Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Parch David Adams (Hawen)/Holi'r Pwnc

Oddi ar Wicidestun
Llenyddiaeth a Dirwest Cofiant y Parch David Adams (Hawen)

gan Evan Keri Evans


a William Pari Huws
Bethesda

VIII. HOLI'R PWNC.

ER fod bywyd cyhoeddus Adams yn amlochrog iawn, eto prin y caniata maint bwriadedig y GyfrolGoffa inni roddi pennod ar bob un o'r agweddau hynny. Ond yr oedd dwy agwedd amlwg a dylanwadol ynglŷn â'i weinidogaeth yn Hawen a Bryngwenith na ellir llai na rhoddi iddynt bennod gyfan, sef ei ymdrech o blaid sobrwydd, a'i lafur mawr a gwerthfawr fel holwr ysgolion. Go brin y bu llawer o'i ragorach fel holwr yng Nghymru erioed. Er i mi gael cystal, os nad gwell, cyfle nag odid neb arall i wybod am ei wasanaeth o blaid dirwest, eto ychydig o gyfle a gefais i'w wrando'n holi ysgolion. Felly teimlwn yn falch o'r ysgrif ragorol a ganlyn arno fel holwr gan y Parch. Thomas Davies, Horeb, Llandysul:

Buan yr ymledodd y newydd bod gweinidog newydd Hawen yn holwr da, ac eto dywedai ambell un yn dawel fach nad oedd yn rhyw iach iawn yn y ffydd. Teimlai rhai mai goreu i gyd oedd hynny, a phasiwyd gofyn iddo ddyfod i holi Ysgol Horeb yng Nghymanfa'r Llungwyn, a chawsai yntau wybod cyn diwedd y dydd beth oedd diwinyddiaeth bur ac iach, a gwae a fuasai iddo fentro anghytuno â'r pethau a gredid yn ddiameu yn eu plith. A bu Mr. Adams yn holi Horeb flwyddyn ar ol blwyddyn. Cytunid yn bur gyffredinol na fedrai neb holi fel efô, ond credai'r colofnau, ceidwaid yr athrawiaeth,' na wyddai ef fawr am uniongrededd, ac nad oedd ei ddaliadau diwinyddol ond heresïau noeth. Yr oedd cewri yn y Sgrythur yn y cylch hwn y dyddiau hynny,—dynlliwiasai'r Beibl eu bywyd, eu meddwl a'u barn: yr oedd ei awdurdod yn derfynol, a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd. Dyna'r math ar ddynion yr oedd yn rhaid arno eu hwynebu yn y Gymanfa. Efô oedd y cyntaf i wrthwynebu syniadau Calfinaidd eglwysi Annibynnol y cylch, y syniadau hynny a fu'n bod oddiar rwyg Arminiaeth Pant y Creuddyn. Etholedigaeth, y Cyfrifiad, ac athrawiaethau eraill oedd testunau'r dadleuon mawr a phoeth. Credai cewri'r ffydd yn y cylch y gwyddai Paul holl gyngor a meddwl Duw, a bod popeth yn Ie ac yn Amen iddo ef: credent mai iddynt hwy'n unig yr oedd pob rights yn reserved ym meddwl yr Apostol ei hun. Pan ddigwyddai rhywun fel Adams anghytuno—wel, gwae iddo! Pechasai yn erbyn Ysbryd Glân esboniadaeth gywir, a cheid digon o farchogion i gymryd gafael yn y cleddyf, y darian a'r astalch dros y peth hwnnw a ystyrid yn gysondeb y ffydd. Nid oedd bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw. Llawer gwaith y safodd Daniel Davies, Gilfach Chwith, John Tomos y Cipar, David ac Ifan Davies, meibion y Maengwyn, ac eraill fel dur o blaid yr hen athrawiaethau. Llawer ymdrechfa galed a fu rhyngddo a'r cewri hyn a'u tebig. Adams yn y pulpud, y gelynion o'i flaen; fel y dywedodd un: Cannon to right of him, cannon to left of him. Deuai adnodau fel tân belennau o bob cyfeiriad, neu fel yr ehed y saethau oddiar y bwa. Mor gywrain a deheuig yr oeddynt yn gwau adnodau mawr y Rhufeiniaid, yr Ephesiaid, a'r Colosiaid i mewn i'w hymresymiadau, ac nid oedd wiw iddo ddywedyd dim yn erbyn y Sgrythur a ddywedai Y rhai a ragwybu a ragluniodd ef,' ac ymadroddion cyffelyb; gwae'r gweinidog hwnnw na neb arall a âi mor hy â dywedyd gair yn erbyn adnodau Duw fel eu llefarwyd gan yr Apostol Paul. Nid oedd eisiau gwahodd lluoedd i'r Gymanfa yn y dyddiau hynny. Pwy a allai fod adref?

