Neidio i'r cynnwys

Cymru'r Oesau Canol/Y Fynachlog

Oddi ar Wicidestun
Bywyd Crefyddol—Y Plwyf Cymru'r Oesau Canol

gan Robert Richards (Aelod Seneddol)

Bywyd Milwrol—Y Marchog
Cell Meudwy

XIII. Y Fynachlog.

{{quote|In civitatibus, in castellis, aut villis, nulla nostra construenda sunt coenobia sed in locis a conversatione semotis.
(Adeiledir ein celloedd ni nid mewn trefydd na phentrefydd nac wrth ystlys castell ond mewn lleoedd ymhell o firi dynion.) .—O YSTATUD Y SISTERSIAID

Y DRYDEDD ganrif ar ddeg oedd oes aur mynachaeth, fel popeth arall yr oesau canol. Ond wrth astudio hanes Cymru, rhaid cofio y bu iddi ddau gyfnod mynachaidd, y naill yn perthyn i'r eglwys fore Geltaidd, a'r llall yn derbyn ysbrydiaeth o ymuniad yr eglwys honno ag Eglwys Rufain.

Ychydig a wyddys am y cyfnod cyntaf oherwydd y difrod a wnaeth y Saeson pan ddaethant gyntaf i'r wlad. Ond trwy gymharu'r ychydig olion a thraddodiad sy'n aros â'r hyn a wyddys am fywyd eglwysig Iwerddon tua'r un adeg, gellir cael syniad gweddol gywir am natur mynachaeth Geltaidd.

O feudwyaeth, yn ddios, y tyfodd mynachaeth. Tybir i feudwyaeth gychwyn yn yr Aifft tua'r ail ganrif pan fu erlid mawr ar yr eglwys. Yno ar gwr yr anialwch mewn ogof uwchben dyffryn afon Neil y treuliai'r meudwy ei amser mewn rhyddid a diogelwch a chymundeb santaidd â'i Dduw. O dipyn i beth daeth y meudwyaid hyn at ei gilydd i ddefnyddio yr un capel a'r un ffurf—wasanaeth crefyddol, ond parhaent o hyd i fyw ar wahân. Yn ddiweddarach lluniwyd rheolau iddynt fyw wrthynt gan un o'r enw Pachomius, disgybl i Sant Antoni, gŵr a fuasai yn byw gyda nifer o grefyddwyr mewn hen gastell yng nghanol yr anialwch.

Martin, Archesgob Tours, meddir, a ddaeth a'r gyfundrefn i'r gorllewin. Fe gododd ef fynachlog ym Marmoutier yn 372 0.c., ond tybir mai o ddeheudir Ffrainc, o Lerins a Marseilles, y daeth yr ysbrydiaeth i Brydain. Er hynny yr oedd Martin yn lled boblogaidd yn yr ynys hon, fel y dengys y ffaith bod eglwys wedi ei chysegru iddo yng Nghaergaint pan ddaeth Awstin yma yn 597, ac un arall wedi ei hadeiladu i'w goffadwriaeth gan Nyniaw, apostol y gogledd, mor fore â'r flwyddyn 397, y flwyddyn y bu Martin farw. Yn fuan wedyn, yn 429, anfonwyd Garmon a Bleiddian i geisio gwrthweithio heresi Pelagius, ac nid oes le i amau na bu i'w dylanwad a'u poblogrwydd hwy hyrwyddo'r mudiad ymysg y Cymry.

Enwir amryw o saint y bumed a'r chweched ganrif fel sylfaenwyr mynachdai. Y rhai cyntaf, o bosibl, oedd Illtyd a Pheulin; yna ceir Dewi, Gildas, Cadog, Dyfrig (sylfaenydd Llandaf, medd rhai, ond nid oes sail i'r traddodiad), Dunawd[1] Fyr, sefydlydd traddodiadol hen fynachlog enwog Bangor is y coed, a'i fab Deiniol, sefydlydd eglwys gadeiriol Bangor fawr Arfon, Cyndeyrn, sefydlydd eglwys gadeiriol Llanelwy, a llu o saint eraill a fu'n foddion i sefydlu mam eglwys a chlas, fel Cybi a Thysilio.

Nid oes le i amau poblogrwydd y mudiad yng Nghymru. Dywed Beda, hanesydd y Saeson, fod cynifer a 2,100 o fynaich ym Mangor is y coed pan ddiffeithwyd y lle gan y Saeson yn 607. Dywedir fod agos i fil o fynaich yn Llanelwy yn amser Cyndeyrn, a 2,000 yn Llanilltyd. Yr oedd gyda Chadog yn Llangarfan (neu Lanfethian, lle tybir fod y sefydliad) 100 o glerigwyr, 100 o filwyr, 100 o dlodion, a'r un nifer o weddwon heblaw gweision yr yswein, a'r gwesteion i'w bwydo bob dydd. Dywedir hefyd fod Cadog yn ŵr cyfoethog, gan ei fod yn dywysog yn ogystal ag abad, a dywedir yr un peth am Illtyd. Teifl hyn ffrwd o oleuni ar berthynas y llwyth a'r fynachlog. Pan ymunai pennaeth llwyth â chyfundrefn grefyddol fe gydymffurfiai'r llwyth hefyd, a chyda'r tir a roddid i'r fynachlog âi holl freintiau'r llwyth. Y tywysog, fel pennaeth, a fyddai pen y fynachlog hefyd; ys dywed Montalembert : Pan ymunai tywysog â mynachlog, efô, yn naturiol, a fyddai'r abad, a pharhai yn y bywyd crefyddol yn bennaeth llwyth fel cynt."[2].

Yr oedd y mynachlogydd hyn nid yn unig yn dai crefyddol, ond hefyd yn gartref dysg a chelfyddyd, a phrin y medrir maddau i'r Saeson, hyd yn oed wedi cynifer o ganrifoedd, am yr anfadwaith a wnaed pan losgwyd Bangor is y coed, yn enwedig pan gofir am drysorau fel Llyfr Kells ac eraill sydd ym meddiant y Gwyddyl o hyd. Dywed Wiliam o Malmesbury, a sgrifennodd ei Hanes" tua 1140, na bu erioed y fath garnedd o eglwysi a thai crefyddol ag a oedd i'w gweled ym Mangor hyd yn oed yn ei ddyddiau ef.[3] Nid oes yno heddiw ond y ddôl las anwastad ei hwyneb gerllaw afon Ddyfrdwy lefn.

Y tebyg yw, fodd bynnag, mai adeiladu coed gyda tho gwellt neu frwyn oedd y celloedd y trigai'r mynaich ynddynt. Yr oedd yr eglwys hefyd o'r un defnydd. Ceir gan Bede ddisgrifiad o eglwys o'r fath yn cael ei hadeiladu â choed gan Garmon gogyfer a'r pasg adeg brwydr Maes Garmon, a ymladdwyd yn agos i'r Wyddgrug fel y tybir.[4] Sonnir am Badrig yn adeiladu eglwys dyweirch mewn lle o'r enw Foirrgea, am nad oedd coed i'w cael yn y fan honno. Yr oedd i bob mynach ei gell ei hun, y mae'n debyg. Codid mur neu wrych o gylch y lle. Dyma'r llan; ac o fewn y cylch hwn ceid nid yn unig yr eglwys a'r celloedd, ond hefyd westy ac adeiladau eraill oedd yn angenrheidiol at fywyd y lle, megis melin ac odyn, gweithdy saer a gefail gof.

Dywedir i Gadog yn Llangarfan adeiladu eglwys goed a hefyd ystafell fwyta a chysgu. Mewn lle arall cododd gladdfa, ac ar ben boncyn arall adeiladodd dŷ iddo'i hun fel Abad. Adwaenid y lle hwnnw fel Castell Cadog, a thystia'r olion eithriadol sydd ym mhentref tawel Llanilltyd heddiw am rwysg bywyd mynachlog Llanilltyd Fawr.[5] Dylid cofio wrth gwrs fod rhai o'r rhai hyn yn perthyn i gyfnodau diweddarach. Yn ffodus, y mae Bucheddau'r Saint yn cynnwys cyfeiriadau mynych at natur y bywyd mynachaidd. Rhennid yr hen fynachlog yn golegau. Perthynai i Lanilltyd Fawr saith o eglwysi a saith gwmni o fynaich yn gwasanaethu pob un. Rhannodd Cyndeyrn ei fynaich yn dair adran; yr oedd tri chant—yr anllythrenog i ofalu am y gwaith amaethu y tu allan i'r fynachlog; tri chant arall i wasanaethu y tu mewn i'r fynachlog, i ddarparu bwyd a gofalu am yr adeiladau, etc.; a'r gweddill, 365, i ofalu am wasanaeth yn yr eglwys ddydd a nos. Cyn gynted ag y gorffennai un côr deuai un arall i mewn fel nad oedd sain cân a moliant byth yn peidio.[6]

Dywed Beda fod mynachlog Bangor is y coed wedi ei rhannu yn saith adran, pob adran dan ddisgyblaeth pennaeth neilltuol, ac yn cynnwys dim llai na 300 o fynaich bob un.

