Cofiant y Parch David Adams (Hawen) (testun cyfansawdd)
| ← | Cofiant y Parch David Adams (Hawen) (testun cyfansawdd) gan Evan Keri Evans a William Pari Huws |
Pennod Nesaf → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant y Parch David Adams (Hawen) |

COFIANT Y PARCH. DAVID ADAMS.

COFIANT
Y PARCH.
DAVID ADAMS
(Hawen), B. A., D.D.
GAN Y
Parch. E. KERI EVANS, M.A., a'r
Parch. W. PARI HUWS, B.D.
LERPWL:
YNG NGWASG "Y BRYTHON,"
HUGH EVANS A'I FEIBION, 356, 358 STANLEY ROAD.
MCMXXIV

CYNNWYS.
RHAGAIR
I. EI GYLCHFYD BORE
II. YSGOL A CHOLEG
III. Y MEISTR YSGOL
IV. COLEG Y BRIFYSGOL
V. DECHREU CYFNOD NEWYDD
VI. EI WEINIDOGAETH YN HAWEN A BRYNGWENITH
VII. LLENYDDIAETH A DIRWEST
VIII. HOLI'R PWNC
IX. BETHESDA
X. "DATBLYGIAD"
XI. DIWRNOD GYDAG ADAMS
XII. LERPWL
XIII. "PAUL YNG NGOLEUNI'R IESU"
XIV. EI GYFNOD OLAF
XV. MOESEG A DIWINYDDIAETH
XVI. "FFRWYTHANT ETO YN EU HENAINT"
XVII. Y PREGETHWR A'R GWEINIDOG
XVIII. YR ATHRONYDD A'R DIWINYDD
XIX. DYLANWAD MR. ADAMS AR DDIWINYDDIAETH CYMRU,
gan y Prifathro T. REES, M.A., Ph.D.
XX. Y BARDD A'R BEIRNIAD
XXI. Y DYN A'R CRISTION
XXII. EI DDYDDIAU OLAF
BRASLUN O'I HANES
RHAGAIR.
ALWN Adams yn Ddoctor yn y Cofiant hwn am y cysylltwn fwy o bwys âr ysbryd na'r llythrenol; yn union fel y buasem yn cyfrif dyn ieuanc yn B.A. wedi iddo ennill y gradd, er iddo fod heb ei dderbyn yn ffurfiol.
Nid encomium ar Adams yw'r llyfr; ac nid y math ar gofeb (memoir) nad yw ond coronbleth o ragoriaethau'r ymadawedig wedi eu dethol gan ddwylo serch yn deyrnged i'w goffadwriaeth. Y mae yn fwy na hyn,—mwy yn ei ymgais, ei gylch, a'i anhawster : amcana at roddi hanes bywyd Adams ymhob agwedd arno ar hyd ac ar draws, i fyny ac i lawr, ac atgynhyrchu nodweddion ei bersonoliaeth (mor bell ag y gallem wneuthur hynny mewn geiriau) ar ochr meddwl a moes, yn ei chryfder a'i gwendid, ei mawr a'i bach. Yr ydym, o ganlyniad, wedi ei feirniadu yma a thraw, ac wedi galw sylw at ei ddiffygion yn ogystal â'i ragoriaethau. Diau inni fethu'n aml, ond lle teimla'r darllenydd mai felly y mae, gwnaiff fwy o degwch â ni—ac â'i enaid ei hun—os priodola hynny i fethiant mewn barn yn hytrach nag i ryw fwriad neu deimlad arall. Ni allwn wadu na feddwn deimladau cynnes a pharchus at yr ymadawedig a'i goffadwriaeth, ond yr ydym yn ddigon hen. bellach i wahaniaethu rhwng y rheiny a'r gwirionedd, ac yn ddigon moesol a gwyddonol, ni a hyderwn, i beidio â chymryd ein cludo ymaith ganddynt oddiwrth y gwir a'r gonest.
Yr ydym yn ddyledus am help gwerthfawr a pharod i lawer, ond yn arbennig i'r rhai â chanddynt ysgrifau yn y Cofiant —ysgrifau sydd yn ddigon rhagorol i ni beidio â'u canmol. Nid ydym ni yn gyfrifol am olygiadau yr ysgrifenwyr ; cawsant bob rhyddid i ddatgan eu barn heb unrhyw gyfyngiadau o'r eiddom ni; eto llawenhawn eu bod, ar y cyfan, yn cydgordio cystal â gweddill y Cofiant. Cawsom addewid nas cyflawnwyd gan eraill. Yn arbennig, y mae un arwedd ar fywyd Adams, sef ei gydymdeimlad a'i gyfeillgarwch â phregethwyr ieuainc, yn fwyaf neilltuol y rhai meddylgar a darllengar—ac os heb fod yn rhy uniongred, goreu i gyd—nad yw'n cael y sylw a ddymunasem yn y gyfrol, am i ddau o'r cyfryw ein siomi wedi addo. Credwn, serch hynny, nad ar eu calon y mae'r bai yn gymaint ag ar eu hewyllys.
Derbyniasom bob help, fel arfer, yn Llyfrfaoedd Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd; a chan awdurdodau ysgol Talybont, Ystradgynlais a'r Bryn, Llanelli, i archwilio hen logbooks amser bore Adams; a chaniatad parod perchenogion Y Brython, Y Dysgedydd, Cymru a'r Geninen i ddyfynnu ohonynt.
Yr ydym dan ddyled eithriadol mewn perthynas â dyddiau maboed Adams i'w dri hen gyfaill yn Nhalybont, Richard Jones, William Davies (cefnder), a Dafydd Edwards—tri gŵr o wreiddioldeb a diwylliant nas ceir yn aml ym mhentrefi'n gwlad, ac yn cyfuno â hynny serch a pharch mawr at eu hen gyfaill. Dymunwn hefyd gydnabod dau o'i hen ddisgyblion ym Mryngwenith. am eu hatgofion, sef Evan Jones a Dafydd James; a'r Parch. T. Lloyd Jones, B.A., B.D., am help mewn llythyrau, atgofion, cofnodion a chyfnodolion.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf, dymunwn ddiolch i Mr. J. H. Jones, Golygydd Y Brython, am ddarllen y Cofiant a'r proflenni, a rhoddi
inni ei help dihafal gyd â'r iaith.COFIANT
Y PARCH. DAVID ADAMS.
I. EI GYLCHFYD BORE.
PENTREF hir, a wneir i fyny braidd yn hollol o un stryd, ar ochr y ffordd fawr a rêd o Aberystwyth i Fachynlleth, yw Talybont; ac yn agos i'w waelod, yn sŵn yr afon Ceulan, y ganwyd Dafydd Adams, Awst 28, 1845. Enwau ei rieni oedd John a Margaret Adams. Mwnwr o Gilcen, sir Fflint, oedd ei hendaid, a daeth mab iddo ef i Dalybont i fod yn arolygydd gwaith y Maesnewydd. Mab iddo yntau ydoedd John Adams a briododd Margaret Davies, Llwynglasbach. Bu iddynt bump o blant, i gyd i raddau mwy neu lai yn berchen nodweddion meddyliol a moesol uwchlaw'r cyffredin. Dafydd oedd y pedwerydd o'r teulu, ac ynddo ef y cyrhaeddodd y nodweddion hyn eu huchafbwynt.
Nid oedd dim arbennig yn awyrgylch y pentref y pryd hwnnw i roddi cyfeiriad i'w draed i feysydd dysg, na llên, na'r pulpud, er iddo ragori yn y tri. Gwn fod yna enwogion lawer wedi eu codi neu ynteu wedi byw yno; bedd Taliesin, fel y tybir, heb fod ymhell; a phregethwyr fel Dr. Phillips, Neuadd Lwyd, ac Azariah Sadrach wedi cysegru'r fan; ond ni ellid cyfrif y pentref fodd yn y byd yn ganolfan na dysg, na llên, na chrefydd. Diau bod y gwaith mŵn yn cynhyrchu mwy o "rediadau bywyd" ynddo nag a geid mewn pentrefi eraill, er mai dŵr lleidiog yn aml a ddaw gyd â'r rhediadau hynny.
Rhydd hanes ddigon o enghreifftiau inni o natur gref yn gorchfygu cylchfyd llwm, ac yn sugno llawer o nodd ohono; yn neilltuol yn magu praffter a'i cymhwysa i fod fel cedrwydden Libanus mewn cylchfyd gwell yn ol llaw, nid fel y" grug yn yr anialwch." A hyn yw hanes Adams. Eto fe weddai inni gofio iddo ef fod yn ffodus yn ei gylchfyd agosaf oll, a'r un pwysicaf i fywyd ieuanc yn ei gychwyniad allan, sef yr un teuluaidd. Ar ochr etifeddeg, cafodd ef ei gynysgaeth o dueddiadau iach a chynheddfau meddyliol cryf oddiwrth ei dad a'i fam; ond heblaw hyn, cafodd ganddynt, ac ynddynt, yr help goreu i osod i lawr sylfeini cymeriad moesol uchel, ac anogaeth i ragori mewn dysg, a llên, a chrefydd.
Ar garreg fedd ei fam gosododd y llinellau:
"Diddig garedig ydoedd,
Man i serch ei mynwes oedd."
Disgrifiad cywir ohoni medd y rhai a'i hadwaenai, ond y dylesid ychwanegu ei bod yn eithriadol lanwaith ac yn dra hyddysg yn helyntion yr ardal. Siaredir yn fychanus glec "pan yw'n cynnwys elfen o falais ac enllib, ond pan yw'n rhydd o'r drwg hwn, nid yw ond y ddawn y sydd y tu cefn i'r newyddiadur; ffurf ar y cywreinrwydd y sydd y tu ol i bob awydd am wybod. Diau i'w serchowgrwydd a'i glanweithdra hi, beth bynnag am ei diddordeb mewn hanes, adael argraff ar ysbryd ei phlant. Ond y mae tri hen gyfaill Adams yn unfryd yn y farn ei fod yn feddyliol ac yn foesol, os nad yn serchiadol, yn fwy dyledus i'w dad na neb arall yn y cyfnod bore hwnnw yn ei hanes. Ymddengys fod John Adams yn ddyn eithriadol ei gynheddfau moesol a meddyliol. Ffurfiai'r cyfuniad hwnnw o wreiddioldeb a chryfder, o ddoethineb ymarferol a gwybodaeth gyffredinol, a'i gwnâi yn fath o oracl yn y pentref. Ef, yn ei bwysau ei hun, heb na chanfas na gwobr, fuasai'n faer y lle petasai swydd felly mewn bod. Cred y tri uchod yw ei fod yn gryfach ei gynheddfau naturiol na'i fab. Nid yn unig yr oedd yn flaenllaw yn ei eglwys ei hun, ond yr oedd hefyd yn bregethwr cynorthwyol tra chymeradwy, yn unig ei fod rai prydiau, yn rhai o gapeli bychain y cymoedd cyfagos oedd heb gloc, yn anghofio'r amser yn gystal ag oerni neu wres y tywydd yn ei bwnc. Nid oes sôn ei fod yn anuniongred, ond os rhesymwn yn ol o'r ffaith i'w fab dorri i fyny ddosbarth diwinyddol y Prifathro yng Ngholeg Normalaidd Bangor, heb unrhyw ddisgyblaeth ddiwinyddol ond a gafodd gartref, teg inni gasglu bod ei syniadau yn wreiddiol, neu o leiaf na cheisiodd lethu annibyniaeth barn yn y bachgen.
Meddai gryn wybodaeth am anianeg a llysieueg, a medr i wella'r corff (yn ogystal â'r enaid). Yr oedd yn fath o ddoctor gwlad, fel y cân ei fab yn ei farwnad iddo:—
Mor fynych chwiliem gaeau'r wlad
I hel meddygol lysiau mad;
Eu henwau wyddit ti bob un,
A nodwedd eu meddygol rin.
Urddesid di yn" Feddyg " gwlad,
A hybaist gleifion lu yn rhad;
Dy dâl, y pleser o'u hadfer hwy,
A pharch na châi pendefig fwy.
Yr oedd hefyd yn wleidydd cryf a goleuedig—yn un o gedyrn Rhyddfrydig yr ardal. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; a chan fod y tâl yn fach, a'r bwyd yn ddrud, ni chaniatâi ei ddyletswydd i'w deulu iddo lawer o amser i ddarllen y papur newydd, ond câi gan rai bech— gyn darllengar o'r ardal ddyfod i mewn yn hwyr y dydd i ddarllen iddo tra yr elai ef ymlaen â'i waith. Fel rheol byddai ef yn pwyntio allan y darnau y dymunai eu clywed. Diau bod hyn er budd a phleser i'r bechgyn yn gystal ag iddo yntau.
Er na ddaeth i sylw fel bardd—yn wir nid oes sôn iddo geisio dyfod—ysgrifennodd rai pethau sy'n meddu ar gryn dlysni. Yr oedd yn fwyaf poblogaidd fel prydydd. lecsiwn : nid yw ei ganeuon gwleidyddol ar gael, ag eithrio ambell bennill ar gof Dafydd Edwards. Hawdd credu bod "mynd " ar linellau fel a ganlyn gyd â'u gwawdiaith a'u tinc gynganeddol :—
Harford druan a'i enw'n drewi,
Yn siglo dwylo, ceisio cosi :—
Ymhle buodd, leiciwn wybod,
Dros saith mlynedd heb ei nabod?
Ysgrifennodd emynau teilwng o'r Caniedydd a dywedyd y lleiaf; ond ni a'n cyfyngwn ein hunain i'r penhillion a deifl oleuni ar y bywyd teuluaidd. Pan aeth y merched i Lundain, y mae'n amlwg ei fod yn llawn pryder yn eu cylch, a chawn ef dro ar ol tro yn ei daflu i ffurf cân. Un tro, pan yw'n ofni bod perigl i Jane chwilio dedwyddwch lle nad yw i'w gael, ysgrifenna:—
Yn rhwydd i'th ran pe gallet gael
Yn hael o gyfoeth byd,
A'th wisgo fel brenhines gain
 sidan felfed drud,
A'th wychu gyda dilin aur
A'r gemwaith mwyaf gwiw,
A'r meini godidoca'u gwedd
A gwerthfawroca'u rhyw,
A chael i weini o dy gylch
Lancesau teca'r oes,
A threulio'th ddyddiau oll i ffwrdd
Heb gwrdd ag unrhyw groes;
a gofynna a oes eisiau mwy "i gyrraedd gwir ddedwydd— wch," gan ateb,
Duwioldeb, gwerthfawrocach yw
Na phob rhyw berl ynghyd,
A phwyso ar Aberth pen y bryn
Ac yna gwyn dy fyd!
Dyma'i gyngor iddi dro arall:—
Cadw'th lamp yn lân bob amser,
Gofala am olew yn dy lestr,
Gwylia rhag na byddi'n addas
Pan ddaw galw i'r briodas:
Annwyl Jane, gwrando di,
Annwyl Jane, gwrando di,
Cofia wylio heb ddiffygio,
Rhag dy lusgo gyda'r lli'.
A phan oedd y ddwy (Sarah a Jane) yn gorwedd yn glaf yn y Brifddinas, " heb neb ond dieithriaid i weini arnynt," cân:—
Fy mhlant, pa le bynnag y byddaf,
Am danynt meddyliaf o hyd
Ai tybed nad ydwyf yn ffolach
Na nemawr o boblach y byd?
O! na, nid wy'n ormod fy mhryder
Mae Satan bob amser, a'i hil,
Yn cuddio o amgylch ei lwybrau
Hoenynnau a maglau gan' mil.
Meddai Dafydd Adams natur ryfedd o dyner a chariadus, ac y mae'n amlwg nad i'w fam yn unig yr oedd yn ddyledus amdani, nac am y nodded a'r fagwraeth oedd yn angenrheidiol i'w datblygu, fel y dengys ei farwnad i'w dad:—
"Mae'r cinio'n barod," ebe mam,
"Mae'r plant yn barod oll,
Mae eisiau bwyd ar bobun, John,
Dewch at y bwrdd heb goll."
Tra'n mynd ymlaen â'i waith, eb ef,
Gan wenu arnom ni:
"Rhoddwch eu gwala iddynt hwy,
Ac yna, deuaf fi."
Anwylaf dad! ei ymborth ef
Oedd byw i'w Dduw, a'i blant,
Trwy'i aberth daeth i gyfoeth nef
Yn dyner dad a sant.
Cysegrodd fyth yr enw tad
Fel drych o Dduw i ni,
Ac aeth i lys y nefol wlad
Dan urddau dwyfol fri.
Am ei gymeriad yn gyffredinol dywed:
Aeth gwanwyn ar ol gwanwyn heibio'i fedd
I alw blodau i wenu arno'n fwyn,
Ond darlun gwan oent hwy o'r tlysni a'r swyn
Flodeuai yn ei foes a'i dyner wedd.
Gaeafau rai â gwynder wisgai'i fedd,
Ond nid oedd gwynder cannaid eira'r nef
Ond hacrwch o'i gymharu â'i wynder ef,
A'r purdeb adlewyrchid yn ei wedd.
A chaniatau bod gormodiaith cariad hiraethus yn y pennill olaf, gwelwn fod gan y mab, ac ef yn awr yn hynafgwr, syniad referent am ei dad, ac y teimlai fod ei ddyled yn fawr iddo. Yr oedd gan John Adams ryw "grap" ar gynghanedd, ond nid oedd wedi ei meistrioli. Wele englyn beddargraff o'i waith:—
Yn y bedd, annedd unig,—y gorffwys
Ei gorffyn gwywedig;
Ni theimla mwy wên na dig
Anwadal fyd siomedig.
II.—YSGOL A CHOLEG.
CAFODD Dafydd, fel y plant eraill, ei ddysgu i fynychu moddion gras o'r crud. Eto nid ydym wedi gallu cael allan fod yna unrhyw gyfarfodydd na chymdeithasau neilltuol i blant, na mantais i ddynion ieuainc i arfer eu doniau, megis a geir yn ein dyddiau ni. Am bob magwraeth arbennig i'r ieuenctid, dibynnai'n teidiau, gallem feddwl, yn gwbl ar yr Ysgol Sul. A barnu wrth yr emynau a ganodd iddi, meddyliai John Adams yn uchel am ei swyddogaeth addysgol, a hyd yn oed ei heffeithiolrwydd ysbrydol, fel y prawf y pennill a ganlyn:—
Dan fendith Iôr bo'r Ysgol Sul
Er iawn hyfforddi llawer mil
Pa fodd i rodio'r llwybr cul,
Iawn orchwyl i bob rhai :
Ag uchel lef y geilw hon
Ar holl drigolion daear gron
I dd'od i gyfranogi'n llon
O'i rhoddion pur didrai. Bu'r Ysgol Sul y pryd hwn, ac am flynyddoedd wedyn, yn foddion gras a goleuni i bobl ieuainc a hen ein gwlad; a hyn sydd sicr, nad oedd modd i awgrym yng nghylch ei heffeithiolrwydd ddyfod o gyfeiriad yr addysg a gyfrennid yn ein hysgolion bob dydd. Yr oedd y rhai hyn yn ddilun a diffrwyth i'r pen; y plant yn mynd ac yn dyfod fel y byddai cyfleusterau cartref a maes a magu'r baban yn caniatau; a'r "ysgolfeistr teithiol" hefyd—clerigwyr, morwyr, milwyr—yn dyfod ac yn mynd, yn dyfod am fywioliaeth ar y ffordd i fywioliaeth well. Mewn ysgol felly y bu Dafydd Adams yn Nhalybont hyd onid oedd yn ddeuddeng mlwydd oed, pryd y caewyd hi ac yr aeth yntau i Ysgol Llanfihangel. Wele ei eiriau ef ei hun:—.
Yn y flwyddyn 1857, pan fu farw John Morgan Jones, 'ysgolfeistr yn Nhalybont, caewyd yr ysgol yno am na ddaeth neb i gynnig ei wasanaeth fel dilynydd iddo. Yn wyneb yr anfantais hwn, ac yn gwybod fod hawl gan nifer o blant rhanbarth Ceulan y Maes Mawr i gael eu hysgol yn rhad yn Ysgol Ramadeg Llanfihangel, fe'm hanfonwyd yno, ac eraill o'm cyd—bentrefwyr gyd â mi. Ymhlith y cyfryw yr oedd y Parch. John Felix, cefnder Syr G. Osborne Morgan—(yr oedd tad Syr George a mam Mr. Felix yn frawd a chwaer)—a chlerigwr llwyddiannus yn sir Fflint, a'r Parch. J. Ceulanydd Williams o Faesteg, cadeirfardd yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mhontypridd yn 1893. Yr ysgolfeistr ar y pryd oedd William Jones, Bryn Gole, gŵr rhadlon, addfwyn, a llawer iawn o natur dda ynddo. Ond fel pob ysgolfeistr a adwaenwn i ym more f'oes, yr oedd addysgu ei hunan ac ennill ychydig arian er mwyn gorffen ei gwrs athrofaol yn bwysicach ganddo na llwyddiant ei ysgolheigion. Ac er nad oedd yn enthusiast fel addysgydd, eto y mae gennyf barch mawr iddo ar gyfrif ei garedigrwydd a'i dymer addfwyn. Er gofid a cholled i rai ohonom, ymadawodd yn lled fuan i fyned i St. Bees i'w gymhwyso'i hun ar gyfer urddau eglwysig. Ym mlynyddoedd olaf ei oes yr oedd Mr. Jones yn rheithor Clocaenog, yn sir Ddinbych, ac yno y bu farw er ys talm bellach. Ei Iddilynydd oedd William Herbert, a ddaethai yno o'r Borth. Gŵr un fraich ydoedd—collasai ei fraich dde yn y felin fawr ym Mhen y Bont, ger y Bortha'r peth a'm synnai yn fawr ynddo oedd ei allu i ysgrifennu mor dda â'i law chwith. Yr oeddwn wedi dechreu darllen Cæsar gyd â Mr. Jones, ac arweiniodd Mr. Herbert fi i drothwy cysegredig yr iaith Roeg. Atgofiaf yn dda y parchedig ofn a'm meddiannai pan glywn yr athro am y tro cyntaf yn darllen En arche ên ho Logos,' &c. (Ioan i. 1). A phan fyddaf yn darllen y geiriau hyn yn awr, teimlaf yn fynych 'bwynt y dywediad hwnnw o eiddo Wordsworth:
'At length the man perceives it die away,
And fade into the light of common day.'
O, fel y mae cynefindra yn ein hysbeilio o rai o'n teimladau mwyaf cysegredig!
Gyd â dyfodiad Mr. Herbert daeth un cyfnewidiad pwysig—gosodwyd gwedd Eglwysig ar yr ysgol. Yr oedd yn rhaid i'r ysgolheigion addaw myned i'r llan ar y Sul os oeddynt am fwynhau breintiau yr ysgol. Ar ol hysbysu'r telerau i'm rhieni, anfonasant fi at y Parch. John Jones, y ficer, i ymholi a oedd hyn i fod yn amod aros yn yr ysgol. Wedi derbyn atebiad cadarnhaol, tynnwyd fi o'r ysgol, ac allan y bûm am dair blynedd heb unrhyw foddion addysg yn un man. Fel ysgolion gramadeg y cyfnod hwnnw, Groeg a Lladin a gaffai y lle pwysicaf yn y curriculum. Gorfodid ni i ddysgu ar y cof yr Eton Latin Grammar, gyd â rheolau y gystrawen yn yr iaith Ladin ei hun. Wedi 'trysori'r treigliadau a rheolau 'r gystrawen, caniateid inni ddechreu cyfieithu Cæsar. Ar adegau cymerid ni drwy rannau o'r Latin Delectus yn gyd'fynedol â Cæsar. (Cymru: Mehefin 1894).
Dyna'i gwrs addysg, i bob ymddangosiad, ar ben, a hynny nid am nad oedd ei dad yn prisio addysg, ond am ei fod yn prisio egwyddor yn fwy. Gan nad oedd ysgol arall yn gyfleus, na modd i'w yrru i Ystradmeurig, aeth y bachgen i weithio i'r gwaith mŵn. Oddiwrth y cofnodion sy gennym, casglwn iddo fod yn Ysgol Llanfihangel am tua dwy flynedd, a'i fod yn awr yn fachgen pedair ar ddeng mlwydd oed. Yn ystod y tair blynedd y bu allan o'r ysgol, yr hyn a saif allan amlycaf yng nghof ei gyfeillion cyfoed amdano yw ei fod yn ddadleuwr mawr ar "broblemau'r dydd " hwnnw—crefyddol a gwleidyddol yn bennaf. Yr oedd wedi cyrraedd oedran ymgodymu meddyliol, a pha beth bynnag oedd yn ddiffygiol yn ei gylchfyd, yr oedd pob anogaeth ynddo i hyn yn yr Ysgol Sul, yn y tŷ gyd â'r rhai a ddeuai at ei dad, yn y gwaith, ac y mae'n debig mewn cyfarfodydd dadleu a gynhelid yn y pentref, er na wyddom iddo ef ddyfod yn amlwg fel siaradwr cyhoeddus yr adeg hon. Buom lawer gwaith yn synnu at ei barodrwydd i ddadleu pwynt, a hynny pan nad oedd galw, na neb am ddadleu ag ef. Dïau bod yr anianawd ynddo, a'i bod wedi ei datblygu gan ymarferiad yn ei gyfnod mwyaf hyblyg a derbyngar, fel nad rhyfedd iddi ddal yn gryf ynddo hyd y diwedd.
Nid yw ei hen gyfeillion yn Nhalybont yn cofio iddo ddyfod dan ddylanwad Diwygiad 1859-60. Defnyddia ef, fodd bynnag, gweryl a ddaeth gyd â'r Diwygiad i Dalybont i eglurhau gwaith yr ysbryd drwg yn Niwygiad 1904-5 mewn un bregeth rymus o'i eiddo.
Nid oedd cyrddau llenyddol ac eisteddfodau lleol eto wedi dyfod i fri, fel na cheir sôn amdano'n cystadlu nac ennill gwobr am na thraethawd na chân. Ond cawn ei fod yn hoff o adrodd tameidiau o ganeuon, telynegol gan mwyaf, yn y gwaith neu ynteu wrth rodianna, yn ystod ysbeidiau o asbri. Cofia un o'i gyfeillion am bennill a gyfeiriai at felystra "mafon a mefus," ac yna a ddiweddai
Ond gwell yw yr un a welodd ei fun
Ac a gafodd gusan o'i gwefus.
Cyfeiriwn yn arbennig at hyn am mai dyma'r arwydd cyntaf sy gennym o'i ogwydd bore at farddoniaeth—murmur hyglyw cynta'r ffrwd a ddaeth wedyn i lifo'n llydan a chanu'n bêr am drigain mlynedd—hyd yr aber i'r môr.
Ar ol tair blynedd yn y gwaith mŵn, aeth yn ol i ysgol Talybont fel pupil teacher. Nid oedd y gwaith mŵn yn dygymod â'i anianawd; ac er bod ennill arian yn peri i'r llanc deimlo'n ddyn, yr oedd gyrr ei uchelgais deallol yn drech na'r hudoliaeth hwn, fel y bu yn ystod gweddill Ni adawodd i rwd gasglu ar ei ddeall a'i ddarllen yn ystod y blynyddoedd hyn, fel y praw y ffaith na bu'n rhaid iddo wasanaethu yn y swydd hon ond dwy flynedd allan o bedair cyn mynd i'r coleg. Yn ol mwy nag un braslun o'i hanes a ymddangosodd yn ystod ei fywyd (sydd o ganlyniad, fel y gallwn gasglu, yn gywir) ymrôdd y pryd hwn i'w berffeithio ei hun, wedi'r cychwyn byr yn Llanfihangel, mewn Lladin. Ymroddodd hefyd i feistroli'r Ffrangeg "er gallu cyfieithu gweithiau Pascal," meddai un hanes, er nad hawdd gweld pa eisiau oedd i allu gwneuthur hyn, gan eu bod wedi eu cyfieithu eisoes. Tebig ei fod am ladd dau aderyn â'r un garreg, meistroli'r Ffrangeg a sugno nodd meddyliol ac ysbrydol Pascal. Os felly, yr oedd eisoes, nid yn unig yn hoff o ddadl, ond hefyd yn teimlo diddordeb mewn gwirionedd ysbrydol er ei fwyn ei hun. Yr ysgolfeistr oedd Mr. T. H. Kemp, a ddywed mewn nodyn diweddarach at Adams bod ei lyfr ar Ddatblygiad yn deffro'i hen farn amdano, ei fod yn "born critic."
Cwyd y cwestiwn yn y fan hon: Sut y bu iddo ef, y pryd hwn, yn wahanol i fwyafrif bechgyn talentog ei wlad, ddewis cylch yr ysgolfeistr yn hytrach nag un y pregethwr, ac yntau hefyd yn fab i bregethwr? A chaniatau ei fod wedi dechreu cael blas ar ddysg, a bod ysgol Llanfihangel, ac Ystradmeurig y tu draw iddi, a Rhydychen neu Gaergrawnt yn y pellter, wedi agor vista addysgol o'i flaen y tu hwnt i ddarllen, ysgrifennu, a seiffro, nid oedd dim i'w rwystro i'w throedio fel pregethwr. Yr ateb i hyn yw nad oedd ynddo ogwydd naturiol at siarad cyhoeddus; a mwy na hynny, nad oedd hyd yn hyn wedi clywed yr alwad i'r pulpud. Nid oedd ei dad yn un a'i hanogai i waith y weinidogaeth heb yr "alwad" hon, ac nid oedd yntau, chwaith, o ran anian a chydwybod yn un a ymgymerai â'r gwaith o bregethu'r Efengyl yn rhwydd a difeddwl, ac nid yn yr ysbryd hwn yr ymgymerodd â'r gwaith yn ddiweddarach.
Tua diwedd ei dymor fel pupil teacher (o Hydref 21 hyd ddiwedd y flwyddyn) bu gofal yr ysgol arno ef, gyd â chynhorthwy dau fonitor, oblegid ymadael o'r ysgolfeistr â Thalybont. Ddechreu'r flwyddyn nesaf (1865) ymadawodd am Goleg Normalaidd Bangor. Yno daeth i gyffyrddiad â dyn ieuanc o Yorkshire fu a'i fywyd a chylchoedd ei wasanaeth wedi eu cydweu â'r eiddo ef mewn ffordd hynod iawn yn ystod y rhan fwyaf o weddill ei oes, sef Mr. J. N. Crowther (Glan Ceri), ac ef yw'r awdurdod goreu ar lawer peth yn ei hanes o hyn ymlaen. "Dyn ieuanc teneu, tal, tawel a myfyrgar ei wedd, gyd â chnwd tew o wallt melyn yn goron ar dalcen hardd ydoedd y pryd hwn," medd Mr. Crowther. Meddai'r ddau ddigon o ynni a gwroldeb i godi am chwech o'r gloch y bore yn yr haf, a mynd am dro o gylch Trwyn y Garth cyn y dosbarth saith. Enillodd eu hegni—a'u gallu, bid siŵr y prif wobrau ddiwedd y flwyddyn. Adams oedd y blaenaf mewn Llenyddiaeth a'i gyfaill yn ail, tra yr oedd Crowther ar y blaen mewn Mesuroniaeth ac Adams yn ail. Ond un o'r pethau mwyaf arwyddocaol yn hanes y cyfnod hwn oedd ei waith yn torri dan sylfeini diwinyddiaeth yr athro, a thynnu'r adeilad a'r dosbarth i lawr.
"Anaml (meddai Mr. Crowther) y cymerai'r Prifathro—y Parch. John Phillips—at ein dysgu mewn unrhyw bwnc. Ond cychwynnodd unwaith yr hyn a olygai'n ddïau i fod yn gwrs o wersi ar destun mwy pwysig nag Iaith neu Fesuroniaeth, gan gymryd Outlines of Theology Hodge yn llawlyfr. Eithr nid oedd y myfyriwr o Dalybont yn barod i ddywedyd Amen' i bopeth oedd yn yr Outlines er bod awdurdod y Prifathro y tu cefn iddynt. Âi ymddiddan rai prydiau yn dra gwresog, ac i rai ohonom, a godwyd yng nghredo John Wesley, yn llawn diddordeb. Y canlyniad fu i'r gwersi ddyfod i ben yn sydyn, ac ni chlywyd mwy am yr Outlines. Yr oedd hyn, fel y gŵyr y sawl a gafodd y fraint o adnabod Mr. Adams, yn nodweddiadol o holl gwrs ei fywyd. Ni fynnai, ac ni fedrai, gefnogi na derbyn yr hyn nad oedd yn ei gredu.
Ymhlith ei bapurau cawsom lythyr cymharol ddiweddar (1919) oddiwrth hen gydfyfyriwr arall, sef Mr. D. E. Williams, Melbourne, Australia, a deifl beth goleuni ar y cyfnod hwn.
"Caniatewch i mi eich llongyfarch, meddai, y safle uchel ydych wedi gyrraedd. Rhyfeddais beth at eich gwaith yn mynd i'r weinidogaeth. Pe buasech wedi ennill y swydd o Athro mewn rhyw goleg o fri, buaswn yn ei gyfrif fel canlyniad naturiol blynyddoedd o astudiaeth, ond y weinidogaeth . . . prin. Eto digwydd pethau rhyfedd mewn bywydau lle na freuddwydiem amdanynt! . . Os iawn y cofiaf, yr oeddych yn wastad yn fyfyriwr angerddol nid rhyw iâr fach yr haf, yn sugno ychydig fan yma. ac ychydig fan arall, heb gasglu nemawr o ddim yn y diwedd."
Cyfeiria gyda pharch tyner at gymeriad y Prifathro.
Ond er ei fod yn fyfyriwr caled, perthyn yr enghraifft gyntaf a feddwn o'i farddoniaeth i'r pryd hwn. Ymysg casgliad (MS.) o'i ddarnau bore a eilw yn "Plenyddegion," ceir Cân Serch dan yr enw "Plenydd," Bangor, sydd yn deilwng o fardd ugain oed:
'Dyw Bangor er ei rhwysg a'i bri,
Ei choleg a'i theleidion,
Ond lle annedwydd heboch chwi
Sydd wedi dwyn fy nghalon.
Anghofia'r môr ei lanw a'i drai,
A dïau sycha Teifi,
A llama Trichrug tua'r lli
Cyn peidiaf fi â'ch caru!
Cawn hefyd gan ar "Weniaith," gydfuddugol â Gwilym Pennant, Llundain, 1866.
III.—Y MEISTR YSGOL.
AR ddiwedd y tymor apwyntiwyd ef ar y cyntaf i Ysgol Rhydlewis.
"Ond," meddai Mr. Crowther, "ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, er syndod inni oll, cawsom fod Mr. Adams wedi ei apwyntio'n feistr ar Ysgol y Bryn, Llanelli, a'm bod innau i fynd i Rydlewis. Bwriadai Rhagluniaeth i Mr. Adams fynd i Rydlewis yn nês ymlaen, ond i lenwi swydd arall."
Arhosodd yn y Bryn am ddwy flynedd a hanner. A barnu wrth adroddiadau'r arolygwyr, ni ellir dywedyd ei fod yn llwyddiant fel ysgolfeistr; ac os yw clod prin yn gondemniad, dyna'r ddedfryd y mae'n rhaid ei phasio arno ef. Dengys y logbook ei fod yn ymroddi i'w waith, weithiau'n ceryddu, weithiau'n gwobrwyo. O brin y credem y gallai ddefnyddio'r wialen, onibâi bod hynny ar lawr mewn du a gwyn yn ei lawysgrif ei hun. Yn wir, y mae stori amdano yn Ystradgynlais, y byddai bob amser y caffai gyfle yn ceryddu un hogyn eithriadol ddrwg oedd yno, am, meddai ef, os nad oedd wedi gwneuthur drwg (pan ei ceryddid) y byddai'n sicr o'i wneuthur yn union deg! Yr oedd yn dygymod yn well â'i natur ef i wobrwyo'r plant nid yn unig â llyfrau, ond hefyd â chnau ac afalau (medd y logbook), gan gofio'n ddîau amdano'i hun yn disgwyl ei dad o'r farchnad, pryd y câi yntau, yn ei eiriau ei hun,
"O galon lawn o ras
Deisennau ac afalau llawn
O faeth a phêr eu blas,"
Ond yr oedd pethau yn ei erbyn; y plant yn cael eu cadw gartref, neu ynteu'n dyfod yn hwyr; y pupil teacher oedd ganddo yn un diog a diwerth; ac efallai, islaw'r cyfan, y gwaith yn anghydnaws â'i ysbryd a'i uchelgais ef. Eto, hyfryd gweld ei fawrfrydigrwydd yn blodeuo yn y logbook, fel rhosyn mewn diffeithwch; y gair cyntaf ymron a ysgrifennodd ynddo yw gair o ganmoliaeth i'w ragflaenydd. Yn wahanol i'w ddilynydd, ni fynnai fedi clod o anghlod arall. Eto, yn adroddiad diweddaf yr Arolygwr ar yr ysgol, caiff ei gondemnio am beidio â rhoddi'r sylw dyladwy i'r pupil teacher, ond ni cheir gair yn ei nodiadau ef ei hun am ddiogi a phylni hwnnw, tra yn nodiadau ei ddilynydd ceir cyfeiriadau cyson atynt sy'n profi na fynnai'r meistr hwnnw ddwyn mwy na'i faich ei hun.
Peth arall yn ddiau oedd fel tân ar groen Adams oedd yr angen am i'r meistr fod yn ofalus i gael ceiniogau'r plant i mewn.
Ar waethaf blinder ysgol a llescedd iechyd, daliodd ymlaen i farddoni gyd â chryn lwyddiant eisteddfodol. Efô a enillodd ar y Bryddest i "Enwogrwydd " yn Eisteddfod Iforaidd Llanelli yn 1867, ac ar Gwymp Jericho" yn Eisteddfod y Bryn, 1868. Deuthai i gyswllt â Llundain, gallem feddwl, drwy ei frawd a'i chwiorydd, oblegid cawn ef yn ennill gwobrwyon barddol yno am Bryddestau ar "Gwymp Abyssinia," "Yr Athro," " Dr. Livingstone," a "Caradog o flaen Caesar," yn 1868 a'r blynyddoedd dilynol.
Yr ydym yn ddyledus i'r Parch. John Evans, Bryn, Llanelli, am a ganlyn:
Cynhelid Eisteddfod yn Soar, Llwynhendy. Dafydd Morgannwg yn beirniadu. Wedi mynd dros restr go fawr, daeth at y diweddaf, a dywedodd mai gyd â gwyleidddra yr oedd yn dyfod at y cawr hwnnw, "i daflu ei linyn mesur drosto. Wedi ymadroddion "canmoliaethus, gydag enghreifftiau o'r cyfansoddiad, "galwodd enw y buddugwr. Disgwyliodd pawb weled dieithrddyn enwog, ond yn union cododd ar ei draed yn y dorf y dyn teneu, llathraidd Adams, ysgolfeistr y Bryn. Mawr y gymeradwyaeth pan welwyd mai gŵr o'r lle ydoedd."
"Arferai gadw rhyw fath o ysgol gân. Dysgai allan o Ceinion y Gân, casgliad oedd yn boblogaidd iawn yr adeg "honno. Yr oedd yn edmygwr mawr iawn o Fynyddog, a dysgodd ddarnau i'w hadrodd o'i waith, a chaneuon o bob math. Nid oedd yn ganwr ei hunan, ond gall"odd ddodi eraill i ganu'n llwyddiannus iawn. Hefyd yr oedd yn ffyddlon i holl sefydliadau yr eglwys, Sul ac wythnos. Arferai gymryd rhan yn y cwrdd gweddi "a'r gyfeillach grefyddol. Yr oedd ganddo arferiad, pan "weddïai'n gyhoeddus, o sefyll ar ei draed, a chodi un "llaw at ei dalcen gan guddio rhan ganol ei wyneb. "Yna gweddïai yn syml a chonseis. Arferai fod yn 'efrydydd mawr iawn—yn ddiwyd yn ei lyfrau."
Yn niwedd Mai 1869, ymadawodd â'r Bryn ac aeth, mae'n debig, i'r Coleg Normalaidd yn Abertawe i baratoi ar gyfer Matriculation ym Mhrifysgol Llundain. Ni allwn ddywedyd iddo adael y Bryn "er mwyn" hyn, er bod hynny'n debygol ac yn gyson â'i dueddfryd. Bu'n llwyddiannus yn ei arholiad. Dewiswyd ef Dewiswyd ef yn brifathro'r Ysgol Frytanaidd yn Ystradgynlais yn Hydref 1870. Am ei wasanaeth yno am tua dwy flynedd a chwarter dywed y Parch. R. M. Rhys:
Cyfnod diddorol yn hanes addysg yn Ystradgynlais oedd cyfnod gwasanaeth Mr. Adams. Y pryd hwnnw yr oedd dwy ysgol bob dydd yn Heol yr Odyddion gyferbyn â'i gilydd. Ysgol Eglwys oedd un ac Ysgol Frytanaidd oedd y llall. Yr oedd mesur o deimlad drwg cydrhwng pleidwyr yr ysgolion hyn, fel mewn llawer ardal arall. Dyddiau deffroi'r Ymneilltuwyr i gyfle addysg oedd y dyddiau hynny. Ymneilltuwr ydoedd Mr. Adams o reddf ac argyhoeddiad, a bu yntau'n gyfrannog o deimlad Ymneilltuwyr yr ardal dros dymor ei wasanaeth.
Yn y logbook (Hydref 26), darllenwn:
Mae'r ysgol yn cynhyddu a'r rhagolygon yn gwella. Ymddengys bod yr Ymneilltuwyr yn deffro i'w hawliau. Erbyn dechreu Tachwedd yr oedd y pwyllgor wedi penderfynu gosod yr ysgol dan lywodraeth Bwrdd yn ol y ddeddf newydd, yr hyn a wnaed ym Mawrth 1871.
Cawn y geiniog yn peri gofid iddo yma eto:
Pwnc dyrus ynglŷn â'r ysgol, y pryd hwnnw, ydoedd cael arian i ddwyn y draul, ac ymddengys bod y prifathro yn gorfod cymryd rhan amlwg i'w casglu. Er nad oedd tâl yr athrawon yn uchel, cafodd y pwyllgor drafferth lawer tro i gwrdd â'r gofyn, a bu cryn ymdrech er clirio pob dyled cyn trosglwyddo'r ysgol i ofal y Bwrdd. Nid oedd y mesurau a gymerid yn dwyn i mewn ond ychydig ar y tro. Wedi gwneuthur yr ysgol yn Ysgol Fwrdd, bu pwnc yr arian eto'n bryder i'r awdurdodau, a disgwylient i'r athro arfer gofal mawr dros geiniogau'r plant. Aeth y dyddiau hynny heibio er cysur a dedwyddwch plant ac athrawon.
Nid oedd Mr. Adams y pryd hwn yn teimlo llawer o ddiddordeb mewn symudiadau y tuallan i waith uniongyrchol yr ysgol. Er nad oedd yn gryf o iechyd, cawn iddo hefyd ddechreu ysgol nos ar gyfer rhai wedi tyfu i oedran. Yr oedd yn aelod gweithgar o Eglwys Sardis. Cynhaliai Ddosbarth Beiblaidd ar fore Sul ar ol y gwasanaeth arferol, a myn rhai eto sôn am y Dosbarth hwnnw a'r gwaith da a gyflawnwyd ynddo.
Nid dyna'r waith olaf iddo gael disgyblion ymysg aelodau Eglwys Sardis. Yn ddiweddar y mae Dosbarth Darllen Pobl Ieuainc yr Eglwys a'u hathro (y gweinidog) wedi bod yn myfyrio y rhai a ganlyn o'r llyfrau a ysgrifennodd: Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth, Moeseg Gristionogol, Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar. Bu'n gwasanaethu yng nghyfarfodydd blynyddol yr Eglwys, ymron ar derfyn ei oes, a llawenydd mawr a fu ganddo gael iddo eto ddisgyblion yn aros yn yr ardal a phobl ieuanc yn darllen a mwynhau ei lyfrau. A fynno fyw yn hir bid fyw yn dda.'
Er nad oedd yn wael, yr oedd yn wan ei iechyd yn ystod y cyfnod hwn; a chawn ef am ddyddiau yn Rhagfyr 1870, Hydref 1871, a Thachwedd-Rhagfyr 1872, yn analluog i fynd i'r ysgol. O'r diwedd (Rhagfyr 1872) torrodd ei iechyd i lawr yn hollol, a bu'n rhaid i'w frawd, Mr. Richard Adams, ddyfod i lenwi ei le hyd ddiwedd y tymor.
Atgof ei hen ddisgyblion amdano y pryd hwn yw, mai dyn ieuanc bregus o gorff ydoedd, tal, myfyrgar ei duedd, yn cerdded drwy'r ysgol fel petâi ei feddwl ymhell o'r ysgol a'i gwaith.
Wedi gadael yr ysgol y waith hon, nid aeth yn ol iddi mwy. Nid oedd ei ddisgyblion ymhell o'u lle pan awgryment bod ei feddwl ymhell o'r ysgol a'i gwaith, a dîau i'w iechyd dorri i lawr, nid oblegid gwaith yr ysgol yn unig nac yn bennaf, ond am ei fod yn llosgi deupen y gannwyll. Yr oedd ei gydwybod yn rhy lednais i beidio â gwneuthur ei oreu yn yr ysgol; ond ni allai roddi ei oreu iddi gan nad oedd ei oreu ef a'i goreu hi'n cydgordio. Y gwir yw na anwyd mohono i fod yn feistr ar ysgol bob dydd; er y meddai, fel artists a specialists yn gyffredin, amynedd di ben draw ym maes ei ddiddordeb, âi llafur ynglŷn â manylion eraill yn drybestod dan ei ddwylo. Ac felly y bu drwy ei fywyd; gwyddom iddo wrthod mwy nag un post o bwys, a golygyddiaeth mwy nag un cyfnodolyn am y tynasent ef allan o linell ei brif ddiddordeb. A hyd yn oed y tu mewn i gylch ei weinidogaeth, dywed Mr. Crowther ei fod yn fwy cartrefol yn y dosbarth a astudiai Butler's Analogy yn Hawen na chyd â'r plant, pan ymwelai â'u dosbarthau hwy.
Yr ydym yn ddyledus i'r Parch. O. Lloyd Owen, Pontypridd, am a ganlyn:—
Y cof cyntaf sy gennyf amdano ydyw iddo ddyfod i Abererch i bregethu, ar noswaith yn yr wythnos, ers hanner can mlynedd neu ragor yn ol, pan oedd yn ysgolfeistr—yn Ystradgynlais os wyf yn cofio'n iawn. Beth a'i dug y ffordd honno nis gwn, ond
gwn iddo wneuthur argraff arbennig ar yr ychydig bobl a'i gwrandawai, ac ar fy nhad yn neilltuol, yr hwn '—goddefer imi ddywedyd—oedd yn eithriadol o graff i adnabod, ac i ganfod good points pregethwr. Cofiaf yn dda ei farn ef am y gŵr ifanc diarth a ddaeth heibio ar ei sgawt. Dyna bregethwr gwahanol i bob pregethwr arall; dydw i ddim yn deyd i fod o'n well na phob un arall, ond rydw i'n deyd nad ydi o ddim yr un fath â phob un arall, ac am hynny os cawn ni fyw neu ynte' hefyd mi gawn i glywed o eto.' Gwir a ddywedodd—nid ydoedd, na'r pryd hynny na byth wedi hynny, mewn meddwl na dywedyd na gwrando, yr un fath â neb arall; yr oedd hyn yn nodweddiadol iawn ohono.
Cawn iddo ennill gwobr o £4/4/0 yn Eisteddfod Brynaman yn 1873 am bryddest ar " Yr Anialwch," dan feirniadaeth Islwyn. Yn ol Gwydderig,1 ymneilltuodd Watcyn Wyn oddiar bwyllgor yr Eisteddfod hon er mwyn cystadlu. Yn ol y feirniadaeth, yr oedd gan un cystadleuydd "awen fawr," heb fod yn " goeth"; yr oedd y buddugwr yn fwy coeth a thlws.
IV.—COLEG Y BRIFYSGOL.
TREULIODD y flwyddyn 1873, mae'n debig, i adnewyddu ei nerth a barddoni, a pharatoi ar gyfer arholiad Coleg Aberystwyth. Yr oedd wedi gosod ei fryd ar ennill ei radd ym Mhrifysgol Llundain; oedd â'i lygaid ar y nod hon yn y Bryn, ac Abertawe, ac Ystradgynlais, ac yn awr gwelodd gyfle i sylweddoli ei obeithion. Llwyddodd i ennill Exhibition o 10 yn arholiad Ionawr 1874; a'r Hydref dilynol enillodd Ysgoloriaeth David Davies, £40 y flwyddyn am dair blynedd. Ac o ddarllen rhwng y llinellau yn ei farwnad i'w dad, gallwn gasglu bod ennill yr ysgoloriaeth hon yn fater bywyd yn addysgol iddo ef, oblegid cawn i'r hen ŵr aros yn y dref ddiwrnod cyhoeddi'r result yn rhy hwyr i ddal y trên, ond iddo gerdded adref " â chamau llon" yn llawn o "win" llwyddiant ei fab.
Ond er bod yr ysgoloriaeth yn fater o bryder iddo ef yn fwy na llawer, nid oedd uwchlaw prisio'r anrhydedd cysylltiedig â hi; ac os oedd yr anrhydedd yn fawr ar y pryd, enillodd ogoniant ychwanegol oddiwrth y llinell ddisglair o ysgolorion ac exhibitioners a'i dilynodd.
Ni raid dywedyd iddo dreulio'i amser yn y Coleg yn ddiwyd a llwyddiannus. Treuliodd ef hefyd yn ddifyr, mewn cwmnïaeth gydnaws. Fel hyn y cân yn 1880:
"Hoff Goleg y Brifysgol! Atgof fyn
Ail dreulio'r oriau rhwng dy furiau derch.
Gan adnewyddol fwyniant chwydda'r fron
Wrth fynd o faes i faes llenyddol ddysg.
Tra'n cael ei swyno gan brydferthion fyrdd
Mae'r don yn chwarae fyth o gylch dy draed,
*****
Tra ninnau yr efrydwyr oddimewn
Yn rhyw eilfyddu nwyd yr oriog fôr
Mor llawn o nwyf a hoen ag ef ei hun,
Ac mor ddireidus hefyd ambell dro."
Enillodd ei radd B.A. yn 1877, y cyntaf i'w ennill ym Mhrifysgol Llundain yn uniongyrchol o'r Coleg. Enillodd hefyd y "Cobden Club Prize" mewn Economeg yn 1876, a'r "Shakespeare Society Prize" am draethawd ar Hamlet yn 1878. Dengys hyn nad oedd yn ei gyfyngu ei hun i lwybr cul y B.A. A phan fyddai ar ei wyliau gartref, wedi treulio'r bore mewn astudiaeth yn ei ystafell, arferai dreulio'r prynhawn ar Alltycrib neu le unig arall gyd â Shakespeare, neu Goethe, neu Carlyle—a'i gyfaill Mr. Richard Jones. Yr oedd yr hyn a ddarllenid ac a drinid yn aml yn dal perthynas â'i arholiadau: yr oedd eisoes wedi darganfod bod siarad ag arall ar bwnc—peth yr oedd yn hoff ohono bob amser—yn help i'w ddatrys a'i gymhathu. Ond nid dyna amcan y gwmnïaeth brynhawnol hon: wrth fynd allan i'r mynydd ceisiai fynd allan o lwybr cul ei astudiaeth.
Ni a'i cawn hefyd, yn 1877, yn ennill Cadair Powys (yn Eisteddfod Cemmaes Road) am bryddest ar "Addysg." Dengys y bryddest hon, a gyhoeddwyd gyd â chyfansoddiadau eraill Eisteddfod Powys, nad oedd yn ei ymchwil am addysg wedi esgeuluso y ddawn farddonol oedd ynddo. Rhoddir y dyfyniadau a ganlyn, fodd bynnag, nid oblegid eu gwerth barddonol, ond am y rhoddant inni ei olygiad ar swyddogaeth "Addysg" (ei addysg ei hun hefyd, bid siŵr) a syniadau nodweddiadol ohono ar bethau eraill. Yn y caniad cyntaf cawn ddyn ieuanc yn cwyno:
"Mae Llyfr Natur imi yn rhôl seliedig,
A Theml Addysg rhagof yn glôedig.'
Eithr dihuna
"Fel un a gadd ei eni i fywyd uwch
Yn atgyfodi o aeafol gwsg
Blynyddoedd o farweidd-dra pwl, diddysg,
Yn ysbryd newydd mewn ysbrydol fyd."
Yn yr ail ganiad disgrifir y canlyniadau:
"Ag ysgafn droed, a'i fynwes yn ymchwyddo,
Cyfeiria i'r Athrofa i fyfyrio;
Ymegyr newydd fyd o'i flaen yr awron,
A newydd gudd alluoedd yn ei galon,
Fel un yn graddol esgyn llechwedd mynydd
Newidiol gylcharlunfa wela beunydd."
Dyma swyddogaeth "Addysg":
"Y garw farmor roddir inni yn ddefnydd,
Ond Addysg sydd i'w gynio'n ddelw ysblennydd,
Rhydd Nef yr hedyn,—ni sydd i'w ddatblygu,
Ni thyf planhigion enaid heb eu garddu."
Yna cawn y canlyniadau gwrthrychol:
"Ei oriau dreulia yng nghwmpeini ei lyfrau
Hyawdlaf fud—areithwyr penna'r oesau
Sibrydant eu cyfrinion,
Ni chydnabydda llyfr wreng a bonedd,
Gwerinwr yw—ni foesymgryma i goegedd.
Yn urdd-foes llyfrau, ni roir gradd ac urddau
I waed a chyfoeth. Dim ond rhagoriaethau
Fawrygir yno; ond i bob teilwng rhoddir
Llon groesaw pendefigaidd drwy y frodir."
Perthyn y myfyriwr felly i'r gymdeithas uchaf o ran bonedd a rhyddid dyrchafedig:
Gwestya yn ei dlodi a'i unigedd,
Brif urddasolion llên, yr uchaf fonedd,
(Os tlawd yw llawn etifedd y gorffennol,—
Etifedd cyfoeth mawr y byd meddyliol;
Os unig ydyw'r un a fedr siarad
A holi dysgedigion penna'r cread.)
Mae tywysogion byd y meddwl iddo
Yn hoff—gymdeithion, ac yn gweini arno.
Mae wedi cael teith—ysgrif gan ddysgeidiaeth
I deithio yn hamddenol drwy bob talaith
O'r byd meddyliol. . .
Wrth gymdeithasu â'r fath freiniol deulu
Mae'i galon yn ymburo, yn ymddyrchafu
Uwch Rhagfarn, sy'n crebachu'r enaid dynol
Fel na all gynnwys ond ei dras enwadol;
Uwch dellni ffug—santeiddiol na all weled
Rhagoriaeth na gwirionedd mewn arall—gred;
Uwch balchter ffug—grefyddol dybia'i enwad
Yn gylch am bob gwirionedd yn y cread;
Uwch caethter tyn reolau taglyd ffurfiau
A rwym—efynna'r meddwl â chredoau."
Yn y trydydd caniad y mae'r llanc yn clywed llais
"Yn codi o ddirgelion dyfna'i fron,"
Ac yn sibrwd
"Ymbwylla, aros, paid â bod mor hyf,
Paid disgwyl gormod wrth ddaearol ddysg;
Ar galon, nid ar ben, y byd mae'r bai,—
Wellhâ meddyglyn Addysg mohono'n llwyr."
Diwedda'r Bryddest fel hyn:
"Mae'n rhaid ymgydnabyddu â Thad gwirionedd
Cyn nofia ysbryd dyn mewn llawn dangnefedd.
Rhaid iddo addoli Rhywun—rhaid i'r galon
Gael llifo'n ffrwd o gariad at ryw Berson.
Ah! croesaw, Goleg Iesu—Coleg Cariad
Lle rhoddir urdd—radd i'r isela'n wastad,
Lle traws-sylweddir llên yn faeth ysbrydol,
Lle troir y dynol ynof fi yn Ddwyfol.
Ah! dyma'r Addysg a gymhwysa f'ysbryd
I fod yn llawn ddinesydd Tragwyddolfyd."
Os gellir edrych ar y bryddest hon nid yn unig yn gynnyrch dychymig a deall, ond hefyd yn ffrwyth profiad, ac felly yn hunangofiannol, yna yr oedd ef yn ceisio Addysg (1) er mwyn datblygu ei gynheddfau naturiol, ac felly (2) gael allwedd i mewn i drysorfeydd natur a phrif fedd- yliau'r oesoedd, a (3) mwynhau rhyddid oddiwrth gyfyng- iadau rhagfarn a hunandyb.
Yn rhifyn cyntaf cyfnodolyn y Coleg yn 1878 ceir yr ysgrif gyntaf o'i eiddo sydd yn ein meddiant, ar "Gredo a Chymeriad," gyd â syniadau tebig i'r rhai a geir yn ei bryddest (gyhoeddedig) gyntaf. Dyma ei phrif bwyntiau: (1) Medd yr hyn a gred dyn â'i holl galon ddylanwad mawr ar ei fywyd. Eto nid yw ond un o amodau tyfiant -fel gwraidd y planhigyn. (2) Y mae gormod o bwys wedi ei gysylltu â chydsyniad deallol â gwirioneddau (neu a dybir eu bod yn wirioneddau). Edrych dynion yn ormodol am arweiniad a sicrwydd at gyfundrefnau ffaeledig y deall dynol yn lle mynd at ffynhonnell gwirionedd a bywyd. "Ni ddeuwch ataf fi." Y mae wedi bod yn andwyol i Gristionogaeth godi awdurdod uwchlaw rheswm santeiddiedig a chydwybod-traddodiadau'r tadau uwchlaw mewnwelediad dwyfol yr unigolyn. Ond y mae'r adweithiad yn dechreu, diolch i ddylanwad grasol, a chydymdeimlad dynol, goddefgar, oll-gynhwysol y Duw-ddyn. Y mae credoau sydd wedi crofennu a ffurfiau sydd wedi ymgaregu yn cael eu datgyfanu ac yn rhoddi ffordd i fywyd uwch a dwyfolach. (3) Dylesid edrych ar wyddonwyr fel rhai'n caru'r gwirionedd, ac fel cydweithwyr â'r Person Dwyfol a awyddai ddatguddio llawer o bethau i'w ddisgyblion. Ffrwyniad ac nid mynegiad (repression, not expression) yw gelyn mwyaf marwol rhyddid a chynnydd dyn. Nid yw uniongrededd yn aml ond diogi meddyliol, na'r pulpud ond "castell llwfrddyn." (4) Yn lle edrych ar gredo a bywyd fel achos ac effaith, dylasem yn aml newid y berthynas, a chyfrif y bywyd yn achos, gan mai un o driciau'r natur foesol lygredig yw cyfaddasu ei chredo i'w gweithrediadau ei hun. (5) Yr heresi fawr yw heresi calon. Cyhyd ag y byddom yn deyrngar i gydwybod ac yn ufudd i'r Llais Dwyfol o'n mewn, nid oes dir gwaharddedig i'n deall, a phan yw'n calonnau mewn cytgord â chalon Duw, rhydd hyn inni'r defnydd goreu i'w weithio allan mewn syniadau cywir, ac mae'r sawl a fedd ysbryd anghywir dan anfantais fawr i ddyfod o hyd i'r gwirionedd. Ac ni fuasai Duw wedi gosod ynom gariad at unoliaeth, y ddawn i olrhain effeithiau i'w hachosion, onibâi Ei fod yn golygu inni i'w ddefnyddio.
Dengys y ddau gyfansoddiad hyn inni ei fod erbyn hyn wedi cyrraedd yr esgynlawr moesegol a diwinyddol y bu'n sefyll a siarad arno am lawer blwyddyn wedyn ; a gallwn gasglu ei fod yn pentyrru geiriau megis "caethter tyn reolau taglyd ffurfiau a rwym-efynna'r meddwl" gyd â bwriad neilltuol o ddangos ei atgasrwydd o'u gorthrwm. Nid oedd gwahanol adrannau ei gred eto, efallai, wedi eu cyfundrefnu, gan y gesyd ffydd, rheswm, y galon, mewnwelediad, a chydwybod yn ymyl ei gilydd. Nid oes arwydd, ychwaith, ei fod eto wedi dyfod dan ddylanwad Hegel a Green. Mill a Bain oedd ben y pryd hwnnw ym Mhrifysgol Llundain; ac er y gwyddom iddo gael help y Prifathro mewn Athroniaeth yn ogystal â'r Clasuron, a'i fod yntau wedi gadael Rhydychen (lle'r oedd T. H. Green yn awr yn dyfod i sylw a phoblogrwydd) yn 1866, dengys y lle canolog a rydd Adams i fewnwelediad nad oedd digon o ddelfrydiaeth Hegel wedi treiglo i'w feddwl i wneuthur argraff ddofn arno,
Gweledigaeth proffwyd oedd ganddo eto yn fwy na chyfundrefn yr athronydd a'r diwinydd, a gwelwn hi yn mynd yn dân goleu yma ac acw yn y bryddest a'r ysgrif uchod, fel nad ydym yn rhyfeddu ei fod yn awr wedi ymroddi i'r gwaith o bregethu. Osgôdd y pulpud hyd y gallodd; nid oedd wedi ei eni'n siaradwr naturiol, ac nid oedd ynddo ogwydd at fywyd cyhoeddus: anghenraid a osodwyd arno. Nid ydym yn sicr pa bryd y gwelodd y pulpud yn sefyll ar draws ei lwybr i hawlio'i wasanaeth ; efallai nad oedd wedi plygu ei ewyllys i'w alwad pan oedd yn cychwyn y dosbarth Beiblaidd yn Ystradgynlais; ond dïau iddo fynd i Aberystwyth â'i wyneb ar y weinidogaeth, fel y praw atgof Mr. Lloyd Owen.
Efallai mai yn y cyfeiriad hwn y daeth fwyaf dan ddylanwad y Prifathro, nid yn unig nac yn bennaf yn ei ddosbarth, ond mewn cyfathrach bersonol. "Yr oedd yn fwy yng nghyfrinach y Principal na neb arall o'r efrydwyr," meddai ei gyfaill y Parch. John Owen. Yr oedd gan yr Athro olwg fawr arno hyd y diwedd, a pha un bynnag a oedd yn cydsynio â phopeth a gyhoeddai, arferai alw sylw cyfeillion cydnaws at ei lyfrau. Ac er bod y disgybl cyn hyn wedi profi ei gariad at ryddid a gwirionedd, cafodd hwnnw ei gadarnhau a'i rymuso'n fawr gan gydymdeimlad yr Athro, fel y cydnebydd yn ei farwnad iddo:
Gedrwydden fawr! ffynidwydd îr
A lechai dan dy gysgod gynt
Rhag rhuthr ystorm erlidgar wynt
O'th golli udant dymor hir.
"Cref darian fu d'athrylith fad
I wrol ymchwil barn a ffydd,
A bwyell dorrai'r cyffion sydd
Yn cloff gadwyno meddwl gwlad."
Y mae yn dra awgrymiadol bod y Prifathro T. F. Roberts —mewn llythyr a ddyfynnir ym Mhennod XXII.—yn cyplysu darlithiau ei ragflaenydd ar I. Cor. ag ysgrif ei gydddisgybl ar "Creed and Character."
Parhaodd edmygedd a serch y disgybl at ei hen Athro hefyd hyd y diwedd: un o'r pethau olaf a ysgrifennodd oedd soned iddo ar achlysur dadorchuddio'i gerflun yn Aberystwyth:
Boldly he eyes and scans the widening sea!
Behind him stands the College, to his praise,
Where he, of yore, spent his laborious days
Trusting in learning's immortality.
The impulse to full culture that we see
Sweeps like a tidal wave to—day o'er Wales
Flooding its youthful hearts o'er hills and dales
To find in culture life's deep mystery.
He's gone! We, orphaned, now bewail our loss,
Of teacher, guide, inspirer, and friend.
Not so. In heaven he spends for us his rest:
True child he was of our Redeemer's Cross:
His life was one of sacrifice to the end.
To-day, in love, Wales gives him of its best.
Yr ydym yn awr wedi dyfod i derfyn prif gyfnod cyntaf ei fywyd, ac wedi rhoddi cymaint o sylw iddo am fod gweddill ei hanes yn dibynnu arno. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod iddo adrannau. Gallasai fod wedi gwneuthur y gwaith mŵn yn arhosfan, fel y gwnaeth eraill o'i gyfoedion; neu, ynteu, gallasai setlo i lawr i fywyd tawel yr ysgolfeistr, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o'i gyfeillion yn y Coleg; ond ni wnaeth, er ei fod yn eithriadol o sensitif i swynion y bywyd teuluaidd ac mewn cyfathrach o bryd i bryd â mwy nag un a wnâi "ymgeledd gymwys" iddo (er nad mor gymwys, meddai ef, â'r un a gafodd). Dengys hyn fod gyrr ei uchelgais a'i benderfyniad yn fawr. Bu'n hir yn cyrraedd y nod, mae'n wir—lawer yn hwy nag a gymer i fechgyn yr oes hon, neu a gymerai i "ffafriaid rhagluniaeth" yr oes honno—ond nid am iddo hepian, na bod nac yn llesg nac yn llwfr, ond am fod y ffordd yn drofaog ac yn arw iddo ef, ac yntau'n gorfod pori ochr y ffordd wrth fynd, a'i gynnal ei hun.
