Cywydd i ferch a dorrodd bwyntment

Oddi ar Wicidestun

gan Tomos Prys

Aros yr wyf mewn oerwynt
Wrth air Gwen, aruthr yw gwynt.
Oer yw gwynt ar rew ac ôd,
Ond afiach nad yw'n dyfod?
Dyfod yma i'm dofi,
Dduwies hardd, addawsai hi.
Hi a wnaeth gast annoeth i gyd,
Achos i'm golli f'iechyd.
Mae f'iechyd i gyd heb gudd
Mewn eira,llwm yw neurudd.
'Y neurudd sydd yn oeri,
Aros merch, oer ias i mi.
Mi a dyngaswn, gwn gwynair,
Na wyrai Gwen awr ei gair.
Gair merch, dig ywir ei modd,
Gwir dirym, gair a dorrodd.
Torrodd ei llw, taerodd llid,
Treiai ddoe torri addewid.
Addewid y fun dduwiol
Aeth yn brid weithian heb rôl.
Heb rôl yr ydwyf mewn brad,
Ac oerwynt sy' am gariad.
Cariad a briwiad heb ras
Cawn o unradd cwyn anras.
Anras od af wrth draserch
I oeri mwy ar air merch.
Gair merch oddi ar gwr ei min
A'm gyrrodd i lam gerwin.
Gerwin i w^r garu neb
a dynno â dau wyneb.
Wyneb bun, od yw mewn parch,
a wnaeth imi noeth amarch.
Amarch i fant? merch a fo
A'i nwydau yn newidio.
Newidio yn anwadal,
Addo teg am ddiwedd tâl.
Tâl y ferch, ond dial fydd?
Treio gwylio trwy gelwydd.
Celwydd sy' brid i'm calon,
Cefais haint, cofus yw hon.
Hon i fan hyn a fynnaf,
Dan amod cymod, o caf.
O caf fun i oed unwaith,
Chwitiaf, os gallaf, ei gwaith.
Gwaith a wnaf sy'n gaeth yn wir,
Gan feinwen, gwn a fynnir.
Ni fynnir, cribir crybwyll,
I wlad Duw a wnelo dwyll.