Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parch David Adams (Hawen)/Diwrnod Gydag Adams

Oddi ar Wicidestun
Datblygiad Cofiant y Parch David Adams (Hawen)

gan Evan Keri Evans


a William Pari Huws
Lerpwl

XI. DIWRNOD GYD AG ADAMS.

GAN fod Adams erbyn hyn wedi profi nid yn unig ei fod yn meddu adnoddau eithriadol, ond hefyd wedi dyfod o hyd i ddull effeithiol o'u disgyblu a'u datblygu, efallai mai dyma'r man goreu inni sylwi ar y dull hwnnw. Bydd hyn yn ddiddorol i bawb, ac yn addysgiadol, ni a hyderwn, i'r myfyriwr ieuanc.

Yr oedd ganddo un fantais na ellir ei sicrhau'n wastad —cartref cysurus, nid yn yr ystyr faterol yn unig nac yn bennaf, ond yn yr ystyr bod ei awyrgylch yn un o serch gwasanaethgar ac yntau'n cael ei holl amser a'i feddwl i'w waith arbennig ef ei hun. Yr oedd yntau'n hoff o'i gartref, ac yr oedd ei adael, er yn beth rhwydd iddo yn y pellter, yn boen iddo pan ddeuai'r amser i fynd. Darllenasom yn ddiweddar (Evolution in Christian Ethics y Proff. Percy Gardner) nad oes sôn am neb wedi gwneuthur un gwaith mawr o gartref cysurus, ac y mae bywgraffwyr awduron fel Beethoven yn hoffi pwysleisio eu bod yn cael eu cadw mewn gofidiau er mwyn eu gorfodi i greu eu gwynfyd—yn cael eu rhwystro i dyfu i lawr er mwyn tyfu i fyny. Nid ein gwaith ni yn y fan hon yw penderfynu beth sy'n "fawr," ond y mae bywyd Adams yn braw o'r ffaith y gall un fod yn fawr mewn gweithgarwch a gwasanaeth meddyliol a moesol er byw mewn cartref cysurus iawn.

Yn un o'i anerchiadau i fyfyrwyr cawn ef yn cyfeirio at y pwys o roddi ei le priodol i gwsg fel un o brif amodau bywyd effeithiol. Gallai ef ei hun gysgu wyth awr solid, ac fel rheol caniatai iddo'i hun fesur llawn, ac ambell waith un oedd yn llifo drosto. Nid yw hyn, bid siŵr, yn angenrheidiol, gan y gwyddom am fywydau ymysg yr effeithiolaf mewn hanes yn byw ar lai. Ni chaniatâi Gladstone iddo'i hun ond saith awr (er yr hoffasai wyth), na George Müller fwy na chwech. Wedi cwsg o'r fath, yr oedd Adams yn barod i'r bwrdd brecwast ac i'r bwrdd sgrifennu, ac mor awyddus i'r naill a'r llall. Fe wnaeth ardystiad yn Hawen a'i hoelio wrth ei ddesc i beidio â darllen y papur newydd cyn cinio. Mewn anerchiad o'i eiddo yn 1899 y mae'n medru tystio iddo ei gadw hyd hynny. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, mabwysiadodd yr arferiad o fwrw golwg dros yr hyn oedd o bwys yn y Daily Post cyn brecwast. Tebig nad edrychai ar hyn fel peth oedd yn torri ysbryd ei ardystiad, gan mai ei amcan yn hwnnw oedd ei ddiogelu ei hun rhag cael ei shuntio oddiar linell ei fyfyrdod. Yn Hawen a Bethesda ni chyrhaeddai'r papur dyddiol mewn pryd i'w ddarllen beidio ag ymyrryd â'i astudiaeth.

