn, yn ddiarwybod i'r dyn sydd yn myned gyda'r lli. Yn awr gan hyny, gan fod y pethau hyn felly, efallai na chymer y dosbarth hwn o ddarllenwyr y "Traethodydd" (nid amgen yr ieuengctyd) yn anngharedig arnom nodi rhai pethau yn eu natur sydd yn gwneuthur y rhan hon o'u taith yn fwy peryglus nag un ran arall o dir eu hymdaith.

Yr oedd hen ddysgybl yn nghymydogaeth y Bala, a elwid Abram y Ceunant, yr hwn oedd hynod am uniondeb mewn egwyddor a gweithred. Ar ryw foreu teg yn y cynhauaf, aeth Abram i roi help llaw i gymydog parchus ganddo; ond troes y boreu teg yn brydnawn gwlawog; ac mor gymeradwy oedd yr hen frawd, ac mor anmheuthyn ei ddull a'i ddawn, fel y mynai y teulu iddo gadw addoliad teuluaidd ganol dydd. Wedi diolch am adferiad iechyd y wraig, a gweddïo am estyniad iechyd a hir oes i'r gŵr a'r wraig, yn gystled ag am ras ac arweiniad Yspryd Duw iddynt lanw lle penteulu, erfyniai am i'r Duw mawr gadw y plant rhag cael niwed trwy demtasiynau y diafol, "yn enwedig," ebai Abram, "y rhai sydd o bymtheg i bump-ar-hugain oed—amser gwan ar ddyn, ti wyddost Arglwydd." Tybiem fod ein tad Abram yn hyn yn good authority, yn gymaint a'i fod yn effaith sylw manwl a maith; oblegyd yr oedd Abram y pryd hwn yn oedranus, ac yn llefaru aith natur mor anmhleidgar ag un dyn wedi y dylif. Yr oedd meddwl drwg am ei gymydog, neu draethu gweniaith wrtho, can belled oddiwrth Abram ag yw y dwyrain oddwrth y gorllewin. Ond, ieuengctyd, os nad ydych yn teimlo eich hunain yn cydsynio yn rhwydd â chyffes yr hen Gristion hwn, ond yn barod fel y goludog i ddywedyd, "Nage, y tad Abraham;" y mae yn rhaid i ni gael lleferydd rhywrai o blith y meirw, onide nis credwn ddim. Wele, attolwg, ieuengetyd, wrth bwy ac am bwy y llefarai Solomon, y doethaf o'r holl ddynion, yn y chweched a'r seithfed o'r Diarhebion? "Fy mab, cadw orchymyn dy Dad, ac nac ymâd â chyfraith dy fam. Canys canwyll yw y gorchymyn, a goleuni yw y gyfraith, a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg; i'th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddyeithr. Na chwenych ei phryd hi yn dy galon; ac na âd iddi dy ddal â'i hamrantau." Eilwaith: " Canys a mi yn eistedd yn ffenestr fy nhŷ, mi a edrychais trwy fy nellt, a mi a welais yn mysg y ffyliaid, ïe, mi a ganfum yn mhlith yr ieuengctyd, ddyn ieuangc heb ddeall ganddo, yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac wele fenyw yn cyfarfod âg ef, a chanddi ymddygiad putain—hi a ymafaelodd ynddo, ac â'i cusanodd ef, ac âg wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho fod arni aberth hedd, heddyw y cywirais fy adduned"—dernyn o'r rhagrith perffeithiaf a draethodd un santmantes er dyddiau Adda. Modd bynag, "Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau y cymhellodd hi ef; ac efe a'i canlynodd hi ar frys, fel yr ŷch yn myned i'r lladdfa, neu fel yr ynfyd yn myned i'r cyffion i'w gosbi; hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef, fel yr aderyn yn prysuro i'r fagl, heb wybod ei fod yn erbyn ei einioes ef." Anerchiad arall a gyfeirir atoch chwi yn uniongyrchol gan frenin Israel: "Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chytuna. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddïachos; nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr; ni a lanwn ein tai âg yspail: fy mab, na rodia y ffordd gyda hwynt, attal dy droed rhag eu llwybrau hwynt." Unwaith eto, y brophwydoliaeth a ddysgodd mam un gŵr ieuangc iddo, "Na ddyro i wragedd dy nerth, na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha freninoedd. O Lemuel, nid gweddaidd i freninoedd yfed gwin, nac i benaduriaid ddiod gadarn; rhag iddynt yfed ac ebargofi y ddeddf, a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig." Onid yw yr Ysgrythyr Lân mewn amryfal fanau yn cyfeirio at ieuengctyd yn uniongyrchol? A phaham? Onid am fod eu perygl yn fwy yn y pethau hyn a nodwyd ? Yn awr, gan hyny, O, feibion a merched ieuaingc, gwrandewch arnom, ac ystyriwch eiriau ein genau, pan y traethom am rai pethau yn eich natur ag sydd yn eich gosod mewn perygl nid bychan. Nid i'ch gwaradwyddo y dywedir dim. Nage. Ni a fuom ieuaingc, ac yr ydym yn hen, ond yn cofio y temtasiynau a fu arnom pan yn eich oedran chwi. Buom o fewn ychydig at bob drwg yn nghanol y gynulleidfa a'r dyrfa yr ydych chwithau ynddi.