Rhydd Rhygyfarch ym muchedd Dewi Sant ddarlun deniadol odiaeth o fywyd mynachaidd fel y ceid ef yn neuddeg mynachlog Dewi. Nid yw'r traddodiad i Ddewi sefydlu deuddeng mynachlog ond cyfeiriad at ei waith yn sefydlu celloedd neu eglwysi newydd.[7] Penderfynodd Dewi nad bywyd o esmwythyd oedd y bywyd gorau, ond yn hytrach bod pob mynach i weithio â'i law i'w gadw ei hun. Y neb na weithio na fwytaed chwaith, meddai. O ganlyniad rhôi'r mynaich yr iau ar eu hysgwyddau eu hunain a thrinient y tir â chaib a matog. Tra byddai rhai yn trin y tir byddai eraill yn cymynu coed ac yn darparu at angen y frawdoliaeth. Ni ddefnyddid ychen gan fod pawb yn ych iddo'i hun. Wedi gorffen gwaith y dydd dychwelid i'r fynachlog a threulid min nos mewn darllen neu sgrifennu neu fyfyrio. Pan ganai'r hwyrol gloch gadawai pawb ei orchwyl a mynd tua'r eglwys, ac wedi canu salmau penlinient yn weddïgar a pharhaent i weddïo nes dywedyd o'r sêr fod y dydd yn darfod. Yna ymgynullent wrth y bwrdd swper lle y dadluddedent wedi llafur y dydd. Swperai pawb yn ôl ei chwaeth, ond ni chaniateid gormod hyd yn oed o fara. Bara a llysiau oedd y prif ymborth, a dwfr oedd y ddiod. Wedi bendith eid i'r eglwys drachefn, ac arhosid yno am dair awr, ac ni chaniateid i neb yn ystod yr amser hwnnw ddylyfu gên na thisian na phesychu. Yna ymneilltuid i'r gwely hyd ganiad y ceiliog. Treulid yr holl Saboth, o nos Wener hyd fore Sul, mewn gweddi ac ympryd.[8]

Eddyf Rhygyfarch i Ddewi fabwysiadu arferion y mynaich Eifftaidd, ac y mae delw erwin cyfundrefn Martin ar ei arferion. Arferai sefyll am amser yng nghanol yr afon i ddarostwng gwyniau'r cnawd. Safai Illtyd yn y dŵr ganol nos ac adrodd gweddi'r Arglwydd deirgwaith, a gwnai Cyndeyrn yr un peth hyd yn oed yn nhrymder gaeaf.[9]

Ond rhaid cofio mai'r delfryd i ymgyrraedd ato ydoedd hwn ac nad bob amser y llwyddid i gyrraedd y nod. Dywed Rhygyfarch y rhoid gwell bwyd i ddieithriaid ar ymweliad â'r lle; ac ar adegau penodedig ceid rhywbeth tebyg i wledd. Gwyddom hefyd oddi wrth hanes seintiau eraill y byddai bara ac ymenyn, llaeth, caws, ffrwythau ac wyau yn gyffredin ar y bwrdd, a hefyd gwrw neu fragod. Yn wir, nid bob amser y llwyddai'r mynaich i beidio ag yfed gormod. Os yfai neb gymaint, medd Gildas, nes bod yn rhy floesg i fedru canu byddai raid iddo fyned heb ei swper[10] ac yn y rheolau a dynnwyd allan gan Ddewi Sant ei hun gwnaed darpariaeth ar gyfer y brawd gwan. Os yfai offeiriad ddiod gadarn o ddiofalwch ac nid mewn anwybodaeth, yr oedd raid iddo wneuthur penyd o dridiau, ond os o'i wirfodd y gwnai, deugain niwrnod oedd y penyd. I'r sawl a feddwai mewn anwybodaeth yr oedd pymtheng niwrnod o benyd; trwy ddiofalwch, deugain niwrnod; ac o wirfodd, chwe ugain niwrnod. neb a'i meddwai yr oedd yr un penyd ag i'r meddwyn; ac i'r sawl a feddwai fynach er mwyn ei wneud yn gyff gwawd yr oedd penyd llofrudd eneidiau. Ceir stori awgrymiadol ym muchedd gyntaf Samson (gadawyd hi allan gan y mynach a sgrifennodd lyfr Llandaf): "Ar noson dywell," meddai, "fel yr oedd y parchedig Abad Piro yn rhodio yng ngerddi'r fynachlog, a chan ei fod ar y pryd yn feddw syrthiodd ar ei ben i bwll dwfn. Dychrynodd y brodyr wrth ei glywed yn llefain ac wedi rhedeg i'r fan tynnwyd ef allan o'r pwll. Ond yr oedd yn hollol ddiymadferth—a bu farw cyn y bore."[11]
Mynach Benedictaidd-Mynach Du.Mynach Sistersiaidd-Mynach Gwyn.

Ychydig o olion y bywyd hwn sy'n aros heddiw. Diflannodd y cwbl megis hun y bore. Bechan a brau oedd yr eglwys. Adeiledid hi, yn ddios, ar y cynllun Celtaidd, gydag allor garreg a lliain main i'w gorchuddio. Pres oedd defnydd y llestri cymun, am mai pres, meddai Columbanus, a ddefnyddiwyd i hoelio'r Gwaredwr. Cymysgid y gwin â dwfr, a defnyddid afrlladen gron o fara croyw. Lladin oedd iaith y gwasanaeth, a gwasanaethid gan gôr y fynachlog. Cenid emyn gan yr offeiriad yn ystod gwasanaeth y cymun. Nid oes, fe ddichon, ddim ond y croesau a geir yma ac acw ac ambell ddarn o lawysgrif yn aros i roi syniad i ni am grebwyll artistig hen saint yr eglwys Geltaidd.[12]

Nid hawdd yw penderfynu pa bryd y diflannodd yr hen gyfundrefn Gymreig ac y daeth mynachaeth Eglwys Rufain i gymryd ei lle. Dywed Gerallt wrthym fod y Culdeaid neu'r Cyldwys yn byw eu bywyd gerwin yn ynys Enlli yn ei amser ef. Perthynai iddynt hefyd dŷ crefyddol ym Meddgelert wrth droed yr Wyddfa, a bu raid i'r tŷ hwn apelio at y Pab i rwystro mynachlog Sistersiaidd Aberconwy rhag dwyn y cwbl a feddent.[13] Tybed ai hon oedd y frwydr olaf rhwng y ddwy eglwys?

Nid yw hanes mynachaeth y gorllewin yn yr oesau canol namyn hanes diwygiadau crefyddol y cyfnod. Tad y mudiad gorllewinol yn ddios oedd St. Benedict, uchelwr Italaidd a sefydlodd fynachlog ar fynydd Cassino rhwng Rhufain a Naples. At y tair adduned arferol, sef tlodi, ufudd-dod a phurdeb, ychwanegodd Benedict lafur dwylaw am o leiaf saith awr o'r dydd. Cododd pob un o'r diwygiadau diweddarach o ymdrech a wnaed gan rywun neu'i gilydd i fyned yn ôl at y delfryd a osodwyd i lawr gan Benedict yn 529. Yn 927 ymddangosodd y diwygiwr cyntaf, sef Odo, Abad Clugni ym Mwrgwndi. Gwrthododd gydymffurfio â rheol Benedict ynghylch gwaith llaw am y credai ei bod yn fwy pwysig i ddisgyblu'r meddwl. Yng nghwrs amser daeth y Benedictiaid i gael edrych arnynt fel pobl ddysgedig, barchus, foethus, yn gwybod i'r dim sut i gael gorau deufyd. Yr oedd golwg urddasol ar y mynaich mewn cochl laes o ddefnydd
Brawd Llwyd
Ysbytŷwr

sidanaidd du. Mynachlog Clugni oedd pen y gyfundrefn; nid oedd y mynachlogydd eraill yma a thraw ond celloedd yn dibynnu ar y Fynachlog honno.

Yn 1098 sefydlwyd urdd y Sistersiaid yn Citeaux (Lladin, Cistericum) gan Robert de Molesme. Gwir dad yr urdd, fodd bynnag, oedd Sant Bernard, a gymerodd gydag ef ddeuddeg o gyfeillion ac ymsefydlu yn nyffryn y Wermod ym Mehefin, 1115. Dyma gychwyn yr urdd fwyaf poblogaidd o'r cwbl, a'r urdd oedd i chwarae'r rhan amlycaf o ddigon ym mywyd Cymru. Gwisg lwydwen o wlanen gartref a wisgai'r Sistersiaid.