Digwyddodd aml dro doniol a digrif yn ei hanes wrth holi. Un tro arweiniodd yr Ysgol at bwnc mawr Pechod Gwreiddiol, ac yr oedd yn ei afiaith wrth drin cwestiwn fel hwn. Credai'r saint yr athrawiaeth hon, gan mwyaf ohonynt, heb un amheuaeth; yr oedd yn gymaint o ffaith iddynt â deddf codiad haul. Ameu peth fel hyn, y fath ryfyg! Taflai ef gwestiwn ar ol cwestiwn, a'r colofnau yn taflu adnod ar ol adnod ato yntau: oni wyddent am driciau rhesymeg, fe wyddent adnodau ddigon, ac o'r diwedd dyfynnwyd y geiriau hynny Mewn anwiredd y'm lluniwyd, ac mewn pechod yr esgorodd fy mam arnaf.' Medd- yliodd pawb fod hyn yn setlo'r cwestiwn, ond ebr Adams: Salm Solomon yw honna, a chyfeirio y mae ef at Bathseba, ei fam?' Ac yn dawel a phwyllog hollol, dyma'r atebiad yn mynd yn ol iddo: 'Wel, syr, yn ol fel dw i'n nabod dynion, mi allwn i feddwl ma Bathseba yw'n mam ni i gyd.' Teg yw dywedyd na fwynhawyd yr ergyd byw a ffraeth hwn yn well gan neb na chan yr holwr ei hun. Cododd y teiml- adau mor uchel un tro nes cyffroi arweinydd Ysgol Horeb yn fawr. Buasai'n darllen naw neu ddeg o esboniadau, a phan welodd na bu hynny i ddim pwr- pas i gyfarfod holi Adams, caeodd ei Feibl yn drystfawr, gan ddyweydd wrth yr Ysgol oedd ar ffrynt y galeri: Eisteddwch i lawr, boys; eisteddwch i lawr; mae hwn yn gwadu popeth.'

