Cymru'r Oesau Canol (testun cyfansawdd)
| ← | Cymru'r Oesau Canol (testun cyfansawdd) gan Robert Richards (Aelod Seneddol) |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cymru'r Oesau Canol |

CYMRU'R OESAU CANOL

CYMRU'R
OESAU CANOL
ROBERT RICHARDS
WRECSAM
HUGHES A'I FAB
CYHOEDDWYR
1933
MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN
I
M
a wnaeth
ysgrifennu'r llyfr
yn bosibl
Rhagair.
YN y gyfrol hon amcenir rhoi amlinelliad o fywyd cymdeithasol Cymru yn ystod yr oesau canol. Gŵyr pawb a fu wrthi'n ceisio dadlennu bywyd economaidd y cyfnod canol fel y mae'n rhaid ar hyn o bryd ddibynnu bron yn gyfangwbl ar awduron Seisnig fel Ashley, Cunningham, Lipson, ac eraill, tra ar yr un pryd y mae toreth o wybodaeth yn ymwneud â'r materion hyn o safbwynt Cymru ynghladd yng nghylchgronau gwahanol Gymdeithasau ac mewn llyfrau ysgolheigaidd wedi eu hysgrifennu gan mwyaf yn Saesneg. Yn gam neu'n gymwys bernais ei bod yn bryd i rywun ddwyn allan lyfr Cymraeg yn ymdrin â'r pynciau diddorol hyn.
Ond ni fûm ddiystyr o waith awduron Seisnig, ac ni phetrusais adael ambell ddifyniad Saesneg heb ei gyfieithu, fel gwaith George Owen, hanesydd Sir Benfro, ac yn wir ambell ddernyn o waith haneswyr Lloegr, lle y mae eisoes gyfieithiad Saesneg hylaw. Credaf ei bod yn fwy pwysig i aelodau'r Brifysgol, o'r tu fewn ac o'r tu faes i'w muriau, fod wedi darllen cyfieithiad Colt Hoare o Daith Gerallt Gymro trwy Gymru (yng nghyfres Everyman) nag ydyw iddynt fedru difynnu brawddeg yma ac acw ohono yn Lladin—yr iaith yr ysgrifennwyd y llyfr ynddi. A'r un modd gyda'r clasuron hanesyddol eraill, fel gwaith William o Malmesbury neu Fathew Paris. Gorau po gyntaf y daw ein hefrydwyr i ymgydnabod â gweithiau'r gwŷr hyn trwy'r cyfieithiadau Saesneg os nad ydynt yn medru darllen Lladin y mynaich yn rhwydd, gan fod arnaf ofn na cheir byth gyfieithiad o'r un ohonynt i'r Gymraeg. Yr wyf felly wedi mentro difynnu o'r cyfieithiadau Saesneg er mai yn Lladin yr ysgrifennai yr awduron a enwyd gennyf.
Pechod parod yr hanesydd economaidd, fel ei ragflaenydd yr hanesydd politicaidd, yw tybio mai'r agwedd economaidd ar fywyd cenedl yw'r unig agwedd sydd yn bwysig. Ond hyderaf imi fedru osgoi'r brofedigaeth hon, i fesur beth bynnag, drwy geisio dadlennu agweddau ar fywyd y cyfnod a orwedd yn gyfangwbl y tu allan i'r cylch economaidd. Rhaid wrth gwrs oedd rhoi sylw arbennig i amodau bywyd pob dydd, ond ymdrechais hefyd alw sylw at y bywyd crefyddol sydd à chymaint o swyn yn perthyn iddo; a thra'r oedd yn rhaid pwysleisio gwasanaeth yr amaethwr, y masnachwr, a'r crefftwr, ni bûm ddiystyr o ramant bywyd yr herwr, y crwydryn, a'r ysgolhaig.
Ni wnaed unrhyw ymgais i ddadlennu'r bywyd Cymreig fel rhywbeth hollol arbennig ac eithriadol. Fel gyda phob bywyd y mae i'r bywyd Cymreig yn y cyfnod hwn ei nodweddion gwahanfodol; ond hir graffu arno gwêl yr efrydydd mai llifeiriant bywyd y Gorllewin yw'r gwaed sydd yn curo yng ngwythienau'r genedl, a bod y bywyd hwnnw'n achlysurol yn ei wisgo'i hunan mewn ffurfiau sydd yn cydweddu'n well â naws gynhenid y Cymro.
Fel y gŵyr y cyfarwydd fe wneir gwaith ysgolheigaidd campus gan Gymry blaenllaw bron ym mhob un o'r meysydd y bûm yn ddigon beiddgar i fwrw golwg drostynt. Cofio a wneuthum am gyngor y ferch o Sir Drefaldwyn mewn cysylltiad arall; a phan fentrais innau loffa ym mhriod feysydd rhai o'm cyfeillion ni chefais gymaint croeso gan neb a chan y medelwyr eu hunain. Y mae eu nifer erbyn hyn yn dra lluosog, a chefais garedigrwydd arbennig oddi ar law rhai ohonynt. Ond na thybied y sawl na enwir gennyf mai diystyr wyf o werth eu cyfraniad hwy. Yn wir gellir dweud am lawer ohono ei fod eisoes yn rhan o gynysgaeth feddyliol y genedl.
Bellach nid oes gennyf ond cydnabod fy nyled i'r cyfeillion hynny a fu mor garedig yn fy nghefnogi a'm cynorthwyo i ddwyn y llyfr allan.
Bu'r Dr. J. E. Lloyd o Fangor mor garedig a darllen rhai o'r penodau cyntaf pan oedd y llyfr yn rhyw ddechrau ymffurfio yn fy meddwl, ac anogodd fi i fynd ymlaen â'r gorchwyl; ac felly hefyd yr Athro Ifor Williams. Cwynai'r cyfaill Ifor, a'r un modd R.T., oherwydd aflerwch fy llawysgrif, ac ymgymerth cyfaill arall—Mr. F. Wynn Jones, o'r Swyddfa Lafur yn Llundain, â'i ail ysgrifennu mewn diwyg y gallai dyn yn rhesymol ddisgwyl medru ei ddarllen heb beryglu na'i grefydd na'i olwg. Ni fedraf fyth ddatgan yn llawn faint fy nyled iddo ef, nid yn unig am y fath gymwynas, ond hefyd am awgrymu llawer gwelliant sydd wedi ychwanegu nid ychydig at gywirdeb a gwerth y llyfr. Bu hefyd yn darllen rhai o'r proflenni, ac felly hefyd y Dr. Alun Roberts o Fangor; a gwnaeth Mr. R. T. Jenkins hynny ddwywaith. Mawr yw fy nyled hefyd i Gymdeithasau fel Cymmrodorion Llundain, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, a'r Powysland Club am eu caniatâd parod i ddefnyddio darluniau oedd wedi ymddangos o bryd i bryd yn eu cyhoeddiadau. Bu yr Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, y Llyfrgell Genedlaethol, y Bodleian, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, a Chymru, yn garedig iawn i'r un cyfeiriad. Cefais fenthyg lluniau hefyd gan y Mri. Macmillan, Llundain, Gweinyddiaeth Amaethu, Llundain, Cassell a'i Gwmni, y Booth Steamship Co., Cymdeithas Hynafiaethau Llandudno a'r cylch, Mrs. Yates Thompson, Periglor Breteuil, Mr. H. H. Hughes, F.S.A., ac eraill. Yr wyf wedi ceisio eu cydnabod oll mewn cysylltiad â'r darlun arbennig a gefais yn fenthyg ganddynt. Os gadawyd rhywun allan, mewn amryfusedd y bu hynny, a hyderaf y caf faddeuant gyda'r un parodrwydd ag a ddangoswyd ganddynt pan yn gwneud y gymwynas â mi.
Y mae'n bleser hefyd gennyf gydnabod gwasanaeth argraffwyr Gwasg y Dywysogaeth, Wrecsam. Buont yn hynod ofalus a hynaws ar hyd y ffordd, a chredaf y bydd destlusrwydd y llyfr beth bynnag yn rhywbeth y medrwn fel Cymru ymfalchio ynddo.
Hyderaf y bydd y llyfr o wasanaeth nid yn unig i'r efrydydd mewn coleg ac ysgol, ond hefyd i'r gwerinwr unieithog a gâr wybod rhywbeth am helynt gorffennol ei wlad.
R. RICHARDS.
- Gorffennaf, 1933.
Cynnwys.
I. CYFNODAU HANES
II. YR OESAU TYWYLL A'R CYFNOD CANOL
III. Y CEFNDIR CYMREIG
IV. DAEARYDDIAETH A RHANIADAU'R WLAD.
V. FFURF-LYWODRAETH
VI. BYWYD GWLAD—AMAETHU.
VII. BYWYD GWLAD-Y CARTREF A'R WISG
VIII. Y FFOREST
IX. BYWYD TREF. Y SIARTRAU
X. FFAIR A MARCHNAD .
XI. DIWYDIANT A MASNACH
XII. BYWYD CREFYDDOL—Y PLWYF
XIII. Y FYNACHLOG
XIV. BYWYD MILWROL—Y MARCHOG
XV. BYWYD MILWROL—Y CASTELL.
XVI. FFORDDOLION.
XVII. IECHYD
XVIII. DYSG
XIX. LLÊN
ATODIAD A.
ATODIAD B.
ATODIAD C.
NODIADAU AR Y DARLUNIAU
MYNEGAI

I.
Cyfnodau Hanes.
All divisions of history into periods are artificial in proportion as they are precise. In history there is, strictly speaking, no end and no beginning. Each event is the product of an infinite series of causes, the starting point of an infinite series of effects.
H. W. C. DAVIS.
HYD yn ddiweddar iawn, arferid rhannu hanes yn ddau brif gyfnod, yr hen a'r diweddar, gyda chyfnod rhyngddynt o wyll neu, yn wir, o nos dywyll. Torrodd y wawr, meddid, yng ngwareiddiad Groeg ryw ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, ond duodd y ffurfafen megis ar ganol dydd pan ddiddymwyd yr ymerodraeth Rufeinig gan ruthr anwariaid y gogledd yn y bumed ganrif o oed Crist. Parhaodd y nos am oddeutu mil o flynyddoedd nes ail-godi o haul gwareiddiad yng ngogleddbarth yr Eidal a thaflu ei oleuni dros holl wledydd y gorllewin—goleuni a erys yn llachar hyd heddiw. Gwneir y rhaniadau hyn yn bennaf am eu bod yn hwylus : ar yr un pryd nid oes dim a bwysleisir yn amlach gan haneswyr na'r ffaith mai un yw hanes. Ymestyn digwyddiadau hanes fel cadwyn hir rhwng niwl y gorffennol a nos y dyfodol. Nid oes a ŵyr y dechrau nac a wêl y diwedd, ond ymdreigla'r gadwyn ymlaen ddolen wrth ddolen yn ddidor-a hyd y gwelwn ni yn ddiderfyn hefyd.
Priod waith yr hanesydd yw ceisio symud ychydig ar y niwl a ordôdd orffennol dyn, ond ni all yntau amgyffred holl rawd digwyddiadau hanes, ac erys y dyfodol cyn dywylled iddo ef ag ydyw i'r distadlaf ohonom. Er gweled ohonom y we a deall ychydig ar y cynllun wrth edrych yn ôl, nid oes ddewin a all ddywedyd pa batrwm newydd a ddichon fod ar y gweill yfory. Ond nid yw'r caddug mor drwchus uwchben pob rhan o feysydd hanes a'i gilydd: ceir ynddynt ambell lecyn golau a chryfha'r goleuni fel y nesheir at yr amser yr ydym ni ein hunain yn byw ynddo. Er hynny, cydnebydd haneswyr nad oes gyfnod anos ei elfennu na'r cyfnod y bo'r hanesydd ei hun yn byw ynddo, a chyfyd yr anhawster, meddant, nid o ddiffyg goleuni, ond o gael gormod ohono. Cerir yr hanesydd ymlaen ar lifeiriant digwyddiadau ei ddydd, ac o ganlyniad erys hanes y digwyddiadau hynny heb ei sgrifennu hyd nes elo ysbaid o amser heibio fel y caffer golwg arnynt megis oddi draw. Yr ydym oll megis dail ym merw'r tonnau, ac am hynny ni allwn iawn synied am rym a chyfeiriad y lli.
Y mae brawddeg Saesneg a ddywed y gesyd pellter hud dros brydferthwch bro. Boed hynny fel y bo, mantais yn ddiamau i'r hanesydd yw bod pellter rhyngddo â maes ei astudiaeth. Wrth edrych ar ddigwyddiadau hanes ysbaid o amser oddi wrthynt, cenfydd fod yn perthyn i rai ohonynt unoliaeth na pherthyn i'r lleill, a'u bod o ganlyniad yn haws eu deall a'u hamgyffred; a'r nodwedd hon sy'n cyfrif am yr arfer o rannu hanes yn gyfnodau.
Fel y dywedwyd eisoes, ni chyll y gwir hanesydd olwg ar y gwirionedd mai un yw hanes. Fe wêl yn eglur y llithra'r cyfnodau y naill i'r llall mor naturiol a didor ag y dilyna'r blynyddoedd ei gilydd yn nhreigliad amser, heb fwlch o gwbl yn unman. Ar y llaw arall fe genfydd o hir graffu ar ambell gyfnod y perthyn iddo nodweddion arbennig a'i gwahaniaetha oddi wrth gyfnodau eraill; fe wêl ei dwf o ddyddiau plentyn- dod a nwyfiant ieuenctid i'w lawn faint a'i nerth ym mlynydd- oedd canol oed, ac yna yn gwargrymu a phenwynnu ac yn y man yn llwyr ddiflannu. Mewn gair, gellir olrhain mewn ambell gyfnod ei fywyd organig—ei bersonoliaeth—ei hun: a chyhyd ag y cofier bod perthynas rhyngddo â bywyd y cyfnodau o'i ddeutu, purion peth yw ei astudio ar ei ben ei hun.
Yn gyffredin rhennir hanes Ewrop gan haneswyr yn dri chyfnod, sef cyfnod hen hanes, y cyfnod canol, a'r cyfnod diweddar. Dechreuir cyfnod hen hanes gyda thoriad gwawr gwareiddiad Groeg tua 800 c.c., a diweddir ef gyda goresgyniad yr ymerodraeth Rufeinig gan genhedloedd anwar Germani yn y bumed ganrif o.c. Na thybier oddi wrth hyn nad oedd i Roeg hanes cyn dechrau'r cyfnod hwn, oherwydd cafwyd llawer o oleuni yn ddiweddar ar fywyd cyntefig y wlad—y bywyd crwydr ac wedi hynny fywyd y pentref gwledig cyn codi o'r dinasoedd a ddaeth mor bwysig yn ei hanes. Dengys darganfyddiadau hynafiaethwyr nad twf undydd unnos oedd gwareiddiad Groeg, a bod ei ddyled yn fawr i wareiddiadau cynharach a ffynnai yng Ngroeg ei hun a hefyd mewn gwledydd cyfagos, megis ynys Creta a'r Aifft. Cytunir erbyn hyn mai o wareiddiad cynnar yr Aifft y tarddodd gwareiddiad Creta, a bod ei ôl yntau yn drwm ar wareiddiad Groeg—enghraifft a ddengys mor ddifwlch yw hanes dyn. Pe bai ein gwybodaeth yn gyflawnach, dichon y medrem olrhain rhawd gwareiddiad ar draws Asia o'i fore pell yn y dwyrain draw, ond ychydig a wyddom am ei gyfnodau cyntaf oll yn China, India, Babilon a'r Aifft. Heblaw hynny, y mae'r hyn a wyddom amdanynt yn peri i ni deimlo bod rhywbeth anghyffwrdd ynddynt, ac nad oes ond perthynas bell rhyngom ni â hwynt. Ond wrth syllu ar fywyd Groeg neu Rufain, gwelwn yn amlwg sylfeini gwareiddiad ein cyfnod ni, a phriodol am hynny yw ystyried oriau anterth y ddwy genedl honno fel cyfnod cyntaf gwareiddiad y gorllewin.
Gwlad o fynyddoedd uchel oedd cartref cyntaf y gwareiddiad hwn. Cul a dwfn yw ei dyffrynnoedd, ond ymleda rhai ohonynt yn wastadeddau ffrwythlon mewn ambell fan. Ar dair ochr i'r wlad-de, dwyrain, a gorllewin—y mae dyfroedd cynnes, tawel, y Môr Canoldir, a thua'r gogledd y mae ucheldir anhygyrch yn ei chlymu wrth gyfandir Ewrop. Rhyngddi ac Asia tua'r dwyrain a'r Aifft tua'r de y mae nifer mawr o fân ynysoedd, ac o ganlyniad gellid teithio yn ôl ac ymlaen i'r gwledydd hynny yn hwylus a didrafferth. Naturiol felly oedd i'r wlad ddyfod yn fan cyfarfod y tri chyfandir a derbyn argraffiadau a syniadau o ddwyrain a de a'u trosglwyddo i ogledd a gorllewin. Bendithiwyd hi â hinsawdd dyner, hyfryd, a gellir byw yno yn yr awyr agored am gyfran helaeth o'r flwyddyn. Y mae'n wir bod y gaeaf yno yn aml yn oer a drycinog, ond anfynych y pery'n hir. Nid yw'r wlad yn hynod am ei ffrwythlondeb, ac y mae yno, fel yng Nghymru, amrywiaeth mawr yn ansawdd y tir. Ar gribau'r mynyddoedd cartrefa'r bugeiliaid a'u geifr, ac yna ar y llethrau ceir coed- wigoedd, fel a geid yng Nghymru gynt, a'r rhan fwyaf o'r coed yn fytholwyrdd. Yn îs i lawr ceir y tir gwair a'r tir âr lle tyf y gwenith a'r gwinwydd y rhain a'r olewydd yw prif foddion cynhaliaeth trigolion y rhan hon o'r byd. Dyna fras-ddarlun o'r fan lle tyfodd gwareiddiad—"gwlad arw," meddai Homer amdani, "ond magwrfa gwŷr a'r anwylaf o'r gwledydd i mi."

Anodd yw cyfleu mewn byr eiriau y gwasanaeth a gyflawnodd y Groegiaid wrth osod i lawr sylfeini gwareiddiad y gorllewin. Gellir ei rannu er mwyn hwylustod yn ddwy ran, sef cynnyrch eu dwylo a ffrwyth eu meddwl, heb geisio penderfynu o gwbl pa un o'r ddau yw'r pwysicaf. Ym myd syniadau, gosododd y Groegiaid gerbron dynion ddelfryd dinasyddiaeth, ac ar yr un pryd llwyddasant i fesur i gyrraedd y delfryd hwnnw yn eu bywyd cyhoeddus. Ffynnai'r bywyd hwnnw mewn dinasoedd bychain—rai ohonynt, megis Sparta, yn llechu yng nghysgod y mynydd- oedd; eraill, megis Athen, ar y gwastadedd; ac eraill drachefn, megis Samos, ar yr ynysoedd cyfagos. Ar y dechrau, nid oedd y ddinas-y Polis fel y galwent hwy hi-ond lle cadarn, diogel, i ffoi iddo yn nydd cyfyngder, ond yn raddol datblygodd y syniad ym meddwl y Groegiaid mai bywyd y ddinas oedd delfryd uchaf bywyd dyn. Iddynt hwy, gorau dyn dinesydd da, a cheir mwy nag adlais y syniad hwn yn nysgeidiaeth y

Testament Newydd, yn enwedig yng ngweithiau Paul. Llwyddasant i ddangos i'r byd yn eu bywyd eu hunain mai hanfod dinasyddiaeth yw cydraddoldeb a rhyddid. Er gwyched diwylliant Babilon a'r Aifft ar lawer cyfrif, gormes oedd sail eu cyfundrefn llywodraeth a theyrn yn gorchfygu a diorseddu teyrn a geir trwy gydol eu hanes. Ni fedrodd Groeg hithau ymryddhau'n llwyr oddi wrth deyrnlywodraeth, ac ni lwyddodd rhai o'r dinasoedd i osgoi pendefigaeth ac oligarchiaeth. Er hynny, yno y dechreuwyd sylweddoli pwysigrwydd cyfartalwch a thegwch a rhoddi gwerth ar ddyn fel dinesydd. Cyrhaeddodd yr egwyddorion newydd eu huchafbwynt yng ngweriniaeth Athen, lle bu datblygiad eglur o frenhiniaeth i bendefigaeth a thrachefn i werinlywodraeth. Ar sail profiad y ddinas, ymgymerth dau o'i phrif feddylwyr, a gyfrifir hefyd yn brif feddylwyr yr oesau, â dadansoddi ac egluro natur ei bywyd. Ymdriniaeth ddamcaniaethol a geir gan Plato ar egwyddorion bywyd uchaf dyn mewn cymdeithas â'i gyd-ddyn, ond agwedd ymarferol y pwnc oedd testun Aristotl, sef gwahanol ffurfiau a threfniadau llywodraeth Dinas. Y ddwy astudiaeth hyn, er mor wahanol oeddent i'w gilydd, yw sylfaen Athroniaeth Llywodraeth y gorllewin, ac ni bu odid ddau lyfr yn y byd mwy a dyfnach eu dylanwad na "Gwleidyddiaeth" Aristot a "Bywyd Cymdeithas" Plato (a adwaenir yn Saesneg wrth yr enwau Aristotle's Politics a Plato's Republic)[1]. Ni chytuna pob athronydd mai gweriniaeth yw'r ffurf orau ar lywodraeth gwlad, a cheir heddiw lawer o feirniaid a wêl beryglon o'i mabwysiadu. Er hynny, yn araf mentrodd gwledydd y gorllewin eu tynged i'w dwylo, ond y mae'n amau a wnaethai un ohonynt hynny oni bai am yr esiampl a osodwyd ger eu bron gan Athen a dinasoedd eraill Groeg a'r addysg a roddwyd iddynt yng ngweithiau athronwyr y Ddinas.
Meddai'r Groegwr ar feddwl chwim a threiddgar eithriadol. Ymgodymai â phob pwnc heb ragfarn traddodiad i gymylu ei olygon, a thrwy hynny fe ddysgodd i'r byd gelfyddyd anodd athronyddu. Dywedwyd eisoes mai Plato ac Aristotl oedd sylfaenwyr y wybodaeth honno y gellir ei galw yn Athroniaeth Llywodraeth, a gellir dywedyd ymhellach mai hwy—a dylid enwi Socrates gyda hwy—oedd creawdwyr Athroniaeth gyffredinol. Ni wyddys a sgrifennodd Socrates lyfr, ond y mae'n hysbys iddo ddylanwadu'n drwm ar ei ddisgybl, Plato, ac mai eiddo ef lawer o'r syniadau a geir yng ngweithiau'r disgybl hwnnw. Rhwng dulliau meddwl Plato ac Aristotl yr oedd gwahaniaeth mawr, ond o roddi gwaith y ddau gyda'i gilydd ceir ymdriniaeth ar bron bob agwedd ar Athroniaeth, a gellir dywedyd nad ychwanegwyd ond ychydig at eu cyfraniad hwy hyd amser sylfaenwyr gwyddoniaeth ddiweddar yn yr ail ganrif ar bymtheg o oed Crist.
Cyrhaeddodd y Groegwr dir uchel iawn hefyd ym myd llên, ac erys Homer, er enghraifft, bron heb ei gymar ar hyd yr oesau. Ymhyfrydai'r Groegwr â barddoniaeth a chynhyrchodd gampweithiau godidog mewn arwrgerdd a thelyneg, galargan ac
epigram. Dichon mai'r unig fath ar ganu nas perffeithiodd oedd y watwareg—a ddaeth yn ddiweddarach yn boblogaidd ymysg y Rhufeiniaid. Nid oedd y rhamant a'r nofel yn ffurfiau llenyddol arferedig ganddo, ond cyrhaeddodd y ddrama odidowgrwydd yng ngweithiau Aeschylus, Euripides a Sophocles na welwyd fyth wedyn ei debyg heblaw yng ngweithiau Shakespeare. Groegwr, drachefn, sef Herodotus, oedd tad y gelfyddyd o sgrifennu hanes. Edrydd ef hanes ei wlad a'i pherthynas â'r gwledydd o'i hamgylch mewn modd hollol ddiragfarn ac amhleidiol fel pe na bai ddafn o waed Groegwr yn ei wythiennau. Yn yr un modd rhydd Thucidydes bortread byw, beirniadol, o weriniaeth mewn brwydr farwol â'i gelynion a'r modd yr ymdrawodd democratiaeth yn nydd y prawf. Er bod ei faes yn llai ac yntau ei hun yn gadfridog ym myddin Athen, nid yw ei ymdriniaeth ronyn llai manwl a diragfarn nag eiddo Herodotus. Gellir enwi lliaws yn rhagor o ganghennau diwylliant a dysg a'u holrhain yn ôl i feddwl grymus ac ymchwilgar Groeg. Ni chyfododd rheitheg i arucheledd mwy urddasol nag a gyrhaeddodd yn areithiau Demosthenes a Phericles; gosodwyd sylfeini mesuroniaeth gan Euclid ac Eudemas, disgybl Aristotl, a seryddiaeth gan Ptolemy; Archimedes oedd tad gwyddor pwerau anian (Physics); a gwnaeth Aristotl a Galen fwy ym maes gwyddor bywydeg na neb ar eu holau hyd amser Cuvier a Linnæus. Linnæus a Cuvier oedd fy arwyr gynt," meddai Charles Darwin, " ond nid ydynt ond megis hogiau ysgol o'u cymharu â'r hen Aristotl." Nid gormod yw dywedyd, felly, i'r Groegwr gynhyrchu llenyddiaeth na welwyd eto ei pherffeithiach; ac ar gyfrif ei ffurfiau caboledig a'i chynnwys cyfoethog, erys hon yn ysbrydiaeth ac yn symbyliad i feddwl yr ugeinfed ganrif fel y symbylodd feddwl y bymthegfed ganrif pan ail-ddarganfuwyd trysorau'r hen fyd gyda gwawr y Dadeni.
Troer drachefn at gynnyrch ei ddwylo. Yr oedd y Groegwr yn feistr ar gelfyddyd y pensaer a'r cerflunydd, ac ni pheidiodd y byd eto a rhyfeddu wrth edrych ar ei adeiladau a'i gerf- ddelwau. Er gwaethaf pob dirmyg a wnaed ar y Fenws o Melos yn nhreigliad amser, erys hi o hyd yn oruchaf yn serch y byd; berffeithied yw gwaith y cerflunydd nes hudo dyn i feddwl wrth edrych arni bod gwaed yn curo yn ei gwythiennau marmor ac i ddisgwyl clywed llais yn torri dros ei gwefus gain. Felly hefyd y Parthenon, er ei fod bellach yn furddyn, ni fedd y byd ddim hafal iddo; syrth y pali dros fronnau'r duwiesau a'i haddurna cyn ysgafned ag y disgyn niwl sidanaidd dros y twyni fore o haf. Nid yw'r rhain ond enghreifftiau ymhlith lliaws o greadigaethau cyffelyb, ac erys eto lawer ohonynt i ysbrydoli artistiaid yr oesau. Er ehangu o wareiddiad ei derfynau, ni chododd erioed yn uwch nag a wnaeth pan oedd Groeg yn ei hanterth. Nodweddid
y gwareiddiad hwn hefyd gan berffeithrwydd amlochrog eithriadol iawn. Yno yr ymgodymwyd gyntaf â'r anawsterau hynny sydd o hyd yn poeni ysbryd a meddwl dyn, ac yno hefyd y cafwyd gyntaf fesur o lwyddiant ar eu datrys. Yno felly y dylid chwilio am sylfeini bywyd amlochrog y gorllewin ac am wreiddiau y pethau godidog sy'n etifeddiaeth inni.

Ychydig tua'r gorllewin o wlad Groeg ymestyn penrhyn arall o'r Alpau brigwynion yn y gogledd i ganol y Môr Canol- dir, i gyfeiriad cyfandir Affrig tua'r de, ac ar hyd ei ganol yn asgwrn cefn iddo y mae rhes o fynyddoedd uchel—yr Appeninau. Tua hanner y ffordd rhwng gogledd a de, a'i hwyneb tua machlud haul a'i chefn ar wlad Groeg, y mae Rhufain, a fu am lawer canrif yn brifddinas y byd. Saif tua chanol y gwledydd sy'n taro ar y Môr Canoldir, gwledydd yr hinsawdd gynnes a'r haf hir, cartref yr oraens a'r gwinwydd a'r olewydd. Ni bu'n hir cyn darostwng y gwledydd hyn dan ei hawdurdod: ac o fewn y cylch hwn a than ddylanwad Rhufain y lledaenwyd y gwareiddiad a welodd ddisgleiried boreddydd yn nhrefydd bychain Groeg.
Wrth symud o Roeg i Rufain, nid oedd y gwareiddiad yn mudo ymhell nac ychwaith yn newid llawer ar ei anian. Anadlai yr un awyrgylch o hyd, yn dymhorol ac yn ysbrydol: yn wir, yr oedd y Groegiaid eisoes wedi trawsfeddiannu cymaint o ddeheubarth Itali nes i'r rhan honno gael ei henwi yn Roeg Fawr, a Groeg a siaredir mewn rhai rhanbarthau yno hyd heddiw. O ran gwaed, nid oedd berthynas agos rhwng y Rhufeiniwr a'r Groegwr—yr oedd agosach perthynas rhwng y Rhufeiniwr a'r Celt—ond trwy rym amgylchiadau ni bu'n hir cyn yfed yn helaeth o ddiwylliant Groeg a mabwysiadu llawer o'i harferion. Er enghraifft, derbyniodd elfennau cyfundrefn grefyddol y Groegwr, a daeth Zeus Groeg yn Iwpiter Rhufain ac Athena'r naill yn Finerfa'r llall.
Derbyniodd hefyd rai o syniadau Groeg am natur llywodraeth. Dinas ydoedd Rhufain ei hun, a pharhaodd yn ddinas wedi dyfod ohoni yn ganolfan ymerodraeth gyfled â'r byd ac ar y syniad am ddinasyddiaeth, fel y datblygwyd ef yng Ngroeg, y sylfaenodd ei chyfundrefn llywodraeth. Pan elwid am estyn breintiau Rhufeinig i adran o'r ymerodraeth, yr arfer gyffredin fyddai sefydlu dinas yn yr adran honno ac estyn y breintiau i'r dinasyddion yn unig. Yn wir, ni fedrodd y Rhufeiniwr ymryddhau oddi wrth y syniad Groegaidd na ddichon dyn fod yn ddinesydd ond rhwng muriau tref yn unig.
O gymharu'r ddwy genedl hyn â'i gilydd, gellir dywedyd bod y naill yn gref lle yr oedd y llall yn wan, a bod rhinweddau'r naill yn llenwi diffygion y llall. Yr oedd mwy o geinder ac ystwythder ym meddwl y Groegwr, a mwy o rym ac o sefydlogrwydd ym meddwl y Rhufeiniwr. Tueddai'r naill at fod yn freuddwydiol a'r llall at fod yn ymarferol—ac o gyfuniad o rinweddau'r ddau cododd gwareiddiad a erys yn gynysgaeth i'r cenhedloedd hyd heddiw. Yr oedd cyfraniad Rhufain ei hun i'r gwareiddiad hwnnw yn un mawr a phwysig er hynny,
Dywedwyd uchod i Rufain dderbyn yn rhwydd lawer o arferion a syniadau Groeg. Yr oedd hyn yn wir ym myd llenyddiaeth, ac am hynny nid yw llên Rhufain agos bwysiced â llen Groeg yn hanes datblygiad y celfyddydau. Yng Ngroeg y datblygwyd y prif ffurfiau llenyddol, a mabwysiadwyd hwy gan Rufain. Er hynny, defnyddiwyd hwy gyda'r fath fedr gan awduron fel Fersil a Horas, Ofydd a Chicero, a bu i weithiau'r awduron hynny y fath ddylanwad, nes i'r iaith Ladin, y cyfansoddent ynddi, gael ei chydnabod am ganrifoedd yn briod iaith diwylliant a dysg. Ochr yn ochr â cheinion llenyddiaeth Groeg erys arddull a meddwl Rhufain yn batrwm ac yn symbyliad i feddwl y byd. Nid trysorau marw mohonynt, ond cynysgaeth fywiol sydd wedi ei chyfrodeddu â meddwl gorau dynoliaeth, a buasai gwedd wahanol iawn ar lenyddiaeth y gorllewin oni bai am y cyfoeth a etifeddodd o Rufain, a thrwy Rufain o Roeg.
Ail i Roeg oedd Rhufain ym myd athroniaeth hefyd, oherwydd derbyniodd y Rhufeiniwr athroniaeth y Groegwr, heb ychwanegu ond ychydig iawn ati. Y mae'n wir i Cicero, er enghraifft, sgrifennu llyfr neu ddau yn ymdrin â phynciau athronyddol, ond ni cheir ynddynt ond yr hyn a gafwyd cyn hynny yn Timaeus a Bywyd Cymdeithas Plato. Dichon mai'r gwaith athronyddol pwysicaf a gynhyrchodd Rhufain oedd De Rerum Natura Lucretius, ond cydnebydd yntau ei fod dan ddyled i'r Groegiaid. Epicurus, un o athronwyr Athen, oedd ei batrwm, a'i ddilyn ef oedd ei ddelfryd; ac astudiaeth fawr— eddog yw ei lyfr ar yr athroniaeth Epicuraidd mai pleser yw'r daioni pennaf. Cais ddarbwyllo'i gyfoeswyr rhag derbyn ofer— goelion ei ddydd; rhag credu y gallai'r duwiau ymyrraeth ag amgylchiadau dynion; a rhag cael eu dychryn gan fygythion y dichon cosb ddilyn yr enaid mewn byd arall.
Nid oedd y Rhufeiniwr yn athronydd wrth natur; gwneuthur pethau oedd ei anian ef, ac ym myd gweithredoedd y dylid chwilio am ei gyfraniad pennaf at wareiddiad y gorllewin. Daethai Rhufain yn fore dan ddylanwad y syniad mai un yw dynoliaeth, ac o ganlyniad y dylai fod dan lywodraeth un ymherodr, a hwnnw yn cyfuno ynddo ef ei hun nodweddion gorau dyn a duw—a oedd, mewn gair, yn ddyn ac yn dduw. Canlyniad naturiol y gred hon oedd ymroddi i'w throi yn ffaith ym mywyd y byd, ac yn araf dygwyd holl wledydd y Môr Canoldir, a hefyd rai gwledydd eraill, megis Prydain, nad ydynt o fewn y cylch hwnnw, dan iau llywodraeth Rhufain. Derbyniasai'r Rhufeiniwr athroniaeth y Groegwr ynglŷn â natur llywodraeth; ac wrth ehangu ei ymerodraeth cafodd gyfle i ledaenu'r egwyddorion hynny ymhlith pobloedd lawer.
Gwasanaeth pwysig arall a gyflawnodd Rhufain oedd datblygu cyfundrefn cyfraith. Fe lwyddodd i gadw'r llwythau oedd dan ei llywodraeth yn weddol dawel a heddychol am amryw ganrifoedd, a gwnaeth hynny trwy roddi sylw i'w hawliau a cheisio gweinyddu cyfiawnder iddynt. Deallodd yn gynnar na ellid gwneuthur hyn heb gyfundrefn o gyfreithiau, a dichon mai'r gyfundrefn a luniodd i'r pwrpas hwnnw oedd ei rhodd bennaf i'r byd. Seiliwyd y gyfundrefn ar y syniadau hynny a ddysgodd Rhufain gan Roeg am ryddid a chydraddoldeb dinasyddion. Gweinyddu cyfiawnder oedd y nôd— dyna yw hanfod pob gwir gyfraith, er y tueddir yn aml i dybio mai rhywbeth yw cyfraith a wthir oddi uchod ar yr anfoddog a'r drwg-weithredwr. Yn wir, y mae cyfraith yn un o anhepgorion bywyd cymdeithas wâr: ynddi hi y ca'r dinesydd sicrwydd tegwch a chyfiawnder ac y ca'r llywodraeth rym a chadernid i wneuthur ei gwaith.
Arferid meddwl mai cynnyrch arbennig meddwl y Rhufeiniwr oedd y gyfraith, ond y mae'r ffaith mai yn adran ddwyreiniol yr ymerodraeth—yng Nghaercystenyn—y perffeithiwyd y gyfundrefn yn cyfiawnhau'r dyb bod a wnelai meddwl Groeg gryn lawer â'i datblygu. Gellid yn hawdd brofi mai gwir hynny oddi wrth hanes y gyfundrefn o ddyddiau'r Deuddeg Llech Deddf, c. 450 c.c., hyd ddyddiau Iwstinian, 527—65 0.c.
Gwasanaeth mawr arall a gyflawnodd Rhufain oedd perffeithio moddion trafnidiaeth a theithio. Yr oedd hyn yn un o anhepgorion datblygiad yr ymerodraeth, oherwydd yn y pen draw dibynnai hi, fel pob ymerodraeth arall, ar effeithiolrwydd ei threfniadau milwrol, a dibynnai hynny drachefn ar fedru symud byddinoedd yn gyflym, wrth raid, o le i le. Adeiladwyd caerau cedyrn ym mhob parth o'r ymerodraeth, a chysylltwyd hwy â'i gilydd â ffyrdd na welodd y byd erioed eu gwell. Bu'r ffyrdd hyn yn foddion i glymu'r byd wrth ei gilydd, ac yr oedd yn haws tramwy ar hyd a thraws cyfandir Ewrop yn ystod cyfnod yr ymerodraeth nag y bu byth wedyn hyd gyfnod y rheilffyrdd. Fel rheol, cyrchai'r ffyrdd yn union-syth o gaer i gaer dros bant a bryn a thrwy gorsydd a choedwigoedd, a buont yn briffyrdd trafnidiaeth Ewrop bron hyd y dydd heddiw.
Bu'r ymerodraeth yn gyfrwng i gyflwyno Cristnogaeth i orllewin Ewrop, yn ogystal ag i rannau o Asia a gogledd Affrig. Gellir deall, o ddarllen llyfr yr Actau, pa fodd y bu hyn. Yr oedd Saul o Darsus yn ddinesydd Rhufeinig, ac am hynny cai'r holl freintiau a roddid i ddinasyddion yr ymerodraeth. Cai, er enghraifft, deithio'n ddilestair o ddinas i ddinas ar hyd priffyrdd yr ymerodraeth a chael felly gyfleusterau lawer i gyhoeddi ei efengyl tangnefedd ar hyd y llwybrau adeiladwyd i amcanion milwrol. Y mae'n ddiamau iddo ar ei deithiau daro ar lawer o'r milwyr Rhufeinig a thraddodi ei neges iddynt a dichon i'r milwyr eu hunain, mewn cyfnod diweddarach, fod yn gyfryngau i drosglwyddo'r gair i bellter— oedd byd, cyn belled a'r Ultima Thule, fel y galwent ynysoedd pellaf y gogledd. Er bod ysbryd yr ymerodraeth yn hollol wrth—Gristnogol, hyhi a roddodd gyfle i Gristnogaeth ymledu fel y gwnaeth yn ystod y ganrif gyntaf nes dyfod ohoni erbyn dechrau'r oesau canol yn un o alluoedd mwyaf grymus y cyfnod.
Diflannodd yr ymerodraeth fawreddog hon ym barbaraidd y bumed ganrif: a maentumia rhai haneswyr na bu nemor ddim llewych ar Ewrop wedyn hyd ddechrau'r cyfnod diweddar yn y bymthegfed ganrif. Dyna safbwynt Gibbon yn ei gampwaith, The Decline and Fall of the Roman Empire. Tebyg hefyd oedd safbwynt yr hanesydd Freeman, a osodai Rufain yn ganolbwynt hanes y byd; i'w dyb ef, rhyw ragymadrodd i hanes Rhufain oedd hanes cwrs y byd cyn ei dydd hi, a hyhi yw ffynhonnell pob bywyd a ddaeth ar ei hôl; fe wêl bob ffordd yn arwain i Rufain—dull effeithiol iawn o bwysleisio unoliaeth hanes.
Cytunir erbyn hyn, fodd bynnag, fod i'r cyfnod canol rhwng y cyfnod hen hanes a'r cyfnod diweddar ei nodweddion arbennig a'i bwysigrwydd ei hun, ac am hynny mai da yw astudio'i hanes ar ei ben ei hun. Eir at y gwaith hwn yn y bennod nesaf.

Fe berthyn unoliaeth ac arbenigrwydd hefyd i'r cyfnod diweddar, sy'n ymestyn o'r bymthegfed ganrif hyd ein dyddiau ni. Y mae gwahaniaeth mawr rhyngddo a'r cyfnod o'i flaen, ond rhyngddo a chyfnod hen hanes y mae llawer o debygrwydd, ac am hynny dichon nad amhriodol rhoddi braslun o'i brif nodweddion yn y bennod hon.
Un o'r prif nodweddion yw'r pwys a roddir ar Ryddid. Y mae'n wir i ryddid gael sylw mawr yn ninasoedd Groeg, ac yn Rhufain wedi hynny, ond rhyddid i'r dinasyddion yn unig oedd hwnnw, a chaethwasanaeth, wedi'r cwbl, oedd yn cynnal ei gwareiddiad. Wedi brwydrau chwerwon y Diwygiad Protestannaidd daethpwyd i gydnabod mai rhyddid—yn gyntaf rhyddid cydwybod ynglŷn â chrefydd ac yn ddiweddarach rhyddid dyn fel deiliad gwlad—oedd y pennaf peth. Ni olygir wrth hyn fod y frwydr wedi ei hennill, ond deffrôdd y dyhead yng nghalonnau dynion, a'r ymdeimlad bod rhyddid yn un o anhepgorion datblygiad dynoliaeth sydd wrth wraidd. anesmwythyd y cyfnod hwn.
Yr oedd y dyhead hwn am ryddid yn torri ar draws un o brif nodweddion y cyfnod canol, sef yr ymgais at gadw gorllewin Ewrop yn un ymerodraeth. Y mae'n wir mai enw yn unig oedd yr ymerodraeth wleidyddol, ond yn y cylch eglwysig yr oedd yn ffaith oherwydd hawliai'r Babaeth awdur— dod nid yn unig ar yr eglwys ond hefyd ar lywodraethwyr y gwledydd; ac yn ei herbyn hi y bu'r brwydro yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Wedi i allu'r Babaeth syrthio i'r llawr, dechreuodd cenedlaetholdeb godi ei ben ac ymrannodd Ewrop yn nifer o deyrnasoedd, fel y rhanesid Groeg gynt yn nifer o fân ddinasoedd. Cyfyd rhai o brif anawsterau'r cyfnod hwn o'r ffaith bod pob cenedl yn hawlio cwbl ymreolaeth iddi ei hun, ac mai â gallu milwrol yn unig y gosodant eu terfynau a'u cadw'n ddifwlch. Arweiniodd hyn i daro ffyrnig rhwng y cenhedloedd a'i gilydd, yn enwedig yn yr ymgiprys am diriogaethau y tu allan i'r cyfandir ei hun.
Y mae lle crefydd ym mywyd y cyfnod yn llai nag ydoedd yn y cyfnod canol. Nid un eglwys sydd bellach ond llawer, heb unrhyw awdurdod canol i grynhoi eu grym a'u dylanwad. Fel y soniwyd eisoes, fe rannwyd Ewrop yn ddarnau gan yr ymdeimlad cenedlaethol, ond y mae'r rhaniadau eglwysig yn lluosocach fyth, oherwydd ceir llawer o wahanol gyfundrefnau eglwysig o fewn terfynau tiriogaeth un genedl, a bychan iawn yw nifer yr eglwysi sy'n ymestyn i fwy nag un wlad.
Y mae gwyddoniaeth a dysg yn ceisio cael gan y byd wrando ar eu neges, a masnach hithau yn ceisio cael gan ddynion gredu mai un yw cyfandir Ewrop o hyd, ond hyd yn hyn ni lwyddodd yr un ohonynt i atal fawr ar y nwyd ymrannu. Beth fydd canlyniad yr ymraniadau ni wyddom, ond un peth a wyddys, sef iddynt esgor ar ryfel yn Ewrop ar gyfartaledd unwaith bob cenhedlaeth. Yn hyn o beth y mae hanes Ewrop yn debyg iawn i hanes Groeg. Diflannodd gogoniant Groeg am fethu o'r dinasoedd gytuno â'i gilydd yn wyneb gelynion o'r tu allan. Pe cawsai'r Groegwr gymaint llwyddiant ar ddatrys anawsterau perthynas y dinasoedd a'i gilydd ag a gafodd ynglŷn â dyrys—bynciau llywodraeth y tu mewn i'r ddinas, diau y buasai hanes y byd yn wahanol iawn. Hyd yma ni chafodd gwledydd Ewrop ronyn mwy o lwyddiant ar ddatrys cyffelyb anawsterau; ac oni chânt oleuni, ofnir mai yr un dynged sydd yn eu haros hwythau.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Gellid yn hawdd gymhathu'r enwau Groegaidd ar y llyfrau hyn i'r Gymraeg a galw y naill yn Boliteia Plato a'r llall yn Bolitics Aristotle.

II.
Yr Oesau Tywyll a'r Cyfnod Canol.
Y mae'r barbariaid yn ein gwthio i'r môr a'r môr yn ein gwthio'n ôl at y barbariaid. Bygythir ni gan ddau fath o angau—ein lladd gan y naill a'n boddi gan y llall.
"O lythyr" at Agitius, conswl am y drydedd waith, yr anfonir cwynfan y Prydeiniaid."—GILDAS.
Medieval culture flourished in the midst of rude surroundings, fierce passions and material ambition. The volcanic fires of primitive human nature smouldered near the surface of medieval life. ... but its highest achievements are the fruit of deep reflection, of persevering and concentrated effort, of a self forgetting self, in the service of humanity and God.—H. W. C. DAVIS.
Ni byddai'n anghywir ddywedyd, mewn ffordd o baradocs, mai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y crewyd neu y darganfuwyd yr oesau canol. Cyn hynny taflai haneswyr hwy o'r neilltu gyda dirmyg—dywedai Gibbon, er enghraifft, mai nos dywyll oeddent rhwng dau gyfnod golau hanes. Ac nid yw'n rhyfedd i hanesydd mawr ymerodraeth Rhufain synied fel hyn amdanynt, oblegid o'u cymharu ag awr anterth yr ymerodraeth honno, neu â chyfnod diweddar hanes, fe welir bod ynddynt aml lecyn du.
Credai rhai o gyfoeswyr Gibbon (yn y ddeunawfed ganrif) fod cyfnod disgleiriaf dynoliaeth ymhell iawn yn ôl. Tybient fod yn hanes dyn ryw Eden goll lle ffynnai rhyddid, cydraddoldeb a dedwyddwch perffaith ac awgryment mai'r gyfundrefn lywodraeth a ddyfeisiodd dyn a drodd y baradwys yn ddiffeithwch. Nid yw'n anodd deall hyn pan gofir mai Ffrancwyr oedd y rhan fwyaf o'r bobl a goleddai'r syniadau hyn, a bod cyflwr Ffrainc yn wir adfydus yn y cyfnod cyn Chwyldro 1789. Credent yn ddiysgog y gallai Rheswm sefydlu gwell cyfundrefn, ond cyn y gellid dechrau adeiladu rhaid oedd tynnu i lawr, a hynny a wnaed ym Mharis rhwng 1789 a diwedd y ganrif.
Swynwyd llawer gan athrawiaethau politicaidd newydd y cyfnod hwnnw:
Bliss was it in that dawn to be alive
But to be young was very Heaven!
meddai Wordsworth, a bu agos iawn iddo ymuno â byddin y Chwyldroad. Bu Coleridge yn eiddgar yn pregethu syniadau'r chwyldro, a pharhaodd Shelley yn wrthryfelgar ei ysbryd ar hyd ei oes. Yr oedd hefyd ambell Gymro, megis Morgan John Rhys a Jac Glanygors, ymhlith y rhai a swynwyd gan yr athrawiaethau newydd.
Yn y man, fodd bynnag, fe flinwyd ar erchyllterau'r Chwyldro, a throdd Wordsworth am ysbrydiaeth a thawelwch i fryniau ei wlad ac at fywyd tawel diymhongar ei gymdogion mynyddig. Cyffelyb fu hanes bron bawb o bleidwyr pennaf y mudiad siomwyd eu gobeithion a throdd y rhan fwyaf ohonynt bawb i'w ffordd ei hun, ond nid cyn iddynt gael goleuni newydd ar fyd a bywyd gan feddylwyr mawr y Chwyldro.
Ymhlith y meddylwyr hynny, y pennaf un ydoedd Rousseau, gŵr yr oedd ei athrylith fawr yn gyfuniad rhyfedd o ddawn dadelfennu a dychmygu, o resymeg ac o awen bardd. Ffrwyth ei resymeg glir, a geir yn ei lyfr, y Contrat Social, oedd efengyl y gredo chwyldroadol, a thrwyddi hi y deffrowyd gwerin Ffrainc. Ar y llaw arall, trwy ei nofelau rhoes y bardd oedd yn Rousseau gychwyn i gyfnod newydd yn hanes meddwl y byd. Efô oedd tad mudiad Rhamantiaeth yn llenyddiaeth y gorllewin, a thrwy ysbrydiaeth y gredo lenyddol honno y daethpwyd o hyd i swyn coll yr oesau canol. Syr Walter Scott oedd y cyntaf i ddangos i'r byd ramant yr oesau hynny, ac ar ei ôl ef bu llenorion ym mhob gwlad yn tynnu ar eu dychymyg er mwyn taflu rhyw gymaint o oleuni ar gyfnod nas cyfrifid hyd hynny yn werth y sylw lleiaf.

Ar ôl y rhamantydd daeth yr hanesydd. Yn 1819 sefydlwyd cymdeithas yn hen ddinas Frankfort i astudio hanes bore'r Almaen, ac y mae enw bron bob hanesydd o bwys yn y cyfnod hwnnw ar glawr ei chyhoeddiad cyntaf. Y mae hefyd enwau lliaws o ramantwyr yn y rhestr, ac yn wir, un o broblemau cyntaf y gymdeithas oedd eu didoli hwy oddi wrth yr haneswyr.[1] Yn 1818 cyhoeddodd Hallam, y cyntaf o haneswyr diweddar Lloegr, ei lyfr, A Sketch of Europe in the Middle Ages, ac yn 1820 sefydlwyd yr "École des Chartes " ym Mharis i chwilio i mewn i hanes Ffrainc. O dipyn i beth, felly, fel y cynyddai gwybodaeth, hawliai'r oesau canol le iddynt eu hunain wrth ochr cyfnodau eraill hanes.
Fel y dywedwyd eisoes, nid oes fwlch yng nghadwyn hanes, ond ar yr un pryd y mae terfyn eglur rhwng rhai cyfnodau a'i gilydd, a safant ar wahân ac yn aml yn wrthgyferbyniol i'w gilydd. Yr oedd Rhamantiaeth yn fath o wrthdystiad yn erbyn agwedd resymegol y cyfnod cynt: ac y mae mwy na chanrif o wahaniaeth rhwng llenyddiaeth y ddeunawfed ganrif a llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a rhwng honno drachefn a'r ganrif hon. Yn yr un modd yr oedd pellter a gwahaniaeth mawr rhwng y cyfnod hen hanes a'r cyfnod canol. Daw weithiau ryw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau a rwystra ffrwd diwylliant a gwareiddiad rhag llifo ymlaen o un cyfnod i'r llall, a hynny yn union a ddigwyddodd rhwng y ddau gyfnod hyn. Daeth adfyd i ran Ewrop na phrofodd y byd, fe ddichon, erioed ei chwerwach—gymaint oedd y dinistr a fu nes cytunir yn gyffredinol i alw'r canrifoedd hynny yn Oesau Tywyll—a dichon mai'r tywyllwch a'r anhrefn a ddaeth gydag ef sy'n cyfrif am y syniad bod yr oesau canol yn dywyll ar eu hyd. Parhaodd yr oesau tywyll o'r bumed ganrif hyd y ddegfed, ac yn rhuthriadau ofnadwy y canrifoedd hynny diflannodd bron bob argoel o'r gwareiddiad a welodd ddisgleiried gogoniant yng Ngroeg a Rhufain. Prif ddigwyddiad y canrifoedd cyffrous hyn oedd dyfod nifer o genhedloedd o goedwigoedd y gogledd a'r dwyrain dros derfynau'r ymerodr— aeth a llifo ar draws gwledydd y gorllewin a'r de. Hyd hynny trigent ar gyrrau'r ymerodraeth, ond bu hithau cyn ffoled â'u gwahodd i ymsefydlu o fewn ei therfynau a hyd yn oed ddibynnu arnynt mewn rhai mannau i warchod y ffin. Ni buont hwythau yn hir cyn hawlio'r hyn a oddefid iddynt gynt a meddiannu adrannau helaeth o'i thiriogaeth.
Ychydig a wyddys am hanes y bobl hyn cyn eu dyfod â goresgyn yr hen ymerodraeth. Nid ymyrrai'r Rhufeiniaid lawer â hwy, ond ceir cyfeiriad atynt gan Cesar a disgrifiad llawnach yng ngweithiau'r hanesydd Rhufeinig Tacitus. Dywed Cesar[2] amdanynt eu bod wedi ymroi i hela ac ymladd, ond sylwa ar yr un pryd ar ddiweirdeb eu bywyd; a cheir cyfeiriad gan Tacitus[3] yntau at lendid bywyd eu gwragedd, a'i gyferbynnu â bywyd dinas lygredig fel Rhufain. Ar sail hyn awgryma Gibbon fod bywyd gwâr bob amser yn fwy anllad na bywyd cyntefig.[4] Erbyn amser Tacitus cynyddasai'r gyfathrach rhwng y llwythau hyn a'r ymerodraeth. Y mae'n eglur ei fod ef yn edmygu eu bywyd, oherwydd ceir ganddo ddarlun dymunol o'u nodweddion a'u harferion. Honnent eu bod yn rhydd oddi wrth bob cymysgedd â chenhedloedd eraill—ymffrost gyffredin llwythau cyntefig. Yr oedd ganddynt gryn lawer o dda, a mesurent gyfoeth dyn wrth nifer ei anifeiliaid. Erbyn amser Tacitus, fodd bynnag, ymollyngasent i loddesta, ac am hynny nid oedd llawer o gamp ar eu hamaethyddiaeth. Yr oedd ganddynt gariad greddfol at ryddid, a dywaid y Rhufeiniwr fod gan hyd yn oed eu caethweision gartrefi iddynt eu hunain.
Y farn gyffredin erbyn hyn yw bod Tacitus yn rhy bleidiol i'r Germaniaid, a'i fod yn eu defnyddio fel math o batrwm i'w genedl ei hun, a oedd y pryd hwnnw yn dechrau dirywio yn y pethau yr oedd y Germaniaid yn gryf ynddynt. Ni welodd ef fod gwahaniaeth rhwng y syniad Rhufeinig a'r syniad Germanaidd am ryddid a thaeog, ac nid caethwas, oedd y gŵr a welodd ef yn byw ar ei dyddyn ei hun.
Er hynny, dengys ei ddarlun, fel ag y mae, fod perygl arswydus mewn pobl ymladdgar wedi ymlithro i loddesta a diogi, yn lle hela fel cynt. Nid oes sicrwydd ychwaith mai'r llwythau a welodd Tacitus oedd y rhai a ddaeth yn ddiweddarach yn "ffrewyllau Duw,"[5]; fel y galwyd hwy gan ŵr o'u plith. Hyd yn ddiweddar bu haneswyr yr Almaen a Lloegr yn chwannog iawn i gyfeirio at y disgrifiad uchod fel darlun cywir o fywyd llwyth y Saeson cyn eu dyfod i'r wlad hon, ond nid oes sicrwydd o gwbl mai'r un rhai oedd y llwythau a welodd Tacitus yn y ganrif gyntaf a'r llwythau a oresgynodd yr ymerodraeth yn y bumed ganrif.
Gwyddys i rai o'r llwythau hyn ddyfod o dueddau mynyddoedd yr Ural, sy'n derfyn rhwng Ewrop ac Asia, a rhai hefyd, fe ddichon, o ganolbarth cyfandir Asia ei hun. Ymysg y rhain yr oedd yr Hun, y Bwlgar, y Magyar a'r Mongol. Nid oes gennym ond megis eco o'r arswyd ofnadwy a godid wrth sôn amdanynt gynt—lladd a dinistrio oedd eu hunig amcan.
Poblogid y gwastadeddau sydd heddiw yn ddeheubarth Rwsia gan y bobl hynny a elwir y Slafiaid, ac y mae'n lled debyg mai ymosodiadau'r Hun a'r llwythau eraill oedd ar eu gororau a'u gwthiodd i'r gwledydd hynny lle ceir hwy heddiw. Trigent gyda'i gilydd yn deuluoedd mawr dan y drefn batriarchaidd yr oedd y tir a'r da yn eiddo cyffredin, ar y cŷd y gwneid pob gwaith, a meddai pob aelod hawl ar gyfran o'r cynnyrch. Nid oedd ganddynt drefydd ond yn unig nifer o leoedd cadarn (gorod), ac weithiau ymsefydlent mewn pentrefydd pedairongl eu llun. Coediog oedd eu gwlad, a hela oedd eu prif foddion cynhaliaeth. Ar yr un pryd yr oeddent yn enwog fel bugeiliaid, a meddent yrroedd o wartheg a defaid, moch a cheffylau. Yr oeddent hefyd yn amaethu rhyw gymaint, a chanddynt hwy y dysgodd y Germaniaid gelfyddyd aredig.
Ar du'r gogledd iddynt, ar lannau'r môr Baltig ac yng nghanolbarth Ewrop, y trigai'r Germaniaid. Yr oedd bywyd yn galetach yn y parthau hynny, ac ymfudasai rhai llwythau—y Gothiaid yn eu plith—ac ymsefydlu ar wastadeddau de-ddwyrain Ewrop, ac oddi yno yn nes ymlaen y cododd yr Ostrogoth a'r Fisigoth i oresgyn Itali a Sbaen. Yr oedd hinsawdd glannau'r môr Baltig yn oer ac anhrugarog, yr awyr yn llaith, llawer o'r tir yn noethlwm, a llifogydd yn fynych yn gorlifo'r ychydig dir ffrwythlon a oedd yno. Yng nghanol coedwigoedd y parthau hynny y trigai'r Iutiaid, y Saeson a'r Eingl cyn goresgyn ohonynt yr ynys hon. Ychydig iawn a wyddent am amaethyddiaeth: dibynnent ar hela a chasglu ffrwythau gwylltion a mêl, ac ar yr anifeiliaid a gadwent yn llennyrch y coedwigoedd. Gwyllt ac anwar oedd eu bywyd nid oedd ganddynt drefydd o gwbl, ond ambell dro amddiffynnent bentref â chlawdd neu ffos, a gosodent gŵn i'w wylio liw nos. Byddai newyn yn eu medi i lawr ar adegau, a dichon mai dygn dlodi eu cartref corsiog a barodd iddynt ymosod ar yr ymerodraeth. Beth bynnag oedd yr achos, yr oedd bleiddiaid rheibus wrth y drws yn dyheu am dranc yr ymerodraeth cyn gynted ag y gwelid ynddi arwyddion syrthni a digalondid."[6]
Ac nid hir nac ofer fu'r disgwyl. Yn y bedwaredd ganrif gwthiwyd y Gothiaid gan yr Huniaid o dueddau'r Môr Du ac ymsefydlasant, mewn cynghrair â Rhufain, yn adrannau dwyreiniol yr ymerodraeth. Mewn byr amser ymledasant nes cyrraedd yr Eidal, ac er i Theodosius lwyddo i'w cadw yn ôl am dymor, symudent ymlaen yn araf a syrthiodd Rhufain ei hun yn y flwyddyn 410. Wedi cwympo o brifddinas yr ymerodraeth, ni bu'r adrannau eraill yn hir cyn myned yn gyfangwbl i ddwylo'r ymosodwyr. Ar y cyntaf, y cwbl a geisiai'r llwythau hyn oedd ymsefydlu o fewn terfynau'r ymerodraeth a chael ei nodded, ac yn dâl am hynny addawent eu cymorth i'r ymerodraeth pan fyddai galw. Derbyniodd rhai ohonynt argraff bywyd a gwareiddiad Rhufain mewn ambell gongl o'r ymerodraeth, ond ni aethpwyd ymhell ar lwybr y datblygiad hwnnw. Teimlai'r ymsefydlwyr newydd mor ddiogel yn eu cartref mabwysiedig, ac mor gadarn ar bwys y profiad a gaent o allu milwrol Rhufain—yr oedd amryw ohonynt yn swyddogion amlwg ym myddin yr ymerodraeth—nes troi ohonynt a dinistrio'r wladwriaeth yr oeddent wedi addo ei noddi yn nydd cyni. Wrth wneuthur hynny bu agos iddynt â diwreiddio gwareiddiad o'r tir.

Er iddynt gynefino â byw megis dan aden yr ymerodraeth, anwar oedd eu nwydau o hyd. Ymdeithiodd Alaric a'i Fisigothiaid trwy Facedonia, Thesalia a Groeg dan ladd y gwŷr a chymryd y gwragedd a'r plant yn gaethion. Ceir disgrifiad ohonynt wedi cyrraedd Rhufain yn gorweddian yng nghysgod y coed, a merched seneddwyr yr hen ymerodraeth wedi eu darostwng i'w nwydau yn eu diodi â gwin mewn llestri aur. Torrai'r Ostrogothiaid freichiau'r llafurwyr ymaith a chroeshoelio'r mân dyddynwyr. Rhwng y flwyddyn 406 a 416, meddai Sant Ierôm, dinistriodd yr anwariaid bob arwydd gwareiddiad o'r Alpau i'r Pyreneau ac o afon Rhein i'r môr. Llosgasant Gâl yn un goelcerth fawr, a dywed un awdur na wnaethai gorlifiad tonnau'r môr dros y wlad fwy o ddifrod. Difaent y cnydau a thorrent i lawr y coed ffrwythau, di— wreiddient y gwinllannoedd a llosgent yr ysguboriau. Lle bynnag yr aent, gadawent y wlad yn anialwch ar eu hôl. Llosgwyd cynifer â deg a thrigain o ddinasoedd gan yr Huniaid yn adran ddwyreiniol yr ymerodraeth, ac nid oedd wlad yn y gorllewin na welodd ddiffeithio ei threfydd llewyrchus.[7]Ym Mhrydain, er enghraifft, cawn hanes am ddinasoedd fel Llundain, Caerefrog, Camulodunum (Colchester), Verulamium (St. Albans), (St. Albans), Caer Faddon, Viroconium Chaerlleon naill ai wedi eu llosgi neu eu gadael i adfeilio.
Wedi'r llosgi a'r difa daeth newyn a haint i gwblhau'r gwaith. Dywedir farw o 50,000 o dyddynwyr mewn un adran yn unig o Itali yn ystod y flwyddyn 536. Torrodd y pla allan ac ysgubodd dros Brydain, Gâl ac Itali. Yn y flwyddyn 571 syrthiodd cynifer â 300 o bobl yn farw un prynhawn Sabbath mewn eglwys yn Auvergne, yng nghanolbarth Gâl, a gwelodd Gregori I mewn un awr gynifer à 80 o bersonau yn nygn boenau angau ar y stryd yn Rhufain.[8] Nid oedd ryfedd i bobl gredu bod y byd ar ddarfod amdano.
Cafodd Prydain ei chyfran o'r galanas a'r dioddef hwn. Ymysg y tystiolaethau sydd gennym am y cyfnod, y mae'n debyg mai eiddo Gildas yw'r unig un gan ŵr a oedd yn byw yn union wedi'r rhyferthwy. O safbwynt yr hanesydd, gresyn bod cymaint o'r gŵr gofidus yn yr hen fynach Cymreig, a ysgrifennodd ei De Excidio yn fuan wedi'r heldrin, ond y mae ysbryd cyffrous, proffwydol, hanner llewygol y disgrifiad o firi'r cyfnod yn rhoddi i ni syniad gweddol gywir am deimladau gŵr dysgedig wrth edrych ar yr hyn oedd yn digwydd i'r gwareiddiad Rhufeinig ym Mhrydain. Ymddengys iddo gyfansoddi'r llythyr[9] (fel y geilw ef ei apêl at dywysogion ac offeiriaid Prydain) mewn orig dawel yn hanes y wlad, pan oedd y drin ofnadwy megis yn ail—gasglu nerth, a gwnaethpwyd ail ymosodiad ar y wlad ymhen ychydig flynyddoedd wedyn.
Dichon y ceir adlais o'r dyddiau hyn yng nghanu wylofus Llywarch Hen i Gynddylan:
Ystafell Cynddylan ys tywyll heno
Heb dân, heb wely:
Wylaf dro, tawaf wedy.
Ystafell Cynddylan a'm gwân ei gweled
Heb doed, heb dân:
Marw fy nglyw, byw fy hunan.
Dichon hefyd mai cyfeiriad at dynged un o drefydd Rhufeinig gororau Cymru a geir yn y llinellau cynnil:
Y dref wen ym mron y coed
******Ar wyneb ei gwellt y gwaed.
Ni ddihangodd y wlad ychwaith rhag ymweliad y Pla—y Fad Felen. Hyhi a ddygodd einioes Maelgwn Gwynedd wedi iddo fod yn rhythu arni mewn braw trwy dwll y clo yn Eglwys Rhos, gerllaw Llandudno.[10] Yno, medd traddodiad, y cwsg ei hir hun, a ddaeth yn y man yn ddihareb gwlad.
O dipyn i beth, fodd bynnag, peidiodd y llwythau â'u hymfudo, a chafwyd egwyl i orllewin Ewrop. Dechreuodd yr anwariaid ymlonyddu a sylweddoli mai gwell adeiladu na dinistrio. Gwelsant fod yn yr hyn a ddinistriwyd rywbeth o wir werth iddynt hwy, a dechreuasant ddynwared gwareiddiad Rhufain. Un o arwyddion cyntaf y dyddiau gwell oedd sefydlu ymerodraeth y gorllewin gan Siarlymaen yn y flwyddyn 800; ond, ysywaeth, byr fu parhad y gwelliant, oherwydd torrodd tonnau newydd dros y gwledydd. Ymosodwyd arnynt gan y cenhedloedd duon o'r gogledd—y Daniaid a'r Vikingiaid—a syrthiodd y gorllewin i bwll anobaith unwaith yn rhagor.
Ond yr oedd tro ar fyd wedi dyfod, er hynny. Er cymaint y difrod a wnaeth y cenhedloedd duon, ni chyflawnasant eu bwriad cyn llwyred ag y gwnaeth eu rhagflaenwyr ar ymerodraeth Rufain. Llyncwyd rhai ohonynt gan y cenhedloedd y ceisient eu darostwng—er enghraifft, dyna hanes Rolff y Gogleddwr yn Normandi; a chadwyd eraill o fewn terfynau arbennig fel y gwnaeth y brenin Alffred â'r Daniaid yn Lloegr. Daethai pobloedd y gorllewin erbyn hynny yn ddigon cryf naill ai i wrthsefyll ymosodiadau neu i gymhathu'r ymosodwyr i mewn i'w bywyd eu hunain. Yr oedd hynny yn arwydd sicr bod yr oesau tywyll yn dirwyn i ben, a bod gwawr pethau gwell ar dorri ym mywyd Ewrop. Hanes y wawr honno'n torri, esgyniad yr haul i'w anterth tua'r drydedd ganrif ar ddeg, a'r modd y duodd y ffurfafen drachefn yn ystormydd a brwydrau'r Diwygiad Protestannaidd—hynyna'n fyr yw hanes yr oesau canol.
Wrth ddechrau astudio hanes y cyfnod hwn, dylid cadw mewn cof nad yr un un oedd ei ganolbwynt daearyddol ef ag eiddo'r cyfnod o'i flaen a'r cyfnod ar ei ôl. O gwmpas y Môr Canoldir y trôi bywyd yr hen fyd yn nyddiau gwareiddiad Groeg a Rhufain, ond erbyn yr oesau canol daethai gwledydd y gogledd a'r gorllewin i mewn i gylch bywyd gwareiddiedig. Symudwyd canolbwynt y bywyd hwnnw i'r gwledydd ar du gogledd yr Alpau, er bod a wnelai Rhufain gryn lawer ag ef o hyd, gan mai ei heglwys hi oedd mam-eglwys y gorllewin. Gyda'r symud hwn bu newid cyfatebol yn ansawdd gwareiddiad, oblegid prif nodwedd y cyfnod canol oedd ymgais cenhedloedd anwar y gogledd i adeiladu gwareiddiad newydd ar adfeilion yr hen wareiddiad y buont mor ymdrechgar i'w ddinistrio. Wedi'r gaeaf hir a chilio o'r llifogydd, gwelwyd eginyn y bywyd newydd yn ymwthio trwy'r llaid a'i cuddiodd cyhyd, ac o syllu arno, hawdd canfod mai o radd yr hen wareiddiad yr oedd ei wreiddyn.
Cyweirnod bywyd politicaidd y cyfnod canol oedd yr ymdrech i adfywio'r syniad ymerodrol, ac er gwaethaf holl anhrefn y cyfnod, rhydd y syniad hwn unoliaeth iddo nas medd y cyfnod diweddar. Yr oedd i'r ymerodraeth atgyfodedig ddwy agwedd, neu, fel y dywedent yn yr oes honno, ddwy fraich—y gnawdol (neu'r dymhorol) a'r ysbrydol—a thry politics y cyfnod o amgylch y brwydro a fu rhwng y ddau allu hyn am oruchafiaeth. Germani oedd cartref yr ymerodraeth newydd, ac nid oedd Otto, a gyhoeddwyd yn ymherodr yn Rhufain yn y flwyddyn 962, namyn brenin Germanaidd ar hyd ei oes er gwaethaf ei honiadau ymerodrol. Dengys ei ymdrech i uno Germani ac Itali y modd y disgwyliai'r anwariaid fedru adfywio'r traddodiad Rhufeinig yr oeddent wedi dinistrio cymaint ohono.
Trôi meddwl y cyfnod hefyd o gwmpas y cwestiwn hwn, sef beth ddylai'r berthynas fod rhwng yr Eglwys, gallu ysbrydol newydd a godasai ar ôl dyddiau'r hen ymerodraeth, a'r ymerodraeth newydd, a elwid y Santaidd Ymerodraeth Rufeinig, i'w gwahaniaethu oddi wrth yr hen ymerodraeth baganaidd. Edrychir ar yr hen ddadleuon hyn bellach gyda chryn ddiystyrwch, ond er hynny yr oedd a wnelent â rhai o bynciau mwyaf arhosol politics, er na ddefnyddir yr un termau i'w trafod gennym ni heddiw.
Pan geir dau awdurdod, y cwestiwn hanfodol bob amser yw pa un sydd ben. Yn naturiol iawn, mynnai'r Eglwys, fel corff ysbrydol, mai hyhi a ddylai gael y gair olaf, a dengys
y ffaith i Siarlymaen yn y flwyddyn 800, ac Otto yn 962, dderbyn eu coronau o law'r Pab fod yr awdurdod gwladol yn cydnabod ei hawl. Mewn llythyr oddi wrth y Pab Gelasius at yr ymherodr Anastasius cyn gynhared â'r flwyddyn 494, pan oedd gallu eglwysig Rhufain yn dechrau codi ei ben, ceir yr haeriad hwn: Y mae dau awdurdod yn rheoli'r byd hwn, sef awdurdod cysegredig yr offeiriad a'r gallu brenhinol. Perthyn y flaenoriaeth i'r offeiriaid, gan y byddant hwy yn gyfrifol hyd yn oed dros y brenhinoedd yn y dydd diwethaf.[11] Ateb yr awdurdod gwladol i'r ddadl hon oedd bod brenhiniaeth hefyd o ddwyfol ordinhad, a dyfynnid geiriau'r Apostol Paul i brofi'r pwnc.
Dair gwaith o leiaf cododd ymrafael rhwng yr Ymherodr a'r Eglwys, a'r Eglwys a orfu bob tro. Y tu ôl i'r brwydrau hyn yr oedd y syniad, annelwig fe ddichon, mai un yn ei hanfod oedd bywyd y gorllewin, a chodai'r cwerylon o anhawster penderfynu pwy ddylai fod yn ben ar y bywyd unedig hwnnw. Bu'r taro cyntaf rhwng yr ymherodr Harri IV a'r Pab Gregori VII, a adwaenid cyn ei gysegru'n Bab wrth yr enw Hildebrand—un o wŷr mwyaf yr eglwys yn yr oesau canol. Cyn y gallai esgob dderbyn y tir a berthynai i'r esgobaeth, rhaid oedd iddo, ar ddydd ei arwisgo, dyngu llw o ffyddlondeb a theyrngarwch i'r brenin; ond yn synod 1075, penderfynodd Gregori yr esgymunai unrhyw frenin a feiddiai hawlio'r cyfryw lw oddi ar ei brelatiaid ef. Y canlyniad fu ymrafael rhwng y ddau allu, ac yn Canossa gorfu i Harri sefyll yn droednoeth yn yr eira cyn cael pardwn y Pab. Ond daeth tro ar fyd: bu farw'r Pab yn alltud a gwrth-bab yn eistedd yng nghadair Pedr yn ei le,[12] a Harri erbyn hyn yn feistr yn Rhufain.
Rhwng yr ymherodr Frederic—Cochfarf, fel y gelwid ef— a'r Pab Alecsander III y bu'r ail ymrafael. Frederic oedd y mwyaf o ddigon o'r gwŷr hynny a fu'n ceisio sylweddoli'r delfryd ymerodrol yn llawn, ond ar ôl cweryl a barhaodd am ddwy flynedd ar bymtheg, ac a rannodd y Babaeth yn ddwy, bu raid iddo yntau, yn 1176, wneuthur heddwch â'r Pab a chydnabod hawl yr eglwys i oruwchlywodraethu.
Frederic II, ŵyr i'r Cochfarf, oedd yr olaf a fu mewn brwydr â'r Pab. Bu agos iddo a llwyddo lle methasai ei gyndadau, ond wedi ei farw gwelwyd bod y fuddugoliaeth, fel cynt, yn nwylo'r eglwys.
Rhed yr ymrafaelion hyn fel cadwyn trwy hanes yr oesau canol, ond er pwysiced ydynt yn hanes politicaidd y cyfnod, ni bu iddynt nemor ddim dylanwad ar y bywyd cymdeithasol, ac ymlithrai ffrwd bywyd cyffredin ymlaen yn weddol ddistŵr heb roi ond ychydig iawn o sylw iddynt.

Yr oedd bywyd eglwysig yn fwy unffurf yn yr oesau canol nag y bu mewn unrhyw gyfnod na chynt nac wedyn. Ni bu'r syniad am adfywio'r ymerodraeth namyn breuddwyd neu hunllef yn torri ar dawelwch bywyd y gwledydd, ond yr oedd unoliaeth yr eglwys yn ffaith fyw a gwirioneddol. Fel y curiai bywyd yr hen ymerodraeth, ymheangai dylanwad esgob Rhufain nes o'r diwedd i holl wledydd y gorllewin gydnabod ei awdurdod yn y cylch eglwysig. Yr eglwys unedig hon, yn bennaf, biau'r clod am adfer gwareiddiad y gorllewin. Hyhi, o fwriad neu ar ddamwain, a gadwodd yn fyw draddodiad ysgolheictod, er bod llawer ymhlith yr esgobion cyntaf na wyddent nemor ddim am na dysg na diwylliant, a llawer hefyd yn credu bod cryn berygl mewn darllen yr hen glasuron paganaidd. Ond parhasant i ddefnyddio'r iaith Ladin, yng ngwasanaethau'r eglwys, yng nghyfieithiad poblogaidd Ierôm o'r Beibl—y Fwlgat—yn llysoedd yr eglwys ac mewn llu o ffyrdd eraill nes daeth yr iaith honno i gael ei hystyried yn unig gyfrwng diwylliant a dysg. (Cofier mai sôn yr ydys am gyfnod cyn geni ieithoedd diweddar Ewrop.),[13]Hefyd yr oedd y ffaith bod eisteddle'r esgob ym mhrifddinas yr hen ymerodraeth yn sail gadarn i'r traddodiad mai'r eglwys, yn hytrach na'r ffug ymerodraethau a luniwyd yn nychymyg uchelgeisiol rhyw Germanwr fel Otto neuFfranc fel Siarlymaen[14] oedd gwir aeres gogoniant Rhufain.
Yn raddol iawn, wrth gwrs, y tyfodd awdurdod yr eglwys, ond pan ddaeth i'w hetifeddiaeth, yr oedd nid yn unig grefydd ond hefyd gyfran lled helaeth o fywyd lleyg y gorllewin dan ei llywodraeth. Ymhen amser meddai fwy o dir na neb arall yn y gwledydd cyfrifir bod oddeutu'r drydedd ran o'r tir yn ei meddiant, ac nid oedd yr esgobion a'r abadau yn fynych namyn tywysogion ac arglwyddi lleyg. Tybid yn gyffredin fod gadael tir neu eiddo at wasanaeth yr eglwys yn fraint a dyletswydd Gristnogol, a thrwy hynny cynyddai ei rhwysg a'i chyfoeth beunydd.[15]
At hyn rhaid cofio bod gan y Pab ei gynrychiolydd ym mhob llan yn y gorllewin, a thrwy'r gweision hynny câi wybod am helynt pob adran o'r cyfandir. Nid oedd neb a wasanaethid yn fwy ffyddlon na neb â chymaint awdurdod yn ei law. Gallai ddwyn milwyr i'r maes; ond mwy effeithiol, fel rheol, am eu bod yn fwy damniol, oedd yr arfau ysbrydol a ddefnyddid ganddo. Pan groesai rhyw frenin ei amcanion, ni phetrusai ei esgymuno ef a'i ddeiliaid hefyd, a dengys hanes John, brenin Lloegr, mor effeithiol oedd y gallu ofnadwy hwn. Defnyddiwyd yr erfyn hwn gan yr Archesgob Peckham yn erbyn Llywelyn ein Llyw Olaf, ac o ganlyniad bu mynaich Cwm Hir yn gyndyn iawn rhag rhoddi bedd i'w weddillion drylliedig.[16]
Ond er cymaint honiadau'r Babaeth, a chyn ddued llawer llecyn yn ei hanes, rhaid cydnabod iddi gyflawni gwasanaeth amhrisiadwy, oherwydd rhoddodd ddisgyblaeth ar y cenhedloedd anwar, diogelodd radd o heddwch—heddwch Duw,— ac ail-osododd sylfeini bywyd gwareiddiedig. Ar ei orau, hefyd, yr oedd rhywbeth gwych ym mywyd crefyddol y cyfnod, ac ni all y mwyaf beirniadol ei ysbryd beidio â theimlo ei swyn fel y ceir ef yng nghyffes Awstin Sant a myfyrdodau Thomas á Kempis, ym mhregethau Bernard ac ym muchedd ddefosiynol Ffransis a llu o saint eraill.
Gwnaeth yr eglwys lawer hefyd tuag at leihau erchyllterau rhyfel trwy fendithio'r datblygiad milwrol hwnnw a adwaenir wrth yr enw Sifalri. Moes sifalri oedd ymladd dros y diamddiffyn a'r gwan, parchu merch, a chadw cymeriad yn lân yn ogystal ag arfau yn loyw, a bu dylanwad y syniadau hyn yn foddion i ddofi nwydau gwŷr gwaedwyllt ac i ddiogelu rhywfaint ar hawliau'r gorchfygedig. Gwelodd yr eglwys mai da oedd cymaint â hyn, hyd yn oed, mewn dyddiau cythryblus, a daliodd ar y cyfle i'w noddi a'i fendithio.[17]
O droi yn awr at fywyd "bob dydd" gwerin y gwledydd, ni welir fawr o ddim o'r unoliaeth a nodweddai'r bywyd eglwysig ac, i fesur llai, y bywyd politicaidd, oherwydd yr oedd amgylchiadau'r bywyd hwnnw yn gyfryw ag a wnai unrhyw fath o unoliaeth bron yn gwbl amhosibl. Yng ngalanas ofnadwy dinistr yr hen ymerodraeth, aeth bywyd dyn yn isel iawn ei bris, ac wedi diflannu o'r rheol a'r drefn a gaed dan weinyddiad y gyfraith Rufeinig, nid oedd dim i'w wneuthur ond ymddiried mewn nerth braich. Y "cryf arfog" oedd yr arwr bellach, a syrthiodd llywodraeth leol i ddwylo dynion o'r dosbarth hwn a ymgymerai â noddi ac amddiffyn y sawl a dalai wrogaeth iddynt. Ffiwdaliaeth oedd yr enw a roddwyd ar y gyfundrefn a ddatblygwyd yn yr amgylchiadau hyn. Fe'i cafwyd ym mhob gwlad yng ngorllewin Ewrop, ond dichon mai yng ngogledd Ffrainc y cyrhaeddodd ei pher ffeithrwydd uchaf. Dechreuodd ymledu yn y wlad hon tua'r un amser, ond cyflymwyd ei thwf pan oresgynwyd y wlad gan y Normaniaid yn yr unfed ganrif ar ddeg.
Y mae gwahanol farnau ynglŷn â tharddiad y gair Ffiwdaliaeth. Myn rhai ei olrhain yn ôl i'r gair Lladin am ffydd neu ymddiried, ond dywed eraill mai o'r gair Germanaidd am dâl (Saesneg, fee) y daw. Beth bynnag oedd ei darddiad, yr hyn a olygid wrth Ffiwd (Feodum) oedd arglwyddiaeth dros ran o wlad ar yr amod bod y gŵr a gai'r arglwyddiaeth honno yn cydnabod awdurdod y neb a'i rhoisai iddo. Fel yr hawliai Wiliam y Concwerwr, eiddo'r brenin, yn y pen draw, oedd y tir: ei osod a wnai i eraill ar yr amod y rhoent iddo wasanaeth milwrol pan fyddai galw am hynny. Gwnai'r arglwydd yntau yr un peth â'r tir a ddaethai i'w ran, hynny yw, fe'i gosodai i denantiaid i'w drin ar yr amod y gwasanaethent ef a gofalu bob amser am ddigon o foddion cynhaliaeth iddo. Cyfuniad, felly, ydoedd ffiwdaliaeth o filwriaeth ac amaethyddiaeth: rhoddai'r arglwydd nawdd ac amddiffyn i'w denantiaid a rhoent hwythau iddo yntau wasanaeth a lluniaeth.
At hyn oll yr oedd yr arglwydd yn rhyw gymaint o lywodraethwr lleol. Yr oedd iddo ei lys lle cosbid drwgweithredwyr ac y trinid materion llywodraeth y rhanbarth, ac yr oedd felly yn wir arglwydd yn ogystal â meistr tir. Hawdd iawn oedd i ŵr o'r fath honni bod yn annibynnol ar y brenin y daliai ei dir ganddo, a digwyddai hynny'n fynych iawn, yn enwedig yn y parthau hynny lle byddai llawer o frwydro, megis ar ororau Cymru. Brithid gwledydd y gorllewin gan fân arglwyddiaethau mwy neu lai annibynnol ar ei gilydd a hefyd ar y brenhinoedd yr oedd yr arglwyddi, mewn enw, yn deyrngarol iddynt.
Er hyn oll, prin iawn oedd gwir ryddid i gorff mawr y bobl, ac yn hyn o beth yr oedd y cyfnod yn wahanol iawn i'r cyfnod diweddar. Ar bwnc o gredo grefyddol, er enghraifft, gan yr eglwys yr oedd y gair terfynol, a gwae'r neb na chydnabyddai hynny. Ceid ambell ysbryd amheus, fel Abelard, ond ychydig oedd eu rhif ac ofnadwy eu tynged. Ymestynai'r awdurdod ar brydiau ymhell i gylch pethau materol ac ymarferol. Cymerer, er enghraifft, y modd yr ymddug y Chwil-lys at Galileo am awgrymu ohono mai'r haul oedd canolbwynt ein bydysawd ni. Penderfynasai'r eglwys mai'r blaned hon oedd canolbwynt y cread ac mai Caersalem oedd ei chanolbwynt hithau, ac ni chaniateid i neb amau seiliau ei gosodiadau. Y mae yn eglwys gadeiriol Henffordd fap a ddengys beth oedd syniadau'r cyfnod am ddaearyddiaeth.[18] Yn yr un modd,
carcharwyd Roger Bacon—ac yntau yn Frawd proffesedig— am ddim ond bodloni'r nwyd wyddonol oedd yn ei waed. Y mae'n wir i'r nwyd honno, yn y man, ennill buddugoliaeth fawreddog ar gulni eglwysig pan osododd ei olynydd, Syr Francis Bacon, sylfeini gwyddoniaeth ddiweddar, ond bu raid aros dros dri chan mlynedd am hynny. Bu raid cael cynhyrfiadau ysgytiol y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd. cyn adennill o ddynion yr hawl i bwyso a mesur pethau yn ôl deddfau deall a rheswm.
Yr oedd trefn cymdeithas yn yr un modd yn gaeth a diymod. Yr oedd yn y drefn honno raddau pendant,[19] a chydnabyddid gwahaniaeth gradd a dosbarth yng ngweinyddiad cyfraith. Yr oedd i'r eglwys a'i hoffeiriaid gyfraith arbennig—hyhi oedd achos y cweryl a fu rhwng Harri II a Thomas à Beckett yn Lloegr; ar y llaw arall ni chai'r taeog fyned â'i achos y tu allan i lys ei arglwydd. Dyletswydd pawb oedd aros yn y safle y ganed ef ynddi heb feddwl am ei newid na gwella'i fyd. Ychydig oedd y grisiau y gellid dringo ar hyd-ddynt, er bod yr eglwys yn agor y drysau i unrhyw un a feddai dalentau disgleiriach na'r cyffredin.
Yn araf, fodd bynnag, ymryddhawyd o'r hualau hyn. Torrwyd ar orthrwm yr arglwyddi gan dwf y trefydd, a daeth cynnydd masnach a thrafnidiaeth i rymuso'r ysgogiad i gyfeiriad rhyddid. Amrywiai'r trefydd yn fawr o ran maint a phwysigrwydd, ond yr oedd ynddynt oll egin cydraddoldeb a rhyddid ac ymladdodd eu masnachwyr a'u crefftwyr lawer brwydr yn erbyn teyrn ac arglwydd, esgob ac abad.
Rhoes Rhyfeloedd y Groes hefyd ysgogiad cryf i'r un cyfeiriad. Methiant llwyr fu'r ymgais i gyrraedd y nôd uniongyrchol, sef diogelu Caersalem, ond bu'r rhyfeloedd yn gyfrwng i ledu byd a gwelediad yr oesau canol a chynyrchasant asbri a bywyd newydd, a gyrhaeddodd ei lawn dwf yn y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd.

Llyfrau.
(Penodau I a II.)
Ni fwriedir yn y nodiadau hyn wneuthur mwy na chyfeirio at y llyfrau mwyaf adnabyddus sy'n ymdrin a'r pwnc ac y sydd hefyd o fewn cyrraedd y myfyriwr cyffredin. Nid oes yr un o'r llyfrau a enwir na ellir ei gael trwy Lyfrgell y Sir.
Y mae gan Wasg Prifysgol Rhydychen nifer o lyfrau diddorol ar wareiddiad yr hen fyd a'r cyfnod canol, er enghraifft: The Legacy of Greece, The Legacy of Rome, a The Legacy of the Middle Ages. Llyfr rhagorol hefyd yw What we owe to the Greeks, gan R. W. Livingstone. Y mae digonedd o gyfieithiadau o glasuron Groeg a Rhufain i'w cael yn Saesneg yng Nghyfres Everyman (Dent). Dylid darllen Bywyd Cymdeithas (Republic) Plato a Gwleidyddiaeth (Politics) Aristotl er mwyn ymgydnabod â'u syniadau politicaidd ac athronyddol.
Ar hanes Groeg gweler llyfr Bury, A History of Greece, ail-argraffiad, 1922. Y mae llyfr Grote (cyfres Everyman) ar yr un testun yn ddarllenadwy o hyd, er y gwyddom lawer mwy erbyn hyn am gefndir y gwareiddiad nag a wyddai ef. Ynglŷn â'r ychwanegiadau diweddar at ein gwybodaeth ar y pwnc gweler llyfr Burrows: Crete, the Forerunner of Greece.
I iawn ddeall twf ymerodraeth Rufain rhaid darllen llyfr Mommsen, A History of Rome. Ychydig yw'r llyfrau sy'n ymdrin â dylanwad cyfraith Rufain. Y mae llyfr Maine ar Ancient Law, gyda nodiadau gan Pollock (1906), yn werthfawr o hyd. Erys llyfr Gibbon, The Decline and Fall of the Roman Empire, heb ei ddiorseddu hyd heddiw argraffiad a gyhoeddwyd yn 1909 dan olygiaeth J. B. Bury yw'r gorau.
Ar hanes yr oesau canol gweler: Bryce, The Holy Roman Empire; Milman, Latin Christianity; Montalembert, The Monks of the West. Ar y cyfnod diweddar darllener llyfr awgrymiadol Pollard, "Factors in Modern History'', a gweithiau'r diweddar Arglwydd Acton, megis ei History of Freedom and other Essays. Ceir rhestr gyflawn o lyfrau yn ymdrin â phob un o'r cyfnodau hyn yn y Cambridge Ancient, Medieval and Modern Histories (Gwasg Prifysgol Caergrawnt).
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gweler Gooch: History and Historians in the 19th Century, V, XI a XV.
- ↑ Cesar: De Bello Gallico, VI. c. 21—23.
- ↑ Tacitus: Germania. C. I—26.
- ↑ Gibbon: Decline and Fall of the Roman Empire, IX
- ↑ Dywedir mai Atila, arweinydd didostur yr Huniaid, a ddywedodd hyn.
- ↑ Gweler Boissonnade: Life and Work in Medieval Europe, I, i.
- ↑ Boissonnade, op. cit., I, ii. 8.
- ↑ Ibid.
- ↑ Lloyd: History of Wales, Ch. 5. Fe'i geilw hefyd yn homili, neu rybudd bychan, fel y cyfieitha J. O. Jones ef. Am yr arswyd gynhyrchodd y digwyddiadau hyn ar Gildas gwêl O Lygad y Ffynnon, td. 120-123. Peidiodd yr ymosodiadau am gyfnod ar ôl brwydr mynydd Baddon a ymladdwyd y flwyddyn y ganed Gildas.
- ↑ 10 Iolo MSS., 78.
- ↑ Mansi Sacrorum Conciliorum Collectio, viii, 31.Am fanylion yr ymrafaelion hyn gweler unrhyw lyfr ar hanes Ewrop yn yr oesau canol, megis Tout: 'The Empire and the Papacy; The Cambridge Mediaeval History, Vol. V—Contest of Empire and Papacy; a Bryce: The Holy Roman Empire.
- ↑ "Cerais gyfiawnder a chaseais anwiredd, am hynny yr wyf yn marw yn alltud"—geiriau olaf Gregori. Bu farw ar y 25 o Fai, 1085.
- ↑ Bu Jerôm wrthi yn cywiro y cyfieithiad o'r Beibl a adwaenir fel y Fwlgat o 383-395. Yn y зedd a'r 4edd ganrif, Galeg siaredid yn Ffrainc; yna Lladin tan tua canol y 7fed ganrif. Yna deuwyd i siarad y ddwy iaith, Ffrangeg ac Almaeneg, fel ei gilydd. Yn 842 ceir Ludwig a Siarl Foel yn cymryd llwon yn y ddwy iaith, a dyma'r enghraifft swyddogol gyntaf o ddefnyddio'r iaith Ffrangeg. Yr oedd ymddangosiad 'Spaeneg ac Italeg yn ddiweddarach fyth. Cronicl y Brawd Salimbene (1221—1288 ?) yw un o'r darnau llenyddol hynaf mewn Italeg. Gwêl Ddarlith Stubbs ar The Languages of the principal European States; Lectures on Early English History, 226.
- ↑ Wrth gwrs, rhaid cofio mai Germaniaid o waed a thafodiaith oedd y "Ffrancod."
- ↑ Gerallt Gymro: The Itinerary through Wales, p. 43.
- ↑ Lloyd: op. cit., td. 763. Gwêl hefyd Celtic Bulletin, IV, V, 351.
- ↑ Guizot: History of Civilization. Bohn's Edition, II.
- ↑ Gwêl tudalen 15 am gopi ohono.
- ↑ Anodd fuasai cael disgrifiad mwy cryno o fywyd yr oesau canol na brawddeg o eiddo Adalbero, Esgob Laon: "Y mae yn nhŷ Dduw dair adran, ac nid un fel y tybir weithiau, sef y gweddïwyr, yr ymladdwyr, a'r gweithwyr."

III.
Y Cefndir Cymreig.
Y mae'n wir yn orchwyl dyrys ddigon i chwilio allan ddechreuad ein cenedl ni yn gowir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i haberoedd i lygad y ffynnon. Ond mi a amcanaf symud ymaith y niwl oddiar y ffordd, fel y bo ein taith at y gwirionedd yn eglur.—THEOPHILUS EVANS.
GELLIR cyffelybu gwareiddiad yr oesau canol i gangen olewydden wyllt wedi ei himpio ar hen foncyff olewydden wâr. Er cymaint y difrod a wnaeth yr ymosodwyr ar yr ymerodraeth, ni ddinistriasant yr hen wareiddiad yn llwyr ni ddaethant ychwaith yn waglaw, oherwydd er gwyllted oeddynt, daeth gyda hwy ynni a bywiogrwydd newydd, a phan impiwyd hwn ar weddillion yr hen wareiddiad, dechreuodd bywyd newydd flaguro yn y tir. Afraid a difudd fai ceisio penderfynu maint cyfran yr hen fyd ar y naill law a'r anwariaid ar y llaw arall yn natblygiad y bywyd newydd hwn, ond y mae'n eglur bod gwahaniaethau mawr rhwng gwledydd a'i gilydd yn hyn o beth. Dibynnai'r datblygiad mewn unrhyw wlad ar ddau beth, sef maint y dylanwad a fu gan Rufain ar ei bywyd cyntefig, a llwyredd y difrod a wnaed ynddi gan y llwythau Germanaidd wrth oresgyn yr hen ymerodraeth.
Po bellaf yr eid oddi wrth Rufain, lleiaf oll, wrth gwrs, oedd ei dylanwad. Safai Prydain ar gyrrau eithaf yr ymerodraeth yng nghyfeiriad y gogledd-orllewin, ond bu dylanwad Rhufain yn lled drwm ar ddeheudir a dwyreinbarth yr ynys—sef Lloegr ein dyddiau ni. Yr oedd ei dylanwad ar Gymru gryn dipyn yn llai, ac yn llai fyth ar yr Alban: ac ni chyffyrddodd ag Iwerddon o gwbl.[1] Ni chyffyrddodd ychwaith â'r gwledydd ar du dwyrain afon Rhein a thu gogledd afon Donaw—hen derfynau gogledd-ddwyrain yr ymerodraeth. Methodd Rhufain, neu o leiaf ni cheisiodd, ddarostwng gwledydd y llwythau hynny a dorrodd yn y man dros ei therfynau, ac o ganlyniad ni ddycpwyd i'r gwledydd hynny ddim o'r diwylliant a'r gwareiddiad Rhufeinig. Bu'n ymffrost gan rai haneswyr yn yr Almaen fod eu diwylliant hwy yn gwbl Diwtonig ei ansawdd heb arlliw Rhufeinig arno o gwbl, ac i'w cenedl hwy ddinistrio hen wareiddiad Rhufain a rhoi uwch gwareiddiad yn ei le.
Y Môr Canoldir ydoedd canolbwynt ymerodraeth Rufain, ac am hynny y gwledydd a drawai ar y môr hwnnw a yfodd helaethaf o ffrwd ei gwareiddiad. Yno hefyd, fe ddichon, y. gwnaed y difrod mwyaf pan ddymchwelwyd yr ymerodraeth. O'r gwledydd hyn, Ffrainc oedd y gyntaf i ddangos argoelion bywyd newydd yr oesau canol, ac ynddi hi y gwelwyd ef ar ei orau. Hyhi a fu ffyddlonaf o bob gwlad i Eglwys Rufain; ei phrifysgol hi—y Sorbonne ym Mharis—oedd prifysgol bwysicaf y cyfnod a phrif amddiffynnydd credo'r eglwys; ac yn Ffrainc hefyd y cafwyd datblygiad perffeithiaf y gyfundrefn ffiwdalaidd.
Yr oedd amryw resymau dros fod y datblygiad yn arafach yn Sbaen ac Itali. Goresgynesid Sbaen gan y Fisigothiaid, llwyth oedd eisoes wedi derbyn Cristnogaeth ond a dderbyniasai ar yr un pryd syniadau anuniongred yr Ariaid, a'u gwnaethai yn anathema i'r hen Rufeiniaid uniongred a drigai yn y wlad. Yn ddiweddarach, goresgynwyd y wlad gan y Saraseniaid Mahometanaidd, ac ni lwyddwyd i'w hymlid oddi yno hyd ddiwedd y bymthegfed ganrif, pan oedd yr oesau canol yn dirwyn i ben. Yn Itali gwnaeth y Lombardiaid gymaint difrod yn y gogledd nes dileu bron bob argraff Rufeinig oddi ar fywyd y lle, a phrin y gadawyd digon o had yn y tir i gychwyn bywyd newydd.[2] Ni wnaethpwyd cymaint difrod yn neheudir y wlad, ond yno yr oedd tiriogaethau'r ymerodraeth yn wasgarog iawn, a rhoes hynny gyfle i'r Babaeth gychwyn ar ei gyrfa lywodraethol.
Cyn dechrau olrhain twf y bywyd newydd yn ein gwlad ni ein hunain, rhaid cymedroli ychydig ar y gosodiad a wnaed ar ddechrau'r bennod, sef mai cynnyrch cyfuniad o weddillion gwareiddiad yr hen fyd ac ynni'r cenhedloedd anwar oedd gwareiddiad yr oesau canol. Y mae'n wir mai o'r gwreiddiau hynny y tarddodd bywyd newydd y rhan fwyaf o wledydd gorllewin Ewrop, ond yr oedd gwareiddiad uchel mewn un wlad o leiaf na phrofodd ronyn o ddylanwad Rhufain ac nas blinwyd gan y cenhedloedd anwar am ganrifoedd wedi goresgyn ohonynt y gwledydd eraill. Cyfeirio yr ydys at wlad Iwerddon cyn bod arlliw gwareiddiad newydd yn Ewrop, yr oedd yn yr Ynys Werdd ddiwylliant na chynhyrchodd yr oesau canol ei odidocach o gwbl. Ffynnai'r gwareiddiad hwn yng nghanol yr oesau tywyll, a cheir yno draddodiad am wareiddiad cynharach hyd yn oed na hynny—am gyfnod pan dorrwyd y coedydd ac yr adeiladwyd dinasoedd a cheyrydd, pan weithid mewn aur ac y darganfuwyd lliwiau'r porffor a'r glas a'r gwyrdd. Ac nid disail y traddodiad, oblegid y mae heddiw yn amgueddfa Dulyn gasgliad o dlysau aur nad oes eu tebyg yn unman, a'r cwbl yn gynnyrch y cyfnod cyntefig.[3] Perffeithiwyd yno hefyd ffurf-lywodraeth batriarchaidd wahanol iawn i'r gyfundrefn a osodwyd ar war y Gwyddyl yn ddiweddarach, ond a oedd, ar lawer cyfrif, yn well a rhyddach na'r gyfundrefn honno. Yr oedd dysg a chrefydd y bobl yn ddihareb erys Llyfr Kells, yng ngholeg y Drindod, Dulyn, Llyfr Armagh, a thrysorau eraill, yn dystion i'w crebwyll artistig a'u gallu digymar, ac nid rhaid ond dywedyd iddynt sefydlu mynachtai ym mhob gwlad bron yn Ewrop i ddangos gymaint oedd eu sêl grefyddol. Yn wir, cam yn ôl, yn hytrach nag ymlaen, oedd i Iwerddon ddyfod i gysylltiad â gwareiddiad y Norman.

Y trigolion cyntaf y mae gennym hanes amdanynt yn ynys Prydain, neu yr Ynys Wen fel y gelwid hi gynt, oedd yr Iberiaid, a elwir weithiau yn llwythau'r Môr Canoldir. Tybir mai yng ngogledd Affrica yr oedd eu cartref cyntaf, oherwydd daethpwyd o hyd i rai o'u claddfeydd cynharaf yno. Cafwyd claddfeydd cyffelyb hefyd yn arfordir Ffrainc ac yng nghromlechau Môn a Phenfro. Yr oedd y bobl hyn oddeutu pum troedfedd a hanner o daldra, bron yn ddu eu gwallt a thywyll o bryd a gwedd. Erys yr hil mewn llawer ardal ddiarffordd yng ngogledd a chanolbarth Cymru, ac yn enwedig ymysg glowyr y De. Siaradent iaith nad oes yn Ewrop heddiw debyg iddi, onid yw iaith y Basque yn deilliaw ohoni. Ymhyfrydent mewn celfyddyd, fel y dengys y darluniau lliw a'r cerfiadau a geir yn ogofau'r Dordogne yn neheudir Ffrainc, a chanddynt hwy, fe ddichon, yr etifeddodd y Cymro ei gariad greddfol at gân a cherdd.
Dilynwyd hwy gan y Celtiaid, a ddaeth yma, fe dybir, ar hyd mynydd-dir Ewrop. Bugeiliaid oeddent yn bennaf, a daethant a'u hanifeiliaid gyda hwy i'r ynys hon. Cainc oedd y rhain o deulu mawr a fu am rai canrifoedd yn y cyfnod cyn Crist yn allu cryfaf canolbarth Ewrop. Y mae'n wir na sefydlasant ymerodraeth fel y gwnaeth y Rhufeiniaid, ond goresgynasant nifer o wledydd ac ar un adeg ymestynnai eu tiriogaeth o Alatia yn Asia Leiaf ar draws y cyfandir i'r gorllewin.[4] Llosgasant Rufain yn y flwyddyn 390 c.c., a daeth dydd brwydr Allia—Dies Alliensis—yn ddydd o chwerw chwedl ac o ddrwg ddarogan yn hanes yr ymerodraeth. Ymosodasant ar Roeg yn y ganrif nesaf, a bu hefyd frwydro maith rhyngddynt a'u cymdogion, y Germaniaid. Erys aml air Celtaidd o hyd yn yr iaith Germanaidd yn atgof am y cyfnod hwn. Ymsefydlodd cainc o'r teulu yn Itali, a thrwy fod perthynas agos rhyngddynt â'r Rhufeiniaid, ni buont yn hir cyn gollwng gafael ar eu hiaith eu hunain a derbyn iaith ac arferion Rhufain. Daeth rhai ohonynt, megis Ausonius, y bardd, a aned yn Bordeaux yng Ngâl, yn llenorion amlwg ym mlynyddoedd olaf yr ymerodraeth. Yn yr un modd diflannodd yr iaith Geltaidd mewn rhannau eraill o Ewrob ac Asia: er enghraifft, dywed Ierôm y siaredid yn Galatia yn ei amser ef iaith debyg i'r iaith a siaredid ar lannau afon Rhein. Meddai'r teulu mawr hwn ei wareiddiad a'i ddiwylliant arbennig ei hun, ac y mae'n dra thebyg i'r gainc a ddaeth i'r wlad hon ddwyn y diwylliant hwnnw gyda hwy, er na wnaethpwyd hyd yn hyn ond ychydig iawn o ymchwil i'r cwestiwn hwn.
Daeth dwy don ohonynt drosodd, y don gyntaf, y Goideliaid, tua'r ddeuddegfed ganrif cyn Crist, a'r ail don, y Brythoniaid, tua'r drydedd ganrif. Ni wyddys bod dim gwahaniaeth rhwng y ddwy fintai ar wahân i'r ffaith bod newid wedi digwydd yn rhai o seiniau eu hiaith. Yn y fam-iaith Gelteg yr oedd sain a sgrifennir gan ieithegwyr â'r llythyren qu; yn iaith y Goideliaid daeth y sain hon yn c, ond yn iaith y Brythoniaid fe drodd yn p, ac erys y gwahaniaeth hwn hyd heddiw. Er enghraifft, y mae'r gair pedwar yn y Gymraeg (Brythonig) yn cyfateb i'r gair "cethir" yn yr Wyddeleg (Goidelig), ac yn wir, wrth y gwahaniaeth hwn bellach y dosberthir yr holl ieithoedd Celtaidd. Yr oedd y Celt yn olau o bryd a gwedd, ac yn dalach na'r Iberiad, a'i benglog yn nes at fod yn grwn. Gwnai ei arfau o bres ac yn ddiweddarach o haearn. Cleddid y meirw mewn cistiau cerrig a chodid tomen drostynt, ond weithiau llosgid y corff a rhoi'r llwch mewn llestr pridd bychan a'i wyneb i waered. Dywed Cesar mai Celtiaid de-ddwyrain yr ynys oedd y bobl fwyaf gwareiddiedig ym Mhrydain pan ddaeth ef gyntaf i'r ynys, a'u bod yn debyg iawn i'w brodyr yng Ngâl o ran pryd a gwedd ac arfer.[5] Medrent weithio pres a haearn ac aur yn gelfydd ryfeddol, a dengys eu gwaith chwaeth artistig na welwyd ei chyffelyb y rhawg.
Anodd iawn yw dywedyd faint o ran a fu i Gymru yn y gwareiddiad Celtaidd a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn Iwerddon yn ystod canrifoedd cyntaf y cyfnod Cristnogol. Buasai'n amhosibl iddi beidio â chyfranogi ohono i ryw fesur oherwydd gwyddys fod yn y cyfnod hwnnw gyfathrach agosach nag a fu fyth wedyn rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill Iwerddon, Cernyw, yr Alban a Llydaw. Ni chafodd y gwareiddiad Celtaidd hwn y sylw a haedda gan haneswyr. Rhoddwyd yr holl sylw gan rai, yn arbennig haneswyr Ffrainc, i'r elfen glasurol ym mywyd y gorllewin, a bodlonodd eraill, megis haneswyr Lloegr a'r Almaen, ar olrhain yr elfen Diwtonaidd, a gadael yr elfen Geltaidd heb sylw o gwbl.
Cyfeiriwyd eisoes at ymweliad Cesar â'r ynys. Bu hynny yn y flwyddyn 55 c.c., ac oddeutu can mlynedd wedyn ymgymerth y llywodraeth Rufeinig â'i darostwng a'i gwneuthur yn rhan o'r ymerodraeth. Prydain oedd y wlad olaf a feddiannwyd gan Rufain, a hyhi hefyd oedd y gyntaf iddi ollwng ei gafael arni. Rhan yn unig o'r wlad a lwyr ddarostyngwyd, ac ni lwyddodd y llengoedd i gyrraedd Iwerddon o gwbl. Dichon mai rhyddid oddi wrth y gorthrwm Rhufeinig a roddodd gyfle i'r wlad honno ddatblygu ei diwylliant Celtaidd cynhenid i'w lawn dwf. Ni oresgynwyd yr Alban ychwaith, a bodlonwyd ar godi clawdd, ac yn ddiweddarach, yn nyddiau'r Ymherodr Hadrian, fur o gerrig nådd, i gadw'r Pictiaid draw. Codwyd y clawdd cyntaf rhwng y mannau lle saif Edinburgh a Glasgow heddiw, ond bu raid i'r ymerodraeth dynnu ei chyrn ati yn y man a chodi'r mur yn nes i'r de, ar draws gyddfdir gogledd Lloegr.
Rhanasant y rhan honno o'r ynys a elwir heddiw yn Lloegr a Chymru yn ddwy adran, a'r llinell derfyn rhyngddynt yn rhedeg o Gaerefrog yn y gogledd trwy Gaerlleon Fawr ar Ddyfrdwy i Gaerlleon ar Wysg, ac oddi yno ar draws penrhyn y de-orllewin rywle tua Exeter. Ni ymboenent ag adran y gogledd a'r gorllewin[6] ymhellach na chadw gwarchodluoedd mewn nifer o gaerau i gadw'r heddwch, ond dycpwyd adran y de a'r dwyrain dan y llywodraeth wladol gyffredin. Y mae'n amlwg oddi wrth rediad y terfynau, ac yn amlycach fyth oddi wrth y cynllun milwrol, mai lled ansicr oedd eu gafael ar y gogledd a'r gorllewin. Y mae'n debyg na ddarostyngwyd Cernyw, ac ni chafwyd onid carreg filltir neu ddwy ac olion. rhyw dri sefydliad Rhufeinig yno o gwbl.
O'r tair lleng milwyr a gedwid ym Mhrydain ar ôl dyddiau Agricola-y gŵr a gwblhaodd orchfygu'r ynys-yr oedd dwy, fel rheol, ar ororau Cymru. Yr oedd yr ugeinfed lleng yng Nghaerlleon Fawr (ac ymddengys fod y bedwaredd ar ddeg yno hefyd ar un adeg), a'r ail lleng yng Nghaerlleon ar Wysg. Y mae hyn yn dystiolaeth weddol sicr mai gwan oedd eu gafael ar Gymru. Ceir cadarnhâd i'r dystiolaeth yn natur y cynllun milwrol.[7] Rhedai priffyrdd Rhufeinig o ogledd i dde o'r naill Gaerlleon i'r llall, ac ar draws y wlad i Gaernarfon
yn y gogledd a Chaerfyrddin yn y de. Y ddau le hyn oedd terfynau eithaf yr ymerodraeth yng Nghymru, a chodwyd caer gadarn yn y naill a'r llall. Dibynnai nifer y milwyr ar faint y gaer a hefyd ar faint y perygl oddi wrth y brodorion o amgylch. Yma a thraw ar y priffyrdd codwyd ceyrydd llai yn wersyllfaoedd i'r llengoedd pan fyddent ar daith. Er enghraifft, rhwng Caerlleon Fawr a Chaernarfon yr oedd caer yn Llanelwy (Varae), ac un arall yng Nghaerhun (Conovium) i wylio'r rhyd dros afon Gonwy. Yr oedd caerau cyffelyb rhwng Caerlleon ar Wysg a Chaerfyrddin, a hefyd ddwy gaer bwysig yng nghanolbarth Cymru—y Gaer, gerllaw Aberhonddu, a Chaersws yn nyffryn Hafren—heblaw nifer o fân gaerau ar y ffyrdd a gysylltai'r rhain a'i gilydd.
Awgryma Haverfield i Frythoniaid gwastadeddau Lloegr fabwysiadu arferion Rhufeinig a dyfod, fe ddichon, yn weddol hyddysg yn yr iaith Ladin. Gellid disgwyl i hynny ddigwydd yn y rhan honno o'r wlad yng nghynt nag yng Nghymru, oherwydd sefydlwyd yno fywyd Rhufeinig cyflawn; nid caerau milwrol yn unig, fel yng Nghymru. Adeiladwyd lliaws o drefydd, lawer ohonynt, megis Silchester neu Gaerwent gyda chlawdd neu fur o'u cwmpas, ac y mae'n sicr y trigai ynddynt lawer o Frythoniaid mewn safleoedd israddol, fe ddichon—ochr yn ochr â'r dinasyddion Rhufeinig. Daethpwyd o hyd yno hefyd i olion llawer o dai Rhufeinig a safai ar eu pennau eu hunain yng nghanol y wlad agored—arwydd sicr nad ofnai trigolion y cyfryw dai unrhyw berygl oddi wrth y brodorion. Dengys hyn oll fod y tir yn barod i'w "rufeineiddio," a theg yw casglu i hynny ddigwydd, i raddau, beth bynnag, yn y parthau a nodwyd. Yr oedd amryw drefydd o'r fath ar ororau Cymru, er enghraifft, Viroconium (Wroxeter) gerllaw Amwythig a Magnae (Kenchester) yn sir Henffordd a Chaerwent yn Sir Fynwy. Ceir yn olion y trefydd hyn brofion eglur bod yr elfen Frythonig ymysg y trigolion wedi llwyr gartrefu yn yr awyrgylch Rufeinig a mabwysiadu moes ac arfer eu concwerwyr.
Ni ddarganfuwyd olion tref o gwbl yng Nghymru[8] ac ni chafwyd olion ond dau dŷ (villa) Rhufeinig, y naill gerllaw Llanilltyd Fawr, a'r llall yn Llanfrynach, gerllaw Aberhonddu.[9] Ni cheir yma ond caerau yn unig, a dengys eu maint o'i gymharu â maint y trefydd, mai i amcanion milwrol yn unig yr adeiladwyd hwy. Dyma faint rhai ohonynt: Caerhun, 430 troedfedd ysgwar; Caernarfon, 6 acer; Tomen y Mur, 4½ acer; Caersws, 7 acer. Ar y llaw arall, safai Magnae, un o'r trefydd lleiaf oll, ar 22 acer o dir, a Urioconium ar 170 acer. Nid oedd

y trefydd i gyd ar yr un cynllun, ond yr oedd y caerau oll yn unffurf, sef adeilad sgwar a'r conglau wedi eu torri ymaith. Cerrig wedi eu bras naddu oedd y prif ddeunydd, ac adeiladwyd hwy yn drefnus ac yn gadarn. Ceir digon o brofion y byddai'r caerau hyn yn fynych mewn perygl oddi wrth ymosodiadau'r brodorion. Ymosodwyd ar Segontium (Caernarfon) fwy nag unwaithref>Mortimer Wheeler, Erthyglau ar Segontium a Chaer Aberhonddu yng nghyhoeddiadau Cymdeithas y Cymmrodorion.</ref> ac am ysbeidiau yn unig y delid gafael ar y Gaer ym Mrycheiniog.
Amhosibl dywedyd faint fu dylanwad Rhufain ar Gymru, ond y mae sail i'r dyb nad ymyrrwyd llawer â bywyd y brodorion yn eu cartrefi cyntefig ar bennau'r mynyddoedd. Diau y bu raid iddynt dalu treth i'r estron ac y gorfuwyd iddynt fyw yn fwy heddychlon â'i gilydd; a diau hefyd iddynt yn araf ddynwared rhyw gymaint ar rai o'i arferion, megis dull gwneuthur amddiffynfeydd, defnyddio llestri pridd, gwisgo tlysau gwydr am eu gyddfau a benthyca ambell i air.[10]
Dug yr ymerodraeth, yn anuniongyrchol, feallai, un fendith fawr i'r ynysoedd hyn, oherwydd gyda hi, ryw fodd neu'i gilydd, y daeth Cristnogaeth i'r wlad. Bu traddodiad yn brysur yn nyddu chwedlau i gyfrif am ei dyfod—yn ôl rhai ohonynt, un neu arall o'r apostolion a ddug y neges yma—ond nid oes sail o gwbl i'r chwedlau hyn.[11] Maentumiai Dr. Hugh Williams nad oes sicrwydd i Gristnogaeth gyrraedd Cymru hyd y bumed ganrif, ac mai ychydig a wnaeth y milwyr Rhufeinig i ledaenu egwyddorion y grefydd newydd. Cadarnheir y farn hon gan y darganfyddiadau a wnaed yn ddiweddar yn y caerau Rhufeinig yng Nghymru. Yng Nghaernarfon cafwyd allor wedi ei chysegru i'r dduwies Minerfa gan ryw Aurelius a oedd yn swyddog yn y gaer yn y drydedd ganrif. Cafwyd hefyd fath o degan swyn Gnosticaidd, ond ni chafwyd yno ddim tystiolaeth bod neb o'r milwyr yn proffesu Cristnogaeth. Ar y llaw arall, y mae yn nhref Rufeinig Silchester yn Hampshire olion eglwys Gristnogol—y gyntaf, y mae'n debyg, yn yr holl wlad. Ceir olion tebyg ond heb fod cyn hyned yn rhai o hen Eglwysi Caergaint.[12] Gwyddom, fodd bynnag, fod Cristnogaeth wedi gwreiddio ym Mhrydain erbyn y flwyddyn 314, oblegid yn y flwyddyn honno yr oedd tri o esgobion o Brydain, sef esgobion Llundain, Caerefrog, a Lincoln, yn bresennol mewn cyngor yn Arles yn Neheudir Ffrainc. Yn fuan iawn wedyn ceir hanes am Frython o'r enw Morgan neu Morien,[13] neu Pelagius fel y gelwid ef yn Lladin, yn euog o'r heresi a elwir byth er hynny yn Forganiaeth (Pelagianism). Anfonwyd apêl at eglwysi Gâl am gymorth i rwystro lledaeniad yr heresi hon, a'r canlyniad fu anfon Garmon a Bleddian, dau o esgobion gogledd Gâl, yma i bregethu. Y mae yng Nghymru amryw eglwysi wedi eu henwi ar ôl Garmon, ac o leiaf ddwy yn dwyn yr enw Llan— fleiddian, ond nid oes sicrwydd bod pob un o'r eglwysi hyn yn perthyn i'r bumed ganrif.
Y mae digon o brofion bod cysylltiad agos rhwng eglwysi'r gwahanol wledydd Celtaidd a'i gilydd yn y cyfnod hwn. Cadwesid cyfathrach gyson rhwng yr ynys a'r Cyfandir dros gulfor Dyfr, ond torrwyd y gyfathrach honno pan ddaeth y llwythau Germanaidd i Loegr o fforestydd canolbarth Ewrop. Bu hynny yn achlysur i dynhau'r berthynas rhwng y Celtiaid a'i gilydd, a gellir gweled oddi wrth hanes Padrig, nawdd sant Iwerddon, mor agos oedd y berthynas honno. Ganed ef ar stad fechan heb fod nepell oddi wrth orsaf Rufeinig o'r enw Bannaventa (Whilton Lodge? Northampton).[14] Pan oedd yn lled ieuanc, cymerwyd ef yn gaeth i Iwerddon, ac yno, wrth wylio praidd ei feistr yn unigedd mynyddoedd Antrim, cafodd weledigaeth newydd. Daeth yn ôl i Brydain, ac yn y man penderfynodd, er gwaethaf pob gwrthwynebiad, fyned yn genhadwr i ennill y Gwyddyl i Grist. Byddai'r saint Celtaidd yn tramwy fel hyn o'r naill wlad i'r llall, a chysegrwyd eglwysi i ambell un ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd y pregethodd ynddynt.
Y mae'n eglur oddi wrth hanes yr eglwys fod dwy agwedd ar y bywyd crefyddol yn hoff gan y Celtiaid, sef mynachaeth a meudwyaeth. Fe sonnir mewn pennod arall am dwf mynachaeth, felly ni wneir yma ond dywedyd mai'r gyfundrefn honno oedd un o'r cyfryngau y lledaenwyd Cristnogaeth trwyddynt yn y cyfnod bore. Ceir olion celloedd y meudwyaid ar hyd a lled ynysoedd gorllewin yr Alban ac Iwerddon, ac nid ydym heb enghreifftiau yng Nghymru er nad ydynt mor lluosog yma. Ymneilltuai'r meudwy i'w gell ar lan y môr neu yn unigedd y goedwig neu'r mynydd ymhell o sŵn y byd a'i boen, a thrwy rinwedd ei fuchedd santaidd, deuai'r fangre yn dir cysegredig. Yn raddol daeth pobl i addoli llwch y meudwy yn y man lle bu ef gynt yn ymladd ei frwydrau ysbrydol, ac felly yng nghwrs amser daeth llawer cell yn eglwys blwyf. Ond mwy cyffredin nag ymneilltuo i'r gell unig oedd sefydlu math ar gymdeithas grefyddol lle trigai'r brodyr defosiynol ynghyd a threulio eu hamser yn pregethu'r efengyl a dysgu pwy bynnag a ddeuai o fewn cylch eu dylanwad. Mewn lleoedd o'r math hwn y diogelwyd diwylliant yr hen fyd Celtaidd ac yr unwyd ef â'r bywyd Cristnogol. Yr oedd o leiaf ddau le o'r fath yng Nghymru a ddaeth yn enwog yn fore am eu dysg, sef Bangor—is—y—Coed a Llanilltyd Fawr. Yn Llanilltyd, meddir, yr addysgwyd Gildas, yr hanesydd Cymreig y soniwyd amdano yn y bennod o'r blaen.[15] Pan ddaeth y llanw anwar i'r wlad, bu raid iddo ef a llu o'i gydwladwyr ffoi i Lydaw, ac yno sefydlodd fynachlog mewn lle o'r enw Rhuis. Yn Llanilltyd hefyd y derbyniodd Samson, archesgob Dôl yn Llydaw, ei addysg fore. Samson oedd y cyntaf o saint yr eglwys Geltaidd y meddwn 'fuchedd" gyflawn o'i hanes.
Ychydig gyfathrach a fu rhwng yr Eglwys Geltaidd ac Eglwys Rhufain rhwng canol y 5ed ganrif a diwedd y бed,[16] a bu hir ymryson cyn iddi blygu glin i'r gallu oedd yn graddol ddarostwng y gwledydd i'r ffydd Rufeinig. Pan ddaeth cenhadon Rhufain i'r wlad, fodd bynnag, yr oedd brwydr rhwng y ddwy eglwys yn anorfod, ac yn hanes yr ymryson a fu cawn gipolwg ar y gwahaniaeth rhwng y ddwy. Er gwaethaf honiadau ei gelynion, nid oes sail i gredu bod yr Eglwys Geltaidd yn anuniongred o gwbl. Bychain, a dibwys hefyd i'n golwg ni, oedd y gwahaniaethau—pynciau megis dyddiad y Pasg a dull eillio pen, etc.—ond ni pheidiodd crefyddwyr eto, ysywaeth, ag ymrannu ynghylch manion. Ceir cronicl lled gyflawn o gwrs y ddadl gan yr hanesydd Beda.[17] Trefnwyd cynhadledd a dewiswyd saith o esgobion a nifer o wŷr dysgedig o Fangor-is-y-Coed i gynrychioli'r eglwys Geltaidd. Ceisiasant hwythau gyngor meudwy duwiolfrydig cyn cychwyn, a dywedodd yntau wrthynt y gallent farnu oddi wrth ymddygiad Awstin—y prif genhadwr Rhufeinig tuag atynt a oedd yn ŵr Duw ai peidio. Pan. ddaethant i wydd y prelad hwnnw, ac yntau yn gwrthod codi o'i gadair i'w cyfarch, penderfynasant nad oedd ynddo'r gostyngeiddrwydd a ddylai fod ym mhob disgybl i fab y saer, a therfynwyd y gynhadledd. Yn araf, fodd bynnag, ildiodd yr hen eglwys dan y pwysau. Eglwys Iwerddon a ildiodd gyntaf rhwng 625 a 638; yna eglwys y Gogledd yn 664, ac eglwys Cymru yn olaf yn 768. Bu Cymru, felly, yn wydnach ei ffyddlondeb nag un o'r gwledydd Celtaidd eraill i'r hen gyfundrefn.[18] Gwnaethai'r gyfundrefn honno ddiwrnod da o waith. Enillasai'r wlad at Gristnogaeth a chadwasai fflam yn llosgi ar yr allor mewn cyfnod cynhyrfus pan oedd tywyllwch yn gordoi bron bob un o'r gwledydd.

Soniwyd eisoes am yr ymosod a fu ar wledydd y gorllewin gan lwythau anwar y gogledd a'r dwyrain rhwng y bumed a'r ddegfed ganrif. Gwnaeth y llwythau hynny ddifrod mawr mewn llawer o'r gwledydd, ond ychydig iawn o'u hôl a wnaethant ar Gymru. Hyd yn ddiweddar, tybiai haneswyr i'r Cymry dreulio'r canrifoedd hynny bron ar eu hyd yn ymladd â'r Saeson, ond fel y dengys haneswyr diweddar Cymru, nid oes fawr o sôn am y Saeson, o leiaf yn ystod canrifoedd cyntaf y cyfnod. Yn y bumed ganrif, er enghraifft, à Cheltiaid y Gogledd y bu'r Cymry yn ymladd fwyaf. Bu ymladd â'r Saeson hefyd, y mae'n wir, ond ar wastadeddau Lloegr y bu'r rhan fwyaf o'r brwydrau hynny, megis brwydr Baddon[19]. yng ngwlad yr Haf (?) a brwydr Caer. Ceir sôn yn y Gododdin hefyd am y "gwŷr a aeth Gatraeth i ymladd ag Ida, arweinydd y Saeson, rywle yng ngogledd Lloegr. Cael meddiant llwyr ar dir Lloegr oedd nôd y Saeson, ac wedi canrifoedd o frwydro, sef tua diwedd yr wythfed ganrif, cyrhaeddwyd y nôd a bodlonodd Offa, brenin galluog Mersia, ar godi clawdd[20] i gadw'r Cymry draw heb ymboeni i gario'r goncwest ymhellach.
Gellir gweled oddi wrth Stent Wiliam y Concwerwr, a elwir Domesday Book (1086), leied o argraff a wnaethai'r Saeson ar Gymru yn ystod y pum canrif cyn hynny. Ceir cyfrif yn yr ystadegau hynny am y rhannau o Gymru a enillasid oddi ar y Cymry, ond dylid cadw mewn cof mai'r barwniaid Normanaidd a feddianasai'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau hynny, er bod Harold, brenin y Saeson, wedi dechrau ar y gwaith o'u blaenau. Yn y gogledd yr oedd hanner tref Ruddlan, lle yr oedd eisoes gastell wedi ei godi, yn nwylo Huw Flaidd, Ĭarll Caer, a'r hanner arall yn cynnwys ychydig dros hanner y bwrdeiswyr (sef deg yn erbyn wyth), hanner yr eglwys, hanner y gweithydd haearn a hanner afon Glwydym meddiant ei gefnder, Robert Rhuddlan.[21] Yr oedd y rhan honno o'r wlad, felly, rhwng Dyfrdwy a Chlwyd o Gaer i Ruddlan, eisoes yn nwylo'r Normaniaid. Yng nghanolbarth Cymru codasai Roger Montgomeri o Amwythig gastell iddo'i hun yn Hen Domen, gerllaw Trefaldwyn; ac yr oedd castell arall ar ei ganol yng Nghroesoswallt. Delid dau gwmwd wrth odre'r Berwyn, sef Cynllaith ac Edeirnion, gan Reinallt y Siryf; yr oedd Iål yn nwylo Huw Caer (er ei fod yng nghanol tiriogaeth Roger), a delid Nanheudwy gan Gymro o'r enw Tudur.[22]
Yn y de llwyddasai Fitzosbern, Iarll Henffordd, i ddiogelu ei arglwyddiaeth trwy godi cestyll yn Wigmore, Clifford, Ewias Harold, Mynwy a Chasgwent, a sefydlu nifer o Normaniaid
o'u cwmpas; ond prin, wedi'r cwbl, y symudasai'r ffin rhwng y ddwy wlad. Er hynny, efô a ddangosodd y ffordd i ddarostwng y Cymry, a thrwy ei gynllun ef y llwyddwyd yn y man.[23]
Symudwyd y rhwystr mwyaf oddi ar ffordd y Norman pan fu farw Rhys ap Tewdwr, tywysog Deheudir, yn ystod Gŵyl y Grôg yn y flwyddyn 1093, a buan y gwybu'r de ei golli. Syrthiodd y deheubarth mewn ychydig amser i grafangau barwniaid y Mers, ac yr oedd wedi ei ddarostwng yn llwyr cyn syrthio o Wynedd yn 1282.
Y Norman, felly, a orchfygodd Gymru: a daeth y wlad, a oedd hyd hynny wedi byw ei bywyd ei hun er gwaethaf y Rhufeiniwr a'r Sais, i gyfathrach uniongyrchol â chynnyrch mwyaf nodweddiadol gwareiddiad yr canol. Ar drothwy'r cyfnod hwnnw, gan hynny, yr oedd ei phrofiad yn hollol wahanol i brofiad ei chymdoges agosaf, ond er mai cymharol neilltuedig a fuasai ei bywyd, nid diffrwyth mohono o lawer. Olrheiniwyd eisoes dwf ei bywyd crefyddol, ond y mae eto ddwy agwedd arall ar ei bywyd y dylid sylwi arnynt. Dichon nad oes dim a rydd well syniad am ddatblygiad bywyd cymdeithas na natur y gyfundrefn gyfraith. Y mae'r ffaith bod cyfraith o gwbl yn dangos gydnabod o ddynion awdurdod uwch na'u barn hwy eu hunain, ac oddi wrth natur y cyfreithiau gellir barnu o leiaf beth oedd y delfrydau yr ym— gyrhaeddai'r bobl neu'r genedl atynt. Ceir, er enghraifft, ddarlun o fywyd Cymru gynt yn y corff hwnnw o hen gyfreithiau sydd ar gael mewn llawysgrifau o'r ddeuddegfed ganrif ac a gysylltir ag enw Hywel Dda. Nid Hywel a wnaeth y cyfreithiau hyn yr hyn a wnaeth ef oedd casglu at ei gilydd gyfreithiau neu arferion gwlad, lawer ohonynt yn hŷn lawer na'i oes ef ei hun. Hen Arfer yw deunydd y rhan fwyaf o gyfreithiau bore pob gwlad yn Lloegr, er enghraifft, arferion gwlad (Common Law) yw prif ran y gyfraith heddiw, ond ychwanegwyd atynt o dro i dro trwy fenthyg o gyfraith Rufain (er na bu dylanwad honno gymaint yn y wlad hon ag ar y Cyfandir), trwy ddeddfu o fwriad a thrwy ddilyn dyfarniadau'r llysoedd. Cyffyrddai cyfreithiau Hywel â phob agwedd ar fywyd yn eu plith ceir cyfreithiau neu ddefodau'r llys, cyfreithiau ynglŷn â gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas a'u dyletswyddau ac â phersonau a chytundebau rhyngddynt a'i gilydd, cyfreithiau tir a chasgliad o reolau ynglŷn â'i drin, ac yn olaf cyfreithiau ynglŷn â llys barn a chosb am drosedd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y cyfreithiau hyn a chasgliadau, a wnaed tua'r un amser, o gyfreithiau brenhinoedd Lloegr. Nid oedd cyfreithiau Ine, brenin Wessex, a hyd yn oed gyfreithiau Alffred Fawr, ond casgliadau o gosbau am droseddau arbennig,[24] ac oherwydd hynny ychydig o olau a geir ynddynt ar fywyd cymdeithasol y cyfnod, oddieithr ar ei ochr hacraf. Ond nid felly gyfraith Hywel ceir ynddi hi ddarlun llawn a manwl o bob agwedd ar fywyd y cyfnod, a phrin yn sicr y mae gan unrhyw wlad ei hafal fel portread o'r bywyd cenhedlig.[25] Nid traethawd ar egwyddorion cyfraith mohoni, ond ymdrech i ddatrys anawsterau bywyd bob dydd. Yn hytrach nag ymboeni ag egwyddorion cyffredinol, a droes yn fagl i fwy nag un deddf-roddwr, cymerth y casglydd bob cwestiwn ar ei ben ei hun, a gwnaeth ymgais i'w ddatrys yng ngoleuni ei wybodaeth am anawsterau gweinyddu deddf. Nid cyfraith ydoedd, ychwaith, i'w gosod, fel "dooms" y Saeson, ar war y bobl, ond casgliad o arferion gwlad oddi ar wefusau gwŷr cyfarwydd pob cymwd trwy Gymru,[26] a dichon y gellir gweled, yn y gwahaniaethau rhwng y gwahanol gopïau fel y maent gennym heddiw, ôl ymgais i barchu'r gwahaniaethau rhwng arferion Gwynedd, Powys a Deheubarth.[27] Dichon, ar y llaw arall, nad ydyw'r rhain ond ychwanegiadau a wnaed yn ddiweddarach gan dywysogion y taleithiau hynny.
Agwedd bwysig arall ar fywyd cenedl yw ei llên, oherwydd fe'u delwedda pobl eu hunain yn eu llên mewn modd nas gwnant mewn dim arall. Nid oes sicrwydd ynglŷn â dechreuadau llenyddiaeth Gymraeg, ond cytuna'r beirniaid yn lled gyffredin fod rhyw gyfran, beth bynnag, o waith y Cynfeirdd yn perthyn i'r chweched ganrif. Erbyn hyn, fodd bynnag, y mae bron yn amhosibl penderfynu faint o'r gwaith a briodolwyd o dro i dro i Aneurin a Thaliesin a oedd yn eiddo iddynt mewn gwirionedd. Sŵn brwydro sydd yn y caneuon bore hyn, fel a geir yng nghanu bore pob gwlad. Brwydro y bu Cymru o'r bumed ganrif i'r ddegfed, ac am ganrifoedd wedyn o ran hynny, fel nad oedd ryfedd i'r canu fod am arwyr maes y gwaed—y gwŷr a aeth Gatraeth. Ond y mae hefyd ochr arall i ganu rhyfel—tinc wylofain a hiraeth fel a geir yng nghanu Llywarch Hen. Y mae yn y caneuon hynny gynildeb clasurol bron—cynildeb a darddai, fe ddichon, o ryw gymaint o gyd— nabod â llenyddiaeth glasurol yr hen fyd. Heblaw'r canu am ymladd ac am hiraeth, ceir hefyd gerddi natur ac ynddynt lawer llinell gryno, gwta, gaboledig, na ellir eu cymharu ond ag epigramau Groeg. Mae ynddynt hefyd ddychymyg a deall, megis yn y cwpled hwnnw:
Gwyn ei byd y fedwen yn nyffryn Gwy
Y syrth ei changau bob un, bob dwy.
Y mae natur yn fwy tosturiol na dyn: bob yn un a dwy y syrth y dail, a gwnant hynny mor esmwyth nes bron bodloni honom i'r drefn. Y mae tawelwch mawreddog yr Hydref, na thorrir arno ond yn unig gan ambell ddeilen yn araf ddisgyn i'r llawr, i'w deimlo yn yr ail linell. Mewn oesau diweddarach daeth dulliau llenyddol newydd, ond trwyddynt oll rhed yr un elfennau yr un cariad at natur, fel yng ngwaith Dafydd ap Gwilym, a'r un canmol tywysog a'r hiraeth ar ei ôl, fel yng ngwaith Gruffydd ap yr Ynad Coch.
Y tu ôl i'r cyfnod canol yng Nghymru, felly, ymestyn y cefndir hwn. Yma y tardd ei bywyd cudd nodweddiadol, o lygedyn pefr yng nghanol corsydd lleidiog yr oesau tywyll. Yma y dechrau bwrlwm ei cherdd a'i rhamant; yma y dysgodd fyw wrth reol a threfn, ac yma yr ymgydnabu gyntaf â'r bywyd delfrydol hwnnw a fu o gymaint swyn iddi dros lawer canrif. Y mae gwybod am y gynysgaeth hon o'r cyfnod cynnar lawn mor angenrheidiol i amgyffred y datblygiad yn y cyfnod newydd yng Nghymru ag ydyw adnabod y dylanwadau hynny a ddaeth i mewn i'w bywyd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Llyfrau.
Y MAE'N dyled yn fawr i'r ysgolheigion hynny sydd yn ymboeni â hanes bore Cymru, ac erbyn hyn, trwy drugaredd, y mae eu nifer yn llu mawr. llai ein dyled i ymwelwyr bore â'r ynysoedd hyn ac i'n haneswyr cynaraf. Ceir casgliad o weithiau y rhai olaf hyn yn O Lygad y Ffynnon, llyfr rhagorol y diweddar Athro J. Owen Jones, Y Bala. Ar gyflwr cyntefig Cymru gweler: Rhys, Celtic Britain; Rice Holmes, Ancient Britain; Wheeler, Prehistoric and Roman Wales; J. E. Lloyd, A History of Wales, y penodau cyntaf; Jones a Rhys, The Welsh People; ac erthyglau Dr. Fleure ar boblogaeth Cymru gyntefig yn Cymmrodorion Transactions, 1915-16.
Ar Gymru Rufeinig gweler: Wheeler (uchod); Haverfield, Military Aspects of Roman Britain, Cymmrodorion Transactions, 1908-9; Romanisation of Roman Britain, ac adroddiadau ar y caerau, megis Segontium, Y Gaer (Aberhonddu) a Chaerhun, gan Gymdeithas y Cymmrodorion a'r Cambrian Archaeological Association.
Ar grefydd gweler: Dr. Hugh Williams, Christianity in Early Britain; Newell, A History of the Welsh Church; Gougaud, Christianity in Celtic Lands.
Ar lenyddiaeth: llawlyfr yr Athro T. Gwynn Jones, Llenyddiaeth y Cymry; Stephens, Literature of the Cymry; erthyglau yr Athro Ifor Williams yn y Beirniad ar y Gododdin; y diweddar Syr J. Morris Jones, Taliesin (Cymmrodorion Transactions), ac A Welsh Grammar (Gwasg Rhydychen).
Ar y gyfraith: Hubert Lewis, Ancient Laws of Wales; T. P. Ellis, Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages; Wade Evans, Welsh Mediaeval Law.
Erbyn hyn y mae Llyfryddiaeth Hanes Cymru wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, A Bibliography of the History of Wales (1931). Ceir yn hwnnw restr gyflawn o lyfrau yn ymwneud â Hanes Cymru yn y gwahanol gyfnodau. Golygwyd gan Mr. R. T. Jenkins a Dr. William Rees.
Ar Iwerddon: A. Stopford Green, The Making of Ireland and its Undoing, a gweithiau Joyce neu Whitley Stokes.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gweler Haverfield: Roman Britain—Cambridge Medieval History, Vol. I. Hefyd ei erthygl ar "Military Aspects of Roman Wales,"—Cymmrodorion Transactions, 1908-9, a'i Romanisation of Roman Britain.
- ↑ "The Lombards were the least tinctured with civilization of all the Teutonic tribes and were even more barbarous it would seem than our own Saxon forefathers. In the 7th century Lombardy must have preserved less traces of its ancient imperial organisation than Spain, Gaul, or Burgundy, and must have presented a much more primitive and Teutonic aspect." Oman: The Dark Ages, 182, 189.
- ↑ Gweler Joyce, A Smaller Social History of Ancient Ireland, td. 420; Miss Stokes, Early Christian Art in Ireland; a hefyd lyfrau diddorol Mrs. Stopford Grene, The Making of Ireland and its Undoing, ac Irish Nationality.
- ↑ Gweler benodau rhagorol Lloyd, History of Wales I, ar y cyfnod hwn. Hefyd, Jones and Rhys, The Welsh People, ac ysgrif Dr. Hartwell Jones yn y Cymmrodor, XXXI, ar "The Celt in Ancient History."
- ↑ De Bello Gallico, V
- ↑ Gweler Haverfield, The Romanisation of Roman Britain am ymdriniaeth fanwl ar y cwestiwn hwn.
- ↑ Haverfield, Cambridge Medieval History, I, td. 371. Awgryma Wheeler y dylid priodoli y 3ydd a'r 4ydd gyfnod o adgyfnerthiad y ceyrydd yng Nghymru feallai i'r ffaith fod y Gwyddelod yn peri gryn bryder i'r Rhufeiniaid yn y cyfeiriadau hyn. Cyfeiria at ymfudiad llwyth ohonynt o ganolbarth Iwerddon i Benfro tua 270 o.c. (Kuno Meyer: Trans. Cymmrodorion, 1895-6, p. 55-et seq.), a cheisia ef gysylltu caerau fel Caerdydd a Chaergybi â'r datblygiad a gymerodd le ar arfordir dwyrain Prydain-y Saxon Shore- lle yr oedd y Saeson yn ymosod. (Prehistoric and Roman Wales, 236.) Yr oeddynt wedi eu hadgyfnerthu yn flaenorol i hyn oherwydd y perygl oddi wrth y Cymry. Gwel td. 233.
- ↑ Lloyd, op. cit., I, td. 83. Y mae Caerwent rhyw 8 milltir i'r dwyrain o Gaerleon, ac felly yr oedd y tu allan i Gymru Rufeinig.
- ↑ Haverfield: Romanisation, p. 24. Ceir olion rhywbeth tebyg i dŷ yn Ely a Newton Nottage, Cym. Trans. 1908-9, Note 82.
- ↑ Lloyd History of Wales, 1, td. 81—89.
- ↑ Ynglŷn â'r chwedlau hyn gweler Dr. Hugh Williams, Christianity in Early Britain, a Newell, A History of the British Church.
- ↑ Antiquity, Vol. III, No, 9, 65.
- ↑ Lloyd, op. cit., I, td. 106.
- ↑ Ibid., td. 108. Gwêl hefyd Map of Roman Britain (Ordnance Survey). Credai y diweddar Syr John Rhys mai Banwen ym Morgannwg oedd y lle, am y dywedir ym Muchedd Padrig ddarfod i'r lle gael ymosod arno gan for ladron. Gwêl Life of Patrick, J. B. Bury, p. x.
- ↑ Ar hanes Gildas gweler erthygl Dr. Hugh Williams yn Cymmrodorion Transactions, 1899, a Christianity in Early Britain gan yr un awdur. Hefyd Lloyd, op. cit., I, V.
- ↑ Lloyd: op. cit., I, td. 176—7. Williams: op. cit., p. 438.
- ↑ Beda, Historia Ecclesiastica, II, Ch. 2.
- ↑ Lloyd, I, td. 202-3.
- ↑ Nid oes sicrwydd am leoliad Mons Badonicus, Gildas. Gwêl Lloyd, I, 125, Note 4
- ↑ Ibid. I, td. 198. Tybia rhai godi'r clawdd mewn cyd-ddeall â'r Cymry.
- ↑ Domesday Book, Cheshire, xix, a.
- ↑ Y mae adrannau o'r Domesday Book i'w gweled dan y gwahanol siroedd yn y Victoria County History. Gweler hefyd Lloyd, op. cit., XI.
- ↑ Lloyd, op. cit., td. 375.
- ↑ " In general, these laws seem to be new laws, additions to the law that is already in force,"—Maitland ar "Anglo—Saxon Dooms, "Constitutional History, td. 3.
- ↑ Gweler llyfr T. P. Ellis, Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages, ar wahanol agweddau'r gyfraith.
- ↑ Nid oes sicrwydd pa un ai cymwd neu gantref olygid wrth "pagus" fel term ddefnyddid i ddisgrifio adran o'r wlad. Cymwd yw y gair yn Ancient Laws, p. 2, ond dywed Lloyd i'r wys gael ei hanfon i bob cantref (Hywel Dda, td. 18, Hist. I, 339). Cred Lloyd i gynhadledd gael ei chynnal yn y Tŷ Gwyn (Aberystwyth Studies, p. 3). Ond teifl Goronwy Edwards dipyn o amheuaeth ar hyn (Hywel Dda and the Welsh Law Books, p. 14).
- ↑ Gweler erthygl T. P. Ellis ar "Hywel Dda, Codifier," yn Cymmrodorion Transactions. 1926-7.

