Neidio i'r cynnwys

Cymru'r Oesau Canol/Ffair a Marchnad

Oddi ar Wicidestun
Bywyd Tref. Y Siartrau Cymru'r Oesau Canol

gan Robert Richards (Aelod Seneddol)

Diwydiant a Masnach
Croes Farchnad Holt.

X. Ffair a Marchnad.

Long before the conquest, however, a force had begun to play which was to give to the boroughs their most permanent characteristic. They were to be centres of trade.

The establishment of a market is not one of those indefinite phenomena which the historian of Law must make over to the historian of economic progress. It is a definite and legal act. The market is established by Law.—MAITLAND.

Nas dylit marchnadoedd breiniolion namyn yn y dinasdrevydd teilyngion.—Cyfreithiau Hywel.

MYN rhai awduron mai masnach a roddodd fôd i fywyd tref, ac nid hawdd gwadu'r gosodiad. Y mae'n wir bod a fynnai polisi'r llywodraeth gryn lawer â chychwyn y rhan fwyaf o drefi Cymru; ond o olrhain eu hanes, fe welir mai creu masnach leol oedd yr amcan, ar y dyb y buasai hynny, ymysg pethau eraill, yn foddion effeithiol i Seisnigeiddio'r wlad. Ond ni buasai'r trefydd hyn, mwy nag eraill, wedi ffynnu oni bai am fasnach; beth bynnag oedd achlysur eu creadigaeth, masnach oedd y gwaed a redai yn eu gwythiennau ac a wahaniaethai eu bywyd oddi wrth fywyd gwlad.

Sylfaen y dref, medd yr haneswyr hyn, yw'r heddwch hwnnw sydd bob amser yn angenrheidiol i fasnachwyr. Mewn cyfnod lled fore fe ymgymerth yr Eglwys â chyhoeddi heddwch i amcanion neilltuol—Heddwch Duw (Treuga Dei). Ar y Cyfandir, yn bennaf, y gwneid hyn. Golygai, fel rheol, i'r barwniaid ymgymryd â pheidio ag ymladd â'i gilydd dros y Sul neu yn ystod gwyliau arbennig yr Eglwys. Wele lw a gymerid gan nifer o farwniaid ar esgobaeth arbennig yn Ffrainc yn y flwyddyn 1023:

Yr wyf yn addo na chymeraf nac ŷch na buwch nac unrhyw anifail arall; nid ymosodaf ar y tyddynnwr na'i wraig nac ychwaith ar fasnachwyr. Ni ddygaf eu harian na'u cadw yn gaeth nes talont iawn i mi. Ni charwn iddynt golli eu nwyddau oherwydd anghydfod a ddichon fod rhyngof i â'u harglwydd hwy. Ni churaf hwynt er mwyn dwyn eu moddion cynhaliaeth oddiarnynt. Addawaf beidio â gwneuthur y pethau hyn o Ddygwyl Dewi hyd Wyl yr Holl Saint. Ni ddygaf na cheffyl na chaseg na llwdn oddiar y borfa. Ni ddifâf na llosgi tai. Ni ddiffeithiaf winllannoedd dan esgus rhyfel. Ni ddinistriaf felinau ac ni ddygaf beilliaid.[1]

Ymledodd yr arfer hon, meddir, i bob marchnad leol, ac nid yw'r groes a welir mewn llawer tref farchnad ond arwydd a godwyd gan yr Eglwys yn y dyddiau cythryblus gynt i ddangos bod heddwch yn ffynnu yno i amcanion masnachol. O dipyn i beth, meddir, daeth heddwch y farchnad yn heddwch y dref. Daeth y dref i gyd, yn y man, i gyfranogi yn feunyddiol o'r heddwch a ddiogelid iddi ar y cyntaf yn ystod tymor marchnad yn unig.[2]

Nid oedd masnachwyr yr oesau canol namyn pedleriaid yn crwydro yn garafannau gyda'i gilydd o fan i fan. Dyma'r modd y dygid nwyddau ar draws diffeithwch Arabia a gwastadeddau dwyrain Ewrop nes yn y man gyrraedd y gorllewin. Ond byddai ganddynt leoedd penodol i aros ynddynt dros y gaeaf, ac yn y lleoedd cadarn hynny, a ddewisid ar gyfrif y fantais fasnachol a berthynai i'w safle, cychwynnid marchnad, ac yng nghwrs y blynyddoedd datblygai honno yn dref.[3]

Tyfodd rhai trefydd, yng Nghymru er enghraifft, o wreiddiau milwrol a pholiticaidd, eraill ar y cyfandir ac yn Lloegr (megis St. Albans a Bury St. Edmunds) o wreiddiau eglwysig, ac eraill drachefn o wreiddiau masnachol, ond yn y cwbl fel ei gilydd bu i'r ffair a'r farchnad ran bwysig yn hanes eu datblygiad. Perthyn i fwrdeisdref, fel rheol, yr oedd marchnad, ond ceid ffair ymron bob pentref yng Nghymru. Fe'i cynhelid, fel rheol, ar ddygwyl y Mabsant. Yn ôl George Owen, hanesydd Sir Benfro, yr oedd cynifer â 233 o ffeiriau yng Nghymru yn 1601, a chyfrif y Canon Fisher fod tua 200 o ddyddiau gŵyl ar enwau cynifer â hynny o Seintiau cyntefig.[4]

Ar ryw olwg, bychan yw'r gwahaniaeth rhwng ffair a marchnad. Cynhelid y naill yn wythnosol neu'n fisol, a'r llall bob chwarter neu bob blwyddyn. Y mae'n wir bod cylch y farchnad yn llawer mwy cyfyng na chylch y ffair. Ni pharhâi'r farchnad, fel rheol, ond am ddiwrnod yn unig, ond parhâi'r ffair yn yr oesau canol am o leiaf dridiau ac weithiau am gyfnod o fis neu bum wythnos.

