Dail y Dderwen/Gaeaf
Gwedd
| ← Y ddeilen olaf | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Yr hen eglwys → |
GAEAF
Bum drist
O gael yr ardd heb flodau
A'r barrug creulon
Dros welyau rhos,
P'le'r aeth y llu cantorion
Pér eu nodau—
A ganai
Gyda'r wawr a chyda'r nos?
I'm bron
Daeth hiraeth am orffennol
Oedd ail i wanwyn
Llawn o swyn a gwên;
Heb wybod im disgynnodd
Arnaf farrug
Ac euthum
Bellach fel y blodau'n hen.
Fe ddaw
Dros erwau'r ddrycin fywyd
A chynnwrf dawnsio
Lond yr ardd a'r ddôl;
Amdanaf i, sy'n llegach
Blentyn adfyd,
'Does obaith
Y daw'r gwanwyn byth yn ôl.