Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 4
| ← Penawd 3 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 5 → |
IV.
CYN SYLVAENU'R WLADVA.
Megys llwyd—oleuni cyn toro'r wawr, hwyrach y bydd y detholion canlynol o govianau'r cyvnod boreu yn ddyddorol, vel arweiniad i mewn i'r Stori ddilynol:
Rhyvedd y camgymeriad a vu rhyngom: ac eto nid yw y cynllun yn eglur iawn i mi. Beth yw yr aelodaeth y soniwch am dani vel un a roddir i bwy bynag gyvrano haner coron ac uchod? Pa vraint neu elw a berthyn iddi os yw y cyvaneddwyr i gael tir am ddim ? Dywedwch hefyd y dychwelir pob rhodd, mewn arian neu dir yn y Wladva. A roddir y tir yma i rai na vyddont yno i'w breswylio Er engraift, pe bawn i yn cyvranu £10, a allwn i gael tir am danynt heb vod yno i gyvaneddu? Pa vaint a roid am £10? Rhaid i mi gyvaddev vy mod wedi sylwi gyda dyddordeb ar y symudiad o'i gychwyniad hyd yma. Ar y dechreu yr oeddwn yn ovni vod tuedd ynddo i hudo dynion i adael yr hen wlad; ac o'r herwydd yr oeddwn yn barod i'w wrthwynebu. Ond yr wyv yn canvod yn awr mai nid dyna ddiben y gymdeithas, eithr yn unig er trevnu cartrev cyvanedd i wasgaredigion Gomer, y rhai sydd wedi gadael eu gwlad, neu a vuasent yn ei gadael i vyned i wledydd eraill. Yn y golygiad yna y mae genyv awydd i wneuthur yr hyn a allav er ei hyrwyddo. Beth pe cymerwn i £10 neu £15, a oes modd i mi berchenogi darn o dir yn y Wladva yn vy enw vy hun, ond iddo vod yn ddarostyngedig i lywyddiaeth y gymdeithas ymhob dim ond ei werthiad? Chwi a welwch nad oes arnav eisieu cyvryw bron ond mewn enw. Gallwch chwerthin am ben y fansi hon, ond fansi ydyw sydd rywsut neu gilydd wedi cael lle yn vy mhenglog. Pe rhoddwn £20 bob blwyddyn am 5 mlynedd i'r gymdeithas, a allwn ni ddim cael darn o dir yn ei chysgod?AB ITHEL.
Y LLYDAWIAID A'R WLADVA.
Darllenais mewn newyddur Frengig vwy na dwy vlynedd yn ol, vod mintai o Gymry gwladgarol wedi pendervynu sevydlu Gwladva yn Patagonia, i'r bwriad o gadw yno yn vwy rhydd a diogel eu nodweddion cenedlaethol a'u moesau, a devnyddio yno yn unig y Gymraeg. Yr oedd y vath newydd yn angerddol ddyddorol i mi, a pharodd hevyd gydymdeimlad dwvn ymhlith aelodau y Brueunez Breiz (Brodoriaeth Llydaw)—cymdeithas wladgarol a llenorol ar yr hon y mae'r Viscount Villemarque yn llywydd. Pan glywais am y peth gyntav ymholais gyda'r Parch James Williams, gweinidog Cymreig yn Quimper, ond ni fu'm haws. Y dyddiau hyn cevais air oddiwrth vy nghyvaill Llallawg, yn vy hysbysu vod mintai gyntav o ymvudwyr i hwylio cyn bo hir. Gan hyny yr wyv yn brysio danvon iddynt drwoch chwi ychydig eiriau o lon—gyfarchiad yn enw Brawdoliaeth Llydaw, cyn yr ehedo'r cychiad cyntav hwn i'w bro newydd: taw nid ydym wedi anghovio yn Llydaw "Mai eich tadau, tadau ein tadau—ma hoch tado, tado hon tado; Ac eich mamau, mamau ein mamau—hag hoc'h mamo, mamo hon mamo; ac y mae ynom ddawr calon ymhob peth perthynol i "had Bretoned tre—mor," ys dywedwn ni. Mae y vrawdoliaeth er's llawer o amser wedi meddwl mai dymunol vuasai i'n cyf—gened! gyfredin ni y Celtiaid,—y gover (overflow) ohonynt, ymgasglu ynghyd mewn rhyw wlad