Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 29
| ← Penawd 28 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 30 → |
XXIX
YR ARCHWILIADAU I'R ANDES.—CWMNI TIR Y DE.
Yn tudal. 90 et seq, ceir bras—adroddiad o'r chwiliadau vuasai ar y wlad o dro i dro, tra yr oedd y Llywodraeth yn ymlid y brodorion o van i van, nes cael y diriogaeth yn lled wâg ohonynt. Nid ydynt hwy eto wedi llwyr golli: canys ceir ambell vagad ohonynt mewn pebyll yma ac acw ar y cyrion anghysbell, yn byw ar yr helwriaeth sydd beunydd yn cilio o vlaen poblogiad, ond yn suddo i arverion isel o ddiota a hapchwareu nes bod yn dlawd angenus weithiau.
Pan ddaeth A. P. Bell (1884) i wneud y rheilfordd, awyddai am weled yr holl wlad: a chyn hir trevnodd i ddanvon teithwyr a chwilwyr dros y diriogaeth, ac ymhen yspaid aeth ei hunan ar eu holau, a danvonodd E. J. Williams drachevn, wedi gorfen y rheilfordd, i weled a dethol y manau goreu welai. Y rhai blaenav ddanvonwyd ar y chwil hono oedd Llwyd ap Iwan, Carlos Burmeister, a Leonard Lewis. Dygent gwch plygedig gyda hwy, ac yn hwnw ceisiodd un neu ddau ohonynt ddisgyn lawr i'r Tawelvor ar yr avon Caran-lewfw, sydd yn cychwyn o Vro Hydrev, nes eu hatal gan raiadr vawr. Gwnaed sawl cynyg wedi hyny, yn gystal a chyda'r glanau a thrwy'r coedwigoedd, ond hyd yn hyn heb gael mynediad drwodd. Daeth Burmeister a Lewis yn ol mewn bad (arall) ar hyd yr avon Camwy, a chavwyd drwy hyny amgyfred o nodwedd hono. Wedi dychwel o'i daith gyntav hono, trevnodd A. P. Bell i gychwyn sevydlu yn y lle elwid gan y brodorion Fo-fo-cawel, yngolwg yr Andes ei hunan, bron ar gwr gogleddol tiriogaeth Chubut: a danvonwyd yno vintai o ryw ddau ddwsin o Gymry, ar vulod llwythog, i barotoi lle am y sevydliad. Mae yno erbyn hyn estancia, neu raunch eang o ddaoedd.
Ar un o'r gwibiadau hyny trevnasid i ddanvon tri o Brydeiniaid drwy Patagones, ac ar draws paith sych y Valcheta, tua'r Wladva. Nid oeddynt hwy na'r trevnwyr yn deall nemawr am nodweddion ac anhawsderau y vath ymdaith, a'r canlyniad vu iddynt grwydro a cholli'r fordd. Ymhen blyneddoedd rai daethpwyd ar draws rhai o'u harvau, a gweddillion eraill ohonynt, ar vin y môr ger y Valdez. Bu cyfelyb grwydr i hyny ddwywaith yn vlaenorol yn hanes y Wladva—sev pan gollwyd D. William, Aberystwyth, yn union wedi iddo lanio o'r " Mimosa" (1865), ac y cavwyd ei weddillion, ymhen pedair blynedd, ryw 10 milldir o'r avon. Y llall ydoedd Iago Davydd, o Bryn Mawr, grwydrasai pan yn dychwelyd o Borth Madryn i geisio anelu at yr avon (1866); ond daeth yr Indiaid ar draws spectol a gweddillion eraill ohono, druan, pan yn hela tuag Arwats ymhen rhyw bum mlynedd y dwyrain o Borth Madryn, yn lle y de. Nid yw y crwydriadau a'r colliadau hyn ond pethau hawdd i ddigwydd ar y vath beithiau eang a thebyg i'w gilydd, heb nemawr vanau uwch na'u gilydd a dynodol o ran furv—o leiav yn y cyfiniau tua glan y môr, lle y bu'r dich weiniau hyn.
Yna danvonwyd E. J. Williams i weled yr holl wlad Andesaidd —o Neuquen a'r Rio Negro, gyda llyn Nahuel-huapi, heibio Eskel a Walcheina hyd at Jenua, ac yna at Makidsiaw, Kytsácl, a Valcheta, ac yn ol gyda'r avon Chubut. Yr oedd gan A. P. Bell gynllun mawr o vlaen y Senedd Arianin i redeg rheilfordd o'r Werydd i'r Tawelvor, a chyda hyny drevnu gyda'r Llywodraeth i gael meddiant o 300 lech o'r tir goreu y fordd hono. Medrwyd manteisio ar gyvraith lled amwys, y bernid oedd yn llythyren varw, i vesur a mapio y manau dewisol, a thrwy dalu yn lled ddrud i dwrneiod a swyddwyr cavwyd gavael ar y 300 lech. a furvio velly gwmni Tir y De (Southern Land Co.). Yr oedd hyny ar vlaen y dòn noviodd hevyd gwmni y rheilfordd : ond cyn hir daeth y disdyll dòrodd i vynu yr "English Bank of River Plate," a phallodd y cyvala. Gwnaethai y cwmni hwnw balasdy o sevydliad yn Makidsiaw; adeilad vawr arall yn Nhrelew i gartrevu ymvudwyr (taw yr oedd dyvudwyr lawer yn y cynllun). Gosodasid 20,000 o dda corniog a chesyg yn Fo—fo—cawel, 50,000 o ddevaid mewn manau eraill. Pan oedd y cwmni yn ei vlodeu gwerthid llawer o'r daoedd i vyned i Chili, lle yr oedd amledd y boblogaeth vwnol yno yn galw am vwy cyvlenwad o gigvwyd nag a gynyrchai y wlad hono ei hun. Yn y man, dilynodd sevydlwyr Cymreig Bro Hydrev yr un cynllun, a danvonasant i Chili ganoedd o eidionau i'w gwerthu. Disdyll ydyw ar y cwmni hwnw hyd yn hyn: ond y mae rheilfordd vawr y de (Great Southern Railway) yn parotoi i wthio cangen o'u rheilfordd Neuquen hwy i lawr tua Nahuel-huapi a Fo-fo-cawel, ac evallai Vro Hydrev neu Teca. Oddiwrth y map bychan o'r cyfiniau hyny sydd ar y tu dalen gysylltiol, a'r map mawr, ceir dirnadaeth o bwysigrwydd a dichonolion yr ardaloedd hyn.

Tiroedd cwmni Tir y De