Cofiant y Parch David Adams (Hawen)/Dylanwad ar Ddiwinyddiaeth Cymru
| ← Yr Athronydd a'r Diwinydd | Cofiant y Parch David Adams (Hawen) gan Evan Keri Evans a William Pari Huws |
Y Bardd a'r Beirniad → |
XIX. DYLANWAD MR. ADAMS AR DDIWINYDDIAETH CYMRU.
GAN Y
PRIFATHRO T. REES, M.A., Ph.D.
YN ystod y ganrif ddiweddaf, cychwynnodd datblygiad newydd mewn diwinyddiacth, a olyga yn y pendraw chwyldroad llwyrach yn hanes meddwl crefyddol na dim a ddigwyddodd wedi ymddangos Iesu Grist. Ymryddhaodd Ef o hualau meddwl cyn—oesoedd Ei gylchfyd, a llefarodd yn eglur am y Tad a'r bywyd mabol fel profiad gwir a syml. Ond buan y syrthiodd Ei ddilynwyr yn ol o dan iau rhagdybiau meddyliol y byd cyn Crist, a gwnaed Cristnogaeth yn gyfundrefn o gredoau a dogmâu awdurdodol ac "anffaeledig," a gynhwysai fwy o ormes meddyliol yr hen fyd nag o'r " rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni." Am ddeunaw canrif, gosodwyd Cristnogaeth gerbron y byd fel cyfundrefn o ddogmâu anffaeledig, i'w derbyn ar awdurdod allanol, yn hytrach nag fel bywyd ac ysbryd i'w hadnabod a'u profi'n uniongyrchol. Y mae'n wir na lwyr fygwyd y profiad Cristnogol gan y gyfundrefn allanol, ar unrhyw adeg, hyd yn oed yn yr Oesoedd Canol. Ac yn y Diwygiad Protestanaidd, torrodd allan am dro yn llifeiriant grymus a addawai ysgubo ymaith yn llwyr yr holl gyfundrefn ddogmataidd a fygythiai ei lethu. Ond er i'r diwygwyr Protestanaidd eu plannu eu hunain a'u gwaith fel diwygwyr ar y profiad Cristnogol, a gwrthod honiadau mwyaf anghyfiawn y Babaeth fel awdurdod allanol, ni ddyfeisiasant unrhyw gyfundrefn na ffordd o feddwl a gweithredu a wnâi'r profiad Cristnogol yn sylwedd a safon gyffredinol a pharhaus gwirionedd a bywyd. Am hynny, llithrodd Protestaniaeth yn ol yn yr ail genhedlaeth i'r syniad mai cyfundrefn o ddogmâu o awdurdod allanol oedd Cristnogaeth.
Ond yn ystod y 19 ganrif daeth egwyddor y Diwygiad i weithrediad mwy rheolaidd a chyffredinol, gan ddwyn dogmâu a sefydliadau i braw ffaith a hanes. Gweithiodd yn arbennig ar hyd dwy linell Gwyddoniaeth a Hanesiaeth. Dysgasai Francis Bacon mai'r ffordd i adnabod ac esbonio natur oedd sylwi ar ei gweithrediadau hi ei hunan, ac nid gwau dychmygion amdani ar sail rhagfarnau traddodiadol. Yn ddiweddarach dygwyd yr un ysbryd i ymchwiliadau hanesyddol o bob math. Yn arbennig canfuwyd mai un amod anhepgor gwybod beth yw gwirionedd Cristnogaeth ydoedd mynd yn ol at ffeithiau ei hanes. Allan o'r ymchwiliad hwn y cododd beirniadaeth hanesyddol ar lenyddiaeth yr eglwys ac ar y Beibl. Diau y dyfeisiwyd llawer tyb na ddaliai'r praw, megis eiddo Strauss ac F. C. Baur, ond rhan oedd hynny o'r ymdrech a'r ymchwil am ben ffordd hanes. Ac yn raddol darganfuwyd prif linellau hanes crefydd yn yr Hen Destament a'r Testament Newydd, yn ogystal ag yn y Tadau bore, gyd a chymaint sicrwydd ag a ellir ei gael mewn hanes. Gwaith arafach a fu dwyn yr athrawiaethau Cristnogol wyneb yn wyneb â ffeithiau byd a bywyd fel eu dadlennir mewn gwyddoniaeth heddiw, a gwaith nad yw eto ond wedi ei ddechreu.
Er hynny, o ddyddiau Schleiermacher yn nechreu'r ganrif ddiweddaf i lawr, y mae'r ysbryd a'r dull gwyddonol wedi treiddio fwyfwy i ddiwinyddiaeth, a chydnabyddir heddiw nad oes sylfaen safadwy i athrawiaeth Gristnogol ond y profiad Cristnogol yn ei berthynas â phrofiad cyffredinol dynion o'r byd i gyd. Cychwynnodd y mudiadau hanesyddol a gwyddonol mewn diwinyddiaeth, felly, yn yr Almaen ryw ganrif a chwarter yn ol. Yn araf y treiddiasant i Loegr. Cyhoeddodd Dr. Samuel Davidson ei Introduction to the New Testament yn 1848-51.
Yn 1860 yr ymddangosodd Essays and Reviews, ac yn 1881 y cyhoeddodd W. Robertson Smith ei Old Testament in the Jewish Church. Ond fel y bu yn y Diwygiad Protestanaidd, yr oedd Cymru genhedlaeth ar ol Lloegr yn deffro i'r datguddiad newydd. Bu Dr. Rowland Williams (un o awduron Essays and Reviews) yn athro yn Llanbedr, ond ni wyddys i ddim o ddylanwad ei ddysgeidiaeth gyrraedd meddwl Cymru. Dysgai Dr. Vance Smith egwyddorion beirniadaeth Feiblaidd yng Nghaerfyrddin o 1876 ymlaen, a gadawodd argraff ryddfrydig ar feddyliau llawer o'i ddisgyblion, ond nid ymddangosodd dim o'i ddylanwad yn llenyddiaeth Cymru.