wag gyvaddas, yn hytrach na chwalu eu hunain dros yr Unol Daleithau, Awstralia, &c., a chadw yno ein neillduolion goreu ni. Credwn y gallant yn Patagonia ddilyn eu tueddion cenedlaethol, dadblygu eu cyneddvau, a choledd eu hiaith anwyl heb orthrech na pherygl o ymgolli. Gwell genym pe gallasech vod yn anibynol oddiwrth unrhyw wladwriaeth; eithr gallwn ddygymod hyd nod ped elai y sevydlwyr yn ddibynol iawn ar Archentina, yn hytrach na chwalu a di—genedlaethu gover y wehelyth Geltaidd. Mae'n debyg vod yn y byd lawer man ffrwythlonach na Patagonia, ond nid oes un man arall y gwn i am dano lle gall yr ymvudwyr Cymreig ymsevydlu yn Wladva gyda'u gilydd, a digon o dir gwag heb ei veddianu gan bobl wareiddiedig. Y mae rhaid chwalu ein cenedl ni, oblegid gyvynged ein lle; ond da vyddai cael ryw van o'r ddaear i grynhoi y Celtiaid, ac yno ddangos i'r cenedloedd eraill beth vedr ein Cenedl wneud. Hyd yn hyn nid yw y Llydawiaid wedi dangos nemawr duedd ymvudo, a hofem eu cadw felly. Ond os daw y dydd a'r duedd iddynt newid eu gwlad, da vyddai genym eu gweled yn cyvuno eu hadnoddau a'u hegnïon gyda'u brodyr o'r un gwaed a thavod y'Mhatagonia. Felly, hofem wybod, pe delai y cyvryw achlysur, a dderbyniai y Wladva yno aelodau neu vintai o Lydawiaid i'w mynwes yn groesawgar, y rhai mewn byr amser vyddent hyddysg yn y Gymraeg, ac a vyddent yn gyvnerthiad cenedlaethol i'w gilydd: hyd nod pe deuai ofeiriad Catholig neu ddau gyda hwy, hwyrach na thramgwyddid. Da vyddai gan y vrawdoliaeth gael pob hysbysrwydd o dro i dro am rawd a helynt y vintai aif allan ar y vath amcan anrhydeddus, a chael pob hanes a gobeithion sevydliad ydych ar vedr blanu yn Ne Amerig. CHARLES DE GAULLE, Ysg. Brenuez Breuz.
Y dyvyniad dilynol sydd o lythyr preivad y Cadben Sullivan, R.N., newydd iddo vod yn plymio a lleoli arvordir De Amerig, yn yr hyn yr enwogodd ei hun yn vawr. [Gwel Llawlyvr y Wladva.] Cevnogydd selog i Gymdeithas Genadol De Amerig oedd eve, a dilynydd i'r merthyr Allan Gardiner.
Yn y lle cyntav, ni ymyrai ein Llywodraeth ni gydag unrhyw wladva ar arvordir Patagonia: byddai o dan Buenos Ayres, yr hon yn unig all hòni hawl i'r wlad. Byddai unrhyw vudiad o'r vath y cyveiriwch ato (Gwladva yn Patagonia) yn wallgovrwydd. Mae yno avon vach (Chupat) oddeutu'r lle a nodwch, ar lanau yr hon y mae porva, ac a wnelai, pe'n ddiogel rhag Indiaid, sevydliad pori; ond nid oes iddi borthladd, a dim ond 6 i 8 tr. o ddwr ynddi. Byddai gwladva yn y van hono yn gynorthwy mawr i ni (y Genadaeth), ond ni pharhai ail vlwyddyn. Byddai yr Indiaid yn sicr o roddi tervyn arni a lladrata y stoc. Os oes mewn gwirionedd bobl o gyvala yn dymuno sevydliad a dalai yn Ne Amerig, gwell iddynt vynd ar lanau yr avon Uruguay, Banda Oriental, lle mae'r Llywodraeth yn cynyg telerau boddhaol iawn: dim trethiant, hunanlywodraeth leol, hinsawdd a gweryd perfaith, cyvleusderau avonydd wrth y drws, tir rhad. Ped elai 10,000 yno gallent yn efeithiol gadw amhleidiaeth pe deuai rhyvel, ac mewn ychydig vlyneddoedd byddent yn ymarverol reoli'r wlad, a planu ein cenedl a'n iaith ni yn y rhanau goreu o Dde Amerig.
