Cyfrinach yr Aelwyd (testun cyfansawdd)
| ← | Cyfrinach yr Aelwyd (testun cyfansawdd) gan William Rees (Gwilym Hiraethog) golygwyd gan Isaac Foulkes |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cyfrinach yr Aelwyd |

CYFRINACH YR AELWYD
GAN Y
PARCH. W. REES, D.D.
Liverpool:
ARGRAFFWYD GAN I, FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET.
1878.
RHAGYMADRODD.
YR wyf yn hyderu y bydd i'm cydwladwyr a brynant y llyfr hun eto gael cymaint o foddhad ynddo ag a gawsant o'r blaen yn ei frawdlyfrau HELYNTION BYWYD HEN DEILIWR, a LLYTHURAU 'RHEN FFARMWR; ac y bydd iddynt ddangos eu parch at y tri a'u hawdwr athrylithgar trwy eu rhwymo a'u dodi mewn congl barchus a hwylus e'u llyfrgelloedd, fel gwaith un sydd yn fawr mewn llawer o ganghenau eraill, ond yn y ganghen hon—humour, sydd yn ddianmheu yn annhraethol fwy na'r un Cymro arall. Os edrychir ar y tri llyfr naill ai fel cyfryngau i ddyrchafu moes, neu i ddyfyru cenedl o bobl o anianawd grefyddol; fel arddangosiad o wybodaeth fanwl yr awdwr hybarch o arferion ein gwladwyr syml, neu ei allu dihafal i ddysgrifio yr arferion hyny mewn geiriau; nid oes fodd i undyn beidio penderfynu y buasai y llyfrau hyn yn anrhydedd i lenyddiaeth unrhyw wlad ar y ddaear.
Mar 21ain, 1878,
Y CYHOEDDWR.CYFRINACH YR AELWYD.
Y MAE Aelwyd yn awr yn wahanol iawn i'r peth ydoedd ychydig flynyddau yn ol, a dichon nad annyddorol i ddarllenwyr yr hen Aelwyd fyddai rhoddi bras-grybwyllion o'r prif gyfnewidiadau a ddigwyddasant o fewn cylch y gymdeithas fechan neillduedig hon yn ystod yr ychydig flynyddau diweddaf.
Wel, yn nghyntaf oll, fel y mae yn hysbys, y mae lle modryb Elin yn wag; a phwy ond Modryb Elin ei hun a allai lenwi hwnw. Ar ei hymadawiad hi, ymadawodd enaid a gogoniant cymdeithas yr Aelwyd ohoni. O'r pryd hwnw hyd y pryd hwn, ni fu cyfrinach ar yr Aelwyd na theimlid ei heisiau a hiraeth am dani, a gollynga pob mynwes ochenaid o hiraeth ar ei hol bob tro y crybwyllir ei henw. Y mae bywiogrwydd ysbryd ac arabedd F'ewythr Robert wedi lleddfu a lliniaru llawer hefyd, mewn rhan fawr gan ei amddifadrwydd a'i chwithdod ar ei hol hi—ac mewn rhan hefyd gan ddylanwad amlder dyddiau ac mewn rhan hefyd gan ddylanwad 'y pethau ni welir' ar ei feddwl, a chyfnewidiadau eraill yn ei amgylchiadau teuluaidd. Er hyny y mae yr hen wr yn llawn mor siriol ei feddwl ag y bu erioed, ond fod ei sirioldeb o natur wahanol, a'i ddull hefyd ychydig yn wahanol; ac weithiau, pan dwymno ei dymher mewn cyfrinach, y mae yr hen F'ewythr Robert yn dyfod allan i'r golwg yn ei lawn nerth. Ar amgylchiadau felly, chwi a ryfeddech y dylanwad a enillasai Modryb Elin arno. Pan ddigwyddo iddo ollwng ambell ymadrodd lled grych allan, teifl ei olwg at ei hen gadair hi, ac ymetyl yn y fan. Y mae hi, er wedi marw, yn bresenol i'w feddwl, ac fel pe byddai yn dal awenau ffrwyn ei enau o hyd yn ei llaw, ac y mae yr hen wr yn credu yn ei galon ei bod hi yn ei wylio yn barhaus; a bod rhyw gymdeithas rhyngddynt â'u gilydd. Y mae arno ofn pechu, medd ef, rhag digio yr Arglwydd ac Elin.
Peth arall, y mae Jacki a Chati wedi gadael yr Hafod, a byddai yn anhawdd gan ddarllenwyr yr hen Aelwyd gredu, wedi priodi eu gilydd! Y maent yn byw mewn tyddyn bychan yn mlaen y cwm. Cati yw gwr y tŷ gellid coelio; ond y maent yn ymddangos yn cydfyw yn gysurus ddigon, ac yn debyg o wneud yn dda yn y byd. Yr oedd yn gryn golled i F'ewythr Robert ar ol y ddau; yr oedd wedi arfer cymaint â hwy, a hwythau âg yntau; ond y mae yn dechreu hoffi y gwas a'r forwyn sydd gydag ef yn bresenol yn fawr.
Y mae Rhys Puw yn dal ati i deiliwriaethu hyd yr ardaloedd yma eto, ac i dalu mynych ymweliadau a'r Hafod felly mam, a Mrs. Evans, eraill o'r hen gyfeillion.
O, ie, dylaswn grybwyll fod yr hen gi Tobit, a'r hen gath Judi hefyd, wedi huno gyda'u tadau, a chi a chath ieuainc, y rhai a elwir ar enwau eu hynafiaid, wedi cymeryd eu lle ar gonglau yr Aelwyd, fel nad oes yn aros o'r hen dylwyth ond F'ewythr Robert ei hunan. Pan oeddwn yno un tro yn ddiweddar, sylwai yr hen wr yn bur deimladol ar y cyfnewidiadau hyn. "Rwi'n gwel'd fhun wel tawn i mewn tŷ dierth ninion rwan, James,' meddai; 'y fath gwnidiad sy wedi cymryd lle yma mewn mor lleied o amser! Elin chwedi mynd, Jacki a Chati chwedi ngadel i, Tobi a Judi 'rol hyny.' Ar hyny, wrth glywed ei enw, dyna Tobi ifanc yn codi ei ddau droed blaen ar lin ei feistr, ac yn edrych yn ei lygaid dan ysgwyd ei gynffon. 'Nid am danat ti roeddwn i'n son,' ebe'r hen wr—'dwyt ti ddim byd tebyg i'r hen gi, a ni fyddi di byth chwaith; does dim haner cimin yn dy ben di. Fodd bynag, ni chymerodd Tobi ieuanc hyn yn dramgwyddus, canys dechreuodd lyfu dwylaw ei feistr, a gafael â'i ddanedd am y bwcwl mawr oedd ar ei esgid, a chwyrnu a chware wrth ei draed—ac yna gafael yn nghynffon y gath, a'i llusgo ar hyd y llawr, nes oedd hono yn gwneud rhyw leisiau tebyg iawn i alw enw'r gwr drwg.
'Fydda ine fawr yn 'ranialwch yma eto,' ebe'r hen wr yn y man; 'a mi alla ddeyd rwan peth na allwn i ddeyd 'rioed o'r blaen—'Rwyf yn foddlon iawn i farw;—marw oedd y peth casa gen i o bob peth bob amser o'r blaen i feddwl am dano fo. Mi ddeyda i ti sut y fu hi. Mi roeddwn i'n mynd i'r seiat rw nosweth, toc ar ol claddu Elin, a mi ddaeth ffit o ofn marw gwaeth nag 'rioed arnai; mi roedd Tomas Dreflach, wyddost, oedd nagos run oed a fi chwedi marw'n bur ddisymwth y bore hwnw; mi roeddwn i wedi'i weld o yn i iechid arferol pyrnhawn y dydd o'r blaen. Mi trawodd y newydd am i farwolaeth o fi 'narw iawn, a dene oedd yn y meddwl hyd y ffordd wrth fynd i'r capel, —y th'di fydd y nesa, medde rhwbeth wrtha i, a dwyt ti ddim yn barod i farwthal dy grefydd di ddim byd erbyn ange; mi gydewist hi fynd yn rhy ddweddar cin i cheisio hi: chwedi i ti roid dy ddyddie gore i Satan, wyt ti'n meddwl y cymer 'r Arglwydd i sparion o? Mi fu agos i mi droi yn f'ol adre, a phenderfynud taflud y cwbwl i fyny. Beth bynag, yn y mlaen reis i—mi â i'r capel heno am y tro dwaetha, be fi. Ar ol dechre'r cwarfod, dene un o honyn nhw'n dechre son am farw, ac ofn marw, ac un arall yn calyn ymlaen, yn yr un dôn, a fine'n gwrando, ag yn synu clowed y naill a'r llall yn deyd run fath ag roeddwn ine'n teimlo ninion; ond ddeydis i ddim byd. Ar y diwedd, dyma un o honyn nhw'n rhoid yr hen benill hwnw allan,
Tyn yr ofon hen o farw
Sydd yn llechu tan fy mron;
Rho i mi heddwch a gorfoledd
Sicr ar y ddaear hon,' &c.
Ni chlowist ti 'rioed â dy glustie sut ganu fu arno fo, a mi 'sgynodd rhw ganu arna ine, faswn i 'rioed yn ceisio canu o'r blaen. Ar ganol y canu, mi glywn fel tase rhwbeth yn mynd i ffwrdd oddiar y nghalon i, ac wel taswn i'n cael y ngollwng yn rhydd o gadwyne tynion, nes toeddwn i'n teimlo ff'un ddeugen mlynedd yn iengach mewn mynyd—fedra i ddim deyd i ti sut roeddwn i'n clowed ffun; mi fu brenin dychryniade farw'n gelen yn y fan hono, hyny ydi, mi fu farw ange fel brenin y dychryniade i mi, mi aeth i ofn o i ffwrdd——mi aeth yr hen benill ag o i rwle ni wn i ddim i ble, ne mi aeth rhwbeth ddaeth efo'r hen benill ag o. Beth bynag, mae ange a mine'n ffrindie byth ar ol hyny.'
'Wyddoch chi beth oeddwn i'n feddwl, F'ewythr Robert' ebe fi yn y man.
'Na wn i.'
'Y mae hi yn nesu at y gaua'; beth fyddai i ni gael Aelwyd newydd eto.'
'Aelwyd newydd? be wyt ti'n feddwl wrth hyny!' 'Wel, cael ambell gyfarfod fel fyddem yn gael yn amser Caban F'ewythr Tomos.'
'Chawn i byth gwarfodydd wel y rheini eto—toes yma run Elin rwan. Ond run pryd, mi leiciwn ine yn y nghalon gael y peth rwyt ti'n son am dano fo. Y mae gen i un peth oeddwn i'n feddwl ofyn i ti"
'Beth ydyw hyny, F'ewythr Robert?"
'Be sy wedi dwad o'r 'Rhen Ffarmwr hwnw y byddet ti narfer darllen i lythyre fo i mi ystalwm? Ydio'n fyw, tybed?' 'Na wn i'n siwr, F'ewythr Robert; ni welais ac ni chywais i ddim am dano fo er's tro hir, ond y mae'n debyg pe buasai wedi marw, y buasem wedi cael y newydd yn rhai o'r papyrau a'r cyhoeddiadau misol.'
'Na wn i'n siwr—y mae llawer hen ffarmwr druan yn marw wyddost heb byth air o son am dano fo, mwy na phe base fo hen geffyl.'
'Oes, felly mae; ond y mae gwahaniaeth rhwng hen ffarmwr a hen ffarmwr, Fewythr Robert: credu yr wyf fi, pan fyddoch chwi a'r 'Rhen Ffarmwr hwnw farw, y bydd llawer o son am danoch chwi eich dau.'
Tydio fawr o bwys prun am hyny; ond a wyddost ti ddim ple mae o'n byw?'
'Na wn yn siwr.'
'Fedrit ti ddim cael allan, James?'
'Hwyrach y gallwn i trwy holi.'
'Wel hola dithe, a gad i mi gael gwbod os llwyddi di.'
'Wel, mi wnaf. Oedd rhywbeth a fynoch ag o?' 'Mi roeddwn i chwedi bod yn meddwl gofyn i ti sgrifenu trosta i ato fo; mi faswn yn leicio narw cael tipyn o ymgom trwy lythyre efo fo.'
'Wel yn wir, F'ewythr Robert, mi fuaswn inau hefyd yn leicio yn y nghalon eich clywed chwi eich dau yn ymgomio nanad un dau a wn i am danynt. Mi a ysgrifenaf yforu nesaf i holi yn ei gylch o.'
'Yn clowed ni, ddeydist ti? chlowet ti monon ni yn dy fyw—mi allet yn gweled ni'n siarad ar bapyr.'
'A'ch clywed chwi hefyd; os rhaid i mi ysgrifenu eich llythyrau chwi, rhaid i chwi ddweyd eich stori fel y clywyf hi cyn y gallaf ei chopio; ac mi gaf glywed y Rhen Ffarmwr yn siarad â chwithau wrth ddarllen ei lythyrau o i chwi.'
'Ie, ie, mi fyddi di yn lle llaw i mi, ac yn lle tafod iddo yntau, ond os bydda i byw dipin bach mi rydw i'n dysgwyl y bydda i'n medrud darllen troswy ffun. Mi fedra rygnu darllen print bras yn o ryfedd y rwan, a toes mor dwy flynedd wyddost er pan ddaru i mi ddechre dysgud. Mi fum yn hen ful dwl na buaswn chwedi mroi ati hi i ddysgud haner can mlynedd yn ol; mi geisiodd Elin druan lawer gin i neyd, ond fynwn i ddim gwrando arni hi; roeddwn i'n meddwl mod i chwedi mynd yn rhy hen i ddysgud, ne dene oedd yr esgus. Y gwir ydi, roeddwn i'n ormod o ddyn, hyny ydi, yn ormod o ddwlyn, i gymryd y nysgu wel plentyn y cythrel oedd yn pwnio rhwbeth felly yn y mhen gwan i. Toeddwn i rioed chwedi gweled y gwerth ohono fo 'ramser hono, a welis mono fo'n iawn chwaith nes i mi golli Elin, —rol ei chladdu hi mi benderfynais dreio dysgud, ac mi rysolvis os cowswn i fyw dipyn bach, a'r cythrel hefyd (a mi wranta bydd o ddim marw ar frys) y cowse fo ngweled a nghlowed i'n medrud darllen. A mae o chwedi ngweled a nghlowed i eisys yn darllen y Bibil, ac yn dysgud ymbell Salm allan; a phen fydd o'n brysur yn hel meddylie drwg i nghalon i, mi reda ine at y Bibil rhag y mlaen. Mi roedd o'n brysur iawn hefo fi ar y cae ene ddiwrnod neu ddau nol. Mi fyna lonydd gen ti, ebe fi, mi a i ddysgu Salm y munud yma, a ffwrdd a mi i'r ty, ac at y Bibil rhag y mlaen; a mi ddysgis y Salm gynta allan cyn stopio, a mi ges lonydd gantho fo hefyd. Mi rydw i chwedi dyallt mai y Bibil ydi i feistar o: a mi ddarllena ine'r Bibil wel y medra i, tae o ddim byd ond er mwyn i vexio fo. Ond mi fydda i'n cael mel i fenaid fy hun yn y Bibil hefyd, ond mod i'n drwsgwl ac anniben iawn yn ceisio'i gasglu o. Mi rydw i chwedi cymryd ati rwan i ddysgud yr adnode roedd Elin gwedi troi ymyl y ddalen arnyn nhw yn hen Fibil Peter Williams yma. Mae yma lawer iawn o honyn nhw weli di James?' 'Gwelaf yn wir, y mae genych waith go fawr i'w dysgu hwy i gyd.'
'Oes, ond y mae tâl da i gael am y boen: be ydi'r gair yma' dwad, James? nawn i yn y myw mono fy allan. Mae Elin wedi bod yn cael rhwbeth yn 'radnod yma dwi'n siwr; wel'd di'r marcie sy yma?'
'Gwelaf. Ymddigrifa ydi'r gair.'
Dyna fo hefyd—faswn ine yn y myw yn i neyd o'n ddim arall. Ym-ddi-grif-a yn—yr—Arglwydd; —ac—efe—a—ddy—ry—i ty—ddy-mun-iad-au—dy —ga-lon. Ddaru mi'i darllen yn iawn rwan?'
'Do.'
'Wel ynte, mae digrifwch i'w gael yn y Bibil ac mewn crefydd. Nid plant y cythrel pia'r sport i gid chwaith. Mi cedwodd hyny fi'n hir iawn oddiwrth grefydd—meddwl nat oedd dim pleser i'w gael hefo hi, a base raid i mi fod wel un wedi haner tori i galon os doethwn i ati hi, a mine gimin ffordd arall yn wastad. Ond mi rydw i'n gweld y nghamsynied rwan—mae'r Bibil yma'n son am lawenydd a digrifwch, a mi fydda i'n teimlo peth felly hefyd—wel tawn i'n cael sport mewn ymbell adnod, a hen benill, ac wrth wrando ymbell bregeth, a cheisio gweddio weithie —nes y bydd hi'n tori allan yn ha, ha, ha, ymbell dro.'
Y mae son yn y Salmau am grefyddwyr cyffelyb, —Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Sion, yr oeddym ni fel rhai yn breuddwydio. Ynallanwyd ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu, meddant.'
'Ie, dyna nhw: caethiwed Babilon oedd hwnw, dwed.'
'Ie, y mae yn debygol.'
'Wel aros di—faint fuon nhw'n Babilon? deng mlynedd a thrigen onte?'
'Ie siwr.'
'Wel, toedd ryfedd yn y byd iddyn nhw chwerthin a chanu wrth fynd adre i Sion, druen. Mi fum ine ddeng mlynedd a thrigen y'nghythiwed Satan a phechod, anwbodeth, ac anystyrieth; a'r peth rhyfedda fu ar y ddyar yma 'rioed oedd i mi ddwad yn rhydd, a mi fydda weithie yn crio ag yn chwerthin ar unweth wrth feddwl am dana ffun.'
'Rhaid i mi eich gadael ar hyn o bryd,' ebe fi; 'pan gaffwy i wybod rhywbeth o hanes y Rhen Ffarmwr, mi a alwaf yma.'
'Purion'.
Y tro nesaf y gelwais yn yr Hafod
'Wel, gest ti hanes Rhen Ffarmwr?' gofynai F'ewythr Robert.'
'Do.'
'Do'n wir hefyd.'
'Y'mhle mae o'n cadw, dwad?'
'Yn rhywle'n sir Ddinbych; methais gael enw y lle, ond mi gefais gyfarwyddyd i lwybreiddio llythyr ato, a bydd yn siwr o fyn'd i'w law o.'
'Wel sut na chawset ti enw i dŷ o?'
'Nawn i'n siwr; y mae yn ymddangos nad ydyw am i hyny fyn'd yn gyhoeddus.'
'Rhen gene; be ydi hyny gantho fo, tybed?' 'O, rhywbeth a gymerodd o yn ei ben, y mae yn debyg genyf.'
'Wel, os dydi hyny chwedi mynd i'w ben o, nid peth hawdd iawn fydde i dynud ohono fo, mi tyddyliwn. Bryd doi di yma i gael i ni sgrifenu ato fo?'
'Pan y fynoch chwi, F'ewythr Robert.'
'O'r gore, tyrd dithe yma nos Fawrth nesa ynte; mi ga ine feddwl be ddeyda wrtho fo erbyn hyny.'
Ac felly cytunwyd.
Dyna fi wedi hysbysu i'r darllenydd pa fodd y dechreuodd yr ohebiaeth rhwng y ddau henafgwr, yn nghyda llawer o bethau achlysurol eraill nad oeddwn yn bwriadu eu crybwyll pan ddechreuais fy llythyr rhagymadroddol hwn, ac yr wyf yn gweled erbyn hyn ei bod yn llawn bryd terfynu.
Ydwyf, yr eiddoch yn barchus,
Cyfrinach 1.
AETHUM i'r Hafod yn ol fy addewid y noson y cytunasid arni, fel yr hybysais y tro o'r blaen. Digwyddodd i mi fyned i mewn ar ganol cyfrinach bur anhyfryd a gymerasai le ar yr aelwyd ar y pryd. Yr oedd Modlen, y forwyn, newydd ddychwelyd o odro, ac wedi rhoddi ei ddogn arferol o lefrith i Wil, yr oen llyweth; tybiodd Judi y gath ieuanc ei bod hi yn cael ei hesgeuluso, a bod Wil, yn myned a'i lle hi yn serch y teulu: cyffrodd hyny eiddigedd pwss yn erbyn Wil, a rhuthrodd iddo, a phlanodd ei hewinedd yn ei drwyn, a scratsiodd ef yn enbydus oddeutu ei ffroenau a'i lygaid, nes oedd yn gwaedu ac yn gruddfan yn druenus. Taniodd hyn nwydau Tobi drachefn, a rhuthrodd yntau i'r gath, ac ymaflodd yn ei gwar, gan ei hysgegio yn greulon, a dyna lle yr oedd y mwstwr cethina erioed, —y ci yn chwyrnu ac yn ysgytio y gath, a hono yn ysgrechain, a Wil yn brefu, a Modlen yn cicio, a F'ewythr Robert â'i ffon yn ceisio gwahanu y pleidiau rhyfelgar—y cadeiriau a'r stolion yn cael eu dymchwelyd, a phob peth wedi ei droi higil di pigil. Modd bynag, llwyddwyd i lonyddu y terfysg, ac adferu tawelwch yn y man. Judi a gawsai y gwaethaf yn yr ymryson; ac nid oedd fater am hyny, canys y hi a'i dechreuasai.
Wedi i'r ymiri fyned trosodd, esboniodd F'ewythr Robert yr amgylchiadau. Nid oedd dim daioni, meddai, wedi bod rhwng Tobi a Judi byth wedi dyfodiad Wil yr oen i'r teulu. Yr oedd y gath bob amser yn dangos gwg tuag ato, a'r ci o'r tu arall yn dangos yr hoffder mwyaf ohono; byddai y ddau yn gorwedd yn ymyl eu gilydd yn wastad, a byddai raid i titw gadw draw ar ei pherygl.
'Y mae rhwbeth yn y cryduried yma na fedra i mo'i sponio fo,' ychwanegai F'ewythr Robert, ai tybed fod pechod dyn chwedi ffeithio arnyn nhw? Mae rhwbeth tebyg iawn i gynfigen, a males, a ffalsder, i'w wel'd mewn cathod. Y mae natur ymladd mewn cwn, a chliogod, a theirw, a chyrduried erill. Welis di'r Sebost'ol o le oedd ar yr aelwyd yma rwan, a wel'd di'r llygid mae'r gath acw neyd—mae nhw wel dau froryn yn i phen i; mi allen feddwl tae hi nagos at wellt y bydde 'n berig iddo gymryd tân oddiwrthyn nhw. Gimin o ragor sy rhynthi hi a'r oen yma druan—edrach di rwan ar i lygad tirion dyniwed o. Hen gnawes farus, ddiffeth, oedd i fam ynte hefyd; mi barodd lawer o boen a thrafferth i mi—mi fydde'n tori i'r egin yn y gwainiwn, ac yn tynud y defed erill i'w chalyn; fydde waeth i ni faint o lytheirie nac o lindorche roe ni arni hi. Ond mae hi chwedi darfod i thrafferth i hun a nhrafferthu ine, coffa da am dani hi.'
Wel, hwyrach y byddai cystal i ni fyn'd yn nghylch ysgrifenu y llythyr at y Rhen Ffarmwr, F'ewythr, eb fi. 'Bydde, mi fydde; ystyn y papyr a'r inc o'r dror acw, Modlen.'
Wedi gosod y peirianau mewn hwyl, ysgrifenais y llythyr, o'r hwn y mae a ganlyn yn gopi, o enau F'ewythr Robert, gydag ychydig gyfnewidiadau yn y geiriad.
LLYTHYR I.
Robert Cadwalad o'r Hafod at Rhen Ffarmwr o rwle. Anerch,
Mae rhyw ysfa wedi bod ar y meddwl i es talm bellach am 'sgrifenu atoch chwi, a mi a holais lawer am eich hanes chwi o dro i dro, ond mi fethodd yn deg gen i gael gwybod p'le i gael gafael arnoch chwi hyd yn ddiweddar iawn. Yr oedd llawer yn taeru eich bod wedi marw yn sicr, onite y buasem yn cael clowed oddiwrthoch chwi trwy rai o'r cyhoeddiadau yma. Yr oedden nhw'n meddwl na allsech chwi ddim bod yn ddystaw ar y fath amser cyffrous ar y byd ac ydi hi wedi bod yn y blynyddau diweddaf yma. Yr oedd yn dda iawn gen i gael ar ddyall eich bod chwi eto yn aros y tu yma i wal y fonwent. Mi gefais i lawer o hyfrydwch yn eich cwmpeini chwi fel tase, wrth wrando darlleniad eich llythyrau yn y 'Ramserau rai blynyddau nol—falle i chwithau weled neu glowed son am danaf finau, os digwyddodd i F'aelwyd i, fel y mae nhw yn galw y llyfryn hwn, ddwad ar eich traws chwi, neu chwi ar i thraws hi. Mi fydd llawer iawn yn dweyd y mod i a chwithau'n debyg iawn i'n gilydd yn ein rhesymau, a rhai yn taeru ein bod yn ddau frawd. 'Ymhob pen mae piniwn.'
Mi hoffwn i yn fawr gael tipyn o ymgom â chwi trwy lythyrau rwan ag yn y man, os na fydd gwrthyneb genoch chwi. Waeth i mi heb grybwyll y pethau sy ar fy meddwl i i'w trafod rhyngom â'n gilydd, nes cael gwel'd beth ddwedwch chwi am hyn; ac felly mi derfynaf y tro yma, gan obeithio y daw hwn i'ch llaw yn ddiogel, ac y bydd iddo eich cael chwi a'ch teulu yn iach, ac y caf glowed oddiwrthych yn fuan.
Ydwyf, eich wyllysiwr da,
ROBERT CADWALAD.
ATEBIAD Y RHEN FFARMWR.
Rhen Ffarmwr at F'ewyrth Robet o'r Hafod.
Anerch,—
Heddwch, iechyd da, hir oes, a phob dioni, i F'ewyrth Robet, —a rhad ar i dda, ac ar i Eulwyd o, ac ar bawb a phob peth sy'n perthyn iddo, medd Rhen Ffarmwr o waelod ac o wraidd calon onest. Amen.
Diolch yn fawr iawn trost ben i chi am ych llythyr. Ni choelie'ch calon chi byth mor dda oedd gen i gael o: mi ddysgynodd cafod o sprydieth syfenu arna i wrth i ddarllen o, nes oedd blaene mysedd i nysu ag yn dawnsio mewn awydd a brys am bin ac inc a phabyr. Ond erbyn mynd i chwilio am y tacle, toedd dim i gael—roedd y pin dur wedi i fyta gen rwd, yr inc wedi mynd yn gèn lwyd sych ar waelod y corn, na'r un scrap o bapyr yn ty; ond mi ges stoc newydd i mewn yn bur fuan, a mae gini boteled fawr o inc, boxied o bine dur, a bwndel o gwils gwydde, a digonedd o bapyr gwyn.
Falle'ch bod chi wedi gweled ne glowed son am dana i, meddech chi;—do debic cen i'n wir, pwy sy heb weled a chlowed son am danoch chi yn Nghymru? a tase'ch drecsiwn chi gen i, mi faswn wedi syfenu atoch chi ystalwm cin hyn.
Ni fydd dim yn well gen i na chael ymgomio â chi trwy lythyre, wel y soniwch chi, er mod i chwedi meddwl na faswn i'n syfenu dim byth ar ol i mi roi'r gore iddi yn y Mysere. Mi adawa i chi roid y llin ar y cogel, wel tase, hyny ydi, roid y materion i lawr i syfenu arnyn nhw, a pheidiwch chi a bod yn hir cin dechre, rhag ofn i'r ysbryd syfenu yma ngadel i.
Mi fyddylis lawer am danoch chi, F'ewyrth Robet druan, ar ol i chi gladdu Modryb Elin—hen wraig ddiarhebol o glyfar oedd hi. Mi naeth ych Aelwyd chi y f'aelwyd ine yn ddifyr a chysurus iawn lawer hirnos gaia. Mi fydde'ch stori chi yn 'n gyrud ni i chwerthin, a stori Modryb Elin yn 'n gyrud ni i grio bod yg un yn aml; a straes y Caban, O fedra i ddim dyrlinio'r fath deimlade fydde rheini yn gnyrchu ynthon ni.
Ddeyda i ddim chwaneg wrthoch chi y tro yma, ond deyd mod i'n cofio atoch chi ganwaith drosodd yn y modd mwya serchus, ac at Jacki druan, os ydio'n fyw ag yn aros gyda chi—deydwch wrtho mod i'n adwen amryw o frodyr iddo fo; O ie, a Chati, y llances bert ddreidus ene hefyd, a Rhys Puw y teiliwr, a rest o dylwyth yr Eulwyd. Ydwyf, F'ewythr Robet anwyl, eich cyfaill o galon,
RHEN FFARMWR.
LLYTHYR III.
F'ewythr Robert at y Rhen Ffarmwr.
Fy Nghyfaill,— Mi a allaf eich galw fy nghyfaill bellach; dyma ni wedi dechreu cyfeillachu. gynta peth, gadewch i mi dalu diolch i chwi am eich llythyr a dderbyniais chydig ddyddiau yn ol. Buaswn wedi'i ateb o y diwrnod y daeth i law, ond fod fy nghlarc i (J. Harris) o'r cyrhaedd. Mi a wnaethum iddo fo ddarllen eich llythyr chwi i mi lawer gwaith trosodd, ac yr oeddwn yn cael blas arno fo bob tro. Y mae eich teimladau caredig tuag ataf fi yn werthfawr iawn genyf, ac nid wy'n anmheu dim nad ydyn nhw yn tarddu o galon onest a didwyll. Cododd eich cyfeiriadau at Elin bang o hiraeth arnaf, a thynodd gafod o ddagrau.
Y mae Jacki a Chati wedi ngadael i, a chwi a synwch pan ddwedaf i chwi eu bod wedi priodi. Y maent yn byw ar dyddyn bychan tua haner milldir oddiyma, ac yn debyg o wneud yn burion. Y mae Rhys Puw yn dal ati i gario'i wydd, a'i lathen, a'i labwt, a'i siswrn, a'i nodwydd, o dŷ i dŷ ar hyd y gymydogaeth yma, mor ddiwyd ag erioed; ac y mae y rest o hen dylwyth yr Aelwyd, chwedl chwithe, yn fyw ac yn iach, ac yn galw i edrych am dana i 'nawr ac eilwaith.
Ond y mae yn amser i mi "roi llin ar y cogel," fel y dwedwch bellach; ond ni wn i yn y byd pa sut i ddechreu chwaith. Ond beth pe bawn i'n gofyn yn gyntaf peth, Beth yw eich oed chwi? Mi feddyliwn eich bod yn tynu'n hen fel finau, oddiwrth eich iaith chwi a'ch dull o siarad. Yr ydych yn siarad 'run fath a'r hen bobol yn union, a dyna'r fath siarad fydda i'n garu glowed; ni chlowch chwi mo'r genedlaeth yma o bobol yn sgwrsio na dim yr un dull ag y byddai yr hen bobol gynt rywsut; ni chawn i yn y myw gan y bachgen yma sgrifenu'm llythyrau i atoch chwi fel yr wy' i yn eu dweyd nhw wrtho fo—rhaid iddo fo gael trwsio, a thaclu, a thocio, a llyfnu, a smwddio, a phletio, a plaenio, a sgwario'r geiriau, a chael y cwbl wrth reolau'r grammar, chwedl yntau. Gwell gan inau glowed un yn llefaru ac yn darllen iaith fyddo'n cloncio ac yn rhoncio tipyn, a phigau a chnyciau arni hi. Fedra i gael fawr o flas ar y pregethau smwdd, llyfnion, gwastad, rheini. 'Rwyf fi yn hoff iawn er yn blentyn o laeth sur i'w yfed, ac mi fydd arna i eisieu i bregeth neu araeth fod rywbeth yn debyg i laeth sur, yn crafu corn y ngwddf i wrth i mi ei llyncu hi. Ond ni wiw i mi ymollwng iddi hi y ffordd yna, onide ni ddeuaf byth i ben.
Yn ail, Beth ydych chwi yn feddwl o'r byd ymabeth a ddaw ohono fo? P'un ai yn well ai yn waeth, yn wirionach ai yn gallach, yn'i ol ai yn'i flaen, y mae o yn myn'd? Mae o yn myn'd i rywle, beth bynag. Mae llawer iawn o wahaniaeth rhyngddo fo a'r peth ydym ni'n dau yn i gofio fo—yn wir " y mae ull y byd hwn yn myned heibio"—" yn myned heibio, a'i chwant hefyd." Ond.
Beth am y byd arall!—y byd mawr!—y byd a ddaw!—y byd a bery byth! Byddwn ni'n dau yn hwnw'n bur fuan bellach, wedi darfod am byth â'r byd hwn, ei dda a'i ddrwg—ei hawddfyd a'i adfydei boen a'i bleser—ei ofalon a'i gysuron. Ni thramgwyddwch wrthyf am ofyn, A ydych yn proffesu crefydd? a pheth mwy na hyny y cwestiwn fyddaf yn geisio ofyn i mi fy hun yn aml, a wyt ti'n credu yn Iesu Grist? A oes genyf rywbeth a wna'r tro i fyn'd o'r byd yma? Y mae'n rhyfedd genyf feddwl am danaf fy hun, fy mod wedi byw gnifer o flynyddoedd meithion mor an'styriol, mor ddifeddwl; ac y mae'n rhyfedd genyf wel'd pobol eraill yn byw felly, 'nenwedig hen bobol. Wedi i mi weled gwerth a gwybod rhywbeth am grefydd fy hunan, mae arnaf ryw awydd mawr am i bawb arall wel'd ei gwerth, a gwybod am dani hi; ac mi ddymunwn yn fawr allu gwneud rhywbeth tra byddw'i tros grefydd—digon, a llawer gormod, ydyw'r amser a aeth heibio—a'r amser goreu ohoni hefyd, i fyw fel y bum i byw. Aeth yn unfed awr ar ddeg arna i—do, do, cyn meddwl am gychwyn i'r winllan. O! na chymerai pobol ifanc rybudd oddiwrthyf fi a math. O! na allwn i alw 'nol ddeng mlynedd a thrigain o mywyd i'w hail dreulio! Ond ofer yw y fath ddymuniady maent wedi ehedeg ymaith, ymaith am byth,"Ddoe yn ol ni ddaw i neb." Yn iach, fy nghyfaill, am y tro hwn. Ni allaf ymhelaethu.
Yr eiddoch yn gywir galon,
ROBERT CADWALAD.
LLYTHYR IV.
Rhen Ffarmwr at F'ewythr Robet.
Wel, yn siwr, fy nghyfell, rydach chi chwedi rhoid twr o lin ar y cogel mi wela, ac mae'n rhaid i mine'i nyddud o rwan, mi fyddyliwn, a'i ddanwon ene i chi'n bellen o lythyr, a chithe weu llythyr arall ohono fo, ac felly yn y blaen. Ede go fras dyna i, gewch chi wel'd: mae f'hen droell i chwedi myn'd allan o ordors yn lân, heb fod ar use es talwm rwan—mae hi'n gwichian ac yn cwyno, wel tae'r cryd cymale yn'i hollt lode hi, er cimin ydw i chwedi roid o saim hydddyn nhw, a throi'r ecstro 'nol ag y mlaen. Ond rydw i'n disgwyl y daw hi i dune o dipin i beth,— r hwyl syfenu ydyw i'n feddwl, chwi ddalltwch.
Chi ofynasoch beth ydi f'oed i. Mi trawodd y cwestiwn fi'n arw iawn, a mi ddechreuis feddwl am flynyddodd fy mowyd sy chwedi myn'd heibio, a beth neis o honyn nhw! Wel, wel, mae mwy na thair rhan o'r peder chwedi myn'd, myn'd heibio am byth. Rwy i'n gyrud ar y deg a thrigain; ac os o gryfder y cyrheuddir pen y nod o bedwar igen, rhyn nid yw'n debig y gwela i'r nod hwnw byth—rhw ddeng mlynedd sy rhynga i ag o. Dyna saith deng mlynedd wedi'u treulio y rhan fwya o lawer mewn anstyrieth ag oferedd. Mi rydw i'n teimlo 'run fath a chithe ninion wrth ydrach ar y rhan aeth heibio o'r einioes. P'le mae'n hen gyfoedion, F'wyrth Robet bach? Y maent agos i gid oll yn y fonwent. Does ond rhw ymbell un o honyn nhw ar gael heddyw. Rydw i chwedi symud o f'ardal enedigol es agos i ddeugen mlynedd. Mi fum ono ar dro ymbell waith wedyn, ond mae wynebe pawb agos mor ddierth i mi ono, a phe tawn i'n myn'd i Rufen. Y tro dwaetha bum i ono, mi ddoeth darn o gân ne gowydd o waith rhen Gronw Owen yn ffeithiol iawn i meddwl i,
"Y lle bum yn gware gynt,
Mae dynion na'm hadwaenynt,
Cyfaill neu ddau a'm cofiant—
Prin ddau, lle 'roedd gynau gant."
Ond rhaid i mi matal. Mewn perthynas ich ail gwestiwn chi, nghylch y byd yma a'i lyntion, rhaid i mi'i basio fo'r tro yma, onte mi eith'n llythyr i'n rhy hir o ddim rheswm, ond mi ddeyda rwbeth arno fo rw dro arall.
Wel, at y cwestiwn mawr ola. Ni wn i ddim sut i ateb hwn. Mi rydw i'n proffesu crefydd rw lun, a rhw lun digon tlawd sy arna i hefo hi, ac ni ddaw dim llun da arna i bellach—mi gydewis hi fyn'd yn rhy bell cin dechre wel chithe. Beth ellir neyd o hen brenie ceimion, enyciog, wedi haner grino, wel fi; ond eto, mi feder gras y nefoedd stwytho, a phlygu, a reiddio, rhai felly; a gneud llestri trugaredd ohonyn nhw, yn lle'u taflud nhw i'r tân. Tua pheder blynedd nol yma reis i at grefydd gynta 'rioed, chwedi gwrando trwy foes. Nwn i ddim be dâl y ngrefydd i—mae arna i lawer o'i hofn hi beth bynag. Cimin fedra hi ddeyd ydi hyn, — Mi rydw rwbeth yn wa'nol i'r peth oeddwn i o'r blaen. Mae wel tae rw ddau ened ynthw i wsut; fedra i ddim deyd py sut. Mae gen i rw farn a meddwl gwyhanol iawn am danaf ffun, ac am grefydd, i'r peth oedd gen i o'r blaen. Rydw i'n caru'r pethe roeddwn i o'r blaen yn eu casau, ne'n hollol ddifater yn'u cylch nhw; ac yn cysau y pethe roeddwn i'n 'u caru, ac eto rywsut pheidiwn i'n y myw oes a'u gneud nhw. Mae'n well gen i am y Bibil rwan nag am un llyfr arall, a mae'n well gen i am y bobol ydw i'n wel'd yn byw gosa i'r Bibil na neb pobol erill, ond rydw i'n misio'n deg a byw nol y Bibil ffun. Roeddwn i o'r blaen yn meddwl ffun yn ddyn cyfiawn, gonest, agos iawn i'w le yn mhob peth, a phobol erill, nenwedig rhai crefyddwrs, y mhell allan o'u lle; a rwan rydw i'n gwel'd ftun chwedi bod yn byw trwy f'oes yn was anfuddiol iawn, ag yn pyrhau felly eto. Daliwch chi sylw, F'ewyth Robet, hefyd, tydw i ddim yn deyd mod i chwedi bod yn waeth nag un dyn ar y ddyar chwaith—fydde hyny ddim yn wir; a ni ddyle un dyn ddeyd anwiredd arno fo'i hun, mwy nag ar arall. Ond does dim diolch i mi na buaswn i'n llawer gwaeth y muchedd nag y bum i, nol yr amgylchiade y dois i trwyddyn nhw, fum i ddim nol i'r pena o bechaduried—pechaduried o'm ffasiwn i. Mae llawer o bechaduried chwedi cael mwy o ddonie a chyfleustere i neyd drwg nag ges i, —mi fedren neyd dryge nad oedd gen i ddim gallu a dawn i'w gneyd nhw.
Mae gen i rw ddirgel obeth a hyder na chollir mona i'n diwedd. A geirie Iesu Grist ydi'n sail i hyderu felly,—'Pwy bynag a ddel, nis bwriaf ef allan ddim.' Mi fentra ine ar i air o; a sna sai o at ei air, fydd mo'r help am dani hi. Ond does dim os am dani hi. Mi fydde iddo fo droid yn anffyddlon i'w air yn fwy peth o lawer na f'achub i, er cimin peth ydi hyny. Wyddoch chi be, F'ewyth Robet, mi fydd llawer o bethe rhyfedd yn y nefodd, ond y peth rhyfedda o'r cwbwl fydd y ngweled i a chithe ono; ami'n gwelir ni'n dau wedi cyredd ono rw ddiwrnod rydw i wel tawn i'n siwr yn y meddwl y mynud yma. Wel,
"Os gwelir dau bechadur
Mor llesg ar ben eu taith,
Rhyfeddol fydd y canu
A newydd fydd y iaith."
Ffarwel i chi am y tro yma, F'ewyrth Robet anwyl, —Ych cyfell o galon gynes.
RHEN FFARMWR.
Cyfrinach II.
ANFONAIS i chwi y tro diweddaf swm o lythyrau y ddau hynafgwr; wedi derbyniad yr olaf oddiwrth yr Hen Ffarmwr, anfonodd F'ewythr Robert at ei geraint a'i anwyl gyfeillion i'w gwahodd yn nghyd i'r Hafod i'w darllen iddynt. Erbyn yr awr benodedig y noswaith a apwyntiesid, yr oedd yn nghyd, —Robert Llwyd, alias yr Hen Brophwyd; fy nhad a mam; Richard Evans a Mrs. Evans; John Griffith, athraw ein Hysgol Frutanaidd; Wmffre Dafydd o'r Pennant; Huw Huws, pregethwr; Dafydd Edward y saer; a minau—deg mewn nifer.
