Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parch David Adams (Hawen)/Datblygiad

Oddi ar Wicidestun
Bethesda Cofiant y Parch David Adams (Hawen)

gan Evan Keri Evans


a William Pari Huws
Diwrnod Gydag Adams

X. "DATBLYGIAD"[1].

ER na ellir dywedyd bod tymor Bethesda yn ffurfio cyfnod meddyliol newydd yn ei hanes, gellir dywedyd i'w alluoedd meddyliol yn awr, drwy help astudiaeth gyson a datblygiad naturiol, gyrraedd eu llawn dwf. Yn awr, hefyd, y daeth i gael ei weld a'i gydnabod gan ei gydgenedl, Ogledd a De, a'i alw i'w phulpudau y tu allan i'w sir ei hun. Er mai drwy yr Eisteddfod, ymlaenaf oll, y daeth i sylw cenedlaethol, daeth yn ddilynol i hyn i gael ei werthfawrogi fel pregethwr yn rhinwedd ei ddawn a'i arbenigrwydd ei hun—ei wahodd i lawer o fannau, a'i wrthod gan eraill.

Bu ei lwyddiant eisteddfodol yn fawr ac amlwg yn ystod y tymor hwn, a hynny ym meysydd Barddoniaeth, Athroniaeth, a Diwinyddiaeth. Enillodd ei ail gadair am bryddest ar Orthrwm yn Abermaw (1889) a derbyniwyd ef a'i gadair ym Methesda ynghanol banllefau'r lle. Yna enillodd ruban glas pryddestwr yng Nghoron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1891) am ei arwrgerdd ar Cromwell.

Am y gerdd hon dywedai Watcyn Wyn mai egni awenyddol yw ei nerth, a bod rhyw fywyd newydd yn yr holl symudiadau; Dafydd Morgannwg, bod drychfeddwl mawr fel mynydd uchel yn amlwg o bob rhan ohoni, sef amcan mawr a duwiolfrydig Cromwell i wneuthur trefn ar y tryblith; ac Elis Wyn o Wyrfai, bod mwy o farddoniaeth ynddi na'r lleill, ac yn gosod Cromwell mewn cymeriad mwy arwrol.

Eto, ar waethaf y llwyddiant amlwg hwn ym myd yr Awen, ni allwn yn ein byw feddwl am Adams fel bardd yn gyntaf y mae pwysau barn fwy cyffredinol nag eiddo'r cofianwyr yn ein gwasgu i roddi'r prif sylw i weithiau athronyddol a diwinyddol y cyfnod hwn—ac i'r olaf yn fwy na'r blaenaf. A benthyca cymhariaeth oddiwrth rodfa a fu'n hoff iawn ganddo: yr ydym fel rhai wedi dringo i ben Braichmelyn, yn teimlo bod Carnedd Ddafydd a Charnedd Llewelyn yn codi lawer yn uwch o'n blaen, ac yn ein galw i fyny.

Pan ysgrifennodd ei draethawd ar Hegel yn 1883, cydnabyddai nad oedd ond math ar dasg neu ymarferiad (exercise), ac y mae'n syn iddo allu meistroli awdur mor anodd i'r graddau y gwnaeth mewn amser mor fyr, ac ennill clod ei feirniaid ei fod wedi ei gymhathu'n fwy na'i gydymgeiswyr, ac yn siarad ohono ei hun yn fwy. Ac er mai gwaith mawr Vera yn y Ffrangeg oedd ei brif gynorthwyydd y pryd hwnnw, cyfeiria at weithiau Caird a Wallace a Prolegomena to Ethics Green—llyfr nad oedd ond newydd ymddangos. O'r pryd hwnnw ymlaen cafodd ei atynnu'n fwy a mwy gan ddysgeidiaeth yr awduron hyn, a daeth yn dra hyddysg ynddi, fel nad ydym yn synnu ei fod, yn ol beirniadaeth yr Athro Henry Jones a Deon Llanelwy (Esgob Tyddewi), y goreu o ddigon ar y Traethawd Beirniadol ar Foeseg T. H. Green a Dr. J. Martineau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl (1892). Y gwir yw, nad oedd neb ymysg cystadleuyddion eisteddfodol y pryd hwnnw, nac am flynyddoedd wedyn, yn meddu ar ei allu athronyddol ef, nac wedi ei ddisgyblu i'r fath raddau, a gwaith cymharol rwydd iddo oedd ysgrifennu traethawd meistrolgar ar y testun uchod—nid oedd angen iddo ond dwyn mwy o drefn a dosbarth ar syniadau oedd yn eiddo iddo eisoes. Yr hyn a wnâ, fel y gellid disgwyl, yw beirniadu Martineau oddiar safbwynt athronyddol Green mewn perthynas â'u golygiadau ar (1) natur bodolaeth (unoliaeth a deuoliaeth), (2) rhyddid yr ewyllys, (3) ffynhonnell ein gwybodaeth am ddaioni moesol, ac (4) amcan terfynol bywyd,

