Neidio i'r cynnwys

Dail y Dderwen/Cyflwynair

Oddi ar Wicidestun
← Dail y Dderwen Dail y Dderwen

gan William J Richards

Gair o ddiolch →

CYFLWYNAIR

Nid wyf yn siŵr a yw'r teitl "Dail y Dderwen' yn disgrifio'n gymwys y casgliad hwn o delynegion y prydydd o'r Dderwen Las. Y mae'n wir bod y cerddi'n ysgeifn fel dail y deri a bod iddynt eu harddwch eu hunain, glesni'r Gwanwyn a melyndra'r Hydref, eithr nid ydynt mor unffurf, a gobeithio na bydd iddynt hoedl mor fer â dail y goeden a roes ei enw i'r pentref lle y trig y telynegydd.

Dichon na ellid yn deg alw W. J. Richards yn "fardd gwlad": teimlaf ei fod yn rhy ymwybodol o'i grefft i'w restru ymhlith y prydyddion cefn-gwlad. Nid ofna daro'r tant poblogaidd, a dieithr i'w ddawn yw mesurau caeth cerdd dafod. Ac eto, cân i ddigwyddiadau ei fro, ac i'w phobl, ond y mae apêl ei ganu at gylch ehangach nag ardal a bro. Hynny, mi dybiaf, yw un o'r cymhellion dros gyhoeddi'r detholiad hwn o'i delynegion.

Diau y caiff y gyfrol groeso llawen gan lu mawr o ddarllenwyr barddoniaeth Gymraeg, a byddai derbyniad felly yn galondid mawr i'r bardd ac i'w edmygwyr lluosog ledled Cymru.

GWILYM R. JONES.

Nodiadau

[golygu]