Cwyn Lewis Rees a'i chwaer Ann am eu halltuddiaeth am ladrad yn Nolgellau
| ← | Cwyn Lewis Rees a'i chwaer Ann am eu halltuddiaeth am ladrad yn Nolgellau gan John Jones (Pyll) |
→ |
CAN NEWYDD
SEF CWYN
LEWIS REES,[1]
A'I
Chwaer Ann,
Cyn cychwyn eu Halltudiaeth i phordd o Lundain,
rhai a Alltudiwyd o herwydd eu lladrad o Ddolgellau,
Gorphenaf 25, 1854
Cenir ar "Belisle March.
Yn awr gyfeillion o un galon,
Yn gynen nos a dydd,
De'wch i wrando arnai'n cwyno
Heb flino yn ddi-gudd;
Clywch fy mhrofiad mewn caethiwad,
Yr y'm mewn galar dwys,
Yn hiraethu a galaru
Am Gymru lander lwys,
Am Gymru mae fy mayd,
Ai harddwch olli gyd,
Ona ddelwn eto iddi
O'm holl dreni drud,
Yr y'm ni yma'n anniddanol,
Yn gwneud annynol nad;
Eto'n methu codi i fynu,
I ganfod fy hen wlad,
Mae'n galed arnom nl
Rwy'n dyweud y gwir i chwi,
Digalon hynod bob diwrnod,
Yw i fy chwaer a fi,
Heb un gobaith gwaredigaeth
Dd'od o'r galedwaith hwn,
Hyd nes talu'r flyrling eitha
A'r olaf oll mi wn.
Dyma ddiwrnod caled hynod,
Ar galon Lewis Rees,
A'i chwaer Nancy, aeth mor sydyn
Trwy dori deddfau Crist,
Heb un gobaith gwaredigaeth,
Taith hir faith ydyw hon,
O mor galed ydyw clywed
Y fath deimlad dan ein bron,
Mae lle yr y'm ni'n awr,
A'r deddfau bach a mawr,
Ni chawn weled chwaith na chlywed
Gan neb am doriad gwawr
Rhaid yw aros yn yr hir-nos.
A myn'd i wlad y Negro du,
Dan gaethiwed, heb gael clywed.
Ymwared mwy i ni.
Yn dyoddef gwaethaf gwg,
Yn mysg y tarth a'r mwg.
Y diffyg gwynt mewn lleoedd enbyd
Llawn sulphur drewllyd drwg.
On cawn ninau dd'od oddi yma,
Mi ganwn yn iach, mi wn,
Am gael yn wiwlon dd'od o waelod
Fath hynod le a hwn.
Fe aeth rhai o'n blaenau ninau,
O dre' Caernarfon lon,
Mon a Dinbych, a Threfaldwyn,
Dros for a'i eirwin don,
A swydd Feirion i'w halltudio,
Rwy'n cofio am y dydd,
O Feirionydd hardd yr olwg.
Daeth llu a'u bronnu'n brudd!
Fe'n gyrir dros y mor
I blith y duon gor,
I weithio'n galed mewn caethiwed,
Yn slafiaid gwres ac o'r
Dyma sydd yn tori'a clonau,
Yn gyson ddydd a nos,
Ein bod wedi gadael Cymru,
A gwadu Crist a'i gro's,
I blith y Negroes du,
I gwyno yr awn ni,
On a chawn weled gwlad Meirionydd,
Cyn i ni eu gweled hi,
Rwy'n meddwl am y bryniau,
Ag am hen gyrau ngwlad,
Tre Dolgellau a Thrawsfynydd,
Ag hefyd hen dy nhad.
O mor hyfryd oedd fy mywyd,
Mewn hawddfyd gyd a chwi,
Nawr yn cwyno a gofidio
Wrth adnel bechgyn ffri,
Wedi colli fy nghymeriad,
Rwy'n awr mewn teimlad dwys,
Yn hiraethu a galaru,
Am Gymru landeg lwys,
O na chawn wel'd fy ngwlad,
Ae anwyl gartref mad,
A'm cym'dogion o un galon,
Fu'n ffyddlon a di-frad,
A'i bras ddolydd braf a'i bronydd,
Fu mor ddedwydd gynt i mi,
Yn gwisgo'i harddwch a'i holl degwch,
Hawddgarwch fel y lli,
Gwlad helaeth ydyw hon,
Gwlad hyfryd, hardd a' llon,
Gwlad na chlywais i mewn hanes,
Am gynhes un fel hon.
Gwlad sy'n magu ei holl deulu,
Yn fwyngu yn mhoh man,
Gwlad sy'n rhoddi lluniaeth hyfryd,
Heb adfyd byth i'w rhan.
Deffrowch yn ufudd bawb trwy gwledydd,
A'r Trefydd yn ddi-drai,
Gweddiwch beunydd am wir grefydd,
Eich llywydd i'ch gwellau,
Cyhoeddi'n eglur mae'r ysgrythyr,
Yn gywir iawn i ni,
Daw ar yr annuwiolion creulon,
Echryslou boen a chri,
Yn awr cymerwch ni
Yn rhybudd llawn i chwi,
I beidio dylyn llwybrau'r gelyn,
Run modd y darfu ni,
Sy'n tynu lluoedd dros y moroedd,
Yn gyhoedd ddydd a nos
Nes eu gyra i warthryddu,
Eu teulu yn mhob oes
Mae'n galed ar bob gwr
Sy'n magu plant yn siwr.
Wedi hyny yn eu gweled,
Yn myned dros y dwr
Pan yn gweled ac yn clywed.
Maent oll dan deimlad dwys,
Oll yn gwaeddi am eu claddu,
Cyn hyny tan y gwys.
Wel'n awr rwy'n uchel roddi ffarwel.
Yn dawel i fy ngwlad,
A'm cym'dogion oll yn unol
Ae hefyd hen dy fy nhad,
Ni fydd y mor a'i donau hagar
Dim galar mawr i ni,
At fod yno mewn caethiwed.
Ya ngwlad y Negroes du
Yn awr chwi feeligen llon,
Trwy Gymru anwyl gron
O gweddiwch, a myfyriwch.
Na bo i chwi groesi don;
Duw o'i rass a roddo rwydd-deb
I'ch cadw yn eich gwlad,
Ei drugaredd a'i wirionedd,
Sy'n beraidd er lleshad,
Ffarwel i Gymru lan
A'i deiliaid fawr a mân,
O gweddiwch a myfyriwch,
Darllenwch hyn o gân
Byddwch berffaith trwy bob trafferth,
A pheydferth a di sen.
Yw dymuniad dwys ein enaid,
Mewn teimlad byth. Amen
Canodd y bardd y geiriau uchod oddi ar lythyr a dderbyniodd oddiwrth LEWIS REES, o Lundain,
John Jones, Argraffydd, Llanrwst
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gweler ei hanes yn yr erthygl Hen Gymeriadau Dolgellau-Lewis Rhys
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.