Mewn traethawd o'r fath, fodd bynnag, nid oes dim a fyddai—pe'i cyhoeddesid yn llyfryn—ohono ei hun ac yn uniongyrchol yn achosi dychryn diwinyddol, nac yn peri cynnwrf ymysg y credoau. Y llyfr a wnaeth hyn—o leiaf ar raddfa genedlaethol—oedd ei draethawd cyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd (1893) ar Ddatblygiad yn ei berthynas â'r Cwymp, yr Ymgnawdoliad a'r Atgyfodiad. Yn y gystadleuaeth hon rhannwyd y wobr rhyngddo ef a'r Parch. (Prifathro) E. Griffith-Jones, D.D. Dywedai'r beirniaid, y Prifathro T. F. Roberts a'r Athro Edward Anwyl, amdano ei fod wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg clir a rhwydd, mewn arddull a weddai i draethawd yn ymwneuthur â phwnc diwinyddol neu athronyddol. Goleuir yr arddull hefyd gan fflachiadau o farddoniaeth neu eglurhadaeth. . . . Fel llawer o ddiwinyddion enwog yn ein dyddiau ni, y mae'n amlwg fod yr awdur wedi dyfod dan swyn athroniaeth Hegel, er nad ydyw yn cadw yn wasaidd ati. . . Y mae yn amlwg ei fod wedi deall y dull hanesyddol. . . . . Y mae ganddo wybodaeth led dda o wyddoniaeth naturiol ac o ddiwinyddiaeth yn ei hagweddau beirniadol. Byddai'r traethawd yn gryn gaffaeliad i Ddiwinyddiaeth Gymraeg, ond credwn y gellid cael ymdriniad llawnach ar yr Iawn o safle'r awdur ei hun. . . . Carasem weled ynddo ddyfnach a helaethach ystyriaeth o natur pechod. . . . . Y mae'r awdur yn credu yn gryf yn Atgyfodiad Crist fel ffaith lythrennol wir, ond nid yw ei ymdriniad â'r cwestiwn hwn, er yn werthfawr, yn athronyddol yn ystyr fanylaf y gair: y mae, yn hytrach, yn ein hatgofio o rai o ehediadau mwyaf barddonol a dychmygol Plato,

Mewn llythyr at Mr. Adams yn ddiweddarach fe ddywed yr Athro Anwyl:

Nid oedd dim anhawster i feirniadu eich traethawd chwi a thraethawd Mr. Griffith-Jones yn oreu. Credaf na allai beirniad teg o unrhyw ysgol lai na dyfod i'r casgliad hwnnw, ond nid oedd modd penderfynu rhyngoch. . . . . Yr hyn oeddwn yn hoffi yn neilltuol yn eich traethawd chwi oedd y treiddgarwch athronyddol oedd i'w weled ynddo. . . Gyd â golwg ar gyhoeddi'r traethodau, buaswn i, o'm rhan 'fy hun—ac yr wyf yn credu fy mod yn datgan teimlad Principal Roberts hefyd yn eich cynghori i'w cyhoeddi. . . . . Fe all rhai o'r syniadau fod yn newydd i ni yng Nghymru, ond yr wyf yn credu bod y wlad yn disgwyl am rywbeth newydd. . . . Gan eich bod eich dau yn bur uniongred ar bwnc Atgyfodiad Crist ac Anfarwoldeb, nid wyf yn meddwl y tramgwydda nemawr neb wrth eich dysgeidiaeth, neu os gwnâi rhai, fe gaech lawer i'ch dilyn.

