Crempog (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Eirinen
Nesaf – Yr Awyr

Mae Crempog yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


Os gwelwch chwi'n dda, ga'i grempog?
Mae mam yn rhy dlawd
I brynu blawd,
A nhad yn rhy ddiog i weithio;
Halen i'r ci bach,
Bwyd i'r gath bach,
Mae ngheg i'n grimpin eisiau crempog.