Yn ôl rhai awduron, fodd bynnag, yr oedd tarddiad y ddwy yn wahanol iawn i'w gilydd. Braint a estynnid gan y brenin neu'r arglwydd oedd y caniatâd i gynnal marchnad mewn lle arbennig, ond hawl gyntefig wedi ei gysegru gan arfer ac amser oedd y ffair. Sylfaen y naill oedd breinlen yr arglwydd, a sylfaen y llall oedd arfer gwlad. Ond y mae'n hawdd gorbwyso'r gwahaniaeth hwn yn eu tarddiad. Tyfu a wnaeth marchnad Penfro; yr oedd eisoes yn hen sefydliad cyn i'r Siartr ei hawdurdodi.[5] Yn y siartr, ar y llaw arall, y crewyd ffeiriau'r Bala; cynhelid y ffeiriau cyn hynny yn Llanfor.[6]

Disgynnai'r ffeiriau hyn bron yn ddieithriad ar ŵyliau crefyddol. Cynhelid yr hen wyliau hyn i goffáu esgyniad y sant lleol—y mabsant fel y gelwid ef—i ogoniant. Parhai'r ŵyl am dridiau—y noswyl, y dygwyl a thrannoeth yr ŵyl. Ar noswyl y sant, pan gofid ei golli, cynhelid gwasanaeth crefyddol braidd yn drist ei natur, ond erbyn y bore yr oedd tristwch wedi ffoi, a chynhelid gwasanaeth i ddathlu esgyniad y sant i baradwys, ac ar ei ddiwedd ymroddai'r lluoedd i ddfyrrwch. Gwnai pawb ymdrech neilltuol i fyned i'r Ŵyl
Wrth Fedd William Jones, Abaty Amwythig.

flynyddol hon, a thybir mai ar amgylchiadau o'r fath y sefydlwyd ffeiriau gyntaf. Yn wir, gair o darddiad crefyddol, yn golygu gŵyl, ydyw'r gair ffair.

Byddai rhyw gymaint o fasnachu ynglŷn â gwasanaeth yr offeren ei hun. Arferid gwisgo gwisgoedd neilltuol, prynid a llosgid canhwyllau lawer, a byddai galw am ddelwau o'r sant i fyned gyda hwy adref. O dipyn i beth, tyfodd yr arfer o edrych ar yr wŵyl fel cyfle i brynu nwyddau a oedd yn brin ym mywyd y cyffredin. Yr oedd gwyliau'r mabsant yn flodeuog mewn aml ardal yng Nghymru hyd y ganrif ddiwethaf, ond erbyn hynny yr oeddynt wedi dirywio yn fawr, ac adwaenid hwy fel ffeiriau ffyliaid. Cynhelir amryw o'r ffeiriau hyn ar ŵyl y mabsant o hyd, ond ni pherthyn iddynt y rhialtwch a'u nodweddai gynt.

Ar y llaw arall, cynhwysai breinlen tref gyfeiriad, fel rheol, at ei hawl i gynnal marchnad a hefyd ffair neu ddwy, ond ni cheid hyn bob amser, ac y mae'n sicr bod aml farchnad a ffair yn cael eu cynnal cyn i'r awdurdodau gymryd fawr sylw ohonynt. Er hynny, dichon fod mwy o ôl gwneud ar y farchnad wythnosol nag ar y ffair flynyddol. Cynhelid y farchnad, fel y ffair, yn y fynwent ar ôl gwasanaeth yr offeren fore Sul. Dywed Siartr Penfro fod yno farchnad y Sul cyn i'r dref gael siartr. Yn y fynwent ar y Sul y cynhelid marchnad Hwlffordd hefyd, a chrogai'r cigyddion eu cig ar fur yr eglwys. Gwarafunodd Robert Groseteste, esgob enwog Lincoln (1175—1253), eu cynnal yn y fynwent, a phasiodd Edward I ddeddf i'r un perwyl yn 1285. Anfonwyd yr Abad Flaix gan Innocent III i bregethu yn erbyn yr arferiad, a chafodd wrandawiad gweddol—ond nid cystal ag a haeddai, meddai Matthew Paris.[7] Parhaodd yr arfer yn hir yng Nghymru. Ceir hanes am berson Bishop's Castle, ar ororau Maldwyn, yn anfon at Arglwydd Burleigh yn 1595 i gwyno y cynhelid marchnadoedd y gororau ar y Sul; ac meddai George Owen, hanesydd Sir Benfro: "They be so small and badd, but especiallie for the abuse for that the same is used every Sondaye before service even about sunne risinge.[8]

Y pryd hynny, yr oedd raid i bob pentref a threflan fyw ar ei adnoddau ei hun. Tyfid y bwyd ar y tyddyn; gwlân eu defaid eu hunain a nyddid yn wisgoedd; codid llîn a chywarch at wneud lliain a rhaffau; a gwneid dodrefn a thaclau'r tŷ a'r tyddyn gartref: felly nid oedd fawr alw ond am ychydig nwyddau o'r tu allan i ffiniau'r plwyf. Ond yr oedd rhai pethau yr oedd rhaid eu cael, megis halen a haearn, sbeis, cerrig melin, etc., ac yn ddiweddarach, pan ddaeth y clafr ar ddefaid, pyg o Stockholm (Stockholm tar), sydd mewn bri gan fugeiliaid o hyd.