IV.
Daearyddiaeth a Rhaniadau'r Wlad.
Hardd wisgir hi â gwastad-diroedd yn ymestyn i bob cyfeiriad a bryniau wedi eu cyfleu mewn mannau dymunol, cymwys i driniaeth o'r fath orau, ac â mynyddoedd tra chyfaddas fel newid borfeydd i'r anifeiliaid; a'r blodau amryliw a fethrir dan draed dyn yn rhoi iddynt weithiau wedd darlun prydferth fel dyweddi ddewisol wedi ymdrwsio â'i hamryw dlysau. Dyfrheir hi gan ffynhonnau gloewon lliosog, a'u dyfroedd fel pe'n ymlid ymaith y graian eirwyn, a chan nentydd grisialaidd yn ymddolennu gan furmur yn dyner a chynnig ernes o gwsg melus i'r rhai sy'n gorweddian ar eu glannau, a chan lynnoedd yn torri dros eu ceulannau yn ffrydiau oerion o ddyfroedd bywiol.
GILDAS (Cyfieithiad J. Owen Jones yn "O Lygad y Ffynnon.")
YR oedd amodau bywyd yn yr oesau canol yn wahanol iawn i'r hyn ydynt heddiw, ac am hynny yr oedd bywyd ei hun yn wahanol. Yn ystod y can mlynedd a hanner diwethaf, cafodd dyn y fath oruchafiaeth ar natur nes gweddnewid wyneb y wlad, ac oherwydd hynny anodd yw sylweddoli'r olwg oedd arni cynt.
Yn gyntaf oll, rhaid cadw mewn côf nad oedd odid un o'r diwydiannau hynny sydd heddiw yn rhan mor bwysig ym mywyd y wlad yn bod yn yr oesau canol. Nid oedd gweithydd glo Morgannwg a haearn Gwent na llechi a glo'r gogledd eto wedi eu datblygu. Y mae'n wir i'r Rhufeiniaid weithio mwyn yn Fflint a lleoedd eraill, a cheir cyfeiriad mewn cywydd cynnar a hefyd mewn hen gyfrifon at lechi Arfon; codid glo hefyd lle ceid ef yn agos i'r wyneb—ond bychan iawn oedd eu dylanwad ar fywyd y wlad.
Yr oedd bywyd y cyfnod yn wahanol, hefyd, i fywyd y cyfnod cyntefig. Erys digon o olion yn brofion mai ar bennau'r mynyddoedd y trigai dynion yn y cyfnod bore. Gorchuddid y llethrau gan goedwigoedd a oedd yn gartref i lawer math ar anifail rheibus, megis yr arth a'r blaidd a'r baedd gwyllt, heblaw anifeiliaid diniweitiach fel y carw a'r hydd. Cors ac anialwch oedd ar lawr y dyffryn, ac yn araf, y mae'n debyg, y daeth dyn i lawr a meddiannu tir y gwaelod. Ni chwblhawyd y gwaith hwnnw eto yn llwyr fel y dengys gweirgloddiau brwynog llawer ardal ac fel y gellir gweld yn nyffryn Conwy neu ddyffryn Hafren wedi diwrnod neu ddau o law yn Nolyddelen neu Langurig.
Yn y cyfnod hwnnw, ar helwriaeth y dibynnai'r bobl am gynhaliaeth, ond erbyn y cyfnod canol, dysgasent fagu anifeiliaid a thrin y tir. Mewn gair, yr oedd dyn wedi cyrraedd y cyfnod bugeiliol onid yn wir y cyfnod amaethyddol yn hanes ei ddatblygiad diwydiannol. I fesur, gellir olrhain y symud a fu o ben y mynydd i lawr y dyffryn trwy sylwi ar safleoedd yr hafotai yn eu perthynas â'r amaethdai. Gellir synied am y gwersyll bugeiliol yn mentro'n araf i gyfeiriad y dyffryn a'i beryglon ac ymsefydlu yn gyntaf yn y man lle mae'r Hafod heddiw, ac yn ddiweddarach yn yr Hendref. Buan y daethpwyd i werthfawrogi clydwch yr Hendref, yn enwedig yn nhymor drycinog y gaeaf, ac i edrych ar y fangre honno fel y cartref sefydlog bellach. Yna, o dipyn i beth, fe drodd y llanw: yr oedd y symud bellach i fyny i'r mynydd o'r Hendref i'r Hafod, ac nid i lawr fel y bu gynt o'r gwersyll cyntefig ar ael y mynydd i'r Hafod ar ei lethr, ac oddi yno i'r Hendref yng nghesail y dyffryn. Pan ddeuai'r gwanwyn yn ei dro, codai hiraeth yng nghalonnau'r trigolion a'u praidd am borfeydd y mynydd, ac aent i fyw unwaith eto i'r hafotai ar gwr y mynydd dros dymor yr haf.
Gorchuddid rhannau helaeth o'r wlad, yn enwedig ar lethrau'r mynyddoedd, gan goedydd eang nad oes gennym heddiw ond syniad amherffaith iawn amdanynt. Erys eto ddigon o brofion o hyn yn y coed llathraidd a geir weithiau mewn hen fawnogydd ar ysgwyddau'r mynyddoedd, mewn enwau lleoedd, megis Drws y Coed wrth droed yr Wyddfa, ac mewn enwau cymydau—er enghraifft, yng Ngwent ceir Cantref Iscoed a Chymwd Uwchcoed; ac y mae Is y Coed ac Uwch y Coed ym Mechain ac yng Nghaereinion ym Mhowys. Ceir mynych gyfeiriad at goedydd yn Stentiau'r Normaniaid, fel Stent Dinbych, ac yn Llyfr Du Tyddewi, a dywedir (yn hanes teulu Gwydir) y gallai gwiwer fyned ar un adeg o Aber Conwy i Ddolwyddelan heb roi ei throed ar lawr. Diddorol iawn fai ceisio ad-drefnu'r wlad ar sail tystiolaethau o'r fath gyda thystiolaethau teithwyr fel Gerallt Gymro yn y 13eg ganrif a Leland yn yr 16eg.
Gresyn mawr oedd colli y map o Gymru a wnaeth Gerallt, ac a oedd ym meddiant mynachlog Westminster, yn ôl tystiolaeth Tanner a Wharton.[1]
Oddi wrth astudiaeth fanwl o'r hyn a ddywed y Normaniaid, ymddengys nad oedd pentref neu dreflan yr oesau canol namyn llecyn glas mewn diffeithwch nau ddarn o goedwig wedi ei arloesi. Yn araf y torrwyd y coedydd, ac o dipyn i beth y daeth y tir dan driniaeth ac yr adeiladwyd y bythynnod. Yr oedd mantais fawr mewn gadael cylch o dir gwyllt, coediog, o amgylch y pentref yn amddiffynfa iddo ac yn derfyn rhyngddo â phentrefi cyfagos. Yma y troid anifeiliaid i bori ac y codid tanwydd erbyn y gaeaf; yma hefyd y torrid coed i adeiladu tai ac i wneud offer, y cloddid am gerrig ac y ceid brwyn a grug i'w rhoi ar y to. Tebyg oedd sefydliadau'r cyfnod i sefydliadau America ryw drigain mlynedd yn ôl, a phe medrem wneud map gweddol gywir o Gymru'r oesau canol, yr hyn a gaem fyddai ychydig iawn o bentrefi a threflannau yn ymnythu yng ngheseiliau coedwigoedd tewfrig gyda llawer hen ffermdy neu dyddyn diarffordd a'i amgylchedd yn debyg i eiddo'r pentref. Nid oedd y terfynau rhwng y pentrefydd wedi eu deffinio'n fanwl, a mynych y cwerylon rhwng y naill bentref a'r llall, fel y dengys y lle a roddir i'r pwnc yng nghyfraith Hywel. Gellir barnu i fesur oddi wrth Stent Dinbych pa faint o'r tir oedd dan driniaeth a pha faint oedd yn borfa gyffredin
neu'n dir gwyllt. Yr oedd cyfran helaeth o'r tir y sonnir amdano yn y Stent honno yn fforffed am ymladd o'i berchenogion gynt yn erbyn brenin Lloegr yn amser Llywelyn; rhentid y tir âr gan denantiaid newydd, ond cedwid y tir diffaith yn borfa gyffredin fel cynt. Yn Chwilbren, allan o 353 o aceri, ni rentid ond 42 acer, ac yng Ngwytherin, allan o 1,204 o aceri, yr oedd 1,100 yn borfa gyffredin. Fel hyn y dylid synied am ardaloedd Cymreig yn ystod yr oesau canol—llecyn neu ddau o dir âr neu weirglodd yng nghanol anialwch y borfa gyffredin. Dengys yr un Stent y cyfnewidiadau a oedd yn graddol weddnewid wyneb y wlad. Yr oedd Cefnyfed,[2] meddir, yn dir gwyllt i gyd yn amser y tywysogion, ond erbyn amser y Stent dechreuasid ei drin a'i osod gan Lacy, Iarll Lincoln. Dywedir hefyd fod ym Mhrion a Segrwyd, er enghraifft, gannoedd o aceri o dir gwyllt a ddygasai elw mawr i'r arglwydd pe gallesid eu trin. Yr oedd yn Segrwyd barc dros fil a hanner o aceri ei faint a osodasid eisoes gan Lacy i nifer mawr o Saeson—ac y mae'n debyg mai hwynthwy a'u disgynyddion a arloesodd y lle.
Amherffaith iawn oedd moddion trafnidiaeth a theithio yn yr oesau canol, ac ar wahân i'r ffyrdd Rhufeinig, nid oedd ond llwybrau troed yn unig. Gellir heddiw olrhain llawer o lwybrau ar hyd ysgwyddau trumiau'r wlad, ond anodd penderfynu eu hoed oherwydd defnyddiwyd rhai ohonynt mewn cyfnodau diweddar i gludo mawn o'r mynyddoedd. Gellir casglu, fodd bynnag, oddi wrth safle rhai ohonynt, eu bod yn perthyn i'r cyfnod cyntefig ac nad oeddynt o fawr werth mewn cyfnod pan beidiasai'r bobl â byw ar yr ucheldir. Yr oedd yr un peth yn wir i fesur am y ffyrdd Rhufeinig unionsyth o gaer i gaer; ni thyfodd pentref o amgylch odid un o'r caerau hyn, ac anghofiwyd hwy a'r ffyrdd a'u cysylltai gan oesau diweddarach. O ganlyniad, yr oedd raid i bron bob tyddyn a phentref fyw ar ei adnoddau ei hun, gan anhawdded oedd cludo nwyddau, ac ni chyrchid o'r tu allan ond y nwyddau mwyaf drudfawr ac anhepgor. Cafodd bywyd pentrefol yr oesau canol lawer o sylw ysgol- heigion yn ddiweddar oherwydd ei berthynas â datblygiad y manor. Dangosodd Almaenwr o'r enw Meitzen, a fu am flynyddoedd yn gweithio ynglŷn â chau i mewn y tir cyffredin yn yr Almaen ryw bedwar ugain mlynedd yn ôl, fod cryn wahaniaeth rhwng pentrefydd gwahanol bobloedd. Dibynna natur y pentref, wrth gwrs, i raddau helaeth ar natur gwaith y pentrefwyr. Er enghraifft, yn yr amser cyn cau i mewn y tir cyffredin, yr oedd yn fantais fawr i amaethwyr—hynny yw, y bobl a ddibynnai ar drin y tir fyw mewn pentref gyda'i gilydd er mwyn hwylustod ynglŷn â'u gwaith.
Ceir y math hwn o bentref, medd Meitzen, yn yr holl wledydd Tiwtonaidd. Yn y math hwn y ceir y gymdeithas bentref—village community—y sonnir cymaint amdani. Ceir ef yn ei berffeithrwydd yng ngogleddbarth yr Almaen, rhwng afon Weser ac afon Elbe, ac ar wastadeddau Lloegr. Tua'r dwyrain o'r rhan honno o'r Almaen yr oedd sefydliadau'r Slaf—pentre crwn neu bentre wedi ei grynhoi o boptu'r heol. Yn wir, nid pentre mohono yn ystyr fanwl y gair, ond lle cadarn (gorod fel y galwent hwy ef), cyffelyb i gastell yr oesau canol gyda'i bentref o'i gwmpas a mur o amgylch y cwbl. Tua'r Gorllewin, ar lannau afon Rhein, nid oedd bentrefi o gwbl. Bugeiliaid oedd pobl y parthau hynny, ac nid oes angen i bobl a fo'n byw ar fagu anifeiliaid gydfyw yn yr un lle. Eu tuedd naturiol, fel Abram a Lot gynt, yw trigo ar wahân rhag bod cynnen rhwng y bugeiliaid. Dyna hen gartref y Celtiaid, a chan mai bugeiliaid oeddynt, trigent cyn belled ag y medrent oddi wrth ei gilydd. Tybid mai fel bugeiliaid yr ymsefydlasant yn y wlad hon, a phair ansawdd yn ogystal â hinsawdd y wlad ei bod yn fwy addas at fagu anifeiliaid nag at godi cnydau.

O astudio pentrefi Cymru yn y dull hwn, ceir goleuni ar y modd y tybir i'r Celtiaid ymsefydlu yma. Mewn astudiaeth o'r fath, rhaid gadael o'r neilltu, wrth gwrs, bentrefi hagr, annelwig, diwydiant yr oes hon, fel Bethesda a Brymbo a phentrefi'r Rhondda. Rhaid gadael o'r neilltu hefyd bentrefi'r priffyrdd fel pentrefi Môn—megis Llanfair a'r Gaerwen—sydd wedi tyfu o boptu'r ffordd newydd i Gaergybi heb unrhyw gysylltiad rhyngddynt â diwydiant y sir. Wedi gadael allan ddatblygiadau diweddar o'r fath, tarewir ni ar unwaith gan y ffaith mai bychan yw rhif pentrefi Cymru.
Gwelir hyn yn amlwg o gyferbynnu adran o ddwyrain Lloegr ag adran o Gymru fel yr ymddengys ar y map. Ar wastadeddau eang Lloegr ceir y pentref yn gryno gyda'i gilydd a thiroedd ŷd i bob cyfeiriad o'i amgylch. Dyma'r pentref Tiwtonig. Yng Nghymru, ar y llaw arall, ceir nifer o ffermdai gwasgarog, anghysbell, a'r llan, sef yr eglwys, yn ganolfan bywyd y cylch, gyda thŷ'r offeiriad a rhyw dŷ neu ddau arall—Ty'n llan, fel rheol, sef tŷ cyhoeddus yr ardal—o'i chwmpas. Y mae'n wir i rai o'r llannau mewn oesau diweddarach dyfu yn bentrefydd oherwydd diwydiant neu fasnach neu ryw reswm arall, ond ar wahân i ddatblygiadau o'r fath, nid yw'r pentref mor amlwg o lawer ym mywyd Cymru ag ydyw yn Lloegr. Ymhobman bron yng Nghymru nid oedd y llan ond canolfan crefyddol yn unig, ond yn Lloegr yr oedd y pentref yn ganolfan diwydiant yn ogystal â chrefydd.
Gellir egluro'r gosodiad a wnaed ynglŷn ag anamlder pentrefi yng Nghymru trwy fwrw golwg dros ardal neu ddwy nodweddiadol Gymreig. Cymerer, er enghraifft, ardal Llanbrynmair, yn sir Drefaldwyn. Ym mhen uchaf y cwm y mae Pennant Bacho, treflan ac ychydig dai a chapel ynddi; ryw ddwy filltir yn îs i lawr y mae'r Bont, lle a fu unwaith yn flodeuog pan oedd llewyrch ar y ffatrioedd gwlân (dros y bont a roes enw i'r lle y croesai'r hen briffordd o'r Amwythig i Aberystwyth). Ryw filltir arall yn îs i lawr ceir Llan Bryn Mair-eglwys ar fryn, fel yr awgryma'r enw—ac ychydig dai o'i chwmpas, a heb fod nepell oddi wrthi y mae ychydig rhagor o dai o gwmpas y man lle cyferfydd ffordd y dyffryn â'r briffordd o'r Drenewydd i Fachynlleth. Yna, ar yr ochr arall i'r briffordd honno, yng nghyfeiriad Mawddwy, y mae treflan fach arall o'r enw Pentre Rhiw Saeson. Y mae yn yr ardal, felly, gryn nifer o dai a threflannau, ond prin y gellir dywedyd bod yno bentref o gwbl.
Cymerer eto ddyffryn Ceiriog, ardal arall nodweddiadol Gymreig ei bywyd a'i diwylliant. Ym mhen uchaf y dyffryn y mae treflan o'r enw Llywarch—ychydig dai a chapel. Yn îs i lawr y mae Llanarmon—eglwys a chapel neu ddau, dau neu dri o dai ac efail gof. Yna daw Tregeiriog—ychydig dai ar groesffordd yng nghanol y dyffryn, heb eglwys o gwbl; Pont-rhicet,—dau neu dri ffermdy gyda'i gilydd (Pontymeibion, cartref Huw Morris, y bardd, yn eu mysg); Pandy Melin Deirw ac ychydig dai; ac yna Lansantffraid Glyn Ceiriog. Diweddar yw'r rhan fwyaf o'r pentref hwn, canlyniad agor y chwareli llechi a'r cerrig ffyrdd; saif eglwys yr hen bentref, neu'r llan, hanner y ffordd i fyny at allt y Badi, sy'n arwain dros y mynydd i Langollen. Yn olaf, rhwng Llansantffraid a phen isaf y dyffryn, y mae dwy dreflan fechan arall, sef Pontfadog a Dolywern.
Nid oes bentref cryno, canolog, yn y ddwy ardal hyn o gwbl. Yr hyn a geir ynddynt yw nifer o dreflannau bychain, wedi codi yn bennaf o amgylch hen ffermdy neu felin, megis Tre-geiriog gerllaw ffermdy Tregeiriog, Pentre Rhiw Saeson yn ymyl ffermdy o'r un enw, a Phandy Melin Deirw (enw'r dreflan erbyn hyn) o amgylch y ffatri wlân. Y mae hyn yn cadarnhau'r gosodiad mai gwlad y treflannau a'r llannau yw Cymru, ac nid gwlad o bentrefydd.

Nid oes lawer o le i amau, felly, i'r Cymry ymsefydlu, nid gyda'i gilydd mewn pentrefydd, ond ar wasgar yn y ffermdai a'r treflannau. Prawf arall o hyn, fe ddichon, yw'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r trefydd degwm yn y plwyfi gwledig wedi cymryd eu henwau oddi wrth ffermdai; dichon, ar un adeg, mai'r ffermdy a roes yr enw oedd yr unig sefydliad o fewn cylch llawer tre ddegwm; ac er bod tai eraill wedi codi erbyn hyn, y ffermdy hwnnw yw'r pwysicaf o hyd. Pryd y bu'r sefydlu sydd gwestiwn na ellir bellach ei benderfynu; ond, fel y gwelsom, y mae'r gwahaniaeth yn eglur rhwng y pentref Tiwtonig cryno (y "tun "[3] fel y gelwid ef yn iaith yr Eingl -Sais) a'r dref neu'r cartref unig yr ymsefydlodd y bugail o Gymro ynddo ac a ddaeth yn y man yn ganolfan tre ddegwm. Prif nodwedd y bywyd amaethyddol ydoedd cydweithrediad rhwng y pentrefwyr a'i gilydd ynglŷn â gwaith trin y tir: yn y bywyd bugeiliol, ar y llaw arall, yr oedd llai o gydweithrediad a mwy o annibyniaeth. Nid bugeiliol, wrth gwrs, oedd bywyd pob ardal yng Nghymru, ac yn yr ardaloedd lle trinid y tir gwneid llawer o'r gwaith ar y cynllun cydweithredol. Yn wir, y mae cydweithrediad ynglŷn â thrin y tir yn lled gyffredin hyd heddiw mewn rhai ardaloedd yn Sir Aberteifi a Sir Benfro—rhydd un fenthyg ceffyl, arall aradr, ac arall drol wair fel y bo'r galw-ac nid yw'r "cymorth" wedi diflannu'n llwyr yng ngogledd na de.
Y mae gennym yng Nghymru rai pentrefydd ar ddelw arbennig. Mewn ambell ardal, er enghraifft, ceir pentref crwn wedi tyfu o gwmpas mynwent y llan. Saif yr eglwys a'r fynwent yn aml ar dipyn o godiad tir, a gwyddys bod rhai ohonynt yn sefyll ar safle hen gaer neu deml gyntefig. Y mae ym mur mynwent Ysbyty Cynfyn, yn Sir Aberteifi, nifer o gerrig a oedd gynt yn rhan o hen gylch cyntefig, a dywedir bod cynifer â 72 o fynwentydd cyffelyb yn Sir Gaerfyrddin yn unig.[4] Ceir yr un ffurf yng ngogledd Cymru, ond nid ydynt bob amser, fel yr awgrymir weithiau, ar leoedd uchel yn y mynydd-dir, fel y mae llawer ohonynt yn y de. Ceir hefyd ar ororau Cymru ac yn yr adrannau hynny o sir Benfro a ddaeth yn fore dan ddylanwad y Normaniaid a'r Ffleminiaid, bentrefydd tebyg i bentrefydd gwastadeddau Lloegr. Pentre cae tro y geilw Meitzen ef, a phentre clwstwr yw gair Maitland amdano.
Erbyn dechrau'r oesau canol, yr oedd llywodraeth leol, fel y ceir hi yng nghyfreithiau Hywel, wedi datblygu, hynny yw, yr oedd y trefydd wedi eu clymu wrth ei gilydd i ffurfio cantrefi a chymydau. Dywedir yn y gyfraith fod hanner drefydd ym mhob cymwd, ond ni ellir rhoi dim pwys ar y ffigurau oherwydd y mae mesur crwn yn apelio'n gryf bob amser at bobl na wyddant ond ychydig am rifyddiaeth. Dengys y gyfraith fod yn y cwmwd ddwy adran bwysig, sef y trefydd rhydd ar y naill law a'r maerdrefydd neu'r tir cyfrif ar y llaw arall. Yn y trefydd rhydd,—yr amaethdai annibynnol,— trigai'r boneddigion cynhwynol, yn cadw eu defaid a'u hychen



(Sylwer ar yr Erwau.)

Safai'r hen Bentref, fel y gwelir, ar groesffordd y Lôn Groes.
a thrin eu hychydig dir âr. Ar gyfrif eu safle fel gwŷr rhydd ac fel gwŷr o dras uchel, nid ymyrrid fawr â'u bywyd. O ran safle, yr oeddynt yn gydradd â'r arglwydd, ond talent westfa iddo bob blwyddyn yn lle'r croeso yr arferent ei roi iddo gynt pan ymwelai â hwy fel eu pennaeth.
Yr oedd y neuadd y trigai'r arglwydd ynddi wedi dyfod yn llys erbyn hyn, ac yno y gweinyddid deddf ac y cedwid rhwysg brenhiniaeth leol. Yn y faerdref, neu'r tir cyfrif, ar y llaw arall, trigai dosbarth hanner caeth a elwid y taeogion.[5] Ymddengys y byddai tenantiaid y faerdref dan orfod i drin rhan ohoni dan lygad maer, a adwaenid wrth yr enw awgrymiadol maer y biswail i'w wahaniaethu oddi wrth faer y cymwd, un o swyddogion y llys. Gorfyddid i faer y biswail fyw yn y faerdref ymysg y taeogion i sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn ôl ei orchymyn ef. Ymddengys fod gan y rhai oedd ar y tir cyfrif ychydig mwy o ryddid-o leiaf caent gario'r gwaith ymlaen fel y mynnent hwy eu hunain. Y mae olion y gyfundrefn hon i'w gweled eto mewn ambell ardal lle ceir enw fel y Faerdref neu'r Maerdy. Ceir enghraifft ragorol ohoni yn y Faerdref yng nghymwd Edeirnion yn Sir Feirionydd (gweler y map td. 94).
Nid oes angen olrhain terfynau'r cymydau hyn yn awr, oherwydd gwnaethpwyd eisoes waith manwl, ysgolheigaidd, ar y pwnc gan hanesydd yr oesau canol yng Nghymru. Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio yw bod yr holl wlad o ben bwy gilydd wedi ei rhannu yn gymydau a chantrefi, ac mai o amgylch y rhain yr oedd bywyd y cyfnod yn troi. Dylid dywedyd, wrth fynd heibio, mai rhaniadau rhagorol oeddynt, yn gorffwys yn y pen draw ar ryw nodwedd ddaearyddol arbennig, fel afon neu fynydd, ac nid ar fympwy unbenaethol fel ag a greodd siroedd Cymru mewn cyfnod diweddarach. Yr oedd i bob cymwd lys lle cerid gwaith y cymwd ymlaen. Tri chantref oedd ym Môn, a thri llys y cantrefi hyn yng Nghemaes, Aberffraw, a Rhosyr[6] ga'r sylw mwyaf, ond nid yw llysoedd y cymydau yn anadnabyddus ychwaith, fel Penrhos yn Nhwr- celyn neu Lanfaes yn Nhindaethwy. Diddorol iawn yw ceisio lleoli'r llysoedd hyn gwyddys, er enghraifft, fod llys Arllech- wedd yn Aber, Penllyn yn y Bala, Rhufoniog yn Ninbych, Nanheudwy yn Ninas Bran, a Chynllaith yn Sycharth, ond y mae cryn ansicrwydd erbyn hyn parthed lle'r llys mewn llawer o'r cymydau.
Ar un Yn y man daeth y Norman, a darostyngodd y wlad. olwg, nid oedd yr hyn a wnaeth ef ond datblygiad pellach, perffeithiach fe ddichon, o gyfundrefn arglwyddiaeth y cymwd. Yr oedd y cynllun a fabwysiadwyd ganddo ef yn driphlyg: (1) Creu arglwyddiaethau newydd, a chastell, fel rheol, yn ganolfan iddynt, neu ddatblygu hen arglwyddiaethau Cymreig; (2) Adeiladu tref wrth droed y castell a dwyn Normaniaid i mewn i fasnachu ynddi; (3) Sefydlu tŷ crefyddol a dwyn mynaich i fyw ynddo.
Y mae'n wir i'r Norman godi rhai cestyll mewn safleoedd hollol newydd, megis ym Miwmares, ond fel rheol defnyddid yr hen lys Cymreig a'i droi yn gastell, a chymerodd y gyfundrefn Normanaidd le'r cymwd Cymreig. Cynhwysai rhai o'r sefydliadau Normanaidd fwy nag un cymwd, felly dichon mai'r gair gorau amdanynt yw arglwyddiaeth, a chadw'r term manor ar gyfer yr hen faerdref Gymreig, oherwydd yr oedd yn y faerdref nodweddion a oedd yn cyfateb yn lled agos i'r Demesne, neu dir personol arglwydd y manor Seisnig. Ceir y gyfatebiaeth hon yn Stent Arglwyddiaeth Dinbych (1334), lle sonnir am bedair manor, Ystrad, Dinorben, Kilford a Dinbych. Yr oedd y ddwy gyntaf yn faerdrefi Cymreig yn cread- amser y tywysogion, a throwyd hwy yn fanorau: igaethau Iarll Lacy oedd y lleill. Dywedir yn bendant yn y Stent i Fanor Cilffwrn gael ei ffurfio o dir yng Nghilffwrn ac Ystrad Canon.
Nodwedd arall yn yr arglwyddiaeth Seisnig yng Nghymru oedd bod ynddi fel rheol ddwy adran, yr adran Seisnig, lle yr oedd y gyfundrefn fanoraidd ar lawn gwaith, a'r adran Gymreig. Yr oedd yr adrannau Cymreig, fel rheol, yn yr ucheldir lle nad oedd modd gwthio'r gyfundrefn Seisnig ar y trigolion ac na ymyrrwyd, o ganlyniad, â'r gyfundrefn Gymreig. Ar y llaw arall, ar y gwastadeddau ac yn y dyffrynnoedd yr oedd yr adrannau Seisnig—hynny yw, dibynnai'r rhannau, fel y dengys Dr. William Rees, [7] bron yn gyfangwbl ar ddaearyddiaeth y wlad. Yn y de ac ar y gororau y gwelir hyn amlycaf, ond ceir yr un peth yn arglwyddiaeth Dinbych. Yr oedd ugeiniau o'r arglwyddiaethau hyn yn y de ac ar y goror, a gellir synied am Gymru'r cyfnod wedi ei rhannu yn fân gylchoedd gyda dylanwadau estronol wedi eu crynhoi yn y canol a'r elfennau brodorol fel gwregys carpiog o'u cwmpas.

Ar draws y rhaniadau politicaidd hyn ceid y rhaniadau eglwysig, nad ydynt bob amser mor hawdd eu holrhain. Un o'r rhaniadau pwysicaf, wrth gwrs, yw'r plwyf, ond y mae'n debyg nad yw'r plwyf, mewn rhai lleoedd o leiaf, cyn hyned â'r esgobaeth. Rhannwyd Lloegr yn blwyfi, medd traddodiad,[8] yn nyddiau'r Archesgob Theodore o Darsus, a ddaeth yn Archesgob Caergaint yn y flwyddyn 668, ond ni wyddys pa bryd y gwnaethpwyd rhaniad cyffelyb yng Nghymru. Y mae'n amlwg, fodd bynnag, fod y plwyf yn rhaniad diweddarach na'r dref, y rhaniad politicaidd a chymdeithasol, oherwydd ffurfiwyd y plwyf trwy osod nifer o drefydd wrth ei gilydd i fod yn gyfrifol am ddegwm y llan. Gosodwyd y degwm ar y dref a'r canlyniad fu newid ei henw o fod yn dref gordd—a oedd yn gyfrifol am nifer o filwyr i'r fyddin—a'i galw yn dref ddegwm. Nid oedd y trefydd degwm a berthynai i'r un plwyf bob amser yn gryno gyda'i gilydd. Ceir aml dref ddegwm, neu adran o dref ddegwm, yn perthyn i blwyf neilltuol heb fod yn agos i'r plwyf hwnnw, a cheir enghreifftiau o drefydd degwm yn cael eu cymryd oddi ar un plwyf a'u rhoddi i blwyf arall. Erbyn hyn y mae'n anodd penderfynu terfynau'r trefydd degwm i sicrwydd oddieithr lle bo un dref yng nghanol trefydd eraill ond heb fod yn perthyn i'r un plwyf â hwy.[9]
Y mae'n amlwg hefyd fod datblygiad arall wedi digwydd yn hanes yr eglwys fore. Brithir mynyddoedd Cymru gan adfeilion a elwir yn "Hen Eglwysi," ac nid oes dim a rydd i ni well syniad am symudiad y boblogaeth o'r ucheldir i lawr y dyffryn na lleoliad yr hen sefydliadau hyn. Myn traddodiad mewn llawer ardal nad yn y man y mae ynddo yn awr y safai eglwys y plwyf unwaith ac iddi gael ei symud ryw dro i'w safle bresennol. Y mae hyn yn eithaf posibl; rhaid oedd symud yr eglwys fel y disgynnai'r boblogaeth o bennau'r mynyddoedd i'r dyffrynnoedd a oedd yn cael eu haraf arloesi islaw. Mewn ambell ardal yn neheudir Lloegr saif yr Eglwys o hyd ar dir a drinid gynt, uwchlaw'r pentre presennol.[10] Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, i'r hen eglwysi hyn yng Nghymru erioed fod yn eglwysi plwyf. Y mae'n debyg bod eu dydd hwy cyn yr amser y rhanwyd y wlad yn blwyfi ac nad oeddynt hwy ddim mwy na chelloedd meudwyaidd, er y dylid cofio, ar yr un pryd, i lawer eglwys plwyf yng Nghymru gychwyn mewn cuddygl meudwy. Dengys y map y cysylltiad rhwng yr hen adfeilion hyn ag eglwysi plwyf heddiw. (Gwêl dudalen 255.)
Wedi ildio o'r hen eglwys Gymreig i ddylanwad Eglwys Rufain, bu tipyn o ad-drefnu ar ei chyfundrefn, ond hawdd y gwelir i'r eglwys honno, fel y gwnaeth bob amser, ddefnyddio'r hen adrannau politicaidd fel sylfaen ei chyfundrefn lywodraeth. Yn cyfateb i'r cantref neu'r cymwd ceir y ddeoniaeth eglwysig, a chyfetyb yr esgobaeth i'r dywysogaeth. Hyd yn ddiweddar, pedair esgobaeth oedd yng Nghymru, sef Bangor, Llanelwy, Tyddewi a Llandâf, a chyfatebent yn weddol agos i'r hen dywysogaethau, Gwynedd, Powys, Dyfed a Gwent.
Yn gynnar yn ystod yr oesau canol, syrthiodd adrannau helaeth o'r wlad i ddwylo gwahanol urddau o fynaich. Yr oedd gan y mynaich, fel rheol, ddau fath ar eiddo, sef eiddo tymhorol (temporalia), ac eiddo ysbrydol (spiritualia), fel y gelwir hwy yn y Valor Ecclesiasticus (1535). Perthynai iddynt lawer o dai a thiroedd, a hwynthwy, yn Lloegr beth bynnag, ac o bosibl yng Nghymru hefyd, oedd tirfeddianwyr pwysicaf yr oesau canol. Pe gellid dibynnu ar eu siartrau a gwneud map o'u tiriogaethau oddi wrthynt, gellid gweled ar unwaith mor eang oedd eu meddiannau. Yr oedd hefyd lawer o fywiolaethau, hynny yw, degymau plwyfi, wedi syrthio i'w dwylo, a dygai'r rheini drachefn elw sylweddol iddynt.
Dangosai map o'r fath o leiaf mor boblogaidd a chyffredin oedd y tai crefyddol yng Nghymru erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, ac nid oedd yr un ohonynt nad oedd yn berchen rhyw gymaint o eiddo tymhorol yn ogystal ag ysbrydol. Sefydlid rhai o'r tai crefyddol hyn gan y Norman fel rhan o'i gynllun i ddarostwng Cymru, a dygid estroniaid teyrngarol i fyw ynddynt. Celloedd yn perthyn i dai crefyddol yn Lloegr a Ffrainc oedd y rhan fwyaf o'r rhain; er enghraifft, Priordy Mynwy yn perthyn i dŷ crefyddol yn Angers, Ewenni i Gaer- loyw, a Brycheiniog i Battle Abbey. Am y rheswm hwn, ni bu'r rhain erioed yn boblogaidd yng Nghymru. Yr unig urdd a ddaeth yn boblogaidd oedd urdd y Sistersiaid, a diddorol fuasai cael map yn dangos y tiriogaethau yn eu meddiant hwy yng Nghymru.[11]
Yr oedd cyfran helaeth o'r wlad hefyd yn perthyn i'r trefydd Normanaidd, a sefydlwyd rai gan y barwniaid a rhai gan y Brenin. Dywed Dr. E. A. Lewis fod gan fwrdeiswyr Gwynedd yn unig oddeutu 5,000 o aceri yn eu meddiant.[12]
Yr oedd felly olwg fratiog iawn ar Gymru yn niwedd yr oesau canol. Yr oedd y Dywysogaeth, sef yr adran honno o Wynedd a oedd gynt ym meddiant Llywelyn y Llyw Olaf (Môn, Arfon a Meirion), wedi dyfod yn eiddo'r goron, a'r un modd Ystrad Tywi a Cheredigion. Y tu allan i'r terfynau hyn yr oedd y cwbl o'r deheudir a'r goror wedi syrthio i grafangau arglwyddi'r Mers. At hynny, yr oedd yr esgobion a'r eglwysi cadeiriol, yn ogystal â'r urddau mynachaidd, wedi cael gafael ar adrannau helaeth iawn o'r wlad, ac yng nghanol y cyfan, fel ynysoedd ar y cefnfor, yr oedd y trefydd Normanaidd a'u bwrdeiswyr yn gafael yn dynn yn y tiroedd a roed iddynt yn y Siartrau.

Llyfrau.
OHERWYDD prinder defnyddiau, ni chafodd yr adran hon y sylw a haeddai gan haneswyr. Yn Lloegr gellir mesur y datblygiad a fu rhwng amser y Domesday Book (1086) ac amser yr Hundred Rolls (1275), ond nid oes gennym ni gofnodion cyffelyb iddynt yng Nghymru. Ar yr un pryd, y mae rhai Stentiau Cymreig, fel Llyfr Du Tyddewi, wedi eu gwneuthur ar yr un cynllun yn union â'r Hundred Rolls; a cheir manylion am rai adrannau o Gymru, yn enwedig Sir Fflint, yn y Domesday Book.
Y mae Dr. Fleure a'i gydweithwyr wedi rhoddi cychwyn da i'r gwaith o gasglu gwybodaeth am boblogaeth Cymru a'i lleoliad yn yr oesau bore. Gweler erthygl yn Archæologia Cambrensis, Ebrill, 1916, ar "The Early Distribution and Valley-ward Movement of Population in Great Britain (Fleure and Whitehouse), ac erthygl yn Cymmrodorion Transactions, 1915-16, ar "Ancient Wales, Anthropological Evidence" (Fleure). Caiff daearyddiaeth yr oesau bore sylw arbennig yn yr erthyglau hyn.
Mewn map diweddar o Roman Britain, a gyhoeddir gan yr Ordnance Survey, Southampton, ceisir dangos allan y coedwigoedd a'r corsydd a orchuddiai adrannau helaeth o'r wlad y pryd hwnnw. Rhydd Dr. Lloyd fap gofalus o Gymru'r oesau canol ar ddiwedd ail gyfrol ei Hanes, a cheir map rhagorol o raniadau politicaidd Cymru yng nghyfrol Dr. Tout, The Political History of England, 1216-1377. Y map mwyaf diddorol, o'n safbwynt ni, fodd bynnag, yw eiddo Dr. William Rees o ddeheudir Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, wedi ei sylfaenu ar hen weithredoedd yn dangos safle'r manorydd, y melinau, yr eglwysi, a'r pentrefydd, etc., sydd newydd ei gyhoeddi.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Henry Owen, Gerald the Welshman, p. 29. Yr oedd ar hwnnw, meddir, gynifer â 43 o drefydd neu bentrefydd yng Nghymru.
- ↑ Survey of Denbigh 22: "Villata de Kernyneuet qui aliquo tempore fuit boscus vastus tempore Principum est villa de novo confecta et appruata a tempore Comitis Lancastru qui primo illam arrentavit continens dcxxxvi acr. dim xxxii pert."
- ↑ O'r gair tun y deilliaw y gair town. Golyga dref yn Seisnig yn ogystal â township, a olyga drefddegwm. Yn anffodus yn Gymraeg ni chafwyd datblygiad cyffelyb. Buasai yn hwylustod pe buasai modd mabwysiadu rhyw ffurf fel "trev" i olygu township, i'w wahaniaethu oddi wrth tref, town.
- ↑ Gweler Geographical Teacher, No. 74, 322; a G. T. Treharne: Tracings of 72 circular churchyards in Carmarthenshire-Carm. Antiq. Soc.
- ↑ Yr oedd gan yr uchelwyr hefyd eu taeogion, a thrigai y rheini gyda'r uchelwyr yn y trefydd rhydd. Anc. Laws, I, 180, 492.
- ↑ Lloyd: op. cit., 229. Nid yw llysoedd y cymydau mor amlwg yno, er bod y cymydau eu hunain yn hen.
- ↑ Dr. William Rees: South Wales and the March, 29.
- ↑ Dengys Stubbs, Constitutional History, I, Ch. viii, pa faint o sail sydd i'r traddodiad.
- ↑ Ceir enghraifft ddiddorol o hyn yn Nolwar, tref ddegwm yng nghanol Plwyf Llanfihangel yng Ngwynfa, a berthynai i blwyf Llanfechain tua 10 milltir oddi yno. Telid y degwm i Lanfechain hyd yn ddiweddar iawn, ac yr oedd tref ddegwm Dolwar yn gyfrifol am ddarn arbennig o fur y fynwent.
- ↑ Fleure: Archæologia Cambrensis, Ebrill, 1916.
- ↑ Am diriogaethau Ystrad Marchell, gwêl Mont. Coll., Vol. V; ac am diriog- aethau Ystrad Fflur gwêl hanes y Fynachlog honno gan y diweddar S. W. Williams.
- ↑ Dr. E. A. Lewis: The Medieval Boroughs of Snowdonia, p. 58.

V.
Ffurf-Lywodraeth.
Cyn dyddiau Hywel, yr oedd yng Nghymru ddeddfau a chyfreithiau drwg. Cymerth yntau chwe gŵr o bob cymwd yng Nghymru ac a'u dug i'r Tŷ Gwyn ar Dâf. Ac yno y daeth y rhai a ddaliai groesau yng Nghymru, sef archesgobion, esgobion, abadau, ac athrawon galluog. Ac o'r nifer hwnnw dewiswyd deuddeg o'r lleygwyr doethaf, a'r ysgolhaig doethaf a elwid Blegywryd, i ddileu'r cyfreithiau drwg a oedd yn bod cynt a gwneuthur rhai da yn eu lle.
Aralleiriad rhydd o'r Rhagarweiniad i Gyfreithiau Hywel.
Bu cymaint canmol ar y cyfansoddiad Prydeinig er dyddiau'r Ffrancwr Montesquieu,[1] fel na feiddiai neb hyd yn ddiweddar awgrymu y dichon cyfansoddiadau eraill fod yn deilwng o sylw.
Dangosodd haneswyr yn yr Almaen yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, fodd bynnag, yr angen am astudiaeth gymariaethol o gyfansoddiadau ac arferion gwahanol wledydd ar wahanol adegau yn eu hanes, a chafwyd amryw lyfrau pwysig ar y maes hwnnw yn ystod y ganrif. Cyhoeddodd Syr Henry Maine ei Village Communities, East and West, yn 1871, a'i Early Institutions yn 1875. Hefyd, cyhoeddodd Ffrancwr o'r enw Fustel de Coulanges lyfr ar gyfansoddiad Dinas yr hen fyd (La Cité Antique) yn 1864, ac un arall yn 1885, yn cynnwys ffrwyth ei ymchwiliadau i hanes bywyd yr oesau canol— Recherches sur quelques problèmes d'histoire. Rhoddodd y llyfr hwn gychwyn i ddadl ynglŷn â tharddiad cyfundrefn gymdeithasol yr oesau canol. Cyn hynny, olrheiniai haneswyr yr Almaen—a haneswyr Lloegr yn eu dilyn fel defaid—y gyfundrefn honno yn ôl at wreiddiau Tiwtonig. Cychwyn y cyfan, meddent, oedd y pentref rhydd—y mark—a oedd, yn ôl disgrifiad gorliwiedig Tacitus, mor nodweddiadol o fywyd cyntefig Germani.
Ond, meddai Fustel, pa fodd y mae cyfrif am y ffaith nad yw'r rhyddid hwn i'w gael ym mywyd yr oesau canol? Yr oedd yn y bywyd hwnnw haen o gaethiwed, er bod ei natur yn wahanol i gaethiwed yr hen fyd—yr oedd caethwas yr hen fyd yn rhwym wrth feistr, a thaeog yr oesau canol yn rhwym wrth y tir, adscriptus glebae. Yn natblygiad rhyddid, felly, yr oedd taeog yr oesau canol hanner y ffordd rhwng caethwas yr hen fyd a dyn rhydd y cyfnod diweddar. Yr oedd cyfran fawr o'r boblogaeth yn perthyn i'r dosbarth hwn, fel y gellir gweled oddi wrth Domesday Book, a ddengys fod tri chwarter y tenantiaid yn Lloegr yn gaeth. Ar sail hyn oll, maentumiai Fustel mai o'r bywyd Rhufeinig y tarddodd bywyd yr oesau canol, ac mai olion gorthrwm yr hen ymerodraeth a geir ynddo. Rhannwyd Ewrop yn ddau wersyll ar unwaith—y Tiwtonig a'r Rhufeinig; awd ati i chwilio am brofion i'r naill osodiad a'r llall, ac at gyfundrefnau llywodraeth gwahanol wledydd y trowyd i geisio tystiolaethau. Yn Lloegr, yn 1884, cyhoeddodd Seebohm ei lyfr chwyldroadol, The English Village Community, a'i ogwydd at y gwersyll Rhufeinig. Prif wasanaeth Seebohm, fodd bynnag, oedd dangos mor bwysig, wrth drafod y cwestiwn hwn, oedd astudio'r gyfundrefn Gymreig, a daeth ysgolheigion yn araf deg i ddeall bod yng nghyfraith Hywel Dda gasgliad o gyfreithiau neu arferion bore nad oes ei hafal bron mewn unrhyw wlad yn y gorllewin.
Tybir bod y llwythau Celtaidd, a ddaeth i'r wlad hon â'u hanifeiliaid gyda hwy rywbryd yn y cynoesau, wedi ymberffeithio'n gynnar yn y grefft o fyw ar fagu anifeiliaid yn hytrach nag ar hela, fel y gwnai rhai o'r llwythau o'u cwmpas. Yn cyfateb i'r bywyd bugeiliol hwn ceir cyfundrefn lywodraeth a adwaenir fel y gyfundrefn genhedlig, ac y mae'n bwysig cofio mai'r gyfundrefn hon yw'r gyfundrefn sylfaenol a ddisgrifir yng nghyfraith Hywel. Bywyd crwydr yw'r bywyd bugeiliol yn ei ffurf gyntefig. Erys y teulu gyda'i gilydd nes tŷf yn llwyth, ac ymfalchïai pob aelod yn ei berthynas â'r Patriarch, neu dad y llwyth. "Y mae gennym ni Abram yn dad i ni" yw ymffrost aelodau llwyth o'r fath. Fel y prinha'r borfa, symudant gyda'u hanifeiliaid i borfa newydd. Y mae rhan helaeth o bobl y byd yn byw yn y modd hwn o hyd—er enghraifft, y Cossack, a'r Magyar a'r Arab, sydd, fel yr hen Geltiaid gynt, yn elynion marwol i'r bywyd amaethyddol sefydlog. Yng ngwlad Groeg, hefyd, ceir eto ymrafaelion parhaus bob Hydref pan ddaw bugeiliaid yr ucheldiroedd â'u hanifeiliaid i lawr i'r gwastatir, ac yr ymesyd y geifr ar feysydd a gwinllannoedd yr amaethwyr.[2]
Y mae i gyfraith Hywel ddiddordeb neilltuol, oherwydd y dystiolaeth a geir ynddi am arferion y Cymry cyn ddylanwadau'r Sais a'r Norman ddyfod i chwarae ar eu bywyd. Perthyn y cyfreithiau, ym marn Mr. T. P. Ellis, yn ddios i'r cyfnod ar ôl codi Clawdd Offa,[3] pan oedd cyfathrach rhwng Cymru a Lloegr megis wedi ei thorri ymaith, a cheisia ddangos mor ddisail yw'r haeriad bod Hywel Dda dan ddyled i Alfred, brenin y Saeson.[4] Ychydig o ôl yr Eingl-Sais meddai sydd ar gyfreithiau Hywel,[5] ond y mae delw'r Norman ac Eglwys Rufain yn lled amlwg yng ngeiriad rhai ohonynt, er mai anodd yw penderfynu faint fu eu dylanwad ar y cynnwys. Cytunir erbyn hyn y rhydd y cyfreithiau hyn ddarlun dilys ddigon o'r bywyd Cymreig fel yr oedd yn y ddegfed ganrif cyn i'r dylanwadau estronol ddechrau llifo i mewn.[6] Yr hyn a geir ynddynt yw cyfundrefn genhedlig fugeiliol wedi ei chyfaddasu at fywyd sefydlog amaethwyr, er bod y rhain o hyd yn parhau i ddibynnu mwy ar gynnyrch eu deadelloedd nag ar gnydau eu meysydd. Nid oes mewn unrhyw wlad yng ngorllewin Ewrop y fath gyfoeth i'r hanesydd a fynno olrhain y cyfnewidiad hwn o'r naill ystad economaidd i'r llall. Gwnaed eisoes astudiaeth fanwl ar y cyfreithiau gan ysgolheigion cyfarwydd yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill, felly ni roddir yma ond amlinelliad mor gryno ag y gellir o'r ffurf-lywodraeth a ddadlennir ynddynt a'r modd y datblygodd.
Bu amser yn hanes y Cymry, fel pob cenedl arall, pan na chydnabyddid ac na pherchid deddf o gwbl, a phawb yn ddeddf iddo'i hun. Nid oes dim a rydd well syniad am ddat- blygiad moesol cenedl na'i pharodrwydd i gydnabod awdurdod cyffredin, a gellir mesur twf cenhedloedd yn yr ystyr hwn trwy geisio olrhain yr elfennau o'r cyfnod cyntefig a fo wedi goroesi i gyfnod diweddarach. Erys rhai arferion cyntefig o'r fath, fel adlais o'r dyddiau gynt, yng nghyfraith Hywel, ond nid cymaint o lawer ag a geir yng nghyfreithiau Ethelberht o Gent ac eraill o frenhinoedd yr Eingl a'r Saeson. Pan leddid dyn, er enghraifft, caniatâi cyfraith Hywel i'r cyfneseifiaid ddial ar y lleiddiad. Pan ladrateid, hefyd, gallai'r gŵr y llatratesid oddi arno fyned, a chroes gydag ef, i chwilio am y lleidr, ac os daliai ef a'i gael i gyfaddef ei drosedd, câi roi cosb arno yn y fan. Ymddengys nad oedd diheurbraw (ordeal) yn arferedig ymysg y Cymry, er yr arferid ef ym mwrdeisdrefi Lloegr mor ddiweddar â'r ddeuddegfed ganrif.[7] Yn ôl y ddefod hon, rhoddid prawf ar ddyn a gyhuddid am drosedd trwy orfod arno gerdded ar haearn poeth neu roddi ei law mewn dŵr berwedig; ac os deuai trwy'r praw yn ddianaf, neu wella o'r archoll yn fuan, cyfrifid ef yn ddieuog.[8] Ar y llaw arall, ymddengys fod arfer rhaith (compurgation), sef cael llu o dystion i dystio, nid am y ffeithiau fel y gwneir heddiw, ond am gymeriad y cyhuddedig, yn lled gyffredin, a pharhaodd hyd yn oed ar ôl i Edward I orchfygu'r wlad. Y rhain oedd yr haenau hynaf yng nghyfraith Hywel, ond nid oes iddynt ddim pwysigrwydd ond fel arwyddion o'r hyn a ffynnai yn lled gyffredin yn y cyfnodau cyntefig.
Y mae yn y gyfraith haen arall sydd yn hen ac yn perthyn i'r cyfnod cenhedlig. Y pennaf peth yn yr haen hon yw'r pwys a roddir ar berthynas waed rhwng aelodau cenedl a'i gilydd. Nid oes sail i'r dyb a goleddid unwaith fod terfynau i'r genedl, sef o fewn perthynas hyd y nawfed âch; ceir y genedl yn ymestyn dros lawer mwy o genedlaethau na hynny, a cheir hanes am estroniaid, hyd yn oed, yn cael eu derbyn i mewn i genedl ymhen cwrs o amser. Awgryma hyn fod y pwys a roddid unwaith ar berthynas waed yn torri i lawr, ac y dechreuid rhoddi sylw i gymdogaeth. Daeth elfen newydd

i mewn i ffurfiad cenedl, sef y ffaith bod pobl yn cydfyw yn o waed. yr un lle yn hytrach na'u bod yn perthyn i'w gilydd o waed
Hynyna'n fyr yw'r gwahaniaeth rhwng syniad llwyth a syniad gwlad am hanfod cenedl. Nid oedd yn anhepgor olrhain y llinach trwy'r gwryw yr oedd ei holrhain trwy'r fam yr un mor ddilys yn y cyfnodau boreaf oll.[9] Sylfaen y llwyth, mewn gair, ydoedd perthynas, wirioneddol neu dybiedig, â rhyw un a gyfrifid, os nad yn dad y llwyth, yn aelod amlwg a chyfrifol ohono. Nid yw llwyth, cenedl a thylwyth, ond enwau cyfystyr ar wahanol agweddau o'r un peth. 10
Prawf arall fod dyddiau'r "genedl" ar ben erbyn amser Hywel yw'r ffaith nad oes dim sicrwydd am unrhyw swyddog yn perthyn iddi ond y pencenedl—cynrychiolydd cyffredinol y genedl. Prif waith y pencenedl oedd "ymyrru ag un yn rhaid"ref>Gweler hefyd, Lloyd: op. cit. I, 285 et seq.</ref>—bod wrth law mewn awr gyfyng pan fai angen am amddiffynnydd i'r llwyth.
Y mae'n wir y rhoddid pwys ar radd y berthynas rhwng yr unigolyn a thad y llwyth, hynny yw, rhennid y llwyth yn gylchoedd yn ôl nifer y cenedlaethau—y bedwaredd, y seithfed a'r nawfed genhedlaeth. Perthynai i bob cylch o'r fath ei freintiau a'i ddyletswyddau neilltuol, ond nid oes dim sail i'r dyb y dynodai'r rhain derfynau'r llwyth neu'r tylwyth.
I ran y pencenedl hefyd y disgynnai'r gwaith pwysig o dderbyn mab newydd i mewn i fywyd y genedl. Pan gyrhaeddai ei bedwaredd blwydd ar ddeg, deuai'r plentyn yn aelod o'r llwyth ac yn gyfrannog o holl freintiau a holl ddyletswyddau ei genedl; a chan y derbynnid y plentyn anghyfreithlon yn ogystal â'r plentyn cyfreithlon, perthynai pwysigrwydd neilltuol i'r swydd o arddel y plentyn newydd.
Pan ymsefydlodd y llwythau crwydr yn eu hunfan, daeth dylanwadau newydd i'w bywyd, ond parhaodd rhai o nodweddion y cyfnod cenhedlig am gryn amser yn hwy. Wrth ymsefydlu meddiannodd pob llwyth ryw gyfran o dir a daear, ac y mae'n debyg mai'r enw a ddefnyddid ar y dechrau am gartref y llwyth ydoedd gwlad. Ni olyga hyn nad oedd, fe ddichon, fwy nag un llwyth wedi meddiannu adran neilltuol. Edrychid ar y wlad bellach fel eiddo'r llwyth yn gyffredinol, a bod gan bob aelod cyflawn o'r llwyth hawl i ddefnyddio cyfran ohoni i ennill ei fywoliaeth oddi arni. Fel y dywed Vinogradoff, nid oes wirionedd sicrach ynglŷn â'r cyfnod hwn na'r gwirionedd mai eiddo'r llwyth ac nid eiddo unigolion oedd y tir. Ni feddai'r unigolyn ond hawl i ennill ei fara trwy gael cyfran o'r tir,[10] nid yn feddiant personol, ond i'w ddefnyddio i godi cnwd arno neu yn borfa i'w anifeiliaid.
Yn y stentiau a wnaed yn ddiweddarach gan y Normaniaid, yr enw a ddefnyddir am dir a ddelid yn y modd hwn oedd gwely (Lladin, lectus). Awgryma'r enw mai perthynas waed oedd o hyd yn penderfynu hawl yr unigolyn ar gyfran o dir y llwyth. Mewn geiriau eraill, gwelwn y modd y'i delweddai'r gyfundrefn genhedlig ei hun yng nghyfundrefn dir y Cymry—peth a barodd drafferth nid ychydig i'r swyddogion Normanaidd. Y cyfuniad diddorol hwn, fel y dywedwyd eisoes, oedd un o nodweddion mwyaf pwysig yr hen gyfundrefn Gymreig.
Anodd penderfynu beth a olygid gan y Cymry gynt wrth y term gwlad. Weithiau fe'i defnyddid yn gyfystyr â thywysogaeth (fel Gwynedd), dro arall, yn gyfystyr â chantref neu gymwd, fel Meirionydd neu Fuallt. Y mae'r un anhawster ynglŷn â'r term brenin. Defnyddir ef weithiau am fân arglwyddi'r cantrefi, bryd arall am dywysog Gwynedd neu Ddeheubarth,[11] ac ni wahaniaethir yn glir rhwng y ddau yn y cyfreithiau. Gellir casglu oddi wrth hyn mai swydd newydd, mewn gwirionedd, oedd swydd brenin er bod sôn am frenhinoedd gan Gildas mor fore a'r chweched ganrif. Nid yw hyn ond y peth oedd yn gyffredin yn yr oesau canol. Awdurdod a dyfodd yn ddiweddarach oedd awdurdod y brenin. Awdurdod yr arglwydd, fel y dengys Maitland, oedd yr hynaf,[12] a bu hir y frwydr rhwng yr awdurdod newydd y brenin—a'r arglwyddi a'u hystyriai eu hunain yn ogyfuwch ag ef. Ceir enghraifft dda o hyn yn hanes ffiwdaliaeth Ffrainc, lle yr oedd gan y prif arglwyddi awdurdod cyfartal i awdurdod y brenin ei hun. Gwelir bron yr un peth ar ororau'r Alban a Chymru yn niwedd yr oesau canol, lle yr oedd nifer mawr o fân arglwyddi gwnai pawb yr hyn oedd iawn yn ei olwg ei hun, ac ni chydnabyddid gwŷs y brenin. Fel ei gydradd, fe gofir, yr ymddygai Iarll Caerloyw tuag at Edward I.[13] Mewn cyfnodau boreach—cyfnod Gildas, er enghraifft—dichon fod y sawl a adwaenid fel brenhinoedd yn meddu awdurdod yn eu swydd fel swyddogion yr hen Ymerodraeth Rufeinig, neu o leiaf bod y traddodiad hwnnw yn ddigon cryf i roddi rhywfaint o awdurdod i'r neb a hawliai'r teitl.
Erbyn amser Hywel, fodd bynnag, rhywbeth annelwig iawn oedd brenhiniaeth, ac amhosibl, fel y dywedwyd, wahaniaethu rhyngddi ag awdurdod gyfyng arglwydd y cymwd—y sonnir amdano weithiau fel arglwydd ac weithiau fel brenin. Gwelir yr anhawster yn amlwg wrth geisio olrhain yn y cyfreithiau y berthynas rhwng y naill frenin a'r llall. Yn ben ar y cwbl, medd Hywel, yr oedd brenin Prydain a'i orsedd yn Llundain, y telid iddo £63 bob blwyddyn. Y mae'n debyg mai ffiloreg noeth oedd hyn, neu yntau adlais o'r dyddiau pan orfyddid i'r Cymry dalu teyrnged i swyddog Rhufeinig ym Mhrydain, neu o gyfnod boreach fyth pan hawliai'r Celt y wlad i gyd. Nid oes dim sail i gredu bod y Cymry erioed wedi talu'r swm hwn i frenin Lloegr nac ychwaith wedi cydnabod ei awdurdod ond o orfod. Glynai'r Cymry o hyd wrth yr hen syniad mai trawsfeddianwyr oedd y Saeson, ac mai hwynthwy oedd biau Prydain oll, a'u brenin tybiedig hwy yn Llundain yn ben arni.[14]
Pan ymsefydlodd y llwyth a meddiannu cyfran o'r wlad, but newid cyfatebol yn natur awdurdod y pennaeth. Peidiodd a bod yn bennaeth neu batriarch, a daeth yn arglwydd. Gwelir hyn yng nghyfnewid yr enw nid fel Rhi yr adwaenir ef mwyach, ond fel brenin neu arglwydd.[15] Dechreuasai'r gyfundrefn ffiwdal gael y llaw uchaf ar y gyfundrefn genhedlig.
Yn ôl cyfreithiau Hywel, yr oedd Cymru wedi ei rhannu yn gantrefi, ac ym mhob cantref yr oedd dau neu ragor o gymydau. Nid yw'r cyfreithiau yn glir iawn parthed perthynas y naill a'r llall. Y mae'n bosibl bod y cantref yn cyfateb i'r hyn a elwid gynt yn wlad, sef y darn hwnnw o dir yr ymsefydlasai llwyth arno. Ar y llaw arall, dichon, fel yr awgryma'r enw, mai uno cant o drefi yn ffurfiol â'i gilydd a wnaed rywdro gyda'r amcan o sefydlu rhywfath o lywodraeth drostynt. Bid a fo am hynny, dengys cyfreithiau Hywel fod y cantref erbyn hynny wedi colli pa bwysigrwydd bynnag a berthynai iddo gynt, ac mai'r cymwd bellach oedd canolfan awdurdod a llywodraeth. Manylion am lys a llywodraeth y cymwd a geir yn y cyfreithiau, a dangosir y cantref fel peth wedi gorfyw ei ddefnyddioldeb, a'i enw yn unig yn awgrymu ei bwysigrwydd
gynt. Yn Nyfed ceir cyfeiriad at lys cymwd neu gantref,[ref>Ancient Laws, I, 472</ref>ond yng Ngwynedd ni sonnir ond am lys cymwd yn unig.[ref>Hynny yw, os nad ydym i ddeall mai ynad y cantref olygir wrth y term ynad llys" ("enat llis"neu "egnat ekemut "), I, 144</ref> Felly, ynglŷn â chyfraith a llywodraeth, y cymwd oedd canolbwynt yr hen gyfundrefn. Llywodraethid pob cymwd gan arglwydd, a gadwai ei lys gyda rhyw gymaint o rwysg mewn lle canolog o fewn y cymwd. Yr oedd iddo 16 o weision a ddaliai bawb ei swydd yn y llys, ac yr oedd gan yr arglwyddes, hithau, osgordd o wyth o weision a morynion. Fel y dywedwyd eisoes, ni wahaniaethir yn y cyfreithiau rhwng swydd brenin a swydd arglwydd, ond y mae'n lled sicr nad oedd gan yr arglwyddi lleiaf gynifer o swyddogion ag a ddywedir yn y cyfreithiau—a dichon nad oedd gan y tywysogion, ychwaith, gynifer â hynny bob amser. Y mae rhestr o'r gwasanaethyddion, fodd bynnag, yn ddiddorol, am ei bod yn rhoi goleuni ar fywyd cymdeithasol y cyfnod:
1. Penteulu: Yr oedd i'r gair teulu ystyr arbennig yn y gyfraith, sef gwarchodlu personol y brenin. Ai'r osgordd hon gyda'r brenin ar ei gylchdeithiau milwrol mynych. Yn amser y tywysogion, rhifent 120, a dywedir bod gan Ruffudd ap Llywelyn gynifer â 140.[16] Y penteulu oedd capten y rhain, ac fel rheol yr oedd yn berthynas agos i'r brenin neu'r arglwydd.
2. Effeiryat teylu: Math o gaplan y llys.
3. Dysteyn: Gair wedi ei gymryd o'r Saesneg, yn golygu ysgweier y dysglau[17] a chyfieitha Rhys ef yn Senyllt (Seneschal). Efo oedd prif oruchwyliwr y llys-y Stiward.
4. Penhebogyt: Y gŵr a ofalai am yr hebogiaid, a gedwid at hela adar.
5. Brahudur llys (Egnat Dyfed): Y Barnwr.
6. Pengwastrahut: Y gŵr a edrychai ar ôl y ceffylau.
7. Gwastauel: Arno ef yr oedd gofal y gwlâu a'r ystafell gysgu.
8. Bart teulu.
9. Gostechwr: Ei waith ef oedd cael distawrwydd yn y llys.
10. Penkynyt: Prif heliwr.
11. Medyt: Bragwr.
12. Medyc.
13. Trullyat.
14. Drysaur.
15. Coc: Coginydd.
16. Kanuyllyt: Canwyllydd.[18]
Sonnir yn y cyfreithiau am swyddogion eraill hŷn na'r rhain, ac y mae'n amlwg bod eu safleoedd yn wahanol. Awgryma rhai awduron fod Hywel, er mwyn ychwanegu at urddas y Brenin, wedi lluosogi nifer y swyddogion. Fe geir datblygiad cyffelyb yn hanes y llys yn Lloegr yn nyddiau'r Normaniaid, pan ddisodlwyd y Reeve, y Distain, yr Heilyn a'r Stafellwr gan y Marsial, y Canghellor, a'r Siambrlen, ac y gwnaed rhagor o swyddogion llys nag oedd yn llys yr Eingl-Sais.[19]
Yr oedd yn y cymwd ddau ddosbarth o bobl, y rhydd a'r taeog. Dibynnai rhyddid ar waedoliaeth; y mae'n debyg bod y dynion rhydd yn ddisgynyddion o'r gwŷr a feddiannodd y wlad, ac mai disgynyddion y brodorion cyntefig a orchfygasid gan y rheini oedd y taeogion. Ni ellir, ysywaeth, ddibynnu ar y ffigurau a geir yn y cyfreithiau ynglŷn â'r tir a ddelid gan y naill ddosbarth a'r llall, ac y mae'n amhosibl penderfynu cyfartaledd y rhydd a'r taeog yn y cymwd. Gellir gweled, fodd bynnag, oddi wrth y stentiau a wnaed gan y Normaniaid, beth oedd cyflwr y wlad pan feddiannwyd hi ganddynt hwy, ac y mae'n eglur bod llawer mwy o'r bobl yn rhydd yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn ôl tystiolaeth Domesday Book, tua chwarter poblogaeth Lloegr oedd yn rhydd a thri chwarter yn gaeth, ond yng Nghymru, ym marn Mr. T. P. Ellis, yr oedd y cyfartaledd yn hollol i'r gwrthwyneb.[20]
Cynhelid y llys, fel rheol, yn yr awyr agored—yn wyneb haul a llygad goleuni—a phan fyddai ymrafael ynglŷn â therfynau, cynhelid ef ar y tir yr ymrafaelid yn ei gylch. Yr arglwydd, fel rheol, fyddai llywydd y llys, gyda nifer o wŷrda a hynaf— gwŷr y cymwd o boptu iddo. Yng Ngwynedd a Phowys, y Barnwr fyddai'n rhoddi barn, ond mynnai gwŷr y De ddal at yr hen drefn, hynny yw, hawlient gael eistedd yn y llys fel barnwyr,[21] fel y gwneid yn y dyddiau gynt.
Nid ar chwarae bach y deuid yn Farnwr. Dyry'r cyfreithiau ddisgrifiad manwl o'r ddisgyblaeth angenrheidiol. Rhaid oedd bod yn gyfarwydd â llyfr y gyfraith, a mynychu'r llys i glywed y barnwr wrth ei waith am flwyddyn o amser o leiaf. Caniateid i'r disgybl ofyn cwestiynau yn y llys ar unrhyw beth a fai'n ddyrys iddo. Ar derfyn y tymor, cymerid ef mewn llaw gan y caplan a deuddeg o wŷr amlycaf y llys, ac arweinid ef at yr allor, ac yno gofynnid iddo gymryd llw ar y creiriau na ŵyrai farn unrhyw amser, ac yna fe'i cyfrifid yn deilwng i gael ei ddewis yn farnwr.[22]
Yr oedd i lys y cymwd ddyletswyddau eraill heblaw gwein— yddu cyfiawnder. Ynddo ef y trefnid materion ynglŷn â diwydiant y cymwd, yn union fel y gwneid yn y llys barwn, gyda'r gwahaniaeth bod awdurdod llys y cymwd yn ehangach am ei fod yn gweinyddu cyfraith y wlad, a'r llys barwn yn gweinyddu'r gyfraith dir, a hynny yn ôl arfer y manor yn unig.
Cyfansoddid y cymwd, fel y gwyddys, o nifer o drefydd—y sefydliadau gwasgarog hynny lle trigai'r Cymry pan ddaethant gyntaf i'r iseldir. Y mae'n sicr mai ychydig a ymyrrai'r llys ym mywyd y gwŷr rhydd—lle yr oedd pawb, fwy neu lai, yn arglwydd arno ei hun. A fu i'r dref, hithau, lywodraeth iddi ei hun ni wyddom,[23] ond ceir atgo am rywbeth tebyg mewn ambell enw yma ac acw ar hyd y wlad. Er enghraifft, mewn ardal yng ngogledd Cymru y mae olion tŷ cadarn o'r enw Tynymeini[24] yn sefyll ar gae o'r enw Henllys, a heb fod nepell oddi wrtho y mae cae arall o'r enw Bitfel—arwydd lled sicr bod yn y fan honno rywdro ryw fath o lywodraeth leol. Gwyddys mai mewn lle arall yn yr ardal yr oedd llys y cymwd; felly, y mae'n dra thebyg, mai llys tref oedd yr Henllys hwn. Ceir hanes hefyd am drefydd degwm yn hawlio gwneud fel y mynnent hwy â'u tlodion ac yn gwrthod cydymffurfio â chynlluniau trefydd degwm eraill yn yr un plwyf â hwy.[25] Y mae'n debyg, fodd bynnag, mai prin y ceid llywodraeth leol gref yn y rhan fwyaf o'r trefydd, gan mai bychain oeddynt o faint a phoblogaeth.
Yr oedd ym mhob cymwd rai trefydd gwahanol i'r lleill. Un ohonynt oedd y Faerdref, lle llafuriai'r taeogion i godi ymborth i arglwydd y cymwd dan lygad y maer—gŵr a gaiff sylw neilltuol yn y cyfreithiau. Yn y llys trinid anufudd-dod y taeog, a phlediai yntau arfer gwlad yn erbyn cynlluniau newydd yr arglwydd a'i weision. Ynglŷn â diwydiant, dau swyddog pwysicaf y llys oedd y canghellor a'r maer. Gwaith y canghellor oedd eistedd yn y llys a rhoddi barn pan na by ldai'r arglwydd yno. Yr oedd swyddog tebyg iddo—y senyllt (Seneschal) ar fanorydd Lloegr, yn enwedig pan fyddai gan yr arglwydd fwy nag un fanor. Gwaith y maer, ar y llaw arall, oedd gwylio buddiannau tymhorol yr arglwydd—swydd cyffelyb i eiddo'r beili ar y manor Seisnig.
Nid yw perthynas y llysoedd a'i gilydd yn glir o gwbl, ac o ganlyniad ni ellir dweud yn bendant beth oedd y safle ynglŷn ag apêl o'r naill i'r llall, ond ceir sôn yn y cyfreithiau am Farnwr y Brenin yn eistedd gyda barnwr y cymwd neu'r cantref. Gellid apelio yn erbyn dedfryd barnwr ar y tir nad oedd yn hyddysg yn y gyfraith neu nad oedd yn ddiduedd. Os profid hynny, collai'r barnwr ei swydd yn ogystal a'i safle anrhydeddus, a hefyd werth ei dafod.[26] Hyn yn sicr oedd. gwendid mwyaf y gyfundrefn Gymreig, ac oherwydd y gwendid hwn, ni ddatblygodd. Dyma un gwahaniaeth mawr rhyngddi â chyfraith Lloegr yno gallai'r gŵr rhydd wneuthur apêl yn llys y Brenin, ac y mae datblygiad cyfraith a llywodraeth gyfansoddiadol yn Lloegr yn ddyledus i'r ffaith nad gan arglwydd y manor yr oedd y gair olaf. Ymddengys fod gan arglwyddi'r cymwd yng Nghymru, ar y llaw arall, fesur o annibyniaeth tebyg i annibyniaeth arglwyddi'r Mers-peth a fu'n felltith fawr yn hanes y goror.

Pan ddaeth y Norman i Gymru, yr oedd yn naturiol i'r hen gyfundrefn Gymreig ddatblygu i gyfeiriad y fanor, fel y ceid hi yn Lloegr. Er gwaethaf y gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad a rhwng datblygiad diwydiant amaethyddiaeth yn y naill o'i chymharu â'r llall, y mae mwy o debygrwydd rhwng y gyfundrefn a ddadlennir yn y cyfreithiau a'r fanor Seisnig nag a gydnabyddir yn gyffredin, fel y dengys y rhestrau a ganlyn:
| Arglwydd. | |
| Tenantiaid: | |
| 1. Uchelwyr gwŷr rhydd. | |
| 2. Alltudion | taeogion. |
| Eilltion | |
| 3. Caethion. |
| Arglwydd. | |
| Tenantiaid: | |
| 1. Socmen neu wŷr rhydd | |
| 2. Villeins | serfs. |
| Bordars | |
| 3. Slaves. |
Swyddogion:
Canghellor.
Maer.
Rhingyll.
Swyddogion:
Seneschal.
Bailiff.
Reeve.
Yr oedd yn naturiol i'r cymwd gael ei ystyried gan y Norman— iaid yn arglwyddiaeth yn hytrach nag yn fanor. (Rhaid cofio mai bychain oedd y rhan fwyaf o'r manorydd yn Lloegr, ac mai'r faerdref, fel rheol, a ddaeth yn fanor Normanaidd yng Nghymru.) Daeth Cymwd Ystrad Alun yn Arglwyddiaeth Moldsdale, a Chymwd Maelor Saesneg yn Arglwyddiaeth Maelor, ond fel rheol fe gyplysid mwy nag un cymwd gyda'i gilydd i wneud arglwyddiaeth, neu "honour" fel y gelwid hi weithiau. Er enghraifft, cynhwysai Arglwyddiaeth Dinbych bum cymwd, Arglwyddiaeth Rhuthyn dri, ac Arglwyddiaeth y Waun bedwar a hanner. Y mae'n eglur mai'r hen gymwd oedd canolbwynt y gyfundrefn newydd, ond bod yr arglwyddiaeth newydd, fel rheol, ar raddfa ehangach.
Tebyg oedd y datblygiad yn y Deheudir, er bod ffiwdaliaeth yno eisoes wedi datblygu i fesur helaethach nag yn y gogledd. Cyplyswyd cantref Uwch Aeron gydag Arglwyddiaeth Llanbadarn, Is Aeron gydag Aberteifi, a'r Cantref Mawr gyda Chaerfyrddin, ond cadwyd llywodraeth pob cymwd fwy neu lai ar wahân fel cynt trwy ddefnyddio yr hen lysoedd. Deuthpwyd hefyd i edrych ar y cymwd fel peth yn cyfateb i'r hundred Seisnig, ac yn ôl deddf Ruddlan, cynhelid llys yr hundred gan Siryf y Brenin ddwywaith yn y flwyddyn o fewn tywysogaeth Gogledd Cymru. Beili yr hundred oedd rhaglaw y Cymwd,—ffaith a ddengys mor naturiol oedd y cyfnewid.
Dichon nad oes dim a rydd well syniad i ni am y datblygiad hwn na'r hyn a ddigwyddodd i swyddogion y cymwd.[27] Sonnir yn fynych yn Stentiau'r Normaniaid am y "raglot" fel prif swyddog y cymwd, ac am y cymwd ei hun weithiau fel raglotry." Nid yw'r raglot namyn rhaglaw y cyfreithiau—gŵr a ddaeth i gymryd lle'r maer a'r canghellor yng nghwrs dirywiad yr hen gyfundrefn Gymreig. Sonnir yn y Record of Caernarvon am gylch y raglot a'i hawl i dderbyn 4s. oddi wrth bob taeog (a cheiniog hefyd i'r gwas a fyddai'n gofalu am ei farch). Os byddai achos i ddyfod gerbron y llys, efô a fyddai'n anfon allan y wys. Efô oedd yn gyfrifol am y rhyddwystly[28] (frank—pledge) ddwywaith yn y flwyddyn, a'i waith ef hefyd oedd gofalu am felin yr arglwydd. Swydd bwysig arall a ddisgynnai i'w ran oedd arddel yr alltudion a ddeuai o dro i dro i fyw i'r arglwyddiaeth. Efô a gasglai bob dirwy: ac yr oedd ei dir yn rhydd iddo fel i'r maer gynt.
Swyddog arall o gryn bwysigrwydd yn y cyfnod Normanaidd oedd y rhingyll. Lle nad oedd manor (a adwaenid yn fynych fel raglotry) ceid ringildry. Yr oedd hwn yn ddatblygiad llai manoraidd er enghraifft, yn y siartr a roddodd Henry VII i denantiaid arglwyddiaeth y Waun, sonnir am gymwd Nanheudwy a Ringildry Mochnant, a hefyd am gylch rhingyll fel un o'r pethau a ddifodwyd gan y ddeddf honno. Gwŷr rhydd oedd tenantiaid y ringildry bob amser, ond tenantiaid caeth, ar y llaw arall, oedd yn y raglotry—hynny yw, tyfodd y manor lle yr oedd maerdref gynt. Yr oedd dyletswyddau'r rhingyll yn gyffelyb i eiddo'r rhaglaw, ond nid oedd ei awdurdod cyn changed, gan fod mwyafrif tenantiaid ei ranbarth yn uchelwyr, a mwy o annibyniaeth yn perthyn i'w safle.
Swyddog arall y ceir cyfeiriad ato oedd y cais—Sergeant of the Peace. Y mae'n debyg mai ei waith pennaf ef oedd diogelu heddwch y cymwd, fel y dengys y gŵyn a ganlyn a wnaed gan rai o denantiaid y Waun yn nyddiau Gwylliaid Cochion Mawddwy.[29]
{{quote|To the Right Worshipful Master Steward of Chirkland Grevously compleynith unto your masterships all ye kynges true tenantes of Kenlleth and Moghnaunt in Chirkland how that thay be dayly and nyghtly robbyd and thare goodes and catelles stollyn from them aswell into powyshlande, mowtheway and merrionnethshyre as oder countries to thayme adjoyning within this twoo monthes to ye valew of C. merkes and above. And all indefaute of a good officer, for keepyng of the countrey, as hathe been accustomed in tymes paste. For ye seargeant of ye peas called ye pencayse hathe used to watch in dyvers places of ye countrey And take thevis and mysrewlye persons And bryng thame to ye castell, wiche watch and exersise of ye said office made odre outlaws And theves for fere of ye same to Forbere, And durst not invade ne cume within ye said countries till this ij yeres paste that that office hath not been delygently exercised ne occupiede to ye great impoveryshenge And undoyng of all trewmen in ye said countries.}}
Pan gollodd Cymru ei hannibyniaeth yng nghwymp Llywelyn yn 1282, bu cryn newid ar ei chyfundrefn lywodraeth. Dechrau'r newid hwnnw oedd Ystatud Ruddlan, neu, yn fwy cywir, Ystatud Cymru, a basiwyd ym Mawrth, 1284. Rhoddwyd yr ystatud honno mewn grym gan Edward I ar ôl gwneud ymchwil i arferion Cymru. Bu'r Comisiwn—Esgob Becke, Tyddewi, Reginald de Grey a Walter de Hopton—yn holi tystion, o Gymry ac o Saeson, ynglŷn â'r hen arferion hyn. Holwyd cynifer â 172 o dystion: 19 yng Nghaer, 53 yn Rhuddlan, 36 yn y Fynachlog Wen (?Croesoswallt), 22 yn Nhrefaldwyn, a 42 yn Llanbadarn Fawr.[30] Fe ddisgrifir yr ystatud hon gan Pollock a Maitland, haneswyr cyfraith Loegr, fel y "code" mwyaf cynhwysfawr o ddeddfwriaeth a roed allan gan unrhyw un o frenhinoedd Lloegr yn ystod yr oesau canol.[31] Canlyniad uniongyrchol yr ystatud oedd dwyn Gwynedd ar unwaith dan weinyddiad deddfau Lloegr. Rhannwyd y Dywysogaeth, hynny yw, Gwynedd, yn dair sir—Môn, Arfon, a Meirion—a rhoddwyd y cwbl dan ofal prif farnwr (Justiciar) Gogledd Cymru. Odo de Grandison oedd y cyntaf i lenwi'r swydd, a'i ddirprwy, John de Havering, a ddaeth iddi ar ei ôl. Yng Nghaernarfon y trigai'r prif farnwr, ac yno yr oedd ganddo Drysorlys yn ogystal â Changhellys. Yr oedd Fflint i fod dan ofal barnwr Caer, ac yr oedd dwy sir yn y De—Ceredigion a Chaerfyrddin—dan ofal barnwr Caerfyrddin. Yr oedd i bob sir ei siryf—efô oedd yn gyfrifol am gynnal ei llysoedd ac i bob cymwd ei grwner a'i feili. Y crwner a gynhaliai drengholiad ar gorff y marw; a gwaith y beili oedd gwylio dros fuddiannau tymhorol y cymwd fel gwas y siryf. Cynhelid llys y Sir—Shire Court—nad oedd yn bod yng Nghymru cyn hyn, unwaith bob mis, ac âi'r siryf ei hun drwy'r gwahanol gymydau ddwywaith yn y flwyddyn, ar ôl gŵyl Fihangel a'r Pasg, i gynnal y llys a elwid y Tourn. Yr oedd raid i bob rhydd-ddeiliad ddyfod yno i'w gyfarfod, a gwnai yntau ymchwil, trwy lw deuddeg neu ragor ohonynt, i'r troseddau a gyflawnasid yn ystod y tymor blaenorol.

Y mae rhestr o'r troseddau a ddygid o dro i dro gerbron llys y siryf yn taflu goleuni diddorol ar fywyd y cyfnod. Dyma rai ohonynt prynu neu werthu cig anifail a ladratasid, neu drin ei groen; ail-wneud hen ddillad a'u gwerthu fel rhai newydd; cneifio defaid yn y gorlan gyffredin wedi nos; lloffa ŷd wedi nos; dryllio ffyrdd, a rhoi rhy fach o fesur ac o bwysau.
Er mai cyfraith Seisnig oedd yr ystatud, ni ddiddymwyd y gyfundrefn Gymreig yn llwyr. Er enghraifft, parheid i ganiatáu i berthnasau'r neb a gyhuddid am drosedd ddwyn tystiolaeth am ei ddiniweidrwydd (rhaith), a pharheid hefyd i rannu'r eiddo'n gyfartal rhwng y plant yn ôl yr arfer Gymreig. Yr oedd gweddill Cymru eisoes yn nwylo'r arglwyddi Normanaidd. Gwnaeth Edward I ymdrech i roddi terfyn ar eu hawdurdod hwy,[32] ond bu farw cyn gorffen y gwaith. Pan ymwelodd Edward â Morgannwg ar ôl darostwng Gogledd Cymru, fe'i synnwyd yn fawr gan ymddygiad Iarll Caerloyw, oherwydd ymddug y pendefig hwnnw at y brenin yn union fel pe buasai ar yr un tir ag ef. Ni anghofiwyd hyn gan Edward; gwelodd ei gyfle pan gododd ymryson rhwng yr Iarll a Iarll Henffordd, a gwysiodd y ddau i ymddangos gerbron ei farnwyr yn Llanddew, gerllaw Aberhonddu, yn 1291. Fe ufuddhaodd Iarll Henffordd i'r wys, ond gwrthododd Caerloyw. Yna gwysiwyd hwy i ymddangos gerbron y brenin ei hun a'r tro hwn fe ufuddhaodd y ddau. Dedfrydwyd hwy i garchar, a daeth eu heiddo i ddwylo'r goron.
Buasai hanes Cymru dipyn yn wahanol pe buasai Edward wedi cael byw i orffen rhoi arglwyddi'r Mers yn eu lle, ond fel arall y bu, ac yn ystod y canrifoedd nesaf bu anhrefn mawr yn yr adrannau hynny o'r wlad a adwaenid fel y Mers neu'r Cyffin. Ni ellid, yn wir, ddisgwyl dim amgen. Yr oedd brenhinoedd Lloegr wedi rhoi llaw rydd i arglwyddi'r Mers wneud a fynnent à Chymru, fel y dengys y caniatâd a roddodd Harri I i Gilbert Fitzrichard de Clare i drawsfeddiannu Penfro a Cheredigion: "Yr wyt," meddai, "wedi chwennych llawer gael tir y Brythoniaid i'th law. Wele fi yn rhoddi i ti dir Cadwgan ap Bleddyn—dos a chymer ef."ref>Bowen: The Statutes of Wales, xxvi.</ref> Pan ddaethant yn ddigon cryf i fod yn annibynnol ar y llaw a estynnodd y breintiau hyn iddynt, buan iawn yr hysbyswyd y brenin nad oedd iddo awdurdod yn yr arglwyddiaethau hyn: "Breve regis non currit in Walliam"—nid oes i wŷs y brenin unrhyw awdurdod yng Nghymru—oedd eu hateb iddo.
Prin, yn sicr, y mae hanes mwy torcalonnus i unrhyw wlad nag y sydd i Gymru rhwng amser gwrthryfel Glyn Dŵr a dyfod y Tuduriaid i'r orsedd. Dichon fod mesur o ddoethineb y gwladweinydd yn ymwneud Edward I â Chymru, ond yr oedd Harri IV a'i olynwyr yn hollol amddifad o'r ddoethineb honno. O'r flwyddyn 1400 ymlaen pasiwyd nifer o ddeddfau, a'u hunig amcan i amddifadu'r Cymro o bob braint ddinesig, ac nid oedd ryfedd, felly, i Gymru syrthio i gyflwr adfydus i'r eithaf. Yn y De ac ar y goror yr oedd arglwyddi'r Mers yn gweinyddu cyfraith, bawb yn ôl ei fympwy ei hun, heb gydnabod unrhyw awdurdod uwch; ac yn adrannau eraill y wlad ymddygid at y Cymro a oedd yn byw dan goron Lloegr fel yr ymddygid at yr herwr a'r dinawdd.
Ceir ymdriniaeth ddiddorol iawn ar ansawdd llywodraeth yng Nghymru yn nhraethawd George Owen, "The Dialogue of the Government of Wales." Dengys wendidau gweinyddiad y gyfraith yn ei ddyddiau ef. Cwyna fod y llysoedd yn
llawer rhy chwannog i gymryd i fyny bob math o achosion dibwys, a bod llawer gormod o dwrneiod ynglŷn â'r gwaith. Byddai'r siryf mewn swydd am ei oes, yn lle ei newid bob blwyddyn fel y gwneid yn Lloegr. Ni ddeallent yr iaith, ac yr oeddynt yn llawer mwy awyddus am ymgyfoethogi yn y swydd nag am weinyddu cyfiawnder. Cynhelid y llys ar adegau hynod anghyfleus i'r Cymry: fe drefnasai Hywel Dda i'r llysoedd gael eu cynnal rhwng y nawfed o Dachwedd a'r nawfed o Chwefror, a rhwng y nawfed o Fai a'r nawfed o Awst, a thrwy hynny adael yn rhydd dymhorau hau a medi, ond ni chedwid at y drefn honno mwyach. Cwyna hefyd oherwydd anhawster a phellter y teithiau i'r llysoedd hyn.

Diddorol hefyd yw'r cyferbyniad a wna George Owen rhwng gormes Harri IV a'i olynwyr a hynawsedd y Tuduriaid. Am Harri VII meddai: "This noble Prince being lyneally decended from the auntient Bryttish Kinges of this land so drewe the hartts of the Wellshmen to hym as the loadstone doth the yron whoe ever sithence have borne such naturall love and affection to the sayd King Henry 7 his sonn Kinge H 8 and King Edward the sixt Queene Marye and nowe doth beare towards or most Souveraigne Prynce Queen Elizabeth now lyving whom wee pray the Lord of Lords longe and longe to preserve to governe England and Walles."[33]
Nid oes le i amau na weddnewidiwyd bywyd politicaidd a chymdeithasol Cymru gan ddeddfwriaeth y Tuduriaid. Dyma'r pryd yr ad-drefnwyd Cymru oll yn siroedd ac y dygwyd hi yn gyfangwbl dan awdurdod Cyfraith Lloegr. Dyma'r adeg hefyd y rhoddwyd hi yn ymarferol dan awdurdod llys y Goror-llys a wnaeth waith mawr tuag at ddarostwng awdur- dod unbennaethol arglwyddi'r Mers. Fel pob llys o'r fath, aeth yntau ei hunan yn lled unbennaethol tua'r diwedd, a phan ddiddymwyd ef, ni bu llawer o alaru ar ei ôl. Ond gwnaethai waith da yn ei ddydd, a bu iddo ran amlwg mewn dwyn Cymru newydd i fod.[34]
Dylid cadw mewn cof hefyd fod cyfran lled helaeth o Gymru'r oesau canol ym meddiant y trefydd. Synnir dyn, wrth edrych ar fap ohonynt, fel eiddo'r Athro E. A. Lewis yn ei Mediaval Boroughs of Snowdonia, gan mor lluosog oeddynt; ac nid yw'r cwbl o drefydd anorffen Esgobaeth Tyddewi i mewn yn y map hwnnw. Gwyddom mai Normaniaid a Saeson oedd mwyafrif mawr y dinasyddion; ond, fel y dywed Dr. Lewis, yr oedd cryn wahaniaeth rhwng tref a thref yn hyn o beth. Yr oedd tref castell, fel Caernarfon neu Gonwy, yn llawer mwy Seisnig na thref faenoraidd fel Nefyn neu Niwbwrch, ac yr oedd yr un peth yn wir am fwrch, fel Llawhaden, o'i gymharu â "thref" Llanddewibrefi.
Ond beth bynnag am y gwahaniaethau hyn rhwng tref a thref, fe berthynai iddynt oll ryw gymaint o'r rhyddid hwnnw a oedd yn brif nodwedd tref yr oesau canol, a bu hir y brwydro rhwng Cymro a Norman am fwynhau cyfran o'r rhyddid hwn. Yn araf, trwy briodas a thrwy lacio'r deddfau, fe agorwyd y drws i'r Cymro ddyfod yn ddinesydd ar yr un tir a'r Sais, a chafodd gyfle unwaith eto i ymarfer â'r gelfyddyd anodd o'i lywodraethu ei hun. Un canlyniad oedd i'r castell a'r bwrch fyned bob un i'w ffordd ei hun. Torrwyd y cysylltiad agos a fu rhyngddynt trwy gydol yr oesau canol, ac ni bu'r trefydd yn hir cyn dangos mesur o'r ysbryd annibynnol Cymreig. Yn wir, teimlai Harri VIII nad diogel oedd parhau i ganiatáu cymaint o annibyniaeth i bob tref fechan, yn enwedig ar ôl ymryddhau ohoni o hualau'r castellwr, a rhoddwyd hawl iddo, yn neddf 1542, i ddiddymu siartrau'r trefydd lleiaf os dewisai. Ond prin yr oedd angen am hyn, wedi'r cwbl. Oherwydd y cyfnewidiad a oedd yn digwydd ym mywyd diwydiannol a masnachol y wlad, syrthiodd y trefydd a ddibynnai'n bennaf ar garsiwn y castell am eu bodolaeth i ddinodedd, a thyfodd eraill, yn enwedig y porthladdoedd, yn drefydd o gryn bwys.
Ychwanegai annibyniaeth y trefydd hyn at anhrefn llywodraeth y cyfnod, ac yr oedd ym mryd Harri'r VIII, yn ôl tystiolaeth George Owen, anfon allan Gomisiwn i ystyried safle'r trefydd lleiaf. Ymddengys, fodd bynnag, na wnaed hynny. "Sure I am," meddai hanesydd Sir Benfro, "there was nothing done, ffor there are in Wales yet a multitude of very mean villages scarce having six houses or cottages and yet are allowed for Corporations and Boroughs and in many of these they holde Plea of great Sommes unfit for such judges as are commonly in those places."[35]

Llyfrau.
YN ychwanegol at y llyfrau y cyfeirir atynt yn y bennod hon, cyhoeddodd Seebohm The Tribal System in Wales a Customary Acres and their Historical Significance. Erbyn hyn ca'r cyfraniad Celtaidd at ddatblygiad y Manor gryn sylw, fel y dengys llyfr Vinogradoff, The Growth of the Manor. Llyfr rhagorol, sydd mewn perygl o gael ei anghofio, yn ymdrin â'r pwnc hwn yw llyfr Hubert Lewis, The Ancient Laws of Wales. Argraffiad Aneurin Owen, The Ancient Laws and Institutes of Wales (dwy gyfrol) yw'r casgliad llawnaf a feddwn o'r cyfreithiau. Ceir cyfreithiau o lyfr Cyfnerth[36] mewn cyfrol hylaw, Welsh Medieval Law, wedi ei golygu gan Wade Evans (Rhydychen), a chyhoeddwyd copi o Lyfr Du'r Waun gan Timothy Lewis. Am gymorth i'w hastudio gweler: T. P. Ellis, Welsh Tribal Law and Customs in the Middle Ages; Jones and Rhys, The Welsh People: Dr. Lloyd, History of Wales, Pennod IX; a'r Glossary of the Welsh Laws, Timothy Lewis. Ar achlysur dathlu milflwyddiant Hywel Dda, cyhoeddodd Coleg Aberystwyth gyfrol arbennig o'r Aberystwyth Studies, yn cynnwys erthyglau ar wahanol agweddau'r cyfreithiau gan Dr. J. E. Lloyd, yr Athro T. A. Levi, yr Athro T. Gwynn Jones, Dr. Parry Williams, Mr. Timothy Lewis, a Mr. T. P. Ellis. Ar yr un achlysur cyhoeddodd Prifysgol Cymru lyfryn gan Dr. Lloyd dan yr enw, Hywel Dda, 928-1928, a hefyd cyhoeddodd Mr. Goronwy Edwards ei ddarlith ar Hywel Dda and the Welsh Law Books. Gweler hefyd erthygl Mr. T. P. Ellis, Hywel Dda, Codifier, yn Cymmrodorion Transactions 1926-7, ac eiddo Syr D. Brynmor Jones, Transactions, 1916-17.
Gan Dr. William Rees, yn ei lyfr, South Wales and the March, y ceir yr ymdrafodaeth lawnaf ar y newid o'r gyfundrefn Gymreig i'r gyfundrefn Normanaidd, a pharhad rhai o'r elfennau Cymreig. Ceir ymdriniaeth ar yr un pwnc yn llyfr A. N. Palmer, Ancient Tenures in North Wales and the Marches. Am waith llys y Goror, gweler: Skeel, The Council in the Marches of Wales, ac erthyglau yn y Cymmrodor, cyfrolau XII a XIII, gan y diweddar Farnwr Lewis a Syr D. Lleufer Thomas. Am feirniadaeth ar ei waith gweler George Owen, Pembrokeshire, III. Dr. E. A. Lewis yw'r prif awdurdod ar fywyd y trefydd, yn enwedig yn y gogledd. Gweler ei lyfr, The Medieval Boroughs of Snowdonia.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yng nghoedwigoedd Germani, meddai Montesquieu, y cafwyd y cyfan- soddiad Prydeinig, "Ce beau systèm a été trouvé dans les bois."
- ↑ Gweler Zimmern: The Greek Commonwealth, 48.
- ↑ Welsh Tribal Law and Custom, p. 10.
- ↑ Gweler ei erthygl ddiddorol ar "Hywel Dda, Codifier," yn Cymmrodorion Transactions, 1926-27. Gweler hefyd, Lloyd: Hywel Dda, a Goronwy Edwards: Hywel Dda and the Welsh Law Books.
- ↑ "English influence is manifest in the Law of Hywel," meddai Lloyd ar y llaw arall, I, 336. "Much more uncertain (than the influence of Roman Law,)" meddai Levi (Aber. Studies, x, 15).
- ↑ "There is general agreement that they include matter which is not incompatible with Welsh conditions in the 10th century," yw'r casgliad gochelgar y daw Mr. Goronwy Edwards iddo (Hywel Dda and Welsh Law Books, p. 21).
- ↑ Ballard: The English Borough in the 12th Century. Mary Bateson: Borough Customs.
- ↑ " Item. The burgesses of the aforesaid Court have trial by battle and fire and water to make the ordeal." Dyfyniad o Custumal Preston, a luniwyd yn y ddeuddegfed ganrif.
- ↑ Vinogradoff: Growth of the Manor, 9.
- ↑ Vinogradoff: op. cit., 18.
- ↑ The Ancient Laws and Institutes of Wales, II, 632.
- ↑ Pollock and Maitland: History of English Law, I, 6.
- ↑ Gweler tudalen 91.
- ↑ "Cyn no hynn a chyn dwyn coron Lundein a theyrn wyalen yr ynys honn o'r Sayson (Ancient Laws, I, 184).
- ↑ Lloyd: op. cit., 309.
- ↑ Lloyd: op. cit., 316. Nodyn 155.
- ↑ Rhys and Brynmor Jones: The Welsh People, 198. Note 1.
- ↑ Dyma'r rhestr fel ei ceir yng nghyfreithiau Gwynedd. Y mae ychydig o amrywiaeth yn rhestr swyddogion Dyfed a Gwent.
- ↑ Gweler Mary Bateson: Medieval England, p. 4.
- ↑ T. P. Ellis: Hywel Dda, Codifier. Cymru Trans. I. (1926—27), p. 30
- ↑ 15 Ancient Laws, I, 468
- ↑ Ancient Laws, I, 370—2
- ↑ Pollock and Maitland: op. cit., I, 548. Cred yr awduron hyn fod y dref (township) yn annibynnol, ac mai hyhi oedd yn gyfrifol am y tlodion. Arni hi, fel y gwyddys, y codir treth y tlodion. "The Township had many police duties to perform. It was an amerciable punishable unit."—Maitland: Select Pleas in Manorial Courts, XXXIX (Selden Society).
- ↑ Yma y ganed y Parch. Robert Ellis (Cynddelw)
- ↑ Montgomeryshire Collections, VI, 335
- ↑ Ancient Laws, I, 474-8.
- ↑ Gweler Palmer: A History of Ancient Tenures of Land in Wales and the Marches, Ch. IX. Ceir y term "rhaglaw" yn y Cyfreithiau Amryval, II, 50. 88
- ↑ Chirk Castle and Chirkland, 115. Awgryma Ellis mai datblygiad Normanaidd oedd swydd y Cais: Welsh Tribal Law and Custom, I, 310.
- ↑ Yr oedd y rhyddwystl (frank—pledge) yn un o drefniadau mwyaf nod— weddiadol yr Oesoedd Canol. Yr amcan oedd sicrhau heddwch a llonyddwch drwy orfodi pawb i fod yn perthyn i ryw dre ddegwm neu gilydd, neu i undeb o bersonau a adwaenid fel y tithing a thrwy gosbi y dre ddegwm a geid yn euog o adael rhywrai o'i mewn oedd heb fod yn aelod ohoni. Delid y dref ddegwm yn gyfrifol am ymddygiad ei deiliaid.
- ↑ Ivor Bowen: The Statutes of Wales, Introd., xxx. Ond awgryma Dr. Lloyd: mai amcan politicaidd oedd gan Edward I mewn golwg yn uniongyrchol. "While I do not deny," meddai, "that it has its bearing upon the question of the decay of the Welsh Legal system—and the encroachment of English procedure I believe that its interest is in the main political." Y Cymmrodor, XXV, p. 2.
- ↑ Pollock and Maitland: History of English Law, I, 199. 90
- ↑ Ar yr un pryd rhaid cofio ddarfod i Edward greu nifer o arglwyddiaethau newydd fel Rhuthyn a Dinbych
- ↑ Owen's Pembrokeshire, III, 37.
- ↑ C. A. Skeel: The Council in the Marches of Wales.
- ↑ George Owen: Pembrokeshire, III, 89.
- ↑ Anghytuna Wade Evans ar enwau fel eu ceir yn Aneurin Owen, ac awgryma Lyfr Gwynedd am y "Venedolian Code" Llyfr Blegywryd am y "Demetian," a Llyfr Cyfnerth am y "Gwentian." Ym Mhowys, mewn gwirionedd, y cynhyrchwyd Llyfr Cyfnerth.

VI
Bywyd Gwlad—Amaethu.
Gwyn ei fyd trwy fywyd draw,
A ddeil aradr a'i ddwylaw.
DENGYS y dystiolaeth hynaf a feddwn am fywyd gwledig Cymru fod y bywyd crwydrol, bugeiliol, erbyn hynny wedi rhoi ffordd i'r bywyd sefydlog. Parhai'r Cymro o hyd i fagu anifeiliaid, fel y gwna hyd heddiw, ond erbyn hynny yr oedd trin tir hefyd wedi dyfod yn fater o gryn bwysigrwydd. Y mae datblygiad y faerdref yn ddigon o braw o hyn. Faint o bwys a ellir ei roddi ar y dystiolaeth a geir yn hanes bywyd y meudwyaid Cymreig yng nghyfnod bore'r eglwys ni wyddom. Y mae cymaint o chwedloniaeth—heb arfer gair cryfach—yn gymhleth â hanes eu bywyd nes ei bod yn anodd tynnu'r llinell derfyn rhwng y gwir a'r gau. Yn y darlun a geir o Ddewi Sant gan Rygyfarch, dywedir y byddai ei fyneich[1] "yn gweithio yn ddygn, gyda llaw a throed, gan ddwyn yr iau ar eu hysgwyddau eu hunain. Defnyddir y fatog a'r hof yn ddifeth. Nid oes ofal arnynt am ychen gan fod pob un yn ych iddo ei hun." Ni ellir amau bod hwn ar y cyfan yn ddarlun cywir o amaethu cyntefig y meudwy a'r mynach.[2] Fel y dywedwyd eisoes, y dref oedd cnewyllyn y sefydliad cyntefig Cymreig. Yn hyn o beth nid oedd wahaniaeth rhwng y Cymry a chenhedloedd eraill, ond yn unig bod natur y dref yn wahanol. Y mae sail i gredu y bu i'r dref unwaith bwysig— rwydd llywodraethol, ond collodd hwnnw yn gynnar ac erbyn amser Hywel Dda cyfuna'r cymwd nifer o drefydd gyda'i gilydd i amcanion politicaidd a llywodraethol. Nid llywodraeth boliticaidd yn unig, ychwaith, oedd llywodraeth y cymwd, oherwydd yr oedd amaethyddiaeth y faerdref beth bynnag o dan arolygiaeth y llys.
Rhennid y boblogaeth yn ddau ddosbarth, sef y rhydd—y gwŷr bonheddig—a'r taeog. Yr oedd y trefydd rhydd ar wasgar yma ac acw ar hyd y cymwd, yn union fel yr oedd damwain, neu gyfleustra, wedi eu sefydlu gyntaf oll. Trigai'r gwŷr rhydd bawb ar wahân ar ei dreftadaeth ei hun. Daliai ei dyddyn ar bwys y berthynas, wir neu dybiedig, â'r sawl a ymsefydlodd gyntaf yn y rhan honno o'r wlad, ac arhosai disgynyddion y gŵr hwnnw ar y dreftadaeth am genedlaethau. Yn ddiweddarach daeth y tir a ddelid fel hyn i gael ei adnabod wrth yr enw gwely (Lladin, lectus) y neb a'i meddiannodd gyntaf. Byddai ambell un mwy anturiaethus na'i gilydd yn blino ar drin tir ei hynafiaid ac yn mynd i ffwrdd a sefydlu gwely newydd o'i eiddo ei hun. Dengys Stent Dinbych ym mha fodd y digwyddai hynny. Weithiau, byddai uchelgais milwrol pendefig yn ei arwain i ymsefydlu mewn lle newydd.[3] Hyn sy'n cyfrif am ddisgynyddion Ednyfed Fychan ym Môn ac Arfon. Bryd arall gordyfiant poblogaeth oedd yn cyfrif am y symud, fel gyda theulu Efelyw. Yn yr un modd ceir teulu Marchweithian, ar ôl bod yn trigiannu yn Nhrebrys am genedlaethau, yn symud i gymdogaeth Llanrwst ac yn sefydlu tri gwely yng Ngwydir a Garthmaenganol. Torrid y cysylltiad â'r hen gartref yn llwyr, ond ar yr un egwyddor y rhennid yr eiddo yn y cartref newydd. Perthynas â'r gŵr a sefydlasai'r gwely oedd yn rhoddi hawl ar gyfran o'r tir.
Yr hyn a geir yma yw yr hen gyfundrefn fugeiliol batriarchaidd yn gosod ei delw ar y gyfundrefn newydd amaethyddol. Fe barhaodd yr hen gyfundrefn hyd y cyfnod wedi goresgyniad Cymru yn 1282, fel y gellir gweled oddi wrth y cyfeiriadau mynych yng nghyfrifon y Normaniaid at y dull hwn o ddal tir yng ngogledd a deheudir Cymru. Yr oedd y cwbl o Ddyffryn Clwyd a'r wlad oddi amgylch yn welyau yn 1334. Yr oedd rhaniadau cyffelyb ym Mhowys yn 1309, er na ddefnyddir y gair gwely yno ond fe sonnir am gydranddalwyr. Dengys y Record of Carnarvon mai trefn gyffelyb oedd ym Môn, Arfon a Meirion yn 1352, a gwelir oddi wrth Lyfr Du Tyddewi y delid tir yr Esgob yn siroedd Penfro, Caerfyrddin ac Aberteifi ar yr un cynllun yn 1326.
Ychydig a ymyrrid â bywyd gwŷr y dosbarth rhydd, ac ar gyfrif eu safle cymerent ran amlwg yng ngweithrediadau llys y cymwd. Ar un adeg fe ymwelai'r pennaeth neu'r patriarch à hwy yn achlysurol; âi o dref i dref â'i swyddogion, a gosgorddlu hefyd, fe ddichon, gydag ef, a pharatoid gwest iddo ym mhob tref. Erbyn dyddiau Hywel, fodd bynnag, yr oedd yr ymweled hwn wedi peidio, ag eithrio yn unig ymweliad y penteulu ar ôl y Nadolig y deuai ef ar ei ymweliad,-ac ymddengys yr arhosai am naw noson, sef wythnos wyth niwrnod, yr hen wythnos Geltaidd. Yn lle'r croeso a ddar- perid ganddynt gynt, disgwylid i'r gwŷr rhydd dalu gwestfa gaeaf, sef pwn o'r blawd gorau, ych neu fuwch wedi ei lladd, hwch neu fochyn tair oed, hanerhob wedi ei halltu, ystenaid of ymenyn a saith drefa o ŷd, pob drefa i gynnwys pedair ysgub ar hugain. Ceir arwyddion o ddatblygiad pellach yn yr arfer o dalu punt-y bunt dwnc[4] fel y gelwid hi-yn lle'r talu â nwyddau. Telid hefyd bedair ceiniog ar hugain fel arian cwynos i weision yr arglwydd. Telid gwestfa'r gaeaf ar ŵyl yr Holl Saint a gwestfa'r haf, lle ceid un, ar ŵyl Fartin Sant.[5]
Ychydig a wyddom i sicrwydd am fywyd y gwŷr rhydd, ond gallwn dybied eu bod yn trin eu tir a'i bori fel y gwelent yn dda, yn treulio cryn lawer o'u hamser i hela yn y coedwigoedd oddi amgylch, ac yn achlysurol yn dilyn eu harglwydd i ryfel-yr oedd gwasanaeth milwrol am chwech wythnos bob blwyddyn yn orfod arnynt. Byddent hefyd yn ei gynorthwyo yng ngwaith y llys. Mawr fyddai'r rhialtwch pan symudent gyda'u hanifeiliaid i'r Hafotai galan Mai, ac nid llai y llawenydd, yng nghanol prydferthwch tawel yr Hydref, o gael dyfod yn ôl i'r Hendref cyn nos galan gaeaf.[6] Erys carolau Mai, y parheid i'w hysgrifennu hyd yn oed mor ddiweddar a'r ddeu- nawfed ganrif, fel adlais o'r hen arferion hyn, a thystia Pennant eu bod yn fyw yng nghymdogaeth yr Wyddfa yn ei amser ef.[7] Yr oedd tai y gwŷr rhydd yn agored bob amser, a rhoddid croeso i feirdd a thelynorion a chrwydriaid o bob math.

Y taeogion oedd y dosbarth arall yn y cymwd. Y mae'n bwysig cofio nad oedd y taeog yn gaethwas yn ystyr gyffredin y gair. Gwir bod yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, ddosbarth caeth, ond gwŷr yn rhwym wrth y tir oedd y taeogion. Yr oeddynt dan orfod i gyflawni dyletswyddau arbennig ynglŷn â'r tir, ond yr oedd ganddynt ar yr un pryd fesur helaeth o ryddid personol. Yr oedd dau ddosbarth o daeogion, sef yr alltudion a'r eilltion. Awgryma enw'r dosbarth cyntaf eu bod yn estroniaid, ac nid oes lawer o le i amau mai disgynyddion yr hen frodorion a orchfygwyd ac a ddarostyngwyd i wasanaeth gorfodol pan ddaeth y Cymro i'r wlad oedd y lleill. Awgrym y term "aillt" yw yr arferid eillio pennau'r gwŷr hyn i ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt â'r gwŷr rhydd.[8] Eillid y caethwas hefyd; ac y mae'r ffaith yr eillid pen y taeog yn dangos mai israddol oedd ei safle yntau.
Dywed y cyfreithiau fod ym mhob cymwd hanner cant of drefydd, sef deuddeng maenol a phedair tref ym mhob un, a dwy dref yn perthyn i'r arglwydd fel ei dir arbennig ei hun—tir cyffelyb i'r Demesne ar y fanor Seisnig. Enw'r naill oedd y Faerdref, lle gweithid dan lygad y maer, ac enw'r llall oedd yr Hafod—Hafod yr Arglwydd, enw a glywir eto mewn rhai ardaloedd—fe'i ceir, er enghraifft, yn Esclusham yn y ffurf Hafod y Wergir.[9]
Delid dwy o'r deuddeg maenol gan ddau swyddog y cymwd, y canghellor a'r maer. Yr oedd y maer yn swyddog pwysig yn y cymwd, ond ni restrir ef ymysg swyddogion y llys,[10] er yr ymddengys ei fod yn fath o is-faer neu is-stiward y Plas, oblegid dywedir mai dan ei ofal ef yr oedd y llys.[11] Sonnir hefyd am swyddog llai ei urddas a adwaenid fel maer y biswail. Yn rhestr swyddogion y llys yn ôl" defod ac arfer," hynny yw, cyn yr ad-drefniad a wnaed, fe ddichon, gan Hywel, efô oedd y trydydd swyddog, a dywedir yn bendant mai dan ei ofal ef a'r distain (steward) yr oedd y llys." Math o hwsmon oedd maer y biswail, a'i waith oedd gofalu bod y faerdref yn cael ei thrin yn y modd gorau.[12] O'r deng maenol eraill yn y cymwd, yr oedd chwech yn rhydd a phedair yn gaeth.[13]
Gellir yn hawdd roddi gormod o bwys ar ffigurau Hywel, ond y mae un peth yn glir, sef bod caeth a rhydd yn byw ar wahân. Dichon, fodd bynnag, mai'r peth a'n synna fwyaf yw nad ymddengys yr hyn a ofynnid oddi ar law'r taeog yn llawer trymach na'r hyn a ofynnid oddi ar y rhydd. Yr oedd raid i'r uchelwr dalu gwestfa a thalai'r taeog yr hyn a adwaenid fel dawn bwyd ddwy waith yn y flwyddyn. Yng Ngwynedd, cynhwysai dawn bwyd y gaeaf un mochyn teirblwydd, ystenaid o ymenyn, cerwyn o frag, un drefa o geirch, 26 torth, a dyn i gynnau tân y neuadd. Cynnwys dawn bwyd yr haf oedd llwdn teirblwydd, ystenaid o ymenyn, 26 torth, a chaws wedi ei wneud o un pryd o laeth gan bawb o fewn y dref.[14] Cyffelyb, gydag ychydig o wahaniaethau, oedd y gofynion yn Nyfed a Gwent. Yn ychwanegol at hyn, y taeog oedd yn gyfrifol am adeiladu neuadd i'r arglwydd a'r adeiladau angenrheidiol erail—pan symudai'r gŵr hwnnw ei gartref, a digwyddai hynny yn amlach nag y gwna heddiw. Disgwylid iddynt hefyd groesawu gweision y llys i'w tai—peth a gyfrifid ganddynt yn gryn orthrwm. Arferai'r hebogyddion a'r gwastrodion, y gwŷr meirch a'u ceffylau a'r helwyr a'u cŵn, a'r gweision bychain, fel y gelwid hwy—plant uchelwyr a oedd yn myned trwy gwrs o addysg filwrol yn y llys ac a ystyrrid fel math o gymdeithion i'r arglwydd fyned ar "gylch," hynny yw, ymweled â thai'r taeogion yn eu tro, a mynych y cwyno yn erbyn hyn, yn enwedig yn erbyn pranciau'r macwyaid.[15] Parhawyd i dalu swm penodol yn lle'r croeso hwn yn hir ar ôl diddymu'r arfer. Dywedir y byddai taeogion Meifod yn cadw un o'r macwyaid hyn a'i farch o wyl Fihangel hyd y Nadolig,[16] ond erbyn 1309 codid tâl o 6/8 yn lle hynny. Ceir taliadau cyffelyb yn Arglwyddiaeth y Waun yn 1398—9: Cylch gwastrodion yr arglwydd a'u meirch, 25/8; Treth weisson bach," 22/3; Treth "donergon (dyfrgŵn), 6/10.[17]
Tybid unwaith nad oedd dim o'r tir a ddelid gan y taeogion i'w ddal fel tir gwelyog, hynny yw, fel tir etifeddol, ond os yw tystiolaeth y Record of Caernarvon yn gywir, nid oedd sail i'r dyb honno, oherwydd dywedir yn y stent honno bod tir y taeogion mewn rhai lleoedd o natur tir gwelyog"— de natura de treweloghe<1ref>Record of Caernarvon, Yr oedd hyn yn Llysfaen, ceir enghraifft o chwech yn dal tir gyda'i gilydd yn y Gest. (p. 40), ond anaml y ceir mwy na thri. Ellis, I, 160.</ref>—a cheir enghraifft o gynifer ac wyth taeog yn dal tir gyda'i gilydd yn union fel pe baent yn wŷr rhydd. Daliai rhai o'r taeogion dir a adwaenid wrth yr enw tir cyfrif. Nid tir etifeddol mo hwn; gosodid ef a chedwid cyfrif ohono gan yr arglwydd a'i swyddogion, ond ychydig a ymyrrid â'r tenantiaid ar ôl ei osod iddynt. Y ddau ddosbarth hyn oedd tenantiaid y maenorydd caeth y sonia Hywel amdanynt. Yr oedd ganddynt gryn ryddid ynglŷn â thrin y tir, ac yn hyn o beth yr oeddynt yn wahanol iawn i daeogion y faerdref. Edrychai'r arglwydd ar y faerdref fel ei dir ei hun mewn ystyr arbennig. Dyma ei dir bwrdd,[18] a gwaith y taeogion oedd ei drin. Fel rheol, yr oedd y faerdref yng nghymdogaeth y llys, lle byddai maer y biswail yn arolygu hau a chynhaeafa'r cnydau.
Ceir yn y cyfreithiau gryn lawer o fanylion ynglŷn â thrin y tir. Tybia rhai mai ar y faerdref yn unig, ymysg y taeogion, y ceid y gyfundrefn a ddisgrifir gan Hywel, ond anodd credu nad oedd cyfundrefn debyg yn bod ymysg yr uchelwyr hefyd; hynny yw, pan fyddai galw am gyd—aredig neu ryw orchwyl o'r fath.[19]
Byddai gŵr, ac weithiau ddau, yn dal yr aradr ac un arall yn cerdded yn wysg ei gefn yn galw ar yr ychen a'u symbylu ymlaen o dro i dro â phicell neu swmbwl. Prif gymhwyster y gŵr hwn—y geilwad, fel y gelwid ef—oedd meddu llais da, oblegid canu i'r ychen a wnai, a dichon y ceir ym myrdwn ambell gân gwerin rai o'r nodau a genid ganddo. Cyfrifid bod gwaith diwrnod cyfan o aredig yn cyfateb i erw o dir. Yr oedd y tir eisoes wedi ei fesur â swmbwl y gyrrwr. Nid yr un un oedd hyd y wialen ym mhob rhan o Gymru,[20] ac nid yr un un oedd y dull o fesur, ac achosodd hynny wahaniaeth ym maint yr erwau. Yng Ngwynedd, daliai'r aradrwr y wialen, a oedd yr un hyd â'r iau hir, yn ei law a mesur bob ochr i gorn yr aradr. Yng Ngwent, ar y llaw arall, ni ddywedir beth oedd y cysylltiad rhwng yr iau a gwialen Hywel a fesurai ddeunaw troedfedd. Deuddeg troedfedd oedd hyd y swmbwl yng Ngwynedd, a'r mesur hwn oedd sail y cyfar yn y dywysog— aeth honno. Ym Mhowys, y rhwd wyth llath—mesur a ddefnyddir o hyd i fesur gwrych a rhesi tatws—oedd sylfaen yr erw. Wedi mesur allan rwd o led, mesurid hyd y gŵys, a oedd, fel rheol, yn ddeugain gwaith y lled, sef 320 llath. Yna troid y darn tir a fesurasid—320 llath o hyd ac wyth o led—a chael felly rwd ysgwar, neu gyfar, fel y gelwid ef ym Mhowys, a chyfar bach ym Mrycheiniog.[21] Pedwar o'r rhain ochr yn ochr a gyfrifid yn acr yn Lloegr, ac er nad oes enw neilltuol yn y cyfreithiau ar y maint yma o dir, y mae'n amlwg mai hwn oedd sylfaen tir—ddaliadaeth yng Nghymru.[22] Wedi aredig nifer o e: wau gyda'i gilydd yn y modd hwn, eid ati i'w rhannu, a rhydd y cyfreithiau inni gipdrem ddiddorol ar y gyfundrefn

y byddid yn cydaredig wrthi. Disgwylid i bawb ddwyn ei gyfran, ych neu swch, neu beth bynnag a fyddai'n angenrheidiol. I'r amaeth y perthynai'r erw gyntaf, yr ail i'r gŵr a wnaeth y swch—y gof,—y drydedd i berchennog yr ych a oedd ar ochr y gwellt, y bedwaredd i berchennog yr ych ar ochr y rhych, y bumed i'r gyrrwr, ac yr oedd erw hefyd i'r gŵr a wnaeth yr aradr, ac felly câi pawb ei gyfran.[23]
Y canlyniad oedd bod y tir âr, nid yn gryno gyda'i gilydd fel y mae heddiw, ond ar wasgar yma ac acw ar hyd a lled y dref neu'r plwyf. Y mae eto yng Nghymru lawer hen fferm a'i thir beth yma a pheth acw, a cheir mynych gyfeiriad at y nodwedd hon mewn hen weithredoedd tir.[24]
Yn y flwyddyn 1390 gwnaed ymchwiliad i eiddo Dafydd o'r Hendwr yn Edeirnion. Yr oedd Dafydd yn arglwydd ar hanner manor yr Hendwr a chanddo denantiaid dano, ond sylwer fel yr oedd ei dir ef yn gymysg â thiroedd eraill 24 o gyfeiriau o dir âr ac wyth cyfar o weirdir o fewn y Faerdref uchaf dyma'r tir bwrdd, y mae'n debyg; un gafael o dir o fewn y Faerdref uchaf; pedwar gafael o dir yn yr un dref a ddelid gan ei denantiaid; gafael a hanner yn yr un dref o dir gŵydd; hanner un ffridd, a elwir Gwernyniog—cyfar o dir gwyllt a dau o dir gŵydd; un tŷ ym Mhentre Felin; 1½ gafael o dir gŵydd yn nhref Llandrillo; un gafael yn nhref Dinan; 4 gafael o dir gwydd yn nhref Franas; 3½ gafael yn nhref Dyfos; 5 yn nhref Gwnodl; 5 cyfar o dir gŵydd yn Ninan a Gwnodl; hanner un gafael, pedwerydd rhan un arall, a chweched rhan un arall o dir rhydd yn nhref Garthiaen, ac un gafael a hanner a nawfed rhan gafael o dir rhydd yn nhref Pennant. Lled wasgarog, fel y gwelir, oedd ystad Dafydd: yr oedd ganddo ryw gyfran ym mhob tref ddegwm yn y plwyf.[25]
Yn y Coleman Deeds ceir amryw ddisgrifiadau o dir âr yn gymysg a thir pobl eraill. Er enghraifft, mewn gweithred ddyddiedig yr unfed ar bymtheg o Awst, 1597, ceir y manylion a ganlyn am ystad neilltuol yn Llansantffraid ym Mechain:
(1) Yr erw uwchlaw'r ffordd (2 acr). Ymestyn rhwng tir John Owen Vaughan, Ysw., a'r briffordd.
(2) 5 seliones o dir ynghanol y Glebe (enw ar erwau mewn gweithredoedd Lladin yw selion).
(3) Yr erw hir (2 acr). Cyrhaedda o dir Dafydd ap Llowarch i dir Wiliam ap Lewis.
(4) 3 Seliones rhwng y Glebe a thir Howell ab Edward.
(5) 2 Seliones rhwng y Glebe a thir John Owen Vaughan.
Nid rhaid i'r cyfarwydd ond ceisio olrhain tir yr eglwys mewn unrhyw blwyf bron na wêl olion yr hen gyfundrefn dir.[26] Er enghraifft, yn agos i eglwys Llanynys yn Nyffryn Clwyd y mae dau gae, y naill wedi ei rannu yn chwe rhan a'r llall yn naw rhan, a phob rhan yn cael ei ddal ar wahân.[27]
Ni bu'r tir tro, fodd bynnag, erioed mor bwysig yng Nghymru ag yn Lloegr, ac nid ar fara'n unig y byddai'r Cymry gynt yn byw. Yr oedd rhan helaeth o'r tir yn dir gwair. Nid wrth yr erw y mesurid y tir hwn—mesur tir âr oedd yr erw—ond yn hytrach wrth yr amser a gymerid i dorri'r gwair arno. Ceir enghreifftiau mynych o ddefnyddio'r termau gwaith gŵr, gwaith deuwr, etc., fel enwau ar ddolydd gwair. Yr oedd dolydd da yn brin iawn, a bron yn ddieithriad telid uwch rhent amdanynt nag am y tir âr. Yn Ystrad Owen, yn Arglwyddiaeth Dinbych, 8d. yr acr oedd rhent y tir âr, a'r gweirgloddiau yn 1/6.[28] Ym Mhowys ceir enghraifft o 100 erw o dir âr a dim ond 10/2 o rent arnynt—ychydig dros 1d. yr erw—a'r rhent ar y weirglodd yn 8d. yr acr.[29]
Heblaw'r tir âr a'r tir gwair, yr oedd hefyd dir gwyllt[30]—tir gŵydd neu'r borfa gyffredin, fel y gelwid ef weithiau. Yr oedd rhan helaeth o'r tir ym mhob cymwd yn anial neu dan goed, ac yr oedd cael tir o'r fath o bwys neilltuol i fywyd y cymwd. Yma y porai'r anifeiliaid ym misoedd yr haf pan dyfai ŷd a gwair mewn maes a gweirglodd. Yma y pesgid y moch ar fês a chnau'r ffawydd; troid hwy i'r coedydd yn niwedd Awst—tuag adeg gŵyl Ieuan y Moch—a gadewid hwy yno hyd ganol Ionawr. Yma y codid mawn a chasglu tanwydd yn nechrau'r haf ac y cymynid coed i adeiladu'r tai a'r beudai, ac i wneud dodrefn a llestri ac offer. Yma hefyd y llochesai'r anifeiliaid gwylltion—yr hydd, a'r afr, a'r ysgyfarnog—y dibynnid cymaint arnynt fel moddion cynhaliaeth. Dengys yr ysgrif y cyfeiriwyd ati eisoes[31] fod cyfar o dir gwyllt a dau gyfar o dir gŵydd yn werth 2/4 yn y flwyddyn, pan nad oedd 24 cyfar o dir âr ac wyth cyfar o dir gwair yn werth, mewn arian, ond 13/4, ond bod y gwasanaeth arferol i'w roddi ar ben hynny. Ni'n synnir, fodd bynnag, gan y pris a roddid ar y tir gwyllt, oherwydd yr oedd tir o'r fath yn hollol anhepgor.
Yn ôl trefniant Hywel,[32] ceuid y tir âr a'r tir gwair i mewn, yr olaf ar yr ail ar bymtheg o Fawrth, a pharhai yn gaeedig hyd y Galan gaeaf, pryd y tynnid i lawr y ceuwydd a blethasid yn wrych dros dro. Gwneid gwrych y gadlas o gangau gwydd wedi eu plethu yn driphlyg—gyda llidiart wedi ei heilio o'r un defnydd—a thebyg yw mai â'r un peth y gwneid gwrychoedd tir y cnydau. Yn wir, â gwrych o'r fath yr amgylchid rhai o drefydd yr oesau canol.[33]
Ni wyddom gymaint ag a garem am ansawdd amaethyddiaeth y cyfnod. Ceir cyfeiriadau gan Gerallt[34] at y cnydau a godid; ychydig o wenith a godid yn unman yng Nghymru ond codid cryn lawer o geirch. Sonnir yn y cyfreithiau am wenith, haidd, ceirch, gwair, bresych, llin, a chenin, ac am berllannau a gerddi (er y dywed Gerallt nad oedd rai yn ei ddydd ef). Yn y gwanwyn y byddid yn aredig ar gyfer ceirch ac yn y gaeaf ar gyfer gwenith. Awgryma'r term "mancorn," a geir yn lled gyffredin, y tyfid rhyg hefyd. Cadarnheir hyn yn bendant gan ysgrifenwyr fel Leland, a ymwelodd â Chymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond nid oes sôn am ryg yn Llyfr Du Tyddewi. Dywed George Owen mai'r arfer ym Mhenfro fyddai codi ceirch am saith neu wyth mlynedd ar yr un maes ac yna ei adael yn borfa am gyfnod cyffelyb er y gellid yn hawdd ddefnyddio'r tir at godi gwenith neu ryg.[35] Yn ôl yr Extent of Anglesey (1294), tyfid yno ffa a phys yn ogystal a rhyg, gwenith, ceirch a haidd. [36]
Ar y gorau, gwael oedd y cynnyrch. Ar brif faenorydd Lloegr, ni cheid ar gyfartaledd fwy na rhyw 9.36 bwysel o wenith, 14.32 o haidd, a 10.56 o geirch oddi ar bob acr.[37] Cyfrifir y ceir heddiw ar gyfartaledd gymaint deirgwaith a throsodd o wenith, gymaint ddwywaith a hanner bron o haidd, a bron gymaint bedair gwaith o geirch. Yn ôl ystadegau Llyfr Du Tyddewi, heuid o saith i naw bwysel o geirch ar bob erw, pedwar i wyth o haidd a dau i bedwar o wenith, a disgwylid cael cymaint deirgwaith o gynnyrch, ond ni ddigwyddai hynny bob amser. Codid amryw fathau o wenith a cheirch—gwenith bras (cwrs), gwenith coliog a gwenith ysgafn, a cheirch mawr a cheirch ysgafn. Heuid y gwenith cwrs yn yr Hydref a'r ysgafn yn y Gwanwyn.[38]

Dichon fod prisiau yn dangos yn eglurach na dim arall faint o werth a roddid ar wahanol bethau yn yr oesau canol. Yr oedd ceffyl gwedd yn werth 5/- pan fyddai ar ei orau yn dair oed[39] (8/- yn Nyfed), ond yr oedd ceffyl cario (negyn) yn werth 10/- —awgrym o'r pwysigrwydd o gael march hoenus i hela ac i ryfela pan fyddai angen, ac yn anad dim i gario pynnau ar hyd y ffyrdd anhygyrch. Yr oedd buwch yn werth 5/- pan fwriai ei phumed llo, ond collai yn raddol yn ei gwerth ar ôl hynny. Ieuid yr ychen yn dair oed, pryd y byddent yn werth 5/-, a'u lladd yn chwech oed. Yr oedd defaid a geifr yn werth rhwng ceiniog a phedair ceiniog yr un, a mochyn rhwng ceiniog a 2/6. Yr oedd ci bugail yn werth cymaint ag ych, yn enwedig os gellid ei ddysgu i fyned o flaen y ddeadell yn y bore a'u dilyn yn ôl fin hwyr. (Yn ystod y dydd porai'r gwartheg, yn ogystal a'r defaid, ar y cytir, a gwaith y bugail a'i gi oedd edrych ar eu holau.[40]) Cyfeirir hefyd at gŵn hela, fel y milgi ac eraill. Yr aderyn glas a ddefnyddid i hela adar fel rheol, ac yr oedd ei nyth yn werth £1. Nid oedd y llymystyn, ar y llaw arall, yn werth mwy na 2/-. Yr oedd haid o wenyn—adar paradwys, fel y gelwid hwy—yn werth rhwng 4d. a 2/-. Defnyddid y mêl i felysu bwydydd a diodydd—nid oedd siwgr i'w gael—a gwneid canhwyllau o'r cwyr. Amrywiai ŷd yn fawr yn ei bris o flwyddyn i flwyddyn. Costiai gynifer o sylltau un flwyddyn ag o geiniogau y flwyddyn cynt.[41]
Yn ychwanegol at y gwasanaeth a ofynnid oddi ar law'r taeogion, fe berthynai i'w safle israddol anfanteision cymdeithasol hefyd. Pan fyddai taeog ar y faerdref farw, rhoddid ei dir at dir y faerdref, ac ail-rennid y cwbl fel y gwelai'r arglwydd yn dda. Nid oes le i amau nad ystyrid cais yr etifedd am gyfran o'r tir, er na chai gyfran arbennig ei dad. Yr oedd y drefn ymhlith taeogion y tir gwelyog yn wahanol i'r lleill, oherwydd yr oedd ganddynt hwy fath ar hawl etifedd. Arfer gwlad oedd unig ddiogelwch y taeog rhag rhaib anniwall yr arglwydd, ond dichon fod i arfer gwlad fwy o rym nag a dybir weithiau.
Cyn y gallai'r taeog etifeddu'r eiddo, fodd bynnag, yr oedd raid iddo dalu ebediw. Tâl oedd hwn am gael esgyn i safle feddiannol nad oedd ynddi cynt. Telid amobr hefyd ar briodas merch; ond y mae'r ffaith y telid y dirwyon hyn gan yr uchelwyr hefyd yn dangos nad oedd gradd taeog agos cyn ised ag y tybir weithiau. Ni chaniateid, fodd bynnag, i blentyn taeog gymryd swydd bardd neu offeiriad neu of heb dalu dirwy i'r arglwydd am gael gadael ei wasanaeth.[42]
Bu newid ar yr hen gyfundrefn pan ddaeth y Norman i lywio bywyd y wlad, er ei bod yn amlwg bod ffiwdaliaeth wedi dechrau datblygu yng Nghymru cyn eu dyfod hwy. Ond er gwaethaf y newid, mynnai'r gyfundrefn faenoraidd ddangos o ba radd yr oedd ei gwreiddyn.
Yr oedd yn Arglwyddiaeth Dinbych yn 1334 bedair prif Manor—Ystrad Oweyn, Cilffwrn, Dinbych a Dinorben Fawr.[43] Dywed yr hanes i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, greu Manor Cilffwrn o dir siêd yn nhref Ystrad Canon a darn o dir a gaed. yn gyfnewid am dir rhai o'r tenantiaid hynny y fforffetiwyd eu hawl; mewn gair, creadigaeth Normanaidd oedd Manor Cilffwrn, fel y ceir hi yn Stent Dinbych. Yr oedd yr Ystrad Oweyn, ar y llaw arall, yn hen Faerdref Gymreig, a'r cwbl a wnaed yno oedd symud rhai o'r tenantiaid Cymreig er mwyn gwneud lle i'r tenantiaid Normanaidd. Yn Ninorben, yn yr un modd, ceir yr hen faerdref Gymreig yn datblygu'n naturiol yn fanor Normanaidd. Yn amser y gyfundrefn Gymreig, arferai'r taeogion weithio i arglwydd Dinorben, ond erbyn amser Lacy talent 35/10 yn y flwyddyn yn lle'r gwasanaeth, hynny yw, talent rent yn lle rhoi eu llafur, ac wrth wneud hynny, daethant yn ymarferol yn wŷr rhydd. Yr oedd yr arferiad hwn wedi dyfod erbyn hynny yn lled gyffredin, a bu'n gymorth mawr tuag at ryddhau'r taeog a'r filain fel ei gilydd.
Dengys yr hanes yr un mor eglur sut y daeth yr arglwydd Normanaidd yn araf, ond yn sicr, i feddiannu'r tir gwyllt a oedd yn rhan hanfodol o diriogaeth pob tref. Yn ôl cyfraith Hywel, ymddengys mai eiddo'r cymwd oedd y tir gwyllt,[44] ac nad oedd gwahaniaeth rhwng uchelwr a thaeog ynglŷn â'r borfa gyffredin heblaw, fe ddichon, fod gan y naill fwy o anifeiliaid yn pori arni na'r llall. Er gwaethaf hyn, fe hawl- iai'r arglwydd Normanaidd mai ei eiddo ef oedd tir gwyllt y cymwd, a gellir olrhain y modd y cododd dâl ar ei denantiaid am ei ddefnyddio.
Hawliai tenantiaid Llewenni ac Ystrad Canon fod dros 900 o acrau o dir gwyllt o'r fath yn perthyn i'w daliadau hwy yn y trefydd hyn; gorfu i larll Lacy gydnabod hynny, a methodd â chael ganddynt dalu rhent iddo. Mewn lleoedd eraill, bodlonai ar godi symiau bychain—5/- a 6/8-fel cydnabyddiaeth o'i hawl; ond mewn lleoedd eraill bu raid i'r tenantiaid dalu'n ddrud am y borfa a oedd ganddynt. Telid 17/1 yn Hendregyda, a 55/- ym Modrochwyn.[45] Mewn rhai lleoedd yr oedd Lacy eisoes wedi cau i mewn goedwigoedd a phorfa gyffredin, am y rheswm, fe ddichon, eu bod wedi dyfod i'w ddwylo yn siêd, a maentumiai mai ei eiddo ef oedd y cyfryw diroedd mwyach.
Perthynai i Gimmerch tua 9,000 o acrau o dir cyffredin,— 3,000 yn nwylo'r uchelwyr a 6,000 yn nwylo'r taeogion; ond erbyn 1334 yr oedd Lacy wedi llwyddo i gael 4,700 i'w ddwylo ei hun, a gadael 1,730 i'r uchelwyr, a 2,800 i'r taeogion. Yn Isdulas, yr oedd gynt 9,900 o acrau ym meddiant uchelwyr a 3,200 yn nwylo taeogion, ond erbyn 1334 yr oedd 4,900 ohonynt yn nwylo'r arglwydd.[46]
Dengys astudiaeth o'r gyfundrefn amaethyddol y modd yr ymwthiodd y gyfundrefn Seisnig i mewn i ddyffryn Clwyd. Un nodwedd amlwg ar y gyfundrefn honno yn Lloegr oedd y rhennid y tir yn dair adran, dwy ohonynt dan gnwd bob blwyddyn, a'r llall yn segur a'i thrin fel braenar haf. Fel rheol, heuid gwenith yn yr hydref, yna haidd neu geirch yn y gwanwyn ar ôl medi'r gwenith, a gadael y tir yn fraenar y drydedd flwyddyn. Cymerid yr holl gaeau yn eu tro, a rhoddid gorffwys iddynt un flwyddyn o bob tair. Yn Ninorben ceir y tir àr wedi ei rannu yn dair adran, 67 acr yn un, 64 yn yr ail a 60 yn y drydedd. Yng Nghilffwrn, ceir 69, 71 a 101 acr, ond yn Ystrad Canon, ymddengys mai dau gae oedd y rhaniad.[47] Digwyddai felly ar y Manor Seisnig weithiau, a bu dadl ymysg amaethwyr y cyfnod parthed rhagoriaeth y naill ddull ar y llall. Yr oedd yng Nghilffwrn hefyd gae a elwid y cae gwenith (Whitfield), a oedd, fe ddichon, yn barhad o'r hen gyfundrefn Gymreig. Yr arfer Gymreig, y mae'n debyg, ydoedd aredig un cae flwyddyn ar ôl blwyddyn nes pallai ei ffrwyth, ac yna gymryd rhan arall o'r tir diffaith a'i drin yn yr un modd. Y mae yn llyfr George Owen ar sir Benfro gyfeiriadau at gyfundrefn amaethu yn y sir honno, ond nid yw'n eglur ai'r gyfundrefn un cae oedd honno ai peidio.
Gadawyd yr hen gyfundrefn Gymreig yn llonydd yn yr adrannau hynny lle na ellid dwyn i mewn arferion Seisnig. Yr oedd cryn wahaniaeth yn hyn o beth rhwng Cimmerch, a oedd yn agored i ddylanwadau Seisnig, ac Is neu Uwch Dulas. Cymerwyd mantais ar yr hen arfer Gymreig i godi yr hyn a hawliai'r arglwydd oddi ar ei denantiaid, a cheir profion ddigon o gyndynrwydd yr hen gyfundrefn. Hawlid y bunt dwnc yn lle'r hen westfa Gymreig o hyd oddi ar denantiaid caeth a rhydd fel ei gilydd, gydag ychydig iawn o eithriadau. Hawlid rhent arall—y Pastus—yn lle'r dofraeth; yr oedd hon, fel rheol, yn swllt y Nadolig a 6d. ar ben pob un o'r pedwar tymor. Telid rhent fwyd gan y taeogion yn lle'r dawn bwyd gynt. Byddai hefyd alw arnynt i weithio, yn enwedig yn yr Hydref, neu dalu swm penodedig yn lle hynny. Wyth a deugain oedd rhif taeogion Is Aled, a thalent 18/- yn lle gwaith yr Hydref. Yn Uwch Dulas talai 44 ohonynt 13/10 yn lle III o ddyddiau gwaith a oedd yn orfodol arnynt. Talent hefyd dreth Fforest ac ebediw ac amobr fel cynt.[48]
Cyffelyb oedd y datblygiad a fu yn neheudir Cymru.[49] Ceid y Fanor Seisnig a chastell yn ganolbwynt iddi—castell a berthynai fel rheol i un o arglwyddi'r cyffindir—ac yno y gwelid y gyfundrefn Normanaidd yn ei rhwysg. Saeson oedd nifer o'r tenantiaid, ac yr oedd rhai yn wŷr rhydd—ni ddeuent i Gymru heb gael mwy o ryddid nag a gaent ar fanorydd Lloegr. Ar y cyrrau, yn y mynyddoedd, yr arhosodd y gyfundrefn Gymreig, er bod ychydig newid wedi bod arni i ateb amcanion y Norman, fel y gwnaed yn Nyffryn Clwyd. Rhennid y manor, felly, yn ddwy adran—yr adran Seisnig yng nghymdogaeth y castell a'r llys, a'r adran Gymreig yn yr ucheldiroedd. Er enghraifft, yn arglwyddiaeth Croesoswallt ffurfiai'r trefydd degwm yn y pen Cymreig y rhan fwyaf mynyddig o'r arglwyddiaeth—adran ar ei phen ei hun. Cai trigolion yr adran honno y fraint o fynd â'u da i dref Groesoswallt i'w gwerthu ar ddyddiau'r pedair ffair blynyddol. Ceiniog am bob ffair oedd yr unig dâl a godid arnynt, ac am y rheswm hwn fe'u hadwaenid yn y dref fel y bwrdeis grot. Fel rheol, fe gyfeirir at y naill adran fel yr Englishry a'r llall fel y Welshry.[50]
Dengys yr Anglesey Extent, 1294, i'r un peth ddigwydd ym Môn. Ceir rhestr hir o drefydd (villa)—neu bentrefydd, ys dywedwn ni heddiw—fel Pentraeth a Mathafarn Eithaf, yng nghymwd Tindaethwy, bob un yn talu rhent penodol yn ogystal â swm arbennig yn lle'r westfa gynt. Nid oes sôn am wasanaeth llys ond mewn pedair o'r trefydd hyn yn unig, ac y mae'n deg casglu bod mwyafrif mawr tenantiaid Tindaethwy yn cynrychioli'r hen uchelwyr Cymreig ac yn cael edrych arnynt fel tenantiaid rhydd. Cyffelyb oedd safle pethau yn Nhalybolion, ond yma ceir rhai cyfeiriadau pendant at y ffaith eu bod yn denantiaid rhydd—yn nhref Llywarch, er enghraifft. Dro arall, gwahaniaethir rhwng y caeth a'r rhydd yn yr un dref, fel yng Nghemlyn, lle y dywedir bod tenantiaid rhydd yn talu 19/11, a'r taeogion yn darparu lluniaeth—dawn bwyd y cyfreithiau yn ogystal a rhoi gwasanaeth, y cwbl gyda'i gilydd yn werth 33/8. Dyma'r gyfundrefn Gymreig fel yr oedd yn ymarferol yn nyddiau Hywel. Ceir hefyd fanylion parthed nifer o fanorydd yn Llanfaes, Aberffraw, Cemaes, Penrhos a Rhosfair. Fel y dengys Lloyd (History of Wales, 231—2), dyma brif leoedd y cymydau, ac nid afresymol tybied. mai'r hyn a wnaeth Edward oedd troi yr hen faerdrefi yn fanorydd fel y gwnaed mewn lleoedd eraill yng Nghymru.
Ni ellid cael manor mwy cryno na Manor Cemaes, fel y disgrifir hi yn y Stent, a gellid dangos mor debyg oedd i ddwsinau o fanorydd Normanaidd Lloegr. Dyma'r manylion a roddir amdani yn y Stent:
| Dominicums[51] (Maerdref) |
4 Carucate[52] o dir âr, 30/- y carucate | £6 | |
| 4 Gweirglodd | £1 | ||
| Gardd | 40d | ||
| Molendinum | Melin a falai 80 crannog[53] o flawd ceirch am 2/- y crannog | £8 | |
| Piscaria | Pysgodle | 3/4 | |
| Liberi tenentes | Rhent tenantiaid rhydd | £5 6 11 | |
| Customarii | Llafur a gwasanaeth taeogion | £13 14 0 | |
| Curiae | Achosion y Llys | £2 0 0 | |
| Cyfanswm | £36 7 7 |
Rhed y disgrifiad uchod ar linellau'r ymholiadau fel y rhowd hwy i lawr gan Fleta ac fel y defnyddid hwy yn yr Extenta Manerii pan wnaed yr Hundred Rolls yn Lloegr.
Yn yr hanes am Aberffraw a Phenrhos, ceir manylion pellach am natur y gwasanaeth gorfodol na cheir ond crybwylliad amdano yn unig yn yr hanes am Gemaes. Disgwylid i'r pymtheg taeog a oedd yn byw ar Fanor Aberffraw, hynny yw, yn y faerdref, roddi. tri chant o ddyddiau gwasanaeth, sef ugain niwrnod yr un, yn nhymor y cynhaeaf. Yr oedd taeogion y cantref, a drigai y tu allan i'r faerdref, i roddi pedwar ugain niwrnod o waith. Disgwylid i'r taeogion roddi trigain niwrnod hefyd i lyfnu, a dyfod â'u ceffylau gyda hwy. Ym Mhenrhos, disgwylid i bob taeog weithio wyth niwrnod o bob un o'r tri mis yn nhymor cynhaeaf. Cyfrifid bod llafur taeog am ddiwrnod yn werth Ic. Yr oedd yno hefyd dri ar ddeg o cotellari (bythynwyr), a roddai wasanaeth am dridiau yn yr hydref. Ychydig o dir, o'i gymharu â'r taeog cyffredin, oedd gan y cotellarius. Yr oedd y taeogion hefyd i ofalu am ugain o geffylau[54] i lyfnu yn y gaeaf, ond nid oedd raid iddynt fyned at y gwaith hwnnw eu hunain. Yn y gwanwyn, ar y llaw arall, yr oedd raid iddynt anfon ceffylau a dynion i weithio. Yng nghymwd Menai, disgwylid iddynt lyfnu a theilo, a medi'r ŷd a'i gario, a hefyd gasglu tanwydd i'r arglwydd.[55] Ni ymddiriedid gwaith hau[56] i'r taeogion, a gwneid y gwaith hwnnw gan y maer, neu'r beili, fel y galwai'r Saeson ef.