Cynrychiola Traethodau Diwinyddol Dr. Lewis Edwards y goreu o lenyddiaeth ddiwinyddol Cymru hyd drydedd chwarter y ganrif ddiweddaf, ond o ran dylanwad beirniadaeth a gwyddoniaeth arnynt, gallasent fod wedi eu hysgrifennu unrhyw adeg rhwng y ddeuddegfed a'r ddeunawfed ganrif, ag eithrio'r ymosodiadau ar Annibyniaeth.
Rhydd ychydig ddyfyniadau ohonynt inni syniad am y sefyllfa ddiwinyddol yng Nghymru, yn union cyn dyddiau Mr. Adams:
"Yr oedd yr Hen Destament yn ddadguddiad perffaith o Dduw yn Ei gyfiawnder a'i drugaredd yn Ei gyfiawnder fel Deddf—roddwr yn gofyn ufudd—dod, ac yn cosbi am anufudd—dod; ac yn ei drugaredd yn rhoddi hysbysrwydd mynych am drefn i faddeu, ynghyd ag arddangosiad trwy gysgodau pa fath oedd yr Iawn i fod—trwy yr hwn, cyn dyfod Crist yn y cnawd, yr oedd maddeuant o'r pechodau a wnaethid o'r blaen trwy ddioddefgarwch Duw." (t. 38—9).
Yr oedd "y pedair Efengyl yn berffaith gyson â'i gilydd" (t. 228). Ar ysbrydoliaeth y Beibl, daliai "fod cyfarwyddyd yr Ysbryd Glân yn cyrraedd nid yn unig at y meddyliau, ond hefyd at y geiriau." Ni chaniata "fod rhyw rannau o'r Ysgrythyr yn fwy ysbrydoledig na'r lleill" (t. 553). Mewn nodiad diweddarach ychwanega hefyd "nad yw erbyn hyn yn gweled cymaint o bwys yn ysbrydoliaeth y geiriau" (t. 567). Deil "nad yw y meddyliau mwyaf caredig am y natur ddynol yn cau allan yr athrawiaeth o'i hollol lygredigaeth" (t. 167). "Nid yw y Beibl yn gwneuthur yr un gwahaniaeth rhwng plant a rhai mewn oedran. . . . "Y mae lliaws o Ysgrythyrau penodol yn dangos fod pob oedran yn ddiwahaniaeth wedi syrthio yn yr un cwymp " (t. 168).
Y mae'r ddysgeidiaeth am y gwyrthiau mor beiriannol ag eiddo Paley:—
"Y mae (gwyrth) yn wahanol i drefn gyffredin y Creawdwr. Nid amlygiad newydd ydyw o rai o ddeddfau natur, ond digwyddiad sydd yn croesi holl ddeddfau "natur. . . Nid yn unig y mae pob gwyrth yn newidiad ar ddeddf y Creawdwr, ond y mae, wrth edrych arni yn ei chysylltiad â natur, yn gwrthdaro yn erbyn egwyddorion sylfaenol pob gwybodaeth naturiol yn ein meddyliau ni ein hunain " (t. 346).
Dyna ddigon i ddangos bod diwinyddiaeth Cymru, ar ei goreu, hyd dros ganol y ganrif ddiweddaf, heb deimlo un chwa o'r ysbryd gwyddonol a hanesyddol oedd yn deffro meddwl Ewrop i adnabyddiaeth newydd a llawnach o Dduw ac o'i fyd.
Ac yn wyneb y sefyllfa hon y mae'n briodol inni geisio barnu gwaith a dylanwad Mr. Adams ym maes diwinyddiaeth. Un anhawster heddiw i werthfawrogi ei lafur ydyw fod yr ysbryd newydd wedi dyfod i mewn i Gymru fel llanw'r môr yn ystod rhan olaf ei fywyd ef, ac i raddau mawr fel ffrwyth ei ymdrechion ef; a'r athrawiaethau "dieithr "a ddysgai ef unwaith, erbyn hyn yn rhai a dderbynnir yn gyffredin, a'r llanw wedi codi cyfuwch fel yr oedd yntau cyn diwedd ei oes yn un o geidwaid y ffydd." Ond er hynny, hyd y gwn i, efô oedd arloeswr yr ysbryd newydd yn niwinyddiaeth Cymru. Ped ysgrifenasai Dr. Thomas Charles Edwards fwy yn Gymraeg, dïau y buasai wedi dwyn y safbwyntiau newydd i amlygrwydd, a dïau hefyd bod Mr. Adams yn ddyledus iddo ef am ei ysbrydiaeth gyntaf. Ond yr Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid oedd unig gyfraniad Dr. T. C. Edwards i ddiwinyddiaeth Cymru, a'r unig "heresi " a allai fod yn hwnnw oedd nad Paul a ysgrifennodd y llyfr.
Ond wynebodd Mr. Adams o bryd i bryd ar y rhan fwyaf o broblemau byw diwinyddiaeth, a hynny gyd â meddwl rhydd, agored, na fynnai wasanaethu un amcan na buddiant ond y gwirionedd. Mewn un ystyr, nid oedd yn ddiwinydd o gwbl. Nis magwyd ef yn un o ysgolion y proffwydi." Efallai bod hynny wedi ei achub rhag cau pen ei fwdwl (chwedl yntau) yn rhy gynnar. Ond anfantais oedd y bu'n rhaid iddo ffeindio'i ffordd ei hunan i gyd ym maes diwinyddiaeth. Nid oedd yn agos mor gyfarwydd â hanes diwinyddiaeth, a'i disgyblaeth hanesyddol, ag oedd ym maes athroniaeth. Ei duedd, gan hynny, oedd wynebu problemau diwinyddiaeth fel athronydd yn hytrach nag fel diwinydd, ac ymresymu oddiar ychydig gynseiliau cyffredinol yn hytrach na cherdded yn araf a gofalus trwy holl fanylion hanes profiad ac athrawiaeth grefyddol. Ac am hynny hefyd bu'n fwy llwyddiannus yn cymhwyso egwyddorion gwyddonol y byd newydd at broblemau diwinyddiaeth nag y bu yn defnyddio beirniadaeth ac yn olrhain hanes.