Ni ddarganfuwyd cloddfeydd halen sir Gaer hyd 1670, ond ceid halen o ffynhonnau heilltion y Sir honno a Sir Amwythig a Chaerwrangon yn fore iawn. Dygai ffynhonnau Droitwich elw sylweddol i'r goron mor fore â 1086. Berwid y dŵr hallt mewn padelli neu grochannau, a gadael yr halen yn y gwaelod. Yr oedd gan Fynachlog Mair Fendigaid yn hen dref Caer Wrangon chwech o'r ffwrneisiau hyn at wneud halen yn 1240, a diau y deuai cyfran o'r cynnyrch i Gymru.[9] Talai'r sawl oedd yn byw y tu allan i'r cantref lle ceid yr halen dreth ddwbl. 2d. oedd y tâl arferol am lwyth cymaint ag y medrai wyth o ddynion ei gario. Os rhoddai rhywun ormod o lwyth ar ei gert nes torri'r echel neu ysigo cefn y ceffyl, dirywid ef 2/-.[10] Dywed Matthew Paris i'r brenin Harri III, yn 1245, ddinistrio'r pydewau halen yn Witz (Nantwich neu Droitwich ?) er mwyn rhwystro'r Cymry rhag cael halen."[11]

Byddai galw mawr am haearn hefyd i ddurio'r aradr ac yn y felin, ac, o bosibl, i bedoli ceffylau—arferiad, fe ymddengys, a ddaeth yn gyffredin gyda'r Normaniaid, er y ceir cyfeiriad at bedoli yn y cyfreithiau, ac arferai'r Rhufeiniaid bedoli ceffylau. Cloddid haearn a'i doddi yn fore iawn yn Fforest Dean ar ororau Gwent. Caer Loyw oedd y dref bwysicaf yn hanes y diwydiant haearn yn adeg Domesday, a chyda haearn y telid cyfran helaeth o'r rhent a oedd yn ddyledus i'r brenin. Dywed yr un llyfr y toddid haearn yn Rhuddlan yn yr un cyfnod; ac yr oedd gan Gymru, felly, gyflenwad lled dda o'r nwydd angenrheidiol hwn ar hyd ei goror. At hyn fe'i cludid o'r Ysbaen, fel y gwneir heddiw.

Oherwydd cyflwr y ffyrdd, gwaith anodd oedd cael main melin priodol. Nid oes odid weithred faenoraidd nad oes ynddi gyfeiriad at orfod y taeogion i gario main melin pa le bynnag y ceid hwy. Yn ôl yr hanesydd Groegaidd Strabo, yr oedd Môn y pryd hwnnw (50 C.C.—20 0.c.) yn enwog am ei chreigiau cerrig,[12] a pharhaodd felly trwy gydol yr oesau canol. Prynwyd maen melin o Gymru yn 1314 i'w ddefnyddio yng nghastell Dulyn, a chostiodd i Edward II y swm o 28/9. Ceid math arbennig o garreg hefyd yn Nhrelech, Sir Fynwy. Yr oedd mynd mawr ar gerrig Ffrainc, a godid mewn chwarel heb fod nepell o Baris, a hefyd ar gerrig Andernach, yn Nyffryn Rhein. Hawdd gweled wrth y pris y cyfrifid cerrig y Cyfandir yn well na rhai Cymry. Pris carreg Trelech yn 1323 oedd 1/-,—2/6 wedi ei chludo i Gaer Buga (Usk)—pryd y costiai'r cerrig tramor £81 4, £3 13 4 a £2 16 8 yr un. Wrth gwrs, fe chwyddid eu pris yn fawr gan gost eu cludo, ond rhaid bod y sawl a'u defnyddiai yn ystyried eu bod yn werth y draul. Er hyn i gyd, yr oedd mynd ar gerrig Môn, fel y dengys cywydd Tudur Aled, a sgrifennwyd "tros y Meistr Hanmer o Faelor i'w gofyn gan y Deon Rhys neu Risiart Cyffin":

Mae melin yma ym Maelawr
A cheisio main, achos mawr.
Meibion chwarel Fôn yn fau,
Mal ôd yn malu ydau;
Mae 'deilad im' a'u daliai
Ym mlaen llyn melin y Llai;
Af i aros i'r Forryd
Y main rhodd ym min y rhyd.

Dywedir ym mhapurau Wynniaid Gwydir fod gan y brenin dros ugain o chwareli ym Môn yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg.[13]

Dywedir mai yn y flwyddyn 1283 yr ymddangosodd y clafr yn y diadelloedd,[14] ac y dechreuwyd defnyddio tar i'w drin. Ceid y tar priodol yn Norwy, a byddai masnachwyr yr Hanse, yng Ngogledd Germani, yn allforio llawer ohono o Bergen i borthladdoedd dwyrain yr ynys hon; ac yn fuan daeth yn anghenraid lle bynnag y cedwid defaid.

Defnyddid llawer hefyd ar bob math ar sbeis,[15] a gludid mewn carafannau ar draws y cyfandiroedd. Yn fynych, ychydig flas fyddai ar y cig a fwyteid. Ychen wedi mynd yn rhy hen i ddiwrnod gwaith, heb fawr o gig arnynt, a leddid fel rheol. Lleddid hwy yn yr hydref a'u halltu. Defnyddid sbeis nid yn unig mewn bwydydd, ond hefyd mewn diodydd. Er enghraifft, cymysgedd oedd bragod o gwrw a medd wedi ei sbeisio nes oedd bron yn rhy dew i redeg.
Jones's Mansion, Amwythig

Dyna rai o'r nwyddau a oedd yn angenrheidiau bywyd yn yr oesau canol. At hyn, yr oedd sidan a phorffor a thlysau i'r sawl a fedrai fforddio eu cael. Y rhain oedd nwyddau cyntaf masnach, a sefydlwyd ffair a marchnad er mwyn eu cael, yn gyfnewid am yr ychydig weddill o ffrwyth y tir neu gynhyrchion y pentref neu'r dref.

Wrth gwrs, nid oedd gan Gymru ffeiriau cyn bwysiced â ffeiriau Lloegr, megis ffair Stourbridge (a berthynai i Fynachlog Barnwell ac a gynhelid y tu allan i furiau Caergrawnt), ffair St. Bartholomew yn Llundain neu ffair Winchester (a oedd ym meddiant yr Esgob). Llai fyth oedd eu pwysigrwydd o'u cymharu â ffeiriau'r Cyfandir, megis ffair Troyes yn Champagne yng nghanolbarth Ffrainc; ond nid oes sail i dybied, er bod y ffeiriau'n llai, fod y trefniadau yn gwahaniaethu llawer.