Ceir manylion tebyg am diriogaethau Esgob Tyddewi yn y Llyfr Du. Yn adrannau mwyaf anghysbell yr esgobaeth, megis Llanddewibrefi, Blaenpennal, Nantcwnlle a mannau eraill, fe barhaodd yr hen gyfundrefn Gymreig heb ryw lawer o newid arni. Er y sonnir am Landdewibrefi fel bwrdeisdref, nid oedd mewn gwirionedd namyn pentref manoraidd cyffredin. Yr oedd gan yr arglwydd dŷ yno o'i eiddo ei hun, a rentid am 2/- yn y flwyddyn. Yr oedd ganddo hefyd 14 o denantiaid (burgesses in gross) a dalai swllt yr un bob blwyddyn. Yr oedd yno ffair flynyddol, a barhai am dridiau, a marchnad wythnosol; a cheid elw oddi wrth y naill a'r llall o 20/- y flwyddyn. Ceid 2/- o elw hefyd oddi wrth y llys. Y mae delw bwrch ar bob un o'r nodweddion hyn; ond ar y llaw arall, dengys y gwasanaeth y gorfyddid i'r trigolion ei roddi, nad oeddynt o lawer wedi ymryddhau oddi wrth orthrwm arferol y manor. Ceir son hefyd am wlad (patria) Llanddewibrefi. Nid oedd gan yr arglwydd ddim yno bron ond melin a choedwig. Dygai'r olaf beth elw iddo am fod ynddi waith mwyn-a thai coed hefyd unwaith-yn ogystal ag enillion Llys y Fforest.[57] Yr oedd yr holl denantiaid, fodd bynnag, yn wŷr rhydd, er bod gorfod arnynt roddi rhyw gymaint o wasanaeth yn ogystal â thalu ebediw ("heriot" neu "relief" fel y gelwid ef gan y Norman) ac amobr (leyrwite), fel y gwnaent yn ôl cyfreithiau Hywel.
Yr oedd cryn amrywiaeth ym manorydd Tyddewi o ran maint ac ansawdd. Cynhwysai Manor Brawdy,[58] er enghraifft, nifer o drefydd cyfagos, ac yn un ohonynt yr oedd nifer o denantiaid (copyholders) yn talu amobr. Nid oedd fawr wahaniaeth rhwng y rhain a thenantiaid trefydd eraill ar wahân i'r amobr. Dywedir bod mewn lle arall nifer o denantiaid rhydd a dalai rent yn unig. Fe welir, felly, mai lled annelwig oedd y manorydd hyn.
Yng nghastell Poncius a Newtown ceir datblygiad pellach[59]. Ceir yno dreftadaeth (Demesne) a thri dosbarth o denantiaid: (1) Tenantiaid trwy weithred; (2) Gabularii, a dalai rent ac a roddai rywfaint o wasanaeth hefyd (defnyddir y term gabularius—gafol-man yn Saesneg fel rheol am denant wedi ymryddhau oddi wrth bob gwasanaeth ac a dalai rent yn unig); (3) Bythynwyr, a dalai lai o rent ac a roddai ychydig wasanaeth. Yr oedd i'r Fanor hon hefyd ei melin a'i llys, fel a geid ar y rhan fwyaf o fanorydd.
Yn araf, felly, lledaenodd yr arfer o dalu swm o arian yn lle rhoddi gwasanaeth. Trwy hyn fe ryddhawyd yr holl denantiaid o hualau ffiwdaliaeth a diflannodd y gwahaniaeth rhwng taeog a rhydd. Y mae manylion ar gael o'r tâl a godid ar Fanor Llantrisant yn 1316, a dengys y rhestr o'r gwasanaethau a ofynnid ganddynt, cyn dechrau ar y cynllun talu arian, beth a olygai'r rhyddid i daeogion y fanor honno. Disgwylid iddynt roddi 474 o ddyddiau i lyfnu, 131 i hau a phlannu, 105 i ddyrnu à ffust, 314 i chwynnu, 208 i fedi, 105 i gario cnydau, 97 i wneud teisi, a 110 i gludo tanwydd.[60]
Un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd ar amaethyddiaeth yn ystod yr oesau canol oedd Husbandry yr hen bregethwr Dominicaidd, Walter o Henley, y ceir copi ohono mewn cynifer o lawysgrifau. Nid rhyfedd, felly, iddo ymddangos mewn diwyg Gymraeg (y mae copi ohono yn y Bulletin of the Board of Celtic Studies am fis Rhagfyr, 1923, wedi ei godi o lawysgrif gan yr Athro Ifor Williams). Ychydig iawn o oleuni a geir ynddo, er hynny, ar gyflwr amaethyddiaeth yng Nghymru. Cyfarwyddyd ydyw i arglwydd y faenol sut i gael y gorau allan o'i dir, ac yn anad dim sut i gadw'r swyddogion rhag ei ysbeilio. Awgrymir, i gychwyn, y dylai wybod "beth a dalo dy dir bwrdd, garddeu, colomendyeu, perllanneu, melineu, a physgod lynneu. Uchelwyr a meibion eillion, beth a dâl y gantunt hwy." (Aralleiriad yw hwn o gwestiynau'r Extenta Manerii, a fabwysiadwyd fel cynllun ymchwil Llyfr Du Tyddewi ac ymchwiliadau eraill o'r fath.) Yna awgrymir rhannu'r tir yn dair adran—"gayaf âr a gwanhwyn âr a brynar—ac felly y dichon dy arddwr aredic naw ugain erw." Ond prin yr oedd y gyfundrefn hon yn gyfaddas i wlad fryniog fel Cymru, ac yn wir nis ceir hi ond mewn ychydig o leoedd yn unig.
Ceir gan George Owen ddisgrifiad lled fanwl o amaethyddiaeth Sir Benfro pan oedd yr oesau canol eisoes wedi tynnu i'r terfyn. Cwynai ef nad oedd y Cymry yn ogystal amaethwyr a'r Saeson o lawer, a'u bod yn dal at yr hen ddulliau. Codent geirch lle yr arferent godi cryn dipyn o haidd, a lle y gallent godi gwenith neu ryg. Codai'r Saeson, ar y llaw arall, gryn lawer o wenith a rhyg a haidd yn ogystal â phys a ffa. Ceir ganddo hefyd fanylion am yr hen arfer o fetingo neu donni'r tir, a'r gwahanol ddulliau o wneuthur hynny. Y mae'n amlwg fod yr hen gyfundrefn gyntefig hon—y ffordd hynaf i aredig tir yn y byd, fe ddichon—yn lled gyffredin yn Sir Benfro yn ei amser ef, ac nid yw eto wedi llwyr farw o'r tir.[61] Y mae "Yn y Lhyvyr Hwn"—y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg, yn cynnwys casgliad o anhepgorion at wasanaeth
gwerin gwlad—nifer o gynghorion amaethyddol diddorol odiaeth. Yr oedd yr awdur, Syr John Prys o Sir Frycheiniog— Henffordd wedi hynny yn amaethu rhyw ychydig, beth bynnag. Barnai'r diweddar Brifathro J. H. Davies i'r llyfr gael ei argraffu rhwng 1546 a 1554. Ceir ynddo, y mae'n debyg, syniad amaethwr profiadol am yr hyn y dylid ei wneuthur o fis i fis ar y tyddyn. Nid yw'r cynghorion hyn ond rhan o gynnwys y llyfr, oblegid ceir ynddo gymysgedd rhyfedd : tipyn o wyddor Gymraeg (lle cyfeiria Prys at y ffaith ei fod yntau wedi ceisio diwygio orgraff yr iaith—"am newidiaw o honaf beth o hen ortograff Kymraeg"), calendyr, rhestr gwyliau'r eglwys, a gweddïau'r saint—y Pader, yr Ave Maria, y Credo a'r Deg Gorchymyn yn eu plith. Rhydd y cynghorion i ni syniad gweddol gyflawn am y diwydiant amaethyddol fel y cerid ymlaen o fis i fis yn amser y Tuduriaid:

Ionawr. Yn y mis yma torr dy goed defnydd ag ny holltan. Gwna ddefnyddiau dy aradyr, brynara dy dir y wenith a'th ryg, torr dy wndwn i geyrch val y bo meddal.
Chwefrawr. Ardd dy wndwn a haya dy ffa ath bys ath geyrch mewn tir sych yn y newydd loer, mewn tir gwlyb wedy yr lhawn lhoer neu o fewn pedwar niwarnod y nailh ae kynt ae gwedy.
Mawrth. Y mis Mawrth haya ffa pys a cheyrch yn echreu yr mis. Hefyd ardd dy dir barlis a dwg dom yr maes yn enwedic yn niwedd y lheuad ac ny sycha ymaith.
Ebrill. Y mis hwnn haya dy haidd mewn tir kryf. Haya dy gwarch a lhin.
Mai. Mis Mai haya dy haidd yn echreu yr mis. Ardd yr ar cyntaf oth dir er gwenith a rhyg.
Mehevin. Y mis hwnn dwg domm a thail yth wenithdir ac yth rhygdir. Lhadd weir ar weirgloddydd y bo mewn tir issel gerlhaw dyfwr.
Gorffenna. Y mis hwn lhadd weir yn y gweirgloddydd uchel a rhan vwya oth weirdir er mwyn y tywydd teg y sy debig y vod yr amser hwnn. Ac ynghylch diwedd y mis meda rann oth lavyr krwnn.
Awst. Y mis hwnn meda dy ryg ath wenith a dwg yth eskybor ac ynghylch diwedd y mis meda dy geyrch ac ardd yr ar dywetha ar veder dy wenith ath rhyg.
Medi. Yn y mis hwn meda dy haidd pys a ffa ac ynghylch kenol y mis haya wenith a rhyg mewn tir kryf. Dwg dail ar veder gwenith a rhyg kannys un venneid yr amser hwnn y dal tair kynn y mis hwnn.
Hydref. Y mis ymma haya wenith a rhyg dros olh.
Tachwedd. Torr dy goed defnydd yn niwedd y lheuad ac yn enwedig goed onn i wneythyr defnyddian aradyr a brynara dy dir ar vedyr haidd.
Rhagfyr. Brynara dy dir y haidd.
Atodiad: Yr Aradr.
Lled afrosgo oedd aradr yr oesau canol, ac am hynny byddai raid wrth chwech neu wyth o ychen i'w thynnu. Ceir manylion am wahanol rannau'r aradr Gymreig a'u gwerth yng nghyfreithiau Hywel. Diddorol yw cymharu aradr Hywel â disgrifiadau sgrifenwyr fel Fitzherbert a Markham-deuwr a ddadleuai'n eiddgar dros wella dulliau amaethu. Yr oedd y ddau yn perthyn i gyfnod datblygiad newydd amaethyddiaeth yn hytrach nag i'r oesau canol, a diau bod crefft gwneuthur aradr wedi datblygu rhywfaint erbyn eu hamser hwy.
| Hywel Dda | Fitzherbert | Markham |
| Arnodd | Ploughbeam | Plough beam |
| Pen yr aradr | Share beam | Plough head |
| Rhag arnodd | Plough Sheath | Sheath |
| — | Plough Tail | Plough hale (handle),(left) |
| — | Stilt | Right hand hale |
| — | Rest | Plough rest, linking plough head and right handle |
| — | Shelbread | Shelboard, right |
| — | Ferbred (left) | — |
| Probwyllau | Rough staves | Plough spindles linking handles |
| — | Plough foot | Plough foot for raising level of plough |
| Y Pystyl | Plough ear of iron Poor men substituted a crooked piece of wood | — |
| Swch | Share | Share |
| Cwlltwr | Coulter | Culture |
| Garthbren | Plough mal | — |
| Garthglwyd | — | Akerstaff |
| Iau a'r Pystyllod | — | — |
| Olwynion | (Wheel ploughs) | — |
| Swmbwl | — | — |

Y mae'n ddiddorol bod Hywel yn sôn am y garthglwyd yn ogystal a'r garthbren. Math o ordd oedd y garthbren, a osodid fel rheol ar ochr dde'r aradr. Defnyddid hi i dorri'r tywyrch, ac anaml y gwelir darlun o ŵr yn aredig yn yr oesau canol heb fod carthbren ganddo. Hefyd, byddai ganddynt weithiau rywbeth tebyg i raw-coes o bren a llafn o haearn ar ei blaen-i lanhau'r swch, a dichon mai hon oedd carthglwyd Hywel. Dywedir mai darlun o'r aradr, ac nid o'r llafurwr, a geir mewn adran o gywydd Iolo Goch i'r Llafurwr. (Gweler nodiadau'r Athro Henry Lewis ar y cywydd hwnnw.[62]) Ceir mwy o fanylder disgrifiadol yng nghywydd "Mawl Llafur" Lewis Glyn Cothi. Nid yw'n anodd gweled mesur o debygrwydd rhwng yr aradr a ddisgrifir ganddo ef a'r aradr a ddisgrifir gan Fitzherbert a Markham. Yr oedd deugorn i aradr Lewis—nid oes sicrwydd ai un ai dau oedd i aradr Hywel, er bod y cyfeiriad at y probwyllau yn awgrymu dau. Yr oedd iddi hefyd ystyllen bren at dorri pridd—"Shelbred" "Fenbred" Fitzherbert.
Dyma ddisgrifiad Lewis Glyn Cothi o'i aradr:
Cain a wnaeth, gwaith cymen oedd,
Wr da, aradr ar diroedd.
Rhyw rwydd gadr aradr eurwch
Callter tud, cwlltwr a swch;
Ebill a gwimbill a gad
O dyll i wnio'i dillad.
Arnodd gadr aradrwaith
Gwadn o goed gadwynog waith
Chweludr hoelion ei lonaid
Sy'n ffres o gogel San Ffraid.
Ysdwffwl gwbwl dan go
Cynion hoelion yn hwylio;
A'i ffod bellach bach dibŵl,
Ai gebystr a'i glust a'i gwbwl.
Dan ei ben mae gwbenydd
Lân iawn fal olwynion fydd.
Da yw gweled a digwilydd
Ystyllen bren a dore bridd.
Deugorn hwn, gwn ei gyflwr,
Yn dal gwaith rhwng dwylaw gŵr.
Carthbren, gwialen a geilwad
Yn gwbwl a'i swmbwl yn siad.
Dedwydd wrth didau ydoedd
Dolau mewn ieuau mwyn oedd
Clewigod a gwasgod gwain
Dol bennau a bachau bychain
Cauadau dan yr un dôn
Ag esyth i gae'n gyson
Llyna'r aradr a'i lliniau
Yn gwbwl o'r meddwl mau.
Sonia Hywel hefyd am y swmbwl (a oedd yn werth ceiniog), am yr iau a'r dolennau, ac am y ddolen gydio ym mhen yr aradr. Cyfeirir hefyd at yr og a'r ddreinglwyd—hen og gwlad a welir ar waith hyd heddiw.
Un nodwedd ddiddorol ar aradr Hywel yw'r olwynion. Ni cheir cyfeiriad atynt o gwbl yn nisgrifiad Fitzherbert o'r aradr gyffredin6[63]
Yng Nghaint defnyddir eto hen aradr afrosgo, anghelfydd, â dwy olwyn iddi. Tybed ai'r un un yw hon a'r hen aradr Gymreig? Bu llai o newid ar gyfundrefn dir Caint nag odid adran arall o Loegr.
Lled anghelfydd oedd yr aradr Gymreig hyd yn oed o fewn cof rhai sy'n fyw heddiw. Rhydd Huw Morus ddisgrifiad doniol o aradr a oedd ym meddiant
Dafydd bur balad
O blwy Llangadwalad.
Dyma hi:
Arnodd o wernen
A chebystr banhadlen
A gwadn o gollen a gollodd ei brig
A chyrn eithin ceimion
Sydd gan y glân hwsmon
Anhwylus, a hoelion o helyg.
Nid oes llawer o ddatblygiad yma o'r amser y bu Fersil yn disgrifio'r aradr Rufeinig a'r gwahanol goedydd a oedd yn fwyaf pwrpasol at wneud ei gwahanol rannau. Arnodd o lwyfen a awgrymir ganddo ef, rhagarnodd o ffawydd, a'r iau o'r palalwyf (linden), a dylid eu sychu i gyd, meddai'r henfardd gofalus, trwy eu gosod yn y simne.

Llyfrau.
YNG nghyfreithiau Hywel Dda y ceir y wybodaeth sicraf ar y maes hwn. Ceir ymdriniaeth ar yr hyn a ddywedir ganddo yn Ancient Laws of Wales, Hubert Lewis; Welsh Tribal Law and Custom, T. P. Ellis; The Welsh People, Jones and Rhys; History of Wales, J. E. Lloyd, a llyfrau eraill. Ar y datblygiad amaethyddol gweler Welsh Homespun, Dr. Alun Roberts. Am fesurau tir Cymru gweler A. N. Palmer, Archeologia Cambrensis, 5th Series, Vol. XIII. (ceir cyfieithiad o'r erthygl honno yn y Llenor am fis Gorffennaf, 1896); English Village Community, Seebohm, a Customary Acres and their Historical Significance, gan yr un awdur. Ceir ychydig wybodaeth am y gyfundrefn amaethyddol gan Gerallt Gymro. Ceir ymdriniaeth ar amaethyddiaeth Sir Benfro tua diwedd yr oesau canol yng ngwaith George Owen, hanesydd y sir, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion.
Dangosir y newid a fu wedi dyfod y Norman yn y cyfrifon Normanaidd, megis Stentiau Dinbych a Môn, a Llyfr Du Tyddewi. Am fanylion parthed y datblygiad hwn yn y De, gweler South Wales and the March, Dr. William Rees.
Sgrifennodd Fitzherbert ei lyfr, The Boke of Husbandry, yn 1523, a Markham ei lyfr yntau, The Whole Art of Husbandry, yn 1607. Yr oedd y naill a'r llall yn eiddgar dros welliannau amaethyddol.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Rhygyfarch: Vita Sancta Davidi, §22.
- ↑ Gweler pamffled yr "Economic History Society": Air Photography and Economic History, The Evolution of the Corn Field. Ni buasai'n unrhyw anfantais i'r awduron hyn wybod rhywbeth am Gymru.
- ↑ Ellis: Welsh Tribal Law and Custom, I, 114—123 a 226—8. Ceir yr un datblygiad yn union ym Maelor a Iâl.
- ↑ Ancient Laws of Wales, I, 16 and 190. Am westfa'r gaeaf, gweler Ibid. I. 198 (Venedotian Code).
- ↑ Am westfa'r haf, gweler Ancient Laws, I, 532 (Demetian Code).
- ↑ Gweler englynion y misoedd. Hydref: "Melyn blaen bedw, gweddw Hafod." O galan Mai hyd Awst oedd tymor Hafod yng Ngwynedd (Ancient Laws, I, 76); o galan Mai hyd Fedi yn Nyfed, a hyd ddiwedd Medi yng Ngwent (ibid., I, 436, 778).
- ↑ Gweler Pennant's Tours, II, 334-5.
- ↑ Jones and Rhys: The Welsh People, 191—2. Ar y llaw arall, awgryma yr Athro Morgan Watkin mai o'r hen air Ffrengig gelde neu Jelde y tardd. Gair yn golygu tyddynnwr a ddaliai dir trwy wasanaeth gorfodol oedd hwnnw. Cymmrodorion Transactions, 1919—21, p. 71.
- ↑ Report of Ancient Monuments Commission, Denbighshire, 176.
- ↑ Ancient Laws, I, 34.
- ↑ Ancient Laws, I, 62.
- ↑ Ancient Laws, I, 195.
- ↑ Ancient Laws, I, 189.
- ↑ Ancient Laws, I, 198.
- ↑ Jones and Rhys: The Welsh People, 206.
- ↑ Montgomeryshire Collections, Vol. I, 158.
- ↑ Chirk Castle and Chirk Land, 78.
- ↑ "A'i dir Bwrdd a'i adar byw."—Iolo Goch."Maer y Biswail a ddylu dyngu dros dir Bwrdd y llys."—Ancient Laws, I, 194.
- ↑ "Who ever shall engage in co-tillage with another, it is right for them to give surety for performance and mutually join hands, and after they have done that to keep it until the tye be completed. The tye is 12 rows."—Ancient Laws, Book III, Chapter XXIV, i.
- ↑ Un troedfedd ar bymtheg (o naw modfedd) yw hyd yr hiriau, a gwialen gyhyd â honno yn llaw y geilwad a'r llaw arall iddo ar ganol yr hiriau a hyd y cyrhaeddo â honno o bob ochr iddo yw lled yr erw a'i deg ar hugain yn ei hyd.—Ancient Laws, Gwynedd, I, 166.Un troedfedd ar bymtheg a fydd yn hyd yr hiriau ac un ar bymtheg a fydd yn hyd yr erw a dwy fydd ei lled.—Ancient Laws, Dyfed, I, 538.A deunaw troedfedd yw gwialen Hywel Dda a deunawllath a fydd yn hyd yr erw a dwy lath o led.—Ancient Law's, Gwent, I, 768.
- ↑ A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches, 13. Nid oes modd cysoni erw Powys ag erw Gwynedd, a gellid tybied yn naturiol bod rhyw gymaint o ôl y gyfundrefn Seisnig ar fesurau Powys, neu ynteu mai cyfar Powys yw sail acrau Sir Gaer a'r Gororau. Ar y llaw arall, daeth Lacy, Iarll Lincoln, â gwialen fesur newydd gydag ef i Ddyffryn Clwyd. Mesurai honno ddeunaw troedfedd a hanner (ystatud), ac yn ôl y mesur hwn y gwnaed Stent Dinbych.
- ↑ Ancient Laws, I, 166.
- ↑ Ancient Laws, I, 314.
- ↑ Y mae'r erwau gwasgarog hyn, wrth gwrs, yn fwy amlwg fyth ar wastadeddau Lloegr, lle mae'r tir âr yn bwysicach nag yng Nghymru, a mwy ohono. Gweler Seebohm: English Village Community.
- ↑ Gweithiau Gwallter Mechain, II, 331.
- ↑ Gweler hefyd George Owen: op. cit., I, 61 a III, 85
- ↑ Report of Ancient Monuments Commission, Denbighshire, 581a.
- ↑ Survey of Denbigh, 2 and 3.
- ↑ Montgomeryshire Collections, I: Documents illustrative of the History of the Princes of Upper Powys, p. 157.
- ↑ Pedair cyfar cyfreithlon ym mhob tyddyn ac un ar bymtheg ym mhob rhandir. Ancient Laws, Gwynedd, I, 186. At y tir ar y cyfeiria hyn yn unig. Rhydd Cyfreithiau Dyfed a Gwent i ni lawnach darlun o'r Rhandir cyflawn.Deuddeng erw a thrichant a vydd yn y rhandir cyfreithiol megis y caiff y perchen o'r tri chant (dir) aredig a phorfa a chynnud a lle i adeiladu ar y deuddegerw.—Ancient Laws, Dyfed, I, 536.Deuddeng erw a thri chant a fydd yn y rhandir rhwng rhydd a dyrys a choed a maes a gwlyb a sych, eithr godref a geiff y gwrthdir yn rhagor (... but a supernumerary trev the upland has in addition).—Ancient Laws, Gwent, I, 769.
- ↑ Gwaith Gwallter Mechain, II, 333—
- ↑ Ancient Laws, I, 328.
- ↑ "During Henry III's stay at Hereford, Sept. 24, 1223, he directed Brian de Lisle to let the citizens of Hereford have materials for a hedge and stakes of thorns and maple and underwood in his forest of Trivel and Haye of Hereford to enclose city where it was not enclosed."—Arch. Cam., 4th series, XII, 137. Cymharer Hay, ym Mrycheiniog. Y Gelli Gandryll yw ei hen enw Cymreig. "La Haie Taillée" yn y Ffrangeg.
- ↑ Giraldus Cambrensis: Description of Wales, 166.
- ↑ George Owen: op. cit., I, 59—60.
- ↑ Seebohm Tribal System in Wales, Appendix A, 24."Frumenta ordea fabas et pisa ac siligines"—gwenith, haidd, ffa, a phys a rhyg. Mewn Lladin clasurol golygai siligo wenith gaeaf neu wenith gwyn, ond yn Lladin yr oesau canol golygai ryg, a golygai frumentum wenith. Mewn Lladin clasurol, ystyr frumentum oedd yd. Gweler Ashley: The Bread of our Forefathers, Chapter III.
- ↑ Beveridge: Economic Journal Supplement, May, 1927, p. 159.
- ↑ C. Bryner Jones: Welsh Journal of Agriculture, I, 13. Gweler hefyd Lyfr Du Tyddewi.
- ↑ Ancient Laws, I, 262, 568.
- ↑ Ancient Laws, I, 282.
- ↑ Adam Smith: The Wealth of Nations, Book I, Ch. XI.
- ↑ Tair celfyddyd na ddylai mab taeog eu dysgu heb ganiatâd ei arglwydd : ysgolheictod, gofaniaeth, a barddoni.—Ancient Laws, I, 78.
- ↑ Gweler Survey of Denbigh (1334), 1—6, 52, 230—233.
- ↑ Canys gwlad a chenedl yn gyffredin a biau pob gwyllt a gobaith (waste), ac nid iawn meddiant wahanred i nebun fawr na bychan o'r cyfryw diroedd.—Ancient Laws, II, 522.
- ↑ Survey of Denbigh, 80, 135, 238, 221. III
- ↑ Ibid., XLI a CV.
- ↑ Ibid., 230, 2, 4. 112
- ↑ Ibid., LXIX.
- ↑ Am astudiaeth fanwl o ddatblygiad y Manor yn Neheudir Cymru, gweler Dr. William Rees: South Wales and the March, 1282—1415.
- ↑ Cathrall: History of Oswestry, 49.
- ↑ Dyma'r termau a ddefnyddir yn yr "Extenta Manerii," nad oes sicrwydd am ei dyddiad.
- ↑ Carucate: Darn mesuredig o dir a ddefnyddid yn safon trethiant gan y Normaniaid. Tybir y golygai y nifer o erwau y medrai gwedd o ychen (8) eu haredig mewn blwyddyn. Cyfetyb i'r "hide," a fesurai ar gyfartaledd tua 120 o acrau. Ceír nodyn yn Llyfr Du Tyddewi yn dywedyd mai 80 acr oedd y carucate yno, ac mae'n bosibl mai dyna faint un Môn hefyd.
- ↑ Crannog: Mesur ŷd Cymreig=4 bwsiel.
- ↑ Y peth a olygir yw ugain o ddyddiau gwaith ceffyl, a buasai dau geffyl am ddeng niwrnod yn ateb y diben. Gallai'r taeogion drefnu gyda'r maer pa nifer o geffylau i'w hanfon.
- ↑ Extent of Anglesey, 1294
- ↑ Ceir cyfeiriad at yr heuwr yn Stent Dinbych, ac y mae'n amlwg ei fod yn fath o swyddog. Survey of Denbigh, p. 3.
- ↑ Llyfr Du Tyddewi, 197-9
- ↑ Ibid., 73
- ↑ Ibid., 65
- ↑ Matthews: Records of Cardiff (o dan y flwyddyn 1316)
- ↑ George Owen: op. cit., I, 63
- ↑ Iolo Goch ac eraill (Cyfres y Cywyddau). Bangor.
- ↑ The plowes that goo with wheles me semeth be farre more costly than the other plowes.—FITZHERBERT.

VII.
Bywyd Gwlad—Y Cartref a'r Wisg.
Pwy bynnag a ddinistrio neuadd y Brenin ai â thân ai â pheth arall taled yntau ddeugain (ceiniog) am bob gafael a gynhalio y nen sef yw hynny chwe colofn a phedwar ugain ar y nen sef yw hynny pedwar ugain a phunt a chweigain ar bob un o'r godai a fo iddo.
Neuadd mab uchelwr ugain ar bob gafael a gynhalio y nen sef yw hynny chwe colofn a deugain ar y nen sef yw hynny wyth ugain a deg ar hugain ar bob un o'r godai.Ty mab aillt deg ceiniog ar bob gafael a gynhalio y nen sef yw hynny chwe colofn ac ugain ar y nen sef yw hynny pedwar ugain a deg ar hugain ar bob un o'r godai sef yw y rhai hynny ei gell a'i feudy a'i ysgubor a'i odyn a'r cail (corlan) a'r crau moch a'i hafdy a'i gynhacafdy. Hafdy pedair ceiniog yw ei werth. Cynhaeafdy wyth. Ancient Laws, I, 292 (Gwynedd).Gwerth gaeafdy o bob fforch a gynhalio y nenbren ugain (ceiniog) dros y nenbren deugain y colofnau y meinciau ystyffylau (stanchions) amhinogau trothwyau gorddrysau tubyst dorau pedair ceiniog a dâl pob un ohonynt polion a gwiail ceiniog dorglwyd dwy geiniog.Cynhaeafdy os bydd twll taradyr (auger) ynddo pedair ar hugain a dal, ac oni bydd deuddeg ceiniog. Hafdy deuddeg ceiniog. Ancient Laws, I, 578 (Dyfed).Gwerth gaeafdy. Deg ar hugain yw gwerth y nenbren a deg ar hugain a dal pob fforch a gynhalio y nenbren. Y meinciau a'r tubyst a'r ddor a'r gyngor (hatch) ar gorddrysau a'r trostau a'r trothwyau ceiniog yw gwerth pob un. Gwerth cynhaeafdy 24 ceiniog os bydd twll taradyr ynddo ac oni bydd deuddeg ceiniog. Hafdy deuddeg ceiniog. Ancient Laws I, 720 (Gwent).Ac nid yw'r wisg nos yn wahanol i'r hyn wisgir ganddynt y dydd. Mantell denau gyda math ar siaced yw yr oll sydd ganddynt i'w cadw rhag yr oerni pa dymor bynnag y bo.GERALLT GYMRO.
DENGYS y disgrifiad a geir gan Gerallt Gymro o'r tai a adeiledid yng Nghymru yn ei ddydd ef bod y Cymry yn casáu bywyd dinas ac adeiladau gwych. Yr oedd i'r gair adeilad ystyr gyfyngach y pryd hwnnw nag y sydd iddo heddiw. Cyfeiria'r gair, "adail," at blethiad y gwydd a ddefnyddid i wneud muriau plas a bwthyn fel ei gilydd. Plethid y cangau drwy ei gilydd a'u rhoi i sefyll mewn ffram, yn union fel y plethir gwrych ac y gosodir polion[1] i'w ddal yn ei le. Yna dwbid clai neu laid—ac yn ddiweddarach forter—i lenwi'r gwagle rhwng y plethiadau. Gwelir olion y dull hwn o adeiladu mewn cannoedd o leoedd yng Nghymru, yn enwedig ar y gororau, lle y ceir y tŷ "du a gwyn." Ffram dderw ddu sydd i dai o'r fath a phlastr gwyn yn orchudd dros yr hen blethiad yn y canol.
Yr oedd adeilad o'r fath yn fwy o luest nag o dŷ, ac awgryma'r modd diseremoni yr adeiledid ef nad oedd namyn caban unnos a godid rhwng cyfnos a gwawr. Nid oes sicrwydd ychwaith nad oedd y tŷ unwaith yn adeilad symudol, ac y cerid y "bangorau" neu'r clwydi o fan i fan fel y byddai angen. Y mae'r ffaith bod gan y rhan fwyaf o'r uchelwyr ddau neu dri chartref yn profi nad oeddynt eto yn hollol sefydlog. Yr oedd ganddynt dŷ gaeaf a chynhaeafdy yn ogystal a'r hafdy. Adeiledid y cyntaf, fel rheol, mewn man cyfleus yn un o geseiliau'r dyffryn. Dyma'r Hendre[2] a ddaeth, o dipyn i beth, oherwydd ei chadernid a'i chlydwch, i gael ei hystyried fel y cartref. Yng Ngwent yr oedd nenbren y tŷ gaeaf yn werth 30 ceiniog,[3] pryd nad oedd y cwbl o'r tŷ hydref yn werth ond 24 ceiniog, a'r hafdy ond 12 ceiniog. Yr oedd y tŷ hydref wedi ei forteisio awgrym, fe ddichon, y symudid ef o le i le—ac adeiledid yr hafdy ar yr un cynllun, ond yn llawer ysgafnach. Yr oedd gaeafdy'r brenin yn Nyfed yn werth punt, y cynhaeafdy ddeg swllt, a'r hafdy 40 ceiniog, ond os heb ei forteisio 12 ceiniog, yr hyn hefyd oedd ei bris yn ôl cyfraith Gwent. Ar y llaw arall, ceiniog cyfreithlon oedd gwerth hafdy Gwynedd.
Ni bu ond ychydig newid ar rai o'r hen hafotai hyn, ac o graffu ar y murddunod, cawn gipolwg ar rai o ddulliau ac arferion ein hynafiaid gynt.[4] Fel y dywed Jordanes, trigai'r bobl a'r anifeiliaid dan yr unto.[5] Dyna arfer pobl sydd yn magu anifeiliaid—yn Norway a'r Yswisdir, er enghraifft, fel yng Nghymru. Yn y ddwy wlad a enwyd, ceir tai a'u hystafelloedd y naill uwchben y llall—y gwair a'r ŷd, os bydd peth,mewn taflod uwchben, y teulu yn y canol a'r anifeiliaid odditanodd. Ymhlith y Basque ceir y teulu a'r anifeiliaid ar y llawr gyda'i gilydd, a dyna fyddai arfer y Cymry. Uchelgais y Basque yw cael popeth dan yr unto a chael wyneb mawreddog i'r tŷ. Diaddurn iawn yw wyneb yr hen ffermdy Cymreig yn aml, ond gwelir yr un cynllun ar waith yn y naill a'r llall. Dyma dŷ hen fardd Cymreig ac ynddo ymgais at dipyn o addurn.


Cyplau sydd, gwaith cwplys ynt
Cwpledig bob cwpl ydynt.[6]
Dyma'r neuadd, fel y gelwid hi. Yr oedd ochrau'r adeilad gryn dipyn yn is ac wedi eu gwneud o ddellt plethedig, a tho o frwyn neu rug yn cyrraedd drostynt. Rhwng colofnau'r neuadd a thu ôl iddynt y byddai'r ystafell wely. Ar ganol llawr y neuadd yr oedd y pentanfaen, lle y gwneid y tân, ac ai'r mwg allan trwy dwll yn y to. Dengys y cyfreithiau y gwahaniaeth rhwng gwahanol rannau'r tŷ a rhwng tai'r gwahanol ddosbarthiadau. Yr oedd pob colofn yn nhŷ'r pennaeth yn werth 40c., a'r nenbren yn werth 8oc.; yn nhŷ'r uchelwr, 20c. oedd gwerth colofn a'r nenbren 40c., ac yn nhŷ'r taeog, 10c. yn unig oedd gwerth colofn.[7]
Cred rhai ysgrifenwyr ddarfod i bensaernïaeth odidog yr oesau canol gychwyn o'r cynllun syml hwn. Ceir holl nod- weddion mawreddog yr Eglwys Gothig eisoes yn y llys Cymreig.[8] Myn eraill mai i ddatblygiad naturiol y bwa maen y dylid olrhain y cynllun Gothig, Yr un un oedd y cynllun yn Lloegr, lle cyfeirid at y cyplau fel "crooks" ac y disgrifid tŷ yn ôl nifer y "crooks" ynddo.
Y mae'r nodweddion hyn i'w gweled eto mewn hen adeiladau yma a thraw yng Nghymru. Ceir darlun o gwpl o hen dŷ haf a fu unwaith ym meddiant marchogion Ysbyty Ifan ar dudalen 377. Ceid yr un cynllun hefyd ym mythynnod y bobl gyffredin, fel y dengys y cwpl o Ferchlyn Bach, allan o lyfr Harold Hughes a Herbert L. North, The Cottages of Snowdonia ar dudalen 125.
Ar y dechrau, neuadd yn unig oedd yn y tŷ, ond o dipyn i beth fe'i rhannwyd yn ystafelloedd. Yn y neuadd, ar y dechrau y gwneid popeth,—coginio, bwyta, a gorffwys—ond yn lled gynnar ceir cyfeiriad at dân y cogydd—awgrym y gwneid y coginio erbyn hynny mewn lle wedi ei gyfaddasu i'r pwrpas, neu yn yr awyr agored, fel y gwneid yn gyffredin yn yr oesau canol.[9]
Canolfan y cartref, wrth gwrs, oedd y pentanfaen, y garreg aelwyd ys dywedwn ni heddiw. Gwneid tân mawr o fawn ac o goed ac weithiau hefyd o lo.Mabinogi Branwen Ferch Llyr. Dichon mai sercol oedd hwn. Ond y mae'n wybyddus y llosgid glo hefyd. Er enghraifft, llosgid glo yng nghastell Newydd Emlyn yn 1340: gweler y bennod ar y Castell ac ar Ddiwydiannau. Gwell oedd gan Iolo Goch fawn neu gynnud na'r "morlo mud." "Sea Coal" oedd yr enw cyffredin yn Saesneg hefyd. Ni adewid i'r tân ddiffodd, a dywed Gerallt fel y byddai rhywun a fai'n methu â chysgu oherwydd caledwch y gwely yn codi ganol nos i roi rhagor ar y tân ac yna yn ceisio ei roi ei hun i gysgu ar yr ochr arall.[10] Enhuddid y tân fin nos, a bu dadenhuddo neu ail gynnau tân ar yr allor deuluaidd yn ddiamau yn seremoni grefyddol ar un adeg. Y mab hynaf, fel olynydd y tad, ac offeiriad y teulu yn unig oedd yn deilwng o'r anrhydedd; a daeth y ffaith y gallai mab ddadenhuddo'r tân i gael ei chydnabod yn y man fel prawf digonol mai efô oedd yr aer.
Ymddengys nad oedd, ar y dechrau, ddim neilltuedd yn perthyn hyd yn oed i'r lle y cysgid ynddo. Trefnid y gwelâu—a wneid o frwyn gyda math o wrthban bras, a adwaenid fel brychan, drostynt yn yr eil rhwng colofnau'r neuadd, ac yno y cysgai'r teulu a'r gwesteion fel ei gilydd.[11] Cysgid yn nillad y dydd neu heb ddillad o gwbl; ni ddaeth dillad nos i'w harfer hyd yn ddiweddarach. Ceir disgrifiad mawreddog o welâu yn y Mabinogion, ond y mae'n amlwg bod delw'r Norman ar y rheini. Dywedir i Luned wneud gwely i Owain o ysgarlad a sidan a lliain main, a chwrlid o fanflew drosto.[12] Tebyg yw'r disgrifiad a geir yn ystori Pwyll Pendefig Dyfed. Y mae'r disgrifiad o wely Heilyn Goch, yn ystori Breuddwyd Rhonabwy, ar y llaw arall, yn ddiamau yn gywirach darlun o welâu'r bobl gyffredin. Wedi eu goddiweddyd gan yr ystorm, penderfynodd Rhonabwy a'i gyfeillion aros dros y nos yn nhŷ Heilyn, ond pan edrychasant ar y gwely, nid oedd ynddo ond ychydig wellt bras yn llawn o lwch a chwain, ac ambell gangen yn dangos trwyddo-yr oedd y gwartheg wedi bwyta cymaint o'r gwellt ag y medrent gael gafael arno yn neupen y gwely. Ar y gwely yr oedd hen wrthban cochddu rhidyllog, cynfas fras yn llawn tyllau, gobennydd hanner llawn a chwrlid budr. Methodd Rhonabwy gysgu, a chododd o'r gwely a mynd i gysgu ar ddarn o groen llo a oedd ar ganol llawr y neuadd.
O dipyn i beth fe rannwyd y neuadd yn dair neu bedair rhan[13] y cyntedd, y gegin, yr ystafell wely ac ystafell y merched. Rhennid y neuadd yn ddwy gan y cwpl canol lle yr oedd y tân. Adwaenid y rhan uchaf, lle eisteddai'r arglwydd a'i swyddogion, fel y cyntedd. Yr oedd hwn, fe ddichon, ychydig yn uwch na'r is-gyntedd, lle y byddai'r gwasanaethyddion. Sonnir yn y chwedlau hefyd am ystafell neilltuedig i'r pennaeth a'i deulu (y solar) ac am y feddgell neu'r seler. Ar y llaw arall, disgrifiad o dŷ cyntefig, yn ddiamau, yw'r un a geir yn ystori Breuddwyd Rhonabwy. Yr oedd y neuadd, meddir, yn ddu, a cholofnau o fwg yn codi o'r tân yn y canol; y llawr yn anwastad ac mor llithrig a budr â buarth fferm. Yn lle'r brwyn arferol, cangau celyn oedd ar y llawr, a'r gwartheg wedi bwyta eu brigau. Y mae'n sicr bod hwn yn nes at fod yn ddarlun o dŷ cyffredin y cyfnod na'r darluniau lliwiedig a geir mor fynych yn y Mabinogion.
Yr oedd rhai o'r tai wedi eu codi ar bileri. Dichon mai tŷ o'r math hwnnw oedd tŷ Matholwch,[14] a gwyddom fod Sycharth ar "bedwar piler eres." Yn y neuadd, yn nhŷ Matholwch, yr ystorid y grawn a'r peilliaid at wasanaeth y teulu, a chyfeiria Iolo Goch yntau yn ei gywydd i Sycharth at "yr un porth lle'r ai ganpyn."
Erbyn hyn yr oedd dylanwad y Normaniaid a'u bywyd moethus wedi dyfod i chwarae ar fywyd Cymru. Taenid brwyn ar y llawr fel cynt, ond yr oedd carpedi yn cael eu defnyddio erbyn hyn, hyd yn oed yn neuadd aflêr Heilyn Goch. Yn Chwedl Iarlles y Ffynnon, ceir hanes am Arthur "yn eistedd ar deml o irfrwyn a llen o bali melyngoch dano a gobennydd a'i dudded o bali coch dan ben ei elin." Sonnir hefyd am gadeiriau ac am y pwysigrwydd o gael clustog arnynt.

Dan ddylanwad y Norman hefyd y datblygwyd y castell, a ddaeth mor gyffredin yng Nghymru yn yr oesau canol. Nid at y castell cerrig fel y ceir yng Nghaernarfon a lleoedd eraill y cyfeirir yn awr-perffeithrwydd datblygiad y castell a geir yno-ond at y castell pren fel y galwai'r Cymry ef. Castell o'r math yma oedd cartref Owain Glyn Dŵr yn Sycharth y ceir manylion mor ddiddorol ohono yng nghywydd Iolo Goch:
Tŷ pren glân mewn top bryn glas
Ar bedwar piler eres
Mae'i lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler, pren praff,
Llofft ar dalgrofft adeilgraff
A'r pedair llofft o hoffter
Ynghyd gwplws lle cwsg clêr.
Aeth y pedair disgleirlofft
Nythlwyth teg iawn, yn wyth lofft.
Tô teils ar bob tŷ talwg
A simnai ni fagai fwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun
A naw wardrob ar bob un.
Dengys hyn ddatblygiad amlwg pedair llofft i'r beirdd gynt wedi eu gwneud yn wyth erbyn hyn; teils ar y to a simnai i dynnu mwg-arwydd sicr o ddatblygiad yn hanes y tŷ. Dengys ystoriau a barddoniaeth y cyfnod nad oedd ball ar y gwledda a'r croeso a geid yn y cartref Cymreig. Medd Iolo yn ei gywydd :
Anfynych iawn fu yno
Weled na chlicied na chlo.
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
Ni bydd eisiau budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth
Na syched fyth yn Sycharth.
Cyffelyb yw tystiolaeth Gerallt. Nid oedd neb o'r bobl yn cardota, meddai, oherwydd yr oedd pob tŷ yn agored i bawb; ac ystyrid llaw agored a chroeso fel y pennaf o'r rhinweddau. Pan ddeuai marchog at ddrws y tŷ, nid oedd raid iddo ofyn am lety-dim ond diosg ei arfau yn unig. Yna fe gynigid dwfr iddo i olchi ei draed, a byddai derbyn ohono'r croeso hwnnw yn golygu ei fod yn bwriadu aros dros y nos, ond os gwrthodai, fe ddeallid mai pryd o fwyd yn unig a geisiai. Croesawid pawb gan y llancesi a'u difyrru o fore hyd hwyr trwy ganu'r delyn.[15] Ym mabinogi Pwyll Pendefig Dyfed, disgrifir fel y croesawyd Pwyll i'r Llys gan facwyaid a ddaeth ato i ddiosg ei arfau, ac y tynnwyd ei wisg hela oddi amdano gan ddau farchog a'i wisgo mewn "eurwisg o bali." Yn ystori Iarlles y Ffynnon, edrydd Cynon ei ddyfod i neuadd castell, lle yr oedd pedair ar hugain o lancesi yn gwnio pali wrth ffenestr; pan welsant ef, daeth chwech ohonynt ato a chymryd ei farch a diosg ei arfau; cymerth chwe arall yr arfau a'u golchi a'u glanhau; aeth y trydydd chwech i baratoi ymborth iddo, a daeth y chwech arall i ddiosg ei wisg a'i wisgo â gwisgoedd glân.
Rhydd Stentiau'r Normaniaid aml gipdrem ar y datblygiad a fu dan eu dylanwad hwy ynglŷn â'r tai. Yr oedd gan Esgob Tyddewi 15 o dai coed yn Llanddewibrefi a phedwar o'r un defnydd yn Nantgwynlle.[16] Dywedir hefyd mewn aml le arall fod caniatâd i'r tenantiaid dorri coed—hynny yw, gwiail at adeiladu tai—a'u bod i ddwbio clai ar dai yr arglwydd pan fyddai gofyn am hynny—arwydd sicr bod yr hen drefn o adeiladu tai ar arfer yn 1326. Cymharer â'r hyn a ddywed cyfreithiau Hywel "Tri anhepgor bwth havodwr, nenbren, nenffyrch a bangor[17] a rhydd iddo eu torri yng nghoed gwyllt a fynno (Ancient Laws, II, 562). Eu dyletswydd hwy fel tenantiaid hefyd oedd toi'r tai hyn â brwyn neu ryw ddefnydd arall y medrent gael gafael arno.
Erbyn hyn dechreuasid adeiladu tai hefyd â cherrig. Yr oedd y tai cerrig a berthynai i'w Ras yn nhref Lamphey yn werth £5 yn y flwyddyn, a'r adeiladau cerrig o'r tu allan i'r muriau yn werth 10/— Dywedir mewn lle arall ei bod yn orfod ar y tenantiaid adeiladu tai i'r Esgob yn ôl yr hen drefn; yr oedd raid iddynt gludo'r coed ar eu cost eu hunain ac adeiladu'r tai a'u toi; ond os byddai ar yr Esgob eisiau codi tai cerrig yn Abergwili neu Landeilo neu Langadog, efô a fyddai i dalu cost cludo'r defnyddiau.[18] Yr oedd gorfod ar denantiaid Llanddewi a Llanbedr Pont Stephan i gludo coed o fforest Atpar i Fanor Llandogy i adeiladu yno neuadd, ystafell wely, cegin, ystabl ac ysgubor i'r arglwydd ar eu cost eu hunain.[19]
Ceir tystiolaeth gyffelyb ynglŷn ag arglwyddiaeth Dinbych, lle gorfyddid ar denantiaid Rhufoniog Isaled i adeiladu neuadd i'r arglwydd, gydag ystafell wely a camera privata yn gysylltiedig â hi; hefyd, gapel a phopty a thŷ golchi;[20] ac ychwanegir y byddid yn arfer â gwneud hyn yn amser tywysogion Cymru.[21]
Yn y castell, fodd bynnag, y ceir y datblygiad amlycaf, gyda'i gegin, pantri, bwtri, seler, bragdy, popty, a nifer o ystafelloedd arbennig i wahanol bersonau; ond yma, wrth gwrs, yr oedd popeth yn ddarostyngedig i bwrpas rhyfel, ac o ganlyniad ychydig o gysur a geid ynddo. Ar y llaw arall, nid oedd plasau'r esgobion yn ddiffygiol yn hyn o beth, fel y dengys cywydd Iolo Goch i Lys Ieuan, Esgob Llanelwy:
Ystafell, meddgell i mi,
Cegin, pantri, bwtri, bwyd,
Pan fynnwyf, pan fo annwyd.
Tân mawn a gawn, neu gynnud,
Ni bydd yno'r morlo mud.
Yn ystafell, naws difeth,
Yr esgob y cawn pob peth:
Grawn de Paris, rhis, rhesin
Llysiau, medd, gwenwledd, a gwin.
Yna i siambr y siambrlain,
Yno ydd awn yn ddiddain*****Cysgu ar blu neu bliant,
A llennau, cylchedau, cant
Ymysg, o gwrlidau, mil,
A'r porffor drud a'r pwrffil,
A'r gra o'r gynau, a'r gob,
A'i wisgoedd—wi! o'r esgob.
Gellid tybied, wrth ddarllen y Mabinogion a'r beirdd, fod y genedl wedi ymroddi i loddesta, ond dengys tystiolaeth Gerallt nad felly yr oeddynt. Dau bryd yn y dydd a fwytaent, ac fel rheol ysgafn fyddai'r hwyrbryd. Weithiau, medd Gerallt, eid heb fwyd o gwbl am ddiwrnod cyfan.[22] Yn yr hwyr, pan na ddisgwylir rhagor o ymwelwyr, paratoir y swper yn ôl nifer a gradd y rhai fo'n bresennol, ac fel y caniatá amgylchiadau'r teulu. Ychydig yw nifer y bwydydd a baratoir yn y gegin, ac ni cheir llawer o ddanteithion. Nid oes ganddynt fyrddau na llieiniau na napcynau. Eistedd y gwesteion dri wrth bob plât, a rhoddir yr holl ddysglau ger eu bron ar unwaith ar blât neu drensiwr. Bwyteir math o fara tenau a gresir bob dydd ac a elwid gynt yn lagana, ac weithiau ychwanegir ychydig gig wedi ei falu a photes gydag ef."[23]
Gwahanol iawn, wrth gwrs, yw tystiolaeth y Mabinogion. Fe'i cafodd Cynon ei hun yn bwyta wrth fwrdd arian â lliain gwyn arno. Nid oedd lestr ar y bwrdd ar nad oedd yn aur, neu yn arian neu yn gorn buelin. Yr oedd yno bob math ar gig a diod, a'r cwbl wedi ei osod allan yn well na dim a welodd erioed. Tebyg yw ysbryd cân Owain Cyfeiliog, er mai cân hiraeth ydyw am y dewrion a fu. Er hynny i gyd, y mae llawer o rwysg y wledd ynddi: "Y mae awyr y wledd o'n cwmpas yn y gerdd y tân mawr a'r pabwyr golau, y corn buelin a'r aur a'r arian yn fodrwyau am dano y gwydr golau a'r gwin yn cochi ynddo y ddiod frâg yn ewyn yn y corn."[24]

Ymddengys mai anfynych y rhostid cig; at gig wedi ei ferwi y ceir cyfeiriadau amlaf. Sonnir yn ystori Cilhwch ac Olwen am Arthur yn bwyta golwythion ar sgiwer ac yn rhoi peth hefyd i eraill. Gwelodd Peredur fab Efrawc drwy gil drws y babell ddwy fflasg o win a dwy dorth wen a golwyth o gig baedd gwyllt. Sonnir am Enid yn mynd i'r dref i brynu bwyd i groesawu Geraint, a hogyn yn dyfod adref gyda hi â chwarter eidion ar ei gefn. Berwir hwnnw a rhoddir ef i Beredur i'w fwyta gyda bara gwyn a bara coesed (sef bara gwynnach na'r cyffredin), a ddygasai hi yn ei ffedog. Yn ystori Breuddwyd Rhonabwy, ar y llaw arall, ceir disgrifiad of groeso gŵr anfoddog: rhoddodd fara haidd a chaws i Ronabwy a'i gyfeillion i'w fwyta a dŵr a llaeth i'w yfed.
Y mae'n amlwg, fodd bynnag, fod yfed gwin wedi dyfod yn beth lled gyffredin ymysg llên a lleyg. Nid oes gywydd i abad, mwy nag i arglwydd, nad oes ynddo gyfeiriad at win- oedd ei wledd. Gwyddai Lewis Glyn Cothi yn fanwl o ba ran o'r cyfandir y ceid y gwinoedd gorau; a dengys ystadegau fod cryn lawer o win yn dyfod i mewn i borthladdoedd Cymru.
Ond y ddiod fwyaf cyffredin ydoedd medd a bragod, a chydnebydd cyfreithiau Hywel hawl swyddogion y llys i gael cyfran o'r gwirodydd. Er enghraifft, câi'r distain hyd ei fys o'r cwrw oddi ar y gwaddod, hyd hanner bys o fragod a hyd y cymal cyntaf o fedd.[25]
Yr oedd y naill a'r llall i'w gael yn Sycharth:
* * *Blaenffrwyth cwrw Amwythig
Gwirodau, bragodau brig
Pob llyn, bara gwyn a gwin*****A gwraig oreu o'r gwragedd
Gwyn y myd o'i gwin a'i medd.
Dichon fod gormodiaith yng ngwaith y beirdd, fel yng nghywydd moliant Dafydd Nanmor i Rys o'r Tywyn, ond dengys o leiaf beth oedd eu syniad am wledd deilwng:
Mwy'r ŵyl nag yn y ddwylys,
O gig rhost gan gogau Rhys;
Tryma' hyd y mae tremynt,
Tri eu gwaith hyd y try gwynt,;
Pobydd a cherfydd a chog
A droes iddo'n dri swyddog;
A'i fwtler yw'r pedwerydd,
Mwya'i dasg hyd y mae dydd,
Yn dwyn ni bu newid well,
Gwin at hwn, o gan tunell;*****Ei ddwyn y mae'r ddwy ynys,
Islaw'r allt i seler Rys.*****Pe bai gan' mil yn ddilys,
O erydr rhif ar dir Rhys;
A thrichan' gwinllan a gwin,
Ac yn malu gan' melin;
Pe bai'r ddaear yn fara,
Neu flas dŵr fal osai da
Yn y wledd rhyfedd barhau
Dŵr a daear dri diau!
Rhed bron yr un syniad trwy gywydd meistrolgar Siôn Cent i Wagedd ac Oferedd y Byd:
Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml? Mae'r lleisiad?
Mae'r tai cornogion? Mae'r tir? M
ae'r swyddau mawr os haeddir?
Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd?
Mae'r cig rhost? Mae'r côg a'u rhydd?
Mae'r gwin? Mae'r adar? Mae'r gwŷdd?
A gludwyd oll trwy'r gwledydd?
Mae'r feddgell deg? Mae'r gegin
Islaw'r allt? Mae'r seler win?
Mae'r siwrnai i Loegr? Mae'r seirnial?
Mae'r beirdd teg? Mae'r byrddau tal?
Mae'r cŵn addfwyn cynyddfawr?
Mae'r cadw eleirch? Mae'r meirch mawr?
Mae'r treisiad aml? Mae'r trysor?
Mae'r da mawr ar dir a môr?
A'r neuadd goed newydd gau
A'r plasoedd a'r palisau?
Diddym ydyw o dyddyn
Ond saith droedfedd, diwedd dyn.
Tebyg yw syniad Gutyn Owain yn ei awdl i Ddafydd, Abad Glyn Egwestl:
Afon o lasfedd i'w yfed—a gawn,
Gwin, osai, a chlared;
Meddyglyn rhwydd i'n rhed
Pob da esmwyth, pob dismed.
Rhed yr un ganmoliaeth trwy'r cwbl bron o waith Tudur Aled. Gweler argraffiad ysgolheigaidd yr Athro T. Gwynn Jones (Gwasg y Brifysgol), a chymerer a ganlyn fel enghraifft, allan o'i awdl i'r Abad Dafydd ab Owain o ystrad Marchell (tud. 16):
P'le well arglwydd rhwydd rhoddion,—prif ansodd,
Fenswn, adar gwylltion?
Pwy sy gogau pysg eigion,
Portreio saig Preutur Siôn?
Seigiau, pob bwydau, pob byda—gwenyn,
Gwinwydd o Sermania;
Gwin Siêp ag Ynys Opia,
Geinys, dwg i'n osai da.
Ceir cryn ddyfalu ymysg haneswyr bywyd cymdeithasol Lloegr parthed y grawn a dyfid ac a fwyteid yn gyffredin gan werin yr oesoedd canol. Barnai Thorold Rogers eu bod wedi dechrau byw ar fara gwenith yn lled gynnar, ond maentumia Ashley, ar y llaw arall, na ddaeth gwenith i arfer gyffredin hyd y ddeunawfed ganrif, ac mai bwyd cyffredin gwerinwr yr oesau canol oedd bara rhyg, neu fara rhyg a gwenith yn gymysg â adwaenid fel maslin[26] neu weithiau fel mongcorn, neu yn wir monk corn. Ceir y gair mancorn yng Nghymru. Cynhwysai eiddo bwrdeiswyr Nefyn yn 1294 swm neilltuol o fancorn. Adwaenid y bara a wneid o'r mancorn—gwenith a rhyg yn gymysg—fel bara canrhyg neu fara coch. Dywed Gerallt yn bendant mai ceirch oedd y prif rawn a fwyteid gan y Cymry yn ei amser ef. "Y mae'r holl bobl bron," meddai, yn byw ar gynnyrch eu deadelloedd, ynghyda cheirch, llaeth, caws ac ymenyn; bwytaent fwy o gig nag o fara." Ychwanega, fodd bynnag, eu bod yn codi gwenith, yn ogystal â cheirch.[27]
Dywedir yng nghyfreithiau Hywel Dda fod y dawn bwyd y gorfyddid i'r taeog ei dalu i'w arglwydd yn cynnwys bara gwyn, ond ni ellir casglu oddi wrth hynny fod y taeogion eu hunain yn byw ar fara gwyn.[28] Rhed yr un anhawster trwy'r holl dystiolaethau a feddwn—cyfeiriadau ydynt at y rhenti a delid gan daeogion neu denantiaid rhydd, neu at y cnydau a godid gan amlaf ar feysydd yr arglwydd. Fe'n synnir, fodd bynnag, gan brinned y cyfeiriadau at ryg a geir ynddynt, oherwydd fe dyfid rhyg yn lled gyffredin yng Nghymru yn nechrau'r ganrif ddiwethaf ac fe'i tyfid hefyd yn yr 16eg, yn ôl tystiolaeth George Owen a Leland.
Cyfeiria Gerallt hefyd at y torthau a wneid ganddynt bob dydd fel lagana, a adwaenir heddiw fel cacen neu dorth radell. Ni ddywed pa un ai blawd ceirch ai peilliaid a ddefnyddid i'w wneud, ond gellir casglu oddi wrth yr hyn a ddywedwyd eisoes mai bara ceirch oedd.
Dywed George Owen, hanesydd Sir Benfro, a sgrifennai yng nghyfnod Elisabeth, fod Cymry gogledd y Sir yn dal i godi ceirch, fel y gwnai eu teidiau genedlaethau cyn hynny, ar dir y gellid codi gwenith neu ryg arno, ond gwell oedd ganddynt yr hen rawn.[29] Ar y llaw arall, rhydd Syr John Pryce "Yn y Llyvyr Hwnn," gyfarwyddiadau at dyfu gwenith a rhyg, ond dichon ei fod yntau, fel ei gyfoeswr George Owen, yn dipyn o ddiwygiwr amaethyddol.

Ceirch a godid yn bennaf yn Arglwyddiaeth Dinbych yn amser Lacy, Iarll Lincoln, 1334, er y ceir cyfeiriad at wenith yn tyfu ar lawr y dyffryn rhwng afon Elwy a'r môr.[30] Ar y llaw arall, yng nghymdogaeth Rhuthyn yn uwch i fyny dyffryn Clwyd gwysir gŵr o'r enw Ap Meredith o flaen Cwrt Rhuthyn am ddwyn gwenith a rhyg o ysgubor yn y dref.[31] A gwenith y talai tenantiaid Maelor Gymraeg eu rhenti yn 1508, ag eithrio Merffordd lle ceir rhenti ceirch.[32] Ym Mhowys yn 1309 sonnir am ograid o wenith neu flawd fel rhent, ac weithiau am fwsiel o geirch yn yr un modd.[33] Yn Llyfr Du Tyddewi ceir manylion am y cnydau a godid ar faenorydd yr Esgobaeth, a cheir aml gyfeiriad at ryg yn eu mysg, ac fe wahaniaethir yn fanwl rhwng y gwahanol fathau o wenith a godid.[34] Ym Môn (1294) sonnir am wenith, ceirch a haidd, yn ogystal â rhyg.[35]
Fel y sylwyd eisoes, sonnir yn y Mabinogion am fara haidd, bara gwyn a bara coesed. Bara gwynnach na'r cyffredin oedd bara coesed. Yn neddfwriaeth Lloegr cydnabyddid gwahaniaethau yn ansawdd y bara wrth benderfynu'r prisiau. Sonnir am bedwar math o fara: Wastell—bara gwyn cyffredin— hwn oedd y safon y penderfynid gwerth y llei wrtho; Simnel—bara gwyn o ansawdd gwell (bara coesed?): Coket— bara cymysg o wenith a rhyg; Treit—bara du.[36] Cresid pedwar math o fara ym Mynachlog Caerwrangon—bara gwyn i'r myneich, bara i'w rannu i'r tlodion, bara'r gwasanaethydd— ion, a bara'r gradell.[37]
Dengys cyfrifon yr Ysbytywyr eu bod hwy yn byw, yn bennaf, ar fara gwyn. Yn y flwyddyn 1338, defnyddiwyd yn Halston (Croesoswallt) a Dolgynwal (sef Ysbyty Ifan) gymaint â 70 chwarter o wenith, 2/6 y chwarter, a 30 chwarter o ryg, 2/— y chwarter, i wneud y bara a alwent hwy yn fara teuluaidd.[38] Ni wyddys pwy a gai'r bara gwyn a phwy y bara du, ond os dilynent arfer tai cyffelyb mewn rhannau eraill o'r wlad, defnyddid y bara du i'w roi yn elusen i'r sawl a ddeuai yno yn eu tro. Cwynai'r ysbytywyr oherwydd nifer eu gwesteion, ond nid yr un croeso a gâi pawb.
Dywed William Salesbury yn ei Lysieulyfr ysgolheigaidd,[39] a sgrifennwyd, ym marn ei olygydd, cyn 1597, fod rhyg yn ei amser ef yn "lysae digon adnabyddus gan y bobl annysgedig," a maentumiai nad oedd well lle am godi cnwd ohono na Llewenni. Paham y rhydd Salesbury gymaint o sylw i'r grawn hwn, os ydoedd mor adnabyddus ag y maentumiai, a chyn lleied i'r lleill, ni wyddom. Dywed fod y bara braidd yn drwm ar y ddwyfron, neu yng ngeiriau hen ysgrifennydd Seisnig, "abideth long in the stomach," ac oherwydd hynny yn ddefnyddiol iawn fel bwyd llafurwyr.
Cawn yng nghyfrifon Rowland Griffith, a weithredai fel stiward i Syr William Morus, Clenennau, restr ddiddorol o'r grawn a ddefnyddid yn nhŷ uchelwr yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg (1609) [40]
II pecks of oatmeal, xxxii s.
II hobbets of rye bought at Geast (Gest) xiii s.
6 hobbets of wheat bought at Poolhelye, 5 Sept. at 6/2! the hobbet, 12/v d. the hobbet=37/6.
4 pecks of munchorne at viii and vi d., 34/—
For manchetts iii d. Bara coesed.
For wickiorne, xvi d.
Y mae'n bwysig cofio bod bywyd yr oesau canol yn chwarae rhwng dau eithafbwynt. Ar brydiau ceid cyfnod o ymprydio, fel yn ystod y Grawys ac amserau penodedig eraill, ac yna deuai dyddiau gwyl, pryd y bwyteid ac yr yfid lawn mwy na digon.
Yn y cyfnod y sonnir amdano, perthynai rhannau helaeth o Gymru a'r goror i Esgobaeth Henffordd, a dengys cyfrifon yr esgobaeth am y flwyddyn 1289—90 gymaint o fwyd a diod oedd yn angenrheidiol mewn tŷ esgob yn y dyddiau hynny. Ddydd Gwener, y 30 0 Fedi, 1289, yr oedd yr esgob yn ei blas yn Sugwas, gerllaw Henffordd, a chan ei fod yn ddydd ympryd, nid oedd ond pysgod i'w bwyta. Yn ystod y dydd hwnnw bwytawyd cynifer â 250 o benwaig, 200 o lampreys, 4 ffonaid o lysywenod (crogid hwy wrth ffon er mwyn hwylustod i'w cario), 1 eog, a 4 pysgodyn penfras. Erbyn y Sul yr oedd adeg ympryd drosodd, a bwytawyd y diwrnod hwnnw 3 chwarter o gig eidion, 3 dafad, hanner mochyn, 8 gwydd, 10 cyw, 12 colomen, 9 petrisen ac ehedyddion. Ddydd Iau'r Dyrchafael, 1290, yr oedd yn ei gastell—Bishop's Castle yn ymyl Trefaldwyn,— ac yn ystod y dydd hwnnw cafwyd hanner eidion, 1 bwch,
11 o eifr, 1 mochyn, 2 lo, a 19 o wyddau. Ar yr achlysur hwn yr oedd y pobydd wedi crasu dau bwn o flawd, ac yr oedd bob amser gyflawnder o win—coch a gwyn—a chwrw at alwad.[41]
Ceir tystiolaeth gan Gerallt am y gloddesta ymhlith y myneich. Un tro, pan oedd ar ei ffordd adref o'r cyfandir, cafodd ei wahodd i giniawa gyda'r myneich ym mynachlog Caergaint. Sonia am y chwe chwrs, a dywed y dygid llysiau i'r bwrdd er mwyn cadw llythyren cyfraith Bernard Sant, er na fwytâi neb ohonynt. Sonia hefyd am y diodydd a'r gwinoedd. Rhoent y cwrw yn yr un dosbarth a'r llysiau, fel rhywbeth islaw sylw'r mynach, a thebyg, fel y gwyddys, yw tystiolaeth y cywyddau.
Er a ddywed Gerallt am aflerwch y bywyd Cymreig, y mae'r rhestr faith o ddodrefn a chelfi tŷ a geir yng nghyfreithiau Hywel—lawer ohonynt, fe ddichon, yn ddigon anhylaw—yn dangos datblygiad uchel ymysg y Cymry yn y grefft anodd o hel cartref at ei gilydd, pan nad oedd gwawr yr oesau canol ond prin wedi torri ar eu hanes. Dyma rai o'r pethau a enwir: crochanau, piseri, poteli lledr, cwpanau, cradelli, dysglau, gograu, meginau, cerrig melin law, cist, ystol, setl, mit, buddai, gobennydd, cynfas, clustogau, etc., ac y mae'r offer bron yn ddihysbydd trwmbel, aradr, ôg, cwlltwr, berwa, bangorau, einion, megin gof, slêd, morthwylion, cistiau, cerrig hogi, gwelleifiau, crymanau, rhawiau, rhidyll, ffust, etc.
Ni cheir llawer o wybodaeth gan Gerallt am y gwisgoedd, ag eithrio'r wisg filwrol. Y mae'r Mabinogion, ar y llaw arall, yn llawn o gyfeiriadau at wisgoedd gorwych y cyfnod. Yr oedd y dynion a'r merched yn hoff o ymwisgo mewn lliwiau tanbaid. Ar y cyntaf, dichon mai lled lwydaidd oedd y wisg. Pan oedd Pwyll Pendefig Dyfed yn hela yng Nglyn Cuch, fe gyfarfu â heliwr arall mewn gwisg o frethyn cartref, ond wedi iddo gyrraedd y llys fe'i gwisgwyd, fel y sylwyd eisoes, gan ddau farchog mewn gwisg o sidan ac aur. Yn unol â deddfau caeth sifalri'r cyfnod, fe benderfynai safle gymdeithasol y person beth fyddai natur ei wisg. Gwisgai'r dynion fath o gob isaf gyda chob arall ferrach drosti, a mantell neu glog dros honno, hosanau hirion neu weithiau lodrau am eu coesau ac esgidiau isel o groen neu o ledr am y traed.[42] Dywed Gerallt y byddent yn mynd yn droednoeth neu yn gwisgo esgidiau uchel o groen. Gwneid y dillad yn fynych o'r pali y mae cymaint sôn amdano, ond nid oes sicrwydd pa ddefnydd a olygid, ond yn unig ei fod o nodwedd sidanaidd. Yr hyn a'n synna fwyaf, fodd bynnag, yw eu cariad at liw. Yr oedd gwyrdd a melyn yn boblogaidd odiaeth, a goreurid y wisg os byddai'r person yn ŵr o radd. Du neu wyrdd fyddai'r llodrau, a'r hosanau yn felyn. Esgidiau o ledr, a hwnnw yn lliwiedig, oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Mabinogion.
Ymhlith y merched, yr oedd pali gwyn a melyn yn boblogaidd iawn. Gwisgid gorchudd dros y pen ac addurnid y talcen â thlysau o aur neu o feini gwerthfawr. Gwisgid math o gôt fer neu wasgod gyda chôt hir laes dros honno, ac am y traed gwisgid esgidiau lliw. Mewn breuddwyd gwelodd Macsen Wledig ferch yn eistedd mewn cadair ruddaur. Gwisg o sidan gwyn oedd amdani, gyda boglynnau aur ar ei bronnau; swrcot wedi ei gweu o aur drosti, ac ar ei thalcen, torch o ruddaur yn llawn o emau a pherlau a meini gwerthfawr. Am ei chanol yr oedd gwregys o aur melyngoch. Gallwn yn hawdd gytuno â'r awdur pan ddywed na welodd dyn erioed olygfa cyn dlysed.

1, Gwiail; 2, Derw.
Llyfrau.
CEIR erthygl ar y tŷ Cymreig gan yr Athro Timothy Lewis yn Aberystwyth Studies, IV. Ar ddatblygiad y tŷ yn yr oesau canol gweler Addy: Evolution of the English House; Turner: Domestic Architecture of the Middle Ages; Gotch: Growth of the English House (1100-1800). Rhydd cyfreithiau Hywel fanylion am y gwahanol dai a adeiladid ar wahanol dymhorau'r flwyddyn, ynghyda gwerth pob rhan ohonynt. Sonia Gerallt hefyd am y tŷ. Ceir disgrifiad da ohono gan Seebohm yn ei English Village Community. Gweler hefyd lyfr rhagorol Harold Hughes a Herbert L. North ar ddatblygiad llai uchelgeisiol-ond nid llai ei swyn-y bwthyn Cymreig—The Cottages of Snowdonia. Ceir ambell erthygl yn yr Archeologia Cambrensis, fel eiddo Baker ar dai Llansilin. Y mae'r Mabinogion yn llawn o ddisgrifiadau o ddulliau byw a gwisgo. Dengys cyfrifon y Normaniaid, yn enwedig y Surveys, beth oedd cyflwr y cestyll. Llyfr y diweddar Syr W. J. Ashley, The Bread of our Forefathers (Ford Lectures, Rhydychen, 1926), yw'r ymdriniaeth lawnaf ar fwyd ein hynafiaid.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ceir son yng nghyfreithiau Dyfed am y polion a'r gwiail hyn. Gweler y dyfyniad ar ddechrau'r bennod.
- ↑ Ceir y gair Hendref yn y cyfreithiau. Gweler Ancient Laws, I, 437, 779.
- ↑ Ancient Laws, I, 720.
- ↑ Ar gadw hafod yn y ddeunawfed ganrif gweler Pennant's Tours, Vol. II, 334—5. Ceir disgrifiad byw o fywyd yr hafod yn nechrau'r ganrif ddiwethaf yn hunangofiant Ap Vychan.
- ↑ Gweler The Evolution of the Welsh House gan Timothy Lewis, Aberystwyth Studies, IV.Ceir awgrym o hyn yng nghyfreithiau Hywel. Ar ôl sôn am neuadd ytaceog, a oedd yn werth 80c, dywedir bod iddo odai (pentai) yn cynnwys cell neu siambr, beudy, ysgubor, odyn, cail neu gorlan, a chwt mochyn. (Ancient Laws, I, 292: Gwynedd.)Cymharer y tŷ fel y disgrifir ef uchod â thŷ Saterland yn The Evolution of the English House, gan Addy.
- ↑ Iolo Goch: Cywydd Sycharth
- ↑ Ancient Laws, I, 292. (Gwynedd.)
- ↑ Seebohm: English Village Community, 241.
- ↑ Arferai'r Esgob Swinfield gludo'i gegin gydag ef. Gweler A Roll of the Household Expenses of Bishop Swinfield, 1854. cxxiv (Camden Society).
- ↑ Giraldus Cambrensis: The Itinerary Through Wales ("Everyman Library"), p. 170.
- ↑ Ibid., 170.
- ↑ Chwedl Iarlles y Ffynnon
- ↑ Gweler gynllun y Siambr Wen, gerllaw'r Ddiserth, Sir Fflint, neu Dre'r Tŵr, Sir Frycheiniog
- ↑ Gweler Aberystwyth Studies. Vol. IV. Erthygl Timothy Lewis, The Evolution of the Welsh House.
- ↑ Giraldus Cambrensis: op. cit., 169.
- ↑ Llyfr Du Tyddewi, 199, 205.
- ↑ Bangor. Fel enw cyffredin ystyr y gair bangor yw y wialen uchaf sydd yn clymu y glwyd blethedig wrth ei gilydd. Ac yn naturiol ddigon daeth i gael ei ddefnyddio am y glwyd ei hun. Nid oes sicrwydd a oes unrhyw berthynas cydrhyngddo a Bangor fel enw ar le. Awgryma rhai i'r enw gael ei roi ar le am fod yr eglwysi cyntefig wedi eu gwneud o "fangorau." Ond nid oes eglwys ym mhobman lle y ceir yr enw Bangor.
- ↑ Ibid., 255.
- ↑ Ibid., 213. "And they ought to carry the heavy materials for the five buildings which cannot be carried by one horse from the forest of Atpar to Landogy, namely for the Hall, the Lord's room, the kitchen, stable and grange"—dyma odai y cyfreithiau.
- ↑ Survey of Denbigh, 149.
- ↑ Cadarnheir hyn gan y cyfreithiau. "Naw tŷ y dylai mileiniaid y brenin eu gwneuthur iddo; neuadd, ystafell, bwyty, ystabl, cynordy (i'r cŵn), ysgubor, odyn, tŷ bach a hundy."—Ancient Laws, 1, 78.
- ↑ Giraldus Cambrensis: op. cit., 168.
- ↑ Ibid., 169.
- ↑ T. Gwynn Jones: Llenyddiaeth Cymru. T.16.
- ↑ Ancient Laws, I, 362 (Dyfed)
- ↑ Ceir ugeiniau o ffurfiau i'r gair maslin, megis miscelin, meslin, mixtilis,— o'r Lladin mixtilium, gair yn golygu grawn cymysg. Yr un gair yn union yw mongcorn, o'r Saesneg "mong" (cymysg), ac nid o'r gair Cymraeg "man," fel yr awgryma Dr. Rees yn ei lyfr, South Wales and the March. Nid oes ychwaith unrhyw gysylltiad rhwng y gair a monk (mynach); yn unig fe galedwyd yr "g" yn" mong" o flaen yr "c" yn" corn."
- ↑ Giraldus Cambrensis: op. cit., 166.
- ↑ Ancient Laws, I, 198, 532—4, 770. Os nad oedd blawd gwenith, dywed y cyfreithiau fod bara ceirch i'w dalu.
- ↑ Pembrokeshire, I, 59—61. "The welshemen being the worser husbandes aplie more the tillinge of oats." Ar y llaw arall," The Englishmen use most sowinge of wheat Rie barlie pease and beans."
- ↑ The Survey of Denbigh, 307, 312, etc.
- ↑ Ruthin Court Rolls, 8.
- ↑ Palmer: A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches, Appendix. Ond yn yr Extent of Bromfield and Yale, a olygwyd gan T. P. Ellis, sonnir am wenith, rhyg a cheirch.
- ↑ Montgomeryshire Collections, Vol. I.
- ↑ Llyfr Du Tyddewi. Introduction, Ixxvii, 74, 108, 120, etc
- ↑ Seebohm: Tribal System in Wales, Appendix Aa.
- ↑ The Register of Worcester Priory (Camden Society), ci.
- ↑ Ibid.,
- ↑ Wrth fara teuluaidd golygid, fel rheol, y bara du a gâi'r gweision. Gweler Knights' Hospitallers in England, Camden Series (1857), 35—40.
- ↑ Llysieulyfr Meddyginiaethol a briodolir i Wm. Salesbury. Edited by E. Stanton Roberts, M.A., p. xxxi.
- ↑ Archæologia Cambrensis, Original Documents, I, cviii.
- ↑ Bishop Swinfield's Household Expenses, Camden Series, 1854, civ, a cxcvi; 1853, pages 3, 82 and 83.
- ↑ Gweler y Mabinogion, yn enwedig Iarlles y Ffynnon, Pwyll Pendefig Dyfed, a Breuddwyd Macsen Wledig.

VIII.
Y Fforest.
He made large forests for the deer, and enacted laws therewith so that whoever killed a hart or a hind should be blinded. As he forbade killing the deer so also the boars; and he loved the tall stags as if he were their father. He also appointed concerning the hares that they should go. free. The rich complained and the poor murmured, but he was so sturdy that he recked nought of them.—O'R ANGLO SAXON CHRONICLE (AM WILLIAM Y CONCWERWR).
A BARNU oddi wrth y Mabinogion a chwedlau cyffelyb, gellid tybied fod y Cymry yn treulio bron y cwbl o'u hamser yn hela neu yn ymladd, ac y mae'n bosibl bod y darlun yn un gweddol gywir o fywyd yr urddasolion. Fel y dywed Gerallt, pan na byddai rhyfel, byddent â'u bryd ar baratoi ar ei gyfer, a pha ymarfer corfforol well na hela'r anifeiliaid gwylltion a heigiai yn y coedwigoedd? Fel y dywedwyd eisoes, yr oedd cyfran helaeth iawn o'r wlad yn dir gwyllt. Yn ôl cyfreithiau Hywel, perthynai'r tir hwn i'r wlad a'r genedl yn gyffredin,[1] ac yr oedd hela ynddo yn anghenraid bywyd yn ogystal ag yn ddifyrrwch. Câi'r gwŷr rhydd hela a physgota faint a fynnent,[2] a chai'r taeog, yntau, hela'r dyfrgi, y blaidd, y llwynog a'r iwrch. Os digwyddai i unrhyw un, rhydd neu daeog, glwyfo anifail gwyllt, yr oedd ganddo hawl i fyned ar ei ôl i ba le bynnag yr âi. Yr oedd yr holl foroedd a'r afonydd yn rhydd, ond yr oedd rhaid i'r sawl a rwydai afon roddi dwy gyfran o dair o'r pysgod i berchennog y tir. Yr oedd y Cymry yn gryn feistriaid ar gelfyddyd rhwydo pysgod a maglu helwriaeth.[3]
Dichon y dengys cyfreithiau'r llys yn well na dim arall y lle amlwg oedd i hela ym mywyd y cyfnod. Ymhlith swyddogion y llys ceir y pen hebogydd yn bedwerydd ar y rhestr, a'r pen cynydd yn ddegfed.[4] Mewn adran arall, a adwaenir fel adran y Priodolion leoedd, dywedir bod y pen hebogydd i eistedd yn nesaf at yr "edlyg," sef yr etifedd, a'r pen cynydd yn nesaf at offeiriad y teulu. Ymysg swyddogion arferol y llys, hynny yw y swyddogion hynny a ddaliai swydd cyn yr ad-drefniad a wnaed, fe ddichon, gan Hywel, ceir cyfeiriad at y coedwr-neu'r cynnutwr-swydd, fel y cawn weld, a ddaeth i gryn amlygrwydd yn y cyfnod Normanaidd.[5]
Agorai'r tymor hela ar yr wythfed o Chwefror, pryd yr âi'r pen cynydd, gyda'i gwn a'i gyrn, i hela'r bychod. Parhai hyn hyd ŵyl Ieuan hanner haf. O hynny hyd y nawfed dydd o'r gaeaf helid ceirw o bob oed, ac yna hyd y cyntaf o Ragfyr helid y baedd gwyllt—moch coed.[6] Daliai'r pen cynydd ei dir fel gŵr rhydd. Câi ei geffyl a'i frethyn gan y brenin, a'i liain gan y frenhines. Hefyd, câi draean dirwy'r helwyr yn ogystal ag amobr eu merched. Cysgai yn yr odyn, a gofalai'r llys am dri chornaid o ddiod a dysglaid o gig iddo bob dydd.[7]
Tebyg yw'r manylion a geir am y pen hebogydd. Ystyrrid yntau hefyd yn ŵr rhydd a châi draean dirwy'r hebogyddion ac amobr eu merched. Yr oedd i gael croen hydd yn yr hydref a chroen ewig yn y gwanwyn i wneuthur menyg i gario'r hebog ar ei arddwrn. Cysgai ef yn yr ysgubor—yr oedd berygl i'r mwg yn y neuadd ddallu'r adar.[8]
Yn y Mabinogion, wrth gwrs, y ceir y syniad llawnaf am rwysg a rhamant y bywyd hwn, ond ni wneir yma ond cyfeirio yn unig at rai o'r disgrifiadau ysblennydd a geir yn britho'r chwedlau hynny, megis y disgrifiad o'r cŵn yn ystori Pwyll, o'r heliwr yn ystori Culhwch ac Olwen, ac o hela'r Baedd Gwyllt—y Twrch Trwyth—yn yr un ystori. Cydnabyddir yn lled gyffredin, fodd bynnag, fod delw'r Norman yn drwm ar y disgrifiadau hyn.
Yr oedd y Norman yn ddihareb am ei hoffter o hela. Dywed yr hen groniclydd, Florence o Gaerwrangon, i Wiliam y Concwerwr, wrth greu'r New Forest, ddiffeithio gwlad flodeuog a throi'r trigolion dros y drws a dinistrio tai ac eglwysi. Credir erbyn hyn fod Florence wedi gorliwio ychydig, ond dengys yr Anglo—Saxon Chronicle na fedrai'r Saeson feddwl am Wiliam heb gofio am ei waith yn creu'r New Forest. Dengys Domesday Book fod yn swydd Hants tua 75,000 o aceri o dir gwyllt, ac ychwanegodd Wiliam at hwnnw rhwng 15,000 ac 20,000 o aceri. Yr oedd ar y tir hwnnw tuag ugain o bentrefi a dwsin o dreflannau. Trowyd dros y drws dros 500 o deuluoedd—dros 2,000 o bobl; ac mewn cyfnod diweddarach ychwanegwyd 20,000 o aceri yn rhagor at y Fforest. Pan laddwyd Wiliam II yn y fforest a wnaed gan ei dad (ni wyddys ai ar ddamwain ai o fwriad y'i saethwyd), edrychai pawb ar y digwyddiad fel ymyriad hollol gyfreithlon—ychydig yn hwyrfrydig, fe ddichon —gan Ragluniaeth. Nid llai cariad ei olynydd, Harri I, at helwriaeth, ac ar y cyfan yr oedd, fel ei frawd, yn greulonach ei natur na'r Concwerwr. Bu cyfundrefn y Fforest yn asgwrn cynnen rhwng brenhinoedd Lloegr a'u deiliaid bron trwy gydol yr oesau canol.[9]
Wrth Fforest, yr hyn a olygid oedd adran arbennig o dir a gedwid gan y brenin at amcan helwriaeth. Yno, medd Fitzneal, awdur y Dialogus de Scaccario, yr ymneilltuai'r brenin i anghofio'i ofalon a'i bryderon, ac yr oedd y sawl a dorai ddeddf y Fforest yn troseddu yn erbyn y brenin ei hun.[10]
Olrheinir y term Fforest gan Fitzneal i'r gair Lladin "fera" (bwystfil). Awgryma eraill mai'r gair Cymraeg cors—lle anial—yw ei wraidd. Ond mwy tebyg mai o'r gair Lladin foris y tu allan—y tardd. Beth bynnag oedd ei darddiad, yr hyn a olygai oedd darn o dir y tu allan i gyfraith gyffredin y wlad; yr oedd dan ddeddf arbennig a ddeilliai, yn y pen draw, o fympwy bersonol y brenin ei hun. Deilliai cyfraith y Fforest, meddai Fitzneal, nid o gyfraith gyffredin y wlad, ond o ewyllys ei thywysogion; ac nid oedd yr hyn a wneid yn unol â'r gyfraith honno o angenrheidrwydd yn gyfiawn yn ystyr fanwl y gair, ond yn unig yn gyfiawn yn ôl safon deddf y Fforest.[11]
Ceir deffiniad ychydig yn wahanol gan ysgrifenwyr fel Manwood a Coke. Yn ôl Manwood, [12] pedwar anhepgor Fforest oedd gwyrddgoed (vert), hyddgig (venison), deddfau arbennig a swyddogion arbennig i'w gweinyddu. Ceir rhestr hwy gan Coke—daear, lloches, cyfreithiau, llysoedd, barnwyr, swyddogion, helwriaeth a therfynau arbennig.[13]

Cynhwysai'r Fforest nid yn unig goedwigoedd a thir diffaith, ond hefyd dir âr a phentrefydd cyfain. Gallai'r tir fod yn eiddo rhywun arall ac eto fod yn rhan o Fforest y brenin. Ar y llaw arall, nid oedd tir y Goron yn Fforest o angenrheidrwydd, onid oedd hefyd wedi ei neilltuo i helwriaeth ac wedi ei roddi dan ddeddf arbennig y Fforest. Mewn Fforest o gryn faint byddai hefyd barciau—adrannau wedi eu cau i mewn er diogelwch sicrach i'r helwriaeth. Yr oedd y parciau dan weinyddiad yr un ddeddf a'r Fforestydd. Yr oedd pedwar anifail a ystyrid bron yn gysegredig gan y brenhinoedd Normanaidd,
13 sef y carw coch, yr hydd, yr ewig, a'r baedd gwyllt. Hwynt— hwy oedd bwystfilod helwriaeth (beasts of the chase), ac unig amcan deddf y Fforest oedd eu diogelu.
Ymddiriedid gweinyddiad deddf y Fforest i ddau brif Farnwr, a rhennid y wlad yn ddwy adran ag afon Trent yn derfyn rhyngddynt. Perthynai fforestydd Cymru i adran uwch Trent. Yn nesaf at y Barnwr ceid y Pen Fforestwr, a ofalai weithiau am fwy nag un Fforest. Dano yntau drachefn ceid y ciperiaid, a wyliai symudiadau'r herwhelwyr y coedwyr, a edrychai na niweidid y coed; agistatores, a ofalai am godi'r tâl priodol ar y sawl yr oedd ganddynt hawl i anfon anifeiliaid i bori yn y Fforest. Agistment oedd y tâl a godid am bori'r glaswellt. Dywed Llyfr Du Tyddewi fod gan yr Esgob fforest o 40 acr yn Atpar, a phe na buasai yn ei gosod allan i'w phori (agistamenta), y gallai gadw nifer arbennig o'i anifeiliaid ei hun yno.[14] Codid tâl arall, a adwaenid fel pannage (mesobr, tâl am fes), ar y moch a fwytâi'r mes a'r cibau.
Arferai swyddogion y Fforest gydgyfarfod yn yr hyn a adwaenid fel y Swainmote, lle gwneid trefniadau ynglŷn â'r helwriaeth ac y derbynnid tâl gan y sawl a anfonai anifeiliaid i bori ar y Fforest, ond nid oedd a fynnai â chyfraith y Fforest. Cynhelid y Llys Cyfraith bob chwech wythnos, ac yno y cosbid y sawl a dorrai gyfraith y Fforest. Cedwid y troseddwyr gwaethaf nes deuai'r barnwr heibio, a digwyddai hynny unwaith bob tair neu saith mlynedd, ac ambell dro ddim ond unwaith mewn pymtheng mlynedd. Y barnwr hefyd a roddai gosb ar swyddogion y Fforest pan fyddent yn anffyddlon i'w hymddiriedaeth.
Fel y gellid tybied, ystyrid deddf y Fforest yn un hynod greulon, a phan gofir bod oddeutu un rhan o dair o'r holl wlad o fewn terfynau fforestydd, hawdd deall mor orthrymus ydoedd. Rhennid y troseddau, fel rheol, yn ddau ddosbarth: (1) Trosedd yn erbyn y goedwig trwy dorri'r coed neu droi anifeiliaid i'r borfa, a (2) Trosedd yn erbyn yr anifeiliaid. Ystyrid torri pren yn gyfystyr â diffeithio'r goedwig, a chodid tâl ar y sawl a wnai hynny nes tyfai'r pren eilwaith i'w faintioli cyntefig. Pan ddadwreiddid y coed a thrin y tir, codid tâl am bob cnwd a geid ar y tir hwnnw. Adwaenid hyn fel assart (dadwreiddio), ac fel hyn, yn wir, y dygwyd y wlad o dipyn i beth dan driniaeth. Deuir ar draws yr enw ambell dro yng Nghymru. Y mae tyddyn o'r enw Dickin Assart ym mhlwyf Llansilin—tyddyn, a barnu oddi wrth ei safle, a fu unwaith yn rhan o'r goedwig gyfagos. Os codid clawdd neu wrych fel ag i ymyrryd â symudiadau'r helwriaeth, rhaid oedd talu am hynny drachefn. Adwaenid hyn fel purpresture—trawsfeddiant ac y mae'r term yn gyffredin iawn yn Stent Dinbych.
Yn amser Wiliam II, lleddid unrhyw un a geid yn euog o ladd helwriaeth. Nid oedd y Concwerwr lawn mor greulon, ond yr oedd tynnu llygaid ac anafau cyffelyb yn gosb gyffredin. Yng Nghrughywel, os delid unrhyw un yn trespasu ym mharciau'r arglwyddiaeth, rhoid ef yn y cyffion nes talai iawn, ac os methai dalu, torrid ymaith ei droed de.1[15] Os deuid o hyd i helwriaeth wedi trigo o fewn y Fforest, rhaid oedd i'r pedair tref ddegwm agosaf gynnal cwest, ac oni ddoent o hyd i'r troseddwr, yr oedd raid i'r dref ddegwm agosaf dalu dirwy.[16]
Gormesid yn eithriadol ar y sawl a drigai o fewn ffin y Fforest. Rhaid oedd tynnu ewinedd y cŵn i'w hatal rhag rhedeg y ceirw. Rhoid pawen y ci ar ddarn o bren, a thorrid ymaith y tri gewin ar un ergyd. Cun tua dwy fodfedd o led a ddefnyddid i'w torri, fel rheol. Ni chai'r trigolion godi tŷ na thwlc na chario arfau o fath yn y byd, na hel coed na chasglu mêl gwyllt na dal gweilch na thorri cangen o frig y coed heb ganiatâd y Pen Fforestwr.
Yn ystod teyrnasiad John, pan oedd helynt ynglŷn â'r Siartr Fawr, ac wedyn yng nghyfnod Harri III, gwnaed ymdrech i liniaru tipyn ar orthrwm cyfraith y Fforest, yn bennaf trwy geisio cael gan y brenin ddiddymu'r ychwanegiadau a wnaed at y Fforestydd brenhinol ar ôl dyddiau Harri I. Ar y 6ed o Dachwedd, 1217, cyhoeddwyd Siartr y Fforest gan Harri III, yn awgrymu gwneuthur hynny, ymysg gwelliannau eraill, ond, fel siartrau cyffelyb, parhau yn ddelfryd i apelio ato a wnaeth y Siartr hon, yn hytrach nag yn sicrwydd rhyddid a oedd eisoes wedi ei ennill.
Yn y frwydr hon bu Edward I, concwerwr Cymru, yn fwy di-ildio hyd yn oed na'i ragflaenwyr. Un o brif amcanion Siartr y Fforest oedd diddymu'r Fforestydd hynny a grewyd ar ôl dyddiau'r Normaniaid. Yr oedd y Fforestydd a wnaed gan Richard a John i'w diddymu ar unwaith, ac yr oedd dirprwyaeth i chwilio i mewn i'r rhai a grewyd gan Harri II. Ond pan ddaeth Edward I i'w orsedd, fe wnaeth ymchwiliad manwl i'r cwbl o'r Fforestydd is Trent, a phenderfynodd fod rhaid cadw pob llythyren yng nghyfraith y Fforest. I'r amcan hwnnw, medd Manwood, y dygwyd allan y casgliad o ddefodau ac arferion y Fforest (Consuetudines et Assise de Foresta). Cymerwyd y mater mewn llaw gan yr Archesgob Winchelsey, a gorfu i Edward, ar ei waethaf, ganiatáu gwneuthur ymchwiliad i weinyddiad y cyfreithiau hynny. Arwyddwyd y caniatâd ganddo yn Ghent ar y 5ed o Dachwedd, 1297; ond gofalodd Edward, er hynny, na bu dim newid yng ngweinyddiad y gyfraith.
Pan syrthiodd Gwynedd i'w ddwylo yn 1282, hawdd credu i ddeddf y Fforest gael ei rhoddi mewn grym yn yr adran honno o'r wlad, a oedd mor fanteisiol at fagu helwriaeth o bob math. Ar y llaw arall, rhaid cofio bod y coedwigoedd hyn yn lloches ardderchog i'r Cymry, a oedd o hyd yn wrthryfelgar eu hysbryd, ac oherwydd hyn rhoed gorchymyn i dorri i lawr ryw gymaint o'r coedwigoedd. Cafodd mynachlog Basing, yn Sir Fflint, goedwig Getly yn 1278, ar yr amod y diwreiddient y coed cyn pen tair blynedd. Gwnaed yr un peth â mynachlog Ystrad Fflur yn 1300 a hefyd ym Maldwyn yn 1278.17 Amhosibl bellach yw penderfynu beth oedd maint y Fforest- ydd hyn; ond gwnaed ymchwiliad i faint fforestydd Gwynedd yn 1575, ac mae'r cyfrifon a'r enillion fel y canlyn:
Acrau |
£ s. d. | |
| Caernarfon |
18,025½
|
18 15 6½
|
| Meirion |
12,769½
|
13 06 0½
|
| Môn |
791
|
16 5¾
|
31586
|
32 18 0½
|
Yr oedd rhan helaeth o Gymru nid yn eiddo'r goron ond yn nwylo'r Barwniaid. A siarad yn fanwl, gan y brenin yn unig yr oedd hawl i gael Fforest, a gallai yntau roddi hawl i bendefig gael parc ei hun neu drwydded i hela yn Fforestydd y goron.18 Cafodd Syr William Gruffydd drwydded o'r fath i gau i mewn Barc Penrhyn allan o Fforest yr Wyddfa (gweler td. 158). Bryd arall, dangosai'r brenin ei gymeradwyaeth o'r ymgymeriad trwy anfon helwriaeth i stocio'r parc. Dyna'r hyn a wnaeth Edward I à Henry de Lacy yn nyffryn Clwyd
17 Lewis: Transactions of the Royal Historical Society, New Series, XVII.
18 Wrth gwrs, yr oedd cadw Chace yn rhan o'r breintiau hawlid gan arglwyddi'r mers fel rhai oedd yn annibynnol ar y Brenin. (gweler td. 155). Pa un bynnag a yw'n briodol ai peidio ddefnyddio'r term fforest am goedwigoedd nad oeddynt yn nwylo'r goron, yr oedd delw arferion a deddfau'r Fforest yn drwm ar y coedwigoedd hynny a ddelid gan arglwyddi Normanaidd Cymry a'r goror. Erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yr oedd y barwniaid yn hawlio iddynt eu hunain y breintiau neilltuol hynny ynglŷn â helwriaeth a ystyrid gynt yn rhagorfraint y brenin ei hun; a hwynthwy, yn hytrach na'r brenhinoedd, a roddodd derfyn ar hawl y bobl gyffredin i hela.[17]

Buasai'n ddiddorol gael gwybod i ba raddau yr oedd rhywbeth tebyg i gyfundrefn y Fforest yng Nghymru yng nghyfnod y Tywysogion, hynny yw, a oedd y Tywysog Cymreig, yntau, wedi dechrau neilltuo adrannau arbennig o'r wlad i amcanion hela. Yn ei siartr i dref Llanfyllin, dywed Llywelyn ap Gruffydd na chai'r bwrdeiswyr dorri pren yn yr un o'r tair ffridd a gedwid ganddo ef iddo ei hun. Hefyd, yn y siartr a roddodd Arglwydd Arundel i denantiaid y Waun yn 1334, rhydd ganiatâd i'r gwŷr rhydd ddal "iwrchod, ysgyvarnogod, a llwynogod drwy gwbyl o'r tiroed ag a Swetpwyd uchod, odieuthyr yr hen balseu nullduol a wnant dan nawdd a gwahard yn amser Arglwyddi Cymry ag yn yr un mod y cadait hwynt yn amser yr un Arglwyddi," fel y cyfieithwyd hi gan ryw hen lyfrbryf.[18]
Ar y llaw arall, myn golygydd Llyfr Du Tyddewi fod yr hen gyfundrefn Gymreig yn drech hyd yn oed nag ystrywiau'r Normaniaid, yn enwedig yn adrannau mwyaf Cymreig yr esgobaeth. Wrth gyfeirio at Fforest Crynnenyth, maentumiai'r golygydd mai cyfeirio at hawliau'r esgob yn y goedwig a wneir.[19] Perthyn i wŷr Llanddewibrefi yr oedd y goedwig, ac yr oedd hawliau'r esgob yn ddarostyngedig i'w hawliau hwy. Myn y golygydd fod y cyfeiriad at hawl y tenantiaid i droi eu da i bori yn Fforest Atpar yn brawf o'r un peth, ond ni olygai hynny nad oedd deddf y Fforest yn cael ei gweinyddu yno, oblegid yn yr un adran ceir cyfeiriad at yr elw blynyddol a wneid oddi wrth lys y Fforest. Nid oedd bod gan yr esgob Fforest yn Atpar yn golygu mai ei eiddo ef oedd y tir yn y fan honno, oherwydd gallai'r Fforest fod ar dir rhydd-ddeiliaid fel y ceir hi yn fynych yn Lloegr a Gogledd Cymru. Yr oedd gan y rhydd—ddeiliaid hyn hawl, wrth gwrs, i droi eu hanifeiliaid i bori yn y goedwig, ond yr oedd honno ar yr un pryd yn ddarostyngedig i gyfraith y Fforest. Dichon mai hynyna oedd y safle yn Nhyddewi. Ni ellir felly dderbyn y cyfeiriad at yr anifeiliaid a borai ar y tir fel prawf o barhad yr hen gyfundrefn Gymreig, ac y mae'r awgrym y medrai'r Arglwydd gadw yno nifer arbennig o'i dda ei hun yn dangos y gallai wneud hynny pe dewisai. Ceir yr un awgrym yn union yn Stent Dinbych, a drawsfeddiannwyd gan y Normaniaid yn 1283.[20] Beth bynnag am hyn, y mae yn y Llyfr Du ddigon o gyfeiriadau at Fforestydd Esgob Tyddewi yn 1326, a dengys y rhain yn glir yr elw a ddeilliai o weinyddiad y gyfundrefn. Yr oedd yn Fforest Crynnenyth, yng ngwlad Llanddewibrefi," borfa i 240 o fuchod yn ôl ceiniog y fuwch. Dygai'r felin oedd yn y Fforest elw o 10 marc yn y flwyddyn. £2 yn y flwyddyn oedd elw'r llys, ac yr oedd y mêl hefyd o ryw gymaint gwerth, ond nid yw'r ffigur ar gael. Yn Atpar, ar wahân i'r goedwig gyffredin, perthynai iddo goedwig o 40 acr, pob acr yn dwyn i mewn 3d. yn y flwyddyn am y borfa a'r "ffrwyth oddi ar y coedydd"—y mes a'r cnau. Dyma'r goedwig lle gellid cadw cynifer â 12 o dda, 100 o ddefaid, a 240 o foch, oni bai am ei phori gan eraill. Yr oedd hefyd barc yn Llantefey a gynhwysai 140 o aceri, 48 ohonynt yn goed. Gellid cadw yn y parc hwnnw 60 o dda ar wahân i'r helwriaeth. Codid 7c. yr acr am y borfa y tu allan i'r coedydd a 6ch. am y borfa oddimewn. Yn yr un parc fe dorrid 30 llwyth o frwyn bob blwyddyn, gwerth 6ch. y llwyth, a 40 llwyth o redyn, gwerth 3c. y llwyth. Hefyd, yr oedd y mêl a'r cwyr a geid yn y goedwig o gryn werth. Yr oedd y mêl a gesglid yng nghastell Maurice, er enghraifft, yn werth 4c. yn y flwyddyn. Yr oedd iddo hefyd Fforest o 300 0 aceri yn Llwydiarth, lle yr oedd y cnau a'r mes yn werth 2/— yn y flwyddyn. Gellid cadw yno gynifer à 30 o gesyg llydnu, 40 o dda a 200 o ddefaid. Codid ceiniog am borfa pob un o'r da, a cheiniog am ddeg o ddefaid. Yr oedd y coed a werthid bob blwyddyn yn dwyn i mewn elw o 26/8.[21]
Rhydd golygwyr Stent Dinbych (1334) yr argraff na ddylanwadodd deddf y Fforest ar y mesur hwnnw o gwbl. Ar ba dir y maentumir hyn ni wyddom, oherwydd y mae'r Stent yn cynnwys pob manylion am fforestydd yr Arglwyddiaeth ar wahân i'r dirwyon mewn achosion neilltuol—ac yng nghofnodion llys y ceir y rheini ac nid mewn Stent.[22]
Ym mlaenaf oll, ceir manylion parthed y parciau—y lleoedd hynny a geuid i mewn er mwyn diogelu'r helwriaeth. Yr oedd un o'r parciau hyn, a adwaenid fel y Parc Bach, yng nghymdogaeth y Castell. Cynhwysai hwn 264 o aceri. Yr oedd saith acr ohono dan ddrain trwchus, pigog, ac yno y llochesai'r helwriaeth. Yr oedd yno hefyd 30 acr o werni yn noddfa i adar gwylltion. Galch—hill a Moelewig oedd enwau'r ddau barc arall, y naill yn cynnwys 62 o aceri a'r llall 442 o aceri. Amgylchid pob un o'r rhain à ffos a phalis, a gwylid hwy yn ofalus.[23] Bu gŵr o'r enw John Boston dros dymor yn borthor Parc Moelewig am dâl o 3/4 yn y flwyddyn. Anfonwyd ceirw i'w rhoi yn y parciau hyn o Fforest y brenin yn Delamere, swydd Gaer.
Yr oedd dros fil a hanner o aceri ym mharc Segrwyd, a chynhwysai rannau o ddwy dreflan o'i fewn, sef Segrwyd a'r Garth. Ceir rhestr faith o denantiaid a ddaliai dir ym mharc Segrwyd, yn union fel y delid tir gan denantiaid yn Fforestydd Lloegr.[24] Heblaw hyn, dywedir yn bendant y delid yr holl goedydd yng nghymwd Cimmeirch gan yr Arglwydd fel Fforest. Ni chai hyd yn oed y sawl yr oedd ganddynt hawl i'r goedwig, priodorion (tenentes priodarii, p. 48) neu etifeddion Cymreig dorri pren ohoni at wasanaeth tŷ neu dyddyn (housebote and haybote) heb ganiatâd y Fforestwr.[25] Nid oeddynt i gwympo na gwerthu coed, ac os ceid hwy yn euog o wneuthur hynny, yr oeddynt yn agored i ddirwy o 15/—. Nid rhyfedd fod yr achosion a'r enillion achlysurol eraill ynglŷn â llys Fforest Cimmeirch yn dwyn i mewn elw o 66/8 yn y flwyddyn.[26] Talai'r taeogion 2/— yn y flwyddyn am ambell faich o ddrain at wneud gwrych. Dygai'r coed crin a werthid f1 i'r cyllid bob blwyddyn, ac yr oedd cyfanswm elw'r Fforest yn y cymwd yn £4 8 8, heblaw'r hyn a dalai'r coediwr am ei swydd.
Yn Rhufoniog Isaled hefyd rhaid oedd i'r taeogion. dalu Ic. cyn y dydd cyntaf o Fai cyn y caent geuwydd at wneuthur neu drwsio gwrych. Rhaid hefyd oedd cael trwydded gan y Fforestwr neu'r Beili cyn y cae caeth neu rydd dorri tanwydd na choed o fath yn y byd yn eu coedwigoedd eu hunain; ac oni cheisient un, yr oeddynt yn agored i ddirwy o 15/-.[27]
Arwydd sicr o fodolaeth Fforest oedd y tâl hwnnw a adwaenid fel purpresture. Nid bob amser y gwahaniaethir y tâl hwn am godi clawdd neu dorri ffos melin—neu efallai am adeiladu melin o fewn terfynau'r Fforest—oddi wrth yr assart, y tâl a godid am gau i mewn ddarn o dir gwyllt i'w drin. Dywedir bod Cadwgan ap Einion yn dal wyth acr a hanner o dir de purprestura, a dywedir yr un peth am ŵr o'r enw Wiliam Ddu ap Dafydd, a ddaliai acer a hanner ym Mostyn.[28] Dywedir am Gernyfed ei fod yn goediog ac anial yn amser y tywysogion, ac nad oedd neb yn sicr am derfynau'r tir a gauasid i mewn ar ôl hynny. Yn Archwedlog ceir hanes diddorol iawn am bump o denantiaid yn rhoi eu tir i fyny am na chaniatái'r Fforestwr iddynt ei drin.[29] Yr oedd gan y Fforestwr, yn ddiau, resymau digonol dros wrthwynebu iddynt ei drin a thorri'r coedydd lle llochesai'r helwriaeth, a gwell oedd gan y tenantiaid, dan yr amgylchiadau, adael i'r tir fyned i ddwylo'r arglwydd, ac iddynt hwythau gael troi eu hanifeiliaid i bori yn y coedwigoedd a thalu am hynny—awgrym a ddengys ar unwaith natur gweinyddiad y ddeddf yn nyffryn Clwyd.
Bu'r swyddogion Normanaidd yn llygadog iawn i weled gwerth ariannol hen arferion cyfreithiol Cymru. Un o'r arferion a drawsfeddiannwyd ganddynt oedd y cylch, fel yr adwaenid ef yn y cyfreithiau. Yr hyn a olygid wrth gylch oedd y cyfrifoldeb a ddisgynnai ar aelodau'r llwyth i ddarparu lluniaeth i'r swyddogion pan ymwelent â hwy yn eu tro.

Yn y cysylltiad hwn, diddorol yw sylwi fel y defnyddir yr hen enwau Cymreig wrth roddi rhestr o swyddogion y cymwd yn Stent Dinbych, megis y Rhaglaw, y Rhingyll, a'r Coedwr. Gwneid hyn, y mae'n debyg, er mwyn diogelu'r budd a oedd yn ddyledus iddynt dan y gyfundrefn Gymreig. Er hynny, llithrir yn naturiol i ddefnyddio'r term Normanaidd; er enghraifft, dywedir bod tenantiaid caeth a rhydd Rhufoniog Isaled yn gyfrifol am gadw dau Fforestwr (sic.) yn ôl 3c. yn y dydd, hynny yw, £4 II yn y flwyddyn, i'w dalu ar ŵyl y Pentecost a gŵyl Fihangel. Yn yr un modd, Fforestwr yw'r term a ddefnyddir pan sonnir am ganiatâd neu drwydded i dorri coed yn y coedwigoedd. Am fanylion enillion y Fforestydd hyn gweler Atodiad I.
Yn ôl llythyrau'r Wyniaid, ymddengys fod rhydd-ddeiliaid y Gogledd yn ceisio gwadu bod Fforest yng Ngwynedd o gwbl. Anodd penderfynu i sicrwydd beth oedd wrth wraidd haeriad o'r fath, yn enwedig gan eu bod yn dywedyd ar yr un pryd fod yno gyfreithiau Fforest eisoes ("without impeaching or urging of any forest or forest laws otherwise than have been hitherto used."—Calendar of Wynn Papers, No. 57).
Apelio yr oedd y rhydd—ddeiliaid at Iarll Leicester, ffefryn y Frenhines Elizabeth, am gael cadarnhau'r breintiau hynny a roddwyd i Gymru trwy Siartr Harri VII. Mynnent hwy na bu Fforest yng Ngwynedd erioed, a diddorol odiaeth yw'r nodiadau a wnaed gan Owen Wynn yn ei ymgais i brofi hynny. Cafodd Wynn ar ddeall fod un o'r enw Lambert o Lincoln's Inn yn chwilotwr di—ail i'r hen gofnodion, ac y mae'n lled debyg mai ffrwyth ymchwiliad y gŵr hwnnw a geir yn nodiadau Owen Wynn. Nid oes air o sôn am Fforest, meddir, yn y Stent a wnaed yn y ddeuddegfed flwyddyn o deyrnasiad Edward I, ac ni ddefnyddir y term "Forest of Snowdonia " yn y Record of Carnarvon, a wnaed gan Delves yn 26 Edward III. Cydnebydd, ar y llaw arall, fod ymchwiliad eisoes wedi ei wneud i Fforestydd uwch Trent gan Domos Cromwell, ac y cyfeirir yn hwnnw at Fforest yr Wyddfa, gyda rhestr o'r swyddogion. Yn yr adroddiad hwnnw dywedir y byddai Barnwr Gogledd Cymru yn arfer â gweithredu fel dirprwy i Farnwr cylchdeithiol y Fforest uwch Trent, ac y cynhelid llysoedd y Fforest yng Ngogledd Cymru i weinyddu deddf y Fforest. Ynddo hefyd ceir aml warant dan law'r Barnwr i dorri coed yn y goedwig at wasanaeth cestyll y brenin yng Ngogledd Cymru, a hefyd drwyddedau i godi melinau. Yn yr un modd rhoed trwydded i Syr Wiliam Gruffydd i gau i mewn Barc Penrhyn allan o Fforest yr Wyddfa. Dywedir ymhellach fod cyhuddiad wedi ei wneud o flaen y Barnwr a Siryf Caer— narfon fod y rhydd—ddeiliaid yn arfer â thorri coed ar eu tir eu hunain—tir a oedd o fewn terfynau'r Fforest.[30]
Dengys y ffeithiau hyn nad oedd gan y rhydd—ddeiliaid lawer o le i ddadlau na weinyddid hen gyfraith y Fforest yng Ngogledd Cymru, ac mewn deddf a basiwyd yn yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Harri VII, ceir rhestr o'r swyddogion a oedd ynglŷn â'r Fforest yn y Gogledd:
Thomas Ferrour, Pen Fforestwr, Fforest yr Wyddfa.
Richard Young, Coedwr Caernarvon.
Coedwyr Meirionydd a Cheidwaid Parc Moelewyg.
Hic. Manley, Parciwr, Parc Bach, Dinbych.[31]
Ymddengys, fodd bynnag, fod Leicester yn barod i wneud ei ran i hyrwyddo cais y rhydd—ddeiliaid, a bod y Siryf hefyd yn y gyfrinach, ond cafodd hwnnw'r fath wrthwynebiad yn Eifionnydd "lle yr oedd y bobl yn hynod feiddgar; synnwyd ef gan eu hymddygiad bygythiol y fath nas gwelwyd mewn unrhyw wlad" nes teimlo ohono na ellid gwneud dim nes anfonid swyddogion yr Iarll yno i'w dychryn. Y mae'n amlwg bod y bobl gyffredin wedi deffro ac yn teimlo, fe ddichon, mai syrthio o'r badell ffrio i'r tân a fuasai dyfod dan awdurdod Wynn a'i gyffelyb. Gwell oedd ganddynt adael pethau fel yr oeddynt. Sgrifennodd Leicester at Siôn Wynn ar y pymthegfed o Fawrth, 1574, yn cydnabod bod Wynn wedi cael trafferth gyda'r trigolion "oddifewn ac oddeutu Fforest yr Wyddfa" ac yn gofidio ei fod ef a'i gyd—rydd—ddeiliaid wedi rhoi'r gorau i gais a oedd mor fanteisiol iddynt ("a suit so commodious for themselves"). Dengys hyn yn lled glir beth oedd yn ysgogi'r deisebwyr.[32]
Yn 1575 gwnaed ymchwiliad i'r tir diffaith yn Fforest Gwynedd o fewn y tair sir—Môn, Arfon a Meirion—ond y mae'n amlwg fod y cwestiwn heb ei benderfynu ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Ar y trydydd ar ddeg o Fawrth, 1616—17, gwahoddwyd ustusiaid Caernarfon i gyfarfod yn y dref honno ar y ddeunawfed o'r mis i ateb ynglŷn â'r tir diffaith a'r ceirw yn Fforest yr Wyddfa, ond nid ymddengys iddynt wneud llawer. Y mae'n debyg nad oedd ar yr ustusiaid eisiau ymchwil o'r fath o gwbl.[33]
Erbyn Ebrill, 1623, dywedir bod cyngor y Tywysog wedi penderfynu cael ymchwiliad trwyadl i gwestiwn y Fforest. Ymddengys i ryw gymaint o ymchwil gael ei wneud yn amser Leicester, ac yr oedd y gŵr a oedd yn ysgrifennu at Wynn―William Gruffyth, Carnarvon (? Penrhyn)—yn awyddus iawn am gelu'r hyn a ddadlenasid y pryd hynny. Ymddengys i'r ymchwiliad hwn gael ei ohirio hyd 1638, pryd yr apwyntiwyd Wentworth Woodford i chwilio i mewn i hanes y Fforest yn ôl yr Extent of North Wales, ac i'r trawsfeddiannu a fu. Yr
oedd i eistedd ym Miwmares ar yr unfed ar bymtheg o Awst, yng Nghaernarfon ar y pedwerydd ar bymtheg, ac yn Nolgellau ar y chweched ar hugain.
Yr oedd yng Nghymru Fforestydd eang eraill heblaw Fforest yr Wyddfa, megis Fforest Frycheiniog, 40,000 o aceri, a drawsfeddiannwyd gan Dduc Beaufort. Tystia enwau fel y Fforest Fawr a'r Fforest Fach fod Fforestydd hefyd yn Nyfed. Yr oedd y rhan fwyaf o Sir Faesyfed yn Fforest, ac nid yw Hay, enw un o drefydd Brycheiniog, ond y gair Normanaidd am barc.[34] Pan ddaeth Edward IV i'r orsedd, daeth y Fforestydd hyn yn eiddo iddo ef a gwnaed trefniant i drigolion y plwyfi cylchynol, sef New Radnor, Old Radnor, Cascob, Blaiddfa, Llanfihangel Rhyd Ithon, Llandegla a Llanfihangel Nant Melan, gael porfa i'w hanifeiliaid ynddynt.
Ymysg barwniaid y Ffin prin, yn sicr, y bu un enwocach na Roger Mortimer y trydydd, o'r Waun. Bu i'r teulu hwn ran amlwg yn hanes Lloegr a Chymru fel ei gilydd. Dywedir i'r Roger hwn lywodraethu Gogledd Cymru, lle daliai swydd Rhaglaw yn ogystal â Barnwr, fel pe buasai frenin, ond erbyn 1322 collasai ffafr y Brenin a syrthiasai'r arglwyddiaeth i ddwylo'r Goron. Daliodd y rhydd—ddeiliaid ar y cyfle i geisio profi mai trwy drais yr hawliasai Roger Fforest yn y Waun. Dengys yr ymchwil a wnaed i'r cwynion hyn na chollodd y Cymry, ym mhobman beth bynnag, mo'u hawliau cyntefig heb ryw gymaint o brotest.
Gwnaed yr ymchwil ym mis Ebrill, 1331, ym mhresenoldeb Roger de Puvelesdon a Roger Carles. Rhoed tystiolaeth gan ddeuddeg o wŷr rhydd o Feirion a'r un nifer o wlad Llan— nerchemrais, ar gwr Cynllaith a Mochnant. Yn ôl eu tystiol— aeth hwy, nid oedd na Fforest na Warren yn holl dir y Waun cyn dyfod Roger Mortimer, yr ewythr, nac am ddeuddeng mlynedd wedyn. Y Roger hwnnw, meddent, a wnaeth y Fforest o dir diffaith a choedwigoedd yr arglwyddiaeth, gyda'r canlyniad nad oedd ryddid i wŷr a thenantiaid y tiroedd hynny bori eu hanifeiliaid na dal helwriaeth na chael yr elw a enillent cyn ei ddyddiau ef. Y pryd hwnnw y dechreuwyd codi treth Fforest a threth mwyt,[35] a thâl am droi'r moch i'r goedwig.[36]
Thomas de Clone, person eglwys Hopesay, oedd ceidwad y Waun yn y cyfnod hwn, ond yn ymarferol syrthiodd yr Arglwyddiaeth i ddwylo Nicholas y Fforestwr. Nid oedd Nicholas, fe ymddengys, uwchlaw dwyn da ei gymdogion—pechod parod y cyffinwyr. Enwir ef ymhlith nifer a ladrataodd wartheg o gastell Y Dre Wen. Y mae'n debyg iddo golli ei le ar ôl hyn, oblegid dywedir[37] i ŵr o'r enw John ap Gruffydd gael ei benodi i ofalu am Fforest y Waun.
Blinodd y Brenin ar gadw'r arglwyddiaeth yn ei law er gwaethaf ei addewid i'w denantiaid, ac erbyn 1334 daethai'r arglwyddiaeth i feddiant Richard, Iarll Arundel, a oedd eisoes â chastell cyfagos—Croesoswallt—yn ei law. Yn y flwyddyn honno rhoes Iarll Arundel siartr i'w denantiaid yn y Waun. Yn y siartr hon cawsant hawl ar y tiroedd cyffredin fel cynt; ac nid oeddynt i gael eu cosbi am y tir a gauasid i mewn ganddynt. Cafodd y tenantiaid rhydd ganiatâd i hela'r hydd, yr ysgyfarnog a'r llwynog—oddieithr yn y lleoedd hynny a neilltuasid gan hen arglwyddi Cymru yn y parciau a wnaed gan Roger Mortimer ac yn y pedair Fforest—Cynllaith, Mochnant, Craignant a Chwmcath. Caent goed at wneud tai, tanwydd, mesyryd, a mêl, oddieithr yn y lleoedd a enwyd, yn ogystal â phorfa i'w gwartheg trwy'r flwyddyn. Nid oeddynt ychwaith i dalu treth y Fforest o hynny allan; ond anodd yw penderfynu faint a enillwyd trwy'r Siartr hon.[38]
Rhydd Ieuan Vychan ap Ieuan Gethin, prif fforestydd y Waun, a Hona ap Jenkin ac un arall—coedwyr—gyfrif am £4 14 9, cynnyrch dirwyon ac enillion eraill achlysurol llys y Fforest am y flwyddyn 1398—9. £2 oedd rhent y cymwd; arferid â gosod adran a gauasid i mewn o Fforest "Carraunt am £6 13 4, ond aethai hwnnw eilwaith yr un ffordd a'r tir agored, ac felly nid oedd yn werth dim. Ni chafwyd dim am borfa anifeiliaid y flwyddyn honno, ac ni chwythwyd pren i lawr fel y gellid ei werthu. Dyma amser gwrthryfel Glyn Dŵr, a chan fod Sycharth wedi ei amgylchu ymhob cyfeiriad gan Arglwyddiaeth y Waun, fe effeithiodd hynny ar enillion y llys.[39]
Erbyn 1465, Davydd ap Howel Vaughan oedd y coedwr. Ni chafwyd dim rhent am y cymwd y flwyddyn honno am na fynnai neb mohono. Arferid ei osod cyn hynny am 20/2. Ďaliai Dafydd Fforest "Carraunt" ei hun am 62/- y flwyddyn, er yr arferid â chael £4—arwydd sicr o ddirywiad pethau ar y goror ar ôl y gwrthryfel. Ni werthwyd na mawn na choed y flwyddyn honno ychwaith. Yn 1498, gosodid yr holl Fforestydd fel y canlyn Mochnant, 45/4; Llangollen Cwmcath, £4 6 8 Is—clawdd, 6/8; Glyn Carregnant, 26/8; Cynllaith, 40/10.

Yn y siartr a roed i denantiaid y Waun yn 1506 gan Harri VII, rhoddwyd caniatâd i'r tenantiaid a thrigolion yr arglwyddiaeth a'u hetifeddion gael porfa rydd gyffredin i bob anifail yn y Fforest yng Nghynllaith, Craignant, Bodlith, Dolwen a Mochnant heb unrhyw dâl na rhent; ac ymysg y gofynion a ddiddymwyd yr un pryd yr oedd hen gylch y coedwr.
Un o'r coedwigoedd mwyaf yn y wlad oedd coedwig Wentwood, a ymestynai o afon Wysg at afon Wy, ac a gynhwysai tua 7,000 o aceri o ddaear Gwent. Cyfeirir ati yn Domesday Book, lle dywedir yr arferai'r Brenin gael 66 o foch—gwerth 44/-, —ohoni bob blwyddyn. Dyma'r hen ddull o dalu'r mesobr—un mochyn o bob wyth neu ddeg, fel y byddai'r trefniadau. Arferid cynnal y llys dan hen dderw patriarch— aidd ar ochr orllewinol y Mynydd Llwyd. Y mae ar gael restr o reithwyr y llys am y flwyddyn 1270, ac yn eu mysg ceir Abad Tintern, Prior Strigouil, Prior Sant Kinmarks, a naw o Normaniaid eraill.[40]
Yr oedd i'r llys ei gaplan, sef offeiriad Caerwent, ac efô, yn ôl geiriad y weithred, "bringeth or causeth to be brought some text to every court at Struggle" (Strigoil). Hynny yw, yr oedd offeiriad Čaerwent i draddodi pregeth i'r rheithwyr, a chai yntau danwydd a choed angenrheidiol at wasanaeth yr eglwys. Yna anerchid y llys gan y Fforestwr; rhoddai siars i'r rheithwyr ar eu dyletswydd i gosbi pawb a geid yn euog o ladd y carw, y carlwm, yr ysgyfarnog neu'r llwynog. Cosbid hefyd am dynnu nyth hebog, a hyd yn oed am dorri coed yn agos i'r lle y byddai yn arfer â nythu; ac yr oedd hefyd gosb am ollwng geifr i'r coed. Yr oedd yn ddyletswydd arnynt erlyn pawb y tybient eu bod yn euog o hela wedi nos, neu a gariai wn neu fwa, neu a ddelid "in the manner of any of these four degrees, viz., Stable stand, dog draw, back bearend, bloody hand." "Stable stand" oedd un a ddelid ar y weithred o ollwng saeth oddi ar ei fwa neu ei filgi o'r tywys; "dog draw," pan arweinid dyn gan ei gi at garw anafus: "back bearend," pan ddelid dyn a'r helwriaeth ar ei gefn, a "bloody hand," pan geid ef â gwaed ar ei ddwylo. Y rheithwyr a benderfynai pwy gâi goed at wasanaeth y tŷ a'r fferm, a phwy gai besgi moch.
Cyfeirir hefyd at ddosbarth arall o drigolion y goedwig a adwaenid fel y "new commoners." Talai'r rhain swllt yn y flwyddyn am gael coed o'r goedwig, ac at hynny disgwylid iddynt roi cinio i'r fforestwyr unwaith yn y flwyddyn rhwng tymor y Nadolig a'r Garawys. Y mae ar gael lythyr dan law un o'r enw G. Harris, Ranger, yn gorchymyn darparu cinio o'r fath yn y flwyddyn 1664. (Gweler Atodiad.) Syrthiodd y goedwig hon eto trwy drais i ddwylo Beaufort.
Byddai'r fforestwyr yn fynych yn wŷr o safle uchel. Arferai rhai ohonynt dalu swm blynyddol am y swydd, ac adwaenid hwy o'r herwydd fel "Foresters de fee." Weithiau ceir eu cerrig beddau â bwyall gerfiedig arnynt fel arwydd eu swydd. Y mae carreg o'r fath wrth dalcen dwyreiniol eglwys Llangedwyn. Saif yr eglwys hon ar y ffin rhwng dwy o fforestydd y Waun, sef Cynllaith a Mochnant, a choffáu un o'r fforestwyr y coedwigoedd hynny yn ddiau y mae'r garreg.
Erbyn amser y Tuduriaid, yr oedd gormes y fforestwyr hyn bron yn annioddefol. Yn 1535 pasiwyd deddf dan y teitl awgrymiadol, "An Act for the abuses in the Forests of Wales." Yn y ddeddf honno dywedir y byddai'r fforestwyr yn arfer â Erbyn amser y Tuduriaid, yr oedd gormes y fforestwyr hyn bron yn annioddefol. Yn 1535 pasiwyd deddf dan y teitl awgrymiadol, "An Act for the abuses in the Forests of Wales." Yn y ddeddf honno dywedir y byddai'r fforestwyr yn arfer â chodi dirwy ar y sawl a geid yn tramwy trwy'r goedwig, hyd yn oed pe na byddent ond 24 troedfedd o'r ffordd. Os delid hwy, fforffedient unrhyw nwydd neu arian a ddigwyddai fod ganddynt, a thorrid ymaith aelod o'r llaw. Yr un modd y gwneid â'r da a grwydrai i'r goedwig nodid hwy à nôd y goedwig, a byddai raid i'r perchennog, druan, brynu ei eiddo ei hun yn ôl.[41]
Y mae'n amlwg y gwyddai'r Normaniaid a ddeuai i fyw i drefydd Cymru rywbeth am orthrwm deddf y Fforest, oblegid cynnwys siartrau'r gogledd addewid na sefydla'r brenin na Fforest na Warren ar eu tir cyffredin. Dygai'r fforestydd hyn elw sylweddol i'r goron ac i'r bendefigaeth. Dichon mai'r llysoedd a ddygai i mewn yr elw mwyaf cyson, fel y dengys y manylion a roddwyd am lysoedd Dinbych. Wele fanylion troseddau gosbwyd yn llys y Llannerch yn arglwyddiaeth gyfagos Rhuthyn.
Llys y Fforest a gynhaliwyd ddydd Gwener ar ôl gwyl Sant Bartholomeus (Awst 26, 1295).
Ieuan Llywarch a ddaliwyd yng nghoed Thlanbrand? Nid yw yn gwadu 6d
Madoc ap Anian, am dorri gwyrdd goed 6d
Madoc ap Davydd, am i'w dda bori'r goedwig 6d.
Ior. Vaughan, a dorrodd bren yn y coed heb ganiatâd.
Yr oedd wedi cael caniatâd gan Madoc ap Llywelyn pan gododd hwnnw mewn gwrthryfel 6d
Kenwrick ap Thomas, am gario coed crin o Nanclwyd 6d.
Anian y Crydd, am dorri cangau o'r derw i'w ychen heb drwydded 12d
Kenwrick ap Madoc am 11 o dda a gaed yn y goedwig 5½d
Heilyn ap Gruffydd am dorri ffyn heb drwydded 2d.
Ceir manylion cyffelyb am lys Ardudwy yn 1325—26. Prif amcan y Fforest, fodd bynnag, oedd magu helwriaeth. Yn 1322, anfonwyd gorchymyn gan y brenin i ladd y ceirw tewion yn fforestydd y Waun. Helltid y cig a rhoid ef mewn barilau nes byddai galw amdano. Ar yr amgylchiad hwn anfonwyd 20 o filgwn a 40 o fytheiaid. Telid 7½d. yn y dydd i'r pen cynydd, a 2d. bob un i'r Verners (a ofalai am y cŵn), a'r venters (y blingwyr ?), Id. i bob hogyn a ½d. yn y dydd ar gyfer pob ci.[42]
Yn llythyrau'r Wynniaid ceir cyfeiriadau at y ceirw a gai'r brenin yn fforest yr Wyddfa. Ceir hanes am orchymyn oddi wrth Henry Grey, Dug Suffolk, Prif Farnwr fforestydd is Trent, at Feistr yr Helwriaeth ac Is—Swyddog Fforest y brenin yng Ngwynedd, ar iddo drosglwyddo'r hydd, a oedd yn ddyledus y flwyddyn honno, i'w gaplan, Hugh Morgan. Bryd arall, ceir gorchymyn oddi wrth Syr Henry Sidney, llywydd llys y Goror, i John Vaughan, fforestwr Gwynedd, ar iddo drosglwyddo hydd y flwyddyn honno i Faurice Wynn o Wydir.[43] Disgwyliai llywydd y llys dri bwch a thair hydd yn yr haf, a thair ewig a thair iyrches yn y gaeaf, o bob fforest yn y Dywysogaeth, a châi hela â bwa neu à chŵn ymhob un ohonynt.
O'r coedydd hyn hefyd y ceid tanwydd y llys. Rhoddwyd caniatâd i dorri coed yng nghoedwig Orleton i wneud 600. llwyth o goed ac o olosg at wasanaeth llys Llwydlo.[44] Ar dir diffaith y fforestydd y ceid chwareli a gweithfeydd eraill, fel y dengys Llyfr Du Tyddewi a Stent Dinbych. Yma hefyd y toddid haearn hyd nes daethpwyd i ddefnyddio glo carreg i'r pwrpas.

Atodiad I.
ENILLION Y FFOREST YN ARGLWYDDIAETH DINBYCH.

Atodiad II.
Forest or Chase of WentwoodTo Mr. Walter Lawrence or his present tenant at Willerick.
These are to signifye unto you that (God willinge) I intend to bee upon the third day of June instant, being Fridaye next, at your house at Willcrick with the Fforsters and some others concerned expecting those accustomed dutyes that belong to my plase as Ranger of the Fforest or Chase of Wentwood which you are to provide ready by 10 of the clock of the same day, that is a dynner viz. a piece of boyled beefe, a legge of porke, a double rib of beefe roasted, a goose roasted, a loaffe of bread of halfe a bushel of wheate ffloure, two gallons of strong ale, and two of small ale. These beinge part of youre dutye to the Lord for your ffreedome as New Commoner within the Fforest of Wentwood for the year 1664.
I remain Your Ffriende,
G. HARRIS, Ranger.
Llyfrau.
TELIR mwy o sylw i gyfundrefn y Fforest gan haneswyr Ffrainc na chan haneswyr Lloegr, a hynny am y rheswm syml mai yno y cyrhaeddodd ei pherffeithrwydd amlycaf.
Ymdrin Stubbs ryw gymaint â'r cwestiwn, Cyf. I, 402—3, ond llawnach o lawer yw ymdriniaeth Petit—Dutaillis yn ei nodiadau ar waith Stubbs yn ei Studies Supplementary to Stubbs' Constitutional History (147—251). Siomedig hefyd yw'r ymdriniaeth gan Pollock a Maitland yn eu History of English Law. Ca'r pwnc lawer ychwaneg o sylw gan Holdsworth, History of English Law. Ceir astudiaeth fanwl ar weinyddiad y ddeddf yng nghyfrol G. J. Turner ar Select Pleas of the Forest (Selden Society, 1901). Ceir rhai manylion cyffelyb am Gymru yng ngweithrediadau llys fel Cwrt Rhuthyn (Cymmrodorion Series) a Chwrt Ardudwy (a gyhoeddwyd gan Dr. Lewis yn Bulletin of the Board of Celtic Studies, Mai, 1928). Llyfr diddorol odiaeth yw eiddo J. Charles Cox ar The Royal Forests of England (Methuen).
Ceir llawer cyfeiriad at hela yn y cyfreithiau a'r Mabinogion, ac y mae'n lled amlwg yr edrychid arno fel rhan hanfodol o fywyd Cymru yn y cyfnod Ofer fai ceisio rhoi'r cyfeiriadau yn llawn. Bu trafodaeth rai blynyddoedd yn ôl yn yr English Historical Review ynglŷn â'r hyn a ddywed Florence y Croniclydd am Wiliam y Concwerwr a'r New Forest. Tybiai rhai awduron, fel Mr. F. H. M. Parker, fod yr hen groniclydd yn gorliwio, ond mynnai Mr. Baring nad ydoedd. Gweler English Historical Review, 1901 a 1912.
Dialogus de Scaccario—trafodaeth ar y Trysorlys gan ŵr o'r enw Richard Fitzneal, Esgob Llundain a thrysorydd y llys hwnnw. Iddo ef, yn anad neb, yr ydym yn ddyledus am a wyddom am gyllid y wlad yn y cyfnod hwn. Daliodd swydd trysorydd am ddeugain mlynedd, 1158—1198.
Sgrifennodd John Manwood ei Treatise and Discourse of the Laws of the Forest yn 1598. Ceir ganddo ddisgrifiad o'r modd y torrid ewinedd y cŵn— "lawing the dogs," fel y geilw ef yr oruchwyliaeth greulon honno. Yr oedd yn angenrheidiol gwneud hyn yn ôl Siartr y Fforest, 1217, er mwyn cydym— ffurfio â'r gyfraith. Cais oedd y Siartr i roi pen ar raib y Normaniaid am ychwaneg o dir hela. Perthyn iddi yr un pwysigrwydd yn y frwydr i ddiddymu deddf y Fforest ag a berthyn i'r Siartr Fawr yn y frwydr gyfansoddiadol.
Ceir cyfeiriad at dorri'r coed yng ngwahanol rannau Cymru yn erthygl Dr. E. A. Lewis ar Industry and Commerce in Mediaeval Wales, Royal Historical Society, New Series, XVII.
Y mae cyfieithiad Cymraeg o hen siartr y Waun yn Lloyd's History of Powys Fadog, Vol. IV. Yno hefyd y ceir manylion eraill am Fforest y Waun, yn ogystal ag yn llyfr penigamp Mrs. Mahler, Chirk Castle and Chirkland.
Dengys y Calendar of Patent Rolls am Hydref 18, 1284, fod Lacy yn cael ceirw i'w barc yn Ninbych o Fforest y Brenin yn Delamere, Sir Gaer. Y mae yn y Cymru am Ebrill, 1905, erthygl ddiddorol odiaeth gan Mr. A. Morris, F.R.Hist.S., Casnewydd, ar Fforest Caerwent.
Nid rhaid ond edrych ar unrhyw un o'r siartrau'r gogledd na welir ar unwaith yr edrychai'r Normaniaid a ddeuai i fyw i'r trefydd a godwyd gan Edward ar ymryddhad o orthrwm cyfraith y Fforest fel un o'r breintiau pwysicaf a estynnid iddynt. Fel rheol, cyplysid y fraint hon gyda chael gwared o'r Iddewon. Gweler y casgliad o siartrau a geir gan Dr. E. A. Lewis yn ei Medieval Boroughs of Snowdonia, 279—291.
Codwyd y manylion am y dirwyon allan o'r Ruthin Court Rolls. Ceir cyfeiriad at yr hyddgig a geid o'r Fforestydd at wasanaeth llys y Goror yn llyfr Skeel, The Council in the Marches of Wales, 245—6, ac yn llythyrau'r Wynniaid.
Llyfr manwl yw llyfr John Lloyd ar y Forest of Brecknock a gyhoeddwyd yn 1905.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "Tri rhydd cenedl a'i heillion ym mraint mamwys (through maternity). Coed adeilad o goed gwyllt, helwriaeth yn nhir gwyllt a mesori tir gwyllt." Ancient Laws, II, 532.
- ↑ Ibid., II, 516; 1, 456, 496.
- ↑ Ibid., I, 284, 552, 736. Am faglu (maglu), gweler I, 288, 552, 764.
- ↑ Ibid., I, 4 a 10.
- ↑ Ibid., I, 71.
- ↑ Ibid., I, 38.
- ↑ Ibid., I, 38.
- ↑ Ibid., I, 24.
- ↑ English Historical Review, 1901, 427 et seq., a 1912, 513 et seq.
- ↑ Dialogus de Scaccario, I, xi, xii.
- ↑ 11 Ibid., I, xi.
- ↑ Manwood Treatise of the Lawes of the Forest, 1598, f. 1.
- ↑ Coke: Institutes of the Laws of England, p. 289. Ed. 1644.
- ↑ Llyfr Du Tyddewi, 220.
- ↑ Archeologia Cambrensis, Jan., 1854.
- ↑ The Laws of Henry I, Ch. XVII.
- ↑ Petit Dutaillis: Studies Supplementary to Stubbs' Constitutional History
- ↑ Gwnaed y cyfieithiad diddorol hwn o'r Siartr Ladin yn 1548. Gweler copi ohoni yn Lloyd, Powis Fadog, IV, 23—28
- ↑ Black Book of St. David's, Willis Bund, LXXX.
- ↑ Williams: Records of Denbigh and its lordships, 38; Survey of Denbigh, 25.
- ↑ Llyfr Du Tyddewi, 167, 171, 199
- ↑ "It is to be noted in regard to the woods that rights and customs as to the chase have left no trace whatever in the survey."—Survey of Denbigh, Introduction, XLV.
- ↑ Survey of Denbigh, 51.
- ↑ Ibid., 12.
- ↑ Ibid., 48.
- ↑ Ibid., 48.
- ↑ Ibid., 151.
- ↑ Ibid., 20, 27.
- ↑ Ibid., 204.
- ↑ Calendar of Wynn Papers, 1645
- ↑ Ivor Bowen: Statutes of Wales. p. 49.
- ↑ Calendar of Wynn Papers, 62.
- ↑ Ibid, 782.
- ↑ "Haie." Ystyr wreiddiol y gair "haie" ydyw gwrych, a dyna ei ystyr yn y Ffrangeg o hyd. Ond fe'i defnyddir gan ysgrifenwyr ar gyfundrefn y Fforest, am yr adran o'r fforest oedd wedi ei chau i mewn—y Parc neu y Chace. Cymharer y gair Cymraeg cae. Hen enw Hay ydoedd y Gelli Gandryll (La Haie Taillée).
- ↑ "Treth mwyt." Barna A. N. Palmer mai o'r gair mudo y deilliaw "mwyt." Treth ydoedd a delid gan denantiaid am hawl i fyned â'u hanifeiliaid i ddiogelwch pan fyddai ymosod. Arferid a'i thalu yn arglwyddiaeth Croesoswallt.
- ↑ Chirk Castle and Chirk Land, 57, 58.
- ↑ Ibid., 63.
- ↑ Ibid., 64—5.
- ↑ Ibid., 80—81 Wrth gwrs, fel y gallesid disgwyl, Thomas larll Arundel, a oedd ym meddiant o'r Waun ar y pryd, oedd un o brif elynion Glyndwr. Rhowd un adran o'r fyddin gychwynnodd o Henffordd i ymosod ar Gymru yn 1402 o dan ei ofal ef.
- ↑ Gweler Cymru, Ebrill, 1905.
- ↑ Bowen: Statutes of Wales, 69.
- ↑ Chirk Castle and Chirk Land, 40.
- ↑ Calendar of Wynn Papers, 36.
- ↑ Skeel: The Council in the Marches of Wales, 245, 246.

