Cymru Fu/Llewelyn, ein Llyw Olaf

Oddi ar Wicidestun
Man-gofion Cymru Fu
Llewelyn, ein Llyw Olaf
gan Isaac Foulkes

Llewelyn, ein Llyw Olaf
Arwyddion Angeu


LLEWELYN EIN LLYW OLAF.

BYWGRAFFIAD.

Gelwid Llywelyn ab Iorwerth, oherwydd ei ddoethineb fel llywodraethwr a'i fedr fel rhyfelwr, yn Llywelyn Fawr. Ŵyr iddo ef oedd Llywelyn ab Gruffydd, neu, fel y gelwir ef yn gyffredin, "LLEWELYN EIN LLYW OLA'" am mai efe oedd yr olaf yn llinach hir y brenhinoedd a'r tywysogion fuont yn llawio teyrnwialen y Cymry, ac yn amddiffyn eu hiawnderau, yn erbyn rhuthradau parhaus estron- genedl drahaus ac anniwall. Er mwyn iawn ddeall cymeriad a chysylltiadau ein harwr, rhaid ini droi dalen neu ddwy yn ol yn hanes ei deulu. Bu ei daid, Llewelyn ab Iorwerth, yn dywysog ar Wynedd, a'r rhan fwyaf o'r Deheubarth, am y cyfnod hirfaith o chwech a deugain o flynyddau; a'i fywyd yn un bennod fawr o ryfeloedd, - yn wrthrych digasedd a gelyniaeth y Saeson, a brad a chynllwynion rhai eiddigeddus ac annoeth o'i genedl ei hun. Yn ei ieuenctyd, priododd Tangwystl, merch Llywarch Goch, arglwydd cantref y Rhos. Y cantref hwn a gynhwysai yr holl wlad rhwng yr afonydd Conwy, Aled, a'r Clwyd, â'r môr, O'r briodas yna, bu un ferch o'r enw Gwladus, yr hon a briodes Syr Ralph Mortimer; a mab dibris a dewr o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd tad ein harwr. Tangwystl a fu farw yn fuan ar ôl genedigaeth y plant hyn, a Llewelyn ab Iorwerth a ail-briodes gyda Joan, merch. Ioan, brenin Lloegr. O'r briodas hon y deilliodd Dafydd ab Llewelyn, olynydd ei dad yn nhywysogaeth Cymru. Dadblygwyd anian eon Gruffydd pan oedd yn bur ieuanc; ac fel y gallai arfer ei hun i ddyledswyddau milwr a thywysog, ei dad a'i gosodes yn rhaglaw ar gantref Ardudwy, ym Meirionydd; ac oddiwrth y ffaith hon gellid casglu mai Gruffydd oedd anwylyn ei dad yr amser hwn, a'i olynydd bwriadedig i'r orsedd, eithr trwy ei ymddygiad anffodus canlynol, efe a gollodd ffafr ei riant, ac aberthodd ei fraint fel olynydd iddo. Ymdorodd ei yspryd anniwall allan mewn gwrthryfel agored, gan hawlio y cantref yn eiddo iddo ei hun, yn hollol annibynnol ar un awdurdod uwch. Gorchymynnodd ei dad iddo ddyfod ger ei fron ef, a rhoddi cyfrif o'i oruchwyliaeth, ond ni chydsyniodd Gruffydd. Yna Llewelyn a arweiniodd fyddin gref i fyned yn erbyn ei fab anufudd; a Gruffydd, yntau a gasglodd wŷr ar fedr anturio brwydr; ond yn ffodus, cymodwyd y ddau tra yr oedd y pleidiau rhyfelgar yng ngŵydd eu gilydd, ac ar fin ymladd. Y mae pob lle i gredu mai ffug oedd yr adgymodiad hwn, o du y tad; nid anghofiodd efe byth amryfusedd Gruffydd, a chymerodd oddiarno bob hawl i gantref Ardudwy. Pa fodd bynnag, cafodd drachefn lywyddiaeth adran o'r fyddin Gymreig, yn mha sefyllfa yr hynododd efe ei hun fel dyn galluog a dewr, hyd oni ddygodd ei yspryd gwrthnysig ef eilwaith dan wg ei dad, a bu yn ngharchar o'r herwydd am chwe' blynedd. Pan ryddhawyd ef, yr oedd yn amlwg i bawb fod Dafydd, ei frawd, wedi ennill oddiarno ei enedigaeth-fraint.

Gruffydd a briododd Sina, merch Caradog ab Thomas, gor-wyres i'r enwog Owen Gwynedd; ac y mae hanesyddiaeth yn cyfeirio at bedwar o'u plant, sef, Owen, Llywelyn, Dafydd, a Roderick. Treftadaeth Gruffydd oeddynt y pedwar cantref, Rhos, Rhufoniog, Tegengl, a Dyffryn Clwyd; ac yn ystod carchariad ei dad, a'i frawd Owen, Llewelyn oedd prif feddiannydd y cantrefi hyn.

Llewelyn ab Iorwerth pan heneiddiodd, a barodd i'w benaethiaid, a'i arglwyddi, ei gyfarfod ef yn Ystrad Fflur; ac yno talu eu gwarogaeth iddo ef, a'i fab Dafydd, fel ei olynydd yn y Dywysogaeth. Boddlonai yr olyniaeth hon y brenin Harri III yn awr, a'r blaid. Seisnig-Gymreig, neu y Dic Siôn Dafyddion, canys yr oeddynt hwy yn cancro eu cenedl yn mhell cyn i Glanygors eu bedyddio â'r enw, na thuchanu eu mursendod; tra yr oedd plaid gref arall yn cydymdeimlo â'r anffodus Gruffydd, yn edmygu ei berson hardd, ac yn galaru ei gyflwr diraddiol, a phan ddaeth angau yn mlaen i ddiosg Llewelyn oddiwrth ei swyddaua a'i ofalon daearol, bu cryn gynhwrf yn y wlad, a bron n thorrodd allan yn oddaeth o wrthryfel o blaid Gruffydd' Nid ystyrid Dafydd ond hanner Sais, ac yr oedd y drychfeddwl o hanner estronddyn yn eistedd yn nghadair Cadwaladr Fendigaid, bron lladd pob Cymro twymgalon a gwladgarol. Credai pawb mai offeryn fyddai yn llaw y teyrn Seisnig i boeni y Cymry, a diffodd y wreichionen olaf o dân cysegredig rhyddid a gyneuai yn eu mynwesau. Pa un ai Llewelyn cyn marw dododd Gruffydd yn ngharchar er mwyn sicrhau yr olyniaeth i Dafydd, ynte Dafydd ei hun ar ei esgyniad i'w swydd, nis gwyddis; modd bynag, yn ngharchar tan grafangau ei frawd yr oedd Gruffydd, ac Owen ei fab hynaf gydag ef, - sefyllfa druenus i'r eithaf i dywysog ieuanc dewr, o deimladau rhyddidgarol fel yr eiddo ef, - ac yn garcharor hefyd tan law brawd! ran hynny, gelyniaeth frodyr oedd yr elyniaeth greulonaf yn mhlith yr hen dywysogion Cymreig; hon oedd wrth wraidd eu holl ymladdau ynfyd yn eu plith eu hunain; hon, fel ellylles hagr ei gwedd, a yfodd waed goreu ein cyndadau; ac fel y dangosir cyn diwedd ein herthygl, hon a fu y prif achlysur yn y diwedd i'r genedl golli ei hannibyniaeth.

Er bod Gruffydd yn ngharchar, cynyddu yr oedd ei blaid yn y wlad, ac yn ei phlith lawer o ŵyr mawr, yn eglwysig a gwladol. Esgob Bangor, a Syr Ralph Mortimer - brawd- yn-nghyfraith Gruffydd, a ymdrechasant trwy resymau cedyrn ddarbwyllo y tywysog i ryddhau ei frawd, ond yn ofer. Yna yr Esgob a ysgymunodd Dafydd; a brysurodd i Lundain er gosod yr achos o flaen y brenin. Digwyddai fod ymrafael ar y pryd rhwng y brenin a'r tywysog Cymreig. Disgwylid y buasai hyn yn fanteisiol i'r ymdrafodaeth, gan i'r brenin ddyfod i lawr i'r Amwythig, ar fedr cospi ei nai ystyfnig; ac yno iddo dynnu cytundeb gyda Sina, priod Gruffydd ac amryw foneddigion, yn cynnwys os talai Gruffudd warogaeth gyflawn iddo ef, y rhyddheid ef o garchar, ac yr adferid ef i'w dreftadaeth,

Eithr nid oedd hyn oll ond malais Harri, er mwyn ychwanegu'r anghydfod rhwng y ddwy blaid Gymreig, a rhoddi cyfleusdra iddo ddwyn ei amcanion trawsfeddianol oddi amgylch. Yn lle cosbi Dafydd ailgymododd ag ef; ac yn lle rhyddhau Gruffydd, ar ddymuniad y tywysog, cymerodd ef a'i fab Owen gydag ef i Lundain, gan eu carcharu yn y Tŵr. Fel yna y byddai brenhinoedd Lloegr yn cyflawni cytundebau; ac yr oedd bai ar y Cymry os dychwelent hwythau yr echwyn adref? Peth fel dilledyn oedd cyf- iawnder yn nhyb Harri, - i'w roi a'i ddiosg fel y byddai amgylchiadau'n galw; a chadwyd Gruffydd yn ngharchar am ddwy flynedd yn mhellach. Y mae'r meddwl yn clafeiddio wrth fyfyrio ar gyflwr y bonheddwr ieuanc hwn, yn dihoeni ei ddyddiau goreu rhwng muriau carchardy, yn alltud oddiwrth ei gyfiawn hawliau fel tywysog ei anwyl wlad, - adgofion am yr hon a surent ei fyfyrdodau y dydd, ac a lonnent ei freuddwydion y nos; - fel eryr mewn cawell, wedi trethu ei holl gyneddfau i ddyfeisio gwaredigaeth, a sugna ei waed ei hun gan ddewis angau yn hytrach na chaethiwed. Ac fe ddaeth yr ymwared prudd. Un noson, efe a rwymodd ddillad ei wely wrth eu gilydd, a dechreuodd ddisgyn wrthynt o'i garchar-ystafell uchel: ond gan ei fod yn ddyn trwm a chorphorol, torrodd ei raff, a syrthiodd yntau ddegau o lathenni i ffos islaw, lle y cafwyd ef yn y bore yn hollol farw, a'i ben wedi ei wthio bron i'w gorph. A dyna ddiwedd tad ein harwr.

Gallesid disgwyl y buasai'r ddamwain alarus hon yn meddalu hyd yn nod galon Harri III., ac yn ei dueddu i ollwng yn rhydd Owen, mab y trengedig; ond, nid felly, y brenin a barodd roddi gwyliadwriaeth ddyfalach arno, rhag y llwyddasai ef yn yr hyn y bu ei dad mor aflwyddiannus. Gallesid hefyd ddisgwyl y buasai Dafydd yn ddedwydd wedi cael ymwared o'i wrth-ymgeisydd. Eithr gwrthbrofir hyn gan ffeithiau tanllyd gweddill ei oes. Mewn ymrafaelion parhaus gyda'r Saeson, mewn anghariad rhan luosog o'i genedl ei hun, a gwaed ei frawd yn llefain yn nghlust ei gydwybod, y treuliodd Dafydd ab Llewelyn relyw ei fywyd. Ac yn mhen dwy flynedd ymollyngodd ei gyfansoddiad tan bwys ei drallodion, a hyrddiwyd ef, ar ôl ei frawd, gan y ddarfodedigaeth tros drothwy amser. Bu farw yn ddiblant yn ei balas gerllaw Aber, sir Gaerynarfon, a chladdwyd ef yn mynachlog Conwy.

1246.

Yna bu penbleth am olynydd iddo. Yn ol deddf olyniaeth disgynnai’r Dywysogaeth i feddiant Syr Ralph Mortimer, yr hwn a briodasai Gwladus merch Llewelyn ab Iorwerth. Ond y Cymry ni fynnent fod tan ei awdurdod ef, gan ei fod yn hanu o estron genedl; a'i deimladau a'i ragfarnau, wrth gwrs natur, yn Seisnig. O ganlyniad, yn lled ddibetrus, dodwyd ei hawliau ef o'r neilldu, a phenodwyd ar Owen a Llewelyn, meibion hynaf yr anffodus Gruffudd. Ymddengys i galon y brenin ymdoddi o'r diwedd tuag at Owen, ac iddo ei dderbyn fel anwylddyn i'w lys, lle y bu am yspaid mewn parch a ffafr uchel gan bawb; ond pan glybu am y digwyddiadau diweddar yn Nghymru, ymneillduodd o Loegr, a chyrhaeddodd adref yn ddyogel. Llewelyn, cyn ei ddyrchafiad. A drigfanai yn Maesmynan, sir Fflint, ar ei etifeddiaeth dreftadol, yn cynnwys cantrefi Tegengl, Dyffryn Clwyd, Rhos, a Rhufoniog , yr holl wlad rhwng Conwy a'r Dyfrdwy, yr hon feddiant a ddaliasai, er gwaethaf y diweddar dywysog ar y naill law a brenin Lloegr ar y llall, fel y dyn rhwng y llewpart â'r morflaidd tra y cnoent hwy eu gilydd, yntau a gai lonyddwch.

1247.

Pan gymerth y tywysogion ieuainc awenau y llywodraeth mewn llaw, yr oedd y genedl mewn cyflwr truenus i'r eithaf,- yn gruddfan tan gyfreithiau gorthrymus eu gelynion, heb aidd nac yspryd i fasnachu nac amaethu; wedi eu hyspeilio o borfeydd eu hanifeiliaid, ac yn grwydriaid adfydus hyd y moelydd diffaith, tra yr oedd difrod yn gorwedd ar eu dyffrynau maethlawn, a gorthrwm yn mathru eu tywysogaeth hardd a'u hannibyniaeth hen. Yr oedd llaw trallod mor drwm ar fawrion ag ar dlodion y tir - ar y gwŷr llên fel y gwŷr lleyg. Dywed Mathew Paris fod Esgob Tŷ Ddewi wedi tori ei galon; ac Esgob Llandaf wedi galaru ei hunan yn ddall; tra yr oedd Esgobion Bangor a Llanelwy, o herwydd tlodi y wlad, yn gorfod cardota eu lluniaeth o fannau eraill.

Ar farwolaeth Dafydd yr oedd y ddwy wlad mewn rhyfel a'u gilydd, a'r Saeson yn fuddugol bron yn mhob man; felly un o weithredoedd cyntaf y tywysogion ieuainc oedd ceisio heddwch costied a gostio, a chawsant ef o'r diwedd gyda'r telerau celyd canlynol: - Colli eu hawl am byth i'w pedwar cantref treftadol, sef Rhos, Tegengl, Dyffryn Clwyd, a Rhufoniog; cadw mil o wyr traed. A phedwar-ar- hugain o wyr meirch, wedi eu dilladu a'u harfogi i fod yn barod ar bob achlysur i wasanaethu y brenin, yn Nghymru neu ar eu cyffiniau; yr oedd yr holl farwniaid i dalu eu gwarogaeth i frenin Lloegr, ac nid i'r tywysogion Cymreig, fel cynt; os byddai iddynt dori yr amodau hyn, atafaelid eu meddiannau, a chollent bob enw o hawl ar y dywysogaeth Gogledd Cymru. Wedi iddynt arwyddo y cytundeb hwn, caniatawyd iddynt faddeuant a hawl i'w tywysogaeth, eithr yr oeddynt i'w dal trwy ffafr brenin Lloegr am byth.

1251

Y brenin a roddodd y cantrefi uchod i ŵr o'r enw Allan de Zouch, i'w trin ar hyd breichiau, am y swm o 1.100 o farciau; gan adael iddo wneud y geiniog uchaf ohonynt trwy eu hail osod; a phrofodd Allan ei hun yn feistr caled i'w denantiaid Cymreig - yn eu hardrethu'n uchel, ac yn disgwyl medi lle nis hauasai. Yn ychwanegol at hyn, y brenin a drethodd y pedwar cantref yn drwm, er mwyn ei alluogi ef i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yr oedd eu cyd genedl yn y rhannau eraill o'r wlad yn gweled eu cystudd, eithr nis gallent estyn ymwared iddynt gan mor luddiedig eu nerth, a dirywiedig eu hyspryd.

1254.

