Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Thomas Francis Roberts

Oddi ar Wicidestun
Edward Anwyl Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

Dic Tryfan


THOMAS FRANCIS ROBERTS


CYN y gellid gwneuthur dim tebyg i roddi syniad cywir am wasanaeth a dylanwad y Prifathro Roberts, byddai raid darllen yn fanwl drwy gofnodion y deugain mlynedd diwethaf. Hyd yn oed pe gwneid hynny, byddai yn ei hanes lawer iawn na ellid ei fesur, canys ni pherthynai ef i'r dosbarth lluosog hwnnw sy'n hoffi dawnsio ar ôl amlygrwydd. Eto, nid oes amheuaeth yn y byd na chollwyd dyn anghyffredin yn ei farwolaeth ef.

Nid oedd yn drigain oed, a hyd yn ddiweddar iawn, nid edrychai cyn hyned ag ydoedd. Rhag ei wyleiddied a'i daweled, gallai dyn feddwl na bu nemor gyffro erioed yn ei drigain mlwydd namyn un. Wrth lan ei fedd, ni allwn i beidio â meddwl am derfyn dydd o hydref cynnar, yn rhywle ar draeth Cymru—rhwng Aberdyfi ac Ardudwy, dyweder. Goleuni porffor ar fôr a tharth golau ar fynydd; tawelwch dwfn ar bopeth; hud ar y bryniau a'r nentydd, a rhyw deimlad yn yr awyr fod diwrnod gwych yn darfod yn ei odidowgrwydd a'i aeddfedrwydd; ac eto, fod y dydd hwnnw, rywfodd, yn rhy dawel i neb fod wedi gweled ei holl ysblander. Credaf mai prin yr adnabu ei oes ef yn iawn, ac mai cymharol fychan oedd rhif y rhai a'i deallai yn dda. Nid oedd yn debyg iawn i neb o'i gyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth, mewn unpeth, er bod yr ansoddau oedd ynddynt hwy bron i gyd ynddo yntau, ac er ei ddwyn i fyny yng nghanol yr un dylanwadau. Hyd y gallaf i farnu, ychydig iawn o ddynion tebyg iddo a berthynai i'r un do ag ef ymhlith ysgolheigion Cymreig. Er na chefais y fraint o adnabod Thomas Edward Ellis yn bersonol, tybiaf mai ef oedd y tebycaf i'r Prifathro o'r holl wŷr ieuainc galluog oedd yn Aberystwyth ar unwaith ag ef. Yr oedd tawelwch Sir Feirionydd yn y ddau, tawelwch Ardudwy yn nyddiau'r hydref. Y mae'r un tawelwch yn eraill o feibion yr un sir, sydd eto'n fyw, yr un gweithgarwch ynddynt a'r un mwynder.

Am y Prifathro, teimlwn bob amser fod dau beth rhyfeddol ynddo—y cywirdeb a'r dyfalwch y ceir cymaint ohonynt ymhlith y Bedyddwyr fel pobl, a'r neilltuedd tynghedfennol a geir yng nghytganau'r ddrama Roeg. Nid wyf yn meddwl ychwaith mai rhyw gais i esbonio yn ôl yr amgylchiadau

yn unig yw dywedyd hynny. Yr oedd rhywbeth tragoedus (os ceir llunio ffurf ar air) yng ngolwg ac yn nhawelwch y Prifathro. Gwelais ef yn ei feistroli ei hun pan oedd yn daro rhwng dwy bersonoliaeth. Rhaid ei bod yn ymdrech iddo gwyddech wrth ei dawedogrwydd—ond ni chollai dawelwch ei olwg am eiliad.

