Neidio i'r cynnwys

Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Nazareth, Glanyrafon

Oddi ar Wicidestun
Moriah, Gwalchmai Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon

gan William Williams (Cromwell)

Tabor, Mynydd twrf

NAZARETH,

GLANYRAFON

ACHOS gwan sydd yma. Yr oedd y draul o adeiladu y capel tua £70, a hysbysir ni fod y cyfan wedi eu talu. Gofelir am yr achos hwn yn benaf gan weinidog ac eglwys Moriah, Gwalchmai, y rhai fuont yn ymdrechgar iawn i gadw y drws yn agored yn y lle. Nifer yr aelodau ydyw 8, a'r gynulleidfa yn nghylch 20. Ni dybiwn nad ydyw y lle yn anobeithiol, y mae yma addoldy yn ddiddyled, a phoblogaeth led luosog yn ymyl. Hyderwn yn gryf y bydd i lafur y Parch. Thomas Davies, Bodffordd, mewn undeb â'r cyfeillion yn Ngwalchmai, gael ei goroni à llwyddiant buan. Teimlwyd colled yma ar ol y Parch. H. Griffith, offeiriad y plwyf, yr hwn a symudodd yn ddiweddar i Gaerlleon i fyw; bu Mr. Griffith yn gwasanaethu fel curad parhaol plwyfi Llandrygarn a Bodwrog, am dros 35 o flyneddau, Adwaenid ef trwy yr holl ynys fel un o'r pregethwyr mwyaf efengylaidd, a bu ei ryddfrydedd Cristionogol yn achos erledigaeth arno cyn hyn. Ychydig flyneddau yn ol, derbyniodd gerydd llym gan y diweddar Esgob Bangor, am ei fod yn arfer darllen yr Ysgrythyrau, a gweddio yn nhai ei blwyfolion; ystyriai yr esgob fod hyny yn aneglwysig, neu yn ngeiriau ei arglwyddiaeth ei hun, "Yn tueddu i beri i'r plwyfolion syml gredu, nad oedd dim pwys yn mha le, na chan bwy y darllenid yr Ysgrythyr Lân." Bu Mr. Griffith yn noddwr caredig i'r achos gwan yn Glanyrafon, rhoddai ymborth a llety yn ei dŷ ei hun yn siriol i'r pregethwyr a ddeuent yma. Y mae yn llawen genym gael gwneyd hyn o goffadwriaeth am ei enw teilwng, gan ddymuno iddo bob bendith dros y gweddill o'i oes.

Nodiadau

[golygu]
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Glan-yr-afon, Bodffordd
ar Wicipedia