Ond tra yr oeddynt fel hyn yn nyfnderau anobaith, wele ddial ymryson brodyr yn dyfod yn mlaen gan gythryblu eu teimladau, a'u deffro o'u hunlle annaturiol. Nis gallai Owen, y tywysog hynaf, oddef rhannu y swydd o dywysog gyda Llewelyn, ac wedi iddo lwyddo i hudo Dafydd ei frawd i'r un bwriad ag ef, y ddau a arweiniasant fyddin gref i'r maes yn erbyn eu brawd. Brwydr faith a gwaedlyd fu y frwydr annaturiol hon, ond y gwrthryfelwyr a lwyr orchfygwyd, a'u dau bennaeth a ddaliwyd ac a garcharwyd am yspaid hirfaith yn Nghastell Padarn, wrth droed y Wyddfa; a thrwy hyn, Llewelyn a adawyd yn unig feddiannydd gweddillion yr hen deyrnas Frutanaidd.

Yn awr yr oedd cleddyf y Cymry o'i wain, a'u teimladau rhyfelgar wedi dadebru; a phenderfynasant daro'r gormesydd, ac ymegnio unwaith yn rhagor i dynnu eu hunain o grafangau yr estron. Pan welsant eu perygl, y gwelsant hefyd ddaioni undeb a brawdgarwch. Agorasant eu llygaid ar y gamdriniaeth a dderbynient oddiar law y tywysog Iorwerth, mab y brenin, yr hwn a drigiannai yn Nghaerlleon ar y pryd, ac a wasanaethai fel ystiwart y brenin yn Nghymru, ac fel pennaeth arglwyddi rheibus y Cyffiniau. Gwelent fod eu tiroedd yn cael eu trawsfeddiannu oddiarnynt trwy anghyfiawnder am y troseddau lleiaf; a phan gwynent o'i herwydd, ni chaent gan y llys Seisnig ond gwatwared. Cyd-osodasant eu cwynion ger bron Llewelyn, gan ddeisyf arno gymeryd eu hachos mewn llaw, a thyngu wrtho mai gwell ganddynt farw ar y maes na dwyn eu penyd yn mhellach. Fel y gallesid disgwyl, derbyniodd y tywysog eu cynygion yn ddibetrus; ac mewn dull cysegredig tynghedodd ef a hwythau i'w gilydd y buasent yn gwaredu eu gwlad neu yn trengu yn yr ymgais.

Y mae yn anhawdd darnodi tywysogaeth Cymru yn y cyfnod hwn, ond y mae pob lle i gasglu nad ydoedd nemawr mwy na siroedd presennol Môn ac Arfon; gau fod Trefaldwyn, a rhan isaf sir Ddinbych a Fflint, yn nwylaw arglwyddi gelynol i Llywelyn, a chynhwysai y pedwar cantref tan Allan de Zouch y gweddill o'r siroedd olaf; yr oedd y brenin -wedi gwthio ei diriogaeth hyd yn nod mor bell a sir Feirionydd, canys un o weithredoedd cyntaf Llewelyn i roddi ysgogiad yn y penderfyniad uchod oedd adgymeryd y sir honno. Ond y mae'n ddiamheu fod yn y cynghrair luaws o arglwyddi dylanwadol o barthau eraill Cymru.

Ar ol sicrhau Meirionydd a chanolbarth Gwynedd, ymdeithiodd i Geredigion, gan ddarostwng yno feddiannau y tywysog Iorwerth, a chantref hefyd yn sir Faesyfed, o'r enw Gwrthrynion.

1256.

Yn haf y flwyddyn hon, efe a wnaeth ymgyrch ar Powys, y rhan o'r wlad a berthynai i Gruffydd ab Gwenwynwyn, er dial ar y gŵr hwnnw ei amryfusedd yn ymuno â'r Saeson. Cymerodd ei feddiannau bron heb wrthwynebiad; a rhoddodd hwynt i'w swyddogion milwrol. Dangosai hyn ei ddigybydd-dod; ac enynnai serch yn y cyfryw swyddogion tuag ato. Pan glybu y brenin am ei rwysg annisgwyliadwy, efe a anfonodd fyddin fawr gyda'r môr i Ddeheudir Cymru, i gynorthwyo ei ffyddloniaid oeddynt yno eisoes. Y fyddin frenhinol a warchaeodd gastell Dinefwr; eithr Llewelyn a ymosododd arni, ac a'i gorchfygodd, gau ladd 2,000 o'i nifer. Yna efe a ddiffeithiodd sir Benfro, gan chwalu castelli Abercorran, Llanstephan, Maenclochog, ac Arberth; a dychwelodd gydag yspail lawer i'r Gogledd. Cynyrfodd y llwyddiant hwn holl gynddaredd y tywysog Iorwerth, ac arfaethai yntau gyfarfod Llewelyn ar ei ffordd adref, a gwneud hafog erchyll yn ei fyddin. Ond er fod gan Iorwerth yspryd uchel, isel iawn oedd ei bwrs ar y pryd; ac yr oedd ei dad yn anfoddlon, ac yn wir yn alluog, i'w helpio. Yn ngwyneb y pethau hyn, efe a apeliodd at Iarll Cernyw, ei ewythr, am fenthyg arian, yr hwn a fenthyciodd iddo 40,000 o forciau. Ond erbyn cael yr arian, yr oedd y gaeaf ar ei warthaf - y glawogydd wedi disgyn; yr afonydd wedi chwyddo tros eu glannau, gan orchuddio y morfeydd, a gwenu'n drahaus ar ei yspryd balch a'i arian echwyn. Ychydig o rwyddineb gafodd yntau gyda chosbi y dewrion.

Erbyn hyn, yr oedd yspryd gwladgar a dialgar wedi disgyn yn helaeth ar Gymry y Deheudir cystal a'r Gwyneddwyr; a'r naill ormes ar ol y llall yn cenhedlu dygasedd yn eu calonnau tuag at eu gorthrymwyr - gormes a fuasai yn cynhyrchu gwroldeb yn mynwesau llyfriaid wrth natur. Yr oedd pob cwmwd a phentref yn afon gwyr i gynorthwyo yn y gwaith, cysegredig yn eu tyb hwy, o ysgubo'r wlad yn lân oddiwrth eillion ysgymun. Chwyddodd byddin Llewelyn i faintioli dirfawr; yn ol Warrington i'r rhif anhygoel o 60,00, a 1,000 o wyr meirch; nes y daeth porthiant y fath lu mawr, mewn gwlad fynyddig fel Cymru, a than ddiffyg cludiaeth yr oes hono, yn bwnc pwysig i'w Chadlywydd. Er goddiweddyd y rhwystrau hyn, efe a rannodd ei fyddin yn ddwy adran, ac a ymdeithiodd gyda hwynt i'r Cyffiniau, gan anrheithio o boptu’r Dyfrdwy hyd i byrth Caerlleon; ac Iorwerth, y tywysog Seisnig, yn ymgilio o'i flaen fel cangen grin o flaen y llifeiriant; er fod Gruffydd ab Madog, o Ddinas Bran, arglwydd Powys Fadog, wedi bradychu ei genedl, ac mewn undeb âg ef. Yna'r tywysog Cymreig a drodd ei wyneb eilwaith tua'r Deheudir, ac yno wedi meistroli amrai gantrefi, a meddiannu dau gastell, dychwelodd i Wynedd. Ar ei ddychweliad, amcanodd Iorwerth ei luddias; eithr gorfu arno wedyn encilio mewn ffrwst a chywilydd; a chafodd Llewelyn gyfleusdra i gosbi y bradwr Gruffydd ab Madog, trwy anrheithio ei feddiannau.

1257.

Yn nechreu'r flwyddyn hon, ymosododd ar Gastell Dyganwy, ar fin yr afon Conwy, yr hon oedd y safle gadarnaf a feddai'r Saeson yn Nghymru; ac ar ennilliad pa un y gwyddai'r tywysog Cymreig yn dda yr oedd tynged rhyddid ei wlad yn troi. Nid ymddengys i'r ymosodiad hwn fod yn llwyddiannus; ond, i'r gwrthwyneb, bu yn foddion i ddeffro y brenin Harri o'i syrthni, yn nghylch symudiadau y Cymry - iddo alw at ei wasanaeth ei holl adgyfnerthion rhyfelgar, yn wyr o bob cẁr i'r deyrnas, ac yntau ei hun yn gadlywydd arnynt; ac yn Wyddelod mewn llongau, i ymosod yn y cyfamser ar Ynys Môn a'r parthau mordirol. Yr oedd y brenin a'i lu i gychwyn o Gaerlleon ar yr 11eg o Awst; a byddin arall, tan lywyddiaeth Iarll Caerloyw, i gychwyn o Bristol am y Deheudir, yr un diwrnod; fel y byddai gan y Cymry dri man i'w wylio, ac y sicrheid eu darostyngiad, sef y brenin o Gaer, Iarll Caerloyw o'r Deheudir, a'r Gwyddelod o Fôn.

Er mor gyfrwysgall y cynllun, diweddodd yn hynod o anffodus. Pan ddeallodd Llewelyn am y gad lynges Wyddelig, danfonodd nifer o longau i'w chyfarfod, a gorfu ar hono ddychwelyd yn frysiog a drylliog i'r Ynys Werdd. Trwy ryw gamddealltwriaeth, ni chychwynnodd Iarll Caerloyw i'w ymgyrch o gwbl. Ac nid esgeulusodd y tywysog ychwaith ddarpar ar gyfer y brenin. Cyn dyfodiad Harri, Llewelyn a barodd ddinystrio y melinau, a dryllio y pontydd, a chodi y gwarchae ar Dyganwy; yna, gan yrru yr anifeiliaid o'i flaen tros y Gonwy, ymgiliodd i Eryri. Gwthiodd y brenin mor bell â'r afon hono, a chafodd y wlad yn ddiffaethwch noethlwm; a chyn pen ychydig wythnosau, o herwydd fod ei wyr yn marw o newyn, ac yn disgyn yn ysglyfaeth i ruthriadau ffyrnig a sydyn y Cymry, gorfu arno ymgilio yn ol i'w wlad mewn gwarth a chywilydd,

Effeithiodd caledi a gwarth y cadgyrchiad hwn gymaint ar gyfansoddiad y brenin, nes ei dallu i dwymyn poeth, yn mha un y parhaodd am hir amser; ac i'w fab Iorwerth benderfynu ymwrthod a'i feddianau yn Nghymru am byth, a rhoddi ei ddeiliaid i fynnu fel pobl anorchfygadwy. Canlyniad arall i'r aflwydd Seisnig uchod: Gruffydd ab Madog, gŵr dewr a chall, ond lled brin yn y nwyddau gwerthfawr o egwyddor a chydwybod, yn gweled nad oedd y brenin yn abl i'w amddiffyn ef a'i feddianau rhag ei elynion, a droes yn ei garn, gan ddarostwng i Llewelyn, tyngu llw o ffyddlondeb iddo, a chyflwyno ei holl alluoedd rhyfelgar at ei wasanaeth.

Nid oedd yn naturiol y buasai'r fath lu buddugoliaethus yn aros yn segur; o ganlyniad, aethant i'r Deheudir drachefn. Yno, Llewelyn, a gafodd warogaeth holl arglwyddi y wlad hono; ac wedyn ymosododd yn ddi-oed ar y Cyffiniau. Daeth ar draws byddin Seisnig, yr hon a enciliodd o'i flaen tua Chastell (enw yr hwn ni roddir, ond tybir ei fod o fewn cyfoeth Iarll Caerloyw,) ar fedr amddiffyn ei hun rhag ei herlynwyr mewn man cul a chorslyd. Ond y Cymry a ddanfonasant nifer o wyr i dori cyfarfod a hwynt; a'r encilwyr a gawsant eu hunain mewn magl, gan gyfarfod gelynion lle y disgwylient gyfeillion. "Ac yno," medd Mathew Paris," megys rhwng dau faen melin, hwy a orthrechwyd, ac a lwyr ddrylliwyd, ac a laddwyd â galanasdra mawr. Yn y frwydr hon, syrthiodd nifer dirfawr o'r Saeson, ac yn eu plith luaws o bendefigion. "

Yr oedd Ffawd erbyn hyn yn gwenu ar y Cymry yn mhob man. Yr oeddynt yn nerthol am eu bod yn unol, ac yn unol am eu bod yn nerthol. Ac er mwyn plannu yn ei fyddin dduwiolfrydedd â chysegredigrwydd ei hachos, Llewelyn a'u hanerchodd yn y geiriau enaid-gynhyrfiol a ganlyn: - "Hyd yn hyn Arglwydd Dduw'r lluoedd a'u cynorthwyodd; canys amlwg yw i bawb nas gellir priodoli ein llwyddiant i'n dewrder ein hunain, ond i ffafr Duw; yr hwn a all arbed gydag ychydig cystal â chyda lluaws. Canys pa fodd y gallasem ni, bobl dlodion, weiniaid, ac anymladdgar, wrth ein cydmaru â'r Saeson, feiddio gwrthsefyll y fath gadarn allu, oni buasai nawdd Duw ar ein hachos? Canfu ei lygaid Ef ein trallod, a pha fodd y poenydid ni gan Geoffrey de Langley, ac offerynnau creulawn eraill o eiddo y brenin, a Iorwerth ef fab. Hwy a'n bradychasant yn ein diniweidrwydd. O hyn allan, gan hynny, y mae pob peth a feddwn yn y fantol. Nis syrthiwn i ddwylaw ein gelynion, nid oes trugaredd i'w ddisgwyl. Byddwn bur i'n gilydd. Yn unol, yr ydym yn anorchfygadwy. Chwi a welwch pa fodd yr ymddyga'r brenin at ei ddeiliaid ei hun - fel y mae'n ysglyfio'u meddianau, yn tlodi eu teuluoedd, ac yn chwerwi eu teimladau. A erbyd efe, gan hyny, nyni! wedi inni ei cynddeiriogi gymaint eisoes, a phan ddarffo inni ddwyn i ben ein bwriadau rhyfelgar presennol! Na wna; ei amcan fydd ein dileu oddiar lechres bodolaeth. O ganlyniad, onid gwell inni farw yn y frwydr, a myned at Dduw, na byw ar drugaredd ansefydlog gelyn; ac yn y diwedd, hwyrach, drengu yn waradwyddus trwy ddwylaw ysgymun y dihenyddwr?"

Dengys yr araeth uchod dueddfryd grefyddol y Cymry yn yr oes hono, onide ni buasai Llewelyn yn eu hanerch yn y cyfrwng pwysig hwnw â geiriau diflas ganddynt. Gwyddai yn dda pa rai oedd eu teimladau cryfaf, ac apeliai at y cyfryw. A'r geiriau hyn yn merwino eu clustiau, marweiddiai ofn yn eu mynwesau, a phob rhwystr a ddiflannai oddi ger eu bron megys mwg. Llwyr ddarostyngasant sir Benfro; a daethant o hyd i halen - nwydd gwerthfawr yr oeddynt wedi dyoddef llawer o'i eisiau er y pryd y dinystriasai Harri eu gweithydd yn sir Gaerlleon.

1258.

Ond tra yr oedd y Cymry yn ymlawenhau yn eu llwyddiant, Harri a adferwyd o'i dwymyn, ac enynnwyd ei lid wrth ganfod rhwysg ei elynion. Daeth mor bell â Chaer, a'r cynhauaf oedd hi; eithr ni lwyddodd mewn dim ond mewn llosgi'r cnydau.

Ac yn awr, daw llinell gwerthfawr yn nghymeriad Llewelyn i'r golwg. Er ei fod yn gadarnach nag erioed, er fod pendefigion ei wlad tan lw o ffyddlondeb iddo, a'r werin bobl yn ei ddarn addoli; a llawer baner buddugoliaeth yspail rhyfel yn ei feddiant; eto, er hyn oll, cawn ef yn cynyg telerau heddwch i'r brenin Seisnig:. Oddiar serch at ei wyr, y rhai oeddynt wedi gorphen eu gwaith pwrpasol o adfeddiannu rhyddid eu gwlad; ac oddiar ei gallineb, yn hyderu y gallai gael telerau anrhydeddusach iddo ei hun a'i wlad, o herwydd ei gryfder presenol, mae'n ddiau y cynygiodd efe yr heddwch hwn. Pa fodd bynag, nacaodd y brenin; ac nid oedd gan Llewelyn ond gwneud y goreu o'r gwaethaf - rhyfel.