V.—DECHREU CYFNOD NEWYDD.
DEUWN yn awr at gyfnod newydd yn ei hanes cyfnod o adweithio ar ei gylchfyd. Hyd yma y mae wedi bod yn derbyn oddiwrth ei gylchfyd, ac yn cael ei wneuthur ganddo. Yn unig, mae'n rhaid inni gofio nad yw dyn, nac anifail, na hyd yn oed planhigyn byw, yn hollol oddefol. Bu ef hefyd yn flaenorol, pan oedd yn ysgolfeistr, yn ceisio dylanwadu ar eraill; a chawn y bydd ar ol hyn, yn neilltuol yn athronyddol, yn eistedd wrth draed athrawon newydd. Eto, ar y cyfan, gellir dywedyd ei fod o hyn allan wedi newid ei osgo tuag at ei fyd.
Beth, ynteu, am ei gylchfyd newydd? Pan ymsefydlodd yng ngwaelod Sir Aberteifi yn 1878, gellir dywedyd bod llanw mawr Diwygiad 1859-60 wedi treio, gan adael ambell welltyn o ddegymu'r mintys a'r anis a'r cwmin, megis peidio â throi'r gwallt yn ol, ambell ysmotyn o ewyn mewn tinc a hwyl, i ddangos y fan lle bu. Yr oedd crefydd yn gynwysedig mewn derbyn athrawiaethau neilltuol, mynychu moddion gras a chael hwyl, a byw i fyny â gofynion moesoldeb cyffredin. Pwysleisia'r meddylegwr diweddar na ellir hollti'r meddwl i adrannau neu gynheddfau annibynnol; eto, y mae'n ffaith ymarferol y gellir cadw athrawiaeth y deall, hwyl y teimlad, a moesoldeb yr ewyllys i raddau pell ar wahân i'w gilydd, er bod yn rhaid cydnabod, pan yw felly, nad yr athrawiaeth a goleddir sydd yn weithgar yn y teimlad a'r ewyllys, ond rhywbeth mwy byw ac agos.
Gwelwn, ymhellach, fod y Dwyfol yn cael ei gyfyngu i'r deall, yn fater o athrawiaeth neu gredo, a'r ewyllys ddynol yn unig oedd yn weithgar mewn moesoldeb. Deuai Duw a dyn i gyffyrddiad â'i gilydd drwy'r teimlad yn "y moddion"; ond nid oedd sôn am Dduw'n meddiannu'r ewyllys ac felly'n codi'r holl natur i foesoldeb uwch y Bregeth ar y Mynydd. Gwelir, ynteu, bod ffydd wedi mynd i golli mewn credo farw, ddiffrwyth, a chymaint o ynni ysbrydol (os ysbrydol hefyd) oedd ar ol yn codi o gyffyrddiad teimlad—nid o gysylltiad neu undeb ffydd. Y canlyniad oedd fod crefydd yn ffurfiol a moesoldeb yn isel, ac ar y goreu yn commonplace.
Yr oedd y nodweddion hyn i'w gweld ym mhregethau'r cyfnod a'r ardal. Os cymerwn dri gweinidog y dref gyfagos—Castellnewydd Emlyn—i gynrychioli'r ardal, mae'n rhaid inni gofio eu bod yn wŷr eithriadol. Y mae sôn bod y Parch. John Williams, Ebenezer, ychydig flynyddoedd yn flaenorol, wedi rhoddi her gyhoeddus i unrhyw dref yng Nghymru i ddangos tri gŵr fel " Benjamin Thomas, y Graig;[1] Evan Phillips, Bethel; a John Williams, Ebenezer." Gellid rhoddi'r her o hyd wedi i Aeron Jones gymryd lle John Williams, petasai ysbryd John Williams yno i'w roddi. Yr oedd y tri, meddwn, yn uchraddol, yn feirdd gwych, yn llenorion cyfarwydd, yn meddu ar leferydd hyawdl a phersonoliaeth darawiadol. Yr oedd y tri yn orhoff o Natur: y Myfyr a Phillips o Natur ar "ddolau glân Teifi " yn arbennig, ac yn gosod "glannau afon Teifi hen" gyd â "glannau Afon Duw"; ac Aeron Jones o Natur yn gyffredinol, o flodau'r eithin hyd at fachlud haul a'r "comedau fflamllyd"! Yr oedd pob un o'r tri hefyd yn "big human." Yn sicr, ni wnaeth yr hen fam Natur erioed ddynoliaeth gyfoethocach, serchocach, hawddgarach nag eiddo Myfyr Emlyn. Gwir fod wmbredd o'r pagan ynddo—y pagan sydd yn gwingo yn erbyn porth cyfyng a'r ffordd gul, ond yr oedd yn bagan braf. Nid oedd cymaint o haul ar wyneb Evan Phillips ac Aeron Jones efallai, ond yr oedd yn eu calon, fel y gŵyr llu o weinidogion y Methodistiaid a'r Annibynwyr a fu yn hogiau ysgol a choleg unwaith. Gallai'r tri chwerthin wrth fodd calon Carlyle, a gallent wylo hefyd.
Meddent deimladrwydd crefyddol bywiog iawn, a dorrai allan yn wenfflam oleu yn eu pregeth yn aml; ac yr oeddynt fel ei gilydd yn neilltuol sensitif i'r hyn sy'n oruchel ac achubol mewn Cristnogaeth, yn gystal â'r hyn sy'n ddramayddol ynddi—ei hapêl at y dychymig. Eto nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt ddysgeidiaeth ddatblygedig (explicit) gyd â golwg ar y ffordd i groesi o'r dwyfol i'r dynol, ac ymddengys na theimlent ei heisiau. Yr oeddynt yn ddiwinyddion mewn ffordd wahanol i'w gilydd, ac i raddau gwahanol. Y Myfyr oedd yr un a deimlai leiaf o ddiddordeb, efallai, mewn system ddiwinyddol fel y cyfryw; y darllenwr mwyaf, a'r mwyaf agored i syniadau newydd, oedd Aeron Jones; nid ydym yn cofio gweld Evan Phillips â llyfr newydd yn ei law erioed, ac efô, yn ddïau, a wnaeth yr hen athrawiaethau yn fwyaf o eiddo iddo'i hun, tra y cadwai myfyrdod cyson ei feddwl yn ffres a byw trwy gyswllt â dyfroedd mwy rhedegog. Ond y mae'n wir am y tri bod yr hen athrawiaethau yn ffurfio eu cefndir meddyliol; a rhwng y cefndir hwn a'r bywyd beunyddiol yr oedd yna dir eang i'w dychymig hwy a "chnawd " yr aelodau i redeg yn benrhydd ynddo. Gan y cymerent yr athrawiaethau yn ganiataol, a'u pregethu mewn modd hollol wrthrychol, nid gwaith hawdd fyddai iddynt eu dwyn i arweddu ar fywyd dyn. Ac yn wir, nid oedd eisiau, gan fod Iachawdwriaeth yn beth negyddol, yn achub oddiwrth y byd, a'r Ymgnawdoliad yn hollol iswasanaethgar i'r amcan o wneuthur Iawn dros bechod y byd.
Yr oedd eu darfelydd ysbrydoledig, fel eiddo Pantycelyn, yn aml yn eu harwain i ddywedyd yr hyn oedd anghyson â llythyren eu diwinyddiaeth, ac yn awgrymiadol o undeb cyfrin â Duw; megis pan ddywedai Evan Phillips fod perthynas ewyllys y dyn ailanedig ag eiddo Duw yn debyg i berthynas olwyn fach â'r un fawr ganolog yn y peiriant yn troi dan yr un strap; neu Aeron Jones yn disgrifio'r mwg a godai o aelwydydd duwiol Dolgellau awyr las bore o haf fel arwyddlun o'u hysbrydoedd hwythau mewn addoliad yn ymgymysgu â Duw! Ond nid oedd ganddynt ddysgeidiaeth ddatblygedig i'r perwyl hwn a fyddai yn gwasgu'r gwirionedd adref i galonnau'r gwrandawyr drwy bwyslais mwy neu lai cyson arno.
Y canlyniad oedd fod y capel a'r tafarndy—fel blaidd ac oen y milflwyddiant—yn "trigo ynghyd," a'r tafarnwr, yn aml, yn brif ddyn y capel; ac ar ddyddiau ffair a marchnad yr oedd ystafelloedd y tafarndai, i fyny ac i lawr, yn llawn o hogiau a genethod yn cyd-ddiota-relic o'r dull paganaidd o garu. Nid oedd pwysigrwydd cylchfyd ffafriol i fywyd da yn cael ond ychydig sylw, nid yn unig nac yn gymaint am nad oedd bywydeg wedi ei boblogeiddio, ond am fod y syniad am y bywyd ysbrydol yn negyddol.
Yr oedd yna eithriadau yn y pulpud a'r seddau—un eithriad godidog yn Llechryd yn ymyl. Dyn nodedig oedd y Parch. William Rees, Llechryd: un mewn cyfathrach â Realiti ar lawer lefel. Cyfeillachai â'r adar, gan eu galw "wrth eu henwau," a chyfeillachent hwythau ag ef pan âi allan i rodianna yn gystal ag yn y tŷ, a dywedir bod Brongoch ar ei obennydd pan fu farw; ymddiddanai â'i wraig yn hyglyw wedi iddi hi adael y corff, er nad oedd ei geiriau hi yn hyglyw i neb arall; ac yr oedd angylion a dieif mor gyfarwydd iddo â'i gyfeillion a'i elynion yn y pentref a'r eglwys. Nid hawdd dywedyd beth oedd ei ddiwinyddiaeth; perthynai o ran ei ysbryd i broffwydi'r Hen Destament, i Boanerges yn galw tân i lawr o'r nef yn fwy nag i apostol cariad; caffai ei ddarfelydd ysbrydol borthiant a chyfeillach gydnaws yng ngweledigaethau Swedenborg; derbyniai'r Beibl fel Gair Duw, ac yr oedd yn dra hyddysg ynddo o glawr i glawr, er y mynnai'n aml ei esbonio'n allegol, megys pan ddywedai nad oedd y sarff (yn Eden) ond natur isaf dyn yn ymgripio ar hyd godreon creadigaeth Duw." Beth bynnag a ellir ei ddywedyd am ei ddaliadau, nid oes dwy farn ynghylch ei angerdd santaidd a'i burdeb moesol. Yn sicr, ni fu neb fel ef yn chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn yr un drwg, yn neilltuol yn y ffurf o alcohol; neb a allai ddisgrifio ei alanas mewn lliwiau mor erchyll, ac yn neilltuol fflangellu'r "saint" a'i cefnogai â brawddegau mwy eirias. Ac nid brwdfrydedd di-ffrwyth oedd yr eiddo ef: heblaw y llewych a wasgarai dros wyneb yr ardaloedd cymdogaethol, casglodd o'i amgylch eglwys fyw, os bechan, o ysbrydoedd cydnaws, ac yn meddu ar gadernid a glendid a barai inni deimlo nid yn unig eu bod yn wahanol i'r "byd," ond hefyd i aelodau eglwysi eraill.
Pan ddeuwn at y cylchfyd agos y daeth Adams i weithio ynddo yn Hawen a Bryngwenith, yr ydym yn ddyledus, yn bennaf, i atgofion a llafur cariad Mr. Crowther. Yma eto, mae'n rhaid inni gofio bod yr hen gymeriadau a ddisgrifir ganddo ef i fesur yn eithriadol ond yn dangos nodweddion oedd yn gyffredinol. Wrth sôn am un o'r rhai hynaf—David Evans, Fronfach—fe ddywed:
Clywais rai yn dywedyd flynyddoedd yn ol bod gan "bob eglwys yn y rhan hon o Geredigion ei nodwedd arbennig ei hun. Nid wyf yn medru dwyn ar gof yn bresennol brif nodwedd pob eglwys yn ol y bobl gall yma, ond yr wyf yn cofio bod pobl Hawen yn cael eu cyfrif yn stoiciaid Stoiciaid Hawen." "Beth bynnag am y chwedl honno, ni chlywais erioed yn fy amser i neb o'r côr mawr yn dweyd yr un' Amen.' Yr wyf yn cyfaddef i mi fod yn coleddu y syniad hwnnw am David Evans hyd ryw brynhawn Sul. Yr oedd Mr. Adams wedi pregethu'n dda, a chafodd y cantorion a'r gynulleidfa hwyl neilltuol ar ganu'r emyn ar ol y bregeth ofni ddoe ac ofni heddiw.' Canwyd y pennill olaf ddwywaith:
Dal fi, Arglwydd, dal fi ronyn,' etc.
Bryniau Canaan ddont i'r golwg yn y man.'
Wrth ddyblu'r ddwy linell olaf, gwelais ei lygaid yn llenwi â' ffynhonnau o ddagrau,' ac amlwg oedd bod ymdrech yn mynd ymlaen rhag torri i lawr yn deg; a byth ar ol hynny bu gennyf fwy o barch nag erioed i Dd. Evans.
Nid oedd Dd. Evans yn perthyn i'r dosbarth sydd eisiau bod yn y limelight, ond yr oedd ei feddwl yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Llyfr Santaidd a llenyddiaeth yr enwad Annibynnol yn ehangach o lawer nag eiddo'r mwyafrif o'n harweinwyr eglwysig.
Ryw dro (yn y Tŷ Capel) siaradem ar lywodraeth eglwysig, yn cymharu—a beirniadu—ei gwahanol ffurfiau; a meddai'r hen ŵr, Wedi'r cwbl, gennym ni, yr Annibynwyr, y mae'r ffurflywodraeth eglwysig berffeithiaf.' 'Ai ie?' gofynnais. Dyna eich barn.' Edrychodd yn ddifrifol yn fy wyneb a dywedodd yr eilwaith Gyda ni, yr Annibynwyr, y mae'r ffurflywodraeth berffeithiaf, ond—mae eisiau dynion perffaith i'w chario allan.'
Cymeriad ar ei ben ei hun oedd David Phillips, Blaenbwch. Ychydig iawn yn yr oes o'r blaen, yn yr ardal lle preswyliai David Phillips, a fedrai ddigon o Saesneg i ddarllen llyfr neu newyddiadur yn yr iaith fain.' Dynion yr un llyfr oeddynt gan mwyaf, a'r llyfr hwnnw y Beibl. Byddai rhai o'r hen chwiorydd yn treulio pob prynhawn Sul ymron yn y tŷ, i ddarllen ac i ddysgu'r emynau ar eu cof. Pe baech yn siarad am lyfrau eraill, neu am wledydd y Cyfandir, cyfyng iawn oedd eu gwybodaeth. Ond pe trôech at y Beibl a daearyddiaeth y Tir Santaidd, teimlent yn gartrefol ar unwaith. Un o'r dynion hyn oedd wedi treulio oes yn ei ffordd ei hun i efrydu'r Beibl oedd David Phillips. Ar brydiau—ar brynhawn Sul—deuai (gyd â David Griffiths, Cabidwl, Thomas Evans, Penffin, a minnau) hyd Benlan, Blaenwern, ac ambell waith mor bell â Glandwr i yfed cwpanaid o de gyd â'i gyfeillion 'Deio a Pegi Landŵr,' a sylwadau gwreiddiol a geid ganddo lawer gwaith. Dywedodd unwaith ei fod mor gyfarwydd â theithiau Paul ag oedd â'r ffordd o Hawen i Flaenbwch! Ar y map oedd yn ei feddwl, debig iawn. . . . . .
Un peth a flinai David Phillips oedd arferiad y gweinidog wrth holi'r ysgol o gyfeirio at y Revised Version. Ryw ddiwrnod yn ystod yr wythnos, ar ol nos Sul holi'r ysgol, cyfarfu'r gweinidog â Dd. Phillips, ac meddai'r olaf wrtho, Na le' chi'n cario arna' i—rych chi'n cwoto rhyw Feis Ferson o hyd. Beth yw hynny?' Chwarddodd y gweinidog a rhoddodd eglurhad, a chyn pen ychydig gofalodd fod gan ŵr Blaenbwch gopi o'r 'Feis Ferson.'
Eisteddai Dd. Phillips yn yr oriel mewn sedd ar y ffrynt yn ochr y ffenestr—lle manteisiol iddo arfer ei ddawn fel penofydd (phrenologist).... Ychydig a freuddwydiai'r rhai a eisteddai ar ganol y llawr, ac yn y sêt fawr, fod llygad craff Dd. Phillips yn eu gwylio dros ymyl yr oriel, ac yn tafoli eu penglogau a'u cynnwys. 'Ie,' meddai (wrth Mr. Adams un tro, er mawr ddifyrrwch iddo), ' 'rwy'n sylwi ar y'ch pen chi! 's dim o'r pen gore 'da chi—ma gwalle arno. Deuai'r addolwyr i'r gwasanaeth, rhai o gyfeiriad Rhydlewis, eraill o gymdogaeth Penrhiwpal, ac eraill o gyfeiriad Nanty. Ymhlith y rhai olaf, dychmygaf weld dau hen frawd yn dyfod heibio cornel gardd Dyffryn Ceri mewn ymddiddan cynnes a chyfeillgar —David Jones, Poplar, a John James, Gilfachgam.
Mi a'u gwelais felly gynifer o weithiau fel y mae'n bur anodd i mi feddwl am un ar wahan i'r llall.
Yr oedd David Jones (Dafi'r Poplar) yn un o ddisgynyddion gŵr adnabyddus yn ei ddydd, sef NathanViel Griffiths, Pantybrain—un a fu'n hynod o ymdrechgar gyd â sefydlu Ysgolion Sul yn yr ardaloedd 'cylchynol cyn sôn am Robert Raikes o Gaerloew yn y rhan hon o Gymru. Ceir ar ei feddfaen (gyd ag englyn anghywir):
'Ar ben canmlwydd yr Ysgol Sul, coffhad
Am un o'i phrif sylfaenwyr yn ein gwlad
Yw'r garreg yma: plant ei blant a'i rhoes,
A phlant eu plant a'i cofiant oes 'rol oes.'[2]
Yr oedd David Jones yn frwdfrydig iawn dros ddirwest a daioni ymhob ffurf, yn neilltuol dros ei hoff gapel ei hun. Daw i'm cof ymddiddan a fu rhyngom tua dechreu gwanwyn 1877. Yr oeddym wedi cynnal cyfarfod brodyr ynglŷn ag adnewyddu'r capel, a digwyddodd Dd. Jones a minnau gyfarfod wrth neshau at y llidiart. Mae digon o angen gwella'r hen gapel,' meddai, ond y mae llawer mwy o angen gwella rhai o'r dodrefn'! Yr oeddis wedi penodi Dd. Griffiths, Cabidwl, yn drysorydd, a minnau'n ysgrifennydd y mudiad. Ryw nos Lun, a minnau yn eistedd megis 'wrth y dollfa,' daeth David Jones, Poplar, â'i rodd. Wedi iddo fynd allan trodd cyfaill gerllaw ataf: 'Dyna,' meddai, 'fe werthodd Dafi Jones ei geffyl, ac y mae'r arian gyd â chi'n awr bob dime goch.' Cynnes iawn ydoedd ar ei liniau, ac yn y gyfeillach—un a ddygai fawr sêl dros Arglwydd Dduw y Lluoedd. Yng nghwrdd ymadawol Mr. Adams dywedodd yn gyhoeddus nad oedd un waith wedi mynd i fyny grisiau'r pulpud heb ei fod ef wedi offrymu gweddi ar ei ran.
Fel ei gyfaill Dd. Jones, un o 'heddychol ffyddloniaid' Hawen oedd John James, Gilfachgam,yn ddiddadl, un o'r 'tangnefeddwyr a elwir yn blant i Dduw.' Clywais weithiau am bleidiau mewn eglwys, ond nid oedd John James, mwy na'i gyfaill David Jones, yn gwybod am yr un blaid ond plaid Tywysog Tangnefedd. Dywedir mai un o'r cythreuliaid sydd yn aflonyddu Eglwys Dduw ydyw cythraul yr eisteddleoedd. Wedi gorffen adgyweirio'r capel ym mis Mai, 1878, galwyd cyfarfod o'r aelodau i benderfynu ar y ffordd oreu a mwyaf didramgwydd i osod yr eisteddleoedd. Bu y cyfarfod yn y prynhawn, ac yn y diwedd penderfynwyd bod y tanysgrifwyr i ddewis eu heisteddleoedd yn ol swm eu tanysgrifiadau, ac i mi, fel ysgrifennydd, alw'r enwau allan yn eu trefn briodol. Dywedais ar unwaith bod y llyfr casglu gartref, a'm bod yn ofni na fedrwn ddibynnu ar fy nghof i gofio pob enw yn ei drefn briodol. Y mae gennych gof da,' meddai rhywun; bodlonwn ni.' Yn y diwedd cydsyniais, er yn bur amharod, rhag ofn i mi wneuthur cam â rhywun. Gelwais yr enwau, a dewiswyd yr eisteddleoedd hyd nes oedd seti'r llawr wedi eu cymryd i gyd, a daeth y cyfarfod i ben heb i gythraul yr eisteddleoedd gael lle i roddi ei droed holltog i lawr. Ar ol y cyfarfod daeth John James ataf. Gwnaethoch un camgymeriad,' meddai. Nid oedd eisiau yr un gair pellach; cofiais fy mod wedi anghofio ei enw ef. Yr oedd tanysgrifiad John James yn hawlio sêt o flaen rhai oedd wedi cael dewis. Dywedais ei bod yn wir ddrwg gennyf, fy mod yn ofni yn y dechreu y buasai rhywbeth tebig yn digwydd. O, peidiwch â gofidio,' meddai'r hen Gristion, aiff Hannah a minnau i'r llofft gyd â'r bobol ifanc.' Ac
felly y bu am dros ddeuddeng mlynedd. (Gadewch imi ddywedyd yma i mi fod yn athro ar ddosbarth Hannah James yn yr Ysgol Sul. Bûm yn athro Ysgol Sul ar ddosbarthiadau merched mewn oed yn y De ac yn y Gogledd, ond ni chyfarfûm ag un oedd yn fwy gwybodus ac yn fwy parod yn yr Ysgrythyrau Santaidd na Hannah James. Mae'r amser y bûm yn ei dosbarth hi yn aros o hyd fel perarogl i mi). Aeth John James a'r teulu i'r oriel, ac yno y buont mewn sedd tu ol i'r cloc hyd nes y symudais i Fethesda, Arfon. Dywedais cyn mynd wrth rai o'r diaconiaid fy mod yn credu fod hawl gan John James i'n sêt ni, a'i fod yn ei theilyngu ar ol dangos y fath ysbryd tangnefeddus. Felly y bu, a daeth John James i lawr o'r oriel i'n hen sêt ni. Y tro cyntaf i mi ymweled â Hawen wedi i mi symud i'r Gogledd daeth yr hen frawd ataf yn y tŷ capel cyn dechreu'r gwasanaeth. Dewch i'ch hen gornel, fel arfer,' meddai; bydd pawb yn leicio'ch gweld chi 'no.' Bu farw Awst 22, 1898, yn 73 oed, a phan laniodd yr ochr draw, byddaf yn hoffi dychmygu mai un o'r rhai cyntaf i'w groesawu oedd ei hen gyfaill David Jones, Poplar.
Y mae Eglwys Hawen wedi magu llu o filwyr da i Iesu Grist,' ond dim un, mi gredaf, yn fwy eiddigus am ei phurdeb a'i llwyddiant ysbrydol na'r ddau 'frawd annwyl David Jones, Poplar, a John James, Gilfachgam.
Hen ffrind annwyl i mi oedd David Griffith, Cabidwl: dyn o gyraeddiadau tuhwnt i'r cyffredin, ac wedi darllen ac astudio'i Feibl a gwrteithio'i feddwl i raddau mawr gyd â chymorth yr ychydig lyfrau oedd ganddo. Un tyn iawn am ei biniwn' oedd, yn myfyrio a barnu drosto'i hun. Nid anghofiaf byth yr ymgomio melys ar y ffordd adref o'r capel gannoedd o weithiau am y bregeth neu wers yr Ysgol Sul. Un arall a gyd-deithiai â ni fynychaf oedd Thomas Evans, Penffin—un o'r dynion galluocaf o feddwl yn yr ardal. Yr oedd Dd. Griffith yn fwy ceidwadol ei syniadau na ni ein dau; ac er mai un anodd ei symud ydoedd, cyfaddefodd i mi ryw brynhawn Sul wrth fynd adref—tuag adeg ymadawiad Mr. Adams—ei fod yn teimlo bod yn rhaid ymadael â rhai o'r hen syniadau. Yr oedd pregethau'r gweinidog, a'r ymgomio a'r dadleu parhaus ar y ffordd, wedi cael eu heffaith. Rhai o oreuon yr eglwys yn ddïau oedd y rhai hyn, oblegid fe ddywed yr un awdurdod mewn ysgrif arall iddo weld rhai aelodau amlwg dan ddylanwad y ddiod yn y "Bwlchgwyn " nos Sadwrn, ac yn cymuno yn Hawen fore Sul, gan ychwanegu: "Nid wyf yn credu y buaswn ymhell o'm lle pe dywedaswn fod gwŷr amlycaf yr eglwys yn wrth—ddirwestol, a mwyafrif y gweddill yn ddifater." Y mae'r hyn a ddywedwyd eisoes am y lle a roddid i athrawiaeth yn yr ardaloedd yn wir am Hawen. Yr oedd yna duedd i gondemnio rhyddid meddyliol yn fwy na phenrhyddid cnawdol. Dyna pam y galwodd un wraig uniongred Adams, a Crowther, a Thomas Evans yn "dri Sosin." Ac y mae lle i gredu mai ychydig effaith a gafodd pregethu'r gweinidog ac "ymgomio a dadleu" ei ddau gyfaill ar safle canolog uniongrededd ym meddwl Dd. Griffiths a'r veterans eraill, oblegid efô a ddefnyddid gan geidwaid y gredo i alw'r gweinidog i gyfrif am unrhyw wyrad oddiwrth uniongrededd ugain mlynedd yn ddiweddarach! Ond dïau i waith gael ei wneuthur ymysg y to ieuanc.
"Y tro diweddaf y bûm yn aros yn ardal Rhydlewis," meddai Mr. Crowther ymhellach, "mi dreuliais awr ryw brynhawn ym mynwent Hawen, a bu dau neu dri o'm hen gyfeillion caredig yn dangos i mi y mannau lle y gorwedd rhai o'r hen dadau, a chofiais am benhillion Dafi Castell Hywel:
'Dall nac awel bêr y bore,
Na gwaedd ceiliog uchel gân,
Na whit gwennol lon forêol
Yn y lwfer uwch y tân,
Na chorn helwyr, bloedd medelwyr,
Clych taranau na daear gryn,
Byth ddihuno'r rhai mewn amdo
Sy yma heno'n drwm eu hûn.'
"Heddwch i lwch yr hen gedyrn ffyddlon a charedig!"
VI.—EI WEINIDOGAETH YN HAWEN A BRYNGWENITH.
NID yn hir y bu Adams heb alwad wedi gadael ohono'r Coleg yn Aberystwyth, a honno'n alwad ar sail cred yn ei gymwysterau arbennig i waith y weinidogaeth. Wedi i'r eglwysi gydsynio i gael gweinidog, yr oedd rhai am gael gŵr ieuanc wedi cael manteision athrofa, ac eraill am gael dyn profiadol o waith y weinidogaeth.
A phan ddygwyd enw Adams dan ystyriaeth cyfarfod neilltuol, gwnaed rhai sylwadau diddorol ynglŷn ag ef. Yr oedd un hen frawd yn erbyn rhoddi galwad iddo am "nad oedd y dinc bregethwrol ganddo." A pharodd y fath syniad i ŵr ieuanc godi ar ei draed, a dywedyd ei fod ef wedi darllen ei Destament amryw droeon, ond na allai alw i gof gymaint ag un cyfeiriad at "dinc bregethwrol" Iesu Grist. Ac yn nywediad y gŵr ieuanc hwnnw, ceir awgrym nacaol o nodwedd Adams fel pregethwr,—nad mewn hwyl a donioldeb yr oedd ei ogoniant, ond yn hytrach mewn bod yn wir ddysgawdwr, fel y dywedodd geneth ieuanc yn Hawen am dano, "Mae e' bob amser yn ceisio dysgu rhywbeth i ni." Fel yna, fe'i galwyd ar sail ymdeimlad yr eglwysi ei fod yn broffwyd yr Arglwydd, er ei fod yn amddifad o ryw ddoniau dymunol a brisid yn uchel gan eglwysi'r wlad. Ond euthai'r si allan, pan oedd yn dyfod i Hawen, nad oedd yn "iach yn y ffydd,"—nad oedd yn credu mewn cosbedigaeth dragwyddol, a pharai hynny i'r gweinidogion a cheidwaid y ffydd deimlo rhagfarn yn ei erbyn, a thueddu i'w gadw yn y pellter. "'Dwy i ddim yn lico'r dyn," oedd dywediad un o wŷr amlycaf pulpud Ceredigion amdano. Ac nid ychydig a wenwynwyd ar y farn gyhoedd amdano oherwydd y si grybwylledig.
Ordeiniwyd ef Mai, 1878, pryd y daeth cynulliadau. eithriadol o ran eu maint ynghyd, ac y cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y Prifathro T. C. Edwards, D.D., Aberystwyth; y Parchn. W. Evans, Aberaeron; O. Thomas, Beulah; J. Davies, Talybont; a T. Rees, Maenygroes. Ynglŷn â'r gwasanaeth, gofynnwyd iddo "A oedd yn credu yng nghosbedigaeth dragwyddol yr annuwiol?" a'i ateb oedd "ei fod yn credu y byddai i'w gosbedigaeth barhau cyhyd ag y byddai iddo ef barhau yn ei bechod." Caed felly ar ei ordeiniad awgrym o'i wroldeb a'i annibyniaeth meddwl, ac awgrym hefyd o'r posibilrwydd iddo dorri tir newydd yn y pulpud. A pharai hynny i'r wlad deimlo diddordeb arbennig yng ngweinidog ieuanc Hawen; ac i'r rhai a'u tybiai eu hunain yn fwyaf uniongred ei wylio a'i feio, ond heb feiddio'i alw i gyfrif na'i gyfarfod mewn dadl.
Ond gwelwyd yn lled fuan ei fod yn gallu byw y rhagfarnau hyn i lawr, a bod galw cynhyddol yn dyfod o wahanol leoedd am ei wasanaeth ar y Suliau; a chymaint o hynny fel y dywedodd cyhoeddwr Hawen un Saboth: Mi fydd yma wasanaeth eto'r Saboth nesaf, ond nid wyf yn sicr pwy fydd yma'n pregethu." Ac i fwyafrif mawr yr aelodau llechai yn hyn achos llawenydd, wrth weled fod y fath alw am wasanaeth gweinidog ieuanc Hawen. Canys gŵr cartrefol iawn oedd ei ragflaenydd. A mwy na dim, llawenychent ei fod yn gallu gorfyw rhagfarnau; a bod y wlad yn dyfod i'w ddeall a'i werthfawrogi megis y gwnâi eglwysi ei ofal. Yn wir, dechreuodd llanw bywyd newydd lifo i mewn i eglwysi Hawen a Bryngwenith a'r ardal, trwyddo ef. Yn ystod ei amser ef y codwyd y capel newydd ym Mryngwenith, a gostiodd £6, ac erbyn agor yr hwn y casglwyd tros £714. (Hen arfer ein henwad yn sir Aberteifi oedd talu am gapel newydd wrth ei agor). A defnyddiwyd yr hyn oedd dros ben yr angen ym Mryngwenith i wneuthur dau dŷ o'r hen gapel, ac i wneuthur ystafell gyfleus i'r Gobeithlu a'r Ysgol Gân."
Fel gweinidog, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf ymroddgar a chydwybodol. Er ei fod, pan oedd yn Hawen, wedi dechreu llenydda'n llwyddiannus, eto ni bu iddo ar hyd ei holl oes weinidogaethol adael i'w duedd lenyddol ymyrreth â'i waith fel gweinidog. Yr oedd yn weithiwr diymarbed, a'i holl waith o duedd uniongyrchol i hyrwyddo moes a chrefydd. Ac yr oedd ei weithgarwch hefyd o duedd heintus. "Bob tro yr ymwelwn â Mr. Adams," ebe'r diweddar Barch. Dafydd Jones, Drewen, "tybiwn glywed llais yn dywedyd wrthyf,' Dos adref a gweithia A chyffelyb, hefyd, fyddai profiad ysgrifennydd y llinellau hyn. Er ei fod yn gwmnïwr diddan, ac yn wir roesawgar i'r rhai a ymwelai ag ef, eto ni allai oddef y cwmnïwr—lladdamser. Ac yr oedd ganddo ffordd effeithiol i'w amddiffyn ei hun rhag gormes cyfaill difeddwl felly, sef arwain yr ymddiddan at gynnwys rhyw lyfr newydd, neu fe ddichon ddarllen cyfran o'r llyfr; a buan y teimlai'r ymwelydd mai "caled oedd yr ymadrodd," ac ymaith ag ef. Ond er yn ddyn stern, yr oedd yn bur fedrus i ganfod ochr chwareus a digrif pethau. Un tro euthai'r sôn drwy'r ardal ei fod wedi ennill cadair mewn rhyw Eisteddfod, ac un prynhawn cyfarfu ag un o'i bobl—edmygwr mawr ohono—ond tra—rhyddieithol ei feddwl, ac meddai wrtho, "Rhoswch i, be w' i'n glywed am danoch chi y dyddiau hyn? Ennill prize, eto? Cadair, ai e? Wel, da iawn, wirions i." "A beth oedd testun y pishin?" "Y Briodas yn Cana," oedd yr ateb. "Wel, ta wir, ddala i bo chi wedi setlo faint oedd y ddau ffircyn neu dri 'ny."
Ond er mor gydwybodol ydoedd, ac na pharai i na bygwth na ffafr neb iddo gau ei lygaid ar bechod, byddai bob amser yn dra gofalus rhag dolurio teimlad unrhyw droseddwr. Gallai gondemnio drwg gyd â llymder, ond gallai hefyd ymgeleddu'r drygionus yn dirion ac amyneddgar. A bu i'r pwyslais a roddai ar fuchedd dda roddi bri newydd ar fywyd crefyddol ei gylch, a rhoi syniad uwch i'r gwrandawyr am neges pregethu a gwaith pregethwr. Ynddo ef daeth llawer un i edrych ar weinidog nid fel dyn bach dymunol i fyw ar oddefgarwch a nodded ei bobl, ond fel presenoldeb crefyddol grymus, i'w deimlo bob dydd ac ymhob man. Yn yr anerchiad a roed iddo wrth adael Hawen, dywedir ei fod "bob amser yn anghenraid yn y gymdogaeth a'r wlad oddiamgylch, ynglŷn â phob symudiad a dueddai i ddyrchafu a gwella cymdeithas."
Pan oeddwn yn gofalu am Eglwysi Brynmair a Beulah cefais i y fraint o fod yn gymydog a chydweithiwr ag ef am bum mlynedd (1882—7), canys ni chyfyngai ei wasanaeth i eglwysi ei ofal yn unig, fel y dywed yr anerchiad a roddwyd iddo wrth adael Hawen:
"Yr oedd eangfrydedd eich ysbryd yn peri eich bod o ran eich dylanwad a'ch gwasanaethgarwch yn torri dros derfynau enwad a phlaid fel ag i'ch gwneuthur yn gyfaill a chynorthwywr pawb a phob achos da. Cawsom chwi fel dyn yn ddyn Duw mewn gwirioneddyn garedig a pharchus o bawb, yn un na chymerech fantais ar na'ch swyddogaeth na'ch safle uchraddol i I edrych i lawr ar neb, ond yn hytrach i fod fel cymwysterau i'ch dwyn yn agosach at bawb, ac i fod o fwy o wasanaeth i'r eglwysi a'r wlad. "
Ac ond cofio'i sêl o blaid Addysg, Gwleidyddiaeth, Llenyddiaeth, Sobrwydd, a'r Cymanfaoedd Ysgolion, cadarnheir y dystiolaeth uchod amdano. Ac y mae llawer i'w cael heddiw a gofia'n dda am ei Ddosbarthau Beiblaidd, a'r rhan a gymerodd i sefydlu Llyfrgell Gyhoeddus ym mhentref Rhydlewis. Yr oedd wrth ei fodd fel cymwynaswr i bersonau unigol, ac fel cynorthwywr i fudiadau cyhoeddus o duedd ddyrchafol.
Mae'n rhaid addef ei fod yn gryn feistr yn ystyr lythrennol y gair; ac nid rhyfedd hynny, gan mor gref ei bersonoliaeth; ond deuai'r meistr ynddo'n fwy i'r golwg yn ei ffordd bendant nag mewn geiriau traws ac awdurdodol. Hawdd gwel'd nad dyn gwan a gymerai ei lywio a'i arwain gan ddylanwadau allanol ydoedd ef, eithr gŵr cadarn ymhob ystyr—o feddwl, cydwybod, ac ewyllys. Barnai drosto'i hun, a byddai'n ffyddlon i'w argyhoeddiadau, heb adael i nac ofn na gwaseiddiwch barlysu dim ar ei nerth. Hwyrach y gallasai, rai prydiau, sefyll dros ei farn mewn ffordd a barai lai o dramgwydd i rai na chytunai ag ef. Eto, nid gŵr a hoffai dramgwyddo ydoedd, canys nodweddid ef â llawer o foneddigeiddrwydd a thegwch, eithr gŵr nodedig o ffyddlon i'w argyhoeddiad a'i farn ei hun ynglŷn â gwahanol faterion. Ac fe'n hargyhoeddid mor llwyr o'i gydwybodolrwydd a chywirdeb ei amcanion fel na allem lai nag edrych i fyny ato hyd yn oed pan na allem yn hollol gydweld ag ef. Yr oedd yn gofyn gŵr cadarn i gymryd y safle a gymerodd ef ynglŷn ag ambell fater, yn neilltuol felly ynglŷn â diwinyddiaeth, ac i allu dal y beirniadu a'r condemnio a fu arno. Ond daliodd ef ymlaen heb chwerwi, ac heb ymostwng i ymdderu â'r gwŷr galluog a fu'n ei ffonodio'n gas yn ein cylchgronnau.
Ond sôn yr oeddwn am Adams fel meistr. Dywedir fod pob dyn, fel rheol, yn tueddu i gael ei gymryd am y pris a ddyry ef arno'i hun. Yr oedd gan Adams bris arno'i hun, a hwnnw'n bris go uchel, a hynny nid am ei fod yn hunanol, nac am gadw ymhell oddiwrth eraill er cuddio'i fychander, eithr am ei fod yn naturiol urddasol, ac yn ymwybodol o'i nerth a chywirdeb ei amcanion. Ond er yn synied yn uchel o'i swydd fel gweinidog yr Efengyl, eto ni chredai mewn honiadaeth swyddogol, na bod gogoniant ei swydd mewn na diwyg na thôn na dawn na cherddediad. Yr oedd ar ei ben ei hun yn ei gadach gwyn, yn y cwlwm beth bynnag, felly hefyd yn ei ddull o draddodi a'i gerddediad. Fel rheol, brasgamwr hoenus a fyddai, fel pe byddai brasgamau ei feddwl yn symud ei gorff. Yr oedd iddo rai arferion bychain yr hoffai lynu wrthynt yn hytrach na bod yn efelychwr neb arall; ac nid oedd y rhai hynny ond adlewychion o agweddau ar ei feddwl. Gallesid meddwl fod gŵr galluog fel oedd ef yn rhy fawr i sylwi ar fanion; ond nid un felly ydoedd, eithr sylwai ar bopeth. Pwy na sylwodd ar ei lygad? Yr oedd yn cynniwair i bob man; ac y mae mwy o'r dalent yna gan bregethwyr nag a dyb llawer.
Ond sut bynnag am olwg allanol Adams, yr oedd yn awgrymiadol iawn o'r hyn ydoedd fel dyn,—yn lân ac urddasol, er heb fod yn hollol fel pregethwyr yn gyffredin. Yr oedd ei bopeth yn adlewyrchu annibyniaeth ei feddwl a phurdeb ei gymeriad. A theimlid hyn yn ei holl gyflawniadau a'i gynhyrchion amryfal.
Ond yr oedd ei safon ymhopeth mor uchel fel nad ar unwaith y deuid i'w werthfawrogi. Yn wir, bu'n rhaid iddo yntau, megis y dywedir am ryw lenor Saesneg, "fagu'r chwaeth a allai ei werthfawrogi." Ac wedi unwaith ddyfod i'w ddeall fel dyn, ni ellid llai na chredu ynddo a'i barchu, a dyfod i deimlo ei fod yn creu awyrgylch bracing—llawn o symbyliad i geisio ymgyrraedd at y goreu ymhob cyfeiriad.
"Pa weinidog yn y wlad a lwyddai i ennill ei bobl i gredu cymaint ynddo ag ef?" Evan, ebe un o brif ddynion Bryngwenith wrth ei was, "mae gyda chi gred fawr ym Mr. Adams. 'Rwy'n credu pe d'wedai wrthych ganol dydd, 'Evan, chododd yr haul ddim heddi,Naddo wir, syr', a ddywedsech wrtho."
Llwyddai ef i ennill ei bobl i gredu ynddo nid trwy na gweniaith na gwaseiddiwch, ond trwy eu hargyhoeddi mai eu cyfaill ydoedd, ac mai amcan cynta'r cwbl a gyflawnai fel gweinidog oedd eu llesoli yng ngwir ystyr y gair. Yn wir, gellid meddwl bod ei bobl mewn perigl i g'lymu wrtho ef lawn cymaint, os nad mwy, nag wrth yr achos. Deuai'n gyfystyr â'r achos iddynt, gellid meddwl; megis yn gorfforiad gweledig iddynt o Grefydd ac Eglwys Crist, yn ei hegwyddorion a'i chymeriad. Gan nad pa mor ragorol y pregethai, efô ei hun oedd ei bregeth oreu, gan mor ffyddlon y byddai i'r goreu a fyddai ymhob cylch. A dyna a gyfrif mai math ar bregeth o radd uchel y teimlid ei bresenoldeb lle bynnag y byddai. Yr oedd yn "halen ddaear" yn ogystal ag yn oleuni'r byd," yn atalfa ar ffordd drygioni yn ogystal â bod yn feithrinwr daioni. A thramgwyddodd rhai wrth ei oleuni am fod gormod o'r halen ynddo, a digio mwy wrtho oherwydd ei burdeb nag oherwydd hyd yn oed ei ddiwinyddiaeth y condemnid cymaint arni. Safai mor gyson a phendant dros safon uchel o fywyd fel nad oedd byth off duty ynglŷn â hynny.
A pha weinidog, hefyd, a lwyddai i roddi cymaint o fin ar feddwl a chydwybod pregethwyr ieuainc a ymwasgai ato ag a wnâi ef? A hynny nid trwy awdurdodi a gorchymyn, na thrwy ymddwyn yn nawddogol tuag atynt, ond yn hytrach trwy fod o ddifrif, ac yn serchog ac agos atynt, ac oddiar awydd didwyll i fod o help iddynt. Mor ofalus y byddai rhag dolurio'u teimladau! Yr oedd yn wir gyfaill. Eto, ni chredai mewn na rhodres na gweniaith, a chlwyfid ef gan ymddygiad heb fod yn anrhydeddus. Gwerthfawrogai bob unplygrwydd a thiriondeb yn fawr; prin y ceid neb mwy byw i brydferthwch a mwynder nag ef. Yr oedd yn graff i ganfod troeon felly, a chyffyrddiadau felly mewn barddoniaeth a phregethau a cherddoriaeth; er nad oedd ef ei hun mor abl â llawer i osod allan syniadau felly yn ei gynhyrchion. Y peth agosaf i hynny oedd ei wên, canys gwenai'n brydferth iawn pan ddisgynnai'r heulwen ar ei galon. Y pethau prydferthaf a welais o'i eiddo erioed oedd ei wenau yn ei gystudd olaf a phan oedd wedi myned yn hollol orweiddiog. Ac i un mor fyw ag ef, ac un a fuasai mor ymroddedig i'w waith, dïau fod yr ymdeimlad fod adeg ei noswyl yn ymyl yn cynhyrchu ynddo feddyliau a theimladau dieithr iawn. Eto, gwelais ef yn gwenu'n brydferth yr adeg honno. Ac nid rhyfedd hynny i un a wnaethai ddiwrnod mor dda o waith yng Ngwinllan ei Arglwydd.
Cofiaf iddo gael cynnig ar ragor nag un swydd tuallan i gylch uniongyrchol y weinidogaeth. Ond er y buasai'r gwaith yn ysgafnach, a'r gydnabyddiaeth lawer yn fwy, eto ni fynnai adael y weinidogaeth. Yr oedd wrth ei fodd gyd â'i waith. Yn wir, dygai lawer o ysbryd y weinidogaeth i bob cylch y troai ynddo ac i bopeth a gyflawnai. Ac yr oedd ei syniad am hawliau a gofynion y weinidogaeth yn uchel iawn, a byddai ar ei oreu'n ceisio dyfod i fyny â'r gofynion. Mae'r nodiadau a ganlyn—rhan a ddigwydd fod ar gael o anerchiad o'i eiddo i fyfyrwyr—yn enghraifft o'i fanylwch ynglŷn â gofynion y weinidogaeth:
Hoffwn gyfeirio'n fyr at fater arall pwysig, ond anodd ei drafod ar lawer ystyr, sef meithrin difrifoldeb ac ysbrydolrwydd meddwl a theimlad. Yr wyf yn gryf o'r farn ein bod yn gwella, ac yn ymddiwygio ynglŷn â hyn. Ond eto y mae lle. Nid wyf am i unrhyw fyfyriwr na gweinidog fod yn wynebdrist, yn troi ei lygaid tua'r nef yn barhaus, fel y disgyblion ar Fynydd yr Olewydd gynt, a chwyfio'u dwylaw yn ddefosiynol, ac ocheneidio'n drwmlwythog. Yn naturiol amheuwn wir grefyddolder y cyfryw un, am na byddai hynny ond mask o ragrith i guddio'i wir gymeriad.
Ond y mae yna eithafion eraill y dylid gwneuthur ymdrech i'w hosgoi. Cofiaf yn dda am un o'r Cyfarfodydd Chwarterol cyntaf i mi fyned iddo. Wedi cinio ymneilltuodd y gweinidogion i ystafell i ysmygu. Yr oedd mwg y myglys yn deffroi rhyw ysbrydiaeth gellweirus yn y brodyr. Deuai stori ar ol stori i beri crechwen. Atgofid rhyw frawd am dro trwstan o'i eiddo, a cheid chwerthiniad llawen. Atgofid un arall am ryw illustration o'i eiddo oedd wedi disgyn yn flat. Chwerthiniad arall. Poenid brawd arall oherwydd ei fethiant fel ymgeisydd am alwad i ryw eglwys wag neu'i gilydd.
I mi, yr oedd yr ymddiddan, y grechwen, a'r chaff yn fwy tebig i faldordd yfwyr yn y dafarn nag i gwmnïaeth gweinidogion yr Efengyl. Ac fe aeth y brodyr o ganol y baldordd ynfyd i'r addoldy i ganu mawl, i weddïo, ac i bregethu. Ceid amen gynnes gan y cellweiryn ar ol myned i'r capel. Gweddïai'n ddoniol yr un a fuasai cyn hynny yr un mor ddoniol gyd â'i stori, nad oedd ei chwaeth ry uchel a dywedyd y lleiaf.
Y mae ymddiraddio fel hyn yn annheilwng o urddas gweinidog yr Efengyl, ac yn rhwym o'i anghymhwyso i wneuthur ei waith yn effeithiol. Serthedd, ymadrodd ffol, a choeg ddigrifwch, pethau nad ydynt weddus,' yw ymddygiad o'r fath a enwyd. Gwareder ni rhagddo. Rai blynyddoedd yn ol deuai'r un ysbryd cellweirus i'r golwg yng nghyfarfodydd yr Undeb. Yn sicr y mae'n brawf o ysgafnder a diffyg urddas, ac o ddiffyg ymdeimlad o ddifrifoldeb bywyd. Ond yr ydym yn gwella yn hyn o beth hefyd. Y feddyginiaeth yw meithrin ysbrydolrwydd mwy, fel canlyniad cymundeb agosach â Duw. Ymdeimlad o bwysig'rwydd ein swydd fel cenhadon dros Grist, ac fel rhai y disgwylir iddynt gynrychioli Crist gerbron y byd: hyn, meddaf, yn unig a all roddi i ni y difrifoldeb a'r urddas y sydd yn gweddu i'n safle a'n swydd.
Cawn gyffes ffydd Adams, fel y gwelsom, yn ei ysgrif ar "Credo a Chymeriad." Eithr wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, gwelodd fod yna rwystr ar ffordd ei sylweddoli, nid yn unig yng ngolygiadau'r saint, ond hefyd yn eu hymddygiadau. Daeth felly i wrthdarawiad â cheidwaid yr athrawiaeth a gwarchodlu'r dafarn; ac anodd dywedyd pa rai oedd ei elynion gwaethaf, er mai'r olaf a ddangosai hynny'n gyhoeddus mewn baldordd a rheg. Nid rhyfedd i un o'i frwdfrydedd moesol ef fynd yn bregethwr dyletswyddau di dderbyn wyneb yn gystal ag yn wrthwynebydd dogmâu meirw a marwol.
Ym mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth pregethai ddyletswyddau hyd adref; ac meddai un o ddiaconiaid Bryngwenith wrtho un diwrnod, "Buasai'n dda iawn gennyf, Syr, pe buaswn wedi marw cyn i chwi erioed dd'od yma'n weinidog, oherwydd y cyfrifoldeb ydych wedi ei roddi arnaf."
Credwn fod y braslun a ganlyn yn enghraifft deg o'i bregethau y pryd hwn. Ceir ef mewn dwy ffurf—un yn 1881 a'r llall yn 1883—ac y mae'r gwahaniaeth yn awgrymiadol. Y testun yw Mat. 13 33, a'r ddau ben cyntaf yn 1881 yw:
(1). Y mae Teyrnas Nefoedd yn ei hegwyddorion yn bur groes i dueddiadau naturiol y galon ddynol;
(2). Mae'n rhaid i wirioneddau'r Efengyl suddo i'r galon cyn y gwnânt les (y prif rwystrau i hyn yw ysgafnder gwamal yr ieuanc a bydolrwydd yr hen).

MRS. ADAMS YNG NGHYFNOD BETHESDA.
Eithr yn ol yr ail fraslun y mae yna "gyfaddaster rhwng y lefain a'r blawd "; a'r ail ben yw Graddol ddylanwad Gwirionedd a Daioni," gan mai lefeinio y mae, nid gorfodi drwy rym.
Ond y mae'r trydydd pen yr un yn y ddau, sef bod crefydd yn gofyn y cyfan o ddyn, "corff, meddwl ac ysbryd "; "ei amser, ei orchwylion, ei gyfoeth, ei gydymdeimlad gwirioneddol." "Y mae gormod o duedd i gyfyngu tiriogaeth crefydd i wasanaeth mewn capeli, canu emynau a gwrando pregethau," pan ddylai ymwneuthur â holl gysylltiadau bywyd pob dyn, yn y siop, y maes, y farchnad, a'r aelwyd." Yr oedd yr ymadrodd y pryd hwnnw yn ddieithr—a chaled.
Gosododd Adams sylfeini ei lwyddiant gweinidogaethol i lawr yn ddïau cyn dyfod i Hawen, yn ei ymgysegriad i Dduw a'i ymroddiad i astudiaeth o'i Wirionedd; ond ymhen tua blwyddyn wedi'r ymsefydlu gosododd un arall i lawr yn ei briodas â Miss Jane Evans, Pantygwenith.[3] Un o jokes ei gyfeillion oedd mai ei phriodi hi oedd ei amcan cyntaf, a phriodi'r eglwys yn ail; ac ni wadai ef hynny, er nad oedd yn wir i gyd. Gellir bod yn sicr o hyn, o leiaf, na fuasai yr un o'i briodasau eglwysig wedi bod agos mor llwyddiannus a dedwydd onibâi am ei uniad hapus ag un a anwyd—meddai rhywun—i fod yn wraig gweinidog, er fod ei breuddwydion hi i gyfeiriad tra gwahanol cyn ei weled ef. Nid bob amser, nac yn aml, y gellir proffwyd o fardd, ond ni wad neb na throdd proffwydoliaeth Tafolog, adeg eu priodas, allan yn wir (a gobeithiwn hefyd ei ddeisyfiad yn niwedd yr englyn):
Sian Ifans ei wen Efa—i Adams
Wnâ'n Eden ei drigfa;
I'w buchedd boed diwedd da—fel porth clyd
I fyw lawenfyd y Nefol Wynfa.
Y mae llawer o bregethau Adams yn ystod y cyfnod hwn wedi eu hysgrifennu yn y Saesneg. Eto, ni chlywodd na'i briod na'i gyfeillion sôn ganddo am unrhyw duedd i fynd i'r weinidogaeth Seisnig. Ni thybiwn fod y gwagogoniant o bregethu'r efengyl yn y Saesneg erioed wedi bod yn demtasiwn iddo. Mewn gwirionedd, nid oedd yn ogoniant yn ei olwg "oblegid y gogoniant tra rhagorol" o bregethu'r Gwirionedd ei hun. Eto, pan fyddai galw, a phan roddid cyfleustra iddo i wasanaethu'r Gwirionedd yn yr iaith honno, ni pheidiodd â phregethu, a siarad, a darlithio ynddi hyd y diwedd.
VII. LLENYDDIAETH A DIRWEST.
Y FFORDD y deuthum i wybod gyntaf am Adams oedd trwy fynych gyfeiriadau'r newyddiaduron ato fel efrydydd ieuanc llwyddiannus iawn yng Ngholeg Aberystwyth yn 1874-7. A'r waith gyntaf erioed i mi ei weled oedd yng nghyfarfod ail-agor Capel Bwlch y Groes, Rhagfyr 7, 1881. Y Saboth cyn hynny y dechreuaswn fel gweinidog ym Mrynmair a Beulah. Yng nghyfarfod Bwlch y Groes y noson honno, eisteddai ef ar y dde i mi o'r pulpud. Ac yn y sêt fawr ar ddiwedd yr oedfa honno y cefais yr ysgwyd llaw a'r siarad cyntaf erioed ag ef. A bu'r geiriau caredig a ddywedodd wrthyf am fy mhregeth ar Phil. ii. 5-8 yn help i mi iawn-ddehongli'r olwg oedd arno'n gwrando. Canys gwrandawr pregeth rhyfedd ydoedd, ei ddau lygaid ynghau, gan dueddu i wyro'i ben, a gosod ei law yn awr ac eilwaith ar ei wyneb. A bu ei ddull o wrando yn dramgwydd i lawer brawd gwan. Eto, yr oedd yn gwrando o ddifrif, ac yn gweld mwy o'r bregeth, ac yn y bregeth, nag a welai ambell gynulleidfa gyfan.
Deuthai ef i Hawen yn agos i bedair blynedd cyn i mi ymsefydlu'n gymydog iddo, ac adnabyddid ef fel Mr. Adams, tra y sonnid am weinidogion eraill y cylch fel "Davies y Glyn," "Evans, Drewen," "Rees, Llechryd," a "Jones, Castellnewydd." Ond Mr. Adams oedd ef. A pherthynai iddo rywbeth anneffiniol a gyfiawnhâi gyfeirio ato felly. Ond wedi iddo ddyfod i'r Gogledd a dechreu dangos nad oedd mor ffyddlon a'r llïaws o'i frodyr i'r hen rigolau diwinyddol yn arbennig felly pan feiddiodd ddal "Paul yng ngoleuni'r Iesu"—collodd y Mr. į fesur a daeth i gael ei alw'n "Adams," enw a ddaeth i beri rhyw iâs ryfedd o arswyd trwy galon uniongrededd llawer o'r saint, a'u tybiai eu hunain agosaf i'r nefoedd.
Y ddau gyfeiriad y cefais i y fraint o gydweithio mwyaf ag ef oedd gyda chyfarfodydd llenyddol a dirwest. Credem y gellid trwy y ddau gyfeiriad yna ennill y cymdogaethau i ymwneuthur â phethau a fyddai'n gynorthwy i'r bywyd goreu. Cawsom lawer o hyfrydwch wrth gefnogi'r cyfarfodydd llenyddol; cymerem ran yn eu trefnu,—a'u cario ymlaen, arwain neu feirniadu bron bopeth ond datganu. Caem ddigon o waith, llawer o fwynhâd, a'r rhan fynychaf caem gerdded adref yn bur hwyr y nos. Nid oedd dim yn ormod o drafferth gan Adams i lwyddo'r cyfarfodydd hyn a deffro'r meddwl ieuanc i gyfeiriad buddiol. Beirniadai'n fanwl ac adeiladol, gan annog yr ieuainc bob amser i roddi nod uchel o'u blaen a gwneuthur y goreu o'u talent a'u horiau hamdden. Ac nid ychydig o'n beio a gaem am anesmwytho ar y bobl ieuainc, a'u denu i ymgynnull at ei gilydd yma a thraw, ac i wario'u harian am hen lyfrau. Dyma a ddywedodd gwraig gweinidog wrthyf am yr ymdrechion hyn:
"Mi gewch eich dau achos i edifarhau am ddysgu'r bobl ifanc yma i arfer eu doniau. Y nhw fydd y rhai cyntaf i godi yn eich erbyn eto."
Ond ni wiriwyd hynny o gwbl.
Ond y wedd fwyaf arbennig ar ein cydweithio oedd o blaid sobrwydd. A chawsom yr Hybarch Owen Thomas, fy rhagflaenydd ym Mrynmair a Beulah, yn gyfaill a chydweithiwr campus. Yr oedd ef yn llwyrymwrthodwr adnabyddus drwy'i oes, ond er maint ei sêl dros sobrwydd, prin oedd ei fedr i fagu dirwestwyr. Miniog ac ymosodol iawn oedd yn y cyfeiriad yma. Ac nid heb achos, mae'n debig, canys yr oedd mynd i'r dafarn ac yfeta yn beth cyffredinol. Eto, cofier fod tros 40 mlynedd er hynny, a bod y syniad am dafarn ac yfeta wedi newid llawer erbyn hyn. Prin, mae'n debig, bod gwaelod sir Aberteifi yn waeth yn hyn o beth na rhannau amaethyddol eraill o'r wlad. Sut bynnag am hynny, teimlai llawer o ddynion goreu'r ardaloedd fod eisiau dadgysylltu'r eglwys oddiwrth y dafarn. Gwyddai rhannau isaf Ceredigion i rai o'i gweinidogion syrthio'n aberth llwyr bron i yfeta, ond gwelodd ragor nag un o'r cyfryw yn cael eu gwared o gadwynau'r blys, ac yn troi'n apostolion sobrwydd o'r fath ragoraf. Ond, a chymryd y wlad yn gyffredinol, yr oedd Bchus yn eilun parchus, a'r eglwys mewn ambell ardal megis dan nawdd y dafarn. Heblaw hynny, gallasai braich y weinidogaeth fod gryn lawer yn gryfach i frwydro yn erbyn cyfeddach a medd'dod.
Yn wyneb sefyllfa o'r fath, oedd gymaint rhwystr ar y ffordd i fagu plant a phobl ieuainc yr eglwysi fel y dylesid, dechreuasom godi'n llef o ddifrif o blaid sobrwydd. Ac wrth wneuthur hynny nid yn unig anesmwythem ar y bobl ieuainc, ond ar bobl mewn oed hefyd, a cheid mwy o wingo yn erbyn gwneuthur hynny nag yn erbyn aflonyddu'r ieuainc. Deuwyd i edrych arnom fel aflonyddwyr y byd a'r eglwys, a mawr y beio arnom. Yr unig ddau hynafgwr a gaem i'n cynorthwyo o ddifrif mewn cyfarfodydd oedd y Parch. Owen Thomas a'r Parch. David Oliver (M.C.), Tŵrgwyn (cymydog i Adams). Ond ni olyga hyn anghofio'r gwasanaeth gwerthfawr i sobrwydd a wnaethai'r Parchn. W. Rees, Llechryd, a W. Jones, Trewyddel, ar ffiniau sir Benfro.
Yr ydys wedi cael mynych gymhelliad i ysgrifennu hanes yr ymgyrch ddirwestol y cefais i y fraint o gymryd rhan ynddi gydag Adams yn 1882—7, ond yn anffodus prin iawn yw'r cofnodion ynglŷn â hi. Eto, y mae digon ar gael i roddi help i'r darllenydd gael syniad am weithgarwch a sêl Adams o blaid sobrwydd. Ac wrth geisio cyfeirio ato ef, mae perigl i'r ysgrifennydd ddyfod yn amlycach nag y dylai fod.
Wedi bod yma a thraw yn cynnal cyfarfodydd dirwest (heblaw pregethu'n awr ac eilwaith yn ein heglwysi'n hunain ar ddirwest) meddiannwyd ni gan awydd i ehangu maes ein cenhadaeth. Yn gynnar ym Mai, 1882, galwodd Adams i dreulio prynhawn gyd â mi yn fy llety yn Nhrefaesfach, Beulah. A dyna'r adeg y penderfynasom deithio cymaint ag a allem o'r sir (yn ol ein cyfle) ar ran dirwest, heb ddisgwyl tâl o gwbl. A Mehefin y 29, 1882, dechreuasom ar ein cenhadaeth yng Nghastellnewydd, lle'r oedd tua 30 o dafarnau ar y pryd. Y noson honno yr oedd yr Hybarch Owen Thomas gyd â ni fel cadeirydd.
Gorffennaf y 13. Credaf ein bod ein dau yn y cwrdd dirwest a gynhelid yn Llandysul.
Awst yr 17, yr oeddwn gyd ag Adams yng Nghapel y Wig, dan nawdd cangen leol Mudiad y Ruban Glas. Ardystiodd 190. Dechreuem weled fod ein cenhadaeth yn cael ei gwerthfawrogi.
Awst yr 22, cynhelid y Cyfarfod Chwarterol yn y Crugiau, pryd y penderfynasom alw sylw'r Gynhadledd at ein cenhadaeth a gofyn cefnogaeth y gweinidogion a'r lleygwyr a fyddai'n bresennol. Nid gofyn eu caniatâd yr oeddis. A'r gŵr a siaradodd yn fwyaf cefnogol i ni oedd y Parch. E. Aeron Jones, Castellnewydd Emlyn. Dywedodd i ni fod yn cynnal cyfarfod yng Nghastellnewydd, a'n bod yn ymddangos yn ddynion o argyhoeddiad, ac yn trafod y mater yn deg a boneddigaidd. Cawsom gefnogaeth weddol gan y Gynhadledd—rhyw oddefiad parchus, ag eithrio geiriau cefnogol iawn y Parch. Aeron Jones. Adams, wrth gwrs, a ddylasai roddi'n hachos o flaen y Gynhadledd, ond ni wnâi hynny, "canys", meddai, "nid wyf fi yn eu ffafr o gwbl am nad wyf ddigon iach yn y ffydd, ac yn hen droseddwr ynglŷn â dirwest byth oddiar y Bregeth Ddirwestol a draddodais yng Nghymanfa Llanarth flynyddoedd yn ol."
A phregeth neilltuol am ei difrifwch a'i nerth oedd honno, mae'n debig.
Wele rai cofnodion pellach:
Awst y 24, cwrdd dirwest yn Llandysul.
Medi y 25, cyfarfod ym Mwlchygroes. Llawer yn ardystio.
Medi y 26, ein dau yn Llanarth ar wahoddiad y Temlwyr Da. Cynulleidfa fawr, a 1 yn arwyddo.
Medi y 27, ym Mydroilyn. Capelaid llawn. Cwrdd doniol. Ond llawer yn arwyddo.
Hydref y 24, ein dau yng ngŵyl flynyddol y Temlwyr Da yn Llangeler. Capelaid llawn a chroeso cynnes.
Tachwedd y 6, yn Neuaddlwyd. Ein dal gan law trwm. Capelaid llawn, gwrandawiad astud.
Tachwedd y 7. Nebo. Cynulleidfa fawr. Y Parch. Lloyd Morgan newydd ymsefydlu yno, ac yn selog dros sobrwydd.