Gwnaed ymdrech i gael rheolaeth debyg ymysg canonwyr a chlerigwyr yr eglwysi cadeiriol—neu'r clas fel y gelwid hwy mewn oesau cynharach yng Nghymru. Honnent ddilyn rheol Awstin, Esgob Hippo, ond heb lawer o sail i'r traddodiad.[14] Cyfunai'r bobl hyn reol bywyd y mynach gyda gwasanaeth person plwyf.

Dwy urdd neilltuol o ddiddorol yw'r Temlwyr a'r Ysbytywyr—dwy o darddiad milwrol, a ddaeth i fod yn amser Rhyfeloedd y Groes. Cafodd yr Ysbytywyr feddiant trwy drais ar eiddo'r Temlwyr. Eu prif waith oedd estyn croeso i bererinion ar ymweliad â'r Dwyrain, a pharhaodd y nodwedd hon yn amlwg yn eu bywyd lle bynnag yr aethant.

Gwelodd y drydedd ganrif ar ddeg godi dwy urdd bwysig arall, y Dominiciaid a Brodyr Sant Ffransis. Pregethwyr yn anad dim oedd y Dominiciaid, a cheidwaid yr athrawiaeth. Fel urdd y gardod yr adwaenid y llall, am eu bod wedi ymbriodi â thlodi yn ôl delfryd yr anfarwol Sant Ffransis. Du ydoedd gwisg y Dominic a llwyd oedd eiddo'r Brodyr Cardod. Rhaid oedd cael urdd wen, a chaed un yn y Carmeliaid, a gychwynnwyd ar ben Carmel yng ngwlad Canaan.

Wrth ystyried dyfodiad y gyfundrefn fynachaidd i Gymru dylid cadw mewn cof y berthynas oedd rhyngddi â dyfodiad y barwn Normanaidd. Yn wir, fe ddefnyddid y Fynachlog weithiau fel dirprwy'r Castell, fel y moddion mwyaf effeithiol i lefeinio'r bywyd Cymreig ac i ddarostwng y genedl. Yn y de y gwelir hyn gliriaf am mai yno y perffeithiwyd y cynllun Normanaidd i ddarostwng y wlad. Fel y ceir gweld, yr oedd hanes mynachlogydd y gogledd yn wahanol.

Nid oedd mwyafrif tai crefyddol y de ond celloedd yn perthyn i dai tramor—yn Normandi, fel rheol. Sefydlid tŷ crefyddol newydd trwy anfon allan nifer o fynaich o fynachlog oedd eisoes yn bod, a byddai'r tŷ newydd yn cael edrych arno fel cell neu briordy yn perthyn i'r fam fynachlog. Y gell gyntaf o'r fath a sefydlwyd yng Nghymru oedd yr un a godwyd gan William Fitz Osbern, Arglwydd Hereford, yn arglwyddiaeth Strigoil yng Ngwent, a gymerasid oddi ar y Cymry ychydig cyn hynny. Dyma gychwyn Priordy Caswent a berthynai i Fynachlog Corneilles yn Normandi. Sefydlwyd Priordy Abergafenni gan Norman oedd eisoes wedi meddiannu'r wlad, a rhoddwyd ef at Abaty Le Mans yn Normandi. Capel y Priordy hwnnw oedd eglwys Abergafenni unwaith. Cyffelyb yw hanes Priordai Mynwy a Basaleg a Lleiandy Caerbuga. Cell oedd Aberhonddu, a sefydlwyd gan Bernard de Neufmarché, yn perthyn i fynachlog enwog Battle, a godasid ar faes Senlac. Perthyn i Sherborne yr oedd Cydweli;[15] ac yr oedd Caerdydd a phob eglwys bron ym mro Morgannwg yn eiddo Tewkesbury neu Gaerloyw.

Nid oes dim a rydd well syniad i ni am natur y sefydliadau hyn na syllu ar Briordy fel Ewenni. Gwelir ar unwaith adeiladu'r Priordy bychan hwn at amcanion milwrol lawn cymaint ag at amcanion crefyddol. Sieryd y tyrau wrthym nid am dawelwch y gell ond am gadernid y castell. Dengys y mur cadarn a red trwy ganol yr eglwys y gwahaniaeth a oedd gynt rhwng y mynaich a'r plwyfolion, ac awgryma'n gryf nad oedd llawer o gariad rhyngddynt. Ychydig o olau sydd yn y lle; ac, ys dywed Freeman, y mae'r holl le yn dywyll ac yn annaearol. Nid oes yma ond megis allor lle yr addolai dynion unwaith mewn ofn a dychryn am na wyddent pa funud yr ymosodid arnynt.[16]

Bu gan yr Awstiniaid bedwar o dai yng Nghymru. Sefydlwyd y cyntaf yn Llanthony, a chynhwysai, ar y dechrau, 40 o ganoniaid. Ond buan y blinwyd ar unigedd y bywyd yn neilltuedd y Mynydd Du, a symudwyd hwy oddi yno i Henffordd ac yn 1134 i Lanthony arall yn agos i Gaerloyw. Y lleill oedd Hwlffordd, Caerfyrddin a hen Briordy Beddgelert, lle bu unwaith dŷ Cymreig. Gwaddolwyd Hwlffordd gan Robert Hwlffordd, a Chaerfyrddin gan Esgobion Tyddewi, Bernard a Peter de Leia, hen elyn Gerallt. Cododd y Premonstratensiaid, urdd o ganonwyr, dŷ yn Nhalyllychau, a ddaeth yn ddiweddarach, trwy ryw dwyll, i ddwylo Sistersiaid Tŷ Gwyn ar Dâf.[17]

Ni bu'r Cluniaid erioed yn boblogaidd yng Nghymru mwy nag yn Lloegr, ac ni bu ganddynt ond cell neu ddwy, un yn Malpas, yn agos i Gasnewydd, ac un yn St. Clears.

Bu gan y Benedictiaid hynny a adwaenid fel y Tirioniaid. dri thŷ yn y de, sef Llandudoch (Dogmael), Pill, ac Ynys Bŷr yn Sir Benfro. Celloedd yn perthyn i St. Dogmael oedd Pill ac Ynys Bŷr, ac nid tai annibynnol. Tebyg oedd dylanwad y rhain i ddylanwad estronol, gormesol y castell, ond y mae pethau dipyn yn wahanol pan ystyrir helynt yr urdd arall—y Sistersiaid. Sefydlwyd yr urdd gan Robert de Molême, a bu Sais o'r enw Stephen Harding am beth amser yn ben arni. St. Bernard, fodd bynnag, a roddodd fywyd ynddi, ac y mae'r disgrifiad a geir gan ei gofiannydd o helynt y cychwyn yn Nyffryn y Wermod yn darllen fel pennod allan o fuchedd un o'r saint Celtaidd. Un adeilad hir oedd y fynachlog ar y cyntaf, yn cynnwys yr eglwys, y bwyty a'r dortur dan yr un to. Pridd oedd y llawr, a phrin odiaeth oedd y golau. Llysiau a dŵr oedd yr ymborth. Cysgai'r mynaich mewn hen lofft uwchben yr ystafell fwyd, pob un mewn cist bren gydag ychydig dorion neu ddail ynddi.[18] Nid oedd fawr ryfedd iddynt ennill calon Cymru.

Nid lle dan aden castell mewn tref Normanaidd a ddewisai'r urdd hon, ond neilltuedd dwfn y goedwig neu unigedd y glyn tawel, a saif adfeilion eu tai mewn rhai o'r lleoedd mwyaf rhamantus yng Nghymru, megis Tintern ar lan afon Wy, neu Lyn y Groes yn nyffryn Dyfrdwy. Pobl y wlad oedd y Sistersiaid, yn arloesi'r anialwch a byw ar drin eu tir a'u defaid ar "fil o fynyddoedd." Dywedir yn wir mai hwynthwy a berffeithiodd grefft magu defaid hyd lethrau Cymru. Beth bynnag am hynny, amaethwyr a bugeiliaid oeddynt, ac yr oedd hynny yn gymeradwyaeth ychwanegol iddynt yng ngolwg y Cymry.

Tarewir ni ar unwaith gan y gwahaniaeth rhwng yr urdd hon a'r urddau eraill. Arglwyddi Normanaidd oedd noddwyr y lleill, ond tywysogion Cymreig oedd noddwyr y Cisterciaid, ac wedi i'r mynaich gwynion ddechrau ymsefydlu yng Nghymru, ni fedrai tywysog Cymreig orffwys nes cael codi tŷ iddynt o fewn ei dywysogaeth.

Valle Crucis yn 1776.