Clywais ef yn siarad ar goedd lawer tro. Prin y gellid dywedyd y byddai byth yn hyawdl, yn ystyr gyffredin y gair hwnnw; ac eto, yr oedd yn hyawdl mewn ystyr dawel, wastad, a gwahanol iawn i'r llacrwydd ymadrodd a'r triciau mân a elwir yn gyffredin yn hyawdledd. Cofiaf yn arbennig am un o'r anerchiadau cyhoeddus olaf a draddododd, onid wyf yn methu. Yn Bootle y bu hynny, adeg Eisteddfod Birkenhead (1917). Sôn yr oedd am un o'i hoff bynciau—addysg Cymru. Dywedodd cadeirydd y cyfarfod—Pedr Hir—na chlywodd ef erioed mo'r Prifathro mor hyawdl, ac yr oeddwn o'r un farn ag ef. Dadansoddodd holl nodweddion pobl gyffredin Cymru, eu dawn helaeth a'u greddfau hael a charedig. Soniodd am y wlad fach arall a garai ef—gwlad Roeg—a dangosodd y llwybrau y dylai addysg Cymru eu cerdded, a'r cwbl gyda gwres oedd yn anghyffredin iddo. Ac eto, ni fedrwn i yn fy myw lai na theimlo bod ei bwyll wrthi ar ei egni yn mesur a phwyso ei holl eiriau, ac yn gweled gwendid a pherygl pob rhagoriaeth a champ yn glir o'i flaen.

Mewn ymddiddanion personol, sylwais lawer gwaith ar yr un peth. Nid wyf yn sicr nad oedd ei ochelgarwch yn rhy anhyblyg ar brydiau, ond yr oedd ei sefydlogrwydd yn sicr yn ardderchog. Wedi holl droadau ymddiddan hir—milltiroedd o gerdded a siarad—cyfodai niwlen geiriau yn sydyn, megis; ac yno, yn yr un adwy, fel gwyliwr o Roegwr gynt, safai yntau o hyd, yr un fath, ac nid o ddiffyg gwybod na dychymyg na chydymdeimlad â'r ochr arall chwaith.

O ŵr mor gadarn ei fwriad, yr oedd gwyleidddra hynod ynddo, hyd dawedogrwydd. Eto, yn y mân bethau hynny, sy'n dynodi anghofrwydd di fwriad cynifer ohonom, ni chefais i erioed mono'n pallu; a hoffwn yma gydnabod un peth arbennig a gefais ynddo fwy nag unwaith a dwy— cwrteisi hael a meddylgar, yn groes i bob defod ac arfer ffurfiol sydd, bron o angenrheidrwydd, yn rheoleiddio amgylchiadau cymdeithasol.

Yr oedd unwaith yn fryd ganddo baratoi at gyhoeddi yn llyfr Cymraeg nifer o ddarlithoedd oedd ganddo ar y dramâu Groeg. Gobeithio bod y gwaith hwnnw eto ar gael. Gofynnodd i mi drosi'r dyfyniadau i fydr Cymraeg iddo, ar gyfer y gwaith. Am ei feirniadaeth ar y cyfieithiadau, cwta oedd hi, ond dangosai ei fod ef mor gyflym i adnabod teithi'r Gymraeg ag ydoedd i weled meddwl ac ysbryd a chrefft y Groegiaid—gresyn na adawsai ei ddyletswyddau iddo hamdden i gyhoeddi llawer ychwaneg ar y pynciau hyn. Cofir am ei gyfieithiad o "The Raven" Edgar Allen Poe—yr unig ddarn o fydryddiaeth o'i waith y digwyddodd i mi erioed ei weled.

Anaml iawn y clywais ef yn chwerthin, ond yr oedd ganddo ryw gychwyn gwên anghyffredin iawn, a gwbl newidiai wedd ei wyneb am eiliad, a dim ond eiliad. Prin yr ysgogai ei wefusau, ond agorai ei lygaid, gloywent hyd eu dyfnderoedd, ac yna, popeth fel cynt. Dywedai rhai a'i cofiai yn fyfyriwr ieuanc mai siaradwr hyawdl a thanbaid fyddai y pryd hwnnw. Yn fuan ar ôl ei benodi'n brifathro Aberystwyth y clywais i ef gyntaf. Tawel iawn ydoedd yr adeg honno. Tebyg mai ei ddisgyblaeth glasurol a gyfrifai am y newid posibl yn ei ddull wrth lefaru ar goedd. Pan ddoi'r cysgod gwên hwnnw dros ei wyneb—fe'i gwelais unwaith pan oeddym yn gorfod gwrando ar sampl ysgubol o'r ymfflamychu aml-eiriog hwnnw a glywir nid yn anfynych yng Nghymru,—meddyliwn fod mwy na disgyblaeth yn y peth hefyd. Tybiais lawer gwaith fod, y tu ôl i'r wên honno, gyfandir nad adnabu neb, hyd yn oed o'i gyfeillion. Ac weithian, nid adnebydd.

1919.


Nodiadau[golygu]