Dail y Dderwen/Bore Saboth (i'r mwyafrif)
Gwedd
| ← Bore Saboth (i'r lleiafrif) | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Llais y pellter → |
BORE SABOTH
(I'r Mwyafrif)
Bore i hir orffwyso,
Bore i gysgu'n drwm,
Bore i wneud y cinio,
Bore i fyw yn llwm.
Bore i'w dreulio'n segur,
Bore i'w ddifa'n chwim,
Bore darllen y papur,
Bore heb gyfrif dim.
Bore cellwair a rhegi,
Bore i dynnu mwg,
Bore yn llawn o wegi,
Bore i wneud pob drwg.
Bore i'w ddiystyru,
Bore i'w wneud yn sarn,
Bore a gollodd Cymru,
Bore a ddaw i'r Farn.