Fel yr awgrymwyd, bylchog iawn yw'r cofnodion o'r ymgyrch ddirwestol, ond cariwyd hi ymlaen am rai blynyddoedd, ac ardystiodd llaweroedd mewn amryw leoedd. Mawrth y 19, 1883, arwyddodd 101 yn Beulah. Mai, 1883, arwyddodd 33 yn Pisgah. A llawer ym Mrynmair, Mai y 6, 1885; a 30 yn Nhachwedd yr un flwyddyn. Ymwelwyd hefyd â Nanternis, Ceinewydd, Capel Iwan, Trelech, Llanbedr, Cilcenin, Capel y Drindod, Glynarthen, Hawen, ac amryw o leoedd eraill, ac ymwelwyd â rhai lleoedd droeon. Anfon ein cyhoeddiad y byddem fel rheol, ond cawsom ein gwahodd i amryw fannau. Teithiasom gymaint i gyfeiriad canol y sir nes dyfod yn gyfarwydd iawn â'r enwau Ffostrosol, Synod Inn, Capel Cynon a Banc Shôn Cwilt. Cerdded y byddem fynychaf. Brydiau eraill llogem gerbyd am ran neu'r cwbl o'r ffordd. Ac anfynych y gwelsom unrhyw arwydd o berthynas rhwng na'r ceffyl na'i yriedydd â Jehu. Cawsom ein dal ragor nag unwaith gan law trwm, a bu'n dda cael newid dillad ar adegau felly. Ond gwelsom lawer diwrnod nodedig o ddymunol, a llawer tro y buom yn eistedd i lawr i gael chydig o orffwys yng nghymdogaeth Banc Shôn Cwilt. Un tro yr oedd Y Geninen newydd ein cyrraedd, a hyfrydwch ac adeiladaeth oedd gwrando ar Adams yn darllen un o bryddestau goreu Llew Llwyfo oedd yn y rhifyn.
Gwneid ein cyfarfodydd i fyny o bregeth ac araith, pregethem ac areithiem bob yn ail, a cheid cynulliadau lluosog ymhob man. Eto digwyddodd rhai pethau diddorol ynglŷn â'n cenhadaeth. Yn debig i hyn y cyhoeddid ni gan archiagon un eglwys,—gŵr braf a doniol, ond a thipyn rhyngddo a bod yn Nasaread:— "Nos Fercher nesaf bydd hwn-a-hwn a hwn-a-hwn yma'n areithio ar ddirwest, y tacla ofnadwy yn d'od yma'r amser busy yma (ym mis Medi yr oeddid yno). Ar ganol yr araith mewn cyfarfod arall, gwaeddodd dyn mewn oed allan ragor nag unwaith, "Yr ydych yn dweyd celwydd." Ac wedi i'r cadeirydd arfer ei awdurdod, llesg-ymlwybrodd y cyfaill allan—cyfaill a fuasai'n amaethwr parchus, ond oedd wedi troi i ofera, ac oedd mewn diod ar y pryd. A chyn pen y flwyddyn caed y truan yn farw ar fin y ffordd—un o ferthyron y ddiod.
Dro arall, yr oedd un o weinidogion y sir yn gadeirydd ein cyfarfod. Gŵr rhagorol, ac heb fod yn llymeitiwr. Yn ei anerchiad o'r gadair, amddiffynnai gymedrolder, gan ddywedyd mai yn y gyfeddach yr oedd y perigl. Anwybyddai'r ffigyrau am laddedigion y ddiod. Ond trannoeth y cyfarfod yr oedd yn berwi gan frwdfrydedd dros amddiffyn adar y gymdogaeth, canys deuai rhyw estroniaid yno i ddal pob bullfinch a allent.
Cawsom lawer o oerfelgarwch ac o ymosod arnom mewn geiriau, a hynny gan rai y buasid yn disgwyl gwell pethau oddiwrthynt. Ac nid peth dieithr oedd i deulu Adams, pan fyddai ef ar ei deithiau dirwestol, gael eu poeni gan yfetwyr ar eu ffordd adref o'r ffair neu'r farchnad. Safent ar gyfer y tŷ, gan ddywedyd yr hyn oedd ar eu meddwl, mewn geiriau cryfion. Ac un noson taflwyd carreg fawr trwy ffenestr Brynhawen, a dihangfa gyfyng a gafodd y forwyn ac un o'r plant rhag mynd yn aberth i'r ysbryd ymosodol a gynrychiolid gan y garreg. Ni ddeuthpwyd i wybod enw'r troseddwr. Afraid yw manylu ar y gwrthwynebiadau a gafodd ef ymhob ffurf arnynt. Ond nid gŵr i'w ddigalonni nac i ddïal oedd ef. Yn hytrach, yr oedd yn barod i ddioddef i'r eithaf dros yr hyn a gredai oedd iawn. Ac er ei roddi i huno yn naear ei bentref genedigol, y mae'n "llefaru eto," a'i ddylanwad i'w deimlo'n fawr heddiw y ffordd y cerddodd yng ngwaelod sir Aberteifi. Erbyn hyn, y mae'r cyfarfodydd llenyddol a'r cyfarfodydd dirwestol y bu'n offeryn i'w sefydlu wedi tyfu i fod yn eisteddfodau a chymanfaoedd dirwestol enwog a llwyddiannus. Ac ni all meddwl amdano ac atgofio ei weithgarwch amlochrog ynglŷn â'r gwaith o ddeffro a hyrwyddo camre daioni, lai na pheri hiraeth dwfn amdano a diolchgarwch cynnes am ei wasanaeth gwerthfawr.
Yn 1880, enillodd Goron Eisteddfod Tregaron am y bryddest oreu ar "Wyrth Gyntaf Crist." Yn 1881 daeth allan yn ail da i Watcyn Wyn am y Goron Genedlaethol ym Merthyr, am bryddest ar "Fywyd." Yr oedd rhai o'i syniadau, yn ol y feirniadaeth, yn dramgwydd i dri beirniad hollol uniongred. Yn 1884, enillodd y wobr o £30 a thlws aur yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am draethawd ar Hegel. Yr oedd y gystadleuaeth hon yn hynod ar gyfrif y ffaith fod y Prifathro Morris yn gosod "Vera "—sef Adams—ymlaenaf, a "Non-Hegel" yn ail; y Prifathro T. C. Edwards am rannu'r wobr rhwng y ddau, a'r Athro Henry Jones am rannu'r wobr rhwng "Vera " a Myfyriwr," tra yn cyhuddo "Non-Hegel" o lên-ladrad. Yn yr amgylchiadau cytunodd y tri i roddi'r wobr i "Vera."
VIII. HOLI'R PWNC.
ER fod bywyd cyhoeddus Adams yn amlochrog iawn, eto prin y caniata maint bwriadedig y GyfrolGoffa inni roddi pennod ar bob un o'r agweddau hynny. Ond yr oedd dwy agwedd amlwg a dylanwadol ynglŷn â'i weinidogaeth yn Hawen a Bryngwenith na ellir llai na rhoddi iddynt bennod gyfan, sef ei ymdrech o blaid sobrwydd, a'i lafur mawr a gwerthfawr fel holwr ysgolion. Go brin y bu llawer o'i ragorach fel holwr yng Nghymru erioed. Er i mi gael cystal, os nad gwell, cyfle nag odid neb arall i wybod am ei wasanaeth o blaid dirwest, eto ychydig o gyfle a gefais i'w wrando'n holi ysgolion. Felly teimlwn yn falch o'r ysgrif ragorol a ganlyn arno fel holwr gan y Parch. Thomas Davies, Horeb, Llandysul:
Buan yr ymledodd y newydd bod gweinidog newydd Hawen yn holwr da, ac eto dywedai ambell un yn dawel fach nad oedd yn rhyw iach iawn yn y ffydd. Teimlai rhai mai goreu i gyd oedd hynny, a phasiwyd gofyn iddo ddyfod i holi Ysgol Horeb yng Nghymanfa'r Llungwyn, a chawsai yntau wybod cyn diwedd y dydd beth oedd diwinyddiaeth bur ac iach, a gwae a fuasai iddo fentro anghytuno â'r pethau a gredid yn ddiameu yn eu plith. A bu Mr. Adams yn holi Horeb flwyddyn ar ol blwyddyn. Cytunid yn bur gyffredinol na fedrai neb holi fel efô, ond credai'r colofnau, ceidwaid yr athrawiaeth,' na wyddai ef fawr am uniongrededd, ac nad oedd ei ddaliadau diwinyddol ond heresïau noeth. Yr oedd cewri yn y Sgrythur yn y cylch hwn y dyddiau hynny,—dynlliwiasai'r Beibl eu bywyd, eu meddwl a'u barn: yr oedd ei awdurdod yn derfynol, a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd. Dyna'r math ar ddynion yr oedd yn rhaid arno eu hwynebu yn y Gymanfa. Efô oedd y cyntaf i wrthwynebu syniadau Calfinaidd eglwysi Annibynnol y cylch, y syniadau hynny a fu'n bod oddiar rwyg Arminiaeth Pant y Creuddyn. Etholedigaeth, y Cyfrifiad, ac athrawiaethau eraill oedd testunau'r dadleuon mawr a phoeth. Credai cewri'r ffydd yn y cylch y gwyddai Paul holl gyngor a meddwl Duw, a bod popeth yn Ie ac yn Amen iddo ef: credent mai iddynt hwy'n unig yr oedd pob rights yn reserved ym meddwl yr Apostol ei hun. Pan ddigwyddai rhywun fel Adams anghytuno—wel, gwae iddo! Pechasai yn erbyn Ysbryd Glân esboniadaeth gywir, a cheid digon o farchogion i gymryd gafael yn y cleddyf, y darian a'r astalch dros y peth hwnnw a ystyrid yn gysondeb y ffydd. Nid oedd bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw. Llawer gwaith y safodd Daniel Davies, Gilfach Chwith, John Tomos y Cipar, David ac Ifan Davies, meibion y Maengwyn, ac eraill fel dur o blaid yr hen athrawiaethau. Llawer ymdrechfa galed a fu rhyngddo a'r cewri hyn a'u tebig. Adams yn y pulpud, y gelynion o'i flaen; fel y dywedodd un: Cannon to right of him, cannon to left of him. Deuai adnodau fel tân belennau o bob cyfeiriad, neu fel yr ehed y saethau oddiar y bwa. Mor gywrain a deheuig yr oeddynt yn gwau adnodau mawr y Rhufeiniaid, yr Ephesiaid, a'r Colosiaid i mewn i'w hymresymiadau, ac nid oedd wiw iddo ddywedyd dim yn erbyn y Sgrythur a ddywedai Y rhai a ragwybu a ragluniodd ef,' ac ymadroddion cyffelyb; gwae'r gweinidog hwnnw na neb arall a âi mor hy â dywedyd gair yn erbyn adnodau Duw fel eu llefarwyd gan yr Apostol Paul. Nid oedd eisiau gwahodd lluoedd i'r Gymanfa yn y dyddiau hynny. Pwy a allai fod adref?
Digwyddodd aml dro doniol a digrif yn ei hanes wrth holi. Un tro arweiniodd yr Ysgol at bwnc mawr Pechod Gwreiddiol, ac yr oedd yn ei afiaith wrth drin cwestiwn fel hwn. Credai'r saint yr athrawiaeth hon, gan mwyaf ohonynt, heb un amheuaeth; yr oedd yn gymaint o ffaith iddynt â deddf codiad haul. Ameu peth fel hyn, y fath ryfyg! Taflai ef gwestiwn ar ol cwestiwn, a'r colofnau yn taflu adnod ar ol adnod ato yntau: oni wyddent am driciau rhesymeg, fe wyddent adnodau ddigon, ac o'r diwedd dyfynnwyd y geiriau hynny Mewn anwiredd y'm lluniwyd, ac mewn pechod yr esgorodd fy mam arnaf.' Medd- yliodd pawb fod hyn yn setlo'r cwestiwn, ond ebr Adams: Salm Solomon yw honna, a chyfeirio y mae ef at Bathseba, ei fam?' Ac yn dawel a phwyllog hollol, dyma'r atebiad yn mynd yn ol iddo: 'Wel, syr, yn ol fel dw i'n nabod dynion, mi allwn i feddwl ma Bathseba yw'n mam ni i gyd.' Teg yw dywedyd na fwynhawyd yr ergyd byw a ffraeth hwn yn well gan neb na chan yr holwr ei hun. Cododd y teiml- adau mor uchel un tro nes cyffroi arweinydd Ysgol Horeb yn fawr. Buasai'n darllen naw neu ddeg o esboniadau, a phan welodd na bu hynny i ddim pwr- pas i gyfarfod holi Adams, caeodd ei Feibl yn drystfawr, gan ddyweydd wrth yr Ysgol oedd ar ffrynt y galeri: Eisteddwch i lawr, boys; eisteddwch i lawr; mae hwn yn gwadu popeth.'
Ambell dro holai'n galed iawn, a phoethaf y rhyfel goreu i gyd ganddo, ac nid ymddangosai'n fwy wrth ei fodd na phan fyddai'r Ysgol i gyd yn ei erbyn. Mewn un Gymanfa, cafodd Ysgol neilltuol driniaeth lem iawn, a chydnabyddai pawb mai ef oedd y gorchfygwr y diwrnod hwnnw. Ond y mae rhyw gysur ymhob amgylchiad: methodd atebwr mawr yr Ysgol â bod yn y Gymanfa honno oherwydd afiechyd. Gofid calon iddo oedd clywed sut y bu hi ar yr Ysgol yn y Gymanfa, ac er mwyn profi prun ai Adams ynteu'r Ysgol oedd drechaf, penderfynwyd i'r Ysgol fynd i Hawen ar nos Sul, ac Adams i holi. Rhaid oedd cael Toriad dydd ar Gymru yn anthem, a 'phetasai ym mwriad y Côr gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ni buasai mwy o baratoi. Er cymaint paratoad y Côr, nid oedd i'w gymharu â pharatoad y diwinyddion; yr oeddynt wrthi mewn amser ac allan o amser, yn enwedig y brawd oedd yn sâl ddydd y Gymanfa. Syniai am Idrisyn gyd â pharch ac edmygedd mawr, ond ofnai nad oedd yn ddigon newydd a ffres i gyfarfod ag Adams; rhaid oedd ymgynghori â Barnes, a llawer gwaith y dywedodd: Dyma'i feistr e', Hawen-w!' Aelwyd lon, hapus a dibryder oedd yr eiddo ef, aelwyd y chwedl a'r gân, ond nosweithiau lawer cyn y nos Sul hwn, rhaid oedd i'r wraig a'r plant, y gweision a'r morynion fynd i'w gwelyau yn gynnar er mwyn iddo gael perffaith lonyddwch a thawelwch gyd â'i Barnes. Ni lafuriodd myfyriwr erioed yn galetach gogyfer â'i arholiad nag y gwnaeth y brawd hwn erbyn yr holi. Gwnaeth ryw bedair tudalen ffwlscap o nodiadau, a phob un o'r nodiadau, yn ei dyb ef, yn mynd i orchfygu'r holwr. Daeth y nos Sul-prynhawn braf yn nechreu haf: yr Ysgol ar y llofft yn Hawen, ac eisteddodd yntau uwchben y cloc. Codai, yn awr ac yn y man, i weled a ddeuthai'r Ysgol i gyd. Breintiwyd ef â chorff tal ond â thymer byr iawn, â chalon fawr ond ag amynedd bach. Medrus ydoedd ar y gwaith o dorri'r llechau, er hynny ni fachludodd yr haul erioed ar ei ddigofaint. Dechreuodd yr holi, a dyma'r cwestiwn cyntaf yn dyfod. Edrychodd yntau ar y ffwlscaps ar ei lin: ac, fel y digwydd weithiau, nid oedd dim cyfleus iawn yn y nodiadau yn ateb y cwestiwn. Atebodd brawd a eisteddai yn y sedd uwch-ben iddo. Dyma'r ail, a'r trydydd gwestiwn—a dim yn y nodiadau eto. Pan ddaeth y pedwerydd, gosododd y nodiadau yn ei boced, gwelodd fod ei lafur i gyd yn ofer; collodd ei dymer, trodd at yr Ysgol, a dywedodd, Weles i riod shwd beth, p'idiwch ag ateb yr hen ff, w. Dyw e ddim gida'r pwnc o gwbl—gadewch e'n llonydd, shwd holi weda i. O hynny allan, yn y gwasanaeth hwnnw, nid agorodd ei enau. Cyn mynd allan o'r capel yr oedd wedi maddeu'r cyfan i Adams am ei holi gwael. Y Sul dilynol aed ati i ddewis holwr erbyn y Llungwyn, ac er syndod i bawb, ef oedd y cyntaf i gynnig gwein- 'idog Hawen. Fel pwnc y Llungwyn hwnnw, rhaid oedd iddo gael rhan o Gorinthiaid xv.-pwnc yr Atgyfodiad. Ar hyn o bryd yr oedd newydd gael benthyg gweithiau Dr. Dick gan gyfaill iddo, ac felly ni wnâi dim ond yr Atgyfodiad y tro i fod yn bwnc. Y Llungwyn hwnnw bu'n rhaid ar Adams ymladd un o'i frwydrau mawrion. Credai'r cyfaill hwn, a'r rhan fwyaf o bawb, y Beibl i gyd, a chredent hefyd mewn Atgyfodiad—atgyfodiad y corff yn gystal ag atgyfodiad yr enaid. Gwahaniaethent hwy oddiwrth yr holwr yn fawr, ac ar dir Sgrythur yr oeddynt bron ag ennill y dydd. Dyfynnent adnodau'n rhugl,
galwent y ddau Destament at eu gwasanaeth; iddynt hwy, penderfynai hyn bopeth. A'r frwydr yn ei hanterth, ciliodd Mr. Adams ychydig yn ei ol yn y pulpud, a dywedodd: 'Dw i ddim am i hwn ddod i fyny, beth bynnag.' Ac ar darawiad amrant, dywedodd y cyfaill â'r corff hardd lluniaidd: 'Se hwnna gen inne, Adams, fyswn inne ddim amdano chwaith.' Ni ddadleuwyd rhagor am yr atgyfodiad yn yr oedfa honno!
'Deheuig iawn ydoedd Adams i ddyfod â damcaniaethau diweddar athroniaeth a diwinyddiaeth i'w gwestiynau, megis Datblygiad, Hegeliaeth, a phethau felly. Sonnir llawer heddiw am the solidarity of the human race, a dyna'r unig beth oedd ganddo 'pan holai Ysgol yn araith Paul ar Areopagus. Ei athrylith fel holwr oedd yn cynhyrfu meddwl a deffro dychymig, a pho fwyaf dadleuadwy fyddai'r mater, llonnaf i gyd oedd yntau. Hawdd oedd gweled mewn ambell Gymanfa fod yna un cwestiwn mawr yn ei boeni, a deuai at hwnnw o bob man. Un tro personoliaeth y diafol oedd ei beth mawr. Gwnaeth alanas mawr yng nghyfarfod y bore â'r ddwy Ysgol, gyd â'r cwestiwn dyrys hwn. Wrth holi Ysgol yn y prynhawn aeth at bersonoliaeth y diafol wedyn, ac ebr un o'r rhai mwyaf byw ei ddychymig a smart ei dafod a adwaenais erioed, "Syr, dyw hwnna ddim yn y maes." Anwybyddodd awgrym ei gyfaill, a meistr ydoedd ef ar y grefft o anwybyddu atebiad neu awgrym, ond gwnâi hynny mewn dull boneddigaidd a charedig. "Wel," ebr y cyfaill, "os i chi am ddadl, syr, i ni'n barod!" gan edrych ar yr Ysgol. Ni bu erioed y fath luchio ar adnodau, a chroesi cleddyfau wrth resymu. Heb fod yn hir iawn deellodd nad oedd argyhoeddi i fod ar yr Ysgol, a bod y gwahaniaeth rhyngddynt yn mynd yn fwy yn hytrach na mynd yn llai, a'r Ysgol, hithau, yn mynd yn gadarnach yn ei chred o adnod i adnod ac o ymresymiad i ymresymiad. Yn y diwedd caeodd Adams ei gôt, a dywedodd, "Person neu beidio, ddaw ef ddim i mewn fan yma."
Daeth yr ateb oddiwrth ben dadleuwr yr Ysgol: Tw-lêt, syr, mae e' na oddiar ddeg bore heddi. Deellai Adams ddigon ar y natur ddynol i wybod mai annoeth fyddai holi llawer rhagor y prynhawn hwnnw. Y gymwynas fawr, ac efallai'r gwasanaeth goreu a gyflawnodd ef, oedd sôn am bethau newyddion diwinyddiaeth ac athroniaeth yn y Gymanfa Ysgolion. Efô yn ei ddydd oedd yr unig un bron a wnâi beth felly. Y pethau dyfnion hyn oedd bwyd cyffredin y Gymanfa yn ei amser ef. Pa gymwynas fwy a ellid â dynion hyddysg yn eu Beibl?--dynion a wyddai'n dda am gelfyddyd dadleu—yn enwedig dadleu diwinyddiaeth—dynion heb lawer o addysg, efallai, ond eto dynion diwylliedig, dynion oedd, er maint eu hawydd am esbonio a deall y Beibl, ac er cymaint eu rhyddfrydiaeth mewn gwleidyddiaeth, eto i gyd yn geidwadwyr mewn diwinyddiaeth: rhyfyg a phechod oedd beiddio symud yr hen ffiniau, na sôn wrthynt hwy am ddigwyddiadau a darganfyddiadau byd mawr y meddwl. Rhyw ysgwyd eu pennau a wnaent a dywedyd mai ffolineb oedd mwy na hanner y pethau y soniai ef amdanynt, ac eto ni wnâi neb y tro fel holwr ond ef. Ni chred llawer o'r hen ddadleuwyr i Einstein ddarganfod dim na ddadleuwyd ac a wyntylliwyd 30 neu 35 mlynedd yn ol, yn yr hen Gymanfaoedd. Gŵr araf ei gerddediad, ac mor araf â hynny yn ei ddull, yw'r gwladwr, ac efallai bod rhywbeth yn wylaidd ac yn ddrwgdybus ynddo. Ni chymer yn hawdd at ddyn dieithr, ac anos fyth iddo yw derbyn syniadau newyddion, Yr oedd a dyma achos ei helynt ag Adams. Adams y pregethwr ac Adams yr holwr yn ddau ddyn hollol wahanol iddo. Rhagor nag unwaith y clywsom eiriau tebig i hyn: Beth sy ar y dyn 'ma?
"Pam na fydde fe'n holi fel y mae e'n pregethu? Mae e'n pregethu fel dyn arall, ac yn hollol iach yn y ffydd pan yw e'n gweddïo. Mae e'r un peth a ni pan yw'n gneud y pethe hyn. Mae e'n gweid y gwir wrth bregethu a gweddïo". Adams yr holwr oedd yn anodd iddynt hwy ei ddeall, nid y pregethwr.
Nid amheuent ei allu a'i ddysg, gwyddent ei fod mor amddifad o gyfaddawd â halen, ar gwestiynau moesol, a bod cryn dipyn o'r peth hwn yn ei bregethau; ac er ei ddiwinyddiaeth ryfedd, ni fedrent yn eu byw lai na'i barchu a'i anrhydeddu. Y mae rhyw sawr hyfryd ar ei goffadwriaeth, a rhaid fydd claddu rhagor nag un oes cyn y bydd y sôn am Adams, Hawen, fel holwr wedi peidio â bod. Bu yma'n holi ddwywaith wedi i mi ddyfod yma, a buasai yma fwy na hynny pe gallasai ddyfod; nid oedd iddo gydymgeisydd, a rhyfedd iawn, dyma'r feirniadaeth arno y troeon hyn: Onid yw Adams wedi newid? 'Dyw e ddim tebig y peth o'dd e. Mae e'n awr 'run peth a ni. Ni ddaeth tros eu meddwl erioed iddynt hwy newid synient amdanynt eu hunain eu bod o hyd megis ag yr oeddynt yn y dechreu. Gwnaeth ef waith mawr yn ei ddydd mewn barddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth, ond ni wnaeth fwy o waith mewn unrhyw gylch na phan holai Ysgol: gosododd fin ar feddwl llawer, a gwnaeth y Testament Newydd yn llyfr byw a newydd ; a pha waith a ellir ei gymharu â hwn? Pes claddesid yn Hawen, buasai llawer un, a fu'n dadleu'n boeth ag ef, yno yn ei angladd yn tywallt dagrau ei galon ar fedd un a berchid yn fawr ganddynt er iddynt anghytuno ag ef lawer gwaith.
Deuai i wrthdarawiad yn y Cyfarfodydd Holi nid yn unig â cheidwaid yr athrawiaeth yn yr Ysgolion, ond ambell waith â'r holwyr pregethwrol eraill. Bu cyfarfod felly un tro yn Llanarth—yr unig gyfarfod ysgolion yn yr awyr agored y clywsom ni sôn amdano. Ymhlith yr holwyr ar yr esgynlawr yr oedd y Parch. D. S. Davies, Caerfyrddin, a phan oedd Adams yn holi yr oedd Mr. Davies yn cael ei osod ar waith gan eraill yn ddïau— yn ateb yn awr ac eilwaith. Wedi goddef am beth amser trodd Adams yn ol ato, a dywedyd, Mr. Davies, pan fo'r Ysgol yn methu, mi ofynnaf fi i chwi. Rhodd hynny daw arno yn y lle hwnnw; ond wedi myned i'r tŷ apeliai ef—ac eraill nad oedd mor amlwg ar y maes—at y Parch. Wm. Evans, Aberaeron, i sathru ar seirff y fath syniadau cyfeiliornus, a rhoddi ei amddiffyn i'n hieuenctid. Ac meddai'r hen sant, Ho, ni âd yr Ysbryd Glân i'r plant fynd ymhell iawn oddiwrth y gwirionedd,—ateb a ddengys fel y mae'r gwir sant, er yn uniongred ei hun, yn codi uwchlaw'r llythyren at yr ysbryd.
Rhoddir i ddilyn enghraifft o ddull gofalus Adams o baratoi ar gyfer holi ysgol. Eto, er ei fod yn paratoi'r maes, nid oedd o gwbl yn gyfyngedig i gwestiynau paratoedig, ond yn gofyn cwestiwn ar ateb, mewn modd byw, hyblyg a diddorol:—
Ephesiaid v.
a. 1. Dilynwyr. Imitators. Plentyn yn dysgu wrth wneuthur fel y gwêl ei dad yn gwneuthur. Iesu yn gweithio am fod Ei Dad yn gweithio. Nid yw y Mab yn gwneuthur dim o hono'i hun ond fel y gwelo Ef y Tad yn ei wneuthur. Edmygedd ac anwyldeb yn arwain i eilfyddiad ym mhawb.
a. 2. Rhodiwch. Dullwedd Heb. am arwain bywyd, ymddwyn. Bydded cariad yn gymhelliad yn egwyddor fyw yn eich bywyd.
Megis y carodd Crist ninnau. Dilyn Crist yw dilyn Duw. Y mae cariad Duw yng Nghrist tuag atom ni i gael ei ail adrodd, ei ail fyw gennym ninnau yn ein hymddygiadau tuag at ein gilydd. Cf. Gal. v. 2; 1 Ioan iii. 16; 1 Petr iv. 13.
Drosom ni. Trososodiad cariad (moral substitution, not legal). Crist yn cyfranogi o'n poenau a'n gofidiau ond nid o'n heuogrwydd.
O arogl peraidd. Duw yn caru Iesu am Ei fod yn ymaberthu er mwyn dynion. Nid oedd Duw yn ddig wrth Iesu pan oedd yn dioddef drosom. Cf. Ioan x. 17.
a. 3. Cybydd-dra:
- 1. Gwadiad o lywodraeth a gofal Duw am y byd a'i drigolion.
- 2. Amharch i Dduw drwy ysbeilio Duw o'i aur a'i gyfoeth.
- 3. Cam â'i enaid ei hun—sychu ffynhonnell ei drugaredd a'i gydymdeimlad.
a. 4. Serthedd. Obscenity, αἰσχρότης, iaith aflan, anniwair.
- Coeg ddigrifwch. Jesting. Life is earnest. Anweddaidd i sefyllfa ac urddas dyn.
a. 5. Yn nheyrnas Crist. Yn yr eglwys weledig ar y ddaear. Dim hawl i'w breintiau. Dim etifeddiaeth na meddiant o'i thrysorau.
- A Duw. Dim rhan na meddiant yn Nuw. Cf. Salm xvi. 5.
a. 6. Geiriau ofer. Peidiwch â chymryd eich darbwyllo fod y weithred yna yn ddiniwed. Nid yw'r Efengyl yn caniatau rhyddid i bechu—Ni watworir Duw, etc.
a. 8. Tywyllwch: Arwydda anwybodaeth, aflendid, perigl, marwolaeth.
- Goleuni yn yr Arglwydd: Wedi eu dwyn i'r goleuni gan yr Arglwydd. Yn y gwirionedd am Dduw.
a. 9. Ffrwyth yr Ysbryd. R.V. Ffrwyth y goleuni. Goleuni yn fywyd.
Daioni—kindness, beneficence. Nid yr egwyddor o ddaioni yn gymaint â gweithredoedd o garedig- rwydd ac elusen.
a. 17. Annoethion. Rhai heb ddeall a gwerthfawrogi cyfleusterau.
- Doethion. Rhai yn deall beth yw ewyllys Duw. Ond mae'n rhaid ei byw yn gyntaf. Mae'n rhaid dyfod a hi i test bywyd cyn y deuir i'w deall. (Hinton said of a remark—I do not simply know it, I have found it out).
a. 18. Gormodedd. (Wherein is riot, R.V.). Y mae swyn yn y gwin i arwain dynion i riot a gormodedd. Ac y mae yfed i ormodedd unwaith yn rhwyddhau'r ffordd ar gyfer tro arall, fel afon yn codi ac yn gorlifo. Y mae yn lledu ei gwely, yn mynd ymaith â rhannau o'r gwrthglawdd ac yn lleihau ei allu i'w rhwystro i orlifo y tro nesaf.
- Llanwer chwi a'r Ysbryd Glân. Dim gormodedd yn bosibl yma. Nid wrth fesur y rhoddodd Duw yr Ysbryd i Iesu, ac fe'i rhydd i ninnau yn ol mesur dawn Crist os bydd ynom awydd am ei feddu.
a. 19. Gan lefaru mewn salmau, etc. Gwin yn gwneuthur dynion yn siaradus a stwrllyd. Yr Ysbryd yntau yn sirioli dynion i ganu salmau ac odlau ysbrydol. Canu maswedd wrth y gwin. Canu mawl dan ddylanwad yr Ysbryd. Rhegi wrth y gwin—gweddio dan ddylanwad yr Ysbryd.
a. 20. Gan ddiolch. Y gwin yn gwneuthur dynion yn fostfawr a chwyddedig. Ysbryd Duw yn dwyn dynion i ystyried eu dibyniad ac i deimlo'n ddiolchgar.
- Yn wastad. Hyn i fod yn sefyllfa arferol y meddwl—yn habit.
- I Dduw a'r Tad. Y Tad ynddo sydd yn dwyn i agwedd meddwl diolchgar.
- Yn enw'r Arglwydd Iesu Grist. Enw yn golygu Ei gymeriad a'i nodweddion. Y cwbl ag yw. Yn Ei serch at Dduw. Yn Ei ostyngeiddrwydd a'i hunan anghof.
- Arglwydd Iesu Grist. Y Gwaredwr a'r Llywodraethwr yn Iesu yn ein gwaredu er mwyn ein cael yn deyrngar iddo.
Gwasanaethodd ar Fwrdd Ysgol Troedyraur drwy'r blynyddoedd heb ball; ac am werth ei weithgarwch a'i wasanaeth gwleidyddol nid oes eisiau gwell tystiolaeth nag a geir yn anerchiad Cymdeithas Ryddfrydol Aberbanc, a gyflwynwyd iddo mewn cwrdd cyhoeddus yn Horeb:
Annwyl a Pharchedig Syr,
Y mae eich perthynas â ni mewn ystyr wleidyddol er y flwyddyn 1880 wedi bod y fath fel na allwn oddef i'r cysylltiad agos a chynnes hwnnw gael ei dorri heb i ni gydnabod ein gofid oherwydd hynny yn ogystal ag amlygu ein syniadau uchel ac annwyl am danoch chwithau drwy gyfrwng yr Anerchiad hwn. Y mae eich teilyngdod chwi a'n teimlad ninnau yn hawlio hyn.
Buoch yn ffyddlon bob amser i'ch egwyddorion ac argyhoeddiadau eich cydwybod, a hynny yn wyneb llawer o rwystrau. Yn ystod yr amser a nodwyd aberthasoch lawer o'ch amser gwerthfawr a'ch talentau amrywiol i wasanaethu'r achos mawr Rhyddfrydig yn Neheubarth hen sir enwog Aberteifi, ac mewn modd arbennig felly ein Cymdeithas ni yn Aberbanc.
Ni allwn byth anghofio y gwasanaeth a wnaethoch i Ryddfrydiaeth y sir ym mrwydr fythgofiadwy 1886 pan wnaeth cymaint 'long-ddrylliad o'r ffydd.'
Gofidiwn oherwydd eich ymadawiad o'n hardal, ond wrth atgofio yr wyth mlynedd diweddaf bydd i chwi le cynnes a pharchus yn ein calon fel un o'n harweinwyr gwleidyddol.
Bydd yn gaffaeliad dirfawr i ardal oleuedig a phoblog Bethesda eich cael i fyw ynddi, a chredwn y derbynnir chwi yn galonnog gan y Rhyddfrydwyr adnabyddus a chydwybodol y sydd yno eisoes. Dymuniad gonest ein calon ydyw ar i chwi gael oes hir i wasanaethu'r achos Rhyddfrydig yn eich cylch newydd, oherwydd yr ydym yn hollol argyhoeddedig fod brwydrau eto i'w hymladd cyn y cawn fwynhau perffaith ryddid, yn wladol a chrefyddol.
Derbyniwch yr Anerchiad hwn fel dangosiad o'n 'hedmygedd o'ch cymeriad pur, eich ynni di-ball, a'ch galluoedd disglair.
Bydd yr Anerchiad hefyd yn foddion i'ch atgoffa chwithau o enwau hen gyd-filwyr i chwi ar feysydd brwydrau gwleidyddol 1880, 1885, 1886 yn sir Aberteifi.
Eich ewyllyswyr da,
AELODAU CYMDEITHAS RYDDFRYDOL ABERBANC.
IX. BETHESDA.
MAE symudiad Adams o sir Aberteifi i Fethesda yn enghraifft o dor yn arwynebedd bywyd nad yw yn ddechreu cyfnod newydd yn ei hanes yn feddyliol na moesol. Yr oedd yn ddïau yn ddechreu cyfnod newydd o safbwynt teimlad a chylchfyd agos. A sôn dim am gysylltiad Mrs. Adams â'r hen ardal, yr oedd ef ei hun wedi gwreiddio'n ddwfn a llydan yno erbyn hyn ar ochr addysg, dirwest, gwleidyddiaeth a chrefydd; ac yr oedd pobl ei ofal a phobl oreu yr ardaloedd wedi dyfod i'w adnabod a'i werthfawrogi a'i garu yntau. Wedi iddo hysbysu yn Hawen un bore Sul ei fod yn bwriadu mynd i Fethesda, cynhaliwyd seiat arbennig yno yn yr hwyr—seiat gynnes anarferol—pryd y dywedodd Bet Yetgoch—un o saint yr eglwys—ei bod, er pan glywsai, wedi bod yn ymbil ar i Dduw gadw Adams yno. Ymddangosodd hanes y seiat honno yn Y Faner, gyd â'r canlyniad i Mr. W. J. Parry, Bethesda, ysgrifennu at Adams i geisio'i gadarnhau yn ei fwriad i ddyfod. Ond nid dyn i roddi ei air na'i dorri yn rhwydd oedd Adams. Eto, y mae'n sicr mai dim ond teimlad o ddyletswydd a'r gred ei fod (yn ei eiriau ei hun yn ddiweddarach) wedi gorffen ei waith yno, ynghyd â'r alwad i gylch pwysicach o wasanaeth, a allodd ei arwain o sir Aberteifi i sir Gaernarfon. Yr oedd y gwahaniaeth yn y cylchfyd moesol agos gymaint ag ydoedd yn yr amgylchoedd naturiol, a gwyddai ef hynny i fesur cyn mynd. Yn ddiweddarach sieryd am y cyfnewidiad fel hyn:
Dechreuais i fy mywyd gweinidogaethol ymysg ffermwyr Deheu Ceredigion. Y mae arnaf ofn y byddwch oll yn tosturio wrthyf, a rhai ohonoch yn chwerthin pan ddywedaf i'm disgyblaeth ddiwinyddol ddechreu o ddifrif ynglŷn â holi'r pwnc yn fisol yn Hawen a Bryngwenith. Yr oedd yr aelodau yn llythrennol yn ddynion un llyfr. Ai anrhydedd neu waradwydd yw hynny iddynt, ni wnâf dreio penderfynu; eithr hyn a wn, ei fod yn ffynhonnell o gryfder i'w hargyhoeddiadau, ac yn gofyn am fwy na chryf der cyfartal yn y sawl a gais eu hargyhoeddi o gyfeiliornad lle y maent yn cyfeiliorni.
Ond yr wyf yn parhau i'w caru fel fy athrawon goreu a'm dychweledigion cyntaf.
Yna arweiniwyd fi i Fethesda, a chefais y fraint o lafurio am saith mlynedd ymysg chwarelwyr deallus yr ardal honno. . . . Yr oedd y chwarelwyr hyn yn graff, ac yn feirniaid disgybledig—ar bregethu'n arbennig. Yn hyn ymdebygent i'r hen Ysgotiaid a ddisgrifir gan Ian Maclaren. Cymerent bregeth i fyny yn ystod yr awr ginio, gan wneuthur briwgig o aml un a chymeradwyo eraill, yn ol eu goleuni a'u chwaeth. Eithr darganfûm yno fod gweithwyr yn meddwl—nid drostynt eu hunain ond yn ddiadellog, a bod clod ac anghlod yn ymledu'n gyflym, a hynny rai prydiau nid yn ol teilyngdod neu annheilyngdod, ond yn ol y ddedfryd a euthai allan o'r chwarel. Dywedid mai eu difyrrwch oedd gwrando a beirniadu pregethau boed felly, yr oedd o leiaf yn ddifyrrwch mwy rhesymol na diddordeb y gweithiwr Seisnig yn lwc posibl rhyw geffyl mewn rhedegfa.
Ond ag eithrio'r gwahaniaeth hwn yng ngwely'r afon, daliodd ei phrif redlif i fyned yn ei flaen yn yr un cyfeiriad a chyd â'r un grym, yn y fyfyrgell a'r pulpud a'r eisteddfod. Ni chollodd ei frwdfrydedd, ychwaith, ynglŷn â dirwest ac addysg a gwleidyddiaeth. Ond nid diwinyddiaeth

MR. A MRS. ADAMS YN 1879
yn unig a ddysgodd yn Hawen—dysgodd lawer hefyd fel pregethwr a gweinidog. Credwn fod y sylwadau a ganlyn yn un o'i anerchiadau i fyfyrwyr yn hunanfywgraffol:
Mae'n rhaid i bob un fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau. . . . . Ond nid doeth yn y pregethwr yw cyfeirio'n rhy fynych at y pynciau y mae lle i wahaniaeth barn yn eu cylch. Gwell yw iddo dalu mwy o sylw i'r gwirioneddau y cytunir yn eu cylch, a chyfeirio yn bennaf at agweddau moesol y grefydd Gristnogol.
Yr oedd hyn yn nodweddu ei bregethu ef yng nghyfnod Bethesda o'i gymharu â chyfnod Hawen: daeth gwirioneddau canolog Cristnogaeth—sef y rheiny sy'n dal perthynas â bywyd—i gymryd lle canolog yn y pulpud, tra na phwysleisid athrawiaethau dynol na phynciau megis atgyfodiad y corff. Fel gweinidog daeth i roddi lle pwysicach i ymweld â'i bobl, ac i fod yn fwy tirion a meddyginiaethol mewn disgyblaeth. Da gennym yn y fan hon allu cyflwyno i'r darllenydd farn un a gafodd well mantais na nemawr i neb i'w adnabod ym Methesda fel dyn a phregethwr a gweinidog, sef yr Henadur W. J. Parry, Coetmor Hall:—
Pan geir athrylith o ryw natur mewn cymeriad, y mae hwnnw yn werth ei ddilyn, ei godi, ei fawrygu, a'i fywgraffu.
Yr oedd David Adams yn gymeriad felly, ac mewn amryw bethau yn gymeriad ar ei ben ei hun. Yr oedd yn fyfyriwr ar hyd ei oes hyd oni phallodd ei iechyd. Gall eraill yn well na mi ei drafod fel myfyriwr, ym Mangor ac Aberystwyth, fel ysgolfeistr a gweinidog, hyd nes y daeth yn weinidog i Fethesda. Cyhyd ag y bu yma gwelais lawn cymaint ohono â neb, ac nid oedd neb yma yn ei edmygu yn fwy na mi fel dyn, fel cymydog, fel cyfaill, fel pregethwr, ac fel gweinidog, ac yn y cymeriadau hynny y bydd a fynnof yn yr ychydig a ysgrifennaf.
Yr oedd yn ddyn pur, yn ddyn cywir, yn ddyn o argyhoeddiadau dyfnion, yn ddyn a allai ddywedyd ei feddwl yn ol ei argyhoeddiad. I gael dyn cyflawn, mae'n rhaid cael y cwbl o'r pethau hyn ynddo. Os yn ddiffygiol o'r rhai hyn, ac o'r cwbl o'r rhai hyn, ni all fod yn Gristion. Pan ddaeth i Fethesda gyntaf, yr oedd ei gymeriad yma o'i flaen fel dyn, ac fel dirwestwr selog, a gwrthysmygwr. Wedi i'r symudiad a arweiniodd i'r alwad, yn yr hyn y'm cynorthwyid gan fy hen gyfaill cywir Dr. Herber Evans, ac i'r alwad gael ei hanfon a'i derbyn, ac y dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1888, bu galw arnaf i gymryd taith i Canada, a bûm oddicartref rhyw saith wythnos. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth wedi i mi ddychwelyd oedd gosod o flaen y swyddogion y ffaith eu bod oll yn gwybod ei fod yn ddirwestwr selog, ac yn gryf yn erbyn y fasnach feddwol, a'i fod am geisio cael pob aelod yn yr eglwys i fod felly; a chyn y gallai ddisgwyl llwyddo gyd â'r eglwys, fod yn rhaid iddo yn gyntaf oll gael y diaconiaid yn ddirwestwyr, a gosododd lyfr ar y bwrdd o'n blaen i ni roddi ein henwau o dan yr ardystiad dirwestol, a rhoes ei enw ei hun wrtho yn gyntaf, ac yna gofynnodd i bob un ohonom ni osod ein henwau ninnau wrtho ar ei ol. Cymerodd ei ffordd ei hun i geisio cael pob aelod i wneuthur yn gyffelyb. Ni lwyddodd gyd â'r cwbl ar unwaith, ond cafodd gan rai, a wrthododd ar y cyntaf, i wneuthur hynny wedyn. Yr oedd yn dra phenderfynol, ond byth yn derfysglyd ei ysbryd. Bu yn gyson fel hyn ar hyd ei fywyd yma. Gwyddech yn dda lle i'w gael ar bob mater, a hyn sydd yn werth i gymdeithas mewn gweinidog. Faint bynnag a newidiai eraill, safai ef fel y golofn â'i bys yn cyfeirio at y porth cyfyng. Yr oedd yn ddyn â'i argyhoeddiadau yn ddiwyro mewn gwaith, yn dilyn yr Iesu. Gallem fentro ymddiried ynddo. Nid oedd berigl iddo'ch bradychu, ac ni chaech ef yn siarad yn fach yn eich cefn ac yn gwenu yn eich wyneb. Os byddai gan Mr. Adams rywbeth i'w ddywedyd am arall, ac eisiau ei ddywedyd, dywedai yn ei wyneb cyn y dywedai wrth arall yn ei gefn. Gallai un fentro myned ato i ddywedyd ei gŵyn, a gofyn ei gyngor heb ofni clywed y peth drannoeth o enau un arall, a pharod y cafodd pawb ef i wneuthur rhan cymydog pan fyddai angen am hynny. Byddai â'r wên yn wastad ar ei wyneb, a geiriau caredig yn diferu dros ei wefusau.
Nid oedd yn ymhongar mewn unrhyw gylch, ond yn gyfeillgar â phawb. Tawedog iawn oedd gyd â dieithriaid, ond yn rhydd a chyfeillgar gyd â'r rhai yr oedd wedi dyfod i'w hadnabod. Byddai yn hoffi trafod cwestiynau â'r rhai hyn. Ni allai oddef aros yng nghymdeithas dynion a gyfrifai'n ffals, dynion na allai ymddiried ynddynt. Gyd â rhai felly, hawdd fyddai i ni oedd yn ei adnabod wybod, heb iddo ddywedyd, fod yn y gymdeithas ar y pryd un ag yr oedd ef wedi ei bwyso a'i gael yn brin. Ond pan fyddai nifer oedd yn gyfeillion iddo gyd â'i gilydd, byddai mor rhydd ac agored yn datgan ei farn am fater a pherson. Byddai yn ddifyr bod yn ei gymdeithas ar adegau felly. Yr oedd yn gyfaill diddan ar yr aelwyd, ond nid oedd croeso mawr i neb aros yn hir yn ei studi oni fyddai y cyfaill a ddeuai i mewn yno yn un a allai fyned i mewn i'r pwnc y byddai ar y pryd yn ei astudio, ac i un felly yr oedd pob croeso. Gwnâi ddefnydd o bob cyfaill, a chyfrannai yntau i'w gyfaill ei ran yntau o'r mêl. Ymdaflai yn gwbl i'r mater a gymerai mewn llaw i'w astudio, a mynnai gael i'w afael bob llyfr y byddai mewn angen amdano i ddwyn pob congl o'r pwnc i orwedd yn esmwyth yn y lle y credai ef y dylai orwedd. Gwyddwn mai Mr. Keri Evans a Mr. Pari Huws oedd y ddau gyfaill yr hoffai fwyaf i drafod pethau o'r fath â hwy. Nid oedd yn ŵr a roddai gyfaill o'r neilltu ar chware bach. Yr oedd yn llwyr yn ei gyfeillgarwch fel yn ei astudiaeth.
Cawsom wledd ac adeiladaeth o dan ei weinidogaeth. Fel pregethwr yr oedd yn syml ac urddasol, yn gosod i lawr y pwnc yr oedd yn myned i'w drafod, ac yn ei osod i lawr yn glir. Nid oedd ganddo unrhyw arddull neilltuol o areithyddiaeth, dim ond dull plaen ac eglur o drafod y pwnc fyddai ganddo yn y bregeth, ond gwnâi hynny'n ddengar. Ar y cychwyn prin y byddai yn symud ei gorff; weithiau codai ei fraich neu ysgydwai ei law dde, a phan ddechreuai danio caech ef yn symud yn ol ychydig yn y pulpud, ac yna yn camu ymlaen yn sydyn gyda thraddodiad cryf o ryw wirionedd pwysig a fyddai yn y bregeth, ac hyd ddiwedd y bregeth byddai wedi tanio ei ysbryd. Fel y byddai yn cyrraedd calon ei bwnc ceid ef yn gwresogi ac yn ail adrodd rhyw wirionedd, ceid ef yn codi ei lais, a dyfod yn llawer mwy rhydd yn ei draddodiad. Yr oedd ei bregethu yn sicr o fod i gyfeiriad agor deall y rhai mwyaf meddylgar yn y gynulleidfa, ac i wella eu calon. Yr oedd ei bregethau oll o natur ddyrchafol, a rhyfedd fel yr oedd y meddyliau mwyaf syml ac anllythrennog yn mawrygu ei arddull a'i bregethau oll. Yr oedd ei ddull syml a dwys wrth bregethu yn dywedyd yn ei ffafr yn y gynulleidfa. Credai pawb ei fod o ddifrif yn tra- ddodi y genadwri er mwyn ennill eu heneidiau i Grist. Rhybuddiai'r annychweledig a diddanai y saint. Cadwai Grist yn wastad yn y golwg. Yr oedd ei bregethu yn efengylaidd ac ymarferol. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yn fyfyriwr caled. Bu yn neilltuol o ddedwydd a llwyddiannus ym Methesda,—o Hydref, 1888, pan ddaeth yma, hyd yr ymadawodd i Grove Street, Lerpwl, yn Hydref, 1895. Cadwodd yr eglwys a'r gynulleidfa gyd â'i gilydd, ac yr oedd yn gymeradwy neilltuol gyd â phob dosbarth, yn yr eglwys, y gynulleidfa a'r gymdogaeth. Cafodd yr eglwys yn 323 mewn rhif a gadawodd hi yn 368.
Cafodd help yn ei deulu, ei wraig a'i ddwy ferch annwyl,—peth na chafodd rhai gweinidogion enwog, ac felly gallodd ymdaflu i waith y weinidogaeth heb groes deuluol i'w chario, a mawr fu ei fraint.
Y tu allan i'w eglwys rhoddodd ei wasanaeth cyson ac egnïol i Addysg a Gwleidyddiaeth fel yn Hawen.
X. "DATBLYGIAD"[5].
ER na ellir dywedyd bod tymor Bethesda yn ffurfio cyfnod meddyliol newydd yn ei hanes, gellir dywedyd i'w alluoedd meddyliol yn awr, drwy help astudiaeth gyson a datblygiad naturiol, gyrraedd eu llawn dwf. Yn awr, hefyd, y daeth i gael ei weld a'i gydnabod gan ei gydgenedl, Ogledd a De, a'i alw i'w phulpudau y tu allan i'w sir ei hun. Er mai drwy yr Eisteddfod, ymlaenaf oll, y daeth i sylw cenedlaethol, daeth yn ddilynol i hyn i gael ei werthfawrogi fel pregethwr yn rhinwedd ei ddawn a'i arbenigrwydd ei hun—ei wahodd i lawer o fannau, a'i wrthod gan eraill.
Bu ei lwyddiant eisteddfodol yn fawr ac amlwg yn ystod y tymor hwn, a hynny ym meysydd Barddoniaeth, Athroniaeth, a Diwinyddiaeth. Enillodd ei ail gadair am bryddest ar Orthrwm yn Abermaw (1889) a derbyniwyd ef a'i gadair ym Methesda ynghanol banllefau'r lle. Yna enillodd ruban glas pryddestwr yng Nghoron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1891) am ei arwrgerdd ar Cromwell.
Am y gerdd hon dywedai Watcyn Wyn mai egni awenyddol yw ei nerth, a bod rhyw fywyd newydd yn yr holl symudiadau; Dafydd Morgannwg, bod drychfeddwl mawr fel mynydd uchel yn amlwg o bob rhan ohoni, sef amcan mawr a duwiolfrydig Cromwell i wneuthur trefn ar y tryblith; ac Elis Wyn o Wyrfai, bod mwy o farddoniaeth ynddi na'r lleill, ac yn gosod Cromwell mewn cymeriad mwy arwrol.
Eto, ar waethaf y llwyddiant amlwg hwn ym myd yr Awen, ni allwn yn ein byw feddwl am Adams fel bardd yn gyntaf y mae pwysau barn fwy cyffredinol nag eiddo'r cofianwyr yn ein gwasgu i roddi'r prif sylw i weithiau athronyddol a diwinyddol y cyfnod hwn—ac i'r olaf yn fwy na'r blaenaf. A benthyca cymhariaeth oddiwrth rodfa a fu'n hoff iawn ganddo: yr ydym fel rhai wedi dringo i ben Braichmelyn, yn teimlo bod Carnedd Ddafydd a Charnedd Llewelyn yn codi lawer yn uwch o'n blaen, ac yn ein galw i fyny.
Pan ysgrifennodd ei draethawd ar Hegel yn 1883, cydnabyddai nad oedd ond math ar dasg neu ymarferiad (exercise), ac y mae'n syn iddo allu meistroli awdur mor anodd i'r graddau y gwnaeth mewn amser mor fyr, ac ennill clod ei feirniaid ei fod wedi ei gymhathu'n fwy na'i gydymgeiswyr, ac yn siarad ohono ei hun yn fwy. Ac er mai gwaith mawr Vera yn y Ffrangeg oedd ei brif gynorthwyydd y pryd hwnnw, cyfeiria at weithiau Caird a Wallace a Prolegomena to Ethics Green—llyfr nad oedd ond newydd ymddangos. O'r pryd hwnnw ymlaen cafodd ei atynnu'n fwy a mwy gan ddysgeidiaeth yr awduron hyn, a daeth yn dra hyddysg ynddi, fel nad ydym yn synnu ei fod, yn ol beirniadaeth yr Athro Henry Jones a Deon Llanelwy (Esgob Tyddewi), y goreu o ddigon ar y Traethawd Beirniadol ar Foeseg T. H. Green a Dr. J. Martineau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl (1892). Y gwir yw, nad oedd neb ymysg cystadleuyddion eisteddfodol y pryd hwnnw, nac am flynyddoedd wedyn, yn meddu ar ei allu athronyddol ef, nac wedi ei ddisgyblu i'r fath raddau, a gwaith cymharol rwydd iddo oedd ysgrifennu traethawd meistrolgar ar y testun uchod—nid oedd angen iddo ond dwyn mwy o drefn a dosbarth ar syniadau oedd yn eiddo iddo eisoes. Yr hyn a wnâ, fel y gellid disgwyl, yw beirniadu Martineau oddiar safbwynt athronyddol Green mewn perthynas â'u golygiadau ar (1) natur bodolaeth (unoliaeth a deuoliaeth), (2) rhyddid yr ewyllys, (3) ffynhonnell ein gwybodaeth am ddaioni moesol, ac (4) amcan terfynol bywyd,
Mewn traethawd o'r fath, fodd bynnag, nid oes dim a fyddai—pe'i cyhoeddesid yn llyfryn—ohono ei hun ac yn uniongyrchol yn achosi dychryn diwinyddol, nac yn peri cynnwrf ymysg y credoau. Y llyfr a wnaeth hyn—o leiaf ar raddfa genedlaethol—oedd ei draethawd cyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd (1893) ar Ddatblygiad yn ei berthynas â'r Cwymp, yr Ymgnawdoliad a'r Atgyfodiad. Yn y gystadleuaeth hon rhannwyd y wobr rhyngddo ef a'r Parch. (Prifathro) E. Griffith-Jones, D.D. Dywedai'r beirniaid, y Prifathro T. F. Roberts a'r Athro Edward Anwyl, amdano ei fod wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg clir a rhwydd, mewn arddull a weddai i draethawd yn ymwneuthur â phwnc diwinyddol neu athronyddol. Goleuir yr arddull hefyd gan fflachiadau o farddoniaeth neu eglurhadaeth. . . . Fel llawer o ddiwinyddion enwog yn ein dyddiau ni, y mae'n amlwg fod yr awdur wedi dyfod dan swyn athroniaeth Hegel, er nad ydyw yn cadw yn wasaidd ati. . . Y mae yn amlwg ei fod wedi deall y dull hanesyddol. . . . . Y mae ganddo wybodaeth led dda o wyddoniaeth naturiol ac o ddiwinyddiaeth yn ei hagweddau beirniadol. Byddai'r traethawd yn gryn gaffaeliad i Ddiwinyddiaeth Gymraeg, ond credwn y gellid cael ymdriniad llawnach ar yr Iawn o safle'r awdur ei hun. . . . Carasem weled ynddo ddyfnach a helaethach ystyriaeth o natur pechod. . . . . Y mae'r awdur yn credu yn gryf yn Atgyfodiad Crist fel ffaith lythrennol wir, ond nid yw ei ymdriniad â'r cwestiwn hwn, er yn werthfawr, yn athronyddol yn ystyr fanylaf y gair: y mae, yn hytrach, yn ein hatgofio o rai o ehediadau mwyaf barddonol a dychmygol Plato,
Mewn llythyr at Mr. Adams yn ddiweddarach fe ddywed yr Athro Anwyl:
Nid oedd dim anhawster i feirniadu eich traethawd chwi a thraethawd Mr. Griffith-Jones yn oreu. Credaf na allai beirniad teg o unrhyw ysgol lai na dyfod i'r casgliad hwnnw, ond nid oedd modd penderfynu rhyngoch. . . . . Yr hyn oeddwn yn hoffi yn neilltuol yn eich traethawd chwi oedd y treiddgarwch athronyddol oedd i'w weled ynddo. . . Gyd â golwg ar gyhoeddi'r traethodau, buaswn i, o'm rhan 'fy hun—ac yr wyf yn credu fy mod yn datgan teimlad Principal Roberts hefyd yn eich cynghori i'w cyhoeddi. . . . . Fe all rhai o'r syniadau fod yn newydd i ni yng Nghymru, ond yr wyf yn credu bod y wlad yn disgwyl am rywbeth newydd. . . . Gan eich bod eich dau yn bur uniongred ar bwnc Atgyfodiad Crist ac Anfarwoldeb, nid wyf yn meddwl y tramgwydda nemawr neb wrth eich dysgeidiaeth, neu os gwnâi rhai, fe gaech lawer i'ch dilyn.
Ac er y dywed yr Athro ymhellach fod "bron bawb o'r ymgeiswyr yn credu mewn Datblygiad", a "neb yn bendant iawn ar gymryd hanes Adda ac Efa a'r Cwymp fel hanes llythrennol", yr oedd llawer o ddarllenwyr Cymru a rhai adolygwyr yn bendant iawn i'r gwrthwyneb pan gyhoeddwyd y traethawd. Eto ni bu ysgarmes fawr. Yr oedd y meddwl darllengar diwinyddol erbyn hyn wedi cael amser i ymgynefino ag athrawiaeth Datblygiad, fel nad ydoedd mwyach yn fwgan i beri dychryn; ffurfiai felly fath ar amddiffyn cyffredinol i'r llyfr. Yr oedd y ffaith ei fod yn bur uniongred ar bwnc Atgyfodiad Crist ac Anfarwoldeb hefyd yn ei ffafr. Bu'r esboniad Hegelaidd o'r Cwymp efallai'n fwy o rwystr na dim arall. Eto, gyd â rhai eithriadau, yr oedd hyd yn oed hwn, mi gredaf, yn fwy o achos difyrrwch nag o dramgwydd: bu cyfeirio at "syrthio i fyny " yn gystal ag ysbardun i lawer pregeth, ac yn achos crechwen ym mwg tybaco'r tŷ capel.
Nid oedd ymdrin â'r testun yn ei gwneuthur yn foesol angenrheidiol i dderbyn athrawiaeth Datblygiad o gwbl; yr hyn a ofynnid oedd dangos sut y gellid esbonio'r Cwymp a'r Ymgnawdoliad ac Atgyfodiad Crist yn gyson â hi. Ond derbynia Adams y ddamcaniaeth yn ei chrynswth, gallem feddwl, o'r nwy bore ymlaen; yn unig myn roddi iddi ei gwedd ddwyfyddol (theistic) yn hytrach na'r wedd fateryddol, ac fel y cyfryw ei chyfrif yn "weddol foddhaol." Ar y llaw arall, derbynia ddatganiadau'r Beibl, gyd â'r rhagocheliad" nad yw ysbrydoliaeth eiriol, a chywirdeb digamsyniol ar bynciau gwyddonol, yn gyson â chynnwys y Beibl, nac yn cael ei honni gan ei ysgrifenwyr." Ond cofio hyn, deil "y gall un dderbyn y datganiad mai Duw yn y dechreuad a greodd y nefoedd a'r ddaear," ac eto barhau yn gredwr mai'n raddol, ac yn unol â'r egwyddorion a ddysgir gan Ddatblygwyr, y dug Duw y cread materol a'r cread bywydol i'r ffurfiau a'u nodwedda yn bresennol."
Er mwyn esbonio'r Cwymp yn gyson â'r hanes yn Genesis—nid "fel y deellir ef gan ddiwinyddion o ysgol Awstin a Chalfin "—ymwrthyd nid yn unig ag ysbrydoliaeth eiriol a gwyddonol y Beibl, ond â'r duedd i roddi ystyr llythrennol i'w ffigyrau a'i ddarluniau. "Llythyrenoliaeth yw un o rwystrau mwyaf ymchwiliad am y Gwirionedd." Yna wedi eglurhad allegol o'r lle a roddir i'r "pren" yn yr hanes, ac un chwedlonol ar yr Adda a'r Efa sydd yn natur pob dyn, deuwn at ganolbwynt athronyddol yr esboniad a gynhygia:
"Yn ol yr hanes yn Genesis y mae Pechod a Gwybodaeth, neu yn fwy cywir Pechod a Hunanymwybyddiaeth, yn anwahanol gysylltiedig â'i gilydd. Nid yw pechod yn bod, ac ni all fod ond lle y mae ymwybyddiaeth o ryddid i ddewis neu wrthod. Y mae yna gyfnod yn hanes pob dyn pan mae ynddo gyflawn unoliaeth a pherffaith gytgord. Pryd hyn y mae dyn yn cyfranogi o'r mwynhad unrhywiog a deimla'r anifail a lywodraethir gan ei reddfau, ac a deimla'n gwbl wrth ei fodd pan ddiwellir ei anghenion ef. Yn y sefyllfa hon o heddwch cyson ac o ddiniweidrwydd dibechod, nid yw natur foesol anfeidrol dyn wedi torri'r plisgyn sydd yn ei chadw o fewn terfynau culion, cyfyng, y bywyd anifeilaidd islaw. Y pryd hwn, ni ellir dywedyd gyd â chywirdeb bod dyn na da na drwg. . . . Gwaith dyn yn dihuno o gwsg y bywyd anifeilaidd i ymwybyddiaeth effro o'r elfen ddwyfol ac anfeidrol sydd hefyd ynddo, a ddug oddiamgylch y gwrthdarawiad rhwng hunanfeddiant yr anifail, ar un llaw, a dyheadau yr ysbryd anfarwol ar y llaw arall, sydd mor nodweddiadol o fywyd dyn Heb yn ei amherffeithrwydd ar y ddaear. . . . .Heb ymddatblygiad cynhyddol yn natur dyn o'r sefyllfa negyddol o ddiniweidrwydd i sefyllfa o hunanymwybyddiaeth weithgar, ni buasai na phechod na rhinwedd yn nodweddu ei weithredoedd o gwbl. . . .Ac os mai gweithredoedd moesol, drwy eu tra mynychu, sydd yn cynhyrchu cymeriad moesol, y mae yna wrthuni gwrthddywediadol i ni sôn am ddyn wedi ei greu yn berffaith o ran ei gymeriad.
Os bwriedid i'r uchod gynrychioli golygiadau Hegel ar y mater, yna y mae'r gair anifeilaidd a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyfnod cyn-ymwybyddol yn anghywir; yr hyn a ddywed Hegel yw bod y gwybyddol (conscious) yn rhagflaenu'r ymwybyddol (self-conscious), ond nid gwybyddiaeth anifeilaidd sydd yn ddigonol i foesoldeb, ond gwybyddiaeth fel eiddo plentyn deuddeg oed cyn ei fod eto wedi ymryddhau o gaethiwed gorchymyn allanol.
Ni ddywed ei feirniaid paham y barnent ei ymdriniad â phechod yn annigonol; ond y mae'n amlwg nad yw'r esboniad uchod yn cyfrif o gwbl am bechodau "cythreulig" (casineb, cynhennau, etc) o'u cyferbynnu â rhai anifeilaidd "; nac ychwaith yn cydnabod yr elfen anfeidrol sy mewn drygioni yn gystal â daioni. "Dyma dwyll (illusion) mawr bywyd," meddai Caird, "bod dyn yn ceisio'r annherfynol yn y terfynol," a bod y terfynol felly'n cymryd lle'r annherfynol. Yn ol yr uchod, "terfynol ffugiol" (false finite) yn unig yw pechod, nid "annherfynol ffugiol" (false infinite). "The light of Heaven led me astray," meddai Burns am hudoliaeth pechod. Cydnebydd Adams fod yna "anhawster" ynglŷn â gwaith dyn yn dewis "y drwg o flaen y da," a chynhygia dair ystyriaeth sydd yn ein "cynorthwyo i ryw fesur" i'w ddatrys, sef bod ei gorff yn ymddatblygu o flaen ei feddwl a'i natur foesol, ei fod yn camsynied rhyddid am benrhyddid, a bod yn rhaid iddo ddysgu drwy brofiad.