Ac er y dywed yr Athro ymhellach fod "bron bawb o'r ymgeiswyr yn credu mewn Datblygiad", a "neb yn bendant iawn ar gymryd hanes Adda ac Efa a'r Cwymp fel hanes llythrennol", yr oedd llawer o ddarllenwyr Cymru a rhai adolygwyr yn bendant iawn i'r gwrthwyneb pan gyhoeddwyd y traethawd. Eto ni bu ysgarmes fawr. Yr oedd y meddwl darllengar diwinyddol erbyn hyn wedi cael amser i ymgynefino ag athrawiaeth Datblygiad, fel nad ydoedd mwyach yn fwgan i beri dychryn; ffurfiai felly fath ar amddiffyn cyffredinol i'r llyfr. Yr oedd y ffaith ei fod yn bur uniongred ar bwnc Atgyfodiad Crist ac Anfarwoldeb hefyd yn ei ffafr. Bu'r esboniad Hegelaidd o'r Cwymp efallai'n fwy o rwystr na dim arall. Eto, gyd â rhai eithriadau, yr oedd hyd yn oed hwn, mi gredaf, yn fwy o achos difyrrwch nag o dramgwydd: bu cyfeirio at "syrthio i fyny " yn gystal ag ysbardun i lawer pregeth, ac yn achos crechwen ym mwg tybaco'r tŷ capel.

Nid oedd ymdrin â'r testun yn ei gwneuthur yn foesol angenrheidiol i dderbyn athrawiaeth Datblygiad o gwbl; yr hyn a ofynnid oedd dangos sut y gellid esbonio'r Cwymp a'r Ymgnawdoliad ac Atgyfodiad Crist yn gyson â hi. Ond derbynia Adams y ddamcaniaeth yn ei chrynswth, gallem feddwl, o'r nwy bore ymlaen; yn unig myn roddi iddi ei gwedd ddwyfyddol (theistic) yn hytrach na'r wedd fateryddol, ac fel y cyfryw ei chyfrif yn "weddol foddhaol." Ar y llaw arall, derbynia ddatganiadau'r Beibl, gyd â'r rhagocheliad" nad yw ysbrydoliaeth eiriol, a chywirdeb digamsyniol ar bynciau gwyddonol, yn gyson â chynnwys y Beibl, nac yn cael ei honni gan ei ysgrifenwyr." Ond cofio hyn, deil "y gall un dderbyn y datganiad mai Duw yn y dechreuad a greodd y nefoedd a'r ddaear," ac eto barhau yn gredwr mai'n raddol, ac yn unol â'r egwyddorion a ddysgir gan Ddatblygwyr, y dug Duw y cread materol a'r cread bywydol i'r ffurfiau a'u nodwedda yn bresennol."

Er mwyn esbonio'r Cwymp yn gyson â'r hanes yn Genesis—nid "fel y deellir ef gan ddiwinyddion o ysgol Awstin a Chalfin "—ymwrthyd nid yn unig ag ysbrydoliaeth eiriol a gwyddonol y Beibl, ond â'r duedd i roddi ystyr llythrennol i'w ffigyrau a'i ddarluniau. "Llythyrenoliaeth yw un o rwystrau mwyaf ymchwiliad am y Gwirionedd." Yna wedi eglurhad allegol o'r lle a roddir i'r "pren" yn yr hanes, ac un chwedlonol ar yr Adda a'r Efa sydd yn natur pob dyn, deuwn at ganolbwynt athronyddol yr esboniad a gynhygia:

"Yn ol yr hanes yn Genesis y mae Pechod a Gwybodaeth, neu yn fwy cywir Pechod a Hunanymwybyddiaeth, yn anwahanol gysylltiedig â'i gilydd. Nid yw pechod yn bod, ac ni all fod ond lle y mae ymwybyddiaeth o ryddid i ddewis neu wrthod. Y mae yna gyfnod yn hanes pob dyn pan mae ynddo gyflawn unoliaeth a pherffaith gytgord. Pryd hyn y mae dyn yn cyfranogi o'r mwynhad unrhywiog a deimla'r anifail a lywodraethir gan ei reddfau, ac a deimla'n gwbl wrth ei fodd pan ddiwellir ei anghenion ef. Yn y sefyllfa hon o heddwch cyson ac o ddiniweidrwydd dibechod, nid yw natur foesol anfeidrol dyn wedi torri'r plisgyn sydd yn ei chadw o fewn terfynau culion, cyfyng, y bywyd anifeilaidd islaw. Y pryd hwn, ni ellir dywedyd gyd â chywirdeb bod dyn na da na drwg. . . . Gwaith dyn yn dihuno o gwsg y bywyd anifeilaidd i ymwybyddiaeth effro o'r elfen ddwyfol ac anfeidrol sydd hefyd ynddo, a ddug oddiamgylch y gwrthdarawiad rhwng hunanfeddiant yr anifail, ar un llaw, a dyheadau yr ysbryd anfarwol ar y llaw arall, sydd mor nodweddiadol o fywyd dyn Heb yn ei amherffeithrwydd ar y ddaear. . . . .Heb ymddatblygiad cynhyddol yn natur dyn o'r sefyllfa negyddol o ddiniweidrwydd i sefyllfa o hunanymwybyddiaeth weithgar, ni buasai na phechod na rhinwedd yn nodweddu ei weithredoedd o gwbl. . . .Ac os mai gweithredoedd moesol, drwy eu tra mynychu, sydd yn cynhyrchu cymeriad moesol, y mae yna wrthuni gwrthddywediadol i ni sôn am ddyn wedi ei greu yn berffaith o ran ei gymeriad.

Os bwriedid i'r uchod gynrychioli golygiadau Hegel ar y mater, yna y mae'r gair anifeilaidd a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyfnod cyn-ymwybyddol yn anghywir; yr hyn a ddywed Hegel yw bod y gwybyddol (conscious) yn rhagflaenu'r ymwybyddol (self-conscious), ond nid gwybyddiaeth anifeilaidd sydd yn ddigonol i foesoldeb, ond gwybyddiaeth fel eiddo plentyn deuddeg oed cyn ei fod eto wedi ymryddhau o gaethiwed gorchymyn allanol.

Ni ddywed ei feirniaid paham y barnent ei ymdriniad â phechod yn annigonol; ond y mae'n amlwg nad yw'r esboniad uchod yn cyfrif o gwbl am bechodau "cythreulig" (casineb, cynhennau, etc) o'u cyferbynnu â rhai anifeilaidd "; nac ychwaith yn cydnabod yr elfen anfeidrol sy mewn drygioni yn gystal â daioni. "Dyma dwyll (illusion) mawr bywyd," meddai Caird, "bod dyn yn ceisio'r annherfynol yn y terfynol," a bod y terfynol felly'n cymryd lle'r annherfynol. Yn ol yr uchod, "terfynol ffugiol" (false finite) yn unig yw pechod, nid "annherfynol ffugiol" (false infinite). "The light of Heaven led me astray," meddai Burns am hudoliaeth pechod. Cydnebydd Adams fod yna "anhawster" ynglŷn â gwaith dyn yn dewis "y drwg o flaen y da," a chynhygia dair ystyriaeth sydd yn ein "cynorthwyo i ryw fesur" i'w ddatrys, sef bod ei gorff yn ymddatblygu o flaen ei feddwl a'i natur foesol, ei fod yn camsynied rhyddid am benrhyddid, a bod yn rhaid iddo ddysgu drwy brofiad.