Rhyfel ar y Cyffiniau yn chwilfriwio cestyll yr arglwyddi Normanaidd, yn diffaethio eu meddianau ac yn lladd pob Sais fel pe buasai bryf dystrywgar a diles. Yn mhlith arglwyddi y Cyffiniau y pryd hwnw yr oedd pendefig newydd ddyfod o Germani, o'r enw Jacobus de Ændelia [Audley, medd Powell, merch yr hwn a briododd Gruffydd Maelawr]: gŵr cyfoethog a chadarn ydoedd, a daeth yntau i mewn am ran o ddialedd y Cymry. Yntau a ddanfonodd i'w wlad, ac a gafodd lu mawr o wyr arfog y rhai a ryfelent ar feirch gorchuddiedig â dur. Y rhyfelwyr hyn a ymosodent ar y Cymry, y rhai nid oeddynt yn adnabod y dull newydd hwn o elynion, a buan y gorfodid hwy i encilio. Pa fodd bynag, y Cymry a gynllwynasant eu galanas. Aethant eilwaith i gyfoeth Audley, a daeth y marchogion allan fel o'r blaen i'w cosbi; a'r Cymry a ffugiasant ddianc gan hudo eu hymlidwyr i fan cyfyng, corslyd, ac anghysbell. Yno troisant arnynt a thrywanu eu ceffylau, a gwneud y marchogion yn ddim amgen na gwyr traed, a thrwy hyny hawdd fu eu gorddiwes. Pan nad oedd ond gŵr yn erbyn gŵr, llwyr orthrechwyd y Germaniaid, a chollasant nifer mawr o wyr.

Fel hyn, yr oedd y naill ddigwyddiad ar ol y llall yn pwyso ar wynt y brenin; a thueddwyd ef o'r diwedd i wneud cadoediad am un flwyddyn gyda'r Cymry. Neillduodd ar farchog o'r enw Padrig de Canton i gyfarfod dirprwywyr Cymreig yn nhref Caerfyrddin, er mwyn llawnodi a selio y cytundeb hwn. Dafydd, brawd Llewelyn, yr hwn a ryddhesid yn ddiweddar o garchar, a gynrychiolai ei frawd yn y llawnodiad. Deallodd y dirprwywyr Seisnig fod gosgorddlu Dafydd yn wannach na'r eiddynt hwy. O ganlyniad, Padrig a'i wyr a lechasant yn fradwrus ar fin ffordd y Cymry, ac a ruthasant yn sydyn arnynt gan ladd lawer o honynt cyn y gallent drefnu eu hunain i frwydr. Ond cafwyd trefn cyn hir, a'r bradwyr oll bron a gyfarfuant a'u gwobr gyfiawn, ac yn mhlith y cwympiedig yr oedd .Padrig ei hun. Dengys y ffaith hon y fath bobl iselwael, diymddiried, ac annynol oedd gan ein cyndadau i ymwneud â hwynt; ac nid rhyfedd fod holl adnoddau dialeddol eu heneidiau yn berwi allan yn eu herbyn. Ac i goroni yr holl anferthwch, Harri yn lle cosbi gweddillion y dialedd hwn, o herwydd iddynt lychwino ei gymeriad ef fel brenin, a ffromodd yn aruthr wrth Llewelyn, am i'w wyr ef feiddio amddiffyn eu bywydau eu hunain. a chosbi cynllwynion dyhirod.

1260 a '61.

Yna, digwyddodd mân frwydrau, yn mha rai yr oedd y Cymry bron yn ddieithriaid yn fuddugol; a chyn pen ychydig fisoedd, gymaint oedd doethineb calon Llewelyn, fel yr ail gynygiodd delerau heddwch; y rhai a wrthodwyd gan y brenin. Yr oedd y barwn Normanaidd, a chefnder Llewelyn, Syr Roger Mortimer, mewn lle poeth rhwng tân y Cymry a'r Saeson. Ammheuid ei gywirdeb weithiau gan yr olaf, a gorfodid ef i dalu gawrogaeth wasaidd i'r brenin; bryd arall, byddai Llewelyn yn ei gosbi am ryw anffyddlondeb i'w achos yntau. Yr oedd Mortimer wedi digio Llewelyn; ac yntau a arweiniodd fyddin gref yn erbyn un o'i gastellau, ac wedi dinystrio y lle, ymgiliodd ychydig o'r neilldu. Yn y cyfamser, daeth Mortimer gyda byddin o wyr a gasglasai gan ei gymydogion barwnol; ac fel gwir arwr gosododd ei hun yn yr adfail castell digysgod hwn. Dychwelodd Llewelyn yn fuan at y murddyn, a darparodd at y dasg rwydd o orchfygu a dal ei gefnder diamddiffyn. Eithr pan ganfu Mortimer yr ynfydrwydd o ddal ymosodiad yn y fath le, gyda gradd helaeth o hunan hyder danfonodd at y tywysog am ganiatâd i ymadael. Yr ydym yn gweled y wên gellweirus a chwareuai ar wynebpryd ein harwr wrth foneddigaidd ganiatáu y fath ddymuniad gwynebgaled. Nid oedd ei galon dyner ef yn gweddu i'r oes galon haerllug hono. Yr oedd yn rhy dda i'w genhedlaeth. Nid gŵr rhyfel ydoedd; er iddo ar draws ei anian gyflawni gwrhydri ar faes y gwaed fuasai'n anrhydedd i gymeriadau Alexander a Bonaparte. Mewn oes dawel a heddychol y cawsem weled gwir deithi ei enaid yn y golwg; ni ryfeddasem ei weled yn urddasoli cystadleuon amaethyddol â'i bresenoldeb; neu yn llywydd mewn Eisteddfod, neu un o gyfarfodydd y Wyddon Gymdeithasol. Fel yr oedd, rhaid inni edrych arno fel cawrfil yn y weilgi, neu lefiathan mewn coedwig, yn byw mewn elfen anghydnaws a'i natur.

1262.

Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod pwysig yn mywyd ein harwr, cyfnod a effeithiodd yn fawr ar y gweddill o'i fywyd, sef y tair blynedd y bu efe mewn cynghrair gyda Simon de Montforte. Ffrancwr o genedl oedd Simon, a chymerodd ei dad ran flaenllaw yn erlidiad gwaradwyddus y Waldensiaid truain. Daeth trosodd i'r wlad hon, a chafodd iarllaeth Leicester. Yr oedd plaid luosog yn Lloegr y pryd hwnw a goleddent y syniadau mwyaf annheyrngarol. Montforte oedd pen y blaid hon, er y rhagrithiai gariad mawr at y brenin, ac er ei fod yn un o anwyliaid ei lys. Yr oedd yn naturiol i'r blaid hon ymgynhesu gyda'r Cymry; am fod Harri yn elyn gan y naill fel y llall. Gwnaed cynghrair rhwng Llewelyn a phennaeth y blaid hon, yn mha un y sicrheid i'r blaenaf annibyniaeth ei Dywysogaeth. Eithr nid oedd pleidwyr Montforte yn hollol aeddfed i ddechreu ar eu gwaith; felly Llewelyn am yspaid a weithredai ei hunan. Cyn bod Gwyliau'r Nadolig bron drosodd, efe a ruthrodd ar y Cyffiniau Seisnig gyda thri chant o wyr meirch a 30,000 o wyr traed, a chan anrheithio y wlad mor bell a Wigmore, cymerth feddiant ar ddau gastell perthynol i'r anlwcus Syr Roger Mortimer. Cynullodd y bonheddwr hwnw luaws mawr o wyr, a chymerodd llawer ysgarmes le; weithiau Llewelyn yn fuddugol, weithiau Mortimer. Y tywysog, pa fodd bynag, o'r diwedd a gafodd y goreu; ac oddiyno ymdeithiodd tua iarllaeth Caerlleon, a gwnaeth anrhaith fawr ar gyfoeth Iorwerth.

Wrth glywed am rwysg Llewelyn, dychrynodd y brenin Harri, a danfodd am ei fab Iorwerth o Ffrainc, lle yr ymddifyrai y gŵr ieuanc ei hunan y pryd hwnw gyda gwrolgampau a twrnament, difynon rhyfelgar ei oes. Mae'n ddiamheu hefyd fod sibrwd am amcanion Montforte a'i ddilynwyr, gan i Iorwerth ddwyn trosodd gydag ef gant o farchogion, i gymeryd lle, mae'n ddiddadl, y pendefigion anfoddog Seisnig.

1263.

Ar ei laniad yn Mhrydain, mab y brenin yn ddiatreg a ymdeithiodd tua Chymru. Ond yr oedd y Cymry wedi gwneud mawr waith cyn y cyrhaeddodd. Yr oeddynt wedi cymeryd castell Dyserth, a chadarnfa Dyganwy. Felly Dyganwy a syrthiodd, yr hon a fu unwaith yn gastell a phalas i Malgwyn Gwynedd, a llinach tywysogion Cymru am oesoedd, ond a chwilfriwiwyd gan fellten yn nyddiau Cynan Tindaethwy; yr hon a adeiladwyd drachefn gan Harri III, yn 1245, ac wedi bod am ddeunaw mlynedd yn ogof ellyllon i'r Cymry, hi a ddinystriwyd gan dywysog ei gwlad ei hun, ac yn awr saif ei gweddillion yn nghanol y dyffryn paradwysaidd hwnw fel colofn halen, a'i cherrig rhyddion fel meirwon di-fedd.

Ar ddynesiad Iorwerth a'i lu, Llewelyn a ymneillduodd tros y Gonwy, ac ni buasai dim ond gwallgofrwydd yn tueddu neb i ymosod arno yn Eryri. Bu tad Iorwerth mor garedig wrtho a galw'n swyddogol arno adref rhag y torasai ei galon yn ngwyneb y fath aflwyddiant. Dim ond i Llewelyn encilio tros y Gonwy, a dodi ei wyr ei hun mewn dyogelwch, gofalai deddfau anian am ryfela hefo'i elynion. Yr oedd Llewelyn yn gryfach yn awr nag erioed. Gruffydd ab Gwenwynwyn, arglwydd Powys, a adawodd y Saeson, ac a ddychwelodd at ei ddyledwyddau tuag at ei wlad. Efe a ymosododd ar Gastell Wyddgrug, cadarnle olaf y Saeson ar gyffiniau Gogledd Cymru, ac a'i llwyr ddinystriodd, fel nad oes y dydd hwn gymaint ag un o geryg ei adfeilion yn aros. Yr oedd y Cyffiniau Seisnig erbyn hyn yn hollol ddiamddiffyn; a phob argoel fod annibyniaeth Cymru wedi ei sefydlu am byth.

Bellach, ymgasglodd y gwaed drwg Seisnig at ei gilydd; ac wele Simon de Montforte, iarll Leicester, yn ben ar wrthryfel nerthol. Efe a ddanfonodd ei ddau fab gyda byddin luosog i Gymru, i gynorthwyo Llewelyn ar y Cyffiniau. Cymerasant gastell Maesyfed, a gwnaethant alanasdra mawr, er fod Mortimer ac arglwyddi eraill, â'u holl egni yn eu gwrthwynebu. Pan glybu y tywysog Iorwerth am rwysg a llwyddiant anarferol y cynghreiriaid, efe a brysurodd tua maes y frwydr. Cymerodd Gastelli Hay, Huntingdon, a Brycheiniog oddiarnynt, trwy nad oedd gwarchluoedd y cyfryw fanau ond ychydig a gweiniaid. Erbyn iddo ddyfod i'r lle olaf, cyrhaeddodd Mortimer ato am ddyogelwch, wedi ffoi yn afreolaidd o flaen Llewelyn a'i gyfeillion. Llu o Gymry hefyd, tan dywysiad William de Berkley, a aethant i Wlad yr Haf, ac a anrheithiasant am yspaid yn ddiwrthwynebiad, ond yn y diwedd, gyrrwyd hwy ymaith gyda galanastra mawr, a'u llywydd a laddwyd. Dywed Warrington, oddiar awdurdod Rymer, fod cadoediad wedi cymeryd lle rhwng y brenin a'r cynghreiriaid, yn yr hwn gytundeb y gelwid Llewelyn yn gynghreiriad Simon de Montforte, ac y maddeuid iddynt bob troseddau; eithr Carnhuanawc, gyda llawer mwy o resymoldeb, a ddywed mai ar ol marwolaeth Montforte y cymerodd cadoediad o'r fath le, ac iddo gael ei ddwyn oddiamgylch trwy offerynoliaeth Ottobonus, swyddog y Pab yn Nghymru; a'r llysgenhadwr Ffrengig.

1265.

Pa fodd bynag, hyn sydd sicr, fod Harri a'i fab Iorwerth wedi eu dal yn garcharorion gan Montforte, yn mrwydr Lewes; ac yna yr oedd y rhan fwyaf o Loegr tan awdurdod y gwrthryfelwyr. Ei elynion cryfaf bellach oeddynt arglwyddi Normanaidd y Cyffiniau, ac yn ben arnynt hwy yr oedd Syr E. Mortimer. Ar ol cryn lawer o fân frwydrau gorfu iddynt hwythau ymostwng; er i'r Pab yn y cyfamser fygwth Llewelyn ag ysgymundod onid ymneillduai o'r cynghrair. Yr arglwyddi Normanaidd a addawsant roddi eu cyfoeth a'u castelli i iarll Leicester, a gadael y deyrnas am un flwyddyn. Ac yn ystod y flwyddyn hon Llewelyn a Leicester a gytunasant, yn nhref Hereford, i fod mewn heddwch parhaol a'u gilydd.

Ond tra yr oedd ein harwr ar y naill law yn chwanegu cryfder, ar y llall yr oedd yn gwanychu. Daeth Diafol y gelyniaeth brodyr yn mlaen drachefn, a thueddodd Dafydd ab Gruffydd i adael achos ei wlad a'i frawd, ac ymuno a'u gelynion. Pa un ai yn ffurf cenfigen, ynte rhyw anghydwelediad ar faterion gwladol, yr ymrithiodd y "diafol" y waith hon, nis gwyddis. Cymerodd Dafydd swydd yn myddin arglwydd Audley, a'r barwniaid Cyffiniol, y rhai yn dra naturiol a anghofiasant eu hadduned o adael y wlad am flwyddyn; eithr gorchfygwyd y fyddin hono gerllaw Caerlleon gyda cholled fawr.

Ymddengys mai mewn rhyw ddull lled drwsgl a di-drefn y gofalai Montforte am ei lwyddiant a'i ysbail rhyfel. Iorwerth y tywysog a ddiangodd o'i afael, ac a ymunodd ag arglwyddi hanner gorchfygedig y Cyffiniau, y rhai ar ei ddyfodiad a gymerasant galon, ac yn fuan yr oeddynt yn feistriaid ar yr holl wlad rhwng Hereford a Chaerlleon. Yna rhuthrasant mor ffyrnig ac annysgwyliadwy ar Montforte a'i fyddin, mewn lle a elwid Evesham, fel nad oedd gan y gwrthryfelwr ddim i'w wneud ond naill ai disgyn i ddwylaw ei elynion neu ffoi am ddyogelwch at Llewelyn. Tra yn aros gyda Llewelyn y waith hon yr addawodd Montforte ei ferch, Eleanor, iddo yn wraig; ac yn gweithredu fel brenin Lloegr, addawodd adfer iddo ei holl freintiau fel tywysog Cymru, ac anrhegodd ef hefyd a chantrefi yr Eglwyswen, gerllaw Gwrecsam, ac Ellesmere yn sir Amwythig; a chastelli Matilda, sir Drefaldwyn; Llaneurgain, a Threfaldwyn, Ar ol hyn Llewelyn a ruthrodd gyda rhan o'i fyddin i Forganwg; tra yr ymunodd y rhan arall gyda gŵyr Leicester, er mwyn ei dynu allan o'i drybini, a'i gynorthwyo i dori drwy rengau y brenin, ond ymddengys fod y dduwies Ffawd wedi ei adael, ac yn lle dryllio rhengau y gelyn gorfu arno ffoi o'u blaen i'r Casnewydd. Yno, drachefn, gwarchaewyd ef; ac i ochelyd gorchfygiad gwaradwyddus enciliodd yn nyfnder nos ystormus, a chyrhaeddodd derfynau Llewelyn yn ddihangol. Yma y bu am yspaid yn ddyogel; ond gan nad oedd dull y Cymry o fyw yn dygymod â'i wyr, sef yn bennaf ar gig a llaeth heb ond ychydig o fara, yr oedd ei rengau yn teneuo yn barhaus trwy angau ac enciliaeth. Er mwyn cadw y gweddill, gorfu arno ymadael; ac wedi wythnosau o flin deithio trwy goedwigoedd a ffyrdd anhygyrch, cyrhaeddodd ei hen wersyll yn Hereford. Pa fodd bynag, trwy or-lafur ac iselder yspryd yn fuan ar ol hyn efe a fu farw; a'i blaid, i ba un yr oedd yn fywyd ac enaid, a fu farw bron gydag ef. Bu brwydr Evesham yn achlysur rhyddhad y brenin, a'i adferiad i'w holl urddau cynhenid; a'r barwniaid yn mhlaid ddiweddar Montforte, wedi rhoddi arfau i lawr a ffugiasant deyrngarwch. {[canoli| 1267.}} Cafodd y teyrn Seisnig yn awr hamdden i adfyfyrio ar y rhan bwysig a gymerasai Llewelyn yn y gwrthryfel diweddar; a phenderfynodd y cawsai yntau yn awr deimlo holl bwys ei ddialedd. Gyda'r bwriad hwn, daeth gyda byddin gref i'r Amwythig. Ond Llewelyn, heb gynghreiriad, ac yn rhy wan o hono ei hun i wrthsefyll byddin alluog y brenin, a dybiodd mai doethach cynyg telerau heddwch, a thrwy gyflafareddiad Ottobannus, cenhadwry Pab yn y llys Cymreig, penderfynwyd ar y cytundeb manteisiol canlynol, yr hwn a ddengys fod yn hawddach cael gwaeth Harri' na'i well: - Fod yr holl diroedd ar y naill ochr fel y llall i gael eu hadferyd; fod deddfau a defodau y Cyffiniau i aros fel yr oeddynt; fod i Harri ganiatáu i 'Llewelyn a'i olynwyr am byth Dywysogaeth Cymry; fod iddynt ddwyn y teitlau o dywysogion Cymru, a derbyn gwarogaeth y barwniaid Cymreig oddigerth yr eiddo Meredydd ab Rhys o'r Deheubarth, yr hwn oedd i wriogaethu i'r brenin. Y brenin hefyd a ganiataodd i Llywelyn feddiant ar y Pedwar Cantref. Yn gyfnewid am y breintiau hyn yr oedd yn rhaid i'r tywysog Cymreig ystyried brenin Lloegr fel ei frenin ef, a thalu gwarogaeth iddo, yn ol arferiad yr hen dywysogion Cymreig; a thalu y swm o 20,000 o forciau mewn arian. Y cytundeb a dynnwyd yn Nghastell Trefaldwyn, a lawnodwyd gan y brenin ei hun, ac a gadarnhawyd ar ran y Pab gan ei genhadwr. Wrth syllu ar sefyllfa annibyniaeth Gymreig, yn y cyfnod hwn, gallesid brudio hir oes iddo, ac fod ei ddydd drwg yn mhell; ond cyffelyb ydoedd i bren yn ysgwyd ei gangau irion yn y gwynt tra'r oedd y dorlan oddi tano yn ymollwng tua'r dibyn erchyll islaw,

1268.