IX.
Bywyd Tref. Y Siartrau.
Nid ydynt yn trigiannu mewn trefydd, pentrefydd na chestyll, ond yn byw ar wahân yn y coedwigoedd.—GERALLT GYMRO.
Cyfyd eu ffyrnigrwydd yn ogystal a drygau eraill o'r ffaith nad ydynt yn byw gyda'i gilydd, ond ymhell y naill oddi wrth y llall. Os ydych am eu diwygio yn unol â deddf Duw a dull y byd a'u cael i ymadael â'u ffyrnigrwydd, gorfodwch hwy i fyw mewn trefydd.—CYNGOR YR ARCHESGOB PECKHAM I EDWARD I.
Y MAE pwysigrwydd arbennig yn perthyn i fywyd tref yn Ewrop yn ystod yr oesau canol. Ar y gorau, bychan oedd rhyddid dan y gyfundrefn faenoraidd, ac y mae sail i gredu bod cyflwr pethau yn Lloegr yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg yn waeth nag yn y canrifoedd cynt. Nid yw mor hawdd cymharu pethau yng Nghymru, ar gyfrif prinder ystadegau, ond nid yw'n debyg bod safle'r Cymro gorchfygedig yn well na phan oedd yn byw dan ei dywysogion ei hun. Gwyddom hefyd i bethau waethygu'n fawr wedi gwrthryfel Glyn Dŵr, pan ddiraddiwyd cenedl gyfan megis i gyflwr herwriaeth, ac y gwnaed pob ymdrech i farbareiddio'r Cymro. "I have read lawes," meddai George Owen, hanesydd Sir Benfro, "made by K(ing) H(enry), 4 most unnaturaly in my symple oppynion agaynst Welshmen nott only for theyre punishment butt also to depryve them of all libertye and freedom and to barr them from all cyvill education."[1]
Ond daeth llwybr ymwared, mewn gwledydd eraill ac i fesur llai yng Nghymru hefyd, yn nhŵf y dref. Y mae'n bwysig cofio, tra mai caethiwed dirol oedd nodwedd y faerdref Gymreig, fel y manor Seisnig, mai rhyddid oedd hanfod bywyd tref o'r dechrau, ac yn hyn o beth ni wnai trefydd yr oesau canol ond ail—adrodd hanes yr hen ddinasoedd Groegaidd. Yn ninas y Groegwr y datblygodd y syniad am ryddid gyntaf, ac wedi maith ganrifoedd o ryfel a gorthrwm fe ailflagurodd yn nhref yr oesau canol. Ond nid oedd gan Gymry'r cyfnod hwnnw unrhyw gariad at fywyd tref, ac ar eu gwaethaf hwy a than aden y gelynion Normanaidd a Seisnig y daeth y datblygiad hwn ym mywyd Cymru. Ceir tystiolaeth bendant i'r perwyl hwn gan Gerallt Gymro, a sgrifennai tua diwedd y ddeuddegfed ganrif ar ôl ei daith trwy Gymru o ben bwy gilydd gyda'r archesgob Baldwin. Nid yw'r Cymry," meddai, yn byw mewn na thref na phentref na chastell, eithr bawb ar wahân yn y coedwigoedd," ac y mae'r cwbl a wyddom am eu bywyd yn y cyfnod hwn yn ategu ei dystiolaeth.
Dengys yr olion cynharaf a feddwn i'r Cymry drigo am rai canrifoedd ar bennau'r mynyddoedd. Yr oedd rheswm da am hyn, fel y sylwyd eisoes, ym mheryglon ac anawsterau bywyd y dyffryn. Y rhain yw'r sefydliadau hynaf y gwyddom amdanynt; a cheir rhywbeth tebycach i bentref neu dref mewn lleoedd o'r fath nag a geir mewn cyfnodau diweddarach yn hanes Cymru. Sefydliad o'r math hwn yw Tre'r Ceiri ar uchaf yr Eifl, ac y mae rhai eraill cyffelyb ar gopa'r Penmaenmawr a llu o leoedd eraill yng Ngogledd a De Cymru. Enw'r Cymry ar y sefydliadau hyn oedd Dinas,—lle cadarn wedi ei amgylchu â chlawdd neu fur ac yn noddfa ddiogel yn awr cyfyngder. Yina y treuliai'r trigolion eu hamser pan na byddent yn ymladd neu yn hela yn y coedwigoedd neu yn ceisio trin eu tipyn tir gwyllt y ceir ei olion mewn llawer lle hyd yn oed ar bennau'r mynyddoedd. Ni ddatblygodd yr un o'r sefydliadau hyn, fodd bynnag, yn bentref neu dref, yn ystyr gyffredin y gair. Yn y man daeth y Rhufeiniwr, yntau, â'i gaer—lle cadarn i noddi bagad o filwyr, wedi ei gysylltu â lleoedd eraill cyffelyb ar hyd y ffyrdd campus yr oedd ef yn gymaint meistr ar eu gwneud. Saif y gaer Rufeinig, fel rheol, yn is na'r ddinas Geltaidd, ond yr oedd y rhan fwyaf ohonynt mewn lleoedd lled ddiarffordd, ac nid oes lle i gredu bod odid un ohonynt wedi datblygu yn dref yn yr oesau canol. Y mae'n wir y ceir trefydd a phentrefydd heddiw lle yr oedd gynt gaerau Rhufeinig; ond o graffu arnynt, gwelir nad oedd gysylltiad rhwng y datblygiad hwnnw a'r hen gaer, a dichon mai'r cwbl a gafwyd ohoni oedd ychydig gerrig i godi muriau'r dref gaerog newydd. Y mae'n wir fod Caerlleon ar Wysg a Chaerfyrddin
yn sefyll lle y bu unwaith gaerau Rhufeinig, ond ni ellir profi bod dim cysylltiad hanesyddol rhwng y dref fel y gwelir hi heddiw o ran ei chynllun a'i nodweddion a'r hen gaer a safai yn yr un fan rywbryd cyn y bedwaredd ganrif. Gwelir hyn yn amlwg iawn yng Nghaernarfon. Saif Caernarfon y Rhufeiniwr Segontium—ar fryncyn gerllaw'r ffordd fawr i Feddgelert, ond y mae'r castell a'r dref a adeiladwyd gan Edward I ar lan afon Seiont, lle yr ymarllwys honno i afon Menai. Prin y medrir lleoli rhai o'r caerau Rhufeinig erbyn hyn, gan mor llwyr y diflannodd pob atco amdanynt. Gadawodd y Cymry iddynt fyned yn adfail oherwydd bod canolfan en bywyd hwy yn y wlad ac nid yn y dref. Gwelodd Geralt rywfaint o fawredd yr hen gaerau hyn, a rhydd ddisgrifiad o'r hyn y bu yn syllu arno yng Nghaerleon, ond ymadawsai'r gogoniant oddi yno, ac nid oedd yn aros ond adfeilion muriau'r hen ddinas i awgrymu'r rhwysg a fu yno gynt.[2]
Y mae'r rheswm paham y sefydlwyd ambell dref (a phentref, o ran hynny) i'w weld yn amlwg wrth edrych ar ei safle. Adeiladwyd rhai mewn mannau lle gellid pontio afon, fel Llanrwst ar afon Gonwy; eraill lle yr ymarllwys afon i'r môr, megis Aberystwyth ac Abertawe ac Aberdyfi; ac eraill drachefn ar groesffyrdd, megis Llanerchymedd a Llangefni. Codwyd rhai trefydd i gyflenwi anghenion pobl a gyrchai ar bererindod neu rywbeth o'r fath—Tyddewi, er enghraifft—neu wrth ystlys mynachlog, fel Ewenni, neu gastell, fel Dinbych; ac, fel y ceir dangos, dyma'r ffurf fwyaf cyffredin yng Nghymru. Yn wir, anodd yw cael tref na bu ryw dro gysylltiad rhyngddi â chastell.
Pe medrid cael rhagor o hanes bore Cymru, y mae'n lled. debyg y gwelid mai'r dref farchnad oedd y ffurf gynharaf ar dref, a bod i rai o'r trefydd hynny hanes didor o gyfnod bore iawn i lawr i'n dyddiau ni. Fel y dywedwyd eisoes, perthynai i bob cymwd adran arbennig a adwaenid fel y faerdref. Yno yr oedd canolfan bywyd diwydiannol y cymwd. Yr oedd y faerdref, fel rheol, yn lled agos i lys yr arglwydd, a naturiol iawn yw casglu bod anghenion y llys wedi peri i ddiwydiannau eraill, heblaw'r diwydiant amaethyddol, dyfu o'i gwmpas yn fore iawn. Fel y gellid tybied, yr oedd ansawdd bywyd y llys yn uwch na bywyd y rhelyw o bobl y cymwd, a galwai am foethau a oedd allan o gyrraedd y taeog. Yma, felly, ar y faerdref, y ceid crefftwyr y cymwd yn byw, a threulient ran helaeth o'u hamser yn cynhyrchu nwyddau at wasanaeth y llys.[3] Yn y modd hwn hefyd y dechreuodd trafnidiaeth dyfu a chanolbwyntio yn y faerdref. Yr oedd hyn yn wir, y mae'n debyg, yn enwedig am borthladdoedd fel Nefyn, Tywyn Meirionydd, a Chaernarfon yn y gogledd, a hefyd am ambell gymwd yng Ngheredigion a Chaerfyrddin, a ddatblygasai rywbeth tebyg i fywyd trefol hyd yn oed cyn i'r Normaniaid. ddyfod a thrawsfeddiannu'r wlad. Lled annelwig, fodd bynnag, oedd y bywyd trefol yn y lleoedd hyn, ac y mae'n sicr na pherthynai iddo ond ychydig iawn o nodweddion cyffredin bywyd tref yr oesau canol.[4]
Prif nodwedd y bywyd hwnnw oedd ei annibyniaeth ar fywyd y faenor. Gellir edrych arno fel ymdrech i dorri hualau'r bywyd gwledig—hualau a lesteiriai dwf bywyd rhydd; a chyn y gellid sicrhau hyn, rhaid oedd ei ddiogelu rhag peryglon oddi allan a rhag rhaib arglwyddi. Yn raddol, wrth gwrs, y datblygodd y dref cyn uched â hyn, a chaed llawer brwydr boeth cyn cyrraedd ohoni i'r tir dewisol hwn. Nodwedd arall yn ei bywyd—er nad oedd ond hedyn—oedd y syniad am gorfforaeth o nifer o ddynion yn cydweithredu nes datblygu math o bersonoliaeth gyfansawdd; ac y mae'n bosibl mai hon oedd un o'r gwersi pwysicaf a ddysgodd trefydd yr oesau canol.[5] Ar y faenor, ymddygid at bawb fel unigolyn, a rhaid oedd i bawb gadw ei le a chyflawni'r dyletswyddau priodol yn y safle honno; ond gweithredai'r trefwyr fel un gŵr pan fyddent yn ymwneud â'u harglwydd, er nad oeddynt hwythau ychwaith yn anghofio mai personol oedd y breintiau yr ymladdent amdanynt.
Yr enw a ddefnyddir ar dref o'r fath yw bwrdeisdref neu fwrch, a gelwir ei thrigolion yn fwrdeis. Ystyr y gair bwrch, (borough), neu burg, yw lle cadarn wedi ei amgylchu â chlawdd. yn union fel y gwnai'r Cymry yn eu dinasoedd mynyddig. Amgylchid pentrefi'r Saeson ag amddiffynfeydd o'r fath, a gelwid hwy yn "tuns"—y gair y deilliodd yr enw "town ohono. Gair Ffrangeg yw burg neu bourg, yn golygu yr un peth â tun, a dichon mai o'r gair hwn y tardd "borough" y Sais a "bwrch" y Cymro, er fod gan yr Eingl Saes y gair burh a olygai bron yr un peth.[6]
Dibynnai rhyddid y dref ar Siartr a roddai i'r bwrdeis freintiau neilltuol (franchises). Y mae'r Siartrau hyn yn debyg iawn i'w gilydd—ffaith a dystia am unoliaeth rhyfedd bywyd yr oesau canol. Rhoddid y Siartr iddynt gan arglwydd y faenor y safai'r dref arni, dro arall gan abaty, neu weithiau gan y brenin ei hun. Yn wir, daeth noddi'r bywyd trefol yn rhan o gynllun a fabwysiadwyd gan frenhinoedd Lloegr i ddarostwng awdurdod yr arglwyddi tir. Datblygiad graddol fu i'r Faenor, ond gellir dywedyd bod y fwrdeisdref yn greadigaeth arbennig. Rhan o diriogaeth rhyw arglwydd neu'i gilydd oedd y dref (oblegid nid oedd lathen o dir yn unman heb ei arglwydd) wedi ei symud o'i awdurdod ef a'i breintio â mesur o hunan lywodraeth. Rhyddid oedd y delfryd, a masnach a diwydiant oedd y moddion a ddefnyddid i gyrraedd y delfryd hwnnw.
Yr oedd trefydd Cymru yn greadigaethau mwy uniongyrchol na threfydd odid unrhyw ran arall o orllewin Ewrob. Ar wahân i ambell hen dref farchnad, na wyddom ond y nesaf peth i ddim am ei chychwyn, nid oes odid dref yng Nghymru nad yw'n greadigaeth arbennig, ac yn greadigaeth estron at hynny.
Y mae'n bwysig cofio mai'r Norman a ddarostyngodd Gymru. Meddiannwyd hi gan y Rhufeiniaid, a chafodd y Sais aml ysgarmes ar ei goror; ac unwaith neu ddwy, fel yn amser Harold, gwnaeth ymgais i'w choncro, ond y Norman, fesul tipyn, a'i darostyngodd.
Fel ad—daliad i rai o'i brif ganlynwyr am eu cymorth ym mrwydr Senlac, rhoddodd William Goncwerwr dir iddynt ar ororau Cymru. Cafodd Fitzosbern, arglwydd Breteuil yn Normandi, arglwyddiaeth Henffordd. Daeth Caer, ymhen ychydig flynyddoedd wedi'r Goncwest, i ddwylo Huw o Avranches—Hu Fras, fel y galwai'r Cymry ef, a'r Amwythig i ddwylo Roger o Fontgomeri, ac yn ddiweddarach gwnaed Fitzhamon yn Arglwydd Caerloyw. Dengys Domesday Book, a gasglwyd at ei gilydd ymhen ugain mlynedd wedi glanio o William yn yr ynys hon, beth oedd y dynged a wynebai
Gymru. Erbyn hynny yr oedd Huw, Iarll Caer, wedi medd— iannu Rhuddlan a hawlio teyrnged gan y trigolion. Yr oedd Roger Montgomeri, yntau, wedi adeiladu ei gastell yn Hen Domen, gerllaw Trefaldwyn, y dref a enwyd ar ôl un o'i gwnstabliaid ef. Yr oedd nifer o gestyll eisoes wedi eu codi o amgylch Henffordd, ac nid hir y bu Fitzhamon cyn ymosod ar Fro Morgannwg a chodi castell yng Nghaerdydd.[7]
Y cam cyntaf, felly, yng nghwrs y darostyngiad oedd meddiannu adran o'r wlad ac adeiladu castell yno i gadw'r trigolion i lawr a chodi teyrnged oddi arnynt. Ond nid oedd bywyd mewn castell neilltuedig felly yn ddymunol iawn; nid gwaith hawdd oedd i'r garsiwn gael angenrheidiau bywyd, oherwydd gwell fuasai gan y brodorion eu gweled yn trengi, ac nid oes felly lawer o le i amau mai er mwyn cyflenwi anghenion gwŷr y castell y sefydlwyd tref yn ei gymdogaeth. Ond ni ellid denu'r estron i beryglu ei fywyd heb gynnig iddo freintiau neilltuol, ac oherwydd hyn cynigiai arglwydd y castell freintiau o bob math i'r sawl oedd barod i fwrw'i goelbren gydag ef trwy ddyfod i fyw i'r dref a ymnythai megis dan aden y castell.
Cafodd Fitzosbern, Iarll Henffordd, brofiad yn ei gartref ym Mreteuil, yn Normandi, cyffelyb i'r hyn a gafodd ar ororau Cymru. Saif y pentref hwnnw ar gwr coedwig eang; ac er mwyn cael cymorth i ddarostwng y rhan honno o'r wlad, fe roddodd Fitzosbern, yn 1060, freintiau bwrdeisdref i'r pentref bychan distadl hwnnw, ac o'r fan honno y tarddodd y rhan fwyaf o'r siartrau a roddodd fôd i drefydd Cymru. Rhydd Dr. Lewis, yn ei lyfr diddorol ar y Medieval Boroughs of Snowdonia, restr o fwrdeisdrefi Cymru y mae dylanwad Breteuil i'w weled ar eu siartrau.
Wrth gwrs, byddai raid i'r bwrdeis dalu am y breintiau a fwynhaent, ac yr oedd y rhent a dderbyniai'r arglwydd yn dâl am ollwng rhai o'i hawliau o'i ddwylo yn gymhelliad pellach dros iddo fodloni i wneuthur hynny.
Ceir, felly, fod twf y dref yng Nghymru yn rhwym wrth gynllun y Norman i'w ddarostwng, a cheir siartr tref bron ym mhobman lle ceir castell. Pan orchfygwyd Cymru yn 1282, mabwysiadodd Edward I yr un cynllun i gadw Gwynedd i lawr, ac adeiladodd gestyll yng Nghonwy, Beaumaris, Caernarfon, Cricieth, Harlech a'r Bere yn gylch am y rhanbarth. Rhoddwyd breintiau dinesig i'r trefydd oedd wrth draed y cestyll, ac ar ol dyddiau Edward i rai trefydd eraill hefyd nad oedd gastell ynglŷn â hwy, megis Niwbwrch, Nefyn, Pwllheli, a'r Bala. Ni wyddys i Dywysogion Cymru erioed fabwysiadu'r cynllun hwn i sefydlu trefydd; oni wnaeth Llywelyn ap Gruffydd, un o dywysogion Powys, hynny yn Llanfyllin, a'i dad Gruffydd yn y Trallwng. Ond fel y ceir gweled, yr oedd dylanwad y Norman yn amlwg ar y breinlenni hynny hefyd.[8]
Rhed bron yr un syniadau trwy'r holl siartrau hyn, a dichon mai'r dull rhwyddaf i ddwyn bywyd beunyddiol y bwrdeis gerbron yw craffu ar rai o'r nodweddion cyffredin hynny.
Cychwyn y rhan fwyaf gyda dywedyd bod y fan a'r fan o hynny allan i gael ei ystyried yn fwrch neu fwrdeisdref rydd. Nid oes, mewn gwirionedd, unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau air, ac nid yw ychwanegu'r gair rhydd yn golygu bod gan y naill fwy o ryddid na'r llall.[9] Fel arwydd ymarferol o realiti'r rhyddid hwn ac o'r gorfforaeth a oedd i dyfu ohono yn y man, caniateid i'r bwrdeis benodi dau feili i'w cynrychioli yng nghario allan waith y fwrdeisdref. Dewisid y beili, fel rheol, ar ddygwyl Mihangel. Dyma gnewyllyn y llywodraeth leol, ac er bod cwnstabl y castell, lle byddai un, yn gweithredu fel maer y fwrdeisdref, nid oedd y dinasyddion heb elfennau hunan-lywodraeth. Rhoid iddynt hawl i gynnal llys cyfraith o'r eiddynt eu hunain heb ymyriad y siryf, er nad oeddynt yn rhydd oddi wrth ymweliadau barnwyr y brenin pan fyddent ar gylch. Caniateid iddynt garchar o'r eiddynt eu hunain, lle cosbid troseddwyr a dorrai ddeddfau'r ddinas, ond os byddai'r trosedd yn golygu colli bywyd neu dorri aelod, hawliai'r brenin iddo gael ei brofi yn ei lysoedd ef. Rhoid i'r bwrdeis hefyd ganiatâd i gael mechniaeth pan gyhuddid hwy am drosedd, pryd y cedwid troseddwr o ardal wledig yng ngharchar hyd ddydd praw.
Un o gwestiynau llosg y cyfnod oedd gwanc y penaethiaid am gymryd y tir gwyllt a'i droi yn dir hela iddynt hwy eu hunain, ac y mae mewn llawer o'r siartrau gyfeiriad at ryddid oddi wrth y gorthrwm hwnnw; hynny yw, dywedir mewn byr eiriau nad yw tir y bwrch i gael ei droi yn fforest nac yn dir i fagu cwningod. Braint arall oedd cael gwared â'r Iddewon a oedd yn ddraen yn ystlys masnachwyr y cyfnod, oherwydd y llogau afresymol a godent am roi benthyg arian ac am y defnyddid hwy yn fynych gan y brenin i gasglu trethi. Dichon, fodd bynnag, mai'r arwydd sicraf o'r rhyddid a fwynheid yn y dref oedd y gallai unrhyw un a fedrai ffoi i'r dref ac aros yno am ddiwrnod a blwyddyn hawlio'i ryddid, beth bynnag oedd ei gyflwr cyn hynny. Bu hyn yn gaffaeliad mawr, a mynych y cyrchai'r taeog, a flinasai ar fywyd llafurus y faenor, i'r ddinas er mwyn dyfod yn ŵr rhydd. Wrth gwrs, rhaid oedd iddo gymryd ei ran ym mywyd y ddinas—scot and lot, fel y dywedid—hynny yw, rhaid oedd iddo fentro ei siawns a chymryd y drwg a'r da, y cyfrifoldeb yn ogystal a'r fraint, a oedd yn gysylltiedig å bywyd dinesydd.
Câi'r bwrdeis freintiau masnachol hefyd. Rhaid oedd iddynt, i raddau helaeth, ddibynnu ar ddiwydiant a masnach am foddion cynhaliaeth, ac er mwyn masnachu, rhaid oedd cael caniatâd i gario nwyddau o fan i fan ar draws y wlad—gorchwyl anos yn y dyddiau hynny nag yw heddiw. Pan estynai arglwydd arbennig fraint o'r fath, ni allai, wrth gwrs, fyned dros derfynau ei arglwyddiaeth ei hun, ond os byddai'r dref ar dir y goron, cyrhaeddai'r rhyddid hwn dros holl diriogaethau'r brenin, sef y rhannau hynny o Gymru a oedd yn ei feddiant, Lloegr a rhannau helaeth o Ffrainc. Er enghraifft, rhoddodd Llywelyn ap Gruffydd ap Gwenwynwyn siartr i dref Llanfyllin, ond gan nad oedd ond dau gymwd—Mechain Uwch y Coed a Mochnant uwch Rhaeadr—yn ei feddiant ef, nid oedd llawer o werth yn y caniatâd a roed i'r bwrdeis i fasnachu'n rhydd trwy'r holl diriogaeth. Ar y llaw arall, rhoddodd Rhisiart II siartr i dref Groesoswallt yn 1399 a rhyddhaodd fasnachwyr y dref oddi wrth bob toll trwy ei diriogaethau i gyd, ag eithrio dinas Lundain; a chyffelyb oedd y breintiau a gâi dineswyr bwrdeisdrefi'r goron yng Ngwynedd yn nyddiau Edward I.
Ynglŷn â masnach y ceir cyfeiriad at Urdd y Masnachwyr—y "Gild,"[10] fel y gelwid hi. Nid oes odid Siartr na chyfeiria at y Gildo neu at y dreth—yr Hanse—y byddent yn arfer a'i thalu. Meddai masnachwyr y cyfnod gyfundrefn a oedd gyfled ag Ewrob, gyda'i chanolfan, fel rheol, yn ninasoedd Gogledd Germani, a chyda sefydliadau lleol ymhob tref o bwys ar y cyfandir. Yr oedd bod yn aelod o'r urdd leol yn anhepgor i fedru masnachu o gwbl.
Naturiol iawn oedd i Gild y masnachwyr chwarae rhan bwysig ym mywyd y dref, ac yr oedd perthynas agos rhyngddi â'r gorfforaeth leol, fel y gellid ei galw. Perthynai iddi neuadd, a ddaeth mewn dyddiau diweddarach i gael edrych arni fel neuadd y dref. Wrth gwrs, mewn llawer tref ceid neuadd drefol hefyd, ond y mae'r ffaith bod neuadd y Gild yn cael ei defnyddio mor fynych fel neuadd y dref yn dangos mor agos oedd y berthynas rhyngddynt.
Nid bob amser, fodd bynnag, y byddai'r masnachwyr a'r bwrdeis ar delerau da â'i gilydd. Golygai bod yn aelod o urdd y masnachwyr gryn dipyn o gost, oherwydd y mynych wledda a'r rhwysg a gedwid ganddynt, ac nid pawb a allai fforddio ymuno â hwy. Cyfarfyddent, fel rheol, yn y bore, a mynych fyddai'r ciniawa fin hwyr. Hwynthwy a drefnai'r modd yr oedd masnach i'w chario ymlaen, a phwy oedd i gael masnachu, ac nid rhyfedd, felly, iddynt ennyn dicter y rhai nad oeddynt yn aelodau.
Yn sgil undeb y masnachwyr cododd urdd arall, sef urdd y crefftwyr, ond ni wyddys pa un ai datblygiad naturiol ai twf gwrthwynebol ydoedd. Ymddengys fod y crefftwyr ar y dechrau yn aelodau yn urdd y masnachwyr, ond fel y cynyddai costau'r urdd honno, teimlent fod parhau yn aelodau yn ormod o dreth arnynt. Dywed rhai, fodd bynnag, mai datblygiad naturiol oedd undeb y crefftwyr. Y mae hanes diddorol iawn i'r undebau hyn, ond nid oes iddynt le mor amlwg yn y siartrau ag y sydd i urdd y masnachwyr. Ni ystyrid unrhyw siartr yn gyflawn onid oedd gyfeiriad at ryddid masnachol ynddi, a golygai hynny, fel rheol, sefydlu urdd masnachwyr yn y dref. Mewn llawer o'r siartrau hefyd dywedir bod y breintiau i fod yn gyfartal, ac i'w defnyddio yn yr un modd, à breintiau tref Henffordd ar y goror, lle llywodraethai Fitzosbern yn ôl braint a defod ei dreftad ym Mreteuil.
Dyma ffurf gyffredin y siartrau hyn. Byddai weithiau ychydig wahaniaeth yn ôl cyflwr a safle'r dref; er enghraifft, lle byddai castell, ni chaniateid i'r bwrdeis ddewis eu maer eu hunain—cwnstabl y castell a fyddai maer y dref bob amser.
Wrth gwrs, yr oedd perthynas agos a hanfodol rhwng y dref a'r castell. Estroniaid, fel y milwyr yn y castell, oedd y bwrdeis hwythau. Siaradent Ffrangeg, fel y siaredid hi gan y Normaniaid, y mae'n debyg, ac yr oeddynt, lawn cymaint a'r milwyr eu hunain, yn rhan o'r cynllun goresgynol: ac mewn awr gyfyng caniateid iddynt ffoi i'r castell am nodded. Mewn gwirionedd, nid oedd muriau'r dref ond muriau'r castell wedi helaethu ychydig arnynt—cyfuniad sydd i'w weled yn eglur mewn hen dref fel Conwy hyd heddiw.

Telid swm blynyddol i'r arglwydd, pwy bynnag fyddai, am y breintiau hyn, hynny yw, a defnyddio'u termau arferol hwy, ffermid y fwrdeisdref gan y bwrdeis. Golygai hyn wneuthur un fargen dros yr holl fwrdeis. Ond yr oedd perygl arall hefyd, sef y gallai'r arglwydd newid y tâl neu fynnu ychwaneg o wasanaeth oddi ar y dineswyr, a bu aml frwydr rhwng arglwydd a bwrdeis cyn y cafwyd y "ffarm," fel y dywedent, am rent benodol a digyfnewid. Adnewyddid yr hawl bob tro y deuai. arglwydd newydd i'r arglwyddiaeth, neu frenin newydd i'r orsedd. Ymddengys nad oedd y gyfraith yn gofyn am hyn, ond teimlai'r bwrdeis yn sicrach eu gafael o gael cadarnhau'r hen Siartr gan yr arglwydd neu'r brenin newydd.
Gwahaniaethai'r trefydd oddi wrth ei gilydd nid yn unig o ran maint ond hefyd yn rhif ac ansawdd y boblogaeth. Bychain, o angenrheidrwydd, oedd y trefydd a gododd Edward I yn y gogledd, ac yr oedd y rhannau oedd y tu mewn i'r muriau yn llai fyth. Cynhwysai Conwy tua 700 o aceri o fewn y fwrdeisdref, ond yr oedd y rhan fwyaf o lawer y tu allan i'r muriau. Yr oedd Caernarfon yn fwy na chymaint arall—1,460 o aceri. Milltir o gylch, meddai Harrison, oedd muriau tref Groesoswallt. Ar y llaw arall, yr oedd bwrdeisdref Llanfyllin yn chwe milltir o hyd a dwy filltir o led, a'r Trallwng wyth milltir o hyd a thair neu bedair milltir o led. Diddorol yw sylwi mai gan dywysogion Cymreig, disgynyddion i Wenwynwyn, tywysog Powys, y sefydlwyd y ddwy fwrdeisdref hyn. Cydredai eu terfynau â therfynau'r plwyfi, ond teg yw cofio i Charlton, Iarll Normanaidd Powys, ychwanegu at y Trallwng.[11]
Rhif y bwrdeis yn y Trallwng yn 1309 oedd 173, a 30 yn Llanfyllin.[12] Yn amser Lacy, 120 o fwrdeis oedd yn Ninbych a 24 yn Abergele.[13] Chwech ar hugain o fwrdeis oedd yng Nghastell Newydd Emlyn yn 1304, ond erbyn 1316 yr oedd yno 86 o denantiaid yn dal tyddynnod.[14] Yn Nefyn, yn 1287, cyn cael siartr, yr oedd cynifer â 93 o denantiaid—y rhan fwyaf ohonynt yn bysgotwyr—ond tua 50 oedd y nifer cyffredin yn y bwrch. Yng Nghricieth, yn 1294, nid oedd ond naw o fwrdeis, a dim ond un ar ddeg yn Harlech. A barnu wrth nifer y daliadau, tua 60 o denantiaid oedd yng Nghaernarfon ac ychydig dros 80 ym Miwmares.[15] Wrth gwrs, yr oedd hefyd yn y trefydd hyn wragedd a phlant a rhyw nifer o wŷr na ddalient fwrgais, ac o ganlyniad nas rhestrid fel bwrdeis.
Yr oedd poblogaeth y castell yn aml yn fwy na phoblogaeth y dref. Yr oedd felly yng Nghricieth yn 1294, pan oedd 28 o filwyr, heblaw'r cwnstabl, yn y castell, a dim ond naw of fwrdeis yn y dref; ac yr oedd 27 o filwyr yn Harlech, a rhif y dineswyr yn ddim ond un ar ddeg.[16]
Y mae'n debyg mai Saeson a Normaniaid oedd mwyafrif mawr y boblogaeth lle bynnag yr oedd castell, ond yr oedd nifer da o Gymry yn y trefydd lle nad oedd un. Yr oedd Nefyn a Phwllheli, er enghraifft, yn llawer mwy Cymreig na Harlech a Chricieth. A barnu oddi wrth yr enwau, tri Chymro yn unig oedd yn Harlech yn 1294,[17] ac ymddengys nad oedd yr un Cymro ymhlith 120 dineswyr Dinbych. Yn wir, pwysleisir yn Siartr Dinbych mai Saeson a'u disgynyddion yn unig a gâi freintiau'r dref honno.[18] Saeson hefyd oedd dineswyr y Bala,[19] ac nid oedd ond pedwar Cymro yn Abergele. Ar y llaw arall, nid oedd ond dau Sais yn Llanrwst.[20] Yr oedd Niwbwrch, Môn, hefyd yn llawer mwy Cymreig na Biwmares ym mhen arall yr ynys.[21] Ymddengys mai cymysg oedd poblogaeth Castell Newydd Emlyn, ond Cymry oedd bwrdeis Atpar, a sefydlwyd gan Ddafydd Martin, Esgob Tyddewi.[22]
Cododd Edward I y rhan fwyaf o'i drefydd ar hen faerdrefi cymydau. Saif y Bala ar faerdref cymwd Penllyn, Caernarfon ar hen faenor Caernarfon a thaeogdref Llanbeblig; a Harlech ar daeogdref a berthynai i gastell oedd yno cyn adeiladu castell Edward. Peidiodd ag ymyrryd ond cyn lleied ag a fedrai â bywyd yr uchelwyr, a chymerodd i'w feddiant y tiroedd hynny a ystyrid fel eiddo personol y tywysogion.[23]
Rhennid y trefydd hyn yn fân adrannau a adwaenid fel bwrgais (burgage). Y rhannu hwn oedd cnewyllyn y gyfundrefn. Yr oedd bwrgais yng Nghaernarfon yn 80 troedfedd o hyd a 60 o led; ym Miwmares, 80 troedfedd a 40 troedfedd. Yn ôl syniadau'r oes honno, perthyn i'r tir yr oedd breintiau'r dref, ac am hynny y sawl a ddaliai fwrgais a gâi ran a chyfran yn y breintiau. Ar y darn hwn o dir adeiladai'r bwrdais dŷ neu siop. Yn siartr Degannwy, 1252, dywedir bod pob bwrdais i gael hanner acr o dir i adeiladu tŷ a buarth arno. Yn Aber— tawe cai'r bwrdais ddigon o dir i adeiladu arno dŷ a chyntedd, bragdy a ffwrn, ac efô oedd biau saith troedfedd o flaen drws ei dŷ; ac yr oedd hefyd erwau y tu allan i furiau'r ddinas at ei wasanaeth. Yn Negannwy yr oedd dwy erw o dir âr yn perthyn i bob bwrgais. Denid pobl i sefydlu yng Nghricieth trwy gynnig iddynt 60 erw bob un, ac fel y sylwyd eisoes, y tu allan i'r muriau yr oedd y rhan fwyaf o'r bwrch.[24]
Wrth ystyried y trefniadau hyn, y mae'n bwysig cadw amgylchiadau'r cyfnod mewn cof. Yr oedd y bobl hyn mewn perygl beunyddiol am eu bywyd; ni allent ddibynnu ar eu cymdogion Cymreig i gynyrchu a gwerthu'r pethau yr oedd arnynt hwy angen amdanynt yn gyfnewid am y nwyddau a gynyrchent hwythau yn y dref, felly rhaid oedd cael tir âr a phorfa a thir gwyllt y tu allan i'r dref at eu gwasanaeth, yn union fel y'u ceid yn y cymwd ac ar y fanor.
Yn Siartr Dinbych, 1290, a sgrifennwyd mewn Ffrangeg Normanaidd, ceir digon o enghreifftiau o hyn. Yn ôl y siartr honno, rhoddodd Henry Lacy i ŵr o'r enw William o Pontefract ddwy fwrgais yn y dref o fewn y muriau, dau fuarth neu gadlas y tu allan i'r muriau a chymaint o dir âr yn Llewenni ag y medrai dau ych ei drin, ynghyda'r hawliau ychwanegol a oedd yn gysylltiedig â thir o'r fath. Eto, i William y Pedler (?) un fwrgais yn y dref, un gadlas y tu allan i'r muriau a chymaint o dir år yn Llewenni ag y medrai un ych ei drin ynghyda'r breintiau ychwanegol.[25] Dengys hyn mai'r fwrgais a roddai hawl ar y tiroedd eraill, a bod i bob bwrgais, ar gyfartaledd, gymaint o dir âr ag y medrai'r bwrdais ei drin gydag un ych, sef, yn ôl cyfrif arferol y cyfnod, tua 15 acr, er y dywed Llyfr Du Tyddewi mai saith acr oedd y "bovate" yno.[26] Yr hyn a olygid wrth y breintiau ychwanegol, a oedd megis ynghlwm wrth y tir âr, oedd hawl ar gyfran o dir gwyllt a choedwig. Ceir cyfeiriad at y tir hwn ymhellach yn y siartr lle dywedir y câi'r sawl a biau'r hawl "housebote"—coed at bwrpas tŷ a thân—a haybote "—ceuwydd at godi gwrychoedd yng nghoed Llewenni, a ymestyn ar hyd ochr y ffordd rhwng Pont Ruffydd ac afon Elwy.[27] Yn yr un modd rhoddodd Llywelyn ap Gruffydd ap Gwenwynwyn i fwrdeis Llanfyllin hawl i borthi moch yn ei goedwigoedd ac i dorri tanwydd neu goed at adeiladu tŷ neu wneud dodrefn neu offer, oddieithr yn ffriddoedd Garthgine, Llanviglo a Myfod.[28] Rhoddid cosb drom ar y sawl a ddelid yn cymryd coed o fforestydd yr arglwyddi, fel y dengys helyntion tenantiaid Llannerch yn arglwyddiaeth dyffryn Clwyd. Mewn llys fforest a gynhaliwyd gan swyddog— ion Grey, Arglwydd Rhuthyn, yn 1295, dirwywyd Madoc ap Anian 6d. am dorri ceuwydd; Iorwerth Vaughan am dorri derwen, 6d.; Kenneth ap Thomas am gario coed crin o Nantclwyd, 6d. ; Anian y Crydd (?) am dorri cangau o dderw i'r ychen, 1/- (i wneud iau neu dinbren neu, fe ddichon, yn fwyd iddynt). Yr oedd bwrdeis Abertawe yn fwy ffodus. Caent saith acr o dir âr bob un a chaniatâd i dorri coed at wneud llongau am dâl o swllt y llong. Caent hefyd hela yn y coedwigoedd, ond nid oeddynt i ddal yr hydd a'r carw a'r anifeiliaid eraill a restrid fel anifeiliaid helwriaeth. Caent anfon eu da i bori i'r fan a fynnent ar yr amod y gofalent am eu dwyn yn ôl y nos (Siartrau Abertawe, 1153—1184).
Y mae gennym ddigonedd o dystiolaeth am agwedd amaethyddol y bwrdeisdrefi hyn. Yr oedd 51 o 61 bwrdeis tref Gaernarfon yn trin tir, a gellid gweld eu hysguboriau o fewn muriau'r ddinas a'u beudai y tu allan iddynt.[29] Rhentid peth o'r tir am 2d. yr acr, a pheth am Id. Telid 2d. a 3d. yr acr yng Nghonwy, ond ni thelid mwy na cheiniog yng Nghricieth. Pysgota ac amaethu oedd prif ddiwydiannau bwrdeis Nefyn, a cheir manylion am eu heiddo. Wele eiddo Dafydd ap Madog: 50 ychen, 25/-; I ceffyl, 5/-; 8 o wartheg, 26/8; 10 o ddefaid, 5/- 4 crannog o fancorn, 8/-; 2 rwyd, 4/-; manion eraill, 10/-; cyfanswm, £4 3 8.[30] Dyma fanylion am eiddo Sais o'r enw John Collier a oedd yn fwrdais yn Harlech yn ystod gwrthryfel Glyn Dwr yr oedd ganddo 165 o wartheg, 40 o geffylau, 100 o ddefaid, 100 o eifr, a phethau eraill, y cwbl yn werth £40. Yn ystod yr un gwrthryfel collodd Caernarfon 1,000 o anifeiliaid[31]—gwartheg yn bennaf. Collodd Conwy dda ac ŷd gwerth yn agos i £1,500, a chollodd un bwrdais gynifer â 300 o ddefaid mawr. Dywedir bod un o ysguboriau Rhuthyn yn mesur 16 llath a'i bod yn llawn o geirch.[32] Dywed Leland, a ymwelodd â Chroesoswallt yn amser Harri VIII, iddo weled cynifer à saith ugain o ysguboriau o fewn muriau'r dref, lle cedwid ŷd a gwair y dineswyr.[33]
Y mae nifer y melinau y cyfeirir atynt yn dystiolaeth i'r un perwyl. Dwy felin oedd yng Nghaernarfon, un wrth y Porth Mawr a'r llall ar y Cadnant, ond yr oedd tair yng Nghonwy, dwy yng Nghyffin ac un yng nghymdogaeth Castell. Weithiau fe ymgymerai'r trefwyr à ffarmio'r felin, bryd arall byddai yn nwylo'r arglwydd neu rhentai rhywun hi ganddo. Yn nwylo'r bwrdeis yr oedd melinau Conwy a'r Bala,[34] ond ffermid melinau Caernarfon gan unigolion. Yn Ninbych cadwai'r arglwydd y felin a'r ffwrn yn ei law ei hun, a gorfyddai i'w denantiaid fyned â'u grawn i'w falu i'r naill a'u toes i'w grasu i'r llall.[35] Yr oedd tair melin yn Nhyddewi, a rhaid oedd i bob bwrdais gymryd tri thro yn y felin,[36] hynny yw, y mae'n debyg, fyned i'r melinau hyn yn ei dro er mwyn i'r arglwydd fedru codi toll arno a chael ei lafur.
Gwahaniaethai'r trefydd hefyd ym mesur eu rhyddid oddi wrth ofynion eu harglwyddi. Gorfyddid i denantiaid Dinbych ofalu am ddyn i ymladd os byddai galw am hynny.Williams op. cit., 122 a 123. Disgwylid i fwrdeis Penfro a Hwlffordd fyned gyda'u harglwydd i ryfel o fewn terfynau'r sir, a disgwylid hefyd i fwrdeis Hwlffordd fyned i'w hebrwng ar ei ffordd i'r senedd.[37] Yn Ninbych, talai etifedd rent blwyddyn fel gollyngdod (relief) pan etifeddai eiddo ei dad, a chodid ebediw gan arglwyddi Croesoswallt. Disgwylid i bob bwrdais yn Nhyddewi weithio diwrnod yn y cynhaeaf i'r Esgob neu dalu ½d. o iawn iddo, fel y gwelai ef yn dda ddewis. Fodd bynnag, nodweddid pob bwrch, pa mor ddistadl bynnag ydoedd, gan absenoldeb rhai o'r gofynion hynny oedd yn rhan hanfodol o fywyd y fanor. Pa faint o'r rhyddid hwn oedd yn anhepgor cyn y gellid ystyried lle arbennig yn fwrch sydd gwestiwn na all neb ei benderfynu. Er enghraifft, yr oedd yn Llewenni, yn arglwyddiaeth Dinbych, fwrch o'r enw Niwbwrch,[38] nad oedd ynddo ond 12 o ddaliadau, a adwaenid fel plasau (placea), pob un yn mesur tuag 20 rhwd. Ar wahân i'r enw, nid oes gennym ddim manylion am y breintiau a fwynheid. Nid oedd, y mae'n debyg, ond un enghraifft o fwrch a beidiodd â bod— fel y peidiodd y Bere tua 1295.[39]
Annelwig odiaeth ydoedd byrchau neu drefydd esgobaeth Tyddewi hefyd. Yr oedd Llanddewibrefi yn un ohonynt— yr un, fe ddichon, oedd â lleiaf o arwyddion tref yn perthyn iddi. Nid oedd yno ond pedwar bwrdais ar ddeg, a thalent swllt yr un am eu hawl i fwynhau rhyddid y dref (lib'tate ville). Fe'u gorfyddid, fodd bynnag, i roddi gwasanaeth i'r arglwydd a'i weision. Rhaid oedd iddynt ddarparu ymborth i'r stiward neu'r cwnstabl ar eu traul eu hunain, a'i gludo ymhell ac agos fel y byddai galw. Hwynthwy hefyd a ofalai am danwydd a chanhwyllau a halen iddo. Malent eu hŷd ym melin yr arglwydd, a thalent ollyngdod (relief) gymaint à dwbl y rhent, a thrinid eu hachos yn llys y cantref. Ar wahân i'r ffaith y talent swllt am gymaint o hawliau ag a feddent fel bwrdeis, nid oedd eu safle ronyn gwell nag eiddo tenantiaid y faenor.[40]
Fel manor y sonnir am New Mote, er bod yno gynifer â 42 o fwrdeis, a dalai bob un ei swllt.

Yn Llawhaden yr oedd cynifer â 126 o fwrdeis, yn talu swllt o rent bob un am bob bwrgais a ddelid ganddynt. At hynny, yr oeddynt wedi ennill yr hawl na byddai raid iddynt dalu mwy na swllt o ddirwy am unrhyw drosedd—oni byddai yn un ysgeler iawn. Edrychid ar y fraint hon fel un hynod of werthfawr ac fel arwydd lled sicr o annibyniaeth trigolion y dref. Ar yr un pryd, yr oedd raid i fwrdeis Llawhaden ymostwng i fyned â'u hachos i'w drin yn llys yr Hwndrwd, yn lle ei drin eu hunain, fel y gwnai bwrdeis rhydd.
Cyffelyb oedd safle pethau yn Nhyddewi ei hun.[41] Yr oedd mwy nag un math o fwrdais yno. Daliai rhai eu tir trwy weithred gyfreithiol. "Ni thalai eraill rent, gan fod y rhent yn cael ei godi oddi ar dyddynod eraill oherwydd prynu a gwerthu." Dyma un arall o nodau rhyddid dineswyr—eu hawl i brynu a gwerthu eu heiddo. Ar y llaw arall, yr oedd raid i denantiaid Tyddewi gyflawni yr un gwasanaeth bron a phe baent yn denantiaid manor gyffredin.
Nid oes yn yr enghreifftiau hyn ond annelwig ddefnydd tref. Dibynnai'n gyfangwbl ar hynawsedd eu harglwydd a ddatblygent ymhellach ai peidio. Gallai ef goroni'r gwaith trwy roddi iddynt siartrau i ddiogelu iddynt y breintiau yr oeddynt eisoes yn eu mwynhau, a thrwy estyn iddynt freintiau eraill a oedd, hyd hynny, o'u cyrraedd.
Yn wir, ni ellir edrych ar lawer o drefydd Cymru ond fel pentrefydd maenoraidd a fwynhâi freintiau arbennig, ac yn hyn o beth nid oeddynt yn wahanol i drefydd bychain gwledydd eraill. Er y meddent hawl i fasnachu ac i sefydlu urdd fasnachol, nid oes le i gredu i fasnach ddatblygu llawer yn yr un ohonynt, er yr ymddengys i nifer o fasnachwyr ymsefydlu ym Miwmares, Conwy, Caernarfon a Chaerfyrddin am eu bod yn borthladdoedd. Syrthiodd y rhan fwyaf o fasnach y wlad ddwylo marsiandwyr y goror, a fynychai ffeiriau a marchnad—oedd Cymru. Yn y gogledd, Biwmares oedd y bwysicaf o'r trefydd, er i'r Bala ddatblygu'n eithriadol fel tref farchnad.
Nid ymddengys ychwaith i undeb y crefftwyr gael gwell ffawd—yn nhrefydd y gogledd, o leiaf,[42] oherwydd ni cheir sôn amdanynt yno. Ni chyfeirir atynt yn y siartrau fel y gwneir at undeb y masnachwyr. Y rheswm am hynny, y mae'n debyg, oedd y berthynas agos rhwng yr urdd honno a rhyddid i fasnachu. Rhan o'r rhyddid i fasnachu oedd yr hawl i ffurfio urdd masnachwyr; ond, fel y bu bob amser, nid oedd y masnachwyr yn barod i drosglwyddo yr un rhyddid i'r crefftwyr, a bu llawer brwydr rhyngddynt, yn enwedig ar y Cyfandir.
Er mai anaml y ceir son am urddau crefftwyr yng Nghymru, ni olygai hynny nad oedd crefftwyr yn y trefydd. Yn wir, fe'n synnir gan amrywiaeth y diwydiannau a noddid gan y bwrdeisdrefi. Wele rai ohonynt melinydd, saer maen, saer coed, bragwr, pobydd, coginydd, sadler, bugail, porthmon, meichiad, porthor, glyfer, plymwr, gof, teiliwr, pannwr, gwehydd, crydd, eurych, cowper, cantwr, barciwr, cigydd, sidanydd, towr, crythor, cloddiwr, etc.—cymysgedd rhyfedd o grefftwyr gwlad a thref.
Diau bod nifer o'r rhain yn Saeson a Normaniaid, ond rhôi'r dref gyfle i'r taeog, yntau, ymryddhau o hualau'r gyfundrefn dir, a diau mai dysgu crefft a wnai y sawl a fedrai ddianc o'r wlad i fwynhau rhyddid tref.[43] Ceir tystiolaeth i hyn ddigwydd mewn rhai trefydd yng Nghymru nad oeddynt yn gysylltiedig â chastell.
Yr oedd ym Maelor Gymraeg swyddog a adwaenid fel Rhaglaw Arddel. Ei waith ef oedd cofrestru'r dieithriaid a ddeuai i fyw i'r arglwyddiaeth honno, gwylio eu buddiannau, a gofalu am godi tâl arnynt am y breintiau a fwynhaent. Codid tâl o 4d. ar bob un a ddeuai i fyw i'r arglwyddiaeth. Yr oedd cynifer â 26 yng Ngwrecsam yn 1472-3, a 33 yn Burton, a gynhwysai ran o Merford, prif lys y cymwd arall. Crefftwyr o Gymry oedd y rhan fwyaf o'r rhain[44]—teilwriaid, gofaint, pannwyr, etc.—pobl wedi newid eu byd ac yn dilyn crefft. Sonnir yn y Record of Caernarvon am arddelwyr Gwynedd—gwŷr a driniai'r tir sied a ddisgynasai i ddwylo'r goron yn 1282; ond anfynych y ceir cyfeiriad at grefftwyr yn eu mysg.
Ymddengys mai bychan oedd cariad y beirdd at fywyd tref. Dywedir i Ddafydd ap Gwilym ganmol bwrdeis Niwbwrch am eu bod yn Gymry, a melltithiodd Lewis Glyn Cothi fwrdeis Fflint am mai estroniaid oeddynt.[45] Bu tref Groesoswallt yn ddigon llygadog i wneud Guto'r Glyn yn fwrdais, a chafodd gywydd canmol yn lle'r tâl a oedd yn ddyledus ganddo fel dinesydd.

Atodiad.
CYWYDD CANMOL I GROESOSWALLT.
(Guto'r Glyn.)
Yn ieuanc, bûm flaenenwr,—
Weithian, tuag oedran gŵr,
Natur i hen, yno trig—
Ddwyn oes mewn tref ddinesig.
A garo ffysigwriaeth—
I gylla hen, drwg yw llaeth;
Iachach i gleiriach o glêr
Ei botes, a'i ddysgl bewter ;
Cael gwres trefi dinesig,
Caru'r cann a'r cwrw a'r cig;
A phrendai y dyffryndir,
A'i parai'n iach, fal pren ir.
Am hynny 'rwyf i'm hannedd
Yn y man caf win a medd;
Dinas hael i'm deau sydd,
Daionusaf o'r dinesydd;
Y castell a'r fantell fain
A'r dref oreu hyd Rufain;
Croesoswallt, cares Iesu
Caer fawr i'r concwerwyr fu;
Llundain gwlad Owain, a'i dir,
Llawndai gwin a pherllandir;
Ysgol rad, disglair ydyw,
A thref y pregethwyr yw;
A gwŷr mydr a gramadeg
Yn teimlo Duw mewn teml deg;
Goreu eglwys gareglwych,
A'i horgan, achlan, a'i chlych;
Gorau llu a gwŷr llawen
Yw gwŷr y Vanachlog Wen;
Gorau gwragedd, gwedd eu gwallt,
A'u trwsiad yw tre Oswallt;
Ynddi mae marsiandi Sieb,
A chordiad a chywirdeb;
Iarll hir piau'r lle hoywryw.
***
Gras i'r ddinas a'r dynion,
A gaded Duw geidwad hon.
Ei gwryda, lle da, lliw dyn,
A'i chomyns a'i gwych iwmyn
Gydag wynt trigedig wyf,
Ag erioed, eu gŵr ydwyf;
Ni wyddiad f'awenyddiaeth
Ado'r dre mwy na dŵr, draeth;
Bwrdais wyf, bwriadus hir,
Be talwn i bwy telir?
Oeded bwrdeisied Oswallt
Y gwerth, nes tyfu o'm gwallt!
O daw pum punt at untal,[46]
Hwynt hwy, gymain un, a'i tâl;
Bwrdais gynt lle bu wyrda,
Yn tir, fu Owain waed da,
Y gŵr ni wnaeth i'w geraint,
Ond canu i brynu braint;
Un rhodd wyf innau i'r rhain
Yn llaw, ag yn lle Owain;
Cywydd ar oed dydd yw'r tâl,
Cerdd dda ni ddwg hir ddial;
Nid llai cyfrif digrifwch
Na nobl o aur yn y blwch;
Hwy pery—Cymry a'i cân,—
Henw a gair hwy nag arian;
Mi a brydaf i'm brodyr,
Gydag wynt fo'm gad y gwŷr,
Ac nid af heb gennad un
I werthu cerdd oddiwrthyn.[47]
Llyfrau.
Y FFORDD orau i gael syniad am fywyd tref yr oesau canol yw cymryd siartr tref arbennig a'i hastudio. Wrth gwrs, y mae rhai o dermau'r siartr yn edrych yn ddieithr erbyn hyn, ac efallai wedi colli rhan o'u hystyr, ond nid yw'n anodd eu deall os ceir cymorth cyfieithiad. Ceir casgliad o siartrau gogledd Cymru yn atodiad i lyfr Dr. E. A. Lewis, The Mediaeval Boroughs of Snowdonia. Y mae'r siartrau hyn yn rhedeg, i fesur, ar hyd yr un llinellau. Ceir cyfieithiad Cymraeg o siartr Pwllheli yn y Cymru, Medi, 1892. Ceir nifer o siartrau Powys yn y Montgomeryshire Collections, a siartrau Croesoswallt a'r Amwythig yn Transactions of the Shropshire Archaeological Society. Ceir amryw hefyd yn Archeologia Cambrensis. Cyhoeddwyd siartrau Glyn Nedd ac Abertawe gan Mr. G. S. Francis, a rhai Morgannwg gan Clark— Cartae et alia Munimenta quae ad dominium de Glamorgancia pertinent, Cardiff, Nid oes odid fwrch yng Nghymru nad yw ei siartr wedi ei chyhoeddi yn rhywle neu'i gilydd.
Ceir ymdriniaeth ar y bwrch o safbwynt cyfreithiol yn llyfr Pollock and Maitland, History of English Law, Vol. I. Cyhoeddodd Ballard ddwy gyfrol yn cynnwys ymdriniaeth fanwl ar gyfansoddiad y gwahanol siartrau, dan y pennawd, British Borough Charters. Ceir rhagarweiniad diddorol i'r gyfrol gyntaf gan Ballard ei hun, ac i'r ail gan yr Athro James Tait. Bu farw Ballard cyn i'r ail gyfrol ymddangos.
Ar urdd y masnachwyr yn Lloegr gweler Gross, The Gild Merchant (Gwasg Rhydychen). Llyfr diddorol yw llyfr F. A. Hibbert, The Influence and Development of English Gilds (Gwasg Caergrawnt), wedi ei sylfaenu ar gofnodion Gild yr Amwythig. Rhoddodd Dr. E. A. Lewis sylw arbennig i'r pwnc hwn yn ei lyfr, The Medieval Boroughs of Snowdonia. Y mae'r llyfr hwn yn werthfawr iawn, oherwydd ceir ynddo ymdriniaeth fanwl ar hanes pob un o fyrchau'r gogledd. Cafwyd hefyd lyfrau gwerthfawr ar hanes rhai o'r trefydd ar wahân, megis Old Karnarvon (W. H. Jones); Denbigh (Williams); Oswestry (Cathrall); Chester in Plantagenet and Tudor Periods (Morris); Shrewsbury (Owen and Blakeway); Hereford (Duncombe), a Wrexham (Palmer). Ar lyfryddiaeth y pwnc hwn gweler rhestr fanwl y Dr. William Rees yn Bulletin of the Board of Celtic Studies, II, iv, a III, ii.
Llyfr diddorol iawn yw Memorials of London, T. H. Riley. Gweler hefyd lyfr bychan Miss Dormer Harris, Life in an Old English Town (Coventry). 192
Nodiadau
[golygu]- ↑ Owen's Pembrokeshire, III, 35.
- ↑ Giraldus Cambrensis: op. cit., 51.
- ↑ Y mae tref Wrecsam yn enghraifft ddiddorol o dref wedi datblygu ar faerdref o'r fath, heb fwynhau dim o freintiau dinesig yr oesau canol. Saif hi ar Faerdref Maelor Uchaf.—Palmer: History of the Parish Church of Wrexham, 3.
- ↑ Gweler E. A. Lewis: Medieval Boroughs of Snowdonia, I; a hefyd yn Transactions of the Royal Historical Society, New Series, Vol. XVII.
- ↑ Gweler Maitland: Township and Borough, a'i ragarweiniad i Gierke's Political Theories of the Middle Ages.
- ↑ Ystyr y gair A.S. burh ar y cyntaf ydoedd lle cadarn, ac nid yw yn hawdd gwahaniaethu rhyngddo a "tun," olygai bron yr un peth. Yn ddiweddarach daeth i gael ei ddefnyddio am unrhyw le lle yr oedd nifer o bobl yn byw os oedd iddo lys. Maitland: Domesday Book, 183—5.
- ↑ Gweler J. E. Morris: The Welsh Wars of Edward I, 1, a J. E. Lloyd: History of Wales, XI a XII.
- ↑ Rhoed siartr i'r Trallwng gan Ruffydd yn 1263—yn agos i ugain mlynedd cyn darostwng y Gogledd—ac i Lanfyllin gan Lywelyn yn 1293, ond yr oedd tywysogion Powys wedi cydnabod uchafiaeth brenhinoedd Lloegr ymhell cyn hynny.
- ↑ Myn Tait na olygai'r gair bwrch rhydd (liber burgus) fwy na rhyddid oddi wrth daeogaeth y Faenor. Ar y llaw arall, tybia Gross y golygai gael yr holl freintiau hynny a oedd yn gysylltiedig â bywyd tref.Nodyn:Gweler nodiadau Tait ar lyfr Ballard, British Borough Charters, Cyf. 2, dan y pennawd, "Liber Burgus."
- ↑ Cyfrif Dr. E. A. Lewis y ceir y Gild yn tua hanner trefydd Cymru. Nid oes són amdani, wrth gwrs, ym mwrdeisdrefi bychain Tyddewi a Sir Faesyfed. —Cymmrodor, XXIV, 93.
- ↑ Montgomeryshire Collections, XXIX, 264. Siartr ddyddiedig 29 Mehefin, 1406.
- ↑ Ibid., I, 153, 159.
- ↑ Williams' Denbigh, 61, 107. Yn 1310 yr oedd hyn.
- ↑ Y Cymmrodor, XXXII; The History of Newcastle Emlyn and Atpar, 89
- ↑ Lewis: Mediaeval Boroughs of Snowdonia gweler dan enw'r dref, 183, 197, 203.
- ↑ Lewis: op. cit., 195 a 201.
- ↑ Ibid., 201.
- ↑ Williams Records of Denbigh and its Lordship, Ch. XII.
- ↑ Lewis op. cit., 41.
- ↑ Survey of Denbigh, 252—3, 281.
- ↑ Lewis op. cit., 254
- ↑ Y Cymmrodor, XXXII, 102.
- ↑ Lewis: op. cit., 43.
- ↑ Gweler Lewis, op. cit., dan enwau'r gwahanol fyrchau. Am erwau Cricieth, gweler t. 48.
- ↑ Williams: Records of Denbigh, Ch. XII.
- ↑ Black Book of St. Davids, 331.
- ↑ Williams: op. cit., 123.
- ↑ Montgomeryshire Collections, III, 92.
- ↑ Lewis: 61, 183, op. cit.
- ↑ Ibid., 197.
- ↑ Ibid., 184, 202.
- ↑ Ruthin Court Rolls, 8.
- ↑ Cathrall's Oswestry, 92.
- ↑ Lewis 199 Ffermid melin y Bala yn y 15eg ganrif.
- ↑ Williams op. cit, 123.
- ↑ Black Book of St. David's, XIV.
- ↑ Ballard Boro. Charters. Gweler dan Pembroke a Haverfordwest.
- ↑ Survey of Denbigh, 74.
- ↑ Lewis op. cit., 36.
- ↑ Black Book of St. David's, 197.
- ↑ Ibid. Gweler dan enwau St. Davids, New Mote a Llawhaden.
- ↑ Lewis: op. cit., 187.
- ↑ Yng ngweithrediadau'r Privy Council am 1417, ceir cais oddi wrth denantiaid caeth (villeins) Meirionydd, Caernarfon a Môn a ffoesai i drefydd y goror yn adeg rhyfel.
- ↑ Palmer: A History of Ancient Tenures of Land in Wales and the Marches, 184.
- ↑ Lewis op. cit., 255.
- ↑ Byddai £5 yn dâl a godid yn gyffredin ar fwrdeis am gael mwynhau breintiau tref. Er enghraifft, penderfynodd bwrdeis Trefaldwyn yn 1583 nad oedd neb i fod yn fwrdeis yno heb dalu £5 yn y flwyddyn.—Montgomeryshire
Collections, 1910, 157. - ↑ Cefais gopi o'r cywydd hwn gan fy nghyfaill, Mr. Profit, Y Fedw, Croesoswallt, wedi ei godi gan yr Athro T. Gwynn Jones o Lawysgrif yn Llyfrgell Caerdydd.

X. Ffair a Marchnad.
Long before the conquest, however, a force had begun to play which was to give to the boroughs their most permanent characteristic. They were to be centres of trade.
The establishment of a market is not one of those indefinite phenomena which the historian of Law must make over to the historian of economic progress. It is a definite and legal act. The market is established by Law.—MAITLAND.
Nas dylit marchnadoedd breiniolion namyn yn y dinasdrevydd teilyngion.—Cyfreithiau Hywel.
MYN rhai awduron mai masnach a roddodd fôd i fywyd tref, ac nid hawdd gwadu'r gosodiad. Y mae'n wir bod a fynnai polisi'r llywodraeth gryn lawer â chychwyn y rhan fwyaf o drefi Cymru; ond o olrhain eu hanes, fe welir mai creu masnach leol oedd yr amcan, ar y dyb y buasai hynny, ymysg pethau eraill, yn foddion effeithiol i Seisnigeiddio'r wlad. Ond ni buasai'r trefydd hyn, mwy nag eraill, wedi ffynnu oni bai am fasnach; beth bynnag oedd achlysur eu creadigaeth, masnach oedd y gwaed a redai yn eu gwythiennau ac a wahaniaethai eu bywyd oddi wrth fywyd gwlad.
Sylfaen y dref, medd yr haneswyr hyn, yw'r heddwch hwnnw sydd bob amser yn angenrheidiol i fasnachwyr. Mewn cyfnod lled fore fe ymgymerth yr Eglwys â chyhoeddi heddwch i amcanion neilltuol—Heddwch Duw (Treuga Dei). Ar y Cyfandir, yn bennaf, y gwneid hyn. Golygai, fel rheol, i'r barwniaid ymgymryd â pheidio ag ymladd â'i gilydd dros y Sul neu yn ystod gwyliau arbennig yr Eglwys. Wele lw a gymerid gan nifer o farwniaid ar esgobaeth arbennig yn Ffrainc yn y flwyddyn 1023:
Yr wyf yn addo na chymeraf nac ŷch na buwch nac unrhyw anifail arall; nid ymosodaf ar y tyddynnwr na'i wraig nac ychwaith ar fasnachwyr. Ni ddygaf eu harian na'u cadw yn gaeth nes talont iawn i mi. Ni charwn iddynt golli eu nwyddau oherwydd anghydfod a ddichon fod rhyngof i â'u harglwydd hwy. Ni churaf hwynt er mwyn dwyn eu moddion cynhaliaeth oddiarnynt. Addawaf beidio â gwneuthur y pethau hyn o Ddygwyl Dewi hyd Wyl yr Holl Saint. Ni ddygaf na cheffyl na chaseg na llwdn oddiar y borfa. Ni ddifâf na llosgi tai. Ni ddiffeithiaf winllannoedd dan esgus rhyfel. Ni ddinistriaf felinau ac ni ddygaf beilliaid.[1]
Ymledodd yr arfer hon, meddir, i bob marchnad leol, ac nid yw'r groes a welir mewn llawer tref farchnad ond arwydd a godwyd gan yr Eglwys yn y dyddiau cythryblus gynt i ddangos bod heddwch yn ffynnu yno i amcanion masnachol. O dipyn i beth, meddir, daeth heddwch y farchnad yn heddwch y dref. Daeth y dref i gyd, yn y man, i gyfranogi yn feunyddiol o'r heddwch a ddiogelid iddi ar y cyntaf yn ystod tymor marchnad yn unig.[2]
Nid oedd masnachwyr yr oesau canol namyn pedleriaid yn crwydro yn garafannau gyda'i gilydd o fan i fan. Dyma'r modd y dygid nwyddau ar draws diffeithwch Arabia a gwastadeddau dwyrain Ewrop nes yn y man gyrraedd y gorllewin. Ond byddai ganddynt leoedd penodol i aros ynddynt dros y gaeaf, ac yn y lleoedd cadarn hynny, a ddewisid ar gyfrif y fantais fasnachol a berthynai i'w safle, cychwynnid marchnad, ac yng nghwrs y blynyddoedd datblygai honno yn dref.[3]
Tyfodd rhai trefydd, yng Nghymru er enghraifft, o wreiddiau milwrol a pholiticaidd, eraill ar y cyfandir ac yn Lloegr (megis St. Albans a Bury St. Edmunds) o wreiddiau eglwysig, ac eraill drachefn o wreiddiau masnachol, ond yn y cwbl fel ei gilydd bu i'r ffair a'r farchnad ran bwysig yn hanes eu datblygiad. Perthyn i fwrdeisdref, fel rheol, yr oedd marchnad, ond ceid ffair ymron bob pentref yng Nghymru. Fe'i cynhelid, fel rheol, ar ddygwyl y Mabsant. Yn ôl George Owen, hanesydd Sir Benfro, yr oedd cynifer â 233 o ffeiriau yng Nghymru yn 1601, a chyfrif y Canon Fisher fod tua 200 o ddyddiau gŵyl ar enwau cynifer â hynny o Seintiau cyntefig.[4]
Ar ryw olwg, bychan yw'r gwahaniaeth rhwng ffair a marchnad. Cynhelid y naill yn wythnosol neu'n fisol, a'r llall bob chwarter neu bob blwyddyn. Y mae'n wir bod cylch y farchnad yn llawer mwy cyfyng na chylch y ffair. Ni pharhâi'r farchnad, fel rheol, ond am ddiwrnod yn unig, ond parhâi'r ffair yn yr oesau canol am o leiaf dridiau ac weithiau am gyfnod o fis neu bum wythnos.
Yn ôl rhai awduron, fodd bynnag, yr oedd tarddiad y ddwy yn wahanol iawn i'w gilydd. Braint a estynnid gan y brenin neu'r arglwydd oedd y caniatâd i gynnal marchnad mewn lle arbennig, ond hawl gyntefig wedi ei gysegru gan arfer ac amser oedd y ffair. Sylfaen y naill oedd breinlen yr arglwydd, a sylfaen y llall oedd arfer gwlad. Ond y mae'n hawdd gorbwyso'r gwahaniaeth hwn yn eu tarddiad. Tyfu a wnaeth marchnad Penfro; yr oedd eisoes yn hen sefydliad cyn i'r Siartr ei hawdurdodi.[5] Yn y siartr, ar y llaw arall, y crewyd ffeiriau'r Bala; cynhelid y ffeiriau cyn hynny yn Llanfor.[6]
Disgynnai'r ffeiriau hyn bron yn ddieithriad ar ŵyliau crefyddol. Cynhelid yr hen wyliau hyn i goffáu esgyniad y sant lleol—y mabsant fel y gelwid ef—i ogoniant. Parhai'r ŵyl am dridiau—y noswyl, y dygwyl a thrannoeth yr ŵyl. Ar noswyl y sant, pan gofid ei golli, cynhelid gwasanaeth crefyddol braidd yn drist ei natur, ond erbyn y bore yr oedd tristwch wedi ffoi, a chynhelid gwasanaeth i ddathlu esgyniad y sant i baradwys, ac ar ei ddiwedd ymroddai'r lluoedd i ddfyrrwch. Gwnai pawb ymdrech neilltuol i fyned i'r Ŵyl
flynyddol hon, a thybir mai ar amgylchiadau o'r fath y sefydlwyd ffeiriau gyntaf. Yn wir, gair o darddiad crefyddol, yn golygu gŵyl, ydyw'r gair ffair.
Byddai rhyw gymaint o fasnachu ynglŷn â gwasanaeth yr offeren ei hun. Arferid gwisgo gwisgoedd neilltuol, prynid a llosgid canhwyllau lawer, a byddai galw am ddelwau o'r sant i fyned gyda hwy adref. O dipyn i beth, tyfodd yr arfer o edrych ar yr wŵyl fel cyfle i brynu nwyddau a oedd yn brin ym mywyd y cyffredin. Yr oedd gwyliau'r mabsant yn flodeuog mewn aml ardal yng Nghymru hyd y ganrif ddiwethaf, ond erbyn hynny yr oeddynt wedi dirywio yn fawr, ac adwaenid hwy fel ffeiriau ffyliaid. Cynhelir amryw o'r ffeiriau hyn ar ŵyl y mabsant o hyd, ond ni pherthyn iddynt y rhialtwch a'u nodweddai gynt.
Ar y llaw arall, cynhwysai breinlen tref gyfeiriad, fel rheol, at ei hawl i gynnal marchnad a hefyd ffair neu ddwy, ond ni cheid hyn bob amser, ac y mae'n sicr bod aml farchnad a ffair yn cael eu cynnal cyn i'r awdurdodau gymryd fawr sylw ohonynt. Er hynny, dichon fod mwy o ôl gwneud ar y farchnad wythnosol nag ar y ffair flynyddol. Cynhelid y farchnad, fel y ffair, yn y fynwent ar ôl gwasanaeth yr offeren fore Sul. Dywed Siartr Penfro fod yno farchnad y Sul cyn i'r dref gael siartr. Yn y fynwent ar y Sul y cynhelid marchnad Hwlffordd hefyd, a chrogai'r cigyddion eu cig ar fur yr eglwys. Gwarafunodd Robert Groseteste, esgob enwog Lincoln (1175—1253), eu cynnal yn y fynwent, a phasiodd Edward I ddeddf i'r un perwyl yn 1285. Anfonwyd yr Abad Flaix gan Innocent III i bregethu yn erbyn yr arferiad, a chafodd wrandawiad gweddol—ond nid cystal ag a haeddai, meddai Matthew Paris.[7] Parhaodd yr arfer yn hir yng Nghymru. Ceir hanes am berson Bishop's Castle, ar ororau Maldwyn, yn anfon at Arglwydd Burleigh yn 1595 i gwyno y cynhelid marchnadoedd y gororau ar y Sul; ac meddai George Owen, hanesydd Sir Benfro: "They be so small and badd, but especiallie for the abuse for that the same is used every Sondaye before service even about sunne risinge.[8]
Y pryd hynny, yr oedd raid i bob pentref a threflan fyw ar ei adnoddau ei hun. Tyfid y bwyd ar y tyddyn; gwlân eu defaid eu hunain a nyddid yn wisgoedd; codid llîn a chywarch at wneud lliain a rhaffau; a gwneid dodrefn a thaclau'r tŷ a'r tyddyn gartref: felly nid oedd fawr alw ond am ychydig nwyddau o'r tu allan i ffiniau'r plwyf. Ond yr oedd rhai pethau yr oedd rhaid eu cael, megis halen a haearn, sbeis, cerrig melin, etc., ac yn ddiweddarach, pan ddaeth y clafr ar ddefaid, pyg o Stockholm (Stockholm tar), sydd mewn bri gan fugeiliaid o hyd.
Ni ddarganfuwyd cloddfeydd halen sir Gaer hyd 1670, ond ceid halen o ffynhonnau heilltion y Sir honno a Sir Amwythig a Chaerwrangon yn fore iawn. Dygai ffynhonnau Droitwich elw sylweddol i'r goron mor fore â 1086. Berwid y dŵr hallt mewn padelli neu grochannau, a gadael yr halen yn y gwaelod. Yr oedd gan Fynachlog Mair Fendigaid yn hen dref Caer Wrangon chwech o'r ffwrneisiau hyn at wneud halen yn 1240, a diau y deuai cyfran o'r cynnyrch i Gymru.[9] Talai'r sawl oedd yn byw y tu allan i'r cantref lle ceid yr halen dreth ddwbl. 2d. oedd y tâl arferol am lwyth cymaint ag y medrai wyth o ddynion ei gario. Os rhoddai rhywun ormod o lwyth ar ei gert nes torri'r echel neu ysigo cefn y ceffyl, dirywid ef 2/-.[10] Dywed Matthew Paris i'r brenin Harri III, yn 1245, ddinistrio'r pydewau halen yn Witz (Nantwich neu Droitwich ?) er mwyn rhwystro'r Cymry rhag cael halen."[11]
Byddai galw mawr am haearn hefyd i ddurio'r aradr ac yn y felin, ac, o bosibl, i bedoli ceffylau—arferiad, fe ymddengys, a ddaeth yn gyffredin gyda'r Normaniaid, er y ceir cyfeiriad at bedoli yn y cyfreithiau, ac arferai'r Rhufeiniaid bedoli ceffylau. Cloddid haearn a'i doddi yn fore iawn yn Fforest Dean ar ororau Gwent. Caer Loyw oedd y dref bwysicaf yn hanes y diwydiant haearn yn adeg Domesday, a chyda haearn y telid cyfran helaeth o'r rhent a oedd yn ddyledus i'r brenin. Dywed yr un llyfr y toddid haearn yn Rhuddlan yn yr un cyfnod; ac yr oedd gan Gymru, felly, gyflenwad lled dda o'r nwydd angenrheidiol hwn ar hyd ei goror. At hyn fe'i cludid o'r Ysbaen, fel y gwneir heddiw.
Oherwydd cyflwr y ffyrdd, gwaith anodd oedd cael main melin priodol. Nid oes odid weithred faenoraidd nad oes ynddi gyfeiriad at orfod y taeogion i gario main melin pa le bynnag y ceid hwy. Yn ôl yr hanesydd Groegaidd Strabo, yr oedd Môn y pryd hwnnw (50 C.C.—20 0.c.) yn enwog am ei chreigiau cerrig,[12] a pharhaodd felly trwy gydol yr oesau canol. Prynwyd maen melin o Gymru yn 1314 i'w ddefnyddio yng nghastell Dulyn, a chostiodd i Edward II y swm o 28/9. Ceid math arbennig o garreg hefyd yn Nhrelech, Sir Fynwy. Yr oedd mynd mawr ar gerrig Ffrainc, a godid mewn chwarel heb fod nepell o Baris, a hefyd ar gerrig Andernach, yn Nyffryn Rhein. Hawdd gweled wrth y pris y cyfrifid cerrig y Cyfandir yn well na rhai Cymry. Pris carreg Trelech yn 1323 oedd 1/-,—2/6 wedi ei chludo i Gaer Buga (Usk)—pryd y costiai'r cerrig tramor £81 4, £3 13 4 a £2 16 8 yr un. Wrth gwrs, fe chwyddid eu pris yn fawr gan gost eu cludo, ond rhaid bod y sawl a'u defnyddiai yn ystyried eu bod yn werth y draul. Er hyn i gyd, yr oedd mynd ar gerrig Môn, fel y dengys cywydd Tudur Aled, a sgrifennwyd "tros y Meistr Hanmer o Faelor i'w gofyn gan y Deon Rhys neu Risiart Cyffin":
Mae melin yma ym Maelawr
A cheisio main, achos mawr.
Meibion chwarel Fôn yn fau,
Mal ôd yn malu ydau;
Mae 'deilad im' a'u daliai
Ym mlaen llyn melin y Llai;
Af i aros i'r Forryd
Y main rhodd ym min y rhyd.
Dywedir ym mhapurau Wynniaid Gwydir fod gan y brenin dros ugain o chwareli ym Môn yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg.[13]
Dywedir mai yn y flwyddyn 1283 yr ymddangosodd y clafr yn y diadelloedd,[14] ac y dechreuwyd defnyddio tar i'w drin. Ceid y tar priodol yn Norwy, a byddai masnachwyr yr Hanse, yng Ngogledd Germani, yn allforio llawer ohono o Bergen i borthladdoedd dwyrain yr ynys hon; ac yn fuan daeth yn anghenraid lle bynnag y cedwid defaid.
Defnyddid llawer hefyd ar bob math ar sbeis,[15] a gludid mewn carafannau ar draws y cyfandiroedd. Yn fynych, ychydig flas fyddai ar y cig a fwyteid. Ychen wedi mynd yn rhy hen i ddiwrnod gwaith, heb fawr o gig arnynt, a leddid fel rheol. Lleddid hwy yn yr hydref a'u halltu. Defnyddid sbeis nid yn unig mewn bwydydd, ond hefyd mewn diodydd. Er enghraifft, cymysgedd oedd bragod o gwrw a medd wedi ei sbeisio nes oedd bron yn rhy dew i redeg.
Dyna rai o'r nwyddau a oedd yn angenrheidiau bywyd yn yr oesau canol. At hyn, yr oedd sidan a phorffor a thlysau i'r sawl a fedrai fforddio eu cael. Y rhain oedd nwyddau cyntaf masnach, a sefydlwyd ffair a marchnad er mwyn eu cael, yn gyfnewid am yr ychydig weddill o ffrwyth y tir neu gynhyrchion y pentref neu'r dref.
Wrth gwrs, nid oedd gan Gymru ffeiriau cyn bwysiced â ffeiriau Lloegr, megis ffair Stourbridge (a berthynai i Fynachlog Barnwell ac a gynhelid y tu allan i furiau Caergrawnt), ffair St. Bartholomew yn Llundain neu ffair Winchester (a oedd ym meddiant yr Esgob). Llai fyth oedd eu pwysigrwydd o'u cymharu â ffeiriau'r Cyfandir, megis ffair Troyes yn Champagne yng nghanolbarth Ffrainc; ond nid oes sail i dybied, er bod y ffeiriau'n llai, fod y trefniadau yn gwahaniaethu llawer.
Rhoddid caniatâd i gynnal ffair a marchnad ar ddyddiau penodedig trwy siartr neilltuol o rodd arglwydd, esgob, tŷ crefyddol neu frenin. Cafodd y Bala[16] ganiatâd gan Edward II yn 1324 i gynnal marchnad bob dydd Sul a ffair ddwy waith yn y flwyddyn, y naill ar ŵyl Pawl a Phedr (diwedd Ionawr) a'r llall ar ŵyl y Grog (Invencionis Santae Crucis) ddechrau Mai. Hawliai lleoedd eraill, megis Llanfor gerllaw'r Bala, gynnal ffair ar bwys hen arfer. Diddymwyd ffeiriau Llanfor, fodd bynnag, pan roddwyd caniatâd i gynnal ffeiriau yn y Bala.
Cyn y rhoddid caniatâd i gael ffair neu farchnad wythnosol, rhaid oedd gofalu na wneid niwed i ffair neu farchnad oedd eisoes yn bod. Ni chai Llewelyn ap Gruffydd ganiatâd i godi castell a sefydlu masnach yn Abermule oherwydd agosrwydd y lle i Drefaldwyn, lle yr oedd eisoes farchnad. Yn y flwyddyn 1282, symudwyd marchnad a ffeiriau'r Trallwng i Drefnant, [17] rhag iddynt ddrygu marchnad y brenin yn Nhrefaldwyn; ond ymhen tair blynedd cynhaliwyd hwy yn y Trallwng fel cynt.
Dywed yr hen gyfreithiwr, Bracton, na ddylid rhoi caniatâd i neb i godi marchnad o fewn 6 milltir, o leiaf, i farchnad sydd eisoes yn bod. Ystyriai ef bod ugain milltir yn ddigon o daith diwrnod, ac y dylid rhannu'r milltiroedd hynny yn dair rhan, sef 6 milltir o daith i'r farchnad, 6 yn ôl drachefn, a 6 yn crwydro ôl a blaen yn y farchnad. Yr oedd yn bwysig dychwelyd cyn nos, oherwydd y lladron a lochesai ar hyd ochrau'r ffyrdd ac anawsterau teithio wedi nos.
Ymddengys mai cyffelyb oedd y terfynau yng Nghymru, er cymaint awydd y brenin i droi'r dŵr i'w felin ei hun. Yn ôl deddf a basiwyd yn ail flwyddyn teyrnasiad Rhisiart II, nid oedd neb i fasnachu o fewn wyth milltir i dref Fangor, nac o fewn pum milltir i dref Gaerfyrddin. Dywed Dr. Lewis y cynhelid 22 o ffeiriau ym mwrdeisdrefi Gwynedd, a naw o farchnadoedd.[18]
Trefnwyd i farchnadoedd y gogledd (a sefydlwyd gan y brenin, yn benaf er mwyn sicrhau nwyddau a moddion cynhal— iaeth i'w fwrdeis) fod yn ganolfannau masnachol cylchoedd arbennig o'r wlad. Tref Gaernarfon oedd tref farchnad Is ac Uwch Gwyrfai; a gwasanaethai Conwy yn yr un modd i Arllechwedd, Creuddyn, a Nant Conwy; a'r Bala i bum plwyf Penllyn. Ceisiwyd gorfodi un aelod o bob tŷ yn y cylch i fynychu'r farchnad wythnosol a gynhelid yn y lleoedd hyn, ond buan iawn y deallwyd bod hyn yn amhosibl, a pheidiwyd à gorfod neb ond y sawl a feddai rywbeth i'w werthu. Ceir yr un orfodaeth ynglŷn â ffeiriau Abergwili, a berthynai i Esgob Tyddewi; gorfyddid i'w denantiaid ef yn Llanegwad, Llangathen, Llanarthen a Llanlluan, ddyfod i ffair Abergwili fel rhan o'u gwasanaeth iddo.[19]
Cynhelid y ffeiriau mewn mannau cyfleus yng nghymdogaeth y dref. Ar y Maes y cynhelid ffair Gaernarfon, ac y mae hyn yn cydfyned â'r hyn a wyddom am ffair Stourbridge yn Lloegr, lle ceir manylion ynglŷn â thorri a chlirio'r ŷd cyn agor y ffair. Dywedir y byddai Cymry dyffryn Conwy yn arfer cyfarfod ar y mynydd i fargeinio cyn y gorfuwyd arnynt i fyned i'r dref. Cynhelid ffair Caerdydd o gwmpas y Groes, a ffeiriau Rhaeadr Gwy dan hen dderwen.
Parhâi rhai o'r ffeiriau am dridiau, fel ffair y Bala, eraill am saith niwrnod, fel ffair Dyddewi, eraill am dair wythnos, fel ffair Winchester, ac eraill drachefn am bum wythnos, fel ffair Stourbridge, a mawr fyddai'r paratoi ar eu cyfer. Agorid ffair Stourbridge ar y seithfed o Fedi, ac yr oedd raid clirio'r cynhaeaf oddi ar y maes cyn y pedwerydd ar hugain o Awst. Amgylchynid y lle â gwrthglawdd; ac yr oedd adeiladu amddiffynfeydd i'r ffeiriau a gynhelid yn Llanddewibrefi yn rhan o wasanaeth tenantiaid Tyddewi a oedd yn byw yn y gymdogaeth honno. Golygai hyn denantiaid Llanddewibrefi, Gartheli, Nantgwynlle, Blaenpennal, Llanddewi Aberarth a Llannon.[20] Gwneid math o fythynnod neu stondinau i'w rhentu i'r sawl a ddeuai i'r ffair. Yr oedd y stondinau— y "schoppae," fel y gelwid hwy—a rentid gan fasnachwyr a gadwai farchnad bob wythnos ac a drigai, fe ddichon, yn y dref, yn fwy parhaol eu hansawdd na'r lleill, ac yn dwyn i mewn rent sylweddol. Ceid rhent o 6d. yn y flwyddyn ac weithiau 8d. neu 1/- am leoedd o'r fath yng Nghonwy.[21]
Yr oedd cyhoeddi'r ffair yn fater o gryn rwysg mewn lleoedd fel Winchester, lle disgwylid masnachwyr o wledydd tramor. Yng Nghymru, beili'r dref, fel rheol, fyddai yn ei chyhoeddi. Yn ymarferol, collai'r dref ei hawl llywodraethol yn ystod dyddiau'r ffair; disgynnai'r llywodraeth i ddwylo clerc y ffair—swydd a lenwid, fel rheol, yng Nghymru gan faer y dref. Efô a gasglai'r doll, fel rheol, er y gwneid hynny mewn rhai lleoedd gan gwnstabl y castell cyfagos. Y swyddog hwnnw a'i casglai, er enghraifft, yng Nghaerdydd a Chynffig, ac yng Ngheri a Chydewain (lle cesglid hi gan gwnstabl Trefaldwyn). Sonia Pennant am swyddogion eraill fel y "leve lookers" yn Rhuthyn,[22] a edrychai ar ôl y pwysau ; ac ymysg breintiau trefydd eraill—Croesoswallt, er enghraifft— ceir cyfeiriad at ryddid y bwrdeis oddi wrth doll y swyddogion hyn.
Yn naturiol iawn, rhaid oedd gwarchod y ffair, a syrthiai'r ddyletswydd hon i ran tenantiaid y neb oedd biau'r ffair. Gwyliai tenantiaid Llawhaden deirnos bob un ar eu cost eu hunain pan gynhelid y ffair yno. Dywed Pennant y byddai tenantiaid adran Gymreig arglwyddiaeth Croesoswallt—y Walcheria yn adran uchaf y plwyf—hyd y flwyddyn 1.406, yn arfer gwylio am dridiau a theirnos wrth bedwar porth y dref yn ystod ffeiriau Sant Andrew a Sant Oswald, a chyda hwy nifer o ddynion a adwaenid fel ceisiaid. Ond yn y flwyddyn honno rhuthrodd y gwylwyr hyn ar y dref a'i hysbeilio, a bu raid i'r tenantiaid o hynny allan dalu i nifer o Saeson am wneud y gwaith.[23] Yn amser gwrthryfel Owen Glyn Dŵr, oedd a'i gartref heb fod nepell, y bu hyn, ac aeth gwladgarwch y gwylwyr yn drech na'u teyrngarwch i Arglwydd Arundel.
Gan y cynhelid y ffair, fel rheol, ar gyrrau'r dref, nid hawdd oedd cadw masnachwyr y dref yn ddiddig pan welent
fasnachwyr o bell yn dyfod i gynnig nwyddau wrth eu drysau. Yn Winchester a lleoedd eraill, yr oedd pob math ar fasnach o fewn muriau'r dref i beidio yn ystod y ffair, a rhaid oedd i bawb a ddymunai fasnachu gymryd ei stondin gyda'r estron yn y ffair. Nid oedd y safle, fel y gellid disgwyl, yn un ddy- munol iawn i'r masnachwr dieithr, ac am hynny rhaid oedd iddo wrth sicrwydd y cai lonyddwch a chwarae teg cyn y mentrai ei fywyd a'i eiddo a dyfod i'r fath le.
Nid oedd gwaith y swyddogion ychwaith yn ddymunol dan amgylchiadau o'r fath. Rhaid oedd gofalu na ymyrrai'r estron o gwbl â threfniadau masnach leol. Trefnid nad oedd y masnachwr dieithr i gael gwerthu oddi mewn i furiau'r dref nac i adwerthu o gwbl. Trefnid hefyd fod y ffair i ddechrau ar awr benodedig ac i derfynu yr un modd, a chosbid pawb a ddechreuai yn rhy fuan neu a barhâi i werthu yn rhy hir. Yr oedd raid gosod y nwyddau allan yng ngolau dydd, ac ni cheid masnachu wedi nos, gan y byddai'n anodd penderfynu ansawdd y nwydd.
Yr oedd budreddi rhai o'r masnachwyr yn achosi cryn drafferth hefyd, yn enwedig y cigyddion a'r gwerthwyr pysgod. Yn 1330 gwnaed rheol yng Nghynffig fod pob cigydd, boed ddieithr neu fwrdais, i werthu cig iach yn unig, ac i ddangos hynny gorfyddid arnynt ddyfod å chroen yr anifail a laddesid gyda hwy i'r farchnad. Dengys cyfrifon gogledd Cymru yn amser Edward II dâl o 3/1 am groen eidion a buwch a fuasai farw o'r haint-nid oedd y cig yn werth dim-ac yn ddiweddarach ceir cyfeiriad at gig anner a bustach ieuanc a thri eidion nad oedd yn werth dim oherwydd eu marw o'r clwy.[24]
Gwnaed llawer ymdrech trwy ddeddfwriaeth i sicrhau heddwch a hwylustod i farchnata i'r masnachwyr tramor. Torrid i lawr y coedydd lle byddai lladron yn llercian hyd ochrau'r ffyrdd. Gwneid trefniadau i hwyluso casglu dyledion, a rhoddai ambell arglwydd neu frenin nodded neilltuol i'r masnachwyr yn ystod eu taith a'u harosiad yma, fel y gwnaeth Hubert de Burgh yn ei siartr i Drefaldwyn yn 1229.[25] Yr oedd gwir angen am hyn, yn enwedig ar ororau Cymru, fel y dengys y nodyn canlynol o lawysgrif sydd ym meddiant tref yr Amwythig[26]: "Dydd Llun, Rhagfyr 5, 1575: Buasai brethynwyr yr Amwythig wedi cael ymosod arnynt gan ladron onibai eu rhybuddio yn gyfrinachol. Aeth y beiliaid a chwmni cryf arfog gyda'r masnachwyr i gyfeiriad Croesoswallt. Yr oedd y lladron wedi bwriadu ymosod arnynt yn y pantle hwnnw rhwng Stretton a'r Amwythig, a buont yn gorweddian dros y nos yn ysgubor Master Sherar" (ysgrifennydd Llys y Mers, o bosibl). Yr oedd hyn yn agos i Bont Montford ar afon Hafren, yr âi holl drafnidiaeth Powys drosti ar ei ffordd i'r Amwythig. Yn ddiweddarach, gadawodd gŵr o'r enw William Jones £1 6 8 i gwmni brethynwyr yr Amwythig i'w dalu yn flynyddol i Ficer Eglwys St. Alkmond am ddarllen gweddïau ar fore Llun cyn i'r Brethynwyr gychwyn am farchnad Groesoswallt. Ac yn 1583, pasiodd y Brethynwyr y penderfyniad canlynol, "nad oes yr un dilledydd i gychwyn am Groesoswallt ar fore Llun cyn chwech o'r gloch dan ddirwy o 6/8. Ein bod yn mynd gyda'n gilydd a'n harfau gyda ni ac nad oes neb i groesi'r Welsh Bridge cyn taro chwech o'r gloch.[27] Nid anawsterau'r daith oedd yr unig beth a lesteiriai fasnach y dyddiau hynny. Codid pob math ar doll ar y sawl a gludai nwydd o fan i fan, ac y mae rhestr o'r tollau yn ddigon i beri braw. Telid toll am dramwy ar y ffordd neu am groesi afon mewn cwch (passagium), a tholl arall (pontagium) am groesi pont. Digwyddai'n fynych fod y ffordd yn arwain trwy arglwyddiaeth rhywun neu'i gilydd, a thelid carriagium am gael myned trwyddi. Telid pedagium am gael myned trwy goedwig, a tholl arall am gael myned trwy dref. Wrth fyned i mewn i dref, telid toll at gadw'r muriau (muragium), ac os defnyddid y cei (quay), telid caiagium. Yr oedd toll hefyd am gael myned ar hyd palmant y dref, toll arall am dyllu'r palmant (picagium), a tholl am gael codi bwth (stallagium). At hyn oll, yr oedd toll ar yr hyn a werthid (lastagium). Yr oedd y "last" yn fesur cyffredin a ddefnyddid wrth werthu calch, crwyn, pysgod, ond nid oes sicrwydd parthed ei faint. Fel rheol, âi'r doll i logell yr arglwydd, ond ar brydiau fe'i ffermid. Rhoddodd y brenin doll y Drenewydd i Fathew ap Tomos am un mlynedd ar hugain am 24/- yn y flwyddyn. Weithiau, fel yn Llanfyllin a threfydd eraill, y bwrdeis eu hunain a gai'r doll, ond talent fferm benodol amdani.
Yn wyneb hyn oll, nid oedd ryfedd yr ymdrechid yn barhaus. i osgoi'r doll. Y ffordd fwyaf effeithiol, wrth gwrs, oedd cael gan y brenin neu'r arglwydd ryddhau masnachwyr eu trefydd o bob toll yn eu tiriogaethau hwy. Yr oedd hyn yn un rheswm paham y gwerthfawrogid breinlen o law'r brenin, oherwydd ceid trwyddi ryddid oddi wrth dollau dros yr holl frenhiniaeth. Pan sefydlid Gild y masnachwyr mewn tref yn yr oesau canol—ac nid oes odid dref heb yr un—golygai hynny y cai masnachwyr y dref honno ryddid oddi wrth bob toll trwy diriogaethau eu harglwydd neu eu brenin; ac oni bai am y mesur hwn o ryddid, buasai masnach y cyfnod wedi ei llwyr fygu. Weithiau hefyd caniateid i dŷ crefyddol neu eglwys brynu'r nwyddau y byddai arnynt eu hangen heb dalu toll o gwbl.
Un o'r pethau mwyaf diddorol ynglŷn â ffair oedd ei llys cyfraith. Edrychid ar bob masnachwr fel estron hyd yn oed petai'n byw yn y dref nesaf, a rhaid oedd wrth drefniant cyfreithiol i'w ddiogelu ef a'i nwyddau yn ystod y ffair. Adwaenid y llys wrth yr hen enw Ffrengig, Pied Pouldré—Piepowder yn Saesneg—sef llys y traed llychlyd. Yn araf y symudai cyfraith yn y dyddiau hynny fel heddiw, ond nid oedd gan y masnachwr amser i aros, gan bod rhaid iddo adael y dref y munud y byddai'r ffair drosodd, ac am hynny gwnaed trefniant i weinyddu cyfiawnder iddo yn ddiymdroi.
Byddai'r hawl i gynnal y llys hwn yn cael ei gydnabod, fel rheol, yn siartr y dref ynglŷn â'r hawl i gynnal ffair a marchnad. Maer a beiliaid y dref, fel rheol, fyddai ar y fainc, ond yn nhrefydd y goror, cwnstabl y castell fyddai llywydd y llys. Ymdrinid à materion fel dyledion, anghydwelediad rhwng prynwr a gwerthwr, pwysau a mesur ac ansawdd y nwydd, etc. Nid oedd angen am wŷs pan dorrid y ddeddf, a byddai raid i'r cyhuddedig ymddangos gerbron y llys o fewn ychydig oriau. Penderfynid y ddedfryd yn ôl arferion y masnachwyr, a hwynt— hwy yn ymarferol oedd y rheithwyr a'r tystion parthed yr arfer yn eu mysg. Un anhawster oedd cael sicrwydd nad lladrad oedd y nwydd a werthid. Yn nhref Gaer, byddai amheuaeth gref ym meddwl y Sais parthed gonestrwydd y masnachwr Cymreig. Pan fyddai Sais neu Ffrancwr wedi gwerthu nwydd i ddinesydd yn y dref honno, ac yna ceisio ei gael yn ôl oherwydd rhyw anghydwelediad neu'i gilydd, bydda raid i'r dinesydd sefyll y golled, ond os Cymro fyddai wedi gwerthu'r nwydd, gorfyddid iddo dalu'n ôl i'r dinesydd yr hyn a dalasai hwnnw am y nwydd.[28]

Yr oedd deddf y masnachwyr, fel y gweinyddid hi gynt, yn wahanol i'r deddfau lleol a weinyddid yn y fwrdeisdref. Yr oedd yn enghraifft fore o ddeddf wedi ei chyfaddasu i gyfarfod ag arferion gwahanol genhedloedd, a gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy wrth dorri i lawr y gwahanfur rhwng gwlad a gwlad a hyd yn oed rhwng tref a thref o fewn terfynau yr un wlad.[29]
Cynhelid yr hen lysoedd hyn bron ym mhob tref yng Nghymru ar ddydd ffair a marchnad. Ym mhorth y dollfa, y mae'n debyg, y cynhelid hwy. Byddai ambell hen Gymro yn troseddu yn aml trwy farchnata y tu allan i ffiniau'r dref neu trwy fyned i ddyled neu weithiau trwy ddyfod i'r farchnad yn arfog.
Yr oedd ansawdd a mesur bara a diod yn un o gwestiynau llosg yr oesau canol, ac er mwyn cosbi'r sawl a droseddai yn y mater hwn, rhaid oedd i bob lle y cynhelid ffair a marchnad ynddo ddarparu rhigod a thrwmbel i'r pwrpas. Y mae ar gael lawer o ddarluniau chwerthinllyd o'r trueiniaid hyn yn myned trwy eu pennyd. Ceir cyfeiriad at yr anhepgorion dinesig hyn, er enghraifft, yng nghyfrifon llys Rhuthyn. Er gwaethaf pob anhawster, fodd bynnag, fe gerid masnach helaeth ymlaen yng nghyfnod yr oesau canol, a synnir dyn gan amrywiaeth y nwyddau. Nid oedd ball ar y gwin a ddeuai i mewn i'r porthladdoedd hynny a oedd ym meddiant y goron, ond a âi peth ohono ymhellach na'r fwrdeisdref Normanaidd sydd gwestiwn. Y mae'n debyg mai seler y castell a gai'r rhan fwyaf ohono, er nad oedd beirdd, fel Lewis Glyn Cothi, yn ddieithr i rinweddau gwahanol winllannoedd y Cyfandir. Daeth cymaint â 80 tun o win Gwasgwyn i borthladd Aberdaugleddau yn ystod y flwyddyn 1392—3. Yn yr un flwyddyn ceir hanes am lwyth llong a gynhwysai 19 tun o win fel a ganlyn 4 tun o win coch Gwasgwyn, I tun o win coch Nantes, 4 tun o win gwyn Rochelle a 10 tun o win gwyn o'r Ysbaen.[30]
Wrth gwrs, yr oedd rhyw gymaint o allforio hefyd, ac ymysg y nwyddau hyn ceir gwlân, gwlanen a chrwyn.
Nid oedd gwlân defaid Cymru mor werthfawr â gwlân defaid y goror—defaid Llanllienni er enghraifft, a gyfrifid gyda'r gorau yn yr holl wlad. Y mae'n amlwg yr ystyrrid peth o wlân Cymru yn rhy sâl i'w werthu. Dywedir i Feili Manor Iscoed yn Arglwyddiaeth Brycheiniog, yn y flwyddyn 1341—2, gael 60 o ddefaid yr Arglwyddiaeth am fod eu gwlân yn rhy fras. Er hynny, dengys ystadegau'r Staple yng Nghaerfyrddin, lle allforid gwlân y Deheudir, fod cryn werthu ar wlân Cymru.
Yn ddiweddarach daeth Cymru yn enwog am ei gwlanen a'i brethyn. Rywbryd yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth y Pandy i fod, a dechreuodd y diwydiant ymledu o'r cartref. Erbyn diwedd yr oesau canol, yr oedd nifer mawr o frethynwyr ym marchnadoedd y goror—yr Amwythig, Henffordd a Llwydlo—yn prynu gwlanen Gymru i'w gorffen yn y trefydd hyn. Yn amser Elisabeth yr oedd cynifer â 600 o welleifwyr brethyn yn yr Amwythig yn unig, a bu hir helynt rhyngddynt å thref Groesoswallt ar gyfrif y farchnad wlanen a gynhelid yno bob wythnos.[31]
Dros y clawdd, wrth gwrs, y byddai'r rhan fwyaf o'r nwyddau yn mynd ac yn dyfod. Yn eu mysg, yn ddios, yr oedd gyrroedd o wartheg a defaid, fel y dengys y doll a godid ar bont Montford ar y ffordd i'r Amwythig, neu doll Henffordd a godid ar y nwyddau a groesai'r hen bont ar Wy. Yr oedd Cymru eisoes yn enwog am ei gwartheg duon,[32]
A'i flew clyd o flac y lir
Ail yw i fath a'i liw fo
I fwyarliw neu forlo.
Ac meddai arall wrth sôn am ei gnwd o flew:
A'i flew'n glyd fal yn glog.
Ceir cyfrif am 700 o ychen a anfonwyd o dde a gogledd Cymru i Glerc Cegin ei Fawrhydi yn Windsor mor fore a 1312. Yn ystod teyrnasiad Harri V, anfonwyd 100 o gatel, gwerth £67 13 4, i Lundain; lladdwyd a halltwyd 93 yn rhagor, gwerth £60, ac anfonwyd y cig i Calais.[33]
Byddai galw mawr hefyd am dderw Cymru. Pan adeiladwyd mynachlog Abingdon, cedwid chwech o wagenni, a deuddeg o ychen wrth bob un, i gludo derw o Bowys at wneud trawstiau'r adeilad. Cymerai pob siwrne o Abingdon i'r Amwythig ac yn ôl o chwech i saith wythnos o amser.
Nid oes dim, fodd bynnag, a rydd i ni well syniad am amrywiaeth masnach na'r tollau a godid yn nhrefydd y gororau ar y nwyddau a ddeuai iddynt. Yn 1277, rhoddodd Edward I ei fryd ar ddarostwng Gogledd Cymru, a chyda'r amcan hwnnw aeth ati i atgyfnerthu trefydd y goror. Rhoddwyd caniatâd i dref Groesoswallt godi toll arbennig (muragium) i gyfarfod à chost adeiladu muriau'r dref, a dengys rhestr y doll pa nwyddau y masnachid â hwy yn gyffredin. Am restr o'r tollau hyn gwel Y Cymmrodor XXV, 72-74 a Cathrall's History of Oswestry, 29.

Llyfrau.
Aм ymdriniaeth ar darddiad bywyd tref yr oesau canol gweler erthygl ragorol y diweddar Syr Wm. J. Ashley, "The Beginnings of Town Life in the Middle Ages," yn ei Surveys, Historic and Economic. Gweler hefyd ei Economic History, Rhan I a II, am ymdriniaeth ar fywyd tref yn ei wahanol agweddau. Gweler hefyd Lipson, Economic History (The Middle Ages). Cyfeiria Maitland at broblem tarddiad y dref yn ei Domesday Book and Beyond—(the Boroughs pp. 172-219). Y mae'r pwnc wedi cael mwy o sylw gan yr Almaeniaid na chan ysgolheigion y wlad hon. Gresyn na buasai'r diweddar George Unwin wedi cael hamdden i sgrifennu llyfr fel y bwriadasai ar ddinas yr oesau canol: gweler ei Studies in Economic History (49-91). Ceir ymdriniaeth ddiddorol ar fywyd masnachol trefydd y Cyfandir yn llyfr bychan Pirenne, Mediaeval Cities. Ar drefydd Lloegr gweler llyfr Mrs. A. S. Green, Town life in the 15th century.
Datblygir y syniad am bersonoliaeth gyfansawdd y bwrch gan Maitland yn ei ddarlithoedd ar Township and Borough, a hefyd yn ei ragarweiniad i lyfr Gierke, Political ideas of the Middle Ages.
Ar ffeiriau Cymru gweler The Welsh Calendar gan Canon Fisher, ac erthygl ddiddorol Mrs. O. S. Watkins ar "The Mediaeval Market and Fair in England and Wales" yn Y Cymmrodor, XXV. Gweler hefyd E. A. Lewis, "A contribution to the Commercial History of Mediaeval Wales," Y Cymmrodor, XXIV, a'i erthygl, "The decay of Tribalism in North Wales," Cymmrodorion Transactions, 1902-3.
Ar ffair St. Bartlemy gweler Memoirs of Saint Bartholomew's Fair. Ceir hanes ffair Stourbridge yn Six Centuries of Work and Wages (Rogers), 1, 149. Ar ffair Winchester gweler Winchester Cathedral Records, II (Kitchin).
Ar y "Court of Pie Powder," gweler C. Gross, Quarterly Journal of Economics, XX. Gweler hefyd y Proclamasiwn gyhoeddid pan gynhelid ffeiriau Holt. Arch. Cam. VIth, Series VIII, 165.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Thompson: Economic and Social History of the Middle Ages, 168.
- ↑ "Know all men both present and future that I William Fitz William FitzAlan have received unto my hand and protection my burgesses of Blancminster (Croesoswallt) namely those who received messuages from my bailiff for the improvement of my market and I will maintain them against all and as far as I rightfully can. Wherefore I will that they hold their messuages in peace."—O Siarty Croesoswallt y Siartr Gwta (Ballard). Am gopi cyflawn o'r Siartr Ladin gwêl Byegones, Ion. 1, 1879. 194 fantais fasnachol a berthynai i'w safle, cychwynnid marchnad, ac yng nghwrs y blynyddoedd datblygai honno yn dref.3
- ↑ Pirenne Medieval Cities, 120.
- ↑ Fisher: The Welsh Calendar, 43
- ↑ Siartr Penfro.
- ↑ Lewis op. cit., 170.
- ↑ Matthew Paris, edited by Sir F. Madden, Vol. II, pp. 62 and 86.
- ↑ George Owen, I, 141.
- ↑ Worcester Priory, Register p. 95a, 95b.
- ↑ Ormerod Cheshire, 1, LXXI.
- ↑ Matthew Paris, II, 115.
- ↑ Bennett and Elton: History of Corn Milling, I, 156; III, 96; IV, 14.
- ↑ Calendar of Wynn Papers, 1646.
- ↑ Walter of Henley, Husbandry, 37, 38.
- ↑ Abram: English Life and Manners in the later Middle Ages, 137.
- ↑ Lewis op. cit., 171.
- ↑ Cartae, 10, Edward I. No. 1.
- ↑ Lewis: op. cit., 169.
- ↑ Black Book of St. David's, 245.
- ↑ Black Book of St. David's, 203.
- ↑ Cymmrodor, XXV, 37.
- ↑ Lewis op. cit., 169, Note 1
- ↑ Cathrall's: History of Oswestry, 48.
- ↑ Cymmrodor, XXV, 46.
- ↑ Caiff pob masnachwr ddyfod i'r dref a'i nwyddau yn ddiogel gan dalu y dirwyon arferol, a bydd pob un ohonynt o dan nawdd yr Iarll wrth fynd a dod a thra yn aros yn y dref."-13 Henry III, 2.
- ↑ Cathrall's: History of Oswestry, 52.
- ↑ Ibid., 50, 51.
- ↑ Y Cymmrodor, XXV, 69.
- ↑ Gweler Pollock and Maitland: History of English Law, a Select Pleas concerning the Law Merchant, Gross, Selden Society.
- ↑ Rhydd Dr. E. A. Lewis, yn ei erthygl fanwl yn y Cymmrodor, XXIV, fanylion am y fasnach dramor Gymreig yn ystod yr Oesau Canol.
- ↑ Gweler y bennod ar "Ddiwydiant a Masnach."
- ↑ Ceir cywydd doniol gan Guto'r Glyn yn disgrifio'i helynt wrth fynd ag ŵyn degwm person Corwen i Loegr.—Llen Cymru, T. Gwynn Jones, III, 37:
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol C. J. A. Skeel ar Cattle Trade between England and Wales, 15th—19th centuries."—Royal Historical Society Transactions, IV Series, 9.

XI. Diwydiant a Masnach.
Ni thalant sylw i ddiwydiant na masnach. —GERALLT GYMRO.
GWNAED llawer ymgais erioed, yn enwedig gan yr ysgol hanesyddol yn yr Almaen, i olrhain cyfnodau datblygiad diwydiant a masnach. Dywed List mai bywyd crwydr, helwriaethol, oedd y cyfnod cyntaf, yna gyfnod bugeiliol, wedyn gyfnod amaethyddol, ac yn olaf y cyfnod diwydiannol. Rhaid cofio nad yw yr hen ffurf yn diflannu yn llwyr pan ymddengys ffurf newydd. Gall y gwahanol ffurfiau ar fywyd gydfod â'i gilydd; yn ein hoes ni, er enghraifft, ceir y bywyd bugeiliol, y bywyd amaethyddol a'r bywyd diwydiannol ochr yn ochr.
Awgryma Schmoller mai'r pentref, y dref, y wlad neu'r dywysogaeth, a'r wladwriaeth neu'r ymherodraeth yw'r cerrig milltir. Gwêl Hildebrand, drachefn, dri chyfnod, sef cyfnod ffeirio (barter), cyfnod arian a chyfnod coel. Perthyn i bob un o'r awduron hyn ei safbwynt ei hun. Ar y diwydiant y mae llygad List yn bennaf, ond craffa Schmoller ar y dat— blygiad cymdeithasol neu boliticaidd, a phwysleisia Hildebrand foddion cyfnewid y gwahanol gyfnodau.
Cyfyd rhan o'r anhawster o'r ffaith y defnyddir y term diwydiant mewn mwy nag un ystyr. Fe'i defnyddir weithiau mewn ystyr eang, a gynnwys bob math ar ymgais i ennill bywoliaeth. Sonnir am y diwydiant amaethyddol a'r diwyd— iant bugeiliol fel ffurfiau diwydiannol. Bryd arall fe'i defn— yddir mewn ystyr gyfyng, yn golygu diwydiant peiriannol a'i gyferbynnu ag amaethyddiaeth sydd, hyd yma beth bynnag, heb ei darostwng i'r un mesur dan iau'r peiriant. Pan sonnir am ddiwydiant diweddar dyma'r ystyr a roddir iddo yn gyffredin.
Yn y cyfnod boreaf oll nid oedd dim diwydiant o'r math a gerir ymlaen ar wahân i fywyd beunyddiol y teulu, ac o ganlyniad nid oedd angen am fasnach na marchnad. Felly yr oedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod bugeiliol crwydr ac yng nghyfnod bore ei hamaethyddiaeth.
Gan Adam Smith y ceir yr eglurhad mwyaf boddhaol[1], ar y cyfan, ar ddatblygiad diwydiant. Dibynnai, medd ef, ar ddatblygiad dosraniad llafur; ar y cyntaf cais pawb gyflenwi ei anghenion ei hun a throi ei law at bob gorchwyl ond heb ddyfod yn feistr ar unrhyw gelfyddyd arbennig, ond yn y man tyf galw am nwydd arbennig a theimlai'r gweithiwr ei bod yn werth iddo feistroli crefft cynhyrchu'r nwydd hwnnw a rhoi ei holl amser i'r gwaith.
Yn y cyfnod patriarchaidd yng Nghymru rhennid y bobl yn genhedloedd." Nid oedd y genedl" namyn teulu mawr lluosog, ac o fewn y teulu lluosog hwnnw ceid digon o adnoddau i gario ymlaen amryw ddiwydiannau. Magu anifeiliaid a thrin y tir oedd eu prif foddion cynhaliaeth, ond rhaid oedd cyfaddasu'r nwyddau a godid ar faes ac ar ffridd cyn y gellid eu defnyddio. Prif nodwedd y bywyd hwn ydoedd cyfaddasu'r nwydd gartref yn hytrach na'i anfon oddi cartref i'w drin gan arall. Merched â melin law a falai'r blawd, a hwy hefyd a'i pobai a'i grasu, fel y gwneir yn y wlad hyd heddiw. Bu'r felin law fyw yn hir; yn Siartr Caerdydd rhoir caniatâd i'r bwrdeis ddefnyddio'r felin law yn hytrach na mynd a'r ŷd i felin yr arglwydd. Merched hefyd a olchai'r gwlân a'i gardio a'i weu a'i nyddu, er y byddai'r dynion yn fynych yn cynorthwyo gyda'r gorchwylion trymaf. Trinid y crwyn gartref a gwneid esgidiau a dillad gan aelodau'r teulu. Nid yw'r arfer o wneud offer tŷ a thyddyn wedi cwbl farw allan yng Nghymru eto, ac erys y plât a'r picyn pren, y llwy a'r fforc a'r gwpan gorn ynghyd â'r dodrefn derw yn deyrnged i ddeheurwydd disgynyddion y gwneuthurwyr bore hyn. Pan ymffrostir yn natblygiad diwydiant diweddar hawdd gennym anghofio'r feistrolaeth eithriadol a feddai'r crefftwyr hyn ar y nwyddau a drinid ganddynt. Nid rhaid ond craffu ar y rhestr o gelfi tŷ a thyddyn a geir yng nghyfreithiau Hywel Dda i weled mor amlochrog oedd eu hathrylith.
Cyfunai'r bobl hyn ddau ddiwydiant a gedwir ar wahân fel rheol yn ein dyddiau ni: (1) Cynyrchent â'u llafur eu hunain y defnydd amrwd yr oedd angen amdano; (2) fe gyfaddasent y defnydd hwnnw i gyfarfod â'u hanghenion. Erbyn heddiw gwaith y cyfaddasu yn unig a ystyrir yn briod waith diwydiant yn ystyr gyfyng y gair. Nid âi'r nwydd y tu allan i gylch y teulu, ac yn aml y neb a'i gwnâi oedd y neb a'i defnyddiai hefyd. Ond erbyn heddiw y mae'r sawl sy'n cynhyrchu'r nwydd a'r sawl sy'n ei ddefnyddio ymhell oddi wrth ei gilydd, a rhaid wrth fasnach i drosglwyddo'r nwydd o'r naill i'r llall, ac wrth farchnad i ddwyn gwerthwr a phrynwr, defnyddiwr a gwneuthurwr, at ei gilydd. Asio dwy adran bywyd a oedd unwaith yn un ydyw prif amcan marchnad a masnach heddiw.
Wrth gwrs, ychydig a wyddom am hanes datblygiad y diwydiant patriarchaidd hwn am y rheswm syml mai mater teuluaidd ydoedd. Gwnai pob llwyth a thylwyth y gorau a fedrai o'r adnoddau yn ei feddiant, ond diau bod cryn wahaniaeth rhwng y naill fan a'r llall yn ôl deheurwydd aelodau'r llwyth a'r adnoddau naturiol a oedd o fewn eu cyrraedd.
Rhydd y cyfreithiau restr hirfaith o'r celfi a ddefnyddid, a hefyd ambell awgrym ynglŷn â'u gwneuthuriad. Er enghraifft, disgwylid i'r amaeth nid yn unig aredig ond hefyd fedru gwneud aradr.[2] Yn ddiweddarach syrthiodd gwaith gwneud aradr i'r saer, a blaenllymid hi gan y gof—dau o grefftwyr bore'r oesau canol, yn yr ystyr o wŷr un diwydiant. Y crefftwr arall y sonnir amdano yn y cyfreithiau yw'r saer a dyma felly dair cainc crefftwaith bore.[3]
Yn araf, y mae'n debyg, y daethpwyd i weled bod rhai dynion yn meddu deheurwydd mwy na'i gilydd yn y gorchwylion arbennig hyn. O dipyn i beth rhôi'r dynion hynny eu holl amser i'r gwaith nes yn y man ddatblygu yn grefftwyr.

Tramwy'r wlad o fan i fan a wnai'r crefftwr, fel y gwnai'r teiliwr hyd o fewn cenhedlaeth yn ôl, neu fel y gwna'r saer maen o hyd. Nid oedd ganddo gyfalaf ar wahân i'r ychydig arfau a gariai ar ei gefn. Pwrcasid y defnyddiau gan y sawl a fyddai'n galw am y nwydd, ac arhosai'r crefftwr dan gronglwyd y teulu tra parhai'r gwaith. Felly, ar un olwg, gellir dywedyd ei fod yn olyniaeth y diwydiant teuluaidd.
Y mae datblygiad arall hefyd yn bosibl. Mewn ambell ddiwydiant rhaid i'r gŵr deheuig wrth rywbeth amgen nag ychydig arfau cyn y gall ddilyn ei grefft. Rhaid wrth beirianwaith—wrth bandy neu felin neu odyn—ac yn yr oesau canol nid oedd odid blwyf yng Nghymru nad oedd ynddo bob un o'r rhain, ac mewn llawer plwyf ceid rhagor nag un.
Y cam nesaf ydoedd i'r crefftwyr crwydr ymgasglu at ei gilydd i'r un lle a ffurfio undeb neu urdd i ddiogelu eu buddiannau. Dyma'r datblygiad pwysig a fu yng nhrefydd yr oesau canol, a dyma'r ffurf ddiwydiannol a gyfetyb i'r bywyd trefol.
Pa hyd a pha fodd y cychwynnodd urdd y crefftwyr sydd gwestiwn anodd ei ateb. Ceir y cyfeiriad cyntaf atynt yn ystod teyrnasiad Harri I, pryd y ceir sôn am urdd gwehyddion Llundain a Rhydychen, ac yn ddiweddarach am urdd y panwyr yng Nghaerwynt. Sefydlwyd urdd y cryddion yng Nghaerdydd yn 1323; ond anfynych y ceir cyfeiriad at yr urddau yng Nghymru, yn enwedig yn nhrefydd y gogledd.
Yr oedd eisoes yn bod urdd a adwaenid fel urdd y masnachwyr (Gilda Mercatoria), ac yr oedd perthynas agos iawn rhwng yr urdd hon a breintiau dinesig. Y cyfeiriad cyntaf at urdd y masnachwyr yw'r un a geir yn siartr Burford, tref fechan yng nghesail bryniau'r Cotswold, heb fod nepell o Rydychen4 (1087—1107). Ni cheir cyfeiriad at urdd y crefftwyr am yn agos i hanner can mlynedd ar ôl hyn. Nid ystyrid bod unrhyw dref yn meddu ar ryddid perffaith onid oedd ganddi urdd fasnachol, ac un o brif amcanion y siartrau oedd sicrhau'r hawl i gael urdd o'r fath. Hawdd ydyw deall hyn pan gofir mor bwysig i fywyd tref ydoedd ei masnach—daeth y term masnachwr i gael ei ystyried yn gyfystyr â dinesydd.
Sonnir, er enghraifft, am "ein dinasyddion, fasnachwyr yr urdd,"5 ac ar sêl tref Gaerloyw ceir yr arwyddair "masnachwyr—fwrdeiswyr." Medrai nifer mawr o drefydd Cymru, er distadled oeddynt, ymffrostio yn eu hawl i gael urdd o'r
4 Gross: Gild Merchant, II. 28—29.
5 Stubbs: Select Charters, 165. fath o fewn eu muriau. Ond ni ddylid esbonio'r term masnachwr mewn ystyr gyfyng, fel un yn byw ar brynu a gwerthu yn unig. Y mae'n wir bod masnachwyr o'r fath yn aelodau o'r urdd, ond yr oedd yn perthyn iddi hefyd lu o grefftwyr. Ymhlith aelodau urdd y masnachwyr yn yr Amwythig yn amser Edward I yr oedd y pobydd, y barbwr, y barcer, y saer, y clerigwr, y cogydd, y telynor, yr ustus, y meddyg a'r offeiriad, yn ogystal a'r dilledydd, y sidanydd a'r masnachwr.[4] Cyffelyb oedd safle pethau yn nhrefydd Gogledd Cymru. Ymysg dineswyr Caernarfon, a oedd yn rhinwedd hynny yn aelodau o urdd y masnachwyr, ceir y gof, y saer, y teiliwr, y crydd, y barcer, y pobydd, y cigydd a'r pysgotwr.[5] Cynhwysai urdd y masnachwyr, felly, grefftwyr yn ogystal a masnachwyr, a mawr y dyfalu pa fodd y cododd urdd y crefftwyr mewn gwrthwynebiad i'r urdd honno.[6]
Myn rhai mai cynnyrch anghydfod oedd eu codi ac edrychant arnynt fel arwydd o drais a gormes y masnachwyr. Fel y datblygai masnach chwyddai cyfoeth y masnachwyr, a gwnaent bopeth a fedrent i atal y crefftwyr rhag ymuno â'u hurdd. Codent dâl afresymol ar y sawl a ddymunai ymuno, a daeth y gwisgoedd gwych a'r mynych wleddoedd yn gymaint o fwrn nes cadw'r crefftwyr allan.
Tybia rhai i'r urddau newydd gychwyn ymysg y gweithwyr gwlân a ddaeth i'r wlad hon—o Fflandrys yn bennaf—yn amser Edward III. Ffurfiasant undebau, meddir, er mwyn diogelu cyfrinach y gelfyddyd y daethant hwy yma i'w dysgu i'r Saeson.
Myn eraill, drachefn, mai datblygiad naturiol oedd yr undebau hyn. Fel yr ymledai diwydiant a masnach yr oedd yn amhosibl i urdd y masnachwyr daflu golwg dros yr holl ddiwydiannau. Aeth y diwydiannau ar wahân a threfnodd urdd y crefftwyr fywyd pob un ohonynt ar ei ben ei hun.
Yn anffodus, ychydig a wyddom am y naill urdd na'r llall yn ei pherthynas â Chymru. Prin odiaeth yw'r cyfeiriadau at urdd y crefftwyr, ac er bod cyfeiriad at urdd y masnachwyr ym mron bob Siartr a feddwn, nid yw hynny yn taflu dim goleuni ar y rhan a fu iddynt ym mywyd y dref.
Safle Cymru a'i hanes yn ystod yr oesau canol sy'n cyfrif am y prinder hwn. Bu'r prif ddatblygiad diwydiannol a masnachol yn y mannau hynny a oedd ar lwybr trafnidiaeth. y cyfnod yn nhrefydd Itali a'r Iseldiroedd, ac ar lannau'r môr Baltig. Safai'r lleoedd hynny ar ffordd masnach y dydd, rhwng y dwyrain, pell ac agos, a gogledd a gorllewin Ewrop. Safai Cymru hithau bron ar ffin eithaf Ewrop, ac felly ymhell o gwrs ei masnach.
Ymladd am ei hannibyniaeth y bu Cymru trwy gydol yr oesau canol. Er colli hwnnw yng nghwymp Llywelyn yn 1282, ni bu farw ysbryd gwrthryfel, fel y dengys hanes Glyn Dŵr. Ac ni ddygymu Cymru â bod dan iau Lloegr hyd nes esgynnodd y Tuduriaid i'r orsedd. Ni bu'r ieuo y pryd hwnnw ychwaith yn gymaint mantais iddi ag y myn rhai haneswyr. Cyn hynny, beth bynnag, gwnaeth ei gorau i ddiogelu ei bywyd bugeiliol amaethyddol—bywyd a oedd a chryn fesur o neilltuedd ac arbenigrwydd yn perthyn iddo— yn erbyn ymosodiad y Sais a'r Norman, a oedd mewn cysylltiad agosach â'r byd na hi. Yr hyn a'i gwnaeth yn bosibl iddi barhau i frwydro am gynifer o ganrifoedd oedd yr hunan-ddigonolrwydd a berthynai i'r bywyd neilltuedig hwn.
"Ceir yno borfeydd rhagorol at besgi gwartheg," meddai'r hen groniclydd Seisnig, William o Newburgh, "ond ychydig feysydd sydd ganddynt ac ni chaent ddigon o ŷd oni bai am yr hyn a ddygir i mewn i'r wlad o Loegr"; a chyffelyb yw tystiolaeth Gerallt. Yr oedd tlodi Cymru o'i chymharu â'i chymdoges o gryn anfantais iddi yn y frwydr am annibyniaeth.
Y mae'n wir i drefydd gael eu codi yng ngogledd a de Cymru, a hynny, fel y sylwyd, dan ddylanwad y Norman buddugoliaethus. Ond nid oeddynt o ran maint a phwysigrwydd masnachol namyn pentrefydd maenoraidd a feddai freintiau arbennig, ac y mae'n anodd dywedyd faint a wnaethant i hyrwyddo masnach ymysg y Cymry eu hunain. Ym mlaenaf oll Normaniaid a Saeson oedd y bwrdeiswyr, a phrif amcan yr urdd fasnachol oedd ceisio cadw'r fasnach yn eu dwylo hwy. Dengys y siartrau nad oedd neb i fasnachu yn y dref onid oedd yn fwrdais ac wedi talu ei gyfran (hanse) i'r urdd, a gwarafunid i'r Cymry fasnachu yn y wlad fel y gwnaent cynt. Yn amser Edward III ceir cwyn gan fwrdeiswyr Biwmares fod Cymry yn masnachu y tu allan i derfynau'r dref,[7] ac erfynnir ar i'w brenin eu gorfod i ddyfod â'u nwyddau i'r dref.9 Cosbwyd nifer o wragedd yn Uwch Gwyrfai ac Aflogion am werthu brethyn y tu allan i farchnad Caernarfon,[8]
a chosbwyd eraill yn Ardudwy am werthu ymenyn a chaws y tu allan i farchnad Harlech.[9]
Masnachwyr y dref a gâi'r holl fantais o'r fasnach. Caent hwy fasnachu'n ddidoll, pryd y codid pob math o dollau ar y sawl a ddeuai i'r dref. Ni châi'r dieithriaid—sef pawb nad oeddynt fwrdeiswyr—werthu i neb ond y masnachwyr cydnabyddedig. Ganddynt hwy yr oedd yr hawl i gael y cynnig cyntaf ar y nwyddau a ddygid i'r dref, a hwynthwy yn unig a gâi werthu i'r cwsmeriaid.
Prif ddiddordeb y cyfnod cyntaf hwn yng Nghymru ydyw'r gwrthdrawiad rhwng yr hen gyfundrefn batriarchaidd a ffynnai yn y wlad a'r bywyd diwydiannol a masnachol newydd a wthiwyd megis ar y wlad gyda thwf y trefydd.
Perthyn y cyfnod hwn, fel y sylwyd eisoes, i oes y llwyth. Nid oedd unrhyw ddiwydiant y tu allan i gylch y teulu, ac felly nid oedd angen am fasnach. Ond yr oedd raid wrth rai nwyddau na ellid eu cael gartref, a'r rheini, y mae'n debyg, a roddodd fod i fasnach gyntaf. Dywedir yr arferai gwŷr Edeirnion bwrcasu nwyddau yng Nghaer mewn cyfnod lled fore. Fe ddichon mai rhai o wŷr Huw Caer oedd y rhain oherwydd syrthiasai Edeirnion i'w ddwylo ef rywbryd cyn 1086. Y mae'n debyg mai halen oedd un o'r nwyddau a brynid ganddynt.
Er y dywed Gerallt na thalai'r Cymry y sylw lleiaf i fasnach a diwydiant, eto cyfeiria at fath o wlanen a gynhyrchid ganddynt ac a adwaenid fel brychan. Ymddengys hefyd y byddai rhyw gymaint o werthu ar frethyn Cymreig yn lled fore. Yn llyfr cadw tŷ Esgob Henffordd, 1289-90, ceir a ganlyn dan y pennawd, "dillad gaeaf": "Am bedwar darn o Keyneth, un ohonynt at wasanaeth ei Ras" (£19/6/8). Ymddengys mai brethyn cartref Cymreig oedd Keyneth, a wisgid gan yr Esgob a'i glerigwyr pan na byddent yn eu gwisgoedd offeiriadol.[10]. Ar y llaw arall, dywed Gerallt y prynai'r Cymry frethyn yn Lloegr oherwydd eu hanallu i gynhyrchu digon gartref.
Ond yr oedd codi castell ac adeiladu muriau tref a dwyn nifer o estroniaid i Gymru yn rhwym o ddylanwadu ar ei masnach, ac y mae delw'r castell a'i drigolion yn drwm iawn ar y nwyddau a ddygid i mewn. Nid oedd ball ar y gwinoedd, wrth gwrs, a gwyddai ambell fardd o Gymro am eu blas a'u tarddiad. Ymysg pethau eraill a ddygid i mewn ceir halen, haearn, brethyn, lliain, siwgr, ffigys, sunsur, pуg, papur memrwn, canhwyllau, coffrau, saffrwn, ac yn ddiweddarach salt-petre at wneuthur powdwr gwn. Yd hefyd; rhoddwyd caniatâd i David le Palmer a Hugh le Mareys. ddwyn 500 chwarter o ŷd o gymdogaeth Bridgwater i ddeheudir Cymru oherwydd bod prinder yno. Yn yr un flwyddyn (1331) cafodd bwrdeiswyr Hwlffordd gynifer â mil o chwarteri.[11] Môn mam Cymru a roddai fwyd i garsiwn Caernarfon; ceir cyfeiriad at 50 o geffylau yn cario pynnau i Abermenai i'w cludo mewn cychod i Gaernarfon.
Ceir hefyd restrau o'r pethau a allforid, ac yn eu mysg cawn wlân a chrwyn, brethyn, ymenyn a chaws. Yn y modd hwn datblygodd nifer o borthladdoedd Cymreig gryn dipyn ar eu masnach yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Yn eu mysg gellir enwi Rhuddlan, Biwmaris, Conwy a Chaernarfon yn y gogledd, a Chaerfyrddin, Aberteifi, Caerdydd, Hwlffordd a Chasgwent yn y de; a dengys ystadegau'r porthladdoedd hyn beth oedd maint a nodwedd masnach y cyfnod.[12]
Ynglŷn â masnach Cymru bu datblygiad diddorol arall. Canlyniad uniongyrchol estyn breintlen i dref yng Nghymru ydoedd cyfyngu masnach y dref honno i nifer o estroniaid a chau'r Cymro allan yn gyfangwbl. Talodd y Cymro'r pwyth yn ôl trwy wrthod myned â'i nwyddau i'r dref i'w gwerthu.. Y canlyniad oedd i ddosbarth newydd o fasnachwyr godi—pobl a drigai nid yn y dref ond yn y wlad, ac a dalai swm arbennig am yr hawl i fasnachu. Adwaenid hwy fel chensers (censarii) neu tensers. Dylid cofio nad oedd y sawl a berthynai i urdd y masnachwyr yn byw yn y dref bob amser.
Rhoid caniatâd i arglwyddi'r gymdogaeth ac i dai crefyddol i ymuno â'r urdd, ac felly nid oedd unrhyw anhawster ar ffordd caniatáu i aelodau fyw y tu allan i'r dref a masnachu yno, cyhyd ag y cydnabyddent awdurdod yr urdd. Ymddengys hefyd y rhoid caniatâd i wneud hyn yn rhai o'r siartrau. Er enghraifft, yn siartr y Bala, 1324, dywedir nad oedd neb nad oedd yn aelod o'r urdd fasnachol i gael byw yn y dref er mwyn masnachu yno, oddieithr iddo gael caniatâd y masnachwyr. Ceir brawddeg gyffelyb mewn siartrau eraill yn y gogledd, ond nid yw'n gyffredin yn siartrau'r goror.
Ymddengys y talai'r Cymry doll am fasnachu yn yr Amwythig mor fore a 1205, ac yn ddiweddarach ceir cyfeiriad atynt fel aelodau tramor o'r urdd (sef aelodau yn byw o'r tu allan i furiau'r dref). Yr oedd y chensers, fel y gellid tybied, yn lled luosog ar y goror,[13] yng Nghaer, Amwythig, Caerwrangon, Clun, Bishop's Castle, Glyn Nedd a lleoedd eraill, ac nid oedd odid gymwd yn y de na cheid hwy ynddo. Yng Nghaer codid 2/6 yn y flwyddyn am y fraint o gael masnachu yno, a phenodid swyddogion, a adwaenid fel leve lookers, i gasglu'r dreth.
Fel y dywedwyd, bychan yw'n gwybodaeth am urdd y masnachwyr yng Nghymru, ond y mae'n gwybodaeth am urdd y crefftwyr yn llai fyth. Cyfeiria pob siartr bron at urdd y masnachwyr, ond ni ddywedir gair am urdd y crefftwyr, a maentumia Dr. Lewis na chwaraeodd urdd y cryddion, y rhoddwyd caniatâd i dref Gaerdydd ei ffurfio yn 1323, unrhyw ran ym mywyd y dref hyd yr unfed ganrif ar bymtheg, ac awgryma fod yr un peth yn wir am urddau crefftwyr Aberhonddu. Nid yw hyn yn golygu nad oedd grefftwyr yn nhrefydd Cymru, ond yn unig nad oeddynt wedi ymffurfio yn urddau, oherwydd, y mae'n debyg, bychander eu rhif. Dywed llyfr cofnodion tref Ruthyn am y flwyddyn 1587 fod yno gynt amryw gwmniau masnachwyr, ond nad oedd yn aros ond cwmni'r cryddion (cordwainers) yn cynnwys tua 30 o aelodau, a bod ganddynt hwy awdurdod dros y barcwyr a'r cwrwyr, dros drinwyr crwyn o bob math a thros y sadleriaid a'r cryddion.[14] Y mae hon yn enghraifft ddiddorol iawn o urdd o grefftwyr yn hawlio awdurdod dros grefftau eraill a oedd megis yn tyfu allan o'u crefft hwy; a dichon mai cyffelyb oedd tyfiant urdd y crefftwyr ei hun allan o urdd y masnachwyr.
Tueddir ni ar y cyfan i gredu mai datblygiad naturiol oedd urdd y crefftwyr, ac mewn tref o gryn faintioli fel yr Amwythig gellir dilyn y trawsgyfnewid a fu. Ar y cyntaf perthynai'r teiliwr a'r brethynnwr, er enghraifft, i'r un urdd, ond yn y drydedd ganrif ar ddeg torrwyd y cysylltiad a ffurfiwyd dwy urdd annibynnol. Yn yr un modd perthynai'r cigyddion a'r barcwyr i'r un urdd, ac yn ddiweddarach y barcwyr a'r cryddion, cyn sefydlu urddau annibynnol i bob un o'r crefftau hyn.[15] Anodd yw olrhain datblygiad cyffelyb
yng Nghymru, am y rheswm syml nad oedd yn y rhan fwyaf ohonynt ddigon o grefftwyr i ffurfio urdd o'r fath. Ymddengys hefyd nad oedd arglwyddi'r Mers yn ffafriol i'r datblygiad hwn. Ychydig o ryddid a gâi'r crefftwyr dan awdurdod y rhain. Yn 1424 apelia mynachlog Goldcliffe yng Ngwent am grefftwyr i drwsio'r difrod a wnaed ar y fynachlog gan y môr, ac yng nghwrs yr apêl dywedir na feiddiai gweithwyr Cymru adael yr arglwyddiaeth y trigent ynddi i ymgymryd â gwaith y tu allan, a bod yno brinder llafur o'r herwydd.[16] Fel y sylwyd eisoes, ynglŷn â'r diwydiant gwlân y ceir gyntaf urdd crefftwyr, a thrwy olrhain hanes y diwydiant hwn y gellir amgyffred orau natur y datblygiad diwydiannol. Ond yng Nghymru y mae i'r diwydiant hwn eto hanes dipyn yn wahanol i'r hyn a fu iddo yn Lloegr. Ym mlaenaf oll ni chanolbwyntiodd erioed yn y trefydd fel y gwnaeth ar y cyntaf yn Lloegr, ac am hynny ni cheir cyfeiriadau at urdd y gwehyddion yng Nghymru fel a geir yn nhrefydd Lloegr. Parhaodd y diwydiant yn ddiwydiant cartref ac ni bu i ddyfod y pandy newid rhyw lawer ar bethau yn y cyfeiriad hwn.
Er hynny bu'r pandy yn gaffaeliad mawr, ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg fe sefydlwyd pandai ym mhob cwr o Gymru. Y mae'n wir y ceid amryw ohonynt yn y trefydd; yr oedd pandy yng Nghaerlleon mor fore a 1314, ac yng Nghaer- dydd cyn 1316. Ond yr oeddynt yr un mor gyffredin yn yr ardaloedd gwledig-mewn pentrefydd fel Berriw neu Lyn Ceiriog. Ceir hanes, er enghraifft, am ŵr o'r enw Ken. ap Dike yn 1329[17] yn gweithio ar dasg yn ail-godi hen Bandy Melin Deirw(?) yn nyffryn Ceiriog. Weithiau fe'u ceid yng nghanol fforestydd fel y Pennant, lle yr oedd pandy mewn lle o'r enw Kenynvas, neu goedwig Glyn Cothi, lle yr oedd melin "Cludagh."[18]
Yn ddiweddarach, pan lwyddodd urdd y crefftwyr yn nhrefydd Lloegr gael y diwydiant yn gyfangwbl i'w dwylo eu hunain, dechreuodd y diwydiant symud allan i'r pentrefydd cyfagos, lle câi'r gwehydd ddilyn ei alwedigaeth heb fod yn ddarostyngedig i reolau gormesol yr urdd. Cwynai crefftwyr Norwich mor fore a 1329 y gwneid worsted—math o frethyn—yno mewn pentrefydd cyfagos heb neb i arolygu'r gwaith.
Ceir yr un gwyn yn union yn neddf 1542-43. Yn y ddeddf honno dywedir y byddai brethynwyr siroedd Caerfyrddin, Penfro ac Aberteifi yn byw gynt yn nhrefydd neu fwrdeisdrefi y siroedd hynny, a'u bod yn cynhyrchu math arbennig o frethyn a adwaenid fel ffrîs neu gotwm. Erbyn y flwyddyn honno, fodd bynnag, yr oeddynt wedi myned i fyw y tu allan i'r trefydd ac oherwydd hynny fe'u cyfrifid yn dramorwyr. Cwynir hefyd eu bod wedi troi yn amaethwyr ac yn magu defaid. Er hynny, cynhyrchent frethyn fel cynt, ond bod ei ansawdd a'i fesur yn wahanol. Ymysg y troseddwyr enwir y dilledydd, y gwehydd a'r pannwr—ffaith a ddengys ddatblygiad dulliau gweithio yn y diwydiant yn nhrefydd y de.
Y flwyddyn cynt yr oeddis wedi pasio deddf bod rhaid plygu'r brethyn a wneid yng Ngogledd Cymru (ac a adwaenid fel Whites, Russets, Kennets) yn y fath fodd fel y gallai'r prynwr yn hawdd weld ei faint yn ogystal a'i ansawdd. Cyn hynny, rholid y gornen frethyn mor dynn, meddid, fel na ellid yn hawdd wybod ei hyd na'i hansawdd. Ceir yr un gŵyn yn union gan wehyddion Norwich ynglŷn â'r worsted a wneid yn y pentrefydd cyfagos.[19]
Pasiwyd y deddfau hyn—a cheir eu cyffelyb yn Lloegr—er mwyn budd urdd y crefftwyr yn y trefydd. O achos eu gormes hwy, yr oedd gwehyddion a chrefftwyr eraill yn mudo o'r dref i'r wlad, lle caent ddilyn eu crefft fel y mynnent. Dygid y nwyddau a gynhyrchid felly i'r dref i'w werthu, a thrwy hynny gwneid niwed i ddiwydiannau'r dref.
Yn ystod yr oesau canol câi'r llywodraeth fwy o elw oddi wrth y fasnach wlân nag oddi wrth ddim arall. Eistedda'r Arglwydd Ganghellor ar sach wlân hyd heddiw—arwydd mai'r fasnach honno oedd sylfaen gadarn y wladwriaeth ar un adeg. Allforid ef, fel rheol, i'r Iseldiroedd, lle gwneid brethyn ohono gan y Ffleminiaid. Llwyddodd Edward I, fodd bynnag, i sefydlu'r diwydiant yn y wlad hon trwy ddwyn nifer o wehyddion drosodd, ac erbyn diwedd yr oesau canol yr oeddis yn allforio brethyn lle gynt yr allforid gwlân.
Er mwyn rheoli'r drafnidiaeth hon, trefnid i grynhoi'r holl wlân neu frethyn mewn mannau arbennig a adwaenid fel
y stwffwl (staple). Calais oedd y stwffwl am rai blynyddoedd, yna Bruges, prif gartref y diwydiant. Weithiau rhyw dref yn Lloegr a fyddai'r stwffwl. Ond pa le bynnag y byddai'r stwffwl, trefnid nifer o borthladdoedd yn y wlad hon i allforio'r nwydd ohonynt, ac adwaenid y rhain fel porthladdoedd y stwffwl. Perthynai i'r trefydd hyn Faer arbennig, a weinyddai ddeddf y stwffwl, ond, fel rheol, maer y dref a weinyddai fel maer y stwffwl, ac i'w ran ef y disgynnai'r gwaith o roddi'r deddfau hyn mewn grym. Efô hefyd a ofalai am gasglu'r doll, a selid y pecynnod â'i sêl arbennig ef.

Prin y bu gwlân Cymru erioed yn ddigon da i gael galw mawr amdano ar y Cyfandir.[20] Defnyddid y rhan fwyaf ohono gartref, er yr allforid rhyw gymaint o Hwlffordd ac Aberteifi yn ystod teyrnasiad Edward I ac Edward II.
Yn neddf 1353, gwnaed Caerfyrddin yn ystwffwl i Gymru oll. Nid oes angen dywedyd mor anghyfleus oedd trefniant o'r fath, a diddymwyd ef gan y Tywysog Du pan drefnwyd i'r Amwythig gymryd lle Caerfyrddin yn y Gogledd.[21] Gwelwn oddi wrth ddeddf arall a basiwyd yn yr un flwyddyn (1353) mai ychydig fasnachu oedd yng Nghymru. Yn y ddeddf honno caniateir i Gymry a Gwyddelod fyned â'u nwyddau, ar ôl eu pwyso a'u trethu yng Nghymru, i'r stwffwl yn Lloegr i'w gwerthu," am nad oedd marsiandwyr tramor yn dod i fasnachu i Gymru ac Iwerddon mor aml ag i Loegr."[22]
Gwerthid rhyw gyfran o'r brethyn Cymreig yn y marchnadoedd gartref, fel Rhuthyn a Llanerchymedd, ond fel y tyfai'r diwydiant âi llawer ohono i drefydd y Goror, fel Caer, Croesoswallt, Amwythig, Henffordd, a Bryste.
Hir fu'r brwydro rhwng Caer a'r Amwythig,[23] ac yn ddiweddarach rhwng Croesoswallt a'r Amwythig am gael y llaw uchaf yn y fasnach hon, a'r Amwythig a orfu yn y diwedd. Yn amser Leland (1536—9) i Groesoswallt y deuai'r rhan fwyaf o'r brethyn Cymreig; a dywed Camden fod y brethyn of very fine, thin, or slight texture." Yn amser Elisabeth, gwnaed cais i gyfyngu'r fasnach yn gyfangwbl i aelodau Cwmni'r Brethynwyr yn yr Amwythig, ond ymhen chwe blynedd, diddymwyd yr hawl hwnnw. Cofier bod mynd i Groesoswallt yn y dyddiau hynny yn gryn ymgymeriad oherwydd y lladron a fyddai'n llercian ar y gororau, a bu aml frethynnwr mewn perygl am ei einioes.
Erbyn 1633, yr oedd marchnad wlân Groesoswallt bron wedi marw'n llwyr. Dygid y brethyn i'r Amwythig yn becynnau ar gefn merlod. Cedwid y brethyn yn llofft neuadd y Farchnad, ac yno ymgasglai'r Brethynwyr, ac yn unol â hen arfer, yr hynaf ohonynt gae y cynnig cyntaf ar y nwyddau a'r gweddill yn ôl eu hoedran. Ond ni bu'r farchnad fyw yn hir yno. Yr oedd deddf wedi ei phasio i ryddhau'r fasnach; câi'r Cymro bellach werthu ei frethyn lle y mynnai, ac yr oedd masnachwyr Llundain a'r Cyfandir eisoes wedi dechrau prynu yng Nghymru.
Bu rhyw fesur o ddatblygiad hefyd ymysg gweithwyr gwlân Caerfyrddin. Rhoddwyd siartr i wehyddion y dref ar y 26 o Ebrill, 1574.[24] Ymgorfforasent hyd yn oed cyn hynny, cnd am ryw reswm syrthiasai'r undeb hwnnw i ddinodedd. Dyma ddatblygiad diddorol sydd yn lled gyffredin yn Lloegr, lle ceir yr hen urdd yn datblygu yn gwmni ac yn cael siartr ymgorfforaeth. Ceir enwau pedwar ar ddeg o wŷr wrth y siartr newydd, ac yn eu mysg Hugh Owen, Cofrestrydd y dref. Ymhen y flwyddyn, ffurfiwyd Cwmni'r Llifwyr yn yr un modd. Ceir hefyd rywfaint o fanylion am y rheolau y disgwylid i'r aelodau eu cydnabod wrth ddilyn eu crefft.

Ar y goror, yn bennaf, y ceid y brethynnwr, y dilledydd a'r prynwr gwlân—gwŷr a oedd yn byw ar y fasnach wlân yn hytrach nag wrth ddiwydiant nyddu a gweu—datblygiad a ddengys fel y medrai'r crefftwr, ambell dro, dyfu'n fasnachwr. Ond parhâi'r gwehydd Cymreig i amaethu, fel y dywed deddf 1542 am wehyddion Aberteifi a'r siroedd cylchynol, ac i nyddu ei wlân ei hun—ac eiddo ei gymdogion, fe ddichon—a gwerthu ei frethyn i frethynwyr y gororau.
Er gwaethaf a ddywed Camden a Fuller am ragoriaeth peth o'r brethyn Cymreig, âi'r rhan fwyaf ohono i drefydd y goror i'w orffen—yn enwedig i'r Amwythig. Yr oedd yn y dref honno gynifer à 600 o welleifwyr yn byw ar gneifio brethyn.
Y gair a ddefnyddir gan Gerallt Gymro am y brethyn (neu'r gwrthban, fel yr awgryma Llwyd) a roid ar y gwely yn y cartref Cymreig yw Brychan. Y gair a ddefnyddir yng nghyfrifon Swinfield yw Keyneth—enw, meddir, ar fath o frethyn bras a wneid yng Nghymru. Mewn cyfnod diweddarach, y term a ddefnyddir am frethyn Cymru yw Ffris (Frise), "than which," meddai Fuller, "none warmer to be worn in winter and the finest sort thereof very fashionable and gentile."[25] Yn fynych, fodd bynnag, ni ddefnyddir ond y term Brethyn Cymreig (Pannus Wallie) yn unig. Yn y drydedd ganrif ar ddeg cawn y gair "Welsh Russets," yna'n ddiweddarach, "Cotton Russets," ac yn ddiweddarach fyth, "Welsh Cottons." Defnyddid y gair cotton yn y cyfnod hwn am frethyn a'r cnap (nap) wedi ei godi â chribau'r pannwr. Gwelir llysieuyn y cribau (teasle) yn tyfu mewn ambell hen ardd hyd heddiw. Cneifio'r cnap yn wastad a llyfn oedd camp y gwelleifiwr. Dro arall, sonnir amdano fel brethyn gwyn, sef brethyn heb ei lifo, ond ymddengys fod y lliw llwyd a du'r ddafad a'r rhuddgoch yn boblogaidd hefyd. Cynhyrchid hefyd gryn lawer o wlanen, ac y mae sail i gredu mai yng Nghymru y darganfuwyd y gelfyddyd honno.
Nid oedd mwyngloddiau Cymru ond megis yn eu babandod, er bod y Rhufeiniaid a Brythoniaid yr oes bres wedi codi rhai o'r mwynau. Ychydig ddatblygu a fu arnynt yn ystod yr oesau canol, oherwydd bod anhawster trafnidiaeth yn cyfyngu'r galw amdanynt.
Er hynny, ceir amryw gyfeiriadau at fwynau yng nghyfrifon maenorydd yr oesau canol. Er enghraifft, dywedir i Gilbert de Clare ddarganfod plwm, arian a haearn, ar ei dir ym Morgannwg yn 1227. Tua'r un adeg rhoddwyd caniatâd i hen Fynachlog Margam godi glo, haearn a phlwm yng nghyffiniau Aberafan. Ffermid llechi'r gogledd yn 1444 gan Hugh Huls a Meredith ap Thomas, a thalent £6 13 4 yn y flwyddyn. Yn 1509, ffermid hwy gan Ieuan ap Tudur ap Dycus, a dalai £7 6 9 y flwyddyn.[26] Yr oedd cryn alw am blwm i doi'r cestyll a'r eglwysi, a hefyd am haearn i wneud arfau o bob math. Y mae gennym hefyd fanylion diddorol ynglŷn â'r diwydiant mwyn.