Ymddengys i'r cwmni cyntaf ymsefydlu yng nglyn Nedd yn 1130, ac i'r ail gwmni ddyfod i Dintern y flwyddyn ddilynol; ond eu dyfod i Drefgarn yn Naugleddau, ar wahoddiad Bernard, esgob Tyddewi, yn 1144, oedd gwir gychwyn eu cysylltiad â Chymru. Oddi yno symudasant i'r Hen Dŷ Gwyn ar Dâf, lle buasai gynt dŷ crefyddol Cymreig.[19] Yn fuan iawn daeth y Tŷ Gwyn yn fam fynachlog nifer mawr o sefydliadau eraill. Ar y dydd cyntaf o Fehefin, 1164, sefydlwyd hen fynachlog enwog Ystrad Fflur. Nid oes sicrwydd ai Norman ai sefydlodd ai peidio, ond yr Arglwydd Rhys a'i gwaddolodd â phorfeydd dihafal Pumlumon. Ar yr ail ar hugain o Orffennaf, 1170, sefydlwyd Ystrad Marchell ym Mhowys trwy haelioni'r bardddywysog, Owain Cyfeiliog. Ar y cyntaf o Awst, 1176, ail sefydlwyd Cwm Hir gan dywysog Ceri a Maelienydd, ac erbyn Gorffennaf y flwyddyn honno yr oedd cwmni o Ystrad Fflur wedi ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedi rhoi cychwyn i hen Fynachlog Aberconwy. Yn 1199, cafodd Meirion dŷ iddi ei hun yng Nghymer, gerllaw Dolgellau, ac ym mis Ionawr, 1200, sefydlwyd Glyn y Groes, gerllaw Llangollen.

Yn y de, sefydlwyd Margam yn 1147. Daeth brawd i St Bernard drosodd yn un swydd i sefydlu'r tŷ hwn. Yr oedd hefyd dai Cistercaidd enwog yng Nglyn Nedd, Llantarnam a Dore ar ororau Mynwy a Brycheiniog.

Daeth urddau Dominic a Ffransis yma yn eu tro hefyd. Bu gan y brodyr Duon dai ym Mangor, Rhuddlan, Aberhonddu, Hwlffordd a Chaerdydd; y Brodyr Llwyd—Sant Ffransisyng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Llanfaes; y Brodyr Gwyniony Carmeliaid yn Ninbych; a'r Brodyr Awstin yng Nghasnewydd.[20]

Dau ganolfan pwysig fu gan yr Ysbytywyr—Ysbyty Ifan (Dolgynwal) yn y Gogledd a Slebech yn Sir Benfro yn y De.

Yn anffodus, ychydig a wyddom am y bywyd yn yr hen sefydliadau hyn yng Nghymru. Y mae gennym fanylion ddigon am y tiriogaethau a oedd yn eu meddiant. Cymerent fawr ofal o'r Siartrau a gynhwysai'r manylion am y tiroedd hynny, ac nid oeddynt bob amser uwchlaw ffugio siartrau iddynt eu hunain, fel yr awgryma Dr. Lloyd i fynaich Ystrad Marchell ym Mhowys wneuthur. Ond rhoem lwyth trwmbel o siartrau am lyfr fel cronicl Jocelin of Brakeland, y cafodd Carlyle gymaint arddeliad ar ei aralleirio, neu yn wir am lyfr

19

20 cyfrifon mynachty Cymreig, tebyg i'r rhai sydd ar gael yn Lloegr ac Ysgotland.[21] Fodd bynnag, y mae yn hysbys ddigon oddi wrth gynllun y Fynachlog, mai cyffelyb oedd y bywyd yng Nghymru i'r hyn ydoedd yn Lloegr.

Yr eglwys oedd canolfan y fynachlog, ac o'i chwmpas hi yr oedd bywyd beunyddiol y mynaich yn troi. Syml a diaddurn iawn oedd eglwysi'r Sistersiaid ar y dechrau. Yr oedd hyd yn oed yr allor o goed, a choed oedd defnydd pob dodrefnyn o'i mewn.[22] Ar y dechrau, ni chaniateid cloch na chlochdy, ond nid hir y buwyd cyn i'r drefn newid ac i'w heglwysi ddyfod yn fwy addurnol. Adeiledid yr eglwys ar lun croes a'i chysegru i'r Fendigaid Forwyn Fair.

Ceid mwy nag un dosbarth o bobl yn llochesu yn y fynachlog. I gychwyn, ceir y mynach proffesedig oedd wedi ymwadu â'r byd. Ei waith pennaf ef fyddai gofalu am wasanaeth crefyddol yr eglwys. Rhan fechan o boblogaeth y fynachlog oedd y rhain. Yna ceid y swyddogion—gwŷr lleyg, a wyliai fuddiannau'r sefydliad. Byddai nifer o ddynion o'r fath yng ngwasanaeth y prif fynachlogydd, gan mai hwynthwy oedd prif dirfeddianwyr y cyfnod. Yna ceid y gwasanaethyddionllafurwyr amaethyddol a driniai'r tir yng nghymdogaeth y fynachlog yn debyg i'r fel y gwnai'r taeogion ar faerdref yr arglwydd Cymreig—a byddai hefyd grefftwyr o bob math. Mewn gwirionedd, yr oedd y mynach proffesedig yn debyg i gymrawd coleg â chanddo nifer o weision at ei alw, ac yntau yn gwneud dim ond treulio'i amser yn crefydda.

Gwelir oddi wrth gynllun Abaty Glyn y Groes a lleoedd cyffelyb fel y dylanwadodd y gwahaniaethau hyn ar gynllun yr adeilad. Y mae eto yn aros allor a phulpud yng nghorff yr eglwys lle yr ymgynullai'r gwasanaethyddion. Addolai'r mynaich yn y côr, lle yr oedd ganddynt bawb ei sedd. Ym mhen dwyreiniol yr eglwys, y tu hwnt i'r côr, yr oedd y brif allor a ddefnyddid gan y mynaich. Yn rhedeg oddi wrth ochr orllewinol yr eglwys i gyfeiriad y de ceir y lle y byddai'r gwasanaethyddion yn byw. Yno hefyd y croesewid ymwelwyr —gwaith oedd yn rhan mor bwysig ym mywyd crefyddwyr yr oesau canol. Ynglŷn wrth adran ddeheuol croes yr eglwys yr oedd y sacristi, lle byddai'r gŵr a ofalai am y gwasanaeth crefyddol yn byw ac yn cadw'r gwisgoedd angenrheidiol.
Bras gynllun o Fynachlog Sistersiaidd, seiliedig ar gynllun Abaty Glyn y Groes.

Tua'r de eto yr oedd y clwysgordy, lle yr ymdrinid â materion y Fynachlog bob dydd. Yma, fel rheol, y cleddid yr Abad. Uwchben yr adeiladau hyn yr oedd y dortur, lle y cysgai'r mynaich; ym mhen gogleddol yr ystafell hon yr oedd grisiau i lawr i'r côr, a gallai'r mynaich, felly, fyned i'r gwasanaeth boreol yn uniongyrchol o'u gwelyau. Yr oedd gan y sacristan ystafell y gallai weld y brif allor ohoni, er mwyn sicrhau bod golau arni bob amser. Ar ochr dde corff yr eglwys,[23] yn wyneb haul, yr oedd y rhodfeydd lle treuliai'r mynaich lawer o amser yn cerdded o gwmpas a darllen. Yr oedd to uwchben y rhodfa, ac yn ddiweddarach ffenestri yn yr ochrau, ac yno yr oedd y llyfrgell. Yng Nglyn y Groes ceir y Llyfrgell wrth ben y Sacristi. Ar ochr dde'r rhodfa yr oedd y bwyty a'r gegin a'r ystafell dwymo, lle caniateid i'r mynaich fynd i ymdwymo yn y gaeaf. Byddai hefyd ysbyty i'r claf a chell neu garchar i'r troseddwr, ac ystafell lle cedwid y gweithredoedd, etc., ond ni cheid y rhain ym mhob tŷ.

Cynhelid y gwasanaeth cyntaf am hanner nos, pryd y gelwid arnynt i godi. Ai'r clochydd—y sacrist—drwy'r dortur a chanu cloch fechan i'w deffro; ac fel y dengys y rheolau, nid hawdd oedd cadw'n effro hyd yn oed yng nghôr yr eglwys. Eid i lawr y grisiau bob yn chwech, yn cael eu harwain gan un o'r brodyr ieuengaf â llusern yn ei law. Cenid nifer o salmau ac eid trwy wasanaeth yr offeren. Dilynid hwn gan wasanaeth arall, a adwaenid fel y " Laudes," ac a gynhelid. fel rheol, am un o'r gloch y bore. Yna eid yn ôl o'r gwely hyd chwech neu saith o'r gloch, pryd yr eid i wasanaeth y "Prime." Ceid bwyd am wyth o'r gloch—tafell o fara ac ychydig win neu gwrw. Yna ceid gwasanaeth wrth allor Fair. Cyfarfyddid wedyn yn y Clwysgordy i drafod amgylchiadau'r tŷ, ac yno y penderfynid penyd y troseddwr. Am ddeg o'r gloch cynhelid prif wasanaeth y dydd, ac am un ar ddeg ceid cinio. Yn ystod yr awr ginio, byddai un o'r brodyr yn difyrru'r lleill trwy ddarllen iddynt, ac y mae hen bulpud y pryd bwyd i'w weld yn y mynachlogydd mwyaf hyd heddiw. Wedi cinio, âi pawb i'w helynt—rhai i gerdded yn y rhodfeydd, rhai i weithio ac eraill i astudio yn y celloedd bychain yn y clwysdy. Ceid gwasanaeth y Gosper am chwech o'r gloch a'r Complin am saith, ac yna eid i'r gwely hyd hanner nos.