Y flwyddyn hon yr oedd heddwch wedi ei adferyd trwy holl derfynau y llywodraeth Seisnig, a'r tywysog Iorwerth, gan nas gallai fyw allan o sŵn tincian arfau, a aeth i wlad Canaan, i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yn ei absenoldeb, aeth pedair neu bum mlynedd heibio yn heddychol a dedwydd iawn ar y Cymry, ac ni chymerodd' ddim pwysig le hyd

1273.

Yn y flwyddyn hon y bu farw Harri III., wedi teyrnasu am 56 o flynyddau; ac er iddo ymladd llawer o frwydrau gyda'n cenedl ni, yn ystod ei deyrnasiad hirfaith, eto, nid ymddengys fod y gwaith o'u darostwng nemawr pellach yn mlaen ar ddydd ei farwolaeth nag ydoedd ar ddydd ei goroniad. Gyrwyd gyda phob brys am y tywysog Iorwerth i gymeryd gorsedd ei dad. Eithr gan y byddai o angenrheidrwydd rai misoedd cyn y gallai ddychwelyd, apwyntiwyd rhaglawiaeth; ac un o weithredoedd cyntaf y rhaglawiaeth hon oedd, gwysio Llewelyn i Drefaldwyn i dalu gwarogaeth iddi, ac i gydnabod ei hawdurdod. Yntau ni chymerodd y sylw lleiaf o'r alwad — yn gweled mae'n debyg nad oedd waeth iddo dori yr amodau heddwch yn fuan, gan y byddai Iorwerth, oddiar ei anian ryfelgar, a'i gasineb tuag at y Cymry, yn sicr o wneud hyny yn hwyrach.

Ond cyrhaeddodd Iorwerth, a choronwyd ef yn Llundain gyda rhwysg ac urddasolrwydd mawr; brenin Scotland a dug Llydaw, fel deiliad iddo, yn gweinyddu ar yr achlysur. Gwysiwyd Llewelyn yntau i gyflawni yr un warogaeth yn yr Amwythig; eithr efe a nacaodd adael ei deyrnas a dodi ei hun yn nwylaw teyrn mor elynol, oni roddid gwystlon am ei ddyogelwch. Y gwystlon, medd Rymer, a hawliai Llewelyn y tro hwn oeddynt Edmwnd brawd y brenin, iarll Caerloew, a Phrif Ganghellydd Lloegr. Y mae yn anmhosibl peidio caru ei wladgarwch, ac edmygu ei gallineb, yn gwrthod cydsynio â'r wŷs sarhaus hon. Beth, Llewelyn, yr hwn oedd bywyd rhyddid ei wlad ar y pryd, a'r hwn a brofodd mor fynych wagder a thwyll y cyfamodau Seisnig, yn anturio ei einioes yn nwylaw ei archelyn Iorwerth? Iorwerth! yr hwn a lochesai yn ei lys frodyr gwrthryfelgar Llewelyn, sef Dafydd a Roderic! - Mab Harri III., yr hwn a fradychasai Gruffydd ab Iorwerth, tad ein harwr, ac a fu yn achlysur o'i ddiwedd truenus! Yr oedd hyd yn oed y Pab bydolelwgar yn gorfod cyfaddef fod doethineb mewn gwrthod gwneud y fath aberth; a rhoddes orchymyn i Archesgob Canterbury nad ysgymunai y tywysog Cymreig.

Tair gwaith yn mhellach, medd Rymer, y gwysiwyd ef; eithr nid oedd modd ei argyhoeddi nad ei faglu oedd yr amcan. Ac er mwyn dangos i'r byd nad ei amcan ef oedd enyn rhyfel, danfonodd lythyr gyda mynachod Conwy ac Ystrad-fflur at Archesgobion Canterbury a Llundain, cynghorwyr y brenin, yn cwyno fod Iorwerth yn llochi Dafydd ei frawd a Gruffydd ab Gwenwynwyn; eithr os enwai y brenin rhyw delerau a lle y gallai ef eu derbyn yn ddyogel, ei fod yn foddlon i ddyfod a thalu ei warogaeth iddo.

Yr oedd dystawrwydd Iorwerth i'r cynygion hyn yn awgrymu i Llewelyn fod tymestl yn darllaw, ac yn hwyr neu yn hwyrach yr ymdorai gyda chynddaredd arswydus ar ei wlad ac yntau. Adwaenai gymeriad ei elyn yn rhy dda i dybied am foment yr anghofiai gosbi; o ganlyniad, dechreuodd ymbarotoi ar gyfer y gwaethaf. Cofus gan y darllenydd ei fod wedi ei ddyweddïo gyda merch i iarll Leicester, ac er fod y bonheddwr hwnw wedi marw yr oedd ei blaid, er yn ddystaw, eto yn lluosog yn Lloegr. Mewn sicrwydd y byddai cydweithrediad y blaid hon yn gymorth mawr iddo yn ei gyfwng presenol, ac yn ddiau oddiar serch tanbaid at y foneddiges ieuanc, penderfynodd fod i'r briodas gymeryd lle yn uniongyrchol. Y pryd hwn, yr oedd y ddyweddi yn trigo yn nghrefydd-dy Montargis, Ffrainc; a Llewelyn a ddanfones at frenin y wlad hono yn gofyn iddo anfon Eleanor de Montforte i Gymru i briodi. Cydsyniodd y teyrn hwnw; a chychwynnodd y ddywediedig a'i brawd, offeiriad ieuanc o'r enw Amaury, ar eu mordaith tua Chymru. Ond pan oedd eu llong yn neshau tuag Ynysoedd Scilly, wele bedair o longau rhyfel Iorwerth yn eu cyfarfod, ac yn dwyn y llestr trwy drais i borthladd Bristol, a'u cymeryd hwythau oddi yno i lys y brenin. Y brenin, yn lle rhoddi y forwyn Ieuanc ar unwaith i ddwylaw ei chariad yn ol deddfau boneddigeiddrwydd yr oes hono, a'i cadwodd yn y llys i weinyddu ar y frenhines; a'i brawd a garcharodd efe am amrai flynyddau - yn nghyntaf yn Nghastell Corfe, a thrachefn yn yr eiddo Sherburne; ac yn y diwedd rhyddhawyd ef trwy i'r Pab ei hawlio fel ei gaplan, ac wedi iddo yntau ei hun dyngu llw yr ymadawai â'r deyrnas, ac na chymerai byth ran yn ei gwladlywiaeth.

Ar ol y fath weithred elynol o eiddo Iorwerth, yr oedd pob ffug wedi ei dynu oddiar ei fwriadau. Ni buasai heddwch bellach ond rhith, a phrofodd pob cais tuag ato yn oferedd a difrod ar amser. Penderfynai Iorwerth yn awr gyflawni prif amcan ei fywyd, sef llwyr ddarostyngiad y genedl Gymreig. Ond, tra yr oedd yn darparu at hyn, Archesgob Canterbury ac amryw esgobion ac arglwyddi eraill a atolygasant arno gael caniatâd i geisio dwyn y Cymry i heddwch cyn apelio at y cledd. Gyda'r bwriad hwn, yr archesgob a ddaeth i Gymru; eithr cyn iddo gyrhaedd yr oedd Llewelyn wedi agor y rhyfelgyrch, trwy anrheithio y Cyffiniau; a dyma Ddechreuad y Diwedd. Nid oedd gan y cenhadwr hedd ond dychwelyd yn waglaw. Ar gyfarfyddiad y Senedd, rhoddes adroddiad o'i genadwri ger eu bron, yr hŷn a gynhyrfodd eu holl nwydau dialgar; deddfasant yn y fan fod treth o'r 15fed yn cael ei gosod ar bob eiddo symudadwy trwy Loegr oll, er mwyn codi arian i alluogi'r brenin yn ei waith o ddarostwng y Cymry. Yn y cyfamser, Llewelyn a amlygodd drachefn ei barodrwydd i fyned naill ai i Groesoswallt neu'r Amwythig a rhoddi gwarogaeth i'r brenin; ond ar y telerau y cydnabyddid y cytundeb a wnaed rhwng Harri III ag yntau, ac hefyd y rhyddheid Eleanor de Montforte a'i gosgorddion, "y rhai." meddai, "gagedwir genych yn groes i ddeddfau moesgarwch cenhedloedd." Ond gwrthodwyd y ceisiadau rhesymol hyn gyda dirmyg; ac mewn uchel lys cyfraith, yn ngwydd y teyrn Seisnig a'i gynghorwyr, barnwyr y Goron, a lluaws o esgobion, ieirll, a barwniaid, darllenwyd yr holl ymdrafodaeth trosodd, a chyhoeddwyd Llewelyn yn deyrnfradwr, yn euog o derfysgu'r heddwch a wnaed rhyngddo â'r diweddar frenin, ac o anrheithiadau ar y Cyffiniau. Penderfynwyd hefyd ar ei ddorostwng gyda phob brys, trwy alw ar ddeiliaid milwrol y Goron i gyfarfod yn Worcester yr haf dilynol gyda meirch ac arfau priodol i gychwyn ar ryfelgyrch i Gymru. A thra y byddai'r rhyfelgyrch yn cael ei ddwyn oddiamgylch, trefnwyd fod i'r Cyffiniau gael eu gwarchod yn dda; fod i'r brenin omedd i'w ddeiliaid yn Lloegr, Iwerddon, a Guiene (yn Ffrainc), eu cyflenwi a lluniaeth, neu unrhyw nwydd defnyddiol arall tan y perygl o gael eu hystyried yn elynion i'r brenin, a'u cosbi yn gyson â hyny. Nid oedd awdurdodau eglwys Rhufain ychwaith yn ddystaw yn y cyfwng pwysig hwn. Arfer y Butain bob amser, pan ddigwyddai cweryl rhwng ei chariadon oedd ochri gyda'r blaid gryfaf a chyfoethocaf; mor debyg i butain! Danfonodd Archesgob Canterbury lythyr at Llewelyn yn mha un y bygythid ef gyda'r dialeddau trymaf, onid ymostyngai; ac yn mhen ychydig amser, ysgymunwyd ef, a dodwyd ei holl feddianau tan felldith.

1277.

Yn gynnar yn y gwanwyn, Iorwerth a ddanfones gatrawd o dri chant o wŷr meirch i luddias rhuthriadau y Cymry ar y Cyffiniau. Apwyntiodd Syr Roger Mortimer yn gadben milwrol iddo yn siroedd Amwythig a Hereford; a neillduodd Mehefin 1af yn ddiwrnod i'w wŷr ei gyfarfod ef yn Worcester. Nid arbedai Iorwerth unrhyw foddion, pa mor anweddus ac isel bynag, tuag at ddwyn ei fwriadau i ben. Profai hanesyddiaeth mai yn ymraniadau y Cymry yr oedd eu gwendid, a rhoddodd ei holl falais ar waith i fegino anghydfod rhwng eu penaethiad. Danfonodd at Iarll Warwick, ei gadlywydd yn sir Gaerlleon; ac at Payen de Chaworth, swyddog cyffelyb yn Neheudir Cymru, yn peri iddynt gyhoeddi heddwch i bob arglwydd a ymostyngai i'w awdurdod. Bu y cynygiad hwn yn abwyd llwyddiannus, canys Rhys ab Meredydd, Gruffydd ab Meredydd, Cynan ab Merydydd, a Rhys Windawd, arglwyddi cedyrn yn y Deheubarth, a droisant eu cefnau ar y Tywysog, ac a ymunasant â'r Saeson. Bu hyn yn angau i achos Llewelyn yn y parthau hyny, canys dilynwyd y gwŷr dylanwadol hyn yn eu hanwladgarwch gan y mân arglwyddi cymydogol; syrthiodd castell Ystradwy, ac ymwthiodd y gelynion mor bell ag Aberystwyth, lle yr adeiladasant gastell.

Yr oedd yr ystorm erbyn hyn yn dechreu ymdorri ar ein hanffodus dywysog, a haul annibyniaeth y genedl yn gogwyddo at fachlud; ac ni bydd gennym bellach, er mor annifyr y gwaith, ond cofnodi digwyddiadau pruddaidd y machludiad hwn, a gwylio symudiadau Llewelyn ddewr hyd yr awr felltigedig hono y syrthia efe yn ysglyfaeth i gynllwynion bradwyr. Yn fuan ar ol y Pasg, Iorwerth a ymadawodd o Lundain am ororau Cymru, er mwyn rhagddarparu pethau. Trefnodd fod i lynges y Pum Porthladd Diffynol (Cinque Ports) gydweithredu ar y môr, ac ymosod ar Ynys Môn, gan mai oddiyno y cai'r Cymry y rhan fwyaf o'u lluniaeth yn amser rhyfel. Anfonodd fyddin hefyd i'r Deheubarth, i adgyfnerthu Payen de Chaworth, fel y gallai hwnw wthio yn mlaen i'r Gogledd; a thrwy hyn y byddai gan Llewelyn dri ymosodiad i'w gwylio ar unwaith. Nid oedd y cynllun hwn yn wreiddiol i Iorwerth, canys ei dad o'i flaen a'i defnyddiasai ugain mlynedd yn ol gydag aflwyddiant truenus; gwyn fyd y Cymry pe gallesid dweyd yr un peth am ei ffrwyth y tro hwn o flaen byddin luosog y Deheudir, Rhys ab Maelgwn a gŵyr Geneu'r Glyn, yr unig ffyddloniaid yn y cŵr hwnw, a giliasant i Wynedd, gan adael eu tir yn ddiffaeth. Gauafodd Iorwerth ar Forfa Caer - yno yr oedd ei brif wersyll, eithr ei wŷr a dreiddiasent amryw filldiroedd yn mhellach i'r wlad, ac a adeiladasent gastell yn Fflint. Oddiyno aethant gan belled a Rhuddlan, ac adgyweirio y castell hwnw hefyd a wnaethant.

