Neidio i'r cynnwys

Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Siloam, Talwrn

Oddi ar Wicidestun
Berea, Llanidan Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon

gan William Williams (Cromwell)

Siloam, Llanfairyneubwll

SILOAM.

TALWRN

PREGETHAI y diweddar Barch. Benjamin Jones, Rhosymeirch yn yr ardal hon oddeutu 70 o flyneddau yn ol; yr oedd yma ddau neu dri yn proffesu gyda'r Annibynwyr ar y pryd, ac yn aelodau o eglwys Mr. Jones. Yn y flwyddyn 1841, yr adeiladwyd yr addoldy presenol; yr oedd y draul yn nghylch £90. Mae yr achos hwn wedi bod yn lled isel a di gynydd y blyneddau diweddaf. Bu yma ddyled drom yn llethu yr achos, ond y mae yn awr wedi ei symud. Trwy ymdrech cartrefol, yn nghyda'r cymorth a dderbyniwyd o gyfarfod chwarterol y sir, gorphenwyd talu y ddyled yn y flwyddyn 1860. Nifer yr aelodau ydyw 17, yr Ysgol Sabbathol 25, y gynulleidfa 45. Codwyd un pregethwr yma, sef y Parch. R. W. Roberts, Clarach, sir Aberteifi. Mae yr eglwys hon mewn undeb â Phentraeth, o dan ofal gweinidogaethol y Parch. D. Williams.

Nodiadau

[golygu]
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Talwrn, Ynys Môn
ar Wicipedia