Rhoddid caniatâd i gynnal ffair a marchnad ar ddyddiau penodedig trwy siartr neilltuol o rodd arglwydd, esgob, tŷ crefyddol neu frenin. Cafodd y Bala[16] ganiatâd gan Edward II yn 1324 i gynnal marchnad bob dydd Sul a ffair ddwy waith yn y flwyddyn, y naill ar ŵyl Pawl a Phedr (diwedd Ionawr) a'r llall ar ŵyl y Grog (Invencionis Santae Crucis) ddechrau Mai. Hawliai lleoedd eraill, megis Llanfor gerllaw'r Bala, gynnal ffair ar bwys hen arfer. Diddymwyd ffeiriau Llanfor, fodd bynnag, pan roddwyd caniatâd i gynnal ffeiriau yn y Bala.

Cyn y rhoddid caniatâd i gael ffair neu farchnad wythnosol, rhaid oedd gofalu na wneid niwed i ffair neu farchnad oedd eisoes yn bod. Ni chai Llewelyn ap Gruffydd ganiatâd i godi castell a sefydlu masnach yn Abermule oherwydd agosrwydd y lle i Drefaldwyn, lle yr oedd eisoes farchnad. Yn y flwyddyn 1282, symudwyd marchnad a ffeiriau'r Trallwng i Drefnant, [17] rhag iddynt ddrygu marchnad y brenin yn Nhrefaldwyn; ond ymhen tair blynedd cynhaliwyd hwy yn y Trallwng fel cynt.

Dywed yr hen gyfreithiwr, Bracton, na ddylid rhoi caniatâd i neb i godi marchnad o fewn 6 milltir, o leiaf, i farchnad sydd eisoes yn bod. Ystyriai ef bod ugain milltir yn ddigon o daith diwrnod, ac y dylid rhannu'r milltiroedd hynny yn dair rhan, sef 6 milltir o daith i'r farchnad, 6 yn ôl drachefn, a 6 yn crwydro ôl a blaen yn y farchnad. Yr oedd yn bwysig dychwelyd cyn nos, oherwydd y lladron a lochesai ar hyd ochrau'r ffyrdd ac anawsterau teithio wedi nos.

Ymddengys mai cyffelyb oedd y terfynau yng Nghymru, er cymaint awydd y brenin i droi'r dŵr i'w felin ei hun. Yn ôl deddf a basiwyd yn ail flwyddyn teyrnasiad Rhisiart II, nid oedd neb i fasnachu o fewn wyth milltir i dref Fangor, nac o fewn pum milltir i dref Gaerfyrddin. Dywed Dr. Lewis y cynhelid 22 o ffeiriau ym mwrdeisdrefi Gwynedd, a naw o farchnadoedd.[18]

Trefnwyd i farchnadoedd y gogledd (a sefydlwyd gan y brenin, yn benaf er mwyn sicrhau nwyddau a moddion cynhal— iaeth i'w fwrdeis) fod yn ganolfannau masnachol cylchoedd arbennig o'r wlad. Tref Gaernarfon oedd tref farchnad Is ac Uwch Gwyrfai; a gwasanaethai Conwy yn yr un modd i Arllechwedd, Creuddyn, a Nant Conwy; a'r Bala i bum plwyf Penllyn. Ceisiwyd gorfodi un aelod o bob tŷ yn y cylch i fynychu'r farchnad wythnosol a gynhelid yn y lleoedd hyn, ond buan iawn y deallwyd bod hyn yn amhosibl, a pheidiwyd à gorfod neb ond y sawl a feddai rywbeth i'w werthu. Ceir yr un orfodaeth ynglŷn â ffeiriau Abergwili, a berthynai i Esgob Tyddewi; gorfyddid i'w denantiaid ef yn Llanegwad, Llangathen, Llanarthen a Llanlluan, ddyfod i ffair Abergwili fel rhan o'u gwasanaeth iddo.[19]

Cynhelid y ffeiriau mewn mannau cyfleus yng nghymdogaeth y dref. Ar y Maes y cynhelid ffair Gaernarfon, ac y mae hyn yn cydfyned â'r hyn a wyddom am ffair Stourbridge yn Lloegr, lle ceir manylion ynglŷn â thorri a chlirio'r ŷd cyn agor y ffair. Dywedir y byddai Cymry dyffryn Conwy yn arfer cyfarfod ar y mynydd i fargeinio cyn y gorfuwyd arnynt i fyned i'r dref. Cynhelid ffair Caerdydd o gwmpas y Groes, a ffeiriau Rhaeadr Gwy dan hen dderwen.

Parhâi rhai o'r ffeiriau am dridiau, fel ffair y Bala, eraill am saith niwrnod, fel ffair Dyddewi, eraill am dair wythnos, fel ffair Winchester, ac eraill drachefn am bum wythnos, fel ffair Stourbridge, a mawr fyddai'r paratoi ar eu cyfer. Agorid ffair Stourbridge ar y seithfed o Fedi, ac yr oedd raid clirio'r cynhaeaf oddi ar y maes cyn y pedwerydd ar hugain o Awst. Amgylchynid y lle â gwrthglawdd; ac yr oedd adeiladu amddiffynfeydd i'r ffeiriau a gynhelid yn Llanddewibrefi yn rhan o wasanaeth tenantiaid Tyddewi a oedd yn byw yn y gymdogaeth honno. Golygai hyn denantiaid Llanddewibrefi, Gartheli, Nantgwynlle, Blaenpennal, Llanddewi Aberarth a Llannon.[20] Gwneid math o fythynnod neu stondinau i'w rhentu i'r sawl a ddeuai i'r ffair. Yr oedd y stondinau— y "schoppae," fel y gelwid hwy—a rentid gan fasnachwyr a gadwai farchnad bob wythnos ac a drigai, fe ddichon, yn y dref, yn fwy parhaol eu hansawdd na'r lleill, ac yn dwyn i mewn rent sylweddol. Ceid rhent o 6d. yn y flwyddyn ac weithiau 8d. neu 1/- am leoedd o'r fath yng Nghonwy.[21]