Wedi mynd drwy seremoni y cyfarchiadau arferol ar y fath achlysuron, a gosod yr aelwyd mewn trefn, a phawb gymeryd ei eisteddle, bu gosteg am enyd; yr oedd yn amlwg fod pawb yn y lle wedi ei feddianu gan deimladau dwysion—pob un megys wedi colli presenoldeb y llall, ac yn dal cyfrinach â'i fyfyrdodau a'i deimladau ei hunan. Yr oedd y rhai hyny a fuasent bresenol yn nghyfrinach yr hen Aelwyd, yn dystaw adolygu y cyfarfodydd hyny, ac yn teimlo chwithdod dwys oherwydd y bwlch a dorasai angau yn y gymdeithas. Torid y tawelwch gan swn ambell ochenaid ddystaw yn awr ac eilwaith, y rhai a geisient megys ddianc ymaith yn lladradraidd heb yn wybod i neb; a rhedai ambell ddeigryn dystawach na'r ochenaid tua'r llawr, mor ddirgelaidd a gwylaidd, fel pe buasai arno arswyd i neb sylwi arno. Brawd a chwaer yw y deigryn a'r ochenaid, ac yn eu gwylder y mae dirgelwch nerth a phrydferthwch y ddau. Y mae bastardiaid ohonynt hwythau hefyd y dagrau a'r ocheneidiau hyny ydynt bob amser am dynu sylw —y naill am i bawb fyddont yn y lle eu gweled, a'r llall eu clywed. Y mae wylo ac ocheneidio yn gresst gan rai; gallant ollwng y nifer a fynont o'r naill a'r llall allan ar bob achlysur: o'm rhan i, ni roddwn ffyrling y fil am y naill, na hatling y galwyn am y llall. Ond O! y mae rhyw rin, a swyn, a phrydferthwch, a dylanwad rhyfeddol yn y wir ochenaid wylaidd hono, a wesgir allan gan deimlad dyinddwys y galon, ac a fyddo yn ceisio dianc ymaith i fynwes yr awelon yn ddiarwybod i bawb ond y galon ei hun, i gael ei chludo ganddynt i rywle, rhywle—i ddweyd rhywbeth, rhywbeth—wrth rywun, rhywun, sydd yn deall ei hiaith, ei hystyr, a'i chwyn. Ac yn y deigryn genuine hwnw, a brysura tros y rudd rhag ofn i neb ei weled, gan ymofyn am y llwch i ymguddio yno, o'r lle y dystaw edrycha i fynu megys ar ol ei chwaer, yr ochenaid. Gwareder fi byth rhag na byddo dim a wnelwyf â'r dyn hwnw na fedd ddim cydymdeimlad â'r fath yma o ochenaid a deigryn: rhaid fod y galon hono mor ddinodd a chrinsech a lledr megin y gof. Y mae yn ymddangos i mi fod rhyw hyawdledd mewn gwir ddagrau dynol, sydd yn cyrhaedd ac yn toddi calon angel—"O wraig, paham yr wyt ti yn wylo?' ebe un o'r bodau hawddgar, cydymdeimladol, hyny wrth Mair Magdalen, pan y safai uwchben bedd ei Harglwydd gynt; ydyw, y mae Awdwr anfeidrol ein natur megys yn methu dal dagrau dyn. Trwy wylo ac ymbil y gorchfygodd Jacob gyda Duw. Gwelais dy ddagrau,' ebe Efe wrth Hezecia. 'Dod fy nagrau yn dy gostrel,' medd Dafydd wrtho. 'A'r Iesu a wylodd.' Do, 'Ac efe a ruddfanodd yn yr ysbryd' hefyd. Felly am unwaith tarawodd ocheneidiau goruwchddynol brudd alawon toddedig ar danau yr awelon—cysegrwyd awyrgylch y byd i gario ochneidiau ei drueiniaid i'r nefoedd gan ocheneidiau ei Waredydd—a bedyddiwyd y ddaear â dyferion o ddagrau purdeb digymysg, y rhai a ddisgynent arni oddiar ruddiau cariad ymgnawdoledig!
Maddeuwch chwi a'ch darllenwyr i mi am ymdroi ar y ffordd i ryw athronyddu fel yna ar ocheneidio a dagrau; ond yr oeddynt yn dyfod yn naturiol yn fy llwybr, canys diangodd cryn nifer o'r naill a'r llall ohonynt yn ystod y dystawrwydd a grybwyllwyd. Ni wyddis dros ba hyd y parhasai y dystawrwydd dwys hwnw, oni buasai ddigwydd dytod o Rys Puw, y teiliwr, i fewn i'r tŷ ar ei hald, chwedl Fewythr Robert, a thori arno. Yr oedd Rhys wedi chwilena allan fod cyfarfod o gyfeillion yn yr Hafod y noson hono; ac y mae yn debygol y teimlai yn lled dramgwyddus na chawsai ei wahodd iddo; ond fe benderfynodd, fe ymddengys, i'w wahodd ei hun. Cymerai arno edrych yn bur ddyeithr pan ddaeth i mewn.
'Begio'ch pardwn,' ebe efe, 'ni wyddwn i ddim fod yma dyeithriaid—digwydd pasio drwy'r buarth yr oeddwn i, wedi bod yn , a mi feddylies y buaswn i'n galw mewn i ofyn am danoch chi, F'ewythr Robert; ni wnaf aros dim i'ch rhwystro chi—nos da'wch i gyd;' yna cychwynai rhyngddo a'r drws.'
'Aros, aros, Rhys,' ebe F'ewythr Robert, 'rwstri ti ddim arnon ni, mae'n dda gin bawb o honon ni dy wel'd di, a mi faswn i chwedi gofyn i ti ddwad yma, ond wel y deydist ti wrtha i rwthnos dwaetha dy fod di'n brysur trost ben, a toeddwn i ddim yn leicio stopio'r nodwydd ar 'i gwaith, rhag tolli ar d'amser di, a rhag y base rhwun yn dy drin di am 'i somi fo am ddilledyn; mae amser teiliwr yn bresiws iawn weithie. Oes gen ti rwbeth yn galw heno am danat ti, Rhys?'
'Nac oes dim neillduol heno, am wn i.'
'Wel, eiste dithe i lawr ynte, mae i ti groeso. Ond weli di, Rhys, y mae pawb sy yma yn proffesu crefydd gida rhw enw ne gilydd. Pobol y grefydd yma ydi nghyfeillion i rwan. Mae hi'n hen bryd i tithe bellach i cheisio hi; rwyt chwedi gwag—siarad llawer yn i chylch hi, wel byddwn ine gynt; mae hi'n amser i ti fyn'd o'i chwmpas hi o ddifri erbyn hyn. Mi fydda i'n synud atat ti, Rhys, na baset ti chwedi myn'd at grefydd er mwyn gwbod be sy myn'd yn mlaen yn seiat, chwedel y bobol, a thithe mor arw am wbod pob hanes a helynt.'
O, mi fydda i'n cael gwbod pob peth felly,' ebe Rhys, cystal a phe tawn i yno fy hun.'
Mi fyddi! sut felly?'
'O, mae brain gwynion yn perthyn i'r seiats, F'ewythr Robert, a mi garian nhw allan bob peth fotho eisie i gadw i fewn.'
'Brain duon ddylet ti 'u galw nhw, fyddyliwn i—gwaith du iawn ydi gwaith nhw beth bynag, a mi fydde'n birion gwaith u saethu nhw. Tae nhw'n cario pethe da allan, da fydde'u gwaith nhw; ond gwaed a chelanedd y mae'n nhw caru 'mborthi arno bob amser.'
'Y mae sort o frain—brain tyddyn fyddwn i'n u galw nhw,' ebe Wmfire Dafydd, 'mi welwch rw un ne ddwy ohonyn nhw o gwmpas tŷ tua'r gwainiwn a chlame, nenwedig pan fyddo cywion ieir a gwydde yn hatshio—mae nhw'n fwy na brain y meusydd, a rhai 'sglyfaethus ddidoried ydyn nhw: mi ddygan gywion y ieir a'r gwydde, a'r hwyid, i'w cario i borthi u cywion u hunen. Y mae rhw fath o frain tyddyn felly yn perthyn i bob eglwys y mron, byw ar sglyfeth y mae nhw bod amser, ac os can nhw afel arni, mi carian hi i'w nythod i wledda arni hi gyda'u cyfeillion —yn y byd mae'u nythod, eu cywion, a'u cyfeillion nhw. Ni sglusan nhw byth run cyfarfod pan fyddo'n nhw'n meddwl bod rhwbeth anmunol i'w drin, a mi dreian neyd y drwg yn waeth bob amser, a mi gosodan o allan mewn lliw gwaeth nag y byddo mewn gwirionedd yn wastad hefyd.'
Wel, yn wir, mi fyddai'n well i ni gael gan Wmffre yma gymeryd y gwaith o saethu y brain yna,' ebe Robert Llwyd, 'y mae yn ymddangos ei fod o yn eu nhabod nhw yn bur dda, ac yn teimlo'n ddigon parod at y gwaith, mi feddyliwn.'
'Bydde'n wirionedd i,' ebe F'ewythr Robert, 'mi ro'i gymisiwn iti, Wmffre, i'w saethu nhw bod yg un os medri di, ond ni fydd Rhys a'i ffasiwn ddim yn fodlon, debic cin i.'
'Na fydda i'n wir,' ebe Rhys, 'ddim yn fodlon iddo fo saethu mrain i.'
'Wel, neid di ddeyd pwy fydd yn cario pethe felly iti, Rhys?'
Na, daf i ddim mor wirion a hyny, chwaith, ne ni charian nhw ddim chwaneg o n'wyddion i mi. Mi wn i fwy o'ch hanes chi yn y capeli yma nag ydach chi'n feddwl.'
'Mi feddyliwn mai un o'r bobl hyny y sonia Hosea am danynt ydych chwi, Rhys,' ebe mam, "Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.""
'Wel, yn wir, Rhys, y mae byfolieth dlawd druenus arnat ti,' ebe F'ewythr Robert, 'ni leiciwn i mo dy dorth di ar gyfri ar ddyar.'
'Pobol y'ch seiat chi fydd yn 'i chrasu hi, ac yn 'i chario hi i mi,' ebe Rhys.
'Ie, druen, a'th dithe yn i byta hi, ac yn torid tyfelli ohoni hi i erill hefyd, mi wranta.'
'Mi faswn i gyda chrefydd er ys talwm, onibai pethe anymunol fydda i'n glowed am danoch chi'r crefyddwrs yma.'
'Ni thâl rhyw glog fel honyna ddim yn y byd, Rhys druan,' ebe Wmffre Dafydd, 'ni wna colliade a ffaeledde proffeswrs ddim cyfiawnder i chi—rhaid i chi gael gwell bara i borthi eich ened tlawd na phechode 'i bobol ef, ne mi fydd marw o newyn.'
'Wel, y mae hi'n myn'd yn boeth iawn arni i, rydych yn troi yn y mhen i bod yg un,' ebe Rhys.
'Mi wranta dy ben di, mae o'n ddigon caled i ddal i ni guro faint fynon ni arno fo, fedrwn ni guro dim o'i ddrwg ohono, na dim da iddo fo, dwy'n ofni.'
Mi rydw i'n cofio'ch pen chi cin gleted a mhen ine, F'ewythr Robert,' ebe Rhys, 'a ni ddylech chi ddim fy rhoid i i fynu nanobeithiol; os ydi'ch pen chi wedi dwad i'w le, be wood na ddaw tro ar y mhen ine,' ebe Rhys.
'Da iawn, Rhys,' ebe F'ewythr Robert yn y man, ' mi ddaru i ti hitio'r hoelen ar i phen y tro ene; do mi fu mhen i'n galed, a gwaeth na hyny, y nghalon i hefyd, a ddylwn i ddim beth bynag, nanad neb, ddanod i undyn ei bengledwch, na'i galongledwch chwaith. Rydw i'n diolch i ti o'n nghalon, Rhys, am fy ngryddu mor onest; na, na, ddylwn i ddim anobeithio am ben na chalon pechadur tra botho y gras feddalodd y mhen a nghalon i'n fyw.' Dywedodd F'ewythr Robert y geiriau uchod mor dyner deimladwy, nes oedd Rhys yn teimlo hyd ddagrau; ond ebe fe toc:—
'Mae gen i well calon nag ydych chi'n feddwl.' 'Heb i nhabod hi rydych chi, Rhys, druan,' ebe Robert Llwyd, 'onide chanmolech chwi mo honi hi.' Wel, wel, gadewch lonydd i Rhys a'i ben a'i galon, bellach, ebe fi, i gael i ni ddarllen y llythyrau.
'Ie, ie,' ebe F'ewythr Robert, y mae hi'n llawn bryd. Y mae hen gader Elin yn wag, Marged Harris, steddwch chi acw, i gadw'i lle hi.'
Wedi cryn gymhell, ufuddhaodd mam i'r awdurdod. Wedi darlleniaid y llythyrau,—
'Wel, rwan,' ebe F'ewythr Robert, beth ydych yn feddwl o fy hen gyfell, Rhen Ffarmwr? Gydewch i ni glowed y'ch barn chi, Rhen Brophwyd.'
'Y mae yna swn, oes, mae yna swn,' ebe Robert Llwyd.
'Swn, be ydach chi'n feddwl wrth hyny?'
'Wel, mi ddweda i chwi: ddarfu chwi rioed sylwi ar y gwragedd yma yn prynu potie? mi fyddan yn dal y potyn ar un llaw, ac yn 'i guro fo â blaenau bysedd y llaw arall; ac os bydd o'n botyn iach, sound, trwyddo mi fydd yn tincian yn iach wrth ei guro; ond os bydd breg ynddo fo, fe ddywed y swn yn union—does ono ddim tinc, a fynan nhw mo hwnw.'
'Wel, sponiwch y ddameg ene,' ebe Dafydd Edward.
'Y mae hi wedi 'i sponio yma heno'n barod; ond fuon ni'n curo ar Rhys yma bob un, a glywsoch chi ddim fel yr oedd o'n tincian, y swn iach oedd yn codi ohono fo: calon iach, braf, gyfa, drwyddi; ond mi glywsom swn pot wedi crecio pan darawodd Rhys ar F'ewythyr Robert yma; ac felly yr oeddwn i'n meddwl fy mod yn clywed swn crec yn Rhen Ffarmwr—swn calon wedi crecio tipyn, a swn hyfryd iawn ydi o hefyd. Y mae hi yn y gwrthwyneb yma i'r gwragedd efo'r potie—am botyn iach, sound, y byddant hwy'n ymofyn, ni wna un bregus mo'r tro ganddynt; ond am galonau wedi crecio y mae eglwys Dduw yn ymofyn—ni all hi wneud dim yn y byd o rai iach, cyfain. "Crea galon lân ynof, O Dduw,"—dyna i chwi swn crec, ac y mae y nefoedd yn caru clywed y swn yna yn fwy na'r un swn arall sy'n codi oddiar y ddaear yma. Y mae yr Hwn a breswylia y goruchelder a'r cysegr yn hoffi edrych ar y "truan a'r cystuddiedig o ysbryd, sydd yn crynu wrth ei air Ef.
'Well done, Rhen Brophwyd,' ebe F'ewythr Robert, gan rwbio'i ddwylaw, canys yr oedd athrawiaeth y pot crec yn ei daro'n rhyfeddol. 'Be ydach chi'n feddwl am dani hi, Huw?' ebe efe wrth y pregethwr.
'Wel, yn wir, yr wyf i'n meddwl fod rhywbeth yn y pot yna hefyd,' ebe yntau.
'Ie'r pot a'r crec ene?'
'Ie'r pot a'r crec yn siwr; ond ychydig iawn o botiau wedi crecio gewch chwi y dyddiau yma: y mae y weinidogaeth wrthi hi yn curo o hyd, ond rhyw dinc iach glywir yn gyffredin iawn. I ba le yr aeth yr hen swn crecio a dryllio a glywid gynt? dynion yn llefain, "Beth a wnawn ni!"'
'Daliwch chi ati hi i guro goreu galloch chwi er hyny,' ebe Wmffre Dafydd. Mae'r hen ordd ddrylliodd lawer o'r creigiau cleta, chwaithach potie, yn gyfa eto, a does dim ond rhen bwnc oedd yn cydfyned âg o yn nyddie'n tade, i ddod allan eto, na chlowen ni swn potie'n crecio, a chregie'n hollti: mae yn gysur mawr clowed ymbell i swn crec yma ac acw nawr ac yn y man.'
Naill ai yr oedd y gyfrinach yn un boenus i Rhys Puw, neu yr oedd y sylwadau a wnaethid wedi gwneud argraff ar ei deimladau, ac arno ofn dangos hyny, yr oedd yn bur anesmwyth ei le er's enyd, a'r yspeidyn cyntaf o osteg a gafodd, efe a gododd i fynu i ymadael, gan ymesgusodi fod peth neillduol yn galw am dano, ag oedd wedi ei lwyr annghofio hyd y mynud hwnw, ac ymaith ag ef.
'Y mae Rhys naill ai wedi digio, neu wedi crecio,' ebe Mrs. Evans. Yr oedd fel pe buasai yn rhy-hwyr ganddo gael egwyl i ymadael er's meityn.'
'Na,' meddai F'ewythr Robert, 'nid mor hawdd ydi digio na chrecio Rhys a llawer un; ond mae rhwbeth yn darfod iddo fo, mi roeddwn ine'n sylwi 'i fod o wel tase nydwydd tano fo er's tro hir.'
'Toedd 'r ymddiddan ddim yn siwtio tast Rhys,' ebe Dafydd Edward, 'dene'r gwir, am rw ddigrifwch y mae o; roeddech chi yn gyru ar draws 'i grimoge fo yn arwinol; ac mi sylwis i arno fo'n delwi, pan oedd Robert Llwyd yn trin athrawiaeth y potie, ac yn 'i chymhwyso hi ato fo.'
'Does yma yr un o frain Rhys,' ebe un arall, 'onide fuasai fo ddim yn gadael y lle mor swta, mi gwranta fo.'
'Wel hai, gadewch lonydd i Rhys bellach', ebe fi, 'a gadewch i ni gael eich meddyliau am y llythyrau.'
'Mae'r Prophwyd a'r Pregethwr chwedi deydid 'u meddylie, ebe F'ewythr Robert, 'oes rw sylw gin rwun arall?'
'Roeddwn i'n meddwl un peth,' ebe Wmffre Dafydd, hyny ydi, bod tipyn o'r Pharisead yn Rhen Ffarmwr hefyd, mae o'n ceisio'i gyfiawnhau ei hun, na bu o rioed mor ddrwg a llawer o bobol erill; os oes swn crec ynddo fo, chwedl Robert Llwyd, tydio ddim chwedi 'i ddryllio niawn eto, rwi'n ofni, a mi fydde'n dda iddo fo gael dyrnod ne ddau go drwm eto â'r hen ordd. Tydw i ddim yn meddwl nad ydi pob un sy wedi 'i argyhoeddi i'r byw yn gwel'd 'i hun yn waeth na phawb arall, ac yn barod i gyffesu mai fo ydi'r pechadur mwya fu ar y ddyar rioed.'
'Na wn i prun am hyny,' ebe Huw Huws. Y mae mwy nag un math o Phariseaeth yn bod. Phariseaeth ddeddfol,—yr hen Phariseaid Iuddewig gynt; a Phariseaeth, na wn i ddim pa beth i'w alw fo Phariseaeth efengylaidd, hwyrach. Y mae y cyntaf yn ymfalchio ac yn ymffrostio yn nglendid ei fuchedd, a phurdeb ei foesau; a'r llall yn gwneud rhyw orchest o son am dano ei hun fel y penaf a'r gwaethaf o bechaduriaid y ddaear; ond pe dywedai rhywun wrtho ei fod yn dweyd yr union wir am dano ei hun, fe frochai ac fe ymddigiai trwy ei galon. Amcan llawer un wrth achwyn arno ei hunan fel y pechadur mwyaf a gwaethaf, ydyw dyrchafu 'i hun mewn gwirionedd, yn meddyliau pobl eraill, a pheri iddynt dybied ei fod yn Gristion isel a gostyngedig iawn, a rhyw ddirgel dybiaeth bod ei gyffes o fawredd ei bechodau yn rhyw fath o iawn am danynt—Phariseaeth ydyw hi yn y gwraidd wedi y cwbl.'
'Mi leiciwn i gael trin y mater ene efo chwi,' ebe Wmffre, 'tydw i ddim yn barod i roi mhwnc i fynu ninion chwaith.'
'Wel dydluwch chithe allan yn deg,' ebe F'ewythr Robert, 'ond cofiwch chi beidio phoethi a brifo'ch gilidd, wel y bydd y dydluwrs yma namal; rhaid i mi gael tangnefedd a heddwch ar yr eulwyd yma beth bynag.'
Rhaid i minau ei thori hi i fynu ar hyn y tro yma, cewch y gweddill o'r ymddyddanion y tro nesaf; ac felly am y waith hon y gorphwysa yr eiddoch,
JAMES HARRIS.
Cyfrinach III.
TORAIS linyn yr adroddiad y tro diweddaf ar ddechreu y ddadl rhwng Wmffre Dafydd a Huw Huws ar 'Phariseaeth' yr Hen Ffarmwr. Af yn awr yn mlaen gyda'ch cenad.
Wmffre. Mae'n rhyfedd iawn gen i ych clowed chi'n siarad fath ene, Huw; safted mod i yn y fan yma (ymadrodd pur fynych yn ngenau Wmffre pan gynhyrfid ef), ni ddisgwilis i rioed glowed y fath beth o ben pregethwr. Ai Pharisead gelwch chi bob dyn a gyffeso'i fod o'r pena o bechaduried? Ai nid ydi pob dyn sy wedi 'i argyhoeddi i'r byw yn gwel'd i hun, ac yn cydnabod i hun, y gwaetha o bawb?
Huw. Cymerwch yn araf, Wmffre—ni ddywedais i mai Pharisead ydyw pob dyn a gyffeso y cyfryw beth; ond mi a ddywedais y gallai dyn gyffesu felly oddiar ysbryd ac egwyddorion Phariseaidd; ac mi ddywedaf eto y gall dyn fod wedi ei argyhoeddi i'r byw, neu i fywyd, er na byddo yn edrych arno ei hun fel y gwaethaf o bawb; ac na all pob dyn fod y gwaethaf o bawb sydd yn beth digon amlwg i bawb.
W. Ydach chi ddim yn meddwl, Huw, nad ydi pob dyn sy dan argyhoeddiad iawn yn credu am dano'i hun mai y fo ydi'r pena o bechaduried y byd? Tebwch chi'r cwestiwn ene'n deg, Huw.
H. Beth ydych chwi yn feddwl wrth argyhoeddiad iawn?
W. Wel—gwaith yr Ysbryd Glan yn dangos i'r pechadur ei gyflwr a'i sefyllfa fel y mae o mewn gwirionedd.
H. O'r goreu; ac y mae efe yn dangos felly i bob pechadur a argyhoeddir yn iawn, neu i fywyd, mai efe yw y penaf a'r gwaethaf o bechaduried?
W. Wel, ydi siwr, ac y mae pob pechadur a argyhoeddir felly yn gwel'd, yn credu, ac yn cyfaddef hyny am dano ei hun.
H. Wel sut y gall pob pechadur fod y pechadur gwaethat? Os y fi ydyw y penaf a'r gwaethaf o bechaduried, ni ellwch chwi fod y penaf a'r gwaethaf ohonynt hefyd; ac felly os wyf fi a chwi wedi'n hargyhoeddi yn iawn, y mae ysbryd y gwirionedd yn ol eich athrawiaeth chwi yn dangos i ni yr hyn ni all fod yn wirionedd yn ei berthynas â ni ein dau. Cysonwch chwi hynyna, Wmffre.
W. Fydda i ddim yn ceisio cysoni pethe fel ene—'u credu nhw y byddai: 'r ceisio cysoni yma sy'n arwen dynion i gyfeiliornade'n wastad.
H. Wel, mae'r apostol yn dweyd, 'Os prophwyda neb, prophwyded yn ol cysondeb y ffydd;' ac yr wyf yn methu gweled bod cysondeb yn eich athrawiaeth chwi.
W. Cyson ne beidio, mi rydw i'n credu bod pob dyn sy'n cael i argyhoeddi yn cael i ddysgu i wel'd i hun, ac i gydnabod i hun, y gwaetha o bechaduried. H. Yn mha ystyr?
W. Y'mhob ystyr yn y byd.
H. Ac y mae yn wirionedd fod y dyn argyhoeddedig felly?
W. Wel ydi debig yn ddigon gwir.
H. Wel, Wmffre druan, y mae yn syn genyf atoch. Yr ydym ni yn gobeithio eich bod chwi wedi eich gwir argyhoeddi:—a welsoch chi eich hun y pechadur gwaetha yn y byd yn mhob ystyr, a ellwch chwi gredu a chyfaddef hyny yn onest am danoch eich hun?
W Galla, gobeithio, yn onest o'r galon.
H. Ac mi ellwch gredu a chyfaddef yn onest mai chwi yw neu fu y meddwyn penaf—y celwyddwr penaf—y lleidr penaf—y godinebwr penaf—y llofrudd penaf, &c., yn y byd?
W. Saffed mod i yn y fan yma, toeddwn i ddim yn meddwl felly chwaith. H. Wel, chwi a ddywedasoch felly, a bod pob pechadur a wir argyhoeddir yn rhwym o feddwl a dywedyd felly am dano ei hun. Nid yw yr Ysbryd Glan wrth argyhoeddi pechadur yn dangos dim ond sydd wirionedd iddo. Dengys ei fod yn euog, andwyol, colledig, ac anobeithiol byth o'i ran ei hun—dengys iddo ei fod yn elyn i Dduw mewn meddwl trwy weithredoedd drwg—nad oes yn ei gnawd ddim da yn trigo; mewn gair, ei ddwyn i weled, credu, a theimlo, gwirionedd yr hyn a ddywed efe yn y Bibl am gyftwr pechadur y mae yr Ysbryd Glan yn yr argyhoeddiad; ac nid yw y Bibl yn dweyd yn un man fod yn rhaid i bob dyn gredu a chyffesu ei fod y penaf a'r gwaethaf o bechaduriaid yn mhob ystyr.
W. Wel, waeth i chi dewi na siarad, Huw, ond tydi Paul yn deyd, 'y pena o bechaduried ydwyf fi;' a mi goelia i Paul o'ch blaen chi; ac os deydodd Paul hyny am dano ei hun, rhaid i mine a phob pechadur arall ddeyd yr un peth, a chredu hyny hefyd, cyn y gallwn ni fod yn gadwedig. Be newch chi o nyna, Huw?
H. Ni ddywedodd Paul erioed mai efe oedd y penaf a'r gwaethaf o bechaduriaid yn mhob ystyr yn y byd, fel yr ydych chwi yn dweyd. Fel erlidiwr yn yr eglwys, yr oedd efe y penaf o bechaduriaid ei oes mewn gwirionedd cyn ei ddychwelyd. Ond efe a ddywed am dano ei hun mewn lle arall ei fod o ran ei foesau cyn ei droedigaeth yn ol y cyfiawnder sydd o'r ddeddf yn ddiargyhoedd, a'i fod wedi byw yn ol egwyddorion y sect fanylaf o grefydd ei genedl, gan wasanaethu Duw o'i febyd yn fanwl a chydwybodol. Y mae y Rhen Ffarmwr yn siarad am dano ei hun yn bur debyg i Paul, a dyna un o'r pethau a hossais i oreu yn ei lythyr o, yr hyn a brofai i mi ei fod yn meddu synwyr cryf, a meddwl craffus, yn gystal a'i fod yn Gristion goleuedig.
W. Ni choelia i monoch chi na Rhen Ffarmwr, Huw. Saffed mod i yn y fan yma, os ewch chi i bregethu athrawieth fel ene hyd y wlad, Huw, mi gewch ddigon o ddysgyblion i'ch calyn, —mi fydd yn athrawieth felus iawn gen bobol i'w chlowed o'r pwlpit—nat ydyn nhw ddim yn rhw bechaduried mawr iawn, ac y gallen nhw ddwad trwyddi hi yn burion.
H. Nid dyna yw fy athrawiaeth i, Wmffre—y chwi sy'n tynu camgasgliadau. Yr wyf fi yn gwybod, yn credu, ac yn pregethu, fod pob dyn yn bechadur mawr, yn fwy felly nag y gall ei galon byth ddirnad nac amgyffred. Pwy a ddeall ei gamweddau?' ac y mae pob un a argyhoeddir i fywyd yn cael ei ddysgu i weled ac i deimlo ei fod felly mewn gwirionedd; ond yr wyf yn dal i ddweyd nad yw yn angenrheidiol credu a dweyd mai efe ydyw y gwaethat o bechaduriaid, ac nad datguddio hyny y mae yr Ysbryd iddo yn yr argyhoeddiad.
W. Wel, dal dithe i ddeyd fel mynoch di o'm rhan i—mi ddalia ine i d'wrthnebu di hyd ange, saffed mod
'Hai, hai,' ebe F'ewythr Robert, 'rydach chwi chwedi myn'd yn ddigon pell ych dau. Y mae Wmffre yn dechre twmo es tipyn, a mae hi'n troi'n th'di gida fo rwan. Robert Llwyd, newch chi setlo'r pwnc.'
'Y mae arnaf braidd ofn myned rhwng y ddau,' ebe Robert Llwyd, rhag iddynt droi yn fy mhen i gyda'u gilydd.'
W. Saffed mod i yn y fan yma, mi dro i yn ych pen chi os deydwch chi ddim i gyfnogi athrawieth Huw.
'Ust, ust, Wmffre, rhaid i ni gael trefn,' ebe F'ewythr Robert, 'cin saffed a mod ine yn y fan yma.'
'Yn gyntaf oll,' ebe Robert Llwyd, 'a oes dim modd i chwi, Wmffre, adael heibio y gair isel yna, "saffed mod i yn y fan yma," wrth siarad am bethau crefydd? ymadrodd pur anweddaidd ydyw gyda phethau cysegredig yn neillduol; nid yw yn ymadrodd gweddus iawn i'w arfer ar un achlysur mewn ymddyddan cyffredin; mae ein crefydd i ddysgu i ni fwrw ymaith o'n genau bob ymadrodd ffol; ond pan fyddom yn siarad am bethau y Bibl a'r efengyl, dylem fod yn ochelgar a gwyliadwrus iawn ar ei geiriau. Mi a'ch clywais yn arfer y gair ar weddi un tro, Wmffre, nes oedd rhai yn chwysu, ac eraill yn chwerthin, a phawb wedi eu taflu o deimlad a thymher addoli.'
'Saffed mod i yn y fan yma—ha, dene fo eto. Wel, pheidiwn i yn y myw; mae o'n dwad allan rwsut heb yn wood, ne heb yn waetha i mi.'
'Wel, wel, ni waeth gadael llonydd i chwi, Wmffre,' ebe Robert Llwyd, 'ddiwygiwch chwi ddim, y mae arnaf ofn. Ond at bwnc y ddadl, —y mae dwy ochr i bob pwnc, ac felly i hwn; ac y mae llawer o dadleuon yn codi oddiar fod un yn edrych ar yr ochr hon yn unig, a'r llall yn edrych ar yr ochr acw yn unig. Felly yr ymddengys i mi fod y dadleuwyr heno. Daliai Huw Huws yn rhy dyn ar un, ac Wmffre Dafydd yn dyn iawn ar y llall. Y mae eisiau ystyried fod gweithrediadau yr Ysbryd yn argyhoeddiad y pechadur, a gweithrediadau meddwl y pechadur dan argyhoeddiad, yn wahanol a gwahaniaethol. Edrychodd Huw ar y blaenaf, ac Wmffre ar yr olaf. Yr wyf yn llwyr gytuno â'r blaenaf, mai dangos ei gyflwr euog a cholledig fel y mae yn cael ei osod allan yn y Bibl i'r meddwl y mae yr Ysbryd, ac nid dangos i'r dyn mai efe yw y penaf a'r gwaethaf o bechaduriaid yn mhob ystyr nid yw efe byth yn rhoddi datguddiad felly i un pechadur, nac yn wir yn datguddio dim i neb yn amgen nag sydd wedi ei ddatguddio eisioes yn ngair y dystiolaeth. O'r tu arall, y mae y pechadur dan argyhoeddiad, pan yn cael yr olwg gyntaf erioed ar wir drueni ei gyflwr, a mawredd ei bechodau, yn colli ei olwg ar bawb arall yn yr olwg hono arno ei hun, ac y mai yn barod i gasglu, meddwl, a chredu, nad oes ac na bu erioed bechadur mor euog ac ysgeler ag ef. Y mae y cyfaddefiad a wna un gwir argyhoeddedig o hyn yn eithaf gonest, er nad yn eithaf cywir, fe allai. Eto nid yw pob pechadur gwir argyhoeddedig chwaith yn edrych yr un modd arno ei hunan yn yr ystyr yma. Y mae gwahaniaeth mawr yn amgylchiadau y naill a'r llall yn eu bucheddau blaenorol, yn eu cyfansoddiadau naturiol, ansawdd eu meddyliau a'u tymherau, a bydd gwahaniaeth cyferbyniol rhyngddynt o ran eu teimladau a'u hymddygiadau pan yn cyfarfod â'r un cyffelyb driniaethau a goruchwyliaethau. Yr oedd yn ddigon priodol i l'aul alw ei hun y penaf o bechaduriaid, fel y sylwodd Huw Huws, yn yr un ystyr hono a olygid ganddo; canys felly yn ddiau yr oedd efe. Yr oedd Timotheus, yr hwn yr oedd y ffydd ddiffuant ynddo er yn blentyn, wedi ei wir argyhoeddi yn gystal a'r apostol; ond ni buasai yn briodol iddo ef alw ei hun y penaf o pechaduriaid mewn un ystyr. Mewn gair, yr wyf fi yn meddwl fod Huw yn dywedyd gwirionedd ei ochr ef i'r pwnc, ond y dylasai edrych mwy i'r ochr a gymerai Wmffre iddo; a bod Wmffre yntau yn dal yn hollol ar yr ochr hono, heb edrych dim ar y llall.'
'Wel be ydych yn feddwl ohoni'ch dau rwan,' ebe F'ewythr Robert.
Tydw i ddim am ildio i'r Prophwyd a'r Pregethwr hefo'u gilydd,' ebe Wmffre.
'Be ydych chwi'n ddweyd, Huw?'
'Wel, y mae yn rhaid plygu i awdurdod y Prophwyd, mae'n debyg; ie, ac un mwy na phrophwydcanys y mae o yn flaenor. Y mae awdurdod blaenor yn fwy na'r eiddo prophwyd a phregethwr,' ebe Huw Huws.
Mi dy glywas di, Huw,' ebe Robert Llwyd, dan gamu ei ben.
'Yr oedd yn bur dda genyf fi glywed y ddadl heno,' ebe mam, 'nid wyf yn cofio i mi glywed y mater yn cael ei drin erioed o'r blaen, ac nid oeddwn i wedi meddwl fawr ddim erioed am dano chwaith. Yr wyf yn meddwl i mi gael gradd o oleuni newydd trwy sylwadau Huw Huws a Robert Llwyd yn neillduol.'
'Yn debyg i Wmffre Dafydd y byddwn i narfer meddwl bob amser,' ebe Dafydd Edward, 'ond rydw i bron yn barod i newid y marn wedi clowed y ddadl heno.'
'Dene fel rydach chi, Dafydd, yn wastad,' ebe Wmffre, 'mi ewch i galyn pob awel 'sgeidiaeth. Mi rydw i'n teimlo t'hun yn gryfach yn y pwnc nac erioed, saffed—na'
'Wel, ni a adawn y mater yna yn fan yna,' ebe F'ewythr Robert.
Ar hyn, codasom i ymadael.
'Y mae dau beth i fod eto cin madel,' ebe F'ewythr Robert, 'yn un peth, rhaid i Huw Huws a Wmffre Dafydd ysgwyd dwylaw; a pheth arall, yr Hen Brophwyd i myned i weddi.'
Yr oedd Wmffre Dafydd yn lled gyndyn i ysgwyd llaw a Huw Huws ar y cyntaf, canys yr oedd wedi tramgwyddo yn o drwm.
'Wyddost ti be, Wmffre,' ebe F'ewythr Robert, 'twyd di ddim yn Gristion os ei di adre heb ysgwyd llaw â dy frawd heno.'
'Toeddwn i ddim yn meddwl y gallswn i ysgwyd llaw â fo heno, saffed mod i yn y fan yma; ond hwyrach mai gwell fydde i mi neyd, ebe Wmffre; ac felly fu.
Ac wedi i Robert Llwyd weddio yn fyr, yn wresog, a phriodol, ymadawsom.
JAMES HARRIS.
Cyfrinach IV.
Y NOSON benodedig daeth holl aelodau y gyfrinach yn nghyd ond Wmffre Dafydd. Wedi Ychydig o ymddyddan achlysurol, gofynodd F'ewythr Robert a oedd dim ar feddwl neb i'w roddi o flaen y cwmni fel testun ymddyddan 'Ond cyn i ni ddechre,' ebe efe, 'ple mae o, Wmffre Dafydd heno? Welsoch chi o ar ol y noson o'r blaen, Huw? Ydi o chwedi tramgwyddo ddyliech chi?'
'Do, mi a'i gwelais droion ar ol hyny,' ebe Huw Huws, 'prin yr oeddwn yn disgwyl y daethai yma heno—mae y ddadl wedi effeithio yn o drwm arno. Y tro cyntaf y gwelais ef ar ol hyny, yr oedd yn edrych yn gibog a sarug arnaf. Bygythiai fyned a'r mater i'r cyfarfod misol i'w drin. "Fasech chi ddim yn meiddio dweyd y pethe ddydasoch y nosweth hono, Huw," meddai, "tase rhen bregethwrs a rhen flaenoried welson ni yn y sir yma yn fyw; ond mi geith pobol a phregethwrs rwan ddeydyd y peth fynon nhw heb'u galw i gyfri. Toes neb yn edrych dım ar ol yr athrawieth y dyddie yma. Mi roedd clone rhen bobol yn crynu ynthyn nhw rhag i ddim pethe newydd a dierth ddwad i mewn. Ond os dywed neb ddim byd ar y pen hwnw rwan, mi rydachi'n chwerthin am i ben o. Saffed mod i yn y fan yma—a mi rydach chi'n gallach o lawer na'r hen bobol, ond y rhen bobol a rhen athrawieth i mi hyd ange, a chwedi hyny, beth bynag." Ac fe ddywedodd yn mhellach ei fod yn meddwl na ddeuai efe ond hyny ar gyful yr Aelwyd yma.'
'Rhaid i chwi dreio i berswadio fo Huw,' ebe F'ewythr Robert, 'leiciwn i ddim i Wmffre wrthgilio oddiwrtho ni yma, mae arna i ofn y rhydd o air drwg i F'aelwyd i, 'n bod ni'n magu rhw gwyddorion afiach yma.'
'Gida'ch cenad,' ebe F'ewythr Tomas Dafydd, Tanrhiwiau, 'ni fum i ddim yn y'ch seiat chi o'r blaen, a nwn i ddim newch chi gyniatau i mi ddeyd gair o'm meddwl ai peidio, fel tase—gyda'ch cenad.'
'O gwnawn, gwnawn,' ebe F'ewythr Robert, 'mae yma gyflawn rydid i bob un ddeyd i feddwl.'
'Wel, gyda'ch cenad,' ebe F'ewythr Tomas, 'dene oedd ar y meddwl i i'w ddeyd, mod ine'n ofni, fel Wmffre Dafydd, nad ydi'r to presenol o bregethwyr ddim mor iach yn y ffydd a'r hen wnidogion es talwm. Tydw i ddim yn clywed cimin o son a gyfalu am athrawieth iach y rwan ag fydde; a mae'r pregethwyr y dyddie yma narfer rhw derme a geirie nad oedden nhw ddim gin yr hen efengylwyr—tydw i ddim yn gallud dyallt beth ydyn nhw. Ond mi fydd arna i hofn nhw. Mae nhw'n agor y drws rwsut yn rhy lydan gin i o flaen pawb. Toes dim cimin o drin ar etholedigaeth, a pharhad mewn gras, ac annalu dyn, a phechod gwreddiol, ag fydde.'
'Y mae yn dda gin i glywed F'ewythr Tomas yn dweyd ei feddwl mor rhydd ar y mater dan sylw,' ebe Robert Llwyd. Y mae rhyw gymaint o gyfnewidiad yn nhôn y weinidogaeth y dyddiau hyn, ragor oedd yr amser cyntaf ydym ni yn gofio, yr wyf yn addef; ond eto yr un yw hi. Y mae yr holl wahaniaeth yn y dull o'i thrin hi, a'i gosod hi allan; ac ni ddylem ni ddim meddwl bod yr hen bregethwyr gynt yn anffaeledig, er cystal oeddynt. Os ydyw y to presenol o bregethwyr yn son rhy fychan am y pynciau a nododd F'ewythr Tomas, gallai fod yr hen bregethwyr, neu rai ohonynt, o'r tu arall, yn sefyll llawn gormod arnynt, ac yn esgeuluso ymdrin â phethau agosach a mwy ymarferol. Ychydig yw y rhai a allant bregethu yn deilwng a buddiol ar y pynciau hyny. Gwell o lawer genyf fi beidio clywed un yn ceisio trin y fath athrawiaethau, os na fydd efe yn alluog i wneud cyfiawnder â hwy, ac a'r eneidiau fydd yn ei wrando. Y mae llawer iawn o gam wedi ei wneud â'r athrawiaethau hyny gan rai annghyfarwydd ac annghymwys, wrth ymdrin a hwy; a llawer o feddyliau wedi eu drysu a'u niweidio yn fawr hefyd.'
'Oes, y mae,' ebe Huw Huws, 'ac y mae peth arall hefyd, yr wyf fi'n meddwl, i'w ystyried, hyny ydyw, pa un i ddylid ymdrin rhyw lawer â'r fath bynciau a'r rhai a nodwyd wrth bregethu yr efengyl i'r byd. Y mae yn ymddangos i mi na fyddai yr apostolion eu hunain yn son nemawr byth am danynt yn eu pregethau, ond yn eu hepistolau at yr eglwysi byddent yn ymdrin yn fynych â hwy. Edifeirwch, maddeuant pechodau, ffydd yn Nghrist, trefn cyfiawnhau a chadw pechadur, oedd y pethau y safent hwy arnynt yn eu pregethau. Yr oeddynt yn dal y wyneb hono i'r efengyl tuag at y byd, ag oedd, ac sydd eto yn perthyn yn uniongyrchol iddo, ac yn gyfaddas i'w gyflwr. Ac am yr athrawiaethau eraill, "doethineb i'w llefaru yn mysg y rhai perffaith "—y credinwyr, yr ystyrient hwynt: Ac yr wyf yn meddwl hefyd bod hen bregethwyr cyntaf y diwygiad yn Nghymru yn dilyn y llwybr apostolaidd o bregethu, ac mai gweinidogion yr ail do a ddechreuasant ddwyn y pynciau dadleuol rhwng Calfiniaid ac Arminiaid i'w pregethau. Nid wyf am ddadleu nad oedd y peth yn briodol ac angenrheidiol i rhyw radd dan achlysuron ac amgylchiadau y dyddiau hyny; ond dichon ei fod wedi ei gario yn rhy bell. Tybiai pob pregethwr ieuanc fod yn rhaid iddo bregethu ar y pynciau mewn dadl, mewn trefn i fod yn bregethwr mawr; a rhuthrai llawer un i bwnc yr arfaeth a'r etholedigaeth, gan gymeryd arno eu hegluro, eu profi, a'u cadarnhau, heb ei fod yn meddu ar un cymhwysder at y gorchwyl; a'r canlyniad ydoedd, llenwi meddyliau y gwrandawyr—rhai a sel benboeth dros ei olygiadau, eraill, â phetrusder ac anmheuon am danynt, eraill â gwrthwynebrwydd penderfynol iddynt, a'r oll ag ysbryd taeru a dadleu yn eu cylch.'
Yr oedd un peth a ddywedodd F'ewythr Tomas yn fy synu i braidd,' ebe un arall o'r cyfeillion, 'bod y pregethwyr bresenol yn agor y drws yn rhy lydan o flaen pawb. Mi a garwn ofyn i F'ewythr Tomas un o'r cwestiwnau a ofynodd yr Arglwydd i Job gynt, "A ystyriaist ti led y ddaear? mynega i mi, os adwaenost hi i gyd." Wel, y mae drws iachawdwriaeth yr efengyl yn cael ei agor yn y Bibl mor lleted a'r ddaear beth bynag, —" Holl gyrau y ddaear —yr holl genedloedd—pob llwyth ac iaith a phobl a chenedl—pob creadur." "Yr hwn a ddel—a'r hwn sydd a syched arno—deuwch; a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad: " ai nid yw y drws fel yna yn llydan agored o flaen pawbmor lleted a lled y ddaear? A her i'r un pregethwr ei agor yn lletach na hyn yna. Y mae yn anmhosibl i neb ddal y drws yn lletach nag y mae y Bibl yn ei ddal, mi feddyliwni; a pheth ofnadwy ydyw i neb geisio ei gyfyngu.'
'Wel, wel, wel, fel tase,' ebe F'ewythr Tomas, 'mi fase'n well i mi dewi. Rydach chi'n troi yn y mhen bod yg un. Tase Wmffre Dafydd yma, fel tase, mi fase fo'n cymryd y mharti fi ar y mater ene, fel tase.'
'Yn wir, " ebe F'ewythr Robert, 'mi roedd arna ine flys troi yn ych pen chi yn nghylch y y drws hefyd Onibai fod y drws yn llydan iawn, beth ddoethe o hono i a math? Mi glowis Elin yn canu rhw hen benill awer gwaith—rwsut fel hyn:—
"Mae pyrth y nef o led y pen,
Mi wela for o waed;
A gallaf fi'r ffieiddia'n fyw
Yn hollol gael iachad."
