Cyfrinach yr Aelwyd/Rhagymadrodd
| ← Cyfrinach yr Aelwyd | Cyfrinach yr Aelwyd gan William Rees (Gwilym Hiraethog) golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cyfrinach yr Aelwyd → |
RHAGYMADRODD.
YR wyf yn hyderu y bydd i'm cydwladwyr a brynant y llyfr hun eto gael cymaint o foddhad ynddo ag a gawsant o'r blaen yn ei frawdlyfrau HELYNTION BYWYD HEN DEILIWR, a LLYTHURAU 'RHEN FFARMWR; ac y bydd iddynt ddangos eu parch at y tri a'u hawdwr athrylithgar trwy eu rhwymo a'u dodi mewn congl barchus a hwylus e'u llyfrgelloedd, fel gwaith un sydd yn fawr mewn llawer o ganghenau eraill, ond yn y ganghen hon—humour, sydd yn ddianmheu yn annhraethol fwy na'r un Cymro arall. Os edrychir ar y tri llyfr naill ai fel cyfryngau i ddyrchafu moes, neu i ddyfyru cenedl o bobl o anianawd grefyddol; fel arddangosiad o wybodaeth fanwl yr awdwr hybarch o arferion ein gwladwyr syml, neu ei allu dihafal i ddysgrifio yr arferion hyny mewn geiriau; nid oes fodd i undyn beidio penderfynu y buasai y llyfrau hyn yn anrhydedd i lenyddiaeth unrhyw wlad ar y ddaear.
Mar 21ain, 1878,
Y CYHOEDDWR.