Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Bethel, Cemmaes
| ← Salem, Bryngwran | Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon gan William Williams (Cromwell) |
Saron, Bodedeyrn → |
BETHEL,
CEMMAES.
DECHREUWYD cynal cyfarfodydd crefyddol gan yr Annibynwyr yn Mhenrhyn, Cemmaes, tua'r flwyddyn 1806. Cymerwyd tŷ anedd yn y lle i'r perwyl, gan Mr. Owen Thomas, Carrog, yr hwn a fu yn ymdrechgar iawn ar y pryd, yn ngwyneb llawer o anfanteision. Deuai rhai o'r brodyr crefyddol o Lanfechell, yn achlysurol, i'w gynorthwyo, ond gan fod yr achos yno yn dal yn lled wan, nid rhyw lawer o gymhorth a allasent estyn iddo. Dywedwyd wrth Mr. Thomas yr adeg hon, fod dyn defnyddiol o'r enw William Jones, yr hwn a berthynai i eglwys Rhosymeirch, yn chwilio am le cysurus i fyw; aeth yntau yn ebrwydd i ymofyn am dano, a chytunwyd iddo gael byw ar dir Carrog; o hyny allan, bu y brawd ffyddlon hwn yn gymhorth mawr i gynal cyfarfodydd crefyddol yn y Penrhyn, ac y mae amryw yn yr ardal eto, yn gallu cofio y cyfarfodydd gwlithog a gaed yno. Anaml y byddai yr un pregethwr yn ymweled â'r lle; ond un tro cafwyd cyhoeddiad "gwr dyeithr" i fod yn y Penrhyn un nos Sabbath. Ni ddaeth at ei gyhoeddiad. Wedi hir ddisgwyl yn ofer am dano, gofynwyd i Mr. Owen Thomas ddyweyd ychydig mewn ffordd o bregeth; nid oedd wedi dech reu pregethu y pryd hyn, ond ufuddhaodd yn galonog i'r cais, a chymerodd y rhan hono o'r gair yn destyn-"Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynodd tân, a mi a leferais â'm tafod," Salm xxxix. 3. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1807, ac ar ol hyny arferai Mr. Thomas bregethu yn fynych yn Llanfechell, ac yn y Penrhyn, ac mewn manau eraill. Yn y flwyddyn 1814, ordeiriwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Ebenezer, Llanfechell. Y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwaith y cyfarfod oeddynt y Parchn. J. Griffith, Caernarfon; G. Lewis, Llanuwchllyn; J. Evans, Amlwch; ac R. Roberts, Treban. Yn fuan ar ol hyn, daeth ei ddau fab yn aelodau crefyddol, sef Thomas Owen, ac Owen Thomas. Arhosodd Thomas Owen yn Ebenezer, ac aeth Owen Thomas i'r Penrhyn. Yn yr adeg hon, daeth hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghemaes yn wag, a symudodd y gynulleidfa iddo, pryd y chwanegwyd lluaws at yr eglwys. Yn mhlith y dychweledigion y pryd hwnw, enwir Mr. Lewis Jones, Mr. John Owen, rholiwr, a'i briod; Mrs. Mary Jones, Siop, yr hon a fu yn lletygar i'r pregethwyr dros lawer o flyneddau; Mr. John Morris a'i briod; Mr. John Noall, Mr. John Lewis, saer a'i briod; a Mr. Morris Owen a'i briod. Yn y flwyddyn 1827, adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd traul yr adeiladaeth tua £220. Tua'r un adeg y daeth Mr. Thomas Owen i gynorthwyo ei hybarch dad yn ngwaith y weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1828. Gweinyddodd y gweinidogion canlynol ar yr achlysur:-J. Evans, Amlwch; D. Jones, Rhosymeirch; R. Roberts, Treban; a W, Griffith, Caergybi. Gan fod yr eglwys hon wedi bod mewn undeb gweinidogaethol o'r dechreuad ag eglwys Ebenezer, Llanfechell, cyfeiriwn y darllenydd at hanes yr eglwys hono am restr o'r gweinidogion a fuont yma. Rhifedi yr eglwys ydyw 80, yr Ysgol Sabathol 75, y gynulleidfa 160. Y pregethwyr a godwyd yma ydynt, Mr. Robert Edwards, Mr. Hugh Owens, a Mr. Richard Jones. Y maent yn llafurus a chymeradwy gartref ac oddi cartref.