Buasai'n dda gennym allu dywedyd iddo gael ei arwain, gyd â saint yr oesoedd, i roddi ei awr gyntaf (mwy neu lai) cyn brecwast i gyfathrach â Duw; ond nis cafodd. Y peth tebycaf i hyn a gawn yn ei hanes yw ei waith yn darllen ei Destament Groeg a rhan o'r Hen Destament y peth cyntaf ar ol brecwast yn wastad. Math o gyfaddawd â defosiwn oedd hyn, yn dangos tuedd i geisio elw i'w ddiwylliant meddyliol o bob cyfathrach â gwirionedd. Efallai bod ymdrech feddyliol i ymgodymu â gwirionedd yn cael lle rhy ganolog yn ei gynllun i fyny hyd yr adeg hon. Hoffai ddyfynnu " laborare est orare,"[1] heb gofio bod "orare est laborare"[2] yr un mor wir. Bid a fynno am hynny, ni fyddai ef yn fodlon ar lai na phedair awr o astudiaeth galed cyn cinio bob dydd; a phe gellid torri ei fywyd fyny yn blocks, y bloc mwyaf, a'r un mwyaf solid, yn ei holl fywyd fyddai'r pedair awr hyn bob dydd posibl am dros ddeugain mlynedd. Gymaint llafur a olyga hyn, a chymaint cynhaeaf hefyd ! Ond llafur cariad ydoedd; carai ei fyfyrgell fel ei gartref meddyliol; yma y caffai ei ddeall a'i ddychymig eu horiau aur bob dydd yng nghwmni ysbrydion goreu'r oesoedd. Byddai mor sicr o fod yno rhwng naw ac un o'r gloch ag oedd yr haul o fod yn ei le onibâi am ymyriadau (anaml) cnawd a byd. Yn ystod yr oriau hyn ceid ef yn ei ystafell ddirgel (er nad y nesaf i mewn) wedi cau ei ddrws ac yn aml wedi ei gloi! Er cymaint ei hoffter o'i deulu yn ol y cnawd, nid oedd yno ddrws agored iddynt hwy bob amser. Brydiau eraill, nid yn unig caent groeso, ond gwahoddiad, yn enwedig pan fyddai'n cyfansoddi, ac wedi cynhyrchu rhywbeth wrth ei fodd. Yr oedd fel Dr. Parry yn hyn: hoffai rannu'r ysbail ag eraill. Nid ydym mor ffol â chredu mai arallaeth (chwedl yntau) oedd hyn, ond myfïaeth—ymgais i fwyhau mwynhad personol drwy weld ei atgynhyrchu mewn eraill.

Byddai'r gwaith a wnelai yn ystod yr oriau hyn yn amrywio yn ol yr angen a'r achlysur. Byddai weithiau'n cyfansoddi pregeth neu draethawd, neu bryddest (o bwys); ond pan na byddai gwaith felly ar droed, byddai ganddo lyfrau mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth i'w darllen, a thaflen i weithio yn unol â hi. Wele enghraifft yn perthyn i'r adeg hon o lawer o daflenni tebig

1. O.T. and N.T. (Groeg).
2. Diwinyddiaeth:—Sabatier, Beyschlag, G. A. Smith.
3. Athroniaeth:—Green, Kant.
4. Barddoniaeth:—Browning, Shakespeare, Goethe.
5. Rhyddiaith:—Ancient Law, Hypatia.

Ceir y cyntaf (1) uchod yn y cwbl ohonynt, a'r un drefn yn wastad yn y meysydd darllen (sef Diwinyddiaeth yn gyntaf, etc.)—trefn sydd yn ddïau yn ddynodiadol o'u pwysigrwydd iddo ef. Fel rheol 1, 2 a 3 oedd ei feysydd pawr yn y bore, a 4 a 5 yn yr hwyr.

Yn un o'i anerchiadau i fyfyrwyr fe ddywed y gallent, "wedi astudiaeth galed am bedair awr, roddi awr ar ol cinio i ddarllen y newyddiadur "gyd â chydwybod dawel," ac awr arall i ymweld, a chyfuno hynny lle y gellir ag ymarferiad corfforol. Dyna'i arfer ef ei hun: buom gyd ag ef aml i dro ar y bryniau o gylch Bethesda, a gwnâi'r daith i fyny braidd yn wastad yn gyfleustra i alw ar hwn neu arall. Eto, mater o gydwybod, yn fwy nag o hyfrydwch, oedd ymweld iddo. Yn Lerpwl nid hir yr arhosai wrth unrhyw ddrws; gadawai ei gerdyn yn y bocs llythyrau ac ymesgusodai drwy ddywedyd "Fe wnaiff hwna'r un tro," a phwy a ŵyr nad oedd y preswylwyr hefyd o'r un farn! Diddorol yw ei fod mewn mwy nag un anerchiad yn pwysleisio'r angen: "Mae'n rhaid i weinidog," meddai, os am fod yn llwyddiannus, fod yn ymwelydd â'i bobl," ond " y mae eisiau doethineb, a morio'r cwch rhwng eithafion gormod urddas a gormod cyffredinedd."

Byddai'n ofalus o ymarfer corfforol. Âi yn weddol aml i ben Braichmelyn, neu un o'r bryniau lle y ceid golwg ar y Menai ac Ynys Môn. Oni chamsyniwn, derbyniodd awgrym a ddaeth imi oddiwrth Dr. Davies, Maesteg (drwy ei nai, Dr. Evan Davies), sef ei bod yn gryn help i hoen ac iechyd corff, yn ychwanegol at ymarferiad rheolaidd bob dydd, i gymryd taith fawr unwaith yn yr wythnos, neu fath arall ar ymarferiad, a fyddai'n gosod tipyn o dreth ar yr afu, ac yn gweithio i ffwrdd fater afreidiol o'r corff. Ar adegau felly—ac yn arbennig wedi bod yn anadlu foul air cwrdd mawr y Pasg neu ryw ŵyl arall—ni byddai'r Carneddi neu'r Tryfannau, neu "lwyd Elidir " yn rhy bell. Ar adegau fel hyn byddai'n fawr ei helynt i anadlu'n ddwfn" a rhoddi mantais i oxygen y bryniau yrru llygredd y llawr o gonglau pellaf yr ysgyfaint. Rai prydiau yn hoen y bannau ni byddai uwchlaw uno i wneuthur llinell o gynghanedd, ambell un reit dlos, a llawer o rai talcen slip, megis

Difyr ddyri dyfroedd oerion,

wrth glywed sŵn dŵr yn treiglo, a ninnau'n sychedig iawn; a

Bryniau lu mewn wybren las
A'u hozone am hosannas!


pan fethem ein cynnwys ein hunain gan

Y dognau pêr gymerwyd
O fir yr Elidir lwyd.