Yn yr haf, y brenin yn gweled fod y Cymry wedi gadael y Perfeddwlad, a orymdeithiodd mor bell a'r afon Gonwy. Yr oedd Llewelyn wedi croesi yr afon hono o'i flaen, ac yn ymlechu yn nghadarnfeydd Eryri; ac er holl gynddaredd a chryfder y brenin y tro hwn eto ni feiddiai efe groesi yr afon a ddywedasai gynifer o weithiau wrth drais a gorthrwm "hyd yma yr ewch a dim yn mhellach," A diau pe buasai ein harwr wedi darparu ar gyfer porthiant ei wŷr lluosog, trwy ddwyn digon o luniaeth gydag ef o'r iseldiroedd cyn encilio, y cawsai drachefn y pleser o weled byddin fostfawr y Sais yn dihoeni gan afiechyd a newyn, ac yn gorfod dychwelyd yn ol i'w gwlad mewn gwarth a chywilydd. Ond fellu'r anffawd, nid oedd ganddo ef a'i wŷr ond ychydig iawn o luniaeth ar eu cyfer eu hunain, a'r lluaws ffoaduriaid oedd tan eu nawdd. O ganlyniad, dechreuodd newyn hylldremu yn eu hwynebau; a thra yr oedd Môn yn nwylaw'r gelyn, a'r Iseldiroedd wedi eu hanrheithio ganddo, a'i lynges yn gwibforio hyd y glennydd, er atal pob cymorth o Ffrainc ac Iwerddon, daeth cyfyngder mawr yn Eryri; a thybiodd Llewelyn mai y llwybr doethaf fyddai dyfod i ryw fath o heddwch. Gwyddai mai anfanteisiol iawn iddo ei hun fyddai'r cyfryw heddwch o angenrheidrwydd, onide, ni dderbynnid hwy gan y blaid wrthwynebydd. Cydsyniodd y brenin i dderbyn ei gynygiad ar y telerau fod iddo roddi ei hun ar ei diriondeb ef. Nid oedd ond tiriondeb creulawn i'w ddisgwyl oddiar ei law; ac er mor anhawdd i dywysog fel Llewelyn ymostwng, eto, yr oedd gwaredigaeth ei gydwladwyr newynog yn galw am iddo wneud hyny; ac awgryma llawer hanesydd fod ei serch anorchfygol at y garcharedig Eleanor de Montforte yn ei ddirgel gyfeirio at ffafr Iorwerth, fel yr unig lwybr y gallai gael gafael ar obaith ei lygaid. Felly penderfynwyd ar y telerau canlynol: Fod i'r tywysog ryddhau ei holl garcharorion rhyfel, a thalu i'r breniu ddeng mil a deugain o forciau. Fod i bedwar cantref y Perfeddwlad gael eu rhoddi i fynnu i'r brenin a'i hiliogaeth tros byth. Fod pleidwyr y Saeson i gael eu hadferyd i'r holl feddianau oedd eiddynt ar ddechreu y rhyfel. Fod i'r tywysog gadw meddiant o Ynys Môn, a thalu i'r brenin fil o forciau bob blwyddyn am dani; eithr os byddai efe farw yn ddi epil fod i'r Ynys syrthio i feddiant y brenin a'i etifeddion hyd byth. Fod i'r holl farwniaid Cymreig ddal eu tiroedd tan y brenin, oddieithr pum arglwydd Eryri, y rhai oeddynt i arddel Llewelyn fel penteyrn am ei oes ef. Fod i Llewelyn ddyfod i Loegr bob Nadolig i dalu gwarogaeth i'r brenin; ac fod iddo, mor fuan ag y cai ryddhad oddi wrth ei ysgymundod, ddyfod i Ruddlan ac ymostwng ger bron ei orchfygydd; a myned i Lundain ar amser penodedig i gyflawni defod gyffelyb yno wedyn. Am ei oes ef yr oedd yr enw Dywysog Cymru i gael ei arddel; ac ar ôl hyny, yr oedd pum' barwn Eryri i ddal eu tiroedd tan y brenin. Er mwyn sicrhau cyflawniad yr amodau hyn, yr oedd y Tywysog i roddi yn wystlon ddeugain o brif bendefigion Gwynedd. Fod iddo bob blwyddyn, gyda deugain o foneddigion gymeryd llw i gadw yr amodau hyn; ac os byddai iddo mewn un modd ballu cyflawni yr hyn a addawsai, fod y boneddigion hyny yn rhwym trwy eu llwon i ymadael ag ef, a phleidio'r brenin. Fod iddo ryddhau ei frawd Owen o garchar, ac adferyd iddo ei feddianau; talu mil o forciau yn y flwyddyn i'w frawd Roderic; a phum' cant mhorc i'w frawd Dafydd. Dyma y cyfeiriad cyntaf a geir at Roderic - wedi dianc o garchar yn nwylaw Llywelyn yr ydoedd yn awr, ac ymuno a'r Saeson. Yr oedd Dafydd hefyd y pryd hwn yn ngwasanaeth Iorwerth, yr hwn a'i gwnaeth yn farchog, ac a roddes iddo mewn priodas ferch iarll Derby, Ystafellyddes i'r frenhines; gweddw brydferth newydd gladdu ei gŵr. Gwnaed Dafydd hefyd yn arolygwr yr holl gestyll Seisnig yn Nghymru; a'r brenin a wnaeth anrheg iddo o gestyll Dinbych, a Frodsham yn sir Gaer, gyda thir yn perthyn iddynt gwerth mil o bunnau yn y flwyddyn.

Fel breintiau i'r tywysog, chwanegwyd y telerau canlynol: Os efe a hawliai diroedd, oddieithr y rhai yn meddiant y brenin, neu yn mhedwar cantref y Perfeddwlad, gweinyddid cyfiawnder yn ol defodau yr ardaloedd yn mha rai y digwyddai y cyfryw diroedd sefyll. Fod camymddygiadau a beiau pob plaid i gael eu dileu a'u llawn faddeu. Fod i'r deiliaid a ddalient diroedd yn y pedwar cantref, eu dal ar yr un telerau a chyn dechreuad y rhyfel. Fod pob ymrafael a ddigwyddai rhwng y tywysog, os ar y Cyffiniau y digwyddent, gael eu terfynu yn ol deddfau y parthau hyny; os yn Nghymru, yn ol cyfreithiau Cymru. Y byddai pob elw oddiwrth y llongddrylliadau a gymerent le ar forlenydd y tywysog yn eiddo iddo ef; yn nghyda phob breintiau eraill cyffelyb a fwynheid gan ei hynafiaid; ac fod pob cweryl i gael ei benderfynu yn yspryd y cytundeb blaenorol. Yr amodau hyn a gadarnhawyd ai ran Llewelyn gan Tudur ab Ednyfed a Gronw ab Heilyn; ac ar yr ochr arall gan wŷr cyfrifol.

1278.

Y brenin, o'i ewyllys da, a wrthododd y tâl blynyddol; dwy fil o forciau yn unig a dderbyniodd, a hyny yn Rhuddlan. Yna efe a ddychwelodd yn fuddugoliaethus i Lundain, a derbyniwyd ef yno gyda llongyfarchiadau a llawenydd mawr. Tybiai fod ei waith yn gyflawn, a'i droed ar annibyniaeth y Cymry. Yn mysg ei osgorddlu, ac yn chwanegu at rwysg ei orymdaith, yr oedd y llew gorchfygiedig, mewn cyflwr diraddiol mae'n wir, ond yn llew er hyny. Yr oedd y deugain gwystlon hefyd oll yn arglwyddi cyfrifol Cymreig, yn urddasol yr orymdaith hono ar eu taith i'r Brifddinas gyda'u Tywysog i dalu gwarogaeth yno drachefn, a hwynt-hwy i aros yno yn sicrwydd am gyflawniad y cytundeb rhag-grybwylledig. Wedi i ddefod y warogaeth fyned heibio, y barwniaid hyn a letyent mewn rhan o Lundain a elwid Islington, a phentrefydd cyfagos; a chawsant hwy, a'r lluosog wasanaethyddion a ddygasent gyda hwynt o Gymru, brofi yn fuan o wermod chwerw dibyniaeth. Yr oedd y llaeth yn brin; ac nid oeddynt hwythau yn hoffi, a diamheu na buasai yn dygymod a'u cyfansoddiad, gwrw a gwinoedd a mwythderau Llundain. Yn chwanegol at hyn, byddai lluaws o bobl, pa bryd bynag y deuent allan o'u lletai, yn eu dilyn ac yn sylldremio'n ddirmygus arnynt fel pe buasent gynifer o anwariaid, ac yn gwawdio eu golwg dyeithr, a'u hymddangosiad anghyffredin. Hyn a barai iddynt ystyried y Saeson yn bobl anniwylliedig a digroesaw i ddyeithriaid, a gweled bod yn well dwyn y cledd hyd lechweddau noethlymion eu gwlad eu hunain, na derbyn moethau yn mhlith estroniaid, ar drugaredd galed gormeswr a'i ddeiliaid gwawdus ac erledigaethus. Daethant i'r penderfyniad o wrthryfela y cyfleusdra cyntaf, a marw yn wŷr rhyddion yn hytrach na byw yn gaethion.

Yr oedd yn amlwg i bawb yn awr mai amcan Iorwerth ar farwolaeth Llewelyn oedd uno Cymru oll a'i goron. Ond efe a wyddai yn eithaf da na byddai dewrder a chariad yr hen genedl Gymreig at ryddid ddim marw gyda ei Thywysog; o ganlyniad, nid arbedai unrhyw drafferth tuag at ennill ei hewyllys da, a dileu eu rhagfarnau hyny a fyddent yn sicr o wrthweithio ei fwriadau. Yr oedd yn hysbys iddo fod traddodiad yn ffynnu yn eu mysg y byddai i'w hen Frenin Arthur ail-ymddangos i ddial eu camwri, ac adennill iddynt eu hollol annibyniaeth a'u breintiau cyntefig. Gyda'r amcan o ddileu yr ofergoeledd hon, Iorwerth a'i frenhines a gyrchasant i Lys Afallen (Glastonbury), ar gyffiniau Gwlad yr Haf, lle y dywedid fod esgyrn Arthur yn gorwedd; a than yr esgus o anrhydeddu ei weddillion, parodd eu cyfodi a'u harddangos yn gyhoeddus, ac yna dodwyd hwynt i orwedd yn y fynachlog gerbron yr allor; ac yn gerfiedig ar yr arch yr oedd hysbysiad beth oedd ei ;chynhwysiad, ac i'r esgyrn o'i mewn gael eu gweled gan frenin a brenhines Lloegr, ar y dydd a'r dydd, pan oedd hefyd yn bresennol Iarll LaToy, Esgob Norwich, a lluaws o bendefigion ac arglwyddi.

Yn ystod arosiad y brenin yn Glastonbury, cynhaliwyd senedd yno; a gwysiwyd Llewelyn i ymddangos ger ei bron, gyda'r amcan, mae'n ddiamheu, o argraffu ar ei feddwl yntau a'i osgorddlu y sicrwydd am farwolaeth y hen frenin, a'r anmhosiblrwydd o sylweddoli y dychymygion gwagsaw am ei ailddyfodiad. Pa fodd bynag, cafodd Iorwerth brawf fod annibyniaeth y Cymry eto yn fyw; ac er ei holl fost o'u gorchfygu, yr oedd eu cariad at ryddid yn anorchfygol; ac fel eu cynrychiolydd, gwelodd Llywelyn yn dda anufuddhau y wŷs hon o Glastonbury.

Nid gŵr i oddef sarhad oedd Iorwerth; ond, er hyny, yr oedd yn ddigon call i wybod nad cosbi Llywelyn oedd y llwybr sicraf iddo gyrhaedd ei amcan mawr, sef darostyngiad y genedl yr oedd Llywelyn yn ben arni. Methasai yn hyn trwy ddewrder, yn awr beth fyddai iddo roddi prawf ar ffalsder. Prysurodd, a'i frenhines gydag ef, i Worcester; a thrachefn gwysiodd Llewelyn i ddyfod yno. Eithr rhag y gwrthodai eilwaith, galwyd y wys hon yn gwahoddiad i wledd," a meluswyd hono drachefn gan addewid y byddai i'r brenin roddi Eleanor de Montforte yn wraig iddo. Tarawodd y brenin ar ei lecyn gwan - ei serch; ac yr oedd ymostwng i elyn trahaus yn bris bychan mewn cymhariaeth am gaffaeliad dyweddi mor hawddgar. Llewelyn a aeth i Worcester; a'r brenin a wnaeth y goreu o'i fargen i drymhau yr iau arno. Y mae Gwladgarwch a Dynoliaeth yn troi draw oddiwrth yr olygfa a gymerodd le. Pan ddygwyd ef gerbron Iorwerth, efe a ymostyngodd hyd at draed y trawsfeddiannwr, gan apelio at ei drugaredd a dodi ei hunan yn gyfangwbl yn ei law. Yna archwyd i'r ymostyngydd gyfodi; ac oherwydd ei ymddangosiad edifeiriol, y brenin a rasusol gymerth drugaredd arno, ac a faddeuodd iddo ei aml gamweddau: eithr tan rybuddion trystfawr os efe a anufuddhai wedyn nad allai ddisgwyl ond y cospedigaethau llymaf. Dyma y weithred fwyaf darostyngol a gyflawnodd yn ei holl fywyd: ac nis gall dim ddileu y gwarthrudd hwn oddiar ei gymeriad ond y ffaith ei fod yn gaethwas cariad ar y pryd; ac wrth adfyfyrio arno yr ydym yn barod i ofyn, Ai hwn ydyw'r Llewelyn a wrthsafodd holl allu a chynllwynion Lloegr am y cyfnod hirfaith o 36 o flynyddau, a ysgydwai ei gleddyf nes y crynai teyrnas Lloegr hyd ei gwraidd, ac a syrthiodd yn y diwedd yn mhlith adfeilion ei wlad yn aberth ar ei hallor?

Yna'r brenin wedi llwyddo i iselhau Llewelyn i'r diystyrwch pennaf, a roddodd iddo Eleanor de Montforte, yn nghydag etifeddiaeth ei diweddar dad. Ond ar fore dydd y briodas, tra yr oedd ef a'i ddyweddi ar gyrchu i'r offeren, Iorwerth a chwanegodd amodau eraill arno, sef fod iddo ddyfod i dalu gwarogaeth ddwy waith bob blwyddyn; ac na byddai iddo noddi yn ei diriogaeth neb gelynol i frenin Lloegr. Pa fodd bynag, o'r diwedd, cymerodd y brioda le ar y 13eg o Hydref.

Mor fuan ag yr oedd y ddefod briodas drosodd, Llewelyn a'i briod a brysurasant tua Chymru, yn ddiolchgar iawn, mae'n ddiamheu, am waredigaeth o grafangau'r fath ormeswr. Yr oedd sefyllfa wladol y genedl tua'r amser hwn yn isel iawn - eu darostyngiad yn gorwedd fel hunlle ar eu hysprydoedd, a galaru yr oeddynt am eu rhyddid gyda galar chwerw; eithr yn rhy weiniaid i'w adennill. Eto, er ar lawr, nid oeddynt feirwon; er tan iau yr estron, yr oedd eu cariad at ryddid a'u breintiau cynhenid mor fyw ag erioed, a'r cariad hwn a chwyddai bob gormes bychan yn drosedd anfaddeuol o fawr. Y penaethiaid Cymreig hyny a ddiystyrwyd yn Llundain, ac a ryddhawyd o'u gwystlaeth ar briodas y Tywysog, pan ddychwelasant i'w gwlad, a ddechreuasant hau hadau gwrthryfel yn mhlith eu cydgenedl, a'u hanog i anufudd-dod pa bryd bynag y deuai'r amser cyfaddas. Hefyd, yr oedd cyngaws cyfreithiol rhwng Llewelyn a Gruffydd ab Gwenwynwyn yn nghylch ystâd a ddaliai gan y brenin ar y Cyffiniau Seisnig. Gwysiwyd Llewelyn, yn groes i'w urdd fel tywysog, i fod yn bresennol yn y cyngaws hwnw. Nid oedd Dafydd, ei frawd, ychwaith er wedi gadael ei wlad ac ymuno â'i gelynion, ddim heb achwynion celyd yn erbyn ei gyfeillion mabwysiedig. Gwysiwyd yntau gan Sais o'r enw Wm. Venables, yn groes i ddefodau Cymru, ac yspryd yr amod rhyngddo â'r brenin, i ymddangos yn nhref Caerlleon, o achos rhyw gamwri yn mhentref Estyn. Y swyddog hwnw hefyd a gymynasai goedwigoedd ar etifeddiaeth Dafydd yn Lleweni, Dyffryn Clwyd, gan eu cludo i'r Iwerddon, a chadw arian eu gwerthiant iddo ei hun. Reginald de Grey swyddog Seisnig arall, hefyd a fygythiodd ddwyn oddiarno gastell Hope, a chymeryd ei blant yn wystlon am ei iawn-ymddygiad yn y dyfodol. Llawer o benaethiaid Cymreig ereill a gwynent yn barhaus o herwydd trais anniwall eu goresgynwyr. I goroni y cyfan, Iorwerth a apwyntiodd lysoedd cyfreithiol Seisnig, ac a rannodd Gymru yn siroedd, ar ddull siroedd Lloegr; a chan ddileu hen gyfreithiau doethgain Hywel Dda, sefydlodd y rhai Seisnig yn eu lle. Y mae yn syn pa fodd y darfu i deyrn mor lwynogaidd a Iorwerth erioed feddwl am gyflawni gweithred mor ynfyd. Dylasai wybod fod defodau a chyfreithiau cenedl yn bethau tra anwyl ganddi, a'u diwreiddio tan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol yn orchwyl peryglus. Pa faint mwy felly gyda chenedl mor hoff o hynafiaeth, ac mor effro i bob sarhad, â'r genedl Gymreig? Penderfynasant fel un gŵr na fynnent na chyfreithiau na defodau ond eu cyfreithiau a'u defodau henafol eu hunain.