Dengys rhestr y gwasanaethyddion yn well na dim arall fywyd beunyddiol y fynachlog. Mewn tŷ annibynnol—ac yr oedd holl dai y Sistersiaid yn annibynnol y naill ar y llallceid abad. Os cell yn perthyn i dy mwy fyddai'r tŷ crefyddol, Prior y gelwid y pennaeth. Mewn tŷ o gryn faint ceid prior ac abad—y prior yn gwasanaethu fel is—abad pan fyddai'r abad yn absennol, a digwyddai hynny yn lled aml. Yn nesaf at y prior, y swyddog pwysicaf oedd y cantwr. Efô a ofalai am wasanaeth yr eglwys; eisteddai bob amser ar ochr dde y côr ac arweiniai'r gwasanaeth. Yr oedd gan y sacristy clochydd—ystafell wrth ochr yr allor. Gofalai ef am yr adeilad ac am gael popeth yn barod i'r gwasanaeth—y gwisgoedd priodol i'r gwahanol wyliau, y llestri a'r canhwyllauac efô, fel y dywedwyd, a ganai'r gloch i alw'r mynaich. Yr oedd y selerwr yn swyddog â chyfrifoldeb mawr ar ei ysgwyddau. Gofalai fod ŷd yn dyfod i mewn o'r ffermydd a oedd ym meddiant y fynachlog, a bod digon o flawd—ac o gwrw, wrth gwrs——yn barod. [Cai Canonwyr Sant Pawl 40,400 o dorthau a 67,800 o alwyni o gwrw oddi ar eu maenorydd bob blwyddyn.] Y selerwr hefyd a ofalai am bysgod erbyn dydd Gwener ac yn ystod y Garawys. Byddai swyddog arall yn gofalu am y byrddau ac yn edrych bod gwellt yn cael ei daenu ar lawr y bwyty. Yn y gegin ceid cogydd, a byddai gan ambell abad gogydd iddo'i hun. Yr oedd brawd arall yn gofalu am y cleifion. Arferid gwaedu'r mynaich bedair gwaith yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw caent fyned i'r clafdy am bedwar niwrnod. Y fynachlog oedd gwesty'r cyfnod, a cheid gwestywr ym mhob un bron. Ei waith ef fyddai paratoi llety i ddyn ac anifail. Y mynachlogydd hefyd a fyddai, yn fynych, yn rhoi cymorth i'r tlodion, a byddai swyddog neilltuol—yr elusenwr—i ofalu am y gwaith. Gwaith un arall o'r brodyr fyddai addysgu'r newyddian yn y ffydd yn arferion y fynachlog ac yng nghredo'r bywyd neilltuedig.

Ychydig hwyl a gafwyd ar sefydlu tai crefyddol i ferched yng Nghymru. Edrydd Gerallt ystori a ddengys fod natur yn drech na gras yn y cyfnod hwnnw fel bron bob amser. Yr oedd Enoch, abad Ystrad Marchell, a'i fryd ar sefydlu Lleiandy yn Llansantffraid yn Elfael; syrthiodd mewn cariad à lleian, a thorrwyd ef allan dros dro. Nid hir y bu cyn dychwelyd at y bywyd crefyddol, ond ni bu fawr lewych ar Lansantffraid byth.[24]. Tri lleiandy oedd yng Nghymru, y naill yn Llanllugan, Sir Drefaldwyn, a'r llall ar lannau Aeron yn Llanllyr, a'r trydydd yng Nghaerbuga.

Trwy astudio'r Siartrau y ceir y syniad gorau am feddiannau'r mynachdai, er mai ychydig o oleuni a ddyry'r rheini ar eu bywyd beunyddiol. O gylch y fynachlog, fel rheol, byddai cyfran o dir a drinid gan y gwasanaethyddion a fyddai'n byw yn y fynachlog. Defnyddir termau ffiwdalaidd i'w ddisgrifio gan Gomisiwn 1535 (Manerium, Dominicium, etc.). Ond yr oedd ganddynt lawer o leoedd yma ac acw ar hyd y wlad, ac fel rheol un o'r cwmni neu ŵr lleyg yn edrych ar eu holau. Er enghraifft, yr oedd gan Fynachlog Glyn y Groes diroedd yng Ngwrecsam, ym Muddugre, ac ym Mwstwr (Corwen); gan Fynachlog Cymer yn Llanilltyd, Cwm Cadiau, Rhydgeirw, Llanfachreth, Trawsfynydd a Dolgellau; gan
Eglwys y Fynachlog, Tintern.

Ystrad Marchell yn Trefnant, Trehelig, Talerddig, a Chwm tir Mynech yn Sir Feirionydd; ac yr oedd tiriogaethau Margam, Glyn Nedd ac Ystrad Fflur yr un mor wasgarog.

Dengys Siartrau Ystrad Marchell, os ydynt oll yn ddilys, sut y daeth y tir i'w meddiant. Rhaid cofio na ellir dibynnu ar bopeth a ddywedir yn y Valor Ecclesiasticus (1535), gan fod y mynaich yn gwerthu tir pan welsant ystorm y dadwaddoli yn dyfod. Ceir enghreifftiau isod o dir yn cael ei brydlesu; ond a chymryd y siartrau fel y maent gennym, y rhodd gyntaf ydoedd y tir y saif y Fynachlog arno—rhan o gymwd Ystrad Marchell, a adwaenir oddi ar hynny fel Manor Tir-y-Mynech. Yna daeth hanner tref ddegwm Trefnant yn y Trallwng i'w dwylo. Wedyn prynwyd am ddwy bunt a hanner o arian dir yng nghymdogaeth Derwen ar gyrrau Dyffryn Clwyd. Yna prynwyd am dair punt le o'r enw Cwm Main a Nant Ucheldre, rhwng y Bala a ffordd Cerrig-y-drudion. Yr oedd y rhodd nesaf yn Nantyreira, rhwng Llanerfyl a Llanbrynmair. Yna, yn 1190, aed ymhellach i fyny Cwm Llanbrynmair, pan ddaeth Newydd Fynyddog a Phennant Bache i'w dwylo. Caed rhagor o dir yng Ngwyddelwern yn 1198 am £8, a rhagor yn Darowen (Cyfeiliog). Yn 1201 caed tir yn nyffryn Dyfi, oddi ar Gors Fochno, a ddaeth â hwy i wrthdarawiad â mynaich Cwm Hir.[25]

Wedi'r diddymu, bu'r tir am beth amser yn nwylo'r Brenin Harri'r VIII, a dengys cyfrifon y flwyddyn 1537 beth a ddigwyddodd pan welodd y mynaich fod eu heiddo mewn perygl. Cafodd Edward Grey (Iarll Powys) lês ar y tir o gwmpas y Fynachlog am un mlynedd ar hugain am £6 5 0. yn y flwyddyn—5/am yr adeiladau, yr ardd a'r berllan, 10/am ddarn deuddeng acr a adwaenid fel Crofft yr Eglwys, 20/am y felin ddŵr, 30/am 26 acr, a 10/am y weirglodd fawr 34 acr.

Cafodd Grif ap Lloyd lês ar felin a gweirglodd ar y degfed o Ebrill, 1529, am bedair blynedd ar bymtheg am 8/4 y flwyddyn. Yr oedd yn gyfrifol am ymddangos pan fai galw yn y llys. John ap Ieuan ap Howell Vaughan gadd lês ar dyddyn a thir am bedair blynedd ar bymtheg o'r ugeinfed o Chwefror, 1527, am 13/4 y flwyddyn. Yr oedd hwn yn denant yr oedd raid iddo dalu dirwy (heriot) trwy roi ei anifail gorau i'r fynachlog pan fyddai newid tenantiaeth. Dengys hyn nad oedd tenantiaid y mynaich mor rhydd ag y dywedir eu bod weithiau. Rhoddwyd lês am dair oes i Ieuan ap Henry Vychan a Margaret ei wraig, Medi 12, 1522—y tenantiaid i drwsio'r tŷ ar eu cost eu hunain pan fyddai angen.[26]

Dengys cyfrifon mynachlogydd eraill, fel Talyllychau, i'r mynaich fwynhau breintiau arglwyddi tir yr oesau canol hyd y diwedd breintiau megis gwasanaeth gorfod, yr anifail gorau pan fyddai tenant farw, a dirwy ar briodas merch.[27]