I
Ei lyfr cyntaf oedd Traethawd ar Ddatblygiad[1] yn ei berthynas a'r Cwymp, yr Ymgnawdoliad a'r Adgyfodiad. Efallai mai gwell fuasai bod Mr. Adams wedi dewis ei destun ei hunan, ond efallai hefyd fod cefnogaeth pwyllgor eisteddfod yn help y pryd hwnnw i fentro ar faes mor newydd i Gymru â pherthynas Datblygiad a Chrefydd. Yr oedd dysgeidiaeth Darwin wedi bod gerbron y byd, fel dysgeidiaeth wyddonol, yn ymdrin â chwrs y byd allanol, am genhedlaeth gyfan, eithr ychydig iawn a ddywedasai ef am ei pherthynas â chwestiynau moes a chrefydd. Ond yr oedd Herbert Spencer, T. H. Huxley, Haeckel, ac eraill, wedi tynnu casgliadau oddiwrth athrawiaeth Datblygiad a dueddai i wanychu awdurdod a gwerth moes a chrefydd, os nad i'w ddileu. Mewn gwrthgyferbyniad, mynnai llawer o amddiffynwyr crefydd felly nad oedd dim i'w wneuthur ond gwrthod athrawiaeth Datblygiad, neu o leiaf wadu bod dim a fynnai hi â bywyd ysbrydol dyn. Ond cystal fuasai ceisio atal llanw'r môr ag ysgubell gawn. Yr oedd rhai ysgrifenwyr Saesneg, megis A. M. Fairbairn a'r brodyr Caird, wedi wynebu'r ffeithiau, a chanfod mai gosod y bywyd ysbrydol mewn goleu cliriach a wnâi athrawiaeth Datblygiad, yn hytrach na'i ddileu. Ond yn 1899 y cyhoeddodd James Ward ei Naturalism and Agnosticism, a roddodd derfyn ar y dyb fod gwyddoniaeth yn nhermau Datblygiad yn cau allan Dduw a byd ysbrydol. Felly ymunodd Mr. Adams â mintai gyntaf y rhai na fynnai osgoi'r broblem na llechu mewn deuoliaeth a adawai fyd crefydd a byd gwyddoniaeth ar wahân, ond a gredai fod y byd yn un gyfundrefn resymol, ac y gellid cysoni tystiolaeth y profiad crefyddol â ffeithiau gwyddoniaeth. Yn y cyfnod hwn yr oedd ei hyder yn ddiderfyn yn hawl a gallu rheswm i fod yn gyfrwng datguddiad y gwirionedd, ac i wasanaethu'r bywyd crefyddol.
Un yw gwirionedd yn ei darddiad dwyfol. Mae pob gwirionedd yn y diriogaeth ddiwinyddol yn gyson â gwirioneddau diamheuol gwyddoniaeth ac athroniaeth" (Datblygiad 31).
Ni phetrusa, gan hynny, dderbyn ffeithiau profedig gwyddoniaeth, ac fe dderbyn athrawiaeth Datblygiad "fel eglurhad lled foddhaol" ar ddull a modd (ond nid ar achos) y byd a phopeth y sydd ynddo. Eithr cred hefyd "y gellir cael tir canol, lle y caniateir i ddyn gyd â chysondeb rhesymegol ddal gafael yn nysgeidiaeth y Beibl, ac eto fabwysiadu gwirioneddau profedig 'Datblygiad,' tra'n edrych ar y ddamcaniaeth o safbwynt Ddwyfyddol (Theistic)." (ib. 21). Y pwnc pwysig ydyw, nid pa fodd y daeth dyn i fod yr hyn ydyw, ond ei fod yn awr yn' greadur byw, ymwybodol, rhesymol, moesol ac ysbrydol, yr hyn a ragdybia weithrediad Duw ym mhob peth.
Gwrthyd, felly, syniadau datblygwyr materol a wnâi natur foesol dyn, ei rinwedd a'i bechod, yn gynnyrch ei gylchfyd yn gweithio ar ei deimladau hunanol. A deil fod athrawiaeth draddodiadol y Cwymp yn fwy cyson â datblygiad materol ac â'r syniad "nad yw dyn ond anifail o rywogaeth uchel," nag ag unrhyw syniad ysbrydol neu ddelfrydol am ddynoliaeth. Mabwysiada yntau athrawiaeth Datblygiad ond yn nhermau Delfrydiaeth, fel y ffurf ar dyfiant graddol natur foesol ac ysbrydol dyn, o lefel yr anifail i lefel y dwyfol, a gwêl y Cwymp fel un o amodau'r Esgyniad, ac esbonia'r hyn a elwir yn hanes y Cwymp yn ffigyrol neu allegol, "fel cynnyrch awen ysbrydoledig Moses, neu ryw fardd Hebreig arall." Mewn gwirionedd, priodola i Moses gyfundrefn o syniadau a ddengys fwy o ol dylanwad Hegel na neb arall. Gwrthyd y syniad (nas dysgir yn Genesis) fod Adda wedi ei greu yn berffaith mewn deall a chymeriad, am y rheswm da na cheir cymeriad moesol ond trwy arfer rhyddid a dewis mewn gweithrediad moesol. "Gwaith dyn yn dihuno o gwsg y bywyd anifeilaidd i ymwybyddiaeth o'r elfen ddwyfol ac anfeidrol sydd hefyd ynddo " (ib. 42) a grea amodau pechod a chwymp. Brwydr yw pechod, yn gyntaf rhwng nwydau dyn a'i reswm, rhwng yr anifail