Y canlyniad cyntav ymarverol i'r waedd am Wladva Gymreig oedd y vintai o Gymry aeth i Rio Grande do Sul, Brasil, yn 1851, am yr hon y dyry ei sylvaenydd (T. B. Phillips), yr adroddiad canlynol:—"Tra yn trigianu yn Manchester daethum i gydnabyddiaeth gyda'r Parch. Owen Jones, D. Rhys Stephens, J. Lloyd, yr Amserau, ac amryw vasnachwyr oedd a chysylltiadau gyda Brasil. Velly, ar ol mordaith i Natal, galwodd ein llong yn Rio de Janeiro, a deallais yno y gellid sevydlu gwladva obeithiol yn Rio Grande. Yn yr Amserau byddai penod ddyddorol dan y penawd " Y Siop," bob wythnos, i'r hon yr ysgrivenwn i, a thynodd y rhai hyny sylw Evans, Nantyglo. Wedi cyraedd Rio Grande yn 1850, trevnais gyda masnachdy mawr Caruthers, Souza & Co., i brynu tiroedd at sevydlu Gwladva Gymreig. [Daeth Souza yn vwy adnabyddus wedyn vel Barwn Mauá.] Talwn i y bedwaredd ran vy hunan, a threvnais ar i'r masnachdy dalu cludiad yr ymvudwyr cyntav. Rhwng 1851—3 cyrhaeddodd rhyw 100, gan vwyav o ardaloedd Nantyglo, Bryn mawr, ac eraill o Von a Dinbych—hen gydnabod, J. Roberts, Mersey View, Iiverpool. Ad—dalodd yr ymvudwyr hyny yn y màn gost eu cludiad, ond nid costau eu byw am agos i ddwy vlynedd, yr hyn vu golled drom i mi. Aeth y sevydliad yn vethiant tua diwedd 1854, am (1) mai coedwigoedd oedd y lle, a'r bobl yn anghyvarwydd, (2) am vod gwasanaeth caethion (Brasil y pryd hwnw) yn gwneud gwasanaeth dynion gwynion yn amharchus; (3) drwy ddarganvyddiad glo yn Pelotas, ac velly alwad am waith i'r glowyr oedd yn y sevydliad. Enw y wladva oedd Nova Cambria, ac y mae heddyw yn sevydliad Ellmynig llwyddianus. Mae eto yn aros ychydig o'r sevydlwyr ieuainc yn y gloveydd hyny a Pelotas—y rhan vwyav o'r hen rai dan y briddell, a'r sylvaenwr gwreiddiol yn awr yn y Wladva, yn llawn fydd yn nyvodol yr Hen Genedl, y rhai vel y cred eve ddygwyd yma yn arbenig gan Dduw, i'r amcan o adsylvaenu Cenedlaeth Gymreig newydd."
Am ein cydwladwyr sydd tua Porto Alegre, maent yn awyddus i vyned i Patagonia, gan ddanvon atav yn barhaus ar i mi eu harwain yno. Ond doethach, debygav, oedd iddynt aros nes y ceir sicrwydd vod y vintai gyntav wedi cychwyn o Liverpool: oblegid ped elent, a gorvod aros yno eu hunain dalm cyn y delai'r vintai atynt, byddent yn debyg o ddigaloni a chwalu. Rhaid trin cenedlaetholdeb y bobl gyda pharch a goval a phwyll. Pan hwylio y vintai gyntav, hysbyswch hyny i ni gynted y galloch, ac yna ve drevnwn ninau i'ch cyvarvod yn New Bay. Ond bydd raid i ni alw yn Buenos Ayres ar y ffordd i lawr i gymeryd lluniaeth a rheidiau ar y bwrdd —yr hadyd, coed adeiladu, arvau, &c., y trevnir am danynt yn y cytundeb gyda'r Llywodraeth Arianin. Dylem gael awdurdodiad oddiwrth eich pwyllgor chwi i gael y pethau yna. Gwell vyddai danvon yr ymvudwyr yn vinteioedd bychain, y naill ar ol y llall, vel y calonogent eu gilydd. Cyngorem hevyd ar i gwmni cryv gael ei furvio o bobl ddylanwadol, gyda rhaneion o £5 at brynu haner dwsin o longau a dadblygu y lle a'i vasnach, ac i'r elw vyned i gynorthwyo tlodion Cymru dd'od i'r Wladva, a thrwy hyny noddi a meithrin y genedlaetholdeb. Wrth ystyried vod niver y Cymry, bellach, yn ddwy viliwn, debygav vi mai nid peth anhawdd vyddai manteisio ar pen. 9 o'r cytundeb i roi 20,000 o drigolion yno, vel ag i vod yn dalaeth o'r Weriniaeth Arianin, ac velly roi cnewyllyn o'r cyf Celtig ar sylvaen gadarn yno. Rhodder i'r ymvudwyr ddigonedd o dir yno—500 erw o leiav i bob pen tevlu.