Ambell dro holai'n galed iawn, a phoethaf y rhyfel goreu i gyd ganddo, ac nid ymddangosai'n fwy wrth ei fodd na phan fyddai'r Ysgol i gyd yn ei erbyn. Mewn un Gymanfa, cafodd Ysgol neilltuol driniaeth lem iawn, a chydnabyddai pawb mai ef oedd y gorchfygwr y diwrnod hwnnw. Ond y mae rhyw gysur ymhob amgylchiad: methodd atebwr mawr yr Ysgol â bod yn y Gymanfa honno oherwydd afiechyd. Gofid calon iddo oedd clywed sut y bu hi ar yr Ysgol yn y Gymanfa, ac er mwyn profi prun ai Adams ynteu'r Ysgol oedd drechaf, penderfynwyd i'r Ysgol fynd i Hawen ar nos Sul, ac Adams i holi. Rhaid oedd cael Toriad dydd ar Gymru yn anthem, a 'phetasai ym mwriad y Côr gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ni buasai mwy o baratoi. Er cymaint paratoad y Côr, nid oedd i'w gymharu â pharatoad y diwinyddion; yr oeddynt wrthi mewn amser ac allan o amser, yn enwedig y brawd oedd yn sâl ddydd y Gymanfa. Syniai am Idrisyn gyd â pharch ac edmygedd mawr, ond ofnai nad oedd yn ddigon newydd a ffres i gyfarfod ag Adams; rhaid oedd ymgynghori â Barnes, a llawer gwaith y dywedodd: Dyma'i feistr e', Hawen-w!' Aelwyd lon, hapus a dibryder oedd yr eiddo ef, aelwyd y chwedl a'r gân, ond nosweithiau lawer cyn y nos Sul hwn, rhaid oedd i'r wraig a'r plant, y gweision a'r morynion fynd i'w gwelyau yn gynnar er mwyn iddo gael perffaith lonyddwch a thawelwch gyd â'i Barnes. Ni lafuriodd myfyriwr erioed yn galetach gogyfer â'i arholiad nag y gwnaeth y brawd hwn erbyn yr holi. Gwnaeth ryw bedair tudalen ffwlscap o nodiadau, a phob un o'r nodiadau, yn ei dyb ef, yn mynd i orchfygu'r holwr. Daeth y nos Sul-prynhawn braf yn nechreu haf: yr Ysgol ar y llofft yn Hawen, ac eisteddodd yntau uwchben y cloc. Codai, yn awr ac yn y man, i weled a ddeuthai'r Ysgol i gyd. Breintiwyd ef â chorff tal ond â thymer byr iawn, â chalon fawr ond ag amynedd bach. Medrus ydoedd ar y gwaith o dorri'r llechau, er hynny ni fachludodd yr haul erioed ar ei ddigofaint. Dechreuodd yr holi, a dyma'r cwestiwn cyntaf yn dyfod. Edrychodd yntau ar y ffwlscaps ar ei lin: ac, fel y digwydd weithiau, nid oedd dim cyfleus iawn yn y nodiadau yn ateb y cwestiwn. Atebodd brawd a eisteddai yn y sedd uwch-ben iddo. Dyma'r ail, a'r trydydd gwestiwn—a dim yn y nodiadau eto. Pan ddaeth y pedwerydd, gosododd y nodiadau yn ei boced, gwelodd fod ei lafur i gyd yn ofer; collodd ei dymer, trodd at yr Ysgol, a dywedodd, Weles i riod shwd beth, p'idiwch ag ateb yr hen ff——, w. Dyw e ddim gida'r pwnc o gwbl—gadewch e'n llonydd, shwd holi weda i. O hynny allan, yn y gwasanaeth hwnnw, nid agorodd ei enau. Cyn mynd allan o'r capel yr oedd wedi maddeu'r cyfan i Adams am ei holi gwael. Y Sul dilynol aed ati i ddewis holwr erbyn y Llungwyn, ac er syndod i bawb, ef oedd y cyntaf i gynnig gwein- 'idog Hawen. Fel pwnc y Llungwyn hwnnw, rhaid oedd iddo gael rhan o Gorinthiaid xv.-pwnc yr Atgyfodiad. Ar hyn o bryd yr oedd newydd gael benthyg gweithiau Dr. Dick gan gyfaill iddo, ac felly ni wnâi dim ond yr Atgyfodiad y tro i fod yn bwnc. Y Llungwyn hwnnw bu'n rhaid ar Adams ymladd un o'i frwydrau mawrion. Credai'r cyfaill hwn, a'r rhan fwyaf o bawb, y Beibl i gyd, a chredent hefyd mewn Atgyfodiad—atgyfodiad y corff yn gystal ag atgyfodiad yr enaid. Gwahaniaethent hwy oddiwrth yr holwr yn fawr, ac ar dir Sgrythur yr oeddynt bron ag ennill y dydd. Dyfynnent adnodau'n rhugl,

galwent y ddau Destament at eu gwasanaeth; iddynt hwy, penderfynai hyn bopeth. A'r frwydr yn ei hanterth, ciliodd Mr. Adams ychydig yn ei ol yn y pulpud, a dywedodd: 'Dw i ddim am i hwn ddod i fyny, beth bynnag.' Ac ar darawiad amrant, dywedodd y cyfaill â'r corff hardd lluniaidd: 'Se hwnna gen inne, Adams, fyswn inne ddim amdano chwaith.' Ni ddadleuwyd rhagor am yr atgyfodiad yn yr oedfa honno!