Mi fydd yn dda gin i byth am yr hen benill ene. Ond dene sy'n rhoid gwerth a blas arno fo, ydi fod sail iddo fo yn y Bibil—fod y Bibil yn deyd yr un peth, ne'i fod o chwedi i dynu o galon y Bibil—sut y deyda i?'
'Rydw i'n gwel'd,' ebe F'ewythr Tomas, 'mai rhai garw iawn am grogi geirie ydach chi yma bod yg un, fel tase. Mae'n difar gen i es meityn ddeydyd y gair nghylch y drws—gair slip oedd o—mi roedd yn dda iawn gen i glywed fod y drws yn ddigon llydan i mi fyn'd i mewn pen oeddwn i'n ceisio mwthio trwyddo fo y tro cynta, ond rhaid i chithe gofio fod y gair yn deyd mai "cyfyng yw'r porth, a chul yw'r ffordd sydd yn arwen i'r bywyd ""
'Ie,' ebe Robert Llwyd, ond nid o du'r nefoedd mae'r cyfyngder a'r culni—nid yn ymysgaroedd gras, ond yn ymysgaroedd y pechadur ei hun y mae'r cyfyngder.—Yr anhawsdra a'r cyndynrwydd sydd ynddo i gredu, derbyn a chymeradwyo trefn yr efengyl fel y mae hi—i ymwadu yn gwbl ag ef ei hun, a chymaint oll ag a feddo—a chymeryd ei achub a'i gadw trwy ras a thrugaredd Duw yn gwbl, fel y mae yr efengyl yn galw arno i wneud i adael ei ffyrdd a'i arferion drygionus. Hyn a wna y porth yn gyfyng, a'r ffordd yn gul. Mae arno fo eisiau llusgo, a gosod rhywbeth o'i waith a'i eiddo ei hun yn ei gadwedigaeth: ac ni oddef trefn yr efengyl hyny iddo. Rhaid iddo adael y cwbl o'r tu allan i'r porth cyn yr â i mewn, —" Pwy bynag ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all efe fod yn ddysgybl i mi.",
'Mi fum inau'n bur ddig,' ebe un arall, 'wrth fechgyn ieuainc o bregethwyr flynyddau yn ol am swagro yn y pwlpit hefo rhyw derme newydd oeddynt wedi eu cael rywle,—Iawn dirpwyol a throsodiadol, a bodau deallol, a chreadur moesol, a'r cyffelyb; a phofi sefyllfa prawf, fyddai raid yn mhob pregeth. A byddent yn ymddangos fel pe buasent yn tybied eu bod yn gwneud rhyw orchest rhyfedd ohoni hi. Ond mewn gwirionedd, mi fyddai'r cwbl mor syched a chrasydo'r odyn, acmor ddiflas a gwyn ŵy heb halen.'
Yn eich plith chwi'r, Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y bu mwyaf o bethau felly,' ebe Robert Llwyd, 'pan ddechreuwyd pregethu yr athrawiaeth a elwir yn Ffwleriaeth yn Nghymru. Aeth hono i'r canol rhwng ein Calfiniaeth go uchel ni, y Methodistiaid, ag Arminiaeth y Wesleyaid; ac fel y mae yn digwydd yn fynych i blaid ganol, trodd y ddwy blaid arall yn ei phen. Rhoddasant heibio guro y naill y llall i raddau helaeth, gan droi i guro ar hon. Dywedai y Calfiniad uchel bod yn well ganddo ef Arminiaeth noeth na hi; a dywedai yr Arminiad yntau, mai gwell fuasai ganddo y Galfiniaeth benaf na hi. Cafodd o golygiadau hyny lawer o gam trwy i ddynion ieuainc bas eu gwybodaeth, byrion eu cyrhaeddiadau, a bychain eu dawn a'u gras, ruthro i geisio eu pregethu a'u hamddiffyn, fel y sylwodd ein cyfaill, gan arfer rhyw dermausychion a dyeithr o fath y rhai a nodwyd, i beri diflasdod nid bychan i ddynion call, ystyriol. Pe buasent yn gadael y gorchwyl o'u hegluro i wyr fel Roberts o Lanbrynmair, a Williams o'r Wern, a'u cyffelyb, gwnaethent yn ddoeth ac yn dda. Ond yr un fath ydoedd yr amser hwnw a'r amser y cyfeiriodd H. Huws ato, pan oedd raid i bregethwyr ieuainc gael treio eu llaw'n wastad arfaeth, etholedigaeth, a phynciau dyfnion felly gyda ninau.'
Wel, wel, rhaid i chi gofio mai pobol ifenc ydi pobol ifenc,' ebe F'ewythr Robert. 'Wiw i chi ddisgwyl 'u cael nhw fel hen bobol yn mhob peth, ynte nid pobol ifenc fydden nhw.'
'Da iawn, F'ewythr Robert,' ebe finau. Yr oeddwn i'n eu clywed hwy yn gyru yn o drwm ar y bobol ieuainc er's meityn; ac mi wranta i, mai go debyg oeddynt hwythau eu hunain pan oeddynt yn ieuainc.'
'Ie, ie,' ebe Robert Llwyd, 'digon gwir, "Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y meddyliwn, ac fel bachgen y llefarwn." Gall pob un ohonom ddywedyd hyny. Ond y mae cryn ragor rhwng gwr ieuanc a gwr ieuanc arall er hyny. Chwi a welwch ambell un yn wylaidd a phwyllog, ac na fydd byth yn ceisio ymestyn at bethau rhy fawr a rhy uchel iddo; ond wedi dysgyblu a gostwng ei enaid fel un wedi ei ddyddyfnu, fel y dywed y Salmydd, ac heb ddim o'r chwydd gwyntog hwnw ynddo a welir yn eraill.'
'Y mae rhagor garw rhwng y naill ebol ifanc a'r llall,' ebe F'ewythr Robert. 'Ambell un llonydd a howeth fel hen geffyl, a'r llall yn wyllt ac aflowodraethus; ond mi neith hwnw cystal ceffyl a'r llall, ne well hwrach ar ol i dori a'i ddysgu fo. Ac felly, os gwelwch chi ymbell bregethwr ifanc yn o hy a mentrus ar y cychwyn, peidiwch chi a barnu'n rhy galed arno fo, os oes dynyddie yntho fo—mi ddaw oedran a phrofiad a fo at 'i goed, fel y byddwn ni'n deyd, a mi eill o neud dyn gwych iawn. Os gnewch chi ladd y lloi, ni fagwch chi byth ychen, cofiwch.'
'Yr wyf fi o'r farn,' ebe Dafydd Evan, 'bod y dadleuon yr oeddych yn son am danynt wedi bod o les yn y canlyniad, faint bynag o niwed a wnaethant ar yr amserau hyny. Y mae yr enwadau crefyddol yn Nghymru y dyddiau hyn, yn ol fy meddwl i, yn llawer nes at eu gilydd o ran athrawiaeth a theimlad, nag y buont erioed;; ac wedi dysgu peidio saethu y naill at y llall, a chondemnio golygiadau eu gilydd, fel y byddent. Ac mi fydda i'n methu gwybod dim rhagor rhwng y naill a'r llall yn pregethu rwan; ond bod tipyn o wahaniaeth yn llafar, llais, tôn, a dull, pregethwyr y naill enwad a'r llall.'
'Yr wyf finau'n meddwl y gallent ac y dylent ddyfod yn nes at eu gilydd eto,' ebe un arall o'r cwmni. 'Paham nas gallent gael cyfarfod neu gynadledd unwaith bob blwyddyn, yn rhywfan, i weinidogion ac eraill o'r gwahanol enwadau gydgyfarfod i gydymddyddan a chydweddio a chydbregethu hefyd, os mynant. Gallant gydymgynghori er trefnu mesurau i gydweithredu i sefydlu a chynal ysgolion a phethau eraill; a gwneud llawer mwy o ddaioni felly nag y maent yn ei wneud yn bresenol, mi debygwn i. A'r neb a allo wneud daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo, medd Paul. Undeb yw dirgelwch nerth. Gallai Ýmneillduaeth fod yn llawer cryfach a mwy effeithiol nag ydyw onibai y sectariaeth flol a dirmygus sydd yn cadw y gwahanol lwythau perthynol iddi oddiwrth eu gilydd. Y mae y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle yn ddiweddar yn hyn yn arwydd er daioni; ond yr wyf braidd yn ofni bod y Wesleyaid yn hytrach yn pellhau oddiwrth, nag yn nesu at, eu brodyr o enwadau eraill: ond nid oes mo'r help am hyny. Bydded i'r lleill ymwasgu at eu gilydd, a rhoddi cyfleusdra i'r brodyr Wesleyaidd i gyduno, os dewisant.'
'Yr ydych wedi dweyd peth y bum yn meddwl am dano, ac yn dymuno ei weled yn fawr,' meddai H. Huws, 'ac mi glywais eraill, a rhai dynion pur gyhoeddus hefyd, yn son am yr un peth. Y mae yn llawn bryd i ni fwrw heibio bethau bachgenaidd bellach; a rhywbeth bachgenaidd iawn, a gwaeth na bachgenaidd ydyw y rhagfarn sectaraidd yma. Ni a ddylem fod yn wyr bellach. Y mae dechreu ar bob peth, ac y mae y cyfnewidiad a nodwyd, yr hwn a gymerodd le yn y blynyddoedd diweddaf, yn gychwyniad da yn yr iawn gyfeiriad. Dylai holl lwythau yr eglwys efengylaidd fod yn gyffelyb i lwythau Israel gynt. Yr oedd pob un o'r rhai hyny yn gwersyllu ac yn ymdeithio dan ei luman priodol ei hunan; ac yr oedd pob llwyth yn teimlo mwy o serch at, a mwy o sel dros, ei luman ei hunan yn ddiau. Ond er hyny, yr oeddynt yn cydwersyllu, ac yn cydymdeithio ar ol y golofn mewn tangnefedd a chariad. Ac wedi iddynt gael eu sefydlu yn ngwlad yr addewid, yr oedd y naill lwyth yn cynorthwyo y llall yn erbyn y gelyn, ac i oresgyn ei randir; ac yn cydgyfarfod o flaen yr un allor yn Jerusalem dair gwaith yn y flwyddyn. Felly yr oedd yr Eglwys Iuddewig yn un, er bod yn wahanol lwythau; a gallai a dylai yr eglwys efengylaidd fod yn gyffelyb iddi. Gall undeb hanfodi yn absenoldeb unffurfiaeth—a gall unffurfiaeth fod heb undeb. Am undeb ei ganlynwyr, ac nid am eu hunfturfiaeth, y gweddiodd y Gwaredwr. Y mae yn ddigon naturiol, ac yn ddigon cyfreithlon, am a wn i, i aelodau y naill enwad a'r llall i deimlo a dangos sel dros eu lluman eu hunain, ond iddi gael ei thymheru â goddefgarwch a chariad Cristionogol tuag at eraill sydd yn dal ac yn proffesu yr un ffydd.'
'Glywch chwi. Mae Huw yn cael hwyl i lefaru, onid ydyw?' ebe Robert Llwyd.
'Yr ydych chwi, Margt. Harris, yn ddystaw iawn heno,' ebe F'ewythr Robert. A oes dim ar eich meddwl chi i'w ddeydyd ar y mater yma?'
"Tawed y gwragedd,"" ebe mam. 'Ond yr oeddwn i yn meddwl ers meityn am eiriau y Salmydd, —"Dymunwch heddwch Jerusalem: hedd fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.—Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo iti: er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni." Heddwch yw trysor penaf yr eglwys—elfen bywyd ei llwyddiant. Os na bydd heddwch o fewn ei rhagsur, ni wiw disgwyl y bydd ffyniant yn ei phalasau. Aflonyddu ei heddwch yw prif amcan a phrif ddymuniad ei gelyn; canys efe a wyr yn dda mai "Lle byddo cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg a phob gweithred ddrwg." A gwell ganddo weled cenfigen, ymryson, a therfysg, yn yr eglwys Gristionogol nac yn un man arall.'
'Y mae gen i lythyr oddiwrth yr Hen Ffarmwr, oeddwn i'n meddwl cael ei ddarllen i chi heno,' ebe F'ewythr Robert, 'ond rydw i'n gwel'd bod rhai o honoch chi'n dechre anesmwytho am fynd adrefelly ni gydawn o tan y tro nesa.'
Felly terfynodd y gyfrinach, ac aethom bob un at yr eiddo.
Cyfrinach V.
'ADDEWAIS y tro o'r blaen y buoch yma,' ebe F'ewythr Robert (wedi i aelodau y gyfrinach ymgasglu yn nghyd), 'y cowsech chi glowed y llythyr dwaetha dderbynis i oddwrth fy nghyfell 'Rhen Ffarmwr; felly dyma fo,' gan ei dynu o'i logell. 'Darllen o James; a darllenais inau fel y canlyn. [Gweler y Llythyr yn niwedd RHEN FFARMWR.]
Wedi darlleniad y llythyr hwnw, aed yn mlaen gyda'r Gyfrinach.
Wel, diolch i chwi, F'ewythr Robert,' ebe Robert Llwyd. Yr oedd y llythyr yna yn werth ei glywed; ac yr wyf yn coelio pe buasai Wmffre Dafydd yma heno y buasai yn newid ei feddwl am y Rhen Ffarmwr.'
"Canent hefyd am ffyrdd yr Arglwydd,"' ebe Tomas Evan o'r Neuadd—hen Gristion a chymydog ddaethai i gyfrinach yr Aelwyd am y waith gyntaf. Rhyfedd iawn ydyw ei ffyrdd ef—fel y mae yn dolenu amgylchiadau bychain dibwys a damweiniol i'n golwg ni, y naill wrth y llall, i wneud cadwyn o foddion i godi enaid o'r pwll. Y mae goruchwyliaethau rhagluniaeth a gras yn fanwl a rhyfedd."
'Wyddoch chi be oeddwn i'n feddwl rol clowed llythyr ff'en gyfell y tro cynta?' ebe F'ewythr Robert, Roeddwn i'n meddwl fod gan raglunieth rwbeth i neyd ag enwi cyffyle. A welwch chi wel y daeth y naill beth i gwarfod y llall—y pregethwr yn pregethu ar Ffelix; a hyny'n dal ar feddwl rhen wr mor ddwys, nes doedd o'n byrddwydio ag yn coelio mai fo oedd Ffelix; a mynd yn union ramser hono i'r ffair, a dan 'i ddwylo'n prynu ceffyl o'r enw Ffelix, a hyny'n gyrud yr hoelen yn ddyfnach i'w galon. Mae'n ddigon tebyg nad oedd run ceffyl arall o'r enw Ffelix i'w gael trwy'r holl ffair. Wel, un rhyfedd ydi o'r Llywodraethwr mawr.'
'Y mae llawer iawn a bethe cyffelyb wedi bod y clywsom am danynt,' ebe Huw Huws, 'a llaweroedd na chlywsom erioed son am danynt. Hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn a hwy—lawer gwaith. Y mae yn ei wneud yn barhaus: Y mae goruchwyliaethau rhagluniaeth yn is—wasanaethu trefn fawr yr iachawdwriaeth. — Y gair, a'r gair yn unig, ydyw moddion ailenedigaeth a chadwedigaeth yr enaid. Trwy y geiriau hyny yn Job y toddwyd, yr enillwyd, y goleuwyd, ac y gwaredwyd, enaid y Rhen Ffarmwr rhag disgyn ohono i'r clawdd; ond bu'r amgylchiadau a goffeir ganddo yn ei lythyr yn foddion i barotoi y tir i dderbyn yr had.'
'Wel, mi fydd llawer iawn o hanesion difyr i'w hadrodd a'u gwrando yn y nefoedd,' ebe Mrs. Harris.
'Miloedd o bethau cyffelyb, a phethau mwy a rhyfeddach na'r hyn a glywsom heno—na chlywyd erioed son am danynt yn y byd yma.'
'Gadewch i ni ganu yr hen benill'
"Mi gaf yno ddweyd yr hanes," &c.
cyn ymadael, ebe Robert Llwyd; a chanwyd, a dyblwyd ef drachefn a thrachefn, gyda blas da, a gwres mawr. Wedi hyny, ymadawsom yn bur ddedwydd ein teimladau.'
Cyfrinach VI
'O! Mi a anghofais ofyn i chwi cyn ymadael y noson o'r blaen, F'ewythr Robert,' ebe Robert Llwyd, 'A ddarfu i chwi ddim ateb llythyr eich cyfaill 'Rhen Ffarmwr, y clywsom ei ddarllen o?'
'Ei ateb o?—wel do, debig iawn—mi fase'n chwithig i mi beidio.'
'Wel, a oes genych chwi gopi ohono fo?—Mi fyddai'n dda iawn genym ni bawb ei glywed o, os nad oes genych ryw wrthwyneb i hyny.'
'Oes, mi sgrifenodd y bachgen yma ddau, un i mi i'w gadw, a'r llall i'w yryd i nghyfell: a waeth gen i i chwi glowed o na pheidio, os dydach chi'n gwyllysio—ystyn o Modlen—yn y dror ganol acw mae o—ia, dene fo—darllen o James.'
'Fy hen gyfaill,—Ni choeliai eich calon chwi byth gymaint o bleser a hyfrydwch roes y'ch llythyr chwi i nghalon i, pe bawn i'n dweyd wrthych, ond ni alla i ddim dweyd wrthych, o ran hyny. Mi gododd ryw awydd anghyffredin yn y meddwl i, am gael eich gweled chwi, a'r ceffyl Ffelix hefyd. — Da chwi, rhowch gyfrwy ar 'i gefn o, ac ewch chithe ar gefn hyny, a dowch yma'ch dau ryw ddiwrnod. Mi fydd arnoch chwi eisieu dwad i ffair y Bala, neu y Bettws, i brynu ŵyn hwyrach—mi fydd llawer yn dwad o'ch gwlad chwi i'r ffeirieu rheini. Mae ffair y Bettws ar y 30 o Fehefin, a ffair y Bala ar y degfed o Gorphena'. Ni fyddai o ddim llawer i chwi ddwad yma am noswaith wrth fynd neu ddychwelyd, am unwaith. Mi gaech y croeso goreu fedren ni wneud yn y ty, a mi gae Ffelix y croeso goreu fedren ni wneud iddo yntau yn y stabal hefyd. Mi fynwn ni gael sassiwn fawr o honi hi ar yr Eulwyd yma, pe ta'ech chwi naddo dwad; a mi ddo i i'ch cyfarfod chi, ond i mi gael clywed y byddwch chwi'n dwad.
'Mi ddarfum i chwerthin llond y ngenau a chrio llond y mol, wrth glywed darllen eich llythyr chwi. Mae'r Brenin mawr fel tad hefo'i blant, yn gwneud pethau rhyfedd, a difyr, a digri agos weithiau, gida phlant dynion. "Gwnaeth Duw i mi chwerthin," ebe rhyw un o bobl y Bibil yna; ac y mae rhyw bethau felly yn bod eto yn siwr ddigon. Pe base Elin yn fyw, mi fase hi yn gwneud rhyw sylwade gwchion ar eich llythyr chwi. Mi ddweda i chwi beth oedd yn y nharo i'n ddwys iawn ynddo fo, hanes marwolaeth yr hen wrandawr hwnw. Mae llawer iawn o wrandawyr yn byw ac yn marw run fath a fo; ond y syndod ydi, na buaswn i a chwithau wedi cyfarfod â'r un diwedd. Ni fuom i'n dau 'n hir iawn ar yr un ffordd.
Dyna beth sy'n blino llawer iawn arna i o hyd ydi, na fedrwn i gael rhyw drefn a llywodraeth ar yr hen feddwl diffaith yma—rwy i'n coelio yn y nghalon na fu gen neb rioed i siort o am wibio a chrwydro, yma a thraw—i rywle at rywbeth—i bobman at bobpeth, ond i'r fan, ac at y peth y dyle fo fynd. Mi fydda yn ceisio'i ddal, a'i feistroli, a'i stwytho, a'i rwymo, a'i ddofi fo, ond ni nawni yn ymyw. Wedi i mi gael gafel arno fo, a'i osod o ar waith, dybygaswn i, mi ddengith oddiarna'i mewn moment yn ddigon pell, na bydd dim hanes am dano fo—ar ganol dweyd gair wrth geisio gweddio hwyrach, mi redith oddiarna i, a felly pen fydda i am iddo fo fynd i'r nefoedd, mi fydd o wedi dengid i ben pella'r ddaear, a mine ar golli pob teimlad, a phob hwyl a blas, wrth redeg ar i ol o. Ond wedi'r cwbl, y fi ydi o, a fo ydw ine, yn y diwedd. Rhyw greaduried rhyfedd iawn ydan ni, onte? Does dim fath beth ag i ddyn gael gafal arno'i hun, rywsut; mae o fel tae o'n ddau beth, ac heb fod yn beth yn y byd chwaith, ac eto mae o yn rhywbeth hefyd.
'Mi glywais Elin yn y gornel yma lawer gwaith yn canu rhyw hen benill, pan na fyddai hi yn meddwl mod i'n sylwi dim arni hi. Tydw i ddim yn gallu cofio'r penill chwaith, ond rywsut fel hyn y mae darn ohono fo:
"O na bae rhyw ddyfais hyfryd,
Dan yr awyr las yn nghyd,
Allai gadw 'm meddwl gwibiog,
Yn dy gwmni di o hyd."
A felly i chwi, mi feddyliwn 'i bod hithe'n cael trafferth hefo'i meddwl gwibiog yma, a'r dyn wnaeth y penill hefyd, pwy bynag oedd o, run modd. Debyg gen i i chwi mai'r ddyfais ore ydi deyd 'i gastie fo wrth yr un sy'n 'i nabod o, ac yn gwybod y ffordd i'w drin o, a cheisio ganddo roi 'i ofn ynddo, fel na chilio fo oddiwrtho.—Dene'r peth gore fedres i ffeindio eto. Mi fydda'n i'n i gyfflybu oi hen gaseg farus fu gen i flynydde nol. Doedd run clawdd na gwrych yn y wlad yma ddalse hono; tase ni'n i rhoi hi mewn porfa at 'i llygid, mi fydde raid iddi hi gael tori tros y cloddie—roedd fel tase'n bleser gynthi hi fyn'd trwy'r gwrychoedd. Mi treis hi bob ffordd yn y byd—rhoid llyffether ar 'i dau droed blaen hi, a'i rhoi hi'n groes wedyn rhoi dwy lyffether ar ol hyny, a mwgwd ar 'i llygid hi drachefn. Ond doedd waeth i mi be nawn i yn y byd—mi mlusge at adwy neu lidiart, a mi orwedde arnyn nhw nes y toren nhw tan i phwyse hi. Mi fu raid i mi 'i gwerthud hi o'r diwedd—mi wnaeth feistres glan gloew arna i. Mi feddylies lawer iawn am dani hi, wedi i mi ddechre nabod tipyn ar fy meddwl, 'tawn i'n nabod o hefyd. " Y galen sy fwy ei thwyll na dim—drwg ddiobaitha phwy a'i hedwyn?"—Dyna fel y mae hi arna i chwi, fy hen gyfaill, yn digio wrth y nghalon—yn ffraeo â hi yn 'i dwrdio hi—ac yn achwyn arni hi—a methu cael trefn yn y byd arni hi; ac eto er hyny, yn rhyw ddirgel gredu y daw hi yn iach, yn lân, ac yn drefnus, ac yn bur fesyl y tipyn. Y mae rhyw addewidion yn yr hen Lyfr tebyg i hyn, "Mi a dynaf y galon gareg o'ch cnawd chwi—mi a roddaf i chwi galon newydd, ac yspryd newydd:" a rhyw hen weddi hefyd, "Crea galon lân ynwyf, O Dduw;" ac rwy ine yn ceisio gweddio yr hen weddi, a disgwyl wrth yr hen addewid; ond mi euthum yn hen bechadur cyn dechre, ond mae'r hen drugaredd a 'ddawodd yn hynach na mine o lawer iawn; a hefyd, yn fwy o drugaredd nag ydw i o bechadur. Mi fuo'r cythrel yn ceisio nhaeru i allan lawer tro, mod i'n ormod o bechadur, ag yn rhy hen o bechadur, i gael trugaredd. Mi fu sgwffwl dost rhyngtha i â fo un diwrnod ar y cae wrth y tŷ yma, mi gofia byth. Roeddwn i'n ceisio curo am drugaredd, ac yntau yn brysur iawn wrth f'ochor i yn dangos y mhechod i mi, ac yn dweyd fod y cwbwl drosodd, mod i gwedi gadel iddi hi fynd yn rhy ddiweddar, a bod y meie i'n ormod i'w madde. Mi drawodd rhyw ole i meddwl i'n ddisymwth—Yth di sy'n dweyd hyny, ebe fi, dydi'r Bibil yn dweyd dim o'r fath beth, a mi coelia i o o dy flaen di. A'th di'n dweyd mod i'n ormod pechadur? Mi fyddet yn dweyd wrtha i bob amser o'r blaen, pan fydde rhywbeth ar y meddwl i am y nghyflwr, nad oedd raid i mi ddim gofalu nag ofni, nad oeddwn i ddim yn bechadur mor fawr a llaweroedd; a phan oeddwn i'n ifanc, roeddet ti'n dweyd ei bod yn rhy fuan, ac yn mhen amser wedi hyny, ei bod hi yn ddigon buan, a bydde'n hawdd i mi gael trugaredd ar wely angebod llawer o bechaduried mwy a hynach na fi wedi'i chael hi. Wyddost ti beth? ebe fi, mae dy waith di'n taeru mod i'n bechadur rhy fawr, a rhy hen, i gael trugaredd, yn ddigon o brawf gen i nad ydw i ddim. Mae gen i fwy o ffydd y ca i drugaredd, o achos dy fod di'n dweyd na cha i ddim o lawer iawn —a faset ti ddim yn dwedyd hyny, ond fel rwyt ti'n gwybod o'r gore mai dweyd celwydd rwyt ti; ond ydi'r Bibil yn dweyd mai hen gelwyddgi wyt ti rioed. A mi ddweydis lawer o bethe fel ene wrtho fo, a mi roeddwn i'n teimlo tase fo'n nghyraedd fy ffon i, y baswn i'n rhoi iddo fo glipws. Mi concris o'n lân beth bynag yn y peth hwnw—ni chnygiodd byth mosod arna i yn y ffordd hono wedyn. Mae son yn y Bibil am sathru Satan dan draed—wel mi ces i o dan y nhraed y tro hwn trwy help o'r nefoedd; ond mi gododd tro wedyn, ac mi boenodd lawer arna i 'rol hyny, er nad yn yr un dull ag o'r blaen—ac fel yna i chwi, rhwng yr ysbryd drwg, a chalon ddrwg, a byd drwg, y mae hi'n ddigon trafferthus arna i'n amal. Ac eto—ond ni waeth i mi droi pen arni hi yn y fan yma y tro yma. Brysiwch ysgrifenu eto, a chofiwch adael i mi gael gwybod pa bryd y dowch chwi yma—ac felly da y bo'ch chwi, a bendith arnoch chwi, a phawb sydd yn perthyn i chwi—Amen. Ydwyf, &c., &c.'
'Wel diolch i chwi, F'ewythr Robert, am ganiatau i ni gael clywed eich llythyr chwi,' ebe Robert Llwyd. 'Beth oeddych yn feddwl pan soniech am roi clipws i'r gwr drwg â'ch ffon ar y cae y diwrnod hwnw? —oeddych chwi yn meddwl y busech yn ei daro fo o ddifri, pe buasai o yno o'ch blaen chwi?'
'Meddwl, oeddwn; ac yn credu yn y nghalon y fynud hono y baswn i'n 'i daro fo i'r ddyar—roeddwn i'n clywed ffun mor gry rwsut; a mi godis y ffon heb yn wybod i mi ffun fel pe taswn i'n 'i weled o ono o mlaen i.'
'Mae'n gof genyf ddarllen yn hanes Luther,' ebe Huw Huws, 'ei fod wedi gweled, neu ddychymygu ei fod yn gweled, y diafol yn dyfod ato i'w lyfrgell un diwrnod, ac yn ceisio ei demtio ef i annghredu, anobeithio, a chablu, ac iddo yntau ymaflyd yn yr inclestr oedd o'i flaen ar y bwrdd, a'i daflu o â'i holl nerth at ben y diafol; ond mi osgodd yr hen fachgen yr ergyd, ac mi darawodd yr inc—lestr yn erbyn pared yr ystafell; ac y maent yn dweyd fod ol yr ergyd i'w weled ar y pared hyd heddyw.'
'Mae'n dda gen y nghalon i glywed fod rhywun gwedi bod mor wirion a fine,' ebe F'ewythr Robert, 'nenwedig dyn mor fawr a rhagorol ag oedd hwnw.' 'Mi wn i am rywun a hitiodd ei ben o, os darfu i Luther a F'ewythr Robert fisio,' ebe Tomas Evan.
"Fe grynai'r ddaear—rhwygai'r graig—
Yr awr ryfedda erioed!
Pan_oedd e'n dryllio pen y ddraig
Yn chwilfriw dan ei droed.
Lle'r benglog mwyach fydd y lle
Enwocaf ar y llawr,
Can's yno drylliwyd penglog hen
Lefiathan uffern fawr."
'O! diolch!' ebe F'ewythr Robert, 'do, mi cafodd hi'r tro hwnw. Rydach chi'n peri i mi feddwl am Elin, Tomas—tase hi yma heno, rhwbeth fel ene fase hithe'n ddeyd.'
'Pa fodd yr ydym ni i wybod mai oddiwrth y diafol y mae rhyw demtasiynau i ddigaloni ac anobeithio am drugaredd, a phethau cyffelyb, yn codi yn ein meddyliau?' gofynai un o'r cyfeillion.
'P'run ohonoch chwi sy'n mynd i ateb y cwestiwn ene?' gofynai F'ewythr Robert, ar ol peth dystawrwydd, gan daflu ei lygad at Robert Llwyd a H. Huws. Beth mae o'r pregethwr yn 'i ddweyd?'
'Na wn i'n siwr,' ebe H. Huws,—'mae o'n gwestiwn go galed hwyrach.'
'Caled, Huw?' ebe Wmffre Dafydd, canys daethai yntau i'r gyfrinach y tro hwn. 'Ni wela i ddim byd yn galed yntho fo—o b'le mae pobpeth drwg yn dwad, ond oddiwrth dad y drwg,—o b'le arall y doe nhw?'
'Mae llawer o bethau drwg yn codi o fam y drwg, sef calon dyn, yn gystal ag oddiwrth ei dad o, sef y diafol,' ebe Huw.
'Mi ewch i gymryd parti'r diafol, debig cin i, Huw, saffed mod i yn y fan yma,' ebe Wmftre.
'Mi eith yn ddrwg rhwng Wmffre a Huw heno eto, os na 'drychwn i ar 'u hole nhw,' ebe F'ewythr Robert.
Wel y mae yn bosibl gwneud cam â'r diafol ei hunan, er gwaethed ydyw o,' meddai H. Huws; 'ac y mae yn ddianmheu genyf fi ei fod ef yn cael llawer o gam gan ddynion, pan y maent am daflu euogrwydd eu pechodau ar ei ysgwyddau ef, a meddwl dianc eu hunain yn ei gysgod o. Ond yr wyf yn meddwl hyn, pan fo pechadur dan argyhoeddiad o'i gyflwr, ac yn dechreu galw am drugaredd, y bydd Satan yn rhywle yn agos, yn sefyll ar ei ddeheulaw o, ac yn dangos ei ddillad budron o, fel yr oedd ef gyda Joshua yr archoffeiriad gynt; ac mai ei bicellau tanllyd ef ydyw y temtasiynau hyny i anobaith fydd yn saethu i'r meddwl; ac felly, y fath yw dyfnder ei ddichellion, fel y mae yn medru cymeryd mantais hyd yn nod oddiwrth waith Ysbryd y gras ei hun pan y mae yn dangos trueni a cholledigaeth ei gyflwr i'r pechadur, a mawredd ac amledd ei bechodau, i geisio ganddo gredu fod ei anwiredd yn fwy nag y gellir ei faddeu. Ac felly, pan y mae yr Ysbryd Glan yn argyhoeddiad y pechadur yn gwneud fflangell o'i bechodau ef i'w yru at Grist, y mae yr Ysbryd aflan yntau am wneud mur ohonynt i'w atal at Grist, a ffrewyll i'w yru i drueni.'
'O ie,' ebe Robert Llwyd, 'yr wyf finau'n coelio mai oddiwrtho ef, tad y celwydd, y mae y pethau yma'n dyfod; ac fe ellir adnabod ei bethau wrth eu dal yn ngoleu yr Ysgrythyr, a'u cymharu â'r Ysgrythyr. Nid oes dim yn nhystiolaeth Ysbryd y gwirionedd yn y Gair, i fagu anngrediniaeth, a chynyrchu anobaith yn enaid y pechadur dan argyhoeddiad—dim i'w darfu a'i gadw oddiwrth Grist ac oddiwrth drugaredd; ond yn hytrach y mae pob peth yn y gwrthwyneb i hyny—i gefnogi ffydd, meithrin gobaith, i roddi cysur cryf i'r enaid, i ffoi a chymeryd gafael yn ngobaith yr efengyl, i gynyrchu meddyliau mawrion ynddo am haeddiant y Gwaredwr a thrugaredd a thrugarowgrwydd Duw; ac felly, rhaid mai oddiwrth ysbryd y cyfeiliorni y mae pob peth croes i hyn yn dyfod. A dyna lle y mae y pechadur yn dyfod yn euog a chyfrifol yn, ac o ddrwg y meddyliau hyn, pan y mae ef yn ymollwng i'w dylanwad—yn coelio tystiolaeth sydd yn hollol groes i dystiolaeth y Bibl: ac y dywed fel y rhai gynt. —" Nid oes obaith—nac oes, canys cerais ddyeithriaid; ac ar eu hol hwynt yr af fi." Y mae y galon felly yn cymeryd plaid y gelyn yn erbyn yr Ysbryd Glan a'r efengyl, ac yn erbyn ei hiachawdwriaeth ei hun yr un pryd; a'r pechod gwaethaf a all fod y tu yma i uffern ydyw anobeithio yn nhrugaredd Duw. Annghrediniaeth wedi ei berffeithio ydyw—wedi esgor ar ei etifedd yn yr enaid. O'r tu arall, chwi glywsoch fel y cafodd ein hen gyfaill F'ewythr Robert yma, ei droed yn rhydd o'r fagl hon o eiddo y diafol—drwy ei wrthwynebu yn ei wyneb, a chodi ei ffon arno, a dweyd wrtho y coeliai efe y Bibl o'i flaen ef. Dyna fuddugoliaeth ffydd—dyna ddiffoddi picellau tanllyd y fall, â'i tharian hi—a dyna oedd cymeryd plaid yr Ysbryd Glan a thystiolaeth y Gair, yn erbyn yr ysbryd drwg a'i demtasiynau ef.'
'Er hyny eto,' ebe Wmffre Dafydd, 'mae'n rhaid lladd y pechadur yn farw gelen; hyny ydi, rhaid iddi fyn'd yn anobaith clir arno fo cin y gellir 'i gadw Beth y mae Paul yn feddwl pen ddywed o, "Pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minau fum farw," os nad rhywbeth felly?'
'Marw i'r ddeddf mae o'n feddwl, ebe Robert Llwyd, 'fel y mae efe ei hun yn dweyd mewn lle arall, "Yr wyf fi trwy y ddeddf wedi marw i'r ddeddf." Marw i bob gobaith am fywyd o'i ran ef ei hun, a phob peth a allo wneud. Amcan gwaith Ysbryd y gras ydyw ei ladd i'r gobaith ddeddfol, i'r hyder cnawdol hwn; i anobeithio yn hollol am ei fywyd trwy y ddeddf a'i weithredoedd ei hun. Peth arall hollol wahanol ydyw'r anobaith hwn i'r anobaith yr oeddym yn son am dano o'r blaen; anobeithio yn wyneb yr efengyl—anobeithio yn nghrugaredd Duw yn Nghrist Iesu oedd hwnw: felly, pan y mae yr Ysbryd Glan yn lladd pechadur i'r ddeddf ac iddo ei hun, y mae yr ysbryd drwg am ei ladd i'r efengyl, drwy ei yru i anobeithio ynddi hithau hefyd, yn gystal ag yn y ddeddf.'
'Ie, dyna fo,' ebe Tomas Evan, ' mi gewch y marw yna mewn anobaith yn y ddeddf, a'r byw trwy obaith yn nhrugaredd faddeuol Duw, yn ymyl ei gilydd mewn dwy adnod fechan—dyma hi, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner.""
'Y mae yn bryd i ni fyned bawb i'w fan,' ebe un o'r cwmni.'
'Cyn i ni gychwyn,' ebe un arall, 'mi garwn i gael gwybod a glywodd F'ewythr Robert oddiwrth yr Hen Ffarmwr wedi iddo anfon y llythyr a glywsom ato.'
'Do, mi dderbyniais bwt bach o lythyr oddiwrtho; ond nid oes dim o bwys yntho fo.'
'O, yn wir, yr oeddwn i'n meddwl son am hyny wrthoch chi hefyd. Wel, y mae agos yn meddwl y daw o ryw dro cyn hir; ond mi gawn glowed oddiwrtho fo eto i roid gwbod yr amser i ni.'
Parodd yr hysbysiad hwn sirioldeb nid bychan, yr hwn a amlygid trwy guro traed a dwylaw.
'Un gair eto,' ebe F'ewythr Robert, 'cyn i chi ymadel. Tomas Evan, mi rydw i chwedi cael lle i feddwl fod rhywbeth ynthoch chi, a mae arna i eisio 'i gael o allan o honoch chi.'
Mae llawer o bethau ynthw i y byddai yn dda 'u cael nhw allan o honwyf,' ebe Tomas; 'ond at beth yr oeddych chwi'n cyfeirio, F'ewythr Robert?'
'Mi wranta fod yn wir, Tomas; ond tasech chỉ'n peidio bod mor brysur a rhedeg o mlaen i, ni fase raid i chi ddim gofyn y cwestiwn. Tyda'n ni ddim wedi cael cwleustra i'ch clowed chi'n deyd ond 'chydig yn'n plith ni yma; a dene oeddwn i'n myn'd i ddeyd—y byddwn ni'n disgwyl wrthoch chi'n bena y tro nesa. Mi gewch gym'ryd y'ch rhydid i drin y mater a fynoch chi.'
'Na'n ddigon siwr, rhaid i chwi f'esgusodi i, F'ewythr Robert, druan.'
'Toes dim sgusodion yn pasio ar f'eulwyd i, Tomos.' Ac felly ymadawsom,
Cyfrinach VII.
WEDI agor y gyfrinach trwy ddarllen, canu, a gweddio, cymerodd F'ewythr Robert ei gadair dderw ddwyfraich, ac eisteddodd fel llywydd y gymdeithas, â golwg fawreddog barchus iawn arno.
Wel, Tomos Evan,' eb efe, 'ydach chi'n barod i draethu, dyma ni'n barod wrando, ac rydan ni'n disgwil i chwi ddeydyd wrthon ni lawer o bethau gwerth'u clowed a'u cofio. Rydach chi'n hen wr, ag yn hen grefyddwr,—chwedi gweld llawer tro ar fyd ag eglwys hefyd. Byddwch chi'n rhydd ag yn rhwydd, mi wyddoch pwy ydan ni i gid.'
Wel yn wir, ni wn i yn y byd beth i'w ddweyd.Ni ddarfu i mi feddwl am ddim byd. Ond ddarfu i mi ddymuno arnoch chwi f'esgusodi fi y noson o'r blaen?'
'Oni ddaru i mine ddeyd wrthoch chi, na naen ni sgusodi monoch chi ddim? A ni nawn ni ddim chwaith—dowch, dowch Tomos.'
'Nid oes genyf fi ddim yn neilltuol ar fy meddwl, dyna'r gwir i chwi.'
'Dim neilltuol yn wir! O b'le daeth y gair ene, dim neilltuol?—pwy wyr? Ni chlowais i mono fo rioed nes euthum i i'r seiat; a mi fum yn synu ono lawer gwaith, wrth glowed hwn a'r llall yn deyd,—Does gen i ddim neilltuol ar y meddwl; ne, Does dim neilltuol ar y meddwl i. Ni chlowch chi neb byth yn y ffeirie a'r tyfarne'n deyd felly—ond y mae pawb ono'n siarad yn rhwydd, ag yn barod yn wastad, wel tae beth neilltuol ar feddwl pob un. Chwedi myn'd yn rhw acen ddrwg y mae'r gair rwsut—y naill yn 'i ddysgud o oddiwrth y llall; ond dydw i ddim am iddo fo ddwad i'n seiat ni yma Tomos.'
'Wel, yn wir, yr ydych braidd yr codi ofn arnaf fi, F'ewythr Robert, wrth eich bod yn troi arnaf mor galed, a minau ond dysgybl mor ieuanc ar eich eulwyd chwi.'
Rhaid i chi mostwn i'n sgybleth ni Tomos, os dydach chi am fod yn ddisglib yma, a gadel heibio 'chneidio, a chrafu'ch llechwedd—a does gen i ddim neilltuol, a phethe o'r fath ene.'
'Gobeithio y caf ras i ddal a diodde'r driniaeth, er ei bod hi'n un go lem,' ebe Tomos dan wenu. Ond yn wir eto, yr wyf fi'n hollol anmharod i ddweyd dim yn bresenol.'
'Adroddwch i ni beth o hanes yr hen amserau, yr hen grefyddwyr, a'r hen bethau ydych yn gofio,' ebe Robert Llwyd.— Gwelsoch chwi rai pethau go hynod gynt.'
Cyffyrddodd hyn â thant Tomos Evan, a newidiodd ei wedd a'i lais yn y fan.
'Do, do,' ebe efe, 'mi a welais hefyd. Yr oedd amserau, a phethau, a phobl neilltuol er's talwm. Mi fydd arnaf hiraeth o'm calon yn aml iawn am yr hen amserau, yr hen bethau, a'r hen bobl hyny; ac yn barod i ddweyd weithiau yn ngeiriau y prophwyd Mica, "Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf; fel lloffion grawnwin y cynhauaf gwin; nid oes swp o rawn i'w fwyta — Fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf." Y mae'r amserau, a phethau, a phobl wedi newid llawer iawn erbyn hyn, beth bynag.'
Na ddywed, "Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt ti yn ymofyn am y pethau hyn," ebe rhyw un doethach na neb a adnabuoch chwi erioed,' meddai Huw Huws. 'Yr ydych chwi, yr hen bobl, yn dueddol iawn i feddwl ac i ddweyd felly.'
'Ni dd'wedais i mo hyny eto, beth bynag ydwyf yn feddwl; ond mi dd'wedais, ac mi a dd'wedaf eto, fod pethau wedi newid llawer iawn.'
'Ond,' ebe y llall, 'chwi a ddywedasoch cystal â hyny hefyd, mai wedi newid er gwaeth y mae'r amser, a'i bethau, a'r bobl. Beth oedd yr "addfed ffrwyth cyntaf yr ydych yn cwyno am dano? Yr ydych bron wedi dweyd fel Elias, "A myfi fy hunan a adawyd."'
'D'wedasoch chwithau eich hun beth tebyg ar yr aelwyd yma dro 'nol, os gwir a glywais i. A pham yr ydych yn troi arnaf fi am ddweyd felly?'
Camgymeriad oedd hyny; nid y fi a'i dywedodd o; rhyw un arall o'r cyfeillion yma wnaeth y sylw yr ydych yn cyfeirio ato.'
'Rhaid i mi gael gynthoch chi Huw, fod wrth gwrs,' ebe F'ewythr Robert, 'neu mi ewch chi a Tomos yn benben, wel 'raethoch chi a Wmffre'r tro o'r blaen.'
'Ni chewch chi byth gen Huw fod wrth gwrs, os na thorwch chi 'i dafod o,' ebe Wmffre.