Ar le ac ystyr yr Ymgnawdoliad fe ddywed:
Credwn fod yn bosibl maentumio bod anghenion natur Duw fel un perffaith, ac anghenion natur dyn fel un amherffaith, yn galw am yr Ymgnawdoliad, ac eto fod yn hollol gyson â Datblygiad yn yr ystyr o hunanddatguddiad angenrheidiol bywyd Duw. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn golygu gwneuthur i ffwrdd â chyfryngiad uniongyrchol Duw, neu ddatguddiad cwbl newydd o eiddo bywyd Duw yn yr Ymgnawdoliad; neu, os dewisir yn well, nid yw'n ymgais esbonio ymaith yr elfen wyrthiol o'r Ymgnawdoliad. Os ydym yn iawn wrth faentumio bod creadigaeth y bywyd llysieuol, anifeilaidd, a dynol, bob un yn ei ffordd ei hun, yn ddatguddiad newydd ac uwch na'r un blaenorol, yna nid amhriodol fyddai galw ymddangosiad pob un ohonynt yn wyrthiol yn yr ystyr ei fod yn gorfforiad o fywyd Duw mewn ffordd newydd, eithriadol, a rhagorach, o'i gyferbynnu â'r datguddiadau blaenorol. . . .Yn gyffelyb, a barnu oddiwrth fywyd dibechod Iesu o Nasareth, a dylanwad dyrchafol ac achubol Ei ddysgeidiaeth a'i fywyd santaidd fyth er hynny, mae'n rhaid inni, os yn ddiragfarn, dynnu'r casgliad bod yna rywbeth newydd, eithriadol, a gwyrthiol os mynner, yn Ei ymddangosiad ymysg dynion, ac yn natur dynion, ar y ddaear.
Y mae'r Ymgnawdoliad "yn rhan hanfodol o gynllun Duw erioed," ac nid "yn dibynnu ar ddigwyddiad," gan na chafodd delw Duw" ei dangos ond yn amherffaith yn yr Adda cyntaf, a bod" cymeriad Duw fel un perffaith yn gwarafun iddo ymfodloni heb allu cynhyrchu'r perffaith hefyd."
Am berthynas yr Ymgnawdoliad â'r Iawn, fe ddywed:
Y mae perthynas y Tad a'r Mab yn yr Hanfod Ddwyfol yn beth mor gyfrin fel nad yw ein hymwybyddiaeth foesol ni fel dynion yn gallu cynorthwyo nemor ddim arnom yn y ffordd o'i ddehongli. Ond gallwn yn hawdd ddeall bod yr Ymgnawdoliad yn Iesu, o ran Ei fywyd a'i farwolaeth, yn rhoddi bodlonrwydd (satisfaction) i Dduw, nid yn gymaint yn y cymeriad o Frenin yn cynrychioli hawliau cyfiawnder dialeddol, ond yn y cymeriad o Gariad Cyfiawn—yn Dad a Brenin—wrth weld Ei Sant Fab Iesu yn sylweddoli posibilrwydd eithaf y natur ddynol; yn ei unrhywioli ei Hun hyd yr eithaf â'r natur honno yn ei llawenydd ac yn ei thrueni; a thrwy Ei fywyd cariadlawn a'i farwolaeth hunanaberthol, yn llawn ddatguddio natur hanfodol y Duwdod fel Cariad Cyfiawn, cariad yn ei gosbi ei hun â phoen oherwydd pechod tra yn maddeu i'r pechadur.
Y mae dau ddiffyg amlwg, na chyfeirir atynt gan ei feirniaid, yn y rhan hon o'r traethawd. (1) Ni cheir cyfeiriad at yr Ymwacad, y naill ffordd na'r llall; ac yn wahanol i'w safbwynt yn ei bryddest ar Fywyd "nid yw'n glir ar gynhanfodiad Crist. Dywed fod bodolaeth Duw fel Ysbryd Anfeidrol yn rhagdybied gwahaniaethau o angenrheidrwydd yn yr Hanfod Ddwyfol," a geilw hwynt yn Dad a Mab ac Ysbryd Glân." Dywed fod y bywyd Cristnogol yn " fywyd uwch," ac y gellid ei alw yn fywyd oddiuchod mewn ystyr allegol."Ond nid ydym, wrth ganiatau hyn, yn cael ein rhwymo i gydnabod uchfodaeth (transcendence) lleol y cyfryw, a thynnu y casgliad mai disgyn o'r nefoedd a wnaeth y bywyd santaidd Dwyfol hwnnw. . . . .Y mae yn fwy naturiol—h.y., yn fwy unol â dull gweithgarwch y Bywyd Dwyfol trwy'r cread—i dybied mai ymddatblygu a wnaeth oddiwrth a thrwy ffurfiau is y bywyd moesol ac ysbrydol oedd yn barod yn bod yn y natur ddynol." Nid yw y cyfeiriad at uchfodaeth lleol ond amherthynasol: y cwestiwn yw, nid a oedd yn bod mewn lle, ond a oedd yn bod, ai ynteu dyfod i fod a wnaeth.
(2). Nid yw yn dywedyd sut y mae dynoliaeth yn gyffredinol i'w chodi i berffeithrwydd yng Nghrist. Y cwbl a ddywed yw "bod datblygiad cynhyddol daioni mewn dyn yn gofyn am ideal sydd yn sylweddoliad o'i holl ddyheadau fel symbylydd iddo," a "bod sicrhau cymod rhyngddo ag ef ei hun fel un amherffaith, a rhyngddo fel troseddwr â Duw cyfiawn ond cariadlawn, yn galw am y Duw-ddyn lle y mae'r ddwy natur—y Ddwyfol a'r ddynol, mewn cymod cyflawn—ac yn ernes o'r un cymod yn y troseddwr ei hun." Yn yr adran nesaf (ar yr Atgyfodiad) cawn gyfeiriad at " gysylltiad organaidd dynion trwy ffydd â'r Iesu " a'u bod "yn gyfranogion o'i fywyd mewn canlyniad."
Gwelir ei safbwynt cyffredinol mewn perthynas i'r Atgyfodiad yn y paragraff a ganlyn:
Os yw Duw yn berffaith o ran Ei nodweddion personol, ac yn gariad o ran Ei hanfod moesol, ac os ydyw wedi creu dynion yn y meddiant o'r dyhead i gynhyddu ac i ymddatblygu nes dyfod yn nês-nês at Ei berffeithrwydd Ef ei hun yn ddiddiwedd, y mae ein syniad am Ei Gariad Tadol yn ein gwahardd i dybied y bydd iddo wrthod parhau ein bodolaeth ymwybodol i dragwyddoldeb, yr hyn yw telerau anghenrheidiol ein iawn addysgiant a'n datblygiad i'r graddau eithaf yr ydym yn dyheu amdano.
Yn nês ymlaen ychwanega: "Wrth y telerau gofynnol golygwn barhad diderfyn, a chorff fyddo'n meddu ar gyfaddaster i fod yn gyfrwng gweithgarwch yr ysbryd anfarwol ynom." Ni roddir prawf o'r angen am gorff, ond y ffaith "na allwn ni ffurfio syniad am enaid neu ysbryd yn gweithredu'n gwbl ddigorff," ac felly yr ymddengys Datblygiad yn "anorffenedig ac anghyflawn ac amberffaith am nad oes gan y bywyd ysbrydol gorff sydd yn meddu ar yr unrhyw barhad anfarwol." Rhydd Atgyfodiad Crist fath o sêl ar y golygiad hwn. Derbynnir tystiolaeth yr apostolion ynghylch y ffaith, tra y cynhygir esboniad nodweddiadol ar yr hyn a olyga. Deil fod yr amser presennol yn y ferf "Yr wyf yn dyrchafu" "yn awgrymu bod yr Iesu'n edrych ar ei atgyfodiad fel process trwy yr hon y llyncid yr hyn sydd farwol gan fywyd ynddo yn ystod ei arhosiad yn eu plith cyn esgyn yn gorfforol i'r nefoedd." "Y mae myfyrdod ar yr unrhywiaeth ac eto wahaniaeth yn Ei gorff atgyfodedig yn rhwymo pob darllenydd diragfarn i edrych ar yr atgyfodiad fel process y trawsnewidir ac y gweddnewidir ynddi y materol adnabyddus i ni, yn fater o rywogaeth mwy dillyn (refined), llai cnawdol, a llai dan ddylanwad disgyrchiant." Ar y llinell hon, ac ar bwys cyfeiriadau at Ioan 11 25, 26, 2 Cor. 5, etc., sy'n gwneuthur yr Atgyfodiad yn realiti presennol, datblyga'r athrawiaeth—"bod y bywyd ysbrydol sydd ynom yn cymhathu rhyw gyfran o'r defnyddiau sydd yn cyfansoddi'r corff presennol, gan eu trawsffurfio yn gorff o fater cwbl wahanol ac ar yr un pryd yn diogelu tebygrwydd yn y ffurf sydd yn ddigon i sicrhau ei unrhywiaeth. Fel hyn ymddengys i ni bod edrych ar yr ysbryd anfarwol preswyliedig ynom fel yr egwyddor ffurfiadol (formative) yn fwy cyson â dysgeidiaeth y Testament Newydd yn ogystal â bod yn gwbl ar linellau datblygiad cynhyddol a pherffeithiad graddol y bywyd sydd yn ymddatguddio yn a thrwy y cread."
A dywed, ymhellach, fod—"gwyddor yn profi y gall y cyfryw gorff fodoli yn bresennol, yn gydffurf â'r corff presennol er yn anweledig i'r llygad ac annheimladwy gan ein dwylaw.
Er y dywed ei feirniaid, "Nid yw y ddamcaniaeth a gynhygir gan yr awdur ynghylch y corff ysbrydol yn cael ei ddatblygu ar yr un pryd â'r corff naturiol, er ei bod gywrain, yn argyhoeddiadol, gan nad ydyw yn ffrwyth ymchwiliad gwyddonol," y mae yn ei ffafr bod dau o brif wyddonwyr yr oes yn The Unseen Universe yn ei chefnogi a dangos ei bod yn gyson â datganiadau gwyddoniaeth (tud. 159). Cymeradwyir hi ar linellau athronyddol gan J. H. Fichte, ac yn ddiweddarach—ddwy flynedd wedi cyhoeddi traethawd Adams,—gan Thiele. (Gwêl J. Ward, The Realm of Ends, tud. 400).
I farnu safbwynt cyffredinol yr awdur yn deg, mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddywed mewn un man, sef "bod athrawiaeth Datblygiad fel cynnydd cyson, yn unol â deddfau neilltuol, a thrwy gyfrwng galluoedd arhosol yn y cread,' yn cael ei derbyn yn lled gyffredinol gan wyddonwyr." Ni dderbynnir mohoni i'r un graddau heddiw, ac nid teg ei gondemnio ef am blygu i ogwydd meddyliol ei oes. A chofio hyn, credwn y rhydd hanesydd diwinyddol y dyfodol iddo le amlwg, ac efallai'r amlycaf oll, yn natblygiad diwinyddiaeth Cymru yn niwedd y ganrif ddiweddaf, a hynny, nid yn unig fel arloeswr mentrus, ond hefyd fel arloeswr medrus. O leiaf, mae'n rhaid inni oll gydnabod iddo (yn ei eiriau ei hun) "geisio gwneuthur i ffwrdd â'r syniad o ddigwyddiad (contingency) mewn diwinyddiaeth, a dwyn i mewn angenrheidrwydd hanfodol yn ei le."
XI. DIWRNOD GYD AG ADAMS.
GAN fod Adams erbyn hyn wedi profi nid yn unig ei fod yn meddu adnoddau eithriadol, ond hefyd wedi dyfod o hyd i ddull effeithiol o'u disgyblu a'u datblygu, efallai mai dyma'r man goreu inni sylwi ar y dull hwnnw. Bydd hyn yn ddiddorol i bawb, ac yn addysgiadol, ni a hyderwn, i'r myfyriwr ieuanc.
Yr oedd ganddo un fantais na ellir ei sicrhau'n wastad —cartref cysurus, nid yn yr ystyr faterol yn unig nac yn bennaf, ond yn yr ystyr bod ei awyrgylch yn un o serch gwasanaethgar ac yntau'n cael ei holl amser a'i feddwl i'w waith arbennig ef ei hun. Yr oedd yntau'n hoff o'i gartref, ac yr oedd ei adael, er yn beth rhwydd iddo yn y pellter, yn boen iddo pan ddeuai'r amser i fynd. Darllenasom yn ddiweddar (Evolution in Christian Ethics y Proff. Percy Gardner) nad oes sôn am neb wedi gwneuthur un gwaith mawr o gartref cysurus, ac y mae bywgraffwyr awduron fel Beethoven yn hoffi pwysleisio eu bod yn cael eu cadw mewn gofidiau er mwyn eu gorfodi i greu eu gwynfyd—yn cael eu rhwystro i dyfu i lawr er mwyn tyfu i fyny. Nid ein gwaith ni yn y fan hon yw penderfynu beth sy'n "fawr," ond y mae bywyd Adams yn braw o'r ffaith y gall un fod yn fawr mewn gweithgarwch a gwasanaeth meddyliol a moesol er byw mewn cartref cysurus iawn.
Yn un o'i anerchiadau i fyfyrwyr cawn ef yn cyfeirio at y pwys o roddi ei le priodol i gwsg fel un o brif amodau bywyd effeithiol. Gallai ef ei hun gysgu wyth awr solid, ac fel rheol caniatai iddo'i hun fesur llawn, ac ambell waith un oedd yn llifo drosto. Nid yw hyn, bid siŵr, yn angenrheidiol, gan y gwyddom am fywydau ymysg yr effeithiolaf mewn hanes yn byw ar lai. Ni chaniatâi Gladstone iddo'i hun ond saith awr (er yr hoffasai wyth), na George Müller fwy na chwech. Wedi cwsg o'r fath, yr oedd Adams yn barod i'r bwrdd brecwast ac i'r bwrdd sgrifennu, ac mor awyddus i'r naill a'r llall. Fe wnaeth ardystiad yn Hawen a'i hoelio wrth ei ddesc i beidio â darllen y papur newydd cyn cinio. Mewn anerchiad o'i eiddo yn 1899 y mae'n medru tystio iddo ei gadw hyd hynny. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, mabwysiadodd yr arferiad o fwrw golwg dros yr hyn oedd o bwys yn y Daily Post cyn brecwast. Tebig nad edrychai ar hyn fel peth oedd yn torri ysbryd ei ardystiad, gan mai ei amcan yn hwnnw oedd ei ddiogelu ei hun rhag cael ei shuntio oddiar linell ei fyfyrdod. Yn Hawen a Bethesda ni chyrhaeddai'r papur dyddiol mewn pryd i'w ddarllen beidio ag ymyrryd â'i astudiaeth.
Buasai'n dda gennym allu dywedyd iddo gael ei arwain, gyd â saint yr oesoedd, i roddi ei awr gyntaf (mwy neu lai) cyn brecwast i gyfathrach â Duw; ond nis cafodd. Y peth tebycaf i hyn a gawn yn ei hanes yw ei waith yn darllen ei Destament Groeg a rhan o'r Hen Destament y peth cyntaf ar ol brecwast yn wastad. Math o gyfaddawd â defosiwn oedd hyn, yn dangos tuedd i geisio elw i'w ddiwylliant meddyliol o bob cyfathrach â gwirionedd. Efallai bod ymdrech feddyliol i ymgodymu â gwirionedd yn cael lle rhy ganolog yn ei gynllun i fyny hyd yr adeg hon. Hoffai ddyfynnu " laborare est orare,"[6] heb gofio bod "orare est laborare"[7] yr un mor wir. Bid a fynno am hynny, ni fyddai ef yn fodlon ar lai na phedair awr o astudiaeth galed cyn cinio bob dydd; a phe gellid torri ei fywyd fyny yn blocks, y bloc mwyaf, a'r un mwyaf solid, yn ei holl fywyd fyddai'r pedair awr hyn bob dydd posibl am dros ddeugain mlynedd. Gymaint llafur a olyga hyn, a chymaint cynhaeaf hefyd ! Ond llafur cariad ydoedd; carai ei fyfyrgell fel ei gartref meddyliol; yma y caffai ei ddeall a'i ddychymig eu horiau aur bob dydd yng nghwmni ysbrydion goreu'r oesoedd. Byddai mor sicr o fod yno rhwng naw ac un o'r gloch ag oedd yr haul o fod yn ei le onibâi am ymyriadau (anaml) cnawd a byd. Yn ystod yr oriau hyn ceid ef yn ei ystafell ddirgel (er nad y nesaf i mewn) wedi cau ei ddrws ac yn aml wedi ei gloi! Er cymaint ei hoffter o'i deulu yn ol y cnawd, nid oedd yno ddrws agored iddynt hwy bob amser. Brydiau eraill, nid yn unig caent groeso, ond gwahoddiad, yn enwedig pan fyddai'n cyfansoddi, ac wedi cynhyrchu rhywbeth wrth ei fodd. Yr oedd fel Dr. Parry yn hyn: hoffai rannu'r ysbail ag eraill. Nid ydym mor ffol â chredu mai arallaeth (chwedl yntau) oedd hyn, ond myfïaeth—ymgais i fwyhau mwynhad personol drwy weld ei atgynhyrchu mewn eraill.
Byddai'r gwaith a wnelai yn ystod yr oriau hyn yn amrywio yn ol yr angen a'r achlysur. Byddai weithiau'n cyfansoddi pregeth neu draethawd, neu bryddest (o bwys); ond pan na byddai gwaith felly ar droed, byddai ganddo lyfrau mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth i'w darllen, a thaflen i weithio yn unol â hi. Wele enghraifft yn perthyn i'r adeg hon o lawer o daflenni tebig
1. O.T. and N.T. (Groeg).
2. Diwinyddiaeth:—Sabatier, Beyschlag, G. A. Smith.
3. Athroniaeth:—Green, Kant.
4. Barddoniaeth:—Browning, Shakespeare, Goethe.
5. Rhyddiaith:—Ancient Law, Hypatia.
Ceir y cyntaf (1) uchod yn y cwbl ohonynt, a'r un drefn yn wastad yn y meysydd darllen (sef Diwinyddiaeth yn gyntaf, etc.)—trefn sydd yn ddïau yn ddynodiadol o'u pwysigrwydd iddo ef. Fel rheol 1, 2 a 3 oedd ei feysydd pawr yn y bore, a 4 a 5 yn yr hwyr.
Yn un o'i anerchiadau i fyfyrwyr fe ddywed y gallent, "wedi astudiaeth galed am bedair awr, roddi awr ar ol cinio i ddarllen y newyddiadur "gyd â chydwybod dawel," ac awr arall i ymweld, a chyfuno hynny lle y gellir ag ymarferiad corfforol. Dyna'i arfer ef ei hun: buom gyd ag ef aml i dro ar y bryniau o gylch Bethesda, a gwnâi'r daith i fyny braidd yn wastad yn gyfleustra i alw ar hwn neu arall. Eto, mater o gydwybod, yn fwy nag o hyfrydwch, oedd ymweld iddo. Yn Lerpwl nid hir yr arhosai wrth unrhyw ddrws; gadawai ei gerdyn yn y bocs llythyrau ac ymesgusodai drwy ddywedyd "Fe wnaiff hwna'r un tro," a phwy a ŵyr nad oedd y preswylwyr hefyd o'r un farn! Diddorol yw ei fod mewn mwy nag un anerchiad yn pwysleisio'r angen: "Mae'n rhaid i weinidog," meddai, os am fod yn llwyddiannus, fod yn ymwelydd â'i bobl," ond " y mae eisiau doethineb, a morio'r cwch rhwng eithafion gormod urddas a gormod cyffredinedd."
Byddai'n ofalus o ymarfer corfforol. Âi yn weddol aml i ben Braichmelyn, neu un o'r bryniau lle y ceid golwg ar y Menai ac Ynys Môn. Oni chamsyniwn, derbyniodd awgrym a ddaeth imi oddiwrth Dr. Davies, Maesteg (drwy ei nai, Dr. Evan Davies), sef ei bod yn gryn help i hoen ac iechyd corff, yn ychwanegol at ymarferiad rheolaidd bob dydd, i gymryd taith fawr unwaith yn yr wythnos, neu fath arall ar ymarferiad, a fyddai'n gosod tipyn o dreth ar yr afu, ac yn gweithio i ffwrdd fater afreidiol o'r corff. Ar adegau felly—ac yn arbennig wedi bod yn anadlu foul air cwrdd mawr y Pasg neu ryw ŵyl arall—ni byddai'r Carneddi neu'r Tryfannau, neu "lwyd Elidir " yn rhy bell. Ar adegau fel hyn byddai'n fawr ei helynt i anadlu'n ddwfn" a rhoddi mantais i oxygen y bryniau yrru llygredd y llawr o gonglau pellaf yr ysgyfaint. Rai prydiau yn hoen y bannau ni byddai uwchlaw uno i wneuthur llinell o gynghanedd, ambell un reit dlos, a llawer o rai talcen slip, megis
Difyr ddyri dyfroedd oerion,
Bryniau lu mewn wybren las
A'u hozone am hosannas!
pan fethem ein cynnwys ein hunain gan
Y dognau pêr gymerwyd
O fir yr Elidir lwyd.
"Wedi yfed cwpanaid o de," meddai wedyn, "gellwch eistedd i lawr i ddarllen neu sgrifennu am ddwy awr hyd amser cyfarfod yr hwyr." Ni wastraffai ef yr oriau hyn, ond treuliai hwy gyd â "4" a "5" uchod. "Y bore i'r deall a'r hwyr i'r dychymig" oedd ei reol—fel y mae yn rheol natur—ar y cyfan.[8] Rai prydiau, bid siŵr, byddai llif ysbrydoliaeth y bore, wrth drafod rhyw bwnc, heb dreio, ac yntau heb dynnu'r hwyliau i lawr, ond fel rheol, eiddo'r celfau cain a'u hafiaith oedd yr oriau hyn. Cofiwn yn dda un gŵyl Nadolig (1892 efallai) a'r eira'n drwch ar y ddaear, pan ddaeth sypyn o emynau Saesneg oddiwrth Elfed i'w cyfieithu ar gyfer Y Caniedydd (cyntaf); a bod Mr. Gladstone tua'r pryd hwnnw wedi dywedyd "True beauty is the beauty of expression, not of features," ac i ninnau ddarganfod, wrth dreio cyfieithu (nid oeddym wedi treio'n llaw rhyw lawer ar y gwaith yn flaenorol) mai'r prif beth—a'r prif anhawster—yw cyfieithu "expression" emyn yn fwy na'i "features"—ei ysbryd a'i awyrgylch yn fwy na'i lythyren. Cymeradwywn hyn i sylw'n golygyddion emynyddol, gan fod rhai wedi ymddangos oddiar hynny sydd yn fwy cywir i lythyren y gwreiddiol na'i ysbryd. Ond gwaith yr oriau "ar ol cwpanaid o de" ac eilwaith "ar ol y cwrdd" oedd hyn iddo ef. Gwnelai y rhan a syrthiai iddo ef o olygyddiaeth Y Caniedydd yn ofalus, a rhagor; oblegid pan fethai Mr. D. Emlyn Evans a chael gan Ddewi Ogwen, a Dewi Môn, ac Elfed ddyfod i'r rhyd nac i'r bont—y ddau Ddewi'n ddïog ac Elfed yn ddiwyd—troai at Adams mewn ymfflamychiadau fel hyn: "Y mae eich brodyr barddol yn byw ym myd y breuddwydio; yn ol yr hen recipe y cyntaf peth i'w wneuthur ynglyn â choginio sgwarnog oedd ei dal hi; ond yr ydym ni yn fwy clefar yn yr oes olau hon,"—am iddynt ddywedyd "Yr ydym bellach wedi gorffen ein gwaith" ar ei hanner; a chaffai fel rheol bob help gan Adams i "ddal y sgwarnog."
Yr oedd bob amser yn ffyddlon i gyfarfodydd yr wythnos, ym Methesda a Thŷ'nymaes. Heblaw hyn, dengys ei ddyddiadur ei fod yn aml yn y Chwarel Goch, Carmel, Amana, etc. Nid esgeulusai ychwaith y gwahanol bwyllgorau yr oedd yn aelod ohonynt, megis rhai'r Ysgol Sir ac Ysgol y Bwrdd. Dyma enghraifft o wythnos yn Nhachwedd, 1894 (rhoddwn un lawn er mwyn dangos natur a chylch ei ymrwymiadau):
Dydd Llun, 8.0 p.m.: Committee Cefnfaes B.S.
Mawrth, 6.30 p.m. Seiat
Mercher, 6.30 p.m. Chwarel Goch.
Iau, 6.30 p.m. Bible Class.
Gwener 6.30 p.m. Pwyllgor yr Ysgol Sul.
Treuliai'r amser wedi swper mewn ymddiddan â ffrindiau, neu i ddarllen stori, etc., ac âi i orffwys yn brydlon" gyd â chydwybod dawel" wedi diwrnod llawn o waith.
XII. LERPWL.
DIDDOROL ydyw y dyfyniad a ganlyn, o un o lythyrau Adams yn 1904, seiliedig ar ei brofiad yn Lerpwl, a'r syniad uchel a goleddai am ei chrefyddwyr gan mwyaf
"Yr wyf wedi cael y fraint ers naw mlynedd bellach o weinidogaethu i farsiandwyr a chrefftwyr Lerpwl. 'Rwy'n ofni y drwgdybiwch fi o fod yn euog o weniaith pan ddywedaf ei bod yn anodd dyfod o hyd i well enghreifftiau o'r cymeriad a'r ymddygiad Cristnogol. "Y mae rhai ohonynt yn foneddwyr Cristnogol o ddiwylliant eang, ac y maent oll yn llawn werthfawrogi gallu a ffyddlondeb yn eu pregethwyr a'u bugeiliaid."
Nid oedd ef yn gallu gwerthfawrogi eu "cymeriad a'u hymddygiad Cristnogol" hwy i'r graddau hyn pan wrthododd gais Eglwys Grove Street iddo ddyfod yno'n weinidog yn 1895; ond nid dyna'r rheswm am ei wrthodiad, serch hynny, ond y ffaith, meddai ef, "ei fod yn teimlo nad oedd wedi gorffen ei waith ym Methesda." Ond yn fuan digwyddodd rhyw bethau, megis gwaith yr eglwys yn gwrthod codi tŷ gweinidog, a barodd iddo newid ei feddwl, neu o leiaf, i gasglu nad oeddynt hwy o'r un farn ag ef, ac na werthfawrogent ei wasanaeth a'i wrthodiad yn ddigonol. Yna, pan ddaeth yr alwad yr ail waith, fe'i derbyniodd, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Grove Street ddechreu Hydref, 1895.
Setlodd i lawr i'w waith arferol yn y fyfyrgell a'r pulpud, a chyd â'i Ddosbarth Beiblaidd; er i Garnedd Ddafydd a Charnedd Llewelyn roddi ffarwel iddo, 'roedd y rhain yr un o hyd; nid oeddynt, mwy na "chariad " Paul, byth yn cwympo ymaith." Ond gyd â gadael Bethesda, gadawodd hefyd bwyllgorau addysg sir a chyngor ar ol, fel y caffai fwy o amser yn awr i brif waith ei fywyd, er ar y llaw arall bod gofynion cyffredinol bywyd tref fel Lerpwl, i un eiddgar i'w cyfarfod, yn ei gwtogi.
Gyd â golwg ar ansawdd a maint ei wasanaeth y tu mewn i'w eglwys ei hun, amhosibl cael neb cymhwysach nac a chanddo hawl well i siarad na'i gyfaill Mr. W. R. Owen (Arolygwr y North & South Wales Bank):
"I'r alwad a anfonwyd ato i ymgymryd â'r weinidogaeth yn Grove Street, atebodd Mr. Adams, mewn llythyr hynaws a chyfeillgar ond hollol bendant, yn gwrthod y gwahoddiad oherwydd na allai ddygymod â'r syniad o dorri ei gysylltiad â Bethesda. Darllenwyd y llythyr yng nghyntaf gan un o'r swyddogion, yr hwn, ar ei gyfrifoldeb ei hun, a aeth yn syth i Fethesda i weled Mr. Adams, cyn i ddim trafodaeth gyhoeddus ddigwydd yn ei gylch. Yno bu cryn lawer o ddadleu a thaeru a pherswadio, y cyfan yn canolbwyntio yn yr anhawster o adael Bethesda, lle'r oedd ef a'i deulu mor hapus, a maes ei lafur yn un o'r rhai mwyaf dymunol yng Nghymru ac yn cynnwys hufen gwerin rymus a goleuedig. Euthpwyd am dro i fyny Nant Ffrancon, a hi yn brynhawnddydd ganol Mehefin, heb gwmwl na brycheuyn ar awyr las, Mr. Adams wrth ei fodd yn moli arddunedd y golygfeydd, a'r ymwelydd yn rhyw frith—dybio gweled creigiau'r Eryri yn ysgyrnygu dannedd arno am feiddio awgrymu i fardd ac athronydd droi ei gefn ar le fel hyn a mynd i le fel Lerpwl. Er hynny oll, diwedd yr ymddiddan a fu i Mr. Adams fodloni tynnu ei lythyr yn ol ac ail ystyried y mater. Yn fuan ar ol hyn aeth dirprwyaeth o ddiaconiaid yr eglwys i gyfarfod ag ef ym Mhwllheli, lle yr ymgynhullai Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y flwyddyn honno, sef yn yr ail wythnos o fis Gorffennaf, 1895, ac yno y sicrhawyd cydsyniad terfynol Mr. Adams i dderbyn yr alwad ac y gosodwyd seiliau perthynas a brofodd yn ffrwythlon mewn gwasanaeth a dedwyddwch difwlch am saith mlynedd ar hugain.
"Os gofynnir ai teg y gwnâ eglwysi cryfion y dinasoedd Seisnig ddenu gweinidogion goreu y Dywysogaeth atynt hwy, atebwn yn ddibetrus, wedi profiad o bedair blynedd a deugain yn Liverpool a Llundain, fod Cymry Lloegr yn teilyngu y goreu o bob gwasanaeth a chefnogaeth oddiwrth eu cydwladwyr gartref, am ddarparu cyfleusterau crefyddol a chysuron cymdeithasol yn iaith eu cartrefi i feibion a merched Cymru yng nghyfnodau pwysicaf eu hanes, heblaw caredigrwydd personol a hyfforddiant sydd wedi cadw caniadau Seion yn fyw yng nghalonnau to ar ol to o Gymry mewn gwlad ddieithr.
Dyma rai o'r ystyriaethau oedd yn cyfreithloni taerni diorffwys y sawl a osodasai eu bryd ar gael Mr. Adams i Grove Street, ac yn dylanwadu arno yntau wrth dderbyn yr alwad, oherwydd gwyddai ef fod safle anrhydeddus Lerpwl, yn ei nodded i sefydliadau crefyddol a chenedlaethol Cymru, a'i gwasanaeth i bob symudiad gwlatgar i'w briodoli yn bennaf i'r ffaith mai pregethwyr mwyaf y genedl fu ei harweinwyr, dynion o athrylith uchraddol a brwdfrydedd santaidd dros ddaioni eu cenedl. Cymer Mr. Adams ei le yn naturiol ymhlith y goreuon ohonynt, a dïau y gwneir hynny'n eglur yn y Cofiant hwn. Y gorchwyl a rodded i mi ydyw gwneuthur ychydig nodiadau ar ei berthynas ag Eglwys Grove Street. Nid oes a wnelwyf fi, ychwaith, â'r dadleuon diwinyddol ac athronyddol a fu'n ymdyrru o'i amgylch am flynyddoedd meithion, oherwydd, er cynhyrfu ohonynt ysbrydoedd milwriaethus ceidwaid y ffydd ymhlith gweinidogion o bob enwad, yn arbennig yr enwad Annibynnol, ni welwyd yr arwydd leiaf o aflonyddwch ym meddyliau'r aelodau yn eu cylch. Ffaith awgrymiadol yw na chodwyd unrhyw gwestiwn ynglŷn â syniadau diwinyddol Mr. Adams yn ystod yr adeg y buwyd yn ystyried y priodoldeb o roddi galwad iddo, nac yn gyhoeddus nac yng nghyfarfodydd y swyddogion, ac na chlybuwyd fod y pwnc wedi cael lle o gwbl yn ymddiddanion cyffredin yr aelodau, er bod llawer ohonynt wedi darllen ei weithiau a'r beirniadaethau arnynt. Y mae hyn yr un mor wir am holl ystod ei weinidogaeth yn Grove Street. Ni chlybuwyd sibrwd o gwyno am natur ei ddysgeidiaeth, ac ni ddaeth i fryd neb i ameu cywirdeb yr hyn a bregethai. Gweled yr oeddym ni, yn hytrach, ddyn ar dân gan sêl yng ngwasanaeth y Meistr; proffwyd a chanddo genadwri yn ehangu terfynau gobaith am fywyd gwell ac yn adnewyddu nerth y rhai a'i ceisiai; gŵr hawddgar, gweithiwr heb ei fath, a dysgawdwr ag yr oeddym ni yn ewyllysgar i orfoleddu yn ei oleuni.
"A ni'n sôn am yr unfrydedd hwn, mae'n deilwng o sylw fod yn aros yn Grove Street, ym mlynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Mr. Adams, gryn nifer o hen aelodau a fuasai yno ac yn Salem er yr amser pan oedd Hiraethog yn anterth ei nerth a'i boblogrwydd rhai ohonynt yn cynrychioli dosbarth neilltuol a hynod ddiddorol o Gymry, sef rhai wedi treulio y rhan fwyaf o oes faith ynghanol Saeson, nid yn unig heb golli eu hiaith na gronyn o'u nodweddion cenedlaethol, ond heb dderbyn ar eu cymeriadau nemawr ddim argraff oddiwrth eu cymdogion Seisnig. Mae yn Llundain gannoedd o frodorion siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, ac yn Lerpwl gynifer o Fôn ac Arfon, y gellir dywedyd amdanynt nad ydyw bywyd Lloegr wedi cyffwrdd â'r anian Gymreig ynddynt nac wedi newid dim ar eu dull o fyw. O'r ochr arall, ceid pobl ieuainc a phlant wedi eu magu yn yr eglwys; rhai ohonynt yn deall ac yn siarad Cymraeg yn rhwydd, eraill yn llai ffodus oherwydd esgeulustra rhieni ynglŷn â'r iaith, ond yn dwyn mawr sêl dros yr eglwys y magesid hwynt ynddi. Rhwng yr eithafion hyn gwneid yr eglwys a'r gynulleidfa i fyny o'r amrywiaeth arferol a geir mewn trefi mawrion; amrywiaeth mewn gras a diwylliant, mewn profiad a gwybodaeth, mewn chwaeth a barn; mintai gymysg o bob agwedd ar fywyd Cymreig, a'r cwbl mewn undeb perffaith yn eu hedmygedd o Mr. Adams, eu serch tuag ato a'u hymddiried yn ei weinidogaeth, er iddi fod, yn y pregethu ohoni, yn dilyn llinellau dieithr ac yn torri ar draws rhai traddodiadau hybarch, tra yr oedd ef hefyd yn brin mewn rhai o'r pethau a berthyn i arfogaeth bulpudol llawer o bregethwyr poblogaidd. Nid oedd llawer o swyn yn ei lais na chyfaredd yn ei draddodiad, nac ol saernïo llenyddol yng nghyfansoddiad y bregeth, ac yr oedd braidd yn ddiystyr o hawliau arddull areithyddol fel rhan o'r gelfyddyd o bregethu. Yn gyffredin mae cynysgaeth dda o'r doniau hyn yn beth priodol i'w chwennych gan y pregethwr ac yn gymeradwy gan y gynulleidfa. Ond yr oedd athrylith Mr. Adams mewn gwrthryfel yn erbyn pob math o ffurfioldeb a chaethiwed, a theimlech wrth wrando arno nad gŵr oedd ef i'w osod mewn hualau meddyliol a materol. Pan safai yn y pulpud wedi darllen ei destun yr oedd ganddo arferiad o ymsythu'n sydyn a gosod ei gorff mewn agwedd i fynegi tuhwnt i amheuaeth fod pob cymal a gewyn a chyswllt ohono mewn cywair perffaith ar gyfer y gorchwyl o'i flaen; taflai ei olygon dros y gynulleidfa ac ymdonnai gwên hawddgar a hapus ar ei wynepryd; y cyfan yn arwyddo fod popeth yn dda rhyngddo ag ef ei hun ac â'i wrandawyr; ac heb ymdroi gyd â rhagymadrodd ffurfiol i olrhain cysylltiadau y testun a'i ystyron llythrennol, elai yn uniongyrchol at yr egwyddor neu'r agwedd ar wirionedd a welsai ef yn y geiriau fel neges i'w chyflwyno; a defnyddiai holl ystorfeydd ei ddysg a'i brofiad i gymell y neges honno gyd â thaerni a grym angerddol. Am rai blynyddoedd bu'r athronydd a'r athro yn amlwg iawn yn ei bregethau. Yr oedd ynddynt ymresymu manwl a dysgedig ar bynciau lled anodd ei ddilyn, condemnio llym ar rai damcaniaethau diwinyddol, a dinistrio llawer o ddelwau hen gredoau; a hynny gyd â difrifwch a dwyster a brofai nad oedd amcan i'r condemnio na'r dinistrio namyn symud ymaith rwystrau oddiar ffordd y Gwirionedd, rhwyddhau ymdaith Teyrnas Dduw, a dadlennu Cariad Dwyfol yng nghyflawnder ei ogoniant. Yn raddol ac yn berffaith naturiol daeth yr elfen bersonol fwyfwy i'r golwg, goruchwyliaeth Trugaredd a Gras yn amlycach, a mwy o dynherwch a chysur yn y genadwri; daeth yr athronydd yn fwy o eiriolwr a'r athro yn fwy o efengylydd. Ceir amlygiad o ansawdd ei feddwl mewn perthynas â hyn ganddo ef ei hun yn Adroddiad yr Eglwys am y flwyddyn 1905 wrth gyfeirio at y Diwygiad, fel y canlyn:
Dyma, yn ddiau, un o'r blynyddoedd rhyfeddaf ynglŷn â hanes crefydd yn ein gwlad. Derbyniasom ni yn 'Grove Street' yn helaeth o ddylanwadau achubol, deffroadol, a santeiddiol yr Ysbryd Glân. Y mae nifer ein dychweledigion a'n gwrandawyr a'u rhoddodd eu hunain yn llwyr i wasanaeth yr Iesu yn brawf amlwg fod yr Ysbryd wedi gweithio'n nerthol yn ein plith. Cyd-ddiolchwn i'r Arglwydd am ei diriondeb a'i ofal graslawn. Pan gyfeiriem at y Diwygiad yn ein Hadroddiad diweddaf, nid oeddym ond wedi derbyn "blaen y gawod." Wedi hynny y disgynnodd arnom fel dinas law mawr Ei nerth. Bu yn ein mysg weddïo taer am bresenoldeb amlwg Duw, ac fel arfer, gwrandawodd ar weddïau Ei bobl, a chododd llanw y Diwygiad mewn canlyniad yn uwch na disgwyliadau y mwyaf ffyddiog. Y mae gennym ni fel eglwys le mawr i ddiolch am yr ymweliad bendithfawr yma o eiddo Duw, yn Niwygiad 1905. Bu'n foddion i gyn'hyrchu ac i feithrin mwy o ysbryd gweddi yn yr aelod—Y mae nifer ein gweddïwyr cyhoeddus wedi lluosogi'n fawr, a hynny wedi ychwanegu at effeithiolrwydd ein cyfarfodydd wythnosol. Hir y parhao Ysbryd Duw i fod "yn ysbryd gras a gweddïau" i'n haelodau. Yr ydym yn ddyledus i'r Diwygiad hefyd am ychwanegiad pwysig yn ysbryd cenhadol yr eglwys. Gwnaeth aelodau Grove Street eu rhan yn eithriadol ' ynglŷn â chwilio am esgeuluswyr, ac ar ol cael gafael ynddynt cymerasant ofal dibaid amdanynt i'w diogelu. I hyn, o dan fendith Duw, yr ydym yn ddyledus am 'barhad ffyddlon cynifer o'n dychweledigion, a chyhyd ag y pery'r ysbryd cenhadol yn ein plith, cyhyd ag y parhawn yn ysbryd "y Bugail Da" i fyned ar ol pob "dafad grwydr" i'w dwyn yn ol i'r gorlan, gallwn edrych ymlaen i'r dyfodol gyd â llawer o hyder am lwyddiant a chynnydd yn ein rhif ac yn ein grasusau.'
Ar wahan i'r pulpud, yr Ysgol Sul a gyfrifai Mr. Adams fel yr adran bwysicaf o wasanaeth yr eglwys, ac iddi hi y rhoddodd y lle blaenaf yn ei ofal a'i sylw. Cynhelid dwy Ysgol, un yn Grove Street, a changen yn Earle Road, a gychwynnwyd gan y Parch. William Nicholson yn 1883. Adeiladwyd ysgoldy cyfleus yn Earle Road yn 1887, a phan ddaeth Mr. Adams i Grove Street cymerodd ddiddordeb mawr yn y Gangen Ysgol. Gan fod y dref yn cyflym gynhyddu yn y cyfeiriad dwyreiniol tu hwnt i Earle Road, penderfynwyd symud i Heathfield Road, lle y codwyd adeilad newydd yn 1910 ar draul o £2,500, a dygwyd y gwaith ymlaen yno am amryw flynyddoedd nes y gwelwyd fod llawer o aelodau Eglwys Park Road yn symud i ardal Heathfield Road, ac er mwyn diogelu teimladau da rhwng y ddwy eglwys cytunwyd yn 1919 i werthu'r adeilad hwn ac ymuno â Park Road i sefydlu Ysgol Undebol yn Allerton Road, yr hon sydd yn parhau mewn grym a defnyddioldeb o dan nawdd yr eglwysi hyn.
Yn yr Ysgolion, yn fwy efallai na phopeth arall, llafur pleserus oedd llafur Mr. Adams. Gyd â llawer o nodweddion yr ysgolfeistr yn aros ynddo, yr oedd ganddo ffydd gref mewn addysg fel gallu i adeiladu cymeriad ac fel moddion i iawn—ddeall yr Ysgrythyrau; a chredai na ellid cyfrannu addysg yn effeithiol heb gynlluniau priodol ac athrawon cymwys. Yn ei farn ef dyletswydd yr eglwys, ac nid y wladwriaeth, yw darparu addysg grefyddol, a dylai pob eglwys fod yn sefydliad addysgol, a phob gweinidog gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith. Llefarodd ac ysgrifennodd lawer ar hyn. Er enghraifft, wele ddyfyniadau o'r Llawlyfr o'i waith a gyhoeddwyd yn 1908 gan Bwyllgor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg:
'Y mae ein pobl ieuainc yn y blynyddoedd hyn mewn argyfwng pwysig. Y mae peryglon gwirioneddol yn ymosod arnynt o wahanol gyfeiriadau. Goreu po gyntaf i ni fel eglwysi ac fel enwad eu cydnabod, a pherffeithio ein cynlluniau addysg er mwyn paratoi ein plant a'n pobl ieuainc ar eu cyfer. Mae'n amlwg nad yw'r addysg a gyfrennir o'r pulpud o Saboth i Saboth yn ddigon i gyfarfod anghenion yr oes sydd ' yn codi. Yn ystod y ganrif ddiweddaf ar ei hyd, cynorthwywyd y weinidogaeth gan yr aelodau drwy gyfrwng yr Ysgol Sul. Hwyrach fod hyn, mewn rhai amgylchiadau, wedi peri i'r weinidogaeth ymryddhau'n ormodol oddi wrth y cyfrifoldeb, gan ei ddirpwyo i'r sefydliad gewrthfawr hwn. Credwn fod yn rhaid dwyn y gweinidogion a'r Ysgol Sul i agosach perthynas nag a fu erioed o'r blaen. Y mae llwyddiant yr Eglwysi Rhyddion yn dibynnu ar lwyddiant yr addysg a dderbynia'r aelodau. Mantais fawr fyddai caniatau i'r gweinidog gyfle yn achlysurol i fod yn bresennol yn yr Ysgol. Gallai drwy ymweled â'r dosbarthau, a holi'r Ysgol yn y wers am y dydd am chwarter awr ar y terfyn, gyflawni llawn cymaint o wasanaeth ag a wnâi drwy y bregeth. Ond, hyd yn hyn, nid yw'r eglwysi'n argyhoeddedig o'r cyfryw fantais; a'r canlyniad ydyw fod yr Ysgolion a'r Pulpud yn eu colled. Yr ydym yn dadleu dros y diwygiadau hyn yn nhrefniadau ein Hysgolion Sul fel amod sicrhau athrawon mwy cymwys. Ond yr ydym yn llwyr argyhoeddedig na cheir hyn heb roddi cwrs neilltuol o hyfforddiant i'w cymhwyso ar gyfer eu gwaith. A thueddir fi i ychwanegu na cheir hyn yn gyffredinol heb i weinidogion yr eglwysi gymryd y mater pwysig yma mewn llaw.
Gwyddai ef nad yn hawdd nac yn fuan y gellid dwyn gwelliannau o fath y rhai hyn oddiamgylch, am fod rhwystrau amlwg ar y ffordd a llawer o baratoi yn angenrheidiol; ond gwyddai gystal â hynny na ellid osgoi y canlyniadau a ragwelai ef yn niffyg symudiad diwygiadol a roddai i'r Ysgol Sabothol well mantais i gyflawni ei chenhadaeth ym mywyd crefyddol y genedl. Daliodd ar bob cyfle i ddadleu'r achos a gwasgu ei argyhoeddiadau ar garedigion yr Ysgol Sabothol; ac o fewn cylch ei weinidogaeth gartref llwyddodd, trwy ei benderfyniad a'i ddyfalwch, i ennill cydymdeimlad cyffredinol athrawon a swyddogion, ac i osod nod ei ddelfrydau ei hun ar lafur a threfn yr Ysgolion. Dilynodd waith y dosbarthau yn rheolaidd ac yn fanwl, a thrwy gyngor ac awgrym ac esiampl rhoddodd iddynt gyfarwyddyd a chefnogaeth ymarferol. Ffurfiodd hefyd ddosbarthau arbennig i athrawon ac athrawesau, i feithrin ynddynt ysbryd addas i'w swydd a'u cynorthwyo i ddefnyddio'r moddion a mabwysiadu'r cynlluniau mwyaf manteisiol ar gyfer y gwaith. Mewn amser ac allan o amser gosododd ei brofiad addfed yn rhwydd at wasanaeth yr Ysgolion. Yn yr un ysbryd, bu ei ddiddordeb yn ddiflino yng ngwahanol gymdeithasau y bobl ieuainc a'r plant; ac wrth ystyried mor hyddysg ydoedd ymhob gwybodaeth a allasai fod yn fuddiol iddynt, mor fedrus i gynghori yn newis llyfrau ar wahanol destunau, i ddatrys anawsterau ar bynciau dadleuol ac i ddeffroi chwilfrydedd meddyliau ieuainc, mor barod i ateb eu cwestiynau ac i gydymdeimlo â phob ymgais am oleuni, mae'n hawdd deall pa fodd y daeth aelodau y cymdeithasau hyn yn ddisgyblion brwdfrydig iddo ac i'w hanner addoli. Gyd â hwy a'u tebig yr oedd ei fwynhad pennaf, ac arwydd o ffrwyth ei wasanaeth yn y cyfeiriadau hyn yw mai rhai ohonynt hwy heddiw yw diaconiaid a gweithwyr mwyaf ymroddgar eglwys Grove Street, a llawer mae'n ddiameu mewn cylchoedd cyffelyb yng ngwahanol eglwysi y wlad—i dystio am gyfoeth y fagwraeth ysbrydol a gawsant gan y Parch. David Adams.
"Ym mywyd cyffredinol yr eglwys yr oedd ei ysbrydiaeth ef yn peri nad oedd lle i ddim segur a diffrwyth o'i mewn. Yn anad dim, dyn byw oedd Mr. Adams, a byw fu ei weinidogaeth—nid yn unig yn hanfodion mwyaf cysegredig ei chenhadaeth, ond hefyd yn y gofalon amgylchiadol a phersonol sydd yn rhan bwysig o gyfrifoldeb gweinidog ffyddlon a chydwybodol. Bu cynnydd cyson a sylweddol yn rhif yr aelodau ar hyd y blynyddoedd, haelioni mawr mewn cyfraniadau ariannol i gyfarfod anghenion yr eglwys ac i gynorthwyo gwahanol achosion oddiallan, a chydweithrediad teyrngar a chalonnog, yn gwneuthur bywyd yr eglwys yn un o hyfrydwch digymysg. Yn y cysylltiadau hyn—ac yn wir ymhob cysylltiad

MISS ADAMS.MISS MYFANWY ADAMS.
cafodd Mr. Adams fantais amhrisiadwy yng nghydweithrediad Mrs. Adams a'u dwy ferch. Mae'n rhaid mai Rhagluniaeth ac nid ffawd a ordeiniodd iddo fesur mor helaeth o ddedwyddwch teuluol: cartref wedi ei santeiddio gan gariad a'i berffeithio mewn cysur gan chwaeth a gofal a threfn, a'i holl awyrgylch mewn cynghanedd ag amcanion y weinidogaeth. A chanddi adnabyddiaeth bersonol o'r holl aelodau, craffter i ddeall nodweddion gwahanol gymeriadau, medr arbennig i drin pob math ohonynt, doethineb ymarferol yn wyneb pob dyryswch, ac amynedd yn ymylu ar fod yn ddwyfol, bu Mrs. Adams yn gyfoeth o fendith i'w phriod ac yn wrthrych serch ac edmygedd ei chyd-aelodau. Mewn diwydrwydd bugeiliol bu yn ddiflino, ac nid oedd hi un amser heb rhyw ddyfais neu anturiaeth newydd i hyrwyddo llwyddiant yr achos a symbylu'r frawdoliaeth i weithredoedd da. Cafodd gynhorthwy selog a galluog Miss Adams a Miss Myfanwy, a ymroes i gynnal breichiau eu rhieni a chyflwyno eu talentau at wasanaeth yr eglwys. Mewn gwirionedd y gallasai Mr. Adams herio'r holl bobl gan ddywedyd fel Josua,' Dewiswch chwi pa un a wasanaethoch, ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd.'
Yn y flwyddyn 1912, etholwyd Mr. Adams yn Gadeirydd yr Undeb, ac mewn perthynas i hyn ymddangosodd y datganiad a ganlyn yn Adroddiad yr Eglwys:
Anghyflawn fuasai'r Adroddiad hwn heb gyfeiriad at fater a fu yn achos llawenydd i holl aelodau'r eglwys yn ystod y flwyddyn, sef etholiad ein Gweinidog yn Gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn hon, y ddeunawfed flwyddyn o'i weinidogaeth yn Grove Street, mae ei safle yn serch ac ymddiried ac edmygedd yr eglwys yn uwch ac yn sicrach nag erioed, fel mai amhosibl yw i ddim pwysig ddigwydd yn ei hanes heb gyffwrdd i'r byw â theimladau pawb ohonom. Tra yn llongyfarch Mr. Adams ar ei ddyrchafiad i Gadair yr Undeb—yr anrhydedd pennaf y gall ei enwad osod arno—teimlwn yn ddiolchgar am fod galluoedd disglair a chymeriad urddasol, wedi eu cysegru mewn llafurwaith diflino a hunanaberthol i wasanaeth pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, yn cael eu cydnabod gan arweinwyr Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist yn ein gwlad.
"Yr oedd ei berthynas â'r swyddogion yn un o gyfeillgarwch perffaith a mynwesol. Ffynnai ymddiriedaeth gyflawn rhyngddo ef a hwy, bu rhwyddineb tangnefeddus ymhob cyfathrach hyd yn oed ar y materion mwyaf anodd a dyrus, ac o ganlyniad cwmni dedwydd a brawdol fu diaconiaid Mr. Adams ar hyd ei weinidogaeth yn Grove Street, heb nac ymrafael nac ymryson yn eu plith. Colli rhai ohonynt hwy trwy angau yn ystod ei flynyddoedd diweddaf fu, mae'n debig, y trallod personol chwerwaf a brofodd ef erioed. Bu farw Mr. John Evans ym Medi, 1916, yn ddwy a phedwar ugain mlwydd oed, ar ol gwasanaethu swydd diacon am saith a deugain o flynyddoedd; Mr. Thomas Arthur Lloyd yn Ionawr, 1917, yn un ar ddeg a deugain mlwydd oed; ac yn y mis Mawrth dilynol, ei dad, Mr. Edward Lloyd, a fu'n ddiacon am wyth a deugain o flynyddoedd, ac yn drysorydd yr eglwys am ddeugain mlynedd; Mr. Aaron Davies ym Medi, 1917; Mr. Edward Denman yn Chwefror, 1918, a'i frawd Mr. Henry Denman yn Hydref yr un flwyddyn; chwech o'r swyddogion hynaf a mwyaf profiadol a gymerwyd ymaith o fewn dwy flynedd, rhai y gallai ef ddibynnu ar eu ffyddlondeb a'u cydweithrediad ymhob amgylchiad, a rhai yr arferai ymgynghori â hwy bron yn feunyddiol. Nid rhyfedd os bu i'r colledion hyn effeithio yn niweidiol ar ei iechyd ac amharu rhyw gymaint ar y cyfansoddiad cryf a'i cadwasai'n heini hyd ddyddiau henaint.
'Ym mis Hydref, 1920, cyflawnodd chwarter canrif ei weinidogaeth yn Grove Street, ac amlygodd ei barodrwydd i ymddiswyddo, ond ni wrandawai'r eglwys ar hynny. Er wedi cyrraedd ei bymtheng mlwydd a thrigain, dyn ieuanc oedd ef i bob ymddangosiad o ran corff a meddwl ac ysbryd, heb dywyllu o'i lygad na chilio o'i ireidd-dra. Yn hytrach na gollwng gafael ar ei wasanaeth, penderfynwyd yn unfryd roddi ychwanegiad sylweddol at ei gydnabyddiaeth flynyddol fel gweinidog, a chyflwynwyd anrheg o lestri arian i Mrs. Adams fel arwydd o serch ac edmygedd yr aelodau tuagati. Yr oedd bwriad hefyd i drefnu tysteb gyhoeddus i Mr. Adams, ond gohiriwyd hynny rhag fod perigl i'r mudiad gael ei gamesbonio yn awgrym iddo ymddeol o'i ddyletswyddau. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i'w longyfarch ac i ddatgan edmygedd o'i waith a'i gymeriad. Daeth tyrfa fawr ynghyd o holl eglwysi y cylch a thraddodwyd anerchiadau gan weinidogion a swyddogion yn cynrychioli y gwahanol enwadau crefyddol. "Y dydd hwnnw yr oedd pob lle i gredu fod rhai blynyddoedd yn aros i Mr. Adams o fwynhad yn ei lafur; ond y mis Mai dilynol, ar Saboth pan oedd ei gyfaill y Parch. H. Elfed Lewis yn pregethu yn Grove Street, cymerwyd ef yn glaf, a pharhaodd dan driniaeth feddygol a gofal pryderus ei anwylaid hyd y pumed o Orffennaf, 1922, pryd y gollyngwyd ef o'i gystudd, ac yr aeth i mewn i'r etifeddiaeth a gyhoeddasai ef filoedd o weithiau yn eiddo i'r gwas da a ffyddlon.
"Saith ar hugain o flynyddoedd llawn hyd yr ymylon o ffrwythau athrylith ddisglair, cymeriad pur, a phersonoliaeth hawddgar, wedi eu cysegru i wasanaeth yr Efengyl, fu tymor gweinidogaeth Mr. Adams yn Grove Street. Gadawodd eglwys fyw, gyfan, gryno mewn galar dwfn o'i golli.
"Yr oedd fy adnabyddiaeth i o Mr. Adams yn cyrraedd yn ol hyd y dyddiau pan oedd ef yn efrydydd yng Ngholeg Aberystwyth, a minnau—lawer iawn ieuengach—yn yr un dref yn cychwyn gyrfa mewn cyfeiriad arall; ond wedi ei ddyfod i Grove Street deuthom i berthynas agosach, a thyfodd rhyngom y rhywogaeth o gyfeillgarwch sydd yn cadw'n llydan agored o'r ddwy ochr holl gynteddau cyfrinach a holl ffynhonnau hyfrydwch heb na gofal na phryder, fel mai mwyn a melys fu ein cymdeithas er mynych ddadleu ac weithiau anghytuno ar faterion byd ac eglwys. Dichon fod ei onestrwydd wedi ei arwain mewn rhai amgylchiadau i ormodedd yn ei wrthwynebiad i gynlluniau a ystyriai yn feius, oherwydd ychydig o'r grefft bwyllgorawl a ddysgasai ef, a llai o'r cyfrwysdra sy'n nod angen y cynadleddwr llwyddiannus. Yr oedd ei galon yn dyner fel calon plentyn a'i ymddiddanion yn lân fel y goleuni, heb na mursendod na ffugsanteiddrwydd. Gallai fwynhau difyrrwch cwmni cydnaws; yr oedd llawer o'r elfen chwareus ynddo, ysgafnder a sirioldeb yn ei symudiadau, ac ar adegau o seibiant neu wyliau byddai mewn afiaith ynghanol prydferthwch natur. Ni allaf byth anghofio'i asbri bachgennaidd ar uchelderau rhai o fynyddoedd y Cyfandir ac yn ardal swynol y Tynewydd oedd mor hoff ganddo. Gwyddai lawer am ryfeddodau y greadigaeth a bywyd anifeilaidd a llysieuol. Gallech dybio fod adar y nefoedd yn gyfeillion personol iddo a blodau'r maes yn dywedyd eu hanes wrtho. Yr oedd pob ffurf ac agwedd ar fywyd yn apelio ato, a holl brofiadau ei ddynoliaeth gyfoethog—o ba gyfeiriad bynnag—yn troi'n rhan o'i genhadaeth ysbrydol.
"Cafodd eglwys Grove Street fudd annhraethol yn ei weinidogaeth a'i gyfeillion fraint werthfawr yn ei gymdeithas, ond yr oedd maes ei lafur yn llawer ehangach a chylch ei ddylanwad yn cynnwys cenedl gyfan. Bydd lle amlwg ac anrhydeddus i enw David Adams yn rhôl arweinwyr crefyddol Cymru a ymrôdd i ledaenu gwybodaeth o'r Gwirionedd ac i dreiglo ymaith feini a fu'n cuddio trysorau Cariad Dwyfol."
Yn ei atgofion amdano ac o'r argraffiadau a wnaeth ar ei feddwl, cyffyrdda'r Parch. O. Lloyd Owen, Pontypridd, â rhai o linellau ei weithgarwch y tu allan i'w eglwys ei hun:
"Pell o'm meddwl, yng ngaeaf 1873 neu 1874, oedd y syniad y gallaswn, rywbryd, fod yn cydweinidogaethu ag ef yng nghylch Lerpwl, am ddeng mlynedd—ef yn Grove Street a minnau yn Clifton Road, Birkenhead. Ond felly y bu, ac yn ystod y blynyddoedd hynny cawsom gymdeithas led agos a chyson â'n gilydd, yn enwedig felly yng ngwaith yr Ysgol Sabothol a'r Gobeithlu, ac hefyd yng nghyfarfodydd Cymdeithas Gweinidogion Cymraeg Lerpwl a'r Cylch ac hefyd y Bwrdd Cynulleidfaol Seisnig. Nid oeddym yn cydweld ar bopeth, a rhaid weithiau fyddai croesi cleddyfau. Pan gymerai ef at unrhyw beth, gwnâi hynny o ddifrif gyd â sêl a brwdfrydedd, a disgwyliai i bawb arall fod yr un fath ac o'r un farn ag ef; ac oni wneid hynny byddai'n ffynhonnell llawer o ofid; ac ni phetrusai ddangos ei anghymeradwyaeth—hyn ydoedd un o'i wendidau. Pennod go bwysig yn hanes ei fywyd ydoedd yr Ysgol Sabothol, ei gwaith, a'i gofynion, a'i hawliau ar oreu aelodau eglwysig yn arbennig, ac yn ystod ei weinidogaeth yn Lerpwl y gwnaeth fwyaf, ac y cymerodd ran amlycaf yn y cyfeiriad yma, ac addefir yn gyffredinol iddo wneuthur llawer o ddaioni, er y credir gan lawer y gallesid, wrth gymryd cyfeiriad arall, wneuthur gwaith mor arhosol a mwy cydnaws i feddwl y llïaws. Ond yn hyn eto yr oedd ar ei ben ei hun, fel yr oedd y pregethwr.
"Credai lawer iawn yn yr arholiadau fel moddion i berffeithio gwaith a chymhwyso yn enwedig athrawon i waith yr Ysgol Sabothol. Cael tarian oedd ei ffordd i ennyn mwy o ddiddordeb yn nisgyblion yr Ysgolion Sabothol at y gwersi a'r gwaith. Yn hyn y deuthom i wrthdarawiad ag ef, er i ni ei hennill yn deg y flwyddyn gyntaf y cafwyd hi. Yr un peth oedd ei sêl dros y Gobeithlu. Rhaid oedd cael lle amlwg i Ddirwest ymysg y plant. Credai yn y dywediad, "Prevention is better than cure." Er mwyn cael gwell cyfle i addysgu y plant, rhaid oedd sefydlu "Cymanfa y Gobeithluoedd " yn y cylch, a chael cystadleuaeth cydrhwng y Gobeithluoedd mewn trefn, a dysgu, a chanu, a rhif cymharol i rif yr eglwys. Gwnaed gwaith da ac arhosol trwy gyfrwng y Gymanfa yn ddiddadl, ac anodd iawn, yn ei dyb ef, oedd symud yr eglwysi i ddigon o egni ac ynni yn ffafr y symudiadau hyn.
Yr oedd ac y mae y Congregational Board yn eithriadol o boblogaidd ymysg gweinidogion Annibynnol Saesneg a Chymraeg Lerpwl a'r cylch. Mynychent y cyfarfodydd yn rheolaidd a chyson. Cynhelid y cyfarfodydd ar fore Llun unwaith yn y mis am un ar ddeg o'r gloch; ac wedi cael papur ar ryw fater, a dadl onest, frwd ryfeddol weithiau, yr oedd cinio wedi ei baratoi mewn ystafell arall am un o'r gloch; ac wedi gwneuthur cyfiawnder â hwnnw, arferid mynd yn ol i'r un ystafell ag y cafwyd y cyfarfod yn y bore, lle y byddai cwpanaid o goffi i'w chael, ac ymgom ddifyr am awr neu ddwy. Am ryw reswm na wyddom beth oedd, anfynych y byddai ein cyfaill yn mynychu'r cyfarfodydd hyn, ac nid ydoedd wedi ymaelodi hyd yn gymharol ddiweddar o'i fywyd gweinidogaethol yn Lerpwl. Ond er hynny arferai ddyfod ar brydiau cyn ymaelodi, a chymerai ran bob amser, yn enwedig os byddai y mater yn ddadleuol, diwinyddol neu gymdeithasol, ac afraid ydyw dywedyd y tynnai ei gyfran ef yn y drafodaeth sylw cyffredinol, ac y rhoddai fywyd newydd yn yr ymdriniaeth dros neu yn erbyn. Caffai felly dderbyniad cynnes gan y brodyr a ymholai pam na ddeuai'n amlach, ac nad ymaelodai?' Ac yn y diwedd, oherwydd eu croeso, hwy a orfu.
Ond yr oedd cyfarfod gweinidogion arall yn Lerpwl a'r cylch—eiddo y gweinidogion Cymraeg o bob enwad Ymneilltuol. Yr oedd Mr. Adams yn ffigiwr go amlwg yn y cyfarfodydd hyn. Mae'n eithaf gwybyddus fod ei olygiadau diwinyddol a chymdeithasol yn bur advanced, ys dywedir, ac edrychid arno, pan aeth i Lerpwl, fel un a dueddai i fod yn beryglus yn y cyfeiriad hwnnw; ac nid oedd ond nifer fechan, os oedd yno neb, ar y pryd mor fentrus ag ef yn ei gred ddiwinyddol. Yr oedd yno rai wedi bod, ac amryw yn aros, o gewri meddyliol a wyliai'r ysgol newydd gyd â phryder. 'Roedd Hiraethog wedi mynd, a William Nicholson, a Dr. John Thomas, Dr. John Hughes (Fitzclarence St.), Dr. Owen Thomas ac eraill wedi gorffen eu gweinidogaeth yn y cnawd, ond yr oedd dylanwad eu bywyd a'u haddysg yn aros—gwŷr mawr mewn meddwl, athronwyr yn gystal â phregethwyr.