Yr oedd cyhoeddi'r ffair yn fater o gryn rwysg mewn lleoedd fel Winchester, lle disgwylid masnachwyr o wledydd tramor. Yng Nghymru, beili'r dref, fel rheol, fyddai yn ei chyhoeddi. Yn ymarferol, collai'r dref ei hawl llywodraethol yn ystod dyddiau'r ffair; disgynnai'r llywodraeth i ddwylo clerc y ffair—swydd a lenwid, fel rheol, yng Nghymru gan faer y dref. Efô a gasglai'r doll, fel rheol, er y gwneid hynny mewn rhai lleoedd gan gwnstabl y castell cyfagos. Y swyddog hwnnw a'i casglai, er enghraifft, yng Nghaerdydd a Chynffig, ac yng Ngheri a Chydewain (lle cesglid hi gan gwnstabl Trefaldwyn). Sonia Pennant am swyddogion eraill fel y "leve lookers" yn Rhuthyn,[22] a edrychai ar ôl y pwysau ; ac ymysg breintiau trefydd eraill—Croesoswallt, er enghraifft— ceir cyfeiriad at ryddid y bwrdeis oddi wrth doll y swyddogion hyn.

Yn naturiol iawn, rhaid oedd gwarchod y ffair, a syrthiai'r ddyletswydd hon i ran tenantiaid y neb oedd biau'r ffair. Gwyliai tenantiaid Llawhaden deirnos bob un ar eu cost eu hunain pan gynhelid y ffair yno. Dywed Pennant y byddai tenantiaid adran Gymreig arglwyddiaeth Croesoswallt—y Walcheria yn adran uchaf y plwyf—hyd y flwyddyn 1.406, yn arfer gwylio am dridiau a theirnos wrth bedwar porth y dref yn ystod ffeiriau Sant Andrew a Sant Oswald, a chyda hwy nifer o ddynion a adwaenid fel ceisiaid. Ond yn y flwyddyn honno rhuthrodd y gwylwyr hyn ar y dref a'i hysbeilio, a bu raid i'r tenantiaid o hynny allan dalu i nifer o Saeson am wneud y gwaith.[23] Yn amser gwrthryfel Owen Glyn Dŵr, oedd a'i gartref heb fod nepell, y bu hyn, ac aeth gwladgarwch y gwylwyr yn drech na'u teyrngarwch i Arglwydd Arundel.

Gan y cynhelid y ffair, fel rheol, ar gyrrau'r dref, nid hawdd oedd cadw masnachwyr y dref yn ddiddig pan welent
Stryd Fawr Conwy

fasnachwyr o bell yn dyfod i gynnig nwyddau wrth eu drysau. Yn Winchester a lleoedd eraill, yr oedd pob math ar fasnach o fewn muriau'r dref i beidio yn ystod y ffair, a rhaid oedd i bawb a ddymunai fasnachu gymryd ei stondin gyda'r estron yn y ffair. Nid oedd y safle, fel y gellid disgwyl, yn un ddy- munol iawn i'r masnachwr dieithr, ac am hynny rhaid oedd iddo wrth sicrwydd y cai lonyddwch a chwarae teg cyn y mentrai ei fywyd a'i eiddo a dyfod i'r fath le.

Nid oedd gwaith y swyddogion ychwaith yn ddymunol dan amgylchiadau o'r fath. Rhaid oedd gofalu na ymyrrai'r estron o gwbl â threfniadau masnach leol. Trefnid nad oedd y masnachwr dieithr i gael gwerthu oddi mewn i furiau'r dref nac i adwerthu o gwbl. Trefnid hefyd fod y ffair i ddechrau ar awr benodedig ac i derfynu yr un modd, a chosbid pawb a ddechreuai yn rhy fuan neu a barhâi i werthu yn rhy hir. Yr oedd raid gosod y nwyddau allan yng ngolau dydd, ac ni cheid masnachu wedi nos, gan y byddai'n anodd penderfynu ansawdd y nwydd.

Yr oedd budreddi rhai o'r masnachwyr yn achosi cryn drafferth hefyd, yn enwedig y cigyddion a'r gwerthwyr pysgod. Yn 1330 gwnaed rheol yng Nghynffig fod pob cigydd, boed ddieithr neu fwrdais, i werthu cig iach yn unig, ac i ddangos hynny gorfyddid arnynt ddyfod å chroen yr anifail a laddesid gyda hwy i'r farchnad. Dengys cyfrifon gogledd Cymru yn amser Edward II dâl o 3/1 am groen eidion a buwch a fuasai farw o'r haint-nid oedd y cig yn werth dim-ac yn ddiweddarach ceir cyfeiriad at gig anner a bustach ieuanc a thri eidion nad oedd yn werth dim oherwydd eu marw o'r clwy.[24]

