Cyfod bellach, trugarha
Gwedd
| ← Moliannu'r Arglwydd, da iawn yw | Cyfod bellach, trugarha gan Edmwnd Prys |
Rhof fawrglod iti, fy Nuw Iôn → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
327[1] SALM CII. 13, 14, 16, 22.
M.S.
1 CYFOD bellach, trugarha,
O! Dduw, bydd dda wrth Seion;
Mae'n amser wrthi drugarhau,
Wel dyma'r nodau'n union.
2 Cans hoff iawn gan dy weision Di
Ei meini a'i magwyrau;
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
Ei thristwch a'i thrallodau.
3 Pan adeilader Seion wych,
A hon yn ddrych i'r gwledydd:
Pan weler gwaith yr Arglwydd ne'
Y molir E'n dragywydd.
4 Hyn fydd pan gasglo pawb ynghyd,
Yn unfryd i'w foliannu;
A'r holl deyrnasoedd dônt yng ngŵydd
Yr Arglwydd, i'w wasnaethu.
—Edmwnd Prys
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 327, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930