Neidio i'r cynnwys

Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Smyrna, Llangefni

Oddi ar Wicidestun
Libanus, Brynsiencyn Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon

gan William Williams (Cromwell)

Moriah, Gwalchmai

SMYRNA,

LLANGEFNI.

ADEILADWYD yr addoldy hwn yn y flwyddyn 1844. Yr oedd gan ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd, a'r Bedyddwyr, achosion crefyddol nerthol a dylanwadol yma er 's llawer o flyneddau yn flaenorol i'r dyddiad uchod; yr hyn oedd i raddau yn anfanteisiol i sefydliad yr achos Annibynol yn y lle. Pa fodd bynag, ymgymerwyd yn galonog a hyderus â'r gorchwyl, a llwyddwyd yn yr anturiaeth i raddau dymunol. Y prif offeryn yn nygiad hyn oddi amgylch, oedd y Parch. David Davies, yn awr o Gerygcadarn, swydd Frycheiniog. Yr oedd traul adeiladu yr addoldy yn £250, a thrwy ffyddlondeb di flino Mr. Davies yn benaf, symudwyd yr holl ddyled yn lled fuan. Ni bu tymor Mr. Davies ond byr, ac o'r adeg yr ymadawodd hyd yn bresenol (1862), y mae yr eglwys hon wedi bod yn amddifad o weinidogaeth sefydlog. Parhaodd yr achos i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, yn ngwyneb llawer o anfanteision, hyd nes y mae wedi cyrhaedd safle lled bwysig a dylanwadol. Y mae amryw o Gymanfaoedd yr Annibynwyr yn Môn wedi cael eu cynal yma, a dangoswyd llawer o diriondeb a charedigrwydd tuag at yr achos gan y trigolion yn gyffredinol, ar y cyfryw amserau. Mae y gynulleidfa gyda'r blaenaf mewn ffyddlondeb ei chynulliadau, ac yn ei chyfraniadau at yr achos. Y mae ffyddlondeb a gweithgarwch yn ffynu yn yr eglwys. Oni buasai diwydrwydd a diysgogrwydd y cyfeillion o blaid yr achos yn y lle, nis gwelsid yr olwg ddymunol a gobeithiol sydd arno yn bresenol. Nifer yr aelodau ydyw 83, yr Ysgol Sabbathol 70, y gynulleidfa 120. Un pregethwr a godwyd yma, sef y Parch. Rowland Williams (Hwfa Môn), Bethesda, Arfon. Aelod o'r eglwys hon ydyw y brawd Mr. Hugh Thomas, yr hwn sydd yn adnabyddus i holl eglwysi y sir fel dyn defnyddiol a phregethwr cymeradwy.

Nodiadau

[golygu]
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llangefni
ar Wicipedia