Gwnaed llawer ymdrech trwy ddeddfwriaeth i sicrhau heddwch a hwylustod i farchnata i'r masnachwyr tramor. Torrid i lawr y coedydd lle byddai lladron yn llercian hyd ochrau'r ffyrdd. Gwneid trefniadau i hwyluso casglu dyledion, a rhoddai ambell arglwydd neu frenin nodded neilltuol i'r masnachwyr yn ystod eu taith a'u harosiad yma, fel y gwnaeth Hubert de Burgh yn ei siartr i Drefaldwyn yn 1229.[25] Yr oedd gwir angen am hyn, yn enwedig ar ororau Cymru, fel y dengys y nodyn canlynol o lawysgrif sydd ym meddiant tref yr Amwythig[26]: "Dydd Llun, Rhagfyr 5, 1575: Buasai brethynwyr yr Amwythig wedi cael ymosod arnynt gan ladron onibai eu rhybuddio yn gyfrinachol. Aeth y beiliaid a chwmni cryf arfog gyda'r masnachwyr i gyfeiriad Croesoswallt. Yr oedd y lladron wedi bwriadu ymosod arnynt yn y pantle hwnnw rhwng Stretton a'r Amwythig, a buont yn gorweddian dros y nos yn ysgubor Master Sherar" (ysgrifennydd Llys y Mers, o bosibl). Yr oedd hyn yn agos i Bont Montford ar afon Hafren, yr âi holl drafnidiaeth Powys drosti ar ei ffordd i'r Amwythig. Yn ddiweddarach, gadawodd gŵr o'r enw William Jones £1 6 8 i gwmni brethynwyr yr Amwythig i'w dalu yn flynyddol i Ficer Eglwys St. Alkmond am ddarllen gweddïau ar fore Llun cyn i'r Brethynwyr gychwyn am farchnad Groesoswallt. Ac yn 1583, pasiodd y Brethynwyr y penderfyniad canlynol, "nad oes yr un dilledydd i gychwyn am Groesoswallt ar fore Llun cyn chwech o'r gloch dan ddirwy o 6/8. Ein bod yn mynd gyda'n gilydd a'n harfau gyda ni ac nad oes neb i groesi'r Welsh Bridge cyn taro chwech o'r gloch.[27] Nid anawsterau'r daith oedd yr unig beth a lesteiriai fasnach y dyddiau hynny. Codid pob math ar doll ar y sawl a gludai nwydd o fan i fan, ac y mae rhestr o'r tollau yn ddigon i beri braw. Telid toll am dramwy ar y ffordd neu am groesi afon mewn cwch (passagium), a tholl arall (pontagium) am groesi pont. Digwyddai'n fynych fod y ffordd yn arwain trwy arglwyddiaeth rhywun neu'i gilydd, a thelid carriagium am gael myned trwyddi. Telid pedagium am gael myned trwy goedwig, a tholl arall am gael myned trwy dref. Wrth fyned i mewn i dref, telid toll at gadw'r muriau (muragium), ac os defnyddid y cei (quay), telid caiagium. Yr oedd toll hefyd am gael myned ar hyd palmant y dref, toll arall am dyllu'r palmant (picagium), a tholl am gael codi bwth (stallagium). At hyn oll, yr oedd toll ar yr hyn a werthid (lastagium). Yr oedd y "last" yn fesur cyffredin a ddefnyddid wrth werthu calch, crwyn, pysgod, ond nid oes sicrwydd parthed ei faint. Fel rheol, âi'r doll i logell yr arglwydd, ond ar brydiau fe'i ffermid. Rhoddodd y brenin doll y Drenewydd i Fathew ap Tomos am un mlynedd ar hugain am 24/- yn y flwyddyn. Weithiau, fel yn Llanfyllin a threfydd eraill, y bwrdeis eu hunain a gai'r doll, ond talent fferm benodol amdani.

Yn wyneb hyn oll, nid oedd ryfedd yr ymdrechid yn barhaus. i osgoi'r doll. Y ffordd fwyaf effeithiol, wrth gwrs, oedd cael gan y brenin neu'r arglwydd ryddhau masnachwyr eu trefydd o bob toll yn eu tiriogaethau hwy. Yr oedd hyn yn un rheswm paham y gwerthfawrogid breinlen o law'r brenin, oherwydd ceid trwyddi ryddid oddi wrth dollau dros yr holl frenhiniaeth. Pan sefydlid Gild y masnachwyr mewn tref yn yr oesau canol—ac nid oes odid dref heb yr un—golygai hynny y cai masnachwyr y dref honno ryddid oddi wrth bob toll trwy diriogaethau eu harglwydd neu eu brenin; ac oni bai am y mesur hwn o ryddid, buasai masnach y cyfnod wedi ei llwyr fygu. Weithiau hefyd caniateid i dŷ crefyddol neu eglwys brynu'r nwyddau y byddai arnynt eu hangen heb dalu toll o gwbl.

Un o'r pethau mwyaf diddorol ynglŷn â ffair oedd ei llys cyfraith. Edrychid ar bob masnachwr fel estron hyd yn oed petai'n byw yn y dref nesaf, a rhaid oedd wrth drefniant cyfreithiol i'w ddiogelu ef a'i nwyddau yn ystod y ffair. Adwaenid y llys wrth yr hen enw Ffrengig, Pied Pouldré—Piepowder yn Saesneg—sef llys y traed llychlyd. Yn araf y symudai cyfraith yn y dyddiau hynny fel heddiw, ond nid oedd gan y masnachwr amser i aros, gan bod rhaid iddo adael y dref y munud y byddai'r ffair drosodd, ac am hynny gwnaed trefniant i weinyddu cyfiawnder iddo yn ddiymdroi.

Byddai'r hawl i gynnal y llys hwn yn cael ei gydnabod, fel rheol, yn siartr y dref ynglŷn â'r hawl i gynnal ffair a marchnad. Maer a beiliaid y dref, fel rheol, fyddai ar y fainc, ond yn nhrefydd y goror, cwnstabl y castell fyddai llywydd y llys. Ymdrinid à materion fel dyledion, anghydwelediad rhwng prynwr a gwerthwr, pwysau a mesur ac ansawdd y nwydd, etc. Nid oedd angen am wŷs pan dorrid y ddeddf, a byddai raid i'r cyhuddedig ymddangos gerbron y llys o fewn ychydig oriau. Penderfynid y ddedfryd yn ôl arferion y masnachwyr, a hwynt— hwy yn ymarferol oedd y rheithwyr a'r tystion parthed yr arfer yn eu mysg. Un anhawster oedd cael sicrwydd nad lladrad oedd y nwydd a werthid. Yn nhref Gaer, byddai amheuaeth gref ym meddwl y Sais parthed gonestrwydd y masnachwr Cymreig. Pan fyddai Sais neu Ffrancwr wedi gwerthu nwydd i ddinesydd yn y dref honno, ac yna ceisio ei gael yn ôl oherwydd rhyw anghydwelediad neu'i gilydd, bydda raid i'r dinesydd sefyll y golled, ond os Cymro fyddai wedi gwerthu'r nwydd, gorfyddid iddo dalu'n ôl i'r dinesydd yr hyn a dalasai hwnnw am y nwydd.[28]

Allor Symudol

Yr oedd deddf y masnachwyr, fel y gweinyddid hi gynt, yn wahanol i'r deddfau lleol a weinyddid yn y fwrdeisdref. Yr oedd yn enghraifft fore o ddeddf wedi ei chyfaddasu i gyfarfod ag arferion gwahanol genhedloedd, a gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy wrth dorri i lawr y gwahanfur rhwng gwlad a gwlad a hyd yn oed rhwng tref a thref o fewn terfynau yr un wlad.[29]

Cynhelid yr hen lysoedd hyn bron ym mhob tref yng Nghymru ar ddydd ffair a marchnad. Ym mhorth y dollfa, y mae'n debyg, y cynhelid hwy. Byddai ambell hen Gymro yn troseddu yn aml trwy farchnata y tu allan i ffiniau'r dref neu trwy fyned i ddyled neu weithiau trwy ddyfod i'r farchnad yn arfog.

