Cymru Fu/Cader Idris

Oddi ar Wicidestun
Taliesin Ben Beirdd Cymru Fu
Cader Idris
gan Isaac Foulkes

Cader Idris
Y "Wlad" a "Syr Oracl"

CADER IDRIS.

PRIN y rhaid hysbysu mai mynydd uchel yn sir Feirionydd ydyw Cader Idris. Ar ei grib uchaf y mae toriad yn y graig ar ffurf cader, lle, yn ol traddodiad, y byddai Idris Gawr yn myfyrio seryddiaeth, ac yn olrhain dyrys ddeddfau ac ordinhadau y llu wybrenol. Gosodir y gŵr hwn allan yn y Trioedd, gyda Gwydion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o "dri gwyn Serenyddion ynys Prydain," gwybodaeth pa rai o ddeddfau natur oedd y fath fel y gallent ragfynegi yr hyn a ddygwyddai hyd ddydd Brawd. Pa un ai oherwydd fod iddo gorff anferth o faint, ynte oherwydd ei fawr wybodaeth a'i athrylith, y gelwid ef yn "Gawr," nis gwyddom. Dywed un hanesydd y byddai yr hen Gymry yn galw dynion gwybodus a dysgedig yn gewri; ac y mae yn arferiad genym hyd y dydd hwn alw ein pregethwyr dyfnion, a'n hysgrifenwyr galluog, a phobl y teitlau, yn ddynion mawr, er na byddant ond rhyw erthylod ysgeifn, llwydion, llathen a haner o daldra; a galw dynion dienaid ac anwybodus yn gorachod, er eu bod ddwy lath o hŷd yn nhraed eu hosanau. Mae yn ddiameu fod Idris yn gawr o'r dosbarth cyntaf, gan y sieryd hanesiaeth mor uchel am ei ddysg; a myn y wlad gredu ei fod yn gawraidd o gorph hefyd, a dygir engraifft nerthol iawn yn mlaen i brofì hyny: — Y mae tri o feini mawrion, pob un ohonynt yn amryw dunellau o bwysau, heb fod nepell o'r mynydd hwn, eilw pobl yr ardal yn "Dri Graienyn," am i Idris, pan ar un o'i deithiau, eu teimlo yn ei esgid, ac wedi ei thynu oddiam ei droed, efe a'u bwriodd yn y fan hono. Darnau anferth ydynt wedi syrthio o'r graig gerllaw. Yn eu hymyl y mae llyn o ddwfr a elwir, "Llyn y Tri Graienyn."


Oddeutu blwyddyn yn ol, ymddangosodd yr hanesyn canlynol yn un o gyhoeddiadau goreu ein cymydogion; a chan ei fod yn dal cysylltiad â thraddodiad poblogaidd am y Gader, ac mor briodol i ansawdd y llyfr hwn, rhoddwn efelychiad ohono yma: —


"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn a breswylid gan ddarn o ŵr boneddig o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd ŵr gweddw ar y pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuangaf, yr hon, er mwyn hwylusdod, a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thâd, gan mor debyg ydoedd i w diweddar fam, â'i brodyr a'i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog arianaidd, a'r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd.


Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhyw dlws daearol arall; ac os gweddus adrodd ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy ëon a phenderfynol.


Un haf, daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o Loegr, gŵr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad i hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr, dyweddiwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac i weled blwyddyn cyhyd ag oes un o'r tadau cynddiluwiaidd; ac er fod amser fel pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddysgwyliedig i ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru, i syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn benaf oll, i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei dyb orphwydlog ef, yr oedd Cymru wedi ei chreu, fel blwch ardderchog i gynwys y diemwnt gwerthfawr. Nid oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill at y llall; eithr i'r gwrthwyneb, yr oedd yn fwy angerddol, a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd hyny ei syniadau am dani — ystyriai ei beiddgarwch yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd yr wythnos gyntaf o ymweliad Griffin mewn rhodiana hyd fryniau a llechweddau yr ardal, a dawnsiai Gwenlliw ar grib clogwyn ag na buasai gafr yn meiddio sangu arno; hi chwareuai ar geulan rhuadr ag y buaesi llithiiad ei throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i'r aig trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn rhedeg yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiasent ei darbwyllo o'r perygl, ni buasai hyny ond chwanegu ei beiddgarwch.

Ar ol treulio diwrnod yn un o'r ymgyrchiadau hyn, yn yr hwyr cydeisteddai y cwmni oddeutu y tân, a thrôdd yr ŷmddyddan ar Draddodiadau Cymreig. Yn mhlith eraill, dygodd Gwenlliw y traddodiad am Gadair Idris gerbron, sef, fod i bwy byuag a dreuliai noson yn y Gader fod naill ai "yn wallgof, yn fardd, neu yn farw," erbyn tranoeth. Dywedai ddarfod i Taliesin a Merddyn fyned trwy y prawf llymdost, a dyfod i lawr o'r mynydd yn y bore yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes "Pen- defiges y Gader," yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyffesydd a'i chyfeillion ei pherswadio o annoethineb ei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio, yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson apwyntiedig, gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus hono ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani bore dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du sidanaidd yn erbyn ceryg llwydion y Gader; a'r difrifohleb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu, oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlynlad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o geryg ar lechwedd y mynydd.