"Wedi yfed cwpanaid o de," meddai wedyn, "gellwch eistedd i lawr i ddarllen neu sgrifennu am ddwy awr hyd amser cyfarfod yr hwyr." Ni wastraffai ef yr oriau hyn, ond treuliai hwy gyd â "4" a "5" uchod. "Y bore i'r deall a'r hwyr i'r dychymig" oedd ei reol—fel y mae yn rheol natur—ar y cyfan.[3] Rai prydiau, bid siŵr, byddai llif ysbrydoliaeth y bore, wrth drafod rhyw bwnc, heb dreio, ac yntau heb dynnu'r hwyliau i lawr, ond fel rheol, eiddo'r celfau cain a'u hafiaith oedd yr oriau hyn. Cofiwn yn dda un gŵyl Nadolig (1892 efallai) a'r eira'n drwch ar y ddaear, pan ddaeth sypyn o emynau Saesneg oddiwrth Elfed i'w cyfieithu ar gyfer Y Caniedydd (cyntaf); a bod Mr. Gladstone tua'r pryd hwnnw wedi dywedyd "True beauty is the beauty of expression, not of features," ac i ninnau ddarganfod, wrth dreio cyfieithu (nid oeddym wedi treio'n llaw rhyw lawer ar y gwaith yn flaenorol) mai'r prif beth—a'r prif anhawster—yw cyfieithu "expression" emyn yn fwy na'i "features"—ei ysbryd a'i awyrgylch yn fwy na'i lythyren. Cymeradwywn hyn i sylw'n golygyddion emynyddol, gan fod rhai wedi ymddangos oddiar hynny sydd yn fwy cywir i lythyren y gwreiddiol na'i ysbryd. Ond gwaith yr oriau "ar ol cwpanaid o de" ac eilwaith "ar ol y cwrdd" oedd hyn iddo ef. Gwnelai y rhan a syrthiai iddo ef o olygyddiaeth Y Caniedydd yn ofalus, a rhagor; oblegid pan fethai Mr. D. Emlyn Evans a chael gan Ddewi Ogwen, a Dewi Môn, ac Elfed ddyfod i'r rhyd nac i'r bont—y ddau Ddewi'n ddïog ac Elfed yn ddiwyd—troai at Adams mewn ymfflamychiadau fel hyn: "Y mae eich brodyr barddol yn byw ym myd y breuddwydio; yn ol yr hen recipe y cyntaf peth i'w wneuthur ynglyn â choginio sgwarnog oedd ei dal hi; ond yr ydym ni yn fwy clefar yn yr oes olau hon,"—am iddynt ddywedyd "Yr ydym bellach wedi gorffen ein gwaith" ar ei hanner; a chaffai fel rheol bob help gan Adams i "ddal y sgwarnog."

Yr oedd bob amser yn ffyddlon i gyfarfodydd yr wythnos, ym Methesda a Thŷ'nymaes. Heblaw hyn, dengys ei ddyddiadur ei fod yn aml yn y Chwarel Goch, Carmel, Amana, etc. Nid esgeulusai ychwaith y gwahanol bwyllgorau yr oedd yn aelod ohonynt, megis rhai'r Ysgol Sir ac Ysgol y Bwrdd. Dyma enghraifft o wythnos yn Nhachwedd, 1894 (rhoddwn un lawn er mwyn dangos natur a chylch ei ymrwymiadau):

Dydd Llun, 8.0 p.m.: Committee Cefnfaes B.S.
Mawrth, 6.30 p.m. Seiat
Mercher, 6.30 p.m. Chwarel Goch.
Iau, 6.30 p.m. Bible Class.
Gwener 6.30 p.m. Pwyllgor yr Ysgol Sul.


Treuliai'r amser wedi swper mewn ymddiddan â ffrindiau, neu i ddarllen stori, etc., ac âi i orffwys yn brydlon" gyd â chydwybod dawel" wedi diwrnod llawn o waith.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Y mae gweithio'n weddio."
  2. "Y mae gweddio'n weithio."
  3. 1 In sober mornings, do not thou rehearse
    The holy incantation of a verse;
    But when that men have both well drunk and fed
    Let my enchantment then be sung or read.
    When laurel spirts i'th' fire and when the hearth
    Smiles to itself and guilds the roof with mirth;
    . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
    When the rose reigns, and locks with ointment shine
    Let rigid Cato read these lines of mine.—HERRICK.