a'r dwyfol yn ei natur; ond yn ail, brwydr ydyw o fewn personoliaeth a fedd ewyllys rydd, a honno'n gwrthryfela yn erbyn awdurdod briodol Duw. Ac y mae dyn yn byw o dan amodau a bair" fod gwneuthur camgymeriadau a dangos ffolinebau a chyflawni pechodau yn canlyn ei nodweddion cyfansoddiadol megis o angenrheidrwydd " (ib. 47). Yr oedd yr hyn a gamenwir yn Gwymp' yn foddion angenrheidiol, yn gam ar i fyny, yr oedd yn rhaid i ddyn ei gymryd er dechreu sylweddoli y posibilrwydd o fai a rhinwedd oedd yn gorwedd yn gudd yn ei natur " (ib. 64). Gwrthodir athrawiaethau'r " Llwgr Gwreiddiol "a" Chyfrifiad" deddfol o bechod Adda i'w hiliogaeth, am eu bod yn gwneuthur pechod yn beth rhy beiriannol ac allanol, ac am y gwnânt gam â phersonoliaeth foesol a rhyddid ewyllys dyn. Cyfrifir am lygredd a dioddefaint cyffredinol dynion mewn rhan fel effaith undeb organaidd y teulu, ac mewn rhan fel disgyblaeth Duw ar ddyn i'w berffeithio. Er y gosodir pwys mawr ar ryddid yr ewyllys, cyfrifoldeb personol, a drwg pechod, gwendid y rhan hon o'r athrawiaeth, er hynny, ydyw ei thuedd i wneuthur pechod yn rhan o gwrs angenrheidiol Datblygiad. Ni chedwir yn glir y gwahaniaeth rhwng amodau posibilrwydd pechod a phechod ei hunan. Dïau y gorwedd posibilrwydd cwymp a phechod yn natur foesol dyn, ac y deilliant yn y gwraidd o natur ysbrydol Duw, ond nid y cwymp a phechod ei hunan neu ynteu peidiai â bod yn bechod. Cario'r syniad o unoliaeth a datblygiad cyson yn rhy bell oedd gosod y Cwymp ar yr un tir â'r Ymgnawdoliad fel cwrs angenrheidiol datblygiad y bywyd ysbrydol. "Ceisiasom wneuthur i ffwrdd â'r syniad o ddigwyddiad (contingency) ynglŷn â'r Cwymp ac â'r Ymgnawdoliad, a dwyn i mewn angenrheidrwydd hanfodol yn ei le." Brwydro yn erbyn Calfiniaeth y mae, a dymchweliad y syniad o Benarglwyddiaeth Duw fel Brenin " a gorseddu yn ei le "Angenrheidrwydd moesol Cariad cyfiawn Tad" (ib. 95). Y mae'n haws gosod hunan—ddatguddiad Duw a'r Ymgnawdoliad, a byw a marw Iesu Grist yn nhermau'r fath angenrheidrwydd, na pheth mor groes i ewyllys a bwriad Duw ag yw pechod.
Mabwysiada'r athrawiaeth Hegelaidd am y Drindod yn gyflawn:
"Y mae Hanfod Duw fel Ysbryd Anfeidrol yn rhagdybied gwahaniaethau o angenrheidrwydd yn yr "Hanfod Ddwyfol . . . Y mae Hanfod Duw fel Ysbryd, sydd yn ei gael ei hun yn arall, neu fel Cariad, a fyn fynd allan o hono ei hun i arall, yn golygu fod yna "wahaniaethau cymeriadol yn ffurfio Trindod erioed ac o angenrheidrwydd . . . Y mae y syniad o Dad a Mab, ac Ysbryd Glân yn deillio o'r ddau, yn gyfrwng cymundeb rhyngddynt, a thrwy hynny yn gwneuthur cymdeithas yn bosibl, yn ganlyniad anocheladwy y perffeithrwydd sydd yn anwahanol gysylltiedig â'n syniad am Dduw " (ib. 91).
Felly, hefyd, y mae'r Ymgnawdoliad yn gynnyrch naturiol hunan—ddatguddiad Duw. "Os yw y cread yn ddatguddiad o fywyd Duw, yna y mae Ei ymgnawdoliad yn Iesu yn gwbl naturiol" (ib. 75). Gwâd y dibynnai'r Ymgnawdoliad ar y Cwymp, neu "mai anghenion llywodraeth foesol Duw ar y byd a alwodd am yr Ymgnawdoliad er galluogi Iesu i farw yn Iawn dros bechodau dynion " (ib. 90). Yn hytrach yr oedd yn rhaid i gariad Duw ymgnawdoli i'w sylweddoli ei hunan, ac ni wnaeth pechod ond cryfhau'r angenrheidrwydd, fel y gallai'r cariad hefyd achub dynion trwy ei ddylanwad moesol arnynt a'i ddatguddiad iddynt. Pwysleisir bod "dirgelwch anolrheiniadwy" ynglŷn â'r 'Iawn' ac â pherthynas y Tad a'r Mab,
Ond gallwn yn hawdd ddeall fod yr Ymgnawdoliad yn Iesu, o ran Ei fywyd a'i farwolaeth, yn rhoddi bodlonrwydd (satisfaction) i Dduw, nid yn gymaint yn y cymeriad o Frenin yn cynrychioli hawliau cyfiawnder dialeddol, ond yn y cymeriad o Gariad Cyfiawn yn Dad a Brenin,—pan oedd yn gweld ei Sant Fab Iesu yn sylweddoli posibilrwydd eithaf y natur ddynol . . . yn llawn ddatguddio natur hanfodol y Duwdod fel Cariad Cyfiawn" (ib. 94).
