Cymru Fu/Edmund Prys, a Huw Llwyd o Gynfal

Oddi ar Wicidestun
Hen ddefod gladdu Gymreig Cymru Fu
Edmund Prys, a Huw Llwyd o Gynfal
gan Isaac Foulkes

Edmund Prys, a Huw Llwyd o Gynfal
Y Tylwyth Teg

EDMWND PRYS, A HUW LLWYD O GYNFAL.

(GAN CYNDDELW.)

Yr oedd y ddau -wr enwog yma yn gyfeillion mawr yn eu dydd, ac yn meddwl yn uchel iawn am eu gilydd. Mae Edmwnd Prys yn cyfarch Maentwrog ar farwolaeth Huw llwyd yn y modd yma: —

Ni chleddir, ac ni chladdwyd,

Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd.?

Yr oeddynt eill dau, yn ol chwedlau yr hen oesoedd, yn enwog am "godi cythreuliaid," "hud a lledrith," a phob arddangos. Un tro, ar ddy'gwyl ffair Maentwrog, yr oedd Huw Llwyd mewn tafarn yn yfed, a gwelodd yr Archddeon Prys yn cerdded yr heol; yna, rhoddodd ei ben allan trwy y ffenestr, a galwodd arno i mewn i gael rhan o'r gyfeddach. Eithr ni fynai'r gwr eglwysig ymostwng i hyny, a digiodd yn hytrach wrth Huw Llwyd am ei hyfdra; a thrwy rym ei gelwyddoniaeth, parodd i ddau gorn eidion dyfu mewn munud, un o bobtu pen Huw Llwyd, fel na allai dynu ei siol yn ol o'r ffenestr; ac yno y bu efe, yn destun chwerthin i rai, a braw a dychryn mawr i'r lleill, nes y gwelodd Edmwnd Prys yn dda ei ryddhau. Pa fodd bynag, yr oedd dydd gofwy Edmwnd Prys yn agos; oblegyd wrth fyned adref y noson hono i'r Tyddyn Du, talwyd iddo yn ei arian ei hun. Yr oedd ganddo Felin yn ymyl ei dŷ, a'r "cafn gwyllt," yr hwn oedd yn arwain y dwfr tros y ffordd i ben yr olwyn ddwr yn rhidwll; a'r funyd yr oedd yr Archddeon yn myned o tan y cafn dyferllyd hwnw, dyna un neu ragor o gythreuliaid Huw Llwyd yn ymaflyd yn ei war, ac yn ei ddal dan y dyrferion nes oedd yn wlyb drwyddo! Felly "yr oedd y naill cystal a'r llall, ac yn well hefyd."

HUW LLWYD A'R YSPRYD.

ADRODDIR chwedl arall am Huw Llwyd. Mae yn nghanol rhaiadrau rhamantus Cynfal, y gader geryg, yr hon a adwaeni'r hyd heddyw fel " Pwlpud Huw Llwyd." Yno, i ganol gordduar a chrygddwndwr byddarlef y rhaiadrau, cyrchai yn y nos wrtho ei hunan i fyfyrio, er mawr ofid i'w wraig, yr hon fyddai yn ymgreinio yn y gwely; ac yn. disgwyl bob munud iddo ddyfod i'r tŷ " cyn oered a llyfant." Yn ol y chwedl, Huw Llwyd oedd tad Morgan Llwyd o Wynedd, y pregethwr nodedig. Pa fodd bynag, penderfynodd ei wraig dynu'r arferiad o fyned i'r pwlpud ceryg gefn y nos o'i gwr. Anfonodd ei brawd mewn cynfas wen i'w ddychrynu. Aeth y brawd, gan wneud ystumiau mor fwganllyd ag y medrai. "Holo! pwy wyt ti?" ebai Huw Llwyd wrth ei ganfod yn nesu ato, "Ai ysbryd wyt ti? Pa un ai ysbryd da ai ysbryd drwg wyt ti?" Ond ni feddai y ffug-ysbryd air i'w ateb. "Os ysbryd da wyt ti, ni wnei di ddim niwaid i mi er mwyn Morgan fy mab; ac os ysbryd drwg wyt ti, ni wnei dithau ddim niwaid i mi, 'does bosibl, a minau yn briod â dy chwaer di."Yr oedd y dyn yn y gynfas yn dechreu crynu erbyn hyn: "yr'wan amdani hi, 'r gwyn,"ebai H. Llwyd, "gwyliadi'r Du yna sy'n sefyll wrth dy sodlau di!" Dyna'r dyn "yn cymeryd y carnau" tua'r tŷ am ei fywyd, a Huw Llwyd yn bloeddio nerth ei ben, "Hwi, 'r Du! Hwi, 'r Gwyn," &c., nes oedd ei frawd-yn-nghyfraith bron a llewygu gan ofn; ac aeth i'w wely yn glaf, oherwydd cael ei hela gan ysbryd!

Diau fod dynion dysgedig a chyfrwys yr hen amseroedd yn hôni y gallent drin ysbrydion, er mwyn amddiffyn eu hunain rhag gwerin anwar, lygadrwth, a lladronllyd; ac nid yw y gellyddyd hono ond newydd ddiflanu o'r wlad, canys yr oedd rhai o ddysgedigion yr oes ddiweddaf yn cael y galr o roddi ysbrydion i lawr, dal lladron trwy ddewiniaeth, &c.