Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Yr Hen a ŵyr, a'r Ieuangc a dybia

Oddi ar Wicidestun
Y Bobl Ieuaingc Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Balchder

"YR HEN A WYR, A'R IEUANGC A DYBIA."

Y MAE càn hâf bellach o leiaf er pan ymadawodd hen wladwr clodwiw â'r byd hwn: preswyliai mewn rhyw gymydogaeth yn Ngogledd Cymru, ond nis gwn pa blwy', na pha sir, ac nid yw hyny o bwys i'r ysgrifenydd na'r ddarllenydd. Yr oedd yn wladaidd o ran ei ddullwedd, ac eto yr oedd rhyw fawredd arno fel yr oedd pawb yn ei barchu, ïe, yn ei wir barchu. Nid oedd na chybydd nac afradlon, nid oedd chwaith na diotwr na dirwestwr (oblegyd nid oedd Dirwest wedi ei geni yn y dyddiau hyny). Yr oedd yn uchelwr, fel y gelwid gŵr o berchen tir yn yr amser gynt; yr oedd fel llawer eraill y pryd hwnw, yn byw yn ei dyddyn ei hunan, yn llawn arno, ar yr un pryd nid oedd, fel y goludog yn y ddameg, wedi ei wisgo â phorphor a llian, ac yn cymeryd byd da yn helaethwych beunydd; ac er ei fod yn fwy disyml, yr oedd yn mwynhau cysuron y bywyd hwn, efallai, yn helaethach na'r rhai oedd yn gwneuthur ymddangosiad gwychach. Yr oedd hefyd yn cefnogi llafur, diwydrwydd, a gonestrwydd, yn nghydag ymddygiadau da eraill. Traed oedd i'r cloff, llygaid i'r dall, a chwyn y weddw a'r amddifad a ddeuai ato, ac a wrandewid ganddo, a bendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano a ddisgynai ar ei ben. Ymgynghorid âg ef hefyd mewn pethau pwysig, ac anfynych y byddai neb yn edifarhau am ddilyn ei gynghorion. Fe ddywedir fod gŵr tirion yn well er lles iechyd gwraig dyner, na saith o ddoctoriaid; felly yr oedd tuedd heddychlon a chynghorion pwyllog yr hen uchelwr hwn yn fwy effeithiol er cadw cymydogaeth dda, na phe buasai haner dwsin o ustusiaid heddwch yn byw ynddi; ac am fod yr hen oracl hwn mor barchus yn ngolwg y goror lle y preswyliai, nid oedd nemawr o groes-ymgyfreithio yn eu plith, canys âi bron bawb, os byddai ymrafael yn dygwydd bod, ato efi ofyn ei farn ar y mater. Am ryw bethau bychain a ddygwyddai rhwng pobl a'u gilydd, ac os byddai un blaid yn son am gyfraith, dywedai yr hen oracl, "Ni thal cam bychan mo'i wrthod." Os byddai rhyw bethau pwysicach, y cynghor fyddai, "Cytunwch, cytunwch." Y mae y cytundeb gwaethaf, yn well na'r gyfraith oreu. Cymaint oedd ei ddylanwad, fel na byddai ond anfynych iawn neb yn myned i'r llysoedd gwladol i benderfynu achosion. Braidd nad ystyrid pawbar na wrandawai ar y prophwyd hwn yn gyndyn, torid ef allan o restr pobl onest a chywir, a gosodid nôd cnâf arno, yr hwn ond odid a lynai wrtho weddill ei oes. Meddai synwyr cyffredin da a helaeth, a chafodd oes hwy na chyffredin (oblegyd yr oedd agos yn bedwar ugain a deg oed cyn marw); tymhor maith i syllu ar helyntion dynolryw. Sylwai ar lyfr Diarhebion Solomon, (oblegyd yr oedd yn ddarllenwr ei Feibl), gwelai fod y byd o'i amgylch yn ateb i'r drych gan y gŵr doeth, ac felly yr oedd ganddo gywirach barn am ddynion a phethau o lawer na chyffredin. Hyn, yn nghyda buchedd ddifrycheulyd ac anrhydeddus, a sefyllfa annibynol, oblegyd yr oedd yn uchelwr heb uchelgais, a'i gwnelai yn fwy-fwy parchus hyd ei fedd. Hawdd yw meddwl fod colled ar ei ol pan fu farw, oblegyd er ei fod yn hen, yr oedd yn henaint têg yn gystled ag yn llawn o ddyddiau, yr oedd llawer yn fyw ac yn cofio mor wasanaethgar a chymwynasgar a fuasai iddynt, ac i'w tadau a'u teidiau o'u blaen. Ond y mae yn bryd bellach ddyfod at yr hanes a achlysurodd y sylwadau uchod. Yr oedd gan yr hen gyfaill hwn amryw denantiaid, a chyfaill oedd efe i bob un o honynt. Yr oedd yn gwybod gwerth tenant da i'w feistr tir cyn gystled a gwerth meistr tir da i'r tenant. Cwynai un o'i