'Deheuig iawn ydoedd Adams i ddyfod â damcaniaethau diweddar athroniaeth a diwinyddiaeth i'w gwestiynau, megis Datblygiad, Hegeliaeth, a phethau felly. Sonnir llawer heddiw am the solidarity of the human race, a dyna'r unig beth oedd ganddo 'pan holai Ysgol yn araith Paul ar Areopagus. Ei athrylith fel holwr oedd yn cynhyrfu meddwl a deffro dychymig, a pho fwyaf dadleuadwy fyddai'r mater, llonnaf i gyd oedd yntau. Hawdd oedd gweled mewn ambell Gymanfa fod yna un cwestiwn mawr yn ei boeni, a deuai at hwnnw o bob man. Un tro personoliaeth y diafol oedd ei beth mawr. Gwnaeth alanas mawr yng nghyfarfod y bore â'r ddwy Ysgol, gyd â'r cwestiwn dyrys hwn. Wrth holi Ysgol yn y prynhawn aeth at bersonoliaeth y diafol wedyn, ac ebr un o'r rhai mwyaf byw ei ddychymig a smart ei dafod a adwaenais erioed, "Syr, dyw hwnna ddim yn y maes." Anwybyddodd awgrym ei gyfaill, a meistr ydoedd ef ar y grefft o anwybyddu atebiad neu awgrym, ond gwnâi hynny mewn dull boneddigaidd a charedig. "Wel," ebr y cyfaill, "os i chi am ddadl, syr, i ni'n barod!" gan edrych ar yr Ysgol. Ni bu erioed y fath luchio ar adnodau, a chroesi cleddyfau wrth resymu. Heb fod yn hir iawn deellodd nad oedd argyhoeddi i fod ar yr Ysgol, a bod y gwahaniaeth rhyngddynt yn mynd yn fwy yn hytrach na mynd yn llai, a'r Ysgol, hithau, yn mynd yn gadarnach yn ei chred o adnod i adnod ac o ymresymiad i ymresymiad. Yn y diwedd caeodd Adams ei gôt, a dywedodd, "Person neu beidio, ddaw ef ddim i mewn fan yma."

Daeth yr ateb oddiwrth ben dadleuwr yr Ysgol: Tw-lêt, syr, mae e' na oddiar ddeg bore heddi. Deellai Adams ddigon ar y natur ddynol i wybod mai annoeth fyddai holi llawer rhagor y prynhawn hwnnw. Y gymwynas fawr, ac efallai'r gwasanaeth goreu a gyflawnodd ef, oedd sôn am bethau newyddion diwinyddiaeth ac athroniaeth yn y Gymanfa Ysgolion. Efô yn ei ddydd oedd yr unig un bron a wnâi beth felly. Y pethau dyfnion hyn oedd bwyd cyffredin y Gymanfa yn ei amser ef. Pa gymwynas fwy a ellid â dynion hyddysg yn eu Beibl?--dynion a wyddai'n dda am gelfyddyd dadleu—yn enwedig dadleu diwinyddiaeth—dynion heb lawer o addysg, efallai, ond eto dynion diwylliedig, dynion oedd, er maint eu hawydd am esbonio a deall y Beibl, ac er cymaint eu rhyddfrydiaeth mewn gwleidyddiaeth, eto i gyd yn geidwadwyr mewn diwinyddiaeth: rhyfyg a phechod oedd beiddio symud yr hen ffiniau, na sôn wrthynt hwy am ddigwyddiadau a darganfyddiadau byd mawr y meddwl. Rhyw ysgwyd eu pennau a wnaent a dywedyd mai ffolineb oedd mwy na hanner y pethau y soniai ef amdanynt, ac eto ni wnâi neb y tro fel holwr ond ef. Ni chred llawer o'r hen ddadleuwyr i Einstein ddarganfod dim na ddadleuwyd ac a wyntylliwyd 30 neu 35 mlynedd yn ol, yn yr hen Gymanfaoedd. Gŵr araf ei gerddediad, ac mor araf â hynny yn ei ddull, yw'r gwladwr, ac efallai bod rhywbeth yn wylaidd ac yn ddrwgdybus ynddo. Ni chymer yn hawdd at ddyn dieithr, ac anos fyth iddo yw derbyn syniadau newyddion, Yr oedd a dyma achos ei helynt ag Adams. Adams y pregethwr ac Adams yr holwr yn ddau ddyn hollol wahanol iddo. Rhagor nag unwaith y clywsom eiriau tebig i hyn: Beth sy ar y dyn 'ma?