Daeth y Sistersiaid yn enwog am eu defaid a'u gwlân. Âi'r rhan fwyaf ohono i'r Iseldiroedd, ond ymddengys i ymdrech gael ei wneud unwaith i'w anfon i'r Eidal, a cheir mewn hen ysgrif amcangyfrif o'r gwlân y tybid y gellid ei gael o Gymru a'i ansawdd. Diddorol yw sylwi ar enwau Italaidd yr hen Fynachlogydd:


Lagraziadio (Grace Dieu, Mynwy) 5 sachaid yn y flwyddyn.
Morghana (Margam) 25 sachaid yn y flwyddyn.
Nietta (Neath) 10 sachaid yn y flwyddyn.
Lantarname (Llantarnam) 8 sachaid yn y flwyddyn.
Tanterna (Tintern) 15 sachaid yn y flwyddyn.
Dora (Dore) 16 sachaid yn y flwyddyn.
Istanforte (? Ystrad Fflur) 12 sachaid yn y flwyddyn.
Biancilanda (Tŷ Gwyn ar Daf) 15 sachaid yn y flwyddyn
Basingvecchi (Basingwerk) 10 sachaid yn y flwyddyn[28]

Bu'r Sistersiaid yn hynod boblogaidd yng Nghymru, fel y dengys cywyddau'r cyfnod, ac uchelgais pob bardd a thywysog oedd cael bedd yng nghwfaint y Fynachlog, wedi "cymryd ohono abid crefydd," ys dywed y croniclau. Fel y dywed Gruffydd Gryg:

Yr ywen i oreuwas,
Ger mur Ystrad Fflur a'i phlas;
Da Duw wrthyd, gwyn fyd gwydd,
Dy dyfu yn dŷ Dafydd.

—cyfeiriad at orffwysfan y digymar ap Gwilym.[29] Yn Ystrad Marchell y cafodd Llywelyn ap y Moel fedd, fel y dywed Guto'r Glyn:

Mae arch yn Ystrad Marchell
Ym mynwent cwfent a'u cell.

Hawliai Cynddelw Brydydd Mawr gael ei gladdu yn yr un fan y bu ymryson rhyngddo â'r mynaich ar y pwnc:

Can ni bai ammod dyfod—i'm herbyn
A Duw gwyn yn gwybod
Oedd iawnach i fynach fod
I'm gwrthfyn nag i'm gwrthod.

A phwy na ddewisai gael bedd ymysg gwerin Duw yn Enlli:

Mi af i luniaw fy medd
I'r ynys oddiar Wynedd
Gwyr un waed gwerin ydynt
Gwyr un dad gwerin Duw ynt.

Gan y beirdd y ceir y disgrifiadau gorau a feddwn o'r mynachlogydd a'u gwleddoedd:

Tai mis Mai, Tomas a'u medd
Tân, gwin, tai Owain Gwynedd *****Difai naddfaen, defnyddfawr,
A derw tir mewn dortur mawr!
Tai melus win, teml y saint,
Tai cafell, ty i'r cwfaint.
Ty da i'r ŷd, o'r tu draw,
Ty brag sydd, ty brics iddaw;
Gwal gerrig wrth Gilgwri.
A thy porth ar ei thop hi;
Caed ar fur lle caid aur faich,
Caer fain yn cau ar fynaich.
Ef a lanwodd felinau,
Ym mhob glyn, a phen bryn brau:
Duw hael, lle daw a'i helynt
Diofer gwaith dwfr a gwynt.

—Gutyn Owain, i Domas ap Dafydd Pennant, Abad Dinas Basing.


Cludo i mewn, cael ŷd a mêl
Cywain cerrig can cwarel.
Bir, gwin, medd, bara gwyn, mwy,
Brag, gwenith Aberconwy. *****

Y Ffenestr Orllewin, Tintern.

A'r dortur oll o'r derw trwm;
Capelau teg, cyplwyd hi
Crys glas i'r croes eglwysi;
Allor Fair hwnt, llwyr fawrhau
Yn aur dilin, a'r delwau,
Angel ar fedd Llywelyn. *****Capten gwyr llên, ag i'r llu
Côr y twysog, cwrt Iesu:
Calon y fainc a'i haelwyd
Cefn y ty a'r cwfaint wyd:
Cornor, neu rychor uchych,
Gwenyn y nef, gwynion, ych.

—Tudur Aled, i'r Abad Coch, Sieffre Cyffin, Abad Maenan.

Gweler hefyd gywydd mawreddog Dafydd Nanmor i Abad Ystrad Fflur.

Ond nid oedd y beirdd yn ddall i wendidau'r mynaich. Yn wir, anodd peidio â theimlo bod cryn lawer o waed drwg rhwng y ddwy urdd ar brydiau. Meddai Dafydd ap Gwilym:

Paid, er Mair, a'r pader main
A chrefydd menych Rhufain
Na fydd leian y gwanwyn
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn
Dy grefydd, deg oreuferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy, a mantell,
A gwyrdd wisg a urddai well
Dyred i'r fedw gadeiriog
I grefydd y gwŷdd a'r gôg.

Ac mewn cywydd arall:

Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion;
Ond celwydd yr offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid:
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy'r byd,
Gwraig, a hinon ac iechyd.
Merch fydd decaf blodeuyn
Yn y nef, ond Duw ei hun.

Dafydd ab Owen.

Ond mwy difrifol yw beirniadaeth Dr. Siôn Cent, a oedd â mwy o gydymdeimlad â chrefydd ei oes na'r trwbadŵr, ap Gwilym. Meddai ef:

Od â i nef, rhaid yn wir
Ffinio dros y corff anwir
A thalu'r ffin gatholig
Yn y tân o'r enaid dig.
Crist ni dderbyn o'r crastan
Enaid i'w law ond yn lân. *****Y myneich aml eu mwnai
Muriau têg, mawr yw eu tai.
Breisgion ynt ar eu brasgig
Breisgion difeinyddion dig
A'r brodyr pregethwyr gynt
A oeddynt heb dda iddynt
Y maent hwy hoewbwy hybeirch
Yn dri llu yn meddu meirch,
Cryfion ynt yn eu crefydd
Cryfion ddiffodyddion ffydd.

Cydnabyddir yn gyffredin fod cryn ddirywiad ym mywyd y crefyddwyr cyn i Harri VIII ddiddymu'r tai yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Bychain a thlawd oedd mwyafrif mawr y tai Cymreig. Nid oedd ond rhyw hanner dwsin ag incwm o £150 yn y flwyddyn, a dim ond tri, fel yr ymddengys, sef Glyn y Groes, Tintern a Slebech â mwy na £200—y safon a ddewiswyd i wahaniaethu rhwng y tai lleiaf, a ddiddymwyd yn 1536 a'r tai mwyaf a ddiddymwyd yn 1539. Ceir manylion ynghylch eu safle ariannol yn y Valor Ecclesiasticus, a chyfeiriadau mynych at eu safle grefyddol yn llythyrau'r dirprwywyr at Thomas Cromwell, gweinidog Harri.

Y mae i bob tŷ ei ystori ei hun, wrth gwrs, ond rhydd y cyfeiriadau hyn, ynghyd ag ambell ffaith arall a groniclwyd o'u hanes, gyfle i ni weled sut yr oedd pethau yn myned ymysg y rhai oedd wedi ymwadu â'r byd. Ceir cŵyn yn gynnar fod Abad Glyn y Groes yn caniatáu i ferched ddyfod i'r Abaty, a gorfu iddo sefyll ei benyd.[30] Gŵyr pawb am helyntion caru Enoch, Abad Ystrad Marchell, a phriores Llansantffraid yn Elfael—a achosodd gymaint siarad yn amser y glepwraig honno, Gerallt Gymro. Bu cymaint helynt hefyd yn Ystrad Marchell yn amser Edward III nes anfon o'r penadur hwnnw lythyr at bennaeth yr Urdd yn Citeaux yn erfyn arno symud y mynaich Cymreig, "oedd wedi ymroi i drythyllwch ac yn difa eiddo'r tŷ," a rhoi Saeson yn eu lle, a hynny a wnaed. Ond pan gofir mai John de Charlton, Arglwydd Normanaidd Powys, oedd wrth wraidd y cais, ni ellir rhoi dim pwys ar ei dystiolaeth. Y tebyg yw mai'r gwir reswm oedd ei fod yn awyddus am gael y mynaich yn fwy darostyngedig i'w ewyllys ef. Nid oes dim sail, beth bynnag, i'r hyn a ddywed amdanynt yn difa'r eiddo.[31] Llosgwyd y Fynachlog yn amser gwrthryfel Glyn Dŵr, ac y mae'n bosibl na bu llawer o drefn ar bethau yno wedyn.