Ust, Wmffre, ordor, ordor,' ebe F'ewythr Robert. 'Ewch chi'n mlaen, Tomos, —mi tyna i chware teg i chi.'
'Wel, mi ddwedais galon y gwir, beth bynag, pan ddwedais i fod arna i hiraeth am yr hen bethau a hen bobl ydwyf yn gofio; ond hwyrach mai ngwendid i sy'n peri hyny, a bod yr amser presenol, a'i bethau a'i bobol, yn llawn cystal â hwythau. Y mae nhw'n meddwl eu bod yn llawer gwell, o lleia yn llawer callach pobol na'r hen dadau. Fe allai'u bod hwy, ond gwell oedd gen i'r hen.'
'Wel, y mae hyny yn ddigon naturiol, Tomos bach,' ebe Robert Llwyd. 'Efo'r hen bobol y cowsoch chwi'ch magu a'ch dwyn i fynu; hwynthwy oedd cymdeithion eich ieuenctyd chwi; ac ni all hen feddwl ddim asio â meddyliau ieuainc, a serchu cyfeillion a phethau newydd, fel y gallai â phethau bore ei oes. Yr wyf finau yn dechreu teimlo hyny, er fy mod lawer o flynyddoedd yn ieuangach na chwi. Ond gadewch i ni gael tipyn o hanes y dyddiau gynt.'
'Yr ydych chwi yn bregethwr, Huw,' ebe Tomos Evan, a rowch chwi genad i mi ganlyn eich ffasiwn chwi, y pregethwrs yma, am unwaith i ranu y mhregeth yn benau, yn gynta, yn ail ac yn drydydd?' 'Rhanwch hi fel fyd ar fynoch chwi, o'm rhan i,' ebe H. Huws.
'Wel, yn gynta, Yr oedd pethau neillduol iawn yn y pregethu, a'r pregethau, a'r pregethwyr, yr amser cynta ydwyf fi'n gofio—rhyw nerth, rhyw awdurdod, rhyw effaith, rhyw dân, rhyw rywbeth na wn i ddim beth i'w alw fo;—peth nad yw i'w gael, i'w weled, i'w glywed, a'i deimlo yn y dyddiau yma, ond i raddau bychain ar y gore. Yr oedd dyfodiad un o'r hen bregethwyr cynta ydwi'n gofio trwy y wlad, yn debyg i wynt mawr nerthol yn rhuthro, gan ysgwyd a diwreiddio hen goedydd cryfion, codi toau tai, cwympo magwyrydd, chwalu ydlenydd, a sgubo pob peth o'i flaen. Byddai cynulleidfaoedd cyfain yn cael eu dal, a'u gwyro, a'u hysgwyd, a'u plygu, a'u cwympo, gan awdurdod un gair, weithiau, Mi welech hen gewri o bechaduriaid croendew, gwargaled, anstyriol, ac anstywallt, yn gwelwi, ac yn crynu, ac yn llesmeirio, o flaen y rhywbeth rhyfedd hwnw fyddai'n cerdded trwy'r odfeuon. O, ie,—blynyddoedd deheulaw y Goruchaf oedd y rhai hyny—rhai i'w cofio byth oeddynt. Mi garwn i'n fawr eu gweld nhw eto unwaith cyn fy medd, i roi un sgytfa i grefyddwyr sychfonddigaidd yr oes yma. O, fel y rhythen nhw eu llygaid a'u safne, pe gwelen ac y teimlen nhw bethe felly! Rhyw oes arall o grefyddwyr sydd wedi codi rwan, na adnabu ddim o'r mawrwaith a wnaeth yr Arglwydd yn nyddiau'r tadau.'
'Ond, yn ail
'Aroswch, Tomos, os gwelwch fod yn dda,' ebe Robert Llwyd, 'i gael i ni gael tipyn o ymgom ar y pen cynta cyn yr eloch chwi yn mlaen at yr ail. Rhaid ini gofio bod gwahaniaeth mawr iawn yn nghyflwr y wlad y dyddiau hyn, ragor y peth oedd yn y dyddiau hyny. Yr oedd pregethu yn beth lled newydd a dyeithr i'r bobl yr amser hwnw.. Ni wyddai'r bobl, gan mwyaf, ddim yn y byd am yr efengyl. Nid oedd y pethau a glywent yn y Llanau ddim yn deilwng o'r enw; ac felly, pan drodd y pregethwyr hyny allan, yr oeddynt yn dwyn pethau newydd a dyeithr i glustiau y bobl. Y mae pob peth newydd felly yn codi sylw, ac yn effeithio cyffro, yn enwedig peth o fath yr efengyl. Ond erbyn hyn, y mae pregethu wedi dyfod yr un o'r pethau mwyaf cyffredin yn y wlad: y mae yr oes bresenol yn gynefin â'i swn o'i babandod; ac heblaw hyny, y mae wedi ei haddysgu a'i goleuo yn yr efengyl trwy'r Ysgolion Sabbothol. A phan y mae pechaduriaid yn cael eu goleuo am eu cyflwr, y maent wedi dysgu yn barod i b'le i droi, a beth sydd raid ei wneuthur i fod yn gadwedig. Felly, nid ydym i ddisgwyl pethau fel a welsoch chwi gynt yn canlyn y pregethu yn bresenol.'
'Wel, fe allai fod rhwbeth yn hynyna, Robert; ond eto, 'rwy'n credu'n sicr pe byddai y peth hwnw yn y pwlpud ag oedd ynddo gynt, y byddai rhyw bethau tebyg o dano hefyd i'w gweled eto. Y mae y to presenol o wrandawyr y gynefin iawn â swn yr efengyl yn siwr, ac y mae eu penau wedi eu goleuo â gwybodaeth am dani hi i raddau helaeth, mewn cymhariaeth hefyd; ond y mae rhywbeth ynddi hi, pan fyddo ei phethau hi yn myn'd adre, ac yn gafaelyd yn y galon, a effeithia ar holl deimladau dyn, pa mor gynefin bynag fyddo'i glust â'i swn hi, a'i ben o â gwybodaeth am dani. Dyn ydyw dyn, welwch chwi, 'rioed a byth. A phe bawn i'n coelio fod gwybodaeth felly yn oeri, ac yn rhewi i fynu deimladau yr enaid, ac yn gwneud dyn yn geubren dideimlad,—y mhell y bo hi, ddweda i. Yr oedd rhai dynion mor gall, a gwybodus, ac egwyddorol, i'w cael yn y dyddiau hyny, â neb a gewch chwi y dyddiau hyn; ac yr oeddynt hwythau yn teimlo yn gyffelyb i'r lleill—ond eu bod yn dangos eu teimladau mewn dull ac ymdroddion gwahanol. Ni ddisgwyliwn i, ac ni ddymunwn chwaith, weled a chlywed pob peth a welais ac a glywais yr amser hwnw, pe torai rhyw gyffroad cyffelyb allan; ond mi a ddymunwn weled a chlywed llawer o bethau na welir ac na chlywir yn bresenol.'
'Gadewch i ni glywed rhai o'r pethau rhyfedd rheini,' ebe un o'r cyfeillion.
'Mae'n anodd adrodd rhyw bethau felly,—ond mi roddaf i chwi un siampl.—Ryw dro yr oedd pregethwr o'r enw yn , a thyrfa luosog yn gwrando. Yr oedd y bobl wedi eu rhwymo i wrando gyda bod y pregethwr yn agor ei enau; a chyn iddo fynd i haner y bregeth, yr oedd ocheneidiau a dagrau i'w clywed a'u gweled yn bur fynych. Ond yn y man, torodd allan yn floedd bentecostaidd, Yr oedd yno amryw na buasent yn gwrando nemor bregeth cyn y tro hwnw; ac o angenrheidrwydd yn bur dywyll ac anwybodus, druain; ac yn eu dychryn, yr oeddynt yn llefain pethau rhyfedd, 'O dear anwyl, bobol bach, be sy arna 'i deydwch!' ebe un. 'Mae o gwedi fy lladd i,' ebe un arall. Un arall, fel pe buasai wedi cael rhyw gipolwg ar drefn achub, a waeddai allan, 'O diolch, ar f'enaid i!'—'Ni wsnaetha i ddim chwaneg arnat ti, 'rhen gythrel, nana myn —,' llefai un arall. Llawer iawn o bethau fel yna a allwn adrodd am yr odfa hono, a llawer o odfeuon eraill. Daeth agos i bob un o'r rhai hyny at grefydd; a chafwyd digon o brawf yn eu bywydau ar ol hyny, y rhan fwyaf ohonynt, iddynt ddyfod i adnabyddiaeth achubol o'r gwirionedd. Deillion oeddynt, druain, newydd agor cil eu llygaid am y waith gyntaf erioed, ac yn dechreu gweled allan o niwl a thywyllwch, yr amser yr oeddwn yn son am dano. Yr oeddynt yn cael eu gwasgu i lefain allan; ac nid oedd ganddynt ddim ond yr hen iaith arferedig o'r blaen, pan fyddent dan rhyw gyffroad, i osod allan eu teimladau. Byddai ambell un yn tyngu ac yn rhegi'n ddiarwybod iddo'i hun, wrth geisio gweddio am drugaredd; ond daeth llawer ohonynt yn weddiwyr na chlywsoch neb tebyg iddynt yn eich oes. Yr oedd cryn waith i ysgythru yr hen geinciau oddiarnynt i ddechreu. Chwi a glywech reg a llw yn aml iawn ganddynt wrth adrodd eu profiadau yn y gyfeillach eglwysig.—' Ar fengoch i, ar y nghydwybod,'—'myn gafr,gafr a'm spio i,'—a llawer o'r fath. Pan ddywedid wrthynt y byddai raid iddynt adael heibio rhyw lwon llygredig felly, tyngai ambell un y mawr lw arall yn y fan na wnai byth eu harfer. Ond yr oeddynt, er hyny, yn hawdd iawn eu trin, —mor ddiniwed a hyweth ag wyn bach. Nid oedd fawr o berygl eu tramgwyddo. Caech ddweyd y peth a synech wrthynt; yr oeddynt yn awyddus iawn i gael eu dysgu; ac yn raddol, unionwyd y prenau ceimion cnyciog hyny; ac wedi i arfau gras eu naddu a'u llyfnhau, gwnaed dodrefn hardd ohonynt yn nhy yr Arglwydd.'
Yr oedd cyffroadau yr amser yr ydych yn son am dano yn bethau da iawn yn sicr,' ebe Robert Llwyd, 'a daeth llawer iawn o ddaioni trwyddynt; ond pethau am dymhor oeddynt, o anghentheidrwydd natur y pethau eu hunain. Pethau cyffelyb hwyrach i'r doniau i iachau, a llefaru â thafodau, oeddynt yn canlyn yr efengyl yn ei dyddiau cyntaf. Yr oedd y rhai hyny yn arwyddion i'r rhai digred, fel y sylwa Paul—yn deffro sylw y byd at yr efengyl; ond pethau am dymhor yn unig oeddynt. Darfuant a diffoddasant wedi iddynt ateb eu dybenion neillduol; a phe buasent yn parhau o hyd, peidiasent a bod yn arwyddion a rhyfeddodau, ac felly, ni buasent yn effeithiol i un dyben da. Yr oedd yr eglwys yn Corinth wedi meddwl ar y doniau hyny, ac yn awyddus dros ben am eu meddu; ac y mae yn ymddangos bod yr eglwys hono wedi cael mwy o'r doniau hyny nag un eglwys arall yn yr oes apostolaidd. Ond dywed Paul wrthi am ddoniau gwell, doniau ysbrydol crefydd ac am iddi ddeisyfu y doniau goreu hyny yn hytrach, 'Canys pa un bynag ai prophwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflana.' Ond am ffydd, gobaith, a chariad, dengys fod y rhai hyny i aros yn yr eglwys yn wastadol; ac nad yw y rhai hyny byth i gwympo ymaith. Yr oedd y Corinthiaid, dan ddylanwad cyffroadau y doniau eraill hyny, wedi myned yn bur annhrefnus yn eu cyfarfodydd llawer yn llefaru mewn gwahanol ieithoedd ar unwaith a'u gilydd, fel nad oedd neb yn cael eu hadeiladu; ac y mae'r apostol, yn hytrach na'u canmol, yn eu beio am hyny, ac yn dangos nad yw Duw yn Awdwr annghydfod, ond trefn, yn holl eglwysi'r saint. A "gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn," medd efe. Ac felly yn gyffelyb, y cyffroadau a welsoch chwi yn Nghymru; pethau am y tymhor hwnw oeddynt, a buont yn foddion i ysgwyd a chynhyrfu y wlad allan o'i chysgadrwydd a'i marweidd—dra. Yr oeddynt yn ganlyniadau naturiol pregethiad yr efengyl, gydag arddeliad yr Ysbryd ar deimladau pobl annghynefin â hi; ond yr oeddynt i wisgo ymaith yn raddol o angenrheidrwydd. Yr oedd llawer o bethau anweddaidd ac annhrefnus yn gysylltiedig a hwy, fel yr oedd gyda'r doniau hyny yn eglwys Corinth. Ac felly, wedi iddynt ateb eu dybenion priodol, doeth a da oedd iddynt ballu, peidio, a diflanu yr un modd. Ond, wedi iddynt hwy ballu a diflanu, nid ydym i feddwl, Tomos bach, fod crefydd wedi pallu a diflanu i'w canlyn hwy; na, na, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, y doniau ysbrydol a goreu, eto yn aros, trwy drugaredd. Ac yr wyf fi yn credu fod mwy o wir dduwiolion a duwioldeb yn Nghymru yn awr, nag a fu erioed; er fod llawer o waeledd a marweidd—dra yn yr eglwysi yn sicr.'
'Ia, un stans iawn ydach chi Rhobet rioed,' atebai Wmffre Dafydd. 'Ni wyddoch chi ddim byd be ydi teimlo, ni chyffroes dim byd monoch chi, a rydach chi am i—bawb arall fod yr un fath a chich hun, a Huw yma hefyd. Mae ynte'n bregethwr stans, a chithe'n wrandawr stans—run fath a'ch gilydd ninion. Ond mi fydda i'n caru cael pregethwr, a phregeth ysgydwo dipyn arna'i, nes y gwaeddwn i allan—py cawni nhw, a mi fydda'n 'u cael nhw weithie hefyd. Rydw i cysled drywestwr a'r un ohonoch chi,—ond tydw i ddim am grefydd ddrywestol chwaith. Mi leiciwn i gael yfed cimin o win 'refengyl, nes i mi annghofio'r byd a'r cwbwl, —a nes byddwn i chwedi meddwi'n iawn.'
'Wel done Wmffie,' ebe Huw Huws.
Cymwch chi ofol, Huw,' ebe F'ewythr Robert, 'peidiwch chi a thynu y 'mwa Wmffre eto ag i chi fynd i mygecru a'ch gilidd.'
'Wel, dyna yn unig oeddwn i ar fedr ei ddweyd, —bod Wmffre yn camddarlunio fy nghyfaill Robert Llwyd a minau mewn un peth, beth bynag. Nid oes neb yn caru gweled arwyddion o deimladau mewn cynulleidfa wrth wrando y gair, yn fwy na ni'n dau. Mi fu gweled gwen ar enau, a deigryn ar ruddiau Robert Llwyd, yn fwy o help i mi bregethu lawer gwaith, nag a all un ohonoch chwi goelio; ac mi a welais hefyd lawer tro, pan fyddai Wmffre yn edrych cyn syched a sglodyn, a chyn sured a lefain.'
'Saffed mod i yn y fan yma, ni chlowis i monoch chi 'rioed yn dweyd pethe y baswn i yn y myw yn medryd crio na chwerthin wrth'u clowed nhw, Huw, a dweyd y gwir i chi,' ebe Wmfire.
'Mae agos bob peth ddeydo fo'n ych digio chi'nte,' ebe F'ewythr Robert. — Mae hi yn dechre mynd eto. Mae arna i ofn, Wmffre, mai arnoch chi mae'r baifod rhw gulni rhynthoch chi a Huw. Ond gadewch hi yn y fan ene heno.'
'Yn ail,' ebe Tomos,—
'Yn ail,' ebe un o'r cyfeillion, edrychwch ar y cloc acw—mae hwnacw just a mynd i ddweyd yn ddegfed!—dyna fo wedi rhoi notis 'i fod o'n mynd i lefaru, y mae hi'n llawn bryd i ninau fynd bob un i'w babell.' Ac felly terfynodd y gyfrinach.
Cyfrinach VIII.
WEDI dyfod o'r cyfeillion yn nghyd, ac eistedd bob un yn ei le, anerchai F'ewythr Robert hwynt fel y canlyn:
'Gyfeillion Anwyl,—Mae yn dda gan y nghalon i ych gweld chi bob un unweth eto; mi fum yn siarad â Huw Huws wedi'r cyfarfod dwaetha fu yma, a mi ge's gyntho fo addo y gnae o roid darlith ar rw fater buddiol i ni yma heno; a felly mi rydw i'n disgwyl 'i fod o'n barod ati hi; os byddwch chwi'n cytuno, mi geith fynd at 'i waith yn inion rhag blaen; os ydach chi'n foddlon i'r drefn, dangoswch hyny trwy godi'r llaw dde.' Ac felly fu, arwyddodd pob un ei gymeradwyaeth yn barod a siriol iawn. Yna galwai F'ewythr Robert ar Huw Huws i ddechreu ar ei waith. Cyfododd yntau, a llefarodd fel y canlyn: 'Anwyl Frodyr a Chwiorydd, —Gwaith newydd a dyeithr i mi ydyw darlithio; dyma y tro cyntaf erioed i mi gynyg arno, ac ni fuaswn yn meddwl cynyg arno byth chwaith ond fel y taer anogwyd fi gan ein hen gyfaill F'ewythr Robert; efe a darawodd arnaf ar ryw awr wan, a chafodd genyf addaw rywsut. Bum mewn penbleth fawr yn ceisio cael testun, ac wedi cael testun yn ceisio cael rhywbeth i'w ddweyd oddiwrtho. Bum aml i noson yn debyg i'r dysgyblion gynt; yn poeni ar hyd y nos heb ddal dim—yn methu yn deg a chael yr un pysgodyn o feddwl i'r rhwyd. Cyfeillion sydd yma i gyd, onide ni fuaswn yn gallu anturio cynyg ar wneud y fath beth a cheisio darlithio yma heno. Mi a wn nad ydych yn dysgwyl rhyw bethau mawrion oddiwrthyf—y cydymdeimlwch â mi, ac yr esgusodwch bob diffygion a gwaeleddau.
' Y mae testun fy narlith, neu y sylwadau sydd ar fy meddwl i'w traethu heno, rywbeth yn o hynod a dyeithr, efallai. Y testyn ydyw, Tri chythraul Williams o'r Wern!'
'Aros, aros, ebai F'ewythr Robert, 'gwarchod pawb!—tybed mod i chwedi dy ddallt ti'n iawn—Tri chythraul Williams o'r Wern ddeydist ti? be wyt ti'n feddwl?'
'Aroswch chwithau dipyn, F'ewythr Robert,' ebai y darlithydd; ' rhaid i chwi beidio a thori ar y nhraws i fel hyn, neu ni allaf wneud dim yn y byd o honi hi. Yr oeddwn ar fedr egluro y testun pe cawswn lonydd.'
Wel, ewch yn mlaen'
'Ie, Tri chyıhraul Williams o'r Wern, meddaf eto, ydyw fy nhestyn. Deallwch, nad wyf yn meddwl mai y diweddar Williams o'r Wern oedd perchenog y tri chythraul, na'u bod hwythau yn ei feddianu yntau chwaith; na, yn wir, pell iawn ydwyf o feddwl y fath beth; ond gelwais hwynt dan yr enw hwnw, oblegid mai efe—Willliams o'r Wern—a'u nododd hwynt allan gyntaf erbyn eu nodweddau priodol. Yn hanes bywyd y gwr enwog hwnw, yr ydym yn cael yn mysg sylwadau a dywediadau hynod ơi eiddo yr un canlynol:—" Y tri chythraul, — Y mae tri chythraul ag sydd yn gwneud mawr anrhaith a niwaid yn ein cynulleidfaoedd a'n heglwysi, sef cythraul y canu, cythraul gosod eisteddleoedd, a chythraul dewis swyddogion; y maent o'r rhywogaeth waethaf o gythreuliaid; ac nid â y rhywogaeth hon allan ond trwy ympryd a gweddi."'
Yn awr, dyma fi wedi darllen fy nhestyn, a hwyrach y dylwn wneud sylw neu ddau mewn ffordd feirniadol arno, cyn ei ranu, mewn trefn i geisio traethu yn ymarferol ar ei wahanol ganghenau. Ni oddef amser i mi ymhelaethu llawer mewn ffordd o lefaru yn gywrain a beirniadol; ond caf yn unig wneud crybwylliad neu ddau. Y mae yn amlwg y golygai y gwr a lefarodd eiriau ein testun fod gwahanol rywiogaethau o gythreuliaid, neu ysbrydion drwg, yn bodoli; canys efe a ddywed am y rhai dan sylw eu bod o rywogaeth neillduol o gythreuliaid. Nid gwahanol rywiogaethau o ran natur a feddylir, ond o ran galluoedd a chymhwysderau i wneuthur drwg. Y mae ymadroddion y Beibl yn rhoddi sail i gredu bod graddau o ran galluoedd a swyddau yn mysg yr angelion da a drwg; canys sonir am thronau, arglwyddiaethau a thywysogaethau, ac awdurdodau, y nefolion leoedd; ac am Satan a'i angelion, Belzebub penaeth y cythreuliaid, &c. Fel y mae gwahanol sefyllfaoedd, a dosbeirth, a swyddau, a graddau, a galluoedd, a chymhwysderau, yn mysg dynion, er eu bod oll yn cydgyfranogi o'r un natur gyffredin, eto y mae gwahaniaeth mawr o rywiogaethau i'w weled yn mysg creaduriaid o'r un rhyw ddynol fel hyn. Digon naturiol ydyw i ni gasglu oddiar gyfateboliaeth pethau, fod gwahanol rywiogaethau o ysbrydion, da a drwg, yr un modd.
'Eto, arwydda'r ymadrodd bod rhywiogaethau gwaeth na'u gilydd o ysbrydion aflan ("rhywiogaeth waethaf," &c.); a sonia yr Ysgrythyr hefyd am ysbryd aflan yn cymeryd gydag ef "saith ysbryd aflan eraill gwaeth nag ef ei hun," at ryw orchwyl penodol. Nid am nad yw pob ysbryd aflan yn llawn mor ddrwg ag y gall fod, neu fod rhyw gymaint o rinwedd yn aros yn rhai ohonynt, y dywedir felly; ond am fod rhai yn meddu ar alluoedd cryfach, yn fwy cyfrwys a medrus i wneuthur drwg, na'r lleill. Y maent yn waeth am eu bod yn fwy galluog i demtio a drygu dynion na'u brodyr, Y maent oll yr un mor awyddus i ddrwg a'u gilydd; ond nid ydynt oll mor gryfion eu cyneddfau, a dyfnion eu dichellion, y naill a'r llall.
'Y mae Satan, eu brenin a'u blaenor, yn ddiau yn adnabod galluoedd a chymhwysderau ei weision yn dda. Gwyr pa fodd i'w trefnu—pa waith y mae pob un yn gymhwys ato—pa le a pha sefyllfa y gall pob un fod o fwyaf o wasanaeth i'w deyrnas. Y mae hen ddiareb yn dweyd, "Odid i Satan anfon gwas ffol ar neges bwysig." Y mae ganddo rai negesau nad ymddiriedai i anfon yr un gwas a fedd arnynt; ond â ef ei hunain i'w cyflawni. Nid wyf yn meddwl y buasai yn ymddiried y gorchwyl o demtio y Gwaredwr i'r un o angelion penaf ei lu; aeth allan ei hunan ar y neges hwnw, ac wrth ei orchfygu ef, darostyngodd y Ceidwad holl gryfder y gelyn, holl nerthoedd pyrth uffern, ar unwaith; fel y gwelodd ac y teimlodd yr holl giwed na fuasai gwiw i'r un ohonynt hwy gynyg ymosod byth arno wedi iddo ef, eu brenin, fethu.
'Yn awr, yr wyf fi'n meddwl fod gwahaniaeth mawr rhwng cythreuliaid y tafarndai a chythreuliaid yr addoldy, a bod y rhai olaf yn llawer iawn gwaeth; hyny yw, yn llawer cryfach eu galluoedd, cyfrwysach a dyfnach eu dichellion, na'r lleill. Gwyr y penaeth yn dda nad rhaid iddo ofalu llawer yn nghylch y dynion a arferant gyrchu i'r tafarndy, eu bod yn ddiogel yn ei feddiant. Y maent yno ar yn neuadd ac wrth ei waith ef yn ei broffesu ac yn ei arddel ef yn gyhoeddus fel eu meistr a'u harglwydd yn galw ar, ac yn tyngu i'w enw ef. Nid oes dim perygl iddo eu colli o'i feddiant yno. Gwna rhyw haner-panod o ysbrydion aflan y tro'n burion i'w llywyddu a'u gwylio hwy. Gwastraff ar amser a thalentau, a diraddiad ar alluoedd ac urddas cythreuliaid dysgedig, talentog, synwyrlawn, fyddai eu gosod hwy yn y fath sefyllfa, ac wrth y fath orchwyl, gan y gall y rhywogaeth iselaf ohonynt lenwi y swydd a chyflawni ei dyledswyddau yn eithaf da. Rhyw grachod o ysbrydion poethwylltion eu tymherau ydynt. Siaradant yn ferw gwyllt ar draws ei gilydd, yfant a smociant, tyngant a rhegant, a chanant ac ymladdant, ac ysgydwant ddwylaw yn union drachefn, a dyna y cwbl drosodd am y tro hwnw, ac ânt trwy yr un gwasanaeth y tro nesaf drachefn. Rhai o'r un radd a dosbarth ydyw ysbrydion y chwareudai a'r hapchwareudai (theatres and gambling houses), a'r rhedegfaes, a'r cyffelyb leoedd: y mae gan Satan gyflawn a thawel feddiant o'r lleoedd hyn. Y mae yr hyn oll sydd ganddo mewn heddwch a diogelwch ynddynt.
'Ond y mae dosbarth lluosog o ddynion nad ânt i'r manau hyny. Y mae ynddynt ryw fath o duedd grefyddol, ac y maent yn hynod o hygoelus, ofergoelus, a phenboethlyd; ac y mae gan Satan ei angelion i gymeryd gofal am danynt hwythau, i lunio athrawiaethau a chrefyddau cyfaddas at eu harchwaeth. Gelwir y rhai hyn yn "ysbrydion cyfeiliornus," a'r crefyddau a ddysgant yn "athrawiaethau cythreuliaid," "ewyllys-grefydd," a "gwrachiaidd chwedlau," a'r cyffelyb. Arweinia y rhai hyn y dynion ehud hygoelus truain i gredu a phroffesu pob math o ynfydrwydd a rhusedd, ac i gyflawni pob amryfusedd ynfytach na'u gilydd fel defodau a gwasanaeth crefyddol, megys canlynwyr Joseph Smith—y Mormoniaid, er engraifft. I arwain yr ynfydion dynol ag ydynt bob amser yn barod i redeg ymaith gyda phob awel dysgeidiaeth o'r fath yma, ni raid trefnu a gosod cythreuliaid respectable, galluog o feddwl a synwyr; gwna gwehilion yr ysbrydion aflan y tro yn flaenoriaid ac arweinyddion i wehilion y bobl. Y mae gwrach—ysbryd aflan yn burion i lunio a dyfeisio crefydd i wrach—ddynion, ac i fod yn arolygwr ar ei defodau a'i gwasanaeth. Dan arweiniad un neu fwy o'r dosbarth hwn o ysbrydion drwg yr ymdeithiodd ac yr ymdeithia lluaws o drueiniaid hudoledig i'r Dyffryn Halen, yn Califfornia; lle y mae uffern yn sefydlu trefedigaeth o ddynion, i'w llywodraethu dan raglawiaeth un o'r urdd iselaf o'i hellyllon, mewn egwyddorion ac ymarferion mor isel a ffiaidd ag a bair i glustiau pob dyn synwyrol a pharchus ferwino, a'i wyneb wrido, pan glywo am danynt.
Ond, pa le bynag y mae gwirioneddau syml yr Ysgrythyrau yn cael ei gyhoeddi efengyl bur yn cael ei phregethu, a dynion yn cyrchu i'w gwrando, yno y mae achos Satan mewn perygl—yno y mae angen am wasanaeth ei weision cyfrwysaf a galluocaf. Y mae llygaid duw y byd hwn ei hun yn wastadol ar y manau hyn, a'i holl ddyfais ar waith yn dallu meddyliau, "fel na thywyno iddynt lewyrch yr efengyl." Lle y mae yr hâd da yn cael ei hau, y mae efe y diafol ei hun, a'r rhai penat o'i weision, yn gwylio i gipio yr hâd, rhag iddo wreiddio a thyfu yn nghalonau ei wrandawyr.
'Ond yr wyf wedi bod yn llawer iawn hŵy nac yr oeddwn yn bwriadu wrth ddechreu cyn dyfod at fy nhestun, er fy mod yn rhywle yn agos ato o hyd. Yr wyt yn meddwl fod y sylwadau blaenorol yn angenrheidiol i raddau er rhoddi golwg ar berthynasau y testun.
'Yn awr, deuwn at y testun ei hun. Y mae yn rhanu ei hunan, fel na raid i mi gyflawni hyny o orchwyl, ond ei gymeryd fel y mae o'm blaen. Y cyntaf a ddaw dan sylwyn ol y drefn y gosodir y pwnc i lawr ydyw
'Cythraul y canu. Diangenrhaid fyddai i mi aros dim i brofi fod canu mawl yn rhan arbenig o addoliad dwyfol cynulleidfa y saint. Canodd Moses a meibion Israel yn beraidd a gwresog iawn ar lan y Môr Coch am y waredigaeth fawr a gawsant. A llawer a ganodd y ffyddloniaid ar ol hyny hyd amser Dafydd; ond efe a drefnodd y gyfran bwysig hon o addoliad yn sefydlog a rheolaidd gyntaf erioed. Neillduodd ddosbarth o gantorion, a chyfansoddodd Salmau ac odlau ysbrydol, i'w datgan gydag offerynau cerdd, ar amserau ac achlysuron neillduol. Y mae yr alwad a'r anogaeth i glodfori a chanu mawl i Dduw yn amlach yn llyfr y Salmau na'r anogaethau at unrhyw ddyledswydd arall. Yr ydym yn cael ddarfod i'r Gwaredwr ganu hymn gyda'i ddysgyblion yn yr oruwchystafell, ar ol gwasanaeth y swper santaidd, y nos y bradychwyd ef. Anoga Paul y Cristionogion i "ddysgu a rhybuddio bawb eu gilydd mewn salmau a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eu calonau i'r Arglwydd." Yr ydym yn gweled fel hyn fod canu mawl yn rhan o wasanaeth crefyddol yr eglwys Iuddewig a'r eglwys Gristionogol: ac oddiwrth amryw ranau o weledigaethau Ioan yn llyfr y Datguddiad, gallwn gasglu fod canu yn rhan o wasanaeth addoliadol angelion a saint perffeithiedig yn y nefoedd. Gwasanaetha hynyna o fyr grybwyllion i ddangos fod canu cynulleidfaol yn ddefod ysgrythyrol.
'Y mae cydganu cynulleidfaol yn foddion effeithiol iawn i enyn serchiadau y galon ac ysbryd mawl yn yr addolwr, pan gyflawner y gwasanaeth mewn geiriau a thôn a thymher briodol. Pan oedd cynulleidfa Llangeithio yn amser Daniel Rowlands yn canu y disgynodd cawod fawr o'r gwlaw graslawn arni, a dorodd yn genllif nerthol o adfywiad dros Gymru, wedi yr 11 mlynedd o sychder mawr a ganlynasai yr ymryson a'r ymraniad rhwng Harris a Rowlands. Crybwyllodd Tomos Evan y nos o'r blaen yma am yr awelon cryfion a fyddent yn siglo cynulleidfaodd yn ei amser cyntaf ef, oni byddai eu penau i'w gweled yn ymrwyfo fel tonau ar wyneb yr eigion. Prin y gellir dweyd, hwyrach, y byddai yr hen bobl hyny yn "canu mawl yn ddeallus;" ond yr oeddynt yn "canu a'r ysbryd"—yn " pyncio trwy ras yn eu calonau i'r Arglwydd," yn beraidd a soniarus, er nad oeddynt yn gyfarwydd âg egwyddorion y gelfyddyd i gadw cywair ac amser priodol y tonau.'
'Dowch at y pwnc, Huw,' ebai Wmffre Dafydd; 'rydach chi'n wandro i rywle'n ddigon pell.'
Yr wyf fi ar y pwnc o hyd, Wmffre,' atebai y darlithydd; 'gwrandewch chwi'n ddystaw yn y fan yna, neu trowch eich cefn os ydach wedi blino. Fy amcan yn y sylwadau blaenorol ydoedd dangos ysgrythyroldeb canu cynulleidfaol, mewn trefn i ddangos mawredd y drwg a wna y cythraul sydd dan sylw pan gaffo efe le i ymwthio i mewn iddo, a'r pwys mawr o gadw'r wyliadwriaeth fanlylaf rhag rhoddi lle iddo.
Pan lliniarodd ac yr oerodd ysbryd yr adfywiad yn yr eglwysi, dechreuwyd yn raddol fyned yn fwy gofalus am ffurfiau, trefniadau, a rheolau, gyda'r canu, a phethau eraill. Deallwch nad wyf fi yn condemnio hyn. "Gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn." Ond rywfodd, beth bynag, collwyd graddau helaeth o'r gwresogrwydd ysbryd oedd yn y canu cyntaf, fel y cynyddodd y canu â'r deall yn ein mysg. Nid peth o angenrheidrwydd oedd hyn; canys, fel y dengys anogaeth yr apostol, ac y mae rheswm hefyd yn dysgu yr un peth, y mae canu â'r ysbryd ac a'r deall hefyd, yn beth posibl ar yr un peth pryd. Ni raid i'r deall atal gweithrediadau yr ysbryd a'r teimladau, na'r ysbryd atal a rhwystro gweithrediadau y deall. Ond gallwn fod yn sicr nad oedd cythraul y canu yn cysgu yn ystod yr amser y cyfeiriais ato; na, yr oedd efe o hyd a'i lygaid yn agored arno, ac yn dysgwyl am adeg a chyfleusdra i ddyfod i mewn. Yr oedd yn fwy awyddus nag erioed i'w anrheithio wedi gweled effeithiau grymus y canu yn yr oedfa hono yn Llangeitho. O dipyn i beth, daeth chwyldroad hollolar y dull o ganu cynulleidfaol yn Nghymru. Sefydlwyd cyfarfodydd i'r ieuenctyd ymgynull at eu gilydd i ddysgu canu, dan gyfarwyddyd blaenoriaid deallus, yr hyn oedd waith da iawn. Neillduwyd corau penodol i'r cantorion ar eu penau eu hunain yn yr addoldai. Gadawyd y canu, mewn llawer o fanau, yn hollol i'r corau hyny, a safai neu eisteddai y cynulleidfaoedd yn fudion i wrando arnynt; ac yn wir, nid oedd ganddynt ddim arall i'w wneud, canys cenid tonau newyddion a hollol ddyeithr iddynt, gan mwyaf, fel na allasent ymuno ynddynt. Ymunodd lliaws o ieuenctyd gwamal a digrefydd â llawer o'r corau hyn, a daethant i fod felly yn eneuau mawl y cynulleidfaoedd. Y canu fyddai pob peth yn ngolwg y dosbarth hwn yn y naill fan a'r llall. Cafodd llawer pregethwr truan ei boeni yn dost lawer gwaith wrth weled fel y byddai y cor canu yn trin, yn troi, ac yn trafod eu llyfrau tonau, ac yn siarad ac yn sisial ac yn gwenu ar eu gilydd, tra fyddai ef yn pregethu, a llygaid a sylw y gynulleidfa yn dal ar y cantorion, yn lle ar y pethau a leferid. Beth oedd hyn? Beth oedd o hefyd? Ond cythraul y canu wedi dyfod i mewn—duw'r byd hwn wedi cymeryd y ffordd effeithiol hon i ddallu meddyliau—diafol yn cipio'r had. Yr oedd dynion difrifol a thyner eu cydwybodau yn cael eu dwys ofidio gan bethau fel hyn; ac mewn llawer amgylchiad, ceisid symud ymaith y tramgwydd trwy ymddiddan â'r cantorion, a'u cynghori; ac yn fynych iawn ar achlysuron felly, codai cythraul y canu yn eu hwynebau, gan godi ei wrychyn, a brochi, a ffromi, a moni, a myned o'i go' wyllt, gan ddwrdio a bygwth na chanai efe ddim ychwaneg: a'r Sabbath canlynol, gwelid y corau canu yn annghyfanedd, heb ddyn na phreswylydd, a'r cantorion yn wasgaredig, un yma a'r llall acw, yn mhlith y gynulleidfa; a hyny fyddai yn destun siarad a sylw y bobl am y Sabbath hwnw drachefn. Pa faint o anrhaith, a blinder, ac aflwydd, a barodd y cythraul anfad hwn yn y ffordd hon mewn llaweroedd o'n cynulleidfaoedd? Buy canu am un tymor yn ddiweddar yn fath o bla mewn rhai ardaloedd: gwelid degau o ieuenctyd, yn feibion a merched, yn hwylio gyda'u gilydd yn hwyr ddydd Sadwrn o un ardal i fyned, hwyrach, ddeuddeg neu bymtheg milldir o ffordd erbyn y Sabbath canlynol i ganu, mewn ardal neu ardaloedd dyeithr, er mwyn dangos eu medr a'u cywreinrwydd cerddorol: ac nid y canlyniadau mwyaf dymunol, fel y gallesid dysgwyl, a fu o hyn. Ond y mae yn dda genyf ddywedyd, nad oes dim son am bethau fel hyn yn bresenol, hyd y gwn i. Yr oedd llawer o'n gweinidogion mwyaf poblogaidd yn dwys ofidio wrth weled y pethau hyn; ond yr oedd arnynt ofn yn eu calonau ddweyd dim, rhag tynu cythraul y canu yn eu penau. Anturiodd un ohonynt unwaith gyfeirio yn gynil at y peth, a mawr fu y dwrdio arno. Cytunodd nifer o gantorion i fyned i'r capel yr oedd efe i bregethu ynddo un noson; a phan gyfododd efe ar ei draed yn yr areithfa, cyfodasant hwythau gyda'u gilydd, ac aethant allan; canys er mwyn y pleser o gael gwneud hyny yn unig y daethant yno y tro hwnw.
'Gallwn nodi llaweroedd o esiamplau er dangos castiau ac ystrywiau niweidiol y cythraul hwn. Ond pa beth a wneir iddo? Pa fodd y bwrir ef allan o'r manau y mae, ac y cedwir ef allan? Gofynion pwysig yn sicr.
1. O'm rhan i, cynghorwn y cynulleidfaoedd nad oes corau neillduol ganddynt, i beidio byth a sefydlu un. Nid i beidio cynal cyfarfodydd neillduol i ddysgu y gelfyddyd werthfawr o ganu yn drefnus, gweddus, a rheolaidd, a olygaf; cefnoger y cyfryw gyfarfodydd yn mhob man y gellir cael dynion cymhwys, difrifol, a chrefyddol i'w blaenori; ond i beidio neillduo corau penodol i'r cantorion ar eu penau eu hunain yn yr addoldy. Eistedded y cantorion cyfarwydd yn mhlith y gynulleidfa yn gyffredin, a bydd pob un felly yn ddysgawdwr i'r rhai a eisteddant o'i amgylch. Ond yn y manau y mae y cyfryw gorau wedi eu sefydlu, dichon mai gwell fyddai peidio ceisio eu symud, rhag ofn—
2. Dylid gofalu am ddewis un i fod yn flaenor y gân ag y byddo gan y gymdeithas hyder yn ei gymeriad, fel dyn ac fel Cristion—yn wr pwyllog a synwyrol, yn gystal ag yn gerddor da.
3. Na dderbynier yn aelodau o'r cor ond a fyddont yn aelodau o'r eglwys; o leiaf yn rhai diargyhoedd eu buchedd, ac yn ddeiliaid o'r Ysgol Sabbothol. Daeth cythraul y canu i mewn lawer gwaith trwy fod ieuenctyd gwamal a digrefydd yn cael eu gwahodd a'u derbyn yn aelodau o'r cor; rhai, hwyrach, a arferent ganu gwagedd yn y tafarndy nos Sadwrn, yn benaf rhai yn canu mawl yn yr addoldy y Sabbath! Ni feddyliai neb am anog na goddef y cyfryw rai i weddio yn gyhoeddus, a phaham i ganu felly? Onid yw y gwasanaeth cysegredig hwn yn cael ei halogi a'i ddiraddio yn arswydus fel hyn? Y mae yn ei wneud yn isel a dirmygus yn ngolwg y nefoedd! A ydyw yn rhesymol disgwyl am adfywiad a llwyddiant ar grefydd tra y goddefer halogrwydd o'r fath yma yn y cysegr?
'Ond yr wyf wedi bod eisoes yn llawer iawn meithach nad y bwriadwn wrth ddechreu, ac yr wyf yn gweled na chaniateir amser i mi ymdrin â'r ddau gythraul arall heno, gan hyny terfynaf.'
Ar waith y darlithydd yn eistedd i lawr, arwyddasom oll ein cymeradwyaeth wresog i'r ddarlith yn y dull arferol.
'Wel, yn siwr,' ebai F'ewythr Robert, 'ni a gawsom ddarlith gythreulig iawn; ond eto, un bur fuddiol, mi fyddyliwn i. Rhaid i chi dyddodi rest ohoni y tro nesa, Huw; a chwech chi mo ddiolchgarwch y cwarfod nes rol i chi orphen.'
'Mi allaf addaw i chwi y byddaf yn llawer byrach gyda y rest ohoni hi, nac y bum heno,' ebai Huw Huws. Yr wyf yn bur ddiolchgar i'r cyfeillion oll am eu gwrandawiad astud a siriol heno.' Ar hyny, ymadawsom.
Cyfrinach IX.
'GYDA'CH cenad, gyfeillion, 'rydw i'n galw ar H. Huws i fyn'd ymlaen efo'i ddarlith,' ebe F'ewythr Robert, wedi i'r gyfrinach ddyfod yn nghyd; a chan droi ar y darlithydd, efe a ychwanegai, 'Prin 'rydwi'n fodlon i chi, Huw, drin 'sprydion drwg yn y nhy i hefyd. Mae hen air yn deydyd bod yn llawer iawn haws codi cythreulied na'u gostwn nhw; a gwyliwch chi'u codi nhw yma, os na fedrwch chi'u rhoid nhw lawr wed'yn, ne fynd a nhw hefo chi i rwle oddyma. Mi rydach chi wedi mentro tri ohonyn nhw hefo'u gilydd—mi feddyliwn y base un o'u ffasiwn nhw yn llawn ddigon o job i wr fel chi ar unweth.'
'Mi a ddeuthum trwy un o'r tri y noson o'r blaen heb ryw lawer iawn o drafferth,' ebe H. Huws; 'ac yr wyf yn dysgwyl y gallaf feistroli y ddau arall eto heno.'