"Pam na fydde fe'n holi fel y mae e'n pregethu? Mae e'n pregethu fel dyn arall, ac yn hollol iach yn y ffydd pan yw e'n gweddïo. Mae e'r un peth a ni pan yw'n gneud y pethe hyn. Mae e'n gweid y gwir wrth bregethu a gweddïo". Adams yr holwr oedd yn anodd iddynt hwy ei ddeall, nid y pregethwr.

Nid amheuent ei allu a'i ddysg, gwyddent ei fod mor amddifad o gyfaddawd â halen, ar gwestiynau moesol, a bod cryn dipyn o'r peth hwn yn ei bregethau; ac er ei ddiwinyddiaeth ryfedd, ni fedrent yn eu byw lai na'i barchu a'i anrhydeddu. Y mae rhyw sawr hyfryd ar ei goffadwriaeth, a rhaid fydd claddu rhagor nag un oes cyn y bydd y sôn am Adams, Hawen, fel holwr wedi peidio â bod. Bu yma'n holi ddwywaith wedi i mi ddyfod yma, a buasai yma fwy na hynny pe gallasai ddyfod; nid oedd iddo gydymgeisydd, a rhyfedd iawn, dyma'r feirniadaeth arno y troeon hyn: Onid yw Adams wedi newid? 'Dyw e ddim tebig y peth o'dd e. Mae e'n awr 'run peth a ni. Ni ddaeth tros eu meddwl erioed iddynt hwy newid synient amdanynt eu hunain eu bod o hyd megis ag yr oeddynt yn y dechreu. Gwnaeth ef waith mawr yn ei ddydd mewn barddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth, ond ni wnaeth fwy o waith mewn unrhyw gylch na phan holai Ysgol: gosododd fin ar feddwl llawer, a gwnaeth y Testament Newydd yn llyfr byw a newydd ; a pha waith a ellir ei gymharu â hwn? Pes claddesid yn Hawen, buasai llawer un, a fu'n dadleu'n boeth ag ef, yno yn ei angladd yn tywallt dagrau ei galon ar fedd un a berchid yn fawr ganddynt er iddynt anghytuno ag ef lawer gwaith.

Deuai i wrthdarawiad yn y Cyfarfodydd Holi nid yn unig â cheidwaid yr athrawiaeth yn yr Ysgolion, ond ambell waith â'r holwyr pregethwrol eraill. Bu cyfarfod felly un tro yn Llanarth—yr unig gyfarfod ysgolion yn yr awyr agored y clywsom ni sôn amdano. Ymhlith yr holwyr ar yr esgynlawr yr oedd y Parch. D. S. Davies, Caerfyrddin, a phan oedd Adams yn holi yr oedd Mr. Davies yn cael ei osod ar waith gan eraill yn ddïau— yn ateb yn awr ac eilwaith. Wedi goddef am beth amser trodd Adams yn ol ato, a dywedyd, Mr. Davies, pan fo'r Ysgol yn methu, mi ofynnaf fi i chwi. Rhodd hynny daw arno yn y lle hwnnw; ond wedi myned i'r tŷ apeliai ef—ac eraill nad oedd mor amlwg ar y maes—at y Parch. Wm. Evans, Aberaeron, i sathru ar seirff y fath syniadau cyfeiliornus, a rhoddi ei amddiffyn i'n hieuenctid. Ac meddai'r hen sant, Ho, ni âd yr Ysbryd Glân i'r plant fynd ymhell iawn oddiwrth y gwirionedd,—ateb a ddengys fel y mae'r gwir sant, er yn uniongred ei hun, yn codi uwchlaw'r llythyren at yr ysbryd.

Rhoddir i ddilyn enghraifft o ddull gofalus Adams o baratoi ar gyfer holi ysgol. Eto, er ei fod yn paratoi'r maes, nid oedd o gwbl yn gyfyngedig i gwestiynau paratoedig, ond yn gofyn cwestiwn ar ateb, mewn modd byw, hyblyg a diddorol:—

Ephesiaid v.

a. 1. Dilynwyr. Imitators. Plentyn yn dysgu wrth wneuthur fel y gwêl ei dad yn gwneuthur. Iesu yn gweithio am fod Ei Dad yn gweithio. Nid yw y Mab yn gwneuthur dim o hono'i hun ond fel y gwelo Ef y Tad yn ei wneuthur. Edmygedd ac anwyldeb yn arwain i eilfyddiad ym mhawb.

a. 2. Rhodiwch. Dullwedd Heb. am arwain bywyd, ymddwyn. Bydded cariad yn gymhelliad yn egwyddor fyw yn eich bywyd.