"Ond yr oedd dynion cryfion yn aros ac yn croesawu ein cyfaill yn dwymgalon i Lerpwl—dynion fel y Dr. Hugh Jones,—y Calfin a'r Wesley; y Parch. Griffith Ellis, Bootle y Parch. John Williams, Princes Road—Dr. John Williams, Brynsiencyn, wedi hynny; a'r Parch. David Powell, gweinidog y Bedyddwyr yn Everton Village, un o'r myfyrwyr mwyaf ymchwilgar a'r meddylwyr craffaf, a gymerai ei amser i edrych ar bob ochr, ac wrth glirio'i frest, awchlymai ei feddwl a tharo nes peri teimlo'r archoll. O dan ei ergydion gwelsom ein cyfaill lawer gwaith yn anesmwytho ac yn paratoi i frwydr bellach. Gallesid yn rhwydd enwi llawer o frodyr sydd bellach wedi blaenu, ond gofod a ballai inni. Gyd ag amser daeth eraill i mewn i'r cylch, o bob rhan o'r wlad, ac o bob math ar ysgol, a dylanwad eu colegau yn dyfod gyd â hwynt colegau Cymru a Lloegr, diwinyddol a chenedlaethol, a'u syniadau yn newydd ac yn llydan. Yr oedd gan ein cyfaill rhyw allu greddfol i ennyn dadl ac i roddi rhywbeth a allai redeg weithiau yn wyllt i gynnen—ein diffyg ni fel Celtiaid o bosibl ydyw hynny, ac nid ei fai ef yn bersonol ydoedd. Hwyrach y gallasai hynny darddu oddiar ei ddull pendant o ymresymu dros neu yn erbyn yr hyn a fyddai o dan sylw; ac er mwyn gosod pwyslais arbennig ar yr hyn oedd dan sylw neu a bleidiai, gostyngai ei lais bron i sibrwd, fel pe'n tosturio wrth ymresymiad ei wrthwynebydd, neu yn wir wrth unrhyw un a gefnogai yr ochr arall i'r hon y credai ef ynddi, nes y byddai hynny drachefn yn cyffwrdd â rhyw fan tyner yn rhywun arall. Fel hyn, os byddai ef yn cymryd rhan, ac yn enwedig ran amlwg, byddem yn sicr o gael cyfarfod brwdfrydig heb eisiau cymell neb i gymryd rhan; ond trafferth y cadeirydd fyddai atal y drafodaeth rhag oeri o'r te ym mrwdaniaeth y ddadl."
Digwyddai'r Athro J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Caerfyrddin, fod yn bresennol un bore Llun yng nghyfarfod y gweinidogion (Seisnig a Chymreig) pryd y darllenai'r Prifathro E. Griffith-Jones, D.D., bapur ar fater diwinyddol. Galwyd ar Adams i siarad, yr hyn a wnaeth, meddai Mr. Stephens, gyd â'r fath feistrolaeth a dylanwad ag a barai iddo deimlo'i fod yn arglwyddiaethu dros y cwrdd a phawb oedd yno.
Ymddangosodd y braslun a ganlyn o'i weithgarwch cyffredinol y tu allan i'w eglwys—yn Y Brython:—
Cymerodd Mr. Adams ran flaenllaw ym mywyd Cymreig cystal â chyffredinol Lerpwl ar hyd y saith mlynedd ar hugain y bu yn y ddinas. Bu'n aelod o Gyngor y Gymdeithas Genedlaethol; darlithiodd iddi; a dilynai ei chyfarfodydd yn gyson bob tymor hyd y caniatâi ei gyhoeddiadau darlithio a phregethu yn y wlad.
Yr oedd yn gadeirydd pwyllgor llenyddol Eisteddfod Genedlaethol 1900; a bu ganddo ran amlwg iawn gyd â dethol yr adran honno o'i thestunau. Yr oedd hefyd ar bwyllgor gweithiol Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917; a bu o gymorth mawr gyd â honno a chyd ag Eisteddfod y Plant—Eisteddfod y G'lomen Wen bellach—a ddeilliodd ohoni; gan ddyfod dros y dŵr, ar bob tywydd, o ganol gwaith a galwadau aneirif, gan mor selog ydoedd dros yr ysbryd eisteddfodol a thros bartoi rhaglen addas i blant ac ieuenctid Cymreig y Glannau. Cyfansoddodd aml i ddarn adrodd ac arall o bwrpas i gadw'r iaith ar wefus y to sy'n codi; ac fel athro profedig, meddai wybodaeth werthfawr iawn a'i galluogai i bartoi cwestiynau addas ac atebadwy, mewn arholiadau Cymraeg ac Ysgrythyrol, ac nid rhai amhwrpasol ac annaturiol fel a geir gan rai anghyfarwydd ag egwyddorion addysgu a deddfau'r meddwl.
Bu'n arweinydd i Ddosbarth Athronyddol Cymreig Lerpwl am amryw dymhorau. Cyfarfyddid yn un o ystafelloedd Capel Crosshall Street, a bu Mr. Adams yn arweinydd diogel ond agored i gyfrolau fel Martensen's Dogmatics a'u cyffelyb. Mae llawer o hen aelodau'r dosbarth hwnnw yn falch o'r wybodaeth a'r adeiladaeth a gawsant yn y cyfarfyddiadau wythnosol hynny, ac yn gofidio na cheid eu cyffelyb eto, o dan arweiniad gŵr cyffelyb ei naws a'i ryddfrydigrwydd i Mr. Adams.
Un o'i draethiadau goreu bob blwyddyn fydda pregeth ar yr Ymgnawdoliad a draddodai bob bore Nadolig yn Grove Street, ac a gyhoeddid yn Y Brython fel enghraifft o'r sut y treiglai Stori'r Geni Bendigaid drwy fywyd a llenyddiaeth y byd.
Yr oedd Mr. Adams yn Gymreig ei reddfau; yn dal dros yr iaith ymhobman lle y byddai; cadwodd awyrgylch felly yn ei eglwys ac ar ei aelwyd; ac er yn gyfarwydd â hufen llenyddiaeth gwledydd eraill, yr oedd yn ddigon craff i weled neilltuolrwydd y meddwl Celtaidd, ac i wneuthur ei oreu i'w barhau a'i berffeithio.
Yr oedd gorwel ei feddwl yn llydan, a bu ei lyfrau a'i ysgrifau yn destun beirniadaeth gref gan feddyliau hŷn a mwy ceidwadol; ond yr oedd yn ymladdwr eofn dros ei olygiadau, ac yn hytrach yn mwynhau gornest dros y Newydd yn erbyn gormes yr Hen. Yr oedd yn edmygydd mawr o'r diweddar Brifathro Thos. Chas. Edwards; ac wedi annerch yn frwdfrydig draw ac yma drwy Gymru ar ran y Gofeb Genedlaethol y sydd i'w chodi iddo.
Prin fod yn Lerpwl neb gweinidog Cymreig a fynychodd fwy o bwyllgorau a chyfarfodydd crefyddol a chenedlaethol, nac a ymroddodd yn ddyfalach dros ddirwest a rhyddid gwladol ac eglwysig, cystal â rhyddid barn mewn byd ac eglwys. Rhyddid oedd ei reddf fawr, ac ymladdodd drosto'n ddi-dderbynwyneb."
XIII. "PAUL YNG NGOLEUNI'R IESU."
Y MAE gennym syniad cyffredinol yn awr am wahanol gyfeiriadau ei weithgarwch yn Lerpwl. Pan ddeuwn i lawr at fanylion, y mae un peth, yn nechreu ei weinidogaeth yn Lerpwl, yn bychanu popeth arall o safbwynt cofiannydd, sef cyhoeddi ei lyfr mwyaf anfoddhaol a mwyaf enwog, Paul yng Ngoleuni'r Iesu. Y mae'n amlwg iddo gymryd ei le yn y Cwrdd Gweinidogion yn fuan, gan mai ar gais hwn y darllenodd ysgrif ar y cwestiwn, "A yw y ffurf a roddodd Paul i'w ddiwinyddiaeth i barhau?" Wedi cymryd ei "berswadio i'w hargraffu," fe'i had-drefnodd, gan ychwanegu amryw benodau cyfain ati, a cheir y canlyniad yn y llyfr uchod. Fel y gallesid disgwyl, y mae'n dwyn nodau ei genhedliad. Yr oedd geiriad y testun yn tueddu i'w arwain (a) i drafod llythyrau at eglwysi fel llawlyfrau diwinyddol, a (b) i wneuthur i Paul ddioddef oherwydd pechodau Awstin a Chalfin ac eraill. Yna yr oedd ychwanegu penodau cyfain at ysgrif er mwyn gwneuthur llyfr ohoni yn cynhyrchu clytwaith ar y goreu i lygad y craff.
Y mae'r tair pennod flaenaf a'r olaf (yn argraffiad 1897) yn rhai a "ychwanegwyd" at yr ysgrif, ac ar y goreu yn gymysglyd. Er fod testun yr ysgrif yn benodol, ac yn ein harwain i ddisgwyl ymdriniad â "ffurf" diwinyddiaeth Paul (yr hyn a gawn o'r bedwaredd bennod ymlaen), ymdrin a wnâ'r tair pennod hyn, ag eithrio ambell gyfeiriad, â chynnwys ei ddiwinyddiaeth, ac amodau—neu "safonau"—datguddio'r cynnwys hwnnw. Gellir cyfreithloni'r ymdriniad yn y fan hon drwy ddywedyd bod dau beth yn angenrheidiol i wneuthur diwinydd da, sef (1) gwerthfawrogiad o ffeithiau'r bywyd ysbrydol, a (2) meddwl disgybledig i synied yn ddigonol am y ffeithiau hynny, a'u cyfundrefnu mewn dull gwyddonol, oni bai nad oes sail i hyn ym mrawddeg gyntaf y gyfrol, a bod yr awdur yn pasio o'r naill amod i'r llall heb eu gwahaniaethu.
Ond a chaniatau y cyfreithloniad hwn, go brin y disgwyliem ddatganiad fel hyn hyd yn oed yn yr argraffiad cyntaf, llai fyth yn yr ail:
"Y mae y pellter moesol anfesurol sydd rhwng Crist a Phaul yn ei gwneuthur hi yn amhosibl inni feiddio cymharu personoliaeth y ddau. Dyna Paul, yn ol ei gyfaddefiad ei hun, wedi bod unwaith yn gablwr, yn erlidiwr, ac yn drahaus. . . . . 'Yr ewyllysio sydd barod, ond cwblhau yr hyn sydd dda nid wyf yn medru arno.' Pwy, am foment, a feddyliai am gymharu ymwybyddiaeth fewnol y cyfryw â'r Iesu a fuddugoliaethodd ar bob temtasiwn? . . . . Nid posibl i donnau cynhyrfus y môr ar adeg ystorm adlewyrchu yn gywir yr wybren a'r sêr. Ni allai y 'môr o wydr,' pe bâi gwyrad yn ei ddefnydd, adlewyrchu'n gywir yr orseddfainc a'r Hwn sy'n eistedd arni."
I brofi ei bwynt, dyfynna'r awdur adnod o Rhuf. vii., gan anghofio Rhuf. viii., a gwadu yn rhinweddol lawer datganiad arall o eiddo Paul, megis "Eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi." Rhydd i Grist ogoniant perffeithrwydd moesol ar draul ei amddifadu o'i ogoniant mwy fel Gwaredwr Paul. Yn syml, cyferbynnu Crist a Saul a wnâ, ac nid â Phaul, er mai profiad Paul yn bennaf sy'n ffurfio cynnwys ei ddiwinyddiaeth.
Y mae mewn helbul hefyd ynglŷn â'r angen am gysoni'r cri (a fabwysiada ef) "yn ol at Grist" â gofynion datblygiad neu ddatguddiad cynhyddol. Ymddengys mai'r "unigolion goreu o ran cymeriad moesol, y rhai mwyaf clir eu deall o ran syniadaeth athronyddol", a'r rheiny'n "ganghennau ym mhren bywyd a syniadaeth yr Eglwys fel corff dirgeledig yr Arglwydd Iesu," yw'r "awdurdod uchaf i benderfynu beth sydd wirionedd yn nhiriogaeth crefydd," ond mae'n "rhaid i'w bywyd moesol fod wedi cymhathu syniadaeth gywiraf, cariad puraf, ac ymgysegriad llwyraf goreuon y cyfnodau addfetaf; ac yna derbyniant gymhwyster i fod yn gyfryngau datguddiad rhagorach a meddiannant yr hawl i feirniadu syniadau a chyfundrefnau diwinyddol y gorffennol." Eto, "y mae clai y gwledydd y rhed afon drwyddynt yn mynnu llychwino ac amhuro'r dwfr i ryw raddau," a dylai "meddylwyr diwinyddol fynd yn ol at Grist—heibio'r tadau Piwritanaidd, heibio'r diwygwyr Protestanaidd, heibio mystics a scholastics y Canol Oesoedd, heibio'r tadau Groegaidd, ïe heibio'r Apostolion eu hunain at Iesu ei Hun, ffynhonnell ysbrydoliaeth pob athro, a sant, ac apostol." Ceir hyn ar ddiwedd yr ail bennod, ac yn y drydedd dywedir wrthym y dysgir mwy am Grist "drwy astudio bywyd a geiriau Crist ei Hun na thrwy astudio'r adlewyrchiad ohono ym mywyd ac ysgrifeniadau Paul."
Pan ddaw'r awdur at ddiwinyddiaeth Paul fel y cyfryw fe ddywed wrthym:
"Wrth feirniadu cyfundrefn ddiwinyddol Paul, dylem gadw mewn cof nad yw ef ei hun wedi ymgymryd â chyfundrefnu ei syniadau yn llawn a manwl. Llythyrau ydynt yn ateb gwrthddadleuon a godid gan ei wrthwynebwyr, er cyfarfod â rhyw heresi neilltuol oedd yn ymosod ar eglwys neilltuol, neu ynteu yn ceisio adsefydlu trefn mewn eglwysi oedd mewn "anghydfod . . . . Pwysleisir un arwedd i'r gwirionedd gan anwybyddu yn ormodol arwedd arall arno. . . . Ai nid y ffaith hon sydd yn cyfrif am rai o'r anghysonderau, neu y gwirioneddau rhannol y cwynir o'u herwydd yn Epistolau Paul?"
Hynny yw, apostol oedd Paul yn gyntaf, nid diwinydd. Ei amcan oedd cael dynion i gredu yng Nghrist a rhoddi ffurf ymarferol effeithiol i'w syniadau yn hytrach na ffurf wyddonol gywir. Felly nid Paul yn aml a feirniedir yn gymaint â'r diwinyddion a fyn gysylltu ystyr wyddonol bendant â'i eiriau a'i ffigyrau. Y mae Paul yn gorfod dioddef am bechodau Awstin a Chalfin ac eraill. Y mae'n drueni na fuasai hyn wedi ei wneuthur yn eglur yn nechreu'r gyfrol (fel yn nechreu'r papur).
A hyd yn oed pan feirniedir Paul, cawn yn aml wireddu geiriau Adams ei hun: "Y mae diffyg cydbwysedd priodol bron bob amser yn nodweddu pleidiau mewn dadl," tra yr arweinir ef, fel disgybl Hegel a Darwin, i anwybyddu neu wanhau gofynion ffeithiau, gan ragdybiau athronyddol ynghylch unoliaeth a datblygiad graddol. Cawn enghraifft o hyn yn ei bennod ar "Y Cnawd a'r Ysbryd." Cwyna "fod Paul wedi gwneuthur y gwrthdarawiad rhyngddynt yn rhy eithafol a didelerau. Drwy anghofio eu cydberthynas a phwysleisio eu gwrthwynebiad, y mae'r Apostol yn mwyhau'r gwahaniaeth rhyngddynt nes ei wneuthur yn elyniaeth anghymodlawn. Nid yw'n ymddangos ei fod wedi canfod gwir swyddogaeth y natur is ynom, nac wedi rhoddi y lle a'r pwysigrwydd a berthyn i'r corff a'i deimladau fel amod moesoldeb. . . ." "Nid yw'n ymddangos" ychwaith bod yr awdur wedi sylweddoli'r gwahaniaeth rhwng y "cnawd" fel cyfrwng naturiol ac fel amcan moesol. Pan yw Paul yn cyferbynnu'r cnawd (anfoesol) â'r ysbryd, nid hollol berthynasol yw dywedyd bod yn rhaid i'r ysbryd wrth y cnawd (naturiol) fel mater neu ddeunydd y bywyd moesol. Ychydig o'r pechodau a nodir gan Paul ymysg "gweithredoedd y cnawd" sy'n perthyn i'r cnawd naturiol o gwbl, a phan ydynt yn dal perthynas ag ef, nid "naturiol" mohonynt mwyach, gan eu bod wedi eu gwneuthur yn bethau anghenfilaidd gan y "cnawd" arall. "Er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd." "Yn ol at Grist"! Er na chondemnia ef y "byd" yn ei le, fe ddywed "Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon " (sef y byd fel duw).
Y mae'r un peth yn wir am gyferbyniaeth Paul rhwng ffydd a gweithredoedd (pennod x). Yn ol Adams, y mae dysgeidiaeth Paul ar y "Ddeddf" yn tueddu i fychanu'n ormodol ei phwysigrwydd a'i gwir swyddogaeth, ac yn anwybyddu yn ormodol ei gwir genhadaeth fel cwrs elfennol o addysg hollol anhebgorol yn hanes datblygiad cymeriad " person unigol a chenedl. Ceir hyn hefyd yn yr ail argraffiad pan oedd yr awdur wedi ysgrifennu ei esboniad ar y "Galatiaid"![9] Nid yw Paul o gwbl yn anwybyddu na bychanu'r "Ddeddf" fel "cwrs elfennol o addysg" nac fel "cyfrwng i roddi ffurf i'w dyletswyddau tuagat Dduw a'u cyd-ddynion." Condemnia Paul hi nid yn ei lle ond allan o'i lle—h.y., pan fyddo'n cymryd lle ffydd, ac felly—fel "y cnawd"—yn wrthgyferbyniol i ffydd.
Y mae'r feirniadaeth hon yn ein taro'n hynod, yn neilltuol pan gofiwn nad oedd yr awdur o gwbl yn "ddeddfol" ei hun, fel y dengys Pennod ix. Gellir edrych ar hon fel un ganolog y llyfr yn yr ystyr ei bod yn ymwneuthur â'r berthynas rhwng Duw a dyn ag y ceisia'r awdur ei hamddiffyn. Yn ei eiriau ef ei hun, "Y mae posibilrwydd datguddiad oddiwrth Dduw i ddyn yn seiliedig ar gred yn Nuw fel Tad ac Addysgydd moesol dyn, a bod dyn fel plentyn i Dduw mewn cymundeb posibl ag ef bob amser." Hynny yw, y mae eu perthynas yn un fewnol a moesol, nid yn un ddeddfol ac allanol. Yn ol y bennod hon y mae Paul yn rhy ddeddfol, neu yn dwyn deddf i mewn lle nad oes le iddi.
Ond y mae yn sicr bod yr awdur yn gwneuthur y berthynas yn un lawer rhy uniongyrchol neu "naturiol." Os cymer yr hen ddiwinyddion y term "mabwysiad" ystyr rhy lythrennol, cymer yntau y term "mabolaeth" felly. Sieryd am bosibilrwydd moesol fel posibilrwydd y dderwen yn y fesen; heb gofio nad yw'r hyn a roddir inni gan natur na da na drwg (moesol) er yn angenrheidiol i dda a drwg. Yn y bennod flaenorol ar Benarglwyddiaeth Duw cais ddiogelu rhyddid moesol dyn, ac ymresyma nad yw y gwir ddyn yn rhwym oblegid bod ei amgylchoedd naturiol a'i nwydau wedi eu penderfynu drosto; ond yn y bennod hon ymddengys bod y gwir ddyn, wedi'r cyfan, i'w gael ar lefel natur, nid ar lefel sylweddoliad moesol. Ystyr Tadolaeth Duw yw, os defnyddiwn ni ar ein hochr ni y berthynas a ddechreuwyd o'i du Ef yn barod, fe eill ein holl fywyd ni bob munud gael ei adwneuthur allan o'i eiddo Ef. . . . Nid ffaith ydyw yn gymaint â phroses a eill fod o hyd. . . Ymwybyddiaeth Crist oedd bod meddwl Duw, ewyllys Duw, bywyd gwirioneddol Duw yn cael ei atgynhyrchu bob moment ynddo Ef,—nad oedd y Mab yn gwneuthur dim ohono'i Hun."[10] Nid yw'n angenrheidiol disgyn i dir angenrheidrwydd "naturiol " i wneuthur i ffwrdd â "mympwyaeth."
Yn y penodau ar "Athrawiaeth y Cyfrifiad " a "Phenarglwyddiaeth Duw," os Paul yn hytrach na Chalfin sydd i'w feirniadu, dylesid ystyried rhannau eraill o Epistolau Paul heblaw Rhuf. v a ix, gan "nad diwinydd ydoedd ond Apostol."
Dyma lyfr enwocaf Adams yn ddiau, ond nid y goreu o lawer. Cynhyrfodd yr "odium theologicum" yn ei erbyn i raddau mwy nag oedd eisiau drwy unrhywioli'n ormodol (a) Saul yr Iddew â Phaul y Christion, a'r olaf (b) yn ormodol â'r diwinyddion diweddarach a wnaeth gamddefnydd o'i lythyrau. Ond efallai i'r llyfr wneuthur ei waith yn well oblegid y sylw a alwodd ei feirniaid ato. Efallai, hefyd, y byddai ymosod ar Galfin yn ennyn digofaint rhai lawn cymaint â chondemnio'r Apostol.
Fe weddai inni gofio, hefyd, nad siarad fel easy-chair divine y mae Adams yn y gyfrol hon ond fel un â'i olygiadau wedi eu morthwylio allan i fath o eithafion mewn ymdrech enbyd â Chalfiniaeth beiriannol a barnol sir Aberteifi yr adeg yr oedd ef yno.
XIV. EI GYFNOD OLAF.
"I CAME out into the clear moral light of Christianity then," meddai Dr. Bushnell, ac ef yn awr yn hynafgwr, wrth sôn am y pryd y cyflwynodd ei hun i Grist yn chwech ar hugain oed, ac yntau'n ddarlithydd yng Ngholeg Yale. Ac yn y goleuni hwnnw y bu'n pregethu (wedi gadael y gyfraith) am ugain mlynedd, hyd oni ddihunodd un bore a dywedyd wrth ei briod: "The light has come for which I have been waiting like a watcher for the dawn." Naturiol gofyn, paham y cedwir rhai o'r dynion mwyaf gonest, a phur, a meddylgar, mewn profiad lled-oleu, heb fod yn "rhyfeddol oleuni" o gwbl, am amser mor hir. Arferai'r Parch. D. Charles Davies â dywedyd—fel y clywsom y Parch. Evan Phillips yn adrodd droeon—bod Duw'n "leicio gweld eneidiau cryfion yn strugglo." Diau bod "gwirionedd mewn gwisg werinol" yn y dywediad, sef y gwirionedd bod yna amcan Dwyfol i'r struggle. Cofiwn fod yng nghwmni Dr. Pierson unwaith, a'i holi ar y mater, ac iddo yntau adrodd hanesyn, sef bod cyfaill iddo unwaith yn sylwi ar y gwyfyn a elwir yn Ymerawdr yn ceisio dyfod allan o'i blisgyn, ac er mwyn ei helpu iddo dorri slit yn y cocŵn, gyd â'r canlyniad iddo ddyfod allan yn lled—fyw ac yn welw ei wedd: ymddengys bod eisiau'r ymdrech i yrru nwyf bywyd a'i liwiau heirdd i gyrrau pellaf ei adanedd! Ac er bod yr hyn a ddywedodd George Müller wrth Pierson yn wir: "Act up to the light that you have and you will get more light; be unfaithful and the light will withdraw," ymddengys hefyd ei bod yn wir bod gan un o alluoedd meddyliol cryf fwy o wlad i'w chroesi, fwy o brofedigaethau i'w darostwng i fyned i mewn i'r bywyd. Ar yr un pryd, nid ymddengys bod yr hyn a glywsom oddiar wefusau Caird fwy nag unwaith yn wir, sef bod yn rhaid cael y deall i symud amheuon y rhoddwyd bod iddynt gan y deall.
Prawf enghreifftiau yn wahanol. Edrydd Mr. Phillip Mauro amdano'i hun iddo golli ei ffydd drwy ddarllen llyfrau gwyddonol materyddol, a phe gofynasid iddo ef sut y byddai'n bosibl ei helpu i adfeddiannu ei ffydd y buasai'n ateb mai drwy gael gan wyddonydd neu athronydd galluog i brofi bod yna le rhesymegol i ffydd yn nhrefn y bydysawd; ond, yn lle hynny, i Dduw ei arwain y modd nis gŵyr ef—i gyfarfod gweddi bychan mewn capel distadl ym mhen draw'r dref, ac wedi iddo agor y drws, i'w ffydd ddyfod yn ol a'i amheuon ffoi fel adar nos ! Ceir rhywbeth cyffelyb yng nghyffes yr Athro Lutoslawski (Hibbert Journal, Gorff., 1923), a drodd ei gefn ar grefydd am ugain mlynedd, ac yna yn y Cymun (heb unrhyw gydsyniad deallol) a gafodd ymwybyddiaeth o Bresenoldeb Dwyfol a barodd i'w anffyddiaeth yntau ddiflannu. Ond diau bod symud anawsterau deallol yn help negyddol i gyfnewidiad neu gynnydd moesol, a derbyn cyfundrefn athronyddol fwy digonol yn help mwy.
Daeth Adams "allan i oleuni moesol clir Cristionogaeth rywbryd cyn mynd i Goleg Aberystwyth; ac os ydyw'n wir, fel y credwn ei fod, y rhoddir goleuni mwy i'r neb a fyddo'n byw i fyny â'r goleuni sy ganddo, yn ddiddadl yr oedd yntau'n deilwng o oleuni mwy oblegid ei ffyddlondeb i'r weledigaeth a gafodd, ar waetha'r condemnio a'r erlid a fu arno ac arni. Credwn i Varieties of Religious Experience William James ei helpu ymlaen drwy ei ddwyn wyneb yn wyneb ag ochr brofiadol y bywyd Cristnogol yn y saint. Er y dywed yn un o'i anerchiadau ei fod yn hoff o fywgraffiadau, nid llawer o hanes y saint a geid ymysg ei lyfrau; a thybiwn mai ychydig flas a goffai drwy ddarllen amdanynt, hyd nes i William James eu gosod ger ei fron mewn cyffaeth meddylegol. Ar ben hyn daeth y Diwygiad, ac er syndod i lawer—er nad yw'n rhyfedd pan feddyliwn—profodd ei "uniongrededd calon" drwy ddangos ei gydymdeimlad llwyr â'r ymweliad grasol hwnnw, a bu llawer o feirioli ar ei galedrwydd athrawiaethol a moesol gan ei ddylanwadau.
Nid hawdd disgrifio'r cyfnewidiad yn fwy manwl, fel nad hawdd yw disgrifio ysbryd y gwanwyn, yng nglesni ei wybr, a mwynder ei law a'i awel, hyd oni ddaw'r dail a'r blodau i'w fynegi'n llawn. "A gras mawr oedd arnynt hwy oll" yw disgrifiad Luc, a gellid dywedyd hyn amdano yntau. Ymlaenaf oll, teimlasom ef yn ysbryd a naws ei bregethu. Pan glywsom ef am y waith gyntaf tua 1906,
'Roedd rhywbeth newydd yn y côr,
Rhyw newydd lais fel nawfed ton y môr."
Yna 'roedd ei destunau'n wahanol, a lle nad oeddynt, yr oedd y pwyslais yn wahanol. Yr oedd un ohonynt, er enghraifft, ar destun o'r Hen Destament a'r Newydd, sef, "A newidia'r Ethiopiad ei groen, a'r llewpard ei frychni?" gyd â "Od oes neb yng Nghrist y mae ef yn greadur newydd." Er na buasai'n flaenorol yn ateb y cwestiwn cyntaf yn nacaol, buasai'n pwysleisio'r angen am ymdrech foesol a dilyn Crist fel delfryd, fel yr oedd y cyfuniad yn y testun a'i ymdriniad yntau ag ef yn peri ysgytiad teimladol a syndod llawen i'r sawl oedd heb ei glywed ers rhai blynyddoedd.
Pan ymwelai Howel Harris â'r eglwysi a sefydlasid ganddo mewn gwahanol fannau, arferai wahaniaethu rhwng y personau oedd "dan y ddeddf" a'r rhai oedd "dan ras." Wel, "dan y ddeddf " yr oedd Adams yn flaenorol, er mai deddf y Bregeth ar y Mynydd ydoedd. Soniai, bid siŵr, am fod "mewn undeb organaidd Christ, ond ni olygai hynny fwy iddo na'r berthynas gyfeillgar sy'n bosibl rhwng dyn a dyn—yn unig bod Crist iddo yn Fab Duw. Byddai'r hen gyfieithiad "Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim" yn ffitio'i brofiad a'i olygiad yn well na'r cyfieithiad newydd, "Wedi eich gwahanu oddiwrthyf fi, etc." Condemniai ffydd oddefol (passive) heb ei gwahaniaethu oddiwrth ffydd dderbyngar (receptive), yr hon yw ffydd y Testament Newydd yn wastad, ac yn golygu nid yn unig ganfyddiad a gwerthfawrogiad o Grist, ond cyfranogiad ohono. Gwelodd a phrofodd yn hytrach profodd a gwelodd y gwahaniaeth yn awr. Yr oedd i'r "ddeddf" ei lle o hyd, ond "i weithredoedd" oedd hi bellach, nid "o weithredoedd." Yng ngeiriau Dr. Chalmers:
Yr wyf yn sicr y gwnaiff cymundeb agos a diogel ag ef fwy i'm helpu i ufudd-dod cyson na'm holl ymdrechion blaenorol a gyfyngid gan ysbryd annibyniaeth a deddfoldeb.
Fel Dr. Chalmers, er nad mor ieuanc ag ef, daeth Adams allan o'i intellectualism i symlrwydd yr Efengyl; a chan fod llawer o sylwadau'r blaenaf—yn ei ddyddlyfr—yn taflu goleuni ar brofiad Adams, ni a'u dyfynnwn yn absen dyddlyfr gan Adams ei hun.
Efallai bod y darllenydd wedi sylwi nad yw santeiddrwydd yn cael llawer o le yng nghyfundrefn Adams hyd y pryd hwn. Hyd yma y mae perthynas dyn a Duw dan yr enw "ffydd" wedi bod yn uniongyrchol, fel ymddiriedaeth plentyn mewn tad naturiol—dyna'n ddïau pam nad oedd eisiau bod "yng Nghrist" er mwyn dyfod i'r Presenoldeb Dwyfol. Y mae'r pwyslais hefyd yn cael ei roddi nid ar ddyfod i'r ymgyfaddasiad iawn â Duw, ond ar fynegi'n ffydd ynddo Ef fel "Cariad Cyfiawn" moesoldeb, gyd â'r Iesu'n ddelfryd "perffeithrwydd moesol" ger ein bron. Ac ni wahaniaethir, ychwaith, rhwng santeiddrwydd a moesoldeb. Gallesid meddwl mai peth bach yw dyfod i'r cyswllt iawn â Duw—mai'r peth mawr yw ymddwyn yn iawn at ddyn. Os cawn y darlun cywir o gydnabyddiaeth o santeiddrwydd Duw gan Esaia (vi) yn ymddygiad y seraff yn cuddio'i wyneb â dwy adain "fel na welai," a'i draed â dwy "fel nas gwelid" (Targum), gan ddefnyddio dwy i ehedeg, yna gellir dywedyd y mynasai Adams yn flaenorol ddefnyddio'r chwech i ehedeg,—h.y., mewn gweithredoedd o ufudd-dod. Nid yw'r gair ar ol hyn yn cael lle amlwg, nac aml efallai, ond y mae'n sicr bod naws y gwirionedd yn llawer mwy eglur. Er na ddaeth o bosibl i brofiad llawn Dr. Chalmers, gallai fabwysiadu ei eiriau'n well na chynt:
"Gwnaiff ewyllys ac uchelgais am berffeithrwydd, ac ymgais gyson a theg i'w gyrraedd, ein harwain i'r cyfaddefiad darostyngol ein bod ynom ein hunain yn bechaduriaid diymadferth ac anadferadwy. Dygant "ni at droed y Groes, ac at Grist fel ein gallu, a'n doethineb, a'n santeiddrwydd, a'n prynedigaeth gyflawn—wedi ein cau i fyny i'r ffydd fel ein hunig obaith."
Gall dyfyniad arall ein helpu i weld arwedd arall o'r cyfnewidiad:
"Yr wyf wedi teimlo aneffeithiolrwydd damcanu mewncrefydd ar hyd y dydd. . . . a bod yna allu y tu hwnt i'r rheswm naturiol yn y gwaith o ddwyn argyhoeddiad adref i'r galon; a dywed yr afael wan a rydd rhesymiad imi ar wirionedd am angen a realiti'r ddysg a gyfrennir gan yr Ysbryd Glân."
Rhoddai Adams le yn flaenorol i'r Ysbryd Glân, ond yr oedd yn rhy debig i'r lle a roddai Dr. A. J. Gordon iddo, cyn iddo yntau ddyfod i symlrwydd yr Efengyl, pryd y mynnai deall Dr. Gordon y prif le mewn cyfansoddi pregeth a ffurfio cynllun, gan ofyn i'r Ysbryd Glân ddyfod i argyhoeddi drwy'r bregeth a sylweddoli'r cynllun. Yr oedd anianawd y rhesymolwr yn gryf yn Adams, nid yn yr ystyr y gwrthodai le i Ddatguddiad, ond yn yr ystyr y gwnâi ei olygiadau cymysgryw o Hegel a Darwin yn faen prawf Datguddiad. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at enghreifftiau o'i waith yn anwybyddu—neu wrthodyr hyn na ffitiai i'r golygiadau hyn. Diddorol iawn i'w hen gyfeillion—diddorol hyd at ddigrifwch ymron—yw gweld yr hen resymolwr yn gosod rhesymolwyr ieuengach yn eu lle, megis pan ddywed un ohonynt bod yn "rhaid pwysleisio'r ffaith mai'r rheswm yw barnydd a safon derfynol pob gwirionedd a gwerth", a bod eisiau "meddwl allan yn glir a manwl a chyflawn holl gysylltiadau pethau â'i gilydd", a "chael athroniaeth neu ddiwinyddiaeth, cyfundrefn y cyfanfod, i benderfynu a rheoli lle pob meddwl, pob teimlad. pob delfryd, a'u cysoni â'i gilydd hyd y gall meddwl dyn wneuthur hynny;" ac yntau'n ateb:
Mae gwreiddiau bodolaeth dyn yn ei reddfau hunanweithredol, yn ei deimladau a'i ddyheadau, ac yn blaenori ei reswm. Denir dyn rhagddo gan ddelfrydau na chenhedlwyd mohonynt gan ei reswm ond a brawf eu tarddiad dwyfol yn y profiad eu bod yn sylweddoliad o bosibilrwydd goreu y natur ddynol. . . . Gweled â'i galon gyfiawn ac nid ymresymu a wnâ'r proffwyd . . . Nid cynnyrch ymresymiad yw canfyddiad yr artist o brydferthwch golygfa"; a gofynna:.
2A oes grym awdurdod cyfartal gan gyfanrwydd rhesymegol cyfundrefn ag sydd gan ddelfryd sydd yn sylweddoledig (realized) mewn person Dwyfol?"
A aeth yr heresiarch yn heresy—hunter? O leiaf, y mae'n hel yn deg a boneddigaidd, yr hyn a ofynnai ef gan ei feirniaid ei hun gynt.
Y mae'n ddïos i'r rhyddid hwn oddiwrth orthrwm cyfundrefn, a symud y pwyslais oddiar y deall i'r canfyddiadau, ei arwain ef, yn ei bregethau yn arbennig, i apelio at y canfyddiad (perception) yn fwy na'r deall (conception).
Gwrandawer ar Dr. Chalmers eto:
Gall catecismau, er iddynt fod yn gywir yn eu dogmâu, fod yn anghywir yn eu heffaith cyffredinol ar y meddwl. Nid yw dogma'n symbylu fy serchiadau ag anogaeth gynnes ac effeithiol. Gosodir hi ger fy mron fel rhan o gyfundrefn.. ac yn lle ufudd-dod syml cariad a ddysg yr Efengyl i mi, yr wyf naill ai yn rhoddi i fyny ufudd-dod yn hollol, neu ynteu'n ei gael yn rhy flinderus, gan fod yn rhaid i mi, yn ychwanegol at y teimlad syml, roddi iddo ei le priodol yn adail uniongrededd, a thrafod peirianwaith tra"fferthus o egwyddorion ac esboniadaeth yr un pryd."
Nid ymddihatrodd Adams erioed o'i ddull athronyddol yn llwyr; glynai hwnnw wrtho o hyd fel tameidiau o blisgyn y cocŵn ar adain y gloyn neu leiniau o eira diweddar yn aros yng nghafnau'r bryn ymhell i'r haf. Ond ceir ymysg ei bregethau diweddaraf rai o ddull llai haniaethol, eu hergyd yn llawer mwy uniongyrchol, a'u hapêl lawer yn fwy syml na chynt.
Yr oedd wedi ei ddysgu gan athronyddion dibrofiad i gondemnio Cyfriniaeth, ond daeth yn awr i weld ei gwirionedd heb fod yn ddall i'w pheryglon. Yn flaenorol ni olygai mabolaeth ddwyfol dyn iddo ddim llawer mwy na bod dyn yn gallu "ail feddwl meddyliau Duw," a cheisio'r un daioni ag yntau; mater o wybod a gwneuthur yr un pethau ydoedd yn fwy nag o" adnabod " Person. Wrth ei anerchiadau gallem gasglu ei fod yn rhoddi llawer mwy o le i weddi, er nad oes gennym brawf arall o hynny. Efallai iddo ddyfod i deimlo mwy o ddiddordeb mewn Cymdeithasiaeth am ei fod "yn yr awyr "; ond nid yw hynny yn anghyson â'i dueddfryd mwy cyfriniol, gan y cyrraedd Cyfriniaeth wir ei sylweddoliad uchaf yn ol y Cyfrinwyr eu hunain—mewn undeb hollol â chariad Duw yn ei weithgarwch yn y byd.
Yn ei gysylltiadau personol â'i gyd-ddynion yr oedd yn fwy tyner a thosturiol, yn fwy llawn o ras Calfaria, ac wedi gadael Seina'n mhell o'i ol. Un o'i brif bleserau—un a fu gynt yn Hegeliad, yn rhesymolwr, yn drahaus, oedd mynd i lawr i gwrdd gwragedd a gynhelid yn y slums, i bregethu "Efengyl Cyfaill publicanod a phechaduriaid."
XV. MOESEG A DIWINYDDIAETH.
YR ydym wedi nodi yn gyffredinol rai o nodweddion cawn gyfle i alw sylw manylach atynt, a rhoddi enghreifftiau ohonynt wrth fynd ymlaen. Y mae agos yn ogyhyd â'i gyfnod egnïol (strenuous) blaenorol. Eto nid llawer o ddigwyddiadau ar wyneb ei hanes y sydd i'w croniclo o hyn i'r diwedd, er bod yna lawer o weithrediadau cyson a thawel, llawer o ddylanwadau grasol yn gweithio fel haul ac awyr ac awel o hyd, a llawer o ganlyniadau gwerthfawr yn dilyn na ellir mo'u croniclo mwy na hanes persawr blodau'r maes. Ni chymhwyswyd y ffugr o dymor—hydref—at fywyd neb erioed gyd â mwy o briodoldeb nag at yr ugain mlynedd olaf hyn (mwy neu lai) ym mywyd Adams, gyd â'u haddfedrwydd tyner a'u ffrwythlonrwydd rhyfedd. Nid yw y llyfrau a gyhoeddodd, a'r toreth ysgrifau a darlithiau a gynhyrchodd, ond cyfran fechan o'u ffrwyth, er mai hwyntŵy sy'n cofnodi inni ryw gymaint o'i weithgarwch —ei ansawdd a'i fesur.
Efô a enillodd y wobr am y Llawlyfr goreu ar Foeseg Gristnogol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1899. Cyhoeddwyd hwn yn 1901 gydag ychwanegiadau "yn unol ag awgrym y beirniaid . . . . er mwyn llenwi bylchau a adawsid yn y gwaith." Er bod un o'i gofianwyr yn feirniad y tro hwnnw, nid yw yn cofio'n bresennol am yr awgrym uchod, ond fe wêl y darllenydd cyfarwydd fod yna " fylchau" amlwg yn y llawlyfr o hyd, ac oni ddarfu i'r beirniaid alw sylw atynt, o brin y gellir eu hystyried yn deilwng o'u swydd. Yn hynod iawn, er bod yna bennod ar Deyrnas Dduw, nid ymdrinir â hi—na dim arall—fel y Prif Dda. Y mae'n syn na fuasai awdur, ac yntau mor gyfarwydd â llyfrau Green, Mackenzie, ac eraill, yn rhoddi llyfr (gan y dosrennir ei draethawd yn llyfrau ") i'r pwynt canolog hwn mewn Moeseg. Yna, er y rhoddir "llyfr" i gylchoedd gweithgarwch moesol, megis y teulu, yr eglwys, y wladwriaeth, etc., ni roddir na llyfr na phennod i'r rhinweddau Cristnogol fel y cyfryw. A phan gofir bod y llyfr "cyntaf yn ymwneuthur â hanes Moeseg yn bennaf, a'r ail â chwestiynau fel Tadolaeth Duw, Edifeirwch, Pechod, y Groes, etc., a'r olaf â systemau moesegol eraill, y mae'n amlwg mai lle bach —un "llyfr " yn wir—a roddir i Foeseg Gristnogol. Ar y llaw arall, os eisiau llawlyfr oedd i ddosbarthau o Gymry anghyfarwydd â Moeseg gyffredinol, ac eisiau arweiniad i mewn ar linellau concrete y Testament Newydd, y mae'n ateb y diben yn rhagorol, a dïau iddo fod o fudd a bendith yn y llu dosbarthau a'i mabwysiadodd drwy'r wlad.[11]
Daeth Diwygiad 1904-5—fel rhyfel 1914—"i farnu meddyliau llïaws o galonnau." Un peth hynod a welwyd oedd hyn rhai pregethwyr hwyliog yn distewi, a rhai sych, di-sŵn yn torri i ganu! Nid yw'n iawn dywedyd, bid siŵr, bod y blaenaf yn cael hwyl yn unig ar eu hyawdledd eu hunain, gan fod yna, o bosibl, ryw bethau yn y Diwygiad yn peri gofid a thramgwydd iddynt, ond y mae'n sicr am yr olaf eu bod hwy yn cael llawenydd o rywle heblaw eu "sychter" eu hunain! Un o'r cyfryw oedd Adams: un o'r rhai a glywodd lais yn dywedyd: "Da, was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Ni amheuai fod y diwygiad o Dduw. Yn Nysgedydd Mai, 1906, fe ddywed: "Daliwn ni fod ei effeithiau o'r fath fel nad oes ynom amheuaeth nad oedd o darddiad Dwyfol". Cawn ei olygiadau yn llawnach mewn pregeth o'i eiddo (ar Ex. 1413—15) yn adolygu gwaith blwyddyn 1905. Yr oedd Duw yn adolygu gwaith pob dydd, wele da oedd," ond wedi creu dyn, "Wele da iawn oedd." "Blwyddyn y da iawn" fu 1905, yn hanes "creu o newydd yng Nghrist Iesu filoedd o'n cydgenedl."[12]
Eto nid oedd ei ganfyddiad ysbrydol a'i farn yn analluog i "brofi'r pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt." Yn ei ysgrif yn Y Dysgedydd geilw sylw at y gwahaniaeth pwysig rhwng y "teimladau a achosir gan weithgarwch y dychymig—pan na fydd yna wirionedd gwrthrychol yn cyfateb i'w gredoau "—ac sydd yn arwain i ofergoeledd; a'r "teimladau a gynhyrchir gan fyfyrdod ar wirionedd neu gyffyrddiad gwirioneddol â Duw mewn gweddi." Ond y mae heb ei wared eto o gaethiwed Darwiniaeth, a'i ragfarn yn erbyn "troedigaeth sydyn" er bod llawer o bethau "sydyn" yn hanes y waredigaeth o'r Aifft; ond rywbryd cyn 1919 ni gawn iddo "ddarllen hanes ciwrad yn neidio i lyn i achub plentyn oedd wedi syrthio iddo, ac ar fin boddi," a'r hyn ni allodd hanes y genedl, na gwyrthiau'r Diwygiad, fe a'i gwnaeth yr hanesyn hwn!
Yn y flwyddyn 1906, achoswyd cynhyrfiad arall ym myd crefyddol Prydain gan "Ddiwinyddiaeth Newydd" y Parch. R. J. Campbell. Ond ymgais oedd hwn i gael diwygiad mewn golygiadau yn fwy nag mewn cyflyrau, a hynny yn bennaf drwy bwysleisio Mewnfodaeth yn hytrach nag Uchfodaeth Duw. Y mae pob math ar Foderniaeth, bydded ef ym myd Llên neu Gân neu Grefydd, yn condemnio'r hyn a fu; ond medr wneuthur hynny gyd â graddau o gysondeb am na phwysleisia" fewnfodaeth yr hyn a gondemnia. Yr hyn oedd yn nodweddiadol o'r ddiwinyddiaeth ddiweddaraf hon oedd ei bod â'r un anadl yn gorseddu a diorseddu ei duw drwy ei wneuthur i gondemnio ei waith ei hun yn niwinyddiaeth y gorffennol. Yr unig ffordd o gysoni ei ddulliau o weithredu fyddai drwy ddywedyd ei fod yn "dduw meidrol," a'i fod wedi cael "trôedigaeth sydyn," neu ynteu ei fod yn ymddatblygu drwy ei farnu a'i gondemnio ei hun ac ymberffeithio!
Bu ysgarmes fawr am gryn amser; a gofynnodd rhywrai llygadog i Adams geisio cyflafareddu rhwng y pleidiau yng Nghymru. Cydsyniodd yntau, a diddorol a difyr yw gweld yr hen ryfelwr, ac ef erbyn hyn yn hynafgwr, yn gosod ei gledd a'i lurig o'r neilltu, a chymryd deilen olewydden yn ei law. Ni ellid cael neb mwy cymwys, canys yr oedd yn gwerthfawrogi cynnydd, ac felly'n cydymdeimlo â'r newydd, ac erbyn hyn, fel hynafgwr, yn gallu prisio'r gorffennol, er inni gael enghraifft o'i waith yntau unwaith yn bychanu'r gorffennol o Grist ymlaen. Ni cheisir ymosod ar yr Hen," meddai. "Ni cheisir chwaith amddiffyn y Newydd." Yr hyn a gais ei wneuthur yw gosod allan syniadau'r ddwy gyfundrefn mor glir ag y gellir, a gadael i'r darllenydd farnu drosto'i hun." Ond nid dyna'r holl wir, oblegid cawn ef, fel cadeirydd cwrdd yn awr ac yn y man, yn taflu casting vote (fel rheol o blaid y newydd), neu fel gyrrwr dau farch o ynni anghyfartal, yn ffrwyno'r ieuanc ac ysbardynu'r hen.
Buasai'n help i eglurder pe rhoddasai ddeffiniad o'r hyn a ddeellai wrth ddiwinyddiaeth, a phe rhoddasai bennod i'r cwestiwn "Beth yw perthynas Diwinyddiaeth a Chrefydd?" neu ynteu, "Ai'r un math o wybodaeth sydd yn anghenraid Diwinyddiaeth a Chrefydd?" Nid yw'n fwy clir ar y pwynt hwn nag ydoedd yn ei lyfr blaenorol ar ddysgeidiaeth Paul. Sieryd fel petâi profiad personol llawnach o Grist, a pherffeithiad cyfundrefn ddiwinyddol amdano, yn ymddatblygu law yn llaw: "Os caniateir bod y bywyd Cristnogol o dan arweiniad ysbryd yr Iesu wedi myned rhagddo mewn cywirdeb syniadol ac mewn profiad ysbrydol." A chaniatau bod yna gynnydd mewn profiad ysbrydol ohono, a ydym i gasglu bod y profiad uwch yn dwyn damcaniaeth well gydag ef—megis eiddo'r ddiwinyddiaeth nad Iesu yw y Crist a geir yn nês ymlaen? Prin iawn: mewn gwirionedd, mynd yn ol at hen olygiadau a wna hon!
Darllenwn yn y bennod olaf:
"Symud y pwyslais oddiwrth grediniaeth ddeallol o athrawiaeth a'i osod ar grediniaeth ymddiriedol yn yr Iesu ei Hun, yw un o amcanion y ddiwinyddiaeth newydd."
Diwinyddiaeth wrth—ddiwinyddol yw—math o ryfel i orffen rhyfel. Croesawn hyn yn neilltuol fel dangosiad o gyfeiriad ymddatblygiad Adams yn ystod y cyfnod hwn.
Y mae'r gwaith hwn, ac eraill y llafuriai wrthynt tua'r un amser—sef ei Lawlyfr ar yr Epistol at y Galatiaid (1908), Llawlyfr yr Athro (1908), a Libretto Dafydd ap Gwilym i Mr. Harry Evans (1909), er na chynhwysant ddim neilltuol o newydd i ychwanegu at ei glod—nid yn unig yn dangos amlochredd ei allu fel athronydd, diwinydd, athro a bardd, ond hefyd yn profi ei fedr arbennig ymhob maes, gan eu bod oll yn loyw a del a meistrolgar fel ei gilydd.
Ynghanol y fath brysurdeb, nid rhyfedd iddo ganiatau i Paul yng ngoleuni'r Iesu ail ymddangos yn 1910 (gan fod galw amdano) heb nemawr wella arno, drwy na thynnu oddiwrtho nac ychwanegu ato.
Hysbysir ni yn y rhaglith fod "tystiolaethau lawer wedi cyrraedd yr awdur o bryd i bryd o barthed i'r budd a dderbyniwyd drwyddo," ac y "parheir i alw am gopïau ohono." Nid oes ymgais i ateb y beirniadaethau a wnaed ar y llyfr, nac ychwaith i gywiro ei ddiffygion amlwg yn yr ymdriniadau â'r "Cnawd a'r Ysbryd," "Y Ddeddf a Ffydd," etc. Cais wneuthur mwy o degwch, fodd bynnag, â'r hyn sydd ganolog yn nysgeidiaeth Paul, sef ei ddehongliad ef o Grist (yn hytrach na'i syniadau am bethau eraill o'u cymharu ag eiddo Crist) drwy ychwanegu rhaglith at ei ddechreu, a phennod ar Gyfriniaeth Paul " at ei ddiwedd. Ymysg llyfrau eraill cydnebydd ei ddyled yn arbennig i ddwy gyfrol Dr. Du Bose, sef Yr Efengyl yn yr Efengylau, a'r Efengyl yn ol St. Paul, y rhai, medd ef, a rydd inni
"syniad cywirach am berthynas agos yr Efengylau ac Epistolau Paul. Ond gwneir hyn gan yr awdur galluog drwy bwysleisio'r elfen gyfriniol a phersonol yn nysgeidiaeth Paul. Gesyd ef syniadau Iddewig a chyfreithiol Paul yn y safle eilradd yn yr hwn y dylesid eu rhoddi. 'Coed, gwair, sofl' yn adeilad ei gyfundrefn yw y rhai hyn. Gresyn bod diwinyddion y gorffennol wedi eu camgymryd amaur, "arian a meini gwerthfawr' ei gyfundrefn."
Cawn y cyffesiad personol: "Y mae fy nghydymdeimlad â'r elfen gyfriniol sydd mor nodweddiadol ohono yn cynhyddu yn barhaus," ac yn unol â hyn yr ychwanegiad at ddiwedd y llyfr. Cawn hefyd fod awduron cyfriniol yn y cyfnod hwn yn cael lle ar raglen ei ddarlleniadau bore—sy'n fwy na gwelltyn i ddangos cyfeiriad y llif.
Ar un olwg, y mae'n syn iddo ganiatau i'r llyfr ail ymddangos gyd ag ond yr ychwanegiadau annigonol uchod. Ar y llaw arall, gan mai Paul yng Ngoleuni'r Iesu a geisid, beth oedd i'w wneuthur ond ei yrru allan "gyd â dymuniad am fendith 'Ysbryd y Gwirionedd' arno i'r graddau y mae yn cynnwys y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu"? Dïau, hefyd, ei fod yn teimlo y byddai'n rhaid iddo, o ddechreu ei wella, ei wneuthur, fel cyllell Pat, lafn a charn, yn newydd i gyd. Credwn hefyd mai i hyn y deuthai, pe cawsai fyw—h.y., yr ysgrifenasai lyfr o safbwynt newydd dan y teitl Iesu yng Ngoleuni Paul—cynnyrch profiad a chanfyddiad ei gyfnod olaf. Yn wir, nid gorchwyl anodd fuasai dethol cyfrol o'i bregethau yn ystod y cyfnod hwn i ffitio'r teitl uchod.
XVI. "FFRWYTHANT ETO YN EU HENAINT."
ER bod y llyfrau hyn, fel bryniau gwlad, yn tynnu'n sylw oddiwrth wastatir ei weinidogaeth, y mae o bwys inni gofio eu bod yn codi o hwnnw, yn dibynnu ar hwnnw, ac mai yno yr oedd cryfder a gwaelod ei fywyd ef. Gwelsom i nodyn newydd ddyfod i'w genadwri wedi'r Diwygiad, a bod eneiniad arall ar ei bregethu, fel yr oedd mwy o ras arno ef ei hun. Credwn mai hyn, mewn cydweithrediad â gweddïau'r saint ac ateb y Nefoedd, oedd achos y deffroad a fu ymysg pobl ieuainc Grove Street yr adeg hon. Ni allai'r rhai a ymwelai â'r eglwys yn flaenorol lai na theimlo ei bod yn eglwys fyw, ei hawyr yn bur, a'i goleuni yn glir, i brisio'r gwirionedd o'r pulpud. Eithr yn awr daeth anadl bywyd newydd i seiadau a chyrddau gweddi'r bobl ieuainc, yn fechgyn ac yn ferched, dysgedig ac annysgedig. Nid yn unig yr oeddynt yn lluosog mewn rhif, ond yr oedd llif y bywyd ysbrydol yn gorlifo ffiniau cymdeithasol bydol, ac yn peri bod y bechgyn a'r merched yng nghariad a rhyddid "teulu Duw " yn cymryd rhan yn y cyrddau. Rhoddai hyn lawenydd mawr iddo ef ac eraill a deimlai dros yr achos am y gwelent y bywyd newydd yn ffurfio corff newydd iddo'i hun yn y lle—hyd oni ddaeth y rhyfel a chwalu eu gobeithion.
Y tu allan i'w eglwys ei hun, gwnaeth waith mawr ym maes ehangach ei enwad—yn ei bulpudau, ar ei bwyllgorau, a thrwy ei wasg. Nid oedd yn llai ffyddlon i'r cwrdd chwarter nag i gyfarfodydd a phwyllgorau'r Undeb; efallai o'r ddau ei fod yn fwy ffyddlon—o leiaf gellir dywedyd y byddai ef yn y naill a'r llall i'w gael lle y byddai o fwyaf gwasanaeth ar y pwyllgorau llên, dirwest, addysg, etc. Cafodd ei ethol i gadair yr Undeb yn 1913, a rhoddodd hyn foddhad iddo, nid yn gymaint fel "anrhydedd" ag fel prawf o werthfawrogiad o'i wasanaeth. Credwn ei fod yn dywedyd calon y gwir pan ysgrifennai at eneth fechan a'i llongyfarchodd:
Fy annwyl Nona,[13]—Dyna falch oeddwn i gael eich cerdyn yn fy llongyfarch ar fy etholiad i Gadair yr Undeb. Ond pa anrhydedd bynnag a esyd arnaf, a pha bleser bynnag a rydd i mi, rhaid i mi gyfaddef bod cyfeillgarwch a serch fy ffrindiau ieuainc yn rhoddi i mi lawer mwy o bleser."
Traddododd anerchiad oedd, fel ei anerchiadau i gyd yn awr, yn ffrwyth astudiaeth a myfyrdod blynyddoedd, ac yn cyfuno grym a goleuni, neges a nerth, i raddau arbennig. Nid oedd yr anerchiad hwn, yn wir, ond crynhodeb o'r hyn a oedd ganddo i'w ddywedyd ar y testun fel ffrwyth darllen a meddwl am hanner oes, fel mai cywirach dywedyd nad oedd ond braslun o'i lyfr Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar, na dywedyd bod hwnnw yn ddatblygiad o'i anerchiad. Ag ystyried ehangder y maes a gymerodd, y mae'n brawf o gryn gyfarwydd—deb â Hanesyddiaeth hen a diweddar yn gystal ag â Diwinyddiaeth ac Athroniaeth, iddo allu ei drafod gyd â'r fath gywirdeb a medr esmwyth. Ond fel y gwelsom hogiau wrth redeg ar draws gwlad, yn marcio'u llwybr â darnau o bapur, y mae ei ysgrifau yntau'n ystod y ganrif hon yn profi bod ei feddwl yn dyfod i ymdroi gyd ag arweddion concrete crefydd yn fwy a mwy, a'r arwedd haniaethol yn cael llai o le. Wele rai o'i destunau yn Y Dysgedydd yn dechreu yn 1905: "Gras yr Efengyl fel awdurdod foesol," "Y Gwyddonydd yn amddiffyn y ffydd," "Y Diwygiad," "Perthynas yr Eglwys a'r Wladwriaeth yng ngoleuni'r Testament Newydd," "Y Datgysylltiad yn Ffrainc," Cynhadledd y Swper Santaidd," " Milton fel Diwygiwr," "Tŷ'r Arglwyddi a'r Mesur Trwyddedol," "Mesur Datgysylltiad yr Eglwys," "Father Tyrrell (y Babaeth o hyd yr un)," "Diwygio'r Eglwys Babaidd," "Materoliaeth," "Materoliaeth Ymarferol," Bywyd a Syniadau Nietzsche" (dwy ysgrif), "Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru," "Wm. James a'i Athroniaeth," "Wm. James a Diwinyddiaeth," "Kikuyu ac Undeb Cristnogol," "Gorfawrygu'r Wladwriaeth," "Y Wladwriaeth a'r Bregeth ar y Mynydd," "Yr Eglwys Rydd Unedig," "Y Genhadaeth Genedlaethol," "Diwinyddiaeth â Phrifysgol Cymru," "Yr Eglwys Sefydledig yn galw am Ymreolaeth," "Addysg Plant ein gwlad a'n heglwysi," "Piwritaniaeth," "Ymneilltuaeth ac Addysg Grefyddol yr Ieuanc," "Crist a'r Gydwybod." Dyna doreth go dda o ysgrifau gan un oedd yn drigain oed yn ysgrifennu'r gyntaf ohonynt. Y maent yn dangos diddordeb digon amlweddog i beri inni gymharu'r meddwl a'u cynhyrchodd i dderwen aml-ganghennog, ac eto y canghennau i gyd ymron yn plygu dan yr un gwynt.
Y llyfr hwn yw y mwyaf iach, a rhydd, a syml, a swynol, ac esmwyth a wnaeth. Y mae mor annhebig i Paul yng ngoleuni'r Iesu ag yw'r Epistol at y Philipiaid i'r un at y Galatiaid (heb gymharu'r awduron, bid siŵr). Dywedir wrthym yng Nghofiant Dr. Benjamin Jowett yr edrychai ef ar gyfnod henaint fel yr un mwyaf hyfryd a phêr o'i fywyd i gyd, a phob rhyw derfysg wedi darfod gyd â'r uchelgais a'r fyfïaeth a fu. Yr oedd tangnefedd y tymor hwn wedi disgyn ar ysbryd Adams hefyd erbyn hyn.
Heblaw hyn, yr oedd ei syniadau wedi ymiachau, a'i olygiadau wedi adfeddiannu llawer o ryddid ei reddfau a'i ganfyddiadau moesol—ei olygiadau, cofier, am 'na chollodd mo'r rhyddid hwnnw'n ymarferol o gwbl. Yn ystod yr ugain mlynedd er pan gyhoeddwyd ei Ddatblygiad rhedodd llawer llif lleidiog dan bontydd y Mersi a than ragdybiau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw'n hawdd gwybod pa le a roddai ef i wareiddiad diweddar (neu hen) mewn datblygiad a ddarnodai yn 1893 "fel cynnydd cyson, yn unol â deddfau neilltuol, a thrwy gyfrwng galluoedd arhosol yn y cread," ond erbyn 1913 y mae ei ymgais i ffitio rhediadau bywyd i wely'r ddamcaniaeth ry gul wedi ei orfodi i weld bod y bydysawd yn cynnwys cyferbyniadau, gwrthwynebiadau a gwrthdarawiadau a anwybyddai'n flaenorol:
"Rhwystrir amcanion Duw yn rhy fynych gan hunangais dynion a'u hawydd am hunanfantais a hunanfoddhad ar draul iawnderau dynion eraill . . . Mwy parchus o Dduw a mwy cyson ag ymwybyddiaeth dyn yw dal fod cwrs Gwareiddiad a Chrefydd yn ganlyniad cyfansawdd o weithgarwch Duw a dyn yn cydweithio neu yn gwrthweithio. . . . Y mae damcaniaeth o'r fath yn ysbeilio dyn o'r elfen foesol yn gyfangwbl. Y mae'n difodi'r duedd anturiaethus (plot interest) sydd yn gwneuthur bywyd mor ramantus. Nid oes yma le i lawenydd buddugoliaeth y sant nac i bangfeydd euogrwydd y troseddwr anfad . . . . Y mae sicrwydd ein profiad personol o ryddid yn fwy na sicrwydd rhesymegol unrhyw ddamcaniaeth o barthed i Benarglwyddiaeth Duw ac awdurdod diamheuol mater yn ffurfiad ein harferion. Y ddiwinyddiaeth a'r athroniaeth a bwysleisia ryddid ewyllys y person unigol biau'r dyfodol ymhob gwlad."
Y mae wedi dyfod i weld nad oes lle i ddrama mewn datblygiad! Ac y mae ffeithiau i ddyfod o flaen damcaniaeth, ac ymddengys fod canfyddiadau a greddfau moesol hefyd yn ffeithiau, a chanddynt lais nid yn unig yng nghwestiynau ymarferol, ond yng nghwestiynau deallol bywyd. Pwysleisir, ac ail a thrydydd bwysleisir hyn:
"Yn nhiriogaeth moeseg Gristnogol mae'n rhaid i fywyd Crist yn yr enaid flaenori syniadaeth gywir. Wedi derbyn y bywyd trwy ffydd yn Iesu, a dyfod i feddiant o brofiad o'i ddylanwad santeiddiol, yna cywirir syniadau y credadun am Dduw, am Grist, ac am delerau ei gadwedigaeth,—
ac felly y mae sail i system ddiwinyddol gywir yn cael ei gosod i lawr, ond cael y pensaer celfydd i'w chodi—ond mater o ddawn a medr arbennig yw hynny.
Amcan canolog y llyfr yw dangos y lle sydd i'r Eglwys ym mwriad Crist fel gallu i gyfeirio a thrawsffurfio gwareiddiad, nid mewn ffordd allanol, orfodol, ond fel dylanwad ysbrydol a santeiddiol. I wneuthur hyn ei hangen ar hyn o bryd yw argyhoeddiad newydd nad "drwy nawdd a gwaddol," "nad drwy lu ac nad drwy nerth," ond nerth "y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu," a nerth Ysbryd Crist yn breswyliedig ynddi, i'w gwneuthur yn eglwys fwy cenhadol—yn gorff Crist—y gall wneuthur ei gwaith.
Heblaw ei lyfrau, ei bregethau, ei farddoniaeth, a'i ysgrifau yn y cyfnodolion, gadawodd Adams ar ei ol wmbredd o gynnyrch ei weithgarwch mewn cylch arall o wasanaeth, sef ei ddarlithiau a'i anerchiadau i gymdeithasau diwylliadol, llenyddol, athronyddol, etc., na ellir mo'u croniclo petâi hynny'n ateb unrhyw ddiben. Rhoddodd oreu ei astudiaeth a'i brofiad i'r rhain ar hyd y blynyddoedd, ond gallwn gasglu bod amlder ei weithgarwch a'i ffrwythlonrwydd yn dyfod i'r amlwg yn fwy gyd â threigl y blynyddoedd yn y cyfeiriad hwn yn ogystal. Yr ydym yn gorfod edmygu ei wasanaeth rhad yma yn fwy am ei fod yn gymharol ddirgel, ac hefyd am ei fod, er yn ddirgel, yn waith a all, o ran gwerth, ddal goleuni canol dydd. Y mae papurau ar destunau amrywiol: ar bersonau fel Hiraethog, Ieuan Gwynedd, Rowland Williams, Lewis Morris, Milton a'i oes, James Ward, Wm. James, Watts Dunton a Chymru, a phynciau fel Isymwybyddiaeth, Dirwest (pob arwedd arni), Daioni Pennaf Bywyd, Diwylliant Cymru, Yr oes a'n pobl ieuainc, Rwsia, Dylanwad Dysgeidiaeth ddiweddar Germani ar ei hysbryd rhyfelgar, Cynnydd a'i delerau, Utopia, Piwritaniaeth; a nifer yn Saesneg ar Modernism, Reconstruction, Political Economy, The Supremacy of the State, The Tractarian Movement, a Hiraethog, the Reformer. Gellid meddwl bod rhai ohonynt, fel cesig eira, yn tyfu wrth fynd ymlaen. Y mae ei ddarlith ar Rwsia, er enghraifft, wedi tyfu'n llyfr—cymysglyd, bid siŵr, ond yn gronfa o bob math o wybodaeth am y wlad a'r bobl.