T. B. PHILLIPS.
Yn 1867, pendervynodd un o'r teuluoedd Cymreig aethent i'r Brasil, ar ol deall vod y Wladva Gymreig mewn gwirionedd wedi cychwyn, yr elent hwythau drwy dew a theneu yno atynt. Yr oedd hyny yn amser yr ymblaid a'r chwalva. Daethant i ddechreu i Patagones; yna aethant i vynu tua'r Gwardia i vugeila; ond yn ol drachevn i Viedma; a phan gavodd L. J. long gan y Llywodraeth i vyned a gwartheg i'r Wladva achubodd y teulu hwnw o wyth enaid y cyvle i vyn'd ynddi i'w cyrchvan; ac yno y maent hwy a'u gwehelyth vyth, oddigerth yr hen vam ddewr a'u harweiniodd yno ac a hunodd yno yn ddiweddar.
Delai yr un waedd o Awstralia, vel hyn:—
Amaethwyr Cymru, cymerwch air y cyngor am Awstralia—byddai well i chwi ymhob modd ymuno yn y symudiad (Gwladvaol). Yn y Wladva Gymreig bydd gwell calon ynoch i blanu ac adeiladu: byddwch yn govalu vod y ty yn gadarn, ac wrth blanu gwinllan a gwinwydden byddwch yn gwybod mai eiddo i chwi a'ch cenedl vydd hi, ac y bydd eich plant yn cael bwyta o'u frwyth. Byddwch yn teimlo mwy o ddyddordeb yn niwylliad y ddaear, gwelliantau celvyddyd, a chynydd masnach nag a deimlech vyth mewn estron wlad. Gwyddech mai eich gwlad chwi ydyw, ac velly bydd eich llavur yn bleser. (2.) Bydd yn well mewn pethau moesol a chrevyddol. Cewch ddysgu eich plant yn yr holl gelvau a gwyddonau yn yr iaith vyddwch chwi a hwythau yn ddeall. Bydd yr holl addysg gyvrenir yno yn ddiau yn Gymraeg. Yna, gan vod yno ddigonedd o dir da, am bris isel, ewch yno, neu yn hytrach, dowch yno, yn llu mawr, oblegid mewn undeb mae nerth. E. P. JONES.
Yr ydym yn mawr lawenhau oblegid yr ymdrech glodvawr wneir i sevydlu Gwladva Gymreig. Mawr ei hangen sydd, a hynu a wyddom ni yn dda yn y wlad hon. Mae yma amryw Gymry wedi d'od yn ddiweddar; ond nig gwn beth ddaw ohonynt, druain. Mae'n ddigon tywyll ar y rhai sydd yma er's amser, ac yn gwybod dull a manteision y wlad; ond sut y bydd ar ddyeithriaid, nis gwn. Yr ydych y 'Nghymru yn tybied vod Awstralia yn parhau yr un o 1an aur a manteision bywoliaeth, a llawer yn rhuthro dros y weilgi yn y syniad yna. Ond gallav ddweud nad oes yma'n awr vawr iawn mwy o vanteision byw nag sydd yna. Hwyrach vod yma lai o drethi, er vod y rheiny yn cynyddu bob blwyddyn; ac os gosodir clwt o babell lian yn rhywle, buan y cewch y swyddog yn govyn y dreth. Diau vod yn y wlad hon viloedd o Gymry; ond y maent mor wasgarog vel na ellir cadw undeb rhyngddynt. Yn Forest Creek a Ballarat yn unig y mae llewyrch ar y cyrddau Cymreig. Mae pawb ohonom yn edrych ar ein cyvathrach genedlaethol hon vel peth tra gwerthfawr, ac yn govidio nas gall pawb o'n cydgenedl ei vwynhau. WM. BENJAMIN.
Yn y gwres hwn ymunodd 30 o Gymry i brynu llong newydd, 95 tunell, yn yr hon y bwriadent unioni'n syth i'r Wladva, eithr ni ddaeth ond un oddiyno—Evan E. Jones, ger Wyddgrug.