Megis y carodd Crist ninnau. Dilyn Crist yw dilyn Duw. Y mae cariad Duw yng Nghrist tuag atom ni i gael ei ail adrodd, ei ail fyw gennym ninnau yn ein hymddygiadau tuag at ein gilydd. Cf. Gal. v. 2; 1 Ioan iii. 16; 1 Petr iv. 13.

Drosom ni. Trososodiad cariad (moral substitution, not legal). Crist yn cyfranogi o'n poenau a'n gofidiau ond nid o'n heuogrwydd.

O arogl peraidd. Duw yn caru Iesu am Ei fod yn ymaberthu er mwyn dynion. Nid oedd Duw yn ddig wrth Iesu pan oedd yn dioddef drosom. Cf. Ioan x. 17.

a. 3. Cybydd-dra:

1. Gwadiad o lywodraeth a gofal Duw am y byd a'i drigolion.
2. Amharch i Dduw drwy ysbeilio Duw o'i aur a'i gyfoeth.
3. Cam â'i enaid ei hun—sychu ffynhonnell ei drugaredd a'i gydymdeimlad.

a. 4. Serthedd. Obscenity, αἰσχρότης, iaith aflan, anniwair.

Coeg ddigrifwch. Jesting. Life is earnest. Anweddaidd i sefyllfa ac urddas dyn.

a. 5. Yn nheyrnas Crist. Yn yr eglwys weledig ar y ddaear. Dim hawl i'w breintiau. Dim etifeddiaeth na meddiant o'i thrysorau.

A Duw. Dim rhan na meddiant yn Nuw. Cf. Salm xvi. 5.

a. 6. Geiriau ofer. Peidiwch â chymryd eich darbwyllo fod y weithred yna yn ddiniwed. Nid yw'r Efengyl yn caniatau rhyddid i bechu—Ni watworir Duw, etc.

a. 8. Tywyllwch: Arwydda anwybodaeth, aflendid, perigl, marwolaeth.

Goleuni yn yr Arglwydd: Wedi eu dwyn i'r goleuni gan yr Arglwydd. Yn y gwirionedd am Dduw.

a. 9. Ffrwyth yr Ysbryd. R.V. Ffrwyth y goleuni. Goleuni yn fywyd.

Daioni—kindness, beneficence. Nid yr egwyddor o ddaioni yn gymaint â gweithredoedd o garedig- rwydd ac elusen.

a. 17. Annoethion. Rhai heb ddeall a gwerthfawrogi cyfleusterau.

Doethion. Rhai yn deall beth yw ewyllys Duw. Ond mae'n rhaid ei byw yn gyntaf. Mae'n rhaid dyfod a hi i test bywyd cyn y deuir i'w deall. (Hinton said of a remark—I do not simply know it, I have found it out).

a. 18. Gormodedd. (Wherein is riot, R.V.). Y mae swyn yn y gwin i arwain dynion i riot a gormodedd. Ac y mae yfed i ormodedd unwaith yn rhwyddhau'r ffordd ar gyfer tro arall, fel afon yn codi ac yn gorlifo. Y mae yn lledu ei gwely, yn mynd ymaith â rhannau o'r gwrthglawdd ac yn lleihau ei allu i'w rhwystro i orlifo y tro nesaf.