Heblaw trallodion cyhoedd Llewelyn, cyfarfyddodd a thrallod deuluaidd chwerw. Bu farw ei wraig, Eleanor, cyn pen dwy flynedd wedi ei phriodas, ar enedigaeth merch fach. Fel hyn, ar ol disgwyl blynyddau lawer am dani, a'i chael yn y diwedd trwy waseiddio ei hunan, byr a darfodedig fu ei fwynhad gyda hi. Trwy ei bod o haniad Seisnig, ac yn berthynas i'r brenin, ymddengys fod ynddi dueddfryd gref at heddychu y ddwy genedl; ac yn ei marwolaeth hi, torrwyd y cysylltiad olaf rhyngddynt.

1282.

Fel y crybwyllwyd, yr oedd y ddau frawd, Llewelyn a Dafydd, wedi bod ar delerau tra anfrawdol er dechreuad cynghrair y blaenaf gyda Simon de Montforte. Ond yn eu caledi presenol adgymodwyd hwynt, a gwelsant mai yn llwyddiant y naill yr oedd dyogelwch y llall. Tyngwyd cytundeb rhyngddynt, a Dafydd a ymgiliodd yn ddirgel oddiwrth y Saeson, ac a ddaeth i Gymru. Dechreuwyd gwaith y gwrthryfel yn ddiatreg, trwy i Dafydd ruthro yn sydyn ar gastell Hawarden, a'i gymeryd. Roger de Clifford, ceidwad y castell hwn ar y pryd, oedd y prif farnwr Seisnig yn Nghymru; daliwyd ef yn ei wely, a than archoll tost cludwyd ef yn garcharor i Eryri; daliwyd marchog hefyd o'r enw Paen Gamers, a lladdwyd Ffulk Trygold, a lluaws heblaw ef, yn farchogion a gwŷr cyffredin. Cymerodd yr ymosodiad hwn le ar nos Sul y Blodau. Yna y ddau frawd a unasant eu byddinoedd, ac a warchaeasant ar gestyll Fflint a Rhuddlan; ac yr oedd Cymru benbwygilydd yn dân gwrthryfel. Rhys ab Malgwyn, yn y Deheudir a oresgynnodd gastell Penwedig; a Gruffydd ab Meredydd a gymerth gwmwd Mefenydd. Amryw bendefigion ereill a godasant, ac a ymosodasant ar y Cyffiniau Seisnig, gan eu hanrheithio.

Yr oedd Iorwerth yn cynnal gwyliau'r Pasg, yn nhref Devizes, pan glybu am y digwyddiadau hyn, a chanfu ar unwaith mai rhagdraith i wrthryfel nerthol oeddynt. Danfonodd adgyfnerthion i' w gestyll gwarchaedig, a gwysiodd ei ddeiliaid milwrol i'w gyfarfod ef yn mis Mai, yn nhref Worcester. Cyfododd dreth ar y deyrnas, echwynnodd arian gan y marsiandwyr a'r gwŷr eglwysig, yn ei wlad ei hun a'r Iwerddon. Yr oedd ei ddeiliaid oll yn frwdfrydig tros ei gynorthwyo yn ei amcan o lwyr ddarostwng y Cymry y tro hwn, a diffodd am byth yr ysprydiaeth terfysglyd hwnw at ryddid yn eu mynwesau. Lledaenodd y brwdfrydedd hwn hyd yn nod i blith y Scotiaid, a chynygiasant eu help, heb feddwl fawr fod Iorwerth ar y pryd yn arfaethu eu darostyngiad bwythau, ac y caent bwythau cyn pen ychydig flynyddau wybod a theimlo beth oedd ei egwyddorion rheibus. Anfonodd at y ddau archesgob hefyd, yn peri iddynt ysgymuno Llewelyn a'i ddilynwyr fel bradwyr a therfysgwyr heddwch.

Pa fodd bynag, cyn myned i'r eithafion hyn, John Peckham, archesgob Canterbury, yn ddiarwybod i'r brenin, meddai ef, a ddaeth i Gymru eilwaith ar fedr heddychu y gwrthryfelwyr. Ni chynhyrchodd ei ymweliad ond ychydig, os dim lles. Yn y cyfamser, Iorwerth a gychwynnodd i'w ymdaith, a chyrhaeddodd Worcester yn niwedd Ebrill. Deallodd y cai lawer mwy o waith darostwng ar y gwrthryfel nag a ddychymygasai wrth gychwyn. Oddiyno gwysiodd ei ddeiliaid i'w gyfarfod yn Rhuddlan yn mis Mehefin. Ar ei daith rhwng Worcester a Chaerlleon, pobl y wlad a ymunasant âg ef, y rhai a osododd efe ar waith i agor ffyrdd o'i flaen yn Nghymru. Ar ol tario yn Nghaer am bumthegnos, i adfywio ei wŷr, efe a ymosododd ar gastell Hope. Y gadarnfa hon, meddiant y tywysog Dafydd, a roddwyd i fynu bron ar ei ddyfodiad. Pan ddynesodd efe hefyd at Ruddlan y tywysogion Cymreig a godasant y gwarchae, ac a enciliasant tuag Eryri, gan ddewis yn hytrach orchfygu mân finteioedd y brenin, nag anturio brwydr agored gyda'r fath fyddin fawr anghyfartal. Eithr nid oedd yr enciliad hwn ond ffug i faglu eu gelynion; troisant ar eu herlynwyr, adran gref o'r fyddin Seisnig; ac mewn brwydr a gymerodd le rhyngddynt â hi, daliasant bedwar-ar-ddeg o'i swyddogion: lladdwyd yr arglwydd Audley, ac eraill wŷr o urddas; a chymaint oedd braw y brenin ei hun, o herwydd y gorchfygiad hwn, fel yr ymgiliodd o Ruddlan i gastell Hope er ei ddyogelwch. Ond erbyn canol Gorphenaf yr oedd efe wedi ân- turio i Ruddlan eilwaith; ac yr oedd yn gyneuaf cyn y gallodd ddechreu ar unrhyw symudiad o bwys. O Ruddlan, efe a ddanfonodd wysiadau at siryddion y siroedd cyfagos, yn gorchymyn iddynt ddanfon gwŷr ato i gymynu'r coed, ac arloesi ffordd i'w fyddin ymwthio yn mhellach tua'r Gonwy. Ac er mwyn chwanegu sêl at ei achos, rhannodd y Pedwar Cantref, y rhandir ag oedd eisoes tan ei awdurdod, rhwng arglwyddi Seisnig.

Yr ydym yn awr yn myned i gyfnod newydd yn mywyd ein harwr - cyfnod y cyflafareddiad (arbitration), pryd yr amcanai Iorwerth trwy deg gyflawni yr hyn yr ofnai nas gallai ei gyflawni trwy annheg - cyfnod yr ysgrifennu llythyrau, yn mha un y daw ochr ddisglaer ar gymeriad Llewelyn i'r golwg, a'i allu a'i athrylith yn llewyrchu lawer mwy tanbaid ynddo nag wrth garu y cledd. Nid ydym am ddibrisio egwyddor fawr ogoneddus cyflafireddiad (bydd hi yn ben toc, a brysied y dydd!); ond yn offeryn yn llaw malais, ffiaidd beth ydyw - drewdod yn nwylaw gŵr fel Iorwerth, canys amlwg yw mai llyfu y garreg yr ydoedd am nas gallai yn rhwydd ei chnoi. Yrra yn bygwth ar y naill law, denai ar y llall. Danfonodd archesgob Canterbury i Gymru y drydedd waith gyda'r amcan o ymresymu y gwrthryfel i lawr. Ond cafodd y gŵr urddasol allan fod ei apeliadau yn wannach na milwriaeth ei frenin, nad oedd gan ei resymau nemawr gwell traed i sefyll arnynt na hawliau egwein y teyrn Seisnig i ymryson â'r Cymry, a bod y tywysogion Cymreig yn deall logic cystal ag y deallai yntau, er mor "farbaraidd" yr ystyrid hwynt gan eu gelynion. Y mae'r brwydrau papurol hyn ar gael; a chan y dangosant wir sefyllfa pethau ar y pryd, ni a ddifynwn rai o'r llythyrau dyddorol a phwysig a ysgrifennwyd gan y ddwy ochr.

Ar y cyntaf, yr archesgob a atolygodd ar Llewelyn, Dafydd, a'r Cymry oll, i ymostwng yn ddiamod; a'r tywysog a atebodd ei fod yn barod i ymostwng i'r brenin, ond ar yr amod fod iddo gael cadw ei gydwybod yn ddilwgr, trwy yr hon yr oedd yn rhwym i gynorthwyo ei bobl; a chadw hefyd urddasoldeb ei sefyllfa. Yr Archesgob a ddychwelodd gyda'r ateb hwn at y brenin, ac yntau a atebodd na fynnai ddim amodau gan y Cymru oddieithr ymostyngiad llwyr i'w awdurdod ef. Da y gwyddai'r Archesgob na dderbynnid hyn gan y blaid arall. Yna efe a ymgynghorodd â'r arglwyddi Seisnig, a chytunwyd ar y telerau canlynol, y rhai a ddygodd yr archesgob, gyda chaniatâd llechwraidd y Brenin, at y Tywysog: -

A ganlyn a ddarllenwyd i Llywelyn yn ngwydd ei gyngor.

"Ni dderbyn y brenin ddim amodau o barth y Pedwar Cantref, y rhai a roddes efe i'w bendefigion; nac ychwaith yn nghylch Ynys Môn.

" Am wŷr y cantrefi hyn, os dychwelant i heddwch, efe a ymddwyn tuag atynt fel y gweddo i'w Fawrhydi. Ond credu yr ydym yr ymddwyn efe yn dirion os ymblygant i'w awdurdod; ninau a'n cyfeillion a egniwn ein goreu i ddwyn hyn oddiamgylch, a chredu yr ydym hefyd y byddwn yn llwyddiannus.

" Am Llewelyn ei hun, ni allasem gael un ateb arall na bod iddo ymostwng yn ddiamodiad i ewyllys y brenin; a chredwn y bydd i'r brenin ymddwyn yn dirion tuag ato. Ac i ddwyn hyny i ben, bwriadwn gyda'n cyfeillion eraill, lafurio â'n holl egni; ac hyderwn y cawn ein gwrandaw gyda llwyddiant.

A ganlyn a ddywedwyd wrth y Tywysog yn ddirgel.

" Yn 1af, Fod y pendefigion wedi cytuno ar y dull hwn o'r tiriondeb brenhinol; sef ar ymostyngiad yr arglwydd Llywelyn, y bydd i'w Fawrhydi ddarparu cynhaliaeth anrhydeddus iddi o fil o bunau yn y flwyddyn a rhyw iarllaeth gyfaddas yn Lloegr; ond ar y tir y byddai i Llewelyn roddi i'r brenin feddiant o Eryri yn gyflawn ac am byth. Y brenin a ddarparai hefyd tros ferch y Tywysog yn weddus megis i'w briod waed ei hun. Ac y maent yn gobeithio llwyddo i dueddu meddwl y brenin at hyn.

"Eto, os digwydd i Llewelyn gymeryd gwraig, a chael o honni blant, y pendefigion a fwriadant erfyn ar y brenin fod i'r hiliogaeth hyny ddilyn Llewelyn yn y diriogaeth, sef yr iarllaeth, mewn etifeddiaeth fythol.

" Eto, am y bobl dau briodol lywodraeth y Tywysog, yn Eryri cystal ag yn mhobman arall, darperir yn gyflawn am eu dyogelwch a'u hanrhydedd. Ac at hyn y mae tiriondeb y brenin yn ddigon tueddol, gan ddymuno darpar ar gyfer cysur ei bobl."

A ganlyn a ddarllenwyd wrth Dafydd brawd Llewelyn yn ddirgel.

" Os, er clod i Dduw ac iddo ei hun, y cymer efe y groes ac yr â i'r Tir Sanctaidd, darperir iddo yn anrhydeddus yn ol cyfaddasrwydd ei sefyllfa; ond ar y telerau na ddychwelai oni elwid arno trwy diriondeb y brenin. Ac ni a erfyniwn ar ei Fawrhydi, ac yr ydym yn gobeithio ymwrandawiad llwyddiannus, y bydd i'w Fawrhydi wneud darpariad iddo ef a'i epil.

" At y pethau hyn yr ydym o'n hewyllys da ein hunain y'n ychwanegu fod pob peryglon yn hongian uwch ben eich cenedl, peryglon llawer trymach nag yr ydym ni wedi son am danynt. Yr ydym yn ysgrifennu pethau celyd, ond llawer caletach fyddai rhuthro arnoch trwy nerth arfau, ac yn y diwedd eich hollol ddyddimu; ac y mae'r peryglon hyn yn cynyddu yn barhaus.

"Eto, peth anhawdd iawn ydyw bod bob amser mewn rhyfel; byw mewn blinder corph ac yspryd, a beunydd yn ymddigasu mewn dichellion; ac heblaw hyn, byw a marw mewn pechod marwol diderfyn, a chenfigen.

"Eto, bydd ein galar yn fawr os na ddenwch mewn rhyw fodd i heddwch, canys ofni yr ydym y bydd raid cyhoeddi dedfryd Eglwysig arnoch oherwydd eich troseddau, oddiwrth y rhai nis gellwch ymesgusodi, ac am y rhai y cewch ryddhad od ymostyngwch. Ac am y pethau hyn rhodder i ni ateb ysgrifenedig."

Ateb y Tywysog.

:"At y Parchedicaf Dad, &c., Ioan, Archesgob Caergaint, &c., Llewelyn, tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri, yn anfon annerch.

" SANCTAIDD DAD. - Yn unol â'ch cyngor, yr ydym yn barod i ddyfod i heddwch â'r brenin, ond eto mewn dull diberygl a gweddus i ni ein hunain. Ond gan nad ydyw y dull cynwysedig yn y telerau danfonedig atom ddim yn y lleiaf yn weddus nac yn ddiberygl, fel ag yr ymddengys i ni a'n cyngor, ac am ba un y mae pawb a'u clywsant yn rhyfeddu yn fawr, am ei fod yn tueddu yn fwy i'n dinystr, a distryw ein pobl a ninau, nac i'n hanrhydedd a'n 'dyogelwch; ni ad ein cyngor i ni mewn un modd gytuno iddo, pe dymunem; a'r pendefigion eraill hefyd, a'r bobl dan ein llywodraeth, ni chydsyniant iddo, oherwydd y diamheuol ddinystr a dilead a ddigwyddent o hyny.

"Ond eto erfyniwn ar eich Tadoldeb, gan eich bod wedi llafurio cymaint hyd yn hyn tuag at ffurfio heddwch dyledus, gweddus, a dyogel, y bydd i chwi barhau hyny, gan ddwys ystyried y telerau y rhai a ddanfonom atoch yn ysgrifenedig. Oherwydd y mae yn fwy anrhydeddus ac yn fwy cyson â chywirfarn, fod i ni, y rhai sydd genym iawn hawl i'r tiroedd, eu dal hwy dan yr arglwydd Frenin, na'n dietifeddu ni a'u traddodi i ddyeithriaid.

"Rhoddwyd yn Ngarthcelyn."

Atebion y Cymry.

"Yn 1af, Er na fyn y brenin delerau amodiad am y Pedwar Cantref, a'r tiroedd eraill a rannodd efe rhwng ei bendefigion, nac am Ynys Mon; eto ni chaniatâ cyngor y Tywysog iddo ffurfio heddwch oddieithr gydag amodiad am y cyfryw. Oblegyd iawn feddiant y Tywysog ydynt y cantrefi hyn, a berthynent o wir gyfiawnder i'w hynafiaid tywysogaidd ef er amser Camber mab Brutus, heblaw eu bod yn rhan o'r Dywysogaeth gadarnhaol iddo gan y parchus Ottobonus, cenhadwr y Pab yn y wlad hon, trwy gydsyniad yr arglwydd Frenin Iorwerth, a'i dad ef, fel y gwelir oddiwrth eu hysgrifau hwy. Ac hefyd, mwy cyfiawn i'r gwir etifeddion ddal y cantrefi hyny dan yr arglwydd Frenin, am arian a'r arferol warogaethau, na'u rhoddi i ddyeithriaid a dyfodiaid; y rhai pe llywodraethent yn un man a lywodraethent trwy drais a chywilydd.

