Dail y Dderwen/Ceiriog
Gwedd
| ← Llwybrau'r hen Allt Fawr | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Yr hen ddreser → |
CEIRIOG
"Nant y mynydd groyw, loyw
Yn ymdroelli tua'r pant",
Tithau fardd yr Awen hoyw
Heb un pennill ar dy fant.
"Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awyr iach",
Tithau wedi colli 'r hiraeth
Am gael bod fel" 'deryn bach".
"Grug y mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug",
Tithau wedi llwyr anghofio
Am yr awel iach a'r grug.
"Mab y mynydd ydwyf innau"
Yn fy hiraeth yn gwneud cân,
Am fod Cymru wedi colli
Bardd y" grug a'r adar mân".
Bydd dy delynegion melys
Fyth yn annwyl ar bob mant,
Hyd nes paid hen "Nant y mynydd"
Ag" ymdroelli tua'r pant".