'Y cyntaf o'r ddau a ddaw dan sylw y tro hwn ydyw, "Cythraul gosod yr Eisteddleoedd." Nid wyf yn sicr iawn pa un ai dyfais yr ysbryd drwg hwn, ydoedd dwyn eisteddleoedd ardrethol i'n haddoldai o'r dechreu, ai peidio. Y mae rhai pobl dda o'r farn hono yn bresenol, beth bynag; a mynant eu bwrw allan yn gwbl, a gadael yr holl addoldy yn rhydd i bawb, ac i'r gynulleidfa gyfranu, mewn dull arall, at ddwyn traul cynaliaeth yr achos crefyddol yn y lle. A gwelais hanes am rai manau lle y gwnaed hyny, yn tystiolaethu eu bod yn myned yn mlaen yn llawn mor gysurus felly gyda golwg ar amgylchiadau yr achos; a'u bod drwy hyny wedi bwrw allan y "cryf arfog" a'i ddodrefn i'w ganlyn, a mwynhau llawn mwy o heddwch yn y canlyniad. Gwaith mawr iawn—a gwaith na wneir yn fuan, ydyw perswadio yr eglwysi i gredu y gellid gwneud heb arian yr eisteddleoedd. A byddai, hwyrach, yn ormod o anturiaeth i gynyg gwneud felly yn y manau y mae dyledion trymion yn aros ar y capelydd. Ond yr wyf yn credu hyn, na hoffai Cythraul yr Eisteddleoedd mo'r athrawiaeth hon; canys collai ef ei swydd hono, a llawer o gyfleusderau i wneud llawer o ddrygau i'w chanlyn.
'Pan y gwybyddo ef bod yn mryd pobl dda godi addoldy newydd yn rhyw le, y mae ef yn cyniwair ac yn cynllwyn o'u cwmpas yn union; ac os gall, fe gyfyd ddadl ac ymryson yn eu plith yn nghylch y lle goreu i adeiladu arno, i gychwyn; ac weithiau, efe a lwydda hefyd. Dengys y fan hon i un, a man arall i'r llall; a gwna ei oreu i gael gan rai o'r cyfeillion i bleidio hwn, a'r lleill yr un arall; a mawr yr ymryson a'r cynhwrf a fu mewn ambell fan mewn canlyniad. Gwahanwyd rhwng cyfeillion—tramgwyddasant ac archollasant deimladau eu gilydd—torwyd clwyfau o bob tu, na feddyginiaethwyd mo honynt am flynyddoedd; ie, yn ystod gweddill oes y naill a'r llall, hwyrach. Gwnaed yr ymryson yn destun siarad dynion annuwiol y gymydogaeth yn y tafarndai; ac felly, cafodd crefydd ei gwaradwyddo, a chafodd y cythraul ei wynfyd.
Ond os metha godi cynen ac ymryson yn nghylch y lle i adeiladu, efe a gynygia drachefn wneud dull a maint yr adeilad yn destun cweryl; ac mewn rhai amgylchiadau, efe a lwydda hefyd. Rhydd un cynllun yn mhen un, ac un arall yn mhen y llall; a gwna y ddau yn selog iawn—bob un dros ei gynllun ei hunan. Y mae gan bob un ei gyfeillion drachefn, y rhai a ymrestrant o'u tu; ac felly, enynir y tân, yr hwn y gofala y drwg ysbryd dan sylw ei borthi â thanwydd yn ddiwyd ei wala.
Drachefn, pan ddelo yr adeg i osod yr adeiladaeth,—odid na fydd saer maen a saer coed; ac weithiau, ddau neu dri o bob un, yn perthyn i'r gymdeithas yn y lle. Dywed y cythraul wrth bob un o'r rhai hyn, mai efe, yn ol pob rheswm a thegwch, a ddylai gael y gwaith. Wedi i un blaid ei gymeryd, efe a gynhyrfa y blaid, neu y pleidiau eraill, âg ysbryd cenfigen chwerw ac ymryson; a dyna lle bydd cnoi a thraflyncu eu gilydd diarbed a diderfyn. Bydd gan y naill blaid a'r llall o'r rhai hyn eto eu cyfeillion yn y gymdeithas, y rhai a gyfranogant o'r un ysbryd; ac felly, ymleda y tân, a bydd y cythraul wrth ei fodd yn nghanol yr oddaith a'r gwreichion. Digwydd weithiau y daw y celfyddydwyr dibroffes yn mlaen i gynyg am y gwaith—am lai o bris na'r crefftwyr proffesedig; ac os llwyddant i'w gael, bydd y cythraul yn taeru yn gadarn wrth yr olaf, nad oes dim cariad brawdol yn yr eglwys—bod myned heibio i grefftwyr proffesedig —aelodau o'r eglwys, a gosod y gwaith i ddynion digrefydd, ar gyfrif eu bod yn cynyg ei wneud am ychydig bunoedd yn llai, yn beth cywilyddus ac annyoddefol—eu bod hwy yn arfer cyfranu at yr achos, a dyna y tal a gaent! Perswadia y cythraul hwy, mai peth crefyddol iawn ydyw iddynt dramgwyddo, ac mai da iddynt ymddigio hyd angau, a pheidio cyfranu ffyrling byth at yr achos yn y lle ar ol hyny, ac i wneud eu goreu yn ei erbyn yn mhob modd gyda hyny.
'Ond os na chaiff le i ddodi ei gorn i mewn ar un o'r achlysuron blaenorol, odid fawr iddo fethu pan ddelo diwrnod gosod yr eisteddleoedd. Y llwybr a gymera weithiau fydd dodi yn mhen dau neu dri o'r teuluoedd mwyaf parchus, neu o leiaf, mwyaf cyfoethog, yn y gynulleidfa i ddewis yr un cor, a pherswadio pob un i ddal at ei bwnc;—y byddai yn ddarostyngiad i'r naill roddi y ffordd i'r llall. Dywed wrth un, mai efe yn sicr a ddylai gael yr anrhydedd o ddewis ei gor yn gyntaf o bawb:—mai efe a'i deulu yw y rhai mwyaf anrhydeddus yn y lle, a'i fod wedi gwneud mwy dros yr achos na neb arall. A at y llall, a dywed yr un peth wrth hwnw. Bydd yn brysur ar waith gyda dosbeirth eraill ar yr un pryd. Perswadia y sefyllfaoedd isaf i gredu eu bod hwy yn cael eu diystyru, mai'r fodrwy aur sydd yn cario pob peth o'i blaen yno—a'u bod hwy a Christionogaeth hefyd yn cael cam. Ni oes derfyn ar ystrywiau a drygau y cythraul hwn, ar yr achlysuron hyn. Gallwn enwi i chwi eglwysi a fuont—un dair blynedd—un arall ddeunaw mis—ac un arall uwchlaw blwyddyn, heb gymundeb Swper yr Arglwydd, oherwydd ymrafaelion ac ymrysonau a dorasent allan ar yr achlysuron hyn!
'Am yr olaf,—"Cythraul dewis Swyddogion," diangenrhaid, mewn rhan fawr, ydyw i mi olrhain ei hanes a'i weithrediadau ef, gan mai yr un a'r unrhyw ydynt, i raddau helaeth, a'r eiddo y llall. Hwn oedd wedi meddianu y Diotrephes hwnw, yn amser yr apostol Ioan gynt, —y gwr oedd yn chwenych y blaen yn yr eglwys. Y mae meibion Dio yn lluosog eto. Pan fyddo angen swyddogion newyddion mewn eglwys, bydd y cythraul hwn yn union yn sio plant Dio allan; ac yn dweyd wrth bob un, mai efe o bawb a ddylai gael ei ddewis—a bod rhyw ddallineb barnol ar yr eglwys, os nad yw yn gweled ei gymhwysderau, ac y gwna ddewisiad ohono. Os gadewir mab Dio allan, ffroma ef a'i gyfeillion yn aruthr; ac ystranciant fel plant bach, ac yn llawer gwaeth na phlant bach; canys ni ddaw y plant mawr hyn ddim atynt eu hunain fel plant bach. Os bydd cybydd i'w gael yn yr eglwys, ac ond odid fawr na bydd, gwna y cythraul hwn ei oreu i'w wthio i'r ddiaconiaeth, fel y byddo yn faen tramgwydd ar ffordd llwyddiant yr achos.'
'Da chwi, Huw, gadewch ene hi bellach,' ebe Wmftre Dafyd, —' mi 'rydw i wedi blino arnoch chwi er ys meityn byd. Pwy les ydach chi'n feddwl newch chwi wrth godi godre Sion fel ene, a danos 'i gwarth hi i olwg y byd? Mae'r byd yn gwybod llawn digon eisys am ff'ledde crefyddwrs, heb i chi fyn'd i'w c'oeddi nhw:—mi geith llawer o 'lynion crefydd wledd felys wrth ddarllen y'ch darlith chi eto.'
'Yn araf, Wmffre,' ebe y darlithydd, — Pa les oedd i'r apostol Paul grybwyll beiau a cholliadau yr eglwysi yr oedd efe yn ysgrifenu atynt? Ai nid oes pethau llawn mor, os nad mwy gwaradwyddus, na dim a nodais i heno, yn cael eu crybwyll ganddo ef yn ei lythyr cyntaf at y Corinthiaid, eu bod yn yr eglwys hono? Ac onid yw y llythyr hwnw yn agored o flaen yr holl fyd, a'r holl oesau? Lle y byddo beiau cyhoeddus, y mae galwad am gerydd cyhoeddus—dangos y bai yn gyhoeddus, fel yr ofno ac y cywilyddio y beius. Nid wyf yn meddwl y daw llawer o ddaioni yn y pen draw o geisio cyfrwys guddio drygau eglwysig allan o'r golwg, dan yr esgus fod anrhydedd crefydd yn galw am hyny. Bwrw y drwg allan o'r eglwys, a'i glanhau oddiwrtho, ydyw y peth y mae anrhydedd crefydd yn galw am danynt, ac nid ei oddef i mewn, a dweyd "Ust! tewch a son gair wrth neb am dano." Ac heblaw hyny, y mae yr ymgais i gadw drygau o'r fath hyn yn guddiedig yn gyffelyb fel y dywed Solomon am y wraig anynad, —"Y mae yr hwn a'i cuddia hi megys yn cuddio y gwynt," a phwy a all guddio hwnw? Bu llawer gwr truan yn ceisio canmol ei wraig anynad wrth ei gymydogion fel gwraig bwyllog, ddystaw, a da ei thymher; ond ni fuasai waeth iddo beidio,—mynai hi agor ei hopran, a dangos ei hun, er ei waethaf; a gwyddai yr holl gymydogion yn dda ddigon am ei hystranciau a'i rhempau drygionus: ac felly, gwyr holl gymydogion eglwysi cynhenus am danynt hwythau.
'Fy amcan i yn hyn o ddarlith ydyw dangos gwrthuni y pethau a nodais, fel y gochelo pob eglwys, rhagddynt—dangos ysbryd a nodweddion y tri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint, hyn, fel y gwylio yr eglwysi a phob proffeswr rhag rhoddi lle iddynt, ac fel y cywilyddio—yr edifarhao—ac y diwygio yr eglwysi a'r personau euog;—fel y tyner y drwg o'u plithfel y doder heibio bethau bachgenaidd fel hyn bellach, ac y delom yn wyr mewn gwybodaeth, synwyr, ac ysbryd crefyddol.
'Y mae hanfodiad pethau annymunol o'r fath hyn, yma ac acw, yn awr ac eilwaith, yn yr eglwysi, yn profi mai cnawdol ydym ni eto,—"ac yn rhodio yn ddynol." Yr ydym yn gweled y byd a'r eglwys hefyd rywbeth yn bur debyg yn yr oes hon i'r hyn oeddynt yn yr oesau gynt—y natur ddynol yw hi o hyd; ac yn yr olwg oreu a geir arni, y mae llawer o ffaeleddau a gwendidau ynddi. Y mae hyd yn nod dynion da, wedi eu cyfnewid trwy ras, yn agored iawn i lithro i'r drygau y buom yn son am danynti roddi lle i ddiafol i gael mantais arnynt. Ac yr ydym yn gweled hefyd mai yr un yw y diafol a'i angylion, hwythau, yn mhob oes—o hyd yn effro, yn gwylio, yn rhodio oddiamgylch gan geisio y neb a allant eu llyncu; ac o hyd yn awyddus i ddrygu, nithio, ac anrheithio yr eglwysi—i hau efrau, a magu cynhenau ynddynt, gan gymeryd mantais ar bob adeg, amgylchiad, ac achlysur, i ddyfod i mewn fel afon yn eu hysbryd a'u hegwyddorion. Yr un hefyd yw Pen yr eglwys: yr un yn ei ofal am dani—ei gariad ati—ei dynerwch a'i raslonrwydd,—"Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd;" ac am hyny, ni ddyfethwyd, ac ni ddyfethir yr eglwys, er ei holl anmhersseithderau.
'Ar dymhorau marwaidd a dirywiedig ar grefydd, yn wastad y ffyna y drygau a nodwyd yn yr eglwysi. Tra y mae dynion y tŷ yn cysgu, y mae y tri chythraul yn dyfod i mewn; ac nid oes dim a'i gyr allan chwaith ond tywalltiad o'r Ysbryd o'r uchelder i beri adfywiad, Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlid ef ymaith." Rhyfedd fel y bydd rhyw gawod fechan o'r gwlaw graslawn yn effeithio er tyneru ysbrydoedd cyndyn, pigog—golchi ymaith hen rwd tramgwyddiadau—adferu cariad a thangnefedd yn y gymdeithas —toddi y naill galon i'r llall. Bydd mor anhawdd gan bob un roddi a chymeryd tramgwydd i a chan eu gilydd yn awr ag oedd o hawdd ganddynt wneuthur hyny o'r blaen. Yn awr, y mae pob un yn awyddus i flaenori eu gilydd mewn parch y naill i'r llall, yn hytrach nag i geisio parch gan eu gilydd fel o'r blaen. Tybiant eu gilydd yn well na hwy eu hunain, yn lle bod pob un yn awyddus am i bawb ei dybied ef yn well na'r goreu yn y gymdeithas; ac y mae mynwes y gymdeithas hono yn llawn dyddanwch—cysur un yn gysur pawb.
'Yn awr, tersynaf, gan ddymuno ar fod i'r tri chythraul y soniais am danynt gael eu bwrw allan ar frys o bob eglwys, ac o bob calon, lle y gallai eu bod wedi tori i mewn, i cael eu cadw allan am byth,Amen.'
'Amen hefyd, ebe F'ewythr Robert,—allan a nhw!—allan y dylent fod. Piti mawr oedd i un eglwys nac un galon roid lodgin erioed i'w bathe nhw. 'Rwi'n meddwl y bydde'n birion peth i chi, Huw, fyn'd o gwmpas i dryddodi'r ddarlith ene—mi alle neud drwg i'r cythreulied, a lles i'r dynion sy'n cael 'u blino gynthyn nhw. Oes un ohonoch chi gyfeillion, yn clywed ar i galon gynyg diolchgarwch i Huw?'
'Yr wyf fi braidd yn teimlo ar fy nghanol i roddi y cynygiad, fod iddo gael diolchgarwch ein cyfarfod,' ebe Robert Llwyd. 'Aeth drwy ei orchwyl yn llawn cystal ag y buaswn i yn disgwyl, ac ystyried mai dyma y tro cyntaf iddo gynyg arno. Buaswn yn caru gwneud sylwadau ar ryw bethau, onibai ei bod wedi myn'd eisioes yn hwyr; ond nid oedd genyf ddim o bwys i'w ddywedyd. Yr oeddwn yn hoffi y sylwadau ar y cyfan; ac felly, mi a eisteddaf i lawr, gyda chynyg fod diolchgarwch y cyfarfod hwn yn cael ei gyflwyno i'r darlithydd.'
'Oes rhywun neith eilio'r c'nigiad?, gofynai F'ewythr Robert, Beth ydach chi'n ddeyd, Wmffre?' 'Dydw i yn deyd dim byd—diolchwch chwi faint a fynoch iddo fo, o'm rhan i,—toes gen i ddiolch yn y byd iddo,' ebe Wmffre.
'Os caniatewch chwi, Mr. Cadeirydd,' ebe Mrs. Harris, 'myfi a eiliaf y cynygiad. Yr wyf yn meddwl y dylem ni, y gwragedd, fod yn ddiolchgar i Mr. Hughes, am iddo ein pasio ni mor ysgafn yn y ddarlith. Byddwn ni yn arfer ei chael hi yn o galed genych chwi, y gwyr, yn gyffredin, pan fyddoch chwi yn son am ryw ddrwg. Yr oedd llawer o wir yn y ddarlith, beth bynag; ac yr oedd hi yn wir i gyd am a wn i; a gwir ag y mae eisiau ei ddweyd hefyd, a gobeithio y gwna les: ac felly, yr wyf fi yn eilio y cynygiad yn galonog iawn.'
Wedi i'r Cadeirydd osod y peth o flaen y cyfarfod, cymeradwywyd ef yn wresog, drwy godiad deheulaw gan bawb ond Wmffre Dafydd.
Wel, y mae chwedi i gymeradwyo gan bawb, ond Wmffre,' ebai'r Cadeirydd. Mae Wmffre'n teimlo trost y tri chythrel, mi debygwn i, onte mi fase'n codi i law.'
'Nac ydw i, saffed mod i yn y fan yma,' ebe Wmffre; ond mi ddeyda i chwi beth—ni dda gen i mo'r dyrlithio yma;—toedd dim son am rw lol fel yma yn amser rhen bobol: ac 'roedd llawer gwell golwg ar grefydd 'ramser hono na sydd y rwan. Dene'r son a glowch chi rwan namal iawn,—darlith ar y dyn yma a'r dyn arall; a be ydi hyny ond pregethu dynion: a dyna Huw yma chwedi myn'd yn waeth na hyny, —i bregethu cythreuliaid!'
'Wmffre! Wmffre!' ebe Robert Llwyd, ' yr ydych yn myned yn mhell iawn dros y terfynau Moddion, a moddion effeithiol iawn i oleuo, dysgu, a hyfforddi y bobl ydyw darlithio. Nid oedd railways, a llawer o bethau da a buddiol eraill, mwy na darlithio, yn bod yn amser ein tadau, nac yn ein hamser cyntaf ninau. Gellir trin llawer o faterion buddiol, a hollol angenrheidiol, mewn darlith, na byddent yn gweddu i'r areithfa mewn pregeth. Y mae hi wedi myned yn ormod o'r dydd, Wmffre druan, i godi yr hen fwgan "pregethu dynion,' i fynu; y mae yr holl frain wedi ei hen adnabod, mai gwr gwellt yn anelu gwn pren ydyw.'
Ar hyn, terfynodd y Gyfrinach.
Cyfrinach X.
PRYDNAWN dydd y gyfrinach y mae genym y waith hon i roddi adroddiad ohoni y claddwyd yr hen Domas Evan, un o'r aelodau. Ysgasglasai holl frawdoliaeth yr Aelwyd i'r cynhebrwng, yn nghyda lliaws mawr o gyfeillion a chymydogion, i ddangos eu parch i goffadwriaeth yr hen sant Wedi i ni oll eistedd i lawr yn ein trefn arferol, cyfarchai F'ewythr Robert ni yn debyg i hyn:
'Wel, gyfeillion, mae un ohonom ni ar ol heno; ydi, y mae lle Tomas Evan yn wag, ni welwn ni mo'i wedd, ac ni chlown ni mo'i lais o byth ond hyny. Mae'r hen gryadur dyniwed, gonest, tawel, a ffyddlon, chwedi gorphen'i daith, ac wedi rhoi'i ben i lawr, a thynu 'i draed ato rhwng erchwynion oerion y bedd, ac yn cysgu nesmwyth heno—y noson gynta iddo fo yn y gwely distaw hwnw. Mae ange'n tori bylche yn ein cymdeithas ni; mae yma rai ohonon ni na fyddwn ni ddim yn hir, yn ol trefn amser, cyn myn'd ar 'i ol o. Nid oedd fawr o amser, chwi wyddoch, er pan daethe Tomas aton ni yma; a'r tro dwaetha y bu o, mi roes lawer o hanes yr ben bobl yr hen bregethwrs a'r hen bregethe——yr hen ddiwigiade, a'r hen bethe oedd o wedi eu gwel'd, a'u nhabod, a'u clowed, a'u teimlo, a'u profi, yn more 'i oes, a dechreuad ei yrfa grefyddol. Roedd o gwedi addo gorphen yr hanes i ni y tro nesa y cawsen ni gyfarfod; ond cyn i'r tro hwnw ddwad o gwmpas, roedd Thomas gwedi gymeryd yn sal, a ni fu o fawr allan o'r tŷ ar ol hyny. Daliodd i nychu a gwaelu nes i ange roid terfyn ar ei nychdod a'i fywyd bore dydd Sadwrn dwaetha. Yr un fath yr oedd Tomas yn marw ac y base fo byw mewn tawelwch a thangnefedd; a mae o gwedi myned i dangnefedd tragwyddol, does dim doubt yn y byd. Marw wnelw ine o farwolaeth Tomas Evan, a boed y niwedd i run fath a'i ddiwedd ynte.'
Ar hyn torodd yr hen wr i wylo, ac wylasom ninau oll.
'Robert Llwyd,' eb efe toc, 'roeddech chỉn nabod Tomas es llawer o flynyddoedd, ac yn gwbod llawer am dano fo, newch chi ddeydud i ni dipin o'i hanes o?'
'Mae'n lled anhawdd dwyn pethau i gof ar unwaith fel hyn, i adrodd dim yn drefnus,' atebai Robert Llwyd; 'pe cawswn amser i feddwl ac adgofio, gallaswn fynegu i chwi gryn lawer o bethau am yr hen frawd—pethau a glywais i ganddo, a chan eraill am dano, ac a welais ty hun hefyd ynddo. Fel y darfu i chwi sylwi, F'ewythr Robert, Cristion didwyll, gonest, diniwed, a thawel, oedd Tomas—yn caru ac yn dilyn heddwch â phawb, yn cashau terfysg a therfysgwyr mewn byd ac eglwys, yn enwedig yn yr eglwys. Gellir dywedyd am dano fel y dywedir yn y Beibl am rywun, "Ac yn ofni Duw yn fwy na llawer." Yr oeddwn yn adnabod Tomas yn dda er's deugain mlynedd. Nid oeddwn i ond llencyn tua deunaw oed pan aethum gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef. Yr oedd ef y pryd hwnw ryw gymaint dros ddeugain, ac yn proffesu crefydd er's dros ugain mlynedd cyn hyny; a bu felly yn aelod eglwysig am fwy na thriugain mlynedd, ac ni fu bwlch yn ei grefydd, na chwmwl ar ei enw, yn ystod y tymor hirfaith hwnw. "Coron anrhydeddus" mewn gwirionedd oedd penllwydni Tomas. Yr oedd ei ben cyn ddued a'r fran am fwy nag ugain mlynedd wedi iddo ddechreu rhodio "ffordd cyfiawnder:" ar ganol y ffordd hono y dechreuodd y blew gwynion ymddangos arno, a daliodd i rodio yn mlaen arni nes aeth pob blewyn ohono can wyned a'r llin.'
'Wel, wel,' ebe F'ewythr Robert, 'rydach chi yn fy lladd i'n lân: mae mhen ine yn wyn; ond roedd o mor wyn ag ydi'r munud yma cyn i mi gychwyn cam rioed ar ffordd cyfiawnder, os ydw i gwedi cychwyn eto: ar ryw ffordd arall y gwnodd y pen yma, a choron o gwilidd ydi y mhenwni i mi, a nid coron o anrhydedd. Gwyn fyd pen gwyn Tomas; ond mae 'i enaid yn wnach yn y nefoedd heno, nac ydi 'i ben o sy yn y bedd; ac mi gaiff goron wnach o ogoniant eto ar ei ben, pan cwyd o i fynu o'r bedd ddydd a ddaw, na'r gwallt oedd yn goron arno fo'n myn'd i lawr heddyw.'
'Gwyn fyd eich pen chwithau hefyd, F'ewythr Robert druan,' ebe Robert Llwyd, 'am nad aeth o i lawr i'r bedd cyn i chwi droi oddiar yr hen ffordd arall hono i rodio yr hen lwybrau lle mae ffordd dda, a lle mae gorphwysfa i enaid i'w chael ynddi. Ond i ddychwelyd at Tomas Evan. Daeth Tomas at grefydd yn nghanol tân mawr un o'r adływiadau crefyddol boreuol y clywsoch ef yn son am danynt. Ni buasai Tomas erioed yn gyhoeddus a nodedig iawn, fel llawer o'i gyfoedion, mewn annuwioldeb a drygioni. Yr oedd ef bob amser o dymher heddychol a dystaw; ond cyfranogai mewn difyrwch ofer ar achlysuron. Ychydig cyn ei droedigaeth, aethai i edrych ar ymladdfa ceiliogod, yr hon oedd ddefod led arferedig yn y wlad y dyddiau hyny. Ar y dechreu, fel y dywedai wedi hyny, teimlai atgasrwydd dirfawr yn ymgodi ynddo tuag at y difyrwch creulon; ond, yn raddol, daeth i gymeryd dyddordeb yn yr ymladdfa. Wedi i'r gyntaf fyned drosodd, yr oedd ceiliog i un o'i brif gyfeillion i ymladd â cheiliog gwr ieuanc o blwyf arall. Yr oedd Tomas erbyn hyn wedi ei lyncu i fynu yn ysbryd y gwaith. Daliodd goron ar droed ceiliog ei gyfaill, yr hwn oedd yn fuddugoliaethwr yn yr ymdrech, er mawr lawenydd iddo. Penderfynodd yn y fan y mynai yntau geiliog. Clywsai fod cenedlaeth ddiguro o geiliogod yn cael eu magu yn Lasynys, hiliogaeth hen ieir a cheiliogod Maelgwyn Gwynedd, yn amser Taliesin Ben Beirdd gynt. Aeth yno bob cam, a chytunodd ar bris ceiliog dihafarch, fel y dywedai ei berchenog, yr hwn na buasai efe yn petruso dal deg punt ar ei droed yn erbyn un mab iar ar wyneb yr holl ddaear. Yr oedd taid y ceiliog hwnw, meddai, wedi gorchfygu deg ar hugain o geiliogod goreu ei oes; ac yr oedd ei dad hefyd wedi bod yn brif arwr y pit am flynyddoedd, a dyfod allan yn fuddugoliaethwr o bob brwydr. Dychwelodd adref a'r ceiliog o dan ei gesail yn llawen, fel un wedi cael cyfoeth lawer. Mynodd ei gyfaill yn fuan i roi ei farn ar y ceiliog, yr hwn oedd yn athronydd ceiliogyddawl o'r radd uchaf. Gwnaeth sylwadau dyfnion a manwl iawn arno, o flaen ei big hyd flaen ei ewin—ei liw a'i lun, ei safiad a'i osgedd, ffurf ei ben, a chryfder ei wddf a'i aden. Yr oedd y cyfaill hwn wedi bod yn Lloegr yn gyru gwartheg i borthmon yn y gymydogaeth rai troion, ac wedi dyfod ag ambell reffyn o Saesoneg gydag ef oddiyno, a byddai yn defnyddio y rhai hyny yn mysg ei gyfeillion ar bob achlysur, ac edrychent arno ar y cyfrif hwnw fel oracl; synent yn ddirfawr at ei wybodaeth pan y clywent ef yn myn'd i'w Sasneg, fel y dywedent. Pan ofynodd Tomas iddo beth oedd ei farn am y ceiliog, 'Wel,' eb efe, 'y fo is fast rate cocin fightin ceiliog for sarten i ti.' Ond yr oedd yn anmheus ei fod o waedoliaeth ceiliogod Maelgwyn Gwynedd. Nid oedd mor fawr o gorff, nac mor fawreddig ei agwedd, a hiliogaeth y cock royal family hwnw; ar yr un pryd yr oedd yn barnu fod peth o'r gwaedoliaeth brenhinol ynddo.
Cadwodd a phorthodd Tomas ei geiliog yn ofalus am dymhor, a bu ei gyfaill yn trin ac yn tocio ei grib, ac yn blaenllymu ei golion iddo. Fel yr oedd dydd gwylmabsant a chocking y plwyf yn agoshau, yr oedd ei awydd a'i bryder yntau yn cynyddu. Gobeithiai yn fawr y byddai i'w geiliog droi allan yn bob peth a ddywedasid am dano. Ychydig cyn i'r dydd ddyfod, daeth un o hen bregethwyr tanllyd y dyddiau hyny i bregethu un noson yn ysgubor Pentremeirch: aeth Tomas i'r oedfa. Cyfeiriodd y pregethwr at lawer o arferion pechadurus y wlad yn y dyddiau hyny, megys tyngu a rhegi, meddwi a halogi y Sabbath, yn nghyda'r gwylmabsantau a'r ymladd ceiliogod, &c., a tharanodd fygythion ofnadwy yn eu herbyn, nes oedd rhai yn dychrynu, ac eraill yn ymddigio yn ftyrnig, ac yn barod i dynu y pregethwr i lawr, a'i faeddu a'i yru ymaith yn anmharchus, Pa fodd bynag, cafodd y pregethwr fyned trwy ei orchwyl y tro hwnw, ac ymwasgarodd pawb i'w fan. Yr oedd Tomas yn un o'r rhai a ddychrynwyd yn fawr dan weinidogaeth y gwr dyeithr. Methodd fwyta na chysgu dim y noson hono. Pan aeth i olwg y ceiliog dranoeth, ymaflodd dychrynfeydd gwaeth nag o'r blaen yn ei gydwybod. Gwnaeth bob ymdrech i'w gwisgo ymaith, ond yn ofer. Yr oedd saethau yr Hollalluog yn nglyn wrtho, gwnaed a fynai. Dywedodd ei dywydd wrth ei gyfaill; chwarddai hwnw am ei ben, a thegai y pregethwr, a cheisiai berswadio Tomas i beidio bod mor benwan a chymeryd ei ddychrynu gan y pengryniaid gwallco d—l—d—g yma,—bod Person eu plwy', fel y gwyddai, yr hwn oedd yn ddyn dysgedig, wedi bod yn Rhydychain, yn arfer potio gyda chymdeithion difyr yn y dafarn, a rhegi fel gwr boneddig weithiau hefyd, a bob amser yn caru edrych ar ymladd ceiliogod; ac fe goeliai ef wr fel y Person o flaen cant o ryw grwydriaid dyeithr oedd yn d'od ar draws gwlad i geisio dychrynu pobl ddiniwaid heb raid nac achos,—a beth wyddent hwy? Ni buasai nemor un ohonynt erioed yn Rhydychain. A llawer o ymadroddion cyffelyb yr ymdrechodd y cyfaill hwnw dawelu meddwl Tomas; ond nid oedd dim yn tycio, dyfnhau ei archoll yn hytrach na'i wellhau yr oedd pob plastr o'r fath a roid arno. With ei weled yn parhau yn yr agwedd hon, cynygiodd ei gyfaill brynu y ceiliog ganddo; ond nid oedd wedi dyfod yn aeddfed i'w werthu eto. Y nos o flaen dydd y gwylmabsant a ddaeth, a noson galed i Tomas oedd hono. Penderfynodd unwaith fyned i'r llan a'i geiliog gydag ef dranoeth, ac ymollwng iddi o ddifrif, yn y gobaith y buasai yn enill buddugoliaeth ar ei ofnau trwy hyny; ond ymhyllai ei gydwybod frawychus yn ofnadwy arno. Penderfynodd wedi hyny werthu y ceiliog i'w gyfaill, a throi ei gefn am byth ar bob drwg arferion o'r fath. Ond dywedai ei gydwybod drachefn wrtho y byddai yn gefnogwr y drwg, ac yn gyfranog o bechodau rhai eraill felly. Wedi troi a throsi a thuchan yn ei wely hyd dri o'r gloch y bore, clywodd y ceiliog yn canu, aeth yn fwy anesmwyth a dychrynedig ei feddwl nag o'r blaen. Cyfododd o'i wely, cymerodd y fwyall yn ei law; aeth at y ceiliog, ymaflodd am ei goesau, aeth ag ef allan, a dododd ei ben ar flocyn oedd ar y buarth; a chyn i'r creadur druan gael hamdden i ddirnad dim o'i helynt, yr oedd ei ben wedi neidio oddiar ei gorff o'r tu arall i'r blocyn dan effaith dyrnod bwyall ei ddienyddwr. Teimlai Tomas lawer yn esmwythach ei feddwl ar ol hyn. Meddyliai, gan iddo wneud aberth o'i geiliog, bod hyny yn ddigon o iawn am ei holl bechodau, ac na buasai raid iddo ddim diolch i'w gydwybod am fod yn dawel a diddig mwyach.
Trodd Thomas allan ar ol hyn yn wr ieuanc pur foesol a chrefyddol yn ei ffordd. Yr oedd yn meddwl yn fawr iawn o aberth y ceiliog; cyrchai i'r Eglwys yn rheolaidd bob Sul, ac ymunai yn ddefosiynol iawn yn y gwasanaeth. Yr oedd yr homiliau sychion a deddfol a glywai yno yn rhoddi rhyw dawelwch i'w feddwl, er ei berswadio i gredu fod pob peth yn dda; ond, er hyny, blinid ef gan anmheuon ac ofnau ar brydiau. Yr oedd hen wr o Gristion profiadol, o'r enw Dafydd Thomas Sion, yn byw yn y gymdogaeth, yr hwn a ymddyddanai âg ef am ei gyflwr bob tro y cyfarfyddent. Ceisiai yr hen wr ei argyhoeddi na thalai ei grefydd ddim yn y byd, ac mai athrawiaeth andwyol ydoedd hono a wrandawai yn y llan, yr hon a ddysgai, os na byddai dyn yn llofrudd, neu yn lleidr, neu yn dwyllwr, ac os byddai yn dyfod i'r Eglwys, ac yn derbyn y cymun santaidd, ei fod mewn cyflwr diogel—nad oes eisiau mwy o grefydd na hyny. Safai Tomas yn dyn dros yr athrawiaeth hon, ac ysgydwai Dafydd Tomas Sion ei ben yn ddifrifol arni. Er i'r hen wr fethu ei yru allan o'i noddfeydd celwydd, yr oedd yn ei wneud yn anesmwyth ynddynt. Ond ymresymai ynddo ei hun gan ddywedyd, "Beth wyr hen wr annysgedig fel y fo? Mae Person y plwy' yn ddyn dysgedig, ac yn weinidog parchedig; mae o'n rhwym o fod yn gwybod yn well na Dafydd." Aeth yn mlaen fel hyn, fel un rhwng cwsg ac effro, am rai misoedd. O'r diwedd, daeth pregethwr arall heibio, un yr oedd mawr son am dano trwy y wlad, ac aeth Tomas i'w wrando. Testun y pregethwr ydoedd y geiriau hyny, "Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwenych bod dan y ddeddf, onid ydych yn clywed y ddeddf?" Wel, fodd bynag. hwy a gawsant ei chlywed hi y tro hwnw i bwrpas, a'i theimlo hi hefyd, lawer ohonynt. Llawer gwaith yr adroddodd Tomas hanes yr oedfa hono, a byddai yn crynu bob amser wrth son am dani. "Arweiniodd y pregethwr ni," meddai, "at odre y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch a thymhestl, a sain udgorn, a llef geiriau, nes oedd y cryfaf ei galon ohonom yn llewygu gan ofn. Yr oeddwn yn meddwl fod y tan mawr yn rhostio fy enaid. Yr oedd mellt yn llygad, a tharanau yn llais, a thân yn ngeiriau y pregethwr. A'r hyn a wnelai yr oedfa hono yn fwy hynod ac ofnadwy fyth oedd digwydd i storm fawr o fellt a tharanau dori allan ar ganol y pregeth. Yr oedd mellt y cwmwl a mellt y pwlpud yn fflachio arnom yn gymysg a'u gilyddtaranau y ffurfafen, a tharanau y ddeddf yn y weinidogaeth, yn rhuo yn ofnadwy uwch ein penau ar unwaith. Yr oedd mellt a tharanau y cwmwl yn peri mwy o fraw i rai, a mellt a tharanau y bregeth yn dychrynu eraill yn fwy, tra yr oedd eraill eto yn arswydo y ddwy storm. Yr oeddym wedi credu bod diwedd y byd wedi dyfod. Ond beth bynag, gwnaeth y pregethwr fi heb yr un grefydd; do, fe'i rhwygodd hi yn ddarnau man, ac a'i dangosodd hi yn fratiau budron; a llosgodd y bratiau hyny yn ulw greision ger bron fy llygaid. Ymlusgais adref yn druan tlawd, euog, colledig, ac andwyol, wedi darfod am danaf. Fe ddaeth y gorchymyn, a minau a fum farw."
'Bu Tomas yn druan helbulus gan y dymhestl am gryn amser ar ol hyn. Yn mhen enyd drachefn, daeth yr un pregethwr i'r ardal. Petrusai Tomas lawer rhwng awydd ac ofn, beth a wnelai, pa un ai myned i'w wrando ai peidio. Teimlai weithiau yn ddigofus iawn witho am larpio a llosgi ei hen grefydd, fel y dywedai, v tro o'r blaen. Buasai ef a Pherson y plwy' yn ceisio ei hadgyfodi o'r lludw, a'i hadnewyddu drachefn; ond ofer fu eu llafur, ni allasai ei enaid cystuddiedig ymgymodi a hi mwyach. Pan ddeallodd y Person hyn, dwrdiodd ef yn drwm am fyned i wrando pregethwyr bol y clawdd, a rhoddodd ef ar ei ocheliad nad elai byth drachefn, ac onide y byddai yn sicr o golli arno ei hun; a chynghorai ef i fyned i'r dafarn, ac yfed llonaid ei fol o gwrw, pan aflonyddid arno gan feddyliai o'r fath. O'r dydd hwnw allan, nid aeth Tomas byth dros riniog yr Eglwys mwy. Pan ddaeth amser yr oedfa a grybwyllwyd oddiamgylch, efe a benderfynodd fyned i wrando y gwr drachefn. "Mi fy lladdodd i tro o'r blaen," eb efe ynddo ei hun; "mi gaiff y mlingo i eto heno os myn o." Ond y noson hono yr oedd y pregethwr wedi newid ei ddull a'i don yn hollol; efengylwr ydoedd y waith hon. "Yr hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim," oedd ei destyn. " Yr oeddwn yn methu coelio," meddai Tomas, "mai yr un un ydoedd. Yr oedd gwedd ei wynebpryd a'i lais yn gwbl wahanol y tro hwn. Pelydrai serchawgrwydd siriol yn ei lygaid, ac yr oedd mwyneidd—dra y delyn yn ei lais; dysgynai ei ymadroddion arnaf "fel y gwlith tirionaf dystaw." Yr oedd rhyw swyn anwrthwynebol yn ei leferydd. Gallu ac ewyllysgarwch Crist i dderbyn ac achub y pechadur gwaelaf a gwaethaf a ddelai ato oedd ei fater; a chymhellai bob pechadur yn y lle i ddyfod ato fel yr oedd yn ddioedi. Ar fynydd Sion y safai y pregethwr yn awr, aco! "mor weddaidd oedd ei draed!" Yn nghanol y mwg a'r tân, a'r tywyllwch a'r taranau, y safai y tro cyntaf; ond yn nghanol tawelwch mwyn, dan awyr oleu ddigymylau, y tro hwn. Y tro hwnw, nid oedd dim i'w weled ond afonydd o dân a brwmstan a melldith yn llifeirio i lawr dros ochrau Sinai, ac yn trystio yn rhaiadrau ofnadwy yn ein clustiau, gan fygwth ein hysgubo oll o'u blaen i lyncfor colledigaeth dragwyddol; ond y tro hwn ni welid dim ond
Hedd yn rhedeg dros Galfaria,
Fel yr afon 'ddiar y groes.
Ac fe redodd yr hedd hwnw fel olew tyner i'm henaid clwyfus inau. Mi gofiaf byth fel yr oeddwn yn teimlo pan y soniai y pregethwr am rinweddau y gwaed sy'n "puro'r gydwybod," mewn cyferbyniad i waed y teirw a'r geifr dan y gyfraith, yr hwn yr oedd yn "anmhosibl iddo dynu ymaith bechodau." Soniodd am ryw bagan yn aberthu ceiliog i'w dduw wrth farw; tarawodd hyny fi, fel na wyddwn pa le yr oeddwn yn sefyll. Mi glywn ryw lais fel dywedyd yn fy nghlust, Tydi yw y gwr. Meddyliais fod yn rhaid fod rhywun wedi bod yn dweyd wrth y pregethwr am danaf fi a fy ngheiliog. Fodd bynag, bu yr oedfa hono yn fywyd o feirw i mi, ac i eraill. Ar ddiwedd y cyfarfod, canwyd yr hen benill hwn gyda blas neillduol:
Dened pechaduriaid truain,
Yn finteioedd maith y'nghyd
Doed ynysoedd pellar moroedd,
I gael gwel d dy wyneb pryd,—
Cleifion, cloffion, gwywedigion,
O bob enwau, o bob gradd,
I Galfaria, un prydnawngwaith,
I wel'd yr Oen sy wedi'i ladd.
Wedi dyblu y rhan olaf drachefn a thrachefn, a phan oedd y gynulleidfa ar ymwasgaru, torodd un chwaer ieuanc allan gan adrodd hen benill arall gydag effeithioldeb anarferol: dyma fo:
Mae'r bryn yn uchel, uchel iawn,
A'r Aberth drud yn eglur iawn,
Fel gallo'r dwyrain bell a'r de,—
Y dynion lle mae'n dywell nos,
Er t'w'lled, edrych tua'r groes,
A chael eu bywyd ynddo fe.
'A phwy debygech chwi,' ebe Robert Llwyd, 'oedd y chwaer ieuanc hono? Wel—Modryb Elin oedd hi!'
'Wel, dene hi!' ebe F'ewythr Robert, 'run fath a hi ninion. Rydw i'n credu yn y nghalon es meityn 'i bod hi a Thomas Evan yn rhwle o'n cwmpas ni yma, tae ni yn medrud 'u gwel'd nhw. Ewch chwi yn mlaen, Robert Llwyd.'
'Gwell.i ni ei gadael hi yn y fan yna am heno,' ebai Robert Llwyd, 'mi gawn adrodd y gweddill o'r hanes y tro nesaf os byddwn ni byw i gael cyfarfod. Mae'r amser yn galw am i ni ymadael.'
'Dyna'r drwg sydd ar y byd yma,' meddai un o'r cyfeillion, yr amser yn darfod, rhaid tori y cyfarfodydd goreu i fynu yn nghanol eu melusder: bydd o, Mr. Amser, yn dangos ei fys ar y cloc, ac yn curo ei gloch i rybuddio ei bod hi yn bryd ymadael. Y mae ein hen gyfaill Tomas Evan mewn gwlad heno nad oes yr un cloc ynddi, a lle nad oes gan amser ddim yn y byd a wnelo â hi. Fe gaiff ef yno
Ddweyd yr hanes,
P'odd y dringodd eiddil gwan,
Trwy afonydd a thros greigydd
Dyrus, anial, serth, i'r lan.
heb i amser aflonyddu arno.'
'Ni fase waeth gen i tase'r cwarfod yma yn para i bob tragwyddoldeb,' ebai F'ewythr Robert. Ond gobeithio y cawn ni i gyd fyn'd i'r wlad hono lle na fydd raid ymadael mwy. Mi ddowch yma bod yg un wsnos i heno, i gael y gweddill o hanes Tomas Evan.' Ac fel yna y terfynodd y Gyfrinach.
Cyfrinach XI.
'DYMA heno gwedi dwad, a dyma chwithe gwedi dwad yma i'w chwarfod hi, gyfeillion,' ebe F'ewythr Robert. Wel, croeso da i chi bod yg un; steddwch i lawr; ac ar ol i Huw Huws ddarllen Salm, a mynd i weddi, mi geift Robert Llwyd adrodd wrthon ni'r gweddilll o hanes ein hen gyfell Tomas Evan.'