Rhydd y cyfresi hyn o destunau syniad i'r darllenydd am amlochredd a bywiowgrwydd meddyliol a moesol Adams yn y cyfnod hwn—rhwng 60 a 75 oed; ond i brofi eu grym a'u rhin mae'n rhaid iddo ddarllen yr ysgrifau drosto'i hun, ac yna caiff allan, oni chamsyniwn yn fawr, er nad ydynt ar ochr chwydd a chweryl mor gryf â chynt, eu bod am y rheswm hwnnw'n fwy gloew a chlir a llyfn. Ond heblaw hyn, yr oedd yn gymaint myfyriwr ag erioed! Nid yn aml y gwelwyd hynafgwr 70 oed yn tynnu allan raglen o lyfrau (a bwriadau) fel hyn (am 1915-16):
I
1. Foundations.
2. Atonement and Personality (Moberly).
3. The Mystic Way (Evelyn Underhill).
4. Studies in Mystical Religion (Dr. Rufus Jones).
5. Works of Wm. James.
6. Creative Evolution (Bergson).
7. Prolegomena (T. Hill Green).
8. History of Religions (Reville).
II.
1. To prepare a number of sermons to be eventually published.
2. To read and meditate in the above authors with a view to this.
III.
1. To copy and rearrange many of my shorter poems.
2. To read the best poets only:
a. Browning—The Ring and the Book, etc.
b. Tennyson.
c. Goethe.
d. Milton.
e. Blake, as a study.
f. Francis Thompson.
Ymddengys oddiwrth yr uchod ei fod yn bwriadu cyhoeddi cyfrol o bregethau a chyfrol o farddoniaeth. Gadawodd ar ei ol ddigon o ddefnyddiau i wneuthur cyfrolau lawer.
Er y gallasai'r rhaglen uchod awgrymu nad oedd y rhyfel mawr yn peri nemawr gofid iddo, nid yw hynny'n wir. Cynhyrfwyd ef i'w waelodion ganddo, a pharhaodd ei ysbryd yn ysig a'i galon yn friw hyd ei ddiwedd; eto gwnaeth ei oreu i gynorthwyo'r bechgyn a lleddfu doluriau'r rhai oedd gartref. Er y credai mai yn yr Almaen yr oedd gwraidd mwya'r drwg, gwrthodai unrhywioli'r teyrnasoedd gwrthwynebol â Theyrnas Nefoedd; a synnai fel yr oedd llif paganiaeth ryfelgar wedi gorlifo a gordoi Cristnogaeth ei bobl. Gwelir ei syniadau ar ryfel yn gyffredinol yn ei ysgrif "Y Wladwriaeth a'r Bregeth ar y Mynydd."
Yr ydym bellach wedi cyrraedd pwynt yn ei hanes lle y gallwn daflu golwg yn ol ar brif linellau ei weithgarwch a'i wasanaeth, a ffurfio barn fwy neu lai teg a chyffredinol amdano, gan nad oes dim o hyn i'r diwedd wedi digwydd i ychwanegu rhyw lawer at swm ei waith—dim ond cydnabyddiaeth lawnach a mwy awdurdodol o'i deilyngdod.
Nid hawdd cael gwell braslun o wahanol feysydd ei wasanaeth nag a geir yn atgofion yr Athro W. Jenkin Jones, M.A., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Y maent yn werthfawr nid yn unig oherwydd safle presennol Mr. Jones fel un o'r Athrawon Athroniaeth mwyaf llwyddiannus, ond hefyd am eu bod yn sylfaenedig ar ei brofiad ei hun, ac yn dangos yr apêl a feddai gweinidogaeth (gyffredinol) Adams at feddwl ieuanc Cymru flynyddoedd yn ol, cyn i'r llïaws ei weld a'i werthfawrogi.
"Yn Ebrill, 1885, y gwelais y Parch. David Adams gyntaf, a'i glywed yn siarad, a hynny yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Nid oedd athro Cymraeg yn y coleg ar y pryd. Penodasid Mr. J. E. Lloyd—yn awr yr Athro adnabyddus o Fangor—yn ddarlithydd mewn Cymraeg, ond ni ddechreuai ef ar ei waith hyd Hydref y flwyddyn honno. Yn y cyfamser traddodid darlithiau yn achlysurol ar bynciau Cymraeg gan ysgolheigion o'r tu allan, Mr. Adams, y pryd hwnnw o Hawen, yn eu plith. Traddododd ddwy ddarlith gyhoeddus, y naill ar Gwilym Hiraethog, a'r llall ar Rai o nodweddion Barddoniaeth Gymraeg heddiw. Yr oedd enw Mr. Adams eisoes yn adnabyddus iawn i mi, oblegid yr oedd Talybont, lle y ganed ef, heb fod ymhell o'r Dole, fy nghartref innau; a siaradai fy nhad yn fynych am dano. Yn un peth, eithriad y pryd hynny oedd bod yn ŵr gradd Prifysgol. Yn wir, cofus gennyf ddilyn o ystryd i ystryd yn Aberystwyth, pan oeddwn yn yr ysgol yno, ŵr oedd newydd raddio, gan gymaint oedd fy awydd i weled ymha wedd yr oedd rhagor rhyngddo a meidrolion eraill. Ac heblaw gradd, enillasai Adams eisoes enw da iddo'i hun fel pregethwr addawol, fel beirniad a bardd, ac fel meddyliwr newydd ac eofn. Clywwn hefyd fod gan y Prifathro T. C. Edwards olwg fawr arno. A rhwng popeth, awyddwn am ei weled. Wedi'r tro cyntaf hwn, dwy waith yn unig y cefais y fraint o'i glywed. Ond os byr fu fy mhrofiad ohono, yr oedd hefyd yn un amrywiol. Fel y dywedais, darlithio ar Gwilym Hiraethog a wnâi y tro cyntaf; yr ail dro pregethai, a'r tro olaf annerch cyfarfod o blaid y mudiad i godi cerflun o'r Prifathro Edwards. Siaradai yn eglur ac effeithiol a chyd â'r un nodweddion y tri thro. Gwelaf ef yn awr yn fy nychymig—gŵr hir a syth, ysgafn ond urddasol, gyd ag awgrym o awdurdod yn ei lais a'i ddull. Yr unig gof sydd gennyf am y cyfarfod yn y Coleg yw o'i ddarlleniad tarawiadol o ddarn a gyfieithasai i'r Saesneg o Emanuel' Hiraethog, Satan's attack on the Sun,' ac a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin, 1885, o gylchgrawn y Coleg. Bûm yn ffodus yn yr unig bregeth a glywais ganddo, oblegid dywedwyd wrthyf ei bod yn siampl deg o'i weinidogaeth. Y testun oedd Dat xv, 3. 'A chanu y maent gân Moses, gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen.' Ceid ynddi feddwl a newydd—deb, pwys ar foes a bywyd, ynni a dwyster yn codi o argyhoeddiad, ac apêl at ben a chydwybod ei wrandawyr. Ni fu erioed ym mhulpud Cymru bregethwr a wnaethai resymoldeb yr Efengyl mor eglur â David Adams, neu a roddai fwy o sylw i arwedd ymarferol crefydd. Gwthiai Ethics yr Efengyl a chyfiawnder Duw i'r golwg, nid fel pethau i'w cyferbynnu â chariad, ond fel elfennau na allai cariad eu hebgor.
"'Roedd Adams yn un o efrydwyr cyfnod bore Coleg Aberystwyth. Bu'r Coleg yn ffodus iawn i gael, ar ddechreu ei yrfa, fagad o fechgyn oedd yn llawn o athrylith ac ymroad. Cyn nemor amser cymerai nifer ohonynt ran bwysig mewn ail ddeffro meddwl Cymru, ac ennyn diddordeb newydd mewn llên, hanes, gwleidyddiaeth a chân. Yn eu plith yr oedd David Adams, a chyflawnodd yntau, yn ei gylch ei hun, wasanaeth cyn bwysiced â'r un ohonynt. Ac nid llai oedd yr angen am arweiniad newydd yn y cylch hwnnw. Yn wir, credaf ei fod yn fwy, oblegid yng Nghymru, beth bynnag am wledydd eraill, yr ydym yn fwy ceidwadol a rhwym wrth draddodiad yn ein syniadau diwinyddol nag mewn dim; yn enwedig yn ein syniadau am ddatguddiad a chrefydd a'r Beibl. Yn y pynciau hyn y llafuriai Adams, ac fel pob un a gais agor maes newydd ym myd gwirionedd, dioddefodd lawer o wrthwynebiad a pheth erlid. Ond try heresi ddoe yn uniongred heddiw. Ac erbyn hyn dysgir ymhob coleg diwinyddol yng Nghymru sylwedd ac egwyddor y gwirioneddau a ddysgai Adams mewn ysgrif a llyfr flynyddoedd yn ol, ac nid gormod yw dywedyd iddo arwain cannoedd o ddynion ieuainc meddylgar o gaethiwed y llythyren i ryddid gogoneddus eglurhad yr ysbryd. Un o brif deithi ei feddwl oedd ei barodrwydd i groesawu gwirionedd o ba gyfeiriad bynnag y delai—pa un ai hanes, ai gwyddoniaeth, neu feirniadaeth Feiblaidd. Nid oedd ofn y goleuni arno. Yr oedd yn hyddysg yn egwyddorion cyffredinol y gwyddorau naturiol, yn enwedig yn egwyddorion Datblygiad, ac yr oedd yn ei gynefin mewn efrydiau athronyddol. Iddo ef, un oedd pob gwybod yn y pen draw. Ac ni waeth beth oedd y ddysgeidiaeth, os ydoedd wir, câi groeso ganddo, oblegid gwelai ef y byddai iddi, yn hwyr neu'n hwyrach, gadarnhau dinas Duw a chryfhau apêl y ffydd. Parhaodd yn efrydydd hyd y diwedd. Yn briodol iawn y gellir cymhwyso ato yntau y geiriau sydd ar garreg fedd gŵr enwog arall,—'He died learning.'"
XVII. Y PREGETHWR A'R GWEINIDOG.
RHODDWN y lle blaenaf i bregethu'r Efengyl ym mywyd Adams gan mai hyn oedd ymlaenaf yn ei galon. Nid yn unig cyfrifai ef felly, ond gweithredodd yn unol â hynny. Yn nechreu ei fywyd gweinidogaethol cyfrifodd wobrwyon dysg yn golled er mwyn pregethu Crist; yng nghwrs ei fywyd dilynol gwrthododd yr un gwobrwyon—fel ei Arglwydd wedi'r temtiad cyntaf; ac ar ddiwedd ei fywyd, yn ei lescedd olaf, ei ddyhead mawr oedd cael pregethu o hyd.
Ond nid ydym i ddeall hyn fel yn golygu ei fod yn tynnu ei lygad a thorri ei law i ffwrdd fel rhwystrau. Ni theimlai ef fod ei aelodau meddyliol eraill yn ei rwystro ond yn hytrach yn ei helpu. Ni wnâi farddoniaeth ac athroniaeth yn slafaidd wasaidd i'r pulpud, ond yn rhydd wasanaethgar iddo. Gwelsom dorri canghennau isaf coeden er mwyn i'r pren dyfu i fyny, a chlywsom am rai yn darllen yn unig ar gyfer y pulpud; ond yr oedd ei fywyd meddyliol ef fel un organig iach a'i holl rannau'n foddion ac amcanion (means and ends) yr un pryd, y canghennau isaf ac uchaf yn aelodau i'w gilydd ac yn cyfoethogi'r cyfangorff; golud y cenhedloedd " yn cael ei ddwyn i mewn i ddinas Duw. Am y rheswm hwn carai ei fyfyrgell, hyd y byddai ynddi, â'i holl nerth; caffai ynddi ei hapusrwydd arbennig hi ei hun, ac ni ddymunai well am y pryd; ymgollai mewn barddoniaeth neu athroniaeth er ei mwyn ei hun, a châi fwy o'i chyfrinach a'i ffrwyth na thrwy ei defnyddio'n iswasanaethgar i amcan arall. Bid siŵr, y mae yna derfynau yn cael eu gosod i lawr gan y bywyd cyffredinol. Gall y llygad hyd yn oed fod yn rhwystr. Yr oedd yr hen Rabbi Duncan â'i "ben yn ddyfroedd" cyson oblegid ei gariad gormodol—dybiai ef—at lenyddiaeth Hebraeg. Ond y mae pob bywyd iach yn ddeddf fewnol iddo'i hunan heb eisiau llawer o ddeddf allanol na thocio i gadw'i rannau y tu mewn i derfynau.
Oni alwyd Adams gan natur i fod yn bregethwr, daeth yr alwad, fel eiddo pob gwir bregethwr, o lys uwch. Ar y cyntaf, dywedir bod ei draddodiad yn drwsgl a'i symudiadau yn afrosgo, a'i ddefnyddiad o eiriau hyd yn oed, er ei fod yn llenor da eisoes, yn anffortunus:
"Y mae dy actions fel eiddo assassin, fachan," meddai ei gyfaill Richard Jones wrtho, "a phwy o saint Aberteifi sy'n gwybod beth yw 'panacea'?"
Un o nodweddion mwyaf deniadol—a defnyddiol—ei natur oedd ei hoffter o feirniadaeth: nid yn unig gallai ei dal, ond croesawai hi. Ac yn y modd hwn, a thrwy ymdrech ddyfal, daeth i fod yn siaradwr medrus ac effeithiol. Ond dysgawdwr ydoedd yn y pulpud, eithr nid dysgawdwr sych, ond un â'r gwirionedd a bregethai yn llosgi'n eirias yn ei galon ac yn oleu yn ei feddwl, ac yna ar ei wefus. Ni allai ganu, ac nid oedd eisiau iddo ganunid oedd ei genadwri'n un y gallesid ei chanu! Ond os nad oedd yna gân, yr oedd yna dân yn aml,—gallesid defnyddio ymadrodd a gymhwyswyd, ni a gredwn, at Jonathan Edwards—"logic on fire"—ato yntau. Cofus gennym i un o'n pregethwyr mwyaf llygadog ddywedyd, wedi clywed Adams (ugain mlynedd yn ol): "Dyna bregethu'r dyfodol." Yr oedd hwnnw wedi clywed rhai o broffwydi'r diwygiad cymdeithasol yn ein prif drefi, ac yn ddïau yn teimlo nad peth i'w ganu yw gwirionedd eirias—fel y mae'n bod i'r proffwyd, a bod yn bryd trosglwyddo'r agwedd o ganu sy'n perthyn i grefydd i'r cantorion.
Ond er iddo ddyfod yn siaradwr grymus, y peth amlycaf yn ei bregethu oedd ei genadwri; ac fel hyn trodd ei ddiffyg yn help iddo! Yr oedd yn broffwyd uwchlaw popeth, a chanddo genadwri oddiwrth Dduw, ac wedi ei feddiannu gan ei genadwri. Anghenraid a osodwyd arno ef i bregethu. Yn ei anerchiadau i fyfyrwyr gesyd bwys canolog ar dderbyn galwad oddiwrth Dduw. Er iddi fod "drwy ddynion," nid yw i fod "o ddynion." Ac y mae'r pregethwr i barhau mewn cyfrinach gyson â Duw, ac i dderbyn ysbrydoliaeth oddiwrtho. "Llais yw'r proffwyd i fod ac nid adlais." "Ei awdurdod ef yw awdurdod y gwirionedd a dderbyniodd gan Dduw." "Testun mawr gweddi'r pregethwr fel y cyfryw yw gofyn am genadwri neilltuol oddiwrth Dduw." Y mae yna berigl i'r "alwad ddwyfol ymddirywio i fod yn ddim mwy na galwedigaeth ddynol: "Rhoddwch ni mewn offeiriadaeth fel y bwytaom fara." "Yn lle vocation nefol daw'r gwaith i fod yn avocation bydol." Y mae perigl anianol arall yn codi o "uchelgais, neu ysfa afiach am boblogrwydd," apelio at deimladau yn lle at gydwybodau'r bobl; gwneuthur wit a I yn amcanion. Gall hyd yn oed gallu deallol neu areithyddol, cywreinrwydd a cheinder celfyddydol, "godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb," fod yn demtasiwn.
"Wedi gwrando llawer pregeth alluog, gywrain a chelfydd, galluog o ran syniadaeth, cywrain a chelfydd o ran diwyg brydferth ei brawddegau, a barddonol o ran ei dychmygiad, a thlws o ran yr eglurebau—wedi'r cyfan gofynnwn yn siomedig: 'I ba beth yr oedd hi da?' . . . I ba beth y bu y golled hon?' Yacht i ymbleseru ar lyn oedd y bregeth, ac nid llong fasnachol yn cario nwyddau angenrheidiol i gyfarfod â'n hanghenion fel dynion ac fel pechaduriaid. "Yr oedd y display areithyddol yn rhy debig i fireworks prydferth, amryliw, ond heb wefr ynddynt i ddychrynnu unrhyw bechadur hyf i ddifrifoldeb ac ofn."
Ar yr olwg gyntaf, gallasai rhai o'r cyfeiriadau hyn symbylu'r atebiad, "Y meddyg, iacha dy hun—pwy sy'n arfer mwy o syniadaeth a saernïaeth ynglŷn â'i bregethau na thydi?" Ond ni fyddai'r feirniadaeth yn deg, gan mai'r hyn a gondemnia yw nid presenoldeb syniadaeth oleu, ond absenoldeb neges ac amcan. Yn wir, ceir ef fwy nag unwaith yn annog myfyrwyr i barchu deall eu cynulleidfaoedd.
"Ceisiaf roddi i'r cynulleidfaoedd o'r goreu sydd gennyf bob amser—offrwm cariad gwirioneddolheb fyth anobeithio y deuant i'w werthfawrogi. Ac y mae yna rywrai'n wastad yn ei werthfawrogi eisoes."
Ond ni allasai neb ddywedyd bod ei syniadaeth yn llethu ei genadwri—yr oedd honno'n llosgi'n oleu drwy holl foddion y cyflwyniad ohoni. "Yr ydym yn derbyn yn ol fel y rhoddwn," meddai wedyn. "Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd hefyd yn brin." Tebig mai ymwybyddiaeth o hyn, ac o'i ddanfoniad gan Dduw, sy'n cyfrif am y ffaith ei fod yn hau mor helaeth yn y seiat ag yn y cwrdd mawr yn wir, yn helaethach, os iawn barn un cyhoeddwr: "Deuwch yma nos Iau," meddai, "dyna'r pryd y bydd Mr. Adams yn rhoddi'r gems inni."
Yr oedd hefyd yn hoff o eglurebau, y rhai a ddetholasai o feysydd eang ac amrywiol ei ddarllen, mewn llên a barddas, hanes a gwyddoniaeth. Ond yr oeddynt heb eithriad nid yn rhai oddiallan, yn addurn tinsel, ac amgylchosodiad" ffansi, ond fel eiddo ei Arglwydd, yn gwbl iswasanaethgar i bortread y gwirionedd: y rhai hyn eto, fel holl offer pregethu, yn foddion y genadwri ac nid yn amcan. Y peth tebycaf i addurn o werth artistig yn unig a ddefnyddiai oedd ei ddyfyniadau barddonol; ond yr oedd y rhai'n bob amser i'r pwynt, ac yn gwasgar goleuni. Cawn ef (yn y braslun pregeth a roddir yn nês ymlaen) yn cymharu gweddi'r ffydd i wifren fyw (live wire)—cymhariaeth a gafodd, efallai, gan ei athro, Wm. James,—ac i ffynnon o ddyfroedd byw mewn cyswllt â reserfoir dihysbydd. I egluro pwysigrwydd yr ysbrydol rhagor y naturiol mewn addoliad, cawn ef yn defnyddio ateb Dr. Westcott i'r gŵr hwnnw a ddywedai nad oedd perffeithrwydd y gwasanaeth o nemawr bwys i gynulleidfa wledig ddibwys, "Ond beth am y gynulleidfa anweledig? ateb y Cardinal Vaughan pan ofynnid iddo ai nid oedd yn grynedig wrth bregethu gerbron pennau coronog Ewrop, Yr wyf fi'n arfer pregethu gerbron Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi. Elai at Victor Hugo a hanes Jean Valjean am help i ddangos gallu caredigrwydd a maddeugarwch ar y galon ddynol dduaf; ac at waith J. H. Newman yn edrych ar hogyn drwg nes peri iddo dywallt dagrau, i egluro edrychiad Crist ar Petr. "What did he say to you?" meddai'r plant eraill wrth weld ei ddagrau: "He said nothing" oedd yr ateb drylliog, but he looked at me."
I yrru condemniad o lwyddiant y fasnach feddwol adref, cawn ef yn gwneuthur defnydd tarawgar o arferiad preswylwyr rhyw ynys o godi bythynnod iddynt eu hunain o'r wrecks a olchid i fyny gan y môr.
Ni awgrymir bod yr eglurebau a'r enghreifftiau a ddefnyddiai i gyd yn wreiddiol iddo ef; cyfeiriwn atynt yn unig i ddangos ei ymgais i'w wneuthur ei hun yn ddealladwy ac yn ddiddorol i'r llïaws—heb beidio â bod yn gennad Duw yr un pryd.
Gyd â golwg ar gynnwys mwy penodol ei genadwri nid oes eisiau ychwanegu ond ychydig at yr hyn a ddywedwyd eisoes. Ni a'i cawn mewn hedyn (in germ) yn ei ysgrif ar "Gredo a Buchedd " yng nghyfnodolyn y coleg; ac yna'n ymddatblygu ac ymgrofennu fel coeden drwy waith ac adwaith ar ei chylchfyd amrywiol cynwysedig o ddoctoriaid Hawen, beirniaid Bethesda, a brodyr brwydrol Cyfarfod Gweinidogion Lerpwl, yn gystal â damcaniaethau Hegel a Darwin, James a Bergson, a llu eraill. Dyma'r cnewyllyn:
"Y mae posibilrwydd datguddiad oddiwrth Dduw i ddyn yn seiliedig ar gred yn Nuw fel Tad ac Addysgydd moesol dyn; a bod dyn fel plentyn i Dduw mewn cymundeb posibl ag Ef bob amser."
Ond golygai pregethu hyn ymladd ac ymdrech yn erbyn yr athrawiaethau deddfol na wnaent degwch â hi. A hyn a wnaeth am amser. Hyn hefyd a'i sêl dros burdeb moesol—sydd yn cyfrif am y nodyn milwrol oedd yn ei bregethu. Yna daeth i wel'd nad oedd yr amcan uchaf yn cael ei gyrraedd drwy bwysleisio gwahaniaethau; a chawn y nodyn moesegol yn bennaf yn aros, ac yn cael ei ategu gan olygiadau athronyddol ynghylch unoliaeth a chynnydd graddol. Wedi diwygiad 1904—5, nid yw Crist, efallai yn llai o ddelfryd moesol, ond y mae'n fwy o Waredwr, a daw ffydd neu " "ganfyddiad ysbrydol " yn ol i'w lle canolog yn y wybodaeth o Dduw.
Y mae'n ddiddorol sylwi fel y daw yn ol yn ei ddiwedd at ei ddechreu. Wele fraslun o bregeth yn perthyn i gyfnod Hawen, ac ychydig o argraff ei ddechreuadau athronyddol arni, sydd yn cydgordio â'i safbwynt diweddaf (gyd â gwahaniaeth). Y testun yw "Calon i'm Hadnabod " (Jeremia, 24'):—
"Rhaid wrth lygad cyn meddu unrhyw ddirnadaeth am 'brydferthwch lliw, a chlust cyn gwybod dim am "swynion cerddoriaeth. "Rhaid teimlo poen cyn deall ei natur, a mwynhau pleser cyn ei ddeall yntau.Yr un modd Hiraeth, Cas, Cariad.
Telerau canfyddiad yw
1. Argraffiadau (impressions).
2. Ffurfiau syniadol i'w toddi iddynt.
3. Ymwybyddiaeth yn eu huno'n gyfanwaith.
Telerau canfyddiad o egwyddorion ysbrydol yw
1. Teimladau (Emotions) i ddylanwadu arnynt;
2. Ffydd i'w derbyn fel amlygiadau o Dduw anweledig;
3. Rheswm i'w dosbarthu a'u hunoli.
a. Heb ymdeimlad o Dduw yn y galon amhosibl profi ei fodolaeth i fodlonrwydd.
b. Heb gariad at Iesu a chydnawsedd â'i egwyddorion, amhosibl ei ddeall.
c. Fel hyn, mae'n rhaid cael Duw ynom cyn deall Duw fel y mae'n ddatguddiedig inni, yn Natur, a'r Beibl, a'r Mab. Cym. y ddadl rhwng Bernard ac Abelard parthed blaenoriaeth Ffydd a Rheswm. Ond y mae yna wahaniaeth mawr; y mae wedi dysgu llawer ar y ffordd. Dysgodd, yn neilltuol, nad yw'r Fabolaeth Ysbrydol mor uniongyrchol â'r un naturiol; fod eisiau rhywbeth fel marwolaeth ac ail—gychwyn; bod Duw yng Nghrist nid yn unig yn Wirionedd ddangos i ddyn ei fod yn y llaid, ond hefyd yn "Ras" i'w godi allan ohono.
Wrth sôn am ddylanwad a chanlyniadau ei bregethu, dylasem gofio i Dr. Dale geisio gwneuthur gwaith Moody un adeg, a methu; a da gan rai ohonom heddiw mai felly y bu. Nid ydym yn deall i Adams geisio hyn oddigerth ar raddfa fach yn y slums, ac y mae'n dra sicr nad oedd ganddo ddawn neilltuol i hynny. Ar yr un pryd yr oedd ei genadwri'n hollol bendant, ac yn llawn apêl at gydwybod ac uchelgais moesol; ni chlywsom ef erioed yn ymgolli mewn ymdriniadau diwinyddol nad oedd a fynnent â bywyd ymarferol, llai fyth yn niwloedd annelwig y gyfriniaeth bantheistaidd baganaidd honno sydd mewn pulpud ac eisteddfod yn gwneuthur Duw yn bopeth a phopeth yn Dduw. Y mae digon o dystiolaethau i ddylanwad dyrchafol a thrawsffurfiol ei bregethau: wele i'r darllenydd ddwy o'i ddau gylch gweinidogaethol olaf, at eiddo un o ddiaconiaid Bryngwenith a ddywedodd wrtho un tro:
"Buasai'n dda gennyf fod wedi marw cyn i chwi ddyfod yma; oherwydd y cyfrifoldeb ydych wedi ei roddi arnaf."
Athrawes raddedig, heb fedru Cymraeg, a'i clywodd ym Methesda, a ddywed, wrth ei longyfarch mewn perthynas â'i deitl newydd:
"Ni allaf fi ffurfio barn ar eich llyfrau a'ch pregethau, gan y mynnwch eu hysgrifennu mewn iaith annealladwy i'r bobl gyffredin, ond gallaf dystiolaethu bod rhai o'r pregethau anffurfiol a draddodwyd gennych i gynulleidfa fechan o bump neu chwech wedi gwneuthur argraff mwy arhosol ar feddwl un o'r gynulleidfa o leiaf na'r pregethau llafurfawr lawer a glywodd yn cael eu traddodi i gyffroi edmygedd cynulleidfaoedd mawrion."
Tystiolaeth crefftwr y bu'n rhaid iddo adael Lerpwl—a Grove Street—yn ddiweddar oedd, iddo deimlo colli pregethau Adams yn fawr, a'i weddïau, os dim, yn fwy.
Dengys y tystiolaethau hyn fod ei weinidogaeth yn cwrdd ag angen y dysgedig a'r annysgedig fel ei gilydd.
Edrychai ef ar bregethu'r Efengyl fel gwaith arbennig y gweinidog yn yr eglwys, a rhydd y lle hyn iddo bob amser yn ei anerchiadau i fyfyrwyr. Yn nesaf ato—a chofio bod pregethu'r Efengyl yn rhagdybied bywyd santaidd ac astudiaeth—gesyd y gwaith o fugeilio. "Mae'n rhaid i weinidog, os am fod yn llwyddiannus, fod yn ymwelydd â'i bobl," yw ei eiriau, ac yna, pan yw yn casglu ei sylwadau at ei gilydd:
Bywyd santaidd, meddyliau diwylliedig, ac ymroddiad ffyddlon i waith bugeiliol—hyn, ynghyd â gweddi daer ar Dduw am Ei fendith,—a'n gwnâ'n weinidogion defnyddiol a llwyddiannus."
Ac nad geiriau gwag yw y rhain, wele lythyr o'i eiddo at swyddogion Grove Street yn ei gystudd olaf:
"ANNWYL FRODYR,
"Caniatewch i mi wneuthur apêl daer atoch fel swyddogion i ystyried y pwysigrwydd o ymweled mor fynych ag sydd yn bosibl ag aelodau'r eglwys. Gwneuthum i y gwaith hwn yn weddol gyson yn ystod fy ngweinidogaeth. Credaf fod llwyddiant eglwysi yn dibynnu ar ymweliadau mynych ar ran gweinidog a diaconiaid. Yn gymaint â'm bod i yn methu â'i wneuthur yn awr, apeliaf atoch chwi i ymdrechu gwneuthur hyn o ddyletswydd yn fwy cyffredinol a thrwyadl. Gwn fod rhai ohonoch yn gwneuthur hyn yn ffyddlon, a ffyddlon iawn hefyd, trwy y blynyddoedd. Ond hoffwn i'r cwbl ohonoch wneuthur y cwbl a alloch ynglŷn â'r gwaith angenrheidiol hwn. Gwn nad yw cyfleusterau, oherwydd trefniadau masnachol, yn caniatau hamdden cyfartal i bob un ohonoch i wneuthur hyn. Hyderaf y gwnâ pawb ei ran yn ol ei allu.
Gan lwyr ymddiried yn eich ffyddlondeb ynglŷn â phob rhan o waith yr eglwys.
Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,
D. ADAMS,
Dengys y nodyn hwn hefyd nad edrychai ar fugeilio fel gwaith arbennig y gweinidog y mae yn waith i eraill yn ogystal. Y mae hyn yn gyson â'i syniad am eglwys y Testament Newydd fel cyfangorff organig, gyda gwahaniaeth doniau a swyddogaethau, a phawb yn gwasanaethu ei gilydd. A dïau y cyfrifai hwnnw'n well gweinidog a fyddai'n gallu cael pob un i wneuthur ei waith na'r sawl a fyddai'n treio gwneuthur y cwbl ei hun. Am hyn ni cheisiai arglwyddiaethu ond mewn cariad, na "blaenori " ond "mewn talu parch." Y mae'r gweinidog i geisio cadw'i bobl " mewn tangnefedd a chydweithrediad heddychol. Ond i wneuthur hyn, mae'n rhaid iddo feithrin parch iddynt a chariad tuag atynt... Nid posibl hunanymwadu er eu mwyn oni fyddom yn eu caru'n wirioneddol." Y mae'r gweinidog anianol yn symud cydrhwng eithafion autocratiaeth a gwaseidd—dra. Osgoai ef y naill a'r llall mewn gwasanaeth, er yn ddïau ei bod yn rhwyddach iddo—wrth natur—osgoi'r olaf na'r blaenaf.
Ysgrifennodd y llythyr a ganlyn at yr eglwys (nid y swyddogion yn unig) Ionawr 1, 1922:
Ion. 1, 1922.
Ar ddiwedd un flwyddyn a phan yn wynebu blwyddyn newydd, caniatewch imi anfon gair neu ddau o longyfarchiad i chwi. Adeg y dymunwn' Flwyddyn Newydd Dda' i'n gilydd yw y dyddiau hyn, ond da fyddai inni gofio'n barhaus mai'r hyn a'i gwnâ yn flwyddyn newydd dda yw ymgysegriad newydd i wasanaethu Duw trwy gyflawni'n dyletswyddau eglwysig a bydol yn fwyfwy ffyddlon. Diolchaf o'm calon i chwi fel aelodau am eich ffyddlondeb a'ch haelioni dihafal yn ystod y misoedd diweddaf pan rwystrid fi gan fy afiechyd peryglus i fod gyd â chwi. Mae hyn wedi bod yn gysur gwirioneddol i mi yn ystod misoedd fy afiechyd.
'Llawenydd mawr i mi oedd clywed fod cyfarfodydd y Band of Hope wedi bod yn hynod lewyrchus ar eu hyd, ac hefyd fod y Gymdeithas Lenyddol wedi cael cyfres o gyfarfodydd llwyddiannus iawn. Mor hyfryd i'm teimladau fyddai praw fod y cyfarfodydd wythnosol eraill sydd a'u hamcan arbennig i feithrin defosiwn ac ysbrydolrwydd yn cael cefnogaeth deilwng. Da chwi, frodyr a chwiorydd, meddyliwch am hyn o'r newydd yn nechreu y flwyddyn newydd eleni.
Llawenydd digymysg i mi yw gallu dywedyd fy mod yn gwella'n gyflym yr wythnosau hyn. Bûm yn glaf iawn wedi'r relapse a'm goddiweddodd Sadwrn a Sul ein Cymanfa yn nechreu mis Hydref, ond gwaredwyd fi megis o safn angau.
Ond yr wyf yn awr yn fwy hyderus am adferiad llwyr nag y teimlais er adeg yr operation.
Ond er hynny, ni chaniateir i mi ail ddechreu fy ngweinidogaeth am rai misoedd eto. Yr wyf wedi gwneuthur trefniadau i frodyr lleol ac eraill wasanaethu yn fy lle hyd ddiwedd mis Mawrth. Pan ddaw'r hin yn fwy nawsaidd yn Ebrill hyderaf allu ail ymaflyd yn fy nyletswyddau fel gweinidog. Yn y cyfamser erfyniaf am gymaint o ffyddlondeb ag sydd yn bosibl ar ran yr aelodau'n gyffredinol.
Yr eiddoch, yn rhwymau cariad,
D. ADAMS.
XVIII. YR ATHRONYDD A'R DIWINYDD.
CLYWSOM ddywedyd nad oedd Adams yn athronydd, am, mae'n debig, nad oedd ond wedi cymhathu syniadau awduron eraill. Pe buasai o bwys setlo'r cwestiwn, buasai'n angenrheidiol yn y lle cyntaf rhoddi deffiniad o athronydd. Ein busnes ni fel cofianwyr yw ceisio rhoddi syniad teg i'r darllenydd am ei ddoniau a'i wasanaeth, yn hytrach nag ymladd dros ei hawl i enw; ond os yw meddiant o'r nwyd ymchwilgar na eill aros gyd ag effeithiau, a'r gynneddf a gais unoli holl ymddangosion bod mewn cyfangorff; os yw ymgodymu â phroblemau'r dasg o gariad pur, a meistroli cyfundrefnau gwahanol nes dyfod yn gartrefol ar eu rhodfeydd ac yn hyddysg yng ngwawr a chysgod eu gwahaniaethauos yw hyn yn gwneuthur dyn yn athronydd, yna yr oedd ganddo ef hawl helaeth i'r enw.
Ar yr un pryd, mae'n rhaid cydnabod mai'r hyn a ellid ei alw'n athronydd darfelyddol ydoedd. Y mae'r darllenydd wedi sylwi, efallai, mor llawn yw ei lyfrau o baragraffau bychain, ac nad oes yna ond ychydig o resymu clos, llai fyth gwrs o ymresymu hir. Eto, y mae yna berthynas rhwng y rhannau, er eu bod yn ddigyswllt. Y mae rhyw olygiad mawr ar bethau—megis datblygiad, wedi apelio at ei ddychymig, a nifer o syniadau llai eu cylch a'u cynnwys yng nghwrs ei sylwadaeth a'i ddarllen—ei ddarllen yn bennaf—a gosodir hwy i lawr gyd â'i gilydd heb lawer o ymgais i'w cysylltu. Yn wir, nid oedd ganddo amser i hynny gan ei fod mor awyddus i ddarllen. Cofus gennym i'r Prifathro Ellis Edwards ofyn unwaith ynghylch yr Athro J. S. Mackenzie a oedd yn ddarllenwr mawr, ac i ninnau ddywedyd ei fod yn gwybod popeth gwybodadwy yn llên athroniaeth, a chael yr ateb, "O wel, nid yw'n meddwl llawer ynteu; y mae'n cymryd amser i feddwl." Peth cymharol rwydd yw llyncu cyndybiau,—yn wir, eu llunio; creadigaethau braf ag y mae'n drueni eu dwyn yn ol at faen prawf ffeithiau: dyna wir ddechreu'r drafferth. Un o nodweddion y dychymig ieuanc yw "everything in general, nothing in particular," ac y mae'n demtasiwn hyd y diwedd i ddiogi'r cnawd. Anghofiodd Adams ychwanegu hyn pan oedd yn dywedyd " nid yw uniongrededd yn aml ond diogi meddyliol." Yr oedd ef yn ddïau yn rhy barod i gofleidio damcaniaethau yn eu crynswth heb geisio eu profi, neu ynteu anwybyddu'r hyn oedd yn anghyson â hwy. Peth rhwydd, er enghraifft, yw gwaeddi " Mewnfodaeth! Mewnfodaeth!" heb ddangos I y mae Duw yn "breswyliedig yn y cread "—a ydyw'n "fewnfodol " yn y daeargryn a'r pla, yn anghenfilod natur a gwareiddiad, y fasnach feddwol a rhyfel? Yr hyn sy'n ganolog nodweddiadol o bersonoliaeth ddynol i ni yw y medr ddarostwng deddfau natur a'u gwneuthur yn iswasanaethgar i amcanion deallus (intelligent) a daionus, megis pan achubir plentyn rhag boddi. Hoffem wybod pa sut y mae Duw'n fewnfodol yn y ddamwain, ac yn y llif sy'n mynd â'r bychan i ffwrdd oddiwrth ei fam! Nid ydym yn cael dim gwell nag a gynhygia Deistiaeth neu Fateroliaeth, neu'r enw amhersonol "Natur" gan y cri Mewnfodaeth, onid yw'n golygu amcanion ymwybyddol a daionus.
Eto, ar waethaf hyn, dengys ei draethawd ar Green a Martineau, er enghraifft, ei fod yn meddu ar reddf a medr i ddisgyn yn sicr—fel eryr ar ei ysglyfaeth—ar bwyntiau canolog cyfundrefn o athroniaeth, heb help uniongyrchol neb, hyd y gwyddom ni.
Y gwir yw, er y meddai nwyd ymchwilgar a chyfundrefnol, bod ei ddiddordeb dyfnaf mewn athroniaeth yn ysbrydol a moesol. Yr oedd wedi ei feddiannu gan ddelfryd y proffwyd, a cheisiai gael gan realiti i'w ategu; yr oedd am gael allan bod y sêr yn eu graddau yn ymladd drosti; bod daioni yn natur pethau: "fel hyn yr wyf fi'n gweld," meddai, a yw'r bydysawd yn gweld yn yr un ffordd?" Dyna'n ddïau pam yr apeliai cyfundrefn Green ato yn fwy nag eiddo Bain a Mill, er i honno gael y cyfle cyntaf—am ei bod mewn mwy o gytgord â'i ddelfryd a'i ymwybyddiaeth foesol. A phan ddaeth, yn niwedd ei oes, i roddi lle amlycach i fewnwelediad yn y bywyd ysbrydol nag a rydd Delfrydiaeth, ni olygai hynny ei fod wedi troi ei gefn ond ar ran o gyfundrefn Green. Fe wêl y darllenydd fod Prolegomena to Ethics yn cael lle yn y raglen olaf yn gystal â'r flaenaf o ddarllen a roddwyd ger ei fron, er bod ugain mlynedd rhyngddynt, yr hyn a ddengys y lle uchel—a dwfn—oedd i'r llyfr yn ei feddwl a'i serch.
Ceisiodd wneuthur Athroniaeth yn llawforwyn nid yn unig i'w fywyd ysbrydol a moesol, ond hefyd i Ddiwinyddiaeth. Yr hyn a wnaeth oedd cario drosodd i faes yr olaf y gwirionedd o unrhywiaeth rhwng Duw a dyn oedd yn oblygedig yn ei ddelfryd ysbrydol, a'r syniadau o ddatblygiad ac angenrheidrwydd a ddysgodd gan Athroniaeth; ac ymladd yn erbyn yr elfennau oedd yn wrthwynebol iddynt yn yr hen ddiwinyddiaeth, sef yr elfennau o ddeddfoldeb, mympwyaeth a digwyddiad.
Nid oedd yn wrth—ddeddfol, ond ni chaniatâi mai perthynas yn dibynnu ar ddeddf allanol yw'r berthynas rhwng Duw a dyn, ac ar y llaw arall y mae lle i'r ddeddf yn nisgyblaeth dyn, "fel cwrs elfennol o addysg hollol angenrheidiol," ac eilwaith "fel cyfrwng i roddi ffurf i'n dyletswyddau tuag at Dduw a'n cyd—ddynion." Gwnâ i'w syniad o angenrheidrwydd estyn nid yn unig dros berthynas Duw a'r unigolyn, ond hefyd dros hanes i gyd. Y mae perthynas Duw â'r unigolyn yn cael ei llywodraethu, nid gan fympwy, ond gan " angenrheidrwydd cariad cyfiawn " sydd bob amser yn gyson ag ef ei hun, ac ar y llaw arall y mae ffydd yr unigolyn yn amod angenrheidiol cyfranogi o fywyd Duw, ac wedi iddo ddyfod i'r berthynas hon â Duw y mae'r effeithiau'n angenrheidiol. Y mae'r berthynas yn fwy bywydegol nag allanol—beiriannol; nid tincerwaith yw'r Iachawdwriaeth, ond cyfanwaith organig. Am y rheswm hwn ni ellir edrych ar yr Ymgnawdoliad—gwirionedd canolog hanes dyn—fel yn dibynnu ar y digwyddiad " o gwymp dyn. Y mae yna Achosaeth Ddwyfol, resymol, angenrheidiol yn rhedeg drwy'r bydysawd materol ac ysbrydol, a thrwy hanes i gyd, ac nid yw Datblygiad ond dull yr Achos anfeidrol yma o sylweddoli ei amcan yn hanesyddol.
Dyma'i gyfraniad mwyaf sylweddol a chadarnhaol (positive) i Ddiwinyddiaeth Gymreig. Ac y mae'n gyfraniad eithriadol bwysig gan ei fod yn ymwneuthur â phwynt canolog i ddiwinyddiaeth, sef natur Duw a'i berthynas â dyn a hanes. Ond buasai'n gyfraniad mwy gwerthfawr onibâi am gyfyngiadau syniadaeth wyddonol ac athronyddol yr oes. Nid oedd eisiau i Darwin, bid siŵr, fynd y tu cefn i ddatblygiad materyddol; ac er bod Hegel yn sôn am ysbryd ac ysbrydol, go brin y mae ei " angenrheidrwydd rhydd " ef yn caniatau lle i ryddid a pherson: y mae'r angenrheidrwydd yn unig yn fwy tyner"—"soft" chwedl William James—nag eiddo'r gwyddonydd. Ac yr oedd y syniad, rywsut, wedi mynd i awyrgylch diwinyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cawn ddysgedigion fel Dr. Gore, er enghraifft, yn ysgrifennu traethodau meithion i ddangos y medr Duw ateb gweddïau ar waethaf deddfau natur, er bod dynion yn ateb gweddïau eu plant a'u ffrindiau bob dydd ac awr, wrth eu drws. Yr oedd mwg Moderniaeth coeg—ddysgedig a rhyw bias materyddol yn rhwystro'r oes i weld bod dyn meidrol, drwy reswm ac ewyllys, yn cyson ddarostwng deddfau natur a'u gwneuthur yn iswasanaethgar i amcanion deallus—daionus neu ddrygionus; ac nad ar waethaf deddfau natur y sylweddola ei amcanion, ond trwyddynt! Ac os yw hyn yn wir am y meidrol, a yw'r Anfeidrol yn llai?
Cawn Adams, fel y gwelsom, yn mabwysiadu'r deffiniad o Ddatblygiad " fel cynnydd cyson, yn unol â deddfau neilltuol, a thrwy gyfrwng galluoedd arhosol yn y cread," ac, wrth gwrs, yn dyfod i helynt drwy geisio gwthio dyn, y sydd ar yr un pryd yn "greadur hollol ddibynnol ac yn "greawdwr ei gymeriad," ac felly yn fod cyfrifol, i mewn i'r fath system. Hyd yn oed mor ddiweddar â 1906, yn ei ysgrif ar " Y Diwygiad a rhai o'i gwestiynau," y mae tröedigaeth sydyn yn peri gofid iddo. Cydnebydd y "ffeithiau diamheuol." "Fel digwyddiadau I neu fel canlyniadau I, cywir yw edrych arnynt fel pethau sydyn ac heb ragbaratoad ar eu cyfer ar ran y dynion eu hunain." Ond I fod yna ail achosion," a "gall mai drwy gyfrwng isymwybyddiaeth dyn y gweithreda Duw."
Anodd i neb, wrth edrych ar bylor neu dynamite, fuasai dychmygu bod yn llechu ynddynt y fath nerthoedd ffrwydrol. Felly hefyd y mae nerthoedd ffrwydrol yn llechu yn natur ysbrydol dyn a all ei ysgytio ef ei hun, neu ysgytio cenedl gyd â nerth anorchfygol." Gwelir bias yr awdur fan hyn: ei bwnc yw "Y cynnydd graddol sydd yn nodweddu gyrfa pob bywyd o'r trychfilyn hyd at y sant Cristnogol pennaf," ond yr hyn y rhesyma yn ei erbyn yw achubiaeth ddigyfrwng. Bid siŵr, pan achubodd y ciwrad y plentyn rhag boddi, nid oes neb a wad nad oedd yn rhaid iddo gael gafael arno rywsut, rywle—yn ei law neu ei droed, ei wisg neu ei wallt, ond anodd gweld mai datblygiad graddol "ydoedd!
Yr ydym wedi sylwi eisoes nad yw'n ofalus i wahaniaethu rhwng datblygiad ysbrydol a datblygiad diwinyddol; ac yn rhy dueddol i gymryd yn ganiataol bod yna gynnydd graddol " yn y naill a'r llall, a bod gan bob oes fantais ar yr oes o'r blaen—yn ol hyd at Grist.
Heblaw ei ddelfryd ysbrydol a'i gyndybiau (preconceptions) athronyddol, y mae dau beth arall, llai pwysig efallai, i'w cadw mewn cof wrth ystyried ei safle a'i wasanaeth diwinyddol, sef y ffaith ei fod yn weinidog, ac iddo adweithio fwyaf ar ddiwinyddiaeth Cymru yn ystod y cyfnod "moesegol " o'i brofiad Cristnogol.
Y mae bod yn weinidog yn fantais ac yn anfantais i fod yn ddiwinydd. Tra y dygir pob gweinidog real i gyswllt â realiti, gall fod arwedd arbennig o realiti yn cael ei phwysleisio ar draul y gweddill, oblegid amgylchiadau lleol. Fel hyn, pan yw Adams yn condemnio "ffydd oddefol" Paul, "ffydd oddefol pobl gnawdol sir Aberteifi yw achos y camwri, ac fe glyw'r craff "hammer and tongs" y Cwrdd Holi'r Pwnc y tu ol i'r ymresymu i gyd. Ac felly am lawer " pwnc" arall.
Ac fel y dangoswyd yn flaenorol, nid oedd y Gristion llawndwf eto. I bob pwrpas ymarferol yr oedd erioed yn Armin selog, a chawsom ddifyrrwch lawer mewn ysmaldod ar ei safle, megis bod Darwin a Chalfin yn gefndryd os nad yn frodyr, a'i fod ef yn Armin drwy fabolaeth, ac yn Galfin drwy fabwysiad. Ond tybiai ef fod Darwiniaeth a Hegeliaeth yn ei alluogi i roddi lle i Dduw heb "fympwyaeth" Calfiniaeth—gyd â'r canlyniad, fel y gwelsom uchod, fod Duw fel gweithredydd yn cael ei golli yn angenrheidrwydd proses. Y mae effeithiau hyn i'w gweld yn ei ymdrin â phob pwynt—Pechod, yr Ymgnawdoliad, yr Iawn, Ffydd, etc. Y mae pob ymgais yn cael ei arfer i wneuthur i ffwrdd â Gras ac Achubiaeth ac Actau Duw Personol.
Gwelir ei ddiwinyddiaeth ddiweddaraf yn ei bregethau: gwahaniaetha yn bennaf mewn dau bwynt pwysig oddiwrth yr un sydd fwyaf adnabyddus i Gymru, sef (1) yn y lle canolog a rydd i ffydd a "chanfyddiad " ysbrydol ar ochr dyn; a'r lle (2) a rydd i Ras Duw—gyd â Gwirionedd fel gallu achubol. Yr ydym wedi rhoddi enghraifft o'i ymdriniad â'r pwynt blaenaf eisoes; rhoddwn yn awr fraslun o un o bregethau blwyddyn y Diwygiad sy'n pwysleisio'r ail yn yn bennaf. Y testun yw Ex. 1413,14:
(1). Yr oedd cyflwr moesol ein gwlad yn galw am waredigaeth ei hymroddiad i bleser a bydolrwydd, "a'i difaterwch ysbrydol—fel caethiwed yr Aifft.
(2). Y moddion i ddwyn Duw i gyfryngu oedd gweddïau'r bobl. Golyga gweddi ffyddiog a phur fod dyn yn ei osod ei hun yn gyfrwng i Dduw a nerth"oedd y byd ysbrydol weithio ynddo a thrwyddo: fel electric wire mewn cymundeb â ffynhonnell nerth anianyddol, neu ffynnon fechan mewn cyswllt â "reservoir tanddaearol dihysbydd.
(3). Gosododd y Diwygiad arbenigrwydd newydd ar gynllun arferol Duw o ddefnyddio cymeriadau mawrion yn gyfryngau gwaredigaeth i'w bobl: Moses, Paul, Luther, Wesley a Whitfield, David Morgan ac Evan Roberts.
(4). Ein diogelwch yn ein cynnydd—cerdded rhagom.
- (a). Yn anodd diddyfnu dynion oddiwrth yr Aifft.
- (b). Llwybr igam ogam yw taith bywyd ar y goreu.
- (c). O bwys rhoi gwaith i'r trôedigion: "Portha fy nefaid," etc.
Ni cheisiodd gysoni'r "gwaredigaethau" Dwyfol hyn â'i fuddiant meddyliol a moesol pennaf, sef " hawliau personoliaeth," oblegid mae'n rhaid inni gofio iddo ef fabwysiadu Hegeliaeth i fesur helaeth am fod "mympwyaeth" Calfiniaeth yn ymyrryd â'r hawliau hyn, hyd oni welodd fod ceisio noddfa i ryddid mewn Hegeliaeth fel rhoddi gofal yr ŵydd i'r cadno—i'w phluo a'i llyncu! Parhâi ei deimlad ynghylch personoliaeth Duw a dyn i ddwyshau hyd y diwedd. Teimlir y dwyster hwn yn ei ysgrif ar lyfr Syr Henry Jones ar "Ddinasyddiaeth (Efrydydd, Mehefin, 1921), a'i feias hynod yn erbyn galw Duw yn berson, drwy sôn am "Y Da," ""Y Rheswm Cyffredinol," etc., a thros alw'r Wladwriaeth yn berson moesol. Parai hyn boen mawr iddo; a chredwn iddo gael llawenydd cyfartal yn natganiad olaf yr athronydd hyglod mai Cariad sydd ar orsedd y bydysawd, a'i bod yn rhaid cael Person i garu!
Eto, er na chafodd y "ddiwinyddiaeth newydd " hon gyfleustra i wneuthur iddi ei hun gorff cyfaddas mewn cyfundrefn a llyfr i gyfoethogi'n llenyddiaeth ddiwinyddol, cydnebydd pawb diragfarn i'w gyfraniad ef i ddiwinyddiaeth Cymru fod yn un sylweddol a phwysig. Eto, dïau iddo wneuthur ei wasanaeth pennaf yn y maes hwn fel arloeswr neu flaengloddiwr yn mynd o flaen ei oes i dorri i lawr ganghennau a phrysgwydd oedd yn rhwystro cynnydd. Bu'r hen gyfundrefn o wasanaeth unwaith, ond teimlai llawer ei bod bellach yn fwy o rwystr nag o help; ac er na roddodd ef gyfundrefn ddigonol yn ei lle, rhwyddhaodd y ffordd i eraill. Yr oedd eisiau medr a menter mawr i wneuthur hyn, ac yr oedd y ddau ganddo ef.
XIX. DYLANWAD MR. ADAMS AR DDIWINYDDIAETH CYMRU.
GAN Y
PRIFATHRO T. REES, M.A., Ph.D.
YN ystod y ganrif ddiweddaf, cychwynnodd datblygiad newydd mewn diwinyddiacth, a olyga yn y pendraw chwyldroad llwyrach yn hanes meddwl crefyddol na dim a ddigwyddodd wedi ymddangos Iesu Grist. Ymryddhaodd Ef o hualau meddwl cyn—oesoedd Ei gylchfyd, a llefarodd yn eglur am y Tad a'r bywyd mabol fel profiad gwir a syml. Ond buan y syrthiodd Ei ddilynwyr yn ol o dan iau rhagdybiau meddyliol y byd cyn Crist, a gwnaed Cristnogaeth yn gyfundrefn o gredoau a dogmâu awdurdodol ac "anffaeledig," a gynhwysai fwy o ormes meddyliol yr hen fyd nag o'r " rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni." Am ddeunaw canrif, gosodwyd Cristnogaeth gerbron y byd fel cyfundrefn o ddogmâu anffaeledig, i'w derbyn ar awdurdod allanol, yn hytrach nag fel bywyd ac ysbryd i'w hadnabod a'u profi'n uniongyrchol. Y mae'n wir na lwyr fygwyd y profiad Cristnogol gan y gyfundrefn allanol, ar unrhyw adeg, hyd yn oed yn yr Oesoedd Canol. Ac yn y Diwygiad Protestanaidd, torrodd allan am dro yn llifeiriant grymus a addawai ysgubo ymaith yn llwyr yr holl gyfundrefn ddogmataidd a fygythiai ei lethu. Ond er i'r diwygwyr Protestanaidd eu plannu eu hunain a'u gwaith fel diwygwyr ar y profiad Cristnogol, a gwrthod honiadau mwyaf anghyfiawn y Babaeth fel awdurdod allanol, ni ddyfeisiasant unrhyw gyfundrefn na ffordd o feddwl a gweithredu a wnâi'r profiad Cristnogol yn sylwedd a safon gyffredinol a pharhaus gwirionedd a bywyd. Am hynny, llithrodd Protestaniaeth yn ol yn yr ail genhedlaeth i'r syniad mai cyfundrefn o ddogmâu o awdurdod allanol oedd Cristnogaeth.
Ond yn ystod y 19 ganrif daeth egwyddor y Diwygiad i weithrediad mwy rheolaidd a chyffredinol, gan ddwyn dogmâu a sefydliadau i braw ffaith a hanes. Gweithiodd yn arbennig ar hyd dwy linell Gwyddoniaeth a Hanesiaeth. Dysgasai Francis Bacon mai'r ffordd i adnabod ac esbonio natur oedd sylwi ar ei gweithrediadau hi ei hunan, ac nid gwau dychmygion amdani ar sail rhagfarnau traddodiadol. Yn ddiweddarach dygwyd yr un ysbryd i ymchwiliadau hanesyddol o bob math. Yn arbennig canfuwyd mai un amod anhepgor gwybod beth yw gwirionedd Cristnogaeth ydoedd mynd yn ol at ffeithiau ei hanes. Allan o'r ymchwiliad hwn y cododd beirniadaeth hanesyddol ar lenyddiaeth yr eglwys ac ar y Beibl. Diau y dyfeisiwyd llawer tyb na ddaliai'r praw, megis eiddo Strauss ac F. C. Baur, ond rhan oedd hynny o'r ymdrech a'r ymchwil am ben ffordd hanes. Ac yn raddol darganfuwyd prif linellau hanes crefydd yn yr Hen Destament a'r Testament Newydd, yn ogystal ag yn y Tadau bore, gyd a chymaint sicrwydd ag a ellir ei gael mewn hanes. Gwaith arafach a fu dwyn yr athrawiaethau Cristnogol wyneb yn wyneb â ffeithiau byd a bywyd fel eu dadlennir mewn gwyddoniaeth heddiw, a gwaith nad yw eto ond wedi ei ddechreu.
Er hynny, o ddyddiau Schleiermacher yn nechreu'r ganrif ddiweddaf i lawr, y mae'r ysbryd a'r dull gwyddonol wedi treiddio fwyfwy i ddiwinyddiaeth, a chydnabyddir heddiw nad oes sylfaen safadwy i athrawiaeth Gristnogol ond y profiad Cristnogol yn ei berthynas â phrofiad cyffredinol dynion o'r byd i gyd. Cychwynnodd y mudiadau hanesyddol a gwyddonol mewn diwinyddiaeth, felly, yn yr Almaen ryw ganrif a chwarter yn ol. Yn araf y treiddiasant i Loegr. Cyhoeddodd Dr. Samuel Davidson ei Introduction to the New Testament yn 1848-51.
Yn 1860 yr ymddangosodd Essays and Reviews, ac yn 1881 y cyhoeddodd W. Robertson Smith ei Old Testament in the Jewish Church. Ond fel y bu yn y Diwygiad Protestanaidd, yr oedd Cymru genhedlaeth ar ol Lloegr yn deffro i'r datguddiad newydd. Bu Dr. Rowland Williams (un o awduron Essays and Reviews) yn athro yn Llanbedr, ond ni wyddys i ddim o ddylanwad ei ddysgeidiaeth gyrraedd meddwl Cymru. Dysgai Dr. Vance Smith egwyddorion beirniadaeth Feiblaidd yng Nghaerfyrddin o 1876 ymlaen, a gadawodd argraff ryddfrydig ar feddyliau llawer o'i ddisgyblion, ond nid ymddangosodd dim o'i ddylanwad yn llenyddiaeth Cymru.
Cynrychiola Traethodau Diwinyddol Dr. Lewis Edwards y goreu o lenyddiaeth ddiwinyddol Cymru hyd drydedd chwarter y ganrif ddiweddaf, ond o ran dylanwad beirniadaeth a gwyddoniaeth arnynt, gallasent fod wedi eu hysgrifennu unrhyw adeg rhwng y ddeuddegfed a'r ddeunawfed ganrif, ag eithrio'r ymosodiadau ar Annibyniaeth.
Rhydd ychydig ddyfyniadau ohonynt inni syniad am y sefyllfa ddiwinyddol yng Nghymru, yn union cyn dyddiau Mr. Adams:
"Yr oedd yr Hen Destament yn ddadguddiad perffaith o Dduw yn Ei gyfiawnder a'i drugaredd yn Ei gyfiawnder fel Deddf—roddwr yn gofyn ufudd—dod, ac yn cosbi am anufudd—dod; ac yn ei drugaredd yn rhoddi hysbysrwydd mynych am drefn i faddeu, ynghyd ag arddangosiad trwy gysgodau pa fath oedd yr Iawn i fod—trwy yr hwn, cyn dyfod Crist yn y cnawd, yr oedd maddeuant o'r pechodau a wnaethid o'r blaen trwy ddioddefgarwch Duw." (t. 38—9).
Yr oedd "y pedair Efengyl yn berffaith gyson â'i gilydd" (t. 228). Ar ysbrydoliaeth y Beibl, daliai "fod cyfarwyddyd yr Ysbryd Glân yn cyrraedd nid yn unig at y meddyliau, ond hefyd at y geiriau." Ni chaniata "fod rhyw rannau o'r Ysgrythyr yn fwy ysbrydoledig na'r lleill" (t. 553). Mewn nodiad diweddarach ychwanega hefyd "nad yw erbyn hyn yn gweled cymaint o bwys yn ysbrydoliaeth y geiriau" (t. 567). Deil "nad yw y meddyliau mwyaf caredig am y natur ddynol yn cau allan yr athrawiaeth o'i hollol lygredigaeth" (t. 167). "Nid yw y Beibl yn gwneuthur yr un gwahaniaeth rhwng plant a rhai mewn oedran. . . . "Y mae lliaws o Ysgrythyrau penodol yn dangos fod pob oedran yn ddiwahaniaeth wedi syrthio yn yr un cwymp " (t. 168).
Y mae'r ddysgeidiaeth am y gwyrthiau mor beiriannol ag eiddo Paley:—
"Y mae (gwyrth) yn wahanol i drefn gyffredin y Creawdwr. Nid amlygiad newydd ydyw o rai o ddeddfau natur, ond digwyddiad sydd yn croesi holl ddeddfau "natur. . . Nid yn unig y mae pob gwyrth yn newidiad ar ddeddf y Creawdwr, ond y mae, wrth edrych arni yn ei chysylltiad â natur, yn gwrthdaro yn erbyn egwyddorion sylfaenol pob gwybodaeth naturiol yn ein meddyliau ni ein hunain " (t. 346).
Dyna ddigon i ddangos bod diwinyddiaeth Cymru, ar ei goreu, hyd dros ganol y ganrif ddiweddaf, heb deimlo un chwa o'r ysbryd gwyddonol a hanesyddol oedd yn deffro meddwl Ewrop i adnabyddiaeth newydd a llawnach o Dduw ac o'i fyd.
Ac yn wyneb y sefyllfa hon y mae'n briodol inni geisio barnu gwaith a dylanwad Mr. Adams ym maes diwinyddiaeth. Un anhawster heddiw i werthfawrogi ei lafur ydyw fod yr ysbryd newydd wedi dyfod i mewn i Gymru fel llanw'r môr yn ystod rhan olaf ei fywyd ef, ac i raddau mawr fel ffrwyth ei ymdrechion ef; a'r athrawiaethau "dieithr "a ddysgai ef unwaith, erbyn hyn yn rhai a dderbynnir yn gyffredin, a'r llanw wedi codi cyfuwch fel yr oedd yntau cyn diwedd ei oes yn un o geidwaid y ffydd." Ond er hynny, hyd y gwn i, efô oedd arloeswr yr ysbryd newydd yn niwinyddiaeth Cymru. Ped ysgrifenasai Dr. Thomas Charles Edwards fwy yn Gymraeg, dïau y buasai wedi dwyn y safbwyntiau newydd i amlygrwydd, a dïau hefyd bod Mr. Adams yn ddyledus iddo ef am ei ysbrydiaeth gyntaf. Ond yr Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid oedd unig gyfraniad Dr. T. C. Edwards i ddiwinyddiaeth Cymru, a'r unig "heresi " a allai fod yn hwnnw oedd nad Paul a ysgrifennodd y llyfr.
Ond wynebodd Mr. Adams o bryd i bryd ar y rhan fwyaf o broblemau byw diwinyddiaeth, a hynny gyd â meddwl rhydd, agored, na fynnai wasanaethu un amcan na buddiant ond y gwirionedd. Mewn un ystyr, nid oedd yn ddiwinydd o gwbl. Nis magwyd ef yn un o ysgolion y proffwydi." Efallai bod hynny wedi ei achub rhag cau pen ei fwdwl (chwedl yntau) yn rhy gynnar. Ond anfantais oedd y bu'n rhaid iddo ffeindio'i ffordd ei hunan i gyd ym maes diwinyddiaeth. Nid oedd yn agos mor gyfarwydd â hanes diwinyddiaeth, a'i disgyblaeth hanesyddol, ag oedd ym maes athroniaeth. Ei duedd, gan hynny, oedd wynebu problemau diwinyddiaeth fel athronydd yn hytrach nag fel diwinydd, ac ymresymu oddiar ychydig gynseiliau cyffredinol yn hytrach na cherdded yn araf a gofalus trwy holl fanylion hanes profiad ac athrawiaeth grefyddol. Ac am hynny hefyd bu'n fwy llwyddiannus yn cymhwyso egwyddorion gwyddonol y byd newydd at broblemau diwinyddiaeth nag y bu yn defnyddio beirniadaeth ac yn olrhain hanes.