Yn ddiweddar, daeth Mr. Edward Owen ar draws copi o "indwlgens" diddorol iawn yn dal perthynas â'r Fynachlog hon, wedi ei arwyddo gan y Cardinal Wolsey, ac wedi ei brintio, y mae'n debyg, tua'r flwyddyn 1528.[32] Dyma, ym marn Mr. Owen, y darn printiedig cyntaf a feddwn yn ymwneud â Chymru. Yn hwn cynigir i'r sawl a ymwelo â'r Fynachlog ar ddygwyliau neilltuol 10 mlynedd a 10 mis a 140 niwrnod o ryddhad o'r Purdan. Rhyddheir hwy hefyd o bob llw a gymerwyd ganddynt, ac os byddent yn glerigwyr, caent ganiatâd i gael allor symudol i offrymu arni y man y mynnent. Caent hefyd fwyta wyau, ymenyn, caws a llaeth—a chig hefyd, ond cael caniatâd y meddyg—yn ystod tymor y Garawys, a chaent ran a chyfran yn y rhinweddau a ddeilliai o offrymau a gweddïau'r Fynachlog. Gwerthid y pardynau hyn er budd y tŷ, a diddorol yw cofio mai gwaith Tetzel yn gwerthu pardynau tebyg a ddeffrôdd angerdd Luther ac a roddodd fôd i'r Diwygiad Protestanaidd. Dyma ymdrech olaf y tŷ crefyddol hwn, y mae'n debyg, i geisio cael ychydig arian i atgyweirio'r eglwys, oedd yn adfail, fe ddichon, er dyddiau Glyn Dŵr.

Yn yr un flwyddyn, ar y ddeunawfed o Awst, rhoddodd Wolsey bardwn i hen fynach o Lyn y Groes, a'i rhyddhaodd oddi wrth y penyd a haeddai am beidio â gwisgo dillad yr Urdd; caniatawyd iddo hefyd wisgo lliain yn nesaf at ei groen a leggins am ei goesau, oherwydd ei wendid—"o liw gweddus dan ei wn," a chafodd ganiatâd hefyd i siarad yn ddistaw yn y dortur a lleoedd eraill ac i gael bwyd a diod o fewn rheswm yn ei gell.[33]

Am ryw reswm neu'i gilydd, ni ymwelodd y Dirprwywyr ag Ystrad Marchell, ond aethant i Lyn y Groes ar yr 22 o Awst, 1535, a buont yno hyd y 26ain. Cymerasant yr abad ac un o'r mynaich ymaith a'u carcharu yng nghastell Holt, hyd nes y clywent beth oedd bwriad y Brenin ynglŷn â hwy.

Organ A.D. 1130-1174.

Nid oedd ond chwe mynach yn y tŷ, ac yr oedd y Fynachlog mewn dyled o 300 o farciau i'r Brenin ac eraill. Bwriadent ethol Abad newydd yn nechrau Medi; yr oedd Abad Cymer yn awyddus am y swydd ac yn barod i dalu £20 i'r Brenin os cai hi.[34]

Y mae'n debyg mai Robert Salisbury oedd yr Abad y cyfeirir ato uchod. Ceir hanes amdano ym mis Mai, 1535, yng ngharchar yn Rhydychen, wedi cael ei ddal mewn lle o'r enw Thame yn bathu arian drwg gydag eurych o Rydychen o'r enw Hall. Dywedir bod ganddynt tua £140 yn eu meddiant. Yr olwg olaf a gawn ar yr hen Abad yw ei enw ymysg y carcharorion yn Nhŵr Llundain, pan y'i rhoddwyd ef a'i gyfaill Hall yn ddiogel yn y Tŵr Gwyn am gyfnod.3[35] Yr oedd yno ar y chweched o Orffennaf y flwyddyn honno (1535). Ond ymddengys oddi wrth yr hyn a ddywedwyd uchod iddo gael ei ryddhau rywbryd cyn ymweliad y Ddirprwyaeth â Glyn y Groes yn Awst.

Anodd yw peidio â theimlo mesur o dristwch wrth sylwi ar fanylion yr ychydig gelfi oedd ym meddiant y BrodyrLlwyd a Du a Gwyn fel ei gilydd—pan ddaeth yr amser iddynt drosglwyddo eu heiddo i ddwylo'r Brenin.[36]

Ymddengys fod tŷ'r Ffransisiaid yng Nghaerfyrddin dipyn cyfoethocach na'r rhelyw ohonynt. Yr oedd gan y sacristan bentwr o ddillad ar gyfer y gwasanaeth. Yn eu mysg enwir siwt o sidan gwyn, gyda darlun o nifer o greaduriaid wedi eu gweithio mewn aur ar y cefn, ac un arall ddu gyda darlun o'r apostolion mewn brodwaith ar y cefn.

Yr oedd yno hefyd nifer o lieiniau i'w rhoi ar yr allor a chloch fechan at wasanaeth yr offeren, darn o frethyn du i'w daflu dros yr arch mewn angladd, a hefyd "a goodly pair of orgaynes."

Yn un o'r ystafelloedd ystafell y Brenin y gelwid hiyr oedd gwely plu gyda gobennydd a phâr o wrthbannau a chynfasau. Yn y gegin yr oedd dau gawg pres, pedwar plât piwter, II picyn, dysgl a melin fwstard; yn y bragdy, padell bres a cherwyn neu ddau at ddarllaw cwrw.

Yr oedd y rhan fwyaf o'r dodrefn gorau a hyd yn oed aml groes werthfawr wedi eu rhoi i fasnachwyr ar gyfer dyledion y tŷ, ac yr oedd rhyw gymaint o lestri wedi eu rhoi yn fenthyg i'r castell.

Dywedir i Frodyr Duon (Dominiciaid) Rhuddlan ymddiswyddo heb unrhyw orfodaeth, " for very poverty," a rhoddir enwau'r chwe brawd oedd yno ar y pryd. Nid oedd ganddynt wely o fath yn y byd, na dim dodrefn o unrhyw werth, ond yr oedd ganddynt ddwy fuwch a phum mochyn, a gwerthwyd y rheini i dalu'r ddyled oedd arnynt.

Tebyg oedd cyflwr pethau yn Hwlffordd, lle y gwerthwyd yr holl eiddo i dalu'r ddyled. Yr oedd yn Llanfaes bedair buwch, dwy ar hugain o ddefaid, pedwar twb o halen, un faril, cyfrwy a dwy fasged ynglŷn wrtho i gario nwyddau, a dau gerbyd o ryw fath yn y buarth. Dywedir bod yn Llanfaes hefyd ddau lyfr gwasanaeth printiedig-peth lled eithriadol ar y pryd, y mae'n debyg.

Pax Brede.

Atodiad.

NODIADAU ar y fasnach wlân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif gan Pezolotti. Gweler atodiad i Lyfr Cunningham Growth of English Industry and Commerce, 1, 624.

Adwaenir y gwlân fel y daw o'r mynydd fel gwlân cyfan neu wlân dafad gneifiedig, hynny yw, a'r cnu yn gyfan heb ddim ohono wedi ei gymryd ymaith.

Manwlan y gelwir gwlân dewisedig y rhoir mwy o werth arno na'r cnu fel y daw oddi wrth y ddafad.

Gwlân da y gelwir y gwlân gorau o'r gwlân dewisedig.

Gwlân Canolig y gelwir yr ail orau o'r gwlân dewisedig.

Gwlân cyffredin y gelwir y trydydd orau o'r gwlân dewisedig.

Gwlân toredig y gelwir y gwlân a gymerir ymaith oddiwrth y cnu pan fo baw'r ddafad ynglŷn wrtho.

Torchog y gelwir cnu'r ddafad wedi ei blygu a'i wneuthur ar ffurf pellen.

LLOEGR.

Am wlân y mynachlogydd yn Lloegr a pha faint o wlân a geir yn gyffredin gan bob mynachlog yn flynyddol a'r hyn a werthwyd o'r gwlân yn Fflandrys yn y flwyddyn 1315.

Y mae'r mynachlogydd hynny sydd yn dosbarthu'r gwlân yn ei rannu yn dri dosbarth: (1) y gwlan gorau, sef y gwlân da; (2) y gwlân canolig, a elwir yn wlân blynyddol, a (3) y gwlân sydd heb fod cystal, a elwir yn wlân cyffredin.

Tai o urdd y Cisterciaid:

La Graziadio (Tŷ Gras Duw), Mynwy. O'r gwlân da, 16 swllt; y gwlân canolig, 10 swllt, a'r gwlân cyffredin, 7 swllt y sach; pum sach yn flynyddol.

Biliguassi (Buildwas, Sir Amwythig). Y gwlân da, 20 swllt; y gwlân canolig, deuddeg swllt, a'r gwlan cyffredin, deg swllt y sach; ugain sach y flwyddyn.

Morghana (Margam, Sir Forgannwg). Y gwlân da, 17 swllt; ni pharatoant yno na gwlân canolig na gwlân cyffredin, ond y mae eu gwlân dewis yn chwe charreg y sach (cyfeiriad at y pwysau (Eng. stone?) hwyrach, yn hytrach na'r gwerth); 25 sach y flwyddyn.