Yn gyntaf oll, gan hyny, Gochelwch dybied fod genych ryw dymhor maith o amser yn y byd, fel y galloch ei wario yn ofer. Ystyriwch ei fod yn werthfawr, ac nad oes dim o hono i'w gamdreulio. Y mae dyn ieuangc yn dueddol i feddwl fod pedwar ugain mlynedd bron cyhyd a thragywyddoldeb. Cafodd ei hun yn y byd, fel wedi dyfod o'r niwl, heb nemawr o feddwl pa bryd y cafodd fod; ond wedi treulio blynyddoedd meithion, tybygai efe, yn ei fabandod, y mae yn cael tystiolaeth sicraf ei dad a'i fam nad yw eto ond deg oed. Y mae y deg, ïe, y pymtheg, mlynedd cyntaf o dymhor dyn ar y ddaear yn ymddangos yn llawer meithach nag ydynt mewn gwirionedd. Ac nid yw dyn yn teimlo nac yn synied yn gywir am fyrder ei oes nes iddo dreulio yn fyfyriol bymtheng-mlynedd-ar-hugain o honi; ac yna gwel, os na bydd fel march neu ful heb ddeall, ei fod eisoes wedi cyrhaedd tua haner y ffordd, os nid ychwaneg; a theimla nad yw y pymtheg-ar-hugain nesaf ddim hwy; y rhai, os bydd i ddyn eu cyrhaedd, a'i gwnant yn hen ŵr; ac y mae yr ieuangc yn sicr o ysgrifenu y titl hwn uwch ben ei holl achos yn Hebraeg, Groeg, a Lladin, neu ryw iaith arall.

Yn ail, Y mae ieuengctyd yn gyffredin yn chwanog i redeg i eithafion peryglus gyda phob peth a ddygwydd fod yn wrthddrychau eu hymofyniad. Fel y lloi ar galanmai, newydd ddyfod allan o'r beudy, heb weled nac wybr na daear, ond a oedd o'u polyn hwy at bolyn eu mam; ond yn awr dyma y maes mawr o'u blaen, a'r dydd goleu teg i gampio a chwareu ynddo. Mae yr olygfa yn berffaith newydd; ond y mae terfynau iddynt i bori o'i fewn, ac nis gallant fyned trwy y gwrychoedd a thros y cloddiau, ond dan berygl o dori eu cymalau; hwythau, er eu bod yn gweled, nid ydynt yn defnyddio bron ddim ar y synwyr hwnw, fel ag i wybod pellder unrhyw wrthddrych yr edrychant arno. Felly y dyn ieuangc, y mae yn agor ei lygaid ar y byd mawr llydan, lle y mae gwrthddrychau heb rifedi, bychain a mawrion. Cyfoeth, parch, a phleserau y byd a dynant ei sylw. Sylla arnynt heb wybod pa un i'w ddewis. Ond cymaint yw ei frys a'i awyddfryd, fel nad erys yn hir yn yr esgoreddfa hon, a dacw ef nerth ei garnau ar ol pleser y byd; ac nid yw yn gweled y terfynau a osododd Duw i'w fwyniant, y rhai nad â neb drostynt ond ar ei golled. Ac felly dan boen a pherygl o dori ei esgyrn, y mae yn myned tros y terfynau, heb wybod y canlyniad. Am na wneir barn ar yr anferthwch yn fuan, y mae calon yr oferddyn ieuangc yn llawn ynddo o awydd i fwyniant; ac ni chymer amser i ystyried pa un ai cyfreithlawn ai annghyfreithlawn. Ond