Os darganfyddai neb fwyn, rhoddid caniatâd iddo gael fynd meeres," hynny yw, dau ddarn o dir deg gwrhyd a saith troedfedd o hyd a'r un lled a thrwch y wythïen.[27] Cerid y gwaith ymlaen dan arolygiaeth y "Bere Master," a ddewisid gan y masnachwyr a'r mwynwyr. Hawliai'r arglwydd hanner y mwyn, ac oni werthid y gweddill o fewn tair wythnos, âi'r cwbl yn fforffed iddo ef. Ar y llaw arall, pe collai masnachwr neu fwynwr ei fywyd, câi'r weddw gyfran o'r tir. Câi'r "Bere Master" ddarn o dir i godi tŷ arno a digonedd o goed at wasanaeth y tŷ. Yr oedd ef a'r masnachwyr a'r mwynwyr yn rhydd oddi wrth doll, a chaent besgi moch heb dalu'r mesobr arferol.
Os ceid un o'r mwynwyr yn euog o ddwyn mwyn, dirwyid ef 5/4 y tro cyntaf, a 10/7 yr ail tro—y "Bere Master" i gael y ddirwy. Os delid ef y drydedd waith, trywenid ei law dde â chyllell a'i hoelio wrth bren yn y mwynglawdd, a gadewid ef yno i drengi oni allai ymryddhau.
Trefnid i'r "Bere Master" fyned i lawr i'r gwaith unwaith bob dydd, ac yr oedd cynrychiolwyr yr arglwydd i fyned i lawr unwaith bob wythnos i weled bod y "Bere Master" yn gwneud ei waith yn briodol.
Y mae'n rhyfedd, ag ystyried yr anawsterau politicaidd a chyfreithiol a roed ar ffordd y Cymro yn y cyfnod hwn, i ddiwydiant a masnach ffynnu i'r graddau y gwnaethant. Nid oedd trefydd Cymru ond megis hug dros raib Normanaidd, a gwyddom mai i amcanion milwrol a pholiticaidd y sefydlwyd hwy. Ni chai'r Cymro fasnachu fel y gwnai gynt yn y wlad. Nid oedd y trefydd milwrol hyn, ychwaith, yn y safleoedd mwyaf manteisiol i fasnach bob amser. Yn 1400—1, pasiwyd deddf i rwystro'r Cymro rhag prynu tŷ na thyddyn oddi mewn nac yng nghymdogaeth trefydd marchnad y goror, ac i sicrhau na ddeuai unrhyw Gymro yn ddinesydd yn yr un o'r trefydd hyn. Os digwyddai un eisoes fod yn fwrdais, rhaid oedd iddo gael meichiau i fod yn gyfrifol am ei ymddygiad o hynny allan.[28]
Mewn senedd a gynhaliwyd yn St. Edmundsbury yn 1446-7, aethpwyd gam ymhellach pan ddiddymwyd pob hawl a roddasid cyn hynny i unrhyw Gymro i fasnachu mewn ffair neu farchnad, neu i bobi a gwerthu bara neu fragu a gwerthu diod mewn unrhyw dref yng ngogledd Cymru.[29]
Diddymwyd y rhwystrau hyn yn y siartr a roddodd Harri Tudur i'w denantiaid yng Nghymru yn 1507. Tyb rhai awduron na bu i'r cyfreithiau cosbi hyn gymaint effaith ag y mynnir weithiau, ond dengys deiseb tre'r Bala i Harri VII beth feddyliai'r bwrdeiswyr yng Nghymru o'r rhyddid newydd yr oedd Harri wedi meiddio ei estyn i'w gydwladwyr. Cwynai'r deisebwyr na allent o hynny allan dalu'r fferm arferol, am eu bod yn dibynnu i fesur ar fedru codi toll ar y rhai a ddeuai i'r dref i fasnachu o'r plwyfi cylchynol. Fel y cofir, y Bala oedd tref farchnad pum plwyf Penllyn, ac yno y gorfyddid ar y Cymry fasnachu.[30]

Llyfrau.
GWELER y llyfrau y cyfeirir atynt yn y bennod ar ffair a marchnad. Gweler hefyd erthyglau campus Dr. E. A. Lewis yn Royal Historical Society Transactions, New Series, Vol. XVII, ac yn y Cymmrodor, Vol 24, ac eiddo Dr. Skeel ar y fasnach wlân yn Archeologia Cambrensis, December, 1922.
Ar y datblygiad yn gyffredinol gweler lyfr Bucher, wedi ei gyfieithu gan Wickett, dan y teitl Industrial Evolution. Ar y datblygiad yn Lloegr gweler gweithiau W. J. Ashley, W. Cunningham, G. Unwin a Lipson.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Adam Smith: Wealth of Nations, Book I.
- ↑ Ancient Laws of Wales, I, 322.
- ↑ Ancient Laws of Wales II, 512.
- ↑ "Hibbert: English Gilds, Chapter 2, Note 2.
- ↑ Lewis op. cit., 186.
- ↑ Ar ddatblygiad urdd y crefftwyr gweler W. J. Ashley: Economic History. Cunningham Growth of English Industry and Commerce. Lipson: Economic History (Mediaeval).
- ↑ Lewis op. cit., 176.
- ↑ 10 Lewis Transactions, Royal Historical Society, New Series, XVII, 158.
- ↑ Lewis: Bulletin of the Board of Celtic Studies, May, 1928, Proceedings of Small Hundred Court of Commote of Ardudwy, Oct. 8, 1325—Sept. 18, 1326.
- ↑ Bishop Swinfield: Roll of Household Expenses, 1289—90. Camden Society, 1853, P, III
- ↑ Lewis Royal Historical Society Transactions, New Series, Vol. XVII, 138.
- ↑ Gweler Lewis, yn Y Cymmrodor, XXIV.
- ↑ Lewis Royal Historical Society Transactions, New Series, Vol. XVII, 165.
- ↑ Report on Municipal Corporations, 1834. Ruthin.
- ↑ Green's Short History of the English People, 199.
- ↑ Lewis op. cit., 143.
- ↑ Mahler: Chirk Castle and Chirk Land, 48.
- ↑ Lewis: op. cit., 158.
- ↑ Ashley: Economic History, I, Part II, 205.
- ↑ Ond gweler y bennod ar "Y Fynachlog."
- ↑ Lewis: op. cit., 152.
- ↑ Bowen: Statutes of Wales, 30.
- ↑ Skeel: "Welsh Woollen Industry in the 16th and 17th Centuries," Archæologia Cambrensis, Dec. 1922, p. 243.
- ↑ Skeel: op. cit., 236.
- ↑ Fuller's Worthies, II, 553.
- ↑ Lewis: op. cit., 139—148.
- ↑ British Museum, Additional MSS, 10013. Gweler hefyd Cymmrodorion Transactions, 1925-26, 25-110.Math o stent o adran o Faelor (yn cynnwys Minera) yw Add. MSS. 10013. Y mae'r manylion ynglŷn â'r gwaith mwyn yr un rhai yn union ag a geir yn Cymmrodorion Transactions, ac y mae'n amlwg bod yr ymrwymiad yn un cyffredin. Y mae'r gosb am ddwyn mwyn i'w chael hefyd yng ngweithydd Alcan Cernyw.Am gyfreithiau ac arferion gwaith mwyn gweler atodiad i'r erthygl yn Cymmrodorion Transactions.Yr wyf dan ddyled i Mr. Aubrey Roberts, ysgolfeistr Gwynfryn, Coedpoeth, am alw fy sylw at Add. MSS. 10013. Bu garediced a gadael i mi gael benthyg ei gopi ef o'r stent ddiddorol hon.
- ↑ Bowen: Statutes of Wales, 31, 33.
- ↑ Ibid., 45.
- ↑ Lewis: The Medieval Boroughs of Snowdonia, 299.

XII.
Bywyd Crefyddol—Y Plwyf.
CYTUNIR yn gyffredin fod trefnyddiaeth yr hen eglwys Geltaidd dipyn yn wahanol i eiddo Eglwys Rufain a fabwysiadwyd yn ddiweddarach yn y wlad hon gan Geltiaid a Saeson fel ei gilydd. Nodwedd fawr yr eglwys Geltaidd oedd ei tharddiad mynachaidd neu feudwyaidd a'r berthynas agos rhwng ei threfnyddiaeth hi ag eiddo'r "genedl."[1]. Ond rhaid peidio â gorbwyso'r gwahaniaeth, er hynny, oherwydd rhwng glaniad Awstin fynach yng Nghaint yn 597 a marw'r ArchesgobSylwasom y danghosir mwy o barch ganddynt hwy na chan genhedloedd eraill i eglwysi a phersonau mewn urddau, i greiriau'r saint, i glychau, i lyfrau santaidd, ac i'r Groes, yr hon a anrhydeddir ganddynt gyda defosiwn neillduol, ac o ganlyniad fe fwynheir heddwch eithriadol gan eu heglwysi. Mwynheir y tawelwch hwn nid yn unig gan anifeiliaid pan yn pori yn eu mynwentydd, ond ymhell y tu allan i furiau y rheini lle y ceir ffosydd a therfynnau wedi eu pennu gan yr Esgob i'r amcan o sicrhau diogelwch y Seintwar.—GERALLT GYMRO.

Theodore o Darsus yn 690 (efô fel y tybid a ad-drefnodd fywyd eglwysig y Saeson ac a sefydlodd y gyfundrefn blwyf yn Lloegr[2]) y mae'n debyg mai meudwyaidd a mynachaidd oedd sylfaen eu bywyd crefyddol hwythau hefyd.
Fel y gwyddys, perthynai i'r hen eglwys Geltaidd draddodiad, ffurf lywodraeth a ffurf wasanaeth a'i gwahaniaethai yn gyfangwbl oddi wrth Rufain. Awgryma'r traddodiadau a'r ffurf wasanaeth darddiad Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig, a dengys y ffurf lywodraeth gyfaddasder i gyfarfod anghenion ysbrydol pobl a oedd eto yn byw yn ôl arferion patriarchaidd y llwyth. Brithir gwledydd Celtaidd y gorllewin ag olion y cyfnod bore hwn yn hanes yr Eglwys.
Y meudwy, yn sicr, oedd cynnyrch mwyaf nodweddiadol y bywyd hwnnw. Crefyddwr yn chwennych neilltuedd yn anad dim oedd y meudwy, ac am hynny dewisai fyw mewn lleoedd anghysbell ac anghyfannedd. O ganlyniad ceir ei gell yn fynych ar ynys unig fel Enlli, mewn cymwd anghysbell fel Pennant Melangell, neu ar graig ar fin y traeth fel Llantysilio ar Fenai, neu gapel traddodiadol Padrig ar draeth Penfro.[3] Weithiau hwyrach nad oes ond yr enw yn aros fel "Lle yr hen Eglwys," bryd arall erys ychydig o olion o'r tŷ crefyddol, ond nid oes odid blwyf yng Nghymru nad oes draddodiad ynddo am adeilad o'r fath. Y mae Môn yn frith ohonynt, megis capel Beuno, a adwaenid fel eglwys y Beili, ac a safai lle mae ysgol Aberffraw heddiw; capel Dindryfal neu gapel Llanfair yn Rhew Dryvol, neu eglwys Fair yn yr un lle. Dywed Leland ei fod tua dwy filltir oddi wrth y môr.[4] Rhydd H. H. Hughes a H. L. North fanylion am nifer o gapeli ar lethrau Arllechwedd rhwng Llanllechid ac Abergwyngregin, fel Eglwys Cil Twllan, yr hen eglwys neu gapel Llechid yng nghymdogaeth Llanllechid, Llanylchi ar lan ogleddol yr afon, a llan a chapel Bodvan yn agos i ffermdy o'r enw Hafod Celyn.[5] Ceir eglwys Wen yn Llanuwchllyn, eglwys Mihangel yn Llanfihangel y Pennant[6], eglwys Elen ym mlaen dyffryn Ceiriog, eglwys Pant Dŵr wrth darddle yr Eirth mewn cilfach yn y Berwyn, a gellid enwi lluoedd o rai cyffelyb. Gydag ychydig eithriadau saif yr hen eglwysi hyn mewn lleoedd sydd erbyn hyn yn hynod ddiarffordd, ond y mae'n amlwg bod poblogaeth yn eu hymyl unwaith neu eu bod ar rai o briffyrdd y cynoesau. Daeth yr adeiladau hyn, nad oeddynt ar y dechrau namyn celloedd meudwyaid, ar gyfrif cymeriad y gwŷr a drigai ynddynt i gael eu hystyried yn lleoedd cysegredig, a thyfodd yr arfer o fyned yno i addoli nes i rai ohonynt ddatblygu yn eglwysi plwyf. Ond fel rheol, fel yr ymsefydlai'r boblogaeth yn is i lawr y dyffryn, rhaid oedd symud yr eglwys i fan mwy cyfleus a chanolog. Peidiodd eraill â bod, yn gyfangwbl, a rhoddwyd degwm y dref y digwyddent fod ynddi at gynnal eglwys mewn plwyf cyfagos, ond nid bob amser y plwyf agosaf. Datblygodd eraill drachefn, fel Enlli a Seiriol, yn fynachlogydd enwog. Ynys fechan heb fod nepell o dir oedd hoff gartref y meudwy Celtaidd.
Nodwedd arall ar yr eglwys Geltaidd oedd y berthynas agos rhwng ei threfnyddiaeth a threfnyddiaeth y "genedl" a wasanaethid ganddi. Dywedir i Faelgwn Gwynedd roddi ei gaer er mwyn sefydlu eglwys Caergybi oddi mewn iddi,[7] a lled awgrymir mai hyn oedd cychwyn y mynwentydd crynion sydd mor amlwg mewn gwledydd fel Cymru. Hen gaerau, lleoedd cadarn y llwyth, oeddynt gynt, medd rhai; myn eraill mai hen gylchoedd cerrig ydynt, lle y byddid yn arfer a chladdu'r meirw ymhell cyn dyfod Cristnogaeth i'r wlad. Ond beth bynnag am eu tarddiad, dengys Palmer yn ei erthygl ddiddorol ar hen "eglwysi cyfran" gogledd Cymru[8] fel y parhaodd canonaeth Caergybi ym meddiant disgynyddion Llywarch ap Brân a Hwfa ap Cynddelw, gwŷr oedd yn uchelwyr amlwg yn y gymdogaeth honno unwaith. Nid yn unig hawlient lais ym mhenodiad y canonwyr ar gyfrif eu perthynas a noddwyr bore'r eglwys yng Nghaergybi, ond delid canonaeth yn fynych gan aelodau o'r teulu.
Tebyg, o bosibl, mewn oesoedd diweddarach ydoedd twf hawl rhydd—ddeiliaid i sedd yn eglwys y plwyf. Edrychid ar yr hawl hwn fel rhywbeth y gellid ei drosglwyddo i arall, a cheir cyfeiriad mynych at yr hawl yn ewyllysiau'r cyfnod. Yn hen eglwys Llangar, gerllaw Corwen, lle bu Edward Samwel gynt yn berson ac yn gloddesta yn hen dafarn y Stamp gerllaw, ceir nifer o eisteddleoedd yn perthyn i urddasolion y fro, a phaisarfau'r teulu yn addurno drws y cwir. Ceir yr un peth yn hen eglwys enwog Clynnog yn sir Gaernarfon, ac mewn İleoedd eraill. Byddai yr un hawl yn perthyn i fwrdeiswyr tref. Rhydd Mr. T. P. Ellis adroddiad diddorol am helynt a fu yn eglwys Feifod rhwng Madam Meryell Williams a Mrs. Mitton, cynrychiolwyr dau o deuluoedd amlwg y Plwyf, parthed eu hawl ar sedd arbennig.[9] Ond datblygiad diweddar ydoedd seddau yn eglwys y plwyf. Sefyll a wnai cynulleidfa yn yr oesau canol, fel rheol. Ond y mae'n amlwg yr edrychid ar eglwys y plwyf a'i breintiau crefyddol fel pethau i'w mwynhau gan bersonau neilltuol ar bwys eu perthynas â llwyth arbennig, yn union fel yr hawlient dir am yr un rheswm. Ond y ffurf fwyaf cyffredin oedd y clas,[10] fel y gelwid ef. Arferai nifer o glaswyr neu ganonwyr gydfyw yn yr un lle a gwasanaethu cylch eang o wlad oddi amgylch. Yn araf bach dechreuodd rhai o'r canonwyr hyn ymsefydlu yma ac acw ar hyd y wlad a wasanaethid ganddynt fel cyfangorff gynt. Rhannwyd y wlad yn blwyfi a rhoddwyd degwm plwyf, neu gyfran o blwyf, yn fywoliaeth i bob un. Telid y degwm cyn hynny i Reithor y clas neu'r coleg clerigol yn y fam eglwys, ond wedi sefydlu person mewn plwyf deuai cyfran o'r degwm—y degwm lleiaf, sef y degwm ar wyau, llaeth, ymenyn a ffrwythau yn eiddo iddo ef, ond telid y degwm mawr—ar ŷd, gwair a gwlân—i'r clas o hyd, neu weithiau i'r esgob.
Fel hyn y tybir y daeth Caergybi yn fam eglwys Bodedern, Llanddrygarn a Bodwrog; Meifod ym Mhowys yn fam eglwys Llanfaircaereinion, Alberbury a Chegidfa; a Llanrhaeadr ym Mochnant yn fam eglwys Llangedwyn, Llangadwaladr a Llanarmon Mynydd Mawr. Perthynai i'r claswyr gryn lawer o dir yn aml, oblegid ar y tir y dibynnai pawb, yn llên ac yn lleyg, y pryd hwnnw. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg aethai'r tir a oedd gynt ym meddiant claswyr Meifod yn eiddo i un o arglwyddi Normanaidd Powys. Ymddengys oddi wrth y cyfrif a rydd ef o'i dir fod ganddynt unwaith gymaint a 200 o aceri o dir âr, a nifer o denantiaid rhydd, gydag ychydig o daeogion, yn ei drin. Talai'r taeogion 10/yn y flwyddyn fel cyfwerth y gwaith a gyflawnent gynt ar y tir yn yr Hydref, a 6/8 yn gyfnewid am yr hen arfer o groesawu un o'r "gweision bychain" o ŵyl Fihangel i'r Nadolig. Dyma un o'r cylchoedd y sonia Hywel Dda amdanynt, ac yr
oedd yn rhaid i'r taeogion eu derbyn. Sonnir hefyd am lys tir, lle byddai'r canonwyr yn eistedd mewn barn ar eu tenantiaid, yn ôl arfer arglwyddi ffiwdal, a dywedir y byddai'r llys yn dwyn i mewn y swm sylweddol o £2 yn y flwyddyn.[11]
Sefydlwyd y plwyf felly trwy neilltuad nifer o drefydd at wasanaeth eglwys arbennig. Nid oes le i amau nad oedd y degwm a godid ar y trefydd hyn dipyn hŷn nag eglwys y plwyf, gan y telid ef gynt i'r fam eglwys neu i'r esgob. Ar y cyntaf arferid rhannu'r degwm, weithiau yn dair rhan ac weithiau yn bedair rhan, (1) i'r Esgob; (2) i'r Person; (3) at gynnal yr eglwys a'r gwasanaeth; a (4) i'r tlodion.[12]
EGLWYS Y PLWYF.
Tybid hyd yn ddiweddar iawn mai Rhufeinig oedd cynllun sylfaenol eglwys y plwyf, a chyfeirid at y Basilica—adeilad oedd yn gyfuniad o lys a neuadd dref, ac a oedd i'w gael ym mhob tref Rufeinig o bwys—fel y patrwm. Awstin Fynach, meddid, a ddaeth a'r cynllun ar ei union o Rufain, a chan mai efô a fu'n gyfrwng i efengyleiddio'r Saeson, dyma'r cynllun a geir yn gyffredin yn Lloegr.
Ond yr oedd y Basilica wedi ei fabwysiadu fel cynllun eglwys ym mhell cyn dyddiau Awstin. Ceir adeiladau o'r fath yn Uriconium, ac yng Nghaerwent ar ororau Cymru, ond nid oes argoel iddynt erioed gael eu defnyddio at amcanion crefyddol. Yn 1892, fodd bynnag, mewn tref Rufeinig o'r enw Silchester, yn swydd Hants, darganfuwyd adeilad ar lun Basilica a fu unwaith yn eglwys Gristnogol. Diddorol yw sylwi ar gynllun a mesurau yr adeilad bychan hwn—yr eglwys Gristnogol hynaf yn y wlad i gyd, y mae'n debyg.[13]
Saif yr eglwys, fel y saif eglwysi yn gyffredin, ag un talcen i'r dwyrain a'r llall i'r gorllewin. Ym mhen gorllewinol yr eglwys ceir mosaic prydferth pum troedfedd ysgwâr, a thybir mai ar hwn y safai'r allor. Y mae'r talcen gorllewinol yn hanner crwn, a rhed dwy ail yn gyfochrog â chorff yr eglwys. Mesura'r eglwys tua 42 troedfedd o hyd a 10 troedfedd o led. Ryw 11 troedfedd tua'r dwyrain daethpwyd o hyd i'r lle y byddid yn ymolchi ac ymgroesi wrth ddyfod i mewn i'r gwasanaeth, ond ymddengys na fabwysiadwyd y cynllun yma yn gyffredinol.[14]
Hefyd y mae'n hysbys erbyn hyn mai ychydig o lwyddiant a gafodd Awstin Fynach[15] y tu allan i Gaint, lle ceir eglwys neu ddwy ar gynllun Rhufeinig. Efengyleiddiwyd y Saeson, nid gan y mynaich Rhufeinig a ddaeth gyda Awstin yn 597. ond gan genhadon Celtaidd a ddaeth o'r Alban i ogledd Lloegr. Gwaith dynion fel Columba, Colman, Aidan a Chuthbert ydoedd gwŷr oedd wedi eu trwytho yn nhraddodiadau a dysg yr eglwys Geltaidd. Ymhen ugain mlynedd wedi dyfod Aidan o Iona, meddai un hen awdur, yr oedd Lloegr yn Gristnogol.[16] Cadarnheir hyn gan astudiaeth o gynllun eglwysi Plwyf Lloegr, lle gwelir yn amlwg ôl dylanwad y cynllun Celtaidd.
Ond beth oedd hwnnw? Y ffurf symlaf, y mae'n debyg, ydoedd adeilad cyfonglog,[17] ond weithiau byddai un pen iddo yn hanner crwn, fel y Basilica Rhufeinig, oherwydd ei adeiladu o gylch cell meudwy, a fyddai weithiau yn grwn ar lun cwch gwenyn. Pan ddechreuwyd defnyddio'r lle fel eglwys cadwyd y gell fel y rhan fwyaf cysegredig ohoni ac ychwanegwyd ati. Dyma gynllun sydd yn lled gyffredin yng ngorllewin Iwerddon—un o'r rhai perffeithiaf yw eglwys fechan Dingle. Tybia Gilbert Scott fod yr eglwys Geltaidd ar ei symlaf yn dilyn cynllun yr oruwchystafell, lle byddai'r disgyblion yn arfer a chyd—gyfarfod yng Nghaersalem.[18] Cyfonglog felly yw'r priod ddull Celtaidd, gydag ambell dalcen crwn.[19] Y datblygiad nesaf oedd ychwanegu ystafell arall yn nhalcen yr un oedd eisoes yn bod a rhoi drws rhyngddynt. Tebygai hyn i gynllun yr hen deml Iddewig gyda'i gwahanlen. Yn yr adran newydd y cedwid yr allor, a hon oedd cangell yr eglwys. Yn ddiweddarach fe rennid corff yr eglwys yn ddwy a rhoi y côr yn un pen rhwng y gangell a chorff yr eglwys. Dyma'r cynllun Celtaidd, a'r cynllun sydd yn gyffredin, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd. Nid oes yn Lloegr ond saith eglwys blwyf a ddengys ddylanwad y cynllun Rhufeinig, ond y mae dros bedwar cant yn dangos dylanwad
y cynllun Celtaidd—digon o brawf, pe bai angen, mai o blith y Celtiaid y daeth crefydd i Loegr.<ref>Gardner: op. cit., 7<ref>

Ffurfir y rhan fwyaf o hen eglwysi Cymru o ddau ysgwâr wedi eu gosod ben wrth ben, a sgrîn yn gwahanu'r naill ran oddi wrth y llall. Rhydd Harold Hughes a Herbert North ddarlun o eglwys Gymreig fel y tybiant hwy yr oedd yn amser Gruffydd ap Cynan, ac y mae ôl yr hen gynllun i'w weled ym mhobman bron yng Nghymru.[20]
Fel y dengys Scott cyfnertha'r cynllun hwn y traddodiad am darddiad Groegaidd yr eglwys Geltaidd. Cynhelir gwasanaeth yr offeren yn y dwyrain y tu ôl i sgrîn gaead debyg i'r un a geir yng Nghymru, ond bod yr un Gymreig, fel y ceir hi heddiw, yn fwy agored.
Ysgrîn felly oedd un o rannau pwysicaf yr eglwys Gymreig, ac fel y gwyddys y mae Cymru yn hynod gyfoethog yn y cyfeiriad hwn. Ymddengys mai yn ddiweddarach y daeth y Grog gyda darlun o'r Gwaredwr yn hongian arni, a chyda Mair ar y naill llaw iddo a Joseph neu un o'r disgyblion ar y llall; ac yn ddiweddarach fyth y daeth llofft y Grog. Safai'r allor, fel rheol, ym mhen dwyreiniol yr eglwys, ond ar ganol y gangell fel y gallai'r offeiriad fynd y tu ôl iddi ac wynebu'r gynulleidfa. Carreg fyddai'r allor ac yn aml fe'i ceir hi heddiw ar drothwy drws neu ffenestr, a phum clwy'r Gwaredwr yn argraffedig arni. Taenid lliain gwyn dros yr allor ac arni gorffwysai creiriau'r Sant a ddaliai berthynas â'r eglwys. Trwy'r drws—a fyddai bob amser bron ar ochr ddeheuol yr eglwys, fel yn Llanfaglan a Llanrhychwyn heddiw—y deuai golau i ganol yr eglwys, ond weithiau ceid ffenestr fechan ym mhen dwyreiniol yr eglwys i roddi golau i'r offeiriad i fyned trwy'r gwasanaeth.
Adeiledid yr hen eglwysi o'r un defnydd a'r tai. Ceir y cyplau yn ymestyn o'r grib i'r llawr fel mewn llawer hen fwthyn. Gwneid yr ochrau â dellt a'r to o frwyn neu rug. Y mae eglwys goed yn sefyll hyd heddiw yn Melverley ar ororau Maldwyn, ac eglwys goed oedd hen eglwys Trelydan, gerllaw'r Trallwm, cyn ei hail—adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pan ddaeth yr arfer o adeiladu eglwysi cerrig dwbid clai o'r tu mewn iddynt ac yna gwyngalchid hwy oddi mewn ac oddi allan. Disgrifir eglwys Sycharth gan Iolo Goch fel
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
a dywed awdur Hanes Gruffydd ab Cynan y byddai'r eglwysi gwyngalchog a sefydlwyd gan y gŵr hwnnw yng Ngwynedd yn tywynnu fel sêr yn y ffurfafen.[21]
Ymddengys nad oedd clochdy ar yr eglwysi boreaf, ac mai cloch law a ddefnyddid, fel cloch Gwyddelan neu Fangu Dewi a oedd ym meddiant eglwys Glasgwm, Sir Faesyfed. Nid oes ond rhyw hanner dwsin o'r hen glychau hyn yn aros yng Nghymru; er bod y rhain yn gwahaniaethu o ran maint, y maent bron bob un ar yr un cynllun—y safn yn ysgwâr yn lle yn grwn fel cloch gyffredin.
Nid oedd ychwaith fedyddfaen yn yr eglwysi, a throchid y plant a'r dychweledigion mewn ffynnon neu ffrwd gyfagos. Nid oes derfyn ar nifer y ffynhonnau a geir mewn cysylltiad ag eglwysi plwyf yng Nghymru, a phery'r arfer o hyd o gael dŵr o'r ffynnon i fedyddio. Yr oedd ffynhonnau o'r fath, y mae'n debyg, yn cael eu hystyried yn lleoedd cysegredig cyn i Gristnogaeth erioed ddyfod i'r wlad.
Ond daeth dylanwadau eraill i chwarae ar fywyd yr eglwys yng Nghymru, a gellir eu holrhain yn y cyfnewidiadau a fu yng nghynllun yr adeilad. Gwelir newid hefyd yng nghysegriad yr eglwysi. Perthyn yr eglwysi hynaf i'r hen saint cyntefig, ond o dipyn i beth daeth saint eglwys Rufain i gymryd eu lle. Tua'r ddegfed ganrif a'r ganrif nesaf ceir llawer eglwys yn dwyn enw Mihangel, ac erbyn y ddeuddegfed ganrif yr oedd addoli Mair, dan ddylanwad y mynaich, wedi dyfod yn hynod boblogaidd.

Nodweddir Gogledd Cymru—Sir Ddinbych yn enwedig gan eglwysi dwbl, hynny yw, eglwysi â dau gorff wedi eu gosod yn gyfochrog, fel eglwysi Llanfairtalhaearn, Llanrhaeadr D.C., ac eraill. Tybir mai'r esboniad ar y math hwn o eglwys yw'r addoli Mair y cyfeiriwyd ato. Ar y cyntaf, codid capel bychan wrth ochr y gangell, lle gosodid allor i addoli Mair; yna, fel y deuai'r addoliad newydd yn fwy poblogaidd, helaethid y capel nes ei wneud yn gyfartal o ran hyd ag adran arall yr eglwys, a cheid felly ddau gorff cyfochrog, cyfartal. Gellir profi mai hyn yw'r esboniad ar hen eglwys Llansilin, sydd wedi ei hadeiladu ar y cynllun hwn. Yn y flwyddyn 1534 bu cyfreithio rhwng dau fab Llywelyn ap Ieuan Vychan o Foeliwrch ynglŷn â'u hawl ar sedd yn yr eglwys. Hawliai'r naill, yn ôl yr hen arfer Gymreig o roddi hawl cyfartal i bawb o'r plant, a'r llall ar sail cyfraith a basiwyd gan Harri VIII, a gyfyngai'r hawl i'r mab hynaf yn ôl arfer Lloegr. Penderfynodd Llys yr Uchel Gomisiwn fod Morus, y mab hynaf, i gael sedd yng nghangell Fair, a Tomos, y mab ieuengaf, i gael sedd yng nghangell Sant Silin.[22]
Nid yw Cymru. fodd bynnag, i'w chymharu â gwledydd eraill, fel Lloegr neu Ffrainc, yn natblygiad eglwysi. Y mae amryw resymau am hyn. Ar y gwastadedd, fel y sylwodd Ruskin, y ceir campwaith y pensaer bob amser. At hynny, nid yw'r garreg a geir yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd, yn addas iawn. Ond mwy na hyn, yn ystod y canrifoedd hynny pan oedd y dull Gothig yn cyrraedd ei berffeithrwydd, bu helynt a rhyfel yn aflonyddu ar fywyd Cymru. O ganlyniad, er y ceir yma ac acw enghreifftiau rhagorol o ddatblygiad celfyddyd adeiladu, tlawd, ar y cyfan, yw eglwysi Cymru yn y cyfeiriad hwn. Ond ceir rhai eithriadau y dylid cyfeirio atynt; rhydd eglwys Penmon well syniad, fe ddichon, am yr hyn ydoedd eglwys Normanaidd nag odid eglwys yn y wlad, ag eithrio'r eglwys yn nhwr Llundain; gellir gweld y dylanwad Normanaidd ym mhriordy Aberhonddu ac yn eglwysi'r Tywyn a Meifod a lleoedd eraill; dengys drws gorllewinol hen abaty Ystrad Fflur gyfuniad o'r dylanwad oedd ar basio a'r dylanwad Celtaidd ; a cheir ym mhorth deheuol Llanaber, yn ymyl Abermaw, enghraifft ragorol o'r ris nesaf yn natblygiad y Perthyn eglwysi mwyaf mawreddog Cymru, fodd bynnag, i gyfnod y Tuduriaid, pan beidiodd yr ymrafaelio rhwng y ddwywlad. I'r cyfnod hwn y perthyn nifer o eglwysi'r goror, fel eglwysi Wrecsam, Gresford a'r Wyddgrug, ac eglwysi Clynnog, Bangor a Biwmares yn y gogledd, a Chaerfyrddin (Sant Pedr) a Dinbych y Pysgod yn y de.[23] Yr oedd bywyd crefyddol yr oesau canol dipyn ehangach nag yw bywyd crefyddol heddiw. Hwyrach nad oedd ei ddyfnder gymaint a'i led, ond yr oedd yn rhan organig o fywyd, ac nid yn rhywbeth y gellid ei fabwysiadu, neu beidio, yn ôl mympwy bersonol. Nid oedd odid agwedd ar fywyd nad oedd à wnelai crefydd rywbeth â hi.
Byddai gwasanaeth yn eglwys y plwyf bob dydd. Fel rheol, fe'i cynhelid yn blygeiniol iawn-ar doriad y wawr neu weithiau yn foreach na hynny. Ni fedrai pawb fyned i'r gwasanaeth, ac am hynny cenid cloch yn ffenestr agored yr eglwys, neu yn y clochdy os byddai un, er mwyn i'r plwyfolion gael gwybod bod gwasanaeth o'r fath yn cael ei gynnal. Hwn-y Plygain-oedd prif wasanaeth y dydd; darllenid y gosper, fel rheol, am ddau neu dri o'r gloch y prynhawn, ond y mae'n amheus a wneid hyn ond yn yr eglwysi mwyaf.[24] Disgwylid i bawb o'r plwyfolion fod yn bresennol yng ngwasanaeth yr offeren ar y Sul. Cyn cynnal y gwasanaeth hwnnw, taenellid dwfr swyn ar yr allor-rhan o'r gwaith a ddisgynnai i ran y clochydd, fel y galwem ni ef, ydoedd hyn. Ond yr oedd y clochydd y pryd hwnnw mewn urddau eglwysig -nid oedd hynny yn golygu llawer bob amser-ac adwaenid ef yn rhinwedd ei swydd fel clerigwr y dwfr swyn. Rhoddid peth o'r dwfr mewn cawg yn y porth, ac yno yr ymgroesai'r plwyfolion cyn myned i'r gwasanaeth. Gwelir y lle y bu'r cawg mewn llawer eglwys hyd heddiw. Ar derfyn y gwasanaeth, wedi offrymu o'r aberth, eid ar bererindod o allor i allor, os byddai mwy nag un, a'u taenellu i gyd. Yna eid allan yn orymdaith i'r fynwent a'r groes ar y blaen. Taenellid peth o'r dwfr ar y beddau yn y fynwent a gweddïo dros eneidiau'r meirw.
Rai blynyddau yn ôl, daethpwyd o hyd i ddarn o hen groes yr orymdaith a ddefnyddid yn eglwys Cegidfa yn Sir Drefaldwyn. Y mae tua phum modfedd o uchder a thair a hanner o led. Terfyna'r breichiau a'r pen ar lun fleur-de-lis. Yr oedd croesau o'r fath yn gyffredin, a gelwid hwy, oherwydd hyn, yn groesau "fleury." Ar ganol y groes ceir darlun o'r Gwaredwr croeshoeliedig. Y mae'n debyg mai i'r bedwaredd ganrif ar ddeg y mae'r groes hon yn perthyn.
Ychydig o bwys a roddid ar bregethu gan eglwys yr oesau canol, er nad oedd pregeth yn beth mor anghyffredin ac y tybir yn fynych, a chofier mai yn Gymraeg y pregethid. Dyma, yn wir, yr unig ran o'r gwasanaeth a ddeellid gan y cyffredin, gan mai Lladin oedd y rhan fwyaf o'r gwasanaeth. Lled gartrefol yw'r homiliau sydd wedi llwyddo i oroesi'r cyfnod. Llawer pwysicach yn syniad y cyfnod ydoedd y sacramentau. Yr oedd pedwar o'r sacramentau hyn y rhoddid cryn lawer o bwys arnynt, sef yr offeren, a offrymid o leiaf unwaith bob Sul ac weithiau yn amlach na hynny bedydd, a weinyddid ddydd geni'r plentyn y mae hen gofrestrau plwyf, lle ceir hwy, yn llawn o enghreifftiau o hyn; bedyddid pawb cyn cyrraedd tair blwydd oed, ac os esgeulusai'r rhieni wneud hyn, fe'u cosbid trwy eu rhoi i fyw ar fara a dŵr: yr oedd penyd neu gyffes yn orfodol hefyd o leiaf unwaith yn y flwyddyn; gwneid y gyffes wrth y fynedfa i'r gangell, a cheir aml gyfeiriad at ystôl y gyffes yn y rhan hon o'r adeilad: a'r olaf o'r pedair sacrament oedd yr eneiniad olaf i baratoi enaid a chorff y sawl a fyddai ar ymadael â'r byd hwn. Rhoddid pwys mawr ar y sacrament hon; yn wir, mor bwysig ydoedd fel na chaniateid i offeiriad gysgu allan o'i blwyf, rhag ofn y byddai galw am ei wasanaeth yn nyfnder nos.[25]
Dichon y dengys y gwyliau yn well na dim arall y modd yr âi'r eglwys i mewn i fywyd cyffredin y bobl. Ystyr y gair gŵyl ydyw gwylio, o'r Lladin vigilia, neu gadw noswyl. Parhai'r ŵyl fel rheol am dridiau. Yr ŵylnos, neu'r mywyl fel y gelwir hi weithiau, a dygwyl a thrannoeth yr ŵyl. Gan fod i bob plwyf ei nawdd sant ei hun, a bod y calendr yn dryfrith o ŵyliau saint eraill, nid oedd ball ar foddion difyrrwch yn yr oesau canol. Y bwysicaf o'r gwyliau plwyf oedd yr ŵyl mab sant. Dechreuai, fel rheol, ar y Sul cyn dygwyl y sant, a pharhâi mewn rhai lleoedd am wythnos gyfan. Gwneid paratoadau eithriadol ar gyfer yr ŵyl hon, a gwnai pawb ymdrech neilltuol i ymweled â'i blwyf genedigol yn ystod dyddiau'r ŵyl.
Arfer y plwyfolion oedd ymgynull i'r Eglwys neu'r Llan i wylio, i ymprydio a gweddio ac i losci canhwyllau ger bron yr Escyrn. Wedi treulio ohonynt Noswyl y mabsanct fel y crybwyllwyd yn gwylio ac yn ymprydio, fe fydde iddynt a'r y diwrnod trannoeth, yr hwn a elwŷd Dydd—gwyl y mab sant, ymroddi yn llwyr i Lawenydd: Canys hwy dreulient yr holl ddydd mewn gwleddau, chwaryddiaethau, cerddoriaeth a phob math o ddifyrrwch. . . Nid ydys yn awr yn gwneuthur cymmaint cyfrif Nos ŵyl y mabsanct ac oeddid yn yr amseroedd hynny: eithr am y Diwrnod fe a'i cedwir byth yn dra—chyffelyb i'r modd y cedwid gynt canys yr ydys nid yn unig yn ymgynnull i wledda, campio a difyrru, eithr hefyd mewn rhai mannau o Gymru yn rhoddi rhyw fath o offrymmau er mwyn Duw a Mair a'r mabsanct gan ei goffa wrth ei Enw.[26]
Cedwid yr ŵyl hon gyda rhwysg eithriadol yn hen blwyf y Doctor Morgan—Llanrhaiadr ym Mochnant—hyd ddechrau'r ganrif ddiwethaf, pryd y dechreuodd edwino. Ar y Sul cyn y pedwerydd ar hugain o Orffennaf, âi'r gwŷr a'r plant yn fore at ffermdai'r plwyf i gardota llaeth at wneud danteithion ar gyfer yr ŵyl. Dychwelent erbyn tua un ar ddeg o'r gloch, ac yna hyd hanner dydd byddid yn paratoi'r bwyd. Deuai'r plwyfolion i'r Llan erbyn tua thri o'r gloch, a dechreuai'r wledd yn holl dai y pentref oddeutu pedwar o'r gloch. Am wyth o'r gloch, byddai'r dawnsfeydd a'r ymyfed yn dechrau yn y tafarnau, ond byddai pob tŷ yn dafarn yn ystod yr ŵyl, a pharheid i ddawnsio drwy'r nos. Ddydd Llun, byddai chwarae pêl ar dalcen yr eglwys, taflu'r maen camp (a welir wrth ambell eglwys hyd heddiw), ymladd ceiliogod, etc. Ddydd Mawrth, eid trwy'r seremoni o bennu maer am y flwyddyn. Hwn fyddai ffŵl y ffair; coronid ef mewn rhwysg, a thynnid ef mewn gwagen drwy'r pentref; yna esgynnai i ben Carreg y Big a herio'r bobl. Yn ystod yr wythnos hon y cynhelid y ffair flynyddol hefyd—fe'i cynhelir ar yr un dyddiad o hyd. Weithiau parhâi'r rhialtwch am wythnos arall, ond aeth yr ŵyl yn gymaint o fwrn ar yr ardal, fel y penderfynwyd symud Carreg y Big o'i lle. Dywedir mai David Maurice, o Lan Cynllaith, a'i symudodd ac a'i taflodd i lyn dwfn yn afon Tanad gerllaw ei dŷ.[27] Ond nid oedd yr hen garreg wedi gorffen â'i hystrywiau, oblegid yn fuan wedyn fe foddwyd Maurice yn y llyn hwnnw.
Gŵyl bwysig odiaeth, wrth gwrs, oedd y Nadolig. Parhâi'r ŵyl hon am ddeuddeng noson.
Llon ceiliog a thwylluan
Au deudeng-nyd yn hoean
Am eni yspeiliwr sattan.
meddai awdur englynion y misoedd. Pery'r arfer o gadw Plygain ar fore'r Nadolig mewn ambell ardal o hyd, a chenir carolau ar ganiad y ceiliog fel cynt.
Y dydd Llun ar ôl deuddeng nydd yr ŵyl ceid gŵyl y Ceiliau (corlannau). Yr oedd y gŵyliau ar ben erbyn hyn, a rhaid oedd myned yn ôl at orchwylion bywyd a'r dillad gwaith.
Dydd gŵyl Geiliau, bara haidd a chlocsiau.[28]
Ond nid oedd raid aros yn hir na ddeuai gŵyl arall i dorri ar undonedd bywyd, sef
Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud.
Tymor ympryd a gwella buchedd ydoedd y Garawys, ond gofelid am gael gŵyl cyn i ddyddiau'r ympryd ddechrau. Byddai rhan o renti'r taeogion yn fynych yn cynnwys iâr neu wyau i'w talu yn ynyd, yn ogystal â gŵydd dew y Nadolig.
Cewch ugain punt bob dimmau goch
A dwy wydd dew o gafnau'r moch,
A dwy iâr ynyd gribgoch lân,
A llwyth o lo i gadw'ch tân.
Yr ail Sul cyn y Pasg oedd Dyw Sul y Pys, pryd y bwyteid pys wedi eu mwydo dros y nos mewn gwin neu fedd. Yna deuai Sul y Blodau, pryd yr addurnid y beddau â blodau fel arwydd bod atgyfodiad yn sicr i denantiaid mud y fynwent, a'i fod eisoes yn ffaith ym myd y blodau. [29] Wedyn deuai'r Groglith a'r Pasg, dydd Iau'r Dyrchafael a'r Sulgwyn; yna Sul y Drindod, pryd yr ymwelid â hen ffynhonnau'r ardal ac yr yfid dŵr a siwgr. Gwneid hyn yn Llanerfyl wrth Ffynnon Erfyl ac wrth Bistyll y Cefn Bedwog; ymwelid â'r naill ar ddydd Sul y Mabsant ac â'r llall ar Sul y Drindod.[30] At hyn oll, ceid chwe gŵyl Fair—Gŵyl Fair y Canhwyllau, Chwefror 2; Gŵyl Fair y Cyhydedd, Mawrth 25; Gŵyl Fair yr Haf, Gorffennaf 2; Gŵyl Fair Fawr, Awst 15; Gŵyl Fair pan aned, Medi 8, ac Ymddwyn Mair, Rhagfyr 8; pedair gŵyl IeuanGŵyl Ieuan yn yr Olew Brwd, Mai 6; Gŵyl Ieuan yr Haf, Mehefin 24; Gŵyl Ieuan Fach pan dorred i ben, Awst 29, a Gŵyl Ieuan, Rhagfyr 27; dwy ŵyl y Grog heblaw'r Groglith, a llu o wyliau eraill er cof am saint sydd bellach yn prysur fyned i ebargofiant.

Llwyddodd yr hen grefydd i'w gweu ei hunan i mewn i fywyd beunyddiol y werin mewn modd diddorol iawn. Defnyddid yr eglwys nid yn unig i amcanion crefyddol, ond hefyd i ymdrin à materion plwyf. Cyfarfyddai'r festri ynddi neu ynte yn Nhynyllan, sef y tŷ cyhoeddus oedd yn perthyn i'r eglwys lle cyfarfyddai'r plwyfolion pan na byddai'n gyfleus iddynt gyfarfod yn yr eglwys. Yma y trinid achos y tlodion ac yma yr yfid cwrw'r achos, pryd yr âi elw'r ymyfed i gynorthwyo'r tlawd.[31]
Na feddylier, er hynny, bod yr hen eglwys yn ddifai. Un o lyfrau mwyaf ysgolheigaidd Gerallt Gymro yw ei Gemma Ecclesiastica, annerch a anfonwyd ganddo yn ei swydd fel Archiagon Aberhonddu at ei glerigwyr ym Mrycheiniog. Dengys y llyfr hwn, onid yw Gerallt yn gorliwio, bod ochr dywyll iawn i fywyd clerigwyr yr oesau canol. Er hynny, aeth yr hen gyfundrefn yn ddwfn iawn i serch y Cymry, ac nid hawdd fu'r newid, fel y dengys y llythyr a ganlyn, a sgrifennwyd gan y Dr. Elis Pryce o Blas Iolyn at Thomas Cromwell yn amser Harri VIII:
Ceir tystiolaeth debyg o Aberteifi, lle yr oedd delw'r Fair Fendigaid, a ddarganfuwyd yn sefyll "upon the river of Tyve being an arme of the see and her sonne upon her lappe and a taper burning in her hand." Prin y mae angen ychwanegu bod delw o'r fath yn gwneud eglwys Aberteifi yn ganolfan pererindodau lawer, a byddai Abad Chertsey, y perthynai'r eglwys iddi, yn derbyn pensiwn o xx o noblau oddi wrth y ddelw—addoliaeth hon.[32]
Yr oedd cyflwr pethau yn adfydus i'r eithaf yn esgobaeth Tyddewi yn ôl tystiolaeth Barlow, a fu yn esgob Llanelwy yn 1535, ac yn fuan wedyn yn esgob Tyddewi. Unwaith, meddai, cafodd ei alw i gyfrif gan Brior Hwlffordd am iddo geisio pregethu ac am fod ganddo Destament Saesneg yn ei feddiant ac esboniadau ar y bedwaredd, y bumed a'r chweched bennod o Efengyl Matthew ac ar y Deg Gorchymyn ac epistolau Ioan. Ac ymhellach ymlaen meddai ;
In so large a diocese despite great number of canons, officers freeres &c. is there not one that sincerely prechithe Goddes word and concerning the enormous vices, the fraudulent exactions, the
mysordered lyving and hethen idolatry shamefully supported under clergy's jurisdiction no diocese I suppose so corrupted.[33]
Ni wellhaodd pethau ychwaith am gryn amser ar ôl diddymu awdurdod y Pab, oblegid ceir cwyn yn nyddiau'r Dr. William Morgan nad oedd ond tri pheriglor yn ceisio pregethu yn eu llannau yn holl esgobaeth Llanelwy, sef y Dr. Morgan ei hun, Dr. Powell, Rhiwabon, a David Powell, M.A., rheithor Llanfechain—hen ŵr dros bedwar ugain oed.3[34]
Yn y bennod ar y mynachlogydd rhoddir manylion am feddiannau rhai o'r tai crefyddol a ddiddymwyd gan Harri VIII. Nid anniddorol, hwyrach, fuasai cymharu eiddo prelad Cymreig a fu farw yn y flwyddyn y diddymwyd y tai hynny yng Nghymru.[35] Bu farw Richard Rawlins, Esgob Tyddewi, ar y deunawfed o Chwefror y flwyddyn honno (1536), ac ar y seithfed o Fawrth yr un flwyddyn gwnaed cyfrif manwl o'r eiddo oedd yn ei feddiant. Yn ei fanor yn Llanteify y bu farw. Yr oedd yn ei ystafell wely bob arwydd clydwch a chysur; gwely pren "hen ffasiwn," meddir, oedd y gwely y bu farw arno, ac yr oedd hwnnw yn werth swllt; yr oedd y matras yn werth 3/—, a'r gwely plu a'r gobenyddiau arno yn werth 26/8. Yr oedd y cwilt wedi ei addurno â gwaith edau a nodwydd ac arno ddarluniau o adar a llewod; yr oedd wedi ei leinio â lliain, a'i werth oedd 26/8. Yr oedd yno hefyd gist, gwerth 5/—, dan glo, yn cynnwys yn agos i £150 mewn aur ac arian. Dengys hyn fod cysuron teuluaidd wedi cynyddu cryn lawer er amser Gerallt Gymro.
Yr oedd yno amryw o lofftydd eraill wedi eu dodrefnu, ond nid oedd dodrefn y rheini lawn cystal.
Dan ofal y selerwr yr oedd llestri'r plas yn ogystal a'r ddiod, a dywedir bod ganddo dros 600 owns o plate o bob math. Yr oedd yno hefyd win, wrth gwrs,—pum baril o glared ac un o win gwyn.
Siomir ni gan ddodrefn y gegin a'r ystafelloedd eraill. Nid oedd yma ond ychydig grochannau berwi, llestri brag, twb halltu, ac ychydig lestri a phedair soser yn fyr. Fe'n synnir gan fanylder yr hen gyfrifon hyn.
Yr oedd yno chwech o ychen duon, gwerth 20/—; deg o rai llai, gwerth 10/—; tri hen geffyl, gwerth 5/—, a chwe dafad ac oen. Yn Llawhaden yr oedd gan y Beili wely plu a dodrefn, gwerth 13/4, 120 o ddefaid ac un fuwch.
Yn yr ysgubor yr oedd 10 bwsiel o wenith, 112 bwsiel o frag, a 100 bwsiel o geirch. Yng Nghastell Martin yr oedd. gwerth £14 1 6 o ŷd ac o bys, ac yr oedd chwe chwarter o wenith a deuddeg o haidd wedi eu gadael i "glas" Abergwili ar gyfrif y prinder yd yno.
Ceir hefyd restr fanwl o'r llyfrau yn y llyfrgell oedd gan y prelad hwn yn ei fanor yn Llanteify. Yr oedd Rawlins yn un o ysgolheigion pennaf ei ddydd ac yn warden Coleg Merton, Rhydychen, ond nid oedd dim perthynas rhyngddo â Chymru, ar wahân i'r ffaith iddo ddigwydd dyfod yn Esgob Tyddewi, ac iddo, y mae'n amlwg, ddwyn ei lyfrgell gydag ef i Lanteify.


Sylwer fod tair o'r hen Eglwysi ar fin hen ffyrdd cyntefig. Saif hen ffynnon Doewan mewn cwm diarffordd, ac nid oes ond llwybr annelwig at hen "Eglwys" Nant Achles.
Llyfrau.
AR hanes yr eglwys fore yng Nghymru llyfr Dr. Hugh Williams, y Bala, sef Christianity in Early Britain, yw'r manylaf a'r mwyaf ysgolheigaidd. Y mae llyfr Newell, a History of the Welsh Church, yn ddarllenadwy iawn; rhydd ef hanes yr eglwys yng Nghymru hyd ddiwedd yr oesau canol. y ffurf—wasanaeth gweler F. E. Warren, The Liturgy and Ritual of the Celtic Church. Wrth gwrs, y mae llawer o'r dystiolaeth a geir yn y llyfr hwn yn deillio o'r gwledydd Celtaidd eraill. Am hanes yr hen seintiau rhaid myned at gyfrolau anhepgor Baring Gould a Fisher, British Saints. Gweler hefyd bennod Dr. Lloyd ar "The Age of the Saints" yn y gyfrol gyntaf o'i History of Wales.
Ar gynllun yr eglwysi Cymreig llyfr bychan campus yw llyfr Harold Hughes a Herbert North, The Churches of Snowdonia. Gresyn na cheid cyfrolau cyffelyb yn ymwneud â phob rhan o Gymru. Gweler hefyd lyfr yr Athro Tyrrell Green o Lanbedr Pont Stephan ar Parish Church Architecture (S.P.C.K., Llundain), a'i erthyglau yn Cymmrodorion Transactions, "The Church Architecture of Wales" (1916—17); "Ecclesiology of Pembrokeshire" (1921—22); ac "Ecclesiology of Anglesey" (1928—29).
Ar hanes yr eglwys fore yn Lloegr gweler Balfour Browne, The Arts in Early England, a Henry Howorth, The Golden Age of the Anglo Saxon Church.
Ceir ymdriniaeth fanwl ar fywyd beunyddiol plwyf yng ngweithiau Gasquet, yn enwedig ei Parish Life in Mediaeval England, ac yn rhai o'i draethodau. Ar yr un pwnc gweler hefyd draethodau Augustus Jessop, Before the Great Pillage.
Ar y gwyliau Cymreig gweler bamffled ysgolheigaidd y Canon Fisher, The Welsh Calendar. Cymmrodorion Transactions, 1895.
Cyhoeddwyd nifer o'r Homiliau y cyfeirir atynt gan yr Athro Henry Lewis yn Cymmrodorion Transactions, 1923-4.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ar y nodweddion hyn gweler lyfr F. E. Warren: Liturgy and Ritual of the Celtic Church. Hefyd llyfr Willis Bund: The Celtic Church. Llyfr i'w ddefnyddio'n ochelgar yw'r olaf
- ↑ Gwel nodyn 8, tudalen 71.
- ↑ Gweler Archæologia Cambrensis, Mehefin, 1925.
- ↑ Anglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1920, 33—435
- ↑ The Old Churches of Snowdonia, Harold Hughes a H. L. North, 145 et seq.
- ↑ Report of Ancient Monuments Commission (Merioneth), 353, 450.
- ↑ Lloyd: History of Wales. I, 130.
- ↑ A. N. Palmer: Portionary Churches of Medieval North Wales, PP. 3-9.
- ↑ Y Cymmrodor, XXXVIII, 9.
- ↑ Awgryma rhai mai o'r gair Lladin claustra y tardd y gair clas, a'i fod felly o'r un gwreiddyn â'r gair clwystr, a ddaeth i mewn yn ddiweddarach. Ond dengys Dr. Lloyd ei fod yn llawn tebycach mai o'r gair classis (corfforaeth) y tardd.
- ↑ Montgomeryshire Collections, Vol. I. Documents illustrative of the History of the Princes of Upper Powys.
- ↑ Gweler am y cyfeiriadau, Ashley: Economic History, Vol. I, Nodiad ar td. 405. Kemble: Saxons in England, II, 479 n.
- ↑ G. Balfour Brown: The Arts in Early England, 146. Edwards: Landmarks in the History of the Welsh Church, 32. Gweler Antiquity, Mawrth, 1929, am enghreifftiau eraill o'r cynllun hwn yng Nghaint.
- ↑ Awgryma'r Athro Baldwin Brown mai'r tŷ Rhufeinig oedd sylfaen cynllun yr eglwys Gristnogol, ac nid yr adeiladau cyhoeddus fel y Basilica, The Arts in Early England, 186. Ond ni choleddir y dyb hon yn gyffredin.
- ↑ Ar aflwyddiant Awstin gweler Balfour Brown: op. cit., a Henry Howorth : The Golden Age of the Early Saxon Church.
- ↑ Ar waith Aidan ac eraill gweler Bede: Ecclesiastical History, V—XVII.
- ↑ Y mae cynifer a 26 o eglwysi un ystafell ym Môn yn unig. Gweler Ecclesiology of Anglesey, Tyrrell Green, Cymmrodor, XL.
- ↑ Samuel Gardner: The English Parish Church, 6.
- ↑ Talcen crwn sydd i eglwys Llanfair Pwll Gwyngyll, ac ymddengys fod y talcen yn rhan o'r cynllun gwreiddiol ac nid yn ddatblygiad diweddar. Bu talcen crwn hefyd i hen Eglwys Gadeiriol Bangor unwaith.
- ↑ The Old Churches of Snowdonia, General Introduction, XII.
- ↑ "History of Gruffydd ap Cynan, 154. "Pa beth hefyd echtywynygu a wnei Wynedd yna o eglwysseu calcheit fal y ffurfafen o'r syr."
- ↑ Archæologia Cambrensis (1894), 114.
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol yr Athro Tyrrell Green, The Church Architecture of Wales, Cymmrodorion Transactions, 1916-17. Hefyd ei Ecclesiology of Pembrokeshire, ibid., 1921-22. Gweler hefyd ei lyfr diddorol ar Parish Church Architecture (S.P.C.K.), a'i Ecclesiology of Anglesey, Cymmrodor, XL. Darllener hefyd waith H. H. Hughes ar eglwysi Môn yn Y Cymmrodor a'i anerchiad o'r gadair yng nghyfarfod blynyddol y Cambrian Archaelogical Association ym Mhorthaethwy ym mis Awst, 1930.
- ↑ Gweler Gasquet Parish Life in Medieval England, a Cutts: Scenes and Characters of the Middle Ages, a'r Parish Priests in the Middle Ages.
- ↑ Gasquet op. cit.
- ↑ Hanes y Byd a'r Amseroedd, Simon Thomas, 1721.
- ↑ Montgomeryshire Collections, Vol. VI, 319
- ↑ Dyma "Plough Monday" y Saeson.
- ↑ Nid yw'r arfer wedi marw'n llwyr. Gweler Byegones, 1882—3, p. 89.
- ↑ Griffith Edwards (Gutyn Padarn): Hanes Plwyf Llanerfyl, 69—70. Arferid a chynnal seremoni gyffelyb wrth Ffynnon y Clawdd Llesg, Meifod, ar yr 8fed Sul wedi'r Pasg
- ↑ Gweler Ashley Economic History, Vol. 1, Part 2, Ch. V. Hefyd Addy: Church and Manor, XIV.
- ↑ Ibid, XCIV.
- ↑ Ibid, Letter XXXIV.
- ↑ D. R. Thomas: History of the Diocese of St. Asaph, 76. Rhywbeth tebyg oedd cyflwr pethau yn yr esgobaethau eraill. Er enghraifft, mewn adroddiad o gyflwr pethau yn Esgobaethau Bangor yr un adeg (1561) ceir y nodyn a ganlyn: "The names of the Prechers licensed and do preach are two only, Mr. Robert Evance, Prist, Bachelor of Devynitie and Dean of Bangor; D. Thomas Lloyd, Prist, Vicar of Llan Gurike." Hughes: History of Bangor, td. 76.
- ↑ Gweler Archæologia Cambrensis, Series II, Vol. 5, 363.

XIII. Y Fynachlog.
{{quote|In civitatibus, in castellis, aut villis, nulla nostra construenda sunt coenobia sed in locis a conversatione semotis.
(Adeiledir ein celloedd ni nid mewn trefydd na phentrefydd nac wrth ystlys castell ond mewn lleoedd ymhell o firi dynion.) .—O YSTATUD Y SISTERSIAID
Y DRYDEDD ganrif ar ddeg oedd oes aur mynachaeth, fel popeth arall yr oesau canol. Ond wrth astudio hanes Cymru, rhaid cofio y bu iddi ddau gyfnod mynachaidd, y naill yn perthyn i'r eglwys fore Geltaidd, a'r llall yn derbyn ysbrydiaeth o ymuniad yr eglwys honno ag Eglwys Rufain.
Ychydig a wyddys am y cyfnod cyntaf oherwydd y difrod a wnaeth y Saeson pan ddaethant gyntaf i'r wlad. Ond trwy gymharu'r ychydig olion a thraddodiad sy'n aros â'r hyn a wyddys am fywyd eglwysig Iwerddon tua'r un adeg, gellir cael syniad gweddol gywir am natur mynachaeth Geltaidd.
O feudwyaeth, yn ddios, y tyfodd mynachaeth. Tybir i feudwyaeth gychwyn yn yr Aifft tua'r ail ganrif pan fu erlid mawr ar yr eglwys. Yno ar gwr yr anialwch mewn ogof uwchben dyffryn afon Neil y treuliai'r meudwy ei amser mewn rhyddid a diogelwch a chymundeb santaidd â'i Dduw. O dipyn i beth daeth y meudwyaid hyn at ei gilydd i ddefnyddio yr un capel a'r un ffurf—wasanaeth crefyddol, ond parhaent o hyd i fyw ar wahân. Yn ddiweddarach lluniwyd rheolau iddynt fyw wrthynt gan un o'r enw Pachomius, disgybl i Sant Antoni, gŵr a fuasai yn byw gyda nifer o grefyddwyr mewn hen gastell yng nghanol yr anialwch.
Martin, Archesgob Tours, meddir, a ddaeth a'r gyfundrefn i'r gorllewin. Fe gododd ef fynachlog ym Marmoutier yn 372 0.c., ond tybir mai o ddeheudir Ffrainc, o Lerins a Marseilles, y daeth yr ysbrydiaeth i Brydain. Er hynny yr oedd Martin yn lled boblogaidd yn yr ynys hon, fel y dengys y ffaith bod eglwys wedi ei chysegru iddo yng Nghaergaint pan ddaeth Awstin yma yn 597, ac un arall wedi ei hadeiladu i'w goffadwriaeth gan Nyniaw, apostol y gogledd, mor fore â'r flwyddyn 397, y flwyddyn y bu Martin farw. Yn fuan wedyn, yn 429, anfonwyd Garmon a Bleiddian i geisio gwrthweithio heresi Pelagius, ac nid oes le i amau na bu i'w dylanwad a'u poblogrwydd hwy hyrwyddo'r mudiad ymysg y Cymry.
Enwir amryw o saint y bumed a'r chweched ganrif fel sylfaenwyr mynachdai. Y rhai cyntaf, o bosibl, oedd Illtyd a Pheulin; yna ceir Dewi, Gildas, Cadog, Dyfrig (sylfaenydd Llandaf, medd rhai, ond nid oes sail i'r traddodiad), Dunawd[1] Fyr, sefydlydd traddodiadol hen fynachlog enwog Bangor is y coed, a'i fab Deiniol, sefydlydd eglwys gadeiriol Bangor fawr Arfon, Cyndeyrn, sefydlydd eglwys gadeiriol Llanelwy, a llu o saint eraill a fu'n foddion i sefydlu mam eglwys a chlas, fel Cybi a Thysilio.
Nid oes le i amau poblogrwydd y mudiad yng Nghymru. Dywed Beda, hanesydd y Saeson, fod cynifer a 2,100 o fynaich ym Mangor is y coed pan ddiffeithwyd y lle gan y Saeson yn 607. Dywedir fod agos i fil o fynaich yn Llanelwy yn amser Cyndeyrn, a 2,000 yn Llanilltyd. Yr oedd gyda Chadog yn Llangarfan (neu Lanfethian, lle tybir fod y sefydliad) 100 o glerigwyr, 100 o filwyr, 100 o dlodion, a'r un nifer o weddwon heblaw gweision yr yswein, a'r gwesteion i'w bwydo bob dydd. Dywedir hefyd fod Cadog yn ŵr cyfoethog, gan ei fod yn dywysog yn ogystal ag abad, a dywedir yr un peth am Illtyd. Teifl hyn ffrwd o oleuni ar berthynas y llwyth a'r fynachlog. Pan ymunai pennaeth llwyth â chyfundrefn grefyddol fe gydymffurfiai'r llwyth hefyd, a chyda'r tir a roddid i'r fynachlog âi holl freintiau'r llwyth. Y tywysog, fel pennaeth, a fyddai pen y fynachlog hefyd; ys dywed Montalembert : Pan ymunai tywysog â mynachlog, efô, yn naturiol, a fyddai'r abad, a pharhai yn y bywyd crefyddol yn bennaeth llwyth fel cynt."[2].
Yr oedd y mynachlogydd hyn nid yn unig yn dai crefyddol, ond hefyd yn gartref dysg a chelfyddyd, a phrin y medrir maddau i'r Saeson, hyd yn oed wedi cynifer o ganrifoedd, am yr anfadwaith a wnaed pan losgwyd Bangor is y coed, yn enwedig pan gofir am drysorau fel Llyfr Kells ac eraill sydd ym meddiant y Gwyddyl o hyd. Dywed Wiliam o Malmesbury, a sgrifennodd ei Hanes" tua 1140, na bu erioed y fath garnedd o eglwysi a thai crefyddol ag a oedd i'w gweled ym Mangor hyd yn oed yn ei ddyddiau ef.[3] Nid oes yno heddiw ond y ddôl las anwastad ei hwyneb gerllaw afon Ddyfrdwy lefn.
Y tebyg yw, fodd bynnag, mai adeiladu coed gyda tho gwellt neu frwyn oedd y celloedd y trigai'r mynaich ynddynt. Yr oedd yr eglwys hefyd o'r un defnydd. Ceir gan Bede ddisgrifiad o eglwys o'r fath yn cael ei hadeiladu â choed gan Garmon gogyfer a'r pasg adeg brwydr Maes Garmon, a ymladdwyd yn agos i'r Wyddgrug fel y tybir.[4] Sonnir am Badrig yn adeiladu eglwys dyweirch mewn lle o'r enw Foirrgea, am nad oedd coed i'w cael yn y fan honno. Yr oedd i bob mynach ei gell ei hun, y mae'n debyg. Codid mur neu wrych o gylch y lle. Dyma'r llan; ac o fewn y cylch hwn ceid nid yn unig yr eglwys a'r celloedd, ond hefyd westy ac adeiladau eraill oedd yn angenrheidiol at fywyd y lle, megis melin ac odyn, gweithdy saer a gefail gof.
Dywedir i Gadog yn Llangarfan adeiladu eglwys goed a hefyd ystafell fwyta a chysgu. Mewn lle arall cododd gladdfa, ac ar ben boncyn arall adeiladodd dŷ iddo'i hun fel Abad. Adwaenid y lle hwnnw fel Castell Cadog, a thystia'r olion eithriadol sydd ym mhentref tawel Llanilltyd heddiw am rwysg bywyd mynachlog Llanilltyd Fawr.[5] Dylid cofio wrth gwrs fod rhai o'r rhai hyn yn perthyn i gyfnodau diweddarach. Yn ffodus, y mae Bucheddau'r Saint yn cynnwys cyfeiriadau mynych at natur y bywyd mynachaidd. Rhennid yr hen fynachlog yn golegau. Perthynai i Lanilltyd Fawr saith o eglwysi a saith gwmni o fynaich yn gwasanaethu pob un. Rhannodd Cyndeyrn ei fynaich yn dair adran; yr oedd tri chant—yr anllythrenog i ofalu am y gwaith amaethu y tu allan i'r fynachlog; tri chant arall i wasanaethu y tu mewn i'r fynachlog, i ddarparu bwyd a gofalu am yr adeiladau, etc.; a'r gweddill, 365, i ofalu am wasanaeth yn yr eglwys ddydd a nos. Cyn gynted ag y gorffennai un côr deuai un arall i mewn fel nad oedd sain cân a moliant byth yn peidio.[6]
Dywed Beda fod mynachlog Bangor is y coed wedi ei rhannu yn saith adran, pob adran dan ddisgyblaeth pennaeth neilltuol, ac yn cynnwys dim llai na 300 o fynaich bob un.
Rhydd Rhygyfarch ym muchedd Dewi Sant ddarlun deniadol odiaeth o fywyd mynachaidd fel y ceid ef yn neuddeg mynachlog Dewi. Nid yw'r traddodiad i Ddewi sefydlu deuddeng mynachlog ond cyfeiriad at ei waith yn sefydlu celloedd neu eglwysi newydd.[7] Penderfynodd Dewi nad bywyd o esmwythyd oedd y bywyd gorau, ond yn hytrach bod pob mynach i weithio â'i law i'w gadw ei hun. Y neb na weithio na fwytaed chwaith, meddai. O ganlyniad rhôi'r mynaich yr iau ar eu hysgwyddau eu hunain a thrinient y tir â chaib a matog. Tra byddai rhai yn trin y tir byddai eraill yn cymynu coed ac yn darparu at angen y frawdoliaeth. Ni ddefnyddid ychen gan fod pawb yn ych iddo'i hun. Wedi gorffen gwaith y dydd dychwelid i'r fynachlog a threulid min nos mewn darllen neu sgrifennu neu fyfyrio. Pan ganai'r hwyrol gloch gadawai pawb ei orchwyl a mynd tua'r eglwys, ac wedi canu salmau penlinient yn weddïgar a pharhaent i weddïo nes dywedyd o'r sêr fod y dydd yn darfod. Yna ymgynullent wrth y bwrdd swper lle y dadluddedent wedi llafur y dydd. Swperai pawb yn ôl ei chwaeth, ond ni chaniateid gormod hyd yn oed o fara. Bara a llysiau oedd y prif ymborth, a dwfr oedd y ddiod. Wedi bendith eid i'r eglwys drachefn, ac arhosid yno am dair awr, ac ni chaniateid i neb yn ystod yr amser hwnnw ddylyfu gên na thisian na phesychu. Yna ymneilltuid i'r gwely hyd ganiad y ceiliog. Treulid yr holl Saboth, o nos Wener hyd fore Sul, mewn gweddi ac ympryd.[8]
Eddyf Rhygyfarch i Ddewi fabwysiadu arferion y mynaich Eifftaidd, ac y mae delw erwin cyfundrefn Martin ar ei arferion. Arferai sefyll am amser yng nghanol yr afon i ddarostwng gwyniau'r cnawd. Safai Illtyd yn y dŵr ganol nos ac adrodd gweddi'r Arglwydd deirgwaith, a gwnai Cyndeyrn yr un peth hyd yn oed yn nhrymder gaeaf.[9]
Ond rhaid cofio mai'r delfryd i ymgyrraedd ato ydoedd hwn ac nad bob amser y llwyddid i gyrraedd y nod. Dywed Rhygyfarch y rhoid gwell bwyd i ddieithriaid ar ymweliad â'r lle; ac ar adegau penodedig ceid rhywbeth tebyg i wledd. Gwyddom hefyd oddi wrth hanes seintiau eraill y byddai bara ac ymenyn, llaeth, caws, ffrwythau ac wyau yn gyffredin ar y bwrdd, a hefyd gwrw neu fragod. Yn wir, nid bob amser y llwyddai'r mynaich i beidio ag yfed gormod. Os yfai neb gymaint, medd Gildas, nes bod yn rhy floesg i fedru canu byddai raid iddo fyned heb ei swper[10] ac yn y rheolau a dynnwyd allan gan Ddewi Sant ei hun gwnaed darpariaeth ar gyfer y brawd gwan. Os yfai offeiriad ddiod gadarn o ddiofalwch ac nid mewn anwybodaeth, yr oedd raid iddo wneuthur penyd o dridiau, ond os o'i wirfodd y gwnai, deugain niwrnod oedd y penyd. I'r sawl a feddwai mewn anwybodaeth yr oedd pymtheng niwrnod o benyd; trwy ddiofalwch, deugain niwrnod; ac o wirfodd, chwe ugain niwrnod. neb a'i meddwai yr oedd yr un penyd ag i'r meddwyn; ac i'r sawl a feddwai fynach er mwyn ei wneud yn gyff gwawd yr oedd penyd llofrudd eneidiau. Ceir stori awgrymiadol ym muchedd gyntaf Samson (gadawyd hi allan gan y mynach a sgrifennodd lyfr Llandaf): "Ar noson dywell," meddai, "fel yr oedd y parchedig Abad Piro yn rhodio yng ngerddi'r fynachlog, a chan ei fod ar y pryd yn feddw syrthiodd ar ei ben i bwll dwfn. Dychrynodd y brodyr wrth ei glywed yn llefain ac wedi rhedeg i'r fan tynnwyd ef allan o'r pwll. Ond yr oedd yn hollol ddiymadferth—a bu farw cyn y bore."[11]
Ychydig o olion y bywyd hwn sy'n aros heddiw. Diflannodd y cwbl megis hun y bore. Bechan a brau oedd yr eglwys. Adeiledid hi, yn ddios, ar y cynllun Celtaidd, gydag allor garreg a lliain main i'w gorchuddio. Pres oedd defnydd y llestri cymun, am mai pres, meddai Columbanus, a ddefnyddiwyd i hoelio'r Gwaredwr. Cymysgid y gwin â dwfr, a defnyddid afrlladen gron o fara croyw. Lladin oedd iaith y gwasanaeth, a gwasanaethid gan gôr y fynachlog. Cenid emyn gan yr offeiriad yn ystod gwasanaeth y cymun. Nid oes, fe ddichon, ddim ond y croesau a geir yma ac acw ac ambell ddarn o lawysgrif yn aros i roi syniad i ni am grebwyll artistig hen saint yr eglwys Geltaidd.[12]
Nid hawdd yw penderfynu pa bryd y diflannodd yr hen gyfundrefn Gymreig ac y daeth mynachaeth Eglwys Rufain i gymryd ei lle. Dywed Gerallt wrthym fod y Culdeaid neu'r Cyldwys yn byw eu bywyd gerwin yn ynys Enlli yn ei amser ef. Perthynai iddynt hefyd dŷ crefyddol ym Meddgelert wrth droed yr Wyddfa, a bu raid i'r tŷ hwn apelio at y Pab i rwystro mynachlog Sistersiaidd Aberconwy rhag dwyn y cwbl a feddent.[13] Tybed ai hon oedd y frwydr olaf rhwng y ddwy eglwys?
Nid yw hanes mynachaeth y gorllewin yn yr oesau canol namyn hanes diwygiadau crefyddol y cyfnod. Tad y mudiad gorllewinol yn ddios oedd St. Benedict, uchelwr Italaidd a sefydlodd fynachlog ar fynydd Cassino rhwng Rhufain a Naples. At y tair adduned arferol, sef tlodi, ufudd-dod a phurdeb, ychwanegodd Benedict lafur dwylaw am o leiaf saith awr o'r dydd. Cododd pob un o'r diwygiadau diweddarach o ymdrech a wnaed gan rywun neu'i gilydd i fyned yn ôl at y delfryd a osodwyd i lawr gan Benedict yn 529. Yn 927 ymddangosodd y diwygiwr cyntaf, sef Odo, Abad Clugni ym Mwrgwndi. Gwrthododd gydymffurfio â rheol Benedict ynghylch gwaith llaw am y credai ei bod yn fwy pwysig i ddisgyblu'r meddwl. Yng nghwrs amser daeth y Benedictiaid i gael edrych arnynt fel pobl ddysgedig, barchus, foethus, yn gwybod i'r dim sut i gael gorau deufyd. Yr oedd golwg urddasol ar y mynaich mewn cochl laes o ddefnydd

sidanaidd du. Mynachlog Clugni oedd pen y gyfundrefn; nid oedd y mynachlogydd eraill yma a thraw ond celloedd yn dibynnu ar y Fynachlog honno.
Yn 1098 sefydlwyd urdd y Sistersiaid yn Citeaux (Lladin, Cistericum) gan Robert de Molesme. Gwir dad yr urdd, fodd bynnag, oedd Sant Bernard, a gymerodd gydag ef ddeuddeg o gyfeillion ac ymsefydlu yn nyffryn y Wermod ym Mehefin, 1115. Dyma gychwyn yr urdd fwyaf poblogaidd o'r cwbl, a'r urdd oedd i chwarae'r rhan amlycaf o ddigon ym mywyd Cymru. Gwisg lwydwen o wlanen gartref a wisgai'r Sistersiaid.
Gwnaed ymdrech i gael rheolaeth debyg ymysg canonwyr a chlerigwyr yr eglwysi cadeiriol—neu'r clas fel y gelwid hwy mewn oesau cynharach yng Nghymru. Honnent ddilyn rheol Awstin, Esgob Hippo, ond heb lawer o sail i'r traddodiad.[14] Cyfunai'r bobl hyn reol bywyd y mynach gyda gwasanaeth person plwyf.
Dwy urdd neilltuol o ddiddorol yw'r Temlwyr a'r Ysbytywyr—dwy o darddiad milwrol, a ddaeth i fod yn amser Rhyfeloedd y Groes. Cafodd yr Ysbytywyr feddiant trwy drais ar eiddo'r Temlwyr. Eu prif waith oedd estyn croeso i bererinion ar ymweliad â'r Dwyrain, a pharhaodd y nodwedd hon yn amlwg yn eu bywyd lle bynnag yr aethant.
Gwelodd y drydedd ganrif ar ddeg godi dwy urdd bwysig arall, y Dominiciaid a Brodyr Sant Ffransis. Pregethwyr yn anad dim oedd y Dominiciaid, a cheidwaid yr athrawiaeth. Fel urdd y gardod yr adwaenid y llall, am eu bod wedi ymbriodi â thlodi yn ôl delfryd yr anfarwol Sant Ffransis. Du ydoedd gwisg y Dominic a llwyd oedd eiddo'r Brodyr Cardod. Rhaid oedd cael urdd wen, a chaed un yn y Carmeliaid, a gychwynnwyd ar ben Carmel yng ngwlad Canaan.
Wrth ystyried dyfodiad y gyfundrefn fynachaidd i Gymru dylid cadw mewn cof y berthynas oedd rhyngddi â dyfodiad y barwn Normanaidd. Yn wir, fe ddefnyddid y Fynachlog weithiau fel dirprwy'r Castell, fel y moddion mwyaf effeithiol i lefeinio'r bywyd Cymreig ac i ddarostwng y genedl. Yn y de y gwelir hyn gliriaf am mai yno y perffeithiwyd y cynllun Normanaidd i ddarostwng y wlad. Fel y ceir gweld, yr oedd hanes mynachlogydd y gogledd yn wahanol.
Nid oedd mwyafrif tai crefyddol y de ond celloedd yn perthyn i dai tramor—yn Normandi, fel rheol. Sefydlid tŷ crefyddol newydd trwy anfon allan nifer o fynaich o fynachlog oedd eisoes yn bod, a byddai'r tŷ newydd yn cael edrych arno fel cell neu briordy yn perthyn i'r fam fynachlog. Y gell gyntaf o'r fath a sefydlwyd yng Nghymru oedd yr un a godwyd gan William Fitz Osbern, Arglwydd Hereford, yn arglwyddiaeth Strigoil yng Ngwent, a gymerasid oddi ar y Cymry ychydig cyn hynny. Dyma gychwyn Priordy Caswent a berthynai i Fynachlog Corneilles yn Normandi. Sefydlwyd Priordy Abergafenni gan Norman oedd eisoes wedi meddiannu'r wlad, a rhoddwyd ef at Abaty Le Mans yn Normandi. Capel y Priordy hwnnw oedd eglwys Abergafenni unwaith. Cyffelyb yw hanes Priordai Mynwy a Basaleg a Lleiandy Caerbuga. Cell oedd Aberhonddu, a sefydlwyd gan Bernard de Neufmarché, yn perthyn i fynachlog enwog Battle, a godasid ar faes Senlac. Perthyn i Sherborne yr oedd Cydweli;[15] ac yr oedd Caerdydd a phob eglwys bron ym mro Morgannwg yn eiddo Tewkesbury neu Gaerloyw.
Nid oes dim a rydd well syniad i ni am natur y sefydliadau hyn na syllu ar Briordy fel Ewenni. Gwelir ar unwaith adeiladu'r Priordy bychan hwn at amcanion milwrol lawn cymaint ag at amcanion crefyddol. Sieryd y tyrau wrthym nid am dawelwch y gell ond am gadernid y castell. Dengys y mur cadarn a red trwy ganol yr eglwys y gwahaniaeth a oedd gynt rhwng y mynaich a'r plwyfolion, ac awgryma'n gryf nad oedd llawer o gariad rhyngddynt. Ychydig o olau sydd yn y lle; ac, ys dywed Freeman, y mae'r holl le yn dywyll ac yn annaearol. Nid oes yma ond megis allor lle yr addolai dynion unwaith mewn ofn a dychryn am na wyddent pa funud yr ymosodid arnynt.[16]
Bu gan yr Awstiniaid bedwar o dai yng Nghymru. Sefydlwyd y cyntaf yn Llanthony, a chynhwysai, ar y dechrau, 40 o ganoniaid. Ond buan y blinwyd ar unigedd y bywyd yn neilltuedd y Mynydd Du, a symudwyd hwy oddi yno i Henffordd ac yn 1134 i Lanthony arall yn agos i Gaerloyw. Y lleill oedd Hwlffordd, Caerfyrddin a hen Briordy Beddgelert, lle bu unwaith dŷ Cymreig. Gwaddolwyd Hwlffordd gan Robert Hwlffordd, a Chaerfyrddin gan Esgobion Tyddewi, Bernard a Peter de Leia, hen elyn Gerallt. Cododd y Premonstratensiaid, urdd o ganonwyr, dŷ yn Nhalyllychau, a ddaeth yn ddiweddarach, trwy ryw dwyll, i ddwylo Sistersiaid Tŷ Gwyn ar Dâf.[17]
Ni bu'r Cluniaid erioed yn boblogaidd yng Nghymru mwy nag yn Lloegr, ac ni bu ganddynt ond cell neu ddwy, un yn Malpas, yn agos i Gasnewydd, ac un yn St. Clears.
Bu gan y Benedictiaid hynny a adwaenid fel y Tirioniaid. dri thŷ yn y de, sef Llandudoch (Dogmael), Pill, ac Ynys Bŷr yn Sir Benfro. Celloedd yn perthyn i St. Dogmael oedd Pill ac Ynys Bŷr, ac nid tai annibynnol. Tebyg oedd dylanwad y rhain i ddylanwad estronol, gormesol y castell, ond y mae pethau dipyn yn wahanol pan ystyrir helynt yr urdd arall—y Sistersiaid. Sefydlwyd yr urdd gan Robert de Molême, a bu Sais o'r enw Stephen Harding am beth amser yn ben arni. St. Bernard, fodd bynnag, a roddodd fywyd ynddi, ac y mae'r disgrifiad a geir gan ei gofiannydd o helynt y cychwyn yn Nyffryn y Wermod yn darllen fel pennod allan o fuchedd un o'r saint Celtaidd. Un adeilad hir oedd y fynachlog ar y cyntaf, yn cynnwys yr eglwys, y bwyty a'r dortur dan yr un to. Pridd oedd y llawr, a phrin odiaeth oedd y golau. Llysiau a dŵr oedd yr ymborth. Cysgai'r mynaich mewn hen lofft uwchben yr ystafell fwyd, pob un mewn cist bren gydag ychydig dorion neu ddail ynddi.[18] Nid oedd fawr ryfedd iddynt ennill calon Cymru.
Nid lle dan aden castell mewn tref Normanaidd a ddewisai'r urdd hon, ond neilltuedd dwfn y goedwig neu unigedd y glyn tawel, a saif adfeilion eu tai mewn rhai o'r lleoedd mwyaf rhamantus yng Nghymru, megis Tintern ar lan afon Wy, neu Lyn y Groes yn nyffryn Dyfrdwy. Pobl y wlad oedd y Sistersiaid, yn arloesi'r anialwch a byw ar drin eu tir a'u defaid ar "fil o fynyddoedd." Dywedir yn wir mai hwynthwy a berffeithiodd grefft magu defaid hyd lethrau Cymru. Beth bynnag am hynny, amaethwyr a bugeiliaid oeddynt, ac yr oedd hynny yn gymeradwyaeth ychwanegol iddynt yng ngolwg y Cymry.
Tarewir ni ar unwaith gan y gwahaniaeth rhwng yr urdd hon a'r urddau eraill. Arglwyddi Normanaidd oedd noddwyr y lleill, ond tywysogion Cymreig oedd noddwyr y Cisterciaid, ac wedi i'r mynaich gwynion ddechrau ymsefydlu yng Nghymru, ni fedrai tywysog Cymreig orffwys nes cael codi tŷ iddynt o fewn ei dywysogaeth.

Ymddengys i'r cwmni cyntaf ymsefydlu yng nglyn Nedd yn 1130, ac i'r ail gwmni ddyfod i Dintern y flwyddyn ddilynol; ond eu dyfod i Drefgarn yn Naugleddau, ar wahoddiad Bernard, esgob Tyddewi, yn 1144, oedd gwir gychwyn eu cysylltiad â Chymru. Oddi yno symudasant i'r Hen Dŷ Gwyn ar Dâf, lle buasai gynt dŷ crefyddol Cymreig.[19] Yn fuan iawn daeth y Tŷ Gwyn yn fam fynachlog nifer mawr o sefydliadau eraill. Ar y dydd cyntaf o Fehefin, 1164, sefydlwyd hen fynachlog enwog Ystrad Fflur. Nid oes sicrwydd ai Norman ai sefydlodd ai peidio, ond yr Arglwydd Rhys a'i gwaddolodd â phorfeydd dihafal Pumlumon. Ar yr ail ar hugain o Orffennaf, 1170, sefydlwyd Ystrad Marchell ym Mhowys trwy haelioni'r bardddywysog, Owain Cyfeiliog. Ar y cyntaf o Awst, 1176, ail sefydlwyd Cwm Hir gan dywysog Ceri a Maelienydd, ac erbyn Gorffennaf y flwyddyn honno yr oedd cwmni o Ystrad Fflur wedi ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedi rhoi cychwyn i hen Fynachlog Aberconwy. Yn 1199, cafodd Meirion dŷ iddi ei hun yng Nghymer, gerllaw Dolgellau, ac ym mis Ionawr, 1200, sefydlwyd Glyn y Groes, gerllaw Llangollen.
Yn y de, sefydlwyd Margam yn 1147. Daeth brawd i St Bernard drosodd yn un swydd i sefydlu'r tŷ hwn. Yr oedd hefyd dai Cistercaidd enwog yng Nglyn Nedd, Llantarnam a Dore ar ororau Mynwy a Brycheiniog.
Daeth urddau Dominic a Ffransis yma yn eu tro hefyd. Bu gan y brodyr Duon dai ym Mangor, Rhuddlan, Aberhonddu, Hwlffordd a Chaerdydd; y Brodyr Llwyd—Sant Ffransisyng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Llanfaes; y Brodyr Gwyniony Carmeliaid yn Ninbych; a'r Brodyr Awstin yng Nghasnewydd.[20]
Dau ganolfan pwysig fu gan yr Ysbytywyr—Ysbyty Ifan (Dolgynwal) yn y Gogledd a Slebech yn Sir Benfro yn y De.
Yn anffodus, ychydig a wyddom am y bywyd yn yr hen sefydliadau hyn yng Nghymru. Y mae gennym fanylion ddigon am y tiriogaethau a oedd yn eu meddiant. Cymerent fawr ofal o'r Siartrau a gynhwysai'r manylion am y tiroedd hynny, ac nid oeddynt bob amser uwchlaw ffugio siartrau iddynt eu hunain, fel yr awgryma Dr. Lloyd i fynaich Ystrad Marchell ym Mhowys wneuthur. Ond rhoem lwyth trwmbel o siartrau am lyfr fel cronicl Jocelin of Brakeland, y cafodd Carlyle gymaint arddeliad ar ei aralleirio, neu yn wir am lyfr
19
20 cyfrifon mynachty Cymreig, tebyg i'r rhai sydd ar gael yn Lloegr ac Ysgotland.[21] Fodd bynnag, y mae yn hysbys ddigon oddi wrth gynllun y Fynachlog, mai cyffelyb oedd y bywyd yng Nghymru i'r hyn ydoedd yn Lloegr.
Yr eglwys oedd canolfan y fynachlog, ac o'i chwmpas hi yr oedd bywyd beunyddiol y mynaich yn troi. Syml a diaddurn iawn oedd eglwysi'r Sistersiaid ar y dechrau. Yr oedd hyd yn oed yr allor o goed, a choed oedd defnydd pob dodrefnyn o'i mewn.[22] Ar y dechrau, ni chaniateid cloch na chlochdy, ond nid hir y buwyd cyn i'r drefn newid ac i'w heglwysi ddyfod yn fwy addurnol. Adeiledid yr eglwys ar lun croes a'i chysegru i'r Fendigaid Forwyn Fair.
Ceid mwy nag un dosbarth o bobl yn llochesu yn y fynachlog. I gychwyn, ceir y mynach proffesedig oedd wedi ymwadu â'r byd. Ei waith pennaf ef fyddai gofalu am wasanaeth crefyddol yr eglwys. Rhan fechan o boblogaeth y fynachlog oedd y rhain. Yna ceid y swyddogion—gwŷr lleyg, a wyliai fuddiannau'r sefydliad. Byddai nifer o ddynion o'r fath yng ngwasanaeth y prif fynachlogydd, gan mai hwynthwy oedd prif dirfeddianwyr y cyfnod. Yna ceid y gwasanaethyddionllafurwyr amaethyddol a driniai'r tir yng nghymdogaeth y fynachlog yn debyg i'r fel y gwnai'r taeogion ar faerdref yr arglwydd Cymreig—a byddai hefyd grefftwyr o bob math. Mewn gwirionedd, yr oedd y mynach proffesedig yn debyg i gymrawd coleg â chanddo nifer o weision at ei alw, ac yntau yn gwneud dim ond treulio'i amser yn crefydda.
Gwelir oddi wrth gynllun Abaty Glyn y Groes a lleoedd cyffelyb fel y dylanwadodd y gwahaniaethau hyn ar gynllun yr adeilad. Y mae eto yn aros allor a phulpud yng nghorff yr eglwys lle yr ymgynullai'r gwasanaethyddion. Addolai'r mynaich yn y côr, lle yr oedd ganddynt bawb ei sedd. Ym mhen dwyreiniol yr eglwys, y tu hwnt i'r côr, yr oedd y brif allor a ddefnyddid gan y mynaich. Yn rhedeg oddi wrth ochr orllewinol yr eglwys i gyfeiriad y de ceir y lle y byddai'r gwasanaethyddion yn byw. Yno hefyd y croesewid ymwelwyr —gwaith oedd yn rhan mor bwysig ym mywyd crefyddwyr yr oesau canol. Ynglŷn wrth adran ddeheuol croes yr eglwys yr oedd y sacristi, lle byddai'r gŵr a ofalai am y gwasanaeth crefyddol yn byw ac yn cadw'r gwisgoedd angenrheidiol.
Tua'r de eto yr oedd y clwysgordy, lle yr ymdrinid â materion y Fynachlog bob dydd. Yma, fel rheol, y cleddid yr Abad. Uwchben yr adeiladau hyn yr oedd y dortur, lle y cysgai'r mynaich; ym mhen gogleddol yr ystafell hon yr oedd grisiau i lawr i'r côr, a gallai'r mynaich, felly, fyned i'r gwasanaeth boreol yn uniongyrchol o'u gwelyau. Yr oedd gan y sacristan ystafell y gallai weld y brif allor ohoni, er mwyn sicrhau bod golau arni bob amser. Ar ochr dde corff yr eglwys,[23] yn wyneb haul, yr oedd y rhodfeydd lle treuliai'r mynaich lawer o amser yn cerdded o gwmpas a darllen. Yr oedd to uwchben y rhodfa, ac yn ddiweddarach ffenestri yn yr ochrau, ac yno yr oedd y llyfrgell. Yng Nglyn y Groes ceir y Llyfrgell wrth ben y Sacristi. Ar ochr dde'r rhodfa yr oedd y bwyty a'r gegin a'r ystafell dwymo, lle caniateid i'r mynaich fynd i ymdwymo yn y gaeaf. Byddai hefyd ysbyty i'r claf a chell neu garchar i'r troseddwr, ac ystafell lle cedwid y gweithredoedd, etc., ond ni cheid y rhain ym mhob tŷ.
Cynhelid y gwasanaeth cyntaf am hanner nos, pryd y gelwid arnynt i godi. Ai'r clochydd—y sacrist—drwy'r dortur a chanu cloch fechan i'w deffro; ac fel y dengys y rheolau, nid hawdd oedd cadw'n effro hyd yn oed yng nghôr yr eglwys. Eid i lawr y grisiau bob yn chwech, yn cael eu harwain gan un o'r brodyr ieuengaf â llusern yn ei law. Cenid nifer o salmau ac eid trwy wasanaeth yr offeren. Dilynid hwn gan wasanaeth arall, a adwaenid fel y " Laudes," ac a gynhelid. fel rheol, am un o'r gloch y bore. Yna eid yn ôl o'r gwely hyd chwech neu saith o'r gloch, pryd yr eid i wasanaeth y "Prime." Ceid bwyd am wyth o'r gloch—tafell o fara ac ychydig win neu gwrw. Yna ceid gwasanaeth wrth allor Fair. Cyfarfyddid wedyn yn y Clwysgordy i drafod amgylchiadau'r tŷ, ac yno y penderfynid penyd y troseddwr. Am ddeg o'r gloch cynhelid prif wasanaeth y dydd, ac am un ar ddeg ceid cinio. Yn ystod yr awr ginio, byddai un o'r brodyr yn difyrru'r lleill trwy ddarllen iddynt, ac y mae hen bulpud y pryd bwyd i'w weld yn y mynachlogydd mwyaf hyd heddiw. Wedi cinio, âi pawb i'w helynt—rhai i gerdded yn y rhodfeydd, rhai i weithio ac eraill i astudio yn y celloedd bychain yn y clwysdy. Ceid gwasanaeth y Gosper am chwech o'r gloch a'r Complin am saith, ac yna eid i'r gwely hyd hanner nos.
Dengys rhestr y gwasanaethyddion yn well na dim arall fywyd beunyddiol y fynachlog. Mewn tŷ annibynnol—ac yr oedd holl dai y Sistersiaid yn annibynnol y naill ar y llallceid abad. Os cell yn perthyn i dy mwy fyddai'r tŷ crefyddol, Prior y gelwid y pennaeth. Mewn tŷ o gryn faint ceid prior ac abad—y prior yn gwasanaethu fel is—abad pan fyddai'r abad yn absennol, a digwyddai hynny yn lled aml. Yn nesaf at y prior, y swyddog pwysicaf oedd y cantwr. Efô a ofalai am wasanaeth yr eglwys; eisteddai bob amser ar ochr dde y côr ac arweiniai'r gwasanaeth. Yr oedd gan y sacristy clochydd—ystafell wrth ochr yr allor. Gofalai ef am yr adeilad ac am gael popeth yn barod i'r gwasanaeth—y gwisgoedd priodol i'r gwahanol wyliau, y llestri a'r canhwyllauac efô, fel y dywedwyd, a ganai'r gloch i alw'r mynaich. Yr oedd y selerwr yn swyddog â chyfrifoldeb mawr ar ei ysgwyddau. Gofalai fod ŷd yn dyfod i mewn o'r ffermydd a oedd ym meddiant y fynachlog, a bod digon o flawd—ac o gwrw, wrth gwrs——yn barod. [Cai Canonwyr Sant Pawl 40,400 o dorthau a 67,800 o alwyni o gwrw oddi ar eu maenorydd bob blwyddyn.] Y selerwr hefyd a ofalai am bysgod erbyn dydd Gwener ac yn ystod y Garawys. Byddai swyddog arall yn gofalu am y byrddau ac yn edrych bod gwellt yn cael ei daenu ar lawr y bwyty. Yn y gegin ceid cogydd, a byddai gan ambell abad gogydd iddo'i hun. Yr oedd brawd arall yn gofalu am y cleifion. Arferid gwaedu'r mynaich bedair gwaith yn y flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw caent fyned i'r clafdy am bedwar niwrnod. Y fynachlog oedd gwesty'r cyfnod, a cheid gwestywr ym mhob un bron. Ei waith ef fyddai paratoi llety i ddyn ac anifail. Y mynachlogydd hefyd a fyddai, yn fynych, yn rhoi cymorth i'r tlodion, a byddai swyddog neilltuol—yr elusenwr—i ofalu am y gwaith. Gwaith un arall o'r brodyr fyddai addysgu'r newyddian yn y ffydd yn arferion y fynachlog ac yng nghredo'r bywyd neilltuedig.
Ychydig hwyl a gafwyd ar sefydlu tai crefyddol i ferched yng Nghymru. Edrydd Gerallt ystori a ddengys fod natur yn drech na gras yn y cyfnod hwnnw fel bron bob amser. Yr oedd Enoch, abad Ystrad Marchell, a'i fryd ar sefydlu Lleiandy yn Llansantffraid yn Elfael; syrthiodd mewn cariad à lleian, a thorrwyd ef allan dros dro. Nid hir y bu cyn dychwelyd at y bywyd crefyddol, ond ni bu fawr lewych ar Lansantffraid byth.[24]. Tri lleiandy oedd yng Nghymru, y naill yn Llanllugan, Sir Drefaldwyn, a'r llall ar lannau Aeron yn Llanllyr, a'r trydydd yng Nghaerbuga.
Trwy astudio'r Siartrau y ceir y syniad gorau am feddiannau'r mynachdai, er mai ychydig o oleuni a ddyry'r rheini ar eu bywyd beunyddiol. O gylch y fynachlog, fel rheol, byddai cyfran o dir a drinid gan y gwasanaethyddion a fyddai'n byw yn y fynachlog. Defnyddir termau ffiwdalaidd i'w ddisgrifio gan Gomisiwn 1535 (Manerium, Dominicium, etc.). Ond yr oedd ganddynt lawer o leoedd yma ac acw ar hyd y wlad, ac fel rheol un o'r cwmni neu ŵr lleyg yn edrych ar eu holau. Er enghraifft, yr oedd gan Fynachlog Glyn y Groes diroedd yng Ngwrecsam, ym Muddugre, ac ym Mwstwr (Corwen); gan Fynachlog Cymer yn Llanilltyd, Cwm Cadiau, Rhydgeirw, Llanfachreth, Trawsfynydd a Dolgellau; gan
Ystrad Marchell yn Trefnant, Trehelig, Talerddig, a Chwm tir Mynech yn Sir Feirionydd; ac yr oedd tiriogaethau Margam, Glyn Nedd ac Ystrad Fflur yr un mor wasgarog.
Dengys Siartrau Ystrad Marchell, os ydynt oll yn ddilys, sut y daeth y tir i'w meddiant. Rhaid cofio na ellir dibynnu ar bopeth a ddywedir yn y Valor Ecclesiasticus (1535), gan fod y mynaich yn gwerthu tir pan welsant ystorm y dadwaddoli yn dyfod. Ceir enghreifftiau isod o dir yn cael ei brydlesu; ond a chymryd y siartrau fel y maent gennym, y rhodd gyntaf ydoedd y tir y saif y Fynachlog arno—rhan o gymwd Ystrad Marchell, a adwaenir oddi ar hynny fel Manor Tir-y-Mynech. Yna daeth hanner tref ddegwm Trefnant yn y Trallwng i'w dwylo. Wedyn prynwyd am ddwy bunt a hanner o arian dir yng nghymdogaeth Derwen ar gyrrau Dyffryn Clwyd. Yna prynwyd am dair punt le o'r enw Cwm Main a Nant Ucheldre, rhwng y Bala a ffordd Cerrig-y-drudion. Yr oedd y rhodd nesaf yn Nantyreira, rhwng Llanerfyl a Llanbrynmair. Yna, yn 1190, aed ymhellach i fyny Cwm Llanbrynmair, pan ddaeth Newydd Fynyddog a Phennant Bache i'w dwylo. Caed rhagor o dir yng Ngwyddelwern yn 1198 am £8, a rhagor yn Darowen (Cyfeiliog). Yn 1201 caed tir yn nyffryn Dyfi, oddi ar Gors Fochno, a ddaeth â hwy i wrthdarawiad â mynaich Cwm Hir.[25]
Wedi'r diddymu, bu'r tir am beth amser yn nwylo'r Brenin Harri'r VIII, a dengys cyfrifon y flwyddyn 1537 beth a ddigwyddodd pan welodd y mynaich fod eu heiddo mewn perygl. Cafodd Edward Grey (Iarll Powys) lês ar y tir o gwmpas y Fynachlog am un mlynedd ar hugain am £6 5 0. yn y flwyddyn—5/am yr adeiladau, yr ardd a'r berllan, 10/am ddarn deuddeng acr a adwaenid fel Crofft yr Eglwys, 20/am y felin ddŵr, 30/am 26 acr, a 10/am y weirglodd fawr 34 acr.
Cafodd Grif ap Lloyd lês ar felin a gweirglodd ar y degfed o Ebrill, 1529, am bedair blynedd ar bymtheg am 8/4 y flwyddyn. Yr oedd yn gyfrifol am ymddangos pan fai galw yn y llys. John ap Ieuan ap Howell Vaughan gadd lês ar dyddyn a thir am bedair blynedd ar bymtheg o'r ugeinfed o Chwefror, 1527, am 13/4 y flwyddyn. Yr oedd hwn yn denant yr oedd raid iddo dalu dirwy (heriot) trwy roi ei anifail gorau i'r fynachlog pan fyddai newid tenantiaeth. Dengys hyn nad oedd tenantiaid y mynaich mor rhydd ag y dywedir eu bod weithiau. Rhoddwyd lês am dair oes i Ieuan ap Henry Vychan a Margaret ei wraig, Medi 12, 1522—y tenantiaid i drwsio'r tŷ ar eu cost eu hunain pan fyddai angen.[26]
Dengys cyfrifon mynachlogydd eraill, fel Talyllychau, i'r mynaich fwynhau breintiau arglwyddi tir yr oesau canol hyd y diwedd breintiau megis gwasanaeth gorfod, yr anifail gorau pan fyddai tenant farw, a dirwy ar briodas merch.[27]
Daeth y Sistersiaid yn enwog am eu defaid a'u gwlân. Âi'r rhan fwyaf ohono i'r Iseldiroedd, ond ymddengys i ymdrech gael ei wneud unwaith i'w anfon i'r Eidal, a cheir mewn hen ysgrif amcangyfrif o'r gwlân y tybid y gellid ei gael o Gymru a'i ansawdd. Diddorol yw sylwi ar enwau Italaidd yr hen Fynachlogydd:
| Lagraziadio (Grace Dieu, Mynwy) | 5 sachaid yn y flwyddyn. |
| Morghana (Margam) | 25 sachaid yn y flwyddyn. |
| Nietta (Neath) | 10 sachaid yn y flwyddyn. |
| Lantarname (Llantarnam) | 8 sachaid yn y flwyddyn. |
| Tanterna (Tintern) | 15 sachaid yn y flwyddyn. |
| Dora (Dore) | 16 sachaid yn y flwyddyn. |
| Istanforte (? Ystrad Fflur) | 12 sachaid yn y flwyddyn. |
| Biancilanda (Tŷ Gwyn ar Daf) | 15 sachaid yn y flwyddyn |
| Basingvecchi (Basingwerk) | 10 sachaid yn y flwyddyn[28] |
Bu'r Sistersiaid yn hynod boblogaidd yng Nghymru, fel y dengys cywyddau'r cyfnod, ac uchelgais pob bardd a thywysog oedd cael bedd yng nghwfaint y Fynachlog, wedi "cymryd ohono abid crefydd," ys dywed y croniclau. Fel y dywed Gruffydd Gryg:
Yr ywen i oreuwas,
Ger mur Ystrad Fflur a'i phlas;
Da Duw wrthyd, gwyn fyd gwydd,
Dy dyfu yn dŷ Dafydd.
—cyfeiriad at orffwysfan y digymar ap Gwilym.[29] Yn Ystrad Marchell y cafodd Llywelyn ap y Moel fedd, fel y dywed Guto'r Glyn:
Mae arch yn Ystrad Marchell
Ym mynwent cwfent a'u cell.
Hawliai Cynddelw Brydydd Mawr gael ei gladdu yn yr un fan y bu ymryson rhyngddo â'r mynaich ar y pwnc:
Can ni bai ammod dyfod—i'm herbyn
A Duw gwyn yn gwybod
Oedd iawnach i fynach fod
I'm gwrthfyn nag i'm gwrthod.
A phwy na ddewisai gael bedd ymysg gwerin Duw yn Enlli:
Mi af i luniaw fy medd
I'r ynys oddiar Wynedd
Gwyr un waed gwerin ydynt
Gwyr un dad gwerin Duw ynt.
Gan y beirdd y ceir y disgrifiadau gorau a feddwn o'r mynachlogydd a'u gwleddoedd:
Tai mis Mai, Tomas a'u medd
Tân, gwin, tai Owain Gwynedd *****Difai naddfaen, defnyddfawr,
A derw tir mewn dortur mawr!
Tai melus win, teml y saint,
Tai cafell, ty i'r cwfaint.
Ty da i'r ŷd, o'r tu draw,
Ty brag sydd, ty brics iddaw;
Gwal gerrig wrth Gilgwri.
A thy porth ar ei thop hi;
Caed ar fur lle caid aur faich,
Caer fain yn cau ar fynaich.
Ef a lanwodd felinau,
Ym mhob glyn, a phen bryn brau:
Duw hael, lle daw a'i helynt
Diofer gwaith dwfr a gwynt.
—Gutyn Owain, i Domas ap Dafydd Pennant, Abad Dinas Basing.
Cludo i mewn, cael ŷd a mêl
Cywain cerrig can cwarel.
Bir, gwin, medd, bara gwyn, mwy,
Brag, gwenith Aberconwy. *****

A'r dortur oll o'r derw trwm;
Capelau teg, cyplwyd hi
Crys glas i'r croes eglwysi;
Allor Fair hwnt, llwyr fawrhau
Yn aur dilin, a'r delwau,
Angel ar fedd Llywelyn. *****Capten gwyr llên, ag i'r llu
Côr y twysog, cwrt Iesu:
Calon y fainc a'i haelwyd
Cefn y ty a'r cwfaint wyd:
Cornor, neu rychor uchych,
Gwenyn y nef, gwynion, ych.
—Tudur Aled, i'r Abad Coch, Sieffre Cyffin, Abad Maenan.
Gweler hefyd gywydd mawreddog Dafydd Nanmor i Abad Ystrad Fflur.
Ond nid oedd y beirdd yn ddall i wendidau'r mynaich. Yn wir, anodd peidio â theimlo bod cryn lawer o waed drwg rhwng y ddwy urdd ar brydiau. Meddai Dafydd ap Gwilym:
Paid, er Mair, a'r pader main
A chrefydd menych Rhufain
Na fydd leian y gwanwyn
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn
Dy grefydd, deg oreuferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy, a mantell,
A gwyrdd wisg a urddai well
Dyred i'r fedw gadeiriog
I grefydd y gwŷdd a'r gôg.
Ac mewn cywydd arall:
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion;
Ond celwydd yr offeiriaid
Yn darllain hen grwyn defaid:
Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy'r byd,
Gwraig, a hinon ac iechyd.
Merch fydd decaf blodeuyn
Yn y nef, ond Duw ei hun.

Ond mwy difrifol yw beirniadaeth Dr. Siôn Cent, a oedd â mwy o gydymdeimlad â chrefydd ei oes na'r trwbadŵr, ap Gwilym. Meddai ef:
Od â i nef, rhaid yn wir
Ffinio dros y corff anwir
A thalu'r ffin gatholig
Yn y tân o'r enaid dig.
Crist ni dderbyn o'r crastan
Enaid i'w law ond yn lân. *****Y myneich aml eu mwnai
Muriau têg, mawr yw eu tai.
Breisgion ynt ar eu brasgig
Breisgion difeinyddion dig
A'r brodyr pregethwyr gynt
A oeddynt heb dda iddynt
Y maent hwy hoewbwy hybeirch
Yn dri llu yn meddu meirch,
Cryfion ynt yn eu crefydd
Cryfion ddiffodyddion ffydd.
Cydnabyddir yn gyffredin fod cryn ddirywiad ym mywyd y crefyddwyr cyn i Harri VIII ddiddymu'r tai yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Bychain a thlawd oedd mwyafrif mawr y tai Cymreig. Nid oedd ond rhyw hanner dwsin ag incwm o £150 yn y flwyddyn, a dim ond tri, fel yr ymddengys, sef Glyn y Groes, Tintern a Slebech â mwy na £200—y safon a ddewiswyd i wahaniaethu rhwng y tai lleiaf, a ddiddymwyd yn 1536 a'r tai mwyaf a ddiddymwyd yn 1539. Ceir manylion ynghylch eu safle ariannol yn y Valor Ecclesiasticus, a chyfeiriadau mynych at eu safle grefyddol yn llythyrau'r dirprwywyr at Thomas Cromwell, gweinidog Harri.
Y mae i bob tŷ ei ystori ei hun, wrth gwrs, ond rhydd y cyfeiriadau hyn, ynghyd ag ambell ffaith arall a groniclwyd o'u hanes, gyfle i ni weled sut yr oedd pethau yn myned ymysg y rhai oedd wedi ymwadu â'r byd. Ceir cŵyn yn gynnar fod Abad Glyn y Groes yn caniatáu i ferched ddyfod i'r Abaty, a gorfu iddo sefyll ei benyd.[30] Gŵyr pawb am helyntion caru Enoch, Abad Ystrad Marchell, a phriores Llansantffraid yn Elfael—a achosodd gymaint siarad yn amser y glepwraig honno, Gerallt Gymro. Bu cymaint helynt hefyd yn Ystrad Marchell yn amser Edward III nes anfon o'r penadur hwnnw lythyr at bennaeth yr Urdd yn Citeaux yn erfyn arno symud y mynaich Cymreig, "oedd wedi ymroi i drythyllwch ac yn difa eiddo'r tŷ," a rhoi Saeson yn eu lle, a hynny a wnaed. Ond pan gofir mai John de Charlton, Arglwydd Normanaidd Powys, oedd wrth wraidd y cais, ni ellir rhoi dim pwys ar ei dystiolaeth. Y tebyg yw mai'r gwir reswm oedd ei fod yn awyddus am gael y mynaich yn fwy darostyngedig i'w ewyllys ef. Nid oes dim sail, beth bynnag, i'r hyn a ddywed amdanynt yn difa'r eiddo.[31] Llosgwyd y Fynachlog yn amser gwrthryfel Glyn Dŵr, ac y mae'n bosibl na bu llawer o drefn ar bethau yno wedyn.
Yn ddiweddar, daeth Mr. Edward Owen ar draws copi o "indwlgens" diddorol iawn yn dal perthynas â'r Fynachlog hon, wedi ei arwyddo gan y Cardinal Wolsey, ac wedi ei brintio, y mae'n debyg, tua'r flwyddyn 1528.[32] Dyma, ym marn Mr. Owen, y darn printiedig cyntaf a feddwn yn ymwneud â Chymru. Yn hwn cynigir i'r sawl a ymwelo â'r Fynachlog ar ddygwyliau neilltuol 10 mlynedd a 10 mis a 140 niwrnod o ryddhad o'r Purdan. Rhyddheir hwy hefyd o bob llw a gymerwyd ganddynt, ac os byddent yn glerigwyr, caent ganiatâd i gael allor symudol i offrymu arni y man y mynnent. Caent hefyd fwyta wyau, ymenyn, caws a llaeth—a chig hefyd, ond cael caniatâd y meddyg—yn ystod tymor y Garawys, a chaent ran a chyfran yn y rhinweddau a ddeilliai o offrymau a gweddïau'r Fynachlog. Gwerthid y pardynau hyn er budd y tŷ, a diddorol yw cofio mai gwaith Tetzel yn gwerthu pardynau tebyg a ddeffrôdd angerdd Luther ac a roddodd fôd i'r Diwygiad Protestanaidd. Dyma ymdrech olaf y tŷ crefyddol hwn, y mae'n debyg, i geisio cael ychydig arian i atgyweirio'r eglwys, oedd yn adfail, fe ddichon, er dyddiau Glyn Dŵr.
Yn yr un flwyddyn, ar y ddeunawfed o Awst, rhoddodd Wolsey bardwn i hen fynach o Lyn y Groes, a'i rhyddhaodd oddi wrth y penyd a haeddai am beidio â gwisgo dillad yr Urdd; caniatawyd iddo hefyd wisgo lliain yn nesaf at ei groen a leggins am ei goesau, oherwydd ei wendid—"o liw gweddus dan ei wn," a chafodd ganiatâd hefyd i siarad yn ddistaw yn y dortur a lleoedd eraill ac i gael bwyd a diod o fewn rheswm yn ei gell.[33]
Am ryw reswm neu'i gilydd, ni ymwelodd y Dirprwywyr ag Ystrad Marchell, ond aethant i Lyn y Groes ar yr 22 o Awst, 1535, a buont yno hyd y 26ain. Cymerasant yr abad ac un o'r mynaich ymaith a'u carcharu yng nghastell Holt, hyd nes y clywent beth oedd bwriad y Brenin ynglŷn â hwy.

Nid oedd ond chwe mynach yn y tŷ, ac yr oedd y Fynachlog mewn dyled o 300 o farciau i'r Brenin ac eraill. Bwriadent ethol Abad newydd yn nechrau Medi; yr oedd Abad Cymer yn awyddus am y swydd ac yn barod i dalu £20 i'r Brenin os cai hi.[34]
Y mae'n debyg mai Robert Salisbury oedd yr Abad y cyfeirir ato uchod. Ceir hanes amdano ym mis Mai, 1535, yng ngharchar yn Rhydychen, wedi cael ei ddal mewn lle o'r enw Thame yn bathu arian drwg gydag eurych o Rydychen o'r enw Hall. Dywedir bod ganddynt tua £140 yn eu meddiant. Yr olwg olaf a gawn ar yr hen Abad yw ei enw ymysg y carcharorion yn Nhŵr Llundain, pan y'i rhoddwyd ef a'i gyfaill Hall yn ddiogel yn y Tŵr Gwyn am gyfnod.3[35] Yr oedd yno ar y chweched o Orffennaf y flwyddyn honno (1535). Ond ymddengys oddi wrth yr hyn a ddywedwyd uchod iddo gael ei ryddhau rywbryd cyn ymweliad y Ddirprwyaeth â Glyn y Groes yn Awst.
Anodd yw peidio â theimlo mesur o dristwch wrth sylwi ar fanylion yr ychydig gelfi oedd ym meddiant y BrodyrLlwyd a Du a Gwyn fel ei gilydd—pan ddaeth yr amser iddynt drosglwyddo eu heiddo i ddwylo'r Brenin.[36]
Ymddengys fod tŷ'r Ffransisiaid yng Nghaerfyrddin dipyn cyfoethocach na'r rhelyw ohonynt. Yr oedd gan y sacristan bentwr o ddillad ar gyfer y gwasanaeth. Yn eu mysg enwir siwt o sidan gwyn, gyda darlun o nifer o greaduriaid wedi eu gweithio mewn aur ar y cefn, ac un arall ddu gyda darlun o'r apostolion mewn brodwaith ar y cefn.
Yr oedd yno hefyd nifer o lieiniau i'w rhoi ar yr allor a chloch fechan at wasanaeth yr offeren, darn o frethyn du i'w daflu dros yr arch mewn angladd, a hefyd "a goodly pair of orgaynes."
Yn un o'r ystafelloedd ystafell y Brenin y gelwid hiyr oedd gwely plu gyda gobennydd a phâr o wrthbannau a chynfasau. Yn y gegin yr oedd dau gawg pres, pedwar plât piwter, II picyn, dysgl a melin fwstard; yn y bragdy, padell bres a cherwyn neu ddau at ddarllaw cwrw.
Yr oedd y rhan fwyaf o'r dodrefn gorau a hyd yn oed aml groes werthfawr wedi eu rhoi i fasnachwyr ar gyfer dyledion y tŷ, ac yr oedd rhyw gymaint o lestri wedi eu rhoi yn fenthyg i'r castell.
Dywedir i Frodyr Duon (Dominiciaid) Rhuddlan ymddiswyddo heb unrhyw orfodaeth, " for very poverty," a rhoddir enwau'r chwe brawd oedd yno ar y pryd. Nid oedd ganddynt wely o fath yn y byd, na dim dodrefn o unrhyw werth, ond yr oedd ganddynt ddwy fuwch a phum mochyn, a gwerthwyd y rheini i dalu'r ddyled oedd arnynt.
Tebyg oedd cyflwr pethau yn Hwlffordd, lle y gwerthwyd yr holl eiddo i dalu'r ddyled. Yr oedd yn Llanfaes bedair buwch, dwy ar hugain o ddefaid, pedwar twb o halen, un faril, cyfrwy a dwy fasged ynglŷn wrtho i gario nwyddau, a dau gerbyd o ryw fath yn y buarth. Dywedir bod yn Llanfaes hefyd ddau lyfr gwasanaeth printiedig-peth lled eithriadol ar y pryd, y mae'n debyg.

Atodiad.
NODIADAU ar y fasnach wlân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif gan Pezolotti. Gweler atodiad i Lyfr Cunningham Growth of English Industry and Commerce, 1, 624.
Adwaenir y gwlân fel y daw o'r mynydd fel gwlân cyfan neu wlân dafad gneifiedig, hynny yw, a'r cnu yn gyfan heb ddim ohono wedi ei gymryd ymaith.
Manwlan y gelwir gwlân dewisedig y rhoir mwy o werth arno na'r cnu fel y daw oddi wrth y ddafad.
Gwlân da y gelwir y gwlân gorau o'r gwlân dewisedig.
Gwlân Canolig y gelwir yr ail orau o'r gwlân dewisedig.
Gwlân cyffredin y gelwir y trydydd orau o'r gwlân dewisedig.
Gwlân toredig y gelwir y gwlân a gymerir ymaith oddiwrth y cnu pan fo baw'r ddafad ynglŷn wrtho.
Torchog y gelwir cnu'r ddafad wedi ei blygu a'i wneuthur ar ffurf pellen.
LLOEGR.
Am wlân y mynachlogydd yn Lloegr a pha faint o wlân a geir yn gyffredin gan bob mynachlog yn flynyddol a'r hyn a werthwyd o'r gwlân yn Fflandrys yn y flwyddyn 1315.
Y mae'r mynachlogydd hynny sydd yn dosbarthu'r gwlân yn ei rannu yn dri dosbarth: (1) y gwlan gorau, sef y gwlân da; (2) y gwlân canolig, a elwir yn wlân blynyddol, a (3) y gwlân sydd heb fod cystal, a elwir yn wlân cyffredin.
Tai o urdd y Cisterciaid:
La Graziadio (Tŷ Gras Duw), Mynwy. O'r gwlân da, 16 swllt; y gwlân canolig, 10 swllt, a'r gwlân cyffredin, 7 swllt y sach; pum sach yn flynyddol.
Biliguassi (Buildwas, Sir Amwythig). Y gwlân da, 20 swllt; y gwlân canolig, deuddeg swllt, a'r gwlan cyffredin, deg swllt y sach; ugain sach y flwyddyn.
Morghana (Margam, Sir Forgannwg). Y gwlân da, 17 swllt; ni pharatoant yno na gwlân canolig na gwlân cyffredin, ond y mae eu gwlân dewis yn chwe charreg y sach (cyfeiriad at y pwysau (Eng. stone?) hwyrach, yn hytrach na'r gwerth); 25 sach y flwyddyn.
Nietta (Glyn Nedd, Morgannwg). Y mae y gwlân yma yn gyffelyb ei werth i'r uchod ac yn gyffelyb ei baratoad hefyd; 10 sach y flwyddyn.
Lantarname (Llantarnam, Mynwy). Y sach o ddeubwys, swllt y sach, ac y mae yn bwys trymach(?). 8 sach y flwyddyn.
Tanterna (Tintern). Y gwlân da, 28 swllt; y gwlân canolig, 15 swllt, a'r gwlân cyffredin, 12 swllt y sach; 15 sach y flwyddyn.
Dora (Dore, Henffordd). Y gwlân da, 28 swllt; y gwlân canolig, 15 swllt, a'r gwlân cyffredin, 14 swllt y sach; 16 sach y flwyddyn.
Istanforte (Ystrad Marchell, meddai Cunningham, ond edrych yn debycach i Strata Florida). 10 swllt y ddau bwys. 12 sach y flwyddyn.
Biancalande (Tŷ Gwyn ar Dâf, Caerfyrddin). 10! swllt y ddau bwys. 15 sach y flwyddyn.
Basingvechi (Basingwerk, Fflint). Y gwlân da, 17 swllt;. y gwlân canolig, II swllt, a'r gwlân cyffredin, 9 swllt y sach; 10 sach y flwyddyn.
Chena (? Cymer). Y gwlân da, 15 swllt; y gwlân canolig, 9 swllt, a'r gwlân cyffredin, 8 swllt y sach. 8 sach y flwyddyn. Barchanoe (? Aberconwy) yng Nghymru. 20 sach y flwyddyn.
Nonne (?) Awgryma Mr. Whitwell Aberconwy.
Coate (? Conwy) yng Nghymru. 6 sach y flwyddyn. 9 swllt y sach. Nid oes wlân gan y tŷ brenhinol (cyfeiriad at y tŷ ym Maenan?).
Yr wyf yn ddyledus i'm cyfaill yr Athro E. T. Griffiths, Porth, am ymboeni gyda'r enwau a'r mesurau Italaidd, ond nid yw yn hawdd dyfalu beth yw rhai ohonynt.
Llyfrau.
CEIR toreth o lenyddiaeth yn ymwneud â phob agwedd ar fynachaeth. Mynachaeth Rufeinig a gaiff fwyaf o sylw fel rheol, wrth gwrs. Nid oes hyd yma yr un llyfr yn ymdrin â'r oll o'r urddau fel y gwna Montalembert yn ei lyfr, The Monks of the West—argraffiad diweddar gan Gasquet. Llyfr bach rhagorol yw llyfr Dr. W. B. Workman: The evolution of the Monastic Ideal.
Ar y gyfundrefn Gymreig gweler Newell: A History of the Welsh Church; a Dr. Hugh Williams: Christianity in Early Britain. Llyfr manwl a diddorol yw llyfr Gasquet: English Monastic Life. Gweler hefyd benodau yn llyfr Dr. J. E. Lloyd History of Wales.
Erys llyfr Dugdale, Monasticon, o werth amhrisiadwy, ond y mae mawr angen am argraffiad diwygiedig o'r llyfr hwn.
Rhydd llyfr Jessop, The Coming of the Friars, ddarlun da o ddyfodiad y Ffransisiaid i'r wlad. Ar yr un pwnc gweler Hutton: The Franciscans in England, a Little: Franciscan Studies, a hefyd ei Grey Friars at Oxford (Oxford Historical Society).
Y Valor Ecclesiasticus (1535), adroddiad Comisiwn Harri VIII, yw'r awdurdod ar gyflwr pethau yn adeg y diddymu. Gwnaed dadansoddiad manwl ohono gan Dr. Savine yn ei English Monasteries on the eve of the Dissolution (Gwasg Rhydychen). Ceir manylion pellach yng nghyfrifon y Court of Augmentations.
At ddeall y bywyd o safbwynt y mynach ei hun anodd cael gwell darlun nag a geir yng Nghronicl Jocelin of Brakelond (Kings Classics). Ceir aralleiriad ohono gan Carlyle yn ei Past and Present.
Erys llawer o dai Cymru heb eu hanesydd. Ysgrifennodd y Parch. D. D. Williams lyfr bychan ar Fynachlogydd y Gogledd (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol). Ymysg y tai sydd eisoes wedi cael eu hanesydd gellir enwi Aberconwy (Williams), Ystrad Fflur (W. S. Williams), Dogmael ac Aberteifi (Emily Pritchard), Margam a Nedd (de Gray Birch), a Ffransisiaid Caerdydd (Cronin), Tal y Llychau (Ed. Owen), "Arch. Cam.", IV, Series X, XI, Ystrad Marchell (M. C. Jones), "Mont. Coll.", IV, V and VI.
{{nop}
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwêl Lloyd I, 193, ynglŷn â'r anhawster o dderbyn yr hen draddodiad am Dunawd fel tad Deiniol a sefydlydd Bangor is y coed. Tueddir ef i edrych ar Fangor is y coed fel cangen o Fangor Fawr yn arfon. Yr oedd gan Deiniol law yn sefydlu y naill a'r llall, a dichon fod Dunawd o'r un teulu.
- ↑ Dyma syniad sylfaenol llyfr y diweddar Willis Bund ar y Celtic Church, ond y mae'n amheus a ddylid rhoi'r lle amlwg i'r llwyth yng nghyfundrefn yr Eglwys Geltaidd ag a roir ganddo ef
- ↑ William of Malmesbury, History, 47."That their number was incredible to these times is apparent from so many half destroyed walls of churches in the neighbouring Monastery, so many winding porticoes, such masses of ruins as can scarcely be seen elsewhere." Ond amheua Palmer yr hyn ddywed William. (Gwêl Y Cymmrodor, X, p. 16.)
- ↑ Bede: Ecclesiastical History, I, 20.
- ↑ Newell: A History of the Welsh Church, 91.
- ↑ Ibid. 81
- ↑ Lloyd: op. cit., I, 154. Ni ellir edrych arnynt fel mynachlogydd, fel y deallwn ni'r gair heddiw.
- ↑ Rhygyfarch: Buchedd Ddewi, §21—27.
- ↑ Newell op. cit., 85.
- ↑ Ibid., 51.
- ↑ Ibid., 53.
- ↑ Gweler erthyglau ysgolheigaidd Harold Hughes yn Archeologia Cambrensis o 1920 ymlaen ar barhad y traddodiad artistig Celtaidd ym Môn. Early Christian decorative art in Anglesey."
- ↑ Giraldus Cambrensis: Speculum Ecclesiae, III, 8. Ar hanes y Culdeaid gweler W. Reeves: The Culdees of the British Islands.
- ↑ Ivo de Chartres a dynnodd allan y rheolau o ysgrifau Awstin.
- ↑ Newell op. cit., 176—7, 292—3.
- ↑ Freeman yn Archæologia Cambrensis, 1857 ac 1888.
- ↑ Newell: op. cit., 297.
- ↑ Gweler cofiant rhagorol St. Bernard gan J. Cotter Morison.
- ↑ Lloyd History of Wales, II, 590—604.
- ↑ Gweler erthygl Miss Easterling ar "Dai'r Brodyr yng Nghymru." yn Archæologia Cambrensis. VI Series, xiv, 323.
- ↑ Er enghraifft Custumal Battle Abbey, nêu Domesday St. Paul, neu Custumal Cupar Angus yn Ysgotland.
- ↑ Cistercian Statutes, 1134.
- ↑ Weithiau byddai'r rhodfeydd ar du'r gogledd fel yn Nhintern a Dore.
- ↑ Giraldus Cambrensis: Itinerary through Wales (Everyman's Library), 54
- ↑ Montgomeryshire Collections, IV, V and VI.
- ↑ Ibid Gwnaed yr un peth yn union gyda thiriogaethau Sant Dogmael (Llandudoch), a mynych y cyfeddyf y Dirprwywyr iddynt fethu a chael gafael ar un weithred i ddangos beth ddigwyddasai. Gweler Cymmrodor, XXVII, td. 19—25.
- ↑ Ibid Gwnaed yr un peth yn union gyda thiriogaethau Sant Dogmael (Llandudoch), a mynych y cyfeddyf y Dirprwywyr iddynt fethu a chael gafael ar un weithred i ddangos beth ddigwyddasai. Gweler Cymmrodor, XXVII, td. 19—25.
- ↑ Gweler yr Atodiad.
- ↑ Ceir modd bynnag farwnad i Dafydd gan Hopcin ap Tomas ap Einion o Ynys Dawe (1380) lle y dywedir ei gladdu mewn "lle uch dwr Tal llychau deg.'
- ↑ Archæologia Cambrensis, Series I, iii. 77
- ↑ Mont. Coll., V, 147
- ↑ Cymmrodor, XXIX, 1—32.
- ↑ Archæologia Cambrensis, Series IV, xiv, 131.
- ↑ State Papers, Vol. IX, 244. Foreign and Domestic (1535).
- ↑ Ibid., Vol. VIII, 789.
- ↑ Archæologia Cambrensis, 4th Series, Vol. I, 39.

1, O'r Bayeux Tapestry. 2 a 3, O fedd yng Nghaerloyw.
XIV. Bywyd Milwrol—Y Marchog.
Rhinwyllt fydd, a rhy anwar
Rhyfel ag oerfel a går;
O chlyw fod cad—orfod tynn
Brwydr yng ngwlad Ffrainc, neu Brydyn;
Antur gwrdd, hwnt ar gerdded,
Yn ŵr rhwydd, yno y rhed;
O daw, pei rhon', a dianc
Oddiyno, er ffrwyno Ffranc,
Creithiog fydd, seuthydd a'i sathr
A chreulon ddyn wych rylathr;
Mwy y câr y drym-bar draw
A'i gledd, gwae a goel iddaw;
A mael dur, ac aml darian,
A march o lu, na merch lân.
—DAFYDD AP GWILYM?
ANSICRED ydoedd bywyd yr oesau canol fel yr oedd raid i bawb fod yn barod i ryfel bron bob amser. Yr oedd rhyfel, felly, yn rhan, fwy neu lai, o fywyd beunyddiol y mwyafrif o ddynion. Nid oedd Ffiwdaliaeth namyn cyfundrefn filwrol a chyfundrefn ddiwydiannol yn gymhleth â'i gilydd, ac ar bwys y diogelwch helaethach a ddaeth i fywyd y cyfnod o fabwysiadu'r gyfundrefn honno daeth yn bosibl i rai dosbarthiadau eu neilltuo eu hunain i'r bywyd milwrol ac i ddosbarth arall dreulio'i holl amser ar y tir. Gwaith y milwr oedd sicrhau diogelwch y tyddynnwr, a gofalai yntau fod ymborth i'w gael i'r milwr pan fyddai galw amdano.
Yr oedd cyfundrefn o'r fath, o bosibl, yn fwy cydnaws ag amaethyddiaeth sefydlog nag â'r bywyd bugeiliol Cymreig; ond llwyddodd y Norman yng Nghymru fel yn Lloegr i ddwyn y gyfundrefn Ffiwdalaidd i gryn radd o berffeithrwydd.
Dibynnai'r Cymry am eu diogelwch nid yn gymaint ar ddatblygiad eu trefniadau milwrol ag ar gyflymder eu symudiadau o'r naill le i'r llall fel y byddai ymosod arnynt. Eu prif amddiffynfeydd ydoedd glynnoedd dyfnion coediog eu gwlad, eu llechweddau gerwin a'u mynyddoedd cribog. Nid yn anaml y teimlodd y Sais fin yr awel, a oedd megis mewn cynghrair â'r Cymry, ar ei ewin, ac y danfonwyd ei lengoedd gartref yn siomedig ac wedi cael curfa fythgofiadwy gan y stormydd a ffustiai'r mynyddoedd, onis cawsant gan y Cymry eu hunain. Meddai Glyn Dŵr yn nrama Henry IV gan Shakespeare:
Three times hath Henry Bolingbroke made head Against my power; thrice from the banks of Wye And sandy bottomed Severn have I sent him Bootless home and weather beaten back.
Ac nid Bolingbroke yn unig a gafodd brofiad chwerw fel hyn. Beth bynnag oedd yr achos, y mae'n wybyddus i'r Saeson gael eu tarfu fwy nag unwaith yn eu hymosodiadau ar Gymru.[1] Er enghraifft, yn 1095, pan ddaeth William Rufus i Gymry; yn amser Harri I, yn 1114 a 1121; yn 1157, pan ymosododd Harri II ar Gymru; yn 1211, pan ymosododd John arni, ac yn amser gwrthryfel Glyn Dŵr, pan aeth byddin Lloegr o amgylch gogledd Cymru hyd dref Aberteifi heb gael golwg o gwbl ar neb o'i gelynion.[2]
Y mae sail i gredu mai ychydig sylw a roddid i arfogaeth gan y Cymry—ar y dechrau beth bynnag—er nad oedd y beirdd byth yn peidio â chanmol y galanas a wneid o dro i dro gan
eurdorf eurdorchogion." Dichon iddynt gadw rhai o arferion ac arfau'r Rhufeiniaid, ond pan ddeuir at gyfnod Hywel Dda, lled gyffredin yw'r arfogaeth. Tri arf yr oedd yn gyfreithlon i bawb eu cadw oedd y cleddyf, y waewffon, a'r bwa, ynghyda. deuddeg o saethau mewn cawell. Yr oedd y cleddyf, os byddai'r carn yn aur neu arian, yn werth 24c., a 12c. pan. fyddai'r carn o ryw ddefnydd arall; tarian o liw asur, 24c.; o liw coed, 12c.; gwaewffon, 4c.; bwyall, 2c., a chyllell, Ic.[3]
Ymddengys mai'r bicell ydoedd arf pwysicaf hanner cyntaf yr oesau canol yng Nghymru. Arferid rhoi pennon ar flaen y bicell, a byddai didorchi hwnnw yn arwydd bod y sawl a wnai hynny yn barod i ymladd brwydr â'i elynion. Yn un o gywyddau mawl Owain Glyn Dŵr sonnir amdano yn mynd i Brydyn (Scotland) i ymladd, a phaladr mewn soced ddur ganddo. Gwneid y paladr o onnen, a byddai fel rheol yn dair llath a rhagor o hyd, ac o liw arbennig:
Gwrol fu wrth ymguraw
A phen draig ar ei ffon draw
*****
Pan oedd drymaf dy lafur
Draw yn ymwriaw o'r mur
Torres dy onnen gennyd
Tirion gaer, taer yn y gryd,
Dewredd Ffwg,—dur oedd ei phen
Drais garw yn dair ysgyrren.
Picell felen oedd gan Rhys Gethin o Nant Gonwy, yn ôl a ddywed Iolo Goch—" Milwr yw â gwaew melyn." Yr oedd hefyd bicell ysgafnach i'w thaflu at y gelyn—y "luchwaew hoyw," chwedl y beirdd.
Dywed Gerallt am y Cymry eu bod bron yn ddiarfog, ond ni phetrusent ymosod ar y gelynion, meddai, pa mor arfog bynnag y byddent. Yn yr un modd ymosodai'r gwŷr traed ar y gwŷr meirch gyda'r fath chwimder a dewrder nes eu gorchfygu. Rhaid oedd i'r arfau fod yn ysgafn a hwylus, neu fe lesteirient y symud cyflym y dibynnid cymaint arno. ganlyniad, ber oedd y llurig a wisgid, ac ni cherid ond gwaewffon, ychydig saethau a tharian. Gwisgid helm am y pen, ond anfynych y gwisgid dur am y coesau. Ai uchelwyr i'r frwydr ar gefn meirch cyflym a phorthiannus, ond ar droed yr âi'r llu, gan mor gorsiog ac anhygyrch y wlad. Er hynny, ni phetrusai'r uchelwr ddisgyn oddi ar ei geffyl os byddai angen ymosod neu ffoi. Yr oedd rhai yn droednoeth, ond gwisgai eraill esgidiau uchel, trwsgl, wedi eu gwneud o groen heb ei drin. Ymroddai'r gwŷr ieuainc i ddringo'r mynyddoedd a chrwydro dyrysleoedd y coedwigoedd er mwyn cynefino â chaledi. Trwy ddisgyblaeth galed o'r fath, a thrwy ymarfer â'r bicell, paratoent at ryfel hyd yn oed pan fyddai heddwch yn ffynnu.[4] Nid yw Gerallt yn sôn am y cleddyf, ond ceir disgrifiad byw iawn ohono yn un o gywyddau Lewis Glyn Cothi, ond yr oedd hynny yn y bymthegfed ganrif.[5]
Erbyn dyddiau'r Normaniaid yr oedd y wisg filwrol, fel llawer peth arall, wedi ei thrawsnewid. Ar geffyl yr ymladdai'r marchog, fel yr awgryma'r enw, a chan mai efô oedd cynnyrch mwyaf nodweddiadol ffiwdaliaeth, rhaid sylwi ar ei arfogaeth er mwyn ceisio deall pa mor bell yr oedd y dull hwn o ymwisgo i ryfel wedi ei fabwysiadu yng Nghymru. Gorchuddid corff y marchog â math o gob ledr, ac arni pwythid darnau o ddur, pob un at faint hanner coron, wedi eu gosod mor agos at ei gilydd ag y gellid. Yn ddiweddarach gweid y wisg o ddur trwy blethu mân ddolennau o ddur trwy ei gilydd. Yr oedd y wisg hon yn ystwyth fel y gyntaf ac yn weddol gyfforddus, y mae'n debyg. Ni chyrhaeddai'r llurig, fel rheol, yn is na'r lin, a gorchuddid y coesau â phlatiau o ddur. Yn ddiweddarach gwnaed gwisg am y corff o'r un defnydd. Byddai'r helm ynglŷn wrth y llurig ar y cyntaf, ond yn y cyfnod olaf hwn byddai ar wahân. Rhywbeth tebyg i decell dur ydoedd, a math o glawr o flaen y wyneb a rhigolau yn hwnnw i fedru gweld trwyddo. Byddai pluen yn chwifio ar flaen yr helm. Sonnir am bluen Owain Glyn Dŵr fel
Adain rudd edn yr Aifft.
Yr oedd pluen o gynffon y fflamingo yn boblogaidd ar y pryd, ac y mae'n debyg mai dyna'r bluen oedd gan Lyn Dŵr. Cerid tarian ar y fraich. Byddai hon yn fynych wedi ei lliwio, a dyma fe ddichon, ddechrau'r arfer o wisgo pais arfau; neu byddai arni lun y fun y tyngasai'r marchog lw o ffyddlondeb iddi. Nid y marchog yn unig oedd wedi ei arfogi. Yr oedd y ceffyl, yntau hefyd dan ei arfogaeth—y "barbed" fel y gelwid ef. Ond aed yn rhy bell gydag arfogi fel gyda llawer peth arall, a dywedir nad anfynych y byddai marchog farw trwy fygu o ddiffyg awyr neu trwy gael ei lethu gan bwysau'r wisg. Diflannodd y gyfundrefn oherwydd hyn, a chwarddwyd hi allan o fodolaeth yn rhamant ddihafal Cervantes.
Y mae'r Mabinogion yn llawn o ddarluniau tlws o'r marchog. O'i gwmpas ef y try bron bob ystori. Yr oedd gan y gŵr ieuanc yn ystori Culhwch ac Olwen farch pedair oed a ffrwyn a chyfrwy aur; dwy bicell arian a'u blaen o ddur, tair llath o hyd ac mor finiog nes trywanu'r awel a chyflymach na chwymp y gwlith oddi ar laswellt yn nwfn Mehefin, a chleddyf a'i lafn a'i garn o aur. Dros y ceffyl yr oedd hugan o borffor ac aurafalau ar bob congl iddo, pob un ohonynt yn werth cant o dda.