Nietta (Glyn Nedd, Morgannwg). Y mae y gwlân yma yn gyffelyb ei werth i'r uchod ac yn gyffelyb ei baratoad hefyd; 10 sach y flwyddyn.

Lantarname (Llantarnam, Mynwy). Y sach o ddeubwys, swllt y sach, ac y mae yn bwys trymach(?). 8 sach y flwyddyn.

Tanterna (Tintern). Y gwlân da, 28 swllt; y gwlân canolig, 15 swllt, a'r gwlân cyffredin, 12 swllt y sach; 15 sach y flwyddyn.

Dora (Dore, Henffordd). Y gwlân da, 28 swllt; y gwlân canolig, 15 swllt, a'r gwlân cyffredin, 14 swllt y sach; 16 sach y flwyddyn.

Istanforte (Ystrad Marchell, meddai Cunningham, ond edrych yn debycach i Strata Florida). 10 swllt y ddau bwys. 12 sach y flwyddyn.

Biancalande (Tŷ Gwyn ar Dâf, Caerfyrddin). 10! swllt y ddau bwys. 15 sach y flwyddyn.

Basingvechi (Basingwerk, Fflint). Y gwlân da, 17 swllt;. y gwlân canolig, II swllt, a'r gwlân cyffredin, 9 swllt y sach; 10 sach y flwyddyn.

Chena (? Cymer). Y gwlân da, 15 swllt; y gwlân canolig, 9 swllt, a'r gwlân cyffredin, 8 swllt y sach. 8 sach y flwyddyn. Barchanoe (? Aberconwy) yng Nghymru. 20 sach y flwyddyn.

Nonne (?) Awgryma Mr. Whitwell Aberconwy.

Coate (? Conwy) yng Nghymru. 6 sach y flwyddyn. 9 swllt y sach. Nid oes wlân gan y tŷ brenhinol (cyfeiriad at y tŷ ym Maenan?).

Yr wyf yn ddyledus i'm cyfaill yr Athro E. T. Griffiths, Porth, am ymboeni gyda'r enwau a'r mesurau Italaidd, ond nid yw yn hawdd dyfalu beth yw rhai ohonynt.

Llyfrau.

CEIR toreth o lenyddiaeth yn ymwneud â phob agwedd ar fynachaeth. Mynachaeth Rufeinig a gaiff fwyaf o sylw fel rheol, wrth gwrs. Nid oes hyd yma yr un llyfr yn ymdrin â'r oll o'r urddau fel y gwna Montalembert yn ei lyfr, The Monks of the West—argraffiad diweddar gan Gasquet. Llyfr bach rhagorol yw llyfr Dr. W. B. Workman: The evolution of the Monastic Ideal.

Ar y gyfundrefn Gymreig gweler Newell: A History of the Welsh Church; a Dr. Hugh Williams: Christianity in Early Britain. Llyfr manwl a diddorol yw llyfr Gasquet: English Monastic Life. Gweler hefyd benodau yn llyfr Dr. J. E. Lloyd History of Wales.

Erys llyfr Dugdale, Monasticon, o werth amhrisiadwy, ond y mae mawr angen am argraffiad diwygiedig o'r llyfr hwn.

Rhydd llyfr Jessop, The Coming of the Friars, ddarlun da o ddyfodiad y Ffransisiaid i'r wlad. Ar yr un pwnc gweler Hutton: The Franciscans in England, a Little: Franciscan Studies, a hefyd ei Grey Friars at Oxford (Oxford Historical Society).

Y Valor Ecclesiasticus (1535), adroddiad Comisiwn Harri VIII, yw'r awdurdod ar gyflwr pethau yn adeg y diddymu. Gwnaed dadansoddiad manwl ohono gan Dr. Savine yn ei English Monasteries on the eve of the Dissolution (Gwasg Rhydychen). Ceir manylion pellach yng nghyfrifon y Court of Augmentations.

At ddeall y bywyd o safbwynt y mynach ei hun anodd cael gwell darlun nag a geir yng Nghronicl Jocelin of Brakelond (Kings Classics). Ceir aralleiriad ohono gan Carlyle yn ei Past and Present.

Erys llawer o dai Cymru heb eu hanesydd. Ysgrifennodd y Parch. D. D. Williams lyfr bychan ar Fynachlogydd y Gogledd (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol). Ymysg y tai sydd eisoes wedi cael eu hanesydd gellir enwi Aberconwy (Williams), Ystrad Fflur (W. S. Williams), Dogmael ac Aberteifi (Emily Pritchard), Margam a Nedd (de Gray Birch), a Ffransisiaid Caerdydd (Cronin), Tal y Llychau (Ed. Owen), "Arch. Cam.", IV, Series X, XI, Ystrad Marchell (M. C. Jones), "Mont. Coll.", IV, V and VI.


Nodiadau

[golygu]
  1. Gwêl Lloyd I, 193, ynglŷn â'r anhawster o dderbyn yr hen draddodiad am Dunawd fel tad Deiniol a sefydlydd Bangor is y coed. Tueddir ef i edrych ar Fangor is y coed fel cangen o Fangor Fawr yn arfon. Yr oedd gan Deiniol law yn sefydlu y naill a'r llall, a dichon fod Dunawd o'r un teulu.
  2. Dyma syniad sylfaenol llyfr y diweddar Willis Bund ar y Celtic Church, ond y mae'n amheus a ddylid rhoi'r lle amlwg i'r llwyth yng nghyfundrefn yr Eglwys Geltaidd ag a roir ganddo ef
  3. William of Malmesbury, History, 47.
    "That their number was incredible to these times is apparent from so many half destroyed walls of churches in the neighbouring Monastery, so many winding porticoes, such masses of ruins as can scarcely be seen elsewhere." Ond amheua Palmer yr hyn ddywed William. (Gwêl Y Cymmrodor, X, p. 16.)
  4. Bede: Ecclesiastical History, I, 20.
  5. Newell: A History of the Welsh Church, 91.
  6. Ibid. 81
  7. Lloyd: op. cit., I, 154. Ni ellir edrych arnynt fel mynachlogydd, fel y deallwn ni'r gair heddiw.
  8. Rhygyfarch: Buchedd Ddewi, §21—27.
  9. Newell op. cit., 85.
  10. Ibid., 51.
  11. Ibid., 53.
  12. Gweler erthyglau ysgolheigaidd Harold Hughes yn Archeologia Cambrensis o 1920 ymlaen ar barhad y traddodiad artistig Celtaidd ym Môn. Early Christian decorative art in Anglesey."
  13. Giraldus Cambrensis: Speculum Ecclesiae, III, 8. Ar hanes y Culdeaid gweler W. Reeves: The Culdees of the British Islands.
  14. Ivo de Chartres a dynnodd allan y rheolau o ysgrifau Awstin.
  15. Newell op. cit., 176—7, 292—3.
  16. Freeman yn Archæologia Cambrensis, 1857 ac 1888.
  17. Newell: op. cit., 297.
  18. Gweler cofiant rhagorol St. Bernard gan J. Cotter Morison.
  19. Lloyd History of Wales, II, 590—604.
  20. Gweler erthygl Miss Easterling ar "Dai'r Brodyr yng Nghymru." yn Archæologia Cambrensis. VI Series, xiv, 323.
  21. Er enghraifft Custumal Battle Abbey, nêu Domesday St. Paul, neu Custumal Cupar Angus yn Ysgotland.
  22. Cistercian Statutes, 1134.
  23. Weithiau byddai'r rhodfeydd ar du'r gogledd fel yn Nhintern a Dore.
  24. Giraldus Cambrensis: Itinerary through Wales (Everyman's Library), 54
  25. Montgomeryshire Collections, IV, V and VI.
  26. Ibid Gwnaed yr un peth yn union gyda thiriogaethau Sant Dogmael (Llandudoch), a mynych y cyfeddyf y Dirprwywyr iddynt fethu a chael gafael ar un weithred i ddangos beth ddigwyddasai. Gweler Cymmrodor, XXVII, td. 19—25.
  27. Ibid Gwnaed yr un peth yn union gyda thiriogaethau Sant Dogmael (Llandudoch), a mynych y cyfeddyf y Dirprwywyr iddynt fethu a chael gafael ar un weithred i ddangos beth ddigwyddasai. Gweler Cymmrodor, XXVII, td. 19—25.
  28. Gweler yr Atodiad.
  29. Ceir modd bynnag farwnad i Dafydd gan Hopcin ap Tomas ap Einion o Ynys Dawe (1380) lle y dywedir ei gladdu mewn "lle uch dwr Tal llychau deg.'
  30. Archæologia Cambrensis, Series I, iii. 77
  31. Mont. Coll., V, 147
  32. Cymmrodor, XXIX, 1—32.
  33. Archæologia Cambrensis, Series IV, xiv, 131.
  34. State Papers, Vol. IX, 244. Foreign and Domestic (1535).
  35. Ibid., Vol. VIII, 789.
  36. Archæologia Cambrensis, 4th Series, Vol. I, 39.