Wedi i Huw Huws fyned trwy y gwasanaeth o ddarllen a gweddio, ymaflodd Robert Llwyd yn ei orchwyl, ac aeth yn mlaen yn debyg i hyn:
'Torodd amser ar draws fy stori wythnos i heno, ar fy ngwaith yn gorphen adrodd i chwi hanes yr oedfa ryfedd y torodd gwawr gobaith ar ysbryd cythryblus a chyflwr tywyll ein hen gyfaill. Teimlodd amryw fel yntau ryw weithrediadau nerthol y tro hwnw. Daeth deg o wyr ieuainc (Tomas Evan yn un) i'r gyfeillach grefyddol a gynelid yn y lle nos dranoeth. Clywais Rhisiart Robert, o Fronyllechau gynt, yr hwn oedd yn swyddog yn yr eglwys hono ar y pryd, yn adrodd am danynt droion. Yr oedd yn mron bawb yn yr eglwys, meddai Rhisiart, yn barnu yn well am bob un ohonynt nag am Tomas Evan. Y siarad cyffredin oedd, bod arwyddion gobeithiol iawn ar naw o'r deg; ond am Twm Evan, ni wyddent beth a ddeuai ohono. Ond yr oedd yno un hen flaenor, Llygadgraff y byddent yn ei alw, yn barnu braidd yn wahanol. "Chwareu teg i Twm," meddai, "mae rhywbeth yn Twm yn siwr i chi, a mi gewch chi weled; rydw i yn rhyw ddirgel feddwl mai fo dry allan yn ore un o'r deg eto yn y long run. Rhoddodd y deg eu hachos i lawr yn yr eglwys fel ymgeiswyr am aelodaeth yr un pryd; ac wrth ymddyddan â hwynt ar yr achlysur hwnw, yr oedd gan bob un fwy o lawer i'w ddweyd na Tomas. Ni roddai ef onid ateb cynil a gochelgar, ar ychydig eiriau, i'r hyn a ofynid iddo, tra yr oedd amryw o'r lleill yn rhwydd a helaeth o ymadroddion, a rhai ohonynt yn datgan profiadau uchel ac aeddfed mewn crefydd. Cafodd y naw dderbyniad rhwydd a chroesawus iawn; ond cynygiai rhai adael Tomas ar brawf pellach cyn ei dderbyn. Gwrthwynebai Llygadgraff y cynygiad hwnw, a rhoddai yr eglwys bwys mawr ar ei farn ef. O'r braidd y bu Tomas yn gadwedig, fodd bynag; aeth trwodd, ond yr oedd y porth yn bur gyfyng. Barnai llawer bod Llygadgraff yn methu y tro hwnw beth bynag, ac y cai efe weled wedi hyny cyn hir ei fod wedi camgymeryd nad oedd dim yn Twm Evan, fel y dywedai ef; canys pe buasai rhywbeth ynddo, y daethai rhywbeth allan ohono; nad oeddynt hwy yn clywed dim byd ganddo. Pa fodd bynag, nid hir iawn y buont hwy heb weled eu camgymeriad eu hunain, a chywirdeb Llygadgraff.
'Aeth y naill a'r llall yn mlaen yn eu crefydd am dymhor yn debyg fel yr oeddynt wedi cychwyn. Ymddangosai fod y naw eraill hyny yn gadael Tomas Evan yn mhell ar ol; llefarent yn aml yn y gyfeillach, a gweddiai amryw ohonynt yn ddoniol a gwresog iawn; ond llechai Tomas o hyd gymaint a allai mewn dystawrwydd. Ond yr oedd Tomas yn cloddio, oedd, yr oedd yn cloddio yn ddystaw felly, ac yn myned yn ddwfn hefyd. Yr oedd efe megys ar ben ei hunan yn nghanol y lluaws, fel pe na buasai yn gwneud fawr o sylw o neb, na neb yn sylwi nemawr arno yntau. Ond yr oedd llygad Llygadgraff yn ei ddystaw wylio o hyd. Gofynai yn achlysurol a fyddai dim at ei feddwl yn y gyfeillach; ond ychydig iawn a dywedai, ond yr oedd rhywbeth bob amser yn yr ychydig a ddywedai yn arwyddo cryn llawer: clywid swn dwysder dwfnfeddylgar yn ei ymadroddion trwsglionenaid yn dal llawer o gyfrinach âg ef ei hun—enaid mewn ymdrech, yn brofiadol o dywydd ysbrydol, ac o ymladdfeydd mewnol, na wyr meddwl bas ac arwynebol ddim am danynt.
'Aeth un o'r gwyr ieuainc hyny mewn amser yn borthmon gwartheg. Dechreuodd yn y ffeiriau oddeutu cartref, a daeth yn mlaen yn bur llwyddianus; ond mor gynted ag y dechreuodd y borthmoniaeth flodeuo a llwyddo yn ei law, dechreuodd ei grefydd lwydo a gwywo yn ei enaid. Oerodd ei sel, a llaesodd ei hwyliau. Rhybuddiwyd ef yn fynych gan ei frodyr o'i berygl, ond troai y cwbl heibio mewn haner cellwair. Aeth yn gryn ddiotwr o radd i radd, ac aeth y si allan am dano fod arwydd diod arno yn dychwelyd adref o'r ffeiriau yn fynych. O'r diwedd, aeth i yru minteioedd o wartheg i Loegr, a daeth yn borthmon mawr respectable—yn llonaid ei glos o ddyn corphol golygus. Gwisgai fotasau topiau cochion, ac yspardynau arian wrth ei sodlau; a marchogai geffyl hardd, cryf, a bywiog. Gyrai fel Jehu o'r naill ffair i'r llall. Nid oedd mwyach nemawr o flas ar y cyfarfod gweddi a'r gyfeillach grefyddol. Aeth ordinhadau y byd hwn y ffeiriau, y prynu a'r gwerthu, a'r holl archwaeth at ordinhadau crefydd oddiarno. Ond yr oedd yn dal yr enw proffeswr eto; deuai i'r capel ar y Sabbathau pan fyddai gartref, ond nid yn rheolaidd chwaith. Anaml iawn y gwelid ef yn y moddion wythnosol. Ymdrechodd ei gyfeillion, Llygadgraff yn neillduol, ragflaenu ei aflwydd; ond yn aneffeithiol. "Yr ydych yn tynu—tynu—tynu, Risiart Puw, druan," (canys dyna oedd ei enw) meddai Llygadgraff wrtho un tro pan gyfarfu âg ef ar y ffordd. "Tynu?" meddai yntau, "beth ydych yn feddwl?" "Ie'n tynu—yn tynu—yn ol yn ol—i—i—. Gadawaf i chwi orphen, a dweyd i ba le." " Y mae yn anmhosibl i mi ddweyd," ebe yntau; "canys nid wyf yn eich deall." "O ydych, ydych, yn fy neall o'r gore," ebe y llall. "Rhaid i mi dynu adref beth bynag," ebe'r porthmon; a tharawodd ei yspardynau yn ystlysau ei farch, ac ymaith âg ef.
'Bellach, bellach, yr oedd Risiart yn myned yn barhaus. Wedi iddo gychwyn i Loegr un tro ar ol gyr mawr o wartheg, sylwai Llygadgraff bod Risiart Puw wedi myned i Loegr i werthu ei grefydd; ac fel y rhagfynegodd Llygadgraff, felly y bu. Cafodd ffeiriau da iawn yn Loegr y tro hwnw, enillodd amryw ganoedd o bunau ar ei wartheg; ac yn llawenydd ei lwyddiant, ymollyngodd i yfed a meddwi, ac i bob rhysedd ac aflendid. Dychwelodd adref heb un rhithyn o'i grefydd yn ei ganlyn. Ciliodd yn llwyr o'r capel. Ysgoai ei hen gyfeillion hyd y gallai pan ddigwyddai gyfarfod â rhai ohonynt. Daeth i'r capel un tro ganol dydd gwaith i wrando gwr dyeithr. Digwyddodd fod y pregethwr heb gyrhaedd erbyn yr amser i ddechreu. Yr oedd Llygadgraff, a dau neu dri eraill o'r swyddogion, yn eistedd o dan y pwlpud. Cyfodai Llygadgraff yn y man, a dywedai, "Fe ddaw y gwr dyeithr i mewn yn fuan,—ni a ganwn benill nes delo—yr hen benill fyddai ein cyfaill Risiart Puw yn arfer roi allan yn aml gynt, Ni thro'f fy wyneb byth yn ol,' &c." Ar y gair, trodd pob wyneb a phob llygad at Risiart Puw. Tarawyd ef â'r fath ergyd ddisymwth ac annisgwyliadwy, nes y gwridodd, delwodd, ac y crynodd. Eisteddodd i lawr, a chuddiodd ei wyneb, gan bwyso ei ben ar ymyl y cor yr eisteddai ynddo. Yn y man cyfododd i fynu, ymaflodd yn ei het, ac aeth allan; ac ni ddaeth byth tros riniog y capel wedi hyny. Aeth rhagddo waethwaeth i dyngu a rhegi a meddwi, a dilyn pob oferedd. Trodd amryw o'i anturiaethau porthmonawl yn Lloegr yn aflwyddianus y naill ar ol y llall yr amser hwnw. Y tro diweddaf, yr oedd wedi prynu llawer iawn mwy nag arferol. Ysgubai yr holl ffeiriau o'i flaen. Aethai hyd dai ffermydd yr holl wlad i brynu. Ni safai ddim am bris. Prynai y rhan fwyaf o lawer ar goel, ac yr oedd pawb yn meddwl ei fod mor ddyogel a'r banc, os nid yn llawer mwy. Arferasai dalu i bawb yn wastad ar ei ddychweliad o Loegr bob tro; ac felly cawsai anifeiliaid yr holl froydd ar goel yn hawdd. Y tro hwnw collodd swm dirfawr o arian. Yspeiliwyd ef o lawer iawn hefyd mewn tŷ drwg yn Llundain. Wedi dyfod yr amser iddo ddychwelyd, nid oedd hanes am Risiart. Dechreuodd y si fyned allan nad oedd pob peth yn dda. Aeth yn bryder mawr ar feddyliau ei greditors. O'r diwedd daeth y newydd yn un o bapyrau Lloegr fod corff wedi ei gael mewn llyn gerllaw Lutterworth, ac i amryw o bersonau ag oedd yn ei adnabod, meddent, dystio mai corff Mr. Puw, porthmon o sir F yn Nghymru, ydoedd; ac felly yr oedd. ychydig o arian a gafwyd yn ei logell. Pa fodd y daeth i'w ddiwedd—pa un ai ei daflu a gafodd, ai taflu ei hun i'r llyn a wnaeth, ni allwyd cael allan byth i foddlonrwydd: ond gan nad oedd dim olion trais ar y corff, y farn gyffredin oedd mai bwrw ei hunan i'r llyn a wnaeth. Daeth allan ar y trengholiad ei fod yn hwyr y nos flaenorol i'r bore y cafwyd ei gorff yn yfed ac yn hapchwareu (gambling) mewn tŷ yn y dref, gyda nifer o'r blacklegs, ac iddo golli symiau mawrion o arian. Dyma ddiwedd truenus Risiart, druan; a thruenus iawn yn wir ydoedd. Gadawodd Risiart Puw archollion dyfnion ar ei ol yn amgylchiadau llawerodd o amaethwyr yn y wlad yma. Pan ddaeth dydd y rhent oddiamgylch, nid oedd gan lawer un ddim i'w gyfarfod. Gwerthwyd amryw ohonynt i fyny mewn canlyniad. Nid Risiart Puw oedd yr unig borthmon, ysywaeth, y dyoddefodd pobl yr ardaloedd hyn oddiwrtho yn y blynyddau hyny, ac ar ol hyny hefyd.'
Gwir ddeydwch chi,' ebe F'ewythr Robert, 'mi ges ine losgi 'mysedd yn o drwm fwy nag unweth wrth drustio porthmonied. Rydych yn cofio Sion Gryffydd o Faesyfelin, ydach bod yg un, fel daru hwnw dwyllo'r wlad yma o ganoedd, os nid miloedd, o bunodd. 'Roedd Sion yn gryfyddol iawn, wyddoch, a mi 'roedd i grefydd yn help iddo fo dwyllo. Mi werthis i bedwar o fystych iddo fo'r tro dwaetha raeth o i Loeger, na ches i byth run ffyrlin am danyn nhw, a ni cha i byth chwaith. Mi fum yn i blagio fo lawer gwaith, taswn i nes: ond fase waeth i mi beidio, ni theimle Sion ddim mwy na desgil biwter, deydech peth fyd fynech chi wrtho fo. Mi 'roedd Rhysied Puw yn well na Sion o gimin a hyny; mi adawodd Rhysied i grefydd cin 'mollwn iddi i dwyllo a rafio: ond 'roedd Sion mor gryfyddol a dysionol â Simon y Pharisead o'r dechreu i'r diwedd. Nwn i ddim be ddoeth ohono fo'n y pen draw. Mi aeth i ffwrdd o rardal i rwle; mae o'n fyw eto am wn i. Gobeithio na ddaw o na neb o'i sort i'r fro yma ond hyny. Ond ewch chi'n mlaen, Robert Llwyd.'
'Wel, i fyn'd yn mlaen ynte. Un arall o gyfoedion crefyddol Tomas Evan ydoedd ŵr ieuanc a elwid Bob Roberts, mab i hen flaenor eglwysig perthynol i gapel y F—n. Yr oedd Bob yn fachgen glandeg o bryd, bywiog o feddwl, ffraeth ei datod, a pharod ei ateb. Trodd yntau allan yn wresog iawn ar ddechreu ei grefydd. Yr oedd yn ganwr da, ac yn bur hoff o ganu; yn weddiwr mawr, ac yn bur hoff o weddio, yn gyhoeddus o leiaf; yn siaradwr doniol, ac yn bur hoff o siarad ar bob pwnc, a phob achlysur, yn mhob cymdeithas y digwyddai fod ynddi. " Yr wy' i'n meddwl siwr," ebe Llygadgraff un tro, "y dylen ni wneud casgliad at gael ffrwyn a spardyn i'r capel yma." "Beth wnewch chwi â ffrwyn a spardyn heb geffyl?" "Wel," ebe'r hen ŵr, "ni row'n y ffrwyn yn mhen Bob Roberts, a'r spardyn yn ochr Twm Evan." Ffromodd Bob yn dost pan glywodd y chwedl. Yn mhen amser aeth Bob i Lundain i ymweled â hen ewythr cyfoethog iddo. Cafodd ei ewythr le iddo fel clerk yn un o dai mawrion masnachol y ddinas. Bu am dymhor yn bur wresog a blodeuog yn ei grefydd yno gyda'r Cymry. Gwelid cyn hir fod angen y ffrwyn ar y gwr ieuanc, ac aed i geisio ei wisgo â hi; ond strancio, moeli ei glustiau, a chnoi y bit yn erwin a wnai yr ebol. Digiodd wrth y Cymry am byth, a cheisiodd lythyr cymeradwyaeth i fyned i eglwys Seisnig. Yn ei lythyrau cyntaf at ei berthynasau a'i gyfeillion o Lundain, yr oedd yn canmol ei gapel a'i gyfeillion crefyddol yn fawr iawn; ond wedi iddynt weinyddu goruchwyliaeth y ffrwyn tuag ato, newidiodd ei don yn ei lythyrau, a dywedai yn un ohonynt ei fod wedi llwyr ddiflasu ar y Cymry—fod pobl y capel yn haid o bethau mor low a vulgar fel na allai yr un gwr ieuanc intelligent, respectable, aros gyda hwy; a'i fod ef wedi penderfynu myned at y Saeson. Yr oedd yn y swyddfa y gwasanaethai ynddi liaws o wyr ieuainc, rhai o bob math o syniadau gwladyddol, crefyddol, ac annghrefyddol hefyd. Denwyd Bob un tro gan un o'r dosbarth olaf, yr hwn oedd anffyddiwr, i fyned gydag ef i gyfarfod y Debating Society, o'r hon yr oedd efe yn aelod. Teimlai gryn wrthwynebiad i fyned ar y cyntaf; ond yr oedd ganddo y fath feddyliau uchel am ei alluoedd dadleuol, fel y torodd trwyddi. Gwenieithiai iddo ei hun y gallai wneud llawer a les drwy wrthwynebu anffyddiaeth yn ei ffau ei hun, ac yr enillai enw trwy roddi taw buan ar yr holl ddadleuwyr yn erbyn Cristionogaeth. Gyda'i gyfaill i'r cyfarfod yr aeth. Pwnc y ddadleuaeth y tro hwnw oedd, Cristionogaeth, ai o Dduw ai ο ddynion y mae? Cymerid tair ochr i fynu yn y ddadl. Cymerai un arno brofi ei bod o Dduw—un arall mai o ddynion yr oedd ac un arall nad oedd o Dduw nac o ddynion chwaith, ond mai o ddiafol yr oedd. Penderfyniad y mwyafrif ar y diwedd oedd bod y cyntaf wedi methu profi ei bwnc, a bod y trydydd yn adeiladu ei dŵr heb un sail iddo, gan nad oes y fath beth neu y fath un a diafol yn bodoli; o ganlyniad, mai yr ail oedd yn ei le, a barnent ei fod wedi llwyr ddymchwelyd holl ddadleuon y cyntaf, a phrofi ei bwnc ei hun y tu hwnt i bob dadl. Ar y diwedd, cyfododd Bob i fynu, a gofynodd ganiatad y cadeirydd i ddywedyd ychydig eiriau, yr hyn a ganiatawyd iddo. Ceisiodd amddiffyn Cristionogaeth fel crefydd ddwyfol, ac ateb y gwrthddadleuon a ddygasid yn mlaen gan y blaid arall; ond aeth i'r niwl a'r nos yn bur fuan. Yr oedd yn chwysu ac yn crynu, yn carthu ei wddf ac yn pesychu, ac yn gwrthddywedyd ei hun bob yn ail gair, ac aeth toc i fethu dweyd dim. Eisteddodd i lawr, a chywilydd wyneb yn ei doi. Ymddygodd y cyfeillion yn dirion a boneddigaidd tuag ato, heb gymeryd un fantais ar ei fethiant truenus i wneud gwawd ohono. Sylwai y cadeirydd bod eu cyfaill dyeithr yn ymddangos iddo ef yn un tra gobethiol—iddo wneud cymaint er amddiffyn achos gwan ag oedd yn bosibl, a bod yn rhaid priodoli ei fethiant, nid i ddiffyg galluoedd a thalentau y dadleuwr, ond i wendid yr achos a amddiffynai. Credai fod eu cyfaill ieuanc hefyd yn wr o feddwl goleuedig i raddau helaeth, ac yn agored i argyhoeddiad; a choleddai y gobaith o'i weled yn fuan wedi ei enill drosodd yn gwbl atynt hwy. Cafodd y cyfarchiad hwn, yn nghyda tynerwch y cyfarfod tuag ato, effaith ddofn ar feddwl Bob; yr oedd fel olew ar archollion ei galon uchelfrydig. Benthyciodd lyfrau anffyddaidd gan ei gyfaill yn y swyddfa, ac ymroddodd i'w darllen. Cyfarfu ynddynt â gwrthddadleuon nad oedd efe erioed wedi meddwl na chlywed am danynt o'r blaen; ond hen wrthddadleuon oeddynt, wedi eu tori i lawr yn gandryll ganwaith cyn hyny. Ymddyeithrodd i'r capel o hyny allan. Ysgrifenodd ei weinidog lythyr ato i holi ei helynt. Yn ei ateb rhoddai esgus ei fod wedi bod yn wael ei iechyd; ond ni ddywedodd ddim am afiechyd ei feddwl. Aeth i'r capel am Sabbath neu ddau ar ol hyny, megys i ganu yn iach i'w hen grefydd. Yn fuan wedi hyny, cynygiodd ei hun yn aelod o'r clwb anffyddol, a derbyniwyd ef yn llawen; a chyn pen ychydig amser, yr oedd yn fab anffyddiaeth, yn ddau cymaint a'r un ohonynt. Ei hoff waith gyda'i gyfeillion newydd fyddai gwneud gwawd o grefydd ei dadau, drwy adrodd chwedlau am yr adfywiadau yn Nghymru; ond tarewid ef gan ei gydwybod ambell dro. Ni soniai un gair am ei egwyddorion a'i gyfeillion newyddion yn ei lythyrau adref; ond cawsant yr hanes drwy wr ieuanc arall o'r ardal oedd yn Llundain, yr hwn oedd yn bur gydnabyddus âg ef. Aeth Bob mewn amser i ddilyn ei gyfeillion newydd i bob amryfusedd—i yfed, i chwareu cardiau, ac i'r chwareudai, "ac ar hyd yr heol i'w thy hi. Nid yn hir iawn y daliodd ei gyfansoddiad heb anmharu, a rhoddi y ffordd—aeth i fethu dal gyda ei orchwyl cymerodd ei ewythr ef ato i'w dy—galwodd am feddyg ato, cynghorodd hwnw ef i fyned adref i Gymru gynted ag y gallai; ag felly dychwelodd, wedi gwneuthur llongddrylliad o'i iechyd a'i gyfansoddiad naturiol, ac o'r ffydd a chydwybod dda. Daeth amryw o'i hen gyfeillion i ymweled âg ef o dro i dro; ysgoai bob ymddyddan am grefydd hyd y gallai. Troai bob cynyg i'w arwain yn y ffordd hono heibio, drwy ddywedyd y cai siarad a hwy drachefn ar y mater hwnw wedi iddo wella; ac yr oedd gwella yn gyflym bob dydd, meddai ef, tra yr oedd pawb arall yn ei weled yn gwaelu yn brysur yn barhaus. O'r diwedd, penderfynwyd gwasgu ato, a'i hysbysu o'i gyflwr peryglus—nad oedd ond gobaith gwan iawn am adferiad iddo; ond ni fynai efe gredu hyny. Gofynodd un cyfaill iddo ryw ddiwrnod a fuasai yn ewyllysio iddo ddarllen penod a myned i weddi gydag ef. Dywedodd ei fod yn rhy flin y diwrnod hwnw—y gallai wneud ryw dro arall os byddai yn dewis. Pan ddechreuodd anmheu na fuasai yn gwella, aeth yn gythryblus iawn ei feddwl.
Ni allasai oddef edrych ar y Beibl. Yr oedd Beibl wedi ei ddodi ar fwrdd gerllaw pen ei wely yn ei ystafell gan ei chwaer yn ddiarwybod iddo un noson. Pan aeth hi at ddrws ei ystafell bore dranoeth, ar fedr ymweled âg ef, clywai ef yn dywedyd rhywbeth. Safodd i wrando, a chlywai ef yn dweyd, "A gefaist ti fi, O fy ngelyn!" Aeth ei chwaer i mewn; gofynodd iddi pwy a roddasai y llyfr hwnw yn y fan hono. "Myfi a'i dododd, fy mrawd," ebai hithau yn dawel. "Cymer o oddiyna," ebe yntau, "ni allaf ei oddef." "O! Bob anwyl," meddai hi, " paid a dweyd peth fel yna am y Beibl: gobeithio mai nid y Beibl oeddit yn ei alw yn elyn i ti pan oeddwn yn dyfod i mewn." "Ie," eb efe, "y fo yw y gelyn penaf feddaf fi ar y ddaear. Yr ydwyf wedi ei wadu a'i ddirmygu gymaint a allaswn, ac yn awr y mae pob adnod a gair sydd ynddo yn gwgu arnaf ac yn fy melldithio." "Ond y mae yn dangos trefn a modd i faddeu hyd yn nod y pechod hwnw hefyd," ebe hithau, " ond troi mewn edifeirwch at Dduw i ymofyn am dano." "Nid oes dim maddeuant i mi," ebe yntau, “ac ni cheisiaf byth faddeuant chwaith." Torodd ei chwaer i wylo, a gadawodd yr ystafell. Safodd yn ddystaw wrth y drws am enyd, a chlywai ef yn dywedyd, "O! Anffyddiaeth! ti a'm twyllaist, ti a'm handwyaist, ti a'm demniaist! Ai dyma dy garedigrwydd di i'th dysgyblion! Melldigedig fyddo dy enw! Gwae fi o'r dydd y daethum gyntaf i gyfathrach â thi!" Ychydig ddyddiau y bu fyw wedi hyn: diffoddodd ei ganwyll yn y tywyllwch du.
'Trodd tri eraill o'r deg hyny allan yn ddigon dilewyrch; ond daliodd y pump eraill eu ffordd hyd y diwedd," Pump ohonynt oedd gall, a phump yn ffol.""
'Yr wyf wedi gadael Tomas Evan er's meityn hir, a gwell imi adael y cwbl yn y fan yna heno; ni a ganlynwn yn mlaen ar y stori y tro nesaf, os bydd y cyfeillion yma yn dewis.'
'Bydd pawb yn dewis hyny, mi wn o'r gore,' ebe F'ewythr Robert. Darn o stori bur bruddedd a difrifol gawson ni gynthoch chi heno; ond y mae achos i ofni i bod yn wir am lawer un blaw Rhisiet Puw a Bob Roberts.'
'Ydyw, y mae hi,' ebe un arall. Mi allwn i adrodd hanes pedwar neu bump o fewn cylch fy ngwybodaeth i o fechgyn o Gymru, a andwywyd yn nhrefydd Lloegr, yn gyffelyb i Bob Roberts.'
Wedi hyn dychwelasom bob un i'w babell.
Cyfrinach XII.
CYFARCHODD F'ewythr ei gyfeillion ar eu dyfodiad i mewn y tro hwn, gan ddywedyd,
Dyma Aelwyd pur lan,
A thanllwyth o dan,
I'ch derbyn yn Hafod Ceiliogwydd,
'Rwy'n dysgwyl y cawn,
Ar hyn o brydnawn,
Gyfeillach bur lawn o lawenydd.
Y mae F'ewythr Robert wedi troi'n brydydd!' ebai Huw Huws—'go lew hefyd yn wir. Y mae o wedi cynhyrfu f'awen inau i geisio gwneud penill i'w ateb o, fel hyn,
Mae Aelwyd yr Hafod yn hynod ei hanes,
Yn lanwaith a chynes iach anedd,
F'ewythr Robert ei pherchen yn siriol a llawen,
Yn nofio mewn hufen tangnefedd.
'Wel bryd y troisoch chwi'n brydydd, F'ewythr Robert?' gofynai un o'r cyfeillion.
'Rydw'i heb droi eto,' ebe'r hen wr, 'dene'r penill cynta nes i rioed, a'r dwaetha na i byth, debic gen i. Ni welsoch chi rioed sut drafferth ges i'w lusgo fo rywsut i'r pen, fel y mae o—mi fum wrthi hi am orie ar y cae ene gyne, a mi wranta i tase chin y ngweled i, basech chi'n deyd mod i 'nydrach wel prydydd.'
Dechreuwyd y gyfrinach yn ol y ddefod arferol, a galwyd ar Robert Llwyd i adrodd y gweddill o'r hanes am Tomas Evan.
Yr ydwyf yn cofio,' eb efe, 'ddarfod i mi adael hanes Tomas Evan y tro o'r blaen, i adrodd ychydig o hanes dau o'r gwyr ieuainc a gydgychwynasant eu gyrfa grefyddol ag ef, gan grybwyll am dri eraill hefyd o'r deg hyny, a fethasant ar y ffordd, ac a droisant yn ol. Fel y sylwais o'r blaen, cynyddai Tomas yn raddol yn ffafr a chymeradwyaeth yr eglwys, yn barhaus. Nid oedd dim o awydd dangos ei hunan i'w weled ynddo un amser; ond yn hytrach am gadw o'r golwg; ac eto, dyfod yn fwy i'r golwg yr oedd efe o hyd. Sylwai Llygadgraff mai yr "Iuddew yn yr amlwg" oedd Bob Roberts, ac mai yr " Iuddew yn y dirgel" oedd Twm Evan.
Yn mhen tua phedair blynedd wedi iddo ddyfod at grefydd, ymbriododd Tomas â merch ieuanc grefyddol, oedd yn aelod o'r eglwys y perthynai ef iddi, a chymerodd dyddyn bychan yn y gymydogaeth. Neillduwyd ef yn swyddog yn yr eglwys yr un flwyddyn. Yn mhen dwy neu dair blynedd wedi hyn, gwerthwyd ei dyddyn, ac amryw dyddynod eraill yn yr ardal, oeddynt yn perthyn i'r un etifeddiaeth. Yr oedd y pechenog newydd yn elyn ofnadwy i ymneillduaeth ac ymneillduwyr, neu, mewn geiriau eraill, i grefydd efengylaidd; canys yn mysg yr ymneillduwyr yr oedd hyny o grefydd efengylaidd oedd yn y wlad y pryd hwnw i'w chael. Penderfyniad y meistr tir newydd oedd, na chaffai yr un pengrwn achles o dano ef—y byddai raid i bob un naill ai newid ei grefydd, neu newid ei letty. Yr oedd tri neu bedwar o'i denantiaid yn aelodau o'r un eglwys â Tomas Evan. Galwodd y gwr heibio iddynt un diwrnod, i'w rhybuddio o'i fwriad i'w troi o'u tiroedd, os na ymwrthodent â'u crefydd. Dyn lled ieuanc oedd y boneddwr, a llawer o lediaith Seisnig ar ei leferydd. Galwodd yn gyntaf gyda Sion Wmffre, Tyddynycyw. Yr oedd Sion yn henafgwr, ac yn gryn dipyn o wag yn ei ffordd. "Mae nhw'n teyd i mi chi'n arfer myn'd i'r Conventicles yma, John; fi deyd i chi gna i ddim diodde tim o'r fath peth, rhaid chi addo peidio myn'd byth eto, ne rhaid i chi troi allan o'n tir fi," ebai y gwr mawr. "Gwarchod ni! pwy ddeydodd y fath beth a hyny wrthoch chi, Meistr?" ebe Sion"myn'd i'r—beth ddaru chi alw fo, Syr?" "Myn'd i'r Conventicles," atebai yntau. "Wel ni chlowis i er's pen ydw i'n byd mawr yma son erioed am y peth o'r blaen?" ebai Sion mewn syndod,—" fath beth ydi hwnw, Mistar? Cofensiclis, wn i beth yn y byd ydi o. Ni welis rioed mono to, na chlowed son am dano fo." Ond fe wyddai Sion o'r goreu, ond ei fod yn cymeryd arno fel arall. "Ignorance chi," ebai y gwr mawr, "Capeli, chi daut y rwan?" "O, felly," meddai Sion, "capeli ydach chi'n feddwl, Syr—bydda siwr, mi fydda i 'narfer myn'd i'r capel cyn i mi ddwad i Dyddynycyw, Syr, a myn'd i'r capel na i tra bothw i yma, a chwedi i mi fyn'd oddiyma hefyd, hyny ydi, os bydda i byw." "Wel, cewch chi dim aros yma, John, fi deyd i chi tim hwy na leni." "Wel, Syr, 'does dim help am dani ynte, os felly mae hi, mi ga ine rwle siawns, a mi ddeuda i chi beth arall, Syr, pe rhoech chi Dyddynycyw i mi am ddim, ar yr amod i mi beidio myn'd i'r capel, ni roswn i ddim yma; ond os ca i lonydd i fyn'd i'r fan y fynw i i addoli, mi rosa yma, ac mi dalaf rent i chithe, toes arna i ddim eisie ymadael." "Fi wedi deyd i chi sut mae hi i bod, John, cnewch chỉch dewis," ebe'r boneddwr, ac ymaith ag ef.
'Aeth yn nesaf i Dy'nyllidiart, lle yr oedd ein hen gyfaill Tomas Evan yn byw, a dywedodd yr un fath eiriau wrtho yntau. Wrth weled Tomas yn gwrando'n ddystaw, heb ddweyd dım, meddyliodd y gwr y buasai yn llwyddo i gael addewid ganddo i beidio myned i'r Conventicle o hyny allan. "Be chi teyd, Tomas?" eb efe, "chi addo i mi bod yn Protestant da, dwad i'r Eglwys, a peidio byth myn'd i'r capel, gnewch chi?" "Mi addawa'r peth cynta, Syr," ebe Tomas—"bod yn Brotestant da, hyny ydi, cystal galla i." "Wel, chi gnewch addo dwad i'r Eglwys, a peidio myn'd i'r capel ynte siwr?" "Na wn i'n siwr, Syr, peth arall ydi hyny," ebai Tomas gan rwbio ei lechwedd. "Gwell chi gneud, fi teyd i chi." " Na alla, i ddim coelio y byddai yn well i mi wneud hyn, Syr." "Well, cewch chi madel o'ch tir, os na gnewch chi addo, cymrwch chi gair fi," "Wel, wel, fe ddyoddefodd llawer un o mlaen i lawer mwy o golled o achos ei grefydd na hyny, ac os na thal fy nghrefydd inau fwy nag a dal Ty'nyllidiart yma, mae'n rhaid ei bod hi yn salach o lawer nag y meddyliais i erioed ei bod hi; a dweyd y gwir i chwi, Syr, ni chymrwn i mo'ch stad chwi pe baech yn ei chynyg i mi y mynyd yma am addo peidio myn'd i'r capel; mi ges i fwy na'i gwerth hi filoedd maith o weithiau yn y capel cyn hyn." "Be chỉ'n cael yn capel?" "Fedra i ddim dweyd i chwi, Syr, rhywbeth nad ydyw ddim i'w gael gan y byd yma, ac na wyr y byd yma ddim am dano, Nef na daear byth ni phrisia, &c.”
Adroddai Tomas hanes yr amgylchiad hwnw laweroedd o weithiau. Dywedai ei fod yn profi rhyw oleuni a nerth yn ei feddwl ar y pryd, a barai iddo deimlo fel cawr cadarn. Yr oedd braidd yn ofnus a chrynedig ar y dechreu; "ond wedi dechreu," ebai, "buasai yn dda genyf pe buasai holl elynion crefydd yno yn un llu o mlaen i. Wedi iddo droi ei gefn, yr oeddwn yn teimlo fel un wedi enill buddugoliaeth fawr, ac yn llawenychu fel y llawenychant wrth ranu yspail. Buasai arnaf ofn lawer gwaith pe buasai rhyw brofedigaeth o'r fath yn fy nghyfarfod, na allaswn mo'i gwrthsefyll—na fuasai fy nghrefydd i ddim yn dal, a dweyd y gwir i chwi, mi feddyliais yn well am dani hi, ac yr oeddwn i yn rhyw falchach ohoni hi y diwrnod hwnw nag erioed, ac yr oeddwn i'n canu fel ceiliog, yr hen benill hwnw,
Ti wnai'r galon drist i chwerthin,—
Ti wnai'r mudan seinio can,—
Ti wnai'r ofnus gwan i gludo,
Uffern fawr i lawr o'i flaen,' &c.
'Trodd y gwr boneddig ymaith yn ffromllyd iawn, a galwodd yn nesaf gyda Peter Parry, Hafodygareg. Cymro uniaith, dysyml, diniwaid ond dwys—feddylgar, oedd Peter. Gofynodd i Peter, fel y gofynasai i Sion Wmffre, ai gwir oedd ei fod yn myned i'r Conventicles. "Be ddeydsoch chi, Mistar?" ebai Peter, " fydda i'n darllen 'ticle Eglwys Loegr?—bydda weithie, Syr, a rydw i'n meddwl 'u bod nhw'n rhai da iawn.', "Pam chi dim myn'd i'r Eglwys ynte? daru fi dim son am articles yr Eglwys rwan—fi gofyn chi myn'd i'r capel?" "Begio'ch pardwn, Syr, mi feddylis i mai son am 'ticle Reglwys roeddech chi." A dyna oedd meddwl Peter, druan, mewn gwirionedd. "Wel, Syr, mi fydda i'n mynd i'r capel—gobeithio nad ydach chi ddim yn ddig am hyny." "Fi dwad i deyd i chi, Peter, chi madel â'r capel, ne madel â'ch ffarm, caiff no tenant i mi aros yn ei le, os na gna fo addo peidio myn'd i'r Capel, a myn'd i'r Eglwys." "Mae hi yn o galed felly, Syr, leiciwn i ddim madel â'r tyddyn yma, tra gallw i dalu am dano fo, a leiciwn i ddim madel â'r capel chwaith." "Chi madel â'r tir, ne madel â'r capel, Peter." Byddai Peter yn arfer cario ei Destament gydag ef yn ei boced bob amser, ac yn fynych yn darllen ynddo ar hyd y caeau. Ar y cae gerllaw y tŷ yr oedd efe pan ddaeth ei feistr ato. Ni ddywedasai Peter ddim mewn atebiad i'r geiriau olaf a grybwyllwyd; ond tynodd ei Destament allan, gan droi ei ddalenau. "Be chi gneud, Peter—pam chi dim ateb fi?" "Rydw i am ofyn i'r hen lyfr yma pw'r ateb ro i Syr—wiw i mi wneud dim yn groes iddo fo." "Chi trin llyfre drwg, Peter." "Y Testament ydi o, Syr,—y llyfr gore ddoeth rioed i'r byd yma, wyddoch—wel, dyma fel y mae o yn deyd, Syr, 'Nid oes neb a'r a adawodd dy, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r efengyl, ac ni dderbyn y can' cymaint, yr awrhon y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.' Ac fel hyn hefyd mae yn dweyd, Yr hwn sydd yn caru tad, neu fam, yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi; a'r hwn nid yw yn cymeryd y groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng o honof fi.' Cauodd Peter y llyfr ar hyn, a chan godi ei olwg ar ei feistr, eb efe, 'Felly, Syr, mi welwch, ne mi wela i beth bynag, be sy raid i mi wneuthur, mi fuaswn i yn caru yn y nghalon wneud un peth allswn i i'ch plesio chi, Mistar; ond pan byddoch chi a'r Hen Lyfr yn gorchymyn yn groes i'ch gilydd, 'does help am dani, rhaid ei blesio fo, pe tawn i'n digio'r byd i gyd wrth wneud hyny, "Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." "Gnewch chi ddim addo 'nte?" Cyffrodd tymher Peter ychydig ar hyn, a dywedodd mewn llais uchel penderfynol, "Na wnaf byth yn dragwydd, Amen."
Torodd ffrwd o gymeradwyaeth uchel allan ar hyn. Curasom ein traed a'n dwylaw, bron yn ddiarwybod i ni ein hunain.
'Py tase Peter yma, mi faswn yn curo ei gefn o, nes base fo'n swnio wel y drwm fawr,' ebe F'ewythr Robert.
'Peter a'u curodd nhw bob un yn y diwedd,' ebai mam; ac ebe hi drachefn, 'Dyna esboniad ar y gair hwnw, "Gorchfygu y byd."'
Y mae llaweroedd o fuddugoliaethau fel yna wedi eu henill rhwng mynyddoedd Cymru yma, yn y blynyddoedd hyny,' ebe Dafydd Edward, 'nad oes prin air o goffadwriaeth am danynt. Y mae son mawr iawn am fuddugoliaethau Bonaparte, a Nelson, a Wellington, a buddugoliaethau a buddugoliaethwyr diweddar yn y Crimea, ac India; ond y mae buddugoliaethwyr fel Sion Wmffre, Tomas Evan, a Peter Parry, yn cael eu gollwng i annghof gan y byd, ie, a chan yr eglwys hefyd: ond y mae buddugoliaethau a buddugoliaethwyr o'r fath hyn yn llawer uwch eu bri yn ngolwg y nefoedd, na buddugoliaethau a buddugoliaethwyr maes y gwaed.'
'Wel, gadewch i ni gael clowed sut y fu hi wed'yn,' ebe F'ewythr Robert. 'Ewch yn mlaen, Robert Llwyd.'
'Wel brochi'n ffyrnig a wnaeth y gwr mawr wrth eiriau olaf Peter. "Confound the whole lot," ebai fo, a tharawodd ei ysbardynau yn ochrau ei farch, a charlamodd ymaith gan dyngu ynddo ei hun y byddai cystal a'i air, os na phlygent i'w ewyllys. Wedi iddo fyned i'r ffordd, pwy a ddaeth i'w gyfarfod ond y Person, a dechreuodd ddweyd wrtho hanes ei ymweliadau â'r tri brawd, gan ddatgan ei syndod a'i siomedigaeth; canys yr oedd yn meddwl bob amser mai peth hawdd iawn oedd cau drysau y capeli, a diwreiddio sismaticiaeth o'r wlad,—dim ond i'r boneddigion osod eu hwynebau yn benderfynol yn eu herbyn. Yr oedd y gred hono yn dechreu siglo erbyn hyn. " Yr oeddwn i yn dweyd wrthych bob amser, Syr," ebai y Person, "mai nid gwaith mor hawdd ag a feddyliech chwi oedd eu rhoi hwy ar lawr. Yr wyf fi wedi cael digon o brofiad gofidus o hyny—maent mor styfnig a mulod, ni thynwch chwi byth mor capel o'u penau a'u calonau hwy, hyny ydyw, y rhai o'r real stamp ohonynt." "I cannot understand them at all, ebai y boneddwr.'
Ha, be ddeydsoch chi rwan?' gofynai F'ewythr Robert, 'ddeydwch yn Gymraeg—dim Saesneg ar f'Aelwyd i.'
'Wel, dyna oedd o, dweyd yr oedd y boneddwr na fedrasai efe yn ei fyw ddeall dynion fel y tri brawd hyny.'
"U dyallt nhw? Y fo'u dyallt nhw? Na choeliais i'n wir y medre fo, na neb o'i sort o, 'u dyallt nhw,' ebai'r hen wr.
'Na allasai, druan,' meddai mam, 'na allasai efe mo'u dyallt hwy. "Nid edwyn y byd chwi, oblegyd nad adnabu efe ef." Y mae rhyw ysbryd ynddynt hwy gwahanol iawn i ysbryd ac egwyddorion y byd. " Y mae yn gryfach na'r ysbryd sydd yn y byd," medd yr apostol,—ysbryd sydd yn gwneud y rhai y mae efe ynddynt yn ddyeithriaid yn y byd, ac yn ddyeithriaid i'r byd.'
'Yr un ysbryd ydyw yn hollol ag oedd yn Moses pan wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh, ac y barnodd yn fwy golud ddirmyg Crist, na thrysorau yr Aifft,' sylwai Huw Huws. Yr oedd profedigaeth Moses yn gryfach, mae'n wir, ond profedigaeth o'r un natur ydoedd; ac yr oedd ymddygiad y tri brawd, yn wyneb eu profedigaeth hwy, yn rhoddi prawf gobeithiol eu bod yn meddu yr un ysbryd ffydd ag oedd ynddo yntau, a phe buasent yn ei le mai yr un fath ag y gwnaeth efe y gwnaethent hwythau; oblegyd, " Y neb sydd ffyddlon mewn ychydig, sydd ffyddlon mewn llawer." Mae yr apostol yn dangos i ni yn mha le yr oedd cuddiad ei gryfder, "canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gwobrwy."'
'Wel hai, Huw,' ebai F'ewythr Robert, 'rydach chi'n myn'd ati hi i byrgethu, a sponio, mi gewch chi byrgethu eto yn eich turn, c'oeddiad Robert Llwyd sy yma heno. 'Rydw i'n leicio sylwade'r naill a'r llall ohonoch chi'n dda trost ben; ond ofn sy arna i i chi ddrysu Robert Llwyd,—mi gewch chi sylwi a sponio faint a fynoch chi gwedi iddo fo ddarfod.'
'Mae arnaf ofn, rhwng fy mod yn llusgo'n drwsgl, ac annyben, a chwithau'n tori ar fy nhraws i, yn awr ac eilwaith, nad af fi ddim i'r pen heno eto.'
'Na hidiwch ddim am hyny, gwaeddai F'ewythr Robert, 'taech chi'n dal ati tan glame, pwr ods ydi o.'
'Na,' ebai Robert Llwyd, rhaid i ni gael rhyw ben arni cyn hyny, a myn'd trwyddi heno, os oes posibl.'