Arferai'r marchog roddi gwisg o sidan neu o ryw ddefnydd arall dros y wisg ddur. Ceir tystiolaeth am hyn yn y Mabinogion. Mantell ddu oedd i'r marchog du, a chob o liain main o'r un lliw. Wrth y wisg hon y rhwymid y cleddyf. Gwneid y wain o ledr coch neu ryw liw arall, a byddai'r blaen fel rheol o ddur o liw'r asur. Lledr fyddai'r gwregys hefyd, gyda boglwm o aur neu o ifori.
Y datblygiad pennaf yn hanes milwriaeth yng Nghymru, os nad yn wir yng ngorllewin Ewrop, yn y cyfnod hwn ydoedd medrusrwydd digymar y Cymry gyda'r bwa saeth. Yr oedd dau fath ar fwa yn yr oesau canol, sef y bwa croes a'r bwa hir. Yr oedd y bwa croes ar yr un llun â dryll diweddarach, gyda'r bwa wedi ei osod ar draws a'r saeth yn cael ei gollwng ar hyd rhigol yn y dryll. Saethid o'r frest, fel rheol. Bwa syml cyffredin oedd y bwa hir, o ywen neu o lwyfen, fel y dywed Gerallt. Saethid o'r glust, ac mor gryf oedd y bwa fel nad oedd dim a allai wrthsefyll y saeth pan ollyngid hi. Gwŷr Gwent, meddai Gerallt, oedd y cyntaf i berffeithio'r gelfyddyd o'i ddefnyddio, a rhydd enghreifftiau eithriadol o'i effeithiolrwydd. Y tro diwethaf, meddai, y cymerwyd castell Abergafenni, bu agos i ddau o'r gwarchodlu gael eu dal gan y Cymry a saethai ar eu holau; aeth rhai o'r saethau a ollyngwyd ganddynt trwy ddrws derw'r tŵr, ac yr oedd hwnnw o drwch pedwar bys. Gadawyd y saethau yno er cof am y digwyddiad. Tystiai William de Braose, Arglwydd Normanaidd Abergafenni, i un o'r saethau hyn fynd trwy goesarf a chlun un o'i farchogion ef, ac yna trwy gyfrwy ei geffyl a'i ladd. Saethwyd milwr arall trwy ei ddwy glun ac felly ei hoelio wrth ei geffyl."[6]
Creodd arf mor effeithiol a hwn chwyldroad yn hanes milwriaeth yr oesau canol, a hyd nes daeth y powdwr gwn, y bwa saeth a benderfynai dynged rhyfeloedd y gorllewin; a Chymry Gwent fu'n dysgu'r Sais a'r Ffrancwr pa sut i'w ddefnyddio. Yn y ddeuddegfed ganrif, y bwa croes a ddefnyddid yn bennaf, ond yn yr Assize of Arms, 1252, dywedir bod y bobl gyffredin i ymladd, nid gyda chleddyf a chyllell fel cynt, ond gyda'r bwa hir.[7] Ymddengys mai Edward I oedd y cyntaf i weled ei werth yn llawn. Ym mrwydr Pont ar Irfon, yn agos i Lanfair ym Muallt, y dangoswyd ei ragoriaeth gyntaf, pryd y gorchfygwyd y Cymry gan saethwyr o'r de oedd ym myddin Edward.[8] Yn ystod y rhyfel â'r Sgotiaid, ar ôl gorchfygu Cymru, daeth yr arf i'w lawn rymuster, ond hyd yn oed yn 1277, pan oedd Edward yn ymosod ar ogledd Cymru, yr oedd ganddo, meddir, 9,000 o wŷr o'r de, a'r rhan fwyaf ohonynt yn saethwyr o Went. Rhaid cofio, wrth gwrs, fod y de dan draed arglwyddi'r goror neu ym meddiant y goron ymhell cyn darostwng gogledd Cymru, a milwyr y parthau hynny oedd ym myddin Edward. Ym mrwydr Falkirk yn 1298 yr oedd Wallas wedi trefnu ei fyddin yn bedair rhan—"schiltrons," fel y geilw'r croniclau hwy—ac er ceisio yn ddygn methai'r gwŷr meirch a'u syflyd. Ond pan alwodd Edward y gwŷr meirch yn ôl a rhoi cyfle i'r saethwyr gwŷr o'r de yn bennaf—fe drodd y frwydr o'i du. Ym mrwydr Crecy, 1346, yr oedd y marchogion yn eu holl rwysg fel cynrychiolwyr Ffiwdaliaeth ar ei gorau. Gosododd Edward III ei wŷr meirch yn y canol a'r saethwyr o boptu iddynt. Cyn i'r Ffrancod gael amser i anelu gyda'u bwâu croesion, yr oedd y Saethwyr yn eu medi i lawr nes y gorfu iddynt gilio o'r ffordd. Yna dechreuodd y gwŷr meirch garlamu i gyfeiriad y fyddin Seisnig, ond ni allent gyrraedd eu nod. Lleddid march a marchog fel ei gilydd. Dywedir i farchogion Ffrainc wneud ymdrech gyffelyb tua phymtheg gwaith, ond bob tro yn aflwyddiannus. Gadawyd pymtheg cant o farwniaid Ffrainc a'i marchogion—hufen ei chyfundrefn—a thros ddeng mil o wŷr traed yn gelanedd ar y maes.[9]
Gyrrodd y fuddugoliaeth hon ias trwy galon Ewrop, a phan wnaed yr un peth drachefn yn Poitiers, yr oedd yn bryd credu bod tro ar fyd wedi dyfod yn hanes arfau rhyfel.
Yn ffodus, y mae gennym gryn lawer o fanylion am y rhan a fu i'r Cymry yn y brwydrau hyn. Yr oedd Cymry wedi bod yn brwydro ym mrwydrau Edward yn Fflandrys yn 1297, cyn eu defnyddio yn Ysgotland, a chafodd hen groniclydd o'r wlad honno hwyl wrth syllu ar arferion od y bobl o Gymru bell.10 Lodewyk van Velthem oedd enw'r croniclydd. Gweler erthygl ddiddorol gan Mr. D. L. Evans o'r "Public Record Office" yn Cymmrodorion Transactions, 1925—26: "Notes on the History of the Principality of Wales in the time of the Black Prince (1343—76)." Daeth Edward," meddai, " â nifer o filwyr gydag ef o Gymru, gyda rhai o Loegr hefyd. Daethant i Ghent, ac yno gellid astudio arferion nodedig y Cymry. Rhedent oddi amgylch yn droednoeth hyd yn oed yn nyfnder gaeaf. Gwisg— ent fath o gochl goch amdanynt. Nid oedd bosibl eu bod yn gynnes yn honno. Pan gaent arian gan y Brenin, fe'u gwarient ar laeth ac ymenyn. Nid oedd waeth ganddynt ymhle yr yfent ac y bwytaent. Ni welais hwy erioed yn arfog. Sylwais yn fanwl arnynt i weled pa arfau amddiffyn oedd ganddynt yn myned i ryfel. Eu harfau oedd bwa a saeth, cleddyfau a phicellau. Gwisgent liain yn nesaf at y croen. Yr oeddynt yn yfwyr mawr. Nid oeddynt yn cael digon o dâl, a chymerent feddiant o bob peth y medrent gael gafael arno.
Tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg dechreuodd rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc a barhaodd am gan mlynedd, a buwyd yn anfon catrodau o Gymru yn gyson i'r Cyfandir. Yn 1342, glaniodd cynifer â 600 ohonynt trwy ryw anffawd yn ynysoedd Scilly, a chwynai'r brodorion oherwydd y golled a achoswyd ganddynt. Nid oedd y golled, meddent, ddim gronyn llai na £500. Yn 1343, anfonwyd gwys am tua 500 o'r gogledd, 400 o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a thua mil o'r gororau, ond bu heddwch am ysbaid o ddwy flynedd. Ar derfyn y tymor hwnnw, daeth galw am 2,000 o'r gogledd a'r un nifer o'r de— y naill hanner i'w harfogi â gwaewffyn, a'r hanner arall â'r bwa hir. Awgryma Oman, hanesydd datblygiad rhyfel yn yr oesau canol, fod tua 3,500 o filwyr o Gymru yn Crecy. Dywed Froissart fod yno 2,000 o saethwyr, mil ar bob ochr i'r fyddin, a thebyg yw mai gwŷr o'r de oedd y mwyafrif mawr ohonynt. Rhennid y byddinoedd hyn yn gannoedd ac yn ugeiniau. Cai'r canwriad 1/— yn y dydd a'r ugeinwr 4d. Dwy geiniog delid i'r milwr cyffredin, ond cai'r saethwr 3d.
Mewn gwisgoedd cochion yr ymladdai'r Cymry yn Fflandrys, ond rhoddodd y Tywysog Du—Tywysog Cymru—orchymyn fod ei ddynion ef o hynny allan i gael eu gwisgo mewn gwyrdd a gwyn—yr ochr dde i'r wisg yn werdd a'r ochr chwith yn wen.11 Evans op. cit., 57.
Ar ôl brwydrau llwyddiannus Crecy a Poitiers, ciliodd byddin Ffrainc i Calais, lle buwyd yn gwarchae arni am hir Yn ystod y tymor hwnnw, collwyd llawer o'r Cymry oherwydd yr oerfel ac afiechyd, ond llwyddodd rhai ohonynt i ddianc. Disgrifir eu bywyd yn Calais gan un o'r beirdd (Robert Leiaf):
I'r un gaer yr an i gyd,
Er gwinoedd, awr ac ennyd,
O'r gaer, pe bai rew ac od
I'r maes lle bo'r ymosod.
Ond bu rhai ohonynt fyw i weld cyn saled yw bywyd milwr, ac fel yr anghofir ef yn ei henaint:
O Dduw gwyn, gorweddiog wyf,
Anwydog a hen ydwyf:
Rhyw gleiriach mewn rhugl oerwynt
Afiach gwan, a fu wych gynt.
Mul a garw, moel ei gorun
Ac yn gloff a gwaew'n i glun.
*****
Ceisio aur i'm cysuraw,
A chael drwg wrth chwilio draw
Yn wan iawn, yn union noeth
Yn flin ac yn ful annoeth.
Nid ennillais bais lle búm,
Duw, o'r daith adre daethum.
—EDWARD AP RAFF O DDYFFRYN CLWYD.
Rhoddodd yr erfyn newydd, felly, gyfle i'r Cymro i ddangos ei ddewrder a'i allu milwrol ar lwyfan Ewrop, a daw enw aml hen wron gerbron wrth geisio atgofio'r cyfnod diddorol hwn. Er enghraifft, Hywel y Fwyall, a ga'r clod am ddal brenin Ffrainc; Mathew Goch, a achubwyd rhag cael ei ddal ym mrwydr Formigny (1450) gan ei gyfaill, Gwilym Gwent, ond a syrthiodd ar Bont Llunden wrth ymladd yn erbyn lluoedd Jack Cade—Cymro da ei Gymraeg, meddai Guto'r Glyn am Fathew. Gresyn i'r hen wron syrthio wrth ymladd yn erbyn gwerin ddeffroedig Lloegr[10]; Dafydd Gam, a wnaed yn farchog ar faes Agincourt, yn ôl hen draddodiad, ac a wnaeth rywbeth trwy ei ddewrder yno i dynnu'r staen oedd ar ei enw er pan geisiodd ladd Owain Glyn Dŵr; Ieuan de Galles, y sonia Froissart amdano, ac eraill.
Fe'u cadwai'r hen farchogion hyn eu hunain yn ddiddig pan na byddai'n rhyfel trwy gynnal twrneimaint a hela. Yn y twrneimaint ceisiai dau neu ragor o farchogion fwrw ei gilydd oddi ar eu meirch â phicellau heb eu blaenllymu.[11] Byddai lluoedd yn myned i weld yr ymarferiadau hyn, a gwobrwyid y gorchfygwr gan un o'r boneddigesau a fyddai'n llygaid dyst o'r ornest. Fel y gwyddys, byddai raid i'r marchog, yn ôl rheolau caeth sifalri, gymryd llw o ffyddlondeb i feinir arbennig, a byddai'r rhianedd hyn yn tyrru i weld y marchogion yn ymladd eu brwydrau hwy ar lawnt y castell neu ryw fan cyfleus. arall. Ceir amryw gyfeiriadau atynt yn y Mabinogion. Pan gyfarfu Peredur â'r marchog, dywedir iddo ei daro yn ei wegil—un o fannau gwan yr arfogaeth. Ceir yr un ymadrodd yn hanes Arthur, lle dywedir i'r marchogion wrthod ei roddion am eu bod yn rhy debyg i ddyrnod ar y gwar. Yn yr ornest rhwng Owain a Gwalchmai, nid adwaenai'r naill y llall hyd nes trawodd Owain helm Gwalchmai ymaith a gweled ei wyneb. Pan ganfu pwy ydoedd, cynigiodd iddo ei holl arfogaeth, ond mynnai Gwalchmai, ar y llaw arall, mai Owain a orfu— enghraifft dda o'r modd y byddai'r naill farchog yn ymddwyn at y llall wedi ei orchfygu. Yr oedd raid i'r marchog gymryd llw i fod yn ostyngedig yn ogystal ag yn ddewr.
Yn rhamant Geraint, ceir disgrifiad manwl iawn o dwrneimaint a gynhaliwyd ar y lle y saif tref Caerdydd arno heddiw, pryd y cynigiwyd hebog yn sefyll ar wialen arian yn wobr i'r gorchfygwr. Fel y nesái Geraint at y dref o gyfeiriad Caerlleon ar Wysg, gwelai fod pob man yn llawn o wŷr a meirch, a phawb wrthi â'i holl egni yn gloywi tariannau, yn hogi cleddyfau ac yn pedoli meirch, fel nad oedd hamdden ganddynt i gymryd fawr sylw o Geraint. Wedi dyfod ychydig ymhellach, gwelodd faes ac ynddo ddau bolyn wedi eu gosod ar wialen arian yn gorffwys arnynt. Dywedwyd wrtho beth a arwyddai hyn, a bod marchog eisoes wedi ennill yr hebog ddwywaith. Yr oedd pob marchog hefyd i ddyfod â'i gariadferch gydag ef i'r ornest. Cododd Geraint yn fore ac ymwregysodd, a phan alwodd y marchog—oedd eisoes wedi ennill y gamp ddwywaith —ar ei gariad i estyn y gwalch oedd i ddyfod yn wobr iddo ef y tro hwn, rhoes Geraint her iddo trwy ddywedyd bod yno lanach ac urddasolach merch na'i gariad ef. dyma ddechrau ymosod nes oedd y picellau y naill ar ôl y llall Ar hynny, yn chwilfriw, ond o'r diwedd rhoddodd yr herwr a'i noddai bicell arbennig i Geraint, a chyda honno llwyddodd i daflu'r marchog.
Un o gynyrchion mwyaf diddorol y cyfnod ydoedd y marchog crwydr (knight errant)—gŵr a wnai farchogwraeth yn fywoliaeth. Nid oedd fawr bwys ganddo o blaid pwy yr ymladdai. Crwydrai o dwrneimaint i dwrneimaint, o wasanaeth un brenin neu arglwydd i wasanaeth un arall, a themtio ffawd yma ac acw. Pan enillai'r dydd yn y twrneimaint, byddai ganddo hawl i gael march ac arfau'r gorchfygedig yn ogystal a'r wobr a gynigid.
Bu un o'r cymeriadau hyn yn gwneud gorchestion ar ororau Cymru, a chafodd gryn ddylanwad ar feddwl a dychymyg ei gyfnod. Norman ydoedd y gwron hwnnw, o'r enw Ffwg Fitzwarin, perchennog Castell y Dre Wen, gerllaw Croesoswallt.[12] Ceir hanes amdano, yn gymysg â rhamant, mewn cronicl wedi ei sgrifennu yn Ffrangeg afrywiog y Normaniaid, ond y mae'n amlwg bod yr awdur, pwy bynnag ydoedd, wedi ceisio nyddu stori Ffwlc ar gynllun yr hen ganeuon arwrol— y Chansons de Geste—sydd ymysg pethau boreaf llenyddiaeth Ffrainc. Erys darnau helaeth o'r stori ar gân, a diau mai fel barddoniaeth yr ysgrifennwyd hi ar y cyntaf. Egyr yr hanes yn amser Ebrill neu Fai, amser y dolydd a'r porfeydd gwyrddion a phopeth yn adfywio ei nerth ac yn ymwisgo mewn prydferthwch—dyma ddull traddodiadol y cyfnod a dull a fu yn hynod boblogaidd ymysg y Trwbadwriaid ac yn arbennig y

Trwferwyr, a thybir sgrifennu'r gân hon gan Drwfer oedd yng ngwasanaeth Warin fel bardd teulu. Dengys llên Cymru hefyd i Ffwg adael argraff ddofn ar feddwl y cyfnod, ac iddo ddyfod i gael edrych arno fel y teip uchaf o ryfelwr. "Llew ac awch Ffwg," meddir am Feredydd ap Ifan yng nghywydd Llewelyn ap y Moel." Gair Ffwg goreu gŵr a ffon," meddai Dafydd Nanmor. "Un cymhar Ffwg ap Gwarin," meddai Gwilym ap Ieuan Hen. Prin y medrai'r beirdd ganmol dewrder marchog heb gyplysu ei enw ag enw Ffwg.
Diddorol yw sylwi ar y modd y tyfodd y traddodiad hwn ar ororau Cymru, ac mai yng Nghymru ac ar y goror y cyflawnodd Ffwg ei orchestion pennaf. Dechrau'r stori gyda dyfodiad y Concwerwr i'r wlad, ac Owain Gwynedd yn diffeithio'r goror o Gaer i "Fount Gilbert," a phob tref rhwng Caer a'r
Amwythig wedi ei llosgi nes bod ar William fwy o ofn Owain na neb arall.[13] Sonnir am William yn rhoddi'r Amwythig i Bellesme, a'r modd yr adeiladodd yntau gastell yn Ninam (yr hen enw Cymraeg ar Lwydlo). Rhoddwyd castell Croes— oswallt i Alan ap Flaeu, a'r pryd hwnnw daeth William Peveril o'r Peak, yng nghanolbarth Lloegr, a meddiannu Ellesmere, Maelor a Nanheudwy. Efô a gododd gastell y Dre Wen, cartref Ffwg, a chododd un arall hefyd yn Ellesmere ac un arall drachefn ar afon Geiriog. Ym Maelor Saesneg yr enillodd Ffwg ei fuddugoliaeth gyntaf. Nid oedd ond hogyn deunaw oed ar y pryd, a thybiai pawb mai llwfryn oedd. Ond pan oedd y frwydr yn chwerw y tu allan i'r castell rhwng Joce o Ddinam, a Walter de Lacey, o gastell Ewias, a'r merched yn gwawdio Ffwg oherwydd ei lwfrdra, dringodd o'r castell yn ddirgelaidd wedi ymwisgo mewn hen helm oedd wedi ei thaflu o'r neilltu er ystalm a hen lurig oedd eisoes wedi rhydu, ac yn ei law hen fwyall oedd yno er amser y Daniaid, ac i ffwrdd ag ef ar gefn negyn dros yr afon i faes y frwydr. Erbyn hynny yr oedd marchog arall o'r enw Godard de Bruce wedi dyfod i gynorthwyo de Lacey, a'r cyntaf peth a wnaeth Ffwg oedd hollti hwnnw yn ddau ar hyd asgwrn ei gefn â'r fwyall oedd ganddo. Yna trodd a holltodd ben Syr Andrew de Preez; daliodd de Lacey a chymerodd ef yn garcharor a chydag ef Syr Arnald de Lys.
Bryd arall bu yn ymladd gyda Gwenwynwyn yng nghym— dogaeth Castell Balaham ym Mhenllyn, lle gorchfygwyd lluoedd y Brenin John. Dyma ddechrau'r yrfa a fu mor llwyddiannus yn y wlad hon ac ar y Cyfandir nes daeth dewrder Ffwg yn ddihareb y gwledydd.
Beth bynnag am Ffwg ei hun, y mae'n amlwg bod awdur y stori yn hollol gynefin â goror Cymru, ac y mae'r llyfr yn dryfrith o enwau Cymreig fel Maelor, Nanheudwy, Mochnant, Carregnant, Dinorben, Ewias, Ceiriog, Owain Cyfeiliog, Gwenwynwyn, Iorwerth Drwyndwn ac eraill.
Ond mwy diddorol i Gymry yw rhamant bywyd Owain Lawgoch, fu'n ymladd ym myddinoedd Ffrainc ac a enillodd sylw yr hen groniclydd Froissart. Diangodd Owain—neu Ieuan de Galles, fel y galwai Froissart ef—pan oedd yn llanc i lys Philip VI, brenin Ffrainc, a rhoddodd hwnnw addysg iddo gyda'i neiaint. Dywed Froissart i Edward III ddwyn tir ei dad oddi arno, ac mai hynny oedd y rheswm iddo fynd ar herw.

Enillodd ymddiriedaeth y brenin yn fore; gwnaed ef yn ben ar 4,000 o wŷr, ac anfonwyd ef i ymosod ar Guernsey, lle yr oedd un o'r enw Aymon Rosse yn gapten ar y Saeson. Wedi brwydr chwerw, diangodd Aymon, a chydag ef tua hanner ei fyddin, i gastell Cornette, ac yno yr oedd Owain yn gwarchae arno pan gafodd wys gan frenin Ffrainc i fyned i Ysbaen i gyrchu milwyr a llongau i ymosod ar La Rochelle.
Ymysg y carcharorion a ddaliwyd yn Rochelle yr oedd Iarll Penfro, a phan hysbyswyd hyn i Owain, dywedodd y carai ei weld. Gofynnodd Owain iddo ai wedi dyfod yno yr oedd i dalu gwrogaeth iddo ef am y tir a ddaliai yng Nghymru. fel tenant y tywysog. Synnodd yr Iarll ei glywed yn siarad Cymraeg, a gofynnodd iddo pwy ydoedd. Yna dywedodd Owain wrtho beth o'i helynt, a bu yn ddrwg rhyngddynt, fel y bu raid i'r Ysbaenwyr eu gwahanu.
Yn y man daeth yno ysgweier o ororau Cymru o'r enw Lamb. Siaradai hwnnw Gymraeg, a honnai ei fod wedi dyfod i'w roi ei hun yng ngwasanaeth Owain, a daeth y ddau yn gyfeillion mynwesol.
Pan oedd yn gwarchae ar gastell Mortayn, arferai Owain godi'n fore ac eistedd ar fainc o bren i edrych ar y castell a'r wlad oddi amgylch. Un bore, wedi noson fwll, cododd yn foreach nag arfer, ac nid oedd neb ar ddihun ond efô a'i gyfaill tybiedig, Lamb. "And when Yeuan was sette on an olde stocke of wode, he said to James (neu John) (Lambe), go to my lodgynge and fetche my combe, for I wyll refreshe me here a lyteli season; sir, quoth he, it shall be done and so he went and came agayne with the combe; and as he was cumyng I trowe the devyll entred into hym for besyde the combe he brought with him a lytell javelyne of spayne with a large head of stile and with the same strake this yuan as he sate clene through out the body so yt he fell downe starke dead : and when he hadde done he left styll the dart in his body and so went his way and drew under covert of the castell and soo came to the barryers and was let in."'[14]
Y mae'n amlwg fod y Saeson a Lamb yn deall ei gilydd, ac yn y man cafodd ei dâl (20) am ei anfadwaith. Y mae'r receipt" ar gael o hyd, a sêl John Lamb wrthi.
Gwnaeth Mr. Edward Owen a'r diweddar Brifathro J. H. Davies wasanaeth amlwg i Gymru wrth ddiogelu hanes yr hen
16
wron Cymreig,[15] a laddwyd mewn modd mor annheilwng gan un a honnai fod yn gyfaill iddo pan oedd ef a'i fryd ar ddarostwng un o'r cestyll pwysicaf a feddai'r Saeson yn Ffrainc. Cwsg yr hen wron yn hen eglwys St. Leger, ar lan afon Gironde.[16]
Disgynnai Owain o Rodri, brawd ieuengaf Llewelyn y Llyw Olaf, ac felly nid disail yr haeriad mai efo oedd gwir dywysog Cymru. Bu farw ei dad, Thomas, ym mis Mai, 1363. Ymddengys nad oedd gan Thomas ddim eiddo yng Nghymru ag eithrio maenor Plas yn Dinas ym Mhowys, ac oni buasai i Owain ddychwelyd i'r wlad a hawlio ei etifeddiaeth, buasai honno wedi syrthio i ddwylo gwancus Charlton, Iarll Powys. Rhaid bod hyn rywbryd cyn Tachwedd, 1365, pryd y cydnabu'r Siansri mai Owain oedd y gwir etifedd.
Dychwelodd i Ffrainc tua mis Mawrth, 1366, ond ni thorrodd y rhyfel allan hyd 1369. Erbyn 1371 yr oedd Owain a chefnder iddo o'r enw Ywain Apers (Ap Rhys) wedi cyflogi i ymladd yn yr Yswisdir, ac y mae'r cytundeb a wnaethant ar gael o hyd. Yr oedd Owain i gael 400 ffranc y mis, ac Apers 100, ac os llwyddent i feddiannu tref, hwynthwy oedd i gael yr ysbail.[17]
Y mae ar gael ddisgrifiad gweddol fanwl o eiddo ei dad yn 1363—yr eiddo a ddaeth i feddiant Owain yn 1365. Nid oedd y Plas yn werth dim—hynny yw yr oedd cost ei gadw yn fwy na'r enillion. Yr oedd yno 10 acr o dir âr yn werth 8/yn y flwyddyn, a dwy acr o weirglodd yn werth 2/—. Hefyd, goedwig a phorfa, gwerth 2/—, a mân goed eraill heb fod o ddim gwerth; dwy felin ddŵr, gwerth 20/—; rhent y tenantiaid caeth a rhydd, 10 marc (13/4); gwaith y tenantiaid caeth yn werth 4/—; enillion y llys, 40/—. Saif Plas yn Dinas mewn penelin ar afon Fyrnwy, yng nghwr isaf dyffryn Meifod, yn agos i Lansantffraid ym Mechain. Os bu Owain yno o gwbl, diau y teimlai fod bywyd tawel arglwyddiaeth fechan a'i hincwm prin yn anghydnaws â safle gŵr a hawliai fod yn llinach tywysogion Cymru, ac a oedd hefyd yn un o eilunod milwrol ei gyfnod.
Ond gwnaeth Cymru fwy na magu ac addysgu marchogion. Mewn oes orthrymus, ryfelgar, pan oedd pawb megis â'i law yn erbyn ei gymydog, nid oedd neb yn fwy poblogaidd na'r gŵr a fedrai ymladd ei frwydrau ei hun, a dyma yn ddiau y rheswm
paham y daeth y marchog crwydr i gael ei ystyried fel math o eilun y cyfnod. Hawdd fuasai i'r cyfryw un fyned yn ddeddf iddo ei hun yn ogystal ag yn feistr ar ei amgylchiadau. Ond un o bethau rhyfeddaf y cyfnod oedd caethiwed y rheolau yr oedd raid i'r marchog eu cadw. Daethpwyd i deimlo yn fore iawn fod rhaid iddo ef, yn anad neb, wrth reol i'w gadw rhag datblygu yn orthrymwr, ac i'r amcan hwnnw y dyfeisiwyd rheolau Sifalri. Nid yn unig fe ddisgwylid i'r marchog fod yn ddewr, ond yr oedd y dewrder hwnnw i fod bob amser at wasanaeth y gwan a'r gorthrymedig. Dyma, fe ddichon, y rheswm paham y cysylltid yr ymladdfeydd â merch; yr oedd y marchog i ymladd nid er ei fwyn ei hun ond er mwyn eraill. Gwelir dylanwad yr Eglwys yn amlwg iawn ar y sefydliad hwn. Y mae i'w weled yn amlwg yn seremoni'r mabwysiadu gŵr yn farchog ("dub" yw'r gair Saesneg, o'r gair Ffrangeg adoubé," adopted). Yr oedd rhyw gymaint o wasanaeth crefyddol ynglŷn â'r seremoni hyd yn oed yn y nawfed ganrif, ond erbyn y ddeuddegfed ganrif yr oedd yn gyfangwbl grefyddol.
Yn gyntaf, fe drochid y sawl oedd yn awyddus am ymuno ag urdd y marchogion, fel arwydd o buredigaeth, ac yna ei wisgo mewn gwisg glaerwen, fel arwydd ei fod wedi ei buro; yna mewn gwisg goch, fel arwydd o'r gwaed yr oedd yn sicr o'i golli yng ngwasanaeth y ffydd, ac yna mewn gwisg ddu, fel arwydd y byddai i angau, ryw ddiwrnod, gael y llaw uchaf ar y dewraf. Yna treulid noson yn ymprydio o fewn yr eglwys, ac yn y bore cyffesai ei bechod a chymryd cymun. Wedyn eid trwy wasanaeth yr offeren, a thraddodid pregeth ar ddyletswyddau'r bywyd newydd. Yna dynesai'r marchog at yr allor a'i gleddyf yng nghrog wrth ei wddf. Cymerai'r offeiriad y cleddyf ac wedi ei fendithio, rhoddai ef ar war y marchog; âi yntau a phenlinio gerbron ei arglwydd, ac arfogai hwnnw ef yn farchog. Cymerid rhan yn yr arwisgo gan foneddigesau fyddai'n bresennol yn y gwasanaeth yn ogystal a chan farchogion eraill.[18]
Erbyn hyn yr oedd yn aelod o urdd barchusaf y cyfnod. Bu Llys Sifalri yn uchel ei fri yn y wlad hon am lawer canrif. Collodd rywfaint o'i awdurdod ar ôl cyfnod Rhyfel y Rhosynnau, ond fe'i atgyfodwyd dros dro gan Siarl I. Erbyn y ganrif ddilynol, fodd bynnag, yr oedd, yng ngeiriau Blackstone, wedi syrthio i ddiystyrwch ac yn anarferedig.21 [19] Ond mwy o lawer oedd dylanwad chwedloniaeth yr oesau canol, yn enwedig y straeon am Arthur a'i farchogion, tuag at gadw'n fyw ddelfryd sifalri. Sut y daeth Arthur y Croniclau Cymreig i gael edrych arno fel y marchog delfrydol sydd gwestiwn na ellir yn hawdd ei benderfynu, ond daeth pob ystori am wrhydri a chwrteisi, am eofndra a mawrfrydigrwydd, i gael ei phriodoli i Arthur a'i farchogion. Tri pheth yn unig sydd yn werth sylw neb, meddai Jean Bodel—trwfer a ganai yn Ffrainc yn y drydedd ganrif ar ddeg—sef mater Ffrainc, mater Prydain, a mater Rhufain Fawr. Wrth fater Ffrainc golygai y gân am Roland, a'r modd yr ymdrawodd pan fu Siarlymaen yn ymladd â'r Saraseniaid. Wrth fater Rhufain, golygai y straeon am gampau milwrol yr hen fyd clasurol. Mater Prydain oedd y straeon hynny yr oedd Cymry eisoes wedi eu gwau o gylch Arthur a'i wŷr, ac a enillodd glust y byd pan ddarganfuwyd hwy, chwedl yntau, gan Sieffre o Fynwy.
Atega hanes yr hyn a ddywed Bodel, a chytuna'r oesau i roi lle uchel i ramant yr hen frenin Brythonig. Diddorol yw cofio mai yn y straeon a nyddwyd gan bob gwlad fel ei gilydd am berson Arthur—oblegid bu i wledydd amryw eu rhan yng nghreadigaeth yr Arthur delfrydol—y ceir y portread perffaith o ddyheadau aruchelaf y Marchog Ffiwdal.

Nodyn ar Gerfluniau Milwrol.
NID oes well ffordd i ymgydnabod ag arfogaeth y gwahanol gyfnodau na thrwy astudio cerfluniau marchogion. Fel y gellid tybied, nid yw Cymru mor gyfoethog mewn cerfluniau o'r fath ag yw Lloegr, er fod rhai i'w gweled mewn aml hen eglwys ddiarffordd.
Wrth gwrs, fe ofyn yr astudiaeth am y manylder mwyaf. Er enghraifft, bu newid o bryd i bryd yn y modd cywrain, cymhleth, yr hongid y cleddyf wrth y gwregys. Pwysig hefyd yw addurn y gwregys ei hun. Rhaid hefyd wybod rhyw gymaint am egwyddorion herodraeth a'r ystyr gyfrin sydd i ambell wahaniaeth a ymddengys i'r llygad cyffredin yn ddigon dibwys. Er enghraifft, y mae cerflun o un o'r Mortimeriaid yn eglwys Trefaldwyn; o syllu'n fanwl ar y bais arfau, gwelir bod ychydig wyrni ym mhrif linellau'r darian, a hefyd yng nghrib yr helm. Awgryma hyn nad efô oedd yr etifedd, ac mai trwy gwrteisi y cai wisgo pais arfau'r Mortimeriaid. Ar sail hyn fe dybir y dichon mai Edmund Mortimer, mab yng nghyfraith Owain Glyn Dŵr, oedd y marchog.
Yn Lloegr, newidiai'r dull arfogi gyda chryn sydynrwydd yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Prin, hwyrach, y newidiai'r ffasiynau milwrol lawn mor gyflym yng Nghymru, fel nad diogel yw ceisio dyddio cerfluniau Cymru wrth yr hyn a ddigwyddai yn Lloegr.
Y mae nodwedd neu ddwy yn perthyn i'r cerfluniau hyn a ddichon fod o darddiad Cymreig. Cariai'r marchog Normanaidd ei darian, fel rheol, ar yr ochr chwith, ond o flaen y corff y cariai'r marchogion Cymreig hi. Hefyd, ceir ar y darian yng Nghymru nid yn unig bais arfau'r marchog, ond hefyd ei enw wedi ei gerfio fel ymylwaith o amgylch y darian.
Fel y datblygai'r wisg o lafnau dur, lleihai'r darian, ac o'r diwedd diflannodd yn llwyr. Y mae bodolaeth tarian, felly, yn rhyw gymaint o gynhorthwy i ddyddio cerflun. Felly hefyd ei maint. Peidiwyd â defnyddio tariannau yn Lloegr—ond yn unig i osod allan y bais arfau—tua hanner olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg gwisgid math o gob wedi ei gweu megis o ugeiniau o fân gadwynau dur. Dyma'r hauberk—y Ilurig (coat of mail). Weithiau gorchuddid y corff o'r pen i'r traed mewn gwisg o'r fath. Un o'r cerfluniau mwyaf diddorol a feddwn vw'r un sydd yn eglwys St. Bride, Sir Forgannwg, i John le Botiler, lle gwelir y marchog mewn gwisg o wead dur o'i gorun i'w sawdl. Nid yw'n eglur iawn sut y cysylltid y benwisg—sy'n edrych fel pe bai o'r un defnydd a'r llurig â'i gilydd. Dros y cwbl y mae swrcot laes, a chapan am ei ben, ac ar hwnnw ddarlun o boteli, yn ôl awgrym ei enw. Y mae darluniau cyffelyb ar y darian hefyd. Ceir nodweddion cyffelyb, ond yn graddol newid gyda'r blynyddoedd yng ngherfluniau Tremeirchion (y drydedd ganrif ar ddeg), Llanarmon yn Iâl (1350), a Llanuwchllyn (1370). Perthyn cerflun Syr John i ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg (1285).
Gellir gweled y datblygiad yn amlwg yng ngherflun un o'r Berkerolles yn Eglwys Llandathan. Yma y mae'r corff wedi ei orchuddio â'r llurig arferol, gyda choler ddur o'r un defnydd (coif de mailles). Dengys hwn yn eglur iawn y modd y cysylltid y goler â'r helm trwy redeg carai ledr trwy dyllau oedd yn yr helm a hefyd trwy fodrwyau'r wisg. Gorchuddir pen yr ysgwydd, y pen glin a'r pen elin, y cluniau a'r coesau a'r traed â llafnau o ddur. Perthyn hwn i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Gwelir yr un cyfuniad diddorol mewn cerflun yn eglwys Llanfair Caereinion, sy'n perthyn, fel y tybir, i'r flwyddyn 1405.
Erbyn canol y bymthegfed ganrif yr oedd y llafnau dur wedi ennill y dydd yn gyfangwbl. Nid oedd ran o'r corff nad oedd wedi ei ddiogelu â phlât dur, ac fel rheol trefnid i hwnnw gael ei wneud yn y fath fodd fel ag i beri i'r saethau a'r picellau neidio oddi arno yn hytrach na suddo iddo. Y mae gennym enghreifftiau da o'r arfogaeth hon yng ngherflun Thomas Bassett, Beaupré, yn eglwys St. Hilari, neu eiddo John ap Ellis Eyton, a fu farw ganrif yn ddiweddarach (1526), pan oedd arfogaeth wedi cyrraedd ei berffeithrwydd uchaf. Y mae'r cerflun godidog hwn i'w weled yn eglwys Rhiwabon.
Llyfrau
SGRIFENNWYD llawer iawn o bryd i bryd ar wahanol agweddau bywyd marchog yr oesau canol. Er enghraifft, y mae'r llenyddiaeth am ei wisg a'i datblygiad bron yn ddiderfyn. Un o'r llyfrau mwyaf cyflawn ar y pwnc yw dwy gyfrol Sir C. W. C. Oman, The Art of War in the Middle Ages, a'r llyfr mwyaf diddorol i Gymry, o bosibl, yw llyfr Dr. J. E. Morris ar The Welsh Wars of Edward I, 1901. Yn y llyfr hwn dengys Dr. Morris bwysigrwydd datblygiad y bwa hir yn hanes milwriaeth yr oesau canol, a'r modd y bu i'r datblygiad hwnnw gychwyn ym Morgannwg a Gwent.
Gweler hefyd benodau yn llyfr diddorol E L. Cutts: Scenes and Characters of the Middle Ages; H. W. C. Davis: Medieval England; argraffiad diweddar o Barnard's Companion to English History (Mediaeval); a Jordan a Morris; Local History and Antiquities.
Ar y wisg filwrol, gweler Boutell: The Monumental Brasses of England, 1849; C. J. Ffoulkes: Armour and Weapon, 1909, a The Armourer and his Craft, 1912. Mr. C. J. Ffoulkes a ofalai am yr arfogaeth sydd yn nhŵr Llundain.
Y mae llyfr Boutell ar Herodraeth yn rhagarweiniad rhagorol. Ar bais arfau hen deuluoedd Cymru gweler llyfr fel eiddo Chevalier Lloyd, The History of Powys Fadog, a chyfrolau'r Montgomeryshire Collections a'r Archæologia Cambrensis.
Ar Ffwg Fitzwarin ac Owain Lawgoch gweler y cyfeiriadau yn y bennod.
Y mae datblygiad Arthur, y marchog delfrydol, yn un o broblemau mwyaf diddorol lên y gorllewin, ac y mae'r llenyddiaeth ar y pwnc bron yn ddihysbydd. Dyma rai o'r cerrig milltir:
Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Dent).
Malory's Morte D'Arthur. Rhagarweiniad gan Syr John Rhys (Dent). The Arthurian Legend, Sir John Rhys.
King Arthur and his Knights, Jesse L. Weston. Arthur, E. K. Chambers.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Lloyd: History of Wales, 406 et seq.
- ↑ Bradley's Owen Glyndwr, 148.
- ↑ Aacaent Laws and Institutes, I, 304.
- ↑ Giraldus Cambrensis: op. cit., 167.
- ↑ Cywydd i ofyn am gleddyf gan Ddafydd ap Gutun o Groesoswallt. oedd Wrecsam a Chaer yn enwog am wneuthuriad eu cleddyfau.
- ↑ Giraldus Cambrensis: Itinerary through Wales, 49.
- ↑ Ond dengys yr hyn a wyddom am frwydr Lewes, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, na ddaeth y bwa hir i arfer cyffredin am ysbaid o amser ar ôl hynny.
- ↑ Ar hanes y datblygiad hwn gweler llyfr manwl Morris: The Welsh Wars of Edward I.
- ↑ Oman: Military Architecture and the Art of War, 70. (Yn Barnard's Companion to English History (Middle Ages).)
- ↑ Gweler erthygl ar " Fathew Goch" yn y Cymru, Chwefror, 1907.
- ↑ Ceir desgrifiad o dwrneimaint gan Lewis Glyn Cothi yn hanes rhyfel Plant Tomas yn Aber Marlais.
- ↑ Ceir argraffiad hwylus o stori Ffwlc yn y King's Classics, wedi ei throsi i'r Saesneg gan Alice Kemp—Welch.
- ↑ Wrth gwrs, nid oedd Owain a'r Concwerwr yn gyfoeswyr.
- ↑ Froissart's Chronicles, Ch. CCCI. Cyfieithiad Arglwydd Berners, a fu farw yn 1532.
- ↑ Gweler Cymmrodorion Transactions, 1900: "A famous Powysland hero."
- ↑ Yr oeddwn wedi bwriadu cael darlun o Eglwys Léger i'w roddi wrth ochr Plas yn Dinas, ond cefais air gan Faer St. Léger yn dywedyd ddarfod ddistrywio yr hen eglwys yn 1884.
- ↑ Gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, December, 1928.
- ↑ Gweler Guizot: History of Civilization (Cyf. Saesneg), III, 108 et. seq.
- ↑ Gweler Barnard yn Companion to English History, 44.

XV. Bywyd Milwrol—Y Castell.
Nowe we see the owlde Castles of Wales from whence in owld tyme issued out dayly our destroyers and disinheritours all in ruyn and decaye and on the contrary the howses of the gentlemen and people to flourish and increase which most commonly burnt once every yeare in tymes past. This is a joyfull metamorphosis for Wales—GEORGE OWEN.
PRIN yn sicr y mae adran o orllewin Ewrop â chynifer o gestyll ynddi, yn ôl ei maint, â Chymru yn enwedig y de.[1] Er tlysed rhai o'r adfeilion heddiw, offeryn gorthrwm fu'r castell yn ein hanes, a dengys eu rhif chwerwed fu'r brwydro cyn llwyddo o'r gelyn i ddarostwng y wlad. Ond rhaid cofio nad y castell carreg godidog yw'r unig un a haedda sylw. Y ffurf gyntaf oedd y castell pren y ceir ei olion ym mhob cymwd bron. O astudio y rhain y ceir y syniad gorau am ddatblygiad y castell a'r lle amlwg oedd iddo ym mywyd y cyfnod.
Dywedir wrthym nad yw hanes milwriaeth namyn ymdrech ddidor, yn ymestyn dros ganrifoedd o amser, rhwng y gallu ymosodol a'r gallu amddiffynnol. Perffeithrwydd amddiffyniad a geir yn y castell. Yn wir, cyrhaeddodd cestyll cerrig yr oesau canol y fath radd o berffeithrwydd fel mai amhosibl oedd eu darostwng heb newynu'r garsiwn neu dorri ymaith y cyflenwad dŵr trwy wenwyno'r ffynhonnau neu ryw ystryw cyffelyb. Ond rhoddodd darganfod y powdr gwn yr oruchafiaeth i'r ochr ymosodol, a darfu am ddiogelwch y castell am byth.
Gwyddys mai'r Gaer neu'r Ddinas oedd cadarnle yr hen Gymry gynt, ac nad oes odid foel yng Nghymru sydd mewn safle manteisiol na cheir un o'r dinasoedd hyn ar ei chorun. Maent, fel rheol, ar ben y mynydd, ac o ganlyniad mewn lleoedd amlwg, gerwin. Saif Caer Drewyn uwchben tref Gorwen, yn agos i 1,000 o droedfeddi uwchben arwynebedd y môr; Pen Dinas, Aberystwyth, 413 o droedfeddi; Moel Fenlli, uwchlaw Dyffryn Clwyd, 1,676 o droedfeddi, a'r Gaer, Llanbedr, Meirion, 1,225 o droedfeddi. At hyn, gorchuddir cryn fesur o dir ganddynt. Yn wir, Dinas yw'r gair gorau i'w disgrifio, oherwydd trefydd neu bentrefydd caerog ydynt, ac ynddynt y byddai'r bobl yn byw. Nid amddiffynfeydd rhyfel mohonynt, ond cartref beunyddiol cadarn, caerog, ac o'u chwalu ceir goleuni diddorol ar ddull ein hynafiaid o fyw. Pan ddaeth y Rhufeiniwr i'r wlad, fe ddewisodd ef safle llawer is a mwy cysgodol. Nid yw Caerhun ar Gonwy ond rhyw 60 troedfedd uwchlaw arwynebedd y môr; yn wir, nid yw ond ychydig yn uwch na llinell yr afon pan fo'n llif yn nyffryn Conwy. Saif y Gaer ym Mrycheiniog tua 500 o droedfeddi uwchlaw'r môr, ond nemor uwchlaw'r afon sy'n ei hymyl, ac y mae Caer Gai hefyd tua'r un uchder. Tomen y mur—900 troedfedd—yw'r gaer uchaf yng ngogledd Cymru.[2] Nid yw'r Gaer-yn-arfon fwy na rhyw 150 troedfedd uwchlaw afon Seint ac afon Fenai. Bechan iawn oedd y gaer Rufeinig—dim ond lle i ryw fagad o filwyr fedru byw'n ddiogel. Dibynnai'r Rhufeiniwr am ei ddiogelwch nid ar gadernid y gaer ei hun, ond ar y ffaith bod ei gaer mewn cysylltiad cyson, trwy gyfrwng y priffyrdd hwylus, â chaerau eraill, ac y gellid ar hyd y priffyrdd hynny anfon lleng gref o filwyr i amddiffyn unrhyw gaer a fyddai mewn trybini. Pan oresgynnwyd yr hen ymherodraeth a thorri'r cysylltiad organyddol oedd wedi clymu caer wrth gaer am gannoedd o flynyddoedd, peidiodd
y gaer â bod o unrhyw werth milwrol, ac nid ymddengys y bu iddi unrhyw ddylanwad ar ffurf castell yr oesau canol.
Er hynny, perthyn y gair caer a'r gair castell yn agos i'w gilydd. Golygai "Castrum " yn Lladin le cadarn wedi ei amgylchu â mur. Yn y rhif lluosog daeth i olygu gwersyllnifer o leoedd cadarn gyda'i gilydd. Golygai "castellum" gaer fach ar y cyntaf, ond yn ddiweddarach daeth i gael ei ddefnyddio am bentref neu dref gaerog, ac weithiau am dref neu bentref heb furiau, ond bychan fyddai nifer y pentrefi oedd heb ryw fath o amddiffyn iddynt, fel y gwelsom yn hanes dinasoedd y Cymry. Pentref neu dref o'r fath a olygir wrth "burh" y Sais a "bourg" y Ffrancwr, Ond erbyn y ddegfed ganrif yr oedd y barwn ffiwdal wedi dechrau adeiladu lle cadarn iddo'i hun ac yn ei ddefnyddio i gadw'i gymdogion dan draed. Gelwid hwn yn Gastell, a dyma'r castell fel y ceir ef yng Nghymru ac ym mhobman yn Ewrop—adeilad mwyaf nodweddiadol yr hen gyfundrefn ffiwdal.
Cyfnod tywyll iawn yn hanes datblygiad amddiffynfeydd yw'r cyfnod rhwng y bumed a'r ddegfed ganrif. Caddug sy'n gordoi'r cyfnod, ac er bod brwydro beunyddiol nid oes fawr wybodaeth am y modd yr ymleddid ac nid oes yn aros ond ychydig o'r amddiffynfeydd. Rhyw ysgarmes waedlyd oedd y mwyafrif o'r brwydrau, heb fawr drefn na chynllun. Dichon mai'r peth â mwyaf o ôl trefn a chynllun arno a fedd y gorllewin yn perthyn i'r cyfnod hwn yw'r clawdd a gododd Offa i geisio cadw'r Cymry rhag ymosod yn ddisyfyd ar wastadeddau breision y goror, ond pe bai'n gwybodaeth yn ehangach, diau y gallem weled dechreuadau'r castell rywle yn y cyfnod hwn.
Y mae eisoes gryn ddadlau wedi bod yn Lloegr ar gwestiwn tarddiad y castell. Priodolid y castell pren, fel y galwem ni ef, gan haneswyr yn gyffredin a hyd yn oed gan y rhai mwyaf gofalus, fel y diweddar G. T. Clark, i waith y Saeson. Datblygiad ydoedd, meddai'r haneswyr hyn, o "burh" Adeiladodd Alffred Fawr leoedd o'r fath yn ystod y cyfnod y bu yn brwydro â'r Daniaid, ac yr oedd ganddynt hwythau hefyd amddiffynfeydd tebyg. Ond trefydd caerog oedd "burhs" Alffred, a ddefnyddid yn amser rhyfel yn unig ac yn agored i bawb ffoi iddynt. Nid tŷ personol cadarn yr arglwydd ydoedd, a dyna a'i gwahaniaetha oddi wrth y castell.
Ond llwyddodd J. H. Round a Mrs. Armitage i brofi mai Normanaidd yw'r rhan fwyaf o lawer o'r cestyll hyn.[3] Dywed

Orderic Vitalis,[4] Norman a fagwyd ar ororau Cymru, mai ychydig o'r hyn a elwid yn gestyll oedd gan y Saeson cyn dyfod y Norman. Mwy na hyn, ceir nifer ohonynt yng nghanol y wlad yng Nghymru lle na fedrodd y Saeson dreiddio erioed. Erbyn hyn, nid oes le i amau mai'r Norman biau'r castell, ond nid yw hynny yn golygu nad oedd rhai yn bod cyn 1066.
Diddorol yw sylwi mai ar ororau Cymru, yn swydd Henffordd, yr adeiladwyd y cestyll hyn gyntaf, y mae'n debyg. Yr oedd hynny yn nyddiau Edward Gyffesydd, gŵr oedd â mawr gariad at bopeth Normanaidd. Efô a roddodd hen dref Henffordd yn eiddo i Rolff, mab ei chwaer, ac efô a ddaeth â haid o farwniaid Normanaidd, fel Richard fab Scrob, Osbern Bentecost, ac eraill, gydag ef.[5] Yn fuan iawn ceir hwy yn adeiladu "cestyll" o amgylch Henffordd, fel Castell Richard, ryw ugain milltir i'r gogledd, a chastell Ewyas, ryw ddeuddeng milltir i'r gorllewin, a adeiladwyd gan Osbern Bentecost. Saif y domen yr adeiladodd Rhisiart ei gastell arni o hyd, a bu castell Ewyas yn adeilad o gryn bwys unwaith. Yr oedd rhyw gyfran o'r muriau ynghyda'r capel yn sefyll yn nyddiau Leland.[6] Dengys yr atgasedd a deimlid at y Normaniaid trahaus hyn beth oedd barn y Saeson amdanynt, a'r gorthrwm a ddeilliai o'r cestyll. Gorfu i Bentecost adael ei gastell yn y man, a disgynodd y gwaith o'i ail-adeiladu yn nyddiau'r Concwerwr i ran William Fitzosbern, Iarll Henffordd—un o'r gwŷr a fu'n ymladd o blaid William yn Selnac pan syrthiodd coron Loegr i'w ran.
Ffurfir y castell Normanaidd o ddwy adran, y Domen—neu y "Motte" fel y galwent hwy ef—a'r Beili. Dewisid lle cadarn i osod y castell arno, weithiau ar ben craig fel Harlech; bryd arall ar fryncyn yn codi ychydig uwchlaw arwynebedd y dyffryn, fel Tomen y Rhodwydd ar y ffordd rhwng Wrecsam a Rhuthyn. Dro arall fe'i ceir bron ar lawr y dyffryn, a'r domen yn codi ohono; ond pa le bynnag y ceir ef, a pha mor wych bynnag y dichon yr adeilad fod, ni all guddio'r ddwy adran y gwneir ef ohonynt.
Nid oes, fe ddichon, well enghraifft o gastell o'r fath na chartref Glyn Dŵr yn Sycharth, "Buarth y Beirdd." Yn gyntaf, ceir tomen a ffos ddofn o'i hamgylch—dyna " Motte " mrwydr Falkirk yn 1298 yr oedd Wallas wedi trefnu ei fyddin yn bedair rhan—"schiltrons," fel y geilw'r croniclau hwy—ac er ceisio yn ddygn methai'r gwŷr meirch a'u syflyd. Ond pan alwodd Edward y gwŷr meirch yn ôl a rhoi cyfle i'r saethwyr gwŷr o'r de yn bennaf—fe drodd y frwydr o'i du. Ym mrwydr Crecy, 1346, yr oedd y marchogion yn eu holl rwysg fel cynrychiolwyr Ffiwdaliaeth ar ei gorau. Gosododd Edward III ei wŷr meirch yn y canol a'r saethwyr o boptu iddynt. Cyn i'r Ffrancod gael amser i anelu gyda'u bwâu croesion, yr oedd y Saethwyr yn eu medi i lawr nes y gorfu iddynt gilio o'r ffordd. Yna dechreuodd y gwŷr meirch garlamu i gyfeiriad y fyddin Seisnig, ond ni allent gyrraedd eu nod. Lleddid march a marchog fel ei gilydd. Dywedir i farchogion Ffrainc wneud ymdrech gyffelyb tua phymtheg gwaith, ond bob tro yn aflwyddiannus. Gadawyd pymtheg cant o farwniaid Ffrainc a'i marchogion—hufen ei chyfundrefn—a thros ddeng mil o wŷr traed yn gelanedd ar y maes.[7]
Gyrrodd y fuddugoliaeth hon ias trwy galon Ewrop, a phan wnaed yr un peth drachefn yn Poitiers, yr oedd yn bryd credu bod tro ar fyd wedi dyfod yn hanes arfau rhyfel.
Yn ffodus, y mae gennym gryn lawer o fanylion am y rhan a fu i'r Cymry yn y brwydrau hyn. Yr oedd Cymry wedi bod yn brwydro ym mrwydrau Edward yn Fflandrys yn 1297, cyn eu defnyddio yn Ysgotland, a chafodd hen groniclydd o'r wlad honno hwyl wrth syllu ar arferion od y bobl o Gymru bell.10 Lodewyk van Velthem oedd enw'r croniclydd. Gweler erthygl ddiddorol gan Mr. D. L. Evans o'r "Public Record Office" yn Cymmrodorion Transactions, 1925—26: "Notes on the History of the Principality of Wales in the time of the Black Prince (1343—76)." Daeth Edward," meddai, " â nifer o filwyr gydag ef o Gymru, gyda rhai o Loegr hefyd. Daethant i Ghent, ac yno gellid astudio arferion nodedig y Cymry. Rhedent oddi amgylch yn droednoeth hyd yn oed yn nyfnder gaeaf. Gwisg— ent fath o gochl goch amdanynt. Nid oedd bosibl eu bod yn gynnes yn honno. Pan gaent arian gan y Brenin, fe'u gwarient ar laeth ac ymenyn. Nid oedd waeth ganddynt ymhle yr yfent ac y bwytaent. Ni welais hwy erioed yn arfog. Sylwais yn fanwl arnynt i weled pa arfau amddiffyn oedd ganddynt yn myned i ryfel. Eu harfau oedd bwa a saeth, cleddyfau a phicellau. Gwisgent liain yn nesaf at y croen. Yr oeddynt cestyll trymion, cerrig, sydd mor nodweddiadol o gyfnod diweddarach yn hanes y Norman, a hynny am y rheswm syml na allai'r domen ddal y pwysau.
Y cam cyntaf oedd ceisio cadarnhau'r lle trwy godi muriau cerrig arno. Gwneid hyn, fel rheol, trwy godi tŵr cadarn ar ben y domen, ac ymddiried yn hwnnw am ddiogelwch. Tŵr felly yw'r Tŵr Gwyn yng nghastell Llundain, ac un o'r rhai cyntaf a adeiladwyd. Ychydig enghreifftiau sydd gennym o'r datblygiad hwn yng Nghymru, ond y mae tŵr yng nghastell Caerdydd ar fryncyn—y domen gynt—ryw 30 troedfedd uwchlaw arwynebedd y lawnt. Y mae tŵr sgwar yn Goodrich, a hefyd yn Llwydlo, ar y goror, a thwr crwn ym Mhenarlâg. Ond cyfyng iawn, wrth gwrs, oedd y nodded a roddai'r tŵr ; prin yr oedd ynddo ddigon o le i deulu'r Castellwr.
Y cam nesaf, ynte, oedd codi mur o gylch y Beili hefyd a chysylltu hwnnw â'r tŵr, os byddai un, a dyma gynllun sydd yn lled gyffredin yng Nghymru. Nid oedd llawer o drefn y tu ôl i gynllun o'r fath, a buan iawn y deallwyd bod angen rhywbeth mwy. Yr oedd i'r cynllun hwn, wrth gwrs, ei fanteision—yr oedd mwy o le y tu mewn i'r castell, er enghraifft—ond ar y llaw arall hawdd iawn oedd i'r gelyn gloddio dan sail y muriau heb wybod i'r sawl fyddai oddi mewn. Felly rhoddwyd tŵr ym mhob tro yn y mur fel y gellid gweld ar hyd—ddo a saethu hefyd os byddai angen. Ceid felly dwr ym mhob cornel i'r castell; y mae un ar ddeg o'r tyrau hyn yng Nghaernarfon, a chyfrif y ddau wrth y porth, ac wyth yng Nghonwy. O'u cymharu â chestyll fel Harlech neu Fiwmares, ymddengys y rhain yn lled ddigynllun; dichon fod ei safle yn cyfrif am hyn, a'u bod hefyd, efallai, yn sefyll ar seiliau adeiladau cynharach.
Ond lle cai'r cynllunydd gwbl ryddid i adeiladu yn ôl ei farn ei hun, yr oedd y cynllun yn berffeithiach o lawer. O edrych ar gynllun castell Biwmares neu Gaerffili a gyfrifir gyda'r perffeithiaf yn y wlad—gwelir mai hanfod y cynllun oedd cael mwy nag un plisgyn am yr amddiffynfa. Cyn y medrid gorchfygu castell fel Caerffili, rhaid oedd torri i lawr o leiaf dair amddiffynfa. Yng nghanol y castell hwnnw ceir adeilad sgwâr gyda thŵr ar bob cornel iddo a phorth yn agor iddo o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin. Y tu allan i hwn yr oedd mur arall bron ar yr un cynllun, ond lawer yn îs a thyrau ym mhob cornel iddo. Cyfyng iawn yw'r lle rhwng y ddau fur, a gellir o'r mur nesaf i mewn weld pob congl o'r llall.

Ceir pyrth eto yn y muriau hyn i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin fel o'r blaen. Yna ceir y ffos, neu'r llyn fel a geir yng Nghaerffili. Ym mhen gorllewinol y llyn yr oedd lle pwrpasol cadarn a phont yn arwain drosto i'r castell. Yma y byddid yn arfer llochesu'r anifeiliaid. Ar du'r dwyrain yr oedd mur cadarn arall a thu allan i hwnnw ffos arall. Y tu ôl i'r mur yma yr oedd y felin ac adeiladau eraill. Gelwir castell o'r fath yn gastell creiddiol (concentric). Cyn y gellid ei orchfygu, rhaid oedd torri trwy fwy nag un haen, ac ni lwydd— odd neb i orchfygu castell Caerffili yn ystod yr oesau canol.[8] Gwelir y cynllun yn ei berffeithrwydd yng Nghaerffili, i fesur llai perffaith ym Miwmares, a llai drachefn yn Harlech.
Y mae gennym gryn lawer o fanylion ynglŷn ag adeiladu cestyll y gogledd, trwy fod Gwynedd wedi syrthio i ddwylo brenin Lloegr a bod rhaid i'w swyddogion ef roi cyfrif manwl o'u goruchwyliaeth. Dechreuwyd adeiladu, yng Nghaernarfon, Conwy a Harlech, cyn diwedd 1283, ac yng Nghricieth a'r Bere yn union wedyn. Yn ystod 1284 gwariodd Edward dros £7,000 ar y tri chyntaf yn unig ac mewn saith mlynedd yr oeddis wedi gwario cymaint arall a hynny, a chafwyd cryn drafferth i gael digon o arian i yrru'r gwaith yn ei flaen.[9] Byddai gwrthryfeloedd y Cymry hefyd yn ymyrryd â'r gwaith; er enghraifft, gwrthryfel Rhys ap Meredydd yn 1287, pryd, meddir, y cymerodd John de Havering, cwnstabl castell Caernarfon, gynifer â 120 o seiri coed a maen, gofaint a chwarelwyr, gydag ef i ymladd. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt, y mae'n sicr, yn gweithio ar y castell. Codwyd gwrthryfel arall yn 1294, pryd y llwyddodd y Cymry i gymryd y dref a'r castell.[10] Henry de Ellerton oedd y pensaer neu'r cynllunydd. Gweithiai am 14/- yn yr wythnos, ac y mae ei gastell a'i rimyn carreg goch yng nghanol y lwyd gyda'r harddaf, os nad yr harddaf oll, o gestyll Ewrop. Cai'r clerc 2/7½ yn yr wythnos. Wyth geiniog y dydd ydoedd cyflog saer maen. O chwarel Aberpwll y cafwyd y garreg, a byddai pump o Gymry yn rhwyfo'r cwch a'i cyrchai. Yr oedd rhyw gymaint o'r gwaith yn orfodol. Byddai raid i'r taeogion gynt, yn ôl cyfraith Hywel, gymryd eu rhan yn adeiladu llys y brenin, a chymerodd Edward fantais ar yr hen arfer i adeiladu ei gestyll.
Tebyg oedd pethau ar y gororau. Tenantiaid Llanfair Muallt fu'n cludo coed at wneud y castell yno, a chymydau Caerfyrddin a Cheredigion oedd yn gyfrifol am gludo coed i'r cestyll yn y siroedd hynny.
Amcan y castell, wrth gwrs, ydoedd cadw'r brodorion i lawr, a diddorol felly yw sylwi ar y garsiwn a gedwid ynddynt a'r celfi rhyfel oedd ar arfer yn eu mysg. Ymddengys fod mwy o filwyr yng nghestyll y gogledd yn ystod y blynyddoedd cyntaf nag a fu yno byth wedyn, oddieithr pan fyddai gwrth— ryfel yn galw am chwyddo'r nifer. Yr oedd yng Nghaernarfon ddeugain o filwyr, yn cynnwys pymtheg o saethwyr â'r bwa croes (wedi hyn y daeth y bwa hir i fri), un capten, un saer maen, un saer coed, un gof, un caplan, a deg o wasanaethyddion eraill, heblaw cwnstabl y castell.[11] Byddai'r nifer yn newid o dro i dro, ond dyma'r nifer, y mae'n debyg, pan fyddai'r garsiwn ar ei mwyaf. Ar ôl gorffen adeiladu cestyll, syrthiodd aml swydd i ddiddymdra, ond rhaid oedd cael rhywun a fedrai edrych ar ôl y darpariadau milwrol, ac yr oedd y saer maen yn angenrheidiol o hyd i ofalu am yr adeilad, ond erbyn dyddiau Elisabeth yr oeddynt oll wedi diflannu ag eithrio'r Cwnstabl a'r Drysawr.[12]
Swydd o gryn bwys oedd eiddo'r cwnstabl, oherwydd efô a fyddai maer y dref yn ogystal â chwnstabl y castell. Byddai bywyd politicaidd ac economaidd ansicr y dref Normanaidd dan ei ofal yn ogystal â bywyd milwrol y castell, ac oherwydd hyn, Sais neu Norman a fyddai'n gwnstabl fel rheol. Fel arfer, rhyw gant o farciau yn y flwyddyn fyddai ei dâl, a disgwylid iddo fedru cadw nifer penodedig o filwyr allan o'r cyflog hwnnw. Os gofynnid iddo gadw mwy na'r nifer penod— edig, câi dâl ychwanegol. Ni byddai'r nifer y disgwylid iddo eu cadw yn fwy na thua un ar bymtheg, ar gyfartaledd, a chedwid llai na hynny yn aml. Deg neu ddeuddeg fyddai ym Miwmares fel rheol, ac wyth neu ddeg yng Nghonwy, a phender— fynodd y Tywysog Du gadw pump yng Nghricieth ar ei gost ei hun, a thalu iddynt 4c. yn y dydd. Erbyn amser y Tudur— iaid, yr oedd y cestyll wedi mynd bron yn ddiwerth. Dywed Bulkeley, yn 1539, fod Conwy, Caernarfon a Harlech yn y fath gyflwr na ellid eu hamddiffyn am ddiwrnod, ac nad oedd Biwmares fawr gwell.[13]
Un o brif anawsterau bywyd y castell, wrth gwrs, ydoedd sicrhau bwyd a diod i'r sawl oedd yn gorfod byw yno. Rhaid oedd nid yn unig ddarparu ar gyfer anghenion beunyddiol, ond hefyd gadw mewn cof y posibilrwydd iddynt gael gwarchae arnynt. Nid rhyfedd, felly, y pwys a roddid ar y Stôr Fawr, chwedl pobl Caernarfon. Mesurai ysgubor Castell Caernarfon, a adeiladwyd rhwng 1315 a 1322[14] , ugain troedfedd bob ffordd, ac ysgubor Harlech bymtheg troedfedd wrth ddeg troedfedd ar hugain. Erys yn y rhan fwyaf o'r cestyll olion yr hen neuaddau lle byddid yn gwledda gynt. Mesura un Caernarfon tua 100 X 44 troedfedd, gyda'r uwchlawr (dais) yn y pen gorllewin a'r gegin ar draws y Beili yn ochr Tŵr y Ffynnon. Yma hefyd yr oedd y bragdy, a gwelir eto ôl y crochannau lle bu'r brâg yn furum unwaith. Neuadd neilltuol yw'r un yng Nghastell Harlech, a adwaenir yn y llawysgrifau fel "Styngwerne Halle.' Mesura 15 X 42 troedfedd, a dygwyd hi yno o Ystumgwern, hen faenor a berthynai i Lywelyn y Llyw Olaf. Adeilad coed ydoedd, yn ddiamau, fel nad oes dim bron yn aros, ond yn yr hyn a wyddom amdani cawn batrwm o hen neuadd y tywysog Cymreig.[15]
Pwysicach na dim oedd y ffynnon, a'r syndod yw sut y llwyddid i gael dŵr mewn lle fel Castell Dinas Brân, ond wele yno "mae ffynnon lân i 'molchi." Yn Nhŵr y Ffynnon y mae ffynnon Castell Caernarfon, a ffynnon Castell Harlech yn y graig dan y mur gerllaw'r popty. Y mae ffynnon Castell Caernarfon yn 45 troedfedd o ddyfnder, gyda chwe throedfedd yn y graig, ac nid oes byth brinder dŵr yno.
Un amcan wrth sefydlu tref wrth droed castell oedd ceisio sicrhau'r nwyddau angenrheidiol trwy gyfrwng masnach. Ond nid oedd Edward yn fodlon i ymddiried ar drugaredd y Cymry am ymborth i'w gestyll. Trefnodd fod i bob castell gael cyfran o ymborth gan bob cymwd yn ei gymdogaeth; er enghraifft, cymydau Creuddyn, Arllechwedd Isaf ac Uchaf, a Nantconwy oedd i ofalu am stôr Conwy. Oddi ar law Nant— conwy, gofynnid bustach a hanner a buwch a hanner, neu eu gwerth, sef 25/— bob blwyddyn. 11/8 oedd y swm a ofynnid oddi ar Greuddyn. Yn yr un modd, câi Caernarfon yr un swm gan Uwchgwyrfai, Isgwyrfai, a 16/8 o Dinllaen, a chyffelyb oedd y drefn ynglŷn â'r cestyll eraill.[16] Y mae'n ddigon tebyg i Edward ddarganfod mor hwylus oedd adfywio un arall o hen ofynion cyfraith Hywel Dda, sef y dawn bwyd a oedd yn ddyledus i arglwydd y cymwd.

Er i'r arglwyddi Cymreig fabwysiadu'r cynllun Normanaidd o adeiladu cestyll, perthyn i rai ohonynt nodweddion a'u gwahaniaetha, i fesur beth bynnag, oddi wrth greadigaeth y Norman ei hun.
Dewisai'r Cymro, fel rheol, safle mwy anhygyrch, fel Deganwy neu Gaer Gynan, neu Harlech, lle y mae'n debyg yr oedd castell cyn dyddiau Edward, ond yr oedd cestyll y Norman mewn lle— oedd is ac yn fynych iawn ar lan afon, ychydig uwchlaw llanw'r môr, fel y mae cestyll Conwy, Caernarfon, Llanstephan, Cydweli, Caerfyrddin ac eraill. Dichon y gwelir y cynllun nodweddiadol Gymreig ar ei orau yng nghestyll yr Arglwydd Rhys yn Ystrad Tywi. Yr oedd y llanw Normanaidd eisoes wedi llifo dros Fro Morgannwg ac wedi cyrraedd Penfro a gwaelod Ceredigion, ond parhai Ystrad Tywi ym meddiant y tywysogion Cymreig o hyd, er bod Caerfyrddin, ar drothwy eu hetifeddiaeth, yn nwylo brenin Lloegr, a Llanstephan a Chyd— weli yn eu hatal rhag ymestyn eu terfynau.
Yn Ninefwr, fel y gwyddys, yr oedd prif lys tywysogion y de, ac yno adeiladwyd castell cerrig cadarn. Saif y castell uwchben hen dref Landeilo ar ddarn o dir sy'n ymestyn i gyfeiriad afon Dywi. Y mae dwy ochr i'r clogwyn y saif arno yn hollol syth, a'r drydedd—yr unig un y gellir ei dringo—yn serth iawn. Nid oes i'r castell ond un cwrt, a chynnwys hwnnw gorun y bryncyn i gyd. Y mae ynddo dri thwr nodweddiadol —dau ohonynt yn sgwâr, a'r trydydd yn grwn ar lun y donjon a geir yng nghastell Penfro. Dengys y mân ystafelloedd sydd yn y tyrau hyn mai yma y trigai teulu'r Arglwydd Rhys.
Ymhellach i lawr afon Dywi, i gyfeiriad Caerfyrddin, ar fryncyn lle culha'r afon ac y ceir cyfle godidog i wylio symud— iadau gelynion o gyfeiriad Caerfyrddin, saif castell y Dryslwyn, yntau eto mewn safle hynod gryf. Ond y mwyaf anhygyrch ohonynt i gyd yw castell Caer Gynan, neu Gerrig Cennin, fel y gelwir ef weithiau oddi wrth y dyffryn cul y saif ynddo. Ymgyfyd ei dyrau fel petaent wedi tyfu o'r graig, ac ni ellir dringo ato ond o un cyfeiriad yn unig. Y mae nodweddion arbennig hefyd yn perthyn i'r adeilad. Y mae'n debyg y teimlai Rhys y buasai Caer Gynan yn lle ardderchog i ffoi iddo pe cymerid ei gestyll eraill. Ysgwâr yw'r adeilad, ac nid oes yma olion eraill o fath yn y byd am y rheswm syml nad oedd eisiau amddiffynfeydd ychwanegol mewn lle mor gadarn. Y mae iddo nifer o dyrau, rhai yn grynion ac eraill yn ysgwâr. Ymddengys un ohonynt fel pe bai wedi ei lunio yn y fath fodd ag y gellid ei amddiffyn hyd yn oed pe cymerid y gweddill o'r castell.
Awgryma W. J. Hemp, mewn erthygl ddiddorol yn y Cymmrodor, Cyfrol XXXIX, i'r adeiladwyr Cymreig adael rhyw gymaint o'u hôl ar gynllun y castell, fel y ceir ef mewn ambell fan yng Nghymru. Myn ef fod yn y cestyll hyn dŵr, a elwir ganddo ef yn dŵr Cymreig, i'w wahaniaethu oddi wrth y tyrau eraill. Yr oedd y tŵr—y Keep, fel y ceir ef ar y dechrau yn sgwâr. Ceir enghraifft dda o'r Keep sgwâr yng nghastell Goodrich, yn swydd Henffordd, ar ororau Cymru, ond erbyn 1100 yr oedd y tŵr crwn wedi ymddangos yn Ffrainc, ac yr oedd i ddyfod i'r wlad hon yn ddiweddarach.
ddiweddarach. Fe'i ceir yng nghastell Penfro tua 1200. Yr oedd i'r tŵr sgwâr anfanteision amryw. Yr oedd y tŵr crwn yn gadarnach o lawer, ac ar gyfrif ei ffurf yr oedd yn fwy anodd torri i mewn iddo.
Ond datblygodd y Cymry dŵr oedd yn sgwâr un ochr—yr ochr i mewn—ac yn grwn y tu allan, a chyfuno felly nerth y tŵr crwn i sefyll yn erbyn ymosodiad a manteision tŵr sgwâr yn yr ystafelloedd oddi mewn. Gwelir y tŵr nodweddiadol hwn yng nghastell Eulo yn Sir Fflint. Gresyn fod castell Dinas Brân wedi adfeilio cymaint. Y mae sail gref i gredu bod yno hefyd nodweddion Cymreig. Yr oedd yno gastell yn fore iawn. y mae'n debyg. Yn chwedl Fulk Fitzwarine dywedir bod y castell yn adfail mor fore â 1073, ond ni ellir rhoi llawer o goel ar y chwedl honno.
Perthynai nodweddion arbennig hefyd i hen gestyll Dol— wyddelan a Dolbadarn. Tŵr sgwâr sydd i gastell Dolwyddelan, a thŵr crwn i un Dolbadarn. Dyma'r Keep, fel y geilw'r Saeson ef—yr ail ris yn natblygiad y castell Normanaidd. Gwelir y Keep yn aros weithiau yn sgwâr, fel yn Goodrich, weithiau yn grwn, fel ym Mhenfro, ymhlith adeiladau eraill a godwyd yn ddiweddarach yn hanes datblygiad y castell. Tybir i gestyll Dolyddelen a Dolbadarn gael eu hadeiladu gan dywysogion Gwynedd ar gynllun Normanaidd. Bodlonwyd ar y tŵr sgwâr neu grwn heb unrhyw ddatblygiad pellach.
Saif Castell Aberlleiniog, Môn, ar y llaw arall, ar ei ben ei hun fel enghraifft fore o gastell Normanaidd yng Nghymru. Ond y mae anhawster yn codi ynglŷn â'r tŵr—y Keep sydd ar y domen—gan na ddaeth y tŵr yn gyffredin hyd y ddeu— ddegfed ganrif. Codwyd Aberlleiniog gan Huw Caer yn 1096.
Yr oedd cestyll yr oesau canol fel amddiffynfeydd ymhell uwchlaw gallu unrhyw erfyn ymosodol oedd ym meddiant y cyfnod. Er hynny, byddai cestyll, er cryfed oeddynt, yn syrthio o bryd i bryd. Syrthiodd Harlech, er ei gadernid, dair gwaith yn ystod y bymthegfed ganrif yn 1404 i Owain Glyn Dŵr, yn 1408 i'w elynion, ac yn 1468 i William Arglwydd Herbert yn ystod Rhyfel y Rhosynnau.[17] Bu hir y brwydro bob tro, a newyn yn y diwedd a roddodd y fuddugoliaeth i'r gwarchaewyr.
Y mae'r peiriannau ymosod hefyd yn haeddu sylw. Un ffordd hwylus ac effeithiol oedd taflu pont dros argae'r castell a gosod ysgol i orffwys ar y mur ac yna i nifer o filwyr fyned i fyny ar hyd-ddi ac i lawr un arall yr ochr draw cyn ddistawed ag y medrent. Gwneid hyn fel rheol yn nyfnder nos, a'r syndod yw mor aml y llwyddai'r ystryw. Dywedir bod gan Lyn Dŵr nifer o ysgolion o'r fath, yn ogystal â pheiriannau, pan ymosododd ar gastell Caernarfon yn 1404.[18] Cyn y gallai cynllun o'r math yma lwyddo, rhaid oedd dal y garsiwn pan na byddent ar eu gwyliadwriaeth, ac nid yn aml y byddai hynny. Wedi methu o gynllun dirgelaidd disymwth o'r fath, nid oedd dim i'w wneud ond dwyn y peiriannau ymosod at y gwaith. Un o'r taclau mwyaf adnabyddus ydoedd math ar dafl—beiriant a adwaenid fel "trebuchet," ac a ddefnyddid i daflu cerrig. Dywed un hen awdur Ffrengig y gellid anelu mor gywir gyda'r peiriant hwn nes y medrid "taro nodwydd." "rhaid Pan ddefnyddir ef wedi nos," medd yr un awdur, rhoi golau wrth yr ergyd er mwyn cael gweld lle y tery." Yr oedd hefyd beiriant arall a adwaenid fel "arbalast"[19] ; fe daflai hwn saethau blaenllymion gyda'r fath rym nes yr aent trwy nifer o ddynion y naill ar ôl y llall. Fe'i defnyddid ef hefyd i daflu ffagodau i'r castell.
Anaml y defnyddid yr hwrdd, am nad oedd yn ddigon cryf i dorri i lawr furiau trwchus yr oesau canol; a hyd yn oed pe medrid curo'r drws derw i mewn gyda'r hwrdd yr oedd y portcullis wedyn sef y glwyd bigfain, wedi ei gosod mewn ffram, oedd yn cael ei chodi a'i gostwng hwyr a bore.
Yr oedd y tŵr ymosod yn beiriant lled boblogaidd. Tŵr oedd hwn o uchder mur y castell, a grisiau oddi mewn iddo i'r milwyr ddringo i'w ben. Oddi ar ben y tŵr gallent ymladd law yn llaw â'r sawl fyddai ar furiau'r castell, neu fwrw ffagodeu ar yr adeiladau y tu mewn i'r mur.

Mwy effeithiol o lawer oedd cloddio dan seiliau'r muriau a'r tyrau a gosod rhes o goed i ddal y pwysau tra byddai'r mwynwyr wrth y gwaith ac yna eu llosgi. Syrthiai'r mur yn ei bwysau, a rhuthrai'r ymosodwyr i mewn trwy'r bwlch. Byddai gan y mwynwyr hyn, fel rheol, ryw fath o do uwch eu pennau, a defnyddid pob ystryw gan garsiwn y castell i'w ddinistrio—megis trwy hyrddio cerrig neu dywallt dŵr neu olew berwedig arno. Yr oedd yn y prif gestyll lwybr crog y tu allan i furiau'r castell, ac ynddo wagle yma ac acw, a thrwy y rhain y bwrid pethau o'r fath, Yr oedd yn y castell, wrth gwrs, arfau tebyg i'r arfau hyn, a bwrid saethau allan yn gawodau trwy ugeiniau o agennau pwrpasol. Sonia y Brutiau am Hywel ab Owen Gwynedd yn gwneuthur peiriannau a fwriai gerrig mawrion ac "a dorrai muriau mewn modd rhyfeddawl.' Y mae ar gael gân gan Gynddelw Brydydd Mawr yn disgrifio "Tŵr Cynfael yn cwyddaw" (cwympo) o flaen ei ymosodiadau, a dywed Brut y Tywysogion ddarfod i Hywel ymosod ar Gastell Cynfal yn 1146.
Cyfeirir at beiriant ymosod yn hanes yr ymosod a fu ar gastell y Dryslwyn. Dechreuodd yr ymosod ar y pymthegfed o Awst, 1287, ac yr oedd gan y brenin gynifer ag 11,000 o filwyr. Am ryw bythefnos yn unig y parhaodd y gwarchae. Llwyddodd y peiriant i dorri trwy fur y capel, a chloddiodd y mwynwyr dan ei sail a llanwasant y ffos. Syrthiodd rhan o'r mur, fodd bynnag, ar William de Montchensy a marchogion eraill, ond er hynny syrthio a wnaeth y castell, a hynny ar y pumed o Fedi.[20]
Wedi iddo orffen ei waith yn y Dryslwyn, aed â'r peiriant i Gastell Newydd Emlyn.[21] Yr oedd gosgorddlu cryf yn ei wylio ar y daith; yr oedd yno dri marchog a'u ceffylau barbediog,[22] pob un yn cael 1/- yn y dydd, 18 o farchogion eraill ar geffylau, ond heb fod yn arfog, ar gyflog o 6d. y dydd, a 4,630 o wŷr traed yn cael 2d. y dydd. Yr oedd 16 o geffylau a nifer o ychen at wneud dim ond cario plwm a cherrig i'r peiriant eu taflu. Rhoir cyfrif o gyflogau'r seiri a'r gofaint a fu'n codi'r peiriant, a cheir sôn am ddau beirianydd—hwy oedd yn ei weithio, y mae'n debyg.
Wedi'r cyfan, fodd bynnag, gelynion pennaf y cestyll oedd newyn a haint a phrinder dŵr. Rhyfedd mor llwyddiannus oeddynt i ddyfod o hyd i ddŵr mewn lleoedd fel Harlech neu Gastell Cynan. Y mae yn yr olaf risiau yn disgyn i lawr at y ffynnon yng nghrombil y clogwyn. Ond er gwyched eu cyflenwad dŵr, prin yr oedd gastell yn y wlad na byddai raid iddo ildio os medrai'r gelynion barhau i'w warchae a chadw nwyddau ac adgyfnerthion draw. Felly y bu yn Harlech yn y blynyddoedd a nodwyd. Yr oedd golwg druenus iawn ar deulu Glyn Dŵr pan syrthiodd y castell i ddwylo'r Saeson yn 1409, a chyffelyb oedd hanes y Normaniaid gwarchaeedig pan gymerodd Glyn Dŵr ef ryw bum mlynedd cyn hynny.
Y mae ar gael lythyr torcalonnus wedi ei sgrifennu gan un o farchogion Edward I pan oedd y brenin hwnnw yn adeiladu castell Conwy. Yr oedd Edward ei hun, fe ymddengys, yng nghastell Deganwy ar y pryd, a'r milwyr mewn pebyll gerllaw, a'r Cymry yn effro iawn i weld eu cyfle i ymosod arnynt. "His Majesty the King is staying with his army at Gannock (Deganwy) for the purpose of fortifying a castle (Conwy) which is now built in a most strong position there, and we are dwelling round it in tents employed in watchings, fastings and prayers and amidst cold and nakedness. In watchings through fear of the Welsh suddenly attacking us by night, in fastings on account of a deficiency of provisions, for a farthing loaf now costs five pence, in prayers that we may soon return home safe and uninjured and we are oppressed by cold and nakedness because our houses are of canvas and we are without winter clothing.
There was a time indeed when there was no wine in the king's house and indeed not amongst the whole army except one cask only. A measure of corn cost 20/—, a pasture ox three or four marks, and a hen was sold for eight pence. Men and horses consequently pined away and numbers perished from want."[23]
Wrth gwrs, estroniaid oedd gwŷr y castell, yn byw yng nghanol gelynion, ond yng nghywydd Iolo Goch ceir darlun o dywysog Cymreig yn byw ar ei dir ei hun, a gwelir ur unwaith fod o gylch Sycharth ddarpariaeth lled helaeth at angenrheidiau bywyd.
Siopau glân glwys, cynnwys cain,
Siâb landeg fal Siêb Lundain.
Croes eglwys, gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
Pob tir lawn, pob tu i'r llys,
Perllan a gwinllan gwenllys;
Parc cwning, maes pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl;
Gâr y llys, ar gwrr y llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;
Dolydd glân, gwyran a gwair,
Ydlan mewn caeau cywair.
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i glomendy gloew, maendwr;
Pysgodlyn, cyryglyn cau
A fo rhaid i fwrw rhwydau,
Amlaf lle caid, heb ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A'i dri bath ar adar byw—
Peunod, cryhyrod hoewryw.
A'i gaith a wna bob gwaith gwiw
Cyfreidiawl; cyfryw ydiw
Dwyn blaenffrwyth cwrw
Amwythig, Gwirodau, bragodau brig;
Pob llyn, bara gwyn a gwin,
A'i gog a'i dân, a'i gegin.
Ond nid oedd pethau lawn cystal ag y mynnai Iolo i ni gredu. Rhaid cofio, wedi'r cyfan, mai barics oedd y castell, ac ni cheir llawer o foethau mewn barics ar y gorau. Dengys yr hyn a wyddom am gynnwys yr hen gestyll hyn mai lled noethlwm oeddynt ar y cyfan.
Y prif bethau ynddynt, wrth gwrs, oedd arfau rhyfel. Dyma, er enghraifft, restr o'r pethau oedd ym meddiant Iarll Arundel yng Nghastell y Waun ar y deunawfed o Orffennaf, 1397 nifer o fwâu o yw ac o lwyf ynghyda bwâu croes a saethau nad oeddynt o ddim gwerth, I gloch, I gloch fach, I hen wisg o ffwstian gwyn, lliain i'w roi ar yr allor, I Pax bread,[24] rhan o hen lyfr gwasanaeth yr offeren, I cwpan cymun, 2 cruet, 2 forter, 1 llestr plwm, 5 pâr o efynnau, 10 O waewffyn—5 ohonynt heb bennau, 20 clo, 3 llestr plwm gwerth 20/—, un arall 3/4, un arall 2/-, un basin 20c., dau lestr pres—un wedi torri, 6/8, cadwyn haearn 1/-, un hen gist, un twb pobi a gwisg y caplan.
Tebyg yw'r stori am gastell Croesoswallt tua'r un adeg.[25] Yn y wardrob yr oedd 5 bwa yw, 4 bwa llwyf, 20 cawell o saethau, 6 bwa croes, 5 gwaewffon, 6 o bennau gwaewffyn, I gwn, I faril o bowdr gwn, 200 o saethau, 3 bwyell, 2 sparthe (bwyeill), 3 jack wedi torri, 3 phâr o fenyg, 3 matras, darn o fwa croes, I bwrdd, pâr o stanciau, 3 phâr o lyffetheiriau, 6 phâr o efynnau heyrn a bollt o'r un defnydd, I goler gyda dau hual, I ffeil ac I morthwyl. (Diddorol yw sylwi y ceir arf—y bwa croes, y bwa hir a'r gwn gyda'i gilydd yma. Yr y tri oedd hyn yn 1398.) Yn y brif ystafell yr oedd 1 cwpwrdd, 2 fwrdd a 4 mainc; yn yr ystafell ganol 3 cist, 2 fainc ac un bwrdd; mewn ystafell arall, melin law; yn neuadd y cwnstabl 3 bwrdd ar dresel, 3 mainc, basin a chist fechan; yn y bwtri, cist a'i thop wedi torri, bwced a baril; yn y gegin, un morter; yn y larder, 2 ben eidion a 6 bwsiel o halen.
Ceir hanes bod yng Nghaerfyrddin felin i falu halen, gwerth 1/6, a sonnir am y drafferth a gaed i'w gwneud am nad oedd math hwnnw ar gael yng Nghymru. Ond digon tebyg oedd y dodrefn ym mhobman—casgen i ddal bara, twb i bobi, melin law, ychydig ddysglau piwter neu bres, padell ffrio, etc. Ymddengys fod mwy o foethusrwydd yn perthyn i gestyll Arundel yn y de nac i gestyll y gogledd, oblegid ceir hanes bod yng nghastell Philip welyau sidan a gobenyddiau.
Y mae gennym ddau adroddiad am gyflwr pethau yng Nghastell Newydd Emlyn, y naill yn 1340 a'r llall yn 1532.[26] Yn y cyntaf dywedir bod neuadd newydd a dwy siambr wedi eu hadeiladu o fewn y muriau, a bod dan y neuadd fwtri, pantri a seler. Estyll (shingles) oedd to y rhan hon o'r adeilad, oedd y gwterydd. To gwael, cymysg o estyll a gwellt, oedd a choed i'r gegin. Nid oedd y popty na'r bragdy o unrhyw werth. Nid oedd dim ŷd yn y castell, nac ychwaith ddim glo, ond yr oedd yno dun o win yn flwydd oed, tun o fêl a dau o halen. Yn yr arfdy yr oedd 6 acketon, 4 basinet,[27] 6 bwa croes mewn cyflwr da, 500 o saethau diwerth, 6 tharian a phais—arfau Lloegr arnynt, 6 gwaewffon, ond dim arfogaeth.
Rhydd adroddiad 1532 ddisgrifiad manwl iawn o'r adeilad, ond nid yw'n sôn am ei gynnwys. Yn y naill dŵr yr oedd y carchar ac ystafell y drysor a "fair chamber" uwchben, ac yn y llall" loo chamber or parler," ac uwchben honno, drachefn, ystafell arall. Yr oedd y bwtri a'r seler fel
Yr oedd y bwtri a'r seler fel cynt dan y neuadd. Ym mhen y neuadd, ond ar dipyn o godiad, yr oedd y capel, ac yn ei ymyl "the kechyn w't the larder under the same voyted." Ar ochr ddeheuol y mur yr oedd tŵr bychan "to see and view the countre"—awgrym bod pobl yn dechrau blino ar fywyd cyfyng y castell. Ym mhen pellaf yr adeilad yr oedd "Chamber and a prive kechyn w't too chambers over them and a wardrop chamber over them "—ystafell breifat y teulu, yn sicr.
Y tu allan yng nghymdogaeth yr afon yr oedd ystabl i 22 o geffylau, ac uwch ei ben fath o oriel a deg o ffenestri gwydr ynddi—tŷ gwair, lladd—dy, popty, a bragdy.[28]
Gwnaed adroddiad ar gastell Dinbych tua'r un adeg (1530), ond ar wahân i fanylion parthed hyd a lled y gwahanol ystafell— oedd a'u cyflwr, ni cheir fawr ddim am ei gynnwys.[29] Y mae'r adroddiad a wnaed o gynnwys castell Biwmares yn amser Edward III (1341) yn ddiddorol yn bennaf ar gyfrif y manylion am y gwisgoedd milwrol a geir ynddo. Ymysg y gwisgoedd a enwir ceir a ganlyn: 8 aketon——gwisg o ledr a wisgid dan y llurig; yr oedd y rhain wedi eu gorchuddio â lliain gwyn; yr oedd yno saith arall yn ddiwerth; 16 basinets—helm ar lun basin; yr oedd y rhain eto wedi eu gorchuddio (rhag iddynt ddisgleirio yn yr haul, y mae'n debyg), ond yr oedd yno bump eraill heb orchudd o fath yn y byd; 12 Habergeons—llurig fechan yw ystyr y gair yn llythrennol (o'r gair hauberk= llurig) ond golygai weithiau blât o ddur i'w wisgo ar y frest; y mae'n debyg mai'r cyntaf a olygir yma, oherwydd enwir y platiau dur yn nesaf; 4" iron pesanes; 7 aventailles, sef mwgwd neu ffenestri'r helm; darnau o ddur i guddio'r coesau a'r gliniau; 9 helm haearn, tair ohonynt heb fwgwd; 21 tarian; 15 gwaewffon; 30 o fwâu croesion ac 28 o rai hir.
Dengys cyfrifon yr ystôr yr anhawster a geid ynglŷn â darparu a chadw lluniaeth yn y cestyll. Dywedir bod ym Miwmares. 44½ chwarter o wenith ynghadw ers 19 mlynedd a 25½ chwarter yn rhagor ers 11 mlynedd. O'r 64 corpws o biff oedd yno yr oedd 29 yn hollol ddiwerth, 18½ mewn cyflwr drwg, ac yn y castell ers un mlynedd ar ddeg, ac 16½ yno ers deuddeng mlynedd.[30]

Atodiad.
NID oes bron ddim yn aros heddiw o un o hen gestyll mwyaf rhwysgfawr y Mortimeriaid, sef castell Dolforwyn yn nyffryn Hafren, yn agos i'r Drenewydd. Tybir i gastell gael ei adeiladu yn Nolforwyn gan Bledyn ap Cynfyn, Tywysog Powys, rhywbryd rhwng 1065 a 1073. Yn 1242, yn ôl Dugdale, cododd Dafydd ap Llewelyn adeilad cadarnach yn yr un fan. Yn 1272 ymosododd Edward I ar Gymru. Daeth un o'r tair byddinoedd oedd gan Edward y pryd hwnnw i fynnu Dyffryn Hafren, yn cael ei harwain gan Roger Mortimer yr ail a Iarll Lincoln, ac yng nghwrs yr un daith honno y cymerwyd castell Dolforwyn ganddynt. Ar y 6ed o Ionawr, 1278—9, rhoddodd y Brenin i Roger de Mortimer "his lands of Keddewy (Cedewain) and Kerry, with the castle of Dolverayne," fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth iddo ar yr achlysur hwnnw.
Bu'r Mortimeriaid yn llywio'r goror o'r Waun i Wigmore ac yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd Lloegr yn ystod teyrnasiad Edward II. Yn 1321, fodd bynnag, bu'r trydydd Roger Mortimer mor ffôl ag ymuno â'r barwniaid hynny a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin, ac ar y 23ain o Ionawr, 1321—2, rhoddodd y brenin orchymyn i William de la Beche, ei fforffetydd yn siroedd Amwythig a Stafford, wneud cyfrif manwl o eiddo'r Iarll, a gwnaed hynny gyda chyflymder eithriadol fel y dengys y dyddiad ar y weithred, sef y 25ain o Ionawr yn yr un flwyddyn.
Dyma gynnwys castell Dolforwyn yn ôl y cyfrif hwn. Yn y tŵr crwn—gellir gweld olion sylfeini'r hen dŵr hyd heddiw—yr oedd dwy wisg ddur, gwerth 13/-; 3 dwyfroneg o haearn, 15/-; 2 benwisg o haearn, ac un mwgwd (ventaile), 6/-; 4 pais ddur gwerth dau farc, 26/8; 4 helm gwerth 12/-; 1 bwa croes, 2 droedfedd; 16 o fwâu croesion troedfedd; 4 bwa croes wedi eu dadgymalu; 8 gwregys; 406 o saethau gwerth 40/-; un goffr; un blwch a'r cloau wedi torri, yn werth dim.
Yn y tŵr sgwâr 2 springles—espringales, y mae'n debyg, neu'r arbalast, fel y gelwid ef weithiau; math o fwa croes anferth wedi ei godi ar olwynion oedd hwn, a ddefnyddid i saethu bolltau wedi eu blaenllymu; So o'r bolltau hyn; I vice, a ddefnyddid, y mae'n debyg, i dynnu llinyn y bwa croes i'w le; darn o raff, 40 llath o hyd, a phump o ysgolion.
Yn y capel: un cwpan cymun gwerth 10/-; un wisg ar gyfer y gwyliau arbennig, 5/-; I wenwisg gyda'r amis a'r brodwaith wedi ei wnïo â sidan; 1 ystola a'r freichled wedi ei gwnïo ag edau aur ac â sidan, gwerth 8/-; 2 corporas; un wenwisg wedi gwisgo allan fel na ellid ei defnyddio wrth yr allor mwy; lliain ar yr allor, 1/-; 3 tywel, 2/-; I sallwyr ac un blwch bychan a ddarganfuwyd mewn cist gloedig yn ystafell y merched—y sallwyr yn werth punt; sallwyr arall yn werth 2/-; I merthyrdraeth, 3/-; I thuser mewn cyflwr gwael; I blwch corn i ddal yr offrwm; 3 cloch fechan; I crwet; I gostrel finegr.
Yn y neuadd: 4 bwrdd, pob un yn 21 troedfedd o hyd a 2 o led; un bwrdd 12 troedfedd o hyd a 2 o led; 2 fainc, pob un yn 18 troedfedd; 3 bwrdd (counter) wedi ei gysylltu â planciau ar ei draws; 6 pâr o "trestles"; I blwch elusen; I basin, 6d.
Gan mai yn y neuadd y byddid yn byw, ac weithiau hefyd yn cysgu, byrddau ar dreslau fyddai ganddynt fel rheol, a symudid hwy pan fyddai angen am eu lle. Yn ddiweddarach y daeth y bwrdd sefydlog fel y mae gennym ni. Gelwir ef gan Langland yn "dormant table," ac weithiau yn "joint "—a dyma'r gair a geir yma, "I counter table joined by 2 boards."
Yn ystafell y merched: 2 goffr wag, ac un twb i ymolchi ynddo— y cwbl yn werth dim.
Yn y pantri a'r bwtri: bocs i ddal bara; twb golchi; bocs gwag; casgen gwrw; 3 baril; 4 tancr; 2 ysten, yn werth dim.
Yn y seler: 1 gasgen a 10 modfedd o win ynddi.
Yn y gegin 2 grochan haearn, un yn dal 16 galwyn a'r llall 2; un mesur hanner galwyn, gwerth y rhain, 16/-; 2 forter heb y tribbles (?), gwerth dim.
Yn y bragdy: un crochan yn y ffwrnes, gwerth 5/-; 5 twb; 7 0 dybiau bach, a 2 stand, gwerth dim.
Yn y popty crochan 16 galwyn, gwerth 2/-; casgen flawd; 2 dwb pobi; gogor; 2 flwch halen; gogrynwr; gogr flawd, o ddim gwerth.
Yn y larder: 24 mochyn, eiddo'r arglwydd, gwerth 36/-, pob un yn werth 18d.; cwarter o halen, 2/-; 3 stên o wêr, 1/6, pob stên yn werth 6d.; 4 stên o ired, 2/8, pob stên yn werth 8d.; twb halltu yn werth dim.
Yn y granar, ar ochr dde ystafell y merched: 4 chwarter o frag, 26/8, pob chwarter yn werth hanner marc, 6/8; 3 chwarter o frag ceirch, 5/-; y chwarter 22d.; un crochan, 2/-; 8 galwyn o flawd pys yn y crochan, 4/-, 6d. y galwyn; 5 darn o haearn, 8d.; 2 hen dwb brag a dau fesur, 2 fwsiel a phec.
Yn y granar yn ymyl y tŵr sgwar: 100 chwarter a 6 bwsiel o ŷd, gwerth £33/11/8 yn ôl 6/8 y chwarter.
Dau bâr o olwynion cert (ychen) a chorff un arall y naill a'r llall wedi gwisgo allan ac yn ddiwerth.
Da byw un ych at aredig, 5/-; un ceiliog a dwy iâr, gwerth 24d. Yn y granar y tu allan i'r castell: dwy aradr haearn a dwy gert wair ond heb fod yn werth dim, am farw o'r ychen o'r pla (murrain).
Nid oedd yr ŷd a heuwyd—3 chwarter oedd y swm—yn werth dim, oherwydd i'r ceirw ei sathru.
Ysgrifennwyd yn Nolforwyn, 7fed Chwefror, 1321-22.
Llyfrau.
Dwy gyfrol Mr. G. T. Clark ar Medieval Military Architecture yw'r ymdriniaeth lawnaf a'r orau a feddwn ar gestyll yr oesau canol. Y mae'n wir bod rhai o'i ddaliadau wedi eu profi'n ddisail, yn enwedig y dyb i gastell yr oesau canol dyfu o "burh" y Saeson. Un o brif swynion y llyfr yw manylder y portreadau o'r gwahanol gestyll. Yn Early Norman Castles gan Mrs. Armitage ceir trafodaeth fanwl ar ddatblygiad y castell Normanaidd, a dangosir camgymeriad Clark. Ceir erthygl fer gan J. H. Round yn Feudal England yn diorseddu Freeman ar yr un cwestiwn. Llyfr diddorol yw Castles gan Oman (Great Western Railway). Gresyn na cheid ail lyfr yn cynnwys cestyll y gogledd. Llyfr yr un awdur ar The History of the Art of War in the Middle Ages, 2 gyfrol, yw'r ymdriniaeth fanylaf ar wahanol agweddau bywyd milwrol yr oesau canol. Ceir trafodaeth feistrolgar ar yr un cwestiwn yn ei berthynas à Chymru yn llyfr J. E. Morris, The Welsh Wars of Edward I. Ceir pennod yn Cutts' Scenes and Characters of the Middle Ages," yn llawn. o ddarluniau gwerthfawr, ar arfau rhyfel yr oesau canol.
Diddorol iawn yw'r llyfr a gyhoeddwyd gan J. E. Morris a Jordan—Local History and Antiquities-lle caiff cestyll Cymru sylw arbennig. Ceir pennod gan Oman yn Barnard's Companion to English History (Middle Ages)—Military Architecture and the Art of War."
Y mae toreth o wybodaeth ddiddorol yn llyfr Dr. E. A. Lewis, The Medieval Boroughs of Snowdonia, a hefyd yn llyfr Dr. William Rees, South Wales and the March.
Cyhoeddwyd llawlyfrau diddorol ar gestyll y gogledd, Caernarfon a Harlech, gan yr Office of Works. Bu yn Archeologia Cambrensis a'r Cymmrodor o dro i dro erthyglau ar rai ohonynt, a bu cyfres o erthyglau yn y Cymru yn 1916 ar gastell anadnabyddus y Bere. Y mae i bob castell, wrth gwrs, ei hanes ei hun yn ogystal a'i ffurf arbennig, ac yng ngoleuni'r naill yn unig y deellir y llall.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "South Wales is more thickly set with castles than any other region of the British Isles "Oman: History of the Art of War in the Middle Ages, 2, 23. 312
- ↑ Y mae'r gaer fechan gerllaw Llanfaircaereinion rhyw 1,020 troedfedd uwchlaw'r môr, fel mae y hi yw yr uchaf yn y Gogledd."
- ↑ J. H. Round: Feudal England. Mrs. Armitage: Early Norman Castles.
- ↑ Orderic Vitalis Ecclesiastical History of England and Normandy, II, 19. 5
- ↑ Feudal England, 317—331. Yn y flwyddyn 1048 y sonnir am gastell gyntaf yn yr Anglo Saxon Chronicle, a Chymry gaiff y bai am ei adeiladu, yn swydd Henffordd.
- ↑ Archæologia Cambrensis, December, 1927, 472.
- ↑ Oman: Military Architecture and the Art of War, 70. (Yn Barnard's Companion to English History (Middle Ages)
- ↑ Oman Castles, 179.
- ↑ Lewis: Medieval Boroughs of Snowdonia, 24.
- ↑ Caernarfon Castle Official Guide, 9.
- ↑ Lewis op. cit., 25, 105 et. seq.
- ↑ Ibid., 114.
- ↑ Ibid., 112.
- ↑ Ibid., 113.
- ↑ Official Guide to Caernarvon Castle, 32, Harlech Castle, 16.
- ↑ Lewis: op. cit., 27.
- ↑ Harlech Castle Official Guide, 6, 7, 8.
- ↑ Lewis op. cit., 251.
- ↑ Fel y dengys yr enw, math ar ddatblygiad peiriannol o'r bwa croes oedd yr "arblast." Yr oedd "arblast" yn enw cyffredin ar y bwa croes ei hun.
- ↑ Oman Castles, 189.
- ↑ Cymmrodor, XXXII, 74
- ↑ Barbed" yw'r term a ddefnyddir am arfogaeth y ceffyl.
- ↑ Matthew Paris, II, 110. Bohn's Antiq. Library
- ↑ Pax borde neu Pax brede yw'r ffurf gywir. Math o banel bychan oedd y "Pax" ac arno ddarlun o'r Gwaredwr neu'r Croeshoelio neu'r Drindod neu ryw destun cyffelyb. Byddid yn arfer â chusanu'r darlun ar ôl gwasanaeth yr offeren.
- ↑ Cathrall's History of Oswestry, 183.
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol ar " The story of Newcastle Emlyn and Atpar gan y Parch. Gruffydd Evans, B.D., Ficer Castell Newydd Emlyn, yn y Cymmrodor, 1922 (XXXII), 109, 143.
- ↑ Aketon = Gwisg o ledr a wisgid, fel rheol, dan y wisg ddur; basinet= math o helm ysgafn tebyg i "basin" o ran ffurf.
- ↑ Gweler Inventory of Ancient Monuments, Carmarthen, 220—1, a'r Cymmrodor, XXXII, 143.
- ↑ Gweler y Cymmrodor, XXXVI, 112.
- ↑ Arch. Cam. original Documents (1913), pp. 25-32.

XVI. Fforddolion.
Yr oedd ymdeithio iddynt nid yn gymaint o ludded ag o fwynhad. —GILDAS.
O bob pererindod, yr un i Rufain a hoffir fwyaf ganddynt, ac yno y mawrheir rhinogau'r apostolion ganddynt gyda brwdfrydedd eithriadol a chyda meddwl defosiynol.—GERALLT GYMRO.
DICHON nad oes dim a bery fwy o syndod i'r neb a astudio yr oesau canol na'r elfen o anghysondeb a rêd fel gwythïen arian trwy holl fywyd y cyfnod. Y mae hyn, wrth gwrs, yn wir am hanes cyfnodau eraill hefyd, ac ymddengys fel pe bai elfen o baradocs wrth wraidd pob bywyd. Mewn pennod arall pwysleisir neilltuedd ac annibyniaeth bywyd lleol y cyfnod. Yr oedd maenorydd a threfydd bron mor annibynnol ag ydyw gwledydd yn ein dyddiau ni, ac oherwydd hynny datblygai ynddynt fywyd gwahaniaethol diddorol. Ac eto, dan y mân wahaniaethau daw elfennau cyffredin i'r golwg, elfennau a roddai unoliaeth i fywyd y gorllewin nas perthyn iddo heddiw.
Un o'r nodweddion hyn ym mywyd Ewrop oedd cariad angerddol at grwydro o fan i fan. Diau bod a fynnai'r ysbryd hwn gryn lawer â phoblogrwydd Rhyfeloedd y Groes, pan aeth y cyfandir i gyd megis ar bererindod. Dyma'r modd y disgrifir yr ymsymud hwnnw gan William o Malmesbury, un o groniclwyr Lloegr "The Welsheman left his hunting, the Scot his fellowship with vermin, the Dane his drinking party, the Norwegian his raw fish.
You might see the husband departing with his wife, indeed with all his family; you would smile to see the whole household laden on a carriage about to proceed on their journey. The road was too narrow for the passengers, the path too confined for the travellers, so thickly were they thronged with endless multitudes. The number surpassed all human imagination, though the itinerants were estimated at six millions."[1] Er bod y taeog yn rhwym wrth y tir, a bod mwyafrif y tyddynwyr yn marw heb erioed groesi ffin y plwyf lle ganed hwy, eto nid oedd yn amhosibl cael un oedd wedi bod ar bererindod i Dyddewi neu i Ffynnon Wenffrewi neu i Enlli, i Gaergaint neu efallai i Gompostella yn Sbaen, Brithid neu hwyrach hyd yn oed i'r Ddinas Santaidd ei hun. y ffyrdd gan deithwyr yn myned o fan i fan yn finteioedd un ai ar bererindod neu i fasnachu neu efallai yn symud o'r naill Faenor i'r llall oherwydd prinder bwyd. Bryd arall ceid cipolwg ar leidr neu lofrudd yn llercian yn llechwraidd yng nghysgod perthi neu yn ymguddio yn nyfnder y goedwig ; neu fe gyfarfyddid â gŵr yn cario croes fel arwydd ei fod yn alltud o'i wlad a'i wyneb ar y porthladd agosaf. Dro arall deuid ar draws y Brodyr Cardod, neu'r taeog a feiddiasai newid caethiwed y faenor am fywyd mwy rhydd y dref, neu efallai y bardd a'i delyn neu'r cerddor a'i grwth, neu'r ysgolhaig gwelw ei wedd a gwael ei wisg a'i wyneb ar Rydychen neu Baris, fel y bu Erasmus mewn cyfnod diweddarach.
Fe gofir am ddarlun dihafal Chaucer o ymdaith y pererinion ar eu ffordd i Gaergaint, y darlun mwyaf byw a feddwn o fywyd chwareus, diofal, amryliw yr oesau canol. Nid oes ddosbarth nas cynrychiolir yn y darlun anfarwol hwnnw, ac elfennir cymeriad pob un o'r dosbarthiadau mor ddeheuig nes teimlo ohonom ein bod yn eu hadnabod fel pe baent yn cyd- oesi â ni. Rhoem lawer cywydd canmol yn gyfnewid am ddarlun cyffelyb o hen bererinion Tyddewi.
Mewn rhyw ystyr gellir dywedyd i neilltuedd ac annibyniaeth y bywyd hwn roddi bod, i fesur, i'r mynych deithio. Yr oedd hyn yn wir, beth bynnag, am fywyd y pendefig oedd a'i stâd yn wasgaredig ar hyd a lled y wlad. Rhaid oedd iddo ef symud o fan i fan fel y byddai'r bwyd yn prinhau. Rhywbeth tebyg i hyn, yn ddiau, a roddodd fod i'r " cylch" Cymreig. Dibynnai'r arglwydd Cymreig i fesur ar gynnyrch y faerdref- y fferm a drinid gan daeogion a drigai yng nghymdogaeth ei lys. Ond dibynnai, hefyd i fesur ar y croesaw a gâi gan ei denantiaid rhydd pan ymwelai â hwy. Fel yr ymledodd bywyd sefydlog, fodd bynnag, peidiodd yr arglwydd a'i swydd- ogion a myned ar gylch, a chododd yr arfer o dalu. Dyma'r tâl a adwaenir fel y twnc, ac a delir o hyd ar ambell hen dyddyn.[2]
Yn hyn o beth nid yw hanes Cymru yn wahanol i hanes Lloegr. Treuliai'r arglwyddi a'r brenhinoedd Normanaidd lawer o'u hamser yn myned o'r naill faenor i'r llall. Crwydrodd William y Concwerwr lawer, ac âi'r llys gydag ef; a dywedir i Edward I newid ei gartref gynifer â 75 o weithiau yn ystod un flwyddyn.[3]
Dosbarth arall yr oedd teithio yn anghenraid iddynt oedd y crefftwyr. Cydnebydd y trioedd hawl y gweithiwr mewn metal yn ogystal a'r bardd a'r telynor i dramwy o fan i fan. Yr oedd teithio yn angenrheidiol iawn hefyd i'r masnachwr. Fel y sylwyd mewn penodau eraill, cododd dosbarth neilltuol o fasnachwyr yng Nghymru a'r gororau a adwaenid fel "chensers." Eu gwaith hwy oedd hyrwyddo masnach rhwng y cymydau Cymreig a marchnadoedd y Mers. Cyfyngid y farchnad i'r bwrdeisdrefi, lle na chai'r Cymro fyw na masnachu, a gweithredai'r "chenser" fel gŵr canol rhwng y Cymry a'r Saeson, a chludo'i nwyddau ôl a blaen rhwng tref a gwlad. Talent dreth flynyddol am hyn, ac ar bwys honno, fel y dengys deddf 1535, caent dramwy trwy'r coedwigoedd a'r fforestydd heb dalu.
Dosbarth arall a fyddai ar grwydr oedd y troseddwyr. Nid oedd y ddarpariaeth i lesteirio drwgweithredwyr mor berffaith o lawer ag ydyw heddiw. Ar y llaw arall, byddai'r gost yn anghymesur iawn, ac oherwydd mynych fethu o'r llywodraeth ei gweinyddu ceid troseddwyr ar ffo yma ac acw ar hyd y wlad. Dienyddio oedd y gosb am ladrad yn ogystal ag am lofruddio. Os dygai lleidr fwy na gwerth swllt, neu os condemnid ef fwy nag unwaith am fân ladrad, dylai gael ei grogi, meddai un o farnwyr Edward I.[4] Tynnid llygaid y sawl a ddelid yn herw- hela yn fforestydd y Brenin, neu fe'i llurgynid mewn modd annynol.
Pechod parod i amgylchu'r Cymry, a gwŷr y cyffindiroedd yn enwedig, ydoedd dwyn gwartheg. Cwyna Ffwg Fitzwarin, o gastell Whittington, fod William de Halle, Waryn de Rugge (? Rug), Nicholas o'r Waun, Richard Madoc, Howel ap Thomas ac eraill, wedi dwyn 5 o geffylau, 100 o gesig, 100 o ebolion, 48 o ychen, 40 o fustych, 40 o wartheg, 500 o ddefaid, a 100 0 foch-gwerth, at ei gilydd, tua mil o bunnau-o'i barc yn Whittington. Yn 1331 y bu hyn. Rhyw ddeng mlynedd ar hugain cyn hyn (1302) cwynai Roger Mortimer i rywun ddwyn rhai o'i gesig, oedd yn werth 200 o farciau, wrth iddo ef eu symud o'r Waun i Sir Amwythig. Ceir cwyn gyffelyb gan denantiaid rhydd Cynllaith a Mochnant yn amser y Tuduriaid, sef bod lladron o Fawddwy a Meirionnydd a rhannau eraill o Bowys wedi dwyn da gwerth 100 o farciau neu ragor yn ystod y ddeufis blaenorol.[5]
Dengys cyfreithiau Hywel y cymerid cryn drafferth yn y cyfnod bore hwnnw nad lladrad fyddai'r anifail ar werth, a gwelir yr un peth yn union yng nghyfreithiau bore'r Eingl Sais.[6]
Rhydd deddf a basiwyd yn 1441-2, yn ystod teyrnasiad Harri VI,[7] ddarlun byw iawn o gyflwr cythryblus y gororau yn y cyfnod hwnnw. Ceid cwynion, meddir, o siroedd Henffordd, Amwythig a Chaerloyw, a hefyd o Wlad yr Haf, Bryste a Chaer, y dygid da a phethau eraill oddi ar y trigolion ac y cuddid hwy yng Nghymru nes bodlonai eu perchenogion i dalu'n drwm am eu cael yn ôl, neu weithiau fe'u collid yn gyfan- gwbl. Dywedir ymhellach nad oedd i'r lladron hyn ddinas barhaus mewn unrhyw arglwyddiaeth, ond y symudent o fan i fan fel y byddai'r perygl. Byddai ar frodorion y goror ofn achwyn arnynt am eu bod weithiau yn dwyn y bobl yn gaeth yn ogystal a'u hanifeiliaid. Gwnaed cwyn i'r un perwyl yn ystod teyrnasiad Harri IV, a phasiwyd deddf gan y brenin hwnnw i ddienyddio unrhyw leidr a ddelid yng Nghymru yn ddiseremoni ar warant un o farnwyr ei fawrhydi.[8] Nid oedd yr aflwydd wedi ei symud ymaith hyd yn oed yn amser Harri VIII, fel y dengys y ddeddf a basiwyd yn 1534, y flwyddyn cyn uno'r ddwy wlad. "Deddf i gosbi Cymry a gais ymosod ar drigolion Henffordd, Caerloyw a'r Amwythig neu ym- rafaelio â hwy" yw teitl awgrymiadol y ddeddf honno. Gwyddom mai Llys y Goror a roddodd ben ar yr anhrefn hwn; ac ni bu neb yn fwy egniol ynglŷn â'r gwaith na'r hen brelad hwnnw, Rowland Lee.
Ymddengys y byddai rhai o'r lladron hyn yn arfer croesi Hafren o gymdogaeth Caerloyw, ac yn yr un flwyddyn pasiwyd nad oedd cychwyr Hafren i rwyfo neb dros yr afon honno rhwng machlud a chodiad haul. Arferent groesi o amryw leoedd, fel Aust, Fremeland, Pyrton, Arlyngham, ar eu ffordd i ddeheudir Cymru. Nid oeddynt ychwaith i gludo gwartheg na cheffylau heb gael gwybod eiddo pwy oeddynt, nac unrhyw berson heb gael gwybod ei drigle. Yr oedd raid rhoddi'r wybodaeth honno i ustusiaid Gwlad yr Haf a Chaerloyw os byddai galw amdani.[9]
Un ffordd hwylus o ymwneud â'r dosbarth yma oedd eu cyhoeddi'n herwyr. Golygai hyn, yn ôl un awdurdod Seisnig -Fleta-ymddwyn atynt fel tuag at flaidd neu anifail rheibus arall. Yr oedd yr herwr y tu allan i nodded cyfraith y wlad, a chai'r sawl a'i lladdai nid yn unig osgoi cosb, ond hefyd y tâl a roesid ar ei ben. Byddai'r herwr yn byw fel y medrai, a hynny, fel rheol, yn nyfnder coedwig.
Dy gastell ydyw'r gelli,
Derw dôl yw dy dyrau di.
—TUDUR PENLLYN.
Llechai eraill ohonynt megis dan lygaid rhai o arglwyddi'r goror. Dywedir fod yn arglwyddiaeth fechan Magor unwaith gynifer â phum mwrdrwr, deunaw dynleiddiaid, ac ugain o ladron a herwyr.
Llwyddai rhai ohonynt o bryd i bryd i adael eu cuddfan a myned i fasnachu-neu i ladrata-yn nhrefydd y goror. Pasiwyd deddf yn ystod teyrnasiad Harri VI i ddirywio Siryf Henffordd i 100 swllt, a'r ustusiaid i 40/-, a'r bwrdeis i 20/- bob un am beidio â charcharu'r cyfryw rai pan ddeuent yn achlysurol i'r dref. Os gwelid hwy, dyletswydd y sawl a'u hadwaenai oedd codi'r dref a myned ar eu hôl. Yr oedd yn orfod ar bawb a glywai'r waedd i ymlid y troseddwr, ac anaml y cynhelid ffair na marchnad, ar y goror beth bynnag, na chlywid y llef yn yr heolydd." Os yn y nos y digwyddai, rhaid oedd i'r gwylwyr ddilyn gyda'u lluserni, a byddai golwg digrif ar y truan yn ffoi a'r pentrefwyr neu'r trefwyr fel haid o wenyn ar ei ôl. Weithiau eid trwy fwy nag un pentref neu dref dan weiddi a rhedeg fel hyn.
Gwnaed un ddarpariaeth nodweddiadol iawn yn y cyfnod hwn i noddi'r cyfryw ffoadur. Adwaenid y ddarpariaeth fel

seintwar (sanctuary) neu ddinas noddfa. Yn wyneb ansicrwydd bywyd yn ystod yr oesau tywyll, pan ormesai'r cryf ar y gwan, a phan nad oedd fawr drefn ar na llys na chyfraith, ym- Os gallai gymerodd yr eglwys â darparu nodded i'r ffoadur. gyrraedd eglwys arbennig neu fangre a gysegrasid fel dinas noddfa cyn i'r erlidwyr ei ddal, yr oedd yn hollol ddiogel. Rhaid oedd iddo gyffesu'r pechod a gyflawnasai ac addaw yr ymddygai yn heddychol tra byddai o fewn tiriogaeth yr eglwys. Gwneid cofnod o hyn oll, a rhoid tinc ar gloch yr eglwys i ddangos bod y lleidr neu'r llofrudd o hynny allan i gael mwynhau breintiau'r noddfa, ac ni feiddiai na brenin nac arall ymyrryd ag ef tra arhosai o fewn terfynau'r noddfa. Yr oedd amryw o'r lleoedd hyn yng Nghymru. Noddfa Brefi y gelwid eglwys Ddewi yn Llanddewi. Yr oedd Tyddewi hefyd yn seintwar, yn ogystal â Llanbadarn Fawr a Thintern. Yr oedd noddfa hefyd yng Nghaergybi ym Môn, yn Aberdaron yn Llŷn, ac ym Mhennant Melangell ym Mhowys. Hawlid y nawdd hefyd gan ysbytywyr St. Ioan. Yr oedd eu tir, yng nghymdogaeth Ysbyty Ifan, fel ogof lladron o'r herwydd, yn ôl tystiolaeth Siôn Wynn o Wydir. Yr oedd yr un fraint mewn perthynas â thir a ddelid ganddynt yng Nghydweli, lle ceir yr enw Sintor yn aros hyd heddiw.[10]
Dengys yr hanesyn a ganlyn o Frut y Tywysogion bwysig- rwydd y nawdd hwn. Yn y flwyddyn 1112 yr oedd Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, tywysog y De, ar ymweliad â Gruffydd ap Cynan, pan oedd hwnnw ar fedr ei fradychu i frenin Lloegr. Daeth Gruffydd ap Rhys i wybod hyn, a diangodd. "A braidd yr aeth ef trwy y drws, nachaf y marchogion yn dyfod i'w geisio. Ac ni allodd amgen na chyrchu eglwys Aberdaron ar nawdd. Ac wedi clybod o Ruffydd fab Cynan ei ddianc i'r Eglwys, anfon gwŷr a orug i'w dynnu ef o'r Eglwys allan. Ac ni adawodd esgyb a hanafiaid y wlad hynny rhag llygru nawdd yr eglwys. Ac wedi ei ollwng o'r eglwys, efe a ffoes i'r Dehau, a daeth i Ystrad Tywi."
Ond nid oedd y ffoadur i gael aros yn yr eglwys am amser amhendant. Dywed Fleta mai deugain niwrnod o amser a roddid iddynt i adael y wlad ar ôl cymryd llw'r noddfa, a gwnaeth Edward I, yn ystatud Cymru, 1284, drefniant ynglŷn â'r cyfryw. Cyn gynted ag y deuai i glyw'r crwner fod llofrudd neu leidr neu ddrwg-weithredwr o'r fath wedi derbyn nawdd, archai hwnnw ar feili'r cymwd ddwyn ato wŷr da'r gymdogaeth i gymryd llw o ymwadiad o enau'r drwg- weithredwr ei hun. Yna dygid y truan i borth yr eglwys, rhoddai'r crwner enw porthladd iddo, a rhaid oedd iddo gyrchu tuag yno yn ddioed gyda'r amcan o fyned allan o'r wlad. Rhoid amser penodedig iddo dramwy yno, yn ôl fel y byddai'r pellter, a rhoid croes yn ei law. Rhaid oedd iddo gario'r groes honno fel arwydd ei fod o hyd yn mwynhau nawdd yr eglwys, ond nid oedd i droi allan o briffordd y brenin ar dde nac ar aswy gan nad beth fyddai'r cymhelliad.[11] "Nid oedd gwregys am ei lwynau nac esgidiau am ei draed na dim ar ei ben, ond ei grys yn unig amdano fel pe byddai ar y ffordd i'r crocbren" (Fleta).
Y mae yng nghofnodion Rhuthyn ddwy enghraifft o wragedd yn gorfod cymryd llw i adael y wlad. Angharet o Faner oedd y naill-am ei bod wedi bygwth llosgi lle arbennig: ymddengys yr ofnid ei bod yn medru rheibio. Joan o Lwydlo oedd y llall—wedi dwyn dillad gwlân a llin oddi ar ryw Agnes o Ddinbych yr oedd Joan. Dichon, fodd bynnag, mai gadael yr arglwyddiaeth yn unig a feddylir yn yr enghreifftiau hyn.
Naturiol oedd i'r herwyr â chymeriadau cyffelyb gasglu at ei gilydd i'r un fan.
I'r Rhyd Goch y rhed y gwan,
Awn ninnau, o chawn, ennyd,
Atoch i'r Rhyd Goch, i gyd!
meddai Ieuan Tew Brydydd Ieuanc.
Yr oedd cuddfan yr herwyr yn hysbys i'r beirdd; ac ymwelai'r rheini â hwy ar dro, a dichon, yn wir, yr ymunent â hwy weithiau.
Minnau yn y man yno
Drwy vedw yr allt a rôf dro
I dŷ Maredudd y dof
Lle'r eurir llawer erof
Ac yno tario hyd dydd
I Bennant Bacho beunydd,
meddai Lewys Glyn Cothi yn ei gywydd i "Maredydd ap Maredudd pan oedd y bardd ar herw o achos Siaspar, Iarll Penfro."
Enillodd ardal Mawddwy gryn hynodrwydd ar gyfrif presenoldeb y Gwylliaid Cochion, a fu yno yn llochesu am ganrifoedd, a pheri arswyd a dychryn i'r ardaloedd cylchynol. Nid rhyfedd, o ran hynny, oedd iddynt ddewis yr ardal ramantus hon. Saif y fro mewn lle cyfleus i ymosod ar rai o ddyffrynnoedd gorau Cymru-megis dyffrynnoedd Dyfi a Hafren, Banwy, Fyrnwy a Thanad, Dyfrdwy a Mawddach. A phan gofir fod llethrau serth, moel, y Ddinas, a Ffridd yr Arglwydd, yn gaead gan goedydd tewfrig, hawdd y gellir dychmygu'r fath baradwys gudd a geid yno.
Ond ni ddylid meddwl fod Mawddwy yn eithriad yn hyn o beth. Nid oedd Penmachno, fel y sylwyd, lawer gwell. Yn Nolwyddelan llechai Hywel ap Ifan ap Rhys Gethin, a ymrafaeliai am yr awdurdod gyda herwr o'r enw Dafydd ap Siencyn, a'i ganlynwyr oll wedi eu gwisgo mewn gwyrdd. Ni feiddiai Ieuan ap Meredydd, tad Siôn Wynn, fyned i Eglwys Dolwyddelan heb nifer o wŷr arfog i'w ganlyn, a gwyliai eraill ei dŷ tra byddai ef yn y gwasanaeth.[12] Dengys hunangofiant Arglwydd Herbert o Chirbury mai tebyg oedd cyflwr pethau ym Maldwyn. Un bore Sul ymosodwyd ar ei dad, Richard Herbert, ym mynwent Llanerfyl, a thrawyd ef i lawr â chryman gan rywun neu'i gilydd.[13] Dywed Siôn Wynn fod arglwyddiaeth y Waun dros dymor yn asgwrn cynnen rhwng dau deulu ar y goror—Kyffin a Threfor—a ffyrnig fu'r cweryla rhyngddynt. Yr oedd cymaint anhrefn ym mhlwyf Llanrhaeadr yn nyddiau'r Doctor Morgan oherwydd cwerylon rhwng teuluoedd fel na feiddiai'r doctor fyned i'r gwasanaeth heb ryw gymaint o arfau.[14]
Yn ôl y Brut, yr oedd y gwylliaid yn llechu ym Mawddwy mor fore a 1154, a rhoddwyd pen arnynt yn 1554-ysbaid o bedwar cant o flynyddoedd. Nid oes sicrwydd parthed eu cychwyn, ond dywedir i Owen ap Cadwgan ap Bleddyn dynnu gwg Harri I am iddo trwy drais gario ymaith Nest, merch brydweddol Rhys ap Tewdwr-gwraig Gerallt de Windsor a nain Gerallt Gymro—ac iddo ffoi am ei einioes i'r ardal ramantus hon a chymryd trigain o filwyr ei dad gydag ef. Ychwanegwyd atynt o dro i dro, a lled awgrymir mai i Fawddwy y ffodd y nythiaid lladron yr ymosododd Siôn Wynn arnynt yn Ysbyty Ifan.
Er bod eu harweinyddion yn dal rhai o brif ffermydd yr ardal, lladron pen ffordd oedd y gwylliaid, a dygent wartheg a'u gyrru yn yrroedd o gant neu ragor dros Fwlch y Groes neu Fwlch Oerddrws neu Fwlch y Fedwen liw dydd glân golau.
O'r diwedd anfonodd y llywodraeth orchymyn i'r Barwn Owen o Ddolgellau a Siôn Wyn o Wydir i geisio cael ymwared â'r gwylliaid. Ar y 24ain o Ragfyr, 1554, anfonwyd bagad o wŷr arfog i ymosod ar eu ffeuau, a chymerwyd cynifer â 80 ohonynt i'r ddalfa. Dedfrydwyd y cwbl ohonynt i farwolaeth ym mrawdlys y Trallwng. Ymhen tua blwyddyn ar ôl hyn, yr oedd y Barwn Owen eilwaith ar daith i frawdlys Maldwyn. Pan oedd yn pasio trwy'r Dugoed, wrth le a adwaenir hyd heddiw fel Llidiart y Barwn, syrthiodd y gwylliaid arno a'i ladd, a dywedir i rai ohonynt yn eu cynddaredd olchi eu dwylaw yn ei waed, yn ôl y bygythiad a wnaed gan eu mam yn y frawdlys y flwyddyn cynt.
Dosbarth arall a geid fel rheol mewn lleoedd anghysbell a diarffordd oedd y gwahanglwyfus. Rhoddir disgrifiad o wasanaeth neilltuad y gwahanglwyfus mewn pennod arall. Arferai nifer ohonynt gasglu i'r un man, a gwnaed rhyw gymaint o ddarpariaeth ar eu cyfer trwy godi clafdai—fel rheol yng nghymdogaeth yr eglwys. Arhosai eraill ohonynt mewn neilltuedd, a gorfyddid iddynt, pa bryd bynnag y deuent i fysg pobl, i glecian dau ddarn o bren neu ddau asgwrn fel arwydd eu bod yn dyfod.
Ond yn ddios, y cymhelliad cryfaf i ymdeithio oedd yr un crefyddol. Nid hawdd yw elfennu'r cymhelliad hwn bob amser, ond tybiai pobl yr oesau canol fod bywyd crefyddol yn gofyn rhyw gymaint o aberth corfforol, ac yr oedd y dioddefaint a'r anghysur yr âi'r pererinion trwyddynt yn anhygoel bron. Credent hefyd fod rhinwedd neilltuol yn perthyn i greiriau'r saint ac i'r lleoedd cysegredig hynny lle buont unwaith yn addoli. Cymhellid eraill nid yn gymaint gan awydd am fendith ysbrydol â chan ddyhead am iechyd i'r corff, a hyn yn ddiau sy'n cyfrif am boblogrwydd y ffynhonnau, fel y maent hyd heddiw. Cwynai Siarlymaen, mewn llythyr at frenin Mersia, fod nifer o fasnachwyr yn tramwyo trwy ei ymerodraeth ef yn rhith pererinion, a diau i'r cymhelliad masnachol anfon ambell un o'i gartref, ond nid oedd yn bosibl i bawb fyned ar bererindod, ac felly cododd dosbarth o bererinion proffesedig a adwaenid fel y "Palmer." Gŵr oedd wedi bod ar bererindod i Gaersalem oedd y Palmer, ac yn rhinwedd ei orchestwaith treuliai weddill ei oes yn mynd o'r naill le i'r llall i ddangos y balmwydden, ac unrhyw greiriau a ddygasai yn ôl gydag ef, i'r sawl a arhosai gartref. Edrychid arno, am hynny, fel math o bererin dirprwyol. Perthynai rhywfaint o'r rhinwedd hwn hefyd i'r pererin oedd wedi bod yn Rhufain neu Santiago, ond prin yr oeddynt ar yr un tir a'r Palmer. mae carreg fedd Palmer, meddir, yn eglwys Llandyfodwg. Dywedid fod beddargraff un arall i'w weld yn eglwys Fair, Hwlffordd, ond ni dderbynir yr esboniad hwn ar yr arysgrif honno mwyach.[15] Tybid hefyd fod yn Llanfihangel Abercywyn, adfail hen Eglwys y Pererinion, a beddrodau rhai ohonynt yn y fynwent.[16]
Yn nechrau'r oesau canol, ystyrid bod pererindod i Gaersalem yn anhepgor. Yno, meddir, y bu Dewi, nawdd sant Cymru, gyda Theilo a Phadarn. Dywedir bod y creiriau a ddygasant yn ôl yng nghadw yn eglwys Llangyfelach. Haerid mai o ddwylo Patriarch Jerusalem y derbyniodd Dewi arch— esgobaeth Tyddewi—adlais o'r amser pryd na chydnabyddid uchafiaeth Rhufain. Wedi syrthio o Gaersalem i ddwylo'r Saraseniaid, daeth Rhufain i gael ei hystyried fel y ddinas santaidd, a daeth pererindod i Rufain yn boblogaidd ymysg llên a lleyg fel ei gilydd. Yno y bu farw Cyngen, Tywysog Powys, yn y flwyddyn 854, a'i gladdu yn eglwys Pedr Sant.
Yno hefyd y bu farw Hywel ap Rhys, tywysog y de, dridiau wedi iddo gyrraedd y ddinas, yn yr oedran teg o 124.[17] Myn rhai ddarfod i Hywel Dda fyned yno i erfyn am fendith yr eglwys ar ei waith yn rhoddi hen gyfreithiau Cymru ar gof a chadw.[18]. Er hyn i gyd, ni pheidiodd pererindodau i Gaer— salem. Yn 1431 ceir y nodyn a ganlyn: "John, Esgob Bangor, a saith o bersonau gydag ef, a chanddo 8 o geffylau a'u harnais i ymweled â'r Bedd Santaidd mewn cyflawniad o'i adduned.[19]
Ystyrrid pererindod i Santiago Gompostella (maes y sêr)—yn Sbaen bron yn gyfwerth â phererindod i Rufain. Yno, meddid, y claddwyd yr Apostol Iago, oedd a'i fryd ar efengyleiddio'r wlad. Caed hyd i'w fedd trwy freuddwyd a gafodd yr esgob, Theodomir, ei fod yn gweled maes o sêr a'r bedd yn eu canol. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 812 o.C., neu 816 o.c., a bu'r lle yn boblogaidd iawn trwy gydol yr oesau canol.
Tair ffynnon gwynion eu gwedd
Draw a geir i'r drugaredd,
Y Bedd a Sain Siam drwy'r byd
A Rhufain a geir hefyd.[20]
—LEWIS GLYN COTHI.
Ymddengys hyd yn oed i Ddafydd ap Gwilym, y lleiaf "crefyddol" o'r beirdd, arfaethu myned yno unwaith, oni bai ei lesteirio gan y tywydd.
Torraist â Sain Siam amod,
Tud y glaw nid da dy glod.
Nid oedd yng Nghymru, wrth gwrs, leoedd hafal i'r rhai hyn, ond yr oedd iddi hithau hefyd ei chysegrleoedd, fel Tyddewi, Ffynnon Gwenffrewi ac Enlli, ynghyda llu o eglwysi llai adnabyddus, ond nid llai cysegredig ym marn y brodorion. Yr oedd myned i Dyddewi ddwywaith cystal â myned i Rufain unwaith, ac os eid yno deirgwaith, yr oedd hynny yn gyfwerth â myned i weld y Bedd Santaidd yng Nghaersalem.

Cystal o'm ardal i mi
Dwywaith vyned at Dewi,
A phe delwn cystlwn cain
O riv unwaith i Ruvain.
Myned dair gwaith araith yw
Am enaid, hyd y Mynyw
I mae'n cystal â myned
I vedd Crist unwaith vydd cred.[21]
—LEWIS GLYN COTHI.
Nid llai poblogaidd y daith i Enlli—yr ynys oddi ar Wynedd —lle hunai ugain mil o saint yr Eglwys Geltaidd.
Yn wyneb y mynych deithio, anghenraid oedd gwneud rhyw ddarpariaeth i groesawu'r teithwyr. Rhaid cofio, wrth gwrs, y dygent elw sylweddol i'r lleoedd hynny yr ymwelent â hwy. Trefnodd yr Esgob Thomas Becke, Tyddewi, "i bererinion amddifaid, tlodion, crwydriaid llesg a theithwyr lluddedig gael eu croesawu mewn hospitium a godwyd ganddo ef yng nghymdogaeth ei blas yn Llawhaden." Erys y weithred hyd heddiw, wedi ei dyddio'r wythfed dydd o ŵyl Sant Martin, 1287, ond y mae'r llety'n adfail erbyn hyn.[22]. Gan mlynedd yn ddiweddarach rhoddodd yr Esgob Houghton orchymyn bod pob pererin ar ymweliad â'r lle i fod dan ei nawdd personol ef. Fel rheol, estynai'r mynachlogydd groeso i deithwyr, ac ym mhob mynachlog o bwys yr oedd ystafell wedi ei neilltuo at eu gwasanaeth. Ar gyfrif ei agosrwydd at Dreffynnon, ystyrrid Abaty Basing yn lle cymwys i deithwyr aros ar eu ffordd i Ffynnon Wenffrewi. Rhoddodd Richard III ddeng marc yn y flwyddyn i'r Abad[23] i gadw offeiriad at wasanaeth y pererinion yn y capel sy'n sefyll hyd heddiw uwchben y ffynnon. Gwnaed cyffelyb ddarpariaeth ar gyfer y sawl a wynebai ar Enlli. Arweiniai'r ffordd o Gaernarfon heibio i Glynnog Fawr, lle ymwelid â Ffynnon Feuno; oddi yno eid heibio i Ffynnon Aelhaearn ar lethrau'r Eifl, ac wedi cyrraedd y bwlch uwchben Nant Gwytheyrn, gallai'r fforddolion gael pryd o fwyd neu lety noson mewn llety a godasid ar eu cyfer. Yna eid ymlaen ar hyd y traeth at ffermdy'r Pistyll—fferm oedd yn rhydd oddi wrth ddegwm ar yr amod bod croeso i'w roddi i bererinion yno. Deuai'r pererinion o'r de heibio i Abererch (lle byddid yn arfer, meddir, â chladdu'r pererinion a fyddai farw ar y daith) a Phorth Neigwl. Nid dim byd o beth oedd croesi'r culfor, fel y dengys cywydd Rhys Llwyd ap Rhys ap Risiart:
Mordwyodd mawr eu duad
Tonnau o bell tua'n bad;
Neidio o'r bad annedwydd
A chwarae dawns, och o'r dydd!
Cilio dydd cyn cael diddos,
Difawyd ni, dyfod nos;
Dyn ni welai dan wiliad
Dor ei law neu dir ei wlad;
Mor lesg y deuthum i'r lan.
Ni wydded pa un oeddwn,
Pwy, pwy, meddent hwy, yw hwn?
Ni chair myned dan chwarae
I Enlli mwy'n y lle mae.
Doed hithau, da y tuthir,
Ynys deg, yn nes i dir.
Ceid pob croeso pan gyrhaeddid yno, ond cafodd Deio ap Ieuan Ddu o Geredigion ei siomi pan roddodd yr Abad Madog gosyn iddo fel ad-daliad am fyned yno a phrydyddu iddo, ac enllibiodd yr hen fardd ef yn "Awdl y Caws."
Yn ystod Rhyfeloedd y Groes, syrthiodd y ddyletswydd o ddarparu llety i fforddolion i ddwylo urdd arbennig a adwaenid fel yr Ysbytywyr. Cychwynnodd yng Nghaersalem yng nghyfnod y rhyfeloedd hyn, ac nid yw eto wedi ei llwyr ddifodi. Urdd filwrol ydoedd, a rhennid gwledydd y gorllewin ganddynt yn "Commanderies." Yr oedd iddynt ddau "commandery o'r fath yn dal perthynas â Chymru, sef Halston, yn agos i Groesoswallt yn y gogledd, a Slebech, yn agos i Hwlffordd yn y de. Eu prif waith yn yr ynys hon yn ddios ydoedd hyrwyddo llwybr y teithwyr, a cheir eu sefydliadau yn fynych mewn lle oedd unig a diarffordd. Ymhen amser, yn enwedig wedi'r ymosod a fu ar urdd gyffelyb y Temlwyr, daethant i feddiant o gryn gyfoeth.
Yn y gogledd, y prif leoedd yn eu meddiant oedd Dôl Gynwal (Ysbyty Ifan) yn agos i Benmachno; Gwanas, wrth droed Bwlch Oerddrws; Carno a Llanwddyn yn sir Drefaldwyn. Yr oedd y rhain oll yn ddarostyngedig i Halston. Yr oedd cyfanswm y derbyniadau yn Halston yn 1338 yn £157 5s. 10c., a'r costau yn £79 7s. Yr oedd ganddynt helaethach tiriogaethau yn y de—yn Sir Benfro yn bennaf. Yno yr oedd y derbyniadau yn £307 1S. 10c.½, a'r taliadau yn £141 2s. 7c.[24]
Nid oes ond ychydig o olion eu lleoedd yn aros heddiw. Nid oes yn Slebech ddim o'r hen "Commandery," ac y mae'r eglwys yn prysur ddadfeilio. Erys Capel yr Ysbytywyr yn Halston o hyd. Yng Ngwanas ceir ywen neu ddwy i ddynodi'r fan lle bu. Mewn gweithred ddyddiedig 1494 dywedir i Ddafydd ap Meurig Vychan o Nannau adael 6/8 yn ei ewyllys at wydro ffenestr Hospitium Sant Ioan Fedyddiwr yng Ngwanas." Yng nghwm Cownwy, gerllaw Llanwddyn, prin iawn y gellir olrhain dim o olion yr hen lety distadl fu yno gynt. Saif yn ymyl hen ffordd y pererinion a gyfeiriai eu camre tua sgrin y Santes Melangell yng nghwm Pennant draw. Ond byrlyma'r dŵr o "Ffynnon y Myneich" gerllaw cyn risialed â phan yfid ef gan bererinion lluddedig a noswyliai yn y llety.
Cwynai'r awdurdodau yn Slebech fod nifer mawr yn dyfod yno o bob rhan o Gymru—y rhan fwyaf ohonynt yn ddifrodwyr
afradlon ac yn fwrn ar y frawdoliaeth. Defnyddid 80 cwarter o wenith bob blwyddyn a chostiai hwnnw 4/- y cwarter. Defnyddid hefyd 80 cwarter o frag haidd, 2/- y cwarter, a 120 cwarter o frag ceirch, 1/6 y cwarter, i ddarllaw cwrw. Hefyd, bwyteid 80 cwarter o geirch gan geffylau'r Brodyr a'r ymwelwyr. Yn Halston a Phenmachno defnyddid 70 cwarter o wenith, 2/6 y cwarter, 30 cwarter o wenith gaeaf, 2/- y cwarter, a 160 cwarter o frag.[25]
Y mae'n amlwg bod Slebech yn boblogaidd iawn, a daeth Dolgynwal yn lloches i lawer heblaw'r pererinion mewn blynyddoedd diweddarach.
Mal Enlli amla un llwybr
Yw Slebeds islaw wybr;
Pardynau'n puro dynion
Sy yno swrn i Sain Siôn.[26]
—LEWIS GLYN COTHI.
Ceir adlais, fe ddichon, o ddarpariaeth foreach fyth, yn y gair Herber a glywir mewn rhai ardaloedd yng Nghymru o hyd. Math o westy oedd yr Herber, a safai, fel rheol, yng nghymdogaeth yr eglwys, a diau y ceid yno unwaith ddarpariaeth ar gyfer y rhai a ddeuai o bell i'r gwasanaeth.
Yr oedd dwy hefyd o'r urddau crefyddol yn urddau crwydr, sef y Dominiciaid a'r Ffransisiaid. Pregethwyr, yn anad dim, oedd y blaenaf, a begeriaid oedd yr olaf, yn hel eu tamaid o ddrws i ddrws a phregethu i'r tlodion yn bennaf. Ond nid hawdd oedd gwahaniaethu rhyngddynt a'r crwydriaid cyffredin bob amser. Ceir cwyn yn eu herbyn gan feirdd Seisnig a Chymreig fel ei gilydd. Daethant yn amhoblogaidd iawn hefyd gyda'r personiaid, am eu bod yn cymryd cyfran o'u gwasanaeth, yn enwedig y cyffesu, oddi arnynt. Gwnaent fasnach hefyd trwy werthu creiriau o bob math, fel y dengys Lewis Glyn Cothi:
Un a bryn, er na bai'r wedd,
Delw o wydr er dwy lodwedd;
Arall a wnai a'r llaw noeth
O gwr gwernen grair gwarnoeth.
Un a arwain yn oriog
Gurig lwyd dan gwr ei glog:
Gwas arall a ddwg Seiricl
A naw o gaws yn ei gôl.

i'r amcan ym mhob tref a chantref. Ond cloddiodd y Pla Du dan sail y bywyd cymdeithasol a dechreuodd y taeog grwydro i chwilio am waith yn y dref neu ar faenor lle cai ragor o gyflog nag a gâi gartref. Brithir cyfreithiau hanner olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg gan fygythion i'r sawl a feiddiai grwydro fel hyn. Ond nid oedd dim yn tycio. Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn. gan Arglwydd Maelor Gymraeg a Iâl yn 1467: "That all vacaboundes and myghty beggars beynge or comynge withynne the lordshippe departe and goe out of the lordshippe on this side the feste of Hallow—masse next comynge upon peyn of imprisonment of theyre bodyes and forfeture of theyre godes and catalle," ond ni wyddys beth fu'r canlyniad.
Perthynai beirdd diwedd y cyfnod i'r un dosbarth bron â'r crwydriaid o leiaf felly y rhestrid hwy gan gyfreithiau Lloegr. Bu'r bardd yn fawr ei barch yn llys y tywysogion gynt, ond wedi syrthio o'r rheini, diorseddwyd yntau hefyd i raddau. Ond cai noddfa o hyd gan yr urddasolion, ac felly treuliai lawer o'i amser yn crwydro o'r naill blasdy i'r llall a chanu clodydd y gŵr a biau'r nenbren. Weithiau arhosai yng ngwesty Abad —yr oedd gan yr Abad yn y tai mwyaf westy arbennig iddo'i hun, lle croesawai ei gyfeillion. Bryd arall, Owain Glyn Dŵr neu Ifor Hael fyddai'r gwesteiwr.
Bob dau y glêr a ddeuyn
Bob dri vry i dŷ pob dyn:
Wrth y drws, un ai grwth drwg
A baw arall a'i berwg
O'r lle bai arall a'i bib
A rhyw abwy a rhibib.
—LEWIS GLYN COTHI.
Gwnaeth y beirdd crwydr hyn fwy na neb i gadw'n fyw yr ysbryd Cymreig ac i ennyn atgasedd at y Saeson, ac ni cham— gymerth senedd Harri IV ryw lawer pan ddeddfodd fel a ganlyn: "It is ordained and stablished that no waster, rhymer, minstrel nor vagabond be in any wise sustained in the Land of Wales to make Commorthies or gathering upon the common people there."[27] (Bardd ar gylch oedd waster).
Lewis Glyn Cothi, ebr yr Athro W. J. Gruffydd, yw'r esiampl orau sydd gennym o'r clerwr ar ei eithaf a'i orau. "Nid oedd yn fardd teulu i neb, ond crwydrai trwy bob rhan o Gymru o'r naill blas i'r llall."[28]
Ymddengys y byddai offeiriaid hefyd yn clera weithiau. Ceir sôn am ginio a roed gan Hopcyn Twm Philip o'r Gelli, Morgannwg, ac ym "mhlith y prydyddion ydd oedd un yn offeiriad y Rhath (Roath), Caerdydd, un a fuasai nid yn hir cyn hynny ar dreigl clera ar hyd y wlad, hynny yw, yn canu cerdd a chwarae y crwth wrth ganu o dŷ beugilydd, yr hyn nid oedd yn beth yn ei le herwydd awen y prydyddion dysgedig. Yn yr un cyfarfod yr oedd Gwilym Hir Saer, ac fel hyn, ymhlith pethau eraill, y canodd Gwilym i'r offeiriad:
Cas hefyd tri pheth arall—
Y creiriau a gâr anghall
Tavarn lle mae'r drwg a'i dardd,
A cherddau bardd diddeall.
Digwyddodd yr uchod yn nheyrnasiad y Frenhines Elsbed.[29] Byddai'r clerwyr yn fwy poblogaidd na'r prydyddion gyda'u cynyrchion annealladwy—dyna ergyd y llinell "a cherddau bardd diddeall," y mae'n debyg. Rhaid oedd i farddoniaeth y prydyddion, meddai Gruffydd, fod yn anodd ei chanu ac yn anodd ei deall, a dyna'r rheswm am anhawster ac an— nheilyngdod y Gogynfeirdd. Yr oeddynt yn canu'n dywyll o fwriad. "Yr oedd hwn hefyd yn draddodiad Celtaidd ceir digon o esiamplau o'r 'anhawster' yn yr Wyddeleg.[30]
Gresyn oedd i lyfr Clera Rhys Cain gael ei losgi yn nhân Wynnstay. Ond yn un o lawysgrifau Peniarth ceir cyfrif o enillion Rhys rhwng y Nadolig a'r Ystwyll. Yn ystod y tymor hwnnw llwyddodd yr hen fardd i gasglu'r swm sylweddol o £23 2s. 6c. Yr oedd Rhys yn ei flodau yn hanner olaf yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ychydig a wyddom i sicrwydd am ansawdd ffyrdd yr oesau canol. Gwyddom am y ffyrdd penigamp a gysylltai gaerau'r Rhufeiniwr wrth ei gilydd, ond wedi dydd yr ymerodraeth collodd y caerau hyn eu pwysigrwydd. Yr oedd amryw o'r caerau mewn lleoedd hynod ddiarffordd, ac o ganlyniad bychan oedd gwerth y ffyrdd i bwrpas masnach a pheidiwyd a'u defnyddio. Gorfu i drafnidiaeth felly dorri llwybrau newydd iddi ei hun i fesur. Yr oedd arloesiad y wlad a thwf pentrefydd a threfydd yn gofyn am hyn, ac y mae'n bosibl mewn rhai enghreifftiau iddynt ail—ddefnyddio hen lwybrau y cyn—oesau.
Ond prin y gellir dywedyd y gwyddai'r oesau canol ddim am y gelfyddyd gwneud ffyrdd. Collwyd y grefft honno, fel y collwyd aml un arall, yn nhranc yr ymerodraeth. Nid oedd ffordd yr oesau canol namyn llwybr neu wtra anhygyrch yn crwydro yma ac acw, i lawr ac i fyny, wrth geisio osgoi'r corsydd a'r lleoedd lleidiog.
Cyfeiria cyfreithiau Hywel at briffordd y Brenin, deuddeg troedfedd o led, a'r ffordd derfyn rhwng dwy dref.[31] Bygythid dirwy drom ar y sawl a geisiai symud terfynau'r ffordd, neu a geisiai arddu arni er mwyn helaethu tiriogaeth ei dref— arwydd lled sicr mai tramwyfa syml oedd y ffordd, heb ond ychydig iawn o "wneud" arni. Sonia'r cyfreithiau hefyd am bont unpren, ond nid oes dim ynddynt yn cyfateb i dri nod angen cyfreithiau'r Eingl Sais. Yn ôl y rhain yr oedd pob darn o dir drwy'r wlad yn gyfrifol am yr hyn a elwid yn Brigbot, hynny yw, am gadw'r ffyrdd a'r pontydd mewn cyflwr priodol.
Yn ddiweddarach daeth adeiladu pontydd i gael ei ystyried yn ddyletswydd grefyddol, ac ar y Cyfandir ffurfiwyd Urdd y Pontiffiaid—adeiladwyr pontydd—gyda'r Pab[32] ei hun yn ben arnynt, ond nid ymsefydlodd yr Urdd yn y wlad hon. Er hynny gwnaeth yr eglwys gryn lawer yn y cyfeiriad hwn. Yr Esgob Trevor o Lanelwy (1300—57) a adeiladodd bont Llangollen, a thaflodd mynaich Ystrad Fflur bont dros Raeadr Mynach. Parhaodd y traddodiad yn hir yng Nghymru a dywedir mai'r Dr. John Davies o Fallwyd a adeiladodd Bont y Cleifion, Mallwyd, a hefyd bont y Dinas. Un peth oedd codi pont; peth arall oedd ei chadw mewn trefn.
Yn 1284 cafodd Roger Mortimer, o Gastell y Waun, doll pont Llangollen am dair blynedd, ar yr amod ei fod i'w hatgyweirio a'i chadw mewn trefn.[33] Ond nid bob amser y gwneid hyn. Yn y flwyddyn 1335 yr oedd clerc Siambrlen gogledd Cymru— un o'r enw William o Markeley—ar ei ffordd i'r Amwythig a chan marc o arian (13s. 4c.) yn ei feddiant; yn anffodus, medd yr adroddiad swyddogol, "boddwyd y dywededig William yn afon Hafren wrth groesi pont Montford gan y llifogydd ac nis gallwyd darganfod ei gorff am i anifeiliaid ysglyfaethus ei fwyta, ac felly y collwyd y can marc arian."[34]
Gwnaed ymdrech o bryd i bryd i wella tipyn ar y ffyrdd. Weithiau fe balmentid rhan ohoni, fel y gwnaed, meddir, â rhan o ffordd y pererinion yn Llŷn. Yn ôl ystatud Winchester, 1285, ni chaniateid i bren na thwmpath dyfu o fewn 200 llath i'r ffordd rhag llochesu lladron, a gwneid darpariadau neilltuol i ddiogelu teithwyr ar adeg ffeiriau. Yn 1492 talwyd y swm o 4s. 10c. am gadw'r ffordd Redshote yn ystod ffair Ewenni. Pan ddaeth Cymru dan iau Lloegr, yn nyddiau Harri VIII, awgrymodd un o'r enw Thomas Phillips i Thomas Cromwell mai un peth angenrheidiol tuag at ddwyn trefn allan o'r anhrefn yng Nghymru yn ei ddyddiau ef oedd adfer y llwybrau —"tracks"—enw a ddisgrifia i'r dim ansawdd ffyrdd yr oesau canol.