Swm athrawiaeth Datblygiad, gan hynny, yw bod gweithgarwch Duw yn y cread yn codi'n gyson a difwlch o radd i radd o fywyd, nes cyrraedd ei ffurf uchaf, perffeithrwydd moesol, ym mywyd Iesu o Nasareth (ib. 100). Nid yw'n anodd ar y tir hwn felly ddangos yr angenrheidrwydd am anfarwoldeb dyn. Y mae ei werth anfeidrol fel delw Duw ac amcan terfynol y cread yn hawlio gan gariad a gallu Duw ei fod i barhau am dragwyddoldeb i sylweddoli ei ddelfrydau a'i ddyheadau. Ond pa le ac ystyr y sydd i farw yn y fath gyfundrefn â hon? Ymddengys bod yn rhaid i ddyn wrth gorff cyfaddas i fod yn gyfrwng gweithrediad ei ysbryd, nid yn unig yn y bywyd presennol, ond hefyd yn ei fywyd anfarwol. A dengys atgyfodiad Crist fel y trawsffurfir y corff materol trwy farw yn gorff ysbrydol a fydd yn gyfrwng addas y bywyd anfarwol. Felly "nid yw marw ond telerau y rhaid cydymffurfio â hwy er sicrhau gweithgarwch y bywyd sydd ynom mewn ffurf newydd a rhagorach" (ib. 119).
Yn ei ddamcaniaeth am y corff ysbrydol" gedy'r gwyddonwyr a'r athronwyr ar ol, a thybiaf y gwelir yma dipyn o ddylanwad Swedenborg. Yng nghyfnod Hawen, daeth i gydnabyddiaeth â syniadau'r cyfrinydd hwnnw trwy ei gyfeillgarwch â'r Parch. William Rees, Llechryd. Ond nid oedd hynny ond cario gam ymhellach y duedd a ddaethai iddo o ddelfrydiaeth Hegel i droi popethpechod, drwg a marw—yn agwedd ar ddatblygiad rheswm. Tuedd naturiol Mr. Adams, a dylanwad ei draddodiadau Annibynnol, fuasai pwysleisio'r unigol, yr amrywiol, rhyddid a phersonoliaeth, a hynny a wnâ mewn llawer brawddeg, ond yn y cyfnod hwn Hegel a orfu, ac ar y cyfan datblygiad hanfodol, angenrheidiol, llyfn a chyson rheswm yw ei gyfundrefn ddiwinyddol (ib. 70—71). Cyn diwedd ei oes, fel y cawn weld eto, mynnodd yr elfennau eraill fwy o le.
Ond diddordeb pennaf y ddysgeidiaeth hon heddiw yw, nid ei newydd—deb na'i digonolrwydd, ond y dengys fod Mr. Adams wedi ennill iddo'i hunan, ac i Gymru, safbwynt annibynnol, rhydd o gaethiwed traddodiadau, i ail feddwl a dehongli ystyr Cristnogaeth mewn termau cyfaddas i'w oes. Gwaredodd grefyddwyr Cymru rhag y dychryn bod cynnydd gwyddoniaeth a lledaeniad athrawiaeth Datblygiad yn bygwth sylfeini Cristnogaeth. Dangosodd i'r oes newydd nad oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng Cristnogaeth a diwylliant. Agorodd i'r diwinyddion y ffordd i holl faes gwybodaeth, a dangosodd iddynt fod holl arfau byd y meddwl at eu gwasanaeth. I'r rhai a'i dilynodd, enillodd yn ol oddiar anwybodaeth, rhagfarn a chaethiwed traddodiadau, ddarn helaeth o etifeddiaeth y gwirionedd y sydd yn rhyddhau.
II.
Rhagdybiai'r holl ddysgeidiaeth hon wrthod yr athrawiaeth draddodiadol am ysbrydoliaeth lythrennol ac anffaeledig y Beibl. Beirniedir a dehonglir y Beibl o safbwynt yr athroniaeth am wirionedd Cristnogaeth yn nhermau Datblygiad. Yn y traethawd ar "Ddatblygiad " cyfeiria droeon at yr anhawster i gymryd y Beibl—ac yn arbennig yr hanes am y Cwymp yn Genesis—yn llythrennol. Ar yr un pryd, credai fod y gwirionedd yn ei ffurf derfynol yn y Beibl, ond "torri trwy y llythyren at yr ysbryd sydd yn disgleirio yn ei santeiddiolaf " (t. 93). Ei duedd yw syrthio'n ol ar hen ddull Alecsandria o esbonio'r Beibl fel alegori neu farddoniaeth.
"Pan fyddom yn datgan amheuaeth o wirionedd llythrennol y darluniadau uchod (o'r atgyfodiad) a'u cyffelyb, y mae perigl i'r anochelgar dynnu y casgliad ein bod yn gwrthod y Beibl fel llyfr ysbrydoledig, ac yn priodoli anwybodaeth neu gyfeiliornad gwirfoddol i'w ysgrifenwyr. Yr ydym droeon yn y traethawd hwn wedi rhoddi y darllenydd ar ei ocheliad i wahaniaethu rhwng gwirionedd barddoniaeth neu arwyddluniaeth ar un llaw, a gwirionedd ffaith hanesyddol ar y llaw arall" (t. 125).
Nid oes yn hyn un arwydd ei fod eto wedi sylweddoli dim o ystyr egwyddorion beirniadaeth hanesyddol. Ni welsai fod y Beibl yn gynnyrch llenyddol ei oes a'i gylchfyd o ran ei ystyr yn ogystal â'i ffurf, a bod datblygiad hanesyddol yn y syniadau a gyfleir ynddo.
