Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Carmel, Amlwch
← Capelnewydd, Llanerchymedd | Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon gan William Williams (Cromwell) |
Sion, Beaumaris → |
CARMEL,
AMLWCH.
DECHREUWYD yr achos sanctaidd yn mhlith yr Annibynwyr yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1785. Dywed y gweinidog presenol, y Parch. W. Jones, fel y canlyn, Nid yw yn hawdd gwybod pwy a fu yn pregethu gyntaf yma, ond wrth ymofyn flynyddau yn ol â rhai o blant yr aelodau cyntaf, cefais fod y diweddar Barch. Benjamin Jones, yr hwn oedd y pryd hyny yn gweinidogaethu yn Rhosymeirch a'r Capel mawr, yn arfer dyfod yma y blynyddau cyntaf, yn nghydag un William Jones, yr hwn oedd yn cyd lafurio ag ef y pryd hwnw Arferai rhai o'r aelodau cyntaf yn Amlwch, fyned i Rhosymeirch am beth amser i gymundeb, fel y gwnai aelodau eglwysig o wahanol fanau yn y cyfnod hwnw, gan ystyried eglwys Ebenezer fel eu mam-eglwys. Nis gellir gwybod yn sicr yn mha flwyddyn y corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol yma, na faint oedd nifer yr aelodau ar y pryd. Dengys cofrestr y bedyddiadau fod y gweinidog cyntaf wedi ei sefydlu yma yn Mawrth, 1789. Ei enw oedd Evan Jones, daeth yma o'r Deheudir. Dywedir iddo ddyfod ar hyd y môr, a thirio yn Amlwch gyda'r bwriad o fyned yn mlaen i ymsefydlu yn Beaumaris; ond enillwyd ef gan yr ychydig gyfeillion yn y lle hwn i aros yn eu plith. Parhaodd i lafurio yn eu mysg gyda graddau dymunol o lwyddiant hyd y flwyddyn 1792, pan y tueddwyd ef i fyned i'r America, lle y mae yn gorphwys oddi wrth ei lafur er's llawer o flynyddau. Os gellir barnu am Mr. Jones, oddi wrth y gofrestr fanol a rheolaidd o fedyddiadau a adawodd ar ol, ymddengys ei fod yn ofalus yn ei swydd fel gwas i Iesu Grist a'i eglwys. Yn nhymor ei weinidogaeth ef y prynwyd lease ty anedd yn Mhorth Amlwch, yr hwn a wnaed yn lle cyfleus i addoli ynddo. Yn flaenorol i hyn, yr oedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli mewn lle gerllaw y man y saif addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Amlwch, ond yr ochr arall i'r ffordd. Oherwydd fod y gynulleidfa yn lluosogi, bu yn angenrheidiol helaethu y capel ddwy waith yn lled fuan.
Yn y flwyddyn 1794, mewn cydsyniad â dymuniad yr eglwys, daeth y Parch. John Evans, i weinidogaethu yma. Yr oedd gwrandawyr Mr. Evans yn dra lluosog am lawer o flynyddau, yn gymaint felly, fel y gorfyddid ef i fyned i'r areithfa, yn fynych ar nos Sabbath, drwy ffenestr o'r tu cefn i'r lle. Ac felly y parhaodd hyd nes yr adeiladwyd addoldy harddach, a mwy cyfleus na'r eiddo ef yn y gymydogaeth. Yr oedd Mr. Evans yr ŵr tal a hardd o gorpholaeth, ymddangosai yn foneddigaidd a glanwaith yn mysg ei frodyr mewn cyfarfodydd. Gallesid dyweyd am dano fel am ŵr y wraig rinweddol, "Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad." Yr oedd ei ddawn llefaru yn hyawdl, ei lais yn rymus, "llefai heb arbed" ar brydiau wrth gyhoeddi trefn gras trwy y groes i achub pechaduriaid. Gwrthwynebai yn gadarn, fel amryw o'i gydoeswyr yn yr ynys hon, yr hyn a farnai efe yn groes i athrawiaeth iachus, gan enwad newydd a gododd yn ei ddyddiau. Dywed y Parch, W. Jones, iddo glywed Mr. Evans yn pregethu mewn cyfarfod gweinidogion, oddi ar Rhuf. xi., 6; "Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach," &c. Ar ol iddo ddatgan syniadau yr un a wrthwynebai, gwaeddai, "Esay bach, dyro help i guro y dyn yma." Yna dyfynai ran o Esaiah liii, a dywedai drachefn, "Dyna fe ar lawr;" ac yno y gadawodd ef. Derbyniodd Mr. Evans nifer mawr o aelodau i'r eglwys yn ystod y 30 mlynedd y bu yn llafurio yma. Ond gorfodid lluaws o honynt i fyned i leoedd eraill i enill eu bywiolaethau, yr hyn y cwynai efe yn fawr o'i herwydd, a theimlir y cyffelyb rwystr i luosogiad yr eglwys hon hyd y dydd hwn. Bu