Dail y Dderwen/Haf 1946
Gwedd
| ← Tridiau | Dail y Dderwen gan William J Richards |
I haf gwlyb → |
HAF 1946
Ffarwel, haf, i ti a'th dywydd,
Ciliaist tua'r gorwel draw,
A thoreithiog gnwd y meysydd
Yn domennydd ar bob llaw,
Ffarwel haf.
Yr oedd adar ar dy lwybrau
A'u telori'n llond y wlad,
A phob llwyn yn drwm gan flodau
Pan gyrhaeddaist i'th ystad,
Stormus haf.
Diystyraist bob prydferthwch
A ddaeth iti yn ystor,
Daethost â chymylau trymion
I droi'r gwastadeddau'n fôr,
Greulon haf.
Pam y gwenaist wrth ffarwelio
Ar drueni gwair ac ŷd,
Fel pe'n chwarae mig a 'smalio
Uwch holl brinder bwyd y byd?
Ffarwel, ffarwel haf.