'Fe aeth y gwr boneddig, a'r Person gydag ef, oddiwrth Peter Parry at y tenant crefyddol arall oedd yn yr ardal, William Harry, Llanerchfeddal. Yr oedd pen a chalon William, druan, yn ateb yn dda i enw'r tyddyn yr oedd yn byw ynddo, canys yr oedd llanerch feddal ar y ddau. Yr oedd llanerch pur galed ar ben a chalon William 'run pryd. Pan geisid gwasgu ato i gyfranu at unrhyw achos dyngarol, neu grefyddol, nid oedd modd cael ganddo na gweled, na chlywed, na theimlo dim. Ni fenai y rhesymau cryfaf, a'r anogaethau taeraf, ddim oll ar ei galon. Yr oedd mor galed a haiarn Spaen, ys dywedai Dafydd Huws, o Danfrynllwyn gynt. Ond yr oedd llanerchi meddal ar ei ben a'i galon ef, fel y dywedais; os gosodid o'i flaen rywbeth y credai a droai yn fantais ac enill iddo, fe deimlai at hwnw yn y fan. Yr oedd ffafr gwyr mawr, yn enwedig ei feistr, yn berl o uchel bris yn ei olwg, ac ni welai un aberth cydwybod yn ormod i'w gwneud er ei enill a'i ddiogelu. Wedi i mi ddweyd cymaint a hyn yna, yr ydych yn barod i ddisgwyl y canlyniad o ymweliad ei feistr tir a'r Person âg ef. Pan ofynodd y boneddwr ai gwir oedd ei fod yn arfer myn'd i'r capel, &c., atebodd yn ochelgar, "Wel, mi fydda i'n myn'd weithie!" "Ho, weithie,—chi dim myn'd ono yn constant?" "Ddim yn constant iawn, Syr, ond yn lled amal yn wir." "Byddwch chi byth yn myn'd i'r Eglwys?" "Hym,—mi—mi fydda'n myn'd ymbell waith." "Peidiwch a dweyd anwiredd, William," ebai'r Person, "ni welais mo honoch chwi yn yr Eglwys er's blynyddau, oni ddeuech weithie i gladdu câr neu gymydog." "Wel, mi fydda'n dwad weithie felly, Syr," ebai William. "Wel, cnewch chi addo i mi peidio myn'd i'r capel, a myn'd i'r Eglwys o hyn allan," gofynai y boneddwr. "Os ydi hyny yn rhwbeth gynoch chi, Syr, mi wna," ebai William," mi fydda i'n meddwl yn wastad nad ydi o ddim cimin o bwys p'run ai i'r Eglwys ai'r capel 'relon ni i addoli, ond i ni fyn'd i rwle." "Tim cimin o bwys, William! cwell i chi peidio myn'd i le'n y byd, na myn'd i'r capel—chi dangos mwy o disrespect i'r Eglwys wrth myn'd ono, na tae chi'n aros gartre.' "Doeddwn ni rioed wedi meddwl hyny yn wir, Syr, mae gen i bob parch i'r Eglwys yn wastad." "Wel gnewch chithe dangos parch iddi hi, trwy myn'd ono pob Sul o hyn allan, a peidio myn'd byth i'r capel eto." "Mi na, Syr." "O'r gore, cewch chithech tir, a mi fydda i Mistar da i chi." "Diolch yn fawr iawn i chi, Syr." Wedi hyn trodd y boneddwr a'r Person ymaith; ond rhedodd William ar eu hol, a'i het yn ei law,—"Un gair eto, os gwelwch yn dda, Syr, mae'r lecsiwn yn agos, fel y gwyddoch chi, Syr, mi fu rhai tros y ddau barti yma hefo fi yn ceisio fy vote i, a ddaru mi ddim i haddo hi i'r un ohonyn nhw, nes cael gwbod ych meddwl chi, Syr." "Cnaethoch yn da iawn, William, chi gneud fel dylase chi gneud ninion, gwyddwn i ddim fod gen chi vote." "Oes, Syr, mae gen i ryw freehold bychan ar ol y nhad, a mae hwnw'n rhoi vote i mi." "Wel, ta gen i glowed, William, cnewch chi fotio tros Mr. W." (Tori). "O'r gore, Syr, mi fydda i'n siwr o neud." Ar hyn ymadawsant, y boneddwr a'r Person yn falch o'u buddugoliaeth, a chan ganmol William fel dyn ystwyth, rhesymol; ond yr oedd barn eu cydwybodau yn bur wahanol i lais eu tafodau am dano; canys gwelent yn burion mai gwr am ei fantais oedd William, ac aberthasai bob crefydd ac egwyddor ar allor y dduwies hono. Yr oedd William yntau yn meddwl ei fod wedi gwneud peth pur gall, o leiaf ei fod wedi gwneud y peth goreu a allasai wneud yn wyneb yr amgylchiadau. Pan glywodd fel yr ymddygasai Sion Wmffre, Tomas Evan, a Peter Parry, efe a deimlodd beth,—yr oedd cydwybod yn ei gondemnio, ond ceisiai ei thawelu goreu gallai, a thaeru fod y tri hyny wedi gwneud yn ffol iawn—y gallasent fod yn llawn cystal crefyddwyr yn yr Eglwys, a phaham, gan hyny, y peryglent eu bywioliaethau?
Y Sul canlynol, collwyd William o'r capel, a gwelwyd ef yn yr Eglwys, a'r Sul canlynol drachefn. Ceisiai fyned a dychwelyd yn lledradaidd, ar draws y caeau, rhag ofn cyfarfod â neb. Gochelai ei hen gyfeillion hyd y gallai,—buont yn hir yn methu cael gafael arno i ymddyddan âg ef. Pan gawsant gyfleusdra i ofyn ei reswm dros beidio dyfod i'r moddion, fel y byddai yn arfer, cymerai arno mai wedi cael ei lwyr argyhoeddi yr oedd mai yr Eglwys oedd yn ei lle—buasai petrusder yn ei feddwl yn nghylch y mater er's hir amser, ond ei fod wedi dyfod i benderfyniad o'r diwedd i droi i'r Eglwys o hyny allan. " Yr wyf finau wedi fy llwyr argyhoeddi bod dy feistr tir a'r Person wedi bod gyda thi, Wil," ebai Llygadgraff wrtho, "ac wedi bygwth y cai ti dy droi o'r Llanerchteddal os na wnai ti adael y capel a myn'd i'r Eglwys. Yr wyf wedi fy llwyr argyhoeddi hefyd bod llanerch feddal ar dy stori di—y llanerch hono arni hi lle yr wyt yn dweyd dy fod yn credu mai yr Eglwys sydd yn ei lle. Mi wn i nad wyt ti yn credu dim o'r fath beth, fuost ti rioed yn meddwl dim i bwrpas ar y mater. A dyna lanerch feddal arall, dywedaist dy fod wedi bod yn petruso yn nghylch y pwnc er's hir amser,—ni buost tithau'n petruso mynyd erioed, Wil bach. Ac mi ddywedaf i ti beth arall, yr wyf fi wedi fy llwyr argyhoeddi o'r peth oeddwn yn ei ofni ac yn ei anmheu er's talm, fel y dywedais wrthyt cyn heddyw, bod llanerch feddal ar dy grefydd di. Ydyw, y mae hono yn feddal, ac yn bwdr i gyd drwyddi." "Gwrando ar lais fy nghydwybod ddarfu i mi," ebai William. "Cydwybod, Wil bach!" ebai y llall, "taw a son am dani hi—mae hono hefyd mor feddaled a'r lleill, nid meddal i deimlo chwaith, ond meddal ac ystwyth i ymestyn a throi bob ffordd fel y byddo awelon y fantais yn troi. Ow, druan! ti werthaist grefydd am y grachen tir yma—gwerthu cydwybod dda, a heddwch Duw, am ffafr dyngwerthu Paradwys nefol am y Llanerchfeddal yma, ac nid am dani chwaith; canys rhaid iti dalu llawn cymaint ag ydyw o werth o rent am dani hi. Onid wyt ti'n feddal, meddi dy hun, mewn difri?" Fel yna, a llawer o'r cyffelyb ymadroddion, y llefarodd Llygadgraff wrtho.
'Bu'r gwr boneddig cystal, neu can waethed, a'i air; canys gorfu i'r lleill ymadael. Cymerodd Sion Wmffre a Peter Parry dyddynod mewn ardal arall, a symudasant yno. Methodd Tomas Evan a tharo wrth le at ei bwrpas, a bu raid iddo werthu ei stoc, a throi i weithio wrth y dydd, er enill cynaliaeth iddo ei hun a'i deulu. Yr oedd yn dda gan William, Llanerchfeddal, weled hyn, canys yr oedd yn blastr ar archoll, ei gydwybod. "Dyna fel y buasai hi arnaf inau oni buasai imi ufuddhau i'm Meistr," meddai ynddo ei hun; ond yr oedd arno awydd mawr eisiau gwybod pa fodd yr oedd Tomas yn teimlo. Un diwrnod, pan gyfarfu âg ef, gofynodd iddo ai nad oedd yn meddwl ei fod wedi methu na buasai yn gadael y capel, er cadw cartre i'w wraig a'i blant bach. "Ai nid yw yn edifar genych erbyn hyn mewn difri, Tomas?" eb efe. " Yn edifar genyf, William! nac ydyw—dyna y tro goreu a wnaethum erioed—tro sydd yn talu llog da i'm mynwes, mewn tawelwch a chymeradwyaeth fy nghydwybod bob tro y meddyliwyf am dano. Yr un peth wnawn i eto yn union pe cawn fy nwyn i'r un amgylchiad. Yr wyf yn sicr ddarfod i mi wneuthur yr hyn a fynasai yr Arglwydd, oddiwrth dystiolaeth fy nghydwybod, Canys os ein calon ni'n condemnia, y mae genym hyder ar Dduw,' Os collais i rai cysuron tymhorol yn y tro, mi gefais fwy nag erioed o gysuron ysbrydol ar hyny. Sut y mae hi rhyngoch chwia'ch cydwybod gyda golwg ar yr hyn a wnaethoch yr amser hwnw, William bach?" "O, mae hi yn dda ddigon, Tomas." "Prin y gallaf gredu hyny," atebai Tomas, "hwyrach ei bod hi yn lled dawel yn awr; ond y mae yna ambell i bigiad weithiau, onid oes?—yn rhybudd ac ernes fod rhyw storm waeth eto'n ol."
'Yn fuan wedi hyn, bu farw Llygadgraff, a symudodd ei weddw a'i feibion o'r ardal, yr hyn, yn nghyda symudiad Sion Wmffre, a Peter Parry, o'r fro, a ddygodd yr achos crefyddol i gryn iselder yn y lle. Syrthiodd y pwys, yn awr ar ysgwyddau gweinion Tomas Evan. Yr oedd efe, erbyn hyn, wedi treulio yr ychydig arian oedd ganddo ar ol gwerthu ei feddianau at gynaliaeth ei deulu cynyddol. Nid oedd neb ond efe a roddai damaid i bregethwr a ddelai yno. Un gauaf pur galed o rew ac eira, digwyddodd i Tomas fod am amryw wythnosau allan o waith, fel yr aeth yn bur isel arno. Aeth yn drallodedig iawn ar ei feddwl ef a'i briod un dydd Sadwrn. Yr oedd gwr dyeithr i bregethu yn y capel bore dranoeth, ac nid oedd ganddynt hwythau ddim ond darn torth o fara haidd, ac ychydig bytatws, a llaeth enwyn, yn y ty. Ni wyddent yn y byd pa beth a wnaent; ond yr oedd Tomas yn rhyw ddirgel hyderu y buasai yr Arglwydd yn darparu. Yr oedd wedi bod yn dweyd wrth ei Dad nefol, ac wedi teimlo ei faich yn ysgafnach o lawer ar ol hyny. Aeth allan ryw dro yn y prydnawn, a safodd ar y ffordd oedd yn myned heibio buarth ei dy; ac yn y man, efe a welai filgi yn dyfod rhyngddo ag ato ar hyd y ffordd, ac ysgyfarnog yn ei safn. Rhuthrodd y milgi heibio iddo, a throdd i'r buarth, a gollyngodd yr ysgyfarnog ar riniog y tŷ, a rhedodd ymaith nerth ei draed. Yr oedd ef a'i wraig yn synu at y tro, ac yn methu penderfynu yn union beth oedd eu dyledswydd gyda golwg ar yr ysgyfarnog, pa un ai ei defnyddio at eu hangen, ynte myned â hi i'r plas oedd y peth a ddylasent wneud—pwy a welent yn myned heibio ar y ffordd ond y keeper; galwodd Tomas arno, dangosodd yr ysgyfarnog, ac adroddodd y chwedl, a chynygiodd hi iddo, gan ddweyd ei fod ef ar fedr ei chymeryd hi i'r plas, pan welsant ef yn myned heibio. "Peidiwch a mynd yn ffol," ebe'r keeper, "nid oes neb o'r teulu gartref, cymerwch hi, a bwytewch hi, gan i'r ci ei rhoddi i chi." Felly y trowyd pryder Tomas a'i wraig yn llawenydd a diolchgarwch y tro hwnw. Yr oedd blas neillduol ar y ciniaw gyda'r gwr dyeithr dranoeth. Llawer gwaith y dywedodd, wrth adrodd yr hanes, mai " ysgyfarnog oreu fuasai'n brofi erioed oedd hi, ac yr oedd pregethwr yn dweyd yr un peth.—Ysgyfarnog o'r nefoedd oedd hi." Bum yn meddwl am y geiriau hyny, wrth ei wrando yn adrodd am y tro, "Hwy a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd, a symledd calon, gan roddi diolch i Dduw."'
'Mi glywais inau Tomas Evan yn myn'd tros y stori yna lawer gwaith, ebai Dafydd Edward, 'a byddai yn diolch wrth ei hadrodd hi bob tro. Mae'n debyg na dderbyniodd y nefoedd gymaint o ddiolch am un sgyfarnog erioed ag am hono.'
'Wel, yn wirionedd ine,' ebe F'ewythr Robert, ' mi faswn i'n clowed ar y nghalon ddiolch peth i'r milgi hefyd. Wel tro rhyfedd oedd o. Ie, "sgyfarnog c'r nefoedd oedd hi," medde Tomas,—mae snogod yn y nefoedd, oes? a milgwn i'w hela a'u dal nhw hefyd debyg! ha, ha.'
'F'ewythr Robert!' gwaeddai mam, 'beth fuasai Modryb Elin yn ddweyd y rwan, pe buasai hi yma?' 'Wel, mi fase 'n y ngryddyd i narw, Marged bach; mi fydda i'n collid bob lliwodreth arna 'ftun hefo phethe wel ene—pheidiwn i'n y myw.'
Rydych yn cofio i'r cigfrain gael gorchymyn i borthi Elias gynt,' ebe Huw Huws, rhywbeth tebyg oedd yn amgylchiad y milgi a'r ysgyfarnog. Y mae'r cigfrain, a'r cwn, at alwad, a than lywodraeth Rhagluniaeth. Ni wyddai'r milgi, druan, ddim beth oedd o yn ei wneud, ond fe wyddai Rhagluniaeth i b'le i'w anfon o.'
'Rhaid i mi droi'r pen arni hi hefo'r ysgyfarnog yma heno, rwy'n gweled," ebai Robert Llwyd, 'canys y mae yn amser i ni oll droi adref bellach.' Yna, ymadawsom.
Cyfrinach XIII.
YMGASGLASOM yn nghyd yn gryno a phrydlon y noson hon, mewn awydd am glywed a gweled y diwedddiwedd hanes gyrfa bywyd ein diweddar hen gyfaill Tomas Evan; hedd i'w lwch, a pharch i'w goffadwriaeth. Yr oedd F'ewythr Robert yn edrych yn fwy siriol nag arferol pan aethom i fewn. 'Yn ddigon siwr,' eb efe yn y man, 'mae rhw droeon rhyfedd iawn yn digwydd weithie; be debygech chi sy'n y crochon ene sy ar tân?'
Sut y gallwn ni wybod?' ebe mam. 'Beth roisoch chwi ynddo fo?'
'Wel, mi rois syfarnog yntho fo. Mi roedd mistar tir yn hela rhyd y caue yma heddyw, a mi ddoeth trw'r buarth yma—y fo a'r keepar, a mi alwodd arna i, ac ebe fo, "Hwdiwch, Robert, dyma i chi syfarnog i'ch swper heno, ne i'ch cinio foru." Diolch yn fawr iawn i chi, meistar, ebe fine, "mae hi wedi pori cryn lawer ar y caue yma, mi porwn nine hithe toc, gin y'ch bod chi mor gredig a'i rhoid hi i ni; a dene lle mae hi rwan yn stiwio, a rhaid i chi aros yma bod yg un i'n helpio ni byta hi i'n swper: ond dene nhrawodd i narw iawn, bod hi chwedi digwydd dwad heddyw, ar ddiwrnod y'n cwarfod ni, a nine'n son am syfarnog y peth dwaetha i gid yn y cwarfod o'r blaen—y syfarnog nefol hono gafodd Tomas Evan stalwm. Nwni prun ydi hon yn perthyn rhwbeth i hono ai peidio; rydw i bron yn meddwl mai syfarnog ddynol ydi hon.'
Wedi dechreu y cyfarfod yn y dull arferol, galwodd F'ewythr Robert ar Robert Llwyd i adrodd wrthym y gweddill o hanes helyntion bywyd ein hen gyfaill.
'Yr wyf yn benderfynol o orphen fy stori heno,' ebe'r adroddwr; 'ni feddyliais erioed wrth ddechreu yr aethai mor hir ag y mae hi wedi myned: yr oedd hi'n chwyddo rywsut dan fy nwylo i, a minau wedi bwriadu ac wedi addo lawer gwaith droi'r pen arni hi.
Gyda'r ysgyfarnog y darfu i ni derfynu y tro o'r blaen, ac y mae yn ymddangos mai mewn ysgyfarnog y terfyna ein cyfarfod heno eto. Ond i fyned at ein stori.
'Cyn pen hir ar ol y tro hwnw gyda'r ysgyfarnog, cymerodd cyfnewidiad er gwell le yn amgylchiadau Tomas Evan. Yr oedd ewythr i wraig Tomas o frawd i'w mam yn byw yn Penygelli, wyddoch, ac yn berchenog ar y tyddyn bychan hwnw. Hen lanc gweddw oedd Robert Simon, fel y gwyr pawb ohonoch; ac nid oedd ganddo neb yn perthyn yn agos iddo ond gwraig Tomas. Yr oedd ef yn bur dda arno yn y byd, ond yn hen lanc perffaith yn mhob ystyr o'r gair. Yr oedd arno gymaint o ofn merched ag sydd ar Rhys Puw o ofn ysbrydion drwg. Ni chymerasai ddim a welodd ei lygaid erioed am gyffwrdd âg un o'r rhyw âg un o'i fysedd. Neidiodd un lodes ddireidus i'w fraich ar y ffordd yn ngolwg lliaws o bobl, un tro, a bu agos iddo syrthio i ffitiau gan ddychryn; ofnai ei fod wedi ei halogi a'i andwyo am byth. Ymgadwodd o olwg pawb am ddyddiau lawer ar ol hyny, i gyflawni defodau puredigaeth, y mae yn debygol. Buasai yn sicr o grogi y lodes yn ddidrugaredd, pe cawsai awdurdod i wneud. Edrychai ar briodas fel y peth mwyaf gwaradwyddus yn y wlad. Synai yn ddirfawr at ddigywilydd—dra dynion pan allent wneud y fath beth. Ni chawsai merch byth ddyfod dan ei gronglwyd ef, pe gallasai wneud heb ei gwasanaeth: gorfod cadw morwyn oedd y groes a'r brofedigaeth drymaf o'r un iddo.
Yr oedd yr hen lanc yn Eglwyswr (yn Brotestant, chwedl yntau) selog iawn. Cyrchai i'r Eglwys yn rheolaidd; adroddai ei bader a'i gredo ddwywaith bob dydd. Cadwai y Nadolig, y Pasg, a'r Sulgwyn yn fanwl. Ymgadwai oddiwrth y capel a'r capelwyr fel ysgymunbethau. Edrychai ar y Llyfr Gweddi Cyffredin gyda'r parch mwyaf. Golchai ei ddwylaw bob amser cyn ymaflyd ynddo; ond yr oedd gwasanaeth priodas a bedydd plant yn bethau annheilwng iawn yn ei farn ef. Yr oedd y rhanau hyny yn cymylu cryn lawer ar ogoniant y llyfr yn ei olwg. Yr oedd gwaith Tomas a'i wraig yn ymuno â'r capel wedi peri iddo ymddigio yn fwy fyth wrthynt. Nid oedd ganddo un berthynas agos i etfeddu ei feddianau ar ei ol ond gwraig Tomas. Yr oedd wedi penderfynu yn ei feddwl na chawsai hi byth fwynhau dim ohonynt; oblegid
1. Mai merch ydoedd. Hwn oedd ei phechod gwreiddiol.
2. Am ddarfod iddi briodi. Hwnw oedd ei throsedd gweithredol gyntaf.
3, Yr oedd yn fam plant. Oblegid hyny yr oedd yn gywilyddus ganddo feddwl am dani.
4. Yr oedd wedi gadael yr Eglwys a throi i'r capel, a thrwy hyny yr oedd wedi perffeithio ei hun mewn pechod a thrueni yn ei olwg ef.
Yr oedd wedi bwriadu gadael Penygelli ar ei ol i'r hen lanc hynaf yn y plwyf, ac i'r hynaf drachefn ar ol hwnw, ac felly yn mlaen o genedlaeth i genedlaeth; a darpar, os priodai un wedi dyfod i'r etifeddiaeth, bod iddo ei cholli, a thalu y rhent yn gyflawn am bob blwyddyn y buasai mewn meddiant o'r tyddyn i'r perchenog nesaf. Yr oedd i bob un hefyd roddi ciniaw unwaith bob blwyddyn, ar ddydd Gwyl Domas, i holl hen lanciau y plwyf; nid oedd neb dan bumtheg a deugain oed i gael cyfranogi o'r wledd, a dwy hen ferch heb fod dan driugeinmlwydd oedd i weinyddu arnynt ar yr achlysur. Oedai wneud ei ewyllys, oherwydd yr ofnai y buasai farw yn union wedi hyny. Pan aeth y gair allan ei fod yn sal, yr oedd yr hen lanciau yn cyrchu i edrych am dano bob dydd, ac yn ei anog i wneud ei ewyllys yn daer iawn. "Ο na, mi fendia i eto," meddai; "ni fyddaf fi farw y tro yma." Ond marw a wnaeth, fodd bynag, a marw heb wneud ei ewyllys hefyd, er siomedigaeth a galar nid bychan i'r holl hen lanciau, druain; ac, i ddial arno, ni ddaeth yr un ohonynt i'w gladdedigaeth; a'r canlyniad fu, i Benygelli, a'r cwbl o'i feddianau, ddyfod i ran gwraig Tomas Evan, y wir a'r unig etifeddes. Yr oedd yr hen lanciau yn darogan na fuasai na rhad na bendith byth ar y lle—y buasai ysbryd yr hen lanc yn sicr o aflonyddu arnynt yn Mhengelli, mai peth ofnadwy iawn oedd croesi dymuniad y marw, ac yspeilio hen lanciau ơu hetifeddiaeth—mae eu hetifeddiaeth hwy, yn ol cyfiawnder, oedd Penygelli, er nad oedd Robert Simon wedi gwneud ewyllys—fe wyddai pawb beth oedd ei fwriad. Barnent bod hen lanciau yn cael mwy o gam na neb ar y ddaear, ac yn cael llai o gydymdeimlad hefyd.
Symudodd Tomas Evan a'i deulu i Benygelli ar ol claddu yr hen lanc, ac aeth pob peth yn mlaen yn dawel a llwyddianus yno, er mawr siomedigaeth i'r hen lanciau oll. Yr oedd bellach mewn amgylchiadau clyd a chysurus.
'Yr oedd pawb, mawrion a bychain, hen ac ieuainc, yn mawr barchu Tomas bob amser. Perchid ef yn ei dlodi, ac wedi ei ddyrchafu i amgylchiadau gwell, yr un oedd Tomas. Yr oedd yn llenwi ei gylch yn mhob sefyllfa, yn ddirwgnach a siriol mewn tlodi, yn ddifalch a dihoced wedi dyfod i feddiant o ychydig gyfoeth. Yr oedd yn hynod fel cymedrolwr a thangnefeddwr yn y gymydogaeth ac yn yr Eglwys: "yr ustus heddwch" y gelwid ef. Ato ef y deuid am farn pan ddigwyddai ymryson rhwng y naill gymydog a'r llall. Diffoddodd lawer o gynhenau yn yr ardal ac yn yr eglwys o dro i dro.
'Yn fuan wedi iddo symud i Benygelli, daeth hen wr o ardal i fyw i'r gymydogaeth yma—Sion y Fach—chwi a'i hadwaenoch oll yn dda; Sion y Gwallt y byddid yn ei alw. Yr oedd Sion yn swyddog eglwysig cyn ei ddyfod i'r ardal hon, a mynai ystyried ei hun yn swyddog yma hefyd. Parodd Sion lawer o flinder i ysbryd Tomas Evan, druan, a blinder i lawer eraill hefyd. Hen wr chwerw iawn ei dymher a'i ysbryd oedd efe, yr hyn a ystyriai efe yn onestrwydd a llymder yn erbyn pechod. Y prif bechod yn ei olwg ydoedd troi gwallt oddiar y talcen. Yr oedd yn llosgi mewn eiddigedd yn erbyn y pechod hwn. Yr oedd ar y gwragedd a'r merched ei ofn fel angau; canys byddai beunydd yn ceryddu rhywrai ohonynt am drin eu gwallt, ac yn dwyn ar gof iddynt eiriau yr apostol, "Nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau." "Be rydach chỉ'n son am wallt plethedig wrtho'n ni'n wastad, 'does 'run ohonon ni byth yn plethu'n gwallt," ebai un wraig fwy hyf a gwrol na'r lleill wrtho unwaith. "Ac am aur a geme, 'does fawr o berig i neb ohonon ni fyn'd i usio pethe felly."
"Dim diolch i chi am hyny," meddai Sion, "mi hiwsiech nhw'n inion tae chi'n gallu 'u cael nhw. Ac am y plethu gwallt, i blethu 'rewch chi cin bo hir, os cewch chi lonydd; 'rydach chi ar y ffordd yn ffast iawn. Mae'n rhaid i ni ddal y llwynogod bychin cin iddyn nhw fyn'd yn fawr ac yn gyfrwys."
'Cododd ar ei draed yn y gyfrinach un tro, a dywedai ei fod wedi gweled y Sul o'r blaen olygfa oedd wedi poeni llawer ar ei enaid—bachgen ieuanc o'r gymydogaeth yn dyfod ag umbrella yn ei law i'r capel. "Mae arna' i ofn yn y nghalon," meddai, "y daw'r balchder hwnw i mewn i'n plith ni bellach. Cymrwch chi ofal, fechgyn a genethod sy'n proffesu crefydd, na welo ni byth monoch chi 'n dilin 'rarferiad felldigedig hono.
" Y mae gen i un gartref," ebe un gwr ieuanc, "brynais i yr wythnos ddiweddaf."
"Llosga hi heno," ebe Sion, "ne mi fyna i dy dori di allan."
"Wel, wel, Sion bach, nid oes dim drwg mewn cario Umbrella," meddai Tomas Evan; "peth gwerthfawr a defnyddiol iawn ydyw o. 'Rwyf finau yn bwriadu ceisio un y cyfleusdra cyntaf a gaf."
"Y mae'n rhyfedd gen i'ch clowed chi'n siarad, Tomos, ebe Sion: "y chi'n swyddog yn yr eglwys yn son am gario bwgan uffernol felly dros y'ch pen! Dyma fel y mae pechode yn cael 'u magu o un i un, trw fod blaenoried a phregethwyr yn rhoid gwyneb iddyn nhw. Ni fu 'rioed son am bethe fel hyn yn y wlad yma o'r blaen tan o fewn blwyddyn ne ddwy 'nol yma. Mi fase no ryfedd gen yr hen weinidogion a'r blaenoried feddwl am bethe fel hyn. Ond mi gowson nhw'u cymeryd ymaith o flaen y drygfyd yma sy'n debig o ddwad fel pla tros y wlad yma. '
"Wel, ni raid i ni ddim cwyno na dychrynu llawer os na ddaw rhyw bla gwaeth nag umbrellas i'r wlad," ebe Tomas. "Mi feddyliwn i mai trugaredd ydyw i ni eu cael nhw, i gadw'n dillad yn sychion wrth ddwad i'r capel ar dywydd gwlawog, ragor bod yma'n wlybion at ein crwyn am awr a haner neu ddwyawr, fel y buom ni lawer gwaith."
"Mi fydde'n well gen i fod yn wlyb at fesgyrn bob dydd o mowyd na gafel yn y peth aflan," ebe Sion; ac ymaith ag ef mewn digter llidiog.
'Ond y gwallt, fel y crybwyllais, oedd yn blino Sion fwyaf o ddim. Daeth pregethwr ieuanc i bregethu yma un tro, wedi trin a dosbarthu a chodi ychydig ar ei wallt. Yr oedd wedi myned i'r pwlpud a dechreu y moddion cyn i Sion ddyfod i mewn. Pan ddaeth trwy y drws, taflodd ei olwg ar y pregethwr, newidiodd ei wedd, taniodd ei lygad, a gollyngodd allan ochenaid mor groch, fel y gallasech feddwl mai tuchaniad elephant ar farw ydoedd. Edrychodd pawb ar eu gilydd, a gwyddent yn dda beth oedd yr achos, a bod ystorm ofnadwy yn ymgrynhoi, yr hon a fyddai yn sicr o ymdori mewn cynddaredd ar ben y pregethwr druan. Cyn gynted ag y dybenodd yr oedfa, cyfeiriodd Sion i gyfarfod y gwr ieuanc pan oedd yn dyfod i lawr o'r pwlpud. "Wyddost ti beth, ddyn ifanc?" eb efe, "pe buasai yma fwyall wrth law, mi faswn yn tori dy ben di y munud yma." Dychrynodd y bachgen druan drwy'i galon. " Beth sydd? Beth wnes i?" eb efe. "Be nes i'n wir, dos i'r glas ac edrych be neist ti—be ydi'r drefn yna sy ar dy wallt di? Wyddost ti beth? mi fedrwn dynu gwallt dy ben di o'r gwraidd bob blewyn, a gneud rhaff ohono fo, a dy grogi di wrthi hi ar y trawst acw gyferbyn â'r pwlpud, a dadel di i hongian ono er siampl a rhybudd i bob pregethwr ddelo yma rhagllaw."
"Yr oedd y pregethwr yn crynu gan fraw erbyn hyn. Aeth Tomas Evan yn mlaen ato: "Peidiwch a chynhyrfu, 'machgen i," eb efe, "dyma ffoledd yr hen frawd, yr un fath fydd o hefo phawb ohonom ni; nid yw o gan waethed a'i air."
"Dene chi, Tomas," ebe Sion, "yn amddiffyn y bachgen yn'i bechod; cheir dim ceryddu neb yn ol y gair yma, na byddwch chi'n llyfnu ac yn smwddio ninion."
"Ie, ie, nid ceryddu yn ol y gair ydyw peth fel yna, Sion bach," ebe Tomas. Cymerodd un o'r cyfeillion y gwr ieuanc ymaith ar hyn; ac wedi dyfod yn rhydd o afael Sion, "Wel dyna'r cythraul o hen ddyn tosta gyfarfum i erioed," eb efe. "Dyna fel y mae Sion yn wastad," eb y cyfaill; " y mae yn rhywyr gan bawb ohonom ei wel'd yn myn'd i'r nefoedd oddiyma."
"I'r nefoedd! hen greadur fel yna i'r nefoedd! A ydych yn meddwl mai rhyw hen groglofft ydyw'r nefoedd i daflu hen lumber a sparion y ddaear yma iddi hi? Pwy byth allai deimlo awydd ar ei galon i gael myned yno os ydyw rhyw fwystfilod drwg fel yr hen ddyn yna yn myned yno?"
'Cyfarfod gweddi oedd yn y capel yr hwyr hwnw. Ymaflodd Sion yn y Beibl yn gyntaf un, a darllenodd yr hanes am Absalom yn nghrog gerfydd ei wallt yn mrig y dderwen, a gwnaeth sylwadau addysgiadol iawn ar yr amgylchiad. "Chwi a welwch," eb efe, "mai prif bechod Absalom oedd ei wallt. Trin ei wallt fydde'i waith pena fo bob dydd. Mae'r hanes yn deyd mewn lle arall y bydde fo'n cneifio ei ben unwaith bob blwyddyn, ac yn pwyso'i wallt; a welwch chi'r diwedd ddaeth iddo fo? Mi crogodd rhagluniaeth o â'i wallt ei hun; ac y mae hyny'n dangos mai dyna ddylid wneud â phob un o'i sort o eto. Yr oedd yr olwg a welson ni yn y pwlpud yma; ie, yn y pwlpud! yn ddigon i waedu calon undyn â dim teimlad crefyddol yn ei fynwes. Mae'n pregethwyr ni yn Absalomiaid gwalltfeilchion, a'n blaenoried ni (gan droi at Tomas Evan) yn 'u swcro nhw yn 'u balchder a'u drygioni. 'Rydw i wedi penderfynu cael fy nwylo'n lân, ac ateb cydwybod dda trwy ddwyn tystiolaeth yn erbyn pechodau'r oes;" a llawer o'r cyffelyb ymadroddion.
'Aeth Sion adref dan ei goron y noson hono, yn ei dyb ei hun. Credai ei fod wedi lladd y cawr o wallt—falchder yn farw gelain. Ond, er ei fawr syndod a'i ofid, gwelodd ei gamsyniad y Sabbath canlynol; canys yr oedd holl fechgyn ieuainc y gynulleidfa wedi ymwneud â'u gilydd i drin a rhanu ac iro a chodi eu gwallt yn fwy nag erioed, a hyny o bwrpas i boeni, enaid Sion druan. Yr oedd yr hen wr yn ddrwg iawn ei dymher y diwrnod hwnw; lluchiai waywffyn megis o'i lygaid at bawb o'i amgylch, "A welwch chwi, frawd, nad ydych yn tycio dim?" ebai Tomas Evan wrtho. "Byddech yn fwy tebyg o lwyddo o lawer trwy arfer tynerwch ac addfwynder."
"Tynerwch ac addfwynder at bechod!" meddai Sion. "Tynerwch ac addfwynder yn wir! Na ato gwirionedd a gonestrwydd i mi byth fod yn dyner ac yn addfwyn at ddrygioni."
"Ond y mae yn rhaid i ni fod yn dyner ac yn addfwyn wrth bechaduriaid er hyny, os mynwn ni eu henill a'u diwygio," atebai Tomas; "o leiaf, felly mae'r apostol yn dysgu—" mewn addfwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus."
Ond ni fynai Sion wrando ar lais yr apostol na neb; ond myned rhagddo yn chwerwach chwerwach a wnaeth bob dydd; ac ymroi i'w boenydio fwyfwy a wnaeth y llanciau drwy drin a chodi eu gwallt waeth waeth. A dyna fu effeithiau llafur diwygwyr o ysbryd Sion erioed, ac a fydd byth, tra byddo y natur ddynol yr hyn ydyw.
'Nid hir iawn y bu Sion byw ar ol hyn; daliodd yn debyg yr un fath hyd angau, mor chwrwed ei ysbryd a'i eiriau a'r wermod. Ofnai yn fawr y buasai rhinwedd a chrefydd farw yn fuan ar ei ol. Bu farw druan heb hiraeth am dano; ni thywalltwyd deigryn yn ei angladd, ac nid oedd neb yn teimlo ar ei galon ocheneidio wrth weled "y pridd y clai a'r ceryg" yn disgyn ar ei arch. Bendith i'r Gymdeithas y perthynai iddo oedd cael ymwared âg ef; ond y mae ganddo yntau aml olynwr o'r un ysbryd ag ef i'w gael yma ac acw. "Buasai yn dda genyf fedru ffeindio rhyw beth yn yr hen frawd Sion i allu dweyd y bydd colled i ni am dano," ebai Tomas Evan wrth ddau neu dri ohonom ar y ffordd wrth ddychwelyd or angladd; " ond yn wir yr wyf yn methu cofio am ddim; ond gobeithio fod rhyw beth daioni ynddo, a'i fod yn gadwedig wedi'r cwbl."
'Yr oedd un brawd yn perthyn i'r eglwys y pryd hwnw a rhywbeth yn bur hynod a gwreiddiol yn ei ddull o feddwl a siarad. Un pur dawedog a dystaw a fyddai yn gyffredin; ni ddywedai air byth yn y gyfeillach os na anogid ef; ond byddai yn cael anogaeth yn lled fynych, canys ceid sylwadau pur ddyeithr a tharawiadol, ac weithiau lled ddigrifol, ganddo. Yr oedd y gyfeillach i gael ei chynal ar hwyr y dydd y claddwyd Sion. Yn mysg eraill gofynodd Tomas Evan a oedd dim ar feddwl y brawd hwnw. "Nac oes, am a wn i;—ond 'roeddwn i'n meddwl hyny," eb efe, "'i bod hi'n dywydd garw ar Enoch ac Elias cyn hyn, os ydyn nhw'n troi'u gwallt, os aeth ein cyfaill Sion i'r nefoedd."
" Wel pa'm 'roeddech chi'n meddwl am Enoch ac Elias mwy na rhywrai eraill?" ebai rhywun.
"Wel am nad oes ond y nhw â gwallt ar eu penau yn y wlad hono," oedd yr ateb.
'Ni raid i mi ddweyd i chwi pa un a'i gwenu ai wylo a wnaethom. "Wel," ebe un yn y man, "gobeithio yr ydwyf fi fod yr hen frawd wedi cael y lan yn nhir y bywyd; y mae yn ddigon hawdd byw gydag ef yno, y mae wedi ei buro erbyn hyn "
Roedd raid 'i buro fo cyn hyn, os aeth yno," eb y brawd arall hwnw. "Gwlad y purdeb ydyw'r nefoedd, y ddaear ydyw gwlad y puro: rhaid ein puro ni yr ochr yma i angau, neu nid awn i byth i wlad y purdeb yr ochr draw."
"Ie, ie, sylw gwerth i ni ddal arno a'i gofio ydyw hwnyna," ebe Tomas Evan; "yma y mae goruchwyliaeth y puro a'r glanhau: yma y mae yr holl foddion puro i'w cael—yma y mae'r gair, yma mae'r ffynon, yma mae'r Ysbryd—nid â i mewn yno ddim aflan—ni bydd yno lew na bwystfil gormesol—y rhai gwaredol a rodiant yno, rhai wedi eu gwaredu oddiwrth euogrwydd ac arglwyddaeth pechod." Ac yna adroddodd gyda theimlad ac effeithioldeb neillduol yr hen benill hwnw,
'Dwy'n 'nabod dim o'r nefol le,
Gwyn fyd f'ai trigo ynddo fe,
'Rwy'n caru pawb o fewn y wlad;
Y dymher nefol fwyn sy fry,
Ddymunwn 'nawr fod genyf fi,
Fy nghartref ydyw ty fy Nhad.
Yr wyf yn meddwl nad oedd un rudd sech yn y lle. Adroddodd y penill yn y fath ysbryd toddedig a nefolaidd, nes toddi a nefoleiddio pob ysbryd yn y lle. Bu enyd o ddystawrwydd ar ol hyn. Yn y man cyfododd y brawd hynod hwnw i fyny, a dywedodd,—
"Y mae dychymyg Samson wedi taro yn rymus iawn ar fy meddwl i—'Allan o'r bwytawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felusder; ac felly o'r peth chwerw 'roeddem ninau yn ei drin, fe 'ddaeth allan felusder' yn y diwedd."
Ac felly terfynwyd y cyfarfod, ac yr wyf finau bellach ar derfynu yr adroddiad maith hwn. Mi a allaswn adrodd i chwi lawer o bethau eraill cyffelyb am ein hen gyfaill; ond yr wyf yn ymatal. Am ei ddyddiau diweddaf, ei gystudd byr, a'i farwolaeth dawel, chwi a wyddoch yn gystal â minau. "Efe a aeth i dangnefedd; a gorphwysa yn ei ystafelloedd," ac "y mae priddellau y dyffryn yn felus iddo." "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gwr hwnw yw tangnefedd." Amen.'
Wedi enyd o ddystawrwydd, gofynai F'ewythr Robert, ' A oes dim ar feddwl neb ohonoch chi i'w ddeyd, gyfeillion?'
'Yr ydym ni'n dysgwyl wrthych chwi, F'ewythr Robert, i ddweyd gair i ddechreu,' ebe un.
'Wel, wn i ddim beth i'w ddeydyd; mae arna i flys begio ar Robet Llwyd fynd tros stori Tomas eto; mae'n chwith gin i feddwl i bod hi chwedi darfod. Roeddwn i'n meddwl rwan am goffadwriaeth y ddau ddyn ene, Sion a Tomas, gimin o whanieth sy rhynthyn nhw! Mae enw a choffadwrieth Tomas wrth i chi son am dano fo, yn rogli wel y gna camami pen sathroch chi arno fo; ond gwell ydi peidio mhela â'r llall. Mi dwaenwn i Sion neitha da. Roeddwn i'n wastad yn meddwl 'i fod o'n ddyn geirwir gonest; ond hen ddraenen bigog oedd o'n 'i deulu ac yn 'i gymydogaeth, yn gystal ag yn y capel; er hyny i gid, mi fydda i'n ceisio gobeithio bod tipin o ddioni yn ngwaelod Sion, dan yr hollt ddrwg oedd yntho fo. Roedd gyntho fo hen ddyn gyrwinol iawn i ymladd â fo—hen dymer gas ydwi'n feddwl. Mae'n haws i rai fyw'n dduwiol na'u gilidd, mi fydda i'n meddwl. Roedd Tomas yn ddyn llariedd wth natur rwsut, a Sion wel arall. Ond wiw i mi fynd mlaen wel hyn. Rydw i'n meddwl dyle un ohonoch dalu diolch i Robert Llwyd am adrodd rhanes difyr a daw gawson ni gyntho fo.'
'Yr wyf fi yn teimlo yn bur barod i wneud hyny,' ebe Huw Huws, 'megys y mae pob un ohonom yn ddiau. Yr wyf finau yn cofio cryn lawer am Tomas Evan; a gallwn adrodd rhyw bethau na chrybwyllodd ein cyfaill yma am danynt; ond nid wyf am wneud hyny heno. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Gadawodd dystiolaeth ddianmheuol o'i dduwioldeb yn nghydwybodau pawb oeddynt yn ei adnabod. Yr oeddwn yn adnabod Sion yntau hefyd yn bur dda, a llawer tug go galed a fu rhyngom â'n gilydd o bryd i bryd. Yr oedd gwahaniaeth mawr iawn yn y dylanwad oedd y naill a'r llall yn gario ar y byd annuwiol. Yr oedd ar y bechgyn mwyaf anystyriol ofn pechu yn mhresenoldeb Tomas bob amser, er na byddai yn dywedyd ond ychydig wrthynt. Yr oedd lluaws o lanciau yr ardal wedi ymgasglu yn nghyd i goetio ar brydnawn Sabbath mewn lle dirgel un tro; cafodd Tomas wybod am danynt, ac aeth heibio i'r lle wrth fyned i'r capel; mor gynted ag y gwelodd y llanciau ef yn neshau tuag atynt, taflasant eu coetiau o'u dwylaw, a rhedasant ymaith gyda'r fath frys a dychryn a phe buasai mintau o swyddogion yn dyfod gyda gwarantau i'w dal. Gofalai y rhai mwyaf rheglyd na ollyngent na llw na rheg dros eu gwefusau un amser yn nghlyw Tomas. Byddent, o'r tu arall, yn ymroi ati i dyngu a rhegu yn waeth nag arferol os byddai Sion yn agos. Byddai ef yn bygwth ac yn eu dwrdio, ac yn pregethu tân ussern iddynt yn y modd mwyaf ofnadwy; ond troent y cwbl yn gellwair. Tarawent ati i chwareu ar hyd y ffyrdd wrth fyned neu ddychwelyd o'r capel, os gwelent Sion yn agos, o bwrpas i gyffroi yr hen wr, er cael digrifwch am ei ben yn gwylltio. Ond dylwn gofio mai cynyg diolchgarwch y cyfarfod i'n cyfaill Robert Llwyd am ei ddarlith ysplenyddawl a gorddoniol gampus, fel y dywed yr areithwyr mawrion yma, ydyw fy ngwaith i, ac nid myned i ddarlithio fy hun; gan hyny, Mr. Cadeirydd, yr wyf yn eistedd i lawr gan osod y cynygiad o flaen y cyfarfod.'