Mr. Evans yn cadw ysgol ddyddiol am lawer o flyneddau, a pherchid ef yn fawr gan ei hen ysgolheigion. Ond daeth henaint a gwaeledd i'w orfodi i roddi yr ysgol a'r weinidogaeth i fynu, rhoddodd yr olaf i fynu yn y flwyddyn 1825, ar ol llafurio yn Amlwch am 31 o flynyddau, ac yn Machynlleth, cyn dyfod yma, am ryw gymaint o amser. Bu yn byw am rai blyneddau, ar ol ymadael o Amlwch, yn Nhremadog lle y symudodd er mwyn bod yn agos i'w unig ferch. Pregethai yn achlysurol hyd nes i angau roddi terfyn ar ei fywyd yn 95 mlwydd oed. Yr oedd gan Mr. Evans un mab, o'r un enw âg ef ei hun, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn, a nodedig am ei dduwioldeb. Dechreuodd bregethu pan yn bur ieuanc, ac wedi bod ar daith gyda 'i dad, dychwelodd gartref mewn gwaeledd, a bu farw yn mhen ychydig wythnosau. Claddwyd ef yn mynwent Rhosymeirch. Codwyd dau o bregethwyr yma yn amser Mr. Evans, heblaw ei fab ei hun. Un oedd y Parch. David Hughes, diweddar weinidog Trelech. Dechreuodd ar y gwaith mawr yn ieuanc, a chynyddodd mewn gwybodaeth nes dyfod yn ysgolhaig gwych, ac yn bregethwr rhagorol, ond gorphenodd ei yrfa yn gynar, a theimlir colled am dano yn y cymydogaethau a'r eglwysi lle y bu yn llafurio. Y llall ydyw y Parch. Hugh Hughes, yr hwn sydd yn awr yn gweinidogaethu mewn undeb â'r Eglwys Sefydledig yn Lancashire.
Daeth y Parch. W. Jones, y gweinidog presenol, yma Gorphenaf, 1826. Dechreuodd ei weinidogaeth yn yr hen gapel, ond yr oedd tir wedi ei gael ar lease am 99 o flynyddau, a gosodwyd sylfaen y capel newydd yn Awst, yr un flwyddyn. Caniataodd Rhagluniaeth ddaionus bob rhwyddineb i ddwyn yr adeilad i ben, a symudodd y gynulleidfa i'r capel newydd y Sabbath cyn y Sulgwyn, 1827. Darllenwyd rhan briodol i'r achlysur o'r gair sanctaidd, a rhoddwyd mawl i Dduw am ei ddaioni, a gweddiwyd yn daer am i'r Arglwydd roddi ei bresenoldeb grasol yn yr addoldy newydd. Pregethodd y gweinidog oddi wrth 2 Chron. vi. 41, 42. Casglwyd cynulleidfa deilwng o'r tŷ prydferth a chyfleus, a chwaneg wyd rhai canoedd trwy lwyddiant graddol at yr eglwys. Profwyd dylanwad dau adfywiad gwerthfawr yma, un yn 1839-40, a'r llall yn 1859-60; yn mha rai yr ychwanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd. Y mae rhai o ffrwyth yr adfywiad cyntaf yn parhau hyd y dydd hwn, a hyderwn yn gryf y bydd yr ail-ymweliad yn ffrwythloni yn gyffelyb. Helaethwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1861. Bu y draul tua £1000. Ei faintioli presenol ydyw 54 o droedfeddi wrth 42, ac oriel (gallery) helaeth a phrydferth o'i amgylch. Mae y gweinidog presenol wedi bod yn llafurio yn ffyddlon a llwyddianus yma am y tymor hirfaith o 36 o flynyddau. Mae yn gysur iddo feddwl na bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Codwyd amryw o bregethwyr yn yr eglwys hon yn ystod gweinidogaeth Mr. Jones, sef, y Parch. W. Parry, Colwyn; y Parch. E. Evans, Pen y groes; y Parch. J. Hughes, Gwernllwyn, Dowlais; a Mr. E. Jones, yr hwn sydd yn ddefnyddiol gartref, ac yn y cylchoedd cyfagos. Mae yr olwg eto ar yr eglwys yn dra gobeithiol gyda golwg ar dduwioldeb a doniau ei phobl ieuainc. Bu yma gynt luaws o hen frodyr a chwiorydd ffyddlon gyda'r achos, y rhai nid ydynt i'w gweled na 'u clywed ar y ddaear, ond credir eu bod yn canu yn beraidd mewn gwlad well. Megis, W. Parry, J. Owen, J. Pritchard, O. Jones, G. Owen, T. Pritchard, R. Owen, E. Jones (tad yr un presenol), G. Williams, a ddaeth yma o Nefyn, yn nghyda llaweroedd eraill a fuont yn ffyddlon hyd angau. Yr oedd yr addoldy blaenorol, yn nghyda thŷ ac ysgoldy bychan a berthynant iddo, wedi dyfod bron yn ddiddyled, er iddynt gostio tuag £800; a buasent yn hollol felly, oni buasai y draul yr aed iddi rai blynyddau yn ol i'w hadgyweirio.
Rhifedi yr eglwys ydyw 262, yr Ysgol Sabbathol tua 200, y gynulleidfa yn agos i 500.