Yr oedd ansawdd a mesur bara a diod yn un o gwestiynau llosg yr oesau canol, ac er mwyn cosbi'r sawl a droseddai yn y mater hwn, rhaid oedd i bob lle y cynhelid ffair a marchnad ynddo ddarparu rhigod a thrwmbel i'r pwrpas. Y mae ar gael lawer o ddarluniau chwerthinllyd o'r trueiniaid hyn yn myned trwy eu pennyd. Ceir cyfeiriad at yr anhepgorion dinesig hyn, er enghraifft, yng nghyfrifon llys Rhuthyn. Er gwaethaf pob anhawster, fodd bynnag, fe gerid masnach helaeth ymlaen yng nghyfnod yr oesau canol, a synnir dyn gan amrywiaeth y nwyddau. Nid oedd ball ar y gwin a ddeuai i mewn i'r porthladdoedd hynny a oedd ym meddiant y goron, ond a âi peth ohono ymhellach na'r fwrdeisdref Normanaidd sydd gwestiwn. Y mae'n debyg mai seler y castell a gai'r rhan fwyaf ohono, er nad oedd beirdd, fel Lewis Glyn Cothi, yn ddieithr i rinweddau gwahanol winllannoedd y Cyfandir. Daeth cymaint â 80 tun o win Gwasgwyn i borthladd Aberdaugleddau yn ystod y flwyddyn 1392—3. Yn yr un flwyddyn ceir hanes am lwyth llong a gynhwysai 19 tun o win fel a ganlyn 4 tun o win coch Gwasgwyn, I tun o win coch Nantes, 4 tun o win gwyn Rochelle a 10 tun o win gwyn o'r Ysbaen.[30]

Wrth gwrs, yr oedd rhyw gymaint o allforio hefyd, ac ymysg y nwyddau hyn ceir gwlân, gwlanen a chrwyn.

Nid oedd gwlân defaid Cymru mor werthfawr â gwlân defaid y goror—defaid Llanllienni er enghraifft, a gyfrifid gyda'r gorau yn yr holl wlad. Y mae'n amlwg yr ystyrrid peth o wlân Cymru yn rhy sâl i'w werthu. Dywedir i Feili Manor Iscoed yn Arglwyddiaeth Brycheiniog, yn y flwyddyn 1341—2, gael 60 o ddefaid yr Arglwyddiaeth am fod eu gwlân yn rhy fras. Er hynny, dengys ystadegau'r Staple yng Nghaerfyrddin, lle allforid gwlân y Deheudir, fod cryn werthu ar wlân Cymru.

Yn ddiweddarach daeth Cymru yn enwog am ei gwlanen a'i brethyn. Rywbryd yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth y Pandy i fod, a dechreuodd y diwydiant ymledu o'r cartref. Erbyn diwedd yr oesau canol, yr oedd nifer mawr o frethynwyr ym marchnadoedd y goror—yr Amwythig, Henffordd a Llwydlo—yn prynu gwlanen Gymru i'w gorffen yn y trefydd hyn. Yn amser Elisabeth yr oedd cynifer â 600 o welleifwyr brethyn yn yr Amwythig yn unig, a bu hir helynt rhyngddynt å thref Groesoswallt ar gyfrif y farchnad wlanen a gynhelid yno bob wythnos.[31]

Dros y clawdd, wrth gwrs, y byddai'r rhan fwyaf o'r nwyddau yn mynd ac yn dyfod. Yn eu mysg, yn ddios, yr oedd gyrroedd o wartheg a defaid, fel y dengys y doll a godid ar bont Montford ar y ffordd i'r Amwythig, neu doll Henffordd a godid ar y nwyddau a groesai'r hen bont ar Wy. Yr oedd Cymru eisoes yn enwog am ei gwartheg duon,[32]

 
A'i flew clyd o flac y lir
Ail yw i fath a'i liw fo
I fwyarliw neu forlo.

Ac meddai arall wrth sôn am ei gnwd o flew:

A'i flew'n glyd fal yn glog.

Ceir cyfrif am 700 o ychen a anfonwyd o dde a gogledd Cymru i Glerc Cegin ei Fawrhydi yn Windsor mor fore a 1312. Yn ystod teyrnasiad Harri V, anfonwyd 100 o gatel, gwerth £67 13 4, i Lundain; lladdwyd a halltwyd 93 yn rhagor, gwerth £60, ac anfonwyd y cig i Calais.[33]

Byddai galw mawr hefyd am dderw Cymru. Pan adeiladwyd mynachlog Abingdon, cedwid chwech o wagenni, a deuddeg o ychen wrth bob un, i gludo derw o Bowys at wneud trawstiau'r adeilad. Cymerai pob siwrne o Abingdon i'r Amwythig ac yn ôl o chwech i saith wythnos o amser.

Nid oes dim, fodd bynnag, a rydd i ni well syniad am amrywiaeth masnach na'r tollau a godid yn nhrefydd y gororau ar y nwyddau a ddeuai iddynt. Yn 1277, rhoddodd Edward I ei fryd ar ddarostwng Gogledd Cymru, a chyda'r amcan hwnnw aeth ati i atgyfnerthu trefydd y goror. Rhoddwyd caniatâd i dref Groesoswallt godi toll arbennig (muragium) i gyfarfod à chost adeiladu muriau'r dref, a dengys rhestr y doll pa nwyddau y masnachid â hwy yn gyffredin. Am restr o'r tollau hyn gwel Y Cymmrodor XXV, 72-74 a Cathrall's History of Oswestry, 29.


