Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Salem, Bryngwran
← Hermon, Llangadwaladr | Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon gan William Williams (Cromwell) |
Bethel, Cemmaes → |
SALEM,
BRYNGWRAN.
DECHREUWYD yr archos hwn yn mhlwyf Ceirchiog, trwy offerynoliaeth un o'r enw John Bulk.[1] Dygwyddodd iddo ddyfod trwy y gymydogaeth pan oedd un Edward Williams yn adeiladu tŷ anedd, ac aeth yn ymddyddan rhyngddynt: dywedodd John Bulk, "y mae yma le cyfleus iawn i bregethu, a wnewch chwi ardrethu y tŷ hwn i hyny?" Atebodd E. Williams, "gwnaf, os caniata fy meistr tir." Cafodd ganiatad i'w ardrethu i'r perwyl am dair blynedd, a buwyd yn pregethu ynddo am yr yspaid hwnw; ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan a thô gwellt arno, trwy offerynoliaeth un Thomas Rowlands, Treban, a chynaliwyd moddion crefyddol ynddo dros amryw flyneddau. Pa bryd, neu gan bwy y ffurfiwyd yr eglwys sydd ansicr.
Yn y flwyddyn 1824, adeiladwyd y capel presenol (Salem), pryd y symudwyd yr achos o Geirchiog i Fryngwran, yn mhlwyf Llechylched; rhifedi yr aelodau ar y pryd oedd 50. Cynyddodd yr achos i'r fath raddau fel y bu yn angenrheidiol helaethu yr addoldy yn y flwyddyn 1839. Traul adeiladu yr addoldy cyntaf yn Bryngwran oedd £150, yr hon a symudwyd yn llwyr yn mhen tua 10 mlynedd, heb fyned i unlle o'r gymydogaeth i ofyn cymhorth. Y baich, mewn gofal a llafur, gan mwyaf, a ddisgynodd ar weinidog y lle, y Parch. Robert Roberts, Treban; yn enwedig ar ol colli y cyfaill ffyddlon, Mr. Evan Griffith, tad Mr. John Evans, Gorslwyd, a Mr. Evan Griffith, Gwalchmai. Dangosodd Mr. Evan Griffith ofal diffuant am gynorthwyo y gweinidog gyda'r adeiladaeth, a llawenychodd yn fawr weled yr addoldy yn llawn ar ddydd yr agoriad. Dygwyddodd fod afiechyd marwol yn ei deulu ar y pryd, a chafodd yntau ei daro yn glaf yn dra disymwth, a symudwyd ef o'r Salem isod i'r Salem uchod yn fuan wedi agoriad y capel, yr hyn a barodd golled fawr i'r gweinidog a'r eglwys. Traul ail-adeiladu yr addoldy oedd yn nghylch £180, yr hon hefyd fel y draul gyntaf, a symudwyd yn llwyr trwy ymdrechiadau cartrefol.
Y diweddar Barch. John Jones, Talgarth, oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu ar yr eglwys hon, ond nid ydym yn sicr pa hyd y bu yn llafurio yma. Dilynwyd ef gan y diweddar Barch. Robert Roberts, Treban, yr hwn oedd wedi cael ei fagu yn y gymydogaeth. Urddwyd ef Mehefin 29, 1810. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y personau canlynol:-y Parchn. George Lewis, Llanuwchllyn; John Griffith, Caernarfon; Jonathan Powell, Rhosymeirch; John Evans, Amlwch; Arthur Jones, Bangor; William Williams, Wern; John Evans, Bala. Bu Mr. Roberts yn y weinidogaeth am tuag 28 o flyneddau. Byrhawyd ei lafur a'i ddefnyddioldeb i fesur helaeth am y pedair blynedd diweddaf o'i oes gan effeithiau y parlys mud (apoplexy), yr hyn hefyd, o'r diwedd, a achlysurodd ei farwolaeth; a gorphenodd ei fywyd llafurus Ebrill 12, 1838, yn 66 mlwydd oed. Yn mhen un mis ar bymtheg ar ol Mr. Roberts, bu farw ei anwyl briod, Mrs. Jane Roberts, yn 66 mlwydd oed, wedi treulio ei hoes, o'r bron, yn ddiwyd a ffyddlon yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Yn mhen ychydig flyneddau ar eu holau, bu farw John Hughes hefyd, un o hen ddiaconiaid yr eglwys, yn 66 mlwydd oed, wedi bod am 40 mlynedd yn ngwasanaeth y diweddar