Eiliwyd y cynygiad gan Dafydd Edward. Yr oeddwn yn meddwl," eb efe, 'wrth wrando ar ein cyfaill yn son am y naill a'r llall a ddaethant dan sylw mewn cysylltiad â hanes Tomas Evan, am chwedl a glywais gan gyfaill a fuasai yn Llundain unwaith. Aethai y cyfaill hwnw un diwrnod i weled y gerddi, lle mae'r llewod a'r bwystfilod, a phob math o greaduriaid yn cael eu dangos. Yr oedd hen wr o Gymro gydag ef, yr hwn na welsai erioed y cyfryw olygfeydd o'r blaen. Synai'r hen wr yn aruthrol wrth edrych ar y gwylltfilod. Yn y man, daethant at y lle y cedwid y mwnciod, y rhai a wnaent bob ystumiau a champau direidus. "Wel, wel," ebe'r hen wr, gan godi ei ddwylaw, "ni feddyliodd fy nghalon i erioed fod y fath bethau'n bod! Y mae llawer math ohonon ni yn y byd yma, a mae rhai'n yn ryw fath o Gris'nogion debyg geni!" Felly yr oeddwn inau yn meddwl wrth wrando hanes y bachgen ifanc hwnw a'r porthmon, a William o'r Llanerchfeddal, a'r hen lanc, a Sion, a'r lleill ohonynt. Ac, meddwn i ynof fy hun, y mae llawer math ohonon ni yn y byd yma. Ond y mae un arall yn haeddu cael ei grybwyll, os caniatewch chwi i mi ddweyd gair am dano fo—Ellis Bach, wyddoch; "у сі terrier," fyddai yr hen Llygadgraff yn ei alw fo Wertmau. Cnobyn o beth bychan chwerw, yn cyfarth ac yn brathu beunydd, oedd Ellis. Yr achlysur iddo gael yr enw Ci Terrier ydoedd fel hyn:—Yr oedd yr hen Huw Lewis o'r Frongoed yn darllen y drydedd benod o'r Philipiaid ar ddechreu cyfarfod gweddi un tro, a darllenwr hynod o drwsgl oedd Huw, chwi wyddoch; a phan ddaeth at y gair hwnw, "Gochelwch y cyd—doriad," efe a'i darllenodd fel hyn, "Gochelwch y ci tariar." Chwarddodd Llygadgraff allan, a chwarddodd pawb. Ar ddiwedd y cyfarfod, yr oedd Ellis yn bur ddrwg ei dymher am na alwesid ef i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Yr oedd yn hoff iawn o arfer ei dalentau, chwedl yntau; a rhoddodd lawer cerydd llym i'r blaenoriaid am ei esgeuluso. Yr oedd yn cario meddyliau uchel iawn am ei dalentau, ac yn barnu ei fod yn cael cam mawr drwy gael ei osod dan orfod i'w cuddio yn y ddaear. "Wyddost ti beth, Ellis?" ebe Llygadgraff wrtho, " yr wyf fi'n meddwl yn siwr mai ti ydyw y ci tariar yr oedd Huw yn darllen am dano gyne." Gyrodd hyn Ellis yn ffagl wyllt, a gadawodd yr ardal yr wythnos ganlynol. Nid hir yr arosai Ellis yn yr unman; bu yn aelod mewn amryw eglwysi, o wahanol enwadau, a'r eglwys lle y byddai yn aelod ynddi ar y pryd fyddai yr eglwys fwyaf didrefn, digariad, a dibobpeth da, welsai efe erioed. Yr oedd yn nefoedd arno ar y ddaear yn yr eglwysi y buasai yn aelod ynddynt o'r blaen; ond yr un fath y dywedai am bob un o'r rhai hyny pan oedd ef yn perthyn i'r naill a'r llall. "Pe cai Ellis druan, fyn'd i'r nefoedd," ebe Tomas Evan un tro, "chwyrnu a brathu a wnai o; ni byddai neb na dim yno wrth ei fodd y lle mwyaf oer a digariad a welsai erioed fyddai paradwys ei hunan yn ei olwg ef.". Ond yr wyf wedi annghofio fy hun a'm gwaith; maddeuwch i mi, Mr. Cadeirydd, a'r cyfeillion oll, am gymeryd i fynu eich amser fel hyn; felly, mi a eisteddaf i lawr, gydag eilio y cynygiad a osodwyd o'ch blaen sef "bod ein diolchgarwch gwresog yn cael ei gyflwyno i'n cyfaill Robert Llwyd am yr adroddiad a roddodd i ni o hanes ein diweddar gyfaill, Tomas Evan.'
Dododd F'ewyrth Robert y cynygiad atom, a phassiwyd ef yn unfrydol a gwresog.
'Wel y rwan, mae'r cwarfod ar ben,' ebe'r Cadeirydd, ac mae'r sgwarnog ar y bwrdd yn y parlwr, yn disgwil am danon ni." Yna symudasom, ac eisteddasom o gylch y bwrdd, swperasom ar yr ysgytarnog, ac ymadawsom bob un i'w babell.
Cyfrinach XIV.
PAN ddaethom at ein cydgynulliad aelwydyddol (os goddefol y gair), y tro hwn, pwy debygit ti, ddarllenydd, a gyfarfuom yno? Wel, ein hen gyfeillion Jacki a Chati!—wedi myned erbyn hyn yn John ac yn Gatrin, ac yn dad ac yn fam; ac wedi cyfnewid cryn lawer mewn ystyriaethau eraill hefyd ragor oeddynt yn nyddiau Modryb Elin, pan oeddynt yn was ac yn forwyn yn yr Hafod. Jacki (yn hytrach John) wedi dyfod yn fwy dynol, ac wedi dysgu gwybodaeth a synwyr gryn lawer; a Chati—Catrin ddylaswn ddweyd—wedi gwareiddio llawer, a gadael heibio y direidi ysmala a chastiog oedd mor naturiol iddi gynt. Er hyny, gellid gweled llawer o'r Jacki yn John, a llawer o'r Cati yn Catrin, yn nawsio allan ar droion. Daethent i'r Hafod y prydnawn hwnw i dalu ymweliad â'u hen feistr hybarchus, F'ewyrthr Robert, a llawen iawn oedd yr hen wr o'u gweled, canys y mae yn eu caru fel pe byddent ei blant ei hun. Carai Jacki bob amser ar gyfrif ei ddiniweidrwydd, ei symledd, a'i ddiddichelrwydd; a Chati ar gyfrif ei ffraethder, ei llonder, a'i direidi digrifol; a'r ddau am eu ftyddlondeb, eu diwydrwydd, a'u gonestrwydd, a'u gofal yn eu gwasanaeth. Edrychai pob un ar ol eiddo ei feistr mor ddyfal a darbodus a phe buasai yn trin ei eiddo ei hun. Yr oedd yntau yn gweled ac yn gwybod hyny, ac yr oedd ganddo yr ymddiried llwyraf yn y ddau. Teimlai yn ddwys iawn pan oeddynt yn ymadael. Yr oeddwn yn addo'n wastad i mi fy hun y base'r ddau naros hefo mi tra baswn i,' meddai, 'ag mi roeddwn i no ddig wrthyn nhw am dro, pan ddalltis i 'u bod nhw am y nghadel i; ond mi ddois ata ffun toc, mi roeddwn i'n gweld 'u bod nhw'n gneuthur yn 'u lle, a mae'n dda iawn gen i 'u gweld nhw'n dwad yn 'u blaene mor dda drien; ni 'nan byth ddim gwell nag rydw i'n dmuno iddyn nhw neud.' Ac yn wir, y mae pob arwydd i'w weled ar y ddau eu bod yn byw yn gysurus gyda'u gilydd. Y mae John yn edrych yn dda a dedwydd, a Chatrin yr un modd, a'r ddau yn drwsiadus a glanwaith. Yr oedd baban ar lin Catrin, bachgen iachus, teg yr olwg, tua deunaw mis oed, yr hwn a enwasid yn Robert o barch i'r hen feistr. Yr oedd yr hen wr yn dotio ar Robert bach, ac yn ei fabwysiadu yn ŵyr iddo ei hun, ac yr oedd y prydnawn hwnw wedi pigo chwech o'r hespinod goreu a fyddai yn ei ddeadell ddefaid i'w rhoddi yn gynysgaeth i'w wyr bach, gan erchi i'w dad gymeryd gofal am danynt, a dodi pob ceiniog o arian a dderbyniai oddiwrth y gwlan, a'r rhai a werthid o dro i dro, yn y banc i ddodwy, chwedl yntau, hyd nes deuai Robert bach i'w oed.
Yr oedd yr hen wr yn bur llon—yn ei afiaeth, fel y dywedir—y tro hwn. Yr oedd raid i bob un ohonom deimlo pwysau Robert bach, a rhoddi cusan iddo. 'A welsoch chi rioed â'ch llygid fachgen brafiach?' meddai lawer gwaith. Mae dyniweidrwydd Jacki yn i wyneb o, a rogni Cati yn nghornel i lygad o; mi neith o ddyn iawn, mi gwrantaf o;'a llawer o'r cyffelyb sylwadau.
'Wel, Cati,' eb efe yn y man, 'rhaid i ti ganu cân i ni cin myned i ffwrdd; mae arna i hireth am dy glowed di'n canu, mi genist di ag Elin lawer spel estalwm. 'Ac,' eb efe wrthym ninau, 'mi fetiwn i goron ar droed Cati am ganu a'r un Siani Lind ar y ddyar yma.' • Well done, Fewyrth!' ebe Catrin, ' yr un un ydych chwi eto.' Cafodd yr hen wr gryn drafferth i gael ganddi ganu ar ol hyn; ond boddlonodd yn y man, wedi i ni oll droi i grefu arni; ac yr oedd John (ei gwr) yn awyddus iawn am iddi wneud, canys, yn ei farn ef, ni fu cantores gyffelyb iddi yn y byd.
'Wel, os rhaid, rhaid,' ebe hi yn y man, mi gana fel y medra i ryw gân fach a ddysgis i yn ddiweddar yma—" Cân y Fam i'w Phlentyn," a dyma'r gân:
Ust! fy mhlentyn bach anwylaf,
Gwasga yma at fron dy fam:
Hon o bawb a'th gar yn buraf,
Ni raid iddi dd'wedyd p'am.
Dyma'r fron, fy maban tirion,
Sugna ei dyddanwch hi;
Curo o tani y mae calon
Lawn o gariad atat ti.
Pan y gwelais dy wynebpryd
Gynta' erioed, fy mab di—nam,
Gofid esgor yn y fynyd
Dro'i'n llawenydd calon mam.
Fel y gwyliwr am y borau,
Bum yn disgwyl toriad gwawr
Synwyr gynta ar d'amrantau,
Lawer diwrnod, lawer awr.
Pan y sylwai'th lygad tirion
Gyntaf oll ar wedd dy fam,
Parodd hyny i'w thyner galon
Yn ei mynwes roddi llam.
Pan chwareuai'r wen gariadus
Gyntaf, ar dy wefus gun,
Cipiai'th fam hi a chusan serchus,
I'w chymysgu a'i gwenau'i hun.
Blas y cusan hwnw eto
Sydd yn aros ar ei min;
Mae melusach archwaeth arno
Nag sydd ar y peraidd win.
Llawer nos bryderus effro,
Pan fu cystudd arnat ti,
Dreuliais uwch dy ben yn gwylio—
Pawb yn cysgu ond myfi.
Cauau'r dydd ei deg amrantau,
Gwisgai'r nos ei mantell am
Natur oll, ond cariad gadwai
Gwsg oddiwrth amrantau'th fam.
Cysga di, f'anwylyd hawddgar,
Yma ar dyner lin dy fam;
Ni chaiff undyn ar y ddaear,—
Na chaiff neb wneud i ti gam.
Iesu Mawr, mae genyf hanes
Iti dderbyn yn y byd
Gynt fabanod i dy fynwes,—
Dyna le anfeidrol glyd,
Derbyn hwn, fy mhlentyn inau,
I dy fynwes lawn o ras;
Cadw ef na wyro'i gamrau
Byth i lwybrau'r gelyn cas.
Nid wy'n ceisio cyfran helaeth
Iddo o drysorau'r llawr,
Ond dy ras a'th iachawdwriaeth
Fyddo'i etifeddiaeth fawr.
Hyn wyf yn ddymuno drosto,
O! na omedd hyn i mi:—
Tra boʻi galon ynddo'n curo,
Cured gariad atat Ti.
Ti wrandewaist ddymuniadau
Hanna, tros ei phlentyn hi;
Gwrando 'nawr fy ngweddi inau,
Tros fy maban tyner i.
Dyna'm bychan wedi cysgu,
Melus fyddo'i hun a'i hedd;
Diniweidrwydd sy'n teyrnasu
Ar ei wyneb, yn ei wedd.
Ha! mae'n gwenu—blentyn gwiwlan,
Ni cha'dd angel chwaith na dyn,
Olwg dlysach, na gwel'd baban
Bach, yn gwenu trwy ei hun.
Tyr'd i'th gryd yn awr, fy maban,
Gorphwys yma mewn mwynhad:
Mae hi'n bryd i Mami hwylio
I geisio cinio i dy dad.
Mewn gwirionedd hefyd, yn ol ein barn ni, ac yr ydym ni, teulu yr Aelwyd, yn bobl ddeallus iawn, cofiwch,—fe ganodd Catrin yn rhagorol. Yr oedd megis yn taflu ei holl galon i'r gân, ac y mae ei llais yn hynod o beraidd. Yr oedd ei phlentyn ar ei glin, ac yr oedd yn suitio's action i'r geiriau yn dda iawn, heb gael ei dysgu gan neb erioed, ond gan natur ei hun. Canodd y penillion gweddi gydag arafwch a dwysder toddedig. Yr oedd dagrau F'ewythr Robert yn llifo er's meityn; a John yn gwylio pob un ohonom, fel y gath yn gwylio llygoden, i edrych a oeddym yn cael ein boddloni.
'Ont oeddwn i'n deyd i chi,' ebe'r hen wr: 'ni chanodd Siani Lind, na'r un Siani arall, rioed ddim gwell na hyna, does dim posib.'
'Naddo, na haner cystal,' ebai John rhyngddo ag ef ei hun, ond yn ddigon uchel i bawb ei glywed. 'Dyna chwi wedi myn'd yn Jacki yn eich ol,' ebe Catrin; ceisiwch hwylio i gychwyn adref y lolyn.' A chyfododd i ymadael; ond wrth estyn ei llaw i ffarwelio â'i hen feistr, hi a dorodd i wylo, a thorodd yntau i wylo, a bu agos i ni oll gael y clefyd oddiwrthynt. O! mae heno wedi codi y fath hiraeth am yr hen amser arnaf,' ebe hi, 'nes wyf yn teimlo fy nghalon bron a thori. Mae edrych ar hen gadair modryb anwyl yn y gornel yna yn fwy nag a fedraf ddal. Yr wyf yn meddwl llawer bob dydd am y cynghorion a gefais ganddi. Nid oeddwn yn gofalu fawr am danynt yr amser hwnw; ond y maent wedi glynu yn fy nghof, wedi bod o les mawr i mi lawer tro; buont yn foddion i'm hatal i wneud llawer o bethau ffol ac ynfyd, a fuaswn yn wneud, y mae yn bur debyg, oni buasai adgof am danynt.' Ar hyn ymadawsant.
"Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ас fel hoelion—," ebai Robert Llwyd, ac felly mae'n ymddangos bod geiriau a chynghorion Modryb Elin wedi glynu fel symbylau a hoelion yn nghof a chydwybod Cati, ac wedi cael effeithiau daionus arni. Y dydd a ddaw yn unig a ddengys pa faint o ddaioni a wnaed drwy ffyddlondeb a doethineb i gynghori a rhybuddio yn bersonol ac annghyhoedd, fel hyn, ac faint a ellid ei wneud yn y ffordd hon ond defnyddio adegau ac achlysuron i'w gweinyddu mewn ysbryd a dull priodol.'
Yr wyf fi yn arfer meddwl,' ebai un o'r cyfeillion, ' fod proffeswyr yn agored i gyfeiliorni mewn dwy ffordd pan ddigwyddo iddynt fod yn nghymdeithas dynion digrefydd a llygredig. Y mae rhai proffeswyr yn ymollwng i'r un ysbryd, ac yn cydredeg i'r un rhysedd ag y byddo y gyfeillach y b'ont ynddi yn rhedeg iddi. Os digwydda i'r crefyddwyr hyn fod yn nghymdeithas dynion y tybiant nad ydynt yn gwybod eu bod yn proffesu crefydd, ewyllysiant gelu y ffaith, a chadw y wybodaeth am dani yn guddiedig oddiwrth y cwmni. Gallant eistedd i lawr, a gwrando ar bob ymddyddanion llygredig yn eithaf tawel a boddlon; ie, gwrando ac ymddangos yn ddifyr a boddhaol, pan fyddo crefydd yn cael ei dirmygu, crefyddwyr yn cael eu cablu, geiriau y Beibl yn cael eu cymysgu â geiriau llygredig, ac enw Duw yn cael ei gablu mewn llwon a rhegfeydd rhysygus. Clywais adrodd am un o'r dosbarth yma o grefyddwyr, a fuasai yn sir Amwythig yn medi cynhauaf un tro, yr hwn, wedi dychwelyd adref, a adroddai wrth gyfaill, aelod o'r un eglwys ag ef, hanes y cwmni annuwiol y buasai yn eu plith, eu hymddyddanion halogedig, eu llwon a'u rhegfeydd dychrynllyd, ac fel y byddent yn treulio eu Sabbathau mewn cyfeddach, a rhysedd, a chwareu a champio. "Wel," ebe y cyfaill wrtho, "pa fodd yr oeddit ti yn gallu byw gyda hwy? A oeddynt yn gadael llonydd i ti fel crefyddwr?" "O," eb efe, "mi gymerais i ddigon o ofal na chafodd yr un ohonynt wybod fy mod yn grefyddwr, onide ni fuasai wiw i mi feddwl byw yn eu mysg am ddiwrnod." Meddyliai ef ei fod yn gwneud yn gall iawn, ac yn gwbl yn ei le. Yr oedd y gwr hwnw gartref yn grefyddol a defosiynol dros ben, yn athraw yn yr Ysgol Sabbathol, ac y arfer gweddio yn gyhoeddus yn ddoniol iawn. "Wel, a oeddit ti yn gwneud yr un fath a hwythau?" gofynai ei gyfaill. "N—a—g oeddwn i yn gneud dim ond—ond edrych a gwrando arnyn a chwerthin am 'u penau nhw." "Ie, ie, cydymfoddloni â'r rhai oedd yn gwneud felly yr oeddit ti, a chydredeg hefyd i'r unrhyw ormod rhysedd, y mae lle i ofni, pe caem wybod yr holl wir."'
'Wel, dene gryfyddwr,' ebai F'ewyth Robert. 'Yr oedd gen Tobit, ff'en gi i, well crefydd o'r haner nag oedd gyntho fo. Roedd Tobit yn dyallt gystal a neb bryd bydde dydd Sul; ni rede fo gam ar ol dafad na swarnog ar ddydd Sul, taswn i yn i ladd o. Mi fum i yn ceisio 'i yrud ar ol swarnog lawer tro ar y Sul, fel mae mwya' cwilidd i mi: mi dryche'r hen gi yn fy llygid i, wel tase fo'n synud ata i. Mi fum yn teimlo fy nghydwybod yn procio lawer tro wrth feddwl am dano fo, ac yn teimlo fod y ci yn y nghondemnio i.'
'Yr oedd y gwr yr oeddwn yn son am dano,' ebai adroddwr yr hanes, ' yn grefydd i gyd pan yn nghyfeillach crefyddwyr. Gwnai wyneb a llais a thon grefyddol a santeiddiol ryfeddol, Gallesid meddwl fod ganddo ddigon o grefydd i haner cant o ddynion: byddai yn selog iawn dros ddysgyblaeth yn yr eglwys hono. Pan ddygid unrhyw gwyn yn erbyn rhyw aelod o'r eglwys, mynai ef ei ddiarddel, ei dori allan—beth bynag fyddai natur y trosedd, ni phrisiai ef ddim yn ymostyngiad ac edifeirwch y troseddwr. Gogoniant yr achos oedd o flaen ei lygaid ef—beth a ddywedai y byd os goddefid troseddwyr yn yr eglwys? Dywedodd lawer gwaith nad oedd neb yn yr eglwys ond efe ei hun yn gofalu dim am ogoniant yr achos, trwy gadw dysgyblaeth ar ei thraed. Bu dipyn dystawach am beth amser wedi i'r cyfaill y soniais am dano gael peth o'i hanes yn sir Amwythig. Bradychodd ei hun yn ddiarwybod, a bu yn barod i gnoi ei dafod lawer tro ar ol hyny. Trodd y cyfaill hwnw arno yn llym; a bygythiodd ddwyn ei achos o flaen yr eglwys; ond efe a erfyniodd yn daer arno beidio son gair am y peth wrth neb. "Wel," ebe'r cyfaill, "mi gadwaf y peth i mi fy hun; ond os byth y clywaf di yn rhuthro am ben rhyw frawd neu chwaer, fel y byddit yn arfer, mi doraf ar dy draws di."
Yn mhen rhyw enyd ar ol hyn, daeth achos o ddysgyblaeth o flaen yr eglwys, annghofiodd yntau ei hunan; cododd i fynu a dechreuodd areithio yn daranllyd iawn ar yr achos. Yr oedd y llall yn ei wylio; gadawodd iddo fyned yn mlaen am beth amser, a phan oedd yn dyfod at y pwynt i gynyg fod i'r aelod oedd wedi troseddu gael ei dori allan, cododd y llall ar ei draed, a phesychodd dros y lle: trodd yr areithiwr i edrych beth oedd y mater, cyfarfu llygad y ddau â'u gilydd, tarawyd ef megis â'r parlys mud; eisteddodd i lawr, ac ni ddywedodd un gair y noson hono. Yr oedd pawb yn y lle wedi sylwi ac wedi casglu fod rhyw ddirgelwch yn y tro. Aeth amryw i holi y brawd arall, ond ni ddatguddiai y gyfrinach. Yr oll a ddywedodd y pryd hwnw oedd, " Yr anwiredd a wyr efe a dagodd Dafydd (canys Dafydd oedd ei enw) yn ddianmheu." Nid hir y bu Dafydd gyda chrefydd ar ol y tro hwnw. Cymerodd yr achlysur cyntaf a ddigwyddodd; ac nid hir y bydd yr hwn a fyddo yn ewyllysio cael achlysur heb gael gafael arno. Cymerodd arno dramgwyddo yn fawr; ymadawodd o'r eglwys i fyned i'w le ei hun, ac aeth yn fuan yn nodedig mewn annuwioldeb ac anfoes; ac yn y cyflwr a'r agwedd hyny y bu farw. Wedi iddo adael crefydd yr amlygodd y brawd arall yr amgylchiad yn sir Amwythig.'
'Gwyn fyd na buasai ond y Dafydd hwnw o'r fath yna,' ebe un arall o'r cyfeillion; 'ond, ysywaeth, y mae brawdoliaeth ohonynt; mi a adwaenwn rai o'r cyfryw fy hun. Crefyddwyr yr amgylchiadau ydynt; addefant eu crefydd pan fyddo hyny yn gyfleus, a chelant a gwadant hi pan fyddo hyny yn gyfleus drachefn. Pan yn nghymdeithas crefyddwyr, y maent yn grefyddol iawn; pan yn nghymdeithas rhai digrefydd, y maent yn gymhwys fel hwythau. Ceisiant wasanaethu a rhyngu bodd Duw a mamon. Gallant wrando ar gablu enw Duw, yn gystal ag ar folianu ei enw. Ewyllysiant gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd a bord y cythreuliaid. Cymdeithas o annuwiolion, lle y byddo yn bresenol rai fyddo yn eu hadnabod, ydyw y lle mwyaf poenus iddynt, gan y byddant mewn perygl o gael eu dirmygu a'u dynoethi ganddynt. Yn bur gyffredin, mi fydd y bobl yma yn llawdrwm iawn ar bobl eraill, ac am ddysgyblu yn fanwl iawn, gan dybied, mae yn debyg, fod eu sel yn erbyn pechodau eraill, yn gwneud iawn tros eu pechodau eu hunain; neu ynte, y mae eu sel yn gochl malais ganddynt i guddio eu beiau eu hunain, gan feddwl na choelia neb eu bod hwy yn euog o un drwg, gan eu bod mor fanwl a llym yn erbyn drygau pawb.'
'Wel, on'd oeddech chi'n son, Dafydd Edward,' (canys efe a adroddasai y chwedl am y gwr yn sir Amwythig) 'bod proffeswyr yn colli mewn dwy ffordd,—p'un ydi'r ffordd arall oedd gynthoch chi mewn golwg? Mi fydda i'n 'i cholli hi namal mewn llawer ffordd,' ebe F'ewythr Robert.
'Wel,' atebai Dafydd, 'am y bobl fydd yn dwyn eu crefydd allan yn mhob man ac ar bob achlysur yr oeddwn i yn meddwl. Mae eisiau i ni fod yn ddoeth i adnabod a gwybod pa pryd i siarad a pha bryd i dewi. "Mae amser i ddywedyd, ac amser i dewi," medd y gwr doeth; ac y mae rhywbeth felly yn cael ei ddysgu yn y gair hwnw, hwyrach, "Na roddwch y peth sydd santaidd i'r cwn, ac na theflwch eich gemau o flaen moch." A'r gair hwnw, "Na cherydda watwarwr." "O mor dda yw gair yn ei amser." A'r gamp ydyw, gwybod yr amser i ddweyd y gair, a gwybod y gair priodol i'w ddweyd yn yr amser hwnw. Os â crefyddwyr i ddadleu, a thaeru, a cheryddu, mewn cymdeithas o watwarwyr, pan ddigwyddo iddo fod yn bresenol, bydd yn debycach o'u gyru yn waeth, nag o'u gwneud yn well: gair neu ddau, a thewi, fyddai oreu mewn amgylchiad o'r fath. Yr oedd ein hen gyfaill Llygadgraff yn digwydd bod unwaith yn nghwmni lluaws o ddynion felly yn fuan wedi i Richard Evans y Porthmon droi allan yn anniben; a Richard oedd testun yr ymddyddan, ond crefydd oedd testun y gabl, ac yr oedd yn amcan ganddynt i boeni yr hen frawd. "'Run fath ydynt i gyd, bob un ohonynt," meddai un, "ni fu yr un da ohonynt erioed. Mantais i dwyllo ydyw crefydd, a dim arall." Gwrandawai yr hen gyfaill yn ddystaw, heb ddweyd dim, a hwythau yn gyru arni hi; wedi blino o'r diwedd ar ddystawrwydd yr hen wr, apeliasent ato, gan haeru y gwyddai efe o'r goreu eu bod yn dweyd y gwir, mai felly yr oedd.
"Yr ydych chwi yn dywedyd," ebe yntau yn araf deg, dan wenu yn sarhaus arnynt. "Ydych yn dywedyd yn ddoniol iawn yn siwr, a phwy a ddichon ddywedyd yn eich erbyn? Nid af fi, beth bynag, ddim i geisio taeru â chwi; ewch chwi yn mlaen, druain, yn eich ffordd chwi, a mi â inau yn mlaen yn fy ffordd inau, ac mi gawn weled cyn bo hir prun ydyw y ffordd oreu. Mi ddywedaf i chwi hanes bychan. Yr oeddych yn adnabod Tomas Prys, Tyrhos, bob un ohonoch. Yr oedd o yn perthyn i'ch seiat chwi cablu crefydd a chrefyddwyr, fel chwithau, oedd bwyd a diod Tomas, fel y gwyddoch chwi. Wedi i Tomas gael ei daro yn sal, ac iddo weled y byddai raid iddo farw, nid am danoch chwi na neb o'i hen gyfeillion yr anfonodd o, ond am y dynion y buasai efe yn eu cablu fel y dynion gwaethaf dan haul drwy ei oes. Yr oedd Tomas wedi newid ei don welwch chwi yn rhyfedd ar wely angau, ragor fuasai hi yn y tafarnau: ac fe gyfaddefodd y buasai ei gydwybod yn ei flino lawer tro pan yn nghanol ei anystyriaeth, am gablu a dirmygu crefydd, fel yr arferai wneud. Y mae genych chwithau, dan asgwrn y frest yna, y peth a elwir cydwybod; a mi fyn hi siarad i bwrpas rhyw ddiwrnod, gewch chwi weled, a chlywed hefyd."
"Mi safa i at y peth dd'wedais i gyneu," ebai y siaradwr cyntaf, "pan elwyf i farw, bryd bynag y bydd hyny,—nad ydyw crefydd ddim yn y byd ond twyll, na phob crefyddwr ddim ond twyllwr."
"Wel, wel, ni a'i gadawn hi yn y fan yna rwan," atebai yntau. "Mi fum i'n ceisio newid sovren gyneu; ac yr mae cymaint o son am arian drwg y dyddiau yma, un gwael iawn am 'nabob arian ydw i, a fyddwch chwi cystal ag edrych yr ugain swllt yma,"
eb efe wrth y gwr siaradus, "a dweyd i mi a ydynt yn arian da ai peidio?" "Gwnaf siwr," eb efe. Estynodd yr hen ŵr yr ugain swllt iddo, a dechreuodd yntau eu trin a'u profi. "Dyma un swllt drwg beth bynag," meddai yn y man; ac wedi myned drostynt oll, estynai hwynt yn ol. " Y maent yn dda i gyd ond hwn," eb efe.
"Diolch i chwi," ebe'r hen wr; " ond yr wyf fi yn ofni eu bod yn ddrwg bob un, ac nad oes un swllt da yn yn bod—arian drwg, yn siwr i chwi, ydyw pob arian fel eu gilydd."
"Peidiwch a myn'd yn ffol, ddyn," meddai'r llall. "Na, na, mae mwy o arian da, er gwaethed ydyw'r byd, nag sydd o arian drwg; ac ni fuasai erioed ddim son am arian drwg oni b'ai fod arian da."
"Diolch i chwi eto," ebai Llygadgraff. "Cymhwyswch chwi eich geiriau eich hun atoch eich hun. Yn ol athrawiaeth y geiriau yna, ni fuasai crefydd a chrefyddwyr drwg yn y byd oni b'ai fod crefydd a chrefyddwyr da yn bod. Prydnawn da i chwi," ac allan ag ef.'
Wel allan â ninau," ebai un o'r cyfeillion, ac felly canasom yn iach i F'ewythr Robert, ac ymadawsom.
Cyfrinach XV.
ATALIWYD cyfrinachau ein Haelwyd er's cryn dymhor bellach, oherwydd yr afiechyd trwm y bu ein hen gyfaill F'ewythr Robert dano am amryw wythnosau. Ofnem yn fawr unwaith y buasem yn ei golli: ond y mae yn dda genym hysbysu, a chredwn y bydd yn dda gan lawer gael yr hysbysiad, fod yr hen ŵr yn gwella yn lled wych, fel y mae genym yn awr sail i obeithio yr estynir ei einioes am rai blynyddau eto. Yr oedd yr hen gyfaill wedi meddwl ei hun fod ei daith ar ben, ac yr oedd yn bur dawel ei feddwl wrth edrych ar farw fel peth yn ei ymyl. Fewythr Robert perffaith oedd efe yn ei gystudd, a phan oedd yn meddwl ei fod yn myned i farw; ac y mae yn ddigon tebyg, pa bryd bynag y cymer yr amgylchiad hwnw le, mai yr un fath a F'ewythr Robert yn union yr â F'ewythr Robert trwyddo. Yr oedd rhywun neu gilydd o aelodau cyfrinach ei Aelwyd gydag ef o hyd yn mron yn ystod ei gystudd, ac yr oedd pob un yn cael boddlonrwydd a hyfrydwch mawr wrth ei wrando yn adrodd ei brofiad a'i deimladau. Adroddodd un tro yr ymddyddan fuasai rhyngddo â'r diafol ac angau with un o'r cyfeillion a ddaethai i ymweled âg ef.
'Pwy ddyliech chi fu'n edrych am dana i ddoe?' meddai.
'Na wn i'n siwr, F'ewythr Robert,' atebai y cyfaill. 'Wel, y diafol oedd o. Ddaru o ddim cynig mosod arna i run fath ag y gnaeth o ddoe er y diwrnod y ce sis i daro fo â'r ffon ar y cae ene dro'n ol; ond mi fu wrthi hi 'n y mhwnio ag yn y mhoeni mewn ffyrdd erill lawer gwaith; ond pan welodd o fi wedi nhaflyd ar y gwely yma, mi gymrodd y fantes arna i yn y ngwendid i geisio nguro i anobeth, hen gi ydi o; mi roedd 'rhen bregethwr hwnw oedd yn ei gyfflybu o i gliagwydd yn i sgrifo fo i'r dim.'
'Beth ddywedodd o wrthych, Frewythr Robert bach?' gofynai y cyfaill.
'Wel, mi ddeydodd lawer o wir, chware teg iddo fo, er dyhired ydi o; ond mi ddeydodd lawer iawn o gelwydd hefyd, mi ellwch feddwl. Mi roedd o'n danos ac yn danod yr hen ddillad budron i mi, ac yn wir, budron iawn oedden nhw hefyd. Mi ddeydodd hollt hanes y mowyd i mi—hen bethe, hen gastie, hen bechode bore f'oes i, oeddwn i wedi ollwn dros go es talwm, mi roedd o'n gosod y pechode rheini wel saeth ar i fwa, ag yn u saethud nhw at fened i, nes oeddwn i chwedi meddwl unweth y base fo yn lladd i'n ddigon sicir; ond mi ges y ngwynt ata toc. Wyddost ti be Satan, ebe fi, mae gen ti go da ryfeddol, mi fase dda gen i tase ngho i cystal. Mae'n rhaid i mi gyfadde, er tydw i ddim am wadu, mai gwir wyt ti'n ddeyd bob gair; ond ddeydi di byth mo'r gwir i gyd. Digon gwir sywaeth ydi i mi roid dyddie a blynydde gore foes yn dy wasaneth caled di-digon gwir i mi adel iddi hi fyn'd yn mhell ag yn ddiweddar iawn cin ceisio trugaredd a chrefydd; ond mor wir a hyny ydi fod Iesu Grist wedi dwad i'r byd i gadw pechaduried, ag nad ydi o'n gwrthod pwy bynag a ddelo ato fo, ag mi rydw ine wedi rhoid fhunan a'm holl bechode arno, ac iddo fo, a mi ddeydodd wrtha ine wel y deydodd wrth y dyn sal hwnw es talwm, "Ha fab, cymer gysur, maddeuwyd i ti dy bechodau." Aros eto, ebe fi, wyt ti ddim yn cofio am y tro hwnw y buost ti'n danos ag yn edliw 'i ddillad budron i Joshua'r archoffeiriad, a hyny o flaen angel yr Arglwydd? Be ddeydodd angel yr Arglwydd wrtha ti ramser hono? A,—wyt ti'n cofio? Chest ti ddim llawer o ddiolch gyntho fo am dy drafferth, ai do! "Cerydded 'r Arglwydd di Satan," ebe fo 'n te? "onid pentewyn yw hwn wedi'i achub o'r tân." A mi ddaru iddo fo beri iddyn nhw gymryd y dillad budron oddiam dano fo, a'i wisgo fo â dillad glan, a deyd wrtho fynte fod i bechod wedi 'i fadde, a'i anwiredd wedi ei symud.
'Mi ddigwyddodd i Satan ddwad ar adeg bur anffortunus iddo fo. Mi roedd Robet Llwyd chwedi bod yma bore ddoe, a gwedi darllen y benod am Satan a Joshua i mi, oni base hyny faswn i'n meddwl dim am dani hi, mae'n bur debyg, rhyw air mewn pryd oedd o, a felly mi gododd Robet Llwyd yn f'reuach na'r diafol bore ddoe."
'Gawsoch chi lonydd ganddo ar ol hyny?' ebe'r cyfaill.
Na ddo, ond mi stagrodd stori Joshua lawer iawn arno fo. Mi welodd mod ine'n cofio rhai o'i hen gastie ynte erbyn hyny. Mi aeth i daeru nad Joshua'r archoffeiried oeddwn i—bod hwnw'n ddyn da, ag yn archoffeiried, ag yn gryfyddol bob amser; mai pechadur mawr faswn i trwy f'oes. O'r gore meddwn ine, roeddet ti'n taerud mai dyn drwg a phechadur mawr oedd o ramser hono, ag yn edliw 'i ddillad budron iddo fo, i geisio i daflud o i wanobeth, wel rwyt ti hefo fine, pw'r goel sy arnat ti, Satan? Mi fyddet yn deyd wrtha ine stalwm mod i'n ddyn da iawn, gwell na llawer oedd yn proffesu crefydd, a bod gen i well siawns am y nefoedd na'r rhan fwya o brosseswrs, a mi fum ine mor ffol a dy goelio am hir flynydde, a meddwl run fath a'th di, a mi fyddwn 'n arfer deyd felly hefyd; a dyma ti rwan yn deyd mod i'n waeth na phawb—yn ormod o bechadur i gael trugaredd. Celwydd bob gair oeddit ti'n ddeyd wrtha i ramser hono, mod i'n ddyn da a chyfiawn; ond rwyt ti'n deyd y gwir rwan, mod i'n bechadur mawr, ie, a'r pena o pechaduriaid; ond y celwydd mwya o'r cwbl ydi deyd mod i'n ormod o bechadur i gael trugaredd. Mae trugaredd Duw fel fo'i hun yn union, ydi, ydi, mae o'n fwy o faddeuwr nag ydw i o bechadur. Mae fy llond i o bechode, ond y mae llond Duw o drugaredd a maddeuant ar y nghyfer i. Glywist ti rioed mor gair hwnw, Satan, do lawer gwaith, be fi, IAWN—dene i ti air; ag ono mi doris i ganu, ne geisio gneyd rhwbeth tebig i
Mi 'mddiriedaf yn dy allu, i ganu,
Mawr yw'r gwaith a wnes ti rioed,
Ti gest uffern, ti gest ange,
Ti gest Satan tan dy droed,
Pen Calfaria, &c.,
Nac aed hwnw byth o'm co'.
Mi aeth Satan i ffwrdd ar hyny a'i gynffon yn 'i afi. Does dim a neith fistar arno fo ond danos yr Iawn, a'r gwaed, a Chalfaria.'
'Nac oes,' ebai'r cyfaill, 'mae gair yn un o lyfrau Moses yn dywedyd, "Einioes pob peth yw ei waed,"—einioes a nerth crefydd ydyw ei gwaed: rhyw grefydd oer, dlawd, a marw, ydi hono na fedd hi ddim gwaed, ac lawn. Nid oes ar y diafol fawr iawn o'i hofn hi. Ei gwaed ydyw holl ddirgelwch bywyd a nerth crefydd yr efengyl, ac y mae hi yn gwneud rhyw bethau rhyfedd iawn trwy y nerth hwnw yn yr adfywiadau yma, y dyddiau hyn yn dryllio hen galonau caledion yn chwilfriw mân wrth y canoedd yn Nghymru, a'r Iwerddon, a llawer o fanau eraillllaweroedd o hen bechaduriaid deg a thriugain, a phedwar ugain oed, yn llefain am drugaredd am y tro cyntaf erioed yn eu bywyd, ac yn ei chael hi hefyd.'
Mi glywis lawer o son am y pethe rhyfedd ene es pen ydw i'n gwely yma, a mae nhw'n well na'r gwin gore. Beth mae'r diafol yn feddwl o'r pethe hyn, tybed, pen mae i deyrnas o'n dwad i lawr o gwmpas i glustie fo, a'i hen garcharorion o'n diengyd wrth y canoedd oddiarno fo,—llawer iawn oedd o'n meddwl 'u bod nhw'n saff am byth yn i feddiant o.'
Na wn i'n siwr beth mae o'n feddwl, F'ewythr Robert, mi gewch chwi ofyn iddo fo y tro nesa daw o i'ch poeni chwi, os daw o hefyd; ond sut y fu hi wedi iddo ffoi oddiwrthych ddoe?'
'Wel, fel roeddwn i'n meddwl am y mryson fase rhyngtha i ag o, yn mhen tipyn, mi feddylis fy mod i'n gweld ange'n dwad mewn, a roeddwn yn teimlo fhun yn mynd yn salach, a dene fo'n gofyn i mi, "Oeddet ti'n son am dana i?" Oeddwn, be fine, 'n son am danat ti, ac yn ceisio canu hefyd i hwnw dy sathrodd di dan ei draed, ac a aeth yn ange i ti.'
'Mi dora i ar dy ganu di cyn bo hir,' ebe ange, 'mi wn i am lawer un fydde'n canu am dana i yn y nghefn, ond yn newid 'u tôn no fuan pen gydiwn i ynthyn nhw.'
'Gwyddost debic cin i, meddwn ine, a mi wyddost am lawer un hefyd y daru ti fisio'n lân a thori ar 'u canu nhw, mi aethon drw dy fache, ag o dy gyrhaedd di am byth, dan ganu; a does dim llawer iawn o amser er pan aeth un o'r hen wely yma felly, do, do, ange, mi aeth hono o'r spot yma i'r nefoedd dan ganu er dy waetha di. Does arna i ddim llawer o dofn di rwan ange bach; mi rydw i'n cofio amser pen roedd gen i lond y nghalon o dofn di, mi fydde'n gas gen i glowed son am d'enw di, ond mi ddoeth yma rwbeth i nghalon i wedi hyny, sy wedi troid yr ofn hwnw allan bron i gyd. Tydi ddim mor gas gen i am danat ti byth wedi hyny; ond, a deyd y gwir i ti, ni dda gen i monot ti eto chwaith, ond rydw i yn rhw deru mai cymwynas fawr ga 'i ddiar dy law di, pen delo 'ramser.'
Dyma sylwedd yr ymddyddan fel y cafwyd ef gan y cyfaill a tu gydag ef y diwrnod hwnw. Bu llawer o ymddyddanion cyffelyb rhyngddo âg amryw ohonom o dro i dro yn ystod ei gystudd. Y mae efe erbyn hyn yn dechreu codi ychydig allan, ond y mae ol ei gystudd yn drwm arno—y mae wedi heneiddio, crymu, a gwanhau llawer.
'Y MAE Cyfrinachau ein Haelwyd wedi eu terfynu am byth. ychydig ddyddiau wedi i mi anfon i chwi yr adroddiad o'r Gyfrinach ddiweddaf, cymerwyd ein hen gyfaill F'ewythr Robert yn glaf drachefn, gwaelodd yn gyflym, fel yr oedd yn amlwg i ni fod y diwedd yn neshau. Bu farw, fel y buasai byw y blynyddau diweddaf o'i oes,—yn Gristion tawel, digrif, a hyderus. "Glyn cysgod angau, a'r wialen, a'r ffon," oedd ei eiriau o hyd yn ei ddyddiau olaf. "Glyn cysgod ange," meddai, "ie, glyn cul, cyfyng, a go dywyll weithie, ydi'r glyn yma i mi; ond mae'r wialen a'r ffon gen i i'm cynal a'm cysuro wrth fyn'd trwyddo fo. Mi fydda i'n gwel'd bwystfilod ac yn u clywed nhw'n rhuo ac yn chwrnu arna i ambell dro; ond mi fydda'n codi'r ffon arnyn nhw, a mi fydda nhwthe'n cilio rhagddi hi—mae nhw'n nabod yr hen ffon, a ddon nhw ddim yn agos ati hi. Wel, mi â trwodd bob yn dipin, i wlad na fydd eisie gwialen na ffon byth."
Ar ddydd ei gladdedigaeth, ymgasglodd holl drigolion y cwm i hebrwng rhan farwol ein hen gyfaill hoff i dŷ ei hir gartref. Yr oedd holl aelodau y Gyfrinach yn bresenol, ac yn cerdded bob yn ddau yn nesaf at yr elor. Aed a'r corff i'r capel lle'r arferai addoli; traddodwyd anerchiadau byrion gan Robert Llwyd a dau neu dri eraill o aelodau'r Gyfrinach, a gweinyddwyd wrth y bedd gan H. Huws. Aeth aml i ddeigryn dystaw gydag et i'w fedd, a theimlir colled a chwithdod nid bychan ar ei ol. Heddwch i'w lwch.
Yr eiddoch,
JAMES HARRIS.'

Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.