Llyfrau.
LLYFR Jusserand—English Wayfaring Life in the Middle Ages—yw'r clasur ar y cwestiwn diddorol hwn. Nid llai diddorol yw llyfr ein cydwladwr, Dr. Hartwell Jones, Celtic Britain and the Pilgrim Movement ("Cymmrodorion" Series). Ceir disgrifiad o'r cylchoedd Cymreig yn y cyfreithiau, a disgrifiad barddonol o un ohonynt gan Owain Cyfeiliog (Cylch Powys). Y mae, fel y gellid disgwyl, gryn lawer o ganu i'r Herwr ym marddoniaeth yr oesau canol. Ar yr ysbytywyr gweler The Knights Hospitallers in England (Camden Society), 1857, ac am hanes manwl Slebech gweler Rees: "Slebech Commandery," yn Archæologia Cambrensis. V Series X, XIV, XV, XVI. Gweler hefyd lyfr diddorol R. T. Jenkins ar Y Ffordd yng Nghymru (1933).
Nodiadau
[golygu]- ↑ William of Malmesbury: Gesta Regium Anglorum, IV.
- ↑ A. N. Palmer: Ancient Land Tenures in North Wales and the Marches, 133.
- ↑ Jusserand: Wayfaring Life in Middle Ages, 107.
- ↑ Ar y gosb am ladrata gweler Holdsworth: A History of English Law, III, pennod 2.
- ↑ Chirk Castle and Chirk Land, 63-64.
- ↑ Ancient Laws, II, 30, 308, etc
- ↑ Bowen: Statutes of Wales, 41.
- ↑ Ibid., 32.
- ↑ Ibid., 53.
- ↑ Y Cymmrodor, XXV, 97.
- ↑ Bowen op. cit., 9.
- ↑ The History of the Gwydir Family, by Sir John Wynne, 1553-1627, 58.
- ↑ The Autobiography of Lord Herbert of Chirbury, 1582-1648, 3.
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol Mr. Ifan ab Owen Edwards yn Bulletin of the Board of Celtic Studies am fis Mai, 1927.
- ↑ Gweler Archæologia Cambrensis, 1922, t. 462.
- ↑ Ond nid yw yr eglwys ar lwybr y pererinion o gwbl, ac ymddengys mai cymharol ddiweddar yw'r traddodiad am ei chysylltiad â hwy. Gweler Report of Ancient Monuments Commission, Carmarthen, 129. Cymharer y Nodyn gan y diweddar G. G. T. Treherne, Hartwell Jones, op. cit., p. 565.
- ↑ Hartwell Jones: Celtic Britain and the Pilgrim Movement, 193.
- ↑ Tybia Dr. Lloyd i Hywel fyned ar bererindod yn gynnar ar ei oes cyn iddo gasglu'r cyfreithiau at ei gilydd. Aberystwyth Studies, X
- ↑ Hartwell Jones: op. cit., 568 (note)
- ↑ Ibid., 255.
- ↑ 21 Ibid., 371.
- ↑ 22 Ibid., 450
- ↑ 23 Gweler Archæologia Cambrensis, December, 1921, 399.
- ↑ The Knights Hospitallers in England. P. 34, 35.
- ↑ Ibid.
- ↑ Hartwell Jones: op. cit., 138.
- ↑ Bowen: Statutes of Wales, p. 34.
- ↑ W. J. Gruffydd Llenyddiaeth Cymru, 1450—1600, 31.
- ↑ Cymru, Gor., 1912, At Ohebwyr.
- ↑ W. J. Gruffydd: op. cit., 5.
- ↑ Ancient Laws. I, 554, 764.
- ↑ PONTIFF. Y mae i'r gair Pontiff, o'r Lladin pons—facio, hanes diddorol. Fel y mae'n wybyddus, dyma un o'r teitlau yr adwaenir y Pab wrtho ers llawer canrif bellach. Yn wir, un o'r arwyddion cyntaf fod y Pab yn edrych arno ei hun fel etifedd yr hen ymerodraeth Rufeinig oedd i Esgob Rhufain ymgymeryd nid yn unig â'r teitl o Episcopus episcoporum, ond hefyd â'r teitl ymerodrol Pontifex maximus. Ond yr oedd yr enw a'r swydd yn bod ymhell cyn bod na Phab nac Ymherodr. Yn ben ar yr hen gyfundrefn grefyddol yn Rhufain baganaidd yr oedd y Rex—y Rhi—ac o dano yr oedd coleg o gynghorwyr a adwaenid, am ryw reswm nad yw yn glir iawn erbyn hyn, fel pontifices—adeiladwyr pontydd. Ar y cyntaf, rhifant o 3 i 5, ond yn fuan cynyddodd y rhif i 15 o dan bennaeth adwaenid fel Pontifex Maximus. Yn raddol, gyda thyfiant yr ymerodraeth, gwthiwyd y cynghorwyr o'r neilltu, a chymerodd yr ymherodr y teitl iddo'i hun, ac yn ddiweddarach, wedi diflannu o'r ymerodraeth, mabwysiadwyd ef gan Esgob Rhufain. Awgryma'r bardd Varro mai gwaith offeiriad yn adeiladu pont Sulpicia roddodd gychwyn i'r arfer o ddefnyddio'r teitl gan y Pab. Diau mai cyflwr adfydus y pynt yn yr oesau canol roddodd gychwyn i'r urdd newydd. Gwnaethant waith da ar y cyfandir, ac erys adran o hen bont Avignon, adeiladwyd ganddynt hwy, hyd heddiw.
- ↑ Chirk Castle and Chirk Land, 33.
- ↑ Rolls of Parliament, Vol. II, p. 91 (9 Ed., III), 1335.

XVII. Iechyd.
Ymwelodd pla heintus a marwol â'r bobl ynfyd hyn, ac mewn byr amser, er nad oedd cleddyf yn agos atynt fe ddifaodd y fath lu ohonynt, fel nas gallai'r byw eu claddu.—GILDAS.
DICHON mai "afiechyd" ddylai fod yn bennawd i'r adran hon. Gallasai pobl yr oesau canol, beth bynnag, yn briodol iawn ddywedyd yr adnod honno, "Yr ydym beunydd yn marw.' Y mae'r ychydig ffigurau sydd gennym yn dangos nid yn unig y gwneid difrod eithriadol gan glefydau o bob math—rai sydd yn parhau i flino dynoliaeth ac eraill sydd, trwy drugaredd, wedi mynd yn lled anghyffredin erbyn hyn— ond hefyd bod cyfartaledd marwolaethau ymysg plant a phobl ieuainc yn gyfryw na all ein hoes ni ddychmygu amdano. Collodd Harri III ac Edward III bump o blant bob un yn eu plentyndod, a chollodd Edward I gynifer a 7, a gwyddom mai marw'r plant a achosodd beth o'r anghydfod rhwng Harri VIII a'i wraig Catrin. Dengys cywydd Robin Ddu ap Siencyn i "bum mab a dwy ferch o Loddaith"[1] y difrod a wneid gan y Pla pan ymwelai â'r wlad. Bu farw'r saith hyn yn ymweliad 1448. Ac nid oedd y rhai a oroesai beryglon ieuenctid yn byw yn hen. Gadewid y rhan fwyaf o'r rhai oroesai haint neu glefyd mewn cyflwr gresynus i'r eithaf, a dywed un awdurdod sydd wedi cymharu ystadegau'r cyfnod hwn gyda'n hoes ni fod cymaint heddiw yn byw i gyrraedd 70 ag oedd yn byw i gyrraedd 40 yn yr oesau canol.[2]
Rhaid cofio, wrth gwrs, mor wahanol oedd natur bywyd yn y cyfnod hwn. Yr oedd bywyd pawb yn llawer gerwinach nag yw heddiw.
Ychydig iawn ac anaml oedd cysuron bywyd—er gwaethaf a ddywaid beirdd a rhamantwyr. Nid oedd yn y tŷ y clydwch a'r cysur y disgwylir ei gael hyd yn oed yn y cartref tlotaf heddiw. Er enghraifft, nid oedd simdde hyd yn oed yn nhŷ'r uchelwr hyd tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Gadewid i'r mwg fyned allan orau medrai trwy'r drws agored neu trwy dwll yn y tô. Yr oedd y mwg, yn enwedig mwg mawn, yn ddad-heintydd rhagorol, a byddai mesur o iechyd yn ei sawyr mynyddig. Nid oedd ychwaith wydr ar y ffenestri, oherwydd i grefft gwneuthur gwydr farw allan yn y wlad hon rhwng amser y Rhufeiniaid a'r bymthegfed ganrif.[3] Myn awdurdodau eraill fel Denton na fu'r grefft farw allan, ond ei bod wedi ei hesgeuluso yn enwedig tua diwedd y bymthegfed ganrif.[4] Y mae'n wir bod gwydr lliw yn yr eglwysi. Sonia Iolo Goch am wydrau gwiw yn" eglwys gylchlwys galchliw" Owain Glyn Dŵr, ond gwydr a ddygid i mewn i'r wlad o'r Iseldiroedd oedd hwnnw, yn bennaf. Hyd yn oed ym Mynachlog Westminster, yn nyddiau Harri III, cynfas ac nid gwydr a geid yn rhai o'r ffenestri. Ar y llaw arall, ymysg crefftwyr a gyflogwyd gan Esgob Tyddewi yn 1384 yr oedd gwydrwr ar gyflog o dri swllt yr wythnos am bedwar mis. Gosod gwydr, ac nid ei wneud, oedd ei waith, y mae'n debyg.[5] Yn nhŷ'r taeog ac yn eglwysi bychain y wlad nid oedd ffenestri o gwbl.
Dywedir, er enghraifft, i Meredith Wynne adeiladu eglwys Dolwyddelan ar ei gost ei hun yn y flwyddyn 1500. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach rhoddwyd ffenestr wydr yn yr eglwys y gyntaf, meddir, yn yr holl wlad.[6] Lle ceid ffenestri, dengys eu cynllun ar unwaith—sef cul o'r tu allan a lledu tuag i mewn—nad oeddynt ond megis cloer a geir mewn beudai ac ysguboriau heddiw. Rhoid caead arnynt o'r tu allan ac agorid hwnnw i ollwng tipyn o olau i mewn. Weithiau rhoid lliain yn y ffenestr neu fe'i plethid â dellt, a gellir gweld mewn ambell hen furddyn y lle y goodid dellt yn ffram y ffenestr.
Wrth gwrs, fe dreuliai'r bobl lawer mwy o'u hamser yn yr awyr agored nag a wnawn ni heddiw, ac yr oedd eu bywyd yn fwy bwystfilaidd a chreulon. Ceir digon o brofion o hyn yn llen— yddiaeth y cyfnod, yn eu gwleddoedd afreolus ac yn eu gweith— redoedd anfad—a gyflawnid ganddynt weithiau yn enw crefydd. Nid oedd torri tafod neu dynnu llygaid neu anafu aelodau'r corff ond cosb gyffredin yn eu golwg. Pan syrthiodd Dafydd, brawd Llywelyn y Llyw Olaf, i ddwylo'r Saeson yn 1282, dedfrydwyd ef gan farwniaid y brenin (1) i gael ei dynnu'n ddarnau gan geffylau, am ei fod yn farchog ac wedi troi'n fradwr i'r brenin; (2) i'w goluddion gael eu tynnu allan a'u llosgi, am iddo godi mewn gwrthryfel yn ystod wythnos y grog; (3) ei aelodau i'w hanfon i'r pedwar gwynt, am ei fod wedi drygu achos y brenin mewn mwy nag un cyfeiriad.[7]
Bywyd o ryfela neu o hela, gydag ambell bererindod—dyna fywyd y mawrion. Bywyd o lafur undonnog ar faes neu ar ffridd, gydag aml i ŵyl grefyddol i dorri ar yr undonedd, oedd cyfran y taeog. Magai bywyd o'r fath wŷr corffol cadarn, y mae'n wir, ond fe'n synnir pan ddeallwn na all gŵr o faintioli cyffredin heddiw roi gwisgoedd dur y marchogion gynt amdano—arwydd lled sicr nad oeddynt gymaint dynion ag y tybiwn eu bod weithiau.
Nid oedd ganddynt ond syniadau amherffaith iawn am ddeddfau iechyd ac am lanweithdra. Pan ddigwyddai haint, yr oedd
wlad, oherwydd teneuwch y boblogaeth, yn well ei ffawd na'r dref, a'r tyddynnwr yn ei fwthyn yn rhagorach ei sut na'r arglwydd yn ei gastell.
Yr oedd rhaid gwneud rhyw ddarpariaeth iechydol yn y cestyll, a gellir gweld eto yng nghestyll Cymru y garderobes a wnaed gan y Norman. Yng Nghaerffili adeiladwyd tyrau arbennig i'r pwrpas. Ym Miwmares gwnaed carthffosydd o faintioli eithriadol. Yng Nghoyty cesglid y carthion i seler yn sylfeini'r adeilad. Ond fel rheol disgynai'r carthion i'r ffos a amgylchai'r castell, a haws yw dychmygu na disgrifio cyflwr pethau pan ymosodid ar y lle. Rhydd Ordericus Vitalis, a fagwyd yn Atcham yn agos i'r Amwythig, ddisgrifiad o warchae a fu ar un o gestyll Lloegr pan na fedrai neb yn y castell fwyta na chysgu gan wybed a drewdod a godai oddi ar gyrff pydredig yn ffosydd y castell. Yr oedd cyflwr pethau yn Harlech yn ystod gwrthryfel Glyn Dŵr yn lled ddifrifol. Gwnaed y fath ddifrod yno gan afiechyd fel nad oedd ond pump o Saeson ac un ar bymtheg o Gymry yn y lle pan syrthiodd i ddwylo Owain. Tebyg fu helynt teulu Glyn Dŵr ei hun pan warchaewyd arnynt hwythau o fewn i'r un muriau. Cafwyd Edmund Mortimer, ei fab yng nghyfraith, ar fin trengi o newyn neu ryw anhwylder, a gresynus i'r eithaf ydoedd cyflwr ei briod a'r plant pan aed â hwy i Dŵr Llundain.[8]
Nid oedd cyflwr pethau yn y trefydd fawr gwell. Yn ôl Assize 1189—deddf a basiwyd i geisio cael gwell trefn ynglŷn ag adeiladu tai yn nhref Llundain—caniateid gadael carthion tŷ yn yr heol oni fyddent o fewn llathen i dŷ cymydog. Ac ystyrrid y ddeddf hon yn welliant mawr ar y drefn oedd ar bethau gynt. Ni ddaeth yr arfer o balmantu i fod hyd tua chanol ein cyfnod. Yn y drydedd ganrif ar ddeg y dechreuwyd palmantu Llundain, ac yn 1270 yr ymgymerth bwrdeis yr Amwythig â'r gwaith. Hyd yn oed pan wneid hyn, gadewid canol y ffordd yn llawn o bob math o ysbwriel, ac ynddo y byddai'r moch yn cysgu neu yn turio. Gadewid i garthion y tai redeg ar hyd ochr yr heol. Cwynir y byddai cigyddion a gwerthwyr pysgod Cydweli yn taflu ysgubion eu siopau i'r heol heb wneud unrhyw ymdrech i'w symud ymhellach, ac y byddai cigyddion Caer yn eu gadael dan gownter y siop.[9]
Nid oedd y bwyd a fwyteid ychwaith bob amser mor iachus ag y dylasai fod. Yr oedd amryw resymau am hyn yn codi yn bennaf o amgylchiadau bywyd economaidd y cyfnod. Er enghraifft, amherffaith iawn oedd crefft magu a phesgi anifeiliaid, a dylid cadw hyn mewn cof wrth gymharu prisiau heddiw â phrisiau'r oesau canol. Y mae dafad neu eidion tew yn rhywbeth gwahanol iawn heddiw i'r hyn ydoedd y pryd hwnnw. A ganlyn oedd pwysau anifeiliaid yn y Smithfield yn Llundain mor ddiweddar â dechrau'r ddeunawfed ganrif (1710). Yr adeg honno yr oedd tua hanner da'r deyrnas yn gorfod byw orau y medrent ar y cytir:
Eidion, 370 pwys; Dafad, 28 pwys.
Yn 1800 pwysai eidion 800 pwys; dafad, 80 pwys, ac oen, 50 pwys.
Yn 1931, dyma'r pwysau yn arddangosfa Smithfield Llundain Eidion (Hereford), o dan 2 flwydd oed, 1,356 pwys; Cymreig eto, 1,270; Defaid Cymreig, 112 pwys.
Dylid cofio bod yr anifeiliaid yn cael eu lladd yn llawer cynharach heddiw nag oeddynt gan mlynedd a hyd yn oed ugain mlynedd yn ôl.
Nid oedd y cnydau a godid ond prin ddigon i gadw'r anifeil— iaid yn fyw dros dymor y gaeaf. Nid oedd modd cael anifail tew ond unwaith yn y flwyddyn, a hynny yn yr Hydref, a gofelid lladd pob anifail na ellid ei gadw dros y gaeaf. Pan gofir mai ychen wedi myned yn rhy hen i aredig a gwartheg neu famogiaid wedi peidio a rhoi llaeth a leddid ganddynt, hawdd deall nad oedd y cig o ansawdd rhagorol iawn. Helltid y cig, beth bynnag fyddai, ac ar wahân i ambell golomen neu gyw iâr neu wningen, neu efallai weithiau ambell garw o'r goedwig, cig hallt a fwyteid bron yn gyfangwbl trwy gydol y flwyddyn. Wrth gwrs, yr oedd y golomen mor gysegr— edig ag yw'r ffesant heddiw. Ceid colomendy wrth faenordy yr arglwydd neu gerllaw'r fynachlog, a mawr y difrod a wneid ar gynnyrch llafur y taeogion gan yr adar hyn.
Nid oedd bwyd llysiau ychwaith mor gyffredin ag ydyw heddiw. Nid rhaid ond cofio'r ffaith nad oedd tatws wedi eu dwyn i'r wlad eto. Maentumia Harrison, yn ei ddisgrifiad o Loegr yng nghyfnod Elisabeth,[10] fod y grefft o dyfu llysiau wedi dirywio'n fawr ar ôl dyddiau Edward I, ond eu bod erbyn amser y Tuduriaid wedi dyfod yn gyffredin hyd yn oed ar fwrdd y llafurwr. Gwyddom yr arferai'r tlawd, mewn adeg prinder, wneud bara o fes, castan, gwraidd rhedyn, rhisgl coed a phethau cyffelyb.[11] Canlyniad bwyta cymaint o gig hallt a chyn lleied o lysiau oedd y byddai anhwylderau'r croen, fel scurvy a chlefydau eraill, yn dra chyffredin.
Byddai'r cig a werthid yn fynych o ansawdd llygredig. Câi llawer o'r da eu difa gan y Pla (Murrain), a gwerthid eu cig os gellid. Gwnaed trefniant yng Nghenffig yn 1330 i rwystro cigyddion o'r tu allan i'r dref ddyfod â chorpwys unrhyw anifail i'r dref heb ddwyn y croen hefyd, fel y gellid penderfynu a oedd yn iach ai peidio. Ceir enghreifftiau o gigyddion yn y gogledd yn cael eu cosbi am yr un trosedd.
Ni chaniatâi'r eglwys fwyta cig ar ddydd Gwener nac ychwaith yn ystod tymor y Grawys, ond na feddylied neb mai pysgod ffres a fwyteid gan y cyffredin. Gwir bod gan y mynaich a'r mawrion eu pysgodlynnoedd a'u hafonydd:
Pysgodlyn, kyryglyn kau
A vo rhaid i vwrw rhwydau,
ond pysgod hallt a gâi'r gwerinwr oherwydd anhawster eu cludo o fan i fan. Yn y trefydd gwneid hwy yn basteiod bychain, a rhoid cymaint o bupur ac o sbeis ynddynt nes celu eu sawr. Tybir mai'r pysgod hallt a fwyteid oedd yn cyfrif am gyffredinolrwydd y gwahanglwyf.[12]
Anhawster arall ydoedd prinder ŷd. Ar gyfartaledd, ni ellid disgwyl ond wyth neu naw bwsiel oddi wrth bob dau a heuid, ac erbyn diwedd yr oesau canol ni cheid yn fynych fwy na phedwar neu bump.[13] Yr oedd y cynnyrch ar y prif faenorydd ychydig yn well. Y mae'n debyg mai fel hyn y dylid esbonio'r brawddegau yn Llyfr Du Tyddewi, lle dywedir bod yr arglwydd yn gyfrifol am y trydydd neu'r pedwerydd gronyn, hynny yw, disgwylid cael tri neu bedwar am bob un a heuid. Yn fynych ni wnai'r ceirch a'r haidd ond dyblu, a rhywbeth tebyg fyddai cynnydd y rhyg. Wrth gwrs, fe geid gwell cnydau na hyn yn achlysurol, ond ffaith safonol bywyd amaethyddol yr oesau canol ydyw tlodi ei gynnyrch.
O ganlyniad, anwadalwch yw prif nodwedd prisiau y cyfnod. Yr oedd methiant cnwd, a oedd ar ei orau yn hynod fychan, yn sicr o beri drudaniaeth. Codid bron y cwbl oedd yn angenrheidiol o fewn y wlad ei hun, ac yn fynych iawn codai plwyf yr holl ŷd a fyddai'n eisiau gan y plwyfolion. Pan geid cnwd da, byddai'r ŷd yn y mannau hynny yn hynod o rad, oherwydd yr oedd yn anodd ei gludo o fan i fan. Y flwyddyn ddilynol, hwyrach, fe fethai'r cnwd, ac am yr un rhesymau ceid newyn yn y wlad. Er enghraifft, yn 1361 4/8 y chwarter oedd pris gwenith, ond yn 1363 yr oedd yn 35/-. Yn 1244, 6/- oedd y pris, ond erbyn 1270 yr oedd yn £16 16/-.Adam Smith: Wealth of Nations, Bk. I, XI. Ar odd yw cyfrif am y £16/16.
Deuai newyn dan amgylchiadau o'r fath bob rhyw bedair neu bum mlynedd, ac ofer fai ceisio rhoi rhestr ohonynt. Sonia William o Malmesbury am newyn yn amser William y Concwerwr yn 1086-7. Bu newyn mawr yn 1095. Dywed yr Annales fod newyn ym Margam yn 1189. Sonia Gerallt am newyn yn 1196, pan oedd ef ar ymweliad â Lincoln, a'r trueiniaid yn rhythu yn y drysau a'r ffenestri. Methodd y cnwd yn 1316 a hefyd yn 1347, y flwyddyn cyn ymweliad y pla du,[14] pryd y glawiodd bob dydd am bedwar mis. Nid oedd newyn yn beth dieithr yn hanes plwyfi anghysbell hyd yn oed yn nechrau'r ganrif ddiwethaf. Cawn hanes newyn ym mhlwyf Llanwddyn yn 1796, pryd y galwyd cyfarfod o'r plwyfolion ynghyd i ystyried y safle ddifrifol.[15]
Pan geid cynhaeaf drwg, byddai llawer o'r grawn yn hollol anghymwys i'w fwyta. Byddai'r blawd yn rhy wlyb i godi, ac ni byddai'r bara, o ganlyniad, fawr gwell na thoes. Dyma'r bara mall y gwyddai ein teidiau a'n neiniau mor dda amdano. Fel y sylwyd mewn pennod flaenorol, ymddengys y byddai bara canthryg (cann-rhyg), hynny yw, bara wedi ei wneud o wenith neu haidd wedi ei gymysgu â rhyg, yn lled boblogaidd. Y mae rhyg, fodd bynnag—yn enwedig ar dymor drwg—yn agored iawn i gael ymosod arno gan barasit yr "ergot," sy'n achosi math o glefyd a adwaenir fel "ergotism." Byddai'r clefyd hwn yn gyffredin iawn ymysg tyddynwyr Ffrainc yn y ddeunawfed ganrif; ond dywed Gwallter Mechain nad oedd mor gyffredin yng Nghymru, er bod llawer o fwyta rhyg yn ei amser ef.[16]
Ychydig o fara a fwyteid gan Gymry yr oesau canol. A Gwallter Map mor bell a dywedyd na fwytaent fara o gwbl.[17] Sonia Gerallt, ar y llaw arall, am fara llech a wneid ganddynt, ac y mae lle i gredu mai bara ceirch oedd hwnnw. Dibynnent i raddau helaeth ar gig, ymenyn, llaeth ac uwd (wedi ei wneud o bŷs yn ogystal ag o flawd ceirch). Yr oedd yn fwyd naturiol a syml i bobl fugeiliol. Dywed Gerallt y cymerent ofal mawr rhag bwyta dim byd poeth. Credent y gwnai hynny niwed i'w dannedd, a chymerai'r naill ryw fel y llall, medd Gerallt, ofal neilltuol o'u dannedd trwy eu glanhau â chollen werdd a'u sychu â gwlanen.[18]
Un o'r pethau mwyaf torcalonnus, yn sicr, a ddyfeisiodd eglwys yr oesau canol ydoedd gwasanaeth neilltuad y claf, fel y gelwid y gwahanglwyfus. Ar achlysur o'r fath âi'r offeiriad i dŷ'r claf yn ei wisg offeiriadol, gyda'r groes orymdeithiol o'i flaen, ac arweiniai'r claf gydag ef i'r eglwys. Yno yr oedd dau dresel a ddefnyddid i roi arch arnynt pan fyddai angladd, a throstynt taenid yr elorwisg a orchuddiai'r arch ar amgylchiad o'r fath. Gorfyddid i'r claf benlinio oddi— tano fel arwydd ei fod yntau hefyd o hynny allan i gael ei ystyried fel un marw. Cyn dechrau'r gwasanaeth gofynnid iddo wneud ei gyffes. Yna eid trwy wasanaeth yr offeren, ac arweinid y claf i'r fynwent lle teflid pridd ar ei draed fel arwydd ychwanegol o'i restriad ymysg y meirw. Yna dychwelai i'w dŷ a'r wisg ddu amdano ac wedyn arweinid ef i'r meysydd. Yno gwneid iddo addo peidio byth â dychwelyd i fysg pobl na golchi ei ddwylo mewn unrhyw ffrwd o ddŵr nac yfed ohoni; yr âi allan o'r ffordd os digwyddai gyfarfod â theithwyr eraill, a pheidio a rhoddi ei law ar ddim a oedd yn debyg o gael ei gyffwrdd gan arall. Rhoddid i'r truan gôb ac esgidiau, clôg a chapan, dau bâr o gynfasau, gwregys, cyllell, cwpan a phlat, a'r "clappers" yr oedd raid iddo eu defnyddio pryd bynnag y deuai yn agos at dref neu bentref, er mwyn i'r trigolion wybod ei fod yno ac felly ei osgoi.[19]
Ychydig sail, felly, sydd i'r dyb a goleddid unwaith y caniateid i'r cleifion gymryd rhan yng ngwasanaeth yr offeren trwy ffenestr agored y gellid gweld yr allor trwyddi o'r fynwent. Y mae'n amlwg na chaniateid i'r gwahangleifion fyned i'r fynwent o gwbl.
Bu'r gwahanglwyf yn ysgubo trwy'r wlad o'r unfed ganrif ar ddeg hyd y bedwaredd ar ddeg. Erbyn yr unfed ar bymtheg yr oedd wedi lliniaru cryn dipyn. Anghytuna awduron gyda golwg ar y rheswm am hyn, a hefyd ynglŷn â nifer y dioddef— wyr, ond gwyddom rywbeth am y ddarpariaeth a wnaed trwy godi ysbytai i gyfarfod â'r anhwylder. Dywedir bod dros 200 o dai o'r fath yn Lloegr,[20] ac y mae amryw gyfeiriadau at ddarpariadau tebyg yng Nghymru.
Dengys enwau fel y Clafdy yng Nghemaes, Môn, a Rhydyclafdy yn agos i Bwllheli, fod tai o'r fath yn yn bod y lleoedd hynny unwaith. Pa mor fore y gwnaed y ddarpariaeth ni wyddom, ond sonnir yng nghyfreithiau Hywel am "fab a gaffo clafwr gwedy y bo barnedig i glafdy fel un na ddyly dreftad,"[21] hynny yw, na ddylai etifeddu eiddo ei dad. Ond y mae lle i gredu na wnaed darpariaeth yn fore iawn, ac mai ychwanegiad diweddar, o bosibl, oedd y gyfraith hon.

Dywedir i Owain Cyfeiliog, sefydlydd hen fynachlog Ystrad Marchell, yn 1170, sefydlu "elusendy yn Nôl y Cleifion, yr hwn a losgwyd oherwydd eu godineb."23 Arhosodd enw Dôl y Cleifion ar le yng nghymdogaeth y Trallwng am ganrifoedd. Ymddengys oddi wrth nifer o ewyllysiau o gyfnod y Tudur— iaid fod yr hen ddôl, a gedwid o hyd fel gweirglodd, erbyn yr amser hwnnw wedi syrthio i ddwylo nifer o wahanol bersonau. Yn y disgrifiad a rydd George Owen o Sir Benfro, dywed yntau i Gilbert de Clare, Iarll Penfro (1234—41), roddi tir i "Maudlem o Ddinbych y Pysgod" i sefydlu tŷ i noddi'r gwahan— gleifion a oedd yno. Yr oedd y tŷ hwn, fel y rhelyw ohonynt, wedi ei gysegru i Fair Magdalen.[22]
Ar y terfyn rhwng dwy adran hen dref Wrecsam—Wrecsam yr Abad a Wrecsam y Brenin—yr oedd gynt gae o'r enw Cae'r Cleifion. Nid oes yno olion o fath yn y byd heddiw, ond tybiai Palmer, hanesydd dihafal y dref, oherwydd ei safle ar y cyrion, y dichon fod yno dŷ clafwyr unwaith. Yr oedd clafdy hefyd yn nhref Gaernarfon yn y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad Edward III.
Yn y siarter a roddwyd i hen fynachlog Ystrad Fflur yng Ngorffennaf, 1426, ceir rhestr o'r tiriogaethau a oedd yn perthyn iddi, ac yn eu mysg ceir Strat Meur (Ystrad Meurig) ag eithrio erwau y gwahangleifion." Yr oedd ganddynt hwy (y gwahangleifion) o bosibl siartrau neilltuol.[23]
Mwy arswydus hyd yn oed na'r gwahanglwyf ydoedd ym— weliadau ysbeidiol difaol y Pla Du. Sonnir amdano yn gwneud galanas yn Athen pan ddywedir i Socrates ei osgoi oherwydd ei fywyd dichlynaidd. Torrodd allan yn arswydus mewn lle o'r enw Pelusium, dinas yn gorwedd rhwng hen gors enwog Serbon ac un o gangau'r afon Nil. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 542 O.C., a bu'n mynd ac yn dyfod am ysbaid o hanner can mlynedd. Yn ystod yr hanner can mlynedd hynny bu can— noedd o filoedd, os nad miliynau, farw, a myn rhai awduron nad adfywiodd adran ddwyreiniol yr ymerodraeth Rufeinig byth wedi'r ymweliad hwnnw.[24]
Dyma yn sicr yr ymweliad a achosodd farw'r hen deyrn hwnnw, Maelgwn Gwynedd. Dywed rhai mai yn 547 y bu hyn, ond nid oes sicrwydd ar y pwnc. Dywedir i Daliesin ben beirdd rag—ddywedyd ei dranc yng nghastell Deganwy ym mhresenoldeb Maelgwn ei hun:
Fe ddaw pry rhyfedd o Forfa Rhianedd
I ddial anwiredd ar Vaelgwn Gwynedd,
A'i flew a'i ddannedd a'i lygaid yn eurydd,
A hyn a wna ddiwedd ar Vaelgwn Gwynedd.
Sonnir am y Pla hwn fel y Fad Felen; yr oedd, meddir, yn debyg i darth yn codi'n golofnau oddi ar wyneb y ddaear ac ysgubo dros y wlad fel cawod o law—disgrifiad diddorol, a chofio darddu o'r Pla yng nghorsydd tarthog a heintus y Nil.

Bryd arall cyfeirir ato fel bwystfil mawr melyn—ei wallt a'i lygaid a'i ddannedd oll yn felyn. Bodlonodd Maelgwn ar ffoi o'i lys yn Neganwy i eglwys gerllaw—Eglwys y Rhos, y mae'n debyg—lle y dywedir y gorffwys.[25] Yn un o'r trioedd, adwaenir yr ymweliad hwn fel Pla Melyn y Rhos o'r herwydd, a dywedir ei achosi gan nifer y celaneddau. Dywedir i Faelgwn gael golwg arno trwy dwll clo yr eglwys ac iddo drengi yn y fan.
Ond yr ymweliad y mae gennym fwyaf o fanylion yn ei gylch yw ymweliad 1348—9. Bu llawer ymweliad arall yn ystod yr oesau canol ac ar ôl hynny, ond achosodd Pla Du 1348 y fath alanas fel na bu bywyd cymdeithasol yr oesau canol byth yr un fath wedyn.
Ymddangosodd y tro hwn mewn caer fechan o'r enw Kertch yn y Crimea, a berthynai i Genoaiaid, a thybir ei gludo yno gan farsiandwyr o China. Erbyn dechrau Awst, 1348, yr oedd wedi cyrraedd Melcombe Regis yn Dorset, ac ymhen pythefnos yr oedd ym Mryste.[26]
Ni wyddom i sicrwydd pa bryd y cyrhaeddodd Gymru, ond dywed yr hen groniclydd—Baker de Swynbroke fod Cymru, yn ogystal a Lloegr, erbyn 1349 wedi ei diffeithio gan y Pla, ac ategir hynny gan dystiolaeth ystadegau.[27]
Ymysg y rhai cyntaf i syrthio'n aberth iddo yr oedd swydd— ogion y farchnad wlân—y stwffwl—yng Nghaerfyrddin. Yr oedd hyn ym mis Mawrth, 1349. Gorfyddid allforio gwlân y Deheubarth o borthladd Caerfyrddin am ei fod ar dir y goron, a rhoddai hynny gyfle i'r Brenin i godi'r doll a oedd yn ddyledus arno. Yn gynnar yn yr un flwyddyn bu farw arglwydd adran ddwyreiniol arglwyddiaeth Abergafenni, a chwynai tenantiaid adrannau o'r un arglwyddiaeth na allent dalu ond un rhan o dair o'r rhent a dalent gynt. Lledodd y Pla yn gyflym ar hyd y goror, a chawn hanes am denantiaid rhydd Yockleton, yn arglwyddiaeth Caus, rhwng y Trallwm a'r Amwythig, yn cael gostwng eu rhent o £8 i £1 10. Dywedir bod y melinau yn gwbl ddiwerth am nad oedd neb i'w defnyddio oherwydd y Pla. Cafodd bwrdeiswyr Rhuddlan ostyngiad o £10 yn eu rhent oherwydd eu tlodi mewn canlyniad i'r Pla. Dengys y Record of Carnarvon fod melin Dolwyddelan, a arferai ddwyn 10/- yn y flwyddyn i'r arglwydd, yn "adfail diwerth" gyfrif y "Pestilens." Dywed yr un Record fod tir yng nghymwd Llywan na ellid ei osod oherwydd prinder tenantiaid. Gorfu i dywysog Cymru, yn 1352, faddau i'w denantiaid caeth yn y gogledd yr hyn a arferent ei dalu i'r stôr fawr. Peidiodd y ffeiriau a'r marchnadoedd, a bu hynny yn gryn golled i'r arglwyddi yn ogystal ag i'r tywysog. Ym Miwmares arferai'r Brenin godi toll ar bob llwyth o benwaig a ddeuai i mewn neu a âi allan o'r porthladd. Codid tâl o 4d. hefyd am bob llong wrth angor yn y porthladd, ond yn ystod blwyddyn y Pla, ymddengys na ddaeth llong ar gyfyl y lle. Yn Nhegeingl derbyniai'r Tywysog £5 yn y flwyddyn gan fwynwyr y lle yn ogystal a chyfran o'r mwyn, ond erbyn 1350 yr oedd wedi disgyn i 4/-, a 5/- y flwyddyn ddilynol, "am fod y rhan fwyaf o'r mwynwyr wedi marw a'r gweddill yn gwrthod gweithio."[28]
Fel ym mhob gwlad, ymddengys i'r trefydd ddioddef yn arswydus, a hynny, y mae'n debyg, ar gyfrif eu budreddi. Yn ystod y pythefnos olaf o Fehefin, 1349, bu farw 77 yn nhref Ruthyn, a deg yng nghymdogaeth Llangollen, ac ymhen ychydig wythnosau yr oedd y ffigurau hyn wedi eu dyblu. Bu farw bron y cwbl o daeogion Deganwy, a diflannodd cynifer a 97 allan o 104 o denantiaid Deheudir Cymru. Tenant— iaid wedi ymryddhau oddi wrth bob ffurf ar wasanaeth gorfodol oedd y rhain, ond talent westfa o 1/4 yn y flwyddyn.[29] Ymddengys fod peth amheuaeth a oeddynt wedi marw i gyd, ac y mae'n debyg mai wedi ffoi yr oedd nifer ohonynt. Gwyddom i nifer o'r llafurwyr ddianc yn Lloegr ac y mae'n lled debyg i'r un peth ddigwydd yng Nghymru.
Ceir disgrifiad torcalonnus o ambell faenor fel Caldicott, a ddioddefodd yn fawr yn ymweliad 1361. Erbyn 1366 nid oedd dim ŷd yn cael ei godi yno, ac yr oedd y faerdref wedi ei gosod. Erbyn 1374, yr oedd yr arglwydd wedi gwerthu yr holl dda a oedd ganddo am nad oedd yno neb y gallai ei benodi Mewn yn feili (Reeve), gan fod yr holl daeogion wedi marw. manor arall—Llanfair Strigoil—dywedir nad oedd dim elw oddi wrth y colomendy am fod y colomenod yn nythu yn y neuadd ac ystafelloedd eraill y tŷ. Yr oedd y beudai heb anifeiliaid ynddynt, yr ardd yn afler a'r pysgodlyn heb bysgod.
Hawdd gweld sut y bu i alanas o'r fath gloddio dan sail yr hen gyfundrefn gymdeithasol a chwbl weddnewid y berthynas rhwng meistr a gwas, arglwydd a thenant. Yn Lloegr gwnaed ymdrech trwy ddeddfwriaeth i gadw'r berthynas yr un ag ydoedd cynt ac i atal cyflogau rhag codi. Dyna oedd amcan Ystadud y Llafurwyr, 1351. A fu rhywbeth tebyg yng Nghymru ni wyddom, ond dywedir i Edward I roi'r rheol ynglŷn â chyflogau mewn grym ar dir y goron, a dengys gweithrediadau Cwrt Rhuthyn i deilwriaid a chryddion y dref honno gael eu cosbi am godi mwy o dâl nag arfer. Dywedir hefyd i Houghton, Esgob Tyddewi, roi gorchymyn yn 1380 nad oedd yr un llafurwr trwy ei holl arglwyddiaeth ef i gymryd mwy na 2d. yn y dydd. Y mae gwahaniaeth barn ynghylch effeithiolrwydd deddfwriaeth o'r fath, ond nid oes neb yn amau y chwyldroad a achoswyd gan ymweliadau mynych y Pla Du. Byddai tenantiaid y dref gyfrif yn atebol am swm arbennig o wasanaeth, beth bynnag fyddai eu rhif. Syrthiai'r baich, o ganlyniad, yn drwm iawn ar weddill tenantiaid y dref pan fyddai marw nifer o'r cyd-denantiaid. Ceir cŵyn o Dalybolion, Môn,[30] na allai un tenant ddal y tir oherwydd y gofynion a oedd arno—awgrym bod ei holl gyd-denantiaid wedi marw.
Yn yr un modd, gweddnewidiwyd y maenorydd yn adrannau Normanaidd y dywysogaeth. Am nad oedd digon o denantiaid i drin tir yr arglwydd, ymgymerth bwrdeiswyr Hay, Sir Frycheiniog, a'i rentu eu hunain. Ceir hanes am daeogion mewn rhai lleoedd yn rhentu'r tir ar lês ac felly yn dyfod yn rhydd o afaelion yr hen gyfundrefn. Bryd arall ceir gwŷr rhydd yn rhentu tir âr ar delerau ffiwdalaidd. Yr oedd y naill fudiad fel y llall yn tueddu i ddiddymu'r gwahaniaeth rhwng y gwahanol ddosbarthiadau. Weithiau nid oedd dim i'w wneud ond gadael i'r tir fynd yn wyllt a'i osod fel tir pori. Ar y goror trodd yr arglwyddi i fagu defaid, a gwnaed hynny yn gyffredin yn Lloegr hefyd. Yr oedd yn agos i 1,000 o ddefaid yn perthyn i Arglwyddiaeth Brycheiniog yn 1373, a'r un flwyddyn yr oedd gan Arglwydd Bohun gynifer â 18,500 o gnufiau.[31]
Codid tai i'r cleifion fel mater o elusen, yn debyg i'r fel y darperir tlotai heddiw. ac nid yn gymaint gyda'r amcan o'u gwella. Ceisid perswadio'r anffodusion i fodloni ar eu tynged ac i wynebu eu diwedd yn ddirwgnach—gorchwyl anodd iawn, fel y dengys hanes y Brodyr Llwyd. Cyflwr ofnadwy y cleifion oedd un o'r pethau a ddeffrôdd gydwybod Sant Ffransis (1182-1226), ac ni wnaeth neb gymaint a'r Ffransisiaid i ddwyn mesur o obaith i rai oedd megis wedi eu hesgymuno gan gymdeithas. Dewisodd yr urdd hon weithio yng nghanol tlodi a budreddi trefydd yr oesau canol, a thrist yw meddwl iddi gael ei difodi bron yng ngalanas y Pla Du.[32].
Amherffaith odiaeth ydoedd gwybodaeth feddygol yr oesau canol. Yn wir, nid oedd eu meddyginiaeth yn aml ond rhyw gyfuniad ofnadwy o ffisigwriaeth a swyn.
Ymddengys yr arferai cleifion o bob math fyned i ymdrochi yn y ffynhonnau twym, fel rhai Caer Baddon, o'r cyfnod boreaf. Ceir traddodiad i hen dywysog Prydeinig gael ei wella yn y ffynhonnau hyn hyd yn oed cyn i'r Rhufeiniaid eu hadeiladu fel y maent heddiw. Ond credai croniclwyr yr oesau canol fod mwy o rinwedd yn nŵr gwyrthiol Caergaint, a gynhwysai ddiferyn o waed San Thomas wedi ei gymysgu â dŵr o ffynnon ei gladdgell.[33] Sonnir am Ffynnon y Cleifion ym Mynwy, ac am ddŵr y cleifion ym Mhenfro, a diau y cyrchid i'r lleoedd hyn, yn ogystal ag i leoedd eraill, i geisio gwellhâd.
Yr oedd i'r meddyg, wrth gwrs, le pwysig yng nghyfreithiau Hywel. Eisteddai bob amser yn nesaf at y Penteulu, ac ni chai adael y llys heb ganiatâd y brenin. Câi ei ddillad gan y brenin a'r frenhines fel y prif swyddogion eraill. Rhaid oedd iddo roddi ei gyffuriau yn rhad i'r pedwar swyddog ar hugain, oddieithr pan fyddai damwain eithriadol, pryd y câi dâl o ugain ceiniog. Codai 4d. am eli llysiau a 1/- am eli coch.[34]
Ychydig o ddatblygiad a fu yn hanes meddyginiaeth yn ystod yr oesau canol, a dyry'r casgliad rhyfedd hwnnw o gyfarwyddiadau meddygol a adwaenir fel Meddygon Myddfai ddarlun lled gywir i ni o wyddor y cyfnod.
Math ar chwarennod gwenwynllyd oedd y Pla Du, a dyma gynghorion Meddygon Myddfai ynglŷn â'r modd i'w trin:
Cais ddyrnaid da o'r geidwad goch a dyrnaid o riw, a dyrnaid o arlleg, a'u pwyo'n dda mewn cwrw cryf neu win neu fedd da. Yna ei hidlo trwy liain main a'i glaearu a'i yfed yn glaear a iach y byddi trwy Dduw.
Rhywbeth tebyg yw'r cyfarwyddyd a geir yn Llyfr Meddyginiaeth a gopiwyd gan Elis Gruffydd, y Sowdwr o Galais:
Rhag y Pestilens, kymer dyrnaid o sage a dyrnaid o Rosemari a dyrnaid o'r wermod a dyrnaid o'r ffederffoy (y wermod wen), hanner dyrnaid o ryw, hanner dyrnaid o'r Tansi, a'u golchi yn lân a'u dodi mewn gwydr yn llawn o win Malmsi a'u gadael yno bob amser ac yfed llonaid llwy arian o hwnnw beunydd ar i gythlwng, a'r ddiod honno a fydd kyn chwerwed a'r bustl ac ni chlefycha fyth o'r pestilens tra arfero o'r ddiod honno.
I weled ochr arall i feddyginiaeth yr oesau canol, cymerer y cyngor a ganlyn rhag y ddannodd o Feddygon Myddfai:
Cais hoel haearn ag ysgrifenna arni y geiriau hynn+ Agla + Sabbaoth + Athanatos, a tharo yr hoel dan y dant claf, ac oddiyna mewn pren derwen, a thra fo hi yno ddanoedd i'r dyn ac a'r hoel ysgrifenna enw y dyn ar y dderwen gan ddywedyd fal hyn: Trwy nymiant y Tad a'r geiriau cyssegredig mae fel yr ei di yn y pren, felly yr el y gwyn a'r dolur o ddant y claf: poed felly y bo. Amen.
Neu hwn rhag y cramp o Lyfr Meddyginiaeth:
Rhag y Cramp. Dowaid y geiriau hyn: "thoral get and gott gott canay Hen arap erax o boxi."
Dengys y cynghorion a roddid gan adran feddygol Prifysgol Paris—y brifysgol bwysicaf o ddigon yn yr oesau canol—nad oedd Cymru wedi'r cyfan ryw gymaint ar ôl yr oes. Pwysleisient hwy ddylanwad y planedau a chredent y glawiai am gyfnod o saith niwrnod hyd yr ail ar bymtheg o Orffennaf, 1349, ac y cliriai hynny yr awyr. Os digwyddai hynny, awgrymant i bawb yfed ychydig driagl a pheidio a chysgu yn y dydd, ac i bobl dewion ofalu rhag eistedd yn yr haul. Gwell yw eu hawgrymiad y dylid llosgi coedydd a llysiau persawr fel y wermod a'r camomile. Tebyg ydoedd barn Gentilis o Foligno, meddyg enwog yn Itali, a syrthiodd ei hunan yn aberth i'r Pla oherwydd ei ffyddlondeb i'w ddyletswyddau. Credai yntau mewn puro'r awyr trwy losgi coed hyfryd eu sawr a rhoddai bwys ar serio'r chwarennau ac ar waedu'r dioddefwyr.[35]
Yr oedd gwaedu yn fuddiol i bob peth ac yn rhan megis o grefydd y mynaich. Perthynai i bob mynachlog ystafell arbennig, lle gwaedid y brodyr, ac un arall, y misericordia, lle caniateid iddynt aros am ysbaid o bedwar niwrnod ar ôl goruchwyliaeth y gwaedu. Gwahaniaethai rheolau'r gwaedu yn ôl yr Urdd. Pedair gwaith yn y flwyddyn y gwaedid y Sistersiaid—yn Chwefror, Ebrill, Medi a gŵyl St. Ioan (Rhagfyr 27). Yn ystod eu harosiad yn y misericordia, ni ddisgwylid iddynt fynychu'r gwasanaeth crefyddol, a chaent well bwyd nag arfer. Y diwrnod cyntaf caniateid iddynt dri wy wedi eu curo mewn llaeth, a bara a gwin. Yna caent gig cyw a phorc, caws a physgod. Caniateid gwas yn y misericordia i wylio rhag i'r gwythiennau ail dorri a cheir manylion am y bwyd a gai hwnnw hefyd—cwrw a photes, caws, cig, wy neu bysgodyn, a bara gweision (bara du, y mae'n debyg).[36]
Rhoddai'r mynaich gryn sylw i feddyginiaeth lysieuol, a byddai rhan o ardd y fynachlog yn cael ei neilltuo at dyfu llysiau rhinweddol. Erys rhai o'r llysiau hyn o hyd yng nghymdogaeth ambell hen fynachlog.[37] Ceir cyfeiriad atynt gan William Salesbury yn ei Lysieulyfr Meddyginiaethol:
"Y Redic . . y mae yn tyfu . . . yng ngweirglodd y myneich gynt y tu gorllewin i vonachlog Aberconwy." Byddai eraill heblaw'r mynaich yn tyfu llysiau meddyginiaethol. Ymddengys fod gardd o'r fath yn Llewenni. Y mae ar gael lythyr oddi wrth ryw Thomas Thomas at Edward Morgan yn cynnig iddo unrhyw lysieuyn o ardd Llewenni, a rhoddir rhestr o gryn ddwy fil a hanner o lysiau. Yr oedd yr Edward Morgan hwn o Fodysgallen yn hanfod o deulu Golden Grove, ac yr oedd ganddo ardd lysiau yn Llundain.[38]
Tua diwedd yr oesau cano' fe dorrodd anhwylder allan y tybir iddo gychwyn yng Nghymru Adwaenid ef yn gyffredin fel y "Sweating Sickness," am y byddai'r dioddefydd yn chwysu'n eithriadol. Dywedir iddo dorri allan gyntaf ym myddin Harri VII, pan oedd y gwron hwnnw ar ei ffordd i faes Bosworth, ac yr oedd wedi cyrraedd Llundain erbyn mis Medi, 1485. Yr oedd eisoes wedi cyrraedd Rhydychen erbyn mis Awst, ac ni bu neb yn y Brifysgol am ysbaid o chwech wythnos. Ymddengys fod yr afiechyd yn un hynod angeuol. Ceir manylion gan Harrison am ymweliad arall a fu yn 1556,[39] a gwyddom i gynifer a 500 o ddineswyr Croesoswallt farw yn ystod ymweliad a fu yn 1559. Dyma'r pryd, meddir, y codwyd y groes a adwaenir fel Croes Wylan, ac y symudwyd y farchnad i'r llecyn lle saif y groes heddiw y tu allan i furiau'r dref.[40]

Llyfrau.
Y LLYFR mwyaf cyflawn ar hanes afiechydon yr oesau canol, a'r unig un hyd yma sy'n ymdrin â gwahanol agweddau'r pwnc yw llyfr Charles Creighton, A History of Epidemics in Britain from A.D. 664 to the extinction of the Plagues. Ceir hefyd erthyglau gan yr un awdur yng nghyfrolau Traill's Social England. Wrth gwrs, caiff y Pla Du gryn lawer o sylw. Boccaccio i'r Decameron yn dystiolaeth ofnadwy gan lygad-dyst am yr hyn Y mae rhagarweiniad a ddigwyddodd yn Florence. Ysgrifennodd yr Abad Gasquet lyfr yn dwyn y teitl The Black Death, 1348-49. Ail gyhoeddwyd ef dan y teitl The Great Pestilence. Cyhoeddwyd hefyd lyfr yn ddiweddar gan Johannes Nohl dan y teitl The Black Death: A Chronicle of the Plague compiled from Contemporary Sources, ond nid oes yr un gwell na llyfr J. F. C. Hecker, The Black Death in the 14th Century, a gyhoeddwyd mor bell yn ôl ag 1832 yn Berlin. cyfieithiad Saesneg yn "Cassell's National Library."
Gwnaeth Dr. Jessop ymgais i olrhain ei effeithiau ar fywyd cymdeithas yn ei Coming of the Friars, ac nid ymddengys i ni fod Coulton, yn ei lyfr bychan ar y Black Death (Benn), wedi gwneud llawer i ddadymchwel casgliadau Jessop. Dywed Jessop fod rhwng un rhan o dair a hanner y boblogaeth wedi marw o'r Pla, a chymer Coulton lawer tudalen i geisio profi na allasai fod yn fwy nag un rhan o dair.
O'r safbwynt yma, y mae'n sicr mai'r astudiaeth fanylaf a feddwn yw gwaith Miss Levett yn ei hymchwil i'r difrod a wnaed ar faencrydd Esgobaeth Winchester: The Black Death on the Estates of the See of Winchester, A. S. Levett, 1916.
Am Gymru, ceir manylion ym mhennod olaf South Wales and the March, gan Dr. William Rees, a hefyd yn ei erthyglau yn Royal Historical Society Transactions, IV Series, Vol. III, ac yn Proceedings of the Royal Society of Medicine am 1923.
Ar fanylion gwasanaeth neilltuad y claf gweler Atodiad A yn Medieval Hospitals of England, gan R. M. Clay, wedi ei godi o Manuale ad Usam Insignis Ecclesiæ Sarum. "Arfer Sarum" oedd y dull crefyddol mwyaf poblogaidd ym Mhrydain. Yr oedd ffurfiau gwasanaeth eraill hefyd, fel eiddo Caerefrog, Henffordd a Bangor.
Ar simneiau a ffenestri gweler T. Hudson Turner, Some Account of Domestic Architecture in England. Dywed ef nad oedd y simnai yn bod yn Lloegr nac mewn llawer man ar y cyfandir hyd y bymthegfed ganrif. Awgryma awduron eraill fel Gotch iddynt ddyfod yn gyffredin cyn hynny, yn enwedig yn y cestyll, lle ceid mwy nag un llawr, ac na allai'r mwg fyned allan o'r ystafelloedd isaf onid arweinid ef. Dywed Iolo Goch fod" Simneiau lle magai mwg yn Sycharth yn nechrau'r bymthegfed ganrif. Gweler Gotch, The Growth of the English House, 1100—1800. Sonia Harrison yn ei Elizabethan England am gynnydd yn nifer y simneiau fel rhywbeth eithriadol. Ni cheir cyfeiriad atynt yn Assize 1189.
Dywed Turner i grefft gwneud gwydr golli o'r wlad ar ôl amser y Rhufein— iaid hyd y bymthegfed ganrif, ond nid yw yn hollol gywir. Daeth Benedict Bishop â gwydrwyr gydag ef o'r cyfandir, ac ymddengys i'r grefft ryw fudr fodoli trwy gydol yr oesau canol, er mai o'r cyfandir y deuai'r gwydr gorau. Ni cheid hwnnw, wrth gwrs, na gwydr o fath yn y byd yn nhai'r cyffredin.
Cyhoeddwyd Meddygon Myddfai gan y "Welsh MSS. Society" yn 1861, wedi ei gyfieithu gan John Pughe, Penhelyg, Aberdyfi, a'i olygu gan Ab Ithel. Y mae gan Paul Diverres hefyd argraffiad Ffrangeg o ran o'r gwaith gyda rhagymadrodd diddorol (1913). Cyhoeddwyd argraffiad o Lysieulyfr Salesbury, wedi ei olygu gan Mr. Stanton Roberts, yn 1916, a hefyd argraffiad o'r Llyfr Meddyginiaeth dan olygiaeth yr un ysgolhaig.
Ar seremoni'r gwaedu gweler Gasquet, Monastic Life in England, ond nid yw wedi pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng y gwahanol urddau ynglŷn â'r mater hwn. Er enghraifft, caniatâi'r Cluniaid waedu ar bob adeg ar y flwyddyn ag eithrio'r Grawys.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bezant Lowe: The Heart of Northern Wales, I, 379.
- ↑ Denton: England in the 15th Century, 211. Y mae hyd oes dyn wedi ymestyn yn fawr er pan sgrifennai Denton yn 1888.
- ↑ Turner: Domestic Architecture in the Middle Ages, I, 75.
- ↑ Denton: England in the 15th Century, p. 53.
- ↑ Archæologia Cambrensis, New Series, v, 51—60.
- ↑ Ibid., 6th Series, XIII, 368.
- ↑ Warrington's History of Wales, 532.
- ↑ Gweler Harlech Castle, Official Guide, p. 8.
- ↑ R. H. Morris: Chester during the Plantagent and Tudor Reigns, 1463, a 1475 A.D.
- ↑ Harrison: Elizabethan England, 25.
- ↑ Denton: England in the 15th Century, 93.
- ↑ Ibid., 207.
- ↑ Ibid., 148, 155. Gweler y bennod ar Fywyd Gwlad Amaethu.
- ↑ Hecker: The Black Death, 30. Denton: op. cit., 97. Am restr o'r blynyddoedd y bu newyn gweler Creighton: A History of Epidemics.
- ↑ Montgomeryshire Collections, XIX, 99. Ceir hanes am newyn cyffelyb yn Llanllechid a Llandegai yn hanes y plwyfi hynny gan Huw Derfel.
- ↑ Gwallter Mechain: A Survey of North Wales, 194. Ymddengys mai math ar barlys yw'r afiechyd hwn a'r aelodau yn gwywo a syrthio ymaith.
- ↑ Walter Map: De Nugis Curialium, 52.
- ↑ Giraldus Cambrensis: Description of Wales, XI.
- ↑ Gweler Manuale ad usum Insignis Ecclesiae Sarum, Appendix Surtees Society, Vol. 63, p. 105.
- ↑ R. M. Clay: The Medieval Hospitals of England, Appendix B. Ancient Laws, II, 330.
- ↑ Archæologia Cambrensis, July—October, 1930, 230.
- ↑ Owen's Pembrokeshire, I, 21. Gwêl Mediaeval Hospitals of England, p. 244, am nawdd seintiau'r tai hyn.
- ↑ The Cistercian Abbey of Strata Florida, Appendix LXIX.
- ↑ Gweler Gibbon: Decline and Fall of the Roman Empire, III, 162.
- ↑ Ar Faelgwn Gwynedd gweler Lloyd: History of Wales, I, v.
- ↑ Edward Hutton: The Franciscans in England, 172.
- ↑ Gweler Dr. William Rees: Black Death in Wales, Royal Historical Society Transactions, IV Series, Vol. III. Gweler hefyd ei South Wales and the March, Part III.
- ↑ Ibid.
- ↑ Ibid.
- ↑ Rees: Royal Historical Society Transactions, IV Series, Vol. III.
- ↑ Rees: Ibid., Black Death in Wales, Royal Historical Society Transactions.
- ↑ Wadding: Annales Minorum, VIII, 22
- ↑ Stanley Memorials of Canterbury, 225
- ↑ Ancient Laws and Institutes of Wales, 1, 312, 356, 506.
- ↑ Gweler Hecker: The Black Death.
- ↑ Gweler Register of Worcester Priory, CVIII.
- ↑ Tyfai llysiau'r blaidd, eithin fyw a llysiau meddygol eraill yng ngardd Maenan rai blynyddoedd yn ôl.—Heart of Northern Wales, 1, 279.
- ↑ Edward Morgan: Hortus Siccus, yn y Bodleian Library, Rhydychen.
- ↑ Harrison: Elizabethan England, p. 267.
- ↑ Cathrall's History of Oswestry, p. 53.

XVIII. Dysg.
I'r amcan o gynyddu ac aeddfedu mewn doethineb, ymgymerth Gerallt â chasglu ynghyd bentwr o lyfrau a chroesi i Ffrainc unwaith eto, ac ymroi o lwyrfryd calon i astudio pynciau clasurol, modd y gallai ar y sylfaen o wybodaeth o'r celfyddydau ac o lenyddiaeth oedd eisoes yn ei feddiant, adeiladu muriau y wybodaeth newydd o'r Gyfraith Wladol ac Eglwysig, a thoi yr oll â thô santaidd y Gair Dwyfol fel y byddai yr adeilad yn y tair adran o honno wedi ei gymwys gydgysylltu a'i gilydd. —GERALLT GYMRO, De rebus a se gestis (Hunangofiant).
I OES sy'n synied am ddysg yn nhermau ysgol, coleg a llyfr, gwaith anodd yw dychmygu am gyfnod pan nad oedd bron yr un ohonynt yn bod, ac ymddengys yn anhygoel iddi bod diwylliant yn bosibl mewn cyfnod o'r fath. Rhaid cadw mewn cof, wrth gwrs, y gwahaniaeth rhwng dysg a diwylliant. Gall dyn fod yn ddiwylliedig heb fod yn ddysgedig, ac y mae llawer iawn o bobl a ystyrir yn bobl ddysgedig heb feddu'r radd leiaf o ddiwylliant. Gall dysg fod yn gyfrwng diwylliant o'i hiawn ddefnyddio, ond pwysig yw cofio bod llawer o foddion eraill, megis crefftwaith, fel y dengys adeiladau gorwych yr oesau canol neu'r asbri barddoni a oedd, fe ymddengys, yn boblogaidd yng Nghymru yn fore iawn. Nid yn rhigolau ysgol, coleg ac arholiad, y llifai bywyd yr oesau canol, a phe cesglid yr holl femrynau oedd yn y wlad at ei gilydd, ni byddent fwy na chynnwys llyfrgell gymharol fechan heddiw. I ddeall y bywyd hwnnw, rhaid cadw mewn cof fywyd digyffro, undonog, y taeog, heb ddim ond y gwyliau eglwysig i edrych ymlaen atynt i dorri ar yr undonedd; am fywyd tawel y mynach, clyd ei amgylchiadau yn ei gell, a oedd yn aelod o gymdeithas barchusaf y cyfnod; am fywyd hunanaberthol y Brodyr yn nhlodi ac afiechyd y dref; y marchog crwydr yn ei hynt am ramant; a'r ysgolhaig tlawd yn crwydo o'r naill brifysgol i'r llall i gael cipolwg ar rai o drysorau llên y cyfnod.
Rhaid cydnabod bod anamlder ac amherffeithrwydd cyfryngau dysg yn nodwedd gyffredin ar fywyd yr oesau canol. Torrodd yr oesau tywyll rhwng y cyfnod clasurol a'r cyfnod pryd y medrodd yr oesau canol greu rhywbeth tebyg i ddiwylliant iddynt eu hunain. Yn wir, gellir dywedyd na bu i'r oesau canol hepgor y golled hon yn llwyr, a bu ail— ddarganfod trysorau llên a dysg yr hen fyd—na wyddid amdanynt yn yr oesau canol—yn ddigon i roi pen ar y cyfnod hwnnw. Fel y cyfeiriwyd eisoes, gwnaed llai o ddifrod yng llaw Nghymru nag mewn llawer gwlad yn y gorllewin, ond ar y arall, yr oedd Cymru yn llai dyledus i'r dylanwad Rhufeinig na'r gwledydd cylchynol, ag eithrio Iwerddon ac Ysgotland. Y mae parhad yr iaith a'r traddodiad barddonol yn ddigon o braw o hyn, ac er i Gymru, fel pob gwlad arall, dderbyn ysbryd— iaeth o'i chysylltiad agosach â bywyd Ewrop yn yr oesau canol, rhaid oedd i hwnnw, fel y dengys y Mabinogion a chynyrchion eraill y cyfnod, gael eu cymhathu i mewn i'r hen draddodiad Cymreig. Er bod lliw yr oesau canol ar y chwedlau hyn, cydnebydd pawb fod traddodiad y tu ôl iddynt sy'n perthyn i gyfnod llawer boreach yn hanes Cymru.
Gellir dywedyd i lên yr hen fyd drengi yng ngwaith Boethius ar "Ddiddanwch Athroniaeth" a sgrifennwyd ganddo pan oedd yng ngharchar yn ystod teyrnasiad Theodoric. Dyma un o lyfrau mwyaf poblogaidd yr oesau canol,[1] a gorfu i bobl y canrifoedd rhwng y chweched a'r bymthegfed fodloni ar lyfrau o'r fath ac ar waith ail llaw sgrifenwyr fel Cassiodorus, Isidore o Seville a Martianus Capella. Ceir gan Boethius rywfaint o arddull yr oes glasurol, ond nid oes gan y lleill ond casgliad afler o waith sgrifenwyr dinod yr hen fyd, na buasai'r byd yn gwybod dim am eu gwaith gan mor salw ydyw oni bai diogelu peth ohono yn y llyfrau ysgol hyn. Y mae tlodi bywyd addysgol yr oesau canol i'w briodoli i fesur i dlodi'r gynysgaeth a gafodd.
Ni ddihangodd Cymru ychwaith rhag y dirywiad hwn a fu ym mywyd y gorllewin yn ystod yr oesau tywyll. Gwelir hyn yn amlwg o gymharu gwaith Gildas, a aned yn y flwyddyn 500 yn nechrau'r oesau tywyll, a gwaith Nennius, a oedd yn ei flodau ryw dri chan mlynedd yn ddiweddarach.[2] Dengys Gildas gryn fesur o ôl yr hen draddodiad clasurol ond yr oedd y grefft o sgrifennu Lladin wedi marw erbyn dyddiau Nennius. Ac nid cyfartal, ychwaith, ei waith fel hanesydd. Erbyn y cyfnod hwn y mae pob hen stori wrach yn ddefnydd hanes; yr oedd pob traddodiad am wyddor hanes wedi diflannu o'r tir. Gwelir hefyd gryn gyfnewid yn agwedd meddwl yr eglwys tuag at y clasuron yn ystod y cyfnod hwn. Yr oedd y tadau eglwysig, fel Jerome ac eraill, yn glasurwyr eiddgar, ond credai Gregori ei fod yn bechod iddo ddarllen gwaith y paganiaid Rhufeinig a Groegaidd,[3] a gofidiai Awstin iddo wastraffu amser i ddarllen Versil ac eraill o'r clasuron. Fe geir awgrym o'r un ymdeimlad yn y stori am Gatwg a Gildas yn cydymddiddan parthed tynged Versil, un o'u hoff awduron.[4] Ac nid oedd hyd yn oed Alcuin, yr ysgolhaig a fu'n gymaint cynhorthwy i Siarlymaen ynglŷn â sefydlu cyfundrefn addysg y gorllewin, yn glir iawn oddi wrth yr un syniad. Wedi difrod yr anwariaid, bu gelyniaeth neu ddiystyrwch yr eglwys yn gryn anfantais i astudiaeth y clasuron ar y dechrau. Dichon mai gorchymyn Odo, Abad Cluni, ym Mwrgwndi, i'w urdd ef dreulio cyfran o'u hamser i ddiwyllio'r meddwl, oedd y trobwynt yn hanes agwedd yr eglwys tuag at ddysg a diwylliant. Yn 927 y bu hyn, ac o'r cychwyn hwn y deilliodd diwylliant mwyaf nodweddiadol y cyfnod rhwng yr oesau tywyll a'r dadeni dysg yng nghanol y bymthegfed ganrif.
Rhaid cofio, fodd bynnag, fod yng Nghymru draddodiad am ddiwylliant llenyddol brodorol nad oedd fawr gysylltiad rhyngddo a'r traddodiad clasurol. Yng ngweithiau'r beirdd y gwelir ôl y traddodiad hwn, fel y gwelir ôl y traddodiad Rhufeinig yng ngweithiau Gildas, ac y mae i'r naill a'r llall ei le yn natblygiad dysg yr oesau canol.[5].
Dengys cyfreithiau Hywel Dda[6] fod i'r bardd le anrhydeddus ymysg swyddogion y Llys. O'r pedwar swyddog ar hugain, efô oedd yr unfed ar ddeg, ac yn y gadair honno yr eisteddai wrth fwrdd y wledd. Yr oedd hefyd yn cael ei ystyried yn ŵr rhydd, ac oherwydd hyn ni châi mab y taeog ymgymryd â swydd bardd heb ganiatâd ei arglwydd, rhag colli o hwnnw ei lafur ac unrhyw ennill arall a ddeilliai o'i safle israddol. Ymddengys fod rhaid i'r Pencerdd—dyna enw'r prif fardd—fyned trwy ryw fath o gystadleuaeth neu ymryson barddonol cyn y gellid ei ystyried yn deilwng o gadair yn y llys. Ar yr achlysur hwnnw fe roddid iddo, gan ynad y llys, gorn buel, modrwy aur, a chlustog i eistedd arni yn y gadair. Câi delyn gan y brenin ei hun, ac fel gŵr rhydd daliai ei dir heb unrhyw lafur wasanaeth.
Y bardd arall oedd y Bardd Teulu.[7] Dichon mai bardd y gosgorddlu a amddiffynai'r brenin oedd hwn, a'i waith ef oedd difyrru'r penteulu a'i gyfeillion. Wedi canu o'r pencerdd ddwy gân ar y llwyfan (dais) lle eisteddai'r brenin a'i swyddogion wrth y prif fwrdd, canai'r bardd teulu gân ym mhen arall y neuadd i ddiddori'r rhai a gai eu cinio yn y pen hwnnw i'r ystafell. Dichon, ar y llaw arall, ei fod yn olynydd y bardd teulu gynt y sonnir amdano yn y cyfreithiau yn ôl defod ac arfer, pan oedd y bywyd patriarchaidd yn fwy syml a chartrefol nag oedd yn nyddiau Hywel. Sonnir hefyd am gerddorion (joculatores) yn ôl y cyfieithiad Lladin)—hynafiaid y ffŵl, a oedd yn fawr ei boblogrwydd yn neuaddau'r oesau canol.7
Parhaodd y traddodiad hwn am safle swyddogol prydydd hyd ddiwedd yr oesau canol. Ceir mewn hen lawysgrif (Peniarth MSS, 73) ddisgrifiad diddorol o'r cyfnewid a fu ym mywyd y beirdd wedi colli'r tywysogions:[8]
Ag wedi meirw y Twysogion y kymerth y gwyr boneddigion a hanoeddynt o waed y Twysogion y gwyr wrth gerdd atynt ag a roesant

uddyn gylchwn nid amgen Kwrs Klera unwaith bob tair blynedd ag yn amod i'r prydyddion kynal iaith Vrytaniaid a chynal yr iachoedd a chynal i gweithredoedd ag i rhoessant i'r Klerwr geniog o bob aradr ymhob un o'r tair talaith a dime o bob haner aradr.
Ond o dipyn i beth ymddengys i'r gerdd syrthio i ddwylo dosbarth salach fel y gwelir oddi wrth lawysgrif arall:
Ac yn amser y gwnaethbwyd Ystatus Gruff. ap Kynan y meibion iengaf i wyr bonheddigion a ordeinid yn wyr wrth gerdd ac mor anvynych kael y rai hynny ac awenyddiaeth gantynt a rac kolli y gelvyddyd y roed i bob math ar ddyn a vai yn afrifed o awen a synwyr a deall ddysgu y gelvyddyd gann athraw.
Er mwyn cadw i fyny urddas y gerdd a "rac kolli y gelvyddyd," y mae'n debyg y mabwysiadwyd rheolau Eisteddfod Caerwys, 1523. Yn ôl y rheolau hynny cydnabyddid tair gradd o feirdd: (1) y disgybl ysbâs; (2) y disgybl disgyblaidd, a (3) y disgybl pencerddaidd.
Yr oedd y pencerdd i gael cadw un disgybl os câi ganiatâd y pendefigion. Oni chyrhaeddai hwnnw radd disgybl ysbâs ymhen tair blynedd, gorfyddid iddo roddi'r gwaith heibio. Wedi eu cyfaddasu eu hunain fel hyn i fod yn ddisgyblion, caniateid iddynt fyned ar gylch—y Nadolig, y Pasg a'r Sul-gwyn—ond eu bod i ymofyn â'r penceirddiaid rhag myned gormod ohonynt i'r un lle. Y mae'n amlwg bod clera a chardota wedi myned i olygu bron yr un peth, ac nid oedd llawer o'r beirdd namyn y "valiant vagabonds" y mae cymaint o sôn amdanynt yn Lloegr yn y cyfnod hwn. Y mae hyn i'w weled yn amlwg o syllu ar y rheolau a wnaed i gadw i fyny urddas y gelfyddyd. Nid oeddynt i gardota fel y gwnai'r begeriaid. Nid oeddynt i fyned o dy i dŷ oni wahoddid hwy. Nid oeddynt i ganu edliw am anffyddlondeb gwraig neu ferch. Nid oeddynt i ymyfed nac i fynychu tafarnau nac i chwarae deis a chardiau. Nid oeddynt i gweryla â'i gilydd, na lladrata nac i ymladd a'i gilydd, ond i fod yn heddychol, yn dirion, yn garedig, yn ufudd, ac i fod bob amser yn barod i gynorthwyo holl ddeiliaid teyrngarol y Tywysog.[9]
Syrthiodd yr urdd swyddogol—y pencerdd yn fore i ddwylo'r elfen glerigol, a diau mai'r clerigwyr oedd yn gyfrifol am osod i lawr y rheolau caeth ynglŷn â thestun cân y beirdd a'r rheolau hynny a fu'n achos edwino o'r awen. Hyn hefyd, meddir, sy'n cyfrif am y ffaith na cheir yn Gymraeg y gân hanes sydd mor gyffredin ym marddoniaeth cenhedloedd eraill yn ystod yr un cyfnod. Daeth traddodiad nad oedd y pencerdd i ganu ond y gwir, ac i ddechrau pob cân o'i eiddo gyda chyfeiriad ar y Duwdod. Câi ganmol arwr y gerdd, pwy bynnag fyddai, ond gwneud hynny mewn dull ystrydebol, diawen.
Ond yr oedd yn codi ddosbarth o feirdd mwy amharchus—y Clerwyr. Câi'r clerwr ganu i'r gwragedd a nyddu rhamantau yn ôl ei ddychymyg. Nid oedd raid arno ganu i'r gwir, a chanddo ef, y mae'n debyg, y clywodd y Normaniaid y straeon hynny a ddaeth mor boblogaidd ar y cyfandir. Fel hyn y tybir i'r De ymroi i sgrifennu rhyddiaith, ond cadwodd y Gogledd, a oedd o hyd yn dal heb golli ei hannibyniaeth, i ddilyn yr hen draddodiad barddonol. Dengys Dafydd ap Gwilym fel yr oedd ef wedi ymryddhau, fel mewn aml beth arall, o hualau'r hen gyfundrefn farddonol i fesur. Nid oedd arno ofn gwneud gwawd o grefyddwyr; cân ar destunau newydd ac eto ceir ynddo adlais o'r gân ddyfalu fel yn ei gywydd i'r gwynt a ddengys gryfed yr hen draddodiadau. oedd ei gyfoeswyr, fodd bynnag, yn cymeradwyo'r datblygiad, fel y dengys ei ddadl â Gruffydd Grug.
Y mae'n debyg, felly, mai yn Neheudir Cymru y daeth y Mabinogion, fel y gelwir hwy, i fod, a thua'r ddegfed ganrif neu'r unfed ar ddeg rhoddwyd iddynt y ffurf fel y maent gennym ni heddiw. Mewn rhyw ystyr ceir yn y straeon hyn ddarlun llawnach o fywyd yr oesau canol nag a geir mewn unrhyw ddarlun o lenyddiaeth. Nid yng ngwaith Chaucer, er gwyched ei bortreadau o wahanol gymeriadau'r cyfnod, ac yn sicr nid yn Piers Plowman gan Langland y teimlir rhywbeth o'r hud a'r lledrith hwnnw a swynodd sgrifenwyr diweddar pan ail—ddarganfuwyd byd coll yr oesau canol. A phan gofir mai'r hen draddodiad Cymreig a roddodd fod i'r Mabinogion, a cheined y ddiwyg y gwisgwyd hwy ynddi, gwelir nad dibwys oedd cyfraniad llenyddol Cymru at fywyd yr oesau canol.
Ond fel y dengys De Excidio Gildas a gweithiau eraill, nid oedd Cymru'n amddifad ychwaith o gydnabyddiaeth â llenyddiaeth yr hen fyd a'r traddodiad clasurol, er bod rhaid cydnabod mai ychydig a wyddom i sicrwydd am y ddysg a gyfrennid yn yr hen fynachlogydd Cymreig. Edrychid arnynt a sonnid amdanynt fyth a beunydd fel ysgolion. Dywedir bod gan Ddyfrig 1,000 o fyfyrwyr yn Henllan ar Wy,[10] ond ni wyddys a olygir wrth hynny rywbeth mwy na bod yno gannoedd o bobl wedi ymuno â'r sefydliad crefyddol hwnnw ac mai nifer lled fychan ohonynt oedd yn ysgolheigion yn ystyr fanwl y gair. Hyd yn oed ym mynachlogydd yr oesau canol,. fe'n synnir gan leied oedd nifer y mynaich proffesedig; ac o'r rheini nid oedd ond ychydig iawn y gellid eu cyfrif yn ysgolheigion. Bywyd o dawelwch a neilltuedd oedd y delfryd a rhoddid pwys ar yr ymarferion crefyddol fel hanfod y bywyd hwnnw. Ceir awgrym mai cyffelyb oedd y trefniant yn y Fynachlog Geltaidd, lle dywedir bod gan Gyndeyrn 965 o ddisgyblion yn Llanelwy, ond mai 365 ohonynt yn unig a weinyddai yn y gwasanaeth crefyddol.
Ar y llaw arall, y mae gennym dystiolaeth bendant mai yn un o'r rhain yr addysgwyd Samson, Archesgob Dôl.[11] Gŵr o Ddyfed oedd ei dad, ac i ysgol enwog Llanilltud yr anfonwyd Samson yn bump oed a chan Ddyfrig Esgob yr ordeiniwyd ef. Yma hefyd yr addysgwyd Gildas, y glewaf, meddir, o holl ddisgyblion yr ysgol honno.1[12] Yn nhai crefyddol Cymru, hefyd, yr addysgwyd Paul de Leon, Malo a Meilyr, ac eraill o Saint Llydaw. Yng Nghymru hefyd y cafodd Finnian o Clonnard, Aidan ac eraill o genhadon yr Ynys Werdd eu dysg, ac ym Mhrydain y bu Padrig, apostol bore yr eglwys yn Iwerddon, yn byw cyn myned yno fel cenhadwr.[13] Dywed Bede fod nifer o ysgolheigion gyda'r esgobion yn cynrychioli Eglwys Geltaidd yn yr ymrafael gydag Awstin yn 602-3; nid ymddengys iddynt gael y gwaethaf o'r ddadl honno ychwaith, ac ni ellir felly ddiystyru'r ddysg a gyfrennid yn yr hen Abatai Cymreig.
Bu Cadog, sylfaenydd Mynachlog Llangarfan, yn astudio rheolau Gramadeg fel y dysgid hwy gan Donatus a Priscian, dau o ramadegwyr yr hen fyd. Meudwy o Gaerwent oedd yr athro, meddir, a sonnir am athro Rheitheg o Frycheiniog.[14] Gwnaeth Gildas gopi o lawysgrif o'r Pedair Efengyl, ac yr oedd y copi hwnnw ar gael yn y ddeuddegfed ganrif ac aur ac arian yn addurno'i glawr. Tybir i'r cenhadon Gwyddelig fyned â nifer o'r trysorau hyn gyda hwy drosodd i'r Ynys Werdd, a bod mwy o ôl yr ysgolion Cymreig ar fywyd crefyddol ac ysgolheigaidd Iwerddon nag yr ydys wedi arfer a'i gydnabod. Tybir mai o Gymru y daeth yr arfer o sgrifennu a lliwio'r hen femrynau, er i'r gwaith gael ei berffeithio i raddau eithriadol yng nghelloedd yr Ynys Werdd. Y mae yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, gopi o'r Sallwyr yn Lladin, wedi ei sgrifennu gan Ieuan, brawd Rhygyfarch, a mab Sulien, esgob Tyddewi. Nid oes le i amau ychwaith nad oedd gweithiau beirdd fel Fersil, Horas, a Martial yn wybyddus hefyd, a gellir dweud yr un peth am Ovid, a Cicero a'r aralleiriad o'r efengylau gan Juvencus, heblaw gweithiau Capella.[15] Ond nid oedd ond cyfran fechan o waith yr awduron hyn ar gael y pryd hynny.
Ond gan nad beth oedd ganddynt, y mae'n sicr fod yn eu meddiant gopïau o'r ysgrythurau. Copi Lladin, wrth gwrs, oedd y copi o'r ysgrythur a arferid ar y pryd, ond gwyddys fod copi'r Eglwys Geltaidd yn wahanol i gopi Ierom, a adwaenir fel y Fwlgat. Sonia Gregori o Tours, hanesydd boreaf Ffrainc, amdano fel yn gynwysedig o dri llyfr—y Proffwydi, yr Epistolau a'r Pedair Efengyl.[16]
Achosodd dyfod urddau mynaich y Cyfandir i Gymru gryn ddeffroad meddyliol a chrefyddol fel ym mhob gwlad arall. Yn wir, ni ellir dweud bod Cymru hyd ddyfodiad y Sistersiaid, wedi dangos llawer o eiddgarwch dros y ffurf Rufeinig ar Gristnogaeth, ond trwy ymdrechion yr urdd hon dygwyd Cymru i gysylltiad byw â chrefydd y gorllewin, a hynny heb wneud dim i lesteirio'r teimlad gwladgarol a oedd megis yn dechrau ymddadebru yn hanes y wlad.
Mawr fu'r difrod ar drysorau llenyddol y mynachlogydd yn amser eu dirymu yn 1536, fel ar y cwbl o'u heiddo. Ond y mae'r hyn sy'n aros heb fyned ar ddifancoll yn dangos beth a wnaed gan y sefydliadau hyn i ddiogelu a hyd yn oed i hyrwyddo dysg yr oesau canol.
Llyfr Du Caerfyrddin, a sgrifennwyd, a barnu wrth y llawysgrif, tua chwarter olaf y ddeuddegfed ganrif, yw'r llyfr Cymraeg hynaf a feddwn,[17] ac nid oedd ryfedd rywun i sgrifennu ar un o'i ddalennau:
Er cymen a ddarllenwyf
Dyallu'r Llyfr Du nid wyf.
Ond er mor anodd ei ddeall ydyw, y mae ynddo gasgliad diddorol o chwedloniaeth, diwinyddiaeth, hanes a barddoniaeth, y cwbl ar fesur cerdd. Daeth y llyfr, yn ffodus iawn, i feddiant Syr John Prys, awdur Yn y Llyvyr Hwn, y llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg, a diogelwyd ef felly i'r genedl. Fel perchennog Priordy Aberhonddu, daeth Syr John i feddiant o gasgliad arall o hen lawysgrifau, ac ymysg pethau eraill gopi o'r Historia Britonum a hefyd o'r Brut. Yr enwocaf o'r Brutiau, y mae'n debyg, oedd y cofnod a gedwid dan yr enw hwnnw ym mynachlog Ystrad Fflur. Dywed Gutyn Owain y byddai mynaich Ystrad Fflur a Chonwy yn arfer â chymharu eu croniclau â'i gilydd bob tair blynedd. Yn Ystrad Fflur, hefyd, y mae'n debyg, y sgrifennwyd yr Annales hyd y flwyddyn 1270 a rhyw gyfran o Lyfr Coch Hergest, sydd yn ddrych lled dda o ddysg y cyfnod. Y mae ynddo groniclau rhamantau, chwedlau, trioedd, gramadeg a rheolau barddoniaeth, heblaw llawer o brydyddiaeth.
Annales de Margam yw teitl Cronicl Mynachlog Margam. Nid oes ond un copi ar gael heddiw ac y mae hwnnw yn llyfrgell Coleg y Drindod yng Nghaergrawnt. Nid ymestyn yr Annales ond dros ychydig flynyddoedd, o 1147 i 1232, ond yr oedd trysorau eraill yn llyfrgell Margam, megis copi o "Hanes Prydain o waith Sieffre o Fynwy, yn un llyfr ar ddeg, a chopi rhagorol o Domesday Book y Concwerwr.
Nid oedd rhyw lawer o drysorau llenyddol ym meddiant Abaty Glyn Nedd, er y tybiai Dr. Gwenogfryn Evans mai yno y rhoed Llyfr Taliesin wrth ei gilydd. Yr oedd yno hefyd gopi o lyfr gwasanaeth Mair ac yr oedd galw mawr amdano. Fel hyn y dywed un o Lawysgrifau Llanofer am y llyfr hwn:
Llyma lyfr a elwir Gorddyfnawd y Gymraeg, gwaith Ddafydd Ddu offeiriad, Abad Glyn Nedd ap Llywelyn ap Rhys ap Gronwy... un Dafydd offeiriad a wnaeth lyfr y Greal nid amgen Gwasanaeth Mair yn Gymraeg a llyfr enwau saint Ynys Prydain.[18]
Yr oedd copi o'r Greal arall yng Ngwaenllwg, os gwir yr hyn a ganodd Guto'r Glyn i Abad Gwaunllwg i erchi'r Greal:
Llyfr y gwaed, llyfrau y gwŷr
Lle syrthynt yn llys Arthur:
Llyfr am enwog farchogion
Llyfr teg radd yr holl fort gron,
Llyfr eto yn llaw Frytwn
Llin Hors ni ddarllenai hwn.
Ychydig o drysorau Glyn y Groes hefyd sy'n aros, ond os oes coel ar ganmol y beirdd, nid oedd hithau yn amddifad ohonynt gynt. Y mae yn y Bodleian Library gopi o lyfr gwasanaeth Mair a fu'n perthyn i'r fynachlog unwaith—Liber Sancte Marie de Valle Crucis. Gan ei fod, yn ôl barn y cyfarwydd, yn perthyn i'r ddeuddegfed ganrif, nid yno y sgrifennwyd ef. Sonnir hefyd am Lyfr Gwyn Glyn y Groes, ond y mae lle i ofni ei fod wedi myned ar ddifancoll.
Ym Masingwerk, fel y gellid disgwyl, sgrifennwyd hanes Gwenffrewi. Yn Llyfr Basing ceir copi o Frut Tysilio ac o Frut y Saeson wedi eu copïo mewn rhan fel y tybir gan Gutyn Owain.[19]
I Ystrad Marchell y perthyn Llyfr Gwyn Rhydderch. I Bowys y perthyn ystori Breuddwyd Rhonabwy a geir yn y Llyfr Gwyn. Yma hefyd, medd rhai, y sgrifennwyd Hanes Gruffydd ap Cynan.
Rhaid cofio bod yn perthyn i Dyddewi ei Lyfr Du (llyfr yn ymwneud â thiroedd yr esgob oedd hwn), i Sant Asaph ei Lyfr Coch. Sonnir hefyd am Evengylion Llanelwy, a gyfrifid yn un o greiriau pwysicaf yr Eglwys Gadeiriol honno, ond nid oes sicrwydd beth oedd nodwedd y llyfr. Ym Mangor ceid llyfr gwasanaeth yr Esgob Anian yn perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg.
Yr oedd hefyd doreth o farddoniaeth yng nghadw yn y mynachlogydd. Yr oedd y rhan fwyaf o feirdd hanner olaf yr oesau canol yn dal rhyw gysylltiad mwy neu lai swyddogol â'r mynachlogydd. Gutyn Owain, meddir, oedd arwyddfardd Basingwerk a Glyn y Groes, ac yr oedd rhyw berthynas rhwng Guto'r Glyn â'r sefydliadau hyn. Nid oes sicrwydd bod Iolo Goch yn fardd Glyn y Groes, ond myn traddodiad iddo gael ei gladdu yno. Ymunodd Tudur Aled ag urdd Sant Ffransis ychydig cyn marw, a chladdwyd ef yng Nghwrt y Brodyr yng Nghaerfyrddin. Claddwyd Llywelyn ap y Moel ym mynwent cwfent Ystrad Marchell, a theimlai Cynddelw Brydydd Mawr fod ganddo yntau hawl i fod yn yr un fan, ond ni chafodd. Bardd Abaty Margam oedd Iorwerth Fynglwyd. Dengys y ffeithiau hyn ar unwaith i'r tai crefyddol ddyfod yn noddfa i'r beirdd yn union fel y buont yn lloches i ddysg mwy nodweddiadol gwledydd y gorllewin.[20]
Ni bu Cymru ychwaith yn amddifad o sgrifenwyr a dysgedigion a hawlia sylw mewn unrhyw ystyriaeth fanwl o fywyd yr oesau canol. Y mwyaf a'r ehangaf ei ddylanwad ohonynt oll yn sicr oedd Sieffre o Fynwy. Y mae'n lled sicr, fodd bynnag, nad oedd yn Gymro, ond erys ei enw yn anwahanadwy gysylltiedig ag arwr yr hen Frythoniaid a ddaeth yn ddelfryd i'r oesau o'r hyn a ddylai milwr dewr a dyn da fod. Cysylltir ei enw â Mynwy; ymysg ei noddwyr yr oedd Robert, Iarll Gloucester, a briododd ferch Fitz-Hamon, ac a ddaeth felly i feddiant o arglwyddiaeth Morgannwg, a oedd yn taro ar dre Fynwy. Yr oedd yr Iarll Robert yn gefnogydd eiddgar i ddysg y cyfnod, ac iddo ef y cyflwynodd William Malmesbury, prif hanesydd Lloegr, ei "Hanes Brenhinoedd Lloegr." Nid rhyfedd, felly, i Sieffre gyflwyno ei "Hanes Brenhinoedd Prydain" i'r un gŵr.
Ond nid fel hanes y dylid darllen gwaith Sieffre. Cafodd lawer o'i feio am iddo ddywedyd mai ail-sgrifennu hanes yr oedd fel y cafodd ef mewn hen lyfr, ond nid oes neb yn beiddio beio Syr Walter Scott am wneud yr un peth. Gwelodd Sieffre ei gyfle yn y diddordeb a gymerai'r oes honno mewn straeon am wroniaeth a sifalri marchogion, a chreodd—o'i ddychymyg, i raddau helaeth, y mae'n ddiamau—frenin y marchogion i gyd. Nid oes neb a fedrai sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ag Arthur ond gwroniaid mwyaf yr oesau, fel Alecsander Fawr neu Siarlymaen.
Bu llawer o ddyfalu parthed y llyfr yr honnai Sieffre ei fod o'i flaen pan oedd yn sgrifennu'r hanes. Yr oedd y llyfr y pryd hwnnw, meddai, ym meddiant Walter, Archiagon Rhydychen. Gwyddom fod y Walter hwn ag yntau wedi bod yn cyfathrachu â'i gilydd; er enghraifft, ceir enw'r ddau mewn gweithred ddyddiedig 1129, yn perthyn i fynachlog Osney, yn agos i Rydychen.[21] Ond ni wyddom ddim am y llyfr—llyfr, chwedl Sieffre, na fedrai haneswyr Lloegr fel William o Malmesbury, neu Henry o Huntingdon wneud dim ohono am na ddeallent Gymraeg.
Y mae'r llyfr yn dilyn ffurf arferol croniclau'r mynachtai, a cheisir ynddo amseru pethau yn y wlad hon yn ôl digwyddiadau'r Beibl. Er enghraifft, dywedir i ddinas Carlisle gael ei hadeiladu yr un adeg ag yr adeiladwyd y Deml yn Jerusalem. Y mae'n amlwg mai ffug yw'r rhan fwyaf o'r gosodiadau hyn, ond y mae'n sicr bod rhai syniadau wedi eu benthyg o weithiau Gildas, Bede a haneswyr eraill. Pan ddaeth i sôn am Arthur, fodd bynnag, rhoddodd Sieffre y ffrwyn ar war ei ddychymyg. Disgrifir Arthur yn hogyn pymtheg oed yn dyfod i'r orsedd, yn cael ei goroni gan Ddyfrig Esgob Caerlleon, ac yn dechrau ar unwaith ar ei yrfa fuddugoliaethus a darostwng Iwerddon, Ynys yr Ia, Norwy, Gâl a
Gothland. Yn ei ddisgrifiad o Gaerlleon a'i safle anghymarol dlws ar afon Wysg ym Morgannwg gwelir dylanwad amlwg syniadau Normanaidd, a chyfeddyf Sieffre fod yno gymaint rhwysg fel na allai obeithio gwneuthur cyfiawnder ag ef. Yna disgrifir Arthur yn dyfod i wrthdarawiad â'r Rhufeiniaid, ac yn clywed, ar ei ffordd dros yr Alpau i feddiannu Rhufain ei hun, am fradwriaeth Medrawd, ei gâr, ym Mhrydain. Wedi dychwelyd adref ac ymladd brwydr Gamlan, clwyfwyd Arthur ac fe'i dygwyd oddi yno i hen ynys Afallon i wella o'i glwyfau— ac mewn un frawddeg rhoes Sieffre anfarwoldeb i'w wron.
Tystia'r llawysgrifau sydd yn ein meddiant ac a geir ym mhob gwlad bron am boblogrwydd yr hanes. Aeth y stori ar unwaith led-led Ewrop, a chafodd pob gweithred o wroniaeth ac o hynawsedd ei thadogi ar Arthur. Yng ngwaith Wace, y bardd Ffrengig, Arthur yw patrwm y marchog Normanaidd. Ym Mrut Layamon, y Sais, brenin Cristnogol ar y Saeson yw Arthur. Yn Parsifal Wolfram, y bardd Almaenaidd, ceir darlun o'r marchog perffaith, ac yn Trystan Gottfried, ei gyfoeswr, ceir un o straeon tlysaf yr oesau canol, y naill fel y llall yn troi o amgylch marchogion Arthur. Yn y modd yma bu Sieffre yn foddion i greu cyfnod llenyddol gyda'r pwysicaf a'r mwyaf diddorol, feallai, yn holl hanes llenyddiaeth.
Un arall o ysgolheigion mwyaf amryddawn yr oesau canol oedd Gerallt o'r Barri. Mab ydoedd i William o'r Barri, arglwydd Manorbier, lle ganed Gerallt yn y flwyddyn 1147. Er ei fod o linach Normanaidd urddasol, ymffrostiai Gerallt yn anad dim yn y gwaed Cymreig a redai yn ei wythiennau, ac fel Gerallt Gymro yr adwaenir ef orau. Nid oes sail i gredu y medrai Gymraeg, ond nid oedd dim a hoffai yn well na cheisio dangos ei wybodaeth yn y cyfeiriad hwnnw trwy geisio esbonio enwau lleoedd—maes efrydiaeth yr anghyfarwydd bron ar hyd yr oesau; ond y mae gan Gerallt well hawl i ymddifyrru ar gelfyddyd na llawer un, ac â Freeman mor bell a'i alw'n dad ieitheg. Addysgwyd ef yn Rhydychen a Pharis. Bu ym Mharis am gwrs lled faith o amser, ac yno, y mae'n debyg, yr ymberffeithiodd fel efrydydd o'r clasuron.
Uchelgais Gerallt oedd cael bod yn Esgob—neu, yn wir, yn Archesgob Tyddewi. Brwydr fawr ei oes oedd ceisio profi i Dyddewi unwaith fod yn Archesgobaeth ac y dylai fod eil-waith—a Gerallt yn Archesgob, wrth gwrs. Ac fel un o ysgolheigion pennaf y dydd ac fel aelod o un o deuluoedd mwyaf urddasol Cymru nid oedd ei uchelgais yn
afresymol. Ond ni bu yn llwyddiannus—rhesymau politicaidd, yn bennaf, oedd yn cyfrif am hynny—a chroes fawr i Gerallt fu'r methiant. Dichon, fodd bynnag, mai i hyn yr ydym i ddiolch am y cynhyrchion llenyddol a ddaeth o'i law— cynhyrchion nad oes eu hafal mewn diddordeb o fewn holl gylch llenyddiaeth y cyfnod hwnnw. Yn wir, perthynai i Gerallt gyfran lled helaeth o'r ddawn oedd mor nodweddiadol o Sieffre, er na ddywedodd neb bethau casach am Sieffre o Fynwy nag a ddywedodd Gerallt o'r Barri. Er hyn i gyd yr oedd yntau fel Sieffre yn rhamantydd diail, ond yn lle gwneud Arthur yn arwr ei lyfr, fel y gwnaeth Sieffre, bodlonodd ar wneud arwr ohono ei hun ym mhob un bron o'i gynhyrchion llenyddol. Er hynny, y mae rhywbeth swynol iawn yn y modd y sieryd amdano ei hun fel ysgolhaig delfrydol Prifysgol Paris, am y modd y croesawodd ddysgedigion Rhydychen ac y canmolodd y Pab ei lyfrau ac awgrymu mai'r Gemma oedd y gorau o'r cwbl.
Llyfr yn ymwneud â daearyddiaeth Iwerddon oedd ei lyfr cyntaf. Dilynwyd hwnnw gan lyfr ar y modd y gorchfygwyd yr ynys gan y Normaniaid. Nid oedd neb yn fwy cymwys i sgrifennu ar y testun hwn na Gerallt, gan fod dau o'i frodyr wedi bod â llaw yn nechrau'r trasiedi hwn yn hanes Iwerddon, a bu yntau ei hun yno am ysbaid o amser fwy nag unwaith. Bu'n darllen y llyfr cyntaf yn gyhoeddus gerbron prifysgol Rhydychen lle, meddai, yr oedd prif ddysgedigion y dydd yn gwrando arno. Rhoddodd Gerallt wledd ardderchog i ddathlu'r amgylchiad. Y diwrnod cyntaf gwahoddwyd y tlodion i'r wledd; yr ail dydd y doctoriaid a'r prif ysgolheigion, y trydydd dydd y gweddill o'r ysgolheigion a threfwyr Rhydychen. Gweithred ddrud urddasol" oedd hon, meddai Gerallt, dan ei ganmol ei hun, "na welwyd ei thebyg yn Lloegr erioed."
Yn ei lyfr ar ddaearyddiaeth yr Ynys Werdd ceir disgrifiad diddorol iawn a gwyddonol o'r wlad honno yn gymhleth â llawer stori anhygoel. Adlewyrcha, y mae'n lled sicr, y ffordd gyffredin o edrych ar bethau yn y cyfnod hwnnw. Y mae yn y llyfr lawer sylw craff, megis lle dywed bod datblygiad cenhedloedd o'r goedwig i'r maes ac i'r dref. Beth yw hyn ond y dosraniad a gydnabyddir yn gyffredin heddiw pan ddywedir bod pobloedd wedi tyfu trwy gyfnod hela ac amaethu i gyfnod diwydiant. Ceir ynddo hefyd lawer sylw treiddgar ynglŷn â'r tywydd ac arferion anifeiliaid, a hynny yng nghanol y chwedlau mwyaf ofergoelus a roed ar bapur erioed.
I ni, Gymry, wrth gwrs, y llyfrau mwyaf diddorol o ddigon yw hanes ei daith trwy Gymru yng nghwmni'r Archesgob Baldwin i bregethu'r Crwsâd yn y flwyddyn 1188. Dechreuwyd yn Henffordd yn nechrau Mawrth a gorffennwyd yng Nghaer ar y pedwerydd ar ddeg o Ebrill, wedi bod ar grwydr am bum wythnos o amser a thramwyo o amgylch Cymru heb gyffwrdd y canolbarth o gwbl. Rhydd y llyfr hwn, ynghyda'r "Disgrifiad o Gymru," ddarlun dihafal o fywyd Cymru yn y cyfnod diddorol cyn colli ohoni ei hannibyniaeth.
Ac nid teithiwr a gohebydd yn unig oedd Gerallt; yr oedd hefyd yn ddiwinydd a gwladweinydd eglwysig. Ymysg y llyfrau y rhoddai ef ei hun fwyaf o bris arnynt y mae ei Gemma Ecclesiastica (Gem yr Eglwys). Dywedir bod y Pab, Innocent III, mor hoff o'r llyfr hwn fel na fedrai bron ei roddi o'i law. Anerchiad ydyw i'w glerigwyr yn Archddiaconiaeth Brycheiniog, a cheir ynddo syniad cywir iawn am gyflwr bywyd crefyddol y cyfnod a'r pechodau oedd yn peryglu'r bywyd hwnnw. Ceir hefyd anogaethau i fyw bywyd mwy ysbrydol—y clerigwyr a'r plwyfolion fel ei gilydd. Awgrymir mai anffyddiaeth, meddwdod, ariangarwch ac anwybodaeth oedd rhai o'r pechodau oedd yn barod i amgylchu'r clerigwyr yn enwedig.
Un arall o'i weithiau yw Libellus Invectionum—ymosodiad chwerw ar y sawl na fynnai Dyddewi yn Archesgobaeth. Yr un pwnc a geir yn ei lyfr ar hawliau Tyddewi. Ceir ganddo hefyd lyfrau ar "Addysgu Tywysogion," ar "Fucheddau'r Saint," ac ar "Ddrych yr Eglwys." Y mae'r llyfr olaf mewn cyflwr lled amherffaith fel y mae gennym ni heddiw oherwydd iddo fod yn y tân a losgodd lyfrgell Syr Robert Cotton yn 1731. Y mae'r adran gyntaf, yr adolygai ynddi gyfundrefn addysg ei ddydd, wedi diflannu. Gresyn oedd colli'r adran hon yn anad yr un, oherwydd ei gymhwyster neilltuol i siarad ar fater o'r fath. Yn adran arall y llyfr ceir cipdrem ganddo ar y gyfundrefn fynachaidd, ond nid oedd gan Gerallt fawr o gariad at y mynaich ac nid yw bob amser yn ddiduedd yn ei farn.
Arferir ag edrych ar Wycliff, y gŵr a fu wrthi yn trosi'r Beibl i'r Saesneg, fel seren fore'r Diwygiad Protestannaidd, ac y mae'n wir nad adenillodd yr eglwys yr awdurdod oedd ganddi cyn ei amser ef. Cafodd y mudiad, fel y gwyddom, ryw gymaint o groeso yng Nghymru gan ddynion fel Walter Brute a Thomas ap Ieuan. Yma hefyd, yng nghanolbarth Powys, y cafodd Syr John Oldcastle, Arglwydd Cobham, loches hyd nes y datguddiodd Arglwydd Powys ei guddfan.
Ond ychydig sy'n cofio mai gŵr o Gymru oedd un o brif amddiffynwyr yr Eglwys yn yr argyfwng hwnnw. Ychydig wyddom o'i hanes, ond sonnir am Reginald Pecock yn llythyr swyddogol y Pab wrth ei gyflwyno i esgobaeth Llanelwy fel offeiriad o Esgobaeth Tyddewi, a dywed Fuller ei eni yn Lacharn, Sir Gaerfyrddin.[22] Bu yntau dan addysg yn Rhydychen a gwnaed ef yn gymrawd o Goleg Oriel yn 1417, yn B.D. yn 1425, ac yn D.D. trwy drefniant arbennig yn 1444. 1440 sgrifennodd lyfr o'r enw Donet ar brif wirioneddau Cristnogaeth—llyfr a fu yn lled boblogaidd unwaith. Yn 1447 pregethodd bregeth yng nghymdogaeth y Groes a oedd gynt wrth Saint Paul's yn ninas Llundain, pryd yr ymgymerth ag amddiffyn yr Esgobion rhag ymosodiadau'r Lollardiaid. Yn 1449 ymddangosodd ei brif waith Repressor of overmuch Wyting (Blaming) of the Clergie.
Diddorol yw sylwi i Pecock sgrifennu'r llyfr hwn yn Saesneg, ac nid yn Lladin fel y gwnai dysgedigion yr oes honno yn gyffredin. Yr oedd ganddo resymau neilltuol dros wneud hyn. Yr oedd y Lollardiaid, meddai ef, wedi ennill cymaint o dir ag a wnaethant am eu bod yn sgrifennu yn iaith y bobl, a chredai ef y gellid adennill y werin ond iddynt hwythau hefyd ddefnyddio'r iaith Saesneg yn hytrach na Lladin. Edrychir arno felly fel un o brif hyrwyddwyr yr iaith honno yn yr oesau canol.
Y mae i lyfrau Pecock ddiddordeb neilltuol ar gyfrif y disgrifiad manwl a byw a geir ynddynt o syniadau'r Lollardiaid, a hefyd am y ceir ynddynt rai o'r prif resymau a ddefnyddid mewn cyfnod diweddarach pan oedd y cwestiwn wedi dyfod yn bwnc y dydd. Cydnebydd Pecock fod gwaith y Lollardiaid yn cyfieithu'r Beibl i'r Saesneg wedi creu rhyw gariad rhyfedd ym mynwes y werin tuag ato, ond nid oedd yn barod i gydnabod bod y llyfr bob amser yn arweinydd anffaeledig, oblegid, fel y gwelai'n glir, rhoddai hynny ben ar yr angen am eglwys yn gyfangwbl. Credai y dylai syniadau'r Beibl gael eu beirniadu yn ôl deddfau rheswm, a gofidiai am na ddysgid Rhesymeg yn yr ysgolion fel y medrid ei farnu yn deg. Yn wir, yr oedd Pecock yn llawer mwy rhesymegol na'i wrthwynebwyr, a synnir ni gan debygrwydd rhai o'i syniadau i eiddo'r Crynwyr ar y naill law, a'r Rhesymolwyr ar y llaw arall. Gosodwyd egwyddorion moesoldeb eisoes, meddai, yng nghalon dyn, ond yr Ysgrythur a rydd y dadleniad gorau o'r egwyddorion hynny. Ond nid yw yn anffaeledig ac am hynny rhaid wrth ddynion dysgedig, gwŷr wedi eu trwytho yn egwyddorion rhesymeg hefyd, i fedru penderfynu pa mor bell y cyd-red y syniadau sydd ynddo â deddfau rheswm.
Y mae ei ymresymiadau yn lled feichus weithiau, ond y mae ei iaith yn glir ac yn ystwyth, ac erys gwaith yr hen ysgolhaig o Gymro fel cynnyrch nodweddiadol yr Eglwys Gatholig yn nechrau'r cyfnod pryd y galwyd arni i roddi cyfrif am y ffydd a oedd ganddi. Er yr annibyniaeth meddwl a'i nodweddai, nid oedd dim o'r merthyr yn Pecock, a phan ddaeth i wrthdarawiad â'r Eglwys, syrthiodd ar ei fai a chrefu am faddeuant yn ddioed. Treuliodd ddiwedd ei oes yn ymarferol yn garcharor yn Abaty Thorney, swydd Bedford. Ni ellir darllen y cyfarwyddiadau caeth a roed i'r brodyr gan Archesgob Caergaint heb fesur o gydymdeimlad â'r hen ŵr. Nid oedd i fyned y tu allan i'w ystafell ddirgel gaeedig, y gallai weled yr allor a chlywed gwasanaeth yr offeren ohoni. Câi frawd i gynnau ei dân a gwneud ei wely fel y byddai angen. Nid oedd i gael gweled unrhyw lyfr oddieithr llyfr gwasanaeth yr offeren, y Sallwyr, neu Fuchedd a'r Beibl. Nid oedd i gael papur na dim offer sgrifennu. Câi dân os byddai angen amdano, a bwyd a diod fel brawd o'r urdd. Cafodd abaty Thorney £40 am gymryd gofal ohono.[23]
Gellid tybied y buasai'r urddau pregethu—y Ffransisiaid a'r Dominiciaid—wedi bod yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag yr ymddengys y buont. Ychydig oedd eu rhif a thlawd odiaeth oedd y tai a feddent, ond nid yw hyn unrhyw fesur o'u dylanwad. Ymddengys y telid cryn barch yng Nghymru fel mewn lleoedd eraill i fywyd hunanymwadol disgyblion Sant Ffransis. Ys dywed Tudur Aled:
Brawd i Sant Ffransys, na bo brych—yn f'wyneb
Pan fynner i edrych;
Yn i grefydd yn gryfwych,
Yn i wisg wyf yn was gwych.
Ond yng nghanol tlodi'r trefydd y ceid y Brodyr Llwydion fynychaf, a dyma, fe ddichon, un rheswm paham eu bod mor brin yng Nghymru. Hefyd, rhaid cofio eu bod yn crwydro o fan i fan fel y byddai galw am eu gwasanaeth, ac ym mhrif ysgolion Lloegr a'r Cyfandir y gwelir y Brodyr Cymreig a berthynai i'r urddau hyn ar eu gorau. Daeth y ddwy urdd hyn yn flaenllaw yn y prifysgolion fel prif noddwyr addysg y dyddiau hynny, ac yn eu mysg ceir aml Gymro.
Aelod o urdd Dominic oedd Thomas Wallensis, a gymerth radd uchel mewn diwinyddiaeth ym Mharis a Rhydychen. Yr oedd gŵr o'r un enw, ond yn perthyn i urdd Sant Ffransis, yn athro diwinyddiaeth ym Mharis yn 1238. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd i'r Ffransisiaid yn Rhydychen, ac wedi hynny yn 1247 yn esgob Tyddewi.
Fel hyn gwnaeth yr urddau hyn ymdrech neilltuol i addysgu'r clerigwyr—a oedd, fel y tystia Gerallt, yn hynod ddi- ddysg. Gofalai'r Dominiciaid nad oedd tŷ ganddynt hwy heb athro teilwng ynddo, a dywedir bod y Ffransisiaid cyn 1354 wedi sefydlu athro mewn deg ar hugain o'r deugain tai a oedd ganddynt yn y wlad hon ac yr oedd cysylltiad agos rhwng y tai hyn a'r prifysgolion. Ceir cŵyn gan Brifysgol Paris bod myfyrwyr yn brin am y rheswm yr astudid Diwinyddiaeth yn nhai'r Brodyr ar hyd a lled y wlad.
Bu rhai o'r brodyr hyn yn sgrifennu llyfrau i gyfarfod angen y myfyrwyr. Yn eu mysg ceir John o Gymru, athro i'r Brodyr yn Rhydychen a Doctor mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Paris. Ymddengys mai yno y bu farw tua'r flwyddyn 1285. Ar ôl ei farw rhoddwyd iddo'r teitl "Arbor Vitae"—Pren y Bywyd—a dywedir bod cerflun o goeden ar garreg ei fedd.[24] Llyfr ar bregethu yw'r gyfrol hwyaf sydd gennym o waith y Brawd John. Llyfr ydyw i hyfforddi'r Brodyr sut i ymwneud â phob math o bobl, nid yn unig yn gyhoeddus, ond hefyd wyneb yn wyneb. Credai John ei bod yn haws argyhoeddi dyn wrth siarad ag ef nag wrth bregethu iddo, ond nid yn yr un dull y siaredir â llywiawdwr a chyda'r deiliaid. Nid yn yr un ffordd y cyferchir y pen—y brenin— ag y cyferchir y troed—y gweithiwr. Y mae yn y llyfr lawer awgrym gwerthfawr i bregethwyr.
Hanes Athroniaeth yw pwnc un arall o'i lyfrau. Ymdrinir ynddo â rhai o brif feddylwyr yr hen fyd, â chyfundrefnau addysg yr oesau canol, â'r beirdd ac â'r prifysgolion. Ceir ganddo hefyd gasgliad o ddywediadau'r saint, ac un arall ar gyffesu, y deg gorchymyn, y saith pechod marwol, etc.
Mwy diddorol, hwyrach, o safbwynt ysgolheictod, yw'r gydnabyddiaeth â'r clasuron a ddengys y llyfrau hyn. Yr oedd yr awdur yn ofalus iawn bob amser i roddi cyfeiriadau at yr awduron y difynai ohonynt, a cheir ganddo felly ddarlun go dda o'r hyn y disgwylid i ysgolhaig fod yn weddol hyddysg ynddo. Wele restr o rai o'r llyfrau a enwir ganddo:
Plato, Timaeus a Phaedo; Aristotl, Ethics, Physics, De anima; Plutarch; Cicero, De officiis, De Senectute, De natura Deorum; Seneca, Epistolæ, De Clementia, Dialogues; Virgil; Juvenal; Lucan; Ovid; Pliny; St. Augustine, De Civitate Dei; St. Jerome, Epistolæ; Bede; St. Bernard; Isidore o Seville; Neckam; Bonaventura, St. Ffransis; Averroes ac Avicenna yr Arabiaid.
Ni buasai raid i John wrido oherwydd ei wybodaeth o'r clasuron, hyd yn oed pe buasai'n byw yn ein dyddiau ni, a buasai'n dda pe medrem gredu bod gennym athrawon mor gyfarwydd yn y clasuron ag oedd ef.
Un o gyfoeswyr Gerallt oedd Gwallter Map,[25] a gŵr o gyffelyb ddawn ac ysbryd—ysgolhaig a rhamantydd a chasglwr straeon a chlep. Ganed ef yn swydd Henffordd—a fu i fesur yn Gymreig ar ôl ei ddyddiau ef—a sonia am y Cymry fel ei gydwladwyr. Dywed un awdur amdano fod pob agwedd ar y deffroad meddyliol a oedd yn corddi ysbryd Ewrop ar y pryd i'w darganfod yn ei weithiau, ac os gellir priodoli iddo yr holl chwedlau a'r farddoniaeth sy'n dwyn ei enw, nid yw'r ganmoliaeth yn eithafol. Dengys ei Nugae Curialium—Clep y Llys—ei fod yn hyddysg iawn yng nghleber bywyd llys, ond dengys yr un gwaith gydnabyddiaeth â llên gwerin a thraddod— iadau Cymreig. Yn ei ganeuon ceir beirniadaeth lem ar fywyd ei gyfnod, a gwnaeth y chwedlau a briodolir iddo lawer i sicrhau i Arthur ei le fel marchog delfrydol yr oesau canol. wir, myn Saintsbury, y critig Seisnig, iddo wneud llawer mwy na Sieffre o Fynwy yn y cyfeiriad hwn.
Addysgwyd ef ym Mharis, 1154—1160, ond erbyn tua 1170 yr oedd yng ngwasanaeth brenin Lloegr, a'i gwnaeth yn un o glercod ei lys. Yn 1176 gwnaed ef yn Ganon Sant Paul, ac yn 1197 yn Archiagon Rhydychen. O'r ffaith hon y tyfodd yr ystori mai efô oedd Gwallter Archiagon a oedd biau'r llyfr y cododd Sieffre ei Hanes ohono.
Un anhawster ynglŷn â phriodoli'r cwbl o'r gwaith hwn i Map yw'r amrywiaeth rhyfedd a geir ynddo. Ar y naill law, efô yw creawdwr Syr Galahad, ac iddo ef y priodolir yr ymchwil am y Greal Santaidd a ddaeth yn rhan mor hanfodol o'r traddodiad Arthuraidd, a gesyd hyn ef, yn marn Saintsbury, ymysg nofelwyr penna'r byd. Ar y llaw arall, efô biau rai o ganeuon bryntaf yr oesau canol, fel cân Esgob Golias,—
pennaeth tybiedig y Goliardiaid, urdd y cerddi masw—i'r ddiod, sy'n dechrau gyda'r dymuniad adnabyddus:
Meum est propositum in taberna mori: Vinum sit appositum morientis ori Ut dicant, cum venerint, angelorum chori: Deus sit propitius huic potatori.
Dyma fel y cyfieitha R. T. Jenkins y geiriau:
Yn y dafarn y bûm fyw, yno boed im farw, Dodwch gwpan wrth fy mîn yn fy nhywydd garw, Hyfryd clywed yn y glyn nefol gôr yn lleisio "Am a lyncodd hwn, O Dduw, bydd drugarog wrtho."
Y mae sŵn cyfeddach yr oesau canol yn rhedeg trwy'r gân, a beiddgar o beth oedd rhoddi ei chanu yng ngenau esgob; ond dywedir mai ei amcan oedd gwneud gwawd o'r esgobion glwth a'r yfwyr. Yn Lladin y sgrifennwyd y caneuon, ond mewn rhyddiaith yn Ffrangeg y mae'r chwedlau.
Yr oedd Map yn un o'r dirprwywyr a ddewiswyd gan y brenin i gynrychioli Lloegr yn y cyngor a alwyd gan y Pab Alexander III yn 1179. Tybia Dr. Hartwell Jones mai yn y Lateran y bu y cyngor hwnnw. Yr oedd heresi'r Waldensiaid yn dechrau codi ei ben ac yr oedd cais wedi ei anfon i'r cyngor am ganiatâd i bregethu yn nhafodiaith y werin. Yn yr ymdrafodaeth a fu ar y mater hwn dewiswyd Gwallter i amddiffyn safbwynt yr Eglwys Gatholig, a gwnaeth hynny mewn modd a enillodd edmygedd y cannoedd cynrychiolwyr a oedd yno o bob rhan o wledydd cred.
Yr oedd y dysgedigion hyn ac eraill y gellid cyfeirio atynt yn byw megis ar lwyfan Ewrop, ac mewn ystyriaeth o ddysg yr oesau canol y mae iddynt bwysigrwydd arbennig, ond nid bob amser y cofia Cymru hynny. Ond gwŷr eithriadol oedd y rhain, a pherthynai mwy nag un ohonynt i ddosbarth yr urddasolion. Ond beth am gyfle addysg y cyffredin ?
Camgymeriad a goleddir yn gyffredin yw tybied y cedwid ysgol mewn cysylltiad â mynachdai yr oesau canol. Y mae'n wir bod y mynaich eu hunain yn gyffredin ymysg gwŷr mwyaf dysgedig y cyfnod, ond rhaid cofio mai bywyd o neilltuedd oedd y bywyd hwnnw, ac os datblygodd rhai ohonynt yn ysgolheigion, yr oedd hyn i fesur ar gyfrif yr hamdden a'r diogelwch eithriadol a fwynhaent. Ac nid rhyfedd oedd i drysorau llên gael eu cadw mewn lleoedd o'r fath. Gwyddom, er enghraifft, oddi wrth ymchwiliad a wnaed yn yr unfed ganrif ar bymtheg, fod yn Abaty Llanthoni gopïau o Ofydd, Plato, Plautus, Cicero, Sallust, Persius, Lucan, Horas a Terens.[26]
Yn wir, â Mr. Stanley Knight mor bell a haeru i fynachlogydd yr oesau canol yn fynych lesteirio addysg y werin yn hytrach na'i hyrwyddo, ac nid hawdd gwadu'r casgliad hwn.
Fel y ceir gweled, byddai offeiriad y plwyf yn arfer â chynnal ysgol i'r plwyfolion yn yr eglwys, ond pan syrthiai'r fywoliaeth i ddwylo mynachlog gyfagos—a digwyddai hynny yn lled gyffredin—rhoid ficer annysgedig i gynnal gwasanaeth y Sul rywfodd rywsut a syrthiai'r arfer o addysgu'r plwyfolion i ddifancoll yr un pryd.
Wedi ymchwil manwl i hanes prif fynachlogydd Cymru, metha Mr. Knight â gweled bod unrhyw sail i'r haeriad i'r mynaich erioed ymgymryd ag addysgu'r werin.
Tystia'r un awdurdod fod yr Eglwysi Cadeiriol wedi gwneud llawer gwell gwaith yn y cyfeiriad hwn, ond nid iddynt hwy y mae'r clod am gychwyn y gwaith o addysgu ychwaith.
Sefydlwyd yr ysgol Gymreig gyntaf rywbryd yn y bumed ganrif[27]—gan mlynedd cyn sefydlu ysgol Caergaint gan Awstin Fynach yn 598. Yr oedd sefydlu ysgolion o'r fath wedi dyfod yn anhepgor oherwydd marw o'r hen ysgolion paganaidd ac oherwydd twf eithriadol mynachaeth, a oedd bob amser i fesur yn wrth-glerigol ac a gyfrifid, yn y cyfnod cyntaf, beth bynnag, yn wrth-eglwysig. Hefyd, yr oedd yr iaith Lladin anarferedig ym Mhrydain ers tro; a chan mai hyhi oedd iaith y gwasanaeth crefyddol, rhaid oedd gwneud trefniadau i'w dysgu. Illtyd oedd sefydlydd y gyntaf o'r ysgolion hyn, a daeth Llanilltyd Fawr i fri nodedig yn ystod y chweched ganrif ar gyfrif ysgolheictod Illtyd ei hun. Sonnir amdano fel y galluocaf o'r Brythoniaid a'r Galiaid a'r mwyaf hyddysg yn yr Ysgrythur Lân—yr Hen Destament yn ogystal a'r Newydd ac ym mhob math ar ddysg fel mesuroniaeth, Rheitheg, Gramadeg a Rhifyddiaeth yn ogystal ag mewn gwybodaeth o'r celfyddydau. Yn yr ysgol hon yr addysgwyd Gildas a Samson, Archesgob Dol yn Llydaw.
Codwyd ysgol gyffelyb gan Ddyfrig yn Henllan ar Wy. Symudwyd oddi yno i Fochros ac yno yr addysgwyd Teilo a chlerigwyr eraill. Gorffennodd Teilo ei addysg yn ysgol Paulinus, ac yno hefyd yr addysgwyd Dewi, nawdd Sant Cymru. Ni wyddys ym mha le yr oedd yr ysgol.
Haera Mr. Knight mai ysgolion clerigwyr yn unig oedd y rhain, ac mai nid fel mynaich y cyfeirir at yr ysgolheigion, ond fel brodyr neu ddisgyblion. Ond arferir edrych ar Illtyd a'r lleill fel saint, hynny yw, fel mynaich. Credwn, er hynny, y dylid gwahaniaethu rhwng gwaith mynachaeth fore Cymru— lle ceir bod y sant neu'r mynach yn gyfuniad rhyfedd o'r meudwy, yr athro a'r efengylydd—a mynachaeth Rufeinig. Arferid disgyblaeth feudwyaidd bron yn y tai crefyddol bore hyn. Yr oeddynt yn byw yno wrth reol fanwl, ac y mae'n lled amlwg mai o'r Aifft y deilliodd y gyfundrefn yn y pen draw, hynny yw, mai rheol—" regula"—Pachomius wedi cyfnewid rhyw gymaint arni, wrth gwrs—oedd ganddynt. Ond yr oedd yr Abad neu'r pennaeth yn athro hefyd, fel y dengys y bucheddau, a dengys yr eglwysi sy'n dwyn eu henwau nad oeddynt yn llai efengylwyr o'r herwydd.
Nid ysgolhaig oedd pawb a berthynai i'r fynachlog, mwy nad oedd pawb yn nhai crefyddol yr oesau canol yn fynaich. O'r 965 a oedd yn Llanelwy nid oedd ond 365 yn wŷr llên, a'u gwaith hwy oedd gofalu am y gwasanaeth crefyddol—un am bob dydd o'r flwyddyn, fe ddichon.
Pair nifer yr ysgolheigion rywfaint o ddryswch. Yr oedd miloedd ohonynt, fe ddywedir, yn Llanilltud a Bangor-is-y Coed. Anodd gwybod faint o bwys i'w roi ar ffigurau'r bucheddau a themtir rhai sgrifenwyr i'w hystyried fel ffiloreg noeth. Ond rhaid cofio mai estron o Sais—yr hanesydd Bede —sydd yn tystio am y nifer ym Mangor, a synnwyd William o Malmesbury gan garnedd yr adeiladau a welodd ef yno yn amser y Normaniaid. Ceir awgrym mewn un lle, fel y dengys Mr. Knight, mai 50 o ganonwyr oedd y nifer a addysgid gan Illtud—nifer a ymddengys i ni dipyn yn fwy rhesymol.
Ond rhaid cofio am eu gwaith fel efengylwyr hefyd. Dengys y penyd-lyfrau (penitentials) mor anodd ac eto mor angenrheidiol oedd efengylu i'r barbariaid cyntefig. Yr oedd hyn yn waith addysgol—y gwaith addysgol pwysicaf a wnaed yn Ewrop erioed, fe ddichon.
Ymddengys i esgob Llandaf wneuthur trefniant bore iawn i gael gan bob clerigwr yn ei esgobaeth gyfrannu addysg i'w blwyfolion. Rhoddid caniatâd i'r offeiriad i adael ei fywoliaeth dros dymor i fyned i un o'r prifysgolion i ymberffeithio mewn dysg ar yr amod y cadwai ysgol wedi dychwelyd yn ôl. Yr oedd Tyddewi hefyd ar y blaen yn hyn o beth.[28]
Nid oedd pethau lawn cystal yn y gogledd, a hynny, meddai Peckham, am fod y gyfran o'r degwm a gai'r eglwysi cyfrannol (portionary churches) yn annigonol i gario'r gwaith ymlaen. Ond er hynny i gyd, ceir aml ysgol blwyf, fel ysgol Benllech yn Llŷn, ysgol Rhuthyn, ac ysgol Wrecsam, lle yr oedd gwaddol at addysgu o leiaf ddeuddeg ysgolor tlawd. Pwysig iawn oedd yr ysgol gân er cyfaddasu'r plwyfolion ar gyfer gwasanaeth yr eglwys, a hefyd, ys dywed un hen awdur, am na ellir deall rheolau gramadeg heb wybod rhywbeth am gerddoriaeth.
Ategir poblogrwydd gramadeg fel pwnc ysgol gan y mynych gyfeiriadau at y Donet neu'r Dwned a geir yn llenyddiaeth y cyfnod. Cyfion d'enwi cefn y dwned" medd Tudur Aled am yr Abad Siôn o Gaerlleon, ac meddai am Ddafydd ap Edmwnd:
Llaw Duw a fu'n lladd awen,
Lladd enaid holl ddwned hen.
Hen lyfr gramadeg Lladin oedd y Dwned—gwaith Donatus, athro Ierôm, yn y bedwaredd ganrif. Perffeithiwyd y gramadeg yn yr unfed ganrif ar ddeg gan un o'r enw Remigius, mynach Ffrengig. Erbyn yr Iteg ganrif yr oedd lle'r Dwned wedi cael ei gymryd i fesur gan Ramadeg Mathurin Cordier—y Cordere, fel yr adwaenid ef yng Nghymru. Athro ym Mharis oedd Cordier, ac un o hoff athrawon John Calvin ac, fel yntau, a ddaeth yn Brotestant yn y man. Bu farw yn ninas Calvin yn 1564.
Un o'r darganfyddiadau mwyaf diddorol ynglŷn ag addysg fore Cymru ydoedd dyfod o hyd i werslyfr a ddefnyddid, fe ddichon, yn un o'r ysgolion cynnar hyn. Cred Mr. W. M. Lindsay i'r llyfr gael ei gynhyrchu yng Nghymru yn y ddegfed ganrif. O leiaf, nid oedd amheuaeth nad Cymraeg yw'r nodiadau (glosses) a geir yn y llyfr, a thebyg felly iddo gael ei ddefnyddio yng Nghymru.[29] Y ffurf arferol sydd i'r llyfr, sef ymryson rhwng athro a'i ddisgyblion. Cychwyn y wers gyda'r hyn a ddigwydd yn y bore pan fo'r athro a'i ddisgyblion yn codi. Wrth alw am ei ddillad deil yr athro ar y cyfle i ddysgu iddynt yr enwau Lladin ar ddillad. Yna geilw am ddŵr ac eir trwy enwau gwahanol rannau'r corff yn Lladin. Gwneir paratoadau at fyned ar bererindod ac ymgydnabyddir â'r termau angenrheidiol yn lled ddidrafferth. Y mae yn llyfrgell Corpus Christi, Caergrawnt, gopi o lyfr ysgol arall a ddefnyddid yn yr oesau canol, sef Martianus Capella, y cyfeiriwyd ato eisoes, ac ynddo nodiadau (glosses) Cymraeg. Tybia'r ysgolhaig Gwyddelig, Whitley Stokes, ei fod yn perthyn i gyfnod mor fore â'r wythfed ganrif.
Gresyn i Owain Glyn Dŵr fethu â chyflawni ei freuddwyd i sefydlu dwy Brifysgol i Gymru, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de. Er mai etifeddiaeth gymharol fechan oedd iddo, yr oedd ef ei hun wedi cael addysg dda. Gwyddom hefyd am nifer o Gymry oedd yn Rhydychen pan gododd Owain mewn gwrthryfel, ac anfonwyd rhai Cymry oddi yno mewn cyfnodau boreach.[30] Carem wybod beth oedd safon dysg yng nghartref yr uchelwr Cymreig. Tybed a oedd dyhead Owain am brifysgol yn adlewyrchu syniadau ei oes? Y mae rhywbeth swynol odiaeth yn y rhestr llyfrau y dywedir eu bod gan Lywelyn Bren—tri llyfr Cymraeg, pedwar o lyfrau eraill, a'r ystori Ffrengig ramantus honno, y Roman de la Rose. Tybed a oedd Llywelyn ar ei ben ei hun yn hyn o beth?

Llyfrau.
AR gyflwr pethau yn gyffredin yn Ewrop yn ystod yr oesau canol erys llyfr Gibbon o hyd heb ei gymar. Ceir ynddo well syniad am fawredd yr ymerodraeth ac am y dirywiad a fu pan ddiflannodd nag a geir yn unman bron. Nid yw, fodd bynnag, yn ddiragfarn o lawer, yn enwedig wrth ymdrin â Christnogaeth, a dylid mesur y datblygiad a fu er dyddiau Gibbon trwy sylwi ar nodiadau y diweddar J. B. Bury yn ei argraffiad ef o'r gwaith (The Decline and fall of the Roman Empire, edited by J. B. Bury, 7 gyfrol). Ar grefydd y gorllewin gweler Dean Milman: Latin Christianity. Yn Italy and her Invaders, gan Dr. Hodgkin, ceir darlun llawn a manwl o'r difrod a wnaed yn Itali ei hun. Ar gyflwr llên gweler Sismondi: Literature of Europe; Hallam Literary History of Europe, a Berington ar yr un testun, Literary History of the Middle Ages.
Ar gyflwr barddoniaeth yng Nghymru yn yr oesau canol gweler Gwynn Jones ar "Bardism and Romance," Cymmrodorion Transactions, 1913—14.
Y mae llenyddiaeth Sieffre o Fynwy, oherwydd ei gysylltiad ag Arthur, bron yn ddiderfyn. Llyfr bach da ar Arthur a'i greawdwr yw llyfr y diweddar Athro Lewis Jones ar King Arthur (Caergrawnt: Gwasg y Brifysgol). Sgrifennodd y diweddar Henry Owen, Poyston, hanes Gerallt mewn llyfr diddorol dan y teitl Gerald the Welshman. Am gyfeiriadau at Pecock gweler The Lollards in England gan Ramsay, a hefyd Ten Brink's History of English Literature, Vol. II; ar Wallensis gweler A. G. Little, Medieval Wales a'i Franciscan Studies. Ceir erthygl ar Gwallter Map gan y diweddar Lewis Jones yn y Cymmrodorion Transactions, 1905—6, a chan R. T. Jenkins yn Y Llenor, Haf, 1931, o dan y teitl awgrymiadol, "Llygad yr Esgob." Ceir erthyglau ar yr holl wŷr hyn yn y Dictionary of National Biography.
Gweler gyfieithiad o de Nugis Carialium Walter Map gan Dr. M. R. James yn y Cymmrodorion Record Series a'r argraffiad o'r testun Lladin (Gwasg Rhydychen).
Gweler llyfr diddorol Mr. Rhys Phillips: The Monastic Libraries of Wales, ar lyfrgelloedd y mynachtai. Ceir ysgrifau gan Mr. Stanley Knight ar addysg yn y Cymmrodor, Cyfrol XXXI, ac yn Archæologia Cambrensis (1909). Gweler hefyd ei lyfr ar Welsh Grammar Schools (Welsh Outlook Press, Newtown). Ar gyflwr pethau yn gyffredinol gweler llyfr bychan y Parch. D. D. Williams ar Addysg Cymru yn y Canol Oesau. Gweler hefyd Gyfrol I, E. J. Jones: A History of Education in Wales (Hughes a'i Fab, Wrecsam).
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyfieithwyd y "Diddanwch" i'r Anglo-Saxon gan y Brenin Alfred tua'r flwyddyn 897—8. Ceir cyfieithiad mydryddol yn ogystal a'r cyfieithiad pros yn y Cotton MSS., ond pros yn unig a geir yng nghopi'r Bodleian. Anghytuna'r awdurdodau ar gwestiwn awduraeth y cyfieithiad mydryddo!, er y dywed y Rhagarweiniad—sydd, fel y myn rhai yn ddiweddarach na'r cyfieithiad ei hun—mai Alfred oedd awdur y naill a'r llall. Dywed William o Malmesbury wrthym fod Asser o Dyddewi, ei gyfaill a'i fywgraffydd, wrth ei benelin pan wrth y gwaith, yn esbonio y Lladin iddo ac Alfred yn ei drosi i iaith yr Eingl-Sais.Cyfieithwyd ef drachefn i bros gan y Bardd Chaucer o dan y teitl Boece. Yr oedd hyn, fel y tybir, tua'r flwyddyn 1381. Dyma'r cyfieithiad cyntaf i Seisnig, ac y mae'n amlwg oddi wrth y mynych ddyfynnu sydd arno yng ngweithiau y Bardd ei fod yn un o'i hoff lyfrau.Ac hyd yn oed pan wawriodd y Dadeni ar Loegr, ni anghofiwyd yr hen glasur yn llwyr. Y tro hwn fe'i cyfieithwyd i Saesneg diweddar gan y Frenhines Elizabeth ei hun. Fel y rhelyw o'r teulu, yr oedd Elizabeth yn ysgolhaig gwych ac wedi ei haddysgu gan Roger Ascham, un o noddwyr mwyaf eiddgar y Ddysg Newydd.
- ↑ Gweler Lloyd: History of Wales, 136—7.
- ↑ Hallam's Literary History, 1, 4.
- ↑ Newell: A History of the Welsh Church, 103
- ↑ Y mae perthynas y Bardd Teulu a'r Pencerdd a'i gilydd yn un o'r pethau mwyaf anodd ei benderfynu fel y mae'r cyfreithiau gennym ar hyn o bryd. Rhaid aros nes ceir ysgolhaig cyfarwydd a fedr ddatrys y gwahanol elfennau a'r gwahanol gyfnodau oddi wrth ei gilydd
- ↑ Ancient Laws and Institutes, dan y pennawd Pencerdd a Bardd Teulu, I. 10, 32, 388.
- ↑ Ibid., I, 32.
- ↑ 8 Gweler erthygl feistrolgar yr Athro T. Gwynn Jones ar "Bardism and Romance," Cymmrodorion Transactions, 1913—14. 261, Nodyn 2.
- ↑ Gweler Cymmrodorion Transactions, 1913—14.
- ↑ S. J. Jones' Hist. of Education in Wales, 265.
- ↑ Newell: op. cit., 69, 105
- ↑ Lloyd: op. cit., 136. "No one will doubt that he received an excellent education."
- ↑ Hugh Williams: Christianity in Early Britain, 372.
- ↑ Rhys Phillips: The Monastic Libraries of Wales, p. 8.
- ↑ Hartwell Jones: Cymmrodorion Transactions, 1905—6, p. 90.
- ↑ Hugh Williams: op. cit., 182, 370, CH. XXV.
- ↑ Rhys Phillips: op. cit., 39.
- ↑ Cymru, Ionawr, 1893.
- ↑ Gweler Y Cymmrodor XXXV a XXXVI am erthyglau gan y Parch. A. Grisom, M.A., Caerefrog Newydd, ar The Book of Basingwerk.
- ↑ Ar gynnwys yr hen fynachlogydd gweler Rhys Phillips: The Monastic Libraries of Wales.
- ↑ Gweler Lloyd: op. cit., 524.
- ↑ Fuller's Worthies of Wales. Browne Willis's Survey of St. Asaph, I, 80. 397
- ↑ Browne Willis: Survey of St. Asaph, I, 83.
- ↑ Claddwyd ef yn Eglwys yr Urdd ym Mharis. Yr oedd hyn, meddai y brawd Mandonnet, fu mor garedig a chwilio i'r mater droswyf, tua'r flwyddyn 1303 ac nid 1285, fel yr awgryma Little. Yn anffodus, fe ddinistriwyd yr adeilad yn y chwyldro 1798. Er i rai o'r trysorau gael eu symud i'r Musée de Cluny, yn anffodus nid oes dim o'r hen garreg nac ychwaith ddarlun ohoni ar gael.
- ↑ Gweler erthygl ddiddorol R. T. Jenkins yn y Llenor Haf, 1931, ar Gwallter Map, dan y teitl "Llygad yr Esgob."
- ↑ Yr oedd yno gynifer â 486 o lyfrau, meddir, ac y mae tua 130 ohonynt ym mhlas Lambeth heddiw. Rhys Phillips, 51.
- ↑ Dyma osodiad Mr. Knight, ond prin y gellir bod yn bendant ar fater o'r Gweler lyfr E. J. Jones: History of Education in Wales, Ch. IV.
- ↑ L. Stanley Knight: Welsh Schools, 1000—1600, Arch. Cam., 1919.
- ↑ Ymddangosodd copi o'r uchod yn Transactions y Philological Society am 1860-1 wedi ei godi o Lawysgrif 572 yn y Bodleian.
- ↑ Dywed yr hen groniclydd, Adda o Fryn Buga, iddo ef gael y bai am yr helynt a fu yn y flwyddyn 1388 neu 1389. Gofalodd ar ôl hynny, chwedl yntau, am roi bach yn ei drwyn. Gweler Chronicon Adae de Usk, 1900, wedi ei olygu gan Syr Edward Maunde Thompson.