denantiaid wrtho un tro, "fod ganddo gymydog hynod o anhawdd bod yn ddigolled oddiwrtho, ei fod yn hanos ac yn cnoi ei ddefaid; ac os dygwyddai i'r gwartheg neu y ceffylau dori ato, fel y mae yn dygwydd yn mhob cymymydogaeth weithiau, da y diangent, os caent eu hesgyrn yn gyfain a'u cymalau yn eu lle. Y mae ei anifeiliaid yntau yn tori ataf finau, ambell dro, a byddaf yn eu troi tuag adref heb eu peryglu." "Y mae yn ddrwg genyf dy brofedigaeth; nid oes modd na thyr anifeiliaid at eu gilydd weithiau," ebe y meistr tir; "ond, hwn a hwn, a fedri di berswadio dy gymydog i ddyfod gyda thydi ataf fi, fe allai y gallwn gyfryngu rhyngoch a'ch cael i well teimlad." "Nid hwyrach y gallwn," ebe y tenant, "ar ryw dro, ond hitio ar y cymal: y mae rhyw awr yn well na'i gilydd arno yntau fel pawb eraill." "Wel," ebe yr hèn ŵr, "deuwch at eich cyfleusdra eich hunain, byddaf fi yn debyg o fod adref, am fy mod yn rhy hên bellach i fyned lawer oddiamgylch." "O'r goreu," ebe y tenant, "mi a'i treiaf yn dêg." Pa fodd bynag, wedi llawer o ddyddiau, dyma y tenant a'i gymydog yn cnocio wrth ddrws yr henafgwr; cawsant eu galw i mewn, ac i eistedd i lawr; a'r hên ŵr boneddig, wedi eu cyfarch, a ddechreuodd osod yr achos o'u dyfod ger bron. Ebe fe," Y mae fy nhenant i, yr hwn sydd yn ddyn heddychol, mi a'i gwn, oblegyd y mae yn denant i mi er's llawer blwyddyn, a'i dad o'i flaen, yn cwyno dy fod yn hanos ei ddefaid, a'th gŵn yn cnoi aml un i farwolaeth; ac os tyr eidion neu geffyl atat, mai ar berygl tori ei esgyrn y bydd hyny. Y mae arnaf fi eisieu i ti altro, a pheidio a bod yn rhyw ddyn blin fel yr ydwyt wedi bod hyd yma." "Nid wyf yn malio," ebe yntau, "ffyrling goch yn un o honoch, chwi na'ch tenantiaid, ac os daw llwdn, eidion, neu geffyl 'mi rof fi iddynt da y do'nt allan o'u cut.'" "Wel," ebe yr henafgŵr, gwell i ti wrando, a chymeryd dy gynghori, fe fydd yn rhatach i ti yn y diwedd." "Eich gwaetha' chwi a'ch tenant yn eich gên, nid oes ar eich llaw wneuthur dim yn y byd i mi; nid gwaeth genyf eich gwaethaf na’ch goreu." "Gwell, a llawer gwell," ebe yr henafgwr, "i ti gymeryd cynghor; oblegyd, er nad wyf yn bwriadu myned at y gyfraith i geisio amddiffyniad, yr wy'n ddigon sicr, cyn sicred a'th eni yn droednoeth, mi ddof fi a'th ben di i lawr, ryw ffordd neu gilydd." "Eich gwaethaf yn eich dannedd. Pa beth a wnewch i mi?" ebe'r dyn blin. "Mi ddywedaf i ti beth," ebe yr hên ŵr, "y mae genyf dyddyn arall a allaf ei osod i'th gymydog, a gosodaf ei dyddyn yntau i gythraul saith gwaeth na thi dy hunan; ac os tori di goes anifail iddo ef, fe dor e' goes dau i ti; ac os cnoi di un ddafad iddo ef, fe dâl adref i'th ddefaid dithau yn bedwar dwbl. Mi fynwn i ti ystyried mai gwell i ti fod yn gymydog heddychol a diniwaid i'm tenant presenol na byw am y terfyn a dyn blin, a saith ryw gyndynrwydd yn ei galon. Cofia fod bran i frân, a dwy frân i frân front.' Ar hyn tybiodd y dyn blin y gallai gyfarfod â'i waeth, ac addawodd fod yn fwy hynaws rhag llaw, a chofiodd ddechreu yr ysgrif, "Yr hén a ŵyr, a'r ieuangc a dybia."

Y mae llawer o synwyr yn ymddangos yn llwybr yr hên frawd hwn. Yr oedd tuedd i liniaru peth ar deimlad y cymydog wrth gydnabod fod rhai gwaeth, ïe, saith gwaeth nag ef ei hun, i'w cael ond chwilio tipyn am danynt. Yr oedd ystyriaeth o un gwaeth nag ef ei hun yn byw yn ei ymyl, yn dyfod yn nes at ei galon. Y mae rhai o'r diawliaid yn ddiawledicach na'u gilydd; ac felly dynion, y mae rhai blin ac eraill blinach, ac y mae rhyw ddosbarth y blinaf oll—"gosod dithau un annuwiol arno ef" sy' weddi drom. "Syrthio a wnelwyf yn llaw yr Arglwydd, ac na syrthiwyf yn llaw dyn."[1]

Nodiadau

[golygu]
  1. O'r "Methodist," Mehefin, 1855.