Yn ei lyfr nesaf, Paul yng ngoleuni'r Iesu, a gyhoeddwyd yn 1897, gwelir ei fod wedi wynebu rhai o broblemau beirniadaeth, nid gyd â manylder yr hanesydd eto, ond fel yr oedd a wnelent â gwirionedd y prif athrawiaethau Cristnogol. Anturia'n awr godi'r cwestiwn "A oes yma awdurdodau uwch yn bod na'r ysgrifeniadau (sef epistolau Paul) y ceisir eu beirniadu ac yr amheuir cywirdeb rhannol eu dysgeidiaeth?" (t. 9). Ac atebir "fod yn bosibl i Ysbryd y Gwirionedd gario Datguddiad i fwy o gywirdeb a chyflawnedd eto, a hynny drwy gymorth y Beibl a'r Eglwys i'r graddau y maent o ran eu gwirioneddau a'u hysbryd yn gorfforedig yn mywydau Cristionogion y cyfnodau diweddar hyn " (t. 24). Braidd yn anghyson â'r awgrym o gynnydd parhaus datguddiad yw'r safon gwirionedd a fabwysiedir, sef myned "yn ol heibio'r Apostolion eu hunain at Iesu ei Hun, Ffynhonnell ysbrydoliaeth pob athro a sant, ac apostol " (t. 37). Ac y mae'n eglur mai Crist yr Efengylau, Crist hanes a olyga. Y mae rhagoriaeth y datguddiad trwy Iesu Grist ar eiddo Paul i'w briodoli i ragoriaeth person Crist. Y mae " gwirioneddau datguddiedig yn tyfu, megis o ddaear cymeriad moesol y proffwyd neu'r apostol, yn hytrach na chael eu tywallt iddo fel dwfr i lestr " (t. 52). Ac y mae natur foesol berffaith Iesu Grist " yn medru adlewyrchu gwirioneddau o barthed i'r natur Ddwyfol a'r natur ddynol gyd â mwy o gywirdeb nag y gallai cymeriad arall llai perffaith ei wneuthur " (t. 54).
Ar y sail hon aiff y llyfr yn ei flaen i feirniadu dysgeidiaeth Paul yn lled-lym; ei ddull Rabinaidd o esbonio'r Hen Destament; anghysondeb ei ddysgeidiaeth am y ddeddf, yn cydnabod ei gwerth yn yr Epistol at y Rhufeiniaid, ond yn y ddadl â'r Galatiaid yn colli golwg ar ei gwasanaeth fel athro at Grist; ei syniad isel am y rhyw fenywaidd; ei ddysgeidiaeth o barthed i awdurdod ddwyfol brenhinoedd; deuoliaeth cnawd ac ysbryd a llygredigaeth hollol y pechod gwreiddiol; cyfrifiad pechod a haeddiant; y syniad camarweiniol fod marwolaeth naturiol yn ffrwyth pechod Adda; penarglwyddiaeth ddiamodol Duw; mabwysiad cyfreithiol; ffydd oddefol a chyfiawnhad deddfol; a'r athrawiaeth ddirprwyol a masnachol am yr Iawn.
Dïau y cytunai efrydwyr y Testament Newydd heddiw fod y rhan fwyaf o'r feirniadaeth hon ar syniadau Paul yn gywir ar y cyfan. Ond nid rhyfedd ychwaith oedd i'r llyfr godi tipyn o storm pan gyhoeddwyd ef. Yr oedd yn her i lawer o athrawiaethau traddodiadol, ac i'r syniad cyffredin am awdurdod allanol y Beibl. Cododd hefyd dipyn o annealltwriaeth o ddiffyg yn y llyfr ei hunan. Ni wahaniaetha'n glir a manwl rhwng dysgeidiaeth Paul a'r camddefnydd a wnaethai diwinyddion diweddarach ohoni. Ac yr oedd y feirniadaeth bron yn hollol negyddol, heb nemor ddim ymgais i werthfawrogi gwasanaeth digymar Paul i feddwl a bywyd yr eglwys. A chodai'r diffygion hyn o fod yr awdur wedi dyfod at ei waith fel rhesymegwr heb fod ganddo ond ychydig o ymwybyddiaeth yr hanesydd. Geilw Baul gerbron llys barn a syniadau diwedd y 19 ganrif, yn hytrach na cheisio'i ddeall yn ei le a'i gysylltiadau ym mywyd y ganrif gyntaf. Yr oedd y llyfr yn dra diffygiol fel dehongliad o'r Apostol; yr oedd yn debycach i feirniadaeth eisteddfod na gwerthfawrogiad hanesyddol o un o bersonau creadigol bywyd yr Eglwys. Ond cyflawnodd wasanaeth pwysicach nag esbonio Paul. Torrodd yn ganddryll, y tuhwnt i adferiad, yr athrawiaethau traddodiadol am awdurdod allanol, beiriannol llythyren y Beibl, hyd yn oed ysgrifeniadau Paul. Bu llawer o feirniadu ar y llyfr, ac yr oedd yn agored i feirniadaeth, ond ni chynhygiai neb mwyach adfer awdurdod anffaeledig na llyfr nac athrawiaeth dros ysbryd dyn yn ei berthynas â Duw. Bu'n rhaid i grefyddwyr Cymru o hyn allan chwilio am awdurdod crefyddol grymusach ac effeithiolach ym mherthynas fywiol Crist â'u hysbryd oddimewn. Yn ei lyfr diweddaf, Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar (Merthyr Tydfil, 1914), symuda Mr. Adams yn eglur trwy Grist hanes at y Crist byw, mewnol, fel sylfaen ac awdurdod bywyd parhaus yr eglwys. "Ar y gred fod yr Iesu yn Grist, Mab y Duw byw, a bod ffydd ynddo yn Ei ddwyn trwy ei Lân Ysbryd i breswylio'n weithgar ymhob credadun—ar y gyffes hon, ar y profiad personol hwn, fel ar graig sefydlog a chadarn, y sefydlir yr Eglwys Gristnogol (tt. 52—3).
III.
Yr oedd datblygiad meddwl Mr. Adams yn ei gyfnod diweddaf yn enghraifft dda o'r dywediad mai'r galon a wnâ'r diwinydd. Er cryfed ei alluoedd rhesymegol, er cymaint ei ddiddordeb mewn gwybodaeth fel y cyfryw, ac er dyfned yr argraff a wnaeth yr athroniaeth Hegelaidd arno yn nechreu'i oes, nodwedd arbenicaf ei feddwl a'i ysbryd oedd ei angerdd moesol. Ei sêl dros sobrwydd a phurdeb, dros gyfiawnder a chariad ymarferol, oedd nodwedd amlycaf ei bregethu ar hyd ei oes. Daw'r un egwyddor i'r golwg fwyfwy yn ei ysgrifeniadau. Gwraidd ei elyniaeth anghymodlawn yn erbyn Calfiniaeth, Penarglwyddiaeth, Cyfrifiad, Iawn dyhuddol, Cyfiawnhad deddfol, oedd ei ofn eu bod yn torri o dan seiliau moesoldeb, yn dinistrio cyfrifoldeb personol dyn a hawliau moesol Duw arno, ac yn gosod ffugwedd (make—believe) yn eu lle (Paul, t. 209). Yr elfen foesol a benderfynodd natur ei lyfrau diweddaraf, ac a roddodd gyfeiriad i ddatblygiad ei feddwl yn ei gyfnod olaf.