"Cymerwch gynghor, ie'ngctyd ffol,
Mae tragwyddoldeb maith yn ol !"


Ystyriwch fod gormod o'r hyn sydd angenrheidiol yn ddrwg. Cofiwch fod diareb yn dyweyd, "Gormod o ddim nid yw dda.”

Doethineb, medd Solomon, a arwain ar hyd ffordd cyfiawnder, ar hyd canol llwybrau barn. Eithafion ydynt yn gyffredin yn bechadurus; ac nid oes ond ychydig o feiau nad ellir canfod mai pethau cyfreithlawn wedi eu cario tros eu terfynau ydynt. Felly y gwelwn gyfeiliornwyr y byd yn cario rhai gwirioneddau tros eu terfynau priodol fel na bydd lle i wirioneddau eraill yn eu credo; am hyny gwrthodant a gwadant hwynt er eu bod yn rhanau eglur o'r Dadguddiad dwyfol, a bod cymaint o eisieu eu dylanwad ar y meddwl âg unrhyw wirioneddau eraill.

Yn drydydd, Y mae yr ieuaingc yn dra chwanog i roddi uchelbris ar bob peth newydd, gan gymeryd yn ganiataol fod pob newidiad yn ddiwygiad. Tybiant fod y byd wedi myned yn ddoeth o'r diwedd, ond nad yw ond newydd fyned. Anhawdd ganddynt gydnabod fod gwybodaeth mewn hir ddyddiau, a bod henafgwyr yn deall barn. Fel y brenin Rehoboam, gwrandawant ar gynghorion y gwŷr ieuaingc, gan wrthod cynghor yr henafgwyr oedd yn nyddiau ei dad ef. Anhawdd cael ganddynt gydnabod gwirionedd yr hen-air a ddywed, "Yr hen a ŵyr, a'r ieuangc a dybia." Y mae lliaws o bethau mewn bri am dro fel pethau newyddion, y rhai yn y dyddiau a ddaw a ollyngir dros gof, am nad oes ynddynt y cyfryw werth ag a dalai am eu cadw mewn cof ac ymarferiad. Pell ydym oddiwrth feddwl fod newydd-deb unrhyw beth yn ddigonol achos i'w daflu o'r neilldu, heb ei brofi; ond ni wna brawf o'i ddefnyddioldeb chwaith. Nid oes dim ond amser a barn a rydd brawf; ystyr barn a genfydd duedd y peth, ac amser a ddengys ei effeithiau.