Wedi adrodd y prudd-hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro annghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf galar geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wedyn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro hono Mrs. Hemans.


Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fynu gan "Hanes Pendefiges y Gader" — ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu. Ond nid felly am y gweddill o'r cwmni; un a'i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb wirionffol; ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymrieg, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl. Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Griffn holl felysion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a'i hanerchodd — "Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir;" ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd. O hyny allan, ni addurnodd gwên wyneb hawddgar Gwenlllw; hi ddrychai yn synedig, fel pe buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig.


Yna daeth adeg y " Nos da'wch," ac "Am y cynta' i lawr yn y bore," ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gweulliw am ei hystafell wely. Nid oedd meddwl Griffin chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd yn gwadu un o hoff dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a dynodd ei sylw wedi cyrhaedd o hono i'w ystafell, ydoedd chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi llen y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa gyffrous, a diolchai mai yn ystafell wely gysurus y Talglyn yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei suo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd, yn crwydro o'r naill fangre i'r llall, a chrëu mil myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus. Ond y lle yr ymsefydlai arno yn fwyaf neillduol oedd Cader Idris. Breuddwydiai ei fod yn crwydro hŷd ei chopa yn mhlith y ceryg mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a'r aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn wâg. Eisteddai ynddi un o ymddaugosiad fenywaidd. Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos; a'i gwallt rhydd yn ymdoni o faen yr awelon, ac un llaw iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd. Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buasent yn eu malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch fflamllyd gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, ac wed'yn disgynent yn îs, gan dailu eu gwawl brwmstanaidd ar y druanes a eisteddai ei hunau yn nghanol cynddaredd yr elfenau. Yna, ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth ar ben y mynydd — yn gesair hyrddiedig gan wynt, a'r ffurf welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan.


Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion o ia yn llithro heibio yn nghanol lluwchfeydd gwlaw a chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn datguddio gwynebpryd geneth ieuanc — gwyneb Gwenlliw! — mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw, fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau mawrion o chwys yn crogi ar ei ddwy ael. Bu yn myfyrio am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore braf — yr awyr yn las, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau, gwelwyd fod Gwen yn absenol.


"Anfynych y mae hi yn olaf," ebe ei thad, "anfonwch ei llawforwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani." Daeth y forwynig yn ol, gan ddweyd fod drws ei hystafell yn gloedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb gael un ateb.


Synasant at yr hysbysiad hwn; aethant oll i fynu ar frys, yn cael eu blaenori gan y penteulu; yr hwn a alwodd wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig, "Gwen! Gwenlliw, fy anwylyd." Dim ateb. Torwyd y ddor, ac yr oedd yr ystafell yn wâg, y ffenestr yn agored, a darn o riban ar yr astelch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwenlliw; a chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei "hymdaith. Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un o honynt ar lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn syndod, nid ynganai air am enyd wrth neb.


"Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystorm," ebai y ferch henaf. "Neithiwr! yn yr ystorm!" ebai ei thad o'r diwedd, "rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof; neu ai tric ydyw y cwbl? na, ni feddai hi galon allai gellwair yn y dull yma."


Tra yr oedd y syfrdandod a'r penbleth hwn yn parhau, ymsaethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin gyda nerth a chyflymdra un o'r mellt a welsai yn nghwsg — ei freuddwyd — yr ymryson yn nghylch "Pendefiges y Gader," a'r penderfyniad diysgoghwnw yn argraffedig ar ei hwynebpryd pan ymadawodd efe â hi y noson flaenorol.


"Mi wn i ynmh'le y mae hi," meddai, "ar y mynydd! ar Gader Idris yn wallgof neu yn farw cyn hyn! a minau, hurtyn, fu'r prif achos i'w hanfon yno!"


"Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon iddi fod yno ? Anmhosibl!" ebai y tad.


"Mae hi yno," atebai Griffin, ac argyhoeddiad dwfn o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais. "Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf llymidost o dreulio noson yn y Gader; a minau yn cysgu tra yr oedd hi yn marw yn y dymestl. Dilynwch fi yn ddioed; a dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad yw o drugaredd, yn rhy hwyr."


Llefarai gyda'r fath awdurdod fel y lladdodd bob gwrthwynebiad yn y fan, a chyn pen pum' munud yr oeddynt yn prysuro at odrau y mynydd. Efe a'u blaenorai hwŷnt oll; yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed a'r ewig buan. i fynu hyd y ceryg rhyddion, heibio i'r twmpathau eithin a'r llwyni grug, heibio i'r ffrydiau sidellog a'r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig latheni islaw y Gader. Sylweddolwyd ei freuddwyd. Yno yn ei gwisg o fuslin a'i mantell fraith, wedi eu llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gweulllw, mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain wedi eu tŷn blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w fynwes mewn dull haner gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni — yr un argraff o gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddo gan ei ddychymyg mewn breuddwyd. Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y llygad gloew bywiog megys wedi sefyll gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys y plwyf, — lle beddrod estroniaid, a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a doiai ar ddystawrwydd y seremoni, hyd oni ddiaugodd y geiriau hyn o enau y tad : — " Gwyn ei fyd y pur o galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan "Amen" pawb oedd yn bresenol. Teimlai Griffn ei galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd. Daeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i amgylchiadau byth eu dileu.