"Hefyd, deiliaid holl gantrefi Cymru a ddywedant un ac oll na roddant eu hunain ar drugaredd y Brenin yn ol ei ewyllys ef. (1.) Oherwydd na chadwodd yr arglwydd Frenin o'r dechreuad na'r amodau na'r llwon na'r gweithredoedd ysgrifenedig tuag at eu harglwydd y Tywysog, na thuag atynt hwythau. (2.) Oherwydd iddo ymddwyn fel y traws-lywodraethwr creulonaf tuag at yr Eglwys a'r gwŷr Eglwysig.

" Na chymerent hwy delerau y Brenin, am mai gwŷr y Tywysog oeddynt, yr hwn ei hun oedd yn barod i ufuddhau yn ol y defodau arferol.

" Am yr hyn a ddywedir, ' Fod i'r Tywysog ymostwng yn hollol a diamod i ewyllys y Brenin,' atebant, gan na feiddia yr un o'r cantrefi rhagenwedig ymostwng i'w ewyllys, oherwydd yr achosion rhagenwedig, ni chaniatâ eu cariad at y Tywysog iddo yntau ymostwng mewn un modd.

"Eto, mewn perthynas i'r pendefigion yn darparu fod mil o bunau yn cael eu rhoddi i'r Tywysog mewn rhyw fanyn Lloegr; atebant, na ddylai y cyfryw gynhaliaeth gael ei derbyn, oherwydd ei bod yn cael ei darparu gan y pendefigion hyny a ymdrechant ddietifeddu y Tywysog, fel y gallont gael ei diroedd yn Nghymru. Ac nid iawn i'r Tywysog ymadael â'i etifeddiaeth ef a'i hynafiaid yn Nghymru er amser Brutus, ac hefyd yn gadarnedig iddo ef gan genhadwr y Sedd Apostolaidd, fel y mynegwyd eisoes; a derbyn tir yn Lloegr, lle y byddai yn anwybodus o'r iaith, a'r moesau, a'r cyfreithiau, a'r defodau: a lle y dichon i rhyw ddadleuon gyffroi y Saeson yn ei erbyn o hen gasineb, trwy yr hyn y collai efe y tir hwnw tros byth.

"Eto, gan fod y Brenin yn bwriadu ymddifadu y Tywysog o'i gysefin etifeddiaeth, nid ydyw yn debyg y bydd i'r Brenin ganiatáu iddo feddiannu tir yn Lloegr, ar ba le nid ymddengys fod ganddo unrhyw hawl. Ac os na chaniateir i'r Tywysog feddiannu y tir anffrwythlawn a diffaeth, ei eiddo cynhenid trwy iawnder etifeddol yn Nghymru, pa fodd y caniateir iddo feddiannu tir maethedig a ffrwythlawn yn Lloegr?

"Eto, am fod i'r Tywysog roddi i'r arglwydd Frenin feddiant o Eryri yn hollol, yn fythol, ac yn heddychol; atebir gan fod Eryri yn rhan o Dywysogaeth Cymru, yr hon a biau ef a'i flaenafiaid er dyddiau Brutus, fel y dywedwyd eisoes, ni chaniatâ ei gyngor iddo ymadael a'r lle hwnw, a chymeryd lle llai dyledus iddo yn Lloegr.

"Eto, pobl Eryri a ddywedant, er y byddai i'r Tywysog roddi eu rhandiroedd i'r Brenin, eto hwynt-hwy ni phlygent i unrhyw estron, o iaith, a moesau, a chyfreithiau, yr hwn y byddent yn hollol anwybodus; oherwydd dichon y dygid hwynt felly i gaethiwed parhaus, a'u trin gyda chreulonder, megis y triniwyd cantrefi eraill oddiamgylch, gan swyddogion y brenin a'i weision, yn fwy creulon na Saraceniaid, fel ag y gwelir yn yr ysgrifau a ddanfonasant atoch, Sanctaidd Dad. "

Yn ngeiriau y gwladgarol Carnhuanawc, yn ei Hanes y Cymry, o ba lyfr y codasom yr ohebiaeth hon, bron air yn ngair, gan fod y cyfieithiad o honi ganddo mor dda fel nas gellir ei well; yn ngeiriau'r athrylithgar Garnhuauawc,"Clod i'ch coffadwriaeth anrhydeddus, chwi Bobl Eryri. Da y meithriniasoch y wreichionen ddiweddaf o annibyniaeth Cymraeg. Nid ymffrost wag a wnaethpwyd genych, pan lefarasoch y penderfyniad hwn; ond ad-brynasoch eich ymwystliad â gwaed eich calonnau - gwaed goreu Ewropa, yr hwn a ffrydiodd yn helaethlawn rhwng creigiau Eryri, pan, wedi syrthiad eich Tywysog, yr aberthasoch chwithau eich einioes yn yr un achos gogoneddus. Clod i'ch coffadwriaeth; a bydded i'r un yspryd, yr hwn a'ch bywiocaodd chwi, eto weithredu yn ein cenedl pa bryd bynag y goddefont ormes. Collasoch eich bywyd, mae'n wir; ond enillasoch i'ch plant barch a breintiau, y rhai ni fuasent byth yn eu mwnau ar law y gorthrymydd, oni buasai eich ymarweddiad dihafarch."

Ateb Dafydd ab Gruffydd.

"Pan elo efe i'r Tir Sanctaidd, efe a â o'i fodd ac o'i galon i Dduw ac nid i ddynion; a thrwy ganiatâd Duw nid â yno yn anfoddlawn, canys gwyrfod gwasanaeth trwy drais yn anfoddlawn gan Dduw. Ac os digwydd iddo ar ôl hyn fyned i'r Tir Sanctaidd o'i wir ewyllys ei hun, ni ddylai ef a'i etifeddion o achos hyny gael eu dietifeddu, ond yn hytrach enill gwobrwy. Heblaw hyn, nid yw y Tywysog a'i bobl yn cynnal rhyfel yn erbyn neb o achos dygasedd, neu elw, trwy ymosod ar diroedd eraill; ond er amddiffyn eu hetifeddiaeth a'u breintiau, a'u rhyddid eu hunain; a'r arglwydd Frenin a'i bobl a gynhaliant ryfel er mwyn hen ddygasedd ac yspeilio ein tiroedd ni. Yr ydym yn credu ein bod yn cynnal rhyfel gyfiawn; a gobeithiwn yn hyn y bydd i Dduw ein cynorthwyo, a thrwy Ei ddwyfol ddialedd yn erbyn difrodwyr yr eglwysi, y rhai yn llwyr a ddinystriasant, ac a losgasant, ac a yspeiliasant o'u dodrefn sanctaidd; a laddasant yr offeiriaid, y crefyddwyr llenyddol, y cloffion, y byddariaid, y mudion, y plant yn sugno bronau, y methedig, a'r cystuddiedig, heb arbed na gwryw na benyw; felly bydded yn mhell oddiwrth eich Sanctaidd Dadoldeb daranu unrhyw ddedfryd yn erbyn neb oddieithr y sawl a gyflawnasant y cyfryw bethau. Canys nyni, y rhai a ddyoddefasom y cyfryw bethau gan swyddogion y brenin, ydym yn gobeithio derbyn eich tadol gysur o'u herwydd, a cheryddu o honnoch y cyfryw gysegr-yspeilwyr a'u cefnogwyr, y rhai nid ellir amddiffyn eu gweithredoedd hyn mewn un modd, rhag, o achos eisiau adferyd dyledus gerydd arnynt hwy y bydd i'r drygau rhag-enwedig gael eu gwneud yn gynllun gan eraill.

" Hefyd, y mae llawer yn ein gwlad yn rhyfeddu eich bod yn ein cynghori i adael ein gwlad ein hunain, a thrigo yn mhlith gelynion, canys os nad allwn gael heddwch yn ein cyfiawn wlad gynhenid, pa fodd y cawn heddwch mewn gwlad ddieithr yn mhlith estroniaid? Ac er mai caled yw bywyd rhyfel a chynllwynion, eto caletach fyddai cael ein llwyr ddyfetha. Duw a luddias i bobl Gristionogol gael eu diddymu am amddiffyn eu gwlad a'u breintiau. Felly gorfodir ni i hyn gan angenrheidrwydd a chan drachwant ein gelynion; a chwychwi, Sanctaidd Dad, a ddywedasoch yn ein gwydd eich bod am gyhoeddi dedfryd y rhai, er mwyn dygasedd neu elw, a gythryblant yr heddwch; ac y mae yn amlwg i bawb pwy ydynt y cyfryw.

"Gan hyny, cymhellir ni i ryfel gan ofn angau a charchariad, neu ddietifeddiant parhaus, gan ddirmygiad amodau, creulawn lywodraethiad, a llawer o bethau cyffelyb. A hyn a ddangoswn i chwi, a deisyfwn genych dadol gynhorthwy.

"Yn mhellach, sylwn fod llawer eraill yn nheyrnas Lloegr wedi digio y brenin, ond eto ni ddietifeddodd efe neb o honynt am byth, fel y dywedir. Ac os darfu i neb ohonom ninau ei ddigio ef yn anghyfiawn, dylem wneuthur boddlonrwydd iddo hyd y gallom, eithr ni ddylai ef ein dietifeddu. A chan ein bod yn ymddiried ynoch, erfyniwn arnoch ymdrechu tuag at ddwyn hyn oddi amgylch, Sanctaidd Dad. Haerir yn ein herbyn ein bod wedi tori yr heddwch, eithr hwynt-hwy yn hytrach a'i torasant a phob amod a chytundeb gydag ef."

Y mae yn anhawdd dirnad am ddim mwy rhesymol, teimladol, ac yn cynnwys mwy o wladgarwch pur a diragrith, na'r llythyrau hyn; eithr atebwyd hwynt gan Archesgob Canterbury, mewn llythyr maith, yn cynnwys y syniadau mwyaf bustlaidd, cyfrwysgall, a gwawdus. "Diystyrasom," meddai'r prelad maleisus dduwiol, "anhawsderau a pheryglon y daith, a daethom atoch i ddychwelyd defaid crwydredig:, ac i fynegu i chwi a'n lleferydd ein hunain eich peryglon a'r modd i'w hysgoi." Yna gan gymeryd enw y Goruchaf yn ofer, a'i alw yn dyst o ddidwylledd y gennad, â yr Archesgob yn mlaen mewn dull trahauslyd, mwy gweddus i swyddog Iorwerth I nag i ŵr Duw. Yn y rhan olaf hon o'r ohebiaeth y mae'n amlwg fyd y prelad wedi colli ei natur dda, ac arwydda ei dymer ddrwg fod ei resymau wedi gwisgo allan. Haera mai enciliad oeddynt y Cymry o Troi, ac fod rhan o'r genedl Seisnig yn Mhrydain cyn dyfodiad y Cymry, sef y Cewri y sonia traddodiad am danynt. Edliwiai iddynt wendid y Brutaniaid yn gorfod gwahodd y Saeson trosodd i'w hamddiffyn rhag rhuthriadau y Pictiaid a'r Scotiaid. Galwai hwynt yn llofruddion ac yspeilwyr; a dywedai i Hywel Dda ffurfio ei gyfreithiau trwy awdurdod y diafol. Danodai nad oeddynt yn amddiffyn yr Eglwys yn erbyn Paganiaid trwy filwriaeth [ergyd i Dafydd ab Gruffydd oedd hon yna]; nac ond ychydig o honynt yn ei haddurno trwy lenyddiaeth; ond yn treulio eu hamser mewn segurdod "fel braidd y gwŷr y byd eich bod yn bobl oddieithr trwy yr ychydig ohonoch a welir yn cardota. "

Bellach, rhoddwyd yr ysgrifbin i dwyllo o'r neilldu, a chymerwyd y bidog yn ei le i drechu. Ac er holl aflwyddiant yr ymdrafodaeth flaenorol, llwyddodd i ddynoethi bwriadau yr Archesgob, ac i brofi mai blaidd mewn croen dafad oedd efe, ac nad oedd ei holl broffesiadau o gyfeillgarwch yn nechreu yr ohebiaeth ond twyll a rhagrith. Efe a seliodd y rhagrith hwn yn mhellach trwy felldithio Llewelyn, a thywallt ar ei ben phiolau barnedigaethol Eglwys Rhufain. Ac ni buasai'r prelad ychwaith mor barod i warthruddo a drwg-liwio ein cenedl, oni buasai fod ei gelynion yn nerthol a lluosog. Gwyddai ef yn dda pa blaid oedd y gryfaf, a pharai hyn iddo siarad yn haerllug a hyf. Tra yr oedd Lloegr a'i chynghreiriaid Gwyddelig a Ffrengig yn unol, a'r Cymry, o'r ochr arall, yn ymranedig, nid oedd angeu dewin i hysbysu pwy fyddai drechaf.

Yn y cyfamser, nid oedai Iorwerth ei ddarpariadau; a chyn bod yr ohebiaeth drosodd, yr oedd wedi gwersyllu ei fyddin ar fin y Gonwy, wrth wadnau Eryri. Yna efe a ddanfonodd lynges o forwyr a gŵyr traed i ymosod ar Ynys Mon. Gwaith rhwydd a gafodd y rhai hyn, canys y rhan luosocaf o arglwyddi yr Ynys oeddynt tan lŵ o ffyddlondeb i'r brenin er yr heddwch diweddaf; ac felly ychydig o'r ffyddloniaid a ymgynullasant i wrthsefyll y glaniad, a'r rhai hyny oll bron a ddinystrwyd. Ar ol cael safle yn Mon, ac y mae yn rhaid cyfaddef mai safle bwysig ydoedd, bwriad nesaf y gelyn oedd croesi'r Fenai, a chael cefn y Cymry i ymosod arnynt yn Arfon. Gwnaethant bont o fadau wrth Moel y Dôn, yr hon oedd yn ddigon llydan i dri ugain o wyr gerdded ochr yn ochr ar hyd-ddi. Ond yr oedd llygaid y Cymry ar eu hysgogiadau, a dirgel ddarparent ar gyfer eu croesawu trwy godi gwrthgloddiau yn y coedwigoedd gerllaw. Cyn cwblhau'r bont, Syr William Latimer, gyda lluaws mawr o wyr goreu'r fyddin, ac arglwyddi Gascony a'r milwyr Yspaenaidd, yn gweled dim gelynion yn Arfon, nac yn wir yn malio dim am danynt wedi ymwroli yn fawr oherwydd eu llwwddiant yn Mon, a ddaethant trosodd a buont am amser yn ymddifyrru ac yn gwybeta ar hyd y traeth. Risiart ab Walwyn oedd cadlywydd y Cymry, ac efe ni chythryblodd ar yr ymosodwyr, gan y gwyddai y deuai'r llanw i mewn yn fuan, ac y torrid eu llwybr encil. A phan ddaeth yr amser cyfaddas, y Cymry a ruthasant o'u cuddfannau arnynt. Yna y bu mwstwr a ffrwgwd. Gwaed rhai o honynt a liwiai y traeth, eraill wrth ymgyrhaedd at y bont a gyfarfuant a dyfrllyd fedd; gwaedd angheuol rhai a rybediai yn y clogwyni gwatwarus (yr oedd ceryg ateb Arfon yn wladgarol y pryd hwn), gwaedd eraill foddid yn y weilgi safnrwth; os troent at y dwfr angau oedd yn ei si, os edrychent i'r tir cleddyfau sychedig am waed eu calonnau oedd yno; ac wrth garnau'r cleddyfau hyny ddynion wedi cael cam, wedi eu mathru gan orthrwm i ddyfnderau isaf dialedd, a thrais wedi alltudio o'u mynwesau bob tosturi a chyd- ymdeimlad. Syrthiodd o Saeson y dydd hwnw bumtheg barwn, deuddeg ar hugain o ysweiniaid, a mil o wyr cyffredin; ac yn mhlith y lladdedigion yr oedd Syr Lucas de Thany, Syr Wm. Dodingles, a Syr Wm. de la Zouch. Syr Wm. Latimer, eu cadben, yn unig allodd ddianc, a thrwy gryfder ei farch y diangodd ef. I'r amgylchiad uchod canodd rhy w fardd, o'r enw Cadwgan Ffol, yr englyn bras ond ergydiol a ganlyn; -

Llawer bran sy'n eisiau i'r brenin, - heddyw
Hawdd gallwn chwerthin,
Llawer Sais leubais libin
A'r gro yn do ar ei ***

Rhwygid awyr Eryri gan oroian oherwydd y fuddugoliaeth hon. Dychwelodd colomen gobaith eilwaith i blith y Cymry, a gwelent nad oedd byddin fostfawr Iorwerth yn anorchfygadwy. Aethant drachefn i oruwch-ystafelloedd eu cof i 'nol daroganau Myrddin, ac o honynt sugnent y grediniaeth y byddai Llewelyn yn ben teyrn yr Ynys hon; a thra y tybient hwy fod gwawl euraidd yn ymdroi arnynt nid oedd y cwbl ddim ond fflachiad mellten cyn ymdoriad y dymestl. Pa fodd bynag, dychrynwyd y brenin Iorwerth yn aruthr, a chiliodd o Gonwy i Ruddlan, gan na feiddiasai ymlid ei elynion yn mhellach i'r mynyddoedd, ac nad oedd yn ddyogel iddo aros yn hwy wrth eu godreu.