Nodais yn barod y rhedai anian naturiol a thraddodiadau crefyddol Mr. Adams yn groes i'r athroniaeth Hegelaidd a ddylanwadodd yn fawr ar ei feddwl yn ei gyfnod cyntaf, ac a dueddai i osod byd a bywyd oll yn nhermau rheswm unffurf a chyffredinol, heb adael lle digonol i unigoliaeth ac amrywiaeth, rhyddid ac arbenigrwydd natur dyn. Yn ei lyfrau cyntaf, yn wir, ceir aml brotest yn erbyn yr athrawiaethau Calfinaidd, oherwydd y diystyrent bersonoliaeth a rhyddid dyn. Rhaid oedd i ddyn ddatblygu'n fôd moesol, oblegid "rhoddir eu cymeriad moesol fel da neu ddrwg i weithredoedd am eu bod yn gynnyrch ewyllysiadau bôd hunanymwybyddol yn meddu ar allu i roddi dechreu neu gychwyn i'w weithgarwch" (Datblygiad, t. 43). Drachefn, "Os yw Paul, fel y credir gan lawer, yn anwybyddu gormod ar hawliau cysegredig personoliaeth yr unigolyn ynglŷn â chyfrifiad trosedd Adda i'w hiliogaeth, ni all ei ddamcaniaeth ar y pwnc fod yn derfynol, arhosol ac anghyfnewidiol (Paul, etc., t. 120). "Os yw 'Paul ynglŷn ag athrawiaeth Penarglwyddiaeth Duw yn ymarferol yn ysbeilio dyn o'i ryddid personol, ni all ei ddysgeidiaeth fod yn derfynol, am nad yw ar y goreu ond gwirionedd rhannol yn unig' (ib t. 157). Ceir yr un pwyslais yn fwy pendant, ac yn asgwrn cefn llawer o'i ymresymiad yn ei lyfr diweddarach ar Foeseg Cristionogol (Dolgellau, 1901). Beirniada'r systemau Groegaidd am na
"roddid yr arbenigrwydd dyladwy ar yr ewyllys fel y gallu llywodraethol, ac fel y nodwedd fwyaf hanfodol i ffurfio cymeriad a chyfrifoldeb personol am dano. Am na chydnabyddant ddyn fel rhydd—ewyllysydd yr oedd eu moeseg o angenrheidrwydd yn anghyflawn a chamarweiniol. Rhoddent o ganlyniad fwy o arbenigrwydd nag a ddylid ar ddirnadaeth gywir a myfyrdod (contemplation) y doethor, gan anwybyddu "ormod ar y syniad fod daioni pennaf dyn fel y cyfryw yn gynwysedig mewn ewyllysio'n dda a gweithredu'n dda" (t. 17—18).
O'r tu arall, rhagoriaeth moesoldeb Cristnogol ydyw bod ei ddelfryd yn berson ysbrydoledig yn meddu ar berffeithrwydd moesol, ac mewn canlyniad y meithrina ryddid a phersonoliaeth dyn.
"Os yw yn blentyn i Dduw, mae'n rhaid fod dyn, fel ei nefol Dad, yn meddu ar bersonoliaeth—yn berchen ar ewyllys a hunanymwybyddiaeth yn achos rhydd ei weithredoedd. Hyn sydd yn cyfansoddi mawredd meddyliol a moesol dyn. Mawredd dyn fel "bôd personol moesol rydd sydd yn gwneuthur pechod yn beth posibl yn ei hanes" (t. 68—71).
Yng nghyfnod olaf ei oes, daeth Mr. Adams o dan ddylanwadau a symudodd bwyslais ei feddwl fwyfwy oddiar y deall, ac a'i canolbwyntiodd ar ochr weithredol profiad. Ar y naill law, gwnaeth diwygiad crefyddol 1904—5 argraff ddofn ar ei feddwl, a'i tueddai i osod mwy o werth nag a wnaethai ar elfennau a galluoedd uniongyrchol yn y profiad na ellid yn hawdd eu holrhain i weithrediad rheswm na'u cynghaneddu mewn cyfundrefn resymol. O'r tu arall, daeth o dan ddylanwad syniadau athronyddol William James a Bergson, a phwyslais y naill ar yr ewyllys, y gweithredol a'r ymarferol, fel gwirionedd bywyd, a phwyslais y llall ar ryw fewnwelediad uniongyrchol fel cyfrwng rhagorach na'r deall i ganfod y gwirionedd.
Yn gyson â'r datblygiad hwn yn ei syniadau, yr oedd llyfr olaf Mr. Adams, Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar, o natur lawer mwy ymarferol na'i rai blaenorol. Dechreua gyd â gwirioneddau mwyaf cyffredinol crefydd, ond prif amcan y llyfr yw cymhwyso egwyddorion crefydd at ofynion ymarferol y dydd. Yn anffodus, torrodd y rhyfel allan cyn iddo gael cyfle i wneuthur nemor argraff ar feddwl y wlad. Ond yn y llyfr hwn ceisia am seiliau ei genadwri, nid yn y Rheswm dwyfol, ond ym mhrofiad ymarferol dynion. Difynna braw William James o fodolaeth Duw: "Yr wyf fi yn credu yn Nuw, nid am fod gennyf brofiad personol o'i bresenoldeb ynof, ond am fod arnaf Ei angen.