Yn bedwerydd, Y mae tuedd gref mewn dyn ieuangc i obeithio gormod am ddaioni yn y byd hwn, yr hyn sydd yn arwain i siomedigaeth. O! y mae yr ieuengctyd yn llawen iawn mewn gobaith, ond y mae y canol oed a'r henaint yn ddifrif wedi eu siomi, am obeithio yn ddisail pan yn moreu eu hoes. Y bachgen a dybia, pe byddai wedi tyfu i fyny, y byddai mor hapus ag Adda yn Mharadwys; a thybia y llangc, pe byddai wedi myned i'r ystâd briodasol, na byddai ond ychydig yn fyr o ddedwyddwch y nefoedd ei hun; pan mewn gwirionedd na wneir ond newid un rhyw o ofidiau am y lleill; ffeirio rhai profedigaethau am rai eraill llawn mor ofidus, er hwyrach nad mor niweidiol. Clywsom am un yn myned i briodi, heb ganddo ddigon i dalu i'r person a'r clochydd; aeth at gymydog i ofyn am fenthyg deunaw; dywedodd fod ganddo ry fychan i dalu am ei briodi, ond ei fod yn gobeithio na byddai arno ddim eisieu arian byth ond hyny. Mae yn ddigon clws gweled y natur ddynol mor obeithiol, yr hyn sydd dros yr amser presenol mor hyfryd; ond y mae y siomedigaeth ddyfodol yn anhyfryd pan y delo. Pa fodd bynag, tra angenrheidiol i ddedwyddwch yw peidio gobeithio yn ddisail, a chadw y dymuniadau o fewn terfynau priodol, fel y galler yn rhesymol ddysgwyl y bydd i'r drefn fawr eu diwallu yn lle eu twyllo.

Yn bumed, Mae ieuengctyd yn dueddol i geisio cario pob peth yn mlaen trwy boethder yspryd a nerth_braich_ac ysgwydd. Tybiant y dwg y rhai hyn hwy trwy bob dyryswch ac anhawsderau, heb ystyried mai perffeithrwydd y ddynoliaeth yw cysylltu ymbwylliad âg egni corph ac yspryd a'u gilydd. Ond y mae yn anhawdd i'r ieuangc wneyd hyn, gan ei fod yn myned yn gryfach bob blwyddyn. Y mae fel y llew ieuangc yn tybied na bydd arno eisieu ysglyfaeth. Oblegyd hyn y mae manyldra yn bur annaturiol i'r oed yma, a dibrisdod yn brofedigaeth. Rhoddant dafliad i'r naill beth a hergwd i'r llall. Os llyfr a roddir o law, rhaid ei daflu; yr un dynged a ddygwydd i'r het; os cribin, pigfforch, rhaw, neu gaib, cânt dafliad, torant neu beidiant; neu os dodant gareg yn y clawdd wrth gau yr adwy, rhaid ei thaflu nes bo y cwbl yn crynu, pan y dywed yr hen saer maen fod yn well rhoi y gareg ar y mur fel rhoi plentyn yn ei gryd; a bod y rhan fwyaf o bethau i'w gwneyd fel godro buwch, yn ddwys a dygn; y gwneir felly fwy o waith â llai o lafur ; y bydd y gorchwyl wedi ei wneyd a'r taclau heb eu tori.

Yn awr, ieuengetyd, nid ydym yn meddwl fod y pethau a nodwyd yn gap sydd yn ffitio pen pob un o honoch. Addefwn fod eithriadau i'r dosbarth dan sylw. Gwelir weithiau hen ben ar ysgwyddau ieuangc; er hyny, yn gyffredin y mae y pen a'r ysgwyddau yr un oed; a thra angenrheidiol yn wir yw gwylio yn erbyn y tueddiadau sydd yn ein natur yn ein harwain ar gyfeiliorn.

Gadewch i'r un peth angenrheidiol gael ei le priodol yn eich calonau. Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn sydd gysurus i natur a roddir i chwi yn ychwaneg. Cofiwch fod duwioldeb yn fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd. Gwybyddwch a theimlwch lygredigaeth eich natur, eich ymddibyniad ar Dduw, a'ch cyfrifoldeb iddo, yn nghyd a'ch rhwymedigaeth annattodadwy i'w wasanaethu. Bydded i chwi glywed Crist, a chael eich dysgu ynddo, fel y mae y gwirionedd yn yr Iesu. Na thybiwch mai cymhwys i hen bobl yn unig yw crefydd; nage, y mae yn rhaid i chwithau wrthi, ac y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthych chwithau.[1]

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel "Traethodydd" am Ionawr, 1846.