I
Ei lyfr cyntaf oedd Traethawd ar Ddatblygiad[14] yn ei berthynas a'r Cwymp, yr Ymgnawdoliad a'r Adgyfodiad. Efallai mai gwell fuasai bod Mr. Adams wedi dewis ei destun ei hunan, ond efallai hefyd fod cefnogaeth pwyllgor eisteddfod yn help y pryd hwnnw i fentro ar faes mor newydd i Gymru â pherthynas Datblygiad a Chrefydd. Yr oedd dysgeidiaeth Darwin wedi bod gerbron y byd, fel dysgeidiaeth wyddonol, yn ymdrin â chwrs y byd allanol, am genhedlaeth gyfan, eithr ychydig iawn a ddywedasai ef am ei pherthynas â chwestiynau moes a chrefydd. Ond yr oedd Herbert Spencer, T. H. Huxley, Haeckel, ac eraill, wedi tynnu casgliadau oddiwrth athrawiaeth Datblygiad a dueddai i wanychu awdurdod a gwerth moes a chrefydd, os nad i'w ddileu. Mewn gwrthgyferbyniad, mynnai llawer o amddiffynwyr crefydd felly nad oedd dim i'w wneuthur ond gwrthod athrawiaeth Datblygiad, neu o leiaf wadu bod dim a fynnai hi â bywyd ysbrydol dyn. Ond cystal fuasai ceisio atal llanw'r môr ag ysgubell gawn. Yr oedd rhai ysgrifenwyr Saesneg, megis A. M. Fairbairn a'r brodyr Caird, wedi wynebu'r ffeithiau, a chanfod mai gosod y bywyd ysbrydol mewn goleu cliriach a wnâi athrawiaeth Datblygiad, yn hytrach na'i ddileu. Ond yn 1899 y cyhoeddodd James Ward ei Naturalism and Agnosticism, a roddodd derfyn ar y dyb fod gwyddoniaeth yn nhermau Datblygiad yn cau allan Dduw a byd ysbrydol. Felly ymunodd Mr. Adams â mintai gyntaf y rhai na fynnai osgoi'r broblem na llechu mewn deuoliaeth a adawai fyd crefydd a byd gwyddoniaeth ar wahân, ond a gredai fod y byd yn un gyfundrefn resymol, ac y gellid cysoni tystiolaeth y profiad crefyddol â ffeithiau gwyddoniaeth. Yn y cyfnod hwn yr oedd ei hyder yn ddiderfyn yn hawl a gallu rheswm i fod yn gyfrwng datguddiad y gwirionedd, ac i wasanaethu'r bywyd crefyddol.
Un yw gwirionedd yn ei darddiad dwyfol. Mae pob gwirionedd yn y diriogaeth ddiwinyddol yn gyson â gwirioneddau diamheuol gwyddoniaeth ac athroniaeth" (Datblygiad 31).
Ni phetrusa, gan hynny, dderbyn ffeithiau profedig gwyddoniaeth, ac fe dderbyn athrawiaeth Datblygiad "fel eglurhad lled foddhaol" ar ddull a modd (ond nid ar achos) y byd a phopeth y sydd ynddo. Eithr cred hefyd "y gellir cael tir canol, lle y caniateir i ddyn gyd â chysondeb rhesymegol ddal gafael yn nysgeidiaeth y Beibl, ac eto fabwysiadu gwirioneddau profedig 'Datblygiad,' tra'n edrych ar y ddamcaniaeth o safbwynt Ddwyfyddol (Theistic)." (ib. 21). Y pwnc pwysig ydyw, nid pa fodd y daeth dyn i fod yr hyn ydyw, ond ei fod yn awr yn' greadur byw, ymwybodol, rhesymol, moesol ac ysbrydol, yr hyn a ragdybia weithrediad Duw ym mhob peth.
Gwrthyd, felly, syniadau datblygwyr materol a wnâi natur foesol dyn, ei rinwedd a'i bechod, yn gynnyrch ei gylchfyd yn gweithio ar ei deimladau hunanol. A deil fod athrawiaeth draddodiadol y Cwymp yn fwy cyson â datblygiad materol ac â'r syniad "nad yw dyn ond anifail o rywogaeth uchel," nag ag unrhyw syniad ysbrydol neu ddelfrydol am ddynoliaeth. Mabwysiada yntau athrawiaeth Datblygiad ond yn nhermau Delfrydiaeth, fel y ffurf ar dyfiant graddol natur foesol ac ysbrydol dyn, o lefel yr anifail i lefel y dwyfol, a gwêl y Cwymp fel un o amodau'r Esgyniad, ac esbonia'r hyn a elwir yn hanes y Cwymp yn ffigyrol neu allegol, "fel cynnyrch awen ysbrydoledig Moses, neu ryw fardd Hebreig arall." Mewn gwirionedd, priodola i Moses gyfundrefn o syniadau a ddengys fwy o ol dylanwad Hegel na neb arall. Gwrthyd y syniad (nas dysgir yn Genesis) fod Adda wedi ei greu yn berffaith mewn deall a chymeriad, am y rheswm da na cheir cymeriad moesol ond trwy arfer rhyddid a dewis mewn gweithrediad moesol. "Gwaith dyn yn dihuno o gwsg y bywyd anifeilaidd i ymwybyddiaeth o'r elfen ddwyfol ac anfeidrol sydd hefyd ynddo " (ib. 42) a grea amodau pechod a chwymp. Brwydr yw pechod, yn gyntaf rhwng nwydau dyn a'i reswm, rhwng yr anifail a'r dwyfol yn ei natur; ond yn ail, brwydr ydyw o fewn personoliaeth a fedd ewyllys rydd, a honno'n gwrthryfela yn erbyn awdurdod briodol Duw. Ac y mae dyn yn byw o dan amodau a bair" fod gwneuthur camgymeriadau a dangos ffolinebau a chyflawni pechodau yn canlyn ei nodweddion cyfansoddiadol megis o angenrheidrwydd " (ib. 47). Yr oedd yr hyn a gamenwir yn Gwymp' yn foddion angenrheidiol, yn gam ar i fyny, yr oedd yn rhaid i ddyn ei gymryd er dechreu sylweddoli y posibilrwydd o fai a rhinwedd oedd yn gorwedd yn gudd yn ei natur " (ib. 64). Gwrthodir athrawiaethau'r " Llwgr Gwreiddiol "a" Chyfrifiad" deddfol o bechod Adda i'w hiliogaeth, am eu bod yn gwneuthur pechod yn beth rhy beiriannol ac allanol, ac am y gwnânt gam â phersonoliaeth foesol a rhyddid ewyllys dyn. Cyfrifir am lygredd a dioddefaint cyffredinol dynion mewn rhan fel effaith undeb organaidd y teulu, ac mewn rhan fel disgyblaeth Duw ar ddyn i'w berffeithio. Er y gosodir pwys mawr ar ryddid yr ewyllys, cyfrifoldeb personol, a drwg pechod, gwendid y rhan hon o'r athrawiaeth, er hynny, ydyw ei thuedd i wneuthur pechod yn rhan o gwrs angenrheidiol Datblygiad. Ni chedwir yn glir y gwahaniaeth rhwng amodau posibilrwydd pechod a phechod ei hunan. Dïau y gorwedd posibilrwydd cwymp a phechod yn natur foesol dyn, ac y deilliant yn y gwraidd o natur ysbrydol Duw, ond nid y cwymp a phechod ei hunan neu ynteu peidiai â bod yn bechod. Cario'r syniad o unoliaeth a datblygiad cyson yn rhy bell oedd gosod y Cwymp ar yr un tir â'r Ymgnawdoliad fel cwrs angenrheidiol datblygiad y bywyd ysbrydol. "Ceisiasom wneuthur i ffwrdd â'r syniad o ddigwyddiad (contingency) ynglŷn â'r Cwymp ac â'r Ymgnawdoliad, a dwyn i mewn angenrheidrwydd hanfodol yn ei le." Brwydro yn erbyn Calfiniaeth y mae, a dymchweliad y syniad o Benarglwyddiaeth Duw fel Brenin " a gorseddu yn ei le "Angenrheidrwydd moesol Cariad cyfiawn Tad" (ib. 95). Y mae'n haws gosod hunan—ddatguddiad Duw a'r Ymgnawdoliad, a byw a marw Iesu Grist yn nhermau'r fath angenrheidrwydd, na pheth mor groes i ewyllys a bwriad Duw ag yw pechod.
Mabwysiada'r athrawiaeth Hegelaidd am y Drindod yn gyflawn:
"Y mae Hanfod Duw fel Ysbryd Anfeidrol yn rhagdybied gwahaniaethau o angenrheidrwydd yn yr "Hanfod Ddwyfol . . . Y mae Hanfod Duw fel Ysbryd, sydd yn ei gael ei hun yn arall, neu fel Cariad, a fyn fynd allan o hono ei hun i arall, yn golygu fod yna "wahaniaethau cymeriadol yn ffurfio Trindod erioed ac o angenrheidrwydd . . . Y mae y syniad o Dad a Mab, ac Ysbryd Glân yn deillio o'r ddau, yn gyfrwng cymundeb rhyngddynt, a thrwy hynny yn gwneuthur cymdeithas yn bosibl, yn ganlyniad anocheladwy y perffeithrwydd sydd yn anwahanol gysylltiedig â'n syniad am Dduw " (ib. 91).
Felly, hefyd, y mae'r Ymgnawdoliad yn gynnyrch naturiol hunan—ddatguddiad Duw. "Os yw y cread yn ddatguddiad o fywyd Duw, yna y mae Ei ymgnawdoliad yn Iesu yn gwbl naturiol" (ib. 75). Gwâd y dibynnai'r Ymgnawdoliad ar y Cwymp, neu "mai anghenion llywodraeth foesol Duw ar y byd a alwodd am yr Ymgnawdoliad er galluogi Iesu i farw yn Iawn dros bechodau dynion " (ib. 90). Yn hytrach yr oedd yn rhaid i gariad Duw ymgnawdoli i'w sylweddoli ei hunan, ac ni wnaeth pechod ond cryfhau'r angenrheidrwydd, fel y gallai'r cariad hefyd achub dynion trwy ei ddylanwad moesol arnynt a'i ddatguddiad iddynt. Pwysleisir bod "dirgelwch anolrheiniadwy" ynglŷn â'r 'Iawn' ac â pherthynas y Tad a'r Mab,
Ond gallwn yn hawdd ddeall fod yr Ymgnawdoliad yn Iesu, o ran Ei fywyd a'i farwolaeth, yn rhoddi bodlonrwydd (satisfaction) i Dduw, nid yn gymaint yn y cymeriad o Frenin yn cynrychioli hawliau cyfiawnder dialeddol, ond yn y cymeriad o Gariad Cyfiawn yn Dad a Brenin,—pan oedd yn gweld ei Sant Fab Iesu yn sylweddoli posibilrwydd eithaf y natur ddynol . . . yn llawn ddatguddio natur hanfodol y Duwdod fel Cariad Cyfiawn" (ib. 94).
Swm athrawiaeth Datblygiad, gan hynny, yw bod gweithgarwch Duw yn y cread yn codi'n gyson a difwlch o radd i radd o fywyd, nes cyrraedd ei ffurf uchaf, perffeithrwydd moesol, ym mywyd Iesu o Nasareth (ib. 100). Nid yw'n anodd ar y tir hwn felly ddangos yr angenrheidrwydd am anfarwoldeb dyn. Y mae ei werth anfeidrol fel delw Duw ac amcan terfynol y cread yn hawlio gan gariad a gallu Duw ei fod i barhau am dragwyddoldeb i sylweddoli ei ddelfrydau a'i ddyheadau. Ond pa le ac ystyr y sydd i farw yn y fath gyfundrefn â hon? Ymddengys bod yn rhaid i ddyn wrth gorff cyfaddas i fod yn gyfrwng gweithrediad ei ysbryd, nid yn unig yn y bywyd presennol, ond hefyd yn ei fywyd anfarwol. A dengys atgyfodiad Crist fel y trawsffurfir y corff materol trwy farw yn gorff ysbrydol a fydd yn gyfrwng addas y bywyd anfarwol. Felly "nid yw marw ond telerau y rhaid cydymffurfio â hwy er sicrhau gweithgarwch y bywyd sydd ynom mewn ffurf newydd a rhagorach" (ib. 119).
Yn ei ddamcaniaeth am y corff ysbrydol" gedy'r gwyddonwyr a'r athronwyr ar ol, a thybiaf y gwelir yma dipyn o ddylanwad Swedenborg. Yng nghyfnod Hawen, daeth i gydnabyddiaeth â syniadau'r cyfrinydd hwnnw trwy ei gyfeillgarwch â'r Parch. William Rees, Llechryd. Ond nid oedd hynny ond cario gam ymhellach y duedd a ddaethai iddo o ddelfrydiaeth Hegel i droi popethpechod, drwg a marw—yn agwedd ar ddatblygiad rheswm. Tuedd naturiol Mr. Adams, a dylanwad ei draddodiadau Annibynnol, fuasai pwysleisio'r unigol, yr amrywiol, rhyddid a phersonoliaeth, a hynny a wnâ mewn llawer brawddeg, ond yn y cyfnod hwn Hegel a orfu, ac ar y cyfan datblygiad hanfodol, angenrheidiol, llyfn a chyson rheswm yw ei gyfundrefn ddiwinyddol (ib. 70—71). Cyn diwedd ei oes, fel y cawn weld eto, mynnodd yr elfennau eraill fwy o le.
Ond diddordeb pennaf y ddysgeidiaeth hon heddiw yw, nid ei newydd—deb na'i digonolrwydd, ond y dengys fod Mr. Adams wedi ennill iddo'i hunan, ac i Gymru, safbwynt annibynnol, rhydd o gaethiwed traddodiadau, i ail feddwl a dehongli ystyr Cristnogaeth mewn termau cyfaddas i'w oes. Gwaredodd grefyddwyr Cymru rhag y dychryn bod cynnydd gwyddoniaeth a lledaeniad athrawiaeth Datblygiad yn bygwth sylfeini Cristnogaeth. Dangosodd i'r oes newydd nad oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng Cristnogaeth a diwylliant. Agorodd i'r diwinyddion y ffordd i holl faes gwybodaeth, a dangosodd iddynt fod holl arfau byd y meddwl at eu gwasanaeth. I'r rhai a'i dilynodd, enillodd yn ol oddiar anwybodaeth, rhagfarn a chaethiwed traddodiadau, ddarn helaeth o etifeddiaeth y gwirionedd y sydd yn rhyddhau.
II.
Rhagdybiai'r holl ddysgeidiaeth hon wrthod yr athrawiaeth draddodiadol am ysbrydoliaeth lythrennol ac anffaeledig y Beibl. Beirniedir a dehonglir y Beibl o safbwynt yr athroniaeth am wirionedd Cristnogaeth yn nhermau Datblygiad. Yn y traethawd ar "Ddatblygiad " cyfeiria droeon at yr anhawster i gymryd y Beibl—ac yn arbennig yr hanes am y Cwymp yn Genesis—yn llythrennol. Ar yr un pryd, credai fod y gwirionedd yn ei ffurf derfynol yn y Beibl, ond "torri trwy y llythyren at yr ysbryd sydd yn disgleirio yn ei santeiddiolaf " (t. 93). Ei duedd yw syrthio'n ol ar hen ddull Alecsandria o esbonio'r Beibl fel alegori neu farddoniaeth.
"Pan fyddom yn datgan amheuaeth o wirionedd llythrennol y darluniadau uchod (o'r atgyfodiad) a'u cyffelyb, y mae perigl i'r anochelgar dynnu y casgliad ein bod yn gwrthod y Beibl fel llyfr ysbrydoledig, ac yn priodoli anwybodaeth neu gyfeiliornad gwirfoddol i'w ysgrifenwyr. Yr ydym droeon yn y traethawd hwn wedi rhoddi y darllenydd ar ei ocheliad i wahaniaethu rhwng gwirionedd barddoniaeth neu arwyddluniaeth ar un llaw, a gwirionedd ffaith hanesyddol ar y llaw arall" (t. 125).
Nid oes yn hyn un arwydd ei fod eto wedi sylweddoli dim o ystyr egwyddorion beirniadaeth hanesyddol. Ni welsai fod y Beibl yn gynnyrch llenyddol ei oes a'i gylchfyd o ran ei ystyr yn ogystal â'i ffurf, a bod datblygiad hanesyddol yn y syniadau a gyfleir ynddo.
Yn ei lyfr nesaf, Paul yng ngoleuni'r Iesu, a gyhoeddwyd yn 1897, gwelir ei fod wedi wynebu rhai o broblemau beirniadaeth, nid gyd â manylder yr hanesydd eto, ond fel yr oedd a wnelent â gwirionedd y prif athrawiaethau Cristnogol. Anturia'n awr godi'r cwestiwn "A oes yma awdurdodau uwch yn bod na'r ysgrifeniadau (sef epistolau Paul) y ceisir eu beirniadu ac yr amheuir cywirdeb rhannol eu dysgeidiaeth?" (t. 9). Ac atebir "fod yn bosibl i Ysbryd y Gwirionedd gario Datguddiad i fwy o gywirdeb a chyflawnedd eto, a hynny drwy gymorth y Beibl a'r Eglwys i'r graddau y maent o ran eu gwirioneddau a'u hysbryd yn gorfforedig yn mywydau Cristionogion y cyfnodau diweddar hyn " (t. 24). Braidd yn anghyson â'r awgrym o gynnydd parhaus datguddiad yw'r safon gwirionedd a fabwysiedir, sef myned "yn ol heibio'r Apostolion eu hunain at Iesu ei Hun, Ffynhonnell ysbrydoliaeth pob athro a sant, ac apostol " (t. 37). Ac y mae'n eglur mai Crist yr Efengylau, Crist hanes a olyga. Y mae rhagoriaeth y datguddiad trwy Iesu Grist ar eiddo Paul i'w briodoli i ragoriaeth person Crist. Y mae " gwirioneddau datguddiedig yn tyfu, megis o ddaear cymeriad moesol y proffwyd neu'r apostol, yn hytrach na chael eu tywallt iddo fel dwfr i lestr " (t. 52). Ac y mae natur foesol berffaith Iesu Grist " yn medru adlewyrchu gwirioneddau o barthed i'r natur Ddwyfol a'r natur ddynol gyd â mwy o gywirdeb nag y gallai cymeriad arall llai perffaith ei wneuthur " (t. 54).
Ar y sail hon aiff y llyfr yn ei flaen i feirniadu dysgeidiaeth Paul yn lled-lym; ei ddull Rabinaidd o esbonio'r Hen Destament; anghysondeb ei ddysgeidiaeth am y ddeddf, yn cydnabod ei gwerth yn yr Epistol at y Rhufeiniaid, ond yn y ddadl â'r Galatiaid yn colli golwg ar ei gwasanaeth fel athro at Grist; ei syniad isel am y rhyw fenywaidd; ei ddysgeidiaeth o barthed i awdurdod ddwyfol brenhinoedd; deuoliaeth cnawd ac ysbryd a llygredigaeth hollol y pechod gwreiddiol; cyfrifiad pechod a haeddiant; y syniad camarweiniol fod marwolaeth naturiol yn ffrwyth pechod Adda; penarglwyddiaeth ddiamodol Duw; mabwysiad cyfreithiol; ffydd oddefol a chyfiawnhad deddfol; a'r athrawiaeth ddirprwyol a masnachol am yr Iawn.
Dïau y cytunai efrydwyr y Testament Newydd heddiw fod y rhan fwyaf o'r feirniadaeth hon ar syniadau Paul yn gywir ar y cyfan. Ond nid rhyfedd ychwaith oedd i'r llyfr godi tipyn o storm pan gyhoeddwyd ef. Yr oedd yn her i lawer o athrawiaethau traddodiadol, ac i'r syniad cyffredin am awdurdod allanol y Beibl. Cododd hefyd dipyn o annealltwriaeth o ddiffyg yn y llyfr ei hunan. Ni wahaniaetha'n glir a manwl rhwng dysgeidiaeth Paul a'r camddefnydd a wnaethai diwinyddion diweddarach ohoni. Ac yr oedd y feirniadaeth bron yn hollol negyddol, heb nemor ddim ymgais i werthfawrogi gwasanaeth digymar Paul i feddwl a bywyd yr eglwys. A chodai'r diffygion hyn o fod yr awdur wedi dyfod at ei waith fel rhesymegwr heb fod ganddo ond ychydig o ymwybyddiaeth yr hanesydd. Geilw Baul gerbron llys barn a syniadau diwedd y 19 ganrif, yn hytrach na cheisio'i ddeall yn ei le a'i gysylltiadau ym mywyd y ganrif gyntaf. Yr oedd y llyfr yn dra diffygiol fel dehongliad o'r Apostol; yr oedd yn debycach i feirniadaeth eisteddfod na gwerthfawrogiad hanesyddol o un o bersonau creadigol bywyd yr Eglwys. Ond cyflawnodd wasanaeth pwysicach nag esbonio Paul. Torrodd yn ganddryll, y tuhwnt i adferiad, yr athrawiaethau traddodiadol am awdurdod allanol, beiriannol llythyren y Beibl, hyd yn oed ysgrifeniadau Paul. Bu llawer o feirniadu ar y llyfr, ac yr oedd yn agored i feirniadaeth, ond ni chynhygiai neb mwyach adfer awdurdod anffaeledig na llyfr nac athrawiaeth dros ysbryd dyn yn ei berthynas â Duw. Bu'n rhaid i grefyddwyr Cymru o hyn allan chwilio am awdurdod crefyddol grymusach ac effeithiolach ym mherthynas fywiol Crist â'u hysbryd oddimewn. Yn ei lyfr diweddaf, Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar (Merthyr Tydfil, 1914), symuda Mr. Adams yn eglur trwy Grist hanes at y Crist byw, mewnol, fel sylfaen ac awdurdod bywyd parhaus yr eglwys. "Ar y gred fod yr Iesu yn Grist, Mab y Duw byw, a bod ffydd ynddo yn Ei ddwyn trwy ei Lân Ysbryd i breswylio'n weithgar ymhob credadun—ar y gyffes hon, ar y profiad personol hwn, fel ar graig sefydlog a chadarn, y sefydlir yr Eglwys Gristnogol (tt. 52—3).
III.
Yr oedd datblygiad meddwl Mr. Adams yn ei gyfnod diweddaf yn enghraifft dda o'r dywediad mai'r galon a wnâ'r diwinydd. Er cryfed ei alluoedd rhesymegol, er cymaint ei ddiddordeb mewn gwybodaeth fel y cyfryw, ac er dyfned yr argraff a wnaeth yr athroniaeth Hegelaidd arno yn nechreu'i oes, nodwedd arbenicaf ei feddwl a'i ysbryd oedd ei angerdd moesol. Ei sêl dros sobrwydd a phurdeb, dros gyfiawnder a chariad ymarferol, oedd nodwedd amlycaf ei bregethu ar hyd ei oes. Daw'r un egwyddor i'r golwg fwyfwy yn ei ysgrifeniadau. Gwraidd ei elyniaeth anghymodlawn yn erbyn Calfiniaeth, Penarglwyddiaeth, Cyfrifiad, Iawn dyhuddol, Cyfiawnhad deddfol, oedd ei ofn eu bod yn torri o dan seiliau moesoldeb, yn dinistrio cyfrifoldeb personol dyn a hawliau moesol Duw arno, ac yn gosod ffugwedd (make—believe) yn eu lle (Paul, t. 209). Yr elfen foesol a benderfynodd natur ei lyfrau diweddaraf, ac a roddodd gyfeiriad i ddatblygiad ei feddwl yn ei gyfnod olaf.
Nodais yn barod y rhedai anian naturiol a thraddodiadau crefyddol Mr. Adams yn groes i'r athroniaeth Hegelaidd a ddylanwadodd yn fawr ar ei feddwl yn ei gyfnod cyntaf, ac a dueddai i osod byd a bywyd oll yn nhermau rheswm unffurf a chyffredinol, heb adael lle digonol i unigoliaeth ac amrywiaeth, rhyddid ac arbenigrwydd natur dyn. Yn ei lyfrau cyntaf, yn wir, ceir aml brotest yn erbyn yr athrawiaethau Calfinaidd, oherwydd y diystyrent bersonoliaeth a rhyddid dyn. Rhaid oedd i ddyn ddatblygu'n fôd moesol, oblegid "rhoddir eu cymeriad moesol fel da neu ddrwg i weithredoedd am eu bod yn gynnyrch ewyllysiadau bôd hunanymwybyddol yn meddu ar allu i roddi dechreu neu gychwyn i'w weithgarwch" (Datblygiad, t. 43). Drachefn, "Os yw Paul, fel y credir gan lawer, yn anwybyddu gormod ar hawliau cysegredig personoliaeth yr unigolyn ynglŷn â chyfrifiad trosedd Adda i'w hiliogaeth, ni all ei ddamcaniaeth ar y pwnc fod yn derfynol, arhosol ac anghyfnewidiol (Paul, etc., t. 120). "Os yw 'Paul ynglŷn ag athrawiaeth Penarglwyddiaeth Duw yn ymarferol yn ysbeilio dyn o'i ryddid personol, ni all ei ddysgeidiaeth fod yn derfynol, am nad yw ar y goreu ond gwirionedd rhannol yn unig' (ib t. 157). Ceir yr un pwyslais yn fwy pendant, ac yn asgwrn cefn llawer o'i ymresymiad yn ei lyfr diweddarach ar Foeseg Cristionogol (Dolgellau, 1901). Beirniada'r systemau Groegaidd am na
"roddid yr arbenigrwydd dyladwy ar yr ewyllys fel y gallu llywodraethol, ac fel y nodwedd fwyaf hanfodol i ffurfio cymeriad a chyfrifoldeb personol am dano. Am na chydnabyddant ddyn fel rhydd—ewyllysydd yr oedd eu moeseg o angenrheidrwydd yn anghyflawn a chamarweiniol. Rhoddent o ganlyniad fwy o arbenigrwydd nag a ddylid ar ddirnadaeth gywir a myfyrdod (contemplation) y doethor, gan anwybyddu "ormod ar y syniad fod daioni pennaf dyn fel y cyfryw yn gynwysedig mewn ewyllysio'n dda a gweithredu'n dda" (t. 17—18).
O'r tu arall, rhagoriaeth moesoldeb Cristnogol ydyw bod ei ddelfryd yn berson ysbrydoledig yn meddu ar berffeithrwydd moesol, ac mewn canlyniad y meithrina ryddid a phersonoliaeth dyn.
"Os yw yn blentyn i Dduw, mae'n rhaid fod dyn, fel ei nefol Dad, yn meddu ar bersonoliaeth—yn berchen ar ewyllys a hunanymwybyddiaeth yn achos rhydd ei weithredoedd. Hyn sydd yn cyfansoddi mawredd meddyliol a moesol dyn. Mawredd dyn fel "bôd personol moesol rydd sydd yn gwneuthur pechod yn beth posibl yn ei hanes" (t. 68—71).
Yng nghyfnod olaf ei oes, daeth Mr. Adams o dan ddylanwadau a symudodd bwyslais ei feddwl fwyfwy oddiar y deall, ac a'i canolbwyntiodd ar ochr weithredol profiad. Ar y naill law, gwnaeth diwygiad crefyddol 1904—5 argraff ddofn ar ei feddwl, a'i tueddai i osod mwy o werth nag a wnaethai ar elfennau a galluoedd uniongyrchol yn y profiad na ellid yn hawdd eu holrhain i weithrediad rheswm na'u cynghaneddu mewn cyfundrefn resymol. O'r tu arall, daeth o dan ddylanwad syniadau athronyddol William James a Bergson, a phwyslais y naill ar yr ewyllys, y gweithredol a'r ymarferol, fel gwirionedd bywyd, a phwyslais y llall ar ryw fewnwelediad uniongyrchol fel cyfrwng rhagorach na'r deall i ganfod y gwirionedd.
Yn gyson â'r datblygiad hwn yn ei syniadau, yr oedd llyfr olaf Mr. Adams, Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar, o natur lawer mwy ymarferol na'i rai blaenorol. Dechreua gyd â gwirioneddau mwyaf cyffredinol crefydd, ond prif amcan y llyfr yw cymhwyso egwyddorion crefydd at ofynion ymarferol y dydd. Yn anffodus, torrodd y rhyfel allan cyn iddo gael cyfle i wneuthur nemor argraff ar feddwl y wlad. Ond yn y llyfr hwn ceisia am seiliau ei genadwri, nid yn y Rheswm dwyfol, ond ym mhrofiad ymarferol dynion. Difynna braw William James o fodolaeth Duw: "Yr wyf fi yn credu yn Nuw, nid am fod gennyf brofiad personol o'i bresenoldeb ynof, ond am fod arnaf Ei angen.
Mae'n rhaid o ganlyniad fod fy nghred ynddo yn wir." Eddyf mai dyma'r unig fath o braw a gaiff dyn ar y cychwyn, ond bod gwell yn bosibl. Medd Duw, "Gweithreda ar y dybiaeth fy mod i yn bodoli, a thi a gei sicrwydd fod y dyb yn gywir " (t. 17). Ac yng nghymhwysiad egwyddorion Cristnogaeth at anghenion yr oes, yr arwyddair llywodraethol yw cydnabod hawliau personoliaeth a rhyddid. "Cyn sicred â bod cenhedloedd yn ymwrthod â theyrnaid arglwyddaidd a gormesol, ac yn mabwysiadu llywodraeth fwy gwerinol, y mae deiliaid moes a chrefydd yn gwrthod llywodraeth unbenaethol Duw ac angenrheidrwydd Tynged, ac yn mynnu hawlio eu rhan yn llywodraethiad y cread moesol. Mae'n rhaid i hawliau personoliaeth a rhyddid gael eu cydnabod. Y mae llwyddiant Cristnogaeth yn anwahanol gysylltiedig â hwy (t. 141). Ac yn wyneb problemau cymdeithasol yr oes, a'r gofyn am i'r Llywodraeth gyfryngu ar ran y tlawd a'r gwan, a thra y cydnebydd undeb organaidd dynion â'i gilydd, "Cenadwri fawr yr Eglwys yw pwysleisio yr angen am ddiwygiad moesol yng nghymeriadau dynion yn ogystal â diwygiadau yn eu cylchfyd fel amod gwir a pharhaol ddyrchafiad gwerin a bonedd pob cenedl " (t. 191). Bellach yr ewyllys rydd a da yw Alffa ac Omega bywyd.
Mewn ysgrif yn Y Dysgedydd (Hydref, 1919) yn beirniadu ysgrif gennyf fi ar "Hawliau'r Deall," aeth gam ymhellach fyth oddiwrth Resymoliaeth, a gosododd holl elfennau direswm[15] profiad ar yr un tir â'r rheswm, os nad uwchlaw iddo. "Mae gwreiddiau bodolaeth dyn yn ei reddfau hunanweithredol, yn ei deimladau a'i ddyheadau, ac yn blaenori ei reswm. Denir dyn rhagddo gan ddelfrydau na chenhedlwyd mohonynt gan ei reswm, ond a brofant eu tarddiad dwyfol yn y profiad eu bod yn sylweddoliad o bósibiliadau goreu y natur ddynol " (t. 295). "Y mae'r meddwl dynol, fel cymdeithas yn ein dyddiau ni, yn rhy werinol i ganiatau hawl y Rheswm i deyrnasu dros ei elfennau eraill" (t. 296). "Prin y cydnabyddir fod yng ngalluoedd deallol y meddwl gyfaddaster i eistedd mewn barn ar werth cymharol y satisfactions y gelwir amdanynt. Ai nid mewnwelediad (intuition), yn hytrach na rheswm dyn, sydd yn barnu beth sydd brydferth? Mae'r sant yn arogli perarogl santeiddrwydd a drycsawr pechod heb ymresymu o gwbl yn eu cylch " (t. 297). Y mae'r syniadau hyn gryn bellter oddiwrth yr athrawiaeth bod "y cread yn gynnyrch syniadaeth ac yn gorfforiad o Reswm Duw " (Datblygiad, t. 70). Gall eu bod hefyd yn nês i'r gwirionedd, neu o leiaf bod angen cyfuno'r ddau safbwynt i gael y gwirionedd. Ond yr hyn sy'n fwy diddorol a gwerthfawr ydyw eu bod yn dangos meddwl â'i ffenestri o hyd yn agored tuag at y goleuni, ac yn dal o ddifrif i chwilio am y gwirionedd. Dyma ystyr bennaf Mr. Adams yn hanes diwinyddiaeth yng Nghymru. Mynnodd ymysgwyd yn rhydd oddiwrth bob caethiwed traddodiad a rhagfarn, a chwilio'n syml am y gwirionedd. Llafuriodd yn ddibaid a diarbed i feddiannu holl gyfryngau gwybodaeth, a cherdded pob llwybr a fyddai'n debig o arwain i'r gwirionedd. Eisteddodd wrth draed pob athro newydd, a rhoddodd wrandawiad a chydymdeimlad i bob awgrym a gynhwysai belydryn o'r goleuni. Ni chaeodd ben ei fwdwl, ni wnaeth eilun o gysondeb, nid ofnodd newid ei farn, ond fel y dyfnhaodd ei brofiad ysbrydol ac yr ehangodd ei wybodaeth, aeth ei athrawiaeth yn gyfoethocach a mwy cymhleth. Trwy ei holl ymchwil a'i bererindod feddyliol, ni chollodd afael unrhyw adeg ar hanfodion y gwirionedd am y bywyd da a Christnogol, ond dysgodd i'w oes gyd ag eglurder ac argyhoeddiad cynhyddol ymhle'r oedd canol ffordd yr Iechydwriaeth. Efô fyddai'r olaf i honni awdurdod terfynol i'w syniadau na gofyn inni aros gyd â'i athrawiaethau. Ond ffordd y gwirionedd o hyd i ni fydd efelychu ei ysbryd llafurus ac ymchwilgar, ei onestrwydd a'i ddewrder moesol, ei ffydd yn y gwirionedd annherfynol, a'i ffyddlondeb i'r weledigaeth a gafodd. "Ef oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo."
XX. Y BARDD A'R BEIRNIAD.
AR iddo roddi cyfran helaeth o'i fywyd i Farddoniaeth, gwaith anodd yw penderfynu ei safle a maint ei ddylanwad ar farddoniaeth Cymru. Yr un peth sicr yw mai efô oedd y cyntaf i ieuo diwylliant Coleg y Brifysgol a barddoniaeth yr Eisteddfod, megis mai efô oedd y cyntaf i ennill ei radd yn y celfyddydau allan ohono. Er y gall fod yna fwy nag un farn ar y mater, cysylltai ef ei hun bwysigrwydd â'r ieuad hwn. Yn ei bryddest ar Tennyson, fe annerch Awen Cymru fel hyn:
"Hael dduwies uchaf Ddysg ymwêl â thi,
A'th ddeall lenwir â'i thrysorau hi;
Daw coethder ac ehangder i'th syniadau,
A'r celfau cain ddwg goethder i'th deimladau;
Dy bulpud hyawdl, pur, a'r Ysgol Sul
Barha i'th gadw ar y llwybr cul;
Ac yna, ar edyn dysg a moes dy awen,
I uchelderau bri esgynna'n llawen.
Prioder ysgolheigtod awen goeth Goronwy
A symledd a gwladgarwch awen bardd ' Myfanwy.'"
Mewn ysgrif o'i eiddo ar " Farddoniaeth Cymru Fydd," dywed wrthym fod rhai yn dal mai prif swyddogaeth y bardd yw cynhyrchu boddhad drwy dlysni iaith, odl, cynghanedd, a ffansi; ond myn eraill " fod y gwir fardd wedi ei fwriadu gan Dduw i fod yn broffwyd ac yn athro i'w oes, i'w hysbrydoli drwy gyfaredd tlysni gwirionedd a moes, yn ogystal â'i difyrru drwy swynion perseinedd odl a chynghanedd," gan ddyfynnu geiriau Watts—Dunton, nad yw barddoniaeth na dim arall o unrhyw werth i ddyn sydd yn amgylchynedig gan holl fyddin drygioni, oni bydd yn yr ystyr uchaf a dyfnaf yn dda," a soned Tennyson, "Art for art's sake! Hail, truest Lord of Hell," etc. "Erys rhai beirdd yn galon i gyd neu yn deimlad di—farn sydd yn ymfwynhau mewn cenhedlu breuddwydion a ffansïau gwylltion a chymariaethau gwrthun ac annaturiol. Dyna nodwedd y Romantic Poets. Meithrina beirdd eraill y deall a'r rheswm i raddau gormodol, gan anwybyddu'r galon a theimladrwydd." Y peth pwysig yw "eu cadw yn y cydbwysedd dyladwy," a chofio o hyd "mai natur deimladol y bardd, neu ei galon fawr a thyner, yw amod sicr ei allu i gynhyrchu barddoniaeth deilwng o'r enw."
Mewn ysgrif o'i eiddo ar Feirniadaeth a Barddoniaeth, cwyna oblegid tri pheth. (1) " Hyd yn hyn [yng Nghymru] i raddau gormodol, cysylltir pwysigrwydd â ffurf barddoniaeth yn hytrach nag â syniadaeth farddonol. . . . Yn lle cloi synnwyr mewn clysineb,' cloir y synnwyr allan, a gwahoddir y clysineb yn unig i mewn." (2) Dylesid gwahaniaethu rhwng eglurder ac arwynebolrwydd, a rhwng dyfnder a thryblith syniadol. (3) Cymer beirniadaeth Gymreig olwg ry gyfyng ar swyddogaeth barddoniaeth, yn foesol a diwinyddol. Y mae celfyddyd i fod yn gyfled â bywyd—y da a'r drwg, ond nid i ogoneddu'r hagr, a galw'r da'n ddrwg, a'r drwg yn dda, ond drwy fod yn ffyddlon i realiti; ac ni ddylesid barnu gwerth barddonol cyfansoddiad yn ol safon uniongrededd y cyfnod, fel y mae'r arfer wedi bod.
A chymhwyso'r safonau hyn ato ef ei hun, cydnebydd pawb iddo wneuthur ymgais i ddwyn syniadaeth werthfawr yn lle ffansïau gwrthun (yn aml) i mewn i'n barddoniaeth; ond y mae lle i fwy nag un farn parthed ansawdd barddonol y cyfryw syniadaeth. Nid yw'n ddigon dywedyd bod "y gwir fardd, er yn fynych yn ymwybodol o fodolaeth egwyddorion cyffredinol, yn ymdrin â hwy fel rhai yn ymguddio mewn gwrthrychau unigol," oblegid gellir trafod y gwrthrych unigol fel peth i'w ddarnodi neu ynteu fel peth i'w ddisgrifio, ac apelio at y deall neu ynteu at y dychymig. Yn ol un beirniad, y mae ei farddoniaeth yn ddiffygiol mewn "afiaith," yn ol un arall mewn spontaneity. Ac y mae gwir yn hyn; wrth ddarllen rhai o'i weithiau, teimlwn fel rhai mewn ystafell o ddodrefn celfyddydol yn hytrach nag mewn perllan o goed naturiol. A defnyddio term a fu yn hoff ganddo unwaith mewn cysylltiadau athronyddol y mae ei weithiau mwyaf ar y cyfan yn ddiffygiol mewn angenrheidrwydd rhydd (free necessity), yn fwy fel camlasau yn cario badau gwerthfawr a goludog, nag afonydd yn rhedeg yn rhydd, yn dyfrhau'r glynnoedd, yn troi melinau, neu gludo badau fel ail bethau, ond yn bennaf peth yn rhedeg o'r môr ac i'r môr—mewn rhyddid a rheidrwydd.
Y gwir yw bod Adams, a chaniatau bod ganddo awen o'r math hwn, yn ormod o efrydydd i roddi'r chwarae teg mwyaf iddi. Pe treuliasai ei forêau yn fwy aml ar y Carneddi yn lle gyd â'i lyfrau, buasai'n annhraethol well bardd. Yr oedd ei awydd anniwall i ddarllen ac astudio yn rhwystr iddo mewn ffordd arall fel artist; ni chymerai amser i saernïo ei weithiau ac i wneuthur ei ddisgrifiadau yn fwy cyfartal â lledneisrwydd ac awgrymiadaeth anfeidrol realiti. Efallai mai perthyn i "ffurf" yr oedd hyn yn ei olwg, ond y mae'n ddiffyg dybryd yn ei holl weithiau. Gwelir hyn yn ei ansoddeiriau; er iddo basio heibio'r nodweddion sydd yn amlwg i eidion, megis "dôl feillionnog," "ffrwd risialog," etc., ni ddywed ei ansoddeiriau nemor ddim o werth. Wele enghreifftiau o'r bryddest ar" Fywyd": "hedydd pefr," "golau can," "chwyddawg wres" "cwmwl derch," "gogoniant claer," "bwriadau myg," "y Drindod fyg," "Gwirionedd myg," "gosgordd wemp," "deiliog bren," "prydferth flodau," "pêr aeronau," etc. Y mae'n amlwg yn brasgamu ymlaen â'i syniadaeth fras, heb ymdrafferthu gyd â geiriau. Y gwir yw bod ei earnestness yn feddyliol a moesol, ac nid yn artistig, a'i fod yn y peth hwn yn euog o'r arwynebolrwydd a gondemnia mewn syniadaeth. Ni wyddom a oedd yn ddarllenwr mawr o Hiraethog[16] y pryd hwn, ond daw yr un teimlad o awyrgylch inni wrth ddarllen " Bywyd " Adams ag wrth ddarllen "Emmanuel" Hiraethog—teimlad o gyffredinedd llwyd yn y disgrifiadaeth agos tra y mae yna gefndir o syniadaeth fawr y tu ol, gyd â'r gwahaniaeth bod syniadaeth Hiraethog yn fwy dychmygfawr, ac un Adams yn fwy athronyddol neu ddeallol. Ond yr oedd gan y ddau frws rhy fawr—fel brws gwyngalchu —i baentio darluniau. "Oni ellwch adeiladu Parthenon, codwch Byramid," meddai Flaubert.
Y canlyniad yw bod ei farddoniaeth yn ddiffygiol o ran natur ei syniadaeth a'r gweithiad allan. Nid busnes cofiannydd yw athronyddu ei wrthrych a'i waith, ond y mae'n amlwg i ddyn plaen a fo'n prynnu llyfr o farddoniaeth ei fod yn disgwyl cael rhyw gwmnïaeth ynddo na chaiff yn y papur newydd nac ychwaith gan hanes a gwyddor. Eithr ni chredwn y buasai neb wedi bod yn darllen Datblygiad Adams yn troi i'w bryddest ar "Fywyd" er mwyn mwynhau'r gwahaniaeth hwn. Ag arfer cymhariaeth a awgrymir gan waith Mr. Gladstone yn defnyddio dau fwrdd ysgrifennu yn ei fyfyrgell, mewn ffenestri gwahanol ac at waith gwahanol, o brin y mae pryddestau Adams yn mynd â ni i ffenestr wahanol i'w lyfrau, ac yn rhoddi inni weledigaeth newydd.
Y mae'n werth sylwi hefyd iddo fod yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth yn bennaf ar destunau a apeliai at ei ochr feddyliol a moesol, megis Yr Athro, Addysg, Prifysgol Cymru, Enwogrwydd, Gorthrwm, ac Oliver Cromwell. Yr oedd yn fwy cartrefol, yn fwy yn ei fyd ei hun na'i gydymgeiswyr y pryd hwnnw, yn y meysydd hyn, ac yn alluog i ddywedyd rhywbeth ystyrlawn, gwerthfawr, a grymus yn aml iawn amdanynt. Y mae'n ddiddorol cymharu ei bryddest ar Addysg" ag un arall o waith un a ddaeth i fod yn brifardd. Tröed y darllenydd yn ol i'r dyfyniadau a roddwyd o bryddest Adams, a chymhared â'r llinellau gwacsaw, cyffredinol, annelwig hyn:—
"Ond dyn ardderchog ddyn! y mae diwylliant
Yn tywallt dydd yn ddilyw o ogoniant
Ar amcan ei fodolaeth. Mae cynhyddu
Yn un o'r deddfau sydd yn penderfynu
Ei wynfyd a'i barhad. Fe ymestynna
Hyd at berffeithrwydd Duwdod, ac fe nofia
Ar lif gwybodaeth a myfyrdod tawel
Drwy ddrychfeddyliau nad yw profiad angel
Yn gwybod dim amdanynt. Hen feddyliau
A chalon Duw yn tywallt gwybodaethau
Ei hanfod trwyddynt i fywiogi gallu
Syrthiedig ddyn, a'i droi i efelychu
Yr hwn a'i gwnaeth."
Y mae sŵn mawr gan bethau fel hyn, ond ni olygant ac ni ddywedant nemor ddim. Ysgrifennwyd hwy yn y cyfnod y gellid ei alw yn gyfnod Islwynaidd, pryd yr oedd beirdd ieuainc yn dynwared allanolion Islwyn, fel y bu beirdd ieuainc Lloegr yn dynwared coler Byron. Bardd y cyfnod hwn oedd y lindys y daeth y "Bardd Newydd" allan ohono, am yr hwn y cwyna Adams ei fod yn camgymryd tryblith syniadol am ddyfnder, ac yn barddoni damcaniaethau gwyddonol ac athronyddol. A chredwn fod yna le i'r gŵyn. Yr oedd camsyniad y "bardd newydd yn un tebig i eiddo'r meddylegwr (the psychologist's fallacy), sef tybied bod yn rhaid i syniad am gochni fod yn goch; yn yr un modd yr oedd y bardd wedi dyfod wyneb yn wyneb â thywyllwch bodolaeth, ac yn meddwl mai'r unig ffordd i'w ddisgrifio oedd drwy fod yn dywyll. Ond ni all darlun o gwmwl fod yn gymylog, neu ynteu nid darlun o gwmwl mohono—nac o ddim arall.
Y mae'r datblygiad afiach hwn wedi cyrraedd ei isafbwynt yn y bantheistiaeth baganaidd ddiweddar sydd yn gwneuthur pot—pourri o holl werthfawreddau bodolaeth, cân y fwyalch ac iasau'r butain, baldordd y meddwyn a llawenydd yr Ysbryd Glân, marwolaeth y Groes ac angladd Cock Robin,—ac felly'n gwneuthur y syniad o unoliaeth yn ddiystyr, gan na fyddai neb synhwyrol yn sôn am unoliaeth cawl.
Er bod Adams mor gyfarwydd a'r rhan fwyaf yng Nghymru â'r syniadau o unoliaeth a datblygiad, i'w glod y mae'n rhaid inni ddywedyd na wnaeth ond defnydd cynnil a chyfreithlon ohonynt fel cynnwys i'w farddoniaeth. Ni ddeliodd, chwedl yntau, mewn nwyddau anghyfreithlon." Yr oedd yn onest fel bardd; gwell ganddo fod yn aneffeithiol nag yn anonest. Ni cheisiodd ychwaith gynhyrchu effeithiau syniadaeth ffres—y thrill a berthyn yn gyfreithlon i ddychmygiaeth fawr—drwy roddi ysgytiad i'n teimladaeth ysbrydol, a pheri'r ias a ddaw yn hytrach o sathru ar bethau santaidd nag o ogoneddu pethau cyffredin. Hyd y gwyddom, ychydig o sylw sydd wedi ei dalu i'r math yma o onestrwydd artistig yng Nghymru. Y mae'r cynganeddwr wedi arfer gwneuthur syr yn seraff, neu giwrad yn gerub heb un esgus dros hynny ond cynghanedd; eithr heblaw hyn y mae angylion rif y gwlith wedi eu dwyn i mewn i "wasanaethu " ar y beirdd mewn cyfyngder drychfeddyliol, Ac fel y mae'n diwinyddiaeth rai prydiau wedi cysylltu gwynfyd sant a bywyd anifail, y mae'r beirdd wedi ceisio cynhyrchu effeithiau barddonol drwy achosion ffugiol a chelfyddydol (artificial). Ni ellir cyhuddo'n cyfaill ar y cyfan o'r drwg hwn.
"Ni chyfranoga Hiraethog," meddai mewn un man, "ond i fesur bychan o'r addoliad a delid i Anian gan Wordsworth a Keats, a chan Islwyn. Dyn, a chymdeithas, ac ymddygiadau Duw tuag atynt yw maes neilltuol ei fyfyrdod." Yr oedd hyn yn wir amdano yntau, gyd ag un eithriad. Ni chofiwn iddo erioed alw ein[17] sylw ni at arucheledd a phrydferthwch cymysg Nant Ffrancon, ac amrywiaeth symudol gwedd y mynyddoedd mewn storm a thês, fore a hwyr, haf a gaeaf, ac nid ydym yn gwybod iddo wneuthur pennill erioed iddynt; ond bob tro yr aem i Barc Sefton yn Lerpwl, yr oedd yn rhaid ymweled â cherflun Highland Mary, ac aros am rai munudau i dalu gwrogaeth i'w phrydferthwch. Pan gofiwn hyn, nid rhyfedd iddo fod mor llwyddiannus yn ei libretto Dafydd ab Gwilym. Yn wahanol i'w bryddestau mawr teimlwn ein bod yma nid ar lan camlas ond yn sŵn "ffrydiau byw, rhedegog." Ac y mae'r Gymraeg a'r Saesneg, fel ei gilydd, yn llawn[18] lilt a thlysni, fel y mae'n amhosibl gwybod pa un yw'r gwreiddiol a pha un y cyfieithiad. Cymerer y tair enghraifft a ganlyn, gan gofio mai "Art for Art's sake" yw hi yn awr—nid dirwest:
Mae Anian oll yn fyw o gân,
A'i hwyneb glân yn gwenu,
Mae'r blodau'n gwrido ar bob twyn
Mor fwyn, a'u swyn i'n synnu!
A'r 'Deryn Du ar frig y berth
I'w Fwyalch ferth sy'n canu.
Fair nature is aglow with bliss,
For love is her best blessing,
The birds and flowers in leafy bow'rs
Are each his mate caressing,
And larks above, with songs of love
Their joys are now confessing.
Yn drist i'w ardd un dydd aeth Bardd,
Ar fywyd wedi 'laru,
"O Anian gu," eb ef, "i mi
Rho'r Prydferth fedraf garu."
Eb hithau'n fwyn, "Gwêl acw lwyn
A Rhosyn arno'n weddw,
Ei wridog wawr, a'i felys sawr,
A'th wnâ gan serch yn feddw."
With heart dismayed, a sad bard strayed,
Weary of life and sighing:
"Kind earth," said he, "O! give to me
Thy fairest, or I'm dying."
The earth replied, "There by thy side
A blushing rose is waving,
Its varied bloom, its sweet perfume
With love will send thee raving."
Melys moli gwin a medd
Ym mhalas Madog heno;
Bardd i lys, a bwrdd y wledd
Ddwg londer i'r fan honno,
Ond melysach tlysni gwedd
Y Rhiain welir yno.
Sweet the mead and sweet the wine
In Madog's mansion flowing,
Tables gleaming as they dine,
The varied dainties showing,
But sweeter far the winning smile
In someone's glances glowing.
O brin y disgwyliem i Adams ymddatblygu i fod yn librettist, gan nad annheg fyddai ei alw yn angherddorol—yr oedd yn un o jokes ei ffrindiau na wyddai wahaniaeth rhwng Yr Hen Ganfed a Hen Wlad fy Nhadau. Ond yr oedd wedi cael cryn lawer o'i ddisgyblu erbyn hyn, fel y dengys ei bapurau, gan Dr. Joseph Parry, Mr. J. H. Roberts, Mus.Bac., a Mr. D. Emlyn Evans ynglŷn â'r Caniedydd.
Nid hawdd cael dim mwy cyfaddas i Ymdaith Gwŷr Harlech ac i Ddirwest na'r geiriau a ganlyn, a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Y Brython:
LAWR Â'R SENEDD.
Tôn—Ymdaith Gwŷr Harlech.
Ddewr Ryddfrydwyr! ymarfogwn,
Ein cleddyfau rhydlyd hogwn,
Mewn digllonnedd llym bidogwn
Senedd gwin a bîr;
Awn yn enw Moes a'i wynfyd
I roi taw ar anfoes ynfyd,
Ac i godi gwlad i hawddfyd
Sobrwydd iach, heb gur.
Melltith gwlad a'i malltod!
Her i dda yw'r ddiod!
Ond nerth trais Senedd—dy'r Sais
Yw'r gwŷr sy'n darllaw gwirod!
Dyma'n Baner—Duw a'i glodydd
Cledd ein Ffydd fo'n ymosodydd,
Nes gorchfygwn y diodydd
Gelyn gwaetha'n tir.
Lawr â'r Senedd fyn waddoli
Y tafarndai gan eu moli,
A'r darllawyr sy'n rheoli
Masnach waetha'i rhyw.
Iawn i dafarn am wenwyno!
Iawn i ormes am gadwyno!
Iawn i sarff am ladd 'rol swyno
Iawn annghyfiawn yw.
Castell Golud cestog,
Brad y tlawd anghenog,
Dyna fu'r Seneddol lu
Torïaid—giwed gastiog!
Dial gwlad fo'n gledd i'w gwanu,
Moes a Chrefydd dd'ônt i ganu
Ar ei beddrod, nes trydanu
Calon dyn a Duw.
Lawr â'r Senedd fyn waddoli
Crefydd neb ar draul y trethi,
Trais Cydwybod yw fyn lethu
Rhyddid Prydain Fawr.
Tolli nwyddau i'n newynu!
Bara'n brin, rhy ddrud i'w brynnu!
Cwyd y tir feddiannwr fyny,
Gwthia'r tlawd i lawr!
Pen f'o Iawnder beunydd,
Cryf f'o nerth ein crefydd
Rhyddid merth—y Gwir a'i werth,
Orchfygont nerth gormesydd.
Lawr â Gorthrwm, medd gwladgarwch,
Lawr, medd hawliau gwir ddyngarwch,
Yna gwenu mewn hawddgarwch
Wnâi y nef a'r llawr.
Eto ni ellir dywedyd ei fod yn llwyddiannus yn ei emynau, ag eithrio'i emynau i blant. Yr oedd ganddo ragfarn hynod mewn perthynas â ffugr mewn emyn a fyddai'n peri rhwystr iddo; er y condemniai lythyrenoliaeth wrth esbonio'r Beibl, ni wnâi dim ond llythyrenoliaeth y tro mewn perthynas ag emyn. Ymysg ei bapurau cawsom lythyr oddiwrth y diweddar Mr. R. M. Lewis, Abertawe, a esyd allan ei olygiadau ef ei hun yn ddiameu:
Clywais fod y Pwyllgor ar waith yn llunio Caniedydd newydd, a chlywais, hefyd, fod y Pwyllgor â'r wyntyll yn eu llaw, a bod glanhau lled lwyr i fod, a rhan helaeth o'r cyfieithiadau i gael eu cilgwthio (eu chwyrn chwythu, efallai, a ddylwn ddywedyd) ymaith. Os felly, dïau na fydd y Pwyllgor heb gryn lawer o reswm o'u tu. Ar yr un pryd, os ânt yn orfeirniadol, beth fydd tynged yr emynau gwreiddiol? Yn wir, os gweithia'r wyntyll yn nerthol iawn, ofnaf mai llyfr cul fydd y canlyniad . . . . Ai nid gwell fyddai ceisio gwneuthur un llyfr hymnau cyffredinol, anenwadol, dewisol? A chyn cael hwnnw, ai ni fyddai galw am nifer o emynau newyddion er rhoi mynegiad i syniadau goleuedig pulpud Cymru, hyd yn oed? Esgusodwch fi, gyfaill da, am ddywedyd fy marn fach fy hun mor groew, ond, yn siŵr, mae yn Y Caniedydd nifer o hymnau o lun a lliw digon echrys i gyffroi y tawelaf ei ysbryd.
Pe buasai'r ddau gyfaill talentog yn ffurfio'r pwyllgor, sicr yw y cawsid llawer o chwyrn chwythu ymaith ar ein hemynau, ac yn eu plith efallai rai o'r goreuon.
Yr oedd yn fwy hapus yn ei emynau a'i ganeuon i blant, am ei fod yn fwy syml. Gan y gellir gweld ei emynau yn Y Caniedydd, rhoddwn ddwy enghraifft o'i ganeuon ysgol:
YR AFONIG.
1. Dwed i ni, afonig dlos,
Merch y mynydd mawr a'r rhos,
Yn dy wely pam na chysgi,
Yn lle rhedeg ddydd a nos?
2. Mor aflonydd yw dy li!
Aros, aros gyd â ni;
Heibio'r blodau ar dy lannau
Pam mor fuan rhedi di?
3. Na! wrth redeg drwy ein gwlad
Rhoddi fwyaf o fwynhad;
Murmur canu i'n diddanu
Wnei di felly, afonig fad!
4. Siriol yw dy donnau glân
Reda dros y graian mân;
Haul yn gwenu, tithau'n denu
Plant i wrando ar dy gân.
5. Daw y nef uwchben i'th li,
Am mai glân yw'th fynwes di;
Caem ni hynny, fe wnâi ddenu
Tlysni'r Nef i'n c'lonnau ni.
CODWN YN FORE.
1 Codwn yn fore
A gweithiwn ein gore,
Y bore am fywyd llawn hoen;
Y nos roed i gysgu,
Y bore am ddysgu—
I ddysgu heb ffwdan na phoen.
2 Un bore yw'r huan,
Mor fyw ac mor fuan
Y cwyd ef i'w daith drwy y nen;
Cwyd ŵyn bach i lamu,
A'r adar i ganu
Yn fore ar frigyn pob pren.
3. Yn fyw gan lawenydd
Y bore mae'r 'mennydd
Yn barod at wersi y dydd;
Mae'r meddwl yn wisgi,
I'r cof hawdd yw dysgu,
A siriol a mwyn yw pob grudd.
4 Ar ol bore godi,
A'r dasg wedi'i dysgu,
Dan ganu i'r ysgol ni awn;
Pob wyneb yn llawen,
Pob pen yn llawn awen,
I ganu a dysgu yn iawn.
Wrth fynd drwy ei bapurau, cawsom syndod hyfryd wrth ddarllen ugeiniau lawer o'i ganeuon i ffrindiau dan amgylchiadau neilltuol—o alar neu lawenydd; syndod, am ei fod wedi gwneuthur cymaint ohonynt, am ei fod wedi cael amser i wneuthur, ac efallai, yn bennaf oll, am ei fod yn ei hen ddyddiau'n teimlo awydd gwneuthur, ac i bob ymddangosiad yn gwneuthur mor rhwydd. Dïau y meddant fwy o werth Cristnogol nag o werth barddonol, ond y maent yn wastad yn briodol a hapus, ac am y rheswm hwn y rhoddwn yma ddwy enghraifft.
Yr oedd Mr. a Mrs. John Daniel Jones, Hawen Hall, yn gyfeillion mawr iddo ef (a'i ddilynwyr) yn Hawen; ac wele ran o'i gân ar ddathliad eu " priodas aur":
Serch ffrydiau eich calonnau
Ymunai yn un ffrwd
Ffrwd lenwid i'w cheulannau
Gan ddyfroedd cariad brwd.
Tra'n neidio dros glogwyni
Serth orthrymderau'r byd,
Neu'n sisial rhwng heirdd lwyni,
Un ffrwd oedd hi o hyd.
Eich meibion a hedasant
O'r nyth i lawer gwlad;
Eich merched a grwydrasant
Oddiwrth eu mam a'u tad;
Ond aros ac ymblethu
Fel eiddew am y pren
Wnewch chwi ill dau, heb fethu
Tra'n tyfu tua'r nen.
Mehefin yn ein gerddi
Sy'n taenu'i flodau fyrdd;
Hael law yr haf sy'n harddu
Â'i swynion, ochrau'r ffyrdd.
Rhyw hafaidd liwgar Hefin
Fo'ch einioes mwy'n ddi-goll,
Yn ernes o Fehefin
Y Nef, sy'n flodau oll,
Yn ei fywgraffiad i John Sterling sonia Carlyle am wahaniaethu yn unig mewn opiniynau." Ceir enghraifft nodedig o hyn yng nghyfeillgarwch diweddar Adams â Dr. Owen Evans. Cyhyd ag y bu'r olaf yn weinidog yn King's Cross, a'r ddau'n dyfod i berthynas (o wrthdarawiad) mewn credo yn unig, ni chafodd Adams ei wahodd gymaint ag unwaith i'w bulpud. Ond wedi i'r ddau ddyfod i gyfathrach bersonol â'i gilydd, hwy a gawsant fod yna fwy o gytgord rhyngddynt yn y dwfn nag oedd rhyngddynt â llawer yn meddu ar yr un opiniynau. Clywir tinc chwareus y berthynas yn y llinellau a ganlyn ar adeg ymadawiad (olaf) Dr. Evans â Lerpwl:
Noson i hebrwng y Doctor i daith arall gawn ni—
Teithio a theithio fu'i fywyd o'i wawr nes prynhawnu.
Taith y "Pererin" ddewisodd. Ei ysbryd aflonydd
Gadwodd ei gamau i gerdded tros dir, traws afonydd.
"Dinas barhaus" ef ni chafodd ar wyneb y cread,
"Gwlad well," gwlad well i'w phreswylio oedd iaith pob dyhead.
Teithia ei gof i orffennol ein tadau a'n teidiau;
Dug hwy a'u hanes a'u teithi i'n golwg yn heidiau.
Hen heb heneiddio ar drothwy bron naw deg o flwyddi!
Ysgafn y cerdd ef dan bwysau anrhydedd ei swyddi.
Cerddwr—pencerddwr o broffwyd! O Fôn draw i Fynwy,
Bryniau, afonydd a chorsydd ni luddient ei dramwy.
Cerddodd a chariodd Efengyl y Groes trwy ein siroedd.
Adwaen acenion ei brudd—don wna'n bryniau a'n tiroedd.
Dolen yw gydia yn un genedlaethau'n olynol!
Marwol anfarwol! wrth fywyd o hyd yn ymlynol.
Erys, er min cryman Angau a'i ddiwyd gynhaeaf;
Erys ar frigyn pren bywyd fel afal y gaeaf.
Erys dylanwad ei bin ar ein gwerin am oesau.
Gwrthglawdd a fu ef ym mhlaid "uniongrededd " a moesau.
Awdur a'i lyfrau'n ddi rif braidd, fel ei flynyddau—
Llyfrau ddarllenir gan werin ar fôr, ar fynyddau.
Ffrwyth pren ei fywyd llenyddol yn beraidd hir erys.
Llawer fu'n eistedd o dano i ymborthi'n bleserus.
"Aredig â'r anner" wnaeth llawer Philistiad trallodus,
O draethu'i feddyliau daeth llawer di nod yn hyglodus.
Ei eiriau fu'n llusern ar lwybrau trofaus y Damhegion,
Buont i'r pulpud a'r seti yn nefol anrhegion.
Gwyrthiau yr Iesu eglurodd—a Gwyrth yr ail eni
Deimlai'r darllenydd yn ymlid o'i galon ddrwg foes a'i drueni.
Moli mwyn Ferched y Beibl a wnaeth i'w mawrygu,
Dygodd trwy hynny holl ferched ein gwlad i'w edmygu.
Gwawl Ser y Dwyrain dywynnodd ar lu i'w tywysu
Nes diffodd o'u llewych yn Haul y Cyfiawnder—yn Iesu.
Heno ei hebrwng wna'n gweddi i brifddinas Prydain,
Wedyn oddiyno caiff hwyl i gyweirio ei adain
I hedeg at Dduw i'r Jerusalem nefol,
Yno, ai tybed na fydd e' 'n dragwyddol gartrefol.
Gyd â golwg ar gyfyngiadau artistig uniongrededd, o brin y mae eisiau dywedyd ei fod yn rhy onest i'w cydnabod, a dioddefodd oblegid hyn. Yr oedd a ganlyn yn ei bryddest ar "Fywyd" yn "feddwl cymysglyd" yn ddïau i Hwfa Môn a Llawdden ac Ellis Wyn o Wyrfai:
"Ni welwn ni ond rhannau o'i ffyrdd Ef,
Ond mae pob ffordd yn arwain tua'r Nef
Er yn droellog, fel un Israel gynt,
Ond eto'n arwain tua'r Ganaan Wlad.
Nid oes ond ei ewyllys ef ei hun
A rwyma ddyn i bara'n elyn Duw.
Nid oes un ddeddf a rwystra Gariad Crist
A'i ddioddefaint ingol yn yr ardd
A'i angau iawnol poenus ar y Groes
I ddylanwadu fyth ar galon dyn.
Mae calon Tad yn curo'n mynwes Duw,
A chariad, ac nid cas, ei Hanfod Ef.
Rhwng mâd Drugaredd Duw a rhyddid dyn
Mae posibilrwydd anfesurol, mwy
Ni fyn Doethineb ei fynegi in',
A mwy nid oes ar neb ei eisiau chwaith.
Ni siomir neb feddylia'n dda am Dduw—
Mae yn anfeidrol well na'n syniad ni."
Cwyna fod beirniadaeth Eisteddfod Llandudno (1896) ar y bryddest "Tu Hwnt i'r Llen" hefyd yn annheg yn yr un ffordd. Fel beirniad ceisiai gymhwyso'r safonau hyn; ac fel adolygydd yr oedd yn drylwyr a gonest, ac yn un o'r ychydig na feirniadai lyfr heb ei ddarllen yn gyntaf. Eto credwn mai croes drom iddo fyddai gwobrwyo hyd yn oed bryddest hollol uniongred; ac er y buasai yn ei beirniadu'n oreu lle byddai'r "syniadaeth farddonol " yn amlwg oreu, eto lle byddai'r gwahaniaeth yn fach, hawdd gennym gredu y byddai ei huniongrededd yn ffurfio'r gwelltyn olaf a dyr gefn y camel.