Mae'n rhaid o ganlyniad fod fy nghred ynddo yn wir." Eddyf mai dyma'r unig fath o braw a gaiff dyn ar y cychwyn, ond bod gwell yn bosibl. Medd Duw, "Gweithreda ar y dybiaeth fy mod i yn bodoli, a thi a gei sicrwydd fod y dyb yn gywir " (t. 17). Ac yng nghymhwysiad egwyddorion Cristnogaeth at anghenion yr oes, yr arwyddair llywodraethol yw cydnabod hawliau personoliaeth a rhyddid. "Cyn sicred â bod cenhedloedd yn ymwrthod â theyrnaid arglwyddaidd a gormesol, ac yn mabwysiadu llywodraeth fwy gwerinol, y mae deiliaid moes a chrefydd yn gwrthod llywodraeth unbenaethol Duw ac angenrheidrwydd Tynged, ac yn mynnu hawlio eu rhan yn llywodraethiad y cread moesol. Mae'n rhaid i hawliau personoliaeth a rhyddid gael eu cydnabod. Y mae llwyddiant Cristnogaeth yn anwahanol gysylltiedig â hwy (t. 141). Ac yn wyneb problemau cymdeithasol yr oes, a'r gofyn am i'r Llywodraeth gyfryngu ar ran y tlawd a'r gwan, a thra y cydnebydd undeb organaidd dynion â'i gilydd, "Cenadwri fawr yr Eglwys yw pwysleisio yr angen am ddiwygiad moesol yng nghymeriadau dynion yn ogystal â diwygiadau yn eu cylchfyd fel amod gwir a pharhaol ddyrchafiad gwerin a bonedd pob cenedl " (t. 191). Bellach yr ewyllys rydd a da yw Alffa ac Omega bywyd.
Mewn ysgrif yn Y Dysgedydd (Hydref, 1919) yn beirniadu ysgrif gennyf fi ar "Hawliau'r Deall," aeth gam ymhellach fyth oddiwrth Resymoliaeth, a gosododd holl elfennau direswm[2] profiad ar yr un tir â'r rheswm, os nad uwchlaw iddo. "Mae gwreiddiau bodolaeth dyn yn ei reddfau hunanweithredol, yn ei deimladau a'i ddyheadau, ac yn blaenori ei reswm. Denir dyn rhagddo gan ddelfrydau na chenhedlwyd mohonynt gan ei reswm, ond a brofant eu tarddiad dwyfol yn y profiad eu bod yn sylweddoliad o bósibiliadau goreu y natur ddynol " (t. 295). "Y mae'r meddwl dynol, fel cymdeithas yn ein dyddiau ni, yn rhy werinol i ganiatau hawl y Rheswm i deyrnasu dros ei elfennau eraill" (t. 296). "Prin y cydnabyddir fod yng ngalluoedd deallol y meddwl gyfaddaster i eistedd mewn barn ar werth cymharol y satisfactions y gelwir amdanynt. Ai nid mewnwelediad (intuition), yn hytrach na rheswm dyn, sydd yn barnu beth sydd brydferth? Mae'r sant yn arogli perarogl santeiddrwydd a drycsawr pechod heb ymresymu o gwbl yn eu cylch " (t. 297). Y mae'r syniadau hyn gryn bellter oddiwrth yr athrawiaeth bod "y cread yn gynnyrch syniadaeth ac yn gorfforiad o Reswm Duw " (Datblygiad, t. 70). Gall eu bod hefyd yn nês i'r gwirionedd, neu o leiaf bod angen cyfuno'r ddau safbwynt i gael y gwirionedd. Ond yr hyn sy'n fwy diddorol a gwerthfawr ydyw eu bod yn dangos meddwl â'i ffenestri o hyd yn agored tuag at y goleuni, ac yn dal o ddifrif i chwilio am y gwirionedd. Dyma ystyr bennaf Mr. Adams yn hanes diwinyddiaeth yng Nghymru. Mynnodd ymysgwyd yn rhydd oddiwrth bob caethiwed traddodiad a rhagfarn, a chwilio'n syml am y gwirionedd. Llafuriodd yn ddibaid a diarbed i feddiannu holl gyfryngau gwybodaeth, a cherdded pob llwybr a fyddai'n debig o arwain i'r gwirionedd. Eisteddodd wrth draed pob athro newydd, a rhoddodd wrandawiad a chydymdeimlad i bob awgrym a gynhwysai belydryn o'r goleuni. Ni chaeodd ben ei fwdwl, ni wnaeth eilun o gysondeb, nid ofnodd newid ei farn, ond fel y dyfnhaodd ei brofiad ysbrydol ac yr ehangodd ei wybodaeth, aeth ei athrawiaeth yn gyfoethocach a mwy cymhleth. Trwy ei holl ymchwil a'i bererindod feddyliol, ni chollodd afael unrhyw adeg ar hanfodion y gwirionedd am y bywyd da a Christnogol, ond dysgodd i'w oes gyd ag eglurder ac argyhoeddiad cynhyddol ymhle'r oedd canol ffordd yr Iechydwriaeth. Efô fyddai'r olaf i honni awdurdod terfynol i'w syniadau na gofyn inni aros gyd â'i athrawiaethau. Ond ffordd y gwirionedd o hyd i ni fydd efelychu ei ysbryd llafurus ac ymchwilgar, ei onestrwydd a'i ddewrder moesol, ei ffydd yn y gwirionedd annherfynol, a'i ffyddlondeb i'r weledigaeth a gafodd. "Ef oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nodyn:datblygiad yma =evolution. Bathwyd y term esblygiad yn y 1930au gan D. James Jones
- ↑ Ni fuasai Adams yn caniatau bod canfyddiadau moesol ac artistig yn "ddireswm." Ei eiriau yw: "Gall fod y rhesymau neu'r cymhellion a'u gwreiddiau o'r golwg neu'n ymguddio ymhell yng ngorffennol bywyd."