Ar le ac ystyr yr Ymgnawdoliad fe ddywed:

Credwn fod yn bosibl maentumio bod anghenion natur Duw fel un perffaith, ac anghenion natur dyn fel un amherffaith, yn galw am yr Ymgnawdoliad, ac eto fod yn hollol gyson â Datblygiad yn yr ystyr o hunanddatguddiad angenrheidiol bywyd Duw. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn golygu gwneuthur i ffwrdd â chyfryngiad uniongyrchol Duw, neu ddatguddiad cwbl newydd o eiddo bywyd Duw yn yr Ymgnawdoliad; neu, os dewisir yn well, nid yw'n ymgais esbonio ymaith yr elfen wyrthiol o'r Ymgnawdoliad. Os ydym yn iawn wrth faentumio bod creadigaeth y bywyd llysieuol, anifeilaidd, a dynol, bob un yn ei ffordd ei hun, yn ddatguddiad newydd ac uwch na'r un blaenorol, yna nid amhriodol fyddai galw ymddangosiad pob un ohonynt yn wyrthiol yn yr ystyr ei fod yn gorfforiad o fywyd Duw mewn ffordd newydd, eithriadol, a rhagorach, o'i gyferbynnu â'r datguddiadau blaenorol. . . .Yn gyffelyb, a barnu oddiwrth fywyd dibechod Iesu o Nasareth, a dylanwad dyrchafol ac achubol Ei ddysgeidiaeth a'i fywyd santaidd fyth er hynny, mae'n rhaid inni, os yn ddiragfarn, dynnu'r casgliad bod yna rywbeth newydd, eithriadol, a gwyrthiol os mynner, yn Ei ymddangosiad ymysg dynion, ac yn natur dynion, ar y ddaear.

Y mae'r Ymgnawdoliad "yn rhan hanfodol o gynllun Duw erioed," ac nid "yn dibynnu ar ddigwyddiad," gan na chafodd delw Duw" ei dangos ond yn amherffaith yn yr Adda cyntaf, a bod" cymeriad Duw fel un perffaith yn gwarafun iddo ymfodloni heb allu cynhyrchu'r perffaith hefyd."

Am berthynas yr Ymgnawdoliad â'r Iawn, fe ddywed:

Y mae perthynas y Tad a'r Mab yn yr Hanfod Ddwyfol yn beth mor gyfrin fel nad yw ein hymwybyddiaeth foesol ni fel dynion yn gallu cynorthwyo nemor ddim arnom yn y ffordd o'i ddehongli. Ond gallwn yn hawdd ddeall bod yr Ymgnawdoliad yn Iesu, o ran Ei fywyd a'i farwolaeth, yn rhoddi bodlonrwydd (satisfaction) i Dduw, nid yn gymaint yn y cymeriad o Frenin yn cynrychioli hawliau cyfiawnder dialeddol, ond yn y cymeriad o Gariad Cyfiawn—yn Dad a Brenin—wrth weld Ei Sant Fab Iesu yn sylweddoli posibilrwydd eithaf y natur ddynol; yn ei unrhywioli ei Hun hyd yr eithaf â'r natur honno yn ei llawenydd ac yn ei thrueni; a thrwy Ei fywyd cariadlawn a'i farwolaeth hunanaberthol, yn llawn ddatguddio natur hanfodol y Duwdod fel Cariad Cyfiawn, cariad yn ei gosbi ei hun â phoen oherwydd pechod tra yn maddeu i'r pechadur.