Cyrhaeddodd y newydd am y fuddugoliaeth hon i'r Deheudir, a chalonogodd bleidwyr y tywysog yn fawr. Rhys ab Maelwyn a Gruffydd ab Meredydd, penaethiaid y blaid hon, a enillasant amrai gantrefi oddiar y Saeson yn Ngeredigion a sir Gaerfyrddin; a'r brenin a ddanfones Iarll Gloucester a Syr Edmwnd Mortimer yno i ddarostwng y gwrthryfelwyr. Cymerodd brwydr le ger Llandilo Fawr, yn mha un y gorchfygwyd y Cymry gyda cholled fawr; a'r Saeson a gollasant heblaw lluaws o wyr cyffredin, bum' marchog, un o ba rai oedd William de Valence, cefnder y brenin.

Llewelyn, yn gweled fod Eryri yn ddyogel oherwydd ymgiliad y brenin, a ymddiriedodd wyliadwriaeth y rhan hono i'w frawd Dafydd, ac a orymdeithiodd gyda chwe' mil o wyr tua'r Deheudir, er mwyn calonogi ei gyfeillion yno, a dial ar ei elynion; yn eu plith Rhys ab Meredydd yr hwn a fradychasai ei egwyddorion, ac a droesai at y Saeson. Diffeithiodd Geredigion, cyfoeth y Rhys hwn; ac oddiyno cyfeiriodd ei gamrau tua chantref Buallt, lle yr oedd wedi addaw cyfarfod gŵyr o'r wlad hono er mwyn cynghreirio â hwynt. Daeth ei symudiadau i'r Deheudir i glustiau y brenin, ac efe a ddanfonodd orchymyn at Oliver de Dyneham, un o'i swyddogion yn swydd Maesyfed, iddo groesi yr Hafren i sir Gaerfyrddin, a gwylio pob cyfleusdra i orthrechu'r tywysog.

Llewelyn, er mwyn cyflawni ei addewid o gyfarfod gŵyr Buallt, a adawodd gorph ei fyddin ar fryn cyfagos i bentref Mochryd, tua thair milldir oddiwrth yr afon Wy, y rhai oeddynt i wylio a gwrthsefyll ymosodiad Dyneham; a chan nad oedd yn ofni perygl o'r un cyfeiriad arall, ni chymerth ond ychydig o wyr gydag ef. Gyda'i fintai fechan aeth gan belled ag Aberedwy, a rhoddes y gwŷr i wylio Pont Orewyn, yr unig bont dros yr afon Wy yn yr ardal hono, fel na ddeuai perygl oddiyno ychwaith. Dywed un hanes fod gan y Tywysog balas yn Aberedwy, ac mai yn y palas yr oedd y cyfarfod i gymeryd lle, ond nid ydyw hyny yn rhesymol, gan fod Buallt ers amser maith cyn hyn bron yn gyfangwbl tan lywodraeth y Saeson; dywed eraill, yr hyn yn ôl pob argoelion sydd gywir, eu bod i gyfarfod mewn llwyn o goed ychydig oddiar nant yr afon Wy, a rhwng y ddwy adran o'r fyddin Gymreig. Ond y mae pob rheswm i gasglu fod y cynllun wedi ei ddatguddio gan yr arglwyddi hynny oeddynt i gyfarfod Llewelyn. Yn mhen ychydig fynydau wedi iddo adael Pont Orewyn, ymosodwyd ar ei gwarchlu gan John Gifford a Syr Edmwnd Mortimer, gyda byddin gref, rhan fawr o ba un oeddynt ŵyr Buallt. O'r llwyn coed hwnnw clybu yswain y Tywysog sŵn ymladd tua'r bont, a dywedodd wrth ei arglwydd fod y Saeson yn ymosod ar y gwarchlu. "A ydynt yn dal eu tir," ebai ef. "Ydynt." Yna ni syflaf oddiyma pe byddai holl Loegr yr ochr draw;" a diamheu ei fod yn gywir ei farn am ei ddyogelwch oni buasai fod bradwr yn mysg y gelynion. Y fintai a amddiffynnodd y bont gyda dewrder dihafal; a'r Saeson yn gweled nad allasent ei chymeryd, un o'r enw Helias Walwyn, brodor o'r ardal, a ddangosodd iddynt ryd ar yr afon ychydig islaw y bont, yr hwn, er ei fod yn beryglus, a groesasant. Yr oedd yn anmhosibl i'r fintai fechan ddal ymosodiad yn ôl a blaen; o ganlyniad, gadawsant y lle a ffoisant.

Bellach nid oedd dim rhwng Llywelyn a'i elynion, ac yr oeddynt yn eithaf hysbys, trwy yr arglwyddi bradychus, pa le y deuent o hyd iddo. Amgylchynasant y llwyn coed, a thra yr amcanai Llewelyn encilio at gorph ei fyddin i Mochryd, daeth swyddog Seisnig, o'r enw Adam de Ffrancon, yn mlaen ac a'i trywanodd ef â gwaywffon, heb feddwl unwaith nad un o osgorddlu y Tywysog ydoedd. Eithr Ffrancon wedi chwilio y llwyn, a chael nad oedd neb ynddo, a ddychwelodd at yr archolledig ac a'i cafodd yn prysur farw, a neb gydag ef ond ei gyfaill yr yswain. Yn mhen ychydig fynydau, bu farw. Dechreuwyd archwilio ei gorph, a chafwyd amryw lythyrau pwysig yn ei feddiant a'i sêl dywysogaidd. Yna Ffrancon a dorrodd ben y Tywysog, ac a'i danfonodd i'r brenin yn Rhuddlan, yr hwn dderbyniodd yr anrheg waedlyd gyda llawenydd mawr, ac a'i danfonodd i Lundain i'w arddangos yn gyhoeddus, lle y coronwyd ef a choron o fedw er dirmyg ar y darogan y byddai i Llewelyn wisgo coron yn ninas Llundain. Am y corph, oherwydd fod y Tywysog wedi marw tan ysgymundod, gellir tybied bron i sicrwydd ei fod wedi ei gladdu, mewn croesffordd ar lain o dir a elwir Cefn y Bedd, tua thair milldir o Buallt. Yn ôl yr hen ddefodau Cymreig mewn croesffyrdd y cleddid drwgweithredwyr, ac yr oedd pawb a fyddent farw tan felldith yr Eglwys Babaidd yn dyfod tan y cyfenw hwn.

Y fyddin Seisnig wedi lladd a gwasgaru y ddeadell fechan a warchaeai'r bont a ruthrasant tua chorph y fyddin Gymreig ar y bryn gerllaw Mochryd. Ymddygoddy Cymry yn ddewr a chanmoladwy iawn er nad oedd eu Tywysog yno i'w llywyddu. Parhaodd y frwydr yn amheus am dair awr, wthiau’r Saeson yn ennill, weithiau'r Cymry. Eithr pan glybu'r olaf am dynged eu llywydd. Ymollwngasant a ffoisant yn anhrefnus, gan adael dwy fil, tua thrydedd ran eu nifer, yn feirwon ar y maes. Cymerodd y gad hon le ar y 10fed o Ragfyr.

Gadawodd Llewelyn ar ei ôl un ferch, a honno ond plentyn dwyflwydd oed, a'r brenin a'i dodes hi mewn mynachlog lle y cymerodd hi urddau fel mynaches. Yr oedd iddo hefyd un mab ordderch o'r enw Madawc; sonnir am dano yn Cymru Fu, tu dal. 132. Disgynai'r Dywysogaeth i Dafydd brawd Llewelyn, ond er iddo ef gymeryd yr awenau i'w law am ysbaid byr, yr oedd yspryd y genedl wedi diffygio ac yntau a ddaliwyd mewn coedwig yn y cyflwr truenusaf, danfonwyd ef gyda'i wraig a'i ddau fab a'i saith merch yn garcharorion i Ruddlan, ac oddiyno i'r Amwythig, Lle y dienyddiwyd ef yn y dull creulonaf, (gwêl Cymru Fu, tu dal. 251).

Y ddau berson mwyaf blaenllaw yn yr hanes brysiog a ysgrifenasom ydynt Iorwerth I a Llewelyn ab Gruffydd, ac y mae arnom awydd dweyd gair byr am gymeriad y ddau cyn terfynu. Na chyhudder ni o ragfarn gwladgarol na dallbleidiaeth mympwyol pan ddywedom mai dyn ffals, creulawn, bostiog, a rhyfelgar, oedd Iorwerth, o'r stamp Fonipartaidd waethaf. Sylwer arno yn gwahodd Llewelyn i'r "wledd" yn Worcester, ac ar ei ymddygiad llechwraidd yn anfon y gor-dduwiol Archesgob Canterbury i ragrithio cyfeillgarwch tuag at y Cymry, er mwyn iddo ef gael hamddem i ddarpar ar gyfer eu gorthrechiad; ac yn eu twyllo yn y diwedd gyda thywysog o'i lwynau ei hun, ac os na weli ffalsder yn hyn, yr wyt yn ddall. Creulawn! buasai Nero ei hun yn gwrido wrth arddel gweithredoedd cyffelyb i anfoniad y "pen gwaedlyd" i foddio cywreinrwydd y Llundeiniaid gwawdus, a'i waed yn rhedeg yn oer wrth orchymyn llofruddiad barbaraidd Dafydd ab Gruffydd. Edrycher eto arno yn dwyn Llewelyn yn ei orymdaith fuddugoliaethus o Cymru, yn rhoddi ystâd tad Eleanor de Montforte iddi ar ddydd ei phriodas, ac yn galw Cymru yn eiddo iddo ei hun, tra nad oedd ganddo y rhithyn lleiaf o hawl ar y wlad hono ond trwy drech a thrais a rhaib anniwall, a dyna o'ch blaen fost wedi ymgnawdoli. Yr oedd fel Gwyddel am ryfel, os na cha'i un gyfiawn efe a godai un anghyfiawn — rhyfelasai gyda'i dad a'i fam, ei wraig a'i nain, a phawb a phobpeth, cyn y buasai byw'n heddychol. Gallasai Lloegr a Scotland, Ffrainc a Phalestina, gyddystio â Chymru mai dyn gwaedlyd ydoedd. Dyn nad oedd byth mewn heddwch ag ef ei hun, ond pan mewn rhyfel ag eraill, os na wylodd ar lan y mor Indiaidd, os na threiddiodd gymyl bol-dduon bwlch St. Bernard, ac os na sathrodd ar adfeilion y Colisseum, dim diolch iddo— byr oedd ei allu ac nid ei ewyllys. Ni fwriadodd ddaioni erioed; gwnaeth ddaioni efallai, ond yn hollol anfwriadol. Dywed llawer, a'r Saeson yn enwedig, mai daioni oedd uno Cymru a Lloegr, os felly, ac i Iorwerth fod yn foddion i ddwyn hyny oddiamgylch, mewn camgymeriad y gwnaed y daioni, ac uchelgeisiaeth, rhaib, at ragor o awdurdod, a chasineb greddfol at y Cymry, oeddynt ei amcanion mawr, yn ngheseiliau pa rai y cafwyd y daioni, os cafwyd ef hefyd. Ei uchelgais a'i gwnai yn rhyfelgar, a'i ryfelgarwch a'i gwnai yn greulawn, neu yn ffals, fel y byddai amgylchiadau yn galw. Boddio ei nwyd o uchelgais oedd prif bleser ei fywyd; a than effaith y boddineb hwnw troid gwaedd câd yn beroriaeth yn ei glustiau, a thrueni rhyfel yn olygfa baradwysaidd i'w lygaid.

Nid oedd Llewelyn ychwaith yn ddifai. Cyfiawn gyhuddir ef o greulonder dialw-amdano tuag at ei frawd Owen, yr hwn a garcharodd efe am yspaid hirfaith yn nghastell Padarn. Mewn gallu milwrol nid oedd i' w gydmaru am fynyd gyda'i wrthymgeisydd Iorwerth. Fel cadlywydd yr oeddyn ddiffygiol mewn rhagolwg, er engraifft, ei esgeulusdra yn darpar ar gyfer ei gydwladwyr newynog yn Eryri, pan warcheid hwynt gan y Saeson yn y flwyddyn 1277; a'i hyder anoeth yn ymddiried ei hunan yn nwylaw ei fradwyr yn nhir Buallt — ychydig o wyliadwriaeth a'i lluddiasai i ymadael ag Eryri yn y cyfwng peryglus hwnw. Llinell euraidd ei gymeriad ef oedd ei ffyddlondeb i'w egwyddorion, a'r penaf o'i egwyddorion oedd ei gariad disigl at ei wlad a'i genedl. Ni cheir ond un bwlch yn y linell hon, a hyny pan ddiraddiodd ei hunan yn Worcester er mwyn Eleanor de Montforte. Ei wladgarwch oedd arweinydd ei holl symudiadau; yr oedd ei holl egwyddorion yn eraill yn is-wasanaethgar i hwn, a than ei llywodraeth y cyflawnodd efe lawer o amryfuseddau a beiau ei fywyd. Heddwch ei wlad a barodd iddo garcharu ei frawd Owen, llwyddiant ei hachos oedd ganddo mewn golwg wrth ymgyngreirio gyda Simon de Montforte; ac ar neges tros ei gydwladwyr yr ydoedd yn Muallt pan blanwyd y waywffon farwol yn ei fynwes. Bwriadai ddaioni, ac os methodd ei gyflawni bob amser, nid oedd ganddo ef mo'r help am hyny. Dyna Llewelyn, yr olaf a'r goraf ar lawer o ystynaethau o'r tywysogion fuont yn llawio hen deyrnwialen Frutanaidd y Dywysogaeth am saith can' mlynedd, canys yn ei angau ef ysgubwyd olion olaf ei hannibyniaeth, dilewyd ei chyfreithiau, ac unwyd hi a theyrnas gyfoethog a galluog Prydain Fawr. Pe rhyfelasai Llewelyn ar feusydd Marathon, neu yn Nghulfor Thermopylce. diau y canmolasid ei ymdrech am gyfiawnder i'w gydwladwyr a'i wrhydri ar ddalenau'r classics. Ond dyben Iorwerth oedd dileu pob adgof a chofnod am dano. Pa fodd bynag, dagrau ei gyd- wladwyr a wlychasant ei fedd, beirdd ei wlad a ganasant ei glodydd, a galerid ei dynged gan bawb a edmygent ddewrder, ffyddlondeb, a chalon gywir a gwladgaroi.

TRADDODIADAU YN EI GYLCH.

Dywed Traddodiad ddarfod i Llewelyn, tra yn gorwedd yn ei waed, ddanfon ei yswain i grefydd-dŷ gerllaw, i ymofyn mynach; ac idd ar gyffes o'i bechodau dderbyn y Sacrament o law y gŵr crefyddol, trwy yr hyn y rhyddheid ef oddiwrth ysgymundod a melldith Eglwys Rhufain. Defnyddiwyd y traddodiad, gan gyfeillion y diweddar Dywysog, fel rheswm tros gael caniatad i gladdu y marw mewn tir cysegredig. Matilda Longspee, larlles Salisbury ac wyres Llewelyn ab Iorwerth, a Mortimer ei hun, a ddeisyfasant yn daer am hyn o hynawsedd tuag at yr hyn oedd farwol o'u cyfathrachwr, eithr gwrthodwyd hyd yn nod y ffafr fechan hon.

Y mae Traddodiad arall, ddarfodiLlewelyn gael rhybydd o ddyfodiad y Saeson, ac iddo amcanu ffoi rhagddynt, achan fod eira ar y ddaear ar y pryd, iddo droi i efail gôf o'r enw Madawc Goch Min Mawr, a hwnw a droes bedolau eifarch er mwyn twyllo ei ymlidwyr. A phan ddaeth yr ymlidwyr hyd at efail y gôf hwnw, Madawc a fradwrus ddatguddiodd iddynt gyfrinach y pedolau, trwy yr hyn y daliwyd ac y llofruddiwyd y Tywysog.

Arferai hen bobl Buallt adrodd y traddodiad canlynol gyda llawn sicrwydd yn ei gywirdeb. Ddarfod i Llewelyn pan yn ymguddio yn y llwyn coed hwnw geisio ymlechu mewn twmpath o fanadl, a chan i'r banadl fethu ei guddio rhag ei elynion, iddo regi y cyfryw goed fel na thyfodd


Nodiadau[golygu]