Mr. a Mrs. Roberts,-"Cariadus fuont yn eu bywyd, ac yn angau ni wahanwyd hwynt." Am y tair blynedd olaf o oes Mr. Roberts, bu y Parch. Richard Parry, yn awr o Landudno, yn cydlafurio ag ef gyda chymeradwyaeth mawr, a phob peth yn ymddangos yn siriol a llewyrchus o dan ei ofal ef; ond symudodd Mr. Parry i Gonwy, a hyny yn groes iawn i feddwl a theimlad y cyfeillion yn gyffredin. Wedi hyny, daeth y Parch. William Davies, o Nefyn, yma, ac arhosodd am oddeutu 5 mlynedd. Yn ei amser ef yr ailadeiladwyd y capel. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, bu un John Morris yma am ychydig amser. Ar yr ail Sabbath o Fai, 1850, dechreuodd y Parch. William Morris, y gweinidog presenol, ar ei weinidogaeth yma. Y mae dyfodiad Mr. Morris i'r lle hwn wedi bod yn fendithiol i'r eglwys a'r gymydogaeth. Codwyd yma dri o bregethwyr, sef, Mr. Richard Jones, yr hwn a aeth oddi yma i Goleg Blackburn, ond beth a ddaeth o hono wedi hyny sydd yn anhysbys i'r ysgrifenydd; y Parch. Robert Parry, diweddar o Newmarket, swydd Fflint; a Mr. Robert Roberts, mab ieuengaf y diweddar Barch, Robert Roberts, yr hwn y mae ei glod gartref, ac hefyd yn holl eglwysi y sir, fel Cristion cyson, a phregethwr defnyddiol; mewn undeb a'i frawd Mr. William Roberts, caflawnai swydd diacon yn yr eglwys. Rhifedi yr eglwys yn bresenol ydyw 120, yr Ysgol Sabbathol 160, y gynulleidfa 260. Profwyd gwahanol dymorau gyda chrefydd yn yr eglwys hon,
"Weithiau yn y tywyll gymoedd,
Weithiau ar ben y mynydd glas."
O ddeuddeg i bymtheg mlynedd yn ol, goddefodd ei Phen mawr i ruthr lled arw ymosod arni. Ond o diriondeb trugaredd ein Duw cadwyd hi yn fyw yn y nos. Ni ddifethwyd mo honi, er ei bod ar y pryd fel y "berth yn llosgi." Gwelwyd hefyd dymorau hafaidd a llwyddianus iawn ar yr achos yma. Anrhydeddwyd yr eglwys a chyfranogiad lled helaeth o ddau adfywiad a fu yn y wlad, sef yn 1839-40, ac yn 1859–60. Ychwanegwyd yn nghylch 60 at yr eglwys y tro diweddaf, ac er fod aml un fel Orpah wedi troi yn ol, eto, y mae y mwyafrif o lawer yn aros hyd y dydd hwn; gan gyrchu at y nôd, fel yr hyderwn, trwy nerth egwyddor, pan y mae tymor yr hwyliau a'r cyffroadau nwydol wedi darfod.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bu gweinidogaeth John Bulk, neu Vulk, fel ei gelwid gan rai, yn hynod o fendithiol mewn gwahanol barthau o'r ynys hon, tua 60 mlynedd yn o!. Yr oedd John Bulk yn enedigol o sir Benfro, a bu yn cartrefu vn Merthyr am y 60 mlynedd olaf o'i oes; glowr (collier) ydoedd o ran ei alwedigaeth; nid oedd yn ordeiniedig, ond pregethai yn achlysurol gartref, a theithiai gryn lawer i bregethu yr efengyl. Ymunodd a'r Bedyddwyr cyn diwedd ei oes. Dywed ei ferch, yr hon sydd yn awr yn lled oedranus, iddo lafurio yn ynys Mon, ar un adeg, am yspaid pedair blynedd, ac mai dyma yr unig le yn y Gogledd y bu yn aros dim ynddo. Ymddengys ei fod yn bur ymroddgar i waith y weinidogaeth. Arferai weithio yn galed wrth ei alwedigaeth, nes cael digon o arian i brynu ceffyl, ac yna cychwynai ar daith i bregethu am rai misoedd, ac ar ei ddychweliad gartref, gwerthai y ceffyl, ac elai yn ol drachefn at ei alwedigaeth. Dywedir am dano ei fod yn ddvn da, yn meddu synwyr cryf, ac yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol iawn. Parhaodd i bregethu hyd derfyn ei fywyd. Bu farw yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Sion, Merthyr.