Y mae dau ddiffyg amlwg, na chyfeirir atynt gan ei feirniaid, yn y rhan hon o'r traethawd. (1) Ni cheir cyfeiriad at yr Ymwacad, y naill ffordd na'r llall; ac yn wahanol i'w safbwynt yn ei bryddest ar Fywyd "nid yw'n glir ar gynhanfodiad Crist. Dywed fod bodolaeth Duw fel Ysbryd Anfeidrol yn rhagdybied gwahaniaethau o angenrheidrwydd yn yr Hanfod Ddwyfol," a geilw hwynt yn Dad a Mab ac Ysbryd Glân." Dywed fod y bywyd Cristnogol yn " fywyd uwch," ac y gellid ei alw yn fywyd oddiuchod mewn ystyr allegol."Ond nid ydym, wrth ganiatau hyn, yn cael ein rhwymo i gydnabod uchfodaeth (transcendence) lleol y cyfryw, a thynnu y casgliad mai disgyn o'r nefoedd a wnaeth y bywyd santaidd Dwyfol hwnnw. . . . .Y mae yn fwy naturiol—h.y., yn fwy unol â dull gweithgarwch y Bywyd Dwyfol trwy'r cread—i dybied mai ymddatblygu a wnaeth oddiwrth a thrwy ffurfiau is y bywyd moesol ac ysbrydol oedd yn barod yn bod yn y natur ddynol." Nid yw y cyfeiriad at uchfodaeth lleol ond amherthynasol: y cwestiwn yw, nid a oedd yn bod mewn lle, ond a oedd yn bod, ai ynteu dyfod i fod a wnaeth.

(2). Nid yw yn dywedyd sut y mae dynoliaeth yn gyffredinol i'w chodi i berffeithrwydd yng Nghrist. Y cwbl a ddywed yw "bod datblygiad cynhyddol daioni mewn dyn yn gofyn am ideal sydd yn sylweddoliad o'i holl ddyheadau fel symbylydd iddo," a "bod sicrhau cymod rhyngddo ag ef ei hun fel un amherffaith, a rhyngddo fel troseddwr â Duw cyfiawn ond cariadlawn, yn galw am y Duw-ddyn lle y mae'r ddwy natur—y Ddwyfol a'r ddynol, mewn cymod cyflawn—ac yn ernes o'r un cymod yn y troseddwr ei hun." Yn yr adran nesaf (ar yr Atgyfodiad) cawn gyfeiriad at " gysylltiad organaidd dynion trwy ffydd â'r Iesu " a'u bod "yn gyfranogion o'i fywyd mewn canlyniad."

Gwelir ei safbwynt cyffredinol mewn perthynas i'r Atgyfodiad yn y paragraff a ganlyn:

Os yw Duw yn berffaith o ran Ei nodweddion personol, ac yn gariad o ran Ei hanfod moesol, ac os ydyw wedi creu dynion yn y meddiant o'r dyhead i gynhyddu ac i ymddatblygu nes dyfod yn nês-nês at Ei berffeithrwydd Ef ei hun yn ddiddiwedd, y mae ein syniad am Ei Gariad Tadol yn ein gwahardd i dybied y bydd iddo wrthod parhau ein bodolaeth ymwybodol i dragwyddoldeb, yr hyn yw telerau anghenrheidiol ein iawn addysgiant a'n datblygiad i'r graddau eithaf yr ydym yn dyheu amdano.