Llanwer chwi a'r Ysbryd Glân. Dim gormodedd yn bosibl yma. Nid wrth fesur y rhoddodd Duw yr Ysbryd i Iesu, ac fe'i rhydd i ninnau yn ol mesur dawn Crist os bydd ynom awydd am ei feddu.

a. 19. Gan lefaru mewn salmau, etc. Gwin yn gwneuthur dynion yn siaradus a stwrllyd. Yr Ysbryd yntau yn sirioli dynion i ganu salmau ac odlau ysbrydol. Canu maswedd wrth y gwin. Canu mawl dan ddylanwad yr Ysbryd. Rhegi wrth y gwin—gweddio dan ddylanwad yr Ysbryd.

a. 20. Gan ddiolch. Y gwin yn gwneuthur dynion yn fostfawr a chwyddedig. Ysbryd Duw yn dwyn dynion i ystyried eu dibyniad ac i deimlo'n ddiolchgar.

Yn wastad. Hyn i fod yn sefyllfa arferol y meddwl—yn habit.
I Dduw a'r Tad. Y Tad ynddo sydd yn dwyn i agwedd meddwl diolchgar.
Yn enw'r Arglwydd Iesu Grist. Enw yn golygu Ei gymeriad a'i nodweddion. Y cwbl ag yw. Yn Ei serch at Dduw. Yn Ei ostyngeiddrwydd a'i hunan anghof.
Arglwydd Iesu Grist. Y Gwaredwr a'r Llywodraethwr yn Iesu yn ein gwaredu er mwyn ein cael yn deyrngar iddo.

Gwasanaethodd ar Fwrdd Ysgol Troedyraur drwy'r blynyddoedd heb ball; ac am werth ei weithgarwch a'i wasanaeth gwleidyddol nid oes eisiau gwell tystiolaeth nag a geir yn anerchiad Cymdeithas Ryddfrydol Aberbanc, a gyflwynwyd iddo mewn cwrdd cyhoeddus yn Horeb:

Annwyl a Pharchedig Syr,
Y mae eich perthynas â ni mewn ystyr wleidyddol er y flwyddyn 1880 wedi bod y fath fel na allwn oddef i'r cysylltiad agos a chynnes hwnnw gael ei dorri heb i ni gydnabod ein gofid oherwydd hynny yn ogystal ag amlygu ein syniadau uchel ac annwyl am danoch chwithau drwy gyfrwng yr Anerchiad hwn. Y mae eich teilyngdod chwi a'n teimlad ninnau yn hawlio hyn.

Buoch yn ffyddlon bob amser i'ch egwyddorion ac argyhoeddiadau eich cydwybod, a hynny yn wyneb llawer o rwystrau. Yn ystod yr amser a nodwyd aberthasoch lawer o'ch amser gwerthfawr a'ch talentau amrywiol i wasanaethu'r achos mawr Rhyddfrydig yn Neheubarth hen sir enwog Aberteifi, ac mewn modd arbennig felly ein Cymdeithas ni yn Aberbanc.

Ni allwn byth anghofio y gwasanaeth a wnaethoch i Ryddfrydiaeth y sir ym mrwydr fythgofiadwy 1886 pan wnaeth cymaint 'long-ddrylliad o'r ffydd.'

Gofidiwn oherwydd eich ymadawiad o'n hardal, ond wrth atgofio yr wyth mlynedd diweddaf bydd i chwi le cynnes a pharchus yn ein calon fel un o'n harweinwyr gwleidyddol.

Bydd yn gaffaeliad dirfawr i ardal oleuedig a phoblog Bethesda eich cael i fyw ynddi, a chredwn y derbynnir chwi yn galonnog gan y Rhyddfrydwyr adnabyddus a chydwybodol y sydd yno eisoes. Dymuniad gonest ein calon ydyw ar i chwi gael oes hir i wasanaethu'r achos Rhyddfrydig yn eich cylch newydd, oherwydd yr ydym yn hollol argyhoeddedig fod brwydrau eto i'w hymladd cyn y cawn fwynhau perffaith ryddid, yn wladol a chrefyddol.

Derbyniwch yr Anerchiad hwn fel dangosiad o'n 'hedmygedd o'ch cymeriad pur, eich ynni di-ball, a'ch galluoedd disglair.

Bydd yr Anerchiad hefyd yn foddion i'ch atgoffa chwithau o enwau hen gyd-filwyr i chwi ar feysydd brwydrau gwleidyddol 1880, 1885, 1886 yn sir Aberteifi.

Eich ewyllyswyr da,

AELODAU CYMDEITHAS RYDDFRYDOL ABERBANC.

Nodiadau

[golygu]