XIX. Llên.
No other mediaeval literature shows at its outset the same elaborate and completed organisation as that of the Welsh. But within these settled forms the Celtic fancy plays with a startling freedom. . . . The world of the Mabinogion is a world of pure phantasy, a new earth of marvels and enchantments, of dark forests whose silence is broken by the hermits' bell and sunny glades where the light plays on the hero's armour.—J. R. GREEN.
NID oes well drych o feddwl oes neu genedl na'i llên, ond wrth ystyried llenyddiaeth cyfnodau bore rhaid cofio mai ar dafod leferydd y buwyd yn llenydda am ganrifoedd ymhell cyn bod llyfr na sôn am ysgrifen. Ceid blas ar ddywedyd stori neu ganu baled, fel y dengys y Mabinogion neu farddoniaeth Homer, a chynhyrchion boreaf pob iaith, o ran hynny. Un canlyniad o orfod dibynnu ar y cof, fodd bynnag, oedd i nifer o'r cynhyrchion fyned ar ddifancoll ac i eraill, wrth eu hail—adrodd, gael ychwanegu atynt nes eu gweddnewid. Ond gyda dyfod ysgrifen peidiodd y cyfnewidiadau i fesur, a rhoddwyd i'r chwedl neu'r gân ei ffurf lenyddol derfynol. "Gorau cof, cof llyfr."
Dibynna'n barn ni am lên unrhyw gyfnod ar werth yr hyn a erys o gynhyrchion y cyfnod hwnnw. Ond rhyfyg fuasai tybio bod goreuon cynhyrchion y cyfnodau hyn gennym ni heddiw, ac y mae'n bwysig cadw hyn mewn cof wrth ffurfio barn am gynhyrchion cyntefig unrhyw genedl. Pan gofier bod memrwn yn brin a chrefft sgrifennu yn anodd a dieithr, fe welir pa mor ddamweiniol yw goroesiad rhai cynhyrchion llenyddol a feddwn heddiw. Yn wir, wrth ddarllen aml gynnyrch llenyddol cynnar fel y Gododdin neu, i fesur llai, y Mabinogion, teimlwn mai syllu yr ydym ar weddillion anhyblyg hen garnedd o straeon a fu unwaith yn dalgryf fel mynydd cribog cyn i dreigl yr oesau ei gafnu a'i saernio i'r hyn ydyw heddiw.
Gellir ystyried llên unrhyw gyfnod o fwy nag un safbwynt. Safbwynt crefftwaith yw safbwynt gyffredin beirniaid pob
Nid yw'r bardd neu'r llenor namyn crefftwr a wna gampwaith â geiriau iaith, a diddorol odiaeth yw sylwi ar y modd y cyflawna ei waith. Sut feistr yw'r awdur ar y gelfyddyd anodd o nyddu geiriau? Cydnabyddir ffurfiau llenyddol arbennig fel safon i farnu'r gwaith wrtho, ond nid yw'r safon, mwy na'r ffurf, yn ddigyfnewid. Er hynny, gwae'r neb a geisio ganu ar ffurf newydd neu a faidd awgrymu nad yw yr hen safonau beirniadol yn ddigonol. Ond er hyn i gyd, newidir hwythau yn eu tro i gyfarfod â'r ffurfiau llenyddol newydd a greir o bryd i bryd. Gan yr ysgol hon o feirniaid y ffurf yw'r peth pwysicaf a'i thuedd naturiol yw myned yn ffurfiol a dienaid.
Ond ni bu beirniadaeth erioed, y mae'n debyg, yn fodlon ar ystyried ffurf yn unig, Er mor bwysig yw ffurf, nid yw wedi'r cyfan ond megis gwisg neu blisgyn. Y cnewyllyn neu'r meddwl, y ceisir ei osod allan mewn gwisg, pa mor afler neu gain bynnag y bo, sydd yn bwysig yn ôl barn dosbarth arall. Tuedd y dosbarth hwn yw anwybyddu'r wisg yn gyfangwbl bron. Y gwir yw bod y ffurf a'r meddwl cyn bwysiced a'i gilydd. Gorffwys perffeithrwydd llên mewn cyfuniad perffaith o iaith a meddwl—iaith mor dryloyw nes dadlennir meddwl dyn trwyddi fel y tyrr heulwen trwy niwl bore o haf.
Ac nid cynnyrch personol yn unig yw llên, pa mor gelfydd bynnag fo'r sawl a lywia'r geiriau. Y mae hefyd yn greadig— aeth ei chyfnod a delwedda ynddi ei hun nodweddion hwnnw yn union fel y gwna ei chreawdwr. Cynnyrch ysbryd yr oes— y Zeitgist y bu llawer o sôn amdano rai blynyddau yn ôl—ydyw, ac er i'r ysbryd ddefnyddio unigolyn, nid oes amheuaeth na chlywir adlais ei gyfnod yn lleferydd yr awdur.
Dyma, fe ddichon, y safbwynt mwyaf diddorol i hanesydd cymdeithas. Iddo ef, nid perffeithrwydd celfyddyd ac nid gwreiddiolder neu newydddeb syniadau sy'n bwysig, ond yn hytrach y modd y delweddir syniadau'r cyfnod ynddynt. Ni olyga hyn ddiystyru ceinder crefft a phwysigrwydd drych-feddyliau, ond edrychir ar y cynnyrch llenyddol ym mlaenaf oll fel drych a adlewyrcha yn fwy neu lai cywir syniadau yr oes y perthyn iddi.
A siarad yn gyffredinol, nodweddir llên yr oesau canol gan ddylanwad Lladinaidd. Yn ystod yr oesau tywyll, torrwyd yr hen ymerodraeth Rufeinig yn ddwy ran—adran orllewinol gyda Rhufain yn ganolfan iddi a Lladin fel iaith lên, ac adran ddwyreiniol gyda Chaercystenyn fel canolfan a'r iaith Roeg fel cyfrwng diwylliant. Un canlyniad oedd i'r gorllewin golli ei gysylltiad â diwylliant ac iaith Groeg hyd nes ail-ddarganfuwyd ei thrysorau llenyddol yn niwedd yr oesau canol. Canlyniad arall oedd i'r iaith Ladin ddyfod yn iaith dysg a diwylliant, llywodraeth a chyfraith a chrefydd y gorllewin am oddeutu mil o flynyddoedd, ac erys y traddodiad Lladinaidd. yn sail diwylliant y gorllewin o hyd.
Rhennir llên y cyfnod felly yn ddwy adran—yr adran a sgrifennwyd yn Lladin a'r adran arall a sgrifennwyd yn nhafodieithoedd y gwahanol wledydd. Nid bob amser y cofiwn ni, Gymry, fod ein llenyddiaeth foreaf, fel eiddo pob cenedl arall yng ngorllewin Ewrop, wedi ei hysgrifennu yn Lladin, ac mai yn Lladin y parhawyd i sgrifennu am ganrifoedd. Yn Lladin y sgrifennodd Gildas, a dengys ef, fel y crybwyllwyd eisoes, ei fod yn lled gynefin â'r dull clasurol. Perthyn ef i'r hen fyd yn union fel y perthyn Boethius, a ystyrir fel rheol yr olaf o'r clasurwyr. Yn Lladin y sgrifennai Nennius yn y nawfed ganrif, Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed, Gerallt Gymro yn y drydedd ar ddeg, a Walter Map, ei gyfoeswr. Yn Lladin y sgrifennwyd Bucheddau'r Saint, a cheir copi bore o'r cyfreithiau yn Lladin. Nid dibwys ein llenyddiaeth Ladin, ond nid bob amser y câi'r sylw a haedda.
Cyffelyb yw stori pob cenedl yn Ewrop, ac yn hyn o beth adlewyrcha llên fore Cymru elfen sydd yn gyffredin yn llên y gorllewin i gyd.
Nodwedd arall, fodd bynnag, yw'r modd yr ymryddha'r gwledydd y naill ar ôl y llall o hualau'r hen draddodiad Lladinaidd. Erbyn dechrau'r oesau canol dechreusid sgrifennu yn iaith y werin bobl. Iaith dysg a diwylliant, ac yn anad dim iaith crefydd, ydoedd Lladin, ond cadwyd yn fyw draddodiadau'r gwahanol genhedloedd nid mewn Lladin clasurol ond yn nhafodiaith y werin. Gryfed oedd dylanwad Lladin, fodd bynnag, nes bu raid i amryw o'r cenhedloedd hyn greu iaith newydd ar gynllun Lladin. Y mae rhan o'r diddordeb a geir mewn astudio llên y cyfnod yn codi o weled ieithoedd newydd yn codi megis o fedd yr hen iaith Rufeinig. Y mae hyn yn amlwg iawn yn y Ffrangeg, er enghraifft, lle gellir gweled geiriau Lladin megis yn cael eu trawsnewid i ffurfio iaith newydd, fel yng nghân Roland yn y Chansons de geste, lle dywed Roland:
- Por son signor deit hom sofrir granz mals,
—brawddeg sy'n cyfateb i'r Lladin:
- Pro suum seniorem debet homo suffire grandes malos.
Fe wêl y mwyaf anghyfarwydd mai siarad Lladin[1] y mae Roland, ond ei fod yn gwneud hynny yn ei ffordd ei hun. Dyna a wnaeth y Ffrancod a'r Sbaenwyr a'r Italiaid, ac felly y rhowd bod i'r Ffrangeg a'r Sbaeneg a'r Italeg.
Ond nid iaith newydd mo'r Gymraeg. Ychydig ddylanwad a gafodd Lladin ar ei thwf yn ystod y canrifoedd hynny y bu'r ymerodraeth yn llywodraethu'r ynys hon, ac oherwydd hynny datblygodd y Gymraeg i fesur mwy neu lai yn unol â'i theithi naturiol, yn debyg i'r fel y gwnaeth yr Ellmyneg—ac yn union am yr un rheswm. Saif Saesneg rywle rhwng y ddau ddosbarth hyn o ieithoedd, oblegid fe ail-grewyd iaith y Saeson—yr Anglo-Saxon fel y gelwid hi ar y cyntaf rhwng dyddiau Caedmon, oedd yn ei flodau rhwng 660 a 680, a Chaucer, a flodeuai rhwng 1340-1400, ac i ormes a diwylliant y Norman, y naill lawn cymaint a'r llall, y mae diolch am hyn.
Y mae'n amlwg, felly, fod y tu ôl i lên yr oesau canol yng Nghymru hen draddodiad llenyddol brodorol. Pa mor hen ydoedd ni pherthyn i ni geisio penderfynu, er bod sail i gredu bod peth o leiaf o waith y cynfeirdd yn perthyn i gyfnod mor fore a'r chweched ganrif.
Dengys y cyfreithiau hefyd y safle anrhydeddus oedd i'r Pencerdd a'r Bardd Teulu ymysg swyddogion y llys. Awgryma'r cyntaf o'r enwau hyn nodwedd bwysig sy'n gwahanu llên y cyfnod oddi wrth lên fel yr edrychir arni heddiw. Canu ei gerdd y byddai'r pencerdd, ac efô a gâi'r cynnig cyntaf. Nid oedd y Bardd Teulu i ddechrau canu nes byddai'r Pencerdd wedi gorffen. Y mae yr un mor sicr mai ar dafod leferydd y bu fyw y straeon hynny a gasglwyd yn llyfr gan rywun ac a adwaenir gennym ni fel y Mabinogion. Rhaid edrych ar lenor y cyfnod, felly, fel math o faledwr neu ganwr cerddi a gariai ymlaen draddodiad a oedd a'i seiliau ymhell yn ôl yn y bywyd crwydr hwnnw y bu ein hynafiaid yn ei fyw am filoedd o flynyddoedd cyn iddynt dirio yn yr ynysoedd hyn.
Ni all yr hanesydd yntau fod yn gwbl ddall i ddatblygiad ffurfiau llenyddol. Golyga ffurf lenyddol newydd ddatblygiad pellach ym mhrofiad y sawl a'i darganfyddo yn ogystal ag ymwybyddiaeth berffeithiach o bosibilderau iaith. Bodlonir weithiau ar fenthyca'r ffurf neu'r meddylddrych oddi ar genhedloedd cyfagos, ond dengys hynny ynddo'i hun ymgydnabod â syniadau'r cenhedloedd hynny, ac oherwydd hyn ehangir meddwl a phrofiad y genedl a aiff ar ofyn ei chymdoges.
O syllu ar farddoniaeth Cymru fel y gwna'r beirniad llenyddol, nid yw'n anodd olrhain datblygiad y gwahanol ffurfiau. Y ffurf fwyaf cyffredin yn y farddoniaeth foreaf a feddwn yw ffurf yr englyn, ac yn ei gynildeb anghymarol cawn aml ddisgrifiad bythgofiadwy o wron, o frwydr neu o fyrder einioes. Dilynir y cyfnod hwn gan gyfnod yr awdl, pryd y cymer mesur a gynhwysa res o linellau neu fesurau unodl le yr englyn dwy neu dair llinell a oedd mor nodweddiadol o'r hen feirdd. Erbyn oes Dafydd ap Gwilym deuwn i gyfnod y cywydd deuair hirion, ac y mae cryn ddadlau wedi bod ai Dafydd ai arall a'i creodd. Teimla'r Athro Ifor Williams nad oes modd penderfynu'r pwnc i fodlonrwydd. Wele rai enghreifftiau o'r datblygiad hwn:
(1) Llym awel, llwm bryn—anhawdd caffael clyd,
Llygryd rhyd, rhewid llyn,
Rhysaif gwr ar un conyn.
—LLYFR DU CAERFYRDDIN.
(2) Pan ddelwyf i borth y fynwent,—y bresent adawaf,
Ar a welais, a gerais, oll a ddigaraf;
Fy ngwely a wneir mewn gro, a rhwymo fy nwy adaf,
A chlustog faen dan fy mhen, a thudded pren amdanaf;
A'm gado a wna fy ngheraint ymysg llyffaint i'm bwyta,
A'm ysbeilio o'm da byd, a bwrw gweryd arnaf.
—CYFFES TALIESIN.
(3) Ni cherddaf, nid af o dy
Ymhoen ydd wyf am hynny,
Nid oes fyd, na rhyd, na rhiw,
Na lle rhydd, na llawr heddiw.
Ni'm twyllir o'm tŷ allan
Ar air merch i'r eiry mân.
—DAFYDD AP GWILYM.
Awgryma un beirniad llenyddol amlwg[2] fod y disgrifiadau o natur er ei mwyn ei hun a geir yn llenyddiaeth fore Lloegr yn rhywbeth nas ceir mewn barddoniaeth gynnar.
Ond camgymeriad yw hyn fel y dengys y gydnabyddiaeth leiaf â llenyddiaeth gyntefig Cymru. Er y cyfnewid a fu ar y ffurfiau llenyddol rhwng y chweched ganrif a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, rhed cariad at natur yr un mor ddigamsyniol trwy englynion y misoedd a thrwy gywyddau Dafydd a'i gyfoeswyr i "fwynderau Mai." Haedda rhai o'r englynion bore eu cymharu â cheinion disgrifiadol llenyddiaeth Groeg. Perthyn iddynt yr un sylwadaeth fanwl, yr un cynildeb ymadrodd a'r un crefftwaith a'u gwna yn emau llenyddol digymar bron. Wele ychydig enghreifftiau:
Gwyn ei byd y fedwen yn nyffryn Gwy,
Y syrth ei changau bob un, bob dwy.*****Y ddeilen hon, neus cynired gwynt
Gwae hi o'i thynged;
Hi, hen; eleni y ganed!*****Eiry mynydd-llwm brig on;
Gorchwiban gwynt gan flaen ton;
Trydydd troed i hen ei ffon.
Ceir mwy o nwyd yng nghanu'r cyfnod nesaf, ac nid oes neb, yn sicr, wedi gwneud gwell defnydd o ruthriadau natur i ddisgrifio'r storm oedd yn ei fynwes ei hun oherwydd cwympo o'n Llyw Olaf nag a wnaeth Gruffydd at yr Ynad Coch:
Oni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Oni welwch y deri yn ymdaraw?
Oni welwch y môr yn merwinaw'r tir?
Oni welwch y gwir yn ymgyweiriaw?
Oni welwch yr haul yn hwylaw'r awyr?
Oni welwch y syr wedi syrthiaw?
Pam na chredwch Dduw, ddyniadon ynfyd,
Oni welwch y byd wedi bydiaw?
Och hyd atat, Dduw, na ddaw môr tros dir,
Pa beth yn gedir i ohiriaw?
A phle y ceir tlysach plethiadau i Natur nag a geir gan Ddafydd ap Gwilym:
Pan ddêl Mai, a'i lifrai las
A'r irddail i roi'r urddas,
Aur a dŷf ar edafedd
Ar y llwyn er mwyn a'i medd.
Teg yw'r pren, a gwyrennig,
Y tŷf yr aur tew o'i frig.
Duw a roes, difai yw'r ail
Aur gawod ar y gwiail.
Nid bob amser y caiff y traddodiad hwn o ganu i natur sylw ein beirdd. Beichir llawer o waith y Gogynfeirdd gan ganmoliaeth duchanllyd i hwn a'r llall, heb fod ynddo y nesaf peth i ddim o werth llenyddol. Ond yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym teimlwn fod canu i natur mor naturiol iddo ef ag ydoedd i'r fronfraith byncio ar "fwyn geinciau Mai."
Ond amhosibl darllen gwaith Dafydd heb deimlo bod ynddo nodyn estron hefyd. Canu yr awyr agored yw canu arferol Dafydd. Y mae'n wir ei fod yn gallu canmol, ond nid wrth ganmol y mae ar ei orau, ond yn hytrach yn rhai o'r disgrifiadau byw a rydd o fywyd yn yr awyr agored, fel
Gwnaf ystafell mewn celli,
Gwiw rydd o newydd i ni;
A glaslofft o fedw glwysliw,
A hafdy a gwely gwiw;
Parlwr o irwŷdd purlas,
Pair clod ar oror parc glas;
Cwmpas o fedw a gedwir,
Conglau cadeiriau coed ir;
Capel glwysfrig ni'm digiai
O ddail irgyll mentyll Mai.
Onid oes rhywbeth o dinc y De mewn cân fel hon? Yno ceir deildai o ddail y gwinwydd—os nad o ddail irgyll mentyll Mai— a threulir llawer awr gan fab a merch dan eu cysgod i ganu caneuon serch yn union fel y gwnai Dafydd.
Yr oedd y ddeuddegfed ganrif eisoes wedi gwawrio cyn i'r adfywiad llenyddol cyntaf ddigwydd ym mywyd Ewrop ar ôl dyddiau'r ymerodraeth. Digwyddodd y Dadeni hwn—fel y gelwir ef yn neheudir Ffrainc—yn y llain hwnnw o dir a ymestyn ar hyd arfordir Ffrainc o'r Alpau i'r Pyreneau a throsodd i'r Ysbaen. Llwyddodd y bobl hyn i gadw'n fyw lawer o'r hen draddodiadau Rhufeinig, a hyd heddiw brithir y diriogaeth hon ag adeiladau gwych yr hen ymerodraeth. Yn y broydd hyn dysgodd y brodorion iaith newydd—neu ei bathu yn hytrach—sydd yn gyfuniad o'r Lladin a'u hieithoedd cyntefig hwy, ac yn yr iaith honno—y Profensal, fel y gelwir hi—y sgrifennwyd cynhyrchion llên yr adfywiad diddorol hwn.
Etifeddodd y diriogaeth hon hefyd draddodiadau eraill o gryn ddiddordeb. Wedi dyddiau'r ymerodraeth diffeithiwyd y wlad gan y Visigothiaid a'r Bwrgwndiaid, ac yn ddiweddarach gan ddylanwad mwy estronol fyth, sef dylanwad y Saraseniaid. Yr oedd cyfran helaeth o'r Ysbaen eisoes ym meddiant y bobl hyn, a thrwy briodas daeth Catalonia, adran bwysig o'r tiriogaethau, i feddiant tywysog Profens.. Nid bob amser y cofiwn i'r Arabiaid hyn ddiogelu cryn lawer o ddiwylliant yr hen fyd a'i drosglwyddo i orllewin Ewrop.
Nodweddir barddoniaeth y Trwbardiaid gan fesur o nwyfiant, o ramant a lliw nas ceir mewn barddoniaeth fore, ac awgrymir mai o'r dwyrain y cafwyd hwy. Daeth y Dwyrain a'r Gorllewin i gyfathrach agosach fyth â'i gilydd trwy gyfrwng y Crwsâd, a bu William o Poitiers—y cyntaf o'r Trwbardiaid— yn ymladd yng Nghrwsâd 1101. Tlysni a mwynder merch yw hoff destun y beirdd hyn, ond canant yn fynych mewn modd arwynebol dinwyd. Chwarae â theimlad a wneir, yn hytrach na rhoi mynegiant i gariad gwir. Ond yn y caneuon hyn, fe ddichon, y ceir y syniad gorau am sifalri'r oesau canol. Gwthiwyd y syniad hwn am sifalri i'r fath eithafion nes iddo fynd yn wrthun, ond dichon bod rhaid wrth syniadau o'r fath cyn y medrwyd dofi barbareiddiwch y marchogion. Ac yn wir, nid yw barddoniaeth y Trwbardiaid bob amser yn rhydd oddi wrth yr elfen anllad yr ymdrechent ei darostwng—trwy wneud o'r feinir ryw hanner duwies i'w haddoli yn hytrach na merch i'w charu.
O ganlyniad, barddoniaeth delynegol yw barddoniaeth y Trwbardiaid. Ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn nodyn newydd ym marddoniaeth Ewrop. Ni'n synnir ychwaith pan ddywedir mai iddynt hwy y mae'r gorllewin yn ddyledus am yr odl a'i bod yn deillio yn y pen draw o'r Arabeg. Dibynnai barddoniaeth glasurol ar fydr, hynny yw, ar hyd y llinellau, ond dibynnai'r farddoniaeth newydd ar acen a sain. Ym marddoniaeth y gogledd—barddoniaeth yr Eingl Sais, er enghraifft—dibynnid ar ddilynedd y cytseiniaid, ac oherwydd hyn byddai'r farddoniaeth yn fynych yn arw a chlogyrnaidd. Ond dibynnai'r Trwbadwr ar seiniau esmwyth ei lafariaid cyfoethog, a'r ffaith y disgwyl y glust am adsain y seiniau meddal a'u galluogodd i ganu ar gymaint o wahanol ffurfiau.
Y mae ysgolheigion Cymreig, fel y diweddar Athro W. Lewis Jones a'r Athro Ifor Williams, wedi llwyddo i ddangos dyled llên Cymru i'r beirdd hyn. Yn y lle cyntaf, caneuon serch yw'r cwbl bron o'u cynhyrchion mwyaf nodweddiadol, a chyffelyb yw'r mwyafrif o ganeuon Dafydd ap Gwilym, A fu bardd rywdro, tybed, â chymaint o gariadau ganddo? A hyd yn oed wrth ganu i natur, fel y gwna yn aml, nid oes modd gadael ei gariadau o'r neilltu.
Arfer arall ganddynt yw anfon cenhadon serch i gludo'u cenadwri i'r fûn, a gwneir yr un peth yn aml gan Ddafydd ap Gwilym, fel yn ei gywydd i'r ceiliog coed:
. . . bydd yr awron
Latai im at eiliw ton
Cyfeiria acw yfory
Y dwyrain dan doryn du
Oni ddelych i ddolydd
Disgyn, edn, dos genhadwr,
Ar lwyn dail ar lan y dŵr.
Ceir ganddo hefyd y wawrgan a'r hwyrgan yn union fel y ceid gan y Trwbadwriaid. Cwyna hefyd bod Eiddig, gŵr ei gariad-wraig, a'r Bwa Bach yn distrywio ei gynlluniau. Heb ymhelaethu ar y cysylltiad llenyddol diddorol hwn, anodd yw peidio â theimlo bod Dafydd rywfodd neu'i gilydd wedi dyfod dan ddylanwad yr adfywiad hwn.
Rhaid cofio mai yn y de yr oedd cartref Dafydd a bod ei ewythr yn swyddog yn arglwyddiaeth Normanaidd Emlyn, ac yno yn ddiau cafodd ddigon o gyfle i ddyfod i gyfathrach â'r mudiad llenyddol newydd. Dichon hefyd ei fod ef ei hun wedi bod ar bererindod i Santiago yn Sbaen.
Ai gwaeth i ddyn gwiw ei thaid
Yn y llwyn ennill enaid
Na gwneuthur fel y gwnaetham
Yn Rhufain ac yn Sain Siam.
Ond sicr iddo ryw dro neu'i gilydd ddyfod i gysylltiad â'r ysgolheigion hynny a ffurfiai fath o urdd yn yr oesau canol ac a grwydrai o le i le. Adwaenid hwy fel "clerici vagantes," a gelwir hwy weithiau yn ddisgyblion Golias. Edrychid ar Golias fel math o archesgob yr urdd,[3] a Phrimas y gelwid ef weithiau. Defnyddir y gair hwn gan Ddafydd ap Gwilym ei hun, lle dywed am y fronfraith:
Prydydd cerdd Ofydd ddifai
Prif urddas yw primas Mai.
Nodyn arall a geir yng ngwaith Dafydd, ac a darddai, fe ddichon, o'r un ffynhonnell, yw'r mynych wawd a geir ganddo pan sonia am grefyddwyr yr oes. Edrychid ar bobl Provence, ac yn enwedig y beirdd hyn fel hereticiaid, ac nid oes pennod dduach yn hanes eglwys Rufain na'r modd gwaedlyd y rhodd— wyd pen ar yr heresi, ac ar yr adfywiad llenyddol, o ran hynny, yng nghyflafan ofnadwy yr Albigensiaid yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg. Y mae rhyw dinc yn rhai o gywyddau Dafydd, fel yn y cywydd isod, sydd yn gwneud i ni feddwl am yr adfywiad dysg hwnnw a fu yn y bymthegfed ganrif yn Florence—adfywiad a fu'n drech na lid yr eglwys y tro hwnnw. Meddai'r Brawd Llwyd—y Ffransisiad—wrtho:
Mi a rown it gyngor da,
O cheraist eiliw ewyn,
Lliw papir, oed hir hyd hyn.
Llaesa boen y dydd a ddaw,
Lles yw i'th enaid beidiaw,
A thewi a'r cywyddau,
Ac arfer o'th baderau.
Nid er cywydd nac englyn
Y prynodd Duw enaid dyn.
Nid oes o'ch cerdd chwi y glêr
Ond truth a lleisiau ofer,
Ac annog gwŷr a gwragedd
I bechod ac anwiredd.
Nid da'r moliant corfforawl
A ddyco'r enaid i ddiawl.
Ac ateb Dafydd:
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn
Er caru gwraig na morwyn.
Tri pheth a gerir drwy'r byd,
Gwraig, a hinon, ac iechyd,.
Merch sydd deca blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei hun!
Ac mewn cywydd i'r lleian dywed:
Er Duw paid â'r bara a'r dŵr,
A bwrw ar gasau'r berwr.
Paid, er Mair, a'r pader main,
A chrefydd menych Rhufain.
Dyred i'r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwŷdd a'r gôg.
Yng ngogledd Ffrainc bu datblygiad llenyddol arall ymhen oddeutu can mlynedd wedi'r deffroad ym Mhrofens. Gymaint oedd y gwahaniaeth rhwng dwy adran y wlad y pryd hwnnw nes bod iddynt ddwy dafodiaith wahanol—y Profensal yn y de a'r Ffrangeg yn y gogledd. Telynegion, fel y sylwyd, a geir gan feirdd y de, a chanent ar bron bob rhyw fesur. Yr oedd yr odl iddynt fel tegan yn nwylo plentyn, ac nid oes diben ar y ffurfiau a geir ganddynt. Eu hoff destun oedd serch, a chanent ganeuon iddo wrth grwydro o'r naill lys i'r llall. Yn Normandi, ar y llaw arall, math o fardd teulu oedd y Trwfer (y darganfyddwr—cymharer yr hen derm Cymreig, y cyfarwydd); ei waith oedd porthi balchder ei noddwr trwy ganu am wroniaeth yr hen farchogion a fu. O'r canu hwn y tarddodd rhamantau yr oesau canol y ceir pentyrrau ohonynt yn llenyddiaeth y gorllewin.
Chwery'r cerddi hyn o gwmpas tri dosbarth o wroniaid—gwroniaid yr hen fyd (mater Rhufain, chwedl Jean Bodel), cadfridogion Siarlymaen (mater Ffrainc) a marchogion Arthur (mater Prydain).
Beth fu dylanwad datblygiad y gerdd ramant ar lên Cymru? Llwyddodd yr Athro Ifor Williams ac eraill, fel y gwelsom, i ddangos y modd y dylanwadodd llên y Trwbardiaid ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym, ac yn naturiol iawn awgrymir i'r Norman ddwyn y dylanwad i Gymru. Onid oedd y Deheudir eisoes yn frith o gestyll y Normaniaid, ac onid oedd ei ewythr a'i athro, Llywelyn ap Gwilym o Emlyn, yn swyddog yn un o'r arglwyddiaethau hyn?
Blodeuodd y gerdd ramant yn amlwg iawn ymysg ein cymdogion, y Saeson, megis ym Mrut Layamon, cyfieithiad mydryddol o gân y Norman, Wace, ac mewn gweithiau fel Sir Gawain and the Green Knight. Bu bri arni hefyd yn Germani, yn enwedig yng ngwaith Wolfram von Eschenbach; ond nis ceir yng Nghymru. Os bu beirdd Profens yn gymaint eu dylanwad ar farddoniaeth Cymru, pa sut y methodd beirdd y Normaniaid eu hunain â chyrraedd clust y Cymro?
Gwir bod gennym ramantau Cymreig, ond mewn prôs y ceir y rheini ac nid mewn barddoniaeth, fel y ceir ymron bob gwlad arall, a chytunir yn gyffredin fod y rhai mwyaf nodweddiadol ohonynt—y Pedair Cainc fel y gelwir hwy—yn perthyn i gyfnod cyn i'r Normaniaid fedru dylanwadu ar fywyd y wlad.
Dywed yr Athro Gwynn Jones mai "yn rhywle o'r ddegfed ganrif i'r unfed ar ddeg y cymerth y Pedair Cainc eu ffurf fel y maent . . . Nid oes dim o ddylanwad y chwedlau diweddarach hyn am Arthur ar y Pedair Cainc. Cymharer y Pedair Cainc â gwaith Chretien de Troyes, neu â gwaith Malory yn llawer diweddarach, a gwelir bod eu hawduron yn anhraethol amgenach crefftwyr."[4]
Fe'n synnir pan atgofir i ni nad oes sôn am Arthur na'i farchogion yn y Pedair Cainc. Perthyn i gyfnod diweddarach y mae'r straeon lle ceir sôn amdano ef, ac y mae rhai ohonynt, megis "Iarlles y Ffynnon," yn perthyn, o ran nodwedd, i ramantau'r bardd Ffrengig, Chretien de Troyes. Ai rhaid cyfaddef, felly, mai creadigaeth y Norman yw Arthur?
Y mae problemau diderfyn bron ynglŷn â chwedloniaeth Arthur. Beth bynnag am darddiad y chwedlau hyn, nid oes le i amau na chyfoethogwyd llawer arnynt gan chwedleuwyr Normandi, ac iddynt ddyfod yn ôl i Gymru wedi eu gwedd— newid. Diau i'r rhamantau Normanaidd symbylu rhywrai yn y wlad hon i roddi ar gof a chadw rai o'r chwedlau hynny a oedd hyd hynny megis yn hofran yn yr awyr ac wedi eu trosglwyddo ar draws y canrifoedd ar dafod leferydd yn unig. Pwy fu â rhan yn y gwaith oll-bwysig o'u hysgrifennu, anodd, hwyrach, yw penderfynu erbyn hyn. Ond llwyddodd yr Athro W. J. Gruffydd i ddangos mai un o'r enw Bledri, neu Bleri, o bosibl, a haedda'r clod,[5] a dywed yr Athro Morgan Watkin fod â fynno'r mynach Cistercaidd rywbeth â'r gwaith."[6]
Awgryma Gwynn Jones hefyd reswm paham na cheir y chwedlau hyn ar gân fel y ceir mewn gwledydd eraill. Ffurfiai'r beirdd, yn enwedig y penceirddiaid, fath o urdd neu gorfforaeth debyg i urdd y crefftwyr, a than ddylanwad yr eglwys, o bosibl, caethiwyd hwy i ganu ar destunau arbennig wrth gynllun neilltuol. Ystyrid bod canu rhyw sothach o gerddi yn annheilwng o'u proffes. Nid oeddynt i ganu ond i'r gwir, hynny yw, y gwir llythrennol, a gwnaent hynny mewn dull ystrydebol trwy gyfarch y Drindod, a hynny mewn termau Lladinaidd Eglwysig, fel y gwna Meilyr yn ei gân ar wely angau[7]:
Rex Regwm rybyt rwyt i foli.
Bid a fo am hyn, cytunwn oll fod llawer mwy o gyfoeth ac o geinder ac o wir farddoniaeth yn y rhamantau hyn nag ym marddoniaeth y cyfnod, ac fel portread dihafal bron o rwysg y bywyd ffiwdalaidd yr edrychir arnynt gan efrydwyr cym— deithas. Beth bynnag am eu tarddiad a'u treigl a'r haenau henafol a ddadlennir ynddynt o bryd i bryd, nid oes modd amau'r awyrgylch Normanaidd ffiwdalaidd y sgrifennwyd hwy ynddi. Y mae amrywiaeth barn, hwyrach, parthed yr amser y casglwyd hwy ynghyd, ond pa bryd bynnag y bu hynny, y mae holl rwysg a rhamant yr oesau canol i'w deimlo yn cerdded trwyddynt. Ac eto y mae'r iaith yn aml cyn loywed â'r grisial. Os mynnir gwybod pa sut beth oedd yr oesau canol, darllener y Mabinogion, nad oes eu rhagorach mewn unrhyw lenyddiaeth fel portread o'r cyfnod cymhleth hwn—ei farbareiddiwch a'i gwrteisi, ei ddewrder a'i sifalri, ei ofergoel— edd a'i ffydd, ei frwydrau a'i gampau, ei drefydd a'i wersyll— oedd, ei blasau a'i hofelydd, ei gân a'i alar, ei neithior a'i gynhebrwng y maent oll yma. Ymdeithia bywyd yn ei holl agweddau ger ein bron, fel pe baem yn gwylio gosgorddlu ar ei ffordd o'r crud i'r fynwent.

Nid oes ofod i fanylu ond ar rai o'r nodweddion hyn. Cymeriad canol bron y cwbl o'r chwedlau, wrth gwrs, yw'r marchog, y ceir digonedd o ddarluniau ohono wedi ei wisgo o'i gorun i'w sawdl yn arfogaeth y cyfnod. Felly hefyd ei farch, ond i raddau ychydig yn llai. Yr oedd y marchog a'i geffyl canwelw yn "Breuddwyd Rhonabwy" wedi eu harfogi ag arfau trymleision mawr. Gwisg o bali caerog melyn, a'i odreon yn las, oedd i'r marchog, ac ar y march yr oedd cwnsallt (gwisg) purddu a'i odreon yn felyn. Ar glun y marchog yr oedd cleddyf hirdrwm trichanawl (tri awch), a'i wain o ledr coch ysgythredig a'i wregys o groen hydd newydd— goch gyda darnau o aur arno a boglwm o asgwrn morfil a balawc (tafod) purddu arno. Helm o aur oedd ar ben y marchog, a main saffir rhinweddol arni, ac ar ben yr helm ddelw llew melyngoch a'i dafod fflamgoch yn ymestyn droedfedd allan o'i ben. Yn llaw y marchog yr oedd paladr linon braff a'i phen wedi ei gorchuddio ag arian.
Disgrifir marchog arall ar "farch olwynddu pen uchel " a'i ysgwyddau yn goch a'i goesau yn felyn. Arfau brychfelyn oedd i hwn, wedi eu britho â lattwn Ysbaen. Helm loyw o lattwn melyn oedd am ben y marchog, ac ar ben yr helm llun aderyn y griff (griffin). Eurllin melyn oedd gwregys y cleddyf.
Sonnir yn ystori "Culhwch ac Olwen" am farchog â chleddyf eurddwrn ar ei glun a llafn aur iddo a chroes eurgrwydr arno a lliw lluched nef ynddi: cyfrwy aur odditano a dwy waewffon yn ei law. Ceir sôn am farchog arall yn Breuddwyd Rhonabwy" mewn gwisg o sidan melyn wedi ei gwnïo â sidan gwyrdd, a sonnir am un arall ar balffrai (palfrey) gwineuddu.
Ar wahân i'r ffaith bod mwy o aur yn y Mabinogion nag oedd yn arfwisgoedd yr hen farchogion, fe'n synnir gan fanyled y disgrifiadau hyn, ac nid yw'n anodd amseru'r gwisgoedd o'u cymharu â'r hyn a wyddom am ddatblygiad arfogaeth. Er enghraifft, ni ddaeth y wisg o bali caerog, a wisgid tros yr arfau trymleision mawr, i gael eu harfer hyd ddiwedd y ddeuddegfed ganrif. Surcoat oedd yr enw a ddefnyddid amdani, a cheir yr enw hwnnw yn ystori "Iarlles y Ffynnon." Sylwer hefyd ar fanylder y disgrifiad a geir o'r gwregys. Crogid y cleddyf wrth wregys llydan a orffwysai ar y glun, ac fel y dengys cerfluniau, addurnid y gwregys hwn ag aur a boglymau gwerthfawr odiaeth. Ceir disgrifiadau eraill y gellid cyfeirio atynt, lle dywedir bod modrwyon yr arfwisg yn wynnach na'r lili, a'r hoelion (copr) a'u cylymai wrth ei gilydd cyn goched â gwaed ("Breuddwyd Rhonabwy ").
Yn ystori Iarlles y Ffynnon ceir disgrifiad manwl o'r helm a'r hyn a orchuddiai ben y marchog. Dywedir i Owain daro'r marchog nes trywanu'r helm yn ogystal â'r penguwch a'r mwgwd (visor). Math o rigol o flaen y llygad oedd y mwgwd, a chodid ef pan na byddai'r marchog yn ymladd. Gwisgid math o gapan dan yr helm—byddai hwn weithiau o ddur wedi ei wau o fân fodrwyau, neu o ledr neu ryw ddefnydd arall. Gwisgid ef fel amddiffyniad a hefyd i gadw'r helm rhag brifo'r pen. Datblygiad lled ddiweddar, fel y gellid tybied, oedd y penguwch a'r mwgwd.
Yn yr un ystori ceir cyfeiriad at arfau eraill a ddefnyddid gan y marchog, heblaw'r bicell. Sonnir am y deigr a'r bwa—y mae'n debyg mai'r bwa croes oedd hwn am y dywedir ei wneud o asgwrn eliffant, hynny yw, o ifori. Llwyf neu yw, fel y gwyddom, fyddai defnydd y bwa hir.
Ceir hefyd aml ddarlun tlws o'r marchog ar ôl dychwelyd adref wedi lludded yr ornest, pryd y newidid ei wisg, fel y gwnaeth y llancesi â Chynon, ac y golchid ef ac eillio ei farf, fel y gwnaeth y forwyn ag Owain (Iarlles y Ffynnon). Yn ystori Geraint sonnir am drwsio briwiau y sawl a anafwyd yn y Twrneimaint.
Pwy na charasai weled neuadd Macsen Wledig?
Toad y neuadd a debygai i fod yn aur oll. Muriau y neuadd a debygai i fod yn faen llywychedig gwerthfawr. Dorau y neuadd a debygai eu bod yn aur oll. Lleithiau euraid a welai yn y neuadd a byrddau arnynt ac ar y lleithig cyfarwyneb ag ef y gwelai ddau facwy wineuon yn chwarae gwyddbwyll.
Ond mwy cywir, o bosibl, yw'r disgrifiad o neuadd Heilyn Goch: "Hen neuadd purddu tal uniawn a mwg ohoni ddigon ei faint. Llawr pyllog anwastad a braidd y glynai dyn arno rhag llyfned y llaid gan fiswail gwartheg."
Nid oedd ddiben ar wleddoedd yn y neuaddau hen, mewn llestri aur, fel yn neuadd Macsen, neu aur ac arian wedi eu gosod ar fwrdd arian, fel yn neuadd yr Iarlles. Difyr fuasai gwrando ar y sgwrs ar ôl cinio rhwng Cynon a'i westeiwr, neu'r straeon a adroddid neu a genid (Breuddwyd Macsen) neu glywed y pedwar bardd ar hugain yn canu ym mhlas Maelgwn (Taliesin).
Yn sicr ni ellir gwell disgrifiad o gastell fel y gwelir mewn llawer lle yng Nghymru na'r un a roddir yn Breuddwyd
Macsen Wledig:" a phrif-ddinas a welai yn aber yr afon a phrif gaer yn y ddinas a phrif dyroedd amyl amliwiog a welai ar y gaer." Ym mha le y ceir gwell cipdrem ar dref yr oesau canol na'r un a geir yn ystori Iarlles y Ffynnon, pan ddis-gynnodd y glwyd ar y marchog a'i geffyl a'i wneud yn garcharor ym mhorth y castell: "Gwelai drwy gyswllt y dor heol gyferbyn ag ef ac ystryd o dai o bob tu i'r heol."
Darlunir Manawydan yn medi ŷd yn ei dri chrofft yng nghymdogaeth Arbeth. Ymddengys fod hwn wedi bod yn dir gwyllt unwaith ond ei fod wedi cael ei drin—yr oedd hyn yn ddigwyddiad cyffredin yn yr oesau canol. A oes rhyw arbenigrwydd yn perthyn i'r ffaith y sonnir am dri chrofft ni wyddom, ond fe gofir bod Arbeth yn adran Seisnig y Sir, a dywed George Owen fod yno dir ŷd da, ond ei fod yn goediog—yn union fel y dywed y Mabinogion. Cawn ddarlun hefyd o bladurwyr yn lladd gwair ar doriad dydd a bara a chig a gwin yn cael ei anfon yn lluniaeth iddynt (Geraint). Yn ystori Culhwch ac Olwen y mae darlun byw odiaeth o'r bugail a'i ddefaid.
Nid anghofir bywyd tref ychwaith. Cawn gipolwg ar grefftwyr hen dref Henffordd lle dywedir i Fanawydan a'i gyfeillion fyned i weithio fel cryddion nes cododd urdd y cryddion—y gild—yn eu herbyn. "Tra geffit ganddo ef nac esgid na hosan ni phrynid dim gan grydd yn yr holl dref." Dywedir iddynt hefyd wneud cyfrwyau a'u lliwio â chalch lasar.
Nid yw'r cyfeiriadau at y bywyd crefyddol lawn cyn amled, ond sonnir am esgobion ac archesgobion ym mhriodas Owain â'r Iarlles. Tlws odiaeth hefyd yw'r cyfeiriad at brydferthwch y merched yn y gwisgoedd arbennig a wisgid ganddynt ar adeg cymun y Nadolig a'r Pasg: "Harddach oedd y ferch no Gwenhwyfar, gwraig Arthur, pan fo harddaf erioed diw Nadolic neu ddydd Pasc wrth offeren" Iarlles y Ffynnon.
Ceir yn yr un ystori ddisgrifiad mawreddog o angladd castellwr, sydd yn llawn o rwysg crefyddol y cyfnod. Wedi ei ryddhau mewn modd gwyrthiol o borth y castell, cafodd Owain ef ei hun mewn ystafell odidog yng nghwmni'r ferch oedd wedi ei alluogi i ddianc. Paratoid gwely iddo a ystyrid yn ddigon da i Arthur ei hun—"gwely o ysgarlad a gra a phali a syndal a phliant," ond yng nghanol y nos deffrowyd ef gan waedd a ddywedai fod y castellwr wedi marw. gododd Owain yn y bore ac agor ei ffenestr, gwelai y dref yn llawn o filwyr a'r angladd yn araf ymsymud drwy eu canol.

Yr oedd y milwyr yn arfog a chyda hwy nifer o wragedd ar feirch ac ar draed, a chrefyddwyr y ddinas oll yn canu nes diaspedain o'r awyr. "Ac ym mherfedd y llu hwnnw yr elor a llen o bliant gwyn arni a physt cwyr yn llosgi yn ymyl yn ei chylch, ac nid oedd undyn dan yr elor lai no barwn cyfoethog."
Yn sicr, ni fedd llenyddiaeth—ag eithrio, hwyrach, Canterbury Tales Chaucer—bortread gwychach o fywyd yr oesau canol, ac y mae llawer mwy o ramant yn y Mabinogion nag yn chwedlau Chaucer.
Awgryma'r cyfeiriad at Chaucer broblem lenyddol arall. Yr oedd Chaucer a Dafydd ap Gwilym, i fesur, yn gyfoeswyr. Yr oedd y bardd Cymreig, ar y naill law, yn enghraifft dda o un a dderbyniodd ysbrydiaeth bron yn gyfangwbl o ddeheudir Ffrainc, a'r bardd Seisnig, ar y llaw arall, yr un mor ddyledus i ddylanwadau Italaidd. Sut y methodd y dylanwad Italaidd â chyrraedd Cymru pryd y llwyddodd dylanwad Profens? Nid yw'r wybodaeth glasurol a ddengys ap Gwilym ond yr hyn oedd yn gyffredin ymysg beirdd yr oesau canol, ac nid oes arlliw y deffroad Italaidd ar ei waith. Yn wir, hyd yn oed wedi gwawrio o gyfnod y Dadeni, nid oes dim bron yn llenyddiaeth Cymru a ddengys gyfnewidiad. Bodlona'r beirdd ar ganu yn yr hen ddull traddodiadol wrth grwydro o'r naill lys neu'r naill fynachlog i'r llall, a dywedyd pob peth a fedrent i ganmol y neb oedd biau'r nenbren.
Yn y Gogynfeirdd (neu Feirdd y Tywysogion, fel yr awgryma Gwynn Jones y dylent gael eu galw) y ceir yr hen draddodiad Cymreig o ganu. Nid oes yma ddim o ramant a lliw byd y Mabinogion, ac y mae'r gerdd yn fynych yn feichus ac yn anodd ei deall—enghraifft dda o law farw traddodiad yn mygu bywyd newydd.
Fel y gallesid disgwyl, canu am wroniaeth eu noddwyr a wnai'r beirdd hyn, a rhyfel yw eu hoff destun. Dyma geir gan Walchmai a chan Gynddelw Brydydd Mawr, nad oes ei rymusach am ddisgrifio erchyllterau rhyfel. Meddai wrth ddisgrifio'r cyrff wedi brwydr:
Gwelais eu hadaw heb eu hadain (aelodau?)
O dan droed adar, gwyr gwanar (arglwydd) gwain;
Gwelais eu trychni, tri chan celain,
Gwelais wedi cad, coludd ar ddrain!
Ond torrodd Gruffydd ap yr Ynad Coch trwy lyffetheiriau traddodiad wrth ddatgan ei hiraeth o golli'r Llyw Olaf, ac erys ei farwnad, oherwydd hyn, gyda'r rymusaf yn yr iaith.
Ond camgymeriad fai tybied yr âi rhyfel a'u bryd yn gyfangwbl. Rhaid cofio, wedi'r cyfan, y byddai rhyfel yn beth cyffredin odiaeth, yn enwedig ym mywyd Tywysog—yn wir, dyna'i brif alwedigaeth. Ceir ym Marw Ysgafn Meilyr, yn ymattreg Llywelyn a Gwrnerth, ac yn awdl Tysilio gan Cynddelw gipolwg ar fywyd tawel neilltuedig y meudwy a'r mynach. Tlws odiaeth yw'r disgrifiad o'r ddau hen sant yn ymddadlau yn y Trallwng (adwaenid rhan o'r Trallwng hyd yn ddiweddar iawn fel Trallwng Llywelyn): a dyfod ynghyd a wnaethant y teirawr diwethaf o'r nos a'r teirawr cyntaf o'r dydd i ddywedyd eu plygeint ac oriau (gweddïau) y dydd. Sef y gwelai Llywelyn cuddugl (ystafell) Gwrnerth yn gaead. A chan na wyddiad pam oedd hynny, sef a wnaeth canu englyn." Yn awdl Tysilio ceir disgrifiad diddorol o Feifod Wen, mynachlog a godwyd gan Tysilio "ger y mae Gwyddvarch," un o hen Saint yr eglwys gyntefig a fu'n feudwy ym Meifod gynt. Hyd yn oed wedi cynifer o ganrifoedd, nid yw'n anodd deall y swyn oedd mewn bywyd neilltuedig o'r fath.
Berth y lloc wrth lleu babir,
Berth y chlas a'i chyrn glas gloywhir.
—Mor dlws yr edrychai'r fynachlog wrth olau'r pabwyr gyda'i thyrau gloywhir hardd.—
Ceir digon o ganu i Dduw, i'r Drindod ac i Fair, i'r Saint, i'r Grog, i ddydd y Farn, i Uffern ac i Nefoedd, a'r cwbl yn dangos mor ffyddlon oedd Cymru i gredo eglwys Rufain. Nodyn arall a'i dengys ei hun yng nghanol gerwinder y cyfnod ydyw nifer o gyfeiriadau at natur. Ni all Meilyr, hyd yn oed ar ei wely angau, anghofio swynion Enlli:
Ynys Fair firain.
Ynys glan y glain (y dlysaf o'r gemau).
Ceir mwy o'r canu hwn yng nghanu ei fab, Gwalchmai, a mwy fyth gan Hywel ap Owain Gwynedd, awdur y "Gorhoffedd":
Caraf ei morfa a'i mynyddoedd,
A'i chaer ger ei choed, a'i chain diredd,
A'i dolydd a'i dwfr a'i dyffrynnedd,
A'i gwylain gwynion a'i gwymp wragedd.
Owain Glyn Dŵr yw arwr y cyfnod nesaf, ac y mae'n lled amlwg fod cyflwr Cymru cyn ei ddyfod yn lled druenus.
Byd caeth ar waedoliaeth da
A droes aml o drais yma;
Lle bu'r Brython, Saeson sydd,
A'r boen ar Gymry beunydd.
—meddai Iolo Goch.
Gan Iolo hefyd y ceir y darlun llawnaf a feddwn o fywyd Arglwydd Cymreig yn trigiannu ar ei dir ei hun, ac y mae ei gywydd i Sycharth o werth amhrisiadwy i hanesydd cymdeithas. Wedi cyfnod Glyn Dŵr, canu i uchelwyr ac abadau a geir yn bennaf, ond y mae yn y caneuon hyn ambell ddarlun byw iawn o'r bywyd cymdeithasol fel y ceid mewn llys a mynachlog. Cyfeiriwyd eisioes at ganu Dafydd Nanmor (1430-1490?) i wleddoedd Rhys o'r Tywyn, ond nid llai godidog ei ddisgrifiad o hen fynachlog Ystrad Fflur:
Y côr y fo ai cweiriawdd
A dorau tego wydr tawdd
Aeth hanner gwerth i hynys
I wydraw hwn wedi Rhys.

Felly hefyd Lewys Glyn Cothi, a flodeuai rywle tua 1450-1485 ym mhoethder Rhyfel y Rhosynnau. Casineb at Sais yn codi oddi ar ymdeimlad o wahaniaeth cenedlaethol yw nodwedd amlycaf Glyn Cothi; ond rhydd yntau aml ddarlun byw o gartre'r uchelwr, fel yn ei ddisgrifiad o Gefnllys, Maesyfed, ac o'u harferion, fel yn Rhyfel Plant Tomos—disgrifiad o dwrneimaint. Crwydro'r llysoedd a'r abatai ydoedd hoff waith Guto'r Glyn a Gutyn Owain, ac ymddengys fod rhyw gysylltiad swyddogol rhwng y deuddyn hyn ac Abaty Basing a Llanegwestl. Canodd Tudur Aled glodydd Llanegwestl, Ystrad Marchell ac Aber Conwy, ac i bron bob person o bwys yng Nghymru a'r goror, ac y mae ei waith yn llawn o gyfeiriadau at eu bywyd beunyddiol.
Nid rhyw lawer o athronyddu a geir yng nghanu beirdd yr oesau canol yng Nghymru. Canu disgrifiadol yw'r rhan fwyaf ohono, a hwnnw yn ddigon beichus yn aml, am nad oedd yn ffrwyth sylwadaeth fyw, fel yng nghywydd Iolo i Sycharth, neu ddychymyg effro, fel yng ngwaith Dafydd ap Gwilym. Ond weithiau fe glywir nodyn amheuaeth, fel y sydd gan Iolo Goch, lle dywed:
Myfyr yr wy'n ymofyn
O Dduw, beth oreu i ddyn,
Ai i eni er llenwi llid,
Naws gwyw noeth, ai nis genid.
Tybia W. J. Gruffydd fod gan Dudur Aled rywbeth tebyg i philosophi gymdeithasol yn ei gywydd i "Heddwch." Ac nid oes neb wedi rhoddi gwell darlun o'r cyfnewidiad cymdeithasol a fu yng Nghymru wedi dyfod y Tuduriaid.
Ymddengys i ni fel pe byddai Dafydd ap Gwilym, i fesur beth bynnag, yn rhydd oddi wrth ormes grefyddol ei oes. Ond chwarae â bywyd a wnai Dafydd. Mwy pwysig o lawer yr ymresymiad a geir yng nghywydd Gruffydd Gryg i'r Byd:
Y Byd wrth y pedwar ban T
ywyllodrus tywyll oedran,
Pelen blwm yn drwm a dry
Pa beth wyd? pawb a'th edy;
Ai bro Adda, ai breuddwyd,
Ai brwydr oer, ai bradwr wyd,
Ai y gau dduw ar goedd ŵr
Ai pwy ynte, ai paentiwr?
Ond o'r beirdd hyn, dichon mai'r mwyaf awgrymiadol yw Siôn Cent, a cheir ganddo ambell gywydd sy'n gyforiog o feddwl, ac a ddengys nad oedd y "Doctor" wedi cael ei deitl, beth bynnag a olygir, heb aml frwydr feddyliol o leiaf. Meddai yn ei gywydd i'r byd:
Ni ŵyr Cristion aflonydd
Pa hyd yn y byd y bydd.
Heddiw'n arglwydd rhwydd mewn rhan;
Heno mewn bedd ei hunan.
A dibwyll fydd, wedi bo
Unawr dan y pridd yno.
Ni phraw gael serch, ni pherchir,
Ni phryn un tyddyn o'r tir *****Maddau'r balchder camweddus,
Maddau'r holl bechodau rhus,
Maddau i'm drin godineb,
Ennyd awr yn anad neb.
Maddau y geiriau gwyrion,
Maddau y swynau a'r sôn.
Maddau fy ngham ddrwg amwyll.
A'm taer ddychmygion a'm twyll.
Maddau mab Mair ddiwair wen,
A fegais o genfigen.
Maddau a wneuthum, búm bŵl
A maddau fy ngham feddwl.
Ychydig hefyd, os dim, o ganu cymdeithasol a geir yng Nghymru. Gwyddys i'r Pla Du ladd a difa yn y wlad, fel mewn gwledydd eraill. Un canlyniad yr ymweliad ofnadwy hwnnw yn Lloegr a gwledydd y cyfandir oedd creu dyhead am ryddid, a thorrodd hwnnw allan mewn gwrthryfel yn y man.
Ceir gwaith beirdd, fel awdur Piers the Plowman, yn llawn o ddolefain y llafurwr yn Lloegr, ond yng Nghymru nid oes neb, ag eithrio Iolo Goch, wedi rhoddi darlun o fywyd y "llafurwr, tramwywr maes". Ond gwnaeth Iolo hynny mewn modd prydferth iawn, ond nid oes dim o'r anesmwythyd sydd yn nodwedd mor amlwg yn llên gwledydd eraill i'w glywed yn y gerdd hon ychwaith.
Pan ddangoso rhyw dro rhydd,
Pobl y byd peibl eu bedydd,
Gar bron Duw, cun eiddun oedd,
Gwiw iaith ddrud, eu gweithredoedd.*****Llawen fydd chwedl ddiledlaes
Llafurwr tramwywr maes.
O rhoddes, hael yw'r hoywdduw
Offrwm a'i ddegwm i Dduw. *****O gardod trwy gywirdeb
O lety ni necy neb.
Ni rydd farn eithr ar arnawdd,
Ni châr yn ei gyfar gawdd.
Ni ddeily rhyfel, ni ddilyn.
Ni threisia am ei dda ddyn.
Ni bydd ry gadarn arnam,
Ni yrr hawl gymedrawl gam,
Nid addas ond ei oddef;
Nid bywyd nid byd heb ef.*****
Ni cheffir eithr o'i weithred
Aberth Crist i borthi cred.
Bywyd ni chaiff, ni beiwn,
Pab nac ymherawdr heb hwn.*****Lusidarus hwylus hen
A ddywod fal yn ddien,
"Gwyn ei fyd trwy febyd draw
A ddeil aradr â'i ddwylaw."
Y mae mwy o guro ar raib y cyfoethog ac o gydymdeimlad â'r gwan a orthrymid yng nghywyddau Siôn Cent, a theimlwn. fod yma, o leiaf, adlais yr anesmwythyd oedd yn cerdded trwy fywyd Ewrop yn y cyfnod hwnnw.
Ymofyn am dyddyn da
Ei ddau ardreth, oedd ddirdra,
Gan ostwng gwan i'w eiste
Dan ei law, a dwyn ei le;
A dwyn tyddyn y dyn dall,
A dwyn erw y dyn arall.
Dwyn yr ŷd o dan yr on,
A dwyn gwair y dyn gwirion,
Cynnull anrhaith dau cannyn,
Cyrchu'r da, carcharu'r dyn.
Ymddengys y gwyddai Siôn Cent rywbeth am gri'r tyddynnwr yn amser cau'r tir i mewn, ond nid oedd y mudiad yn ei rwysg hyd ganol y bymthegfed ganrif, a dywedir na bu llawer o gau yn Henffordd lle tybir bod cartref Siôn.

Llyfrau.
ERYS Literature of the Cymry (Stephens) yn werthfawr o hyd ynglŷn â'n llên fore, ac felly hefyd Skene's Four Ancient Books of Wales ynglŷn â'n llên foreaf oll. Ychydig sylw y mae'n llên Ladinaidd wedi ei gael, er bod corff mawr ein llenyddiaeth fore yn Lladin. Mwy diddorol i'r llenor, wrth gwrs, yw olrhain ein llên yn ei diwyg Gymreig. Y mae gan yr Athro Ifor Williams bamffledyn bychan gwerthfawr iawn ar ein llên fore, Llenyddiaeth Gymraeg Fore, a'r un modd yr Athro T. Gwynn Jones yn Saesneg.
Gwerthfawr odiaeth yw llyfr T. Gwynn Jones ar Lenyddiaeth y Cymry. Rhydd J. C. Morrice fras olwg ar ein llên o'r cyfnod boreaf hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gwasanaeth rhagorol yw cyhoeddi barddoniaeth yr oesau canol fel y gwneir gan Ifor Williams a'i gyd-olygwyr yng Nghyfres y Cywyddau, a gan Gymdeithas Llawysgrifau Bangor, a chan Wasg y Brifysgol. Hyd nes ceir argraffiad beirniadol o'r holl lawysgrifau hynafol hyn, rhyfyg yw ceisio rhoi barn derfynol ar gynnyrch y cyfnod. Y mae gwaith Dafydd ap Gwilym a Iolo Goch a'u cyfoeswyr eisoes wedi ymddangos yng Nghyfres y Cywyddau. Dan olygiaeth y diweddar T. Roberts, Porthmadog, yn yr un gyfres, ceir gwaith Dafydd Nanmor. Cyhoeddodd T. Gwynn Jones argraffiad ysgolheigaidd o waith Tudur Aled (Gwasg Prifysgol Cymru) a chyhoeddir gwaith William Llyn dan olygiaeth J. C. Morrice gan yr un wasg.
Yn y rhagarweiniad i waith Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr, ceir trafodaeth ar berthynas Dafydd ap Gwilym â'r Trwbardiaid. Ceir erthyglau ar yr un pwnc yn Cymmrodorion Transactions gan Ifor Williams, 1913—14, a'r diweddar Athro Lewis Jones, 1905—6.
Pa bryd y ceir argraffiad beirniadol hylaw o'r Mabinogion? Argraffiad Isaac Ffoulkes yw'r unig un sydd yng nghyrraedd y werin, ond y mae yn lled brin erbyn hyn.
Ni all yr efrydydd hepgor Gorchestion Beirdd Cymru, y casgliad mwyaf cryno a feddwn o waith beirdd yr oesau canol, a'r Gogynfeirdd, wedi eu golygu gan y diweddar Edward Anwyl. Y mae yr un peth yn wir am y Flodeugerdd a'r Flodeugerdd Newydd (W. J. Gruffydd). Rhagorol hefyd yw llyfr yr Athro Gruffydd ar lên Cymru, 1450—1600, a'i erthygl ar y Mabinogion yn Cymmrodorion Transactions, 1912—13. Gweler hefyd ei lyfr, Math fab Mathonwy (Gwasg y Brifysgol), a Phedair Cainc y Mabinogion, gan yr athro Ifor Williams (cyhoeddedig gan yr un wasg).
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nid Lladin clasurol mohono, wrth gwrs, ond Lladin fel y siaredid ef gan y milwyr a swyddogion eraill yr Ymerodraeth.
- ↑ Y diweddar Stopford Brooke: English Literature from the beginning to the Norman Conquest. P. 90 et seq.
- ↑ Ein cydwladwr, Gwallter Map, fe gofir, a gâi'r clod neu'r anghlod am rai o'r caneuon hyn. Nid yw R. T. Jenkins mor sicr am ei darddiad Cymreig. Gwêl Llenor Haf, 1931.
- ↑ T. Gwynn Jones: Llenyddiaeth y Cymry, 38.
- ↑ W. J. Gruffydd: The Mabinogion yn Transactions Cymmrodorion Society, Session 1912—13, p. 54. Sôn Gerallt am chwedleuwr enwog oedd yn byw ychydig cyn ei amser ef o'r enw Bleddercus (Bledhericus). Yr un gŵr, mae'n debyg—Through Itinerary Wales (Everyman's Edition), p. 185.
- ↑ Morgan Watkin: "French Literary Influence in Mediaeval Wales," Transactions Cymmrodorion Society, 1919—20, p. 9.
- ↑ T. Gwynn Jones: "Bardism and Romance," Transactions Cymmrodorion Society, 1913-14.
Atodiad A.
(Gweler tudalen 79.)
LL. PENIARTH 28.
Quolibet anno debet (Penteulu) munerari a rege tribus libris. Uniuspredam fecerint, et penteylu cum eis, ipse habebit partem trium uirorum, et de tertia parte quae regi est unum habebit animal quem elegerit. Penteylu debet habere a regina tertium cornu plenum quod a dysteyn ei datur. Si penteylu ceperit aliquem qui forisfecerit in anteriori parte aulae, i.e., huc kyntet, tertiam partem de dyrwy eius habebit. Si uero dysteyn aliquem talem in inferiori parte aulae, i.e., hys coret, tertiam partem de dyrwy eius habebit. Versa vice, si dysteyn forisfacientem ceperit in anteriori parte aulae, tertia pars dyrwy eius erit. Si uero penteylu forisfacientem ceperit in inferiori parte aulae, tertia pars dyrwy eius erit.
Dysteyn est particeps xxivQuae dysteyn
dignitatum quae sunt in curiadeiure competant
Dysteyn debet habere potestatem in coquina et in medgellh. De nummis cum regalibus cenis reddendis, partem duorum uirorum accipiet. Cum rex dederit swyd alicui de swydogyon, exceptis principalibus quae sunt in curia, dysteyn de iure premium habebit, i.e., gwaber ystyn. Dysteyn debet habere corium cerui a penkenyt in Octobri ad facienda uasa in quibus portentur scyphi et cornua regis. Sed corium illud debet reddi antequam diuidantur coria inter regem et venatores. Dysteyn debet habere partem duorum uirorum de nummis gwastrodyon.
Dysteyn debet apponere cibum regi in tribus festis principalibus, et seyc superius et seyc inferius, et regi et aliis supradictis propinare antequam moueat pedem a loco suo post primum silentium. Dysteyn debet habere chlamydem penteylu et omnes uestes in tribus festis principalibus. Dysteyn debet habere digiti medii sui longitudinem de ceruisia supra faecem, de bragaut uero usque ad medium nodum de med usque adextremum nodum. Si duo de swydwyr certauerint, dysteyn debet habere tertiam partem de dyrwy eorum. Ipse debet custodire tertiam partem quae regis est de preda, et si rex eam dissipat, dysteyn habebit uaccam et bouem. Dysteyn pro rege debet iurare cum opus fuerit, nisi pro deserto regis, quia mayr et kymellaur debent iurare propter desertum.
Sacerdos FamiliaeDe sacerdotibus.
Atodiad B.(Gweler tudalen 422.)
LLYFR GWYN RHYDDERCH.
ac ar hynny ymlithraw a oruc
pyb ychydic y danaw yny yttoed
ar y warthaf. A dodi y law ar y
gleddyf ae vrathu yn y vogel. ac
ymddiang y gantaw. A chan or
uchel lef galw or cawr ar y dduw
val hynn. mahumet, mahumet.
vyn duw i. canhorthwya
ym canys yr awr honn yr
wyf varw. ac a'y ddisgrech honno
y doeth y saracinneit y ys-
glyfyeit ef gantunt yr castell.
Ac yd ymhoeles rolond yn
yach at y niver. Ac yn ddiannot
kyrchu y gaer a orugant
ygyt ar saracinneit a oeddynt
yn dwyn corff y cawr. a gwedy
lladd y cawr val hynny, y gaer
ar castell a oresgynnassant.
ar gwyr a ryddhaawdd oc eu carchar.
gwedy ychydic o amser
y datkanwyt yr amher-
awdyr bot Ebrahim vrenhin
cordivi, a brenhin sibli. ac
altumor a foessynt kynn o hynny
o pampilon, yny arhos, ac
yny ragot ar oddco brwydraw
ac ef. A niver seith dinas
gantunt. A llunyeithaw brwydyr
a oruc charlys yn eu herbyn.
a phan ddaeth y cordivi ae lu,
ganthaw y doeth y brenhinedd a
ddywetpwyt uchot. ac eu lluoedd
gantunt yn arfawc ar teir
vulltur allan or gaer. Ac
Column ii.
ygkylch dec mil oedd lu y saracinneit.
Ac ygkylch chwe mil oedd
o gristonogýon. Ac yna y gwnaeth
charlys teir byddin. Ar vyddinn
gyntaf or marchogyon clotvoraf.
Ar eil o pedyt. ar trydedd o
varchogyon ereill. Ac velly y goruc
y saracinneit. a phan yttoedd
y vyddin gyntaf o arch charlys
yn kyrchu y saracinneit. dyfot
pedestyr rac bronn pob marchawc
uddunt a gwasgawt varvawc
cornyawc amdanunt kyffelyb
y ddievyl. a thelyneu yn llaw pob
un onaddunt yn eu canu. a phan
gigleu meirch y cristonogyonn
y lleisseu hynny. Ac y gwelsant
eu haruthýon wasgodyeu. drychynu
a orugant hyt na allei eu
marchogyon eu hattal. A phan
welas y ddwy vyddin ereill yn fo.
ymhoelut a orugant wynteu.
A phan welas charlys hynny
ryveddu a oruc o ddieithyr modd.
yny adnabu pa achaws oedd hynny.
A llawenhau a oruc y saracinneit.
Ac eu hymlit. Ac ynn
er hwyr y doeth y cristonogyon
y vynydd a oedd ar ddwy villtyr or
gaer. Ac yna o kytoundeb ydd
ymglymawdd y cristonogyonn
y eu haros ar vrwydr. A phan
welssant y saracinneit hynny
kylyaw drachevyn ychydic a
orugant. Ac yna y tynnwys
y cristonogyon eu pebylleu hyt
Atodiad C.
(Gweler tudalen 424.)
LLYFR DU CAERFYRDDIN.
Gogoneddauc argluit
hanpich guell. Ath vendicco
de egluis a changell. A
kangell ac egluis. A wastad
a diffuis. A teir finhaun
yssit. Duc uch guit.
ac un uch eluit. A yrisgaud
ar dit. A siric aperwit.
Ath vendiguiste awraham pen fit.
A vuchet tragiuit. A adar a guenen.
A attpaur a dien.
Nodiadau ar y Darluniau.
DOLWYDDELAN: Erbyn diwedd yr oesau canol yr oedd yr ardal hon, fel ardal Mawddwy, wedi dod yn gartref herwyr a gwylliaid. Yma y bu Hywel ap Ieuan ap Rhys Gethin yn ymryson am y llaw uchaf â Dafydd ap Siencyn a'i wŷr, a oeddynt oll wedi eu gwisgo mewn gwyrdd. Yn adeg Harri VII prynwyd y castell a'r tiriogaethau oedd yn perthyn iddo gan Feredith ap Ieuan, taid Siôn Wyn o Wydir; a bu i Siôn Wyn, yn gam neu'n gymwys, ran amlwg mewn dwyn trefn allan o'r anhrefn. [O ddarlun gan David Cox.] Wyneb ddarlun
CROES Y PISTYLL: Saif y groes hon ar hen ffordd y Pererinion yn agos i ffermdy'r Pistyll yn Lleyn. Disgwylid i denantiaid y Pistyll hyr— wyddo taith y pererinion ar eu ffordd i Enlli trwy roi llety noson iddynt os byddai galw am hynny, neu trwy ddarparu bara a chaws. i'w cario dros Fwlch yr Eifl. Ceir croesau cyffelyb mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Saif un yn agos i Lanaelhaearn ar y ffordd hon, a cheir un yn agos i Nefern, Sir Benfro, ar lwybr y Pererinion i Dyddewi, fel y tybir. O'r" Arch. Cam.", V, XIII, 170. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.]
CAER DREWYN A CHAERHUN: Cymharer safle y Ddinas Gymreig, oblegid dyna mewn gwirionedd yw Caer Drewyn, gyda'r Gaer Rufeinig. Saif y naill tua 950 o droedfeddi uwchlaw dyffryn Dyfrdwy, ar gwrr y mynyddoedd sy'n ymestyn i gyfeiriad Dyffryn Clwyd. Saif y llall ryw 50 troedfedd uwchlaw afon Gonwy. O'r "Arch. Cam.", VII, II, 109 a VI, 300. Tudalen I [Blociau yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 4 a 5
LLOFFT Y GROG, LLANANNO, SIR FAESYFED: Yn natblygiad ac addurniad Llofft y Grog ar Gysgodlen (Screen) y cyrhaeddodd y cynllun eglwysig Celtaidd ei berffeithrwydd, ac yn ffodus y mae gennym amryw enghreifftiau rhagorol ohonynt yng Nghymru. Perthyn y rhan fwyaf ohonynt i'r 15fed ganrif, a thybir mai i ddiwedd y ganrif honno y perthyn cysgodlen Llananno. Darlun ohoni wedi'r atgyweiriad diweddar a fu arni a geir yn yr Inventory of Ancient Monuments, Radnor, td. 59. O'r Mont. Coll., VII, 61. Tudalen 7
SANT IAGO COMPOSTELLA (MAES Y SER): Dyma gyrchfan y pererinion hynny a ymwelai â San Siam yn yr Ysbaen. Yn y sgrin a welir yn y darlun y gorffwys creiriau'r Apostol Iago. Deuwyd o hyd i'w weddillion mewn canlyniad i freuddwyd a gafodd yr Esgob Theodomir, un ai yn 812 neu 816.
"Arferai'r pererinion eu rhannu eu hunain yn finteioedd o gylch yr allor ac arferent ganu, rhai gyda'r dympan, rhai gyda'r bib, eraill gyda'r delyn Gymreig neu'r crwth." Codex of Pope Calixtus II, circa, 1140. [Darlun yn fenthyg gan y Booth Steamship Co.] Tudalen 9
PERERIN, oddi ar gerflun yn Eglwys Llandyfodwg, Sir Forgannwg. Ber oedd gwisg y pererin bob amser er mwyn hwylustod teithio. Nid oedd ganddo ddim i'r daith ond ysgrepan ar ei gefn i gario ei ychydig angenrheidiau, a ffon yn ei law. A barnu oddi wrth yr ysgrepan yn y darlun, sydd a thri " tassel" yn hongian wrthi, yr oedd y pererin hwn yn ŵr o gryn urddas. Nid oedd y pererin ychwaith i eillio ei farf nes dychwelyd o'r daith. Pan ddeuai yn ôl, fodd bynnag, byddai wedi ei wisgo â phob math ar addurniadau, yn debyg fel y deuai bardd adref o'r Eisteddfod genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Ymddengys i'r pererin hwn fod cyn belled â'r Bedd Sanctaidd, gan fod dwy groes ar ei ysgwyddau a rhywbeth tebyg i balmwydden (?) yn ei law; ond nid yw'r darlun yn eglur iawn ar y pen hwn. Hefyd y mae ganddo yr agoriadau croes fel arwydd ei fynd i Rufain, a'r gragen fel arwydd ei fod wedi ymweld â Chompostella. Ó ddarlun gan y diweddar T. H. Thomas, R.C.A. (Arlunydd Penygarn). O Celtic Britain and the Pilgrim Movement "—wyneb ddarlun. Tudalen 11
MAP HENFFORDD: Mappa Mundi (Map o'r Byd), a adwaenir fel map Henffordd am ei fod yn hongian yn Eglwys Gadeiriol Henffordd. Yn ôl y rhigwm Anglo—Normanaidd sydd ar ei gefn ymddengys ei wneud tua'r flwyddyn 1307, gan un o'r enw Richard o Haldingham, a oedd, fel y tybir, yn un o ganoniaid yr Eglwys Gadeiriol yn adeg yr Esgob Swinfield. Saif y dwyrain ar ben y map ac nid ar yr ochr dde fel gyda ni, ac yma ceir darlun o ardd Eden a'i phedair afon, ac Adda ac Efa yn cael eu troi allan o'r ardd. Uwchben hynny drachefn ceir darlun o Ddydd y Farn. Sylwer hefyd mai Caersalem yw canolfan y byd. Tudalen 15
ALLWEDD I FAP HENFFORDD. Tudalen 17
CELL MYNACH: Saif yr hen gell Geltaidd hon gydag amryw eraill ar ynys fechan Skellig Michael ar arfordir Kerry, Iwerddon. Ym— debyga'r celloedd hyn i hen gaerau paganaidd yr Ynys Werdd. Sylwer fel y gwneir y to o'r un defnydd yn union a'r muriau, ond y tynnir y cerrig i mewn ris ar ôl gris nes cyrraedd y brig. Ceir yr un cynllun nodweddiadol Geltaidd ym Mhenmon ac ar ynys Seiriol. Sylwer ar y Groes o gerrig gwynion uwchben y drws. O Anderson "Scotland in Early Christian Times." [Bloc gan Mri. Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 18
CAWG DŴR SWYN: Arferid ymgroesi wrth fynd i mewn i'r gwasanaeth crefyddol, ac ond sylwi gellir gweld yn yr eglwysi hynaf y lle y cedwid y dŵr swyn yn y fynedfa i'r Eglwys. Ceir nifer o'r hen gawgiau erbyn hyn yma ac acw ar hyd y wlad. Tybia rhai mai o'r tai y daethont i gychwyn, ac mai hynny a gyfrif am ffurf rhai ohonynt. Gwêl Archæologia Cambrensis, III, xiv. Tybir fod yr un welir yn y darlun yn perthyn unwaith i Briordy Cresswell—ar—Fynwy. O'r "Archæologia Cambrensis," VII, III, td. 334. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 20
COLOMENDY PENMON: Dengys colomendy Penmon yr un cynllun o adeiladu to yn union ag a geir yn y darlun o gell mynach ar ynys Skellig Michael. Ceir yr un adeiladwaith yng Nghlochdy'r Eglwys hefyd, ac yn y Tŵr ar ynys Seiriol. Tudalen 24
BANGOR IS Y COED: Safai rhai o adeiladau'r Fynachlog ar y ddôl a welir ar y chwith i'r darlun. Dyma ddywed Leland am y fangre ar ôl ymweled â'r lle. The abbay stood in Yn(glyshe) Mailor on the hither and south (side) of Dee, and it (is) ploughid gro(und now) where the abbay was by the (space) of a good Walsch myle (and yet) they plough up bones of (the monkes and in remembrance) were diggid up pieces of theyr clothes in sepulture. The Abbay stoode in a fair valley and Dee ran by it. The compace of it was as of a wallid towne and yet remayneth the name of a gate caullid Porth Hogan by N. and the name of a nother callid Porth Clays by S. Dee syns changing the botom rennith now thoroug the mydle betwyxt thes 2 gates one being a mile dim. from the other. [O ddarlun gan Gastineau.] Tudalen 28
TY DU A GWYN, Llanfeiglo, Llanfyllin: Saif y tŷ hwn, sy'n nodwedd— iadol o dai y Goror, ar gwrr hen ffridd Llanfeiglo y sonnir amdani yn Siartr Llanfyllin. Gweler tudalen 184. Am enghreifftiau godidog o'r un adeiladwaith gweler cyfrolau y Mont. Coll., 17, 18, 19, 21 a 22. Tudalen 30
EGLWYS MELVERLEY: Wedi ei gwneud o'r un defnydd â'r tai du a gwyn. Ffrâm o goed sydd i'r eglwys hon a cheir eglwysi cyffelyb yn Nhrelystan a Llandyssil, Sir Drefaldwyn. Dyma ddywed hanesydd esgobaeth Llanelwy amdani: Framework being of timber strongly bound together longitudinally and compacted internally by 2 rude and massive frames of beam work which divide the body of the Church into chancel, nave and ante chapel. The interior spaces of the walls being filled in with wattle and daub—the most primitive form of lath and plaster. [Bloc yn fenthyg gan Mr. J. H. Profit, Croesoswallt.] Tudalen 34
CLOCH SANT RHUDDLAD, ym mhlwyf Llanrhuddlad, Môn: Cloch law oedd y gloch a ddefnyddid yn yr Eglwysi Celtaidd bore. Fe gofir am y gloch neu "Fangu Dewi" oedd yn Eglwys Glascwm, Sir Faesyfed, yn amser Gerallt Gymro. Fe'i dygwyd gan rhyw wraig, meddai Gerallt, ai rhoi i'w gŵr, oedd ar y pryd yn garcharor yng Nghastell Rhayadr Gwy, gan ddisgwyl y buasai yn foddion i'w ryddhau, ond fe'i dygwyd gan geidwad y carchar. Erbyn y bore yr oedd yr holl dref wedi ei llosgi oddieithr yn unig y lle y crogai'r gloch.
Yn anffodus y mae" Bangu Dewi" wedi diflannu, ond y mae cynifer â chwech o glychau cyffelyb yn aros o hyd. Cloch Llanrhuddlad yw'r lleiaf ohonynt. Nid yw ond 4 modfedd o uchder wrth 24 ar draws ei gwaelod. O'r "Arch. Cam.", VII, VI, 327. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 35
SANT GOVAN, Penfro Un o gapeli y saint bore y ceir nifer ohonynt ar draeth Penfro. Saif hwn ym mhlwyf Bosherston. Y mae cynifer a 52 o risiau yn arwain i lawr ato o Drefalen. Mesur yr ystafell 18 troedfedd wrth 12, ac ohoni ceir agoriad i mewn i ystafell arall yn y graig. Ceir ynddi allor gerrig a ffenestr fechan i'w goleuo. Perthyn yr adeilad i'r 13eg ganrif. Ceir ffynnon Govan gerllaw iddo. Tudalen 37
WELCH GATE, Amwythig: Tynnwyd i lawr y tŵr oedd ar yr hen Bont Ar un tu iddo, fel y sylwir, yr oedd cerfddelw Richard, Dug York, tad Edward IV. er yr haerai rhai mai cerfddelw Llywelyn Fawr, neu Llywelyn Drwyn Dwn yw. Dywed hen draddodiad i Edward I yn ei gynddaredd geisio dinistrio'r cerflun. "Edward I, a cruel mortheringe enemie of the Brittaines nobles and Princes wanted to deface it but could not because of the nose of Llewelin Drowin Don which was flat." [O Owen and Blakeway's " History of Shrewsbury," td. 225.] Tudalen 40
PONT LLANGOLLEN: Dywedir mai John Trefor II, Esgob Llanelwy, 1395—1411, adeiladodd y bont gyntaf, ond ymddengys nad yw'r bont bresennol yn hyn nag amser Elizabeth. Dywed Jusserand, yn ei lyfr diddorol ar Wayfaring Life in the Middle Ages, amdani: "A four arched bridge built in the 14th century over the Dee is to be seen at Llangollen. The arches are unequal in size for the architect in this and in many other cases minding more the solidity of the structure than the uniformity built the piers at the places where the presence of rocks in the bed of the river made it most convenient." Dinistriwyd un o'r bwâu pan wnaed y Rheilffordd. "Beauties of England and Wales," td. 560.] Tudalen 44 DRWS GORLLEWIN YSTRAD FFLUR: Yn groes i'r arfer gyffredin fe sylwir nad oes gapan (capital) ar ben pileri'r drws mawreddog hwn, ond rhed y bwa a'r piler i'w gilydd heb doriad o fath yn y byd. (Ceir y nodwedd hon yn nrws gorllewin Eglwys Llanbadarn Fawr.) Yn clymu'r pileri yn ei gilydd ceir rhywbeth sy'n edrych yn debyg i ffon bugail neu fagl esgob. Ni cheir y math hwn ar ddrws yn y wlad hon, ond fe geir rhywbeth cyffelyb yn Iwerddon. Tudalen 46
PERSON PLWYF, Dafydd Ddu Hiraddug,(?) Ficer Tremeirchion: Y mae'r cerflun hwn, sy'n gorwedd dan ganopi addurnol yn Eglwys Tremeirchion, yn un o'r rhai mwyaf diddorol a feddwn. Yn anffodus, ymgymerodd rhywun â'i baentio'n ddu. Y mae'r ficer wedi ei wisgo yn ei lawn wisg offeiriadol—yr amis, y casul, yr alb, y freichled a'r ystôl. Y casul oedd y wisg a gymerodd le'r hen wisg offeiriadol Geltaidd y Pallium. Gwisgid honno gan y Rhufeiniaid a diau mai ganddynt hwy y cafodd yr Eglwys Geltaidd hi. Nid oedd y casul ond math o gylch o liain neu ryw ddefnydd arall a thwll ynddo i roi'r pen drwodd. Y mae'r casul yn yr enghraifft hon yn helaeth dros y cefn a'r breichiau ac yn terfynu yn big y tu blaen, gydag ymylwaith aur wedi ei weithio ac edau a nodwydd. Addurnir y freichled a'r ystôl hefyd, ac ar yr alb a'r amis y mae quatre—foil bychan wedi ei weithio. Y mae'r gwallt yn hir ac yn syth, y talcen braidd yn isel, y trwyn yn fawr a'r en yn hir. Yr oedd Dafydd yn ei flodau tua 1340. Cyf— ieithodd Dafydd 26 o'r Salmau ar gynghanedd i'r Gymraeg—yr ymgais gyntaf, mae'n debyg, i wneuthur hynny. Tybid unwaith hefyd iddo gyfieithu Llyfr Gwasanaeth Mair i'r Gymraeg, ond cytunir bellach mai mynach o'r enw Dafydd Ddu o Fynachlog Glyn Nedd a wnaeth hynny. (Gwêl Cymru, Ionawr, 1893.) O dan y cerflun ceir yr arysgrif a ganlyn: "Hic jacet David f'Kovel f'Madoc." O'r "Arch. Cam.", V. XIV, 109. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 50
Y GWESTY A'R SELER, MAESGLAS (Basingwerk): Yn anffodus y mae'r cwbl bron o'r Gwestai oedd mewn cysylltiad â mynachlogydd Cymru wedi diflannu yn llwyr. Ond yr oedd Gwesty y Maesglas yn weddol gyflawn hyd yn ddiweddar. Bellach nid oes yn aros ond y muriau ac un neu ddau o'r cyplau. [Bloc yn fenthyg gan y Llandudno Field Club.] Tudalen 52
CASTELL EWLO, Sir Fflint: Cynllun o gastell yn arddangos tŵr Cymreig. Am y nodwedd ddiddorol hon, gwêl erthygl Mr. W. J. Hemp, Cymmrodor, Cyf. XXXIX, td. 4—20. O'r" Cymmrodor," Cyf. XXXIX. Tudalen 56
EGLWYS LLANWDDYN yn 1684: Perthynai'r Eglwys hon i'r Ysbytywyr a oedd a chell ganddynt ar y mynydd rhwng Llanwddyn a Chwm Cownwy. O Lawysgrif Thomas Dyneley yn ei Progress of the Duke of Beaufort through Wales in 1684. O'r "Mont. Coll.", XXV, td. 115. Tudalen 58
Yr olygfa ger YSBYTY, LLANWDDYN: Fel lle yr hen Eglwys yr adwaenir y fan weithian. Erbyn hyn nid oes ond ychydig gerrig i ddynodi'r fan lle bu, ond pery Ffynnon y Mynaich, sydd gerllaw, i fwrlymu o hyd. Mesura'r adfail 42 troedfedd wrth 15. Tudalen 61
HERBERGAGE: Darlun o Gariad yn croesawu teithwyr i'r Herber.
And I suppose for my beste,
There to harborewe and to reste.
On ther cam and preyed me
And her name was charite.
To pylgrymes in goodly wyse
Sche dyde moste truely the seruyse,
With chere benynge and glad uysage,
She brought hem to ther herbergage.
And there sche was moste ententyff
Without noyse or eny stryff.
O'r "Pilgrim," B. M. Tib, A, VII, f.90 (15eg ganrif). [Bloc gan yr Amgueddfa Brydeinig.] Tudalen 63
YR HERBER, LLANGYNOG: Saif yr adeilad bychan a welir ar ganol y darlun ynghlwm wrth fur y fynwent, ac adwaenir y lle o hyd fel yr Herber. Bu'r adeilad yn ysgol unwaith, ac ym meddiant y plwyf hyd yn ddiweddar. Diau fod yr enw Herber yn cyfeirio at adeilad cynharach fyth a safai ar y llecyn hwn unwaith. Tudalen 65
TREFLAN FUGEILIOL (Map). Tudalen 67
PENTREF AMAETHYDDOL (Map). Tudalen 67
PENTREF CRWN (Map). Tudalen 68
PENTREF Y FFORDD FAWR (Map). Tudalen 68
HALSTON: Dyma gapel y "commandery" yn Halston, gerllaw Croes oswallt. Halston oedd prif le yr ysbytywyr yng ngogledd Cymru. Nid oedd y lleoedd eraill oedd ganddynt ond megis celloedd, ac i Halston y telid y degwm oedd ddyledus ar y lleoedd hynny. Yr oedd i Slebech safle gyffelyb yn y De. Y mae'r capel mewn cyflwr rhagorol. Saif ym mharc Halston, hen gartref yr hynod Jack Mytton, yn agos i'r Dre Wen, Croesoswallt. O'r "Arch. Cam.", VII, iii, 413. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 71
MUR MYNWENT YSBYTY CYNFYN: Gwelir yma rai o'r meini a ffurfiai gylch cyntefig cyn adeiladu'r Eglwys. Erys pump ohonynt hyd heddiw. Defnyddir dwy ohonynt yn byst llidiart y fynwent a cheir y tair arall yma ac acw yn y mur. Tudalen 74
YNAD LLYS: O Ancient Laws and Institutes of Wales, II, td. 758. Tudalen 75
ESIAMPL O LAWYSGRIF Y CYFREITHIAU: Yma ceir darlun o'r distain, goruchwyliwr y bwyd, a dysgl yn ei law. Yn y man daeth y distain yn un o swyddogion pwysicaf y llys ac yn fath ar Brifweinidog. Dyma'r copi hynaf a feddwn o Gyfreithiau Hywel wedi eu hysgrifennu mewn Lladin tua diwedd y 12fed ganrif. Y mae'r copi hynaf ysgrifen— nwyd mewn Cymraeg gryn dipyn yn ddiweddarach. Yn Llyfr Du'r Waun y ceir hwnnw. Perthyn hwnnw i chwarter cyntaf y 13eg ganrif. Am esiamplau eraill o'r LI.S. gweler Lloyd, Hywel Dda, 928—1928, Gwasg Prifysgol Cymru. L. Peniarth, 28. Gwel Attodiad A, td. 433. [Bloc yn fenthyg gan Wasg Prifysgol Cymru.] Tudalen 79
COGINIO yn yr awyr agored—tu allan i dŷ tafarn: O'r Romance of Alexander. Bodl. MSS., 263. O Turner" Domestic Arch. of the Middle Age," Vol. II, 122. Tudalen 83
Y VARDRE, ABERGELE: Ceir cyfeiriad at y Faerdref yn y Survey of Denbigh, 1334, td. 232. Pan oedd y lle ym meddiant y Tywysogion dywedir fod y tenantiaid oll yn daeogion, ond fod Lacy yn ei rhentu i'r taeogion fel cyfangorff ac i denantiaid eraill. Dywedir fod gweithred yn ymwneud â'r lle hwn ar gael wedi ei harwyddo gan Llewelyn ap Iorwerth. Lowe, Heart of Northern Wales, II, 345. [Bloc yn fenthyg gan y Llandudno Field Club.] Tudalen 87
MELIN Y GLYN, EDEIRNION: Dyma Felin y Faerdref, Llandrillo. Tudalen 91
HEN BITFEL: Saif y Bitfel hwn yn awgrymiadol gerllaw'r Green— llain o dir agored gynt ym mhlwyf Llangedwyn, Sir Ddinbych. Tudalen 93
Y FAERDREF, EDEYRNION (Map). Tudalen 94
DEFAID: O" Ancient Laws and Inst. of Wales, II 811. Tudalen 963
TAEOG WRTH Y TAN; Circa 1350. O" Domestic Architecture of the Middle Ages," Turner, I, 16. Tudalen 98
MELIN RHUTHYN: Un o hen felinau'r oesau canol sy'n sefyll o hyd. Ychwanegwyd at ei maintioli yn ystod y ganrif ddiwethaf trwy godi ei huchder; ond perthyn y ddau ddrws, fel y gwelir oddi wrth eu bwâu, i'r 13eg ganrif, a gellir gweled yn hawdd ar dalcen yr adeilad beth oedd uchder yr hen felin gynt. Yn y ddau dalcen ceir dwy ffenestr lansed yr adran uchaf ohonynt wedi ei wneud ar lun meillionen (trefoil)—addurn oedd yn gyffiedin yn ffenestri'r cyfnod hwnnw. Yn anffodus, mae'r adran hon yn y ffenestr ddwyreiniol wedi ei dinistrio. Uwchben y ffenestr ddwyreiniol ceir croes wedi ei gwneud o'r garreg goch yr adeiladwyd y castell â hi. Tybiai rhai, oherwydd hyn, fod y felin unwaith yn perthyn i'r Brodyr Gwynion—y Carmeliaid, ond ymddengys mai Leland a wnaeth y camgymeriad o dybio bod Eglwys Golegawl Rhuthyn wedi bod yn perthyn i'r urdd honno. Nid oes llawer o le i amau mai perthyn i'r castell yr oedd y felin, ac ym mharc y castell yr oedd Llyn y Felin. Yr oedd unwaith ysgubor fawr yn gysylltiedig â hi, ac hyd yn ddiweddar iawn gellid gweled olion hen dy lle y trigiannai teulu o'r enw Moyle. Fel yr awgryma'r enw, dyma hen dŷ'r melinydd yn ddiau. O History of Corn Milling," Bennett & Elton, Vol. III (Frontis-piece). Tudalen 101
MELIN LAW: Parhaodd y felin law mewn bri hyd ddechrau'r 19eg ganrif, a llawer ymdrech wnaed o'r 11eg i'r 18fed ganrif i'w difodi. Pa bryd y dechreuwyd defnyddio'r ffurf arbennig yma, y breuan (quern), nis gwyddom; ond ceir cyfeiriad ati yn Ancient Laws, I, 106, 304, 586. Ymysg breintiau gwŷr Arfon oedd rhyddid i ddefnyddio y Felin Law. Deuwyd o hyd i ffurf gynharach fyth yn Nhwr y Felin, Pencaergybi. Yn y rheini rholid y grawn ar garreg oedd wedi ei chafnu a rhôl garreg. Gwêl Archæologia Cambrensis, 1868. Ceir pentwr o hen felinau llaw yng Nghastell Harlech. Diau iddynt gael eu fforffetio gan denantiaid Ardudwy er mwyn eu gorfodi i fynd â'u hŷd i Felin y Castell. O'r B. M. Royal M.S.S. 10 E. IV. [Bloc gan yr Amgueddfa Brydeinig.] Tudalen 105 MELIN DDŴR. Sonia awduron Rhufeinig fel Pliny a'r bardd Celtaidd Ausonius o Fordeaux am felin ddŵr. Yr oedd gan y Groegiaid hefyd felin ddŵr, ond melin ar olwyn ar ei gorwedd oedd honno, ond yr oedd y felin Rufeinig ar gynllun ein melin ni. Nid oes sicrwydd pa bryd y daeth i'r wlad hon, ond fe fentra yr hen ramantydd hwnnw, Iolo Morgannwg, ddywedyd mai yn y flwyddyn 340 y bu hynny. Yr oedd hyn, y mae'n debyg, tua'r adeg pan ddechreuodd Rhufain ei hun fabwysiadu'r felin newydd. Ceir amryw gyfeiriadau yng nghyfreithiau Hywel at y felin a'r argae (Ancient Laws, I, 178), ac hefyd gyfeiriad cynnar iawn at hawl yr arglwydd i orfodi ei denantiaid i fynd a'u hyd i'w falu i'w felin ef. (Bk. IX, Ch. xxiii.) Sylwer ar y trapiau i ddal llyswenod. [O'r "Luttrell Psalter," B.M. MSS Royal, 10 E. IV. [Trwy ganiatâd Mri. Cassell a'i Gwmni.] Tudalen 109
MELIN WYNT, 1338-44: Y cyfeiriad pendant cyntaf at felin wynt yn y wlad hon yw at y felin a godwyd gan y Deon Herbert yn Bury St. Edmunds, ag y bu raid iddo ei thynnu i lawr ar orchymyn yr Abad Samson. Yr oedd hyn yn 1191 (Chronicle of Jocelin of Brakelond, p. 88). Tua 1195, medd Du Cange, y bu i'r Pab benderfynu y dylid codi degwm arnynt awgrym eu bod yn rhywbeth newydd. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pa bryd y dechreuwyd eu hadeiladu, ond nid oes cyfeiriad atynt yn llenyddiaeth yr hen fyd, ac felly y mae lle cryf i gredu mai creadigaeth yr oesau canol yw'r felin wynt. O M.S. Bodley, 264. [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 115
HEN ARADR KENT: Rhydd y darlun hwn o aradr a ddefnyddir o hyd yng Nghent syniad gweddol dda am faint ac afrosgedd rhai o'r hen erydr. O"Agric. and Soils of Kent, Surrey and Sussex," p. 22. [Trwy ganiatâd Gweinyddiaeth Amaethu Llundain.] Tudalen 118
ARADR A'R GEILWAD: Sylwer fel y mae'r geilwad yn cerdded yn wysg ei gefn gan symbylu'r ychen. Allan o Galendar a geir ar ddechrau Llyfr Emynau yn perthyn i'r 11eg ganrif (MS. Cotton Julius, A VI). [Bloc gan Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 119
BETINGO, BATIO NEU DONNI: Nid yw'r dull hwn o aredig-yr hynaf yn bod wedi cwbl farw allan eto. Darlun o Edward Jones, Nant y Wern, Llangynog, wrth y gwaith. Tudalen 121
ARADR Ychydig debygrwydd sydd yn yr aradr hon i'r aradr fel yr elfennir hi gan Hywel Dda. Tudalen 123
O Lawysgrif Llanstephan yn y Llyfrgell Genedlaethol. MERCHLYN BACH: Dengys y plan hwn o'r Merchlyn Bach yn agos i'r Ro Wen, Dyffryn Conwy, fel y bu i'r hen gynllun o adeiladu fel y portreadir ef yn y cyfreithiau barhau. Am engreifftiau eraill gweler The Old Cottages of Snowdonia by Harold Hughes and Herbert L. North. O'r "Old Cottages of Snowdoria," p. II. [Bloc yn fenthyg gan H. H. Hughes.] Tudalen 125
CWM LLECH, PENNANT MELANGELL: Cartref Cadwaladr Roberts, bardd a chyfoeswr Huw Morus, Pont y Meibion. Gwelir ei enw a'r dyddiad C.R. 1665 wedi ei naddu uwchben y ffenestr. Ceir dwy gân o'i eiddo yn y Flodeugerdd. Tudalen 127
EGLWYS CORHAMPTON, GWLAD YR HAF Eglwys Saxonaidd ar gynllun Celtaidd. Y mae rhai nodweddion Saxonaidd yn perthyn i'r Eglwys hon, yn enwedig y modd y gosodir y cerrig bob yn ail (long and short) i ffurfio'r cornelau. Ond diddorol yw sylwi mai ar y cynllun Celtaidd yr adeiladwyd hi. Cydnabyddir bellach mai dyma'r cynllun a geir yn gyffredin yn Eglwysi Plwy Lloegr, ac nid y cynllun Rhufeinig (basilican). Am engreifftiau eraill gweler gynllun Bradford-on-Avon Wilts, y cyfeirir ati bob amser bron fel Eglwys Anglo-Saxon, ac Escomb, Durham. Allan o Parkers' Glossary of Med. Architecture." Tudalen 131
EGLWYS TYNSYLWY, MON: Cymharer yr hen eglwys hon â'r darlun o Eglwys Corhampton, a gwelir ar unwaith mor hanfodol Geltaidd yw cynllun yr olaf. O'r Archeologia Cambrensis," Vol. III, p. 45. Tudalen 135
SIMDDE COCHWILLAN: Enghraifft dda o simdde fore yn un neuaddau'r oesau canol. Perthyn Cochwillan i'r 15eg ganrif. O'r "Archeologia Cambrensis," III, XII, p. 135. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 139
HEN DAI YSTRAD FFLUR. Ceir yma syniad rhagorol am y modd y plethid y gwŷdd i wneud tai yr oesau canol. Yr oedd yr hen dai hyn yn sefyll pan dynnwyd y darlun yn 1888. O'r "Archaeologia Cam- brensis Series V, xvi. 323. Tudalen 142
DELLT Ceir mwy nag un math ar ddellt yn yr oesau canol. Gwiail wedi eu plethu yn union fel y plethir gwrych yw y ffurf fwyaf gyffredin. Dyma'r dellt a ddwbid à chlai neu à morter mewn cyfnod diweddarach. Arferid hefyd mewn rhai ardaloedd a hollti derw yn ystyllod tenau a'u plethu yn ei gilydd. Nid oedd angen dwbio hwn a chlai na dim arall, gan mor glos oedd y gwead. Tudalen 144
Y PENHEBOGYDD: O Ancient Laws and Institutes of Wales, Vol. II, 757-Tudalen 146
FFOREST WENTWOOD: Derw'r Fforestwyr. O dan yr hen dderw hyn y cynhelid llysoedd y Fforest uchod." O'r "Cymru," Ebrill, 1905, td. 221. Tudalen 149
AR GWRR CYNLLAITH A MOCHNANT: Yma gynt yr oedd Fforestydd Cynllaith a Mochnant, y naill a'r llall erbyn diwedd yr oesau canol perthyn i arglwyddiaeth y Waun. Yng nghanol coedwig Cynllaith yr oedd Sycharth, cartref Glyn Dŵr. Tudalen 153
CARREG LLANGEDWYN: Saif Eglwys Llangedwyn bron ar y terfyn rhwng y Fforestydd uchod, a saif y garreg ddiddorol hon heddiw wrth dalcen dwyreiniol yr eglwys. Ymddengys y darlun ar y chwith fel ymgais anghelfydd i dynnu llun bwyell. Yn anffodus, y mae ymyl y garreg wedi hollti yn union lle yr cedd min y fwyell yn ymledu. Ar y dde ceir darlun o'r hyn a edrych fel cwmpawd oedd gan y coedwyr yn mesur coed ac a adwaenid yn Saesneg fel y Scribe. Os felly, y mae'n debyg mai beddrod un o Fforestwyr Cynllaith neu Fochnant yw yr un ddynodir gan y garreg; y fwyell oedd pais arfau'r fforestwr. Ceir darlun ohoni yn Mont. Coll., XII, 86. Tudalen 157
LLESTRI CYMUN, CYMMER: Yn anffodus, ychydig o drysorau Mynachlogydd Cymru sydd ar gael erbyn hyn. Deuwyd ar draws y gwpan a'r plat a welir yn y darlun yma dan garreg yng Nghwm y Mynach tua 1890. Fe'u gwnaed gan un Nicholas o Herford yn Westphalia fel y tybia rhai, ac y maent yn enghraifft ragorol o grefftwaith y 13eg ganrif. Ar y plat ceir darlun o'r Gwaredwr gydag arwyddion y pedwar efengylydd. [Darlun gan yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.] Tudalen 160
CARCHAROR YN CAEL EI DDERBYN I'R SEINTWAR TUA 1340. O'r B.M. Royal M.S.S. 10 E. IV. [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 163
PAIS ARFAU SEDD YN EGLWYS LLANFIHANGEL YNG NGWYNFA: O hen gwir yn perthyn i Vychaniaid Llwydiarth yn Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa. Diau i'r cwir gael ei wneud i'r John Vaughan a gofnodir ar y panel. Efò yn Uchel Sirydd Sir Drefaldwyn yn 1583 ac yn briod a Dorothy v. Hywel Vaughan o Lanyllyn, Llanuwchllyn, un o ddisgynyddion Ieuan ap Gruffydd ap Madoc, y ceir ei gerflun yn Eglwys Llanuwchllyn. Disgynnai hwnnw o Ririd Flaidd y ceir ei bais arfau ar ochr ddeheuol y panel. Dyma hefyd linach Rowland Vychan o Gaergai. Ceir disgrifiad diddorol o'r cwir gan y Parch. Ed. Evans, Rheither y Plwy, yn y Mont. Coll., Vol. XIV, td. 375. Yr oedd 30 o'r panelau hyn o gwmpas y cwir, a thybir fod a fynno Lewys Dwnn o'r Trallwng, yr achydd enwog, rywbeth a'i gynllunio. Pan atgyweiriwyd yr eglwys, symudwyd y panelau i'r Wynnstay. [O'r Mont. Coll.", XIV, 370] Tudalen 166
Y CYFFION: Dyma gosb arall gyffredin yn yr oesau canol, ac fe welir yr hen stocs yn achlysurol gerllaw mur y fynwent. Darlun o'r cyffion oedd yn Ninas Mawddwy gynt. [O ddarlun gan D. Cox dynnwyd rhywbryd tua 1813.] Tudalen 170
EWENNI Priordy yn perthyn i Abaty Sant Pedr, Caerloyw. Sefydlwyd gan un Maurice de Londres, y ceir ei gaireg fedd wedi ei haddurno'n dlos yn yr eglwys. Rhydd y darlun hwn syniad da i ni nid yn unig am y prudd-der a nodweddai rai o'r hen Eglwysi Normanaidd hyn, fel y dywed Freeman, ond hefyd am y gwahaniaeth rhwng dwy adran yr eglwys y côr lle yr addclai'r mynaich a chorff yr eglwys lle yr addolai'r plwyfolion. Erys y corff o hyd yn Eglwys Blwy. Myn rhai awdurdodau mai hon yw yr Eglwys Normanaidd berffeithiaf yng Nghymru. O Giraldus Cambrensis (Hoare), I, 150. Tudalen 172
TREFALDWYN YN 1610: Rhydd y mapiau hyn o waith Speed syniad da i ni am berthynas trefydd yr oesau canol a'r cestyll oedd mewn cysylltiad â hwy. Sylwer fel y mae mur y dref a'r castell ynghlwm wrth ei gilydd. O Mont. Coll.", X, 96. Tudalen 176
BRETEUIL Tref fechan yn adran yr Eure yn Normandi. Dyma gartref William Fitzosbern, arglwydd Henffordd. Siartr Breteuil oedd patrwm y siartr a roddodd i'w ddeiliaid yn Henffordd, ac ar siartr tref Henffordd y seiliwyd y rhan fwyaf o siartrau trefydd Cymru. [O ddarlun a gafwyd gan Beriglor Breteuil.] Tudalen 181
LLANDDEWIBREFI: Un o "fyrchau" Esgob Tyddewi. Tudalen 187
YSTÔL DROCHI: O Eglwys Llanllieni, swydd Henffordd. Gorfodid pob tref i ddarparu un o'r rhain, a defnyddid hwy i gosbi merched fel Trheol. Rhoid y ferch i eistedd yn y gadair a'i gwallt yn afler yn disgyn i lawr ei chefn. Yna tynnid hi at lyn, a chodi y fraich ddwywaith neu dair a'i throchi. Yr oedd gan Drefaldwyn ystôl o'r fath, ac yno adwaenid hi fel "Coging Stool." "Ducking Stool" oedd yr enw Saesneg arferid arni. Tudalen 189
CROES FARCHNAD, HOLT: Yr oedd Holt yn fwrch unwaith ac yn brif le arglwyddiaeth Maelor Gymraeg a Iâl. Adeiladwyd y Castell gan John de Warenne tua diwedd y 13eg ganrif, ond nid ymddengys i unrhyw ymgais gael ei gwneuthur i ddiogelu'r Bwrch trwy godi mur o'i amgylch. Nid oes yn aros ond adran o'r groes yn unig. Cyfeirir ati yn adroddiad John Norden yn 1620. [Darlun gan Mr. W. D. Williams, Coleg Harlech.] Tudalen 193
WRTH FEDD WILLIAM JONES A'I BRIOD YN EGLWYS YR ABATY, AMWYTHIG Gwêl td. 206. Wrth ben y cerflun ceir a ganlyn: "Guilelimus Jones Aldermanne Villae Salopiae et Aelianora uxor ejus jacent hoc monumento." Symudwyd y cerflun o Eglwys St. Alkmund yn 1828. Tudalen 196
JONES'S MANSION, WYLE COP, AMWYTHIG Cartref William Jones y Brethynnwr. Dengys y tai godidog hyn-ac yr oedd amryw ohonynt yn sefyll yn Amwythig ddechrau'r ganrif ddiwethaf y cyfoeth oedd yn nwylo'r Brethynwyr llwyddiannus. Daeth y tŷ i feddiant William Jones tua 1587-8, ac ymddengys mai efo a adeiladodd yr adran sy'n wynebu'r heol, ac yn un o'r ystafelloedd hyn ceir pais arfau ei deulu. Yr oedd ganddo fab, o'r enw Thomas Jones, a gyfenwid Rich" Jones, ac efò a adeiladodd "Master Jones, the Lawyer's Mansion," yn agos i Eglwys Fair, un o'r tai gwychaf yn y dref. Apwyntiwyd ef gan Siarl I yn Faer cyntaf y dref, a bu'r Tywysog Rupert yn aros dan ei gronglwyd yn 1644. Mab iddo ef oedd y Prif Farnwr Thomas Jones, a gododd y cerflun i'w daid a'i nain sydd yn Eglwys y Fynachlog. [O Owen and Blakeway's "History of Shrewsbury," 404. Tudalen 200
STRYD FAWR CONWY: Ar y chwith gellir gweled un o'r siopau neu stondinau oedd mor nodweddiadol o drefydd yr oesau canol. Am ddarlun cyffelyb o siopau yr oes honno gwêl History of Shrewsbury, Owen and Blakeway. [Bloc gan y Llandudno Field Club.] Tudalen 204
ALLOR SYMUDOL Mesurai'r rhain fel rheol ryw 20 modfedd wrth 15, a defnyddid hwy lle nad oedd Eglwys yn gyfleus. Diau eu bod yn lled ddiaddurn ar y cyntaf, ond y mae'r ychydig sy'n weddill heddiw wedi eu haddurno'n hardd. Y mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd ar gael i'w gweled yn Eglwysi Dyffryn y Rhein. Gan y Pab y ceid caniatâd neilltuol i unigolion neu sefydliadau fel mynachdai ddefnyddio allorau o'r fath. Gwel tudalen 282. O Scheida, yn agos i Cologne, y daeth yr allor a ddarlunir yma. [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 208
AR Y FFORDD I'R FARCHNAD: Darlun wedi ei gymryd allan o ffenestr liwiedig mewn eglwys yn La Tournay, Ffrainc. Darlun yw o nifer of bobl yn croesi pont ar eu ffordd i'r dref. Ar y bont saif y toll gasglydd yn codi y pontagium o bosibl. A barnu oddi wrth ei wisg ac ymddygiad cwrtais y gwladwr tuag ato, ymddengys fel pe buasai yn ŵr o safle. Yng nghanol y darlun ceir y fuwch a'r moch, a thu ôl iddynt wraig yr amaethwr yn cario oen ar gefn ei merlen. Ar y chwith gwelir y brethynnwr ar gefn merlen a'i was a'i gap isel a'i becynnod ar gefn mul. Y tu ôl iddynt gwelir yr afon a chychod arni a'r cei o bob tu. O Lacroix and Serre Moyen Age et la Renaissance. Tudalen 211
CROES CEGIDFA: Deuwyd ar draws yr hen groes orymdeithiol hon wrth dorri bedd ym mynwent Cegidfa, Sir Drefaldwyn, ym mis Ebrill, 1873. Adwaenir y math yma ar groes fel croes "fleuri," am fod y breichiau a'r pen yn diweddu ar lun fleur-de-lis. Ar un ochr i'r groes ceir darlun o'r Gwaredwr a'r traed wedi eu croesi-ffurf oedd yn lled gyffredin mewn darluniau o'r groes yn y 14eg ganrif. O'Y "Mont. Coll.", VI, 407. Tudalen 213 CASTELL DINAS BRAN: Perthyn i adfeilion yr hen gastell hwn rai nod- weddion a'i gwahaniaetha oddi wrth gastell y Norman, ac oherwydd hyn tybir ei adeiladu gan un o'r Tywysogion Cymreig. Rhydd y darlun i ni syniad da am safle uchel ysgythrog yr hen gestyll hyn. Tudalen 216
MWYNWR Ceir y darlun diddorol hwn o'r mwynwr a'i gaib yn ei law a'i gannwyll mewn math o getyn yn ei geg, fel rhan o grib helm ar fedd- argraff pres yn Eglwys Newland ar gwrr Sir Fynwy. Y mae Newland yn Fforest Dean lle y mae mwn gloddio er adeg y Rhufeiniaid, beth. bynnag. O'r "Arch. Cam.", VI, IX, 82. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 220
CANHWYLLBREN LLANDEGLA: Sylwer ar y darlun gwych o'r Fair Fendigaid a geir ar grib y canhwyllbren godidog hwn. Ceir canhwyll- bren cyffelyb yn Eglwys Llanarmon-yn-Iål. Tybir eu dyfod o Fynachlog Glyn y Groes adeg y diddymu. O'r "Inventory of Anc. Mon., Denbigh," p. 84 [Bloc gan H.M. Stationery Office.] Tudalen 224
UN o FFERMYDD ABATY CWM HIR: Clyro Court Farm, Sir Faesyfed. Dengys y bwa maen sydd yn arwain i'r buarth ei fod wedi ei adeiladu yn y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg, a cheir drysau cyffelyb yn rhai o'r adeiladau. Yr oedd y fferm hon, a adwaenid yn Siartr Ed. II, yn cadarnhau yı eiddo i'r mynaich, fel Carnaf, yn rhan o'r eiddo a roddwyd i'r Tŷ, gan Einion Clyd, un o'i noddwyr cyntaf. "Inventory of Anc. Mon. Radnor, p. 34, fig. 22. [Bloc gan yr Office of Works.] Tudalen 227
NEUADD Y BRETHYNWYR AC EGLWYS ST. ALKMUND, AMWYTHIG: Erys y Drapers' Hall yn gartref i Gild y Brethynwyr yn yr Amwythig hyd heddiw. Sefydlwyd yr urdd yn 1460. Perthyn tŵr a phinacl Eglwys St. Alkmund i'r 14eg ganrif Ymddengys mai yma yr arferai'r Brethyn- wyr addoli ac yma, fel y sylwyd, y claddwyd Wm. Jones, y Brethynnwr, sydd a'i gerflun yn yr Abaty. Gwêl td. 206. Yn anffodus, nid oes bron ddim o neuadd y Gwelleifwyr yn aros. [Bloc gan Wilding and Son, Amwythig.] Tudalen 229
POBYDD ANONEST: Ar y chwith fe'i gwelir yn rhoi torth fechan yn y ffwrn, ac ar y dde fe'i llusgir trwy y stryd ar fath o glwyd, a'r dorth yn rhwym wrth ei wddf. O'r "Assisa Panis" 21 Ed. I., Guildhall Record Office. [Bloc gan Mri. Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 231
HEN NEUADD Y FARCHNAD, AMWYTHIG: Ar dalcen gogleddol yr hen adeilad hwn, a berthyn i gyfnod Elizabeth, ceir yr arysgrif a ganlyn: "The 15th day of day of June. . . was this building begun William Jones and Thomas Charlton Gent then Bailiffs and was erected and covered in their time 1596." Arferai'r Gorfforaeth a rhentu'r llofft i gwmni'r Brethyn- wyr, ac yno y cedwid gwlanen a brethyn Cymreig. Cynhelid y farchnad bob dydd Iau. Sylwer ar gerflun Richard Dug York, tad Edward IV, oedd yn sefyll unwaith ar dwr y Bont Gymreig. Tudalen 233
EGLWYS BEDDGELERT: Nid oes yn sefyll o hen Briordy Beddgelert ond yr eglwys yn unig erbyn hyn. Y mae'r tair ffenestr bigfain hir a welir yn y darlun yn enghraifft ragorol o'r ffenestr lansed fel yr adwaenir hi. Disgrifia Mr. Harold Hughes hwy "as possibly the finest architectural feature in the whole of Snowdonia" (The Old Churches of Snowdonia, 222). Mesura'r ffenestr ganol 17 troedfedd 6 modfedd wrth I troedfedd 10 modfedd, a'r ddwy arall 16 troedfedd wrth I troedfedd 9 modfedd. Tudalen 235
GWYDR YN EGLWYS LLANASA, SIR FFLINT Perthyn y ffenestr hon i'r 15eg ganrif, a dywedir ddyfod y gwydr o hen Fynachlog y Maesglas (Basingwerk). Tudalen 236
LLANRHYCHWYN: Un o hen eglwysi Dyffryn Conwy. Er ei bod yn eglwys ddwbl erbyn hyn, gwyddys mai ychwanegiad a wnaed yn yr 16eg ganrif gan Meredith ap Ieuan, o bosibl, yw'r ystlys bellaf yn y darlun. Yn yr ystlys arall, a berthyn, y mae'n debyg, i'r 12fed ganrif, ceir enghraifft ddiddorol o hen Eglwys Gymreig yr oesau canol. Yma, fel y gwyddom, yr arferai Llywelyn Fawr addoli cyn iddo adeiladu Eglwys Trefriw, yr hyn a wnaed tua'r flwyddyn 1230 er hwylusdod y Dywysoges, a oedd cyn hynny yn arfer a dringo i Lanrhychwyn. O" The Old Churches of Snowdonia," td. 103, by H. H. Hughes and H. L. North. [Bloc yn fenthyg gan H. H. Hughes.] Tudalen 240
LLANABER Y CYNTEDD: Enghraifft ragorol odiaeth o'r datblygiad o'r bwa crwn Normanaidd i'r bwa pigfain a welir wedi cyrraedd ei uchaf- bwynt yn nhalcen gorllewinol Llandaff neu ffenestri dwyreiniol Beddgelert. Gwelir yr un datblygiad yn union yn nrws deau Llan- badarn. O "Cymmr. Trans.", 1916-17, td. 76. [O ddarlun gan yr Athro Tyrrell Green.] Tudalen 243
EGLWYS LLANRHAEADR D.C.: Enghraifft ddiddorol o'r eglwysi dwbl sydd mor nodweddiadol o siroedd Dinbych a Fflint. [O'r Arch. Cam." VII, 1, 318.] Tudalen 245
EGLWYS Y CARMELIAID, DINBYCH Y mae'r adeilad diddorol hwn yn adfail erbyn hyn Adwaenid yr urdd hon ar gyfrif eu gwisg, fel Urdd y Brodyr Gwynion. Yn 1250 y daeth yr urdd i'r wlad yma gyntaf, a thrwy offerynoliaeth Iarll Richard de Grey y daethant. Yn 1282 daeth Dyffryn Clwyd i ddwylo nai i'r larll Richard hwnnw, sef Reginald de Grey. Ymhen dwy flynedd (1284) sefydlwyd Priordy yr Urdd yn Ninbych, a hynny yn bennaf trwy offerynoliaeth Syr John Salesbury, Llewenni. Dywedir i Syr John farw ar yr ail o Fawrth, 1289, a'i gladdu yma. Daeth y lle felly yn gladdfa'r Salesburiaid. Wedi'r diddymu, symudwyd claddfa'r teulu i'r Eglwys Wen. O'r "Arch. Cam." V, IV, 260. Ceir darlun o'r un fewn yn "Arch. Cam.", VII, 1, 321. Tudalen 251
EGLWYS MALPAS, MYNWY: Un o'r engreifftiau gorau a feddwn yng Nghymru o addurno y bwa crwn Normanaidd. Nid yw addurniadau o'r fath yn gyffredin yng Nghymru-moel fel rheol yw'r bwa, ond ceir ambell eithriad fel Margam, Penmon a Gwynllyw (Casnewydd). O'r Arch. Cam.", IV, x, 192. Tudalen 254
HAFOTAI AC OLION HEN EGLWYSI (Map). Tudalen 255 CELL MEUDWY: Y mae'r adferiad hwn o hen gell y mynach ar Ynys Seiriol yn sylfaenedig ar fesurau adfeilion cell sydd ynghanol y cysegr yn hen eglwys Ynys Seiriol. [Bloc yn fenthyg gan H. H. Hughes.] Tudalen 257
MYNACH DU (Benedict), MYNACH GWYN (Sistersiad). [O'r Monasticon, Dugdale.] Tudalen 262
YSBYTYWR A BRAWD LLWYD (Ffransisiad). Dyma'r fel y gwisgai'r gwahanol urddau hyn. [O'r Monasticon, Dugdale.] Tudalen 264
VALLE CRUCIS: Darlun o'r Abaty fel yr oedd yn y 18fed ganrif. Gwnaed y darlun hwn yn 1776. Tudalen 268
BRAS GYNLLUN O FYNACHLOG SISTERSIAIDD. Tudalen 271
TINTERN (y Ffenestr Ddwyreiniol): Rhydd y darlun hwn o un o gampweithiau yr oesau canol syniad da i ni am geinder adeiladwaith y 13eg ganrif. Sylwer fel y mae'r pileri wedi colli y praffter a'r pwysau oedd iddynt mewn adeiladau Normanaidd, ac fel y neidia y bwa maen o'r piler rhanedig fel pe byddai wialen blygedig. Y mae'r ffenestr yn 60 troedfedd o uchder ac yn ffodus fe erys y post canol ar ychydig o'r rhwyllwaith godidog a gyfansoddai ei fwa. Tudalen 274
TINTERN (y Ffenestr Orllewinol): Y mae mwy o'r rhwyllwaith yn aros yn y ffenestr hon ac edrych mor llednais bron a phe byddai waith edau a nodwydd. Tudalen 278
YR ABAD DAFYDD AB OWAIN: Darlun o Abad Ystrad Marchell a Chonwy yn ei wisg fel Esgob Llanelwy. Daeth yn Esgob Llanelwy yn 1503, ac yno y mae ei gerflun. Diddorol sylwi fod ei ragflaenydd, Dafydd ap Iorwerth, cyn ei wneud yn esgob yn abad Glyn y Groes. Gan fod y Palas yn Llanelwy wedi ei lwyr ddinistrio yn ystod cyfnod gwrthryfel Glyn Dŵr, parhaodd yr abadau i fyw yn eu Habatai yn ystod eu tymor fel esgobion. Ond ymrodd yr Esgob Owain i ail adeiladu'r Palas. O'r Mont. Coll.", VI, 361. Tudalen 280
GOODLY PAIR OF ORGAYNES: Gwêl tudalen 284. O'r Utrecht Psalter, 1130- 1174 [Bloc gan Mri. Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 283
PAX BREDE Arferai'r cymunwyr yn yr eglwys fore, ar ôl gwasanaeth yr offeren, gusanu ei gilydd yn unol â gorchymyn yr apostol—"Annerchwch y naill a'r llall â chusan sanctaidd" (Rhuf. xvi, 16), ond yn lled gynnar fe dyfodd yr arfer o gusanu rhyw wrthrych arbennig. Panel bychan ac arno ddarlun o'r Croeshoeliad, o'r Drindod, o'r Fair Fendigaid, neu rhyw un o'r apostolion a fyddai y Pax Brede neu'r Pax Boarde yr Ystyllen Heddwch. Yr oeddynt yn gyffredin iawn yn y 15eg ganrif. O'r B.M. Guide to Med. Antiquities, p. 210. Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 285
Y WISG DDUR: Ceir darluniau o'r llafnau yn y Bayeux Tapestry, ond nid oes sicrwydd mai llafnau dur oeddynt. Tybia rhai mai darnau o ledr ydynt wedi eu gwnio ar y wisg, tra y myn eraill mai modrwyau dur ydynt, ac mai dyma'r ffordd o'u dangos mewn gwaith edau a nodwydd. Cafwyd y modrwyau dur, a ddengys yn glir iawn y modd yr asid y modrwyau yn ei gilydd, mewn bedd yng Nghaerloyw. Tudalen 289
ARBLAST NEU FWA CROES: O'r 12-14eg oedd cyfnod y bwa croes, ac fe'i hystyrid yn erfyn mor annynol fel y pasiodd cyngor Lateran (1139) na ddylid ei ddefnyddio gan Gristnogion. Tudalen 293
PLAS YN DINAS, LLANSANTFFRAID YM MECHAIN: Nid oes yn aros bellach ond y domen lle y safai Plas "Ian de Galles" gynt. Tudalen 299
SYR JOHN LE BOTILER, C. 1285: Oddi ar ei garreg fedd yn Eglwys St. Bride, Sir Forgannwg. Enghraifft ddiddorol iawn o farchog wedi ei wisgo o'i gorun i'w sawdl mewn gwisg o mailles, hynny yw o ddolennau o ddur wedi eu gwau yn ei gilydd. Nid ymddengys oddi wrth y darlun fod unrhyw doriad rhwng y camail—y benwisg, a'r hauberk, yr adran oedd yn cuddio y corff, nac ychwaith rhwng yr adran honno a'r llodrau—chausses; ond rhaid bod un yn rhywle neu ni allsai gŵr ei rhoi amdano. Edrych yn y darlun fel pe bai yn un gwnïad drwyddi. Dros y wisg ddur ceir surcot laes. Ar y cyntaf ni chyrhaeddai y surcot yn is na'r penglin, ond erbyn diwedd y 13eg ganrif yr oedd wedi llaesu ac fe'i cwtogwyd yn ddiweddarach. Wrth gwrs, yr oedd gwisg arall o dan y wisg ddur a adwaenid fel y gambeson. Gwisg o ryw ddefnydd arall fyddai honno, wedi ei chwiltio a'i llenwi â gwlân neu rywbeth cyffelyb, ond nid oes argoel ohoni yn y darlun hwn. Sylwer ar y cwpanau ar y darian, ac ar y benwisg fel awgrym o darddiad yr enw. Am gopi gwel" Archaeologia Cambrensis," 5th Series, VII, td. 104. [O Cutts Manual of Sepulchral Slabs and Crosses," Platexxxii.] Tudalen 300
CERFLUN O FARCHOG CYMREIG A'I ENW AR YMYL EI DARIAN: Y mae'r arysgrif yn aneglur bellach, ond dywed Pennant mai" Hic jacet Edwart oedd y geiriau, a thybiodd ef a llawer ar ei ôl mai cerflun Iorwerth Drwyndwn oedd; ond fel y dengys Dr. Lloyd, ym Mhenmachno yr huna Iorwerth, ac mae'n bosibl mai un o ddisgynyddion Rhiryd Flaidd oedd hwn. Lloyd II, 550, Note 69. Yn eglwys Pennant Melangell y mae'r cerflun. O'r "Arch. Cambrensis," V, XI, p. 142. Tudalen 302
CERFLUN YN EGLWYS TREFALDWYN: Cerflun o ŵr wedi ei wisgo yn arfogaeth dechrau y 15eg ganrif. Am y pen ceir helm mwy neu lai pigfain wedi ei haddurno a thorch o flodau yr orle. Ni ddaeth yr orle i arfer gyffredin hyd chwarter cyntaf y 15eg ganrif. Am y gwddf ceir y camaille, gweddill yr hen wisg o wead dur wisgid am yr holl gorff unwaith fel yng ngherflun Botiler. Gorchuddir y corff â phlatiau dur, ac mae menyg dur am y dwylaw. Gorffwys y pen ar helm arall— dyma'r helm a ddefnyddid yn yr ymrysonau cyfeillgar—twrnameint— ac ar ben honno y mae tusw o blu yn codi allan o goron. Dyma ran o beisarfau y Mortimeriaid: "Mortimer beryth to his crest a bushe of blewe fethers in a crowne gold manteled asur doubled silver." (Arch. Cam., June, 1925, 75).
Gorchuddir y corff gan blatiau dur a thros y rheini y mae siaced (jupon) yn ffitio yn dynn am y canol, yn ôl arfer y cyfnod; ar hon y mae darlun o darian y teulu, ac ar draws y darian y mae band croes (bend neu bendlet) yn arwyddo er fod y gŵr o linach y Mortimeriaid, nad y fo oedd yr aer. Ceir awgrymiad i'r un cyfeiriad ar grib yr helm, meddai Mr. W. J. Hemp (Arch. Camb., ibid., td. 77), ond nid yw yn amlwg yn y darlun, ac ar gyfrif hyn tybia Mr. Hemp y dichon mai cerflun Syr Edmund Mortimer, mab yng nghyfraith Glyn Dŵr, yw. Y mae'r wregys (baudrich) wedi ei haddurno'n wych, ond y mae'r cleddyf oedd ynghrog wrthi wedi torri. O'r "Mont. Coll.", VI, 435— Tudalen 304
CERFLUN RHIWABON: Cerflun o John ap Elis Eyton, a fu farw yn 1526. Ar yr un beddfaen ceir cerflun o'i wraig, Eliz. Calfley, a fu farw yn 1524.
Sylwer nad oes helm am ben y cerflun hwn, ond ceir rhywbeth tebyg i gapan neu benwisg wedi ei gwiltio a'i lenwi â gwlân neu rywbeth cyffelyb, rhag i'r helm wasgu a dolurio'r pen. Ar wahân i hyn, y mae'r gwrthrych wedi ei ddilladu yn gyfangwbl mewn platiau dur. Ond o graffu ar y darlun, gellir gweld fod yr hen wisg o wead dur yn cael ei gwisgo eto. Daeth yn ei hôl ar ôl bod allan o'r ffasiwn am ryw ysbaid o gan mlynedd. Gellir ei gweld wrth y gwddf a hefyd yng ngodre'r wisg. Edrych fel pe byddai amddiffyniad i'r gwddf (neck guard), yn rhwym wrth y platiau a orchuddiai'r ysgwyddau. Sylwer ar y modd cywrain y gweithid y menyg. Byddai llun o'r ewinedd, fel rheol, wedi ei dynnu ar y dur. Y mae'r esgid o ddur, ond à thrwyn yn grwn ac nid yn bigfain fel y bu. Nodweddir y wisg hon, yn anad dim, gan y platiau dur (tuilles) sydd yn hongian wrth y wregys ac yn diogelu'r gliniau, ac o graffu gellir gweld y modd y crogid hwy. Y mae'r gwregys oedd ar waelod y wisg—y baudrich (gweler cerflun Trefaldwyn)—wedi diflannu, a chrogir y cleddyf wrth wregys groes sydd yn gorffwys ar y glun dde. Sylwer fel y mae honno wedi ei haddurno yn ogystal a'r dorch sydd am ei wddf. Yn crogi wrth y torch ceir Rhosyn y Tuduriaid. Bu Eyton yn ymladd ym Mosworth, ac yr oedd o linach Tuduriaid Trefor ei hun. O'r Ancient Monuments Inventory," Denbigh, 177. [Bloc gan yr Office of Works.] Tudalen 306
MILWR CYMREIG Sylwer ar y bwa hir, ond prin, hwyrach, y rhydd y darlun i ni syniad clir iawn am rym yr arf hwnnw. [O'r Chapter House, Liber A, P.R.O.] Tudalen 308
CASTELL Y DRE WEN, CROESOSWALLT: Cartref Ffwg Fitzwarin, a saif yng nghanol pentref Whittington. Tudalen 312
CASTELL CARREG CENNIN: Castell a godwyd gan Dywysog Cymreig. Cymharer ei safle ag eiddo Castell Dinas Brân. Saif y castell hwn ar ben craig serth a ymgyfyd o un o'r dyffrynnoedd sy'n ymagor allan of Ddyffryn Tywi. Tudalen 314
CASTELL RICHARD, A SYCHARTH: Castell Richard yw un o'r cestyll Normanaidd hynaf yn y wlad, ac achosodd ei godi ar ororau Cymru gryn bryder i frenhinoedd y Saeson. Saif y castell yn swydd Henffordd, ar gyrion Sir Amwythig, heb fod nepell o Lwydlo. Adeiladwyd y Castell gan un Richard Fitzscrob yn nyddiau Edward Gyffesydd, ychydig flynyddoedd cyn y Goncwest. Nid oes wybod pa bryd yr adeiladwyd Sycharth, ond fe'i llosgwyd gan Dywysog Cymru yn 1402. Sylwer fel y mae'r tywysog Cymreig wedi mabwysiadu'r cynllun Normanaidd, ond gyda'r datblygiadau diweddarach, yn enwedig y Beili. [O Clark "Med. Mil. Arch." II, td. 402. Plan Sycharth yn sylfaenedig ar fesurau gymerwyd yn y lle.] Tudalen 316
CASTELL BIWMARES: Un o'r enghreifftiau gorau o'r castell cynghreiddiol a feddwn. Codwyd y castell ar forfa ym min y môr, ar draeth de— ddwyrain Môn, fel nad oes dim yn fanteisiol yn ei safle. Ar y llaw arall, cafodd yr adeiladydd bob rhyddid i'w gynllunio fel y mynnai heb gael ei lyffetheirio gan anfanteision y lle. Dibynnai nerth castell yn y fath le yn gyfangwbl ar ei gynllun, ac o ganlyniad perthyn i'r cynllun hwnnw unoliaeth ac unffurfiaeth nas ceir yng nghastell Conwy neu Gaernarfon. Mewn gwirionedd, y mae'r cynllun yn un hynod syml. O'r tu fewn ceir adeilad sgwâr yn mesur rhyw 50 llath bob ffordd, a thwr crwn ym mhob congl iddo, a thwr hefyd yng nghanol y mur dwyreiniol a deheuol, a dau dwr yn gwylio pob un o'r ddau fynedfa ym mur y gogledd a'r de. Y mae muriau yr adeilad hwn o 40 i 50 troedfedd o uchder. Y tu allan i'r adeilad hwn ceir mur arall a ffurfia fath o gylch wythonglog, gyda thwr ym mhob congl, yn ogystal à thwr ar ganol bob mur fel gyda'r adeilad sgwar o'r tu fewn. Nid yw y muriau hyn cyn uched o lawer â muriau'r adeilad o'r tu fewn. Adeilad sgwâr oddi fewn i adeilad wyth ochrog, yr oll wedi ei amgylchu gan ffos o ddŵr. Dyna yn fyr y cynllun cynghreiddiol fel ei gwelir ym Miwmares. [O "Clark Med. Mil. Arch," I, 215.] Tudalen 320
CASTELL CAERFFILI: Dyma'r castell eangaf yng Nghymru: dywedir ei fod yn sefyll ar 30 acr o dir. Y mae hefyd yn un o'r rhai perffeithiaf o ran ei gynllun, er, feallai, nid yw'r cynllun lawn mor amlwg ag yw ym Miwmares.
Dechreuwyd ei adeiladu gan Gilbert, Iarll Caerloyw, yn y flwyddyn. 1267. Yr oedd Gruffydd, arglwydd Cymreig olaf Senghenydd, wedi syrthio i ddwylo Gilbert ychydig cyn hyn, a phenderfynodd yntau y rhôi ben am byth ar ymosodiadau y Cymry ar ei diriogaethau ef trwy godi'r castell hwn yng Nghaerffili. Y mae'n wir i Llywelyn y Llyw Ola ymosod ar y castell pan oedd Gilbert ar ganol ei adeiladu a'i dynnu i'r Ilawr. ond yr oedd wedi ei gwblhau erbyn 1272.
Nodwedd fawr Caerffiili yw bod y castell wedi ei godi yng nghanol llyn o ddŵr, a rhydd Clark inni ddarlun ohono fel y tybiai ef yr ymddangosai pan amgylchid ef gan ddŵr. Saif yr adeilad ar wddf o swnddir a ymestynai i ganol hen gors mewn pantle ar gwrr Dyffryn y Rhymni, a throwd y gors yn llynnoedd trwy gaethiwo dyfroedd Nant y Gledyr. Mesurai y naill tua 13 acr a'r llall rhwng 1 a 2 acr. ynys hon yng nghanol y llyn codwyd adeilad sgwâr gyda thŵr ym. mhob congl iddo, a dau dŵr i wylio'r fynedfa fel ym Miwmares. Ar yr allan i'r mur hwnnw ceid mur arall, sgwâr, ond â thipyn o fwa yn ei chornelau yn amgylchu y gyntaf. A thu allan i hynny drachefn ceid y ffos a'r llynnoedd. Ond ar yr ochr lle y ceir y prif fynedfa ceir mur ardderchog, rhyw 250 llath o hyd ac o 20 i 60 troedfedd o uchder i ddiogelu'r llyn. Y tu ôl i'r mur hwn ceir y felin ac adeiladau eraill, ac yr oedd rhaid cael mur o'r fath er diogelu y llynnoedd a'r argae. Ar yr ochr gyferbyn ceir adeiladwaith arall i ddiogelu yr adran honno o'r adeilad. Diau i'r castell cryf, ardderchog, hwn ddylanwadu ar gynlluniau cestyll Edward yng ngogledd Cymru. [O "Clark Med. Mil. Arch," I, 320.] Tudalen 324
CASTELL GOODRICH Enghraifft ragorol o'r Tŵr Sgwar Normanaidd. Perthyn y tŵr sgwar hwn—yr adran hynaf o'r castell—i gyfnod Harri'r 1af. Saif y Tŵr mwy neu lai ar wahân i'r castell a godwyd yn ddiweddarach o'i gwmpas, ac nid yw yn gysylltiedig à muriau'r adeilad hwnnw, fel y mae yr arfer bron ym mhob enghraifft arall. Sylwer fod y drws nid ar y llawr, fel y mae heddiw, ond ar lofft ac ysgol neu risiau, y gellid eu codi os y byddai galw am hynny, yn arwain iddo. Yn ddiweddarach y torrwyd y drws a welir ar lawr ac y gwnaed y ffenestr o'r llall. [Darlun gan y Stationery Office.] Tudalen 328
CASTELL CAERDYDD y Domen a "Shell Keep" arni. Saif y domen rhyw 32 troedfedd uwchlaw arwynebedd lawnt y castell. Mesur ei chorun tua 108 troedfedd ar ei draws, ac ar y llwyfan hwnnw adeiladwyd tŵr deuddeng ongl a fesura tua 80 troedfedd ar ei draws. mur yn 9 troedfedd o drwch ac yn 30 o uchter. Y mae'n bosibl fod Y mae'r yma dŵr sgwar, fel yn Goodrich, cyn i'r tŵr presennol gael ei adeiladu yn y 13eg ganrif. Adeilad coed, mae'n ddiau, a godwyd gan Robert Fitzhamon. Yr oedd hynny, fel y tybir, tua 1090, er y dywed yr Annales Cambriae a Chronicl Margam iddo ddechrau ei adeiladu yn 1080 ac i'r adeilad cyntaf syrthio yn 1081. Diddorol yw cofio fod caer Rufeinig yn sefyll ar y lle a ddewiswyd gan Robert i godi castell arno. Cododd fur ar draws canol y gaer i'w thorri yn ddwy, ac yn yr adran orllewinol cododd y Domen a erys hyd heddiw. O" Short History of English People," p. 312. [Bloc gan Mri. Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 334
LLIDIART Y BARWN: Darlun o'r fan, fel y maentumir, lle y lladdwyd y Barwn Owen. Gwêl td. 346. Tudalen 338
Y PISTYLL, LLEYN: Llety Fforddolion yn yr oesau canol. [Darlun gan R. J. Jones, Fferyllydd, Nefyn.] Tudalen 343
AR Y FFORDD I GAPEL FFYNNON FAIR, ENLLI. O'r Arch. Cam.", VII, VI, 341. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynaf. Cymru.] Tudalen 349 MAWDDWY. [O ddarlun gan D. Cor.] Tudalen 352
TY SHERAR O dan y Wyle Cop, Amwythig. Un o dai nodweddiadol y cyfnod yn yr Amwythig. "Thomas Sherar being an alderman of the town of Salop and born in the same and of long time belonging to the Council (in the Marches of Wales) being one of the chiefest clerks in the same, so also the keeper and Registrar of the works and chief examiner of deep causes." Yn ei ysgubor ef yr ymguddiai lladron oedd a'u bryd ar ymosod ar farsiandwyr Cymru pan ar eu ffordd i'r Amwythig. Gwêl td. 206. Tudalen 354
HEN WTRA Darlun o'r hen ffordd o Lanrhaeadr ym Mochnant i Lan- gynog. Saif yr hen wtra erbyn hyn rywle tua 12 troedfedd islaw arwynebedd y tir o'i chwmpas. Bwrid ychydig gerrig yn achlysurol i'r hen ffyrdd hyn, pan fyddai yn adeg hel cerrig ddechrau haf. Ar wahân i hynny, gadewid iddynt fynd yn is flwyddyn ar ôl blwyddyn. Tudalen 358
PULPUD Y PRYD BWYD, AMWYTHIG: Saif yr hen bulpud diddorol hwn o fewn ychydig lathenni i Stesion Rheilffordd yr S. & M., Amwythig. ar draws y ffordd o'r Abaty. Y mae cymdeithas hynafiaethol y sir yn ddiweddar wedi cau o'i amgylch. Nid oes yr un ohonynt i'w cael yng Nghymru, ond gellir gweld y grisiau oedd yn arwain i fyny i'r pulpud ym Maesglas a Glyn Nedd a Thintern. Tudalen 360
DIAGRAM GWAEDU: Diagram o'r corff dynol ac arno arwyddion y Sidydd (Zodiac), ynghyda chyfarwyddiadau ynglŷn â'r amser priodol i waedu gwahanol adrannau'r corff. [Darlun gan y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.] Tudalen 362
GŴR GWAHANGLWYFUS YN CROESI'R STRYD: Sylwer ar y clapiedydd yr oedd y claf yn rhwym o'u curo yn ei gilydd er mwyn i bobl wybod ei fod yn dod.
Allan o ddarlun Ffrengig o "Dives a Lazarus," MS. No. 19, f. 70 (Thompson). O gasgliad y diweddar Henry Yates Thompson, trwy ganiatâd Mrs. Thompson. [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 369
GWELY TYDDYNNWR: Dengys hwn, a berthyn i'r 15eg ganrif, fod cryn ddatblygiad wedi bod er adeg Gerallt.
Darlun gan y Librairie Centrale des Beaux-Arts, o Bouchet Exposition des Primitifs français." [Bloc gan Wasg Rhydychen.] Tudalen 371
CWPL HAFOD YSBYTY: Hen Ffermdy ym mhlwy Ffestiniog oedd yn perthyn i'r ysbytywyr unwaith. Dengys yr hen gwpl fel y parhaodd yr hen ddull o adeiladu y sonia'r cyfreithiau amdano i gael ei ddefnyddio trwy gydol yr oesau canol. Mae ugeiniau o'r hen gyplau hyn i'w gweled mewn hen ysguboriau ym mhob rhan o Gymru. Tybir i'r Hafod gael ei hadeiladu tua chanol y 14eg ganrif. [Darlun gan Mr. G. J. Williams o'i "Hanes Plwyf Ffestiniog."] Tudalen 377
SEL YSGOL Y BRODYR BANGOR: Sylwer ar y Palmer.
O "History of Friars School, Bangor," gan Jarvis and Foster, Bangor. [Bloc gan Mr Foster, Bangor.] Tudalen 380
PALMER: Dyma wialen ysgol yr oesau canol, ac anaml y ceir darlun o ysgol yn y cyfnod hwnnw nad oes gan yr ysgolfeistr Palmer yn ei law. Y mae'n wir y byddai ganddo wialen fedw hefyd yn y llaw arall, fel y gellir gweld ar sel Ysgol y Brodyr, Bangor. Gelwid e'n palmer, mae'n debyg, am y defnyddid ef i daro cledr y llaw. "Wherewith schoole boyes are strooke in the palms of their hands," meddai un Geiriadur wrth roi deffiniad ohono. Adwaenid ef weithiau hefyd fel ferule, o'r Lladin ferio taro mae'n debyg. Deuwyd o hyd i hwn y tu fewn i'r plethiad gwiail yn Eglwys Melverley, yn gorffwys ar un o'r coed. Mesura'r naill gylch tua modfedd ar ei draws, a cheir croes ar bob ochr iddi. Mesura'r llall rywle tua 2½ ar ei thraws. Ceir ymgais at addurno'r goes. Tybir mai i'r 17eg ganrif y perthyn y wialen hon. O'r Mont. Cole. XIV, 335. Tudalen 384
PEN GERALLT GYMRO. O'r "Anc. Mon. Inventory," County of Pembroke, 350. [Bloc gan Wasg Prifysgol Rhydychen.} Tudalen 392
ANIFEILIAID YR YNYS WERDD: Ysgrifennodd Gerallt, ymysg pethau eraill, lyfr ar ddaearyddiaeth yr Ynys Werdd (Topographia Hibernica), a thynnwyd darluniau gogyfer a'r llyfr gan un o'i gyfoeswyr. ffodus, y mae'r darluniau ar gael mewn llawysgrif yn yr Amgueddfa Brydeinig, ond nid yw'r darluniau a'r hyn ddywed Gerallt bob amser yn cydredeg â'i gilydd. Dyma restr o'r anifeiliaid a'r adar fel y maent yn y darlun Llwynog, dwy lygoden fawr, blaidd, gwyddau, afanc, bele'r coed, twrch dacar, yr hydd, chwibon du (stork), pysgodyn rhyfeddol a geid yng Ngharlingford a chanddo dri dant aur, y creyr glas, y pry llwyd, y wenci, ewig, dau las y dorlan yn sefyll ar feillionen samrog, pryf copyn, neidr, llygoden. O'r rhain dywed Gerallt yn bendant nad yw yr afanc,y twrch na'r neidr i'w cael yn yr Ynys Werdd. O'r "MSS. Royal," Royal 13, B. VIII, B.M. [Bloc gan Mri. Macmillan a'i Gyf.] Tudalen 394
LLANDAF Y talcen gorllewinol. Sylwer ar y datblygiad diddorol a geir yma o'r drws hanner Normanaidd sydd a'i fwa crwn megis yn ymestyn i gyfeiriad y datblygiad nesaf, sydd i'w gael, fel y digwydd, yn y ffenestr lansed wych uwchben. Perthyn y datblygiad hwn i'r 13eg ganrif. Tudalen 405
Y FORD GRON O'r neuadd drefol yng Nghaerwynt. Yn ôl traddodiad, dyma'r Ford ddefnyddid gan Arthur a'i Farchogion gynt. Tudalen 407
ARTHUR A'I FARCHOGION. O'r "Histoire illustree de la Literature francaise," Librairie Hachette, Editeur Lanson, trwy ganiatâd M. M. Hachette & Co., Paris. [Bloc gan Wasg Prifysgol Rhydychen.] Tudalen 419
LLYFR GWYN RHYDDERCH: Copi o'r Mabinogion a Rhamantau eraill a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1350, er ei fod yn bosibl fod rhai adrannau o'r chwedlau wedi eu hysgrifennu cyn 1300. Tybir fod rhai adrannau o'r Llyfr Gwyn yn gynnyrch Mynachlog Ystrad Marchell. (Gwel Atodiad B, td. 434) [Darlun gan y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.] Tudalen 422
LLYFR DU CAERFYRDDIN: Y Llyfr Du yw'r llawysgrif hynaf yn yr iaith Gymraeg. Wedi ei ysgrifennu ar groen ym Mhriordy Caerfyrddin, yr adran hynaf ohono cyn y flwyddyn 1195. (Gwel Atodiad C, td. 436.) [Darlun gan y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.] Tudalen 424
Y FYNEDFA I'R FFREUTUR, CAERDYDD: Darlun o'r Fynedfa i Dŷ'r Brodyr Llwydion, Caerdydd. O ddarlun gan Mr. S. S. Robinson, Pensaer Caerdydd. Tynnwyd y darlun cyn i'r adeilad gael ei dynnu i lawr, a cheir copi ohono yn y Cardiff Records, Vol. V, td. 497. Tudalen 427
ENGHRAIFFT O LAWYSGRIF GYMRAEG O DYDDEWI. Enghraifft dlos o lawysgrif y canol oesau wedi ei chodi o Psallwyr Lladin ysgrifennwyd gan John Sulien, brawd Rhygyvarch Esgob Tyddewi. Y mae'r llyfr diddorol hwn yn Llyfrgell Coleg y Drindod Dulyn. Wedi ei ysgrifennu ar groen, mesura'r llyfr rhyw 6" x 4" ac y mae'n 1" o drwch. Cynnwys pob tudalen 24 llinell. Y mae wedi ei ysgrifennu mewn llythyren fân yn null ysgrifenwyr Tyddewi. Y mae'r prif lythrennau wedi eu hardduno a'u lliwio yn y gwreiddiol. O'r "Arch. Cam.", I, 117. [Bloc yn fenthyg gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru.] Tudalen 430
{{nop}]










ARGRAFFWYD
YNG NGWASG HUGHES A'I FAB
WRECSAM

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.