Dail y Dderwen/Henaint
Gwedd
| ← Ar y groesffordd | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Llwybrau'r hen Allt Fawr → |
HENAINT
Heneiddio mae'r byd
A'i wychder i gyd,
Nid oes dim nad yw'n newid ynddo;
Heneiddio'r wyt ti,
Heneiddio'r wyf i,
Heneiddio mor gyflym, heneiddio.
Heneiddio yw rhan
Y cryf fel y gwan,
Y dderwen a'r gorsen sigledig;
Y llew yn ei ffau
A'r trychfilyn brau,
Y crwydryn di-nawdd a'r pendefig.
Pwy a ddichon osgoi
Na rhagddo byth ffoi?
Mae hwn i bob cilfach yn treiddio;
Fe rydd ef ei law
Ar dy gorun pan ddaw;
Cei dithau heneiddio, heneiddio.