Dail y Dderwen/Gwynt yr Hydref
Gwedd
| ← Mai | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Y ddeilen olaf → |
GWYNT YR HYDREF
Mewn rhwysg bu'n traws feddiannu'r cwm
(Un beiddgar yw erioed),
A chwythodd a'i anadliad trwm
Y dail oddi ar y coed.
Dirmygodd geinder gwanwyn drud,
Llurguniodd wisg yr haf,
O'i ôl 'r oedd y diffeithwch mud
A chwarddodd yntau 'n braf.
Ond, ai edifar ganddo ef
Ddinistrio popeth tlws?
Daeth â thor-calon yn ei lef
I grio at fy nrws.