Yn nês ymlaen ychwanega: "Wrth y telerau gofynnol golygwn barhad diderfyn, a chorff fyddo'n meddu ar gyfaddaster i fod yn gyfrwng gweithgarwch yr ysbryd anfarwol ynom." Ni roddir prawf o'r angen am gorff, ond y ffaith "na allwn ni ffurfio syniad am enaid neu ysbryd yn gweithredu'n gwbl ddigorff," ac felly yr ymddengys Datblygiad yn "anorffenedig ac anghyflawn ac amberffaith am nad oes gan y bywyd ysbrydol gorff sydd yn meddu ar yr unrhyw barhad anfarwol." Rhydd Atgyfodiad Crist fath o sêl ar y golygiad hwn. Derbynnir tystiolaeth yr apostolion ynghylch y ffaith, tra y cynhygir esboniad nodweddiadol ar yr hyn a olyga. Deil fod yr amser presennol yn y ferf "Yr wyf yn dyrchafu" "yn awgrymu bod yr Iesu'n edrych ar ei atgyfodiad fel process trwy yr hon y llyncid yr hyn sydd farwol gan fywyd ynddo yn ystod ei arhosiad yn eu plith cyn esgyn yn gorfforol i'r nefoedd." "Y mae myfyrdod ar yr unrhywiaeth ac eto wahaniaeth yn Ei gorff atgyfodedig yn rhwymo pob darllenydd diragfarn i edrych ar yr atgyfodiad fel process y trawsnewidir ac y gweddnewidir ynddi y materol adnabyddus i ni, yn fater o rywogaeth mwy dillyn (refined), llai cnawdol, a llai dan ddylanwad disgyrchiant." Ar y llinell hon, ac ar bwys cyfeiriadau at Ioan 11 25, 26, 2 Cor. 5, etc., sy'n gwneuthur yr Atgyfodiad yn realiti presennol, datblyga'r athrawiaeth—"bod y bywyd ysbrydol sydd ynom yn cymhathu rhyw gyfran o'r defnyddiau sydd yn cyfansoddi'r corff presennol, gan eu trawsffurfio yn gorff o fater cwbl wahanol ac ar yr un pryd yn diogelu tebygrwydd yn y ffurf sydd yn ddigon i sicrhau ei unrhywiaeth. Fel hyn ymddengys i ni bod edrych ar yr ysbryd anfarwol preswyliedig ynom fel yr egwyddor ffurfiadol (formative) yn fwy cyson â dysgeidiaeth y Testament Newydd yn ogystal â bod yn gwbl ar linellau datblygiad cynhyddol a pherffeithiad graddol y bywyd sydd yn ymddatguddio yn a thrwy y cread."

A dywed, ymhellach, fod—"gwyddor yn profi y gall y cyfryw gorff fodoli yn bresennol, yn gydffurf â'r corff presennol er yn anweledig i'r llygad ac annheimladwy gan ein dwylaw.

Er y dywed ei feirniaid, "Nid yw y ddamcaniaeth a gynhygir gan yr awdur ynghylch y corff ysbrydol yn cael ei ddatblygu ar yr un pryd â'r corff naturiol, er ei bod gywrain, yn argyhoeddiadol, gan nad ydyw yn ffrwyth ymchwiliad gwyddonol," y mae yn ei ffafr bod dau o brif wyddonwyr yr oes yn The Unseen Universe yn ei chefnogi a dangos ei bod yn gyson â datganiadau gwyddoniaeth (tud. 159). Cymeradwyir hi ar linellau athronyddol gan J. H. Fichte, ac yn ddiweddarach—ddwy flynedd wedi cyhoeddi traethawd Adams,—gan Thiele. (Gwêl J. Ward, The Realm of Ends, tud. 400).

I farnu safbwynt cyffredinol yr awdur yn deg, mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddywed mewn un man, sef "bod athrawiaeth Datblygiad fel cynnydd cyson, yn unol â deddfau neilltuol, a thrwy gyfrwng galluoedd arhosol yn y cread,' yn cael ei derbyn yn lled gyffredinol gan wyddonwyr." Ni dderbynnir mohoni i'r un graddau heddiw, ac nid teg ei gondemnio ef am blygu i ogwydd meddyliol ei oes. A chofio hyn, credwn y rhydd hanesydd diwinyddol y dyfodol iddo le amlwg, ac efallai'r amlycaf oll, yn natblygiad diwinyddiaeth Cymru yn niwedd y ganrif ddiweddaf, a hynny, nid yn unig fel arloeswr mentrus, ond hefyd fel arloeswr medrus. O leiaf, mae'n rhaid inni oll gydnabod iddo (yn ei eiriau ei hun) "geisio gwneuthur i ffwrdd â'r syniad o ddigwyddiad (contingency) mewn diwinyddiaeth, a dwyn i mewn angenrheidrwydd hanfodol yn ei le."

Nodiadau

[golygu]
  1. esblygiad