XXI. Y DYN A'R CRISTION.
WRTH geisio disgrifio a chyfrif am y "Dyn a'r Cristion" David Adams, fe gofiwn am gyfleusterau'r cylchfyd a gafodd o'r crud i fynyyn Nhalybont, a Bangor, ac Aberystwyth, ac yng ngwahanol gylchoedd ei lafur. Y mae'n werth sylwi iddoymysg ffermwyr Ceredigion, chwarelwyr Arfon, a marsiandwyr Lerpwl,—gael profiad o agos bob math o gylchfyd gweinidogaethol a geir yng Nghymru. Pe cawsai wasanaethu hefyd ymysg glowyr Morgannwg, buasai'r rhestr yn llawn: efallai bod ei brofiad fel ysgolfeistr yn y Bryn ac Ystradgynlais yn gwneuthur i fyny am hyn.
Fe gofiwn hefyd ei ffydd yn Nuw, a'i gwmnïaeth yn ei fyfyrgell â meddyliau goreu'r oesoedd. Gan gofio hyn, ein gwaith yn awr yw ceisio ateb y cwestiwn pa ddefnydd a wnaeth o'r amgylchoedd hyn, a pha gynysgaeth a gafodd gan natur i adeiladu cymeriad?
Yn gyntaf, nid yn unig cafodd gorff lluniaidd ac ymddangosiad hawddgar, ond cafodd hefyd gorff iach, eto un nad oedd yn ddigon cryf ar y dechreu i ganiatau iddo ei esgeuluso. Bu hyn yn help iddo yn ol llaw, gan iddo orfod dysgu bod yn ofalus ohono i'w wneuthur yn offeryn gwasanaethgar a hyblyg i'w feddwl a'i ysbryd.
Gyd â golwg ar ei dueddiadau naturiol, gellir dywedyd fod i'w natur, fel y clywais arddwr yn dywedyd am ardd Bryn Hawen, waelod da. Ac efallai mai'r brif elfen yn y gwaelod hwnnw oedd serch. Bydd llawer yn synnu at hyn. Clywodd y rhan fwyaf ef yn condemnio hen ddaliadau, neu ynteu'n pregethu egwyddorion â grym di dderbyn wyneb. Yn raddol y daeth yr eglwysi y bu'n weinidog arnynt i weld a gwerthfawrogi'r elfen hon yn ei natur, drwy ddyfod i gyfathrach agosach ag ef, neu ynteu ei weld yn wylo yn angladd cyfaill: yr oedd hyn iddynt, ar ol sêl eirias y Sul, neu ddisgyblaeth lem y cwrdd eglwys, fel pasio i gysgod coedydd grasol o ganol tes canolddydd haf. Awyrgylch hyfryd felly oedd ar ei aelwyd fel mater o natur yn gystal ag o egwyddor. Cariad a bregethai, a chariad a arferai, ac ynddo yr ymhyfrydai; a chafodd bob anogaeth a help i hyn gan ei briod, ac wedyn gan ei blant. Ar yr olwg gyntaf, yr oedd yn syndod i'w gyfeillion, a wyddai hyn, ddarllen ei gondemniad o Paul am beidio â rhoddi lle digonol i'r ddeddf! Ar yr olwg gyntaf yn unig, oblegid yr oedd hyn yn hollol gyson â phregethu ei flynyddoedd cyntaf yn neilltuol, pryd yr oedd ei sêl tanllyd dros burdeb yn cael ei orfodi gan gyflwr ac arferion y bobl i bwysleisio purdeb moesol fel mynegiad o gariad efallai'n fwy na chariad ei hun—fel y gwnaeth Iago o'i flaen. Nid teimlad hylifol ac anwadal oedd y cariad a bregethai ef, ond egwyddor ganolog y cymeriad Cristnogol—cariad I Cor. 13—oedd yn ddeddf iddo'i hun. Yn yr eglwys lle yr anwybyddid hyn, teimlai ei bod yn Nid oedd angenrheidiol gwasgu'r gwirionedd adref. eisiau gwneuthur hyn yn ei deulu; a chafodd yno gyfle i brofi y gall cariad gwirioneddol fod yn ddeddf iddo'i hun, a bod yn annibynnol ar orfodaeth deddf allanol. Ni welwyd un teulu erioed yn fwy o " aelodau i'w gilydd "—pob un yn gwasanaethu pob un arall.
Dyma a ddywed ef ei hun yn ei gân "Lala'n un ar hugain":
"Cêst dyner fam i'th wylio
Ei gwell ni chadd un ferch,
A thad oedd frawd a chyfaill,
A chwaer yn llawn o serch."
Mor bell ag yr oedd yna ddeddf allanol yn bod, ef ei hun oedd dani'n fwy na neb arall, a'r lleill—y plant yn neilltuol—yn ei gweinyddu. Ond yr oedd yr iau yn esmwyth" iddo. Un haf, wedi i'w ferch uchod adael Tynewydd a'i rhieni ar ol, ni fedrai lai na gwneuthur un o'i englynion prin a'i yrru ar ei hol ar gerdyn:
Wel! wel! mor dawel yw'r dydd—heb ryw sŵn,
Pe'n berseiniol gerydd!
Yma in' fyw mwy ni fydd
Eto'n ha' yn Tynewydd!
Aralleiriad barddonol o "iau esmwyth " yw "perseiniol gerydd."
Ceid yr un ysbryd i lai graddau yn llywodraethu ei berthynas â'i gyfeillion. Yr oeddynt iddo yn "hunain eraill"; meddyliai'r byd ohonynt. Yr oedd yn ffyddlon iddynt drwy ddŵr a thân, a'r un modd yn eu cefn ag yn eu hwyneb. Os cymerwn y ddau gofiannydd yn enghreifftiau, meddyliai lawer yn uwch ohonynt na'u teilyngdod, yn feddyliol a chrefyddol; a diwrnod ethol un ohonynt i Gadair yr Undeb, yr oedd ei bryder ef ynghanol ei wendid yn Lerpwl yn llawer mwy nag eiddo'i gyfaill ynghylch y peth.
Ai ei gyfeillgarwch rai prydiau'n dramgwydd i eraill. Ceir yn ein heglwysi'n aml bobl a lŷn wrth y gweinidog yn fwy nag wrth Grist, y bobl a ddywed " Myfi wyf eiddo Paul," "Myfi wyf eiddo Apolos." Y ffordd iawn yw dysgu'r cyfryw, fel Paul, na rannwyd Crist. Nid oedd ein cyfaill yn ofalus yn hyn o beth. Bid siŵr, ni allwn dorri pob llinyn cyfeillgarwch wrth adael eglwys, ond gallwn rwystro pobl fychain i ddefnyddio'n cyfeillgarwch fel ffon i bastynu'r sawl a ddaw ar ein hol—mewn priodas ac angladd, yn hytrach nag fel ffon i bwyso arni.
Yna, yr oedd wrth natur yn onest, union a thryloew. Amhosibl meddwl amdano'n gwneuthur tro dichellddrwg â neb, nac yn cario dagr dan gochl i frathu gelyn hyd yn oed. Gwnaeth gannoedd o droeon caredig yn y dirgel; ond popeth llym ac i beri dolur a wnaeth, fe'i gwnaeth yn y goleuni, a dïau nad oedd neb yn cael ei ddolurio'n fwy nag ef ei hun. Cashâi dwyll, a rhagrith, a ffugymddangosiad â châs perffaith. Hyn oedd yn cyfrif am lawer o angerdd ei bregethu bore, oblegid yr ymgais i gyfuno crefydd a meddwdod oedd yn ei bobl; anwiredd yr uchel-ŵyl gyfarfod, a gweddïo llawer â dwylo'n llawn o waed; ac yna'r ymgais i wneuthur llythyren uniongrededd a dwyn mawr sêl drosti yn ddirprwy am ysbryd Crist. Ei ddau fwgan mawr oedd pharisead erlidgar, a dyn dichellddrwg; llawer mwy o fwganod na'r meddwyn a'r butain, er ei fod yn ddirwestwr selog ei hun.
Y mae'r nodweddion hyn yn ffafriol i gynhyrchu cymeriad cryf a grasol; ond yn eu hymyl mae'n rhaid i ni grybwyll nodwedd arall a fu'n "swmbwl yn y cnawd" iddo, sef ei fyfïaeth (egotism) gref, y duedd, hynny yw, sydd ymhob un, mewn gwahanol raddau, i wneuthur hunan yn amcan, i gael ei ffordd ei hun, i ragori ar eraill, a chael gogoniant drwy hynny.
Nid ydym yn gwybod iddo gael llawer o drafferth gan ei flysiau erioed, er i'w ffrindiau edliw iddo lawer gwaith nad oedd diolch iddo ef am fod yn ddirwestwr, gan mai dyna'i unig ddiogelwch rhag bod yn feddwyn pen ffordd —oblegid ei orhoffter o de. Ni chafodd ei flino ryw lawer, ychwaith, gan gariad at gan gariad at "bethau'r byd." Gadawai ef y busnes o'u trafod hwy braidd yn hollol yn nwylo ei briod. Pan ddeuai galw am eu trafod, fe'u rhoddai braidd yn hael, a hynny i "rai gwael." Un tro, ym Methesda, clywai Mrs. Adams, drwy ffenestr agored, dramp yn dywedyd wrth ei gyfaill wrth ddyfod at y drws, "Dyma le iawn, ond inni gael gafael ynddo fo."
Ond dïau i'w fyfiaeth fod yn gryn demtasiwn iddo, ac efallai'n fwy na themtasiwn. Wrth gwrs, y mae yna fyfïaeth mewn pethau bychain sydd yn nodweddiadol o'r goreuon, ac yn neilltuol o fawrion—myfiaeth hollol ddiniwed, ac yn gwbl gyson ag "arallaeth" mewn pethau hanfodol. Ni ellid dywedyd, er enghraifft, nad oedd ef yn meddwl llawn cymaint am aelodau eraill y teulu ag amdano'i hun, ond yr oedd ei hoffter o de â'i duedd i orfodi'r lleill i'w yfed hefyd. Yna yr oedd yn or—ofalus o'i gorff, heb gofio yn wastad fod gan eraill gyrff yn ogystal. Yr oedd aelodau'r teulu wedi dysgu ymgyfaddasu â hyn, ond yr oedd yn dramgwydd rai prydiau i'w gyfeillion agosaf y tu allan iddynt hwy. Cofiwn ofyn iddo unwaith pan oeddym yn teithio ar y Cyfandir, a'r tywydd poeth wedi byrhau'n hamynedd, Beth wnewch chwi, Adams, wedi colli'ch corff? Ai tybed y bydd corff yr atgyfodiad yn hawlio cymaint o sylw â hwn?"
Ond nid oedd dim bombast na ffug—fawredd yn agos iddo. Yr oedd mor syml â hogyn bob tamaid. Y mae yna fyfïaeth atgas, gonsetlyd na eill oddef ychydig chaff cyfeillgar. Ond medrai Adams ddioddef a mwynhau pob math o ysmaldod ar ei draul ei hun a'i wendidau a'i ragoriaethau, megis ei hoffter o'i de, ei anwyldeb tuag at ei gorff, ei gystadlu eisteddfodol a'i eminence pregethwrol yn ol llythyr y Brifysgol. Ond beth am y cystadlu—hyd y diwedd? Gwnaethom lawer ymgais i'w resymu a'i chwerthin allan o'r arferiad drwy bwyntio allan yr ymddangosai'n blentynaidd iawn yng nghymrodyr yr athrofeydd pe cystadleuent am wobrau (a bod hynny'n bosibl) drwy gydol eu hoes; neu drwy ei atgofio o'r hyn a ddywed meddylegwyr, sef y myn dyn luchio cerrig at gathod yn ei hen ddyddiau oni chaiff wneuthur hynny pan fo'n hogyn (ni wyddem y pryd hynny ei fod wedi cystadlu cryn lawer yn gymharol ieuanc). Ond i ddim pwrpas. Dyma'i dystiolaeth ef ei hun mor ddiweddar—a chynnar—â 1904:
Y mae eistedd i lawr yn y prynhawn i ddarllen stori yn lle ymweld, neu eistedd i fyny'n hwyr yn lle ymneilltuo i orffwys, yn demtasiwn sydd yn hudo a darostwng llawer ohonom, y mae lle i ofni—y fath yw gwendid y meddwl gweinidogaethol. Yng Nghymru, cymer y demtasiwn ffurf hudolus arall, sef y mania am gystadlu mewn eisteddfodau, ac ennill enwogrwydd fel beirdd a llenorion. Gan i mi fod yn ddioddefydd mawr fy hunan oddiwrth y clefyd hwn—nad yw, fel y mae gwaethaf y modd, fel y frech goch yn dyfod unwaith ac yna'n gadael am y gweddill o'r oes, ond yn ddrwg arhosol fel blys meddwol—y mae fy ymwybyddiaeth o'r amser a'r ynni a wastreffais yn y math yma ar oferedd yn rhoddi imi hawl i rybuddio gwŷr ieuanc uchelgeisiol am ennill cadeiriau a choronau eisteddfodol. 'Rwy'n dywedyd wrthych mai math o feddwdod afiach, annaturiol ydyw, sydd agos mor ddinistriol â'r un alcoholaidd. Y mae llwyddiant llawer o bregethwyr yn cael ei beryglu gan yr 'awydd plentynaidd yma am deganau eisteddfodol; ac ni ryfeddem weld eglwysi'n cael eu gorfodi cyn hir i fynnu addewid oddiwrth eu gweinidog ddydd ei ordeinio na bydd iddo gynnig am na chadair na choron mewn eisteddfod."
Sieryd y pryd hwn fel pe byddai wedi gwneuthur ardystiad ei hun (y mae "wedi bod" yn ddioddefydd), ond os do, fe'i torrodd droeon, a bu'n bechadur mawr agos hyd y diwedd. Y mae'n wir na chystadleuai byth ond ar destun a apeliai'n gryf ato, er enghraifft, "Hiraethog yn Eisteddfod Caernarfon; a thebig, hefyd, y gallai weithio'n well, ys dywedai yntau, drwy osod nod bendant o'i flaen; eto, y mae'n syn bod eisiau ysbardun o'r tu allan ar un oedd yn gymaint o feistr arno'i hun ac ar ei amser. Ymddengys bod yna wir yn y cyffesiad uchod, mai rhyw fath o glefyd neu feddwdod myfïol ydoedd wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad.
Yr oedd yn fwy sensitif i glod dynion nag y tybiai, ac nag y dymunai fod. Yr oedd yna anghytgord rhwng yr hyn ydoedd yn y dwfn a'r hyn a geisiai fod. Gallai oddef beirniadaeth deg, a chroesawai a gwahoddai hi. Gwelid ef yn aml wedi'r oedfa yn gofyn barn a beirniadaeth y diaconiaid ar ei bregeth. Eto credwn mai bychan oedd nifer y diaconiaid a fyddai yn ei feirniadu'n onest yn hytrach na'i ganmol—wedi iddo adael sir Aberteifi; fel y mae gennym le cryf i gredu, tra yr oedd yr ail Adda'n cymryd ei feirniadu, bod yr Adda cyntaf yn pysgota clod. O leiaf, gwyddom i un ohonom ni ysgrifennu adolygiad ar ei lyfr Paul yng ngoleuni'r Iesu,—adolygiad beirniadol, mae'n wir, ond teg, rhesymiadol a rhesymegol, fel y credwn o hyd, ac un oedd, fel y cyfryw, yn well cydnabyddiaeth o deilyngdod ei lyfr na'r glasdwr clodforus sydd wrth fodd yr archwaeth fyfïol; ac iddo yntau geisio gan gyfaill ei ateb, a sicrhau iddo'r clodforedd dyladwy!
Nid ydym yn ei amddifadu o'i wir glod wrth ddywedyd hyn, oblegid os oedd yn wir ei fod ef yn awyddus am glod ei gyd—ddynion, yr oedd yn gofyn mwy o wroldeb moesol ar ei ran i herio barn y cyhoedd fel y gwnaeth am flynyddoedd. Ond un anodd i'w orchfygu yw Agag (enw'r Cadfridog Gordon ar ei elyn gwaethaf, sef ef ei hun). Er i Adams gael ei ben i lawr wrth herio clod y byd, dywedir iddo ef ei hun gael ei lusgo i'r llawr yn yr un codwm, gan iddo fynd i hel clod y rebel, fynd yn slaf rhyddfrydigrwydd, a bod yn gul mewn newydd—deb,—yn wir, i'w gyfrif ei hun yn gapten croesgad moderniaeth yng Nghymru. Y mae yna beth gwir yn y cyhuddiad hwn, efallai, y tu mewn i gylch neilltuol o amser—amser adlam blynyddoedd cyntaf yr erlid fu arno. Ond yr oedd ef yn rhy naturiol deyrngar i wirionedd i aros yn yr osgo hon yn hir, neu i redeg i eithafion afresymol, fel y praw ei lyfr Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth. A chaniatau, fel y caniatâi ef ei hun, bod yna elfen o fyfïaeth wedn ac anhyblyg yn ei natur na phlygai'n rhwydd i wirionedd a daioni, mae'n rhaid i ni bwysleisio mai'r hyn oedd yn ganolog yn ei ddynoliaeth oedd ei ddelfryd moesol—ysbrydol. Ac wrth ddelfryd golygwn egwyddor weithgar ac effeithiol yn y gydwybod a'r ewyllys, ac yn llywodraethol ar dueddiadau natur—nid meddylrith yn y dychymig yn unig. Ei gynnwys mewn braslun oedd purdeb (drwy hunanymwadiad) a chariad (yn pasio allan i wasanaeth); mewn geiriau eraill, llymder tuag at hunan, a charedigrwydd tuag at eraill. Ystyr moesoldeb ar ran dyn yw hyn fod y rheswm a'r gydwybod ynddo yn llywodraethu ar y teimladau corfforol, a'r greddfau cymdeithasol anhunangar yn llywodraethu ar yr elfen hunangeisiol ynddo; a'r berthynas hon â hunan ac eraill yn dibynnu, wrth gwrs, ar berthynas ddyfnach â'Duw."
Y delfryd hwn, meddwn, a fu yn llusern i'w draed—ac yn yr ail le yn llewych yn ei bulpud a'i lyfrau—yr holl ffordd o gyfnod Aberystwyth hyd y diwedd yn Lerpwl. Ceisiai fyw i fyny ag ef ei hun, a chredai y gallai wasanaethu eraill oreu drwy geisio eu cael hwythau i wneuthur yr un peth. Nid oes dim a deifl oleuni mwy clir ar ei gywirdeb a'i wroldeb moesol na'i waith yn gosod ardystiad dirwestol ar y bwrdd o flaen diaconiaid Bethesda, ysgrifennu ei enw ei hun yn gyntaf, ac yna gofyn i bob un ar ei ben ei hun ardystio. Diddorol o beth fyddai cael hanes mewnol y cyfarfod hwnnw ! Er mai cyfarfod bychan ydoedd, dïau fod y bydysawd moesol yn teimlo'r dirdynnu —y" tug of war"—a fu ym Methesda ryw awr yn 1888 !
Mewn perthynas ag ef ei hun, nid yn unig fe'i disgyblodd ei hun i wneuthur bwyd, a chwsg, ac amser yn iswasanaethgar i efrydiaeth a dyletswyddau moesol—yr hyn nad oedd yn gamp fawr iddo ef—ond fe'i gorchfygodd ei hun yn yr hyn oedd yn "gwbl groes i natur," sef yn y mater o ymweld yn rheolaidd â'i bobl. Yn y fan hon, eto, fe weddai inni gofio nad oedd yn ddeddfol mewn perthynas â manion—punctilios. Nid oedd yn asetig fodd yn y byd. Hyd yn oed mewn perthynas â'r diodydd meddwol, yr oedd ei wrthwynebiad yn foesol. Ar y Cyfandir, lle nad oedd te (dim ond coffi) i'w gael, a'r dwfr a'r llefrith yn anyfadwy, a'i gydymaith yn alluog i dystio bod lager mor ddiniwed â the, lager fu'r ddiod yn bennaf am bythefnos. Ni osodai fyglys yn yr un dosbarth ag alcohol, ond ar yr un llinell â the a choffi, eithr yn nês i'r eithafbwynt. Yr hyn a'i blinai fwyaf oedd y slafdod sydd ynglŷn â'r arferiad; a phe dywedasid wrtho ei fod yntau'n orhoff o de, ei ateb fuasai "Gwir iawn, ond nid wyf, serch hynny, yn ei gario gyd â mi i'r trên, ac yn ei yfed ar ben pob heol"! Mewn rhai cyfeiriadau yr oedd yn hollol wrth—ddeddfol, yn greadur natur a theimlad y foment. Ambell waith ar y mynydd, ymhell cyn cyrraedd pen ein taith, deuai llais o'r fyfyrgell neu'r bwrdd te i'w alw'n ol, ac yn ol yr âi! Gwelsom ef yn ein gadael mewn cwch pysgota ar Lyn Ogwen, ac yn mynnu mynd tua thref, yn nannedd y rhaglen a dynasem. Eithr manion dibwys oedd pethau fel hyn yn ei olwg, a hawliai ei ryddid mewn perthynas â hwy.
Nid bob amser y gellid dibynnu arno i gadw ymrwymiad a wnelsai fisoedd ymlaen gyd â golwg ar dreulio'i wyliau a phethau cyffelyb, os deuai rhyw hudoliaeth fwy i'w alw ymaith, neu ryw ofn ynghylch ei gysur personol. Yr oedd dan lywodraeth ardymheredd mewn llawer pethfel artists yn gyffredin.
Sylwasom eisoes fod meddylegwyr—a phregethwyrieuainc diweddar yn gwneuthur llawer gormod o'r pwynt na eill dyn fyw bywyd adrannol (in sections). O leiaf, y mae'n dra sicr na fu daliadau Hegelaidd a Darwinaidd Adams nemawr i ddim o rwystr (na help yn sicr) i'w fywyd moesol ac ysbrydol. Gwelid eu hargraff, bid siŵr, ar ffurf neu fold ei bregethau, ond nemawr ddim ar eu hergyd a'u hapêl at galon ac ewyllys dyn. Cyfeiriwn at hyn yn y fan hon am y credwn nad oedd y ddynoliaeth fwy tyner a grasol a goddefgar a chydymdeimladol â gwendid y natur ddynol, a ymddangosodd yn ei gyfnod olaf, ond datblygiad naturiol a sylweddoliad llawndwf o'r hon oedd ynddo yn y dwfn yn Hawen, a bod yr athroniaeth newydd a goleddodd yn fwy o effaith nag o achos y datblygiad hwn. Er bod Hegeliaeth a Darwiniaeth yn annigonol i'w brofiad blaenorol (daeth i deimlo hynny fwyfwy gyd â threigl amser) nid oedd yr anghytgord gymaint rhyngddynt ag ydoedd â'i brofiad mwy ysbrydol, pryd yr oedd y ffrwyth yn fwy a'r ymdrech yn llai.
XXII. EI DDYDDIAU OLAF.
"A hardd oedd hwyr ei hirddydd haf,
Ein mawr iawn ŵr yn marw'n araf."
MAE'R llinellau hyn yn wir am Adams, er iddo barhau'n ieuanc yn hwy na'r cyffredin, a "llewyrchu fwyfwy" ymhell dros "ganol dydd." Ag eithrio lliw ei wallt, yr oedd mewn gwedd, yn gystal ag mewn meddwl ac ysbryd, tua phymtheng mlynedd yn iau na'i gyfoedion, ac yn fyw iawn ar bob lefel o fywyd hyd yn agos i'r diwedd. Gwelsom eisoes ei raglen ddarllen am 1916. Ond tua 1918 pasiodd y llinell hynod honno mewn bywyd y sydd, o'i chroesi, yn gwneuthur hyd yn oed i'r corff" dynnu ato," ac yn peri inni sôn am un a fu unwaith yn dal a syth, fel "hen ŵr bach "—wedi cyrraedd "rhosydd Moab" mewn gwirionedd. Nid ydym yn credu bod ei gyfeillion a'i gwelai'n gyson wedi sylwi ar y cyfnewidiad, ond i gyfeillion eraill yr oedd yn boenus o amlwg—yn neilltuol ar yr olwg gyntaf. Cofiwn yn dda am yr argraff ddolurus a wnaeth arnom ni yng ngorsaf Lerpwl, a phan gyfarfuasom â hen gyfaill iddo nad oedd wedi ei weld ers cryn amser, ei gwestiwn o'r neilltu oedd, " Beth sydd wedi digwydd i Adams, deudwch?" Yr oedd ei lawysgrif, yn neilltuol pan ysgrifennai ag inc, wedi ymgrebachu, a'i lais wrth bregethu yn fwy main. Ceisiai ei berswadio ei hun fod ei gynheddfau meddyliol mor gryf a chlir ag erioed, ond camsyniad oedd hyn. Os oedd ganddo ef deimlad o'r fath, nid oedd hynny'n arwydd da. "Bu amser," meddai Haydn, " pryd yr oedd drychfeddyliau yn fy ngheisio i, yn awr yr wyf fi yn eu ceisio hwy," ac y mae hyn yn well arwydd o iechyd meddyliol na'n bod yn dirywio'n anymwybodol. Credwn fod Adams—yn isymwybodol—yn ymladd yn erbyn anrhaith henaint ac yn meithrin hunandwyll ar y mater, nid drwy eillio'i farf na lliwio'i wallt, ond drwy ddywedyd a cheisio profi nad ydoedd yn gwywo'n feddyliol. Ymroddai i bregethu fel cynt, gartref ac oddicartref, ac yr oedd llawer o'r hen angerdd yn aros, ond nid yr un grym. Nid ydym yn sicr nad ffurf ar ymgais yr hen Adda i'w dwyllo ei hunan oedd y ffit o gystadlu a'i meddiannodd wedi iddo agos i ugain mlynedd cynt roddi'r busnes heibio a'i gondemnio—ymgais i atgynhyrchu'r hen nwyf, a dangos yr un meistrolaeth. Cyfansoddodd bryddest faith ar Hiraethog; a threuliodd un gaeaf i ysgrifennu traethawd ar Bergson,—wedi cael ei holl weithiau, rai ohonynt yn y Ffrangeg—a'u darllen yn fanwl. Cwynai oblegid yr oerfel: yr oedd ei fysedd yn aml yn ddi—waed, am nad oedd digon o waed i'r bysedd a'r ymennydd! Ni wyddai ei gyfeillion yn iawn beth i'w wneuthur, ai tosturio wrtho am ei fod yn treisio natur, ai ynteu ei edmygu am ei ddewrder yn ceisio gorchfygu henaint a methiant. Profir ei fod am gael ei gyfrif yn ieuanc ac yn meddu ar rym ei ddyddiau goreu gan y ffaith na fynnai inni sôn amdano fel "ol-rifyn" (back number). Fe'i gosodai ei hun yn yr hen amser hefyd mewn ffordd—neu ynteu ar ochr—arall: ni sylweddolai fod Cymru heddiw yn athronyddol yn gystal ag yn ddiwinyddolwedi symud ymlaen, a bod yna ysgrifenwyr newydd wedi codi a allai gystadlu ag ef, nid yn ei henaint, ond yn ei amser goreu. Heblaw ei ysgrifau a'i adolygiadau yn y cyfnodolion, yr oedd hefyd yn neilltuol brysur yn darlithio a darllen papurau yma a thraw yn Lerpwl a'r gymdogaeth. Yn ol ei ddyddiadur, ei hoff destun y pryd hwn oedd "Puritaniaeth "—testun a ddengys inni brif bwynt ei ddiddordeb ar hyn o bryd.
Yn 1920, dathlwyd Jiwbili yr achos yn Grove Street ar ben ei chwarter canrif yntau yno, a bu'r amgylchiad yn achlysur o lawer o foddhad iddo, oblegid er y gwyddai am gariad a pharch ei bobl ei hun, a bod ei wasanaeth i ryddid diwinyddol yn cael ei werthfawrogi gan y to ieuanc o bregethwyr oedd ym mhulpudau pob enwad, tynnodd yr achlysur allan ddatganiad gan eraill oedd yn anghydweld â rhai o'i olygiadau o'u gwerthfawrogiad o'i onestrwydd tryloew, ei ffyddlondeb i'r gwirionedd a gredai, a'i ymroddiad i wasanaeth Duw a dyn. Yn ffodus nid oedd ymysg ei gyfeillion neb oedd wedi ei feddiannu gan y syniad Cymreig cymysgryw am gymesuredd, sef o gydnabod gwasanaeth cenedlaethol drwy dysteb genedlaethol, er ei fod mor deilwng ohoni â nemawr neb a'i cafodd. Ni feddyliodd ei bobl ychwaith am gymryd mantais ar yr amgylchiad i roddi broad hint iddo i ymddeol! Ni ellir dywedyd na feddyliodd ef am y peth, oblegid dywedodd wrthym ni: "Er y dylaswn ymneilltuo o'r weinidogaeth o ran oedran, nid wyf yn gwneuthur, gan nad yw fy nghyneddfau'n pallu, na'm pobl am i mi wneuthur, dywedant fy mod yn pregethu cystal ag erioed." Bwriadai ef a'r teulu ymneilltuo rywbryd; yr oeddynt yn hamddenol baratoi ar gyfer amgylchiad a ohirient mor bell ag oedd modd drwy blannu coed afalau a'r cyffelyb yn y Tynewydd. Teimlai ef, a hwythau, ddiddordeb yn y syniad, ac ymhyfrydent yn y lle am ryw fis bob blwyddyn. Ond peth arall oedd symud i fyw yno'n gyfangwbl, a newid y bywyd trefol am lonyddwch y wlad. Ofnai aelodau eraill y teulu symud, yn bennaf o'i blegid ef; ofnent mai anesmwytho a wnâi heb y cefn o ddyletswyddau eglwysig yn yr hwyr a fu am flynyddoedd yn ffurfio'r contrast hwnnw yn ei hanes sy'n anhepgor bywyd hapus. Ac eto, y mae'n anodd gweld, a'i fod yn bwriadu ymddeol o gwbl, pa faint o "neilltuedd" a ddisgwyliai gael, ag ef yn awr yn ŵr agos pedwar ugain oed. Gallesid meddwl nad oedd ' yr hyn oedd yn ol o'i dymor heb ei dreulio," ar y cyfrif mwyaf ffafriol, yn werth edrych ymlaen ato na pharatoi ar ei gyfer. A dyna farn Rhagluniaeth, oblegid yn nechreu 1921 tarawyd ef i lawr, i beidio ag ail ymaflyd yn ei waith gweinidogaethol mwy, na mynd i Dŷnewydd y ddaear!
Treuliodd tua blwyddyn mewn nychtod mawr, ac mewn dioddefaint tost yn aml. "Ni feddyliais erioed," meddai, "ei bod yn bosibl dioddef cymaint o boen a byw." Ond erbyn mis Mai, 1922, drwy ymroddiad a gofal di ildio y rhai a weinai arno, a ffyddlondeb caredig ei gyfaill ieuanc, Dr. Wyndham Williams, yr oedd wedi adfeddiannu cryn dipyn o'i nerth, ac yn abl i fynd allan i'r lawnt oedd yn ymyl pan fyddai'r tywydd yn braf. Ond er iddo ddyfod allan i oedfa bore Sul gyd â ni am y waith gyntaf ers blwyddyn, a rhoddi'r emynau allan, y peth mwyaf a obeithiem oedd y câi ychydig flynyddoedd ar y ddaear i baratoi cyfrol o bregethau a chyfrol o farddoniaeth i'r wasg, ac ysgrifennu rhywbeth a'i galluogai i gwrdd â Phaul heb gywilydd wyneb !
Yr oedd yn llawn meddyliau a bwriadau fel arfer. Yr oedd yn nodweddiadol ohono y mynnai dreulio pob wns o ynni nerfol fel y byddai'n dyfod, nid yn unig nac yn gymaint i wella, ond i weithio. Ysgrifennai yn ei wely. Ychydig cyn yr adeg uchod galwodd y Prifathro Rees i'w weld, a dyma a ddywed ef amdano:
"Addawsai i mi nifer o ysgrifau ar gyfer y Geiriadur Beiblaidd newydd. Pryderai rhag na allai gyflawni ei addewid. Tawelais ei feddwl. Gwellhaodd dipyn wedi hynny, ac aeth ati i baratoi'r ysgrifau yn ei wendid. Y mae ei nodiadau ar eu cyfer, ag ol llafur mawr arnynt, yn fy llaw. Ni allai oddef bod ei addewid heb ei chyflawni. Ni chaniataodd ei nerth iddo eu gorffen. Ond dyna'r dyn, trylwyr, cydwybodol, ffyddlon hyd angau."
Yn ei wely hefyd yr ysgrifennodd ei bapur ar "Grist a'r Gydwybod" a addawsai i Gyfarfod y Gweinidogion.
Ond yr hyn a'n tarawai fwyaf oedd ei awydd ei ddyhead—am gael mynd eto i'w bulpud i bregethu. Beth oedd hyn ond "the ruling passion strong in (the shadow of) death." Nid am y credai ynddo'i hun fel pregethwr yn gymaint ag yn y gwirionedd a bregethai. Caffai ddifyrrwch uwchben brawddeg yn y llythyr swyddogol a dderbyniasai yn hysbysu bwriad y Brifysgol i roddi iddo'r teitl D.D. (yn rhannol) "ar gyfrif ei enwogrwydd (eminence) fel pregethwr," a chariem ninnau'r difyrrwch ymhellach drwy ddywedyd mai ei ddyletswydd yn awroedd cyfiawnhau disgrifiad y Brifysgol drwy gyhoeddi cyfrol o'i bregethau.
Gyd â golwg ar y teitl ei hun, gwyddom i fwriad y Brifysgol roddi boddhad iddo, ond nis prisiai ef yn uwch na'i werth, ac ni lethid mohono gan ei ogoniant; mwynhâi'n hysmaldod ni mai problem bwysig iddo'n awr oedd trefnu ei gynffon fel ei gyndeidiau yn y coed, ac mai B.A., D.D., oedd fwyaf cyson â gofynion "datblygiad graddol," a'i bod yn bryd i Mrs. Adams ddisgyblu ei pheiriant llafar i sôn am "Y Doctor." Yr oedd yn hollol iach ar y mater, ac mor syml ag erioed.
Yn ol un gohebydd yr oedd wedi gwneuthur y teitl hwn yn "nod" i gyrraedd ati. Dengys y nodyn o eiddo yr Athro Jenkin Jones a ddyfynnir yn nês ymlaen fod y peth yn yr awyr "ers rhai blynyddoedd, ac efallai bod hynny wedi peri iddo edrych i'r cyfeiriad hwn, ond dychymig ffol yw dywedyd iddo ei wneuthur yn nod, fel y prawf amgylchiadau cyfansoddi ei lyfrau. Nid yw'r mater yn un o bwys ond i'r graddau y mae a fynno â'i gymhellion ef wrth ysgrifennu. Yr hyn sydd i'w gadw mewn cof yw bod ei gariad ef at wirionedd yn fwy na'i gariad at unrhyw wobr allanol berthynol iddo. Yn ei lyfrau a'i ysgrifau yr oedd ei lygaid fel rheol ar argyfwng a gwasanaeth; weithiau deuai'r awel o lyfr a ddarllenasai. Hyd yn oed wrth gystadlu, fel y gwelsom, ysbrydoliaeth testun, yn fwy na hudoliaeth gwobr, a'i symbylai i gyfansoddi.
"Trueni na fuasai awdurdodau'r Brifysgol yn gwybod pa bryd i anrhydeddu'r teilwng," meddai cyfaill iddo yn ei lythyr cydymdeimlad â'r teulu. Y mae'n ymddangos yn hynod bod eisiau cymaint o amser ar yr "awdurdodau" i wneuthur eu meddwl i fyny, oblegid nid dim a wnaeth Adams wedi 1914 a'u cynorthwyodd, a chawn fod sylw wedi ei alw at ei deilyngdod droeon cyn 1915. Ond nid yw o nemawr pwys, ys dywedai ei nith, "Y mae'n digwydd felly yn ein teulu ni, pan yw'r byd ar ein hanrhydeddu, fe ddywed yr Anfeidrol, Nid yw'n ddigon da i ti, tyrd i fyny yma!"
Ac felly y bu. Ni wyddom sut yr oedd ei fyr ysgafn gystudd yn gweithredu iddo dragwyddol bwys gogoniant, ond gwyddom iddo ei helpu i werthfawrogi'n fwy nag erioed ogoniant cariad dyn, a fu'n ffyddlon " hyd y diwedd "; ac o'r awyrgylch grasol hwn yr aeth ei ysbryd i'r byd anweledig, fel o wanwyn i haf, o gysegr i'r Cysegr nesaf i mewn, Gorffennaf 5, 1922.
Claddwyd ef yn Nhalybont Gorff. 10.
Byddai croniclo manylion ei gladdedigaeth yn rhy debig i gyfrif nifer y nodau mewn darn o gerddoriaeth bêr. O brin yr oeddym yn ymwybodol ohonynt, ni ei gyfeillion, o leiaf; yr oeddym fel rhai mewn cwmwl, ond ag enfys arno—cwmwl cymysg o alar a llawenydd. Yr oedd yr awyrgylch yn y capel ac yn y cwrdd coffa yn un addoliadol a hyfryd, a rhyw berarogl santaidd yn ymgymysgu ag arogl y blodau ar ei arch. Eto, hyfryd oedd gweld ei gydweinidogion (Annibynnol) a rhai o ddiaconiaid Lerpwl wedi dyfod i'w hebrwng yr holl ffordd i Dalybont, a hen gyfeillion o'i gylch bore yng ngwaelod y sir yn cwrdd â hwy yno mewn gwerthfawrogiad o'r bywyd a fu'n gyfrwng bendith iddynt fel ei gilydd.
Gosodwyd coronblethau ar ei fedd gan ddwylo annwyl y diwrnod hwnnw, a thalwyd llawer teyrnged deilwng i'w goffadwriaeth, ar y pryd ac yn y cwrdd coffa, a rhai y gellir eu darllen eto mewn newyddiadur a chyfnodolyn. Ond y mae yna lu o dystiolaethau nas cyhoeddwyd, rhai a ddanfonwyd ato ef ar adegau arbennig, neu ynteu at y teulu adeg ei farwolaeth, a rhoddwn ddetholiad ohonynt ar derfyn y Cofiant. Y maent yn sêl ar dystiolaeth y Cofiant i'w deilyngdod yn fwy nag ychwanegiad at nifer y tystiolaethau iddo. O ran hynny ni allwn roddi ond detholiad bychan o eiddo rhai cyfeillion oedd yn sefyll mewn perthynas arbennig ag Adams, neu ynteu â chanddynt hawl arbennig i siarad ar ryw agwedd o'i fywyd.
Rhoddwn y lle blaenaf i ddau hen gyfaill o'r tu hwnt i'r llen, a'u cyfeillgarwch ag ef yn mynd yn ol i gyfnod Aberystwyth, ac felly wedi ei brofi'n hir.
Y Prifathro T. F. ROBERTS (ar dderbyniad ei lyfr yn 1914):
"Yn (y bennod) Buchedd a Chredo yr ydych yn ffyddlon i'r nodyn y dechreuasoch arno yn Aberystwyth. Yr oeddwn yn meddwl am hyn brynhawn Sul. Y mae'r adail yma'n gysegredig am fod brwydrau ysbrydol wedi eu hymladd yma a gynorthwyodd eraill ymlaen. Cofiais am ddarlithiau T. C. Edwards ar I. Corinthiaid a'ch Creed and Character chwithau. Hyderaf y parhewch i yrru adref eich casgliad: Yr oedd Iesu wedi byw pob gwirionedd a lefarwyd ganddo . . . a'r cyfan yn cael eu byw a'u gweithio allan yn ymarferol gan y credinwyr."
TAFOLOG:
Oherwydd tybied bod Adams yn cyfeirio ato ef mewn ysgrif o'i eiddo ar "Feirniadaeth" ysgrifennodd Tafolog lythyr dan gochl ffugenw i'r Geninen, ac ni fedrai ei galon dyner edifarhau digon am hynny, oblegid cyfeiria at y peth am flynyddoedd. Yr oedd hyn mor bell yn ol ag 1899:
"Ni allaf fynegi mor dda oedd gennyf dderbyn eich llythyr diweddaf a gweled y dôn faddeugar oedd yn rhedeg drwyddo. Rhoddodd esmwythâd mawr i'm meddwl, er na allaf byth faddeu i mi fy hun am y saethau gwenwynig a anelais i galon y cyfeillgarwch puraf, ac ar ol cael cymaint o brawf ohono am gynifer o flynyddoedd. . . . Yr wyf wedi teimlo bob amser ei fod yn llawer mwy o anrhydedd i mi gael fy nghyfrif fel un o'ch cyfeillion pennaf nag ydyw i chwi fod felly i mi; ac er yn gwahaniaethu ychydig yn fy marn oddiwrthych ar rai pethau, nid oes neb ymysg ein dysgawdwyr yr wyf yn ei gymryd yn gymaint o athro, ac yn ameu yn fwy gyfyngder fy myd o feddwl pan fyddaf yn methu cydweld ag ef, â chwi."
Ysgrifennwyd a ganlyn adeg dathlu pen ei chwarter canrif yn Grove Street (a Jiwbili'r Eglwys) gan rai sydd â phrofiad blynyddoedd o gydweinidogaethu ag ef yn yr un dref yn sail i'w tystiolaeth. Estyn cyfeillgarwch Mr. Owen ag ef, fel y ddau flaenorol, yn ol i gyfnod Aberystwyth.
Y Parch. JOHN OWEN, Southport:
"Caniatewch i mi ddywedyd mor dda yw gennyf weled fod 'parch yn cael ei dalu lle mae parch yn ddyledus.' Nis gwn a oedd rhywun yn cynrychioli y M.C. yn y cyfarfod yn Grove Street. Gallaf eich sicrhau eich bod wedi ennill parch ein haelodau yn Liverpool, a hynny y dosbarth goreu. Nid ydych wedi arfer gwenhieithio i'r cyfoethogion, ond wedi cyflawni eich gwaith gyd â ffyddlondeb. Perchir eich cymeriad pur, a'ch llafur o blaid Dirwest a Phurdeb. Dïau eich bod flynyddoedd yn ol wedi bod yn wrthrych amheuaeth, ond y mae'r awyrgylch wedi newid. Goddefir llawer mwy o ryddid yn awr, a chredaf fod ein Cyfundeb ni yn y Gogledd wedi gwneuthur camau breision yn y cyfeiriad hwn yn ystod y chwarter canrif diweddaf. Priodolaf hyn yn bennaf i ddylanwad ein hen Athro T.C.E. Dioddefodd ef er mwyn ennill y rhyddid hwn, a chredaf y cydnabyddir heddiw mai ef oedd y force mwyaf yn ein plith yn y cyfnod hwn. Gresyn nad ysgrifennid Cofiant teilwng iddo. Yr ydych chwi yn un o'i ddisgyblion, ac yn un sydd yn dwyn ei ddelw,—o ran cariad at y gwirionedd, a gwroldeb i amddiffyn eich syniadau."
Y Parch. R. AETHWY JONES, M.A.: "Y mae traddodiadau a hanes eglwys Grove Street a'i gweinidogion yn rhai anrhydeddus iawn, ac y mae Mr. Adams wedi bod yn ddilynydd teilwng i'r gwŷr enwog a fu'n gweinidogaethu yn Grove Street o'i flaen. Yr wyf wedi cael cyfleusterau lawer i'w adnabod, ac i gydweithio ag ef yn ystod y tair blynedd ar hugain diweddaf. Mae wedi bod yn aelod gwerthfawr o Gyfarfod y Gweinidogion Cymraeg, ac o Bwyllgor Gweithiol Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Yr ydym yn arfer cytuno ar y rhan fwyaf o bethau, ond yn anghytuno, weithiau, yn ein barn ar rai pynciau diwinyddol; ond pa mor frwd bynnag fyddai y ddadl rhyngom, ni chymylodd hynny ddim ar ein cyfeillgarwch. Mae fy mharch i Mr. Adams yn fawr. Mae yn ŵr o argyhoeddiad dwfn, o wybodaeth eang, ac o gymeriad difrycheulyd. Cefais i ynddo gyfaill cywir, ffyddlon a thra charedig. A hyfryd i mi yw ei weled, os yn hen, fel yr arferir cyfrif, eto mor ieuanc—ieuanc yn ei ynni a'i asbri a'i fywiowgrwydd corfforol, ieuanc o ran ei ysbryd, ac ieuanc o ran ei feddwl. Nid yw gweithio yn ddifefl yn Lerpwl am chwarter canrif wedi mennu dim arno."
Y Parch. D. E. HUGHES, L.D., ficer Eglwys Dewi Sant:
Drwg gennyf na allaf ddyfod i dalu gwrogaeth i Mr. Adams. Yr ydwyf mewn annwyd trwm. Caraswn ddyfod pe yn unig ond er mwyn dangos y medr Eglwyswr egwyddorol dalu parch i Ymneilltuwr egwyddorol. Mae Mr. Adams bob amser yn gyson. Cas beth iddo ydyw degwm a gwaddol—nid yn unig mewn Eglwys, ond mewn Capel a Choleg hefyd. Ychydig o'r cysondeb hyn a welir heddiw, hyd yn oed ymhlith yr Eglwysi Rhyddion."
Ar achlysur ei farw ysgrifenna'r Parch. H. HARRIS HUGHES, B.A., B.D., ar ran Eglwys Princes Road, at Mrs. Adams fel hyn:
"Yn ein cyfarfod eglwys neithiwr gwnaed cyfeiriadau tyner iawn at eich priod hoff, ymadawiad yr hwn sy'n achos galar inni i gyd, a gofynnwyd i mi fynegi i chwi gydymdeimlad didwyll y swyddogion a'r aelodau â chwi yn eich galar mawr. Yn ystod tymor hir ei lafur yn Lerpwl, enillodd Mr. Adams le iddo'i hun yn serch a pharch ei frodyr yn y weinidogaeth a'r eglwysi oll. Yr oedd ei bersonoliaeth foneddigaidd a chref, ei feddwl rhyddfrydig, nerth ei argyhoeddiad, a'r ysbryd gwirioneddol a dwfngrefyddol oedd odditan y cwbl yn ei wneuthur yn allu ym mywyd ein Cyfundeb yn y ddinas, ac fe a'i collwn bawb yn fawr."
Ni chynrychiolir yr enwadau i gyd yn y tystiolaethau hyn, oblegid prinder defnyddiau. Ond dïau y golyga absenoldeb llythyrau bresenoldeb personol yn y cyrddau. O leiaf gwyddom i'r Parchn. John Felix (W.), Joseph Davies (B.), a Phedrog (ac eraill wrth gwrs) siarad yn y Cwrdd Coffa dan lywyddiaeth y Parch. O. L. Roberts, a dwyn eu tystiolaeth ddigamsyniol i Adams.
Ni a gawn yn awr dystiolaeth nifer o athrawon Coleg a fedd hawl i siarad dros feddwl ieuanc Cymru ac ynghylch ei deilyngdod i deitl y Brifysgol:
Yr Athro W. JENKIN JONES, M.A. (yn 1915): "Haedda eich llyfr gylchrediad eang . . . Yr wyf wedi awgrymu droeon i rai o'm cydathrawon yn y Brifysgol Gymreig y dylid eich anrhydeddu a'ch gwneuthur yn Ddoethor mewn Diwinyddiaeth. Ond rhyfedd mor araf a gwyliadwrus yw ein symudiadau."
Y Prifathro E. GRIFFITH—JONES, B.A., D.D. (yn 1917): 'Bydd yn fater o bleser a diddordeb mawr i mi ddarllen eich adolygiad. Nid oes gennyf yr amheuaeth lleiaf na ddysgaf lawer oddiwrth eich sylwadau ar fy llyfr. Y mae fy awydd yn fawr am wybod pa mor bell y cydunwch â mi, gan y gwn eich bod wedi rhoddi bywyd o feddwl ac astudiaeth i'w destun . . . . Pa bryd y gwnâ Prifysgol Cymru ei dyletswydd iddi ei hun ac i chwithau drwy roddi i chwi radd D.D.? Y mae arnaf gywilydd o'i hymddygiad tra chynnil tuagat fy nghydwladwyr a deilynga'r anrhydedd."
Y Prifathro T. LEWIS, M.A., B.D. (yn 1922): "Yr oedd yn gorfforiad o gywirdeb—meddyliol a moesol. Ni ddeuthum erioed i gyffyrddiad â meddyliwr mwy gonest. Ac yr oedd ganddo wroldeb i fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau—yr oedd mor ddiofn ag ydoedd Ni phregethai yr hyn a fodlonai'r llïaws. Ychydig yw rhif y rhai a wnâ hyn, ond hwyntŵy yw gwir weision eu hoes. Y mae yr hyn a bleidiai ef bum mlynedd ar hugain yn ol yn cael ei dderbyn yn gyffredinol heddiw. Ond yr oedd eisiau ysbryd gwrol y pryd hwnnw. Yr oedd ef, yn ystyr lawn y gair, yn arloeswr. Ni wnaeth neb fwy yn wir, ni wnaeth neb gymaint—i roddi cyfeiriad i feddwl yr enwad. Er na allwn lai na theimlo'n colled ar ei ol, dylasem fod—ac yr ydym yn dra diolchgar i Dduw am roddi'r fath arweinydd i Gymru pryd yr oedd arnom ei eisiau."
Yr Athro D. MIALL EDWARDS, M.A.:
"Y mae ymadawiad Mr. Adams yn golled genedlaethol. Teimlaf fy hun wedi colli un yr edrychwn i fyny ato ar hyd y blynyddoedd fel arweinydd ym mhethau meddwl ac ysbryd, ac un a ddangosodd garedigrwydd tad a chyfaill i mi lawer tro.
"Gwnaeth wasanaeth mawr iawn a gwerthfawr yn ei ddydd. Bu yn arloesydd y tir mewn llawer cyfeiriad, a gadawodd ei ol yn ddwfn ar feddwl ei oes a'i wlad. Priodol iawn oedd gwaith Prifysgol Cymru yn penderfynu ei hanrhydeddu ei hun trwy ei anrhydeddu ef â gradd D.D. Gŵyr pawb ei fod yn cwbl haeddu'r anrhydedd hwn, a thrueni na buasai'r awdurdodau wedi sylweddoli hyn yn gynt. Yr oeddwn wedi cwbl fwriadu anfon gair ato i'w longyfarch yn galonnog pan ddeuai'r amgylchiad pryd y byddai'r Brifysgol yn cyflwyno'r teitl iddo. Ond erbyn hyn aeth tu hwnt i gyrraedd fy llais a'm hysgrifen, ac eiddo llu eraill a fuasai'n ymuno mewn llongyfarchiad. Aeth i'r wlad lle nad yw teitlau ac anrhydeddau daearol yn cyfrif, a lle nad oes dim yn cyfrif ond ffyddlondeb i'r Meistr Mawr. Ar gyfrif y ffyddlondeb diwyro a ddangosodd bob amser i'r Meistr a garai, y mae iddo erbyn hyn radd uchel a disglair ym Mhrifathrofa'r Gogoniant, ac y mae mewn gwell mantais heddiw nag erioed i fyfyrio'r dirgelion dwyfol y cysegrodd ei fywyd i'w deall ac i'w dysgu i eraill."
Yr Athro J. MORGAN JONES, M.A.:
Teimlaf yn siomedig na fu byw i dderbyn yn ffurfiol yr anrhydedd y penderfynodd y Brifysgol ei osod arno, ac a oedd yn hen ddyledus iddo. Drwg gennyf iddi ohirio ei roddi gyhyd. Gwn fod y golled bersonol i chwi (y teulu) yn gwneuthur hyn yn beth bach yn eich golwg; ond hyderaf y bydd yn rhoddi rhyw gymaint o gysur i chwi wybod ei fod ef yn cael ei werthfawrogi drwy Gymru o'r diwedd yn fwy nag erioed o'r blaen. Yr oedd yn arloeswr mewn llawer ffordd; ac yr wyf fi yn un o'r llawer a ŵyr yn dda fod eu ffordd wedi ei rhwyddhau yn fawr iddynt drwy iddo ef fyw a gweithio a darostwng anawsterau drostynt yn y blynyddoedd a fu. Yr wyf fi'n bersonol, efallai, dan fwy o ddyled iddo na'r rhan fwyaf, ond y mae holl feddwl Cymru yn wahanol oblegid yr hyn a ysgrifennodd ac a wnaeth."
Y mae gan ei "blant yn y ffydd" hawl eithriadol i roddi eu tystiolaeth; a gwyddom y buasai ef yn ei chyfri mor werthfawr â'r un.
Y Parch. GWILYM EVANS, Aberaeron, a ddywed:
"Er mai yng Ngwernllwyn y dechreuais bregethu, Mr. Adams a ystyriwn fy nhad yn yr Efengyl, a theimlaf fod y byd gryn dipyn yn wacach hebddo.... Cofir ef yn hir yng Nghymru fel pioneer mewn meddwl a moes. Y mae effaith ei lafur yn Hawen, yn safle uchraddol yr ardal wledig, i'w ganfod hyd heddiw, ac erys yno am genedlaethau hir. Efô oedd y diweddaf bron o arwyr fy ieuenctid, a bydd yr atgof cysegredig amdano i lawer yn symbyliad i ymgysegriad llwyrach."
A'r Parch. T. OGWEN GRIFFITH, Rhyl (ynglŷn â'r teitl):
"Teimlaf yn wirioneddol falch fod fy hen weinidog galluog wedi ei anrhydeddu gan Brifysgol Cymru â'r radd uchaf y gallai ei rhoddi iddo. A phwy yng Nghymru (gyd â phob dyledus barch) sydd â mwy o gymwysterau na chwi i'w gwisgo'n anrhydeddus? . . . I mi y mae Doctor a David Adams yn dermau cyfystyr ers 30 mlynedd, a dyma'r arfaeth fawr wedi trefnu iddi fod felly mewn gwirionedd."
O fysg lleygwyr, caiff tri o'i dri chylch siarad:
Mr. B. O. JONES,[19] Caerdydd (Hawen):
"Un o blant Hawen wyf fi; Mr. Adams a'm bedyddiodd, ac ni fu neb erioed yn ddyfnach yn fy serch. Pan oeddwn yn blentyn, yr argraff oedd gennyf ohono oedd ei fod yn un o urddasolion y wlad, a heddiw, wedi llawer blwyddyn, y mae'r un argraff yn aros ond wedi dyfnhau wrth ei adnabod yn well, ac fe bery y serch a'r anwyldeb tra byddaf byw. Nid rhywbeth wyf fi wedi ei feithrin yn unig yw'r serch yma, ond y mae'n rhedeg yn y teulu ac wedi disgyn fel etifeddiaeth i mi. Yr wyf yn ŵyr i David Jones Poplar, un o stalwarts Hawen, a chyfaill mynwesol i Mr. Adams."
Mrs. WINTON EVANS, Llundain (Hawen a Bethesda):
"I mi yr oedd yn fwy na dyn, yr oedd yn sefydliad i barhau byth, am ein bod wedi ymgynefino â theimlo ei fod ef yn wastad rywle yng nghefndir ein bywyd, yn corffori popeth oedd uchaf a goreu yn yr hyn yr awyddem ei gyrraedd. Nid wyf yn cofio adeg yn fy hanes pan nad oeddwn yn ymwybodol o bersonoliaeth Mr. Adams . . . Wedi i mi dyfu i fyny a gadael tymor plentyndod ar ol, yr wyf o hyd yn ymwybodol o'r fraint o fod wedi perthyn i'w ddiadell, a chael cyfleusterau i gyfeillachu ag un o bersonoliaeth mor fawr ar ochr meddwl a bywyd, fel y mae'n golled bersonol i mi iddo fynd o'r byd."
Mr. J. W. MORRIS, bargyfreithiwr, Llundain (Lerpwl):
"Yn ystod fy mywyd ieuanc ni allaswn gael cyfaill mwy caredig, mwy cywir, a chefnogol nag oedd Mr. Adams i mi. Credaf mai myfi oedd y plentyn cyntaf a fedyddiodd wedi dyfod i Grove Street, a dangosodd ddiddordeb ynof a serch tuag ataf oedd y tuhwnt i'm teilyngdod, ond yn llawn o hyfrydwch i mi.
"Bydd i mi yn wastad anwylo coffadwriaeth Mr. Adams fel ysgolor gwych, fel gŵr o ddiwylliant mawr a gallu meddyliol uchel, ynghyd â grym cymeriad a gwroldeb moesol, un a dreuliodd ei fywyd i geisio sicrhau dedwyddwch eraill, ac ymgysegru i'r gwasanaeth uchaf sydd mewn bod."
Dyma ni wedi cyrraedd y terfyn; ac wrth daflu golwg yn ol dros fywyd y dyn hwn, a cheisio ffurfio barn deg arno, credwn y cytuna'r darllenydd â'r dyfarniad: "Dyma i chwi ddyn cryf a glân, a gonest, a gwrol, a defnyddiol, a hawddgar: un ag ef eto yn llanc, drwy dalent ac uchelgais a phenderfyniad, a gododd o'r gwaith mŵn mewn ardal wledig i fod yn ysgolfeistr trwyddedig; ac wedi gwasanaethu fel y cyfryw am rai blynyddoedd, dan yrr anesmwythdra dwyfol, a aeth i mewn am gwrs pellach o efrydiaeth; yna, wedi ennill gwobrwyon uchaf ysgolheigdod yng Ngholeg Aberystwyth yn ei ddyddiau goreu (o ran talent), a ymsefydlodd yn y weinidogaeth, a chyd â dangos chwilfrydedd cwbl arbennig yn holl diriogaethau gwyboddaeth ymron, a drodd yn arloeswr diwinyddol ei wlad a'i oes; a than y cyfan ac uwchlaw'r cyfan a ddatblygodd ddynoliaeth gref a grasol, hawddgar a da, yng ngwasanaeth Duw a dyn. Cafodd ei ddonio'n helaeth gan natur, ond at ei gynysgaeth naturiol ychwanegodd y Nef un foesol ac ysbrydol ragorach, oblegid cafodd yr Efengyl sianel yn ei serch i'w ddyfnhau a'i lydanu i lifeiriant ei chariad, ac yn ei gynneddf ddamcaniaethol a'i wroldeb naturiol offerynnau i ymdrechu am ffurfiau diwinyddol mwy digonol i led a hyd a dyfnder ac uchter ei chariad, fel nad anweddus ar ei wefusau, hyd y gallwn weld, fyddai'r geiriau: 'Arglwydd, pum talent a roddaist ataf, wele mi a ynillais bum talent arall atynt.""
Ffarwel, ein cyfaill, ennyd! er na allasom
Blymio dy natur, fesur ei huchter hi,
Wrth ddarllen Aristotl ni ddeallasom
Mo gyfeillgarwch fel drwy'th nabod di!
BRASLUN O'I HANES
[Gall y braslun hwn fod yn gyfleus i rywrai, ond dylasai fod fwy na hynny, oblegid dengys annigonolrwydd pob cronicl o'r fath i gymhlethrwydd bywyd—ei ddyfnder a'i uchter yn neilltuol. Fe sylwa'r darllenydd mai'r blynyddoedd teneuaf ar yr wyneb oedd y rhai tewaf eu cynnyrch a mwyaf eu twf yn y dwfn yn ei hanes, sef 1880-1889 yn athronyddol a 1900-1906 yn ysbrydol. Efallai y byddai'n well gan rywrai edrych ar y cyfnod blaenaf fel un o fynd i mewn i benumbra ac umbra Hegel a Darwin, a'r olaf fel un o ddyfod allan ohonynt; ond hyd yn oed felly, yr oeddynt yn gyfnodau â'u hystyr ar y cyntaf islaw'r wyneb. Y mae'r blynyddoedd o 1914 ymlaen yn dra chynhyrchiol mewn rhoddi i'r byd wmbredd o feddyliau oedd "dros ben" ganddo ar ol ymchwil a myfyrdod oes, heb ddim o bwys arbennig i'w groniclo. Bid siŵr, croniclir ffeithiau llai pwysig yn nechreu ei fywyd, am eu bod, yn berthynasol, yn dra phwysig y pryd hwnnw, fel y mae nant y mynydd ar ddechreu taith afon o fwy pwys iddi nag afonig yn nês ymlaen, pan yw ei rhediad yn llydan a llawn yn y doldir].
1845: Ganwyd yn Nhalybont, Awst 28.
1859: Gadael yr ysgol am y gwaith mŵn.
1862: Mynd yn ol i'r ysgol fel pupil teacher.
1865: Mynd i Goleg Normalaidd Bangor.
1866: Yn gydfuddugol â Gwilym Pennant am gân i "Weniaith."
1867: Yn Ysgolfeistr yn y Bryn, Llanelli.
1868: Ennill amryw wobrwyon Eisteddfodol.
1869: Mynd i Goleg Normalaidd Abertawe, a matriculatio ym Mhrifysgol Llundain.
1870: Ysgolfeistr yn Ystradgynlais.
1872: Gadael Ystradgynlais oblegid gwaelder iechyd.
1873: Ennill ar y bryddest i'r "Anialwch" ym Mrynamman.
1874: Ennill Ysgoloriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth.
1877: Graddio'n B.A. ym Mhrifysgol Llundain.
Ennill Cadair Powys am bryddest ar "Addysg."
1878: Cael ei ordeinio'n weinidog Hawen a Bryngwenith.
1880: Ennill Coron Eisteddfod Tregaron am bryddest ar Wyrth Gyntaf Crist."
1884: Ennill ar draethawd ar "Hegel" yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl.
1888: Symud i Fethesda, Arfon.
1889: Ennill Cadair Eisteddfod Abermaw am bryddest ar "Orthrwm."
1891: Ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am bryddest ar "Cromwel."
1892: Ennill ar draethawd ar Athroniaeth Green a Martineau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl.
1893: Ennill hanner y wobr ar draethawd ar " Ddatblygiad " yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd.
1895: Symud i Grove Street, Lerpwl.
1897: Cyhoeddi Paul yng Ngoleuni'r Iesu.
1899: Ennill ar y traethawd ar "Foeseg Gristnogol" yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
1906: Cyhoeddi Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth.
1908: Cyhoeddi Esboniad ar y Galatiaid.
Cyhoeddi Llawlyfr yr Athro.
1913: Yn Gadeirydd yr Undeb Annibynnol Cymraeg. 1914: Cyhoeddi Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar.
1922: Yn cael ei daro'n glaf, a derbyn gwybodaeth o fwriad Prifysgol Cymru i roddi iddo deitl D.D.
1923: Huno yn yr angau (Gorff. 5), a'i gladdu yn Nhalybont (Gorff. 10).

Nodiadau
[golygu]- ↑ Yr oedd ef wedi gadael cyn i Adams ddyfod,
- ↑ Gwnaed y pennill hwn gan un o'r cofianwyr pan oedd yn fachgen, ar gais Mr. S. Davies, Cilfallen—un o'r wyrion.
- ↑ Wyres i'r enwog Ddr. Davies, Pant-teg
- ↑ Y Prifathro T. Rees yn Y Geninen Hydref, 1922.
- ↑ esblygiad
- ↑ "Y mae gweithio'n weddio."
- ↑ "Y mae gweddio'n weithio."
- ↑
1 In sober mornings, do not thou rehearse
The holy incantation of a verse;
But when that men have both well drunk and fed
Let my enchantment then be sung or read.
When laurel spirts i'th' fire and when the hearth
Smiles to itself and guilds the roof with mirth;
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
When the rose reigns, and locks with ointment shine
Let rigid Cato read these lines of mine.—HERRICK. - ↑ Gwêl yr Esboniad, tud. 65, ar pen. 312, a nodiad D, tud. 156.
- ↑ The Philosophy of Christian Experience H. W. Clark. Cym. Cenadwri'r Eglwys a Phroblemau'r Dydd, tud. 63—67.
- ↑ Er y buasai'n rhaid i'r Cofiannydd ei osod o flaen y lleill yn y gystadleuaeth, yr oedd ei gyd-feirniad—yr Athro J. M. Davies, Caerdyddyn llawer mwy brwdfrydig drosto.
- ↑ Gwêl hefyd tud. 110 a 177.
- ↑ Merch Mr. a Mrs. Davies, National and Provincial Bank, Aberteifi.
- ↑ Nodyn:datblygiad yma =evolution. Bathwyd y term esblygiad yn y 1930au gan D. James Jones
- ↑ Ni fuasai Adams yn caniatau bod canfyddiadau moesol ac artistig yn "ddireswm." Ei eiriau yw: "Gall fod y rhesymau neu'r cymhellion a'u gwreiddiau o'r golwg neu'n ymguddio ymhell yng ngorffennol bywyd."
- ↑ Gwêler ysgrif yr Athro W. Jenkin Jones (tud, 157).
- ↑ Y mae profiad Mr. W. R. Owen yn wahanol (tud. 106)
- ↑ Cysylltai'r hen gerddorion bwys â hyn.
- ↑ Un o ddiaconiaid Ebenezer, Caerdydd.
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.