Ar y Ffordd i'r Farchnad.

Llyfrau.

Aм ymdriniaeth ar darddiad bywyd tref yr oesau canol gweler erthygl ragorol y diweddar Syr Wm. J. Ashley, "The Beginnings of Town Life in the Middle Ages," yn ei Surveys, Historic and Economic. Gweler hefyd ei Economic History, Rhan I a II, am ymdriniaeth ar fywyd tref yn ei wahanol agweddau. Gweler hefyd Lipson, Economic History (The Middle Ages). Cyfeiria Maitland at broblem tarddiad y dref yn ei Domesday Book and Beyond—(the Boroughs pp. 172-219). Y mae'r pwnc wedi cael mwy o sylw gan yr Almaeniaid na chan ysgolheigion y wlad hon. Gresyn na buasai'r diweddar George Unwin wedi cael hamdden i sgrifennu llyfr fel y bwriadasai ar ddinas yr oesau canol: gweler ei Studies in Economic History (49-91). Ceir ymdriniaeth ddiddorol ar fywyd masnachol trefydd y Cyfandir yn llyfr bychan Pirenne, Mediaeval Cities. Ar drefydd Lloegr gweler llyfr Mrs. A. S. Green, Town life in the 15th century.

Datblygir y syniad am bersonoliaeth gyfansawdd y bwrch gan Maitland yn ei ddarlithoedd ar Township and Borough, a hefyd yn ei ragarweiniad i lyfr Gierke, Political ideas of the Middle Ages.

Ar ffeiriau Cymru gweler The Welsh Calendar gan Canon Fisher, ac erthygl ddiddorol Mrs. O. S. Watkins ar "The Mediaeval Market and Fair in England and Wales" yn Y Cymmrodor, XXV. Gweler hefyd E. A. Lewis, "A contribution to the Commercial History of Mediaeval Wales," Y Cymmrodor, XXIV, a'i erthygl, "The decay of Tribalism in North Wales," Cymmrodorion Transactions, 1902-3.

Ar ffair St. Bartlemy gweler Memoirs of Saint Bartholomew's Fair. Ceir hanes ffair Stourbridge yn Six Centuries of Work and Wages (Rogers), 1, 149. Ar ffair Winchester gweler Winchester Cathedral Records, II (Kitchin).

Ar y "Court of Pie Powder," gweler C. Gross, Quarterly Journal of Economics, XX. Gweler hefyd y Proclamasiwn gyhoeddid pan gynhelid ffeiriau Holt. Arch. Cam. VIth, Series VIII, 165.


Nodiadau

[golygu]
  1. Thompson: Economic and Social History of the Middle Ages, 168.
  2. "Know all men both present and future that I William Fitz William FitzAlan have received unto my hand and protection my burgesses of Blancminster (Croesoswallt) namely those who received messuages from my bailiff for the improvement of my market and I will maintain them against all and as far as I rightfully can. Wherefore I will that they hold their messuages in peace."—O Siarty Croesoswallt y Siartr Gwta (Ballard). Am gopi cyflawn o'r Siartr Ladin gwêl Byegones, Ion. 1, 1879. 194 fantais fasnachol a berthynai i'w safle, cychwynnid marchnad, ac yng nghwrs y blynyddoedd datblygai honno yn dref.3
  3. Pirenne Medieval Cities, 120.
  4. Fisher: The Welsh Calendar, 43
  5. Siartr Penfro.
  6. Lewis op. cit., 170.
  7. Matthew Paris, edited by Sir F. Madden, Vol. II, pp. 62 and 86.
  8. George Owen, I, 141.
  9. Worcester Priory, Register p. 95a, 95b.
  10. Ormerod Cheshire, 1, LXXI.
  11. Matthew Paris, II, 115.
  12. Bennett and Elton: History of Corn Milling, I, 156; III, 96; IV, 14.
  13. Calendar of Wynn Papers, 1646.
  14. Walter of Henley, Husbandry, 37, 38.
  15. Abram: English Life and Manners in the later Middle Ages, 137.
  16. Lewis op. cit., 171.
  17. Cartae, 10, Edward I. No. 1.
  18. Lewis: op. cit., 169.
  19. Black Book of St. David's, 245.
  20. Black Book of St. David's, 203.
  21. Cymmrodor, XXV, 37.
  22. Lewis op. cit., 169, Note 1
  23. Cathrall's: History of Oswestry, 48.
  24. Cymmrodor, XXV, 46.
  25. Caiff pob masnachwr ddyfod i'r dref a'i nwyddau yn ddiogel gan dalu y dirwyon arferol, a bydd pob un ohonynt o dan nawdd yr Iarll wrth fynd a dod a thra yn aros yn y dref."-13 Henry III, 2.
  26. Cathrall's: History of Oswestry, 52.
  27. Ibid., 50, 51.
  28. Y Cymmrodor, XXV, 69.
  29. Gweler Pollock and Maitland: History of English Law, a Select Pleas concerning the Law Merchant, Gross, Selden Society.
  30. Rhydd Dr. E. A. Lewis, yn ei erthygl fanwl yn y Cymmrodor, XXIV, fanylion am y fasnach dramor Gymreig yn ystod yr Oesau Canol.
  31. Gweler y bennod ar "Ddiwydiant a Masnach."
  32. Ceir cywydd doniol gan Guto'r Glyn yn disgrifio'i helynt wrth fynd ag ŵyn degwm person Corwen i Loegr.—Llen Cymru, T. Gwynn Jones, III, 37:
  33. Gweler erthygl ddiddorol C. J. A. Skeel ar Cattle Trade between England and Wales, 15th—19th centuries."—Royal Historical Society Transactions, IV Series, 9.